cymraeg
stringlengths
1
11.5k
english
stringlengths
1
11.1k
Yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2010, roedd 3 awdurdod lleol yng Nghymru yn ailgylchu 52 y cant o’u gwastraff trefol. Os bydd yr awdurdodau hynny yn parhau i berfformio cystal bob blwyddyn, maen nhw eisoes ar y trywydd iawn i fodloni eu targed statudol ar gyfer 2012-2013, neu hyd yn oed ragori ar y targed hwnnw. Bu cynnydd mawr yng nghyfraddau ailgylchu llawer o awdurdodau lleol hefyd, a hynny yn sgil mabwysiadu gwasanaethau ailgylchu newydd. Bu’r cynnydd mwyaf nodedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sef cynnydd o 18 o bwyntiau canrannol ar y ffigur ar gyfer yr un adeg y flwyddyn flaenorol.
3 local authorities recycled 52 per cent of their municipal waste or more in July-September 2010; if their annual performance continues at this rate they will already be meeting or exceeding the statutory target for 2012-2013. Several local authorities also saw significant increases in their recycling rate as the result of adopting new recycling services. Most notable is Bridgend, with an 18 percentage point increase on the same period the previous year.
Er bod y ffigurau hynny yn drawiadol, mae llawer o waith o’n blaenau eto cyn cyrraedd y targed o ailgylchu 70 y cant o’n gwastraff erbyn 2025. Dyna pam Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno targedau statudol ar gyfer ailgylchu gwastraff trefol. Roedd y ddeddfwriaeth hon yn rhan o Fesur Gwastraff (Cymru), a gafodd ei basio gan y Cynulliad ym mis Tachwedd 2010. Hwn oedd y Mesur cyntaf i gael ei basio o dan Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) yr Amgylchedd.
Impressive though these achievements are, we still have a long way to go to reach 70 per cent recycling by 2025, which is why Wales has become the first country in the UK to introduce statutory targets for municipal recycling. This legislation formed part of the Waste (Wales) Measure, which was passed by the Assembly in November 2010 as the first Measure under the Environment Legislative Competence Order (LCO).
Rydym eisoes wedi cael llwyddiant drwy ddefnyddio targedau statudol i wyro gwastraff oddi wrth safleoedd tirlenwi. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu Cynllun Lwfansau Tirlenwi i wyro gwastraff sy’n pydru’n naturiol, gan gynnwys gwastraff bwyd, oddi wrth safleoedd tirlenwi. Ers i’r cynllun hwn gael ei lansio ym mis Hydref 2004, mae pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bodloni pob targed; nid oes unrhyw un ohonynt wedi cael eu dirwyo.
We have already experienced success in using statutory targets to divert waste from landfill. Wales was the first country in the UK to adopt the Landfill Allowances Scheme to divert biodegradable waste – including food waste – from landfill. All 22 local authorities in Wales have met every target since the scheme was launched in October 2004; none have been subject to fines.
Mae’r Cynllun Sector Trefol, ynghyd â’r Glasbrint ar gyfer Casgliadau sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwnnw, yn nodi manylion yr hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei ddisgwyl gan awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Mae’n manylu hefyd ar yr hyn y bydd y llywodraeth yn ei wneud i’w cynorthwyo. Mae rhaglen rheoli newid, a fydd yn helpu awdurdodau lleol i fabwysiadu’r gwasanaethau ailgylchu mwyaf cynaliadwy a chosteffeithiol, ac a fydd hefyd yn cynhyrchu’r deunydd eildro (neu’r cynnyrch terfynol) o’r ansawdd uchaf, yn ganolog i’n cynlluniau.
The Municipal Sector Plan – along with the associated Collections Blueprint - sets out what the Assembly Government expects from our local authorities in the coming years, and what we will do to support them. Central to our plans is a change management programme to help local authorities adopt the most sustainable and cost-effective recycling services, which will also produce the highest quality recyclate (or end product).
Mae hyn yn bwysig oherwydd, gan ddibynnu ar ansawdd deunydd eildro, gallai fod yn bosibl ei brosesu yma yng Nghymru, ac osgoi gorfod ei anfon dramor. Ar 10 Mawrth, wrth lansio ymgynghoriad y Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd, cyfarfûm ag Andrew Izod, Rheolwr Gyfarwyddwr Excel Industries yn Rhymni. Dywedodd Andrew wrth gynghorwyr fod ei fusnes, er mwyn cynhyrchu ei brif gynnyrch, sef deunydd i inswleiddio atig, yn ddibynnol ar lif cyson o bapur newydd wedi’i ailgylchu o ansawdd uchel. Yn ddelfrydol, hoffai gael yr holl ddeunydd crai o Gymru. Fodd bynnag, nid yw hynny’n bosibl oherwydd bod y deunydd eildro o ansawdd isel, a hynny oherwydd bod y papur yn cael ei gasglu ar y cyd â deunyddiau eraill sy’n cael eu hailgylchu. Felly, rhaid iddo brynu’r deunydd crai dramor, ac mae hynny’n golygu bod ei fusnes yn wynebu mwy o gost. Er mwyn ei helpu, rhaid sicrhau bod papur newydd yn cael ei gadw ar wahân, ac yn cael ei gasglu ar wahân gan yr Awdurdod Lleol.
This is important because the quality of recyclate can determine whether it can be processed here in Wales or sent abroad. At the launch of the Collections, Infrastructure and Markets sector plan consultation on 10 March I met Andrew Izod, the Managing Director of Excel Industries in Rhymney. Andrew told councillors how his business relies on a steady flow of high quality recycled newspaper to produce its key product, loft insulation. He would like to source all of this raw material from here in Wales, but this is not possible because of the poor quality of recyclate as a result of the paper being co-collected with other recyclable materials. As a result, he has to buy it from abroad, with increased costs for the business.  What he needs is newspaper waste to be kept separate, and then collected separately by the Local Authority.
Nid yw hon yn sefyllfa unigryw. Rai blynyddoedd yn ôl, cafodd Llywodraeth y Cynulliad rybudd gan weithgynhyrchwr strapiau plastig fod cost mewnforio naddion plastig wedi’u hailgylchu o dramor yn cael effaith andwyol ar ei fusnes. Ar y pryd, roedd y rhan fwyaf o’r poteli plastig a allai fod wedi cael eu defnyddio i greu deunydd crai ar gyfer y cwmni hwn yng Nghymru naill ai’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi, neu’n cael eu hallforio i Tsieina. Darparodd fy Adran i arian o’r Gronfa Mynediad i Cyfalaf Ranbarthol i sefydlu cyfleuster newydd ar gyfer didoli plastigau. Mae’r cyfleuster hwn yn cadw plastigau yma yng Nghymru er mwyn i ddiwydiannau allu eu defnyddio fel deunydd crai, a bydd hefyd yn creu swyddi newydd yn un o gymunedau’r Cymoedd.
This is not an isolated situation. Several years ago a plastic strapping manufacturer warned the Assembly Government that its business was being adversely affected by the costs of importing recycled plastic flake from overseas. At the same time, most plastic bottles in Wales which could have provided the raw materials for this company were either landfilled or sent to China. My Department provided funding from the Regional Access Capital Fund (RCAF) for a new mixed plastics sorting facility, which not only keeps plastics here in Wales to be used as raw materials by industry, but provided new jobs for a Valleys community.
Mae’r Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd yn nodi’r cynigion ar gyfer datblygu ymhellach farchnad ar gyfer deunyddiau eildro yma yng Nghymru. Bydd hynny’n caniatáu i ni arwain y ffordd yn fyd-eang o ran y diwydiant rheoli adnoddau. Bydd bodloni holl dargedau’r cynllun yn gyfrifol am arbedion gwerth £88 miliwn bob blwyddyn erbyn 2025.
The Collections, Infrastructure and Markets plan sets out proposals for further developing a market for recyclate here in Wales, so that we can become world-leaders in the resource management industry. Meeting all the targets in the plan will mean savings of £88 million per year by 2025.
Heddiw, byddaf yn ymweld â’r cyfleuster treulio anaerobig newydd yn ffatri fwyd RF Brookes, ger Casnewydd, i gyhoeddi’r ymgynghoriad ar Gynllun y Sector Gweithgynhyrchu, Gweini a Manwerthu Bwyd. Mae treulio anaerobig, sef y dull mwyaf cynaliadwy o reoli gwastraff bwyd, yn rhan bwysig o’n strategaeth gwastraff, a’r nod yw gwneud defnydd llawn ohono erbyn 2013.
Today I will visit the new anaerobic digestion facility at the RF Brookes food factory near Newport, to announce the consultation on the Food Manufacture, Service and Retail sector plan. As the most sustainable method of managing food waste, anaerobic digestion is an important part of our waste strategy, and we aim to reach capacity by 2013.
Eisoes, Cymru yw’r unig wlad yn y DU â phob un o’i chynghorau yn casglu bwyd neu fwyd a gwastraff gwyrdd ar wahân. Rhwng 2009 a 2011, cafodd £34 miliwn ei roi gennym i ymestyn y gwasanaeth hwn. Erbyn hyn, mae o leiaf 80 y cant o gartrefi yn manteisio ar y gwasanaeth hwn, a’r nod yw cynnig y gwasanaeth hwn i bawb. Mae casglu gwastraff bwyd ar wahân yn golygu bod modd ei wyro oddi wrth safleoedd tirlenwi. Mae gwastraff o’r fath yn pydru mewn safleoedd tirlenwi, ac yn cynhyrchu methan, sef un o’r nwyon tŷ gwydr, sydd 23 gwaith yn gryfach na charbon deuocsid. Yn hytrach na’i anfon i safleoedd tirlenwi, rydym am anfon gwastraff bwyd i safleoedd treulio anaerobig, sy’n cynhyrchu tanwydd adnewyddadwy a gwrtaith gwerthfawr. Rydym wedi sefydlu rhaglen helaeth i gefnogi’r gwaith o sefydlu safleoedd treulio anaerobig newydd yng Nghymru. Mae casglu bwyd ar wahân hefyd yn helpu deiliaid cartrefi i weld faint o wastraff bwyd y maen nhw’n ei gynhyrchu, fel bod modd iddynt gymryd camau i newid hynny. Mae teulu cyffredin yn gwastraffu £12 yr wythnos drwy daflu bwyd, sydd mewn cyflwr digon da i’w fwyta, i’r bin.
Wales is already the only country in the UK where every council provides a separate food or food and green waste collection. We provided £34 million between 2009 and 2011 to expand the service; now at least 80 per cent of homes now benefit from this, and we are aiming for 100%. Collecting food waste separately means it can be diverted from landfill, where it decomposes to produce methane – a greenhouse gas 23 times more potent than carbon dioxide.  Instead we want to send food waste to anaerobic digestion plants that generate renewable fuel and a valuable fertiliser. We have an extensive programme in place to support the procurement of new AD plants in Wales. Separate food waste collections also help householders see how much food waste they produce so that they can make steps to change this. The average family spends £12 a week on perfectly edible food which ends up in the bin.
Fodd bynnag, mae’n bwysig nad cyfrifoldeb deiliaid cartrefi yn unig yw’r baich o leihau gwastraff bwyd a phecynnu. Ar y cyd, mae’r Sectorau Gweithgynhyrchu, Gweini a Manwerthu Bwyd yn gyfrifol am 40 y cant o’n gwastraff diwydiannol a masnachol. At hynny, gwastraff bwyd sydd â’r ôl-troed ecolegol mwyaf; ac mae’n gyfrifol am 30 y cant o ôl-troed ecolegol ein gwastraff diwydiannol a masnachol yn gyffredinol. Mae’r Sectorau Gweithgynhyrchu, Gweini a Manwerthu Bwyd, yn cynnig lleihau gwastraff o  1.2 y cant bob blwyddyn. Mae’n canolbwyntio hefyd ar y deunyddiau sy’n cael yr effaith fwyaf ar yr amgylchedd, neu’r rhai mwyaf hawdd eu hailgylchu; sef bwyd, papur a chardfwrdd, plastig, gwydr, metel a phren. Y nod yw ailgylchu gwastraff sych fel gwydr, papur a chardfwrdd a phlastigau, a thrin gwastraff bwyd drwy broses treulio anaerobig.
It is important though, that the burden of reducing food and packaging waste does not rest solely with householders. The food manufacture, service and retail sectors together generate 40 per cent of our industrial and commercial waste, while food waste has the largest ecological footprint; accounting for 30 per cent of the total ecological footprint for industrial and commercial waste. The Food Manufacture, Service and Retail Sector plan proposes a reduction of waste of 1.2 per cent every year. It also focuses on those materials which have the biggest environmental impact or are the easiest to recycle; food, paper & card, plastic, glass, metal and wood. The aim is to recycle dry wastes such as glass, paper and card and plastics, and for food waste to be treated by anaerobic digestion.
Ynghyd â Tuag at Ddyfodol Diwastraff, y cynllun gwastraff eang ei gwmpas i Gymru, mae’r cynlluniau sector yn cynnig cyfarwyddiadau clir ar gyfer bodloni’r targed o ailgylchu 70 y cant o wastraff erbyn 2025, a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Mae’r rhain yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a gafodd eu gosod gan Yn Gall Gyda Gwastraff, cynllun cyntaf Cymru ar gyfer mynd i’r afael â gwastraff, ac maent yn seiliedig ar dystiolaeth.
The sector plans, together with Towards Zero Waste, the over-arching waste plan for Wales, provide clear directions for reaching 70 per cent recycling by 2025 and being zero waste by 2050. They build on the strong foundation set by Wales’ first waste plan Wise About Waste, and they are based on evidence.
Gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yw’r allwedd i’n llwyddiant. Dyma pam yr ydym o blaid casglu gwastraff sydd wedi’i ddidoli ar gyfer ei ailgylchu ar garreg y drws. Dyma pam hefyd yr ydym o’r farn ei bod hi’n well casglu gwastraff bwyd ac ailgylchu yn wythnosol a chasglu gwastraff sydd dros ben (neu wastraff ‘bagiau du’) bob pythefnos. Yn bwysicach oll, dyna pam yr ydym yn cydnabod nad ydym yn gwneud digon drwy ailgylchu, hyd yn oed ar lefelau uchel, os na ydym hefyd yn lleihau’r gwastraff yr ydym yn ei gynhyrchu yn gyffredinol.
This evidence-based decision making is key to our success. It is why we advocate kerbside sort recycling as the most sustainable and cost-effective way of collecting recycling; it is why we believe that it is best to collect food waste and recycling every week and residual (or ‘black bag’) waste fortnightly. Above all, it is why we recognise that recycling – even at high levels – is not enough if we do not reduce the overall amount of waste we produce.
Rydym yn un o dair gwlad yn unig ledled y byd sydd â dyletswydd statudol i fod yn gynaliadwy, felly mae’r ffordd rydym yn mynd i’r afael â’n gwastraff yn adrodd cyfrolau. Rwy’n falch o’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud o ran rheoli gwastraff cynaliadwy. Rwy’n falch hefyd fod ein penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail yr hyn sydd orau i Gymru. Yn fwy na dim, rwy’n falch bod Cymru yn arwain y ffordd, gan gynnig enghraifft o reoli gwastraff cynaliadwy ar waith.
In one of just three countries worldwide with a statutory duty to sustainability, the way in which we deal with our waste speaks volumes. I am proud of our advances in sustainable waste management, proud of the fact that our decisions are based on what delivers the best outcome for Wales. Above all, I am proud that Wales is now leading the way as an example of sustainable waste management in practice.
Datganiad Ysgrifenedig - Mynediad am Ddim i’r Safleoedd Treftadaeth
Written Statement - Free Entry to Heritage Sites
Alun Ffred Jones, Y Gweinidog Dros Dreftadaeth
Alun Ffred Jones, Minister for Heritage
Rwyf yn cyhoeddi heddiw, yn sgil adolygiad o'r trefniadau presennol o fynediad am ddim i safleoedd treftadaeth mewn gofal Cadw, fy mod i wedi derbyn yr argymhelliad i newid ffocws polisi y Lywodraeth Cynulliad Cymru. Yn benodol, byddwn yn dirwyn i ben y cynllun sy'n caniatáu i drigolion Cymru dros 60 oed neu o dan 16 oed wneud cais am docyn am ddim. Nid yw'r polisi wedi llwyr fodloni ei amcanion arfaethedig ac er mwyn cyflawni hynny mae gan Cadw y dasg o adeiladu ar eu rhaglen o fynediad am ddim sy'n gysylltiedig â mentrau wedi'u targedu a digwyddiadau arbennig. Y nod fydd i gynyddu nifer ac ehangu proffil yr ymwelwyr sy’n cael eu denu i’r safleoedd hyn, gan roi sylw yn arbennig i anghenion pobl sydd ag anableddau a grwpiau eraill sydd heb gael eu cynrychioli’n ddigonol. Bydd tocynnau sydd eisoes wedi'u rhoi o dan y cynllun presennol yn cael eu hanrhydeddu nes iddyn nhw ddod i ben. Mae'r cynllun mynediad am ddim ar waith ers dwy flynedd a hanner ac mae fy swyddogion i yn Cadw wedi adolygu, wedi dadansoddi ac wedi gwerthuso ei effeithiolrwydd.
I am announcing today that following a review of the current arrangements in respect of free entry to heritage sites in Cadw’s care, I have accepted the recommendation to change the focus of the Welsh Assembly Government’s policy. In particular we will be ending the scheme which allows Welsh residents aged over 60 or 16 and under to apply for a free pass. The policy has not wholly met its intended objectives and in order to achieve these, Cadw will now be tasked with building upon its programme of free entry associated with targeted initiatives and special events. The aim will be to both increase the number and widen the profile of visitors attracted to these sites and particularly to address the needs of people with disabilities and other under-represented groups. Passes already issued under the existing scheme will be honoured. The free entry scheme has been in operation for two and a half years and my officials in Cadw have reviewed, analysed and evaluated its effectiveness.
Ers i'r cynllun gael ei lansio ym mis Medi 2008, mae rhyw 30,000 o docynnau mynediad am ddim wedi’u rhoi. Aeth 84% o'r rhain i bobl 60 oed a throsodd ac aeth 16% i blant 16 oed neu lai. Er bod mwy na 39,000 ymweliadau wedi’u gwneud drwy ddefnyddio’r tocynnau hyn, dim ond rhyw 1.5% ydy hynny o'r 1.2 miliwn o bobl y flwyddyn sy’n ymweld â’r safleoedd hynny lle mae Cadw yn codi tâl mynediad.
Since the scheme was launched in September 2008, some 30,000 free entry passes have been issued. 84% of these have been for people aged 60 and over and 16% have been for children aged 16 or under. Although more than 39,000 visits have been made using these passes this amounts to only some 1.5% of the 1.2 million people per year visiting those Cadw sites where there is an admission charge.
At hynny, mae dadansoddiad Cadw yn dangos nad yw’r cynllun wedi llwyddo i ddenu’r grwpiau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli ym mhroffil ymwelwyr Cadw. Ychydig iawn o arwyddion sydd yno fod y fenter wedi denu llawer o deuluoedd cyflog isel – sef un mater allweddol y cafodd y polisi ei gyflwyno i fynd i'r afael ag ef.
In addition the analysis undertaken by Cadw has shown that the scheme has not managed to attract the groups currently under-represented in Cadw’s visitor profile. We see very little indication that the initiative has attracted many lower waged families - a key issue that the policy was introduced to address.
Mae gwaith ymchwil a phrosiectau peilot dros y ddwy flynedd diwethaf yn dangos bod dyddiau agored mewn henebion lle nad oes tâl mynediad yn cael ei godi a rhaglenni o ddigwyddiadau arbennig yn apelio’n fwy at gynulleidfa ehangach, hyd yn oed pan fydd tâl mynediad yn cael ei godi. Mae digwyddiadau wedi'u targedu fel hyn yn cynnig gwell cyfle i ddenu’r grwpiau hynny yn ein cymunedau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli ym mhroffil ymwelwyr Cadw. Rwyf yn sicr eu bod yn ddull mwy effeithiol i gyflawni’n hymrwymiad i sicrhau bod safleoedd treftadaeth yng Nghymru yn fwy hygyrch i bawb.
Research and pilot projects undertaken over the last 2 years indicate that monument open days where no admission charge is made and programmes of special events, even when an admission charge is made, have greater appeal to a broader audience base. These targeted events offer a better opportunity to attract those groups within our communities currently under-represented in Cadw’s visitor profile. I am in no doubt that they offer a more effective means of delivering on our commitment to make heritage sites in Wales more accessible to all.
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig felly adeiladu ac ehangu ar y mentrau wedi'u targedu sydd gan Cadw eisoes i hybu sbectrwm ehangach o ymwelwyr. Y nod fydd taro cydbwysedd rhwng polisïau mynediad am ddim a mynediad gostyngol a buddsoddi mewn camau sy'n datblygu gwell mwynhad a gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o'r safleoedd treftadaeth sydd mewn gofal. Fe ofynnir i Cadw ganolbwyntio ar weithgareddau i deuluoedd a datblygu digwyddiadau sy'n cydblethu â dyheadau cymunedol ehangach a dathliadau lleol. Rwy’n disgwyl i hyn gynnwys digwyddiadau arbennig i ymwelwyr gyda'r nos a allai gael budd cymdeithasol ac economaidd y tu hwnt i'r heneb ac i mewn i'r economi leol.
The Assembly Government is therefore proposing to build on and extend the targeted initiatives Cadw already has in place to encourage a broader spectrum of visitors. The aim will be to achieve a balance between free and discounted admissions policies and investment in actions which develop enhanced public enjoyment and understanding of the heritage sites in care. Cadw will be asked to focus on activities for families and to develop events which tie into wider community aspirations and local celebrations. I expect these to include special evening visitor events which could have a social and economic benefit beyond the monument into the local economy.
Dyma flaenoriaethau allweddol yr ymagwedd newydd:parhau â pholisi Cadw o fynediad am ddim ar gyfer ymweliadau addysgol a dysgu, ymwelwyr sydd ag anableddau (a’u cwmnïwr) a chymhellion eraill sydd wedi'u targedudatblygu ac ehangu'r rhaglen o ddigwyddiadau cymunedol a gwyliau dysgu, gan gydweithio â chymunedau ac asiantaethau lleol, gan dargedu’n arbennig feysydd allweddol o amddifadedd yn agos i safleoedd Cadwymestyn prosiectau ymgysylltu cymunedol mewn henebion lle ceir diffyg cyfranogiad cymunedol neu ymddygiad problemuscyflwyno a hyrwyddo “Dyddiau Agored” di-dâl i bawb, a’u hategu â digwyddiadau arbennig mewn henebion allweddolcynnal y rhaglenni presennol o ddehongli a dysgu gydol oes, gan adeiladu arnyn nhw lle bynnag y bo modd.
The key priorities of the new approach will be to:retain Cadw’s free admission policy for education and learning visits, visitors with disabilities (and their companions) and other targeted incentivesdevelop and expand the programme of community events and learning festivals, working with communities and local agencies, in particular targeting key areas of deprivation close to Cadw sitesextend community engagement projects at monuments where there is a lack of community involvement or problematic behaviourintroduce and actively promote free “Open Days” for all, supported by special events at key monumentssustain and wherever possible build on current programmes of interpretation and lifelong learning.
Yr henebion sydd o dan ofal Cadw yw rhai o'r gemau pwysicaf yng nghasgliad amhrisiadwy Cymru o drysorau treftadaeth. Rwyf wedi bod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu mwynhau’r trysorau hynny, a chredaf bydd newid y polisi pwysig hwn yn mynd â ni gam ymhellach i'r cyfeiriad hwnnw.
The monuments in Cadw’s care represent some of the most important jewels in Wales’ priceless collection of heritage treasures. I have been absolutely committed to ensuring that as many people as possible should be able to enjoy those treasures and I believe that this important policy change will take us a further step in that direction.
Datganiad Ysgrifenedig - Major Power Failure on the South Wales Rail Network on 22 March 2011
Written Statement - Major Power Failure on the South Wales Rail Network on 22 March 2011
Ieuan Wyn Jones, Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Ieuan Wyn Jones, Deputy First Minister and Minister for the Economy and Transport
Ar 23 Mawrth atebais gwestiwn brys yn y Siambr am y methiant pŵer ym mlwch signalau Gorsaf Ganolog Caerdydd ar 22 Mawrth, a effeithiodd ar yr holl drenau i Gaerdydd.
On 23 March I answered an urgent question in the Chamber about the power failure at Cardiff Central Station signal box on 22 March that affected all train services into Cardiff.
Fe wnes i ddatgan ar y pryd, ac mae’n bwysig pwysleisio hynny o’r newydd, bod y math hwn o fethiant pŵer, mewn amgylchiadau o’r fath, yn anarferol. Dywedais hefyd mai Network Rail sy’n gyfrifol am ymdrin â’r materion yn ymwneud â’r methiant pŵer. Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gyfrifoldeb datganoledig dros Network Rail.
I stated at the time, and it is important to re-emphasise, that this type of power failure in these circumstances is unusual. I also said that the issues relating to the failure are within the remit of Network Rail. The Welsh Assembly Government has no devolved responsibility for Network Rail.
Serch hynny, nid wyf am weld cymudwyr yn cael eu rhwystro rhag mynd i’w gwaith, ac mae’n amlwg y bod y methiant pŵer wedi amharu’n sylweddol ar bobl yn ardal Caerdydd ar 22 Mawrth.
Nevertheless, I would not want to see commuters unable to go about their business, and clearly there was major disruption to the network in the Cardiff area on Tuesday 22 March.
Bydd Network Rail a Threnau Arriva Cymru yn cyhoeddi adroddiad ffurfiol llawn i’r digwyddiad cyn bo hir.
Network Rail and Arriva Trains Wales will be producing a full, formal report into the incident. This will be available shortly.
Yn y cyfamser, roeddwn wedi cytuno i roi rhagor o wybodaeth i Aelodau’r Cynulliad. Daeth yr wybodaeth ychwanegol ganlynol i law oddi wrth Network Rail:
In the meantime, I agreed to provide further information to Assembly Members. The following additional information has been received from Network Rail:
Cafwyd yr adroddiad cyntaf bod y system signalau wedi methu ym Mlwch Signalau Caerdydd Canolog am 07:07. Wedi hynny, daeth cadarnhad fod blychau signalau Cyffordd y Mynydd Bychan a’r Barri wedi colli pŵer hefyd.
The first report that the signalling system had failed was received from Cardiff Central Signal Box at 07:07. Subsequently, Heath Junction and Barry signal boxes confirmed that they too had lost power.
Roedd yr adolygiad cychwynnol yn awgrymu mai ymchwydd pŵer sylweddol oedd achos posibl y methiant. Fodd bynnag, ar ôl i bersonél Western Power ymchwilio ymhellach i’r mater, canfuwyd mai’r hyn a achosodd y digwyddiad oedd methiant cebl oedd yn cysylltu’r generadur ‘wrth gefn’ â’r system signalau yng Nghaerdydd.
An initial review suggested the cause may have been a significant power surge. However, further investigations involving Western Power personnel were able to discount this and by early afternoon it became apparent that the root cause was the failure of a cable connecting the ‘stand-by’ generator to the signalling system at Cardiff.
Canfuwyd drwy ymchwilio ymhellach bod y nam wedi digwydd am fod y pwyntiau terfynu yn y cebl wedi gorboethi. O ganlyniad, roedd y cerrynt a lifai drwy’r cebl wedi cynyddu, gan chwythu ffiws ac achosi methiant y prif gyflenwad pŵer i’r cyfarpar signalau. Roedd y generadur wrth gefn wedi cychwyn wedyn fel y dylasai, ond bu cylched fer oherwydd y cebl difrodedig, ac arweiniodd hynny at fethiant y generadur wrth gefn. Mae’r math hwn o fethiant yn anarferol dros ben ac nid oedd wedi digwydd o’r blaen.
Subsequent investigations showed that the fault resulted in the termination points in the cable over-heating. As a consequence of this, the amount of current drawn increased which blew a fuse and caused the cessation of the mains power supply to the signalling equipment. As it should, the stand-by generator then started but the damaged cable caused a short circuit which resulted in the failure of the back-up generator. This type of failure is highly unusual and had not been experienced before.
Yn syth ar ôl clywed am golli’r pŵer i’r cyfarpar signalau, aethpwyd ati i gaffael generadur arall o Orsaf Bwmpio Sudbrook (Twnnel Hafren). Roedd y signalau wedi’u hadfer yn llawn erbyn 10:00, rhyw deirawr ar ôl i’r methiant gael ei gofnodi gyntaf.
Immediately after the loss of power to the signalling equipment was first reported, a replacement generator was procured from Sudbrook Pumping Station (Severn Tunnel). Full signalling was restored by 10:00, approximately three hours after the failure was first reported.
Cynhaliwyd adolygiad o’r digwyddiad gan y diwydiant ddydd Mercher 23 Mawrth, gyda chynrychiolwyr o’r cwmnïau cludo teithwyr a nwyddau ac o Network Rail. Yn ystod yr adolygiad talwyd sylw arbennig i effeithiolrwydd y diwydiant wrth ymateb i’r digwyddiad ac wrth adfer y gwasanaeth trenau wedyn.
An industry review of the incident took place on Wednesday 23rd March. This involved representatives of passenger and freight operators and Network Rail. During this review particular attention was paid to the effectiveness of the industry’s response to the incident and the subsequent recovery of the train service.
Er ein bod yn cydnabod yn llwyr bod y methiant hwn yn seilwaith y rheilffyrdd wedi bod yn andwyol iawn ac wedi amharu’n fawr iawn ar drefniadau teithio, ystyrir bod yr ymateb dilynol a’r broses o adfer y gwasanaeth wedi bod yn effeithiol ar y cyfan. Yn nodweddiadol, byddai digwyddiad o’r maint hwn wedi cael effaith ar yr holl drenau weddill y dydd, ond yn yr achos hwn, cyn gynted ag yr adferwyd y signalau aeth y trenau’n ôl i lefel resymol o brydlondeb. Llwyddwyd i gyflawni hyn drwy ddefnyddio dulliau rheoli rhagweithiol wrth adfer y gwasanaethau. Erbyn canol dydd, roedd yr oedi gweddilliol yn y system wedi lleihau’n sylweddol ac erbyn canol y prynhawn roedd prydlondeb y trenau, yn ôl y Mesuriad Perfformiad Cyhoeddus (PPM), wedi dychwelyd i’w lefel arferol. Serch hynny, cafwyd 5,000 munud o oedi o ganlyniad i’r digwyddiad hwn, a bu’n rhaid gohirio 223 trên yn llwyr neu’n rhannol.
While it is fully acknowledged that this was a hugely damaging and disruptive failure of the railway infrastructure, the subsequent response and service recovery is considered to have been largely effective. Typically, an incident of this magnitude will have significant knock-on effects throughout the rest of the day. In this instance, as soon as full signalling was restored, the industry was quick to recover to a reasonable level of punctuality. This was achieved by pro-active management of the reinstatement of services. By midday the amount of residual delay in the system had reduced significantly and by mid afternoon the punctuality, as measured by PPM, had returned to normal levels. In total, however, this incident caused 5,000 minutes of train delay and resulted in 223 full or part train cancellations.
Yn y tymor byr i ganolig, bydd Network Rail yn cynnal archwiliad fforensig o’r cyfarpar signalau a’r cyflenwad pŵer ym mlwch signalau Caerdydd er mwyn pennu union natur y diffygion. Bwriedir cynnal adolygiad o’r protocolau archwilio a chynnal a chadw cyfarpar hefyd.
In the short to medium term Network Rail will be conducting a forensic examination of the signalling and power supply equipment at Cardiff signal box to determine the exact nature of the faults experienced. A review into inspection and maintenance protocols will also be undertaken.
Yn y tymor hirach, bydd Network Rail yn cyflwyno rhaglen gwerth £220 miliwn i foderneiddio’r signalau yn ardal Caerdydd, gan symud y gweithrediadau signalau i ganolfan rheoli newydd De Cymru yn Nhreganna. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ariannu rhai elfennau o’r rhaglen hon, gan gynnwys cyfleusterau newydd ar gyfer troi trenau yn ôl yn y Barri, Caerffili a Phontypridd. Mae cam datblygu’r rhaglen hon eisoes wedi’i gwblhau i raddau helaeth a disgwylir ar hyn o bryd y bydd y broses gomisiynu’n mynd rhagddi rhwng 2013 a 2015.
In the longer term, Network Rail is embarking on a £220m programme which will modernise the signalling in the Cardiff area. This will see the migration of signalling operations to the new South Wales Control Centre at Canton. The Welsh Assembly Government is funding elements of this programme including new turn-back facilities at Barry, Caerphilly and Pontypridd. The programme is already well into the development phase and commissioning is currently expected to run from 2013 to 2015.
Rwyf o’r farn bod ateb Network Rail wedi  bod yn ddigon cynhwysfawr o ystyried bod y digwyddiad yn un mor ddiweddar. Gwn fod Trenau Arriva Cymru hefyd yn adolygu eu gweithdrefnau cyfathrebu ac yn diwygio’u prosesau ar gyfer delio â digwyddiadau mawr eraill a allai amharu ar wasanaethau yn y dyfodol.
I believe that Network Rail has provided a comprehensive reply so far for such a recent incident. I am aware that Arriva Trains Wales is also reviewing its communication procedures and amending its processes for dealing with future large scale incidents of service disruption.
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn adolygu’r adroddiad ffurfiol  am y digwyddiad hwn yn fwy manwl pan fydd yn ei chyrraedd maes o law.
The Assembly Government will review the formal report of this incident in more detail, when it arrives in due course.
O ran effaith y digwyddiad hwn ar yr economi ehangach, mae’n anodd rhoi amcangyfrif meintiol dibynadwy. Yn amlwg, roedd digwyddiad wedi amharu yn sylweddol ar batrymau gwaith. Er hynny, wrth geisio pennu’r effaith gyffredinol, dylid ystyried y ffaith mai cyfan gymharol fach o gymudwyr sy’n teithio ar y trên, hyd yn oed yn Ne-ddwyrain Cymru, ac y byddai llawer o’r gweithgareddau ar y diwrnod hwnnw wedi’u gohirio yn hytrach na’u canslo’n gyfan gwbl.
In terms of the effect of the incident on the wider economy, it is difficult to provide a reliable quantitative estimate. Clearly there was widespread disruption to work patterns. However, in judging the overall impact, account also needs to be taken of the fact that rail travel accounts for a relatively small share of commuting, even in South East Wales, and that in many cases, activities may have been delayed rather than abandoned altogether.
O ystyried y niferoedd yr effeithiwyd arnynt a hyd cyfartalog yr oedi, ac o ymgorffori’r amcangyfrifon bras ynghylch gwerth posibl yr allbwn a gollwyd, mae’n debyg bod y methiant pŵer hwn wedi costio oddeutu £1 miliwn i’r economi.
Taking account of the numbers affected, likely average lengths of delays, and incorporating broad estimates of the potential value of lost output, it would suggest that the economic cost of the disruption was probably of the order of £1 million.
Datganiad Ysgrifenedig - Cyngor Sir Ynys Môn
Written Statement - Isle of Anglesey County Council
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Carl Sargeant, Minister for Social Justice and Local Government
Yn ystod fy natganiad llafar i’r Cynulliad ddydd Mercher 16 Mawrth cyhoeddais fy mhenderfyniad i ymyrryd yn fwy llym yng Nghyngor Sir Ynys Môn yn dilyn argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru.
During my oral statement to the Assembly on Wednesday 16th March I announced my decision to issue Anglesey County Council with a more stringent intervention following recommendations from the Auditor General for Wales.
Fel rhan o’r ymyrryd, cyhoeddais fy mod wedi penodi dau gomisiynydd i redeg Cyngor Sir Ynys Môn o ran arfer swyddogaethau gweithredol y Cyngor ar fy rhan.
As part of my intervention I announced that I had appointed two commissioners to run Anglesey County Council, in terms of exercising Council’s executive functions on my behalf.
Cyhoeddais hefyd fy mod yn bwriadu penodi Mr Mick Giannasi fel Comisiynydd wedi iddo ymddeol o’r Heddlu ddiwedd mis Mawrth. Dylech fod yn ymwybodol fy mod bellach yn penodi Mr Giannasi yn swyddogol o 1 Ebrill ymlaen.
I also stated that I intended to appoint Mr Mick Giannasi as a Commissioner after his retirement from the Police at the end of March. You will wish to be aware that I have now officially appointed Mr Giannasi with effect from 1st April.
Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi fy mod wedi penodi dau Gomisiynydd arall i ddechrau ar unwaith, sef:Margaret Foster – cyn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Cwm TafGareth Jones – Aelod Cynulliad Aberconwy sy’n ymddeol
I am also happy to announce that I have appointed a further two Commissioners with immediate effect. They are:Margaret Foster – former Chief Executive of Cwm Taf NHS Trust;Gareth Jones – retiring Assembly member for Aberconwy
Yn olaf, rwy’n cael ar ddeall bod Mr David Bowles am adael ei swydd fel Rheolwr Gyfarwyddwr dros dro Cyngor Sir Ynys Môn ddiwedd mis Ebrill.
Finally, I understand that Mr David Bowles wishes to leave his post as Anglesey County Council's interim Managing Director at the end of April.
I sicrhau parhad rwyf hefyd wedi penderfynu arfer pwerau sydd ar gael i mi i benodi Mr Richard Parry Jones fel Pennaeth Gwasanaeth Taledig Cyngor Sir Ynys Môn o 1 Mai ymlaen nes yr hysbysir yn wahanol. Mr Jones yw cyfarwyddwr addysg a hamdden presennol y Cyngor ac mae’n siaradwr Cymraeg rhugl.
To ensure continuity I have also decided to exercise powers available to me to designate Mr Richard Parry Jones as Anglesey County Council’s Head of Paid Service with effect from 1st May until further notice. Mr Jones is currently the Council’s director of education and leisure, and is a fluent Welsh-speaker.
Rwy’n ddiolchgar i Mr Bowles am ei benderfynoldeb, ei ymroddiad a’r ffordd y mae wedi llywio’r Cyngor drwy gyfnod arbennig o anodd. Rwy’n falch bod Mr Jones wedi cytuno i gymryd y rôl hon ac rwy’n siŵr y bydd yn cefnogi gwaith y Comisiynwyr a’r Aelodau i ddatblygu’r awdurdod a sicrhau cydymffurfiaeth â’m cyfarwyddyd.
I am very grateful to Mr Bowles for his determination, commitment and stewardship of the Council through a particularly difficult time. I am pleased that  Mr Jones has agreed to take on this role and I am sure that he will support the work of the  Commissioners and Members in taking forward the authority and ensuring compliance with my Direction.
Datganiad Ysgrifenedig - Y diweddaraf ynghylch y llwyddiannau ym maes tai
Written Statement - Update on achievements within Housing
Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio
Jocelyn Davies, the Deputy Minister for Housing and Regeneration
Mae Llywodraeth Cymru'n Un wedi rhoi cryn flaenoriaeth i dai ac rwy'n falch o'r cyfle heddiw i roi'r diweddaraf ar nifer o ymrwymiadau i'r aelodau. Un o'm blaenoriaethau oedd codi safonau tai cymdeithasol ac mae adroddiad wedi'i gyhoeddi heddiw ar brosiect peilot o'r enw Perfformiad Landlordiaid Cymdeithasol o ran Cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Ei nod yw datblygu mecanweithiau mwy cadarn ar gyfer asesu llwyddiannau yn erbyn safonau.
Housing has been a high priority for the One Wales Government and I am pleased to update members on a number of commitments today. Raising standards in social housing has been one of my priorities and a report has been published today on the pilot project to develop more robust mechanisms for assessing achievement against standards, Social Landlords’ Performance in Achieving Welsh Quality Housing Standard.
Un o'm tasgau cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel y Dirprwy Weinidog dros Dai oedd comisiynu adolygiad annibynnol o Dai Fforddiadwy o dan gadeiryddiaeth Sue Essex. Gofynnwyd i bawb yn y maes tai yng Nghymru roi eu barn a'u hawgrymiadau ynghylch ffyrdd posibl o wella'r system, ac fe'u defnyddiwyd i lunio adroddiad gyda 43 o argymhellion i'w rhoi ar waith. Derbyniais yr adroddiad a rhoddais system gydweithredol newydd ar waith i fynd i'r afael â phob un o'r heriau a nodwyd.
One of my first activities as Deputy Minister for Housing was to commission an independent review of Affordable Housing which was chaired by Sue Essex. All those involved in housing in Wales were invited to give their views and offer suggestions for how the system could be improved, resulting in a report with 43 recommendations for action. I accepted the report and put into place a new collaborative system to work through each of the challenges identified.
Un o'r argymhellion oedd adolygiad llawn o'r trefniadau ar gyfer gosod cyfraddau rhent tai cymdeithasol. Sefydlwyd grŵp adolygu traws sector, sy'n cynnwys cymdeithasau tenantiaid, i ddatblygu cynigion ar gyfer polisi newydd ar gyfer landlordiaid cymdeithasol a fyddai'n decach ac yn fwy tryloyw. Heddiw cytunais i gynnal ymgynghoriad ar bolisi cyfraddau rhent cymdeithasol arfaethedig.
One of the recommendations was a full review of the arrangements for setting social housing rents. A cross sector review group including tenants associations was established to develop proposals for a new policy that would be fairer and more transparent and apply to social landlords. Today I agreed to a consultation on a proposed new social rents policy.
Yn fwy diweddar, comisiynais adolygiad annibynnol o Gymorth Tai o dan gadeiryddiaeth Syr Mansel Aylward. Yn ei adroddiad gwnaeth grŵp yr adolygiad gyfres o argymhellion ac unwaith eto rwyf wedi cyflwyno proses gydweithredol i fynd trwyddynt a rhoi'r argymhellion ar waith. Rwyf wedi cymeradwyo'r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol Cefnogi Pobl sydd wedi'i baratoi'r drwy'r broses hon.
More recently, I commissioned an independent review of Housing Related Support chaired by Sir Mansel Aylward. The review group report made a series of recommendations and I have again put in place a collaborative process to work through and implement the recommendations. I have approved the Supporting People National Outcomes Framework which has been developed through this process.
Rwyf wedi cydweithredu'n agos â phartneriaid allweddol yn y sector tai. Hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad i wella tai yng Nghymru a hoffwn roi'r diweddaraf ynghylch y llwyddiannau cyffredinol yn ystod y llywodraeth hon.Yr egwyddorion a'r dull sy'n ategu'r broses o ddatblygu polisïau tai
My approach has been to work in close collaboration with key partners in the housing sector and I would like to thank them for their commitment to improving housing in Wales and provide an update on overall achievements during this government.The principles and approach underpinning the development of housing policy
Mae ein gweledigaeth ar gyfer tai i'w gweld yn Cymru'n Un ac yn y Strategaeth Dai Genedlaethol a gyhoeddwyd y llynedd. Mae ymgysylltu yn gynnar ac yn agored gyda phartneriaid i drafod polisi a chyflenwi wedi bod yn rhan hollbwysig o'm dull gweithredu a'n llwyddiannau.
Our vision for housing is set out in One Wales and the National Housing Strategy, published last year. Fundamental to my approach has been early and open engagement with partners on both policy and delivery and this has been essential to our achievements.
Gan ychwanegu at argymhellion Adroddiad Beecham, Ar Draws Ffiniau: Gwasanaethau Lleol sy'n Canolbwyntio ar y Dinesydd, rydym wedi mynd ati i sicrhau mai buddiannau dinasyddion a defnyddwyr gwasanaethau sydd wrth wraidd polisïau a chyflenwi, ac rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu polisïau a chynllunio gweithredu a sicrhau'r gwerth gorau i'r bunt Gymreig. O wneud hyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sbarduno newidiadau ym maes tai yng Nghymru.
Building on the recommendations of the Beecham Report, Beyond Boundaries: Citizen-centred local services for Wales, we have sought to ensure the interests of citizens and service users are at the heart of policy and delivery, to work with partners to develop policy and plan implementation and to maximise the value that can be achieved for the Welsh pound. In doing this, the Welsh Assembly Government has been driving change within housing in Wales.
Mae'r dull gweithredu cydweithredol hwn, a ddefnyddiwyd yn gyntaf ym maes tai fel ffordd o fwrw ymlaen ag argymhellion y Tasglu Tai Fforddiadwy a oedd o dan gadeiryddiaeth Sue Essex ar y pryd, wedi'i werthuso'n annibynnol. Daeth yr adroddiad annibynnol i'r casgliad bod y dull gweithredu wedi sicrhau cyfeiriad cliriach ar gyfer polisi tai gyda llawer mwy o gyfranogiad gan bartneriaid cyflenwi.
This collaborative approach first used in housing as a way of taking forward the recommendations from the Affordable Housing Task Force chaired by Sue Essex has been evaluated independently. The independent report concluded that the approach resulted in a clearer direction for housing policy with much greater buy in from delivery partners.
Dyma oedd prif elfennau fy null gweithredu ar gyfer polisi a chyflenwi:Dull gweithredu gwirioneddol o gydweithredol ar gyfer llunio polisïau a'u gweithredu, sy'n rhoi cyfle cyfartal i bob partner ddylanwadu ar y canlyniadau a chyfrannu atynt;Drafftio polisïau gan roi buddiannau defnyddwyr y gwasanaeth yn ganolbwynt;Rolau a chyfrifoldebau clir, gyda'r Llywodraeth yn parhau i chwarae rôl strategol sydd ar wahân i'r rheini y'n cyflawni swyddogaethau cynllunio/comisiynu;Mwy o berchnogaeth dros yr atebion drwy wahodd pob partner i gyfrannu at adnoddau i fynd i'r afael â phroblemau cyffredin;Bod yn agored ac yn dryloyw er mwyn gwella cysylltiadau a galluogi trafodaethau anodd lle mae buddiannau'n wahanol;Mwy o bwyslais ar brofi angen a mesur canlyniadau;Hybu arloesi ac arferion da;Defnyddio pwerau deddfwriaethol lle bo'n briodol i gryfhau polisïau.Codi proffil materion tai a disgyblaethau cysylltiedig a sicrhau bod y llywodraeth yn cael ei herio drwy sefydlu grwpiau allanol â chadeiryddion annibynnol i gynghori ar feysydd allweddol;Sefydlu dull rheoleiddio seiliedig ar risg a chanlyniadau ar gyfer Cymdeithasau Tai.Y llwyddiannau
The main elements of my approach to housing policy and delivery as been:A truly collaborative approach to policy formation and implementation, with all partners equally able to influence and contribute to outcomesPolicy drafted with the interests of the service user being central to its formationClear roles and responsibilities, with the Government’s role remaining strategic and separate from those whose role relates to delivery or planning/ commissioningOwnership of solutions increased by inviting all partners to contribute resources to resolve collective problems;Openness and transparency to improve relationships and enable difficult conversations to take place when interests diverge;A stronger emphasis on providing evidence of need and measuring outcomesEncouraging innovation and good practiceUsing legislative powers where appropriate to strengthen policyRaising the profile of housing and housing related disciplines and ensuring government is challenged by setting up independently chaired external groups to advise on key areasEstablishing a risk based and outcome focused regulatory approach for Housing Associations.What has been achieved
Drwy'r dull gweithredu hwn a'r egwyddorion ategol, rydym wedi sicrhau canlyniadau gwell o safbwynt tai a thenantiaid yng Nghymru, gan gynnwys:Rhagori ar ein targed o ddarparu 6500 o gartrefi dros gyfnod pedair blynedd y llywodraeth;Buddsoddi £430 miliwn o arian Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ein stoc tai, gyda'r sector cymdeithasau tai'n cyfrannu £265 miliwn yn ychwanegol drwy fenthyca ychwanegol;Creu 1200 o gyfleoedd hyfforddi a swyddi yn sgil buddsoddi mewn tai gan ddefnyddio pecynnau cymorth i2i a dulliau recriwtio a hyfforddi a dargedir;Parhau i roi ar waith, a sicrhau bod y gwahanol sectorau yn cytuno â, newidiadau i Cymorth Cysylltiedig â thai er mwyn defnyddio adnoddau'n fwy effeithiol a sicrhau mai buddiannau defnyddwyr gwasanaethau sydd wrth wraidd y broses darparu gwasanaethau;Cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad yn ein stoc tai cymdeithasol drwy ganolbwyntio ar gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, sydd wedi gwella cyflwr stoc ac ynghyd ag arbed, wedi gostwng costau ynni i denantiaid.Fframwaith Rheoleiddio newydd cadarn a heriol i gymdeithasau tai sy'n canolbwyntio ar denantiaid a defnyddwyr gwasanaethau ac sydd â'r nod o sicrhau canlyniadau clir.Yr Angen am Dai a'r Cyflenwad Tai
This approach and underpinning principles have enabled us to achieve improved outcomes for housing and tenants in Wales, including:Exceeding our target to create 6500 homes over the 4 year period of the government£430 million of Welsh Assembly Government investment in our housing stock with an additional £265m being contributed by the housing association sector in extra borrowing1200 training opportunities and jobs created on the back of housing investment, by using the i2i toolkits and targeted recruitment and training techniquesCross sector agreement to, and current implementation of, changes to Housing Related Support to deliver more effective use of resources and ensure that the interests of service users are placed at the heart of service deliveryMajor increased investment in our social housing stock through a focus on achieving the Welsh Quality Housing Standard resulting in improved stock condition and also, along with arbed, has reduced energy costs for tenants.A robust and challenging new Regulatory Framework for housing associations which puts tenants and service users at its heart, based on clear delivery outcomes.Housing Need and Housing Supply
Bellach, dyrennir arian ar gyfer buddsoddiadau mewn tai cymdeithasol newydd ar sail yr angen am dai yng Nghymru. Yn y gorffennol, roedd angen penderfynu a oedd datblygiad tai yn ymarferol ac wedyn seilio penderfyniadau cyllid ar hyn. Comisiynwyd ymchwil gan Alan Holmans i bennu'r angen am dai fesul Awdurdod Lleol a seiliwyd penderfyniadau ynghylch bwrw ymlaen ar yr ymchwil hwn.
Housing need across Wales is now the basis for allocating investment in new social housing. Previously, a judgement was made on the deliverability of housing development and this determined how funding decisions were reached. Research was commissioned from Alan Holmans to quantify housing need by Local Authority and this became the basis for decisions going forward.
Mae rôl Awdurdodau Lleol hefyd wedi'i chryfhau fel eu bod yn pennu'r blaenoriaethau ar gyfer datblygiadau newydd yn lleol a'u bod yn fwy cyfrifol am eu penderfyniadau drwy orfod paratoi Datganiadau Datblygu Tai Fforddiadwy blynyddol.
The role of Local Authorities has also been strengthened so that they decide priorities for new development locally, and they are made more accountable for their decisions by the requirement to produce annual Affordable Housing Development Statements.
Mae'r gofyniad hwn wedi'i gryfhau drwy ddarparu hyfforddiant, cymorth ac arweiniad i sicrhau'r manteision mwyaf o ddefnyddio 'Cytundebau Adran 106'. Mecanwaith cynllunio yw hwn sy'n gofyn i ddatblygwyr gyfrannu at ddarparu tai fforddiadwy wrth adeiladu cartrefi ar gyfer y sector preifat.Atal Digartrefedd
This requirement has been strengthened by providing training, support and guidance to enable maximum benefit to be gained through the use of “Section 106 agreements”. This is a planning mechanism that requires developers to contribute to the supply of affordable housing when they are building homes for the private sector.Homelessness Prevention
Rydym wedi canolbwyntio ar roi cyngor a chymorth i'r rheini sy'n wynebu perygl o golli'u cartrefi, gan leihau nifer y bobl a gofnodir yn ddigartref gan Awdurdodau Lleol.
We have concentrated on providing advice and support to those in danger of losing their homes, resulting in a decrease in the numbers of those presenting as homeless to Local Authorities.
Yn ogystal, defnyddiodd y cynllun llwyddiannus Achub Morgeisi grant tai cymdeithasol i alluogi'r rheini sy'n wynebu perygl o orfod rhoi eu cartrefi i fenthycwyr morgeisi eu rhentu yn lle. Rhoddwyd cymorth i 384 o aelwydydd gan atal 808 o oedolion a 383 o blant rhag bod yn ddigartref.Cymorth cysylltiedig â Thai
In addition, the successful Mortgage Rescue Scheme used Social Housing Grant to enable those in danger of having their homes re-possessed by mortgage lenders, to rent them instead. This helped 384 households preventing 808 adults and 383 children from becoming homeless.Housing Related Support
Ymrwymodd Cymru'n Un i roi cyllid ychwanegol i'r rhaglen Cefnogi Pobl. Rydym wedi cyflawni hyn er gwaethaf y toriadau yn y gyllideb ac mae ein cyllideb derfynol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn diogelu hyn, gyda £140 miliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer y rhaglen Cefnogi Pobl yn 2010/11.
One Wales committed to provide extra funding for the Supporting People programme. We have achieved this despite budgetary cuts and our final budget published in February protects this going forward, with £140 million allocated for 2010/11 for the Supporting People programme.
Ym mis Rhagfyr 2009, comisiynais Syr Mansel Aylward i arwain adolygiad o'r rhaglen gyfan. Roedd yr argymhellion a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2010 yn radical o ran y ffordd orau o roi cymorth cysylltiedig â thai. Mae darparwyr, comisiynwyr a landlordiaid yn gweithio gyda'm swyddogion i wneud y newidiadau angenrheidiol.
In December 2009, I commissioned Professor Sir Mansel Alyward to lead a review into all aspects of the programme. The recommendations which were published in November 2010 were radical in terms of how housing related support could best be delivered. Providers, commissioners and landlords are working together with my officials to deliver the changes necessary.
Chwiliodd y grŵp adolygu hefyd am dystiolaeth o werth am arian, gan adeiladu ar astudiaeth gan Matrix yn 2006. Daeth y grŵp i'r casgliad fod pob punt a wariwyd drwy'r rhaglen hon wedi arbed o leiaf £1.68 o arian cyhoeddus.Safonau Tai
The review group also looked for evidence of value for money building on a study conducted by Matrix in 2006. They concluded that for every £1 spent through this programme, a minimum of £1.68 was saved from the public purse.Housing Standards
Safon Ansawdd Tai Cymru yw'r prif fecanwaith ar gyfer sicrhau bod buddsoddi yn parhau i gael ei ddefnyddio i foderneiddio pob cartref yn y sector. Mae'n rhaid i bob landlord cymdeithasol gyrraedd y safon erbyn 2012 oni bai bod estyniad wedi'i gymeradwyo. Rydym wedi cynnal cyfnod peilot ar gyfer mecanweithiau mwy cadarn i asesu cyflawniad yn erbyn safonau. Heddiw cyhoeddais yr adroddiad Perfformiad Landlordiaid Cymdeithasol o ran Cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.Caffael a'r Pecyn Cymorth i2i
The Welsh Housing Quality Standard has been the main mechanism to ensure that investment continues to be used to bring all homes in the sector to a modern standard. The standard must be met by all social landlords by 2012, unless an extension has been approved. We have piloted a more robust mechanisms for assessing achievement against standards today I published the report Social Landlords’ Performance in Achieving the Welsh Housing Quality Standard.Procurement and the i2i Toolkit
Mae'r pecyn cymorth Gallu Gwneud, a gafodd ei ddatblygu gan y Sefydliad Tai Siartredig ac i2i, yn rhoi'r canllawiau a'r cyngor penodol sydd eu hangen i sicrhau bod hyfforddiant a chyfleoedd gwaith yn cael eu cynnig naill ai drwy adeiladu tai newydd neu drwy gontractwyr sydd wedi ennill contracrau Safon Ansawdd Tai Cymru. Drwy ddefnyddio'r mecanwaith hwn a Dulliau Recriwtio a Hyfforddiant a dargedir (menter debyg i'r un a fabwysiadwyd gan gonsortiwm Integrate) mae'r sector tai wedi creu bron 1200 o gyfleoedd hyfforddiant a gwaith hyd yma. Awgrymir bod meysydd eraill o fuddsoddiad cyhoeddus heblaw tai yn dilyn yr arferion da hyn.Sicrhau cynifer o Adnoddau â phosibl drwy'r Sector Preifat
The Can Do tool kit, developed by the Chartered Institute of Housing and i2i, provides guidance and specific advice necessary to ensure training and work opportunities are provided either through new build or by contractors who have been successful in winning WHQS contracts.  Using this mechanism and Targeted Recruitment and Training (a similar initiative adopted by the Integrate consortium) nearly 1200 training and job opportunities have been created by the housing sector to date. This good practice is also being encouraged for wider take up in other areas of public investment outside of housing.Maximising Resources by using the Private Sector
Cydnabu'r Strategaeth Dai Genedlaethol Gwella Bywydau a Chymunedau, y lansiais y llynedd, na fyddai'r sector tai cymdeithasol byth yn gallu diwallu anghenion tai ar ei ben ei hun, a bu'n hybu defnyddio'r sector preifat.
The National Housing Strategy Improving Lives and Communities which I launched last year recognised that housing need would never be met by the social housing sector alone, and encouraged the use of the private sector.
Yn benodol, mae Llywodraeth y Cynulliad yn annog Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i sefydlu asiantaethau gosod tai cymdeithasol. Mae'r asiantaethau hyn yn defnyddio sgiliau ac arbenigedd y sector i reoli cartrefi preifat ac yn cynnig opsiynau i bobl sydd ar restri aros am gartrefi.Tai a'r Newid yn yr Hinsawdd
Specifically, the Welsh Government is encouraging Registered Social Landlords to establish social lettings agencies. These use the skills and experience of the sector to manage homes that are owned privately, and enable access for people on housing waiting lists.Housing and Climate Change
Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn gwella safonau effeithlonrwydd ynni yn y sector tai cymdeithasol. O dan gam cyntaf arbed, mae cartrefi cymdeithasau tai mewn ardaloedd adfywio wedi bod drwy brosesau ôl-ffitio gan gynnwys defnyddio ynni'r haul i gynhesu dŵr a chynhyrchu trydan. Mae ail gam arbed bellach yn cael ei ddatblygu, a bydd yn cael cyllid Ewropeaidd i estyn darpariaeth ar draws cartrefi preifat a chartrefi awdurdodau lleol.
Welsh Housing Quality Standard is driving up standards of energy efficiency in the social housing sector. In Regeneration Areas, Housing Association homes have benefitted from Retrofit measures that have included the use of solar energy for heating hot water and generating electricity under the first phase of arbed. The second phase of arbed is now being developed and it will access European funding to extend provision across private and local authority homes.
Yn ogystal, mae cynllun peilot o oddeutu 300 o gartrefi wedi'i ddatblygu ar lefel Cod 4 a 5 y Cod Cartrefi Cynaliadwy, sef safon achredu ar gyfer cynaliadwyedd. Gellir defnyddio'r adborth gwerthfawr sydd wedi deillio o'r cyfnodau peilot i ddatblygu polisi yn y maes hwn.
In addition, a pilot of nearly 300 homes has been developed at Code 4 and 5 levels of the Code for Sustainable Homes, an accreditation standard for sustainability. The valuable feedback gained from the pilots can be used to develop policy in this area.
Bydd y cynlluniau hyn yn lleihau allyriadau carbon ac yn cynnig manteision i denantiaid drwy leihau costau ynni.Fframwaith Rheoleiddio newydd
These schemes will reduce carbon emissions as well as benefitting tenants by reducing energy costs.A new Regulatory Framework
Daeth i'r amlwg drwy Adolygiad Essex fod angen cynnal adolygiad manwl o drefniadau rheoleiddio ar gyfer Cymdeithasau Tai.
The Essex Review revealed the need for a thorough review of the regulatory arrangements for Housing Associations.
Mae nifer o'r prosesau wedi'u hail-lunio bellach ac mae Fframwaith Rheoleiddio newydd ar fin cael ei gyflwyno. Mae'n cydnabod ac yn cefnogi rôl adfywio cymunedol ehangach ar gyfer Cymdeithasau Tai, gan ychwanegu at y gwasanaethau landlordiaid y maent yn eu darparu ar hyn o bryd. Mae hefyd yn disgwyl iddynt ddefnyddio'r holl adnoddau y gallant i ddarparu mwy o dai a sicrhau mwy o fanteision cymunedol. Mae'r trefniant newydd yn seiliedig ar bwerau ymyrraeth cryfach.
Many of the processes have now been reformed, and a new Regulatory Framework is in the process of being introduced. It recognises and supports a wider community regeneration role for Housing Associations, building on the landlord services they currently provide. It also expects them to use all of the resources within their power to increase housing supply and community benefits. This new regime is based upon increased intervention powers.
Bydd y Mesur Tai, a gafodd ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr wythnos diwethaf, yn rhoi statws statudol i'n fframwaith rheoleiddio. Bydd hyn yn helpu i godi hyder benthycwyr ynghylch benthyg i Gymdeithasau Tai yng Nghymru.Diwygio'r Cyfrif Refeniw Tai
The Housing Measure, passed by the National Assembly just last week, will now put our regulatory framework on  a statutory footing. This will increase confidence of lenders to lend to Housing Associations in Wales.Reform of the Housing Revenue Account
Mae ad-dalu arian dros ben o Gyfrifon Refeniw Tai Awdurdodau Lleol Cymru ers 1999 wedi bod yn fwy o faich ar Gymru nag ar Awdurdodau Lloegr neu'r Alban. Yn ystod y cyfnod hwnnw, Awdurdodau Lleol Cymru sydd wedi talu 66% o'r cymorthdaliadau negyddol er eu bod nhw'n berchen ar 6% yn unig o stoc tai y tair gwlad. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi egluro bod hyn yn anghyfiawn a bod angen ei ddiwygio ar unwaith. Mae trafodaethau gyda'r Trysorlys yn parhau ac rydym am sicrhau cydraddoldeb â'r Alban gan symud i ffwrdd o'r trefniadau yn Lloegr drwy sicrhau ymreolaeth yn y maes hwn.Denu buddsoddiad ychwanegol
Payment back to Treasury from surpluses made on the Housing Revenue Accounts of Welsh Local Authorities since 1999, has been a disproportionate burden, compared to English or Scottish Authorities. In that period 66% of total negative subsidies were paid by Welsh Local Authorities despite owning only 6% of housing stock across the three countries. The Welsh Assembly Government has been clear that this is inequitable and in need of urgent reform. Negotiations are ongoing with Treasury and we are seeking parity with Scotland by seeking separation from the arrangements in England and autonomy in this area.Attracting additional investment
Un o effeithiau cyntaf y dirwasgiad oedd i nifer o gyrff ariannol ddechrau peidio â rhoi benthyg arian ar gyfer tai cymdeithasol. Oherwydd hynny, cydnabuwyd bod y sector yn rhy ddibynnol ar y math hwn o gyllid hirdymor a bod angen ystyried defnyddio marchnadoedd cyfalaf. Mae Tai Cymunedol Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cydweithio ag eraill i ystyried a allai arian cyfalaf helpu i sicrhau mwy o werth am y Grant Tai Cymdeithasol ac yn cynnig ffynhonnell ariannu arall. Penderfynwyd y gallai hyn fod y ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu mwy o gartrefi canolradd. Mae nifer o Gymdeithasau Tai yn gwneud gwaith pellach i asesu a oes modd defnyddio'r model hwn yn ehangach.Yr heriau o'n blaen
One of the early impacts of the recession was a withdrawal from the lending market for social housing by a number of the financial institutions involved. It led to recognition that the sector was over reliant on this form of long term funding and that the capital markets should be explored as an option. The Welsh Government funded Community Housing Cymru to work in collaboration with others to explore whether capital finance could help bring more value from Social Housing Grant as well as provide an alternative source of finance. They concluded that this may be most effective in increasing the supply of intermediate housing. Further work is being done by a number of Housing Associations to assess the wider applicability of this model.Challenges going forward
Mae canlyniadau cadarnhaol wedi'u sicrhau i denantiaid, i'r rheini sy'n chwilio am dŷ a chymunedau ehangach drwy'r polisïau tai a buddsoddiadau dros oes y llywodraeth hon. Fodd bynnag, bydd y llywodraeth nesaf yn wynebu nifer o heriau, gan gynnwys y toriadau sylweddol i gyllideb Llywodraeth y Cynulliad. Mae'r gyllideb yn cael ei thorri wrth i ddigartrefedd godi a'r galw gynyddu am stoc tai cymdeithasol. Yn sgil rhaglen O Fudd-dâl i Waith Llywodraeth y DU mae budd-daliadau lles yn cael eu torri'n gyffredinol ac mae'r Budd-dal Tai yn cael ei dorri'n benodol. Bydd y toriadau hyn ynghyd â TAW cynyddol a chostau bwyd a thanwydd uwch yn golygu y bydd incwm nifer o denantiaid ychydig yn llai, gan greu caledi ac anawsterau i gymunedau. Yn sgil hyn, bydd yn arbennig o bwysig denu adnoddau allanol ychwanegol i ddarparu tai fforddiadwy yng Nghymru a sicrhau bod system annheg y Cyfrif Refeniw Tai Awdurdodau Lleol yn cael ei diwygio.
There have been positive outcomes for tenants, for those looking for a home and for wider communities as a result of housing policy and investment during this government. However, there are a number of challenges that will face the next government, not least the drastic reductions to the Welsh Government’s budget. This comes at a time when homelessness is increasing and there are additional demands on social housing stock. The UK Government’s Welfare to Work programme is bringing cuts to welfare benefits generally and Housing Benefit specifically. Coupled with the rise in VAT and increasing food and fuel costs, many tenants will receive a significant decrease in income, creating hardship and disruption to communities. In light of this, it will be particularly important to attract additional external resources into the provision of affordable housing in Wales and to secure reform of the unfair Local Authority Housing Revenue Account system.
Datganiad Ysgrifenedig - Cyhoeddiad ariannu Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar gyfer Cam 2 Rhaglen Arbed
Written Statement - Announcement of funding from the European Regional Development Fund for Arbed Phase 2
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Tha
Jane Davidson, Minister for the Environment, Sustainability and Housing
Heddiw rydym wedi cyhoeddi dyfarniad cyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar gyfer ail gam arbed.
Today we have announced that a second phase of arbed has been awarded  funding from the European Regional Development Fund (ERDF).
Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gwneud cartrefi Cymru'n rhatach-ar-ynni ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi cyllid o £37 miliwn ar gyfer cam 2 rhaglen arbed y Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n cael cymorth o £29 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Our investment in improving the energy performance of Welsh homes will continue and we are very pleased to announce £37 million of funding for the Welsh Assembly Government’s Arbed phase 2, backed with ERDF funds of £29m.
Sicrhawyd y cyllid hwn o ganlyniad i waith ar draws adrannau a chaiff ei chynnal ar y cyd ag awdurdodau Lleol gyda chymorth gan Dai Cymunedol Cymru a chymdeithasu tai Cymru. Bydd y rhaglen yn helpu i wneud o leiaf 4,000 o gartrefi'n rhatach-ar-ynni yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
This has been secured through cross-departmental working and will be delivered alongside local authorities with support from Community Housing Cymru and Welsh housing associations. The programme will help improve the energy performance of at least 4,000 homes in some of Wales’ most deprived communities.
Mae hynny'n golygu y bydd manteision gwirioneddol cam 1 rhaglen arbed o ran gwella cartrefi a sbarduno buddsoddi a chyfleoedd busnes ar draws Cymru yn parhau hyd at 2015 a byddwn yn sicrhau bod popeth a ddysgwyd o gam cyntaf y rhaglen yn cael effaith ar yr ail gam i sicrhau ei fod hyd yn oed yn fwy llwyddiannus.
This means that the real benefits that arbed phase 1 has brought in improving homes and driving investment and business opportunities across Wales will continue to 2015 and we will ensure that all the lessons from the first phase of the programme are reflected in the second phase to ensure that it delivers even more successfully.
Bydd y buddsoddiad yn hwb mawr i gefnogi'r economi carbon isel a swyddi gwyrdd drwy greu mwy o alw am weithgynhyrchu a gosod offer sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Bydd hefyd yn cyfrannu at ddileu tlodi tanwydd, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwneud cartrefi yng Nghymru yn rhatach ar ynni.
The investment will provide a major boost to support the low carbon economy and green jobs through increased demand for manufacturing and fitting of energy efficient products.  It will also contribute to eradicating of fuel poverty, cutting greenhouse gas emissions and to improving the energy performance of homes in Wales.
Datganiad Ysgrifenedig - Datblygu a Gwella Gwasanaethau i Bobl â Dementia yng Nghymru
Written Statement - Developing and Improving Services for Dementia Sufferers in Wales
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Edwina Hart, Minister for Health and Social Services
Mae'r Datganiad hwn yn amlygu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu gwasanaethau i bobl â dementia, gan sicrhau y caiff pobl â dementia yng Nghymru yr help, yr urddas a'r parch sy'n ddyledus iddynt. Byddaf hefyd yn achub ar y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf i chi ar y cynnydd sylweddol a wnaed wrth nodi'r camau sydd eu hangen i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru.
This Statement highlights the Welsh Assembly Government’s commitment to develop services for people with dementia, ensuring that in Wales, people with dementia are supported and receive the help, dignity and respect that they deserve. I will also take this opportunity to update you on the significant progress that has been made in identifying the steps needed to improve dementia services in Wales.
Yng Nghymru, mae tua 37,000 o bobl yn byw gyda dementia ar hyn o bryd. Gwyddom y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol i ofalwyr, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau cyhoeddus eraill a chymdeithas yn ehangach.
In Wales there are currently around 37,000 people living with dementia, we know this will increase year on year. This has significant consequences for carers, for health and social care, other public services and society more widely.
Fis diwethaf, lansiais Weledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia, sydd â'r nod o sicrhau bod gan Gymru gymunedau sy'n cefnogi pobl â dementia. Cymunedau sy'n rhoi llais i bobl â dementia, lle mae gwasanaethau yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion y gymuned y maent yn anelu at ei gwasanaethu. Mae'n amlinellu'r ymrwymiadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a'n partneriaid yn eu gwneud i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y gwaith o gyflawni'r ymrwymiadau yn y ddogfen weledigaeth, ac erbyn 2012 bydd y rhain wedi'u cyflawni.
Last month I launched the National Dementia Vision for Wales, which aims to ensure Wales has communities that support people with dementia. Communities that articulate the voice of people affected by dementia, where services are accessible and responsive to the needs of the community they seek to serve. It outlines the commitments the Welsh Assembly Government and our partners are making to improve dementia services in Wales. We have already made significant progress in delivering the commitments in the vision document, and by 2012 these will all have been delivered.
Hefyd, lansiais linell gymorth a gwefan dementia benodedig, sy'n cynnig cymorth emosiynol a chyngor i unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o ddementia, neu i berthnasau a gofalwyr pobl â dementia. Rwyf wedi ariannu cynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru sy'n sicrhau bod llyfrau ar gael i bobl â dementia a'u gofalwyr ym mhob llyfrgell yng Nghymru, ac wedi cytuno i ariannu pecynnau gwybodaeth am ddementia i bobl sydd wedi cael diganosis o ddementia gyda Chymdeithas Alzheimers.
I also launched a dedicated dementia helpline and website, which offers emotional support and advice to anyone who has been diagnosed with dementia, or for relatives and carers of people with dementia. I have funded the Book Prescription Wales scheme which ensures there are books available to people with dementia and their carers in every library in Wales, and agreed to fund dementia information packs for those diagnosed with dementia with the Alzheimer’s Society.
Yn ogystal â hyn, y llynedd darparais gyllid rheolaidd newydd o £1 miliwn y flwyddyn i sefydlu adnoddau a chydgysylltwyr dementia penodedig ychwanegol mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i Bobl Hŷn, a £0.5 miliwn i ddatblygu gwasanaethau Dementia Cynnar newydd ledled Cymru. Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cytuno ar gynigion a bod BILlau, gyda'u partneriaid, yn gweithio i weithredu'r gwelliannau hyn.
Additionally last year I provided new recurrent funding of £1million per annum to establish additional dedicated dementia resources and co-ordinators within Older People Community Mental Health Teams, and £0.5 million to develop new Young Onset Dementia services across Wales. I am pleased to say bids have been agreed and LHBs with their partners are working to implement these improvements.
Ysgrifennais atoch ym mis Gorffennaf 2010, gan ddisgrifio sut roeddwn wedi gwneud y GIG yn gyfrifol am sicrhau newid go iawn i bobl a oedd wedi cael diagnosis o ddementia a'u gofalwyr. Eglurais y bydd Bwrdd y Rhaglen Iechyd Meddwl bellach yn rhoi cyfeiriad ac arweiniad er mwyn ysgogi'r newidiadau hyn, ac y bydd Byrddau Iechyd Lleol, o fewn Targedau Blynyddol y Fframwaith Ansawdd, yn gweithredu'r Targedau Deallus ar gyfer dementia. Bydd y targedau Deallus yn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau gan gynnwys lleihau'r amser rhwng y symptomau cyntaf a'r diagnosis, ansawdd y gofal ar wardiau ysbytai cyffredinol ac mewn unedau cleifion dementia, gwella arfer o ran rhoi presgripsiynau i bobl â dementia a gwella a chefnogi ansawdd bywyd i ofalwyr pobl â dementia.
I wrote to you in July 2010, describing how I charged the NHS with delivering real change to those diagnosed with dementia and their carers. I explained that the Mental Health Programme Board will now provide the direction and leadership to drive these changes forward, and the Local Health Boards, within the Annual Quality Framework Targets, will implement the Intelligent Targets for dementia. The Intelligent targets will drive service improvements including reducing time between onset of symptoms and diagnosis, quality of care on both general hospital wards and in dementia in patient units , improve prescribing practice for people with dementia and improve and support quality of life for the carers of people with dementia.
Bwrdd y Rhaglen Iechyd Meddwl sy'n ysgogi'r agenda hon, gan sicrhau'r momentwm i wella'r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau. Gwnaed cynnydd da hyd yn hyn; bellach mae is-grŵp Dementia o Fwrdd y Rhaglen Iechyd Meddwl wedi'i sefydlu.
The Mental Health and Programme Board is driving this agenda forward, providing the momentum to improve service development and delivery. It has made good progress to date; a Dementia sub-group of the Mental Health Programme Board is now established.
Nod arall yw gwella adnoddau hyfforddi ac arbenigedd y rhai sy'n gweithio gyda chleifion dementia i wella arfer, a gwneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywyd pobl â dementia a'u gofalwyr. I'r diben hwnnw, neilltuwyd £400,000 yn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol nesaf er mwyn gwella gwybodaeth a hyfforddiant o ran dementia. Caiff amrywiaeth o hyfforddiant ei ddarparu i amrywiaeth o bobl, fel staff teleofal, gofalwyr yn y teulu, meddygon teulu, ac mewn ysbytai cyffredinol, cartrefi gofal a lleoliadau cymunedol.
Another goal is to improve training capacity and expertise of those who work with dementia patients to improve practice, and make a real difference to the quality of life of people with dementia and their care-givers. To that end an additional £400k was made available in this financial year and the next financial year to improve information and training on dementia. A raft of training will be delivered which will be delivered to a variety of people, such as telecare staff, family care-givers, GPs, and in general hospitals, care homes and community settings.