cymraeg
stringlengths
1
11.5k
english
stringlengths
1
11.1k
Bydd y streic yn para am bedwar diwrnod cyn diwrnodau gŵyl banc y Pasg, ar ddydd Gwener 29 Mawrth a dydd Llun 1 Ebrill.
The strike will last for four days ahead of Easter bank holidays on Friday March 29th and Monday April 1st.
Gallai gymryd mwy o amser nag arfer i wasanaethau meddygon teulu a fferyllfeydd brosesu presgripsiynau yn ystod y cyfnod hwn. Felly, mae pobl hefyd yn cael eu hannog i weithredu er mwyn bod yn siŵr na fyddant yn rhedeg allan o feddyginiaethau tra bydd y meddygfeydd a'r fferyllfeydd ar gau ar y diwrnodau gŵyl banc.
It may take longer for GP and pharmacy services to process prescriptions during this period so people are also being urged to act so they don’t run out of medicines whilst surgeries and pharmacies are closed on the bank holidays.
Ychwanegodd Judith Paget:
Judith Paget added:
Os ydych chi'n derbyn presgripsiynau rheolaidd, cynlluniwch ymlaen llaw cyn gŵyl banc y Pasg.
If you receive repeat prescriptions, plan ahead before the Easter bank holidays.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich presgripsiynau rheolaidd o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw.
Make sure you order your repeat prescriptions at least seven days in advance.
Datganiad Ysgrifenedig: Penodiadau i Gabinet Llywodraeth Cymru
Written Statement: Cabinet appointments to the Welsh Government
Vaughan Gething AS, Prif Weinidog
Vaughan Gething MS, First Minister
Rwy’n eithriadol o falch o allu dwyn ynghyd lywodraeth o bob cwr o Gymru. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd dros ein cenedl gyfan, a bydd gwleidyddiaeth flaengar wrth galon y Llywodraeth. Yn benodol, rwy’n falch o benodi Gweinidog dros Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd pob plentyn.
I am incredibly proud to bring together a government drawn from all parts Wales to work together for the whole of our nation, with progressive politics at its heart. In particular, I am pleased to appoint a Minister for Mental Health and Early Years to ensure we deliver in the first 1,000 days of the life of every child.
Bydd y tîm Gweinidogol hwn yn ateb galwad y genhedlaeth nesaf i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach. Byddwn yn gweithredu i gryfhau’r economi drwy roi cyfleoedd i bawb, a glynu’n gadarn wrth ein hymrwymiad i bontio’n deg at sero net. Yn sgil ein nod o gyflawni ffyniant gwyrdd, crëwyd swydd newydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.
This Ministerial team will answer the call of the generation in waiting to create a stronger, fairer, greener Wales. We will take action to strengthen our economy by providing opportunities for everyone and being steadfast in our commitment to a just transition to net zero. Our goal to deliver green prosperity is reflected by the creation of a new Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language.
Rwy’n credu mewn Cymru sy’n deall y gallwn ddathlu’n gwahaniaethau, ac ymfalchïo yn yr holl bethau sy’n ein tynnu ynghyd ac yn creu ein hunaniaeth. Er y bydd sawl her ar y ffordd o’n blaen, mae gennym gyfleoedd sy’n fwy na’r heriau hynny. Rwy’n uchelgeisiol am y gwaith y bydd y tîm hwn yn ei gyflawni i wneud Cymru’n lle gwell eto.
I believe in a Wales that recognises that we can celebrate our differences and take pride in all of those things that draw us together and make us who we are. While there will be many challenges ahead, there are even greater opportunities. I am ambitious about the work this team will do to make Wales an even better place.
Y Prif Weinidog Vaughan Gething yn cyhoeddi Cabinet Newydd Llywodraeth Cymru
First Minister Vaughan Gething announces new Welsh Government Cabinet
Mae Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi ei dîm Gweinidogol i weithio dros Gymru llawn optimistiaeth, uchelgais a chyfleoedd.
First Minister Vaughan Gething has announced his Ministerial team for a Wales full of optimism, ambition and unity.
Dywedodd Vaughan Gething:
Vaughan Gething said:
Rwy’n eithriadol o falch o allu dwyn ynghyd lywodraeth o bob cwr o Gymru. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd dros ein cenedl gyfan, a bydd gwleidyddiaeth flaengar wrth galon y Llywodraeth. Yn benodol, rwy’n falch o benodi Gweinidog dros Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd pob plentyn.
I’m incredibly proud to bring together a government drawn from all parts of Wales to serve the whole of our nation, with progressive politics at its heart. In particular, I am pleased to appoint a Minister for Mental Health and Early Years to ensure we deliver in the first 1,000 days of the life of every child.
Bydd y tîm Gweinidogol hwn yn ateb galwad y genhedlaeth nesaf i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach. Byddwn yn gweithredu i gryfhau’r economi drwy roi cyfleoedd i bawb, a glynu’n gadarn wrth ein hymrwymiad i bontio’n deg at sero net. I adlewyrchu ein nod o sicrhau ffyniant gwyrdd, rydym wedi creu swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.
This Ministerial team will answer the call of the generation in waiting, to create a stronger, fairer, greener Wales. We will take action to strengthen our economy by providing opportunities for everyone and being steadfast in our commitment to a just transition to net zero. Our goal to deliver green prosperity is reflected by the creation of a new Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language.
"Rwy’n credu mewn Cymru sy’n deall y gallwn ddathlu’n gwahaniaethau, ac ymfalchïo yn yr holl bethau sy’n ein tynnu ynghyd ac yn creu ein hunaniaeth. Er y bydd sawl her ar y ffordd o’n blaen, mae gennym gyfleoedd sy’n fwy na’r heriau hynny. Rwy’n uchelgeisiol am y gwaith y bydd y tîm hwn yn ei gyflawni i wneud Cymru’n lle gwell eto.Y Prif Weinidog - Vaughan GethingY Darpar Gwnsler Cyffredinol - Mick AntoniwYsgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg - Jeremy MilesYsgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Eluned MorganYsgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet - Rebecca EvansYsgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio - Julie JamesYsgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Lynne NeagleYsgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth - Ken SkatesYsgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig - Huw Irranca DaviesYsgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol - Lesley GriffithsY Prif Chwip a’r Trefnydd - Jane HuttY Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol - Hannah BlythynY Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar - Jayne BryantY Gweinidog Gofal Cymdeithasol - Dawn Bowden
I believe in a Wales that recognises that we can celebrate our differences and take pride in all those things that draw us together and make us who we are. While there will be many challenges ahead, there are even greater opportunities. I am ambitious about the work this team will do to make Wales an even better place.First Minister - Vaughan GethingCounsel General-designate - Mick Antoniw MSCabinet Secretary for Economy, Energy & Welsh Language - Jeremy Miles MSCabinet Secretary for Health & Social Care - Eluned Morgan MSCabinet Secretary for Finance, Constitution & Cabinet Office - Rebecca Evans MSCabinet Secretary for Housing, Local Government & Planning - Julie James MSCabinet Secretary for Education - Lynne Neagle MSCabinet Secretary for North Wales and Transport - Ken Skates MSCabinet Secretary for Climate Change & Rural Affairs - Huw Irranca Davies MSCabinet Secretary for Culture and Social Justice - Lesley GriffithsChief Whip & Trefnydd - Jane Hutt MSMinister for Social Partnership - Hannah Blythyn MSMinister for Mental Health & Early Years - Jayne Bryant MSMinister for Social Care - Dawn Bowden MS
Cylchlythyr i ymarferwyr ar driniaethau arbennig: Gorffennaf 2019
Special procedures licensing newsletter: July 2019
Diweddariad i ymarferwyr ar y cynllun trwyddedu newydd ar gyfer aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio.
Practitioners' update on the new licensing scheme for acupuncture, body piercing, electrolysis and tattooing.
Mae triniaethau arbennig yn cynnwys hefyd:colur lled-barhaolelectrolysisacwbigo
Special procedures also include:semi-permanent make upelectrolysisacupuncture
Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Ionawr a Chwefror 2024
Welsh Government response to latest NHS Wales performance data: January and February 2024
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gafodd eu cyhoeddi heddiw (21ain Mawrth).
The Welsh Government has responded to the latest NHS performance data published today (March 21st).
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
A Welsh Government spokesperson said:
Am y trydydd mis yn olynol, mae’r nifer sydd ar restrau aros yn gyffredinol wedi gostwng.
For the third month in a row the overall waiting list number has come down.
Gwnaeth nifer y llwybrau sy’n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth hefyd ostwng eto, a hynny am yr ail fis ar hugain yn olynol.
The number of pathways waiting more than two years for treatment also fell again, for the 22nd consecutive month.
O ystyried bod y ffigurau diweddaraf yn berthnasol i gyfnod pan welwyd gweithredu diwydiannol, a chan gadw mewn cof hefyd y pwysau arferol ar y system a welwyd ym mis Ionawr, mae hwn yn gyflawniad nodedig gan staff y GIG sy’n gweithio mor galed.
This is a remarkable achievement by our hard-working NHS staff considering it included a period of industrial action as well as the usual pressures on the system seen in January.
Roedd yr amseroedd ymateb cyfartalog i alwadau lle mae bywyd yn y fantol (galwadau coch) 10 eiliad yn gyflymach o’u cymharu â’r mis blaenorol, a chafodd 80% ymateb ymhen 15 munud.
Average response times to immediately life-threatening (red) calls were 10 seconds faster when compared to the previous month, with 80% receiving a response in 15 minutes.
Roedd cyfran y galwadau coch yn gydradd drydydd ymhlith yr uchaf ar gofnod. Rydym yn disgwyl gweld byrddau iechyd yn rhoi blaenoriaeth i wella eu perfformiad wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans, er mwyn cefnogi ymatebion ambiwlans mwy amserol.
The proportion of red calls was the joint third highest on record. We expect to see health boards improve ambulance patient handover performance as a priority to support more timely ambulance responses.
Yn yr adrannau achosion brys, roedd cleifion yn aros 18 a 58 munud ar gyfartaledd i gael eu brysbennu ac yna eu hasesu gan glinigydd, yn y drefn honno.
The average time patients waited for triage and then to be assessed by a clinician in emergency departments was 18 and 58 minutes respectively.
Rydym wedi herio byrddau iechyd i wella ar yr amseroedd hyn ac i wneud gwelliannau mewn perthynas â mesurau allweddol eraill hefyd fel rhan o’n 'Datganiad ansawdd ar gyfer gofal mewn adrannau achosion brys', a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf.
We have challenged health boards to make improvements on these and other key measures as part of our new 'Quality statement for care in emergency departments', published last week.
Mae hefyd yn braf gweld mwy o bobl yn dechrau ar eu triniaeth gyntaf ar gyfer canser ym mis Ionawr nag yn y mis blaenorol, a bod mwy o bobl wedi cael gwybod nad oes ganddyn nhw ganser.
It is also pleasing to see more people started their first treatment for cancer in January than the previous month, and more people being told they don’t have cancer.
Gwellodd yr amser aros cyfartalog am driniaeth hefyd, ac roedd gostyngiad am y trydydd mis yn olynol yn nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am brofion diagnostig ac am therapïau.
The average waiting time for treatment also improved, while the number of patient pathways waiting for diagnostics and therapies each fell for a third consecutive month.
Fodd bynnag, mae’n siomedig gweld bod nifer y rhai sy'n aros blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol wedi cynyddu eto.
It is disappointing to see one-year waits for a first outpatient appointment increase again however.
Ym mis Chwefror, gwnaethom ni hefyd weld cynnydd yng nghyfanswm yr oedi yn achos llwybrau gofal o’i gymharu â’r mis blaenorol, sy’n arwydd o’r anawsterau yn sgil effaith pwysau’r gaeaf ar ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Er bod cyfanswm Cymru wedi cynyddu, rydym hefyd wedi gweld rhai gwelliannau calonogol mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.
February also saw an increase in the total number of pathways of care discharge delays compared to the previous month, which reflects the difficulties of the impacts of winter pressures on both our health and social care sectors. Although the total for Wales has increased we have also seen some encouraging improvements within some regions in Wales.
Mae llawer mwy i’w wneud o hyd. Ond mae’r tueddiad o ran y prif ystadegau yn symud i’r cyfeiriad cywir, ac mae hynny wedi ein calonogi.
There remains much more to do, but we are encouraged by the direction in which the major statistics are trending.