source
stringlengths
2
497
target
stringlengths
2
430
In procurement terms this means using tools and guidance available such as the sustainable risk-assessment template, the guide to contracting out public services and the Welsh language, and the document Community Benefits:
O safbwynt caffael mae hyn yn golygu defnyddio dulliau a chanllawiau sydd ar gael, gan gynnwys y templed asesu risg cynaliadwy, yr arweiniad i roi gwasanaethau cyhoeddus allan ar gontract a’r Gymraeg, a’r ddogfen Budd i’r Gymuned:
Delivering Maximum Value for the Welsh Pound (Welsh Assembly Government, 2010).
Sicrhau’r Gwerth Gorau am Arian Cymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2010).
Monitoring
Monitro
The implementation of this strategy and its annual action plans, to be prepared in accordance with Section 78 of the Government of Wales Act 2006, will be monitored by the Welsh Government’s Welsh Language Division, which will report to the Welsh Ministers.
Caiff y gwaith o weithredu’r strategaeth hon a’i chynlluniau gweithredu blynyddol, a wneir yn unol ag Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ei fonitro gan Is-adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru, a fydd yn adrodd i Weinidogion Cymru.
An annual report on the implementation of the strategy and annual action plans will be published and laid before the National Assembly for Wales by the Welsh Ministers.
Caiff adroddiad blynyddol ar y gwaith o weithredu’r strategaeth a’r cynlluniau gweithredu blynyddol ei gyhoeddi a’i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan Weinidogion Cymru.
Evaluation framework
Fframwaith gwerthuso
It is essential that this strategy is evaluated in order to help assess its effectiveness against its strategic objectives and to ensure learning improvements are based on the available evidence.
Mae’n hanfodol fod y strategaeth hon yn cael ei gwerthuso fel bod modd asesu ei heffeithiolrwydd yn unol â’i hamcanion strategol ac fel bod modd sicrhau bod gwelliannau dysgu yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.
To do this, we will develop an evaluation framework alongside the strategy, incorporating a range of methods and sources of data including bespoke research and analysis.
Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn datblygu fframwaith gwerthuso i gyd-fynd â’r strategaeth. Bydd hwn yn dynodi sut bydd y strategaeth yn cael ei gwerthuso drwy wahanol ddulliau a ffynonellau data, a fydd yn cynnwys ymchwil a dadansoddiad pwrpasol.
22A living language:
22Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
In light of the wide range of policy interventions covered, it will be important to ensure a consistent and comparable approach to evaluation across the strategy.
Yn wyneb yr ymyriadau polisi amrywiol sydd dan sylw, bydd hi’n bwysig sicrhau dull gweithredu cyson a chymharol tuag at werthuso ar draws y strategaeth.
The approach should be both formative – to ensure lessons are learned throughout implementation – and summative – to ensure outcomes are captured in a robust and timely manner.
Bydd y dull gweithredu ar y naill law yn ffurfiannol – er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu gydol y gweithredu – ac ar y llaw arall yn adolygol – er mwyn sicrhau bod canlyniadau’n cael eu cofnodi mewn dull cadarn ac amserol.
The evaluation framework will:
Bydd y fframwaith gwerthuso yn:
set out how the effects of this strategy are to be captured at different levels (individual participant, project/programme and locally/nationally)
dynodi sut bydd effeithiau’r strategaeth hon yn cael eu cofnodi ar wahanol lefelau (cyfranogwr unigol, prosiect/rhaglen ac yn lleol/genedlaethol)
further define the measurable indicators contained in this strategy by way of its expected and possible effects, drawing where possible upon nationally and locally collected data (this should fit as much as possible with partners’ own performance-monitoring systems)
diffinio ymhellach y dangosyddion mesuradwy sydd yn y strategaeth hon ynghylch effeithiau disgwyliedig ac effeithiau posib y strategaeth, gan ddefnyddio data a gasglwyd yn genedlaethol ac yn lleol pryd bynnag y bo hynny’n bosib (bydd hyn yn cydweddu cymaint â phosib â systemau monitro perfformiad y partneriaid eu hunain)
identify gaps in the information/data already gathered and consider how appropriate data might be sourced, taking into account the practicality and cost of deriving additional information and the utility that such information is likely to offer
dynodi bylchau yn yr wybodaeth/data sydd eisoes wedi’u casglu ac ystyried sut gellid canfod data priodol, gan ystyried ymarferoldeb a chost canfod gwybodaeth ychwanegol a’r budd y mae gwybodaeth o’r fath yn debygol o’i olygu
identify a programme of data collection, research and analysis which will be published throughout the life of the strategy to inform its development and review – including for the annual report on the implementation of this strategy, which is required under Section 78 of the Government of Wales Act 2006.
clustnodi rhaglen ar gyfer casglu, ymchwilio a dadansoddi data a fydd yn cael ei chyhoeddi gydol oes y strategaeth fel sail i’w datblygiad a’i hadolygiad parhaus – gan gynnwys ar gyfer yr adroddiad blynyddol ar weithrediad y strategaeth hon sy’n ofynnol o dan Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Indicators
Dangosyddion
We will use the two indicators below to measure the overall success of this strategy.
Byddwn yn defnyddio’r ddau ddangosydd isod er mwyn mesur llwyddiant cyffredinol y strategaeth hon.
These are the indicators contained in the Programme for Government for 2011–2016.
Y rhain yw’r dangosyddion sydd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2011–2016.
The percentage of five-year-olds (at the start of the academic year) who speak Welsh at home.
Canran y plant pum mlwydd oed (ar ddechrau’r flwyddyn academaidd) sy’n siarad Cymraeg gartref.
The percentage of people able to speak and write Welsh.
Canran y bobl sy’n gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg.
We also want to measure the percentage of people who are able to speak but not write Welsh, as well as measure success under each of the six strategic areas.
Hoffem hefyd fesur canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg, ond nid ei hysgrifennu, a hefyd fesur y llwyddiant o dan bob un o’r chwe maes strategol.
These indicators can be found at the beginning of each of the next six sections.
Caiff y dangosyddion hyn eu nodi ar ddechrau’r chwe phennod nesaf.
We recognise that further work is required to develop and define these indicators and will do so as we develop our evaluation framework.
Rydym yn cydnabod y bydd angen gwneud rhagor o waith er mwyn datblygu a diffinio’r dangosyddion hyn a byddwn yn gwneud hyn wrth ddatblygu ein fframwaith gwerthuso.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living23
iaith byw23
Action points
Pwyntiau gweithredu
We will:
Byddwn yn:
1.
1.
Continue to implement our Welsh-medium Education Strategy, as published in April 2010.
Parhau i weithredu ein Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2010.
2.
2.
Distribute grants and commission projects for promoting the use of Welsh, evaluating the grants scheme, the projects and grant recipients’ work from time to time.
Dyrannu grantiau a chomisiynu prosiectau ar gyfer hybu’r defnydd o’r Gymraeg, gan werthuso’r cynllun grantiau, y prosiectau, a gwaith derbynwyr y grantiau o dro i dro.
3.
3.
Complete the process of establishing the new legislative framework under the Welsh Language Measure.
Cwblhau’r broses o sefydlu’r fframwaith deddfwriaethol newydd o dan Fesur y Gymraeg.
4.
4.
Establish the Welsh Language Partnership Council which will advise the Welsh Ministers on the implementation of this strategy.
Sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg a fydd yn cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch gweithredu’r strategaeth hon.
5.
5.
Make standards via subordinate legislation, following the receipt of recommendations by the Commissioner, which will enable the Commissioner to impose duties on bodies in relation to the Welsh language.
Gwneud safonau drwy is-ddeddfwriaeth, ar ôl i argymhellion y Comisiynydd ddod i law, a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gyrff ynghylch y Gymraeg.
6.
6.
Mainstream the Welsh language across all of the Welsh Government’s activities.
Prif ffrydio’r Gymraeg ar draws holl weithgareddau Llywodraeth Cymru.
We will improve our performance with regard to the work undertaken under our Welsh Language Scheme.
Byddwn yn gwella ein perfformiad mewn perthynas â’r gwaith yr ydym yn ei wneud o dan ein Cynllun Iaith Gymraeg.
7.
7.
Develop a framework within the Welsh Government’s procurement and grant compliance conditions for the establishment of community benefits in respect of the Welsh language, for use where appropriate.
Datblygu fframwaith o fewn amodau Llywodraeth Cymru ynghylch caffael a cydymffurfiaeth â grant er mwyn sefydlu manteision cymunedol mewn perthynas â’r Gymraeg i’w ddefnyddio lle y bo’n briodol.
8.
8.
24A living language:
24Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
Prepare an evaluation framework to develop our ability to measure the impact of interventions under the strategy, and commission research to grow the available evidence base.
Paratoi fframwaith gwerthuso er mwyn gwella ein gallu i fesur effaith ymyriadau o dan y strategaeth, a chomisiynu ymchwil i gynyddu’r dystiolaeth sydd ar gael.
Aim
Nod
To encourage and support the use of the Welsh language within families.
Annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg o fewn teuluoedd.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
More families where Welsh is the main language used with the children by at least one adult family member in regular contact with them.
Cynnydd yn nifer y teuluoedd lle defnyddir y Gymraeg fel y brif iaith gyda’r plant gan o leiaf un oedolyn o’r teulu sydd mewn cyswllt agos â nhw.
Indicator
Dangosydd
The percentage of five-year-olds (at the start of the academic year) who speak Welsh at home.
Canran y plant pum mlwydd oed (ar ddechrau’r flwyddyn academaidd) sy’n siarad Cymraeg gartref.
Aim
Nod
To encourage and support the use of the Welsh language within families.
Annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg o fewn teuluoedd.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
More families where Welsh is the main language used with the children by at least one adult family member in regular contact with them.
Cynnydd yn nifer y teuluoedd lle defnyddir y Gymraeg fel y brif iaith gyda’r plant gan o leiaf un oedolyn o’r teulu sydd mewn cyswllt agos â nhw.
Indicator
Dangosydd
The percentage of five-year-olds (at the start of the academic
Canran y plant pum mlwydd oed (ar ddechrau’r flwyddyn
year) who speak Welsh at home.
academaidd) sy’n siarad Cymraeg gartref.
Strategic area 1:
Maes strategol 1:
The family
Y teulu
Strategic area 1:
Maes strategol 1:
The family
Y teulu
Passing the language from one generation to the next is one of the two most important areas of language planning – the other being education.
Ynghyd ag addysg, mae trosglwyddo’r iaith o’r naill genhedlaeth i’r llall yn un o’r ddau faes pwysicaf ym maes cynllunio ieithyddol.
It is unlikely that Welsh will thrive as a community and social language if it is dependent on the education system alone as a means for new speakers to learn the language.
Nid yw’r Gymraeg yn debygol o ffynnu fel iaith gymunedol a chymdeithasol os yw’n dibynnu ar y system addysg yn unig fel ffordd o alluogi siaradwyr newydd i ddysgu’r iaith.
It needs to be the language of the home for as many children as possible – and there is no doubt that learning the language in this way is a natural and effective way to become a fluent Welsh speaker.
Mae angen iddi fod yn iaith y cartref i gynifer o blant â phosibl, ac yn ddiamau, mae caffael yr iaith yn y modd hwn yn ffordd naturiol ac effeithiol o ddatblygu’n siaradwr Cymraeg rhugl.
There is a body of evidence which suggests that the Welsh language is less likely to be used in families in which only one parent/carer speaks Welsh.
Ceir corff o dystiolaeth sy’n awgrymu bod y Gymraeg yn llai tebygol o gael ei defnyddio o fewn teuluoedd lle nad yw ond un rhiant/gofalwr yn siarad Cymraeg.
According to the 2001 Census, in families where both parents/carers spoke Welsh, 82 per cent of three to four-year-olds could also speak the language, but this accounts for only 5 per cent of this age group.
Yn ôl Cyfrifiad 2001, mewn teuluoedd lle’r oedd y ddau riant/gofalwr yn siarad Cymraeg, roedd 82 y cant o blant tair i bedair oed yn gallu siarad yr iaith, ond nid yw hyn ond yn cyfrif am 5 y cant o’r gr ˆwp oedran hwn.
In families where only one parent/carer spoke Welsh, the percentage fell to 40 per cent.
Mewn teuluoedd lle’r oedd un rhiant/gofalwr yn siarad Cymraeg, 40 y cant o’r plant hyn oedd yn gallu siarad yr iaith.
This presents a formidable challenge, and the decline of Welsh in families must be reversed if the language is to survive and prosper.
Mae hyn yn creu her enfawr, ac mae’n rhaid gwrth-droi’r dirywiad o ran y Gymraeg mewn teuluoedd er mwyn sicrhau bod yr iaith yn goroesi ac yn ffynnu.
Hence, increasing the use of Welsh within families is one of the Welsh Government’s key priorities for safeguarding the future of the Welsh language.
O’r herwydd, cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn teuluoedd yw un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu dyfodol y Gymraeg.
A wide range of factors can influence parental decisions regarding language transmission and these need to be considered in the round.
Gall ffactorau amrywiol iawn ddylanwadu ar benderfyniadau rhieni/gofalwyr ynghylch trosglwyddo iaith ac mae angen ystyried y rhain i gyd.
The evidence suggests that choice is largely intuitive with parents/carers using the language they know best, or the language that is ‘inclusive’ of their partner.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod dewis yn fater greddfol i raddau helaeth a bod rhieni/gofalwyr yn dueddol o ddefnyddio’r iaith y maent fwyaf cyfarwydd â hi, neu’r iaith y maent yn ei siarad â’u partner.
In terms of influences on the language choice of the child, this includes their ‘community‘ of speakers – including parents/carers, siblings, grandparents, teachers and friends – in addition to other social influences such as the media and community activities.
O ran y ffactorau sy’n dylanwadu ar yr iaith a gaiff ei dewis gan y plentyn, maent yn cynnwys eu ‘cymuned‘ o siaradwyr – sy’n cynnwys rhieni/gofalwyr, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau, athrawon a ffrindiau – yn ogystal â dylanwadau cymdeithasol eraill fel y cyfryngau a gweithgareddau cymunedol.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living25
iaith byw25
Over the past decade, the Welsh Language Board has directed considerable energy and expertise to language transmission.
Dros y degawd diwethaf, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi buddsoddi cryn egni ac arbenigedd ym maes trosglwyddo iaith.
Its main initiative was Twf, an innovative and extensive project aimed at encouraging Welsh-speaking parents/carers to speak Welsh with their children.
Ei brif fenter oedd Twf, sef prosiect arloesol ac eang ei gwmpas sy’n ceisio annog rhieni/gofalwyr Cymraeg eu hiaith i siarad Cymraeg â’u plant.
It has a network of field officers located throughout Wales, conveying to parents/carers, prospective parents/carers and the general public the advantages of speaking Welsh at home and the cultural and economic advantages of raising children bilingually.
Mae ganddi rwydwaith o swyddogion maes ledled Cymru, sy’n cyfleu i rieni/gofalwyr, darpar rieni/gofalwyr a’r cyhoedd fanteision siarad Cymraeg gartref, ynghyd â manteision diwylliannol ac economaidd magu plant yn ddwyieithog.
In addition to Twf, other initiatives directed at parents/carers have been developed by the Welsh Language Board, in partnership with other key organisations.
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd wedi datblygu mentrau eraill wedi’u hanelu at rieni/gofalwyr, yn ogystal â Twf, mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill.
These projects range from language-awareness sessions to schemes aimed at raising the confidence of parents/carers and the extended family to use Welsh with their children and within the community.
Amrywia’r prosiectau hyn o sesiynau ymwybyddiaeth iaith i gynlluniau sy’n ceisio cynyddu hyder rhieni/gofalwyr a’r teulu estynedig i ddefnyddio’r Gymraeg â’u plant ac o fewn y gymuned.
Evidence suggests that schemes such as Twf have succeeded in bringing the importance of language transmission into the work agendas of midwives and health visitors.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cynlluniau fel Twf wedi llwyddo i gynnwys pwysigrwydd trosglwyddo iaith o fewn agendâu gwaith bydwragedd ac ymwelwyr iechyd.
They have also contributed to raising awareness in relation to the advantages of being bilingual.
Mae hefyd wedi cyfrannu at godi ymwybyddiaeth ynglˆyn â manteision dwyieithrwydd.
However, we recognise that it is difficult, on the basis of available evidence, to assess the impact of schemes such as these on language patterns in families and that further work remains to be done to better understand the impact of these interventions.
Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, ei bod yn anodd, ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, i asesu effaith cynlluniau fel hyn ar batrymau iaith mewn teuluoedd a bod rhagor o waith i’w wneud i ddeall yn well effaith yr ymyriadau hyn.
The Welsh Government is committed to better understanding the decisions made by Welsh-speaking parents/carers and, to this end, will look for ways to improve and develop initiatives which persuade parents/carers and the extended family to transmit Welsh to their children.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i ddeall yn well y penderfyniadau a wneir gan rieni/gofalwyr sy’n siarad Cymraeg a byddwn, i’r perwyl hwn, yn chwilio am ffyrdd i wella a datblygu gweithgareddau sy’n darbwyllo rhieni/gofalwyr a’r teulu estynedig i drosglwyddo’r Gymraeg i’w plant.
We also recognise that there is a need to support non-Welsh speaking parents/carers to provide opportunities for their children to have exposure to the language, through activities in the community as well as through multimedia activities in the home such as S4C’s Cyw service on television and online.
Rydym hefyd yn cydnabod bod angen cynorthwyo rhieni/gofalwyr di-Gymraeg, gan greu cyfleoedd i’w plant glywed yr iaith, drwy weithgareddau o fewn y gymuned a thrwy weithgareddau amlgyfrwng yn y cartref fel gwasanaeth Cyw ar S4C sy’n cynnwys rhaglenni teledu a gwasanaeth ar-lein.
26A living language:
26Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
New technologies also present opportunities for families to maintain face-to-face relationships over long distances, for example between grandparents and their grandchildren.
Mae technolegau newydd yn ei gwneud yn bosibl i deuluoedd gadw mewn cysylltiad wyneb yn wyneb ble bynnag y maent, er enghraifft gall neiniau a theidiau gadw mewn cysylltiad â’u hwyrion.
This could provide increased exposure to Welsh outside the immediate family in cases where they live a long distance away from each other.
Gallai hyn olygu ei bod hi’n bosibl sicrhau bod rhagor o Gymraeg yn cael ei chlywed y tu allan i’r teulu agos os yw aelodau o deuluoedd yn byw yn bell i ffwrdd oddi wrth ei gilydd.
This is an area where further evidence is required and we will want to ensure, therefore, that further research into language transmission is undertaken after the 2011 Census Welsh language results have been published, in an attempt to better understand the relationship between policy interventions and the choices made by parents/carers.
Mae hwn yn faes lle mae angen mwy o dystiolaeth a byddwn am sicrhau, felly, bod rhagor o waith ymchwil yn cael ei wneud ym maes trosglwyddo iaith ar ôl i ganlyniadau Cyfrifiad 2011 gael eu cyhoeddi. Y nod yw ceisio deall yn well y berthynas rhwng yr ymyriadau polisi a dewisiadau rhieni/gofalwyr.
Finally, the incoming Welsh Government’s manifesto in May 2011 committed it to putting Welsh in Education Strategic Plans on a statutory basis, and to require local authorities to plan Welsh-medium education on the basis of parental demand.
Yn olaf, roedd ymrwymiad ym maniffesto Llywodraeth newydd Cymru ym mis Mai 2011 i sicrhau sail statudol i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, ac i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ar sail y galw gan rieni.
This commitment, which takes the Welsh-medium Education Strategy a stage further, will be implemented as part of the Welsh Government’s Legislative Programme.
Caiff yr ymrwymiad hwn, sy’n mynd â’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gam ymhellach, ei weithredu fel rhan o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
Action points
Pwyntiau gweithredu
We will:
Byddwn yn:
9.
9.
Further develop an effective and coordinated evidence-based approach to encouraging and supporting the use of Welsh within families with babies and young children, including by building on the work of Twf and its associated projects, and by promoting Welsh for Families courses and events.
Datblygu ymhellach ffordd effeithiol a chydgysylltiedig, wedi’i seilio ar dystiolaeth, o annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg o fewn teuluoedd gyda babanod a phlant ifanc. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu ar waith Twf a phrosiectau cysylltiedig, a hybu cyrsiau a digwyddiadau Cymraeg i’r Teulu.
10.
10.