source
stringlengths
2
497
target
stringlengths
2
430
A living language:
Iaith fyw:
a language for living43
iaith byw43
Private sector
Y sector preifat
33.
33.
Ask the Commissioner to promote the voluntary use of Welsh by the private sector – and encourage the uptake of those services by Welsh speakers.
Gofyn i’r Comisiynydd hybu defnydd gwirfoddol y sector preifat o’r Gymraeg – ac annog siaradwyr Cymraeg i fanteisio ar y gwasanaethau hynny.
34.
34.
Make standards, which will enable the Commissioner to impose duties on private sector companies which fall within the scope of the Welsh Language Measure, including telecommunications companies, bus and train operators, and utility companies – and to ensure that appropriate conditions with regard to the use of Welsh are included as grants and contracts are awarded to private sector companies by public bodies.
Gwneud safonau a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gwmnïau’r sector preifat sy’n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau – a sicrhau bod amodau priodol o ran y defnydd o’r Gymraeg yn cael eu cynnwys wrth i grantiau a chontractau gael eu dyfarnu i gwmnïau’r sector preifat gan gyrff cyhoeddus.
Third sector
Y trydydd sector
35.
35.
Ask the Commissioner to promote the voluntary use of Welsh by the third sector – and encourage the uptake of those services by Welsh speakers.
Gofyn i’r Comisiynydd hybu defnydd gwirfoddol y trydydd sector o’r Gymraeg – ac annog siaradwyr Cymraeg i fanteisio ar y gwasanaethau hynny.
36.
36.
44A living language:
44Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
Make standards, which will enable the Commissioner to impose duties on third sector organisations which fall within the scope of the Welsh Language Measure, including the WCVA – and to ensure that appropriate conditions with regard to the use of Welsh are included as grants, and contracts are awarded to third sector organisations by public bodies.
Gwneud safonau a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gyrff y trydydd sector sy’n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – ac i sicrhau bod amodau priodol o ran y defnydd o’r Gymraeg yn cael eu cynnwys wrth i grantiau a chontractau gael eu dyfarnu i gyrff y trydydd sector gan gyrff cyhoeddus.
Aim
Nod
To strengthen the infrastructure for the language.
Cryfhau’r seilwaith ar gyfer yr iaith.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
More tools and resources in place to facilitate the use of Welsh, including in the digital environment.
Bod mwy o adnoddau ac arfau ar gael i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan gynnwys o fewn yr amgylchedd digidol.
Indicators
Dangosyddion
Number of Welsh-language books, e-books and magazines sold (non-education).
Nifer y llyfrau Cymraeg, e-lyfrau a chylchgronau (heb gynnwys addysg) a werthir.
Readership for Golwg 360.
Y nifer sy’n darllen Golwg 360.
Distribution figures for papurau bro.
Ffigyrau dosbarthu ar gyfer y papurau bro.
Viewing and listening figures for S4C and Radio Cymru.
Ffigyrau gwylio a gwrando ar gyfer S4C a Radio Cymru.
Prevalence of popularly used websites that have developed Welsh-language interfaces.
Pa mor gyffredin yw gwefannau poblogaidd sydd wedi datblygu rhyngwynebau Cymraeg.
Prevalence of banks, mobile phone companies and others providing Welsh-language interfaces.
Pa mor gyffredin yw banciau, cwmnïau ffonau symudol ac eraill sy’n darparu rhyngwynebau Cymraeg.
Aim
Nod
To strengthen the infrastructure for the language.
Cryfhau’r seilwaith ar gyfer yr iaith.
Desired outcome
Y canlyniad a ddymunir
More tools and resources in place to facilitate the use of Welsh, including in the digital environment.
Bod mwy o adnoddau ac arfau ar gael i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan gynnwys o fewn yr amgylchedd digidol.
Indicators
Dangosyddion
Number of Welsh-language books, e-books and magazines sold (non-education).
Nifer y llyfrau Cymraeg, e-lyfrau a chylchgronau (heb gynnwys addysg) a werthir.
Readership for Golwg 360.
Y nifer sy’n darllen Golwg 360.
Distribution figures for papurau bro.
Ffigyrau dosbarthu ar gyfer y papurau bro.
Viewing and listening figures for S4C and Radio Cymru.
Ffigyrau gwylio a gwrando ar gyfer S4C a Radio Cymru.
Prevalence of popularly used websites that have developed Welsh-language interfaces.
Pa mor gyffredin yw gwefannau poblogaidd sydd wedi datblygu rhyngwynebau Cymraeg.
Prevalence of banks, mobile phone companies and others providing Welsh-language interfaces.
Pa mor gyffredin yw banciau, cwmnïau ffonau symudol ac eraill sy’n darparu rhyngwynebau Cymraeg.
Strategic area 6:
Maes strategol 6:
Infrastructure
Y seilwaith
Strategic area 6:
Maes strategol 6:
Infrastructure
Y seilwaith
The Welsh Government believes that the language needs a strong infrastructure, reflecting its official status in Wales, while helping those who wish to use the language to do so.
Cred Llywodraeth Cymru fod angen seilwaith cryf ar yr iaith a fydd yn adlewyrchu ei statws swyddogol yng Nghymru ac a fydd hefyd yn helpu’r rheini sydd am ddefnyddio’r iaith.
To strengthen the Welsh language infrastructure, research suggests focussing Welsh language marketing and promotional approaches on younger age groups, maximising the potential of technology such as the internet and new social media, and improving the accessibility to, and relevance of, available Welsh-language media and resources.
Er mwyn cryfhau seilwaith y Gymraeg, mae ymchwil yn awgrymu bod angen i ymgyrchoedd marchnata a hybu mewn perthynas â’r Gymraeg dargedu grwpiau iau, bod angen manteisio i’r eithaf ar botensial technoleg fel y we a’r cyfryngau cymdeithasol newydd, a bod angen ei gwneud hi’n haws i fanteisio ar y cyfryngau a’r adnoddau Cymraeg sydd ar gael, a’u gwneud yn fwy perthnasol.
The media, in all forms, plays an important part in supporting the infrastructure of the language.
Mae gan yr holl wahanol ffurfiau ar y cyfryngau ran bwysig i’w chwarae wrth gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg.
Access to high-quality Welsh-language books, radio, television and online content is vital in ensuring that the language thrives.
Mae’r gallu i fanteisio ar lyfrau, radio a theledu Cymraeg o safon uchel yn ogystal â deunydd ar-lein yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu.
Throughout the twentieth century, the broadcast media played an important role in the development and preservation of the Welsh language through both radio and television.
Drwy gydol yr ugeinfed ganrif, gwelsom fod y cyfryngau darlledu wedi chwarae rôl bwysig, drwy gyfrwng y radio a’r teledu, yn datblygu ac yn diogelu’r Gymraeg.
In the twenty-first century, the existence of Welsh-language digital media content and applications not only allows the Welsh language to flourish, but it also enables Welsh speakers to participate fully as digital citizens and demonstrates to all that the Welsh language is a creative, powerful, adaptive and modern medium.
Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae’r ffaith bod modd defnyddio’r cyfryngau digidol a’r apps Cymraeg nid yn unig yn caniatáu i’r iaith ffynnu ond hefyd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan yn llawn yn yr oes ddigidol hon. Maent hefyd yn dangos i bawb fod y Gymraeg yn gyfrwng modern, creadigol, grymus, sy’n gallu addasu.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living45
iaith byw45
Digital content and applications
Cynnwys a meddalwedd ddigidol
Our ambition and our expectation should be that Welsh speakers should be able to conduct their lives electronically through the medium of Welsh, should they so desire, including for cultural, informational, entertainment, leisure, retail, transactional, community, family history or social networking purposes.
Dylai sicrhau bod modd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio cyfryngau electronig drwy gyfrwng y Gymraeg, os ydynt yn dymuno gwneud hynny, fod yn uchelgais gennym; ni ddylem ddisgwyl llai na hynny. Dylai hynny fod yn bosibl at ddibenion diwylliannol, dod o hyd i wybodaeth, adloniant, hamdden, siopa, cynnal trafodion, neu at ddibenion cymunedol, hanes teulu neu rwydweithio cymdeithasol.
A wider range of Welsh-language digital services is being developed, building on past achievements such as the productive partnership between the Welsh Language Board, Microsoft and other organisations;
Mae dewis ehangach o wasanaethau digidol Cymraeg eu hiaith wrthi’n cael ei ddatblygu, gan fanteisio ar lwyddiannau blaenorol fel y bartneriaeth gynhyrchiol rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Microsoft a sefydliadau eraill;
the work of Canolfan Bedwyr to develop a number of services and software packages;
gwaith Canolfan Bedwyr i ddatblygu sawl gwasanaeth a phecyn meddalwedd;
and the work undertaken by an enthusiastic community of volunteers to develop a number of software packages and online services such as the translation of Facebook into Welsh.
a’r gwaith a wneir gan gymuned o wirfoddolwyr brwd i ddatblygu nifer o becynnau meddalwedd a gwasanaethau ar-lein fel cyfieithu Facebook i’r Gymraeg.
In addition, a wide variety of open source software ‘localisation’ initiatives have been developed, including initiatives sponsored through Welsh Government-supported projects such as Communities@One and its successor programme, Communities 2.0, and private sector-led initiatives such as Welsh-medium cash machines and call centres.
Yn ogystal â hyn, mae amryfal fentrau ‘lleoli’ sy’n defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored wedi’u datblygu, sy’n cynnwys mentrau a noddir gan brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel Cymunedau@Ei Gilydd a’i olynydd, Cymunedau 2.0, a mentrau a arweinir gan y sector preifat fel peiriannau arian parod cyfrwng Cymraeg a chanolfannau galwadau.
The pace of change is significant and striking.
Mae pethau’n newid yn syfrdanol o gyflym.
In December 2011 alone, the first Welsh-language e-books became available on the Kindle, the Welsh-language magazine Golwg became available via an iPad app, and the Welsh Language Board consulted on Welsh language terminology for use on Twitter.
Fis Rhagfyr 2011, cafodd yr e-lyfrau Cymraeg cyntaf eu lansio ar gyfer Kindle; cafodd app ei lansio ar yr iPad ar gyfer cylchgrawn Golwg; a bu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ymgynghori ar y derminoleg Gymraeg i’w defnyddio ar Twitter – hyn oll mewn mis.
It is likely that consumer demand and user initiatives will drive some of these developments.
Mae’n si ˆwr y bydd rhywfaint o’r datblygiadau hyn yn cael eu hysgogi gan y galw ymhlith defnyddwyr a mentrau ar gyfer defnyddwyr.
However, development is likely to be uneven and there is an important leadership role for Welsh Government.
Serch hynny, mae’n debyg y bydd anghysondeb yn y datblygiadau hyn felly mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i’w chwarae drwy arwain ar hyn.
This role is likely to take the following forms:
Bydd sawl agwedd ar y rôl hon:
encouraging major private sector service providers, including banks, retailers, mobile phone companies, software and hardware developers, and others to develop online services, applications and interfaces through the medium of Welsh
annog darparwyr gwasanaeth amlwg o fewn y sector preifat, gan gynnwys banciau, siopau, cwmnïau ffonau symudol, datblygwyr meddalwedd a chaledwedd, ac eraill i ddatblygu meddalwedd, rhyngwynebau a gwasanaethau ar-lein cyfrwng Cymraeg
facilitating the development of Welsh interfaces for commonly used social networking media, including open source software
ei gwneud hi’n haws i ddatblygu rhyngwynebau Cymraeg ar gyfer cyfryngau rhwydweithio cymdeithasol cyffredin, gan gynnwys meddalwedd ffynhonnell agored
46A living language:
46Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
providing, possibly on a matched basis, seedcorn funding for initiatives such as these on an incremental basis over time
darparu, ar sail gyfatebol o bosibl, gyllid sbarduno ar gyfer mentrau fel y rhain ar sail gynyddol dros amser
developing a consensus around priority areas where technological investment is required
datblygu consensws ynghylch meysydd blaenoriaeth lle y mae angen buddsoddiad technolegol
ensuring that the public sector is developing best practice in this field
sicrhau bod y sector cyhoeddus yn datblygu arferion gorau yn y maes hwn
promoting best practice examples from the private, public and third sectors.
hybu enghreifftiau o arferion gorau o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
We will explore whether any future Welsh Government investment in Welsh-medium technology could be licensed on a Creative Commons basis.
Byddwn yn ystyried a fyddai modd trwyddedu unrhyw fuddsoddiad yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru mewn technoleg cyfrwng Cymraeg drwy drwydded ‘Creative Commons’.
The Welsh Government supports the principle of top-level internet domain names for Wales in both English and Welsh.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r egwyddor o enwau parth lefel uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer Cymru.
Technology in education
Technoleg mewn addysg
The development of infrastructure is central to the Welsh-medium Education Strategy published in 2010.
Mae datblygu seilwaith yn agwedd ganolog ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a gyhoeddwyd yn 2010.
This new strategy for the Welsh language should be read alongside the existing Welsh-medium Education Strategy.
Dylai’r strategaeth newydd hon ar gyfer yr iaith gael ei darllen ar y cyd â’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg sydd eisoes mewn grym.
Within the Welsh Government, we are moving swiftly to integrate the Welsh Language Unit and the Welsh in Education Unit to form a new Welsh Language Division.
Mae’r broses o uno Uned y Gymraeg ac Uned y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer ffurfio Is-adran y Gymraeg newydd yn mynd rhagddi ar hyn o bryd.
Alongside this, we need to explore whether Welsh-medium software and interface packs could be installed on all workstations in schools, colleges and universities across Wales, with a proactive language choice.
Yn ogystal â hyn, mae angen ystyried a fyddai modd gosod meddalwedd cyfrwng Cymraeg a rhyngwynebau Cymraeg ar bob gorsaf waith mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru, a fyddai’n cynnig dewis iaith.
Similarly, we will consider the use of Welsh with regard to the Virtual Learning Environments (VLEs) used in schools, colleges and universities, building on the work of the National Grid for Learning (NGfL) Cymru under contract for the Welsh Government.
Byddwn hefyd yn ystyried y defnydd o’r Gymraeg mewn perthynas â’r Rhith-Amgylcheddau Dysgu a ddefnyddir mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Bydd hyn yn datblygu’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu (GCaD) Cymru o dan gontract ar gyfer Llywodraeth Cymru.
We will also continue our discussions with Apple about the development of an iTunes U site for Wales, including the need for a Welsh version of the platform.
Byddwn hefyd yn parhau â’n trafodaethau ag Apple ynghylch datblygu safle iTunes U ar gyfer Cymru. Rydym hefyd yn trafod yr angen am fersiwn Gymraeg o’r platfform.
Public service broadcasting
Darlledu gwasanaeth cyhoeddus
Public service broadcasters in Wales, including BBC Cymru Wales, S4C and ITV Wales, latterly as a programme producer, have played an important role in ensuring that the Welsh language continues to thrive.
Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, S4C ac ITV Wales, yn ddiweddar fel cynhyrchydd rhaglenni, wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu.
Although broadcasting is not a devolved matter, the Welsh Government is committed to doing all it can to ensure that Welsh-language broadcasting continues to develop and improve, especially in the light of recent discussions about the future and editorial independence of S4C.
Er nad yw darlledu yn fater sydd wedi’i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gorau i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg yn parhau i ddatblygu a gwella, yn enwedig yn sgil trafodaethau diweddar ynghylch dyfodol ac annibyniaeth olygyddol S4C.
Additionally, in 2009 the Welsh Government became a significant funder, via the Welsh Books Council, of an online news service through the medium of Welsh, Golwg 360.
Yn ogystal, yn 2009 daeth Llywodraeth Cymru yn un o brif noddwyr gwasanaeth newyddion ar-lein cyfrwng Cymraeg, sef Golwg 360, drwy Gyngor Llyfrau Cymru.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living47
iaith byw47
The Welsh Government has also provided funding toenable the National Library of Wales to acquire and develop public access to the ITV Wales television archive through the National Screen and Sound Archive of Wales.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid er mwyn galluogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gaffael a datblygu mynediad i’r cyhoedd i archif teledu ITV Wales drwy Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru.
The ITV Wales archive spans over 50 years of programme making in the Welsh language.
Mae archif ITV Wales yn cwmpasu gwerth dros 50 o flynyddoedd o raglenni cyfrwng Cymraeg.
The range and standard of Welsh-language programming on S4C and BBC Radio Cymru helps to maintain Welsh as a modern language and as part of everyday life in Wales.
Mae amrywiaeth a safon rhaglenni Cymraeg ar S4C a BBC Radio Cymru yn helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n iaith fodern ac yn rhan o fywyd bob dydd yng Nghymru.
The broadcasters also help to increase awareness of the language among those who can, and cannot, speak Welsh.
Mae’r darlledwyr hefyd yn helpu i greu mwy o ymwybyddiaeth ynghylch yr iaith ymhlith y bobl hynny sy’n gallu siarad Cymraeg a’r bobl hynny na allant ei siarad.
S4C’s services for children, including Cyw and Stwnsh, are recognised as making an important contribution to the task of normalising the language for children of all ages.
Mae gwasanaethau S4C ar gyfer plant, gan gynnwys Cyw a Stwnsh, yn cael eu cydnabod fel gwasanaethau sy’n gwneud cyfraniad pwysig o ran normaleiddio’r iaith i blant o bob oedran.
Both the BBC and S4C have performed an important role in helping people from all backgrounds learn the Welsh language, with a range of broadcast and online resources.
Mae’r BBC ac S4C wedi cyflawni rôl bwysig wrth helpu pobl o bob cefndir ddysgu’r Gymraeg, drwy wahanol adnoddau darlledu ac adnoddau ar-lein.
Both S4C and BBC Cymru Wales already work in partnership with many organisations such as the Urdd, the National Eisteddfod and others working at community level to promote the Welsh language.
Mae S4C a BBC Cymru Wales ill dau eisoes yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau fel yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol ac eraill sy’n gweithio yn y gymuned i hybu’r Gymraeg.
For instance BBC Radio Cymru and the mentrau iaith hold a Battle of the Bands competition every year which has proved to be very popular among young people and has been an important vehicle for nurturing musical talent in Welsh.
Er enghraifft, mae BBC Radio Cymru a’r mentrau iaith yn cynnal cystadleuaeth Brwydr y Bandiau bob blwyddyn sy’n boblogaidd iawn ymysg pobl ifanc ac sy’n gyfrwng pwysig i feithrin doniau cerddorol yn y Gymraeg.
We hope that they will continue to play this role in the future.
Rydym yn gobeithio y byddant yn parhau i gyflawni’r rôl hon yn y dyfodol.
However, online service provision through the medium of Welsh has not been given the same priority as it has through the medium of English.
Eto i gyd, nid yw gwasanaethau ar-lein cyfrwng Cymraeg wedi derbyn yr un flaenoriaeth â gwasanaethau cyfrwng Saesneg.
We hope that the new arrangements announced for the relationship between S4C and the BBC will lead to a strengthening of online provision through the medium of Welsh, to the same level as that provided through the medium of English.
Gobeithiwn y bydd y trefniadau newydd a gyhoeddwyd ar gyfer y berthynas rhwng S4C a’r BBC yn arwain at ddarpariaeth gynyddol o ddeunyddiau cyfrwng Cymraeg ar-lein, a fydd ar yr un lefel â’r hyn a ddarperir yn y Saesneg.
48A living language:
48Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
We will also seek to ensure that Welsh-language service provision is effectively safeguarded and developed by regulatory bodies such as Ofcom.
Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg yn cael ei diogelu a’i datblygu’n effeithiol gan gyrff rheoleiddio fel Ofcom.
Reading
Darllen
Research has shown a link between the extent to which children read Welsh and their grasp of the language.
Mae ymchwil wedi dangos bod cysylltiad rhwng y graddau y mae plant yn darllen Cymraeg a’u gafael ar yr iaith.
Therefore, if we want to encourage more Welsh speakers to use the language and ensure that they are confident to do so, it will be important to help them become increasingly literate and familiar with written Welsh.
Felly, os ydym am annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith a sicrhau eu bod yn hyderus i wneud hynny, bydd eu helpu i ddod yn fwy llythrennog a chyfarwydd â Chymraeg ysgrifenedig yn bwysig.
To meet this aim, it will be important to encourage Welsh speakers, including children and young people, to read a wide range of Welsh materials, including books, magazines, the papurau bro, websites and blogs.
Er mwyn gwireddu’r nod hwn, bydd annog siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys plant a phobl ifanc yn arbennig, i ddarllen amrywiaeth eang o ddeunyddiau Cymraeg – boed yn llyfrau, yn gylchgronau, yn bapurau bro, yn wefannau ac yn flogiau – yn bwysig.