cymraeg
stringlengths
1
11.5k
english
stringlengths
1
11.1k
Mae’r ail argymhelliad cyffredinol yn galw am gyhoeddi canllawiau newydd yn lle canllawiau “Mewn Dwylo Diogel”. Mae’r canllawiau hyn yn ymgorffori ein dull gweithredu sylfaenol ar gyfer amddiffyn oedolion yng Nghymru ac roeddent yn arloesol pan gawsant eu llunio. Bellach maen nhw wedi bod ar waith ers 10 mlynedd, ac mae llawer wedi newid yn y ddeng mlynedd hynny. Felly, mae’r Bwrdd yn nodi nifer o feysydd lle gellid gwella’r canllawiau a chryfhau’r trefniadau ar gyfer amddiffyn oedolion yng Nghymru.
The second overarching recommendation calls for the “In Safe Hands” guidance to be replaced. This guidance, which embodies our fundamental approach to adult protection in Wales and was groundbreaking in its inception, has now been in place for 10 years. It is the case that much has changed over the past ten years and the board identify a range of areas in which the guidance can be improved to help strengthen adult protection arrangements in Wales.
Mae’r Bwrdd hefyd yn galw am gryfhau’r arweiniad cenedlaethol ac yn argymell bod trefniadau’n cael eu gwneud i sefydlu Fforwm Cenedlaethol ar Amddiffyn Oedolion sydd â chylch gwaith tebyg i eiddo’r Fforwm Diogelu Plant. Mae hynny’n cyd-fynd â sylwadau rhanddeiliaid bod angen i’r gwaith o amddiffyn oedolion yng Nghymru elwa unwaith eto o gael Grŵp Cynghori ar gyfer Cymru Gyfan - safbwynt a gefnogir gan Gydgysylltwyr Amddiffyn Oedolion a chadeiryddion y fforymau rhanbarthol.
The Board also call for strengthened national leadership and recommend that arrangements are put in place for a national Adult Protection Forum that would have a remit comparable to that of the Children’s Safeguard Forum. This echoes the views from stakeholders that there is a need for adult protection in Wales to benefit once again from an all Wales Advisory Group, a position also supported by Adult Protection Coordinators and regional Forum Chairs.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau o’r farn bod trefniadau Amddiffyn Oedolion yn flaenoriaeth uchel ac mae hefyd yn parhau wedi ymrwymo i sicrhau bod y trefniadau hynny’n effeithiol er mwyn amddiffyn oedolion agored i niwed rhag cael eu cam-drin.
The Welsh Assembly Government continue to regard Adult Protection arrangements as a high priority and remain committed to ensuring that they remain effective in protecting vulnerable people from abuse.
Rwyf wedi ystyried argymhellion y Bwrdd gan eu defnyddio fel sail i ffurfio’r syniadau ar gyfer gwella trefniadau amddiffyn oedolion a nodir yn y Papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddyfodol y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru. Wrth gwrs, mater i Lywodraeth nesaf y Cynulliad fydd penderfynu ar y manylion penodol.
I have considered the recommendations made by the Board and these have informed my thinking for improvement to the adult protection arrangements in the recently published Paper on the future of Social Services in Wales. The specific details of this will of course be a matter for the next Welsh Assembly Government to decide.
Datganiad Ysgrifenedig - Caffael Cyhoeddus yng Nghymru
Written Statement - Public Procurement in Wales
Jane Hutt , Y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Jane Hutt, Minister for Business and Budget
Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario dros £4.3 biliwn, neu tua un rhan o dair o'i gyllideb ar nwyddau a gwasanaethau allanol. Caiff y modd y mae’r rhain yn cael eu comisiynu a’u caffael effaith pellgyrhaeddol ar effeithlonrwydd ac ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus ac ar y gymuned busnes yng Nghymru.
The Welsh public sector spends over £4.3 billion, or around one third of its budget, on external goods and services. How these are commissioned and procured has a profound impact on the efficiency and quality of our public services and on the business community in Wales.
Mae hyn yn arbennig o hanfodol yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Dangoswyd lefel y pryder a deimlir gan fusnesau gan yr ymateb i'r fframwaith adeiladu ysgolion diweddar a ddyfarnwyd gan Gyngor Sir Powys. Yn yr ymarfer yma, crëwyd ‘lotiau’ ar gyfer prosiectau llai eu gwerth a defnyddiwyd amodau ‘budd i’r gymuned’. Mae swyddfeydd yng Nghymru gan bob un o'r chwe chyflenwr a enillodd mewn cystadleuaeth agored ac maent yn cyflogi pobl leol ac fel rhan o'r fframwaith, mae'n ofynnol iddynt ddarparu cadwyn gyflenwi leol a chyfleodd hyfforddi a datblygu. Bwriedir cyhoeddi canlyniad fframwaith adeiladu ysgolion pellach yn y dyfodol agos ac rwy'n ymwybodol ei fod yn cynnwys cymysgedd o gyflenwyr, yn cynnwys busnesau cynhenid. Fodd bynnag, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau'r holl fuddion ac yn canfod unrhyw welliannau y gellir eu gwneud, rwyf wedi comisiynu ymarfer ‘gwers a ddysgwyd’. Mae'n hanfodol bod pawb ohonom yn deall ac yn ymdrin â’r materion a wynebir mewn caffael ac ar draws y gymuned fusnes ac yn cymryd camau priodol.  Byddaf yn adrodd yn ôl ar hyn maes o law.
This is particularly critical in the current financial climate. The reaction to the recent schools construction framework awarded by Powys County Council shows the level of concern that can be felt by business. In this exercise ‘lots’ were created for smaller value projects and ‘community benefits’ conditions were used. The six suppliers who won in open competition all have Welsh offices and employ local people and as part of the framework, are required to provide local supply chain and training and development opportunities. The outcome of a further schools construction framework is to be announced shortly and I am aware that it includes a mix of suppliers, including indigenous businesses.  However, to ensure we are capturing all the benefits and discovering any improvements that may be made, I have commissioned a ‘lessons learned’ exercise. It is vital that we all understand and address the issues faced both in procurement and across the business community and take appropriate action. I will report back on this in due course.
Fel y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, gyda chyfrifoldeb dros gaffael cyhoeddus yng Nghymru, mae'n rhaid i mi sicrhau ein bod yn sicrhau'r gwerth gorau o bob punt ‘Cymreig’. Rydym yn wynebu gostyngiad mewn gwario cyhoeddus, ac ar yr un pryd mae poblogaeth sy'n heneiddio a disgwyliadau uwch yn cynyddu'r galw am wasanaethau. Fel ceidwaid arian cyhoeddus, mae'n rhaid i ni anelu at gaffael o’r radd flaenaf – ni fydd “gwneud pethau fel y maen nhw wedi cael eu gwneud o’r blaen” yn ddigon bellach. Mae'r camau yr ydym yn eu cymryd yn asio gyda'r rhai a bennir yn ‘Adnewyddu'r Economi – cyfeiriad newydd’, ac am y rheswm yma rwyf wedi bod yn awyddus i annog cyflenwyr i ymwneud ac archwilio camau i wella canlyniadau yng Nghymru. Rwyf wedi sefydlu nifer o ffyrdd i wella deialog yn cynnwys y Grŵp Llywio Adeiladu a Phanel Cyfeirio Cyflenwyr. Rwy'n hyderus y bydd ymagwedd ragweithiol yn arwain at berthynas cryfach fyth rhwng caffael cyhoeddus a busnes yng Nghymru.
As Minister for Business and Budget, with responsibility for public procurement in Wales, I must ensure that we realise best value from every ‘Welsh’ pound. We face a reduction in public spending, whilst an ageing population and rising expectations are intensifying the demand for services. As custodians of public money, we must aspire to exemplary procurement – just “doing things as they have always been done”, will no longer be enough. The actions we are taking dovetail with those set out in ‘Economic Renewal – a new direction’, and for this reason I have been keen to encourage suppliers to engage and explore practical steps to improve outcomes in Wales. I have established a number of channels to improve dialogue including the Construction Steering Group and Supplier Reference Panel. I am confident that a proactive approach will yield an ever stronger relationship between public procurement and Welsh business.
Rwy’n cydnabod bod yr hinsawdd ariannol yn ei gwneud yn anoddach i fusnesau unigol sy’n methu ennill contractau cyhoeddus. Mae'r sector adeiladu yn benodol, yn wynebu anawsterau gwirioneddol a chystadleuaeth galed.
I recognise that the financial climate is making it harder for individual businesses that fail to win public contracts. In particular, the construction sector in Wales faces real difficulties and strong competition.
Er mwyn helpu mynd i'r afael â her y toriad sylweddol o 40% yn ein cyllidebau cyfalaf yn y dyfodol, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd camau arwyddocaol a phenderfynol, yn y flwyddyn ariannol gyfredol ac yng Nghyllideb y flwyddyn nesaf, i amddiffyn ein rhaglen gyfalaf a thrwy hynny y diwydiant adeiladu a diwydiannau cysylltiedig yng Nghymru rhag difrod y toriad sylweddol hwn a orfodwyd arnom gan Lywodraeth y DU.
To help address the challenge of the major 40% cut in our future capital budgets, the Assembly Government has taken significant and determined action, both in the current financial year and in next year’s Budget, to shield our capital programme and hence the construction and associated industries in Wales from the ravages of this major cut imposed on us by the UK Government.
Ar ben hyn mae ymagweddau mwy gwybodus tuag at gaffael wedi sianelu budd i'n cymunedau lleol. Mae ‘Agor Drysau: Y Siarter ar gyfer Caffael sy'n Gyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig’ wedi gweld hysbysebu contractau gwerth £12.5bn trwy gwerthwchigymru. Y llynedd hysbysebwyd 24% yn fwy o gontractau gwerth is, addas ar gyfer busnesau llai. Trwy ein canllawiau ‘Budd i’r Gymuned’ rydym wedi annog ymagwedd tuag at gontractio cyfalaf sy’n canolbwyntio ar y budd lleol, gan greu nifer o gyfleoedd hyfforddi ac is-gontractio. Lle mabwysiadwyd hyn mae enillion economaidd lleol ar y buddsoddiad cyfalaf wedi bod 30% yn uwch na'r cyfartaledd.
In addition more informed approaches to procurement have channelled benefit into our local communities. Our ‘Opening Doors – Charter for SME Friendly procurement’ has seen contracts worth £12.5bn advertised through sell2wales. Last year 24% more lower value contracts were advertised, suitable for smaller businesses.  Through our ‘Community Benefits’ guidance we have encouraged an approach to capital contracting that focuses on local benefits, creating numerous training and sub-contract opportunities. Where this has been adopted the local economic return on the capital investment has been 30% higher than the average.
Mewn ymateb uniongyrchol i'r adborth o’r byrddau trafod ar Adnewyddu'r Economi rydym yn mynd i'r afael â'r broses cyn-gymhwyso. Mae ein cyfres un cwestiwn yn cael ei threialu, ac yn ystod y flwyddyn caiff ei chysylltu fel rhan o wefan ‘gwerthwchigymru’ ar ei newydd wedd. Mae gan y prosiect ‘Cronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr (SQuID)’ yma y potensial i leihau costau tendro yn sylweddol i gyflenwyr – costau a amcangyfrifir sydd dros £20m y flwyddyn ar hyn o bryd.
In direct response to feedback from the Economic Renewal roundtables we are tackling the pre-qualification process. Our single question set is being trialled, and during the year will be hard-wired into the refreshed ‘sell2wales’ website. This ‘Supplier Qualification Information Database (SQuID)’ project has the potential to reduce significantly the tendering costs for suppliers – currently estimated to be over £20m per year.
Bydd yr ymagwedd newydd yma hefyd yn symud rhai o'r rhwystrau a wynebir gan gyflenwyr bach. Eisoes rydym wedi gweld cwmnïau adeiladu llai a leolir yng Nghymru yn ennill 15 o’r 26 prif dendr a gyhoeddwyd y llynedd. Yn y sector Tai gwelwyd gweithgaredd caffael sylweddol gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru. Enillwyd 90% o'r gwaith yma gan gyflenwyr wedi’u lleoli yng Nghymru.
This new approach will also bring down some of the barriers faced by smaller suppliers. Already we have seen smaller Welsh based construction companies winning 15 of 26 major tenders issued last year. In the Housing sector we saw significant procurement activity by Registered Social Landlords in order to meet the Welsh Quality Housing Standard. 90% of this work was won by Wales based suppliers.
Mae'r darlun o ran cystadleuaeth o fewn Cymru yn parhau'n gadarnhaol. Dangosodd adolygiad o £3.5bn o wariant sector cyhoeddus bod cyflenwyr a leolir yng Nghymru yn ennill contractau - roedd bron i 60% o'r 3400 o gyflenwyr a enillodd waith uniongyrchol oedd werth rhwng £150k a £5m y flwyddyn yn fusnesau bach a chanolig ac roedd 1800 neu 51% wedi’u lleoli yng Nghymru.
The overall competition picture within Wales remains positive. A review of £3.5bn of public sector expenditure has shown that Wales based suppliers are winning contracts – nearly 60% of the 3400 suppliers winning direct work worth between £150k and £5m per year were SMEs and 1800 or 51% were based in Wales.
Wrth edrych i'r dyfodol rwyf am weld newid cyflymach. Mae angen i ni symud ymlaen o wella cam wrth gam a graddol i fabwysiadu arloesedd cydnabyddedig yn llawn. Mae hyn yn golygu rhoi arweiniad; mae'n golygu bod yn barod i weithredu'n gyflym a mentrus er budd Cymru. Mae gan arweinwyr y sector cyhoeddus ddyletswydd i gymryd caffael o ddifri a chymryd rhan yn y penderfyniadau sy'n cael eu cymryd.
Looking forward I want to see a faster pace of change. We need to  move from piece-meal and gradual improvement into full adoption of recognised innovation. This means leadership; it means being willing to act swiftly and boldly for the good of Wales. Public sector leaders have a duty to take procurement seriously and to be involved in the decisions that are made.
Rwyf am osod allan fy ngweledigaeth ar gyfer y dyfodol a rhoi neges glir ynghylch yr hyn yr wyf yn ei ddisgwyl oddi wrth ein partneriaid sector cyhoeddus a pha gefnogaeth y byddaf yn ei darparu trwy is-adran Gwerth Cymru Llywodraeth y Cynulliad.  Mae'r Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi yr wyf yn gadeirydd arno yn darparu arweinyddiaeth ymarferol er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn.
I wish to lay out my vision for the future and give a clear message on what I expect from our public sector partners and what support I will be providing through the Assembly Government’s Value Wales division.  The Efficiency and Innovation Board that I chair provides practical leadership to tackle these issues.
Yn gyntaf ‘Galluogrwydd’– mae angen i bob sefydliad sicrhau eu hunain bod ganddynt fynediad i'r lefel cywir o gyngor caffael masnachol naill ai'n uniongyrchol neu trwy fynediad i gyd-gefnogaeth. Yng Ngorffennaf 2010 cyhoeddais sefydlu prosiect ‘Doniau Cynhenid’, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, er mwyn datblygu’r galluogrwydd angenrheidiol ar draws Cymru. Mae'r gyfres gyntaf o hyfforddeion caffael yn cael eu recriwtio ar hyn o bryd trwy Gwerth Cymru, a bydd rhaglen hyfforddi i uwch arweinwyr a swyddogion ar gael yn ystod 2011.
Firstly ‘Capability’- all organisations need to assure themselves that they have access to the right level of commercial procurement advice either directly or through access to shared support. In July 2010 I announced the creation of the ‘Homegrown Talent’ project, supported through the European Social Fund, to develop the capability we need across Wales. The first set of procurement trainees are being recruited now through Value Wales, and a training programme for senior leaders and officers will be made available during 2011.
Yn ail ‘e-gaffael’– mae angen i bob sefydliad gael gwared ar brosesau maniwal diangen a gwneud y defnydd gorau o dechnoleg. Mae ‘cyfnewidcymru’ yn cynnig casgliad llawn o offer e-gaffael ac rwyf yn darparu cymorth gweithredol trwy Fuddsoddi-i-Arbed a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae'n rhaid i bob sefydliad fanteisio ar y cyfle hwn i wneud newid busnes sylweddol. Dros y ddwy flynedd nesaf dylai pob tendr a’r mwyafrif o archebion a thaliadau fod yn electronig. Mae gan hyn y potensial i ryddhau dros £50m o arbedion amser staff.
Secondly ‘e-procurement’– all organisations need to eradicate unnecessary manual processes and make best use of technology. ‘Xchangewales’ offers a full suite of e-procurement tools and I am providing implementation support through Invest-to-Save and the European Social Fund. All organisations must take this opportunity to make substantive business change. Over the next two years all tenders and the majority of orders and payments should be electronic. This has the potential to release over £50m of staff time savings.
Yn drydydd ‘Cydweithredu’– mae angen i wario cyffredin ac ailadroddus gael ei wneud unwaith yn unig i Gymru. Mae angen i ni drefnu ein gwariant a datblygu ffynonellau ar y cyd o arbenigedd mewn meysydd o wariant uchel megis adeiladu, gofal cymdeithasol a  ThGCh. Trwy ein ffrwd gwaith Caffael y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi, dan arweiniad Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Ddinbych, rydym wedi comisiynu Tasglu. Mae argymhellion ac adroddiad y Tasglu ‘Prynu'n Gallach mewn Cyfnod Anoddach’ bellach yn cael eu hystyried gan sector cyhoeddus Cymru. Rwy’n falch bod ymagweddau newydd yn cael eu rhoi gerbron ac rwyf wedi gofyn i Gwerth Cymru helpu i gyflenwi a datblygu’r syniadau hyn ymhellach. Pe baem yn cynllunio a gweithio gyda’n gilydd mae gan gydweithredu cryfach y potensial i sicrhau rhyw £150m o arbedion dros y 5 mlynedd nesaf. Gwelwyd bod safoni ein manylebau a dileu amrywiadau o eitemau cyffredin yn lleihau cost a rhyddhau arbedion.
Thirdly ‘Collaboration’- common and repetitive spend needs to be carried out once for Wales. We need to organise our expenditure and develop collective sources of expertise in high spend areas such as construction, social care, and ICT. Through our E&IB Procurement workstream, led by the CEO of Denbighshire Council, we commissioned a Taskforce. Its recommendations and report ‘Buying Smarter in Tougher Times’ is now being considered by the Welsh public sector. I am pleased that new approaches are being put forward and I have asked Value Wales to help deliver and develop these ideas further. Stronger collaboration has the potential to realise some £150m of savings over the next 5 years if we plan and work together. Standardising our specifications and removing variation from common items has been shown to take out cost and release savings.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi cael fy nghalonogi gan y newidiadau a welais. Yn fy niweddariad i'r Cynulliad ar y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi ym Medi amlygais y cyfleoedd sydd ar gael yn sgil cytundebau cydweithredol a defnyddio prosesau caffael electronig. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, gwnaed arbedion o £11m o gaffael cydweithredol ac erbyn hyn mae dros 70% o sefydliadau yn defnyddio pob un o'r prif gytundebau Gwerth Cymru neu Cymru gyfan.
Over the last year I am encouraged by the changes that I have seen. In my update to the Assembly on the Efficiency and Innovation Programme in September I highlighted the opportunities available from collaborative deals and use of electronic procurement processes. In the last year alone, savings of £11m have been made from collaborative procurement and over 70% of organisations are now using all the major Value Wales or all-Wales agreements.
Mae mabwysiadu e-gaffael yn tyfu ond fe all, ac fe ddylai gynyddu. Ar hyn o bryd mae 7 Awdurdod Lleol, 158 o ysgolion o 5 rhanbarth, bron y cyfan o'r GIG a Llywodraeth y Cynulliad ei hun yn fyw ar ffocws e-fasnachu ‘cyfnewidcymru’; gyda llawer mwy o sefydliadau yn defnyddio e-dendro, cardiau caffael ac e-ocsiwn. Gwelwyd arbedion amser staff gwerth £8m eleni ac arbedion gwerth 16 tunnell o CO2.
Adoption of e-procurement is growing but can and should increase. Currently 7 Local Authorities, 158 schools from 5 regions, almost the entire NHS and Assembly Government itself are live on the ‘xchangewales’ e-trading hub; with many more organisations making use of e-tendering, purchase cards and e-auctions. Staff time savings worth £8m have been identified this year and 16 tonnes of CO2 saved.
Yn bedwerydd – Meithrin cadwyni cyflenwi Cymreig. Mae angen i bob sefydliad chwarae ei ran mewn dad-fytholegu a symleiddio prosesau caffael. Mae hyn yn golygu ymagweddu tuag at ein dyheadau ar gyfer arbedion yng nghyd-destun datblygu cadwyni cyflenwi yng Nghymru a sicrhau enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad cyfalaf a phrif gontractau refeniw. Fel y dywedais yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon, rwyf am weld pob un o'r prif gontractau cyfalaf a refeniw yn mabwysiadu ymagwedd ‘Budd i’r Gymuned’ a byddaf yn ysgrifennu'n fuan at bob prif weithredwr er mwyn rhoi arweiniad o'r newydd ac annog gweithredu. Mae'n rhaid i'n cyflenwyr chwarae eu rhan mewn lleihau costau, ond ar yr un pryd mae angen ymagwedd arnom sy’n meithrin cadwyni cyflenwi cryf a chystadleuol yng Nghymru.
Fourthly - Fostering Welsh supply chains. All organisations need to  play their part in de-mystifying and simplifying procurement processes. This means approaching our aspirations for savings in the context of developing Welsh supply chains and securing a social return on capital investment and major revenue contracts. As I stated in Plenary this week, I want to see all major capital and revenue contracts adopting a ‘Community Benefits’ approach and I will shortly be writing to all chief executives to provide fresh guidance and to urge action. Our suppliers must play their part in driving down cost, but at the same time we need an approach that fosters strong and competitive supply chains in Wales.
Mae yno enillion sylweddol os manteisiwn ar y cyfleoedd sydd ar gael. Gallwn wneud arbedion effeithlonrwydd ac ar yr un pryd gyflenwi enillion cymdeithasol ym mhrif feysydd ein gwariant - ar yr amod ein bod yn datblygu ein galluogrwydd, symud rhwystrau ac ymrwymo i weledigaeth a rennir ar gyfer Cymru.
There are significant rewards if we seize the opportunities available. We can make efficiencies and at the same time deliver a social return in our major areas of expenditure - provided we develop our capability, take down our barriers and commit to a shared vision for Wales.
Datganiad Ysgrifenedig - Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu
Written Statement - Sustainable Social Services in Wales: A Framework for Action
Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol
Gwenda Thomas, Deputy Minister for Social Services
Ysgrifennaf atoch i roi gwybod y byddaf heddiw yn cyhoeddi Papur ar ddyfodol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.
I am writing to let you know that I will today be publishing a Paper on the future of social services in Wales.
Mae’n gyfnod o her i’r holl wasanaethau cyhoeddus. Mae’r newid yn natur y gymdeithas yng Nghymru, y newid demograffig a’r disgwyliadau newydd ymhlith y bobl hynny sy’n derbyn gwasanaethau – ynghyd â’r hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni – oll yn golygu bod yna bwysau nas gwelwyd erioed o’r blaen ar wasanaethau cymdeithasol.
These are challenging times for all public services. The changing nature of Welsh society, demographic change and new expectations from those who receive services – coupled with the present difficult financial climate – are all making unprecedented demands upon social services.
Ceir yn y Papur fframwaith i fynd i’r afael â’r her honno. Ein bwriad yw ail-lunio gwasanaethau cymdeithasol a chanolbwyntio ar ein hanghenion ni heddiw er mwyn sicrhau eu bod yn dal i fod gadarn a’u bod yn dal i ddiwallu anghenion a dyheadau unigolion.
The Paper puts in place a framework for meeting these challenges and for re-shaping and re-focusing social services in order to ensure that they remain strong, and can continue to meet citizens’ needs and aspirations.
Byddaf hefyd yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mawrth 2011
I will also be making a statement in plenary on 1st March 2011.
Datganiad Llafar - Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ynghylch Rhoi Organau a Meinweoedd
Oral Statement - The Organ Donation LCO
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Edwina Hart, Minister for Health and Social Services
Ar 09 Mawrth 2011 gwnaeth y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ynghylch Rhoi Organau a Meinweoedd
On 09 March 2011 the Minister for Health and Social Services made an oral Statement in the Siambr on: The Organ Donation LCO
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon
The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=212338&ds=3/2011#dat
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=212338&ds=3/2011#dat
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol:www.cynulliadcymru.orgBusnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following:www.assemblywales.orgAssembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page
Datganiad Ysgrifenedig - Ail Wasanaeth Trên Cyflym Rhwng Y Gogledd A’r De
Written Statement - Second Fast North-South Rail Link
Ieuan Wyn Jones, Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Ieuan Wyn Jones, Deputy First Minister and Minister for the Economy and Transport
Yn 2008, rhoddais arian i sefydlu gwasanaeth trên cyflym, Y Gerallt Gymro, rhwng Caergybi a Chaerdydd.
In 2008 I funded the introduction of Y Gerallt Gymro express Holyhead to Cardiff service.
Mae’r gwasanaeth pwysig hwn yn allweddol i wireddu’r ymrwymiad yn “Cymru’n Un” i leihau amseroedd teithio rhwng y De a’r Gogledd. Mae’r gwasanaeth wedi dod yn boblogaidd iawn ac mae wedi cryfhau’r cysylltiadau economaidd rhwng y De a’r Gogledd.
This flagship service is key to delivering our “One Wales” commitment to reduce journey times between North and South Wales. It has proven to be very popular and has strengthened economic links between the north and south of the country.
Rwyf wedi penderfynu cyflwyno ail wasanaeth trên cyflym, a hynny o fis Mai 2011, dydd Llun - dydd Gwener. Ar y dechrau, bydd y gwasanaeth yn defnyddio trên Dosbarth 175, a fydd y yn ategu gwasanaeth presennol Y Gerallt Gymro. Bydd yr amseroedd teithio yn gystadleuol o ystyried cyfyngiadau’r seilwaith presennol, gan y bydd y trên yn gadael Caergybi am 07:51 ac yn cyrraedd Caerdydd am 12:08, wedyn, gyda’r nos yn gadael Caerdydd am 18:18 i gyrraedd Caergybi am 22:34.
I have now decided to introduce a second express train service, from May 2011, Monday – Friday, initially using a Class 175 train. This service will compliment the existing Y Gerallt Gymro service and has competitive journey times considering the current infrastructure constraints. The train will depart from Holyhead at 07:51 and arrives in Cardiff at 12:08. The return journey will leave Cardiff at 18:18 and arrives in Holyhead at 22:34.
Rwy’n gwybod, wrth i ni baratoi’r cynigion hyn, bod rhai Aelodau ac Arweinwyr Cynghorau wedi mynegi pryder na fyddai’r gwasanaeth yn galw mewn gorsafoedd ar Arfordir y Gogledd nac yn Wrecsam.
I am aware that, as we have been preparing these proposals, that some Members, and Council Leaders, have expressed concern to me that the service would not call at stations on the North Wales Coast, or at Wrexham.
Erbyn hyn, gallaf gadarnhau y bydd y trên yn stopio yn Wrecsam wrth fynd i’r ddau gyfeiriad. Bydd gwasanaeth y bore yn galw yng Nghaergybi, Bangor, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn, y Rhyl, Caer, Wrecsam, Rhiwabon, y Waun, Gobowen, yr Amwythig, Casnewydd a Chaerdydd. Ar ôl gadael Caerdydd, bydd y trên gyda’r nos yn galw yng Nghasnewydd, y Fenni, Henffordd, yr Amwythig, Gobowen, Rhiwabon, Wrecsam, Caer, y Rhyl, Bae Colwyn, Cyffordd Llandudno, Bangor a Chaergybi. Dyma’r patrwm gorau y gellir ei lunio ar gyfer teithio o fewn targedau amseroedd rhwng Caergybi a Chaerdydd trwy Wrecsam, sef oddeutu 4 awr ac 17 munud.
I am now able to confirm that the train will be able to stop at Wrexham in both directions. The morning train will call at Holyhead, Bangor, Llandudno Junction, Colwyn Bay, Rhyl, Chester, Wrexham, Ruabon, Chirk, Gobowen, Shrewsbury, Newport and Cardiff. The evening train after departure from Cardiff will stop at Newport, Abergavenny, Hereford, Shrewsbury, Gobowen, Ruabon, Wrexham, Chester, Rhyl, Colwyn Bay, Llandudno Junction, Bangor and Holyhead. This is the optimum journey pattern that is achievable within the overall target of journey times between Holyhead and Cardiff, via Wrexham, of some 4 hours and 17 minutes.
Er mwyn i’r ail wasanaeth trên allu galw yng Ngorsaf Gyffredinol Wrecsam yn y bore, rwyf wedi gofyn i Drenau Arriva Cymru drefnu i anfon gwasanaeth rhyngwladol 07:15 Caergybi – Birmingham trwy Crewe yn lle trwy Wrecsam. Fel arall ni fyddai’n bosibl i’r ail wasanaeth trên cyflym alw yn Wrecsam oherwydd y cyfyngiadau ar y seilwaith, sef y trac sengl rhwng Wrecsam a Chaer. Mae hynny’n golygu na all y gwasanaeth rhyngwladol 07:15 Caergybi – Birmingham alw yn Rhiwabon, y Waun a Gobowen o hyn ymlaen. Felly, bydd y gwasanaeth cyflym newydd yn galw yn y gorsafoedd hyn er mwyn osgoi sefyllfa lle byddai bwlch o ddwy awr yn y boreau. Bydd y teithwyr sy’n mynd i Birmingham, sy’n ymuno â’r trên yn y gorsafoedd hyn, yn gallu cwblhau eu taith trwy newid trenau ac ymuno â thrên y gwasanaeth 07:15 Caergybi – Birmingham yn yr Amwythig.
In order for the second express service to be able to call at Wrexham General Station in the morning I have asked Arriva Trains Wales to reroute the 07:15 Holyhead – Birmingham International service via Crewe instead of Wrexham. It would otherwise not be possible for the second express service to call at Wrexham due to the infrastructure constraints of the single track between Wrexham and Chester. This means that the 07:15 Holyhead – Birmingham International service can no longer call at Ruabon, Chirk and Gobowen. Therefore the new express service will call at these stations in order to avoid what would otherwise be a two hour gap in the mornings. Passengers for Birmingham joining from these stations will be able to complete their journey by changing and connecting into the 07:15 Holyhead – Birmingham service at Shrewsbury.
Bydd y gwasanaeth Dosbarth 175 yn cynnig gwasanaeth troli gwell ar gyfer darparu lluniaeth, gan gynnwys rhywfaint o fwyd poeth.
The Class 175 service will have an enhanced at seat trolley service including some hot food.
O’r newidiadau yn yr amserlen ym mis Rhagfyr 2011, bydd locomotif Dosbarth 67, gyda cherbydau sy’n debyg i’r rheini a ddefnyddir ar Y Gerallt Gymro, yn cael ei ddefnyddio yn lle’r trên Dosbarth 175. Bydd cerbyd dosbarth cyntaf a chyfleusterau bwyta tebyg i’r rheini sydd ar gael ar hyn o bryd ar Y Gerallt Gymro ar gael ar y gwasanaeth hwn. Rwy’n rhoi arian i wneud gwaith ailwampio sylweddol ar y cerbydau hyn cyn iddynt gael eu defnyddio ar y gwasanaeth newydd.
From the timetable changes in December 2011, the Class 175 train will be replaced by a Class 67 locomotive with carriages similar to those used on Y Gerallt Gymro. This service will be able to have a first class carriage and dining facilities similar to those currently available on Y Gerallt Gymro. I am funding a substantial refurbishment before these carriages are brought into service.
Rwy’n parhau i fod wedi ymrwymo i anfon gwasanaeth gwreiddiol Y Gerallt Gymro trwy Wrecsam yn hytrach na thrwy Crewe. Bydd yr astudiaeth yr wyf yn ei hariannu oddi wrth Network Rail i weld sut y gellir gwella’r seilwaith rhwng Caergybi a Chaerdydd, yn cael ei chwblhau erbyn diwedd Ebrill. Bydd yn ystyried opsiynau ar gyfer gwella’r capasiti ar y rheilffordd rhwng Caer a Wrecsam, gyda’r nod o leihau amseroedd teithio yn sylweddol ar yr holl wasanaethau ac o anfon y trên cyflym, sydd ar ei daith yn ôl, trwy Wrecsam. Rwy’n disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau yn ystod y flwyddyn nesaf.
I remain committed to pathing the original Y Gerallt Gymro service via Wrexham rather than Crewe. The study I am funding Network Rail to undertake, to improve the railway infrastructure between Holyhead and Cardiff, will be completed by the end of April. It will include consideration of options for capacity enhancements on the line between Chester and Wrexham with the objective of both a step change reduction in journey times for all services and of routing the express return service via Wrexham. I expect construction work to commence next year.
Wrth i dymor y Llywodraeth hon ddod i ben, rwy’n credu fy mod wedi cymryd camau pwysig i wella’r ddarpariaeth drafnidiaeth rhwng y Gogledd a’r De. Mae hynny’n bwysig i economi ein gwlad ac o ran lleihau amseroedd teithio i deithwyr.
As this term of Government ends, I believe that I have taken firm steps to improve transport provision between North and South Wales. This is important for the economy of our country and improving journey times for passengers.
Datganiad Ysgrifenedig - Datblygu Fframwaith Strategol i Gryfhau’r Ddarpariaeth Gymraeg o fewn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol
Written Statement - Developing a Strategic Framework for Welsh Language Services in Health and Social Services
Gwenda Thomas y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol
Gwenda Thomas, Deputy Minister for Social Services
Hoffwn roddi gwybod  i Aelodau’r Cynulliad fy mod wedi  penderfynu datblygu Fframwaith Strategol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg o fewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r Fframwaith yn cadarnhau ymrwymiad y Llywodraeth  i gryfhau gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr a’u teuluoedd.
I would like to inform Assembly Members that I have decided to develop a Strategic Framework for Welsh language services within health and social services. The Framework confirms the Government’s commitment to strengthen Welsh language services to service users and their families.
Fel Cadeirydd y Tasglu a sefydlwyd  i gryfhau’r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg, rwyf yn falch i ddweud  fod y sefyllfa yn raddol wella o fewn y ddau sector. Mae’r ddau sector yn  ceisio ymateb i ddewis iaith defnyddwyr  a chwrdd â’u gofynion statudol. Er gwaethaf hynny rwyf  yn credu nad  oes digon yn cael ei wneud i ystyried angen iaith defnyddwyr, fel rhan greiddiol o gynllunio a darparu gofal.
As Chair of the Ministerial Task-group, established to strengthen Welsh language provision within both sectors, I am pleased to say that the situation is slowly improving. The two sectors are making efforts to respond to users’ language choice and to meeting their statutory requirements. However I believe that not enough is being done to consider users’ language needs as an integral part of the care planning and service delivery process.
Mae  nifer fawr o ddefnyddwyr  y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol  yn fregus - mae  rhoi  cyfrifoldeb arnynt i ofyn am wasanaeth Cymraeg yn annheg, a gall ychwanegu at eu gofidiau. Cyfrifoldeb y gwasanaeth yw darparu gwasanaeth cymwys, ac wrth gwrs mae hyn  yn  cynnwys anghenion ieithyddol. Dim ond wrth wneud hyn y gallant sicrhau gofal diogel ag  effeithiol.
A large number of service users are vulnerable and giving them the responsibility of asking for services through the medium of Welsh is unfair and indeed can contribute to their anxiety. It is the responsibility of the NHS and Social Services to deliver appropriate services, which of course includes meeting users’ linguistic needs. Only by doing this can they provide care that is safe and effective.
Mae’r ffaith fod rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn gallu siarad Saesneg, ddim  yn newid y ffaith fod angen gwasanaethau cyfrwng Cymraeg arnynt er mwyn gallu cyfleu gofidiau, trafod materion personol iawn, neu fynegi eu hunain  yn effeithiol.   Mae’n hanfodol fod darparwyr yn deall fod derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y  Gymraeg yn  greiddiol i ofal llawer o bobol, nid dim ond mater o ddewis iaith
The fact that most Welsh speakers can speak English, does not  change the fact that they need to receive care through the medium of Welsh, so that they can express their concerns, discuss very personal issues, or express themselves effectively. It is essential that service providers understand that for many people being able to receive services through the medium of Welsh is a care need, not just an issue of individual language choice.
Rwyf  felly am sicrhau fod  camau yn cael eu cymryd gan y ddau wasanaeth i sicrhau fod  anghenion ieithyddol yn cael eu prif ffrydio i gynlluniau gofal, ac yn arbennig felly o fewn gwasanaethau iechyd meddwl, anabledd dysgu, plant a phobl hŷn
Therefore I want to ensure that steps are taken by both services to ensure that language needs are mainstreamed into care plans – particularly within mental health services, learning disability services, children and older people’s services.
Er bod gwellhad wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf yn ymwybodol  fod llawer o waith  ar ôl i’w wneud. Mae’n amlwg hefyd fod yna wahaniaethau yn y ddarpariaeth, ac yn rhy aml mater o hap a damwain i’w derbyn gofal drwy gyfrwng y Gymraeg i nifer o bobol.
Although progress has been made during recent years, I am conscious that much remains to be done. It is evident that services are patchy, and all too often it is a matter of luck whether service users receive care through the medium of Welsh.
Er mwyn mynd i’r afael a hyn mae’r Gweinidog Iechyd a finnau wedi penderfynu  datblygu Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg o fewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd gobeithio yn  cryfhau’r ddarpariaeth, a sicrhau cydweithio effeithiol ar draws y  ddau sector. Mi fydd ffocws y gwaith ar ddatblygu gwasanaethau rheng flaen, er mwyn gwella  profiad  defnyddwyr a’u teuluoedd.
In order to tackle this, the Health Minister and I have decided to develop a Strategic Framework for Welsh  language services within health and social services, which will hopefully strengthen provision and ensure effective partnership working across the two sectors. The focus for the work will be on developing front line services, in order to improve the experience of users and their families.
Rwyf yn falch iawn fod trafodaethau efo’r gwasanaeth iechyd wedi cadarnhau’r angen  am strategaeth, a bod Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cefnogi’r gwaith.
I am very pleased that discussions with the NHS confirmed the need for a strategy and that the Association of Directors of Social Services and the WLGA support this action.
Felly rwyf wedi sefydlu Grŵp Llywio i ymgymryd gyda’r gwaith oddatblygu fframwaith strategol dair blynedd, gan ganolbwyntio yn arbennig ar gryfhau gwasanaethau rheng flaen, er mwyn gwella profiad defnyddwyradolygu rôl  Llywodraeth y Cynulliad yn sicrhau datblygiad gwasanaethau cyfrwng Cymraeg o fewn y ddau sector
I have therefore established a Steering Group to take this work forward and in particular to:develop a three year strategic framework, focusing  on strengthening front line services, in order to improve users experiencereview the role of the Assembly Government in ensuring the development of Welsh language services within the two sectors
Mae’r grŵp llywio yn cael ei gadeirio gan berson annibynnol, Mr Graham Williams, a’r aelodaeth yn dod o’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, partneriaid, defnyddiwr ac academia.
The  steering group is chaired by an independent person, Mr Graham Williams, and the membership drawn from the NHS, social services, a service user, partners and academia .
Rwyf wedi gofyn i’r grŵp  ddatblygu’r  fframwaith yn ystod y flwyddyn yma, gyda’r bwriad o’i gweithredu  o Ebrill 2012 ymlaen.
I have asked the group to develop the strategic framework by early next year, with a view to implementing it from April 2012 onwards.
Mi fydd y Fframwaith yn rhoi cyfle  i’r ddau wasanaeth edrych eto ar sut maent yn prif ffrydio’r iaith Cymraeg yn feunyddiol o fewn eu cynlluniau a gwasanaethau ,er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig gofal effeithiol, a diogel  i Gymry Cymraeg.
The framework will provide a focus for the two services to look again at how they mainstream, Welsh  language considerations into care planning and  service delivery on a day to day basis, in order to provide effective and safe care for Welsh speaking users.
Mae’r gwaith yma’n amserol iawn o gofio hanfodion y Mesur Iaith newydd a’r system rheoleiddio newydd fydd yn cael ei gyflwyno gan  y Comisiynydd Iaith newydd.
This work is very timely in view of the requirements of the new Welsh Language Measure and the new regulatory system which will be introduced by the Welsh Language Commissioner.
Datganiad Ysgrifenedig - Cyhoeddiad ynghylch Dileu TB Gwartheg: y Camau Nesaf
Written Statement - Announcement of Bovine TB Eradication next steps
Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig
Elin Jones, Minister for Rural Affairs
Ers i mi gael fy mhenodi’n Weinidog dros Faterion Gwledig yn 2007, rwyf wedi ymrwymo i fynd ati i ddileu TB gwartheg o Gymru.
Since becoming Minister for Rural Affairs in 2007 I have committed to pursue the eradication of bovine TB from Wales.
Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, llwyddwyd i weddnewid y ffordd y mae TB gwartheg yn cael ei reoli yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i bawb, yn enwedig ffermwyr gwartheg, milfeddygon, priswyr a’r gwasanaeth Iechyd Anifeiliaid yng Nghymru, sydd wedi cydweithio â ni yn ystod y cyfnod hwn.
Over the past three years the management of bovine TB in Wales has been transformed and I would like to thank everyone especially, cattle farmers, vets, valuers and Animal Health in Wales who have worked with us over this period.
Rydym yn gweithredu’n eang, a dyma rai o’r camau sy’n cael eu cymryd:Gwell gwyliadwriaeth – gan gynnwys llai o esemptio o’r drefn Profi Cyn Symud, a chynnal profion blynyddol ledled Cymru.Gwell mesurau i reoli clefydau mewn gwartheg – gwneud y profion yn fwy sensitif, er enghraifft, wrth ddelio ac achosion lle mae canlyniadau’r profion yn amhendant, a defnyddio mwy ar y prawf gwaed gama interfferon.Cysylltu iawndal ag arferion da – er mwyn annog ymddygiad priodol wrth ffermio a sicrhau iawndal priodol.Camau gorfodi – cymryd camau llym i orfodi polisi TB, gan gynnal profion gorfodol, ac erlyn, lle bo angen.Gweithredu ar sail ranbarthol – gan gynnwys cyflwyno tri Bwrdd Rhanbarthol Dileu TB sydd wrthi’n datblygu mentrau priodol ar TB ar gyfer eu rhanbarthau.
Our approach is comprehensive and includes:Improved surveillance – including reduced Pre Movement Testing exemptions and annual testing across Wales.Improved cattle disease controls – increased sensitivity of testing regimes, for example in dealing with inconclusive test results and greater use of the gamma interferon blood test.Linking compensation to good practice - to encourage appropriate farming behaviour and appropriate compensation payments.Enforcement - rigid enforcement of TB policy with compulsory testing and prosecutions where necessary.Regional Approach – Including the introduction of three Regional TB Eradication Delivery Boards who are developing appropriate TB initiatives for their region.
Diben y rhan fwyaf o’r mesurau sydd wedi’u rhoi ar waith hyd yma yw lleihau’r risg o drosglwyddo TB rhwng gwartheg. Disgwylir i’r mesurau hyn gael effaith yn hyn o beth, ond mae’n rhy gynnar i ni fedru dweud mai’r mesurau hyn sydd i gyfrif am y gwelliannau a welwyd yn ddiweddar yn nifer yr achosion o TB. Mae angen i mi fod yn wyliadwrus hefyd oherwydd y patrwm cylchol a welwyd yn y gorffennol i’r newid yn nifer yr achosion o TB.
The majority of measures implemented so far have been designed to reduce the risk of transmission of bovine TB between cattle.  They are designed to have an effect, but it is too early to say that these measures are the cause of the recent improvements in TB figures. I am also cautious as the incidence of bovine TB has changed on a cyclical pattern in the past.
Heb unrhyw gamau i fynd i’r afael â’r prif ffynonellau heintio eraill, ni ddisgwylir i’r polisïau presennol arwain at ostyngiad cyson a fyddai’n golygu, yn y pen draw, y byddai TB gwartheg yn cael ei ddileu o ardaloedd o Gymru lle mae TB gwartheg yn endemig. Rwyf wedi dadlau bob amser bod angen gweithredu’n eang er mwyn dileu TB gwartheg, felly, rwyf yn falch heddiw o gael cyhoeddi dwy elfen arall –Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011 a Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011.
Current policies alone are not expected to produce a sustained reduction that would ultimately lead to the eradication of bovine TB in areas of Wales endemic with bovine TB, whilst other main sources of infection remain unchecked. I have always maintained the need for a comprehensive approach to the eradication of bovine TB. Today’s announcement on the introduction of the Badger (Control Area) (Wales) Order 2011 and the Tuberculosis (Wales) Order 2011 are important elements of that approach.
Ar ôl rhoi ystyriaeth lawn i’r dystiolaeth a gyflwynwyd i mi, ac ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghori hefyd, rwyf wedi penderfynu y byddai’n briodol i mi wneud y Gorchymyn Moch Daear (Ardal Reoli) (Cymru) 2011 o dan adran 21 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 er mwyn awdurdodi difa moch daear yn yr Ardal Triniaeth Ddwys (ardal lle mae TB gwartheg yn endemig ac sy’n cynnwys rhannau o Sir Benfro, Sir Caerfyrddin a Ceredigion).
After full consideration of the evidence presented to me, including consideration of the responses to the Consultation on Badger Control in the Intensive Action Area (IAA), I have reached the decision to make the Badger (Control Area) (Wales) Order 2011 under section 21 of the Animal Health Act 1981, authorising the destruction of badgers within the IAA (an area of Wales where bovine TB is endemic which includes parts of Pembrokeshire, Carmarthenshire and Ceredigion).
Caiff y Gorchymyn ei osod heddiw gyda’r bwriad y bydd yn dod i rym ar 31 Mawrth 2011.
The Order will be laid before the National Assembly today with the intention of it coming into force on the 31 March 2011.
Bydd y Gorchymyn hwn yn galluogi’r llywodraeth i fynd ati i ddifa moch daear mewn modd a reolir yn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Nid dyma’r unig gam a fydd yn cael ei gymryd – bydd y mesurau ychwanegol i reoli gwartheg a’r gwell mesurau bioddiogelwch sydd wedi bod yn eu lle er mis Mai 2010 yn parhau hefyd.
This Order will enable a government managed cull of badgers specifically in the Intensive Action Area. This will not be carried out in isolation but alongside the continued additional cattle controls and improved biosecurity measures that have been in place since May 2010.
Gwn y bydd y penderfyniad hwn yn peri pryder gwirioneddol i rai, ond mae’n benderfyniad a wnaed ar ôl i mi roi ystyriaeth lawn i’r mater, gan gynnwys yr holl dystiolaeth wyddonol sydd ar gael, ac ar ôl i mi fynd ati’n ofalus i ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus.
I am aware that this decision will cause some people genuine concern, but it is a decision that I have taken based on full consideration of the matter, including the substantial scientific evidence available and after careful consideration of the responses to the public consultation.
Hoffwn bwysleisio bod moch daear yn parhau i fod yn rhywogaeth a warchodir yng Nghymru a bod y gwaharddiadau yn y Ddeddf Gwarchod Moch Dear 1992 yn parhau i fod mewn grym. Ni fyddwn yn caniatáu unrhyw weithredu anghyfreithlon.
I would emphasise that the badger remains a protected species in Wales and the prohibitions in the Protection of Badgers Act 1992 remain much in place.  Any potentially illegal action will be reported to the relevant authority.
Elfen arall ar y camau gweithredu cynhwysfawr hyn yw delio’n effeithiol â’r risgiau sy’n gysylltiedig â TB mewn anifeiliaid heblaw am wartheg. Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011 yn golygu bod y trefniadau ar gyfer atal a rheoli achosion o TB mewn camelidau, geifr a cheirw yn debyg i’r trefniadau sydd yn eu lle eisoes ar gyfer gwartheg. Bydd y gorchymyn yn cyflwyno mesurau rheoli i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ac yn darparu ar gyfer iawndal pan fo’r anifeiliaid hyn yn cael eu lladd am fod TB gwartheg arnynt. Dyma rai o nodweddion allweddol y gorchymyn:iawndal statudol am anifeiliaid y mae’n rhaid eu symud am eu bod wedi adweithio i’r prawf TB;cysylltiad rhwng cyfrifoldebau ceidwaid anifeiliaid ac iawndal er mwyn annog ceidwaid i weithredu mewn modd cadarnhaol i warchod eu hanifeiliaid rhag TB gwartheg;gofyniad i geidwaid gadw cofnodion am symudiadau eu hanifeiliaid ac i ddangos y cofnod hwnnw pan ofynnir iddynt wneud hynny.
Another component of the comprehensive approach is dealing effectively with the risks associated with bovine TB in non-bovines. The Tuberculosis (Wales) Order 2011 puts the prevention and management of incidents of bovine TB in camelids, goats and deer on a similar footing to the arrangements already in place for cattle. It will introduce controls to help prevent the spread of disease and will provide for compensation when these animals are slaughtered due to bovine TB.  Key features include:statutory compensation for animals removed as TB reactors;a link between the responsibilities of animal keepers and compensation in order to encourage positive action by keepers to protect their animals from bovine TB;a requirement that keepers keep a record of the movement of their animals and produce that record if required.
Mae Cynllun y DU i Ddileu TB yn nodi’r angen i fynd i’r afael â’r holl brif ffynonellau heintio. Rwyf yn falch o weld bod y dull hwn o weithredu ac, yn benodol, yr elfen o’r cynllun hwn sy’n ymwneud â Chymru, wedi cael sêl bendith y Comisiwn Ewropeaidd, pan gafodd y Cynllun Dileu Twbercwlosis (TB) ar gyfer 2011 ei gymeradwyo ym mis Rhagfyr 2010. Mae’n bwysig nodi bod hyn yn golygu bod Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael cyfraniad ariannol o 23 miliwn Ewro.
The need to deal with all main sources of infection is set out in the UK TB Eradication Plan.  I am please to see that this approach and specifically the Welsh element of this plan has received the endorsement of the European Commission, with the approval of the 2011 Bovine Tuberculosis (TB) Eradication in December 2010. Importantly this brings with it a financial contribution of 23 million Euros between Wales, England and Northern Ireland.
Mae’n rhaid i ni barhau i weithredu’n eang er mwyn dileu TB gwartheg o Gymru. Yn fy marn i, mae’r cyhoeddiad hwn heddiw am yr Ardal Triniaeth Ddwys ac ar reoli anifeiliaid heblaw am wartheg, ynghyd a gwelliannau a wnaethpwyd dros y 3 blynedd diwethaf, yn sylfaen gadarn ar gyfer cyrraedd y nod hirdymor o gael gwared ar TB o Gymru.
We must continue to pursue a comprehensive approach towards the eradication of bovine TB from Wales. I believe that today’s announcement on the IAA and management of TB in non-bovines together with the progress made over the last 3 years provides a solid foundation to achieve the long term goal of Wales being free of bovine TB.
Datganiad Llafar - Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru
Oral Statement - Welsh Assembly Government’s Response to the Annual Report of the Children’s Commissioner for Wales
Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant
Huw Lewis, Deputy Minister for Children
Ar 08 Mawrth 2011 gwnaeth y Dirprwy Weinidog dros Blant Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru
On 08 March 2011 the Deputy Minister for Children made an oral Statement in the Siambr on: Welsh Assembly Government’s Response to the Annual Report of the Children’s Commissioner for Wales
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon
The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=212108&ds=3/2011#dat3
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=212108&ds=3/2011#dat3
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol:www.cynulliadcymru.orgBusnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following:www.assemblywales.orgAssembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
Datganiad Llafar - Y Refferendwm: Y Camau Nesaf
Oral Statement - The Referendum: Next Steps
Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Carwyn Jones, First Minister
Ar 01 Mawrth 2011 gwnaeth Y Prif Weinidog Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Y Refferendwm: Y Camau Nesaf
On 08 March 2011 the First Minister made an oral Statement in the Siambr on: The Referendum: Next Steps
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon
The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=212108&ds=3/2011#dat1
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=212108&ds=3/2011#dat1
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol:www.cynulliadcymru.orgBusnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following:www.assemblywales.orgAssembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
Datganiad Llafar - Ymateb i’r Adolygiad i Waed wedi’i Heintio
Oral Statement - The Response to Contaminated Blood Review
Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Edwina Hart, Minister for Health and Social Services
Ar 08 Mawrth 2011 gwnaeth y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Ymateb i’r Adolygiad i Waed wedi’i Heintio
On 08 March 2011 the Minister for Health ands Social Services made an oral Statement in the Siambr on: The Response to Contaminated Blood Review
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon
The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=212108&ds=3/2011#dat1
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=212108&ds=3/2011#dat2
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol:www.cynulliadcymru.orgBusnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following:www.assemblywales.orgAssembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
Datganiad ysgrifenedig: ymgynghori ar Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2011 – canlyniadau interim
Written Statement - Consultation on the Animal Welfare (Breeding of Dogs) (Wales) Regulations 2011 – interim outcomes
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Jane Davidson, Minister for the Environment, Sustainability and Housing
Bydd Aelodau'n ymwybodol imi lansio ymgynghoriad fis Hydref diwethaf ar gynigion i newid y ddeddfwriaeth ar fridio cŵn yng Nghymru. Denodd yr ymgynghoriad ddiddordeb sylweddol ymhlith ystod eang o grwpiau a derbyniwyd dros 500 o ymatebion. Mae llawer o bobl wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r ddeddfwriaeth arfaethedig ac wedi gwneud sylwadau adeiladol, ac yr wyf yn ddiolchgar am eu cyfraniad.
Members will be aware that last October I launched a consultation on proposals to change dog breeding legislation in Wales. The consultation sparked considerable interest amongst a wide range of groups and we received over 500 responses. Many people have given serious thought to the proposed legislation and made constructive comments, and I am grateful for their input.
Roedd y Rheoliadau drafft a'r ddogfen ymgynghori eu hunain yn gynnyrch llawer iawn o waith ar draws nifer o grwpiau. Sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen ar fridio cŵn gyda chynrychiolwyr o'r proffesiwn milfeddygol, awdurdodau lleol, sefydliadau lles a'r Kennel Club. Eu hargymhellion oedd sail y ddogfen ymgynghori a'r Rheoliadau drafft. Hefyd, ariannodd y cynllun gwella lles anifeiliaid anwes ddau brosiect a nododd fylchau yn y broses ddeddfwriaethol a'r gyfundrefn drwyddedu.
The draft Regulations and consultation document were themselves the product of a considerable amount of work across a number of groups. I established a Task and Finish Group on dog breeding with representatives from the veterinary profession, local authorities, welfare organisations and the Kennel Club. Their recommendations formed the basis of the consultation document and draft Regulations. The Companion Animal Welfare Enhancement Scheme also funded two projects which identified gaps in the legislative process and licensing regime.