source
stringlengths
2
497
target
stringlengths
2
430
A living language:
Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
Welsh Language Strategy 2012-17
Strategaeth y Gym raeg 2012-17
A living language:
Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
Welsh Language Strategy 2012–17
Strategaeth y Gymraeg 2012–17
AudienceWelsh Government departments;
CynulleidfaAdrannau Llywodraeth Cymru;
public bodies in Wales;
cyrff cyhoeddus yng Nghymru;
third sector bodies in Wales;
cyrff y trydydd sector yng Nghymru;
private sector companies in Wales;
cwmnïau y sector preifat yng Nghymru;
educational organisations in Wales;
sefydliadau addysgol yng Nghymru;
organisations working to promote the use of Welsh;
sefydliadau sy’n gweithio i hybu’r defnydd o’r Gymraeg;
organisations working with families, children and young people and communities;
sefydliadau sy’n gweithio gyda theuluoedd, plant a phobl ifanc, a chymunedau;
and other interested parties.
a phartïon eraill â diddordeb.
OverviewThe Government of Wales Act 2006:
TrosolwgDeddf Llywodraeth Cymru 2006:
This is the Welsh Ministers’ strategy for the promotion and facilitation of the use of the Welsh language.
Dyma strategaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.
It has been prepared in accordance with Section 78 of the Government of Wales Act 2006.
Fe’i paratowyd yn unol ag Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
This strategy supersedes Iaith Pawb:
Mae’r strategaeth hon yn disodli Iaith Pawb:
A National Action Plan for a Bilingual Wales (Welsh Assembly Government, 2003).
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2003).
Iaith Pawb is no longer being implemented.
Nid yw Iaith Pawb bellach yn weithredol.
Lifespan of the strategy:
Oes y strategaeth:
This is a strategy covering a period of five years, from 1 April 2012 to 31 March 2017.
Mae hon yn strategaeth ar gyfer cyfnod o bum mlynedd, o 1 Ebrill 2012 hyd 31 Mawrth 2017.
The Welsh Ministers will publish an annual action plan in accordance with Section 78 of the Government of Wales Act 2006 which will explain how they will implement the proposals outlined in this strategy during each financial year.
Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi cynllun gweithredu blynyddol yn unol ag Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a fydd yn esbonio sut y byddant yn gweithredu’r cynigion a amlinellir yn y strategaeth hon yn ystod pob blwyddyn ariannol.
FurtherEnquiries about this document should be directed to:
Rhagor oDylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y ddogfen hon at:
information Welsh Language Unit
wybodaeth Uned y Gymraeg
Department for Education and Skills
Yr Adran Addysg a Sgiliau
Welsh Government
Llywodraeth Cymru
Cathays Park
Parc Cathays
Cardiff
Caerdydd
CF10 3NQ
CF10 3NQ
Tel:
Ffôn:
029 2080 1307
029 2080 1307
e-mail:
e-bost:
WelshLanguageStrategy@wales.gsi.gov.uk
StrategaethIaith@cymru.gsi.gov.uk
AdditionalCan be obtained from:
CopïauAr gael drwy gysylltu:
copiesTel:
ychwanegol Ffôn:
0870 242 3206 (Welsh medium)
0870 242 3206 (cyfrwng Cymraeg)
0845 603 1108 (English medium)
0845 603 1108 (cyfrwng Saesneg)
Fax:
Ffacs:
01767 375920
01767 375920
e-mail:
e-bost:
DfESWales1@prolog.co.uk
DfESWales1@prolog.co.uk
Or by visiting the Welsh Government’s website www.wales.gov.uk/welshlanguage
Neu drwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk/ygymraeg
RelatedProgramme for Government 2011–16 (Welsh Government, 2011);
DogfennauRhaglen Lywodraethu 2011–16 (Llywodraeth Cymru, 2011);
documentsWelsh Language (Wales) Measure 2011;
Mesurcysylltiedigy Gymraeg (Cymru) 2011;
Welsh-medium Education Strategy (Welsh Assembly Government, 2010);
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2010);
Welsh Language Strategy Evidence Review (Welsh Government, 2012)
Adolygiad o’r Dystiolaeth mewn perthynas â’r Strategaeth ar gyfer y Gymraeg (Llywodraeth Cymru, 2012)
ISBN:
ISBN:
978 0 7504 7014 8 Ref:
978 0 7504 7014 8 Cyf:
CAD/GM/0212
CAD/GM/0212
© Crown copyright March 2012
© Hawlfraint y Goron Mawrth 2012
WG14673
WG14673
Contents
Cynnwys
Contents
Cynnwys
Ministerial foreword2
Rhagair y Gweinidog2
Context7
Cyd-destun7
Looking back:
Edrych yn ôl:
the impact of past activities11
effaith gweithgareddau’r gorffennol11
Looking towards the future:
Edrych tua’r dyfodol:
a new strategy14
strategaeth newydd14
Strategic area 1:
Maes strategol 1:
The family25
Y teulu25
Strategic area 2:
Maes strategol 2:
Children and young people28
Plant a phobl ifanc28
Strategic area 3:
Maes strategol 3:
The community33
Y gymuned33
Strategic area 4:
Maes strategol 4:
The workplace37
Y gweithle37
Strategic area 5:
Maes strategol 5:
Welsh-language services40
Gwasanaethau Cymraeg40
Strategic area 6:
Maes strategol 6:
Infrastructure45
Y seilwaith45
Ministerial foreword
Rhagair y Gweinidog
I was delighted when the First Minister gave me responsibility for the Welsh language portfolio in May 2011.
Ro’n i wrth fy modd pan gefais i’r cyfrifoldeb am bortffolio’r Gymraeg gan y Prif Weinidog ym mis Mai 2011.
As an active Welsh learner, my engagement with the language in a meaningful way goes back to my days as a student in Bangor in the 1970s.
Fel dysgwr brwd, rwyf wedi ymddiddori’n fawr yn yr iaith ers fy nghyfnod fel myfyriwr ym Mangor yn y 1970au.
The language is important to all of us in Wales, and opinion surveys regularly show the majority of Welsh people are committed to and supportive of the language.
Mae’r iaith yn bwysig i bob un ohonon ni yng Nghymru ac, yn ôl y polau piniwn, mae’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn deyrngar i’r iaith ac yn ei chefnogi.
We must always strive to protect a political consensus around measures to develop and strengthen the language, and this strategy deliberately builds on the draft strategy published by the One Wales Government.
Rhaid i ni ymdrechu, bob amser, i gael consensws gwleidyddol ynghylch beth sydd angen ei wneud i ddatblygu’r iaith a’i chryfhau. Cafodd y strategaeth hon ei pharatoi felly drwy fynd ati’n fwriadol i ddefnyddio’r strategaeth ddrafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un fel sylfaen.
I pay tribute to the contributions made, not least by members of the Advisory Group on the Welsh Language Strategy established by the former Heritage Minister Alun Ffred Jones.
Hoffwn gydnabod y cyfraniadau a wnaed gan bawb, yn enwedig aelodau’r Gr ˆwp Cynghori ar Strategaeth y Gymraeg a sefydlwyd gan Alun Ffred Jones, y cyn Weinidog dros Dreftadaeth.
Their input has helped shape the final strategy and I have enjoyed chairing the three meetings we have held since May 2011.
Bu eu cyfraniad yn allweddol wrth lunio’r strategaeth derfynol, a chefais innau foddhad o gadeirio’r tri chyfarfod a gynhaliwyd gennym ers mis Mai 2011.
Over the decades, the Welsh language has been sustained by dedicated individuals and communities working together locally and nationally, often under great pressure, in a wide variety of organisations and activities.
Dros y degawdau, cafodd y Gymraeg ei chynnal diolch i ymroddiad unigolion a chymunedau sydd wedi gweithio gyda’i gilydd mewn sefydliadau amrywiol ac ar weithgareddau amrywiol, boed yn lleol ac yn genedlaethol – a hynny’n aml dan bwysau mawr.
Those individuals and communities deserve our thanks and acknowledgement.
Mae ein diolch yn ddyledus i’r unigolion a’r cymunedau hynny, ac rydym yn cydnabod eu cyfraniad.
For nearly twenty years, the Welsh Language Board has played a leading role in this process. Past and present members of the Board likewise deserve our thanks and acknowledgement.
Am bron i ugain mlynedd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg fu’n arwain ar hyn, a dylem ddiolch hefyd i aelodau presennol a chyn-aelodau’r Bwrdd, a chydnabod eu cyfraniad hwythau.
The preservation of the Welsh language in the twentieth and early twenty-first century has also been a positive demonstration of how politics can deliver, and that should also be acknowledged.
At hynny, dylid cydnabod bod parhad y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif ac ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain yn brawf pendant bod gwleidyddiaeth yn gallu dwyn y maen i’r wal.
However, the future development and survival of the language depends on the commitment of the people of Wales, and must be owned by all of us.
Fodd bynnag, mae datblygiad a pharhad y Gymraeg yn y dyfodol yn dibynnu ar ymroddiad pobl Cymru, a rhaid i bob un ohonon ni wneud ein rhan.
Its protection cannot depend on those who are professionally employed in its development or promotion.
Ni ddylid dibynnu ar y bobl hynny sy’n cael eu cyflogi i ddatblygu neu hybu’r iaith yn unig i’w diogelu.
We must also ensure that we are encouraging people to use the language skills that they have – and not to contribute to a climate in which they feel that less than perfect Welsh language skills are a barrier to participation.
Rhaid i ni sicrhau hefyd ein bod yn annog pobl i ddefnyddio’r sgiliau iaith sydd ganddynt – ac osgoi cyfrannu at sefyllfa lle mae yna deimlad ymhlith rhai na allant wneud hynny am nad yw eu Cymraeg yn ddigon da.
2A living language:
2Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
There is a danger in any sphere that the natural organisational or institutional interests of those engaged professionally in that sphere come to dominate policy development.
Y perygl mewn unrhyw faes yw mai buddiannau cyfundrefnol neu sefydliadol naturiol y bobl hynny sy’n ymwneud yn broffesiynol â’r maes hwnnw fydd yn tra-arglwyddiaethu wrth ddatblygu polisi.
When it comes to the language, we must avoid bureaucratic professionalism and ensure that we are developing initiatives that engage people at a grass-roots level, not least in those communities where Welsh is a language in daily and active use.
O ran yr iaith, rhaid i ni osgoi gormod o fiwrocratiaeth wrth ein gwaith a sicrhau ein bod yn datblygu mentrau sy’n ennyn diddordeb pobl ar lawr gwlad. Mae hyn yn arbennig o wir mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n naturiol yn rhan o fywyd bob dydd.
In developing language policy in the future, we have to invite in new voices.
Rhaid i ni chwilio am leisiau newydd i ddatblygu polisi iaith yn y dyfodol.
I want a coalition of the unconventional involved in developing and monitoring the implementation of this new strategy.
Hoffwn i weld cynghrair yr anghonfensiynol yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu a monitro’r strategaeth newydd hon.
Devolution set the framework for a new democracy in Wales, and a new accountability, strengthened by the referendum result in 2011.
Cafodd fframwaith ei osod yn sgil datganoli ar gyfer math newydd o ddemocratiaeth, ac atebolrwydd newydd, yng Nghymru. Cafodd hyn ei gadarnhau gan ganlyniad refferendwm 2011.
The voices that dominate in the future should be committed to that new openness, not the protection of the old establishment.
Dylai lleisiau mwyaf dylanwadol y dyfodol fod yn ymrwymedig i hybu’r drefn agored newydd yn hytrach na chynnal yr hen drefn.
This year will see the thirtieth anniversary of S4C’s first broadcast.
Eleni, byddwn yn dathlu deng mlynedd ar hugain ers darllediad cyntaf S4C.
That anniversary should remind us that the promotion and protection of the language has always depended on political support and grass-roots campaigning.
Bydd yr achlysur hwn yn ein hatgoffa bod cefnogaeth wleidyddol ac ymgyrchu ar lawr gwlad wedi bod yn hanfodol o’r dechrau’n deg er mwyn hybu a diogelu’r iaith.
The most damaging thing to happen to the Welsh language in the last two years was the decision by the UK Government to abandon the funding formula for S4C, set down in statute, without any effective public debate.
Penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi’r gorau i fformiwla cyllido S4C, a osodwyd mewn statud, heb gynnal trafodaeth gyhoeddus effeithiol, yw’r peth mwyaf niweidiol i ddigwydd i’r Gymraeg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
The budgetary loss to the Welsh language in the five years to 2014–15 will be at least £60 million.
O ganlyniad, bydd cyllideb yr iaith o leiaf £60 miliwn yn llai dros y pum mlynedd hyd at 2014–15.
The failure of the S4C Authority to maximise the cross-party public pressure that existed in Wales in defence of what was a statutory obligation on the UK Government demonstrated an institution whose pre-devolution mentality failed to understand the realities of post-devolution Wales.
Yn sgil methiant Awdurdod S4C i fanteisio i’r eithaf ar y pwysau cyhoeddus a gafwyd ar draws y pleidiau yng Nghymru i amddiffyn yr hyn oedd yn rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU, daeth yn amlwg mai sefydliad ydyw sy’n perthyn i’r oes cyn datganoli o ran ei feddylfryd ac sydd wedi methu deall realiti’r sefyllfa yng Nghymru ar ôl datganoli.
While broadcasting is not devolved, and it is not the policy of the present Welsh Government to seek the devolution of broadcasting, it is clear that in terms of language policy at least, the Welsh Government will need to take a closer view of the impact of broadcasting policy on the Welsh language.
Nid yw darlledu wedi’i ddatganoli, ac nid yw’n bolisi gan Lywodraeth bresennol Cymru i geisio am ddatganoli darlledu. Ar y llaw arall, mae’n amlwg, o ran polisi iaith o leiaf, fod angen i Lywodraeth Cymru edrych yn fanylach ar effaith polisi darlledu ar y Gymraeg.

No dataset card yet

New: Create and edit this dataset card directly on the website!

Contribute a Dataset Card
Downloads last month
0
Add dataset card