source
stringlengths
2
497
target
stringlengths
2
430
However, the qualitative evidence base is more developed, and recent research showed that a number of different factors influenced the use of Welsh in the workplace, including long-established practices which favour the use of English;
Fodd bynnag, mae’r sylfaen dystiolaeth ansoddol yn fwy datblygedig, a dangosodd gwaith ymchwil diweddar fod nifer o wahanol ffactorau yn dylanwadu ar y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle gan gynnwys arferion sydd wedi hen ennill eu plwyf lle ffefrir defnydd o’r Saesneg;
matters relating to proficiency in Welsh language skills, and organisational reasons such as insufficient institutional support for the use of the language;
materion yn gysylltiedig â gallu yn y Gymraeg, a rhesymau sefydliadol megis y ffaith nad oes digon o gymorth gan sefydliadau i gefnogi defnydd o’r iaith;
and the extent to which an organisation’s culture facilitates or promotes the use of Welsh.
a’r graddau y mae diwylliant y sefydliad yn hwyluso neu’n hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
We also know that workplaces vary, as does the linguistic background of staff working in locations throughout Wales.
Gwyddom hefyd fod gweithleoedd yn amrywio, ac felly hefyd gefndir ieithyddol y staff sy’n gweithio mewn lleoliadau ledled Cymru.
Mainstreaming the Welsh language into our work on labour market intelligence will be an important aspect of this work.
Bydd prif ffrydio’r Gymraeg i’n gwaith mewn perthynas â gwybodaeth am y farchnad lafur yn agwedd bwysig ar y gwaith hwn.
We also see there being an important role for the Welsh for Adults Programme in helping employees to develop and refine their language skills within the context of the workplace – and across all sectors.
Rydym hefyd yn gweld rôl bwysig i’r rhaglen Cymraeg i Oedolion o ran helpu gweithwyr i ddatblygu a mireinio eu sgiliau iaith ar gyfer y gweithle – ac ar draws pob sector.
The Welsh Language Commissioner will also have an important contribution to make in this area through the development and imposition of operational standards under the Welsh Language Measure.
Bydd modd i Gomisiynydd y Gymraeg hefyd wneud cyfraniad pwysig i’r maes hwn drwy ddatblygu a gosod safonau gweithredu o dan Fesur y Gymraeg.
Operational standards will provide a means of ensuring more opportunities for the language to be used in the workplace.
Bydd safonau gweithredu yn fodd o sicrhau rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle.
The Commissioner will also be responsible for providing advice to organisations in all sectors regarding good practice – as well as preparing relevant codes of practice.
Bydd y Comisiynydd hefyd yn gyfrifol am gynnig cyngor i sefydliadau ymhob sector ynghylch arferion da – yn ogystal â pharatoi codau ymarfer perthnasol.
38A living language:
38Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
The Welsh Government recognises that it has a particular responsibility to guide the way in this area as one of Wales’ main employers.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ganddi gyfrifoldeb arbennig i ddangos arweiniad yn y maes hwn fel un o brif gyflogwyr Cymru.
We are committed to increasing the use of Welsh in all of our offices and to identify appropriate opportunities to extend or replicate the examples of good practice developed recently in our offices in Llandudno Junction and Aberystwyth.
Rydym yn ymrwymedig i gynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg ymhob un o’n swyddfeydd ac i dynnu sylw at gyfleoedd priodol i estyn neu efelychu enghreifftiau o arferion da a ddatblygwyd yn ddiweddar yn ein swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno ac Aberystwyth.
Action points
Pwyntiau gweithredu
We will:
Byddwn yn:
26.
26.
Invite the Commissioner to develop good practice guidance with regard to the use of Welsh in the workplace across all sectors.
Gwahodd y Comisiynydd i ddatblygu canllawiau ynghylch arferion da mewn perthynas â’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ar draws pob sector.
27.
27.
Make operational standards, which will enable the Commissioner to impose duties on organisations to promote the use of Welsh in the workplace.
Llunio safonau gweithredu, a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar sefydliadau i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
28.
28.
Promote the recognition of Welsh as a skill in the workplace and develop opportunities for people to learn Welsh in the workplace through the Welsh for Adults Centres.
Sicrhau rhagor o gydnabyddiaeth i’r Gymraeg fel sgìl yn y gweithle a chreu cyfleoedd i bobl ddysgu Cymraeg yn y gweithle drwy’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion.
29.
29.
Improve labour market intelligence with regard to the demand for staff who have Welsh language skills, on a regional and sectoral level, and to disseminate the information through appropriate channels.
Gwella’r wybodaeth sydd ar gael am y farchnad lafur o ran y galw am staff sydd â sgiliau Cymraeg, ar lefel ranbarthol ac fesul sector, a chyhoeddi’r wybodaeth drwy’r sianeli priodol.
30.
30.
Demonstrate good practice with regard to the use of Welsh in the workplace.
Dangos arferion da o ran y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living39
iaith byw39
Strategic area 5:
Maes strategol 5:
Welsh-language services
Gwasanaethau Cymraeg
Aim
Nod
To increase and improve Welsh-language services to citizens.
Cynyddu a gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
More high quality Welsh-language services available to the public and more use made of those services.
Mwy o wasanaethau Cymraeg o safon uchel ar gael i’r cyhoedd a mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o’r gwasanaethau hynny.
Indicators
Dangosyddion
Use of a range of services provided in Welsh.
Y defnydd o wahanol wasanaethau a ddarperir yn Gymraeg.
Number of Welsh language schemes or policies.
Nifer y cynlluniau neu bolisïau iaith Gymraeg.
Number of organisations subject to Welsh language standards.
Nifer y cyrff y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â safonau yn ymwneud â’r Gymraeg.
Aim
Nod
To increase and improve Welsh-language services to citizens.
Cynyddu a gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
More high quality Welsh-language services available to the public and more use made of those services.
Mwy o wasanaethau Cymraeg o safon uchel ar gael i’r cyhoedd a mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o’r gwasanaethau hynny.
Indicators
Dangosyddion
Use of a range of services provided in Welsh.
Y defnydd o wahanol wasanaethau a ddarperir yn Gymraeg.
Number of Welsh language schemes or policies.
Nifer y cynlluniau neu bolisïau iaith Gymraeg.
Number of organisations subject to Welsh language standards.
Nifer y cyrff y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â safonau yn ymwneud â’r Gymraeg.
Since the introduction of the Welsh Language Act 1993 the way Welsh-speaking citizens receive services in the language of their choice has been transformed.
Ers cyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’r modd y mae dinasyddion Cymraeg eu hiaith yn cael gwasanaethau yn eu dewis iaith wedi’i newid yn llwyr.
The 1993 Act provided the Welsh Language Board with the power to require public bodies to prepare Welsh language schemes.
Rhoddodd Deddf 1993 y p ˆwer i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus lunio cynlluniau iaith Gymraeg.
These schemes outline the measures that a public body will take as to their use of the Welsh language in connection with the provision of services to the public in Wales, for the purpose of giving effect to the principle that, in the conduct of public business and the administration of justice in Wales, the Welsh and English languages should be treated on a basis of equality.
Mae’r cynlluniau hyn yn amlinellu’r mesurau y bydd cyrff cyhoeddus yn eu dilyn o ran eu defnydd o’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru. Gwneir hyn er mwyn gweithredu’r egwyddor y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
Since 1993 the Welsh Language Board has approved over 550 statutory Welsh language schemes.
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cymeradwyo dros 550 o gynlluniau iaith Gymraeg statudol ers 1993.
There can be no doubt that this development has benefited the language and Welsh speakers alike, due to the fact that the opportunity to use Welsh while receiving services has increased in recent years.
Yn ddiamau mae’r Gymraeg ynghyd â siaradwyr Cymraeg wedi elwa ar hyn, gan fod y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg wrth dderbyn gwasanaethau wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.
Support by the population of Wales for Welsh-language service provision is well evidenced.
Ceir tystiolaeth helaeth fod poblogaeth Cymru’n cefnogi gwasanaethau a ddarperir yn y Gymraeg.
Over nine out of ten Welsh speakers (with a range of fluency levels) take the view that Welsh-language service provision is important to keep the language alive.
Mae dros naw o bob deg o siaradwyr Cymraeg (gydag amrywiol lefelau o ruglder) o’r farn bod darparu gwasanaethau yn y Gymraeg yn bwysig er mwyn cadw’r iaith yn fyw.
In particular, service users want to see an increase in the provision of face-to-face services available through the medium of Welsh.
Yn arbennig, hoffai defnyddwyr gwasanaethau weld cynnydd yn nifer y gwasanaethau wyneb yn wyneb cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.
A living language:
40Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
However, evidence shows that barriers to accessing services in Welsh remain.
Fodd bynnag, dengys tystiolaeth fod pobl yn parhau i wynebu rhwystrau wrth geisio manteisio ar wasanaethau yn y Gymraeg.
The main barriers include a lack of supply of services in Welsh by those bodies who are not operating Welsh language schemes, a low uptake of services due to lack of confidence among non-fluent Welsh speakers and a lack of awareness that services are provided in Welsh.
Mae’r prif rwystrau’n cynnwys diffyg cyflenwad o wasanaethau yn y Gymraeg gan y cyrff hynny nad ydynt yn gweithredu cynllun iaith Gymraeg,diffyg defnydd o wasanaethau oherwydd diffyg hyder ymhlith siaradwyr nad ydynt yn rhugl yn y Gymraeg a diffyg ymwybyddiaeth bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn y Gymraeg.
The Welsh Language Measure will build on the success of Welsh language schemes in order to provide greater clarity and consistency for citizens in terms of the services they can expect to receive in Welsh.
Bydd Mesur y Gymraeg yn manteisio ar lwyddiant cynlluniau iaith Gymraeg er mwyn sicrhau rhagor o eglurder a chysondeb ar gyfer dinasyddion o ran y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg.
By creating a set of enforceable standards the aim is to move the focus towards more effective and thorough delivery of Welsh-language services which meet the needs of Welsh speakers and Welsh-speaking communities, while addressing the barriers described above.
Drwy greu cyfres o safonau y gellir eu gorfodi y nod yw newid y pwyslais, gan hoelio sylw ar fynd ati yn fwy effeithiol a thrwyadl i ddarparu a hybu gwasanaethau yn Gymraeg. Mae’r gwasanaethau hyn yn diwallu anghenion siaradwyr Cymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith ac yn mynd i’r afael â’r rhwystrau a ddisgrifir uchod.
The Welsh Government has an important role to play in planning and providing services to the public.
Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i’r cyhoedd.
It is the Welsh Government which sets the policy context for the delivery of public services across a number of sectors, and we also deliver some services directly to the public.
Llywodraeth Cymru sy’n gosod y cyd-destun polisi ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ar draws sawl sector, ac rydym yn cyflenwi rhai gwasanaethau yn uniongyrchol i’r cyhoedd.
It is crucial, therefore, that we use our influence for the benefit of the Welsh language and that we mainstream considerations about the needs of Welsh speakers into our policy development and service delivery work.
Mae’n allweddol, felly, ein bod yn defnyddio ein dylanwad er lles y Gymraeg ac yn prif ffrydio ystyriaethau yn ymwneud ag anghenion siaradwyr Cymraeg i’n gwaith o ddatblygu polisi a chyflenwi gwasanaethau.
With that in mind, we recognise that a significant shift is taking place in the funding relationship between those commissioning services and those providing services – be they in the public, private or third sector.
Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cydnabod bod newid sylweddol yn mynd rhagddo yn y berthynas ariannu rhwng y rheini sy’n comisiynu gwasanaethau a’r rheini sy’n eu darparu – pa un a ydynt yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector.
This move, away from a grant-based model to a commissioning and procurement model, is accelerating and this has implications for the way in which we can ensure the delivery of Welsh-language services.
Mae’r newid hwn, o fodel sy’n seiliedig ar grantiau i fodel comisiynu a chaffael, yn un a fydd i’w weld yn fwy aml ac mae goblygiadau ynghlwm wrth hyn o ran y ffordd y gallwn sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg ar gael.
To this end, when we award grants or contracts we will include conditions, where relevant, with regard to the use of Welsh.
At y diben hwn, wrth ddyfarnu grantiau neu gontractau byddwn yn cynnwys amodau, fel y bo’n briodol, mewn perthynas â defnyddio’r Gymraeg.
The Commissioner will also be able to influence the procurement and grant-giving procedures of a wide range of organisations, by developing relevant standards.
Bydd modd i’r Comisiynydd hefyd ddylanwadu ar weithdrefnau caffael a gweithdrefnau dyfarnu grantiau sefydliadau amrywiol iawn, drwy ddatblygu safonau perthnasol.
We will also continue with our attempts to influence UK Government departments by encouraging them to provide Welsh-language services to citizens in Wales.
Byddwn hefyd yn parhau i geisio dylanwadu ar adrannau Llywodraeth y DU drwy eu hannog i ddarparu gwasanaethau Cymraeg eu hiaith i ddinasyddion Cymru.
The Welsh Language Commissioner will also be able to impose standards upon UK Government Departments under the Welsh Language Measure.
Bydd Mesur y Gymraeg hefyd yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar adrannau Llywodraeth y DU.
For this strategy to succeed, it is essential that we work collaboratively with a number of sectors.
Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sectorau er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn llwyddo.
As well as providing services for citizens, local authorities have the potential to be key players in the process of language planning in Wales.
Yn ogystal â darparu gwasanaethau ar gyfer dinasyddion mae gan awdurdodau lleol ran allweddol i’w chwarae yn y broses cynllunio ieithyddol yng Nghymru.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living41
iaith byw41
Strengthening Welsh-language services in health and social care is regarded as a priority since, for many, language in this context is more than just a matter of choice – it is a matter of need.
Mae cryfhau gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth, gan fod yr iaith yn y cyd-destun hwn, i lawer o bobl, yn fwy na dim ond mater o ddewis – mae’n fater o angen.
Although valuable leadership has been provided in recent years, it is evident that the provision of Welsh-language services remains piecemeal and too often it is a matter of chance whether people receive Welsh-language health and social care services.
Er bod arweiniad gwerthfawr wedi’i roi yn hyn o beth yn y blynyddoedd diwethaf, mae’n amlwg fod y ddarpariaetho ran gwasanaethau Cymraeg yn parhau’n dameidiog ac yn rhy aml dim ond drwy hap a damwain y mae pobl yn cael gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg.
We will, therefore, publish a Strategic Framework for Health and Social Care aimed at ensuring a more strategic approach to strengthening bilingual services.
Byddwn felly yn cyhoeddi Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a fydd yn ceisio sicrhau ein bod yn mynd ati mewn ffordd fwy strategol i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog.
Alongside the imposition of standards on the sector, the strategic framework will improve the experience of patients and service users who either choose, or have a need for, services through the medium of Welsh.
Bydd y fframwaith strategol yn gosod safonau ar gyfer y sector a hefyd yn gwella profiad cleifion a defnyddwyr gwasanaethau sydd naill ai’n dewis gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, neu y mae angen gwasanaethau o’r fath arnynt.
Although responsibility for the justice sector in Wales is not a devolved matter, it is important to remember that the sector has been instrumental in increasing the status of Welsh.
Er nad yw cyfrifoldeb dros y sector cyfiawnder yng Nghymru wedi’i ddatganoli, mae’n bwysig cofio bod y sector hwn wedi bod yn gyfrwng i godi statws y Gymraeg.
In addition, a great deal has been achieved in recent years to ensure that Welsh speakers have access to the services they need through the medium of Welsh.
Mae llawer wedi’i gyflawni hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio’r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt drwy gyfrwng y Gymraeg.
Even so, there remains a need to further improve Welsh-medium provision within the sector, including in court proceedings – and we will support the work required to do so.
Er hynny, mae angen parhau i wella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector, gan gynnwys o fewn llysoedd – a byddwn yn cefnogi’r gwaith y mae angen ei wneud i sicrhau bod hynny’n digwydd.
42A living language:
42Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
Representative bodies in the private sector have expressedsupport for the need to increase the use of Welsh, with a clear preference that this should happen on voluntary basis.
Mae cyrff sy’n cynrychioli’r sector preifat wedi dweud eu bod yn cefnogi’r angen i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, a hefyd wedi nodi’n gwbl glir y byddai’n well ganddynt weld hyn yn digwydd yn wirfoddol.
However, the Commissioner will be able to impose Welsh language standards on those companies who are within the scope of the Measure, such as telecommunications companies, bus and train operators, and utility companies.
Serch hynny, bydd modd i’r Comisiynydd osod safonau mewn perthynas â’r Gymraeg ar gyfer y cwmnïau hynny sydd o fewn cwmpas y Mesur megis cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau.
We will also welcome any moves by companies to opt-in to the standards system, as is possible under the Measure.
Byddwn hefyd yn croesawu unrhyw gamau gan gwmnïau i ymuno â’r system safonau, sy’n bosibl o dan y Mesur.
For the remainder of the sector, the Commissioner will be responsible for encouraging and advising the private sector on their use of Welsh on a voluntary basis, and we want to see more voluntary Welsh language policies adopted by private sector companies.
Ar gyfer gweddill y sector, y Comisiynydd fydd yn gyfrifol am annog a chynghori’r sector preifat o ran eu defnydd gwirfoddol o’r Gymraeg, ac rydym yn awyddus i weld rhagor o bolisïau iaith Gymraeg gwirfoddol yn cael eu mabwysiadu gan gwmnïau’r sector preifat.
As the Welsh Government, we will also ensure that we convey positive messages about the importance of using Welsh to the companies that we deal with.
Byddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, hefyd yn sicrhau ein bod yn cyfleu negeseuon positif ynghylch pwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg i’r cwmnïau yr ydym yn ymdrin â nhw.
The Language-Economy work described under strategic area 3 will provide an opportunity to do so.
Bydd y gwaith Iaith-Economi a ddisgrifir o dan faes strategol 3 yn creu cyfle i ni wneud hynny.
The third sector is another crucial element in our strategy.
Mae’r trydydd sector yn un o elfennau eraill hanfodol ein strategaeth.
The organisations forming the sector touch the lives of a great many people in Wales by, for instance, providing care and support, working with communities, and getting people involved in a wide range of events and activities.
Mae’r sefydliadau sydd yn y sector hwn yn cyffwrdd â bywydau llawer iawn o bobl yng Nghymru, er enghraifft, drwy gynnig gofal a chefnogaeth, drwy weithio gyda chymunedau, a thrwy ddenu pobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol iawn.
It is important, therefore, to ensure that the use of Welsh by third sector organisations is promoted and facilitated as much as possible.
O’r herwydd mae’n bwysig sicrhau bod sefydliadau’r trydydd sector yn cael eu hannog a’u cynorthwyo cymaint â phosibl i ddefnyddio’r Gymraeg.
Again, the Commissioner will be responsible for encouraging and advising the third sector about using Welsh on a voluntary basis building on the work of Estyn Llaw (a scheme that provides practical support to voluntary and community groups to increase their use of Welsh).
Eto i gyd, bydd y Comisiynydd yn gyfrifol am annog a chynghori’r trydydd sector i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel wirfoddol, gan ddatblygu gwaith Estyn Llaw (cynllun sy’n cynnig cymorth ymarferol i grwpiau cymunedol a grwpiau gwirfoddol er mwyn cynyddu eu defnydd o’r Gymraeg).
In addition, the Commissioner will be able to impose Welsh language standards on those organisations that fall within the scope of the Measure, for example organisations in receipt of £400,000 or more of public money per year.
Bydd y Comisiynydd hefyd yn gallu gosod safonau yn ymwneud â’r Gymraeg ar y sefydliadau hynny sy’n rhan o gwmpas y Mesur, er enghraifft sefydliadau sy’n derbyn £400,000 neu fwy o arian cyhoeddus bob blwyddyn.
As the Welsh Government, we will ensure that we convey positive messages about the importance of using Welsh to the third sector organisations that we deal with, including the Wales Council for Voluntary Action (WCVA), in line with the Compact between the Welsh Government and the third sector, which was launched in 2010.
Yn unol â’r Compact rhwng Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector, a lansiwyd yn 2010, byddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn sicrhau ein bod yn cyfleu negeseuon positif i sefydliadau’r trydydd sector yr ydym yn ymdrin â nhw ynghylch pwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg. Ymysg y sefydliadau hyn mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
Action points
Pwyntiau gweithredu
We will:
Byddwn yn:
Public sector
Y sector cyhoeddus
31.
31.
Ensure, including through the making of appropriate Welsh language standards which will enable the Commissioner to impose duties, that public bodies providing, or funding, services for the public ensure that more of those services are provided in Welsh – and that they raise awareness of services available in Welsh and encourage Welsh speakers to use them.
Sicrhau, gan gynnwys trwy wneud safonau priodol ar gyfer y Gymraeg a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswyddau, bod y cyrff cyhoeddus sy’n darparu neu’n ariannu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yn cymryd camau i ddarparu rhagor o’r gwasanaethau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg – a’u bod yn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg ac yn annog siaradwyr Cymraeg i’w defnyddio.
32.
32.
Publish and implement a strategic framework to strengthen the provision of Welsh-language services in the health and social care sectors.
Cyhoeddi a gweithredu fframwaith strategol er mwyn cryfhau’r ddarpariaeth o wasanaethau cyfrwng Cymraeg o fewn y sector iechyd a’r sector gofal cymdeithasol.