cymraeg
stringlengths
1
11.5k
english
stringlengths
1
11.1k
Datganiad Llafar - Adolygiad o’r Prosesau Deddfwriaethol
Oral Statement - Review of Legislative Processes
John Griffiths, y Cwnsler Cyffredinol
John Griffiths, Counsel General
Ar 15 Mawrth 2011 gwnaeth  y Cwnsler Cyffredinol Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Adolygiad o’r Prosesau Deddfwriaethol
On 15 March 2011 the Counsel General made an oral Statement in the Siambr on: Review of Legislative Processes
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon
The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=212756&ds=3/2011#dat2
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=212756&ds=3/2011#dat2
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol:www.cynulliadcymru.orgBusnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following:www.assemblywales.orgAssembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
Datganiad Ysgrifenedig - 10:10 a’r Cynllun Buddsoddi Carbon newydd
Written Statement - 10:10 and the new Carbon Investment Scheme
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Tha
Jane Davidson, Minister for the Environment, Sustainability and Housing
Fel y nodir yn Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru rôl o ran arwain y gwaith o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae angen i ni gymryd camau gweledol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd er mwyn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
As set out in the Climate Change Strategy for Wales, the Welsh Assembly Government has a leadership role in tackling climate change. We need to take visible action to reduce greenhouse gas emissions and to adapt to the impacts of climate change, in order to inspire others to do the same.
Ni oedd un o lywodraethau cyntaf y DU i gofrestru’i hystâd weinyddol gyfan i’r ymrwymiad 10:10. Ein nod oedd lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ein ystâd o 10% mewn blwyddyn. Dechreuodd ein blwyddyn weithredu 10:10 ym mis Gorffennaf y llynedd a bydd yn dod i ben ar 30 Mehefin 2011.
We were one of the first governments in the UK to sign up the whole of its administrative estate to the 10:10 commitment. Our aim was to reduce the greenhouse gas emissions of our estate by 10% in a year. Our 10:10 action year began in July 2010 last year and will end on 30 June 2011.
Rwy’n hynod o falch ein bod bron wedi cyrraedd y targed hwn. Yn chwe mis cyntaf ein blwyddyn weithredu (Gorffennaf – Rhagfyr 2010) llwyddwyd i leihau 1,564 o dunelli ar ein hallyriadau, sef 90% o’r targed ar gyfer y flwyddyn. Mae hyn yn golygu’n bod yn debygol o ragori ar ein targed erbyn diwedd ein blwyddyn weithredu 10:10.
I am delighted that we have already almost achieved this target. In the first six months of our action year (July – December 2010) we reduced emissions by 1,564 tonnes which represents 90% of the total target for the year. This means we are likely to exceed our target by the end of our 10:10 action year.
O ran data perfformiad allyriadau nwyon tŷ gwydr gwirioneddol o drydan, tanwydd ffosil a teithio busnes yn chwe mis cyntaf blwyddyn weithredu 10:10 (Gorffennaf – Rhagfyr 2010) roedd gostyngiad o 19% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2009 (y flwyddyn sylfaen). Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o 13% mewn allyriadau trydan, gostyngiad o 23% mewn allyriadau defnydd nwy a gostyngiad o 36% mewn allyriadau teithio busnes.
Actual greenhouse gas emission performance data from electricity, fossil fuels and business travel for the first six months of the 10:10 action year (July – December 2010) shows a 19% decrease compared to the same period in 2009 (the baseline year). This includes a 13% decrease in emissions from electricity, 23% decrease in emissions from gas usage and a 36% decrease in emissions from business travel.
Waeth pa mor lwyddiannus ydym o ran lleihau allyriadau, mae rhai allyriadau na allwn eu lleihau oherwydd technolegau ac isadeiledd presennol.
However successful we are in reducing emissions, there will always be some emissions that cannot be reduced due to restrictions associated with current technologies and infrastructure.
O fis Ebrill 2011, bydd gan Lywodraeth y Cynulliad Gynllun Buddsoddi Carbon a fydd yn codi tâl ar adrannau am bob taith awyr, pob taith fflyd Gweinidogol a phob taith car llog. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar Weinidogion a swyddogion.
From April 2011, the Assembly Government will have a Carbon Investment Scheme which will levy a charge on departments for each journey made by air travel, by Ministerial fleet travel and by hire car travel. These charges will apply to Ministers and officials.
Mae’r Cynllun yn adlewyrchu ymrwymiad a wnaed yn y Cod Gweinidogol yn 2007. Bydd Adran yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn rhoi arian am allyriadau pob adran dros y pedair blynedd diwethaf (2007-11), sef oddeutu £45,000. Rhagwelir y bydd y Cynllun yn cynhyrchu hyd at £10,000 y flwyddyn, gan leihau o flwyddyn i flwyddyn wrth i ôl-troed carbon y sefydliad leihau.
The Scheme reflects a commitment in the Ministerial Code that was made in 2007. The Department for Environment and Sustainability will provide funds to cover the emissions from all departments for the past four years (2007-11), which will amount to approximately £45,000. It is anticipated that the Scheme will generate a maximum of £10,000 per year, with this decreasing year on year as the carbon footprint of the organisation reduces.
Caiff yr arian ei fuddsoddi mewn prosiectau arloesol lleihau allyriadau yn Affrica is-Sahara sy’n gysylltiedig â’n rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fydd yn rhedeg y Cynllun.
The funds will be invested into innovative emission reduction projects in sub-Saharan Africa associated with our Wales for Africa programme. The Scheme will be managed by the Wales Council for Voluntary Action.
Datganiad Ysgrifenedig - Llygredd o ddiwydiant a thraffig
Written Statement - Pollution from industry and traffic
Jane Davidson , y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Jane Davidson, Minister for Environment, Sustainability and Housing
Cyflwynaf yma ddatganiad ysgrifenedig sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am waith parhaus Llywodraeth y Cynulliad i atal a lleihau llygredd a achosir gan ddiwydiant a thraffig yng Nghymru.Effeithiau llygredd o ddiwydiant a thraffig ar iechyd
I provide here a written statement updating Members on the Assembly Government’s ongoing work to prevent and reduce pollution caused by industry and traffic in Wales.Health effects of pollution from industry and traffic
Ceir amrywiaeth o lygryddion aer a allyrrir o ddiwydiant a thraffigy mae'n hysbys neu yr amheuir eu bod yn effeithio'n niweidiol ar iechyd pobl a'r amgylchedd. Gall lefelau uwch o lygredd aer a/neu amlygiad hirdymor iddo arwain at symptomau a chyflyrau sy'n effeithio ar y system anadlol a'r system lidiol, a chyflyrau mwy difrifol megis clefyd y galon a chanser hefyd.
A variety of air pollutants emitted from both industry and traffichave known or suspected harmful effects on human health and the environment. Elevated levels and/or long-term exposure to air pollution can lead to symptoms and conditions affecting the respiratory and inflammatory systems, and also more serious conditions such as heart disease and cancer.
Y ddau brif lygrydd aer sy'n peri'r pryder mwyaf yw nitrogen deuocsid a gronynnau. Allyrrir y ddau wrth i ddiwydiant a cherbydau ymlosgi tanwydd, a daw gronynnau o lwch y ffordd a thraul breciau a theiars hefyd. Prif ffynonellau’r llygryddion hyn mewn ardaloedd trefol yw dulliau trafnidiaeth. Mae'r sector trafnidiaeth eisoes wedi gwneud cynnydd i leihau allyriadau ac mae'n parhau i wneud hynny, yn bennaf drwy reoliadau Ewropeaidd ynghylch allyriadau cerbydau. Mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn nodi bod rheolaethau ar allyriadau ar gyfer cerbydau diesel wedi methu â chyrraedd y lleihad disgwyliedig.
The two main air pollutants of concern are nitrogen dioxide and particulate matter. Both are emitted by the combustion of fuel by industry and vehicles, and particulate matter also comes from road dust and brake and tyre wear. The main sources of these pollutants in urban areas are transport. The transport sector has made and continues to make advances in reducing emissions, largely through European vehicle emission regulations. Emerging evidence indicates that emissions controls for diesel vehicles have fallen some way short of the reductions anticipated.
Y llynedd, cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor ar Effeithiau Meddygol Llygryddion Aer (COMEAP) sy'n amcangyfrif bod llygredd aer o ronynnau yn y DU o ganlyniad i weithgareddau dynol yn cael effaith ar iechyd sydd gyfwerth â gostyngiad o tua chwe mis mewn disgwyliad oes o enedigaeth. Mae llygredd aer o ronynnau mân yn gysylltiedig â mwy na 455,000 o farwolaethau cynamserol yn 27 aelod-wladwriaeth yr UE bob blwyddyn, yn ôl astudiaeth ddiweddar gan y Ganolfan Pwnc Ewropeaidd ar gyfer Aer a Newid yn yr Hinsawdd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd Ewropeaidd. Yn fwy diweddar, daeth prosiect 'Aphekom', a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd, i'r canlyniad y gallai mynd ati, mewn 25 o ddinasoedd mawr Ewrop, i gydymffurfio â chanllaw ansawdd aer blynyddol Sefydliad Iechyd y Byd ar ronynnau mân ychwanegu hyd at 22 mis at ddisgwyliad oes pobl sy'n 30 oed a hŷn, ac arwain at 31.5 biliwn Ewro o fanteision ariannol ym maes iechyd bob blwyddyn, gan gynnwys arbedion o ran gwariant ar iechyd, absenoldeb a chostau anniriaethol megis lles, disgwyliad oes ac ansawdd bywyd.
The Committee on the Medical Effects of Air Pollution (COMEAP) published a report last year which estimates that the health burden of particulate matter air pollution in the UK due to human activity is equivalent to a loss of life expectancy from birth of approximately six months. Air pollution of fine particles is associated with more than 455,000 premature deaths every year in the EU’s 27 member states, according to a recent study by the European Topic Centre on Air and Climate Change on behalf of the European Environment Agency. More recently, the ‘Aphekom’ project funded by the European Commission has concluded that compliance with the World Health Organisation's annual air quality guideline on fine particulate matter in 25 large European cities could add up to 22 months of life expectancy for persons 30 years of age and older, and produce 31.5 billion Euros in monetary health benefits every year, including savings on health expenditures, absenteeism and intangible costs such as wellbeing, life expectancy and quality of life.
Gall nitrogen deuocsid lidio'r ysgyfaint a lleihau ymwrthedd i heintiau anadlol megis y ffliw.
Nitrogen dioxide can irritate the lungs and lower resistance to respiratory infections such as influenza.
Mae sŵn o ffyrdd, rheilffyrdd a ffynonellau diwydiannolhefyd yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles. Ar lefelau isel gellir ei anwybyddu'n hawdd, yn arbennig mewn trefi a dinasoedd lle rydym yn gyfarwydd â rhywfaint o sŵn cefndirol. Ond wrth i sŵn fynd yn uwch, gall boeni pobl neu dynnu eu sylw, amharu ar sgyrsiau a gwaith arall neu weithgareddau hamdden a tharfu ar gwsg. Mae amlygiad hirdymor i lefelau uchel o sŵn traffig ffordd wedi'i gysylltu â risg uwch o effeithiau mwy difrifol ar iechyd pobl, er nad yw'n glir ar hyn o bryd faint o hyn a achosir gan y llygryddion aer sydd hefyd yn bresennol os ydych yn byw yn agos at ffyrdd prysur. Yng Nghanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar Sŵn yn y Nos ar gyfer Ewrop, nodir bod plant, yr henoed, merched beichiog, pobl sâl a gweithwyr sifft yn grwpiau mewn perygl.
Noise from roads, railways and industrial sourcesalso affects our health and wellbeing. At low levels it can be easily ignored, particularly in towns and cities where we are used to a certain background level. But as noise gets louder it can become an irritation or a distraction, interfere with conversation and other work or leisure activities and disrupt sleep. Long-term exposure to high levels of road traffic noise has been linked to an increased risk of more serious health effects, though it is currently unclear how much of this is due to the air pollutants that also come with living close to busy roads. In the World Health Organisation's Night Noise Guidelines for Europe, children, the elderly, pregnant women, those with ill health and shift workers are identified as groups at risk.
Yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae cerbydau unigol a phrosesau diwydiannol wedi dod yn lanach ac yn dawelach (yn achos diwydiant, mae hyn yn cyfeirio at allyriadau i ddŵr a thir hefyd). Fodd bynnag, mae'r nifer gynyddol o gerbydau ar ein ffyrdd a'r galw cynyddol am gynhyrchion diwydiannol wedi cael effaith groes i'r uchod gan wrthweithio'r duedd a oedd yn gwella fel arall.
During the course of the last century, individual vehicles and industrial processes have become cleaner and quieter (in the case of industry, this also refers to emissions to water and land). However, the increasing number of vehicles on our roads and consumer demand for industrial products has worked in the opposite direction to counter the otherwise improving trend.
Er mwyn gwneud cynnydd pellach, sydd ei angen i leihau effeithiau andwyol llygredd ar iechyd pobl, hyd yn oed ar y lefelau llygredd isel presennol, bydd angen datblygu a defnyddio technolegau newydd ac, yn aml, gwneud newidiadau o bosibl i'n ffordd o fyw a'r dirwedd drefol.Cynnydd yn ystod tymor y Cynulliad hwn
Further progress, necessary for the reduction of adverse impacts of pollution on health observed even at current low pollution levels, requires development and use of new technologies and often potential changes in lifestyle and in the urban landscape.Progress in this Assembly term
Bu lleihau lefelau llygredd yn brif flaenoriaeth yn ystod fy nghyfnod fel y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai. Mae Cymru'n manteisio ar ei maint bach, gan weithio mewn partneriaeth agos gyda'n rheoleiddwyr a'n busnesau i ddiogelu a gwella ein hiechyd a'r amgylchedd.  Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyflawni llawer hyd yma â'r pwerau sydd gennym. Drwy gydweithio â gweinyddiaethau eraill yn y DU, cyflwynwyd offerynnau deddfwriaethol effeithiol ac effeithlon sy'n diwallu anghenion Cymru ac yn bodloni ein rhwymedigaethau Ewropeaidd yn y ffordd orau.
Reducing levels of pollution has been a major priority during my time as Minister for Environment Sustainability and Housing. Wales is using its size as a nation to our advantage, working closely in partnership with our regulators and businesses to protect and improve our health and environment. The Assembly Government has achieved a great deal to date with the powers we have. Working in collaboration with other UK administrations has also brought in effective and efficient legislative tools which best serve Wales and meet our European obligations.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig y Strategaeth Ansawdd Aer ddiweddaraf ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 2007. Mae'r strategaeth yn nodi ffordd ymlaen ar gyfer gwaith a phrosesau cynllunio o ran materion ansawdd aer. Mae'n nodi'r safonau a'r amcanion ansawdd aer i'w cyflawni ac yn cyflwyno fframwaith polisi newydd i fynd i'r afael â gronynnau mân. Mae system Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol ar waith yng Nghymru â'r nod cyffredinol o sicrhau bod pob ardal yn cyflawni'r amcanion ansawdd aer cenedlaethol. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol adolygu eu hansawdd aer cyfredol ac asesu a oes unrhyw leoliadau lle mae'r ffigurau'n debygol o fod yn fwy na'r amcanion cenedlaethol.  Os nodir ardaloedd o ormodiant, yna bydd angen diffinio un ardal rheoli ansawdd aer neu fwy a llunio cynlluniau gweithredu cysylltiedig. Mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i rannu arfer gorau ac maent yn cyfrannu'n helaeth i'r adolygiad parhaus o'r system Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol. Y llynedd, mewn cydweithrediad â Defra a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, gwnaethom gyhoeddi'r ddogfen Air Pollution: Action in a Changing Climate, sy'n nodi'r manteision iechyd ychwanegol y gellir eu cyflawni drwy integreiddio polisïau ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd yn agosach yn y dyfodol. Mae llygredd aer yn deillio o'r un gweithgareddau sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd yn aml (trafnidiaeth a chynhyrchu trydan yn arbennig) felly mae'n gwneud synnwyr i ystyried sut y gellir rheoli'r cysylltiadau rhwng meysydd polisi ansawdd aer a newid yn yr hinsawdd er mwyn sicrhau'r effaith orau.
The UK Government and the devolved administrations published the latest Air Quality Strategy for England, Scotland, Wales and Northern Ireland in 2007. The strategy sets out a way forward for work and planning on air quality issues. It sets out the air quality standards and objectives to be achieved and introduces a new policy framework for tackling fine particulates. A system of Local Air Quality Management (LAQM) is in place in Wales with the overall aim of ensuring that the national air quality objectives will be achieved in all areas. Local authorities are required to review their current air quality and assess whether any locations are likely to exceed the national objectives. If they identify areas of exceedence then one or more air quality management areas will need to be defined and associated action plans drawn up. Local authorities work together to share best practice and input extensively to the ongoing review of LAQM. Last year, we published in conjunction with Defra and the other devolved administrations the document Air Pollution: Action in a Changing Climate, which highlights the additional health benefits that can be achieved through closer integration of air quality and climate change policies in future. Air pollution often originates from the same activities that contribute to climate change (notably transport and electricity generation) so it makes sense to consider how the linkages between air quality and climate change policy areas can be managed to best effect.
Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) yn trosi'r Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni baratoi mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu ar gyfer ein hardaloedd trefol mwyaf a'n ffyrdd a'n rheilffyrdd prysuraf a'u hadolygu a'u diweddaru fel y bo angen bob pum mlynedd.
The Environmental Noise (Wales) Regulations transpose the Environmental Noise Directive, which requires us to produce strategic noise maps and action plans for our largest urban areas and our busiest roads and railways and review and update them as needed every five years.
Un o'r offerynnau pwysicaf sydd gennym yw'r gyfundrefn Caniatáu Amgylcheddol sy'n ymdrîn â phob math o lygredd o ffynonellau diwydiannol. Mae'r gyfundrefn Caniatáu Amgylcheddol yn cwmpasu tua 1,650 o fusnesau yng Nghymru ac yn ei gwneud yn ofynnol i weithgareddau diwydiannol a all achosi llygredd wneud cais i Asiantaeth yr Amgylchedd neu awdurdodau lleol am ganiatâd cyn y gallant ddechrau gweithredu. Mae'r caniatadau hyn yn gosod amodau ar weithrediad y gweithgareddau hyn a chyfyngiadau ar eu hallyriadau. Maent yn cynnwys allyriadau i'r aer (gan gynnwys, er enghraifft, sŵn, llwch ac arogleuon), y dŵr a'r tir. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddiwydiant sicrhau bod eu hallyriadau o lygredd yn is na'r lefelau sy'n dderbyniol ar gyfer ein hiechyd a'r amgylchedd ac i ddefnyddio'r technegau gorau sydd ar gael i leihau eu hallyriadau yn barhaus. Mae hwn yn offeryn hanfodol a phwerus i ddiogelu ein hamgylchedd. Mae'n sicrhau y caiff dinasyddion sy'n agored i niwed a rhai mewn ardaloedd difreintiedig yr un lefel o ddiogelwch rhag llygredd â phawb arall yng Nghymru.
One of the most important tools we have is the Environmental Permitting regime which addresses all forms of pollution from industrial sources. The Environmental Permitting regime covers around 1,650 businesses in Wales and requires industrial activities that may cause pollution to apply to the Environment Agency or local authorities for a permit before they can operate. These permits impose limits on emissions and conditions on operation of these activities. These include emissions to air (including for example noise, dust and odour), water and land. This legislation requires industry to only emit pollution below levels acceptable for health and the environment and to use the best available techniques to reduce their emissions on an ongoing basis. It is a fundamental and powerful tool to protect our environment. It ensures that our vulnerable citizens and those in deprived areas are afforded the same protection from pollution in Wales as everyone else.
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ac awdurdodau lleol sy'n rheoleiddio'r gyfundrefn Caniatáu Amgylcheddol. Drwy ddefnyddio'r gyfundrefn hon dros y pedair blynedd diwethaf, rhoddwyd cyfle i ddiwydiant ac Asiantaeth yr Amgylchedd (sy'n rheoleiddio'r rhan fwyaf o'r safleoedd hyn yn Ne Cymru) gyflawni'r lleihad canlynol ar y safleoedd a reoleiddir ganddynt yn Ne Cymru:Lleihad o 60 y cant mewn ocsidau sylffwr (SOx) a lleihad o 24 y cant mewn ocsidau nitrogen (NOx) - mae'r ddau yn cyfrannu at ansawdd yr aer yn lleol yn ogystal â glaw asid mewn lleoedd eraill.Lleihad o 27 y cant mewn gronynnau (PM10), sef y prif lygrydd arall sy'n peri pryder yng Nghymru ynghyd â NOx.Lleihad o 37 y cant mewn carbon monocsid o ddiwydiant wedi'i reoleiddio, sef prif ffynhonnell carbon monocsid yng Nghymru.Lleihad o 26 y cant mewn allyriadau plwm, y gall lefelau uchel ohono fod yn wenwynig i blanhigion, anifeiliaid a phobl.Llai o achosion o lygredd difrifol (a elwir yn gategori 1 a 2), sef dim ond 7 yn 2010 o gymharu â 24 y flwyddyn yn 2007.
The Environment Agency Wales and local authorities are the regulators for the Environmental Permitting regime. The use of this regime over the past four years has provided the platform for industry and the Environment Agency (who regulate the majority of these sites in Wales) to help achieve the following reductions from their regulated sites in Wales :A 60 per cent reduction in oxides of sulphur (SOx) and a 24 per cent reduction in oxides of nitrogen (NOx) – both of these contribute to local air quality as well as acid rain further afield.A reduction of 27 per cent in particulate matter (PM10) the other major pollutant of concern in Wales along with NOx.A 37 per cent reduction in carbon monoxide from regulated industry – the major source of carbon monoxide in Wales.A reduction of 26 per cent in emissions of lead – which in high levels can be toxic to plants, animals and humans.A reduction in the number of serious pollution incidents (known as category 1 and 2) from 24 a year in 2007 to just 7 in 2010.
Yn y Cynulliad hwn, lluniwyd ein dull o weithredu rhwymedigaethau Ewropeaidd o ran llygredd diwydiannol a thraffig yn unol â'n gweledigaeth o Gymru gynaliadwy. Mae'r enghreifftiau o ba mor agos y mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, cwmnïau a chynrychiolwyr o'r gymuned ehangach i gyflawni ein nodau amgylcheddol cyffredin yn cynnwys y canlynol:Datblygwyd ein cynllun gweithredu ar sŵn, sydd bellach yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn, gyda mewnbwn gan awdurdodau lleol, darparwyr trafnidiaeth a sefydliadau eraill â diddordeb. Mae'r ddogfen ymgynghori yn egluro'n fanwl ein gweithdrefn arfaethedig i ddynodi ardaloedd tawel (un o ofynion y Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol) drwy wahodd awdurdodau lleol i enwebu mannau agored cyhoeddus tawel y gwyddys eu bod yn cyfrannu at les cymunedau lleol. Ar ôl nodi'r cyfryw ardaloedd, fe'u diogelir rhag datblygiadau sy'n creu sŵn o dan ddarpariaethau a gyflwynwyd yn argraffiad 2010 o Bolisi Cynllunio Cymru.Ym Mhort Talbot rydym wedi dod â diwydiant, rheoleiddwyr, awdurdodau lleol, trigolion a gweithwyr iechyd proffesiynol ynghyd, yn aml mewn fforymau agored, i fynd i'r afael â'r heriau a grëir oherwydd llygredd aer o ronynnau. O ganlyniad i sesiwn dystiolaeth agored ddiweddar cyflwynwyd nodyn cyngor allweddol (ar yr ymchwiliad i ronynnau yn ardal Port Talbot) gan Grŵp Arbenigol Ansawdd Aer y DU. Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd nifer fach o achosion o ormodiant o ronynnau (PM10) yn ardal Port Talbot. Yng Nghwm Tawe i'r gogledd o Abertawe, rydym wedi datblygu dull partneriaeth tebyg gyda diwydiant a rheoleiddwyr i fynd i'r afael a'r lefelau o nicel yn yr aer.Mae ein hawdurdodau lleol wedi gweithio'n agos gyda'i gilydd a chyda swyddogion Llywodraeth y Cynulliad ac o ganlyniad i'r dull cydgysylltiedig hwn, gwnaethant gyflawni eu cwota llawn o arolygiadau o ddiwydiant rheoledig y llynedd gan ragori ar eu cymheiriaid yn Lloegr. Rydym wedi cyflawni gwaith o safon uchel gyson i reoli llygredd diwydiannol ledled Cymru, rhywbeth sy'n hanfodol i ddiogelu ein hamgylchedd ac iechyd y cyhoedd, yn arbennig dinasyddion sy'n agored i niwed a rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.Mae Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007 a 2010 wedi parhau i weithredu dull integredig o atal a rheoli llygredd o ddiwydiant yng Nghymru. Rydym wedi cydweithio â Defra i lunio rheoliadau cyfansawdd er mwyn gweithredu pecyn rheoleiddio cyson er lles busnesau a rheoleiddwyr, sy'n sicrhau y caiff iechyd pobl a'r amgylchedd eu diogelu'n briodol, a rhoi gwerth am arian gan ddiwallu anghenion Cymru ar yr un pryd. Drwy symleiddio rhannau gweithdrefnol y ddeddfwriaeth, mae'r modd y gweithredir y system ganiatáu a ddefnyddir gan y diwydiant a rheoleiddwyr wedi cael ei symleiddio hefyd, ond nid yw, mewn unrhyw ffordd, wedi effeithio'n andwyol ar safonau amgylcheddol na safonau iechyd pobl. Mae'r fframwaith rheoliadau hwn wedi symleiddio'r broses gymhleth yr arferai diwydiant a rheoleiddwyr ei hwynebu, lle roedd llawer o gyfundrefnau caniatáu amgylcheddol â'r un canlyniadau amgylcheddol, ac mae mawr angen hyn.Edrych ymlaen
In this Assembly we have shaped our approach to implementing European obligations on industrial and traffic pollution to our vision of a sustainable Wales. Examples of how closely Assembly Government officials work alongside local authorities, companies and representatives of the wider community to achieve our common environmental goals include:Our approach to noise action planning, now undergoing full public consultation, was developed with input from local authorities, transport providers and other interested organisations. The consultation document explains in detail our proposed procedure for designating quiet areas (a requirement of the Environmental Noise Directive) by inviting local authorities to nominate tranquil public open spaces that are known to confer wellbeing on local communities. Such areas, once identified, will receive protection from noise-generating development under provisions introduced in the 2010 edition of Planning Policy Wales.In Port Talbot, we have brought industry, regulators, local authorities, residents and health professionals together, often in open forums, to tackle the challenges posed by particulate matter air pollution. One outcome of a recent open evidence session is the delivery of a key advice note (on the investigation of particulate matter in the Port Talbot area) from the UK Air Quality Expert Group. Recent years have seen a low number of exceedences of particulate matter (PM10) in the Port Talbot area. In the Tawe Valley north of Swansea we have developed a similar partnership approach with industry and regulators to address levels of nickel in air.Our local authorities have worked closely together and with Assembly Government officials and this joined-up approach resulted in them completing their full quota of inspections of regulated industry last year, outperforming their English counterparts. We have delivered a consistently high standard of industrial pollution control across Wales, something that is fundamental to protecting our environment and the health of the public, in particular vulnerable citizens and those living in deprived areas.The Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2007 and 2010 have continued forward an integrated approach to the prevention and control of pollution from industry in Wales. We have worked jointly with Defra on composite regulations to deliver a consistent regulatory package to the benefit of both businesses and the regulators, while ensuring proper protection of human health and the environment, delivering value for money and meeting the needs of Wales. This streamlining of the procedural parts of legislation has enabled the simplification of the operation of the permitting system that industry and regulators work with, without in any way compromising environmental or human health standards. This framework of regulations has brought much needed simplification to the complexity that industry and regulators previously faced with multiple environmental permitting regimes with identical environmental outcomes.Looking forward
Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol fel y nodwyd yn Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, yw cymunedau diogel, cynaliadwy sy'n lleoedd deniadol i fyw a gweithio ynddynt a lle mae'r bobl sy'n byw yno'n iach. Felly mae ein blaenoriaethau ar gyfer y Cynulliad nesaf o ran llygredd yn cynnwys y canlynol:Fel y nodwyd yn Cymru'n Un: Cysylltu'r Genedl - sef Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, dylai system drafnidiaeth gyhoeddus gyflym, dibynadwy, fforddiadwy, sydd mor bwysig i ddenu buddsoddiad busnes a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, hefyd sicrhau aer glanach a mwy o seibiant rhag sŵn mewn ardaloedd trefol, gan wella ansawdd bywyd pawb. Am resymau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd rhaid i hyn fod yn brif flaenoriaeth yn nhymor nesaf y Cynulliad.Byddwn yn diweddaru ein mapiau sŵn strategol a'n cynlluniau gweithredu yn unol â'r Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol, gan ddefnyddio adnoddau ar-lein i rannu gwybodaeth ac arfer gorau â phartneriaid o blith awdurdodau lleol a darparwyr trafnidiaeth ledled Cymru. Byddwn yn teilwra ein cynlluniau gweithredu ar sŵn er mwyn manteisio i'r eithaf ar y budd i gymunedau lleol. Lle bynnag y bo'n bosibl, byddwn yn manteisio ar synergeddau posibl rhwng sŵn a meysydd polisi eraill, yn enwedig seilwaith trafnidiaeth ac ansawdd aer.Adeiladu ar gryfderau ein dull tryloyw, integredig presennol o reoleiddio diwydiant, gan weithio mewn partneriaeth â gweinyddiaethau eraill yn y DU i sicrhau cysondeb a thegwch i fusnesau yng Nghymru ac, ar yr un pryd, ddatblygu'r adnoddau mwyaf effeithlon i leihau a, lle y bo'n bosibl, ddileu llygredd ledled Cymru.
Our vision for the future as stated in One Wales, One Planet is of communities that are safe, sustainable and attractive places to live and work, and where people enjoy good health. Our priorities for the next Assembly in relation to pollution therefore include the following:As stated in One Wales: Connecting the Nation -  the Wales Transport Strategy, a fast, reliable, affordable public transport system, so important to attracting business investment and fighting climate change, should also deliver cleaner air and greater respite from noise in built-up areas, thus improving quality of life for all. For social, environmental and economic reasons this must be a top priority for the next Assembly term.We will update our strategic noise maps and action plans in line with the Environmental Noise Directive, using on-line tools to share information and best practice with local authority and transport provider partners across Wales. We will tailor our noise action planning to maximise the benefits conferred on local communities. Wherever possible we will exploit potential synergies between noise and other policy areas, particularly transport infrastructure and air quality.Building upon the strengths of our current transparent, integrated approach to industry regulation, working in partnership with other UK administrations to ensure consistency and fairness to Welsh businesses, whilst developing the most efficient tools to reduce and, where possible, eliminate pollution across Wales.
Datganiad Ysgrifenedig - Y Diwydiant Adeiladu yng Nghymru
Written Statement - The Construction Industry In Wales
Ieuan Wyn Jones, y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth a’r Dirprwy Brif Weinidog
Ieuan Wyn Jones, Minister for the Economy and Transport and Deputy First Minister
Mae’r diwydiant adeiladu yn werthfawr iawn i Gymru, ac mae’n rhan annatod o economi Cymru, gan helpu i sicrhau mwy o lewyrch a datblygu amgylchedd o safon.
The construction industry in Wales is recognised as a highly valued and pivotal part of the Welsh economy supporting the delivery of greater prosperity and a quality environment.
Er nad yw’n un o’r chwe sector sy’n cael blaenoriaeth yn Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd, bydd y sector yn parhau i elwa ar gymorth Llywodraeth y Cynulliad; yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Wrth i ni fuddsoddi yn y chwe sector allweddol, ac wrth i ni ymrwymo i ddatblygu seilweithiau ffisegol Cymru, yn ogystal â meithrin ei gallu o ran TGCh a theleffoni symudol, bydd y diwydiant adeiladu yn gallu manteisio ar gyfleoedd newydd.
Substantial opportunities for our construction industry will be opened up through investments in the 6 key sectors and through our commitment to develop Wales’ physical infrastructure as well as its ICT and mobile telephony capability.
Gan ystyried y cyd-destun economaidd ehangach, wrth i’r dirwasgiad byd-eang ddirwyn i ben, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda’r diwydiant adeiladu. Bydd hynny’n fodd o gynyddu i’r eithaf y cyfleoedd a fydd ar gael i’r diwydiant, a sicrhau bod Cymru'r unfed ganrif ar hugain yn gallu parhau i wneud cynnydd.
In a broader economic context as the world emerges from recession, the Welsh Assembly Government will continue to work closely with the construction industry to maximise opportunities and ensure the further progress of a 21st century Wales.
Gyda’r nod hwn mewn golwg, ar hyn o bryd, mae fy swyddogion a finnau yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol o’r diwydiant a gydag asiantaethau cymorth. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda Fforwm Amgylchedd Adeiledig Cymru i sicrhau y bydd anghenion y sector a blaenoriaethau polisi Llywodraeth y Cynulliad yn fwy cydnaws â swyddogaeth y Fforwm hwn yn y dyfodol, ac yn fwy cydnaws hefyd â’r modd y caiff ei ariannu. Rydym yn cydnabod bod cysylltiadau â’r diwydiant adeiladu yn ymestyn y tu hwnt i Adran yr Economi a Thrafnidiaeth, a’u bod yn dal i ddatblygu er mwyn sicrhau dull o weithredu a fydd yn cynnwys adrannau ar draws y Cynulliad. Isod, ceir rhai enghreifftiau o waith trawslywodraethol sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
With this objective in mind, my officials and I are currently working with key industry stakeholders and support agents, for example the Welsh Built Environment Forum, to ensure that its future role and funding are best aligned with the needs of the sector and the policy priorities of the Assembly Government.  We recognise that relationships with the construction industry are not limited to the Department for the Economy and Transport and that they are continuing to develop to ensure a cross-Assembly approach.
Ar 18 Chwefror 2011, cyhoeddodd un o’m Cyd-Weinidogion yn y Cabinet, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, ddatganiad ar Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru. Mae hi’n datblygu dull rhagweithiol o feithrin cysylltiadau mwy cadarn rhwng busnesau yng Nghymru a chaffael cyhoeddus. Fel ymateb uniongyrchol i’r adborth a gafwyd i’r ymgynghoriad ar Adnewyddu’r Economi, mae ei swyddogion wrthi’n diwygio’r broses cyn-gymhwyso ac yn treialu dull newydd o weithredu.
My Cabinet colleague, the Minister for Budget and Business issued a Statement on 18 February 2011 on the subject of Public Procurement in Wales and is developing a proactive approach to build stronger relationships between Welsh business and public procurement.  In direct response to feedback from the Economic Renewal consultation, her officials are amending the pre-qualification process and are trialling a new approach.
Yr wythnos ddiwethaf, ar y cyd â’r Prif Weinidog a’r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb, cyhoeddais fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol gwerth £105 miliwn. Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn rhoi hwb hanfodol i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru ar gyfer 2011-12. Bydd yn caniatáu i’r diwydiant fwrw ati â gwaith hanfodol, a bydd ein dinasyddion a’n heconomi ar eu hennill.
Last week, together with the First Minister and Minister for Business and Budget, I announced an additional investment of £105 million capital spend.  This additional investment will provide a much needed boost to the Welsh construction industry for 2011-12, allowing essential work to get underway and delivering real benefits to our citizens and the economy.
Drwy gyfrwng y cyngor sgiliau sector, Sgiliau Adeiladu yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r sector adeiladu i sicrhau ein bod yn darparu cymorth perthnasol a phriodol i fusnesau bach a chanolig sy’n perthyn i’r sector hwnnw. Rydym yn gwneud hynny drwy’r Gwasanaeth Datblygu Cyflenwyr yn arbennig; gwasanaeth sy’n cynnwys cymorth a gynigiwyd cyn hyn gan Adeiladu Cymru.
There is commitment to working with the construction sector through ConstructionSkills Wales to ensure that we provide relevant and appropriate support for small and medium sized businesses within the sector, particularly through the Supplier Development Service which includes support previously offered by Construct Wales.
Datblygu Sgiliau yw un o’r prif feysydd a fydd yn cael cymorth. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi datblygiad sgiliau adeiladu drwy brentisiaethau a chyrsiau hyfforddi. Cafodd ‘Llwybrau at Brentisiaethau’ ei gynllunio’n benodol ar gyfer hyn. Bydd y rhaglen hon yn cael ei hategu, o dan raglen Adnewyddu’r Economi, gan fentrau a chyfleoedd newydd i gyflogwyr gynnig prentisiaethau yng Nghymru. Yn olaf, bydd y sector hefyd yn elwa ar Raglen Gwella Sgiliau Arwain a Rheoli (ELMS) yr Adran Addysg, Plant, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (APADGOS), a fydd yn datblygu rheolwyr medrus a brwdfrydig.
Skills Development is a principal area for assistance. The Assembly Government is currently supporting the development of construction skills through apprenticeships and training courses.  Specifically, a ‘Pathway to Apprenticeship’ has been designed and, under Economic Renewal, this will be enhanced by new incentives and opportunities for employers to offer apprenticeships in Wales. Finally, DCELLS’ Enhancing Leadership and Management Skills Programme (ELMS) will also benefit the sector by developing motivated and highly skilled managers.
Fel rhan o’r ymdrech i sicrhau bod Cymru’n fwy gwyrdd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda’r diwydiant adeiladu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wella cynaliadwyedd adeiladau. Bydd datganoli Rheoliadau Adeiladu, sydd ar ddigwydd, yn rhoi hwb i’r ymdrech hon. Hefyd, mae £30 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng ngham cyntaf menter ‘Arbed’ Llywodraeth y Cynulliad, a fydd yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwella perfformiad ynni cartrefi mewn ardaloedd difreintiedig.
As part of the drive to ensure a greener Wales, the Assembly Government is working with the construction industry on the skills needed to improve the sustainability of buildings.  This drive will be boosted by the imminent devolution of Building Regulations.  In addition, £30 million is being invested in the first phase of ‘arbed’, the Assembly Government’s initiative to combat fuel poverty and promote the energy performance of homes in deprived areas.
Mae Gweinidogion a swyddogion yn ymgysylltu â’r diwydiant ar hyn o bryd drwy gyfres o fforymau ac asiantaethau cyflenwi sy’n cael cymorth gan y Cynulliad. Bydd hi’n bwysig nodi’r cyfleoedd sydd ar gael i ni gydweithio, ac osgoi dyblygu gwaith, gan gydnabod y bydd rhai meysydd polisi penodol yn galw am ymgysylltu’n fwy eto â’r rheini sy’n cynrychioli diwydiant sy’n amrywiol iawn.
Ministerial and official engagement with the industry currently takes place through a range of fora and Assembly-supported delivery agents. It will be important to identify where there are opportunities to ensure synergy and reduce duplication but, at the same time, recognising that there will be specific policy areas requiring more detailed engagement with those that represent a very diverse industry.
Datganiad Ysgrifenedig - Y diweddaraf ynghylch y rhwydwaith Technium
Written Statement - Technium Update
Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau
Lesley Griffiths, Deputy Minister for Science, Innovation and Skills
Fel y gŵyr Aelodau’r Cynulliad, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar 18 Tachwedd 2010 ynghylch dyfodol y Rhwydwaith Technium. Yn dilyn Datganiad Llafar ar 23 Tachwedd gwnes ymrwymo i gyflwyno’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.
Assembly Members will be aware that I issued a Written Statement on 18 November 2010 on the future of the Technium Network. Following an Oral Statement on 23 November I committed to updating Members before the end of this Assembly.
Mae’r rhwydwaith wedi bod yn destun sawl adolygiad, archwiliad a gwaith craffu annibynnol gan Bwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yr Economi a Thrafnidiaeth. Arweiniodd y rhain at argymhellion ynghylch gwneud gwelliannau mewn meysydd fel llywodraethu, prosesau a gwybodaeth/data rheoli.
The network has been subject to a number of independent reviews, audits and scrutiny by the Economy and Transport Corporate Governance Committee. These resulted in recommendations being made to make improvements in areas such as governance, processes and management information/data.
Ym mis Gorffennaf 2010 lansiwyd  Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd. Gwnaed ymrwymiad yn y polisi hwn i gynyddu arloesedd ac ymchwil, a datblygiad (Ymchwil a Datblygu) yng Nghymru drwy ddarparu cyfleusterau arbenigol, gan gynnwys canolfannau deori.  Nododd y polisi yn ogystal y byddai sylw yn cael ei roi i gapasiti deori busnes sy'n cael ei danddefnyddio. Gan mai'r rhwydwaith Technium sy'n bennaf gyfrifol am gyflawni rhaglen deor busnes Llywodraeth Cynulliad Cymru, ymrwymwyd i gynnal adolygiad o'r holl gyfleusterau unigol. Yn dilyn hynny cyhoeddais y byddai pedwar o'r Techniums yn cael eu cadw ond ni fyddai'r chwech arall bellach yn rhan o'r rhwydwaith.
The launch of Economic Renewal: a new direction in July 2010 brought a commitment to increase the amount of innovation and research and development (R&D) in Wales through the provision of specialist facilities, to include incubation centres. The policy also stated under-used business incubation capacity would be addressed. As the Welsh Assembly Government’s business incubation programme is primarily delivered through the Technium network, a commitment to undertake a review of all individual facilities was given and undertaken following which I announced that four of the Techniums would be retained but the other six would no longer be part of the network.
Ers y dyddiad hwnnw rydym wedi rheoli'r broses o waredu'r chwe adeilad o'r rhwydwaith, ac rydym wedi sicrhau bod trefniadau addas i'w diben, trefniadau llywodraethu a threfniadau ariannol yn eu lle fel y gall y rhwydwaith Technium ar ei newydd wedd symud ymlaen.  Rydym yn ceisio cynorthwyo'r tenantiaid na fydd bellach yn rhan o'r rhwydwaith i feithrin cysylltiadau cymorth busnes newydd ynghyd â chysylltiadau perthnasol ar gyfer cyngor, cymorth a chysylltiadau yn y dyfodol.
Since that date, the transition of the 6 buildings out of the network has been managed whilst working to ensure that a fit-for-purpose management, governance and financial arrangements are in place for the future Technium network going forward. We are supporting tenants exiting from the network to establish new business support relationships and relevant contacts for future advice, support and connections.
Cyhoeddais ym mis Tachwedd na fyddai'r Techniums yn cau ar unwaith, ac y byddai'r tenantiaid unigol o fewn yr adeiladau yr effeithiwyd arnynt yn derbyn cymorth gydol y broses a byddai unrhyw denantiaid yr oedd yn rhaid iddynt newid eu lleoliad yn derbyn pob cymorth posibl i ddod o hyd i leoliad newydd.  O ran y Techniums y mae gan LlCC fuddiant ynddynt o ran bod yn berchen ar yr adeilad neu ei brydlesu, mae'r holl randdeiliaid allweddol, sefydliadau partner a thenantiaid wedi cael eu cynnwys gydol y broses ac mae trafodaethau wedi'u cynnal â hwy er mwyn sicrhau y gallant adael y rhwydwaith erbyn 31 Mawrth 2011.  Mae LlCC yn berchen ar y Techniums canlynol - Peirianneg Perfformiad, Technolegau Cynaliadwy, Aberystwyth ac mae gan CAST brydles â Sony ar gyfer y Technium Sony@Digital.
I said in November that the Techniums would not be closing overnight and individual tenants within the affected buildings would be supported throughout the process and any displaced tenants would receive all possible help to find alternative accommodation. Dialogue and engagement has taken place with all key stakeholders, partner organisations and tenants to deliver an exit from the network by 31 March 2011, for those Techniums where the Welsh Assembly Government has an interest in terms of ownership or a lease for the building. The Welsh Assembly Government owns the following Techniums - Performance Engineering, Sustainable Technologies, Aberystwyth and CAST and has a lease with Sony for Technium Sony@Digital.
Cyngor Sir Penfro sy’n berchen ar Dechnium Sir Benfro a mater i’r perchennog fydd pennu defnydd priodol o'r adeilad ar gyfer y dyfodol.  Rydym wedi cyfarfod â'r Cyngor i drafod y strategaeth ymadael ac rydym wedi darparu cadarnhad ysgrifenedig o'u dyddiad ymadael sef 18 Gorffennaf 2011. Mae'r dyddiad hwnnw'n adlewyrchu eu cyfnod o rybudd.
Technium Pembrokeshire is owned by Pembrokeshire County Council and it is up to the owner to decide on an appropriate future use for the building. We have met with the Council to discuss the exit strategy and have provided written confirmation of their exit date of 18 July 2011 which reflects their notice period.
Rydym wedi cynnal adolygiad o'r cytundebau a'r prydlesoedd perthnasol sy'n bodoli o fewn y rhwydwaith Technium er mwyn pennu unrhyw faterion posibl a fyddai'n deillio o adael y rhwydwaith.  Ymgymerwyd â'r strategaeth ymadael drwy gydymffurfio ag unrhyw amodau a rhwymedigaethau gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).
We have undertaken a review of relevant agreements and leases in place within the Technium network to identify any potential issues that would arise as a result of exiting from the network. The exit strategy has also been undertaken in compliance with any Welsh European Funding Office (WEFO) conditions and obligations.
Mae LlCC yn berchen ar nod masnach y Technium.  Mae rhanddeiliaid, sefydliadau a thenantiaid allweddol a pherthnasol wedi'u hysbysu na fydd rhai adeiladau yn rhan o'r rhwydwaith ar ôl 31 Mawrth 2011 ac o'r herwydd ni ddylent bellach ddefnyddio'r enw Technium mewn unrhyw ddogfennau corfforaethol.  Caiff unrhyw arwyddion sy'n dangos logo neu frand yr adeiladau Technium hefyd eu gwaredu erbyn 31 Mawrth 2011.  Mae'r adeiladau wedi'u hailenwi yn ogystal ac mae tenantiaid a sefydliadau perthnasol yn cael eu hysbysu ynghylch hyn.
The Welsh Assembly Government owns the Technium trade mark.  Relevant key stakeholders, organisations and tenants have been informed that certain buildings will be withdrawn from the network and from 31 March 2011 they should cease to use the Technium name in any corporate documentation. Any signage displaying the logo or branding on the Technium buildings will also be removed by 31 March 2011. The buildings have also been re-named and this is being communicated to tenants and relevant organisations.
Gwnes gadarnhau ynghynt y byddai unrhyw denantiaid a fyddai'n colli eu lleoliad ac yr oedd angen lleoliad arall arnynt yn derbyn cymorth gydol y broses hon.  Gallaf gadarnhau bod dau o denantiaid wedi gofyn yn benodol i gael eu hadleoli o fewn safle deori Sony ac maent wedi derbyn cymorth ac arweiniad priodol gydol y broses fel y gallant adleoli i'r lleoliad newydd.
I previously confirmed any displaced tenants who needed to secure alternative accommodation would be supported through this process.  I can confirm two tenants have specifically asked to be relocated within the Sony incubation suite and have been given appropriate support and guidance during the process to be able to relocate into alternative accommodation.
O safbwynt yr atebion mwy hirdymor ynghylch eiddo, mae trafodaethau wrthi'n mynd rhagddynt â gwahanol sefydliadau ynghylch y defnydd o bob un o'r adeiladau yn y dyfodol a'r modd y cânt eu cynnal.  Rydym wedi ceisio mabwysiadu proses gyson a thryloyw ar gyfer gwaredu adeilad sydd o fewn portffolio eiddo LlCC ar hyn o bryd a lle mae mwy nag un sefydliad wedi mynegi diddordeb yn y defnydd ohono yn y dyfodol.  Bydd dadansoddiad o'r opsiynau bellach yn cael ei baratoi a'i gyflwyno i Weinidogion fel bod modd gwneud penderfyniadau ynghylch pob adeilad unigol.
In terms of the longer term property solutions, discussions are currently ongoing with various organisations on future use and operation of each of the buildings. We have endeavoured to adopt an even handed and transparent process for the potential disposal of a building currently within the Welsh Assembly Government property portfolio where more than one organisation has expressed an interest in its future use. An options analysis will now be prepared and submitted to Ministers for decisions to be taken in respect of each individual building.
Gwnes hefyd ymrwymiad na fyddai'r broses o waredu'r Techniums o'r rhwydwaith yn effeithio ar barhad busnes ac y byddai cyn lleied â phosibl o aflonyddwch ar fasnach a busnes y tenantiaid. Un o'r prif bryderon a godwyd gan y tenantiaid oedd parhad y ddarpariaeth o wasanaeth TGCh a Theleffoni mewn rhai o'r adeiladau, gan fod tenantiaid yn defnyddio gwasanaeth TGCh a Theleffoni y Technium ar hyn o bryd fel rhan o ddarpariaeth y Technium.  Gallaf gadarnhau y byddwn yn sicrhau y bydd gwasanaeth TGCh a Theleffoni cyfatebol yn cael ei ddarparu ar gyfer yr adeiladau perthnasol ac y bydd y ddarpariaeth bresennol yn parhau hyd nes y bydd y gwasanaeth newydd yn ei le.
I also made a commitment that during the process of exiting the Techniums from the network, business continuity would be maintained and any disruption to the trade and business of the tenants would be minimised. One of the major concerns raised by tenants was the ongoing provision of ICT and telephony services in some of the buildings, as currently tenants utilise the Technium ICT and telephony service as part of the Technium offering. I can confirm we will ensure there is a comparable ICT and telephony service provided to those buildings affected by this and the existing provision will continue until this service is in place.
Rydym hefyd yn pennu ac yn cofnodi unrhyw gostau a/neu arbedion i LlCC sy'n gysylltiedig â gweithredu'r strategaeth ymadael.
We are also identifying and recording any costs and/or savings to the Welsh Assembly Government associated with the delivery of the exit strategy.
Fel rhan o’r broses o fwrw ymlaen â’r Techniums, mae adolygiad wedi’i gynnal, ar gais yr Ysgrifennydd Parhaol, o hynt y gwaith o weithredu argymhellion yr archwiliad mewnol blaenorol o’r rhwydwaith. Fel rhan o’r datganiad llafar a gyflwynais ar 23 Tachwedd y llynedd cyhoeddais yn y Cyfarfod Llawn, yn gwbl ddiffuant ac ar sail y cyngor a dderbyniais ar sawl achlysur, fy mod yn credu bod 52 o blith y 53 argymhelliad wedi’u gweithredu. Deallaf yn awr nad dyma’r sefyllfa. Mae’r gwaith dilynol wedi dangos bod camau wedi’u cymryd ynghylch 49 o’r argymhellion, ac o blith y rhain mae gwaith i’w wneud o hyd ar 30 ohonynt. Roedd gan 6 argymhelliad arall oblygiadau i Gymru gyfan ac roedd camau wedi’u cymryd ynghylch bob un o’r rhain. Eto i gyd, mae gwaith i’w wneud o hyd ar 4 o’r rhain. Mae’r cyfrifoldeb am sicrhau bod y camau gweithredu eraill, os ydynt yn parhau i fod yn berthnasol, yn cael eu cyflawni wedi’i drosglwyddo i Grŵp Pontio’r Technium. Mae’r Ysgrifenydd Parhaol yn bwriadu sefydlu sut y digwyddodd hyn a pha gamau y mae angen eu cymryd er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto.
As part of the process of taking Techniums forward there has also been, at my request to the Permanent Secretary, a review of the status of implementation of the previous internal audit recommendations about the network. As part of my oral statement on 23 November last year I told Plenary, in good faith and based on what I had been clearly advised on several occasions, that I believed that of the 53 recommendations of the internal audit review, 52 had been implemented. I now understand that not to have been the case. The subsequent work has revealed action has been taken on 49 recommendations and that, of those, elements of implementation remain outstanding for 30 of them. There were also a further 6 recommendations which had Pan-Wales implications and action had been taken on all of these but some elements are outstanding for 4 of those recommendations. Responsibility for ensuring completion of the remaining actions, where they continue to be applicable, has been assigned to the Technium Transition Group. The Permanent Secretary has work in hand to establish how this situation arose and what steps need to be taken to prevent a recurrence.
Ein nod allweddol gydol yr amser yw hyrwyddo twf economaidd.  Bydd y Techniums yr ydym yn eu cadw yn rhan o'r dull gweithredu hwn.  Byddant yn parhau i ddarparu cymorth deori ar gyfer cwmnïau newydd sy'n tyfu ar draws Cymru.  Wrth symud ymlaen byddwn yn gweithredu dull newydd o reoli'r rhwydwaith fel ei fod yn agwedd amlwg ar y strwythur Ymchwil a Datblygu yng Nghymru ac yn sicrhau dull cydgysylltiedig o gyflawni cysondeb ar draws y rhwydwaith.
Our key aim at all times must be supporting economic growth. The Techniums we are retaining will be part of this approach.  They will continue to provide incubation support for new, growing companies across Wales. Going forward, we will be implementing a new approach to managing the network so that it becomes a leading element of the innovation and R&D structure in Wales and provides a co-ordinated approach to ensure an element of consistency across the network.
Caiff y rhwydwaith Technium ei ariannu'n rhannol drwy Brosiect Cydgyfeirio Ewropeaidd ac rydym wrthi'n cydweithio â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac â rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau partner er mwyn cynnal ailwerthusiad sylweddol o'r cynllun busnes presennol.  Ein bwriad ar hyn o bryd yw sicrhau bod y cynllun busnes diwygiedig wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo erbyn 1 Gorffennaf 2011.  Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun busnes yn cyd-fynd â Rhaglen Adnewyddu'r Economi a bod yr holl gysylltiadau mewnol allweddol ag Arloesi, Ymchwil a Datblygiad, Cymorth i Fusnesau, Cyllid a Sgiliau yn arwain at fanteision.
The Technium network is partly funded through a European Convergence Project and we are working with the Welsh European Funding Office and key stakeholders and partner organisations on a major re-evaluation of the existing business plan. We are working to a date of 1 July 2011 for the revised business plan to have been submitted and received approval. This will ensure alignment with the Economic Renewal Programme and that all key internal relationships with Innovation, Research and Development, Business Support, Finance and Skills are exploited.
Mae fframwaith llywodraethu mwy cadarn ac effeithiol ar gyfer y rhwydwaith wrthi'n cael ei ddatblygu. Bydd y fframwaith hwn yn cynnwys strwythur rheoli newydd â rolau ac atebolrwydd clir, ynghyd â'r gallu i ddatblygu perthynas briodol â'r Techniums hynny a gaiff eu rheoli y tu allan i LlCC.  Bydd gwell pwyslais ar fonitro a gwerthuso hefyd yn sicrhau bod holl allbynnau a chanlyniadau cymeradwy y Prosiect yn cael eu cyflawni.  Mae model gweithredu newydd ynghyd â chyfres o brosesau busnes cyson a thryloyw wrthi'n cael eu datblygu a gallant gael eu newid yn dilyn dilysu allanol a chraffu pellach gan wasanaethau archwilio mewnol.
A more robust and effective governance framework for the network is being developed, comprising a new management structure with clear roles and accountability, and the capability to develop an appropriate relationship with those Techniums that are managed externally to WAG. An improved focus on monitoring and evaluation will also ensure that all agreed Project outputs and deliverables are achieved. A new operating model and set of consistent and transparent business processes is being developed and may be subject to change following external validation and further scrutiny by internal audit services.
UK Busness Incubation - sef y corff proffesiynol arweiniol ar gyfer datblygu a chefnogi amgylcheddau deori busnes sy'n cynorthwyo canolfannau twf uchel a thechnoleg - fydd yn dilysu ac yn cadarnhau'r model gweithredu a'r prosesau busnes.  Bydd rôl allweddol i Wasanaethau Archwilio Mewnol LlCC o ran datblygu'r model gweithredu newydd a bydd yn sicrhau ansawdd ac yn profi'r fframwaith llywodraethu a'r prosesau newydd.  Caiff y gwaith o graffu'n allanol ar raglen y Technium wrth iddi symud ymlaen ei bennu hefyd fel rhan o'r cynllun busnes a chaiff y defnydd o Baneli Sector ei archwilio.
External validation and verification of the operating model and business processes will be provided by UK Business Incubation - the leading professional body for the development and support of business incubation environments that support high growth and technology centres. Welsh Assembly Government Internal Audit Services will also be integral to the development of the new operating model and will quality assure and test the governance framework and new processes. External scrutiny of the Technium programme going forward will also be addressed as part of the business plan and the use of Sector Panels in this will be explored.
Byddaf yn sicrhau bod archwiliadau rheolaidd yn cael eu trefnu a'u cynnal gan LlCC a WEFO er mwyn sicrhau bod y cynllun busnes diwygiedig yn cael ei weithredu'n llwyr ac er mwyn monitro'r cynnydd yn unol â dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gweddill oes y Prosiect.
I will ensure that regular audits are scheduled and undertaken by the Welsh Assembly Government and WEFO to ensure the full implementation of the revised business plan and to monitor progress against key performance indicators for the remainder of the Project lifespan.
Datganiad Ysgrifenedig - Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Grŵp Arweinyddiaeth Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol
Written Statement - National Social Services Partnership Forum for Wales and Social Services Strategic Leadership Group
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol
Gwenda Thomas, Deputy Minister for Social Services
Ysgrifennaf atoch i'ch hysbysu y byddaf yn cyhoeddi heddiw gylch gwaith Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Grŵp Arweinyddiaeth Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.
I am writing to let you know that I will today be publishing the remit for the National Social Services Partnership Forum for Wales and the Social Services Strategic Leadership Group.
Fel y gwyddoch, gwnes lansio ar 17 Chwefror Bapur Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddyfodol Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru – Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith ar gyfer gweithredu.  Mae'n canolbwyntio ar nifer bach o newidiadau mawr, gan gynnwys y ffaith y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn rhagor o gyfrifoldeb am lywio cyfeiriad gwasanaethau a chydweithio â rhanddeiliaid er mwyn datblygu cyfres glir o ganlyniadau cenedlaethol.
On 17 February, I launched the Assembly Government’s Paper on the future of social services in Wales – Sustainable Social Services for Wales: A Framework for Action.  It focuses on a small number of big changes, including the Assembly Government taking greater responsibility for driving the direction of services and working with stakeholders to develop a clear set of national outcomes.
Mae'r Papur yn nodi y caiff Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ei sefydlu o dan arweiniad Gweinidog. Bydd y Fforwm yn cynnwys arweinwyr gwleidyddol rhanddeiliaid cenedlaethol allweddol a chynrychiolwyr gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Bydd yn derbyn cymorth gan Grŵp Arweinyddiaeth Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol o dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
The Paper states that a Ministerially led National Social Services Partnership Forum will be established made up of the political leadership of the key national stakeholders and carers and service user representation.  This will be supported by a Social Services Strategic Leadership Group chaired by the Director of Social Services.
Mae'r cylch gwaith yr wyf yn ei gyhoeddi yn golygu y bydd modd cynnal deialog a thrafodaethau a bydd yn sicrhau'r arweiniad ar gyfer hyrwyddo newidiadau.  Y cam nesaf fydd ystyried manylion y cylch gwaith, yr aelodaeth a sut y caiff penodiadau eu gwneud.
The remit that I am publishing gives us the platform for dialogue and discussion and will provide leadership to drive change.  The next step will be to consider the detail of the terms of reference, membership and how appointments will be made.
Datganiad Ysgrifenedig - Rhoi'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ar waith
Written Statement - The Roll out of Integrated Family Support Services
Gwenda Thomas , y Dirprwy Weinidog dros Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwenda Thomas, Deputy Minister for Social Services
Yn fy natganiad a gyhoeddais yn gynharach y mis hwn ynghylch cyhoeddi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru dywedais y byddwn yn mynd ati ar fyrder i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer gwella'r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
In my statement earlier this month on the publication of Sustainable Social Services for Wales I said that we would move quickly to realise our vision for the future improvements to the services we provide for some of our most vulnerable people in Wales.
Mae rhagor o integreiddio yn agwedd allweddol ar y broses drawsnewid. Golyga hyn fod gwasanaethau yn seiliedig ar ymddiriedaeth arbennig rhwng defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol medrus, lle y caiff pobl eu gwerthfawrogi a lle clywir eu llais.
A key plank of the transformation is towards greater integration, where services are built on a strong relationship of trust between the service users and skilled professionals, where people are valued and their voice is heard.
Mae'r rhain oll yn nodweddion o'n Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd. Diben y timau hyn yw hyrwyddo newidiadau er mwyn gweddnewid y modd y mae'r gwasanaeth yn ymwneud â theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth ac sy'n aml yn wynebu anawsterau niferus a allai olygu bod eu plentyn yn wynebu risg.
These are all features of our Integrated Family Support Teams (IFSTs) designed to be agents of transformational change in the way the service interacts with families with complex needs often facing multiple difficulties that may place their child at risk.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y bydd dwy o ardaloedd arloesi ychwanegol yn cael eu sefydlu yn 2011/12. Ar y cyd â'r ardaloedd arloesi presennol; Merthyr a Rhondda Cynon Taf, Casnewydd a Wrecsam sy'n darparu Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ar y cyd â Byrddau Iechyd Cwm Taf, Aneurin Bevan a Betsi Cadwaladr ers mis Medi 2010, bydd yr ardaloedd arloesi ychwanegol yn ein cynorthwyo i wireddu'r weledigaeth lle y mae modd manteisio ar y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ble bynnag yr ydych yng Nghymru. Er mwyn cadarnhau ein hymrwymiad rydym hefyd wedi cyhoeddi heddiw Fap o sut y gallai'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd gael ei drefnu ar draws ardaloedd daearyddol Cymru. Gallai hyn gynnwys hyd at 11 o dimau integredig cymorth i deuluoedd a byddwn yn ymgynghori ynghylch y trefniadau manwl maes o law.
Today I am pleased to announce that a further two pioneer areas will be implemented in 2011/12. Together with the existing pioneers; Merthyr and Rhondda Cynon Taff, Newport and Wrexham delivering IFSS jointly with Cwm Taf, Aneurin Bevan and Betsi Cadwaladr Local Health Boards since September 2010, the additional pioneers will work towards our vision for an IFSS that is widely accessible across Wales. To send a clear message on our commitment, today we also published a Map of how IFSS could be arranged across geographical areas in Wales. This could involve up to 11 IFS teams and we will consult on the detailed arrangements at a future date.
Mae'n rhaid canmol yr ardaloedd arloesi presennol am y modd y maent wedi mynd i'r afael â thasg mor fawr a'u llwyddiant wrth arwain y newid hwn ar draws ffiniau sefydliadol, diwylliannol, proffesiynol a ffiniau o ran gwasanaethau er lles plant a theuluoedd.
The scale of the task existing pioneers has faced and their progress in leading this change across organisational, cultural, service and professional boundaries for the good of children and families is commendable.
Mae effaith y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd o ran cynorthwyo teuluoedd i wireddu eu nodau ac wrth sicrhau bod cymorth ehangach ar gael drwy wasanaethau sy'n bodloni anghenion y teulu cyfan yn eithriadol. Mae'r llwyddiannau cynnar y mae'r ardaloedd arloesi wedi eu crybwyll yn cynnwys brwdfrydedd teuluoedd i ddod yn rhan o'r rhaglen, eu hawydd i newid eu ffordd o fyw a'r ffaith bod y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yn dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.  Mae ei lwyddiannau cynnar yn tystio i ymroddiad y timau o ymarferwyr medrus iawn, sydd wedi'u hyfforddi mewn technegau ymyrraeth sy'n adeiladu ar nodweddion positif a chryfderau teuluoedd er mwyn cyflwyno newidiadau tymor byr a thymor hir. Mae'r Byrddau Integredig Cymorth i Deuluoedd o fewn yr ardaloedd arloesi hefyd wedi cynnig arweiniad cadarn wrth i'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd gael ei weithredu'n effeithiol. Bydd hi'n cymryd amser i'r diwylliant gwasanaeth newydd ymwreiddio yn y gwasanaethau sy'n cefnogi'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. Bydd gan y Bwrdd Integredig Cymorth i Deuluoedd rôl allweddol yn hyn o beth.
The impact of IFSS in assisting families to realise their goals and in mobilising wider service support to address the whole families’ needs is profound. Pioneers report early successes of how families are eager to engage with the programme, want to change their lifestyles and that IFSS is starting to make a real difference.  Its early success is attributable to the dedicated work of teams of highly skilled practitioners, trained in intervention techniques that build on the positives and strengths of the family to effect short and long term change. The pioneer IFS Boards have also provided strong leadership in the effective implementation of IFSS. It will take time to embed the new service culture across the services that support IFSS and the IFS Board is integral to this.
Mae'r cynnydd sylweddol yn nifer y plant sy'n derbyn gofal ynghyd â'r data o'r cyfrifiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynghylch plant mewn angen yn atgyfnerthu ein penderfyniad i ganolbwyntio i ddechrau ar gamddefnydd rhieni o sylweddau. Camddefnydd o'r fath, ar y cyd ag iechyd meddwl a thrais domestig, yw'r prif reswm dros bryderon ynghylch plentyn ac atgyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol. Mae angen mynd ati ar fyrder i dorri cylch amryfal anfanteision er mwyn mynd i'r afael â'r canlyniadau gwael mewn addysg yn gynharach ynghyd ag anghenion iechyd a lefelau uchel o dlodi sy'n bodoli o fewn y boblogaeth o blant mewn angen (tua 25,000).
The significant increase in the number of looked after children and the data from the recently published children in need census reaffirms our decision to focus initially on parental substance misuse which, along with mental health and domestic violence, remain the primary reason for concern for a child and referrals to social services. There is now an urgent need to break the cycle of multiple disadvantages to tackle earlier the poor outcomes in education and health needs and high level of poverty that exist within the population (some 25,000) of children in need.
Caiff y trefniadau ar gyfer gwahodd awdurdodau lleol ar y cyd â'u partneriaid o fewn Byrddau Iechyd Lleol i gyflwyno cais i fod yn ardal Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd eu cyhoeddi ar wefan y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ar ddechrau'r flwyddyn ariannol 2011-12.  Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau mynediad daearyddol at y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i gynigion oddi wrth awdurdodau lleol (consortia - o leiaf dau) mewn ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol lle nad yw'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ar gael ar hyn o bryd. Bydd grant o £0.55m ar gael ynghyd ag adnoddau eraill gan gynnwys cymorth â hyfforddiant i awdurdodau lleol o fewn consortia sydd wrthi'n arloesi â'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd ar y cyd â'u Bwrdd Iechyd Lleol.
The arrangements for inviting local authorities with their LHB partners to bid to become an IFSS area will be published on our IFSS website early in the financial year 2011-12. To work towards our vision to ensure geographical access to IFSS, we will prioritise bids from local authorities (a consortia minimum of two) in LHBs areas where IFSS is not currently available. A grant of £0.55m and other resources including training support will be available to consortia local authorities jointly pioneering IFSS with their LHB.
Gwn fod Aelodau'r Cynulliad yn gefnogol iawn o'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd. Mae'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yn unigryw i Gymru a dengys bwerau datganoli wrth i ni fynd at i wella gwasanaethau cyhoeddus a chanlyniadau ar gyfer plant, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Hoffwn/Hoffem ddiolch i bob un ohonoch am hyn.
I know that Assembly Members are fully supportive of IFSS. IFSS is unique to Wales and illustrates the powers of devolution in taking action to improve public services and outcomes for children, families and communities in Wales. I thank each of you for this.
Datganiad Ysgrifenedig - Ardrethi Busnes Annomestig
Written Statement - Non Domestic Business Rates
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Carl Sargeant, Minister for Social Justice and Local Government
Ar ôl cyhoeddi’r gyllideb heddiw, rwyf wedi penderfynu estyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau bach. Fy mhenderfyniad i oedd cynnal yng Nghymru y cynllun gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 2010. Y bwriad oedd i'r cynllun gwreiddiol ddod i ben ar 30 Medi 2011. Yn sgil fy mhenderfyniad heddiw caiff y cynllun ei estyn tan 30 Medi 2012.
Following on from today’s budget announcement, I have decided to extend the small business rate relief scheme. It was my decision that the original scheme announced in 2010 should apply to Wales. The original Scheme was due to end on 30 September 2011. My decision today will extend it to 30 September 2012.
Mae fy swyddogion yn mynd ati ar frys i gael y manylion llawn ynghylch cynigion y Canghellor, ond o dan y cynllun cyfredol mae'r busnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael rhyddhad ardrethi o 100% ac mae'r rheini sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad sy'n cael ei leihau'n raddol. Er enghraifft, mae safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o £8,000 yn cael rhyddhad o 66% ac mae'r rheini sydd â gwerth ardrethol o £10,000 yn cael rhyddhad o oddeutu 33%. Nid wyf yn disgwyl y bydd telerau'r cyhoeddiad heddiw yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r trefniadau hyn.
My officials are seeking full details of the Chancellor’s proposals as a matter of urgency but under the existing scheme business premises with a rateable value of up to £6,000 receive 100% relief and those with a rateable value of between £6,001 and £12,000  receive relief that reduces on a tapered basis. For example, business premises with a rateable value of £8,000 get around 66% and those with a rateable value of £10,000 get around 33% relief. I do not anticipate that the terms of today’s announcement will make any material difference to these arrangements.
Mae fy nghyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd ym mhell dros hanner y safleoedd busnes yng Nghymru'n yn elwa ar ryddhad ardrethi busnes, sy'n dangos yn glir ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gynnal busnes a menter er gwaethaf yr amodau economaidd anodd parhaus. Ni fydd tua hanner o'r busnesau hynny sy'n gymwys yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl.
My announcement today means that well over half business properties in Wales will  benefit from business rate relief which clearly demonstrates the Assembly Government’s commitment to sustaining business and enterprise through the continuing difficult economic conditions. Indeed around half of those businesses eligible will not pay any business rates at all.
Mae'r cynllun rhyddhad estynedig a gyhoeddwyd heddiw yn cael ei gynnig ochr yn ochr â threfniadau rhyddhad ardrethi Llywodraeth y Cynulliad, sy'n golygu bod ystod llawer ehangach o ryddhad ar gael yng Nghymru. Yn yr achosion hynny lle mae busnesau Cymru yn cael mwy o ryddhad ardrethi o dan drefniadau cyfredol Llywodraeth y Cynulliad nag o dan y cynllun estynedig a gyhoeddwyd heddiw, byddant yn parhau i gael y gyfradd ardrethi sydd o'r budd mwyaf iddyn nhw.
The extended relief scheme announced today runs alongside the Assembly Government’s own small business rate relief arrangements which  extends significantly  the range of the relief available in Wales. Where Welsh businesses receive a higher rate of relief under the current Assembly Government arrangements than under the scheme extension announced today they will continue to receive the rate of relief most beneficial to them.
Er enghraifft:bydd safleoedd gofal plant cofrestredig sydd â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn parhau i gael rhyddhad o 50%;bydd safleoedd sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,501 ac £11,000 sy'n gymwys am ryddhad o 25% o dan gynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i gael yr un gostyngiad;bydd Swyddfeydd Post yn dal i gael rhyddhad o 100% neu 50%.
For example:registered child care premises with a rateable value £9,001-£12,000 will continue to get 50 per cent relief;premises qualifying under the Assembly Government’s scheme for relief of 25% with a rateable value between £10,501 and £11,000 will continue to receive the 25% discount;Post offices will continue to receive 100 or 50 % relief.
I fod yn gymwys am ryddhad busnes mae'n rhaid:bod rhywun yn meddu'n llawn ar y safle;nad safle a eithrir ydyw at ddibenion Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 (er enghraifft y rheini y mae Cyngor, Awdurdod yr Heddlu, neu'r Goron yn meddu arnynt; a'r rheini sy'n cael eu meddiannau gan elusennau, clybiau cofrestredig, cyrff dielw sy'n destun trefniadau rhyddhad ardrethi elusennol arwahanol o 100%).
To qualify for relief business premises must:Be fully occupied; and,not be an excepted premises for the purposes of the Non-Domestic Rating (Small Business Relief) (Wales) Order 2008 (for instance those occupied by a council, police authority or the Crown; and those occupied by charities, registered clubs, or not-for-profit bodies that are subject to discrete 100 per charitable rate relief arrangements.)
Datganiad Llafar - Adroddiad ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru
Oral Statement - The Report on the Structure of Education Services in Wales
Leighton Andrews, Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Leighton Andrews, Minister for Children, Education and Lifelong Learning
Ar 29 Mawrth 2011 Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes Datganiad llafar yn y Siambr ar: Adroddiad ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru
On 29 March 2011 the Minister for Children, Education and Lifelong Learning made an oral Statement in the Siambr on: The Report on the Structure of Education Services in Wales.
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon
The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=214069&ds=3/2011#dat3
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=214069&ds=3/2011#dat3
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol:www.cynulliadcymru.orgBusnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following:www.assemblywales.orgAssembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
Datganiad Ysgrifenedig - gwastraff
Written Statement - waste
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Tha
Jane Davidson, Minister for the Environment, Sustainability and Housing
Heddiw, rwy’n agor yr ymgynghoriad ar Gynllun y Sector Gweithgynhyrchu, Gweini a Manwerthu Bwyd i fynd i’r afael â Gwastraff. Hwn fydd y trydydd cynllun mewn cyfres o gynlluniau sy’n egluro beth yn union y bydd Cymru yn ei wneud fel cenedl i wireddu ein huchelgais i ailgylchu 70 y cant o’n gwastraff erbyn 2025, a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi’r diweddaraf i chi am y cynnydd anhygoel yr ydym wedi ei wneud, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o ran y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â’n gwastraff.
Today I open consultation on the Food Manufacture, Service and Retail Sector Plan for waste, the third of a series of plans which sets out exactly what Wales as a nation will do to reach our ambition of recycling 70 per cent of our waste by 2025 and being zero waste by 2050. I want to take this opportunity to update you on the huge advances we have made in the way we deal with our waste in recent years.
Daw’r cynnydd hwnnw i’r amlwg yn y twf a fu yn ein cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol. Yn 2000-01, roedd Cymru yn ailgylchu 7 y cant o’i gwastraff trefol. Yn ôl ein ffigurau diweddaraf, roedd y gyfradd ailgylchu yn 45 y cant ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2010. Mae cyfanswm yr holl wastraff yr ydym yn ei gynhyrchu yn parhau i ostwng hefyd.
These advances are illustrated in the significant increase in recycling rates for Municipal Waste. In 2000-01 Wales recycled 7 per cent of its Municipal Waste; our most recent figures show that we achieved 45 per cent recycling in July-September 2010. The total amount of waste we produce also continues to decrease.