cymraeg
stringlengths
1
11.5k
english
stringlengths
1
11.1k
Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddwyd mai Ron Jones fydd yn cadeirio panel y sector diwydiannau creadigol.
In October last year we announced that Ron Jones will chair the creative sectors panel.
Yn ogystal â’r cadeiryddion, dyma aelodau eraill y chwe phanel:
As well as the chairs, the 6 panels will include the following members:
Deunyddiau a Gweithgynhyrchu UwchMr Keith BakerY Dr Frank O’ConnorY Dr Phillip ClementDeep Sagar
Advanced Materials and ManufacturingMr Keith BakerDr Frank O’ConnorDr Phillip ClementsDeep Sagar
Ynni a’r AmgylcheddMr David WilliamsMr Alan ProctorMr Gerry JewsonMr John Jones
Energy and EnvironmentMr David WilliamsMr Alan ProctorMr Gerry JewsonMr John Jones
Gwasanaethau Ariannol a PhroffesiynolMr Seth ThomasMr Allan GriffithsMrs Vivienne HoleMr David Hawkins
Financial and professional ServicesMr Seth Thomas- accepted subject to board approvalMr Allan GriffithsMrs Vivienne HoleMr David Hawkins
TGChMr Andrew CarrMr David JonesMr Steve DaltonY Dr Mark Bentall
ICTMr Andrew CarrMr David JonesMr Steve DaltonDr Mark Bentall
Gwyddorau BywydYr Athro Gareth Morgan (is-gadeirydd)Y Dr Grahame GuilfordY Dr Penelope OwenMr Gwyn John Tudor
Life ScienceProf Gareth Morgan (Vice Chair)Dr Grahame GuilfordDr Penelope OwenMr Gwyn John Tudor
Y Diwydiannau Creadigol (gwnaed cyhoeddiad am y panel hwn ar 12 Hydref 2010)Jaynie ByeGwyn RobertsDai DaviesFiona Stewart
Creative Industries (this panel was announced on 12th Oct 2010)Jaynie ByeGwyn RobertsDai DaviesFiona Stewart
Hoffwn gadarnhau hefyd fy mod yng nghanol trafodaethau ers tro ynglŷn â ffurfio grŵp cynghori ar fusnesau bach a chanolig ar gyfer y chwe sector allweddol. Byddai’r grŵp hwn yn caniatáu i’r Paneli Sector ymgysylltu’n well â busnesau bach a chanolig yn eu sector hwy. Byddai hefyd yn cynorthwyo’r Paneli Sector a’r timau sector i gynllunio ac i ddarparu cymorth wedi’i dargedu i fusnesau, a hynny mewn modd sy’n cefnogi busnesau bach a chanolig yn eu sector hwy.
I would also like to confirm that I am in advanced discussions on the formation of an advisory group on SMEs for the 6 key sectors. This group would allow the Sector Panels to engage more effectively with SMEs in their sector. It would also support the Sector Panels and sector teams in planning and delivering targeted business support, in a way that supports SMEs within their sector.
Datganiad Ysgrifenedig - Ffioedd Dysgu Addysg Uwch – Rheoliadau Drafft
Written Statement - Higher Education Tuition Fees – Draft Regulations
Leighton Andrews, Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Leighton Andrews, Minister for Children, Education and Lifelong Learning
Mae rheoliadau drafft a fydd yn creu’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer ffioedd dysgu addysg uwch yng Nghymru o flwyddyn academaidd 2012/13 ymlaen wedi’u gosod gerbron y Cynulliad heddiw. Caiff y Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011 drafft a’r Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011 drafft eu gwneud drwy benderfyniad cadarnhaol. Fe gyflwynir y ddwy set o reoliadau drafft ar gyfer dadl yn y cyfarfod llawn ym mis Mawrth.
Today draft regulations which will establish the regulatory framework for higher education tuition fees in Wales from academic year 2012/13 have been laid before the Assembly.  The draft Student Fees (Amounts) (Wales) Regulations 2011 and the draft Student Fees (Approved Plans) (Wales) Regulations 2011 are to be made by affirmative resolution. Both sets of draft regulations will be tabled for a plenary debate in March.
Yn rhaglen lywodraethu Cymru’n Un ymrwymodd Gweinidogion Cymru i wneud popeth posibl i liniaru’r effeithiau ar fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru pe bai llywodraeth San Steffan yn codi’r terfyn uchaf ar gyfer ffioedd. Ar 30 Tachwedd 2010 fe gyhoeddais sut y byddai Cymru yn ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu ffioedd dysgu mewn sefydliadau addysg uwch yn Lloegr. Bydd y trefniadau diwygiedig ar gyfer ariannu addysg uwch a chymorth statudol i fyfyrwyr yng Nghymru ar waith ar gyfer myfyrwyr fydd yn dechrau dilyn cyrsiau newydd ar 1 Medi 2012 neu wedi hynny.
In the One Wales programme for government Welsh Ministers made a commitment to do whatever is possible to mitigate the effects on students ordinarily resident in Wales if the Westminster government were to lift the cap on fees.  On 30 November 2010 I announced how Wales would respond to the decision by the UK Government to increase tuition fees in higher education institutions in England. The revised arrangements for higher education funding and statutory student support in Wales are to be put in place for students commencing new courses of study on or after 1st September 2012.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, lle bynnag y maent yn dewis astudio. O’r flwyddyn academaidd 2012/13 ymlaen bydd myfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer benthyciadau â chymhorthdal i gwrdd â chost ffioedd hyd at y lefel bresennol. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu grant heb brawf modd ar gyfer y swm uwchlaw’r lefelau ffioedd cyfredol.
The Welsh Assembly Government has a responsibility to students ordinarily resident in Wales, wherever they choose to study. From academic year 2012/13 students ordinarily resident in Wales will continue to be eligible for subsidised loans to meet the cost of fees up to the current level. The Welsh Assembly Government will provide a non-means-tested grant for the balance over and above current fee levels.
Er mwyn sicrhau bod gan sefydliadau addysg uwch ddigon o amser i gynllunio ar gyfer y trefniadau ffioedd dysgu ac ariannu newydd rwyf wedi ymrwymo i sefydlu’r fframwaith rheoleiddio angenrheidiol erbyn i’r Cynulliad presennol gael ei ddirwyn i ben cyn etholiadau mis Mai. Mae fy swyddogion wedi ymgynghori ar y trefniadau gweithredu gyda phartneriaid allweddol ac rwyf wedi ystyried yr adborth a dderbyniwyd wrth benderfynu ar hyd a lled y rheoliadau drafft.
To ensure that higher education institutions have sufficient time to plan for the new tuition fee and funding arrangements I am committed to establishing the necessary regulatory framework by the time this Assembly is dissolved ahead of the May elections.  My officials have undertaken consultation on the delivery arrangements with key stakeholders and I have taken account of the feedback received in determining the scope of the draft regulations.
Mae’r Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) drafft yn pennu’r symiau sylfaenol a’r symiau uwch y caiff y sefydliadau perthnasol eu codi  drwy ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau gradd llawnamser. Y “sefydliadau perthnasol” yw’r rheini sy’n derbyn grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).
The draft Student Fees (Amounts) (Wales) Regulations prescribe the basic and higher amounts which relevant institutions will be able to charge by way of tuition fees for full-time undergraduate courses. “Relevant institutions” are those which receive grants, loans or other payments from the Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW).
Fe ddywedais yn wreiddiol y byddai’r ffi sylfaenol yn £6,000 a’r ffi uwch yn £9,000, yn unol â threfniadau arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer sefydliadau yn Lloegr. Gofynnwyd i’r rhanddeiliaid fynegi eu barn ar swm y ffi sylfaenol yn yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a thrwy weithdy i randdeiliaid ar weithredu’r pecyn cymorth myfyrwyr ac ariannu addysg uwch newydd. Ar sail yr adborth o’r ymarfer ymgynghori rwyf wedi penderfynu pennu £4,000 fel swm y ffi sylfaenol.
I indicated initially that the basic and higher fee amounts would be established at £6,000 and £9,000 respectively, in line with the arrangements proposed by the UK Government in respect of English institutions.  Stakeholders’ views on the basic fee amount were sought in the formal consultation exercise and via a stakeholder workshop on the delivery of the new student support and higher education funding package.  The feedback from the consultation exercise has informed my decision to prescribe the basic fee amount as £4,000.
Yr hyn sy’n ganolog i bolisi Llywodraeth y Cynulliad yw’r egwyddor y dylai’r gallu i dderbyn addysg uwch fod yn seiliedig ar botensial unigolyn i elwa ar hynny, ac nid ar ei allu i dalu’r gost. Mae’r penderfyniad i bennu £4,000 fel swm y ffi sylfaenol yn adlewyrchu pa mor bwysig i Lywodraeth y Cynulliad yw cyfraniad addysg uwch i gyfiawnder cymdeithasol. Bydd y gofyniad i sefydliadau fod â chynllun wedi’i gymeradwyo, er mwyn codi ffioedd dysgu sy’n uwch na’r gyfradd sylfaenol, yn adeiladu ar y trefniadau gwirfoddol cyfredol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod sefydliadau Cymru’n parhau i sicrhau mynediad cyfartal i  addysg uwch, ac yn ei hyrwyddo.
Central to the Welsh Assembly Government’s policy is the principle that access to higher education should be on the basis of the individual’s potential to benefit, and not on the basis of what they can afford to pay. The decision to set the basic fee level at £4,000 reflects the importance the Welsh Assembly Government places on the contribution which higher education makes to social justice. The requirement for institutions to have an approved plan in place, in order to charge tuition fees above the basic rate, will build on existing voluntary arrangements.  This will help ensure continued action from Welsh institutions to pursue equality of access to, and promotion of, higher education.
Mae’r Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) drafft yn pennu cynnwys a chyfnod gweithredol y cynlluniau ffioedd y bydd gofyn i sefydliadau perthnasol eu cynhyrchu er mwyn codi ffioedd dysgu sy’n fwy na’r swm sylfaenol. Maent hefyd yn nodi beth y mae gofyn i CCAUC ei wneud (fel yr awdurdod perthnasol yng Nghymru) wrth gymeradwyo a gweithredu cynlluniau ffioedd. Mae’r rheoliadau drafft yn pennu bod yn rhaid i gynlluniau ffioedd nodi amcanion y sefydliad o ran hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch. Yn benodol, mae’r rheoliadau’n darparu ar gyfer y canlynol:y darpariaethau y mae’n ofynnol eu cynnwys yn y cynlluniau ffioedd;y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo cynlluniau ffioedd, gan gynnwys amrywio cynlluniau;cyfnod gweithredol y cynlluniau ffioedd, sef dwy flynedd fan hwyaf;y weithdrefn ar gyfer gorfodi cynlluniau ffioedd;y darpariaethau ar gyfer adolygu penderfyniadau CCAUC ynghylch cynlluniau ffioedd.
The draft Student Fees (Approved) Plans Regulations prescribe the content and duration of fee plans required from relevant institutions which wish to charge tuition fees above the basic amount.  They also set out what is required of HEFCW (as the relevant authority in relation to Wales) when approving and enforcing fee plans.  The draft regulations specify that fee plans must set out the institution's objectives with regard to the promotion of equality of opportunity and the promotion of higher education. In particular the regulations provide for the following:the provisions required to be included in fee plans;the procedure for approval of fee plans, including variations to plans;the duration of fee plans, specified as a maximum of two years;the procedure for the enforcement of fee plans; andprovisions for the review of HEFCW's decisions in relation to fee plans.
Yn ymarferol, mae’r trefniadau newydd yn golygu, o’r flwyddyn academaidd  2012/13 ymlaen, y bydd sefydliadau addysg uwch yn gallu codi ffioedd dysgu o £4,000 i £9,000 y flwyddyn, ar yr amod y gallant ddangos ymrwymiad i ehangu mynediad ac amcanion strategol eraill sy’n berthnasol i hyrwyddo addysg uwch. Byddant yn gwneud hynny drwy gyfrwng cynlluniau ffioedd a gymeradwyir gan CCAUC. Bydd fy Adran yn rhoi canllawiau i CCAUC ar y broses cynllunio ffioedd yn y man.
In practice the new arrangements will mean that from academic year 2012/13 higher education institutions will be able to charge tuition fees from £4,000 up to £9,000 a year, providing they can demonstrate a commitment to widening access and other strategic objectives relevant to the promotion of higher education.  They will do this through fee plans approved by HEFCW.  Guidance on the fee planning process will be issued to HEFCW in due course by my Department.
Datganiad Ysgrifenedig - Y llythyr diweddaraf oddi wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn
Written Statement - Most Recent Letter from Chief Secretary to the Treasury Regarding End Year Flexibility
Jane Hutt , Y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Jane Hutt, Minister for Business and Budget
Unwaith eto, rwy’n llunio Datganiad Ysgrifenedig mewn perthynas â gohebiaeth â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys gan nad yw am ganiatáu i’r ohebiaeth wirioneddol gael ei rhannu â’r Cynulliad.
Once more, I am making a Written Statement in relation to correspondence with the Chief Secretary to the Treasury because he will not allow the actual correspondence to be shared with the Assembly.
Fel y dywedais yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 10 Ionawr, mae Llywodraeth y Cynulliad yn hynod anhapus ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU i ddileu ein stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn sydd wedi’u cronni, ac sy’n dod i gyfanswm o ryw £385m. Hwn yw’r arian y pleidleisiodd Senedd San Steffan o blaid ei roi i Gymru. Dylid ei ddefnyddio i gefnogi buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus ac i gefnogi’r adferiad economaidd, yn hytrach na’i gadw gan y Trysorlys.
As I said in my Written Statement on 10 January, the Assembly Government is extremely unhappy with the UK Government’s plans to write off our accumulated stocks of End Year Flexibility (EYF), which amount to around £385m.  This is our money voted by Parliament to Wales.  It should be used to support investment in public services and in supporting the economic recovery, rather than retained by the Treasury.
Ysgrifennais at y Prif Ysgrifennydd ar 11 Ionawr, gan ofyn ar i’n holl stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn sydd wedi’u cronni gael eu rhyddhau. Atebodd y Prif Ysgrifennydd fy llythyr ar 9 Chwefror, ond mae wedi gwrthod caniatáu i’r stociau sydd wedi’u cronni gael eu rhyddhau. Yr ensyniad yw y bydd y stociau hyn, bellach, yn cael eu dileu.
I wrote to the Chief Secretary on 11 January, requesting that all of our accumulated stocks of EYF be released.  The Chief Secretary replied to my letter on 9 February but he has refused to allow the release of our accumulated stocks, with the implication that these stocks will now be written off.
Mae ein stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn yn bwysicach nag erioed o ystyried y gostyngiad yng Nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, gostyngiad na welwyd ei debyg o’r blaen. Byddwn yn parhau i wrthwynebu cynlluniau Llywodraeth y DU i dynnu ein stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn oddi wrthym a sefyll dros fuddiannau pobl Cymru.
Our EYF stocks are all the more important given the unprecedented reduction in the Assembly Government’s Budget imposed by the UK Government.  We will continue to oppose the UK Government’s plans to take away our EYF stocks and stand up for the interests of the people of Wales.
Byddaf i a’m swyddogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon nawr yn ysgrifennu llythyr ar y cyd at y Canghellor yn gofyn eto am i’r stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn sydd wedi’u cronni gael eu rhyddhau. Y gobaith yw y bydd gweithredu gyda’n gilydd yn fwy llwyddiannus ac y bydd yr arian y pleidleisiwyd dros ei roi i bobl yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn cael ei ddychwelyd.
I and my counterparts in Scotland and Northern Ireland will now be writing a joint letter to the Chancellor repeating the request for accumulated EYF stocks to be released. It is hoped that this concerted trilateral approach will have more success in securing the return of monies voted to the Scottish, Northern Irish and Welsh people.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ynghylch y datblygiadau ar y mater pwysig hwn.
I will continue to keep the Assembly up to date with developments on this important matter.
Datganiad Ysgrifenedig - Ail Gyllideb Atodol 2010-11
Written Statement - Second Supplementary Budget 2010-11
Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Jane Hutt, Minister for Business and Budget
Am 3.00 yp heddiw, fe gyhoeddais ail Gyllideb Atodol Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer 2010-11.
At 3.00pm today, I published the Assembly Government’s second Supplementary Budget for 2010-11.
Natur weinyddol sydd i'r Gyllideb Atodol hon yn bennaf. Mae'n adlewyrchu'r ail-flaenoriaethu a fu o fewn portffolios, ynghyd â nifer o drosglwyddiadau rhwng portffolios. Yn allweddol, mae’n cyflawni ein penderfyniad i ddod o hyd i'r holl ostyngiadau i'r gyllideb, a osododd Llywodraeth y DU arnom yn eu Cyllideb ym mis Mehefin 2010, yn y flwyddyn ariannol hon. Yn ogystal â hyn, mae'n darparu ar gyfer dyraniadau ychwanegol o'n cronfeydd wrth gefn.
This Supplementary Budget is mainly administrative in nature and reflects reprioritisations within portfolios and a number of transfers between portfolios. Importantly, it implements our decision to take all of the in-year revenue reductions imposed on us by the UK government in their June 2010 Budget in this financial year. It also provides for additional allocations from our reserves.
Datganiad Ysgrifenedig - Gwella Safonau a Pherfformiad
Written Statement - Performance and Standards
Leighton Andrews, y Gweinidog Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Leighton Andrews, Minister for Children, Education and Lifelong Learning
Dyma ddatganiad i Aelodau ar ein hymateb i ganlyniadau PISA 2009.
I wish to update Members on our response to the PISA results 2009.
Yn gyntaf, rwy’n gosod targedau clir. Dylem anelu at fod ymhlith yr 20 system ysgolion uchaf ar dabl sgoriau PISA yn 2015.  Byddwn yn anelu at wella’n canlyniadau yn asesiad nesaf PISA yn 2012 o’u cymharu â’n canlyniadau yn 2009. Ni fydd hyn yn gwanhau’n hamcan i wella canlyniadau TGAU – mae angen inni wella perfformiad, gan gynnwys perfformiad darllen a mathemateg, a lleihau’r gwahaniaethau ar draws y system.
Firstly, I am setting some clear targets. We should aim to be in the top 20 of school systems measured in the PISA scores in 2015. We will aim to improve our results in the next PISA assessment in 2012 over the 2009 results. This is not an alternative to improving GCSE results – we need to increase performance, including performance in reading and mathematics, and reduce variation across the system.
Er mwyn gweddnewid ein perfformiad, mae nifer o gamau y mae’n rhaid inni eu cymryd:AddysguRwyf wedi gofyn i’m swyddogion edrych a fyddai’n bosibl newid yr hyfforddiant cychwynnol i athrawon i’w wneud yn gwrs Meistr dwy flynedd gyda mwy o ymarfer yn y dosbarth fel bod athrawon yn cynefino â sgiliau addysgu uwch. Bydd fy swyddogion yn edrych a fyddai modd ei wneud yn gymhwyster safonol i athrawon newydd yng Nghymru. Bydd gofyn statudol ar i bob athro newydd fod wedi’i hyfforddi mewn llythrennedd a rhifedd. Bydd pob ymgeisydd newydd am yr HCA wedi gorfod pasio profion sgiliau llythrennedd a rhifedd ar ddechrau ac ar ddiwedd y cwrs. Bydd un diwrnod o HMS bob blwyddyn yn ymdrin ag asesu llythrennedd a rhifedd ar gyfer pob athro.Byddaf yn edrych eto ar drefniadau sefydlu athrawon, ac yn adolygu hefyd y CyngACC. Bydd y trefniadau datblygu a chynorthwyo yn nhair blynedd cyntaf gyrfa athro yn canolbwyntio ar osod sylfeini cadarn ar gyfer dysgu llythrennedd a rhifedd. Bydd ANG yn gorfod cyrraedd Safonau Athrawon wrth eu Gwaith.Bydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn canolbwyntio yn y dyfodol ar anghenion y system ehangach, gan gynnwys llythrennedd a rhifedd, a’u cysylltu â thair blaenoriaeth Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ac â rhoi’r fframwaith sgiliau ar waith.Byddaf yn sicrhau, fel rhan o’u hachrediad proffesiynol, bod gan athrawon a phenaethiaid hwythau lefelau priodol o lythrennedd a rhifedd.DysguOs oes camymddwyn yn y dosbarth, nid yw plant yn gallu dysgu. Cyhoeddais hydref diwethaf fy mod yn estyn pwerau athrawon o ran cael defnyddio grym yn ogystal â gallu’r ysgol i ddisgyblu disgyblion ac i osod sancsiynau. Bydd y cam nesaf yn canolbwyntio ar ganlyniadau a gwella ymddygiad i godi safonau. Bydd pob athro newydd gymhwyso yn dilyn modiwlau datblygu mewn rheoli ymddygiad fel rhan o’i drefniadau sefydlu.Bydd y Cyfnod Sylfaen, sy’n cyflwyno plant i ddysgu trwy wneud, wedi’i roi ar waith yn llawn erbyn mis Medi. Ni chaiff, arwain at ostyngiad mewn llythrennedd. Bydd yr asesiad sylfaenol yn rhoi’r sylfaen inni, gydag asesiad parhaus bob blwyddyn wedi hynny i’w gryfhau. Af i’r afael ag amrywiadau mewn arferion addysgu.Fel rhan o’n Cynllun Llythrennedd Cenedlaethol, rwy’n cyflwyno prawf darllen cenedlaethol cyson ledled Cymru a’i nod fydd gostwng yn fawr nifer y disgyblion sy’n cwympo o dan eu hoedran darllen dynodedig. Bydd y Cynllun yn cynnwys hefyd elfen fydd yn canolbwyntio ar blant 7-11 oed a rhaglenni darllen ‘dal-i-fyny’ yn ogystal ag estyn y disgyblion mwyaf galluog.Erbyn blwyddyn academaidd 2012/13, bydd cynlluniau tebyg i wella rhifedd wedi’u datblygu.AtebolrwyddPerfformiad fydd ein sbardun. I gefnogi’n hymdrechion i wella perfformiad, rwy’n creu Uned Safonau i sbarduno perfformiad ac i osod her inni ar lefel genedlaethol.Ni fydd unrhyw fenter newydd yn cael fy nghymeradwyaeth oni bai ei bod yn ychwanegu at werth ein gofyn am berfformiad gwell.Rwy’n cyflwyno system genedlaethol ar gyfer graddio ysgolion, i’w chynnal gan bob awdurdod lleol/consortia.Byddaf yn edrych ar y posibiliadau i ymgorffori asesiadau PISA o fewn asesiadau ysgolion ar gyfer disgyblion 15 oed.Mae defnyddio data’n ganolog i berfformiad. O flwyddyn nesaf, ni chaiff yr un ysgol basio arolygiad Estyn oni all brofi bod ei chorff llywodraethwyr wedi trafod y data teulu ysgolion a data perfformiad perthnasol arall, a’i fod wedi datblygu rhaglen weithredu i wella ei sefyllfa. Byddaf yn ysgrifennu at Gadeirydd pob Corff Llywodraethu i esbonio hyn iddynt.Yn y Mesur Addysg, rwy’n cyflwyno hyfforddiant statudol i lywodraethwyr ac i wella gwaith clerigol.Rwy’n disgwyl i bob awdurdod lleol ofalu bod pob asesiad athrawon Cyfnod Allweddol 2 yn gadarn a chyson ac yn cadw at  safonau sydd wedi’u pennu’n genedlaethol, yn enwedig o ran llythrennedd.Os bydd Estyn yn gweld bod ysgol yn methu a’m bod o’r farn nad oes modd ei hadfer, byddaf yn ei chau.Byddaf yn newid y darpariaethau rheoli perfformiad ar gyfer rheoli perfformiad penaethiaid a rheoli perfformiad athrawon er mwyn medru monitro’n dynnach eu hymdrechion i godi safonau. Byddaf yn gofyn i awdurdodau lleol a chonsortia am eu cymorth yn hyn.Byddaf yn cynhyrchu Canllawiau Statudol ar gyfer gwella ysgolion.CydweithioYn y Mesur Addysg, rydym yn cymryd pwerau i ganiatáu i awdurdodau lleol greu ffederasiwn o fyrddau llywodraethau ysgolion. Rwy’n disgwyl gweld mwy o ffederasiynau o ysgolion, yn gweithredu o dan un pennaeth.Rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol gymryd rhan mewn trefniadau consortia, gan gynnwys rhannu gwasanaethau consortia. Cânt eu cosbi am beidio.
In order to secure a step-change in performance, there are a number of actions that we will implement:TeachingI have asked my officials to examine whether we can revise initial teacher training so that it becomes a two-year Master’s course, with more classroom practice, so that teachers are familiar with advanced teaching skills. Officials will examine whether this can become the standard entry qualification for teaching in Wales. There will be a statutory requirement on all qualifying teachers to be trained in literacy and numeracy. All new ITT entrants will have been required to pass literacy and numeracy skills tests on entry and exit. One inset day per year will be focused on literacy and numeracy assessment for all teachers.I will be reviewing teacher induction, alongside our review of the GTCW. Development and support for the first three years of teaching will focus on firm foundations for the teaching of literacy and numeracy. All NQTs will have to meet Practising Teacher Standards.Continuous Professional Development will in future be focused on system-wide needs, including literacy and numeracy, linked to the 3 priorities of the School Effectiveness Framework, and to the application of the skills framework.I will ensure that all teachers and headteachers have appropriate levels of literacy and numeracy as part of their professional accreditation.LearningIf there is poor behaviour in the classroom, children cannot learn. I have already announced some extensions to teachers’ powers last autumn in respect of the use of force by school staff, as well as the school’s ability to discipline pupils and impose sanctions. The next phase will concentrate outcomes and improving behaviour to raise standards. All newly qualified teachers will undertake development modules in behaviour management as part of their induction process.The Foundation Phase, which is fully rolled out from this September, and which introduces children to learning through doing, will not be allowed to lead to a reduction in literacy. The baseline assessment provides us with the floor and will be supported year on year with continuous assessment. I will address variability in teaching practice.As part of our National Literacy Plan, I am introducing a national reading test which will be consistent across Wales and will be designed to ensure that far fewer pupils are falling behind their designated reading age. The Plan will also include a focus on 7-11 year-olds, and catch-up reading programmes as well as stretching those pupils of the highest abilities.By the 2012/13 academic year, similar plans for numeracy will be developed.AccountabilityPerformance will be our driver. To support the drive to improve performance, I am creating a Standards Unit to lead performance and provide challenge on a national basis.I will not approve any new initiatives unless they add value to our demand for higher performance.I am introducing a national system for the grading of schools which will be operated by all local authorities/Consortia.I will be looking to integrate PISA assessments into school assessment at 15.Use of data is critical to performance. From next year, no school will pass an Estyn inspection unless it can demonstrate that its governing body has discussed the family of schools data and other relevant performance data, and has set in place actions to improve its position. I will be writing to all Chairs of Governors to make this clear.In the Education Measure, I am introducing statutory training for governors and effective clerking.I expect all local authorities to ensure that Key Stage 2 teacher assessments are robust and consistent with the nationally defined standards, especially in respect of literacy.Where a school is found by Estyn to be failing, and I regard the situation as irredeemable, I will close it.I will be changing the performance management provisions for headteacher performance management and teacher performance management to enable closer monitoring of their approach to raising standards, engaging local authorities and consortia in this.I will be producing Statutory Guidance for school improvement.CollaborationIn the Education Measure, we are taking powers to allow local authorities to federate boards of governors of schools.  I expect to see more federations of schools, operating under single headteachers.I expect local authorities to participate in consortia arrangements, including shared consortium services, or suffer financial penalties.
Byddaf yn hysbysu aelodau am unrhyw ddatblygiadau.
I will keep members informed.
Datganiad Ysgrifenedig - Yr Unfed ar Ddeg Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2009-2010
Written Statement - Eleventh Annual Report on Equality 2009-2010
Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Carl Sargeant, Minister for Social Justice and Local Government
Dyma ein hunfed ar ddeg adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb.  Rwy’n falch o allu dangos fod pob un ohonom yn llwyr ymroddedig fel llywodraeth i sicrhau bod cydraddoldeb yn parhau yn ganolog i’r hyn rydym yn geisio ei gyflawni, er gwaethaf y ffaith ein bod i gyd yn gweithio mewn hinsawdd economaidd anodd.
This is our eleventh annual report on equality. I am pleased to be able to demonstrate that although we are all operating in a difficult economic climate, we are fully committed as a government to ensuring that equality remains at the heart of what we are seeking to achieve.
Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at ddim ond rhai o’r trefniadau sydd gennym, a gwaith ein hadrannau i wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl ledled Cymru.
This report highlights just some of the arrangements we have in place, and the work of our departments in making a positive difference towards people’s lives across Wales.
Mae llawer o gynnydd wedi’i wneud eisoes, fodd bynnag, rwy’n credu y gallwn wneud mwy.  Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rhywfaint o’r gwaith paratoadol allweddol rydym wedi’i wneud ar gyfer un o’r newidiadau mwyaf yng nghyd-destun cydraddoldeb – Deddf Cydraddoldeb 2010.
Much progress has already been made, however, I believe that we can do more. This report highlights some of the key preparatory work we have undertaken for one of the biggest changes to the equality landscape - the Equality Act 2010.
Bydd y Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd newydd cyffredinol ym maes y sector cyhoeddus, a ddaw i rym ym mis Ebrill 2011.  Mae hefyd yn darparu ar gyfer galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gosod dyletswyddau penodol ym maes cydraddoldeb ar y sector cyhoeddus a’r awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru.
The Act introduces a new general public sector equality duty that will come into force in April 2011. It also makes provision for Welsh Ministers to be able to make regulations that impose specific public sector equality duties on relevant Welsh public authorities.
Rydym newydd gwblhau’r ymgynghoriad ar Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.  Bydd dyletswyddau cydraddoldeb Cymru yn golygu y bydd awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn perfformio’n well wrth fodloni gofynion dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus cyffredinol.
We have just completed the consultation on the Equality Act 2010 (Statutory Duties) (Wales) Regulations 2011. The equality duties for Wales will enable better performance by public authorities in Wales to meet the requirements of the general public sector equality duty.
Cafodd y dyletswyddau arfaethedig ar gyfer Cymru eu datblygu i fod yn gymesur o ran cynllun, yn berthnasol i’r angen, yn dryloyw o ran dull o weithio, ac wedi’u teilwra i lywio awdurdodau cyhoeddus perthnasol yng Nghymru i berfformio’u dyletswyddau cyffredinol yn well.  Y nod yw bodloni’n well anghenion dinasyddion Cymru sy’n dibynnu ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar eu cyfer gan y sector cyhoeddus.
The proposed duties for Wales have been developed to be proportionate in design, relevant to need, transparent in approach and tailored to guide relevant Welsh public authorities towards better performance of the general duty. The ambition is to better meet the needs of the citizens of Wales relying on the services provided to them by the public sector.
Dyna’r hyn y mae pob un ohonom yn ceisio’i gyflawni.  Mae’r adroddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i fodloni’r anghenion hyn ac anghenion cymunedau amrywiol Cymru.
That is what we are all seeking to achieve. This report demonstrates our continuing commitment to meeting these needs and of the diverse communities of Wales.
Cafodd gopïau o’r Unfed Adroddiad Blynyddol ar Ddeg ar Gydraddoldeb eu hanfon at bob un o Aelodau’r Cynulliad.
Copies of the Eleventh Annual Report on Equality have been sent to all Assembly Members.
Datganiad Ysgrifenedig - Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu
Written Statement - Welsh Referendum 2011
Carwyn Jones, y Prif Weinidog, ac Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog
Carwyn Jones, First Minister and Ieuan Wyn Jones, Deputy First Minister
Yn dilyn y cyhoeddiad gan y Prif Swyddog Cyfrif fod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid y cynnig a gyflwynwyd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, hoffem longyfarch ein cyfeillion yn y Cynulliad a diolch i chi am eich cyfraniad i'r digwyddiad gwirioneddol hanesyddol hwn. Rydym yn croesawu'r canlyniad hwn yn fawr ac yn edrych ymlaen at weld y Cynulliad yn arfer pwerau deddfu a neilltuwyd i Gymru.
Following the announcement by the Chief Counting Officer that the people of Wales have voted in favour of the proposal put forward in the referendum held on 3 March, we wish to congratulate our Assembly colleagues and thank you for the part you have played in this truly historic event. We warmly welcome this result and look forward to the Assembly exercising Wales’ autonomous law making powers.
Yn unol ag adran 105 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, bydd Gweinidogion Cymru yn paratoi ac yn gosod gerbron y Cynulliad Orchymyn Cychwyn, a fydd yn dod â darpariaethau Deddfau'r Cynulliad i rym. Bydd rhaid i Orchymyn drafft gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad cyn iddo gael ei wneud. Os caiff y Gorchymyn ei gymeradwyo ar ffurf drafft, a'i wneud, bydd darpariaethau Deddfau'r Cynulliad yn dod i rym ar 5 Mai, gan olygu y bydd hi'n bosibl cynnig Deddfau Arfaethedig o dan y pwerau newydd o ddechrau'r Cynulliad newydd.
In accordance with section 105 of the Government of Wales Act, the Welsh Ministers will now prepare and lay before the Assembly a Commencement Order, which will serve to bring the Assembly Act provisions into force; a draft of the Order will need to be approved by the Assembly before it can be made. If the Order is duly approved in draft, and made, the Assembly Act provisions will come into force on 5 May, meaning that it will be possible to propose Bills under the new powers from the start of the new Assembly.
Bydd Deddfau Arfaethedig y Cynulliad yn galw am ofynion statudol ychwanegol: Sêl Gymreig a Breinlythyrau. Mae'r rhain yn ofynnol er mwyn gallu dynodi Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Arfaethedig y Cynulliad. Bydd fersiwn ddwyieithog ar y Gorchymyn Breinlythyrau yn y Cyfrin Gyngor yn cael ei gyflwyno i'r Cyfrin Gyngor gyda hyn. Bydd y Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffurf Breinlythyrau, a'r modd y cânt eu paratoi a'u cyhoeddi, sydd i'w llofnodi i ddynodi Cydsyniad Ei Mawrhydi i Ddeddf Arfaethedig a basiwyd gan y Cynulliad. Rhaid i'r Breinlythyrau hyn gael eu pasio hefyd o dan y Sêl Gymreig, ac eir ati maes o law i ddatblygu'r Sêl Gymreig gyntaf ers dyddiau Owain Glyndŵr.
There are additional statutory requirements that need to be brought about for Assembly Acts – a Welsh Seal and Letters Patent. These are required so that Royal Assent to Assembly Bills can be duly signified. A bilingual Letters Patent Order in Council will be submitted to the Privy Council shortly. This Order will make provision for the form and manner of preparation, and publication, of Letters Patent that are to be signed to signify Her Majesty’s Assent to a Bill passed by the Assembly. These Letters Patent must also be passed under the Welsh Seal and work will be put in hand to develop the first Welsh Seal since the time of Owain Glyndŵr.
Bydd datganiad mwy cynhwysfawr yn cael ei wneud yn y Cynulliad yr wythnos nesaf.
A fuller statement will be made in the Assembly next week.
Datganiad Ysgrifenedig - Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn – Ymateb y Prif Ysgrifennydd
Written Statement - End Year Flexibility – the Chief Secretary’s Response
Jane Hutt, y Gweinidog Busnes a’r Gyllideb
Jane Hutt , Minister for Business and Budget
Ysgrifennodd Gweinidogion Cyllid y Gweinyddiaethau Datganoledig at Ganghellor y Trysorlys ar 15 Chwefror i wneud cais i dynnu ein holl stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn i lawr.  Cawsom ymateb Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar 28 Chwefror.
The Finance Ministers of the Devolved Administrations wrote to the Chancellor of the Exchequer on 15 February to request full draw down of our stocks of End Year Flexibility. We received a response from the Chief Secretary to the Treasury on 28 February.
Mae’r Prif Ysgrifennydd wedi gwrthod unwaith eto inni ddefnyddio’n stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn eleni, nac yn y dyfodol.  Dyma arian y pleidleisiwyd arno gan Senedd y DU ar gyfer pobl Cymru, i gynorthwyo ein hadferiad economaidd, ac i wella ein gwasanaethau cyhoeddus a bywydau pobl Cymru.  Byddai’n helpu i liniaru effaith y toriadau llym ar wariant a gafwyd gan Lywodraeth y DU.
The Chief Secretary has again refused to allow us access to our EYF stocks either in this year, or in future years. This is money voted by Parliament for the people of Wales to support our economic recovery, improve our public services and the lives of people in Wales. It would help to mitigate the impact of the harsh spending cuts imposed by the UK Government.
Mae’r Prif Ysgrifennydd wedi dangos ei ddiffyg dealltwriaeth o “Agenda Parch” Llywodraeth y DU, trwy gymharu’r Gweinyddiaethau Datganoledig ag Adrannau Llywodraeth y DU, o ran sut y mae’n delio â’r Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn.  Nid yw llythyr y Prif Ysgrifennydd yn cydnabod bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, a’r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill, yn cael eu hethol yn ddemocrataidd, a’u bod yn atebol i’w pobl a’u hetholaethau hwythau.
The Chief Secretary has demonstrated his lack of appreciation of the UK Government’s “Respect agenda” by comparing the Devolved Administrations with UK Government Departments in the way he is dealing with EYF. The Chief Secretary’s letter does not recognise that the Welsh Assembly Government, and the other Devolved Administrations, are democratically-elected and accountable to their own people and electorates.
Mae diffyg dealltwriaeth y Prif Ysgrifennydd o wir sefyllfa datganoli a’n trefniadau atebolrwydd ein hunain yn amlwg yn ei eiriau.  Mae’n ystyried ei fod yn hael o ran tynnu’r Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn i lawr, trwy barchu’r cytundebau sydd wedi’u gwneud â’r weinyddiaeth flaenorol.  Hyn fyddai’n ddisgwyliedig, fodd bynnag, fel rhan o bolisi ‘Datganiad Cyllid’ Llywodraeth y DU â’r gweinyddiaethau datganoledig.
The Chief Secretary’s lack of understanding of the realities of devolution and our own accountability arrangements are clearly illustrated by his words. He considers that his approach to the Devolved Administrations’ EYF drawdown has been generous, in respecting the agreements made with the previous administration. This however, is only what we should expect as part of the UK Government’s ‘Statement of Funding’ policy with devolved administrations.
At hynny, mae’r Prif Ysgrifennydd yn ystyried mai mater eithriadol oedd gallu’r Gweinyddiaethau Datganoledig i ddwyn y tanwariant sydd wedi’i ddatgan yn 2010-11 ymlaen i 2011-12, gan nad oedd hynny’n bosibl i Adrannau Llywodraeth Prydain.
Further, the Chief Secretary considers that the Devolved Administrations’ ability to carry forward declared underspends in 2010-11 into 2011-12 was exceptional, as it was not available to UK Departments.
Mae ein prif bryder yn codi o sylwadau’r Prif Ysgrifennydd yn ei lythyr, bod Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn yn rhan o system gwariant cyhoeddus ar gadw ledled y DU, sy’n cael ei hariannu o’r Gronfa Gyfunol.  Mae’n cadarnhau bod ei benderfyniad i ddiddymu’r cynllun Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn a dileu pob un o’r stociau presennol yn unol â thargedau Llywodraeth y DU i leihau’r diffyg.
Our major concern arises from the Chief Secretary’s comments in his letter that EYF is part of the UK wide reserved public spending system and is funded from the Consolidated Fund. He confirms that his decision to abolish the EYF scheme and cancel all existing stocks was in line with the UK Government’s targets on deficit reduction.
Fel y dywedais sawl tro, rydym wedi chwarae ein rhan yn y broses o leihau’r diffyg, gan ddelio â’r toriadau o £163 miliwn o gyllideb Mehefin 2010 trwy reoli ein cyllidebau’n ofalus.  Fodd bynnag, mae angen yr hyblygrwydd sy’n cael ei argymell gan Gomisiwn Holtham arnom, inni allu rheoli’r setliad ariannol heriol hwn yn well.
As I have said many times, we have played our part in the budget deficit reduction absorbing the £163m June 2010 Budget cuts through careful management of our finances. We need however, the flexibilities recommended by the Holtham Commission to enable us to manage this challenging financial settlement.
Rydym yn hynod siomedig â’r ymateb hwn, a’r diffyg dealltwriaeth parhaus o ystyr a goblygiadau datganoli, a byddwn yn parhau i bwyso ar y Prif Ysgrifennydd i ganiatáu inni dynnu ein holl stociau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn i lawr, yn y flwyddyn hon ac yn y dyfodol.
We are extremely disappointed in this response, with the continuing lack of understanding of the meaning and implications of devolution, and we will continue to press the Chief Secretary to allow us full drawdown of our EYF stocks in either this or future years.
Datganiad Ysgrifenedig - Y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy
Written Statement - Commissioner for Sustainable Futures
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Jane Davidson, Minister for Environment, Sustainability and Housing
Rwy’n cyhoeddi heddiw bod Peter Davies wedi’i benodi’n Gomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy o 1 Ebrill 2011. Ar hyn o bryd Mr Davies yw ein Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru, a bydd y penodiad hwnnw’n dod i ben ar 31 Mawrth 2011.
I am today announcing the appointment of Peter Davies as Commissioner for Sustainable Futures from 1 April 2011. Mr Davies is currently our Sustainable Development Commissioner for Wales, an appointment that will end on 31 March 2011.
Yn dilyn penderfyniad Ysgrifennydd Gwladol y DU dros yr Amgylchedd i roi’r gorau i ariannu’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, bydd y Comisiwn yn dod i ben yn ffurfiol ddiwedd mis Mawrth 2011. Rydym ni yng Nghymru wedi gwerthfawrogi gwaith y Comisiwn bob amser, ac mae wedi gwneud cyfraniad pwysig i’n hagenda datblygu cynaliadwy.
Following the decision of the UK Secretary for State for the Environment to withdraw funding from the Sustainable Development Commission (SDC), the SDC will formally close down at the end of March 2011. We in Wales have always valued the work done by the SDC, and the SDC has made an important contribution to our sustainable development agenda.
Fe gyhoeddais ar y pryd fy mod yn bwriadu parhau i ofyn am gyngor annibynnol ar ddatblygu cynaliadwy, gan ddefnyddio’r arferion gorau ym Mhrydain, Ewrop ac yn rhyngwladol i’n llywio wrth i ni ddatblygu ein polisïau.
I announced at the time my intent to continue to seek independent advice on sustainable development, drawing on the best practice from the UK, Europe and internationally, to inform us as we take forward our policies.
Roeddwn hefyd yn cydnabod bod angen parhau i ymgysylltu a thrafod â holl sectorau a chymunedau Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwireddu ein gweledigaeth o Gymru gynaliadwy.
I also recognised the need for continued engagement and networking with all sectors and communities in Wales to ensure we can deliver our vision of a sustainable Wales.
Er mwyn parhau â’n gwaith ym maes datblygu cynaliadwy, ac yn wir bwrw ati’n gyflymach, rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i dderbyn cyngor annibynnol ar ein polisïau a’n rhaglenni. Bydd Mr Davies yn cynnig y cyngor annibynnol hwnnw.
In order to continue with, and indeed accelerate, our action on sustainable development I think it is crucial that we continue to receive independent advice on the policies and programmes we have in place. Mr Davies will provide that independent advice.
Bydd Mr Davies hefyd yn cynnig arweiniad allanol ar ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru er mwyn ysgogi a chefnogi camau a fydd yn rhoi egwyddorion datblygu cynaliadwy ar waith ym mhob rhan o gymdeithas Cymru.
Mr Davies will also provide external leadership on sustainable development in Wales in order to catalyse and support action to deliver sustainable development in all parts of Welsh society.
Bydd Mr Davies yn parhau â’i waith o ddod â phartneriaid at ei gilydd i ymdrin â materion anodd a heriol sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy. Bydd hefyd yn cynghori Llywodraeth y Cynulliad ar y ffactorau sy’n ein rhwystro rhag gwneud Cymru’n genedl fwy cynaliadwy yn ogystal â chynnig ffyrdd o gael gwared ar y rhwystrau hynny.
Mr Davies will continue his work to bring together partners to tackle difficult and challenging sustainable development issues. He will also advise the Assembly Government on blockages that our obstructing our progress in making Wales a more sustainable nation as well as offering solutions to those blockages.
Rwy’n gobeithio y byddwn yn parhau i gyd-drafod â phedair cenedl y DU, gan rannu’r arferion gorau, a bydd swydd Mr Davies yn hanfodol yn hyn o beth.
I hope we will continue to engage with, and share best practice between the four UK countries, and Mr Davies’ role will be vital in making this happen.
Mae’r penodiad hwn yn adlewyrchu pa mor bwysig yw’n dyletswydd Datblygu Cynaliadwy i ni, ac mae’n brawf o’n hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i wneud Cymru yn genedl wirioneddol gynaliadwy.
This appointment reflects how seriously we take our duty to Sustainable Development, and is proof of our commitment to do all we can to make Wales a truly sustainable nation.
Nid yw’r trefniadau terfynol wedi’u cadarnhau eto, ond rwy’n rhagweld y bydd  Peter Davies yn derbyn cefnogaeth ar gyfer ei waith gan Cynnal Cymru, Fforwm Datblygu Cynaliadwy Cymru. Bydd penodiad Mr Davies fel Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn para o 1 Ebrill 2011 tan 28 Mehefin 2012.
The final arrangements are still being confirmed, but I anticipate that Peter Davies will receive support in his role from Cynnal Cymru, the Sustainable Development Forum for Wales. Mr Davies’ appointment as Commissioner for Sustainable Futures will run from 1st April 2011 until the 28th June 2012.
Datganiad Ysgrifenedig - Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 4
Written Statement - Planning Policy Wales Edition 4
Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Jane Davidson, Minister for Environment, Sustainability and Housing
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o Bolisi Cynllunio Cymru (rhifyn 4) sy’n cynnwys polisi diwygiedig ar ynni adnewyddadwy a rhai mân-ffeithiau newydd ynghylch y polisi cynllunio ar adeiladau cynaliadwy.
The Welsh Assembly Government has issued an updated version of Planning Policy Wales (edition 4) which contains revised policy on renewable energy and some minor factual updates to planning policy on sustainable buildings.
Lluniwyd y polisi newydd yn sgil cyhoeddi’r Datganiad Polisi Ynni ac ymarfer ymghynghori cyhoeddus ar y polisi drafft yn 2010. Fel y mae’r Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 8 Mehefin 2010 yn ei amlinellu, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dilyn trywydd deublyg i gyflawni ei ymrwymiadau yn Cymru’n Un i hwyluso ynni adnewyddadwy. Mae’r fframwaith polisi cynllunio trosfwaol wedi’i ddiweddaru a chynhaliwyd archwiliad o’r materion gweithdrefnol a nodwyd yn Adroddiad GVA Grimley ar y system gynllunio yng Nghymru.
The production of the new policy follows the publication of the Energy Policy Statement and a public consultation exercise on the draft policy in 2010. As outlined in the Written Statement issued on 8 June 2010 the Welsh Assembly Government has pursued a twin track approach to meeting its One Wales commitments to facilitate renewable energy, in which the over-arching planning policy framework has been updated alongside an examination of the procedural issues identified in the GVA Grimley Report into the planning system in Wales.
Mae’r rhifyn newydd o Bolisi Cynllunio Cymru yn nodi graddfeydd gwahanol o ynni carbon isel ac adnewyddadwy, gan gydnabod nad drwy’r system gynllunio y penderfynir ar gynigion ynni mawr dros 50MW ac nad ydynt wedi’u datganoli i Weinidogion Cymru. Mae’r polisi yn ceisio sefydlu fframwaith diwygiedig i hwyluso’r ffordd i wireddu dyheadau datblygu cynaliadwy ehangach Llywodraeth y Cynulliad ac mae’n annog awdurdodau cynllunio i gynllunio ar gyfer ynni carbon isel ac adnewyddadwy drwy gynnal asesiadau o botensial eu hardal i adeiladu datblygiadau newydd y dylid eu defnyddio fel rhan o’r sylfaen dystiolaeth dros eu Cynlluniau Datblygu Lleol.
The new edition of Planning Policy Wales identifies different scales of low carbon and renewable energy, recognising that major energy proposals over 50MW are not determined through the planning system and are not devolved to Welsh Ministers. The policy seeks to establish an updated framework to facilitate the Assembly Government’s broader sustainable development aspirations and encourages planning authorities to plan positively for low carbon and renewable energy by undertaking assessments of their area’s potential to accommodate new developments which should be used as part of the evidence base for their Local Development Plans.
Mae’r polisi diwygiedig hefyd yn cyfeirio at Gyfarwyddeb yr UE ar hyrwyddo ynni adnewyddadwy sy’n rhoi gofynion penodol ar y system gynllunio i hwyluso datblygu ynni adnewyddadwy.
The revised policy also references the EU Directive on the promotion of renewable energy which places specific requirements on the planning system to facilitate renewable energy development.
Mae egwyddor Ardaloedd Chwilio Strategol mewn perthynas â ffermydd gwynt graddfa fawr ar y tir a amlinellwyd mewn polisi blaenorol gan Lywodraeth y Cynulliad ac a gyhoeddwyd yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8 yn 2005 yn aros yr un fath ac mae’n parhau’n elfen bwysig o’n polisi. Ynghyd â’r polisi diwygiedig, rydym hefyd wedi cyhoeddi llythyr i awdurdodau cynllunio sy’n diweddaru’r ffeithiau yn TAN 8 ac mae wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Cynulliad.
The principle of Strategic Search Areas for large scale onshore wind outlined in previous Welsh Assembly Government policy published in Technical Advice Note (TAN) 8 in 2005 remains unchanged and continues to be an important element of our policy. Along with the revised policy, we have also issued a letter to planning authorities which provides a factual update to TAN 8 and is published on the Welsh Assembly Government’s website.
Rydym wedi ceisio rhoi canllawiau wedi’u diweddaru i awdurdodau cynllunio ar sut dylai Cynlluniau Datblygu Lleol adlewyrchu polisïau Llywodraeth y Cynulliad yn ogystal â sut dylid eu hadlewyrchu wrth ystyried ceisiadau cynllunio unigol.
We have sought to provide planning authorities with updated guidance on how Local Development Plans should reflect Welsh Assembly Government policies as well as how they should be reflected in the consideration of individual planning applications.
Mae’r fersiwn newydd o Bolisi Cynllunio Cymru hefyd yn cynnwys ffeithiau sydd wedi’u diweddaru ychydig ynghylch polisi cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy sy’n nodi’r safonau a ddisgwylir lle mae safle wedi’i gofrestru o dan Fersiwn 3 y Cod Cartrefi Cynaliadwy.
The new version of Planning Policy Wales also contains some minor factual updates relating planning policy for Sustainable Buildings setting out the standards expected where a site is registered under Version 3 of the Code for Sustainable Homes.
Mae’r Datganiad Polisi Ynni yn cydnabod bod cryn botensial i dechnolegau microgynhyrchu yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2010, cyflwynodd Llywodraeth y DU Dariffau Cyflenwi Trydan sy’n gwarantu incwm ar gyfer trydan a gynhyrchir gan dechnolegau microgynhyrchu. Lansiodd Llywodraeth y Cynulliad raglen gymorth sy’n ardystio gosodwyr, a gwelwyd twf na welwyd ei debyg yn nifer y gosodwyr yng Nghymru, gyda chyfanswm o 84 o gyfrif pob technoleg - cynnydd o 261% ers Awst y llynedd. Yn ogystal â’r cyngor, y cymorth a’r benthyciadau di-log sydd ar gael o dan raglen gymorth MCS, mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn rhoi cymhorthdal i gyrsiau hyfforddi rheoli ansawdd ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
The Energy Policy Statement recognises that there is significant potential for microgeneration technologies in Wales. The UK Government introduced Feed-in Tarrifs in April 2010 which guarantee an income for electricity generated by microgeneration technologies. The Assembly Government launched an installer certification support programme which has seen an unprecedented growth in the number of Welsh based installers with the total number across all technologies standing at 84, a 261% increase since August last year.  In addition to the advice, support and interest-free loans that are available under the MCS support programme, the Assembly Government also subsidises quality management training courses for the renewable energy sector in Wales.
Datganiad Ysgrifenedig - Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Drydaneiddio Prif Linell Reilffordd y Great Western
Written Statement - Update on the Electrification of the Great Western Main Line
Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Ieuan Wyn Jones, Deputy First Minister and Minister for the Economy and Transport
Rwyf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am drydaneiddio Prif Linell Reilffordd y Great Western rhwng Abertawe a Llundain.
I am providing Assembly Members with an update on the electrification of the Great Western Main Line between Swansea and London.
Rwyf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU er mwyn pwysleisio pwysigrwydd y prosiect hwn ac rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
I am continuing to press the UK Government on the importance of this project and I am maintaining regular contact with the Secretary of State for Transport and the Secretary of State for Wales.
Er nad yw’r cyfrifoldeb dros y prosiect hwn, na’r cyllid ar ei gyfer, yn faterion datganoledig, mae fy swyddogion yn cydweithio â’r swyddogion sy’n cyfateb iddynt yn Whitehall i helpu i lywio’r achos busnes sy’n cael ei baratoi gan yr Adran Drafnidiaeth, a hynny am fod ystyriaethau economaidd ac amgylcheddol pwysig a ddeellir orau o safbwynt Cymreig.
While the responsibility for and funding of this project is a non-devolved matter, my officials are working with their counterparts in Whitehall to help inform the business case that the Department for Transport is preparing, as there are important economic and environmental considerations that are best understood from a Welsh perspective.
Rydym wedi cael gwybod nad yw’r Adran Drafnidiaeth, hyd yma, wedi gorffen y fersiwn derfynol o’r achos busnes, ond rydym yn edrych ymlaen gael at ei gweld unwaith y bydd wedi’i chwblhau. Er hynny, mae’n galonogol iawn gweld bod arwyddion y byddai trydaneiddio’r llinell gyfan rhwng Abertawe a Llundain yn esgor ar fanteision amlwg a sylweddol iawn, a bod modd llunio achos busnes cadarnhaol iawn.
We are informed that the Department for Transport has not yet completed the final version of the business case, which we look forward to seeing once finished.  However I am greatly heartened by indications that there are very significant demonstrable benefits to the electrification of the entire route between Swansea and London and that a very positive business case can be made.
Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddydd Gwener, 25 Chwefror i bwyso ar Lywodraeth y DU i gwblhau’r gwaith ar yr achos busnes ac i wneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch trydaneiddio’r llinell reilffordd rhwng Abertawe a Llundain. Pwysleisiais unwaith yn rhagor y byddai’n fuddiol cael penderfyniad buan ynghylch bwrw ymlaen â’r gwaith o drydaneiddio’r llinell reilffordd rhwng Abertawe a Llundain, ac y byddai’n ffactor cadarnhaol yng ngolwg busnesau a fyddai am fuddsoddi yng Nghymru.
I wrote to the Secretary of State for Transport on Friday 25 February to press the UK Government to conclude the work on its business case and to make a positive decision on the electrification of the route between Swansea and London.  I emphasised again that a decision soon that Swansea to London electrification shall go ahead would be beneficial and would be seen as a positive factor on businesses who would wish to invest in Wales.
Datganiad Ysgrifenedig - Adroddiad Bwrdd Prosiect Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed
Written Statement - Report of the Protection of Vulnerable Adults Project Board
Gwenda Thomas, Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol
Gwenda Thomas, Deputy Minister for Social Services
Yn dilyn fy natganiadau ysgrifenedig ym mis Chwefror 2008, mis Gorffennaf 2009 ac ar 30 Mawrth 2010, mae’n dda gennyf allu dweud wrthych bod yr adroddiad gan Fwrdd Prosiect Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed bellach wedi dod i law. Yn yr adroddiad hwn, mae’r Bwrdd yn rhoi cyngor ac argymhellion ar drefniadau amddiffyn oedolion yng Nghymru a sut y gellir cryfhau’r trefniadau hynny ymhellach i sicrhau eu bod yn parhau’n briodol ac yn gadarn, heddiw ac yn y dyfodol. Cyhoeddir copi o’r adroddiad ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Following my written statements in February 2008, July 2009 and 30 March 2010, I am very pleased to be able to inform you that I have now received the report of the Protection of Vulnerable Adults Project Board. This report outlines their advice and recommendations on adult protection arrangements in Wales and how these can be further strengthened to ensure that they continue to be appropriate and robust now and in the future. A copy of the report will be placed on the Welsh Assembly Government website.
Mae’n hawl sylfaenol na ddylai’r un ohonom orfod dioddef oherwydd camfanteisio, camdriniaeth nac esgeulustod. Ers cyhoeddi canllawiau ‘Mewn Dwylo Diogel’ yn 2000, gwelwyd newid sylweddol yn ein dulliau diogelu. Bellach defnyddir dulliau cydlynol nad oedd yn bodoli 10 mlynedd yn ôl i amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed. Hefyd, mae mwy o ddealltwriaeth o faterion sy’n ymwneud â cham-drin. Fodd bynnag, nid yw’r gwaith wedi dod i ben a rhaid parhau i ddatblygu ein trefniadau amddiffyn, gan sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl er mwyn i ni allu cael gwared ar gamdriniaeth yng Nghymru.
It is a basic right that each of us should be free of exploitation, abuse and neglect.  Since the publication of the ‘In Safe Hands’ Guidance document in 2000 we have seen a step change in the way in which safeguarding is delivered. There is now a coherent approach to adult protection that did not exist 10 years ago and a much deeper understanding of adult abuse. This work however must not stop there; we must continue develop our protection arrangements to ensure that they remain as strong as possible in order to eradicate abuse in Wales.
Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r Bwrdd am yr adroddiad hwn ac am eu holl waith caled. Ers iddo gael ei sefydlu, mae’r Bwrdd wedi rhoi cyngor gwerthfawr i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar nifer o faterion yn ymwneud ag amddiffyn oedolion. Rwy’n ddiolchgar iawn iddynt.
I would like to thank all the members of the Board for this report and for all of their hard work to date. Since its creation the Board has provided valuable advice to the Welsh Assembly Government on a range of Adult protection issues and I am very grateful to them for that.
Mae adroddiad y Bwrdd yn defnyddio’r cwmpas eang o ddeunydd y mae wedi’i ystyried hyd yn hyn. Yn fwyaf penodol, mae’n defnyddio nifer o adroddiadau pwysig ym maes amddiffyn oedolion, gan gynnwys: yr adolygiad gan Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Morgannwg, o ‘Mewn Dwylo Diogel’, sef ein prif ganllawiau statudol ar amddiffyn oedolion agored i niwed; adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), sef ‘Arolygiad Cenedlaethol o Amddiffyn Oedolion – Trosolwg Cymru Gyfan’; ac adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), ‘Diogelu ac Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed yng Nghymru’ sy’n adolygu’r trefniadau ar gyfer diogelu ac amddiffyn oedolion agored i niwed sydd ar waith ar draws y GIG yng Nghymru. Hefyd gwahoddodd y Bwrdd sylwadau gan randdeiliaid ledled Cymru ar yr adroddiadau hyn, er mwyn i’r sylwadau hynny fod yn rhan o’i drafodaethau.
The Board’s Report brings together the wide range of material that they have considered to date.  Most notably it draws from a number of important reports in the field of adult protection, including: the review by the Welsh Institute for Health and Social Care (WIHSC), at the University of Glamorgan, of our main protection of vulnerable adult’s statutory guidance ‘In Safe Hands’, the Care and Social Service Inspectorate Wales (CSSIW) report 'National Inspection of Adult Protection: All Wales Overview' and the Healthcare Inspectorate Wales (HIW) report 'Safeguarding Vulnerable Adults in Wales’, which reviewed the safeguarding and protection of vulnerable adults arrangements in place across the NHS in Wales. The Board also invited the views of stakeholders from across Wales on these reports, so that these could also become part of their deliberations.
Mae’r adroddiad yn gwneud dau argymhelliad cyffredinol. Mae’r cyntaf yn ymwneud â’r sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer trefniadau amddiffyn oedolion yng Nghymru. Wrth ystyried y mater hwn, mae cyfyngiad ar ba mor bell y caiff y Bwrdd fynd o ran awgrymu ffurfiau ar ddeddfwriaeth newydd, gan fod yn rhaid aros i gael canlyniadau adolygiad Comisiwn y Gyfraith o’r gyfraith sy’n ymwneud â darparu gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer amddiffyn oedolion. Hefyd rhaid aros am ganlyniad y refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae wedi nodi’n glir nifer o faterion allweddol y bydd angen eu hystyried wrth ddatblygu unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol, ar ôl cael canlyniadau’r adolygiad a’r refferendwm.
The report makes two overarching recommendations, the first of which concerns the legislative foundation for adult protection arrangements in Wales. In considering this issue the Board have been limited in the extent to which they can describe the form that any potential new legislation should take.  This is due to the need to await the findings of the Law Commission’s review of the law relating to the provision of adult social care in England and Wales, which includes the legislative framework for adult protection and the outcome of the referendum on the law making powers of the National Assembly for Wales. They have however, been able to clearly identify a range of key issues that will need to be considered in the development of any future legislation once the outcomes of both of the review and the referendum are known.