cymraeg
stringlengths
1
11.5k
english
stringlengths
1
11.1k
Gan droi at ein cynlluniau arfaethedig mwy o faint, mae'r rhaglen yn ymrwymo i barhau â'r gwaith adeiladu yn Stephenson Street, Casnewydd, un o'r cynlluniau lliniaru llifogydd mwyaf a luniwyd erioed gan CNC. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn lleihau'r risg i 800 o eiddo. Rydym hefyd yn darparu £800mil i CNC i wneud gwaith cynnal a chadw cyfalaf yn Sandycroft, Sir y Fflint, gan leihau'r risg i fwy na 200 o eiddo mewn cymuned a brofodd lifogydd sylweddol ym mis Hydref 2023. Eleni hefyd bydd gwaith adeiladu'n dechrau yn Llanfairfechan, Conwy, wrth i'r awdurdod lleol fwriadu buddsoddi £1.4m yn yr amddiffynfeydd môr er mwyn lleihau'r risg i 43 o eiddo. Rydym hefyd wedi sicrhau bod £1.1m ar gael i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i roi cynllun ar waith yn Stryd Edwards, Ystrad Mynach, a £550mil i Gyngor Sir Penfro ar gyfer ei gynllun Lower Priory and Havens Head. Bydd hyn o fudd i ddwy gymuned y mae llifogydd wedi effeithio arnynt o'r blaen.
Turning to our larger planned schemes, the programme commits to continue construction at Stephenson Street, Newport, one of the largest flood alleviation schemes ever constructed by Natural Resources Wales (NRW). Once completed, it will reduce risk to 800 properties. We are also providing NRW with £800k to carry out capital maintenance works at Sandycroft, Flintshire, reducing the risk to more than 200 properties in a community which experienced significant flooding in October 2023. This year will also see construction works commence at Llanfairfechan, Conwy, as the local authority looks to invest £1.4m in the sea defences to reduce risk to 43 properties. We have also made £1.1m available to Caerphilly County Borough Council to construct a scheme at Edwards Street, Ystrad Mynach, and £550k to Pembrokeshire County Council for their Lower Priory and Havens Head scheme. This will benefit 2 communities who have previously been impacted by flooding.
Rydym hefyd yn agosáu at ddiwedd ein Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol (CRMP) helaeth. Gwelodd y rhaglen fuddsoddi £288m dros 5 mlynedd trwy fanteisio ar bwerau benthyg y sector cyhoeddus. Bydd y 3 chynllun CRMP terfynol yn dechrau ar y gwaith adeiladu cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Byddwn yn buddsoddi £16.6m ym Mae Cinmel, £4m yng Ngerddi Traphont Abermaw a £4m yn Llandudno. Ar ôl ei chwblhau, bydd CRMP wedi ariannu 15 cynllun ledled y wlad, gan roi budd i dros 15,000 o eiddo. Roedd hwn yn gyfle unigryw i'n hawdurdodau morol fanteisio ar filiynau o bunnau o gyllid a gwella cydnerthedd eu cymunedau arfordirol, gan gadw pobl yn ddiogel am genedlaethau i ddod.
We are also nearing the end of our extensive Coastal Risk Management Programme. The programme has seen £288m worth of concentrated investment over 5 years by utilising public sector borrowing powers. The final 3 CRMP schemes will commence construction before the end of this financial year. We will be investing £16.6m in Kinmel Bay, £4m in Barmouth Viaduct Gardens and £4m in Llandudno. Once completed, the CRMP programme will have funded 15 schemes across Wales, benefitting over 15,000 properties. This was a unique opportunity for our maritime authorities to access millions of pounds in funding and improve the resilience of their coastal communities, keeping people safe for generations to come.
Mae ein rhaglen FCERM yn cydnabod hefyd y rôl hanfodol y bydd atebion sy'n seiliedig ar natur yn ei chwarae i leihau llifogydd yn y dyfodol. Bydd y Rhaglen Sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM), a gafodd ei lansio ym mis Hydref 2023, yn arwain at fuddsoddi £4.6m arall mewn atebion seiliedig ar natur ledled y wlad. Mae'r rhaglen yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda ffermwyr, perchnogion tir a mudiadau trydydd sector ledled Cymru. Bydd yn golygu gweithio gyda phrosesau naturiol i wella ein hamgylchedd naturiol, cynyddu nifer y cynefinoedd gwlyptir a choetir, a lleihau'r perygl o lifogydd i hyd at 2,000 eiddo. Bydd yn ariannu 23 o brosiectau yn ardaloedd 8 awdurdod gwahanol. Mae ein Strategaeth Genedlaethol yn datgan bod Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn rhan hollbwysig o’n hymdrechion i leihau’r perygl o lifogydd yng Nghymru. Bydd Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn gwella bioamrywiaeth, yn dal carbon ac yn lleihau llygredd. Yn ogystal â gwella ein dealltwriaeth o ddulliau naturiol o reoli llifogydd, bydd y rhaglen sbarduno’n cynyddu nifer y cynlluniau NFM ledled Cymru ac yn ein rhoi ar y trywydd cywir i wireddu ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu erbyn 2026. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud fel rhan o’r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru.
Our FCERM programme also recognises the crucial role that nature-based solutions will play in alleviating flooding in the future. The Natural flood Management (NFM) Accelerator Programme, launched in October 2023, will see a further £4.6m invested in nature-based solutions throughout Wales. The programme demonstrates our commitment to working with Welsh farmers, landowners, and third sector organisations throughout Wales. It will work with natural process to improve our natural environment, increase the amount of wetland and woodland habitats, and lower flood risk to up to 2,000 properties. It will fund 23 projects spread across 8 different Authority areas. Our National Strategy identifies Natural Flood Management as a crucial component to reducing the risk of future flooding in Wales. Natural flood management will improve biodiversity, increase carbon capture and reduce pollution. As well as improving our understanding of natural flood management, the accelerator programme will increase the number of NFM schemes throughout Wales and put us on track to deliver our Programme for Government Commitment by 2026. This work is being undertaken as part of our cooperation agreement with Plaid Cymru.
Gyda chyllidebau anodd a newid hinsawdd ar gynnydd, mae’r rhaglen hon yn dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi i reoli perygl llifogydd, gan helpu’n cymunedau i addasu ac i gadw’n saff at y dyfodol.
At a time of challenging budgets and accelerating climate change, this programme demonstrates our commitment to investing in flood risk management, keeping our communities safe and adaptable for generations to come.
Datganiad Ysgrifenedig: Ailgydbwyso Gofal a Chymorth
Written Statement: Rebalancing Care and Support
Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan MS, Deputy Minister for Social Services
Ym mis Tachwedd 2023, rhoddais wybod i'r Aelodau mewndatganiad llafaram ganlyniad yr ymgynghoriad ar y rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth. Cyhoeddaisddatganiad ysgrifenedigym mis Rhagfyr 2023 yn nodi'r cynllun gweithredu cychwynnol ar gyfer ein gweledigaeth ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yng Nghymru.
In November 2023, I informed Members, in anoral statementabout the outcome of the Rebalancing Care and Support programme consultation. I published awritten statementin December 2023 setting out the initial implementation plan for our vision for a National Care Service in Wales.
Heddiw, rwy'n rhoi diweddariad pellach ar gynnydd y rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth wrth inni symud tuag at weithredu. Mae hon yn rhaglen uchelgeisiol, a fydd yn sefydlu'r sylfeini allweddol sydd eu hangen i gyflawni ein hymrwymiad ar y cyd yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru i weledigaeth hirdymor o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Mae hefyd yn elfen bwysig o gam cyntaf yCynllun Gweithredu Cychwynnol.
Today, I am providing a further update about the progress of the Rebalancing Care and Support programme as we move towards implementation. This is an ambitious programme, which will establish the key building blocks required to achieve our shared commitment within the Co-operation Agreement with Plaid Cymru, of a longer-term vision of creating a National Care Service and forms a significant element of the first stage of theInitial Implementation Plan.
Bydd tri phrif faes ffocws ar gyfer y rhaglen Ailgydbwyso.
There will be three main areas of focus for the rebalancing programme.
Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yw'r fframwaith deddfwriaethol. Bydd yn cael ei sefydlu drwy god ymarfer statudol, a fydd yn gymwys i gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG, ac awdurdodau lleol. Mae'r Fframwaith Cenedlaethol wedi'i gydgynhyrchu gan aelodau o grŵp technegol cenedlaethol a'i ddiwygio a'i gryfhau gan ddefnyddio'r adborth a gafwyd drwy'r ymgynghoriad. Bydd yn gosod yr egwyddorion a'r safonau ar gyfer comisiynu ymarfer a lleihau cymhlethdodau. Bydd y cod drafft yn cael ei osod gerbron y Senedd cyn bo hir, ac yn dod i rym ym mis Medi.
The National Framework for the Commissioning of Care and Support is the legislative framework. It will be established through a statutory code of practice, which will apply to the commissioning of care and support services by health boards, NHS trusts, and local authorities. The national framework has been co-produced by members of a national technical group and revised and strengthened using the feedback received through the consultation. It will set the principles and standards for commissioning practice and reduce complexity. The draft code will shortly be laid before the Senedd, and come into force in September.
Er mwyn cefnogi comisiynwyr i gyflawni'r egwyddorion a'r safonau a nodir yn y cod, byddwn yn sefydlu pecyn cymorth digidol o arferion da. Bydd y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth yn arwain ar y gwaith hwn yn ystod ei blwyddyn gyntaf.
To support commissioners to deliver the principles and standards set out in the code, we will put in place a digital toolkit of good practice. The National Office for Care and Support will lead on this work during its first year.
Mae'r Swyddfa Genedlaethol yn rhan bwysig arall o'n rhaglen. Croesawodd llawer o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad y Swyddfa Genedlaethol, gan ddweud y byddai'n cryfhau gofal cymdeithasol ac yn rhoi'r llais sydd ei angen arno ar lefel genedlaethol. Mae'r adborth adeiladol a gawsom hefyd wedi ein helpu i'w datblygu'n well.
The National Office is another important part of our programme. Many of the respondents to the consultation welcomed the National Office, saying it would strengthen social care and provide it with the voice it needs at a national level. The constructive feedback we also received has helped to refine its development.
Bydd y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth yn cael ei sefydlu o fis Ebrill 2024 ymlaen a bydd y ffocws cychwynnol ar dri maes craidd, yn ogystal â mabwysiadu dull gweithredu cydweithredol sy'n edrych tuag allan. Y tri maes yw:Cefnogi Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol CymruDatblygu, gweithredu a darparu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol Cymru yn barhausGweithredu a rheoli'r Fframwaith Cenedlaethol yn barhaus.
The National Office for Care and Support will be established from April 2024 with an initial focus on three core areas in addition to taking an outward facing, collaborative approach.:Supporting the Chief Social Care Officer for WalesThe development, implementation, and ongoing delivery of the National Care Service for WalesImplementation and ongoing management of the National Framework.
Gwerth craidd y Swyddfa Genedlaethol fydd: "Darparu cymorth arweiniol canolog i'r sector drwy ysgogi gwelliannau yn y ddarpariaeth genedlaethol o ofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn sicrhau cydweithio; a chanlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i ddefnyddwyr gwasanaethau".
The core value statement of the National Office will be: “To provide a central guiding hand to the sector through driving improvement in the national delivery of social care in Wales to achieve collaboration, better and more equitable outcomes, access, and service-user experience”.
Y trydydd maes ffocws yw cryfhau gweithio mewn partneriaeth ac integreiddio gwasanaethau drwy ddiwygio'r Cod Ymarfer Rhan 2 ar swyddogaethau gofal cymdeithasol cyffredinol awdurdodau lleol, a thrwy ddiwygio'r rheoliadau a'r canllawiau statudol ar drefniadau partneriaeth.
The third area of focus is on strengthening partnership working and the integration of services by revising the Part 2 Code of Practice on the general social care functions of local authorities, and by amending the regulations and statutory guidance on partnership arrangements.
Mae'r diwygiadau i'r Cod Rhan 2 wedi canolbwyntio'n bennaf ar egluro'r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr gwasanaethau a'r trydydd sector – ac ar bwysigrwydd ymgysylltu a chydgynhyrchu â dinasyddion wrth ddylunio a darparu gofal a chymorth, a rhoi llais iddynt yn y gwaith hwnnw.
The revisions to the Part 2 Code have focused primarily on clarifying the duty on local authorities to promote social enterprises, co-operatives, user-led services and the third sector – and on the importance of citizen engagement, voice and co-production in the design and delivery of care and support.
Bydd y Cod Rhan 2 newydd yn cael ei osod ochr yn ochr â'r Fframwaith Cenedlaethol a bydd yn dod i rym ar yr un dyddiad.
The new Part 2 Code will be laid alongside the National Framework and will come into force on the same date.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi'n fuan set o ddiwygiadau i Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) er mwyn ymgynghori arnynt, gyda'r nod o gryfhau rôl a swyddogaethau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
We will also shortly be publishing for consultation a set of amendments to the Partnership Arrangements (Wales) Regulations, aimed at strengthening the role and functions of the Regional Partnership Boards (RPBs).
Mae hyn yn cynnwys ehangu amcanion y Byrddau ac estyn eu haelodaeth; sicrhau bod eu haelodau – yn eu plith dinasyddion, gofalwyr di-dâl a'r rhai sy'n gweithio yn trydydd sector yn cael eu cefnogi'n well; ac egluro trefniadau cynllunio ac adrodd. Y nod cyffredinol yw gwreiddio arferion gorau presennol yn y fframwaith deddfwriaethol, sy'n llywodraethu gwaith partneriaethau rhanbarthol, a sicrhau bod y rheoliadau a'r canllawiau yn adlewyrchu'n llawn y ffordd y mae'r Byrddau wedi datblygu ac aeddfedu ers iddynt gael eu sefydlu yn 2016.
This includes broadening the RPBs’ objectives and extending their membership; ensuring their citizen, unpaid carer and third sector members are better supported; and clarifying planning and reporting arrangements. The overall aim is to hard wire existing best practice into the legislative framework, under which regional partnerships work, and to ensure that the regulations and guidance fully reflect the way in which the RPBs have developed and matured since they were set up in 2016.
Wrth lunio'r rheoliadau drafft hyn, roedd yr adborth eang a gafwyd drwy'r ymgynghoriad ar y rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth yn help mawr.
In drawing up these draft regulations, we were greatly helped by the wide-ranging feedback from the Rebalancing Care and Support consultation.
Rydym yn bwriadu cyflwyno rheoliadau a chanllawiau statudol wedi'u diweddaru yn ystod tymor yr hydref, a bydd y rhain yn dod i rym ar 31 Rhagfyr.
We intend to bring forward regulations and updated statutory guidance in the autumn term, with a coming into force date of 31 December.
Datganiad Ysgrifenedig: Diwygiadau i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU i gefnogi sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Written Statement: Amendments to UK Government legislation to support the establishment of the Commission for Tertiary Education
Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Lynne Neagle MS, Cabinet Secretary for Education
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Deddf 2022) yn darparu ar gyfer sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (y Comisiwn) a diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
The Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 (the 2022 Act) provides for the establishment of the Commission for Tertiary Education and Research (the Commission) and the dissolution of the Higher Education Function Council for Wales (HEFCW).
Y Comisiwn fydd y stiward cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil cyfan, gan ddwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch ac addysg bellach, darpariaeth chweched dosbarth, prentisiaethau a gwaith ymchwil ac arloesi yng Nghymru mewn un lle. Trwy’r diwygiadau y darperir ar eu cyfer yn Neddf 2022, rydym yn ceisio llunio strwythur a system newydd i gefnogi dysgwyr yn well a rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddysgu, datblygu a llwyddo gydol eu hoes.
The Commission will be the first ever national steward for the whole tertiary education and research sector, bringing together responsibility for overseeing Wales' higher and further education, school sixth forms, apprenticeships and research and innovation in one place.  Through the reforms provided for in the 2022 Act we are seeking to shape a new structure and system to better support learners, and provide them with the knowledge and skills for lifelong learning, development and success.
Mae angen nifer fach o ddiwygiadau technegol sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd o ganlyniad i Ddeddf 2022.
A small number of technical amendments that are outside the Senedd’s legislative competence are required as a consequence of the 2022 Act.
Pan fo materion sy'n codi o ddeddfwriaeth y Senedd yn gofyn am ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gellir datblygu Gorchymyn o dan adran 150 'Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol' o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn partneriaeth â Llywodraeth San Steffan.
When issues arising from Senedd legislation require amendments to legislation beyond the Senedd’s legislative competence, an Order under section 150 ‘Power to make consequential provision’ of the Government of Wales Act 2006 can be developed in partnership with the Westminster Government.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwneud Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024. Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i'r ddeddfwriaeth ganlynol i ddileu cyfeiriadau at CCAUC, ychwanegu cyfeiriadau at y Comisiwn a gwneud diwygiadau technegol mewn perthynas â darpariaethau sy'n cael eu diddymu o ganlyniad i Ddeddf 2022:Deddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 - dileu'r cyfeiriad at aelodau CCAUC sy'n derbyn tâl a mewnosod cyfeiriad at aelodau'r Comisiwn sy'n derbyn tâl fel y bydd unrhyw aelod o'r Comisiwn sy'n derbyn tâl yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelodau o Dŷ'r Cyffredin.Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 - amnewid cyfeiriadau at CCAUC a Gweinidogion Cymru gyda chyfeiriad at y Comisiwn fel y bydd y Comisiwn yn cael ei ddiffinio fel awdurdod perthnasol at ddibenion adran 82 o'r Ddeddf honno a bod yn rhaid iddo, os cyfarwyddir iddo wneud hynny gan yr Ysgrifennydd Gwladol, wneud darpariaeth ar y cyd ag awdurdod perthnasol arall, neu'r Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas ag asesu ansawdd addysg uwch.Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 – pennu'r Comisiwn fel awdurdod cyhoeddus at ddibenion y Ddeddf honno a dileu'r cyfeiriad at CCAUC. Newid y diffiniad o sefydliad yng Nghymru.Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 – amnewid cyfeiriad at CCAUC gyda chyfeiriad at y Comisiwn er mwyn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy rybudd, i ddirprwyo swyddogaethau awdurdod monitro mewn perthynas â chyrff addysg uwch perthnasol yng Nghymru i'r Comisiwn.Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 - amnewid cyfeiriad at CCAUC gyda chyfeiriad at y Comisiwn er mwyn galluogi'r Comisiwn i arfer ei swyddogaethau cyllido ar y cyd ag awdurdod perthnasol arall, lle byddai arfer y swyddogaeth ar y cyd yn fwy effeithlon, neu y byddai'n eu galluogi i arfer eu swyddogaethau'n fwy effeithiol. Dileu gwelliannau sy'n cael eu disodli gan ddiwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn.
The Secretary State for Wales has made the  Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 (Consequential Amendments) Order 2024. This Order provides for consequential amendments to the following legislation to remove references to HEFCW, add references to the Commission and make technical amendments in relation to provisions that are being repealed as a consequence of the 2022 Act:House of Commons Disqualification Act 1975 - removing the reference to members of HEFCW in receipt of remuneration and inserting reference to members of the Commission in receipt of remuneration so that any member of the Commission in receipt of remuneration will be disqualified from membership of the House of Commons.Further and Higher Education Act 1992 – substituting references to HEFCW and the Welsh Ministers with a reference to the Commission so that the Commission will be defined as a relevant authority for the purposes of section 82 of that Act and must, if directed to do so by the Secretary of State, make provision jointly with another relevant authority, or the Secretary of State, in relation to quality assessment of higher education.Freedom of Information Act 2000 – specifying the Commission as a public authority for the purposes of that Act and removing reference to HEFCW. Replacing the definition of an institution in Wales.Counter-Terrorism and Security Act 2015 – substituting reference to HEFCW with a reference to the Commission to enable the Secretary of State, by notice, to delegate the functions of a monitoring authority in relation to relevant higher education bodies in Wales to the Commission.Higher Education and Research Act 2017 – substituting reference to HEFCW with reference to the Commission to enable the Commission to exercise its funding functions jointly with another relevant authority, where exercising the function jointly would be more efficient, or would enable them more effectively to exercise their functions. Removing amendments which are superseded by amendments made by this Order.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so.
Peidiwch â cholli'r cyfle i gael help gyda hanfodion ysgol
Don’t miss out on help with school essentials
Mae 88% o'r rhai sy'n gymwys wedi hawlio eu grant Hanfodion Ysgol am ddim i helpu gyda chostau fel gwisg ysgol, esgidiau, bagiau, dillad chwaraeon ac offer. Ydych chi wedi hawlio eich grant chi?
88% of those eligible have claimed their free School Essentials grant to help with costs like school uniform, shoes, bags, sports kit and equipment. Have you claimed yours?
Gall plant teuluoedd ar incwm is sy'nderbyn budd-daliadau penodol, y rhai sy'n ceisio lloches a phlant mewn gofal hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol. Oherwydd y gost ychwanegol y gallai teuluoedd ei hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion sy'n mynd i flwyddyn 7. Gallai hefyd olygu cyllid ychwanegol i'ch ysgol.
Children of families on lower incomes whoreceive certain benefits, those seeking asylum and children in care can claim £125 per year to help with school costs. Because of the extra cost families might face when their children start secondary school, £200 is available for eligible pupils going into year 7. It could also mean extra funding for your school.
Nid yw'n rhy hwyr iwirio cymhwystra a gwneud cais am gyllid ar gyfer elenicyn i'r cyfnod ymgeisio ddod i ben ar 31 Mai.
There’s still time tocheck eligibility and apply for this year’s fundingnow before applications close on 31 May.
Gallwch wneud cais bob blwyddyn ar gyfer pob un o'ch plant. Mae disgyblion o bob math o leoliadau addysg yn gymwys cyn belled â'u bod rhwng 4 (yn y dosbarth derbyn) ac 16 oed. Mae hyn yn berthnasol i ddisgyblion ym mhob ysgol a lleoliad, gan gynnwys ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.
You can apply every year for each of your children. Pupils from all kinds of education settings are eligible as long as they are aged 4 (in Reception) to 16. This applies to pupils in all schools and settings, including special schools and pupil referral units.
Eglurodd Pennaeth Ysgol Gymunedol Trimsaran, Steffan Jones, sut mae'r grant yn helpu disgyblion yn ei ysgol:
Headteacher of Ysgol Gymunedol Trimsaran, Steffan Jones, explained how the grant helps pupils at his school:
Rydych chi am i bob plentyn gael ei drin yr un fath, ac rydych chi am i bob plentyn gael yr un profiadau. Mae'r grantiau hyn yn helpu, fel y gall pob plentyn gymryd rhan a mwynhau ei amser yn yr ysgol, nid dim ond y rhai sy'n gallu fforddio hynny.
You want every child to be treated the same, and you want every child to have the same experiences. These grants do help, so that all children can get involved and enjoy their time at school, not just those who can afford it.
Gallwch ddefnyddio'r grant i dalu am y canlynol:gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiaugweithgareddau ysgol, fel dysgu offeryn cerddorol, dillad chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgolhanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, fel pennau ysgrifennu, pensiliau a bagiau
The grant can be used to pay for:school uniform, including coats and shoesschool activities, like learning a musical instrument, sports kit and equipment for after school activitiesclassroom essentials, like pens, pencils and bags
Hyd yn oed os yw eich plentyn eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim, mae dal angen i chi wirio os ydych yn gymwys i gael y Grant Hanfodion Ysgol a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol. Am fwy o wybodaeth am y Grant Hanfodion Ysgolion ac i wirio os ydych yn gymwys, ewch iHawliwch help gyda chostau ysgol | LLYW.CYMRU.
Even if your child already receives a Free School Meal, you still need to check eligibility to access the School Essentials Grant and extra funding for your school. To find out more about the Schools Essentials Grant and to check eligibility, visitGet help with school costs | GOV.WALES.
Ffioedd deintyddol y GIG i gynyddu o fis Ebrill
NHS dental charges in Wales to increase from April
Bydd cost triniaeth ddeintyddol y GIG yng Nghymru yn cynyddu o 1 Ebrill 2024.
The cost of NHS dental treatment in Wales will increase from 1 April 2024.
Dyma'r cynnydd cyntaf mewn ffioedd deintyddol ers mis Ebrill 2020 ac ar y cyfan maent yn parhau i fod yn is nag yn Lloegr. Bydd unrhyw refeniw a gynhyrchir o'r ffioedd uwch hyn yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i wasanaethau deintyddol y GIG.
The increase in dental charges is the first since April 2020 and are overall still lower than in England. Any revenue generated from the increased charges will be re-invested back into NHS dentistry services.
O fis Ebrill 2024, bydd y tair ffi safonol yn cynyddu i rhwng £20.00 a £260.00 yn dibynnu ar y math o driniaeth sydd ei hangen a bydd cost triniaeth frys yn cynyddu i £30.00.
From April 2024, the three standard charges will increase to between £20.00 and £260.00 depending on the treatment required, and urgent treatment will increase to £30.00.
Ar hyn o bryd mae tua 50% o bobl yn cael triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim yng Nghymru. Mae'r rhai sy'n gymwys i gael triniaeth am ddim yn cynnwys plant o dan 18 oed neu'r rhai sy'n 18 oed ac mewn addysg llawn amser, menywod beichiog neu'r rhai sydd wedi cael babi o fewn 12 mis i ddechrau'r driniaeth, unrhyw un sy'n cael triniaeth ddeintyddol mewn ysbyty a phobl ar rai budd-daliadau penodol.
Around 50% of people receive NHS dental treatment for free in Wales. Those eligible for free treatment include children under 18 or those aged 18 and in full time education, pregnant women or those who have had a baby within the 12 months of treatment starting, anyone who has dentistry treatment carried out in a hospital or people on certain benefits.
Yn ogystal, mae'r cynllun incwm isel yn cynnig cymorth llawn, neu gymorth rhannol, gyda chostau iechyd, yn dibynnu ar amgylchiadau'r unigolyn.
Additionally, the low-income scheme provides full or partial help with health costs, depending on individual circumstances.
Er gwaethaf y pwysau ar gyllidebau, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r buddsoddiad ar gyfer deintyddiaeth, gan roi £27 miliwn yn fwy o gyllid o’i gymharu â 2018 i 2019. Wedi'i gynnwys yn y cynnydd hwn mae £2 filiwn ychwanegol y flwyddyn i fynd i'r afael â materion mynediad lleol.
Despite pressure on budgets the Welsh Government has increased investment for dentistry, with funding £27 million higher than it was in 2018 to 2019. Included within this increase is an additional £2 million a year to address local access issues.
Mae newidiadau i'r contract deintyddol yng Nghymru yn cynnwys gofyniad i bractisau'r GIG weld cleifion newydd. Ers ei gyflwyno ym mis Ebrill 2022 mae cyfanswm o 312,000 o bobl na allent gael apwyntiad o'r blaen wedi cael triniaeth ddeintyddol y GIG.
Changes to the dentistry contract in Wales include a requirement for NHS practices to see new patients. Since this was introduce in April 2022, 312,000 people who couldn’t get an appointment before have now received NHS dental treatment.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan:
Cabinet Secretary for Health and Social Care, Eluned Morgan, said:
Oherwydd y pwysau eithriadol ar ein cyllideb rydym wedi gorfod ystyried a ddylid codi cyllid ychwanegol drwy gynyddu ffioedd yn y maes deintyddol.
Because of the extreme pressure on our budget we have had to consider if additional funding should be raised by increasing dentistry charges.
Dyma'r cynnydd cyntaf rydym wedi'i wneud i ffioedd deintyddol ers 2020. Does dim rhaid i tua hanner y cleifion dalu am driniaeth ddeintyddol y GIG, a byddwn yn parhau i ddiogelu'r rhai sydd leiaf abl i fforddio i dalu.
This is the first increase we have made to dentistry charges since 2020. Around half of patients don’t pay for their NHS dental treatment and we will continue to protect those that are least able to afford to pay.
Mae'n hanfodol bod pob un ohonom yn cadw ein dannedd a'n deintgig yn iach. Dyna pam rydym yn gweithio i'w gwneud yn haws i bobl weld deintydd y GIG drwy gynyddu nifer y lleoedd GIG newydd a helpu deintyddion i ganolbwyntio ar y rhai sydd angen cymorth drwy newid pa mor aml rydym yn gweld deintydd ar gyfer apwyntiadau rheolaidd.
It is vital we all keep our teeth and gums healthy. This is why we are working to make it easier for people to see an NHS dentist by increasing the number of new NHS places and helping dentists to focus on those who need help by changing how often we see a dentist for routine appointments.
Gwybodaeth ychwanegol
Additional information
Mae mwy o wybodaeth am ffioedd ac eithriadau deintyddolar gael a bydd yn cael ei diweddaru ar 1 Ebrill 2024.
More information on dental charges and exemptionsis available and will be updated on 1 April 2024.
Gallgwiriwr ar-lein y GIGhefyd ddarparu gwybodaeth ynghylch a oes gan rywun hawl i gael help gyda chostau deintyddiaeth.
TheNHS online checkercan also provide information on if someone is entitled to help with dentistry costs.
Mae gan bob bwrdd iechyd drefniadau i ddarparu triniaeth, cyngor a chymorth deintyddol brys. Dylai pobl sy'n ceisio triniaeth gysylltu â'r llinell gymorth ddeintyddol neu GIG 111 a byddant yn gallu cael eu hasesu a oes angen triniaeth frys, neu a ellir gweld y claf cyn gynted â phosibl yn ystod oriau arferol.
All health boards have arrangements in place to provide emergency dental treatment, advice and support. People seeking treatment should contact the dental helpline or NHS 111 and they will be able to be assessed whether urgent treatment is needed, or whether the patient can be seen at the next earliest opportunity during normal hours.
Datganiad Ysgrifenedig: Adroddiad Seneddol Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) mis Mehefin i fis Rhagfyr 2023
Written Statement: Retained EU Law (REUL) Parliamentary Report June to December 2023
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad
Mick Antoniw MS, Counsel General for Wales and Minister for the Constitution
Rwyf yn ysgrifennu atoch i dynnu sylw'r Senedd at adroddiad statudol cyntaf Llywodraeth y DU i Senedd y DU o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, a gyhoeddwyd ar 22 Ionawr 2024:Retained EU Law Parliamentary Report June 2023 – December 2023(Saesneg yn Unig).
I am writing to draw the Senedd’s attention to the UK Government’s first statutory report to the UK Parliament under the Retained EU Law (Revocation and Reform) Act 2023, published on 22 January 2024:Retained EU Law Parliamentary Report June 2023 – December 2023.
Mae'r adroddiad yn crynhoi'r newidiadau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud gan ddefnyddio pwerau Deddf REUL rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2023. Mae Llywodraeth y DU yn datgan ei bod ar y trywydd iawn o ran diwygio neu ddirymu mwy na hanner stoc cyfraith yr UE a ddargedwir erbyn mis Mehefin 2026. Mae'n defnyddio dangosfwrdd cyfraith yr UE a ddargedwir i roi gwybodaeth i'r cyhoedd am faint o ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r UE, a'r cynnydd y mae'r llywodraeth yn ei wneud. Mae'r dangosfwrdd bellach yn nodi nad yw ond yn cwmpasu deddfwriaeth y DU sydd chadw yn ôl, ac sydd â chymhwysedd cymysg neu sy'n dod o dan gymhwysedd datganoledig; nid yw'n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth a wneir gan y sefydliadau datganoledig.
The report summarises changes the UK Government has made using REUL Act powers between June and December 2023. The UK Government states it is on track to reform or revoke more than half of the stock of retained EU law by June 2026. It uses the retained EU law dashboard to provide the public with information about how much legislation is derived from the EU, and the progress the government is making. The dashboard now notes it only covers UK legislation which is reserved, and which has mixed competence or falls under devolved competence; it does not include any legislation made by the devolved institutions.
Mae'r adroddiad yn nodi bod gan y dangosfwrdd gyfanswm o 6,757 o offerynnau o gyfraith yr UE a ddargedwir yn rhychwantu tua 400 o feysydd polisi. Ers y diweddariad blaenorol i'r dangosfwrdd ar 22 Ionawr 2024, mae mwy na 1,000 o offerynnau cyfraith yr UE a ddargedwir naill ai wedi'u dirymu neu eu diwygio, sy'n golygu bod mwy na 2,000 o offerynnau eisoes wedi'u dirymu neu eu diwygio i gyd.
The report notes the dashboard currently holds a total of 6,757 instruments of retained EU law spanning approximately 400 policy areas. Since the previous update to the dashboard on 22 January 2024, more than 1,000 retained EU law instruments have either been revoked or reformed, meaning that more than 2,000 instruments have already been revoked or reformed in total.
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu parhau i ddefnyddio pwerau Deddf REUL yn 2024 ac mae'n cynnig diwygio hyd at 197 darn o gyfraith a gymhathwyd yn 2024-25 a 785 yn 2025-26.
The UK Government intends to continue using REUL Act powers in 2024 and is proposing to reform up to 197 pieces of assimilated law in 2024-25 and 785 in 2025-26.
Mae'r adroddiad yn nodi y bydd y diwygiadau arfaethedig yn achos cyfraith a gymhathwyd yn cyflawni amcanion rheoleiddio doethach Llywodraeth y DU i reoleiddio gael ei ddefnyddio yn unig lle bo angen, iddo gael ei roi ar waith yn dda, ei ddefnyddio'n gymesur, ac i gael ei ddiogelu at y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd pwerau Deddf REUL i ddirymu a diwygio yn cael eu defnyddio i fwrw ymlaen â datblygu'r rhaglen hon.
The report notes that forthcoming reforms of assimilated law will deliver the UK Government’s smarter regulation objectives for regulation to only be used where necessary, be implemented well, used proportionately, and to be future proof. The UK Government has indicated REUL Act powers of revoke and reform will be used to advance this programme.
Gwrthododd y Senedd roi ei chydsyniad i Fil REUL ac nid ydym yn argyhoeddedig o angenrheidrwydd, dymunoldeb a doethineb cychwyn ar newid sylweddol i'r corff o'r hyn sydd bellach yn gyfraith a gymathwyd ar hyn o bryd ac yn fwy cyffredinol. Rydym o'r farn bod yn rhaid ystyried newid rheoleiddiol mewn ffordd bwyllog a gwrthrychol.
The Senedd withheld consent to the REUL Bill and we are not convinced of the necessity, desirability and wisdom of embarking on significant change to the body of what is now assimilated law at this time and more generally. We believe regulatory change must be thought through in a measured and objective way.
Byddwn yn defnyddio pwerau Deddf REUL mewn modd cymesur a doeth lle y mae manteision i Gymru o wneud hynny. Ni fyddwn yn brysio i newid y gyfraith dim ond am ein bod yn gallu. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU pan fydd gwneud hynny'n dda i Gymru.
We will make use of REUL Act powers in a proportionate and judicious manner where there are benefits to Wales of doing so. We will not rush to change the law simply because we can. We will work with the UK Government when doing so is good for Wales.
Rydym yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cynnwys gofyniad statudol yn Neddf REUL ar gyfer cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i Weinidogion y DU wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig o dan bwerau yn Neddf REUL.
We regret that the UK Government declined to include a statutory requirement in the REUL Act for Welsh Ministers’ consent before UK Ministers make regulations in devolved areas under powers in the REUL Act.
Er gwaethaf hyn, rydym yn croesawu ymrwymiadau anstatudol y mae Gweinidogion y DU wedi'u gwneud i geisio cytundeb gan Weinidogion Cymru i ddefnyddio pwerau Deddf REUL lle mae ganddynt effaith mewn meysydd datganoledig. Rydym yn gobeithio y bydd ymrwymiadau i beidio â chymryd pwerau pellach neu i wrthwneud cymwyseddau datganoledig yn cael eu parchu drwy gydol yr amser y mae'r pwerau yn y Ddeddf ar gael i Lywodraeth y DU.
Notwithstanding this, we welcome non-statutory commitments UK Ministers have made to seek agreement from Welsh Ministers to use of REUL Act powers where they have an impact in devolved areas. We hope commitments to not take further powers or override devolved competences are respected throughout the time the powers in the Act are available to the UK Government.
Rydym yn croesawu'r adroddiad sy'n cydnabod mai mater i'r deddfwrfeydd datganoledig yw penderfynu a ddylai cyfraith a pholisi domestig fod yn wahanol i gyfraith a pholisi'r UE, sut y dylai hynny ddigwydd ac i ba raddau. Mae'r egwyddor hon yr un mor gymwys i'r ystod gyfan o newidiadau y gellir defnyddio pwerau Deddf REUL i'w cyflawni.
We welcome the report acknowledging it is for the devolved legislatures to decide whether, how and to what extent, domestic law and policy should diverge from that of the EU. This principle is equally applicable to the whole range of changes which REUL Act powers can be used to achieve.
Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar faterion sy'n gwella bywydau pobl yng Nghymru. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael inni i sicrhau bod hawliau a safonau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn cael eu diogelu. Mae'n hanfodol bod rheoliadau sy'n gymwys yng Nghymru, a wneir gan Lywodraeth y DU, yn parchu blaenoriaethau pobl Cymru, ac nad ydynt yn cael eu gwneud mewn meysydd datganoledig ond pan fo cydsyniad Gweinidogion Cymru wedi'i roi.
We will continue to focus on issues that improve the lives of people in Wales. We will continue to use the levers at our disposal to ensure that environmental, social and economic rights and standards are safeguarded. It is essential that regulations applying in Wales, which are made by the UK Government, respect the priorities of the people of Wales, and are made in devolved areas only where the consent of the Welsh Ministers has been obtained.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so.
Hwb o £39m i deithwyr bysiau yng Nghymru
£39m boost for bus passengers in Wales
Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi y bydd y gefnogaeth i'r diwydiant bysiau yng Nghymru yn parhau, gan gadarnhau £39m ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Deputy Climate Change Minister Lee Waters has announced that support for the bus industry in Wales will continue, with £39m confirmed for the year ahead.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth y byddai'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy 'Grant Rhwydwaith Bysiau' newydd.
The Deputy Minister with responsibility for transport said the funding would be provided through a new ‘Bus Network Grant’.
Bydd y grant yn cael ei roi i awdurdodau lleol i ddiogelu gwasanaethau pan ddawCronfa Bontio Llywodraeth Cymru ar gyfer Bysiaui ben ddydd Sul, 31 Mawrth.
The grant will be made available to local authorities to secure services once the Welsh Government’sBus Transition Fundcomes to an end on Sunday, March 31.
Bydd y Grant Rhwydwaith Bysiau newydd yn dechrau ar 1 Ebrill ac yn para am 12 mis.
The new Bus Network Grant will begin on April 1 and run for 12 months.
Bydd gofyn i awdurdodau lleol fodloni amodau penodol i gael unrhyw gyllid.
Local authorities will be required to meet specific conditions to receive funding.
Mae’r amodau’n cynnwys sicrhau bod llwybrau ac amserlenni yn gwella amserau teithio, creu cyfleoedd i wella cysylltiadau lle gellir gwneud hynny, a gwella'r wybodaeth am amserau gwasanaethau bws.
These include ensuring routes and timetables support improved journey times, deliver opportunities for greater connectivity where possible, and provide improved information about the times of bus services.
Dywedodd Dirprwy Weinidog, Lee Waters:
Deputy Minister Lee Waters said:
"Bydd y Grant Rhwydwaith Bysiau yn dod â sefydlogrwydd i'r diwydiant yn ogystal â mwy o reolaeth gyhoeddus ar wasanaethau bysiau.
“The Bus Network Grant will bring stability to the industry as well as increased public control of bus services.
"Bydd hefyd yn gweithredu fel pont o'r arian argyfwng sydd wedi'i roi ar gyfer masnachfreinio bysiau.
“It will also act as a bridge from the emergency funding that has been provided towards bus franchising.
"Bydd y grant yn cynnwys amodau penodol a fydd yn annog cydlynu gwasanaethau bysiau rhanbarthol yn well; tocynnau rhwydwaith a sicrhau gwybodaeth gywir a chyfredol am y gwasanaethau bysiau sy'n cael eu darparu."
“It will include specific conditions that will encourage improved regional co-ordination of bus services; network ticketing and the need to ensure accurate and up to date information about the bus services provided.”
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i newid y ffordd mae bysiau'n cael eu rhedeg yng Nghymru.
For the last three years, the Welsh Government has been working on plans to reform the way buses in Wales are run.
Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd fanylion ynEin Map Ffordd i Ddiwygio’r Bysiauac, yn ddiweddarach eleni, bydd Bil Bysiau yn cael ei gyflwyno yn y Senedd.
Last week it published details in aroadmap of bus reformand, later this year, a Bus Bill will be introduced in the Senedd.
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru:
Lee Robinson, Transport for Wales’ Executive Director for Regional Transport and Integration said:
"Bydd masnachfreinio bysiau yn dod â'r system ddigyswllt bresennol i ben, lle mae cwmnïau preifat yn penderfynu pa lwybrau i'w rhedeg. Yn ei lle, bydd cynghorau a Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar rwydweithiau bysiau lleol a rhanbarthol fydd yn diwallu anghenion cymunedau.
“Bus franchising will bring an end to a disjointed system, where it's up to private companies to decide which routes to run, and instead, councils and the Welsh Government work in partnership to agree local and regional bus networks that serve the needs of communities.
"Bydd hefyd yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i gysylltu llwybrau bysiau ag amserlenni trenau a chreu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig gydag un tocyn y gellir ei ddefnyddio ar y ddau."
“It will also enable Transport for Wales to tie in bus routes with train timetables, to create an integrated public transport system and a single ticket which can be used for both.”
Heddiw hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth CymruAdroddiad Argymhellion Teithio i Ddysgwyr 2023.
Today (15 March) the Welsh Government also published theLearner Travel Recommendations Report 2023.
Mae'r Adroddiad yn nodi cyfres o argymhellion i helpu i wella cysondeb, ansawdd a diogelwch y darpariaeth teithio i ddysgwyr ledled Cymru.
The report sets out a series of recommendations to help improve the consistency, quality and safety of learner travel provision across Wales.
Mae'r adroddiad yn argymell ailwampio'r canllawiau statudol sy'n disgrifio rolau a chyfrifoldebau pawb sy'n ymwneud â theithio i ddysgwyr.
The report recommends a comprehensive update to the statutory guidance documents which outlines the roles and responsibilities of all those involved in learner travel.
Dywedodd Dirprwy Weinidog, Lee Waters:
Deputy Minister Lee Waters added:
"Y gost ar gyfer rhedeg y bysiau ysgol bresennol yw tua £160 miliwn y flwyddyn ac mae wedi cynyddu'n sylweddol - mae bellach yn cyfrif am tua chwarter y gwariant heb ei ddirprwyo ar ysgolion gan awdurdodau lleol.
“The cost of running existing school buses is around £160 million a year and has significantly increased – it now accounts for about a quarter of non-delegated spending on schools by councils.
"Byddai darparu teithiau am ddim i ragor o ddisgyblion wrth reswm yn ychwanegu at y bil hwnnw yn sylweddol ar adeg o doriadau gwerth £1.2 biliwn yng nghyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru.
“Making free travel available to more pupils would obviously add to that bill considerably at a time when the overall Welsh Government budget has faced cuts of £1.2 billion.
"Yn ein barn ni, mae bysiau ysgol yn rhan bwysig iawn o'n cynlluniau i ddod â bysiau yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus, gan gysylltu trafnidiaeth ysgol â gwasanaethau rheolaidd a buddsoddi mewn bysiau modern sy'n hygyrch i bawb.
“We see school transport as fundamental to our plans to bring buses back under public control, linking school transport and scheduled services and supporting investment in modern buses that are accessible for all.
"Drwy weithio gyda'n gilydd, credwn y gallwn feithrin diwylliant cymdeithasol, amgylcheddol a chynaliadwy o deithio cyfrifol i'r ysgol."
“By working together, we believe that we can foster a socially, environmentally and sustainable culture of responsible travel to school.”
Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau diogelwch cleifion yn ystod trydedd streic y meddygon iau
Welsh Government working with partners to protect patient safety during third junior doctors strike
Mae Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a Chymdeithas Feddygol Prydain yn cydweithio i sicrhau diogelwch cleifion tra bydd y meddygon iau ar streic am y trydydd tro yr wythnos nesaf.
The Welsh Government, NHS Wales and the British Medical Association are working together to ensure patient safety is protected while junior doctors take strike action for the third time next week.
Mae Judith Paget, Pennaeth GIG Cymru, wedi rhybuddio y bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau, a bydd rhaid aildrefnu apwyntiadau a thriniaethau.
The head of NHS Wales, Judith Paget, has warned the impact on services will be significant, and appointments and procedures will need to be rescheduled as a result.
Bydd gofal brys a gofal mewn argyfwng yn cael eu darparu i'r rheini fydd eu hangen yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol.
Urgent and emergency care will be provided for those in need during the industrial action.
Dywedodd Judith Paget:
Judith Paget said:
Os nad yw'n hanfodol iddyn nhw gael gofal mewn adran damweiniau ac achosion brys yn ystod y streic, rydyn ni'n gofyn i bobl ddefnyddio gwasanaethau eraill. Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys GIG 111 Cymru ar-lein neu dros y ffôn, a fferyllfeydd.
We ask people to use alternatives to emergency departments if their need is not critical during the strike period. Alternatives include NHS 111 online or by phone, and pharmacies.
Os na fydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal, bydd eich bwrdd iechyd yn cysylltu â chi i roi gwybod. Os na fydd y bwrdd iechyd wedi cysylltu â chi, dylech fynd i'ch apwyntiad fel y cynlluniwyd.
If your appointment is not going ahead, your health board will contact you to let you know. If you aren’t contacted, please attend your appointment as planned.
Bydd eich bwrdd iechyd lleol yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn eich ardal.
Your local health board will provide the latest information in your area.