source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
I thank the Member for that question. The Welsh Government remains concerned that the impact of the pensions Acts of 1995 and 2011 will disproportionately affect a number of women who have had their state pension age raised significantly without effective or sufficient notification. We will continue to raise these concerns with UK Ministers, who remain responsible for these matters.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn bryderus y bydd effaith Deddfau pensiynau 1995 a 2011 yn effeithio'n anghymesur ar nifer o fenywod y mae eu hoedran pensiwn y wladwriaeth wedi'i godi'n sylweddol heb hysbysiad effeithiol na digonol. Byddwn yn parhau i ddwyn y pryderon hyn i sylw Gweinidogion y DU, sy'n parhau'n gyfrifol am y materion hyn.
You'll be aware of the campaign group, WASPI, which is the Women Against State Pension Inequality, which is a group across Wales, and many will be in our constituencies, who fought these deeply unfair consequences of the Pensions Act 2011. This legislation, as you say, has left tens of thousands of women out of pocket, born after 6 April 1951. The official figure I've seen is £12,000, although I met constituents Janet Davies and Julie Peach last week, and they said that it was up to £38,000 that they would personally be out of pocket. My colleague Vikki Howells had a statement of opinion, which was signed by cross-party Members, although notably not by any Conservative Members. Will you join my constituents and agree to continue to campaign - I'm pleased you did - and call directly, by writing, on the UK Government to introduce fair arrangements?
Fe fyddwch yn ymwybodol o'r grŵp ymgyrchu Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sef grŵp o bobl ar draws Cymru, a bydd llawer ohonynt yn byw yn ein hetholaethau, a frwydrodd yn erbyn canlyniadau annheg iawn Deddf Pensiynau 2011. Mae'r ddeddfwriaeth, fel y dywedwch, wedi gadael degau o filoedd o fenywod a anwyd ar ôl 6 Ebrill 1951 ar eu colled. Y ffigur swyddogol rwyf wedi'i weld yw £12,000, er i mi gyfarfod â'r etholwyr Janet Davies a Julie Peach yr wythnos diwethaf a ddywedodd y byddent hwy'n bersonol hyd at £38,000 yn waeth eu byd. Roedd gan fy nghyd-Aelod Vikki Howells ddatganiad barn a lofnodwyd gan Aelodau trawsbleidiol, er i mi nodi na wnaed hynny gan Aelodau Ceidwadol. A wnewch chi ymuno â fy etholwyr a chytuno i barhau i ymgyrchu - rwy'n falch eich bod wedi gwneud hynny - a galw'n uniongyrchol, drwy ysgrifennu, ar Lywodraeth y DU i gyflwyno trefniadau teg?
I thank the Member for drawing attention to the Women Against State Pension Inequality campaign, who have a major demonstration today and who've been so effective in drawing attention to this issue. Lesley Griffiths, who held equality responsibilities in the last Assembly term, wrote to Baroness Altmann, then Minister for State for Pensions, in February of this year, expressing the Welsh Government's concerns about the impact of the two pensions Acts. The Member is quite right in saying that the call from the campaign is for fair, transitional state pension arrangements. Their objection is not to fair arrangements; it's to the way in which changes to their pensions have twice been introduced, disadvantaging them on both occasions, without adequate notice. The House of Commons Work and Pensions Select Committee said that more could and should have been done to provide those affected with proper information. That's absolutely the position of this Government, and it's one we'll continue to press on their behalf.
Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at ymgyrch y Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sy'n cynnal gwrthdystiad mawr heddiw ac sydd wedi tynnu sylw at y mater hwn mor effeithiol. Ysgrifennodd Lesley Griffiths, a oedd â chyfrifoldebau cydraddoldeb yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, at y Farwnes Altmann, y Gweinidog Gwladol dros Bensiynau ar y pryd, ym mis Chwefror eleni, yn mynegi pryderon Llywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith y ddwy Ddeddf bensiynau. Mae'r Aelod yn llygad ei le yn dweud bod yr ymgyrch yn galw am drefniadau trosiannol teg ar gyfer pensiwn y wladwriaeth. Nid ydynt yn gwrthwynebu trefniadau teg; maent yn gwrthwynebu'r modd y cyflwynwyd newidiadau i'w pensiynau ddwywaith, yn eu rhoi dan anfantais ar y ddau achlysur, a hynny heb rybudd digonol. Dywedodd Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin y gellid ac y dylid bod wedi gwneud mwy i ddarparu gwybodaeth briodol i'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Dyna'n sicr yw safbwynt y Llywodraeth hon, ac mae'n un y byddwn yn parhau i'w wthio ar eu rhan.
Minister, the gradual equalisation of the state pension age of 65 for both men and women was first set out in the Pension Act 1995. Rather than increase the state pension age overnight, successive Governments have introduced changes incrementally. Given that the employment rate for women is at a record high, does the Minister agree that the equalisation of retirement age for men and women is a major step in tackling gender inequality and puts the state pension on a sustainable footing by taking into account increasing life expectancy?
Weinidog, cafodd cydraddoli graddol oedran pensiwn y wladwriaeth i 65 oed ar gyfer dynion a menywod ei nodi gyntaf yn Neddf Pensiynau 1995. Yn hytrach na chynyddu oedran pensiwn y wladwriaeth dros nos, mae Llywodraethau olynol wedi cyflwyno newidiadau fesul cam. O ystyried bod y gyfradd gyflogaeth ymysg menywod yn uwch nag erioed, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod cydraddoli oedran ymddeol ar gyfer dynion a menywod yn gam mawr tuag at fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a'i fod yn rhoi pensiwn y wladwriaeth ar sail gynaliadwy drwy ystyried bod disgwyliad oes yn cynyddu?
Well, those who are campaigning on this issue, Llywydd, are not objecting to gradual equalisation on an incremental basis; what they are campaigning about is the directly discriminatory way in which a group of women born between 1950 and 1953 have been adversely affected by twice having their state pension rate raised and without adequate information and notice. That campaign is about trying to find a way of mitigating that. They have put forward a very practical proposal for doing so, and it's one that I think Members in this Chamber would wish to support.
Wel, Lywydd, nid yw'r rhai sy'n ymgyrchu ar y mater hwn yn gwrthwynebu cydraddoli graddol fesul cam; yr hyn y maent yn ymgyrchu yn ei gylch yw'r modd uniongyrchol wahaniaethol y mae grŵp o fenywod a anwyd rhwng 1950 a 1953 wedi cael eu heffeithio'n andwyol ddwywaith gan y penderfyniad i godi eu cyfradd pensiwn y wladwriaeth heb wybodaeth na rhybudd digonnol. Mae'r ymgyrch honno'n ymwneud â cheisio dod o hyd i ffordd o liniaru hynny. Maent wedi cyflwyno cynnig ymarferol iawn ar gyfer gwneud hynny, ac mae'n un rwy'n credu y bydd Aelodau yn y Siambr hon yn dymuno ei gefnogi.
The WASPI demonstration and lobby of Parliament today will no doubt have been drowned out by other events going on. But I think it's very important to recognise that the Work and Pensions Committee in the House of Commons came up with a solution to this problem, to allow women to claim their pension early at a reduced rate. What is there that you can do to persuade the UK Government, particularly Stephen Crabb in his current position, that they should reconsider these transitional arrangements, which seem entirely reasonable and won't cost the taxpayer any more money?
Diau y bydd gwrthdystiad Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth a lobïo'r Senedd heddiw wedi cael eu boddi gan ddigwyddiadau eraill. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod y Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau yn Nhŷ'r Cyffredin wedi dod o hyd i ateb i'r broblem hon, er mwyn galluogi menywod i hawlio eu pensiwn yn gynnar ar gyfradd is. Beth y gallwch ei wneud i berswadio Llywodraeth y DU, yn enwedig Stephen Crabb yn ei swydd bresennol, y dylent ailystyried y trefniadau trosiannol hyn, sy'n ymddangos yn gwbl resymol ac na fydd yn costio mwy o arian o gwbl i'r trethdalwr?
Well, Llywydd, my understanding is that Baroness Altmann has agreed to meet with the WASPI campaign following the demonstration today. She's on record as saying that she had been gagged by her previous Secretary of State, Iain Duncan Smith, on this issue and I know that the women who will meet her today will be looking forward to seeing her without that impediment. In the meantime, we will continue to lobby on behalf of women in Wales for whom this is a very serious issue.
Wel, Lywydd, rwy'n deall bod y Farwnes Altmann wedi cytuno i gyfarfod â'r grŵp ymgyrchu Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth yn dilyn y gwrthdystiad heddiw. Mae hi wedi dweud ar goedd ei bod wedi cael ei gorfodi i gadw'n dawel ar y mater hwn gan ei Hysgrifennydd Gwladol blaenorol, Iain Duncan Smith, ac rwy'n gwybod y bydd y menywod a fydd yn cyfarfod â hi heddiw yn edrych ymlaen at ei gweld heb y rhwystr hwnnw. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i lobïo ar ran menywod yng Nghymru y mae'r mater hwn yn un difrifol iawn iddynt.
We now move to questions to the Cabinet Secretary from party spokespeople and, first this week, the Conservative spokesperson, Nick Ramsay.
Symudwn nawr i gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau i'r Ysgrifennydd Cabinet ac, yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay.
Diolch. Cabinet Secretary, welcome to you your new role and thank you for your initial discussions with me about some of the challenges that we face over this Assembly term. Secretary, the last week has certainly seen a seismic change in the political landscape, welcomed by some more than others in this Chamber. We are now faced with a number of key questions about the future funding of Wales. As you develop the new tax regime and the new tax legislation that was mentioned by the First Minister yesterday, can you update us on what progress is being made with the fiscal framework?
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, croeso i chi yn eich rôl newydd a diolch i chi am eich trafodaethau cychwynnol gyda mi ynglŷn â rhai o'r heriau sy'n ein hwynebu dros y tymor Cynulliad hwn. Ysgrifennydd, dros yr wythnos ddiwethaf yn sicr, cafwyd newid seismig yn y tirlun gwleidyddol, newid a groesawyd gan rai yn fwy nag eraill yn y Siambr hon. Rydym yn awr yn wynebu nifer o gwestiynau allweddol ynghylch cyllido Cymru yn y dyfodol. Wrth i chi ddatblygu'r gyfundrefn dreth newydd a'r ddeddfwriaeth dreth newydd y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati ddoe, a allwch roi'r newyddion diweddaraf i ni ar y cynnydd a wneir ar y fframwaith cyllidol?
I thank Nick Ramsay for his opening remarks and for agreeing to meet me to share some information about the challenges that we are currently facing. He's absolutely right to say that those are shaped by the post-referendum landscape. I have had a discussion already with the Chief Secretary to the Treasury. We agreed in that telephone conversation that we would meet before the summer recess, and the plan we talked about then was for a series of meetings during the autumn in order to agree the fiscal framework that will be absolutely necessary for us to operate within once tax-raising powers come directly to Wales. The meeting before the summer recess is in the diary and will take place. No doubt we will have to calibrate some of the plans for the autumn against some of the events - a further budget, for example - which we know are now going to take place.
Diolch i Nick Ramsay am ei sylwadau agoriadol ac am gytuno i gyfarfod â mi i rannu rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â'r heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae'n hollol iawn i ddweud bod y rheini'n cael eu siapio gan y tirlun sydd ohoni yn dilyn y refferendwm. Rwyf wedi cael trafodaeth eisoes â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Cytunasom yn y sgwrs dros y ffôn y byddem yn cyfarfod cyn toriad yr haf, a'r cynllun y buom yn siarad amdano oedd cael cyfres o gyfarfodydd yn ystod yr hydref er mwyn cytuno ar y fframwaith cyllidol y bydd yn gwbl angenrheidiol i ni weithredu o'i fewn pan ddaw pwerau trethu yn uniongyrchol i Gymru. Mae'r cyfarfod cyn toriad yr haf wedi'i nodi yn y dyddiadur a bydd yn digwydd. Nid oes amheuaeth y bydd yn rhaid i ni raddnodi rhai o'r cynlluniau ar gyfer yr hydref yn ôl rhai o'r digwyddiadau - cyllideb bellach, er enghraifft - y gwyddom bellach eu bod yn mynd i ddigwydd.
Thank you, Secretary, and, as you know, you have our support in terms of developing an effective fiscal framework. As you will know, I've long been concerned about the mechanism for making reductions to the block grant, following tax, particularly income tax, devolution. If we get the wrong mechanism, Wales could be significantly short-changed over time in a way that may almost force tax rises. Scotland got an agreement with the Treasury that variables such as population change should not be a risk borne by the Scottish proportion of income tax and it should be factored into the block grant. Are you seeking the same deal for Wales?
Diolch i chi, Ysgrifennydd, ac fel y gwyddoch, rydym yn cefnogi eich gwaith ar ddatblygu fframwaith cyllidol effeithiol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn pryderu ers amser am y mecanwaith ar gyfer gwneud gostyngiadau i'r grant bloc yn dilyn datganoli treth, yn enwedig treth incwm. Pe baem yn cael y mecanwaith anghywir, gallai Cymru fod ar ei cholled yn sylweddol dros gyfnod o amser mewn ffordd a fyddai bron yn gorfodi cynnydd yn y dreth. Cafodd yr Alban gytundeb gyda'r Trysorlys na ddylai newidynnau megis newid yn y boblogaeth fod yn risg y dylai cyfran yr Alban o'r dreth incwm ei hysgwyddo ac y dylid ei chynnwys yn ffactor o'r grant bloc. A ydych yn ceisio cael yr un fargen i Gymru?
It's absolutely true to say that Scotland has already been around this track in agreeing a fiscal framework to surround the devolution of tax powers to the Scottish Parliament. In many ways, we are fortunate to be following them around that track, both because the Scottish Government has been generous in sharing their experience with us and providing us with some insights into their discussions with the Treasury. It'll be no surprise to Members here who followed that story in the press that those discussions were not always plain sailing and had their acrimonious moments. The acrimony revolved around the key 'no detriment' principle. It is absolutely essential to us here in Wales that when there are adjustments to the block grant to take account of taxes that we will now raise in Wales, that those adjustments reflect decisions that are in the hands of the National Assembly, for which we must all be willing to take responsibility, and must not be based on decisions over which we have no influence at all. The population dimension, which Nick Ramsay referred to, was at the heart of some of those discussions. The Scottish Government successfully argued that the block grant adjustment should not penalise Scotland for changes in their population, which were more influenced by Westminster decisions than by decisions taken in Edinburgh. I will certainly expect that any deal for Wales would reflect exactly that 'no detriment' approach.
Mae'n hollol wir i ddweud bod yr Alban eisoes wedi bod o gwmpas y trac hwn o ran cytuno ar fframwaith cyllidol ar gyfer datganoli pwerau trethu i Senedd yr Alban. Mewn sawl ffordd, rydym yn ffodus ein bod yn eu dilyn o gwmpas y trac hwnnw, oherwydd bod Llywodraeth yr Alban wedi bod yn hael yn rhannu ei phrofiad gyda ni a rhoi ambell gipolwg i ni ar eu trafodaethau gyda'r Trysorlys. Ni fydd yn syndod i'r Aelodau yma a ddilynodd y stori yn y wasg glywed nad oedd y trafodaethau hynny bob amser yn hawdd a'u bod wedi cynnwys ambell ennyd chwerw. Roedd y chwerwedd yn ymwneud â'r egwyddor 'dim niwed' allweddol. I ni yma yng Nghymru, pan wneir addasiadau i'r grant bloc mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried y trethi y byddwn yn awr yn eu codi yng Nghymru, fod yr addasiadau hynny'n adlewyrchu'r penderfyniadau sydd yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol, penderfyniadau y mae'n rhaid i bob un ohonom fod yn barod i dderbyn cyfrifoldeb amdanynt, ac ni ddylent fod yn seiliedig ar benderfyniadau nad oes gennym unrhyw ddylanwad o gwbl arnynt. Roedd y dimensiwn poblogaeth y cyfeiriodd Nick Ramsay ato yn ganolog i rai o'r trafodaethau hynny. Dadleuodd Llywodraeth yr Alban yn llwyddiannus na ddylai'r addasiad i'r grant bloc gosbi'r Alban yn sgil newidiadau yn ei phoblogaeth a gâi eu dylanwadu'n fwy gan benderfyniadau San Steffan na phenderfyniadau a wneid yng Nghaeredin. Byddaf yn sicr yn disgwyl i unrhyw gytundeb ar gyfer Cymru adlewyrchu'r union ddull 'dim niwed' hwnnw.
Secretary, I don't have to tell you that this is an extremely complex area, but it is one that is very important to our future fiscal well-being here in Wales. On the Barnett formula itself, clearly, withdrawal from the European Union and the subsequent loss of EU funding will make Barnett reform even more imperative than it was before. What assurances are you seeking, or have you sought, from the Treasury that the Barnett floor that we all agreed to is permanent? And will there be an ongoing review of the Barnett formula over the months and years to come to ensure that it is delivering for Wales and the amount of money we get is not adversely affected by decisions across the UK?
Ysgrifennydd, nid oes rhaid i mi ddweud wrthych fod hwn yn faes hynod o gymhleth, ond mae'n un sy'n bwysig iawn i'n lles ariannol ni yma yng Nghymru yn y dyfodol. Ar fformiwla Barnett ei hun, yn amlwg, bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd a cholli arian yr UE o ganlyniad i hynny yn gwneud diwygio Barnett yn fwy hanfodol nag o'r blaen hyd yn oed. Pa sicrwydd rydych yn ei geisio, neu rydych wedi'i gael eisoes, gan y Trysorlys fod y cyllid gwaelodol y cytunodd pawb ohonom arno yn barhaol? Ac a fydd yna adolygiad parhaus o fformiwla Barnett dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni dros Gymru, ac nad yw'r swm o arian rydym yn ei gael yn cael ei effeithio'n andwyol gan benderfyniadau ar draws y DU?
Again, I thank Nick Ramsay for those two important points. Members here will know that my predecessor in this post, Jane Hutt, after a great deal of negotiation, succeeded in obtaining an agreement to a funding floor from the Treasury for the length of the current comprehensive spending review period. In the fiscal framework negotiations we will be arguing hard for making sure that that funding floor is made permanent. It needs to be a permanent part of that framework and the landscape that it provides here in Wales and that is one of the ways in which our negotiations will need to go beyond the position established in Scotland. However, as Nick Ramsay went on to say, the uncertainties created by last week's vote - not simply in relation to our United Kingdom relationship with Europe but relationships within the United Kingdom as well - mean that the whole Barnett formula has to be revised. The First Minister wrote to the Prime Minister on 27 June and made it very clear in that letter that the time is now to examine and re-examine the Barnett formula. The time is surely right, he, said to introduce a needs-based formula in Wales so that a United Kingdom outside the European Union is seen by its citizens as fairly recognising their needs and circumstances. And I think that is absolutely correct.
Unwaith eto, diolch i Nick Ramsay am y ddau bwynt pwysig hwnnw. Bydd yr Aelodau yma yn gwybod bod fy rhagflaenydd yn y swydd hon, Jane Hutt, ar ôl llawer iawn o drafod, wedi llwyddo i gael cytundeb i gyllid gwaelodol gan y Trysorlys dros gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant presennol. Yn y trafodaethau ar y fframwaith cyllidol byddwn yn dadlau'n galed dros sicrhau bod y cyllid gwaelodol hwnnw'n cael ei wneud yn barhaol. Mae angen iddo fod yn rhan barhaol o'r fframwaith hwnnw a'r tirlun y mae'n ei ddarparu yma yng Nghymru ac mae honno'n un o'r ffyrdd y bydd angen i'n trafodaethau fynd y tu hwnt i'r safbwynt a sefydlwyd yn yr Alban. Fodd bynnag, fel yr aeth Nick Ramsay ymlaen i ddweud, mae'r ansicrwydd a grëwyd gan y bleidlais yr wythnos diwethaf - nid yn syml o ran perthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop ond y berthynas rhwng rhannau'r Deyrnas Unedig a'i gilydd hefyd - yn golygu bod angen adolygu fformiwla Barnett yn ei chyfanrwydd. Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Brif Weinidog y DU ar 27 Mehefin a dywedodd yn glir iawn yn y llythyr hwnnw mai dyma'r amser i archwilio ac ailedrych ar fformiwla Barnett. Dywedodd mai dyma'r amser yn sicr i gyflwyno fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yng Nghymru fel bod ei dinasyddion yn gweld bod y Deyrnas Unedig ar y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn rhoi cydnabyddiaeth deg i'w hanghenion a'u hamgylchiadau. Ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl gywir.
Last week shows us to be a politically divided country, but the economic divisions perhaps run even deeper, which may be one of the underlying reasons for the result. The financial Secretary has signalled his determination to win full financial recompense for Wales in the wake of our leaving the EU and he's just referred to the need to revise the Barnett formula. Can I ask if he or his officials have now made an initial assessment of the financial shortfall that Wales may face? And, given the political vacuum currently, can the Welsh Government turn this to Wales's advantage, not just in calling for the Barnett formula to be revised, but in setting out in detail the formula that they'd like to replace it with?
Mae'r wythnos ddiwethaf wedi dangos ein bod yn wlad ranedig yn wleidyddol, ond mae'n bosibl fod y rhaniadau economaidd yn ddyfnach hyd yn oed, a gallai hynny fod yn un o'r rhesymau sylfaenol dros y canlyniad. Mae'r Ysgrifennydd cyllid wedi nodi ei benderfyniad i ennill iawndal ariannol llawn i Gymru yn sgil y ffaith ein bod yn gadael yr UE ac mae newydd gyfeirio at yr angen i ddiwygio fformiwla Barnett. A gaf fi ofyn a yw ef neu ei swyddogion wedi gwneud asesiad cychwynnol bellach o'r diffyg ariannol y gallai Cymru ei wynebu? Ac o ystyried y gwacter gwleidyddol ar hyn o bryd, a all Llywodraeth Cymru droi hyn i fod o fantais i Gymru, nid yn unig drwy alw am ddiwygio fformiwla Barnett, ond drwy nodi'n fanwl pa fformiwla y byddent yn dymuno'i chael yn ei lle?
I thank Adam Price for those questions. I think he makes an important point in opening about the way that patterns of voting in the referendum follow economic lines right across the United Kingdom. As far as estimating the impact on Wales of last week's decision, there are two particular ways in which we have to assess that, one of which is easier than the other. There will be the direct loss of European funding that would otherwise have come to Wales, I think, during this current structural funds period. We would've been able to draw down funds under this period up until 2023. We will have left the European Union, it seems, before then and at that point our ability to draw down European funding will end. We have committed over £700 million of the current round already. That is 40 per cent of the total that we would be able to draw down during the 2014-2020 round and we will be looking to maximise the potential draw-down of those funds. The First Minister argued in his letter to the Prime Minister that he should be negotiating for us to be able to continue to draw down those funds over the whole of that structural funds period. But, we will have to await the outcome of the negotiations for that. But, on those figures I think we are well placed to make an assessment - and some of the facts of that I've just mentioned. The second way in which Wales will be affected by the economic consequences of leaving the European Union will be through the budget that we now know we face in the autumn of this year: a budget in which we are told there will be tax rises and public expenditure cuts and those expenditure cuts will no doubt feed their way through into the Welsh budget. It's much harder to make any assessment of that, but in the Welsh Government we will certainly be doing what we can to prepare on a contingency basis for them.
Diolch i Adam Price am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig wrth agor am y ffordd y mae patrymau pleidleisio yn y refferendwm yn dilyn llinellau economaidd ar draws y Deyrnas Unedig. O ran amcangyfrif effaith penderfyniad yr wythnos diwethaf ar Gymru, mae yna ddwy ffordd benodol sy'n rhaid i ni asesu hynny, ac mae un ohonynt yn haws na'r llall. Bydd yna golled uniongyrchol o arian Ewropeaidd a fyddai fel arall wedi dod i Gymru, rwy'n credu, yn ystod cyfnod presennol y cronfeydd strwythurol. Byddem wedi gallu cael cyllid yn ystod y cyfnod hwn tan 2023. Mae'n ymddangos y byddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn hynny a bryd hynny bydd ein gallu i gael cyllid Ewropeaidd yn dod i ben. Rydym wedi ymrwymo dros £700 miliwn o'r cylch presennol eisoes. Mae hynny'n 40 y cant o'r cyfanswm y byddem yn gallu ei gael yn ystod cylch 2014-2020 a byddwn yn ceisio cael cymaint o gyllid â phosibl o'r cronfeydd hynny. Dadleuodd Prif Weinidog Cymru yn ei lythyr at Brif Weinidog y DU y dylai fod yn trafod ar ein rhan i ni allu parhau i gael yr arian hwnnw dros holl gyfnod y cronfeydd strwythurol. Ond bydd yn rhaid i ni aros am ganlyniad y trafodaethau ar hynny. Ond o ran y ffigurau hynny rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa dda i wneud asesiad - ac rwyf newydd grybwyll rhai o'r ffeithiau ynglŷn â hynny. Yr ail ffordd yr effeithir ar Gymru gan ganlyniadau economaidd gadael yr Undeb Ewropeaidd fydd drwy'r gyllideb y gwyddom bellach y byddwn yn ei hwynebu yn yr hydref eleni: cyllideb y dywedir wrthym y bydd yn cynnwys codiadau treth a thoriadau gwariant cyhoeddus ac nid oes amheuaeth y bydd y toriadau gwariant hynny'n bwydo i mewn i gyllideb Cymru. Mae'n anos o lawer gwneud unrhyw asesiad o hynny, ond yn Llywodraeth Cymru byddwn yn sicr yn gwneud yr hyn a allwn i baratoi ar eu cyfer ar sail wrth gefn.
It is right that Wales, of course, should not lose a penny as a result of the loss of the structural funds. But is it also not the case that this level of funding was necessary, but insufficient? Because, I mean, over the course of the last 17 years since we've had Objective 1, the prosperity gap got bigger. What Wales needs, surely, is not the equivalent level of regional aid, but more. A Marshall plan for the Welsh economy - not just additional funds, but new tax powers that could give Wales a competitive advantage in the new economic landscape. Now that the European Court of Justice Azores ruling on tax competition is no longer set to apply, will he be making the case for Wales, like Northern Ireland, to set its own corporation tax rates, as well as gaining other powers over research and development tax credits and capital allowances?
Mae'n iawn na ddylai Cymru, wrth gwrs, golli ceiniog o ganlyniad i golli'r cronfeydd strwythurol. Ond onid yw'n wir fod y lefel hon o gyllid yn angenrheidiol, ond yn annigonol? Oherwydd, hynny yw, dros y 17 flynedd ddiwethaf ers i ni fod ag Amcan 1, mae'r bwlch ffyniant wedi tyfu. 'Does bosibl nad yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw lefel uwch o gymorth rhanbarthol, nid y lefel gyfatebol. Cynllun Marshall gyfer economi Cymru - nid yn unig cyllid ychwanegol, ond pwerau trethu newydd a allai roi mantais gystadleuol i Gymru yn y dirwedd economaidd newydd. O ystyried nad yw dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn achos yr Azores ar gystadleuaeth treth yn mynd i fod yn gymwys bellach, a fydd yn gwneud achos dros adael i Gymru, fel Gogledd Iwerddon, osod ei chyfraddau treth gorfforaeth ei hun, yn ogystal ag ennill pwerau eraill dros gredydau treth a lwfansau cyfalaf ymchwil a datblygu?
Well, people who listened to the claims made by the 'leave' campaign during the referendum will have gone away, I believe, not thinking simply that Wales would do as well as we had done under the previous regime, but that there would be a new flow of funds into public services, and into places where it is most needed as a result of that decision. And of course as a Welsh Government we would want to argue exactly that case. The Wales Bill, if it reaches the statute book, will provide us with some new powers to propose new taxes here in Wales. Whether corporation tax should be amongst them, I think is something that we will no doubt want to debate - personally I've always felt the case for it to be very weak, and much more likely to result in a race to the bottom, in which we take less money from corporations to fund public services than we have in the past. It's a dilemma you will see being actively rehearsed in Northern Ireland at this very time.
Wel, rwy'n credu y bydd pobl a wrandawodd ar yr honiadau a wnaed gan yr ymgyrch 'gadael' yn ystod y refferendwm wedi meddwl yn syml na fyddai Cymru yn gwneud mor dda ag y gwnaethom o dan y drefn flaenorol, ond y byddai llif newydd o arian i wasanaethau cyhoeddus, ac i'r lleoedd sydd ei angen fwyaf yn sgil y penderfyniad hwnnw. Ac wrth gwrs fel Llywodraeth Cymru byddem yn awyddus i ddadlau'r union achos hwnnw. Bydd Bil Cymru, os yw'n cyrraedd y llyfr statud, yn rhoi rhai pwerau newydd i argymell trethi newydd yma yng Nghymru. Rwy'n credu y byddwn yn ddi-os eisiau trafod a ddylai treth gorfforaeth fod yn eu plith - yn bersonol rwyf bob amser wedi teimlo bod yr achos drosti yn wan iawn, ac yn llawer mwy tebygol o arwain at ras i'r gwaelod, lle byddwn yn cymryd llai o arian gan gorfforaethau i ariannu gwasanaethau cyhoeddus nag y gwnaethom yn y gorffennol. Mae'n ddilema a welwch yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd.
Well, the finance Secretary speaks of a race to the bottom - I have to say to him that economically, it's a race that we in Wales comprehensively won. And that's the problem that we have to address. Now, asking Westminster for new fiscal levers is an important response to the economic challenges we'll undoubtedly face, but so is using the ones we have now more effectively. Currently, the Welsh Government has committed to financing three programmes using the non-profit distributing model of financing investment, totalling £1.9 billion. Figures we produced during the recent election campaign showed the Welsh Government had the capacity to more than treble that figure to £7.3 billion - three times the structural funds programme that he referred to. While we wait for others to act for us, isn't it time that we, in this Chamber, started to demonstrate that when the circumstances demand it, we too can be bold? Or is the Welsh Government going to demonstrate the same absence of proper planning and true leadership that is currently turning Westminster into a Parliament of clowns?
Wel, mae'r Ysgrifennydd Cyllid yn sôn am ras i'r gwaelod - mae'n rhaid i mi ddweud wrtho ei bod, yn economaidd, yn ras rydym ni yng Nghymru wedi'i hennill yn hawdd. A dyna'r broblem y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi. Nawr, mae gofyn i San Steffan am ysgogiadau cyllidol newydd yn ymateb pwysig i'r heriau economaidd y byddwn yn ddi-os yn eu hwynebu, ond mae hynny hefyd yn wir am ddefnyddio'r rhai sydd gennym yn awr yn fwy effeithiol. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu tair rhaglen gan ddefnyddio'r model dosbarthu dielw o ariannu buddsoddiadau, sy'n werth cyfanswm o £1.9 biliwn. Roedd ffigurau a gynhyrchwyd gennym yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru y gallu i fwy na threblu'r ffigur hwnnw i £7.3 biliwn - tair gwaith y rhaglen gronfeydd strwythurol y cyfeiriodd ati. Wrth i ni aros i eraill weithredu ar ein rhan, onid yw'n bryd i ni, yn y Siambr hon, ddechrau dangos ein bod ni hefyd yn gallu bod yn feiddgar pan fo'r amgylchiadau'n mynnu hynny? Neu a yw Llywodraeth Cymru yn mynd i ddangos yr un diffyg cynllunio priodol a diffyg arweinyddiaeth go iawn sydd ar hyn o bryd yn gwneud San Steffan yn Senedd o glowniau?
Well, we certainly don't need to wait, because as the Member said in his question, we have already begun to do just this. There are three schemes already under development, and a range of other potential schemes that could follow down the same route. So, the non-profit distribution model is a means of trying to draw into the Welsh economy ways of financing capital investment in particular, at a time when public capital is diminishing so very rapidly. We will learn a lot, and need to learn a lot, from the three schemes that we have already started to develop, if they can be made to succeed. There is a great deal of work to be done to find out whether they can succeed, and Scottish colleagues who've been round this course already have found that classification decisions that they weren't anticipating, by Eurostat and by the Office for National Statistics, have meant that they've had to re-draw the schemes that they began with. So it's not a matter of being able to take something off the shelf that you can simply apply. Eurostat may not be a problem for them in the future, but ONS will be. So there is no model that you can simply pluck off the shelf and apply, and say, 'hurry up and do it'. There is a lot to learn to make sure that we develop a model that is right for Wales. We have three schemes in the pipeline; there's more we would like to do, or we will need to learn it as we make it happen.
Wel, yn sicr nid oes angen i ni aros, oherwydd fel y dywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn, rydym eisoes wedi dechrau gwneud yn union hyn. Ceir tri chynllun sydd eisoes yn cael eu datblygu, ac ystod o gynlluniau eraill posibl a allai ddilyn yr un llwybr. Felly, mae'r model dosbarthu dielw yn fodd o geisio denu ffyrdd o ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn arbennig i mewn i economi Cymru, ar adeg pan fo cyfalaf cyhoeddus yn lleihau'n gyflym iawn. Byddwn yn dysgu llawer, ac mae angen i ni ddysgu llawer, o'r tri chynllun rydym eisoes wedi dechrau eu datblygu, os gellir gwneud iddynt lwyddo. Mae llawer iawn o waith i'w wneud i ganfod a fyddant yn gallu llwyddo, ac mae cyd-Aelodau yn yr Alban sydd wedi bod o amgylch y cwrs hwn eisoes wedi gweld bod penderfyniadau dosbarthu nad oeddent wedi eu rhagweld, gan Eurostat a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, wedi golygu eu bod wedi gorfod ail-lunio'r cynlluniau a oedd ganddynt i gychwyn. Felly nid yw'n fater syml o allu cymryd rhywbeth oddi ar y silff y gallwch ei ddefnyddio. Efallai na fydd Eurostat yn broblem iddynt yn y dyfodol, ond fe fydd y Swyddfa Ystadegol Gwladol. Felly nid oes model y gallwch yn syml ei dynnu oddi ar y silff a'i ddefnyddio, a dweud, 'brysiwch a gwnewch hynny'. Mae llawer i'w ddysgu i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu model sy'n iawn i Gymru. Mae gennym dri chynllun yn yr arfaeth; mae yna fwy yr hoffem ei wneud, neu bydd angen i ni ddysgu wrth i ni wneud iddo ddigwydd.
I would like to congratulate the Minister on his latest appointment. I slightly regret to remind him that he was once my local councillor on the old South Glamorgan County Council. There may be more regret on his part when I recall that this was some 30 years ago; I was, of course, myself a mere boy at the time. My first question relates to local government reorganisation. I see that Sian Gwenllian has a question on this point tabled, but it's number nine and we may not get there, so I hope she won't mind if I pinch her question - [Interruption.]
Hoffwn longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad diweddaraf. Mae'n ddrwg gennyf ei atgoffa ei fod unwaith yn gynghorydd lleol i mi ar hen Gyngor Sir De Morgannwg. Efallai y bydd yn fwy o ofid iddo fy mod yn cofio bod hyn oddeutu 30 mlynedd yn ôl; bachgen ifanc oeddwn i ar y pryd, wrth gwrs. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud ag ad-drefnu llywodraeth leol. Gwelaf fod gan Sian Gwenllian gwestiwn wedi'i gyflwyno ar y pwynt hwn, ond cwestiwn rhif naw yw hwnnw ac mae'n bosibl na fyddwn yn ei gyrraedd, felly rwy'n gobeithio na fydd hi'n malio fy mod yn dwyn ei chwestiwn - [Torri ar draws.]
Excuse me. Can I just say - ? You listened to the spokespeople from other parties with some silence and dignity, and I expect the same for Gareth Bennett. Diolch.
Esgusodwch fi. A gaf fi ddweud - ? Rydych wedi gwrando ar lefarwyr pleidiau eraill gyda rhywfaint o dawelwch ac urddas, ac rwy'n disgwyl yr un peth i Gareth Bennett. Diolch.
Thanks, Llywydd. I'm sure Sian won't mind if I pinch her question, which is: what is the timetable for local government reorganisation?
Diolch, Lywydd. Rwy'n siŵr na fydd Sian yn malio fy mod yn dwyn ei chwestiwn, sef: beth yw'r amserlen ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol?
I thank Mr Bennett for his opening remarks and for reminding me of my own lengthy political history from 30 years ago. Local government reorganisation the last time happened while I was a councillor, just to show how far back that happened. The timetable that I'm hoping to pursue is as follows: there is a necessary period over this summer in which I want to spend my time listening and learning from those who have a view of this matter. I met with trade unions this morning from local government to hear what they had to say, and I'll be meeting with local authorities and others. I want to see whether it is possible to create some sort of consensus about the way forward. I recognise the corrosive effect of delay on the lives of people who work in local authorities, and I'd like to be able to bring that to a conclusion as soon as I can. But, that does depend on creating a sense of shared purpose in the future of local government organisation here in Wales. If that matures quickly, I hope to be able to come forward early in the autumn with a statement. If it takes a bit longer, it will be a bit later in the autumn, but that's the timetable that I'm working to at the moment.
Diolch i Mr Bennett am ei sylwadau agoriadol ac am fy atgoffa am fy hanes gwleidyddol hir o 30 mlynedd yn ôl. Roeddwn yn gynghorydd y tro diwethaf y cafwyd ad-drefnu llywodraeth leol, i ddangos cymaint o amser sydd wedi bod ers i hynny ddigwydd. Mae'r amserlen rwy'n gobeithio ei dilyn fel a ganlyn: mae yna gyfnod angenrheidiol dros yr haf rwyf am ei dreulio'n gwrando a dysgu gan y rhai sydd â barn ar y mater hwn. Cyfarfûm ag undebau llafur llywodraeth leol y bore yma i glywed yr hyn oedd ganddynt i'w ddweud, a byddaf yn cyfarfod ag awdurdodau lleol ac eraill. Rwyf eisiau gweld a oes modd creu rhyw fath o gonsensws ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Rwy'n cydnabod effaith andwyol oedi ar fywydau'r bobl sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol, a hoffwn ddod â hynny i ben cyn gynted ag y gallaf. Ond mae hynny'n dibynnu ar greu ymdeimlad o bwrpas cyffredin mewn perthynas â dyfodol trefniadau llywodraeth leol yma yng Nghymru. Os digwydd hynny'n gyflym, rwy'n gobeithio gallu cyflwyno datganiad yn gynnar yn yr hydref. Os yw'n cymryd mwy o amser, byddaf yn cyflwyno datganiad ychydig yn ddiweddarach yn yr hydref, ond dyna'r amserlen rwy'n ei dilyn ar hyn o bryd.
Thanks for your comments. I'm glad to see that you will be pursuing a consensus and hopefully there will be a better outcome than the last proposals we had from your predecessor. But on that subject, what will your thoughts be regarding voluntary merger proposals such as we had between the Vale of Glamorgan and Bridgend a year ago, which were rather cavalierly rejected by Leighton Andrews?
Diolch am eich sylwadau. Rwy'n falch o weld y byddwch yn ceisio sicrhau consensws a gobeithio y bydd canlyniad gwell na'r cynigion diwethaf a gawsom gan eich rhagflaenydd. Ond ar y pwnc hwnnw, beth fydd eich barn ar gynigion uno gwirfoddol megis yr un a gawsom rhwng Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr flwyddyn yn ôl, a wrthodwyd yn eithaf diseremoni gan Leighton Andrews?
I don't think it would be right for me to reach conclusions this afternoon having just said that I wanted to spend a period of time listening and learning. I've met about half of local authorities in Wales, Llywydd, so far, so I've got half still to go. I'm meeting Pembrokeshire, Carmarthenshire and Ceredigion tomorrow, and I want to make it clear to them that I'm just as open to what they have to say as anybody I've spoken to so far. The merits of voluntary mergers have been advocated by a number of people that I've met in the first half of my visits around local authorities in Wales, and I'm very open minded to hearing what other people have to say. I'm not in any way ruling them out of the future way that we do business in local authorities in Wales. But I'm not coming to a conclusion until everybody who has a right to be part of this conversation has had a chance to make their views known.
Nid wyf yn credu y byddai'n iawn i mi i ddod i unrhyw gasgliad y prynhawn yma ar ôl dweud fy mod am dreulio cyfnod o amser yn gwrando a dysgu. Rwyf wedi cyfarfod â thua hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yn hyn, Lywydd, felly mae'r hanner arall ar ôl gennyf o hyd. Rwy'n cyfarfod â Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yfory, ac rwyf am ei gwneud yn glir iddynt fy mod i lawn mor agored i'r hyn sydd ganddynt hwy i'w ddweud ag unrhyw un y siaradais â hwy hyd yn hyn. Roedd nifer o'r bobl y cyfarfûm â hwy yn ystod hanner cyntaf fy ymweliadau o amgylch awdurdodau lleol yng Nghymru yn cefnogi rhinweddau uno gwirfoddol, ac mae gennyf feddwl agored iawn i glywed yr hyn sydd gan bobl eraill i'w ddweud. Nid wyf mewn unrhyw ffordd yn gwrthod eu barn ar y ffordd y byddwn yn gwneud busnes yn y dyfodol mewn awdurdodau lleol yng Nghymru. Ond nid wyf am ddod i gasgliad nes y bydd pawb sydd â hawl i fod yn rhan o'r drafodaeth hon wedi cael cyfle i fynegi eu barn.
Thanks, Minister, for that; that sounds hopeful. Another issue we have at the moment in many areas, particularly Cardiff, is proposed major housing developments, which are often opposed by local residents. Concreting over the green fields is a fairly apt description of the current proposals for Cardiff, which have been alluded to several times by the new Plaid Cymru regional Member. Now, the UKIP Assembly manifesto included a proposal for local referenda on controversial major housing developments. Would the Minister be minded to consider such legislation, and would he be likely to look favourably upon that kind of proposal?
Diolch am hynny, Weinidog; mae'n swnio'n obeithiol. Mater arall sydd gennym ar hyn o bryd mewn nifer o ardaloedd, yn enwedig Caerdydd, yw datblygiadau tai mawr arfaethedig, sy'n aml yn cael eu gwrthwynebu gan drigolion lleol. Mae arllwys concrit dros gaeau gwyrdd yn ddisgrifiad eithaf addas o'r cynigion presennol ar gyfer Caerdydd, y cyfeiriodd Aelod rhanbarthol newydd Plaid Cymru atynt sawl gwaith. Nawr, roedd maniffesto Cynulliad UKIP yn cynnwys cynnig ar gyfer refferenda lleol ar ddatblygiadau tai mawr dadleuol. A fyddai'r Gweinidog yn ystyried deddfwriaeth o'r fath, ac a fyddai'n debygol o edrych yn ffafriol ar y math hwnnw o gynnig?
A draft Bill was put forward by my predecessor, which included a great deal more than simply changing boundaries on a map. It included proposals for altering local referenda. They would not have done it in the way that the Member proposed, and I don't have any current intention to move in the direction that he advocated.
Cafodd Bil drafft ei gyflwyno gan fy rhagflaenydd, a oedd yn cynnwys llawer mwy na newid ffiniau ar fap yn unig. Roedd yn cynnwys cynigion ar gyfer newid refferenda lleol. Ni fyddent wedi gwneud hynny yn y ffordd y cynigiodd yr Aelod, ac nid oes gennyf unrhyw fwriad ar hyn o bryd i symud i'r cyfeiriad yr oedd yn ei argymell.
I thank Joyce Watson for that question. In March this year, following extensive engagement with stakeholders, Welsh Government published its eight equality objectives for 2016 to 2020. These objectives focus on tackling the most entrenched inequalities in Wales and promoting cohesive communities.
Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn. Ym mis Mawrth eleni, yn dilyn ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hwyth amcan cydraddoldeb ar gyfer 2016-2020. Mae'r amcanion hyn yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio fwyaf yng Nghymru a hyrwyddo cymunedau cydlynus.
Thank you for that answer, Cabinet Secretary, but the referendum campaign, particularly towards the end, became infected with intolerance, and that poison has seeped into public life. We've all seen the reports of racist abuse on our streets. We've also, thankfully, seen the reaction to it in Llanelli and elsewhere where local people are standing by and speaking up for their eastern European neighbours, and I am led to believe that the First Minister will be visiting the Welsh Polish Mutual Association in Llanelli tomorrow. But the fact still remains that Dyfed-Powys Police have reported significant increases in hate crimes compared to this month last year. So, we do now need clearly to heal wounds. Will you therefore, Cabinet Secretary, with the Welsh Local Government Association and other partners, take steps to safeguard and strengthen community relations between people of all nationalities and cultures during this very unsettling time?
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond roedd ymgyrch y refferendwm, yn enwedig tuag at y diwedd, yn llawn o anoddefgarwch, ac mae'r gwenwyn hwnnw wedi ymdreiddio i fywyd cyhoeddus. Rydym i gyd wedi gweld adroddiadau am gam-drin hiliol ar ein strydoedd. Rydym hefyd, diolch byth, wedi gweld yr ymateb iddo yn Llanelli ac mewn mannau eraill lle mae pobl leol yn cefnogi ac yn amddiffyn eu cymdogion o Ddwyrain Ewrop, ac rwy'n deall y bydd y Prif Weinidog yn ymweld â Chymdeithas Pwyliaid Cymru yn Llanelli yfory. Ond mae'r ffaith yn aros fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cofnodi cynnydd sylweddol mewn troseddau casineb o gymharu â'r mis hwn y llynedd. Felly, mae'n amlwg bod angen i ni wella'r clwyfau yn awr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid eraill, roi camau ar waith i ddiogelu a chryfhau cysylltiadau cymunedol rhwng pobl o bob cenedl a diwylliant yn ystod y cyfnod cythryblus hwn?
Let me associate myself very strongly with the last thing that the Member said. I think she is right - something happened during the course of the referendum campaign that has somehow legitimised, in the minds of some people, views that are abhorrent to, I'm sure, Members in this Chamber and have no part whatsoever to play in our community life. Even prior to that, there had been a 65 per cent increase in reports to the National Hate Crime Report and Support Centre Wales here in Wales. I hope that part of that rise is because of a greater willingness of people to report such incidents to the police. I think it's very important that we encourage anybody who has been on the receiving end of such appalling behaviour in the last few days to make sure that they always make those incidents known to the authorities. My message is the same as Joyce Watson's, to all those people from around the world and from around Europe who make such a contribution to the richness of life here in Wales: that they are welcome, that they are most welcome, and that this National Assembly supports a thriving, multicultural society here in Wales. [Assembly Members: 'Hear, hear.']
Gadewch i mi ategu'n gryf iawn y peth olaf a ddywedodd yr Aelod. Rwy'n credu ei bod yn iawn - digwyddodd rhywbeth yn ystod cyfnod ymgyrch y refferendwm sydd rywsut wedi cyfreithloni, ym meddyliau rhai pobl, safbwyntiau sy'n wrthun, rwy'n siŵr, i'r Aelodau yn y Siambr hon ac nid oes ganddynt ran o gwbl i'w chwarae yn ein bywyd cymunedol. Hyd yn oed cyn hynny, bu cynnydd o 65 y cant yn nifer yr adroddiadau i'r Ganolfan Genedlaethol Cymorth ac Adrodd Troseddau Casineb yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y gellir priodoli rhan o'r cynnydd hwnnw i'r ffaith fod pobl yn fwy parod i roi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau o'r fath. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef y fath ymddygiad gwarthus yn ystod y dyddiau diwethaf i wneud yn siŵr eu bod bob amser yn rhoi gwybod i'r awdurdodau am y digwyddiadau hynny. Mae fy neges yr un fath â neges Joyce Watson i'r holl bobl o bob cwr o'r byd ac o bob rhan o Ewrop sy'n gwneud cymaint o gyfraniad i gyfoeth bywyd yma yng Nghymru: ein bod yn eu croesawu, rydym yn eu croesawu'n fawr, a bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cefnogi cymdeithas ffyniannus amlddiwylliannol yma yng Nghymru. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']
You both have alluded to the increase in racist incidents during and post the referendum, and I share your view in condemning those occurrences. But could you go further than just making a statement in the Chamber today? Are you able to consider running a campaign to raise awareness and educate people about the contribution that people from the different countries of Europe and the world make to Wales?
Rydych chi'ch dau wedi sôn am y cynnydd mewn digwyddiadau hiliol yn ystod ac ar ôl y refferendwm, ac rwyf innau'n rhannu'ch barn chi yn condemnio yr hyn sydd yn digwydd. Ond a fedrwch chi fynd ymhellach na jest gwneud datganiad yn y Siambr heddiw? A ydych chi'n gallu ystyried cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac addysgu ynghylch y cyfraniad y mae pobl o wahanol wledydd Ewrop a'r byd yn ei wneud i fywyd Cymru?
I thank the Member for her comments. Of course, it's very important that we do more than simply speak here in the Chamber, so there are a number of things that I'm doing personally over the next week: I have a meeting with the WLGA on Friday - I will be speaking to them - and I have a meeting with the Muslim Council of Wales next week. It is important that we do come together in that way in order to discuss what we can do, to strive to improve things together and to be clear about what we want to do here in Wales and to do it together, exactly as the Member mentioned.
Diolch yn fawr i'r Aelod am beth y mae hi wedi'i ddweud. Wrth gwrs, mae'n bwysig inni wneud mwy na jest siarad yma yn y Siambr, so mae nifer o bethau rwy'n eu gwneud yn bersonol dros yr wythnos nesaf: mae gyda fi gyfarfod â'r WLGA ddydd Gwener - rwy'n mynd i siarad â nhw - ac mae gyda fi gyfarfod â'r Muslim Council of Wales wythnos nesaf. Mae yn bwysig inni ddod at ein gilydd fel yna, i siarad â'n gilydd am beth rŷm ni'n gallu ei wneud, i ymdrechu gyda'n gilydd, i fod yn glir am beth rŷm ni eisiau ei wneud yma yng Nghymru ac i'w wneud e gyda'n gilydd, fel mae'r Aelod yn sôn.
Thank you very much, Eluned Morgan. Wales has enjoyed a positive relationship with the European Investment Bank throughout the devolution era, with nearly £2 billion invested in both public and private projects, including water, aviation, the motor industry and housing.
Diolch yn fawr, Eluned Morgan. Mae Cymru wedi mwynhau perthynas gadarnhaol â Banc Buddsoddi Ewrop gydol y cyfnod datganoli. Mae bron £2 biliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus a phreifat, sy'n cynnwys dŵr, hedfan, y diwydiant moduro a thai.
Thank you, Ysgrifennydd, for that. There are other projects, of course, that have been funded with European Investment Bank funding, including the Swansea campus, the A55 and, crucially, projects that are in the pipeline like the south Wales metro. Now, the European Union treaty is clear that members of the European Investment Bank must be members of the European Union. Nevertheless, the European Investment Bank has invested in four countries of the European free trade area, and I just wondered whether the Ysgrifennydd wouldn't be able to put pressure, during the negotiations, to ensure that we will still be able to participate in European Investment Bank funding.
Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd. Mae yna brosiectau eraill, wrth gwrs, sydd wedi cael eu hariannu â chyllid Banc Buddsoddi Ewrop, gan gynnwys campws Abertawe, yr A55 ac yn hollbwysig, prosiectau sydd yn yr arfaeth fel metro de Cymru. Nawr, mae cytuniad yr Undeb Ewropeaidd yn dweud yn glir fod yn rhaid i aelodau o Fanc Buddsoddi Ewrop fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi buddsoddi mewn pedair gwlad yn ardal masnach rydd Ewrop, ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddai'r Ysgrifennydd yn gallu rhoi pwysau, yn ystod y trafodaethau, er mwyn sicrhau y byddwn yn parhau i allu cyfranogi o gyllid Banc Buddsoddi Ewrop.
Can I thank Eluned Morgan for a very important supplementary question there? She's quite right that the European Investment Bank is wholly owned by its shareholders and all its shareholders are the 28 European Union member states. The United Kingdom has a 16 per cent shareholding in the EIB and is, therefore, one of the four main shareholders in the bank. And in leaving the European Union, we will have to leave that direct membership of the EIB as well. Now, Eluned Morgan is right to say that the EIB is able to lend to countries outside the European Union, but EIB lending outside the EU is governed by a series of EU mandates in support of development and co-operation policies in partner countries. In other words, every time it has a relationship with another country, that has to be specifically mandated by those countries that are the shareholding members of the EIB. So, we will have to put pressure on to negotiate exactly that sort of relationship in order to allow us in Wales to go on benefitting from the funds that the EIB has provided in the past, and are pivotal to some of the plans that we have for the future.
Diolch i Eluned Morgan am gwestiwn atodol pwysig iawn. Mae hi'n hollol gywir fod Banc Buddsoddi Ewrop yn eiddo i'w gyfranddalwyr yn llwyr a'i holl gyfranddalwyr yw 28 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan y Deyrnas Unedig gyfranddaliad o 16 y cant ym Manc Buddsoddi Ewrop ac felly mae'n un o bedwar prif gyfranddaliwr y banc. Ac wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn rhaid i ni adael ein haelodaeth uniongyrchol o Fanc Buddsoddi Ewrop yn ogystal. Nawr, mae Eluned Morgan yn iawn i ddweud fod Banc Buddsoddi Ewrop yn gallu benthyca arian i wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ond mae benthyca gan Fanc Buddsoddi Ewrop y tu allan i'r UE yn cael ei lywodraethu gan gyfres o fandadau UE i gefnogi polisïau datblygu a chydweithredu mewn gwledydd partner. Mewn geiriau eraill, bob tro y mae'n sefydlu perthynas â gwlad arall, mae'n rhaid iddo gael mandad penodol gan y gwledydd sy'n aelodau cyfranddaliadol o Fanc Buddsoddi Ewrop. Felly, bydd yn rhaid i ni bwyso i drafod y math hwnnw'n union o berthynas er mwyn caniatáu i ni yng Nghymru barhau i elwa ar yr arian y mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi'i ddarparu yn y gorffennol, ac sy'n ganolog i rai o'r cynlluniau sydd gennym ar gyfer y dyfodol.
The likelihood, under the proposed timetable for Brexit, is that institutions in Wales - the Swansea campus being one of them - will still have loans from the European Investment Bank as we withdraw from Europe. Have you had discussions, therefore, with the Treasury and the EIB as to how the current loans are going to be managed? Will those loans have to be shifted to another bank, perhaps on less favourable terms, or will it be possible for the loans owing today to be carried forward until that is paid off? The supplementary to that, if I may: are you considering, as Adam Price suggested, as a Welsh Government response to this decision, that we need an investment bank for Wales in any case?
Y tebygolrwydd yw, o dan yr amserlen fwyaf arfaethedig ar gyfer tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd, y bydd sefydliadau yng Nghymru - campws Abertawe yn un ohonyn nhw - yn dal â benthyciadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop wrth inni dynnu allan o Ewrop. A ydych chi wedi cael trafodaethau, felly, gyda'r Trysorlys a'r banc ynglŷn â sut mae'r benthyciadau presennol yn mynd i gael eu rheoli? A fydd rhaid symud y benthyciadau hynny i fanc arall, efallai ar dermau llai ffafriol, neu a fydd modd i fenthyciadau sy'n ddyledus heddiw gario ymlaen nes bod y benthyciad yn cael ei dalu? Yr ail gwestiwn atodol i hynny, os caf, yw: a ydych chi'n ystyried, fel yr oedd Adam Price yn amlinellu, fel ymateb Llywodraeth Cymru i'r penderfyniad yma, bod angen banc buddsoddi i Gymru, beth bynnag?
In answering Simon Thomas's first supplementary question, I've not yet had direct discussions on the very important issue that he raises of Wales-based services that are already in a relationship with the EIB that will need to extend well beyond any exit from the European Union. Now, the EIB itself has said that it's unable to provide any certainty on a whole range of issues in relation to relationships it has right across the United Kingdom without clarity, as it says, on the timing circumstances and conditions of a withdrawal settlement. But the successor arrangements to arrangements that are already in place with the EIB post a Brexit will be an important part of that discussion. Alternative arrangements that might be possible either for Wales alone or on a co-operative basis with other UK nations were rehearsed here in the Chamber yesterday, and the First Minister, I know, responded positively to the suggestion that we ought to pursue that with our other UK partners.
I ateb cwestiwn atodol cyntaf Simon Thomas, nid wyf eto wedi cael trafodaethau uniongyrchol ar y mater pwysig hwn y mae'n ei nodi ynglŷn â gwasanaethau wedi'u lleoli yng Nghymru sydd eisoes mewn perthynas â Banc Buddsoddi Ewrop y bydd angen iddynt ymestyn ymhell y tu hwnt i unrhyw benderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae Banc Buddsoddi Ewrop ei hun wedi dweud nad yw'n gallu darparu unrhyw sicrwydd ar ystod eang o faterion sy'n ymwneud â'r cysylltiadau sydd ganddo ar draws y Deyrnas Unedig heb eglurder, fel y mae'n ei ddweud, ynglŷn â'r amgylchiadau amseru ac amodau setliad gadael. Ond mae'r trefniadau a fydd yn dilyn trefniadau sydd eisoes ar waith gan Fanc Buddsoddi Ewrop ar ôl i Brydain adael yr UE yn rhan bwysig o'r drafodaeth honno. Yma yn y Siambr ddoe, trafodwyd trefniadau amgen a allai fod yn bosibl naill ai ar gyfer Cymru'n unig neu ar sail gydweithredol â gwledydd eraill y DU, a gwn fod y Prif Weinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i'r awgrym y dylem fynd ar drywydd hynny gyda'n partneriaid eraill yn y DU.
Will the Minister make a statement on his priorities - oh, sorry; wrong one. Apologies.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau - o, mae'n ddrwg gennyf; cwestiwn anghywir. Ymddiheuriadau.
Thanks to Suzy Davies for that question. Good local government plays a vitally important role in the lives of all citizens in Wales. Each and every one of us has a direct interest in shaping how public services are delivered.
Diolch i Suzy Davies am y cwestiwn. Mae llywodraeth leol dda yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau pob un o ddinasyddion Cymru. Mae gan bob un ohonom ddiddordeb uniongyrchol mewn siapio'r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.
Thank you for that very encouraging answer, there, First - Cabinet Secretary; I will get the hang of this. [Laughter.] There are, of course, many examples of partnership working between local authorities and others, especially health boards, on the delivery of social services, but I think that word 'delivery' really says it all, particularly about the way we as a population work to support those whom we seek to help. I think the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, for all its faults, points very firmly in the direction of co-production, the role of mutuals and other society-based organisations as fertile ground for developing new models of sustainable services, including social services. Do you see these, as the response to the Williams commission report suggests, as a last resort when the public sector fails or do you agree that we need to look ahead to a new balance between state and society to ensure the best fit for public services and the public they serve?
Diolch i chi am yr ateb calonogol hwnnw, Brif - Ysgrifennydd y Cabinet; fe ddof i ddeall hyn. [Chwerthin.] Wrth gwrs, ceir llawer o enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol ac eraill, yn enwedig byrddau iechyd, i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, ond credaf fod y gair 'darparu' yn dweud y cyfan mewn gwirionedd, yn enwedig am y ffordd yr ydym fel poblogaeth yn gweithio i gefnogi'r rheini y ceisiwn eu helpu. Rwy'n credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, er gwaethaf ei holl ddiffygion, yn pwyntio'n gadarn iawn i gyfeiriad cydgynhyrchu, rôl cwmnïau cydfuddiannol a sefydliadau cymdeithasol eraill fel tir ffrwythlon ar gyfer datblygu modelau newydd o wasanaethau cynaliadwy, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol. A ydych yn gweld y rhain, fel yr awgryma'r ymateb i adroddiad comisiwn Williams, fel dewis olaf pan fydd y sector cyhoeddus yn methu neu a ydych yn cytuno bod angen i ni edrych ymlaen at gydbwysedd newydd rhwng gwladwriaeth a chymdeithas er mwyn sicrhau'r ateb sy'n gweddu orau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a'r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu?
Well, I understand the point that the Member is making. In my discussions with trade unions earlier today, they emphasised their anxiety at the way in which, sometimes, alternative models can be seen as a first resort for the provision of public services. That's not the position we take in Welsh Government. The action plan for alternative delivery models in public services makes it clear that we should come to some of these alternatives only when we are sure that it is no longer possible to go on directly providing services. But in other areas I think the ground is more promising. The Member pointed to the social services area where the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 places a specific duty on local authorities to promote co-operative ways of providing services. To my mind, they can offer a way of bringing some of these services back closer to the public realm. So, I think we need to think of it slightly more differentially and think of what is right in particular service contexts. Where I definitely agree with the Member is that we need a different relationship between services and citizens in which we regard the people who use our services as sources of strength and assets in that joint way of doing things and treating them as equal partners in the way that services are designed and delivered.
Wel, rwy'n deall y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud. Yn fy nhrafodaethau gydag undebau llafur yn gynharach heddiw, roeddent yn pwysleisio eu pryder ynglŷn â'r ffordd y gellir ystyried modelau amgen, weithiau, fel dewis cyntaf ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Nid dyna yw ein safbwynt ni yn Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun gweithredu ar gyfer modelau cyflawni amgen mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ei gwneud yn glir na ddylem droi at rai o'r dewisiadau amgen hyn oni bai ein bod yn sicr nad yw parhau i ddarparu gwasanaethau yn uniongyrchol yn bosibl mwyach. Ond mewn meysydd eraill rwy'n credu bod y sefyllfa'n fwy addawol. Cyfeiriodd yr Aelod at faes gwasanaethau cymdeithasol lle mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ddyletswydd benodol ar awdurdodau lleol i hyrwyddo ffyrdd cydweithredol o ddarparu gwasanaethau. Yn fy marn i, gallant gynnig ffordd o ddod â rhai o'r gwasanaethau hyn yn ôl yn nes at y cyhoedd. Felly, rwy'n credu bod angen i ni feddwl amdano ychydig yn fwy gwahaniaethol a meddwl am yr hyn sy'n iawn yng nghyd-destun gwasanaethau penodol. Yr hyn rwy'n bendant yn cytuno â'r Aelod yn ei gylch yw bod angen i ni gael perthynas wahanol rhwng gwasanaethau a dinasyddion lle'r ydym yn ystyried y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn ffynonellau o gryfder ac yn asedau yn y ffordd o wneud pethau ar y cyd a'u trin fel partneriaid cyfartal yn y modd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u darparu.
Diolch, Lywydd. I actually think that the Cabinet Secretary has probably just answered my question, but I'll ask it anyway. I think, Cabinet Secretary, we can all be rightly proud here in Wales that we have not seen wide-scale privatisation of local authority services as we've witnessed in England. That's built on the premise that our key public services are at their best and most efficient when retained in-house and provided by directly employed workforce. So, will the Cabinet Secretary make a statement on the stance of the previous administration, which reinforced the view that not only should privatisation of key public services be discouraged but also that other outsourcing options, including mutuals and co-operatives, should only ever be considered when this is the only alternative to privatisation?
Diolch, Lywydd. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet newydd ateb fy nghwestiwn yn ôl pob tebyg, ond rwyf am ei ofyn beth bynnag. Rwy'n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallwn i gyd fod yn falch yma yng Nghymru nad ydym wedi gweld gwasanaethau awdurdodau lleol yn cael eu preifateiddio ar raddfa eang fel y gwelsom yn Lloegr. Mae hynny'n seiliedig ar y rhagdybiaeth fod ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol ar eu gorau a'u mwyaf effeithlon pan gânt eu cadw'n fewnol a'u darparu gan weithlu a gyflogir yn uniongyrchol. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad am safbwynt y weinyddiaeth flaenorol, a oedd yn atgyfnerthu'r farn y dylid rhybuddio rhag preifateiddio gwasanaethau cyhoeddus allweddol, ond hefyd na ddylid byth ystyried opsiynau eraill ar gyfer rhoi gwaith ar gontract allanol, gan gynnwys cwmnïau cydfuddiannol a chydweithredol, oni bai mai dyma'r unig ddewis ar wahân i breifateiddio?
I agree with the Member, undoubtedly, that public services should not be run for private profit. That is why, in this Government, we have always believed that public services should be publicly funded and publicly delivered. Now, in very tough times, I understand that those responsible for providing services sometimes have to look for other ways in which their services can be provided. Then, not-for-profit distributing mutual models can sometimes provide an alternative, but that alternative is to be pursued only at the point when the preferred model of a publicly provided, publicly delivered, publicly funded way of doing things is no longer able to be sustained.
Rwy'n cytuno â'r Aelod, yn ddi-os, na ddylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu rhedeg er mwyn gwneud elw preifat. Dyna'r rheswm pam rydym ni yn y Llywodraeth hon bob amser wedi credu y dylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu hariannu'n gyhoeddus a'u darparu'n gyhoeddus. Nawr, mewn cyfnodau anodd iawn, rwy'n deall bod y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau weithiau'n gorfod edrych am ffyrdd eraill o ddarparu eu gwasanaethau. Y pryd hwnnw, gall modelau dosbarthu dielw cydfuddiannol gynnig dewis arall weithiau, ond ni ddylid mynd ar drywydd y dewis hwnnw oni chyrhaeddir y pwynt pan nad yw hi mwyach yn bosibl cynnal y model a ffefrir o wneud pethau drwy ddarparu'n gyhoeddus, cyflenwi'n gyhoeddus a chyllido'n gyhoeddus.
The supplier qualification information database makes it easier for Welsh suppliers to compete for Welsh public sector business. It is a requirement of the Wales procurement policy statement to which all local authorities are signatories.
Mae'r gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr yn ei gwneud yn haws i gyflenwyr o Gymru gystadlu am fusnes yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n un o ofynion datganiad polisi caffael Cymru a lofnodwyd gan bob awdurdod lleol.
Can I thank the Cabinet Secretary for that response and managing to get out what SQuID actually stands for much better than I could have done? I'm going to carry on with SQuID, though. [Laughter.] SQuID is an excellent scheme that allows smaller contractors to compete across a range of projects, and Welsh Government policy is that all local authorities should use it. A survey by the Electrical Contractors' Association shows that while all local authorities use it, only seven of the 22 councils use it exclusively. Can the Minister investigate this and try and get all councils to use it for all their contracts?
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw ac am lwyddo i egluro beth y mae'r talfyrriad SQuID yn ei olygu yn well o lawer nag y gallwn i fod wedi gwneud? Rwyf am barhau â SQuID, er hynny. [Chwerthin.] Mae SQuID yn gynllun ardderchog sy'n caniatáu i gontractwyr llai gystadlu ar draws ystod o brosiectau, a pholisi Llywodraeth Cymru yw y dylai pob awdurdod lleol ei ddefnyddio. Mae arolwg gan y Gymdeithas Contractwyr Trydanol yn dangos, er bod pob awdurdod lleol yn ei ddefnyddio, mai saith yn unig o'r 22 cyngor sy'n gwneud defnydd llawn ohono. A all y Gweinidog ymchwilio i hyn a cheisio cael yr holl gynghorau i'w ddefnyddio ar gyfer eu holl gontractau?
I thank Mike Hedges for that and, of course, I welcome feedback from the Electrical Contractors' Association and others who have an interest in procurement here in Wales. Mike Hedges is quite right that the evidence shows that SQuID has made a positive impact on the construction sector. Prior to its introduction around 30 per cent of all contracts in Wales were won by indigenous suppliers. At the end of the last financial year, only two months ago, 82 per cent of major construction contracts awarded through Sell2Wales were won by indigenous Welsh businesses. So, it is a success story. I read the research that the Electrical Contractors' Association were drawing on. It is Welsh Government's policy to encourage all public authorities to make the maximum use of the SQuID approach, and I'm very willing to ask my officials to make further efforts to make sure that its use is maximised across all public procurement.
Diolch i Mike Hedges am hynny ac wrth gwrs, rwy'n croesawu adborth gan y Gymdeithas Contractwyr Trydanol ac eraill sydd â diddordeb mewn caffael yma yng Nghymru. Mae Mike Hedges yn llygad ei le yn dweud bod y dystiolaeth yn dangos bod SQuID wedi effeithio'n gadarnhaol ar y sector adeiladu. Cyn ei gyflwyno roedd tua 30 y cant o'r holl gontractau yng Nghymru yn cael eu hennill gan gyflenwyr cynhenid. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ddau fis yn unig yn ôl, enillwydd 82 y cant o gontractau adeiladu mawr a ddyfarnwyd drwy GwerthwchiGymru gan fusnesau cynhenid o Gymru. Felly, mae'n stori lwyddiant. Darllenais y gwaith ymchwil a ddefnyddiwyd gan y Gymdeithas Contractwyr Trydanol. Mae'n bolisi gan Lywodraeth Cymru i annog pob awdurdod cyhoeddus i wneud y defnydd mwyaf posibl o ddull SQuID, ac rwy'n barod iawn i ofyn i fy swyddogion wneud ymdrechion pellach i sicrhau bod y defnydd mwyaf posibl yn cael ei wneud ohono mewn caffael cyhoeddus drwyddo draw.
Whilst we broadly support the SQuID procurement process it is fair to say that probably one of the reasons that only seven out of 22 local authorities are using it - the point that my colleague Mike Hedges made - was the fact that there is still a lot of bureaucracy and red tape involved with very small companies trying to actually tender for lots of works taking place within a local authority. How do you intend to work with our local authorities over this next term to ensure that we do keep the pound going around in our own localities and that we allow some of those small businesses who haven't got the time or the resources to spend finding their way and navigating their way through this bureaucracy and red tape, so that they can actually have a piece of the action and some of the money for local jobs?
Er ein bod yn cefnogi proses gaffael SquID yn gyffredinol mae'n deg dweud mai un o'r rhesymau pam, yn ôl pob tebyg, mai saith yn unig o'r 22 awdurdod lleol sy'n ei ddefnyddio - y pwynt a wnaed gan fy nghyd-Aelod Mike Hedges - oedd y ffaith fod llawer o fiwrocratiaeth yn dal i fod yno mewn gwirionedd i gwmnïau bach sy'n ceisio tendro am gyfrannau gwaith sydd i'w cael gan awdurdod lleol. Sut rydych yn bwriadu gweithio gyda'n hawdurdodau lleol dros y tymor nesaf i sicrhau bod y bunt yn parhau i gylchredeg yn ein hardaloedd ein hunain a'n bod yn caniatáu i rai o'r busnesau bach nad oes ganddynt amser i'w dreulio nac adnoddau i'w gwario yn ceisio dod o hyd i ffordd a llywio'u ffordd drwy'r fiwrocratiaeth hon, fel y gallant gael rhywfaint o waith mewn gwirionedd a rhywfaint o'r arian ar gyfer swyddi lleol?
Can I thank Janet Finch-Saunders for that question? I think it's important to say that the Electrical Contractors' Association's own research said that only seven of 22 councils use the system in full - far more of them use it for parts of what they do. So, it's a matter of building up from what they do already to use it in even greater dimensions of their work. I understand the point she makes about trying to keep bureaucracy to a minimum. The SQuID approach is deliberately designed to try and make it easier for small indigenous firms to compete for business by making access to procurement and potential contracts easier for them. I'm very happy to say that we will continue to work with local authorities and others involved in this field to bear down on unnecessary bureaucracy wherever that can be identified.
Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw. Credaf ei bod yn bwysig dweud bod ymchwil y Gymdeithas Contractwyr Trydanol yn nodi mai saith yn unig o'r 22 cyngor sy'n defnyddio'r system yn llawn - mae llawer mwy ohonynt yn ei defnyddio ar gyfer rhannau o'r hyn y maent yn ei wneud. Felly, mae'n fater o adeiladu ar yr hyn y maent yn ei wneud yn barod a'i ddefnyddio'n mewn dimensiynau ehangach o'u gwaith. Rwy'n deall y pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â cheisio sicrhau cyn lleied â phosibl o fiwrocratiaeth. Mae dull SQuID wedi ei gynllunio'n fwriadol i geisio ei gwneud yn haws i gwmnïau bach cynhenid gystadlu am fusnes drwy sicrhau mynediad haws at gaffael a chontractau posibl. Rwy'n hapus iawn i ddweud y byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill sy'n ymwneud â'r maes hwn i leihau biwrocratiaeth ddiangen lle bynnag y gellir dod o hyd iddi.
We now move to the next item on the agenda, questions to the Assembly Commission. No questions were tabled on this occasion.
Rŷm ni'n symund ymlaen i'r eitem nesaf ar yr agenda, sef cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau y tro yma.
The next item, therefore, item 3, is the debate by individual Members under Standing Order 11.21, and I call on David Melding to move the motion.
Yr eitem nesaf, felly, eitem 3, yw'r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, ac rydw i'n galw ar David Melding i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr, Presiding Officer. Can I thank you and the Business Committee for selecting this topic for discussion as an individual Member's debate? I think, from the range of interest it's sparked and the number of Assembly Members that signed the motion for debate, the interest of this subject is something that marks us deeply in the Assembly. I'd like to start, really, with 'Lost in Care', this report that changed the way, I think, we viewed the care system and had an impact all across the UK. It was published nearly 17 years ago, and I've actually brought my copy. It's quite a tome, as you can see. For me, it's really marked the history of the Assembly because it was one of the very first subjects that commanded our attention from the word 'go' and has remained with us, really. The implications, the recommendations that are in this report and the issues to be addressed are still ongoing. There have been advances, but many of the challenges still remain. For me, it's something of a personal disappointment that perhaps we've not made more progress. I will talk about some of the issues in particular where I think we need to do much more, but of course the welfare of looked-after children is something that we should always consider. It's hardly a box we can tick and then just move on. Ronald Waterhouse's report actually looked specifically at care in Gwynedd and Clwyd in the 1970s, 1980s and 1990s but many of the issues that were identified, as I said, were found across the UK once the services were properly examined. At least we can say that, from the publication of this report, in the public eye, the welfare of looked-after children has been emphasised and has attracted great public attention. I suppose that attention has primarily focused on safeguarding rather than outputs and improving outcomes for looked-after children directly. But, of course, when the report was published, it was the horrific examples and instances of abuse that commanded the media and public attention. I can say that, in the first Assembly, in the Health and Social Services Committee, it absolutely dominated the work that we did, and it had a real impact, emotionally as well as politically, on the Members. I suppose if we don't get things right for looked-after children there's always the danger in future that we'll actually regress, and we'll find that outcomes will once again be very, very poor indeed, even on issues like safeguarding. I want to turn, then, to outcomes. I should say, in terms of safeguarding, there is no room for complacency, but things in general, just because of the inspection regimes and the interest that politicians take in these issues, both in councils and here in the Assembly, and at a Government level - safeguarding issues are something that perhaps we don't focus on as much as we did then. It is appropriate that we actually move and look at outcomes, and I suppose that when we look at outcomes, the effective joint working of the various agencies is key, because we're looking at health, we're looking at education, we're looking at housing, we're looking at skills - all these things inter-relate, either directly, for looked-after children, or when they leave care, for care leavers. But it's also a matter of great importance to work jointly within Government, and here the better co-ordination of different departments, I think, is something that would allow for the more effective co-ordinated delivery amongst various public agencies as well. We should mirror that type of co-ordination in Government itself, because this isn't just an area of concern for one particular department. In this respect, I turn to the Prison Reform Trust's report, which, whilst looking at the experience of looked-after children in the criminal justice process, did call for the formation of a Cabinet sub-committee to provide national leadership, and, indeed, the Westminster Government did respond and has established a sub-committee. When the First Minister announced the formation of the current Government, in congratulating him and wishing him well for the work of the current Government in the fifth Assembly, I did ask whether you would look at this, and whether a Cabinet committee could be established in the Welsh Government, and I believe that is something that is now being looked at. The Prison Reform Trust did call for more effective joint working, proper regulation and policy development across the Welsh Government, so that's the direct reason we have the motion in front of us today. At the heart of our approach to the care of looked-after children is the concept of corporate parenting. Now, this rests principally with local authorities, but I think it's very important indeed that we realise that we're part of that responsibility to deliver effective corporate parenting as well, and that's why we are discussing this very particular proposal in terms of how the Government should improve its co-ordination. The number of looked-after children has increased substantially since the publication of the 'Lost in Care' report, so again this redoubles the need for us to be vigilant in this area and to be ambitious for better outcomes. In 1999 there were 3,657 children in care; now that number has risen by nearly 2,000 to 5,617. Abuse or neglect remain the main reasons for children entering care, and obviously many of them have had very, very challenging and difficult experiences. So, the work of professionals is to be greatly valued in this area, because to achieve outcomes requires application, ambition and great persistence, but we need to be part of that ambition here in the Assembly. Most looked-after children are now in foster placements. In the last generation or so, this has been quite a big change: from residential homes to foster carers. But these placements are not always stable. In 2015, just last year, 9 per cent of looked-after children had three or more foster care placements in one year, and 20 per cent of them experienced two or more changes. So, in the last year for which we have figures, nearly a third of looked-after children experienced a change in their care package. I want to just say a few words about educational attainment. I think this is an important area, because it is probably the best proxy we have for the general standard of care that we give to looked-after children. It's not the only thing: I was reminded earlier today in a meeting that the emotional well-being of looked-after children is crucial and, indeed, their whole educational experience; it's not just about educational attainment. You would say that too of the general population, but it is a measure we can come back to and it does give us hard data. It has, I think it's fair to say, been a focus in the Assembly, really, for the last 15, 16, 17 years. Things have improved, but not by as much as we would like. Only 18 per cent of looked-after children achieve five GCSEs at A to C, including English and maths - 18 per cent. For the general population, it's 58 per cent. So, that's 40 per cent more. Only 7 per cent of care leavers aged 19 were in higher education. So, that's 24 students at the moment. And, obviously, compared to the general population, it's much, much lower. I do want to commend some of the work that's gone on, and the Welsh Government has not been backward in trying to address these problems, and there have been many, many policy developments. For instance, under the provisions of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014, the Welsh Government is producing a national approach to looked-after children to improve collaborative working. That's important. In January, a strategy was published by the Welsh Government to raise educational attainment, and it included a call for greater ambition, which I really, really welcome. So, there is work going on and we need to follow that through and ensure that it reaches the standards we need. I think, generally, to conclude, we should aim in Wales for outstanding best practice. By that, I don't mean copying current best practice, I mean taking it further. We could be a world leader. We have done it before. For example, the learning disabilities strategy, started in the mid-1980s, transformed that public policy area and led to changes worldwide. You had people wanting to work in Wales from across the world because we were developing that area of policy so effectively. I would also urge Members to read the recommendations that a group of charities in the field of looked-after children made when we conducted the election for this fifth Assembly. There, some very concrete things were emphasised, like the focus on outcomes, with emphasis on the responsibility of corporate parents - including us, not just local authorities, the recognition of emotional well-being as a priority, improving the permanence and stability of care and educational placements, listening to the voices of looked-after children, a key area, and appropriate and stable accommodation for care leavers. And can I just say, I think the participation of looked-after children is really, really important in all of what we do, including the training and the inspection of facilities? In all these things, we could involve looked-after children much more effectively. Finally, can I just say we need to really value the care system, because when it works it can deliver outstanding care and opportunities to looked-after children?
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch i chi a'r Pwyllgor Busnes am ddewis y pwnc hwn i'w drafod fel dadl Aelod unigol. O ystyried y diddordeb helaeth y mae'r ddadl wedi'i sbarduno a nifer yr Aelodau Cynulliad a lofnododd y cynnig ar gyfer y ddadl, rwy'n credu bod y diddordeb yn y pwnc yn rhywbeth sydd wedi creu argraff ddofn arnom yn y Cynulliad. Hoffwn ddechrau, mewn gwirionedd, gydag 'Ar Goll Mewn Gofal', yr adroddiad a newidiodd y ffordd yr edrychem ar y system ofal yn fy marn i, ac mae wedi cael effaith ar draws y DU. Cafodd ei gyhoeddi bron i 17 mlynedd yn ôl, ac rwyf wedi dod â fy nghopi gyda mi. Mae'n dipyn o lyfr, fel y gwelwch. I mi, mae wedi creu argraff ar hanes y Cynulliad gan ei fod yn un o'r pynciau cyntaf un a fynnodd ein sylw o'r cychwyn ac mae'n bwnc sydd wedi aros gyda ni, mewn gwirionedd. Mae'r goblygiadau, yr argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn a'r materion sydd angen mynd i'r afael â hwy, yn parhau o hyd. Bu datblygiadau, ond mae llawer o'r heriau yn ein hwynebu o hyd. I mi, mae'n siom bersonol nad ydym wedi gwneud mwy o gynnydd, o bosibl. Byddaf yn trafod rhai o'r materion penodol y credaf fod angen i ni wneud llawer mwy yn eu cylch, ond wrth gwrs mae lles plant sy'n derbyn gofal yn rhywbeth y dylem ei ystyried bob amser. Nid yw'n flwch y gallwn roi tic ynddo ac yna symud ymlaen. Roedd adroddiad Ronald Waterhouse mewn gwirionedd yn edrych yn benodol ar ofal yng Ngwynedd a Chlwyd yn y 1970au, 1980au a'r 1990au, ond canfuwyd llawer o'r problemau a nodwyd, fel y dywedais, ar hyd a lled y DU pan archwiliwyd y gwasanaethau'n drylwyr. O leiaf gallwn ddweud, ers cyhoeddi'r adroddiad hwn, yn llygad y cyhoedd, fod lles plant sy'n derbyn gofal wedi cael ei bwysleisio ac wedi cael sylw mawr ymhlith y cyhoedd. Rwy'n tybio bod y sylw wedi canolbwyntio'n bennaf ar ddiogelu yn hytrach nag allbynnau a gwella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal yn uniongyrchol. Ond wrth gwrs, pan gyhoeddwyd yr adroddiad, yr enghreifftiau a'r achosion erchyll o gam-drin oedd yn mynnu sylw'r cyfryngau a'r cyhoedd. Gallaf ddweud, yn y Cynulliad cyntaf, yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ei fod wedi dominyddu'r gwaith a wnaethom yn llwyr, ac yn wir cafodd effaith wirioneddol, yn emosiynol ac yn wleidyddol, ar yr Aelodau. Os na chawn bethau'n iawn i blant sy'n derbyn gofal, rwy'n tybio bod yna berygl bob amser yn y dyfodol y byddwn yn llithro'n ôl mewn gwirionedd, ac y gwelwn ganlyniadau gwael dros ben unwaith eto, hyd yn oed mewn materion fel diogelu. Rwyf am droi, felly, at y canlyniadau. Dylwn ddweud, o ran diogelu, nad oes lle i laesu dwylo, ond yn gyffredinol, oherwydd y cyfundrefnau arolygu a'r diddordeb sydd gan wleidyddion yn y materion hyn, mewn cynghorau ac yma yn y Cynulliad, ac ar lefel Lywodraethol - mae'n bosibl nad ydym yn canolbwyntio cymaint ar faterion diogelu nag y gwnaem bryd hynny o bosibl. Mae'n briodol ein bod yn symud ac yn edrych ar ganlyniadau, ac mae'n debyg, pan fyddwn yn edrych ar ganlyniadau, fod sicrhau cydweithio effeithiol rhwng gwahanol asiantaethau yn allweddol, oherwydd ein bod yn edrych ar iechyd, rydym yn edrych ar addysg, rydym yn edrych ar dai, rydym yn edrych ar sgiliau - mae'r holl bethau hyn yn perthyn i'w gilydd, naill ai'n uniongyrchol, i blant sy'n derbyn gofal, neu pan fyddant yn gadael gofal, ar gyfer rhai sy'n gadael gofal. Ond mae hefyd yn bwysig iawn fod cydweithio'n digwydd o fewn y Llywodraeth, ac rwy'n credu y byddai cydlynu gwahanol adrannau'n well yma yn rhywbeth a fyddai'n caniatáu darpariaeth gydgysylltiedig fwy effeithiol ymhlith amryw o asiantaethau cyhoeddus hefyd. Dylem adlewyrchu'r math hwnnw o gydlynu yn y Llywodraeth ei hun, gan nad yw'n destun pryder a gyfyngwyd i un adran benodol. Yn hyn o beth, trof at adroddiad Ymddiriedolaeth Diwygio'r Carchardai a oedd yn galw, wrth edrych ar brofiad plant sy'n derbyn gofal yn y broses cyfiawnder troseddol, am ffurfio is-bwyllgor y Cabinet i ddarparu arweiniad cenedlaethol, ac yn wir, mae Llywodraeth San Steffan wedi ymateb ac wedi sefydlu is-bwyllgor. Pan gyhoeddodd y Prif Weinidog ffurfiad y Llywodraeth bresennol, wrth ei longyfarch a dymuno'n dda iddo gyda gwaith y Llywodraeth bresennol yn y pumed Cynulliad, gofynnais a fyddech yn edrych ar hyn, ac a fuasai'n bosibl sefydlu pwyllgor Cabinet yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd bellach yn cael ei ystyried. Roedd Ymddiriedolaeth Diwygio'r Carchardai yn galw am gydweithio mwy effeithiol, rheoleiddio priodol a datblygu polisi ar draws Llywodraeth Cymru, felly dyna'r rheswm uniongyrchol pam y mae'r cynnig ger ein bron heddiw. Wrth wraidd ein dull o ofalu am blant sy'n derbyn gofal, mae'r cysyniad o rianta corfforaethol. Nawr, awdurdodau lleol sy'n bennaf gyfrifol am hyn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn yn wir i ni sylweddoli ein bod ni'n rhan o'r cyfrifoldeb hwnnw i gyflwyno rhianta corfforaethol effeithiol hefyd, a dyna pam rydym yn trafod y cynnig penodol hwn o ran sut y dylai'r Llywodraeth wella ei chydlyniad. Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi cynyddu'n sylweddol ers cyhoeddi'r adroddiad 'Ar Goll Mewn Gofal', felly unwaith eto mae hyn yn dyblu'r angen i ni fod yn wyliadwrus yn y maes hwn a bod yn uchelgeisiol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Yn 1999, roedd 3,657 o blant mewn gofal; erbyn hyn mae'r nifer wedi codi bron 2,000 i 5,617. Camdriniaeth neu esgeulustod yw'r prif resymau o hyd dros roi plant mewn gofal, ac yn amlwg mae llawer ohonynt wedi cael profiadau heriol ac anodd dros ben. Felly mae gwaith gweithwyr proffesiynol yn cael ei werthfawrogi'n fawr yn y maes hwn, gan fod sicrhau canlyniadau yn galw am ymrwymiad, uchelgais a llawer o ddyfalbarhad, ond mae angen i ni fod yn rhan o'r uchelgais hwnnw yma yn y Cynulliad. Mae'r rhan fwyaf o blant sy'n derbyn gofal yn awr mewn lleoliadau maeth. Yn y genhedlaeth neu ddwy ddiwethaf, mae hyn wedi bod yn newid go fawr: o gartrefi preswyl i ofalwyr maeth. Ond nid yw'r lleoliadau hyn bob amser yn sefydlog. Yn 2015, y llynedd, roedd 9 y cant o'r plant a oedd yn derbyn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau gofal maeth mewn un flwyddyn, ac 20 y cant ohonynt wedi bod mewn dau neu fwy o leoliadau gwahanol. Felly, yn y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, roedd bron i draean o'r plant a oedd yn derbyn gofal wedi profi newid yn eu pecyn gofal. Rwyf am ddweud ychydig eiriau am gyrhaeddiad addysgol. Rwy'n credu bod hwn yn faes pwysig, oherwydd mae'n debyg mai dyma'r dangosydd gorau sydd gennym o safon gyffredinol y gofal rydym yn ei roi i blant sy'n derbyn gofal. Nid dyna'r unig beth: cefais fy atgoffa yn gynharach heddiw mewn cyfarfod fod lles emosiynol plant sy'n derbyn gofal yn hanfodol ac yn wir, eu profiad addysgol yn ei gyfanrwydd; nid yw'n ymwneud â chyrhaeddiad addysgol yn unig. Buasech yn dweud hynny hefyd am y boblogaeth yn gyffredinol, ond mae'n fesur y gallwn ddod yn ôl ato ac mae'n rhoi data caled i ni. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ei fod wedi bod yn ffocws yn y Cynulliad dros y 15, 16, 17 mlynedd diwethaf mewn gwirionedd. Mae pethau wedi gwella, ond nid cymaint ag y byddem yn hoffi. Dim ond 18 y cant o blant mewn gofal sy'n cael pum TGAU gradd A i C, gan gynnwys Saesneg a mathemateg - 18 y cant. Mae'n 58 y cant ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol. Felly, mae hynny 40 y cant yn fwy. Dim ond 7 y cant o'r rhai a oedd yn gadael gofal yn 19 oed oedd mewn addysg uwch. Felly, mae hynny'n 24 o fyfyrwyr ar hyn o bryd. Ac yn amlwg, o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol, mae'n llawer iawn is. Rwyf am ganmol peth o'r gwaith a wnaed, ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyndyn o fynd i'r afael â'r problemau hyn, a chafwyd llawer iawn o ddatblygiadau polisi. Er enghraifft, o dan ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae Llywodraeth Cymru yn creu dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal er mwyn gwella gweithio ar y cyd. Mae hynny'n bwysig. Ym mis Ionawr, cafodd strategaeth ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i godi cyrhaeddiad addysgol, ac roedd yn cynnwys galwad am fwy o uchelgais, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn. Felly, mae gwaith yn digwydd ac mae angen cynnal y gwaith hwnnw a sicrhau ei fod yn cyrraedd y safonau rydym eu hangen. I gloi, rwy'n credu, yn gyffredinol, y dylem anelu am arferion gorau rhagorol yng Nghymru. Wrth hynny, nid wyf yn golygu ailadrodd yr arferion gorau presennol, rwy'n golygu mynd â hwy ymhellach. Gallem fod yn arweinydd byd. Rydym wedi gwneud hyn o'r blaen. Er enghraifft, mae'r strategaeth anableddau dysgu, a ddechreuwyd yng nghanol yr 1980au, wedi trawsnewid y maes polisi cyhoeddus hwnnw ac arwain at newidiadau ar draws y byd. Roedd gennych bobl a oedd eisiau gweithio yng Nghymru o ben draw'r byd oherwydd ein bod yn datblygu'r maes polisi hwnnw mor effeithiol. Byddwn hefyd yn annog yr Aelodau i ddarllen yr argymhellion a wnaed gan grŵp o elusennau ym maes plant sy'n derbyn gofal adeg yr etholiad ar gyfer y pumed Cynulliad. Yno, pwysleisiwyd rhai pethau pendant iawn, megis y ffocws ar ganlyniadau, gyda phwyslais ar gyfrifoldeb rhieni corfforaethol - gan ein cynnwys ni, nid awdurdodau lleol yn unig - cydnabod lles emosiynol fel blaenoriaeth, gwella sefydlogrwydd gofal a lleoliadau addysgol, gwrando ar leisiau plant sy'n derbyn gofal, sy'n faes allweddol, a llety priodol a sefydlog ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn credu bod cyfranogiad plant sy'n derbyn gofal yn wirioneddol bwysig ym mhob dim a wnawn, gan gynnwys hyfforddi ac arolygu cyfleusterau? Yn yr holl bethau hyn, gallem gynnwys plant sy'n derbyn gofal yn llawer mwy effeithiol. Yn olaf, a gaf fi ddweud bod angen i ni werthfawrogi'r system ofal, oherwydd pan fo'r system honno'n gweithio gall ddarparu gofal a chyfleoedd rhagorol i blant sy'n derbyn gofal?
As a parent, I know how important my advocacy is on their behalf, and it pains me - and many of you, I'm sure - that children who've already had a tough start in life often don't have someone with the love and passion of a parent to fight their corner. The damage done to the life chances of these children is a stain on us all, and the responsibility to do better falls on us all - all services, businesses, all sectors. I'd like to briefly focus on one area, taking on what David Melding has said. And I'd just like to briefly pay tribute to the leadership David Melding has shown in this area over a number of years, in setting up and leading the all-party group. He has a genuine and sincere passion for it, and I'm very pleased to be working alongside him in that group, as a new Member. He mentioned the shocking statistic that, in key stage 4 - the year leading up to GCSEs - there's a 40 per cent difference in academic performance between children who have been in care and those who have not. Just 18 per cent of children who have been looked after achieve 5 GCSEs grades A to C. So, it's little wonder that the Buttle Trust found in 2011 that only 7 per cent of care leavers were in higher education. As I say, a stain on us all. So, it's self-evident that we need to be far more demanding of ourselves, at every stage of the school journey, to support looked-after children to achieve their potential. Now, there is specific guidance in place, in the form of learner support services and learning pathways, which state that young people aged 14 to 19 will have access to personal support, through their schools' or institutions' pastoral support services. And there are many examples of where schools and further education colleges do provide strong pastoral support for looked-after children. For example, further education colleges report that extra capacity to help support students makes a big difference. Designated learning coaches to provide advice, teaching support, signposting and advocacy are available, but they are costly, and we know that FE has been under strain not just in terms of resources, but growing pressure from supporting the needs of vulnerable learners. But it shows what can be done when we decide to make this a priority. The current guidance has begun to create opportunities for all learners to have access to a wider curriculum. In making their choice to progress to FE or stay in school, young people will rely on their parents and relationships in school to inform their choice. And there's clearly a need for specific support for looked-after children, and I hope the Cabinet Secretary will consider looking at the provisions in place to enable children in care to receive the best support in choosing to study at FE, in work-based learning, or in sixth form, and on to HE, if they desire it. This is already required by statutory guidance, but we need to be satisfied that the current efforts are sufficient. Thank you.
Fel rhiant, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi fy mod yn siarad ar eu rhan, ac mae'n ofid i mi - a nifer ohonoch chi, rwy'n siŵr - yn aml nad oes gan blant sydd eisoes wedi cael dechrau anodd mewn bywyd rywun sydd â chariad ac angerdd rhiant i ymladd drostynt. Mae'r niwed a wnaed i gyfleoedd bywyd y plant hyn yn staen ar bob un ohonom, ac mae'r cyfrifoldeb i wneud yn well yn gyfrifoldeb i bob un ohonom - pob gwasanaeth, pob busnes, pob sector. Hoffwn ganolbwyntio yn fyr ar un maes, gan ystyried yr hyn y mae David Melding wedi'i ddweud. A hoffwn dalu teyrnged sydyn i'r arweinyddiaeth y mae David Melding wedi'i ddangos yn y maes hwn dros nifer o flynyddoedd, wrth sefydlu ac arwain y grŵp hollbleidiol. Mae ganddo angerdd gwirioneddol a diffuant tuag ato, ac rwy'n falch iawn o weithio ochr yn ochr ag ef yn y grŵp hwnnw, fel Aelod newydd. Soniodd am yr ystadegyn syfrdanol a oedd yn dangos, yng nghyfnod allweddol 4 - y flwyddyn sy'n arwain at TGAU - fod gwahaniaeth o 40 y cant mewn perfformiad academaidd rhwng plant sydd wedi bod mewn gofal a'r rhai nad ydynt wedi bod mewn gofal. Dim ond 18 y cant o blant sydd wedi derbyn gofal sy'n cael pum TGAU gradd A i C. Felly, nid yw'n fawr o syndod fod Ymddiriedolaeth Buttle wedi canfod yn 2011 mai 7 y cant yn unig o'r rhai a oedd wedi gadael gofal oedd mewn addysg uwch. Fel y dywedais, staen ar bob un ohonom. Felly, mae'n amlwg fod angen i ni wneud llawer mwy ein hunain, ar bob cam o'r daith drwy'r ysgol, i gynorthwyo plant sy'n derbyn gofal i gyflawni eu potensial. Nawr, mae yna ganllawiau penodol ar waith, ar ffurf gwasanaethau cymorth i ddysgwyr a llwybrau dysgu, sy'n datgan y bydd gan bobl ifanc 14 i 19 oed fynediad at gefnogaeth bersonol, drwy wasanaethau cymorth bugeiliol eu hysgolion neu eu sefydliadau. Ac mae llawer o enghreifftiau o ysgolion a cholegau addysg bellach yn darparu cymorth bugeiliol cryf ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Er enghraifft, mae colegau addysg bellach yn adrodd bod capasiti ychwanegol i helpu i gefnogi myfyrwyr yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae anogwyr dysgu dynodedig i ddarparu cyngor, cymorth addysgu, cyfeiriad ac eiriolaeth ar gael, ond maent yn gostus, a gwyddom fod addysg bellach wedi bod o dan straen nid yn unig o ran adnoddau ond hefyd, o dan bwysau cynyddol i gefnogi anghenion dysgwyr sy'n agored i niwed. Ond mae'n dangos yr hyn y gellir ei wneud pan fyddwn yn penderfynu blaenoriaethu hyn. Mae'r canllawiau cyfredol wedi dechrau creu cyfleoedd sy'n galluogi pob dysgwr i gael mynediad at gwricwlwm ehangach. Wrth benderfynu rhwng symud ymlaen i addysg bellach neu aros yn yr ysgol, bydd pobl ifanc yn dibynnu ar eu rhieni a'u perthnasoedd yn yr ysgol i lywio eu dewis. Ac mae'n amlwg fod angen cymorth penodol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried edrych ar y darpariaethau sydd ar waith i alluogi plant mewn gofal i gael y gefnogaeth orau wrth ddewis astudio mewn coleg addysg bellach, dysgu yn y gwaith, neu fynd i'r chweched dosbarth, ac ymlaen i addysg uwch, os ydynt yn dymuno hynny. Mae hyn eisoes yn ofynnol yn ôl canllawiau statudol, ond mae angen i ni fod yn fodlon fod yr ymdrechion presennol yn ddigonol. Diolch.
Whether we refer to looked-after children, or children looked after, we're talking about the individual lives of those who depend on us to give them life chances. As we heard, at 5,617, the number of looked-after children in Wales in 2015 was up 200 on 2011, and 1,000 on 2008. And, as I stated when we debated this in 2011, looked-after children have much poorer psychological and social outcomes when compared to their peers. A 2004 study found that the prevalence of mental disorders for children and young people aged five to 17 and looked after by local authorities in Wales was 49 per cent. Another study found that psychiatric disorders are particularly high among those living in residential care and with many changes of placement. Although 94 per cent of looked-after children do not get involved in the criminal justice system, research in 2005 showed that up to 41 per cent of children who end up in custody across the UK will have some history of being in care. The Centre for Social Justice report, 'Couldn't Care Less', stated that the treatment of many children in care and those leaving the care system deserves to be a source of national shame. These children, they said, too often go on to experience lives characterised by unemployment, homelessness, mental illness and addiction. We're picking up these enormous costs through the criminal justice system and the health service and these are set to rise. The 2009 Westminster Children, Schools and Families Committee report found that the state is failing in its duty to act as a parent to children in care, by not adequately protecting them from sexual exploitation, homelessness, and falling into crime, with children in care, aged 10 and over, more than twice as likely to be cautioned or convicted of an offence. It also revealed evidence of organised, targeted exploitation of girls in residential homes and hostels and warned that the vulnerability of young people leaving care was a matter of great concern. The Children's Commissioner for Wales 2010-11 annual report stated that the provision of advocacy for looked-after children, care leavers and children in need is inconsistent across Wales. Lessons from Sir Ronald Waterhouse's report 'Lost in Care', the Carlisle review, 'Too Serious a Thing', and our own 'Telling Concerns', they said, are that advocacy is an essential element of safeguarding, enabling children and young people to speak up when they perceive that something is wrong. He added that if this is to happen for all children and young people in care, we would expect that all of them would be actively encouraged to have an advocate with whom they can build up a trusting relationship. What the paper also showed was that other countries seemed to be much more responsive to the needs of the children they've taken into care, and often with better results. The previous children's commissioner also spoke about his frustration at the 'initial slow response' to recommendations he'd made about independent advocacy in his 2012 'Missing Voices' report and the follow-up 2013 report, 'Missing Voices: Missing Progress'. We therefore need to know whether local authorities and Welsh Government will implement together a national model for statutory advocacy services to meet the requirements of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014. We also need to address the attainment gap between looked-after children and that of all pupils, rising from 23 per cent at foundation phase to 40 per cent at key stage 4, with only 18 per cent of looked-after children achieving five A* to C GCSEs, including English or Welsh and maths. The 2009 children's commissioner's 'Full of Care' report referred to the advantages that a young carers identity card could bring, and, four years ago, I attended the official launch by the children's commissioner of the Barnardo's Cymru and Flintshire County Council Access to Action card for young carers, looked-after children and care leavers. This was the first of its kind in Wales, designed to help young people to receive recognition and prompt access to services they need. Although this should have been a template for an all-Wales card - something I raised with the Welsh Government at the time - I now understand it's not received the support it needs and I urge the Welsh Government to address this and expand it across Wales. And as the Centre for Social Justice's 'Survival of the Fittest' report states, and I conclude, we must address 'the extreme loneliness and isolation felt by care leavers, by finding ways to foster enduring and supportive relationships, with birth families, siblings, former carers and children's services, that last long after 21.'
Pa un a ydym yn cyfeirio at blant sy'n derbyn gofal, neu blant mewn gofal, rydym yn sôn am fywydau unigol y rhai sy'n dibynnu arnom i roi cyfleoedd bywyd iddynt. Fel y clywsom, roedd nifer y plant a oedd yn derbyn gofal yng Nghymru yn 2015, sef 5,617, yn dangos cynnydd o 200 ers 2011 a 1,000 ers 2008. Ac fel y dywedais pan oeddem yn trafod hyn yn 2011, mae canlyniadau seicolegol a chymdeithasol plant sy'n derbyn gofal yn llawer salach o'u cymharu â'u cyfoedion. Canfu astudiaeth yn 2004 fod 49 y cant o blant a phobl ifanc rhwng pump a 17 oed a oedd yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn dioddef o anhwylderau meddyliol. Canfu astudiaeth arall fod anhwylderau seiciatrig yn arbennig o uchel ymhlith y rhai sy'n byw mewn gofal preswyl ac sy'n newid lleoliad yn aml. Er nad yw 94 y cant o blant sy'n derbyn gofal yn dod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol, dangosodd ymchwil yn 2005 y bydd gan hyd at 41 y cant o'r plant sy'n cael eu rhoi yn y ddalfa ar draws y DU rywfaint o hanes o fod mewn gofal. Dywedodd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, 'Couldn't Care Less', y dylai'r ffordd y caiff nifer o blant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael y system ofal eu trin beri cywilydd cenedlaethol. Dywedasant fod y plant hyn yn rhy aml yn mynd ymlaen i fyw bywydau a nodweddir gan ddiweithdra, digartrefedd, salwch meddwl a dibyniaeth. Rydym yn talu'r costau enfawr hyn drwy'r system cyfiawnder troseddol a'r gwasanaeth iechyd, a disgwylir iddynt godi. Canfu adroddiad Pwyllgor Plant, Ysgolion a Theuluoedd San Steffan, a gyhoeddwyd yn 2009, fod y wladwriaeth yn methu yn ei dyletswydd i weithredu fel rhiant i blant mewn gofal drwy beidio â'u diogelu'n ddigonol rhag camfanteisio rhywiol, digartrefedd a dechrau troseddu, gyda phlant mewn gofal, 10 oed a hŷn, yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o gael rhybudd neu o gael eu dyfarnu'n euog am droseddu. Datgelodd hefyd dystiolaeth o achosion o gamfanteisio ar ferched mewn cartrefi preswyl a hosteli a oedd wedi'u trefnu a'u targedu, a rhybuddiodd fod natur fregus pobl ifanc sy'n gadael gofal yn destun pryder mawr. Mae adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2010-11 yn nodi bod darpariaeth eiriolaeth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, pobl sy'n gadael gofal a phlant mewn angen yn anghyson ledled Cymru. Y gwersi sy'n deillio o adroddiad Syr Ronald Waterhouse, 'Ar Goll Mewn Gofal', adolygiad Carlisle, 'Peth Rhy Ddifrifol', a'n hadroddiad ni, 'Datgan Pryderon', yn ôl yr hyn a ddywedwyd, yw bod eiriolaeth yn elfen hanfodol o ddiogelu sy'n galluogi plant a phobl ifanc i siarad pan fyddant yn gweld bod rhywbeth o'i le. Os yw hyn yn mynd i ddigwydd ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc mewn gofal, ychwanegodd, byddem yn disgwyl i bob un ohonynt gael eu hannog i gael eiriolwr y gallant feithrin perthynas â hwy ac ymddiried ynddynt. Roedd y papur hefyd yn dangos bod gwledydd eraill i'w gweld yn llawer mwy ymatebol i anghenion y plant y maent wedi eu rhoi mewn gofal, gyda chanlyniadau gwell yn aml. Siaradodd y comisiynydd plant blaenorol am ei rwystredigaeth ynglŷn â'r 'ymateb cychwynnol araf' i'r argymhellion a wnaeth ynglŷn ag eiriolaeth annibynnol yn ei adroddiad 'Lleisiau Coll', a gyhoeddwyd yn 2012, a'r adroddiad dilynol, 'Lleisiau Coll: Cynnydd Coll' a gyhoeddwyd yn 2013. Felly, mae angen i ni wybod a fydd awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i weithredu model cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth statudol i fodloni gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae angen i ni hefyd fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sy'n derbyn gofal a disgyblion eraill, sy'n codi o 23 y cant yn y cyfnod sylfaen i 40 y cant yng nghyfnod allweddol 4, gyda 18 y cant yn unig o blant sy'n derbyn gofal yn ennill pum TGAU gradd A* i C, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg a mathemateg. Cyfeiriodd adroddiad y comisiynydd plant, 'Bywyd Llawn Gofal', a gyhoeddwyd yn 2009, at fanteision cyflwyno cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, a phedair blynedd yn ôl, mynychais lansiad swyddogol cerdyn A2A Barnardo's Cymru a Chyngor Sir y Fflint ar gyfer gofalwyr ifanc, plant sy'n derbyn gofal a rhai sy'n gadael gofal gan y comisiynydd plant. Y cerdyn hwn oedd y cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac fe'i cynlluniwyd i helpu pobl ifanc i gael cydnabyddiaeth a mynediad prydlon at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Er y dylai hwn fod wedi bod yn dempled ar gyfer cerdyn Cymru gyfan - mater y tynnais sylw Llywodraeth Cymru ato ar y pryd - rwy'n deall yn awr nad yw wedi cael y gefnogaeth angenrheidiol ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn a'i ymestyn ar gyfer Cymru gyfan. Ac fel y mae adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, 'Survival of the Fittest', yn ei ddweud, ac rwy'n gorffen gyda hyn, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r unigrwydd a'r arwahanrwydd eithafol a deimlir gan y rhai sy'n gadael gofal, drwy ddod o hyd i ffyrdd o feithrin perthynas barhaus a chefnogol ag eraill, â theuluoedd biolegol, brodyr a chwiorydd, cyn-ofalwyr a gwasanaethau plant, sy'n para ymhell y tu hwnt i 21 oed.
As we've heard, of course, already, children in care are especially vulnerable, and outcomes are too often much poorer than we would wish, with those in care likely to have fewer qualifications, being at an increased risk of homelessness, mental health problems and the risk of ending up in the criminal justice system. Now, the number of looked-after children in care has steadily risen over the past 15 years, from around 3,500 back in 2000 to over 5,600 last year. Now, this clearly indicates that pressure on the services will continue to rise and that changes are necessary to ensure better outcomes for these children and young people. And, looking at the graph, you could see that there is a clear jump after 2008, after the economic crash - not immediately maybe, but about a year or 18 months later. Some might argue that that might have coincided when the cuts and austerity measures started to bite. There may be evidence out there to prove or disprove that, but I have to say that the jump was quite striking when you looked at the graph. And if there is a correlation between the recession and the number of children in care, then we have to ready ourselves for a potential further increase in demands for services in this post-referendum Wales. So, there is, I think, a huge imperative on the Welsh Government to act now to ensure that we do all we can to meet this challenge. And we all recognise, I'm sure, that a lot has happened in terms of legislation and strategies, but I think the time now is for a more relentless focus on the outcomes that we are looking for. Education, of course, being one of those that has already been highlighted and how well looked-after children do in school, and whether they go on to further training or employment as well, of course, is often considered to be an important measure of how well this group of children have been supported. There are excellent examples out there of successes, of course there are, but the general statistics tell us quite a grim story. Indeed, there is a wide gap between the attainment of looked-after children and that of pupils generally. The Member for Llanelli referred to this earlier. At foundation stage, the gap is 23 percentage points; at key stage 2, the gap is 24 percentage points; at key stage 3, it increases to 36 percentage points; and, as we heard earlier, the gap is at its widest at key stage 4, with a 40 per cent difference - up from 30 percentage points in 2004, by the way. The latest statistics show that 45 per cent of care leavers aged 19 were not in education, employment or training last year. Whilst that is the lowest percentage in the past nine years, it's clearly still unacceptably high. Looked-after children need stability, of course, as we've heard, rather than being continually moved between placements. If children are moving too frequently, then clearly changing schools also has a disruptive effect on their education as well as being more likely to suffer in terms of mental health too. As David said, in Wales, around 9 per cent of looked-after children had three or more placements in the year, and, although this is a gradual decline from 13 per cent in 2004, clearly it's still too high. There is too, I have to say, inconsistency within the education system on how adopted or fostered children are dealt with and the possibility that the perception of them being different may result in bullying. Some schools appreciate the issues and offer excellent support, but there are others out there that do not. Estyn reported today that pupils educated outside the classroom often miss out on the benefits of the wider curriculum and specialist help. I haven't had time to look at whether the report particularly considers looked-after children in any way, but I do know that the Government set up the task and finish group last year to consider those in education other than at school - something, of course, Keith Towler, the previous children's commissioner, referred to as a cinderella service back in May 2014. Now, that task and finish group reports in September, and I would ask the Secretary maybe to discuss with the education Secretary whether that task and finish group could actually specifically consider looked-after children as a particular group within this particular context. Another suggestion made earlier today as well was whether Estyn could actually undertake a thematic review maybe of work with looked-after children in schools across Wales to better inform deliberations and strategies in this respect. Plaid Cymru has been broadly supportive of the approach taken in the last Assembly and, clearly, I would support efforts to strengthen the current arrangements as long, of course, as it has that relentless focus now on improving the outcomes.
Fel rydym wedi'i glywed yn barod, wrth gwrs, mae plant mewn gofal yn arbennig o agored i niwed, ac mae canlyniadau'n waeth nag y byddem yn dymuno iddynt fod yn rhy aml o lawer, gyda'r rhai sydd mewn gofal yn debygol o fod â llai o gymwysterau, o wynebu mwy o berygl o fod yn ddigartref, o ddatblygu problemau iechyd meddwl ac o wynebu risg o fynd yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol. Nawr, mae nifer y plant sy'n derbyn gofal o fewn y system ofal wedi codi'n gyson dros y 15 mlynedd diwethaf, o tua 3,500 yn ôl yn 2000 i dros 5,600 y llynedd. Nawr, mae hyn yn dangos yn glir y bydd y pwysau ar y gwasanaethau yn parhau i gynyddu a bod angen gwneud newidiadau er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i'r plant a'r bobl ifanc hyn. Ac o edrych ar y graff, gallech weld bod naid glir ar ôl 2008, ar ôl y cwymp economaidd - nid ar unwaith efallai, ond tua blwyddyn neu 18 mis yn ddiweddarach. Mae'n bosibl y bydd rhai yn dadlau y gallai hynny fod wedi cyd-daro â'r adeg pan ddechreuodd y toriadau a'r mesurau caledi gael effaith. Efallai bod tystiolaeth yn bodoli sy'n profi neu'n gwrthbrofi hynny, ond rhaid i mi ddweud fod y naid yn eithaf trawiadol wrth edrych ar y graff. Ac os oes cydberthynas rhwng y dirwasgiad a nifer y plant mewn gofal, yna mae'n rhaid i ni ymbaratoi ar gyfer y posibilrwydd o gynnydd pellach yn y galw am wasanaethau yn y Gymru sydd ohoni ar ôl y refferendwm. Felly, rwy'n credu bod rheidrwydd enfawr ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn awr er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ymateb i'r her hon. Ac rydym i gyd yn cydnabod, rwy'n siŵr, fod llawer wedi digwydd o ran deddfwriaeth a strategaethau, ond rwy'n credu ei bod hi'n bryd bellach i ni ganolbwyntio'n fwy didrugaredd ar y canlyniadau rydym yn chwilio amdanynt. Mae addysg, wrth gwrs, fel un o'r meysydd a amlygwyd yn barod a pha mor dda y mae plant sy'n derbyn gofal yn ei wneud yn yr ysgol, yn ogystal â pha un a ydynt yn symud ymlaen i hyfforddiant pellach neu gyflogaeth, wrth gwrs, yn aml yn cael ei hystyried yn ffordd bwysig o fesur pa mor dda y cefnogwyd y grŵp hwn o blant. Ceir enghreifftiau gwych o lwyddiannau, wrth gwrs, ond mae'r ystadegau cyffredinol yn adrodd stori go annymunol. Yn wir, mae bwlch mawr rhwng cyrhaeddiad plant sy'n derbyn gofal a chyrhaeddiad disgyblion yn gyffredinol. Cyfeiriodd yr Aelod dros Lanelli at hyn yn gynharach. Yn y cyfnod sylfaen, mae'r bwlch yn 23 pwynt canran; yng nghyfnod allweddol 2, mae'r bwlch yn 24 pwynt canran; yng nghyfnod allweddol 3, mae'n cynyddu i 36 pwynt canran; ac fel y clywsom yn gynharach, mae'r bwlch ar ei fwyaf yng nghyfnod allweddol 4, gyda 40 y cant o wahaniaeth - wedi codi o 30 pwynt canran yn 2004, gyda llaw. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos nad oedd 45 y cant o'r rhai a oedd yn gadael gofal yn 19 oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant y llynedd. Er mai honno yw'r ganran isaf dros y naw mlynedd diwethaf, mae'n amlwg yn annerbyniol o uchel o hyd. Mae plant sy'n derbyn gofal angen sefydlogrwydd, wrth gwrs, fel rydym wedi'i glywed, yn hytrach na chael eu symud yn barhaus o un lleoliad i'r llall. Os yw plant yn symud yn rhy aml, yna mae'n amlwg y bydd newid ysgol hefyd yn tarfu ar eu haddysg, yn ogystal â'r ffaith eu bod yn fwy tebygol o ddioddef mewn perthynas ag iechyd meddwl hefyd. Fel y dywedodd David, yng Nghymru, mae tua 9 y cant o blant sy'n derbyn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau mewn blwyddyn, ac er bod y ffigur hwn yn ddirywiad graddol o 13 y cant yn 2004, mae'n amlwg ei fod yn rhy uchel o hyd. Mae'n rhaid i mi ddweud hefyd fod yna anghysondeb o fewn y system addysg o ran sut y mae plant sydd wedi cael eu mabwysiadu neu eu maethu yn cael eu trin a'r posibilrwydd y gallai'r canfyddiad eu bod yn wahanol arwain at fwlio. Mae rhai ysgolion yn deall y problemau ac yn cynnig cefnogaeth ardderchog, ond nid yw'r un peth yn wir am rai ysgolion eraill. Dywedodd Estyn heddiw fod disgyblion sy'n cael addysg y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn aml yn colli manteision y cwricwlwm ehangach a chymorth arbenigol. Nid wyf wedi cael amser i edrych a yw'r adroddiad yn ystyried plant sy'n derbyn gofal yn benodol mewn unrhyw ffordd, ond rwy'n gwybod bod y Llywodraeth wedi sefydlu'r grŵp gorchwyl a gorffen y llynedd i ystyried y rheini sydd mewn addysg heblaw yn yr ysgol - rhywbeth, wrth gwrs, y cyfeiriodd Keith Towler, y comisiynydd plant blaenorol ato fel gwasanaeth sinderela yn ôl ym mis Mai 2014. Nawr, bydd y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw yn adrodd yn ôl ym mis Medi, a hoffwn ofyn i'r Ysgrifennydd drafod gyda'r Ysgrifennydd addysg, efallai, pa un a fyddai'n bosibl i'r grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw ystyried plant sy'n derbyn gofal fel grŵp penodol yn y cyd-destun penodol hwn. Awgrym arall a wnaed yn gynharach heddiw hefyd oedd y posibilrwydd y gallai Estyn gynnal adolygiad thematig, o bosibl, o waith gyda phlant sy'n derbyn gofal mewn ysgolion ledled Cymru i lywio trafodaethau a strategaethau yn well yn hyn o beth. Mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol iawn i'r dull o weithredu a fabwysiadwyd yn y Cynulliad diwethaf ac yn amlwg, byddwn yn cefnogi ymdrechion i gryfhau'r trefniadau presennol ar yr amod, wrth gwrs, ei fod yn canolbwyntio'n ddidrugaredd yn awr ar wella canlyniadau.
I am very pleased to contribute to this debate to seek to speak up for the needs of our looked-after children here in Wales and to pay tribute to the many fantastic individuals working with them, loving them and supporting them. Without their incredible dedication to our most vulnerable children, many would be left without the individual comfort and love that only a parent or carer can provide. This debate follows a recent report from the Prison Reform Trust as regards looked-after children and the link that my colleague, Mark Isherwood, made, calling for good joint working, proper regulation and policy development across Wales. Schools with pupils who are looked-after children are eligible for the relevant pupil deprivation grant funding, which, alongside Communities First, is concentrated in our most deprived areas, but, again, is there to help looked-after children. The Welsh Conservatives have previously highlighted our concern though that this grant lacks effective outcome measures, and I would urge the Cabinet Secretary today to look into that and ask what consideration he will give to the impact of Welsh Government funding on the education outcomes of looked-after children, particularly in Communities First areas. What outcome measures will the Welsh Government place on the pupil deprivation grant to ensure that it is being utilised to effectively improve outcomes for all children, including our looked-after ones? Since the establishment of the National Assembly for Wales and the shocking findings of the Waterhouse inquiry, we have seen numerous strategies put forward with the aim of improving welfare and, most importantly, protection for our children. However, we do still see a marked difference in outcomes across the board, with some of the statistics requiring improvement. I have casework experience where looked-after children are in foster care and then they move into adoption and there seems to be a void then of support, and support is actually withdrawn. I know that families have come to me quite desperate, really, wanting a continuum of that support, because otherwise if they don't get that support, quite often, sometimes those children can end up back in foster care or back within the local authority. It's important that if we have families willing to love and nurture these children that they're given every opportunity and every support. Furthermore, 45 per cent of care leavers aged 19 in Wales were not in education, employment or training and that is compared to 34 per cent in England and 31 per cent in Northern Ireland. So, there is work to be done there to bring those figures up. Blind Children UK Cymru this week were concerned at the lack of children's habilitation specialists in Wales and, again, this is another possibility that our most vulnerable children are missing out on this kind of support. Blind Children UK Cymru found also that only two local authorities reported involving parents and children in the decision-making process when considering their eligibility for services. It does raise concerns for the involvement and engagement of looked-after children and their carers - particularly for those who have more than one placement. I know in one of my examples I had three siblings of one family and for them to try and access services in that environment was very frustrating for their adoptive parents. On this note, I find it a particular concern to note that 9 per cent of our looked-after children had three or more placements in 2014-15 with a further 20 per cent having two placements. So, we've got to do everything we can to ensure that we match the right children with the right sort of families and that we do everything in our power to support them. Stability and consistency are valuable and reassuring mainstays are for a productive and positive home life, but we do need proactive joint working between social services, foster carers and children, with real input from the children throughout the process. Llywydd, the future of looked-after children is, by the very definition, not just in the hands of those who come forward to help and support, but in our hands also. And, for every concern I raise today there are indeed some positive and wonderful outcomes for our looked-after children across Wales. However, we must be vigilant to ensure that there is consistency - a seamless transition and a seamless provision of care and support. We need a collaborative approach, to ensure that local authorities, social workers, schools, the third sector and, most importantly, children and their fosterers are involved in developing appropriate care plans and that we take any steps to improve the education and engagement here to secure a positive outcome for these amazing children across Wales.
Rwy'n falch iawn i gyfrannu at y ddadl hon er mwyn ceisio siarad dros anghenion y plant sy'n derbyn gofal yma yng Nghymru ac i dalu teyrnged i'r nifer o unigolion gwych sy'n gweithio gyda hwy, sy'n eu caru ac yn eu cefnogi. Oni bai am eu hymroddiad anhygoel i'n plant mwyaf agored i niwed, byddai llawer yn colli'r cysur a'r cariad unigol na all neb ond rhiant neu ofalwr ei roi. Mae'r ddadl hon yn dilyn adroddiad diweddar gan Ymddiriedolaeth Diwygio'r Carchardai mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal a'r cysylltiad a wnaeth fy nghyd-Aelod, Mark Isherwood, yn galw am gydweithio da, rheoleiddio priodol a datblygu polisi ledled Cymru. Mae ysgolion sy'n cynnwys disgyblion sy'n derbyn gofal yn gymwys am y cyllid grant amddifadedd disgyblion perthnasol, sydd, ochr yn ochr â Cymunedau yn Gyntaf, yn canolbwyntio ar ein hardaloedd mwyaf difreintiedig, ond unwaith eto, mae yno i helpu plant sy'n derbyn gofal. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, serch hynny, wedi mynegi ein pryder o'r blaen ynghylch y diffyg dulliau effeithiol o fesur canlyniadau'r grant hwn, a byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet heddiw i edrych ar hynny a gofyn pa ystyriaeth y bydd yn ei roi i effaith cyllid Llywodraeth Cymru ar ganlyniadau addysgol plant sy'n derbyn gofal, yn enwedig mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Pa ddulliau o fesur canlyniadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gosod ar y grant amddifadedd disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i wella canlyniadau'n effeithiol i bob plentyn, gan gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal? Ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chanfyddiadau dychrynllyd ymchwiliad Waterhouse, rydym wedi gweld nifer o strategaethau yn cael eu cyflwyno gyda'r nod o wella lles ac yn bwysicaf oll, gwella diogelwch ein plant. Fodd bynnag, rydym yn parhau i weld gwahaniaeth amlwg yn y canlyniadau ym mhob man, gyda rhai o'r ystadegau angen eu gwella. Mae gennyf brofiad o waith achos lle mae plant sy'n derbyn gofal mewn gofal maeth, ac yna maent yn symud ymlaen i gael eu mabwysiadu ac mae'n ymddangos bod diffyg cefnogaeth wedyn a bod cefnogaeth yn cael ei dynnu'n ôl mewn gwirionedd. Gwn fod teuluoedd wedi dod ataf yn eithaf gofidus, mewn gwirionedd, ac eisiau parhau i gael y gefnogaeth honno, oherwydd fel arall, os nad ydynt yn cael y gefnogaeth honno, yn eithaf aml, mae'n bosibl y bydd y plant hynny'n mynd yn ôl i ofal maeth neu yn ôl i ofal yr awdurdod yn y pen draw. Mae'n bwysig, os oes gennym deuluoedd sy'n barod i garu a magu'r plant hyn, eu bod yn cael pob cyfle a phob cefnogaeth. At hynny, nid oedd 45 y cant o'r rhai a oedd wedi gadael gofal yn 19 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac mae'r ffigur hwnnw'n cymharu â 34 y cant yn Lloegr a 31 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Felly, mae gwaith i'w wneud i godi'r ffigurau hynny. Yr wythnos hon roedd Blind Children UK Cymru yn pryderu am y diffyg arbenigwyr sefydlu plant yng Nghymru ac unwaith eto, mae hyn yn dangos efallai nad yw ein plant mwyaf agored i niwed yn cael y math hwn o gymorth. Canfu Blind Children UK Cymru hefyd mai dau awdurdod lleol yn unig a adroddodd eu bod wedi cynnwys rhieni a phlant yn y broses o wneud penderfyniadau wrth ystyried a oeddent yn gymwys i gael gwasanaethau. Mae'n codi pryderon ynglŷn â'r modd y cynhwysir a'r modd yr ymgysylltir â phlant sy'n derbyn gofal a'u gofalwyr - yn enwedig y rhai sydd wedi cael mwy nag un lleoliad. Gwn fod gennyf, yn un o fy enghreifftiau, dri phlentyn mewn un teulu ac roedd eu hymdrechion hwy i gael mynediad at wasanaethau yn yr amgylchedd hwnnw yn rhwystredig iawn i'w rhieni mabwysiadol. Ar y nodyn hwn, rwy'n credu mai testun pryder mawr yw nodi bod 9 y cant o'n plant sy'n derbyn gofal wedi cael tri lleoliad neu fwy yn 2014-15 gyda 20 y cant arall wedi cael dau leoliad. Felly, mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn rhoi'r plant cywir gyda'r math cywir o deuluoedd a'n bod yn gwneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi. Mae sefydlogrwydd a chysondeb yn sylfeini gwerthfawr a chysurol i fywyd cartref cynhyrchiol a chadarnhaol, ond rydym angen cydweithio rhagweithiol rhwng gwasanaethau cymdeithasol, gofalwyr maeth a phlant, gyda mewnbwn go iawn gan y plant drwy gydol y broses. Lywydd, nid yn nwylo'r rhai sy'n cynnig help a chefnogaeth yn unig y mae dyfodol plant sy'n derbyn gofal, ond yn ein dwylo ni hefyd. Ac er gwaethaf pob pryder rwy'n eu lleisio heddiw, mae yna ganlyniadau cadarnhaol a gwych yn wir i blant sy'n derbyn gofal ar draws Cymru. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau cysondeb - pontio di-dor a darpariaeth ddi-dor o ofal a chymorth. Rydym angen dull cydweithredol, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol, gweithwyr cymdeithasol, ysgolion, y trydydd sector ac yn bwysicaf oll, plant a'u gofalwyr maeth yn rhan o'r gwaith o ddatblygu cynlluniau gofal priodol a'n bod yn rhoi camau ar waith i wella'r addysg a'r ymgysylltiad yma er mwyn sicrhau canlyniad cadarnhaol i'r plant anhygoel hyn ledled Cymru.
Can I just declare an interest as a trustee of Friends and Families of Prisoners in Swansea? Some young people, of course, have very good news stories as David Melding said in his opening remarks. The number of young people leaving care to go into higher education, for example, has gone up considerably since 2004, when, of 11,000 young people leaving care in England and Wales, only 60 went to university. But it's still only seven per cent of care leavers that go into higher education now. The fact that in January this year we still needed a strategy for raising the attainment of children who are looked after shows that, even today, corporate parenting is not wholly successful in helping children seize better life chances. As we heard from Mark Isherwood - [Interruption.] Yes, by all means.
A gaf fi ddatgan buddiant fel un o ymddiriedolwyr Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion yn Abertawe? Mae hanesion da iawn gan rai pobl ifanc, wrth gwrs, fel y dywedodd David Melding yn ei sylwadau agoriadol. Mae nifer y bobl ifanc sy'n gadael gofal i symud ymlaen at addysg uwch, er enghraifft, wedi cynyddu'n sylweddol ers 2004, pan aeth 60 yn unig o'r 11,000 o bobl ifanc a oedd yn gadael gofal yng Nghymru a Lloegr i brifysgol. Ond 7 y cant yn unig o bobl sy'n gadael gofal sy'n camu ymlaen i addysg uwch o hyd. Mae'r ffaith ein bod, ym mis Ionawr eleni, yn dal i fod angen strategaeth ar gyfer gwella cyrhaeddiad plant sy'n derbyn gofal yn dangos, hyd yn oed heddiw, nad yw rhianta corfforaethol yn gwbl lwyddiannus yn helpu plant i fanteisio ar gyfleoedd bywyd gwell. Fel y clywsom gan Mark Isherwood - [Torri ar draws.] Gwnaf, ar bob cyfrif.
Thank you, Suzy, for taking an intervention. Would you agree with me that children are not able to move on? I've heard an awful lot of stats today, but these are individuals with individual needs. Would you agree with me that, unless their emotional well-being is addressed first, then you cannot expect any levels of attainment while they're still carrying that emotional baggage with them?
Diolch i chi, Suzy, am dderbyn ymyriad. A fyddech yn cytuno nad yw plant yn gallu camu ymlaen? Rwyf wedi clywed llawer iawn o ystadegau heddiw, ond unigolion ag anghenion unigol yw'r rhain. A fyddech yn cytuno, oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'u lles emosiynol yn gyntaf, yna ni allwch ddisgwyl unrhyw lefelau cyrhaeddiad tra'u bod yn dal i gario'r pwysau emosiynol hwnnw?
I agree completely, because it's not about the lack of opportunities, it's the inability to be able to seize those opportunities that I think is at the heart of what we're talking about today. We heard from Mark Isherwood, of course, that we are awash with research and reports and there's another report being launched by the children's commissioner today. If the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 is to mean anything, it has to succeed at breaking down silos and silo thinking about how, in this case, we take responsibility together for corporate parenting. I think it's about far more than just Government departments; otherwise, all this research and all these reports won't lead to fundamentally life-changing results for young people in care, and the access to the opportunity that Joyce was just talking about. In the last Assembly, the Children, Young People and Education Committee conducted an in-depth inquiry with a later follow-up inquiry into adoption. In the course of both those inquiries, we heard from adoptive parents who adopted in ignorance of issues affecting their child at the time of adoption, or who did not receive support to deal with behaviours that manifested themselves as the children grew older. And one of the points I would really like to press home today is the fact that some formerly looked-after children don't cease to have high needs just because they've been adopted. The scars of abuse and neglect, parental incapacity or absence or extreme family dysfunction don't heal just because a child has found a new family to love and nurture them. So, in examining how cross-departmental corporate parenting can be better in today's debate, we must remember the challenges facing adoptive families too, because the act of transferring parental responsibility must not mean washing our hands of those children. For every step we take to improve the value we place on foster parents and the essential place that they have in raising looked-after children, so we should do the same for adoptive parents. Llyr was absolutely right to talk about looked-after children and adopted children in the same breath. However good our foster parents are, as David Melding said, many looked-after children will go through a series of placements, reinforcing the lack of stability and incomplete attachment that led to the state stepping in to protect many of them in the first place. There's one particular type of separation that I want to speak on today, because it lends itself to targeted support but is complicated by the devolution settlement, and that is the children affected by an imprisonment of a parent. Not all children with a parent in prison go into care; there are about two and a half times as many children with a parent in jail as there are children in care, and not all children in care have parents in prison, of course. In fact, in families where the father goes to jail, the overwhelming majority of children stay with the family at home with the mother. However, when it's the mother who goes to jail, only 5 per cent of children stay at home with the father. The majority are looked after by kinship carers - grandparents mainly, but other family members as well - and this informal care, as with adoption, is not consistently recognised as an arrangement that requires active support by Government. Just because a child is not being formally corporately parented doesn't mean that they are immune from the same development and emotional behaviour issues that arise from separation and lack of continuity and security as looked-after children do. Now is an appropriate time to applaud organisations like Friends and Families of Prisoners and Barnardo's, as well as the excellent work done in Parc prison to maintain strong family bonds between, in these cases, fathers and their children. But it's an opportune time to remember too that while children generally stay at home with mum when dad is in jail, when mum is in jail 12 per cent of those children go into care. Jailing mothers not only creates a greater call on unsupported kinship care, but it brings more children into the care system. We know that a greater number of care leavers become offenders than their peers. We know that a greater number of children of prisoners become offenders than their peers. These children are doubly at risk of going into prison themselves, and I hope that any moves towards improving corporate parenting takes this particular cohort of children into particular consideration. Thank you.
Rwy'n cytuno'n llwyr, oherwydd nid yw'n ymwneud â'r diffyg cyfleoedd; yr anallu i fanteisio ar y cyfleoedd hynny sydd wrth wraidd yr hyn rydym yn sôn amdano heddiw yn fy marn i. Clywsom gan Mark Isherwood, wrth gwrs, ein bod yn morio mewn gwaith ymchwil ac adroddiadau ac mae adroddiad arall yn cael ei lansio gan y comisiynydd plant heddiw. Os yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn mynd i olygu unrhyw beth, mae'n rhaid iddi lwyddo i chwalu seilos a meddylfryd seilo ynglŷn â sut, yn yr achos hwn, rydym yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb gyda'n gilydd dros rianta corfforaethol. Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â llawer mwy nag adrannau Llywodraeth yn unig; fel arall, ni fydd yr holl ymchwil a'r holl adroddiadau hyn yn arwain at ganlyniadau sy'n newid bywyd yn sylfaenol i bobl ifanc mewn gofal, na mynediad at y cyfle roedd Joyce yn sôn amdano yn awr. Yn y Cynulliad diwethaf, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad manwl ynghyd ag ymchwiliad dilynol yn ddiweddarach ynglŷn â mabwysiadu. Yn ystod y ddau ymchwiliad, clywsom gan rieni mabwysiadol a fabwysiadodd blentyn heb wybod am y problemau a oedd yn effeithio ar eu plentyn ar adeg y mabwysiadu, neu na chawsant y gefnogaeth briodol i ddelio â phatrymau ymddygiad a ddaeth yn amlwg wrth i'r plentyn dyfu'n hŷn. Ac un o'r pwyntiau y buaswn yn hoffi eu pwysleisio yw'r ffaith nad yw plant a oedd yn arfer derbyn gofal yn peidio â bod ag anghenion wedi iddynt gael eu mabwysiadu. Nid yw creithiau camdriniaeth ac esgeulustod, analluogrwydd neu absenoldeb rhieni neu drafferthion teuluol eithafol yn gwella yn syml oherwydd bod plentyn wedi dod o hyd i deulu newydd i'w garu a'i fagu. Felly, wrth archwilio sut y gellir gwella rhianta corfforaethol rhwng adrannau yn y ddadl heddiw, mae'n rhaid i ni gofio am yr heriau sy'n wynebu teuluoedd sy'n mabwysiadu hefyd, oherwydd ni ddylai'r weithred o drosglwyddo cyfrifoldeb rhiant olygu ein bod yn anghofio am y plant hynny. Am bob cam a gymerwn i wella'r gwerth a roddwn ar rieni maeth a'r rôl hanfodol sydd ganddynt yn magu plant sy'n derbyn gofal, dylem wneud yr un peth i rieni sy'n mabwysiadu. Roedd Llyr yn llygad ei le yn sôn am blant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu mabwysiadu yn yr un gwynt. Ni waeth pa mor dda yw ein rhieni maeth, fel y dywedodd David Melding, bydd llawer o blant sy'n derbyn gofal yn mynd drwy gyfres o leoliadau, gan atgyfnerthu'r diffyg sefydlogrwydd a'r ymlyniad anghyflawn a barodd i'r wladwriaeth ymyrryd a diogelu llawer ohonynt yn y lle cyntaf. Mae yna un math penodol o wahanu rwyf am sôn amdano heddiw, oherwydd ei fod yn galw am gymorth wedi'i dargedu ond caiff ei gymhlethu gan y setliad datganoli, sef plant yr effeithir arnynt gan garchariad rhiant. Nid yw pob plentyn sydd â rhiant yn y carchar yn derbyn gofal; mae tua dwywaith a hanner cymaint o blant â rhiant yn y carchar ag sydd o blant mewn gofal, ac nid oes gan bob plentyn mewn gofal rieni yn y carchar, wrth gwrs. Yn wir, mewn teuluoedd lle mae'r tad yn y carchar, mae'r mwyafrif llethol o'r plant yn aros gyda'r teulu yn y cartref gyda'r fam. Fodd bynnag, mewn teuluoedd lle mae'r fam yn y carchar, 5 y cant yn unig o blant sy'n aros gartref gyda'r tad. Mae'r mwyafrif yn derbyn gofal gan ofalwyr sy'n berthnasau - neiniau a theidiau yn bennaf, ond aelodau eraill o'r teulu yn ogystal - ac nid yw'r gofal anffurfiol hwn, fel gyda mabwysiadu, yn cael ei gydnabod yn gyson fel trefniant sy'n galw am gefnogaeth weithredol gan y Llywodraeth. Nid yw'r ffaith nad yw plentyn yn cael ei fagu'n gorfforaethol yn ffurfiol yn golygu nad yw'n dioddef yr un problemau datblygiad ac ymddygiad emosiynol sy'n deillio o wahanu a diffyg parhad a sicrwydd â phlant sy'n derbyn gofal. Mae'n adeg briodol yn awr i gymeradwyo sefydliadau fel Teuluoedd a Ffrindiau Carcharorion a Barnardo's, yn ogystal â'r gwaith rhagorol a wneir yng ngharchar Parc ar gynnal cysylltiadau teuluol cryf, rhwng tadau a'u plant yn yr achosion hyn. Ond mae'n adeg dda i gofio hefyd, er bod plant yn gyffredinol yn aros gartref gyda mam pan fo dad yn y carchar, pan fo mam yn y carchar, mae 12 y cant o'r plant hynny'n mynd yn rhan o'r system ofal. Mae carcharu mamau nid yn unig yn creu mwy o alw ar ofalwyr sy'n berthnasau heb gefnogaeth, ond mae hefyd yn dod â mwy o blant i mewn i'r system ofal. Gwyddom fod mwy o bobl sy'n gadael gofal yn mynd yn droseddwyr na'u cyfoedion. Gwyddom fod mwy o blant i garcharorion yn mynd yn droseddwyr na'u cyfoedion. Mae'r plant hyn yn wynebu risg dwbl o gael eu carcharu, ac rwy'n gobeithio y bydd unrhyw symudiadau tuag at wella rhianta corfforaethol yn rhoi ystyriaeth arbennig i'r garfan benodol hon o blant. Diolch.
Can I say I'm very pleased to take part in this really important debate that's been brought by cross-party Members? Can I start my contribution by quoting from the children's commissioner's report on the review of children's rights in residential care, which was launched today, a quote about not lacking anything? Phoebe, aged 13, has been in care since she was six months old, had more than 25 placements and she was quoted as saying: 'I wanna stay until hopefully the sun comes out and gives me a nice life.' Well, there but for the grace of God go I, for many. Let's make sure we can work together to achieve this. I'd like to say thank you to Assembly Members across the Chamber today for tabling this debate. It's particularly clear that there is consensus amongst Members from all parties that looked-after children should be supported so that they have the same start in life and opportunities as those for all other children. I was really concerned when David had the book on his desk, because I wasn't sure whether they were going to be questions or what. But I'm very grateful for the Member's contribution and continued support in this. I support the motion. I will be working to facilitate effective collaboration across national and local Government and with all our partners in the community and third sector to improve outcomes for looked-after children. But they're just words on my paper, and I think the real key here is about how we are able to implement those processes. I listened carefully to the contributions of Mark Isherwood and many who mentioned the Prison Reform Trust with regard to the children's sub-committee that David also mentioned. I think that, when the report came out, we were in a slightly different place because the legislation then was very different to what we have now. In the last Government, we introduced the well-being of future generations Act, which now places a duty on 44 public bodies, including Government, on how we work very differently together. I can tell you that, as a Minister of the last administration and a Minister of this administration that, in only very early days, it is a very different way we operate in terms of joined-up working. I know that the First Minister and I are very keen to try and understand whether the sub-committee would add value or whether the legislation that we have in place now will commit and demonstrate that we can work differently across organisations. I would ask Members just to give us some space in order that we can achieve that. We are in the same place with you. The First Minister has made it very clear that he would like to see a more collaborative approach to policy development, and the policy portfolios demonstrate this and strengthen our ability to work collaboratively -
A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon a gyflwynwyd gan yr Aelodau trawsbleidiol? A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddyfynnu o adroddiad y comisiynydd plant ar yr adolygiad o hawliau plant mewn gofal preswyl, a lansiwyd heddiw, dyfyniad am beidio â bod yn brin o ddim? Mae Phoebe, 13 oed, wedi bod mewn gofal ers pan oedd yn chwe mis oed, wedi cael mwy na 25 o leoliadau a dyfynnwyd hi'n dweud: 'Rydw i eisiau aros nes bod yr haul yn dod allan, gobeithio, ac yn rhoi bywyd braf i fi.' Wel, mae llawer yn diolch i Dduw nad ydynt yn yr un sefyllfa. Gadewch i ni sicrhau y gallwn weithio gyda'n gilydd i gyflawni hyn. Hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad ar draws y Siambr heddiw am gyflwyno'r ddadl hon. Mae'n arbennig o glir fod yna gonsensws ymhlith Aelodau o bob plaid y dylid cefnogi plant sy'n derbyn gofal er mwyn iddynt gael yr un cyfleoedd a'r un dechrau mewn bywyd â phob plentyn arall. Roeddwn yn bryderus iawn pan oedd y llyfr gan David ar ei ddesg, gan nad oeddwn yn siŵr a oedd cwestiynau'n mynd i fod. Ond rwy'n ddiolchgar iawn am gyfraniad a chefnogaeth barhaus yr Aelod yn hyn o beth. Rwy'n cefnogi'r cynnig. Byddaf yn gweithio i hwyluso cydweithredu effeithiol ar draws y Llywodraeth genedlaethol a Llywodraeth leol a gyda'n holl bartneriaid yn y gymuned a'r trydydd sector i wella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal. Ond geiriau ar fy mhapur yn unig yw'r rhain, a chredaf mai'r allwedd go iawn yn y fan hon yw sut y gallwn roi'r prosesau hynny ar waith. Gwrandewais yn ofalus ar gyfraniadau Mark Isherwood a llawer o bobl a grybwyllodd yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai mewn perthynas â'r is-bwyllgor plant, y soniodd David amdano hefyd. Credaf ein bod mewn lle ychydig yn wahanol pan gyhoeddwyd yr adroddiad gan fod y ddeddfwriaeth ar y pryd yn wahanol iawn i'r hyn sydd gennym yn awr. Yn y Llywodraeth ddiwethaf, cyflwynwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sydd bellach yn gosod dyletswydd ar 44 o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys y Llywodraeth, o ran y modd y gweithiwn gyda'n gilydd mewn ffyrdd gwahanol iawn. Fel un o Weinidogion y weinyddiaeth ddiwethaf ac un o Weinidogion y weinyddiaeth hon, gallaf ddweud wrthych ein bod yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn, yn y dyddiau cynnar hyn, o ran gweithio cydgysylltiedig. Gwn fod y Prif Weinidog a minnau yn awyddus iawn i geisio deall a fyddai'r is-bwyllgor yn ychwanegu gwerth, neu a fydd y ddeddfwriaeth sydd gennym ar waith yn awr yn ymrwymo ac yn dangos y gallwn weithio mewn ffyrdd gwahanol ar draws sefydliadau. Byddwn yn gofyn i'r Aelodau roi ychydig o le i ni er mwyn i ni allu cyflawni hynny. Rydym yn yr un lle â chi. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn y byddai'n hoffi gweld dull mwy cydweithredol o ddatblygu polisi, ac mae'r portffolios polisi yn dangos hyn ac yn cryfhau ein gallu i weithio'n gydweithredol -
Of course, David, yes.
Wrth gwrs, David, gwnaf.
He's asking for a bit of time to see how current processes are working and, you know, he probably wants to avoid too bureaucratic an approach if what we want to achieve is now going to be increasingly likely given new processes. After a year or so, if you want to review things, that's fine, but will you come back and report on how interdepartmental co-operation in the Welsh Government is now producing better outcomes?
Mae'n gofyn am ychydig o amser i weld sut y mae prosesau presennol yn gweithio, ac mae'n debyg, wyddoch chi, ei fod yn dymuno osgoi ymagwedd rhy fiwrocrataidd os yw'r hyn rydym am ei gyflawni am fod yn fwyfwy tebygol o ddigwydd bellach, o ystyried prosesau newydd. Ar ôl blwyddyn neu ddwy, os ydych am adolygu pethau, mae hynny'n iawn, ond a wnewch chi ddod yn ôl i adrodd ar sut y mae cydweithredu rhyngadrannol yn Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu gwell canlyniadau yn awr?
Indeed. The Member raises a very valid point, and I have no doubt - . I would be very happy to come back in 12 months, or before if I think there are some issues. I am absolutely committed to making sure that we can do something about this. I'm grateful for the Member's suggestion. As the Cabinet Secretary for Communities and Children, my priority is to improve the well-being and economic prosperity of individuals and communities, and I am clear that the roots of well-being and economic prosperity lie in childhood. We must invest in our children so that they can have the best possible outcomes to contribute effectively to society for the future. We know that the outcomes of looked-after children do not compare favourably with other children. Many have been quoted today. They are less likely to achieve good educational qualifications, have greater health and housing needs, and these young people are more likely to become involved in substance misuse and to come into contact with the criminal justice system, and this is not acceptable. I did listen very carefully to some of the arguments about the five GCSEs and attainment level at certain ages, and what I would like Members to consider in that proposal is that we need a much more holistic approach to what we must tackle because educational attainment is not everything; it's about the roundness of the individual as well. I've seen a study recently, where - . It was a study about NEETs, where five GCSEs weren't attained by individuals trying to going into employment. But the study of the local area also looked at people who were employed and, actually, the people who were employed outweighed the number of non-NEETs with people who had no qualifications in work. The problem I have with that is about - well, what is it that looked-after children or people with fewer than five GCSEs - . What is the roundness of them growing up? I've been doing a little bit of work with Public Health Wales and I've sent David a link during this debate about what Members should perhaps have a think about - the adverse childhood experiences that Public Health Wales have been working on. I would suggest that many of the children found in the care system have had more than five adverse childhood experiences. One of the Members - Suzy - mentioned incarceration. I know that young people who have five hits on adverse childhood experiences are 20 per cent more likely to find themselves incarcerated later in life. We must do something about the prevention end, about making sure we look after children early on as well as in the system currently. It's a twin-track approach that my department and my team will be working to achieve.
Gwnaf. Mae'r Aelod yn nodi pwynt dilys iawn, ac rwy'n siŵr - . Byddwn yn hapus iawn i ddychwelyd mewn 12 mis, neu cyn hynny os credaf fod yna broblemau. Rwy'n gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr y gallwn wneud rhywbeth am hyn. Rwy'n ddiolchgar am awgrym yr Aelod. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, fy mlaenoriaeth yw gwella lles a ffyniant economaidd unigolion a chymunedau, ac rwy'n argyhoeddedig fod gwreiddiau lles a ffyniant economaidd mewn plentyndod. Mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn ein plant i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar eu cyfer er mwyn iddynt allu cyfrannu'n effeithiol at gymdeithas yn y dyfodol. Gwyddom nad yw'r canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal yn cymharu'n ffafriol â phlant eraill. Dyfynnwyd llawer ohonynt heddiw. Maent yn llai tebygol o ennill cymwysterau addysgol da, mae ganddynt fwy o anghenion iechyd ac anghenion ym maes tai, ac mae'r bobl ifanc hyn yn fwy tebygol o gamddefnyddio sylweddau a dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol, ac nid yw hyn yn dderbyniol. Gwrandewais yn ofalus iawn ar rai o'r dadleuon ynglŷn â'r pum TGAU a lefelau cyrhaeddiad ar oedrannau penodol, a'r hyn yr hoffwn i'r Aelodau ei ystyried yn y cynnig hwnnw yw bod angen agwedd lawer mwy cyfannol arnom tuag at yr hyn sy'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef gan nad yw cyrhaeddiad addysgol yn bopeth; mae hyn yn ymwneud â chyfanrwydd yr unigolyn hefyd. Gwelais astudiaeth yn ddiweddar, lle - . Astudiaeth o bobl NEET oedd hi, lle nad oedd unigolion a oedd yn ceisio cael gwaith wedi cael pum TGAU. Ond roedd yr astudiaeth o'r ardal leol hefyd yn edrych ar bobl mewn gwaith, ac mewn gwirionedd, roedd mwy o bobl mewn gwaith na'r nifer o bobl nad oeddent yn NEET gyda phobl heb gymwysterau mewn gwaith. Mae'r broblem sydd gennyf gyda hynny yn ymwneud â - wel, beth y mae plant sy'n derbyn gofal neu bobl sydd â llai na phum TGAU - . Pa mor gyflawn ydynt wrth fynd yn hŷn? Rwyf wedi bod yn gwneud ychydig o waith gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac rwyf wedi anfon dolen at David yn ystod y ddadl hon ynglŷn â'r hyn y dylai Aelodau feddwl amdano o bosibl - y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn gweithio arnynt. Byddwn yn awgrymu bod llawer o'r plant yn y system ofal wedi cael mwy na phum profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod. Soniodd un o'r Aelodau - Suzy - am garchar. Gwn fod pobl ifanc sydd wedi cael pum profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod 20 y cant yn fwy tebygol o gael eu carcharu yn nes ymlaen yn eu bywydau. Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth ynglŷn ag atal, ynglŷn â sicrhau ein bod yn edrych ar ôl plant yn gynnar yn ogystal ag yn y system ar hyn o bryd. Bydd fy adran a fy nhîm yn gweithio i sicrhau ymagwedd ddeublyg.
Thank you. Cabinet Secretary, I'd be very grateful then - . Listening to what you have to say brought joy to my heart because this is an area I've been very concerned about with the Donaldson review. Therefore, given what you say about having five GCSEs at C grade or above as being the measure by which we measure the people here in Wales - and we have so many young people, just under a quarter of young people, with learning difficulties who will struggle to get that attainment, will you talk with the education Secretary, and actually review during the Donaldson Review two things - one about how you can look at that very much tick-box exercise we have, to measure the academic achievement of individuals, and secondly, how we might be able to bring what you've just mentioned, that learning skill, to develop the rounded person? Because you're absolutely right - a good education is not to do with exams, and not to do with syllabus, but much more about developing a good citizen.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn ddiolchgar iawn felly - . Roedd gwrando ar yr hyn a oedd gennych i'w ddweud yn galondid gan fod hwn yn faes y bûm yn bryderus iawn yn ei gylch gydag adolygiad Donaldson. Felly, o ystyried yr hyn a ddywedwch ynglŷn â chael pum TGAU gradd C neu uwch fel dull o fesur y bobl yma yng Nghymru - ac mae gennym gymaint o bobl ifanc, bron i chwarter y bobl ifanc, ag anawsterau dysgu ac a fydd yn ei chael yn anodd cyrraedd y lefel honno, a wnewch chi siarad â'r Ysgrifennydd addysg, ac adolygu dau beth yn ystod Adolygiad Donaldson - un ynglŷn â sut y gallwch edrych ar yr ymarfer ticio blychau hwnnw sydd gennym i raddau helaeth, i fesur cyflawniad academaidd unigolion, ac yn ail, sut y gallem gyflwyno'r hyn y sonioch amdano, y sgil dysgu hwnnw, i ddatblygu'r unigolyn cyflawn? Oherwydd rydych yn hollol gywir - nid yw addysg dda yn ymwneud ag arholiadau, na'r maes llafur, ond yn hytrach mae'n ymwneud â datblygu dinesydd da.
I'm very glad the Member intervened. You know, we're a victim of our own success. We chase targets far too often without looking at people. And the rights and wrongs of that, with opposition parties and politicians, is that there's a great chance to chastise people to say, 'You haven't made the 5 GCSEs', when, actually, we're forgetting about the individual, and particularly looked-after children. So, my priority and my team's department priorities will be making sure that we can tackle ACEs early on - adverse childhood experiences - which we think, longer term, will give us a better outcome, and a rounded person, for people who, hopefully, won't even enter the care system in that process. Over the last two years, we have seen a reduction in the number of looked-after children in Wales, but I ask Members again to look with caution at the numbers in care, because we bandy those numbers about, but, actually, sometimes, it is the right thing for children to be protected in their environment. And I will be looking to reverse the trend and make sure that we continue on a reduction as it's safe to do so, and supporting communities in this Assembly term. I will be reconvening the improving outcomes for children strategic steering group, established by the former Minister for Health and Social Services, to drive forward reform and develop a national approach to looked-after children in Wales. Since its establishment, in September 2015, the group has brought together key stakeholders who will, and have looked at looked-after children's foster carers and adopters. There's much more work to be done here, and across Government departments. I reflect again what I said earlier about the WFG Act, where all departments across the Government are looking at education, housing, tackling poverty and public health - how we all can make a contribution to the benefit of young people. Going forward, the group will identify what early intervention and preventative action could be taken to help reduce the numbers of children taken into care, and consequently bringing down the incidences of adverse childhood experiences. The group's work programme will be based around three key themes. One, preventing children entering care and early intervention; two, improving outcomes for children already in care; and supporting care leavers to have successful futures and independent living. Successful outcomes in this area require collaboration and leadership across departments within national and local governments, and I heard the Members raise issues around the synergies between social services and education, and that's absolutely the right thing to do. For children already in care, we are committed to improving the provision of high-quality placements that meet their needs, and give them the stability and support they need in order to thrive. This includes implementing a new national fostering framework, reviewing our special guardianship orders and promoting greater support for kinship carers. We particularly want to ensure that all children and young people reach their full potential in education. The Welsh Government published a joint education and social services strategy in January, to raise the educational attainments of looked-after children, which sets out clear actions for improvement. I will be reviewing those numbers. [Intervention.] Indeed.
Rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi ymyrryd. Wyddoch chi, rydym yn dioddef oherwydd ein llwyddiant ein hunain. Rydym yn ceisio cyrraedd targedau yn llawer rhy aml heb edrych ar bobl. A'r hyn sy'n gywir neu'n anghywir am hynny, gyda'r gwrthbleidiau a gwleidyddion eraill, yw bod cyfle gwych i geryddu pobl drwy ddweud, 'Nid ydych wedi llwyddo i gael 5 TGAU', pan ydym, mewn gwirionedd, yn anghofio am yr unigolyn, yn enwedig plant sy'n derbyn gofal. Felly, fy mlaenoriaeth i a blaenoriaethau adran fy nhîm yw gwneud yn siŵr y gallwn fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gynnar, a chredwn y bydd hynny, yn y tymor hwy, yn sicrhau gwell canlyniad, ac unigolyn cyflawn, i bobl na fydd, gobeithio, yn mynd i mewn i'r system ofal yn y broses honno hyd yn oed. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, ond gofynnaf eto i'r Aelodau edrych yn ofalus ar y niferoedd hynny mewn gofal, gan ein bod yn taflu'r niferoedd hynny o gwmpas, ond mewn gwirionedd, y peth iawn i'w wneud, weithiau, yw diogelu plant yn eu hamgylchedd. A byddaf yn ceisio gwrthdroi'r duedd a sicrhau ein bod yn parhau i ostwng y niferoedd fel sy'n ddiogel, gan gefnogi cymunedau yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Byddaf yn ailymgynnull y grŵp llywio strategol ar gyfer gwella canlyniadau i blant, a sefydlwyd gan y cyn-Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ysgogi'r broses o ddiwygio a datblygu dull cenedlaethol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Ers ei sefydlu ym mis Medi 2015, mae'r grŵp wedi dwyn rhanddeiliaid allweddol ynghyd a fydd yn edrych, ac sydd wedi edrych, ar ofalwyr maeth a mabwysiadwyr plant sy'n derbyn gofal. Mae llawer o waith i'w wneud yma, ac ar draws adrannau'r Llywodraeth. Dychwelaf at yr hyn a ddywedais yn gynharach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, lle mae pob adran ar draws y Llywodraeth yn edrych ar addysg, tai, trechu tlodi ac iechyd cyhoeddus - sut y gallwn oll wneud cyfraniad er budd pobl ifanc. Wrth symud ymlaen, bydd y grŵp yn nodi pa ymyrraeth gynnar a chamau ataliol y gellid eu cymryd i helpu i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal, gan ostwng nifer yr achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn sgil hynny. Bydd rhaglen waith y grŵp yn seiliedig ar dair thema allweddol. Un, atal plant rhag cael eu rhoi mewn gofal ac ymyrraeth gynnar; dau, gwella canlyniadau i blant sydd eisoes mewn gofal; a chynorthwyo pobl sy'n gadael gofal i gael dyfodol llwyddiannus a byw'n annibynnol. Mae canlyniadau llwyddiannus yn y maes hwn yn dibynnu ar gydweithrediad ac arweinyddiaeth ar draws adrannau llywodraeth genedlaethol a lleol, a chlywais yr Aelodau'n tynnu sylw at faterion yn ymwneud â'r synergedd rhwng gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, a heb os, dyna'r peth iawn i'w wneud. Ar gyfer plant sydd eisoes mewn gofal, rydym wedi ymrwymo i wella'r ddarpariaeth o leoliadau o ansawdd uchel sy'n diwallu eu hanghenion, a rhoi'r sefydlogrwydd a'r cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu. Mae hyn yn cynnwys rhoi fframwaith maethu cenedlaethol newydd ar waith, adolygu ein gorchmynion gwarcheidwaeth arbennig a hybu rhagor o gymorth i ofalwyr sy'n berthnasau. Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cyrraedd eu potensial addysgol llawn. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth addysg a gwasanaethau cymdeithasol ar y cyd ym mis Ionawr, i godi cyraeddiadau addysgol plant sy'n derbyn gofal, ac mae'n nodi camau gweithredu clir ar gyfer gwella. Byddaf yn adolygu'r ffigurau hynny. [Ymyriad.] Yn wir.
Thank you, Cabinet Secretary. You touched on this, but how much work have you done on looking at that transition period between the age of 18 and that period when children in care are going on into adulthood? Because I've spoken to a number of young people who feel that the transition is too abrupt, and they go from a very cared, look-after environment into an environment where they really don't feel equipped to deal with the world.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi crybwyll hyn, ond pa waith rydych wedi'i wneud ar edrych ar y cyfnod pontio rhwng 18 oed a'r cyfnod pan fydd plant mewn gofal yn dod yn oedolion? Oherwydd rwyf wedi siarad â nifer o bobl ifanc sy'n teimlo bod y pontio'n rhy sydyn, a'u bod yn mynd o amgylchedd gofalgar a diogel iawn, i amgylchedd lle nad ydynt yn teimlo'u bod yn barod i ymdrin â'r byd.
Of course, and I think the Member's right to raise that issue too. Look, we are talking about some very special people here. The programme we run is When I'm Ready, and making sure that is ready for the individual, not when it's good for service providers. It's about real people here - that's what we've got to get underneath. Regardless of the age profile, I think we just need to understand better how we deliver good-quality services. So, finally Presiding Officer - I'm very aware of the time and she's been very kind to me this afternoon - can I say that what we need to do is work together? The cross-party group will continue to work with us - I take advice, and listen very carefully to you. I will report back to the Senedd about our progress in this very important area to me, and I know to Members, and it has cross-party support. So I urge Members today to support the motion; the Government will.
Wrth gwrs, a chredaf fod yr Aelod yn iawn i grybwyll y mater hwnnw hefyd. Edrychwch, rydym yn sôn am bobl arbennig iawn yma. Y rhaglen sydd gennym yw Pan Fydda i'n Barod, a sicrhau bod hynny'n golygu pan fo'r unigolyn yn barod, nid pan fo'n gyfleus i ddarparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn ymwneud â phobl go iawn - dyna sy'n rhaid i ni ei ddirnad. Waeth beth fo'r proffil oedran, credaf fod yn rhaid i ni ddeall yn well sut i fynd ati i ddarparu gwasanaethau o safon uchel. Felly, yn olaf Lywydd - rwy'n ymwybodol iawn o'r amser ac mae hi wedi bod yn garedig iawn wrthyf y prynhawn yma - a gaf fi ddweud mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw gweithio gyda'n gilydd? Bydd y grŵp trawsbleidiol yn parhau i weithio gyda ni - byddaf yn cael cyngor, ac yn gwrando'n ofalus iawn arnoch. Byddaf yn adrodd yn ôl i'r Senedd ar ein cynnydd yn y maes hwn, sy'n bwysig iawn i mi. Gwn ei fod yn bwysig i'r Aelodau hefyd, ac mae ganddo gefnogaeth drawsbleidiol. Felly rwy'n annog yr Aelodau heddiw i gefnogi'r cynnig; bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny.
Diolch, Lywydd. Thank you very much for all the contributions to the debate. I'm very pleased to wind up this debate about the ways we can strengthen inter-departmental working to improve outcomes for looked-after children. Making sure our children have happy, fulfilled lives must be one of the most important functions of this Assembly. Children don't have a voice, so that's why we have to speak up for them, and looked-after children particularly don't have a voice. In his opening speech, David Melding, once again, showed his commitment to looked-after children and the great job that he's always done in this Assembly to look after their interests. He talked about 'Lost in Care', 17 years ago now, and the way that practice has changed since then, but the challenge still remains. He called for something similar to the Cabinet sub-committee that is recommended by the Prison Reform Trust, as well as covering, in a wide-ranging speech, educational attainment, the permanence of education and the participation of children in the decisions about their lives. Lee Waters talked about the further education system. He talked about the need for specific support for looked-after children in FE, the sixth form and higher education. He gave examples of good practice, such as having designated learning coaches, and wanted to know what we could do here to pursue those ends. Mark Isherwood mentioned the fact that advocacy is inconsistent across Wales and called on the Government to tell us what the timetable is for the implementation of a national approach to statutory advocacy. Llyr Gruffydd called for a relentless focus on outcomes and asked whether the task and finish group that is looking at the outcomes for children not in education, employment or training could maybe look at the outcomes as well for care leavers within that particular group. Janet Finch-Saunders paid tribute to those looking after children and wanted to look into the impact of Welsh Government funding, especially the pupil deprivation grant, on the outcomes for children who are in care. She also stressed the need for after-adoption support, and how important that is. This was something that was also reflected in Suzy Davies's contribution: that children are often placed with parents, and after the placement, there is nowhere to turn. So, that was an important point made there. Also, she raised a very important point about what the effect is on children when parents are imprisoned, particularly when the mother is imprisoned, and how often that does lead to an admission into care and how we have to deal very carefully with those very, very difficult areas - contact with fathers in particular. I think that was a very important point. Then, the Cabinet Secretary told us about his commitment to doing something about this very important area of work. He started off by saying the quote in Sally Holland's recent publication: 'I wanna stay untilthe sun comes out'. I think that really says what we feel about this particular subject - that we don't want our children in care to be feeling that everything is insecure - and I think that quote covers it all. He said that we must invest in our children and talked about the importance of the well-being of future generations Act. He gave a commitment that, during this Assembly, we would be working, and the Government would be working relentlessly as a Government, to raise the quality of life for children who are in care and to ensure that they get the sort of support and commitment that children who live in their own families do. So, I'd like to thank everybody for taking part in this debate today and I think it's a first step in all the work that we will be doing in this Assembly over the next five years.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn am yr holl gyfraniadau i'r ddadl. Rwy'n falch iawn o gloi'r ddadl hon ynglŷn â'r ffyrdd y gallwn gryfhau gweithio rhyngadrannol er mwyn gwella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal. Mae'n rhaid mai'r broses o sicrhau bod ein plant yn cael bywydau hapus a chyflawn yw un o swyddogaethau pwysicaf y Cynulliad hwn. Nid oes llais gan blant, yn enwedig plant sy'n derbyn gofal, felly dyna pam y mae'n rhaid i ni siarad ar eu rhan. Yn ei araith agoriadol, dangosodd David Melding ei ymrwymiad, unwaith eto, i blant sy'n derbyn gofal a'r gwaith gwych y mae bob amser wedi'i wneud yn y Cynulliad hwn i warchod eu buddiannau. Soniodd am 'Ar Goll mewn Gofal', 17 mlynedd yn ôl erbyn hyn, a'r ffordd y mae arferion gwaith wedi newid ers hynny, ond mae'r her yn dal yno. Mewn araith bellgyrhaeddol, galwodd am rywbeth tebyg i'r is-bwyllgor Cabinet a argymhellir gan yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai, yn ogystal â thrafod cyrhaeddiad addysgol, sefydlogrwydd addysg a chyfranogiad plant mewn penderfyniadau ynglŷn â'u bywydau. Siaradodd Lee Waters am y system addysg bellach. Soniodd am yr angen am gymorth penodol i blant sy'n derbyn gofal mewn addysg bellach, y chweched dosbarth ac addysg uwch. Rhoddodd enghreifftiau o arferion da, megis cael anogwyr dysgu dynodedig, ac roedd yn awyddus i wybod beth y gallem ei wneud yma i fynd ar drywydd yr amcanion hynny. Soniodd Mark Isherwood am y ffaith fod eiriolaeth yn anghyson ar draws Cymru a galwodd ar y Llywodraeth i ddweud wrthym beth yw'r amserlen ar gyfer gweithredu cyfeiriad cenedlaethol ar gyfer darparu eiriolaeth statudol. Galwodd Llyr Gruffydd am ffocws diwyro ar ganlyniadau a gofynnodd a allai'r grŵp gorchwyl a gorffen sy'n edrych ar y canlyniadau i blant nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant edrych hefyd ar y canlyniadau i rai sy'n gadael gofal o fewn y grŵp penodol hwnnw. Talodd Janet Finch-Saunders deyrnged i'r rhai sy'n gofalu am blant ac roedd yn awyddus i edrych ar effaith cyllid Llywodraeth Cymru, yn enwedig y grant amddifadedd disgyblion, ar y canlyniadau i blant mewn gofal. Pwysleisiodd hefyd yr angen am gymorth ar ôl mabwysiadu, a pha mor bwysig yw hynny. Roedd hyn yn rhywbeth a adlewyrchwyd hefyd yng nghyfraniad Suzy Davies: fod plant yn aml yn cael eu lleoli gyda rhieni, ac ar ôl eu lleoli, nid oes unman i droi. Felly, roedd hwnnw'n bwynt pwysig a wnaed. Yn ogystal, nododd bwynt pwysig iawn ynglŷn â'r effaith ar blant pan fo rhieni'n cael eu carcharu, yn enwedig pan fo'r fam yn cael ei charcharu, a pha mor aml y mae hynny'n arwain at roi plant mewn gofal a sut y mae'n rhaid i ni ymdrin â materion eithriadol o anodd o'r fath yn ofalus iawn - cyswllt gyda thadau yn benodol. Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Yna, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthym am ei ymrwymiad i wneud rhywbeth ynglŷn â'r maes gwaith pwysig hwn. Dechreuodd drwy ddyfynnu o gyhoeddiad diweddar Sally Holland: Rwyf am aros nes y daw'r haul allan. Credaf fod hynny'n cyfleu i'r dim yr hyn a deimlwn ynglŷn â'r pwnc penodol hwn - nad ydym am i'n plant mewn gofal deimlo bod popeth yn ansicr - a chredaf fod y dyfyniad hwnnw'n cyfleu popeth. Dywedodd fod yn rhaid i ni fuddsoddi yn ein plant a siaradodd am bwysigrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Rhoddodd ymrwymiad y byddem yn gweithio yn ystod y Cynulliad hwn, ac y byddai'r Llywodraeth yn gweithio'n ddiflino fel Llywodraeth, i wella ansawdd bywyd plant mewn gofal ac i sicrhau eu bod yn cael yr un gefnogaeth ac ymrwymiad â phlant sy'n byw gyda'u teuluoedd eu hunain. Felly, hoffwn ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw a chredaf mai cam cyntaf yw hwn yn yr holl waith y byddwn yn ei wneud yn y Cynulliad hwn dros y pum mlynedd nesaf.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? If not, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
And the next item on the agenda is the Plaid Cymru debate on the electoral system, and I call on Sian Gwenllian to move the motion.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl yn enw Plaid Cymru ar y system etholiadol, ac rwy'n galw ar Sian Gwenllian i gyflwyno'r cynnig.
Thank you. We've tabled this debate today because it's become clear that there is a need to change the present democratic process. Forget about the referendum for a moment, if you can, because, generally, people believe or feel that their vote doesn't count. There is a need for them to see that there is a purpose for them voting and reforming the system is one way of tackling this complex issue. So, Plaid Cymru is of the view that the Wales Bill should make a provision to introduce a single transferable vote in order to secure equitable representation for every political viewpoint.
Diolch. Rydym wedi gosod y ddadl yma heddiw am ei bod hi'n dod yn glir bod angen newid y broses ddemocrataidd bresennol. Anghofiwch am y refferendwm am funud, os medrwch chi, achos, yn gyffredinol, mae pobl yn teimlo nad ydy eu pleidlais yn cyfrif. Mae angen i bobl weld bod pwrpas iddyn nhw bleidleisio, ac mae diwygio'r drefn yn un ffordd o fynd i'r afael â'r broblem ddyrys hon. Felly, mae Plaid Cymru o'r farn y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy, a hynny er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg ar gyfer pob safbwynt gwleidyddol.
Before coming to that, I will touch on two other issues. The first is the need for young people between 16 and 17 to be allowed to vote. That is vital by now, because young people were angry and frustrated that their voices were not heard in the referendum, and there is also a need for us to create a youth parliament in Wales, because Wales is the only country without such a parliament. We must move forward in order to bring young people into politics. Obviously, it would make it easier for them to vote, by introducing online voting, for example, and introducing political education in schools would also be important. But, turning to this subject, then, in 2012 only 39 per cent of people voted, and in this year's National Assembly election, just over 45 per cent voted. So, it's obvious that people feel there's no point in voting, because it's the same people who win all the time. I'll give you two examples. In 2012, in the Sketty ward in Swansea, the Liberal Democrats won five seats with only 37.5 per cent of the vote. Labour received 29.2 per cent, and the Conservatives 20 per cent, but yet again, they weren't able to win any of the seats. And, in a more notorious example, in 2008, in Cardiff, the Liberal Democrats won the majority of seats with only a third of the votes. Over the years, every party has benefited from the first-past-the-post system, and every party has suffered because of it also, but that's not what I'm talking about here. The STV system is used successfully in both Scotland and Northern Ireland. Scotland uses it in local elections, and nobody - no-one - in Scotland is elected without opposition. It has improved accountability and it's actually made politics more vibrant, and it's not just me saying this, but the Labour leaders in Glasgow and Edinburgh. In Northern Ireland, they are doubtful whether the peace process could have been agreed without it. And the Richard commission had actually recommended STV for our Assembly here. I turn to some of the arguments that are presented to oppose STV. The idea of proportional representation was rejected for the 2011 elections, but it wasn't a proportional system that was in hand - some of us will remember the campaign at the time: 'No to AV, Yes to PR'. Some people say that STV is difficult to understand, but I reject that totally, because that's a bit of an insult to the voters in Scotland and Northern Ireland who have no difficulty whatsoever in understanding the system. So, this idea that it stops any particular party from winning or always leads to coalition, well, that's life sometimes. Sometimes that happens in a democracy, and the modelling on STV that has been undertaken in this country shows that it can create one-party Governments if those parties do well in an election. And the current system is also creating a system of no clear control. There are advantages in introducing STV in Assembly elections. Regional Members would be selected directly by the electors rather than by a party list system. It would lead to more positive politicking, because political parties would compete for the electors' second and third choices. And so, that would lead to more positive and mature campaigning. Those who would gain would be any politician that would work in a positive and constructive manner, and those who would lose out would be those who take the electors for granted. It would mean that the politics of Wales would gain, and, ultimately, this is very good for the people of Wales, and that is what we should have uppermost in our minds. Thank you.
Cyn manylu ar hynny, mi wnaf i gyffwrdd â'r ddau fater arall. Y cyntaf ydy'r angen i bobl ifanc rhwng 16 a 17 oed gael y bleidlais. Mae hynny'n hollol angenrheidiol bellach. Roedd pobl ifanc yn ddig ac yn rhwystredig nad oedd eu llais yn cael ei glywed yn y refferendwm. Mae hefyd angen inni greu senedd i'r ifanc yng Nghymru. Cymru ydy'r unig wlad yn Ewrop sydd heb senedd o'r fath ac mae'n rhaid inni symud ymlaen efo hyn er mwyn tynnu pobl ifanc mewn i wleidyddiaeth. Yn amlwg, mi fyddai ei gwneud hi'n haws inni bleidleisio yn helpu, drwy gyflwyno pleidleisio ar-lein, er enghraifft, ac mi fyddai sicrhau mwy o addysg wleidyddol o help mawr hefyd. Ond, i droi at y pwnc dan sylw, felly, yn etholiadau'r cynghorau sir yn 2012, dim ond 39 y cant o bobl bleidleisiodd. Ac yn etholiadau'r Cynulliad eleni, ychydig dros 45 y cant a aeth i bleidleisio. Mae'n amlwg bod rhai pobl yn meddwl nad oes pwrpas pleidleisio ac mai'r un rhai sy'n ennill bob tro. Mi wnaf i jest roi dwy enghraifft i chi. Yn 2012, yn ward Sgeti Abertawe, fe enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol bum sedd gydag ond 37.4 y cant o'r bleidlais. Cafodd Llafur 29.2 y cant a'r Ceidwadwyr 20 y cant ond, eto, yn methu ag ennill yr un sedd. Mewn enghraifft fwy enwog, efallai, yn 2008 yng Nghaerdydd, y Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill y mwyafrif o seddi efo dim ond traean o'r pleidleisiau. Dros y blynyddoedd, mae pob plaid wedi elwa o'r system cyntaf heibio'r post ac mae pob plaid wedi dioddef o'i oherwydd o hefyd. Nid dyna sydd o dan sylw fan hyn. Mae'r system STV yn cael ei defnyddio yn llwyddiannus yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r Alban yn ei defnyddio mewn etholiadau lleol ac nid oes yna neb - neb - yn yr Alban yn cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Mae wedi gwella atebolrwydd ac wedi bywiogi gwleidyddiaeth. Nid fi sy'n dweud hyn ond arweinwyr Llafur yn Glasgow a Chaeredin. Mae Gogledd Iwerddon yn defnyddio STV ar gyfer ethol y Cynulliad ac mae'n amheus a fyddai'r ddwy ochr wedi gallu cytuno ar y broses heddwch hebddi hi. Mi oedd comisiwn Richard wedi argymell STV ar gyfer ein Cynulliad ni. Mi wnaf i droi at rai o'r dadleuon sy'n cael eu cyflwyno i wrthwynebu STV. Y syniad bod cynrychiolaeth gyfrannol wedi'i gwrthod yn refferendwm 2011 - wel, yn syml, nid system gyfrannol oedd dan sylw bryd hynny ac fe fydd rhai ohonom ni'n cofio'r ymgyrch ar y pryd: 'No to AV, Yes to PR'. Mae rhai'n dweud bod STV yn anodd ei deall. Wel, nid wyf yn derbyn hynny o gwbl, ac mae hynny'n dipyn bach o insylt, a dweud y gwir, i bleidleiswyr yr Alban a Gogledd Iwerddon sy'n cael dim trafferth o gwbl yn deall y system yna. Wedyn, mae'r syniad yma ei bod yn atal unrhyw blaid rhag ennill neu'n creu clymbleidiau drwy'r amser, wel, dyna fywyd weithiau. Mae hynny yn digwydd weithiau mewn democratiaeth. Mae'r modelu sydd wedi'i wneud o STV yn y gwledydd hyn yn dangos ei bod yn gallu creu llywodraethau un plaid os ydy'r pleidiau hynny yn gwneud yn dda mewn etholiad. Mae'r system bresennol yn creu sefyllfa o ddim rheolaeth glir, beth bynnag. Mae yna lawer o fanteision o gyflwyno STV. Mewn etholiadau'r Cynulliad, byddai Aelodau rhanbarthol yn cael eu dewis yn uniongyrchol gan yr etholwyr yn hytrach na thrwy system rhestr bleidiol. Byddai'n creu gwleidydda mwy positif gan y byddai pleidiau gwleidyddol yn cystadlu am ail a thrydydd dewis yr etholwyr, a byddai hynny'n golygu bod angen ymgyrchu mewn ffordd aeddfed iawn a phositif. Y rhai a fyddai ar eu hennill fyddai pob gwleidydd sy'n gweithio'n galed mewn modd positif. Y rhai a fyddai ar eu colled fyddai'r rhai sydd yn cymryd yr etholwyr yn ganiataol. Yn gyffredinol, felly, mi fyddai'n golygu y byddai gwleidyddiaeth Cymru ar ei hennill ac, yn y pen draw, mae hyn yn dda hefyd i bobl Cymru, a hynny ddylai fod ar ein meddyliau ni drwy'r amser. Diolch.
Thank you. I have selected the amendment to the motion and I call on the First Minister to move that amendment tabled in the name of Jane Hutt. First Minister.
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y gwelliant hwnnw, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Y Prif Weinidog.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Can I just say that the Conservative group will oppose the motion? But we will support the amendment, and, if the amendment carries, we will then support the amended motion. The problem I have with Plaid Cymru's approach is it endorses STV and I think we need to have thorough consideration of how it would operate in practice in the different levels of government. We don't have a line, as a group, on whether we should use a particular form of electoral arrangement, but we do think the power should come to the Assembly so that we can examine the choices.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud y bydd grŵp y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu'r cynnig? Ond byddwn yn cefnogi'r gwelliant, ac os caiff y gwelliant ei dderbyn, yna byddwn yn cefnogi'r cynnig fel y'i diwygiwyd. Fy mhroblem gyda dull Plaid Cymru yw ei fod yn cymeradwyo pleidlais sengl drosglwyddadwy a chredaf fod angen i ni ystyried yn drwyadl sut y byddai'n gweithredu'n ymarferol ar wahanol lefelau o lywodraeth. Nid oes gennym safbwynt fel grŵp ynglŷn ag a ddylem ddefnyddio ffurf benodol ar drefniant etholiadol, ond credwn y dylai'r grym ddod i'r Cynulliad er mwyn i ni allu edrych ar y dewisiadau.
I've barely started, but I will.
Nid wyf ond prin wedi dechrau, ond gwnaf.
I just want to elicit a little bit of information at the start. You said you don't have a line. Do you nevertheless accept the recommendation of the Richard commission that STV should be used for local government in Wales, even if you haven't made a decision around the Assembly itself?
Rwyf am gael ychydig o wybodaeth ar y cychwyn. Fe ddywedoch nad oes gennych safbwynt. Serch hynny, a ydych yn derbyn argymhelliad comisiwn Richard y dylid defnyddio pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, hyd yn oed os nad ydych wedi penderfynu ynglŷn â'r Cynulliad ei hun?
Well, I was going on to say that I think all electoral arrangements have their advantages and disadvantages. Now, for a long time, I've thought the disadvantages of first-past-the-post in an increasingly multi-party system, or in Wales where you have - or used to, anyway - a dominant party system, meant that we should look at other forms of election, but it is something I think we need to just carefully look at. Now, you can look at the Scottish experience and weigh up how people feel about living in large multi-member wards. Is that always appropriate for local government? I don't know. I think that's the sort of issue, the practical outcome, we need to examine and assess. So, 'yes' to us having the powers and 'yes' to us fully looking at the various options.
Wel, roeddwn am ddweud fy mod yn credu bod gan bob trefniant etholiadol ei fanteision a'i anfanteision. Nawr, rwyf wedi credu ers peth amser fod anfanteision system y cyntaf i'r felin mewn system gynyddol amlbleidiol, neu yng Nghymru lle mae gennych - neu'n arfer bod, beth bynnag - system gydag un blaid ddominyddol, yn golygu y dylem edrych ar ffyrdd eraill o ethol, ond mae'n rhywbeth y credaf y dylem ei ystyried yn ofalus. Nawr, gallwch edrych ar brofiad yr Alban a phwyso a mesur sut y mae pobl yn teimlo am fyw mewn wardiau mawr gyda nifer o aelodau. A yw hynny bob amser yn briodol ar gyfer llywodraeth leol? Nid wyf yn gwybod. Credaf mai dyna'r math o beth, y canlyniad ymarferol, sydd angen i ni ei archwilio a'i asesu. Felly, 'ydw' rwyf am i ni gael y pwerau ac 'ydw' rwyf am i ni edrych yn llawn ar y gwahanol opsiynau.
Will you agree with me that the current situation, where we do have large multi-member wards in our large inner cities, combined with first-past-the-post, really is anti-democratic, just as the example outlined?
A fyddech yn cytuno bod y sefyllfa bresennol, lle mae gennym wardiau mawr wedi'u cynrychioli gan nifer o aelodau yng nghanol ein dinasoedd mawr, wedi'i chyfuno â system y cyntaf i'r felin, yn wrth-ddemocrataidd mewn gwirionedd, yn union fel roedd yr enghraifft yn ei ddisgrifio?
Well, you know, I've said that I think there are advantages and disadvantages with whatever system you use. Frankly, the most elegant thing to do would be to use similar systems. So, there are implications: if you do it for local government, should you be doing it for the Assembly and quite a small legislature, and how would that work? As I say, I don't have a closed mind, but, speaking as the constitutional spokesman for the group, I have to emphasise that STV's not something we are prepared to endorse. I have to say, Gwenllian, I greatly enjoyed your mischief and the outrageous examples of liberal over-representation that you gave. I'm sure it would've entertained everyone in the Assembly, but I have to say that I come from a tradition where we've been on the receiving end of a system that rewards our 20 per cent of the vote with no representation at all for a long time, but my party has to face up to the fact that it's been sort of calmer in terms of outrage when it comes to a UK level, because we've often benefited greatly from winning general elections with sub-50 per cent performance, if I can put it as neutrally as that. So, look, it's appropriate that the power comes to the Assembly and then we fully consider it. I think, having said that, we would be looking to change some of the current systems, and we want to do that based on good, hard evidence.
Wel, wyddoch chi, dywedais fy mod yn credu bod manteision ac anfanteision ynghlwm wrth ba system bynnag a ddefnyddiwch. A dweud y gwir, y peth mwyaf taclus i'w wneud fyddai defnyddio systemau tebyg. Felly, mae yna oblygiadau: os ydych yn ei wneud ar gyfer llywodraeth leol, a ddylech ei wneud ar gyfer y Cynulliad a deddfwrfa gymharol fechan, a sut fyddai hynny'n gweithio? Fel y dywedais, mae fy meddwl yn agored, ond, gan siarad fel y llefarydd cyfansoddiadol ar ran y grŵp, mae'n rhaid i mi bwysleisio nad ydym yn barod i gymeradwyo pleidlais sengl drosglwyddadwy. Mae'n rhaid i mi ddweud, Gwenllian, fy mod wedi mwynhau eich direidi a'r enghreifftiau pryfoclyd o orgynrychiolaeth ryddfrydol a roesoch. Rwy'n siŵr eu bod wedi diddanu pawb yn y Cynulliad, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn dod o draddodiad lle rydym wedi dioddef o ganlyniad i system sy'n gwobrwyo ein 20 y cant o'r bleidlais â dim cynrychiolaeth o gwbl am amser hir, ond mae'n rhaid i fy mhlaid wynebu'r ffaith ei bod gryn dipyn yn dawelach mewn ffordd o ran dicter ar lefel y DU, gan ein bod yn aml wedi elwa'n fawr o ennill etholiadau cyffredinol â pherfformiad o lai na 50 y cant, os caf ei roi mor niwtral â hynny. Felly, edrychwch, mae'n briodol fod y pŵer yn dod i'r Cynulliad a'n bod yn ei ystyried yn llawn wedi hynny. Wedi dweud hynny, credaf y byddem yn awyddus i newid rhai o'r systemau presennol, ac rydym am wneud hynny'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn.
We've had democracy in the UK for some time but it has evolved gradually over the years. There were two great reform Acts of the nineteenth century that considerably extended the vote and eliminated many rotten boroughs. Some Members may recall from their reading of history the example of Old Sarum in Hampshire where the only elector was said to be a cat. Well, rotten boroughs of a sort still exist here in Wales: places like Blaenau Gwent, where one party - and I won't say who - won 81 per cent of the council seats on 55 per cent of the vote. There are other similar examples. Regardless of which party benefits, first-past-the-post is clearly a system of election that frequently creates a situation that the Labour Members like to refer to as a democratic deficit. Scrutiny and oversight of a council is clearly more difficult in a situation where one party holds a large majority of the seats. In such circumstances, the delivery of council services may suffer accordingly. Here in UKIP, we support the introduction of STV as a more democratic system. We will work with whoever else in the Chamber supports us on this issue. Thank you.
Rydym wedi cael democratiaeth yn y DU ers peth amser ond mae wedi esblygu'n raddol dros y blynyddoedd. Cafwyd dwy Ddeddf ddiwygio fawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a ymestynnodd y bleidlais yn sylweddol ac a ddileodd lawer o fwrdeistrefi pwdr. Efallai y bydd rhai o'r Aelodau'n cofio enghraifft Old Sarum yn Hampshire, o'u gwersi hanes, lle y dywedwyd mai cath oedd yr unig etholwr. Wel, mae bwrdeistrefi pwdr o fath yn dal i fodoli yma yng Nghymru: llefydd fel Blaenau Gwent, lle yr enillodd un blaid - ac ni ddywedaf pwy - 81 y cant o seddi'r cyngor â 55 y cant o'r bleidlais. Ceir enghreifftiau tebyg eraill. Ni waeth pa blaid sy'n elwa, mae system y cyntaf i'r felin yn amlwg yn system etholiadol sy'n aml yn creu sefyllfa y mae'r Aelodau Llafur yn hoffi cyfeirio ati fel y diffyg democrataidd. Mae'r gwaith o graffu a goruchwylio cyngor yn amlwg yn anos mewn sefyllfa lle mae mwyafrif helaeth y seddau gan un blaid. Mewn amgylchiadau o'r fath, efallai y bydd darpariaeth gwasanaethau'r cyngor yn dioddef yn sgil hynny. Yma yn UKIP, rydym yn cefnogi cyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy fel system fwy democrataidd. Byddwn yn gweithio gyda phwy bynnag arall yn y Siambr sy'n ein cefnogi yn y mater hwn. Diolch.
I'd like to thank everyone for their contributions. First of all, of course, there is an amendment before the Assembly that would broaden the scope of the case that has been put already in the Chamber. The purpose of the debate, of course, is to concentrate on the fact that the National Assembly will have the power to change the electoral arrangements at a local level, but also at an Assembly level, ultimately. And, of course, I am extremely supportive of that, as are these benches. It's very important that it's this Assembly that controls the system and the means by which we elect Members to this Assembly in future. Of course, it's true to say that the Wales Bill itself doesn't allow that only 51 per cent of the vote is required to change the system, and I think that's quite right, because, with such a fundamental change, it's very important that more than one party should support any change in the electoral arrangements. I wouldn't argue against that. But, for me, the problem that we have at present is the fact that the debate, as set out in the motion, is too narrow, because, instead of arguing that the Assembly should have the power to change the electoral system, it argues that the Assembly should have the power to change this system, but only to one alternative model. So, it narrows the debate, rather than broadening it. So, what the amendment seeks to do, therefore, is to ensure that, first of all -
Diolch yn fawr, felly, am y cyfraniadau. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae yna welliant o flaen y Cynulliad sydd, i fi, yn ehangu'r ddadl sydd wedi cael ei wneud yn barod yn y Siambr. Pwrpas y ddadl wrth gwrs yw canolbwyntio ar y ffaith y bydd gan y Cynulliad hwn y pŵer i newid y system etholiadol ar y lefel leol, a hefyd ar lefel y Cynulliad yn y pen draw, achos wrth gwrs ein bod ni'n hynod o gefnogol ar y meinciau hyn. Mae'n bwysig dros ben taw y Cynulliad hwn sydd yn rheoli'r system a'r modd o ethol Aelodau i'r Cynulliad hwn yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae'n wir dweud nad yw'r Bil ei hunan, sef Bil Cymru, yn caniatáu taw dim ond 51 y cant o'r pleidleisiau sydd eu heisiau i newid y system, ac rwy'n credu bod hynny'n iawn, achos gyda rhywbeth mor sylfaenol mae'n bwysig dros ben bod yna fwy nag un blaid yn pleidleisio dros unrhyw fath o newid yn y system etholiadol. Nid wyf yn dadlau yn erbyn hynny. Ond i fi, y broblem sydd gyda ni ar hyn o bryd yw'r ffaith bod y ddadl ei hunan yn rhy gul, achos, yn lle dadlau y dylai'r Cynulliad gael y pŵer i newid y system, mae'n dadlau y dylai'r Cynulliad gael y pŵer i newid y system, ond dim ond i un system arall. Felly, mae'n culhau'r ddadl yn lle ehangu'r ddadl. So, felly, beth mae'r gwelliant yn ei wneud yw sicrhau yn gyntaf - [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
I'm very grateful to the First Minister. Perhaps he can help me with a constitutional difficulty that I have with the motion before us today, namely that this Assembly is asking, once again, for Westminster to legislate, as I understand the motion, on constitutional issues that should belong to us in this place.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog. Efallai gallai fo helpu fi gyda'r anhawster cyfansoddiadol sydd gen i, hefyd, gyda'r cynnig sydd gerbron, sef bod y Cynulliad hwn yn gofyn unwaith eto i San Steffan i ddeddfu, fel rydw i'n deall y cynnig, ar faterion cyfansoddiadol ddylai fod yn perchen i ni yn y lle hwn.
I think that's quite right. What we should say, of course, is that we want the power - and it has been given to us - to change the electoral system to any system that the Assembly should vote for, rather than restricting ourselves to one system. What we have at present is a wording that states that we ask Westminster to change the system to a particular model, rather than us having the power to change the system to the system that the National Assembly thinks would be the best for Wales. What the amendment does is to broaden the scope of the motion that we have before us in order to ensure that, yes, the Assembly would decide what kind of system would ultimately be adopted, but without narrowing the debate to considering only one system and saying that we should only consider one system when we ask for the power from Westminster. So, for me, the amendment broadens the powers that the Assembly would have, and, ultimately, it would be up to the Assembly to decide on a cross-party basis what kind of system should be adopted in this Assembly and in local government.
Rwy'n credu bod hynny'n iawn. Beth ddylem ni ei ddweud, wrth gwrs, yw ein bod ni eisiau'r pŵer - ac mae hynny wedi cael ei roi i ni - i newid y system etholiadol i unrhyw system mae'r Cynulliad yn pleidleisio drosti, ac nid dim ond un system. Beth sydd gyda ni ar hyn o bryd yw geiriau sydd yn dweud ein bod ni'n gofyn i San Steffan i newid y system i un system yn unigol, ac nid ein bod ni'n gallu newid y system i system y byddai'r Cynulliad Cenedlaethol yn meddwl y byddai'r system orau i Gymru. So, felly, beth mae'r gwelliant yn ei wneud yw ehangu'r geiriau sydd gyda ni o'n blaenau er mwyn sicrhau taw, ie, y Cynulliad fydd yn penderfynu pa fath o system y bydd yn cael ei defnyddio yn y pen draw, ond heb gulhau, wrth gwrs, y ddadl sydd gyda ni ar hyn o bryd, taw dim ond un system y dylem ni ofyn amdani pan fyddwn yn gofyn am y pŵer o San Steffan. So, felly, i fi, mae hwn yn welliant sydd yn ehangu'r pwerau y byddai gan y Cynulliad, ac wrth gwrs, yn y pen draw, y byddai'n lan i'r Cynulliad i benderfynu yn drawsbleidiol pa fath o system y dylai gael ei defnyddio yn y Cynulliad a hefyd gan lywodraeth leol.
Thank you. I call on Simon Thomas to reply to the debate. Simon.
Diolch. Galwaf ar Simon Thomas i ymateb i'r ddadl. Simon.
Thank you, Deputy Presiding Officer. I'm pleased we had this debate. It was short, but sweet, and I think Sian Gwenllian set out extremely well in a very concise but well-targeted and focused opening speech the reason why we brought forward this debate. Of course, when we did table this debate, we didn't know that the Assembly itself would be voting today using a kind of proportional representation, because you've had a second-preference vote to choose your committee Chairs today, and you've accepted that you don't get first-past-the-post all the time for everything that goes on. So I think that's a small chink in the arguments against first-past-the-post, and a small step forward for more proportional representation. If we have it for our committee Chairs, then surely we should have it to elect our Members. [Interruption.] Some of the committee Chairs, yes - quite. I was open for an election; I don't mind. I just want to put one thing to bed, because there's been a little bit of mischief making by the First Minister, ably assisted by Dafydd Elis-Thomas, I'm afraid to say, on the precise wording of this motion. The motion is very clear: 'Believes that the Wales Bill should make provision to enable the National Assembly for Wales to introduce the single transferable vote'. We as Plaid Cymru support STV, so of course we will want to advocate STV. But there's nothing in the motion that says that we can only introduce STV under the provisions of the Wales Bill. We want the Wales Bill to make provision to enable us to introduce STV. We could introduce another system - of course we could - and therefore there isn't actually anything between our motion and the Government amendment, apart from the Government not accepting STV, because that's the reality of it: the Labour Party doesn't accept STV. It would be much more honest if the Government amendment just said that. At least the Conservatives spokesperson was very honest and said, 'We don't know what we want at the moment'. I think that might have something to do with the fact that we have a Conservative Government that could call a referendum on leaving the EU having been voted in with a majority of 12 on 37 per cent of the vote. And that cannot continue. [Interruption.] That cannot continue. [Interruption.] I agree it's in the manifesto, of course it is, but you should never have the majority. You should not have a majority in Westminster on 37 per cent of the vote. There should be 82 UKIP MPs - there should be 82 UKIP MPs. And if we'd had a Westminster that had reflected UKIP's voice for the last 10 years, we may not have had a referendum. We may have had more subtle ways of exploring the great depths and the well of unhappiness that people have with the electoral system, that wouldn't have come then to a binary choice, saying, 'If you're unhappy with politics, vote out', but would have been a much more subtle way of expressing those strong views in the proper electoral system. And maybe if we'd had those MEPs - MPs; not MEPs, but MPs - from UKIP over the last 10 years, expressing those frustrations that they have and the perfectly acceptable policy positions they had, we wouldn't have had a situation where, just last week, people thought, 'It's time to say "no" to the kind of politics we've had for so long, and the way to do that is by voting out of the European Union', therefore cutting off their nose to spite their face. But that's the situation we have. Plaid Cymru's wedded to STV. We may not win the argument for STV in the long run, because there might be a force here in the Assembly that argues for a different kind of proportional representation. After all, we have a kind of proportional representation now with the list system. But we'll continue to argue for STV in the absence of any argument for an alternative to improve politics, which neither the Conservatives nor Labour have suggested today. Unless we do something about first-past-the-post, we are condemned to always polarising debate and to having the sort of decisions we had last week. Let's awaken our politics, let's bring in young people, let's give them the vote as well, and let's ensure that we have a better forum and a better representative parliamentary democracy at Welsh level and UK level that properly, therefore, expresses people's frustrations and complaints and doesn't lead us to the false promises and false choices that we had last week.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch ein bod wedi cael y ddadl hon. Roedd yn fyr, ond yn flasus, ac rwy'n meddwl bod Sian Gwenllian wedi nodi'n hynod o dda, mewn araith agoriadol gryno iawn ond wedi'i thargedu'n dda, y rheswm pam y cyflwynasom y ddadl hon. Wrth gwrs, pan gyflwynasom y ddadl, nid oeddem yn gwybod y byddai'r Cynulliad ei hun yn pleidleisio heddiw gan ddefnyddio math o gynrychiolaeth gyfrannol, oherwydd cawsoch bleidlais ail ddewis ar gyfer dewis Cadeiryddion eich pwyllgorau heddiw, ac rydych wedi derbyn nad ydych yn cael system y cyntaf i'r felin drwy'r amser ar gyfer popeth sy'n digwydd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dwll bach yn y dadleuon yn erbyn system y cyntaf i'r felin, ac yn gam bach ymlaen dros gynrychiolaeth fwy cyfrannol. Os ydym yn defnyddio'r system ar gyfer Cadeiryddion ein pwyllgorau, yna'n sicr dylem fod yn ei defnyddio ar gyfer ethol ein Haelodau. [Torri ar draws.] Rhai o Gadeiryddion ein pwyllgorau, ie - yn hollol. Roeddwn yn barod am etholiad; nid oes ots gennyf. Rwyf eisiau setlo un peth, gan fod y Prif Weinidog wedi bod yn creu ychydig bach o helynt, gyda chymorth galluog Dafydd Elis-Thomas, yn anffodus, ar union eiriad y cynnig hwn. Mae'r cynnig yn glir iawn: 'Yn credu y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy'. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn cefnogi pleidlais sengl drosglwyddadwy, felly wrth gwrs, byddwn yn awyddus i ddadlau dros bleidlais sengl drosglwyddadwy. Ond nid oes dim yn y cynnig sy'n dweud mai o dan ddarpariaethau Bil Cymru yn unig y cawn gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy. Rydym am i Fil Cymru wneud darpariaeth i'n galluogi i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy. Gallem gyflwyno system arall - wrth gwrs y gallem - ac felly nid oes unrhyw beth rhwng ein cynnig a gwelliant y Llywodraeth mewn gwirionedd, ar wahân i'r ffaith nad yw'r Llywodraeth yn derbyn pleidlais sengl drosglwyddadwy, gan mai dyna realiti'r peth: nid yw'r Blaid Lafur yn derbyn pleidlais sengl drosglwyddadwy. Byddai'n llawer mwy gonest pe bai gwelliant y Llywodraeth ond yn dweud hynny. O leiaf roedd llefarydd y Ceidwadwyr yn onest iawn yn dweud, 'Nid ydym yn gwybod beth rydym ei eisiau ar hyn o bryd'. Rwy'n meddwl y gallai hynny fod â rhywbeth i'w wneud â'r ffaith fod gennym Lywodraeth Geidwadol a allai alw am refferendwm ar adael yr UE ar ôl cael eu hethol gyda mwyafrif o 12 ar 37 y cant o'r bleidlais. Ac ni all hynny barhau. [Torri ar draws.] Ni all hynny barhau. [Torri ar draws.] Cytunaf ei fod yn y maniffesto, wrth gwrs ei fod, ond ni ddylech byth fod wedi cael mwyafrif. Ni ddylech fod â mwyafrif yn San Steffan ar 37 y cant o'r bleidlais. Dylai fod 82 o ASau UKIP - dylai fod 82 o ASau UKIP. A phe bai gennym San Steffan a fyddai wedi adlewyrchu llais UKIP dros y 10 mlynedd diwethaf, efallai na fyddem wedi cael refferendwm. Efallai y byddai gennym ffyrdd mwy cynnil o archwilio'r dyfnderoedd mawr a'r ffynnon o anhapusrwydd y mae pobl yn ei deimlo tuag at y system etholiadol, na fyddai wedi arwain at ddewis deuaidd, sy'n dweud, 'Os ydych yn anhapus â gwleidyddiaeth, pleidleisiwch dros adael', ond byddai wedi bod yn ffordd lawer mwy cynnil o fynegi'r safbwyntiau cryfion hynny yn y system etholiadol briodol. Ac efallai, pe baem wedi cael yr ASEau hynny - ASau; nid ASEau, ond ASau - o UKIP dros y 10 mlynedd diwethaf yn mynegi'r rhwystredigaethau hynny sydd ganddynt a'r safbwyntiau polisi perffaith dderbyniol a oedd ganddynt, ni fyddem wedi wynebu sefyllfa, yr wythnos diwethaf, pan oedd pobl yn meddwl, 'Mae'n bryd dweud "na" wrth y math o wleidyddiaeth rydym wedi'i chael ers amser mor hir, a'r ffordd o wneud hynny yw pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd', gan dorri eu trwynau i sbeitio'u hwynebau. Ond dyna'r sefyllfa rydym ynddi. Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i bleidlais sengl drosglwyddadwy. Efallai na fyddwn yn ennill y ddadl dros bleidlais sengl drosglwyddadwy yn y pen draw, oherwydd gallai fod grym yma yn y Cynulliad sy'n dadlau dros fath gwahanol o gynrychiolaeth gyfrannol. Wedi'r cyfan, mae gennym ryw fath o gynrychiolaeth gyfrannol yn awr gyda system y rhestr. Ond byddwn yn parhau i ddadlau dros bleidlais sengl drosglwyddadwy yn absenoldeb unrhyw ddadl dros ddewis amgen i wella gwleidyddiaeth, na chafodd ei awgrymu gan y Ceidwadwyr na Llafur heddiw. Oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth am system y cyntaf i'r felin, rydym wedi ein condemnio i bolareiddio trafodaeth bob amser ac i gael y math o benderfyniadau a gawsom yr wythnos diwethaf. Gadewch i ni ddeffro ein gwleidyddiaeth, gadewch i ni groesawu pobl ifanc i mewn, gadewch i ni roi'r bleidlais iddynt hwy hefyd, a gadewch i ni sicrhau bod gennym fforwm gwell a democratiaeth seneddol gynrychiadol well ar lefel Cymru ac ar lefel y DU sydd, felly, yn mynegi rhwystredigaeth a chwynion pobl yn iawn, heb ein harwain at yr addewidion ffug a'r dewisiadau ffug a gawsom yr wythnos diwethaf.
Thank you very much. The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] Thank you. We'll defer this vote, then, until voting time.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Byddwn yn gohirio'r bleidlais hon, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Item 5 on the agenda is the Plaid Cymru debate, the ministerial code, and I call on Dai Lloyd to move the motion.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru, y cod gweinidogol, a galwaf ar Dai Lloyd i gynnig y cynnig.
Thank you very much, Deputy Presiding Officer. It's a pleasure for me to open this debate, and I will also conclude the debate in a little while. Of course, our motion calls on us all - calls on the National Assembly to believe that the principles of open government should be maintained in all areas of responsibility, that the ministerial code should be laid before and approved by the National Assembly for Wales, and that an independent adjudicator should be appointed to report publicly on any alleged breaches of the code. Now, for obvious reasons, therefore, there are specific demands on Welsh Ministers. As I move forward, I will state now that we will oppose the first amendment in the name of Jane Hutt, but we will support amendments 2 and 3, which add to the fundamental points that we make in our motion on the issue that we are considering. Now, as I said, there are specific requirements on Welsh Ministers, and each of them, including Deputy Ministers, do have to comply with the ministerial code, which sets standards of conduct. Now, of course, this isn't an opportunity to revisit any specific incident, but a debate to strengthen transparency within the process, and it's part of the same kind of debate that we've just heard about from Sian Gwenllian and Simon on how people perceive politics these days. Very often, as politicians, we are decried, and we see all sorts of complaints made against us - sometimes on the basis of the conduct of an individual - but I think this is also part of the process of how we respond to that vote in the referendum of last week. We do have to demonstrate to people that we are entirely honest, open and transparent in everything that we do. And part of that process is the ministerial code, which does need to be transformed. There has been cross-party support in this Assembly in the past to see full transparency in the process, by including an independent adjudicator in the system, so that the First Minister can report any alleged breach to an independent adjudicator and then that independent adjudicator will gather evidence and present a report. Now, our aim is that the First Minister should not lose the right to appoint and dismiss members of his Cabinet. That's not the aim of this debate. But I don't support his right to decide who should be subject to an independent adjudicator or a report if there is a breach of the ministerial code either. And, of course, a member of the public or a Member of this institution should have the right to complain directly to a standards commissioner, just as they would with any complaints about an Assembly Member of the backbenches, and the commissioner should evaluate that complaint, formulate a report, and provide that report so that the First Minister could take a final decision. As I've already mentioned, a crucial characteristic of our objective this afternoon is to look again at this adjudication process and to ensure that the ministerial code is more open, in order to actually rebuild the public's faith in politics, which has been damaged recently - it is a faith that has been damaged over a number of years. We saw the response, as Simon already said earlier, in the previous debate. So, in the midst of the anger, the hatred and the untruths that have been flying around the place over the past few weeks, we are very much aware, as politicians, that many of our people have become entirely disillusioned with politicians and with politics, and they have no confidence in us and very little respect for us. There are all sorts of stories of misconduct in the past - I won't go into those now - but, following last week's vote, we have to respond robustly, as politicians and as an Assembly, to the substantial challenge that we face. Part of that response is to show very high standards of conduct in this place, which should be weighed up in an open and transparent ministerial code. Thank you very much.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl, ac mi fyddai'n cau'r ddadl hefyd, ymhen ychydig. Wrth gwrs, mae'n cynnig ni yn galw arnom ni i gyd - bod y Cynulliad Cenedlaethol yn credu y dylai egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb, yn credu y dylai'r cod gweinidogol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei gymeradwyo ganddo, ac yn credu y dylai dyfarnwr annibynnol gael ei benodi i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri'r cod. Am resymau amlwg, felly, mae gofynion penodol ar Weinidogion Cymru. Ac wrth i fi fynd ymlaen, gwnaf ddweud nawr y byddwn ni'n gwrthwynebu'r gwelliant cyntaf yn enw Jane Hutt, ond fe fyddwn yn derbyn gwelliannau 2 a 3, sydd yn ychwanegu at y pwyntiau sylfaenol yr ydym yn eu gwneud fan hyn ynglŷn â'r mater sydd gerbron. Fel roeddwn i'n ei ddweud, mae yna ofynion penodol ar Weinidogion Cymru. Mae'n rhaid i bob un ohonynt, gan gynnwys is-Weinidogion, gydymffurfio efo'r cod gweinidogol, sy'n gosod safonau ymddygiad. Nawr, wrth gwrs, nid cyfle i ailymweld ag unrhyw ddigwyddiad penodol ydy pwrpas y ddadl yma y prynhawn yma, ond dadl er mwyn cryfhau tryloywder y broses, ac yn rhan o'r un fath o ddadl yr ydym newydd ei chlywed gan Sian Gwenllian a Simon ynglŷn â sut mae pobl yn gweld gwleidyddiaeth y dyddiau yma. Yn aml, fel gwleidyddion, rydym yn cael ein pardduo, mae pob math o gyhuddiadau yn ein herbyn - weithiau ar sail ymddygiad rhywun penodol - ond rwy'n credu bod hyn hefyd yn rhan o'r broses o sut rydym yn ymateb i'r bleidlais yna yn y refferendwm yr wythnos diwethaf. Mae'n rhaid inni ddangos i bobl ein bod ni'n berffaith onest ac agored a thryloyw ym mhob peth rydym yn ei wneud. A rhan o'r broses yna ydy'r cod gweinidogol yma sydd angen ei drawsffurfio. Mae yna gefnogaeth drawsbleidiol wedi bod yn y gorffennol yn y Cynulliad yma i weld tryloywder cyflawn yn y broses, drwy gynnwys dyfarnwr annibynnol i mewn i'r system, fel bod gan y Prif Weinidog hawl i gyfeirio canfyddiad bod y cod wedi ei dramgwyddo i ddyfarnwr annibynnol, felly, a bydd yr unigolyn annibynnol yna dan sylw yn casglu'r dystiolaeth, ac yn cyflwyno adroddiad. Nid ein hamcan ni yw bod y Prif Weinidog yn colli'r hawl i benodi a diswyddo aelodau o'i Gabinet, wrth gwrs. Nid dyna amcan y drafodaeth yma. Ond nid wyf yn cefnogi ei hawl i benderfynu pwy sy'n cael ei archwilio'n annibynnol, neu'n destun adroddiad annibynnol, os tramgwyddir y cod gweinidogol chwaith. Ac, wrth gwrs, dylai fod gan aelod o'r cyhoedd, neu Aelod o'r sefydliad hwn, hawl i gwyno yn uniongyrchol wrth gomisiynydd safonau, yn yr un modd ag y byddent yn ei wneud am Aelod Cynulliad o'r meinciau cefn, a dylai'r comisiynydd werthuso'r gŵyn honno, llunio adroddiad ac ymchwilio, yna darparu'r adroddiad ar gyfer y Prif Weinidog i wneud penderfyniad terfynol. Fel rwyf wedi cyfeirio ato eisoes, nodwedd hollbwysig o bwrpas ein hamcanion ni y prynhawn yma, i drio edrych eto ar y broses archwilio yma, a gwneud yn siŵr bod y cod gweinidogol yn fwy agored, yw adeiladu ffydd y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth, sydd wedi cael ei sigo yn ddiweddar - ffydd sydd wedi ei ddifrodi ers sawl blwyddyn bellach. A gwelsom ni'r ymateb, fel mae Simon wedi ei ddadlau eisoes, yn y ddadl flaenorol. Ac felly, yng nghanol y dicter, y casineb a'r anwireddau sydd wedi bod yn chwyrlio o gwmpas y lle yr wythnosau diwethaf yma, rydym yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, fel gwleidyddion, bod nifer fawr o'n pobl ni wedi eu dadrithio yn gyfan gwbl efo gwleidyddion a gwleidyddiaeth, yn mynnu nad oes ganddyn nhw ffydd ynom ni - dim hyder, a fawr ddim parch chwaith. Mae yna bob math o hanesion o gamymddwyn yn y gorffennol - nid wyf am fynd mewn i hynny rŵan - ond, ar ôl y bleidlais yna yr wythnos ddiwethaf, mae'n rhaid i ni ymateb yn gryf fel gwleidyddion, ac fel Cynulliad, i'r her sylweddol. Rhan o'r ymateb yna ydy dangos safonau uchel iawn o ymddygiad yn y fan hyn, sydd yn cael eu cloriannu mewn cod gweinidogol agored a thryloyw. Diolch yn fawr.
Thank you. I have selected three amendments to this motion, and I call on the First Minister to move amendment 1, tabled in the name of Jane Hutt.
Diolch. Rwyf wedi dethol tri gwelliant i'r cynnig hwn, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
I call on Andrew R.T. Davies to move amendments 2 and 3, tabled in the name of Paul Davies.
Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Thank you, Deputy Presiding Officer. I formally move the amendments on the order sheet, in the name of Paul Davies. I welcome the opportunity to participate in this debate. I can well remember, in the last Assembly, the debates, the discussions and the First Minister's questions that the former leader of the Liberal Democrats used to use to cajole the First Minister into bringing forward a truly independent ministerial code, and, ultimately, obviously, bring that transparency to the governing process, where Ministers are referred to the ministerial code. It does seem slightly bizarre that you can be all things to all people, as the current code is, with the First Minister being the ultimate arbitrator, sorting it all out, rather than any independence at the heart of the process. I do hope that the First Minister, when he does respond to this debate this afternoon, will respond in a positive light, because the arguments that are being put forward here today are not new arguments. And I know the First Minister, some two or three years ago, was making the point, 'Well, we'll have a review, we'll have a look into this, I'll see what I can do'. Well, it's two years on; hopefully he's got the answers to maybe some of the questions that were posed back in July 2014. In particular, I do think there's an opportunity to look at the way the commissioners are appointed - the children's commissioner, for example, and the other commissioners, who, over time, have come from this institution, and have proved to do a power of good in the areas that they are charged with delivering. And, in fairness to the Welsh Government, they have reached out to the parties here and formed working groups to, obviously, make those appointments. But that really shouldn't just be at the behest of the Government. It should be the Assembly as a whole that instigates the selection procedure and the appointments, because those commissioners do need to be acting in the name of the National Assembly for Wales, I would suggest, rather than just, obviously, the Welsh Government. From my own personal point of view, and in the Conservative manifesto back in May, we would have liked to have seen hearings into the appointment of special advisers undertaken as well, because a feature of modern Government today, in any Government in fairness, has been - . I accept that in all Governments, the role of special advisers has increased dramatically over the years - the last 40 years in particular, from their inception in the early 70s, to the more formal role they now fill, and they do play an important role in advising Government Ministers, in carrying out Government function. And, yet, again, that particular role, and those appointments, are completely at the behest of the First Minister. Again, I do believe that there would be a welcome spotlight put on the process of the role of special advisers, and in particular, the way they're appointed, and in particular, the suitability that they might have to take such important roles within Government, albeit not ultimately removing from the appointments process the ability of the First Minister to approve that, or, as an example in Westminster, the Prime Minister. That's not a political point I'm trying to make about the specific special advisers here in Cardiff. They are an important piece of the political landscape that you see in all parts of Government, wherever they exist across the United Kingdom and, indeed, anywhere else in western democracy. I do believe that, along with the appointment of commissioners, that would be very welcome in bringing transparency to a very opaque procedure that people outside of this institution know very little about. I'd also like to move the second amendment in Paul Davies's name, which refers specifically to the education Minister's manifesto commitment, and the wording in the manifesto about the ministerial code. It does speak, the Liberal Democrat manifesto - it says, 'it's no wonder voters lose confidence when Labour Ministers can apparently breach the Ministerial Code with impunity'. I read that directly from the manifesto. And so I do think that now, obviously, the Liberal Democrats are formally part of the Government, it is important that the First Minister does give assurances, if nothing else, that Labour Ministers haven't been breaking the ministerial code with impunity, as I've just read out from the manifesto. And, if it is the case that that was a correct assertion, what measures will the First Minister be taking to give confidence back to people that such a statement was, shall we say, reckless to put before it if it didn't bear any relation to the workings of Government? This debate can now, hopefully, after the last two years that the First Minister's had the chance to think about how the ministerial code should develop - because a lot of these questions were first put round when Alun Davies had to resign from the Government in July 2014, and legitimately put down as well, I might add. So, the First Minister, in that folder that he has before him, has hopefully now got the answers to the review that he undertook at that time and some of the changes, rather than standing and saying, 'We're just keeping the status quo', and that he will be able to enlighten the Chamber as to the changes that he will be making to the current ministerial code, to make it more open, to make it more transparent, and, above all, for that openness and transparency to reach across the whole of the new Welsh Government in the fifth Assembly.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau ar y papur trefn, yn enw Paul Davies. Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Gallaf gofio'n iawn, yn y Cynulliad diwethaf, y dadleuon, y trafodaethau a'r cwestiynau i'r Prif Weinidog yr arferai cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol eu defnyddio i berswadio'r Prif Weinidog i gyflwyno cod gweinidogol gwirioneddol annibynnol, ac yn y pen draw, yn amlwg, i ddod â'r tryloywder hwnnw i'r broses lywodraethu, lle y cyfeirir Gweinidogion at god y gweinidogion. Mae'n ymddangos ychydig yn rhyfedd y gallwch fod yn bopeth i bawb, fel y mae'r cod presennol, gyda'r Prif Weinidog yn gymrodeddwr eithaf, yn datrys popeth, yn hytrach na bod unrhyw annibyniaeth wrth wraidd y broses. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, pan fydd yn ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma, yn ymateb mewn modd cadarnhaol, gan nad yw'r dadleuon sy'n cael eu cyflwyno yma heddiw yn ddadleuon newydd. A gwn fod y Prif Weinidog, ddwy neu dair blynedd yn ôl, wedi gwneud y pwynt, 'Wel, fe gawn adolygiad, fe edrychwn ar hyn, caf weld beth y gallaf ei wneud'. Wel, mae dwy flynedd wedi mynd; gobeithio bod ganddo atebion i rai o'r cwestiynau efallai a ofynnwyd yn ôl ym mis Gorffennaf 2014. Yn benodol, rwy'n credu bod cyfle i edrych ar y ffordd y penodir y comisiynwyr - y comisiynydd plant, er enghraifft, a'r comisiynwyr eraill, sydd, dros amser, wedi dod o'r sefydliad hwn, ac wedi profi eu bod yn gwneud llawer o les yn y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt. Ac er tegwch i Lywodraeth Cymru, maent wedi ymgysylltu â'r pleidiau yma ac wedi ffurfio gweithgorau, yn amlwg, i wneud y penodiadau hynny. Ond ni ddylai hynny ddigwydd ar gais y Llywodraeth yn unig. Dylai'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd ysgogi'r weithdrefn ddethol a'r penodiadau, oherwydd byddwn yn awgrymu bod angen i'r comisiynwyr hynny weithredu yn enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach na Llywodraeth Cymru yn unig, yn amlwg. Yn fy marn bersonol i, ac ym maniffesto'r Ceidwadwyr yn ôl ym mis Mai, byddem wedi hoffi gweld gwrandawiadau'n cael eu cynnal ar benodi cynghorwyr arbennig hefyd, gan mai nodwedd o Lywodraeth fodern heddiw, unrhyw Lywodraeth, a bod yn deg, yw - . Rwy'n derbyn, ym mhob Llywodraeth, fod rôl cynghorwyr arbennig wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd - y 40 mlynedd diwethaf, yn arbennig, ers eu dechrau yn y 70au cynnar, i'r rôl fwy ffurfiol sydd ganddynt yn awr, ac maent yn chwarae rhan bwysig yn cynghori Gweinidogion y Llywodraeth sy'n cyflawni swyddogaeth Llywodraeth. Ac eto, mae'r rôl benodol honno, a'r penodiadau hynny, ar gais y Prif Weinidog yn llwyr. Unwaith eto, rwy'n credu y byddai taflu goleuni ar broses y rhan a chwaraeir gan gynghorwyr arbennig yn rhywbeth i'w groesawu, ac yn benodol, y ffordd y cânt eu penodi, yn enwedig eu haddasrwydd posibl ar gyfer ymgymryd â rolau pwysig o'r fath yn y Llywodraeth, er na fyddai yn y pen draw yn dileu gallu'r Prif Weinidog i gymeradwyo hynny o'r broses benodi, na gallu Prif Weinidog y DU er enghraifft yn San Steffan i wneud hynny. Nid wyf yn ceisio gwneud pwynt gwleidyddol ynglŷn â'r cynghorwyr arbennig penodol yma yng Nghaerdydd. Maent yn rhan bwysig o'r dirwedd wleidyddol a welwch ym mhob rhan o Lywodraeth, lle bynnag y maent yn bodoli ledled y Deyrnas Unedig ac yn wir, yn unrhyw un o wledydd democrataidd eraill y gorllewin. Ynghyd â phenodi comisiynwyr, rwy'n credu y byddai hynny'n dderbyniol iawn er mwyn cyflwyno tryloywder i weithdrefn dywyll iawn nad yw pobl y tu allan i'r sefydliad hwn yn gwybod llawer amdani. Hoffwn hefyd gynnig yr ail welliant yn enw Paul Davies, sy'n cyfeirio'n benodol at ymrwymiad maniffesto'r Gweinidog addysg, a'r geiriad yn y maniffesto ynglŷn â chod y gweinidogion. Mae'n sôn, maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol - mae'n dweud, 'nid yw'n rhyfedd fod pleidleiswyr yn colli ffydd pan all Gweinidogion Llafur, mae'n ymddangos, dorri'r Cod Gweinidogol ar eu mympwy'. Darllenais hynny'n syth o'r maniffesto. Ac felly rwy'n meddwl, yn amlwg, gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhan ffurfiol o'r Llywodraeth bellach, mae'n bwysig fod y Prif Weinidog yn rhoi sicrwydd, os nad unrhyw beth arall, nad yw Gweinidogion Llafur wedi bod yn torri cod y gweinidogion ar eu mympwy fel rwyf newydd ei ddarllen o'r maniffesto. Ac os yw'n wir fod hwnnw'n honiad cywir, pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i adfer hyder pobl fod datganiad o'r fath, gadewch i ni ddweud, wedi'i gyflwyno iddo'n fyrbwyll os nad oedd a wnelo â gwaith y Llywodraeth mewn unrhyw fodd? Ar ôl i'r Prif Weinidog gael dwy flynedd i feddwl sut y dylid datblygu cod y gweinidogion, dylai'r ddadl hon ddatblygu yn awr, gobeithio - oherwydd cafodd llawer o'r cwestiynau hyn eu gofyn gyntaf pan oedd rhaid i Alun Davies ymddiswyddo o'r Llywodraeth ym mis Gorffennaf 2014, a'u hateb yn deg hefyd, gallwn ychwanegu. Felly, gobeithio bod gan y Prif Weinidog yn awr, yn y ffolder sydd ganddo o'i flaen, yr atebion i'r arolwg a gyflawnodd bryd hynny a rhai o'r newidiadau, yn hytrach na sefyll a dweud, 'Rydym yn cadw'r statws quo', ac y gall oleuo'r Siambr ynghylch y newidiadau y bydd yn eu gwneud i god cyfredol y gweinidogion, i'w wneud yn fwy agored, i'w wneud yn fwy tryloyw, ac yn anad dim, i'r ymagwedd agored a thryloyw honno ymestyn ar draws Llywodraeth newydd Cymru yn y pumed Cynulliad yn ei chyfanrwydd.
I just want to add one thing to the debate, really, when we talk about ministerial codes and codes of conduct, because, constitutionally, there's one person in this building who is not affected by any of this, and that is the First Minister. Now, in terms of democratic accountability, that cannot be right, because if some of us think that, perhaps, the First Minister may have misled this Chamber in some way, or not, as the case may be, there is no recourse for any Member of this Chamber and there is no recourse for any member of the public to challenge this wrongdoing. So, what we have here, constitutionally - [Interruption.]
Rwyf am ychwanegu un peth i'r ddadl, mewn gwirionedd, pan fyddwn yn sôn am godau gweinidogion a chodau ymddygiad, oherwydd, yn gyfansoddiadol, mae un person yn yr adeilad hwn nad effeithir arno gan hyn o gwbl, a'r Prif Weinidog yw hwnnw. Nawr, o ran atebolrwydd democrataidd, ni all hynny fod yn iawn, oherwydd os yw rhai ohonom yn meddwl, efallai, y gallai'r Prif Weinidog fod wedi camarwain y Siambr hon mewn rhyw ffordd, neu beidio, yn ôl y digwydd, nid oes modd i unrhyw aelod o'r Siambr hon ac nid oes modd i unrhyw aelod o'r cyhoedd herio'r camwedd hwn. Felly, yr hyn sydd gennym yma, yn gyfansoddiadol - [Torri ar draws.]
Can we just all calm down and listen to what the Member who is on his feet is saying? Then others will get the chance later.
A gawn ni i gyd ymdawelu a gwrando ar yr hyn y mae'r Aelod sydd ar ei draed yn ei ddweud? Yna caiff eraill y cyfle yn nes ymlaen.
Diolch. What we have here is a democratic Chamber where we all should come and listen to people giving their points of view, no matter what the points of view are, no matter which party, and I ask every single Member to respect that. Right, moving on. So, if there is a dispute, as I mentioned earlier, there is absolutely no recourse for any member of the public, any Member here, and that cannot be right in a democratic chamber. What we have here is a huge, huge constitutional gap, where, potentially, any First Minister can come here and say what the hell he or she likes - anything at all. There is absolutely no recourse for anybody here. That cannot be right. So, what I'd like to finally say is that, as well as ministerial codes and as well as codes of conduct for Members, what we need here is a way to hold the First Minister to account constitutionally, because I know from my experience, both as a Member of the public and as a Member of this Chamber, that there is no way of doing that. Any First Minister can come here and they can potentially mislead this Chamber; they can potentially lie and there's nothing we can do about it. That is not right.
Diolch. Yr hyn sydd gennym yma yw Siambr ddemocrataidd lle y dylem i gyd ddod a gwrando ar bobl yn rhoi eu safbwyntiau, ni waeth beth yw'r safbwyntiau, ni waeth pa blaid, a gofynnaf i bob un o'r Aelodau barchu hynny. Iawn, gan symud ymlaen. Felly, os oes anghydfod, fel y soniais yn gynharach, nid oes gan unrhyw aelod o'r cyhoedd, nac unrhyw Aelod yma, fodd o herio, ac ni all hynny fod yn iawn mewn siambr ddemocrataidd. Yr hyn sydd gennym yma yw bwlch cyfansoddiadol enfawr, lle y gall unrhyw Brif Weinidog ddod yma, o bosibl, a dweud beth bynnag y mae ef neu hi'n dymuno'i ddweud - unrhyw beth o gwbl. Nid oes gan unrhyw un yma fodd o'i herio. Ni all hynny fod yn iawn. Felly, yn olaf, hoffwn ddweud mai'r hyn sydd ei angen arnom yma, yn ogystal â chodau'r gweinidogion a chodau ymddygiad i'r Aelodau, yw ffordd o ddwyn y Prif Weinidog i gyfrif yn gyfansoddiadol, gan fy mod yn gwybod o fy mhrofiad innau, fel Aelod o'r cyhoedd ac fel Aelod o'r Siambr hon, nad oes unrhyw ffordd o wneud hynny. Gall unrhyw Brif Weinidog ddod yma ac mae'n bosibl iddynt gamarwain y Siambr hon; mae'n bosibl iddynt ddweud celwydd ac nid oes unrhyw beth y gallwn ei wneud am y peth. Nid yw hynny'n iawn.
I have finished.
Rwyf wedi gorffen.
I would ask you to just think about that last sentence and whether you could change the wording in that last sentence. Nobody lies in this Chamber while I'm in the chair.
Hoffwn ofyn i chi feddwl am y frawddeg olaf ac a fyddai modd i chi newid y geiriad yn y frawddeg olaf honno. Nid oes neb yn dweud celwydd yn y Siambr hon tra rwyf fi yn y gadair.
What I did say, to qualify, was 'potentially' - 'potential untruths', shall we say? I don't know. I'll go with your guidance, Chair.
Yr hyn a ddywedais, i fod yn glir, oedd 'ei bod hi'n bosibl iddynt' - 'anwireddau posibl', gawn ni ddweud? Nid wyf yn gwybod. Gwnaf yn ôl eich arweiniad, Gadeirydd.
Okay, we'll check the Record. First Minister.
Iawn, fe edrychwn ar y Cofnod. Brif Weinidog.
Thank you, Dirprwy Lywydd. Can I thank most Members for their contributions? [Laughter.] Just to explain first of all - to deal with the amendments. I know that Members are concerned that the ministerial code should be open - it is; that it gets amended and reviewed from time to time - it is; and that Members are aware of what the ministerial code actually says. What the amendment does, of course, is ensure that I continue to review the ministerial code and indeed the way that it operates and that will continue for the future. The second amendment, in the name of Paul Davies, about the commissioners, is related, I suppose, to openness in Government, but I really ask the question: is this really a problem? We know that the commissioners should be independent and they are once they are appointed. They would be no more independent if they were appointed by the National Assembly; somebody has to appoint them. What's important is that they are able to operate independently as soon as they are appointed. That is something, I believe, that has indeed happened. They don't operate in the name of the Government any more than they would operate in the name of the Assembly if the Assembly appointed them, and so, from my perspective, certainly I believe that commissioners have operated independently and have fulfilled their duties properly. At no time has it been suggested that the commissioners are in some way hamstrung in terms of being able to express their views and express those views properly. In terms of special advisers, this is not something that happens at Westminster. Special advisers are appointed by me; they are subject to a code as well and that is something that I, again, keep in mind as they are appointed. Special advisers are expected, of course, to keep to rules in terms of their job and particularly in terms of the way in which they separate their political life, in terms of campaigning, from their work as a special adviser. On the third amendment -
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r rhan fwyaf o'r Aelodau am eu cyfraniadau. [Chwerthin.] I egluro yn gyntaf oll - i ymdrin â'r gwelliannau. Gwn fod yr Aelodau'n pryderu y dylai cod y gweinidogion fod yn agored - mae'n agored; ei fod yn cael ei ddiwygio a'i adolygu o bryd i'w gilydd - mae hynny'n digwydd; a bod yr Aelodau'n ymwybodol o'r hyn y mae cod y gweinidogion yn ei ddweud mewn gwirionedd. Yr hyn a wna'r gwelliant, wrth gwrs, yw sicrhau fy mod yn parhau i adolygu cod y gweinidogion ac yn wir, y ffordd y mae'n gweithredu a bydd hynny'n parhau yn y dyfodol. Mae'r ail welliant, yn enw Paul Davies, ynglŷn â'r comisiynwyr, yn gysylltiedig, am wn i, â'r angen i fod yn agored fel Llywodraeth, ond rwy'n gofyn y cwestiwn mewn gwirionedd: a yw hon yn broblem o ddifrif? Gwyddom y dylai'r comisiynwyr fod yn annibynnol ac maent yn annibynnol ar ôl iddynt gael eu penodi. Ni fyddent yn fwy annibynnol pe baent wedi'u penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol; rhaid i rywun eu penodi. Yr hyn sy'n bwysig yw eu bod yn gallu gweithredu'n annibynnol cyn gynted ag y cânt eu penodi. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd wedi digwydd. Nid ydynt yn gweithredu yn enw'r Llywodraeth fwy nag y byddent yn gweithredu yn enw'r Cynulliad pe bai'r Cynulliad wedi'u penodi, ac felly, fy safbwynt i yw fy mod yn sicr yn credu bod comisiynwyr wedi gweithredu'n annibynnol ac wedi cyflawni eu dyletswyddau'n briodol. Nid oes neb wedi awgrymu ar unrhyw adeg fod y comisiynwyr yn cael eu llyffetheirio mewn unrhyw fodd o ran eu gallu i fynegi eu safbwyntiau a mynegi'r safbwyntiau hynny'n briodol. O ran cynghorwyr arbennig, nid yw hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn San Steffan. Penodir cynghorwyr arbennig gennyf fi; maent hwy hefyd yn ddarostyngedig i god ac mae hynny'n rhywbeth rwyf fi, unwaith eto, yn ei gadw mewn cof wrth iddynt gael eu penodi. Wrth gwrs, disgwylir i gynghorwyr arbennig gadw at y rheolau yn eu swydd ac yn benodol o ran y ffordd y maent yn cadw eu bywyd gwleidyddol, o ran ymgyrchu, ar wahân i'w gwaith fel cynghorwyr arbennig. Ynglŷn â'r trydydd gwelliant -
I take the response that the First Minister has given. I take that point that it's not a situation that occurs in Westminster, namely confirmation hearings, but don't you think that we shouldn't always try and replicate what Westminster do? This would be groundbreaking, because they are an important part of the Government architecture, special advisers are, and having a form of confirmation hearing would bring public awareness to the role that they fulfil in advising Ministers.
Rwy'n derbyn yr ymateb y mae'r Prif Weinidog wedi'i roi. Rwy'n derbyn y pwynt nad yw'n sefyllfa sy'n digwydd yn San Steffan, sef gwrandawiadau cadarnhau, ond onid ydych yn credu na ddylem geisio ailadrodd yr hyn a wna San Steffan bob amser? Byddai hyn yn torri tir newydd, oherwydd bod cynghorwyr arbennig yn rhan bwysig o bensaernïaeth y Llywodraeth, a byddai cael math o wrandawiad cadarnhau yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â'r rôl y maent yn ei chyflawni wrth gynghori Gweinidogion.