text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Mater i Lywodraeth y DU yw hwn wrth gwrs ond byddaf yn ystyried ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i weld a yw wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â'r angen am ymchwiliad.
100
Rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod yna achos cryf dros ymchwiliad o'r fath. Gwelsom oll yr hyn a ddigwyddodd gyda Hillsborough, a faint o amser a gymerodd i'r gwirionedd ddod allan. Yn fy marn i, mae'n rhaid i'r un peth ddigwydd gydag Orgreave. Nid oedd y 1980au yn gyfnod o dryloywder, gyda Llywodraeth nad oedd yn credu mewn parchu hawliau pobl. Wel, mae'n rhaid i'r gwir ddod allan, ac mae ymchwiliad yn un ffordd o wneud hynny.
101
Mae hynny'n iawn, wrth gwrs; rwy'n gwybod y stori ynglŷn â beth ddigwyddodd yn y fanna. Beth sy'n bwysig dros ben yw ein bod ni'n gallu gweld y gwir, bod yna ymchwiliad, ein bod ni'n deall beth yn gymwys digwyddodd, ac felly beth wnaeth ddim digwydd. Ond, beth sy'n bwysig yw bod y gwirionedd yn cael ei roi o flaen pobl Prydain er mwyn eu bod nhw'n gallu ystyried beth ddigwyddodd 30 mlynedd yn ôl.
102
Mae yna ddau beth fan hyn sy'n bwysig: yn gyntaf, wrth gwrs, sicrhau bod pobl ifanc yn chwarae chwaraeon ac yn gweld pêl-droed fel rhywbeth i'w wneud er mwyn helpu eu hiechyd nhw ac, yn ail, wrth gwrs, sicrhau bod proffil Cymru yn cael ei godi nid dim ond yn Ewrop, ond ar draws y byd. Fe welon ni beth ddigwyddodd gyda Gweriniaeth Iwerddon yn 1990 pan aethon nhw i gwpan y byd. Gwnaeth e fyd o wahaniaeth i'w heconomi nhw a hefyd i'w twristiaeth nhw. Ces i gyfarfod yr wythnos hon gyda swyddogion i weld pa fath o baratoadau sydd wedi cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod proffil Cymru yn cael ei godi yn Ffrainc. Mae'r paratoadau hynny yn symud ymlaen yn dda, nid dim ond ym Mharis, wrth gwrs, ond yn y tair dinas lle mae'r gemau yn cael eu chwarae - wel, y tair gêm gyntaf sy'n cael eu chwarae - ar ran tîm Cymru.
103
Yn bendant. Roedd yn bleser gennyf agor yr academi yng Nghasnewydd, yr academi genedlaethol. Darparwyd cymorth ariannol gennym i'r FAW er mwyn ei sefydlu. Mae'n hynod o bwysig fod gennym gyfleusterau modern gyda mynediad at hyfforddiant da ar lefel elitaidd chwaraeon er mwyn sicrhau lefel uchel o berfformiad. Ond mae'n bwysig hefyd i ni wneud yn siŵr fod y cyfleusterau yn eu lle i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel a dyna'n union y byddwn yn parhau i'w wneud, gan weithio gyda sefydliadau fel Chwaraeon Cymru.
104
Mae'n bwysig deall hynny, a dyna pam y buom yn gweithio gyda'r FAW a'r ymddiriedolaeth i sicrhau bod llwyddiant disgwyliedig tîm Cymru yn cael ei adlewyrchu ar draws pob cwr o'n cenedl, ond yn arbennig wrth gwrs, ei fod yn cael ei weld fel cymorth i ysgogi buddsoddiad yn yr economi a thwristiaeth ym mhob rhan o Gymru am fisoedd a blynyddoedd i ddod.
105
Un o'r problemau gyda pharthau cefnogwyr - . Rwyf wedi gweld rhywbeth gan Gaerdydd ac rwy'n credu bod gan Abertawe ac efallai Casnewydd gynlluniau tebyg - nid ydynt wedi gofyn am gymorth gan y Llywodraeth. O'n safbwynt ni, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus. Os ydym yn cynnig cymorth i un, rhaid iddo fod yn gymorth i bawb ac mae terfyn, wrth gwrs, ar faint o gymorth ariannol y gellir ei gynnig. Ond rwy'n croesawu'r ffaith fod parthau cefnogwyr yn cael eu sefydlu ac y byddant yn cael eu sefydlu ar draws nifer o drefi a dinasoedd yng Nghymru.
106
Weinidog, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar yr anghydfod diwydiannol parhaus rhwng Amgueddfa Cymru ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol. Fel y gwyddoch, mae'r staff wedi bod ar streic am gyfnod amhenodol ers 21 Ebrill. Rwy'n credu bod y staff yn dioddef caledi o ganlyniad i hynny, yn enwedig yn Big Pit lle mae'r streic wedi bod yn gadarn; mae'r amgueddfa wedi bod ar gau ers nifer o wythnosau, ac rwy'n talu teyrnged i'r staff am yr ymrwymiad y maent wedi'i ddangos. Croesawaf ymdrechion cynnar yr Ysgrifennydd newydd i ddatrys yr anghydfod hwn yn fawr, ond mae angen ei ddatrys ar frys bellach, a byddwn yn ddiolchgar pe bai'n fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ei ymdrechion.
107
Diolch yn fawr i Simon Thomas am ei gwestiynau cyntaf i'r datganiad busnes yn y pumed Cynulliad hwn. Wrth gwrs, bydd Simon Thomas yn amlwg yn ymwybodol o'n sefyllfa ddatganedig fel Llywodraeth Cymru mai'r hyn sydd orau i Gymru yw bod yn aelod o'r Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, ac yn amlwg, rydym yn gobeithio y bydd hynny'n cael ei adlewyrchu yng nghanlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod hefyd yn tynnu sylw at yr effaith niweidiol, ac rydym wedi cael cyfle i rannu rhai o'r pwyntiau hynny sy'n peri pryder y prynhawn yma, fel sy'n briodol. Rwy'n meddwl mai dyna ble byddwn am ganolbwyntio ein hymdrechion ar hyn o bryd. O ran eich ail bwynt am brisiau llaeth, rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig eisoes wedi gallu dechrau trafodaethau gyda chynrychiolwyr yr undebau ffermio, ac edrych ar faterion allweddol sy'n wynebu ac yn peri pryder i'r sector ffermio. Ac wrth gwrs, bydd y rhain yn faterion y bydd yn edrych arnynt yn ofalus iawn. Wrth gwrs, o ran lleihau maint dosbarthiadau babanod i lai na 25 o ddisgyblion, mae'n fater pwysig iawn i rieni ac wrth gwrs, gall effeithio'n gadarnhaol iawn ar lwyth gwaith athrawon. Mae'n faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru; mae'n deillio o'n cytundeb blaengar a gydlofnodwyd gyda'r Prif Weinidog a Kirsty Williams, ac yn awr, fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud wrth ateb cwestiynau y prynhawn yma, bydd hyn yn amlwg yn cael ei ddwyn ymlaen yn y ffordd orau ar gyfer cyflawni hynny.
108
Diolch i'r Aelod dros Gwm Cynon am y cwestiwn pwysig hwn. Mae'n hanfodol, wrth gwrs, ein bod yn cynyddu lefelau adeiladu tai ac yn cefnogi cyflogaeth o ganlyniad i hynny - blaenoriaethau allweddol, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru. Mae adeiladwyr tai yng Nghymru yn mynnu nad ydynt yn bancio tir ac nid yw'r model busnes yn caniatáu iddynt ddal gafael ar asedau nad ydynt yn gweithio iddynt. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod y defnydd gorau'n cael ei wneud o dir o ran cyflymu'r gyfradd adeiladu tai, gan gynnwys, wrth gwrs, yn eich etholaeth chi. Rydym yn gwneud gwaith pellach ar archwilio a yw bancio tir yn broblem sylweddol yng Nghymru a bydd hynny'n cynnwys ailystyried a oes modd dysgu gwersi o adolygiad Barker o'r cyflenwad tai - roedd hynny yn ôl yn 2004 - ac adolygiad Lyons 2014. Roedd hwnnw'n gwneud argymhellion penodol iawn ac wrth gwrs, byddwn yn ymateb i'r rheini - rydym yn ymateb i'r rheini, ond byddwn yn edrych eto i weld a yw hon yn broblem sylweddol. Felly, diolch i Vikki Howells am ofyn y cwestiwn.
109
A gaf fi ychwanegu fy nghefnogaeth i sylwadau Lynne Neagle am y streic yn yr amgueddfa? Rwy'n credu bod gwir angen datrys hyn ar frys. Yn dilyn y ddadl a'r trafodaethau a gafwyd yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, a fyddai'n bosibl cael dadl yn amser y Llywodraeth am weithrediad y Bil cynllunio ac yn benodol, yr elfen cynllunio strategol a gafodd ei chynnwys yn y Bil hwnnw? Mae fy nghyd-Aelod, Hefin David, yr Aelod Cynulliad dros Gaerffili, a minnau wedi bod yn bryderus iawn ynghylch y posibilrwydd o ddatblygu ar fynydd Caerffili. Rydym yn awyddus nid yn unig i warchod yr amgylchedd unigryw, ond hefyd i ymdrin â'r cynnydd posibl mewn traffig a thagfeydd. Mae'n ymddangos yn bwysig iawn y dylid edrych yn strategol ar yr ardal gyfan. Felly, a fyddai'n bosibl cael dadl yn amser y Llywodraeth er mwyn edrych ar y mater hwn?
110
Cyn gofyn cwestiwn a gwneud fy sylw, a gaf i ddatgan diddordeb gan fod fy ngwraig yn ddiweddar iawn wedi cael ei gwneud yn bartner ym musnes ffermio ei theulu? Ond yr hyn y byddwn i'n gofyn amdano yw datganiad buan gan Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddynesiad y Llywodraeth newydd tuag at fynd i afael â TB mewn gwartheg. Nawr, wrth ymateb i gwestiwn yn y Siambr yma bythefnos yn ôl, mi ddywedodd y Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu: 'Un o'r pethau cyntaf y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno fydd y camau nesaf o ran ymdrin â TB mewn gwartheg.' Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, fod y polisi brechu ar stop. Rŷm ni'n gwybod hefyd fod tystiolaeth newydd yn dod o gyfeiriad Lloegr, lle mae yna bolisi o ddifa moch daear, ac mae yna wersi, yn amlwg, i'w dysgu yn hynny o beth. Felly, mi fyddwn i'n gofyn i chi sicrhau bod yna ddatganiad buan iawn yn dod ar bolisi'r Llywodraeth newydd yn y maes yma.
111
Weinidog, a allwn gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar gwmni bysiau Silcox? Fe fyddwch yn gwybod bod y cwmni 134 mlwydd oed yn Noc Penfro wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ddydd Llun a bod hynny wedi arwain at golli tua 40 o swyddi. Wrth gwrs, mae'n drist iawn fod cwmni gyda'r fath hanes a gwreiddiau yn y gymuned wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Serch hynny, rhaid i ni roi sylw yn awr i'r rhai yr effeithiwyd arnynt yn sgil colli swyddi a diogelu'r gwasanaethau roedd Silcox yn eu gweithredu yn Sir Benfro, yn enwedig cludiant i'r ysgol a gwasanaethau bws lleol hanfodol. Tybed felly, Weinidog, a allwn gael datganiad a fyddai'n rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r gymuned honno ein bod o ddifrif ynghylch y pryderon hynny yma.
112
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i ddarparu'r newyddion diweddaraf i'r tŷ am y mesurau arbennig a'u heffaith yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Bydd y Gweinidog yn gwybod bod 12 mis bellach ers i'r bwrdd gael ei wneud yn destun mesurau arbennig ac ers cyhoeddi adroddiad gwarthus ar ofal iechyd meddwl ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd. Ac eto, yn ôl y papurau diweddaru a ddarparwyd i gyfarfod diweddaraf y bwrdd iechyd, nid oes unrhyw strategaeth iechyd meddwl ar waith o hyd ar gyfer y bwrdd iechyd, ac nid yw'r naill na'r llall o'r ddau adolygiad a gomisiynwyd gan y bwrdd ar ganlyniad sgandal Tawel Fan wedi'i gwblhau. Nid oes neb wedi colli ei swydd o ganlyniad i'r sefyllfa ofnadwy a ddigwyddodd ar y ward honno, ac mae'n hen bryd i rywun dalu am hyn. A allwn gael y wybodaeth ddiweddaraf ar frys er mwyn i ni allu ystyried hyn, gan fy mod yn credu bod pobl gogledd Cymru yn haeddu llawer gwell?
113
Hoffwn ychwanegu fy llais at gais Julie Morgan am ddadl ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Byddwn yn dweud ei bod yn glod i Lywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi pasio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol i greu cynlluniau datblygu strategol. Ond yn benodol yn y ddadl, hoffwn weld trafodaeth ar y cynllun strategol ar gyfer de-ddwyrain Cymru, gan gynnwys y 10 awdurdod lleol. Rwy'n teimlo nad yw cynlluniau datblygu lleol yn cysylltu'n dda iawn, ac mae'r broses gynllunio strategol yn ffordd o ddatrys y pwysau anochel ar awdurdodau lleol. Ac un gair am y ffordd y dylid cynnal y ddadl; rwy'n meddwl y gallem fod yn adeiladol yn y ddadl hon. Nid yw'n broblem ar gyfer gwleidyddiaeth plaid, a dyna pam y synnais yn gynharach, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, fod Neil McEvoy - gŵr tawel yn ôl yr hyn a glywais - wedi penderfynu ei gwneud yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol. Nid wyf yn credu bod angen iddi fod yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol - [Torri ar draws.] Nid wyf yn credu bod angen iddi fod yn ddadl rhwng pleidiau gwleidyddol; rwy'n meddwl y gall fod yn ddadl adeiladol. Yr unig ffordd rydym yn mynd i ddatrys y broblem hon yw drwy weithio gyda'n gilydd, ar draws y pleidiau. Felly, hoffwn i ni fyfyrio ar hynny pan fyddwn yn cynnal y ddadl.
114
Rwy'n symud ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar Fesur Cymru. Rwy'n galw ar Carwyn Jones.
115
Mae gen i saith siaradwr arall. Os ydych i gyd yn gryno ac yn fyr gyda'ch cwestiynau, rwy'n gobeithio mynd drwy bob un ohonoch. Mick Antoniw.
116
Wel, a gaf i ddiolch am y cwestiwn? Mae'n wir i ddweud bod yna gyfle fan hyn i greu setliad cyfansoddiadol cynaliadwy. Mae'r Bil yn mynd peth o'r ffordd tuag at hynny, ond nid yr holl ffordd. I fi, beth sy'n bwysig yw bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn derbyn bod yna faterion yn y Mesur ar hyn o bryd sydd eisiau cael eu datrys. Fel gwnes i sôn amdano yn gynharach, byddaf i'n ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol. Gwnaf yn siŵr y bydd yr arweinwyr yn y tŷ hwn yn gweld y llythyr hynny, ac wrth gwrs unrhyw ymateb. Mae'n bwysig dros ben bod Aelodau yn gwybod beth yw taith y drafodaeth dros yr wythnosau nesaf, gan fod yr amserlen yn mynd i fod yn fyr iawn.
117
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Yr anhawster gyda'r Bil diwethaf, yn y bôn, oedd bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ysgrifennu at adrannau eraill Whitehall a dweud, 'Beth ddylid ei ddatganoli yn eich barn chi?' Nawr, rhaid eu bod wedi meddwl ei bod hi'n Nadolig ar y pwynt hwnnw, a chawsom y Bil a gawsom, Bil a oedd yn anwybyddu hyd yn oed yr hyn a oedd wedi digwydd yn 2011 gyda chanlyniad ysgubol y refferendwm. Dyna pam ein bod wedi cael y Bil hwnnw. Mae'r Bil hwn wedi myfyrio ar y ddau brif fater cyfansoddiadol - mater caniatadau a mater deddfwriaeth a'n gallu i greu deddfwriaeth yn rhydd. Mae hynny wedi'i wneud, a chroesawaf hynny. Felly, mae ei strwythur yn llawer mwy diogel na strwythur y Bil blaenorol, ond mae llawer o waith i'w wneud ar y manylion.
118
Rwy'n croesawu'r newidiadau yn y Bil drafft newydd. Nid wyf yn credu ei fod yn mynd yn ddigon pell, ond rwy'n meddwl bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, felly mae'n groeso gofalus. Mae gennyf ychydig o gwestiynau cyflym. Rwy'n meddwl bod croeso cyffredinol i'r ffaith fod trefniadau etholiadol yn mynd i gael eu datganoli i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at yr amser pan fydd modd i'r Cynulliad bleidleisio dros bleidleisiau ar gyfer rhai 16 a 17 oed yn etholiadau'r Cynulliad. Rwy'n credu mai dyna un o'r pethau gwych yn y Bil na ddylem ei anghofio: y bydd gennym y pŵer hwnnw. A gaf fi ofyn hyn i'r Prif Weinidog: a fyddai'n rhoi'r pŵer i ni alluogi awdurdodau lleol i gael pleidleisiau i rai 16 a 17 oed? Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwnnw hefyd. O ran mater plismona, rwy'n credu ei bod yn siomedig iawn nad oes unrhyw symud wedi bod ar fater plismona a byddwn yn gofyn i'r Prif Weinidog wneud popeth yn ei allu yn ystod y cyfnod trafod ar gyfer y Bil hwn i geisio newid meddyliau Llywodraeth San Steffan gan nad oes esboniad drosto, yn enwedig o ystyried y ffaith fod plismona wedi'i ddatganoli i bob un o'r cyrff datganoledig eraill. Yn olaf, tybed a allai fynd i'r afael â mater cyfiawnder ieuenctid. Yn ôl yr hyn a ddeallaf ar hyn o bryd, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, ond nid y system cyfiawnder ieuenctid, a chredaf fod hynny'n ddryslyd iawn ac yn rhywbeth y gellid ei wneud yn gliriach yn syml iawn, yn ôl pob tebyg. A yw'n bosibl gwneud hynny yn y trafodaethau ar y Bil hwn?
119
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. I'r rhan fwyaf o bobl Cymru, rwy'n credu nad yw rhai o'r materion ym Mil Cymru, materion rydym i gyd yn eu trafod ac yr ymddengys ein bod yn meddwl eu bod yn bwysig iawn, yn faterion y maent yn pryderu yn eu cylch go iawn. Yr un mater pwysig y mae bron bawb yn mynd i fod yn bryderus amdano, a'r mater rwy'n ei ofni, yw'r pwerau codi trethi a'r posibilrwydd o'u cael heb refferendwm. Yn 2011, pan gawsom y refferendwm ar bwerau pellach, dywedwyd wrthym bryd hynny nad oedd yn ymwneud â chael mwy o ACau ac nid oedd yn ymwneud â phwerau codi trethi: ymarfer tacluso ydoedd. Yn awr cawn wybod bod gan y ddwy Lywodraeth - y Llywodraeth yma a'r Llywodraeth yn San Steffan - gonsensws cysurus rhyngddynt a'u bod wedi penderfynu nad oes gwir angen i ni gyflwyno hyn gerbron pobl Cymru. Wel, mae Leanne Wood ei hun newydd sôn bod yn rhaid glynu at ewyllys pobl Cymru, a siaradodd Andrew R.T. Davies am y ffaith fod yn rhaid i'r tŷ hwn siarad ag un llais. Nid yw'r tŷ hwn yn siarad ag un llais. Mae saith AC UKIP yma ac nid ydym yn cytuno - [Torri ar draws.] Nid ydym yn cytuno y dylid cael pwerau codi trethi heb refferendwm. Y flwyddyn nesaf, ceir etholiad i bob aelwyd yng Nghymru, ar gyfer y cynghorau. Yn 2017, mae etholiad ar gyfer pob cyngor. Os ydych am arbed arian, os ydych am fod yn ddemocrataidd a'ch bod am roi llais i bobl Cymru ar y mater hollbwysig hwn, pam na chawn ni refferendwm ar yr un pryd yn union a chaniatáu i bobl Cymru leisio'u barn? A ydym am i'r Llywodraeth hon yma gael pŵer dros eu pyrsau a'u waledi? Nid wyf fi yn bersonol am weld hynny.
120
Gallaf roi sicrwydd pendant fod hynny'n wir am Shotton, am Drostre ac yn wir, y gwaith yng Nghasnewydd hefyd. Gwn fod rhywfaint o ofn ymhlith y gweithwyr hynny, pa bryd bynnag y siaredir am ddur, mai am Bort Talbot y sonnir bob amser. Yno mae'r cyflogwr mwyaf, wrth gwrs, ond gwyddom fod ein holl weithfeydd dur yng Nghymru yn hynod o bwysig a gwyddom eu bod yn gyd-ddibynnol. Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod wedi ymweld â Shotton yn fuan iawn ar ôl y cyhoeddiad; gwnes yr un peth gyda'r holl weithfeydd ledled Cymru a byddaf yn parhau i wneud yn siŵr fod y diwydiant dur yng Nghymru yn cael ei weld fel un diwydiant cyfan sy'n rhaid ei brynu yn ei gyfanrwydd, a'i ddatblygu, a buddsoddi ynddo yn y dyfodol.
121
Yn hollol, a gwn fod yr Aelod wedi bod hyrwyddo'r diwydiant dur yn huawdl yn ei ddinas. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod gan Gasnewydd farchnad allforio sylweddol hefyd - mae tua 30 y cant o'r dur a gynhyrchir yn cael ei allforio ac maent yn llwyddiannus ac yn broffidiol. Mae'n hynod o bwysig fod ffyniant a chynaliadwyedd yr holl safleoedd yng Nghymru yn y dyfodol yn cael sylw. Ond unwaith eto, maent i gyd yn gysylltiedig â Phort Talbot a'r dur sy'n cael ei wneud ym Mhort Talbot sy'n bwydo'r gwaith a gyflawnant. Felly, gallaf roi sicrwydd i'r gweithwyr yn Shotton, yn Nhrostre, yng Nghasnewydd ac wrth gwrs, ym Mhort Talbot ein bod yn gweld y diwydiant dur yn integredig yng Nghymru, yn broffidiol yng Nghymru, ac yn meddu ar ddyfodol yng Nghymru, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i siarad dros bawb o'r gweithwyr hynny.
122
Mae pawb yng ngrŵp y Blaid yn dymuno taith lwyddiannus, bleserus a diogel i Ffrainc i dîm pêl-droed Cymru a'r holl gefnogwyr. Mae cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 yn gwireddu breuddwyd i lawer ohonom, ac mae cyflawniad y chwaraewyr, y rheolwr a'r FAW wedi bod yn enfawr, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn mynd i Ffrainc, yn chwarae pêl-droed gyda gwên ar eu hwynebau ac yn ein gwneud ni i gyd yn falch ohonynt. Rwy'n falch eich bod wedi sôn hefyd am gyfraniad enfawr Gary Speed. Mae pawb yma'n gwybod bod chwaraeon mor bwysig i Gymru, felly rwyf ychydig yn ddryslyd ynghylch ymagwedd y Llywodraeth, mewn gwirionedd. Ar y naill law, mae gennym Weinidog ar gyfer chwaraeon elitaidd, ac ar y llaw arall mae gennym Weinidog dros chwaraeon ar lawr gwlad. Un cwestiwn: er mwyn cyrraedd y lefel elitaidd mewn chwaraeon onid ydych yn sylweddoli eich bod angen chwaraeon ar lawr gwlad? Mae hollti'r portffolio yn dweud wrthyf nad ydych ormod o ddifrif ynglŷn â hyn. Felly, y cwestiwn cyntaf, mewn gwirionedd, yw: a allech ddweud wrthyf beth yw chwaraeon elitaidd? Yn ail, i symud ymlaen, filltir i lawr y ffordd mae yna gae pob tywydd, sydd wedi'i gloi ac yn wag, ac nid oes neb yn chwarae arno, bron byth. Mae'r plant lleol yn Grangetown wedi'u cloi allan, mewn rhai achosion gyda'u hwynebau'n gwasgu yn erbyn y ffens, yn methu â chwarae oherwydd bod cyngor Llafur Caerdydd eisiau iddynt dalu rhwng £34 a £39 yr awr. O ran chwaraeon elitaidd, sut y mae Gareth Bale yfory yn mynd i fod yn bêl-droediwr elitaidd os nad yw ef neu hi yn gallu defnyddio caeau chwarae am eu bod yn costio gormod? [Torri ar draws.] Felly, a wnewch chi ymuno â mi ar ymweliad â Channel View i siarad â'r plant a'r rhieni? Hefyd, ar lefel ymarferol prosiect etifeddiaeth Ewro 2016, a wnewch chi gomisiynu archwiliad o'r holl gyfleusterau chwaraeon ar hyd a lled Cymru, gyda golwg ar ddatblygu cynlluniau i gael cyfleusterau wedi'u defnyddio er mwyn hyrwyddo datblygiad chwaraeon elitaidd a gwella iechyd y cyhoedd? Finalement, je dirais bonne chance à nos garçons en France et 'Allez les rouges'. Merci. Thank you.
123
Mae'n gyflawniad sylweddol i sgwad Cymru fynd drwodd i rowndiau terfynol pencampwriaeth fawr am y tro cyntaf mewn 58 mlynedd, felly hoffwn ychwanegu llongyfarchiadau grŵp UKIP Cymru at rai pawb arall am lwyddo i gyrraedd yno i Chris Coleman a'i dîm a'r garfan. Mae'n dda gweld ystyriaeth yn cael ei rhoi i chwaraeon ar lawr gwlad yn y dyfodol gyda'r buddsoddiad yn Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau. Drwy gydol y bencampwriaeth efallai y byddai'n syniad - efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthyf a ellir cyflawni hyn - pe bai modd i bob adeilad cyhoeddus yng Nghymru chwifio baner Cymru cyhyd ag y bydd Cymru'n rhan o'r bencampwriaeth mewn gwirionedd. Mae'n bosibl y gallai fod yn fwy trawiadol pe baem yn cael gwared ar faneri'r UE yn y cyfamser oherwydd wedyn byddai'n fwy amlwg, a phwy a ŵyr, erbyn i'r bencampwriaeth ddod i ben, efallai na fydd angen i ni eu codi byth eto. [Chwerthin.]
124
Roeddwn wedi dechrau ofni na fyddai Cymru byth eto yn ennill ei lle mewn pencampwriaeth fawr yn ystod fy oes. Blwydd oed oeddwn i pan aethant drwodd i'r rowndiau terfynol ym 1958; mae'n debyg na fyddai'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon wedi'u geni. Ond mae'n gamp aruthrol i Gymru gyrraedd pencampwriaeth fawr, ac rwy'n falch dros ben eu bod wedi gwneud hynny. Credaf fod angen i ni edrych arno, nid yn unig fel rhywbeth sy'n dda i forâl ac yn dda i hunanhyder yng Nghymru, ac mae hynny'n wir, ond am yr effaith y mae'n mynd i'w chael ar hyrwyddo Cymru. Mewn sawl rhan o'r byd mae Abertawe yn hynod o adnabyddus oherwydd llwyddiant eu tîm pêl-droed. Hynny yw, faint fyddai wedi'i gostio mewn gwirionedd i gael yr un lefel o gyhoeddusrwydd â'r hyn y mae Cymru yn mynd i gael ar y teledu ac mewn papurau newydd print dros yr wythnosau nesaf, a thros y bencampwriaeth gyfan gobeithio? Rwy'n cofio Gwlad Groeg yn ei hennill, rwy'n cofio Denmarc yn ei hennill, felly nid ydym yn gofyn am yr amhosibl. Faint fyddai'n ei gostio mewn gwirionedd i gael y lefel honno o gyhoeddusrwydd i Gymru ag a gawn yn awr? Ond a gaf fi ychwanegu ple, ac rwy'n credu ei bod yn debyg iawn i'r hyn roedd Neil McEvoy yn ei ddweud? Credaf fod angen i ni gael mwy o gaeau chwarae 3G a 4G yng Nghymru oherwydd mae angen i ni gryfhau pêl-droed ar lawr gwlad, ac mae angen cael mwy o bobl ifanc yn ei chwarae a'r cyfle iddynt wneud hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weld tîm pêl-droed y menywod hefyd yn mynd drwodd ac rwy'n siomedig iawn eu bod wedi colli 2-0 neithiwr i Norwich - Norwy, mae'n ddrwg gennyf - sy'n golygu na allant fynd drwodd yn awr. Rwy'n siomedig am hynny, ond credaf, gyda'r cynnydd y mae pêl-droed menywod wedi'i wneud yng Nghymru, y cynnydd y mae pêl-droed dynion wedi'i wneud yng Nghymru, rydym yn sicr yn cyflawni'n well na'r disgwyl a byddwn yn gobeithio y gallwn gael rhagor o gaeau chwarae 3G a 4G allan yno, er mwyn cael mwy o bobl i chwarae am fwy o'r amser. Oherwydd efallai nad ydych wedi sylwi, ond yn y gaeaf yng Nghymru mae'n mynd yn ofnadwy o wlyb ac nid oes modd chwarae ar rai o'r caeau glaswellt am gyfnod hir o amser.
125
Wel, mae'r Aelod yn gwbl iawn. Dyma bencampwriaeth lle gall ambell Ddafydd fod yn hynod o lwyddiannus. Rydym wedi gweld rhai rhyfeddodau mawr mewn pencampwriaethau diweddar gyda chenhedloedd fel Denmarc a Gwlad Groeg yn eu hennill. Mewn gwirionedd, os edrychwn ar safle Cymru a'r timau eraill yn y grŵp, gwelwn fod Cymru ar hyn o bryd yn safle 26 drwy'r byd, a Slofacia yn safle 24, Lloegr yn safle 11 - roeddem ar y blaen i Loegr heb fod yn hir yn ôl - a Rwsia yn safle 29. Mae'n un o'r grwpiau mwyaf cywasgedig a bydd yn anodd iawn rhagweld canlyniad llawer o'r gemau. Felly, rwy'n credu'n gryf os mai Cymru yw Dafydd yn y bencampwriaeth hon, Dafydd fydd fwyaf llwyddiannus. O ran twristiaeth, rydym yn gwneud yn well nag erioed yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rwy'n falch iawn fod Ewro 2016, ac yn 2017, rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, yn gymorth i hyrwyddo Cymru 2017 fel Blwyddyn y Chwedlau, a fydd unwaith eto yn fy marn i yn elwa i'r eithaf ar ein natur unigryw fel lle sy'n meddu ar ddiwylliant a threftadaeth wych. Felly, rwy'n gyffrous iawn am hynny hefyd. O ran llawr gwlad a rôl Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru yn hyrwyddo - . Ac rwy'n meddwl eich bod yn hollol gywir i nodi gêm y merched. Erbyn hyn mae 3,500 o chwaraewyr cofrestredig o dan 18 oed yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae 1,465 o chwaraewyr benywaidd sy'n oedolion, felly gallwn weld bod twf aruthrol wedi digwydd. Ond mae gan Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru uchelgais mawr yn hyn o beth. Eu nod yw tyfu'r gêm. Maent ar hyn o bryd wedi ennill statws safon aur y gymdeithas o dan siarter llawr gwlad UEFA i gydnabod maint a safon y rhaglenni a gyflwynwyd. Ac mae'n ddiddorol i'r Aelodau nodi mai Cymru yw'r genedl gyntaf i ddarparu addysg ar-lein sy'n denu hyfforddwyr o'r radd flaenaf i'n cyrsiau, gan gynnwys Thierry Henry.
126
Mae'r Aelod yn crybwyll pwynt pwysig, ond byddwn yn dweud y byddwn yn hoffi gweld ymwelwyr â Chymru o Loegr yn gallu prynu eitemau pêl-droed sy'n cario baner Cymru yn ogystal â baner Lloegr os ydynt yn dymuno er mwyn gwella economi Cymru. Rwy'n ymwybodol fod yna siopau - ac mae wedi bod yn fater cynhennus - wedi bod yn gwerthu nwyddau Seisnig, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle mae'r ffin yn hydraidd iawn. Nid yw hyn yn newydd i'r digwyddiad hwn; mae hwn yn fater sydd wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer. Rwy'n credu mai'r peth allweddol i ni fel gwleidyddion yw cofio mai hwn yw'r cyfle cyntaf i Gymru gystadlu ers 1958 ac yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn y gallai gwledydd eraill fod yn ei wneud, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn y mae Cymru wedi'i gyflawni a'r hyn y dylai Cymru fod yn ei wneud a dathlu llwyddiant carfan Cymru.
127
Iawn. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chyfraniad? Mae'n gwbl hanfodol, yn enwedig yn ystod y cyfnodau poeth hyn, fod pobl yn yfed cymaint o ddŵr ag o alcohol. Mater i Gyngor Dinas Caerdydd yw pwy sydd ganddynt yn gwerthu lluniaeth, ond fel y dywedais ychydig yn gynharach, rwy'n credu ei bod yn bwysig i gynhyrchwyr Cymru a chyflenwyr o Gymru gael pob cyfle i fanteisio ar y digwyddiad. Mae'r Aelod yn iawn, o ran ymddygiad y cefnogwyr, nid y chwaraewyr yn unig sy'n llysgenhadon dros Gymru tramor, ond y cefnogwyr hefyd - y rhai sy'n teithio dramor a'r rhai sy'n aros yng Nghymru - felly, byddwn yn eu hannog i gyflwyno Cymru yn y ffordd orau a mwyaf parchus posibl ac i ymatal rhag yfed gormod.
128
A gaf i ddiolch i'r Aelod am gyfrannu at y ddadl ar y cynnig yma? Rwy'n cytuno nad yw'n ddelfrydol bod angen atal y Rheolau Sefydlog fel hyn. Fodd bynnag, fe weithiodd amgylchiadau yn ein herbyn ni y tro yma. Fe roedd y Pwyllgor Busnes, fel mae'r Aelod yn ymwybodol, yn ei hystyried hi'n anffodus nad oedd modd cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog ar yr achlysur yma, ond fe wnaeth y Pwyllgor Busnes gytuno i adolygu'r terfyn amser 10 diwrnod sydd wedi arwain at y sefyllfa o gynnig gohirio'r Rheolau Sefydlog yn yr achos yma. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am wneud y sylwadau hynny. Rwy'n symud felly nawr i'r cwestiwn a ddylid derbyn y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
129
Diolch. Rwy'n gofyn, felly, a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Os na, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
130
Diolch. Brif Weinidog, mae uniondeb, a ffydd pobl Cymru yn y Cynulliad hwn yn seiliedig ar y gallu i gredu yr hyn a ddywedir yn y Siambr hon. Ym mis Ebrill 2012, dywedasoch yn gyhoeddus y byddai Llafur yn gweithredu ei gynllun datblygu lleol. Roedd cynlluniau Llafur yn cynnwys caniatáu i fusnesau mawr osod concrit ar ddarnau mawr o safleoedd tir glas ac o ganlyniad i hynny cyhoeddais eich bod wedi cyhoeddi cynlluniau i osod concrit yng Nghaerdydd drwy ddweud y byddai eich plaid yn gweithredu ei Chynllun Datblygu Lleol. Dywedasoch yn y Siambr hon ar 24 Ebrill 2012 bod fy nghyhoeddiadau yn gwbl anwir ac yn gelwydd amlwg - eich geiriau chi, nid fy rhai i. Yr wythnos diwethaf -
131
Mae'r Aelod yn byw mewn byd ffantasi. Mae wedi bod yn byw yno dros y tair blynedd diwethaf ac ni ofynnodd gwestiwn priodol hyd yn oed.
132
Mae heriau gwirioneddol wrth gwrs ar gyfer ardal gyfan de-ddwyrain Cymru. Ni ellir disgwyl i Gaerdydd ar ei ben ei hun, nac unrhyw awdurdod lleol arall, ddarparu tai ar gyfer y rhanbarth cyfan. Dyna pam mae hi'n gwneud synnwyr perffaith, fel y mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Gaerffili, yn ei ddweud, y dylai'r 10 awdurdod lleol weithio gyda'i gilydd er mwyn cael cynllun strategol sy'n mynd y tu hwnt i'r cynlluniau datblygu lleol, na fyddant fyth, ar eu pennau eu hunain, yn gallu bod yn ddigon i fodloni'r galw y bydd llwyddiant economi de-ddwyrain Cymru yn ei osod ar yr ardal leol.
133
Wel, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n ymddangos i mi fod y cynlluniau a geir yn Lloegr wedi'u llunio i rwystro datblygiadau tai ac nid i annog datblygiadau tai. Yr hyn sydd ei angen, wrth gwrs, yw cynllun datblygu a reoleiddir yn briodol fel bod pobl yn gallu gweld lle y bydd datblygu yn digwydd. Nid wyf yn credu bod cynlluniau datblygu lleol, ar eu pennau eu hunain, yn ddigonol mewn ardal economaidd ehangach, a dyna pam mae cynlluniau strategol, yn fy marn i, yn rymus iawn ac o lawer o gymorth wrth ystyried cynllunio ar gyfer y dyfodol.
134
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ddiweddar wedi cymeradwyo gwaith adfer rhannol o ardal glo brig Margam. Ond, wrth gwrs, adfer rhannol yw hwnnw, ac mae llawer o'r trigolion yno yn pryderu am y dyfodol a'r gwagle nad yw'n cael ei adfer, a hefyd, gan ei fod yn nwylo Celtic Energy, i'r gwaith adfer llawn hwnnw gael ei wneud. Roeddwn yn meddwl tybed a allech chi roi ymrwymiad inni yma heddiw, Brif Weinidog, er nad yw hynny'n rhan o'r cynllun, o ran y gwagle, a allech chi geisio dod â phobl at ei gilydd i edrych i adfer hwnnw yn y pen draw, oherwydd rwy'n credu bod pobl yn pryderu, yn enwedig gan fod pobl allweddol yn y cyngor hefyd yn bryderus bellach ynghylch sut y bydd yn cael ei adfer os bydd unrhyw broblemau llifogydd o fewn y gwagle hwnnw.
135
Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr yn falch o groesawu gyda mi y ffaith i'r cais glo brig yn y Farteg, yn fy etholaeth i, gael ei dynnu'n ôl. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd y DU, a wahoddais i ymweld â'r safle y llynedd, ac i Cadw, am eu gwrthwynebiadau, a arweiniodd at i'r cais gael ei dynnu'n ôl. Ond, wrth gwrs, nid yw'r rhan fwyaf o gymunedau yn gallu dibynnu ar gamau diogelu o ganlyniad i fod mewn Safle Treftadaeth y Byd ac mae angen iddynt ddibynnu arnom ni fel Cynulliad Cenedlaethol a'r camau diogelu yr ydym ni yn eu rhoi iddynt. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd yr adolygiad o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2 yn cael ei ddwyn ymlaen fel mater o flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru?
136
Brif Weinidog, bydd yr Aelodau'n gwybod bod y cynlluniau adfer rhannol ar gyfer Parc Slip yn eithaf amhoblogaidd, ac ni fyddai neb ohonom am weld yr hanes y tu ôl i hynny'n cael ei ailadrodd. Ond roeddem yn sôn am hyn yn eithaf manwl dros flwyddyn yn ôl bellach. Mae'r awdurdod lleol yn honni'n gryf nad oes dewis arall i'r cynlluniau. Felly, a yw hysbysiad gohirio Llywodraeth Cymru o fis Ebrill eleni - blwyddyn gyfan yn ddiweddarach - yn arwydd o, efallai, achos cyntaf ac efallai bod dewis arall i'r hyn sy'n cael ei awgrymu gan Gastell-nedd Port Talbot, ac, os nad oes, pa derfynau amser statudol sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag cynnig yr hysbysiad gohirio hwnnw yn gynharach?
137
Rwy'n galw nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog, ac rwy'n galw'n gyntaf yr wythnos hon ar arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
138
Mae'r mwyafrif helaeth o'r taliadau yng Nghymru wedi eu gwneud - dros 90 y cant, os cofiaf yn iawn. Mae, fel y dywed yr Aelod, rai ffermydd trawsffiniol sy'n aros am daliad, a hynny oherwydd ein bod yn aros am ddata. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd, ond rydym yn aros am ddata gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig. Hyd nes bod y data hwnnw ar gael, nid yw'n bosibl gwneud taliad llawn, yn anffodus. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cael ei ddatrys yn gyflym.
139
Wel, nid yw'r ateb yn ein dwylo ni. Rydym ni'n aros am ddata gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig. Rydym yn barod i dalu pan fydd y data hwnnw ar gael. Mae'n anodd iawn integreiddio'r gwaith gweinyddu o ystyried y ffaith bod y cynlluniau talu yn sylweddol wahanol, ac felly y dylai fod oherwydd bod natur ffermio yng Nghymru yn wahanol iawn i natur ffermio ar draws rhan helaeth o Loegr. Ond, cyn gynted ag y bydd y data hwnnw ar gael, byddwn wrth gwrs yn talu ein ffermwyr ac mae gennym hanes da iawn o wneud hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
140
Mae'r Aelod yn gywir i nodi nad yw'r brechlyn ar gael ar hyn o bryd. Gwn fod y Gweinidog wedi cynnal cyfarfod yr wythnos hon - neu yn sicr ddiwedd wythnos diwethaf - i edrych ar y mater hwn. Mae angen symud ymlaen gyda'r gwaith o fynd i'r afael â TB buchol. Ni ellir ei adael i barhau. Mae'r Gweinidog yn edrych ar ba ddull gwyddonol a allai gael ei weithredu er mwyn gwneud yn siŵr bod gostyngiad ym mhresenoldeb TB buchol o leiaf ac, ymhen amser, wrth gwrs, ei ddileu.
141
Ni allwn anfon gwybodaeth allan fel Llywodraeth - mae hynny wedi ei gynnwys yn y cyfyngiadau yn ystod y cyfnod cyn etholiad - ond wrth gwrs, fel gwleidyddion, gallwn gyflwyno ein hachos. Byddaf yn cyflwyno yr achos, fel y gwn y bydd hithau hefyd, dros yr ychydig ddyddiau nesaf, ei bod yn well i Gymru fod yn y DU a'r UE - wel, efallai nid y DU yn ei hachos hi, ond yr UE. [Chwerthin.] Yr UE.
142
Mae'n anodd iawn llunio cynllun wrth gefn pan fo cymaint o ansicrwydd. Does neb yn gwybod beth fyddai'n digwydd pe byddai pleidlais i 'adael'. Sylwais ar y ffaith fod Nigel Farage ei hun wedi dweud yr wythnos diwethaf nad oedd ots os oedd cytundeb masnach o gwbl yn bodoli â'r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n drychinebus i'n ffermwyr ac i'n hallforwyr. I mi, rwyf wedi gweld y ddwy ymgyrch, ac yn y pen draw mae'n dod i hyn: pam y byddem ni'n rhoi rhwystr diangen y byddai'n rhaid i ni neidio drosto o'n blaenau o ran denu buddsoddiad i Gymru? Mae'n fantais enfawr i gael mynediad am ddim i farchnad enfawr, yr UE. Un rhan o ddeg o'r farchnad honno yw'r DU. Gallwn fynd i'r farchnad honno. Mae colli'r gallu i fynd i'r farchnad honno neu beryglu'r farchnad honno yn rhoi mur arall o'n blaenau wrth geisio denu buddsoddiad ac wrth allforio. Y peth olaf sydd ei angen arnom yw ei gwneud yn anoddach i allforio yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu yng Nghymru, ac yn anoddach denu buddsoddiad i Gymru.
143
Unwaith eto, mae'n amhosibl rhagweld beth allai ddigwydd pe byddai pleidlais i adael. Mae canlyniadau difrifol i Ogledd Iwerddon - rhan o'r byd yr wyf yn gyfarwydd iawn, iawn â hi. Mae'r broses heddwch yn seiliedig ar aelodaeth o'r UE ac mae'n anodd rhagweld beth fyddai'n digwydd i'r broses heddwch. Mae'r ffin yn agored gyda thraffordd drosti, a'r ffin honno fyddai'r ffin rhwng y DU a'r UE. Byddai angen rheoli'r ffin a rheoli tollau, felly mae'n golygu cau traffordd, a chau'r rhan fwyaf o'r ffyrdd, fel y digwyddodd yn nyddiau'r Helyntion. Mae hynny'n hynod o anodd i bobl sy'n byw ar yr ynys honno. Mae'n anodd gwybod beth fyddai barn pobl yr Alban, ond mae angen cynnal ailasesiad llawn o'r berthynas rhwng gwledydd y DU o leiaf - ac mae hyn yn wir beth bynnag fydd y canlyniad yr wythnos nesaf, ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen. Nid yw'r cyfansoddiad presennol yn gweithio. Nid yw'r cysyniad o sofraniaeth seneddol yn gweithio, yn fy marn i - rwyf wedi dweud hynny o'r blaen. Rwy'n credu bod angen i ni symud tuag at system o sofraniaeth a rennir. Mae'n digwydd yng Nghanada, ac nid oes unrhyw reswm pam na ddylai ddigwydd yma. Ond nid oes unrhyw amheuaeth, os ceir pleidlais i 'adael' yr wythnos nesaf, na fydd y DU yn gallu parhau fel o'r blaen. Nid yw hynny'n bosibl o gwbl os yw'n dymuno aros yn sefydlog.
144
Felly, mae ef yn erbyn mwy o wariant ar addysg; y mae yn erbyn diddymu tollau Pont Hafren; mae yn erbyn ffordd liniaru'r M4. Mae'r tri pheth hyn yn bethau yr oedd ef, mae'n debyg, o'u plaid yr wythnos diwethaf. Rydym wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r tollau. Byddem yn disgwyl y byddai setliad ariannol teg i adlewyrchu hynny, er mwyn i ni allu cael gwared ar y dreth hon ar bobl sy'n dod i mewn i Gymru. Dyna'r hyn yr ydym ni yn sefyll drosto fel Llywodraeth. Nid yw'n glir beth yw safbwynt ei blaid ef bellach.
145
Ei fenthyg. Dyna'r holl bwynt. Bydd yr arian ar gyfer ffordd liniaru'r M4, sut bynnag y bydd hynny'n edrych, yn cael ei fenthyg. Pwynt hynny yw gwneud yn siŵr ein bod (a) yn gallu ei wneud, oherwydd ni fyddem yn gallu adeiladu ffordd liniaru i'r M4 ar unrhyw ffurf pe na byddem yn benthyg yr arian; ac, yn ail, drwy fenthyg yr arian, nid yw'n tynnu oddi ar y gyllideb ffyrdd. Felly, mae'n golygu bod cynlluniau ffyrdd mewn mannau eraill yn cael eu diogelu yng Nghymru, gallant symud ymlaen, ac mae hynny ar y sail na fyddai ffordd liniaru'r M4 yn cymryd darn o'r gyllideb ffyrdd. Felly, mae'n bosibl gwneud y ddau - fel y mae'r Prif Weinidog ei hun wedi ei ddweud.
146
Na. Eisteddais yma - neu sefais yma, mewn gwirionedd - yn y Siambr cyn yr etholiad, yn gwrando ar arweinydd yr wrthblaid, fel yr oedd bryd hynny, yn dweud y byddent yn gwneud ymrwymiadau gwario ym mhob maes, heb wybod o ble y byddai'r arian hwnnw yn dod. Mae'n gwestiwn dilys ac mae dau ateb iddo. Yn gyntaf oll, ie, bydd yn rhaid inni edrych ar rai o'n hymrwymiadau gwario cyfredol - nid ein hymrwymiadau yn y maniffesto - a bydd hynny'n digwydd yn ystod proses y gyllideb, oherwydd bydd yn rhaid i'r arian ddod o rywle, mae hynny'n wir. Ond, yn ail, er y byddwn yn gweld toriadau mewn termau real yn y grant bloc a gawn, bydd cynnydd yn y swm o arian sydd ar gael. Felly, bydd arian ychwanegol, hyd yn oed os nad yw'n ddigon ar gyfer chwyddiant. Felly, bydd, bydd penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid i ni eu gwneud yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, ond rydym yn hyderus y gallwn ddod o hyd i'r arian a bydd hynny'n dod yn amlwg yn ystod proses y gyllideb.
147
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae gwyddonwyr a phrifysgolion yng Nghymru wedi mynegi'n gryf pa mor bwysig yw aros yn yr UE. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Prifysgol Caerdydd yn unig wedi derbyn cyllid Horizon 2020 ar gyfer 49 o brosiectau gwerth £16.9 miliwn, a bod yr arian hwn yn galluogi'r brifysgol i feithrin perthynas waith gydag arbenigwyr blaenllaw ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd ac i ddatblygu ymchwil arloesol pwysig iawn, megis profi brechlynnau arloesol ar gyfer diabetes math 1, dulliau o buro dŵr gyda phŵer yr haul ac ymchwilio i sut y mae'r ymennydd yn gweithio? A ydym ni eisiau taflu'r holl gyfleoedd hyn i ffwrdd?
148
Fel y mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol, os bydd y wladwriaeth Brydeinig yn aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, mi fydd yn dal llywyddiaeth cyngor yr undeb am chwe mis y flwyddyn nesaf. Byddai hynny'n gyfle euraidd i ddechrau'r broses o adnewyddu Ewrop a chreu partneriaeth sy'n gweithio yn well dros ein dinasyddion ni. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno i sicrhau bod y llywyddiaeth yna yn un sydd ar y cyd rhwng Llywodraethau gwahanol Prydain, gyda Chymru'n chwarae rhan allweddol, a hyd yn oed ystyried cynnal uwch-gynhadledd Ewropeaidd yma?
149
Brif Weinidog, efallai eich bod wedi gweld darllediad 'gadael' yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud y byddai cyfraniadau UE Prydain yn cael eu gwario ar y GIG pe byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym hefyd wedi clywed eu bod yn mynd i gael eu gwario ar warantu cymorth rhanbarthol i Gymru, maent hefyd yn gwarantu taliadau i ffermwyr, ac yn awr, o ryfeddod, o ryfeddod arian hud, mae'n mynd i warchod y symiau sydd yn mynd i brifysgolion Cymru. A ydych chi'n cytuno â mi mai ffordd well o gadw pob un o'r cyfraniadau gwerthfawr hyn i'n heconomi yw pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau nesaf?
150
O gofio mai un o fanteision mawr y Blaid Lafur o fod yn perthyn i'r Undeb Ewropeaidd yw'r ddeddfwriaeth hawliau gweithwyr, yr honnir ei bod yn deillio o Frwsel, efallai y byddai'r Prif Weinidog yn dymuno rhoi sylwadau ar hawliau'r gweithwyr hynny a arferai gael eu cyflogi yn ffatri Bosch sy'n ffinio ar ei etholaeth, ac efallai y gallai adlewyrchu ar y ffaith mai arian Prydeinig, a ddefnyddiwyd mewn cymorth rhanbarthol, a adeiladodd y ffatri newydd sbon yn Hwngari mewn gwirionedd, a gostiodd iddynt eu swyddi, ynghyd, wrth gwrs, â'u holl hawliau gweithwyr.
151
Siaradodd yr Aelod blaenorol am un busnes; hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod 770 o fusnesau wedi eu creu ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys yn fy etholaeth i, Cwm Cynon, diolch i arian yr UE, gan gyflogi pobl leol a chyfrannu at yr economi leol. Brif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod ein haelodaeth barhaus o'r UE a'r gefnogaeth y mae'n ei darparu yn hanfodol er mwyn cyfrannu at amgylchedd lle y gall busnesau yng Nghymru ffynnu?
152
Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach nad oedd eisiau gweld allforwyr yn wynebu rhwystrau uchel diangen, ac, wrth nodi'r heriau i'r diwydiant dur, mae wedi pwysleisio ei farn bod y bunt wedi bod yn rhy uchel. A fyddai felly'n croesawu lefel mwy cystadleuol ar gyfer y bunt, gan gynnwys yn erbyn yr ewro?
153
Fel Llywodraeth sydd o blaid busnes rydym yn cyflawni amrywiaeth o gamau i helpu busnesau newydd a phresennol i ddatblygu, tyfu a ffynnu.
154
Gwnaf. Fel yr wyf yn ei ddweud, mae hanner yr hyn yr ydym yn ei allforio yn mynd i'r UE - ei hanner. Mae'n beryglus i chi ymyrryd â'r farchnad honno. Mae llawer o'n cyflogwyr mwyaf - Ford, er enghraifft, yn fy etholaeth fy hun - yn rhan o weithrediad Ewropeaidd. Dyna pam y mae mynd i'r farchnad Ewropeaidd yn gwbl hanfodol ar eu cyfer; dyna pam y maent yn y DU. Does dim cymhelliant iddynt aros yn y DU os na allant fynd i'r farchnad Ewropeaidd. Nid oes cymhelliant i fuddsoddwyr ddod i mewn i'r DU, oherwydd bod ei marchnad yn rhy fach, os nad ydynt yn gallu mynd i'r farchnad Ewropeaidd. Rydym yn gwybod ein bod yn gallu allforio yn rhydd ar hyn o bryd, rydym yn gwybod bod ein ffermwyr - a'n ffermwyr cig oen yn arbennig, sydd yn gwbl ddibynnol ar allforio i'r UE - yn gallu gwneud hynny. Ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn dweud, 'Rydym yn wlad gadarnhaol, hyderus, nid oes angen i ni i guddio y tu ôl i waliau, nid oes angen i ni roi ein pennau yn y tywod.' Ac arwydd o'r hyder hwnnw yw bod yn rhan o rywbeth mwy, gan sicrhau ffyniant i bawb.
155
Wel, y peth i ni, wrth gwrs, yw sicrhau bod yna fanc datblygu yn cael ei sefydlu, a defnyddio strwythur hynny er mwyn cryfhau'r cynghori sydd ar gael i fusnesau. Mae'n hen broblem, wrth gwrs, ynglŷn â chael mynediad i gaffael ac i gyfalaf. Rŷm ni, wrth gwrs, wedi gweithio'n galed gyda busnesau er mwyn sicrhau bod yna fwy a mwy o fusnesau o Gymru yn gallu cael cytundebau, yn enwedig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac rŷm ni'n gweld bod y nifer hwnnw wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Wrth gwrs, mae yna sawl cynllun mewn lle er mwyn cryfhau'r sefyllfa ymhellach eto.
156
Pe byddai'r Aelod yn ysgrifennu ataf gyda'r gwahoddiad byddaf wrth gwrs yn ei ystyried. Mae'n cyflwyno achos cryf dros y cynllun y mae wedi'i grybwyll. Rydym bob amser yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar gynlluniau sydd wedi gweithio'n effeithiol ledled Cymru gyfan er mwyn gweld sut y gellir eu cyflwyno yng ngweddill y wlad.
157
Nid ydym wedi rhoi'r gorau i'r ymrwymiad i ymgynghori â phobl ar strwythur y gwasanaeth iechyd yn y gogledd ar gyfer y dyfodol, na; mae'r ymrwymiad hwnnw yn parhau i fod mewn grym.
158
Mae'r Aelod yn iawn i ddweud taw marchnad fyd-eang yw meddyginiaeth a nyrsio; mae pobl yn teithio ar draws y byd gyda'r cymwysterau sydd gyda nhw, ac, wrth gwrs, mae yna sawl doctor a nyrs sydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n dod o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd neu o'r tu fas i'r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft y nyrsys yn yr ysbyty ym Mhen-y-bont sy'n dod o'r Philippines, lot fawr ohonyn nhw. Heb y bobl hynny, ni fyddai gwasanaeth iechyd gyda ni yng Nghymru nac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae'n bwysig dros ben nad oes yna rwystr yn cael ei rhoi o'u blaenau nhw fel eu bod nhw'n ffaelu dod i Gymru nac i weddill y Deyrnas Unedig, achos y cleifion fydd yn dioddef o achos hynny.
159
Rwy'n credu y byddai sylwadau'r Aelod wedi bod yn deg ar un adeg; nid wyf yn credu eu bod yn deg nawr. Yn amlwg, fe roesom Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Rydym yn gwybod bod problemau -
160
Mae'r canllawiau hynny yn bodoli eisoes. Mae cod y rheoleiddwyr yn nodi arferion da yn y modd y dylid gweithredu swyddogaethau rheoleiddio, ac mae awdurdodau lleol yn cael eu hannog i weithredu o fewn y cod.
161
Nid oeddwn i'n ymwybodol. Rwy'n gwybod ble Mae'r Union yn Nhremadog. [Chwerthin.] Rwy'n gwybod yn iawn ble mae tafarn yr Union, ond mae'n rhaid i mi ddweud ei fod wedi fy nal yn y fan yna o ran y manylion. Byddaf yn ysgrifennu ato, wrth gwrs. Mae'n codi mater sy'n bwysig i dafarn yr Union, rwyf yn deall hynny - neu yn wir i unrhyw dafarn, ac mae tafarndai wedi wynebu anhawster ers blynyddoedd lawer oherwydd bod arferion yn newid. Fe wnaf ymchwilio i'r sefyllfa, ac fe wnaf, wrth gwrs, roi ateb llawn i'r Aelod.
162
Ni fydd yn syndod i'r Aelod pan ddywedaf y byddaf yn gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ac, wrth gwrs, byddwn yn ceisio darparu llywodraeth leol gyda lefel briodol o gyllid, gan gofio lefel y cyllid yr ydym ni ein hunain yn ei gael gan Lywodraeth y DU.
163
Diolch. Rwy'n falch o glywed hynny, ond roedd eich maniffesto chi yn gosod targed o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050 - rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â hynny, ac mae hynny'n wych o beth, ac rwy'n eich longyfarch chi am osod y ffasiwn darged, sy'n golygu, 34 mlynedd o rŵan y bydd gennym ni ddwbl nifer y bobl sydd gennym ni ar hyn o bryd yn siarad Cymraeg, ond sut ydych chi'n mynd i symud ymlaen i wneud hynny, beth ydy'r camau gweithredol, ac ar beth yn union fyddwch chi'n canolbwyntio, a beth ydy'r amserlen ar gyfer y gweithredu? A fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n ymddangos i'r cyhoedd nad yw'r uchelgais gwleidyddol yno, o gofio eich bod chi, rŵan, wedi symud y Gymraeg allan o'r Cabinet? Mae yna Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg; nid wyf yn amau dim am ei ymroddiad o a'i arddeliad o ynglŷn â'r Gymraeg, ond nid yw, yn ganolog, yn rhan o'r Cabinet erbyn hyn, felly mae rhywun yn amheus o'r uchelgais yma erbyn hyn. A ydych chi'n cytuno efo fi ynglŷn â hynny a sut ydych chi'n mynd i symud pethau ymlaen? Sut ydych chi'n mynd i fy argyhoeddi i bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth yma?
164
A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ddymuno'n dda i ganolfan iaith Tŷ'r Gwrhyd ym Mhontardawe yn fy etholaeth i, sydd newydd lansio gyda buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru? A yw'n cytuno bod rôl sylfaenol i ganolfannau iaith i ddatblygu'r galw yn ein cymunedau am wasanaethau cyhoeddus a busnes wedi'u darparu trwy'r Gymraeg?
165
Brif Weinidog, yn ôl yr arolwg defnydd iaith 2013-15, a gomisiynwyd gan eich Llywodraeth ddiwethaf chi, dangoswyd mai dim ond rhyw 50 y cant o bobl yn sir Benfro, a ofynnwyd, a oedd yn credu bod busnesau'n gefnogol o'r iaith Gymraeg. Yn sgil y ffigwr yma, beth mae'ch Llywodraeth newydd chi'n bwriadu ei wneud i sicrhau bod busnesau'n cael mwy o gefnogaeth er mwyn hybu'r iaith Gymraeg?
166
Rydym yn ymrwymedig i gynnig 30 awr o ofal plant am ddim i blant tair a phedair blwydd oed i rieni sy'n gweithio am 48 wythnos y flwyddyn, y cynnig mwyaf hael yn y DU. Bydd cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
167
Dyna yn union y mae'n rhaid iddo ei wneud. Un peth y mae'n rhaid i mi ei ddweud yw nad oes bwriad i ddisodli darparwyr gofal plant presennol yn hyn. Yr hyn y bydd y cynllun yn ei wneud yw eu helpu, mewn gwirionedd, oherwydd bydd yn golygu y byddant yn cael mwy o incwm nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd, ac, mewn sawl rhan o Gymru, nid yw darpariaeth gofal plant yn bodoli, felly bydd yn helpu i ysgogi darpariaeth gofal plant mewn sawl rhan o Gymru hefyd. Rydym yn gwybod, i lawer o rieni, pan fydd eu plant yn dair a phedair blwydd oed, dyna'r adeg y mae pobl yn ystyried mynd yn ôl i'r gwaith a dyna'r adeg pan mae'n anoddaf a drutaf i gael gafael ar ofal plant, a dyna pam, wrth gwrs, y gwnaethom ni yr addewid hwn.
168
Fe ofynnon ni i Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru edrych ar hwn i weld beth fyddai'r ffordd orau o wneud hyn: ei wneud yn eang, neu ei dargedu at rieni sy'n gweithio. Fe ddywedon nhw, yn ôl eu tystiolaeth nhw, mai'r ffordd fwyaf effeithiol fyddai targedau'r rheini sy'n gweithio, o achos y ffaith bod gan y rhai sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd rwydweithiau anffurfiol sy'n eu helpu gyda phlant. Y peth rydym am ei sicrhau yw ein bod yn gallu hybu pobl yn ôl i mewn i'r gwaith, felly, wrth gwrs, maen nhw'n cael gofal plant am ddim. Dyna beth yw'r egwyddor y tu ôl i'r cynllun fel y mae e.
169
Gwelais yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan ei blaid ef yn yr etholiad. Nid oeddwn yn ei ddeall oherwydd nad oedd yn glir. Roeddem yn hollol glir o ran yr hyn yr oeddem ni yn ei gynnig i rieni sy'n gweithio, ac adlewyrchwyd hynny yng nghanlyniadau gwahanol y partïon, byddwn yn dadlau. Byddwn yn cyflwyno hyn fel yr hyn a oedd y prif addewid o'n pum addewid cyntaf cyn gynted ag y gallwn.
170
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar yr ymgynghoriad 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a ddaeth i ben ychydig cyn y diddymu? Mae'r ddogfen yn ymdrin ag ystod eang o faterion iechyd meddwl pwysig, ond y cynigion ynglŷn â gwlad sy'n ystyrlon o ddementia yr wyf yn dymuno canolbwyntio arnynt. Ar ôl arwain y ddadl fer ym mis Ionawr yn galw am strategaeth genedlaethol, gynhwysfawr i Gymru ar gyfer dementia, sydd wedi ei hadnoddu'n llawn, ymatebais i'r ymgynghoriad gan adleisio'r nodau a'r camau gweithredu y credaf sydd yn hanfodol: hyfforddiant ar ddementia, gweithwyr cymorth, ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, i enwi ond ychydig. O gofio bod yr ymgynghoriad hwn wedi cau erbyn hyn a bod Llywodraeth a Gweinidog newydd ar waith, byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad i roi diweddariad ar y cynnydd hyd yn hyn, gan nodi blaenoriaethau ac amserlenni wrth symud ymlaen.
171
Diolch yn fawr, Simon Thomas. Yn sicr, o ran eich pwynt cyntaf, credaf fod gwerth mewn treulio eiliad i gydnabod y trychineb a'r gyflafan yn Orlando a'r ffaith ein bod wedi dwyn ynghyd llawer o bobl ddoe y tu allan i'r Senedd - aelodau a chefnogwyr y gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, pobl o wahanol grefyddau, gan uno Cymru â chenhedloedd eraill i ddangos cryfder ac undod i bawb sydd wedi eu heffeithio gan yr ymosodiad trasig a hynod drist yn Orlando. Wrth gwrs, roeddem yn gallu cael y munud o dawelwch hwnnw, yn briodol iawn, ar ddechrau'r sesiwn hon heddiw. Fel y dywedasoch, mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn adolygu'r polisi hwnnw, ac rwy'n sicr yn hapus i ddilyn yr un trywydd. Roedd yn dda iawn gweld y faner enfys gyda'r ddraig goch, a chydnabyddiaeth o hynny yn y ffordd y gwnaethom ni fel Cynulliad gyd-dynnu i ddangos ein cefnogaeth. Credaf y gwerthfawrogwyd hynnny yn fawr iawn neithiwr. Ond byddwn hefyd yn dweud, wrth gwrs, bod hyn yn ymwneud â sut mae Llywodraeth Cymru, y Cynulliad a Stonewall Cymru yn gweithio mor agos â'i gilydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol. Rwyf eisiau dweud, ynglŷn â'ch ail bwynt, fy mod innau hefyd yn siomedig iawn. Byddaf yn sicr yn hapus, nid yn unig i fynd at Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, ond hefyd i weithio gydag arweinydd yr wrthblaid, Chris Bryant, ar y mater hwn. Unwaith eto, nid yn unig y mae'n peri siom, mae'n amharchus hefyd o ran yr Uwch Bwyllgor Cymreig, nid yn unig o ran yr hawliadau a'r hawliau hynny, ond hefyd o ran y parch tuag at y ffordd yr ydym ninnau yma, wrth gwrs, yn cydweithio gyda'n dwy iaith.
172
Paul Davies, rwyf i'n hapus iawn i ailadrodd, rwy'n siŵr, yr un geiriau a ddefnyddiais yr wythnos diwethaf o ran cwestiynau ynglŷn â'r datganiad busnes: mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflawni'r dull hwnnw ar sail gwyddoniaeth o ddileu TB buchol. Mae ein rhaglen gynhwysfawr i ddileu TB - sef ein polisi, dan arweiniad Llywodraeth Cymru - yn cynnwys profi gwartheg yn flynyddol, mesurau bioddiogelwch llym a rheolaethau symud. Nod y dull hwn, wrth gwrs, yw mynd i'r afael â holl darddiadau'r haint. Rwyf unwaith eto yn ailadrodd yr ystadegau hynny: rhwng mis Mai 2011 a mis Tachwedd 2015 - dyna'r cyfnod diweddaraf y mae gennym ganlyniadau ar ei gyfer - gwelwyd gostyngiad o 19 y cant yn y duedd mewn achosion newydd o TB yng Nghymru. Nid oes unrhyw arwydd y bydd y mater o gyflenwi'r brechlyn BCG yn cael ei ddatrys yn y tymor byr. Wrth gwrs, pan fydd ar gael, byddwn yn penderfynu ar y ffordd ymlaen o ran brechu yng Nghymru, ac yn parhau i weithredu'r polisïau. Daeth Gorchymyn TB newydd i rym ar 1 Ebrill, gan newid y ffordd o ddigolledu ffermwyr ar gyfer gwartheg a laddwyd oherwydd TB, a nod y newidiadau hynny yw lleihau'r risg o ledaenu'r clefyd drwy annog arfer gorau, ac mae hynny'n dilyn ymgynghoriad llawn â'r diwydiant. Wrth gwrs, mae'n fater o drafod â'r gymuned ffermio, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'n hymrwymiad o ran ein dull cadarnhaol yn ein rhaglen i ddileu TB.
173
Mark Reckless, rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu'r ffaith bod datganiadau llafar gan nifer o Ysgrifenyddion y Cabinet heddiw. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a'n Hysgrifenyddion y Cabinet yn cael y cyfle i roi diweddariad i'r Cynulliad. Wrth gwrs, mae cwestiynau ynglŷn â fy natganiad o'r Pwyllgor Busnes bob amser yn codi materion eraill yr wyf yn gwybod yr hoffech i Ysgrifenyddion y Cabinet wneud datganiadau arnynt, ac, wrth gwrs, byddant yn ymddangos maes o law. Mae hwn yn gyfle, ac rwy'n siŵr y bydd y datganiad y prynhawn yma yn cael ei graffu yn drylwyr ar draws y Siambr.
174
Wel, gwn fod y Gweinidog, gyda chyfrifoldebau blaenorol am dai mewn portffolios blaenorol, yn ymrwymedig iawn, iawn i ddatblygu buddsoddiad, nid yn unig mewn tai cymdeithasol, ond hefyd yn y ffyrdd mwy arloesol o ddarparu tai cymdeithasol drwy'r dull cydweithredol. Wrth gwrs, bu cynlluniau arbrofol a dreialwyd gan y cyn Weinidog â'r cyfrifoldeb hwn, sef Lesley Griffiths, o ran tai cydweithredol fel un llwybr at ffyrdd y gallwn ddarparu'r tai fforddiadwy hynny, gyda ffyrdd newydd o allu eu rheoli hefyd.
175
Bydd y Llywodraeth Cymru hon yn falch iawn o ddarparu'r datganiad hwnnw, Mark Isherwood. Wrth gwrs, fel y dywedwch, er bod hyn dan arweiniad y Gweinidog cymunedau a phlant, bydd hefyd yn cynnwys Gweinidogion eraill, gan gynnwys y Gweinidog iechyd, ac mae'n rhoi cyfle priodol i mi ymateb heddiw, wrth ateb y cwestiwn hwnnw ar y busnes datganiad, y byddwn ni'n llunio datganiad, fel y gwnaethoch alw amdano.
176
Wel, rwy'n hapus iawn i ddarparu eglurhad i arweinydd UKIP, Neil Hamilton, o sut yr ydym yn llwyddo i wneud hyn, sut yr ydym wedi llwyddo i wneud hyn yn y Senedd hon, ac i gynnig pob cwrteisi i chi, fel y gwnaf i bob rheolwr busnes. Mae copïau caled o'n datganiadau llafar yn cael eu dosbarthu i reolwyr busnes y pleidiau drwy eu swyddfeydd, mor agos at 1 o'r gloch ar ddiwrnodau y Cyfarfod Llawn ag y bo modd - rwy'n credu y bydd rheolwyr busnes yn cydnabod hynny - ac mae'n rhaid iddynt, yn amlwg, gael eu cymeradwyo gan Weinidogion. A swyddogaeth rheolwyr busnes unigol yw rhoi'r copïau hynny o'r datganiadau i'r llefarwyr perthnasol yn eu pleidiau. Felly, yn unol â hynny, gwn y cafodd y copïau caled eu rhoi i Mark Reckless, yn unol â'r arfer sefydledig a hir-sefydlog hwnnw. Ond, wrth gwrs, caiff copïau electronig o'r datganiadau llafar wedyn eu hanfon drwy e-bost at yr holl Aelodau, pan fydd y Gweinidog wedi dechrau eu cyflwyno. Rwy'n gobeithio y bydd hynny, unwaith eto, yn parhau yn unol ag arfer arferol.
177
Wel, rwyf yn gwybod am ddiddordeb Jeremy Miles yng ngwaith Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, wrth gwrs, dan gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Davies, cyn Aelod o'r Senedd hon. Fe wnaeth ailymgynnull y llynedd, ym mis Chwefror y llynedd, i edrych ar sut y mae'r argymhellion yn cael eu rhoi ar waith. Bu'n rhaid i bob Gweinidog ymateb wedyn, yn amlwg. Adroddwyd ar eu canfyddiadau yn gynharach eleni - ym mis Chwefror eleni. Bu cynnydd yn ystod y 18 mis hynny, ers cyhoeddi'r adroddiad cyntaf. Mae'n hanfodol bwysig i sicrhau ein bod yn gweld sut mae ffyrdd cydweithredol newydd o weithio a gwneud busnes yn dod yn arfer yn hytrach na bod yn eithriad. Ychydig o enghreifftiau, efallai: cyhoeddi'r cynllun gweithredu modelau cyflawni amgen - a ddeilliodd o'r adolygiad a gynhaliwyd gan Keith Edwards, 'Ai Cydfuddiannaeth yw'r Ffordd Ymlaen? Ffyrdd Newydd o Gynllunio a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru' - a hefyd cyfleuster cymorth newydd, Busnes Cymdeithasol Cymru. Nawr, yn ddiddorol, cyn belled ag y mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn y cwestiwn, prosiect cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop oedd hwnnw. Gwnaethom gyfrannu arian i'r prosiect gwerth £11 miliwn a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cefnogi mentrau a chwmnïau cydweithredol Busnes Cymdeithasol Cymru a ariennir gan yr UE.
178
Yn dilyn y gyflafan yn Orlando a'r wylnos y tu allan i'r Senedd neithiwr, a wnaiff yr Ysgrifennydd Busnes ystyried amserlennu dadl i roi cyfle i Aelodau amlygu meysydd polisi lle y gellid gwneud cynnydd pellach o ran sicrhau mynd i'r afael â'r gwahaniaethu a ddioddefir gan aelodau o'r gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol? Yn yr wylnos neithiwr - a gwn fod y Gweinidog yno - roedd siaradwyr yn amlygu materion sy'n peri pryder yng Nghymru, gan gynnwys troseddau casineb, bwlio homoffobig, yr ydym wedi eu trafod yn y Siambr hon ar sawl achlysur, mi wn, ac anghydraddoldeb o ran rhoi gwaed. Yng ngoleuni'r profiadau ofnadwy yn Orlando, a yw hi'n cytuno y dylem ni asesu ein perfformiad yng Nghymru o ran mynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb? Efallai y byddai cael dadl yn y Siambr yn rhoi cyfle i bob un ohonom rannu'r safbwyntiau hynny.
179
Diolch. Arweinydd y tŷ, tybed a gaf i ofyn i chi am ddiweddariad gan Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros seilwaith a thrafnidiaeth ar ddatblygiad cynllun metro de Cymru. Bydd aelodau'r Cynulliad blaenorol yn cofio fy mhryder mawr pan gafodd Trefynwy ei hepgor o rai o fapiau metro de Cymru, ac wedyn ailymddangosodd ar eraill cyn cael ei hepgor o fapiau dilynol. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am ddiweddariad ar ein sefyllfa o ran sicrhau bod metro de Cymru yn cyrraedd pob ardal o rwydwaith de Cymru y mae i fod i'w chyrraedd, gan gynnwys rhai o'r ardaloedd gwledig mwy anghysbell, nid yr ardaloedd trefol yn unig. Yn ail, a gawn ni ddatganiad cyfredol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a llywodraeth leol ar ein sefyllfa o ran datganoli trethi ac yn benodol y gwaith o ddatblygu swyddogaeth trysorlys Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru? Yn eich swyddogaeth flaenorol, arweinydd y tŷ, roeddech yn ymwneud yn helaeth â hyn. Gwn eich bod wedi trosglwyddo'r awenau bellach i'r Aelod dros Orllewin Caerdydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth i amser fynd yn ei flaen, ein bod yn sicrhau ein bod yn symud tuag at y strwythurau y bydd eu hangen arnom pan fydd rhai trethi yn cael eu datganoli, fel y gall y Cynulliad Cymru hwn a'r Llywodraeth Cymru hon fwrw ati ar unwaith ar yr adeg honno. Mae amser yn prysuro yn ei flaen a chredaf fod angen i ni wybod ein sefyllfa ar hyn o bryd o ran datblygu'r swyddogaethau hynny.
180
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau - y chwe mis cyntaf. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Vaughan Gething.
181
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar adeiladu ar ein llwyddiant ailgylchu ar gyfer economi gylchol. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths.
182
Wel, nid wyf wedi ymgymryd â'r darn hwnnw o waith ym mis cyntaf y portffolio. Ond credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'r posibilrwydd hwnnw o ddod â mwy o swyddi. Soniais y gallem fod yn edrych ar annog busnesau yn y ffordd yr wyf wedi'i chrybwyll ynglŷn ag etholaeth Ken Skates a'r busnes prennau hongian cotiau. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod ein bod wedi gwneud penderfyniad mawr yma yng Nghymru i fod yn genedl sy'n ailgylchu, ac mae angen inni sicrhau, pan fyddwn yn annog busnesau i ddod yma, ein bod yn dangos mai un o'r rhesymau pam yr ydym am fod yn genedl sy'n ailgylchu yw er mwyn cael y cadernid economaidd hwnnw. Felly gallaf eich sicrhau y byddaf, wrth symud ymlaen, yn cael y sgyrsiau hynny.
183
Rwyf yn estyn croeso i'r Ysgrifennydd Cabinet i'w swydd ac yn croesawu ei datganiad a'i hymrwymiad i economi gylchol. Yn amlwg, mae wedi canolbwyntio ar ailgylchu yn y datganiad hwn, a nodaf ei bod yn codi'r potensial ar gyfer ailgylchu pellach drwy ddadansoddi cynnwys y bagiau duon, sy'n dangos bod llawer mwy yno y gellid ei ailgylchu. Fodd bynnag, credaf y dylem, law yn llaw â pharhau i fynd ar drywydd yr hyn y gellir ei ailgylchu, edrych ar ailddefnyddio, a dylem fod yn edrych ar atal gwastraff. Gwn y bu cryn dipyn o drafod yma yn y Cynulliad blaenorol am gynllun poteli blaendal-dychwelyd - credaf fod William Powell wedi ei godi ym mhob dadl a gawsom - a nodaf yn eich ateb i Simon Thomas ichi ddweud eich bod yn trafod hyn gyda Gweinidog yr Alban ac yn gweld beth yw eu profiadau yn yr Alban. Yn amlwg, byddwch yn dadansoddi hyn yn ofalus, ond byddai'n ffordd uniongyrchol iawn o ailddefnyddio ac yn atal llawer iawn o'r gwastraff a geir mewn gwirionedd, pan ddadansoddir beth sy'n achosi sbwriel, er enghraifft. Felly, rwyf yn falch iawn fod hynny'n cael ei ystyried. Y pwynt arall yr oeddwn am ei godi oedd gwastraff gardd, oherwydd rwyf bob amser yn bryderus iawn, yn enwedig yn y wlad, pan welwch wastraff gardd yn cael ei roi allan i'w gasglu gan awdurdodau lleol, a tybed faint o bwyslais y gellir ei roi ar gompostio a cheisio atal hyn, sy'n ymddangos i mi yn beth braidd yn ddiangen i awdurdodau lleol fod yn ei wneud. Dylem fod yn canolbwyntio ar annog ailgylchu gwastraff gardd yn yr ardd ei hun. Rwyf yn deall hynny mewn tref - hynny yw, ni allwch wneud hynny mewn tref lle mae gan bobl ardd fach neu iard neu bethau felly, efallai, ond yn y wlad, mae'n ymddangos i mi nad yw'n beth da i fod yn ei wneud.
184
Weinidog, a gaf i ofyn ichi ynghylch cyfraddau ailgylchu yng Nghymru? Un o'r awdurdodau lleol oedd yn perfformio orau oedd Conwy, ac mae wedi llwyddo i sicrhau llwyddiant o ran ailgylchu gyda threfn ailgylchu gyfredol a bocs troli sy'n cael ei gasglu'n wythnosol, a gwahanol ddeunyddiau ailgylchu sy'n cael eu casglu wrth ymyl y ffordd a'u didoli wrth ymyl y ffordd, ac yna gasgliad bin du bob pythefnos. Yn awr, fel y gwyddoch efallai, mae'r awdurdod lleol yn bwriadu symud i gylch tair wythnos ar draws ardal yr awdurdod lleol, ac mae ar fin cynnal cynllun peilot hefyd, y mae'n bwriadu ei gychwyn yn ystod misoedd yr haf, ar gyfer casglu bob pedair wythnos. Rwyf yn bryderus iawn am y cynllun peilot a'r effaith y gallai ei chael ar annog ymddygiad ailgylchu cadarnhaol ymysg y gymuned leol. Mae llawer o bryder y gallai hynny arwain at broblemau amgylcheddol yn sgil y rhai nad ydynt yn ailgylchu yn y ffordd y byddech chi a fi am iddynt ei wneud, ac nid oes darpariaeth yn y cynigion i ymdrin â gwastraff anifeiliaid anwes, sydd wrth gwrs yn gallu bod yn arbennig o annymunol os caiff ei adael i bydru mewn biniau du am yn hir. Felly tybed, Weinidog, pa ganllawiau y gallai Llywodraeth Cymru eu cyhoeddi er mwyn sicrhau y darperir ar gyfer y pethau hyn yn iawn, felly os oes newid i wasanaeth casglu sbwriel cyffredinol bob pedair wythnos, nad yw'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd ehangach, ar gymunedau lleol, ac yn wir ar yr economi ymwelwyr, yn enwedig mewn lle fel Conwy lle mae ymwelwyr yn hanfodol o ran rhoi hwb economaidd i'r ardal benodol honno?
185
Mae gennyf ddau siaradwr arall ac mae gennym lai na munud i fynd trwyddynt. A gaf i ofyn i'r ddau siaradwr, felly, am gwestiynau yn unig ar yr achlysur hwn, os gwelwch yn dda? Jenny Rathbone nesaf.
186
Diolch ichi, Jenny Rathbone. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud wrth Aelodau blaenorol am fy safbwyntiau ar gynlluniau blaendal-dychwelyd, o ran eich cwestiwn olaf. Mewn perthynas â thaflu yn ôl pwysau, roedd briff yr oeddwn yn ei ddarllen yn cofleidio'r hyn y mae gwledydd eraill yn Ewrop wedi ei wneud. Credaf fod Awstria a'r Eidal a rhannau o Wlad Belg yn ardaloedd lle'r oedd treth talu wrth daflu. Credaf fod hynny'n eithaf dadleuol. Wrth symud ymlaen, byddai'n rhaid inni ystyried modelau ar gyfer sut yr ydym yn ariannu awdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau uchel eu safon yr ydym wedi'u gweld. Ond, yn sicr, ni chredaf y byddai talu-wrth-daflu yn rhywbeth y byddwn am ei weld yma yng Nghymru. Cytunaf yn llwyr ein bod yn gwybod y gallai 50 y cant o sbwriel yn ôl pob tebyg sy'n cael ei daflu i mewn i fin du gael ei ailgylchu. Mae'n fater o sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffordd o annog pobl i edrych ar yr hyn y maent yn ei daflu - edrych o gwmpas eu tŷ a gweld yr hyn y gallant ei daflu, a sicrhau eu bod yn taflu'r pethau iawn yn y mannau iawn ar yr adeg iawn. Efallai y bydd angen inni gael ymgyrch arall, er enghraifft, i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Credaf fod hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol. Ond mae'r rhain i gyd yn bethau y bydd yn rhaid imi eu hystyried er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd y targed o 70 y cant.
187
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Nathan Gill am ei gwestiwn, er fy mod yn meddwl ei fod braidd yn sur. Roedd yn drueni mai dyna oedd y cwestiwn olaf i roi terfyn ar yr hyn yr wyf yn meddwl sydd wedi bod yn ddatganiad cadarnhaol iawn. Wyddoch chi, nid yw'r ystadegau'n ategu'r hyn yr ydych yn ei ddweud. Nid wyf yn credu ein bod wedi gorfod defnyddio moron a ffyn. Rwyf yn meddwl bod pobl wedi ymgysylltu â hyn yn wirioneddol. Rwyf yn derbyn ein bod wedi cyrraedd, gyda 58 neu 59 y cant, tipyn o fan gwastad, ac er mwyn cyrraedd y 70 y cant, bydd yn rhaid inni feddwl am bethau gwahanol, ynghylch sut mae cael y 50 y cant allan o'r gwastraff gweddilliol i mewn i'r blychau ailgylchu. Ond, wyddoch chi, mae pob awdurdod lleol yn ymgysylltu yn y ffordd y cyfeiriasoch ato yn Ynys Môn a Chonwy, nid dim ond y ddau awdurdod lleol hynny. Yn anffodus, mae gennym 22 o awdurdodau lleol, ac weithiau - nid wyf yn dweud bod gennym 22 o enghreifftiau o'r ffordd yr ydym yn gwneud hyn, ond, unwaith eto, gadewch inni edrych ar yr arfer gorau, gadewch inni sicrhau ein bod yn cael yr arfer gorau ledled Cymru i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targedau hynny. Maent yn uchelgeisiol, ond credaf eu bod yn gyraeddadwy, ac fel y soniais mewn ateb blaenorol, ein dewis ni oedd y targedau hynny; ein dewis ni oedd i Gymru fod yn genedl â lefelau uchel o ailgylchu. Diolch.
188
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Weinidog, cwrddais yn ddiweddar â phennaeth coleg Merthyr ac roedd ein deialog yn cynnwys trafodaethau ar raglenni prentisiaeth a gyflwynir ar y cyd â chyflogwyr megis General Dynamics ym Merthyr, sydd, gan weithio mewn partneriaeth â choleg Merthyr, yn creu dwy raglen prentisiaeth pob oed newydd yn cychwyn ym mis Medi 2016, pan fydd yr aelodau staff cyntaf yn dechrau ar eu cyflogaeth yn y cyfleuster hwnnw. Bydd y prentisiaethau hynny mewn gweithgynhyrchu, peirianneg a phrentisiaethau ffitiwr/crefft mecanyddol. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i gymeradwyo cynlluniau fel hwn, a fydd yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llafur Cymru i greu 100,000 o brentisiaethau newydd yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn? A yw hi hefyd yn cytuno y gallai cyflwyno prentisiaethau a ariennir gan bwrs y wlad - ac wrth hynny rwy'n golygu cyllid Llywodraeth Cymru ac Ewrop - drwy golegau addysg bellach fel Merthyr adfywio'r sector addysg bellach yn ogystal â chyflwyno gwerth gorau am arian drwy ailfuddsoddi yn y sector cyhoeddus?
189
Diolch, Weinidog, am y datganiad. Gan ddychwelyd at gwestiwn yr ardoll brentisiaeth am eiliad, cyfeiriasoch ato fel treth cyflogwr yn eich datganiad. A oes unrhyw ddadansoddiad o'r risg bosibl i swyddi yng Nghymru a achosir gan yr ardoll hon ar gyflogwyr, gan gofio mai pwynt prentisiaeth, wrth gwrs, yw cael pobl i mewn i swyddi sgiliau uchel, am gyflog gweddus?
190
Hoffwn longyfarch ein Gweinidog a Llywodraeth Cymru ar yr ymrwymiad strategol parhaus i'r agenda brentisiaeth wrth sicrhau Cymru fwy ffyniannus a chydnerth a chyfartal. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod wedi cael fy ethol ar ein haddewid maniffesto o tua 100,000 o brentisiaethau newydd, ac mae hynny y tu draw i lwyddiant Twf Swyddi Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr iawn y consensws trawsbleidiol yr wyf wedi ei glywed eto heddiw dros bwysigrwydd y rhaglenni prentisiaethau, ond mae perygl gwirioneddol sy'n amlwg iawn, ac mae eisoes wedi ei fynegi heddiw. Er fy mod yn sicr yn rhannu'r pryderon ynghylch yr ardoll brentisiaeth, mae angen i mi ddatgan y bydd 94,000 o brentisiaethau, fel y gwyddoch, yn ystod y pedair blynedd nesaf, yn cael eu cefnogi gan werth £83 miliwn o gronfeydd cymdeithasol yr UE. A yw'r Gweinidog yn credu y bydd cael gwared ar arian Ewropeaidd o Gymru drwy bleidlais i adael, mewn gwirionedd, fel y mae'r blaid gyferbyn yn dymuno ei weld, yn peryglu'r rhaglenni prentisiaeth gwerthfawr o'r fath sy'n newid bywydau ac, o ganlyniad yn peryglu economi Cymru gyfan?
191
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r addewid i greu myrdd a llawer mwy o brentisiaethau. Mae hyfforddiant o safon yn eithriadol o bwysig, ac mae'r bwriadau wrth greu'r prentisiaethau hyn yn ganmoladwy, ond mae ar brentisiaid angen gwaith i fynd iddo ar ôl iddynt orffen eu prentisiaethau. Felly, heb y swyddi hynny i fynd iddynt, mae'r brentisiaeth o werth personol ar gyfer y prentis, ond dim ond edrych yn dda mae hynny i raddau helaeth heb swydd i fynd iddi. Felly, yr hyn yr hoffwn i ofyn i'r Gweinidog yw: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog creu swyddi i'r prentisiaid hyn i fynd iddynt ac i sicrhau y gall y prentisiaid hyn ddefnyddio eu hyfforddiant i ennill bywoliaeth weddus? Pa gymorth y gallwch chi ei roi i gyflogwyr er mwyn eu hannog i roi gwaith i'r prentisiaid hyn ar ôl iddynt orffen eu hyfforddiant? Diolch.
192
Yr eitem nesaf ar yr agenda felly yw eitem 6, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - wythnos gwirfoddoli. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
193
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Credaf fod y Prif Weinidog yn glir iawn, pan ddaeth yn Brif Weinidog yn y pumed tymor, ynglŷn â chael sgwrs wahanol iawn gyda phartïon gwleidyddol ac aelodau'r cyhoedd. Credaf fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn gwirionedd yn nodi mewn deddfwriaeth y telerau ac amodau y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â nhw fel Llywodraeth, ynglŷn ag ymgysylltu â dinasyddion. Dyna'n sicr yw'r hyn yr wyf i eisiau ei wneud. Rwyf eisiau gwrando ar bob sector y tu allan i'r Llywodraeth a gwrando hefyd ar y pryderon yr ydych chi wedi'u lleisio ar eu rhan. Mae yna lawer o fudiadau yr wyf yn gwybod eu bod yn gwneud gwaith aruthrol o fewn ein cymunedau i gyd, ond y gwir yw, Mark, yn ystod tymor diwethaf y Llywodraeth, cawsom ein cyfyngu o ganlyniad i £1.9 biliwn yn llai o arian yn cael ei fwydo i economi Cymru oherwydd Llywodraeth y DU. Ni allaf gael gwared ar yr effaith honno na'i lliniaru, a'r ffaith felly yw bod gostyngiad o 9 y cant ar gyfer rhai o'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn anochel. A dweud y gwir, mewn rhai ardaloedd, mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau ac maent yn rhai anodd iawn. Mewn gwleidyddiaeth - a Mark, rydych chi wedi bod yn y gêm hon ers talwm, fel finnau - hwn mae'n debyg, yw un o'r cyfnodau mwyaf heriol i ni fel Llywodraeth gan nad yw'r cyllid ar gael. Mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol iawn, iawn, ac rwy'n barod i gael y sgwrs hon gydag amrywiaeth eang o bobl sydd yn awyddus i wneud pethau gwahanol yn eu cymunedau, ond sydd hefyd â'r un amcanion â'r Llywodraeth hon ynglŷn â lles cymunedau ledled Cymru. Credaf fy mod wedi siarad am yr elfen hon gyda Bethan Jenkins yn gynharach. Credaf fod fy swyddogaeth i a swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn ymwneud â galluogi pobl i wneud mwy, ac os gallwn ddim ond cefnogi pobl i wneud yn dda yn eu cymunedau fel Llywodraeth, credaf ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni'r swyddogaeth honno. Ni allaf ymrwymo i gynyddu cyllid ar gyfer sefydliadau pan nad oes gennym y cyllid i wneud hynny. Ond rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef a rhai o'r grwpiau y mae'n eu cynrychioli yma heddiw.
194
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Gwn ei bod yn cynrychioli Cwm Cynon yn dda iawn, ac yn cynrychioli'r nifer o bobl sy'n gwirfoddoli yn ei chymuned; rwyf hefyd yn 'diolch' iddynt hwythau. Roedd braidd yn drist, mewn gwirionedd mai un o'r busnesau a dyfodd gyflymaf y llynedd oedd banciau bwyd, a chredaf mai cyni cyllidol sy'n peri i hyn ddigwydd mewn gwirionedd. Ond mae 40,000 o bobl yn neilltuo amser i gefnogi ei gilydd yn ein cymuned; dylem, unwaith eto, fod yn falch iawn o hynny, a hoffwn gofnodi fy niolch i fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell a'r holl fanciau bwyd sy'n gweithredu ar draws ein cymunedau. Mae'n adlewyrchiad trist iawn ein bod eu hangen, ond maen nhw gennym ac maen nhw'n cael eu rhedeg yn dda iawn. Mae trosglwyddo asedau cymunedol yn elfen arall o raglenni cymhleth. Yr hyn yr wyf yn awyddus i'w wneud - a gallai hyn swnio'n heriol - credaf ein bod yn colli cyfle gan fod rhai o'n cymunedau, y rhai hynny sydd angen yr asedau hyn fwyaf, yn gymunedau sydd wedi eu galluogi. Mewn gwirionedd, mae gennym sawl agwedd ar ymgysylltu â'r gymuned lle mae gennym bobl cyn-broffesiynol sydd wedi ymddeol sy'n gallu rheoli'r cyrff hyn yn dda iawn, ond mae'r cymunedau lle nad yw'r bobl hyn yn byw ynddynt, mewn gwirionedd yn cynnwys y bobl sydd eu hangen fwyaf, a dyna lle y dylem ni, heb os, ganolbwyntio fwyaf, gan edrych ar gynnal ein cymunedau sydd fwyaf dan fygythiad, lle y dylem fod yn annog mwy o wneud hyn. Mae'r Aelod yn hollol gywir i godi'r mater ynghylch lles ac iechyd meddwl hefyd. Dywedais wrth yr Aelodau yn gynharach fy mod yn credu bod y gallu i wirfoddoli yn cyflwyno dewis haws i bobl o bosibl i gychwyn gweithio nes ymlaen, ond hefyd mae'n eu datblygu ymhellach i allu adeiladu perthynas gyda chymunedau, a chydag unigolion eraill, pan allai fod ganddynt weithiau faterion personol heriol iawn eu hunain. Felly, credaf mai gwirfoddoli yw'r llwybr cywir, a dylem annog pobl o bob rhan o gymdeithas. Ond, mewn gwirionedd, o ran y mater ynghylch cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl, gall gwirfoddoli fod yn ddewis gwych.
195
Diolch yn fawr i chi. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad, Huw. Mae eich Cymraeg yn rhagorol o'i gymharu â'm Cymraeg i, os caf i ddweud? Yn gyntaf oll, nid oes unrhyw beth yr ydych wedi'i ddweud y gallaf anghytuno ag ef. Rwy'n credu eich bod yn ymwneud â llawer o'r gweithgareddau cymunedol yn yr ardal yr ydych yn ei chynrychioli. Rwyf yn gyfarwydd â rhai o'r sefydliadau hynny ac mae'n wir i ddweud hefyd fod rhai cwmnïau yn mynd ati i geisio ymgysylltu â'u gweithwyr, yn eu hannog i fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli oherwydd ei fod mewn gwirionedd yn dod â mwy yn ôl i'r cwmni hefyd. Nid yw yn eich etholaeth chi, ond roeddwn gyda gwirfoddolwyr o GE ddoe, ac roedd Jo Foster yn arwain tîm o wirfoddolwyr o amgylch y lle. Mae llawer o sefydliadau eraill sy'n gwneud hynny. Rwy'n credu mai beth y mae hyn yn ei ddweud yw - ac rwyf yn credu eich bod wedi cyfeirio at hyn - nid yn unig y mae gwirfoddoli yn brofiad cadarnhaol ar gyfer ein cymunedau ond, mewn gwirionedd, gwirfoddoli yw craidd ein hysbryd Cymreig cymunedol. Mae'n ein diffinio ni. Rwy'n credu bod modd i ni roi, ac nid wyf yn sôn am arian, yn hytrach rwy'n sôn am ryngweithio cymdeithasol. Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir: dylem ddathlu cyfraniad y gwirfoddolwyr yn eich cymuned ac mewn llawer o gymunedau ledled Cymru.
196
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? I fynd i'r afael ag un mater, roeddwn yn amhenodol ynglŷn â gwirfoddolwyr - sôn oeddwn i am sefyllfa gyffredinol gwirfoddoli ac, wrth gwrs, rwy'n cydnabod yr oriau di-rif, yr oriau nad ydynt wedi'u cofnodi, mewn gwirionedd, y mae grwpiau ffydd a sefydliadau eraill yn eu neilltuo ar gyfer gwirfoddoli. Yn wir, roeddwn yn aelod, flynyddoedd lawer yn ôl, o Gorfflu Antur Bechgyn Byddin yr Iachawdwriaeth - llawer iawn o flynyddoedd yn ôl - ond dim ond oherwydd bod gwirfoddolwyr yn barod i redeg y clwb hwnnw ar gyfer unigolion y digwyddodd hynny. Ymwelais â'r gegin gawl yng Nghaerdydd, sy'n gofalu am bobl ddigartref, a redir gan Fyddin yr Iachawdwriaeth eto. Felly, rwy'n cydnabod bod gan y sector ffydd gymaint o gyfleoedd hefyd. Unwaith eto, gan fod yn amhenodol, credaf mai'r hyn y dylem ni i gyd ei wneud yw annog pob gwirfoddolwr o bob cefndir i gymryd rhan, ac mae'n rhywbeth y bydd y Llywodraeth Cymru hon yn parhau i'w wneud.
197
Hoffwn ddiolch i Mike am y cwestiynau yna? Mae'n tynnu sylw at un o ryfeddodau gwych ein hoes - twf addysg cyfrwng Cymraeg. Yma yn ninas Caerdydd, pan ddechreuais i gadeirio gweithgor cyfrwng Cymraeg De Morgannwg yn y 1980au, roedd nifer y bobl ifanc a oedd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn llythrennol yn fymryn bach o'i gymharu â'r nifer sydd yno heddiw. Mae cael pobl ifanc yn yr oedran cynharaf un i mewn i addysg cyfrwng Cymraeg, pan mai dyna'r hyn y bydden nhw a'u rhieni yn ei ddymuno ar eu cyfer, rwyf yn deall, yn hynod o bwysig ac yn arbennig o bwysig i'r bobl ifanc hynny sy'n manteisio ar y rhaglen Dechrau'n Deg. Byddaf yn gwneud yn siŵr bod y pwyntiau y mae ef wedi eu gwneud am hynny ac am dwf yr hawl i gael addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru - rwy'n siwr y bydd yr Ysgrifennydd dros Addysg yn awyddus i glywed yr hyn a ddywedodd am hynny. O ran ateb gohebiaeth a dderbyniwyd trwy gyfrwng y Gymraeg mor gyflym â'r hyn a dderbynnir yn Saesneg, rwyf yn dychmygu mai'r ateb yw nad yw'n digwydd yn yr union ffordd honno ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, a fydd yn dibynnu ar i lythyr gael ei gyfieithu i'r Saesneg, llunio ateb yn Saesneg a'i ailgyfieithu i'r Gymraeg. Ond rwyf yn meddwl y bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn effro i'r angen i wneud mwy yn y maes hwn. Bydd newidiadau mewn technoleg ar gyfer cyfieithu o gymorth iddyn nhw yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill, a bydd adroddiad hwn, y byddant yn ei astudio dros yr haf, yn eu helpu yn y maes hwnnw, hefyd.
198
Yr eitem nesaf o fusnes yw'r cynnig i ddirymu Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2016. Rydw i'n galw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
199