cymraeg
stringlengths
1
11.5k
english
stringlengths
1
11.1k
Rhwng mis Chwefror a mis Rhagfyr 2023 derbyniodd y tîm 252 o alwadau cudd-wybodaeth mewn perthynas â bridwyr cŵn heb drwydded a arweiniodd at 73 o ymchwiliadau a chynnal 391 o arolygiadau ar draws 8 Awdurdod Lleol gan arwain at gyflwyno 58 o Hysbysiadau Gwella o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae'r tîm hefyd wedi gweithredu ym mhorthladdoedd Cymru gan sicrhau cydymffurfiaeth â'r cynllun teithio ar gyfer anifeiliaid anwes a symud anifeiliaid anwes yn fasnachol.
Between February and  December 2023 the team received 252 intelligence calls in relation to unlicensed dog breeders leading to 73 investigations and undertaken 391 inspections across 8 Local Authorities leading to 58 Improvement Notices under the Animal Welfare Act 2006 being served. The team have also led operations at Welsh ports ensuring compliance with the pet travel scheme and commercial movement of pets.
Cyfarfu'r Gweinidog ag arweinydd y Tîm Prosiect a rhai o'r swyddogion ar safle bridiwr cŵn arbenigol yn Sir Fynwy.  Mae Dynamic K9 yn arbenigo mewn bridio cŵn Alsasaidd. Maent yn cynnig rhaglen gymdeithasu a gwella ymddygiad helaeth ynghyd â hyfforddiant tracio, ufudd-dod ac amddiffyn un i un. Mae uned hydrotherapi ar y safle a 6 erw o laswelltir i'r cŵn ymarfer.
The Minister met the Project Team leader and some of the officers at the site of a specialist dog breeder in Monmouthshire.  Dynamic K9 specialise in breeding German Shepherd working dogs. They offer an extensive socialisation and enrichment programme along with one to one tracking, obedience and protection training. The property benefits from an onsite hydrotherapy unit and 6 acres of grass land for the dogs to exercise.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Minister for Rural Affairs Lesley Griffiths said:
Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wella lles anifeiliaid yng Nghymru, ac un o'n hymrwymiadau oedd gwella'r hyfforddiant a'r cymwysterau ar gyfer swyddogion gorfodi awdurdodau lleol.  Mae prosiect Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
We have ambitious plans to improve animal welfare in Wales, and one of our commitments was to improve the training and qualifications for local authority enforcement officers.  The Animal Licensing Wales project is making a real difference.
Rydym yn gwybod bod sicrhau bod sefydliadau bridio cŵn o safon uchel ac enw da yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, ac mae'r swyddogion yn sicrhau newid gwirioneddol yma.
We know ensuring dog breeding establishments are high quality and reputable plays a key role in promoting responsible dog ownership, and the officers are delivering real change here.
Mae'n dda cwrdd â rhai o'r tîm ac ymweld â Dynamic K9 sy'n enghraifft o fridiwr cŵn sydd â chyfleusterau rhagorol.
It’s good to meet some of the team and to visit Dynamic K9 which is an example of a dog breeder with excellent facilities.
Dywedodd Gareth Walters, arweinydd prosiect Trwyddedu Anifeiliaid Cymru:
Gareth Walters, project lead for Animal Licensing Wales said:
Mae'r prosiect hwn yn darparu hyfforddiant ledled Cymru, gan wella pwerau gorfodi i awdurdodau lleol.  Rydym yn falch ei fod wedi'i ymestyn tan 2025 a bydd yn darparu gwersi a phrofiad gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.
This project is delivering training across Wales, improving enforcement powers for local authorities.  We're pleased it has been extended until 2025 and it will provide valuable lessons and experience for the future.
Dywedodd Eevie Meechan perchennog Dynamic K9:
Eevie Meechan owner of Dynamic K9 said:
Rydym yn falch iawn ac yn teimlo'n ostyngedig iawn fod y Gweinidog wedi dewis ymweld a'n sefydliad bridio ni heddiw. Rydym yn ymdrechu i gynnal y safonau bridio gorau ac er ei fod yn waith caled, mae'n un sy'n ein gwneud yn fodlon iawn. Rydyn ni'n hapus o weld ein cŵn bach i gyd yn ffynnu yn eu bywydau newydd.
We are very proud and humbled that the Minister chose our breeding establishment to visit today. We strive to uphold the very best breeding standards and although it is a hard job, it is one that brings us joy. We live through seeing all of our puppies flourishing in their new lives.
Rhoddodd y Gweinidog ddiweddariad hefyd ar sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo perchenogaeth a bridio cŵn yn gyfrifol trwy gyfres o weithdai a digwyddiadau, yn dilyn llwyddiant uwchgynhadledd mis Hydref y llynedd.
The Minister also provided an update on how the Welsh Government are promoting responsible dog ownership and breeding through a series of workshops and events, following the success of last October’s summit.
Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Fridio Cŵn yn Gyfrifol a Pherchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn
Written Statement: Update on Responsible Dog Breeding and Ownership
Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Lesley Griffiths MS, Minister for Rural Affairs, North Wales, and Trefnydd
Cynhaliwyd gweithdy ynghylch perchnogaeth gyfrifol ar gŵn a bridio cŵn mewn modd cyfrifol ar 15 Chwefror, yn dilyn yrUwchgynhadledd ar Berchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn: Gweithredu ar Gŵn Peryglusa gynhaliwyd ym mis Hydref 2023.
A responsible dog breeding and ownership workshop was held on 15 February, following on from theResponsible Dog Ownership Summit: Action on Dangerous Dogsheld in October 2023.
Roedd y gweithdy diweddaraf yn gyfle i dynnu sylw at fesurau a’r hyn a gyflawnwyd ers yr uwchgynhadledd gyntaf, gan ddangos sut mae'r dull cydweithredol amlasiantaethol yn helpu i gyflawni ein blaenoriaethau ac annog perchnogion a bridwyr i fod yn gyfrifol.
The latest workshop was an opportunity to highlight achievements and measures since the first summit, demonstrating how the multi-agency collaborative approach is helping to deliver our priorities and promoting responsible dog breeding and ownership.
Ein huchelgais yw i bob anifail yng Nghymru gael bywyd da. Mae einCynllun Lles Anifeiliaid 2021-2026yn hyrwyddo safonau rhagorol, mabwysiadu a rhannu arferion gorau, ymgysylltu â rhanddeiliaid, camau gorfodi effeithiol, ymchwil ac addysg, er mwyn ymgorffori perchnogaeth gyfrifol a hyrwyddo lles anifeiliaid. Bydd y gyfres o weithdai a digwyddiadau rhanddeiliaid, a gynhelir yn ystod 2024, yn rhan allweddol o gyflawni'r nodau hyn.
Our ambition is for all animals in Wales to have a good life. OurAnimal welfare plan 2021-2026, champions exemplary standards, adoption and the sharing of best practice, engagement with stakeholders, effective enforcement, research, and education, to embed responsible ownership and advance animal welfare. The series of stakeholder workshops and events, which will be run throughout 2024, will be a key part in achieving these aims.
Roedd y gweithdy ym mis Chwefror yn ddigwyddiad hybrid gyda thros 50 o bobl yn bresennol o ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys heddluoedd, awdurdodau lleol, cyrff milfeddygol, iechyd y cyhoedd a sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys y rhai sy'n ymgyrchu dros les cŵn a diogelwch y cyhoedd.
The February workshop was a hybrid event with more than 50 attendees from a wide range of organisations, including police forces, local authorities, veterinary bodies, public health and third sector organisations, including those campaigning for the welfare of dogs and the safety of the general public.
Cafwyd cyflwyniadau gan y Groes Las ar gyrsiau Perchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn a'r gwaith y mae’n ei wneud gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Rhoddodd Heddlu De Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am ei fenterLEAD (Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn), gan hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol a diogel o ran cŵn a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
There were presentations from the Blue Cross on Responsible Dog Ownership courses and the work it is doing with South Wales and Gwent police forces. South Wales Police gave an update on itsLEAD (Local Environment Awareness on Dogs)initiative, promoting safe and responsible dog ownership and reducing anti-social behaviour.
Dyma’r argymhellion allweddol o’r gweithdy:Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r Rheoliadau Bridio a Microsglodynnu presennol, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu safonau lles uchel a galluogi camau gorfodi effeithiol.Mynd i'r afael â'r gwahaniaethau rhwng rolau a chyfrifoldebau heddluoedd ac awdurdodau lleol ar orfodi, wrth ddelio â throseddau sy'n gysylltiedig â chŵn.Deall pa gamau sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gofnodi a rhannu data ynghylch perchnogaeth ar gŵn rhwng asiantaethau, a fydd yn helpu i fonitro digwyddiadau, dychwelyd anifeiliaid at eu perchnogion, a lleihau beichiau ariannol a beichiau o ran adnoddau.Parhau i gydlynu negeseuon a chefnogi ymgyrchoedd ymgysylltu â'r cyhoedd ac addysg, hyrwyddo lles anifeiliaid a sicrhau diogelwch y cyhoedd, gan bob sefydliad.
The key recommendations from the workshop were:The Welsh Government will review the current Breeding and Microchipping Regulations, to ensure they continue to provide high welfare standards and enable effective enforcement.To address the disparity between roles and responsibilities of police forces and local authorities on enforcement, when dealing with dog related offences.Understanding what action is needed to support the recording and sharing of dog ownership data between agencies, which will help to monitor incidents, return animals to their owners, and reduce financial and resource burdens.To continue the co-ordination of messaging and support of public engagement campaigns and education, promoting good animal welfare and ensuring public safety, by all organisations.
Mae'r digwyddiad nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer 30 Ebrill.
The next event is planned for 30 April.
Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymraeg 2050 ar gyfer 2024-25
Written Statement: Publication of Cymraeg 2050 Action Plan for 2024-25
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Jeremy Miles MS, Minister for Education and Welsh Language
Heddiw, rwy’n cyhoeddiCynllun Gweithredu Cymraeg 2050ar gyfer 2024-25. Mae’r ddogfen hon yn disgrifio sut y byddwn yn parhau i weithredu amcanion strategaethCymraeg 2050: Miliwn o siaradwyryn ystod blwyddyn ariannol 2024-25.
Today, I’m announcing the publication of theCymraeg 2050 Action Plan for 2024-25.This document describes how we’ll continue to implement the objectives contained in our strategy,Cymraeg 2050: A million Welsh speakersduring the 2024-25 financial year.
Mae’rCynllun Gweithreduyn adlewyrchu’r camau sydd wedi’u cynnwys ynRhaglen Waith 2021-2026 Cymraeg 2050, yn ogystal â’n Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Mae’r Cynllun yn amlinellu’r camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25 er mwyn gweithredu’r ddau brif darged a ganlyn:Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013-15) i 20% erbyn 2050.
TheAction Planreflects the steps set out in theCymraeg 2050 Work Programme for 2021-2026, as well as our Programme for Government and the Co-operation Agreement with Plaid Cymru. The Plan outlines the work the Welsh Government will undertake during the 2024-25 financial year to deliver against the two main targets, as follows:The number of Welsh speakers to reach 1 million by 2050.The percentage of the population that speak Welsh daily, and can speak more than just a few words of Welsh, to increase from 10% (in 2013-15) to 20% by 2050.
Eleni, byddwn yn parhau i weithredu o dan dair thema ein strategaeth iaith sef:Cynyddu’r niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg.Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun
This year, we will continue to work under the three themes within our language strategy:Increase the number of Welsh speakers.Increase the use of Welsh.Creating favourable conditions – infrastructure and context.
Bydd ein gwaith yn digwydd ar draws amrywiol bortffolios Gweinidogol a chydag ystod eang o randdeiliaid ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Hyn oll er mwyn symud ymlaen ar ein taith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r nifer ohonom sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd.
Our work will be undertaken across various Ministerial portfolios and with a wide range of stakeholders across Wales and beyond. We will do this in order to move forward on our journey towards a million Welsh-speakers and to double the daily use of our language.
Datganiad Ysgrifenedig: Rheoliadau'r Amgylchedd a Materion Gwledig (Dirymu a Darpariaeth Ganlyniadol) 2024
Written Statement: The Environment and Rural Affairs (Revocation and Consequential Provision) Regulations 2024
Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd
Lesley Griffiths MS, Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd
Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Gweinidog Bioddiogelwch, Iechyd Anifeiliaid a Lles arfer pŵer gwneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig mewn perthynas â Chymru.
Members of the Senedd will wish to be aware that I have given consent to the Minister for Biosecurity, Animal Health and Welfare to exercise a subordinate legislation-making power in devolved areas in relation to Wales.
Gofynnwyd am gytundeb gan y Gweinidog y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Douglas-Miller i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau'r Amgylchedd a Materion Gwledig (Dirymu a Darpariaeth Ganlyniadol) 2024.
Agreement was sought by the Minister Rt Hon Lord Douglas-Miller to make a Statutory Instrument (SI) titled The Environment and Rural Affairs (Revocation and Consequential Provision) Regulations 2024.
Gosodwyd yr OS uchod gerbron Senedd y DU gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 13 Mawrth drwy arfer pwerau a roddwyd gan Adran 14 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ("Deddf REUL").
The above titled Statutory Instrument (SI) was laid before the UK Parliament by the Secretary of State on 13 March in exercise of powers conferred by Section 14 of the Retained EU Law (REUL) (Revocation and Reform) Act.
Bydd y Rheoliadau'n dirymu deddfwriaeth a nodwyd yn ddiangen ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, na chafodd ei chynnwys yn Atodlen 1 i Ddeddf REUL.  Ni fydd ei ddileu yn cael unrhyw effaith polisi yng Nghymru. Gosodwyd yr OS gerbron Senedd y DU ar 13 Mawrth.
The SI will revoke legislation that is redundant following the UK’s exit from the EU and was not included in Schedule 1 of the REUL Act.  Its removal will have no policy effect in Wales. The SI was laid before the UK Parliament on 13 March.
Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru:
Impact the instrument may have on the Senedd’s legislative competence and/or the Welsh Ministers’ executive competence:
Nid yw'r Rheoliadau yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd, ac nid ydynt yn creu, diwygio nac yn dileu unrhyw swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru.
The Regulations do not diminish or undermine the powers of Welsh Ministers in any way, and they do not create, amend or remove any functions conferred on the Welsh Ministers.
Hoffwn sicrhau'r Senedd mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Ar yr achlysur hwn, felly, rwy'n rhoi fy nghydsyniad i'r Rheoliadau hyn am resymau effeithlonrwydd a chydgysylltiad trawslywodraethol, a chysondeb.
I would like to reassure the Senedd it is normally the policy of the Welsh Government to legislate for Wales in matters of devolved competence. However, in certain circumstances there are benefits in working collaboratively with the UK Government where there is a clear rationale for doing so. On this occasion, I have given my consent to these Regulations for reasons of efficiency and cross-government coordination, and consistency.
Mae'r Rheoliadau i'w gweld yma:The Retained EU Law (Revocation and Reform) Act 2023 (Environment, Food and Rural Affairs) (Revocation) Regulations 2024 - GOV.UK (www.gov.uk)(Saesneg yn Unig).
The Regulations are available here:The Retained EU Law (Revocation and Reform) Act 2023 (Environment, Food and Rural Affairs) (Revocation) Regulations 2024 - GOV.UK (www.gov.uk)
Datganiad Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 15.2
Written Statement laid under Standing Order 15.2
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rebecca Evans MS, Minister for Finance and Local Government
Gosodwyd y Datganiad Ysgrifenedig canlynol gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 15.2:
The following Written Statement has been laid before the Senedd under Standing Order 15.2:
Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024
The Procurement Act 2023 (Commencement No. 2) Regulations 2024
Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi diweddariad Gwanwyn 2024 ar yr Archwiliad Dwfn i Ynni Adnewyddadwy
Written Statement: Publication of the Spring 2024 update on the Renewable Energy Deep Dive
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Julie James MS, Minister for Climate Change
Mae bron i ddwy flynedd a hanner bellach wedi mynd heibio ers i ni gwblhau ein Harchwiliad Dwfn i Ynni Adnewyddadwy, a nododd 21 o argymhellion gyda'r nod o gael gwared ar y rhwystrau a chynyddu'r cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
It has now been almost two-and-a-half years since we concluded our Renewable Energy Deep Dive, which identified 21 recommendations aimed at removing the barriers and increasing the opportunities for renewable energy generation in Wales.
Canolbwyntiodd eindiweddariad bob chwe mis cyntaf ar yr archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy, ar gamau gweithredu hyd at fis Medi 2022, a dangosodd y cynnydd rydym wedi'i wneud yn erbyn pob un o'r argymhellion a'r camau yr ydym wedi'u cymryd i hyrwyddo’r gwaith o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Our firstbiannual update on the renewable energy deep dive, concentrated on actions up to September 2022, and demonstrated the progress that we have made against each of the recommendations and the strides we have taken to promote renewable energy generation in Wales.
Dilynodd ein hail ddiweddariad ym mis Ebrill 2023, ac rwy'n falch o gyhoeddi ein trydydd diweddariad a'r olaf. Mae'r adroddiad hwn yn pwysleisio rhai o'r gweithgareddau mwy arwyddocaol yn erbyn yr hargymhellion rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024, a rhai o'r cerrig milltir allweddol a fydd yn ein helpu i gwblhau'r argymhellion hynny.
Our second update followed in April 2023, and I am pleased to publish our third and final update. This report underlines some of the more significant activity against the recommendations between April 2023 and March 2024, and some of the key milestones which will help us complete those recommendations.
Mae'r adroddiad yn dangos ein hymdrechion i drawsnewid ein system ynni o ddibynnu ar danwydd ffosil i sector ynni adnewyddadwy cryf, hirdymor a chynaliadwy sy'n cadw'r cyfoeth yng Nghymru i'n cymunedau.
The report demonstrates our efforts to transition our energy system from a reliance on fossil fuels to a strong, long-term, and sustainable renewables sector that retains the wealth in Wales for our communities.
Nod ein gwaith ar gynllunio ynni ardal leol, i fwydo Cynllun Ynni Cenedlaethol, a'n gwaith yn ymwneud â Gridiau'r Dyfodol, yw mapio'r seilwaith y bydd ei angen arnom i ddeall a gwireddu ein hanghenion a'n hymrwymiadau ynni.
Our work on local area energy planning, to feed into a National Energy Plan, and our Future Grids work, are aimed at mapping the infrastructure that we’ll need to understand and realise our energy needs and commitments.
Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn cael ei lansio ym mis Ebrill eleni ac mae gwaith yn parhau ar ddatblygu Ynni Cymru. Byddwn yn parhau â'n trafodaethau gydag Ofgem, yn enwedig gan fod Cymru yn arwain y ffordd o ran meddwl yn seiliedig ar systemau lleol. Mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud o ran caffael ar draws y sector cyhoeddus gan ymgorffori gwerth cymdeithasol a byddwn yn parhau i gyfrannu at y trafodaethau hynny.
Trydan Gwyrdd Cymru will be launched in April this year and work continues on the development of Ynni Cymru. We will continue our discussions with OFGEM, especially as Wales is leading the way in terms of the local systems thinking. Significant work is taking place in terms of procurement across the public sector incorporating social value and we will continue to input into those discussions.
Mae'r Rhaglen Ynni Morol yn parhau i gefnogi porthladdoedd a bydd porthladdoedd rhydd hefyd yn rhoi cyfleoedd newydd iddynt. Bydd gwaith ar sgiliau a chadwyni cyflenwi yn parhau yn ogystal â manteisio ar fuddion penodol wrth i brosiectau ddechrau. ​
The Marine Energy Programme continues to support ports and Freeports will also provide them with new opportunities. Work on skills and supply chains will continue as well as capitalising on specific benefits as projects commence. ​
Byddwn yn parhau i sicrhau bod y gyfundrefn gydsynio a thrwyddedu yn darparu dull cynaliadwy a chymesur. Bydd y drafodaeth yn parhau i ddylanwadu ar y newidiadau yn dilyn y Deddfau Ynni a Ffyniant Bro ac Adfywio. Mae ein gwaith i gefnogi'r sector ynni cymunedol yn helpu i sicrhau bod pob cymuned yng Nghymru, ond yn enwedig y rhai sy'n cynnal datblygiadau adnewyddadwy, yn elwa ar ein symudiad i Sero Net.
We will continue to ensure the consenting and licensing regime provides a sustainable and proportionate approach. Discussion will continue to influence the changes following the Energy and Levelling Up and Regeneration Acts. Our work to support the community energy sector helps ensure that all Welsh communities, but especially those that host renewable developments, benefit from our move to Net Zero.
Mae gwaith ein his-grŵp Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy wedi helpu i nodi ysgogiadau ariannol y gallwn ddechrau eu defnyddio i gymell cyflwyno datblygiadau adnewyddadwy ymhellach ar draws sawl sector. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau a'n targedau, rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud ac y bydd sbardunau polisi pwysig, fel cynlluniau ynni lleol, yn helpu i osod yr heriau ar gyfer cyfundrefnau rheoleiddio ac ariannu.
Work from our Investment into Renewables subgroup has previously helped identify financial levers that we can start to use to further incentivise the roll out of renewable developments across multiple sectors. However, to achieve our ambitions and targets we recognise that there is more to be done and that important policy drivers, such as local energy plans will help to set the challenges for regulatory and funding regimes.
Y bwriad yw mai hwn fydd ein diweddariad terfynol ar Argymhellion yr Archwiliad Dwfn, a hoffwn ddiolch i aelodau Grŵp Llywio'r Archwiliad Dwfn i Ynni Adnewyddadwy am gyfrannu at y gwaith.
This is intended to be our closing update on the Deep Dive Recommendations, and I would like to thank the members of the Renewable Energy Deep Dive Steering Group for their contributions to the work.
Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad olaf hwn, byddwn yn cyhoeddi ein hymateb cyn bo hir i Baratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050 a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.
Following the publication of this last report we will shortly be publishing our response to the Preparing Wales for a Renewable Energy 2050 issued by the National Infrastructure Commission for Wales.
Datganiad Ysgrifenedig: Y Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru
Written Statement: The Early Childhood Play Learning and Care in Wales Plan
Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Julie Morgan MS, Deputy Minister for Social Services, Jeremy Miles MS, Minister for Education and Welsh Language
Heddiw, rydym yn cyhoeddi einCynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru. Cynllun traws-sector yw hwn, sy’n dwyn ynghyd, am y tro cyntaf, yr holl bolisïau a rhaglenni sy’n ymwneud â chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar o bob rhan o Lywodraeth Cymru.
Today we are publishingour Early Childhood Play Learning and Care in Wales Plan. This is a cross-sectoral plan that brings together, for the first time, all our policies and programmes relating to early childhood play, learning and care from across Welsh Government.
Rydym am i bob baban a phlentyn ifanc yng Nghymru ffynnu drwy roi cyfleoedd a phrofiadau cyfoethog iddynt. Mae babanod a phlant ifanc yn byw yn y presennol a dylent fwynhau’r holl ryfeddodau a’r hwyl sy’n dod yn sgil hynny. Ac wrth wneud hynny, rydym yn eu helpu i fod yn fwy bodlon yn y dyfodol.
We want every baby and young child in Wales to thrive through enriched opportunities and experiences. Babies and young children live in the moment and should enjoy the many wonders and fun that brings. And in doing so we are supporting them to build a more fulfilled future.
Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd y Prif Weinidog ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at weithredu dull integredig, o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar hawliau, o fynd i’r afael â chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar. Mae ein cynllun yn rhoi plant a’u datblygiad wrth wraidd popeth a wnawn mewn perthynas â chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru.
The First Minister announced the Welsh Government’s approach to implementing an integrated, high-quality, rights-based approach to early childhood play, learning and care in October 2019. Our plan places the child and child development at the heart of everything we do in respect to early childhood play, learning and care in Wales.
Mae’n bwysig ei gwneud yn glir nad yw’r cynllun chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yn ymwneud â chreu math newydd o leoliad blynyddoedd cynnar. Mae’n ymwneud â datblygu a darparu dull cyson o feithrin, dysgu a datblygu, drwy ddarparu cyfleoedd addysg a gofal plant o ansawdd uchel, cynhwysol, sy’n seiliedig ar chwarae, ar gyfer pob baban a phlentyn ifanc rhwng 0 a 5 oed.
It is important to be clear that early childhood play, learning and care is not about creating a new type of early years setting. It is about developing and delivering a consistent approach to nurturing, learning and development, through the provision of high-quality, inclusive, play-based education and childcare opportunities, for all babies and young children aged 0 to five-years-old.
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau i sicrhau bod babanod a phlant ifanc yn cael cymorth i gael plentyndod bodlon a hapus.
We are committed to breaking down barriers to ensure babies and young children are supported to have fulfilling and happy childhoods.
Datblygwyd y cynllun yn seiliedig ar dair thema, sef:Ansawdd y ddarpariaeth: Rydym yn ceisio darparu profiadau dysgu a gofal ysgogol o ansawdd uchel i bob baban a phlentyn ifanc ym mhob lleoliad addysg feithrin, gwaith chwarae a gofal plant y mae’n ei fynychu.Mynediad at ddarpariaeth: Dylid darparu cymorth mewn ffordd hyblyg a chynhwysol sy’n ymateb i amgylchiadau unigol. Dylai'r cymorth hwn helpu plant i ddatblygu yn ogystal â galluogi eu rhieni i ddeall yr ystod eang o gymorth sydd ar gael iddynt. Gallai’r cymorth hwnnw helpu rhieni i allu gweithio.Cefnogi a datblygu’r gweithlu: Dylai pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio ym maes Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar gael ei werthfawrogi’n gyfartal a chael pecyn dysgu a chymorth.
The plan has been developed around three themes:Quality of provision: We are seeking to provide all babies and young children with high-quality stimulating learning and care experiences in every nursery education, playwork and childcare setting they attend.Access to provision: Provision of support should be flexible, inclusive and responsive to individual circumstances which support children and their development as well as enabling their parents to understand the wide range of support available to them which may help them to be able to work.Supporting and developing the workforce: All professionals working within early childhood play, learning and care, should be equally valued and have a package of learning and support.
Mae gan y cynllun chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar gyfraniad pwysig i’w wneud o ran lliniaru effaith anghydraddoldebau, boed yn sgil hiliaeth, tlodi, neu ffactorau cymdeithasol eraill megis diffyg cyfleoedd. Gall pob un o’r rhain gael effaith barhaol ar fywydau pobl.
Early childhood play, learning and care has a significant contribution to make in mitigating the impact of inequalities – whether that’s racism, poverty, or other societal factors such as a lack of opportunities – which can have lasting effects on people’s lives.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl bartneriaid hynny sy’n rhan o’r gwaith o ddatblygu’r cynllun ar y cyd. Drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r cynllun hwn, rydym wedi bod yn glir na allwn gyflawni ein huchelgais ar gyfer Cymru ar ein pen ein hunain. Mae arnom angen i bawb sy’n gweithio yn y sectorau chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar chwarae rhan sylweddol a chymryd camau ar y cyd i sicrhau bod pob baban a phlentyn ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i ffynnu, bod yn hapus ac yn iach.
We would like to take this opportunity to thank all those partners involved in the co-development of the plan. Throughout its development, we have been clear we cannot achieve our ambition for Wales alone – we need everyone working in the early childhood play, learning and care sectors to play a significant role and to undertake collective action to enable, all babies and young children in Wales to have an opportunity to thrive, be happy and healthy.
Gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant gemau yng Nghymru yn chwifio’r faner mewn cynhadledd ‘allweddol’ yn yr Unol Daleithiau
Welsh gaming professionals to fly the flag at 'instrumental' US conference
Bydd cymorth gan Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru yn gweld rhai o gwmnïau datblygu gemau a meddalwedd mwyaf blaenllaw Cymru yn mynd i gynulliad blynyddol mwyaf y diwydiant gemau yn San Francisco.
Creative Wales and Welsh Government support will see some of Wales’ leading games development and software companies heading to the games industry’s largest annual gathering in San Francisco.
Bydd deg cwmni o Gymru, gan gynnwys Copa, Good Gate Media a Sugar Creative yn cysylltu â 28,000 o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant gemau o bob cwr o’r byd yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau, sy’n dechrau ar 18 Mawrth, i rwydweithio, rhannu syniadau, gwneud cysylltiadau busnes newydd a llunio dyfodol y diwydiant.
Ten Welsh firms including Copa, Good Gate Media and Sugar Creative are set to connect with 28,000 gaming industry professionals from around the world at the Game Developers Conference from 18 March to network, share ideas, make new business links, and shape the future of the industry.
Gwerth y diwydiant gemau yn y DU yn 2023 oedd £7.6 biliwn. Mae Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu cwmnïau o Gymru yn y sector i dyfu a masnachu’n rhyngwladol, yn ogystal â chefnogi cyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddiadau.
The games industry in the UK was worth £7.6 billion in 2023. Creative Wales and the Welsh Government are committed to helping Welsh companies in the sector to grow and trade internationally, as well as support inward investment opportunities.
Ar ôl y daith fasnach y llynedd i’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau, aeth cwmnïau gemau o Gymru yn eu blaen i sicrhau cytundebau gwerth dros £1.35 miliwn, gyda rhagor o gytundebau yn yr arfaeth.
After last year’s trade mission to Game Developers Conference, Welsh games companies went on to secure deals to the value of over £1.35 million, with further deals still to be completed.
Mae’n golygu bod y sector gemau wedi dod yn ganolfan i weithwyr proffesiynol medrus yng Nghymru, gan gynnwys datblygwyr gemau, dylunwyr ac artistiaid, sydd i gyd yn cyfrannu at greu gemau blaengar sydd wedi cael eu canmol yn fyd-eang.
It means the games sector has become a hub for skilled professionals in Wales, including game developers, designers, and artists, who all contribute to the creation of cutting-edge and globally acclaimed games.
Mae hefyd yn gatalydd ar gyfer mewnfuddsoddiadau. Ar ôl gwneud cysylltiadau â Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau 2022, penderfynodd cwmni gemau arbenigol yn yr Unol Daleithiau, Rocket Science, sefydlu ei bencadlys Ewropeaidd newydd yng Nghymru.
It is also a catalyst for inward investment. After making links with Creative Wales and the Welsh Government at the 2022 Game Developers Conference, US specialist games company, Rocket Science, made the decision to set up its new European headquarters in Wales.
Mae’r cwmni wedi ymrwymo i greu 50 o swyddi medrus â chyflog uchel ar gyfer graddedigion yn y diwydiant gemau yn ei ganolfan yng Nghaerdydd. Ers sefydlu’r stiwdio newydd fis Awst diwethaf, mae wedi lansio ‘Atomic Theory’ yn ddiweddar, gwasanaeth newydd sy'n gwneud datblygiadau i gemau sydd eisoes ar y farchnad ac atebion peirianneg UI / UX ar gyfer datblygwyr a chyhoeddwyr blaenllaw ledled y byd.
The company is committed to creating 50 highly paid and skilled jobs for games industry graduates at its Cardiff base. Since establishing the new studio last August, it has recently launched 'Atomic Theory', a new service that offers in-game development and UI/UX engineering solutions for leading developers and publishers around the world.
Dywedodd cyd-sylfaenydd Rocket Science, Thomas Daniel:
Co-Founder of Rocket Science, Thomas Daniel said:
Mae’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn ddigwyddiad arwyddocaol yn y diwydiant gemau, gan ddod â’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau allweddol o gwmnïau dylanwadol at ei gilydd.
The Game Developers Conference is a significant event in the games industry, bringing together key decision-makers from influential companies.
Mae’n wych bod taith fasnach Llywodraeth Cymru a chymorth ariannol gan Cymru Greadigol wedi galluogi Rocket Science i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn. Mae bod yng nghanol yr holl weithgarwch yn darparu cyfleoedd ardderchog ar gyfer rhwydweithio, dysgu ac arddangos talent Cymru yn y diwydiant gemau.
It's fantastic that the Welsh Government's trade mission and funding support from Creative Wales have enabled Rocket Science to be part of this event. Being in the centre of all the action provides excellent opportunities for networking, learning, and showcasing Welsh talent in the gaming industry.
Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
Economy Minister, Vaughan Gething said:
Mae bellach dros 3.2 biliwn o chwaraewyr gemau ledled y byd ac mae gan y sector ddyfodol cyffrous yma yng Nghymru. Mae’n rhan annatod o’n heconomi a’n diwylliant, ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r gyrfaoedd uchelgeisiol y mae pobl yn eu meithrin yn y sector yma yng Nghymru.
There are now over 3.2 billion gamers worldwide and the sector has an exciting future here in Wales. It is firmly part of our economic and cultural offer, and we are proud to support the ambitious careers people are building in the sector here in Wales.
Rwyf wrth fy modd bod Cymru Greadigol yn parhau i gefnogi cymuned ffyniannus o fusnesau arloesol, gan fanteisio i’r eithaf ar dalent leol i sicrhau llwyddiant rhyngwladol. Mae ein Cenhadaeth Economaidd yn bodoli i helpu pobl ifanc i gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru. Mae’r cwmnïau sy’n mynd i San Francisco yn rhan o’r siwrnai honno ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw!
I’m thrilled Creative Wales continues to back a thriving community of innovative businesses, making the most of local talent to secure international success. Our Economic Mission exists to help young people plan ambitious futures in Wales. The companies heading to San Francisco are part of that journey and I wish them every success!
Mae Wales Interactive yn gwmni sydd wedi ennill gwobrau sy’n cyhoeddi gemau fideo annibynnol a ffilmiau rhyngweithiol. Dywedodd y sylfaenydd a’r Cyfarwyddwr, Richard Pring:
Wales Interactive is a multi-award-winning indie video games and interactive movie Developer & Publisher. Founder and Director, Richard Pring said:
Rydym wedi mynychu’r Gynhadledd Datblygwyr Gemau bob blwyddyn am y deg mlynedd diwethaf ac mae wedi bod yn allweddol wrth feithrin cysylltiadau a chynyddu proffil ein gemau.
We’ve attended the Game Developers Conference every year for the last 10 years and it’s been instrumental in building relationships and building the profile of our games.
Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Cymru Greadigol am ei chymorth wrth ein helpu i ddod yn gwmni sy’n datblygu ac yn cyhoeddi gemau fideo annibynnol a ffilmiau rhyngweithiol – cwmni sydd wedi ennill gwobrau – drwy’r Gronfa Ddatblygu.
We’re hugely grateful to Creative Wales for its support in helping us become a multi-award-winning indie video games and interactive movie developer and publisher through the Development Fund.
Mae hyn wedi ein galluogi i sefydlu nid yn unig stiwdio gemau ffyniannus ond hefyd un hynod lwyddiannus, gyda’n prosiectau’n arwain at dair buddugoliaeth BAFTA Cymru a nifer o wobrau eraill yn y sector adloniant a gemau.
This has enabled us to establish not just a thriving game studio but also a highly successful one, with our projects resulting in three BAFTA Cymru victories and numerous other entertainment and games awards.
Yn 2023, lansiodd Cymru Greadigol y Gronfa Ddatblygu, sydd ar gael i gefnogi cwmnïau teledu, animeiddio, gemau, a thechnoleg ymgolli yng Nghymru i ddatblygu prosiectau a chysyniadau yn llawn – gan gynyddu’r tebygolrwydd y bydd prosiect yn cael ei gomisiynu, ei gymeradwyo a’i gynhyrchu.
In 2023, Creative Wales launched the development fund, which is available to support TV, animation, games, and immersive tech companies in Wales to fully develop projects and concepts – offering a greater chance of getting a project commissioned, greenlit and into production.
Ar hyn o bryd, gall cwmnïau gemau yng Nghymru sydd am ddatblygu cynyrchiadau a fwriedir ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol gael cyllid ganCyllid Cynhyrchu Cymru Greadigol, gyda’r bwriad o gefnogi twf Cymru fel cyrchfan ar gyfer cynhyrchu cynnwys o’r radd flaenaf.
Currently, Wales-based games companies looking to develop productions intended for international audiences can accessCreative Wales Production Funding, which is intended to support the growth of Wales as a destination for the production of world class content.
Datganiad Ysgrifenedig: Y Warant i Bobl Ifanc - adroddiadau
Written Statement: Young Person’s Guarantee - Reports
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Vaughan Gething MS, Minister for Economy
Heddiw, rwyf wedicyhoeddi'Y Warant i Bobl Ifanc – Adroddiad Blynyddol 2023'ochr yn ochr â'Y Warant i Bobl Ifanc – Adroddiad Cam 2 a 3 y Sgwrs Genedlaethol'ac ymateb Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfranogwyr.
I have todaypublishedtheYoung Person’s Guarantee  Annual Report 2023alongside theYoung Person’s Guarantee – National Conversation Phase 2 and 3 Reportand the Welsh Government’s response for participants.
Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ac fe'i lansiwyd ym mis Tachwedd 2021. Ei nod yw cynnig cymorth parhaus i bobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.
The Young Person’s Guarantee is a Programme for Government commitment, which was launched in November 2021. It aims to provide young people aged 16 to 24 in Wales with an ongoing offer of support to gain a place in education or training, find a job or become self- employed.
Mae'r adroddiad blynyddol yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd cryf o ran cyflawni ei hymrwymiad gyda mwy na 27,000 o bobl ifanc wedi dechrau ar raglenni cyflogadwyedd a sgiliau ers lansio'r warant.
The annual report notes the Welsh Government is making strong progress in delivering its commitment with more than 27,000 young people starting on employability and skills programmes alone, since the launch of the guarantee.
Mae mwy na 5,000 o bobl ifanc wedi symud ymlaen i gyflogaeth, mwy na 400 wedi dechrau eu busnes eu hunain a mwy na 12,700 wedi dechrau prentisiaethau, yn ôl ffigurau dros dro.
More than 5,000 young people have progressed into employment; more than 400 have started their own business and more than 12,700 have started apprenticeships, according to provisional figures.
Ar ben hynny, mae 1,100 o bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn 64 o ddigwyddiadau 'Cystadlaethau Sgiliau Cymru' yn ystod 2023. Mae'r cystadleuwyr yn codi eu safonau eu hunain yn barhaus ac yn dangos eu brwdfrydedd a'u hawydd i lwyddo yn eu sector, gyda 17 yn cael eu gwahodd i ymuno â charfan y DU ar gyfer rowndiau terfynol WorldSkills a gynhelir yn Lyon ym mis Medi.
Furthermore, 1,100 young people have taken part in 64 Skills Competitions Wales events during 2023. The competitors are continuously raising their own standards and showcasing their drive and determination to succeed in their sector, with 17 invited to join the UK squad for the WorldSkills finals to be held in Lyon this September.
Roedd y Sgwrs Genedlaethol ar y Warant i Bobl Ifanc yn cynnwys cyfres o arolygon a grwpiau ffocws a gwaith cam cyntaf parhaus a ddechreuodd yn 2022. Mae pobl ifanc wedi wynebu amgylchiadau eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phrofiadau nad yw'r rhan fwyaf ohonom erioed wedi ymdopi â mor ifanc. Mae llawer yn pryderu na fydd eu rhagolygon gyrfa a llesiant fyth yn gwella wedi’r pandemig a'r argyfwng costau byw a dyna pam mae'r Warant i Bobl Ifanc wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.
The Young Person’s Guarantee – National Conversation exercise involved a series of surveys and focus groups and continued phase one work that started in 2022. Young people have faced an extraordinary set of circumstances in recent years, with experiences that most of us have never had to contend with at such a young age, including a global pandemic. Many feel concerned their career and wellbeing prospects will never recover from the pandemic and cost-of-living crisis, which is why the Young Person’s Guarantee has been a major priority for the Welsh Government.
Canolbwyntiodd camau dau a thri yn 2023 ar archwilio ymhellach y rhwystrau i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant y mae pobl ifanc bellach yn eu hwynebu. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ochr yn ochr ag ein ymateb ar gyfer y cyfranogwyr lle rydym yn dangos sut ydym wedi gwrando ar bobl ifanc ac wedi ymateb i'w hadborth. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Gyrfa Cymru i ddarparu lleoliadau profiad gwaith wedi'u teilwra ar gyfer hyd at 500 o ddysgwyr sydd wedi cael trafferth dychwelyd i addysg yn dilyn y pandemig; dyblu'r lwfans hyfforddi ar gyfer Twf Swyddi Cymru+; bod y wlad gyntaf yn y DU i gynyddu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg; a darparu £3m i golegau addysg bellach a chweched dosbarth awdurdodau lleol ar gyfer cyllid pontio, ar gyfer gweithgareddau fel diwrnodau blasu coleg, dosbarthiadau meistr, gweithdai rhyngweithiol a rhaglenni haf.
Phases two and three in 2023 focused on exploring further the barriers to education, employment and training that young people now face. The report is published alongside our response for participants, which sets out how we have listened to young people and responded to their feedback. This includes, supporting Careers Wales to provide tailored work experience placements for up to 500 learners who have struggled to return to education following the pandemic; doubling the training allowance for Jobs Growth Wales+; being the first country in the UK to increase the Education Maintenance Allowance; and providing £3m to further education colleges and local authority sixth forms for transition funding for activities including college taster days, masterclasses, interactive workshops and summer programmes.
Fel y cyhoeddwyd ar 21 Chwefror, rwyf wedi dyrannu £2.5m ychwanegol i gynyddu darpariaeth Twf Swyddi Cymru+ ledled Cymru am weddill y flwyddyn ariannol.
As announced on 21 February, I have allocated an additional £2.5m to increase provision of Jobs Growth Wales+ across Wales for the remainder of the financial year.
Rwyf hefyd wedi sicrhau dyraniad ychwanegol o £10m yng nghyllideb Llywodraeth Cymru 2024-25 i gryfhau elfennau allweddol o’r Warant i Bobl Ifanc ac ymrwymiadau eraill – ledled prentisiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd.
I have also secured an extra allocation of £10m in the Welsh Government Budget 2024-25 to strengthen key elements of the Young Person’s Guarantee and other commitments across apprenticeships and employability programmes.
Bydd pobl ifanc a'u sgiliau yn pennu economi heddiw ac yfory. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn eu huchelgais a'u lles yn wyneb yr hinsawdd ariannol mwyaf heriol yn yr oes ddatganoli.
Young people and their skills will determine the economy of today and tomorrow. We are committed to investing in their ambition and wellbeing in the face of the most challenging financial climate in the devolution era.
Disgwyliadau newydd ar fyrddau iechyd i wella perfformiad adrannau achosion brys
New expectations of health boards to improve experience, speed up access and reduce emissions in emergency departments
Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi cyhoeddi safonau ansawdd newydd ar gyfer gwella perfformiad adrannau achosion brys. Ymhlith rhai o'r ffyrdd a fydd yn cael eu defnyddio i wella perfformiad mae dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o gyflymu amseroedd asesu a lleihau'r amser y mae cleifion yn aros i gael eu derbyn i'r ysbyty, yn ogystal â dull sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.
Evidence-based approaches to speed up assessment times, reducing the time people wait to be admitted to hospital and a focus on sustainability are some of the ways new quality standards will help to improve Wales’ emergency departments.
Bydd disgwyl i fyrddau iechyd gyflawni'rDatganiad Ansawdd ar gyfer Gofal mewn Adrannau Achosion Brysa lansiwyd gan y Gweinidog heddiw (15  Mawrth), er mwyn sicrhau canlyniadau a phrofiadau gwell i bawb sy'n ymweld ag Adrannau Achosion Brys Cymru.
Health boards will be expected to deliverthe Quality Statement for Care in the Emergency Department, which Health Minister Eluned Morgan launched today (15 March), to improve outcomes and experience for everyone attending Wales’ emergency departments.
Mae'r datganiad  yn ategu dull polisi Chwe Nod ar Gyfer Gofal Brys a Gofal Mewn Argyfwng, sydd wedi datblygu gwasanaethau newydd i sicrhau bod pawb yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
The statement complements the Six Goals for Urgent and Emergency Care programme, which has developed new services to ensure people can get the right care, in the right place, the first time.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
Health Minister Eluned Morgan said: