text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Yr eitem gyntaf ar yr agenda yw ethol Llywydd, o dan Reol Sefydlog 6. Felly, rwy'n gwahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 6.6. A oes gennym unrhyw enwebiadau? Ac mae'n rhaid i ni gael Aelod o blaid wleidyddol wahanol i eilio unrhyw enwebiad. Felly, eich enwebiadau os gwelwch yn dda.
0
Diolch, Lywydd. Croeso, bawb, i'r Cynulliad - y rhai ohonoch chi sydd yn newydd-ddyfodiaid, a'r rhai ohonoch chi sydd yn dychwelyd. A gaf i ddweud fy mod i'n ei ffeindio hi'n anrhydedd fawr i gael fy nghynnig fel darpar Lywydd ac i roi fy enw ymlaen ger eich bron chi ar gyfer pleidlais? Mae rhai ohonoch chi yn fy adnabod i yn dda iawn, ac nid yw rhai ohonoch chi yn fy adnabod i o gwbl. Felly, cyn symud at bleidlais, fe wnaf i amlinellu rhai o'r egwyddorion a fydd yn sylfaen i fy nghyfnod i fel Llywydd, os byddaf i'n llwyddiannus. Yn gyntaf, fe fyddwn i'n ceisio bod yn deg - yn deg - â phob un Aelod o'r Cynulliad yma, i drin pawb yn gyfartal, ac i ddiogelu hawliau pob un Aelod unigol. Yn ail, fe fyddwn i yn hyrwyddo a diogelu enw da y Cynulliad yma, ac i wneud hynny yma yn y Siambr, a thu hwnt, ym mhob rhan, ym mhob cymuned, yng Nghymru. Ac fe fyddwn i eisiau caniatáu trafodaeth ddemocrataidd, fywiog, iach yma yn y Cynulliad, ac yn dryloyw ar bob adeg. Ac, yn olaf, fe fyddwn i eisiau sicrhau hefyd bod y Senedd yma yn chwarae rhan adeiladol, gydweithredol gyda'n cyd-senedd-dai o fewn y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt i hynny. Ac rwy'n gobeithio, y prynhawn yma, am eich cefnogaeth chi i fod yn Llywydd arnoch chi.
1
Dyma ailddechrau trafodion y Cynulliad, ac mae canlyniad y bleidlais gudd fel a ganlyn. Pleidleisiodd pob un o'r 60 o Aelodau: Elin Jones, 34, Dafydd Elis-Thomas 25, ac 1 yn ymatal. Felly, rwy'n datgan, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Elin Jones wedi'i hethol yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac rwy'n ei gwahodd i gymryd y Gadair. [Cymeradwyaeth.]
2
Diolch am hynny. A oes unrhyw enwebiadau eraill? Gwelaf felly nad oes unrhyw enwebiad arall. Cynigiaf felly yn unol â Rheol Sefydlog 6.8 - na. Dyna fy nghamgymeriad cyntaf. Os oes mwy nag un enwebiad - olréit. Felly, mae yna ddau enwebiad ar gyfer y swydd, ac fe gynhelir pleidlais gudd o dan Reol Sefydlog 6.8. Cyn hynny, byddaf nawr yn gwahodd yr ymgeiswyr a enwebwyd i annerch y Cynulliad, a byddaf yn eu galw nhw yn y drefn y cawsant eu henwebu. Felly, galwaf yn gyntaf ar John Griffiths i annerch y Cynulliad.
3
Gynulliad, rwyf nawr mewn sefyllfa i adrodd ar ganlyniad y bleidlais gudd ar gyfer y Dirprwy Lywydd. Fe gafodd John Griffiths 29 pleidlais ac Ann Jones 30 pleidlais. Rwy'n datgan, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 6.9, fod Ann Jones wedi ei hethol yn Ddirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Unwaith eto, cyn symud ymlaen, rwy'n credu ei bod hi'n briodol ein bod ni'n cydnabod gwaith y cyn-Ddirprwy Lywydd, David Melding: gwaith craff a diwyd yn ystod y Cynulliad diwethaf yma, yn y Siambr yma, y tu hwnt i'r Siambr yma, ac yn ei waith hefyd fel Cadeirydd amryw o bwyllgorau'r Cynulliad. Felly, a gaf i gymryd y cyfle i ddiolch i David Melding yn fawr iawn ar ran y Cynulliad yma? [Cymeradwyaeth.] Rwy'n llongyfarch Ann Jones ar gael ei hethol yn Ddirprwy Lywydd, ac yn gofyn iddi, os ydy hi'n dymuno gwneud hynny, i roi ychydig eiriau i'r Cynulliad.
4
Rydym yn symud ymlaen felly at y busnes nesaf ar yr agenda, sef i enwebu'r Prif Weinidog. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.11, y bwriad yw dwyn ymlaen enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, yna fe gymerwn ni yr enwebiadau ar gyfer y Prif Weinidog. A gaf i ofyn felly a oes yna unrhyw enwebiadau ar gyfer enwebu'r Prif Weinidog?
5
Canlyniad y bleidlais ar gyfer yr enwebiad ar gyfer Prif Weinidog oedd Carwyn Jones, 29, Leanne Wood, 29. Yn sgil y ffaith nad oes yna fwyafrif, fe rydwyf felly yn gohirio gweddill y cyfarfod yma am nawr ac yn cau'r cyfarfod.
6
Byddwn ni'n dechrau'r cyfarfod drwy ddychwelyd at enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8, a ohiriwyd yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf. Yn y cyfarfod hwnnw, daeth dau enwebiad i law ac fe gafodd Carwyn Jones a Leanne Wood nifer cyfartal o bleidleisiau. Enwebwyd Carwyn Jones gan Jane Hutt ac enwebwyd Leanne Wood gan Rhun ap Iorwerth. A fyddai modd imi gael cadarnhad eich bod yn dal yn awyddus i'r enwau hynny barhau?
7
Felly, dim ond un enwebiad sydd ar ôl, ac, yn sgîl hynny, yn fy marn i, ni fyddai'n rhesymol cynnal pleidlais arall drwy alw enwau pan fo un o'r ymgeiswyr yma am dynnu yn ôl.
8
Diolch am y pwynt o drefn. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad yn yr achos yma. Bydd yr Aelodau yn deall nad yw'r Rheolau Sefydlog yn mynd i fanylion ynghylch pob sefyllfa bosib, ac, mewn sefyllfaoedd o'r fath, fy nghyfrifoldeb i fel Llywydd yw dehongli'r Rheolau Sefydlog, a llywio'r Cynulliad yma orau y gallaf i. Byddai'n afresymol gorfodi unrhyw un nad yw bellach yn dymuno cael ei enwebu fel Prif Weinidog i fod yn ymgeisydd mewn pleidlais ar y cwestiwn hwnnw. Gan fod enwebiadau wedi'u gwahodd yr wythnos diwethaf, felly, ac nad oes yna ddarpariaeth yn y Rheolau Sefydlog i ailagor yr enwebiadau, rwyf felly, yn unol â Rheol Sefydlog 8.2, yn datgan bod Carwyn Jones wedi'i enwebu i'w benodi yn Brif Weinidog. Yn unol ag adran 47 (4) -
9
Wel, rwyf wedi gwneud fy nyfarniad. Rwyf am ganiatáu un cyfle arall i chi herio hynny, ond dyna ni wedyn.
10
Nid wyf wedi gwneud unrhyw bwynt yn fy mhwynt o drefn sy'n awgrymu y dylid enwebu rhywun arall, dim ond nodi y dylid gweithredu amod benodol y Rheolau Sefydlog, yn sgil yr amgylchiad y darperir ar ei gyfer yn y Rheolau Sefydlog.
11
Yn y tymor newydd hwn, Plaid Cymru fydd yr wrthblaid fwyaf effeithiol a welodd y Cynulliad Cenedlaethol hwn erioed. Fe fyddwn o ddifrif ynglŷn â'n cyfrifoldebau ac fe fyddwn yn adeiladol. Mae llawer wedi'i ysgrifennu a'i ddweud mewn perthynas ag ymochri gwleidyddol yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf; yn hynny o beth, mae angen i bobl wybod mai'r unig gerdyn y bydd Plaid Cymru yn ei chwarae fydd cerdyn Cymru, a byddwn yn ei chwarae heb unrhyw gywilydd. Ein huchelgais ysgogol yw adeiladu cenedl lwyddiannus, a bydd y nod pennaf hwnnw yn arwain ein camau gweithredu ar bob cam yn y Cynulliad hwn a thu hwnt. Yr wythnos diwethaf, daeth y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn fyw mewn ffordd na welsom yn y rhan orau o ddau ddegawd. Fy ngobaith yw y bydd tîm newydd Plaid Cymru yn anadlu bywyd i mewn i ddemocratiaeth Cymru a fydd i'w deimlo ledled ein gwlad am flynyddoedd i ddod. Gwyliwch y gofod hwn. [Cymeradwyaeth.]
12
A gaf fi wneud y pwynt yma nad wyf yn credu bod unrhyw sylwadau rhagfarnllyd wedi'u gwneud gan unrhyw un yn y Siambr hon hyd yma?
13
Yr eitem nesaf yw cynnig heb rybudd i ddwyn ymlaen y cwestiynau i'r Prif Weinidog i'r Cyfarfod Llawn nesaf. Fy mwriad i yw galw'r cyfarfod hwnnw am 1.30 brynhawn dydd Mawrth nesaf, 24 Mai, yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi o enwebiad y Prif Weinidog. Galwaf ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.
14
Yn ogystal â chwestiynau i'r Prif Weinidog, gobeithiaf yr wythnos nesaf y byddwn mewn sefyllfa yn y cyfarfod i ethol aelodau i'r Pwyllgor Busnes a dechrau'r drefn arferol o fusnes y Cyfarfod Llawn. Erbyn hynny, mae'n bosibl y bydd y Prif Weinidog hefyd wedi penodi Gweinidogion Cymru. Bydd yr Aelodau a'r cyhoedd yn cael gwybod am yr agenda yn ffurfiol yn y ffordd arferol, a daw hynny â thrafodion i ben am y prynhawn yma.
15
Wrth gwrs, Madam Lywydd. Y cwbl yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd ailadrodd nad oeddwn i'n bwriadu cyfleu unrhyw amarch at y Cynulliad nac at unrhyw Aelod ohono. Roeddwn i'n ceisio gwneud pwynt doniol o fater difrifol. Rwy'n sylweddoli bod synnwyr digrifwch yn beth unigol. Croesawaf yr hyn a ddywedasoch hefyd am beidio â bod eisiau tarfu ar natur ddigymell y dadlau yn y Siambr hon, ac, yn wir, am barchu hawliau pleidiau lleiafrifol ynddi.
16
Diolch am y cwestiwn. A gaf i, wrth gwrs, groesawu yr Aelod, a phob Aelod sydd yn mynd i wneud eu cyfraniadau cyntaf heddiw? Fel rhan o'r cytundeb i symud Cymru ymlaen, a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, byddwn yn canolbwyntio ein ffocws ar gynyddu niferoedd y meddygon teulu a gweithwyr iechyd yn y sector gofal sylfaenol yng Nghymru.
17
Mae hwn yn rhywbeth i'w ystyried, wrth gwrs, ac rwy'n edrych ymlaen i weithio o dan dermau'r cytundeb, er mwyn sicrhau ein bod ni yn symud ymlaen i sicrhau bod mwy o weithwyr yn y sector gofal a hefyd weithwyr iechyd, wrth gwrs, yma yng Nghymru. Mae'n bwysig dros ben nad ydym ni'n canolbwyntio ddim ond ar ddoctoriaid, pwysig ag y maen nhw, ond yn ystyried ffyrdd i helpu pob proffesiwn sydd yn gweithredu gofal a hefyd iechyd i'n pobl.
18
Gwnaf yn wir, a gwn y bydd y Gweinidog newydd yn ystyried hyn fel mater o frys yn rhan o'i bortffolio i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud. Rydym yn gwybod bod hyfforddi mwy o weithwyr proffesiynol o bob math yn y sector iechyd yn bwysig, ond hefyd eu recriwtio, gan nad yw eu hyfforddi o reidrwydd yn golygu eu bod yn aros yng Nghymru neu yn y DU yn wir. Ac, fel y mae'r Aelod yn gwybod, rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod Cymru'n cael ei hystyried yn wlad dda i weithio ynddi, gan ein bod yn gwybod bod y gystadleuaeth yn chwyrn ledled Ewrop, a ledled y byd, am weithwyr meddygol proffesiynol, ac mae'n hynod bwysig bod gennym ni wasanaeth iechyd sy'n cael ei ystyried yn lle deniadol i weithio ynddo.
19
Mae peidio â chael streic meddygon iau yn ddechrau da, rwy'n credu, ac mae hynny'n rhywbeth nad ydym yn bwriadu ei wneud. Ond bydd yn gwybod, wrth gwrs, bod menter gydweithredol y canolbarth yn edrych yn ofalus iawn ar hyn - ar y ddarpariaeth o wasanaeth iechyd - nid yn unig yn ei ardal ef, ond mewn ardaloedd eraill ar draws canol ein gwlad, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n dda iawn. Ac mae hwnnw'n fodel y credaf, gan ei fod yn gweithio'n llwyddiannus, y gellir ei fabwysiadu mewn rhannau eraill o Gymru hefyd.
20
Rwy'n credu bod hynny'n synhwyrol. Wrth gwrs, pan fydd yna newid mewn gwasanaeth yn y gwasanaeth iechyd, mae pobl yn pryderu weithiau o achos y ffaith, efallai, bod nhw'n ffaelu teithio'n rhwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae'n bwysig dros ben bod y byrddau iechyd ac, wrth gwrs, practisys unigol yn sicrhau eu bod nhw'n gallu darparu a gweithredu systemau trafnidiaeth sy'n mynd i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio'u gwasanaethau nhw.
21
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Un o'r pethau allweddol yn yr etholiad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer y Cynulliad yng Nghanol De Cymru oedd y cynnig i gael ffordd osgoi ar gyfer Dinas Powys. Mae hyn wedi ei grybwyll yn aml dros flynyddoedd lawer, a chyflwynwyd fersiynau amrywiol o bolisïau a chynigion i geisio osgoi pentref Dinas Powys. Gyda'r datblygiadau enfawr sy'n digwydd yn y Barri nawr - datblygiad y glannau, â 2,000 o dai - a cheisiadau diweddar yn Sili yn cael eu cymeradwyo hefyd, mae'r galw am y ffordd osgoi hon yn fwy fyth nawr nag y bu erioed. Pa gynigion wnaiff Llywodraeth Cymru eu cyflwyno yn y tymor hwn fel y gall trigolion Dinas Powys deimlo'n hyderus y byddwch yn cefnogi cais am gyllid ar gyfer ffordd osgoi i Ddinas Powys?
22
Brif Weinidog, dylai'r cyfleuster benthyca cynnar o £500 miliwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi ar gyfer ffordd liniaru i'r M4, yn fy marn i, fod ar gael ar gyfer beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru yn ei gredu yw'r ateb gorau i'r problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd. A fyddech chi'n cytuno â mi, yn unol ag ysbryd datganoli, mai Llywodraeth Cymru ddylai fod yn gyfrifol am benderfynu sut i ddefnyddio'r cyfleuster benthyca cynnar hwnnw?
23
O ystyried y cwestiynau o'i feinciau cefn ei hun, a yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder, os na fydd yn ystyried dewisiadau eraill ac eithrio'r llwybr du, efallai y byddwn yn canfod nad oes unrhyw ffordd liniaru i'r M4 yn cael ei hadeiladu o gwbl?
24
Brif Weinidog, yn ogystal ag ystyried seilwaith i gefnogi teithiau pellter hir, a fyddech chi'n ystyried buddsoddi mewn seilwaith i gefnogi lleihau'r defnydd o geir ar gyfer teithiau pellter byr? Mae tua 20 y cant o deithiau mewn car am bellteroedd o lai na milltir, ac mae'r rhain yn ychwanegu'n sylweddol at dagfeydd lleol. Ar ddiwedd tymor diwethaf y Cynulliad, galwodd y pwyllgor menter am arweinyddiaeth gryfach a mwy o fuddsoddiad i roi Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar waith. Gwn ei fod yn falch iawn o'r Ddeddf honno. A fyddai'n ystyried sut, gyda'i Weinidogion, y gall wneud yn siŵr bod y Ddeddf honno'n gwireddu ei photensial ac adolygu ei gweithrediad hyd yn hyn?
25
Diolch, Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'r ymgyrchydd o Gaerdydd, Annie Mulholland, a fu farw ddydd Sul yn anffodus ar y ar ôl ymladd brwydr hir â chanser. Roedd Annie yn ymgyrchydd uchel ei chloch dros gronfa cyffuriau a thriniaethau newydd i roi terfyn ar y loteri cod post a'r cymalau eithriadolbeb, a fyddai'n golygu na fyddai cleifion yn cael eu gorfodi i symud i wahanol gyfeiriad neu ar draws y ffin mwyach i gael gafael ar y cyffuriau neu'r triniaethau sydd eu hangen arnynt. Mae'n deyrnged i waith Annie y bydd y system annheg honno yn dod i ben nawr. A allwch chi gadarnhau heddiw y bydd eich Llywodraeth yn bwrw ymlaen â sefydlu panel annibynnol i adolygu'r system bresennol ac y bydd pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser yn gallu cael mewnbwn ac yn cael cymryd rhan yn y newidiadau hynny o'r cychwyn cyntaf?
26
Dylid eich canmol, rwy'n credu, Brif Weinidog, am eich camau ar y pwynt hwn oherwydd, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gwnaethoch chi a'ch ymgeiswyr ddadlau yn erbyn rhoi terfyn ar y loteri cod post a'r cwestiwn hwn o eithriadoldeb. Ni wnaethoch gyfarfod ag ymgyrchwyr o ymgyrch Hawl i Fyw ychwaith. A wnewch chi gytuno nawr i gyfarfod ag Irfon a Rebecca Williams o'r grŵp ymgyrchu hwnnw fel y gallant rannu eu profiadau â chi ac fel y gallant hefyd wneud yn siŵr bod y system newydd yn cael gwared ar rwystrau i gleifion fel Irfon ac Annie Mulholland?
27
Rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwnnw gennych chi y prynhawn yma, Brif Weinidog. Cafodd y cytundeb yr wythnos diwethaf rhwng Plaid Cymru a Llafur ar y mater hwn ei groesawu'n frwd gan ymgyrchwyr ac elusennau, oherwydd yr ymrwymiad penodol hwnnw i greu system decach a mwy cyfiawn yma yng Nghymru. Ni fyddai'r ymrwymiad hwn wedi bod yno oni bai am yr ymgyrchwyr hynny. A wnewch chi ymrwymo heddiw y byddwch chi a'ch Gweinidog iechyd newydd yn ymateb yn gadarnhaol i argymhellion yr adolygiad er mwyn sicrhau, yn y dyfodol, na fydd y bobl sydd angen cyffuriau a thriniaethau newydd yn dioddef mwyach yr anghyfiawnderau a wynebwyd gan Irfon Williams ac Annie Mulholland ymhlith eraill?
28
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau am Annie Mulholland. Cefais y pleser o noddi'r digwyddiad a gynhaliwyd ac a gafodd ei gefnogi'n eang gan lawer o Aelodau'r Cynulliad blaenorol, ac, yn wir, siaradodd y Gweinidog iechyd blaenorol yn y digwyddiad hwnnw yn y Pierhead. Trwy ei dycnwch, trwy ei hymroddiad a'i hymrwymiad, yn hytrach na gadael i'w salwch ei hatal rhag gwneud pethau, agorodd lawer iawn o ddrysau gan wthio'r syniad i feddyliau llawer o bobl na ddylai unrhyw beth fod yn amhosibl, waeth beth fo diagnosis rhywun. Credaf fod y digwyddiad hwnnw draw yn y Pierhead wir wedi pwysleisio cryfder cymeriad y foneddiges, Annie Mulholland, a gall ei theulu fod yn haeddiannol falch o'i hymdrechion. Rwy'n siŵr y byddent wedi dymuno iddi fod gyda nhw heddiw, ond mae'n sicr ei bod wedi gwneud y defnydd gorau o'r amser a oedd ganddi ar ôl pan gafodd ei diagnosis terfynol. Felly, bydd llawer o aelodau'r gymuned yn ei cholli'n arw ac felly hefyd, mewn gwirionedd, Aelodau'r Cynulliad blaenorol a ffrindiau a theulu. Brif Weinidog, rhoesoch eich Llywodraeth at ei gilydd yr wythnos diwethaf ar ôl, yn amlwg, cael eich ethol yn Brif Weinidog. A allwch chi gadarnhau heddiw fod pob aelod o'ch Cabinet yn rhwymedig i gydgyfrifoldeb ar yr holl faterion sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru?
29
Wel, rwy'n hyderus y bydd yr ymchwiliad yn dod i ben erbyn rhan olaf y flwyddyn nesaf. Ni allwn ragfarnu'r hyn y bydd yr ymchwiliad yn ei ddweud. Rwy'n derbyn y bu llawer o ddadlau yn y Siambr hon a'r tu allan am y llwybr du yn erbyn y llwybr glas, neu lwybr arall efallai. Rydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud bod y llwybr glas yn peri problemau mawr o ran y ffaith mai ffordd ddeuol ydyw, mae'n mynd heibio tai llawer o bobl, ac yn golygu dymchwel adeiladau. Felly, nid yw'n heb ei boenau. O ran y llwybr du - wrth gwrs, rydym ni'n gweld y bu rhai gwrthwynebiadau; mae angen eu harchwilio ac rwy'n fwy na pharod i gael ymchwiliad sy'n archwilio nid yn unig y llwybr du, ond sy'n edrych ar lwybr arall hefyd. Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r safbwynt yr ydym ni wedi ei fabwysiadu hyd yma, sef ei bod yn ymddangos mai'r llwybr du yw'r llwybr mwyaf tebygol.
30
Na, rwy'n credu y bydd yr etholiadau hynny'n cael eu cynnal. Ni allaf ragweld sefyllfa lle na fyddent. Felly, i ateb ei gwestiwn, byddant, mi fyddant yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf. O ran ad-drefnu llywodraeth leol, mae'n amlwg i mi na fyddai'r map yn ennill cefnogaeth yn y Siambr hon, ond rwyf yn gwybod, yn y Siambr hon, bod cefnogaeth i ad-drefnu llywodraeth leol. Felly, mae'n fater o dreulio'r ychydig fisoedd nesaf yn archwilio pa dir cyffredin allai fod rhwng y pleidiau fel y gallwn gael gwared ar y sefyllfa lle mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol, gydag un ohonynt wedi chwalu'n gyfan gwbl, a chwech ohonynt a oedd yn destun mesurau arbennig ar un adeg ym maes addysg. Nid yw'n fodel cynaliadwy. Does dim llawer iawn o anghytundeb dros hynny, ond, wrth gwrs, mae'n gwestiwn o ba un a ellir dod i gytundeb ar sail drawsbleidiol ar fodel mwy cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yn y dyfodol yng Nghymru.
31
Gwnaf, mi wnaf, a bydd yr Aelod, wrth gwrs, yn gwybod mai Llywodraeth y DU, yn anffodus, a wrthwynebodd codi'r tariffau hynny. Nid yr UE oedd yn ei wrthwynebu; roedd yn safbwynt a fabwysiadwyd ar y pryd gan Lywodraeth y DU. Maen nhw wedi rhoi esboniad am hynny, ond, rwy'n meddwl, yng ngoleuni'r hyn sydd wedi digwydd ar draws y byd, bod angen i ni weld tegwch i'n cynhyrchwyr dur ein hunain.
32
Yr anhawster, wrth gwrs, â'r ddadl y mae'n ei gwneud yw, pe byddai'r UE yn codi tariffau yn erbyn dur a'r DU yn gadael yr UE, byddai'r tariffau hynny'n berthnasol ar gyfer dur y DU. Felly, byddem yn canfod ein hunain yn wynebu rhwystr tariff enfawr wedyn pe byddem yn dymuno allforio i mewn i'r UE, ac mae 30 y cant o'r dur a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei allforio.
33
Mae'n rhaid i ni gofio mai penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth etholedig y DU oedd peidio â chefnogi codi'r tariffau. Dyna oedd y penderfyniad a wnaed, nid gan Lywodraeth y DU ar ei phen ei hun, ond gan Lywodraethau eraill - o leiaf un Llywodraeth arall - hefyd. Ond, o'm safbwynt i, rwy'n credu ei bod yn hynod bwysig bod gennym ni rwystr tariff i atal mewnforion rhad rhag dod yma o rannau eraill o'r byd, ond nad oes gennym rwystr tariff i atal dur y DU rhag cael ei fewnforio i'r UE.
34
Dros gyfnod yr etholiad, Brif Weinidog, euthum i a chydweithwyr Plaid Cymru i ymweld â'r adran beirianneg ar y campws arloesi newydd. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gofynnais i Brifysgol Abertawe anfon rhai ffigurau ataf o ran faint y byddai'n ei gostio i sefydlu uned dur ac arloesi newydd yn y brifysgol, gan ei bod mor agos - mae mewn lleoliad delfrydol, blaenllaw - i Tata Steel allu gwneud hynny. Byddai'n costio £17.2 miliwn dros bedair blynedd i'r adran honno gael ei sefydlu. Brif Weinidog, os yw eich Llywodraeth yn credu bod achub y diwydiant dur mor hanfodol bwysig, a wnewch chi roi arian i gefnogi'r prosiect arloesi newydd hwn i wneud yn siŵr y gall dur gael ei gynnal yma yng Nghymru?
35
Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi yn gyntaf oll am yr arweinyddiaeth yr ydych chi wedi ei dangos yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma yng Nghymru ar yr argyfwng dur? Roedd fy etholwyr yn sicr yn gwerthfawrogi'r arweinyddiaeth honno yng Nghymru. Ers i'r Cynulliad gyfarfod ddiwethaf, a dweud y gwir, ar 4 Ebrill, pan drafodwyd yr argyfwng dur, mae proses sydd wedi symud yn gyflym yn yr argyfwng dur, yn enwedig o ran gwerthu buddiannau Tara Steel yma yn y DU, ac mae gan nifer o gyrff ddiddordeb ac wedi mynegi diddordeb, ac rwy'n credu mai ddoe oedd y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau. Pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cael gydag unrhyw un o'r cyrff hynny sydd wedi gwneud ceisiadau i brynu Tata Steel ac, yn benodol, pa gymorth ydych chi'n ei gynnig i'r cwmnïau hynny? A allwch chi hefyd mewn gwirionedd nodi a yw hyn yn cynnwys parhad y pen trwm ym Mhort Talbot, sy'n hollbwysig i'r gwaith, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn parhau fel gwaith integredig - maen nhw'n gwneud dur o ddeunyddiau crai, ond hefyd dyna lle mae llawer o'r contractwyr yn cael eu cyflogi, a bydd colli'r pen trwm hwnnw'n cael effaith enfawr ar gyflogaeth yn fy ardal i.
36
Croesawaf y ffaith fod y Prif Weinidog yn mynd allan i Mumbai. Roeddwn i'n meddwl tybed, yng ngoleuni'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cais Excalibur, sydd hefyd i'w groesawu'n fawr, hyd yma, a fydd ef yn gwneud sylwadau gweithredol ar ran y tîm hwnnw? O ran eu gweledigaeth, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod eu bod yn dymuno parhau i gynhyrchu dur sylfaenol; maen nhw hefyd yn cynnwys y gweithlu o ran cynllun i'r gweithwyr fod yn berchnogion rhannol. Felly, a fydd ef yn gwneud sylwadau gweithredol y dylai'r cais hwnnw fynd ymlaen i'r cam nesaf?
37
Brif Weinidog, a allwch chi amlinellu'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei neilltuo hefyd i'r 11,000 o swyddi cynhyrchu dur eu hunain i gymunedau Cymru, ac nid lle mae'r safleoedd dur wedi'u lleoli yn unig, ond, er enghraifft, mewn cymunedau fel fy un i yn Islwyn, a sefydlwyd ar sail dur, a hefyd o ran galluoedd cynhyrchu sylfaenol o'r hyn sydd ar ôl yng Nghymru? Diolch.
38
Brif Weinidog, roeddwn i braidd yn siomedig o glywed eich bod ond wedi llwyddo i siarad â dau o'r darpar brynwyr. Tybed a allech chi ddweud wrthyf a wnaethoch chi gymryd camau rhagweithiol i siarad â phawb a oedd wedi dangos diddordeb mewn gwneud cynigion ac, yn unol â thelerau cyfrinachedd masnachol, y math o amrywiaeth o gostau y mae Llywodraeth Cymru yn fwyaf tebygol o'i chefnogi wrth wneud unrhyw addewidion pwrpasol i'r cynigwyr y gwnaethoch chi siarad â nhw.
39
Brif Weinidog, mae gwaith dur Orb Tata yn fy etholaeth i, fel y gwyddoch, yn gwneud dur trydanol o'r radd flaenaf. Rwy'n cyfarfod â nhw yn rheolaidd ac mae'n amlwg i mi y bu perthynas waith dda iawn rhwng Llywodraeth Cymru a gwaith yr Orb dros gyfnod o amser. A wnewch chi fy sicrhau y bydd y berthynas honno, sydd wedi cefnogi peiriannau, gwell proses, uwchraddio sgiliau a hyfforddiant, yn parhau yn y dyfodol fel y gallwn adeiladu ar y cynhyrchion o'r radd flaenaf hynny ar gyfer diwydiant dur Cymru yn gyffredinol?
40
Brif Weinidog, rwy'n sylweddoli y bu'n rhaid i'r partïon dan sylw lofnodi cytundebau peidio â datgelu, sy'n cyfyngu ar y wybodaeth y gallwch chi ei rhoi, ond yn dilyn ymlaen o gwestiwn John Griffiths, a gaf i ofyn i chi os ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau penodol ar hyfywedd rhan Llanwern o weithrediad dur Cymru, sydd yn peri pryder uniongyrchol i'm hetholwyr? Rydym ni'n gwybod bod rhai cynigion i uwchraddio gwaith Port Talbot i ffwrnais arc, er enghraifft, a rhai cynigion eraill hefyd. A oes gennych chi unrhyw wybodaeth o ran cynigion moderneiddio i wneud gwaith dur Llanwern yn fwy hyfyw yn y dyfodol?
41
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i'r datblygiad hynod bwysig hwn. Rydym ni'n disgwyl y bydd y flwyddyn hon yn flwyddyn arwyddocaol i'r prosiect, sydd yn werth £12 biliwn, yn enwedig gan fod Horizon wedi cyhoeddi tîm cyflenwi newydd ar gyfer Wylfa Newydd yr wythnos diwethaf.
42
Mae hyn wedi digwydd yn barod. Mae yna fwrdd rhaglen niwclear wedi cael ei sefydlu, sef bwrdd Llywodraeth Cymru, a nod y bwrdd yw sicrhau ein bod ni'n sicrhau'r budd economaidd mwyaf i'r ynys a hefyd i Gymru yn gyfan gwbl. Mae gyda'r bwrdd hwnnw sawl ffynhonnell waith sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd, sy'n cynnwys pethau fel sgiliau, pethau fel datblygu busnesau, marchnata, addysg a hefyd budd economaidd. Felly, mae'r gwaith yna wedi dechrau yn barod er mwyn sicrhau bod yr ynys ei hunan yn gallu cael y budd mwyaf sy'n bosibl o'r datblygiad hwn.
43
Wel, o ystyried y ffaith ei fod eisoes yno yn y lle cyntaf, yn gadarnhaol. Bydd yn gwybod, yr Aelod, ein bod wedi rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer y gogledd-ddwyrain - nid yw hynny'n eithrio'r gogledd-orllewin; rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r gogledd-orllewin - oherwydd, ar un adeg, roedd y Northern Powerhouse, fel y'i gelwir, yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn cael ei gyflwyno fel cystadleuydd. Nawr, rydym ni'n gweld nifer o gyfleoedd i weithio ar y cyd ar draws y ffin i sicrhau ffyniant ar draws y ffin, a dyna beth fyddwn ni'n ceisio ei wneud. Nid yw ar gyfer y gogledd-ddwyrain yn unig; rydym ni eisiau gweld y ffyniant hwnnw'n ymestyn yr holl ffordd ar draws ogledd ein gwlad.
44
Rydym ni eisoes wedi archwilio'r dewisiadau ar gyfer trydedd pont ar draws y Fenai, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau bwrw ymlaen ag ef. Rydym ni wedi archwilio pa un a yw'n bosibl, er enghraifft, ymestyn - neu ledaenu, yn hytrach - pont Britannia. Mae hynny'n anodd, ond, serch hynny, mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Rydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw - hynny yw, nid yw'r A55 yn ffordd ddeuol ar ei hyd cyfan, oherwydd y bont. Rydym eisoes, wrth gwrs, yn dechrau gwaith i gael gwared ar y cylchfannau yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr, a fydd yn helpu'n aruthrol, ac, wrth gwrs, ar ben dwyreiniol yr A55, gyda'r nod o wella'r porth i Gymru yn Drome Corner. Ond, ydy, mae'r Aelod yn iawn; bydd sicrhau bod man croesi pedair lôn priodol dros y Fenai yn waith pwysig ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.
45
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Fel y dywed, mae cynlluniau cyffrous ar waith i wella gwasanaethau canser yn y de-ddwyrain, gan ddod â gwasanaethau yn nes at bobl yn eu cartrefi eu hunain, a hefyd i adeiladu Felindre newydd. Felly, a wnaiff ef gadarnhau ymrwymiad ei Lywodraeth i adeiladu'r Felindre newydd, er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth y gallwn ni ei gynnig?
46
Un o'r meysydd lle mae Cymru ar ei hôl hi tipyn bach o safbwynt ymdrin â chanser yw'r amser i ddiagnosis. Mae nifer o elusennau canser yn ystod yr ymgyrch yr ydym ni i gyd wedi bod yn rhan ohoni hi wedi cysylltu â ni fel ymgeiswyr i ofyn beth y gallem ni ei wneud yn y Cynulliad hwn i wella'r amser i ddiagnosis. Roedd gan Blaid Cymru gynllun, er enghraifft, ar gyfer diagnosis o fewn 28 diwrnod. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud fel Llywodraeth i wella'r sefyllfa yng Nghymru?
47
Brif Weinidog, rydym ni'n croesawu eich ymrwymiad maniffesto eich hun o £80 miliwn ar gyfer cronfa driniaeth newydd. Mae hyn wrth gwrs yn dilyn galwad y Ceidwadwyr Cymreig ers blynyddoedd lawer am gronfa cyffuriau trin canser i roi terfyn ar yr anghydraddoldeb a'r loteri cod post sy'n bodoli yma yng Nghymru. A wnewch chi addo ar goedd yma heddiw, Brif Weinidog, na fyddwn yn gweld unrhyw glaf, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn gorfod teithio allan o Gymru i dderbyn y driniaeth angenrheidiol iawn sydd ei hangen arnynt? Ond hefyd, i ehangu'r cwmpas sydd ar gael i chi, a wnewch chi edrych ar y miliynau o bunnoedd sy'n cael eu gwastraffu ar gyffuriau triniaeth arferol sydd ar gael mor rhwydd dros y cownter mewn archfarchnadoedd? Mae hyn i gyd yn rhan o'ch presgripsiynau am ddim i bawb, ac rwy'n credu y byddai'n llawer gwell gweld yr arian hwn yn cael ei dargedu mewn ffordd well tuag at gronfa triniaethau canser.
48
Brif Weinidog, mae gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd datblygedig, a'r prif reswm yw cyfraddau gwael o ran canfod ac ymyrraeth gynnar. Sut wnaiff eich Llywodraeth wella diagnosis a thriniaeth, ac a ydych chi'n cytuno â fy mhlaid i y dylai pawb sy'n cael diagnosis o ganser fod â chynllun gofal ysgrifenedig llawn?
49
Gwnaf. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith ym mhob rhan o Gymru. Erbyn hyn, nodir mai cysylltiad Cwm Cynon yw'r cynllun â'r brif flaenoriaeth yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2015-20, ac rydym ni wedi dyrannu arian i'r cyngor i ddatblygu cynllun Porth y De Cynon.
50
Byddwn, mi fyddwn. Dyddiau cynnar yw hi eto, wrth gwrs, gan mai dyma'r gwaith paratoadol sy'n cael ei wneud, ond byddem yn disgwyl i Rhondda Cynon Taf wneud cyflwyniad ffurfiol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn gwybod bod Aberdâr yn agos yn ddaearyddol at yr A470 a'r A465, ond rydym ni'n gwybod nad yw'r ffyrdd yn dda o ran pobl yn dod i mewn i Aberdâr, ac mae'n bwysig cael llwybr cyflym allan i Flaenau'r Cymoedd o'r dref. Byddwn yn gweithio, wrth gwrs, gyda chyngor Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod hynny'n digwydd yn y blynyddoedd i ddod.
51
Bydd, yn sicr. Rydym ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a chyda'r 10 awdurdod lleol dan sylw i wneud yn siŵr bod y cytundeb dinas yn dwyn ffrwyth. Mae'n iawn i ddweud ei fod yn ddibynnol, wrth gwrs, ar arian o lawer o wahanol ffynonellau. Rydym ni'n gwybod bod y metro, er enghraifft, yn ddibynnol ar £125 miliwn o gyllid o ffynonellau Ewropeaidd, a phe byddai hwnnw'n cael ei golli, byddai'n peryglu hyfywedd y metro. Ond byddwn yn parhau i weithio, wrth gwrs, gyda phob lefel o Lywodraeth i wneud yn siŵr bod y cytundeb dinas yn cael ei ddatblygu.
52
Mae'n braf clywed, Brif Weinidog, eich bod yn cydnabod bod hwn wir yn fygythiad byd-eang i iechyd a chyfraddau goroesi dynol o achosion cyffredin. Rydym ni wedi tybio erioed y byddem yn goroesi'n rhwydd y clefydau cyffredin a allai achosi marwolaeth erbyn hyn. Mae'r Athro O'Neill yn galw am weithredu byd-eang ar hyn, o ran gorddefnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid yn ogystal â gorddefnyddio presgripsiynau ar eu cyfer i fodau dynol. Tybed sut y mae'r cynllun cyflawni hwn a gyhoeddwyd ychydig cyn i ni fynd i'r toriad yn mynd i ymdrin â'r amrywiadau o ran arferion, yn ein hysbytai ac yn ein meddygfeydd. Rwy'n sylwi'n benodol, yng nghlwstwr meddygon teulu dwyrain Caerdydd, bod gorbresgripsiynu sylweddol ar gyfer clefydau anadlol o'i gymharu â chlystyrau eraill, a byddai'n ddefnyddiol archwilio pam mae'r gwahaniaethau hyn yn bodoli a sut yr ydym ni'n mynd i ymdrin â nhw.
53
Brif Weinidog, efallai eich bod yn cytuno â fi wrth i fi ddweud bod y defnydd, neu'r gorddefnydd, o wrthfiotigau yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd, i ddweud y gwir. Fel rydym yn ymwybodol, mae'r defnydd o wrthfiotig yn digwydd yn y byd amaeth, yn ogystal, wrth gwrs, a chan feddygon teulu ac yn ein hysbytai. Wrth gwrs, mewn rhai gwledydd yn Ewrop ac ymhellach, rydych jest yn gallu prynu gwrthfiotig - nid oes yn rhaid ichi gael presgripsiwn yn y lle cyntaf. Wrth gwrs, mae yna bwysau cynyddol ar feddygon, yn enwedig yn ein practisys ni, efallai, i fod yn rhagnodi pan, efallai, o gofio bod y llwnc tost arferol yn mynd i gael ei achosi gan firws, nid gwrthfiotig ydy'r driniaeth orau. Mae'n bwysig i'r cyhoedd fod yn ymwybodol o hynny yn ogystal â'r meddygon hefyd. Felly, a fyddech chi'n cytuno bod angen codi ymwybyddiaeth, ond mai ein cyfrifoldeb ni i gyd ydy'r defnydd o wrthfiotig, neu'r camddefnydd neu'r gorddefnydd o wrthfiotig?
54
Brif Weinidog, un o'r problemau, rydym ni'n clywed, yw nad yw pobl yn cael diagnosis yn ddigon cynnar, ac felly, yn anffodus, mae heintiau yn mynd drwyddynt cyn y gellir rhoi'r gwrthfiotigau ar bresgripsiwn. O ystyried yr anawsterau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu o ran cael apwyntiadau â meddygon teulu, a'r anawsterau o ran cael ymatebion a chanlyniadau o brofion diagnostig - mae llawer o bobl yn aros wythnosau lawer weithiau, nid yn unig am i brofion diagnostig syml gael eu cynnal, ond i gael y canlyniadau yn ôl o'r profion hynny - onid ydych chi hefyd yn cytuno bod arnom angen gweithredu penderfynol i fynd i'r afael â'r problemau hynny os ydym byth yn mynd i drechu'r broblem hon o ymwrthedd i wrthfiotigau?
55
Mae mewnfudo'n fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun yn ddiweddar i ailgyfanheddu rhai plant o wersylloedd yn Ewrop, ac rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i baratoi ar gyfer hyn.
56
Gallaf ddweud ein bod wedi sefydlu, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, tasglu gweinidogol ar gyfer ffoaduriaid o Syria ym mis Tachwedd y llynedd. Mae hwnnw wedi'i ategu gan fwrdd gweithrediadau i helpu i gydgysylltu'r ymateb, a sefydlwyd is-grŵp plant i'r bwrdd hwnnw i sicrhau'n benodol cydgysylltiad ar gyfer ailgyfanheddu plant sy'n ffoaduriaid a phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches ledled Cymru. Rydym ni o'r farn, wrth gwrs, er ein bod yn hapus i ailgyfanheddu pobl sy'n ffoaduriaid, mae hwn yn fater y mae angen cymorth ariannol ar ei gyfer gan Lywodraeth y DU. Felly, dyna'r safbwynt yr ydym ni wedi ei fabwysiadu erioed, a dyna'r safbwynt o hyd.
57
Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod llygredd aer trefol yn parhau i gynyddu ar raddfa frawychus, a rhestrodd Casnewydd ymhlith y pump uchaf yng Nghymru. Gan fod llygredd aer yn fater iechyd cyhoeddus, rydym ni'n gwybod y bydd cynnydd mawr i lygredd aer yn ystod cyfnodau o dagfeydd traffig. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i'm hetholwyr y bydd mesurau effeithiol yn cael eu cymryd i leddfu tagfeydd sy'n dod drwy Gasnewydd ar yr M4?
58
Dim sylwadau, ond rydym ni'n ymwybodol o'r problemau ac rydym ni'n cefnogi Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn eu galwad am adolygiad.
59
Wel, mae hon yn un o'r cronfeydd pensiwn hynny, er eu bod yn brin, sydd wedi bod mor llwyddiannus fel ei bod wedi darparu mwy o arian na ragwelwyd i Lywodraeth y DU. A does bosib y gall hynny fod yn iawn. Byddwn yn cael ein llywio gan yr NUM, gan ei fod wedi galw am adolygiad, a hynny'n briodol. Gwn y byddant yn cyfarfod yn fuan ag ymddiriedolwyr y cynllun hefyd i ailystyried hyn. Ond, na, yn sicr, ni all fod yn wir y dylai cronfa pensiwn y glowyr gael ei hystyried yn ffordd o gynhyrchu arian i Lywodraeth y DU. Ac mae angen gwneud llawer mwy i wneud yn siŵr bod budd i'r rhai sy'n derbyn pensiynau er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfran deg o elw'r gronfa bensiwn. Nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd a byddwn yn cefnogi'r NUM yn eu galwad am adolygiad.
60
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd addysg am hynny a'i chroesawu i'w swydd. Mae colli cefnogaeth i astudiaethau ôl-raddedig rhan-amser yn golygu y bydd rhai o brifysgolion Cymru yn wynebu toriadau canran sylweddol i gyfanswm eu cyllid gan CCAUC. Felly, er enghraifft: bydd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn colli 25 y cant o'i grant; Glyndŵr tua 20 y cant; ac mae prifysgol fel Caerdydd yn mynd i golli dros £2 filiwn. Er fy mod i'n derbyn y ffaith bod gan CCAUC yr hawl i ddyrannu'r arian fel y mae'n credu sy'n briodol, Ysgrifennydd addysg, hoffwn ddeall pa fesurau y byddwch chi'n ystyried eu rhoi ar waith, o ystyried y toriadau hyn sydd wedi eu cyhoeddi. Mae astudiaethau addysgol ôl-raddedig rhan-amser yn hanfodol ar gyfer datblygiad ein pobl, yn hanfodol ar gyfer datblygiad gyrfaol, yn hanfodol ar gyfer gwaith ymchwil ôl-raddedig ac mae, yn ei hanfod, yn rhan o'n bywyd prifysgol ac yn rhywbeth y mae'r prifysgolion eu hunain yn ei drysori'n fawr. Fy mhryder i, gyda'r toriadau hyn i'r graddau y maen nhw'n cael eu gwneud - h.y., nid oes unrhyw gyllid o gwbl, eto, mewn unrhyw le ar gyfer astudiaeth ran-amser ôl-raddedig - yw ein bod fwy neu lai'n mynd i fod yn difreinio rhan hynod bwysig o'n sail myfyrwyr aeddfed ac rwy'n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb o ran cyfeirio CCAUC neu weld beth ellir ei wneud i liniaru'r problemau hyn, gan y bydd yn broblem wirioneddol o ran datblygu ein diwylliant yn y dyfodol.
61
Gan groesawu'r Ysgrifennydd addysg i'w swydd newydd, a gaf i ofyn iddi, yn gyntaf oll, a wnaiff hi, felly, gyhoeddi'r llythyr cylch gwaith y mae wedi ei gyflwyno, neu y mae ei rhagflaenydd wedi ei gyflwyno, i CCAUC, fel y gallwn ddeall o dan ba amgylchiadau y gwnaed y penderfyniad hwn? Mae hyn yn deillio'n uniongyrchol, wrth gwrs, o'r toriad i grant CCAUC, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur flaenorol ac a gefnogwyd ganddi, meddai, gyda balchder. Felly, a all hi esbonio nawr sut y bydd yn rhoi ar waith yr hyn a ddisgrifiwyd gan CCAUC fel rhywbeth sy'n hanfodol a phwysig i brifysgolion Cymru, sef cymhellion tebyg i'r rhai a gynigir gan brifysgolion eraill tebyg, neu fel arall byddant yn cael eu trechu gan gystadleuaeth gref? Dyna oedd y dystiolaeth a roddodd CCAUC i'r pwyllgor yma, cyn yr etholiad. Ac a fydd hi, yn ei hadolygiad gyda'i swyddogion, yn bwriadu cyflwyno ei pholisi, y gwnaeth hi sefyll ar ei sail yn yr etholiad diwethaf, o gyflwyno bwrsariaeth chwyddo ar gyfer ôl-raddedigion? Ai dim yw'r chwyddiant?
62
Datganiad gan y Prif Weinidog ar benodiadau i'r Cabinet. Ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
63
Yn gyntaf oll, o ran y cwestiwn cyntaf, ydy, mae cydgyfrifoldeb yn berthnasol. Os ceir anghytundebau, byddant yn cael eu trin yn yr un modd ag yr oeddent yn cael eu trin pan oedd clymblaid â'i phlaid hi, neu yn wir, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y blynyddoedd a fu. Bydd dulliau ar waith i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu nodi yn gynnar, er mwyn cael cytundeb. Mae'r broses hon wedi'i hen sefydlu; cafodd ei defnyddio gennym yn ystod pedair blynedd y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Nid yw'r Gymraeg yn cael ei hisraddio o gwbl. Roedd bob amser yn fater ar gyfer Gweinidog portffolio. Dyna fydd yn digwydd yn y dyfodol, ond o ystyried fy nghefndir a'm cefnogaeth ddyfal dros yr iaith, nid oes unrhyw siawns iddi gael ei hisraddio. O ran yr anghydfod ynglŷn â'r PCS, mae Ken Skates, gan mai ef yw'r Gweinidog, wedi bod yn rhan o hyn. Rydym yn disgwyl gweld setliad, yn fuan iawn, iawn, gobeithio ac yr wyf yn diolch iddo am y gwaith y mae wedi ei wneud i sicrhau y bydd canlyniad boddhaol ar gyfer y gweithwyr. Cynhaliwyd y gwaith hwnnw yr wythnos diwethaf. Mark Drakeford, fel y Gweinidog, fydd yn gyfrifol am wthio bil yr undebau llafur yn ei flaen, ac yn gyfrifol am ddiddymu yr adrannau hynny o'r Ddeddf yr ydym yn anghytuno â nhw ac yr ydym yn credu eu bod o fewn cymhwysedd y Cynulliad hwn. Ynglŷn â refferendwm yr UE, fy nghyfrifoldeb i fydd hynny o hyd. O ran mater Tata, bydd hwnnw'n parhau i fod yn gyfrifoldeb i mi. Ymhen amser, bydd dur yn dod yn rhan o'r portffolio economi a seilwaith, ond byddaf i'n parhau i fod yn gyfrifol am Tata. O ran cyllid myfyrwyr, mater i Kirsty Williams yw hwnnw, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
64
Yn gyntaf oll, Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich ymateb cynharach i Andrew R. T. Davies ynglŷn â'r pwyllgorau y bydd y Llywodraeth yn eu cynnal ar y cyd â Phlaid Cymru? Mae'n rhaid i mi fynegi fy mhryderon fod rhywbeth sydd mor bwysig â'r cyfansoddiad, sy'n cynnwys, wrth gwrs, pawb yn y Cynulliad hwn, yn fater i bwyllgor sy'n cynnwys dwy blaid yn unig. Ond, fy mhrif gwestiwn heddiw yw hwn: a allwch chi esbonio pwy sy'n mynd i fod yn bennaf gyfrifol am bolisi awtistiaeth? Mae awtistiaeth yn effeithio ar oedolion a phlant. Mae'n effeithio ar y ddau ohonynt mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau yn eu bywydau ac i raddau gwahanol. Y gwahaniaethau hynny yw un o'r rhesymau pam yr wyf yn pryderu na fydd Deddf awtistiaeth a'i huchelgeisiau yn cael eu hadlewyrchu'n ddigonol mewn Bil anghenion dysgu ychwanegol. Gan ei fod yn effeithio ar wasanaethau cymdeithasol, iechyd, yr amgylchedd, a chymunedau hyd yn oed, tybed a allwch chi egluro i bawb ohonom pwy yn union fydd yn bennaf gyfrifol am yr holl bolisi awtistiaeth, efallai yn yr un ffordd ag y mae'r prif gyfrifoldeb ar gyfer plant wedi ei roi i un Ysgrifennydd dros blant.
65
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i benodi aelodau i'r Pwyllgor Busnes. Rwy'n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.
66
Y cynnig heb rybudd yw'r eitem nesaf, i gyflwyno cwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn nesaf. Rwy'n bwriadu ei alw am 1.30 p.m. ddydd Mercher 8 Mehefin. Rwy'n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.
67
Lywydd, Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, diolch i chi am eich croeso cynnes a'ch dymuniadau da. Rwyf yn falch iawn o fod yma heddiw ar achlysur agor pumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac rwyf yn eich llongyfarch ar gael eich ethol yn Aelodau'r Cynulliad. Rwyf wedi parhau i ddilyn cynnydd y Cynulliad â chryn ddiddordeb gan nodi hanes rhyfeddol o gyflawni dros y pedwar tymor cyntaf. Er mai sefydliad seneddol cymharol ifanc yw hwn, rydych wedi sefydlu enw da fel deddfwrfa gref, hygyrch a blaengar, sy'n gwasanaethu holl gymunedau amrywiol Cymru. Gall y Cynulliad fod yn falch o'r ffordd y mae wedi ymgysylltu â chynulleidfa eang ledled Cymru a thu hwnt i greu gwell dealltwriaeth o'r gwaith pwysig a wneir yma, ac rwyf yn siŵr y byddwch yn parhau i ddangos arloesedd ac arweinyddiaeth yn y ffordd yr ydych yn cyfathrebu â phawb yr ydych yn eu gwasanaethu ac yn eu cynnwys yn eich gwaith. Pan oeddwn i yma yn 2011, nodais y byddech yn pasio Deddfau'r Cynulliad am y tro cyntaf. Felly, rwyf yn falch, erbyn hyn, o weld y Cynulliad yn gwasanaethu pobl Cymru fel deddfwrfa fodern a chanddi bwerau deddfu llawn. Mae'n llwyddiant y gall pawb y mae Cymru yn agos i'w calon fod yn falch ohono. Bydd maint a chymhlethdod eich cyfrifoldebau deddfwriaethol yn cynyddu ymhellach yn ystod y pumed Cynulliad hwn, a bydd gennych hefyd y cyfrifoldebau cyllidol sy'n deillio o Ddeddf Cymru 2014, gan gynnwys pwerau trethu am y tro cyntaf. Mae eich cyfrifoldeb yn fawr ac mae'r disgwyliadau yn uchel, ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwch yn parhau i lwyddo wrth i chi gyflawni'r dyletswyddau newydd hyn. Lywydd, Aelodau'r Cynulliad, mae'r Pumed Cynulliad hwn yn nodi datblygiad pwysig arall yn hanes datganoli yng Nghymru. Dymunaf bob llwyddiant i chi wrth i chi baratoi i ateb heriau'r newidiadau cyfansoddiadol hyn ac i helpu i wireddu potensial y Cynulliad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
68
Dyna ateb calonogol iawn, Brif Weinidog. Rydych yn ddyn craff ac rydych yn siŵr o fod wedi sylwi fy mod wedi bod yn gwrthwynebu'r cynlluniau i ddiddymu Sir Fynwy fel rhan o'r ad-drefnu llywodraeth leol a argymhellwyd gan Lywodraeth ddiwethaf Cymru. Nawr bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am y cynlluniau hyn wedi symud ymlaen at bethau gwell, onid yw'n adeg dda i fynd yn ôl i'r cychwyn a meddwl am gynllun y gallwn ni, gynghorwyr, a'r cyhoedd ei gefnogi? Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi am beint rywbryd i drafod hyn. [Chwerthin.]
69
Brif Weinidog, nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015', y llynedd, fod Cymru, ers i Lywodraeth y DU osod ei rhaglen galedi yn adolygiad o wariant 2010, wedi gorfod rheoli toriad o £1.2 miliwn - mae'n ddrwg gennyf, dywedaf hynny eto, toriad o £1.2 biliwn yn y cyllid. Er gwaethaf toriadau Torïaidd llym o'r fath, mae awdurdodau lleol a chynghorau Cymru wedi parhau - [Torri ar draws.] Lywydd, os caf, maent wedi parhau i sefyll dros gymunedau Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cryfder ei argyhoeddiad a'i ymrwymiad i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi darpariaeth effeithiol ac effeithlon llywodraeth leol o wasanaethau cyhoeddus?
70
Gyda'r cyfle i ddiwygio llywodraeth leol, a fydd y Prif Weinidog yn cymryd camau ar frys i sicrhau y rhoddir strwythur rhanbarthol newydd ar waith, er mwyn caniatáu i gynlluniau datblygu lleol diffygiol, gyda defnydd diangen o safleoedd maes glas, gael eu newid er mwyn osgoi blerdwf trefol wedi'i arwain gan ddatblygwyr? Oherwydd, os cofiwch, ar 24 Ebrill 2012, Brif Weinidog, fe ddywedoch mai anwiredd llwyr oedd eich bod wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu ar safleoedd maes glas Caerdydd. Fe'i galwoch yn gelwydd pur, ond codwyd embaras arnoch gan eich plaid eich hun, a gyhoeddodd gynlluniau wedyn i adeiladu ar safleoedd maes glas Caerdydd. Fe wnaethoch ein camarwain ni i gyd. A wnewch chi yn awr wneud iawn am eich cam yn llygaid y cyhoedd a gweithredu polisi Plaid Cymru arall eto?
71
Gwnaf. Mae bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe yn parhau i arwain ar alinio a chydweithio rhanbarthol er mwyn cyflawni dyheadau a rennir ar gyfer swyddi a thwf.
72
Gallaf, wrth gwrs. Gwn fod Syr Terry Matthews a'r bwrdd wedi datblygu cynnig cychwynnol ar gyfer bargen ddinesig, sydd wedi'i chyflwyno i ni a Llywodraeth y DU. Mae'n ceisio swm o tua £500 miliwn dros 20 mlynedd, ac yn wir, mae'r cynnig yn amlinellu grym trawsnewidiol cysylltedd digidol i gyflymu twf yn y rhanbarth, a ledled Cymru ac yn wir, gweddill y DU. Felly, mae'r cyflwyniad hwnnw wedi'i wneud. Rydym yn awr, wrth gwrs, yn dymuno symud ymlaen gyda bargen ddinesig sy'n debyg i'r un y cytunwyd arni ar gyfer y prifddinas-ranbarth.
73
Mae hynny'n iawn, ac mae'n wir i ddweud, heb i'r arian yna fod ar gael, na fyddai'r campws yna nawr.
74
Credaf fod hynny yn digwydd. Mae bwrdd y dinas-ranbarth yn gwybod yn iawn mai'r allwedd i ddenu buddsoddiad yw sicrhau bod sgiliau ar gael fel y gall y buddsoddiad hwnnw ddigwydd. Un o'r cwestiynau a ofynnir yn aml i mi gan fuddsoddwyr posibl pan fyddaf yn mynd dramor yw, 'A oes gennych y sgiliau sydd eu hangen arnom er mwyn i ni ffynnu yn eich gwlad?', ac rydym yn gallu rhoi'r sicrwydd hwnnw iddynt. Os edrychwn, er enghraifft, ar gampws Prifysgol Abertawe, y gwn ei fod, fel y bydd fy nghyfaill, David Rees, yn fy atgoffa, yn etholaeth Aberafan, mae'n fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol bae Abertawe - campws hynod bwysig ac arwydd bod y rhan honno o Gymru, fel y genedl gyfan yn wir, yn gyfan gwbl o ddifrif ynghylch y ddarpariaeth addysg a sgiliau.
75
Wel, byddai angen hynny beth bynnag. Mae dinas-ranbarth bae Abertawe yn croesi ffiniau. Rydym yn gwybod nad yw ffiniau gwleidyddol yn cyd-fynd â ffiniau economaidd. Dyna pam y mae'r fargen ddinesig yn y prifddinas-ranbarth yn cynnwys 10 awdurdod lleol, gan adlewyrchu, wrth gwrs, y rhanbarth economaidd, a chan adlewyrchu'r angen i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd i gyflawni ffyniant ar gyfer eu holl ddinasyddion.
76
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yn y cytundeb a gyrhaeddoch i ffurfio'r glymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol sydd gennym fel Llywodraeth yma yng Nghymru heddiw, cafodd rhan o faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn â lleihau maint dosbarthiadau ei chynnwys yn eich rhaglen lywodraethu. Cost hynny oedd tua £42 miliwn, neu £42 miliwn oedd yr amcangyfrif. Yn eich maniffesto eich hunain, fe ddywedoch y byddai'r Llywodraeth Lafur, pe câi ei hethol, yn darparu £100 miliwn i addysg dros oes y Cynulliad. A fydd y £42 miliwn hwn yn arian ychwanegol y bydd yn rhaid dod o hyd iddo er mwyn ei roi yn y gyllideb addysg, neu a yw'n rhan o'ch ymrwymiad cyfan o £100 miliwn?
77
Sylwaf nad ateboch y cwestiwn, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig deall hyn: a fyddwch yn darparu arian ychwanegol at ymrwymiad eich maniffesto i gyflawni'r ymrwymiad newydd hwn rydych wedi'i gynnwys yn eich rhaglen lywodraethu? Mae'n gwestiwn hollol deg, oherwydd byddwn yn gobeithio, cyn i chi gytuno i hyn, eich bod wedi'i roi drwy beiriant y gwasanaeth sifil, fel petai, a gweld beth fyddai'r ymrwymiad, oherwydd nid yw £42 miliwn yn swm bach o arian. Felly, mae'n ateb syml: a fydd £42 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i'r gyllideb addysg i gyflawni'r ymrwymiad hwn, neu a oes rhaid iddo ddod o'ch blaenoriaethau presennol a nodwyd gennych yn eich cyllideb eich hun?
78
Mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu harchwilio wrth i ni geisio symud y polisi yn ei flaen. Un o'r pethau rydym yn ymfalchïo ynddynt yw'r ffaith ein bod wedi adeiladu cymaint o ysgolion newydd ledled Cymru, ein bod wedi adnewyddu cynifer o ysgolion ledled Cymru ac y bydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn parhau. Yn gynyddol ledled Cymru, rydym yn gweld mwy a mwy o blant, a mwy a mwy o athrawon, yn cael eu dysgu mewn cyfleusterau sy'n briodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ar ôl cymaint o flynyddoedd yn y 1980au a'r 1990au o ddadfuddsoddi a thanfuddsoddi yn ein hysgolion.
79
Rwy'n derbyn yr ail bwynt a wnaeth y Prif Weinidog a chaiff gefnogaeth lawn fy mhlaid, yn sicr, wrth geisio cael gwared ar y cyfyngiad mawr hwn ar ddatblygu economaidd yn ne Cymru. Ond o ran prosiect yr M4, aeth fy mhlaid i mewn i'r etholiad diwethaf ar sail cefnogi'r llwybr glas yn hytrach na'r llwybr du. Ein barn ni yw y byddai'r llwybr du yn well na dim llwybr, ac nid ydym am fod mewn sefyllfa, fel rydym wedi'i chael ers blynyddoedd lawer bellach mewn perthynas ag ehangu Maes Awyr Heathrow, lle ceir siarad diddiwedd a dim gweithredu. Felly, mae'n ymddangos i mi fod yr argymhelliad i orfodi ymchwiliad cyhoeddus pellach yn debygol o greu oedi diderfyn, fel na fydd y problemau ond yn gwaethygu fwyfwy. Felly, mae'r ateb i broblemau'r diwydiant dur wedi'i gyfyngu'n rhannol gan yr anhawster hwn hefyd.
80
Rwy'n derbyn rhesymeg hynny. Rwyf fi ond eisiau dweud wrth y Prif Weinidog ein bod wedi dod i'r lle hwn i fod yn adeiladol yn yr wrthblaid ac rydym am chwarae'r math o rôl y mae Plaid Cymru'n honni yn awr ei bod yn ei chwarae mewn perthynas â datblygu polisi Llywodraeth, ac felly rwyf eisiau dweud, o ran y llwybr du neu'r llwybr glas, fod fy mhlaid yn barod i gynnal trafodaethau gyda'r Llywodraeth. Fel y dywedais yn gynharach, rydym yn credu bod y llwybr du yn well na dim llwybr ac felly, os yw hwn yn angenrheidiol er mwyn dadflocio'r dagfa, yna rydym yn barod i chwarae ein rhan ynddo.
81
Diolch, Lywydd. Wel, mae'n edrych fel pe baech yn mynd i allu taro bargen gydag UKIP, Brif Weinidog, ar ddyfodol y llwybr du. Diddorol iawn. [Chwerthin.] Neithiwr, cafwyd dadl deledu ar refferendwm yr UE, a chwalodd y system cofrestru pleidleiswyr yn union cyn yr amser cau, sef hanner nos. A wnewch chi ymuno â mi ac eraill i alw am ymestyn yr amser i gofrestru pleidleiswyr ar-lein, er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cymryd rhan yn y refferendwm ar yr hyn a fydd yn un o'r cwestiynau pwysicaf sy'n wynebu dyfodol ein gwlad?
82
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fe fyddwch yn cofio sut y collodd cyn-weithwyr ASW yma yng Nghaerdydd eu pensiynau pan aeth eu cwmni i'r wal ychydig flynyddoedd yn ôl. Bodolaeth un o gyfarwyddebau'r UE yn 1980 y daeth fy nghyd-Aelod Adam Price o hyd iddi pan oedd yn AS Plaid Cymru, a orfododd y Llywodraeth - Llywodraeth Lafur oedd hi ar y pryd - i greu'r cynllun cymorth ariannol a'r gronfa diogelu pensiynau. Er nad aeth honno cyn belled ag y byddem wedi'i ddymuno - 90 y cant yn unig o'r pensiwn a warantai ac nid oedd yn fynegrifol - o ystyried y marciau cwestiwn presennol dros ddyfodol pensiynau'r gweithwyr dur, heb y mesurau diogelu hanfodol hyn gan yr Undeb Ewropeaidd, a fyddech yn cytuno y byddai llawer o weithwyr yng Nghymru heddiw yn waeth eu byd nag y maent yn awr?
83
Diolch, Brif Weinidog. Nawr, mae llawer o'r ddadl hyd yn hyn wedi ymwneud mwy â chodi bwganod nag â darparu gwybodaeth gywir i bobl allu dewis yn wybodus ar ei sail. A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio gwleidyddiaeth 'chwiban y ci' y dde eithafol sy'n ceisio cymell delweddaeth hiliol ac ecsbloetio ofnau pobl gyda datganiadau sy'n awgrymu bod pleidlais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn cynyddu'r risg i fenywod o gael eu treisio?
84
Ar ôl cyflwyno dwy Ddeddf arloesol, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, i sicrhau bod Cymru'n cael deddfwriaeth i ddelio'n effeithiol â'r newid yn yr hinsawdd, rŷm ni nawr yn ymrwymo i'w gweithredu nhw'n llawn.
85
Mae hynny'n iawn. Mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, fod y Deyrnas Unedig wedi cael ei llusgo i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei lanhau ac i sicrhau bod yr afonydd a hefyd y môr a'r awyr yn well na beth oedd yn wir 30 mlynedd yn ôl. Rwy'n cofio, fel rhywun oedd yn pysgota lot fel bachgen, fod yr Afon Taf yng Nghaerdydd yn wael dros ben; roedd braidd dim ynddi hi. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae yna eogiaid yn oifad - 'nofio' dylwn i ddweud - lan yr afon, ac mae hynny'n dangos faint o les sydd wedi cael ei wneud i'n hamgylchedd ni o achos y cyfreithiau Ewropeaidd sydd wedi sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cael amgylchedd llawer yn well nag o'r blaen.
86
Mae hwn yn rhywbeth inni ei ystyried, wrth gwrs. Mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n sicrhau hefyd fod yna weithredu'n cymryd lle ar draws y byd. Rŷm ni'n gallu chwarae ein rhan, wrth gwrs - rŷm ni wedi gwneud hynny o achos y ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei phasio. Ond hefyd, nid oes pwynt inni leihau beth ŷm ni'n ei wneud ynglŷn â newid hinsawdd os yw pethau'n mynd yn waeth mewn gwlad arall. Felly, dyna pam mae hi mor bwysig sicrhau bod gweithredu'n cymryd lle ar draws y byd a'n bod ni'n chwarae rhan hanfodol yn hynny.
87
Mae'n bwysig dros ben ein bod ni yng Nghymru yn chwarae ein rhan. Mae'n bwysig hefyd, wrth gwrs, fod pob gwlad yn y byd yn chwarae ei rhan. Nid yw'n ddigonol i ni leihau beth yr ŷm ni'n ei wneud, os yw pethau'n gwaethygu mewn gwlad arall, a dyna pam mae mor bwysig, wrth gwrs, i sicrhau ein bod ni'n gweld gweithredu'n cymryd lle ar draws y byd a'n bod ni yng Nghymru yn chwarae rhan hanfodol.
88
Wel, un ffordd o wella'r amgylchedd, wrth gwrs, ac allyriadau yn wir, yw buddsoddi mwy mewn ynni cynaliadwy, a gwn fod hwnnw'n fater sy'n codi yn ei ran ef o'r byd. Mae'n amlwg fod rhai ffurfiau ar ynni sy'n llygru llawer llai nag eraill, a dyna'r trywydd sy'n rhaid i ni a'r byd ei ddilyn yn y dyfodol. Un ffordd o fuddsoddi ymhellach, wrth gwrs, er mwyn lleihau allyriadau carbon yw buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Mae metro de-ddwyrain Cymru yn enghraifft o hynny, fel y bydd systemau metro eraill ledled Cymru, yn Abertawe ac yn wir, yng ngogledd-ddwyrain Cymru i ddechrau. Mae yna ffyrdd eraill hefyd, wrth gwrs, o leihau allyriadau. Er enghraifft, os oes gennych broblemau gyda thraffig, lle mae traffig yn segur am beth amser neu'n symud yn araf ar ffordd benodol, bydd ffordd osgoi yn helpu. Rwy'n siŵr y bydd yn gwybod hynny, wrth gwrs, o ystyried y ffaith fod ffordd osgoi'r Drenewydd yn mynd rhagddi. Bydd hynny'n helpu i leihau allyriadau, rwy'n siŵr, yn ei etholaeth.
89
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn ogystal â'r 190,000 o swyddi yng Nghymru yn unig sy'n dibynnu'n uniongyrchol ar gyllid gan yr UE, mae fy etholwyr hefyd yn elwa ar yr hawliau pwysig a gafwyd yn sgil aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, boed hynny'n absenoldeb â thâl - [Torri ar draws.] Esgusodwch fi - amser o'r gwaith mewn argyfwng, toriadau egwyl yn ystod y dydd, deddfwriaeth iechyd a diogelwch, a gallaf fynd ymlaen. Rydych hefyd wedi sôn am drethiant mewn perthynas â thariffau y byddai'r blaid gyferbyn yn hoffi eu dadlwytho ar Gymru. Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Yn wyneb hyn - a dyma fy nghwestiwn, Lywydd - beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn hawliau gweithwyr yn wyneb Thatcherwyr ailanedig yn y Siambr hon a fyddai'n ein gyrru yn ôl i'r 1980au?
90
Bydd y Prif Weinidog yn gwybod am Ffordd Goedwig Cwmcarn, atyniad sy'n gaffaeliad i ardal Islwyn ac un sydd wedi elwa ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Er mwyn goresgyn anawsterau diweddar ar Ffordd Goedwig Cwmcarn, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno y gallai cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol fod yn allweddol, ac a fyddai'n cytuno ymhellach ac yn ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddatgloi'r holl ffynonellau cyllid posibl i sicrhau dyfodol i Ffordd Goedwig Cwmcarn?
91
Brif Weinidog, rhwng 2014 a 2020, bydd Cymru yn elwa ar oddeutu £1.8 biliwn o fuddsoddiad y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i gefnogi cymunedau megis Islwyn. O ystyried y rhybuddion diweddar y gallai'r cyllid hwn ddod i ben ar ôl 2020, hyd yn oed os yw'r DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, pa gamau a gymerwch i sicrhau bod dyfodol i gyllid strwythurol Ewropeaidd ar gyfer Cymru?
92
Yn amlwg, rydym i gyd yn gwybod nad oes y fath beth ag arian Ewropeaidd; arian Prydeinig ydyw, sy'n dod yn ôl i ni ar ôl iddynt ddwyn ei hanner. Ond a gaf fi ddweud, efallai nad yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol fod pobl yn ystyried mai Islwyn yw'r etholaeth fwyaf Ewrosgeptig yng Nghymru? A allwch chi feio'r etholaeth? Er enghraifft, llafur mudol, bron yn gyfan gwbl, sy'n cael ei gyflogi gan y rhan fwyaf o'r ffatrïoedd ar ystâd Oakdale yn Islwyn, fel sy'n wir, wrth gwrs, drwy Gymoedd y de benbaladr. A hoffech chi roi sylwadau ar hynny, os gwelwch yn dda?
93
Bydd y rhaglen cau llysoedd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fynediad at gyfiawnder yng Nghymru. Rŷm ni wedi anfon ymateb trwyadl at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac er bod y penderfyniad wedi cael ei wneud, mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni wedi gwasgu'n gryf arno er mwyn er mwyn sicrhau bod yna ddigon o lysoedd yng Nghymru. Ond, yn anffodus, nid felly yw barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
94
Wel, mae'r adeilad ei hunan, wrth gwrs, yn hen adeilad. I fi, mae'n adeilad pwysig; dyna'r adeilad lle y gwnes i erlyn am y tro diwethaf yn Llys y Goron, sawl blwyddyn yn ôl nawr. So, mae yna rai sydd yn y carchar - wel, dim rhagor, nid wyf yn credu, o'm hachos i. Nid wyf yn credu bod hynny'n lot fawr o help ynglŷn â chefnogaeth yn y pen draw, ond, na. A gaf i ofyn, felly, i'r Aelod i ysgrifennu ataf fi ac fe wnaf i wrth gwrs ysgrifennu at y Llywodraeth yn Llundain er mwyn sicrhau bod yna ateb ac er mwyn sicrhau bod yna fodd i bobl leol gymryd drosodd adeilad sydd yn hollbwysig i etifeddiaeth a hanes y dref?
95
Un o egwyddorion sylfaenol cyfraith Cymru tan 1536, ac egwyddor sylfaenol o'r hyn y byddem yn awr yn ei ddisgrifio, mae'n debyg, fel cyfraith Cymru a Lloegr ers hynny, yw bod cyfiawnder yn dod at y bobl. Dyna'r rheswm pam y mae ynadon yr Uchel Lys yn teithio o gwmpas. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf awgrymir yn awr fod rhaid i bobl gyrchu cyfiawnder, a theithio pellter hir, a phan fyddant yn cyrraedd, nid ydynt yn cael cynrychiolaeth chwaith, tra'u bod wrthi. Mae hynny'n dangos faint o ddirywiad a fu yn y system gyfiawnder, ond rwy'n cytuno'n llwyr ag ef fod angen adolygu'r effaith ar bobl, oherwydd fel rhywun a fu'n gweithio yn y llysoedd am lawer iawn o flynyddoedd, ni allaf weld dim yn awr ond pethau'n arafu a chyfiawnder naill ai'n cael ei wadu neu ei ohirio i ormod o bobl.
96
Credaf fod hynny'n gwneud synnwyr perffaith. O ran y llysoedd troseddol, wrth gwrs, mae angen iddynt gael celloedd wrth law, felly maent mewn categori gwahanol i'r llysoedd sirol, sydd wedi bod mewn adeiladau gweinyddol ers blynyddoedd lawer ar draws Cymru. Ond rwy'n credu bod yr awgrym o rannu adeilad neu gyfleusterau penodol yn gwneud synnwyr perffaith er mwyn darparu gwasanaeth cydgysylltiedig a chyson i'r cyhoedd.
97
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ateb, ac arhosaf i glywed rhai o'r pwyntiau, ond un o'r materion rwyf am dynnu sylw ato yw'r ffaith, ers y cyhoeddiad ym mis Ionawr am golli 1,000 o swyddi, gyda 750 ohonynt yn fy etholaeth i, yng ngwaith Port Talbot, ein bod wedi gweld y rhan fwyaf o'r swyddi hynny'n mynd go iawn, ac ar ddiwedd y mis hwn bydd gweddill y swyddi hynny'n mynd. Nawr, mae'r rhannau cynharach wedi bod drwy ddiswyddo gwirfoddol neu ymddeoliad cynnar, ond mae'r pentwr nesaf o swyddi sy'n mynd i gael eu colli yn mynd i gynnwys diswyddiadau gorfodol. Hoffwn wybod a yw'r tasglu yn awr yn paratoi ar gyfer y cyfnod hwn o golli swyddi i helpu'r bobl sy'n mynd i fod allan o waith, a'u teuluoedd yn arbennig, a fydd yn wynebu amser heriol dros y misoedd nesaf.
98
Brif Weinidog, yng nghofnodion blaenorol y tasglu nodais fod Nick Bourne wedi cynnig creu seminar ar ddympio dur fel y gallai'r cwmnïau dur ddod at ei gilydd i drafod y posibiliadau hynny. Yn bersonol rwy'n teimlo fod hynny'n fwy perthnasol nag erioed o ystyried ein bod yn clywed llawer o anwireddau amlwg gan rai yn y Cynulliad hwn mewn perthynas â dympio dur o Tsieina. A yw'r seminar honno'n mynd i ddigwydd, ac os ydyw, a allwch ddweud wrthyf beth fydd yn digwydd gyda'r seminar a phwy fydd ynghlwm â hi fel y gallwn gael trafodaeth genedlaethol ar adeg hollbwysig, cyn y bleidlais ar Ewrop?
99

Data Calibro Exl2

Detholiad o Cofnod y Cynulliad Cymraeg i'w ddefnyddio yng ngham calibro ExLlama 2 wrth drosi modelau i fformat exl2.

Downloads last month
36