source
stringlengths
2
497
target
stringlengths
2
430
We believe that the new leadership of the S4C Authority and of the Channel itself will be responsive to these concerns.
Rydym o’r farn y bydd arweinwyr newydd Awdurdod S4C, a’r Sianel ei hun, yn ymateb i’r pryderon hyn.
The new Welsh Government elected in May 2011 has moved swiftly to implement the Welsh Language (Wales) Measure 2011.
Aeth Llywodraeth newydd Cymru, a gafodd ei hethol ym mis Mai 2011, ati’n ddi-oed i weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Within the first six months, we moved to advertise, interview and appoint the first Welsh Language Commissioner, announcing on 5 October 2011 that Meri Huws would lead the Commissioner’s office from 1 April 2012.
Lai na chwe mis wedi i’r Llywodraeth newydd gael ei sefydlu, roedd swydd Comisiynydd y Gymraeg wedi’i hysbysebu, y cyfweliadau wedi’u cynnal, a’r ymgeisydd llwyddiannus wedi’i benodi. Cyhoeddwyd ar 5 Hydref 2011 mai Meri Huws fydd yn arwain swyddfa’r Comisiynydd o 1 Ebrill 2012 ymlaen.
She will be a robust and active champion for the language – and will work with organisations to increase the number of services available in Welsh, providing more opportunities for people to use the language in their day-to-day lives.
Bydd yn hyrwyddwr cadarn a brwdfrydig dros yr iaith, gan weithio gyda sefydliadau i gynyddu nifer y gwasanaethau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, a chynnig mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.
The Commissioner will develop new Welsh language standards, in order to impose duties on a wide range of organisations:
Bydd y Comisiynydd yn datblygu safonau newydd ar gyfer y Gymraeg a fydd yn gosod dyletswyddau ar amrywiaeth eang o sefydliadau:
to provide services in Welsh, to mainstream the language into policy development, and to develop strategies with regard to increasing the use of Welsh at work.
i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, i sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn rhan annatod o waith datblygu polisïau, ac i ddatblygu strategaethau a fydd yn ceisio cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Welsh language promotion standards will impose duties on the Welsh Government and local authorities across Wales to promote the use of Welsh more widely and to support and encourage its use within the communities they serve.
Bydd safonau hybu’r Gymraeg yn gosod dyletswyddau ar Lywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol ledled Cymru i annog pobl i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg a chefnogi ac annog y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu i’w defnyddio.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living3
iaith byw3
Again, I am determined to make progress as quickly as possible in order to introduce the new standards – and the Welsh Government will work closely with the Commissioner to ensure that this can be done.
Unwaith eto, hoffwn bwysleisio fy mod yn benderfynol o gyflwyno’r safonau newydd cyn gynted â phosib. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos â’r Comisiynydd i sicrhau bod modd gwneud hynny.
Through the system of standards, we have an opportunity to focus on the delivery of services that can make a real difference as far as the language is concerned.
Bydd y system safonau yn rhoi cyfle i ni ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r iaith.
We need to ensure that services and activities for children and young people are available in Welsh.
Rhaid i ni sicrhau bod gwasanaethau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc ar gael yn y Gymraeg.
We need more face-to-face services in Welsh.
Mae angen mwy o wasanaethau wyneb yn wyneb drwy gyfrwng y Gymraeg arnon ni.
We need to ensure that more and more funding decisions are taken with the need to provide Welsh-language services in mind.
Rhaid i ni sicrhau bod mwy o benderfyniadau cyllido yn cael eu gwneud gan gadw mewn cof yr angen am wasanaethau cyfrwng Cymraeg.
We need to move from thinking of Welsh as a translation issue to thinking of Welsh as a normal part of day-to-day life in Wales.
Rhaid i ni roi’r gorau i feddwl am y Gymraeg yn nhermau cyfieithu a’i hystyried yn rhan naturiol o fywyd bob dydd yng Nghymru.
For its part, the Welsh Government will inherit from the Welsh Language Board a central and highly significant role with regard to promoting the use of Welsh.
Yn sgil diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg, bydd gan Lywodraeth Cymru rôl ganolog a phwysig iawn i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
I will want to work closely with key stakeholders who can contribute to this task, including the Urdd, the mentrau iaith, local authorities and others.
Byddaf am weithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys yr Urdd, y mentrau iaith, awdurdodau lleol ac eraill, a fydd yn gallu cyfrannu at y gwaith sydd o’n blaenau.
Together, we need to breathe new life into the language – while working hard to ensure that the work we support and deliver is as effective as possible.
Gyda’n gilydd, rhaid i ni roi anadl einioes newydd i’r iaith – gan weithio’n galed i sicrhau bod y gwaith sy’n cael ei wneud a’i gefnogi gennym mor effeithiol â phosib.
As the One Wales Government published the Welsh-medium Education Strategy only in April 2010, this strategy does not go into significant detail on the education system.
Gan fod Llywodraeth Cymru’n Un wedi cyhoeddi Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ym mis Ebrill 2010, nid yw’r strategaeth hon yn edrych yn fanwl iawn ar y system addysg.
However, it should be read alongside that strategy.
Fodd bynnag, dylid ei darllen ar y cyd â’r strategaeth honno.
Since the Welsh-medium Education Strategy was published, the Coleg Cymraeg Cenedlaethol has been formally established.
Ers i’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gael ei chyhoeddi, cafodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei sefydlu’n ffurfiol.
In addition, the incoming Welsh Government has a manifesto commitment to set Welsh in Education Strategic Plans on a statutory basis.
At hynny, mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo yn ei maniffesto i wneud Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn statudol.
In December 2011, local authorities reported back to the Welsh Government on how they are progressing against targets to improve the number of young people learning Welsh and studying through the medium of Welsh.
Ym mis Rhagfyr 2011, derbyniodd Llywodraeth Cymru adroddiadau gan yr awdurdodau lleol yn dweud i ba raddau roedden nhw’n llwyddo i gyrraedd eu targedau o gynyddu nifer y bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg ac sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
We are determined to ensure effective planning of future provision.
Rydym yn benderfynol o sicrhau bod darpariaeth y dyfodol yn cael ei chynllunio’n effeithiol.
4A living language:
4Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
As we look to the future, we must ensure that parents/carers and families better understand how the language can benefit their children, to enable them to make informed decisions with regard to their upbringing and education.
Wrth i ni edrych i’r dyfodol, rhaid i ni sicrhau bod rhieni/gofalwyr a theuluoedd yn deall yn well sut gall yr iaith fod o fudd i’w plant er mwyn eu galluogi i wneud penderfyniadau, ar sail gwybodaeth, ynghylch magwraeth ac addysg eu plant.
We need to ensure that Welsh-medium education is planned and provided in accordance with parents/carers’ wishes.
Rhaid i ni sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei chynllunio a’i darparu yn unol ag ewyllys y rhieni/gofalwyr.
We need to provide more and more opportunities for children and young people to enjoy using the language beyond the school gates – and we need to encourage Welsh-speaking parents/carers to use the language with their children.
Mae angen i ni ddarparu rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol, ac annog rhieni/gofalwyr sy’n siarad Cymraeg i’w defnyddio gyda’u plant.
I am determined to make progress as quickly and effectively as possible to deal with the challenges that lie ahead.
Rwy’n benderfynol o fwrw ymlaen ar hyn cyn gynted â phosib er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu.
One of the significant changes from the draft strategy originally published in 2010 is the additional focus on new media.
Un o’r newidiadau mwyaf ers y strategaeth ddrafft a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010 yw’r sylw ychwanegol sy’n cael ei roi i’r cyfryngau newydd.
Throughout the twentieth century, the broadcast media played an important role in the development and preservation of the Welsh language through both radio and television.
Drwy gydol yr ugeinfed ganrif, gwelsom fod y cyfryngau darlledu wedi chwarae rôl bwysig, drwy gyfrwng y radio a’r teledu, yn datblygu ac yn diogelu’r Gymraeg.
In the twenty-first century, the existence of Welsh-language digital media content and applications not only allows the Welsh language to flourish, but it also enables Welsh speakers to participate fully as digital citizens and demonstrates to all that the Welsh language is a creative, powerful, adaptive and modern medium.
Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae’r ffaith bod modd defnyddio’r cyfryngau digidol a’r apps Cymraeg nid yn unig yn caniatáu i’r iaith ffynnu ond hefyd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan gyflawn yn yr oes ddigidol sydd ohoni. Maent hefyd yn dangos i bawb fod y Gymraeg yn gyfrwng modern, creadigol, grymus, sy’n gallu addasu.
Our ambition and our expectation should be that Welsh speakers should be able to conduct their lives electronically through the medium of Welsh, should they so desire, whether that be for cultural, informational, entertainment, leisure, retail, transactional, community, or social networking purposes.
Dylai sicrhau bod modd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio cyfryngau electronig drwy gyfrwng y Gymraeg, os ydynt yn dymuno gwneud hynny, fod yn uchelgais gennym; ni ddylem ddisgwyl llai na hynny. Dylai hynny fod yn bosib at ddibenion diwylliannol, dod o hyd i wybodaeth, adloniant, hamdden, siopa, cynnal trafodion, neu at ddibenion cymunedol neu rwydweithio cymdeithasol.
The pace of change is significant and striking.
Mae pethau’n newid yn syfrdanol o gyflym.
In December 2011 alone, the first Welsh-language e-books became available on the Kindle, the Welsh-language magazine Golwg became available via an iPad app, and the Welsh Language Board consulted on Welsh language terminology for use on Twitter.
Fis Rhagfyr 2011, cafodd yr e-lyfrau Cymraeg cyntaf eu lansio ar gyfer Kindle; cafodd app ei lansio ar yr iPad ar gyfer cylchgrawn Golwg; a bu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ymgynghori ar y derminoleg Gymraeg i’w defnyddio ar Twitter – hyn oll mewn mis.
It is likely that consumer demand and user initiatives will drive some of these developments.
Mae’n si ˆwr y bydd rhywfaint o’r datblygiadau hyn yn cael eu hysgogi gan y galw ymhlith defnyddwyr a mentrau ar gyfer defnyddwyr.
However, development is likely to be uneven and there is an important leadership role for Welsh Government.
Serch hynny, mae’n debyg y bydd anghysondeb yn y datblygiadau hyn felly mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i’w chwarae drwy arwain ar hyn.
In this sphere, as in so many others, quality is key.
Ansawdd sy’n allweddol yn y maes hwn, fel mewn cynifer o feysydd eraill.
Why should Welsh speakers settle for services that are not of the highest quality?
Pam ddylai siaradwyr Cymraeg fodloni ar wasanaethau nad ydynt yn cyrraedd y safon uchaf bosib?
And why should the Welsh Government subsidise services for Welsh speakers which are not able to replicate the quality of consumer experience that they could experience through the medium of English?
Pam hefyd ddylai Llywodraeth Cymru roi cymhorthdal i wasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg os nad yw’r gwasanaethau hynny o’r un safon â’r gwasanaethau y gallent eu cael drwy gyfrwng y Saesneg?
If, for example, the Welsh Books Council website does not provide as satisfying a customer experience as that of Amazon, would we as a Government be better seeking to develop with Amazon a Welsh interface that provides the highest quality experience and investing in that instead?
Er enghraifft, os nad yw cwsmeriaid sy’n defnyddio gwefan Cyngor Llyfrau Cymru yn cael gwasanaeth sydd yr un mor foddhaol â’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan Amazon, oni fyddai’n well i ni fel Llywodraeth geisio datblygu rhyngwyneb Cymraeg gydag Amazon a fydd yn cynnig profiad o’r safon uchaf, a buddsoddi yn hwnnw?
The experience of the consumer through the medium of Welsh should be first-rate not second-rate.
Ni ddylai profiad cwsmeriaid o ddefnyddio’r Gymraeg fod yn eilradd ei safon – dylai fod o’r safon uchaf bosib.
Separately, some of the most exciting developments in the digital supply of Welsh materials online have come from user-generated content and applications created by Welsh speakers themselves.
Ar y llaw arall, cynnwys a grëwyd gan ddefnyddwyr a rhaglenni a luniwyd gan siaradwyr Cymraeg eu hunain sydd y tu ôl i lawer o’r datblygiadau mwyaf cyffrous yn y deunydd digidol Cymraeg sydd ar gael ar-lein.
How do we harness that energy and commitment?
Sut mae harneisio’r brwdfrydedd a’r ymrwymiad hwn?
Again, this is a matter of thinking beyond the conventional institutions which have served the Welsh language over recent years and giving space to new voices.
Unwaith yn rhagor, mae angen meddwl y tu hwnt i’r sefydliadau confensiynol sydd wedi bod yn weithgar dros y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf a gwrando ar y lleisiau newydd.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living5
iaith byw5
We need to think big, have ambition, and aim high.
Rhaid i ni fod yn uchelgeisiol; i fyny bo’r nod.
We cannot leave the future of the Welsh language to the established institutions who have built an industry around their own small-scale needs over recent years.
Ni allwn adael dyfodol yr iaith yn nwylo’r sefydliadau hynny sydd eisoes wedi ennill eu plwyf ac sydd wedi datblygu diwydiant ar sail eu hanghenion cyfyng eu hunain yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
We should shout out for the Welsh language – and Welsh Government should lead the way, intervening with the largest players in the market to ensure a presence for Welsh on all platforms, in every aspect of our lives.
Dylem fod yn llafar dros y Gymraeg. Dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd yn hyn o beth, gan gymryd camau i sicrhau bod pobl fwyaf dylanwadol y farchnad yn sicrhau bod y Gymraeg i’w gweld ar bob platfform, ac ym mhob agwedd ar fywyd.
In working on this new strategy, one figure has been at the front of my mind.
Wrth weithio ar y strategaeth newydd hon, mae un ystadegyn wedi bod yn flaenllaw yn fy meddwl i.
Our statisticians have assessed that between 1,200 and 2,200 fluent Welsh speakers are currently being lost from Wales each year.
Mae ein hystadegwyr wedi asesu bod Cymru yn colli rhwng 1,200 a 2,200 o siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn.
This new strategy, along with the Welsh-medium Education Strategy, has to begin the process of reversing that trend.
Dylai’r strategaeth newydd hon, ynghyd â’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, fod yn fan cychwyn i wrth-droi’r tueddiad hwnnw.
Additionally, it has become evident that, even looking at wider international experience, there is little empirical evidence in relation to the impact of individual programmes on increasing the use of Welsh and other minority languages.
Daeth i’r amlwg hefyd, hyd yn oed wrth edrych ar brofiadau ehangach gwledydd eraill, nad oes llawer o dystiolaeth empirig ynglˆyn â’r effaith a gaiff rhaglenni unigol ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill.
This makes it difficult to form an objective assessment of how effectively these have worked, either alone or together, and to evaluate appropriately the likely success of activity of this nature in the future.
O ganlyniad, mae’n anodd bod yn wrthrychol wrth asesu pa mor effeithiol y bu’r rhaglenni hyn, naill ai’n unigol neu ar y cyd. Mae’n anodd hefyd werthuso’n briodol pa mor debygol y byddai gweithgarwch fel hwn o lwyddo yn y dyfodol.
We need, therefore, to develop a sound evaluation framework to sit alongside this strategy.
Gan hynny, mae angen i ni ddatblygu fframwaith gwerthuso cadarn i gyd-fynd â’r strategaeth hon.
There are aspects of this strategy which will be uncomfortable reading for some.
Bydd rhai pobl yn ei chael hi’n anodd darllen rhai agweddau penodol ar y strategaeth hon.
But if you pay for what you have always had you will get what you always got.
Nid drwy aros yn ein hunfan y mae symud ymlaen fodd bynnag. Mae newid yn anorfod.
The central tenet of our approach to Welsh-speaking communities has always been that we must help them develop, innovate, prosper and succeed.
Yr egwyddor o helpu cymunedau Cymraeg eu hiaith i ddatblygu, arloesi, ffynnu a llwyddo sydd wedi bod yn ganolog bob amser i’n ffordd o ymwneud â’r cymunedau hynny.
It was there again in the manifesto of the incoming Welsh Government where we said that ‘we recognise that the future vitality of the language is inextricably linked to the economic and social future of those [Welsh-speaking] communities.’
Cafodd yr egwyddor honno ei hategu ym maniffesto Llywodraeth newydd Cymru lle dywedwn ein bod yn ‘cydnabod bod cyswllt anorfod rhwng bywyd yr iaith yn y dyfodol a dyfodol economaidd a chymdeithasol y cymunedau [Cymraeg eu hiaith] hynny.’
This strategy sets out a clear responsibility for the whole of the Welsh Government to lead on the future of the Welsh language, and the strategy develops ideas which have implications for the whole Welsh Government.
Drwy’r strategaeth hon rhoddir cyfrifoldeb clir ar holl adrannau Llywodraeth Cymru i arwain ar ddyfodol y Gymraeg. Mae hefyd yn datblygu syniadau sydd â goblygiadau i Lywodraeth Cymru gyfan.
The strategy was endorsed by the Cabinet of the Welsh Government, and we now seek popular support for its implementation.
Mae Cabinet Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymeradwyo’r strategaeth; gofynnwn yn awr am gefnogaeth y cyhoedd i fynd ati i’w gweithredu.
Leighton Andrews AM
Leighton Andrews AC
A living language:
6Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
Minister for Education and Skills
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Context
Cyd-destun
Context
Cyd-destun
There is no doubt that Welsh is one of Europe’s most robust minority languages.
Yn ddiamau, y Gymraeg yw un o ieithoedd lleiafrifol mwyaf cadarn Ewrop.
Its cultural influence and traditions remain relevant today and are embraced by new generations learning and using the language.
Mae ei dylanwad diwylliannol a’i thraddodiadau yr un mor berthnasol heddiw ac mae cenedlaethau newydd yn ei dysgu a’i defnyddio.
It is testament to the commitment of Welsh speakers that it has survived alongside one of the world’s most influential languages.
Mae’r ffaith bod yr iaith wedi goroesi ochr yn ochr ag un o’r ieithoedd mwyaf dylanwadol yn y byd yn dyst i ymroddiad siaradwyr Cymraeg.
Nevertheless, the situation of the Welsh language remains fragile.
Er hynny, mae sefyllfa’r Gymraeg yn parhau’n fregus.
Welsh speakers:
Siaradwyr Cymraeg:
numbers, fluency and use
niferoedd, rhuglder a defnydd
The results of the 2001 Census showed that 20.8 per cent of the population of Wales was able to speak Welsh (582,400 people).
Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2001 fod 20.8 y cant o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg (582,400 o bobl).
This was an increase compared to the 1991 Census (18.7 per cent and 508,100 people).
Roedd yn ganran uwch na’r un a nodwyd yng Nghyfrifiad 1991 (18.7 y cant a 508,100 o bobl).
It was also the first percentage increase in the numbers of Welsh speakers ever recorded by a Census, with the greatest increase seen among young people aged 5–16.
Dyma hefyd y cynnydd cyntaf o ran canran yn nifer y siaradwyr Cymraeg i’w gofnodi erioed gan Gyfrifiad, gyda’r cynnydd mwyaf ymysg pobl ifanc 5–16 oed.
Source:
Ffynhonnell:
2001 Census, table CAS146.
Cyfrifiad 2001, tabl CAS146.
Crown copyright 2009
Hawlfraint y Goron 2009
Licence number C02W0002635.
Trwydded rhif C02W0002635.
Source:
Ffynhonnell:
2001 Census, table CAS146.
Cyfrifiad 2001, tabl CAS146.
Crown copyright 2009
Hawlfraint y Goron 2009
Licence number C02W0002635.
Trwydded rhif C02W0002635.
within electoral divisions Local Authority Boundary
o fewn adrannau etholiadol Ffin Awdurdod Lleol
within electoral divisions Local Authority Boundary
o fewn adrannau etholiadol Ffin Awdurdod Lleol
People able to speak Welsh (%) 2001
Pobl sy’n gallu siarad Cymraeg (%) 2001
70% – 89%
70% – 89%
50% – 69%
50% – 69%
30% – 49%
30% – 49%
10% – 29%
10% – 29%
6% – 9%
6% – 9%
People able to speak Welsh (%) 2001
Pobl sy’n gallu siarad Cymraeg (%) 2001
70% – 89%
70% – 89%
50% – 69%
50% – 69%
30% – 49%
30% – 49%
10% – 29%
10% – 29%
6% – 9%
6% – 9%