source
stringlengths
2
497
target
stringlengths
2
430
Children and young people
Plant a phobl ifanc
Strategic area 2:
Maes strategol 2:
Children and young people
Plant a phobl ifanc
Strategic area 4:
Maes strategol 4:
The workplace
Y gweithle
Strategic area 4:
Maes strategol 4:
The workplace
Y gweithle
Language use
Defnyddio’r iaith
Language use
Defnyddio’r iaith
Strategic area 3:
Maes strategol 3:
The community
Y gymuned
Strategic area 3:
Maes strategol 3:
The community
Y gymuned
Strategic area 5:
Maes strategol 5:
Welsh-language services
Gwasanaethau Cymraeg
Strategic area 5:
Maes strategol 5:
Welsh-language services
Gwasanaethau Cymraeg
How we will implement the strategy
Sut byddwn yn gweithredu’r strategaeth
In order to achieve our vision, we need to employ different means of taking action, depending on the circumstances in question.
Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, mae gofyn ein bod yn defnyddio gwahanol ddulliau gweithredu, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau dan sylw.
It is vital that we continue working to encourage people and organisations to use Welsh, while at the same time making full use of the opportunities afforded by the Welsh Language Measure by enabling the Welsh Language Commissioner to impose duties upon various bodies via standards.
Mae’n hollbwysig ein bod yn parhau â’r gwaith o annog pobl a sefydliadau i ddefnyddio’r Gymraeg gan hefyd wneud defnydd llawn o’r cyfleoedd a fydd yn deillio o Fesur y Gymraeg. Bydd y Mesur hwn yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod dyletswyddau ar wahanol gyrff drwy safonau.
In implementing the strategy we will adhere to certain core principles.
Wrth weithredu’r strategaeth byddwn yn dilyn rhai egwyddorion craidd.
Those principles are outlined over the following pages, along with the various means by which action will be taken.
Amlinellir yr egwyddorion hynny dros y tudalennau nesaf, ynghyd â’r gwahanol ddulliau gweithredu.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living17
iaith byw17
Principles
Egwyddorion
These are the principles to which we will adhere when implementing this strategy.
Dyma’r egwyddorion y byddwn yn eu dilyn wrth weithredu’r strategaeth hon.
Continuity and change
Parhad a newid
The need for action in the strategic areas noted previously is not new.
Nid yw’r angen i weithredu yn y meysydd strategol uchod yn newydd.
As already mentioned, the Welsh Language Board and its partners have taken action in each of the areas to varying degrees.
Fel y crybwyllwyd eisoes, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’i bartneriaid wedi gweithredu o dan bob un o’r meysydd i wahanol raddau.
The Welsh Government is eager to continue the creative work undertaken by the Board over the years.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i barhau â’r gwaith creadigol y mae’r Bwrdd wedi’i wneud dros y blynyddoedd.
Positioning the Board’s Community Development Team within the Welsh Government’s new Welsh Language Division from April 2012 will be a core part of that continuity, providing a conduit between the Welsh Government and a number of the partners which will be vital for the success of this strategy.
Bydd lleoli Tîm Datblygu Cymunedol y Bwrdd o fewn Is-adran y Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru o fis Ebrill 2012 ymlaen yn elfen greiddiol o’r parhad hwnnw, gan ddarparu dolen gyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a nifer o’r partneriaid a fydd yn allweddol i lwyddiant y strategaeth hon.
At the same time, the Welsh Government’s Advisory Group on the strategy agreed that the change in structures for promoting and facilitating the Welsh language in light of the Welsh Language Measure, and the publication of this strategy, offered an opportunity for the Welsh Government to review and evaluate the organisations and projects we fund, in order to seek to ensure that we are achieving the best outcomes for the language.
Ar yr un pryd, roedd Gr ˆwp Cynghori Llywodraeth Cymru ar y strategaeth yn gytûn fod y newid yn y strwythurau ar gyfer hybu a hwyluso’r Gymraeg yn sgil Mesur y Gymraeg, a chyhoeddi’r strategaeth hon, yn cynnig cyfle i Lywodraeth Cymru adolygu a gwerthuso’r sefydliadau a’r prosiectau yr ydym yn eu hariannu er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer yr iaith.
The original draft strategy was published by the One Wales Government.
Cyhoeddwyd y strategaeth ddrafft wreiddiol gan Lywodraeth Cymru’n Un.
This final strategy draws heavily on that document.
Mae llawer o gynnwys y ddogfen honno i’w weld yn y strategaeth derfynol hon.
Making the most of the available money
Gwneud y gorau o’r arian sydd ar gael
In developing this work, we will face a range of challenges posed by straitened public finances and we will rigorously scrutinise our financial support for the language.
Wrth fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, byddwn yn wynebu gwahanol heriau amrywiol sy’n deillio o’r ffaith bod llai o arian cyhoeddus ar gael a byddwn yn craffu mewn modd trylwyr ar y cymorth ariannol yr ydym yn ei roi i’r iaith.
We will also place a premium on creative use of funding and on innovation, and will continue the Welsh Language Board’s method of funding on the basis of outcomes.
Byddwn hefyd yn rhoi pwys mawr ar ddefnydd creadigol o gyllid ac ar arloesi, a byddwn yn parhau â dull Bwrdd yr Iaith Gymraeg o ariannu sy’n seiliedig ar ganlyniadau.
Further collaboration
Mwy o gydweithio
18A living language:
18Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
There will be an even stronger emphasis on collaboration and new forms of partnership working, involving all the organisations that have a part to play in planning a better future for the language.
Bydd pwyslais hyd yn oed cryfach ar gydweithredu ac ar fathau newydd o waith partneriaeth a fydd yn cynnwys yr holl sefydliadau sydd â rhan i’w chwarae wrth gynllunio gwell dyfodol ar gyfer yr iaith.
We will continue to convene the Partners’ Forum established by the Welsh Language Board.
Byddwn yn parhau i gynnull y Fforwm Partneriaid a sefydlwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
We will also establish a Welsh Language Partnership Council whose work to advise the Welsh Ministers on the implementation of this strategy will commence in April 2012.
Byddwn hefyd yn sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg a fydd yn cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch gweithredu’r strategaeth hon ac a fydd yn cychwyn ar ei waith ym mis Ebrill 2012.
The new structures, which will include a strong Welsh Language Division within the Welsh Government, will offer an opportunity for further collaboration to occur with other departments within the Welsh Government in order to ensure that issues relating to the Welsh language, and the aims of this strategy, are mainstreamed into the work of the departments.
Bydd y strwythurau newydd, a fydd yn cynnwys Is-adran y Gymraeg gref o fewn Llywodraeth Cymru, yn creu cyfleoedd i gydweithio rhagor ag adrannau eraill o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod materion yn ymwneud â’r Gymraeg, a nodau’r strategaeth hon, yn dod yn rhan o waith yr adrannau.
Sharing and embedding responsibility for the Welsh language
Rhannu a gwreiddio’r cyfrifoldeb am y Gymraeg
The Welsh Government is eager to ensure that responsibility for promoting the Welsh language is shared between an increasing number of organisations.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau bod y cyfrifoldeb am hybu’r Gymraeg yn cael ei rannu rhwng nifer cynyddol o sefydliadau.
The standards system under the Welsh Language Measure (see page 20) will enable the Welsh Government to make standards which will enable the Welsh Language Commissioner to impose duties upon the Welsh Government, local authorities and national park authorities to promote the use of Welsh more widely.
Bydd y system safonau o dan Fesur y Gymraeg (gweler tudalen 20) yn galluogi Llywodraeth Cymru i lunio safonau a fydd yn caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg osod dyletswyddau ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn fwy eang.
We also realise that many of the successes in relation to the viability of the Welsh language depend on the activities of individuals and communities – and that capability needs to be fostered at the local level to enable those types of activities to continue in the future.
Rydym hefyd yn sylweddoli bod llawer o’r llwyddiannau o safbwynt hyfywedd y Gymraeg yn ddibynnol ar weithgareddau unigolion a chymunedau, a bod angen meithrin gallu ar y lefel leol er mwyn sicrhau y gall y mathau hynny o weithgareddau barhau yn y dyfodol.
Equality of opportunity
Cyfle cyfartal
Equality of opportunity is a cross-cutting theme integral to this document and all policies of the Welsh Government.
Mae cyfle cyfartal yn thema drawsbynciol sy’n allweddol i’r ddogfen hon ac i holl bolisïau Llywodraeth Cymru.
No one, in any part of Wales, should be denied opportunities to use the Welsh language, nor denied the opportunity to learn Welsh because of their race, ethnicity, disability, gender, sexual orientation, age or religion.
Ni ddylai unrhyw un, mewn unrhyw ran o Gymru, fethu â manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, nac ychwaith fethu â manteisio ar gyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg oherwydd eu hil, ethnigrwydd, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd.
Welsh-language services should be available to, and accessed by, all communities, including those characterised by disadvantage and ethnic diversity.
Dylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i bob cymuned, a dylai cymunedau allu manteisio arnynt, gan gynnwys cymunedau difreintiedig a’r rheini sy’n cynnwys cryn amrywiaeth ethnig.
We will expect our partners, providers and stakeholders to recognise this principle and take steps to make it a reality.
Byddwn yn disgwyl i’n partneriaid, ein darparwyr a’n rhanddeiliaid gydnabod hyn mewn egwyddor a chymryd camau i’w wireddu.
Sustainability
Cynaliadwyedd
This strategy aims to bring about an increase in the numbers able to speak Welsh, and in those who use Welsh on a daily basis.
Mae’r strategaeth hon yn ceisio sicrhau cynnydd yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg, ac yn nifer y bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn feunyddiol.
It also builds on the efforts already seen in communities across Wales to take responsibility for the language at a local level, and encourages communities and the organisations that serve them to promote the use of Welsh, thereby encouraging the sustainability of Welsh as a living language within those communities.
Mae hefyd yn manteisio ar yr ymdrechion sydd eisoes wedi’u gwneud mewn cymunedau ar draws Cymru er mwyn cymryd cyfrifoldeb am yr iaith yn lleol, ac yn annog y cymunedau a’r sefydliadau sy’n eu gwasanaethu i hybu’r defnydd o’r Gymraeg. Golyga hyn hybu cynaliadwyedd y Gymraeg fel iaith fyw o fewn y cymunedau hynny.
In addition, it complements the Welsh Government’s Welsh-medium Education Strategy in planning for sustainability, by ensuring increased opportunities to use Welsh in the workplace.
Mae hefyd yn ategu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru wrth gynllunio ar gyfer cynaliadwyedd, drwy sicrhau rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living19
iaith byw19
The Welsh-medium Education Strategy has put measures in place to ensure that the workforce of the future will be equipped with Welsh language skills.
Mae’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi sefydlu mesurau er mwyn sicrhau bod gan weithlu’r dyfodol sgiliau yn y Gymraeg.
This strategy aims to ensure that a wide range of organisations respond by ensuring opportunities for Welsh speakers to use those skills at work.
Mae’r strategaeth hon yn ceisio sicrhau bod sefydliadau amrywiol iawn yn ymateb drwy greu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r sgiliau hynny yn y gwaith.
Implementation mechanisms
Dulliau gweithredu
These are the implementation methods we will employ when seeking to make our vision a reality.
Dyma’r dulliau gweithredu y byddwn yn eu defnyddio wrth geisio gwireddu ein gweledigaeth.
Grants for promoting the use of Welsh
Grantiau ar gyfer hybu’r defnydd o’r Gymraeg
The Welsh Government will distribute grants to bodies for the purpose of promoting Welsh.
Bydd Llywodraeth Cymru yn dosbarthu grantiau i gyrff at ddibenion hybu’r Gymraeg.
Over time, we will review and evaluate the use made of those grants, ensuring they are congruous with the priorities of this strategy.
Dros amser, byddwn yn adolygu ac yn gwerthuso’r defnydd a wneir o’r grantiau hynny, gan sicrhau eu bod yn gydnaws â blaenoriaethau’r strategaeth hon.
Specific projects for promoting the use of Welsh
Prosiectau penodol ar gyfer hybu’r defnydd o’r Gymraeg
We will also continue to implement and develop specific projects for promoting the use of Welsh in different contexts.
Byddwn hefyd yn parhau i weithredu a datblygu prosiectau penodol ar gyfer hybu’r defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau.
A number of these projects will be a continuation of projects operated previously by the Welsh Language Board.
Bydd nifer o’r prosiectau hyn yn barhad o brosiectau yr arferai Bwrdd yr Iaith Gymraeg eu gweithredu.
Over time, we will review and evaluate these projects ensuring they are congruous with the priorities of this strategy.
Dros amser, byddwn yn adolygu ac yn gwerthuso’r prosiectau hyn gan sicrhau eu bod yn gydnaws â blaenoriaethau’r strategaeth hon.
Legal framework
Y fframwaith cyfreithiol
The Welsh Language Measure established the office of the Welsh Language Commissioner with a general power to promote and facilitate the use of Welsh and to work towards ensuring that Welsh is treated no less favourably than English.
Creodd Mesur y Gymraeg swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a fydd â’r p ˆwer cyffredinol i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ac i weithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
The Commissioner will have a key role to play in safeguarding the rights of Welsh speakers and contributing to the public debate surrounding the future of the Welsh language.
Bydd gan y Comisiynydd rôl allweddol wrth warchod hawliau siaradwyr Cymraeg a chyfrannu at y drafodaeth gyhoeddus ynghylch dyfodol y Gymraeg.
The range of services available to the public in Welsh will be improved as a result of the Measure.
Bydd y gwahanol wasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd yn gwella o ganlyniad i’r Mesur.
This will be achieved by creating standards which will impose duties on organisations who fall within the scope of the Measure to:
Caiff hyn ei gyflawni drwy greu safonau a fydd yn gosod dyletswyddau ar sefydliadau sy’n dod o dan gwmpas y Mesur o ran:
provide services in Welsh
darparu gwasanaethau yn y Gymraeg
consider the effect of policy decisions on the Welsh language
ystyried effaith penderfyniadau polisi ar y Gymraeg
20A living language:
20Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
promote the use of Welsh in the workplace
hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle
promote and facilitate the use of Welsh more widely
hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn fwy eang
keep records of compliance with standards and of complaints.
cadw cofnodion ynghylch cydymffurfiaeth â safonau ac ynghylch cwynion.
Both the Commissioner and the Welsh Government will have important roles to play in the creation of standards.
Bydd gan y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru ill dau rolau pwysig wrth greu safonau.
The Commissioner will also have significant powers to enforce compliance with standards and powers to undertake investigations into allegations of interference with individuals’ freedom to use Welsh with one another.
Bydd gan y Comisiynydd hefyd bwerau sylweddol i orfodi cydymffurfiaeth â safonau ynghyd â phwerau i ymchwilio i honiadau o ymyrraeth yn rhyddid unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd.
The Commissioner will also have the power to advise and make recommendations to the Welsh Government in relation to the Welsh language.
Bydd gan y Comisiynydd hefyd y p ˆwer i gynghori ac i gyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch y Gymraeg.
The Commissioner will also be duty-bound to formulate a report every five years on the position of the Welsh language.
Bydd hefyd ddyletswydd ar y Comisiynydd i lunio adroddiad bob pum mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg.
It is evident, therefore, that the Measure and the work of the Commissioner are key elements of the work required to make the Welsh Government’s vision of a thriving Welsh language a reality.
Mae’n amlwg, felly, y bydd y Mesur a gwaith y Comisiynydd yn agweddau allweddol ar y gwaith y mae angen ei wneud er mwyn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu.
While the Commissioner will operate independently of the Welsh Government and determine her own priorities, the work of the Commissioner will complement the activities undertaken by the Welsh Government across all areas in implementing this strategy and will ensure we can share the responsibility for promoting the use of Welsh with others, including local authorities.
Er y bydd y Comisiynydd yn gweithredu yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac yn pennu ei flaenoriaethau ei hun, bydd gwaith y Comisiynydd yn ategu’r gweithgareddau y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â nhw ar draws pob maes wrth weithredu’r strategaeth hon. Bydd hefyd yn sicrhau y gallwn rannu’r cyfrifoldeb am hybu’r defnydd o’r Gymraeg gydag eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol.
This necessitates a good working relationship between the Welsh Government and the Commissioner and we will seek opportunities to collaborate effectively with the Commissioner for the benefit of the Welsh language.
Gofynna hyn am sefydlu perthynas weithio dda rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiynydd a byddwn yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd i gydweithio’n effeithiol â’r Comisiynydd er lles y Gymraeg.
Research is an example of one area where there may be an opportunity to collaborate.
Efallai y bydd gwaith ymchwil yn un enghraifft o faes lle y byddai’n bosib cydweithio.
Mainstreaming across Welsh Government
Prif ffrydio ar draws Llywodraeth Cymru
In addition, the Welsh Government will further mainstream the language into service and policy development, while ensuring that Ministers and officials consider the links between their portfolios and the language.
Bydd Llywodraeth Cymru yn prif ffrydio’r iaith ymhellach i waith datblygu gwasanaethau a datblygu polisi, gan sicrhau ar yr un pryd fod Gweinidogion a swyddogion yn ystyried y cysylltiadau rhwng eu portffolios nhw a’r iaith.
To this end, the Welsh Government’s policy process requires the impact of new policies and services on the Welsh language to be assessed, including strategic policy activities.
I’r perwyl hwn, o dan broses polisi Llywodraeth Cymru, mae gofyn asesu effaith polisïau a gwasanaethau newydd ar y Gymraeg, gan gynnwys gweithgareddau polisi strategol.
We also expect policies created, and services delivered, by other public bodies to be consistent with the language needs of the population they serve.
Rydym hefyd yn disgwyl i’r polisïau a lunnir, ac i’r gwasanaethau a ddarperir, gan gyrff cyhoeddus eraill gyd-fynd ag anghenion ieithyddol y boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu.
The Commissioner will have a key role to play in developing the mainstreaming agenda.
Bydd gan y Comisiynydd rôl allweddol wrth ddatblygu’r agenda prif ffrydio.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living21
iaith byw21
Procurement and grant condition compliance
Caffael a chydymffurfio ag amodau grant
Sometimes Welsh Government intervention is most effectively exercised through clear procurement or grant conditions which emphasise social conditions on organisations and inward investors.
O bryd i’w gilydd y ffordd fwyaf effeithiol i Lywodraeth Cymru ymyrryd yw drwy gaffael neu gyflwyno amodau grant clir sy’n tynnu sylw sefydliadau a buddsoddwyr o’r tu allan at amodau cymdeithasol.
Through using our powers in respect of procurement or grant funding, we will require organisations tendering for public sector contracts or bidding for public sector support, to demonstrate, where relevant, that the Welsh language is incorporated into the services they offer to the public.
Trwy ddefnyddio ein pwerau mewn perthynas â chaffael neu gyllid grant, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sy’n cyflwyno tendr ar gyfer contractau’r sector cyhoeddus neu sy’n cyflwyno cais am gymorth gan y sector cyhoeddus ddangos, lle y bo’n berthnasol, fod y Gymraeg ymysg y manteision a gyflawnir ar gyfer y gymuned leol.