source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
I completely agree with the points that Adam Price has been making. I think this is an opportunity to rethink some of those approaches. I've always been very taken by the deep place study on Tredegar, of course, which was published two years ago now. I think we do need to look at that holistic approach to economic development sitting alongside environment, sitting alongside social and sitting alongside energy and community policy as well. I don't believe that simply by creating work here in Cardiff we solve the problems of unemployment in Merthyr Tydfil or in Glynneath. So, we do need to look hard at how we do that. I very much welcome any contribution the Member would wish to make to that work. Whilst I'm not completely sold on the idea of a development corporation, I recognise that structures and plans and pious hopes will not be made real without a determination and without a means to deliver that vision. I would very much welcome any conversation across the Chamber on how that might be achieved.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau y mae Adam Price wedi bod yn eu gwneud. Rwy'n meddwl bod hwn yn gyfle i ailfeddwl rhai o'r dulliau hynny. Gwnaeth yr astudiaeth lleoliad dwfn ar Dredegar, wrth gwrs, a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn, argraff fawr arnaf. Rwy'n meddwl bod angen inni edrych ar yr ymagwedd gyfannol honno tuag at ddatblygu economaidd ochr yn ochr â'r amgylchedd, ochr yn ochr â pholisi cymdeithasol ac ochr yn ochr â pholisi ynni a chymunedau hefyd. Nid wyf yn credu ein bod ni, drwy greu gwaith yma yng Nghaerdydd, yn datrys y problemau diweithdra ym Merthyr Tudful neu yng Nglyn-nedd. Felly, mae angen inni edrych yn ofalus ar sut yr ydym yn gwneud hynny. Rwy'n croesawu'n fawr unrhyw gyfraniad y byddai'r Aelod yn dymuno ei wneud at y gwaith hwnnw. Er nad wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr gan y syniad o gorfforaeth datblygu, rwy'n cydnabod na fydd strwythurau a chynlluniau a gobeithion duwiol yn cael eu gwireddu heb benderfyniad a heb ffordd o gyflawni'r weledigaeth honno. Byddwn yn rhoi croeso mawr iawn i unrhyw sgwrs ar draws y Siambr ynghylch sut y gellid cyflawni hynny.
I concur with the comments that have just been made that it's a fundamental rethink that we need in terms of investment strategy but also that long-term durability of investment and turning the thing on its head so that we do see the investment flow into the Valleys. But I would like to suggest two things. One is that the metro, for me, has always been more than the metro as currently perceived. If we're going to have real connectivity, it has to be metro plus. It has to be things to do with connecting those communities that will never be on light rails or old-fashioned heavy rails. It is the superfast buses connecting communities - not just up and down, but across communities; it is universal ticketing; and it is affordability as well. I would also like to say that we need to rethink, to pick up on the idea posed by Adam Price there, how we not only connect people so that they can travel out of the Valleys but come into the Valleys, and that means putting the investment into small businesses and microbusinesses that are rooted in those Valleys and then how we put that long-term investment to grow and grow and grow them with deep roots in those Valleys. Too long we've been telling our youngsters, 'If you want to get on in life, you need to move out.' Let's flip it on its head and say, 'If you want to get on in life, you can stay here and have a prosperous future.' But my question to the Minister is as simple as this: will he make sure that, in doing so, he doesn't chuck the baby out with the bathwater, with things such as Flying Start, apprenticeship schemes - although how we are going to sustain the funding for them now with our decision in recent days, I don't know - with things like the Sony concept there, bringing schools and young people in to teach them about digital industries, driven by the private sector down in Pencoed - how do we build on those sorts of things, and will he be engaging directly with the leaders of local authorities, including those in my areas in Bridgend and Rhondda Cynon Taf?
Rwy'n cytuno â'r sylwadau sydd newydd gael eu gwneud bod arnom angen ailfeddwl sylfaenol o ran strategaeth fuddsoddi, ond hefyd ynglŷn â gwydnwch hirdymor buddsoddi a throi'r peth ar ei ben fel ein bod ni'n gweld y buddsoddiad yn llifo i mewn i'r Cymoedd. Ond hoffwn awgrymu dau beth. Un yw bod y metro, i mi, bob amser wedi bod yn fwy na'r metro fel y mae'n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Os ydym yn mynd i gael cysylltedd go iawn, rhaid iddo fod yn metro plws. Rhaid iddo fod yn bethau sy'n ymwneud â chysylltu'r cymunedau hynny na fydd byth ar gledrau ysgafn na chledrau trwm hen ffasiwn. Y bysiau cyflym iawn sy'n cysylltu cymunedau - nid dim ond i fyny ac i lawr, ond ar hyd a lled cymunedau; y tocynnau cyffredinol; a fforddiadwyedd yn ogystal. Hoffwn hefyd ddweud bod angen inni ailfeddwl, i godi ar y syniad a gynigiwyd gan Adam Price yno, sut yr ydym nid yn unig yn cysylltu pobl fel y gallant deithio allan o'r Cymoedd, ond dod i mewn i'r Cymoedd, ac mae hynny'n golygu buddsoddi mewn busnesau bach a microfusnesau sydd wedi'u gwreiddio yn y Cymoedd hynny ac yna sut yr ydym yn rhoi'r buddsoddiad hirdymor hwnnw i'w tyfu a'u tyfu a'u tyfu nhw â gwreiddiau dwfn yn y Cymoedd hynny. Ers rhy hir, rydym wedi bod yn dweud wrth ein pobl ifanc, 'Os ydych chi eisiau mynd ymlaen mewn bywyd, mae angen i chi symud allan.' Dewch inni wyrdroi hynny a dweud, 'Os ydych chi eisiau mynd ymlaen mewn bywyd, gallwch aros yma a chael dyfodol ffyniannus.' Ond mae fy nghwestiwn i'r Gweinidog mor syml â hyn: a wnaiff yn siŵr, wrth wneud hynny, nad yw'n taflu'r babi allan gyda'r dŵr, gyda phethau fel Dechrau'n Deg, cynlluniau prentisiaeth - ond sut yr ydym yn mynd i gynnal y cyllid ar gyfer y rhain yn awr ar ôl ein penderfyniad yn y dyddiau diwethaf, nid wyf yn gwybod - gyda phethau fel y cysyniad Sony yno, yn dod ag ysgolion a phobl ifanc i mewn i'w dysgu am y diwydiannau digidol, wedi'i sbarduno gan y sector preifat i lawr ym Mhencoed - sut ydym ni'n adeiladu ar y mathau hynny o bethau, ac a fydd yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag arweinwyr awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai yn fy ardaloedd i ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf?
The answer to the question is 'yes', 'yes' and 'yes'. I absolutely agree that this isn't about throwing babies out with bathwater; this is about building on firm foundations. The Flying Start investments that we've made are a key part of that. I've seen some of the work that's been done by Sony in Pencoed and I think that's a fantastic model for what we want to achieve in the future. A key philosophical basis for the deep place study was about the investment in small businesses, local business, local economy and not simply relying on some major investments alone, although we recognise the work that that can achieve. In terms of the overall points you make about transport and the metro, I absolutely agree with you. The Valleys have always been north-south, and we need to make sure that they're east-west as well and that people are able to access work, social opportunities and public services wherever they happen to live, and that means having a robust transport system that isn't only dependent on rail but is dependent on the interrelationship between rail and bus and other means of transport to ensure that people are able to access all of the opportunities and services available to them.
Yr ateb i'r cwestiwn yw 'ie', 'ie' ac 'ie'. Rwy'n cytuno'n llwyr bod angen peidio â thaflu babanod allan gyda'r dŵr; mae hyn yn fater o adeiladu ar seiliau cadarn. Mae'r buddsoddiadau Dechrau'n Deg yr ydym wedi'u gwneud yn rhan allweddol o hynny. Rwyf wedi gweld rhywfaint o'r gwaith y mae Sony wedi'i wneud ym Mhen-coed ac rwy'n meddwl bod hwnnw'n fodel gwych i'r hyn yr ydym am ei gyflawni yn y dyfodol. Un o seiliau athronyddol allweddol yr astudiaeth lleoliad ddwfn oedd y buddsoddiad mewn busnesau bach, busnesau lleol, yr economi leol ac nid dim ond dibynnu ar rai buddsoddiadau mawr yn unig, er ein bod yn cydnabod y gwaith y gall hynny ei gyflawni. O ran y pwyntiau cyffredinol a wnewch am gludiant a'r metro, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae'r Cymoedd wedi mynd o'r gogledd i'r de erioed, ac mae angen gwneud yn siŵr eu bod yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin hefyd a bod pobl yn gallu cael gwaith, cyfleoedd cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus ble bynnag y maent yn digwydd byw, ac mae hynny'n golygu cael system drafnidiaeth gadarn nad yw'n ddibynnol ar reilffyrdd yn unig, ond sy'n dibynnu ar y gydberthynas rhwng rheilffyrdd a bysiau a dulliau trafnidiaeth eraill i sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar yr holl gyfleoedd a gwasanaethau sydd ar gael iddynt.
I'm going to take two more questions as the first question took so long to deal with. David Melding.
Rwy'n mynd i gymryd dau gwestiwn arall gan fod y cwestiwn cyntaf wedi cymryd cymaint o amser i'w ateb. David Melding.
Thank you, acting Presiding Officer. I particularly agreed with your emphasis on economic inactivity because this, unfortunately, is one of the main drivers for our relatively low GVA and, indeed, our falling GVA in the last 20 years or so under Governments of both parties in terms of who's been in power in Westminster. Economic inactivity is not the same as unemployment. Obviously, they often do overlap but they're not the same things. We've had a real problem with people just leaving the labour market completely in our poorer areas and I think we need to focus on this. Secondly, an awful lot of public services that are consumed in deprived areas are done to people and don't fully involve people, even in terms of employment. I think we need to look at how much of local delivery involves local people. Finally, I think citizens in these areas need to be able to reshape some of their public policies. Obviously, the core that needs to be delivered is unlikely to change in any part of the UK, but there may be particular needs and preferences and we should listen to them. They may not be the same as ours; they may make different decisions.
Diolch, Lywydd dros dro. Roeddwn yn cytuno'n gryf iawn â'ch pwyslais ar anweithgarwch economaidd gan fod hyn, yn anffodus, yn un o'r prif sbardunau i'n GYC cymharol isel ac, yn wir, y ffaith bod ein GYC wedi disgyn yn yr 20 mlynedd diwethaf o dan Lywodraethau'r ddwy blaid o ran pwy sydd wedi bod mewn grym yn San Steffan. Nid yw anweithgarwch economaidd yr un peth â diweithdra. Yn amlwg, maent yn aml yn gorgyffwrdd ond dydyn nhw ddim yr un pethau. Rydym wedi cael problem go iawn gyda phobl yn gadael y farchnad lafur yn llwyr yn ein hardaloedd tlotaf ac rwy'n meddwl bod angen inni ganolbwyntio ar hyn. Yn ail, mae llawer iawn o wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu defnyddio mewn ardaloedd difreintiedig yn cael eu gwneud i bobl ac nid ydynt yn cynnwys pobl yn llawn, hyd yn oed o ran cyflogaeth. Rwy'n meddwl bod angen inni edrych ar faint o ddarpariaeth leol sy'n cynnwys pobl leol. Yn olaf, rwy'n meddwl bod angen i ddinasyddion yn yr ardaloedd hyn allu ail-lunio rhai o'u polisïau cyhoeddus. Yn amlwg, mae'r craidd y mae angen ei gyflwyno'n annhebygol o newid mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, ond gall fod anghenion a dewisiadau penodol a dylem wrando arnynt. Efallai nad ydynt yr un rhai â'n rhai ni; efallai y byddant yn gwneud penderfyniadau gwahanol.
I'm grateful to David Melding for the points he makes. I absolutely agree with the points made on economic inactivity. I hope these are some of the issues that the future generations Act is designed, or will be designed, to address because we do have issues of inactivity in valley communities. But as you say, they're not simply the result of unemployment but other reasons as well, and we do need to look at those reasons. We also, of course, need to look at the casualisation, if you like, of the economy, where people are not being able to access high-quality, full-time permanent jobs but are working on zero-hours contracts, working on reduced-hours contracts, working part-time work and are unable to actually sustain the family in a way that they would seek to do. So, there are a number of different challenges there in terms of that wider agenda, and I certainly agree with David Melding that we need to be able to do that. I was very impressed with the work that TUC Wales did in terms of Better Jobs, Closer to Home in terms of looking at creating work within the Valleys communities and how public procurement can help with that. I think that's a point that's been made by Plaid Cymru in the past as well. It's certainly an issue on which I believe the Government should place considerable emphasis. Finally, just to test the patience of the Presiding Officer, the issue about listening to people is absolutely essential. That's why I wanted to make this statement today, prior to recess, so that I can spend some time in the summer listening to people, because very often what we hear on the doorstep isn't what we hear and what we read from journalists and from politicians who think they know best. I think it's incumbent upon all of us to not just listen but actively seek to listen and to hear what is being said to us, and not simply to do it as an exercise to tick a box.
Rwy'n ddiolchgar i David Melding am y pwyntiau y mae'n eu gwneud. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth am anweithgarwch economaidd. Rwy'n gobeithio mai dyma rai o'r materion y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol wedi'i chynllunio, neu am gael ei chynllunio, i roi sylw iddynt oherwydd mae gennym faterion o anweithgarwch yng nghymunedau'r cymoedd. Ond fel y dywedwch, nid ydynt o ganlyniad i ddiweithdra yn unig, ond rhesymau eraill, hefyd, ac mae angen inni edrych ar y rhesymau hynny. Hefyd, wrth gwrs, mae angen inni edrych ar achlysuroli, os mynnwch chi, yr economi, lle nad oes swyddi parhaol llawn amser o safon uchel ar gael i bobl, ac mae'n rhaid iddynt weithio ar gontractau dim oriau, gweithio ar gontractau â llai o oriau, gweithio gwaith rhan-amser a methu mewn gwirionedd â chynnal y teulu yn y ffordd y byddent yn dymuno ei wneud. Felly, mae nifer o heriau gwahanol yno o ran yr agenda ehangach, ac rwy'n sicr yn cytuno â David Melding bod angen inni allu gwneud hynny. Roeddwn yn hapus iawn â gwaith TUC Cymru yn nhermau Gwell Swyddi, Agosach at Adref o ran edrych ar greu gwaith o fewn cymunedau'r Cymoedd, a sut y gall caffael cyhoeddus helpu gyda hynny. Rwy'n meddwl bod hynny'n bwynt sydd wedi'i wneud gan Blaid Cymru yn y gorffennol yn ogystal. Mae'n sicr yn fater y credaf y dylai'r Llywodraeth roi cryn bwyslais iddo. Yn olaf, dim ond i brofi amynedd y Llywydd, mae'r mater ynghylch gwrando ar bobl yn gwbl hanfodol. Dyna pam yr oeddwn yn awyddus i wneud y datganiad hwn heddiw, cyn y toriad, er mwyn imi allu treulio rhywfaint o amser yn ystod yr haf yn gwrando ar bobl, oherwydd yn aml iawn mae'r hyn yr ydym yn ei glywed ar gerrig drysau yn wahanol i'r hyn yr ydym yn ei glywed ac yn ei ddarllen gan newyddiadurwyr a gan wleidyddion sy'n meddwl eu bod yn gwybod orau. Rwy'n meddwl ei bod yn ddyletswydd arnom ni i gyd i wneud mwy na dim ond gwrando, ond mynd ati i geisio gwrando a chlywed beth sy'n cael ei ddweud wrthym, ac nid dim ond gwneud hynny fel ymarfer ticio blwch.
I'll be brief. Thank you. The Valleys communities have indeed borne the brunt of the impact of Tory recessions and Tory economic downturns, without a doubt. Swingeing welfare cuts have already been discussed. In my community, the immoral acts within the bedroom tax have caused huge and great disadvantage. In terms of cutting straight to a question - thank you, acting Presiding Officer - tourism hubs within the city region's connectivity agenda are absolutely essential in terms of releasing the potential of our beautiful landscapes within the Valleys communities and, so, would the Minister agree with me in terms of how important it is, for instance, that the Cwmcarn scenic drive in my constituency is actually regenerated and rejuvenated as a true vision of what we can do with Valleys communities, and what we can do in terms of regeneration of our Valleys communities?
Byddaf yn gryno. Diolch. Mae cymunedau'r Cymoedd yn wir wedi ysgwyddo baich effaith y dirwasgiadau Torïaidd a'r dirywiadau economaidd Torïaidd, heb os nac oni bai. Mae toriadau lles llym eisoes wedi eu trafod. Yn fy nghymuned, mae'r gweithredoedd anfoesol yn gysylltiedig â'r dreth ystafell wely wedi achosi anfantais enfawr ac eang. O ran torri'n syth at gwestiwn - diolch, Lywydd dros dro - mae canolfannau twristiaeth o fewn agenda cysylltedd y dinas-ranbarth yn gwbl hanfodol o ran rhyddhau potensial ein tirweddau hardd yng nghymunedau'r Cymoedd, felly, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi o ran pa mor bwysig yw hi, er enghraifft, bod taith olygfaol Cwmcarn yn fy etholaeth i yn cael ei hadfywio mewn gwirionedd a'i hadfer fel gwir weledigaeth o'r hyn y gallwn ei wneud gyda chymunedau'r Cymoedd, a'r hyn y gallwn ei wneud o ran adfywio cymunedau ein Cymoedd?
I absolutely agree. I think the Cwmcarn forest drive is a fantastic resource for all of us, and not just for those of us who live in the Valleys. I know the Cabinet Secretary is in her place and has heard the points that you've made. And, certainly, the work that I believe that NRW has been involved with will ensure that Cwmcarn scenic drive is available for people in the future. It's a very good example of how the environment and the geography and the landscape of the Valleys are something that can provide, not simply enjoyment and pleasure for those of us who live there, but also can ensure that we have an economic impact, and one that we need to harness and use for the future. Thank you very much, acting Presiding Officer.
Rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n meddwl bod ffordd goedwig Cwmcarn yn adnodd gwych inni i gyd, ac nid dim ond i'r rhai ohonom sy'n byw yn y Cymoedd. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei lle ac wedi clywed y pwyntiau yr ydych wedi eu gwneud. Ac, yn sicr, bydd y gwaith yr wyf yn credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymwneud ag ef yn sicrhau bod taith olygfaol Cwmcarn ar gael i bobl yn y dyfodol. Mae'n enghraifft dda iawn o sut mae amgylchedd a daearyddiaeth a thirwedd y Cymoedd yn rhywbeth sy'n gallu darparu, nid dim ond mwynhad a phleser i'r rhai ohonom sy'n byw yno, ond gall hefyd sicrhau ein bod yn cael effaith economaidd, ac un y mae angen inni ei harneisio a'i defnyddio ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro.
Item 7 has been withdrawn.
Mae Eitem 7 wedi cael ei thynnu'n ôl.
So, we'll move straight to item 8, the statement by the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs on exotic animal disease threats, bluetongue and contingency planning, and I thank her for her patience in waiting to be called.
Felly, symudwn yn syth at eitem 8, y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar fygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid, y tafod glas a gwaith cynllunio wrth gefn, a diolchaf iddi am ei hamynedd wrth aros i gael ei galw.
Thank you, Chair. Animal disease outbreaks are devastating for all concerned and can have wide and costly consequences for animal and public health, the economy and the environment. Ensuring a state of preparedness for an incursion of an exotic notifiable animal disease, therefore, is a priority. Suspicion of an exotic notifiable animal disease, such as foot and mouth disease or bluetongue, under the terms of the Animal Health Act 1981, must be reported to the Animal and Plant Health Agency for investigation. There have been 137 such reports between April 2015 and 20 June this year. If an exotic notifiable animal disease outbreak occurs, the significant costs for Government are unbudgeted and are considered as a contingent liability. Policy responsibility for animal health and welfare was devolved to the Welsh Government in 2005; however, it was not until 2011 that the associated budgets were devolved. The potential for heavy, unbudgeted costs for dealing with a disease outbreak would place an unexpected pressure on unrelated programmes and services provided by the Welsh Government. It is, therefore, vital that surveillance activities and contingency planning are in place with the aim of preventing, detecting, managing and eradicating disease quickly to minimise the impact on the livestock industry, the rural community and the wider economy. Contingency planning provides the systems and structures necessary to manage and eradicate an animal disease outbreak. The Animal Health Act 2002 required contingency plans to be produced for FMD, Newcastle disease and avian influenza, which should be reviewed and updated regularly. The Welsh Government has had robust contingency plans in place since 2003, which are regularly tested in exercises and disease incidents. The 'Welsh Government Contingency Plan for Exotic Animal Diseases' sets out the procedures, processes and structures that would be used in a disease outbreak. The plan is reviewed annually and republished as necessary. It has recently been reviewed and was republished last month. Such reviews take account of lessons learned from UK and local exercises, as well as real-time events. Contingency plans were last used for outbreaks of avian influenza in England and Scotland in mid-2015 and early 2016. England, Scotland and Northern Ireland also maintain contingency plans and, in addition, the 'United Kingdom Contingency Plan for Exotic Notifiable Diseases of Animals' provided a strategic overview of the structures and systems necessary to deal with an outbreak of disease in the UK, demonstrating how the Governments would work together in an outbreak. The early detection of disease is essential for animal and public health. By long-term planning and taking a joined-up approach to developing our contingency planning, we can help create the healthy, resilient and prosperous Wales we are striving for with the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. Surveillance is undertaken on a Wales and England basis by APHA, along with Welsh Government veterinary advisors, who also horizon scan the global animal disease situation to identify any risks to the UK. The Welsh Government and the other UK administrations have specific legislation and disease control strategies for dealing with diseases such as bluetongue, rabies, FMD, classical swine fever and equine diseases. Bluetongue is a notifiable disease that can affect ruminant species, including sheep, cattle, deer, goats and camelids. There are 26 strains of the bluetongue virus and it has no human health implications and does not affect meat or other animal products. BTV is mainly spread by adult infected midges biting an animal susceptible to the disease. The BTV strain 8 first reached the UK during 2007 from mainland Europe and the UK was not declared disease free until 2011. BTV8 is currently circulating in France with over 288 outbreaks reported as at 1 July. France is continuing to confirm cases, primarily identified as a result of surveillance. The key aspect of the threat to the UK is the location of the outbreaks, which are currently in the central and south-west regions. If the situation changes and outbreaks are confirmed further north, nearer to the English coast, then the risk to the UK would increase accordingly. There are two key ways that BTV8 might arrive into the UK: through infected midges or through the importation of infected livestock. A qualitative risk assessment, published in February, considered the likely incursion of BTV8 into the UK. Given the strong movement and import controls, the risk of an infected live animal introducing the disease into the UK was considered to be low. Infected midges are considered the most likely route and the risk of an incursion into the UK was considered to be 33 to 60 per cent in July and 60 to 80 per cent in September. France has applied the restrictions required by EU rules. Animals in a restriction zone are banned from leaving, unless accompanied by a veterinary health certificate that confirms they are vaccinated against BTV or naturally immune. Animals imported into the UK from a restriction zone are restricted on the holding of destination until post-import testing for signs of disease are completed. APHA also carry out risk-based post-import testing of animals imported from free areas within France. Government is continuing to work closely with the livestock industry and veterinary profession to ensure they are reliably informed. The situation in France is being closely monitored and consideration is being given to the risks and mitigation measures if BTV8 reached the UK. The National Farmers Union has launched an industry campaign - joint action against bluetongue, or JAB - to inform and support the livestock industry by raising awareness of the disease and the actions they can take to protect their animals. Discussions with vaccine manufacturers indicate they intend to make available BTV8 vaccine supplies over the summer. In advance of any outbreak or incident, Government will ensure all relevant agencies and partners will be able to communicate effectively and appropriately regarding the risk. Our key messages are: there are robust disease surveillance procedures in place; livestock keepers should consider, along with their vet, the best protection for their animals, including whether vaccination is an option that would benefit their business; farmers who import or move susceptible species should carefully consider the risks and the health status of animals when sourcing stock, particularly from mainland Europe; farmers are strongly encouraged to be vigilant, monitor their stock carefully and report any signs of disease. The risk of incursion of bluetongue is difficult to predict as it is highly dependent on the level of disease on the continent, the proximity to the UK and the weather. I am, therefore, confident we have the structures in place to enable us to take swift and decisive action in the event of an outbreak of an exotic notifiable animal disease in Wales. We will continue to work closely with operational partners and stakeholders to monitor the current situation and minimise this risk.
Diolch, Gadeirydd. Mae achosion o glefydau anifeiliaid yn ddinistriol i bawb dan sylw, a gallant gael canlyniadau eang a chostus ar gyfer anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd, yr economi a'r amgylchedd. Mae sicrhau sefyllfa o barodrwydd ar gyfer ymlediad clefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy, felly, yn flaenoriaeth. Mae'n rhaid hysbysu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am amheuaeth o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy, megis clwy'r traed a'r genau neu'r tafod glas, o dan delerau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, er mwyn gallu ymchwilio i'r mater. Cafwyd 137 o adroddiadau o'r fath rhwng mis Ebrill 2015 a 20 Mehefin eleni. Os bydd achos o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy yn digwydd, nid yw'r costau sylweddol i'r Llywodraeth wedi eu cyllidebu ac maent yn cael eu hystyried fel rhwymedigaeth wrth gefn. Mae'r cyfrifoldeb polisi dros iechyd a lles anifeiliaid wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru er 2005; fodd bynnag, dim ond yn 2011 y cafodd y cyllidebau cysylltiedig eu datganoli. Byddai'r potensial ar gyfer costau trwm, heb eu cyllidebu, ar gyfer ymdrin ag achos o'r clefyd yn rhoi pwysau annisgwyl ar raglenni a gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Y mae, felly, yn hanfodol bod gweithgareddau gwyliadwriaeth a gwaith cynllunio wrth gefn yn cael eu gwneud gyda'r nod o atal, canfod, rheoli a dileu clefydau yn gyflym er mwyn lleihau'r effaith ar y diwydiant da byw, y gymuned wledig a'r economi ehangach. Mae gwaith cynllunio wrth gefn yn darparu'r systemau a'r strwythurau angenrheidiol i reoli a dileu achosion o glefydau anifeiliaid. Roedd Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau wrth gefn gael eu llunio ar gyfer clwy'r traed a'r genau, clefyd Newcastle a ffliw adar, y dylid eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd. Mae cynlluniau wrth gefn cadarn wedi bod ar waith gan Lywodraeth Cymru er 2003, ac maent yn cael eu profi'n rheolaidd mewn ymarferion a digwyddiadau clefydau. Mae 'Cynllun Wrth Gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefydau Egsotig Anifeiliaid' yn nodi'r gweithdrefnau, y prosesau a'r strwythurau a fyddai'n cael eu defnyddio mewn achos o glefyd. Adolygir y cynllun yn flynyddol a chaiff ei ailgyhoeddi yn ôl yr angen. Mae wedi ei adolygu'n ddiweddar a chafodd ei ailgyhoeddi fis diwethaf. Mae adolygiadau o'r fath yn ystyried y gwersi a ddysgwyd o ymarferion yn y DU ac yn lleol, yn ogystal â digwyddiadau amser-real. Defnyddiwyd cynlluniau wrth gefn ddiwethaf ar gyfer achosion o ffliw adar yn Lloegr a'r Alban yng nghanol 2015 ac yn gynnar yn 2016. Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn cynnal cynlluniau wrth gefn ac, yn ogystal, roedd yr 'United Kingdom Contingency Plan for Exotic Notifiable Diseases of Animals' yn darparu trosolwg strategol o'r strwythurau a'r systemau angenrheidiol i ymdrin ag achosion o glefyd yn y DU, gan ddangos sut y byddai'r Llywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd mewn achosion o glefyd. Mae canfod clefyd yn gynnar yn hanfodol ar gyfer iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd. Trwy waith cynllunio hirdymor a thrwy fabwysiadu dull cydgysylltiedig o ddatblygu ein cynlluniau wrth gefn, gallwn helpu i greu'r Gymru iach, gydnerth a llewyrchus yr ydym yn ceisio ei chyflawni gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cynhelir gwaith gwyliadwriaeth ar sail Cymru a Lloegr gan APHA, ynghyd â chynghorwyr milfeddygol Llywodraeth Cymru, sydd hefyd yn sganio'r sefyllfa fyd-eang o ran clefydau anifeiliaid i nodi unrhyw risgiau i'r DU. Mae gan Lywodraeth Cymru a gweinyddiaethau eraill y DU ddeddfwriaeth a strategaethau rheoli clefydau penodol ar gyfer ymdrin â chlefydau megis y tafod glas, y gynddaredd, Clwy'r Traed a'r Genau, clwy clasurol y moch a chlefydau ceffylau. Mae'r Tafod Glas yn glefyd hysbysadwy a all effeithio ar rywogaethau anifeiliaid cnoi cil, gan gynnwys defaid, gwartheg, ceirw, geifr a chamelidau. Mae 26 math o feirws y tafod glas ac nid oes ganddo unrhyw oblygiadau ar gyfer iechyd pobl ac nid yw'n effeithio ar gig na chynhyrchion anifeiliaid eraill. Caiff feirws y Tafod Glas ei ledaenu'n bennaf gan wybed sy'n oedolion ac sydd wedi eu heintio yn brathu anifail sy'n agored i'r clefyd. Cyrhaeddodd y straen BTV8 y DU am y tro cyntaf yn ystod 2007 o dir mawr Ewrop, ac ni chafodd y DU ei datgan yn rhydd o'r clefyd tan 2011. Mae BTV8 yn cylchredeg yn Ffrainc ar hyn o bryd gyda dros 288 o achosion wedi'u hadrodd erbyn 1 Gorffennaf. Mae Ffrainc yn parhau i gadarnhau achosion, a nodir yn bennaf o ganlyniad i waith gwyliadwriaeth. Yr agwedd allweddol ar y bygythiad i'r DU yw lleoliad yr achosion, sydd ar hyn o bryd yn rhanbarthau'r canolbarth a'r de-orllewin. Os bydd y sefyllfa'n newid ac achosion yn cael eu cadarnhau ymhellach i'r gogledd, yn nes at arfordir Lloegr, yna byddai'r risg i'r DU yn cynyddu yn unol â hynny. Mae dwy ffordd allweddol y gallai BTV8 gyrraedd y DU: trwy wybed wedi'u heintio neu drwy fewnforio da byw wedi'u heintio. Ystyriodd asesiad risg ansoddol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, ymlediad tebygol BTV8 i'r DU. O gofio'r rheolaethau symud a mewnforio cryf, roedd y risg y byddai anifeiliaid byw wedi'u heintio yn cyflwyno'r clefyd i'r DU yn cael ei ystyried fel bod yn isel. Y farn yw mai gwybed wedi'u heintio fyddai'r llwybr mwyaf tebygol ac ystyriwyd bod y risg o ymlediad i'r DU yn 33 i 60 y cant ym mis Gorffennaf ac yn 60 i 80 y cant ym mis Medi. Mae Ffrainc wedi cymhwyso'r cyfyngiadau sy'n ofynnol gan reolau'r UE. Mae anifeiliaid mewn parth cyfyngu wedi'u gwahardd rhag gadael, oni bai bod tystysgrif iechyd milfeddygol yn bodoli sy'n cadarnhau eu bod wedi'u brechu yn erbyn BTV neu fod ganddynt imiwnedd naturiol. Mae anifeiliaid a fewnforir i'r DU o barth cyfyngu yn cael eu cyfyngu yn y daliad pen y daith tan fod profion ar ôl mewnforio am arwyddion o glefyd wedi eu cynnal. Mae APHA hefyd yn cynnal profion ar ôl mewnforio yn seiliedig ar risg ar anifeiliaid a fewnforir o ardaloedd sy'n rhydd o'r clefyd yn Ffrainc. Mae'r Llywodraeth yn parhau i weithio'n agos gyda'r diwydiant da byw a'r proffesiwn milfeddygol er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei hysbysu'n ddibynadwy. Mae'r sefyllfa yn Ffrainc yn cael ei monitro'n agos ac mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r risgiau a'r mesurau lliniaru pe byddai BTV8 yn cyrraedd y DU. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi lansio ymgyrch ar gyfer y diwydiant - gweithredu ar y cyd yn erbyn y tafod glas, neu JAB - i hysbysu a chefnogi'r diwydiant da byw drwy godi ymwybyddiaeth o'r clefyd a'r camau y gallant eu cymryd i ddiogelu eu hanifeiliaid. Mae trafodaethau â gweithgynhyrchwyr brechlynnau yn nodi eu bod yn bwriadu sicrhau bod cyflenwadau o frechlyn BTV8 ar gael dros yr haf. Cyn unrhyw achos neu ddigwyddiad, bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod yr holl asiantaethau a'r partneriaid perthnasol yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn briodol ynghylch y risg. Ein negeseuon allweddol yw: bod gweithdrefnau gwyliadwraeth clefydau cadarn wedi'u sefydlu; dylai pobl sy'n cadw da byw ystyried, ynghyd â'u milfeddyg, y modd gorau o ddiogelu eu hanifeiliaid, gan gynnwys a yw brechu yn ddewis a fyddai'n llesol i'w busnes; dylai ffermwyr sy'n mewnforio neu'n symud rhywogaeth a allai fod yn agored i glefydau ystyried yn ofalus y risgiau a statws iechyd anifeiliaid wrth ddod o hyd i stoc, yn enwedig o dir mawr Ewrop; mae ffermwyr yn cael eu hannog yn gryf i fod yn wyliadwrus, i fonitro eu stoc yn ofalus ac i roi gwybod am unrhyw arwyddion o glefyd. Mae'r risg o ymlediad y tafod glas yn anodd ei ragweld gan ei fod yn ddibynnol iawn ar lefel y clefyd ar y cyfandir, pa mor agos ydyw i'r DU a'r tywydd. Rwyf felly yn hyderus bod gennym y strwythurau ar waith a fydd yn ein galluogi i gymryd camau cyflym a phendant mewn achos o glefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio'n agos â phartneriaid a rhanddeiliaid gweithredol i fonitro'r sefyllfa bresennol a lleihau cymaint â phosib ar y risg hwn.
Thank you, Cabinet Secretary. Simon Thomas.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Simon Thomas.
Thank you, temporary Deputy Presiding Officer, and I thank the Cabinet Secretary for her statement today. It's appropriate, I'm sure, that she should set out before the summer some of the steps that Government will take in order to deal with these exotic animal diseases. They're called 'exotic', but they're not as exotic now, given the impacts of climate change. We've already seen a number of examples of bluetongue in Wales, and some of the other diseases as well, which are either imported or spread by midges. So, further to that statement, can the Minister tell me what consideration has been given to a vaccination campaign to deal with bluetongue specifically, because climate change seems to be driving this disease far closer to us here in Wales during the summer months? I understand that there is a very effective vaccine available, and, as was stated, that the farmers' unions have been considering disseminating information about this vaccination, but do we need to go a step further and encourage more vaccination by farmers? Has the Government actually modelled the cost of vaccination against the cost of an outbreak of this disease in Wales - against the impact on the industry as a result of falling prices because of such a disease, because that's what tends to happen when a disease outbreak takes place? A second question arising as a result of the statement is one on the ability and capacity of the veterinary system to deal with this. The Minister mentioned in her statement the Animal and Plant Health Agency. Of course, since the cuts to laboratories in that agency, stopgap measures have been put in place -that's how I would describe them - with some private companies and veterinary practices trying to fill in the gaps, with the British Veterinary Association warning that we may miss some warnings as a result of losing these laboratories. So, what discussions has the Cabinet Secretary had with the veterinary profession on ensuring that there is sufficient notification and plenty of testing facilities for bluetongue and the other diseases mentioned in the statement? The final point arising as a result of that, of course, is: what discussions is the Cabinet Secretary now having with the wider profession on the fact that around half of the vets that we rely on in the UK were trained in the European Union - in other places in the European Union? I will mention this here, and you'd expect me to mention this, that we don't have a veterinary school in Wales. There were exciting proposals by Aberystwyth University to try and fill some of that gap immediately, if not the whole gamut, but as we await support to achieve that dream we are reliant on vets who have been trained in other European nations and who make a very valuable contribution to us here in Wales. You, Cabinet Secretary, attended the British Veterinary Association dinner recently, as did I, and I'm sure that this was raised with them - how important these vets are and how important it is that we, as we have done a number of occasions today, confirm that not only are EU vets welcome here but that we much appreciate the work that they do in keeping our livestock healthy and in helping us to tackle diseases such as these exotic diseases that you mentioned.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro, a diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad heddiw. Mae'n briodol, mae'n siŵr, ei bod hi'n gosod allan cyn yr haf rai o'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ymwneud â'r clefydau egsotig yma. Maen nhw'n cael eu galw'n egsotig, ond nid ydynt mor egsotig bellach, wrth gwrs. Gyda newid hinsawdd, rydym eisoes wedi gweld nifer o enghreifftiau o dafod glas yng Nghymru, a rhai o'r clefydau eraill hefyd, naill ai'n cael eu mewnforio neu'n cael eu lledaenu gan wybed. Felly, ymhellach i'r datganiad, a yw'r Gweinidog yn gallu ateb pa ystyriaeth sydd wedi cael ei rhoi i ymgyrch frechu yn erbyn y tafod glas yn benodol, gan fod newid hinsawdd yn gyrru'r clefyd yma lawer yn nes drwy'r haf i Gymru? Rwy'n deall bod yna frechiad effeithiol iawn i gael a, fel y dywedwyd yn y datganiad, fod yna ystyriaeth gan undebau'r ffermwyr i ledaenu gwybodaeth am y brechiad hwn, ond a oes angen mynd gam ymhellach i geisio annog mwy o frechu gan ffermwyr? A yw'r Llywodraeth wedi modelu o gwbl cost brechu yn erbyn cost y clefyd yma yn digwydd yng Nghymru - yn erbyn, wrth gwrs, yr effaith wedyn ar y diwydiant drwy bris cynnyrch yn cwympo os oes sôn am glefyd o'r fath, achos dyna beth sy'n dueddol o ddigwydd os oes clefyd yn torri mas? Yr ail gwestiwn sydd yn codi yn sgil y datganiad yw'r un ynglŷn â gallu a chapasiti y diwydiant milfeddygol i ddelio â hwn. Fe soniodd y Gweinidog yn y datganiad am yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Wrth gwrs, ers y toriadau yn y labordai yn yr asiantaeth honno, mae yna 'stopgap measures', byddwn i'n dadlau, wedi cael eu dodi yn eu lle gyda rhai cwmnïau a milfeddygon preifat yn ceisio llanw'r bwlch, gyda'r Gymdeithas Filfeddygol Brydeinig hefyd yn rhybuddio bod modd colli'r rhybuddion oherwydd colli'r labordai. Felly, beth yw'r trafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda'r proffesiwn milfeddygol ynglŷn â sicrhau bod yna ddigon o rybudd a digon o lefydd i brofi ar gyfer clefyd y tafod glas a'r clefydau eraill sy'n cael eu crybwyll yn y datganiad? Y pwynt olaf sy'n codi yn sgil hynny, wrth gwrs, yw: pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cael yn awr gyda'r proffesiwn ehangach ynglŷn â'r ffaith bod tua hanner o'r milfeddygon yr ydym yn dibynnu arnyn nhw yn y Deyrnas Gyfunol wedi'u hyfforddi yn yr Undeb Ewropeaidd - mewn llefydd eraill? Wrth gwrs, fe wnaf i sôn fan hyn, a byddech yn disgwyl imi sôn am hyn, am y ffaith nad oes gennym ni ysgol filfeddygol yng Nghymru. Roedd yna gynlluniau cyffrous gan Brifysgol Aberystwyth i geisio llanw peth o'r bwlch, os nad y bwlch yn llawn, yn syth, ond tra ein bod ni'n aros am gefnogaeth i wireddu'r freuddwyd yna, rŷm ni'n ddibynnol ar filfeddygon sydd wedi'u hyfforddi yn y gwledydd Ewropeaidd eraill ac sydd yn rhoi perfformiad a chyfraniad gwerth chweil, felly, i ni yma yng Nghymru. Roeddech chi, Ysgrifennydd, fel minnau, yng nghinio'r British Veterinary Association yn ddiweddar iawn, ac mae'n siŵr bod hwn wedi codi gyda nhw - pa mor bwysig yw'r milfeddygon yma a pha mor bwysig yw hi, felly, ein bod ni, fel yr ydym wedi gwneud sawl gwaith heddiw, yn cadarnhau nid yn unig bod croeso i filfeddygon yr Undeb Ewropeaidd, ond ein bod ni'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y gwaith y maen nhw'n ei wneud wrth gadw ein hanifeiliaid ni yn iach ac wrth ein helpu i fynd i'r afael â chlefydau fel y clefydau egsotig yma.
Diolch, Simon Thomas, for those questions. In relation to vaccination, I mentioned there is a vaccine available and it is the only effective tool to protect susceptible animals from bluetongue. The best time to vaccinate is early in the year, before the warm weather comes, which I know we're still, perhaps, waiting for. That will then provide protection. So, I think that sort of work was done earlier in the year, but, obviously, as we go through the summer, that vaccination is still applicable if farmers would want to do that. I mentioned that vaccinations would be made available by manufacturers, and, actually, two vaccine manufacturers have stated that they will be intending to make their vaccinations available from this month, so that's a discussion that the chief veterinary officer and her advisers are having. In relation to capacity, I think now that we have so many more vets going out to farms to test for TB, for instance, I think once those vets go onto the farm, they're doing extra work, if you like, because they're engaging with farmers and talking about biosecurity and what farmers can do to protect against diseases. So, I'm very happy with the capacity that we have at the current time. I think you raise a really important point about veterinary surgeons that we have from the EU, and, as you say, we very much appreciate their work and they are certainly very welcome in Wales. I was very pleased to make the announcement regarding the MOU at Aberystwyth University, and the facilities that are being put in place there - not a complete veterinary school, but I think an important first step that we can build on.
Diolch, Simon Thomas, am y cwestiynau yna. O ran brechu, soniais fod brechlyn ar gael a dyma'r unig ddull effeithiol o amddiffyn anifeiliaid a allai fod yn agored i'r tafod glas. Yr amser gorau i frechu yw yn gynnar yn y flwyddyn, cyn i'r tywydd cynnes ddod, a gwn ein bod yn dal, o bosibl, i aros amdano. Bydd hynny wedyn yn darparu amddiffyniad. Felly, rwy'n meddwl bod y math hwnnw o waith wedi ei wneud yn gynharach yn y flwyddyn, ond, yn amlwg, wrth i ni fynd drwy'r haf, mae'r brechiad hwnnw yn dal i fod yn berthnasol pe byddai ffermwyr eisiau gwneud hynny. Soniais y byddai brechiadau yn cael eu rhoi ar gael gan wneuthurwyr, ac, mewn gwirionedd, mae dau wneuthurwr brechlyn wedi datgan eu bod yn bwriadu sicrhau bod eu brechiadau ar gael o'r mis hwn ymlaen, felly mae honno'n drafodaeth y mae'r prif swyddog milfeddygol a'i chynghorwyr yn ei chael. O ran capasiti, rwy'n credu gan fod gennym gymaint mwy o filfeddygon yn mynd allan i ffermydd i gynnal profion ar gyfer TB, er enghraifft, erbyn hyn, rwy'n credu pan fo'r milfeddygon hyn yn mynd ar y fferm, maent yn gwneud gwaith ychwanegol, os mynnwch chi, oherwydd maent yn ymgysylltu â ffermwyr ac yn sôn am fioddiogelwch a'r hyn y gall ffermwyr ei wneud i amddiffyn yn erbyn clefydau. Felly, rwy'n hapus iawn â'r capasiti sydd gennym ni ar hyn o bryd. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â milfeddygon sydd gennym o'r UE, ac, fel y dywedwch, rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith yn fawr iawn ac yn sicr mae croeso mawr iddynt yng Nghymru. Roeddwn i'n falch iawn o wneud y cyhoeddiad ynghylch y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae'r cyfleusterau sy'n cael eu rhoi ar waith yno - nid ysgol filfeddygol gyflawn, ond rwy'n meddwl ei fod yn gam cyntaf pwysig y gallwn adeiladu arno.
Can I also thank the Cabinet Secretary for her important statement this afternoon, but I hope that the Cabinet Secretary will attach the same importance to tackling another disease, which is, of course, bovine TB, and bring forward a statement on the Welsh Government's policy in dealing with this terrible disease before the autumn, given it's having a huge negative impact on our farming industry? Now, exotic animal disease threats are extremely delicate matters that need to be treated effectively and efficiently, and it's important that the Welsh Government has robust contingency plans in place to respond to any outbreaks, particularly in relation to the threat of the bluetongue virus, which most of her statement refers to today. I appreciate that contingency planning has developed significantly over the years, but it's worrying to see that almost 300 outbreaks of the bluetongue virus have been reported in France since July, and that the likelihood of the virus spreading into the UK is increasing. It's crucial that any contingency planning is co-ordinated with other Governments across the UK so that differing policies don't hinder each other or even escalate problems. Therefore, perhaps the Cabinet Secretary will tell us what specific discussions the Welsh Government has had with the UK Government and, indeed, other Governments regarding the bluetongue virus threat to ensure that animal disease threats are addressed in a joined-up manner across the whole of Britain. I appreciate that the Welsh Government doesn't have direct control over imports into Wales, and that policy direction for border control is decided at a UK Government level, however, I'd be grateful if the Cabinet Secretary could confirm if the Welsh Government does have any involvement in the monitoring of animal imports and products, and more specifically in relation to the process of post-import testing, which she refers to in her statement this afternoon. Also, whilst I'm pleased that discussions with the vaccine industry have taken place, perhaps the Cabinet Secretary can tell us a little bit more about the release of a potential vaccine for the bluetongue virus. The Member for Mid and West Wales touched upon the potential cost analysis of vaccination, but perhaps she could just give us an indication of the potential costs of vaccination. Of course, in the event of any disease outbreak, we can expect to see restrictions in place and that in itself raises some serious questions. I appreciate that the Welsh Government's contingency plan for exotic animal diseases is part of a wider strategy regarding animal welfare, and therefore I hope the Cabinet Secretary will tell us in her response how the Welsh Government protects the welfare of animals affected by movement restrictions during an emergency outbreak. It's also important that there is a constant dialogue with local authorities and local operational partners, such as police forces. These local partners are at the front line when dealing with animal disease threats and the public response to them, and it's important that communication is delivered effectively to those at an operational command level. Therefore, perhaps the Cabinet Secretary will tell us how the Welsh Government engages with local authorities and the police to ensure that they are constantly receiving real-time updates regarding any animal disease threats. I'd also be grateful if the Cabinet Secretary could tell us what type of local field work is undertaken at a local level, how that information is collected and monitored, and how that work feeds in with strategies for exotic animal disease threats at a UK level. I welcome that the contingency plan for exotic animal disease is reviewed annually and republished as necessary, because it's important plans of this nature are constantly reviewed in order to be as effective as possible. Therefore, in closing, Acting Deputy Presiding Officer, can I thank the Cabinet Secretary for her statement this afternoon? It's of critical importance that we get this right and that robust contingency plans are in place should there be an outbreak of an exotic animal disease. I don't doubt the Welsh Government's commitment and sincerity on this matter, but there is always more that can be done, and so I look forward to hearing more about the Welsh Government's action in this area in the Cabinet Secretary's response.
A gaf i ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad pwysig y prynhawn yma, ond rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r un pwysigrwydd i fynd i'r afael â chlefyd arall, sef, wrth gwrs, TB buchol, a chyflwyno datganiad ar bolisi Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r clefyd ofnadwy hwn cyn yr hydref, o gofio ei fod yn cael effaith negyddol sylweddol ar ein diwydiant ffermio? Nawr, mae bygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid yn faterion hynod o anodd y mae angen eu trin yn effeithiol ac yn effeithlon, ac mae'n bwysig bod gan Lywodraeth Cymru gynlluniau wrth gefn cadarn ar waith i ymateb i unrhyw achosion, yn enwedig o ran y bygythiad o feirws y tafod glas, y mae'r rhan fwyaf o'i datganiad yn cyfeirio ato heddiw. Rwy'n sylweddoli bod y gwaith cynllunio wrth gefn wedi datblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd, ond mae'n destun pryder i weld yr adroddwyd am bron i 300 o achosion o feirws y tafod glas yn Ffrainc ers mis Gorffennaf, a bod y tebygolrwydd y bydd y feirws yn lledaenu i'r DU yn cynyddu. Mae'n hanfodol bod unrhyw gynlluniau wrth gefn yn cael eu cydlynu â Llywodraethau eraill ledled y DU er mwyn sicrhau nad yw gwahanol bolisïau yn llesteirio ei gilydd neu hyd yn oed yn gwaethygu'r problemau. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa drafodaethau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU ac, mewn gwirionedd, Llywodraethau eraill ynghylch bygythiad feirws y tafod glas i sicrhau bod bygythiadau clefydau anifeiliaid yn cael eu trin mewn modd cydgysylltiedig ledled Prydain gyfan. Rwy'n sylweddoli nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth uniongyrchol dros fewnforion i Gymru, a bod cyfeiriad polisi ar gyfer rheoli ffiniau yn cael ei benderfynu ar lefel Llywodraeth y DU, er hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn y gwaith o fonitro mewnforion anifeiliaid a chynnyrch, ac yn fwy penodol o ran y broses o gynnal profion ar ôl mewnforio, y mae hi'n cyfeirio atynt yn ei datganiad y prynhawn yma. Hefyd, er fy mod i'n falch bod trafodaethau â'r diwydiant cynhyrchu brechlynnau wedi eu cynnal, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig mwy wrthym am ryddhau brechlyn posibl ar gyfer feirws y tafod glas. Soniodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am ddadansoddiad cost posibl brechu, ond efallai y gallai hi roi syniad i ni o gostau posibl brechu. Wrth gwrs, pe byddai unrhyw achos o glefyd, gallwn ddisgwyl gweld y cyfyngiadau ar waith ac mae hynny ynddo'i hun yn codi rhai cwestiynau difrifol. Rwyf i'n sylweddoli bod cynllun wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer clefydau egsotig anifeiliaid yn rhan o strategaeth ehangach ynghylch lles anifeiliaid, ac felly rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym yn ei hymateb sut y mae Llywodraeth Cymru yn diogelu lles anifeiliaid yr effeithir arnynt gan gyfyngiadau symud yn ystod achosion brys. Mae hefyd yn bwysig bod deialog gyson ag awdurdodau lleol a phartneriaid gweithredol lleol, megis heddluoedd. Mae'r partneriaid lleol hyn yn y rheng flaen wrth ymdrin â bygythiadau clefydau anifeiliaid ac ymateb y cyhoedd iddynt, ac mae'n bwysig bod cyfathrebu yn digwydd yn effeithiol i'r rhai ar lefel rheoli gweithredol. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a'r heddlu i sicrhau eu bod yn derbyn diweddariadau amser real cyson ynglŷn ag unrhyw fygythiadau clefydau anifeiliaid. Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa fath o waith maes lleol sy'n cael ei wneud ar lefel leol, sut y caiff y wybodaeth honno ei chasglu a'i monitro, a sut mae'r gwaith hwnnw yn cyfrannu at strategaethau ar gyfer bygythiadau clefydau egsotig anifeiliaid ar lefel y DU. Rwy'n croesawu'r ffaith fod y cynllun wrth gefn ar gyfer clefydau egsotig anifeiliaid yn cael ei adolygu'n flynyddol a'i ailgyhoeddi yn ôl yr angen, gan ei bod yn bwysig bod cynlluniau o'r math hwn yn cael eu hadolygu'n gyson er mwyn bod mor effeithiol â phosibl. Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd Dros Dro, a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Mae'n hollbwysig ein bod yn cael hyn yn iawn, a bod cynlluniau wrth gefn cadarn wedi eu sefydlu ar gyfer achosion o glefyd egsotig anifeiliaid. Nid wyf yn amau ymrwymiad a didwylledd Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ond mae bob amser mwy y gellir ei wneud, ac felly rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am gamau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.
I thank Paul Davies for his series of questions. Just picking up on your first point regarding the TB eradication programme, I have committed to bringing forward a statement in the autumn on the way forward. We will continue to have a science-led approach and, over the summer, there is a significant amount of work going on in relation to our programme. I used the example of bluetongue to illustrate that we do have very robust plans in place for dealing with these diseases. You mentioned the increase in the number of cases in France, and that's why we are monitoring it very carefully. The chief veterinary officer is in constant touch with the other veterinary officers in the UK; she receives a monthly report in respect of these diseases. Obviously, if there is an incursion from infected midges from France, those farms at highest risk are likely to be along the south coast and the south-east of England at the beginning of an outbreak, but our message is that farmers in other parts of the country shouldn't be complacent, they should remain vigilant for signs of disease, and carefully consider the risk of sourcing animals from outside the UK. You asked about cost analysis, as did Simon Thomas, sorry, and I didn't answer that. What I did mention was that vaccination really should be done at the beginning of the year before the weather gets very warm, and I'm not aware if that cost analysis was done at the beginning of the year, but I will certainly write to both Members to clarify those points. In relation to contingency plans, it's really important that we do have those robust plans in place, and I've had a contingency walkthrough, if you like, of what would happen if we had an outbreak with the chief veterinary officer and her advisers. It is really important that we do include stakeholders such as local authorities and police, et cetera, and, you know, maybe Public Health Wales, for instance, depending on what sorts of outbreak there are as we go through, because they can obviously provide assistance to us. I've been very reassured that all the fora are in place - the resilience, the civil contingency plans are there, in place, should we have such an outbreak. I was very reassured when I looked at the list of notifiable diseases when I came into post that it's many years since we've had some of the specific diseases in Wales. By the increased help with biosecurity with our farmers, we certainly hope to keep that the case.
Diolchaf i Paul Davies am ei gyfres o gwestiynau. Dim ond i gyfeirio at eich pwynt cyntaf ynghylch y rhaglen dileu TB, rwyf wedi ymrwymo i ddod â datganiad gerbron yn yr hydref ar y ffordd ymlaen. Byddwn yn parhau i fod â dull gwyddonol ac, yn ystod yr haf, bydd cryn dipyn o waith yn mynd ymlaen yn gysylltiedig â'n rhaglen. Defnyddiais enghraifft y tafod glas i ddangos bod gennym gynlluniau cadarn iawn ar waith ar gyfer ymdrin â'r clefydau hyn. Soniasoch am y cynnydd yn nifer yr achosion yn Ffrainc, a dyna pam yr ydym yn monitro hynny yn ofalus iawn. Mae'r prif swyddog milfeddygol mewn cysylltiad cyson â'r swyddogion milfeddygol eraill yn y DU; mae hi'n cael adroddiad bob mis ynglŷn â'r clefydau hyn. Yn amlwg, os oes ymlediad o wybed wedi'u heintio o Ffrainc, bydd y ffermydd hynny sydd fwyaf mewn perygl yn debygol o fod ar hyd arfordir y de a de-ddwyrain Lloegr ar ddechrau achos o glefyd, ond ein neges yw na ddylai ffermwyr mewn rhannau eraill o'r wlad fod yn hunanfodlon, dylent barhau i fod yn wyliadwrus am arwyddion o afiechyd, ac ystyried yn ofalus y risg o gael anifeiliaid o'r tu allan i'r DU. Gofynasoch am ddadansoddiad cost, fel y gwnaeth Simon Thomas, mae'n ddrwg gennyf, a wnes i ddim ateb hynny. Yr hyn y gwnes i sôn amdano oedd y dylai brechu gael ei wneud ar ddechrau'r flwyddyn cyn bod y tywydd yn gynnes iawn, ac nid wyf yn ymwybodol o ba un a wnaethpwyd y dadansoddiad cost ar ddechrau'r flwyddyn, ond byddaf yn sicr yn ysgrifennu at y ddau Aelod i egluro'r pwyntiau hynny. O ran cynlluniau wrth gefn, mae'n hynod bwysig bod gennym y cynlluniau cadarn hynny ar waith, ac rwyf wedi cael fy arwain trwy'r trefniadau wrth gefn, os mynnwch chi, ar gyfer yr hyn a fyddai'n digwydd pe byddai gennym achosion o glefyd gyda'r prif swyddog milfeddygol a'i chynghorwyr. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn cynnwys rhanddeiliaid megis awdurdodau lleol a'r heddlu, ac ati, a, wyddoch chi, efallai Iechyd Cyhoeddus Cymru, er enghraifft, yn dibynnu ar ba fath o achosion sydd gennym, oherwydd yn amlwg gallant ddarparu cymorth i ni. Rwy'n dawel iawn fy meddwl bod yr holl fforymau wedi'u sefydlu - mae'r cydnerthedd, y cynlluniau wrth gefn sifil yno, wedi'u sefydlu, pe byddem yn cael achos o'r fath. Cefais fy nghalonogi'n fawr pan edrychais ar y rhestr o glefydau hysbysadwy pan ddes i i mewn i'r swydd, bod sawl blwyddyn ers i ni gael rhai o'r clefydau penodol yng Nghymru. Drwy'r cynnydd mewn cymorth â bioddiogelwch gyda'n ffermwyr, rydym yn sicr yn gobeithio sicrhau y bydd hynny'n parhau i fod yn wir.
I think the principle of infectious disease control - and this applies to all diseases and this is the message that we give to our livestock keepers and farmers - is that you keep infection out, you find it quickly, you stop it spreading, and, if you do have it, you stamp it out, and that's certainly the message that we will be taking forward on all of these diseases and our contingency plans.
Rwy'n credu bod yr egwyddor o reoli afiechydon heintus - ac mae hyn yn berthnasol i bob clefyd a dyma'r neges yr ydym yn ei roi i'n pobl sy'n cadw da byw a ffermwyr - yw eich bod yn cadw haint allan, yn ei ganfod yn gyflym, yn ei atal rhag lledaenu, ac, os oes gennych glefyd, eich bod yn cael gwared arno, a dyna yn sicr y neges y byddwn ni'n bwrw ymlaen â hi ar bob un o'r clefydau hyn a'n cynlluniau wrth gefn.
I'd like now to call on the Minister for Science and Skills, Julie James.
Hoffwn alw yn awr ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James.
Thank you, Acting Deputy Presiding Officer; how nice to see you in the chair. We've seen significant improvements in the employment rate in Wales over the last Assembly term. Between February and April 2016, the employment rate was close to a record high figure at 71.9 per cent, and is well above the rate of 65 to 67 per cent experienced in the mid to late 1990s and the early years of the 2000s. To put this in context, there are now nearly 1.5 million people in employment in Wales. This success is the continuation of a longer term trend. The employment level in Wales has increased by 18.7 per cent since devolution, compared to a 16.5 per cent increase for the UK over the same period. That's an extra 227,000 people in work in Wales since the start of the Assembly. Whilst employment policy remains a non-devolved area, the Welsh Government's contribution to this disproportionately strong performance through our skills and employment programmes and our investment in the economy should not be underestimated. Over the last Assembly term, we successfully delivered a number of innovative programmes that responded to the challenges of the economic climate we found ourselves in. Our Jobs Growth Wales programme is one example. Launched in April 2012, it responded quickly to the exceptional recessionary pressures that saw almost a quarter of young people in Wales between the age of 16 and 24 unemployed. The programme sought to offer young people with limited or no experience of work a foot in the door with an employer, and the chance to gain six months' experience of real work with an expectation that they would be kept on after support from Jobs Growth Wales had finished. Sixteen thousand, three hundred young people in Wales have taken part in Jobs Growth Wales since 2012. For Jobs Growth Wales, 75 per cent of the young people in the private sector strand of the programme that completed a six-month opportunity either sustained their employment or entered further learning. I don't know of any other similar programmes that can boast such figures. Since the start of the ReAct II programme in October 2008, over 28,000 workers whose careers were interrupted by redundancy received Welsh Government support to gain new skills and return to work quickly. This good work has continued with the launch of ReAct III last year. However, the economic climate has changed and our suite of employability support needs to adapt to reflect the new environment within which we are operating. Wales still has significant employment challenges around our skills levels, around the spatial concentration of unemployment and inactivity, and with the ongoing threat of redundancies within some of our key strategic industries. Our employability support needs to modernise to respond effectively to these challenges. A growing body of evidence is suggesting that our current suite of programmes is too complex and fragmented, making it difficult to develop a coherent pathway to employment for a jobseeker and resulting in support that can sometimes be inflexible in responding to individual need. There are broader changes too to policy at UK level, which will have a significant impact on the delivery of skills training for unemployed people in Wales. The introduction of the Department for Work and Pensions' new Work and Health Programme in 2017 presents an opportunity to more effectively align the breadth of employment support on offer to individuals across Wales. Our active involvement in the commissioning of this new contract will ensure that lessons are learned from current Work Programme delivery and that the needs of the Welsh labour market as a whole are incorporated in future programme design. This new programme will be significantly smaller than DWP's existing Work Programme and will mean a greater volume of individuals seeking to access Welsh Government support. We are working with DWP to estimate the impact of these changes both in terms of the number of people to whom we will need to offer support and the type of assistance required. Both of these factors will require changes to our own employability programmes. We outlined in our manifesto that we would create a new employability programme to support individuals of all ages to find good quality employment. We want this support to be tailored to individual need and, where appropriate, aligned with emerging job opportunities in local communities. Our aim is to bring together the activities from our main employability programmes, Jobs Growth Wales and ReAct, traineeships and our new Employability Skills programme into a single employability support programme that will better meet the needs of those requiring support to gain, retain, and progress within work. The new programme is being developed using the most recent evidence and research into the delivery of effective labour market programmes. It will be informed by evaluations of the Work Ready, Jobs Growth Wales and ReAct programmes, the Skills Conditionality pilots, which we conducted with DWP, and the traineeships evaluation and review. We have a wealth of evidence available to us on what works. Our new programme is anticipated to begin delivery from April 2018. Between now and then we will conduct a series of pilot activities with further education colleges and our existing network of work-based learning providers to test the capacity and willingness of the sectors to innovate and respond flexibly to the needs of individuals and employers, and with Careers Wales, Jobcentre Plus and local authorities to test assessment, referral and job-matching processes. We also intend making changes to some of our existing programmes to enable us to transition smoothly to delivery of our all-age programme. Our new Employability Skills programme will reflect a different approach to delivery with a greater focus on a work placement and a continuation of support once an individual secures employment. We will continue to deliver Jobs Growth Wales until March 2018 but at a lower rate of wage subsidy, reflecting the improved economic climate and the findings of the evaluation, whilst continuing to recognise the importance of young people gaining their first foothold in work. This is a demanding timetable and a complex programme of work, but I am confident that it will result in a programme more fit and flexible to respond to the labour market challenges and opportunities we face, both now and in the future. Diolch.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd Dros Dro; mae'n braf eich gweld chi yn y gadair. Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yn y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru dros dymor diwethaf y Cynulliad. Rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2016, roedd y gyfradd gyflogaeth yn agos i ffigur uwch nag erioed o'r blaen o 71.9 y cant, ac yn llawer uwch na'r gyfradd o 65 i 67 y cant a welwyd yng nghanol a diwedd y 1990au a blynyddoedd cynnar y 2000au. I roi hyn mewn cyd-destun, erbyn hyn mae bron i 1.5 miliwn o bobl mewn gwaith yng Nghymru. Mae'r llwyddiant hwn yn barhâd o duedd tymor hwy. Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 18.7 y cant ers datganoli, o'i gymharu â chynnydd o 16.5 y cant ar gyfer y DU yn ystod yr un cyfnod. Mae hynny'n 227,000 o bobl ychwanegol mewn gwaith yng Nghymru ers dechrau'r Cynulliad. Er bod polisi cyflogaeth yn parhau i fod yn faes nad yw wedi ei ddatganoli, ni ddylid diystyru cyfraniad Llywodraeth Cymru i'r perfformiad anghymesur o gryf hwn drwy ein rhaglenni sgiliau a chyflogaeth a'n buddsoddiad yn yr economi . Dros dymor diwethaf y Cynulliad, rydym wedi cyflwyno'n llwyddiannus nifer o raglenni arloesol a oedd yn ymateb i heriau'r hinsawdd economaidd y gwnaethom ganfod ein hunain ynddo. Mae ein rhaglen Twf Swyddi Cymru yn un enghraifft. Cafodd ei lansio ym mis Ebrill 2012, gan ymateb yn gyflym i bwysau eithriadol y dirwasgiad a welodd bron i chwarter y bobl ifanc rhwng 16 a 24 yng Nghymru yn ddi-waith. Roedd y rhaglen yn ceisio cynnig troed yn y drws gyda chyflogwr i bobl ifanc nad oedd ganddynt fawr o brofiad, neu ddim profiad, o weithio, a'r cyfle i ennill chwe mis o brofiad o waith go iawn gyda'r disgwyliad y byddent yn cael eu cadw ar ôl i'r gefnogaeth gan Twf Swyddi Cymru ddod i ben. Mae un mil ar bymtheg, a thri chant o bobl ifanc yng Nghymru wedi cymryd rhan yn Twf Swyddi Cymru ers 2012. Ar gyfer Twf Swyddi Cymru, gwnaeth 75 y cant o'r bobl ifanc yn llinyn sector preifat y rhaglen, a gwblhaodd gyfle chwe mis, naill ai gadw eu swyddi neu ddilyn rhagor o addysg. Nid wyf yn gwybod am unrhyw raglenni tebyg eraill sy'n gallu brolio ffigurau o'r fath. Ers cychwyn y rhaglen ReAct II ym mis Hydref 2008, mae dros 28,000 o weithwyr y tarfwyd ar eu gyrfaoedd gan ddiswyddiad wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i ennill sgiliau newydd a dychwelyd i'r gwaith yn gyflym. Mae'r gwaith da hwn wedi parhau gyda lansiad ReAct III y llynedd. Fodd bynnag, mae'r hinsawdd economaidd wedi newid ac mae angen i'n cyfres o gymorth cyflogadwyedd addasu i adlewyrchu'r amgylchedd newydd yr ydym yn gweithredu oddi mewn iddo. Mae gan Gymru heriau cyflogaeth sylweddol o hyd ynghylch ein lefelau sgiliau, y crynodiad gofodol o ddiweithdra ac anweithgarwch, a gyda'r bygythiad parhaus o ddiswyddiadau yn rhai o'n diwydiannau strategol allweddol. Mae angen i'n cefnogaeth cyflogadwyedd foderneiddio i ymateb yn effeithiol i'r heriau hyn. Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn awgrymu bod ein cyfres bresennol o raglenni yn rhy gymhleth a thameidiog, gan ei gwneud yn anodd datblygu llwybr cydlynol i gyflogaeth i geisiwr gwaith gan arwain at gefnogaeth a all fod yn anhyblyg weithiau wrth ymateb i anghenion yr unigolyn. Ceir newidiadau ehangach hefyd i bolisi ar lefel y DU, a fydd yn cael effaith sylweddol ar ddarparu hyfforddiant sgiliau i bobl ddi-waith yng Nghymru. Mae cyflwyno Rhaglen Gwaith ac Iechyd newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn 2017 yn gyfle i gyfochri ehangder y cymorth cyflogaeth sydd ar gael i unigolion ledled Cymru yn fwy effeithiol. Bydd ein cyfranogiad gweithredol yn y gwaith o gomisiynu'r contract newydd hwn yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o'r Rhaglen Waith a ddarperir ar hyn o bryd a bod anghenion y farchnad lafur yng Nghymru yn ei chyfanrwydd yn cael eu hymgorffori wrth gynllunio rhaglenni yn y dyfodol. Bydd y rhaglen newydd hon gryn dipyn yn llai na Rhaglen Waith bresennol yr Adran Gwaith a Phensiynau a bydd hyn yn golygu y bydd mwy o unigolion yn ceisio cael gafael ar gymorth gan Lywodraeth Cymru. Rydym ni'n gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i amcangyfrif effaith y newidiadau hyn o ran nifer y bobl y bydd angen i ni gynnig cefnogaeth iddynt a'r math o gymorth y bydd ei angen. Bydd y ddau ffactor hyn yn gofyn am newidiadau i'n rhaglenni cyflogadwyedd ein hunain. Gwnaethom amlinellu yn ein maniffesto y byddem yn creu rhaglen gyflogadwyedd newydd i gefnogi unigolion o bob oed i ddod o hyd i waith o ansawdd da. Rydym eisiau i'r gefnogaeth hon gael ei theilwra i anghenion unigol a, phan fo hynny'n briodol, ei chyfochri â chyfleoedd swyddi sy'n dod i'r amlwg mewn cymunedau lleol. Ein nod yw dwyn ynghyd y gweithgareddau o'n prif raglenni cyflogadwyedd, Twf Swyddi Cymru a ReAct, hyfforddeiaethau a'n rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd newydd mewn un rhaglen cymorth cyflogadwyedd a fydd yn diwallu yn well anghenion y rhai sydd angen cefnogaeth i gael, cadw, a symud ymlaen mewn gwaith. Mae'r rhaglen newydd yn cael ei datblygu gan ddefnyddio'r dystiolaeth a'r ymchwil ddiweddaraf i'r ddarpariaeth o raglenni marchnad lafur effeithiol. Bydd yn cael ei llywio gan werthusiadau o'r rhaglenni Barod am Waith, Twf Swyddi Cymru a ReAct, y cynlluniau arbrofol Amodoldeb Sgiliau, y gwnaethom eu cynnal gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, a'r gwaith gwerthuso ac adolygu hyfforddeiaethau. Mae gennym gyfoeth o dystiolaeth ar gael i ni ynglyn â'r hyn sy'n gweithio. Rhagwelir y bydd ein rhaglen newydd yn dechrau darparu o fis Ebrill 2018 ymlaen. Rhwng nawr a'r adeg honno byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau arbrofol gyda cholegau addysg bellach a'n rhwydwaith presennol o ddarparwyr dysgu yn y gwaith i brofi gallu a pharodrwydd y sectorau i arloesi ac ymateb yn hyblyg i anghenion unigolion a chyflogwyr, a chyda Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith a'r awdurdodau lleol i gynnal profion ar y prosesau asesu, atgyfeirio a pharu swyddi. Rydym hefyd yn bwriadu gwneud newidiadau i rai o'n rhaglenni presennol er mwyn ein galluogi i bontio'n llyfn i ddarpariaeth ein rhaglen i bob oed. Bydd ein rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd newydd yn adlewyrchu ymagwedd wahanol at ddarparu gyda mwy o bwyslais ar leoliad gwaith a chefnogaeth barhaus pan fydd unigolyn wedi cael gwaith. Byddwn yn parhau i gyflwyno Twf Swyddi Cymru tan fis Mawrth 2018, ond ar gyfradd is o gymhorthdal cyflog, gan adlewyrchu'r hinsawdd economaidd well a chanfyddiadau'r gwerthusiad, wrth barhau i gydnabod pa mor bwysig yw hi i bobl ifanc gymryd y cam cyntaf i waith. Mae hon yn amserlen heriol ac yn rhaglen gymhleth o waith, ond rwy'n hyderus y bydd yn arwain at raglen fwy addas a hyblyg er mwyn ymateb i heriau'r farchnad lafur a'r cyfleoedd a wynebwn, nawr ac yn y dyfodol. Diolch.
Thank you for that series of questions. In my usual format, I'm going to answer the last one first and work backwards, just that's because how my brain works. In terms of the overall funding programme, yes, we are going to assume, because we've been told on many occasions, that the funding shortfall that falls to Wales as a result of the Brexit agenda will be made up by the UK Government. As we heard earlier, in First Minister's questions, we have been promised this many times and we're going to assume that that's the case until we're told differently. I will comment this, though, and I said this in my apprenticeship statement a couple of weeks ago: it's not just money that we get from the EU, we get research opportunities, we get exchange opportunities, our young people have the chance to learn from other people who are undertaking vocational programmes and traineeships and apprenticeships. I very much hope that, in the negotiations that we now embark on with the EU, these cultural and learning opportunities, in which Wales has been very much a leader and a beneficiary of the joint learning that has been undertaken, can continue to happen. It very much isn't just about the money in these things. It's very much about what works. In terms of some of your other questions, I can assure you there is no question of financial savings in this. This isn't about the budget overall. This is about the skills tracks programme. I think you held up the paper version of that. It looks a bit like a tube map. The idea is to make it a much more simple thing to navigate as both a recipient of one of the programmes or indeed as an adviser - perhaps a parent if you are at early ages, or a partner, and so on - advising somebody through the programme. So, that's an interactive map that you're looking at there. You should be able to click on the node and it should tell you where you are, and you should be able to follow fairly swiftly through to get yourself to the right thing. You've heard me say many times in the previous Assembly that the difficulty with employability programmes is that you do not want, under any circumstances, to arrive at a one-size-fits-all. People are individuals; they require individual support. Often a one-size package doesn't fit them. So, this is about tailoring those packages. The employability programmes have been very successful, but people who are further away from the job market need a different range of support, both to get them into those employment opportunities and actually to keep them there. It's not just about getting the job and then walking off; it's about keeping them in that job and making sure the support mechanisms are in place to maintain them there. From simple things like the fact that your first month in work is sometimes the most expensive month you'll ever experience - you haven't had a salary and you've got all the expense. So, it's something simple like that, right through to all of the difficulties of navigating through family life, work and so on if you've been unemployed for a considerable period of time. So, this is about tailoring a set of successful programmes to harder-to-reach individuals as the economic emphasis closes. Now, we don't know what the outcome of the European Union negotiations might be, so the other thing is to be flexible in the face of uncertainty. So, this is about making the programmes as flexible as possible to respond to an uncertain future. It may be that we have some growth, in which case we need to respond to harder-to-reach individuals; it may be that we have redundancies and so on, in which case we need to respond with, effectively, short-term crisis management, as with ReAct. So, these programmes are being designed to be as flexible as possible within the constraints that they operate in. The last thing I want to say about that is that it's not one brand, except that we're calling it Employability Skills strands. There will be individual programmes in there, but the idea is to make them flexible, allow people to move to and fro. We are having some difficulty in negotiating with the DWP because they themselves have changed the parameters of their programme and the goalposts have moved, to mix my metaphors all over the place. The goalposts have moved quite significantly over the last six months. We are in close negotiation with them and with the various city deals around Wales and with the regional skills partnerships to make sure that we have a coherent offer that matches together with the UK Government's offer and so on. To answer your first question last, in terms of devolution, we would like some more powers around how to assess people and how to get them onto the programmes, but you will know that we have long said that we will not accept some of the less - in my opinion - effective results with the DWP's programmes, like mandation and sanctioning, for example. So, it is around what we can negotiate in order to keep our employment programmes open and acceptable to everybody.
Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Gan ddilyn fy nhrefn arferol, byddaf yn ateb yr un olaf yn gyntaf ac yn gweithio tuag at yn ôl, dim ond oherwydd mai dyna sut mae fy ymennydd yn gweithio. O ran y rhaglen ariannu cyffredinol, ydym, rydym ni'n mynd i gymryd yn ganiataol, oherwydd dywedwyd wrthym ar sawl achlysur, y bydd Lywodraeth y DU yn darparu'r diffyg ariannol i Gymru yn sgil agenda Brexit. Fel y clywsom yn gynharach, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, rydym wedi cael yr addewid hwn lawer gwaith ac rydym yn mynd i gymryd yn ganiataol bod hynny'n wir tan y byddwn yn clywed yn wahanol. Rwyf am ddweud hyn, fodd bynnag, a dywedais hyn yn fy natganiad ar brentisiaeth wythnos neu ddwy yn ôl: nid dim ond arian yr ydym ni'n ei gael gan yr UE, rydym yn cael cyfleoedd ymchwil, rydym yn cael cyfleoedd cyfnewid, mae ein pobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu oddi wrth bobl eraill sy'n ymgymryd â rhaglenni galwedigaethol a swyddi dan hyfforddiant a phrentisiaethau. Rwy'n yn mawr obeithio, yn y trafodaethau yr ydym yn awr yn cychwyn arnynt gyda'r UE, y bydd y cyfleoedd diwylliannol a dysgu hyn, y mae Cymru wedi bod yn arweinydd ac yn fuddiolwr o'r dysgu ar y cyd sydd wedi ei gynnal, yn gallu parhau i ddigwydd. Nid yr arian yn unig sy'n bwysig yn y pethau hyn. Mae'n ymwneud yn helaeth â'r hyn sy'n gweithio. O ran rhai o'ch cwestiynau eraill, gallaf eich sicrhau nad oes unrhyw gwestiwn o wneud arbedion ariannol yn hyn. Nid yw hyn yn ymwneud â'r gyllideb gyffredinol. Mae hyn yn ymwneud â'r rhaglen llwybrau sgiliau. Rwy'n credu eich bod wedi chwifio'r fersiwn bapur o honno. Mae'n edrych ychydig fel map o'r tiwb. Y syniad yw eu gwneud yn rhywbeth llawer mwy syml i'w defnydddio i bobl sy'n dderbynnydd un o'r rhaglenni neu yn wir fel cynghorydd - rhiant efallai os ydych yn ifanc, neu bartner, ac yn y blaen - yn cynghori rhywun drwy'r rhaglen. Felly, map rhyngweithiol yw'r hyn yr ydych yn edrych arno yn y fan yna. Dylech fod yn gallu clicio ar y nôd a dylai ddweud wrthych ble'r ydych chi, a dylech chi fod yn gallu dilyn yn weddol gyflym i gael eich hun at y peth iawn. Rydych chi wedi fy nghlywed yn dweud droeon yn y Cynulliad blaenorol mai'r anhawster â'r rhaglenni cyflogadwyedd yw nad ydych yn dymuno, o dan unrhyw amgylchiadau, creu un rhaglen sy'n addas i bawb. Mae pobl yn unigolion; mae angen cymorth unigol arnynt. Yn aml, nid yw un pecyn ar gyfer pawb yn addas ar eu cyfer. Felly, mae hyn yn ymwneud â theilwra'r pecynnau hynny. Mae'r rhaglenni cyflogadwyedd wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond mae angen amrywiaeth wahanol o gymorth ar bobl sy'n bellach i ffwrdd o'r farchnad swyddi, i'w cael i mewn i'r cyfleoedd cyflogaeth hynny ac i'w cadw yno mewn gwirionedd. Nid dim ond cael y swydd ac yna cerdded i ffwrdd yw hyn; mae'n ymwneud â'u cadw yn y swydd honno a sicrhau bod y dulliau cymorth ar waith i'w cynnal yno. O bethau syml fel y ffaith mai eich mis cyntaf yn y gwaith weithiau yw'r mis drutaf y byddwch chi byth yn ei brofi - nid ydych chi wedi cael cyflog ac mae gennych yr holl gostau i'w talu. Felly, mae'n rhywbeth syml o'r math hwnnw, hyd at bob un o'r anawsterau o fynd trwy fywyd teuluol, gwaith ac yn y blaen os ydych wedi bod yn ddi-waith am gyfnod sylweddol o amser. Felly, mae hyn yn ymwneud â theilwra cyfres o raglenni llwyddiannus ar gyfer unigolion sy'n fwy anodd eu cyrraedd wrth i'r pwyslais economaidd gau. Nawr, nid ydym yn gwybod beth fydd canlyniad trafodaethau yr Undeb Ewropeaidd, felly y peth arall yw bod yn hyblyg yn wyneb ansicrwydd. Felly, mae hyn yn ymwneud â gwneud y rhaglenni mor hyblyg â phosibl i ymateb i ddyfodol ansicr. Efallai bydd gennym rywfaint o dwf, ac os felly mae angen i ni ymateb i unigolion sy'n fwy anodd eu cyrraedd; mae'n bosibl y bydd gennym ddiswyddiadau ac yn y blaen, ac os felly mae angen i ni ymateb, yn effeithiol, â dulliau rheoli argyfwng tymor byr, fel gyda ReAct. Felly, mae'r rhaglenni hyn yn cael eu cynllunio i fod mor hyblyg â phosibl o fewn y cyfyngiadau y maent yn gweithredu oddi mewn iddynt. Y peth olaf yr wyf eisiau ei ddweud am hynny yw nad yw'n un brand, er ein bod yn ei alw yn llinynnau Sgiliau Cyflogadwyedd. Bydd rhaglenni unigol yn rhan ohonynt, ond y syniad yw eu gwneud yn hyblyg, caniatáu i bobl symud yn ôl ac ymlaen. Rydym yn cael peth anhawster wrth drafod â'r Adran Gwaith a Phensiynau am eu bod hwy eu hunain wedi newid paramedrau eu rhaglen a bod yr amodau wedi newid, i gymysgu fy nhrosiadau dros bob man. Mae'r amodau wedi newid yn eithaf sylweddol yn ystod y chwe mis diwethaf. Rydym mewn trafodaethau manwl â nhw a gyda'r cytundebau dinesig amrywiol o amgylch Cymru a'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod gennym gynnig cydlynol sy'n cyfateb â chynnig Llywodraeth y DU ac yn y blaen. I ateb eich cwestiwn cyntaf yn olaf, o ran datganoli, byddem yn hoffi cael rhagor o bwerau ynghylch sut i asesu pobl a sut i'w cael ar y rhaglenni, ond byddwch yn gwybod ein bod wedi dweud ers tro na fyddwn yn derbyn rhai o'r canlyniadau llai effeithiol - yn fy marn i - gyda rhaglenni'r Adran Gwaith a Phensiynau, fel gorfodi a chosbi, er enghraifft. Felly, mae'n ymwneud â'r hyn y gallwn ei negodi er mwyn cadw ein rhaglenni cyflogaeth yn agored ac yn dderbyniol i bawb.
Thank you. We are now halfway through the allocated time, and we've got three speakers. I call Dawn Bowden.
Diolch. Rydym nawr hanner ffordd drwy'r amser sydd wedi ei neilltuo, ac mae gennym dri siaradwr. Galwaf ar Dawn Bowden.
Thank you, acting Presiding Officer. It's a very brief question. Minister, in addition to the support for apprenticeship programmes, European structural funds did provide for discrete training towards vocational skills and qualifications, and such qualification-focused training is currently provided both in our further education colleges in Wales and through private learning providers. This training is clearly an important element in ensuring that there's a suitably trained and skilled workforce for businesses looking to set up in local communities. A prime example of that would be the Tenneco-Walker arrangement in Merthyr, which required skilled welders when setting up the new factory there, in Merthyr Tydfil. Would the Minister agree with me that, should pressures on funding for such schemes arise in the future, any funding should be prioritised towards further education colleges to deliver this crucial training, rather than being channelled towards private learning providers to maximise the moneys kept within the system?
Diolch i chi, Lywydd dros dro. Cwestiwn byr iawn sydd gennyf. Weinidog, yn ogystal â'r cymorth ar gyfer rhaglenni prentisiaeth, roedd cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yn darparu ar gyfer hyfforddiant arwahanol ar gyfer sgiliau a chymwysterau galwedigaethol, a darperir hyfforddiant o'r fath sy'n canolbwyntio ar gymhwysterau ar hyn o bryd yn ein colegau addysg bellach yng Nghymru a thrwy ddarparwyr dysgu preifat. Mae'r hyfforddiant hwn yn amlwg yn elfen bwysig wrth sicrhau bod gweithlu hyfforddedig â sgiliau addas ar gael ar gyfer busnesau sy'n awyddus i sefydlu mewn cymunedau lleol. Enghraifft amlwg o hynny fyddai trefniant Tenneco-Walker ym Merthyr, a oedd angen weldwyr medrus wrth sefydlu'r ffatri newydd yno, ym Merthyr Tudful. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi, pe byddai pwysau ar gyllid ar gyfer cynlluniau o'r fath yn codi yn y dyfodol, y dylai unrhyw arian gael ei flaenoriaethu tuag at golegau addysg bellach i ddarparu'r hyfforddiant hanfodol hwn, yn hytrach na chael ei sianelu tuag at ddarparwyr dysgu preifat i sicrhau bod y swm uchaf posibl o arian yn cael ei gadw yn y system?
Well, we have a complex system of contract arrangements in place to provide work-based learning via a system of main contracts and then subcontracts; and actually, it's quite a complex picture. Sometimes the further education colleges are subcontractors to the main contractor and vice versa. What I am able to confirm to the Member is that we do prioritise very much the needs of qualification-based learning based on particular employment opportunities, as identified through the regional skills partnerships. We keep the way that we fund those very much under review, with a view - as I said on the previous question - to being as flexible as possible, to be as responsible as possible, depending on what happens. It's a very complex and detailed question and the acting Presiding Officer is going to be very cross with me if I answer it in detail. So, I'm more than happy to have another discussion with you elsewhere.
Wel, mae gennym system gymhleth o drefniadau contract wedi'i sefydlu i ddarparu dysgu yn y gwaith drwy system o brif gontractau ac wedyn is-gontractau; ac mewn gwirionedd, mae'n ddarlun eithaf cymhleth. Weithiau, mae'r colegau addysg bellach yn is-gontractwyr i'r prif gontractwr ac i'r gwrthwyneb. Yr hyn y gallaf ei gadarnhau i'r Aelod yw ein bod yn rhoi cryn flaenoriaeth i anghenion dysgu sy'n seiliedig ar gymwysterau sy'n seiliedig ar gyfleoedd cyflogaeth penodol, fel y nodwyd drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Rydym yn adolygu'r ffordd yr ydym yn ariannu'r rheini, gyda'r bwriad - fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn blaenorol - o fod mor hyblyg â phosibl, o fod mor gyfrifol ag y bo modd, yn dibynnu ar yr hyn fydd yn digwydd. Mae'n gwestiwn cymhleth a manwl iawn a bydd y Llywydd yn flin iawn â mi os gwnaf ei ateb yn fanwl. Felly, rwy'n fwy na pharod i gael trafodaeth arall gyda chi mewn man arall.
I thank the Minister for her statement today. On behalf of the Welsh Conservatives, I give a broad welcome to the aims and objectives contained in this statement today. Improving the skills of the Welsh people will lead to a more prosperous society, with higher rates of employment and a lower level of poverty, and it will reduce inequality in Wales. We know that the skills of the Welsh workforce lag behind not only the more prosperous regions of the United Kingdom, but also the world's leading advanced countries. So, can I ask the Minister how she will encourage collaborative working between all aspects of the education system and the business community, and promote more choices for learners? Unemployment rates in our most disadvantaged areas remain stubbornly high. Apprenticeships are best suited to people who learn best in a practical setting. Will the Minister expand on her plans to prioritise investment in our most disadvantaged areas to develop employability and help people into jobs? For the Welsh Government's strategy to succeed, it must have the confidence of employers. Can the Minister assure this Assembly that the views of businesses were taken into account when formulating her policies, and will she increase support for businesses in Wales? Businesses have expressed concerns in the past about the levels of literacy and numeracy of working-age adults. How will the Minister address this problem here? Finally, Deputy Presiding Officer, I would like to know how the Minister proposes to monitor progress towards her aims to ensure she delivers the highly trained workforce needed to reduce poverty, encourage businesses to grow, and to regenerate our most deprived communities in the Valleys and Wales.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, rwyf yn rhoi croeso cyffredinol i'r nodau a'r amcanion sydd wedi eu cynnwys yn y datganiad hwn heddiw. Bydd gwella sgiliau pobl Cymru yn arwain at gymdeithas fwy ffyniannus, gyda chyfraddau uwch o gyflogaeth a lefel is o dlodi, a bydd yn lleihau anghydraddoldeb yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod sgiliau'r gweithlu yng Nghymru ar ei hôl hi o'i gymharu â nid yn unig rhanbarthau mwy ffyniannus y Deyrnas Unedig ond hefyd gwledydd datblygedig blaenllaw'r byd. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog sut y bydd yn annog cydweithio rhwng pob agwedd ar y system addysg a'r gymuned fusnes, ac yn hyrwyddo mwy o ddewisiadau i ddysgwyr? Mae cyfraddau diweithdra yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel. Mae prentisiaethau yn fwyaf addas ar gyfer pobl sy'n dysgu orau mewn lleoliad ymarferol. A wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ar ei chynlluniau i flaenoriaethu buddsoddiad yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig i ddatblygu cyflogadwyedd a helpu pobl i gael swyddi? Er mwyn i strategaeth Llywodraeth Cymru lwyddo, mae'n rhaid bod gan gyflogwyr hyder ynddi. A all y Gweinidog roi sicrwydd i'r Cynulliad hwn bod barn busnesau wedi ei ystyried wrth lunio ei pholisïau, ac a fydd hi'n cynyddu'r cymorth i fusnesau yng Nghymru? Mae busnesau wedi mynegi pryderon yn y gorffennol ynghylch lefelau llythrennedd a rhifedd oedolion o oedran gweithio. Sut y bydd y Gweinidog yn ymdrin â'r broblem honno yma? Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn wybod sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu monitro cynnydd tuag at ei nod o sicrhau ei bod yn darparu'r gweithlu tra hyfforddedig sydd ei angen er mwyn lleihau tlodi, annog busnesau i dyfu, ac adfywio ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn y Cymoedd ac yng Nghymru.
Thank you very much for that series of questions. I think the issue around employer confidence is an interesting one. We had an extensive consultation over the summer - last summer - with employers on our apprenticeships programmes, which was completely upended by the announcements at UK level of the apprenticeship levy, which cut straight across that. Members who were here in the fourth Assembly will remember my consternation that we had to stop that consultation while we figured out what on earth was going on with the apprenticeship levy, and I'm sad to say that we're still in a position where we're not quite sure how much money, if any money, will come to the Welsh Government as a result of that levy. So, that has caused a considerable amount of unease, shall we say, with employers, because it hasn't been possible to provide certainty, either at the UK level or at the Welsh level. Indeed, we're in a series of correspondence and meetings with various Ministers, trying to sort that out. So, I agree with him that employer confidence could be higher in that system, but I don't agree with him that the Welsh Government is in any way responsible for that. Indeed, I would ask him to look to the Government at UK level - controlled by the Conservative Party, I think - and ask what added value this apprenticeship levy has actually wrought into this system, because, frankly, I can't see it. In terms of our own programmes, they are highly sought after by our employers. We have one of the highest completion rates in Europe, at 86 per cent. Some of our providers are up in the 90 per cent completion rates. That's how we monitor progress - by completion rate, and then employment following the frameworks. We also have flexible frameworks so that employers who require - . For example, very recently, we had a shortage of people with long-distance lorry driving skills. We were able to put a framework in place to fill that gap very swiftly, and that's proved very successful. We have a very flexible programme that allows us to respond to that sort of demand. In terms of the skills overall, the Member will remember that we have discussed many times in this Chamber our need to move to higher skills, away from base-level skills and apprenticeships, and that our programme now embraces an all-age apprenticeship system, which allows people to progress to higher-level apprenticeships right up to degree and postgraduate level - very much sought after by some of our prestigious employers, such as Airbus, GE Aviation, and so on. A large number of them; those are just two. We're very proud of that and we'll be continuing to do that. We're also looking at the essential skills programme very carefully to ensure that it's accessible to those people who still need the essential skills that the Member pointed out.
Diolch yn fawr i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Rwy'n credu bod y mater yn ymwneud â hyder cyflogwyr yn un diddorol. Cawsom ymgynghoriad eang dros yr haf - yr haf diwethaf - gyda chyflogwyr ar ein rhaglenni prentisiaethau, a gafodd ei droi ar ei ben yn llwyr gan y cyhoeddiadau ar lefel y DU am yr ardoll prentisiaeth, a dorrodd yn syth ar draws hynny. Bydd aelodau a oedd yma yn y pedwerydd Cynulliad yn cofio fy mhryder bod yn rhaid inni roi'r gorau i'r ymgynghoriad hwnnw tra ein bod yn ceisio deall beth ar y ddaear oedd yn digwydd gyda'r ardoll prentisiaeth, ac rwy'n drist i ddweud ein bod yn dal i fod mewn sefyllfa lle nad ydym yn hollol siŵr faint o arian fydd, os bydd arian o gwbl, yn dod i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r ardoll honno. Felly, mae hynny wedi achosi cryn dipyn o anesmwythyd, gadewch i ni ddweud, gyda chyflogwyr, gan nad yw wedi bod yn bosibl darparu sicrwydd, naill ai ar lefel y DU nac ar lefel Cymru. Yn wir, rydym mewn cyfres o ohebiaeth a chyfarfodydd gydag amrywiol Weinidogion, yn ceisio datrys hynny. Felly, yr wyf yn cytuno ag ef y gallai hyder cyflogwyr fod yn uwch yn y system honno, ond nid wyf yn cytuno ag ef bod Llywodraeth Cymru mewn unrhyw ffordd yn gyfrifol am hynny. Yn wir, byddwn yn gofyn iddo edrych ar y Llywodraeth ar lefel y DU - a reolir gan y Blaid Geidwadol, rwy'n credu - a gofyn pa werth ychwanegol y mae'r ardoll prentisiaeth hon wedi ei gyfrannu i'r system hon, mewn gwirionedd, oherwydd, a dweud y gwir, ni allaf i ei weld. O ran ein rhaglenni ein hunain, mae galw mawr amdanynt gan ein cyflogwyr. Mae gennym un o'r cyfraddau cwblhau uchaf yn Ewrop, sef 86 y cant. Mae rhai o'n darparwyr i fyny yn y cyfraddau cwblhau 90 y cant. Dyna sut yr ydym yn monitro cynnydd - yn ôl cyfradd cwblhau, ac yna cyflogaeth yn dilyn y fframweithiau. Mae gennym hefyd fframweithiau hyblyg fel bod cyflogwyr sydd angen - . Er enghraifft, yn ddiweddar iawn, roedd gennym brinder o bobl â sgiliau gyrru lori pellter hir. Roeddem yn gallu rhoi fframwaith ar waith i lenwi'r bwlch hwnnw yn gyflym iawn, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae gennym raglen hyblyg iawn sy'n ein galluogi i ymateb i'r math hwnnw o alw. O ran y sgiliau cyffredinol, bydd yr Aelod yn cofio ein bod wedi trafod sawl gwaith yn y Siambr hon ein hangen i symud i sgiliau uwch, i ffwrdd o sgiliau lefel sylfaen a phrentisiaethau, a bod ein rhaglen bellach yn cwmpasu system brentisiaethau i bob oedran, sy'n galluogi pobl i symud ymlaen i brentisiaethau lefel uwch hyd at lefel gradd ac ôl-radd - y mae galw mawr amdanynt gan rai o'n cyflogwyr blaenllaw, megis Airbus, GE Aviation, ac yn y blaen. Mae nifer fawr ohonynt; dim ond dau ohonynt yw'r rhain. Rydym yn falch iawn o hynny a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym hefyd yn edrych ar y rhaglen sgiliau hanfodol yn ofalus iawn er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch i'r bobl hynny sy'n dal i fod angen y sgiliau hanfodol y soniodd yr Aelod amdanynt.
Thank you, acting Presiding Officer, and thank you, Minister, for your statement. I think your approach is entirely sensible. If we have less money to work with, then it's very important that we eliminate duplication of effort. Therefore, I welcome your proposal to create the Employability Skills programme, bringing all these other different programmes together. I particularly pay tribute to the Jobs Growth Wales programme, which has been really significant for many, many of my constituents in really giving them the leg up into successful careers that, without that first taste of work, they might not have made it and they could be not having a successful work life. I welcome your reassurances about the importance of giving individual support depending on individual need. Of course, it's really important to recognise that, if people have been outside the labour market for a period of time, some people become agoraphobic and need a lot of work to persuade them to get back into society as well as into the rigours of work. I wondered how well we continue to ensure that our schools and colleges are completely focused on ensuring that all individual needs are met, because I was shocked recently to identify somebody who has clearly been on the autistic spectrum all their life and it was never spotted in either their schools or their colleges - it's only now being identified. So, we need to make sure that individual learning needs are identified early on, because further education colleges do a fantastic job for people who've fallen between the cracks in the school education system and they give new hope to people who've not had a successful school career. But we surely ought to be preventing that sort of thing happening overall. I've been to a couple of conferences recently where people have been saying, 'What's going to happen to training if we're going to lose all the money coming from the EU?' Well, obviously, we have to make sure that the Welsh Government is ensuring that the Westminster Government delivers on the promises made by the 'leave' programme, because we continue to need that training. But we also I think we have to ensure that businesses, trainers and Government are saying, 'Well, we've got to keep going in any case', because we can't possibly not meet the gaps in skills that we're going to need for the transformative programmes we must have, like the metro, like the smarter energy programme - tapping into our wealth of sustainable energy - like our sustainable housing programme, so that we build the houses of the future that generate energy rather than leaking energy. For them, we need people with very detailed skills. So, I think the challenge for us is both to ensure that we create the skills that are required by businesses, both across the public as well as the private sector, but we also retain them for Wales because, otherwise, we're simply creating the skills that other parts of the UK need and we're subsidising them and that's obviously not fair. So, I think it's a difficult balance, but I welcome your statement and hope that we can continue to make to progress despite less money.
Diolch i chi, Lywydd dros dro, a diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n meddwl bod eich dull yn gwbl synhwyrol. Os oes gennym lai o arian i'w ddefnyddio, yna mae'n bwysig iawn ein bod yn cael gwared ar ddyblygu ymdrech. Felly, rwy'n croesawu eich cynnig i greu'r rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd, gan ddod â'r holl wahanol raglenni eraill hyn at ei gilydd. Rwy'n talu teyrnged arbennig i'r rhaglen Twf Swyddi Cymru, sydd wedi bod yn hynod o bwysig i lawer iawn o fy etholwyr i, o ran rhoi help llaw gwirioneddol iddynt i mewn i yrfaoedd llwyddiannus, na fyddent efallai, heb y blas cyntaf hwnnw o waith, wedi gallu gwneud hynny a gallent beidio â bod â bywyd gwaith llwyddiannus. Rwy'n croesawu eich sicrwydd ynghylch pwysigrwydd rhoi cymorth unigol yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn. Wrth gwrs, mae'n bwysig iawn cydnabod, os yw pobl wedi bod y tu allan i'r farchnad lafur am gyfnod o amser, bod rhai pobl yn mynd yn agoraffobig a bod angen llawer o waith i'w perswadio i fynd yn ôl i gymdeithas yn ogystal ag yn ôl i drafferthion gwaith. Roeddwn i'n pendroni tybed pa mor dda yr ydym yn parhau i sicrhau bod ein hysgolion a'n colegau yn canolbwyntio'n llwyr ar sicrhau bod yr holl anghenion unigol yn cael eu diwallu, oherwydd cefais fy syfrdanu yn ddiweddar wrth nodi rhywun sydd yn amlwg wedi bod ar y sbectrwm awtistig drwy ei holl fywyd ond ni nodwyd hynny erioed yn ei ysgolion na'i golegau - dim ond nawr mae'n cael ei nodi. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr bod anghenion dysgu unigol yn cael eu nodi'n gynnar, gan fod colegau addysg bellach yn gwneud gwaith gwych dros bobl nad ydynt wedi cael y cymorth angenrheidiol yn y system addysg ysgol ac maent yn rhoi gobaith newydd i bobl nad ydynt wedi cael gyrfa ysgol lwyddiannus. Ond dylem yn sicr fod yn atal y math hwn o beth rhag digwydd yn gyffredinol. Rwyf wedi bod i un neu ddwy o gynadleddau yn ddiweddar lle mae pobl wedi bod yn dweud, 'Beth sy'n mynd i ddigwydd i hyfforddiant os ydym ni'n mynd i golli'r holl arian sy'n dod o'r UE?' Wel, yn amlwg, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Llywodraeth San Steffan yn cyflawni'r addewidion a wnaed gan y rhaglen 'gadael', oherwydd rydym yn parhau i fod angen yr hyfforddiant hwnnw. Ond rydym hefyd, rwy'n credu, yn gorfod sicrhau bod busnesau, hyfforddwyr a'r Llywodraeth yn dweud, 'Wel, mae'n rhaid i ni gadw i fynd beth bynnag', oherwydd ni allwn fodloni'r bylchau mewn sgiliau y bydd eu hangen arnom ar gyfer y rhaglenni trawsnewidiol y bydd yn rhaid i ni eu cael, fel y metro, fel y rhaglen ynni craffach - sy'n manteisio ar ein cyfoeth o ynni cynaliadwy - megis ein rhaglen tai cynaliadwy, fel ein bod yn adeiladu tai y dyfodol sy'n cynhyrchu ynni yn hytrach na gollwng ynni. Ar eu cyfer nhw, mae arnom angen pobl sydd â sgiliau manwl iawn. Felly, rwy'n credu mai'r her i ni yw sicrhau ein bod yn creu'r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau, ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yn ogystal â'r sector preifat, ond ein bod hefyd yn eu cadw ar gyfer Cymru oherwydd, fel arall, rydym ni ond yn creu sgiliau sydd eu hangen ar rannau eraill o'r DU, ac rydym ni'n eu noddi ac yn amlwg nid yw hynny'n deg. Felly, rwy'n credu ei fod yn gydbwysedd anodd, ond rwy'n croesawu eich datganiad ac yn gobeithio y gallwn barhau i symud ymlaen er gwaethaf cael llai o arian.
Thank you very much for those questions. I'd just like to say that I'm working very closely with my colleagues, the Cabinet Secretary for Education and the Minister for Lifelong Learning and Welsh Language, in ensuring that the transition stages between all areas of education are as seamless as possible and that we pick up individual learner needs at those times so that we correctly identify them. This is for two reasons: one, to benefit the individual concerned, but also so that we don't spend money needlessly several times and before somebody gets themselves into the right tracks. That's a very expensive way of going about it. We're also working closely, all of us across Government, on making sure that vocational education takes its rightful place in schools and colleges in order to ensure that people go that right route in the first place and don't go into higher education and then go back and start an apprenticeship programme where that's inappropriate. So, we're doing a lot of work across Government on those two aspects and I have no doubt one of us will be bringing a statement back to say how we got on with that in the autumn term. But it's a very important point. The other thing to say is that those companies that train in Wales do a lot of training, but we still have a stubborn number of companies that don't do any training. We're doing a little bit of an evangelical programme to make sure that companies that don't currently train understand the need for it. I want to share what seems like a little bit of a trite saying, but it really says it all. If you say, as you rightly said, 'What happens if we train people and they leave?', the question you ought to ask is: 'What happens if you don't train people and they stay?', which is a much more important question for most businesses. That's the mindset that we want to get into our businesses: that, actually, a well-qualified and engaged workforce is more loyal, more productive and more likely to benefit your business than a low-skilled, unproductive workforce that you're desperately hanging on to until they can desperately find somewhere else to go - that's not the picture of the economy we're trying to paint. Indeed, we have several companies that are shining beacons of training. I recently visited Admiral, which has a fantastic programme of employability skills, but also just life skills, that they offer to their employees. They have exemplary retention and productivity levels inside the company as a result of that. Dŵr Cymru is another - there are several examples of that. We learn from those experiences all the way through. So, I think that what I'm really announcing today is a comprehensive programme to pull our things together to make them more easily navigable, to persuade people that training is the right way to go to make sure that we meet the skills needs of the future and to ensure that people who have specific learning difficulties and needs are picked up in that programme as they go by putting the right identifiers in the system.
Diolch yn fawr i chi am y cwestiynau yna. Hoffwn ddweud fy mod i'n gweithio yn agos iawn gyda fy nghydweithwyr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, o ran sicrhau bod y cyfnodau pontio rhwng pob maes addysg mor llyfn â phosibl a'n bod yn nodi anghenion dysgwyr unigol ar yr adegau hynny er mwyn inni eu nodi yn gywir. Mae hyn am ddau reswm: un, er budd yr unigolyn dan sylw, ond hefyd er mwyn sicrhau nad ydym yn gwario arian yn ddiangen sawl gwaith a chyn i rywun gael ei hun ar y llwybr cywir. Mae hynny'n ffordd ddrud iawn o wneud pethau. Rydym ni hefyd yn gweithio'n agos, pob un ohonom ym mhob rhan o'r Llywodraeth, ar sicrhau bod addysg alwedigaethol yn cael lle haeddiannol mewn ysgolion a cholegau er mwyn sicrhau bod pobl yn dilyn y llwybr cywir hwnnw yn y lle cyntaf ac nad ydynt yn mynd i addysg uwch ac yna yn mynd yn ôl a dechrau rhaglen brentisiaeth pan fo hynny'n amhriodol. Felly, rydym yn gwneud llawer o waith ym mhob rhan o'r Llywodraeth ar y ddwy agwedd hyn ac nid oes gennyf amheuaeth y bydd un ohonom yn dod â datganiad yn ôl i ddweud sut y gwnaethom ddod ymlaen â hynny yn ystod tymor yr hydref. Ond mae'n bwynt pwysig iawn. Y peth arall i'w ddweud yw bod y cwmnïau hynny sy'n hyfforddi yng Nghymru yn gwneud llawer o hyfforddiant, ond mae gennym nifer ystyfnig o gwmnïau nad ydynt yn gwneud unrhyw hyfforddiant. Rydym yn gwneud ychydig o waith efengylu i wneud yn siŵr bod cwmnïau nad ydynt yn hyfforddi ar hyn o bryd yn deall yr angen amdano. Rwyf i am rannu'r hyn sy'n ymddangos yn ddywediad braidd yn ystrydebol, ond mae'n dweud y cyfan. Os ydych yn dweud, fel y gwnaethoch chi yn gywir, 'Beth sy'n digwydd os ydym ni'n hyfforddi pobl a'u bod yn gadael?', y cwestiwn y dylech ei ofyn yw: 'Beth sy'n digwydd os nad ydych chi'n hyfforddi pobl a'u bod yn aros?', sy'n gwestiwn llawer mwy pwysig ar gyfer y rhan fwyaf o fusnesau. Dyna'r meddylfryd yr ydym eisiau ei sefydlu yn ein busnesau: sefbod gweithlu â chymwysterau da sy'n ymgysylltu, mewn gwirionedd yn fwy teyrngar, yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy tebygol o fod o fudd i'ch busnes na gweithlu anghynhyrchiol â sgiliau isel yr ydych yn gwneud eich gorau glas i ddal eich gafael arnynt hyd nes y gallant ddod o hyd i rywle arall y maent yn daer am fynd iddo - nid dyna'r darlun o'r economi yr ydym yn ceisio ei greu. Yn wir, mae gennym nifer o gwmnïau sy'n esiamplau disglair o ddarparwyr hyfforddiant. Yn ddiweddar, ymwelais ag Admiral, sydd â rhaglen wych o sgiliau cyflogadwyedd, ond hefyd sgiliau bywyd, y maent yn eu cynnig i'w gweithwyr. Mae ganddynt lefelau cadw a chynhyrchiant rhagorol y tu mewn i'r cwmni o ganlyniad i hynny. Mae Dŵr Cymru yn un arall - mae sawl enghraifft o hynny. Rydym yn dysgu o'r profiadau hynny yr holl ffordd trwodd. Felly, rwy'n credu mai'r hyn yr wyf i yn ei gyhoeddi heddiw yw rhaglen gynhwysfawr i dynnu ein pethau at ei gilydd er mwyn eu gwneud yn haws eu defnyddio, i berswadio pobl mai hyfforddiant yw'r ffordd iawn o wneud yn siŵr ein bod yn diwallu anghenion sgiliau y dyfodol ac i sicrhau bod pobl sydd ag anawsterau ac anghenion dysgu penodol yn cael eu nodi yn y rhaglen honno, wrth iddynt fwrw ymlaen drwyddi, trwy roi'r dynodwyr cywir yn y system.
We'll now move on to agenda item 10, to debate the 'Together for Mental Health' delivery plan, and I call on the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport to move the motion - Vaughan Gething.
Byddwn yn awr yn symud ymlaen at eitem 10 ar yr agenda, i drafod y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i gynnig y cynnig - Vaughan Gething.
Thank you, Chair. I formally move the motion for debate, and I'm pleased to present the Welsh Government's second delivery plan in support of our 10-year mental health strategy, 'Together for Mental Health'. Since the launch of the strategy in 2012, there's been significant progress across a number of areas. Much of that progress can, of course, go largely unnoticed, but every day across Wales we see evidence that change is happening, making a difference to individuals whose lives are affected by mental health problems. One significant area where this has happened is in the implementation of our groundbreaking legislation, the Mental Health (Wales) Measure 2010, and it's fair to say that this was passed with cross-party support in the third Assembly. Implementing it has made real improvements to the care and support that individuals receive and in delivering a genuinely co-productive approach that places the needs of service users at the heart of service design and care and treatment planning, and that is something that we should be proud of. Since April 2013, over 100,000 people have been assessed by local primary mental health support services that were established under the Measure, with over half of those having gone on to receive treatment in those services. Waiting times for assessment and treatment in primary care have continued to improve. We've also seen the third sector taking a more active role in the way that mental health services are shaped and delivered through recent years. It is a good example of prudent health and care principles in practice. For instance, the Alzheimer's Society's dementia friends initiative is increasing the understanding of dementia and helping to tackle the stigma, and Bipolar UK offers a range of practical support to people affected by bipolar disorder. We've continued to spend more on mental health services than on any other part of the Welsh NHS, and funding increased to over £600 million in the last year. In the past year alone, we announced over £22 million of new funding aligned to our priority areas for delivery over the next three years. That includes over £5.5 million for older people's mental health care, which will support, amongst other things, the establishment of a multidisciplinary older adult psychiatric liaison service to help with quicker and more appropriate discharge from hospital and, hopefully, to reduce readmission rates. Also, £1.5 million is being invested in developing accessible community perinatal mental health services across Wales, which should help to improve mental health outcomes for women with perinatal illnesses, their babies and their families. In child and adolescent mental health services, to support our together for children and young people programme, a further £7.6 million has been allocated to fund new community services for attention deficit hyperactivity disorder and autism, and better access to crisis services and psychological therapies. So, we've made real progress over the last year, including reducing out-of-area placements for Welsh children, and new services are starting to establish themselves well after a period of successful recruitment into those services. The changes in CAMHS are the most significant for many years. By ensuring appropriate resources are available, we will help to achieve timely access to services and the right outcomes for children and young people. All of these commitments are built into the delivery plan to ensure there is a continuing focus on these key areas. Our new delivery plan also commits us to further improving access to talking therapies. Significant steps have been taken to improve the provision of psychological therapies in Wales, with an additional investment of nearly £2 million in adult services last year, and more than £1 million this year. More evidence-based psychological therapies are being provided locally than ever before. The past three years have shown us that, while delivering our 'Together for Mental Health' strategy has been challenging, it has also been achievable, but, of course, there is much more to do. So, the draft delivery plan for 2016-19 that we're debating today contains a number of ambitious new objectives, including resilience building and improved support for our young people, particularly those at risk of adverse childhood experiences; further addressing and preventing suicide and self-harm; and a new strategic action plan for dementia; implementation of the crisis care concordat to ensure appropriate support is provided to individuals in contact with criminal justice agencies; and a range of actions to ensure services are provided in a safe, timely and effective way that supports the dignity and respect of service users; and there is a continued emphasis on ensuring that service users and carers are able to influence the shape of mental health policy and services across Wales. We know that stigma and discrimination continue to be major challenges. That's why, in recent years, we've supported, together with Members across the Chamber, the Time to Change Wales campaign, increasing knowledge and understanding about mental health problems and getting people to start talking about mental health. Our new delivery plan places even greater emphasis on tackling stigma and discrimination. Respondents to our consultation have welcomed the life-course approach that we've adopted in the plan, but have pointed out that some issues apply to people of all ages, for example loneliness and isolation. Respondents also made suggestions as to how the plan could be strengthened, including using the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 as a lever for cross-sector commitment and delivery, and building in the delivery role of the third sector and considering the physical health needs of people with mental health illnesses. We're giving careful consideration to all of the consultation responses, and the final version of the plan will incorporate many of the helpful suggestions that we have received, and, of course, I look forward to considering the comments made in this debate today. We also participate in an international benchmarking exercise on mental health services, and any relevant findings from that process will be incorporated into the final version of the delivery plan, which we intend to publish later this summer. I trust that Members from all parties will recognise our shared achievements to date and appreciate that we haven't taken soft options in setting our objectives for the three years ahead. Not all of the ambitions we've set out will be easy to achieve, but I'm confident that real progress can be made in the next phase of delivery.
Diolch, Gadeirydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar gyfer dadl, ac rwy'n falch o gyflwyno ail gynllun cyflawni Llywodraeth Cymru i gefnogi ein strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Ers lansio'r strategaeth yn 2012, bu cynnydd sylweddol ar draws nifer o feysydd. Gall llawer o'r cynnydd hwnnw, wrth gwrs, fynd heb i neb sylwi arno, ond bob dydd ar draws Cymru rydym yn gweld tystiolaeth bod newid yn digwydd, gan wneud gwahaniaeth i unigolion y problemau iechyd meddwl yn effeithio ar eu bywydau. Un maes pwysig lle mae hyn wedi digwydd yw wrth weithredu ein deddfwriaeth arloesol, Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, ac mae'n deg dweud bod hyn wedi cael ei basio gyda chefnogaeth drawsbleidiol yn y trydydd Cynulliad. Mae ei weithredu wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol i'r gofal a'r gefnogaeth y mae unigolion yn eu derbyn ac o ran darparu agwedd wirioneddol gyd-gynhyrchiol sy'n gosod anghenion defnyddwyr y gwasanaeth wrth wraidd y gwaith o gynllunio gwasanaethau a chynllunio gofal a thriniaeth, ac mae hynny'n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono. Ers mis Ebrill 2013, mae dros 100,000 o bobl wedi cael eu hasesu gan y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol a sefydlwyd o dan y Mesur, ac mae dros hanner y rheini wedi mynd ymlaen i dderbyn triniaeth yn y gwasanaethau hynny. Mae amseroedd aros am asesiad a thriniaeth mewn gofal sylfaenol wedi parhau i wella. Rydym hefyd wedi gweld y trydydd sector yn cymryd rhan fwy gweithredol yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd meddwl eu llunio a'u cyflwyno trwy'r blynyddoedd diwethaf. Mae'n enghraifft dda o egwyddorion iechyd a gofal doeth ar waith. Er enghraifft, mae menter ffrindiau dementia'r Gymdeithas Alzheimer yn cynyddu dealltwriaeth o ddementia ac yn helpu i fynd i'r afael â'r stigma, ac mae Bipolar UK yn cynnig ystod o gymorth ymarferol i bobl yr effeithir arnynt gan anhwylder deubegynol. Rydym wedi parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r GIG yng Nghymru, a chynyddodd yr arian i dros £600 miliwn yn y flwyddyn ddiwethaf. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, cyhoeddwyd dros £22 miliwn o arian newydd yn cyd-fynd â meysydd blaenoriaeth ar gyfer cyflawni dros y tair blynedd nesaf. Mae hynny'n cynnwys dros £5.5 miliwn ar gyfer gofal iechyd meddwl pobl hŷn, a fydd yn cefnogi, ymysg pethau eraill, sefydlu gwasanaeth cyswllt seiciatrig i oedolion hŷn amlddisgyblaethol i helpu gyda rhyddhau cleifion yn gyflymach ac yn fwy priodol o'r ysbyty a, gobeithio, gostwng cyfraddau aildderbyn. Hefyd, mae £1.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn datblygu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol cymunedol hygyrch ar draws Cymru. Dylai hyn helpu i wella canlyniadau iechyd meddwl i fenywod sydd â salwch amenedigol, eu babanod a'u teuluoedd. Mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, i gefnogi'n rhaglen law yn llaw ar gyfer plant a phobl ifanc, mae £7.6 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i ariannu gwasanaethau cymunedol newydd ar gyfer anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac awtistiaeth, a gwell mynediad at wasanaethau argyfwng a therapïau seicolegol. Felly, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys lleihau lleoliadau y tu allan i'r ardal ar gyfer plant Cymru, ac mae gwasanaethau newydd yn dechrau sefydlu eu hunain yn dda ar ôl cyfnod o recriwtio llwyddiannus i mewn i'r gwasanaethau hynny. Y newidiadau yn CAMHS yw'r rhai mwyaf sylweddol ers blynyddoedd lawer. Drwy sicrhau bod adnoddau priodol ar gael, byddwn yn helpu i sicrhau mynediad amserol at wasanaethau a'r canlyniadau cywir ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae pob un o'r ymrwymiadau hyn yn cael eu cynnwys yn y cynllun cyflawni i sicrhau bod ffocws parhaus ar y meysydd allweddol hyn. Mae ein cynllun cyflawni newydd hefyd yn ein hymrwymo i wella ymhellach fynediad at therapïau siarad. Mae camau sylweddol wedi'u cymryd i wella darpariaeth therapïau seicolegol yng Nghymru, gyda buddsoddiad ychwanegol o bron £2 filiwn yn y gwasanaethau i oedolion y llynedd, a mwy nag £1 filiwn y flwyddyn hon. Mae mwy o therapïau seicolegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu darparu yn lleol nag erioed o'r blaen. Mae'r tair blynedd diwethaf wedi dangos i ni, er bod darparu ein strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' wedi bod yn heriol, mae hefyd wedi bod yn gyraeddadwy, ond, wrth gwrs, mae llawer mwy i'w wneud. Felly, mae'r cynllun cyflawni drafft ar gyfer 2016-19 yr ydym yn ei drafod heddiw yn cynnwys nifer o amcanion newydd uchelgeisiol, gan gynnwys adeiladu cydnerthedd a gwell cefnogaeth ar gyfer ein pobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o brofiadau niweidiol plentyndod; mynd i'r afael ymhellach â hunanladdiad a hunan-niweidio a'u hatal; a chynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer dementia; gweithredu'r concordat gofal argyfwng i sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei darparu i unigolion mewn cysylltiad ag asiantaethau cyfiawnder troseddol; ac ystod o gamau gweithredu i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn modd diogel, amserol ac effeithiol sy'n cefnogi urddas a pharch y defnyddwyr gwasanaeth; ac mae pwyslais parhaus ar sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn gallu dylanwadu ar ffurf polisi iechyd meddwl a gwasanaethau ar draws Cymru. Rydym yn gwybod bod stigma a gwahaniaethu yn parhau i fod yn her fawr. Dyna pam, yn y blynyddoedd diwethaf, ein bod wedi cefnogi, ynghyd ag Aelodau ar draws y Siambr, ymgyrch Amser i Newid Cymru, gan gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth am broblemau iechyd meddwl a chael pobl i ddechrau siarad am iechyd meddwl. Mae ein cynllun cyflawni newydd yn rhoi hyd yn oed mwy o bwyslais ar fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu. Mae ymatebwyr i'n hymgynghoriad wedi croesawu'r dull llwybr bywyd yr ydym wedi'i fabwysiadu yn y cynllun. Ond maent wedi nodi bod rhai materion yn berthnasol i bobl o bob oedran, er enghraifft, unigrwydd ac arwahanrwydd. Gwnaeth ymatebwyr hefyd awgrymiadau ynglŷn â sut y gallai'r cynllun gael ei gryfhau, gan gynnwys defnyddio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel dull ar gyfer ymrwymiad a darparu traws-sector, a chynnwys swyddogaeth cyflwyno'r trydydd sector ac ystyried anghenion iechyd corfforol pobl â salwch iechyd meddwl. Rydym yn rhoi ystyriaeth ofalus i bob un o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, a bydd fersiwn derfynol y cynllun yn ymgorffori llawer o'r awgrymiadau defnyddiol a gawsom, ac, wrth gwrs, rwy'n edrych ymlaen at ystyried y sylwadau a wneir yn y ddadl hon heddiw. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn ymarfer meincnodi rhyngwladol ar wasanaethau iechyd meddwl, a bydd unrhyw ganfyddiadau perthnasol o'r broses honno yn cael eu hymgorffori yn fersiwn derfynol y cynllun cyflawni, yr ydym yn bwriadu ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn yr haf. Hyderaf y bydd Aelodau o bob plaid yn cydnabod ein llwyddiannau a rennir hyd yma ac yn sylweddoli nad ydym wedi cymryd dewisiadau meddal wrth bennu ein hamcanion ar gyfer y tair blynedd i ddod. Ni fydd pob un o'r uchelgeisiau yr ydym wedi'u pennu yn hawdd eu cyflawni, ond rwy'n hyderus y gellir gwneud cynnydd go iawn yn ystod cam nesaf y ddarpariaeth.
I'll briefly deal with the amendment now. The Government has no problem with the amendment and will support it. I acknowledge that an integrated demand and capacity planning model to understand where services should be provided or modernised where resources are allocated is helpful, and I don't see this approach as being in any way contradictory or an alternative to a ring fence that sets a minimum level and not a ceiling, as endorsed last year by an independent review. So, I'm happy for us to support that amendment. But I do look forward to hearing the views of Members from across the Chamber in today's debate and, again, I can confirm that what gets said today will be taken into account as we finalise the delivery plan for the next three years.
Byddaf yn ymdrin yn fyr â'r gwelliant yn awr. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw broblem gyda'r gwelliant a bydd yn ei gefnogi. Rwy'n cydnabod ei bod yn ddefnyddiol cael model galw a chynllunio capasiti integredig i ddeall lle dylai gwasanaethau gael eu darparu neu eu moderneiddio lle mae adnoddau yn cael eu dyrannu, ac nid wyf yn gweld y dull hwn fel un sydd mewn unrhyw ffordd yn anghyson neu'n ddewis arall i glustnodi sy'n gosod lefel isaf yn hytrach na nenfwd, fel y cymeradwywyd y llynedd gan adolygiad annibynnol. Felly, rwy'n hapus inni gefnogi'r gwelliant hwnnw. Ond rwy'n edrych ymlaen at glywed barn yr Aelodau ar draws y Siambr yn y ddadl heddiw ac, unwaith eto, gallaf gadarnhau y bydd yr hyn gaiff ei ddweud heddiw yn cael ei ystyried wrth inni gwblhau'r cynllun cyflawni ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Diolch, Lywydd. Minister, thank you very much for bringing forward this debate today. I have read the delivery plan with a great deal of interest and I concur with you on the Government's overriding objectives - what you're trying to achieve in terms of improving mental health delivery here in Wales. I don't think anyone would quarrel with your objectives and much of your methodology. You've touched, yourself, on how we are fighting this stigma at present, and that goes through all areas. It's not just the stigma of one person against another person, but cultures can be inherent within organisations that can stigmatise people who have mental health issues. There's no doubt that we definitely need more equality of entitlement to treatment between mental health and physical health, and this is one of the areas where I really would urge you to consider further how Welsh Government might be able to bring this forward. I'm loath to mention the NHS in England, because I know that looking anywhere across the border tends to be a great anathema to many people here. However, within the NHS in England they have put forward a parity of esteem concept and it's being introduced, in which equal rights for people with physical and mental health difficulties have been adopted, which has gone some way to acknowledging mental health needs, particularly of people with medical conditions. I wonder if it may be useful looking at that, and I'm sure other countries will also have very similar ideas, to see if we may be able to adopt any of those and move them forward in our own health service here. I've got five sort of key areas I'd like to talk about, and I'm absolutely delighted that you are adopting our amendment. I did note what you said - ring-fencing isn't about this as the maximum but rather the minimum - but sadly a lot of organisations will use at as, 'Phew, as long as we've just spent what we have to, then no more', and you do see it throughout Wales; you see it in a lot of organisations. They're all hard-pressed for money; they've all got a lot of competing claims on a finite resource, and mental health does quite often come off as a cinderella spend in some of these organisations. So, we believe that an integrated demand and capacity planning model would be a much better way forward. It would also be a very good way of then being able to explore truly the demand, because mental health issues have a great many different shades of grey to them. And if you start to include, for example, young people with learning difficulties, which are very often as a result of some kind of mental health distress, then that also should fit into the bigger brief of mental health. So, delighted that you've agreed to accept that amendment, but I would like to be able to bring this debate back to the Chamber in six or eight months to find out how the Government are going to make that work and bring that forward. I'd like to pick up on performance measures. In order for the strategy to be delivered effectively, we need to have an outcomes-based approach that is supported in parallel by a suite of these new financial indicators. We need to have greater public reporting by LHBs, local partnership boards and public service boards. I'd like to understand, Minister, what your report or your delivery plan doesn't say, which is that in the many areas where you already have put targets in, how well you've achieved against them. So, for example, out-of-area placements for children and young people reduced below 2013-14 baseline by 10 per cent every year, so we need to have some kind of report that comes back out so we can measure where we are. And when we're talking about how we do reporting, let me just pick another one, which is one where you virtually say it was just slightly woollier, where it's saying that one of the measures of outcome would be to have feedback. How do you define 'feedback'? Who collects it, who measures it, and who actually gets to see it? Is it going to stay within the organisations? Will it be sent forward to Welsh Government? There are so many indicators that have been nominated here; an awful lot of them don't have hard cases attached to them in terms of where they get reported, who sees that reporting and who can take action. So, I'd urge you, Minister, to pick up on those. I'm sorry; I'm galloping through this, because five minutes isn't a lot to talk about such an important subject. CAMHS in-patients and waiting times; I think perhaps I will just say on this issue that I can see that the Chair of the new Children, Young People and Education Committee is present, and I'm absolutely sure that she will look forward to examining what is happening with CAMHS waiting times for young people and children, because although your report talks of it very successfully, we know that the Shillabeer review is not delivering everything that it should do, and we need to pick that up more. And finally, Presiding Officer, I suspect I've run out of time completely to wind up, but I just wanted to say to you that the whole area of mental health delivery is so very important. If we just look at our young people, 23 per cent of all young people who attend at schools in Wales have some form of mental health impediment. It stops them from learning, it stops them from being successful, it stops them from having the lives that they should have, and when you start from that very level all the way through to people with autism, people with Asperger's, people with syndromes that are recognised and have pathways, we have to help them because that is such a great percentage of our population who are not being the citizens they could be, and not having the help that they could be. So, anything that you want to do to improve mental health services in Wales, I'm absolutely prepared, and this party is prepared, to try and support you, but we do want credible outcomes, credible performance measures, and credible reporting back to the Assembly. Thank you.
Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch yn fawr iawn i chi am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwyf wedi darllen y cynllun cyflawni gyda llawer iawn o ddiddordeb ac rwy'n cytuno â chi ar brif amcanion y Llywodraeth - yr hyn yr ydych yn ceisio ei gyflawni o ran gwella darpariaeth iechyd meddwl yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn anghydfynd â'ch amcanion a llawer o'ch methodoleg. Rydych chi wedi cyffwrdd, eich hun, ar sut yr ydym yn ymladd y stigma hwn ar hyn o bryd, ac mae hynny'n mynd drwy bob maes. Nid dim ond y stigma o un person yn erbyn person arall ydyw, ond gall diwylliannau fod yn gynhenid o fewn sefydliadau a all stigmateiddio pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Does dim amheuaeth yn bendant mae angen hawl mwy cyfartal rhwng triniaeth iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac mae hwn yn un o'r meysydd lle byddwn wir yn eich annog i ystyried ymhellach sut y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno hyn. Rwy'n gyndyn i sôn am y GIG yn Lloegr, oherwydd gwn fod edrych yn unrhyw le ar draws y ffin yn tueddu i fod yn anathema mawr i lawer o bobl yma. Fodd bynnag, o fewn y GIG yn Lloegr maent wedi cyflwyno cysyniad o barch cydradd. Mae hawliau cyfartal i bobl ag anawsterau iechyd corfforol ac iechyd meddwl wedi cael eu mabwysiadu, ac mae hyn wedi mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at gydnabod anghenion iechyd meddwl, yn enwedig yn achos rhai pobl â chyflyrau meddygol. Tybed a allai fod yn ddefnyddiol edrych ar hynny, ac rwy'n siŵr y bydd gan wledydd eraill hefyd syniadau tebyg iawn, i weld a fyddem o bosibl yn gallu mabwysiadu unrhyw un o'r rheini a'u datblygu yn ein gwasanaeth iechyd ni yma. Mae gen i bum math o faes allweddol yr hoffwn i siarad amdanynt, ac rwyf wrth fy modd eich bod yn mabwysiadu ein gwelliant. Fe wnes i nodi'r hyn a ddywedwyd gennych - nid yw clustnodi yn ymwneud â hyn fel y mwyafswm ond yn hytrach y lleiafswm - ond yn anffodus, bydd llawer o sefydliadau yn ei ddefnyddio fel, 'Ffiw, cyhyd ag y byddwn wedi gwario dim ond yr hyn sydd raid i ni, a dim mwy', ac rydych yn ei weld ledled Cymru; rydych yn ei weld mewn llawer o sefydliadau. Maen nhw i gyd dan bwysau yn ariannol; mae ganddyn nhw i gyd lawer o hawliadau sy'n cystadlu â'i gilydd ar adnodd cyfyngedig, ac yn aml iawn mae iechyd meddwl yn dod fel gwariant sinderela yn rhai o'r sefydliadau hyn. Felly, rydym yn credu y byddai model galw a chynllunio capasiti integredig yn ffordd ymlaen llawer gwell. Byddai hefyd yn ffordd dda iawn o allu archwilio'r galw mewn gwirionedd, gan fod gan faterion iechyd meddwl lawer math o bethau aneglur yn perthyn iddynt. Ac os byddwch yn dechrau cynnwys, er enghraifft, bobl ifanc ag anawsterau dysgu, sy'n aml iawn o ganlyniad i ryw fath o drallod iechyd meddwl, yna dylai hynny hefyd ffitio i mewn i friff ehangach iechyd meddwl. Felly, rwyf wrth fy modd eich bod wedi cytuno i dderbyn y gwelliant hwnnw, ond hoffwn allu dod â'r ddadl hon yn ôl i'r Siambr mewn chwech neu wyth mis i gael gwybod sut mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud i hynny weithio a'i gyflwyno. Hoffwn gyfeirio at fesurau perfformiad. Er mwyn i'r strategaeth gael ei chyflwyno'n effeithiol, mae angen inni gael dull seiliedig ar ganlyniadau sy'n cael ei gefnogi yn gyfochrog gan gyfres o'r dangosyddion ariannol newydd hyn. Mae angen inni gael mwy o adroddiadau cyhoeddus gan Fyrddau Iechyd Lleol, byrddau partneriaeth lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Hoffwn i ddeall, Weinidog, yr hyn nad yw eich adroddiad neu eich cynllun cyflawni yn ei ddweud, sef yn y nifer o feysydd lle rydych eisoes wedi gosod targedau, pa mor dda yr ydych wedi cyflawni yn erbyn y targedau hyn. Felly, er enghraifft, mae lleoliadau y tu allan i'r ardal ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gostwng 10 y cant yn is na llinell sylfaen 2013-14 bob blwyddyn, ac felly mae angen inni gael rhyw fath o adroddiad sy'n dod yn ôl allan fel y gallwn fesur ein sefyllfa. A phan fyddwn yn sôn am sut yr ydym yn adrodd, gadewch i mi ddewis un arall, sef un lle rydych bron yn dweud nad oedd ond ychydig yn niwlog, ble mae'n dweud mai un o fesurau canlyniad fyddai cael adborth. Sut ydych chi'n diffinio 'adborth'? Pwy sy'n ei gasglu, pwy sy'n ei fesur, a phwy mewn gwirionedd sy'n cael ei weld? A yw'n mynd i aros o fewn y sefydliadau? A fydd yn cael ei anfon ymlaen at Lywodraeth Cymru? Mae cymaint o ddangosyddion sydd wedi eu henwebu yma; lawer iawn ohonynt heb achosion anodd ynghlwm wrthynt o ran lle maent yn cael eu hadrodd, pwy sy'n gweld yr adrodd hwnnw a phwy all gymryd camau gweithredu. Felly, byddwn i'n eich annog, Weinidog, i ystyried hynny. Mae'n ddrwg gen i; rwy'n carlamu drwy hwn, oherwydd nid yw pum munud yn llawer o amser i siarad am bwnc mor bwysig. Cleifion mewnol ac amseroedd aros CAMHS; rwy'n meddwl efallai y byddaf ond yn dweud o ran y mater hwn y gallaf weld bod Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg newydd yn bresennol, ac rwy'n gwbl sicr y bydd yn edrych ymlaen at archwilio'r hyn sy'n digwydd gydag amseroedd aros CAMHS ar gyfer pobl ifanc a phlant. Er bod eich adroddiad yn sôn am hyn yn llwyddiannus iawn, rydym yn gwybod nad yw adolygiad Shillabeer yn cyflawni popeth y dylai ei wneud, ac mae angen i ni roi mwy o ystyriaeth i hynny. Ac yn olaf, Lywydd, rwy'n amau fy mod i wedi rhedeg allan o amser yn gyfan gwbl i gloi. Ond roeddwn eisiau dweud wrthych fod holl faes cyflawni iechyd meddwl mor bwysig. Os edrychwn ar ein pobl ifanc, mae 23 y cant o'r holl bobl ifanc sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru yn dioddef o ryw fath o rwystr iechyd meddwl. Mae hyn yn eu hatal rhag dysgu, mae'n eu hatal rhag bod yn llwyddiannus, mae'n eu hatal rhag cael y bywydau a ddylai fod ganddynt. A phan fyddwch yn dechrau ar y lefel honno yr holl ffordd drwodd at bobl ag awtistiaeth, pobl ag Asperger, pobl â syndromau sy'n cael eu cydnabod ac y mae llwybrau iddynt, mae'n rhaid i ni eu helpu gan fod hynny'n ganran mor uchel o'r boblogaeth nad ydynt y dinasyddion y gallent fod, ac nac ydynt yn cael y cymorth y gallent fod yn ei gael. Felly, unrhyw beth yr ydych am ei wneud i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, rwy'n hollol barod, ac mae'r blaid hon yn hollol barod, i geisio eich cefnogi chi. Ond rydyn ni eisiau gweld canlyniadau credadwy, mesurau perfformiad credadwy, ac adroddiadau credadwy i'r Cynulliad. Diolch.
Can I say at the outset that there has certainly been, I think, an improvement in mental health services since the mental health Measure was introduced, but, without a doubt, there are a number of areas where we need further improvement? I also welcome the update from the Government on their delivery plan; it seems to be a step forward from the last plan. There are definite actions here, and a timetable is noted as well, for implementation, and also - very importantly, I think - there's specific reference in the plan to who is responsible for the different actions. But, on the other hand, there are major questions remaining in terms of several aspects, including how progress is measured. For some indicators the target is very definitive. For example, a 100 per cent of girls who were identified as having serious mental health problems are offered appropriate support during pregnancy. That is good, but in other areas there are not so prominent improvement targets. There are specific points, I think, that arise from the availability of talking therapies. A report by Gofal, the mental health charity, notes that far too many people are still being offered treatment by medication rather than other types of treatment and support. And even though they welcome the work that has been done by health boards to expand the provision, they believe that much more needs to be done to expand the range of treatments available. Specifically, they feel that people fail to be offered talking therapies because provision is not available in some areas, or because waiting lists are too long - that is, it's not for clinical reasons. I'll also mention another area that Gofal thinks has inadequate attention, and that is eating disorders. They are very disappointed, they say, after working with the cross-party group on eating disorders to recommend a number of ways forward and specific actions that could be taken, as well as how to measure performance, that there was a big deficiency in the strategy in terms of tackling problems in that area. If I can move on to an area that I know concerns many of us here in the Chamber - and we've just had a reference here to it - namely mental health services for children and young people specifically. We are very concerned here as Members because we do hear consistently from far too many constituents who share their concerns. I received a letter recently from the chair of governors of Cemaes Primary School in Ynys Môn. I'll read from it: 'The board of governors of Ysgol Cemaes has asked me to write to you to express our serious concerns about the child and adolescent mental health service. We have a number of children in primary school who need support and our understanding is that there is a waiting time of six months to access the service. We feel that this is quite unacceptable, and it does raise significant questions about the commitment of the national health service in Wales to the well-being and welfare of our children.' It says it all; the people who are -
A gaf i ddweud yn gyntaf fod yna wella, yn sicr, wedi bod, rydw i'n meddwl, mewn gwasanaethau iechyd meddwl ers cyflwyno'r Mesur iechyd meddwl, ond, heb os, mae yna lawer iawn o feysydd lle mae yna angen gwella mawr o hyd? Rydw i hefyd yn croesawu diweddariad y Llywodraeth ar eu cynllun nhw; mae o i'w weld yn gam ymlaen o'r cynllun diwethaf. Mae yna gamau gweithredu pendant yma rŵan, amserlen yn cael ei nodi hefyd, ar gyfer gweithredu, ac mae yna hefyd - yn bwysig iawn, rydw i'n meddwl - gyfeiriad penodol yn y cynllun at bwy sydd i fod yn gyfrifol am wahanol gamau gweithredu. Ond, ar y llaw arall, mae yna gwestiynau mawr o hyd ynglŷn â sawl agwedd, gan gynnwys sut mae mesur cynnydd. Ar gyfer rhai dangosyddion mae'r targed yn bendant iawn. Er enghraifft, mae 100 y cant o ferched a gafodd eu hadnabod i fod â phroblemau iechyd meddwl difrifol yn cael cynnig cefnogaeth briodol yn ystod beichiogrwydd. Mae hynny'n dda o beth, ond mewn meysydd eraill nid oes yna dargedau cynnydd cweit mor amlwg. Mae yna bwyntiau penodol, rydw i'n meddwl, yn codi o argaeledd therapïau siarad. Mae adroddiad gan yr elusen iechyd meddwl Gofal yn nodi bod llawer gormod o bobl o hyd yn cael cynnig triniaeth drwy feddyginiaeth yn hytrach na mathau eraill o driniaethau a chefnogaeth. Ac er eu bod nhw croesawu'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan fyrddau iechyd i ehangu'r ddarpariaeth, maen nhw'n credu bod angen gwneud llawer mwy o hyd i ehangu'r ystod yma o driniaethau sydd ar gael. Yn benodol, maen nhw'n teimlo bod pobl yn methu â chael cynnig therapi siarad oherwydd nid oes darpariaeth therapi siarad ar gael mewn ambell i ardal, neu oherwydd bod rhestrau aros yn rhy hir - hynny yw, nid am resymau clinigol. Gwnaf hefyd sôn am faes arall mae Gofal, yn benodol, yn teimlo ei fod yn cael sylw annigonol, a hynny ydy anhwylderau bwyta. Maen nhw'n siomedig iawn, medden nhw, ar ôl gweithio efo'r grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta i argymell nifer o ffyrdd posib ymlaen, a chamau gweithredu pendant a allai gael eu cymryd, yn ogystal â sut i fesur perfformiad, fod yna ddiffyg mawr yn y strategaeth i fynd i'r afael â phroblemau yn y maes yma. Os caf symud ymlaen at faes rwy'n gwybod sydd yn achosi pryder i lawer ohonom ni yma yn y Siambr - ac rydym ni newydd gael cyfeiriad ato fo yn fan hyn - sef gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yn benodol. Rydym ni'n bryderus iawn fel Aelodau yma oherwydd ein bod ni'n clywed yn gyson gan lawer gormod o etholwyr yn rhannu eu pryderon nhw. Mi dderbyniais lythyr yn ddiweddar gan gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Cemaes yn Ynys Môn. Mi wnaf ddarllen ohono: 'Mae llywodraethwyr Ysgol Cemaes wedi gofyn i mi ysgrifennu atoch i leisio ein pryderon sylweddol am y gwasanaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Mae gennym nifer o blant yn yr ysgol gynradd sydd angen cymorth a'n dealltwriaeth yw bod cyfnod disgwyl o chwe mis ar gyfer cael mynediad i'r gwasanaeth. Teimlwn fod hyn yn gwbl annerbyniol, ac mae'n codi cwestiynau arwyddocaol am ymrwymiad y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru i les ein plant.' Mae'n dweud y cyfan; pobl sydd ar -
Thank you for taking the intervention. Would you also acknowledge that one of the issues with having such long waiting times for CAMHS services is that those young people are then thrown back onto local services provided by county councils, people like the disabilities team, the team around the family, and it puts them under immense pressure and takes them away from the people who should be their primary responsibility?
Diolch ichi am gymryd yr ymyriad. A fyddech chi hefyd yn cydnabod mai un o'r problemau gydag amseroedd aros hir o'r fath ar gyfer gwasanaethau CAMHS yw bod y bobl ifanc hynny wedyn yn cael eu taflu yn ôl i wasanaethau lleol a ddarperir gan gynghorau sir, pobl fel y tîm anableddau, y tîm o amgylch y teulu, ac mae'n rhoi y rheini dan bwysau aruthrol ac yn mynd â nhw oddi wrth y bobl a ddylai fod yn brif gyfrifoldeb iddynt?
I would like to thank the Welsh Government for tabling this important debate today. With one in eight people in Wales currently seeking medical help for mental illness and an estimated one in four of us experiencing mental health problems at some point during our lifetimes, it's clear that we need to give mental health a far higher priority. We therefore welcome the fact that we are today debating the Government's mental health strategy. As the Welsh Government's 10-year mental health strategy enters its second phase, it falls to us to ensure that delivery of the strategy matches its aims. Unfortunately, Gofal's report, which was released this week, highlights the fact that delivery does not always match ambition. We must ensure that your new delivery plan actually delivers improved outcomes for the thousands of people in Wales suffering from mental health issues. The delivery plan for 2016-19 identifies children and young people's mental health as a priority area, and we totally agree with you on that. Young people referred to CAMHS have to wait much longer than adults have to wait. The target waiting time is a shocking 112 days and around half of all referrals exceeded that target. We therefore welcome the commitment in the delivery plan to reduce waiting times to 28 days for routine referrals and 48 hours for urgent referrals. When the former Health and Social Care Committee undertook post-legislative scrutiny of the mental health Measure, it found that children and young people were not benefiting from the Measure. Since the committee undertook its review, the Welsh Government announced it was reviewing the CAMHS service, and on this side of our party, we look forward to the review's conclusions. However, if we are to take the pressure off our acute services, we need to improve access to other psychological therapies. Early access to talking therapies, such as cognitive behavioural therapy, is proven to improve recovery and reduce the need for more acute services. Mind recommends that the maximum waiting time from referral to the first treatment should be 28 days, and when someone presents with a mental health emergency, the wait should be even shorter. However, waiting times across Wales are much longer; in some parts of Wales the average waits are around 11 months. This is unacceptable. People in distress should not be made to wait months for treatment. We wouldn't leave someone in severe pain for that length of time. Why should mental health be any different to physical health? We must work with patients also to eradicate the stigma attached to mental health issues. Of course, if we are to improve mental health services, we must ensure that the correct funding is in place. We welcome the Welsh Government's commitment in the delivery plan to maintain the ring-fencing of funding for mental health. However, the level of funding appears insufficient. Mental health problems account for around a quarter of all health problems, yet we are spending just 11.4 per cent of the NHS Wales budget. In England, where the mental health budget is not ring-fenced, they are spending 11.9 per cent of the NHS budget on mental health. One LHB, Aneurin Bevan, routinely spends over 17 per cent more than its ring-fenced allocation. PricewaterhouseCoopers, in their review of the financial ring-fencing arrangements for mental health services in Wales, state that the ring-fenced allocation is not based on a robust assessment of healthcare needs. Cabinet Secretary, it is clear from all evidence that we need to spend more on mental health services in Wales. We understand that there is a pot - a small pot - and it has to be equalled in the services we provide, but we are asking that this is one priority that we do need to spend more on. We welcome the fact that additional moneys have been targeted at priority areas in the delivery plan, but we would ask that you consider increasing the ring fence. I look forward to working with you to deliver your mental health strategy, but also to holding you to account to ensure that the strategy delivers real improvements to the mental health of the people of Wales. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am gymorth meddygol ar gyfer salwch meddwl ac amcangyfrif o un o bob pedwar ohonom yn profi problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, mae'n amlwg bod angen inni roi llawer mwy o flaenoriaeth i iechyd meddwl. Rydym felly'n croesawu'r ffaith ein bod yn trafod strategaeth iechyd meddwl y Llywodraeth heddiw. Wrth i strategaeth iechyd meddwl 10 mlynedd Llywodraeth Cymru gychwyn ar ei hail gyfnod, ein dyletswydd ni yw sicrhau bod cyflawni'r strategaeth yn cyfateb i'w nodau. Yn anffodus, mae adroddiad Gofal, a gafodd ei ryddhau yr wythnos hon, yn tynnu sylw at y ffaith nad yw cyflawni bob amser yn cyd-fynd ag uchelgais. Rhaid i ni sicrhau bod eich cynllun cyflawni newydd mewn gwirionedd yn cyflawni canlyniadau gwell i'r miloedd o bobl yng Nghymru sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer 2016-19 yn nodi iechyd meddwl plant a phobl ifanc fel maes blaenoriaeth, ac rydym yn cytuno'n llwyr â chi ar hynny. Rhaid i bobl ifanc a atgyfeiriwyd at CAMHS aros llawer hirach nag sydd raid i oedolion aros. Mae'r amser aros targed yn 112 diwrnod, sy'n syfrdanol, ac mae tua hanner yr holl atgyfeiriadau dros y targed hwnnw. Felly, rydym yn croesawu'r ymrwymiad yn y cynllun cyflawni i leihau amseroedd aros i 28 diwrnod ar gyfer atgyfeiriadau arferol a 48 awr ar gyfer atgyfeiriadau brys. Pan ymgymerodd y cyn Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol â chraffu ar ôl deddfu ar y Mesur iechyd meddwl, canfu nad yw plant a phobl ifanc yn elwa o'r Mesur. Ers i'r pwyllgor gynnal ei adolygiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn adolygu'r gwasanaeth CAMHS, ac ar yr ochr hon o'n plaid, rydym yn edrych ymlaen at gasgliadau'r adolygiad. Fodd bynnag, os ydym i gymryd y pwysau oddi ar ein gwasanaethau acíwt, mae angen i ni wella mynediad at therapïau seicolegol eraill. Mae mynediad cynnar at therapïau siarad, fel therapi ymddygiad gwybyddol, wedi cael ei brofi i wella adferiad a lleihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt. Mae Mind yn argymell y dylai'r uchafswm amser aros o atgyfeiriad at y driniaeth gyntaf fod yn 28 diwrnod, a phan fydd hi'n argyfwng iechyd meddwl ar unrhyw un, dylai'r aros fod yn fyrrach eto. Fodd bynnag, mae amseroedd aros ledled Cymru yn llawer hirach; mewn rhai rhannau o Gymru mae'r amseroedd aros cyfartalog tua 11 mis. Mae hyn yn annerbyniol. Ni ddylai pobl mewn trallod orfod aros misoedd am driniaeth. Ni fyddem yn gadael i rywun mewn poen difrifol aros am gymaint â hynny o amser. Pam y dylai iechyd meddwl fod yn wahanol i iechyd corfforol? Rhaid inni weithio gyda chleifion hefyd i gael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â materion iechyd meddwl. Wrth gwrs, os ydym i wella gwasanaethau iechyd meddwl, rhaid inni sicrhau bod yr arian cywir ar gael. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y cynllun cyflawni i gynnal y gwaith o glustnodi arian ar gyfer iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae lefel y cyllid yn ymddangos yn annigonol. Mae problemau iechyd meddwl yn cyfrif am tua chwarter o'r holl broblemau iechyd, ac eto i gyd rydym yn gwario dim ond 11.4 y cant o gyllideb GIG Cymru. Yn Lloegr, lle nad yw'r gyllideb iechyd meddwl yn cael ei chlustnodi, maent yn gwario 11.9 y cant o gyllideb y GIG ar iechyd meddwl. Mae un Bwrdd Iechyd Lleol, Aneurin Bevan, fel mater o drefn yn gwario dros 17 y cant yn fwy na'i ddyraniad wedi'i glustnodi. Mae PricewaterhouseCoopers, yn ei adolygiad o'r trefniadau clustnodi ariannol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, yn datgan nad oedd y dyraniad wedi'i glustnodi yn seiliedig ar asesiad cadarn o anghenion gofal iechyd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg o'r holl dystiolaeth bod angen inni wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym yn deall bod pot ar gael - pot bach - ac mae'n rhaid i'r gwasanaethau a ddarparwn fod yn gyfartal, ond rydym yn gofyn bod hwn yn un flaenoriaeth y mae'n rhaid i ni wario mwy arni. Rydym yn croesawu'r ffaith bod arian ychwanegol wedi ei dargedu at feysydd blaenoriaeth yn y cynllun cyflawni, ond byddem yn gofyn eich bod yn ystyried cynyddu'r arian a glustnodir. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyflawni eich strategaeth iechyd meddwl, ond hefyd i'ch dal i gyfrif er mwyn sicrhau bod y strategaeth hon yn cyflawni'r gwelliannau gwirioneddol i iechyd meddwl pobl Cymru. Diolch yn fawr iawn.
I'm pleased to have the opportunity to speak today. We know that one in four of us will be affected by a mental health problem in our lives, so it is vital that we give this delivery plan the attention and scrutiny that it deserves. I just wanted to make some brief remarks today on two parts of the plan. The first relate to my previous calls for a well-resourced, comprehensive and outcome-based dementia strategy for Wales, which is something that I've called for previously when I led a short debate on this in the Chamber, back in January. I'm delighted that the delivery plan includes the commitment to have a dementia strategy for Wales and I'm looking forward to hearing more detail from the Welsh Government on that, but I did just want to pick up on a few points related to that. We know that there's been fantastic progress in turning Wales into a dementia-friendly nation and I welcome what the Minister said about continuing to focus on that today. There are over 20 established dementia-friendly communities currently in Wales and I'm very proud that my constituency in Torfaen was the second in Wales to achieve dementia-friendly status. Whether it is businesses or local health services, right through to Big Pit National Mining Museum, I have seen this initiative make a huge difference to people's lives. When you consider the numbers of people that are being diagnosed now with dementia, and the need to actually find a way through the challenges that that presents to us as a society, I think this is one of the most powerful things we can do to actually combat what can be a counsel of despair in the face of dementia. So, I'm delighted that the Welsh Government are continuing to focus on that. The other area that I wanted to talk about was diagnosis rates, which are clearly absolutely vital, because it's at that point when a patient gets the diagnosis, which is inevitably a devastating one for families, that they can start to come to terms with it and plan for what lies ahead. Of course, we know that dementia diagnosis rates in Wales are the lowest in the UK at present. I very much welcome the commitment in the delivery plan to look at a 50 per cent target for GP dementia registers and the stepping stone this provides for gradual yearly increases, but I do think that there is a lot more work to do. Fifty per cent would not be enough for illnesses like cancer and we should be, I think, aiming far higher than that with dementia. I'm aware that the Alzheimer's Society has called for targets of around 75 per cent in each LHB by 2021. Even if you look at other parts of the UK, such as Northern Ireland, where the rates are 64 per cent, I think that we could be aiming higher. So, I know that the Minister is committed to increasing targets annually and I would be interested in further detail on how we plan to grow that target going forward. Of course, diagnosis is meaningless without the right support in place afterwards. In fact, a diagnosis can make it harder to cope without the right support in place. The other area that I wanted to pick up on today was the need for named support workers. At the moment, only 39 per cent of patients in Wales get a support worker. I'm delighted that the delivery plan identifies the need to improve this, but I do believe that the suggested one support worker per two GP clusters needs urgently looking at again. This was a point that I made in my short debate. The Alzheimer's Society have estimated that would be around 32 workers for the whole of Wales, but, at the current diagnosis rate, we would need around 370 to meet needs, and as many as 650 workers if we are to get diagnosis rates up to 75 per cent. So, I hope that that is something that the Welsh Government will be able to look at. I very much welcome the commitment in the delivery plan to continue to drive improvements in adult mental health wards, based on the outcomes of the spot checks. But I also hope that the Welsh Government will continue to work hard to include the adult mental health wards in the Nurse Staffing Levels (Wales) Act 2016, which is a commitment that was given by the previous Minister to do as soon as is practicable. I think that's vitally important. Just finally, then, turning to children and young people, I very much recognise the points that have been made about the CAMHS service, and it's something that I've raised many, many times in committee myself. I hope that the new committee will continue to have a focus on that. We've seen good progress by the Welsh Government, but we cannot afford to let up for one moment in that area. We've got to continue to have the resources, but also to drive it forward politically, and I hope that the Government and the committee, working together, can continue to drive improvements in that area. Thank you.
Rwy'n falch o gael y cyfle i siarad heddiw. Rydym yn gwybod y bydd problem iechyd meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom yn ystod ein bywydau. Felly mae'n hanfodol ein bod yn rhoi y sylw a'r craffu y mae'n ei haeddu i'r cynllun cyflawni hwn. Roeddwn eisiau gwneud rhai sylwadau byr heddiw ar ddwy ran o'r cynllun. Mae'r cyntaf yn ymwneud â fy ngalwadau blaenorol ar gyfer strategaeth dementia ar gyfer Cymru sydd ag adnoddau da a chynhwysfawr ac sy'n seiliedig ar ganlyniadau, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf wedi galw amdano yn y gorffennol pan arweiniais ddadl fer ar hyn yn y Siambr, yn ôl ym mis Ionawr. Rwyf wrth fy modd bod y cynllun cyflawni yn cynnwys yr ymrwymiad i gael strategaeth dementia i Gymru ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion gan Lywodraeth Cymru ar hynny, ond roeddwn eisiau ystyried rhai pwyntiau sy'n gysylltiedig â hynny . Gwyddom fod cynnydd gwych wedi bod wrth droi Cymru yn genedl sy'n ystyriol o ddementia ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog am barhau i ganolbwyntio ar hynny heddiw. Mae dros 20 o gymunedau sy'n ystyriol o ddementia wedi'u sefydlu yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rwy'n falch iawn mai fy etholaeth i yn Nhorfaen oedd yr ail yng Nghymru i ennill statws ystyriol o ddementia. Boed yn fusnesau neu wasanaethau iechyd lleol, hyd at Big Pit: Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, rwyf wedi gweld y fenter hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl. Pan fyddwch yn ystyried nifer y bobl sy'n cael diagnosis o ddementia yn awr, a'r angen mewn gwirionedd i ganfod ffordd drwy'r heriau y mae hynny yn eu cyflwyno i ni fel cymdeithas, rwy'n credu mai dyma un o'r pethau mwyaf pwerus y gallwn ei wneud i wir frwydro yn erbyn yr hyn a all fod yn gyngor anobaith yn wyneb dementia. Felly, rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar hynny. Y maes arall yr oeddwn am siarad amdano oedd cyfraddau diagnosis, sydd yn amlwg yn hollol hanfodol. Ar y pwynt hwnnw pan fydd claf yn cael y diagnosis, sydd yn anochel yn un trychinebus i deuluoedd, y maent yn gallu dechrau dod i delerau ag ef a chynllunio ar gyfer yr hyn sydd i ddod. Wrth gwrs, rydym yn gwybod mai cyfraddau diagnosis dementia yng Nghymru yw'r isaf yn y DU ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu'n fawr iawn yr ymrwymiad yn y cynllun cyflawni i edrych ar darged o 50 y cant ar gyfer cofrestrau dementia meddygon teulu a pha mor bwysig yw'r cam hwn ar gyfer cynnydd graddol blynyddol, ond rwy'n credu bod llawer mwy o waith i'w wneud. Ni fyddai hanner cant y cant yn ddigon ar gyfer afiechydon fel canser a dylem, rwy'n meddwl, fod yn anelu yn llawer uwch na hynny yn achos dementia. Rwy'n ymwybodol bod y Gymdeithas Alzheimer wedi galw ar gyfer targedau o tua 75 y cant ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol erbyn 2021. Hyd yn oed os ydych yn edrych ar rannau eraill o'r DU, fel Gogledd Iwerddon, lle mae'r cyfraddau yn 64 y cant, rwy'n meddwl y gallem fod yn anelu yn uwch. Felly, rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi ymrwymo i gynyddu targedau yn flynyddol a byddai gennyf ddiddordeb mewn rhagor o fanylion ynghylch sut yr ydym yn bwriadu tyfu'r targed hwnnw yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae diagnosis yn ddiystyr heb fod y cymorth cywir ar waith wedi hynny. Yn wir, gall diagnosis ei gwneud yn anoddach i ymdopi heb y cymorth cywir ar waith. Y maes arall yr oeddwn am ei godi heddiw oedd yr angen am weithwyr cymorth penodol. Ar hyn o bryd, dim ond 39 y cant o'r cleifion yng Nghymru sy'n cael gweithiwr cymorth. Rwyf wrth fy modd bod y cynllun cyflawni yn nodi'r angen i wella hyn, ond rwy'n credu bod angen edrych eto ar frys ar yr awgrym a gafwyd o un gweithiwr cymorth i bob dau glwstwr meddyg teulu. Roedd hwn yn bwynt a wneuthum yn fy nadl fer. Mae'r Gymdeithas Alzheimer wedi amcangyfrif y byddai hynny tua 32 o weithwyr ar gyfer Cymru gyfan, ond, ar y gyfradd diagnosis bresennol, byddai angen i ni gael tua 370 er mwyn bodloni'r anghenion, a chymaint â 650 o weithwyr os ydym i gael cyfraddau diagnosis hyd at 75 y cant. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu edrych arno. Croesawaf yn fawr yr ymrwymiad yn y cynllun cyflawni i barhau i yrru gwelliannau mewn wardiau iechyd meddwl oedolion, yn seiliedig ar ganlyniadau'r archwiliadau dirybudd. Ond rwyf hefyd yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n galed i gynnwys wardiau iechyd meddwl oedolion yn Neddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, sy'n un o'r ymrwymiadau a wnaed gan y Gweinidog blaenorol i'w gyflawni cyn gynted ag sy'n ymarferol. Rwy'n credu bod hynny'n hollbwysig. Yn olaf, felly, gan droi at blant a phobl ifanc, rwy'n cydnabod yn fawr iawn y pwyntiau sydd wedi'u gwneud am y gwasanaeth CAMHS, ac mae'n rhywbeth yr wyf wedi'i godi lawer, lawer gwaith yn y pwyllgor fy hun. Rwy'n gobeithio y bydd y pwyllgor newydd yn parhau i ganolbwyntio ar hynny. Rydym wedi gweld cynnydd da gan Lywodraeth Cymru, ond ni allwn fforddio i laesu dwylo am eiliad yn y maes hwnnw. Mae'n rhaid i ni barhau i gael yr adnoddau, ond hefyd mae'n rhaid ei yrru ymlaen yn wleidyddol, a gobeithio y bydd y Llywodraeth a'r pwyllgor, gan weithio gyda'i gilydd, yn gallu parhau i yrru gwelliannau yn y maes hwnnw. Diolch.
I consider it a privilege to participate in this important debate, and I thank the Cabinet Secretary for bringing the issue before us, dealing with 'Together for Mental Health'. Of course, some of us are old enough to remember the mental health Measure brought forward by Jonathan Morgan, the former Member of this place, some years ago, which has brought much of this work forward, with a particular emphasis there on early treatment, and, as doctors, we are strong believers in that. It is crucially important that treatment is provided at an early stage, and this whole issue of waiting lists is entirely contrary to that fundamental principle. Ultimately, we want to see more health professionals on the ground who can deal with these problems. As a GP, I would hope that I could refer a patient with mental health problems directly to talking therapies, but that isn't the case at the moment, and it can take some months for my patients to see someone who can provide CBT and so on, and that situation must change. Even if we diagnose people at an early stage, if they then have to wait six months or longer until they get treatment -
Rwy'n ei chyfrif hi'n fraint i allu cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, a diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â'r pwnc gerbron yn ymdrin â 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Wrth gwrs, mae rhai ohonom ni'n ddigon hen i gofio Mesur iechyd meddwl Jonathan Morgan, cyn Aelod o'r Cynulliad yma, rai blynyddoedd yn ôl nawr, sydd wedi dod â lot o'r gwaith yma gerbron, gyda phwyslais arbennig y Mesur yna ar driniaeth gynnar. Fel meddygon, rydym ni'n credu'n glir yn hynny. Mae'n allweddol bwysig ichi gael triniaeth yn gynnar ac mae'r holl beth yma o gael rhestr aros yn gweithio'n gyfan gwbl yn erbyn yr egwyddor sylfaenol yna. Ond, yn y bôn, rydym ni eisiau gweld rhagor o weithwyr iechyd ar y llawr sy'n gallu ymdrin â'r problemau. Fel meddyg teulu, buaswn i'n gobeithio y byddwn i'n gallu arallgyfeirio claf â phroblemau iechyd meddwl yn uniongyrchol at therapi siarad, ond nid dyna ydy'r achos ar hyn o bryd. Mae'n cymryd rhai misoedd i'm cleifion weld rhywun sydd yn cynnig CBT ac ati. Mae'n rhaid i'r sefyllfa yna newid. Hyd yn oed os ydym ni'n diagnosio pobl yn gynnar, os oes yn rhaid iddyn nhw aros chwe mis a mwy tan y cân nhw driniaeth -
Do you share my concern, the concern expressed to me by the charity Mind Cymru, that the Welsh Government action plan has been created on the back of insufficient evidence because mental health data such as waiting times for talking therapies are not being collected sufficiently?
A ydych yn rhannu fy mhryder, y pryder a fynegwyd i mi gan yr elusen Mind Cymru, bod cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru wedi cael ei greu ar gefn tystiolaeth annigonol oherwydd nad yw data iechyd meddwl megis amseroedd aros ar gyfer therapïau siarad yn cael eu casglu yn ddigonol?
There is a point there, yes, but, at the end of the day, we need more therapists, because we need more people to deal with the situation that currently exists, because waiting lists in this area are entirely unacceptable. And also, in dealing with drugs and alcohol and the abuse of those substances, we do need more professionals in this area, because there are also lengthy waiting lists in those areas, and that has major implications for mental health. In speaking briefly about mental health problems among children, it's very difficult in the Swansea area to refer a child to the CAMHS service. I've tried on a number of occasions, and, basically, they can't be seen at all. This is crucially important point: in many areas, there is simply no service available, or that individual is just referred back into the education system, as we've already heard, and when they need to see someone who works in psychiatry that simply isn't acceptable. In terms of looking at this whole issue of mental health, there is a risk that we look at mental health in isolation. Well, it can't be looked at in that way, and we've already heard that it's a part of how we look at a person in a holistic manner: the psychological, physical and social aspects as well as the spiritual aspects. All of those things come together to actually make you healthy or otherwise, and every principle related to mental health must also be considered in physical terms as well as the social aspect of this. In terms of co-ordination and collaboration across various services, we've heard a number of examples of this already, but I will just mention the police, because, in the context of some of the most serious problems we have in critical situations, when people have critical mental health problems where the police come into the process, it is very difficult on occasion to find a safe place for the treatment of these individuals. That, therefore, brings an overlap with the police and health services, and it would be far easier to deal with the whole situation across the board if the police service too were to be devolved to this place, because we are making policy here and discussing mental health services again this afternoon, but there are many aspects of mental health that are dealt with by our police forces, and they are currently not accountable to this place, and they should be. We should take every opportunity to ensure that the police service is also devolved to this place so that, when we deal with all of the health services available, the police should be part of that discussion. But, fundamentally, what we want as doctors is early treatment for our patients, and that means more provision of health professionals, talking therapists and so on and so forth on the ground, so that we can refer our patients to them directly.
Mae yna bwynt yn hynny, ond, ar ddiwedd y dydd, mae angen mwy o therapyddion arnom ni. Mae angen mwy o bobl i ymdrin â'r sefyllfa achos mae rhestrau aros yn y math hwn o beth yn hollol, hollol annerbyniol, a hefyd yn y maes ymdrin â chyffuriau ac alcohol neu'r camddefnydd o'r sylweddau yna. Mae hefyd eisiau rhagor o weithwyr yn y maes yn fanna, achos mae yna restrau aros hefyd yn y meysydd yna sydd ag oblygiadau mawr iawn gogyfer iechyd meddwl. Wrth sôn yn fuan am y problemau efo iechyd meddwl plant, yn sylfaenol, mae'n anodd iawn yn ardal Abertawe cael plentyn i gael ei weld gan y gwasanaeth CAMHS. Rwyf wedi trio sawl tro ac, yn sylfaenol, nid ydyn nhw'n gallu cael eu gweld o gwbl. Mae hyn yn bwynt allweddol: yn nifer o lefydd, nid oes gwasanaeth, neu mae'r person yn cael ei arallgyfeirio yn ôl at y system addysg, fel rydym ni wedi ei glywed eisoes, a phan fo angen iddyn nhw weld rhywun sydd yn y byd seiciatryddol nid yw hynny'n dderbyniol. Yn nhermau, hefyd, edrych ar yr holl agwedd yma o iechyd meddwl, mae yna berig ein bod ni'n cysidro iechyd meddwl ar ei ben ei hun. Wel, nid yw e, ac fel rydym ni wedi cael cyfeiriad ato eisoes, mae'n rhan o fel rydym ni'n edrych ar berson yn hollol holistaidd: yr agwedd gorfforol, yr agwedd seicolegol, ac, ie, yr agwedd gymdeithasol hefyd, yn ogystal â'r agwedd ysbrydol. Mae'r pedwar peth yn gweu i mewn i'ch gwneud chi'n iach neu ddim. Mae pob egwyddor i'w wneud efo iechyd meddwl - mae'n rhaid inni hefyd gysidro'r ochr gorfforol i'r peth, a hefyd, yn ogystal, yr ochr gymdeithasol. Yn nhermau cydlynu a chydweithio ar draws gwahanol wasanaethau, rydym wedi clywed nifer o enghreifftiau'n barod, ond gwnaf jest sôn hefyd am yr heddlu, achos, yn nhermau rhai o'r problemau dybryd sydd gyda ni weithiau mewn argyfwng, efo pobl â phroblemau iechyd meddwl argyfyngus lle mae'r heddlu yn rhan o'r broses, mae'n anodd iawn weithiau ffeindio lle diogel i'r bobl yma gael eu trin. Mae hynny yn dod â'r heddlu i fewn i gydgyffwrdd yn benodol felly â'r gwasanaeth iechyd, a byddai'n llawer haws ymdrin efo'r holl sefyllfa ar draws y bwrdd petai gwasanaeth yr heddlu hefyd wedi'i ddatganoli i'r lle yma, achos rydym ni'n gwneud polisïau ac rydym ni'n gwneud rhagor o sŵn y prynhawn yma ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd meddwl ac ati, ond mae cryn dipyn o agweddau iechyd meddwl sy'n cael eu ymdrin gyda'r heddlu, sydd ddim, ar hyn o bryd, yn atebol i'r lle yma, a dylen nhw fod. Fe ddylem ni fod yn achub ar bob cyfle i wneud yn siŵr bod gwasanaeth yr heddlu hefyd wedi'i ddatganoli i'r lle yma, fel, pan fyddem yn ymdrin â'r holl wasanaethau iechyd sydd ar gael, bod yr heddlu yn rhan o'r drafodaeth yna. Ond, yn y bôn, beth rydym eisiau ei weld, fel meddygon, ydy triniaeth gynnar i'n pobl. Mae hynny yn golygu rhagor o ddarpariaeth o weithwyr iechyd, therapyddion siarad ac ati ar y llawr fel ein bod ni'n gallu arallgyfeirio'n cleifion atyn nhw yn uniongyrchol.
Thank you for giving way. I agree with you totally and I have no arguments, but do you also think there's a need to train the doctors that are already in place because some of them have a lack of understanding sometimes on some of the issues people come to them with? So, it's the training of those already in place, as well as more.
Diolch i chi am ildio. Rwy'n cytuno â chi yn llwyr ac nid oes gennyf unrhyw ddadleuon, ond a ydych hefyd yn meddwl bod angen hyfforddi'r meddygon sydd gennym yn barod oherwydd bod gan rai ohonynt ddiffyg dealltwriaeth weithiau o rai o'r problemau sydd gan y bobl sy'n dod atynt? Felly, mae'n ymwneud â hyfforddi'r meddygon sydd gennym yn barod, yn ogystal â rhagor o feddygon.
Yes, I would agree, because the whole system is under pressure. We could all do with far more time to deal with patients, and, once I've decided that I am going to refer a patient elsewhere, I want that patient to be seen, because what happens if you have to wait six months is that you go back to that GP, who's already under enough pressure, and we can't make any alternative provision. That's why we have to tackle waiting times and employ more people in this area. Thank you.
Ie, mi fuaswn i'n cytuno, achos mae'r holl system o dan straen. Fe allem ni i gyd wneud efo lot mwy o amser i ymdrin â phobl, ac, unwaith rwyf i wedi penderfynu fy mod yn mynd i arallgyfeirio claf i rywle arall, rwyf eisiau iddo fo gael ei weld, achos beth sy'n digwydd os oes yn rhaid chi aros chwe mis, yw eich bod chi'n mynd yn ôl i weld y meddyg yna, sydd o dan digon o straen yn barod, ac nid ydym yn gallu cynnig dim byd gwahanol i chi. Dyna pam mae'n rhaid i ni fynd i'r afael efo rhestrau aros a chyflogi rhagor o weithwyr yn y maes. Diolch yn fawr iawn i chi.
It would be remiss of me not to start by welcoming the work that this Government has done and their commitment to improve mental health and mental health services, whether that be through increased funding for services, support for campaigns to end stigma, or the mental health Measure. But, as the Cabinet Secretary's alluded to, and it should always the be the case in everything we do in politics and public life to achieve better outcomes and a better Wales, while much has been done, there are always ways in which we can build on this. The draft delivery plan, and the outcome measures outlined in it, are a positive progress to be welcomed, but there remains scope for the Welsh Government to collect consistent outcome data across all mental health services, and serious consideration should be given to the performance measures put forward by the Wales Alliance for Mental Health - measures that capture patient experience, patient outcomes, clinical outcomes, and views from professionals. Today, I wish to specifically focus on aspects of the 'Together for Mental Health' strategy that relate to the workplace in Wales. The recent recession and related threats to job security have not just placed financial pressures on workers in Wales, but have also been hard on people's health and well-being too. Research by the mental health charity Mind reveals that one in 10 have resigned due to job stress, one in four have thought about it, and one in five people take a day off due to stress. In addition, Gofal highlights that trade union reps have reported that colleagues are approaching them on a much more regular basis to talk about mental health problems and to ask for information and support. Promoting mental well-being in the workplace and preventing and tackling mental health problems is made more prescient in the current economic climate, with low wages and job uncertainty - uncertainty that I feel could increase as a consequence of the unchartered waters we now find ourselves in post Brexit, and this can impact on mental health. Therefore, accessible support systems within the workplace and work environment are important. This can be done through Government and businesses measuring mental health problems in the workplace, and supporting trade unions, particularly equality works. I know that a lot of the right-wing press and politicians would have you believe the rhetoric of 'these evil trade unions', but the reps on the ground are amazing people who give their time voluntarily, and, in this instance, offer a link between worker and support services, as well as helping raise awareness and understanding of mental health in the workplace. I'm sure that the Cabinet Secretary agrees with me that trade union reps play a vital role in promoting good mental health and well-being in the workplace, and may often be the first point of contact for workers who are experiencing mental health problems. The draft delivery plan sets out a number of actions relating to the workplace - actions that again could be built upon in order to better assess the impact of the strategy on workplace mental health and well-being in the public sector. Specifically, the recommendation of the mental health charity Gofal that surveying public sector staff regarding their mental health and well-being, and actively seeking out, understanding and responding accordingly, could see an overall improvement in staff mental health and well-being. Finally, the importance of recognising and supporting mental health and well-being at work demonstrates all too clearly the need for mental health and well-being to cut right across the work of this Welsh Government. If we are really to deliver on the promise of 'Together for Mental Health' there needs to be exactly that - not solely a health strategy, but working together to place mental health as a priority for all Government departments from economy to education, housing and beyond.
Byddai'n esgeulus imi beidio dechrau drwy groesawu'r gwaith y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud a'u hymrwymiad i wella iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl, boed hynny drwy gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau, cefnogaeth i ymgyrchoedd i roi diwedd ar stigma, neu'r Mesur iechyd meddwl. Ond, fel y soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet, a dylai bob amser fod yn wir ym mhopeth a wnawn mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus i gyflawni gwell canlyniadau a gwell Cymru, er bod llawer wedi cael ei wneud, mae yna ffyrdd bob amser y gallwn adeiladu ar hyn. Mae'r cynllun cyflawni drafft, a'r mesurau canlyniad a amlinellir ynddo, yn gynnydd cadarnhaol i'w groesawu. Ond mae lle o hyd i Lywodraeth Cymru gasglu data canlyniadau cyson ar draws yr holl wasanaethau iechyd meddwl, a dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r mesurau perfformiad a gyflwynwyd gan Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru - mesurau sy'n dal profiad y claf, canlyniadau cleifion, canlyniadau clinigol, a barn gweithwyr proffesiynol. Heddiw, hoffwn ganolbwyntio'n benodol ar agweddau ar y strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' sy'n ymwneud â'r gweithle yng Nghymru. Mae'r dirwasgiad diweddar a bygythiadau cysylltiedig i sicrwydd swyddi nid yn unig wedi rhoi pwysau ariannol ar weithwyr yng Nghymru, ond hefyd wedi bod yn galed ar iechyd a lles pobl. Mae ymchwil gan yr elusen iechyd meddwl Mind yn datgelu bod un o bob 10 wedi ymddiswyddo oherwydd straen eu swyddi, mae un o bob pedwar wedi meddwl am y peth, ac mae un o bob pump o bobl yn cymryd diwrnod i ffwrdd oherwydd straen. Yn ogystal â hyn, mae Gofal yn tynnu sylw at y ffaith bod cynrychiolwyr undebau llafur wedi adrodd bod cydweithwyr yn dod atyn nhw yn llawer mwy rheolaidd i siarad am broblemau iechyd meddwl ac i ofyn am wybodaeth a chymorth. Mae hybu lles meddwl yn y gweithle ac atal a mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl yn cael ei wneud yn fwy proffwydol yn yr hinsawdd economaidd bresennol, gyda chyflogau isel ac ansicrwydd swyddi - ansicrwydd yr wyf yn teimlo y gallai gynyddu o ganlyniad i'r dyfroedd dieithr yr ydym yn awr yn cael ein hunain ynddynt ar ôl Brexit, a gall hyn gael effaith ar iechyd meddwl. Felly, mae systemau cymorth hygyrch o fewn amgylchedd y gweithle ac amgylchedd gwaith yn bwysig. Gellir gwneud hyn wrth i'r Llywodraeth a busnesau fesur problemau iechyd meddwl yn y gweithle, a chefnogi undebau llafur, yn enwedig gwaith ar gydraddoldeb. Gwn y byddai llawer o'r wasg a gwleidyddion asgell dde am i chi gredu rhethreg yr 'undebau llafur drwg hyn'. Ond mae'r cynrychiolwyr ar lawr gwlad yn bobl ryfeddol sy'n rhoi o'u hamser yn wirfoddol, ac, yn yr achos hwn, yn cynnig cyswllt rhwng y gweithiwr a gwasanaethau cymorth, yn ogystal â helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o iechyd meddwl yn y gweithle. Rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi bod cynrychiolwyr undebau llafur yn chwarae rhan allweddol wrth hybu iechyd meddwl da a lles yn y gweithle. Yn aml nhw fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gweithwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'r cynllun cyflawni drafft yn nodi nifer o gamau gweithredu sy'n ymwneud â'r gweithle - camau y gellid unwaith eto adeiladu arnynt er mwyn asesu effaith y strategaeth ar iechyd meddwl yn y gweithle a lles yn y sector cyhoeddus. Yn benodol, mae argymhelliad yr elusen iechyd meddwl Gofal y gallai arolygu staff y sector cyhoeddus o ran eu hiechyd meddwl a'u lles, a mynd ati i geisio, deall ac ymateb yn unol â hynny, arwain at welliant cyffredinol mewn iechyd meddwl a lles staff. Yn olaf, mae pwysigrwydd cydnabod a chefnogi iechyd meddwl a lles yn y gwaith yn dangos yn rhy glir yr angen i iechyd meddwl a lles dorri ar draws gwaith y Llywodraeth hon yng Nghymru. Os ydym mewn gwirionedd yn mynd i gyflawni'r addewid yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' mae angen cael hynny - nid strategaeth iechyd yn unig, ond gweithio gyda'n gilydd i osod iechyd meddwl fel blaenoriaeth ar gyfer holl adrannau'r Llywodraeth o economi i addysg, tai a thu hwnt.
I agree with the closing comments there of Hannah Blythyn that this is not just a question of looking at mental health issues; it's a question of looking at it in terms of the broader physical health and, indeed, workplace well-being and health as well. I think you hit the nail on the head there, Hannah. It's over three years now since this strategy was published, and warmly welcomed at the time, as with many strategies before and since, but with the caveat that we see real outcomes and improvements beyond the words. I was looking through the Mind briefing that was e-mailed to Assembly Members and I noticed that there is concern that the strategy does not give enough of a role to the voluntary sector. The third sector can play a crucial role in giving a voice to people with lived experience and enable them to be heard. I would go further, actually, and say that the voluntary sector is probably the most suited to raising the profile of mental health issues and reaching out to those communities across Wales. I think it has a nimbleness and a localism to it that you can't really create in the traditional mainstream channels. Those channels have their place, but the voluntary sector has its particular place.
Rwy'n cytuno â'r sylwadau cloi gan Hannah Blythyn nad yw hyn yn fater o edrych ar faterion iechyd meddwl yn unig; mae'n fater o edrych arno o ran yr iechyd corfforol ehangach ac, yn wir, les ac iechyd yn y gweithle hefyd. Rwy'n meddwl eich bod yn taro'r hoelen ar ei phen yn y fan yna, Hannah. Mae mwy na thair blynedd bellach ers cyhoeddi'r strategaeth hon, a chafodd groeso cynnes ar y pryd, fel gyda llawer o strategaethau cyn ac ers hynny, ond gyda'r cafeat ein bod yn gweld canlyniadau gwirioneddol a gwelliannau y tu hwnt i'r geiriau. Roeddwn yn edrych drwy bapurau briffio Mind a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad a sylwais fod pryder nad yw'r strategaeth yn rhoi digon o swyddogaeth i'r sector gwirfoddol. Mae'r trydydd sector yn gallu chwarae rhan hanfodol wrth roi llais i bobl sydd â phrofiad byw a'u galluogi i gael eu clywed. Byddwn yn mynd ymhellach, mewn gwirionedd, ac yn dweud mai'r sector gwirfoddol yn ôl pob tebyg yw'r mwyaf addas ar gyfer codi proffil materion iechyd meddwl ac estyn allan i'r cymunedau hynny ar draws Cymru. Rwy'n credu fod ystwythder a lleoliaeth yn perthyn iddo na allwch chi wir ei greu yn y sianelau prif ffrwd traddodiadol. Mae gan y sianelau hynny eu lle, ond mae gan y sector gwirfoddol ei le penodol.
Thank you very much. I just want to agree strongly with your comments and apply them particularly to the pressure facing CAMHS. The number of referrals to CAMHS has increased dramatically, but often CAMHS are unable to give the support that families need, and the resilience and tools they need. This is where the third sector in particular could come in with extra support for families.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf eisiau cytuno'n gryf â'ch sylwadau a'u cymhwyso yn benodol i'r pwysau sy'n wynebu CAMHS. Mae nifer yr atgyfeiriadau i CAMHS wedi cynyddu'n ddramatig, ond yn aml nid yw CAMHS yn gallu rhoi'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd, a'r gwytnwch a'r offer sydd eu hangen arnynt. Dyma lle y gallai'r trydydd sector yn arbennig gynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd.
Yes, I quite agree with you, Lee. In fact, I was listening to Dai Lloyd's comments earlier, and Dai was talking about shortages across the board. You mentioned the shortage of therapists, and it struck me as you were speaking, Dai, that yes, there is a shortage of therapists, and I wonder whether this is an area that the Welsh Government could look at in terms of campaigning to recruit therapists, because a number of therapists that I've spoken to have said that they only found themselves going into that line of work accidentally after they were told, 'You would be good at doing this'. They would never have thought of it before. So, I think that there's an area - . This isn't about money; this is about actually persuading people that they would be good at doing an area like that. So, I think this an area that the Welsh Government really could make some headway in. There are problems here across the rest of the UK as well, so if you really want to make a mark, Cabinet Secretary, then please look at recruitment of therapists and how you can campaign to get those into that job. I was recently asked to host an event in my home village of Raglan on behalf of Time to Change Wales, the first national campaign to end the stigma and discrimination faced by people with mental health problems. I became aware of the existence of this group - going back to knowledge of these groups - purely through bumping into one of their champions, Bev Jones, who happened to live in my village. I bumped into her in the street, and through subsequent meetings we bonded, became friends, and she really raised the profile to me of the campaign Time to Change Wales, and indeed mental health issues in general, which I wouldn't have been aware of before. It struck me how much we rely on people within this field, and often through accidental meetings, to increase our knowledge of what's going on out there, which in our job as Assembly Members is vital to being able to help other people and to direct them on the right pathways. As the Time to Change Wales website says, the campaign is needed because although mental health problems are very common, it can still be a taboo subject. Time to Change wants to improve knowledge and understanding about mental illness and, most importantly, to get people talking about mental health. This campaign, one of a number, is an example of how far we have come over the last few years, and how across Wales there are organisations and groups of volunteers who, through their hard work and dedication, are helping to deliver on the aims of 'Together for Mental Health'. A final few words on the development of Wales as a dementia-friendly nation. This topic was broadly covered in Lynne Neagle's comments earlier. Again, I'm lucky; my home village of Raglan in Monmouthshire has helped lead the way in this field - don't get the idea that everything is going on in my village, but a lot is - with the designation of, initially, the Raglan project a couple of years ago, and that's morphed now into the wider Monmouthshire project, and that is reliant on local networks, local people. I know Mark Drakeford, in your previous role as Minister for health, in fact, visited that project in its early days. You would have seen how local volunteers are helping to deliver on the Government's aims and are complementing the mainstream health channels to do that. Local people looking after each other in the first instance. It's a great example of how community can work, with community looking out for community, people looking out for people. There is a lot of good practice out there, in conclusion. Some of it is due to the actions of Government, some is in spite of the actions of Government, and that's, of course, the UK not just here. Let's keep the pressure up for some real change in mental health provision so that people across Wales are able to access the best services at the times in their lives that they need it most.
Ie, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Lee. Yn wir, roeddwn yn gwrando ar sylwadau Dai Lloyd yn gynharach, ac roedd Dai yn siarad am brinder ar draws y bwrdd. Soniasoch am y prinder therapyddion, ac roedd yn fy nharo i fel yr oeddech yn siarad, Dai, oes, mae prinder therapyddion, ac rwy'n meddwl tybed a yw hyn yn faes y gallai Llywodraeth Cymru edrych arno o ran ymgyrchu i recriwtio therapyddion. Mae nifer o'r therapyddion yr wyf wedi siarad â nhw wedi dweud eu bod ond wedi mynd i mewn i'r math hwnnw o waith yn ddamweiniol ar ôl clywed, 'Byddech chi yn dda am wneud hyn'. Ni fyddent byth wedi meddwl amdano cyn hynny. Felly, rwy'n meddwl bod maes - . Nid yw hyn yn ymwneud ag arian; mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â pherswadio pobl y byddent yn dda yn gweithio mewn maes fel 'na. Felly, rwy'n credu bod hwn yn faes y gallai Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd gael rhywfaint o lwyddiant ynddo. Mae problemau ar draws gweddill y DU hefyd, felly os ydych yn dymuno gwneud eich marc, Ysgrifennydd y Cabinet, yna edrychwch ar recriwtio therapyddion a sut y gallwch ymgyrchu i gael y rheini i mewn i'r swydd honno. Gofynnwyd i mi yn ddiweddar i gynnal digwyddiad yn fy mhentref genedigol, sef Rhaglan, ar ran Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. Deuthum yn ymwybodol o fodolaeth y grŵp hwn - yn mynd yn ôl at wybodaeth am y grwpiau hyn - dim ond trwy daro ar draws un o'u hyrwyddwyr, Bev Jones, a oedd yn digwydd byw yn fy mhentref i. Deuthum ar ei thraws ar y stryd, a thrwy gyfarfodydd dilynol rydym wedi bondio, daethom yn ffrindiau, a hi wnaeth godi proffil ymgyrch Amser i Newid Cymru i mi, ac yn wir faterion iechyd meddwl yn gyffredinol, na fyddwn wedi bod yn ymwybodol ohonynt o'r blaen. Mae'n fy nharo i faint yr ydym yn dibynnu ar bobl o fewn y maes hwn, ac yn aml drwy gyfarfodydd damweiniol, i gynyddu ein gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd allan yno, sydd yn hanfodol yn ein gwaith ni fel Aelodau Cynulliad er mwyn gallu helpu pobl eraill a'u cyfeirio ar y llwybrau cywir. Fel mae gwefan Amser i Newid Cymru yn ei ddweud, mae angen yr ymgyrch oherwydd er bod problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn mae'n gallu bod yn bwnc tabŵ o hyd. Mae Amser i Newid yn awyddus i wella gwybodaeth a dealltwriaeth am salwch meddwl ac, yn bwysicaf oll, i gael pobl i siarad am iechyd meddwl. Mae'r ymgyrch hon, un o nifer, yn enghraifft o ba mor bell yr ydym wedi dod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a sut y ceir sefydliadau a grwpiau o wirfoddolwyr ledled Cymru sydd, trwy eu gwaith caled a'u hymroddiad, yn helpu i gyflawni nodau 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Ychydig eiriau olaf ar ddatblygiad Cymru fel cenedl sy'n ystyriol o ddementia. Ymdriniwyd â'r pwnc hwn yn fras yn sylwadau Lynne Neagle yn gynharach. Unwaith eto, rwy'n lwcus; mae fy mhentref genedigol, sef Rhaglan yn Sir Fynwy, wedi helpu i arwain y ffordd yn y maes hwn - peidiwch â chael y syniad bod popeth yn digwydd yn fy mhentref i, ond mae llawer yn digwydd yno - gyda dynodi, i ddechrau, brosiect Rhaglan ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac mae hwnnw wedi newid yn raddol i fod yn brosiect ehangach i Sir Fynwy, ac mae hynny'n ddibynnol ar rwydweithiau lleol, pobl leol. Rwy'n gwybod fod Mark Drakeford, yn eich rôl flaenorol fel Gweinidog Iechyd, mewn gwirionedd, wedi ymweld â'r prosiect yn ei ddyddiau cynnar. Byddech wedi gweld sut mae gwirfoddolwyr lleol yn helpu i gyflawni amcanion y Llywodraeth ac yn ategu'r sianeli iechyd prif ffrwd i wneud hynny. Pobl leol yn edrych ar ôl ei gilydd yn y lle cyntaf. Mae'n enghraifft wych o sut gall cymuned weithio, gyda chymuned yn gofalu am gymuned, pobl yn gofalu am bobl. I gloi, mae llawer o arferion da allan yno. Mae rhywfaint ohonynt oherwydd camau gweithredu'r Llywodraeth, mae rhywfaint er gwaethaf camau gweithredu'r Llywodraeth, a'r DU yw hynny, wrth gwrs, nid dim ond yma. Gadewch inni gadw'r pwysau ar gyfer newid gwirioneddol yn y ddarpariaeth iechyd meddwl fel bod pobl ledled Cymru yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau gorau ar yr adegau yn eu bywydau y maent eu hangen fwyaf.
Can I thank the Cabinet Secretary for presenting the Welsh Government's 'Together for Mental Health' delivery plan today? It's most welcome. The last Labour administration introduced measures that saw a significant increase in funding for mental health services and stated that people who receive these services should have both care and treatment plans in place. Although we know that more needs to be done in this respect, I think we'd all agree it is the right way to be moving. As we've heard, mental health problems affect at least one in four people in Wales, and it's often linked to poverty, both as a cause and a symptom. Undoubtedly, poverty increases the stress and worry that can lead to poor mental health. For those suffering from mental health problems, securing and retaining employment and coping with day-to-day financial challenges can be a major hurdle. The decision of the last administration to both increase and ring-fence spending on mental health funding provides the opportunity to increase access to support, enhance pathways and improve outcomes for service users. The mental health delivery plan will be a vital component in achieving these outcomes, but I'd like to focus on one particular area, that of the mental health first aid programme, which is a key programme in the 'Together for Mental Health' strategy in raising awareness, particularly in the workplace. Through their involvement in local partnership boards, it's clear that public bodies have a role in this regard by co-ordinating strategies to ensure the implementation of the plan. They also have a role as employers in taking the lead on providing mental health awareness, both in respect of the day-to-day service delivery and amongst their own staff. Local education authorities also have a crucial part to play in raising awareness around mental health issues amongst children in schools, including working to end the stigma that we've heard so much about surrounding mental illness and tackling any intolerance and bullying around that. It's true that most of our public service employers do provide counselling services for their staff, but, often, these don't go as far as providing additional support to help them identify if their mental health is at risk or to provide further support services for those who do identify that they're experiencing mental health problems. However, it is to be welcomed that an increasing number of local authorities, health boards and other public services in Wales are starting to recognise the benefit of providing mental health awareness training, often in partnership with their trade unions. My own union, Unison, for example, has developed a comprehensive training package in this area for its members. There are also some excellent examples of major companies, like Admiral and Dŵr Cymru, who provide comprehensive mental health awareness training for their employees, not only to help them in their engagement with customers, but also to support colleagues in the workplace. These companies see raising awareness around mental health issues as a key part of their health and safety obligations. I hope, therefore, that, in recognition of the importance of the delivery of this strategy, more public bodies will look to embrace mental health first aid programmes and provide awareness training, both for their workforce and for the delivery of their services.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' heddiw? Mae i'w groesawu'n fawr. Cyflwynodd y weinyddiaeth Lafur ddiwethaf fesurau a welodd gynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a dywedodd y dylai pobl sy'n derbyn y gwasanaethau hyn gael cynllun gofal a thriniaeth ar waith. Er ein bod yn gwybod bod angen gwneud mwy yn hyn o beth, rwy'n meddwl ein bod ni oll yn cytuno mai dyma'r ffordd iawn i fod yn symud. Fel yr ydym wedi clywed, mae problemau iechyd meddwl yn effeithio ar o leiaf un o bob pedwar o bobl Cymru, ac mae'n aml yn cael ei gysylltu â thlodi, fel achos ac fel symptom. Yn ddi-os, mae tlodi yn cynyddu'r straen a'r poen meddwl a all arwain at iechyd meddwl gwael. I'r rhai sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, gall sicrhau a chadw cyflogaeth ac ymdopi â heriau ariannol o ddydd i ddydd fod yn rhwystr mawr. Mae penderfyniad y weinyddiaeth ddiwethaf i gynyddu a chlustnodi gwariant ar gyllid iechyd meddwl yn rhoi cyfle i gael mwy o fynediad at gefnogaeth, gwella llwybrau a gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau. Bydd y cynllun cyflawni iechyd meddwl yn elfen hanfodol o ran cyflawni'r canlyniadau hyn, ond hoffwn i ganolbwyntio ar un maes penodol, sef y rhaglen cymorth cyntaf iechyd meddwl, sy'n rhaglen allweddol yn y strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' o ran codi ymwybyddiaeth, yn enwedig yn y gweithle. Trwy eu cysylltiad â byrddau partneriaeth lleol, mae'n amlwg bod gan gyrff cyhoeddus swyddogaeth yn hyn o beth drwy gydlynu strategaethau er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu. Mae ganddynt hefyd swyddogaeth fel cyflogwyr i gymryd yr awenau ar ddarparu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, o ran y ddarpariaeth o wasanaethau o ddydd i ddydd ac ymysg eu staff eu hunain. Mae gan awdurdodau addysg lleol ran hanfodol i'w chwarae wrth godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl ymysg plant mewn ysgolion, gan gynnwys gweithio i roi terfyn ar y stigma yr ydym wedi clywed cymaint amdano ynghylch salwch meddwl a mynd i'r afael ag unrhyw anoddefgarwch a bwlio sydd ynghlwm wrth hynny. Mae'n wir fod y rhan fwyaf o'n cyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau cynghori ar gyfer eu staff. Ond yn aml nid yw'r rhain yn mynd mor bell â darparu cymorth ychwanegol i'w helpu i nodi a yw eu hiechyd meddwl mewn perygl neu i ddarparu gwasanaethau cymorth pellach ar gyfer rhai sy'n nodi eu bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae i'w groesawu bod nifer cynyddol o awdurdodau lleol, byrddau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn dechrau cydnabod mantais darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, yn aml mewn partneriaeth â'u hundebau llafur. Mae fy undeb fy hun, Unsain, er enghraifft, wedi datblygu pecyn hyfforddiant cynhwysfawr yn y maes hwn ar gyfer ei aelodau. Mae hefyd rai enghreifftiau gwych o gwmnïau mawr, fel Admiral a Dŵr Cymru, sy'n darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl cynhwysfawr ar gyfer eu gweithwyr, nid yn unig i'w helpu yn eu hymgysylltiad â chwsmeriaid, ond hefyd i gefnogi cydweithwyr yn y gweithle. Mae'r cwmnïau hyn yn gweld codi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl fel rhan allweddol o'u rhwymedigaethau iechyd a diogelwch. Rwy'n gobeithio, felly, i gydnabod pwysigrwydd cyflwyno'r strategaeth hon, y bydd mwy o gyrff cyhoeddus yn barod i groesawu rhaglenni cymorth cyntaf iechyd meddwl a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth, ar gyfer eu gweithlu ac er mwyn darparu eu gwasanaethau.
Can I firstly commend the Government on its approach to the delivery plan, and in particular the extensive formal consultation and the engagement with stakeholders, carers and users of services? As many people have mentioned today, one of the most significant contributions to the improvement of mental health services was the passage of the Mental Health (Wales) Measure 2010 and, in particular, I want to refer to the increasing ease of access to primary mental health assessments. It goes without saying that timely access to assessments is crucial in terms of the prior diagnosis and ongoing treatment of mental ill health. Targets for those assessments have been challenging, but progress in meeting them has been very good in many parts of Wales. But there's clearly been an increase in demand. No doubt, part of that has been caused by the availability of better access, and so that's obviously to be welcomed, but it seems to me that an increase in people presenting with potential mental illness is also a result of the increasing pressures that people face in leading their lives - financial worries, relationship breakdowns, other health conditions and so on. So, the question of access to an assessment and the capacity to meet increasing demand, even if current performance is encouraging, is going to be vital. One of the changes brought in by regulations under the Act was to change the eligibility for those entitled to undertake a primary assessment, in particular by withdrawing entitlement, for example, from psychotherapists. During consultation, under the regulations, concerns were raised in relation to that change, not least since some of those practitioners provide NHS services to patients at different points in their journey, as we've heard today. It's obviously essential that those providing services are properly trained, that their expertise and experience is current, and that they operate within a recognised ethical framework. The Government has indicated it would look again at the issue of eligibility to provide assessments. So, in the interest of ensuring that we have the right levels and the right types of capacity to meet what is surely going to be an increasing need, I'd welcome an indication of whether the Government's intention is still to bring forward proposals on the issue of eligibility, and if so, within what sort of timescale.
A gaf i yn gyntaf ganmol y Llywodraeth ar ei dull o weithredu'r cynllun cyflawni, ac yn benodol yr ymgynghoriad ffurfiol helaeth a'r ymgysylltu â rhanddeiliaid, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau? Fel y soniodd llawer o bobl heddiw, un o'r cyfraniadau mwyaf sylweddol i wella gwasanaethau iechyd meddwl oedd hynt Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ac, yn benodol, rwyf am gyfeirio at rwyddineb cynyddol y mynediad at asesiadau iechyd meddwl sylfaenol. Afraid dweud bod mynediad amserol at asesiadau yn hanfodol o ran y diagnosis ymlaen llaw a thriniaeth barhaus o salwch meddwl. Mae targedau ar gyfer yr asesiadau hynny wedi bod yn heriol, ond mae cynnydd o ran eu bodloni wedi bod yn dda iawn mewn sawl rhan o Gymru. Ond yn amlwg bu cynnydd yn y galw. Nid oes amheuaeth, mae rhan o hynny yn ganlyniad gwell mynediad, ac felly mae hynny'n amlwg i'w groesawu. Ond mae'n ymddangos i mi fod cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynd i weld eu meddyg yn dioddef o salwch meddwl posibl hefyd o ganlyniad i'r pwysau cynyddol y mae pobl yn ei wynebu wrth fyw eu bywydau - pryderon ariannol, perthynas yn chwalu, cyflyrau iechyd eraill ac yn y blaen. Felly, mae'r mater o fynediad at asesiad a'r gallu i ateb y galw cynyddol, hyd yn oed os yw'r perfformiad presennol yn galonogol, yn mynd i fod yn hanfodol. Un o'r newidiadau a gyflwynwyd gan reoliadau dan y Ddeddf oedd newid y cymhwyster ar gyfer y rhai sydd â hawl i gynnal asesiad sylfaenol, yn benodol drwy dynnu hawliau, er enghraifft, oddi ar seicotherapyddion. Yn ystod yr ymgynghori, dan y rheoliadau, codwyd pryderon mewn cysylltiad â'r newid, yn benodol gan fod rhai o'r ymarferwyr hynny yn darparu gwasanaethau GIG i gleifion ar wahanol adegau yn eu taith, fel yr ydym wedi clywed heddiw. Mae'n amlwg yn hanfodol bod y rhai sy'n darparu gwasanaethau yn cael eu hyfforddi'n iawn, fod eu harbenigedd a'u profiad yn gyfredol, a'u bod yn gweithredu o fewn fframwaith moesegol cydnabyddedig. Mae'r Llywodraeth wedi nodi y byddai'n edrych eto ar y mater o gymhwysedd i ddarparu asesiadau. Felly, er budd sicrhau bod gennym y lefelau cywir a'r mathau cywir o allu i ddiwallu yr hyn sy'n sicr yn mynd i fod yn angen cynyddol, byddwn i'n croesawu cael gwybod a yw'n dal i fod yn fwriad gan y Llywodraeth i gyflwyno cynigion ar y mater o gymhwyster, ac os felly, beth fyddai'r amserlen.
I call on the Cabinet Secretary for health to reply to the debate.
Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd i ymateb i'r ddadl.
Thank you, Presiding Officer. I'd like to thank Members for the constructive manner in which everyone's engaged in today's debate, and also for this Chamber continuing to prioritise issues around mental health. I'll try and deal with a range of the comments. I'm pleased that so many people spoke and made so many points, but I won't have time to deal with all of them. As I said earlier, the calls that Members have made will be picked up and we'll consider them as we take forward the final delivery plan. Angela Burns started. I was very pleased to hear you acknowledge the issue about stigma, both in the workplace and wider society. This Chamber has a part, actually, in making sure that these continue to be addressed. I'm not somebody who's going to pretend that it's gone away because we've run a couple of events. In terms of the profile this has within the service, it's an issue that regularly gets raised both with me and with my contact with other parts of the service. For example, last week, it was a specific issue that was raised in my own meeting with the vice-chairs of all the local health boards. So, it's definitely something they understand is a ministerial objective and a priority for us. They also understand the point about the parity of esteem. I know it's recently been talked about in a different way, but it's something that we've been interested in and are keen to press on the service here for some time. So, that is very much part of what we expect to see delivered. In many respects I think we're ahead of NHS England in the way that we deal with mental health provision and our waiting times stand as an expectation. The challenge for us is to not simply say, 'We're better than England', but to look again, as we are doing now. What can we do better? What should we do better? And again, I'll make this point, as I have done several times, about funding: we already spend more than the ring fence on mental health services. It is absolutely not to be seen as a minimum, but I'm happy to look at the work we committed to do earlier on. It's worth noting that, in terms of outcomes against objectives and indicators, of course we'll publish information, but if I can just make this point at the outset: that over 90 per cent of service users in local primary and mental health services have been very positive about their experience. So, we do take their experience seriously and it's not something that we take for granted. A number of similar points were made by Rhun ap Iorwerth in his contribution, particularly the points - and a number of other Members made the same points - about a focus on talking therapies. Many members mentioned the same sorts of points, in particular on waiting times, where we have more stringent standards than in England. In fact, we're seeing progress being made because we are recruiting to those services. Again, a point that Dai Lloyd made about the recruitment of people into the service: that's why I mentioned in my earlier remarks that we spent £3 million last year on recruiting more people into the service for both adult and children's services, and we're spending an extra £1 million this year too. So, there's no rowing back or a failure to recognise the need to have a different staff mix as well, but also to spend some of our resources on additional recruitment. I'll deal with the CAMHS point that a number of Members mentioned as well, because we do recognise the need to both improve access to the specialist CAMHS service and, at the same time, to ensure that we have a conversation with referrers and with families about referrals into that service, because children and young people themselves have recognised that a number are inappropriately referred in, and they're actually in significant numbers. In this Chamber, you will have heard the previous Minister make this point on several occasions, and so part of what we have to do is to make sure there are other alternative referrals for people who don't need the specialist support. That is, to look at the different range of alternative interventions and support available. For example, a school counselling-based service, what Families First do - all the different interventions that are needed there to support people who need some form of help and support, even if it isn't at the specialist CAMHS end.
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am y modd adeiladol y mae pawb wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, a hefyd i'r Siambr hon am barhau i flaenoriaethu materion yn ymwneud ag iechyd meddwl. Byddaf yn ceisio ymdrin ag amrywiaeth o sylwadau. Rwy'n falch bod cymaint o bobl wedi siarad ac wedi gwneud cymaint o bwyntiau, ond ni fydd gennyf amser i ymdrin â phob un ohonynt. Fel y dywedais yn gynharach, bydd y galwadau a wnaethpwyd gan Aelodau yn cael eu nodi a byddwn yn eu hystyried wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun cyflawni terfynol. Angela Burns ddechreuodd. Roeddwn yn falch iawn o glywed eich bod yn cydnabod y mater ynglŷn â stigma, yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae gan y Siambr hon ei rhan i'w chwarae, mewn gwirionedd, o ran sicrhau bod y rhain yn parhau i gael sylw. Dydw i ddim yn rhywun sy'n mynd i esgus bod y broblem wedi mynd i ffwrdd oherwydd ein bod wedi cynnal un neu ddau o ddigwyddiadau. O ran y proffil sydd gan hwn o fewn y gwasanaeth, mae'n fater sy'n rheolaidd yn cael ei godi gyda mi ac wrth imi gysylltu â rhannau eraill o'r gwasanaeth. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf, roedd yn fater penodol a godwyd yn fy nghyfarfod i gydag is-gadeiryddion yr holl fyrddau iechyd lleol. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth y maent yn ddeall sy'n amcan gweinidogol ac yn flaenoriaeth i ni. Maent hefyd yn deall y pwynt am barch cydradd. Rwy'n gwybod y siaradwyd amdano yn ddiweddar mewn ffordd wahanol, ond mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod â diddordeb ynddo ac yr ydym yn awyddus i'w bwyso ar y gwasanaeth yma ers peth amser. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'r hyn yr ydym yn disgwyl ei weld yn cael ei gyflwyno. Mewn sawl ffordd rwy'n credu ein bod ar y blaen i GIG Lloegr yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â darpariaeth iechyd meddwl ac mae ein hamserau aros yn ddisgwyliedig. Yr her i ni yw nid yn unig dweud, 'Rydym yn well na Lloegr', ond i edrych eto, fel yr ydym yn ei wneud yn awr. Beth allwn ni ei wneud yn well? Beth ddylem ni ei wneud yn well? Ac eto, byddaf yn gwneud y pwynt hwn, fel y gwneuthum sawl gwaith, am gyllid: rydym eisoes yn gwario mwy na'r arian a glustnodwyd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd i gael ei weld fel isafswm, ond rwy'n hapus i edrych ar y gwaith yr ydym wedi ymrwymo i'w wneud yn gynharach. Mae'n werth nodi, o ran canlyniadau yn erbyn amcanion a dangosyddion, wrth gwrs y byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth> ond hoffwn i wneud y pwynt hwn ar y cychwyn: bod dros 90 y cant o ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd sylfaenol ac iechyd meddwl lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn am eu profiad. Felly, rydym yn cymryd eu profiad o ddifrif ac nid yw'n rhywbeth yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol. Gwnaed nifer o bwyntiau tebyg gan Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad, yn enwedig y pwyntiau - a gwnaeth nifer o Aelodau eraill yr un pwyntiau - am ganolbwyntio ar therapïau siarad. Crybwyllodd llawer o aelodau yr un math o bwyntiau, yn benodol ar amseroedd aros, lle mae gennym safonau llymach nag yn Lloegr. Yn wir, rydym yn gweld cynnydd yn cael ei wneud gan ein bod yn recriwtio i'r gwasanaethau hynny. Unwaith eto, pwynt a wnaeth Dai Lloyd am recriwtio pobl i'r gwasanaeth: dyna pam y crybwyllais yn fy sylwadau cynharach ein bod wedi gwario £3 miliwn y llynedd ar recriwtio mwy o bobl i'r gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau i oedolion a phlant, ac rydym yn gwario £1 miliwn yn ychwanegol eleni hefyd. Felly, does dim newid meddwl i fod na methiant i gydnabod yr angen i gael cymysgedd gwahanol o staff, ond hefyd rydym am wario rhywfaint o'n hadnoddau ar recriwtio ychwanegol. Byddaf yn ymdrin â'r pwynt CAMHS y gwnaeth nifer o Aelodau ei grybwyll, oherwydd ein bod yn cydnabod yr angen i wella mynediad at y gwasanaeth CAMHS arbenigol ac, ar yr un pryd, i sicrhau ein bod yn cael sgwrs gydag atgyfeirwyr a theuluoedd am atgyfeiriadau i mewn i'r gwasanaeth hwnnw, gan fod plant a phobl ifanc eu hunain wedi cydnabod bod nifer yn cael eu hatgyfeirio i mewn yn amhriodol, ac mae'r niferoedd yn sylweddol mewn gwirionedd. Yn y Siambr hon, byddwch wedi clywed y Gweinidog blaenorol yn gwneud y pwynt hwn ar sawl achlysur, ac felly rhan o'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw gwneud yn siŵr bod atgyfeiriadau amgen eraill ar gyfer pobl nad oes angen y gefnogaeth arbenigol arnynt. Hynny yw, edrych ar yr ystod wahanol o ymyriadau amgen a chefnogi sydd ar gael. Er enghraifft, gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion, yr hyn y mae Teuluoedd yn Gyntaf yn ei wneud - yr holl wahanol ymyriadau sydd eu hangen yno i gynorthwyo pobl sydd angen rhyw fath o gymorth a chefnogaeth, hyd yn oed os nad yw'n wasanaethau CAMHS arbenigol.
I'll just finish this point. That was taken forward in the recent Together for Children and Young People programme, and the conference that I spoke to remotely - I couldn't attend there on the day. This is something we have to work through at both ends is the point that I'm trying to make. I don't mind who intervenes first. [Interruption.] Well, Angela Burns I heard first, and then I'll deal with Rhun, to see if he wants to say the same thing or different.
Byddaf yn gorffen y pwynt hwn. Cafodd hynny ei ddwyn ymlaen yn rhaglen ddiweddar Law yn Llaw ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, a'r gynhadledd y siaradais â hi o bell - ni allwn fod yn bresennol yno ar y diwrnod. Y pwynt yr wyf yn ceisio ei wneud yw bod hwn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni weithio drwyddo ar y ddau ben. Nid wyf yn poeni pwy sy'n ymyrryd gyntaf. [Torri ar draws.] Wel, Angela Burns a glywais yn gyntaf, ac yna byddaf yn ymdrin â Rhun, i weld a yw ef am ddweud yr un peth neu rywbeth gwahanol.
Thank you, and I do take the point that Rhun made and that you've answered, however, where it falls down is in a place like this: for example, an urgent referral for CAMHS if a child is presenting with self-harm and has said they're going to kill themselves. If that child is autistic, then they don't get that help, because CAMHS say that that is not one of the disorders that they deal with. I've got this as an ongoing case in my constituency, and it's absolutely a ridiculous situation, where a child fulfils one set of criteria, but, because they happen to have a particular disorder, they're excluded from the CAMHS process, and so they're then pushed back into social services. That's the kind of clarity that needs to be brought to the situation.
Diolch i chi, ac rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth Rhun ac yr ydych wedi'i ateb. Fodd bynnag, lle mae'n methu yw mewn lle fel hyn: er enghraifft, atgyfeiriad brys ar gyfer CAMHS os yw plentyn sy'n cael ei weld am ei fod yn hunan-niweidio ac wedi dweud ei fod yn mynd i ladd ei hunan. Os yw'r plentyn hwnnw yn awtistig, yna nid yw'n cael y cymorth hwnnw, oherwydd bod CAMHS yn dweud nad yw hynny'n un o'r anhwylderau y maent yn ymdrin â hwy. Mae hwn yn achos parhaus yn fy etholaeth i, ac mae'n sefyllfa hollol chwerthinllyd, lle mae plentyn yn bodloni un set o feini prawf, ond, oherwydd ei fod yn digwydd bod ag anhwylder penodol, mae'n cael ei eithrio o'r broses CAMHS, ac felly wedyn mae'n cael ei wthio yn ôl i mewn i'r gwasanaethau cymdeithasol. Dyna'r math o eglurder sydd ei angen mewn sefyllfa fel hon.
I think there's a point about seeing the whole person, rather than one particular condition, but if you write to me on that particular issue, I can offer something more helpful on it. I'll try and make some progress. Again, the UKIP spokesperson made a number of constructive points. The only thing that I would say in particular is, on the call for more money, I have indicated we're investing more money. We're investing more money than ever before, and we've continued to invest. The challenge isn't the call for more money; the challenge always is where we find it and where we choose not to spend it as well.
Rwy'n meddwl bod yna bwynt ynghylch gweld y person cyfan, yn hytrach nag un cyflwr penodol, ond os ysgrifennwch ataf ar y mater penodol hwnnw, gallaf gynnig rhywbeth mwy defnyddiol arno. Byddaf yn ceisio gwneud rhywfaint o gynnydd. Unwaith eto, gwnaeth llefarydd UKIP nifer o bwyntiau adeiladol. Yr unig beth y byddwn i yn ei ddweud yn benodol, o ran y galw am fwy o arian, yw fy mod wedi dweud ein bod yn buddsoddi mwy o arian. Rydyn ni'n buddsoddi mwy o arian nag erioed o'r blaen, ac rydym wedi parhau i fuddsoddi. Nid yr alwad am fwy o arian yw'r her; yr her bob amser yw ble i ddod o hyd iddo a ble rydyn ni'n peidio â dewis ei wario hefyd.
On that point specifically - and it's a general point on funding - funding for CAMHS does seem, on the face of it, to have gone down over the past few years. Could you give clarity on whether that is a coding issue of where exactly funding for treating 16-year-olds plus lies within the health service, or whether there has been a deterioration in funding for young people?
Ar y pwynt hwnnw yn benodol - ac mae'n bwynt cyffredinol ar gyllid - mae cyllid ar gyfer CAMHS yn ymddangos, ar yr olwg gyntaf, i fod wedi mynd i lawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. A allech chi egluro ai mater o godio ble yn union y daw'r cyllid ar gyfer trin rhywun 16 mlwydd oed a throsodd o fewn y gwasanaeth iechyd, neu a fu dirywiad yn y cyllid ar gyfer pobl ifanc?
As I said, we announced significant additional investment last year of £7.65 million, and I indicated that in my opening remarks as well. So, I don't accept that there has been a reduction in funding for CAMHS; that isn't the challenge that we face. In fact, we wouldn't have been able to recruit new people into the service to do something about addressing long waiting times - certainly not finished yet - without that additional investment in staff. I'd better make some progress. In particular, I wanted to recognise the points made by Lynne Neagle in, again, a very well-constructed contribution about dementia in particular, and highlighting us being a dementia-friendly nation and having dementia-friendly communities, and the impact that has on individuals across that community, both in understanding, but also a better life experience as well, and also in particular for highlighting the scale of the challenge. I can say that we expect to have the new dementia strategic action plan by the end of this calendar year. But, on diagnosis, we've seen rates improve, and I expect us to reach 50 per cent by the end of this year as well, and then set our new level of expectation. I'll just deal with a number of the points that Dai Lloyd mentioned. On policing our practical relationships, it is something we work hard at, and we recognise we need to continue to do so, as well as your point about training for staff and the broader point about the mix of staff that we have. Nick Ramsay, apart from mentioning Raglan at several points and opportunities, I'm delighted that you also recognise the challenges across the UK, but also the way that we take advantage of the life experience of people and the impact of volunteering as part of maintaining a good level of mental health and well-being. I do, finally, want to mention the points raised by both Dawn Bowden and Hannah Blythyn, in particular looking at indicators and mental health issues in the workplace. Not just from my previous life as a lawyer, but my previous life as a shop steward for a trade union, I recognise the role that trade union representatives do have to play in helping to create a more positive workplace and actually take up action where that doesn't happen. It is an important role that is sometimes not highlighted. But I went, myself, on mental health first aid awareness training and I've made sure that my own staff have undertaken that training for the particualrly stressful and difficult roles they do from time to time as well. That may be a point that individual Members may wish to consider for themselves. Finally, I just want to deal with, not all of the points Jeremy Miles made, but to finish on this point, and it's about engagement, because your recognise the points about the responses that people have made and how we deal with the demand profile at a time of economic uncertainty and not wanting to sit back. We had 137 responses to the consultation, and the responses and the way we engage are genuine. I can say that because those responses will have changed what we end up doing in the final plan. So, we will take account of what people say and what we need to do to deal with the demand that we have now and what we expect in the future, and to make sure that we come back not just to say that we've coped, but that we've improved the situation so that outcomes have continued to improve across Wales. I look forward to speaking more in this Chamber at another time about mental health action here in Wales.
Fel y dywedais, cyhoeddwyd buddsoddiad ychwanegol sylweddol o £7.65 miliwn y llynedd, a nodais hynny yn fy sylwadau agoriadol. Felly, nid wyf yn derbyn y bu gostyngiad yn y cyllid ar gyfer CAMHS; nid dyna'r her sy'n ein hwynebu. Mewn gwirionedd, ni fyddem wedi gallu recriwtio pobl newydd i mewn i'r gwasanaeth i wneud rhywbeth ynghylch mynd i'r afael ag amserau aros hir - sy'n sicr heb ei orffen eto - heb y buddsoddiad ychwanegol hwnnw mewn staff. Byddai'n well i mi fwrw ymlaen. Yn benodol, roeddwn i eisiau cydnabod y pwyntiau a wnaed gan Lynne Neagle, unwaith eto, mewn cyfraniad a baratowyd yn dda iawn am ddementia yn benodol. Tynnodd sylw at y ffaith ein bod yn genedl ystyriol o ddementia sydd â chymunedau ystyriol o ddementia, ac effaith hynny ar unigolion ar draws y gymuned honno, o ran deall beth yw dementia, ond hefyd o ran profiad bywyd gwell, ac yn benodol tynnodd sylw at faint yr her. Gallaf ddweud ein bod yn disgwyl cael y cynllun gweithredu strategol newydd ar ddementia erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Ond rydym wedi gweld cyfraddau diagnosis yn gwella, ac rwy'n disgwyl i ni gyrraedd 50 y cant erbyn diwedd y flwyddyn hon, ac yna rwy'n disgwyl pennu ein lefel newydd o ddisgwyliadau. Rwy'n mynd i ymdrin â nifer o'r pwyntiau a grybwyllwyd gan Dai Lloyd. Ar blismona ein perthynas ymarferol, mae'n rhywbeth yr ydym yn gweithio'n galed arno, ac rydym yn cydnabod yr angen i ni barhau i wneud hynny, yn ogystal â'ch pwynt ynglŷn â hyfforddiant ar gyfer staff a'r pwynt ehangach am y gymysgedd o staff sydd gennym. Nick Ramsay, ar wahân i sôn am Raglan mewn sawl man ac ar bob cyfle, rwyf wrth fy modd eich bod hefyd yn cydnabod yr heriau ar draws y DU, ond hefyd y ffordd yr ydym yn manteisio ar brofiad bywyd pobl ac effaith gwirfoddoli fel rhan o gynnal lefel dda o iechyd meddwl a lles. Yn olaf, rwyf yn awyddus i sôn am y pwyntiau a godwyd gan Dawn Bowden a Hannah Blythyn, yn enwedig o ran edrych ar ddangosyddion a materion iechyd meddwl yn y gweithle. Nid yn unig o safbwynt fy mywyd blaenorol fel cyfreithiwr, ond hefyd fy mywyd blaenorol fel swyddog undeb i undeb llafur, rwy'n cydnabod y swyddogaeth sydd gan gynrychiolwyr undebau llafur i'w chwarae wrth helpu i greu gweithle mwy cadarnhaol ac mewn cymryd camau lle nad yw hynny'n digwydd. Mae'n swyddogaeth bwysig nad yw weithiau yn cael ei hamlygu. Ond fe es i, fy hun, ar hyfforddiant ymwybyddiaeth cymorth cyntaf iechyd meddwl ac rwyf wedi gwneud yn siŵr bod fy staff hefyd wedi ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw ar gyfer y swyddogaethau arbennig o ingol ac anodd y maent yn eu gwneud o bryd i'w gilydd. Gall hwnnw fod yn bwynt efallai y bydd Aelodau unigol yn dymuno ei ystyried drostynt eu hunain. Yn olaf, rwyf am ymdrin â, nid pob un o'r pwyntiau a wnaeth Jeremy Miles, ond i orffen ar y pwynt hwn, ac mae'n ymwneud ag ymgysylltu, oherwydd eich bod yn cydnabod y pwyntiau am yr ymatebion y mae pobl wedi'u gwneud a sut y byddwn yn ymdrin â'r proffil galw ar adeg o ansicrwydd economaidd ac nad ydym yn dymuno eistedd yn ôl. Cawsom 137 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ac mae'r ymatebion a'r modd yr ydym yn ymgysylltu yn ddilys. Gallaf ddweud hynny oherwydd bydd yr ymatebion hynny wedi newid yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y pen draw yn y cynllun terfynol. Felly, byddwn yn ystyried yr hyn y mae pobl yn ei ddweud a'r hyn sydd angen iddynt ei wneud i ymdrin â'r galw sydd gennym yn awr a'r hyn a ddisgwyliwn yn y dyfodol, ac i wneud yn siŵr ein bod yn dod yn ôl, nid yn unig i ddweud ein bod wedi ymdopi , ond ein bod wedi gwella'r sefyllfa a bod y canlyniadau wedi parhau i wella ledled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at siarad mwy yn y Siambr hon ar adeg arall am weithredu iechyd meddwl yma yng Nghymru.
The proposal is to agree amendment 1. Does any Member object? [Objection.] As there is objection, I will defer voting on this item until voting time.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The next item on our agenda is the debate on renaming the National Assembly. Before I call upon the First Minister to move the motion and open the debate, I would like to make a brief statement. The Assembly has become a very different place to the one elected in 1999. It now passes laws and agrees taxes, as well as holding the Government to account and providing a focal point for democratic discussions on issues that are important to the people of Wales. It is therefore appropriate for us to give serious consideration to the renaming of the institution. The Wales Bill currently being considered in Westminster, and possibly as we speak, gives the Assembly the power to change its name. In order to achieve this, a Bill must be submitted in accordance with the arrangements of our legislative process, and two thirds of our Members will be required to support this legislation. Therefore, securing cross-party support for any such proposal is vital. If the motion is agreed today, the next steps will be to consult soon on what the name should be. There are several possibilities, and many associated terms stemming from that choice. We must also consider how soon the change should be made, and consider how we communicate the change clearly and how it should be symbolised. The name should continue to inspire confidence and pride among the people of Wales. I will discuss these matters further with my fellow Commissioners at the earliest opportunity, and I will notify the Assembly of the next steps at the outset of the autumn term. For today, I look forward to hearing Members' initial comments on the renaming of our National Assembly. To propose the motion, I call on the First Minister, Carwyn Jones.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r ddadl ar ailenwi y Cynulliad Cenedlaethol. Cyn i mi alw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig ac agor y ddadl, hoffwn wneud datganiad byr. Mae'r Cynulliad bellach yn lle tra gwahanol i'r un a etholwyd yn 1999. Mae nawr yn pasio Deddfau a'n cytuno trethi, yn ogystal â dwyn y Llywodraeth i gyfrif a rhoi canolbwynt i drafodaethau democrataidd ar faterion o bwys i bobl Cymru. Mae'n briodol felly i ni ystyried o ddifrif ailenwi'r sefydliad. Mae Mesur Cymru sy'n cael ei ystyried yn San Steffan ar hyn o bryd - o bosib wrth ein bod ni'n siarad - yn darparu'r pwerau i'r Cynulliad newid ei enw. Er mwyn cyflawni hyn, bydd rhaid cyflwyno'r ddeddfwriaeth yma, yn unol â threfniadau ein proses deddfwriaethol a bydd angen i ddwy ran o dair o'n haelodaeth gefnogi'r ddeddfwriaeth yma. Mae sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer unrhyw gynnig felly yn allweddol. Os cymeradwyir y cynnig heddiw felly, y camau nesaf fydd i ymgynghori yn fuan ar yr hyn dylai'r enw fod. Mae yna sawl enw posib a sawl term cysylltiol sy'n deillio o'r dewis. Rhaid ystyried pa mor fuan dylid gwneud y newid ac ystyried sut rydym yn cyfathrebu'r newid yn glir a symboli hyn. Dylai'r enw barhau i ysgogi hyder a balchder ymysg bobl Cymru. Byddaf yn trafod y materion yma ymhellach gyda fy nghyd-Gomisiynwyr ar y cyfle cyntaf ac yn hysbysu'r Cynulliad o'r camau nesaf ar gychwyn tymor yr hydref. Ond, am heddiw, edrychaf ymlaen at glywed sylwadau cychwynnol yr Aelodau ar ailenwi ein Cynulliad Cenedlaethol. I gyflwyno'r cynnig, rwy'n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Thank you, Llywydd. There's nothing that I can add to that, of course, I must say.
Diolch, Lywydd. Nid oes dim byd y gallaf i ei ychwanegu at hynny, wrth gwrs, mae'n rhaid imi ddweud.
You can sit down [Laughter.]
Fe gewch chi eistedd i lawr [Chwerthin.]
Therefore, may I say that I agree entirely with what you had to say? So, I would just like to add, therefore, that the Government's view on the amendments is that we don't oppose them in principle, but, at the moment, of course, we must ensure that the question of what this institution should be called should be an open question. Although the amendments don't create a situation where we would have to change the name of the Assembly to 'Senedd' in both Welsh and English, I think people would expect that to happen if we were to support these amendments this afternoon. Therefore, I have nothing to add. I would just move the motion formally and inform the Assembly of the Government's stance on the amendments.
Ond a gaf fi ddweud felly fy mod i'n cytuno'n hollol â'r hyn yr oedd gennych chi i'w ddweud? Jest i ychwanegu, felly, safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â gwelliannau: nid ydym yn erbyn y gwelliannau mewn egwyddor, ond, ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'n rhaid sicrhau bod y cwestiwn o beth ddylai'r sefydliad hwn gael ei alw yn un sydd yn gwestiwn agored. Felly, er nad yw'r gwelliannau'n creu sefyllfa lle byddai'n rhaid newid enw'r Cynulliad i 'Senedd' yn Saesneg ac yn Gymraeg, byddai pobl yn erfyn i hynny ddigwydd, yn fy marn i, pe byddem yn cefnogi'r gwelliannau hyn y prynhawn yma. Felly, nid oes gennyf ragor i'w ychwanegu, ond i symud y cynnig yn ffurfiol ac i ddweud wrth y Cynulliad beth yw safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â'r gwelliannau.
I have selected two amendments to the motion. I call on Bethan Jenkins to move amendments 1 and 2, tabled in her name.
Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn ei henw hi.
Thank you, Llywydd. I'd like to speak to these amendments. I think that I will start the debate here today, but I won't perhaps push it to a vote, so that we can have a debate on this change of name in the Assembly and then allow the Presiding Officer to consult widely on the situation. First of all, I'd like to welcome the opportunity to discuss this issue and the open wording of the motion - a motion that gives us an opportunity to carefully consider the name of our democratic national institution. Each and every one of us believes that, as an institution, we should be an exemplar and an inspiration to the nation in terms of our innovative policies and legislation and in our use of our unique national language. In 1997, we gained devolution on the basis that we would create a new kind of democracy that would reflect the values of Wales, not a forum to follow the practices of our nations without question. During the last decade and a half, you could perhaps argue that we have concentrated too much on our status as an institution rather than on ploughing our own furrow. Over a period of 17 years, we have tried to build an institution that is respected, having separated the legislature from the Executive and renamed 'Secretaries' as 'Ministers', and then reversed that decision. Politicians in Scotland decided to call the 'Scottish Executive' the 'Scottish Government' in 2007, and, in 2011, we followed suit. It's as if our confidence stems from, and depends on emulating others. We seem to have to look over our shoulders for guidance. Raymond Williams, in 1975, said that the true symbol of a new Wales would be, and I quote, 'a time of new and active creation: people sure enough of themselves to discard their baggage; knowing the past is past, as shaping history, but with a new confident sense of the present and the future, where the decisive meanings and values will be made.' So, let us plough our own furrow, let us be self-confident enough to discard our mental baggage and to take this opportunity to be unique by adopting an official, monolingual Welsh name for our Senedd. Consider the institutions that we, as a Senedd, support and which have monolingual Welsh names, from Chwarae Teg to the Urdd, from Merched y Wawr to the Mudiad Meithrin. If we want to nurture our children as Welsh speakers, then let us nurture our democracy in the same way. Our national anthem unites us as a nation - and that's perhaps why I am a little hoarse today - with Welsh verse, and, when the crowd sings, the nation is united. It unites people whatever their background or their first language. In discussing our anthem, we should bear in mind that moment when the Welsh football team wore T-shirts with the word 'diolch' on them - our national football team, on a global stage, confidently using the Welsh language. Shouldn't we do likewise? Before I conclude, I would like to deal with some possible counter-arguments against this suggestion. Some of you may believe that we should retain the name 'National Assembly', and I do have some sympathy with that argument. It's a name that's used across the world, from Cuba to France, but I would like the Llywydd to consider the word 'Senedd' because it is already used widely on the ground. There has been a misleading report in the press, claiming that 'Senedd' refers to the Westminster Parliament. As many of you will know, 'Senedd' refers to a national legislature, not only to the UK Parliament. Finally, I know that some have argued that this building's name is 'Senedd' and that we should have another name for our legislature. There is one simple answer to that, of course, and that would be to rename the Senedd 'Senedd-dy', if we so choose. But I don't see that there's any major problem in having the same name for the building and the institution. I see no particular problem there and I think it's relatively easy for people to understand that. The word 'Senedd' is based in Latin, a language that unites our continent in all its diversity. As we, against the wishes of many in this Senedd, decided to turn our back on the European Union, let us take a step that would strengthen another European union, by renewing and reinforcing an ancient cultural union. Thank you.
Diolch, Lywydd, a hoffwn i siarad ar y gwelliannau yma. Rwy'n credu fy mod i'n mynd i ddechrau'r ddadl yma heddiw, ond heb ei gwthio at bleidlais, er mwyn inni allu cael y drafodaeth ynglŷn â'r newid yma yn y Cynulliad ac i ganiatáu wedyn i'r Llywydd ymgynghori ar y sefyllfa. Ond, yn gyntaf, hoffwn groesawu'r cyfle i siarad ar y mater yma a geiriad agored y cynnig - cynnig sy'n rhoi cyfle inni ystyried yn ofalus enw ein corff democrataidd cenedlaethol. Fel pob un ohonom, rwy'n credu y dylem, fel sefydliad, anelu at fod yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i'r genedl, o ran ein polisïau, ein deddfwriaeth flaengar, ond hefyd ein defnydd o'n hiaith genedlaethol unigryw. Yn 1997, enillom ni ddatganoli ar y sail y byddem yn creu democratiaeth o fath newydd a fyddai'n adlewyrchu gwerthoedd Cymru, nid fforwm i ddilyn arferion gwledydd eraill, heb eu cwestiynu. Yn ystod y degawd a hanner diwethaf, efallai y gallech chi ddadlau ein bod ni wedi canolbwyntio gormod ar statws ein sefydliadau yn hytrach nag ar ddilyn ein trywydd ein hunain. Dros gyfnod o 17 mlynedd, rydym wedi ceisio adeiladu sefydliad sy'n cael ei barchu, wedi gwahanu'r ddeddfwrfa o'r Weithrediaeth ac wedi ailenwi 'Ysgrifenyddion' yn 'Weinidogion', ac yn ôl eto. Penderfynodd gwleidyddion yr Alban alw'r 'Scottish Executive' yn 'Llywodraeth yr Alban' yn 2007 ac wedyn, yn 2011, fe wnaethom ni eu dilyn. Mae fel petai ein hyder yn deillio o, ac yn dibynnu ar efelychu eraill, fel bod yn rhaid edrych dros ein hysgwydd am arweiniad o hyd. Dywedodd Raymond Williams yn 1975 mai arwydd o'r wir Gymru newydd fyddai, ac rwy'n dyfynnu, cyfnod 'o greu newydd a gweithredol: pobl yn ddigon sicr o'u hunain i daflu eu beichiau; gwybod bod y gorffennol yn perthyn i'r gorffennol, fel llunio hanes, ond gydag ymdeimlad hyderus newydd o'r presennol a'r dyfodol, lle bydd yr ystyron a'r gwerthoedd tyngedfennol yn cael eu ffurfio.' Felly gadewch i ni ddilyn ein trywydd ein hunain, gadewch i ni fod yn ddigon sicr o'n hunain i daflu ein beichiau meddyliol, a manteisio ar y cyfle i fod yn unigryw drwy gael enw swyddogol uniaith Gymraeg ar ein Senedd. Ystyriwch y sefydliadau rydym fel Senedd yn eu cefnogi sydd ag enwau uniaith Gymraeg, o Chwarae Teg i'r Urdd, o Merched y Wawr i'r Mudiad Meithrin. Os ydym ni am feithrin ein plant bach gyda'r Gymraeg ar eu tafodau, gadewch i ni feithrin ein democratiaeth yn yr un modd. Mae'n hanthem genedlaethol yn uno ein cenedl - efallai mai dyna pam nad oes gen i ddim llais heddiw - gyda geiriau uniaith Gymraeg. Pan fo torf yn ei bloeddio, mae'n cenedl yn unedig. Mae'n uno pobl waeth beth yw eu cefndir na'u hiaith gyntaf. Ac, wrth sôn am ein hanthem, dylem gofio y foment pan wisgodd ein tîm pêl-droed grysau â'r gair 'diolch' arnynt - ein tîm pêl-droed cenedlaethol ar lwyfan y byd yn defnyddio'r Gymraeg yn hyderus. Oni ddylem ni weithredu yn yr un modd? Cyn cloi, hoffwn ddelio â rhai dadleuon posib yn erbyn yr awgrym yma. Efallai y bydd nifer ohonoch chi yn credu y dylem ni gadw'r enw 'Cynulliad Cenedlaethol', ac mae gen i gydymdeimlad â'r ddadl honno. Mae'n enw a ddefnyddir ar draws y byd, o Giwba i Ffrainc, ond fe hoffwn i i'r Llywydd ystyried 'Senedd', gan fod y gair yn un sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ar lawr gwlad. Mae adroddiad gwallus wedi bod yn y wasg yn honni bod y gair 'Senedd' yn cyfeirio at Senedd San Steffan. Fel y bydd nifer ohonoch yn gwybod, mae 'Senedd' yn cyfeirio at gorff deddfu gwlad, nid at Senedd y Deyrnas Unedig yn benodol. Yn olaf, gwn fod rhai wedi dadlau mai enw'r adeilad yma yw 'Senedd' ac y dylai fod enw arall ar y ddeddfwrfa. Un ateb syml i hynny fyddai ailenwi'r adeilad yn 'Senedd-dy' os dymunwn ni, ond nid wyf i'n gweld bod yna broblem fawr wrth gael enw ar adeilad ac wedyn enw ar sefydliad - cael yr un enw ar yr adeilad a'r sefydliad. Rwy'n credu ei bod hi'n weddol hawdd i bobl allu deall hynny. Mae'r gair 'Senedd' â'i wreiddiau yn Lladin, iaith sy'n uno ein cyfandir yn ei holl amrywiaeth. Ac, wedi i ni, yn groes i ewyllys nifer ohonom yn y Senedd yma, benderfynu cefnu ar yr Undeb Ewropeaidd, gadewch i ni gymryd cam a fyddai'n cryfhau undeb Ewropeaidd arall, drwy atgyfnerthu hen undeb ddiwylliannol o'r newydd. Diolch yn fawr.
I welcome the Government moving the debate this afternoon. I will most probably replicate the First Minister in keeping my comments brief, because I think the Presiding Officer, in her introduction, highlighted the process that was available to this Senedd, or parliament, or Assembly - call it what you will, because there's going to be a discussion about that. But, some years ago, I obviously put my name to the renaming of this institution, because I do think what's important is that people in the community actually understand the function of the legislature vis-à-vis what the Government does. And if I had a pound for every time people had criticised the Assembly for this, the Assembly for that, because, in a lot of people's minds, they're still back to that corporate body, where everything was run from the Assembly in the early days, and people still do not make the distinction between what the Government does and what the legislature does on their behalf and in their name. I do think that any renaming has to be able to be taken on board by the electors who put us here to act on their behalf. And I have no objection, obviously, to the amendments that are put down today, but I do think they need to be considered in the full, because I don't see why we couldn't have 'Senedd' and 'parliament', because, obviously, for people there is a complete understanding of the word 'parliament', in the way that UK democracy works, and, over time, I think the word 'Senedd' could be readily taken on board. But, for a lot of people, the way this institution has developed - and, in particular, its legislative capacity, its tax-raising capacity, going forward, once the Wales Bill is passed, and, ultimately, the function of Government -
Rwyf yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn symud y ddadl y prynhawn yma. Byddaf yn fwy na thebyg yn gwneud yr un fath â'r Prif Weinidog o ran cadw fy sylwadau'n fyr, oherwydd bod y Llywydd, yn ei chyflwyniad, yn fy marn i, wedi amlygu'r broses a oedd ar gael i'r Senedd hon, neu 'parliament', neu Gynulliad - galwch ef yr hyn a fynnoch, oherwydd bydd trafodaeth ynglŷn â hynny. Ond, rai blynyddoedd yn ôl, rhoddais fy enw, yn amlwg, i ailenwi'r sefydliad hwn, gan fy mod yn credu mai'r hyn sy'n bwysig yw bod pobl yn y gymuned yn deall swyddogaeth y ddeddfwrfa mewn gwirionedd o ran yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. A, phe byddwn yn cael punt am bob tro y mae pobl wedi beirniadu'r Cynulliad am hyn, a'r Cynulliad am y llall, oherwydd, ym meddyliau llawer o bobl, maent yn dal â'r corff corfforaethol hwnnw, lle'r oedd popeth yn cael ei redeg gan y Cynulliad yn y dyddiau cynnar, ac mae pobl yn dal i beidio â gweld y gwahaniaeth rhwng yr hyn mae'r Llywodraeth yn ei wneud a'r hyn y mae'r ddeddfwrfa yn ei wneud ar eu rhan ac yn eu henw. Rwyf yn credu bod unrhyw ailenwi yn gorfod cael ei dderbyn gan yr etholwyr sydd wedi ein rhoi ni yma i weithredu ar eu rhan. Ac nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad, yn amlwg, i'r gwelliannau a osodir heddiw, ond rwyf yn meddwl bod angen iddynt gael eu hystyried yn llawn, oherwydd nid wyf ddim yn gweld pam na allem gael 'Senedd' a 'parliament', oherwydd, yn amlwg, mae gan bobl ddealltwriaeth gyflawn o'r gair 'parliament', yn y ffordd y mae democratiaeth y DU yn gweithio, a, dros gyfnod o amser, rwyf yn credu y gallai'r gair 'Senedd' gael ei dderbyn yn rhwydd. Ond, ar gyfer llawer o bobl, mae'r ffordd y mae'r sefydliad hwn wedi datblygu - ac, yn enwedig, ei allu deddfwriaethol, ei allu i drethu, wrth symud ymlaen, ar ôl i Bil Cymru gael ei basio, ac, yn y pen draw, swyddogaeth Llywodraeth -
Yes, I'm happy.
Gwnaf, rwy'n fodlon.
Do you think that if you just put it in Welsh though, you wouldn't even have the problem of people potentially misunderstanding whether it was the UK Parliament or the Welsh parliament? In Welsh, then, it would be unique in and of itself, or would you disagree with that?
Ydych chi'n credu er hynny pe byddech yn ei roi yn y Gymraeg yn unig, na fyddai gennych hyd yn oed y broblem bosibl o bobl yn camddeall pa un ai Senedd Cymru ynteu Senedd y DU yr oeddech yn sôn amdani? Yn y Gymraeg, felly, byddai'n unigryw ac yn sefyll drosti ei hun, neu a fyddech chi'n anghytuno â hynny?
Well, as I've said, from my point of view, I haven't got a problem with it because, obviously, I work in this environment and I fully understand the meaning of the word Senedd in the context that it's used in the Welsh language, but, obviously, for many people who aren't familiar with the way the legislature works, the Government works here, and if you take Scotland, for example, the reference is to the Parliament in Scotland, despite, obviously, Scotland having its own language and, obviously, the promotion of that language. And I do think that any renaming needs to have at the heart of its process the ability, obviously, for people to easily understand where responsibility lies and where function lies, and, as the Presiding Officer indicated in her opening remarks, that responsibility will now come to us via the Wales Bill, and that ability for us to rename this. There is a discussion that some Members clearly think that the National Assembly should continue as it is, and I do welcome the opportunity for the discussion and consultation that the Presiding Officer referred to that will happen in the coming months. From our point of view, we have a free vote on this, because, obviously, it's not a political issue; I don't see it as a political issue, to be honest with you. It's for us as Members to try and reflect on our work, reflect on the communication with members who have put us here of the communities and our electorate, and, ultimately, reflect the new dynamics of the legislature, the relationship with the Government, and the relationship with the communities, whether they be in north, mid or south Wales. So, I welcome this initial debate, but, obviously, there'll be many other debates around this issue.
Wel, fel yr wyf wedi ei ddweud, o fy safbwynt i, nid wyf wedi cael problem â hyn, oherwydd, yn amlwg, rwyf yn gweithio yn yr amgylchedd hwn ac rwyf yn llwyr ddeall ystyr y gair Senedd yn y cyd-destun y caiff ei ddefnyddio yn y Gymraeg, ond, yn amlwg, i lawer o bobl nad ydynt yn gyfarwydd â'r ffordd y mae'r ddeddfwrfa'n gweithio, y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithio yma, ac os meddyliwch chi am yr Alban, er enghraifft, mae'r cyfeiriad yn gyfeiriad at y 'Parliament' yn yr Alban, er gwaethaf, yn amlwg, bod gan yr Alban ei hiaith ei hun ac, yn amlwg, yr hyrwyddir yr iaith honno. Ac rwyf yn credu bod angen i unrhyw ailenwi fod â'r gallu, wrth wraidd ei broses, yn amlwg, i bobl ddeall yn rhwydd pwy sydd â chyfrifoldeb a phwy sydd â'r swyddogaeth, ac, fel y dywedodd y Llywydd yn ei sylwadau agoriadol, bydd cyfrifoldeb hwnnw bellach yn dod atom ni drwy Fil Cymru, a'r gallu hwnnw i ni ailenwi'r corff hwn. Ceir trafodaeth bod rhai Aelodau yn credu'n amlwg y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol barhau fel ag y mae, ac rwyf yn croesawu'r cyfle am y drafodaeth a'r ymgynghori y dywedodd y Llywydd fydd yn digwydd yn y misoedd nesaf. O'n safbwynt ni, mae gennym bleidlais rydd ar hyn, oherwydd, yn amlwg, nid yw'n fater gwleidyddol; nid wyf yn ei weld fel mater gwleidyddol, a dweud y gwir. Ein dyletswydd ni fel Aelodau yw ceisio myfyrio ar ein gwaith, myfyrio ar y cyfathrebu gydag aelodau'r cymunedau a'n hetholwyr sydd wedi ein rhoi ni yma, ac, yn y pen draw, adlewyrchu deinameg newydd y ddeddfwrfa, y berthynas â'r Llywodraeth, a'r berthynas â'r cymunedau, boed nhw yn y gogledd, y canolbarth neu'r de. Felly, rwyf yn croesawu'r ddadl gychwynnol hon, ond, yn amlwg, bydd nifer o ddadleuon eraill yn ymwneud â'r mater hwn.
Like everybody else, I welcome this debate, although I wonder, amongst the public at large, whether they might regard it as a bit of kind of pretentious navel-gazing and they're not too bothered about what we call ourselves - as far as I can tell, they're highly critical of what we do in this place. But, several of us, of course, have been Members of Parliament in another place, and I personally welcome the fact that we now have the chance of creating a real parliament there, instead of the one that we've had for the last 40 years. But, as and when the Wales Bill passes and tax-raising powers are devolved to this institution, there is, of course, a serious argument for calling ourselves a parliament, because taxation and representation have traditionally gone together in the minds of people who support democracy. I'm personally rather attracted by the idea of the 'Senedd' as a name, and I enjoy being an 'Aelod o'r Senedd', and I wonder whether that would make us senators, ultimately, and how that could be regarded amongst the public at large. As Bethan Jenkins pointed out, the origin of this goes back to ancient Rome, and it meant, of course, that if you were an old person, you were regarded as automatically wise, and this is a theory that I've grown to approve of - the older I get, the wiser I think I must have become. But I wasn't impressed by her argument in relation to the Assembly because it's called that in Cuba and in France. Those are not my role models in either case. But we welcome, in our party - and we will have a free vote on this as well - a national debate on this topic, and I'm sure that, following the referendum, there will be an equal amount of public interest in our exercise of what we're going to call ourselves. So, we certainly have no objection to the Presiding Officer and the Assembly Commission considering the implications of this change and, indeed, consulting as widely as possible, and then we'll come back and debate the issue in a real sense.
Fel pawb arall, rwyf yn croesawu'r ddadl hon, er fy mod yn meddwl tybed, ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, a allent fod yn ei ystyried fel rhyw fath o fogailsyllu ymhongar braidd ac nad ydynt yn poeni fawr am yr hyn yr ydym yn galw ein hunain - cyn belled ag y gallaf ddweud, maen nhw'n feirniadol iawn o'r hyn yr ydym yn ei wneud yn y lle hwn. Ond, mae nifer ohonom, wrth gwrs, wedi bod yn Aelodau Seneddol mewn lle arall, ac rwyf i'n bersonol yn croesawu'r ffaith bod gennym bellach y cyfle i greu senedd wirioneddol yno, yn hytrach na'r un a fu gennym yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Ond, pan fydd Bil Cymru yn cael ei basio a phwerau trethu yn cael eu datganoli i'r sefydliad hwn, bydd, wrth gwrs, dadl wirioneddol i alw ein hunain yn senedd, gan fod trethu a chynrychiolaeth wedi cyd-fynd yn draddodiadol ym meddyliau pobl sy'n cefnogi democratiaeth. Rwyf i'n bersonol yn eithaf hoff o'r syniad o gael 'Senedd' fel enw, ac rwyf yn mwynhau bod yn 'Aelod o'r Senedd', a tybed a fyddai hynny'n ein gwneud i ni yn seneddwyr, yn y pen draw, a beth fyddai barn y cyhoedd ar hynny. Fel y nododd Bethan Jenkins, mae hyn yn tarddu o'r hen Rufain, ac roedd yn golygu, wrth gwrs, os oeddech yn berson hen, roeddech yn cael eich ystyried fel bod yn ddoeth yn awtomatig, ac mae hon yn ddamcaniaeth yr wyf wedi closio ati - yr hynaf yr wyf yn mynd, y doethaf yr wyf yn mynd rwy'n credu. Ond nid oeddwn yn hoff o'i dadl ynglŷn â'r Cynulliad oherwydd ei fod yn cael ei alw yn hynny yn Cuba ac yn Ffrainc. Nid wyf yn awyddus i ddilyn esiampl yr un o'r ddwy wlad hynny. Ond rydym yn croesawu, yn ein plaid ni - a bydd gennym ni bleidlais rydd ar hyn hefyd - trafodaeth genedlaethol ar y pwnc hwn, ac rwy'n siwr, yn dilyn y refferendwm, y bydd yr un faint o ddiddordeb gan y cyhoedd yn ein trafodaeth ar yr hyn yr ydym yn mynd i alw ein hunain. Felly, nid oes gennym yn bendant unrhyw wrthwynebiad i'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ystyried goblygiadau'r newid hwn ac, yn wir, ymgynghori mor eang â phosibl, ac yna byddwn yn dod yn ôl a thrafod y mater mewn modd gwirioneddol.
I welcome the fact that we're having an opportunity to discuss this issue. Throughout my political life, I have campaigned for a parliament or a 'senedd' for wales, and although we did formulate an Assembly, I think the rationale for calling it an Assembly in the first place was to make it subordinate in some way to what was thought to be the real Parliament in Westminster. It's true that I, too, served in that Parliament in Westminster, and it's still true - it happened three times over the last weekend - that people come up to me and always ask me, perhaps as an icebreaker, but they always ask me, whether I miss Westminster, 'Do you miss Parliament?', and I have to tell them that I am in a Parliament - I'm still in a Parliament. But this concept that parliament is superior to an assembly is part of the fact that we live in the British isles, and it's great to think that 'Assembly' is used in other nations, but the fact is that we share a joint heritage across the British isles that is a parliamentary heritage. If we want this place to have the same status as the Parliament in Westminster, the Parliament in Scotland and the Assembly in Northern Ireland, then I do think that we should call ourselves a 'Senedd' or a 'Parliament'. Just as the Welsh Government have proceeded to become 'the Welsh Government', although I think that the official name is still 'the Welsh Assembly Government', according to the legislation, we can start to call ourselves a 'Senedd' or a 'Parliament' now. Now, should that be bilingual or monolingual? Well, I'm open-minded on that. Personally, of course, I would be perfectly happy if we called ourselves a 'Senedd', as happens with the Dáil in Ireland; it would be quite acceptable for me, as a Welsh speaker, to do that, but I do think that we should consult on the issue, and the proposal from Bethan asks us to consider that. So, I'd be more than happy to support that, but we should consult - we should listen to what all the people have to say about how they wish to refer to this institution. But I do think that we are a Parliament - we have the right to legislate and we will be levying taxes in ensuing years - so, can we call ourselves a name that actually recognises the status of the institution?
Rwy'n croesawu'r ffaith ein bod ni'n cael cyfle i drafod hwn. Erioed yn fy mywyd gwleidyddol i, rwyf wedi ymffurfio ac ymgyrchu yn enw senedd i Gymru, ac er ein bod ni wedi ffurfio'r Cynulliad, rwyf wastad yn teimlo mai'r rheswm dros alw'r lle yma'n Gynulliad yn y lle cyntaf oedd ei wneud e'n israddol i'r hyn a ystyriwyd ar y pryd yn senedd go iawn, sef y Senedd yn San Steffan. Mae'n wir fy mod innau hefyd wedi gwasanaethu yn y Senedd yn San Steffan, ac mae'n dal i fod yn wir - digwyddodd e dair gwaith dros y penwythnos diwethaf - fod pobl yn dod lan ataf i ac yn wastad yn gofyn, efallai fel ffordd o dorri'r garw, ond maen nhw'n wastad yn gofyn, 'A ydych chi'n colli San Steffan?', 'Do you miss Parliament?', ac rwy'n gorfod eu hateb, 'I am in a Parliament, you know. I'm still in a Parliament'. Ond mae'r syniad yma fod 'parliament' uwchben cynulliad yn rhan o'r ffaith ein bod ni'n byw yn ynysoedd Prydain, ac mae'n grêt i feddwl bod 'Cynulliad' yn cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill, ond y ffaith amdani yw ein bod ni'n rhannu treftadaeth ar y cyd gyda gwledydd Prydain sydd yn dreftadaeth seneddol. Ac os ydym am i'r lle yma feithrin yr un statws â'r Senedd yn San Steffan, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, rwy'n credu bod rhaid inni alw ein hunain yn 'Senedd'. Ac yn yr un ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen i fod yn 'Llywodraeth Cymru', er taw'r enw swyddogol yw 'Llywodraeth Cynulliad Cymru', rwy'n meddwl, o hyd yn ôl y ddeddfwriaeth, mae modd inni ddechrau galw ein hunain yn 'Senedd'. Nawr, a ddylai hynny fod yn ddwyieithog neu unieithog? Rwy'n ddigon agored. Yn bersonol, wrth gwrs, byddwn i'n ddigon hapus ein bod ni'n galw'n hunain yn 'Senedd', fel y Dáil yn Iwerddon; byddai'n ddigon cyffredin i fi, fel un sy'n siarad Cymraeg, i wneud hynny, ond rwy'n credu y dylem ni ymgynghori, ac mae'r cynnig gan Bethan yn gofyn i ni ystyried. Felly, rwy'n hapus iawn i gefnogi hynny, ond dylem ni ymgynghori - dylem wrando ar beth sydd gan bob un o'r bobl i'w ddweud ynglŷn â'r ffordd maen nhw angen cyfeirio at y sefydliad yma. Ond rwy'n credu ein bod ni'n Senedd - rydym yn hawlio yr hawl i ddeddfu ac rydym yn mynd i drethu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod - a gawn ni alw ein hunain yn enw sy'n cydnabod y statws sydd gan y sefydliad?
What we have here with the National Assembly is, in some way, a bit of a marketing problem. Turnouts for the elections are considerably lower than those for the Westminster version. Politicians in Wales frequently observe that much of the Welsh electorate is often entirely ignorant as to which matters are devolved and which are not. The problem is essentially that the vast majority of people in Wales are not cocooned in a political bubble, as we tend to be here. We need to be careful before we change its name that we are not about to distance people even further from the political body that is supposed to serve them. Let's look first at the proposal that the Assembly should begin to call itself a parliament. Well, that's fine, theoretically, once tax-raising powers take effect, but we haven't got there yet. The position of UKIP is slightly complicated because many of us have opposed the consent for tax-raising powers without the promised referendum, as my colleague Mark Reckless explained earlier today. But even casting the taxation issue aside and assuming that the powers were being implemented, would it not make sense to defer the renaming of the Assembly as a parliament until perhaps the beginning of the sixth term in 2021? I would suggest that this would be more cost-effective than doing so in midterm, and we would not be prejudging the outcome of the tax issue. On to Bethan's amendment, or amendments, she wants the term 'Senedd' to be used exclusively rather than 'Parliament', because she says this term is already widely understood and widely supported. Well, here we come back to the political bubble, or at least a cultural bubble. Bethan is from a Welsh-speaking background or a bilingual background, and in her social circle 'Senedd' may well be a well-used term. Alas, if I started talking about the 'Senedd' in the Wetherspoon's pub - [Interruption.]
Yr hyn sydd gennym yma gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn rhyw ffordd, yw tipyn o broblem marchnata. Mae'r nifer sy'n pleidleisio yn yr etholiadau yn sylweddol is nag ar gyfer fersiwn San Steffan. Mae gwleidyddion yng Nghymru yn aml yn dweud bod llawer o etholwyr Cymru yn aml yn gwbl anwybodus ynghylch pa faterion sydd wedi eu datganoli a pha rai nad ydynt. Y broblem yn ei hanfod yw nad yw'r mwyafrif llethol o'r bobl yng Nghymru wedi eu lapio mewn swigen wleidyddol, fel yr ydym ni'n tueddu i fod yma. Mae angen i ni fod yn ofalus cyn i ni newid ei enw na fyddwn yn ymddieithrio pobl hyd yn oed ymhellach oddi wrth y corff gwleidyddol sydd i fod i'w gwasanaethu. Gadewch i ni edrych yn gyntaf ar y cynnig y dylai'r Cynulliad ddechrau galw ei hun yn 'parliament' neu senedd. Wel, mae hynny'n iawn, yn ddamcaniaethol, ar ôl i bwerau trethu ddod i rym, ond nid ydym wedi cyrraedd hynny eto. Mae sefyllfa UKIP braidd yn gymhleth gan fod llawer ohonom wedi gwrthwynebu'r cydsyniad ar gyfer pwerau trethu heb y refferendwm a addawyd, fel yr esboniodd fy nghyd-Aelod Mark Reckless yn gynharach heddiw. Ond gan hyd yn oed roi'r mater trethu o'r neilltu a chan dybio bod y pwerau yn cael eu gweithredu, oni fyddai'n gwneud synnwyr i ohirio ailenwi'r Cynulliad fel 'parliament' neu senedd tan efallai ddechrau'r chweched tymor yn 2021? Rwyf yn awgrymu y byddai hyn yn fwy cost-effeithiol na'i wneud yng nghanol tymor, ac ni fyddem yn rhagfarnu canlyniad y mater trethu. Af ymlaen at welliant, neu welliannau, Bethan, mae hi eisiau i'r term 'Senedd' yn unig gael ei ddefnyddio yn hytrach na 'Parliament', oherwydd mae'n dweud bod y term hwn eisoes yn ddealladwy yn eang a bod ganddo gefnogaeth eang. Wel, rydym yn y fan yma yn dod yn ôl at y swigen wleidyddol, neu o leiaf swigen ddiwylliannol. Mae Bethan yn dod o gefndir Cymraeg neu gefndir dwyieithog, ac yn ei chylch cymdeithasol hi, efallai'n wir fod 'Senedd' yn derm a ddefnyddir yn helaeth. Ysywaeth, pe byddwn yn dechrau siarad am y 'Senedd' yn nhafarn Wetherspoon's [Torri ar draws.]
I use 'Senedd' all the time in my social life.
Rwy'n defnyddio 'Senedd' drwy'r amser yn fy mywyd cymdeithasol.
Okay, well, maybe it's not even that, but that perhaps emphasises my point. If I started talking about the Senedd in the Wetherspoon's pub in Canton, few people would know what I was on about.
Iawn, wel, efallai nad yw hyd yn oed yn hynny, ond mae hynny efallai yn pwysleisio fy mhwynt. Pe byddwn yn dechrau siarad am y Senedd yn nhafarn Wetherspoon's yn Nhreganna, prin fyddai'r bobl a fyddai'n gwybod beth yr oeddwn yn sôn amdano.
Yes, sure.
Gwnaf, siŵr iawn.
I'm trying to be helpful, perhaps save you from yourself. I was struck by my own Facebook page, which is not within a cultural bubble, and I posed the question of people's views on this. There was scepticism, like you say, that we should be discussing this at this time, but the consensus was to use the bilingual term 'Senedd' as it was inclusive and already in use. So, though not scientific, I didn't take that as a reflection of any cultural bubble but a common sense feeling this was an already ingrained and embedded term.
Rwy'n ceisio bod o gymorth, i efallai eich arbed rhag eich hunan. Cefais fy nharo gan fy nhudalen Facebook fy hun, nad yw o fewn swigen ddiwylliannol, a gofynnais y cwestiwn ynglŷn â barn pobl ar hyn. Roedd amheuaeth, fel y dywedwch, o ran ein bod yn trafod hyn ar hyn o bryd, ond y consensws oedd defnyddio'r term dwyieithog 'Senedd' gan ei fod yn gynhwysol ac eisoes yn cael ei ddefnyddio. Felly, er nad yw'n wyddonol, nid oeddwn yn ystyried hynny fel adlewyrchiad o unrhyw swigen ddiwylliannol ond o deimlad synnwyr cyffredin bod hwn yn derm sydd eisoes yn gynhenid ac sydd wedi ennill ei blwyf.
Okay, thanks, Lee; can I carry on? Right, the cultural bubble. The point is we are in a political bubble - I'm in it myself now as well - but we have to remain in some contact with the real world out there. [Interruption.] Okay, thank you. In the Wetherspoon's pub in Canton, few people would know what I was talking about if I started talking about the 'Senedd', and I can tell you that from experience. Bethan has mentioned the Urdd, Chwarae Teg and Merched y Wawr. Yes, but the problem is most people outside the Welsh-speaking colony of Pontcanna - most people in Cardiff - don't know what these things are. On that basis, I fear that we need to kick this term 'Senedd' into the long grass. By all means use it informally as the Welsh translation, but please not as the principal name of this political institution. Otherwise, we are further distancing the Assembly from the majority of the people of Wales. Thank you.
Iawn, diolch, Lee; a gaf i barhau? Iawn, y swigen ddiwylliannol. Y pwynt yw ein bod ni mewn swigen wleidyddol - rwyf innau ynddi erbyn hyn hefyd - ond mae'n rhaid i ni gadw rhywfaint o gyswllt â'r byd go iawn y tu allan. [Torri ar draws.] Iawn, diolch. Yn nhafarn Wetherspoon's yn Nhreganna, prin fyddai'r bobl a fyddai'n gwybod beth oeddwn i'n sôn amdano pe byddwn yn dechrau sôn am y 'Senedd', a gallaf ddweud hynny wrthych o brofiad. Mae Bethan wedi crybwyll yr Urdd, Chwarae Teg a Merched y Wawr. Ie, ond y broblem yw nad yw'r rhan fwyaf o bobl y tu allan i drefedigaeth Gymraeg ei hiaith Pontcanna - y rhan fwyaf o'r bobl yng Nghaerdydd - yn gwybod beth yw'r pethau hyn. Ar y sail honno, rwyf yn ofni bod angen i ni anghofio am y term 'Senedd' hwn. Ar bob cyfrif defnyddiwch ef yn anffurfiol fel y cyfieithiad Cymraeg, ond nid fel prif enw'r sefydliad gwleidyddol hwn os gwelwch yn dda. Fel arall, rydym yn ymddieithrio'r Cynulliad ymhellach oddi wrth y rhan fwyaf o bobl Cymru. Diolch.
I now call on the First Minister to reply to the debate.
Rwy'n galw ar y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl.
I was, basically, going to say very little, but after that, I feel I should respond. On the timing issue, I've spent, now, 17 years in this place and people always say it's never the right time for something. The reality is that the Welsh Assembly Government was established as a name and concept before it existed in law. When the legislature and the Executive were formally separated, so it existed. The name 'Welsh Government' is now fully in use, yet, it doesn't actually exist in law, it's still the 'Welsh Assembly Government', but we dropped the name 'Assembly' after 2011, and people have accepted that as normal. I'm open to what the institution should call itself. For me, 'National Assembly' has never really worked; people don't understand it in what I can describe as the common-law world. Yes, it is in use in other countries; in France, it is the 'Assemblée Nationale', I know that. But for us, I think it's important that we have an institution that people understand. People do understand what a Parliament is; I'm not saying that that should be the only option on the table, but they understand what it means. I listened carefully to what Gareth Bennett said; I can assure him I live in a street in Bridgend, my kids go to a local school and I shop locally - I don't live in a bubble. I spend my time in a town where I grew up, with people I grew up with, and, certainly, I spend my time in the local community. I do object to the suggestion that Welsh people living in Cardiff are a colony - a colony. If somebody stood up in this Chamber and described people in Ceredigion or in Gwynedd, who are English speakers, as a 'colony', there would be uproar and I ask him to reflect on that fact. It makes it sound as if people in Wales who speak a certain language don't belong in our capital city, and that is a wholly wrong remark and something that he needs to reflect on. I'm not sure that he meant it that way, but it will be highly offensive to a number of people. It's not just him who has the right to live in our capital city; all Welsh people and people from around the world have a right to come here, to be welcomed here and to contribute to our economy. He also makes the point that tax-raising powers are not being devolved; they have been devolved. Business rates are devolved; they are a tax. Landfill disposals tax and land transaction tax are in the pipeline and being taken through the Assembly; they are already devolved. There was never a suggestion that there would be a referendum before they were devolved. So, the devolution of partial income tax varying powers is a natural development in that way. He makes the point again about timing. For me, I think it's important that people get used to a new name, if that is the conclusion of the Assembly, well before the next election, so that people know the name of the institution they're actually voting Members into. So, apart from that note of discord that we heard from the last speaker, I don't think anybody else in the Chamber argued against this motion, but, of course, there will be a fuller debate as to what the name should actually be in the months to come.
Ychydig iawn, yn y bôn, yr oeddwn i'n mynd i'w ddweud, ond ar ôl hynna, rwyf yn teimlo y dylwn ymateb. O ran y mater amseru, rwyf wedi treulio, erbyn hyn, 17 mlynedd yn y lle hwn ac mae pobl bob amser yn dweud nad yw hi byth yr adeg iawn ar gyfer rhywbeth. Y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei sefydlu fel enw a chysyniad cyn iddo fodoli yn y gyfraith. Pan wahanwyd y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth yn ffurfiol, roedd yn bodoli felly. Mae'r enw 'Llywodraeth Cymru' bellach yn cael ei ddefnyddio yn helaeth, ond eto, nid yw'n bodoli mewn gwirionedd yn y gyfraith, 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' ydyw o hyd, ond gwnaethom hepgor yr enw 'Cynulliad' ar ôl 2011, ac mae pobl wedi derbyn hynny fel yr arfer. Rwy'n agored i'r hyn y dylai'r sefydliad alw ei hun. I mi, nid yw 'Cynulliad Cenedlaethol' wir wedi gweithio erioed; nid yw pobl yn ei ddeall yn yr hyn y gallaf ei ddisgrifio fel byd y gyfraith gyffredin. Ydy, mae'n cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill; yn Ffrainc, yr 'Assemblée Nationale' ydyw, rwyf yn gwybod hynny. Ond i ni, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod gennym sefydliad y mae pobl yn ei ddeall. Mae pobl yn deall beth yw 'Parliament'; nid wyf yn dweud y dylai hynny fod yr unig ddewis ar y bwrdd, ond maent yn deall beth y mae'n ei olygu. Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Gareth Bennett; gallaf ei sicrhau fy mod i'n byw mewn stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae fy mhlant yn mynd i ysgol leol ac rwyf yn siopa'n lleol - nid wyf yn byw mewn swigen. Rwy'n treulio fy amser mewn tref lle y cefais fy magu, gyda phobl y tyfais i fyny â nhw, ac, yn sicr, rwyf yn treulio fy amser yn y gymuned leol. Rwyf yn gwrthwynebu'r awgrym bod Cymry sy'n byw yng Nghaerdydd yn drefedigaeth - trefedigaeth. Pe byddai rhywun yn sefyll ar ei draed yn y Siambr hon a disgrifio pobl yng Ngheredigion neu yng Ngwynedd, sydd yn siaradwyr Saesneg, fel 'trefedigaeth', byddai'r lle yma'n ferw a gofynnaf iddo fyfyrio ar y ffaith honno. Mae'n gwneud iddi swnio fel pe nad oes lle yn ein prifddinas i bobl yng Nghymru sy'n siarad iaith benodol, ac mae hynny'n sylw cwbl anghywir ac yn rhywbeth y mae angen iddo fyfyrio arno. Nid wyf yn siŵr ei fod yn ei olygu yn y ffordd honno, ond bydd yn sarhaus iawn i nifer o bobl. Nid dim ond ef sydd â'r hawl i fyw yn ein prifddinas; mae gan holl bobl Cymru a phobl o bob cwr o'r byd yr hawl i ddod yma, i gael eu croesawu yma ac i gyfrannu at ein heconomi. Mae hefyd yn gwneud y pwynt nad yw pwerau trethu yn cael eu datganoli; maent wedi eu datganoli. Mae ardrethi busnes wedi eu datganoli; trethi ydyn nhw. Mae treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiad tir ar y gweill ac ar eu hynt trwy'r Cynulliad; maent eisoes wedi eu datganoli. Ni fu erioed awgrym y byddai refferendwm cyn iddyn nhw gael eu datganoli. Felly, mae datganoli pwerau amrywio treth incwm rhannol yn ddatblygiad naturiol yn y modd hwnnw. Mae'n gwneud y pwynt eto am amseru. I mi, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pobl yn dod i arfer ag enw newydd, os mai dyna'r casgliad y bydd y Cynulliad yn dod iddo, ymhell cyn yr etholiad nesaf, fel bod pobl yn gwybod enw'r sefydliad y maen nhw mewn gwirionedd yn pleidleisio Aelodau i mewn iddo. Felly, ar wahân i'r nodyn hwnnw o anghytgord a glywsom gan y siaradwr diwethaf, nid wyf yn credu bod unrhyw un arall yn y Siambr wedi dadlau yn erbyn y cynnig hwn, ond, wrth gwrs, bydd dadl lawnach ynghylch yr hyn y dylai'r enw fod mewn gwirionedd yn ystod y misoedd i ddod.
Thank you, First Minister. In moving the amendments, Bethan Jenkins mentioned the fact that she didn't want to proceed to a vote this afternoon. Could I just confirm that that's correct in relation to both amendments?
Diolch, Brif Weinidog. Wrth gyflwyno'r gwelliannau, fe wnaeth Bethan Jenkins grybwyll y ffaith nad yw hi'n dymuno eu gosod nhw gerbron pleidlais y prynhawn yma. A allaf gadarnhau bod hynny'n gywir am y ddau welliant?
And I will agree to that, if there is no objection to not proceeding with those two amendments. There is no objection.
Ac fe wnaf i gytuno i hynny, os nad oes yna wrthwynebiad i'r ddau welliant beidio cael eu cymryd. Nid oes yna wrthwynebiad.
So I will move on to ask whether there is any objection to the motion. If there is no objection to the motion, then it is accepted.
Felly fe wnaf symud i ofyn a oes yna wrthwynebiad i'r cynnig. Os nad oes yna wrthwynebiad i'r cynnig, yna mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Now, we move on to voting time. The first vote this afternoon is on the motions to elect Members to the seven policy and legislation committees and I call for a vote on the motions. Open the vote. Close the vote. In favour 47 and against five. Therefore, the motions are agreed.
Yn awr, rŷm ni'n symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw'r bleidlais ar y cynigion i ethol Aelodau i'r saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynigion. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynigion 47 ac yn erbyn pump. Felly, mae'r cynigion wedi'u derbyn.
We move on now to a vote on the 'Together for Mental Health' delivery plan, and I call for a vote on amendment 1 tabled in the name of Paul Davies. Open the vote. Close the vote. In favour 38, abstentions six and against eight. Therefore, the amendment is agreed.
Rwy'n symud nawr at bleidlais ar y cynllun cyflawni iechyd meddwl, ac rwy'n galw'n gyntaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, yn ymatal chwech ac yn erbyn wyth. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.
We move on, now, to a vote on the motion as amended - the motion in the name of Jane Hutt.
Symudwn, felly, at bleidlais ar y cynnig wedi ei ddiwygio - y cynnig yn enw Jane Hutt.
Could I open the vote? Close the vote. In favour 47, abstentions 1, and against 0. Therefore, the motion as amended is agreed.
A gaf i agor y bleidlais? Cau'r bleidlais. O blaid 47, yn ymatal 1, ac yn erbyn 0. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
That brings proceedings to a close this afternoon.
Dyna ddiwedd ar ein busnes y prynhawn yma.
Order. I call the National Assembly to order.
Trefn. Rwy'n galw'r Cynulliad i drefn.
Therefore, we move to the first item on our agenda, and that is the debate on the Queen's Speech, and I call on a member of the Business Committee to move the motion.
Felly, rydym yn symud i'r eitem gyntaf ar yr agenda, a honno yw'r ddadl ar Araith y Frenhines. Rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.
I now call on the Secretary of State for Wales, the Rt Hon Alun Cairns MP to move the motion.
Rwy'n galw'n awr ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns, Aelod Seneddol, i gyflwyno'r cynnig.
He knows that I agree with him completely in his analysis of why we can have a separate or a distinct legal jurisdiction in Wales. Why on earth did the Labour Party oppose it in the vote this week?
Mae'n gwybod fy mod yn cytuno ag ef yn llwyr yn ei ddadansoddiad ynglŷn â pham y gallwn gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu benodol yng Nghymru. Pam ar y ddaear y gwrthwynebodd y Blaid Lafur hynny yn y bleidlais yr wythnos hon?
He knows my view. It's unavoidable that there will come a time when there is a distinct jurisdiction - possibly a separate jurisdiction. That is the view of the Welsh Government. Policing, similarly, is something that makes no sense, in terms of it not being devolved. Otherwise, we end up in a situation where, for example, public order legislation will be largely devolved and the police will be policing laws in Wales despite the fact that will they will not be responsible in Wales for policing those laws. There are anomalies there that will need to be dealt with in years to come. I know the Secretary of State will not be in agreement with me in terms of the jurisdiction and in terms of policing, but, unfortunately, it does mean that this Bill - an improvement though it is on the previous Bill - cannot possibly be a lasting settlement as far as Wales is concerned, for those reasons and also because of the fact that we know, in the aftermath of the referendum, that the constitutional situation in the UK is quite febrile at the moment and we don't know what'll happen to the UK itself in the next three years, and it will need careful handling if the UK is to survive. There are some areas, however, in which I believe there will need to be further discussion. Why, for example, would the community infrastructure levy not be devolved? It's a planning tax, in effect. Taxation is being devolved to this Assembly. It strikes me as anomalous that the community infrastructure levy, therefore, would not be devolved. He also made mention of the planning Bill, where - yes - we have an interest in the National Infrastructure Commission, not out of choice, but because there are those of us who believe that what that commission does should actually be devolved to Wales in any event. So, we have no choice but to be part of what is inaccurately called a 'National Infrastructure Commission', because it applies to England and to Wales in some areas. With the devolution of most public order legislation, it also seems strange that licensing isn't devolved. Given that we know that alcohol is the cause of much public disorder, on the one hand we will be able to create offences or amend the law with regard to public order, but not deal with one of the main causes of public disorder. Again, the argument that was used with me in years gone by was that licensing was an integral part of public order legislation under criminal law, which is now going to be devolved in the main. So, why, then, keep licensing as an exception? We have agreement in principle on the devolution of teachers' pay and conditions - it's worth re-emphasising that. Further discussions, of course, will need to take place as to what kind of financial transfer will be needed in order for that to be given effect in Wales. I welcome what he said about the ports. I fail to see why Milford Haven should, in effect, become a treaty port, in the same way that two ports in Ireland did when the Irish Free State was set up. I would welcome further explanation as to why Milford should be treated differently to every other port in the whole of Wales. Could I welcome, at least, the setting up of the justice in Wales working group? I have to say to him that no invitation has yet been received by me or Ministers to participate in that group, but I welcome what he has said today - that there will be Welsh Government participation. I look forward to ministerial participation being part of that. In terms of the income tax situation, I don't disagree with what he has said with regard to the referendum, but he has to be aware - he and I have discussed this already - that I could not recommend that the Assembly gives its legislative consent to the Wales Bill unless there is agreement on a fiscal framework beforehand. As the Bill currently stands, the Treasury can impose a financial settlement on the people of Wales without the agreement of this place, and that is wrong in principle - it does not apply in Scotland. So, agreement on a fiscal framework will be absolutely crucial to the agreement, I believe, of this body with regard to income tax devolution. As I say, I am not against it in principle, but the practice is important to make sure that Wales does not lose out. Dealing briefly with some of the other issues that he raised, he is right to point out the challenges that exist with regard to the result of the EU referendum. I agree with him that providing confidence for business, and saying to business that Wales is open for business, is hugely important. We know that business hates uncertainty and, unfortunately, that uncertainty is still there. I accept what he says, that it is for both Governments to ease that uncertainty over the next few months. I strongly agree with what he said about community cohesion. I heard stories last week, when I went to Llanelli and Swansea, of people feeling threatened because of the interpretation that a small minority had placed on the referendum result. It is incumbent on us all to make sure that a genie of prejudice that has been unleashed from a particular bottle is put firmly back into that bottle in the future. Can I say to him, as far as the EU negotiation is concerned, it's hugely important that all administrations in the UK are part of any negotiation? It is my view that any settlement, any deal, should be ratified by all four parliaments in order to get buy-in across the UK. There are some areas, of course, like agriculture and fisheries, where the UK Parliament has almost no role, and so it is absolutely right that in those areas, and indeed more widely, the ratification of this place and the other devolved parliaments should be obtained in order for the deal to be fully accepted across the whole of the UK. Finally, I'm just going to mention the bill of rights. 'Good luck with that one', I say to him, because I spoke to the group that was looking at producing a bill of rights and I listened carefully to what Ministers have said about the bill of rights, and to me it doesn't add anything at all to the current Human Rights Act 1998. So, we wait to see what such a bill of rights will actually say beyond the rhetoric and what it will mean particularly for the devolved countries as well. As far as I can see, I'm not sure what it adds to the legislation that we already have. But we'll see how that develops over the course of the next few months, and obviously it will be important for not just the Welsh Government but for this place to give its views as to what that bill of rights might look like. There will be other areas, other Bills, of course, where discussions will take place as those Bills proceed through Parliament. The Wales Bill will no doubt be one of them as we look forward to the future. But, as I said, in the course of the debate today, it's an opportunity for Members to express their views, and the leader of the house will respond formally on behalf of the Government at the conclusion of the debate.
Mae'n gwybod beth yw fy marn. Mae'n anochel y daw amser pan fydd yna awdurdodaeth benodol - awdurdodaeth ar wahân o bosibl. Dyna yw barn Llywodraeth Cymru. Mae plismona, yn yr un modd, yn rhywbeth nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr peidio â'i ddatganoli. Fel arall, byddwn mewn sefyllfa yn y pen draw lle bydd, er enghraifft, deddfwriaeth trefn gyhoeddus wedi ei datganoli i raddau helaeth a bydd yr heddlu yn plismona deddfau yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith na fyddant yn gyfrifol yng Nghymru am blismona'r deddfau hynny. Mae yna anghysondebau y bydd angen ymdrin â hwy yn y blynyddoedd i ddod. Rwy'n gwybod na fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno â mi ynglŷn â'r awdurdodaeth a phlismona, ond yn anffodus, mae'n golygu na all y Bil hwn - er ei fod yn well na'r Bil blaenorol - fod yn setliad parhaol i Gymru, oherwydd y rhesymau hynny a hefyd oherwydd y ffaith ein bod yn gwybod, yn dilyn y refferendwm, fod y sefyllfa gyfansoddiadol yn y DU yn eithaf twymynnol ar hyn o bryd ac nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd i'r DU ei hun dros y tair blynedd nesaf, a bydd angen ymdrin â hyn yn ofalus os yw'r DU am oroesi. Credaf y bydd angen trafod rhai meysydd ymhellach, fodd bynnag. Er enghraifft, pam na fyddai'r ardoll seilwaith cymunedol yn cael ei datganoli? Treth gynllunio ydyw, i bob pwrpas. Mae trethiant yn cael ei ddatganoli i'r Cynulliad hwn. Mae'n fy nharo i'n anghyson na fyddai'r ardoll seilwaith cymunedol, felly, yn cael ei datganoli. Soniodd hefyd am y Bil cynllunio, lle - oes - mae gennym ddiddordeb yn y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, nid o ddewis, ond oherwydd bod rhai ohonom yn credu y dylai'r hyn y mae'r comisiwn hwnnw'n ei wneud gael ei ddatganoli i Gymru beth bynnag mewn gwirionedd. Felly, nid oes gennym unrhyw ddewis ond bod yn rhan o'r hyn a elwir, a hynny'n anghywir, yn 'Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol', gan ei fod yn berthnasol i Gymru ac i Loegr mewn rhai meysydd. Yn dilyn datganoli'r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth trefn gyhoeddus, mae hefyd yn ymddangos yn rhyfedd nad yw trwyddedu wedi'i ddatganoli. O gofio ein bod yn gwybod bod alcohol yn achosi llawer o anhrefn cyhoeddus, ar y naill law byddwn yn gallu creu troseddau neu ddiwygio'r gyfraith o ran trefn gyhoeddus, ond ni fyddwn yn gallu ymdrin ag un o brif achosion anhrefn gyhoeddus. Unwaith eto, y ddadl a ddefnyddiwyd gyda mi yn y blynyddoedd a fu oedd bod trwyddedu yn rhan annatod o ddeddfwriaeth trefn gyhoeddus o dan gyfraith droseddol, a fydd bellach yn cael ei datganoli i raddau helaeth. Felly, pam cadw trwyddedu fel eithriad? Mae gennym gytundeb mewn egwyddor ar ddatganoli tâl ac amodau athrawon - mae'n werth ailbwysleisio hynny. Bydd angen cynnal trafodaethau pellach, wrth gwrs, o ran y math o drosglwyddiad ariannol fydd ei angen er mwyn i hynny gael ei roi ar waith yng Nghymru. Croesawaf yr hyn a ddywedodd am y porthladdoedd. Ni allaf weld pam y dylai Aberdaugleddau ddod yn borthladd cytundeb, i bob pwrpas, yn yr un modd ag y digwyddodd i ddau borthladd yn Iwerddon pan sefydlwyd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. Byddwn yn croesawu eglurhad pellach ynglŷn â pham y dylai porthladd Aberdaugleddau gael ei drin yn wahanol i bob porthladd arall yng Nghymru gyfan. A gaf fi groesawu, o leiaf, y ffaith fod gweithgor cyfiawnder yng Nghymru wedi'i sefydlu? Mae'n rhaid i mi ddweud wrtho nad wyf fi na'r Gweinidogion wedi derbyn gwahoddiad eto i gymryd rhan yn y grŵp hwnnw, ond rwy'n croesawu'r hyn y mae wedi'i ddweud heddiw - y bydd cyfranogiad gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weld cyfranogiad gweinidogol yn rhan o hynny. O ran y sefyllfa treth incwm, nid wyf yn anghytuno â'r hyn y mae wedi'i ddweud am y refferendwm, ond mae'n rhaid iddo fod yn ymwybodol - mae ef a minnau wedi trafod hyn eisoes - na allwn argymell y dylai'r Cynulliad roi ei gydsyniad deddfwriaethol i Fil Cymru oni bai bod cytundeb ar fframwaith cyllidol ymlaen llaw. Fel y mae'r Bil ar hyn o bryd, gall y Trysorlys orfodi setliad ariannol ar bobl Cymru heb gytundeb y lle hwn, ac mae hynny'n anghywir mewn egwyddor - nid yw'n berthnasol yn yr Alban. Felly, rwy'n credu y bydd cytundeb ar fframwaith cyllidol yn gwbl allweddol i gytundeb y corff hwn mewn perthynas â datganoli treth incwm. Fel rwy'n dweud, nid wyf yn ei erbyn mewn egwyddor, ond mae'r ymarferol yn bwysig i wneud yn siŵr na fydd Cymru ar ei cholled. Gan ymdrin yn fyr â rhai o'r materion eraill a godwyd ganddo, mae'n gywir i dynnu sylw at yr heriau sy'n bodoli mewn perthynas â chanlyniad refferendwm yr UE. Cytunaf ag ef fod rhoi hyder i fusnesau, a dweud wrth fusnesau fod Cymru ar agor i fusnes, yn hynod o bwysig. Rydym yn gwybod bod busnesau'n casáu ansicrwydd ac yn anffodus, mae'r ansicrwydd hwnnw'n dal i fodoli. Rwy'n derbyn yr hyn y mae'n ei ddweud, mai cyfrifoldeb y ddwy Lywodraeth yw lleddfu'r ansicrwydd hwnnw dros yr ychydig fisoedd nesaf. Cytunaf yn gryf â'r hyn a ddywedodd am gydlyniant cymunedol. Clywais straeon yr wythnos ddiwethaf, pan euthum i Lanelli ac Abertawe, am bobl sy'n teimlo dan fygythiad oherwydd dehongliad lleiafrif bach o ganlyniad y refferendwm. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i wneud yn siŵr fod 'genie' rhagfarn a ryddhawyd o'r botel yn cael ei roi yn ôl yn gadarn yn y botel yn y dyfodol. A gaf fi ddweud wrtho, o ran trafodaethau'r UE, mae'n hynod o bwysig fod pob gweinyddiaeth yn y DU yn rhan o unrhyw drafodaeth? Yn fy marn i, dylai unrhyw setliad, unrhyw gytundeb, gael ei gadarnhau gan bob un o'r pedair senedd er mwyn cael cefnogaeth ar draws y DU. Ceir rhai meysydd, wrth gwrs, fel amaethyddiaeth a physgodfeydd, lle nad oes gan Senedd y DU unrhyw rôl o gwbl bron, ac felly mae'n gwbl briodol, yn y meysydd hynny, ac yn wir yn ehangach, y dylid cael cadarnhad y lle hwn a'r seneddau datganoledig eraill er mwyn i'r cytundeb gael ei dderbyn yn llawn ar draws y DU gyfan. Yn olaf, rwyf am sôn am y ddeddf hawliau dynol. 'Pob lwc gyda honno' a ddywedaf fi wrtho, oherwydd siaradais â'r grŵp oedd yn edrych ar greu deddf hawliau dynol a gwrandewais yn ofalus ar yr hyn y mae Gweinidogion wedi'i ddweud am y ddeddf hawliau dynol, ac i mi nid yw'n ychwanegu unrhyw beth o gwbl at Ddeddf Hawliau Dynol 1998 sydd gennym ar hyn o bryd. Felly, arhoswn i weld beth y bydd deddf hawliau dynol o'r fath yn ei ddweud y tu hwnt i'r rhethreg a beth y bydd yn ei olygu'n benodol i'r gwledydd datganoledig hefyd. Hyd y gwelaf i, nid wyf yn siŵr beth y mae'n ei ychwanegu at y ddeddfwriaeth sydd gennym eisoes. Ond cawn weld sut y bydd yn datblygu dros y misoedd nesaf, ac yn amlwg bydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru yn ogystal â'r lle hwn roi eu barn ynglŷn â sut beth fydd y ddeddf hawliau dynol. Bydd yna feysydd eraill, Biliau eraill, wrth gwrs, lle bydd trafodaethau'n cael eu cynnal wrth i'r Biliau hynny symud ymlaen drwy'r Senedd. Diau y bydd Bil Cymru yn un ohonynt wrth i ni edrych tua'r dyfodol. Ond fel y dywedais yn ystod y ddadl heddiw, mae'n gyfle i'r Aelodau fynegi eu barn, a bydd arweinydd y tŷ yn ymateb yn ffurfiol ar ran y Llywodraeth ar ddiwedd y ddadl.
I have selected two amendments to the motion, and I call on Leanne Wood to move amendments 1 and 2, tabled in the name of Simon Thomas.
Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas.
Diolch, Lywydd. I move amendments 1 and 2 in the name of Simon Thomas. In the aftermath of the EU referendum, Wales at the UK level is at the custody of a deeply divided Conservative Government. In fact, the entire Westminster establishment is racked by in-fighting, including the UK's official opposition, the Labour Party. This has a series of implications for Wales, because the 2016 speech sees the continued progress, of course, of the Wales Bill, which sets out the next short-term changes for the Welsh constitution. Llywydd, as part of my response to the EU referendum result, I stated that Plaid Cymru would move to increase the powers and the responsibilities of the National Assembly. If the EU referendum result was a vote against perceived distant rule or perceived centralised rule, then it was not a vote to concentrate more powers in Westminster. If the EU referendum result was a vote to take control over people's lives, then it was not a vote for more Welsh laws or decisions to be made outside of Wales. This referendum result, in fact, makes it even more essential that the Welsh Government and the National Assembly are empowered to protect our country's interests, in line with how those interests have been decided at Welsh general elections. There have not yet been any significant attempts to link the EU referendum result to a reduction in the National Assembly's powers or to a pause in the development of Wales as a self-governing country, but we must all remain vigilant and wary of such attempts emerging in the future. We must proactively make the case for ever more decisions about Wales to be taken here in this country. And once those additional powers and responsibilities are in place, we should broaden the debate about their use to include those communities that are not well connected to events that take place in this Chamber at present, including those places where large numbers of people feel disenfranchised and disillusioned with democratic politics. Our second amendment deals with the EU regulations more directly, and those will be addressed further by other speakers. Llywydd, the entire future of the United Kingdom is now in a state of flux. There deserves to be a full national debate about future options for us to re-join the European Union in the future, if that's what people want to do, accepting, of course, that this would require a new, fresh choice to be made by people here. But the Wales Bill is the appropriate vehicle for those immediate short-term changes, which could bring our country up to a similar level of devolved competence as other UK devolved legislatures. And it's on those short-term measures that I'd like to focus now. Plaid Cymru regrets that the UK Government's proposed Wales Bill falls short of comparable powers as those available to, or on offer to, Scotland. We have yet another situation where the Wales Bill has been overtaken by events. The UK Government approach is too narrow, with the Secretary of State failing to attend the Constitutional and Legislative Affairs Committee. I share the concern of the Chair of that committee, who is absolutely right to point out that the Wales Bill could take the devolution settlement back in some respects. He's also right to seek to involve wider Welsh society in the committee's scrutiny of that Bill, but that scrutiny has been undermined by the Secretary of State's non-appearance at that committee. At this stage, we can only speculate how a weak Wales Bill will affect future appetites for more self-government. But in no way will the current Wales Bill end the constitutional debate in this country, and, on that count, it will fail to meet the UK Government's objectives.
Diolch, Lywydd. Cynigiaf welliannau 1 a 2 yn enw Simon Thomas. Yn dilyn refferendwm yr UE, mae Cymru ar lefel y DU yn nwylo Llywodraeth Geidwadol ranedig iawn. Yn wir, mae sefydliad San Steffan yn ei gyfanrwydd wedi'i rwygo gan ymladd mewnol, gan gynnwys gwrthblaid swyddogol y DU, y Blaid Lafur. Mae i hyn gyfres o oblygiadau i Gymru, gan fod araith 2016 yn cydnabod y parhad yn nhaith Bil Cymru, wrth gwrs, sy'n nodi'r newidiadau tymor byr nesaf i'r cyfansoddiad Cymreig. Lywydd, fel rhan o fy ymateb i ganlyniad refferendwm yr UE, dywedais y byddai Plaid Cymru yn gwneud cynnig i gynyddu pwerau a chyfrifoldebau'r Cynulliad Cenedlaethol. Os mai pleidlais yn erbyn y canfyddiad o reolaeth o bell neu reolaeth ganoledig oedd canlyniad refferendwm yr UE, yna nid oedd yn bleidlais dros ganoli mwy o bwerau yn San Steffan. Os mai pleidlais i reoli bywydau pobl oedd canlyniad refferendwm yr UE, yna nid oedd yn bleidlais dros wneud mwy o ddeddfau neu benderfyniadau Cymreig y tu allan i Gymru. Mae canlyniad y refferendwm, mewn gwirionedd, yn ei gwneud hi hyd yn oed yn fwy hanfodol fod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu grymuso i warchod buddiannau ein gwlad, yn unol â'r modd y penderfynwyd ar y buddiannau hynny mewn etholiadau cyffredinol yng Nghymru. Ni fu unrhyw ymdrechion arwyddocaol hyd yn hyn i gysylltu canlyniad refferendwm yr UE â lleihad ym mhwerau'r Cynulliad Cenedlaethol neu â saib yn natblygiad Cymru fel gwlad hunanlywodraethol, ond rhaid i ni i gyd fod yn effro ac yn wyliadwrus rhag i ymdrechion o'r fath ddod yn amlwg yn y dyfodol. Mae'n rhaid i ni fynd ati'n rhagweithiol i gyflwyno'r achos dros sicrhau bod mwy byth o benderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yma yn y wlad hon. A phan fydd y pwerau a'r cyfrifoldebau ychwanegol hynny yn eu lle, dylem ehangu'r drafodaeth ynglŷn â'u defnydd i gynnwys y cymunedau hynny nad oes ganddynt gysylltiad da â'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn y Siambr hon ar hyn o bryd, gan gynnwys yr ardaloedd lle mae nifer fawr o bobl yn teimlo wedi'u difreinio a'u dadrithio gan wleidyddiaeth ddemocrataidd. Mae ein hail welliant yn ymwneud â rheoliadau'r UE yn fwy uniongyrchol, a bydd y rheini'n cael sylw pellach gan siaradwyr eraill. Lywydd, mae holl ddyfodol y Deyrnas Unedig bellach ynghanol y pair. Dylai fod trafodaeth genedlaethol lawn am opsiynau i ni ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, os mai dyna fydd pobl ei eisiau, gan dderbyn, wrth gwrs, y byddai hyn yn gofyn i'r bobl yma wneud dewis newydd, ffres. Ond Bil Cymru yw'r cyfrwng priodol ar gyfer y newidiadau uniongyrchol hynny yn y tymor byr a allai godi ein gwlad i lefel o gymhwysedd datganoledig sy'n debyg i ddeddfwrfeydd datganoledig eraill yn y DU. A hoffwn ganolbwyntio yn awr ar y mesurau tymor byr hynny. Mae Plaid Cymru yn gresynu nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn cyrraedd yr un lefel â phwerau tebyg megis y rhai sydd ar gael, neu'n cael eu cynnig, i'r Alban. Mae gennym sefyllfa arall eto fyth lle mae Bil Cymru wedi'i oddiweddyd gan ddigwyddiadau. Mae dull Llywodraeth y DU yn rhy gul, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn methu â mynychu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rwy'n rhannu pryder Cadeirydd y pwyllgor hwnnw, sy'n hollol iawn i nodi y gallai Bil Cymru symud y setliad datganoli yn ei ôl mewn rhai agweddau. Mae hefyd yn gywir i geisio cynnwys cymdeithas ehangach Cymru yng ngwaith craffu'r pwyllgor ar y Bil, ond mae'r gwaith craffu wedi cael ei danseilio gan y ffaith nad oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn bresennol yn y pwyllgor hwnnw. Ar y cam hwn, ni allwn ond dyfalu sut y bydd Bil Cymru gwan yn effeithio ar archwaeth pobl yn y dyfodol am fwy o hunanlywodraeth. Ond ni fydd y Bil Cymru cyfredol, mewn unrhyw ffordd, yn rhoi diwedd ar y ddadl gyfansoddiadol yn y wlad hon, ac yn hynny o beth, bydd yn methu â bodloni amcanion Llywodraeth y DU.
Would the Member give way on that point?
A fyddai'r Aelod yn ildio ar y pwynt hwnnw?
I rise because she's raised the representations that the Constitutional and Legislative Affairs Committee has made, and that invitation still stands, by the way. The reason it stands is because, in the spirit of the constructive engagement made by the First Minister, by opposition leaders, and also by the Presiding Officer - even to the extent of suggesting amendments - we genuinely feel we can be of constructive help, in scrutiny of this Bill, in making it right. Because it has potential for improvement, but it also has potential to roll back devolution in some areas. So the invitation stands.
Rwy'n codi oherwydd ei bod wedi crybwyll y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac mae'r gwahoddiad hwnnw'n aros, gyda llaw. Y rheswm y mae'n aros yw oherwydd ein bod, yn ysbryd yr ymgysylltiad adeiladol a wnaed gan y Prif Weinidog, gan arweinwyr y gwrthbleidiau, a hefyd gan y Llywydd - gan gynnwys mynd mor bell ag awgrymu newidiadau hyd yn oed - yn teimlo o ddifrif y gallwn fod o gymorth adeiladol wrth graffu ar y Bil hwn, er mwyn ei wneud yn iawn. Oherwydd mae ganddo botensial i wella, ond mae ganddo hefyd botensial i wrthdroi datganoli mewn rhai meysydd. Felly, mae'r gwahoddiad yn aros.
I welcome your contribution to that effect, and perhaps the Secretary of State would like to reflect upon that point. Perhaps he would also like to reflect upon the fact that this Bill, if enacted, will be the fifth time that devolution has been altered in Wales. The fact that we've had to change devolution five times, that doesn't reflect some sort of generosity from Westminster, it reflects the fact that the model that we have tried has been unsustainable. When we've had successive Secretaries of State for Wales claiming that the next devolution Bill will settle the debate for a generation - and we've heard that from at least four Secretaries of State for Wales to date - then settling that never actually happens, something is seriously wrong. Plaid Cymru MPs at Westminster have taken steps to try to strengthen this Bill. In line with the Welsh Government's draft Government and Laws in Wales Bill, our MPs laid down an amendment on legal jurisdiction. This position has the democratic endorsement of a majority of voters in Wales in the election several months ago. It's more than regrettable that the Labour Party in Westminster abstained on that vote and that support for the principle was highly varied amongst those Labour MPs who spoke to that amendment. I find it incredible to hear the First Minister say today that the support of the Welsh Government is there for a Welsh legal jurisdiction, but Labour MPs failed to support that in Parliament yesterday, and I said to the First Minister yesterday: he needs to tell his MPs to get a grip. There was more support - consistent support - from Labour MPs for the other vote that the MPs forced at Westminster yesterday, on removing the justice impact assessments, and I welcome that. But I only wish that we could have had more of a united front on other issues, especially when it was Labour Party policy. Now, in many respects, I think that those efforts have fallen victim to the chaos that is within the Labour Party at Westminster, and, as the First Minister admitted to me yesterday, that situation is not stable. But, ultimately, there has been a failure of how this Bill has been structured and scrutinised. The wider Queen's Speech has been disappointing for a number of reasons for Wales. On prison reform, the UK Government is effectively proposing its failed academies model to prisons. If we controlled our own prisons policy, this could have been prevented. I welcome the movement on the sugared drinks tax. Plaid Cymru was ahead of the curve, of course, on that proposal, having been ridiculed by others; we called for it first in 2013. But it will be disappointing if the revenues from that tax are not distributed evenly. As ever, though, the Queen's Speech is notable for what's missing. Plaid Cymru's alternative Queen Speech included a devolution of policing Bill, a Severn bridge tolls Bill, we called for a north Wales growth deal, with multiple proposals ranging from rail electrification and confirmation of the Llanbedr spaceport. The UK Government's previously announced north Wales growth deal contains no concrete proposals at all. We've also proposed an EU funds contingency Bill to introduce and establish statutory contingency alternative funding arrangements at least equal to those currently available to the levels of EU structural funds and common agricultural policy. We note with interest the statement from the Secretary of State for Wales on the new Prime Minister's intention of delaying the triggering of article 50. It was somewhat surprising to hear him say this. Do we have any idea how long that is going to be delayed for? Because uncertainty is a big problem now and I can't see how this delay will help with that. The danger is that it looks as though the UK Government doesn't have a clue what it's doing and I very much hope that that is just how it looks. The Queen's Speech should be seen as another missed opportunity. What's missing from the speech, and from the Wales Bill, is of greater significance than what is included. The improvements on offer, such as establishing the permanence of this institution, and control of our own electoral arrangements, are to be welcomed, but have been packaged in a Bill that is incredibly complex, mainly due to the absence of the Welsh legal jurisdiction. I'm troubled at the way the Bill has now moved forward without significant engagement by the Secretary of State with this Assembly. In conclusion, I believe that this Bill will not bring stability to Wales in anything more than the immediate short term, and that it does not bring us in line with what is happening in Scotland. Why does it seem, yet again, that what is good enough for Scotland isn't good enough for Wales, and why does the Secretary of State for Wales appear to be content with that?
Rwy'n croesawu eich cyfraniad i'r perwyl hwnnw, ac efallai y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn hoffi ystyried y pwynt hwnnw. Efallai y byddai hefyd yn hoffi myfyrio ar y ffaith mai'r Bil hwn, os caiff ei roi mewn grym, fydd y pumed tro i ddatganoli gael ei newid yng Nghymru. Nid yw'r ffaith ein bod wedi gorfod newid datganoli bum gwaith yn adlewyrchiad o ryw fath o haelioni o du San Steffan, mae'n adlewyrchu'r ffaith fod y model y rhoesom gynnig arno wedi bod yn anghynaliadwy. O ystyried ein bod wedi clywed Ysgrifenyddion Gwladol olynol yn honni y bydd y Bil datganoli nesaf yn setlo'r ddadl am genhedlaeth - ac rydym wedi clywed hynny gan o leiaf bedwar o Ysgrifenyddion Gwladol Cymru hyd yn hyn - yna setlo nad yw byth yn digwydd mewn gwirionedd, mae rhywbeth mawr iawn o'i le. Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan wedi rhoi camau ar waith i geisio cryfhau'r Bil hwn. Yn unol â Bil drafft Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru Llywodraeth Cymru, cyflwynodd ein Haelodau Seneddol welliant ar awdurdodaeth gyfreithiol. Mae'r safbwynt hwn wedi cael cymeradwyaeth ddemocrataidd mwyafrif y rhai a bleidleisiodd yng Nghymru yn yr etholiad rai misoedd yn ôl. Mae'n anffodus iawn fod y Blaid Lafur yn San Steffan wedi ymatal ar y bleidlais honno a bod y gefnogaeth i'r egwyddor yn amrywio'n fawr ymhlith yr Aelodau Seneddol Llafur a siaradodd am y gwelliant hwnnw. Rwy'n ei chael hi'n anhygoel clywed y Prif Weinidog yn dweud heddiw fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ddadl dros awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig, a bod Aelodau Seneddol Llafur wedi methu â chefnogi hynny yn y Senedd ddoe, a dywedais wrth y Prif Weinidog ddoe: mae angen iddo ddweud wrth ei Aelodau Seneddol am gallio. Cafwyd mwy o gefnogaeth - cefnogaeth gyson - gan Aelodau Seneddol Llafur i'r bleidlais arall a orfodwyd gan yr Aelodau Seneddol yn San Steffan ddoe, ar gael gwared ar yr asesiadau o'r effaith ar gyfiawnder, ac rwy'n croesawu hynny. Ond hoffem pe baem wedi gallu bod yn fwy unedig ar faterion eraill, yn enwedig o ystyried mai polisi'r Blaid Lafur ydoedd. Nawr, ar sawl ystyr, rwy'n credu bod yr ymdrechion hynny wedi dioddef yn sgil yr anhrefn yn y Blaid Lafur yn San Steffan, ac fel y cyfaddefodd Prif Weinidog Cymru wrthyf ddoe, mae'r sefyllfa honno'n ansefydlog. Ond yn y pen draw, mae methiant wedi bod o ran sut y mae'r Bil hwn wedi'i strwythuro a'i graffu. Mae'r Araith y Frenhines ehangach wedi bod yn siomedig am nifer o resymau i Gymru. Ar ddiwygio carchardai, mae Llywodraeth y DU, i bob pwrpas, yn cynnig ei model academïau aflwyddiannus i garchardai. Pe baem yn rheoli ein polisi carchardai ein hunain, gellid bod wedi atal hyn. Rwy'n croesawu'r symud ar y dreth diodydd siwgr. Roedd Plaid Cymru o flaen y gweddill, wrth gwrs, gyda'r cynnig hwnnw, ar ôl cael eu gwawdio gan eraill; y tro cyntaf i ni alw amdani oedd yn 2013. Ond bydd yn siomedig os na chaiff y refeniw o'r dreth honno ei ddosbarthu'n gyfartal. Fel erioed, fodd bynnag, mae Araith y Frenhines yn nodedig am yr hyn sydd ar goll. Roedd Araith y Frenhines amgen gan Blaid Cymru yn cynnwys Bil datganoli plismona; Bil tollau pont Hafren; fe alwom am gytundeb twf i ogledd Cymru, gydag argymhellion lluosog yn amrywio o drydaneiddio rheilffyrdd a chadarnhad o faes gofod Llanbedr. Nid yw'r cyhoeddiad blaenorol gan Lywodraeth y DU am gytundeb twf i ogledd Cymru yn cynnwys unrhyw gynigion pendant o gwbl. Rydym hefyd wedi argymell Bil cronfeydd wrth gefn yr UE i gyflwyno a sefydlu trefniadau cyllido wrth gefn statudol amgen sydd o leiaf yn hafal i'r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd i lefelau cronfeydd strwythurol yr UE a'r polisi amaethyddol cyffredin. Rydym yn nodi gyda diddordeb y datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar fwriad y Prif Weinidog newydd i oedi gweithredu erthygl 50. Roedd yn syndod braidd ei glywed yn dweud hyn. A oes gennym unrhyw syniad pa mor hir y bydd hynny'n cael ei ohirio? Oherwydd mae ansicrwydd yn broblem fawr yn awr ac ni allaf weld sut y bydd yr oedi hwn yn helpu gyda hynny. Y perygl yw ei bod yn ymddangos fel pe na bai gan Lywodraeth y DU syniad beth y mae'n ei wneud ac rwy'n gobeithio'n fawr mai ymddangos felly'n unig y mae. Dylai Araith y Frenhines gael ei gweld fel cyfle arall a gollwyd. Mae'r hyn sydd ar goll o'r araith, ac o Fil Cymru, yn fwy arwyddocaol na'r hyn sy'n cael ei gynnwys. Mae'r gwelliannau a gynigir, megis sefydlu parhâd y sefydliad hwn, a rheoli ein trefniadau etholiadol ein hunain, i'w croesawu, ond maent wedi cael eu pecynnu mewn Bil sy'n anhygoel o gymhleth, yn bennaf oherwydd absenoldeb yr awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig. Rwy'n poeni am y ffordd y mae'r Bil bellach wedi symud ymlaen heb ymgysylltiad o sylwedd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol â'r Cynulliad hwn. I gloi, rwy'n credu na fydd y Bil hwn yn sicrhau sefydlogrwydd i Gymru am gyfnod hwy na'r tymor byr uniongyrchol, ac nid yw yn ein rhoi ar yr un lefel â'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban. Pam ei bod yn ymddangos, unwaith eto, nad yw'r hyn sy'n ddigon da i'r Alban yn ddigon da i Gymru, a pham fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'w weld yn fodlon â hynny?
I welcome the Secretary of State here today. As one who's sat on the benches with you, I can remember all your 'hear, hears' and banging of desks when you were here, but I can see you're far better behaved now you've got to the Secretary of State position. But it is a real warm welcome to you that we extend from the Conservative benches, as it is your first visit as Secretary of State. I heard the comments you made in your speech that you hope it to be the last, but I do recall the previous Secretary of State saying the same words when he was here because of the progress of the Wales Bill. Whilst many of the commitments today will of course centre on the draft Wales Bill, it is important to approach this Queen's Speech debate with a focus on the raft of measures that will have an impact on Wales or those that will highlight the Welsh Government's inaction in many of these areas. The provisions contained within the recent Queen's Speech will act to deliver economic security for working people and improve people's life chances. It is a set of legislative proposals with these core principles at their heart, and they should be welcomed. Many reserved laws will have a profound impact on Wales, whilst some England-only Bills emphasise issues the new administration here must consider as it develops its own legislative programme. These plans build on the work already undertaken by the UK Government over the last six years to stabilise our economy and emphasise the progressive agenda that supports our long-term futures. At the heart of this Queen's Speech is a focus on improving life chances for the disadvantaged. Where provisions apply only to England, it is important that we hear clear plans from the Welsh Government as to how they will ensure our nation does not fall behind. Indeed, a new care leavers covenant is hugely positive for carers and, as part of the Children and Social Work Bill, will improve those chances. We must ensure those in Wales have their life chances supported in a similar way, and monitor closely how developments in England succeed. New reporting requirements within the Higher Education and Research Bill will lay down the challenge of social mobility to the higher education sector, and outline clearly the work that needs to be done to support progression rates for all. How such supply-side reforms will be matched here in Wales needs to be outlined by the Welsh Government. The Local Growth and Jobs Bill also puts business rates in England under the spotlight and I renew my calls today for the Welsh Government to outline when it will bring forward enhanced rate relief for small firms on this side of Offa's Dyke. There is a monumental risk of us falling behind in Wales on this issue, following other recent business rates announcements made by the current Chancellor. Security is also a key element of this Queen's Speech, and many non-devolved issues are at the heart of the agenda to help keep Wales's communities safe, including stronger powers to disrupt extremists and protect the public. Furthermore, reform to prisons will ensure the right balance between punishment and rehabilitation, and support the ethos of giving everyone the chance to contribute to society - core beliefs for a one-nation Conservative Government. We also know that this Queen's Speech paves the way for the establishment of a national infrastructure commission on a statutory basis. This will deliver expert independent advice on infrastructure issues. As part of this debate, I hope the Welsh Government will outline how its own plans for an infrastructure commission - thrashed out behind closed doors with Plaid Cymru - will complement the work of this new body. The draft Wales Bill is, of course, likely to be the most pertinent of Bills to interest Members in this Assembly. This Bill will deliver a clearer, more stable devolution settlement and I look forward to continuing to work closely with the UK Government as it progresses. The development process of the draft Wales Bill is important to note. Key stakeholders have been hugely positive about the redrafted Bill, and the UK Government deserves immense credit for the listening exercise it undertook in amending previous proposals. I sincerely thank the Secretary of State for his role in this. Indeed, my own party here in the National Assembly for Wales discussed at length issues around the list of reservations and consents, and the Wales Office acted constructively and decisively in the search for consensus. A reserved-powers model would be an historic step for the National Assembly, whilst the arrival of further responsibilities offers a clear opportunity to deliver Welsh-specific solutions to the challenges we face, including, and notably, over energy and transport. Some of the good things about the redrafted Wales Bill are that the Bill does not do what it ultimately set out to do in its draft form and it does enable many areas of life in Wales to benefit from decisions made in this legislature. That is a game changer for Wales, in particular around income tax, and it'll bring real accountability to the National Assembly for Wales. How these powers are used will shine new focus on this National Assembly and the public's judgment of the Welsh Government. Many of the principles contained within this legislation are among its most pertinent conditions. By establishing the permanence of the National Assembly and the Welsh Government in statute, we see enhanced formal recognition of this Assembly within the UK's constitutional arrangements. I hope all Members will reflect today on how important that is. It is worth reflecting that this debate takes place only hours after discussing the name of this National Assembly. It is this Bill that will enable us to make that decision and discuss other arrangements, including size, electoral systems, and the voting age. We must not lose sight of this significance. Of course, the Wales Bill is part of a package of wider reforms that Conservative-led Governments have implemented. One such development is the fair funding floor, which Labour had 13 years to implement and did nothing. That was deeply regrettable. [Interruption.] I'm deeply concerned by the eruption from the Cabinet Secretary - I'm concerned about his welfare. [Laughter.] Are you feeling well, Cabinet Secretary?
Rwy'n croesawu'r Ysgrifennydd Gwladol yma heddiw. Fel rhywun sydd wedi eistedd ar y meinciau gyda chi, gallaf eich cofio'n dweud 'clywch, clywch' ac yn curo ar ddesgiau pan oeddech yma, ond gallaf weld eich bod yn ymddwyn yn llawer gwell yn awr eich bod yn Ysgrifennydd Gwladol. Ond rydym yn estyn croeso cynnes iawn i chi o feinciau'r Ceidwadwyr, gan mai hwn yw eich ymweliad cyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol. Clywais y sylwadau a wnaethoch yn eich araith eich bod yn gobeithio mai hwn fydd eich ymweliad olaf, ond rwy'n cofio'r Ysgrifennydd Gwladol blaenorol yn dweud yr un geiriau pan oedd yma oherwydd cynnydd Bil Cymru. Er y bydd llawer o'r ymrwymiadau heddiw wrth gwrs yn ymwneud â'r Bil Cymru drafft, mae'n bwysig troi at y ddadl ar Araith y Frenhines gyda ffocws ar y llu o fesurau a fydd yn effeithio ar Gymru neu'r rhai a fydd yn tynnu sylw at ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru mewn llawer o'r meysydd hyn. Bydd y darpariaethau a geir yn Araith y Frenhines yn ddiweddar yn gweithredu i ddarparu sicrwydd economaidd i bobl sy'n gweithio ac yn gwella cyfleoedd bywyd pobl. Mae'n gyfres o gynigion deddfwriaethol sydd â'r egwyddorion creiddiol hyn yn ganolog iddynt, a dylid eu croesawu. Bydd llawer o ddeddfau a gadwyd yn ôl yn effeithio'n fawr ar Gymru, tra bod rhai Biliau ar gyfer Lloegr yn unig yn pwysleisio materion sy'n rhaid i'r weinyddiaeth newydd yma eu hystyried wrth iddi ddatblygu ei rhaglen ddeddfwriaethol ei hun. Mae'r cynlluniau hyn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan Lywodraeth y DU dros y chwe blynedd diwethaf i sefydlogi ein heconomi ac yn pwysleisio'r agenda flaengar sy'n cynnal ein dyfodol hirdymor. Wrth galon Araith y Frenhines mae ffocws ar wella cyfleoedd bywyd ar gyfer y difreintiedig. Lle nad yw darpariaethau ond yn gymwys i Loegr, mae'n bwysig ein bod yn clywed cynlluniau clir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y byddant yn sicrhau nad yw ein cenedl yn cael ei gadael ar ôl. Yn wir, mae cyfamod newydd i'r rhai sy'n gadael gofal yn hynod gadarnhaol i ofalwyr ac fel rhan o'r Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, bydd yn gwella'r cyfleoedd hynny. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod cyfleoedd bywyd y rhai hynny yng Nghymru yn cael cefnogaeth yn yr un modd, yn ogystal â monitro'n agos sut y mae datblygiadau yn Lloegr yn llwyddo. Bydd gofynion adrodd newydd o fewn y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil yn gosod her symudedd cymdeithasol i'r sector addysg uwch, ac yn amlinellu'n glir pa waith sydd angen ei wneud i gefnogi cyfraddau cynnydd ar gyfer pawb. Mae angen i Lywodraeth Cymru amlinellu sut y bydd diwygiadau o'r fath i'r ochr gyflenwi yn cael eu cyflawni yn yr un modd yma yng Nghymru. Mae'r Bil Twf a Swyddi Lleol hefyd yn rhoi ardrethi busnes yn Lloegr o dan y chwyddwydr ac rwy'n adnewyddu fy ngalwadau heddiw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa bryd y bydd yn cyflwyno'r rhyddhad ardrethi gwell i gwmnïau bach ar yr ochr hon i Glawdd Offa. Mae perygl mawr y byddwn yn cael ein gadael ar ôl yng Nghymru ar y mater hwn, yn dilyn cyhoeddiadau eraill diweddar ar ardrethi busnes a wnaed gan y Canghellor presennol. Mae diogelwch hefyd yn elfen allweddol o Araith y Frenhines eleni, ac mae llawer o faterion sydd heb eu datganoli yn ganolog i'r agenda i helpu i gadw cymunedau Cymru yn ddiogel, gan gynnwys pwerau cryfach i darfu ar weithgareddau eithafwyr a diogelu'r cyhoedd. Ar ben hynny, bydd diwygio carchardai yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cosbi ac adsefydlu, ac yn cefnogi'r ethos o roi cyfle i bawb gyfrannu at gymdeithas - credoau sy'n greiddiol i Lywodraeth Geidwadol un genedl. Rydym hefyd yn gwybod fod Araith y Frenhines eleni yn paratoi'r ffordd ar gyfer sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar sail statudol. Bydd hyn yn darparu cyngor annibynnol arbenigol ar faterion seilwaith. Yn rhan o'r ddadl hon, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut y bydd ei chynlluniau ei hun ar gyfer comisiwn seilwaith - a drafodwyd y tu ôl i ddrysau caeedig gyda Phlaid Cymru - yn ategu gwaith y corff newydd hwn. Mae'n debygol mai'r Bil Cymru drafft, wrth gwrs, yw'r Bil mwyaf perthnasol i ennyn diddordeb Aelodau yn y Cynulliad hwn. Bydd y Bil hwn yn darparu setliad datganoli cliriach a mwy sefydlog ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU wrth iddo fynd ar ei daith. Mae'n bwysig nodi proses ddatblygu'r Bil Cymru drafft. Mae rhanddeiliaid allweddol wedi bod yn gadarnhaol iawn ynglŷn ag ail ddrafft y Bil, ac mae Llywodraeth y DU yn haeddu clod aruthrol am yr ymarfer gwrando a gynhaliwyd ganddi wrth ddiwygio cynigion blaenorol. Rwy'n diolch o galon i'r Ysgrifennydd Gwladol am ei rôl yn hyn. Yn wir, mae fy mhlaid fy hun yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi trafod materion sy'n ymwneud â'r rhestr o gymalau cadw a chydsyniadau yn fanwl, a gweithredodd Swyddfa Cymru yn adeiladol ac yn bendant wrth chwilio am gonsensws. Byddai model cadw pwerau yn gam hanesyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol, a bydd cyfrifoldebau pellach yn cynnig cyfle amlwg i ddarparu atebion Cymreig penodol i'r heriau a wynebwn, gan gynnwys mewn perthynas ag ynni a thrafnidiaeth yn anad dim. Un o'r pethau da am ail ddrafft Bil Cymru yw nad yw'r Bil yn gwneud yr hyn y bwriadai ei wneud yn sylfaenol yn ei ffurf ddrafft ac mae'n galluogi sawl rhan o fywyd yng Nghymru i elwa ar y penderfyniadau a wnaed yn y ddeddfwrfa hon. Mae hynny'n newid pethau i Gymru, yn enwedig o ran y dreth incwm, a bydd yn dod â gwir atebolrwydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y modd y defnyddir y pwerau hyn yn rhoi ffocws newydd ar y Cynulliad Cenedlaethol hwn a barn y cyhoedd ar Lywodraeth Cymru. Mae llawer o'r egwyddorion sy'n cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth hon ymhlith ei hamodau mwyaf perthnasol. Drwy sefydlu parhauster y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru mewn statud, gwelwn fod gwell cydnabyddiaeth ffurfiol i'r Cynulliad hwn yn nhrefniadau cyfansoddiadol y DU. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn ystyried heddiw pa mor bwysig yw hynny. Mae'n werth ystyried bod y ddadl hon yn digwydd oriau yn unig ar ôl trafod enw'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Y Bil hwn fydd yn ein galluogi i wneud y penderfyniad hwnnw a thrafod trefniadau eraill, gan gynnwys maint, systemau etholiadol, a'r oedran pleidleisio. Rhaid i ni beidio â cholli golwg ar arwyddocâd hyn. Wrth gwrs, mae Bil Cymru yn rhan o becyn o ddiwygiadau ehangach y mae Llywodraethau dan arweiniad y Ceidwadwyr wedi eu gweithredu. Un datblygiad o'r fath yw cyllid gwaelodol teg, y cafodd y Blaid Lafur 13 mlynedd i'w weithredu a gwneud dim. Roedd hynny'n anffodus iawn. [Torri ar draws.] Rwy'n pryderu'n fawr am y ffrwydrad o gyfeiriad Ysgrifennydd y Cabinet - rwy'n poeni am ei les. [Chwerthin.] A ydych yn teimlo'n iawn, Ysgrifennydd y Cabinet?
I think he enjoyed his lunch.
Rwy'n credu ei fod wedi mwynhau ei ginio.
He obviously had a very good lunch, I would have thought. I warmly welcome the Secretary of State's recognition of a distinct body of Welsh law on the face of the Bill, within an England-and-Wales jurisdiction. This is a sensible accommodation; and the establishment of a justice working group to look at distinctive arrangements will further inform work in this area. The draft Wales Bill is potentially a landmark one for Wales. It forms part of a Queen's Speech that seeks to deliver opportunity and prosperity. Welsh Conservatives in the National Assembly stand ready to continue to work with the UK Government to ensure we continue to get things right for Wales.
Mae'n amlwg ei fod wedi cael cinio da iawn, buaswn yn tybio. Rwy'n croesawu'r ffaith fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cydnabod corff penodol o gyfraith i Gymru ar wyneb y Bil, o fewn awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Mae hwn yn gymhwysiad synhwyrol; a bydd sefydlu gweithgor cyfiawnder i edrych ar drefniadau penodol yn llywio gwaith pellach yn y maes hwn. Gallai'r Bil Cymru drafft fod yn garreg filltir i Gymru. Mae'n rhan o Araith y Frenhines sy'n ceisio darparu cyfleoedd a ffyniant. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol yn barod i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn parhau i gael pethau'n iawn i Gymru.
Would the Member give way?
A wnaiff yr Aelod yn ildio?
I certainly will.
Gwnaf, yn sicr.
I'm grateful to the Member. Can I just take him back a couple of minutes to when he talked about the funding floor, which is a political agreement and is not in legislation as such? But, of course, before we receive the Wales Bill for final approval here and pass the legislative consent motion, does he agree with me that we need to see a fiscal framework in place - an agreement between the Welsh Government and the Conservative Government in Westminster - that ensures there is no detriment to our financial relationships if we then have devolution and further devolution of taxation?
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod. A gaf fi fynd ag ef yn ôl ychydig o funudau pan soniodd am y cyllid gwaelodol, sy'n gytundeb gwleidyddol ac nid yw mewn deddfwriaeth fel y cyfryw? Ond wrth gwrs, cyn i ni dderbyn Bil Cymru i'w gymeradwyo'n derfynol yma a phasio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a yw'n cytuno bod angen i ni weld fframwaith cyllidol ar waith - cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan - sy'n sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol ar ein perthynas ariannol os ydym yn cael datganoli wedyn ac yn datganoli trethiant ymhellach?
There must be no detriment to the funding formula to Wales - that is crystal clear. I believe the Prime Minister is on record as saying that, and I believe several Secretaries of State, and this Secretary of State, have made that quite clear. We have a very good record on our funding of Wales, in particular in introducing the funding floor, and we will continue those negotiations to make sure there is no disadvantage to Wales - and Scotland offers a model for us to look at. Finally, I pay tribute to the Secretary of State for Wales, who joins us today, and to the work he has done for and on behalf of Wales, championing the interests of Wales in the corridors of power. We have heard quite a lot recently about turkeys voting for Christmas. This Bill is historic: by omitting section 32 of the Government of Wales Act 2006, it will end the Secretary of State's future participation in proceedings of the Assembly - another noteworthy step in this institution's journey to a strong empowered legislature at home within a strong United Kingdom. Thank you.
Ni ddylai fod unrhyw niwed i fformiwla cyllido Cymru - mae hynny'n glir fel grisial. Credaf fod y Prif Weinidog wedi dweud hynny ar goedd, ac rwy'n credu bod nifer o Ysgrifenyddion Gwladol, a'r Ysgrifennydd Gwladol hwn, wedi gwneud hynny'n gwbl glir. Mae gennym hanes da iawn mewn perthynas â chyllido Cymru, yn enwedig o ran cyflwyno'r cyllid gwaelodol, a byddwn yn parhau gyda'r trafodaethau hynny i wneud yn siŵr nad oes unrhyw anfantais i Gymru - ac mae'r Alban yn cynnig model i ni edrych arno. Yn olaf, rwy'n talu teyrnged i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy'n ymuno â ni heddiw, ac i'r gwaith y mae wedi'i wneud dros ac ar ran Cymru, gan hyrwyddo buddiannau Cymru yng nghoridorau grym. Rydym wedi clywed cryn dipyn yn ddiweddar am dyrcwn yn pleidleisio dros y Nadolig. Mae'r Bil hwn yn hanesyddol: drwy hepgor adran 32 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, bydd yn dod â rhan yr Ysgrifennydd Gwladol yn nhrafodion y Cynulliad i ben yn y dyfodol - cam nodedig arall yn nhaith y sefydliad hwn i gyfeiriad deddfwrfa awdurdodedig gref gartref o fewn Teyrnas Unedig gref. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. I too welcome the Secretary of State here, possibly for the last time before he returns to the oblivion of Westminster. He did his best to present the Queen's Speech as being something significant, whereas, in fact, everybody knows it's just a rag-bag of relatively trivial and insignificant measures, because the Prime Minister wanted to clear the decks of anything that could possibly be controversial in advance of the referendum. The commentary at the time was virtually uniform in its excoriation of the Queen's Speech. ITV's website described it as 'eyecatching but wholly uncontentious stuff: who could object to spaceports, tighter control of drones or faster broadband?' Well, I'm sure we're all in favour of faster broadband considering that most of Wales proceeds at a snail's pace in this respect. But, spaceports and drones, apart from some of the Members in this house, don't actually figure very much in people's imaginations. 'The Daily Telegraph' said of the Queen's Speech that: 'Traditionally-minded Conservatives packed into the House of Lords for the Queen's Speechcould be forgiven for thinking they are in the wrong room To some Tories, it will sound like a programme the last Labour government could have conceived.' Iain Duncan Smith accused the Prime Minister of deliberately avoiding controversy ahead of the vote on EU membership, saying: 'Many Conservatives have become increasingly concerned that in the Government's helter-skelter pursuit of the referendum, they have been jettisoning or watering down key elements of their legislative programme.' Well, far from it for me to intrude further upon that private grief. But, the Secretary of State in his preamble to his speech today said, rather surprisingly, and here I agree with the leader of the opposition, that the delays to starting the article 50 negotiating process was somehow going to instil confidence and bring about more stability to the process. That's the last thing that this will do. Actually, we need to get on with this process in order to resolve such uncertainties as there are. My experience, having been a member of the Council of Ministers - the internal market Minister - for two and a half years is that Parkinson's law certainly applies and work expands to fill the time available. So, the shorter the time frame the more we are likely to achieve. I personally don't see what difficulty there is about designing proper successor arrangements to our trading relationship with the EU. The EU has managed, in the course of 50 years, to negotiate only two proper free trade agreements - with Mexico and with South Korea. I can't see why we can't use those as templates for our own relationship with the EU in the future. There's been much talk in this place of the various models that exist for relationships - the Norway model or whatever; these are all totally irrelevant, because there is no way, following the referendum result, that we could accept total free movement of labour within the EU. That's the whole point of the referendum - we'd never have had one but for concern about the uncontrolled nature of our borders. And anything that is going to prevent us from having complete control of our own immigration policy is going to be rejected by the public at large. Again, I agree, in the spirit of cross-party agreement, with what the First Minister said in his remarks - and, indeed, the leader of the opposition - about an agreement on a fiscal framework to surround the Wales Bill. I can't see how it could possibly be acceptable to the people of Wales to have this Bill imposed upon us unless we can be absolutely certain, and it's there in hard fiscal fact, that Wales is not going to be a penny worse off after the Bill passes than before. And in that respect, of course, the EU compact is subject to the same demand that every penny that the EU currently spends in Wales must come to Wales after we leave the EU. So, consequently, this Queen's Speech takes us so far, but actually not very far. I really can't understand why something like the sugar tax, which the leader of the opposition highlighted in her speech, should be regarded as an advance; it's an absurd measure, actually, when you look at the nature of the tax. First of all, it's badly targeted because fruit juices and milk-based drinks are excluded, so that means that some of the most sugary drinks on the market actually escape the proposed levy. For example, a standard Starbucks extra-large hot chocolate contains 15 teaspoons of sugar, which is double the recommended daily maximum for an adult, but because it's a milk-based drink it's exempt from the levy. And the same could be said for other kinds of milkshakes, coffee and yoghurt-based drinks.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf i hefyd yn croesawu'r Ysgrifennydd Gwladol yma, o bosibl am y tro olaf cyn iddo ddychwelyd i ebargofiant San Steffan. Gwnaeth ei orau i gyflwyno Araith y Frenhines fel rhywbeth arwyddocaol, er bod pawb yn gwybod, mewn gwirionedd, mai cybolfa o filiau cymharol ddibwys a di-nod ydyw, am fod y Prif Weinidog yn awyddus i gael gwared ar bopeth a allai fod yn ddadleuol cyn y refferendwm. Roedd y sylwebaeth ar y pryd bron yn unffurf yn y modd yr oedd yn fflangellu Araith y Frenhines. Disgrifiwyd yr araith gan wefan ITV fel stwff sy'n tynnu sylw ond sy'n hollol annadleuol: pwy allai wrthwynebu meysydd gofod, rheolaeth dynnach ar ddronau neu fand eang cyflymach? Wel, rwy'n siŵr ein bod i gyd o blaid band eang cyflymach o ystyried bod y rhan fwyaf o Gymru yn bwrw ymlaen ar gyflymder malwen yn hyn o beth. Ond nid yw meysydd gofod a dronau, ar wahân i rai o'r Aelodau yn y tŷ hwn, yn golygu llawer o ddim yn nychymyg pobl mewn gwirionedd. Dywedodd 'The Daily Telegraph' am Araith y Frenhines: Gellid maddau i'r Ceidwadwyr traddodiadol a oedd yn llenwi Tŷ'r Arglwyddi ar gyfer Araith y Frenhines am feddwl eu bod yn yr ystafell anghywir I rai Torïaid, bydd yn swnio fel rhaglen y gallai'r llywodraeth Lafur ddiwethaf fod wedi'i chreu. Cyhuddodd Iain Duncan Smith y Prif Weinidog o osgoi dadl yn fwriadol cyn y bleidlais ar aelodaeth o'r UE, gan ddweud: Wrth i'r Llywodraeth fynd ar drywydd chwyrligwgan y refferendwm, mae llawer o'r Ceidwadwyr yn gynyddol bryderus eu bod wedi gwanhau neu gael gwared ar elfennau allweddol o'u rhaglen ddeddfwriaethol. Wel, nid wyf am ymyrryd ymhellach yn y galar preifat hwnnw. Ond dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yn ei ragymadrodd i'w araith heddiw, ac mae hyn yn peri cryn syndod, ac ar hyn rwy'n cytuno gydag arweinydd yr wrthblaid, y bydd yr oedi cyn cychwyn y broses o drafod telerau erthygl 50 rywsut yn ennyn hyder ac yn dod â mwy o sefydlogrwydd i'r broses. Dyna'r peth olaf y bydd hyn yn ei wneud. Mewn gwirionedd, mae angen i ni fwrw ymlaen â'r broses hon er mwyn datrys yr ansicrwydd sy'n bodoli. A minnau wedi bod yn aelod o Gyngor y Gweinidogion - Gweinidog y farchnad fewnol - am ddwy flynedd a hanner, fy mhrofiad i yw bod cyfraith Parkinson yn sicr yn berthnasol ac mae'r gwaith yn ehangu i lenwi'r amser sydd ar gael. Felly, po fyrraf yw'r amserlen, y mwyaf rydym yn debygol o'i gyflawni. Yn bersonol nid wyf yn gweld pa mor anodd yw llunio trefniadau olynydd priodol i'n perthynas fasnachu gyda'r UE. Dros 50 mlynedd, dau gytundeb masnach rydd priodol yn unig y mae'r UE wedi llwyddo i'w negodi - gyda Mecsico a De Korea. Ni allaf weld pam na allwn ddefnyddio'r rheini fel templedi ar gyfer ein perthynas ein hunain â'r UE yn y dyfodol. Mae llawer o sôn wedi bod yn y lle hwn am y gwahanol fodelau sy'n bodoli ar gyfer cysylltiadau - model Norwy neu beth bynnag; mae'r rhain i gyd yn gwbl amherthnasol gan nad oes unrhyw ffordd, yn dilyn canlyniad y refferendwm, y gallem dderbyn llafur yn symud yn rhydd o fewn yr UE. Dyna holl bwynt y refferendwm - ni fyddem byth wedi cael un oni bai am y pryder ynghylch natur ddireolaeth ein ffiniau. A bydd unrhyw beth sy'n mynd i'n hatal rhag cael rheolaeth lwyr ar ein polisi mewnfudo ein hunain yn cael ei wrthod gan y cyhoedd yn gyffredinol. Unwaith eto, rwy'n cytuno, yn ysbryd cytundeb trawsbleidiol, â'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei sylwadau - ac yn wir, arweinydd yr wrthblaid - am gytundeb ar fframwaith cyllidol o gwmpas Bil Cymru. Ni allaf weld sut y gallai fod yn dderbyniol o gwbl i bobl Cymru gael y Bil hwn wedi'i orfodi arnom oni bai ein bod yn gallu bod yn gwbl sicr, a'i fod yno mewn ffeithiau ariannol plaen, na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd ar ôl i'r Bil gael ei basio na chyn hynny. Ac yn hynny o beth, wrth gwrs, mae compact yr UE yn ddarostyngedig i'r un alwad fod yn rhaid i bob ceiniog y mae'r UE yn ei gwario yng Nghymru ar hyn o bryd ddod i Gymru ar ôl i ni adael yr UE. Felly, o ganlyniad, nid yw Araith y Frenhines eleni ond yn mynd â ni rywfaint o'r ffordd, ond nid yn bell iawn mewn gwirionedd. Ni allaf ddeall o gwbl pam y dylai rhywbeth fel y dreth ar siwgr, a nodwyd yn araith arweinydd yr wrthblaid, gael ei hystyried fel cam ymlaen; mae'n fil hurt, mewn gwirionedd, pan edrychwch ar natur y dreth. Yn gyntaf oll, mae wedi'i dargedu'n wael gan fod suddoedd ffrwythau a diodydd llaeth yn cael eu heithrio, felly mae hynny'n golygu bod rhai o'r diodydd â'r mwyaf o siwgr ar y farchnad yn osgoi'r ardoll arfaethedig mewn gwirionedd. Er enghraifft, mae siocled poeth mawr iawn o Starbucks yn cynnwys 15 llwy de o siwgr, dwbl yr uchafswm dyddiol a argymhellir ar gyfer oedolyn, ond am ei bod yn ddiod laeth caiff ei heithrio rhag yr ardoll. A gellid dweud yr un peth am fathau eraill o ysgytlaeth, coffi a diodydd iogwrt.