source
stringlengths
2
497
target
stringlengths
2
430
The community
Y gymuned
Strategic area 3:
Maes strategol 3:
The community
Y gymuned
Evidence from countries around the world, over a number of decades, shows that there is a strong correlation between the viability and survival of a language and the existence of geographical areas where that language is considered to be the predominant language.
Mae tystiolaeth o wledydd ar draws y byd, dros nifer o ddegawdau, yn dangos bod cyswllt cryf rhwng hyfywedd a goroesiad iaith a bodolaeth ardaloedd daearyddol lle ystyrir yr iaith honno fel y brif iaith.
The evidence also suggests that a high density of speakers is required for Welsh to be an everyday language of a community.
Awgryma’r dystiolaeth hefyd fod angen dwysedd uchel o siaradwyr i’r Gymraeg gael ei defnyddio fel iaith arferol cymuned.
Communities in Wales which have a high percentage of Welsh speakers are changing.
Mae’r cymunedau yng Nghymru lle ceir canran uchel o siaradwyr Cymraeg yn newid.
This strategy has already made reference to the fact that the number of communities in Wales where over 70 per cent of the population speaks Welsh has reduced significantly during the past decades.
Mae’r strategaeth hon eisoes wedi cyfeirio at y ffaith bod nifer y cymunedau yng Nghymru lle mae dros 70 y cant o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi lleihau yn sylweddol dros y degawdau diwethaf.
Inward and outward migration processes, limited employment opportunities and limited availability of affordable housing have had profound effects on the demographic and linguistic profile of many communities.
Mae prosesau mewnfudo ac allfudo, cyfleoedd gwaith cyfyngedig a chyflenwad cyfyngedig o dai fforddiadwy wedi cael effaith sylweddol ar broffil demograffig a phroffil ieithyddol sawl cymuned.
The Welsh Government is eager to build on the work undertaken by the Welsh Language Board, the mentrau iaith and a number of other bodies at a grass-roots level to take action in areas where the Welsh language is, or was until comparatively recently, the main language of daily life, and which are seeing a rapid decline in the percentage of Welsh speakers.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddatblygu’r gwaith a wnaed gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, y mentrau iaith a nifer o gyrff eraill ar lawr gwlad gan weithredu mewn modd bwriadus mewn ardaloedd lle y caiff y Gymraeg ei siarad fel prif iaith bywyd beunyddiol, neu lle’r oedd yn brif iaith tan yn gymharol ddiweddar, a lle mae canran y siaradwyr Cymraeg yn lleihau’n gyflym.
We propose to develop special initiatives in those areas to encourage strategic action to reverse language shift.
Ein bwriad yw datblygu mentrau arbennig yn yr ardaloedd hyn a fydd yn ysgogi camau gweithredu strategol, gan wrth-droi’r newid ieithyddol.
This needs to be done in partnership with local authorities, third sector organisations and local agencies involved in community and economic regeneration – in addition to the bodies already operating for the benefit of the Welsh language.
Mae angen gwneud hyn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, sefydliadau’r trydydd sector ac asiantaethau lleol sy’n ymwneud ag adfywio cymunedol ac adfywio economaidd – yn ogystal â’r cyrff sydd eisoes yn gweithredu er lles y Gymraeg.
We will consider the evidence gleaned as a result of establishing a pilot Language Promotion Scheme in the Aman Tawe area – a scheme which seeks to address the decline seen in the use
Byddwn yn ystyried y dystiolaeth a ddaw yn sgil sefydlu Cynllun Hybu’r Gymraeg fel cynllun peilot yn ardal Aman Tawe – cynllun sy’n ceisio mynd i’r afael â’r dirywiad sydd wedi bod yn nefnydd yr
A living language:
Iaith fyw:
a language for living33
iaith byw33
of the language in that area in a holistic manner – in order to assess whether such a model is one which should be extended to other areas.
iaith yn yr ardal honno mewn dull holistaidd – er mwyn asesu a yw’r model hwn o weithredu yn un y dylid ei ymestyn i ardaloedd eraill.
We will also consider whether the work undertaken within the Môn a Menai Strategic Regeneration Area, including the Brocer Iaith initiative in Peblig, can be replicated in other areas.
Byddwn hefyd yn ystyried a oes modd efelychu’r gwaith sydd wedi’i wneud o fewn Ardal Adfywio Strategol Môn a Menai, sy’n cynnwys y fenter Brocer Iaith ym Mheblig, mewn ardaloedd eraill.
The particular challenges in each area will differ but are likely to include issues such as the availability of affordable housing, lack of employment opportunities, low numbers of parents/carers transmitting Welsh to their children, low status of the language within the community, lack of opportunities to use the language, and inward and outward migration.
Bydd yr heriau penodol yn amrywio o ardal i ardal ond maent yn debygol o gynnwys materion fel y tai fforddiadwy sydd ar gael, diffyg cyfleoedd gwaith, nifer isel o rieni/gofalwyr yn trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant, statws isel yr iaith o fewn y gymuned, diffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith, a mewnfudo ac allfudo.
The language renewal task must go hand in hand with the work of improving the social and economic infrastructure of these areas to help ensure that better employment opportunities and more affordable housing become available, so that people can remain in their communities.
Mae’n rhaid i’r gwaith adnewyddu ieithyddol fynd law yn llaw â’r gwaith o wella seilwaith cymdeithasol ac economaidd yr ardaloedd hyn er mwyn helpu i sicrhau bod gwell cyfleoedd gwaith a rhagor o dai fforddiadwy ar gael fel y gall pobl aros yn eu cymunedau.
An important part of this work will be to improve the capacity of the communities themselves to increase the availability of Welsh-language services and activities.
Bydd gwella gallu’r cymunedau eu hunain i gynnig rhagor o wasanaethau a gweithgareddau Cymraeg yn agwedd bwysig ar y gwaith hwn.
We are eager, also, to build on the work undertaken by the Welsh Language-Economy Group, by developing a clear strategy in relation to how benefit could be gained from the Welsh language as an economic asset.
Rydym yn awyddus, hefyd, i ddatblygu’r gwaith a wnaed gan y Gr ˆwp Iaith-Economi Cymru, gan ddatblygu strategaeth glir ynghylch sut gellid manteisio ar y Gymraeg fel ased economaidd.
These challenges are shared, therefore, across all Welsh Ministerial portfolios and Welsh Government departments, and we will mainstream the Welsh language into our economic development and community development policies accordingly.
Rhennir yr heriau hyn, felly, ar draws holl bortffolios y Gweinidogion ac adrannau Llywodraeth Cymru, a byddwn yn prif ffrydio’r Gymraeg yn ein polisïau datblygu economaidd a’n polisïau datblygu cymunedol fel y bo’n briodol.
a language for living
34Iaith fyw:
34A living language:
iaith byw
All communities evolve and develop over time.
Mae pob cymuned yn esblygu ac yn datblygu dros amser.
Where development is proposed, the planning system is an important tool to manage change in a positive way.
Lle cynigir datblygiadau mae’r system gynllunio yn ddull pwysig ar gyfer rheoli newid mewn modd positif.
Local and national park authorities have either recently adopted, or are in the process of preparing, Local Development Plans (LDPs), which are underpinned by community engagement and evidence.
Mae awdurdodau lleol ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol un ai wrthi’n paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol neu wedi’u mabwysiadu’n ddiweddar. Mae tystiolaeth a chynnwys y gymuned yn agweddau pwysig ar y broses hon.
They set out the authority’s vision and policies for the sustainable development and use of land.
Maent yn pennu gweledigaeth a pholisïau’r awdurdod ynghylch datblygu cynaliadwy a’r defnydd o dir.
We have recently consulted on changes to Technical Advice Note 20:
Rydym wedi ymgynghori’n ddiweddar ynghylch newidiadau i Nodyn Cyngor Technegol 20:
Planning and the Welsh Language (TAN 20), in order to provide strengthened guidance on how the Welsh language should be taken into account when LDPs are prepared.
Cynllunio a’r Iaith Gymraeg (TAN 20), er mwyn llunio canllawiau mwy pendant ynghylch sut dylid ystyried y Gymraeg wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol.
The overall aim of LDPs is to support the sustainable development of communities and places across Wales, which includes supporting the linguistic and economic prosperity of Welsh-speaking communities by providing an appropriate mix of housing and employment opportunities.
Nod cyffredinol Cynlluniau Datblygu Lleol yw hybu datblygiad cynaliadwy cymunedau a lleoedd ar draws Cymru, sy’n cynnwys hybu ffyniant ieithyddol ac economaidd cymunedau Cymraeg drwy gynnig cymysgedd priodol o gyfleoedd tai a chyflogaeth.
Our planning policies in these areas are set out in Planning Policy Wales, TAN 2:
Caiff ein polisïau cynllunio yn y meysydd hyn eu hamlinellu yn Polisi Cynllunio Cymru, TAN 2:
Planning and Affordable Housing and TAN 6:
Cynllunio a Thai Fforddiadwy a TAN 6:
Planning for SustainableCommunities.
Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy.
We propose to review with stakeholders how Welsh-speaking communities have engaged in the LDP process and whether that engagement could be better facilitated in future, identify how Welsh language issues have been addressed, and consider the need to provide additional guidance with regard to taking Welsh language issues into account as LDPs are prepared.
Rydym yn cynnig adolygu â rhanddeiliaid sut mae cymunedau Cymraeg eu hiaith wedi cyfrannu at y broses sydd ynghlwm wrth Gynlluniau Datblygu Lleol ac a fyddai modd gwella’rbroses honno yn y dyfodol, pennu pa ystyriaethau yn ymwneud â’r Gymraeg y tynnwyd sylw atynt, ac ystyried yr angen i ddarparu canllawiau ychwanegol ynghylch ystyried materion yn ymwneud â’r Gymraeg wrth i Gynlluniau Datblygu Lleol gael eu paratoi.
As rural and post-industrial Welsh-speaking communities are changing, Welsh cities and towns have also seen a demographic shift.
Wrth i gymunedau gwledig ac ôl-ddiwydiannol Cymraeg eu hiaith newid, mae newid demograffig hefyd yn mynd rhagddo o fewn dinasoedd a threfi Cymru.
The number of Welsh speakers in cities, especially Cardiff, has increased dramatically in recent years.
Mae nifer y siaradwyr Cymraeg mewn dinasoedd, yn enwedig Caerdydd, wedi cynyddu’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf.
This is mainly due to young Welsh speakers attending higher education institutions and seeking employment.
Deillia hyn yn bennaf o’r ffaith bod siaradwyr Cymraeg ifanc yn mynychu sefydliadau addysg uwch ac yn chwilio am waith.
We need to respond to this shift – and a different community development model is required in cities and large towns such as Cardiff, Swansea and Wrexham, where the percentage of Welsh speakers may be comparatively small, but where the numbers of speakers are significant.
Mae angen i ni ymateb i’r newid hwn – ac mae angen model datblygu cymunedol o fath gwahanol mewn dinasoedd a threfi mawr fel Caerdydd, Abertawe a Wrecsam, lle gallai canran y siaradwyr Cymraeg fod yn gymharol isel, ond lle mae nifer y siaradwyr yn sylweddol.
The opportunities to use Welsh are more varied and numerous than in many rural communities.
Mae’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy amrywiol a niferus yn y dinasoedd a’r trefi hyn nag ydynt mewn llawer o gymunedau gwledig.
The challenge, therefore, is to support and enhance existing networks for using Welsh, and create new networks, raising the profile of Welsh and bilingualism in these cities and towns.
Yr her, felly, yw cefnogi a gwella’r rhwydweithiau presennol ar gyfer defnyddio’r Gymraeg, a chreu rhwydweithiau newydd, gan godi proffil y Gymraeg a dwyieithrwydd yn y dinasoedd a’r trefi hyn.
An important element of this work will be to take full advantage of the opportunities which arise from new media and social networking, particularly for young people.
Un elfen bwysig o’r gwaith hwn fydd manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n deillio o gyfryngau newydd a rhwydweithio cymdeithasol, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc.
This is true within towns and cities as well as in the rest of Wales and beyond.
Mae hyn yn wir o fewn trefi a dinasoedd a hefyd ar draws gweddill Cymru a thu hwnt.
While language use in a geographical community is still extremely important, the nature of social interaction is changing for many people, particularly the young.
Ira bo’r defnydd o’r Gymraeg o fewn cymuned ddaearyddol yn parhau i fod yn hynod o bwysig, yn enwedig ymhlith y boblogaeth sefydlog, mae natur rhyngweithio cymdeithasol yn newid i nifer fawr o bobl, yn enwedig pobl ifanc.
More and more communication occurs electronically and remotely, reducing the extent to which the concept of ‘place’ is key, and increasing the role of communities of interest.
Mae mwy a mwy o gyfathrebu yn digwydd yn electronig a thros bellter, gan leihau’r graddau y mae’r cysyniad o ‘le’ yn allweddol, a chynyddu rôl cymunedau o ddiddordeb.
It will be important, therefore, to harness the opportunities presented by new technologies for the benefit of Welsh-language communities in Wales and across the world.
Golyga hyn oll y bydd hi’n bwysig manteisio ar y cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y technolegau newydd er lles cymunedau Cymraeg eu hiaith yng Nghymru ac ar draws y byd.
This is discussed further under strategic area 6.
Caiff hyn ei drafod ymhellach o dan faes strategol 6.
A key objective will be to increase social and cultural activity through the medium of Welsh throughout these communities (be they geographical or virtual communities).
Un amcan allweddol fydd cynyddu gweithgareddau cymdeithasol a gweithgareddau diwylliannol cyfrwng Cymraeg ar draws y cymunedau hyn (boed yn gymunedau daearyddol go iawn neu’n rhith-gymunedau).
This has been a key part of the work achieved over recent years in the area of language planning.
Mae hyn wedi bod yn agwedd allweddol ar y gwaith sydd wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf yn y maes cynllunio ieithyddol.
Yet, evidence attributing the impact of these activities to the use of Welsh in the long term is limited.
Eto i gyd, prin yw’r dystiolaeth sy’n priodoli effaith y gweithgareddau hyn ar y defnydd o’r Gymraeg yn yr hirdymor.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living35
iaith byw35
The Welsh Language Measure will enable the Welsh Language Commissioner to impose duties on local authorities to promote the use of Welsh more widely, which could complement our work in this area.
Bydd Mesur y Gymraeg yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn fwy eang. Gallai’r rhain ategu ein gwaith yn y maes hwn.
Action points
Pwyntiau gweithredu
We will:
Byddwn yn:
19.
19.
Make promotion standards under the Welsh Language Measure, which will enable the Commissioner to impose duties on local and national park authorities to promote and facilitate the use of Welsh within the communities they serve – and to impose similar duties on the Welsh Government.
Gwneud safonau hybu o dan Fesur y Gymraeg, a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu – a gosod dyletswyddau tebyg ar Lywodraeth Cymru.
20.
20.
Identify parts of Wales where there are high percentages of Welsh speakers, but where the language is now under threat – and towns and cities with a healthy number of Welsh speakers – to encourage the development of focused programmes of activities to promote the use of Welsh in those areas.
Adnabod ardaloedd yng Nghymru lle ceir canran uchel o siaradwyr Cymraeg ond lle mae’r iaith bellach o dan fygythiad – a threfi a dinasoedd lle ceir nifer da o siaradwyr Cymraeg – ac annog datblygiad rhaglenni o weithgareddau penodol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny.
21.
21.
Review the current funding arrangements for organisations and initiatives which promote and support the use of Welsh within communities in order to ensure that the activities are effective and aligned with this strategy and follow good practice with regard to language planning.
Adolygu’r trefniadau cyllido cyfredol ar gyfer y cyrff a’r mentrau sy’n hybu a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau yn effeithiol, eu bod yn ategu’r strategaeth hon a’u bod yn dilyn arferion da o ran cynllunio ieithyddol.
22.
22.
Continue to explore the links between the economy and the language and respond to those links.
Parhau i ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng yr economi a’r iaith ac ymateb i’r cysylltiadau hynny.
23.
23.
Explore the possibility of improving access to translation services for community groups and third sector organisations.
Ymchwilio i’r posibilrwydd o sicrhau ei bod hi’n haws i grwpiau cymunedol a chyrff y trydydd sector fanteisio ar wasanaethau cyfieithu.
24.
24.
Mainstream the language into all of our work related to supporting and developing communities across Wales.
Prif ffrydio’r iaith o fewn ein holl waith sy’n ymwneud â chefnogi a datblygu cymunedau ledled Cymru.
25.
25.
36A living language:
36Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
Finalise the review of planning policy and associated technical advice on the Welsh language.
Cwblhau’r adolygiad o bolisi cynllunio a’r cyngor technegol cysylltiedig ar y Gymraeg.
Aim
Nod
To increase opportunities for people to use Welsh in the workplace.
Cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
More Welsh speakers use Welsh at work.
Mwy o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.
Indicators
Dangosyddion
Number of organisations subject to Welsh-language operational standards intended to promote and facilitate the use of Welsh in the workplace.
Nifer y cyrff y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â safonau gweithredu yn ymwneud â’r Gymraeg sy’n ceisio hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Percentage of Welsh Government staff using Welsh at work.
Canran staff Llywodraeth Cymru sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.
Aim
Nod
To increase opportunities for people to use Welsh in the workplace.
Cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
More Welsh speakers use Welsh at work.
Mwy o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.
Indicators
Dangosyddion
Number of organisations subject to Welsh-language operational standards intended to promote and facilitate the use of Welsh in the workplace.
Nifer y cyrff y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â safonau gweithredu yn ymwneud â’r Gymraeg sy’n ceisio hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Percentage of Welsh Government staff using Welsh at work.
Canran staff Llywodraeth Cymru sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.
Strategic area 4:
Maes strategol 4:
The workplace
Y gweithle
Strategic area 4:
Maes strategol 4:
The workplace
Y gweithle
The workplace is one of the key areas which determines language use.
Y gweithle yw un o’r meysydd allweddol sy’n pennu pa iaith y mae pobl yn ei defnyddio.
As individuals, we spend a considerable proportion of our time at work.
Fel unigolion, rydym yn treulio cyfran sylweddol o’n hamser yn y gwaith.
A significant number of respondents to the consultation on this strategy agreed that the workplace also has a role in building the confidence of Welsh speakers to use the language in other areas of their lives, and that developing the status of the language in the workplace was important in terms of underlining the value of Welsh-medium education.
Roedd nifer sylweddol o’r rheini a ymatebodd i’r ymgynghoriad ar y strategaeth hon yn cytuno bod gan y gweithle rôl allweddol o ran ennyn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith mewn agweddau eraill ar eu bywydau. Nodwyd hefyd fod datblygu statws yr iaith yn y gweithle yn bwysig o safbwynt pwysleisio gwerth addysg cyfrwng Cymraeg.
Despite the increase in Welsh-medium education, the opportunities for people to work through the medium of Welsh remain comparatively limited.
Er gwaetha’r cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, mae’r cyfleoedd i bobl weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau’n gymharol gyfyngedig.
This, therefore, excludes Welsh from one of the key domains for a number of Welsh speakers and deprives Welsh speakers of the opportunity to normalise their use of the language.
Mae hyn, felly, yn eithrio’r Gymraeg o un o’r meysydd allweddol i nifer o siaradwyr Cymraeg, ac yn golygu na all siaradwyr Cymraeg fanteisio ar y cyfle i normaleiddio eu defnydd o’r iaith.
Our aim is to provide more opportunities for those who can speak Welsh to use the language at work – in their dealings with each other, with their customers and with their employers.
Ein nod yw cynnig rhagor o gyfleoedd i’r rheini sy’n medru’r Gymraeg ei defnyddio yn y gwaith – yn eu hymwneud â’i gilydd, gyda’u cwsmeriaid a chyda’u cyflogwyr.
In doing this, we will build on existing good practice.
Wrth wneud hyn, byddwn yn datblygu’r arferion da sydd eisoes yn bodoli.
For example, there is some evidence that language-awareness training is a successful means by which to increase positive attitudes towards the Welsh language among employees and employers.
Er enghraifft, mae yna ychydig o dystiolaeth sy’n dangos bod hyfforddiant ynglˆyn ag ymwybyddiaeth ieithyddol yn ffordd lwyddiannus o gynyddu agweddau positif ymhlith gweithwyr a chyflogwyr tuag at y Gymraeg.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living37
iaith byw37
This area of work is comparatively new and poses a considerable challenge.
Mae’r maes gwaith hwn yn un eithaf newydd ac yn gryn her.
As a result, there is little quantitative evidence available with which to assess the impact of activities undertaken to date.
O’r herwydd, does dim llawer o dystiolaeth feintiol ynghylch y maes hwn ar gael ar gyfer asesu effaith gweithgareddau sydd wedi’u cynnal hyd yma.