source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
My answer to that is: if it ain't broke, don't fix it. Special advisers have never been called into question in terms of their behaviour. They are indeed expected to behave in accordance with their own code. I see no reason why there should be hearings for the appointment of special advisers. In terms of the third amendment in the name of Paul Davies, this is a mischievous amendment, let's be honest, as the party opposite well knows. There are Members here who will know that, where I take the view that the ministerial code has been breached, then action is taken. I don't think that I can be accused of doing nothing if there are issues that need to be dealt with. Those decisions have been difficult and painful for all involved, but nevertheless it has been important to take those decisions. The suggestion is that somehow no decisions are ever taken in terms of breaches of the ministerial code. Members know otherwise. Besides, I know that the Cabinet Secretary for Education can act, now that she is in Government, as a guardian in terms of this in any event. I have no doubt at all that, when it comes to the Government that we have set up in the last few weeks, the ministerial code will be adhered to. All Ministers have been made absolutely aware of the code and have been informed that they must read the code as well.
Fy ateb i hynny yw: pam newid rhywbeth sy'n gweithio? Ni fu amheuaeth erioed ynglŷn ag ymddygiad cynghorwyr arbennig. Disgwylir iddynt ymddwyn yn unol â'u cod eu hunain. Ni welaf unrhyw reswm pam y dylid cael gwrandawiadau ar gyfer penodi cynghorwyr arbennig. O ran y trydydd gwelliant yn enw Paul Davies, mae hwn yn welliant drygionus, gadewch i ni fod yn onest, fel y mae'r blaid gyferbyn yn gwybod yn iawn. Mae yna Aelodau yma a fydd yn gwybod y rhoddir camau ar waith lle rwyf fi o'r farn fod cod y gweinidogion wedi'i dorri. Nid wyf yn meddwl y gellir fy nghyhuddo o wneud dim byd os oes yna faterion sy'n galw am sylw. Mae'r penderfyniadau hynny wedi bod yn anodd ac yn boenus i bawb a oedd ynghlwm wrthynt, ond serch hynny mae'n bwysig fod y penderfyniadau hynny wedi'u gwneud. Yr awgrym yw na wneir unrhyw benderfyniadau byth mewn perthynas ag achosion o dorri cod y gweinidogion. Gŵyr yr Aelodau fel arall. Beth bynnag, rwy'n gwybod y gall Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gan ei bod yn rhan o'r Llywodraeth bellach, weithredu fel gwarcheidwad yn hyn o beth. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y caiff cod y gweinidogion ei ddilyn gan y Llywodraeth a sefydlwyd gennym yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae pob Gweinidog yn gwbl ymwybodol o'r cod ac wedi cael gwybod bod yn rhaid iddynt ddarllen y cod hefyd.
Just on that point, could you therefore confirm that all your Cabinet Secretaries and Ministers have signed the ministerial code? Did the Cabinet Secretary for Education give her views to you on the ministerial code?
Ar y pwynt hwnnw, a allwch gadarnhau felly fod holl Ysgrifenyddion a Gweinidogion eich Cabinet wedi arwyddo cod y gweinidogion? A fynegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei barn wrthych am god y gweinidogion?
The answer is 'yes' and she did, as she's just informed you. As all Ministers are bound by the ministerial code there is no question of them being able to pick and choose, and there never has been. That code will apply to all and it is known what the consequences are if the code is broken. Well, I won't comment much on what the Member Neil McEvoy said. His obsessions are well known to this Chamber. He has his own furrow that he wishes to plough. He was not brave enough to make any allegations and, therefore, his comments in this Chamber are not worthy of a response. So, with regard to amendment 1, as I say, that is something - [Interruption.] You've had your view. That is something that I've already formally moved. We will not be supporting amendments 2 and 3, nor indeed the motion itself as unamended.
Yr ateb yw 'gallaf' a do, fe wnaeth, fel y mae hi newydd ddweud wrthych. Gan fod yr holl Weinidogion wedi'u rhwymo gan god y gweinidogion, nid oes unrhyw fodd iddynt allu dewis a dethol, ac ni fu erioed. Bydd y cod hwnnw'n berthnasol i bawb ac mae'n hysbys beth yw'r canlyniadau os torrir y cod. Wel, ni wnaf lawer o sylwadau ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod Neil McEvoy. Mae ei obsesiynau'n hysbys i'r Siambr hon. Mae ganddo ei gŵys ei hun y mae'n dymuno ei thorri. Nid oedd yn ddigon dewr i wneud unrhyw honiadau ac felly, nid yw ei sylwadau yn y Siambr hon yn haeddu ymateb. Felly, o ran gwelliant 1, fel y dywedais, mae hynny'n rhywbeth - [Torri ar draws.] Rydych wedi cael eich cyfle i ddweud eich barn. Mae hwnnw'n rhywbeth rwyf eisoes wedi'i gynnig yn ffurfiol. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3, nac yn wir y cynnig ei hun heb ei ddiwygio.
Thank you very much. I call on Dai Lloyd to reply to the debate. Dai.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl. Dai.
Thank you very much, Deputy Presiding Officer. May I thank everybody else for their contributions? Just to return to the nub of the debate, a number of different principles have succeeded in creeping into the debate, but the fundamental point was regarding the ministerial code. We call for the principles of open government to be maintained. People have said some very nice things about that standard, and we want to see it upheld, and we want to see the ministerial code being laid before this Assembly and being approved by this Assembly. We also call for an independent adjudicator to be appointed to report publicly on any alleged breaches of the code. That, basically, is the point of this debate, in order to persuade and convince the public that we are responding affirmatively and positively to what happened in the referendum last week. We must have a strong response to show that we as politicians are standing up for the right things. Thank you.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb am eu cyfraniadau. Jest i fynd yn ôl at bwynt ein dadl, wrth gwrs, mae yna sawl gwahanol egwyddor wedi llwyddo i gropian i mewn i'r ddadl yma, ond mi wnawn ni fynd yn ôl at y pwynt sylfaenol a oedd ynglŷn â'r cod gweinidogol. Rydym ni'n galw yn naturiol ar holl egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal. Mae pobl wedi dweud pethau neis am y safon yna. Rydym ni eisiau ei gweld hi'n cael ei chwblhau. Rydym eisiau gweld hefyd y cod gweinidogol yn cael ei osod gerbron y Cynulliad yma a chael ei gymeradwyo gan y Cynulliad yma, ac rydym hefyd yn galw am benodi dyfarnwr annibynnol i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri'r cod. Dyna, yn y bôn, ydy pwynt y ddadl yma, er mwyn ceisio argyhoeddi'r cyhoedd ein bod yn ymateb yn gadarn i beth ddigwyddodd yn yr etholiad yna, y refferendwm, yr wythnos diwethaf. Mae'n rhaid cael ymateb cryf a rhaid dangos ein bod ni fel gwleidyddion yn gallu sefyll lan am beth sydd yn iawn. Diolch yn fawr.
Thank you very much. The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] Object. Thank you. Therefore, we will defer this item until voting time.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Diolch. Felly, gohiriwn yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The next item on the agenda, then, is item 6, which is the Welsh Conservative debate on air pollution. I call on David Melding to move the motion. David.
Yr eitem nesaf ar yr agenda, felly, yw eitem 6, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar lygredd aer. Galwaf ar David Melding i gynnig y cynnig. David.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Perhaps, with your indulgence, I could apologise to Sian Gwenllian, who's still in the Chamber, for getting her name wrong earlier. Esgusodwch fi - I'm very sorry. Air quality needs to be a high priority in this fifth Assembly. It does not currently appear as a specific Cabinet responsibility. I did check the list of responsibilities that the Cabinet Secretary has and it's not there, despite the length of the list. And before I, sort of, fall back into a sort of pit of complacency, air pollution didn't really get very much attention during the Assembly election campaign and I don't think it appeared specifically in any of the parties' manifestos. So, I think we're all in the same category of perhaps not giving this the priority it deserves. But air pollution is key to public health and it's a real challenge because while many advances were made after 1970, principally in the shift from coal to gas, we have lost ground since the mid-2000s, as we've seen the use of diesel, in particular, increase in terms of motor traffic. Wales has some of the worst air quality in the UK. Crumlin recently made the news because its pollution levels were higher than anywhere else in the UK except Marylebone Road in London. Normally, if we're being compared to Marylebone I would be happy, but in this case it was bleak indeed. And we now have the benefit of advances in research that demonstrate the harm caused by air pollutants. We are perhaps in a similar place as we were a few years ago to passive smoking. In fact, I think air pollution, generally, is probably more of a risk, and it is estimated that over 1,300 deaths a year can be attributed in some material way to poor air quality in Wales. So, that is indeed very, very significant. Air pollution is largely the result of human activity, through vehicles, industry and agriculture. However, individuals have very little control over their own exposure. I don't know if any of you have ever watched a video that actually demonstrates the flows, of air pollution and particulate matter especially, around urban areas and buildings. Its extent and intensity is truly shocking. I have to say, when I saw that first, I was really, really surprised. You do not have to be on top of an exhaust to actually suffer the pollution and inhale deep into your lungs particulate matter. The prevalence of air pollution is higher in Wales than in Scotland or Northern Ireland. It should be said, however, that it is lower than in England. Cardiff is the most polluted area in Wales with a particulate matter concentration of 9.5. I'm new to this brief - please don't ask me 9.5 in what. [Laughter.] Perhaps I shouldn't have conceded that. [Laughter.] That's compared to an average for Wales of 7.5 concentration. [Interruption.] Ah, I with great relief give way to the noble Member for Aberavon.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Efallai, gyda'ch caniatâd, y caf ymddiheuro i Sian Gwenllian, sy'n dal i fod yn y Siambr, am gael ei henw'n anghywir yn gynharach. Esgusodwch fi - mae'n flin iawn gennyf. Mae angen i ansawdd aer fod yn flaenoriaeth uchel yn y pumed Cynulliad hwn. Nid yw ar hyn o bryd yn ymddangos fel cyfrifoldeb Cabinet penodol. Edrychais ar restr cyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet ac nid yw yno, er gwaethaf hyd y rhestr. A chyn i mi ddisgyn yn ôl i bwll o hunanfodlonrwydd o ryw fath, ni chafodd llygredd aer lawer o sylw yn ystod ymgyrch etholiadol y Cynulliad, ac nid wyf yn credu iddo ymddangos yn benodol ym maniffesto unrhyw un o'r pleidiau. Felly, rwy'n meddwl ein bod i gyd yn yr un categori efallai o beidio â rhoi'r flaenoriaeth y mae'n ei haeddu i hyn. Ond mae llygredd aer yn allweddol i iechyd y cyhoedd ac mae'n her wirioneddol oherwydd er bod llawer o ddatblygiadau wedi'u gwneud ar ôl 1970, yn bennaf y newid o lo i nwy, rydym wedi colli tir ers canol y 2000au, wrth i ni weld y defnydd o ddiesel, yn arbennig, yn cynyddu o safbwynt traffig modur. Yng Nghymru y ceir peth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Yn ddiweddar, roedd Crymlyn yn y newyddion oherwydd bod ei lefelau llygredd yn uwch nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig ac eithrio Marylebone Road yn Llundain. Fel arfer, pe baem yn cael ein cymharu â Marylebone byddwn yn hapus, ond yn yr achos hwn roedd yn ddigalon iawn. A bellach mae gennym y fantais o ddatblygiadau ymchwil sy'n dangos y niwed a achosir gan lygryddion aer. Efallai ein bod mewn sefyllfa debyg i'r un roeddem ynddi flynyddoedd yn ôl gydag ysmygu goddefol. Yn wir, rwy'n meddwl bod llygredd aer, yn gyffredinol, yn fwy o risg yn ôl pob tebyg, ac amcangyfrifir y gellir priodoli dros 1,300 o farwolaethau bob blwyddyn mewn rhyw ffordd berthnasol i ansawdd aer gwael yng Nghymru. Felly, mae hynny'n arwyddocaol dros ben. Mae llygredd aer yn deillio'n bennaf o weithgarwch dynol, drwy gerbydau, diwydiant ac amaethyddiaeth. Fodd bynnag, ychydig iawn o reolaeth sydd gan unigolion dros eu cysylltiad eu hunain ag ef. Nid wyf yn gwybod a oes unrhyw un ohonoch erioed wedi gwylio fideo sy'n dangos llif llygredd aer a deunydd gronynnol, yn arbennig, o gwmpas ardaloedd ac adeiladau trefol. Mae ei faint a'i ddwysedd yn wirioneddol syfrdanol. Rhaid i mi ddweud, pan welais ef am y tro cyntaf, roeddwn wedi fy synnu'n fawr iawn. Nid oes rhaid i chi fod ar ben pibell wacáu i ddioddef y llygredd ac anadlu deunydd gronynnol yn ddwfn i'ch ysgyfaint. Mae nifer yr achosion o lygredd aer yn uwch yng Nghymru nag yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Dylid dweud, fodd bynnag, ei fod yn is nag yn Lloegr. Caerdydd yw'r ardal fwyaf llygredig yng Nghymru gyda chrynodiad deunydd gronynnol o 9.5. Rwy'n newydd i'r briff hwn - peidiwch â gofyn i mi 9.5 mewn beth. [Chwerthin.] Efallai na ddylwn fod wedi cyfaddef hynny. [Chwerthin.] Mae hynny'n cymharu â chyfartaledd Cymru, sef crynodiad o 7.5. [Torri ar draws.] A, gyda rhyddhad mawr, rwyf am ildio i'r Aelod bonheddig dros Aberafan.
Thank you for taking the intervention. It's actually 9.5 on, I think, a scale of 10. There's a scale that is allocated, and 9.5 is in that scale. So, it's the highest value.
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. 9.5 ar raddfa o 10 ydyw, rwy'n meddwl. Ceir graddfa a ddyrennir, ac mae'n 9.5 ar y raddfa honno. Felly, dyna'r gwerth uchaf.
I am very grateful to the Member. And then the prevalence of pollution through nitrogen oxide seems to be increasing, with eight out of 10 monitoring sites in Wales recording an increase last year. I just want to turn to some of the health impacts, because inhaled particulate matter and exposure to nitrogen oxide causes a considerable increase in morbidity. It is calculated that it reduces life expectancy on average by between seven and eight months. Of course, there are many, many vulnerable groups that suffer much greater risks to their health, a point that's been more strongly made quite recently by the British Lung Foundation, and I commend their work on this to Assembly Members. The whole sort of health harms that occur to society come at a cost, and also they cause other harms in terms of the use of public services, the effectiveness of the economy and business as days are lost to ill health. And, indeed the Royal College of Physicians estimate, that the cost to the UK is about £20 billion a year that can be attributed to air pollution. It really is quite remarkable. I want to turn now to how we achieve cleaner air, and it has been a challenge. I mean, in the 1950s it was first apprehended, and, as I said, by 1970 they had begun to make very significant progress, but perhaps in the modern age now, with the rapid increase in car use and frequency of its use, it's something that needs very particular attention. And I should say also - I don't particularly like turning to this point - but in post-Brexit Britain, all Governments need to co-operate to improve air quality - all Governments within the UK. There are responsibilities here shared across the different Governments. And, of course, what we do can affect other parts of the UK, so it's very, very important. The legislative guidance and regulations that are currently embedded in the EU must not be lost, and in the work that now follows, as we unpick our membership of the EU, it's very important that those safeguards are continued and, where appropriate, planted in our own regulatory and legal frameworks. I think also in terms of Brexit, the future of the metro needs to be very carefully considered. In my view, help with this project is something we can quite legitimately take to the UK Government and say, 'This is key to the progress of our economy in south Wales, but in particular to health and well-being and opportunities people have via public transport.' And better air quality monitoring is also required, especially in Wales's 36 air quality management areas and in particular, I think, monitoring of air quality near schools. The impact on young people of air pollution is particularly acute. We must ensure that the Welsh Government delivers effectively on its own national air quality strategy, and that is something that we will pay a lot of attention to in the Welsh Conservative Party. And I've no doubt that the Minister will pay a lot of attention to this as well, as to where the general policy framework will now have to be strengthened in terms of taking forward the consequences of Brexit. There are opportunities. There have been some advances that create real opportunities for the future of air quality and its improvement. I turn to the Active Travel (Wales) Act 2013. If that's taken up extensively, if local authorities in particular use the tools that are in it, then I think we could see some marked decrease in the use of vehicles, especially in urban areas - in the centre of urban areas - and people taking up opportunities to walk and cycle, which will lead to direct health benefits to them as well as improving the quality of the air we all breathe. So, there are double benefits there in terms of the advances we can make. I think also we face a wider challenge to redesign our urban spaces, and perhaps I slip slightly here from just being the Conservative spokesman to talking about one of my pet enthusiasms. There are too many cars in urban places, basically. I think the next generation will look back and think, 'How on earth did they allow their urban environment, especially the most precious parts of it around schools and the centre of cities, to be dominated by car or more generally vehicle use?' I mean, I have a car - it's a - . I nearly said 'Mini Metro'. It's a Fiat 500, which is the same genre, perhaps. I do barely 5,000 miles a year, but lots of people need to use their car more frequently. But I think, whatever the car use appropriate for people, they can take other opportunities, other than the car, when they are presented. Certainly, we need to design our urban areas so that people can park in satellite areas and then take public transport into the centres. We need to reform the way that children get to school and try to unravel the school run and how that has dominated the current generation when it never used to happen before. There are important things that we need to do, and they will create ways where we can improve the general quality of the environment and of life. I also think direct alternatives to car use need to be promoted, and this is why, as I said earlier, the metro is so important. I'm an enthusiastic user of the bus, of the train; I often walk to the Assembly; I sometimes have to drive. That ought to be a typical profile for citizens. It shouldn't be exceptional. It should be how, certainly in urban areas, we all make our journeys. Every large van in the UK runs on diesel. Now, how have we got there? They're highly polluting, some of those vehicles - visibly polluting. It's just astonishing the black muck that comes out of those vehicles. There are alternatives - liquefied petroleum gas, for instance, scores on some environmental measures. I know that it does have some carbon implications, but it does lead to cleaner air, and there is a good infrastructure in place to use LPG. So, that could be looked at. Taxi fleets could also run on LPG. There are definite ways we could improve air quality in that direction as well. Local authorities need to act decisively when air pollution levels are seen to be and are recorded to be too high. They need to be more active. Finally, can I just say that we do need a greater understanding amongst the public so that we can move forward with full co-operation? At the moment, the harmful health effects and also the harmful effects on the economy, I don't think, are fully appreciated. So, there is some work for us to do in the fifth Assembly. Thank you.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod. Ac mae nifer yr achosion o lygredd drwy nitrogen ocsid i'w weld yn cynyddu, gydag wyth allan o 10 o safleoedd monitro yng Nghymru yn cofnodi cynnydd y llynedd. Rwyf eisiau troi at rai o'r effeithiau ar iechyd, gan fod deunydd gronynnol a anadlir a chysylltiad â nitrogen ocsid yn achosi cynnydd sylweddol mewn afiachusrwydd. Cyfrifir ei fod yn lleihau disgwyliad oes rhwng saith ac wyth mis ar gyfartaledd. Wrth gwrs, ceir llawer iawn o grwpiau agored i niwed sy'n dioddef risgiau llawer mwy i'w hiechyd, pwynt a wnaed yn fwy cadarn yn eithaf diweddar gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, a chymeradwyaf eu gwaith ar hyn i Aelodau'r Cynulliad. Mae pob math o niweidiau i iechyd sy'n digwydd i gymdeithas yn costio'n ddrud, ac maent hefyd yn achosi niweidiau eraill o ran y defnydd o wasanaethau cyhoeddus, effeithiolrwydd yr economi a busnes wrth i ddyddiau gwaith gael eu colli oherwydd salwch. Ac yn wir, mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn amcangyfrif bod y gost i'r DU y gellir ei phriodoli i lygredd aer oddeutu £20 biliwn y flwyddyn. Mae'n destun syndod yn wir. Rwyf am droi yn awr at sut y mae sicrhau aer glanach, ac mae wedi bod yn her. Hynny yw, daeth i sylw yn gyntaf yn y 1950au, ac fel y dywedais, erbyn 1970 roeddent wedi dechrau gwneud cynnydd sylweddol iawn, ond efallai yn yr oes fodern yn awr, gyda'r cynnydd cyflym yn y defnydd o geir ac yn amlder eu defnydd, mae'n rhywbeth y mae angen rhoi sylw penodol iawn iddo. A dylwn ddweud hefyd - nid wyf yn hoffi troi at y pwynt hwn yn arbennig - ond ym Mhrydain ar ôl gadael Ewrop, mae angen i bob Llywodraeth gydweithredu er mwyn gwella ansawdd aer - pob Llywodraeth yn y DU. Ceir cyfrifoldebau a rennir ar draws y gwahanol Lywodraethau. Ac wrth gwrs, gall yr hyn rydym ni'n ei wneud effeithio ar rannau eraill o'r DU, felly mae'n bwysig dros ben. Ni ddylid colli'r canllawiau a'r rheoliadau deddfwriaethol sydd wedi sefydlu yn yr UE ar hyn o bryd, ac yn y gwaith sy'n dilyn yn awr, wrth i ni ddatod ein haelodaeth o'r UE, mae'n bwysig iawn fod y mesurau diogelwch hynny'n cael eu parhau a lle bo'n briodol, yn cael eu gosod yn ein fframweithiau rheoleiddiol a chyfreithiol ein hunain. Rwy'n credu hefyd o ran Prydain yn gadael Ewrop, mae angen ystyried dyfodol y metro yn ofalus iawn. Yn fy marn i, mae help gyda'r prosiect hwn yn rhywbeth y gallwn, yn ddigon teg, ei ddwyn i sylw Llywodraeth y DU a dweud, 'Mae hyn yn allweddol i gynnydd ein heconomi yn ne Cymru, ond yn arbennig i iechyd a lles a chyfleoedd i bobl drwy gludiant cyhoeddus.' Ac mae angen monitro ansawdd aer yn well hefyd, yn enwedig yn 36 ardal rheoli ansawdd aer Cymru, ac yn benodol, rwy'n meddwl, monitro ansawdd aer ger ysgolion. Mae effaith llygredd aer ar bobl ifanc yn arbennig o ddifrifol. Rhaid i ni sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei strategaeth ansawdd aer genedlaethol yn effeithiol, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn rhoi llawer o sylw iddo ym Mhlaid Geidwadol Cymru. Ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd y Gweinidog yn rhoi llawer o sylw i hyn yn ogystal, o ran lle bydd rhaid cryfhau'r fframwaith polisi cyffredinol yn awr ar gyfer bwrw ymlaen â chanlyniadau Prydain yn gadael Ewrop. Mae yna gyfleoedd i'w cael. Cafwyd rhai datblygiadau sy'n creu cyfleoedd go iawn ar gyfer dyfodol ansawdd aer a'r gwaith o'i wella. Trof at Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. O roi honno ar waith yn eang, os bydd awdurdodau lleol yn benodol yn defnyddio'r dulliau sydd ynddi, yna rwy'n meddwl y gallem weld gostyngiad amlwg yn y defnydd o gerbydau, yn enwedig mewn ardaloedd trefol - yng nghanol ardaloedd trefol - a phobl yn manteisio ar gyfleoedd i gerdded a beicio, a fydd yn arwain at fanteision iechyd uniongyrchol iddynt, yn ogystal â gwella ansawdd yr aer rydym i gyd yn ei anadlu. Felly, ceir manteision dwbl o ran y datblygiadau y gallwn eu gwneud. Rwy'n meddwl hefyd ein bod yn wynebu'r her ehangach o ailddylunio ein mannau trefol, ac efallai fy mod yn llithro ychydig yma o fod yn llefarydd y Ceidwadwyr i sôn am un o'r pethau sy'n ennyn fy mrwdfrydedd. Yn y bôn, mae yna ormod o geir mewn mannau trefol. Rwy'n credu y bydd y genhedlaeth nesaf yn edrych yn ôl a meddwl, 'Sut ar y ddaear y gwnaethant ganiatáu i'w hamgylchedd trefol, yn enwedig y rhannau mwyaf gwerthfawr ohono o amgylch ysgolion a chanol dinasoedd, gael ei oresgyn gan y defnydd o geir neu, yn fwy cyffredinol, cerbydau?' Hynny yw, mae gennyf gar - . Roeddwn bron â dweud 'Mini Metro'. Fiat 500 ydyw, sef yr un genre, efallai. Prin y byddaf yn gyrru 5,000 o filltiroedd y flwyddyn, ond mae llawer o bobl angen defnyddio'u car yn amlach. Ond beth bynnag sy'n ddefnydd priodol o'r car, gall pobl fanteisio ar gyfleoedd eraill, yn lle'r car, pan fyddant ar gael. Yn sicr, mae angen i ni gynllunio ein hardaloedd trefol fel y gall pobl barcio mewn ardaloedd lloeren ac yna defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd i mewn i ganol trefi. Mae angen i ni ddiwygio'r ffordd y mae plant yn mynd i'r ysgol a cheisio datrys y daith i'r ysgol a sut y mae hynny wedi dominyddu'r genhedlaeth bresennol pan nad oedd byth yn digwydd o'r blaen. Mae yna bethau pwysig sydd angen i ni eu gwneud, a byddant yn creu ffyrdd i ni allu gwella ansawdd cyffredinol yr amgylchedd a bywyd. Rwyf hefyd yn credu bod angen hyrwyddo dewisiadau amgen uniongyrchol yn lle defnyddio ceir, ac fel y dywedais yn gynharach, dyma pam y mae'r metro mor bwysig. Rwy'n ddefnyddiwr brwd o'r bws, o'r trên; rwy'n aml yn cerdded i'r Cynulliad; weithiau mae'n rhaid i mi yrru. Dylai hwnnw fod yn broffil nodweddiadol i ddinasyddion. Ni ddylai fod yn anarferol. Dyna sut y dylem i gyd fod yn teithio, yn sicr mewn ardaloedd trefol. Mae pob fan fawr yn y DU yn rhedeg ar ddiesel. Nawr, sut y cyraeddasom y fan honno? Mae rhai o'r cerbydau hynny'n llygru'n ofnadwy - yn llygru'n weladwy. Mae'n rhyfeddol cymaint o faw du sy'n dod allan o'r cerbydau hynny. Mae dewisiadau eraill ar gael - mae nwy petrolewm hylifedig, er enghraifft, yn bodloni rhai mesurau amgylcheddol. Gwn fod rhywfaint o oblygiadau carbon yn gysylltiedig ag ef, ond mae'n arwain at aer glanach, a cheir rhwydwaith da ar waith ar gyfer defnyddio nwy petrolewm hylifedig. Felly, gellid ystyried hynny. Gallai fflydoedd tacsis hefyd redeg ar nwy petrolewm hylifedig. Mae yna ffyrdd pendant y gallem wella ansawdd aer yn y cyfeiriad hwnnw hefyd. Mae angen i awdurdodau lleol weithredu'n bendant pan welir, a phan gofnodir bod lefelau llygredd aer yn rhy uchel. Mae angen iddynt fod yn fwy gweithgar. Yn olaf, a gaf fi ddweud bod angen dealltwriaeth well ymysg y cyhoedd er mwyn i ni allu symud ymlaen gyda chydweithrediad llawn? Ar hyn o bryd, nid wyf yn credu eu bod yn sylweddoli'n llawn beth yw'r effeithiau niweidiol i iechyd na'r effeithiau niweidiol i'r economi. Felly, mae rhywfaint o waith i ni ei wneud yn y pumed Cynulliad. Diolch.
Thank you. I have selected the two amendments to the motion. I call on Simon Thomas to move both amendments - 1 and 2 - tabled in his name. Simon.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Simon Thomas i gynnig y ddau welliant - 1 a 2 - a gyflwynwyd yn ei enw. Simon.
Studies have shown the danger to public health that follows from repeated exposure to air pollution. Air pollution increases the risk of mortality by cardiovascular and respiratory conditions. The risk is particularly acute for children, with their exposure linked to diabetes, cognitive function, birth outcomes and liver and kidney damage. It is worrying, therefore, to note that Wales has some of the most polluted areas in the United Kingdom. There is a clear link between air pollution, deprivation and health. Some of the most polluted areas are in my South Wales East region. In Torfaen, for example, 18 per cent of adults are being treated for respiratory illness. In Blaenau Gwent, the figure is 17 per cent. Across Aneurin Bevan health board areas as a whole, 15 per cent of adults are receiving treatment for breathing problems. Recently, I was concerned to discover that the A472 between Pontypool and Crumlin has the highest level of nitrogen dioxide, which my colleague, David Melding just mentioned; it's higher than near Madame Tussauds in London. Indeed, the level recorded in 2015 and 2016 was higher than anywhere else apart from central London, as he said earlier. Under the Environment Act 1995, local authorities - in this case, Caerphilly County Borough Council - have a duty to review local air quality and assess whether health-based air quality objectives will be achieved. In November 2013, Caerphilly declared an air quality management area and a further assessment was undertaken last year. Again, excessive levels of air pollution were confirmed. As a result, the council required a complete air quality action plan for the area. I understand that they are currently consulting with local residents, businesses and other key stakeholders to have input into production of the plan. It is estimated that a draft action plan will be ready for consultation in November this year, Minister. Could the Cabinet Secretary confirm this is the case and will she work closely with Caerphilly County Borough Council to explore all the options to bring air pollution levels down to safe levels? Presiding Officer, air pollution contributes to over 1,500 deaths in Wales. It is clear we need to develop an effective and coherent emissions strategy to reduce this deadly scenario. We already have the active travel Act to improve pedestrian and cycle routes to encourage healthier lifestyles and to reduce pollution in Wales. We have the tranquil, greener and cleaner places, and grant schemes to support local authority projects to improve air quality, such as traffic flow changes in Merthyr Tydfil and the planting of trees on the Gwent levels. It is essential that Welsh Government monitors the funding of these schemes to ensure they deliver that improvement to the air quality in Wales that we all wish. As earlier contributors have already mentioned, there are certain measures to be taken: some cars and heavy goods vehicles should be stopped from going to congested areas and highly populated areas in this part of the world. Also, one area that I'd like to ask the Minister about is, in London, when you go, there are so many bays that have bicycle hiring in central London by different banks. So, why can't we have some of these areas in Swansea, Cardiff and Newport, and, in the north, some in the Wrexham area, where some of the banks can put bicycles for people to hire in congested areas in Wales also? Thank you very much.
Mae astudiaethau wedi dangos y perygl i iechyd y cyhoedd sy'n dilyn o ddod i gysylltiad dro ar ôl tro â llygredd aer. Mae llygredd aer yn cynyddu'r risg o farwolaethau o gyflyrau cardiofasgwlaidd ac anadlol. Mae'r risg yn arbennig o ddifrifol i blant, gyda'u cysylltiad yn gysylltiedig â diabetes, gweithrediad gwybyddol, canlyniadau geni a niwed i'r afu a'r arennau. Testun pryder, felly, yw nodi mai yng Nghymru y ceir rhai o'r ardaloedd mwyaf llygredig yn y Deyrnas Unedig. Ceir cysylltiad clir rhwng llygredd aer, amddifadedd ac iechyd. Mae rhai o'r ardaloedd mwyaf llygredig yn fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru. Yn Nhorfaen, er enghraifft, mae 18 y cant o'r oedolion yn cael triniaeth at salwch anadlol. Ym Mlaenau Gwent, mae'r ffigur yn 17 y cant. Ledled ardaloedd bwrdd iechyd Aneurin Bevan gyda'i gilydd, mae 15 y cant o'r oedolion yn cael triniaeth at broblemau anadlu. Yn ddiweddar, testun pryder i mi oedd darganfod mai'r A472 rhwng Pont-y-pŵl a Chrymlyn sydd â'r lefel uchaf o nitrogen deuocsid fel y mae fy nghyd-Aelod, David Melding, newydd ei grybwyll; mae'n uwch nag yn ymyl Madame Tussauds yn Llundain. Yn wir, roedd y lefel a gofnodwyd yn 2015 a 2016 yn uwch nag yn unman arall ar wahân i ganol Llundain, fel y dywedodd yn gynharach. O dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, mae gan awdurdodau lleol - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn yr achos hwn - ddyletswydd i adolygu ansawdd aer lleol ac asesu a fydd amcanion ansawdd aer sy'n seiliedig ar iechyd yn cael eu cyflawni. Ym mis Tachwedd 2013, cyhoeddodd Caerffili ardal rheoli ansawdd aer, a chynhaliwyd asesiad pellach y llynedd. Unwaith eto, cadarnhawyd lefelau gormodol o lygredd aer. O ganlyniad, roedd y cyngor angen cynllun gweithredu ansawdd aer cyflawn ar gyfer yr ardal. Rwy'n deall eu bod ar hyn o bryd yn ymgynghori â phreswylwyr lleol, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill i gael mewnbwn i'r gwaith o gynhyrchu'r cynllun. Amcangyfrifir y bydd cynllun gweithredu drafft yn barod ar gyfer ymgynghori yn ei gylch ym mis Tachwedd eleni, Weinidog. A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod hyn yn wir, ac a fydd hi'n gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i archwilio'r holl opsiynau ar gyfer gostwng lefelau llygredd aer i lefelau diogel? Lywydd, mae llygredd aer yn cyfrannu at dros 1,500 o farwolaethau yng Nghymru. Mae'n amlwg fod angen i ni ddatblygu strategaeth allyriadau effeithiol a chydlynol i leddfu'r senario marwol hwn. Eisoes, mae gennym y Ddeddf Teithio Llesol i wella llwybrau cerdded a beicio er mwyn annog ffyrdd o fyw iachach ac i leihau llygredd yng Nghymru. Mae gennym y Lleoedd Tawelach Gwyrddach a Glanach, a chynlluniau grant i gefnogi prosiectau awdurdodau lleol i wella ansawdd aer, megis newidiadau i lif traffig ym Merthyr Tudful a phlannu coed ar wastadeddau Gwent. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn monitro cyllid y cynlluniau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r gwelliant y mae pawb ohonom yn ei ddymuno i ansawdd aer yng Nghymru. Fel y mae cyfranwyr cynharach eisoes wedi sôn, mae yna gamau penodol i'w rhoi ar waith: dylid stopio rhai ceir a cherbydau nwyddau trwm rhag mynd i ardaloedd lle y ceir tagfeydd ac ardaloedd poblog iawn yn y rhan hon o'r byd. Hefyd, un maes y byddwn yn hoffi holi'r Gweinidog yn ei gylch yw hwn: yn Llundain, pan fyddwch yn mynd yno, ceir cymaint o gilfachau sydd â beiciau i'w llogi yng nghanol Llundain gan wahanol fanciau. Felly, pam na allwn gael rhai o'r ardaloedd hyn yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, ac yn y gogledd, yn ardal Wrecsam, lle y gall rhai o'r banciau roi beiciau i bobl eu llogi mewn ardaloedd prysur yng Nghymru hefyd? Diolch yn fawr iawn.
Thank you. David Rees.
Diolch. David Rees.
Diolch, Lywydd - Dirprwy Lywydd, sorry. I welcome the opportunity to speak in today's debate. Air pollution can have extremely detrimental effects on our health, as has already been mentioned by several speakers. It's associated with a wide variety of respiratory and inflammatory conditions, as particulates, including sulphates, nitrates and black carbon, penetrate the cardiovascular system. It particularly affects those with pre-existing health conditions. There is also evidence that prolonged exposure can lead to severe heart and lung disease and, on occasions, cancer. Outdoor air pollution is now the biggest single killer, globally, with over 3 million people - and I know David Melding has highlighted those in Wales - more than HIV/AIDS, actually, and malaria, so you can see the level we're at. As urban air quality declines, the risk to individuals with those pre-existing conditions increases. Dr Flavia Bustreo of the World Health Organization, assistant director general for family, women and children's health, has said: 'Air pollution is a major cause of disease and death. It is good news that more cities are stepping up to monitor air quality, so when they take actions to improve it they have a benchmark When dirty air blankets our cities the most vulnerable urban populations - the youngest, oldest and poorest - are the most impacted.' The air quality in my constituency and hometown, Port Talbot, is often in the headlines due to the high levels of pollution, or, perhaps more accurately, particulates, occasionally reaching as high as 9 - not 9.5, but 9 - on the scale, but actually reaching that on more than 10 occasions. There's an upper limit of 40 occasions that should exist in a year and we're getting to 25 per cent of that limit. That's really unacceptable. Of course, Port Talbot is a predominantly industrial town, but it also has the M4, a major trunk road, running through a very narrow coastal strip. If you know Port Talbot, you'll know it's very narrow, and you'll also know that there are mountains on one side so the flows of the air clearly are affected as a consequence of that. Both the council and Welsh Government have put measures in place to monitor high pollutant emissions, and Natural Resources Wales oversees general regulation, including compliance with European Union legislation, whilst a specific Welsh air quality forum measures headline air quality indicators across Wales. That's great news. But, seeing that some of the most recent data that have been published only take us up to 2013, I do ask the Minister, or Cabinet Secretary, to scope and update guidance, especially in light of the recent publication of a longitudinal study by the World Health Organization, which demonstrated that outdoor air pollution has grown by 8 per cent globally in the past five years. The WHO also identified Port Talbot as one of the worst affected towns in the UK. It was identified as the worst town in the UK for PM10s and only fared slightly better on PM2.5s, so I am very concerned about the implications that has on the health of my constituents if we don't increase our efforts to improve air quality and reduce PM10s and PM2.5 emissions. Environmental legislation for the past 25 years has led to continued reduction in the levels of harmful pollution in Wales and more widely across Europe in fact. I applaud the Welsh Government for continuing to commit to improving air quality and seeking ways to progress and streamline the way that air pollution is managed, not only to meet legislative requirements, but also to enhance the health of people in Wales. In light of the result of the EU referendum, the environmental impact of a 'leave' strategy should also be of great concern to all of us here in the Chamber. The EU had been safeguarding compliance and producing regulations around issues such as air quality and safe levels for many decades. We must not lose the benefits of this key overarching guidance, such as the industrial emissions directive 2010, the air quality framework directive 2008, and the integrated pollution prevention and control directive 2006, just to name three. In the coming negotiations with the EU, we must ensure that environmental concerns stand at the forefront of the agenda. I hope the Welsh Government will continue to look to Europe for guidance and leadership on these issues and ensure that safeguarding both the health of our current population and the environment for future generations continue to be embedded in governmental policy and practice. This will include sustainable and substantial investment in our public transport systems, and active travel routes to encourage more people to leave their cars at home as much as possible. We must also look at schemes that reduce emissions, particularly in industrial developments, whether that be through a greater use of renewable energy, which we are very much for here in Wales, or through schemes that build upon recycling developments, such as the proposed power plant in the steelworks in Port Talbot, which is actually about using waste gases, so you're reducing the emissions and making them beneficial. You actually reduce emissions twice, because you're reducing the emissions from the waste gases, but you're also reducing emissions from extra electricity being generated, because you've got it: win-win situation. The Welsh Government published a short-term action plan in 2013 for Port Talbot, aimed specifically at cutting PM10s, and it's still alive. We need to review it, modernise it, and learn from it to ensure that we tackle the challenges ahead not only for Port Talbot, but for the whole of Wales.
Diolch, Lywydd - Ddirprwy Lywydd, mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Gall llygredd aer niweidio ein hiechyd yn fawr iawn, fel y crybwyllodd nifer o'r siaradwyr eisoes. Mae'n gysylltiedig ag amrywiaeth eang o gyflyrau anadlol a llidiol, wrth i ronynnau, gan gynnwys sylffadau, nitradau a charbon du, dreiddio i'r system gardiofasgwlaidd. Mae'n effeithio'n arbennig ar y rheini sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes. Ceir tystiolaeth hefyd y gall cysylltiad estynedig arwain at glefyd difrifol y galon a'r ysgyfaint ac ar adegau, canser. Llygredd aer yn yr awyr agored yw'r lladdwr mwyaf yn fyd-eang bellach, gyda thros 3 miliwn o bobl - ac rwy'n gwybod bod David Melding wedi tynnu sylw at y rhai yng Nghymru - mwy na HIV/AIDS a malaria, felly gallwch weld ar ba lefel rydym ni. Wrth i ansawdd aer trefol ddirywio, mae'r risg i unigolion sydd â'r cyflyrau hyn eisoes yn codi. Mae Dr Flavia Bustreo o Sefydliad Iechyd y Byd, cyfarwyddwr cyffredinol cynorthwyol ar gyfer iechyd teuluoedd, menywod a phlant, wedi dweud: Mae llygredd aer yn un o brif achosion afiechyd a marwolaeth. Mae'n newyddion da fod mwy o ddinasoedd yn gweithredu i fonitro ansawdd aer, felly pan fyddant yn cymryd camau i'w wella, bydd ganddynt feincnod Pan fo aer brwnt yn gorchuddio ein dinasoedd, y poblogaethau trefol mwyaf agored i niwed - y rhai ieuengaf, y rhai hynaf a'r rhai tlotaf - yw'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf. Mae ansawdd aer yn fy etholaeth a fy nhref enedigol, Port Talbot, yn aml yn y penawdau oherwydd y lefelau uchel o lygredd, neu'n fwy cywir efallai, lefelau uchel o ronynnau, sydd o bryd i'w gilydd yn cyrraedd mor uchel â 9 - nid 9.5, ond 9 - ar y raddfa, ond mae wedi cyrraedd hynny ar fwy na 10 achlysur mewn gwirionedd. Ceir terfyn uchaf o 40 achlysur mewn blwyddyn na ddylid ei groesi ac rydym yn cyrraedd 25 y cant o'r terfyn hwnnw. Mae hynny'n gwbl annerbyniol. Wrth gwrs, tref ddiwydiannol yw Port Talbot yn bennaf, ond mae ganddi hefyd yr M4, prif gefnffordd, yn rhedeg drwy lain arfordirol gul iawn. Os ydych yn gyfarwydd â Phort Talbot, fe wyddoch ei bod yn llain gul iawn, a gwyddoch hefyd fod mynyddoedd ar un ochr, felly effeithir ar lif yr awyr yn amlwg o ganlyniad i hynny. Mae'r cyngor a Llywodraeth Cymru wedi rhoi mesurau ar waith i fonitro allyriadau llygryddion uchel, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn goruchwylio rheoliadau cyffredinol, gan gynnwys cydymffurfio â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, tra bo fforwm ansawdd aer penodol ar gyfer Cymru yn mesur prif ddangosyddion ansawdd aer ledled Cymru. Mae hynny'n newyddion gwych. Ond o weld nad yw peth o'r data diweddaraf a gyhoeddwyd ond yn cyrraedd 2013, gofynnaf i'r Gweinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet, i gwmpasu a diweddaru canllawiau, yn enwedig yn sgil cyhoeddi astudiaeth hydredol gan Sefydliad Iechyd y Byd yn ddiweddar, a ddangosai fod llygredd aer yn yr awyr agored wedi cynyddu 8 y cant yn fyd-eang dros y pum mlynedd diwethaf. Nododd Sefydliad Iechyd y Byd hefyd mai Port Talbot yw un o'r trefi yr effeithiwyd arni waethaf yn y DU. Nodwyd mai hi yw'r dref waethaf yn y DU o ran allyriadau PM10, ac nid oedd fawr gwell o ran allyriadau PM2.5, felly rwy'n bryderus iawn ynglŷn â goblygiadau hynny i iechyd fy etholwyr os na fyddwn yn cynyddu ein hymdrechion i wella ansawdd aer a lleihau allyriadau PM10 a PM2.5. Mae deddfwriaeth amgylcheddol y 25 mlynedd diwethaf wedi arwain at ostyngiad parhaus yn lefelau llygredd niweidiol yng Nghymru ac yn ehangach ledled Ewrop. Rwy'n canmol Llywodraeth Cymru am barhau i ymrwymo i wella ansawdd aer a chwilio am ffyrdd o ddatblygu a chyflymu'r ffordd y rheolir llygredd aer, nid yn unig er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol, ond hefyd i wella iechyd pobl yng Nghymru. Yn wyneb canlyniad refferendwm yr UE, dylai effaith amgylcheddol strategaeth 'gadael' hefyd fod yn destun pryder mawr i bob un ohonom yma yn y Siambr. Bu'r UE yn diogelu cydymffurfiaeth ac yn cynhyrchu rheoliadau ynglŷn â materion megis ansawdd aer a lefelau diogel ers degawdau lawer. Rhaid i ni beidio â cholli manteision y canllawiau cyffredinol allweddol hyn, megis cyfarwyddeb allyriadau diwydiannol 2010, cyfarwyddeb fframwaith ansawdd aer 2008, a chyfarwyddeb atal a rheoli llygredd integredig 2006, i enwi tri yn unig. Yn y trafodaethau sydd i ddod gyda'r UE, mae'n rhaid i ni sicrhau bod pryderon amgylcheddol ar flaen yr agenda. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i droi at Ewrop am gyfarwyddyd ac arweiniad ar y materion hyn, a sicrhau bod diogelu iechyd ein poblogaeth bresennol a'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn parhau i fod yn rhan annatod o bolisi ac ymarfer llywodraethol. Bydd hyn yn cynnwys buddsoddiad cynaliadwy a sylweddol yn ein systemau trafnidiaeth gyhoeddus, a llwybrau teithio llesol i annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref cymaint ag y bo modd. Rhaid i ni edrych hefyd ar gynlluniau sy'n lleihau allyriadau, yn enwedig mewn datblygiadau diwydiannol, boed hynny drwy fwy o ddefnydd o ynni adnewyddadwy, rhywbeth rydym yn gryf o'i blaid yma yng Nghymru, neu drwy gynlluniau sy'n adeiladu ar ddatblygiadau ailgylchu, megis y pwerdy arfaethedig yn y gwaith dur ym Mhort Talbot, sy'n ymwneud mewn gwirionedd â defnyddio nwyon gwastraff, felly rydych yn lleihau'r allyriadau ac yn creu budd ohonynt. Rydych yn lleihau allyriadau ddwywaith mewn gwirionedd, oherwydd eich bod yn lleihau'r allyriadau o'r nwyon gwastraff, ond rydych hefyd yn lleihau allyriadau o gynhyrchu trydan ychwanegol, gan ei fod gennych: sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu byrdymor yn 2013 ar gyfer Port Talbot, wedi'i anelu'n benodol at dorri allyriadau PM10, ac mae'n dal yn weithredol. Mae angen i ni ei adolygu, ei foderneiddio, a dysgu ohono er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau, nid yn unig ar gyfer Port Talbot, ond ar gyfer Cymru gyfan.
Perhaps I should declare an interest in supporting amendment 1, having received very recently the dreaded letter from Volkswagen in respect of my own car. If I leave open my bedroom window in my Swansea home overnight, I'll be waking up with a good old smoker's cough, except, of course, it's not a smoker's cough, is it, it's a Port Talbot cough. It's brought to me across the bay from a part of my region -
Efallai y dylwn ddatgan diddordeb mewn cefnogi gwelliant 1, ar ôl cael y llythyr a ofnwyd gan Volkswagen yn ddiweddar mewn perthynas â fy nghar fy hun. Os byddaf yn gadael ffenestr fy ystafell wely ar agor dros nos yn fy nghartref yn Abertawe, byddaf yn deffro gyda pheswch smygu, ond wrth gwrs, nid peswch smygu ydyw, peswch Port Talbot ydyw. Mae'n fy nghyrraedd ar draws y bae o ran o fy rhanbarth -
Yes, by all means.
Gwnaf, ar bob cyfrif.
Are you defending the bad air?
A ydych yn amddiffyn yr aer drwg?
I will defend the bad air in the sense that, clearly, there are very few occasions when the wind is blowing in the direction of Swansea; it mostly actually comes off the coast into Port Talbot.
Rwy'n amddiffyn yr aer drwg yn yr ystyr fod yna nifer fechan iawn o achlysuron pan fydd y gwynt yn chwythu i gyfeiriad Abertawe; daw'n bennaf oddi ar yr arfordir i Bort Talbot.
Well, actually, earlier on, you said that the mountains behind Port Talbot actually shove it all my way. But I can tell you that's what it is anyway. David Rees has already mentioned the problems with Port Talbot, and I don't want to over-highlight those. Perhaps I should admit, though, to contributing to that poor air quality when I drive my artificially deflated car into Swansea every day. When I do that, I pass one - or two, I think, actually - of the six electronic nowcaster boards that are a mysterious feature of the Swansea city landscape. These are signs that are designed to take data from 47 monitoring stations around the city, identifying which areas are becoming over-polluted at any one time, and then re-directing local traffic to avoid those hotspots, or those cough spots. I'm not sure if they're supposed to reduce air pollution in themselves, or protect us from it, because at the moment, they actually do neither. These signs, which cost the Welsh Government £100,000 back in 2012, are still not working. Just last month, the World Health Organization identified Swansea - not just Port Talbot - as now exceeding ambient air quality guidelines, and even though it does name Port Talbot, I don't think the title of the most polluted town in Wales is one we should be fighting for, even against Crumlin. I don't think it takes, to be honest, Public Health Wales to find a direct correlation between air pollution and an increase in respiratory diseases - although of course it's pleasing to have the obvious confirmed there. Respiratory diseases are particularly prevalent amongst older people in Wales, and last year DEFRA advised that as older people are more likely to suffer from heart and lung conditions, more effort should be put into making them aware of the effect of air pollution in their own environment. A total of 29,776 people died of chronic obstructive pulmonary disease in 2012 in the whole of the UK. That's quite a high number I think anyway, but 27,000 of those were over the age of 65. Over 45,000 people in Wales are admitted to hospital each year with respiratory conditions like COPD and lung cancer, and with the health of older people - which already presents complex challenges to the NHS - being more likely to be affected by pollution and low air quality, surely there's a strong argument, isn't there, that a clear and effective low-emissions strategy for Wales, properly implemented, would reduce impact on the Welsh NHS and social Services - not just in the terms of the £20 billion that one of the earlier speakers mentioned, but in reducing the personal poor experience of many older people who have a range of co-morbidities. I'm a great believer in people being part of solving their own problems. Take the fabulous, although sadly late, now, Margaret Barnard of Breathe Easy Neath Valley, who, having being diagnosed with COPD back in 2005, spent the next 10 years of her life working with the British Lung Foundation locally, to raise awareness of respiratory diseases and their causes, and fighting for the improvement to the design of portable oxygen. She also got me to do an abseil to overcome my fear of heights to raise money for the British Lung Foundation, so that's how persuasive she was. But sometimes, it's got to be Government that really takes the lead - and I think this is one of those occasions. While we all, of course, need to take control of our own behaviour, to avoid a range of diseases and conditions as we get older - you know, eating better, doing more exercise, stopping smoking and so on - it isn't as easy to control our exposure to poor air quality. Because one electric car - let's be realistic here - doesn't make the difference. This need population-level action and I think all Governments of the UK should look across the world, not just to Europe, for inspiration on this, not least about what to avoid, but also, of course, what to adopt. I know it was some time ago, but in 1996 the UK Government introduced PowerShift grants to assist companies to convert their fleets of vehicles to LPG, which is 88 per cent less polluting than diesel. But the scheme was cut short in the 2000s, with the result that businesses, and potentially members of the public, turned their backs on LPG and went back to petrol and diesel. And it's only now, some 20 years later, when the hybrid and the electric cars are becoming more familiar, that we recognise that was an opportunity missed there. While I think that carbon taxes can be part of the answer, heavy-handed application makes them an easy target, doesn't it, for blame when industries run into trouble. I think that nudges to our driving culture can help us as individuals make a meaningful and whole-population contribution to better air quality.
Wel, mewn gwirionedd, yn gynharach, fe ddywedoch fod y mynyddoedd y tu ôl i Bort Talbot yn ei wthio i gyd i fy nghyfeiriad i. Ond gallaf ddweud wrthych mai dyna beth ydyw, beth bynnag. Mae David Rees eisoes wedi sôn am y problemau gyda Phort Talbot, ac nid oes arnaf eisiau tynnu gormod o sylw at y rheini. Efallai y dylwn gyfaddef, fodd bynnag, fy mod yn cyfrannu at yr ansawdd aer gwael pan fyddaf yn gyrru fy nghar sy'n ddadchwythedig yn artiffisial i Abertawe bob dydd. Pan fyddaf yn gwneud hynny, rwy'n pasio un - neu ddau, rwy'n meddwl - o'r chwe bwrdd negeseuon electronig sy'n nodwedd ryfedd o dirlun dinas Abertawe. Arwyddion yw'r rhain a gynlluniwyd i fynd â data o 47 gorsaf fonitro o gwmpas y ddinas, gan nodi ym mha ardaloedd y mae lefelau llygredd yn codi'n rhy uchel ar unrhyw adeg, ac ailgyfeirio traffig lleol wedyn i osgoi'r ardaloedd problemus, neu'r ardaloedd pesychlyd hynny. Nid wyf yn siŵr os ydynt i fod i leihau llygredd aer ynddynt eu hunain, neu ein hamddiffyn rhagddo, oherwydd ar hyn o bryd, nid ydynt yn gwneud y naill neu'r llall. Nid yw'r arwyddion hyn, a gostiodd £100,000 i Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2012, yn gweithio. Fis diwethaf, nododd Sefydliad Iechyd y Byd fod lefelau llygredd aer yn Abertawe - nid Port Talbot, yn unig - bellach yn codi'n uwch na'r canllawiau ar ansawdd aer yr amgylchedd, ac er ei fod yn enwi Port Talbot, nid wyf yn credu bod y wobr am y dref fwyaf llygredig yng Nghymru yn un y dylem ymladd amdani, hyd yn oed yn erbyn Crymlyn. A bod yn onest, nid wyf yn credu bod angen i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarganfod cydberthynas uniongyrchol rhwng llygredd aer a chynnydd mewn clefydau anadlol - er ei bod yn braf cael cadarnhad o'r hyn sy'n amlwg wrth gwrs. Mae clefydau anadlol yn arbennig o gyffredin ymysg pobl hŷn yng Nghymru, a chynghorodd DEFRA y llynedd, gan fod pobl hŷn yn fwy tebygol o ddioddef cyflyrau'r galon a'r ysgyfaint, dylid ymdrechu mwy i'w gwneud yn ymwybodol o effaith llygredd aer yn eu hamgylchedd eu hunain. Bu farw cyfanswm o 29,776 o bobl o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn 2012 yn y DU. Rwy'n meddwl ei fod yn nifer go uchel, beth bynnag, ond roedd 27,000 o'r rheini dros 65 oed. Caiff dros 45,000 o bobl yng Nghymru eu derbyn i'r ysbyty bob blwyddyn â chyflyrau anadlol megis clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chanser yr ysgyfaint, a gydag iechyd pobl hŷn - sydd eisoes yn creu heriau cymhleth i'r GIG - yn fwy tebygol o gael ei effeithio gan lygredd ac ansawdd aer isel, yn sicr mae dadl gref, onid oes, y byddai strategaeth allyriadau isel clir ac effeithiol ar gyfer Cymru, wedi'i rhoi ar waith yn briodol, yn lleihau'r effaith ar y GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru - nid yn unig o ran yr £20 biliwn a grybwyllwyd gan un o'r siaradwyr yn gynharach, ond o ran lleihau profiadau personol gwael i lawer o bobl hŷn sydd ag amrywiaeth o gyflyrau cyd-forbid. Rwy'n credu'n gryf y dylai pobl fod yn rhan o'r broses o ddatrys eu problemau eu hunain. Cymerwch y diweddar, yn anffodus, a'r anhygoel, Margaret Barnard o grŵp Anadlu'n Rhydd Cwm Nedd, a gafodd ddiagnosis o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn ôl yn 2005, ac a dreuliodd 10 mlynedd nesaf ei bywyd yn gweithio gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o glefydau anadlol a'u hachosion, ac yn ymladd am welliannau i ddyluniad ocsigen cludadwy. Llwyddodd hefyd i wneud i mi abseilio a threchu ofn uchder er mwyn codi arian ar gyfer Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, felly dyna pa mor berswadiol oedd hi. Ond weithiau, mae'n rhaid i'r Llywodraeth arwain - ac rwy'n credu bod hwn yn un o'r achlysuron hynny. Wrth gwrs, er bod angen i ni i gyd reoli ein hymddygiad ein hunain, er mwyn osgoi amrywiaeth o glefydau a chyflyrau wrth i ni fynd yn hŷn - bwyta'n well, gwneud mwy o ymarfer corff, rhoi'r gorau i smygu ac yn y blaen - nid yw mor hawdd rheoli ein cysylltiad ag ansawdd aer gwael. Oherwydd nid yw un car trydan - gadewch i ni fod yn realistig - yn gwneud y gwahaniaeth. Mae hyn yn galw am weithredu ar lefel y boblogaeth ac rwy'n credu y dylai pob Llywodraeth yn y DU edrych ar draws y byd, nid ar Ewrop yn unig, i gael ysbrydoliaeth ar hyn, nid yn unig ynglŷn â beth i'w osgoi, ond hefyd, wrth gwrs, beth i'w fabwysiadu. Rwy'n gwybod bod peth amser ers hynny, ond yn 1996, cyflwynodd Llywodraeth y DU grantiau PowerShift i gynorthwyo cwmnïau i addasu eu fflyd o gerbydau i nwy petrolewm hylifedig, sy'n creu 88 y cant yn llai o lygredd na diesel. Ond cafodd y cynllun ei ddirwyn i ben yn y 2000au, gyda'r canlyniad fod busnesau, ac aelodau o'r cyhoedd o bosibl, wedi troi eu cefnau ar nwy petrolewm hylifedig ac wedi newid yn ôl i betrol a diesel. A dim ond yn awr, tua 20 mlynedd yn ddiweddarach, pan fo'r ceir hybrid a thrydan yn dod yn fwy cyfarwydd, y gwelwn fod hwnnw'n gyfle a gollwyd. Er fy mod yn credu y gall trethi carbon fod yn rhan o'r ateb, mae defnydd rhy llawdrwm yn eu gwneud yn darged hawdd i'w feio, onid yw, pan fo diwydiannau'n wynebu trafferthion. Credaf y gall ysgogiadau i'n diwylliant gyrru ein helpu fel unigolion i wneud cyfraniad ystyrlon gan y boblogaeth gyfan i ansawdd aer gwell.
I'm pleased to have the opportunity to contribute to this debate today, and I thank David Melding for initiating it. As has already been mentioned, there is the situation in Crumlin on the A472, of course, where the emissions there are the highest in the UK outside of London. Of course, it's more than just a reading on a sensor - this is about the health and well-being of people, and Government and local authorities have a statutory duty to further the public health of people, and to take steps, indeed, to protect their health. The issue in Crumlin is a public health issue, not simply a transport issue. The emissions readings that have been referred to there have sadly not yet resulted in a comprehensive plan from either local or national Government, although as other Members have suggested, that work is being consulted upon at the moment. Indeed, whilst I note the improved road layout in the area since the time of the sensor readings, I know that there are many residents - some I've spoken to - who are concerned that the new layout there may actually exacerbate the air quality, due to the high speeds now that vehicles are able to reach because traffic has been freed up. In her contribution to this debate today, I'd be very grateful if the Cabinet Secretary would address a few points for consideration. First, can she enlighten us in terms of whether or not Natural Resources Wales have, or are planning to, extend their monitoring of PAHs - polycyclic aromatic hydrocarbons - and also pollution in waterways, especially in relation to traffic pollution? As David Melding said, this is a new area for many of us, so I'd be grateful if Members didn't ask me to repeat these acronyms again. Members will also appreciate that the residents in Crumlin are most concerned about not just the problem with the air pollution, but about finding a solution to the air quality in their area. In the short term, I urge the Welsh Government to ensure that all buses using the route through Crumlin are encouraged to either use low-emissions buses or even electric buses, and I'd be grateful if the Cabinet Secretary could elaborate on any proposals to extend or to use the UK Government's low-emissions bus scheme. Also, I think it might be worthwhile for the Government to convene a summit of hauliers to explore the possibility of them being supported to upgrade to low-emissions or electric vehicles in the future. It's vital, in an industry that is facing difficulty, that they are brought in and are seen to be part of the process of helping us to tackle problems with air pollution in this country. In the longer term, I wonder if the Welsh Government would consider the introduction of low-emission zones in Wales along the London model in high-emissions areas of this country, perhaps starting off in communities like Crumlin as pilot schemes. The Cabinet Secretary will be aware, I'm sure, of the plans some decades ago for a new road to alleviate the specific problems in Crumlin. Such plans were lost following the dissolution of Gwent County Council in the 1990s. I wonder whether she has had discussions with Caerphilly County Borough Council on the possibility of resurrecting plans for a new road in the Crumlin area to alleviate the problems in the residential area on the Hafodyrynys hill. Llywydd, as I mentioned in my opening remarks, this is a public health matter, and the first priority of any government must surely be to uphold and further the health and well-being of its citizens. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n falch o gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw a diolch i David Melding am ei chychwyn. Fel y soniwyd eisoes, gwelwyd sefyllfa yng Nghrymlyn ar yr A472, wrth gwrs, lle mae rhai o'r allyriadau uchaf yn y DU y tu allan i Lundain. Wrth gwrs, mae'n fwy na darlleniad ar synhwyrydd yn unig - mae hyn yn ymwneud ag iechyd a lles pobl, ac mae gan y Llywodraeth ac awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i hyrwyddo iechyd y cyhoedd, ac i roi camau ar waith, yn wir, i ddiogelu eu hiechyd. Nid trafnidiaeth yn unig yw'r broblem yng Nghrymlyn; mae'n fater iechyd cyhoeddus yn ogystal. Yn anffodus, nid yw'r darlleniadau o'r allyriadau y cyfeiriwyd atynt yno wedi arwain eto at gynllun cynhwysfawr gan Lywodraeth leol na llywodraeth genedlaethol, er bod ymgynghoriad ar y gweill ar y gwaith hwnnw ar hyn o bryd, fel y mae Aelodau eraill wedi crybwyll. Yn wir, er fy mod yn nodi'r cynllun ffyrdd gwell yn yr ardal ers cofnodi darlleniadau'r synhwyrydd, rwy'n gwybod bod llawer o drigolion - rwyf wedi siarad â rhai ohonynt - yn pryderu y gallai'r cynllun newydd waethygu ansawdd yr aer mewn gwirionedd, o ganlyniad i'r cyflymder uchel y gall cerbydau ei gyrraedd bellach ar ôl lleddfu'r tagfeydd traffig. Yn ei chyfraniad i'r ddadl hon heddiw, buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried rhai pwyntiau. Yn gyntaf, a all ddweud wrthym a yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi, neu'n bwriadu, ymestyn eu gwaith monitro hydrocarbonau aromatig polysyclig, a llygredd mewn dyfrffyrdd, yn enwedig mewn perthynas â llygredd traffig? Fel y dywedodd David Melding, mae hwn yn faes newydd i lawer ohonom, felly buaswn yn ddiolchgar pe na bai'r Aelodau'n gofyn i mi ailadrodd yr acronymau hyn eto. Bydd yr Aelodau hefyd yn deall bod y trigolion yng Nghrymlyn yn pryderu'n fawr iawn, nid yn unig am y broblem gyda llygredd aer, ond ynglŷn â dod o hyd i ateb i broblem ansawdd aer yn eu hardal. Yn y tymor byr, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob bws sy'n defnyddio'r llwybr drwy Grymlyn yn cael eu hannog naill ai i ddefnyddio bysiau allyriadau isel neu fysiau trydan hyd yn oed, a buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar unrhyw gynigion i ymestyn neu ddefnyddio cynllun bysiau allyriadau isel Llywodraeth y DU. Hefyd, rwy'n meddwl y gallai fod yn fuddiol i'r Llywodraeth gynnal uwchgynhadledd ar gyfer cludwyr er mwyn archwilio'r posibilrwydd o'u cynorthwyo i uwchraddio i gerbydau allyriadau isel neu gerbydau trydan yn y dyfodol. Mae'n hanfodol, mewn diwydiant sy'n wynebu anhawster, eu bod yn cael eu cynnwys a'u gweld yn rhan o'r broses o'n helpu i fynd i'r afael â phroblemau gyda llygredd aer yn y wlad hon. Yn y tymor hwy, tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno parthau allyriadau isel yng Nghymru ar fodel Llundain mewn ardaloedd o'r wlad hon sydd ag allyriadau uchel, gan ddechrau o bosibl mewn cymunedau megis Crymlyn fel cynlluniau peilot. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, rwy'n siŵr, am y cynlluniau rai degawdau yn ôl ar gyfer ffordd newydd i leddfu'r problemau penodol yng Nghrymlyn. Collwyd cynlluniau o'r fath yn dilyn diddymu Cyngor Sir Gwent yn y 1990au. Tybed a yw hi wedi cael trafodaethau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y posibilrwydd o atgyfodi cynlluniau ar gyfer ffordd newydd yn ardal Crymlyn i leddfu'r problemau yn yr ardal breswyl ar fryn Hafodyrynys. Lywydd, fel y soniais yn fy sylwadau agoriadol, mae hwn yn fater iechyd y cyhoedd, ac yn sicr rhaid i unrhyw lywodraeth wneud cynnal a hyrwyddo iechyd a lles ei dinasyddion yn brif flaenoriaeth. Diolch yn fawr iawn.
I'm very grateful for the opportunity to take part in this particular debate because, of course, I come from an area where air quality is actually very, very good - on the north Wales coast. In fact it's so good that historically it's been one of those places that has received investment in its health services in order to look after people who were impacted by poor air quality from many of the cities, historically. So, Abergele Hospital, for example, was a hospital that was established to treat those individuals who had TB and other lung conditions, because of the excellent quality of the air in that particular area. But I know that this is a problem for many other parts of Wales. Like David Rees, I agree that the EU, and our membership of it, has actually helped to improve air quality, and thank goodness. It's a long time since we've had any of the sort of inner-city smogs that we used to get as a nation, which killed thousands and thousands of individuals each and every year. I was just looking at one of the briefing documents for today's debate, and I'm told that the London smog of 1952 killed 12,000 people, which is an astonishing number when you think about it. So, although we have made significant improvements in recent years, it is alarming that we are still, as Simon Thomas quite rightly said, seeing more deaths from air pollution and poor air quality than we are from road traffic accidents. I think that should spur all of us into wanting to see some more action on this particular issue. Many people have referred to public health. Of course, the impact of air pollution actually starts before somebody is actually born. So, it's in the womb during gestation while lungs are developing that we're actually hindering the next generation unless we actually get on top of this problem. Of course, if you've got underdeveloped lungs - if you've got underdeveloped capacity within your lungs - that has a lifelong impact right through into your old age, and people living with chronic lung conditions very often were brought up in smoke-filled areas or in inner-city areas when we had those historical problems with air quality in them. Nobody so far has referred, to a great extent, to indoor air pollution. Of course, we know that that is also a problem across Wales and here in the UK, and it's not just the headline hitters like carbon monoxide poisoning, which is still an all-too-frequent problem here in Wales as a result of people not servicing their gas appliances at home. I think, also, we could actually take some action on that through the regulatory system, to require carbon monoxide equipment and test equipment in the same way that we have fire alarms in our homes in the future. I think that that's something that does need to be considered going forward. Neither has anybody mentioned the impact of asbestos in some of our public buildings - and I know this is something that my colleague Nick Ramsay has championed in the past - in terms of the residue of asbestos that's still in many of our schools here in Wales. This is something that we really need to be moving on to address now, given that many of these buildings have had asbestos in situ since the 1960s. Not to mention the fact that the other thing that impacts on air quality indoors, of course, is cleaning products, sometimes, and simple things like air fresheners, which very often trigger things like asthmatic attacks for people with asthma and other problems, and for people with lung conditions that can be irritated by that. So, I think there's an awful lot that we can do through the regulatory framework here in Wales to complement action that is taken at a UK level and beyond to improve our game. We mustn't also neglect the fact that many of these air pollutants also have an impact on climate change. That in itself brings costs to the public purse in terms of trying to address the impact of climate change, particularly flooding, which has been a big problem here in Wales over the years. There's one final point I'd like to make, and that is the role of trees in helping to address air pollution. We know that trees and vegetation, particularly in our city areas, not only add to the attractiveness of those areas, but they also actually help to filter the air in a very positive way and have a positive impact on the air quality in our urban towns and cities. So, I'd encourage the Cabinet Secretary to consider these things as she looks to developing the air quality strategy in the future.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl benodol hon am fy mod, wrth gwrs, yn dod o ardal lle mae ansawdd yr aer yn dda iawn, iawn mewn gwirionedd - ar arfordir gogledd Cymru. Yn wir mae mor dda fel ei fod yn arfer bod yn un o'r lleoedd hynny yr arferid buddsoddi yn eu gwasanaethau iechyd er mwyn gofalu am bobl yr effeithiwyd arnynt gan ansawdd aer gwael o lawer o'r dinasoedd mewn dyddiau a fu. Felly, roedd Ysbyty Abergele, er enghraifft, yn ysbyty a sefydlwyd i drin unigolion yn dioddef o TB a chyflyrau eraill yr ysgyfaint, oherwydd ansawdd rhagorol yr aer yn yr ardal honno. Ond gwn fod hon yn broblem i lawer o rannau eraill o Gymru. Fel David Rees, rwy'n cytuno bod yr UE, a'n haelodaeth ohono, wedi helpu i wella ansawdd aer mewn gwirionedd, a diolch byth am hynny. Mae'n amser hir ers i ni gael unrhyw beth tebyg i'r math o fwrllwch dinesig yr arferem ei weld fel cenedl, ac a laddai filoedd ar filoedd o unigolion bob blwyddyn. Roeddwn yn edrych ar un o'r dogfennau briffio ar gyfer y ddadl heddiw, a deall bod mwrllwch Llundain yn 1952 wedi lladd 12,000 o bobl, sy'n nifer anhygoel os meddyliwch am y peth. Felly, er ein bod wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, fel y dywedodd Simon Thomas yn ddigon cywir, mae'n frawychus ein bod yn dal i weld mwy o farwolaethau o lygredd aer ac o aer o ansawdd gwael nag o ddamweiniau traffig ar y ffyrdd. Rwy'n credu y dylai hynny ysgogi pawb ohonom i fod eisiau gweld mwy o weithredu ar y mater hwn. Mae llawer o bobl wedi cyfeirio at iechyd y cyhoedd. Wrth gwrs, mae effaith llygredd aer mewn gwirionedd yn dechrau cyn i rywun gael ei eni mewn gwirionedd. Felly, rydym yn creu baich i'r genhedlaeth nesaf yn y groth yn ystod beichiogrwydd tra bo'r ysgyfaint yn datblygu mewn gwirionedd oni bai ein bod yn mynd ati o ddifrif i oresgyn y broblem hon. Wrth gwrs, os oes gennych ysgyfaint nad yw wedi datblygu'n llawn - os nad yw capasiti eich ysgyfaint wedi datblygu'n llawn - mae hynny'n effeithio arnoch drwy gydol eich oes ac yn eich henaint, ac yn aml cafodd pobl sy'n byw gyda chlefydau cronig yr ysgyfaint eu magu mewn ardaloedd llawn mwg neu ardaloedd dinesig pan oeddem yn wynebu problemau gydag ansawdd aer mewn dyddiau a fu. Nid oes neb hyd yn hyn wedi cyfeirio'n helaeth at lygredd aer dan do. Wrth gwrs, fe wyddom fod honno hefyd yn broblem ar draws Cymru ac yma yn y DU, ac nid yr hyn sydd yn y penawdau'n unig, megis gwenwyn carbon monocsid, sy'n dal i fod yn broblem yn llawer rhy aml yma yng Nghymru yn sgil y ffaith nad yw pobl yn trefnu archwiliad i'w cyfarpar nwy yn y cartref. Rwy'n meddwl hefyd mewn gwirionedd y gallem roi camau ar waith ar hynny drwy'r system reoleiddio, i wneud cyfarpar carbon monocsid yn ofynnol a phrofi offer yn y dyfodol yn yr un modd ag y mae gennym larymau tân yn ein cartrefi. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen ei ystyried yn y dyfodol. Nid oes neb ychwaith wedi crybwyll effaith asbestos yn rhai o'n hadeiladau cyhoeddus - ac rwy'n gwybod bod hwn yn fater y mae fy nghyd-Aelod, Nick Ramsay wedi bod yn ei hyrwyddo yn y gorffennol - o ran gweddillion asbestos sy'n dal i fod yn bresennol mewn llawer o'n hysgolion yma yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni symud ymlaen i roi sylw iddo yn awr, o gofio bod asbestos wedi bod ar safle llawer o'r adeiladau hyn ers y 1960au. Heb sôn am y ffaith mai'r peth arall sy'n effeithio ar ansawdd aer dan do, wrth gwrs, yw cynnyrch glanhau, weithiau, a phethau syml fel ffresnydd aer, sy'n aml iawn yn achosi pethau fel asthma mewn pobl ag asthma a phroblemau eraill, a phobl sydd â chyflyrau ysgyfaint y gall pethau o'r fath eu gwaethygu. Felly, rwy'n credu bod llawer iawn y gallwn ei wneud drwy'r fframwaith rheoliadol yma yng Nghymru i ategu camau a roddir ar waith ar lefel y DU a thu hwnt i wella ein perfformiad. Hefyd, ni ddylem anwybyddu'r ffaith fod llawer o'r llygryddion aer hyn hefyd yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd. Mae hynny ynddo'i hun yn creu costau i bwrs y wlad o ran ceisio mynd i'r afael ag effaith newid yn yr hinsawdd, yn enwedig llifogydd, sydd wedi bod yn broblem fawr yma yng Nghymru dros y blynyddoedd. Mae un pwynt olaf yr hoffwn ei wneud, ar rôl coed i helpu i fynd i'r afael â llygredd aer. Gwyddom fod coed a llystyfiant, yn enwedig yn ein hardaloedd dinesig, nid yn unig yn ychwanegu at atyniad yr ardaloedd hynny, ond hefyd yn helpu i hidlo aer mewn modd cadarnhaol iawn ac yn effeithio'n gadarnhaol ar ansawdd aer yn ein trefi a'n dinasoedd. Felly, hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried y pethau hyn wrth iddi ystyried datblygu'r strategaeth ansawdd aer yn y dyfodol.
The focus this afternoon in this debate seems to have been mainly on cars, industry and individuals, and of course sensible efforts to reduce emissions from these sources are to be commended. However, there's a far bigger polluter than cars or people. There are approximately 90,000 cargo ships on the world's seas. They burn 7.29 million barrels a day of the dirtiest and most polluting fuel left over from the oil refining process. The stuff is so dirty and heavy that you can walk on it when it's cold. Cargo ships produce 260 times the pollution of the world's cars each year. Because of that, Wales and the UK could shut down every facility producing carbon and other pollutants and take every car off the road and it wouldn't even dent the amount of air pollution being created by these cargo ships. Air pollution is a global problem and Wales and the UK need to work with the IMO and other global bodies to encourage the development and introduction of alternative means of fuelling these cargo ships or reducing the pollution in other ways, such as requiring cargo ships to be equipped with technology such as scrubbers, catalytic conversion and developing alternative energy sources. Otherwise we're just trying to empty an ocean with a thimble.
Ymddengys bod ffocws y ddadl y prynhawn yma ar geir, diwydiant ac unigolion, yn bennaf, ac wrth gwrs dylid canmol ymdrechion synhwyrol i leihau allyriadau o'r ffynonellau hyn. Fodd bynnag, mae yna un llygrwr sy'n llawer mwy na cheir neu bobl. Ceir oddeutu 90,000 o longau cargo ar foroedd y byd. Maent yn llosgi 7.29 miliwn o gasgenni y dydd o'r tanwydd butraf a mwyaf llygrol a adewir dros ben o'r broses puro olew. Mae'r peth mor fudr a thrwm fel y gallwch gerdded arno pan fo'n oer. Mae llongau cargo yn cynhyrchu 260 gwaith y llygredd sy'n cael ei gynhyrchu o geir yn y byd bob blwyddyn. Oherwydd hynny, gallai Cymru a'r DU gau pob cyfleuster sy'n cynhyrchu carbon a llygryddion eraill a thynnu pob car oddi ar y ffordd ac ni fyddai hyd yn oed yn creu tolc o ran faint o lygredd aer sy'n cael ei greu gan y llongau cargo hyn. Mae llygredd aer yn broblem fyd-eang ac mae angen i Gymru a'r DU weithio gyda'r Sefydliad Morol Rhyngwladol a chyrff byd-eang eraill i annog gwaith ar ddatblygu a chyflwyno tanwydd amgen ar gyfer y llongau cargo hyn neu leihau'r llygredd mewn ffyrdd eraill, megis ei gwneud yn ofynnol i longau cargo gario offer technolegol megis sgwrwyr, cyfarpar trosi catalytig a datblygu ffynonellau ynni amgen. Fel arall, rydym yn ceisio gwagio'r cefnfor â gwniadur.
With the ever-increasing understanding of the importance of safe air quality on quality of life and on health and well-being, precisely because of this, I wanted to speak in this debate, in particular due to the fact that I'm a chronic asthmatic, and my son has been hospitalised on many occasions due to his asthma. There is unease at levels of air pollution, and I note that Crumlin in Caerphilly has the highest nitrogen dioxide levels recorded outside of London, which is a key factor. This sits in my constituency of Islwyn and exists topographically in a constricted, high-sided valley containing key arteries for heavy-goods vehicles that go to Ebbw Vale, Caerphilly, Torfaen and beyond. As a new Member, last week in this Chamber I raised this very important issue with the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs, and I have written to and am meeting with key authorities in this matter. It is clearly not acceptable that the A472 in Crumlin, according to Government data, has nitrogen dioxide levels only exceeded by Marylebone Road in central London - bearing in mind that London exceeds its annual mean of nitrogen dioxide safe levels in just eight days. I want to place on public record my appreciation to Welsh Labour councillor Andrew Lewis, who represents Crumlin on Caerphilly County Borough Council. He has passionately taken up the case of air quality for his residents and was featured in last week's 'Caerphilly Observer' once again giving this issue public prominence. I was going to give key data and facts in terms of COPD and asthma, but that's already been referenced by other Members. I asked the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs what action can the Welsh Government take to work with the local authority and other stakeholders to lift the scourge of air pollution, and I was reassured by the Cabinet Secretary's answer to me that Welsh Government has sought strong assurances from the local authority concerning the actions they intend to take to improve the local air quality. The local authority is, as has been referenced, establishing a steering group and seeking to gather input from local groups and residents, and will then develop a strong air quality strategy. This will include a list of strategic traffic-management options for the area and appropriate measures to tackle air quality in the area. The authority have indicated an initial date of November for when this will be implemented, and I am assured that the Welsh Government will keep monitoring this ongoing work and ensure that we are responding to an obvious problem that needs remedying. It may seem like common sense, but it's also important, if we are serious about having the best data possible to monitor air quality, that it monitors it as closely as possible to the location in question. Welsh Labour councillors Jan Jones and Philippa Marsden from Ynysddu have also raised with me the issue of air quality for Wattsville and Cwmfelinfach. Local residents need reassurances that it is adequate that air-quality readings for a site in Nine Mile Point are calculated by co-location studies, but ones that are based in Blackwood high street and White Street in Caerphilly. They have been told that there are no continuous monitors within the area in Wattsville itself. So, there are no co-location studies being undertaken in the area of interest. If we are determined, as is needed, to assess and monitor air quality, then the validity of data we rely upon must be the most accurate that it can practicably be. I note that the Welsh Labour Government wants to reduce greenhouse gas emissions by 3 per cent every year and achieve at least a 40 per cent reduction by 2020, compared to figures from 1990. The Environment (Wales) Act 2016 sets a target for emissions to be reduced by at least 80 per cent by 2050. This is to be celebrated and not amended post-Brexit. While I understand the right to chair a committee under our constitution, I will not be alone in being concerned that the Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee is to be chaired by UKIP Assembly Member, Mark Reckless, the man who wanted the very green Margaret Thatcher airport. To quote UKIP Welsh party leader, Nathan Gill -
Gyda dealltwriaeth gynyddol o bwysigrwydd ansawdd aer diogel ar ansawdd bywyd ac ar iechyd a lles, dyma'n union pam roeddwn yn awyddus i siarad yn y ddadl hon, yn enwedig oherwydd y ffaith fy mod yn dioddef o asthma cronig, ac mae fy mab wedi bod yn yr ysbyty ar sawl achlysur oherwydd ei asthma. Mae yna anniddigrwydd ynglŷn â lefelau llygredd aer, a nodaf mai Crymlyn yng Nghaerffili sydd â'r lefelau uchaf a gofnodwyd y tu allan i Lundain o nitrogen deuocsid, sy'n ffactor allweddol. Mae Crymlyn yn fy etholaeth, sef Islwyn, ac o ran topograffeg, mae wedi'i leoli mewn cwm cyfyng, gyda llethrau uchel sy'n cynnwys ffyrdd prifwythiennol allweddol i gerbydau nwyddau trwm sy'n mynd i Lyn Ebwy, Caerffili, Torfaen a thu hwnt. Fel Aelod newydd, yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon tynnais sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y mater pwysig hwn, ac rwyf wedi ysgrifennu at awdurdodau allweddol ynglŷn â'r mater ac yn cyfarfod â hwy. Mae'n amlwg nad yw'n dderbyniol fod gan yr A472 yng Nghrymlyn, yn ôl data'r Llywodraeth, lefelau nitrogen deuocsid uwch nag unman ac eithrio Marylebone Road yng nghanol Llundain - gan gofio bod Llundain yn cynhyrchu mwy na'i chymedr blynyddol diogel o lefelau nitrogen deuocsid mewn wyth diwrnod yn unig. Rwyf am gofnodi'n gyhoeddus fy ngwerthfawrogiad o waith Andrew Lewis, cynghorydd Llafur Cymru sy'n cynrychioli Crymlyn ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae wedi bwrw iddi'n frwd i weithio ar ansawdd aer ar ran ei drigolion a chafodd sylw yn y 'Caerphilly Observer' yr wythnos diwethaf yn rhoi amlygrwydd cyhoeddus i'r mater hwn unwaith eto. Roeddwn yn mynd i roi data a ffeithiau allweddol am glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac asthma, ond mae Aelodau eraill eisoes wedi cyfeirio at hynny. Gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith i weithio gyda'r awdurdod lleol a rhanddeiliaid eraill i gael gwared ar falltod llygredd aer, a chefais fy sicrhau gan ateb Ysgrifennydd y Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am sicrwydd cadarn gan yr awdurdod lleol ynghylch y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i wella ansawdd aer yn lleol. Fel y soniwyd, mae'r awdurdod lleol yn sefydlu grŵp llywio ac yn ceisio casglu mewnbwn gan grwpiau a thrigolion lleol, yna bydd yn datblygu strategaeth ansawdd aer gadarn. Bydd yn cynnwys rhestr o opsiynau rheoli traffig strategol ar gyfer yr ardal a mesurau priodol i fynd i'r afael ag ansawdd aer yn yr ardal. Mae'r awdurdod wedi nodi dyddiad cychwynnol ym mis Tachwedd ar gyfer rhoi'r rhain ar waith, a chefais sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r gwaith parhaus hwn ac yn sicrhau ein bod yn ymateb i broblem amlwg sydd angen ei hunioni. Gall ymddangos fel synnwyr cyffredin, ond mae hefyd yn bwysig, os ydym o ddifrif am gael y data gorau posibl i fonitro ansawdd aer, ei fod yn cael ei fonitro mor agos â phosibl i'r lleoliad dan sylw. Mae'r cynghorwyr Llafur Cymru, Jan Jones a Philippa Marsden o Ynys-ddu, wedi sôn wrthyf hefyd am ansawdd aer yn Wattsville a Chwmfelin-fach. Mae trigolion lleol eisiau sicrwydd ei bod yn ddigonol fod darlleniadau ansawdd aer ar gyfer safle yn Nine Mile Point yn cael eu cyfrifo yn ôl astudiaethau cydleoli, ond rhai sydd wedi'u lleoli ar stryd fawr y Coed-duon a White Street yng Nghaerffili. Dywedwyd wrthynt nad oes unrhyw fonitorau parhaus yn ardal Wattsville ei hun. Felly, nid oes unrhyw astudiaethau cydleoli ar y gweill yn yr ardal dan sylw. Os ydym yn benderfynol o asesu a monitro ansawdd aer, fel y mae angen i ni ei wneud, yna rhaid i ddilysrwydd y data rydym yn dibynnu arno fod mor gywir ag y gall fod yn ymarferol. Sylwaf fod Llywodraeth Lafur Cymru yn awyddus i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3 y cant bob blwyddyn a chyflawni gostyngiad o 40 y cant fan lleiaf erbyn 2020, o'i gymharu â ffigurau 1990. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn gosod targed ar gyfer lleihau allyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Mae hyn i'w ddathlu ac nid i'w ddiwygio ar ôl gadael yr UE. Er fy mod yn deall yr hawl i gadeirio pwyllgor o dan ein cyfansoddiad, nid fi'n unig sy'n pryderu bod y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn mynd i gael ei gadeirio gan Aelod Cynulliad UKIP, Mark Reckless, y dyn a oedd am faes awyr gwyrdd iawn Margaret Thatcher. I ddyfynnu arweinydd plaid UKIP yng Nghymru, Nathan Gill -
Can I just make the point that you had the opportunity to object to that Chair yesterday; today -
A gaf fi wneud y pwynt eich bod wedi cael cyfle i wrthwynebu'r Cadeirydd hwnnw ddoe; heddiw -
I'm referencing it, Llywydd. I'll move on. I would agree with this motion that it is beholden on the Welsh Government and all of us to safeguard the quality of life of our planet and to ensure that the people of Wales enjoy the highest standards of air quality.
Cyfeirio ato rwyf fi, Lywydd. Fe symudaf ymlaen. Byddwn yn cytuno â'r cynnig hwn ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru a phob un ohonom i ddiogelu ansawdd bywyd ein planed ac i sicrhau bod pobl Cymru yn mwynhau ansawdd aer o'r safon uchaf.
As my colleague said earlier, the World Health Organization states that 29,000 people in the UK are affected by premature deaths due to air pollution, and 1,500 by road accidents. Listening to what has been said around the Chamber in this debate is very worrying, and it's good to hear the warm words from every AM. But, I think probably part of the reason I'm stood here now, actually, is the huge contradiction between the warm words in this Chamber from the Labour Members and the reality and results of their policies. Just for a change, I'll talk about Cardiff's local development plan and other local development plans in my constituency, because what the Labour Party in the City of Cardiff Council, here, what you - . [Interruption.] I'll give way.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn gynharach, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn datgan bod 29,000 o bobl yn y DU yn marw yn gynamserol o ganlyniad i lygredd aer, a 1,500 yn marw o ganlyniad i ddamweiniau ffordd. Mae gwrando ar yr hyn a ddywedwyd o gwmpas y Siambr yn y ddadl hon yn peri pryder mawr, ac mae'n dda clywed geiriau brwd gan bob AC. Ond rwy'n credu mai rhan o'r rheswm rwy'n sefyll yma yn awr yn ôl pob tebyg yw'r gwrthgyferbyniad enfawr rhwng y geiriau brwd yn y Siambr hon gan yr Aelodau Llafur a realiti a chanlyniadau eu polisïau mewn gwirionedd. Am newid, fe siaradaf am gynllun datblygu lleol Caerdydd a chynlluniau datblygu lleol eraill yn fy etholaeth, oherwydd yr hyn y mae'r Blaid Lafur yng Nghyngor Dinas Caerdydd, yma, yr hyn rydych chi - . [Torri ar draws.] Fe ildiaf.
Thank you for taking the intervention and before you go on to the Cardiff development plan again, you mentioned that there were warm words from me, as an example. Do you not agree that the Labour authority in Neath Port Talbot and the Labour Government have taken action to monitor the quality of air in Port Talbot to ensure there's a plan in place so that we can ensure that that comes down, and that's positive action?
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad a chyn i chi fynd ymlaen at gynllun datblygu Caerdydd eto, fe sonioch fod geiriau brwd gennyf fi, er enghraifft. Onid ydych yn cytuno bod yr awdurdod Llafur yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r Llywodraeth Lafur wedi cymryd camau i fonitro ansawdd aer ym Mhort Talbot er mwyn sicrhau bod cynllun ar waith i ni allu sicrhau bod hwnnw'n gostwng, a bod hynny'n weithredu cadarnhaol?
Well, in speaking for my constituency, the action taken by your Government and your council - [Interruption.] - your Government and your council - is to increase air pollution where we live. And that is the irony - that is the irony - because you may very well monitor it but your policies increase it, and that is the key point. Now, I'll give you some local examples. Llantrisant Road - if you sneeze in the morning, you're bumper to bumper, and what your policies are doing is bringing tens of thousands of extra cars on the roads, and it's going to be the same in Caerphilly unless you take action there. What is happening in Cardiff, and, indeed, in the whole of South Wales Central, is that greenfield sites are going and green - . [Interruption.] I'll not give way this time. Greenfield sites are going and we're seeing proposals where traffic will be bumper to bumper. The danger now with the possible loss of funding with the metro is that there is no viable transport plan for our region - for the whole of south Wales, actually. And what we should be doing, rather than talking and saying, 'Isn't this air pollution awful and, you know, it's really bad, and we'd like to make things better', what we should be doing in this Chamber is legislating - legislating - using the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 to stop these local development plans destroying our local environments and forcing people in this region to breathe in polluted air, because those are the results of the policies that this body here has passed and what your councils in this area are also doing. So, what I'm asking, really, is for an end to the hypocrisy of saying, 'Isn't this awful, we'd like to improve things', and take concrete measures to improve the environment and the quality of life in this region. Diolch yn fawr. Thank you very much.
Wel, â siarad ar ran fy etholaeth, y camau a gymerwyd gan eich Llywodraeth a'ch Cyngor - [Torri ar draws.] - eich Llywodraeth a'ch cyngor - yw cynyddu llygredd aer ble rydym yn byw. A dyna'r eironi - dyna'r eironi - oherwydd efallai'n wir eich bod yn ei fonitro ond mae eich polisïau yn ei gynyddu, a dyna'r pwynt allweddol. Nawr, rhoddaf rai enghreifftiau lleol i chi. Ffordd Llantrisant - os ydych yn tisian yn y bore, rydych drwyn wrth din, a'r hyn y mae eich polisïau yn ei wneud yw dod â degau o filoedd o geir ychwanegol ar y ffyrdd, ac mae'n mynd i fod yr un fath yng Nghaerffili oni bai eich bod yn rhoi camau ar waith yno. Yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd, ac yn wir, ledled Canol De Cymru, yw bod safleoedd tir glas yn diflannu a safleoedd - . [Torri ar draws.] Nid wyf am ildio y tro hwn. Mae safleoedd tir glas yn diflannu ac rydym yn gweld cynigion lle bydd y traffig drwyn wrth din. Y perygl yn awr gyda'r posibilrwydd o golli cyllid y metro yw nad oes unrhyw gynllun trafnidiaeth hyfyw ar gyfer ein rhanbarth - ar gyfer y cyfan o dde Cymru, mewn gwirionedd. A'r hyn y dylem ei wneud, yn hytrach na siarad a dweud, 'Onid yw'r llygredd aer hwn yn ofnadwy, wyddoch chi, mae'n wirioneddol ddrwg, a hoffem wneud pethau'n well', yr hyn y dylem fod yn ei wneud yn y Siambr hon yw deddfu - deddfu - defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i atal y cynlluniau datblygu lleol hyn rhag dinistrio ein hamgylchedd lleol a gorfodi pobl yn y rhanbarth hwn i anadlu aer llygredig, oherwydd dyna yw canlyniadau'r polisïau y mae'r corff hwn yma wedi'u pasio a'r hyn y mae eich cynghorau yn yr ardal hon hefyd yn ei wneud. Felly, yr hyn rwy'n gofyn amdano, mewn gwirionedd, yw diwedd ar y rhagrith o ddweud, 'Onid yw hyn yn ofnadwy, hoffem wella pethau', a rhoi camau pendant ar waith i wella'r amgylchedd ac ansawdd bywyd yn rhanbarth hwn. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Presiding Officer. I would like to thank the Welsh Conservatives for tabling this debate on this very important issue, and I'm very happy to support the original motion. I'm very sorry that David Melding, the Member for South Wales Central, wasn't reassured enough last week by my answer to him, that, yes, I am absolutely responsible for air quality; it is within my portfolio. And it is absolutely key to public health, something I'm very passionate about, and it does obviously have a significant impact on the health of people in Wales. Around 1,300 deaths a year can be linked to long-term exposure to fine particulates. Concern regarding the health effects of emissions from diesel vehicles is very topical following the Volkswagen emissions scandal and the news about diesel emissions below temperatures of 18 degrees last week. Simon Thomas referred to that in moving amendment 1, and, again, I'm happy to support that amendment. I do support calls for the European Commission to clarify the regulations on emissions from diesel vehicles. I think regulations on the testing need to be much more transparent, and I think many Members made the point - Simon Thomas certainly did - that the EU legislation that covers us now, we signed up to it willingly. There is an opportunity - Andrew R.T. Davies, I hope you're listening, because you were asked for three opportunities, so here's one for you straight away - and I do think that going forward we are able to strengthen it, and it's certainly something that I'll be very happy to look at. Several Members raised the issue around the poor levels of air quality in Crumlin. My colleague Rhianon Passmore, the Member for Islwyn, raised it with me last week, and it is obviously a very serious local problem. Since Rhianon Passmore raised it with me last week, I've made it very clear to Caerphilly County Borough Council - I've written to the leader to emphasise the importance of the plan, particularly the timetable that they've now given me - that they will consult on a draft air quality action plan by November. I think it's really important that they keep to that, and my officials will be monitoring it very closely. The Welsh Government has developed a very clear and agreed approach to local air quality management in Wales. We've established statutory air quality objectives through the Air Quality (Wales) Regulations 2010. Every local authority is required to review their air quality and provide an annual report on their findings. Where those air quality objectives are not being achieved, the authority must designate an air quality management area and then develop a local action plan. We also issued statutory guidance to ensure local authorities follow best practice when reviewing air quality and developing action plans. New Welsh policy guidance was published in March this year and is being used in local authority reports already. I am also going to consider options for enforcement if necessary, again including using my powers to issue directions to local authorities in relation to local air quality management. But, of course, there's always more that we can do. I think we need to better utilise data gathered by local authorities and use them to inform the new state of natural resources report and area statements produced by Natural Resources Wales. And, I think they should be used to then inform the assessments of local well-being and associated plans produced by public services boards. We are going to consult soon on proposals to improve the local air quality and noise management regime in Wales, and we're going to build on the discussions that have previously been held between Welsh Government and local authorities. This will involve streamlining processes and developing a robust procedure for following up overdue progress reports and action plans. This consultation will include an open-ended question inviting comments and suggestions on any potential ideas for improving air quality in Wales. I very much look forward to receiving responses from interested parties. However, it is clear our local efforts must work alongside a national approach to air quality that tackles the main causes of pollution and protects people from them. The Welsh Conservative motion calls on us to develop an effective low-emission strategy for Wales. I absolutely support this and I think we need to go even further. I think we need an approach that reduces emissions where possible, ensures that pollutants are effectively dispersed before they reach people if they cannot be prevented, and reduces the health risks from unavoidable exposure to pollutants. Steffan Lewis raised the question of possible low-emission zones and that's something that, I think, in the upcoming consultation we have, I'd be very interested to hear people's views on. But, at the moment, they are an existing option for local authorities. I think it means there is very little point in developing a stand-alone strategy for air quality in a single silo. I think it's really important that air quality is embedded across all policies on infrastructure, planning, transport, active travel and public health, to name a few. So, my officials are in the early stages of canvassing local authorities on how we do improve national planning policy and guidance in relation to air and noise pollution. We are also working closely with partners, as no organisation or sector can obviously tackle this issue on their own. Natural Resources Wales, for example, have been undertaking research on the air quality benefits of trees. They've estimated that trees remove around 250 tonnes of air pollution from the atmosphere each year in the three urban study areas of Wrexham, Bridgend and the Tawe catchment. This is the equivalent in monetary terms of over £1.5 million-worth of savings to the NHS every year from the resultant respiratory conditions. We're also working with regulators and industry to address the specific challenges associated with air pollution from industrial sources in Port Talbot and the Swansea valley. Simply complying with air quality objectives in the relatively few areas where they are breached is not enough if we are really going to reduce the health burden of air pollution on society -
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon ar y mater pwysig hwn, ac rwy'n hapus iawn i gefnogi'r cynnig gwreiddiol. Mae'n ddrwg iawn gennyf nad yw David Melding, yr Aelod dros Ganol De Cymru, heb gael digon o sicrwydd yr wythnos diwethaf gan fy ateb iddo, mai fy nghyfrifoldeb i, ie, mai fy nghyfrifoldeb i yn llwyr yw ansawdd aer; mae yn fy mhortffolio. Ac mae'n gwbl allweddol i iechyd y cyhoedd, rhywbeth rwy'n angerddol iawn yn ei gylch, ac mae'n amlwg yn effeithio'n sylweddol ar iechyd pobl yng Nghymru. Gellir cysylltu oddeutu 1,300 o farwolaethau y flwyddyn â chysylltiad hirdymor â gronynnau mân. Mae pryder ynghylch effeithiau iechyd allyriadau o gerbydau diesel yn amserol iawn yn dilyn sgandal allyriadau Volkswagen a'r newyddion am allyriadau diesel dan dymheredd o 18 gradd yr wythnos diwethaf. Cyfeiriodd Simon Thomas at hynny wrth gynnig gwelliant 1, ac unwaith eto, rwy'n hapus i gefnogi'r gwelliant hwnnw. Rwy'n cefnogi'r galwadau ar y Comisiwn Ewropeaidd i egluro'r rheoliadau ar allyriadau o gerbydau diesel. Rwy'n credu bod angen i reoliadau ar brofion fod yn llawer mwy tryloyw, ac rwy'n meddwl bod llawer o Aelodau wedi gwneud y pwynt - fe'i gwnaed gan Simon Thomas yn sicr - ein bod wedi bod yn barod iawn i gefnogi deddfwriaeth yr UE sy'n berthnasol i ni ar hyn o bryd. Mae cyfle - Andrew R.T. Davies, rwy'n gobeithio eich bod yn gwrando, oherwydd gofynnwyd i chi am dri chyfle, felly dyma un i chi ar unwaith - ac rwy'n credu yn y dyfodol y byddwn yn gallu ei gryfhau, ac mae'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn hapus iawn i edrych arno. Nododd sawl Aelod fater lefelau ansawdd aer gwael yng Nghrymlyn. Crybwyllodd fy nghyd-Aelod Rhianon Passmore, yr Aelod dros Islwyn, hyn wrthyf yr wythnos diwethaf, ac mae'n amlwg yn broblem leol ddifrifol iawn. Ers i Rhianon Passmore ei ddwyn i fy sylw yr wythnos diwethaf, gwneuthum yn glir iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - ysgrifennais at yr arweinydd i bwysleisio pwysigrwydd y cynllun, yn enwedig yr amserlen y maent bellach wedi'i rhoi i mi - y byddant yn ymgynghori ar ddrafft o gynllun gweithredu ar gyfer ansawdd aer erbyn mis Tachwedd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eu bod yn cadw at hynny, a bydd fy swyddogion yn ei fonitro'n agos iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dull clir iawn wedi'i gytuno o reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru. Rydym wedi sefydlu amcanion ansawdd aer statudol drwy Reoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2010. Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol adolygu eu hansawdd aer a darparu adroddiad blynyddol ar eu canfyddiadau. Lle nad yw'r amcanion ansawdd aer yn cael eu cyflawni, rhaid i'r awdurdod ddynodi ardal rheoli ansawdd aer a datblygu cynllun gweithredu lleol. Hefyd cyhoeddwyd canllawiau statudol gennym i sicrhau bod awdurdodau lleol yn dilyn yr arferion gorau wrth adolygu ansawdd aer a datblygu cynlluniau gweithredu. Cyhoeddwyd canllawiau polisi newydd ar gyfer Cymru ym mis Mawrth eleni ac fe'i defnyddir mewn adroddiadau awdurdodau lleol eisoes. Rwyf hefyd yn mynd i ystyried opsiynau ar gyfer gorfodi os bydd angen, unwaith eto gan gynnwys defnyddio fy mhwerau i gyhoeddi cyfarwyddiadau i awdurdodau lleol mewn perthynas â rheoli ansawdd aer lleol. Ond wrth gwrs, mae yna bob amser fwy y gallwn ei wneud. Rwy'n credu bod angen i ni ddefnyddio data a gasglwyd gan awdurdodau lleol yn well a'i ddefnyddio i lywio'r adroddiad newydd ar sefyllfa adnoddau naturiol a'r datganiadau ardal a gynhyrchir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac rwy'n meddwl y dylid eu defnyddio wedyn i lywio asesiadau o les lleol a chynlluniau cysylltiedig a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Byddwn yn ymgynghori cyn bo hir ar gynigion i wella ansawdd aer a threfniadau lleol ar gyfer rheoli sŵn yng Nghymru, a byddwn yn adeiladu ar y trafodaethau a gynhaliwyd yn flaenorol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Bydd hyn yn cynnwys symleiddio prosesau a datblygu trefn gadarn ar gyfer gwneud gwaith dilynol ar adroddiadau cynnydd a chynlluniau gweithredu a gyflwynir yn hwyr. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys cwestiwn penagored yn gwahodd sylwadau ac awgrymiadau am unrhyw syniadau posibl ar gyfer gwella ansawdd aer yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael ymatebion gan bartïon â diddordeb. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod rhaid i'n hymdrechion lleol weithio ochr yn ochr ag ymagwedd genedlaethol tuag at ansawdd aer sy'n mynd i'r afael â phrif achosion llygredd ac yn diogelu pobl rhagddynt. Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn galw arnom i ddatblygu strategaeth allyriadau isel effeithiol i Gymru. Rwy'n cefnogi hyn yn llwyr ac rwy'n credu bod angen i ni fynd hyd yn oed ymhellach. Rwy'n credu bod angen dull sy'n lleihau allyriadau lle bo modd, yn sicrhau bod llygryddion yn cael eu gwasgaru'n effeithiol cyn iddynt gyrraedd pobl os nad oes modd eu hatal, ac yn lleihau'r peryglon i iechyd o gysylltiad na ellir ei osgoi â llygryddion. Gofynnodd Steffan Lewis gwestiwn ynglŷn â pharthau allyriadau isel posibl ac mae hynny'n rhywbeth sydd yn yr ymgynghoriad sydd ar y ffordd gennym, rwy'n meddwl, a byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed barn pobl arno. Ond ar hyn o bryd, maent yn opsiwn sy'n bodoli ar gyfer awdurdodau lleol. Rwy'n credu ei fod yn golygu nad oes fawr o bwynt datblygu strategaeth annibynnol ar gyfer ansawdd aer ar ffurf un maes gwaith. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ansawdd aer fod yn rhan annatod o bob polisi ar seilwaith, cynllunio, trafnidiaeth, teithio llesol ac iechyd y cyhoedd, i enwi rhai'n unig. Felly, mae fy swyddogion ar gam buan o'r gwaith o ganfasio awdurdodau lleol i weld sut y gallwn wella polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol mewn perthynas â llygredd aer a sŵn. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan ei bod yn amlwg na all un sefydliad neu sector fynd i'r afael â'r mater ar eu pen eu hunain. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ar fanteision coed i ansawdd aer. Maent wedi amcangyfrif bod coed yn cael gwared ar oddeutu 250 tunnell o lygredd aer o'r atmosffer bob blwyddyn yn nhair ardal drefol yr astudiaeth, sef Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr a dalgylch Tawe. Mae hyn yn cyfateb mewn termau ariannol i werth dros £1.5 miliwn o arbedion i'r GIG bob blwyddyn mewn perthynas â'r cyflyrau anadlol canlyniadol. Rydym hefyd yn gweithio gyda rheoleiddwyr a diwydiant i fynd i'r afael â'r heriau penodol sy'n gysylltiedig â llygredd aer o ffynonellau diwydiannol ym Mhort Talbot a Chwm Tawe. Nid yw cydymffurfio'n unig ag amcanion ansawdd aer yn y nifer gymharol fach o ardaloedd lle y cânt eu torri yn ddigon os ydym o ddifrif yn mynd i leihau baich iechyd llygredd aer ar gymdeithas -
It's just on this particular issue of trees and shrubs alongside roads in particular. I've noticed that there's been a significant move to fencing roads at the moment to act as buffers for sound, as opposed to planting, which, obviously, would have the added benefit of reducing pollution. Is this something that you will look at, with your Cabinet colleagues, to see how that might be reversed - that situation?
Ar y mater penodol hwn o goed a llwyni ar hyd ymylon ffyrdd yn benodol, sylwais fod yna symudiad sylweddol tuag at osod ffensys ar hyd ffyrdd ar hyn o bryd i glustogi yn erbyn sŵn, yn hytrach na phlannu, a fyddai, yn amlwg, â'r fantais ychwanegol o leihau llygredd. A yw hyn yn rhywbeth y byddwch yn edrych arno, gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, i weld sut y gellid gwrthdroi hynny - y sefyllfa honno?
Well, I think it's about getting the balance between air pollution and noise pollution, but it's about, as I say, getting that balance. That hasn't been raised with me before, but I'm very happy to look at it. Beyond Wales, there are many areas of non-devolved activity that are needed to bring down emissions as quickly as possible. For example, the House of Commons's Environment, Food and Rural Affairs Committee has recommended the UK Government launch a diesel scrappage scheme, and that would give grants to cut the cost of a low-emission vehicle for an owner scrapping their diesel vehicle. So, after Simon Thomas's confession, maybe that's something that I'm certainly going to watch closely, but maybe Simon Thomas would like to do it also. Work is also taking place at the current time at an EU level, but, as I've already said, we didn't sign up to EU legislation kicking and screaming: we did it because it's right for the people of Wales, we did it because it's right for public health, and I do think this is an opportunity where, going forward, we can look to strengthen it. I met this morning with the Future Generations Commissioner and, obviously, air quality is something that forms part of the ongoing implementation of the Act. One Member referred to taxis, and something that I discussed with the commissioner this morning was, in Quebec, they have just brought forward a taxi fleet of electric cars. So, again, there are examples. Somebody asked me if I'm looking across Europe; well I'm actually looking across the world to see what examples of best practice we can take lessons from. Finally, I will be, obviously, supporting the motion, but, in relation to the second amendment from Plaid Cymru, I'm absolutely supporting that. That's in line with the aims of the Active Travel (Wales) Act 2013 and our recently published active travel action plan. Thank you.
Wel, rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â chael cydbwysedd rhwng llygredd aer a llygredd sŵn, ond mae'n ymwneud, fel y dywedais, â sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Nid yw hynny wedi cael ei ddwyn i fy sylw o'r blaen, ond rwy'n hapus iawn i edrych arno. Y tu hwnt i Gymru, mae yna nifer o feysydd gweithgaredd heb eu datganoli sydd eu hangen er mwyn lleihau allyriadau cyn gynted â phosibl. Er enghraifft, mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ'r Cyffredin wedi argymell i Lywodraeth y DU y dylid lansio cynllun sgrapio diesel a fyddai'n rhoi grantiau i dorri costau cerbyd allyriadau isel i berchennog sy'n sgrapio ei gerbyd diesel. Felly, ar ôl cyffes Simon Thomas, efallai fod hynny'n rhywbeth rwyf fi'n sicr am ei wylio'n ofalus, ond efallai y byddai Simon Thomas yn hoffi gwneud hynny hefyd. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar lefel yr UE, ond fel y dywedais eisoes, nid cefnogi deddfwriaeth yr UE yn erbyn ein hewyllys a wnaethom: roeddem yn ei wneud am mai dyna sy'n iawn i bobl Cymru, roeddem yn ei wneud am mai dyna sy'n iawn i iechyd y cyhoedd, ac rwy'n credu bod hwn yn gyfle i ni ystyried cryfhau'r ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Cefais gyfarfod y bore yma gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac yn amlwg, mae ansawdd aer yn rhywbeth sy'n rhan o'r broses barhaus o weithredu'r Ddeddf. Cyfeiriodd un Aelod at dacsis, ac un peth a drafodais gyda'r comisiynydd y bore yma oedd y modd y maent wedi cyflwyno fflyd o geir tacsi trydan yn Quebec. Felly, unwaith eto, mae yna enghreifftiau. Gofynnodd rhywun i mi os wyf fi'n edrych ar draws Ewrop; wel, mewn gwirionedd rwy'n edrych ar draws y byd i weld pa enghreifftiau o arferion gorau y gallwn ddysgu gwersi ohonynt. Yn olaf, yn amlwg, byddaf yn cefnogi'r cynnig, ond mewn perthynas â'r ail welliant gan Blaid Cymru, rwy'n bendant yn cefnogi hwnnw. Mae'n cyd-fynd ag amcanion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a'n cynllun gweithredu teithio llesol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Diolch.
Thank you, Presiding Officer. You would have noted that nine Members in addition to myself and the Cabinet Secretary took part in this debate. I think that's a great sign of the importance people place in this policy area. Simon Thomas started off and referred to the air directive that we base our current policy on, which comes from the European Union. This is key and was referred to several times in the debate, most passionately in a very pro-EU approach from Darren Millar, that we need to carry forward this framework and even improve upon it. He did then also mention the importance of indoor pollution, which is a key area. Mohammad talked about the risks to children in particular, and David Rees then followed up and emphasised that vulnerable people are often in the most vulnerable urban areas and so get a double hit. It's very, very important we're aware of that. David also talked about the fact that air pollution is a world-wide killer and that the World Health Organization is trying to raise awareness of this and encourage Governments to improve approaches. Suzy is a Volkswagen-owning abseiler, which is quite something, but, on Volkswagen, I think it's important to remember that the consumer has been misled in this area, and it's quite shocking, because, when people want to invest a bit more and improve their own performance in terms of emissions and reduce them, then they've been let down in this way. That's no way to form the partnership we need with the public in terms of encouraging them to make good choices. Suzy then talked about the low-emission strategy that would bring great benefits, a point that was taken further by Steffan, urging low-emission zones. The Minister seemed quite responsive to that and certainly wants to look at it. Steffan also talked about other approaches like using electronic buses, because buses do pollute quite a lot in urban areas. Michelle Brown talked about cargo ships, something I'd not thought of. In terms of its impact, it is important. I mean, it is outside our jurisdiction mostly - not when they actually finally enter port - but it is something that needs to be looked at by states and Governments across the world. But it was a really important point, I thought, that was made and one often - well, I'd overlooked it, so possibly others have as well. So, thank you for that. Rhianon Passmore talked about her own experience and that of her family. It does come down to this, doesn't it? This impacts people and can have a real impact on health and well-being. As the representative of Crumlin talked about the role of the local authority in terms of trying to improve the situation there, it's something that needs careful planning because, sometimes, if you can improve traffic flow, it just speeds it up and makes it a more popular route, and you're back to where you began again. Neil McEvoy started globally but got to Cardiff pretty quick. [Laughter.] I did agree with him on the metro. I thought that is really, really key. Can I finally say I thought that the Cabinet Secretary made an outstanding response? You really took on what Members had said and took on the suggestions, and emphasised - you know, broadly, I think we would agree that there's a good framework here. It's not an area where we could say that there has been a lack of action, but we need to go further. The challenges are great. And, in particular, you have our support in looking at a low-emissions strategy, strengthening the EU directive, and using data more effectively across agencies - I thought that was a key point. An excellent debate, and I seem to, in my first minority party debate, be on the verge of a modest victory, so that encourages me to try harder again in future. Thanks.
Diolch i chi, Lywydd. Fe fyddech wedi nodi bod naw Aelod yn ogystal â mi fy hun ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n credu bod hwnnw'n arwydd gwych o bwysigrwydd y maes polisi hwn i bobl. Dechreuodd Simon Thomas drwy gyfeirio at y gyfarwyddeb aer rydym yn seilio ein polisi cyfredol arni, cyfarwyddeb a ddaw o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n allweddol a chyfeiriwyd ati nifer o weithiau yn ystod y ddadl, yn fwyaf angerddol mewn modd cefnogol iawn i'r UE gan Darren Millar, a ddywedodd fod angen i ni i barhau â'r fframwaith a gwella arno hyd yn oed. Soniodd hefyd wedyn am bwysigrwydd llygredd dan do, sy'n faes allweddol. Soniodd Mohammad am y risgiau i blant yn benodol, a dilynodd David Rees hynny drwy bwysleisio bod pobl agored i niwed yn aml yn yr ardaloedd trefol mwyaf agored i niwed ac felly'n dioddef ergyd dwbl. Mae'n bwysig tu hwnt ein bod yn ymwybodol o hynny. Siaradodd David hefyd am y ffaith fod llygredd aer yn lladdwr byd-eang a bod Sefydliad Iechyd y Byd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o hyn ac annog Llywodraethau i wella'u dulliau o fynd i'r afael â'r broblem. Mae Suzy yn abseiliwr sy'n berchen ar Volkswagen, sy'n dipyn o beth, ond ynglŷn â Volkswagen, rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio bod y defnyddiwr wedi cael ei gamarwain yn hyn o beth, ac mae'n eithaf brawychus, oherwydd, pan fydd pobl am fuddsoddi ychydig yn fwy a gwella eu perfformiad eu hunain mewn perthynas ag allyriadau a'u lleihau, yna maent wedi cael eu siomi yn hyn o beth. Nid dyma sut y mae ffurfio'r bartneriaeth rydym ei hangen â'r cyhoedd o ran eu hannog i wneud dewisiadau da. Yna siaradodd Suzy am y strategaeth allyriadau isel a fyddai'n creu manteision mawr, pwynt yr ymhelaethodd Steffan arno, drwy hybu parthau allyriadau isel. Roedd y Gweinidog i'w gweld yn eithaf ymatebol i hynny ac yn sicr yn awyddus i edrych arno. Siaradodd Steffan hefyd am ddulliau eraill fel defnyddio bysiau electronig, gan fod bysiau'n llygru cryn dipyn mewn ardaloedd trefol. Siaradodd Michelle Brown am longau cargo, rhywbeth nad oeddwn wedi meddwl amdanynt. O ran ei effaith, mae'n bwysig. Hynny yw, mae'n rhywbeth sydd y tu allan i'n hawdurdodaeth at ei gilydd - nid pan fyddant yn dod i mewn i'r porthladd yn y pen draw - ond mae'n rhywbeth y mae angen i wladwriaethau a Llywodraethau ar draws y byd edrych arno. Ond roedd yn bwynt pwysig iawn yn fy marn i, ac yn un sy'n aml - wel, nid oeddwn i'n ymwybodol ohono, felly mae'n bosibl fod hynny'n wir am bobl eraill hefyd. Felly, diolch i chi am hynny. Siaradodd Rhianon Passmore am ei phrofiad hi a'i theulu. Dyma yw hyn yn y diwedd, onid e? Mae'n effeithio ar bobl a gall effeithio'n wirioneddol ar iechyd a lles. Fel y siaradodd y cynrychiolydd o Grymlyn am rôl yr awdurdod lleol o ran ceisio gwella'r sefyllfa yno, mae'n rhywbeth y mae angen ei gynllunio'n ofalus oherwydd, weithiau, os gallwch wella llif y traffig, ni fydd hynny ond yn ei gyflymu a gwneud y llwybr yn fwy poblogaidd, ac fe fyddwch yn ôl lle roeddech chi ar y cychwyn unwaith eto. Dechreuodd Neil McEvoy yn fyd-eang, ond cyrhaeddodd Gaerdydd yn eithaf cyflym. [Chwerthin.] Roeddwn yn cytuno ag ef ar y metro. Roeddwn yn meddwl bod hynny'n wirioneddol allweddol. Yn olaf a gaf fi ddweud fy mod yn meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymateb yn rhagorol? Fe wrandawoch o ddifrif ar yr hyn roedd yr Aelodau wedi'i ddweud a gwrando ar yr awgrymiadau, a phwysleisio - wyddoch chi, yn fras, rwy'n credu y byddem yn cytuno bod yna fframwaith da yma. Nid yw'n faes lle y gallem ddweud bod yna ddiffyg gweithredu wedi bod, ond mae angen i ni fynd ymhellach. Mae'r heriau'n fawr. Ac yn benodol, mae gennych ein cefnogaeth o ran edrych ar strategaeth allyriadau isel, cryfhau cyfarwyddeb yr UE, a defnyddio data yn fwy effeithiol ar draws asiantaethau - roeddwn yn credu bod hwnnw'n bwynt allweddol. Dadl wych, ac mae'n ymddangos fy mod, yn fy nadl plaid leiafrifol gyntaf, ar fin cael buddugoliaeth gymedrol, felly mae hynny'n fy annog i ymdrechu'n galetach eto yn y dyfodol. Diolch.
The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? The motion is therefore agreed without amendment in accordance with Standing Order 12.36.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
We now move to voting time, and it's been agreed that voting time will take place before the short debate. Unless three Members wish for the bell to be rung, I will proceed directly to voting time.
Rŷm ni'n symud yn awr at y cyfnod pleidleisio. Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio cyn y ddadl fer. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
We will vote first on the Plaid Cymru debate on the electoral system, and I call for a vote on the motion tabled in the name of Simon Thomas. Open the vote. Close the vote. For 13, against 39. Therefore the motion falls.
Fe fyddwn ni'n pleidleisio yn gyntaf ar ddadl Plaid Cymru ar y system etholiadol, ac rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, yn erbyn y cynnig 39. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
I call for a vote on amendment 1 tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. For the amendment 39, abstentions one, and against 11. The amendment is therefore carried.
Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 39, yn ymatal un, ac 11 yn erbyn y gwelliant. Mae'r gwelliant wedi'i dderbyn.
I therefore call for a vote on the motion as amended.
Rydw i'n galw, felly, am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Open the vote. Close the vote. For the motion 49, abstentions one, against two. Therefore the motion as amended is agreed.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 49, yn ymatal un, ac yn erbyn dau. Felly derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
We now move to a vote on the Plaid Cymru debate on the ministerial code, and I call for a vote on the motion tabled in the name of Simon Thomas. Open the vote. Close the vote. For 13, against 39. Therefore the motion is not agreed.
Symud yn awr i'r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar y cod gweinidogol, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, yn erbyn 39. Felly gwrthodwyd y cynnig.
We will move to amendment one tabled in the name of Jane Hutt. Open the vote. Close the vote. For the amendment 30, abstentions one, against 21. Therefore amendment 1 is agreed.
Fe awn ni i welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 30, yn ymatal un, yn erbyn y gwelliant 21. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
I now call for a vote on amendment 2, tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. For the amendment 22, abstentions zero, against 30. Therefore the amendment falls.
Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 22, yn ymatal dim, yn erbyn y gwelliant 30. Felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
I now call for a vote on amendment 3, tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. For the amendment 52, no abstentions and no votes against. Therefore the amendment is agreed.
Rwy'n galw yn awr am bleidlais ar welliant 3 yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 52, ymatal dim, yn erbyn dim. Felly derbyniwyd y gwelliant.
The next vote is on the motion as amended.
Mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig sydd wedi ei ddiwygio.
Open the vote. Close the vote. For 29, abstentions one, against 21. The motion as amended is therefore agreed.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, yn ymatal un, yn erbyn 21. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn.
The next item on the agenda is the result of the secret ballots for committee Chairs. Therefore I will share with you the results. All the results will be published following this session. First of all, therefore, the Children, Young People and Education Committee: Julie Morgan 25 votes, Lynne Neagle 31 votes, and one abstention. I therefore declare that Lynne Neagle is elected Chair of the Children, Young People and Education Committee. The second committee is the Economy, Infrastructure and Skills Committee: Russell George 41 votes, Janet Finch-Saunders 13 votes, and three abstentions. I therefore declare Russell George is elected Chair of the Economy, Infrastructure and Skills Committee. The next committee is the Equality, Local Government and Communities Committee: John Griffiths 33, Lee Waters 13, Jenny Rathbone nine, and two abstentions. As John Griffiths received more than half the first preferences in the ballot, I declare him elected Chair of the Equality, Local Government and Communities Committee. Next, the Health, Social Care and Sport Committee: Dai Lloyd 43, Rhun ap Iorwerth 14, and no abstentions. I declare Dai Lloyd is elected Chair of the Health, Social Care and Sport Committee. Finally, the Public Accounts Committee: Darren Millar 17, Mark Isherwood seven, Nick Ramsay 31, and two abstentions. As he received more than half the first preferences in the ballot, I declare Nick Ramsay elected Chair of the Public Accounts Committee. May I congratulate all the new committee Chairs of the Assembly, may I wish them all well, and may I thank everybody who has participated in the first process of electing the National Assembly Chairs?
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw canlyniadau yr etholiadau ar gyfer Cadeiryddion y pwyllgorau. Ac felly rwy'n mynd i rannu â chi'r canlyniadau. Bydd yr holl ganlyniadau'n cael eu cyhoeddi yn dilyn y sesiwn yma. Yn gyntaf, felly, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Julie Morgan 25 o bleidleisiau, Lynne Neagle 31 o bleidleisiau, ac yn ymatal un bleidlais. Rwy'n datgan felly bod Lynne Neagle wedi cael ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yr ail bwyllgor, Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Russell George 41 o bleidleisiau, Janet Finch-Saunders 13 o bleidleisiau, ac yn ymatal tair pleidlais. Rwy'n datgan felly bod Russell George wedi ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Nesaf, y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: John Griffiths 33, Lee Waters 13, Jenny Rathbone naw, ac yn ymatal dau. Gan, felly, iddo gael dros hanner y pleidleisiau yn y dewis cyntaf, rwy'n datgan bod John Griffiths wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Nesaf, y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Dai Lloyd 43, Rhun ap Iorwerth 14, a neb yn ymatal. Rwy'n datgan bod Dai Lloyd wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Ac, yn olaf, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Darren Millar 17, Mark Isherwood saith, Nick Ramsay 31, ymatal dau. Gan iddo gael dros hanner y pleidleisiau dewis cyntaf, rwy'n datgan bod Nick Ramsay wedi cael ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. A gaf i longyfarch holl Gadeiryddion newydd pwyllgorau y Cynulliad, a gaf i ddymuno'n dda i bob un ohonoch, ac a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses gyntaf o ethol Cadeiryddion y Cynulliad Cenedlaethol?
Diolch, Lywydd. It is a great honour for me, representing the people of Islwyn, to rise to give the first short debate of this fifth Assembly by an Assembly Member elected in May 2016. As a former teacher, lecturer and former cabinet member for education in local government it comes as no surprise that I have decided to focus this debate on the greatest issue that this home of Welsh democracy is responsible for - education. Llywydd, I am grateful to the following Welsh Labour Assembly Members who have asked me to speak in this debate. Following my speech I will cede a minute of my allotted fifteen minutes to the following: Mike Hedges AM, Hannah Blythyn AM, Hefin David AM, David Rees AM and Huw Irranca-Davies AM.
Diolch, Lywydd. Anrhydedd mawr i mi, wrth gynrychioli pobl Islwyn, yw codi i gyflwyno'r ddadl fer gyntaf yn y pumed Cynulliad gan Aelod Cynulliad a etholwyd ym mis Mai 2016. Fel cyn-athro, darlithydd a chyn-aelod cabinet dros addysg mewn llywodraeth leol nid yw'n syndod fy mod wedi penderfynu canolbwyntio'r ddadl hon ar y mater mwyaf y mae cartref democratiaeth Cymru yn y fan hon yn gyfrifol amdano - addysg. Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau Cynulliad Llafur Cymru canlynol sydd wedi gofyn i mi i siarad yn y ddadl hon. Yn dilyn fy araith byddaf yn ildio munud o'r pymtheg munud a glustnodwyd ar fy nghyfer i'r canlynol: Mike Hedges AC, Hannah Blythyn AC, Hefin David AC, David Rees AC a Huw Irranca-Davies AC.
I would like to take this opportunity to personally and formally welcome the Cabinet Secretary for Education to her role on behalf of the people of Islwyn. I wish her well in her vital role and she should know that she will have my support in ensuring that we leave no child behind in our drive to lift educational outcomes. 'Education is "the guardian genius of our democracy." Nothing really means more to our future, not our military defences, not our missiles or our bombers, not our production economy, not even our democratic system of government. For all of these are worthless if we lack the brain power to support and sustain them.' Those are the words of the thirty-sixth President of the USA, Lyndon Baines Johnson. Education was a cornerstone of President Johnson's worthy dream of a great society for the American people, and it is the cornerstone of the Welsh Labour programme of government. As a teacher by profession, I am also old enough to know what it was like literally to walk and use the chalk. I recognise the journey that we have travelled. It is thanks to Welsh Labour policy and recognition of the importance of transformational teaching and learning, and those learning environments, that we stand today in the knowledge that these are innovative schools and fit-for-purpose educational establishments built in Wales, and that they are second to none. It is because of the twenty-first century schools programme that I say that it is more than a building programme. The Welsh Government plans to invest £700 million between 2014-15 and 2018-19. Match-funded by local authorities, this would result in £1.4 billion capital investment in schools and colleges in Wales, supporting 150 projects across all local authorities by April 2019. Let me repeat that with the Welsh Labour Government and local Welsh councils working together £1.4 billion will revolutionise the educational landscape of Wales. It is an unprecedented commitment to our children and an unprecedented commitment to the future of Wales by this Welsh Government. It is of vital importance to our communities, our children and our skills and qualifications economy, and it would not have happened without a Labour Government. It is no exaggeration to say that the twenty-first century schools programme is a flagship policy that marks out Welsh devolution. It aims to deliver: learning environments in Wales that will enable the successful implementation of strategies for improvement and better educational outcomes; it will deliver greater economy and efficiency for learning environments through better use of resources; and it will deliver a sustainable education system in Wales that meets national building standards and reduces the recurrent costs and carbon footprint of education buildings. It is because of this groundbreaking programme here in Wales that Wales is envied across the UK. In January 2016, our former Minister, Huw Lewis, gave an up update during scrutiny of the 2016-17 draft budget. He confirmed that Welsh Government's overall target is for 150 schools and colleges to be refurbished or rebuilt by the end of April 2019. Members of this Chamber and our dedicated teaching workforce across Wales are very painfully aware of the state of school buildings in the 1980s and 1990s. This is a time, as a school governor then, where I recall with genuine horror being forced to consider not curriculum planning but the sacking of excellent teachers that we could not afford to lose; a time that I do not wish to replicate, when we also should have been building schools as cathedrals of learning, not portakabins in the playground, as they still remain in some quarters. [Interruption.] Not at the moment. I've got enough, thank you. Very recently I donned my own very hard hat here and wellies to tour the rapidly emerging example in my constituency, the Islwyn High School. As part of the ambitious twenty-first century schools programme, Caerphilly County Borough Council announced in 2013 that both Oakdale and Pontllanfraith comprehensive schools will close in 2016. Pupils from both schools will transfer to a brand-new, shiny, purpose-built, state-of-the-art £24 million school to be built on the plateau 3 site within the Oakdale Business Park. This is thanks to a Welsh Labour Government and the Welsh Labour Party and Welsh Labour policy in action. The school will initially accommodate 1,150 pupils transferring across from both schools and will be built to permanently educate 1,000 mainstream pupils from the catchment area, and 50 with complex needs, in a specialist resource base, from across the county. Partner primary schools include Bryn, Cwmfelinfach, Penllwyn, Pontllanfraith, Rhiw Syr Dafydd, Trinant and Ynysddu. The main school will be three storeys high, and a sports hall of a similar height will be linked to a two-storey building that will be the school's dining hall. It will be built in a modern design and plans will include an eco garden and water features. The school will also boast a floodlit 3G sports pitch and a 200-metre athletics track, along with a multi-use sports pitch for netball and tennis. This school will truly be a community school with close working links with all stakeholders, including parents, partner primary schools, local employers and the people living in the local area. I recently invited a number of children from both Oakdale and Pontllanfraith comprehensives to accompany me on a tour of the new school site. These children, from years 7, 8 and 9, ranged from 11 to 14 years of age, and they will be the direct beneficiaries of this policy and of this new school. What I saw in their eyes was a genuine appreciation of the possibilities that lay before them and a real excitement for their future, and an appreciation, unspoken, that we, as politicians, value them and that society invests in them, and that their futures, by ensuring they learn in such a magnificent environment, will be safeguarded. I was struck, as we left the building site, by the questions that the children posed to the construction team from Willmot Dixon. The new Islwyn high is being built on the site of the old Oakdale colliery - part of that community's legacy - which closed in 1989. Whilst looking to their future, it was those children, those pupils, who asked, 'What is the history of this coal mine?' and could it be reflected in the physical build of their new school. Welsh twenty-first century children in a Welsh twenty-first century school cognisant of their community's heritage and proud history, which forms the tapestry of the Welsh story, but in a globalised future - true evidence that twenty-first century schools is more than a building programme, with the true potential to transform lives. But, twenty-first century schools is more than buildings and concrete; it is integral to our nation's progress and our place in the world. The long-term aim is to develop an overarching capital investment programme for all education sectors, including both further and higher education sectors, which will aim to deliver priority improvement objective project programme. My good friend behind me, John Griffiths, AM for Newport East, would have spoken in this debate if we did not already have so many speakers. He is rightly proud that the centre of Newport could become the heart of learning for the whole of Gwent if a £60 million-development between the city's university and Coleg Gwent goes ahead. The University of South Wales and Coleg Gwent have teamed up to develop plans for a new knowledge quarter on the banks of the River Usk. This scheme involves a major development at the university's city campus, with institutions sharing space in the new building or buildings. Although formal funding arrangements are yet to be finalised, investment is expected from the Welsh Government. As a spokesperson from Coleg Gwent has stated, if we can only realise this ambition, students will be able to come in at 16 or as adult learners to a new, state-of-the-art further education college in the centre of the new city. Such actions are non-accidental and are purposeful, and they have unleashed Welsh Government resources into an education arena of spending, coupled with a groundbreaking curriculum and Donaldson impacts. I have no doubt these will affect positively pupils' future life chances and their opportunities - the reason why I came into politics - everything that Labour values and Labour policies achieve in tandem, and for all in our community and not just for the top 5 per cent. Such programmes demonstrate a powerful impact on people and are why I am here today. Education is indeed the key to the social mobility so often spoken of in academic circles, but which in reality protects an individual so that they do not have to rely on zero-hours contracts from an uncaring UK Government. It provides a real pathway forward to a satisfying, rewarding and useful life. Community-focused schools here, and community-flexible hubs of the future are a huge theme within the twenty-first century schools programme, alongside carbon reduction and BREEAM excellence standardisation. So, comrades - I will say that again to the Chamber - I commend this programme of transformational improvement to our pupils' teaching and learning environments in the knowledge that research backs the importance of the impact on educational achievement, attainment and attendance, all key drivers for our nation in building our nation's skills, employability, growth and productivity. The impact of Brexit and not being able at this point in the future to draw down further European structural funding streams that we currently bid for will, I have no doubt, cause hugely significant challenges to our Welsh Government programme in the future, for phase 2. But this is a challenge that we will collectively as a Government and a nation seek to meet. There is no greater priority than ensuring our Welsh children are equipped to go into the world ready to compete with anybody in the world, and, as such, I am proud to commend to this Chamber the Welsh Labour Government's twenty-first century schools programme - that it is more than a building programme. Diolch.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu yn bersonol ac yn ffurfiol Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i'w rôl ar ran pobl Islwyn. Rwy'n dymuno'n dda iddi yn ei rôl hanfodol a dylai wybod y bydd yn cael fy nghefnogaeth i sicrhau nad ydym yn gadael unrhyw blentyn ar ôl yn ein hymgyrch i wella canlyniadau addysgol. Addysg yw "athrylith warcheidiol ein democratiaeth." Nid oes dim mewn gwirionedd yn golygu mwy i'n dyfodol, nid ein hamddiffynfeydd milwrol, ein taflegrau neu ein hawyrennau bomio, ein heconomi gynhyrchu, na hyd yn oed ein system ddemocrataidd o lywodraethu. Gan fod pob un o'r rhain yn ddiwerth os nad oes gennym y grym ymenyddol i'w cefnogi a'u cynnal. Dyna eiriau unfed ar bymtheg ar hugain Arlywydd yr Unol Daleithiau, Lyndon Baines Johnson. Roedd addysg yn gonglfaen i freuddwyd deilwng yr Arlywydd Johnson o gymdeithas wych i bobl America, ac mae'n gonglfaen i raglen lywodraethu Llafur Cymru. Fel athro wrth fy ngalwedigaeth, rwyf hefyd yn ddigon hen i wybod sut beth, yn llythrennol, oedd defnyddio'r sialc. Rwy'n cydnabod y daith rydym wedi'i theithio. Diolch i bolisi Llafur Cymru a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd addysgu a dysgu trawsnewidiol, a'r amgylcheddau dysgu hynny, rydym heddiw'n gwybod bod y rhain yn ysgolion arloesol ac yn sefydliadau addysgol addas i'r diben a adeiladwyd yng Nghymru, ac na cheir eu gwell yn unman. Oherwydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain rwy'n dweud ei bod yn fwy na rhaglen adeiladu. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi £700 miliwn rhwng 2014-15 a 2018-19. Gydag arian cyfatebol gan awdurdodau lleol, byddai hyn yn golygu buddsoddiad cyfalaf o £1.4 biliwn mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, i gefnogi 150 o brosiectau ar draws yr holl awdurdodau lleol erbyn mis Ebrill 2019. Gadewch i mi ailadrodd y bydd yr £1.4 biliwn, gyda Llywodraeth Lafur Cymru a chynghorau lleol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd, yn chwyldroi tirwedd addysgol Cymru. Mae'n ymrwymiad digynsail i'n plant ac yn ymrwymiad digynsail i ddyfodol Cymru gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae'n hanfodol bwysig i'n cymunedau, ein plant a'n sgiliau a'r economi gymwysterau, ac ni fyddai wedi digwydd heb Lywodraeth Lafur. Nid yw'n ormod dweud bod rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn bolisi blaenllaw sy'n nodi datganoli yng Nghymru. Ei nod yw cyflawni: amgylcheddau dysgu yng Nghymru a fydd yn ei gwneud hi'n bosibl gweithredu strategaethau ar gyfer gwella yn llwyddiannus a chanlyniadau addysgol gwell; bydd yn sicrhau economi ac arbedion gwell mewn amgylcheddau dysgu drwy wneud gwell defnydd o adnoddau; a bydd yn darparu system addysg gynaliadwy yng Nghymru sy'n bodloni safonau adeiladu cenedlaethol ac yn lleihau costau cylchol ac ôl troed carbon adeiladau addysg. Oherwydd y rhaglen arloesol hon yma yng Nghymru, mae Cymru'n destun eiddigedd ledled y DU. Ym mis Ionawr 2016, rhoddodd ein cyn-Weinidog, Huw Lewis, y newyddion diweddaraf yn ystod y gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17. Cadarnhaodd mai targed cyffredinol Llywodraeth Cymru yw adnewyddu neu ailadeiladu 150 o ysgolion a cholegau erbyn diwedd mis Ebrill 2019. Mae aelodau'r Siambr hon a'n gweithlu addysgu ymroddedig ledled Cymru yn boenus o ymwybodol o gyflwr adeiladau ysgolion yn y 1980au a'r 1990au. Fel llywodraethwr ysgol ar y pryd, dyma adeg a gofiaf gydag arswyd go iawn pan oeddem yn gorfod ystyried, nid cynllunio'r cwricwlwm ond diswyddo athrawon rhagorol na allem fforddio'u colli; adeg nad wyf yn dymuno'i hailadrodd, pan ddylem fod wedi bod yn adeiladu ysgolion fel eglwysi cadeiriol ar gyfer dysg, nid cabanau yn yr iard chwarae, sy'n dal i fodoli mewn rhai mannau. [Torri ar draws.] Ddim ar hyn o bryd. Mae gennyf ddigon, diolch yn fawr. Yn ddiweddar iawn gwisgais fy het galed iawn a fy esgidiau glaw i fynd ar daith o amgylch yr enghraifft sy'n dod i'r amlwg yn gyflym yn fy etholaeth, sef Ysgol Uwchradd Islwyn. Fel rhan o raglen uchelgeisiol ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2013 y bydd ysgolion cyfun Oakdale a Phontllan-fraith yn cau yn 2016. Bydd disgyblion o'r ddwy ysgol yn trosglwyddo i ysgol sgleiniog bwrpasol newydd sbon gwerth £24 miliwn a adeiladir ar safle gwastadedd 3 ym Mharc Busnes Oakdale, diolch i Lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Lafur Cymru a pholisi Llafur Cymru ar waith. I gychwyn, bydd lle yn yr ysgol i 1,150 o ddisgyblion sy'n trosglwyddo o'r ddwy ysgol a chaiff ei hadeiladu i addysgu 1,000 o ddisgyblion prif ffrwd o'r dalgylch yn barhaol, a 50 o ddisgyblion ag anghenion cymhleth, mewn canolfan adnoddau arbenigol, o bob rhan o'r sir. Bydd ysgolion cynradd partner yn cynnwys Bryn, Cwmfelin-fach, Penllwyn, Pontllan-fraith, Rhiw Syr Dafydd, Trinant ac Ynys-ddu. Bydd y brif ysgol yn dri llawr o uchder, a bydd neuadd chwaraeon o uchder tebyg yn cysylltu ag adeilad deulawr lle bydd neuadd fwyta'r ysgol. Caiff ei hadeiladu ar ddyluniad modern a bydd cynlluniau'n cynnwys gardd eco a nodweddion dŵr. Testun balchder arall i'r ysgol fydd cae chwaraeon 3G a thrac athletau 200 metr gyda llifoleuadau, ynghyd â chae chwaraeon amlddefnydd ar gyfer pêl-rwyd a thenis. Bydd yn ysgol wirioneddol gymunedol gyda chysylltiadau gwaith agos gyda'r holl randdeiliaid, gan gynnwys rhieni, ysgolion cynradd partner, cyflogwyr lleol a'r bobl sy'n byw yn yr ardal leol. Yn ddiweddar, gwahoddais nifer o blant o ddwy ysgol gyfun Oakdale a Phontllan-fraith i ddod gyda mi ar daith o amgylch safle'r ysgol newydd. Roedd y plant, o flynyddoedd 7, 8 a 9, yn amrywio o ran oedran rhwng 11 a 14 oed, a hwy fydd buddiolwyr uniongyrchol y polisi hwn a'r ysgol newydd hon. Yr hyn a welais yn eu llygaid oedd gwerthfawrogiad diffuant o'r posibiliadau sydd o'u blaenau a chyffro go iawn ynglŷn â'u dyfodol, a sylweddoliad heb ei fynegi ein bod ni, fel gwleidyddion, yn eu gwerthfawrogi a bod cymdeithas yn buddsoddi ynddynt, a bod eu dyfodol, drwy sicrhau eu bod yn dysgu mewn amgylchedd mor odidog, yn cael ei ddiogelu. Cefais fy nharo, wrth i ni adael y safle adeiladu, gan y cwestiynau a ofynnodd y plant i'r tîm adeiladu o Willmot Dixon. Mae ysgol uwchradd newydd Islwyn yn cael ei hadeiladu ar safle hen lofa Oakdale - rhan o etifeddiaeth y gymuned honno - a gaeodd yn 1989. Wrth edrych at eu dyfodol, y plant hynny, y disgyblion hynny, a ofynnodd, 'Beth yw hanes y pwll glo hwn?' ac a ellid ei adlewyrchu yng ngwead ffisegol eu hysgol newydd. Plant yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru mewn ysgol unfed ganrif ar hugain yng Nghymru yn ymwybodol o dreftadaeth eu cymuned a'u hanes balch, sy'n ffurfio tapestri'r stori Gymreig, ond mewn dyfodol byd-eang - tystiolaeth go iawn fod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn fwy na rhaglen adeiladu, gyda'r potensial gwirioneddol i drawsnewid bywydau. Ond mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn fwy nag adeiladau a choncrid; mae'n rhan annatod o gynnydd ein cenedl a'n lle yn y byd. Y nod hirdymor yw datblygu rhaglen buddsoddi cyfalaf gyffredinol ar gyfer pob sector addysg, gan gynnwys y sectorau addysg bellach ac uwch, a fydd yn anelu at gyflawni amcanion gwella â blaenoriaeth rhaglen y prosiect. Byddai fy ffrind da y tu ôl i mi, John Griffiths, yr AC dros Ddwyrain Casnewydd, wedi siarad yn y ddadl hon pe na bai gennym gymaint o siaradwyr eisoes. Mae'n briodol falch y gallai canol Casnewydd ddod yn galon dysgu ar gyfer Gwent gyfan os yw datblygiad gwerth £60 miliwn rhwng prifysgol y ddinas a Choleg Gwent yn bwrw yn ei flaen. Mae Prifysgol De Cymru a Choleg Gwent wedi ymuno i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ardal wybodaeth newydd ar lannau'r Afon Wysg. Mae'r cynllun yn cynnwys datblygiad mawr ar gampws dinesig y brifysgol, gyda sefydliadau'n rhannu gofod yn yr adeilad neu'r adeiladau newydd. Er bod trefniadau ariannu ffurfiol i'w cadarnhau eto, disgwylir buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Fel y dywedodd llefarydd o Goleg Gwent, os gallwn wireddu'r uchelgais hwn, bydd myfyrwyr yn gallu dod i mewn yn 16 oed neu fel dysgwyr sy'n oedolion i goleg addysg bellach newydd modern yng nghanol y ddinas newydd. Nid damweiniau yw camau gweithredu o'r fath: maent yn bwrpasol, ac maent wedi rhyddhau adnoddau Llywodraeth Cymru i arena o wariant ar addysg, ynghyd â chwricwlwm arloesol ac effeithiau Donaldson. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y rhain yn effeithio'n gadarnhaol ar gyfleoedd bywyd disgyblion a'u cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol - y rheswm pam yr euthum i fyd gwleidyddiaeth - popeth y mae Llafur yn rhoi gwerth arno a phopeth y mae polisïau Llafur yn ei gyflawni gyda'i gilydd, ac i bawb yn ein cymuned ac nid i'r 5 y cant uchaf yn unig. Mae rhaglenni o'r fath yn dangos effaith bwerus ar bobl a dyma pam rwyf yma heddiw. Addysg yn wir yw'r allwedd i symudedd cymdeithasol y siaredir amdano mor aml mewn cylchoedd academaidd, ond sydd mewn gwirionedd yn diogelu unigolion fel nad oes yn rhaid iddynt ddibynnu ar gontractau dim oriau gan Lywodraeth esgeulus y DU. Mae'n darparu llwybr go iawn i fywyd boddhaol, gwerthfawr a defnyddiol. Mae ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned, a chanolfannau hyblyg ar gyfer y gymuned yn y dyfodol yn thema enfawr yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ochr yn ochr â lleihau carbon a safonau rhagoriaeth BREEAM. Felly, gymrodyr - dywedaf hynny eto wrth y Siambr - rwy'n cymeradwyo'r rhaglen hon o welliant trawsnewidiol i amgylcheddau addysgu a dysgu ein disgyblion gan wybod bod ymchwil yn cefnogi pwysigrwydd yr effaith ar gyflawniad addysgol, cyrhaeddiad a phresenoldeb, a phob un yn sbardun allweddol i'n cenedl ar gyfer adeiladu sgiliau, cyflogadwyedd, twf a chynhyrchiant ein cenedl. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd effaith Prydain yn gadael yr UE ar y pwynt hwn a methu â denu, yn y dyfodol, y ffrydiau ariannu strwythurol Ewropeaidd pellach yr ymgeisiwn amdanynt ar hyn o bryd, yn achosi heriau sylweddol iawn i raglen Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, ar gyfer cyfnod 2. Ond mae hon yn her y byddwn fel Llywodraeth ac fel cenedl yn ceisio'i datrys ar y cyd. Nid oes blaenoriaeth bwysicach na sicrhau bod plant Cymru yn cael eu paratoi i wynebu'r byd yn barod i gystadlu gydag unrhyw un yn y byd, ac fel y cyfryw, rwy'n falch o gymeradwyo rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Lafur Cymru i'r Siambr hon - a dweud ei bod yn fwy na rhaglen adeiladu. Diolch.
You've left three minutes for six speakers, so if your six speakers can all do 30 seconds they can all get in, but if they take longer than that then I'm afraid the others will drop off the end. So, we'll see how we get on. Mike Hedges.
Rydych wedi gadael tri munud i chwech o siaradwyr, felly os gall eich chwe siaradwr i gyd wneud 30 eiliad gallant i gyd gael cyfle, ond os byddant yn cymryd mwy o amser na hynny, yna mae gennyf ofn y bydd y gweddill yn colli cyfle. Felly, cawn weld sut aiff hi. Mike Hedges.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Can I first of all thank Rhianon for giving me the opportunity to speak in this? In Swansea East, two replacement secondary schools and one replacement primary school have been built. One replacement primary is under construction and planning has been applied for another replacement secondary school. Demountables have been replaced by permanent buildings. These new schools improve the educational environment for their pupils. I spoke to a head of one of these schools who said that when it rains, there is no longer a worry about where the water will come in. They improve the streets in the area and make it look better for those living around it. They provide employment and boost the local economy. I remember when the replacement of schools meant that we expected them to last well over 400 years. Let us hope this scheme will continue for many years to come.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi'n gyntaf oll ddiolch i Rhianon am roi cyfle i mi siarad? Yn Nwyrain Abertawe, adeiladwyd dwy ysgol uwchradd newydd ac un ysgol gynradd newydd. Mae un ysgol gynradd newydd yn cael ei hadeiladu a gwnaed cais cynllunio i adeiladu ysgol uwchradd newydd arall. Cafwyd adeiladau parhaol yn lle adeiladau dros dro. Mae'r ysgolion newydd hyn yn gwella'r amgylchedd addysgol ar gyfer eu disgyblion. Siaradais â phennaeth un o'r ysgolion hyn a ddywedodd nad oes pryder rhagor pan fydd hi'n bwrw glaw ynglŷn â lle bydd y dŵr yn dod i mewn. Maent yn gwella'r strydoedd yn yr ardal ac yn gwneud iddi edrych yn well ar gyfer y rhai sy'n byw o'i hamgylch. Maent yn darparu gwaith ac yn hwb i'r economi leol. Rwy'n cofio pan oedd adeiladu ysgolion newydd yn golygu ein bod yn disgwyl iddynt bara ymhell dros 400 o flynyddoedd. Gadewch i ni obeithio y bydd y cynllun hwn yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod.
Thank you, and thanks to the Member for Islwyn for this opportunity to talk about the fantastic new learning centre being built in Holywell, nearing its final stages, in my constituency. In fact, I was wondering whether I should declare a tenuous and random interest as the site is of significant importance to me as it was the predecessor school of Holywell Grammar School where my parents met in the sixth form. But, fast forward to the twenty-first century and, today, twenty-first century schools, it's more than bricks and mortar, as my colleague was saying; it demonstrates the commitment of both Welsh Government and Flintshire County Council, in my case, in investing our community and our future. Ysgol Treffynnon, as it will be called, is a big building that will bring pride back and has even bigger ambitions for our community to ensure that the school becomes a community hub, a centre of activity in the evenings and in the daytime, a venue for sport and recreational clubs, engagement evenings for hard-to-reach families, and a forum to provide support and advice for families, really putting the school at the heart of the community. The headteacher at Holywell wishes to thank those that have made this happen, because, in his words, 'They've helped to ensure a much brighter and promising future for our pupils' in what is a clear and visible statement in Wales that Wales cares about its young people and its future.
Diolch i chi, a diolch i'r Aelod dros Islwyn am y cyfle hwn i siarad am y ganolfan ddysgu newydd wych sy'n cael ei hadeiladu yn Nhreffynnon, gwaith sy'n agosáu at ei gamau olaf, yn fy etholaeth i. Yn wir, roeddwn yn meddwl tybed a ddylwn ddatgan buddiant bach damweiniol am fod y safle'n bwysig iawn i mi gan mai dyna ble roedd hen Ysgol Ramadeg Treffynnon lle y cyfarfu fy rhieni yn y chweched dosbarth. Ond a bwrw ymlaen yn gyflym i'r unfed ganrif ar hugain a heddiw, i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae'n fwy na brics a morter, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod; mae'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint, yn fy achos i, i fuddsoddi yn ein cymuned a'n dyfodol. Mae Ysgol Treffynnon, fel y bydd yn cael ei galw, yn adeilad mawr a fydd yn adfer balchder ac mae ganddi uchelgeisiau hyd yn oed yn fwy ar gyfer ein cymuned i sicrhau bod yr ysgol yn dod yn ganolbwynt i'r gymuned, canolfan o weithgaredd yn y nos ac yn ystod y dydd, lleoliad ar gyfer chwaraeon a chlybiau hamdden, nosweithiau ymgysylltu ar gyfer teuluoedd sy'n anodd eu cyrraedd, a fforwm i roi cymorth a chyngor i deuluoedd, gan roi'r ysgol wrth galon y gymuned go iawn. Mae'r pennaeth yn Nhreffynnon yn dymuno diolch i'r rhai sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd, oherwydd, yn ei eiriau ef, 'Maent wedi helpu i sicrhau dyfodol llawer mwy disglair ac addawol ar gyfer ein disgyblion yn yr hyn sy'n ddatganiad clir a gweladwy yng Nghymru fod Cymru'n gofalu am ei phobl ifanc a'i dyfodol.'
Diolch, Ddirprwy Lywydd. I'll be very, very quick. [Laughter.] Can I thank the Member first of all for bringing this important issue to the Chamber, because what we are doing is providing opportunities for our young children in new, modern facilities to ensure that they're able to develop into the twenty-first century? Cabinet Secretary, I just want to ask one thing. I'll be quick. The business plan, when we look at these things, is important, because sometimes we're taking schools out of communities. We need to ensure those communities are not damaged in any way, but also that we provide safe routes to schools for some of those children as well. So, as part of the plan, could you please ensure that that happens whilst we build the new facilities that are fantastic for those young children?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn gyflym iawn, iawn. [Chwerthin.] A gaf fi ddiolch i'r Aelod yn gyntaf oll am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr, oherwydd yr hyn rydym yn ei wneud yw darparu cyfleoedd i'n plant ifanc mewn cyfleusterau newydd modern er mwyn sicrhau eu bod yn gallu datblygu i mewn i'r unfed ganrif ar hugain? Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ofyn un peth. Byddaf yn gyflym. Mae'r cynllun busnes, pan edrychwn ar y pethau hyn, yn bwysig, oherwydd weithiau rydym yn symud ysgolion allan o gymunedau. Mae angen i ni sicrhau na niweidir y cymunedau hynny mewn unrhyw ffordd, a hefyd ein bod yn darparu llwybrau diogel i'r ysgol i rai o'r plant hynny hefyd. Felly, fel rhan o'r cynllun, a fyddech cystal â sicrhau bod hynny'n digwydd pan fyddwn yn adeiladu'r cyfleusterau newydd sy'n wych ar gyfer y plant ifanc hynny?
No, no, no. [Laughter.]
Na, na, na. [Chwerthin.]
[Continues.] - Brackla's co-funded Archbishop McGrath Catholic High School - the roll call of investment goes on and on. There is more to do, but the investment in bricks and mortar is only surpassed by, I have to say, the labour of love by teachers and support staff, governors and parents to improve the life chances of our children and young people. So, in these challenging times of increasing pressure on squeezed budgets, can I commend the continued leadership of Welsh Government and that of local authorities like Bridgend, and Cabinet member Huw David, in investing in our schools and investing in the future of our young people?
[Yn parhau.] - Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath ym Mracla a ariennir ar y cyd - mae'r rhestr o fuddsoddiadau yn ddiddiwedd. Mae mwy i'w wneud, ond yr unig beth sy'n rhagori ar y buddsoddiad mewn brics a morter, rhaid i mi ddweud, yw llafur cariad athrawon a staff cymorth, llywodraethwyr a rhieni i wella cyfleoedd bywyd ein plant a'n pobl ifanc. Felly, yn y cyfnod anodd o bwysau cynyddol ar gyllidebau dan bwysau, a gaf fi gymeradwyo'r arweiniad parhaus gan Lywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol fel Pen-y-bont ar Ogwr, a'r aelod Cabinet Huw David, sy'n buddsoddi yn ein hysgolion ac yn buddsoddi yn nyfodol ein pobl ifanc ?
Well done. Now, you've all proved that you can do very short speeches and still get your points over, so we expect that to carry on. I now call on the Cabinet Secretary for Education, Kirsty Williams.
Da iawn. Nawr, Rydych i gyd wedi profi y gallwch wneud areithiau byr iawn a dal i wneud eich pwyntiau, felly rydym yn disgwyl i hynny barhau. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Thank you, Deputy Presiding Officer, and thank you very much to the Member for bringing forward this debate this afternoon. May I congratulate her on her first short debate, and the speech that she delivered with such aplomb? As we heard from Hannah Blythyn, indeed, schools are not just a building programme, but obviously, a space for budding romances too. I'm grateful to the other Members for their contributions. I'm sure that their schools will very much appreciate the name checks that they have received here this afternoon. Now, the twenty-first century schools and education programme does represent the biggest capital investment in our educational infrastructure since the 1960s. As we have heard from Rhianon, the first five-year wave of this programme will see £1.4 billion investment that will pay for the rebuild and the refurbishment of over 150 schools and colleges across Wales. All 22 local authorities will benefit from this investment in our schools and colleges, which is funded 50 per cent by the Welsh Government. Since its launch in 2014, 105 projects have been approved within the programme. Of these, 78 are either under construction or, I'm pleased to say, have been completed. From the very start, this programme was wider than just construction; it has been designed to ensure strategic investment across our nation and this will continue. The programme drives three key areas: the reduction of poor-condition school buildings; making our building stock more efficient to run; and the reduction of the number of surplus places so that we can serve local pupil demand. The programme is also designed to take wider learner needs into account, such as the need and demand for Welsh-medium education and for faith education. By having the right schools in the right condition, we can create an asset base that is fit for the future. And by making these assets more efficient and fit for twenty-first century teaching, we can ensure that our teachers can concentrate not on buckets, Mike, but can concentrate on teaching, so that educational standards within their schools can be driven forward and upwards. Finally, by making sure that our schools are the right size and in the right location, we can ensure that we meet pupil demand both now and into the future. This programme is moving forward, and this is largely due, as was commented upon by Huw Irranca-Davies, to the innovative and collaborative nature of this investment. We do, indeed, work on a co-construction basis, which sees strong partnerships between Welsh Government, the Welsh Local Government Association, individual local authorities and others throughout Wales. This work will continue, but I would like to see the pace of the programme quickened. I will be asking and working with officials to see what we can do to achieve that. This investment, however, is not just about providing buildings. We want to drive real value through the programme, ensuring that we provide environments that are both inspirational and cost-effective. To date, 41 projects have been completed and these include new state-of-the-art facilities, such as those at the Aberdare Community School in Rhondda Cynon Taf and the Rhyl High School in Denbighshire. Together, these schools provide places for 2,800 pupils. However, this investment is not just about learners; it's also about driving value for the wider community around our schools and our colleges - for example, through providing additional facilities through our schools that can be accessed by both the school and the public. This includes nursery provision, community rooms, leisure facilities such as new 3G and 4G pitches, and in doing so, that links to our aspirations arising out of our well-being of future generations Act. We should also not ignore the employment and training opportunities that capital investments of this nature bring. Through our use of regional procurement frameworks, we drive community benefits such as training, apprenticeship opportunities, school engagement in STEM subjects and job creation. We also see huge benefits to the local supply chain, seeing that our investment provides jobs and growth for the people of Wales. The programme to date has seen the support of schools that meet local demands for educational provision, such as the new 3-19 Ysgol Bro Teifi in Llandysul, Ysgol Hafod Lon, providing special needs facilities in Gwynedd, primary places in our capital city here in Cardiff and investment in Welsh language secondary provision in Ysgol Glan Clwyd in Denbighshire. We currently have a number of major schemes under construction, and I've seen the progress of the new £25.5 million Islwyn High School, which will provide places for 1,100 pupils in Caerphilly, the 1,200-place Eastern High School in Cardiff and the Llandudno Junction primary school in Conwy, all of which are very excellent examples of what can be achieved for pupils, staff and the wider community. But, post-16 learning has not been forgotten. They, too, have been an important part of this project, with investment in Cardiff and Vale College's £40 million campus in Cardiff and a post-16 hub with Coleg Cambria in Flintshire. Delivery of this major strategic investment programme is anticipated to run over a number of bands of investment. Our current programme of £1.4 billion runs until 2019 and my officials are now working to develop our plans for further investment beyond this date. If those who campaigned to leave the European Union keep their promises, there should be no negative effect on this programme. This major investment in our schools and colleges to benefit future generations of learners in Wales is far more than just a building programme. It is part of this Government's wider holistic approach across education, regeneration and employment. Our schools and their wider communities, if we can continue to deliver this, will truly become twenty-first century. Thank you.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i'r Aelod am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. A gaf fi ei llongyfarch ar ei dadl fer gyntaf, ac yr araith a gyflwynodd mor huawdl? Fel y clywsom gan Hannah Blythyn, yn wir, nid rhaglen adeiladu yn unig yw ysgolion, ond lle i ramant flodeuo hefyd, mae'n amlwg. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau eraill am eu cyfraniadau. Rwy'n siŵr y bydd eu hysgolion yn gwerthfawrogi'n fawr eu bod wedi cael eu henwi yma y prynhawn yma. Nawr, y rhaglen ysgolion ac addysg ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yw'r buddsoddiad cyfalaf mwyaf yn ein seilwaith addysgol ers y 1960au. Fel y clywsom gan Rhianon, yn ystod pum mlynedd gyntaf y rhaglen hon bydd buddsoddiad o £1.4 biliwn wedi'i wneud i dalu am ailadeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru. Bydd pob un o'r 22 awdurdod lleol yn elwa ar y buddsoddiad hwn yn ein hysgolion a'n colegau, gyda Llywodraeth Cymru yn ariannu 50 y cant ohono. Ers ei lansio yn 2014, mae 105 o brosiectau wedi'u cymeradwyo o fewn y rhaglen. O'r rhain, mae 78 naill ai'n cael eu hadeiladu neu, rwy'n falch o ddweud, wedi'u cwblhau. O'r cychwyn cyntaf, mae'r rhaglen hon yn ehangach nag adeiladu'n unig; fe'i cynlluniwyd i sicrhau buddsoddiad strategol ar draws ein cenedl a bydd hyn yn parhau. Mae'r rhaglen yn gyrru tri maes allweddol: lleihau adeiladau ysgolion mewn cyflwr gwael gan wneud ein stoc adeiladau yn fwy effeithlon i'w rhedeg; a lleihau nifer y lleoedd dros ben fel y gallwn ateb galw disgyblion lleol. Mae'r rhaglen hefyd wedi'i chynllunio i roi sylw i anghenion ehangach dysgwyr, megis yr angen a'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac am addysg ffydd. Drwy gael yr ysgolion cywir yn y cyflwr cywir, gallwn greu sylfaen asedau sy'n addas ar gyfer y dyfodol. A thrwy wneud yr asedau hyn yn fwy effeithlon ac addas ar gyfer addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain, gallwn sicrhau y gall ein hathrawon ganolbwyntio nid ar fwcedi, Mike, ond ar addysgu, fel y gellir gwthio safonau addysgol yn eu hysgolion yn eu blaen ac i fyny. Yn olaf, drwy wneud yn siŵr fod ein hysgolion o'r maint cywir ac yn y lle iawn, gallwn sicrhau ein bod yn ateb galw disgyblion yn awr ac yn y dyfodol. Mae'r rhaglen hon yn symud ymlaen, a hynny'n bennaf, fel y nododd Huw Irranca-Davies, o ganlyniad i natur arloesol a chydweithredol y buddsoddiad hwn. Yn wir, rydym yn gweithio ar sail cydadeiladu, sy'n arwain at bartneriaethau cryf rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol unigol ac eraill ledled Cymru. Bydd y gwaith hwn yn parhau, ond hoffwn weld y rhaglen yn cyflymu. Byddaf yn gofyn i swyddogion, ac yn gweithio gyda hwy i weld beth y gallwn ei wneud i gyflawni hynny. Nid ymwneud â darparu adeiladau yn unig y mae'r buddsoddiad hwn, fodd bynnag. Rydym yn awyddus i hybu gwerth go iawn drwy'r rhaglen, gan sicrhau ein bod yn darparu amgylcheddau sy'n ysbrydoli ac yn gosteffeithiol. Hyd yma, cwblhawyd 41 o brosiectau ac mae'r rhain yn cynnwys cyfleusterau newydd modern, megis y rhai yn Ysgol Gymunedol Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf ac Ysgol Uwchradd y Rhyl yn Sir Ddinbych. Gyda'i gilydd, mae'r ysgolion hyn yn darparu lleoedd ar gyfer 2,800 o ddisgyblion. Fodd bynnag, mae'r buddsoddiad hwn yn ymwneud â mwy na dysgwyr; mae hefyd yn ymwneud ag ysgogi gwerth i'r gymuned ehangach o amgylch ein hysgolion a'n colegau - er enghraifft, drwy ddarparu cyfleusterau ychwanegol drwy ein hysgolion i'r ysgol a'r cyhoedd allu eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth feithrin, ystafelloedd cymunedol, cyfleusterau hamdden megis caeau 3G a 4G newydd, ac o wneud hynny, mae'n cysylltu â'n dyheadau sy'n deillio o'n Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Hefyd ni ddylem anwybyddu'r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant sy'n deillio o fuddsoddiadau cyfalaf o'r math hwn. Drwy ein defnydd o fframweithiau caffael rhanbarthol, rydym yn creu buddion cymunedol megis hyfforddiant, cyfleoedd prentisiaeth, ymwneud ysgol mewn pynciau STEM a chreu swyddi. Rydym hefyd yn gweld manteision enfawr i'r gadwyn gyflenwi leol, wrth weld ein buddsoddiad yn darparu swyddi a thwf ar gyfer pobl Cymru. Mae'r rhaglen hyd yn hyn wedi cael cefnogaeth ysgolion sy'n ateb gofynion lleol am ddarpariaeth addysgol, megis Ysgol Bro Teifi, yr ysgol newydd 3-19 oed yn Llandysul, Ysgol Hafod Lon, sy'n darparu cyfleusterau anghenion arbennig yng Ngwynedd, lleoedd cynradd yn ein prifddinas yma yng Nghaerdydd a buddsoddiad mewn darpariaeth uwchradd Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd yn Sir Ddinbych. Ar hyn o bryd mae gennym nifer o gynlluniau mawr yn cael eu hadeiladu, ac rwyf wedi gweld cynnydd Ysgol Uwchradd newydd Islwyn sy'n werth £25.5 miliwn, ac sy'n mynd i ddarparu lleoedd ar gyfer 1,100 o ddisgyblion yng Nghaerffili, Ysgol Uwchradd y Dwyrain yng Nghaerdydd ar gyfer 1,200 o ddisgyblion ac ysgol gynradd Cyffordd Llandudno yng Nghonwy, sydd i gyd yn enghreifftiau ardderchog o'r hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer disgyblion, y staff a'r gymuned ehangach. Ond nid yw dysgu ôl-16 wedi cael ei anghofio. Maent hwy hefyd wedi bod yn rhan bwysig o'r prosiect hwn, gyda buddsoddiad yng nghampws Coleg Caerdydd a'r Fro yng Nghaerdydd sy'n werth £40 miliwn a chanolfan ôl-16 gyda Choleg Cambria yn Sir y Fflint. Rhagwelir y bydd cyflwyno'r rhaglen fuddsoddi strategol bwysig hon yn rhedeg dros nifer o fandiau buddsoddi. Mae ein rhaglen gyfredol gwerth £1.4 biliwn yn rhedeg tan 2019 ac mae fy swyddogion yn awr yn gweithio ar ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi pellach y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw. Os bydd y rhai a ymgyrchodd i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cadw eu haddewidion, ni ddylai fod unrhyw effaith negyddol ar y rhaglen hon. Mae'r buddsoddiad mawr hwn yn ein hysgolion a'n colegau er budd cenedlaethau o ddysgwyr yng Nghymru yn y dyfodol yn llawer mwy na rhaglen adeiladu. Mae'n rhan o ymagwedd gyfannol ehangach y Llywodraeth hon ar draws addysg, adfywio a chyflogaeth. Bydd ein hysgolion a'u cymunedau ehangach, os gallwn barhau i gyflawni hyn, yn dod i berthyn i'r unfed ganrif ar hugain go iawn. Diolch.
The first item on our agenda this afternoon is questions to the First Minister, and the first question is from Paul Davies.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Paul Davies.
The Welsh Government is working to support the farming industry in Pembrokeshire so that it becomes more profitable and sustainable, and, of course, to ensure that farmers make a profit ultimately.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi'r diwydiant ffermio yn sir Benfro er mwyn iddo ddod yn fwy proffidiol a chynaliadwy ac, wrth gwrs, i sicrhau bod ffermwyr yn gwneud elw yn y pen draw.
First Minister, the decision to exit the European Union is going to have a major impact on the agricultural industry, and it's important that Governments at all levels work together to support our farmers in the future. But there is huge concern among farmers in Pembrokeshire at present about the possibility of introducing a nitrate-vulnerable zone. Because of the decision taken by the people of Britain, and Wales, to leave the European Union, can you tell us where this leaves the consultation that your Government intended to introduce on nitrate-vulnerable zones and whether these plans are to proceed?
Brif Weinidog, mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i gael effaith fawr ar y diwydiant amaethyddol, ac mae'n bwysig nawr bod Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi ein ffermwyr yn y dyfodol. Ond mae yna bryder enfawr ymysg ffermwyr yn sir Benfro ar hyn o bryd o'r posibilrwydd o gyflwyno parthau perygl nitradau. Oherwydd penderfyniad pobl Prydain, a Chymru, i adael yr Undeb Ewropeaidd, a allwch chi ddweud wrthym ni ble mae hyn yn gadael yr ymgynghoriad roedd eich Llywodraeth chi yn golygu ei gyflwyno ar barthau perygl nitradau? A ydy'r cynlluniau hyn nawr yn mynd mlaen?
That's ongoing, of course, bearing in mind that the environmental law that has been transposed into Welsh law will remain in place although the UK is to leave the European Union. It will then be an issue for the Welsh Government to decide which laws should be retained ultimately and which would not be retained.
Maen nhw'n dal i barhau, wrth gofio'r ffaith bod y gyfraith amgylcheddol sydd wedi cael ei throsglwyddo i gyfraith Cymru yn mynd i aros er bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddai'n fater wedyn i Lywodraeth Cymru benderfynu pa gyfreithiau i gadw yn y pen draw, a pha gyfreithiau na fyddent yn cael eu cadw yn y pen draw.
Many farmers in Pembrokeshire and elsewhere in Wales have already diversified into tourism. Given the vote taken on the referendum - and Paul has already mentioned the fact that there is so much uncertainty among farmers now - will the Welsh Government do more to promote tourism and to encourage more farmers to go down that particular route?
Mae nifer o ffermwyr yn sir Benfro a thu hwnt yng Nghymru eisoes wedi arallgyfeirio i fewn i dwristiaeth. Yn sgil y bleidlais yna ar y refferendwm - ac mae Paul eisoes wedi sôn am y ffaith bod cymaint o ansicrwydd nawr ymysg ffermwyr - a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i hyrwyddo twristiaeth ac i annog mwy o ffermwyr i ddilyn y trywydd yna?
It's true to say that we've supported farmers in doing that over the past few years through schemes such as Farming Connect and through the rural development plan. It's very important that we ensure that all means of making a profit are presented to farmers in order to ensure that their farms are more sustainable.
Mae'n wir i ddweud ein bod ni wedi cefnogi ffermwyr i wneud hynny dros y blynyddoedd diwethaf drwy gynlluniau fel Cyswllt Ffermio er enghraifft, a thrwy'r cynllun datblygu gwledig. Mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n sicrhau bod pob ffordd i wneud arian yn cael ei roi o flaen ffermwyr er mwyn sicrhau bod eu ffermydd nhw yn fwy cynaliadwy.
One of our best known agricultural products in Pembrokeshire, and part of these nitrate-vulnerable zones, is potatoes of course. Pembrokeshire earlies have protected geographical indication status under the current European regime, which allows farmers and producers to sell their produce as something that is unique from a particular area. From what I understand, PGI goes along with membership of the European Union. Does the Government have any plans or any intention to introduce something similar for Wales as we exit the European Union?
Un o gynhyrchion amaeth mwyaf adnabyddus sir Benfro - un sydd yn rhan o'r parthau nitradau yma - yw tatws, wrth gwrs, ac mae gan datws cynnar sir Benfro statws PGI o dan y gyfundrefn Ewropeaidd bresennol, sydd yn galluogi ffermwyr a chynhyrchwyr i werthu'r tatws fel rhywbeth arbennig ac fel rhywbeth sy'n deillio o diriogaeth arbennig. Gan fod, yn ôl beth rwy'n ei ddeall, PGI yn mynd law yn llaw gydag aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, a oes gan y Llywodraeth gynlluniau neu unrhyw fwriad i gyflwyno rhywbeth tebyg i Gymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd?
It will be crucially important, but it's uncertain at the moment as to what the situation is. If PGI status were to be lost, that would be a blow not only to Pembrokeshire potatoes, but to lamb. The lamb export market is extremely important, and one of the things that ensures that we can sell across the world is that we can give a guarantee to purchasers that the lamb is from Wales and of the highest quality. The same is true of potatoes. So, if we were to lose that PGI and protected designation of origin status, then we would have to ensure that we would have an equal status in Wales so that buyers could have the same confidence in our produce.
Bydd hyn yn hollbwysig, ond rydym yn ansicr ar hyn o bryd ynglŷn â beth yw'r sefyllfa. Pe bai statws PGI yn cael ei golli, byddai hynny'n bwrw nid yn unig tato yn sir Benfro, ond cig oen yn enwedig. Mae'r farchnad allforio cig oen yn bwysig dros ben, ac un o'r pethau sydd yn sicrhau ein bod ni'n gallu gwerthu ar draws y byd yw'r ffaith ein bod ni'n gallu rhoi gwarant i brynwyr bod y cig oen yn dod o Gymru a bod y cig oen hynny o'r safon uchaf. Mae'r un peth yn digwydd gyda thato, felly, petaem ni'n colli PGI a statws PDO hefyd, byddai'n rhaid sicrhau bod gyda ni statws cyfartal yng Nghymru er mwyn i brynwyr allu cael yr un hyder.
We remain committed to delivering a successful Cardiff capital region city deal. We have not yet had a response from the UK Government, however, in terms of them guaranteeing that the funding element of that deal that comes from European funds would be honoured by them, and that, of course, has a direct impact upon match funding for the city deal.
Rydym ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd llwyddiannus. Nid ydym wedi cael ymateb gan Lywodraeth y DU eto, fodd bynnag, o ran sicrwydd ganddyn nhw y byddai yr elfen ariannu yn y cytundeb hwnnw sy'n dod o gyllid Ewropeaidd yn cael ei anrhydeddu ganddyn nhw, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael effaith uniongyrchol ar arian cyfatebol ar gyfer y cytundeb dinas.
One of the key planks of the city deal is the metro, which could transform transport services in south Wales and the Valleys. As the First Minister has said, a sizeable amount of the project money has not yet been signed off. What opportunity would the First Minister have to negotiate directly with Europe about the continuation or obtaining the rest of that money?
Y metro yw un o elfennau allweddol y cytundeb dinas, a gallai weddnewid gwasanaethau trafnidiaeth yn y de a'r cymoedd. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud, mae swm sylweddol o arian y prosiect nad yw wedi ei gadarnhau hyd yn hyn. Pa gyfle fyddai gan y Prif Weinidog i drafod yn uniongyrchol ag Ewrop am barhad yr arian hwnnw neu gael gweddill yr arian hwnnw?
As things stand, as soon as the United Kingdom leaves the European Union, then access to that funding will end. Now, I'm putting in place a team in Brussels to look at negotiating on Wales's behalf in parallel with the UK, with the European Commission. But, if the European funding is not made up by the UK Government, then, clearly, that leaves a hole in funding and we will have to revise the plans that we currently have.
Fel y mae pethau'n sefyll, cyn gynted ag y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yna bydd mynediad at y cyllid hwnnw'n dod i ben. Nawr, rwy'n sefydlu tîm ym Mrwsel i ystyried trafod ar ran Cymru yn gyfochrog â'r DU, gyda'r Comisiwn Ewropeaidd. Ond, os nad yw'r arian Ewropeaidd yn cael ei dalu gan Lywodraeth y DU, yna, yn amlwg, mae hynny'n gadael twll yn y cyllid a bydd yn rhaid i ni ddiwygio'r cynlluniau sydd gennym ar hyn o bryd.
Before I come to a question, I was heckled by you last week, and you audibly called me a coward. I would suggest, in future, you behave in a more -
Cyn i mi ddod at gwestiwn, cefais fy heclo gennych chi yr wythnos diwethaf, ac fe wnaethoch chi fy ngalw i'n llwfrgi yn eglur. Byddwn yn awgrymu, yn y dyfodol, eich bod yn ymddwyn mewn ffordd fwy -
With respect, I would ask the First Minister to behave more like a First Minister.
Gyda phob parch, rwyf yn gofyn i'r Prif Weinidog ymddwyn yn debycach i Brif Weinidog.
My question is coming now, but my statement remains. I've just chaired a conference on the city deal -
Mae fy nghwestiwn i'n dod nawr, ond mae fy natganiad yn parhau. Rwyf newydd gadeirio cynhadledd ar y cytundeb dinas -
I am asking my question, with respect, Presiding Officer, if you'll let me. [Interruption.] I've just chaired a conference on the city deal. [Interruption.]
Rwyf i yn gofyn fy nghwestiwn, gyda pharch, Lywydd, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny. [Torri ar draws.] Rwyf newydd gadeirio cynhadledd ar y cytundeb dinas. [Torri ar draws.]
I've just chaired a -
Rwyf newydd gadeirio -
I think we know by now that you've just chaired something. Tell us what it is, and ask your question.
Rwy'n meddwl ein bod ni'n gwybod erbyn eich bod chi newydd gadeirio rhywbeth. Dywedwch wrthym ni beth ydyw, a gofynnwch eich cwestiwn.
There were hundreds of delegates, from the third sector, from Government, yet there was only one person from a local business. My question is: why are local communities and why are local businesses not being included in the city deal? Small businesses are the backbone of this economy and yet their voice is hardly heard. Why is that?
Roedd cannoedd o gynadleddwyr, o'r trydydd sector, o'r Llywodraeth, ac eto dim ond un person oedd yno o fusnes lleol. Fy nghwestiwn i yw: pam nad yw cymunedau lleol a pham nad yw busnesau lleol yn cael eu cynnwys yn y cytundeb dinas? Busnesau bach yw asgwrn cefn yr economi hon ac eto prin y mae eu llais yn cael ei glywed. Pam mae hynny?
Well, if he chaired it, I'm not surprised that very few businesses were there, I have to say. The reality is that businesses will be a hugely important part of the city deal, and we'll work with local authorities and businesses to make sure that the benefits of the deal can be maximised.
Wel, os mai fe wnaeth ei gadeirio, nid wyf yn synnu mai ychydig iawn o fusnesau oedd yno, mae'n rhaid i mi ddweud. Y gwir amdani yw y bydd busnesau yn rhan hynod bwysig o'r cytundeb dinas, a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a busnesau i wneud yn siŵr y gellir sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o'r cytundeb.
First Minister, we've heard that the metro deal is central to this whole concept. Unfortunately, two weeks ago, I think we realised that there's a great gulf between areas like Cardiff and the Valleys areas to the north, and this was reflected in the voting pattern. And the metro does give us a chance to integrate the economic future of these two very important parts of the south Wales economy.
Brif Weinidog, rydym ni wedi clywed bod y cytundeb metro yn ganolog i'r holl gysyniad hwn. Yn anffodus, bythefnos yn ôl, rwy'n meddwl ein bod wedi sylweddoli bod gagendor mawr rhwng ardaloedd fel Caerdydd ac ardaloedd y cymoedd i'r gogledd, ac adlewyrchwyd hyn yn y patrwm pleidleisio. Ac mae'r metro yn rhoi cyfle i ni integreiddio dyfodol economaidd y ddwy ran bwysig iawn hyn o economi'r de.
I agree very much with that. The concept of the metro is designed to do two things, primarily. First of all, of course, to make it easier for those who have jobs in Cardiff to travel quickly into Cardiff, but also to attract investment away from the coast and further up the Valleys, and to get rid of that perception that our northern Valleys communities are hard to reach. We know that's not true. We know, with the road schemes that have been put in place already, and we know that, with the metro scheme, we will be able to say to investors that our Valleys communities are connected to the wider economy of south-east Wales and therefore they are communities that should be invested in. And we're beginning to see the fruits of that with the investment decision by TVR.
Rwy'n cytnuo'n llwyr â hynny. Mae cysyniad y metro wedi ei gynllunio i wneud dau beth, yn bennaf. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, i'w gwneud yn haws i'r rhai sydd â swyddi yng Nghaerdydd i deithio yn gyflym i mewn i Gaerdydd, ond hefyd i ddenu buddsoddiad oddi wrth yr arfordir ac ymhellach i fyny'r cymoedd, ac i gael gwared ar y dybiaeth honno bod ein cymunedau yn y cymoedd gogleddol yn anodd eu cyrraedd. Rydym ni'n gwybod nad yw hynny'n wir. Rydym ni'n gwybod, gyda'r cynlluniau ffyrdd a roddwyd ar waith eisoes, ac rydym ni'n gwybod, gyda'r cynllun metro, y byddwn yn gallu dweud wrth fuddsoddwyr bod ein cymunedau yn y cymoedd wedi eu cysylltu ag economi ehangach y de-ddwyrain, ac felly maen nhw'n gymunedau y dylid buddsoddi ynddynt. Ac rydym ni'n dechrau gweld ffrwyth hynny gyda phenderfyniad TVR i fuddsoddi.
Diolch yn fawr. First Minister, the Westminster political system is in crisis, with skulduggery and backstabbing going on in both the Conservative Party and your own party in London. And this has had a major effect on Wales and on our country's future. Would the First Minister be prepared to have a word with Welsh MPs to tell them to get a grip and to do their job, which is to hold the Conservative Government to account, and to make sure that Wales gets every single penny of the funds that we were promised in the event of a vote to leave the European Union?
Diolch yn fawr. Brif Weinidog, mae system wleidyddol San Steffan mewn argyfwng, gyda thwyll ac anfadwaith yn digwydd yn y Blaid Geidwadol a'ch plaid eich hun yn Llundain. Ac mae hyn wedi cael effaith fawr ar Gymru ac ar ddyfodol ein gwlad. A fyddai'r Prif Weinidog yn barod i gael gair gydag ASau Cymru i ddweud wrthynt am gallio ac i wneud eu gwaith, sef dwyn y Llywodraeth Geidwadol i gyfrif, a gwneud yn siŵr bod Cymru'n cael pob ceiniog o'r arian a addawyd i ni pe byddai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd?
Well, I'm not going to pretend to the leader of the opposition that things are stable at Westminster - that's there for all to see. But I can say, as far as we're concerned as a Government, we will fight for every single penny that Wales is owed, and I am absolutely confident that all those who represent my party at Westminster will do the same.
Wel, nid wyf yn mynd i esgus wrth arweinydd yr wrthblaid bod pethau'n sefydlog yn San Steffan - mae hynny yno i bawb ei weld. Ond gallaf ddweud, o'n safbwynt ni fel Llywodraeth, byddwn yn brwydro am bob un geiniog sy'n ddyledus i Gymru, ac rwy'n gwbl hyderus y bydd pawb sy'n cynrychioli fy mhlaid yn San Steffan yn gwneud hynny hefyd.
First Minister, I'm disappointed that you're not prepared to show some leadership on this question. If you are not prepared to have a word with your own MPs, perhaps they're prepared to listen to this message from me: voters in our constituencies want us to be their voice in this difficult time. They want us to tackle the racism that has risen in our communities, they want to get back to work, and they want to see us take our country forward. Now, the last thing they need right now is more division and more in-fighting. In the public meeting that I did last night in Aberystwyth, First Minister, I heard from a young man whose family has a German background, and they are concerned about their future. They don't know what rights they will have, they're worried about reports in the press that their status might well be on the table in negotiations. Now, many children have been asking questions of their parents when they're in this situation, and parents are finding it very difficult to answer those questions when so much is unknown. Now, I hope that you can cover this more comprehensively in the urgent question later on, but we need to be clear that EU citizens are a net benefit to Wales. We should all say that every single one of them are welcome here and that they shouldn't have to leave this country if or when Brexit eventually takes place. First Minister, what reassurances can you give to people living in Wales from other parts of Europe that you will champion them, their rights and their families?
Brif Weinidog, rwy'n siomedig nad ydych chi'n barod i ddangos rhywfaint o arweinyddiaeth ar y cwestiwn hwn. Os nad ydych chi'n barod i gael gair gyda'ch ASau eich hun, efallai y byddan nhw'n barod i wrando ar y neges hon gennyf i: mae pleidleiswyr yn ein hetholaethau eisiau i ni fod yn llais iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn. Maen nhw eisiau i ni fynd i'r afael â'r hiliaeth sydd wedi codi yn ein cymunedau, maen nhw eisiau i ni fynd yn ôl i'r gwaith, ac maen nhw eisiau ein gweld ni'n symud ein gwlad yn ei blaen. Nawr, y peth olaf sydd ei angen arnyn nhw ar hyn o bryd yw mwy o raniadau a mwy o ymladd mewnol. Yn y cyfarfod cyhoeddus yr oeddwn i'n rhan ohono neithiwr yn Aberystwyth, Brif Weinidog, clywais gan ŵr ifanc y mae ei deulu o dras Almaenig, ac maen nhw'n pryderu am eu dyfodol. Nid ydyn nhw'n gwybod pa hawliau fydd ganddyn nhw, maen nhw'n poeni am adroddiadau yn y wasg ei bod yn bosibl iawn y gallai eu statws fod ar y bwrdd yn y trafodaethau. Nawr, mae llawer o blant wedi bod yn gofyn cwestiynau i'w rhieni pan eu bod yn y sefyllfa hon, ac mae rhieni yn ei chael hi'n anodd iawn ateb y cwestiynau hynny pan fo cymaint nad yw'n hysbys. Nawr, rwy'n gobeithio y gallwch chi ymdrin â hyn yn fwy cynhwysfawr yn y cwestiwn brys yn ddiweddarach, ond mae angen i ni fod yn eglur bod dinasyddion yr UE o fudd net i Gymru. Dylem i gyd ddweud bod croeso i bob un ohonyn nhw yma ac na ddylent orfod gadael y wlad hon os neu pan fydd Brexit yn digwydd yn y pen draw. Brif Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi i bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n dod o rannau eraill o Ewrop y byddwch chi'n eu cefnogi nhw, eu hawliau a'u teuluoedd?
In a way, that gives me the opportunity to answer the urgent question now, which I'm happy to do. I have written to the Home Secretary and I have said to her that, as far as the Welsh Government is concerned, we believe that EU citizens living in the UK should retain the right to do so after the UK withdraws from the EU. She and I are in the same position on that. I believe it's utterly wrong to use EU citizens living in the UK as a bargaining chip in negotiations; it makes it sound as if they are hostages. They are not hostages; they are welcome in Wales.
Mewn ffordd, mae hynna'n rhoi cyfle i mi ateb y cwestiwn brys nawr, ac rwyf yn hapus i wneud hynny. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref ac rwyf wedi dweud wrthi, cyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, ein bod yn credu y dylai dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU gadw'r hawl i wneud hynny ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae hi a minnau o'r un safbwynt ar hynny. Rwy'n credu ei bod yn gwbl anghywir defnyddio dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU fel testun bargeinio mewn trafodaethau; mae'n gwneud iddyn nhw swnio fel pe bydden nhw'n wystlon. Nid gwystlon ydyn nhw; Mae croeso iddyn nhw yng Nghymru.
I thank you for that answer, First Minister. Now, in a different meeting that I attended yesterday in Cardiff, I heard from a representative of one of the sectors that will be heavily affected by the Brexit vote. We were told that the further education and skills sector could lose £760 million of future funding if that money isn't replaced. If and when that funding doesn't materialise, the young people who are most affected will be those who are furthest away from the employment market. That's just one sector of Welsh civic society, and it shows how important our EU membership is and the benefits that are there and that they shouldn't just be discarded. Do you agree with me that those voices from civic society deserve to be heard when the Brexit terms are negotiated, and will you draw up an official Welsh negotiating position, to be agreed by this National Assembly and sent to the incoming UK Prime Minister? And, if you are unable to hold the new Tory leader in Westminster to account for the promises that were made in the EU referendum campaign, can you tell us how those apprenticeship places, the training courses and the back-to-work schemes that are currently benefiting some of the most disadvantaged people in some of the most disadvantaged communities in Wales will be available to those people in the future?
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Nawr, mewn gwahanol gyfarfod yr es i iddo ddoe yng Nghaerdydd, clywais gan gynrychiolydd un o'r sectorau a fydd yn cael eu heffeithio'n helaeth gan y bleidlais Brexit. Fe'n hysbyswyd y gallai'r sector addysg bellach a sgiliau golli £760 miliwn o gyllid yn y dyfodol os na chaiff yr arian hwnnw ei ddarparu. Os a phan nad yw'r cyllid hwnnw'n cael ei ddarparu, y bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio fwyaf fydd y rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad gyflogaeth. Dim ond un sector o gymdeithas ddinesig Cymru yw hwnnw, ac mae'n dangos pa mor bwysig yw ein haelodaeth o'r UE a'r manteision sydd yno ac na ddylent eu taflu i ffwrdd. A ydych chi'n cytuno â mi bod y lleisiau hynny o'r gymdeithas ddinesig yn haeddu cael eu clywed pan gaiff telerau Brexit eu trafod, ac a wnewch chi fabwysiadu safbwynt negodi swyddogol i Gymru, i'w gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn a'i anfon at Brif Weinidog newydd y DU? Ac, os na allwch chi ddwyn yr arweinydd Torïaidd newydd yn San Steffan i gyfrif am yr addewidion a wnaed yn ymgyrch refferendwm yr UE, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y bydd y lleoedd prentisiaeth, y cyrsiau hyfforddi a'r cynlluniau dychwelyd i'r gwaith hynny sydd o fudd i rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar hyn o bryd, ar gael i'r bobl hynny yn y dyfodol?
First of all, she's right to point out the funding gap that would exist. Secondly, she and I have discussed the issue of what the negotiating stance should be and I'm quite happy to share it with the Chamber: that is, first, that we will explore every possible avenue of benefit to Wales; secondly, I've already asked the economy Secretary to announce a series of measures to protect jobs and maintain economic confidence and stability and he has produced that. Yesterday, the environment and rural affairs secretary and I met key figures from Wales's environment and agriculture and fisheries sectors to discuss the implications of the UK's decision to leave the European Union. But, I have to say that there is a duty on those who called for the UK to leave the EU to ensure that the promises that they made in terms of funding for Wales are honoured. I have to say that the evidence of that now is getting thinner by the day. The question is: were the Welsh public told the truth before the referendum or is the truth emerging now?
Yn gyntaf oll, mae hi'n iawn i dynnu sylw at y bwlch ariannu a fyddai'n bodoli. Yn ail, mae hi a minnau wedi trafod yr hyn y dylai'r safbwynt negodi fod ac rwy'n ddigon hapus i'w rannu â'r Siambr: hynny yw, yn gyntaf, y byddwn yn archwilio pob llwybr posibl sydd o fudd i Gymru; yn ail, rwyf eisoes wedi gofyn i'r Ysgrifennydd dros yr economi gyhoeddi cyfres o fesurau i ddiogelu swyddi a chynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd ac mae ef wedi gwneud hynny. Ddoe, cafodd yr ysgrifennydd dros yr amgylchedd a materion gwledig a minnau gyfarfod ag unigolion allweddol o sectorau amgylchedd ac amaethyddiaeth a physgodfeydd Cymru i drafod goblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud bod dyletswydd ar y rhai a alwodd ar y DU i adael yr UE i sicrhau bod yr addewidion a wnaed ganddynt o ran cyllid i Gymru yn cael eu hanrhydeddu. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y dystiolaeth o hynny yn brinnach bob dydd. Y cwestiwn yw: a ddywedwyd y gwir wrth y cyhoedd yng Nghymru cyn y refferendwm neu a yw'r gwir yn dod i'r amlwg nawr?
I'm sure the First Minister is aware that there is no question of EU citizens currently living or working in the United Kingdom being used as bargaining chips in any renegotiation, because their rights are fully protected under the 1969 Vienna convention. Can the First Minister confirm to me that that is the case?
Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol nad oes unrhyw gwestiwn y bydd dinasyddion yr UE sy'n byw neu'n gweithio yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio fel testunau bargeinio mewn unrhyw ailnegodi, gan fod eu hawliau wedi eu diogelu'n llawn o dan gonfensiwn 1969 Vienna. A all y Prif Weinidog gadarnhau i mi fod hynny'n wir?
Well, I can only quote what the Foreign Secretary has said and, indeed, the person who might yet become the Prime Minister, who has said that those rights are not guaranteed. Now, we need to have clarity and there needs to be a response from the current Home Secretary as quickly as possible in order that people can have assurance that, for many people who've lived in the UK for many, many years, they will not find their rights of residence removed. That clarity is essential.
Wel, ni allaf ond dyfynnu'r hyn y mae'r Ysgrifennydd Tramor wedi ei ddweud ac, yn wir, y sawl a allai eto fod yn Brif Weinidog y DU, sydd wedi dweud nad yw'r hawliau hynny wedi eu gwarantu. Nawr, mae angen i ni gael eglurder ac mae angen ymateb gan yr Ysgrifennydd Cartref presennol cyn gynted â phosibl fel y gall pobl gael sicrwydd, i lawer o bobl sydd wedi byw yn y DU ers blynyddoedd lawer, na fyddant yn colli eu hawliau preswylio. Mae'r eglurder hwnnw'n hanfodol.
Turning away from EU matters, the First Minister has rightly mentioned the prospects for employment in Wales following our leaving the EU, and he will be aware that the Welsh Government's currently sitting on a decision in relation to the circuit of Wales. There was a problem in relation to this over the size of the guarantee that would be required for funding the project. Now I understand that that's been reduced to less than 50 per cent of the total, so there doesn't seem to be any reason why we can't move swiftly to a decision to give this guarantee so that this huge job-making project can go ahead. So, could the First Minister please tell me where we've got to on this at the minute?
Gan droi oddi wrth faterion yr UE, mae'r Prif Weinidog wedi crybwyll yn gwbl gywir y rhagolygon ar gyfer cyflogaeth yng Nghymru ar ôl i ni adael yr UE, a bydd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru'n eistedd ar hyn o bryd ar benderfyniad ynghylch cylchffordd Cymru. Roedd problem o ran hyn dros faint y warant y byddai ei hangen ar gyfer ariannu'r prosiect. Nawr rwy'n deall bod honno wedi cael ei lleihau i lai na 50 y cant o'r cyfanswm, felly nid yw'n ymddangos bod unrhyw reswm pam na allwn ni symud yn gyflym i benderfyniad i roi'r warant hon fel y gall y prosiect enfawr hwn a fydd yn creu swyddi fynd rhagddo. Felly, a allai'r Prif Weinidog ddweud wrthyf os gwelwch yn dda i ble'r ydym ni wedi cyrraedd ar hyn ar hyn o bryd?
The economy Secretary will be making an announcement on the Circuit of Wales next week.
Bydd yr Ysgrifennydd dros yr economi yn gwneud cyhoeddiad ar Gylchffordd Cymru yr wythnos nesaf.
Oh, right. Well, I'm delighted to hear that, because it is vitally important for the whole of south-east Wales and, indeed, far beyond. This is the biggest regeneration project that we've seen in many, many years - £380 million - and I don't expect that the First Minister can anticipate the Cabinet Secretary's forthcoming announcement, but I hope he will accept from me that it is vitally important that the Welsh Government gives the go-ahead to this project.
O, iawn. Wel, rwy'n falch iawn o glywed hynny, gan ei fod yn hanfodol bwysig ar gyfer y de-ddwyrain cyfan ac, yn wir, ymhell y tu hwnt. Dyma'r prosiect adfywio mwyaf yr ydym ni wedi ei weld ers blynyddoedd lawer - £ 380 miliwn - ac nid wyf yn disgwyl y gall y Prif Weinidog ragweld cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n gobeithio y bydd yn derbyn gennyf i ei bod yn hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi sêl bendith i'r prosiect hwn.
All these factors will be taken into consideration. I assume I will have a heads-up before the decision is taken - I'm sure I will - but the economy Secretary, I know, will be making an announcement next week on the progress of this scheme.
Bydd yr holl ffactorau hyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Rwy'n cymryd y byddaf yn cael fy atgoffa cyn i'r penderfyniad gael ei wneud - rwy'n siŵr y byddaf - ond gwn y bydd yr Ysgrifennydd dros yr economi yn gwneud cyhoeddiad yr wythnos nesaf ar gynnydd y cynllun hwn.
The leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies.
Arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Thank you, Presiding Officer. First Minister, you earlier alluded to the fact that you and the Cabinet Secretary for rural affairs met with the farming unions and other businesses from the rural communities yesterday. In questions, two weeks ago, the Cabinet Secretary said that she did not believe that farmers - and this is a direct quote - were 'perhapsthe best people to run a business'. Do you actually believe that is the case, that farmers aren't the best people to run their own businesses?
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyfeiriwyd gennych yn gynharach at y ffaith eich bod chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig wedi cyfarfod â'r undebau ffermio a busnesau eraill o'r cymunedau gwledig ddoe. Yn ystod cwestiynau, bythefnos yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd yn credu mai ffermwyr - ac mae hwn yn ddyfyniad uniongyrchol - yw'r 'bobl orau i redeg busnes o bosibl'. A ydych chi wir yn credu bod hyn yn wir, nad ffermwyr yw'r bobl orau i redeg eu busnesau eu hunain?
That's not what she said.
Nid dyna ddywedodd hi.
It's a direct quote.
Mae'n ddyfyniad uniongyrchol.
I can say that the event yesterday was hugely successful. We emphasised to the sector, first of all the environmental sector, that all those environmental laws that are already in Welsh law will remain. Secondly, as far as farming is concerned, just to emphasise the point, there is no such thing as British agricultural policy. It's entirely devolved. So, there are opportunities for the farming industry to work with us as to what a future funding scheme might look like, what support they may want in the future - although, of course, that depends on the money being made available from the UK Government to provide that support. And thirdly, of course, in terms of fisheries, what should be done with Welsh territorial waters in terms of who should be able to fish in them and, secondly, whether Welsh boats wanted us to negotiate with other administrations in terms of obtaining fishing rights for them in other waters.
Gallaf ddweud bod y digwyddiad ddoe yn llwyddiannus iawn. Pwysleisiwyd i'r sector, sector yr amgylchedd yn gyntaf oll, y bydd yr holl ddeddfau amgylcheddol hynny sydd eisoes yng nghyfraith Cymru yn parhau. Yn ail, cyn belled ag y mae ffermio yn y cwestiwn, dim ond i bwysleisio'r pwynt, nid oes y fath beth â pholisi amaethyddol Prydain. Mae wedi ei ddatganoli'n llwyr. Felly, ceir cyfleoedd i'r diwydiant ffermio weithio gyda ni o ran sut y gallai cynllun ariannu edrych yn y dyfodol, pa gefnogaeth y gallant fod ei heisiau yn y dyfodol - er, wrth gwrs, mae hynny'n dibynnu ar yr arian yn cael ei roi ar gael gan Lywodraeth y DU i ddarparu'r gefnogaeth honno. Ac yn drydydd, wrth gwrs, o ran pysgodfeydd, yr hyn y dylid ei wneud â dyfroedd tiriogaethol Cymru o ran pwy ddylai gael pysgota ynddynt ac, yn ail, pa un a yw cychod o Gymru eisiau i ni drafod gyda gweinyddiaethau eraill o ran sicrhau hawliau pysgota iddyn nhw mewn dyfroedd eraill.
First Minister, the quote I gave you was a direct quote from the Record of Proceedings here and I do note that you didn't distance yourself from that quote. If I could also ask you a question on the letter that you released on the day of the referendum of 23 June in relation to the agreement that you have with the Liberal Democrats and, in particular, the assertion made by Kirsty Williams that the implications had significant budget implications over the nine education commitments that were made between you and the Liberal Democrats. What is the totality of the commitment that you have given in financial terms to meet the commitment that you made to the Liberal Democrats that brought them into Government? I do believe that's a reasonable question because, as I said, the words that were quoted in the correspondence were 'significant budget implications'.
Brif Weinidog, roedd y dyfyniad a roddais i chi yn ddyfyniad uniongyrchol o Gofnod y Trafodion yma ac rwy'n nodi na wnaethoch chi ymbellhau eich hun o'r dyfyniad hwnnw. Pe gallwn i hefyd ofyn cwestiwn i chi ar y llythyr a gyhoeddwyd gennych chi ar ddiwrnod y refferendwm, sef 23 Mehefin, am y cytundeb sydd gennych chi gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ac, yn benodol, yr honiad a wnaed gan Kirsty Williams fod y goblygiadau yn arwain at oblygiadau cyllidebol sylweddol o ran y naw ymrwymiad addysg a wnaed rhyngoch chi a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Beth yw cyfanswm yr ymrwymiad yr ydych chi wedi ei roi o safbwynt ariannol i fodloni'r ymrwymiad a wnaethpwyd gennych i'r Democratiaid Rhyddfrydol a ddaeth â nhw i mewn i'r Llywodraeth? Rwyf yn credu bod hwnnw'n gwestiwn rhesymol oherwydd, fel y dywedais, 'goblygiadau cyllidebol sylweddol' oedd y geiriau a ddyfynnwyd yn yr ohebiaeth'.
Wherever there is European funding for a particular project, that project has to be looked at carefully when that European funding comes to an end. I thought that was obvious. That's already been mentioned by the leader of the opposition. Unless that money is made up by the UK Government as promised, then it is clear, in the future, that some schemes will not be able to be funded in the way that we would hope. He is very keen on quotes and quotations this afternoon. Let me just offer up some for him. On 2 March, Andrew R.T. Davies speaking on 'The Wales Report': 'I can guarantee that a UK government would make sure that money would be re-distributed around the regions of the UK, otherwise it would be failing in its remit to deliver help and support to the nation' - he means the UK by that - 'it is elected to govern. Frankly we cannot continue with operation fear, driving people in to the ballot box because you are scaring them into voting one way.' On 14 June: 'Campaigners for a Leave vote have said money Wales gets from Brussels would be maintained by the UK government in the event of Brexit.' I welcome that. Andrew R.T. Davies said: 'Today's announcement is hugely welcome and is further evidence that Wales would be better off out of the European Union. Despite the first minister's fantasy claims, we now know that funding for each and every part of the UK, including Wales, would be safe if we vote to leave.' On 21 June, Andrew R.T. Davies told the 'Herald': 'Wales could be as much as half a billion pounds a year better off if the UK votes to leave the European Union on ThursdaySenior Government Ministers have already pledged to maintain existing EU funding if we Vote to Leave'. And additional funding - a Barnett share of £9.8 billion that Wales could receive if we left the EU. And, today, he told the media that it wasn't about money, it was about outcomes. Now, the question for him is this: does he believe that every single penny that has been lost to Wales should be made up by the UK Government? Does he stand by his quotations - and he is keen on quotations today - or is he running away from them this morning?
Lle bynnag y ceir cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiect penodol, mae'n rhaid edrych yn ofalus ar y prosiect hwnnw pan ddaw'r cyllid Ewropeaidd hwnnw i ben. Roeddwn i'n meddwl bod hynny'n amlwg. Soniwyd am hynny eisoes gan arweinydd yr wrthblaid. Oni bai bod Llywodraeth y DU yn darparu arian yn lle'r arian hwnnw, fel yr addawyd, yna mae'n amlwg, yn y dyfodol, na fydd modd ariannu rhai cynlluniau yn y modd y byddem ni'n gobeithio ei wneud. Mae'n hoff iawn o ddyfyniadau y prynhawn yma. Gadewch i mi gynnig rhai iddo fe. Ar 2 Mawrth, Andrew R.T. Davies yn siarad ar 'The Wales Report': Gallaf sicrhau y byddai llywodraeth y DU yn gwneud yn siŵr y byddai'r arian hwnnw'n cael ei ailddosbarthu ymhlith rhanbarthau'r DU, neu fel arall byddai'n methu o ran ei gylch gwaith i ddarparu cymorth a chefnogaeth i'r genedl - y DU y mae'n ei olygu trwy hynny - y mae wedi ei hethol i lywodraethu. A dweud y gwir, ni allwn barhau i godi ofn ar bobl, eu gyrru nhw i'r blwch pleidleisio gan eich bod chi'n eu dychryn nhw i bleidleisio mewn un ffordd. Ar 14 Mehefin: Mae ymgyrchwyr am bleidlais i adael wedi dweud y byddai'r arian y mae Cymru'n ei gael gan Frwsel yn cael ei gynnal gan lywodraeth y DU pe byddai Brexit yn digwydd. Rwy'n croesawu hynny. Dywedodd Andrew R.T. Davies: Mae'r cyhoeddiad heddiw i'w groesawu'n fawr ac yn dystiolaeth bellach y byddai Cymru'n well ei byd allan o'r Undeb Ewropeaidd. Er gwaethaf honiadau ffantasi y prif weinidog, rydym ni'n gwybod bellach y byddai cyllid ar gyfer pob rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, yn ddiogel pe byddem ni'n pleidleisio i adael. Ar 21 Mehefin, dywedodd Andrew R.T. Davies wrth yr 'Herald': Gallai Cymru fod cymaint â hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn yn well ei byd os bydd y DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iaumae Uwch Weinidogion y Llywodraeth eisoes wedi addo cynnal cyllid presennol yr UE pe byddem ni'n pleidleisio i adael. A chyllid ychwanegol - cyfran Barnett o £9.8 biliwn y gallai Cymru ei derbyn pe byddem ni'n gadael yr UE. A heddiw, dywedodd wrth y cyfryngau nad oedd yn ymwneud ag arian, roedd yn ymwneud â chanlyniadau. Nawr, y cwestiwn iddo ef yw hwn: a yw'n credu y dylai Llywodraeth y DU dalu pob un geiniog a gollwyd i Gymru? A yw'n cadw at ei ddyfyniadau - ac mae'n hoff o ddyfyniadau heddiw - neu a yw'n rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw y bore yma?
It's quite remarkable that you've wasted so much of your time - but I'm quite happy that you're using my quotes because you've got so little to say, First Minister. I stand by my quotes and I'm quite happy to put that on the record. I'm quite happy to debate with you any time, any place, First Minister, on the benefits that I see, and the people endorsed that at the ballot box on the referendum on 23 June. I find it absolutely amazing, after two very clear questions - one to distance yourself from a Cabinet Secretary who has ridiculed farmers' business acumen, and two, over the deal that you have struck with the Liberal Democrats to bring them into Government that, in their own words, has significant budget implications for your Government. I don't think those are outlandish questions to put in First Minister's questions because in the campaign you did say that for every new budget commitment that was made by your Government there would have to be cuts elsewhere. So, nine weeks now after the election, it's not unreasonable for the leader of the Conservatives in the Assembly here to ask you the question, 'Right, you've committed this money to the Liberal Democrats' commitments; where are you getting that money from?' It's not to do with the Brexit vote. It's a commitment you made prior to the Brexit vote because these discussions were prior to the Brexit vote. So, where is the money coming from to meet the significant financial commitments that you have agreed with the Liberal Democrats going forward? Could we have a simple, straightforward answer, or is it quite simply that you don't know?
Mae'n gwbl ryfeddol eich bod chi wedi gwastraffu cymaint o'ch amser - ond rwy'n ddigon hapus eich bod chi'n defnyddio fy nyfyniadau i, gan fod gennych chi cyn lleied i'w ddweud, Brif Weinidog. Rwy'n cadw at fy nyfyniadau ac rwy'n ddigon hapus i roi hynny ar y cofnod. Rwy'n eithaf hapus i ddadlau gyda chi ar unrhyw bryd, mewn unrhyw fan, Brif Weinidog, ar y buddion a welaf, a chymeradwywyd hynny gan y bobl yn y bleidlais ar y refferendwm ar 23 Mehefin. Mae'n hollol anhygoel i mi, ar ôl dau gwestiwn eglur iawn - un i ymbellhau eich hun oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi gwawdio craffter busnes ffermwyr, a'r llall, ynglŷn â'r cytundeb yr ydych chi wedi ei wneud gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddod â nhw i mewn i Lywodraeth sydd, yn eu geiriau eu hunain, â goblygiadau cyllidebol sylweddol i'ch Llywodraeth chi. Nid wyf yn credu bod y rhain yn gwestiynau ffôl i'w gofyn yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog gan eich bod wedi dweud yn ystod yr ymgyrch, ar gyfer pob ymrwymiad cyllideb newydd a wneid gan eich Llywodraeth y byddai'n rhaid cael toriadau mewn mannau eraill. Felly, naw wythnos erbyn hyn ar ôl yr etholiad, nid yw'n afresymol i arweinydd y Ceidwadwyr yma yn y Cynulliad i ofyn y cwestiwn i chi, 'Iawn, rydych chi wedi ymrwymo'r arian hwn i ymrwymiadau'r Democratiaid Rhyddfrydol; o ble ydych chi'n cael yr arian hwnnw?' Nid yw'n ymwneud â'r bleidlais Brexit. Mae'n ymrwymiad a wnaed gennych cyn y bleidlais Brexit gan y bu'r trafodaethau hyn cyn y bleidlais Brexit. Felly, o ble mae'r arian yn dod i fodloni'r ymrwymiadau ariannol sylweddol yr ydych chi wedi eu cytuno gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer y dyfodol? A allem ni gael ateb syml, uniongyrchol, neu ai'r ffaith syml yw nad ydych chi'n gwybod?
Can I quote a good Belfast phrase at him? He's living in a world of sweetie white mice, because, I tell you what, if he thinks that somehow he can get away from the fact that he has failed the people of Wales today by saying he will not fight for every single penny to be made up to Wales - . He had the opportunity to declare his position - he failed to do it. He's right to point out there will be budget difficulties. That's true, because we will be losing EU money - £650 million a year is going to be lost to our budget as a result of Brexit. Now, if all that money is made up, as he promised - as he promised three times - by the UK Government, now that will help. Now, the question for him is this: will he stand by the people of Wales or will he run away from the mess that he's created?
A gaf i ddyfynnu ymadrodd Belfast da wrtho? Mae'n byw mewn byd o losin llygod gwyn, oherwydd, mi ddywedaf i wrthych chi beth, os yw e'n credu rywsut y gall ddianc rhag y ffaith ei fod wedi siomi pobl Cymru heddiw trwy ddweud na fydd yn brwydro i bob un geiniog gael ei thalu i Gymru - . Cafodd gyfle i ddatgan ei safbwynt - methodd â gwneud hynny. Mae'n iawn i nodi y bydd anawsterau cyllidebol. Mae hynny'n wir, gan y byddwn ni'n colli arian yr UE - bydd £650 miliwn y flwyddyn yn cael ei golli o'n cyllideb o ganlyniad i Brexit. Nawr, os bydd yr holl arian hwnnw'n cael ei dalu, fel yr addawodd - fel yr addawodd dair gwaith - oddi wrth Lywodraeth y DU, yna bydd hynny'n helpu. Nawr, y cwestiwn iddo ef yw hwn: a fydd e'n sefyll dros bobl Cymru, neu a fydd e'n rhedeg i ffwrdd oddi wrth y llanast y mae wedi ei greu?
Over the past 10 years, a number of new primary care facilities have been opened across north Wales. Of course, they provide buildings of the highest quality for GPs.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae nifer o gyfleusterau gofal sylfaenol newydd wedi cael eu hagor ar draws y gogledd. Wrth gwrs, maen nhw'n darparu adeiladau o'r safon uchaf i feddygon teulu.
There is a critical situation in my constituency, in the Waunfawr surgery, and I'd like to draw your attention to the terrible problems that exist there and ask you to intervene, as this matter has been going on for about 10 years now. The surgery provides excellent care for more than 5,000 patients, but the building is completely inappropriate - there isn't enough space, patient confidentiality is under threat and it's not possible for the practice to take medical students or expand services. Ten years ago the health board said that improving the Waunfawr surgery was a priority, however the facilities haven't improved at all. Do you believe that this dragging of feet is acceptable, and because the Betsi Cadwaladr University Local Health Board is in special measures, will you intervene in order to move things forward urgently?
Mae yna sefyllfa argyfyngus yn bodoli yn fy etholaeth i, sef ym meddygfa Waunfawr, a hoffwn dynnu'ch sylw at y problemau dybryd sydd yn fanno a gofyn i chi ymyrryd, gan fod y mater yn rhygnu ymlaen ers deng mlynedd erbyn hyn. Mae'r feddygfa yn rhoi gofal gwych i dros 5,000 o gleifion, ond mae'r adeilad yn hollol anaddas - nid oes digon o le, mae cyfrinachedd a diogelwch cleifion dan fygythiad ac nid oes modd i'r practis gymryd myfyrwyr meddygol nac ehangu gwasanaethau. Ddeng mlynedd yn ôl, fe ddywedodd y bwrdd iechyd fod gwella meddygfa Waunfawr yn flaenoriaeth, ond nid yw'r cyfleusterau wedi gwella. A ydych chi'n credu bod y llusgo traed yma yn dderbyniol, ac oherwydd bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig, a wnewch chi ymyrryd er mwyn symud pethau ymlaen ar frys?
The Member is right on the situation in Waunfawr - there are huge pressures there. I understand that the surgery itself is discussing this in very great detail with the health board. The problem has to be resolved as soon as possible - I understand that. Of course, there would have to be an application from the surgery in the first instance, but to do that, of course, it would have to be discussed with the health board in order to ensure that that application was the right one. But I know that the health board understands the situation and understand that they need to secure more space for the surgery ultimately. I understand that it was a shop at one time, but that 5,000 people are served there now - 1,000 at the outset - so it's clear that the problem needs to be resolved as soon as possible.
Mae'r Aelod yn iawn ynglŷn â'r sefyllfa yna yn y Waunfawr - mae yna bwysau mawr yna. Rwy'n deall bod y feddygfa ei hunan yn trafod y peth yn fanwl iawn â'r bwrdd iechyd. Mae'n rhaid datrys y broblem cyn gynted ag sy'n bosib - rwy'n deall hynny. Wrth gwrs, byddai'n rhaid cael cais o'r feddygfa yn gyntaf, ond i wneud hynny, wrth gwrs, mae'n rhaid trafod y peth â'r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau bod y cais yn un iawn. Ond rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn deall y sefyllfa a'n deall bod yn rhaid sicrhau mwy o le i'r feddygfa yn y pen draw. Rwy'n deall taw siop oedd y feddygfa ar un adeg a bod 5,000 o bobl yn cael eu gwasanaethu oddi yno nawr - 1,000 ar y dechrau - felly mae'n amlwg bod yn rhaid datrys y broblem cyn gynted ag sy'n bosib.