cymraeg
stringlengths
1
11.5k
english
stringlengths
1
11.1k
Gan adeiladu ar y gwelliannau rydyn ni wedi'u cyflawni drwy'r rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal mewn Argyfwng, bydd y Datganiad Ansawdd yn ei gwneud yn glir i fyrddau iechyd sut beth yw gofal da yn ein hadrannau achosion brys ledled Cymru.
Building on the improvements we’ve delivered through the Six Goals for Emergency Care programme, the Quality Statement will provide health boards with clear direction on what good care looks like within our emergency departments across Wales.
Mae ein rhaglen Chwe Nod wedi helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld yn y lle iawn gan y person iawn - dyw hynny ddim yn golygu bod pawb wastad yn gorfod mynd i adran frys pan maen nhw angen gofal brys.
Our Six Goals programme has helped to ensure that people are being seen in the right place by the right person – that doesn’t mean that everyone always has to go to an emergency department when they need urgent care.
Yn ogystal mae wedi helpu ein Adrannau Achosion Brys perfformio'n well na rhai Lloegr yn erbyn y targed pedair awr mewn 14 o'r 17 mis diwethaf. Rydyn ni'n falch bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau'n ddiweddar bod modd cymharu'r ystadegau perfformiad sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer adrannau achosion brys mawr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
It has also helped our major emergency departments outperform their counterparts in England in 14 of the last 17 months, in relation to the four-hour target. We are pleased the Office for National Statistics has recently confirmed that the published performance statistics for major emergency departments in England, Scotland and Wales are broadly comparable.
Ond rydym yn gwybod bod llawer mwy i'w wneud i wella safon ac amseroldeb y gofal y mae pobl yn ei dderbyn pan fyddant yn mynd i adrannau brys.
But we know there’s much more to do to improve the standard and timeliness of care people receive when they go to emergency departments.
Rydym wedi gwrando ar staff a'r cyhoedd wrth ddatblygu'r Datganiad Ansawdd hwn. Rydyn ni'n gwybod bod cleifion eisiau cyfathrebu clir ac aml, teimlo'n gyfforddus ac yn gynnes a chael eu trin yn gyflym ond yn sensitif.
We’ve listened to staff and to the public in developing this Quality Statement. The public want clear and frequent communication, to feel comfortable and warm and to be treated quickly but sensitively.
Ac rydyn ni'n gwybod bod y staff, ymroddedig a medrus sy'n gweithio yn yr adrannau prysur hyn, eisiau canolbwyntio ar symud cleifion o adrannau achosion brys i wardiau ysbytai yn brydlon, a chael mynediad at ddata o ansawdd gwell er mwyn gwella gofal i gleifion.
And we know the dedicated and skilled staff working in these busy departments want a focus on timely flow of patients from departments into hospital wards, and access to better quality data to drive improvements to patient care.
Dyma fydd ein blaenoriaethau ni eleni ac rwy'n disgwyl i'n rhaglen genedlaethol, ein rhwydwaith clinigol a'n byrddau iechyd gefnogi'r gwaith o'u cyflawni.
These will be the priorities for us in the year ahead and I expect our national programme, clinical network and health boards to get behind delivering them.
Mae cynllun cenedlaethol newydd 'Adrannau Achosion Brys Gwyrdd' yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM), i wreiddio arferion gwaith cynaliadwy, lleihau allyriadau, gwastraff a chostau yn 12 adran achosion brys Cymru.
A new national ‘Green ED’ scheme is being funded by Welsh Government, in collaboration with the Royal College of Emergency Medicine (RCEM), to embed sustainable working practices, reduce emissions, waste and costs in Wales’ 12 emergency departments.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi sefydlu tasglu cenedlaethol i adolygu mesurau adrannau brys. Bydd yn ystyried a oes mesurau gwell o ansawdd, gwerth, profiad a chanlyniad ar gyfer gofal a ddarperir mewn adrannau brys i helpu i hysbysu'r cyhoedd yng Nghymru am yr hyn i'w ddisgwyl wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn ac i helpu i sbarduno gwelliannau. Bydd yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl a'r hyn sy'n ystyrlon yn glinigol.
The Minister has also established a national task group to review emergency department measures. It will consider whether there are better measures of quality, value, experience and outcome for care provided in emergency departments to help inform the Welsh public about what to expect when accessing these services and to help drive improvements. It will focus on what matters most to people and what is clinically meaningful.
Ychwanegodd yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal mewn Argyfwng, Tim Rogerson:
The National Clinical Lead for Emergency Care, Tim Rogerson, added:
Mae staff adrannau achosion brys yn gweithio'n ddiflino 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, dan bwysau di-baid, i ddarparu'r gofal gorau posib i gleifion.
Emergency department staff work tirelessly 24/7 to deliver the best possible care to patients under relentless pressures.
Rydyn ni'n cydnabod bod yr hyn sy'n achosi nifer o'r heriau sy'n ein hwynebu ni, a'r atebion i'r heriau hyn, y tu allan i gwmpas adrannau achosion brys. Er hynny, mae arweinwyr clinigol yn falch o gael Datganiad Ansawdd sy'n canolbwyntio ar yr adrannau hyn, gan ganiatáu inni roi blaenoriaeth i'r pethau sy'n ein dwylo ni a gwella ansawdd y gofal mewn argyfwng sy'n cael ei ddarparu ledled Cymru.
It is recognised that many challenges we face have both their causes and solutions outside of the emergency department footprint. However, clinical leaders are pleased to have a Quality Statement which brings focus on emergency departments, allowing us to prioritise the things in our gift and drive the quality of emergency care provided across Wales.
Datganiad Ysgrifenedig: Datganiad Ansawdd ar gyfer Gofal mewn Adrannau Achosion Brys
Written Statement: Quality Statement for Care in Emergency Departments
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Eluned Morgan MS, Minister for Health and Social Services
Heddiw, rwy'n cyhoeddi’rDatganiad Ansawdd ar gyfer Gofal mewn Adrannau Achosion Bryssy'n nodi'r canlyniadau a'r safonau y dylai pobl eu disgwyl wrth gael gofal mewn adrannau achosion brys o ansawdd uchel ledled Cymru.
Today, I am publishing theQuality Statement for Care in Emergency Departments(ED) which sets out the outcomes and standards people should expect to receive when accessing care in high-quality, emergency departments throughout Wales.
Mae'r datganiad hwn yn ategu'r ymrwymiadau a wnaed yn einllawlyfr polisiChwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng a dylid ei ddarllen yng nghyd-destun y gwaith gwella ehangach sydd eisoes ar y gweill, fel rhan o'n dull system gyfan ar gyfer darparu mwy o ofal yn nes at gartrefi pobl a sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn amserol.
This statement complements commitments made in our Six Goals for Urgent and Emergency Carepolicy handbookand should be read in the context of the wider improvement work already in train, as part of our whole system approach to provide more care closer to people’s home and ensure people are discharged from hospital in a timely manner.
Mae staff adrannau achosion brys yn gweithio'n ddiflino bob dydd i ddarparu'r gofal gorau i bobl ddifrifol wael a phobl sydd wedi’u hanafu, yn aml o dan bwysau anhygoel ac mewn amgylchiadau anodd. Maen nhw yno pan fydd eu hangen fwyaf arnom. Rwy'n ddiolchgar dros ben am eu gwaith caled, eu hymrwymiad a’u harbenigedd.
Emergency department staff work tirelessly every day to deliver the best care to seriously ill and injured people, often under incredible pressure and in difficult circumstances. They are there when we need them the most. I am very thankful for their hard work, commitment and expertise.
Mae'r datganiad ansawdd hwn wedi'i gynhyrchu yn dilyn gwaith ymgysylltu â staff y GIG a'r cyhoedd. Cafodd ei ddatblygu mewn cydweithrediad ag arweinwyr clinigwyr ac fe’i cefnogir gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Mae’n seiliedig ar ein Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal newydd.
This quality statement is the product of engagement with NHS staff and the public and has been developed in collaboration with clinical leaders and is supported by the Royal College of Emergency Medicine. It is shaped around our new Health and Care Quality Standards.
Mae'n rhoi cyfarwyddyd clir i fyrddau iechyd ar yr hyn a olygir wrth daar gyfer gofal mewn adrannau achosion brys, gan ganolbwyntio ar nifer o agweddau allweddol – yn eu plith amseroldeb mynediad, cyfathrebu effeithiol a darparu'r gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
It provides health boards with clear direction on what good looks likefor care in emergency departments, focusing on a number of key aspects, including timeliness of access and effective communication and the delivery of the right care, in the right place,first time.
Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd fabwysiadu'r datganiad ansawdd hwn ar unwaith fel fframwaith ar gyfer galluogi darparu'r gofal a'r driniaeth orau posibl mewn adrannau achosion brys. Bydd byrddau iechyd yn canolbwyntio eu cynlluniau yn 2024-25 ar gyflawni nifer bach o flaenoriaethau a gymeradwywyd yn glinigol:Lleihau'r risg o niwed a achosir gan brysurdeb mewn adrannau achosion brys.Gwella profiad cleifion drwy ddarparu cyfleusterau o ansawdd uwch a sicrhau'r capasiti gweithlu cywir i ymateb i’r galw gan gleifion.Darparu prosesau brysbennu ac asesu cyflymach sy'n cefnogi blaenoriaethu clinigol.Darparu prosesau ar gyfer atgyfeirio cleifion a'u rhoi ar lwybrau uniongyrchol yn gyflymach ac yn fwy effeithiol i helpu pobl i gael y gofal arbenigol cywir yn gyflymach.Darparu arferion gwaith cynaliadwy i gefnogi datgarboneiddio a bod mor effeithlon â phosibl.Datblygu gwell ansawdd data i gefnogi gwaith cynllunio a gwella profiad a chanlyniadau.Adolygu a gweithredu mesurau mewn adrannau achosion brys sy'n adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf i gleifion a staff.
I expect health boards to immediately adopt this quality statement as a framework for enabling optimal care and treatment in emergency departments. Health boards will focus their plans in 2024-25 on the delivery of small number of clinically-endorsed priorities:Reduce risk of harm caused by crowding in emergency departments.Improve patient experience by better quality facilities and alignment of the right workforce capacity to respond to patient demand.Deliver faster triage and assessment processes, which support clinical prioritisation,Deliver faster and more effective patient referral and streaming processes to help people receive the right specialist care more quickly.Deliver sustainable working practices to support decarbonisation and maximise efficiencies.Develop improved data quality to support planning and improve experience and outcomes.Review and implement emergency department measures that reflect what matters most to patients and staff.
Bydd Gweithrediaeth y GIG yn cefnogi byrddau iechyd i gyflawni'r datganiad ansawdd a'r blaenoriaethau drwy'r rhaglen genedlaethol Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng, a'r rhwydwaith clinigol strategol ar gyfer gofal critigol, trawma a meddygaeth frys.
Health boards will be supported to deliver the quality statement and the priorities by the NHS Executive through the national Six Goals for Urgent and Emergency Care programme, and the strategic clinical network for critical care, trauma and emergency medicine.
Er mwyn sbarduno cynnydd, rydym yn lansio fframwaith achredu 'Adrannau Brys Gwyrdd' cenedlaethol ar draws yr holl adrannau achosion brys yng Nghymru, mewn cydweithrediad â'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Mae'r rhaglen hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei chroesawu gan glinigwyr a bydd yn ymgorffori arferion gwaith cynaliadwy o fewn adrannau achosion brys ac yn cael effaith gadarnhaol ar leihau allyriadau, gwastraff a chostau.
To kick-start progress, we are launching a national “Green ED” accreditation framework across all of emergency departments in Wales, in collaboration with the Royal College of Emergency Medicine. This Welsh Government-funded programme has been welcomed by clinicians and will embed sustainable working practices in emergency departments and positively impact on the reduction of emissions, waste and costs.
Yn ogystal, bydd offeryn cenedlaethol a ddatblygwyd gan y rhaglen GIRFT (Cael Pethau’n Iawn y Tro Cyntaf) yn cael ei lansio i ddod â gwybodaeth am alw, capasiti, canlyniadau a llif gwybodaeth adrannau achosion brys ynghyd. Bydd hyn yn galluogi i fyrddau iechyd sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth glir o anghenion gofal brys eu poblogaeth leol, a gofynion y gweithlu a’r seilwaith i dargedu gwelliannau i ofal cleifion. Eleni, rydym wedi darparu£2.7m i wella amgylcheddaui sicrhau gwell profiad i gleifion a staff mewn adrannau achosion brys ac unedau mân anafiadau yng Nghymru.
Additionally, a national tool developed by the GIRFT (Getting it Right First Time) programme will be launched to bring together emergency department demand, capacity, outcomes and flow information. This will enable health boards to establish a clear understanding about the emergency care needs of their local population, and the workforce and infrastructure requirements to target improvements in patient care. This year we have provided£2.7m to enhance environmentsfor better patient and staff experience in emergency departments and minor injury units in Wales.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar yn asesu sut mae ystadegau perfformiad adrannau achosion brys yn cymharu ar draws y DU. Rwy'n croesawu’r canfyddiadau sy'n cefnogi ein safbwynt bod ystadegau adrannau achosion brys mawr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn gymharol debyg.
Members will be aware the Office for National Statistics recently published a report assessing the comparability of emergency department performance statistics across the UK. I welcome the findings, which support our position that statistics for major emergency departments in England, Scotland and Wales are broadly comparable.
Er mwyn adeiladu ar y darn annibynnol hwn o waith, rwyf wedi sefydlu grŵp gorchwyl cenedlaethol i adolygu mesurau adrannau achosion brys. Bydd y grŵp yn ystyried a oes gwell ffyrdd o fesur ansawdd, gwerth, profiad a chanlyniadau’r gofal a ddarperir mewn adrannau achosion brys i helpu i hysbysu'r cyhoedd yng Nghymru am yr hyn y gallant ei ddisgwyl wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn ac i helpu i gymell gwelliannau. Byddwn yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl a'r hyn sy'n ystyrlon yn glinigol.
To build on this independent piece of work, I have established a national task group to review emergency department measures. It will consider whether there are better measures of quality, value, experience and outcome for care provided in emergency departments to help inform the Welsh public about what to expect when accessing these services and to help drive improvements. We will focus on what matters most to people and what is clinically meaningful.
Byddwn yn adrodd ar gynnydd pellach yn erbyn yr holl gamau blaenoriaeth cyn gaeaf 2024-25.
We will report on further progress against all of the priority actions ahead of winter 2024-25.
Datganiad Ysgrifenedig: Grant Rhwydwaith Bysiau
Written Statement: Bus Network Grant
Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Lee Waters, Deputy Minister for Climate Change
Ers dechrau pandemig Covid-19 rydym wedi darparu dros £200m o gymorth ariannol i'r diwydiant bysiau i gynnal gwasanaethau bysiau ledled Cymru.
Since the onset of the Covid-19 pandemic we have provided the bus industry with over £200m funding support to maintain bus services across Wales.
Ers y pandemig mae llai o bobl bellach yn defnyddio gwasanaethau bysiau. Ond i'r rhai sy'n dibynnu arnyn nhw, maen nhw'n achubiaeth. Mae gwasanaeth bysiau yn hanfodol bwysig wrth gefnogi ein heconomi.  Maent yn hwyluso mynediad at gyfleoedd gwaith, gwasanaethau gofal iechyd a gweithgareddau addysg a chymdeithasol hefyd.
Since the pandemic less people are now using bus services. But for those who do rely on them, they are a lifeline. Bus services are vitally important in supporting our economy.  They facilitate access to work opportunities, health care services and education and social activities too.
Mae bysiau'n ddull mwy gwyrdd o deithio ac maent yn allweddol i leihau dibyniaeth pobl ar geir.  Mae angen i ni roi dewis amgen gwirioneddol i bobl yn hytrach na’r car ar gyfer teithiau bob dydd, trwy wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn deniadol.
Buses are a greener mode of transport and are key to reducing people’s reliance on cars.  We need to give people a genuine alternative to the car for everyday journeys by making public transport, an attractive option.
Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi'r ddarpariaeth o wasanaethau bysiau ledled Cymru o'r adeg y daw cyllid brys i ben i ddod â sefydlogrwydd i'r diwydiant bysiau wrth symud ymlaen.
It is therefore vital that we continue to support the provision of bus services across Wales from the point when emergency funding comes to an end to bring stability to the bus industry going forward.
O 1 Ebrill eleni rydym yn cyflwyno'r Grant Rhwydwaith Bysiau (BNG). Yn ogystal â'r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau (BSSG) gwerth £25m, bydd BNG yn darparu £39m i awdurdodau lleol ledled Cymru i sicrhau gwasanaethau bysiau y maent o’r farn eu bod yn angenrheidiol yn gymdeithasol na fydd y farchnad fasnachol yn eu darparu pan ddaw BTF i ben.  Bydd y cynllun newydd yn cynnwys amodau penodol a fydd yn annog gwell cydlynu rhanbarthol o ran gwasanaethau bysiau; tocynnau rhwydwaith a'r angen i sicrhau gwybodaeth gywir a chyfredol am y gwasanaethau bysiau a ddarperir.
From 1 April this year we are introducing the Bus Network Grant (BNG).  In addition to the £25m Bus Services Support Grant (BSSG), BNG will provide local authorities across Wales with £39m to secure bus services that they deem socially necessary that the commercial market will not provide when BTF comes to an end.  The new scheme will include specific conditions that will encourage improved regional co-ordination of bus services; network ticketing and the need to ensure accurate and up to date information about the bus services provided.
Bydd BNG yn sicrhau sefydlogrwydd i'r diwydiant yn ogystal â mwy o reolaeth gyhoeddus ar wasanaethau bws.  Bydd hefyd yn gweithredu fel pont rhwng yr arian brys a ddarparwyd i fasnachfreinio bysiau.
BNG will bring about stability to the industry as well as increased public control of bus services. It will also act as a bridge from the emergency funding that has been provided to bus franchising.
Bydd BNG yn gynllun deuddeg mis. O 1 Ebrill 2025 ein nod yw cyflwyno un cynllun a fydd yn cymryd lle’r Grant Rhwydwaith Bysiau a’r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau.
BNG will be a twelve month scheme. From 1 April 2025 we aim to introduce one scheme that will replace BNG and BSSG.
Canllaw i bobl ifanc i'r Gyllideb
A young person’s guide to all things Budget
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi animeiddiad arloesol ar wariant cyhoeddus, a gydgynhyrchwyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.
An innovative animation on public spending, co-produced by young people for young people has been published by the Welsh Government.
Crëwyd yr animeiddiad a'r daflen gysylltiedig gan grŵp o bobl ifanc 11 i 25 oed o bob rhan o Gymru, a'u nod yw disgrifio, mewn ffordd sy'n addas i bobl ifanc, yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella dewisiadau o ran cyllid a'r ffordd y mae'n codi ac yn gwario arian.
The animation and accompanying leaflet were created by a group of 11 to 25 year-olds from across Wales and aims to describe what the Welsh Government is doing to improve funding choices and the way it raises and spends money, in a youth-friendly way.
Dros y 18 mis diwethaf, mae aelodau o Fwrdd Prosiect Pobl Ifanc Cymru Ifanc wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru a Thrysorlys Cymru, gan wirfoddoli eu hamser eu hunain i gymryd rhan mewn sesiynau ar-lein gyda'r nos a gweithdai dydd Sadwrn i greu'r adnoddau newydd.
Over the past 18 months, members of the Young Wales’ Young People’s Project Board (YPPB) have collaborated with the Welsh Government and the Welsh Treasury, volunteering their own time to take part in online evening sessions and Saturday workshops to create the new resources.
Menter Plant yng Nghymru yw Cymru Ifanc, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Ei chenhadaeth yw gwrando ar bobl ifanc a grymuso eu lleisiau drwy rannu syniadau, rhoi gwybodaeth a newid ymddygiad.
Young Wales is a Children in Wales initiative, funded by Welsh Government. Its mission is to listen to young people and empower their voices through the sharing of ideas, informing, and changing behaviours.
I ddathlu eu gwaith caled, cynhaliwyd digwyddiad lansio ym Mae Caerdydd yn ddiweddar, a chyflwynodd y bobl ifanc eu hanimeiddiad a'u taflen i'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans.
To celebrate their hard work, a launch event was recently held in Cardiff Bay and the young people presented their animation and leaflet to Finance Minister Rebecca Evans.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Gweinidog:
Speaking at the event, the Finance Minister said:
"Mae'r gwaith yma y mae'r bobl ifanc wedi ei gydgynhyrchu yn wych. Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl o bob oed ynghylch sut rydyn ni'n gwario arian cyhoeddus ac yn defnyddio ein pwerau codi trethi.
“This work the young people have co-produced is fantastic. We are always looking for new ways to engage with people of all ages about how we spend public money and use our tax-raising powers.
"Mae'r gwaith yma yn gam sylweddol ymlaen tuag at wneud Cyllideb Cymru a gwaith Trysorlys Cymru yn fwy agored i bawb. Dw i'n gobeithio bod y bobl ifanc dan sylw wedi mwynhau'r broses ac yn edrych ymlaen at weld eu gwaith yn cael ei rannu ledled Cymru dros y misoedd nesaf."
“This work is a significant step forward towards making the Welsh Budget and the work of the Welsh Treasury more accessible to all. I hope the young people involved have enjoyed the whole process and look forward to seeing their work shared across Wales over the coming months.”
Dywedodd un o'r bobl ifanc, Arthur:
One of the young people involved, Arthur, said:
“Mae pobl ifanc yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain, ac maen nhw’n dod â phersbectif ffres i benderfyniadau. Pan fo’u lleisiau nhw yn cario’r un pwys â lleisiau’r oedolion yn yr ystafell, mae’n rhoi’r gallu inni greu cynnyrch terfynol sy’n cwmpasu safbwyntiau amrywiol ac sy’n grymuso pobl ifanc yn y broses – gan roi mynediad inni i’r hyn sy’n hawl sylfaenol.”
“Young people are experts in their own lives, bringing a fresh perspective to decision-making. When their voices are given equal weight to that of the adults in the room, we have the ability to create a final product that encapsulates diverse viewpoints and empowers young people in the process - giving us access to what is fundamentally our right.”
Dywedodd Bethany Turner, Swyddog Datblygu gyda Plant yng Nghymru:
Bethany Turner, Development Officer at Children in Wales said:
“Mae’r prosiect yma wedi bod yn gyfle anhygoel i sicrhau bod llais plant a phobl ifanc yn cael ei glywed ac yn sylfaen i Lywodraeth Cymru weithredu arni. Mae ymroddiad ac ymrwymiad y bobl ifanc drwy gydol y prosiect wedi bod yn ysbrydoliaeth inni, ac mae’n wych gweld bod eu syniadau wedi cael lle mor amlwg yn y cynnyrch terfynol.
“This project has been an incredible opportunity for children and young people to have their voices heard and actioned upon by Welsh Government. We have been inspired by the young people’s dedication and commitment throughout this project and it is great to see their ideas shine through in the final product.
“Rydyn ni am ddiolch i’r holl bobl ifanc sydd wedi cyfrannu eu hamser a’u hymdrech i greu’r adnoddau hyn, a diolch i’n cydweithwyr yn nhîm dylunio Llywodraeth Cymru am drin y bobl ifanc a’u syniadau â’r parch y maen nhw’n ei haeddu.”
“We wish to thank all of the young people who have contributed their time and effort into creating these resources and to thank our colleagues in the design team at Welsh Government for treating the young people and their ideas with the respect they deserve.”
Mae'r animeiddiad yn seiliedig ar Gynllun Llywodraeth Cymru i Wella'r Gyllideb, a gyhoeddir yn flynyddol ochr yn ochr â dogfennau cyllidebol eraill.
The animation is based on the Welsh Government’sBudget Improvement Plan, published annually alongside other budgetary documents.
Datganiad Ysgrifenedig: Fformiwla Gyllido Llywodraeth Leol – Rhaglen Waith yr Is-grŵp Dosbarthu
Written Statement: Local Government Funding Formula – the Distribution Sub-Group’s Work Programme
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rebecca Evans MS, Minister for Finance and Local Government
Mae cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn rhan sylweddol o gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru, gan adlewyrchu’r pwys mawr rydym yn ei roi ar y gwasanaethau hanfodol y mae awdurdodau lleol yn eu darparu i bobl ar draws Cymru. Fel y gwyddai’r Aelodau, mae mwyafrif y cymorth refeniw a roddir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wneud trwy’r setliad refeniw llywodraeth leol blynyddol. Yn 2024-25, bydd yn darparu mwy na £5.72bn i 22 awdurdod lleol Cymru. Mae’r cyllid hwn heb ei neilltuo, sy’n rhoi’r hyblygrwydd angenrheidiol i awdurdodau i ymateb i bwysau a blaenoriaethau lleol. Mae’n cael ei ddarparu drwy fformwla sydd wedi’i gynllunio i adlewyrchu anghenion perthnasol pob awdurdod lleol a’i allu i drethu.
Funding for local government is a significant part of the Welsh Government’s overall budget, reflecting the importance we place on the essential services local authorities provide to people across Wales. As Members are aware, the majority of revenue support provided by the Welsh Government is made via the annual local government revenue settlement – in 2024-25, it will provide more than £5.72bn to Wales’ 22 local authorities. This funding is un-hypothecated, ensuring local authorities have the flexibility they need to respond to local pressures and priorities. It is delivered via a formula designed to reflect the relative need of each local authority and its local tax-raising ability.
Fel y dywedais cyn y dadleuon ar gyllid llywodraeth leol yn gynharach eleni, rwyf wedi ymrwymo i wella tryloywder datblygiad parhaus y fformwla gyllido llywodraeth leol. Rwy’n cydnabod bod y fformiwla yn un cymhleth – mae fy swyddogion, ynghyd â swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi bod yn cryfhau ymdrechion i gyfathrebu sut y penderfynir ar y setliad hwn drwy gynnig mwy o sesiynau gwybodaeth i swyddogion ac aelodau etholedig lleol ac i Gymdeithas Trysoryddion Cymru. Mae fy swyddogion hefyd yn cynnig sesiwn wybodaeth flynyddol ar y fformiwla i Aelodau’r Senedd.
As I said during the debates on local government funding earlier this year, I am committed to improving the transparency of the ongoing development of the local government funding formula. I recognise the formula is complex – my officials, together with the Welsh Local Government Association’s (WLGA) officers, have been strengthening efforts to communicate how the settlement is derived by offering more information sessions to locally-elected members and officers and to the Society of Welsh Treasurers. My officials also deliver an annual information session on the formula to Senedd Members.
Mae’r gwaith i ddatblygu a chynnal y fformiwla yn cael ei wneud mewn partneriaeth gyda llywodraeth leol drwy swyddogion yr Is-grŵp Dosbarthu, sy’n cael ei oruchwylio gan Lywodraeth Cymru ac arweinwyr llywodraeth leol drwy Is-grŵp Cyllid Cyngor Partneriaeth Cymru. Mae cofnodion y grwpiau hyn yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd. Rwyf hefyd yn cyhoeddirhaglen waith flynyddol Is-grŵp Dosbarthu 2024 heddiw, a gytunwyd gan yr Is-grŵp Cyllid y mis hwn.
Work on the formula development and maintenance is delivered in partnership with local government through officers of the Distribution Sub-Group, overseen by the Welsh Government and local government leaders through the Finance Sub-Group of the Partnership Council for Wales. The minutes of these groups are routinely published. I am also publishing today the annualwork programme of the Distribution Sub-Group for 2024, as agreed by the Finance Sub-Group this month.
Cadarnhaodd yr Is-grŵp Cyllid ymrwymiad llywodraeth leol i adolygiad parhaus a chyd-ddatblygiad y fformiwla. Rwy’n falch bod y rhaglen waith ar gyfer 2024 yn dangos bod elfennau allweddol y fformiwla sy’n ymwneud ag ysgolion a gofal cymdeithasol wedi’u clustnodi ar gyfer eu trafod eleni.
The Finance Sub-Group confirmed local government’s commitment to the ongoing review and joint development of the formula. I am pleased the work programme for 2024 demonstrates that key components of the formula relating to schools and social care are earmarked for discussion this year.
Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i dynnu sylw at yr wybodaeth syddwedi'i chyhoeddi ers sawl blwyddyndrwy’r adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (sydd wedi’i osod gerbon y Senedd). Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys llawer o’r manylion y tu ôl i’r setliad, fel sail y cyfrifiadau ar gyfer cydrannau’r grant cynnal refeniw, ardrethi annomestig ac asesiadau o wariant safonol, ynghyd â’r dangosyddion a’r gwerthoedd a ddefnyddir yn y cyfrifiadau.
It may also be helpful to highlight the information whichhas been published for many years, through the Local Government Finance report (which is laid before the Senedd). This contains much of the detail behind the settlement, such as the basis of calculations for the components of the revenue support grant, non-domestic rates and standard spending assessments (SSA), together with the indicators and values used in the calculations.
Yn ogystal â hyn, cyhoeddir cofnod cynhwysfawr o fformiwla pob blwyddyn mewn Llyfr Gwyrdd. Fel rhan o’r ymdrech i wella tryloywder a deall yr agwedd bwysig hon o gyllid llywodraeth leol, mae strwythur y Llyfr Gwyrdd o 2021-22 ymlaen wedi gwella yn sylweddol o ran hygyrchedd a faint o wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ynddo. Mae llyfrau gwaith ar wahân sy’n manylu ar y dangosyddion a’r asesiadau seiliedig ar ddangosyddion ynghyd a’r fformwlâu ar gyfer cyfrifo’r asesiadau o wariant safonol ar gyfer prif feysydd darpariaeth gwasanaethau lleol.
In addition to this, a comprehensive record of each year’s formula is published in a Green Book. As part of improving the transparency and understanding of this important aspect of local government funding, the structure of the Green Book from 2021-22 onwards was improved significantly in terms of accessibility and the amount of information contained within it. There are separate workbooks detailing the indicators and services indicator-based assessments together with the formulae for calculating the SSA for the main areas of local service provision.
Mae gwella ymwybyddiaeth a deall y fformiwla a’i gynnal a chadw yn gyson yn broses barhaus. Mae angen cael gwell dealltwriaeth i gefnogi craffu a datblygiad priodol, o fewn llywodraeth leol a’r Senedd. Bydd swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'm swyddogion yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo dealltwriaeth yn barhaus.
Raising awareness and understanding of the formula and its continual maintenance is an ongoing process. Improved understanding is necessary to support appropriate scrutiny and development, within local government and the Senedd. WLGA officers and my officials will continue to do all we can to promote understanding on an ongoing basis.
Datganiad Ysgrifenedig: Cymru – Cenedl Masnach Deg
Written Statement: Wales – A Fair Trade Nation
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Jane Hutt MS, Minister for Social Justice and Chief Whip
Heddiw, bydd mwy na 100 o bobl yn dathlu'r gwaith rhagorol, sydd wedi'i gyflawni ar y cyd rhwng sefydliadau yng Nghymru ac Affrica.
Today, more than 100 people will celebrate the excellent work, which has been jointly delivered between organisations in Wales and Africa.
Trefnodd Hub Cymru Affrica y dathliad hwn yn y Senedd i ddod â'r gymuned hon o bobl a sefydliadau ynghyd, i gyfnewid a rhannu dysgu a phrofiadau gwerthfawr, gan wneud partneriaethau Cymru ac Affrica yn gymaint o lwyddiant.
Hub Cymru Africa organised this celebration in the Senedd to bring this community of people and organisations together, to exchange and share valuable learning and experiences, making the Wales-Africa partnerships such a success.
Mae Cymru Masnach Deg yn rhan o bartneriaeth Hub Cymru Affrica. Cymru oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf yn y byd yn 2008. Dros y 12 mis diwethaf, mae Cymru Masnach Deg wedi gweithio gyda rhanddeiliaid, Llywodraeth Cymru, Masnach Deg yr Alban’ a Llywodraeth yr Alban i adnewyddu meini prawf y Genedl Masnach Deg i adlewyrchu'r newidiadau niferus yn y byd.
Fair Trade Wales is an important part of the Hub Cymru Africa partnership. Wales became the first Fair Trade Nation in the world in 2008. Over the last 12 months, Fair Trade Wales has worked with stakeholders, the Welsh Government, Scottish Fair Trade Forum and the Scottish Government to refresh the Fair Trade Nation criteria to reflect the many changes in the world.
Mae'r meini prawf diwygiedig yn pennu bod Cenedl Masnach Deg yn un lle:Mae ymwybyddiaeth eang o fasnach degMae ymgysylltiad sylweddol â masnach deg ar draws gwahanol sectorau o'r gymdeithasMae cynhyrchion Masnach Deg yn cael eu defnyddio a'u cynhyrchuMae cefnogaeth wleidyddol ac ymgysylltiad â masnach degMae anghydraddoldebau mewn masnach fyd-eang a chymdeithas yn cael eu herio gan fasnach deg.
The refreshed criteria determines that a Fair Trade Nation is one where:There is widespread awareness of fair tradeThere is significant engagement with fair trade across different sectors of societyThere is consumption and production of FAIRTRADE productsThere is political support and engagement with fair tradeInequalities in global trade and society are challenged by fair trade.
Byddwn nawr yn mesur lefelau ymwybyddiaeth, ymgysylltu ag ymgyrchoedd, defnyddio a chynhyrchu nwyddau Masnach Deg, ymgysylltu gwleidyddol â'r mater ac ymgysylltu â materion cyfiawnder masnach ehangach er mwyn adlewyrchu'n well fyd sydd wedi newid cymaint ers 2008.
We will now be measuring levels of awareness, engagement with campaigns, consumption and production of FAIRTRADE goods, political engagement with the issue and engagement with wider trade justice issues to better reflect a world which has changed so much since 2008.
Yng Nghymru, rydym yn credu mewn cydraddoldeb i bawb, bod gan bawb hawliau dynol sylfaenol, gartref a thramor. Mae masnach deg yn hanfodol i'r gred hon, gan ei bod yn cydnabod ein bod am weithio gyda chynhyrchwyr a phobl mewn cadwyni cyflenwi yn gyfartal i greu partneriaethau â nhw. Dyna pam rydym yn parhau i hyrwyddo a chefnogi'r agenda Masnach Deg drwy gefnogi gwaith gyda Chymru Masnach Deg, a hefyd drwy weithio gyda ffermwyr coffi yn ardal Mount Elgon, Uganda drwy brosiect Jenipher's Coffi.
In Wales, we believe in equality for everyone, that everyone has fundamental human rights, at home and abroad. Fair trade is vital to this belief, as it recognises that we want to work with producers and people in supply chains as equals to create partnerships with. This is why we continue to promote and support the Fair Trade agenda by supporting work with Fair Trade Wales, and also by working with coffee farmers in the Mount Elgon area of Uganda through the Jenipher’s Coffi project.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddangos sut i fod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ac mae Masnach Deg yn enghraifft sylweddol o sut rydym yn gwneud hyn. Nid gweithredoedd y llywodraeth yn unig sy’n bwysig, ond hefyd unigolion a grwpiau'n gwneud dewisiadau a chodi ymwybyddiaeth am Fasnach Deg.
The Well-being of Future Generations Act requires us to demonstrate how to be a globally responsible nation, and Fair Trade is a substantial example of how we do this. It is not just about government action, but also about individuals and groups making choices and raising awareness about Fair Trade.
Datganiad Ysgrifenedig: Cau Argymhellion adroddiad Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd
Written Statement: Closure of the Recommendations from the Black Asian and Minority Ethnic Communities, Contributions and Cynefin in the new Curriculum Group report
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Jeremy Miles MS, Minister for Education and the Welsh Language
Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad yr Athro Charlotte Williams OBE ar ran Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd. Derbyniwyd pob un o'r 51 o argymhellion. Roedd yr argymhellion yn ymwneud ag ystod o faterion, gan gynnwys deunydd y cwricwlwm, y gweithlu addysgu, Addysg Gychwynnol Athrawon, datblygiad proffesiynol, arolygu a pholisi ehangach Llywodraeth Cymru ar ysgolion.
In March 2021, the Welsh Government published the report by Professor Charlotte Williams OBE on the Black Asian and Minority Ethnic Communities, Contributions and Cynefin in the New Curriculum Working Group. All 51 recommendations were accepted. The recommendations concerned a range of issues, including curriculum content, the teaching workforce, Initial Teacher Education, professional development, inspection, and broader Welsh Government policy on schools.
Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw ein bod wedi gweithredu ar holl argymhellion yr adroddiad, ac rydym yn monitro'r gwaith sy'n parhau. Ers ei gyhoeddi, rydym wedi cymryd camau sy'n golygu mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i'w gwneud yn orfodol addysgu hanes Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu hanes a chyfraniad ei holl ddinasyddion.
I am proud to announce today that we have taken action on all the report’s recommendations and we are monitoring ongoing work. Since publication, we have made Wales the first UK nation to make the teaching of Black, Asian and minority ethnic history mandatory, to ensure the curriculum reflects the history and contribution of all its citizens.
Yn hanfodol, rydym wedi lansioDysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol,sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan uwchsgilio dros 27,000 o ymarferwyr mewn ymarfer gwrth-hiliol drwy gefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad, hyd at fis Rhagfyr 2023.
Crucially, we have launched the hugely successfulDiversity and Anti-Racist Professional Learning (DARPL), upskilling over 27,000 practitioners in anti-racist practice through support, training and guidance, up to December 2023.
Rydym hefyd wedi cymryd camau i sicrhau bod ein proffesiwn addysgu yn cynrychioli'r boblogaeth yn well. Ym mis Medi 2022, aethom ati i ddechrau cynllun cymhelliant gwerth £5,000 i ddenu mwy o ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig i Addysg Gychwynnol Athrawon, gyda'r nod o greu gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein poblogaeth yn well. Yn yr un flwyddyn, lansiwydGwobr Addysgu Proffesiynol Betty Campbell (MBE)i hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
We have also taken steps to make our teaching profession more representative. In September 2022, we began a £5,000 incentive scheme to attract more ethic minority applicants to Initial Teacher Education, helping our workforce better reflect the diversity of our population. In the same year, theBetty Campbell (MBE) Professional Teaching Awardwas launched to promote the contributions and perspectives of Black, Asian and Minority Ethnic communities.
Ers cyhoeddi'r adroddiad, rydym wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein cynnydd tuag at ddatblygu dull ysgol gyfan a dull cenedlaethol o wrthwynebu hiliaeth ynadroddiad blynyddol 2021 ar weithredu'r argymhellionacAdroddiad Blynyddol y llynedd ar y Cwricwlwm i Gymru.
Since publication, we have updated on our progress towards developing a whole-school and national approach to anti-racism in the 2021annual report on implementation of the recommendationsand last year’sCurriculum for Wales Annual Report.
Er bod y camau wedi'u cymryd a bod yr ymateb ffurfiol i'r adroddiad wedi dod i ben bellach, rhaid i'n hymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol drwy ein system addysg barhau, ac mae'r adroddiad cau yn nodi sut y byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa er mwyn sicrhau bod y gwaith wedi ymsefydlu'n llawn. Mae'n dal i fod yn hanfodol cynnal y momentwm, parhau i ymgorffori arferion gwrth-hiliol ar draws ein system addysg, a sicrhau newid ystyrlon. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu system addysg wrth-hiliol i gyd-fynd â'n huchelgais i fod yngenedl wrth-hiliolerbyn 2030.
While actions are in place and the formal response to report is now concluded, our efforts to address racial inequality through our education system must continue and the closure report sets out how we will continue to monitor to ensure work is fully embedded. It remains vital to sustain momentum, continue to embed anti-racist practice across our education system, and ensure meaningful change. We remain committed to delivering an anti-racist education system to match our ambition to become ananti-racist nationby 2030.
Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r Athro Charlotte Williams OBE am y cyngor, yr arweiniad a'r arbenigedd y mae wedi'i ddarparu drwy gydol y gwaith hwn. Mae ei chrebwyll a'i chefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy ar ein taith tuag at fod yn genedl decach i bawb.
I would like to personally thank Professor Charlotte Williams OBE for the advice, guidance, and expertise she has provided throughout the course of this work. Her insight and support have been invaluable to our journey in becoming a fairer nation for all.
Datganiad Ysgrifenedig: Sicrhau Cymru deg: Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 2024-28
Written Statement: Achieving an equitable Wales: The National Equality Objectives 2024-28
Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Jane Hutt MS, Minister for Social Justice and Chief Whip
O dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ei Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol bob pedair blynedd (o 1 Ebrill 2012).
Under the Equality Act 2010 (Statutory Duties) (Wales) Regulations 2011, the Welsh Government must review its National Equality Objectives every four years (from 1 April 2012).
Cyhoeddir ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol newydd ar gyfer 2024-28 heddiw. Dilynir hyn gan ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, a fydd yn nodi sut y byddwn yn gweithredu'r amcanion.
Our new National Equality Objectives 2024-28 are published today. They will be followed by our Strategic Equality Plan, which will set out how we will implement the objectives.
Ers mis Gorffennaf 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid cydraddoldeb a'r cyhoedd drwy ymgynghoriad 12 wythnos a dau ddigwyddiad gweithdy. Roedd yr ymgysylltu hwn yn gyfle i wrando ar brofiadau bywyd ac adborth pobl ac i ddysgu ohonynt. Rydym wedi ystyried hyn i gyd wrth ddatblygu'r amcanion cydraddoldeb cenedlaethol.
Since July 2023, the Welsh Government has engaged with equality stakeholders and the public through a 12-week consultation and two workshop events. This engagement enabled us to listen to and learn from people’s lived experiences and feedback. We have taken this all into account when developing the national equality objectives.
Dyma'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol:Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1: Byddwn yn creu Cymru lle mae pawb yn cael cyfleoedd i ffynnu yn unol â'n nod sefydliadol i leihau tlodi.Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o'u hawliau dynol, lle cânt eu diogelu, eu hyrwyddo a lle maent yn sail i bob polisi cyhoeddus.Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o wasanaethau cyhoeddus o safon uchel a chael mynediad cyfartal atynt.Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4: Byddwn yn creu Cymru sy'n atal gwahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu, cam-drin, troseddau casineb a/neu fwlio yn erbyn pawb.Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb o'r amrywiaeth lawn o gefndiroedd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, cael eu lleisiau wedi'u clywed, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arwain.Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6: Byddwn yn creu Cymru â chyfleoedd teg a chyfartal i gael swydd ac sy'n sicrhau triniaeth deg a chyfartal yn y gweithle, gan gynnwys cyflog ac amodau teg.Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 7: Byddwn yn creu Cymru sy'n amgylcheddol gynaliadwy gyda'r gallu i sicrhau bod ein taith i sero net yn deg a'n bod yn ymateb i effeithiau annheg newid yn yr hinsawdd.
The National Equality Objectives are:National Equality Objective 1: We will create a Wales where everyone has opportunities to prosper in line with our organisational goal to reduce poverty.National Equality Objective 2: We will create a Wales where everyone can be aware of their human rights, and where those rights are protected, promoted, and underpin all public policy.National Equality Objective 3: We will create a Wales where everyone can be aware of and has equitable access to high quality public services.National Equality Objective 4: We will create a Wales free from discrimination, victimisation, harassment, abuse, hate crime and/or bullying against all people.National Equality Objective 5: We will create a Wales where everyone from the full diversity of backgrounds can participate in public life, have their voices heard and see themselves reflected in leadership positions.National Equality Objective 6: We will create a Wales with fair and equal opportunities to gain employment and for fair and equal treatment in the workplace, including fair pay and conditions.National Equality Objective 7: We will create an environmentally sustainable Wales with the capacity to both ensure our journey to net zero is fair and to respond to the inequitable impacts of climate change.
Mae Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 2024-28 yn eang ac yn drawslywodraethol, ac yn darparu'r sylfaen ar gyfer ein gwaith i ddileu anghydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb, a meithrin perthynas dda rhwng pobl. Maent yn adlewyrchu ein ffocws ar greu Cymru a fydd yn darparu mynediad teg i wasanaethau i bawb, ac yn sicrhau canlyniadau tecach i'n pobl a'n cymunedau amrywiol ledled Cymru. Mae'r amcanion yn gysylltiedig â'r camau gweithredu a nodir mewn cynlluniau cydraddoldeb unigol, megis Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid sydd hefyd yn gweithio gyda ni i gyflawni'r camau gweithredu sydd ynddynt. Maent yn darparu fframwaith cryf ar gyfer y cynlluniau gweithredu cydraddoldeb, gan helpu i leihau cymhlethdod ac ymgorffori cydraddoldeb ymhellach yn ein gwaith llunio polisi.
The National Equality Objectives 2024-28 are broad and cross-governmental. They provide the foundation for our work to eliminate inequality, promote equality, and foster good relations between people. They reflect our focus on creating a Wales which will provide fair access to services for all, and deliver fairer outcomes for our diverse people and communities across Wales. The objectives are linked to the actions set out in individual equality plans, such as the Anti-racist Wales Action Plan and the LGBTQ+ Action Plan, which were developed in partnership with stakeholders, who also work with us to deliver on the actions they contain. They provide a strong framework for the equality action plans, helping to reduce complexity and further embedding equality into our policy making.
Mae lleisiau gweithredol y rhai sydd â phrofiad bywyd o wynebu gwahaniaethu ac anghydraddoldebau wedi bod yn ganolog i ddatblygiad y gwaith hwn. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos â sefydliadau partner a chyda chymunedau a phobl ledled Cymru tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb cenedlaethol.
The active voices of those with lived experience of facing discrimination and inequalities have been central to the development of this work. We look forward to continuing to work closely with partner organisations, with communities and people across Wales towards achieving our national equality objectives.
Datganiad Ysgrifenedig: Ymateb i adroddiad Comisiynydd Plant Cymru ar addysg mewn lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru
Written Statement: Response to the Children’s Commissioner for Wales report into education in healthcare settings in Wales
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Jeremy Miles MS, Minister for Education and Welsh Language
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddiymatebLlywodraeth Cymru iadroddiadComisiynydd Plant Cymru ar addysg mewn lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru.
I have today published the Welsh Government’sresponseto the Children’s Commissioner for Walesreportinto education in healthcare settings in Wales.
Rwy'n croesawu'r gwaith y mae'r comisiynydd wedi'i wneud, ac argymhellion yr adroddiad, sy'n darparu tystiolaeth i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi addysg heblaw yn yr ysgol.
I welcome the work the commissioner has undertaken and the recommendations within the report, which provides evidence to inform education other than at school (EOTAS) policy development.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo'u hamgylchiadau, yn cael addysg lawn sydd o ansawdd uchel ac sy'n addas i'w hanghenion.
We are committed to ensuring all children in Wales, regardless of their circumstances, have a full education, which is of high quality and suitable to their needs.
Roeddwn yn falch o ddarllen bod yr holl blant a gymerodd ran yn yr astudiaeth yn gwerthfawrogi'r addysg a'r gweithgareddau a ddarparwyd tra oeddent yn cael eu trin yn yr ysbyty, a bod yna enghreifftiau o arferion da wrth drefnu addysg yn yr ysbyty. Fodd bynnag, mae'n siomedig darllen nad yw arferion o'r fath yn gyffredin ar draws pob awdurdod lleol.
I was pleased to read all the children who participated in the study valued the education and activities they received while they were being treated in hospital, and that there are examples of good practice in arranging education in hospital. However, it is disappointing to read that such practice is not common across all local authorities.
Er y byddem yn disgwyl rhywfaint o amrywiaeth yn yr addysg a ddarperir y tu allan i'r ysgol rhwng un awdurdod lleol a'r llall, mae'n amlwg yn annerbyniol mai ychydig iawn o addysg sydd ar gael i rai plant tra byddant yn yr ysbyty, os o gwbl.
Although we would expect some variation in EOTAS being provided across local authorities, it is clearly not acceptable that some children have no, or limited, access to education whilst in hospital.
Rwyf wedi nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd mewn ymateb i'r argymhellion yn adroddiad y comisiynydd. Mae hyn yn cynnwys diweddarucanllawiauCefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd i nodi'r dyletswyddau a osodir ar ysgolion ac awdurdodau lleol o dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Mae hyn hefyd yn tanlinellu fy nisgwyliad bod pob plentyn na all fynychu'r ysgol yn derbyn addysg lawn amser, oni bai nad dyma sy'n sicrhau eu lles pennaf.
I have set out the actions we will take in response to the recommendations in the commissioner’s report. This includes updating our Support for Learners with Healthcare Needsguidanceto set out the duties placed on schools and local authorities under the Curriculum and Assessment (Wales) Act 2021. It also underlines my expectation that all children who cannot attend school receive full-time education, unless this is not in their best interests.
Rydym hefyd yn datblygu canllawiau atgyfeirio a chomisiynu i gefnogi awdurdodau lleol i wneud trefniadau ar gyfer darparu addysg heblaw yn yr ysgol sydd o ansawdd uchel, i gefnogi anghenion plant nad ydynt yn gallu mynychu'r ysgol.
We are also developing referral and commissioning guidance to support local authorities to make arrangements for the provision of high-quality education other than at school (EOTAS) which supports the needs of children who are unable to attend school.
Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi'r adroddiad 'Paratoi ar gyfer Datganoli Plismona yng Nghymru'
Written Statement: Publication of the ‘Preparing for the Devolution of Policing in Wales’ report
Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Mick Antoniw MS, Counsel General and Minister for the Constitution Jane Hutt MS, Minister for Social Justice and Chief Whip
Mae cymryd camau tuag at ddatganoli cyfiawnder a phlismona yn un o'r ymrwymiadau ynRhaglen Lywodraethu 2021-26Llywodraeth Cymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae hyn yn adlewyrchu argymhelliad unfrydol yn 2019 gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Comisiwn Thomas), a gynhaliodd yr ymchwiliad mwyaf erioed i sut y mae'r system gyfiawnder yn gweithredu yng Nghymru.
Pursuing the devolution of justice and policing is a commitment in the Welsh Government’sProgramme for Government 2021-26. As Members are aware, this reflects a recommendation in the 2019 Commission on Justice in Wales (theThomas Commission), which was the largest ever examination of the operation of the justice system in Wales.
Roedd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk), a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU ac a gyflwynodd ei adroddiad yn 2014 ac, yn fwy diweddar, yComisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ill dau o blaid datganoli plismona.
The Commission on Devolution in Wales (theSilk Commission), which was set up by the UK Government, which reported in 2014 and, more recently theIndependent Commission on the Constitutional Future of Wales, both supported the devolution of policing.
Wrth fwrw ymlaen â'r achos dros ddatganoli plismona, mae'n bwysig deall yr heriau cysylltiedig a sut y gellid ymateb iddynt. Fis Tachwedd y llynedd, cafodd tîm annibynnol ei gomisiynu gennym i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddeall y manteision, y cyfleoedd, yr heriau a'r risgiau.
In pursuing the case for the devolution of policing, it is important we understand the challenges involved and how these could be addressed. In November last year, we commissioned an independent team to work with key stakeholders to understand the benefits, opportunities, challenges and risks.
Mae'r tîm, dan arweiniad cyn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Carl Foulkes QPM, wedi casglu safbwyntiau gan y rhai sydd ag arbenigedd ym maes plismona yng Nghymru; gyda phedwar comisiynydd heddlu a throseddu etholedig Cymru a chyda'r Fonesig Vera Baird  yn rhinwedd ei swydd fel ymgynghorydd arbenigol annibynnol i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfiawnder.
The team, led by former Chief Constable of North Wales Police Carl Foulkes QPM, has gathered insight from those with expertise of policing in Wales; with the four elected police and crime commissioners in Wales and with Dame Vera Baird KC in her capacity as independent expert adviser to the Welsh Government on justice devolution.