cymraeg
stringlengths
1
11.5k
english
stringlengths
1
11.1k
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Carl Sargeant, Minister for Social Justice and Local Government
Heddiw rwyf yn cyhoeddi manylion y setliadau refeniw a chyfalaf terfynol ar gyfer 22 awdurdod unedol Cymru ar gyfer 2011-12.Y Setliad Cyffredinol
Today I am announcing the details of the final revenue and capital settlements for the 22 unitary authorities inThe Overall Settlement
Wrth baratoi'r setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus y sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad am y setliad dros dro.
In preparing the final settlement I have given careful consideration to the responses I received through the consultation on the provisional settlement.
Y flwyddyn nesaf, cyn addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn gostyngiad o 1.4% ar setliad refeniw y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn gyson, fwy neu lai, â'r cyhoeddiad a wnaed ar 23 Tachwedd 2010 ynglŷn â'r setliad dros dro.
Next year, before accounting for transfers, local authorities in Wales will receive a reduction of 1.4% on the previous year’s revenue settlement. This is broadly unchanged from the provisional settlement announcement I made on 23 November 2010.
Mae'r setliad terfynol yn cadarnhau y bydd mecanwaith gwaelodol yn cael ei gynnwys i sicrhau na fydd unrhyw awdurdod yn derbyn gostyngiad grant o fwy na 1.7 y cant.
The final settlement confirms the inclusion of a floor mechanism to ensure that all authorities will not receive a grant reduction of more than 1.7%.
Mae dau grant penodol arall wedi’u cynnwys yn y setliad terfynol yn unol â’n hymrwymiad i leihau faint o arian wedi’i neilltuo a ddarperir y tu allan i’r Grant Cynnal Refeniw. Y rhain yw'r Gronfa Datblygu Rheoli Perfformiad (£3 miliwn) a Gweithredu'r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn (£1 filiwn).
Included in the final settlement are a further two specific grants in line with our commitment to reduce the amount of hypothecated funding provided outside the Revenue Support Grant. These are the Performance Management Development Fund (£3 million) and Implementation of the Strategy for Older People (£1 million).
Hefyd, mae'r Setliad yn cynnwys swm sydd wedi’i ddiwygio ychydig o £10,117 miliwn ar gyfer gweithredu’r Pecyn Gwella Camau Cyntaf ym maes gofal cymdeithasol.Grantiau Refeniw Penodol
The Settlement also includes a slightly revised £10.117 million for the implementation of the social care First Steps Improvement package.Specific Revenue Grants
Rwyf hefyd yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am gyfanswm y grantiau penodol i Gymru y gallant ddisgwyl eu derbyn yn 2011-12. Gyda’i gilydd, bydd y Grant Cynnal Refeniw a Grantiau Penodol yn rhoi darlun cynhwysfawr i'r awdurdodau o'r cyllid y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ei ddarparu yn 2011-12, er mwyn iddynt allu paratoi'u cyllidebau'n effeithiol. Bydd awdurdodau, yn ogystal â derbyn y £4 biliwn drwy'r setliad, hefyd yn derbyn dros £600 miliwn mewn grantiau penodol. Mae hyn yn cynnwys grantiau sylweddol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chefnogi Pobl.Dosbarthu rhwng Awdurdodau
I am also providing local authorities with details of the total Wales specific grants they can expect to receive in 2011-12. Revenue Support Grant and Specific Grants taken together will provide authorities with a comprehensive picture of the funding the Assembly Government will provide in 2011-12, to allow them to budget effectively. In addition to the £4 billion authorities will receive through the settlement, they will also receive over £600 million in specific grants. Included within this are major grants for areas such as Foundation Phase and Supporting People.Distribution between Authorities
Mae Tabl 1, sy'n amgaeedig, yn cynnwys manylion y cynnydd blynyddol cymharol yn y setliad refeniw ar gyfer y dau awdurdod ar hugain, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau. Mae'r ffigurau hyn yr un fath i un lle degol â'r rheini a gyhoeddwyd yn y cyhoeddiad am y setliad dros dro.Y Setliad Cyfalaf
Table 1 attached details the relative annual increase in the revenue settlement for the twenty two authorities, after adjusting for transfers. These figures are the same to one decimal place as those published in the provisional settlement announcement.Capital Settlement
Mewn perthynas â'r setliad cyfalaf, y dyraniad cyfalaf ar gyfer 2011-12, gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol, fydd £456.
With regard to the capital settlement, the capital allocation for 2011-12, including specific capital grants will be £456 million.
Mae'r Gronfa Gyfalaf Gyffredinol yn gyfanswm o tua £174 miliwn. Cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yw hwn, a chaiff £54 miliwn ohono ei dalu fel grant cyfalaf. Darperir y gweddill, sef tua £120 miliwn, fel cymorth i fenthyca.
The General Capital Fund totals some £174 million. This is unhypothecated capital funding of which £54 million is paid as capital grant, the remainder, some £120 million, is provided as support for borrowing.
Bydd tablau manwl pellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Further detailed tables will be made available on the Welsh Assembly Government’s internet site.
Fel y mae Llywodraeth Leol wedi’i gydnabod adeg cyhoeddi’r setliad dros dro, mae’r pecyn cyffredinol gystal â'r disgwyl.. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Leol yn cydweithio bellach i achub ar y cyfle i sefydlu ffyrdd gwell, mwy costeffeithiol ac arloesol o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ar gyfer pobl Cymru yn y sefyllfa anoddach o lawer sydd o’n blaen o ran gwariant cyhoeddus.
The overall package, as Local Government has acknowledged on the announcement of the provisional settlement, is as good an outcome as can be expected. It is essential that both the Assembly Government and Local Government now work together to seize the opportunity to establish better, more cost effective and innovative ways of delivering high quality services to the people of Wales in the far tougher public expenditure conditions that lie ahead.
Ar yr amod bod y Cynulliad yn cymeradwyo Cyllideb Derfynol Llywodraeth y Cynulliad, bydd trafodaeth yn cael ei chynnal ar 15 Chwefror am y cynnig sydd wedi’i gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar adroddiad ariannol llywodraeth leol ar gyfer 2011-12.
ubject to the Assembly’s approval of the Assembly Government’s Final Budget, a motion to the National Assembly for Wales to approve the local Government finance report for 2011-12 is scheduled for debate on the 15th February.
Datganiad Ysgrifenedig - Cyllideb Derfynol 2011-2012
Written Statement - Final Budget 2011 - 2012
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Jane Hutt, Minister for Business and Budget
Heddiw, rwyf wedi cyflwyno Cyllideb Flynyddol 2011-12 yn y Cynulliad Cenedlaethol, cyllideb sy'n cynnig ymateb penderfynol, cadarn a chyfrifol i her y setliad anodd.
I have today tabled in the National Assembly the Annual Budget for 2011-12, which offers a resolved, resilient and responsible response to the challenge of a difficult settlement.
Fe wnaethom fabwysiadu dull unigryw Gymreig wrth ddatblygu ein cynigion ar gyfer y Gyllideb, ac rydym wedi cydweithio ag amrywiaeth eang o bartneriaid i sicrhau bod ein cynlluniau gwariant yn adlewyrchu anghenion, amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru.  Mae'r cydweithio hwn wedi rhoi sylfaen gadarn inni, ac mae ein cynigion wedi'u gosod yng nghyd-destun blaenoriaethau clir dinasyddion Cymru - gwarchod iechyd, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, sgiliau a'r manteision i bawb, yn ogystal â chefnogi'r adferiad economaidd.
We took a distinctive Welsh approach in developing our Budget proposals and have worked collaboratively with a wide range of partners to ensure that our spending plans reflect Welsh needs, Welsh circumstances and Welsh priorities. This engagement has stood us in good stead and our proposals are set against the clearly stated priorities of Welsh citizens - to protect health, schools, social services, skills and the universal benefits, and to support the economic recovery.
Cafwyd craffu helaeth ar ein cynigion ers iddynt gael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd.  Mae'r dystiolaeth a'r adborth yr ydym wedi'u cael ers hynny yn cadarnhau ein bod wedi gwneud y dewisiadau a'r penderfyniadau cywir ar gyfer pobl Cymru a'r economi.  Gan fod amrywiaeth eang o randdeiliaid wedi cefnogi ein cynigion, prin yw'r newidiadau rhwng y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Derfynol.
There has been extensive scrutiny of our proposals since they were published in November. The evidence and feedback we have had since then serves to confirm that we have made the right choices and decisions for the people of Wales and the economy. With the endorsement of our proposals by a wide range of stakeholders we have kept changes between Draft and Final Budget to a minimum.
Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys £56.77 miliwn yn ychwanegol at y cynigion y gwnaethom eu cyhoeddi ym mis Tachwedd.  Fis Mehefin diwethaf, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ostyngiad refeniw o £113.5 miliwn a gostyngiad cyfalaf o £49 miliwn yng nghyllideb Cymru, fe wnaethom ddweud ein bod yn credu eu bod yn gwneud toriadau rhy fawr yn rhy gynnar - ac mae'r ffigurau diweddaraf ar dwf economaidd a ryddhawyd yr wythnos diwethaf yn cyfiawnhau'r farn honno.  Fe wnaethom ddweud, fodd bynnag, y byddem ni'n bartner cyfrifol wrth helpu i ostwng y diffyg ariannol.
These changes include an additional £56.77 million over and above the proposals we published in November. Last June, when the UK government imposed revenue reductions of £113.5 million and capital reductions of £49 million on the Welsh budget, we said that we thought that this was too much, too soon – a view that has been vindicated by the economic growth figures released last week. Nevertheless, we said that we would be a responsible partner in helping to bring down the deficit.
Fe gyhoeddais ym mis Gorffennaf y byddem yn dod o hyd i'r holl ostyngiad cyfalaf a osodwyd arnom yn 2010-11 drwy ddefnyddio stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn.  Ar yr un pryd, eglurais y byddem yn dod o hyd i gymaint o'r gostyngiad refeniw ag y gallem eleni, heb osod pwysau niweidiol ar wasanaethau.  Roedd ein setliad ariannol yn yr Adolygiad o Wariant yn rhagdybio y byddem yn canfod 50% o'r arbedion refeniw eleni.
I announced in July that we would find the full capital reductions imposed on us in 2010-11 by using EYF stocks. At the same time, I made it clear that we would find as much of the revenue reduction as we could this year, without placing a damaging pressure on services. Our budget settlement in the Spending Review assumed that we would find 50% of the revenue savings this year.
Mewn gwirionedd, rydym yn awr wedi gallu gwneud gostyngiadau gwerth y swm llawn o £113.5 miliwn eleni.  Rydym wedi gallu gwneud hynny heb dorri gwasanaethau, ond yn hytrach drwy reolaeth ariannol ofalus.  Drwy ddod o hyd i'r holl ostyngiad refeniw eleni, bydd gennym £56.77 miliwn yn ychwanegol yn 2011-12 o'i gymharu â'r sefyllfa a ragdybiwyd yn y Gyllideb Ddrafft.  Mae hyn yn rhoi rhagor o hyblygrwydd inni at y dyfodol, a'r cyfle i liniaru'n rhannol ar y gostyngiad mawr iawn yn ein cyllideb cyfalaf.  Rydym wedi penderfynu defnyddio'r £56.77 miliwn a ryddhawyd yn sgil ein rheolaeth ariannol ofalus eleni er mwyn lleihau effaith y gostyngiad yn y gyllideb  cyfalaf yn 2011-12.
In fact, we have now been able to find the full £113.5 million revenue reductions this year.  We have achieved this without cutting services, but through careful financial management. By finding the full revenue reductions this year, we will have an additional £56.77 million in 2011-12 when compared with the position assumed at Draft Budget. This gives us greater flexibility going forward and the opportunity to mitigate partly the very large reduction in our capital budget. We have taken the decision to use the additional £56.77 million freed up by our careful in-year management to reduce the impact on capital budgets in 2011-12.
Rydym hefyd yn gwybod y bydd ein hadnoddau heb fod yn arian parod dan fwy o bwysau yn y dyfodol. Er mwyn cydnabod hyn yn benodol, fe wnaethom gynnal adolygiad yn ddiweddar o'r cyllidebau heb fod yn arian parod a'r rhagolygon gwariant dros y tair blynedd nesaf.  Yn y Gyllideb Ddrafft, cafodd y cyllidebau heb fod yn arian parod eu cadw ar lefel 2010-11, tan i ganlyniad yr adolygiad hwnnw gael ei gyhoeddi. Mewn ymateb i'r pwysau penodol y tynnodd yr adolygiad sylw atynt, gwnaed rhai newidiadau i'r cyllidebau heb fod yn arian parod ers y Gyllideb Ddrafft. Er nad yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar y swm sydd ar gael i ni i'w wario, maent yn caniatáu i ni ad-drefnu ein cyllidebau er mwyn sicrhau bod gan yr Adrannau yr adnoddau angenrheidiol i gefnogi eu rhaglenni.
We also know that our non-cash resources are facing increasing pressure going forward. In specific recognition of this, we recently undertook a review of non-cash budgets and forecast expenditure over the next 3 years. At the Draft Budget, non-cash budgets were held at 2010-11 levels pending the outcome of this review.  In response to the specific pressures highlighted in the review, there have been some changes to non-cash budgets since the Draft Budget. Although these changes do not affect our spending power, they allow us to realign our budgets to ensure that Departments have the necessary resources to support their programmes.
Mae'r newidiadau eraill i gyllidebau'r Adrannau yn gyfyngedig, ac yn cynnwys addasiadau i adlewyrchu ein blaenoriaethau, a'u cyflawni'n well.
Other changes to Departmental budgets are limited and include adjustments to reflect and better deliver our priorities.
Rydym hefyd wedi asesu effaith ein penderfyniadau ar gydraddoldeb drwy gydol y broses er mwyn sicrhau bod ein cynlluniau gwariant yn sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i gwrdd ag anghenion y bobl a’r cymunedau hynny sydd fwyaf tebygol o ddioddef yn sgil Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant.
We have also assessed the equality impact of our decisions throughout the process in order to ensure that our spending plans maximise the opportunities to meet the needs of people and communities most likely to be adversely affected by the UK government’s Spending Review.
Byddwn yn cyhoeddi asesiad llawn o effaith ein cynlluniau gwariant ar gydraddoldeb yr wythnos nesaf.  Nid dim ond wrth lunio'r Gyllideb Derfynol yr ydym yn ystyried materion cydraddoldeb, fodd bynnag.  Byddwn yn gwneud mwy o waith, lle bo’n briodol, i ystyried effaith elfennau manwl gwariant a darpariaeth o fewn y dyraniadau a gyhoeddir yn y Gyllideb Derfynol ar gydraddoldeb.
We will be publishing next week a full equality impact assessment document in relation to our spending plans. However, the process of considering equality issues does not stop with publication of the Final Budget. We will be doing further work, where appropriate, to have due regard to any equality impacts in detailed spending and delivery issues within the allocations published in the Final Budget.
Rydym wedi ymateb i'r hinsawdd ariannol sydd ohoni gyda rhaglen effeithlonrwydd ac arloesi, a byddwn yn parhau i ddatblygu'r agenda hon gyda'n partneriaid ar draws y sector cyhoeddus, ein hundebau llafur ac yn ehangach. Bydd y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â ffyrdd mwy effeithlon o weithio.  Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth yr wythnos nesaf ar ddatblygu'r fframwaith mesur fydd yn dangos y cynnydd y gellir ei wneud ar yr agenda effeithlonrwydd ac arloesi.
We have responded to the current financial climate with an efficiency and innovation programme and we will continue to drive this agenda forward with our partners across the public sector, our trade unions and beyond. The Efficiency and Innovation Programme will continue to identify innovative approaches to delivering public services and more efficient ways of working. We will publish further information next week on the development of the measurement framework showing the progress being made on the savings that can be made as a result of the efficiency and innovation agenda.
Er mwyn cefnogi'r broses o symud i ddulliau darparu gwasanaethau mwy effeithlon ac arloesol, rydym hefyd wedi gwneud darpariaeth ar gyfer cyllid cymorth trosiannol fel rhan o’n Cronfeydd Wrth Gefn.  Y fenter gyntaf y bydd y gronfa yn ei chefnogi yw gwell gwasanaeth newid gyrfa ar gyfer y rheini sy'n gadael y sector cyhoeddus.  Mae'r fenter hon yn cael ei datblygu drwy'r Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesi ac yn adeiladu ar lwyddiant y cynllun ReAct, sydd wedi helpu miloedd o bobl y mae'r dirwasgiad wedi effeithio arnynt i ennill cymwysterau a gwella eu cyfleoedd yn y farchnad lafur.
To support the transition to more efficient and innovative forms of service delivery, we have also provided for transitional support funding as part of our Reserves. The first initiative the fund will support is an enhanced career transition service for people leaving employment in the public sector. This service is being developed as part of the Efficiency and Innovation Programme and builds on the successful ReAct scheme which has helped thousands of people affected by the recession to acquire qualifications and improve their chances in the labour market.
Rydym yn gwybod nad dyma ben draw'r gwaith, ac mai'r her go iawn yw defnyddio'r cyllidebau llai hyn i barhau i gyrraedd y safonau uchel y mae hawl gan bobl Cymru eu disgwyl. Ni allwn wneud hynny drwy ddilyn yr un hen rigol. Mae gan bob un ohonom ei ran wrth gydweithio er mwyn penderfynu sut i ymateb i'r her sydd o'n blaenau.
We know that the work does not end here and that the real challenge is how we take these reduced budgets and continue to deliver the high standards that the people of Wales have the right to expect. That cannot be achieved through business as usual and all of us have a role in working together to determine how we can respond to the challenge ahead.
Mae'r Gyllideb hon yn dangos sut yr ydym ni, fel Llywodraeth gyfrifol, yn arwain y ffordd wrth gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ac adfywio economi Cymru.
This Budget shows how, as a responsible government, we are taking the lead in supporting our public services and the economic renewal of Wales.
Datganiad Llafar - Coedwigaeth yng Nghymru
Oral Statement - Forestry in Wales
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig
Elin Jones, Minister for Rural Affairs
Ar 01 Chwefror 2011 gwnaeth y Gweinidog dros Faterion Gwledig Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Coedwigaeth yng Nghymru
On 01 February 2011 the Minister for Rural Affairs made an oral Statement in the Siambr on: Forestry in Wales
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon
The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=209040&ds=2/2011#forestry
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=209040&ds=2/2011#forestry
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol:www.cynulliadcymru.org/Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following:www.assemblywales.org/assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad Ysgrifenedig ar Bwerau Gwneud Mesurau ynghylch y Mesur Addysg
Written Statement - Education Bill Measure Powers Written Statement
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Leighton Andrews, Minister for Children, Education and Lifelong Learning
Cyflwynwyd y Mesur Addysg i Dŷ’r Cyffredin ddydd Mercher 26 Ionawr.
The Education Bill was introduced into the House of Commons on Wednesday 26th January.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd y cyfle drwy’r Mesur hwn i geisio pwerau gwneud Mesurau mewn perthynas â rheoleiddio a hyfforddi athrawon a’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru a Chyllid Ysgolion Cyn-16.
The Assembly Government has taken the opportunity this Bill presents to seek Measure powers in relation to the regulation and training of teachers and the wider education workforce in Wales and Pre 16 School Funding.
Mae’r pwerau gwneud Mesurau ynghylch rheoleiddio a hyfforddi athrawon a’r gweithlu addysg ehangach yn caniatáu gwneud darpariaeth mewn perthynas â materion fel safonau proffesiynol, cynefino, rheoli perfformiad, datblygiad proffesiynol parhaus, a chymwysterau a safonau, yn ogystal â chofrestru a disgyblu. Byddai darpariaeth o’r fath yn galluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu cynigion deddfwriaethol i fynd i’r afael â’r materion a amlinellir yn yr adolygiad safonau proffesiynol, rheoli perfformiad a datblygu proffesiynol, ac yn caniatáu hyblygrwydd llawn o ran rhoi’r cynigion hyn ar waith.
The Measure powers on the regulation and training of teachers and the wider education workforce, enable provision to be made in relation to matters such as   professional standards, induction, performance management, continuing professional development, qualifications and standards, as well as registration and discipline.  Such provision would enable the Welsh Assembly Government to bring forward legislative proposals to address the issues identified in the review of professional standards, performance management and professional development and allow the greatest flexibility in implementing these proposals.
Yn unol â gweddill Maes 5 yn Atodlen 5, byddai’r pŵer gwneud Mesurau ar gyfer addysg neu hyfforddiant cyn-16 yn galluogi’r Cynulliad i gymeradwyo Mesur y Cynulliad a fyddai’n creu modelau eraill o gyllid llywodraeth ar gyfer addysg yn y dyfodol. Mae’n cwmpasu ariannu unrhyw un neu bob un o swyddogaethau addysg cyn-16 awdurdodau lleol, Gweinidogion Cymru neu gyrff llywodraethu.
In accordance with the rest of Field 5 of Schedule 5, the Measure power for funding of pre-16 education or training would enable the Assembly to pass an Assembly Measure which could create other models of government funding for education in the future. It covers the funding of any or all of the pre-16 education functions of local authorities, the Welsh Ministers, or governing bodies.
Cyn belled ag y caiff ei gymeradwyo gan y Senedd, bydd y Mesur yn trosglwyddo pwerau gwneud Mesurau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i ymgynghori, ac os yw’n briodol, datblygu cynigion ar gyfer deddfwriaeth yn y ddau faes hwn. Mae Memorandwm Esboniadol yn amlinellu cefndir a chyd-destun y pwerau gwneud Mesurau rydym yn eu ceisio wedi cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Subject to the approval of Parliament, the Bill will confer Measure powers on the National Assembly for Wales that will enable the Assembly Government to consult and if appropriate, bring forward proposals for legislation in these two areas. An Explanatory Memorandum setting out the background and context to the Measure powers that we are seeking has been laid before the National Assembly for Wales.
Mae’r Mesur a’r nodiadau esboniadol cysylltiedig i’w gweld yn:
The Bill and accompanying explanatory notes can be accessed at:
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/education.html
http://services.parliament.uk/bills/2010-11/education.html
Datganiad Llafar - Y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd a Chynhadledd Cancun
Oral Statement - The Climate Change Commission and Cancun Conference
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Jane Davidson, Minister for Environment, Sustainability and Housing
Ar 25 Ionawr 2011 gwnaeth y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd a Chynhadledd Cancun
On 25 January 2011 the Minister for Environment, Sustainability and Housing made an oral Statement in the Siambr on: The Climate Change Commission and Cancun Conference.
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon
The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink.
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=208372&ds=2/2011#dat2
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-rop.htm?act=dis&id=208372&ds=2/2011#dat2
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol:www.cynulliadcymru.org/Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following :www.assemblywales.org/assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
Datganiad Ysgrifenedig - Pwysau’r Gaeaf
Written Statement - Winter Pressures
Carwyn Jones, y Prif Weinidog, ac Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog
Carwyn Jones, First Minister and Ieuan Wyn Jones, Deputy First Minister
Mae’r GIG yng Nghymru wedi bod o dan bwysau mawr dros y gaeaf. Mae’n glod i holl staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru eu bod wedi llwyddo i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol er gwaethaf y pwysau hyn. Hoffwn ddiolch i’r staff am eu gwaith caled a’u hymroddiad dros gyfnod anodd iawn.
The NHS in Wales has been under significant pressure over this winter period. It is a credit to all health service staff in Wales that despite these pressures, they have been able to continue to deliver vital services. I would like to thank staff for their hard work and dedication, over what has been a very difficult period for them.
Bob gaeaf, mae’r GIG yn disgwyl gweld mwy o alw am ei wasanaethau ac mae’n paratoi ymlaen llaw mewn ymdrech i fodloni’r galw hwnnw. Fodd bynnag, eleni, mae cyfnodau arbennig o arw o dywydd aruthrol o oer ac eira wedi rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau. Mae hyn wedi dod ar ben y problemau iechyd arferol sy’n gysylltiedig â’r gaeaf ac y mae’n rhaid i’r staff fynd i’r afael â hwy.
Every winter the NHS expects to see an increase in demand on its services and plans accordingly in an effort to meet that demand. However, this year particularly severe periods of extremely cold weather and snow have put more pressure on services. This is on top of the usual health problems associated with winter which staff have had to deal with.
Heddiw, cyhoeddwyd yr ystadegau am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans ym mis Rhagfyr.
Today, ambulance performance statistics for December have been published.
Mae angen edrych ar y ffigurau hyn yng nghyd-destun y pwysau a roddwyd ar wasanaethau ym mis Rhagfyr. O ganlyniad i’w hymdrechion, a’u gwaith cynllunio a chydgysylltu, llwyddwyd i gynnal gwasanaethau o dan amgylchiadau anodd iawn.
These figures need to be seen in the context of the pressure that services were under in December. As a result of their efforts, planning, and coordination, services were maintained in very difficult circumstances.
Mae’r gwasanaeth ambiwlans yn cael dros 25,000 o alwadau brys bob mis. Gwelwyd cynnydd sylweddol ym mis Rhagfyr yn nifer y galwadau brys hynny ac yn nifer y galwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol.
The ambulance service receives more than 25,000 emergency calls every month. December saw a significant increase in those emergency and life-threatening calls.
Cafwyd dros 35,600 o alwadau brys ym mis Rhagfyr 2010 – 18 y cant yn fwy nag ym mis Rhagfyr 2009 a 23 y cant yn fwy nag ym mis Tachwedd 2010.
There were more than 35,600 emergency calls in December 2010 – up 18% on December 2009 and up 23% compared with November 2010.
Wrth reswm, bydd yr angen i griwiau yrru’n arafach ar yr eira ac ar ffyrdd rhewllyd wedi effeithio ar yr amser yr oedd ambiwlansys yn ei gymryd i ymateb i alwadau - roedd llawer o’r is-ffyrdd a’r ffyrdd ymyl ar gau am fwy nag wythnos - o ganlyniad, roedd hi’n anodd cyrraedd y safon o ran ymateb o fewn 8 munud. Yn wir, mewn rhai achosion, roedd yr amodau ar y ffyrdd mor ddifrifol fel bod angen gofyn am gymorth y Gwasanaeth Tân. Gadewch i ni fod yn glir, roedd yr amodau hyn yn rhai anodd i bawb.
Naturally ambulance response times will have been affected as crews needed to reduce speeds on the snow and icy roads  - with many of the minor and side roads impassable for more than a week - and as a result the 8 minute response time standard was difficult to achieve. So severe were the road conditions that in some instances the Fire Service were called out to assist. Let us be clear, these were difficult conditions for all involved.
Mae’r ffigurau ar gyfer damweiniau ac achosion brys hefyd yn dangos faint o bwysau sydd wedi bod ar y gwasanaethau iechyd.
The figures on accident and emergency also demonstrate just how much pressure health services have been under.
I roi hyn yn ei gyd-destun, aeth 70,000 o bobl i adrannau achosion brys neu i unedau mân anafiadau yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2009. Ym mis Rhagfyr 2010, cododd y ffigur hwn yn sylweddol i dros 74,400.
To put this in context, 70,000 people attended emergency departments or minor injuries units across Wales in December 2009. In December 2010, this rose significantly to over 74,400 attendances.
Cafodd bron 84 y cant o’r cleifion eu gweld, eu trin, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ymhen pedair awr. Er ein bod yn derbyn y bydd rhai o’r cleifion wedi aros yn hirach na hynny - ac rydym wrthi’n gweithio i wella perfformiad yn hyn o beth - byddai’r staff wedi trin cleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol.
Nearly 84 per cent of patients were seen, treated, transferred or discharged within 4 hours. While we accept that some patients will have waited longer – and we are working to improve performance – staff would have treated patients in order of clinical priority.
Yn ogystal â’r llithro, y baglu a’r cwympo sy’n gysylltiedig â thywydd oer, mae adrannau achosion brys wedi gweld cynnydd hefyd yn nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty am eu bod wedi cael trawiad ar y galon neu strôc neu am eu bod yn dioddef o niwmonia. Yn ogystal â hynny, aeth nifer o bobl i adrannau achosion brys am eu bod yn pryderu am y ffliw tymhorol. Mae pob ysbyty wedi cyfeirio at y ffaith iddynt weld cynnydd y nifer y cleifion a oedd yn dioddef o symptomau anadlol difrifol. O ganlyniad, roedd angen iddynt aros yn yr ysbyty am gyfnod hirach nag arfer, ac roedd cynnydd hefyd yn nifer y cleifion yr oedd angen gofal critigol arnynt.
In addition to the slips, trips and falls associated with cold weather, emergency departments have also seen an increase in admissions for heart attacks, stroke and pneumonias. Coupled with that, a number of people attended emergency departments with concerns over seasonal flu. All hospitals have reported an increase in patients with severe respiratory symptoms which required a longer than average stay in hospital as a result, including an increase in those who required critical care.
Bob gaeaf, rydym hefyd yn gweld mwy o achosion o norofeirws – sy’n cael ei alw hefyd yn glefyd chwydu’r gaeaf – ar led yn y gymuned. Bu’n rhaid cau nifer o wardiau ar draws Cymru er mwyn ceisio atal yr haint rhag lledaenu. Wrth reswm, effeithiodd hyn ar wasanaethau hefyd, gan ychwanegu at y pwysau difrifol ar y GIG.
Every winter we also see an increase in norovirus – which is also known as the winter vomiting disease – circulating in the community. A number of wards had to be closed across Wales to limit the spread of infection. This of course also had an impact on services and added to the severe pressure the NHS has been under.
Mae gan y GIG gynlluniau yn eu lle i reoli pwysau’r gaeaf ac rydym wedi bod yn cydweithio â’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaeth Ambiwlans i fonitro’r galw ac i gadw llygad ar faint o welyau sydd ar gael, er mwyn cydgysylltu a rheoli gwasanaethau drwy gyfrwng galwadau cynadledda dyddiol ar lefel uwch-reolwyr.
The NHS has plans in place for managing winter pressures and we have been working with Health Boards and the Ambulance Trust to monitor demand and bed capacity, in order to coordinate and manage services through daily senior management conference calls.
Rydym hefyd wedi lansio ymgyrch, Dewis Doeth, i helpu pobl i ddeall lle y dylent fynd os ydynt yn anhwylus.
We have also launched a campaign, Choose Well, to help people understand where to go if they are unwell.
Datganiad Ysgrifenedig - Dileu Trethi Busnes Ôl-ddyddiedig ar gyfer Eiddo Busnes a Holltwyd neu a Gyfunwyd
Writtten Statement - Write off of Back Dated Business Rates for Split and Merged Business Property
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Carl Sargeant, Minister for Social Justice and Local Government
Mynegwyd diddordeb yn ddiweddar yn yr atebolrwydd ar fusnesau mewn porthladdoedd i dalu trethi wedi'u hôl-ddyddio.
There has recently been some interest in the backdated rating liability for businesses located in ports.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn prisio eiddo at ddibenion codi tâl ar fusnesau a phennu gwerthoedd trethadwy bob 5 mlynedd ar sail gwerthoedd rhent eiddo busnes.
The Valuation Office Agency (VOA) value properties for the purposes of charging business rates and assigning rateable values every 5 years based on the rental values of business properties.
Yn 2007-2008, ailwerthusodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio y rhestrau trethi ar gyfer porthladdoedd yng Nghymru a Lloegr gan arwain at newid yn y sail a ddefnyddir i brisio a rhestru porthladdoedd o ran trethi annomestig gan ei gysoni ag arfer prisio sefydledig wrth ymdrin â busnesau eraill. O ganlyniad, yn lle prisio a rhestru porthladdoedd fel un eiddo, a pherchennog y porthladd yn atebol am dalu'r trethi, rhestrwyd pob eiddo busnes unigol yn y porthladdoedd a'u prisio'n unigol a gwnaed perchennog pob eiddo yn atebol am dalu'r trethi. Mae hyn yn debyg i'r dull a ddefnyddir mewn perthynas â busnesau mewn meysydd awyr neu ganolfannau siopa er enghraifft.
In 2007 - 2008 the VOA undertook a revaluation of the rating lists for ports in England and Wales which resulted in a change to the basis upon which ports were valued and listed for non-domestic rating, so as to make the valuation practice for ports consistent with that established for other businesses. Consequently, instead of ports being valued and listed as one property, with the port owner being liable to pay the rates, the individual business premises located in the ports were listed and valued individually, and the occupier of each property became liable to pay the rates. This is similar to the approach used for businesses occupying airports or shopping centres for example.
Rhoddwyd biliau trethi i'r busnesau dan sylw wedi'u hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2005, ac yn 2008 cyflwynodd Llywodraeth y Cynulliad (a Llywodraeth y DU yn Lloegr) ddeddfwriaeth i ganiatáu talu elfen ôl-ddyddiedig y trethi fesul rhandaliadau dros 8 mlynedd.
The affected businesses in Wales were issued with rates bills backdated to 1 April 2005 totalling around £4 million, and in 2008 the Assembly Government (and, in England, the UK government) passed legislation to allow the payment of the back-dated component of the revised rates liability to be made by instalments over 8 years.
Effeithiwyd ar lai na 90 o fusnesau mewn porthladdoedd yng Nghymru gan yr adolygiad hwn o drethi, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain naill ai wedi talu eu trethi ôl-ddyddiedig yn llawn neu'n talu eu biliau fesul rhandaliadau y cytunwyd arnynt ag awdurdodau lleol.
Fewer than 90 businesses located in ports in Wales were affected by this rating review, and around 50 of these have paid their backdated liability in full. The remainder are either paying their bills by schedules of instalments agreed with local authorities, or have yet to make payments.
Yn gynharach eleni, rhewodd Llywodraeth y DU yr ad-daliadau hyn mewn perthynas ag eiddo perthnasol yn Lloegr ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010-2011, ar amcan-gost o ryw £50 miliwn. Roedd dewis gan Lywodraeth y Cynulliad, sef naill ai gwneud yr un peth, a dilyn unrhyw gamau pellach a gymerid gan Loegr, gyda'r gost yn cael ei thalu o gronfa drethi ganolog Llywodraeth y DU, neu dderbyn cynnydd canlyniadol yn ei chyllideb o ryw £2.9 miliwn yn unol â fformwla Barnett. Penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad ar y pryd mai'r ffordd fwyaf cost-effeithiol o ddefnyddio'r arian hwn fyddai derbyn y swm canlyniadol a'i ddefnyddio i wrthweithio'n rhannol effeithiau'r gostyngiadau mewn gwariant cyhoeddus a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, a thrwy hynny helpu i ddiogelu swyddi a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Earlier this year, the UK government froze the repayments being made in the financial year 2010-2011, for backdated liability in respect of relevant properties in England at an estimated cost of around £50 million. The Assembly Government had the choice of replicating this course of action, and any subsequent English action, the cost of which would have been met from the UK Government central rating pool, or accepting a consequential increase to its budget of around £2.9 million in line with the Barnett formula. At that time the Assembly Government determined that the most cost effective use of this money would be to accept the consequential and to use it to partially offset the effects of the reductions in public expenditure imposed by the UK Government, thereby helping to protect jobs and essential public services.
Erbyn hyn, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol a gaiff yr effaith o ddileu'r trethi busnes ôl-ddyddiedig ar gyfer pob eiddo a holltwyd mewn perthynas â rhestr drethi 2005 (eiddo busnes a rannwyd yn fwy nag un eiddo ac a brisiwyd ar wahân) sydd â biliau trethi wedi'u hôl-ddyddio o leiaf 33 mis, lle gwnaed y newid i'r rhestr cyn 1 Ebrill 2010.  Ni fydd biliau trethi ôl-ddyddiedig trethdalwyr sydd ag atebolrwydd ôl-ddyddiedig tebyg, ond y mae natur eu heiddo, fel y nodir ar y rhestr brisio, wedi newid ar ôl 1 Ebrill 2010, yn cael eu canslo.   Hefyd, byddai trethdalwyr y caiff eu prisiad ei ddiwygio heddiw, a'i ôl-ddyddio i 2005, yn dal i orfod talu eu trethi ôl-ddyddiedig, fel unrhyw drethdalwr y mae ei eiddo wedi'i hollti ac sy'n creu atebolrwydd ôl-ddyddiedig ar ôl 2008.
The UK government has now introduced primary legislation via the Localism Bill, which will give it power to make regulations cancelling the backdated business rates liability for all split properties in England (business premises split in to more than one property and valued separately) appearing on the 2005 rating list, which have backdated rates bills of at least 33 months, and where the change to the list was made before 1 April 2010. Ratepayers with similar backdated liabilities, but whose entry on the valuation list is changed after 1 April 2010 will not have their backdated rates bills cancelled. Also, ratepayers who today have their valuation amended and backdated to 2005, would still have to pay their backdated rates, as would any ratepayer whose  property is split and incurs a backdated liability after 2008.
Amcan cost atal a dileu'r atebolrwydd ôl-ddyddiedig yw tua £175 miliwn, ac o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i beidio ag atal atebolrwydd ôl-ddyddiedig yng Nghymru yn 2010-2011, mae'r Trysorlys eisoes wedi cynnwys swm ar gyfer cyllid canlyniadol, a allai fod yn rhyw £10 miliwn, o fewn yr adolygiad o wariant.
The estimated cost of the suspension and writing off of the back dated liability in England is around £175 million. The subsequent consequential for Wales is around £10 million and the Treasury has already included this sum for consequential funding within the spending review.
Pe bai Llywodraeth y Cynulliad yn gofyn am i'r ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n dileu'r atebolrwydd ôl-ddyddiedig ddod i rym yng Nghymru, ni fyddai'n derbyn y cyllid ychwanegol hwn, a byddai'r toriadau i'w gwariant hyd yn oed yn fwy na'r rhai a gyhoeddwyd yn yr adolygiad o wariant. O gofio'r pwysau ariannol ac amharodrwydd Llywodraeth y DU hyd yn hyn i weithredu ar sail deg wrth ddyrannu cyllid i Lywodraeth y Cynulliad yn unol ag argymhelliad Comisiwn Holtham, mae'n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad wneud penderfyniadau anodd ar y ffordd orau o sicrhau y gwneir y defnydd gorau o'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael, er lles pobl Cymru.
The Assembly Government did not request that the Welsh Ministers be given the regulation making power within the Localism Bill to cancel the backdated liability, as if they were to use this power, it would be necessary to forego the additional funding received in the spending review, and the cuts to expenditure would therefore be even greater than those announced in the spending review. Given the financial pressures and the unwillingness to date of the UK government to implement a fair basis for allocating funding to the Assembly Government as recommended by the Holtham Commission, the Assembly Government has to make difficult decisions on how best to maximise the limited resources available for the benefit of the people of Wales.
Datganiad Ysgrifenedig - Cyngor Sir Ynys Môn
Writtten Statement - Isle of Anglesey County Council
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Carl Sargeant, Minister for Social Justice and Local Government
Fe hoffwn roi diweddariad i’r Aelodau ar y datblygiadau diweddaraf o fewn Cyngor Sir Ynys Môn, a sut yr wyf yn bwriadu ymateb iddynt.
I would like to update Members on recent developments within the Isle of Anglesey County Council, and how I propose to respond to them.
Bydd y Cynulliad yn cofio i Archwilydd Cyffredinol Cymru ganfod gwendidau difrifol iawn o fewn y Cyngor ym mis Gorffennaf 2009: ymddygiad gwael ymysg yr aelodau, cydberthnasau gwan rhwng aelodau a swyddogion, cynllunio strategol annigonol a dim llawer o ymgysylltu â’r cyhoedd. Argymhellodd yr Archwilydd Cyffredinol ein bod yn ymyrryd er mwyn helpu i sicrhau adferiad, a fis yn ddiweddarach fe gyfarwyddodd Brian Gibbons y Cyngor i ymdrin â’r holl broblemau y tynnodd yr Archwiliwr Cyffredinol sylw atynt o fewn 18 mis. Hefyd, fe dynnodd rai swyddogaethau oddi ar y Cyngor, ac fe benododd Reolwr Gyfarwyddwr dros dro a Bwrdd Adfer er mwyn monitro datblygiad y Cyngor.
The Assembly will recall that in July 2009 the Auditor General for Wales identified very serious failures within the Council: poor behaviour by members, weak relationships between members and officers, inadequate strategic planning and low levels of public engagement. The Auditor General recommended that we intervene to help secure recovery, and a month later Brian Gibbons directed the Council to address all of the problems that the Auditor General identified within 18 months. He also removed certain functions from the Council and appointed an interim Managing Director and a Recovery Board to monitor the Council’s progress.
Ers hynny, mae’n deg dweud bod y Cyngor wedi symud yn ei flaen mewn rhai meysydd. Mae wedi diwygio ei system graffu er mwyn sicrhau bod yr holl gynghorwyr yn cael mwy o ddylanwad ar fusnes y Cyngor. Mae wedi rhoi terfyn ar yr arfer o benodi cynghorwyr i gadeirio pwyllgorau ac ar gyrff allanol ar sail ymlyniad gwleidyddol a ffafriaeth.
Since then, it is fair to say that the Council has moved forward in some areas. It has overhauled its scrutiny system to give all councillors a better say in Council business. It has ended the practice of appointing councillors to committee chairs and outside bodies on the basis of political loyalty and favouritism.
Nid yw rhai o’r problemau mwyaf difrifol wedi diflannu, fodd bynnag. Mae ymddygiad nifer o’r cynghorwyr  yn awgrymu mai eu prif nod yw gweithredu er eu lles hwy eu hunain ac er mwyn eu grwpiau, yn hytrach na gweithio er budd yr ynys gyfan. Mae creu a thorri cytundebau gwleidyddol yn parhau i fod yn un o’r nodweddion sy’n hydreiddio diwylliant gwleidyddol y Cyngor, gan arwain at ansefydlogrwydd ac ansicrwydd nad yw’n llesol i neb. Fis Mehefin diwethaf, er enghraifft, fe adawodd yr Arweinydd ei grŵp, gan ei fod o’r farn fod y grŵp hwnnw’n ei danseilio ef a’r adferiad. Fe ffurfiodd gynghrair newydd, ond ni lwyddodd honno i dderbyn cefnogaeth y mwyafrif. Ers y Nadolig, gwelwyd nifer o ymdrechion i ddisodli’r gynghrair honno, a gosod un o blith nifer o wahanol gyfuniadau yn ei lle. Byddai pob un o’r rhain yn golygu y byddai cyn-gynghreiriaid yn gwrthwynebu ei gilydd, a chyn-wrthwynebwyr mewn grym gyda’i gilydd.
However, some of the most serious problems have not gone away. The conduct of many councillors suggests that their primary aim is to manoeuvre for personal and group advantage rather than to deliver for the whole of the island. Making and breaking political deals remains a pervasive feature of the Council’s political culture, leading to turmoil and uncertainty that is in no-one’s interests. Last June, for instance, the Leader left his group, which he believed was undermining him and the recovery. He formed a new alliance which nonetheless failed to attract majority support. Since Christmas, there have been several attempts to overthrow that alliance and replace it with one of a number of different configurations, all of which would involve former allies being in opposition to each other, and put former opponents in power together.
Ochr yn ochr â hynny, mae nifer o garfanau annibynnol cyfnewidiol yn tra-arglwyddiaethu dros wleidyddiaeth y Cyngor, ac mae’n ymddangos nad yw’r cynghreiriau hynny’n seiliedig ar lawer mwy na chyfleustra gwleidyddol.  Ers i ni ymyrryd, mae dau grŵp newydd wedi’i greu, a mae’r hen un wedi’i ddiddymu,. Mae’r rhan fwyaf o’r swyddi ar y pwyllgor gwaith wedi’u dal gan nifer o wahanol aelodau dros y 18 mis diwethaf. Mae hefyd yn anodd weithiau dilyn trywydd y cynghreirio a’r ymgiprys o un wythnos i’r llall.
Alongside that, Council politics remains dominated by a number of shifting independent factions which seem to be little more than alliances of personal convenience. Since we intervened, two new groups have been set up and an old one has been dissolved. Many executive portfolios have been held by several different members over the past 18 months. And it is sometimes hard to keep track of allegiances and rivalries from one week to the next.
Byddai rhai’n dweud bod gwleidyddion yn griw cecrus o ran eu hanian, ac nad yw’r hyn yr ydym wedi’i weld yn ddim mwy na gwleidyddiaeth leol arferol. Nid wyf yn cytuno â hynny. Nid yw o unrhyw ddiddordeb i mi pwy sy’n arwain y cyngor, na phwy sydd ar y pwyllgor gwaith. Yr hyn yr wyf fi’n ei ddisgwyl, a’r hyn sy’n hanfodol er mwyn cael adferiad, yw sefydlogrwydd. Fel yr wyf wedi’i ddatgan yn glir droeon, rhaid i’r holl gynghorwyr ganolbwyntio eu hymdrechion ar weithio er budd yr ynys, a diwygio strwythurau, arferion a diwylliant y Cyngor er mwyn cyflawni hynny. Nid mater i arweinydd ac aelodau pwyllgor gwaith y Cyngor yn unig yw hyn  - pwy bynnag sy’n llenwi’r swyddi hynny. Mae yna gydgyfrifoldeb ar yr aelodau i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu er lles pobl Ynys Môn.
Some might say that politicians are by nature a fractious bunch, and what we have seen is no more than routine local politics. I disagree. I have no interest whatsoever in who the leader of the council is, or who forms an administration. What I expect, and what recovery demands, is stability. As I have made very clear on many occasions, all councillors need to focus their energies on delivering for the island, and in reforming the Council’s structures, practices and culture to that end. This is not just a matter for the Council’s leader and the executive – whoever that may be. There is a collective responsibility for members to ensure that the Council delivers for the people of the Anglesey.
Wrth reswm, mae gan unrhyw gorff democrataidd yr hawl i ddewis ei arweinydd, ac i gael gwared ar weinyddiaeth nad yw’n ei chefnogi. Ond mae’r ymdrechion parhaus i sicrhau mantais yn tanseilio’r adferiad ac yn llesteirio gwaith y Cyngor. Yr hyn sy’n peri siom ddirfawr i mi yw bod nifer o’r rhai sydd yn awr, yn ôl pob tebyg, yn rhan o’r datblygiadau diweddar wedi rhoi addewidion personol i fy Mwrdd Adfer na fyddent yn ansefydlogi’r weinyddiaeth bresennol, a hynny er mwyn sicrhau’r arferiad. Mae’n amlwg mai addewidion ffug oedd y rhain. Mae hyn i gyd yn awgrymu nad oes llawer o ddim wedi newid yn ystod cyfnod ein hymyrraeth, o leiaf ym meddyliau rhai cynghorwyr. Bydd yn siŵr o olygu bod pobl yn llai parod i weithio i’r Cyngor, neu i gydweithio ag ef, a hefyd i ystyried buddsoddi yn yr ynys. Ac nid yw’n rhoi unrhyw hyder i mi y bydd y Cyngor yn gallu mynd i’r afael â’r heriau difrifol, yn ariannol ac o ran darparu gwasanaethau, y mae pob awdurdod lleol yn eu hwynebu, mewn ffordd gydlynol a strategol. Yn gyffredinol, nid yw’n ymddangos bod rheolaeth gorfforaethol o fewn yr awdurdod yn gwella fel yr oeddwn i wedi gobeithio.
Of course, any democratic body has the right to choose its leadership, and to replace a regime it does not support. But this constant jockeying for advantage undermines recovery and hinders the business of the Council. What is profoundly disappointing for me is that now many of those apparently involved in recent developments gave personal assurances to my Recovery Board that they would not destabilise the current administration in the interests of securing recovery. Those assurances have proved to be hollow. All this suggests that little has changed during our intervention, at least in the minds of some councillors. It can only deter those seeking to work for or collaborate with the Council, or those contemplating investment on the island. And it gives me no confidence that the Council will be able to address the severe financial and delivery challenges that all local authorities face coherently and strategically. Overall, it appears that the corporate governance of the authority is not improving as I had hoped.
Ynghanol hyn i gyd, mae’n hawdd colli golwg ar staff y Cyngor. Maent yn parhau i weithio’n galed iawn, o dan amgylchiadau hynod anodd, i gyflawni er budd yr ynys, ac mae clod uchel yn ddyledus iddynt am sicrhau bod gwasanaethau Ynys Môn yn parhau i fod yn dda ar y cyfan, ac weithiau’n rhagorol. Ond dim ond o ddydd i ddydd y gall hynny weithio; mae angen arweiniad wleidyddol gadarn a chyson ar hyd yn oed y swyddogion gorau er mwyn ymdrin â materion strategol megis rhesymoli ysgolion a diwygio gofal cymdeithasol. Nid yw’r staff yn derbyn yr arweiniad hwnnw, ac ni fyddant yn ei gael os na fydd y diwylliant gwleidyddol yn newid. I’r gwrthwyneb, maent yn teimlo’n hollol ddigalon a digymhelliad, a hynny’n ddealladwy, o weld yr hyn sy’n digwydd o fewn yr awdurdod ymhlith rhai aelodau etholedig. Mater o amser yw hi cyn i hyn ddechrau effeithio ar wasanaethau rheng flaen a’r gwelliannau angenrheidiol iddynt.
Amidst all of this it is too easy to lose sight of the Council’s staff. They continue to work very hard in the most trying of circumstances to deliver for the island, and it is to their great credit that Anglesey’s services remain mostly good and sometimes excellent. But that can only work on a day-to-day basis: even the best officers need sound and consistent political leadership to address strategic delivery issues like school rationalisation and social care reform. Staff are not getting that, and until the political culture changes, nor will they. On the contrary, they are profoundly and understandably dispirited and demotivated by what they see within the authority from some elected members. It is only a matter of time before this starts to affect front-line services and the necessary improvements to them.
Ni allaf anwybyddu’r sefyllfa hon na chymryd arnaf y bydd popeth yn iawn yn y pen draw. Nod ein hymyriad hyd yma fu helpu’r Cyngor i’w adfer ei hun, a chyda chefnogaeth helaeth y Bwrdd Adfer a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mae peth cynnydd wedi’i wneud. Ond mae’n peri pryder difrifol i mi nad yw aelodau’r Cyngor yn dymuno gweld adferiad mewn rhai meysydd pwysig. Mae hynny’n fy arwain i gredu nad oes gan yr ymyriad presennol siawns resymol o lwyddo os caniateir i ymddygiad o’r fath barhau. Os felly, bydd yn rhaid i mi ystyried dull newydd a llymach o ymyrryd, er mwyn cyflymu’r adferiad a gwarchod yr ynys a’i dinasyddion.
I cannot ignore this situation or pretend that everything will turn out right in the end Our intervention so far has aimed to help the Council to achieve its own recovery, and with the considerable support of the Recovery Board and the WLGA some progress has been made. But I am becoming seriously concerned that in some important areas the Council’s members do not want to recover. That leads me to believe that the current intervention does not stand a reasonable prospect of success if such conduct is allowed to continue. If so then I will have to consider a new and more stringent form of intervention, both to hasten recovery and to protect the island and its citizens.
Rwyf eisoes wedi clywed barn fy Mwrdd Adfer ar hyn. Maent yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud ond nid ydynt yn gweld llawer o obaith o adferiad cynaliadwy. Mae hynny’n awgrymu bod angen cymryd camau pellach. Ni all y drefn sydd ohoni barhau, gan fod y diffyg sefydlogrwydd a llywodraethu corfforaethol da yn awgrymu’n gryf bod yna anallu i wneud penderfyniadau strategol cadarn, a gallai hynny effeithio’n gyflym ar y gwasanaethau a ddarperir o ddydd i ddydd. Nid wyf yn siŵr ynghylch pa fathau o gamau neu ymyriadau y dylid eu gweithredu ar hyn o bryd. Er bod gen i bwerau eang, mae eu goblygiadau posibl yn golygu bod angen bod yn ofalus iawn wrth eu gweithredu ac mae angen i mi sicrhau hefyd bod unrhyw gamau yr wyf yn penderfynu eu cymryd yn arwain at y gwelliannau sydd, yn ôl pob golwg, yn hanfodol. Mae hefyd yn bwysig sylweddoli bod problemau Ynys Môn yn ymwneud yn eu hanfod â gwerthoedd a diwylliant gwleidyddol - nid yw’r rhain yn faterion y gellir eu datrys yn rhwydd â thrawiad ysgrifbin y Gweinidog.
I have already heard the views of my Recovery Board on this. They acknowledge the progress made but see little prospect of a sustainable recovery. That suggests a case for further action. The status quo cannot continue as the lack of stability and good corporate governance strongly suggest an inability to take cogent strategic decisions, and could quickly start to affect routine service delivery. What any further form of action or intervention should be is not clear to me at present. While my powers are wide-ranging, their potential implications mean they need to be exercised very carefully and equally I need to ensure that any action I decide to take will be secure the improvements which appear to be essential. It is also important to realise that Anglesey’s problems are fundamentally about political culture and values – not issues that can be easily resolved by a stroke of the Ministerial pen.
O ganlyniad, rwyf wedi penderfynu gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal ailarolygiad brys o’r Cyngor, gan wneud argymhellion os yw hynny’n briodol.  Mae hyn yn rhan o’i gylch gwaith statudol, ac mae hefyd yn caniatáu iddo ystyried i ba raddau y mae’r argymhellion cynharach wedi’u rhoi ar waith o fewn y terfyn amser o 18 mis a osodwyd yn 2009. Ond ni ddylai’r Cyngor amau difrifoldeb ei sefyllfa; sefyllfa y mae’r Cyngor ei hun yn gyfrifol amdani i raddau helaeth. Byddaf yn ystyried argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol yn ofalus iawn wrth benderfynu pa gamau pellach i’w cymryd. Nid wyf am wneud sylw ar unrhyw ganlyniadau ar gyfer y Cyngor cyn i’r archwilydd gynhyrchu unrhyw adroddiad gan nad wyf am ragfarnu’r mater. Fodd bynnag, os bydd y Cyngor yn ymwrthod â’r cyfleoedd i ddatrys ei broblemau, a’r gefnogaeth helaeth yr ydym ni, y Bwrdd Adfer a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi’i rhoi fel rhan o hynny, yna ni fydd ganddo unrhyw un i’w feio ond ef ei hun.
I have therefore asked the Auditor General to re-inspect the Council urgently, and, if appropriate, to make recommendations. That is part of his statutory remit, and also allows him to consider how far the earlier recommendations have been discharged within the 18-month deadline that our 2009 direction set. But the Council should be in no doubt about the gravity of the situation it is now in, and a situation which it has largely brought on itself. I will consider the recommendations from the Auditor General very carefully in deciding what further action to take. I will not speculate on any consequences for the Council in advance of any report from the auditor as I do not want to prejudge the issue. However, I will say that if the Council spurns opportunities to resolve its problems, and the extensive support we, the Recovery Board and the WLGA have provided as part of that, it will only have itself to blame.
Byddaf yn gwneud datganiad pellach i’r Cynulliad unwaith y byddaf wedi derbyn canfyddiadau’r Archwilydd Cyffredinol, ac wedi eu hystyried.
I will make a further statement to the Assembly once I have received and considered the Auditor General’s findings.
Datganiad Ysgrifenedig - Cadeiryddion y Paneli Sector
Written Statement - Sector Panel Chairs
Ieuan Wyn Jones y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Ieuan Wyn Jones, Deputy First Minister and Minister for the Economy and Transport
Mae’r Datganiad hwn yn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am y Paneli Sector newydd a fydd yn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddatblygu economi Cymru.
The Statement advises Members of the new Sector Panels that will advise the Welsh Assembly Government on the economic development of Wales.
Mae’r paneli sector yn cynnwys pobl fusnes o’r tu allan i’r llywodraeth sydd wedi’u profi eu hunain yn eu maes. Bydd pob un o’r paneli hyn yn rhoi cyngor ar gyfleoedd yn y chwe sector allweddol y mae’r Gweinidogion wedi nodi sydd â’r potensial mwyaf i ddatblygu economi Cymru. Mabwysiadwyd y dull hwn o weithio ar sail sectorau ar ôl cyhoeddi ‘Adnewyddu’r economi: cyfeiriad newydd’, sy’n amlinellu’r rôl y bydd gan y llywodraeth ddatganoledig i’w chwarae o ran cefnogi’r sector preifat a hybu economi Cymru.
The sector panels are made up of business people from outside government who have an established record in their field. Each will advise on opportunities within the 6 key sectors identified by Ministers as having the greatest potential to grow the Welsh economy. The sectoral approach has been adopted following the announcement of ‘Economic Renewal: a new direction’, which sets out the role devolved government will play to support the private sector and the economy of Wales.
Mae’n canolbwyntio ar chwe sector allweddol lle mae gan Gymru fanteision amlwg o ran y potensial i dyfu:Y diwydiannau creadigolTGChYnni a’r AmgylcheddDeunyddiau a gweithgynhyrchu uwchGwyddorau BywydGwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
It focuses on 6 key sectors where Wales has clear advantages for growth. They include:Creative industriesICTEnergy and EnvironmentAdvanced material and manufacturingLife SciencesFinancial and Professional services
Bydd gan bob un o’r sectorau hyn ei banel ei hun, a fydd yn cynnwys pum person busnes o’r sector preifat, gan gynnwys y cadeirydd. Eu gwaith hwy fydd rhoi cyngor i’r Gweinidogion ar anghenion yr amryfal sectorau, a’r cyfleoedd ynddynt. Yn y lle cyntaf, byddant yn rhoi blaenoriaeth i fapio siâp y sectorau ac i weithio gyda busnesau o bob maint i nodi cyfleoedd.
Each of these sectors will have their own panel, made up of five private sector business people, including the chair. It will be their job to provide advice to Ministers on the opportunities and needs of the different sectors. Initially their priority will be to map out the shape of the sectors and work with businesses of all sizes in order to identify opportunities.
Mae gan y paneli sector newydd hyn un swyddogaeth amlwg - defnyddio’u llwyddiant a’u profiad yn y sector preifat i’n cynorthwyo i nodi’r cyfleoedd gorau i hybu twf busnesau. Ein nod yn y pen draw yw gweld busnesau Cymru, boed fawr neu fach, yn tyfu ac yn creu’r swyddi y mae eu hangen arnom er mwyn datblygu’n heconomi yn y dyfodol.
These new sector panels have one, clear role – to use their private sector success and experience to help us identify the best opportunities out there for business growth. Our ultimate aim is to see Welsh businesses, large and small, in these key sectors grow and create the jobs we need for the future development of our economy.
Dyma gadeiryddion newydd y sectorau:Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch - Gareth Jenkins.Ynni a’r Amgylchedd - Kevin McCullough.Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol - Chris Nott.TGCh - Thomas Kelly.Gwyddorau Bywyd – Syr Christopher Evans.
The new sector chairs are:Advanced Materials and Manufacturing - Gareth Jenkins.Energy and Environment - Kevin McCullough.Financial and professional Services - Chris Nott.ICT - Thomas Kelly.Life Science – Sir Christopher Evans.