source
stringlengths
2
497
target
stringlengths
2
430
Promote the benefits of Welsh-language transmission in the family and the benefits of Welsh-medium education.
Hybu manteision trosglwyddo’r Gymraeg yn y teulu a manteision addysg cyfrwng Cymraeg.
11.
11.
Explore ways of improving key services such as Welsh-medium childcare.
Chwilio am ffyrdd o wella gwasanaethau allweddol fel gofal plant cyfrwng Cymraeg.
12.
12.
Put Welsh in Education Strategic Plans on a statutory basis and require local authorities to plan Welsh-medium education on the basis of parental demand.
Rhoi sail statudol i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a’i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ar sail y galw gan rieni.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living27
iaith byw27
Strategic area 2:
Maes strategol 2:
Children and young people
Plant a phobl ifanc
Aim
Nod
To increase the provision of Welsh-medium activities for children and young people and to increase their awareness of the value of the language.
Cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
Children and young people using more Welsh.
Plant a phobl ifanc yn defnyddio mwy o’r Gymraeg.
Indicator
Dangosydd
Attendance at Welsh-language events organised for children and young people, including those organised by Welsh Government grant recipients.
Y nifer sy’n mynychu digwyddiadau Cymraeg a drefnir ar gyfer plant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai a drefnir gan y sawl sy’n derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru.
Aim
Nod
To increase the provision of Welsh-medium activities for children and young people and to increase their awareness of the value of the language.
Cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
Children and young people using more Welsh.
Plant a phobl ifanc yn defnyddio mwy o’r Gymraeg.
Indicator
Dangosydd
Attendance at Welsh-language events organised for children and young people, including those organised by Welsh Government grant recipients.
Y nifer sy’n mynychu digwyddiadau Cymraeg a drefnir ar gyfer plant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai a drefnir gan y sawl sy’n derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru.
Each generation of young people brings an enthusiasm and new creativity to the use of a minority language.
Mae pob cenhedlaeth o bobl ifanc yn llawn brwdfrydedd a chreadigrwydd newydd ynghylch y defnydd o iaith leiafrifol.
We can be proud of the fact that young people in Wales are happy to embrace the Welsh language and its traditions, while also using it within contemporary contexts such as with new technologies.
Gallwn ymfalchïo yn y ffaith bod pobl ifanc yng Nghymru yn hapus i ddathlu’r Gymraeg a’i thraddodiadau, gan hefyd ei defnyddio mewn cyd-destunau cyfoes gan gynnwys y rhai sydd ynghlwm wrth dechnolegau newydd.
Over the last thirty years we have seen a considerable increase in the number of young people able to speak Welsh (from 14.9 per cent of 3 to 14-year-olds in 1971 to 37.2 per cent in 2001).
Yn ystod y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg (o 14.9 y cant o blant rhwng 3 a 14 oed yn 1971 i 37.2 y cant yn 2001).
But these figures need to be treated with caution, since it is likely that over half of these are learning Welsh as a second language.
Eto i gyd, mae angen bod yn ofalus wrth ystyried y ffigurau hyn, a hynny oherwydd ei bod yn debygol bod dros hanner y rhain yn dysgu Cymraeg fel ail iaith.
As such, for many Welsh-speaking children from homes without Welsh-speaking parents/carers, school provides one of the few opportunities for them to use the language.
Yn achos nifer o blant sy’n siarad Cymraeg ac sy’n dod o gartrefi heb rieni/gofalwyr sy’n medru’r Gymraeg, yr ysgol yw un o’r ychydig leoedd lle maent yn cael cyfle i ddefnyddio’r iaith.
A living language:
28Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
The available evidence suggests that the teenage years are vital in developing a favourable attitude towards a minority language and in determining the extent to which an individual will use the language.
Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod cyfnod yr arddegau yn hollbwysig o ran datblygu agwedd ffafriol tuag at iaith leiafrifol ac o ran pennu i ba raddau y bydd unigolyn yn defnyddio’r iaith.
In this regard, it appears that the school setting alone is not enough;
Yn hyn o beth, ymddengys nad yw ysgol, ar ei phen ei hun, yn ddigon;
the child or young person needs to be supported at home (if possible) and encouraged to participate in wider social and cultural activities through the medium of Welsh.
mae’n rhaid i blentyn neu berson ifanc dderbyn cefnogaeth yn y cartref (os oes modd) ac anogaeth i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol ehangach drwy gyfrwng y Gymraeg.
There is also evidence that suggests that the language of interaction with friends is closely correlated to the language the child speaks, and that this also influences children’s attitudes towards either or both languages.
Mae yna hefyd dystiolaeth sy’n awgrymu bod iaith rhyngweithio â ffrindiau yn cydberthyn yn glos â’r iaith y mae’r plentyn yn ei siarad, ac mae’n dylanwadu ar agweddau plant tuag at y naill iaith neu’r llall neu at y ddwy.
We need, therefore, to provide children and young people with a wide range of social opportunities to use their Welsh outside school, so that they associate the language not only with education, but also with leisure and cultural activities and, above all, with pleasure and entertainment.
Mae angen i ni felly ddarparu cyfleoedd cymdeithasol amrywiol iawn i’r gr ˆwp hwn ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol, er mwyn datblygu cyswllt rhwng nid yn unig yr iaith ac addysg, ond hefyd rhwng yr iaith a gweithgarwch hamdden a diwylliannol ac, yn anad dim, â phleser a difyrrwch.
Providing further opportunities of this nature should lead to increased use of the language by the individual, in addition to instilling enthusiasm and a positive attitude towards the language.
Dylai creu rhagor o gyfleoedd o’r fath olygu bod yr unigolyn yn gwneud mwy o ddefnydd o’r iaith, a dylai ennyn brwdfrydedd ac agwedd bositif tuag at yr iaith.
In responding to the consultation on this strategy, a number of respondents stated that providing practical opportunities for children and young people to use Welsh was the best way of developing a feeling of value towards using the language.
Wrth ymateb i’r ymgynghoriad ar y strategaeth hon, nododd nifer o’r ymatebwyr mai creu cyfleoedd ymarferol i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg oedd y ffordd orau o feithrin teimlad o werth tuag at y defnydd o’r iaith.
We share that view.
Cytunwn â’r farn honno.
Influencing a young person’s use of a minority language is a complex matter and supporting them to make positive choices in favour of using the language needs a variety of evidence-based approaches.
Mae dylanwadu ar ddefnydd person ifanc o iaith leiafrifol yn fater cymhleth, ac mae angen mynd ati mewn amryfal ffyrdd, ar sail tystiolaeth, i’w gynorthwyo i wneud dewisiadau cadarnhaol.
We believe that a number of factors influence a young person’s use of Welsh, including fluency and confidence levels.
Credwn fod nifer o ffactorau yn dylanwadu ar ddefnydd person ifanc o’r Gymraeg, gan gynnwys pa mor rhugl a hyderus ydyw yn yr iaith.
Among other factors, we believe that youth culture, peer pressure, community attitudes towards the language, the global media including electronic social networking, and the perceived value of the language as a skill for work are all important elements.
Ymhlith y ffactorau eraill, tybiwn fod diwylliant pobl ifanc, pwysau gan gyfoedion, agweddau yn y gymuned at yr iaith, y cyfryngau byd-eang gan gynnwys rhwydweithio cymdeithasol electronig, a’r gwerth a roddir ar yr iaith fel sgìl ar gyfer byd gwaith oll yn elfennau pwysig.
We also believe that the significance of these factors varies considerably, depending on whether the young person has acquired the language at home or through the education system.
Credwn hefyd fod arwyddocâd y ffactorau hyn yn amrywio’n sylweddol, gan ddibynnu a yw’r person ifanc wedi caffael yr iaith gartref neu drwy’r system addysg.
However, we need to undertake further research to better understand these factors.
Mae angen i ni wneud mwy o waith ymchwil, fodd bynnag, i ddeall y ffactorau hyn yn well.
We also face challenges within the education system to ensure that children and young people continue to choose Welsh-medium education when making choices at key stages of their education – between the primary and secondary sectors, and between the secondary sector and further or higher education.
Rydym hefyd yn wynebu heriau o fewn y system addysg i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn parhau i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg wrth wneud dewisiadau ar gyfnodau allweddol o’u haddysg – rhwng y cynradd a’r uwchradd, a rhwng yr uwchradd ac addysg bellach neu addysg uwch.
While the Welsh-medium Education Strategy addresses these challenges, we believe that the success of those measures depends, to a great extent, on convincing children and young people of the value of Welsh, economically and culturally.
Ira bo’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn mynd i’r afael â’r heriau hyn, credwn fod llwyddiant y mesurau hynny’n rhannol ddibynnol ar y gallu i ddarbwyllo plant a phobl ifanc ynghylch gwerth y Gymraeg yn economaidd ac yn ddiwylliannol.
This strategy has an important role in achieving this by supporting activities which seek to raise awareness among children and young people – in addition to those with whom they have regular contact such as their parents/carers, teachers and youth workers – of the value of Welsh.
Mae gan y strategaeth hon rôl bwysig i wireddu hynny drwy gefnogi gweithgareddau sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc – ynghyd â’r rheini y dônt i gyswllt rheolaidd â nhw fel eu rhieni/gofalwyr, athrawon a gweithwyr ieuenctid – o werth defnyddio’r Gymraeg.
We will seek to track the Welsh language skills of school leavers through data capture within the education system.
Byddwn yn ceisio dilyn hynt sgiliau Cymraeg dysgwyr sy’n gadael yr ysgol drwy gasglu data o fewn y system addysg.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living29
iaith byw29
Much work has been done to provide children and young people with opportunities to enjoy activities through the medium of Welsh.
Mae llawer o waith wedi’i wneud i gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.
This has been achieved by a number of organisations, some of which, like the Urdd and the mentrau iaith, are entirely focused on increasing the use of Welsh;
Mae nifer o sefydliadau wedi bod ynghlwm wrth y gwaith hwn – mae rhai ohonynt, fel yr Urdd a’r mentrau iaith, yn canolbwyntio’n llwyr ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg;
others, such as Young Farmers’ Clubs, sports clubs, drama groups, and so forth, have a broader remit.
ac mae gan eraill, megis Clybiau Ffermwyr Ifanc, clybiau chwaraeon, grwpiau drama, ac yn y blaen, gylch gwaith ehangach.
These organisations need to remain innovative and creative, while working with the Welsh Government and other partners to develop methods of gathering evidence of the impact their activities have on the use of Welsh.
Mae angen i’r sefydliadau hyn barhau i fod yn arloesol ac yn greadigol, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu dulliau o gasglu tystiolaeth ynghylch yr effaith y mae eu gweithgareddau’n ei chael ar y defnydd o’r Gymraeg.
Our implementation mechanisms in this area include providing grants to bodies delivering activities for children and young people through the medium of Welsh, and by better mainstreaming of the Welsh language in activities promoted by the public sector.
Bydd ein dulliau gweithredu yn y maes yma yn cynnwys rhoi grantiau i gyrff sy’n darparu gweithgareddau i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg, a phrif ffrydio’r Gymraeg yn well mewn gweithgareddau sy’n cael eu hybu gan y sector cyhoeddus.
Experience from other countries suggests that activities in the minority language need to offer a comparable, if not better, experience than the provision available in the majority language.
Mae’r dystiolaeth sydd ar gael o wledydd eraill yn awgrymu bod angen i weithgareddau yn yr iaith leiafrifol gynnig profiad cystal, os nad gwell, na’r hyn sydd ar gael yn yr iaith fwyafrifol.
However, despite all this activity, it is important that we explore with young people themselves exactly what appeals to them, and what types of activities young people feel they would wish to undertake through the medium of Welsh.
Fodd bynnag, er gwaethaf yr holl weithgarwch hwn, mae’n bwysig sicrhau ein bod yn trafod â’r bobl ifanc eu hunain beth yn union sy’n apelio atynt, a pha fathau o weithgareddau yr hoffent eu mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg.
We need this to be an ongoing discussion.
Mae angen i ni gynnal y drafodaeth hon yn barhaus.
We have already begun this by commissioning work by the Urdd during the summer of 2011 in terms of young people’s needs and aspirations.
Rydym eisoes wedi cychwyn ar y gwaith hwn drwy gomisiynu gwaith gan yr Urdd yn ystod haf 2011 ynghylch anghenion a dyheadau pobl ifanc.
The conclusion of that consultation was that children and young people were eager to take part in Welsh-medium activities, and that sporting activities were most popular, with dance, drama, art and outdoor activities among other activities listed.
Casgliad yr ymgynghoriad hwnnw oedd fod plant a phobl ifanc yn awyddus i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, a taw gweithgareddau chwaraeon oedd yn fwyaf poblogaidd. Roedd dawns, drama, celf a gweithgareddau awyr agored hefyd ymysg y gweithgareddau eraill a nodwyd.
30A living language:
30Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
Experience from other countries also suggests that children and young people enjoy creative activities, and get a thrill from seeing their work published – particularly on the internet.
Mae profiad o wledydd eraill hefyd yn awgrymu bod plant a phobl ifanc yn mwynhau gweithgareddau creadigol, ac yn cael gwefr o weld cynnyrch eu gwaith wedi ei gyhoeddi – yn enwedig ar y we.
In Wales, the Supporting Young People’s Language Practices Project, developed by the Welsh Language Board, seeks to empower young Welsh speakers to use the language in informal situations within the school setting.
Yng Nghymru, mae’r prosiect Cefnogi Arferion Iaith Pobl Ifanc, a ddatblygwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, yn ceisio ymbweru siaradwyr Cymraeg ifanc i ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd newydd, ond anffurfiol, o fewn amgylchedd yr ysgol.
An essential element is getting older learners to encourage younger ones to reflect on the language and to become engaged in innovative projects such as running a school radio station or rock school through the medium of Welsh.
Un o’r elfennau hanfodol yw bod dysgwyr hˆyn yn annog rhai iau i feddwl am yr iaith ac i fod yn rhan o brosiectau arloesol fel rhedeg gorsaf radio yn yr ysgol neu ysgol roc drwy gyfrwng y Gymraeg.
We are eager to extend this method of working with children and young people, and to evaluate the work from the point of view of its impact on the use of Welsh.
Rydym yn awyddus i ehangu’r dull hwn o weithio gyda phlant a phobl ifanc, a gwerthuso’r gwaith o safbwynt ei effaith ar y defnydd o’r Gymraeg.
We also want to see more opportunities for children and young people to use Welsh online, and to encourage them to choose to use Welsh when using social media, software products and electronic devices such as smartphones.
Hoffem hefyd weld rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg ar-lein, a’u hannog i ddewis y Gymraeg wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, cynnyrch meddalwedd a dyfeisiau electronig fel ffonau deallus.
The use of Welsh in information and communication technology (ICT), including the making of standards in relation to ICT, is discussed further under strategic area 6.
Caiff y defnydd o’r Gymraeg mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), sy’n cynnwys llunio safonau mewn perthynas â TGCh, ei drafod ymhellach o dan faes strategol 6.
It is also encouraging to see the development of a three-tiered approach to Welsh-medium provision for young people emerging within youth services, where organisations aim for a more coordinated approach to planning the provision, based on the principle that all young people in Wales have some knowledge of Welsh.
Mae hefyd yn galonogol gweld dull tair haen o weithredu yn dod i’r amlwg yn y gwasanaeth ieuenctid mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl ifanc. Golyga hyn fod sefydliadau’n ceisio cynllunio’r ddarpariaeth mewn modd mwy cydgysylltiedig, ar sail yr egwyddor bod gan holl bobl ifanc Cymru ryw fath o afael ar y Gymraeg.
This approach is suggested in the Welsh Government’s National Youth Service Standards and encourages the provision of more appropriate services, tailored to the linguistic needs of the growing population of young Welsh speakers.
Dyma’r dull a awgrymir yn Safonau Cenedlaethol Gwasanaeth Ieuenctid ar gyfer Cymru Llywodraeth Cymru, ac mae’n annog darparwyr i gynnig gwasanaethau mwy priodol, sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion ieithyddol nifer cynyddol y bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg.
This includes different provision for young people with basic Welsh language skills, for those who are learning the Welsh language and for fluent Welsh speakers.
Mae hyn yn cynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer pobl ifanc sydd â sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg, ar gyfer y rheini sy’n dysgu’r iaith a’r rheini sy’n rhugl yn y Gymraeg.
We will consider adopting this way of working in other fields.
Byddwn yn ystyried mabwysiadu’r ffordd hon o weithio mewn meysydd eraill.
Action points
Pwyntiau gweithredu
We will:
Byddwn yn:
13.
13.
Consult periodically with children and young people in order to raise awareness and better understand which activities they wish to undertake through the medium of Welsh and which services they wish to receive through the medium of Welsh.
Ymgynghori o bryd i’w gilydd â phlant a phobl ifanc er mwyn codi ymwybyddiaeth a datblygu gwell dealltwriaeth o’r gweithgareddau y byddent yn dymuno ymgymryd â nhw drwy gyfrwng y Gymraeg a’r gwasanaethau yr hoffent eu derbyn drwy gyfrwng y Gymraeg.
14.
14.
Continue to support the provision of Welsh-medium activities for children and young people in the community and review those activities, from time to time, to ensure that they are effective and aligned with this strategy.
Parhau i gefnogi gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc yn y gymuned ac adolygu’r gweithgareddau hynny, o bryd i’w gilydd, er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol a’u bod yn cyd-fynd â’r strategaeth hon.
15.
15.
Improve awareness among children and young people, and their parents/carers, of the opportunities and activities that exist to use the language socially and in the workplace.
Gwella ymwybyddiaeth ymysg plant a phobl ifanc, a’u rhieni/gofalwyr, ynghylch y cyfleoedd a’r gweithgareddau sy’n bodoli ar gyfer defnyddio’r iaith yn gymdeithasol ac yn y gweithle.
16.
16.
Improve the opportunities for children and young people to use Welsh informally within educational organisations.
Gwella cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn anffurfiol o fewn sefydliadau addysgol.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living31
iaith byw31
17.
17.
Improve language awareness among youth workers to enable them to develop positive attitudes among young people towards the language.
Gwella ymwybyddiaeth iaith gweithwyr ieuenctid i’w galluogi i feithrin agweddau positif ymysg pobl ifanc tuag at yr iaith.
18.
18.
32A living language:
32Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
Ensure, including through the making of appropriate Welsh language standards, that public bodies providing or funding services for children and young people – whether directly or through the work of Young People’s Partnerships – provide more of those services in Welsh, including sport and leisure services.
Sicrhau, gan gynnwys drwy wneud safonau priodol ynghylch y Gymraeg, bod y cyrff cyhoeddus sy’n darparu neu’n ariannu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc – boed yn uniongyrchol neu drwy waith Partneriaethau Pobl Ifanc – yn darparu rhagor o’r gwasanaethau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys gwasanaethau chwaraeon a hamdden.
Aim
Nod
To strengthen the position of the Welsh language in the community.
Cryfhau safle’r Gymraeg o fewn y gymuned.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
More use of Welsh within communities across Wales.
Mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau ar draws Cymru.
Indicator
Dangosydd
Attendance at Welsh-language events, including those organised by Welsh Government grant recipients.
Y nifer sy’n mynychu digwyddiadau Cymraeg, gan gynnwys rhai a drefnir gan y sawl sy’n derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru.
Aim
Nod
To strengthen the position of the Welsh language in the community.
Cryfhau safle’r Gymraeg o fewn y gymuned.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
More use of Welsh within communities across Wales.
Mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau ar draws Cymru.
Indicator
Dangosydd
Attendance at Welsh-language events, including those organised by Welsh Government grant recipients.
Y nifer sy’n mynychu digwyddiadau Cymraeg, gan gynnwys rhai a drefnir gan y sawl sy’n derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru.
Strategic area 3:
Maes strategol 3: