source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
Diolch, Lywydd, and thank you for your statement, Cabinet Secretary. The Welsh health survey data once again highlight the need to improve public health messages. Of course, the challenges of increasing levels of obesity are not unique to Wales. However, it's truly shocking to learn that nearly 60 per cent of Welsh adults are overweight or obese. Cabinet Secretary, with many schools selling off their playing fields, what assessment has the Welsh Government made of the impact this will have on physical activity rates amongst young people? We have many programmes where we encourage children to play, children to be active and children to walk more, but we have to provide them with facilities. With regard to smoking, it is welcome news that the number of smokers continues to fall. I was pleased to see that the survey had, for the first time, included data on e-cigarettes, and that the Welsh Government is at last heeding the evidence. E-cigarettes are one of the most effective quitting aids in the smoker's arsenal. Cabinet Secretary, with the demise of the Welsh health survey, how will the Welsh Government continue to gather evidence about e-cigarette use? We on this side of the Chamber are disappointed that the Welsh health survey has been discontinued by the Welsh Government. Our objections are about its replacement, the national survey of Wales. We don't believe, with its smaller sample size, that the data will be as robust. The Welsh health survey, over the course of each year, captured the views of around 15,000 adults and 3,000 children, with a minimum of 600 adults from each local authority in Wales. The national survey of Wales will only capture the views of around 12,000 adults. The survey takes place mainly over the summer, and it appears that there are no set minimums for collecting data from each local authority. Cabinet Secretary, can you assure us that, in future, the data collected on health will be as detailed and robust as that collected in the Welsh health survey? Cabinet Secretary, how will the Welsh Government be capturing the views of young people, who have a right, as we do, to have a say on our NHS? Finally, Cabinet Secretary, the Welsh Government undertook a consultation in 2014 to seek the views of users of the Welsh health survey. The vast majority of respondents were supportive of the survey. In fact, the only criticism was about the timeliness of releasing the data. With these points in mind, can you update us on why the decision was taken to end the survey? Thank you. Diolch yn fawr.
Diolch, Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r data arolwg iechyd Cymru unwaith eto yn tynnu sylw at yr angen i wella negeseuon iechyd cyhoeddus. Wrth gwrs, nid yw'r heriau o lefelau gordewdra cynyddol yn unigryw i Gymru. Fodd bynnag, mae'n gwbl syfrdanol i ddysgu bod bron 60 y cant o oedolion Cymru dros eu pwysau neu'n ordew. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda llawer o ysgolion yn gwerthu eu meysydd chwarae, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar gyfraddau gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc? Mae gennym lawer o raglenni lle'r ydym yn annog plant i chwarae, plant i fod yn weithgar a phlant i gerdded mwy, ond mae'n rhaid i ni roi'r cyfleusterau iddynt. O ran ysmygu, mae'n newyddion da bod nifer yr ysmygwyr yn parhau i ostwng. Roeddwn yn falch o weld bod yr arolwg, am y tro cyntaf, wedi cynnwys data ar e-sigaréts, a bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn rhoi sylw i'r dystiolaeth. Mae e-sigaréts yn un o'r cymhorthion mwyaf effeithiol ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu ym mlwch arfau'r ysmygwr. Ysgrifennydd y Cabinet, gyda thranc arolwg iechyd Cymru, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gasglu tystiolaeth am y defnydd o e-sigaréts? Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn siomedig bod arolwg iechyd Cymru wedi cael ei derfynu gan Lywodraeth Cymru. Mae ein gwrthwynebiadau yn ymwneud â'r hyn sy'n ei ddisodli, sef arolwg cenedlaethol Cymru. Nid ydym yn credu, gyda'i maint sampl llai, y bydd y data mor gadarn. Roedd arolwg iechyd Cymru, drwy gydol pob blwyddyn, yn cofnodi barn tua 15,000 o oedolion a 3,000 o blant, gyda lleiafswm o 600 o oedolion o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd arolwg cenedlaethol Cymru ond yn cael barn tua 12,000 o oedolion yn unig. Mae'r arolwg yn cael ei gynnal yn bennaf yn ystod yr haf, ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw isafsymiau penodol ar gyfer casglu data gan bob awdurdod lleol. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ein sicrhau ni y bydd y data a gesglir ar iechyd yn y dyfodol, mor fanwl a chadarn ag a gasglwyd yn arolwg iechyd Cymru? Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn casglu barn pobl ifanc, sydd â hawl, fel sydd gennym ni, i ddweud eu dweud ar ein GIG ni? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn 2014 i geisio barn defnyddwyr arolwg iechyd Cymru. Roedd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr yn gefnogol i'r arolwg. Yn wir, roedd yr unig feirniadaeth a gafwyd yn ymwneud â phrydlondeb rhyddhau'r data. Gyda'r pwyntiau hyn mewn golwg, a allwch chi roi'r rheswm diweddaraf inni pam y gwnaed y penderfyniad i roi terfyn ar yr arolwg? Diolch. Diolch yn fawr.
Thank you for those particular points and questions. On the selling of school playing fields, this is a Government that is investing in the infrastructure of our school estates, and I've visited a whole number of areas where we're actually seeing an improvement in people's ability to use outdoor space in particular for physical activity and recreation. There's no excuse to be given for a lack of physical activity amongst school-age children in terms of school playing fields at this point in time. I actually think we need to concentrate on what we can positively do in the way that the curriculum works and the way that families work for schools, and with the broader message we have about the importance of physical activity and recreation, and to recognise that it isn't simply an issue for schools. It is an issue that, by and large, most of these lessons about life are learned outside school, and it's about that working alongside the family to understand the impact, the positive impact, of physical activity and recreation. I've dealt with the e-cigarettes issue and I've been very clear: we'll keep the evidence under review, and as I said earlier, you'll have noticed in my statements that just under six in 10 e-cigarette users are also smokers as well. So, we need to understand if there is a relationship with quitting, and if there is not, we also need to understand the long-term impact on people's health of e-cigarette use. That is part, I think, of what even those who were opposed to the measures of the previous public health Bill on e-cigarettes will have been concerned about: the way in which there was pretty clear evidence that some e-cigarette manufacturers were targeting young people in the way that the flavours were actively marketed. There are real and serious issues for us to consider here, so let's not pretend that we should not do that. But as I said earlier, we'll consider the evidence on e-cigarette use and their impact. On the national survey and the ending of the specific Welsh health survey, we took a view on having a more efficient way of conducting information and understanding what the public think and do. I don't think you could describe a national survey with detailed information of over 12,000 adults as not being something that is robust and high quality. It's certainly our expectation that we'll have a robust and high-quality national survey. If you ever have an opportunity - I don't know if opportunity is the right word - but, if you have an opportunity to talk to a Welsh Government statistician, I think you'll find that they're very interested in the quality of their data and they can talk to you at length. I'd be very happy to arrange for you to have a very long session with a Welsh Government statistician to highlight their view on the national survey if you really are concerned about its impact and its usefulness for understanding health behaviours in the past and what it tells us about the future of our public services.
Diolch i chi am y pwyntiau a'r cwestiynau penodol hynny. O ran gwerthu meysydd chwarae ysgolion, mae'r Llywodraeth hon yn un sy'n buddsoddi yn seilwaith ein hystadau ysgol, ac rydw i wedi ymweld â nifer eang o ardaloedd lle'r ydym mewn gwirionedd yn gweld gwelliant yng ngallu pobl i ddefnyddio mannau awyr agored yn benodol ar gyfer gweithgarwch corfforol a hamdden. Does dim esgus i'w roi am ddiffyg gweithgarwch corfforol ymysg plant oedran ysgol yn nhermau meysydd chwarae ysgolion ar hyn o bryd. Rwyf wir yn meddwl bod angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yn gadarnhaol yn y ffordd y mae'r cwricwlwm yn gweithio a'r ffordd y mae teuluoedd yn gweithio ar gyfer ysgolion, ac â'r neges ehangach sydd gennym am bwysigrwydd gweithgarwch corfforol a hamdden, a chydnabod nad yw'n broblem i ysgolion yn unig. Ar y cyfan, mae'n broblem fod y rhan fwyaf o'r gwersi hyn am fywyd yn cael eu dysgu y tu allan i'r ysgol, ac mae'n ymwneud â'r gweithio hwnnw ochr yn ochr â'r teulu i ddeall effaith, effaith gadarnhaol, gweithgarwch corfforol a hamdden. Rydw i wedi ymdrin â'r mater am e-sigaréts ac rydw i wedi bod yn glir iawn: byddwn yn dal i adolygu'r dystiolaeth, ac fel y dywedais yn gynharach, byddwch wedi sylwi yn fy natganiadau mai ychydig dan chwech o bob 10 defnyddiwr e-sigaréts sydd yn ysmygwyr hefyd. Felly, mae angen inni ddeall, os oes perthynas rhwng e-sigaréts â rhoi'r gorau iddi, ac os nad oes, mae angen inni ddeall hefyd beth yw'r effaith hirdymor ar iechyd pobl o ddefnyddio e-sigaréts. Mae hynny'n rhan, rwy'n meddwl, o'r hyn y mae hyd yn oed y rhai a oedd yn gwrthwynebu mesurau'r Bil iechyd cyhoeddus blaenorol ar e-sigaréts yn pryderu amdano: y ffordd y cafwyd tystiolaeth eithaf clir bod rhai gweithgynhyrchwyr e-sigaréts yn targedu pobl ifanc yn y ffordd yr aethpwyd ati i farchnata'r cyflasau. Mae materion real a difrifol i ni eu hystyried yma, felly gadewch i ni beidio ag esgus na ddylem wneud hynny. Ond fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn ystyried y dystiolaeth ar y defnydd o e-sigaréts a'u heffaith. O ran yr arolwg cenedlaethol a dod ag arolwg iechyd Cymru i ben yn benodol, rydym yn cymryd barn ar gael ffordd fwy effeithlon o gynnal gwybodaeth a deall yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei feddwl ac yn ei wneud. Nid wyf yn meddwl y gallech chi ddisgrifio arolwg cenedlaethol gyda gwybodaeth fanwl am fwy na 12,000 o oedolion fel rhywbeth nad yw'n gadarn ac o ansawdd uchel. Yn sicr ein disgwyliad yw y bydd gennym arolwg cenedlaethol cadarn ac o ansawdd uchel. Os cewch gyfle byth - dwi ddim yn gwybod ai cyfle yw'r gair iawn - ond, os cewch gyfle byth i siarad ag un o ystadegwyr Llywodraeth Cymru, rwy'n credu y byddwch yn gweld bod ganddynt ddiddordeb mawr yn ansawdd eu data a gallant siarad â chi yn hirfaith. Byddwn yn hapus iawn i drefnu i chi gael sesiwn hir iawn gydag un o ystadegwyr Llywodraeth Cymru fel y gallant fynegi eu barn am yr arolwg cenedlaethol os ydych wir yn poeni am ei effaith a'i ddefnyddioldeb ar gyfer deall ymddygiadau iechyd yn y gorffennol a'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym am ddyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus.
The next item on the agenda is the statement by the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs, entitled, 'Update on "Towards Sustainable Growth: An Action Plan for the Food and Drink Industry 2014-2020"'. I call on Cabinet Secretary Lesley Griffiths to move the statement.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, o'r enw, 'Diweddariad ar "Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020". Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths i gynnig y datganiad.
Thank you, Deputy Presiding Officer. The food and drink action plan delivers our food strategy in Wales. Published well in advance of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, it is delivering on all seven of the well-being goals. The plan's 48 actions encompass five priorities, including a leadership board of industry and sector leads; strong provenance for Wales's food and drink; more training, upskilling and innovation; sustainable growth for businesses and trade; and a focus on food safety and security. The Food and Drink Wales industry board, under the chairmanship of Andy Richardson, is taking forward work streams including business and investment, customers and markets, and people and skills. This work will inform me of the further actions needed for continued growth. Food sector growth contributes to the goal of a prosperous Wales. This is a highly significant industry in the Welsh economy. The farm-to-fork food chain has a turnover in excess of £15.5 billion and employs over 220,000 people and is Wales's biggest employer. The action plan sets an ambitious target to grow the turnover of the food and farming sector by 30 per cent to £7 billion annually and to achieve this by 2020. Two years on and growth has exceeded expectations at 17 per cent to £6.1 billion and is already more than half way towards the 2020 target. So, what does this growth look like? In 2014-15, our growth programme contributed directly to over £10 million in sales growth and the creation of 550 jobs. Business support includes the Wales-Ireland, European-funded clusters programme, supported by Ifor Ffowcs-Williams, the EU head of analysis and clusters. This programme has already engaged nearly half of the food manufacturers in Wales. Current clusters include premium products, high-growth businesses, innovation in healthier nutritional products, and a seafood-specific cluster. I am also pleased to announce that we will be launching an export cluster later this year. Further development of export markets will continue to be essential in striving towards the plan's vision. The industry generates over £260 million from exports, with almost 90 per cent to the European Union. This is an increase of over 102 per cent since 2005. In the past year, our export and trade events programmes helped Welsh businesses deliver over £7 million of new sales, and over £15 million of prospects are being developed. The support we offer food manufacturers includes bespoke advice, showcasing, assistance to attend trade events, dedicated export missions to target markets, and facilitated business meetings. Businesses in other parts of the UK are now looking at Wales as an exemplar of best practice. Foreign direct investment is an important contributor to growth. We are targeted in our approach, as FDI requires relationship building over time. A notable success in recent times is Calbee, the Japanese snack food manufacturer established in Deeside in 2015, which created up to 100 jobs. Calbee is exactly the sort of company we are pleased to help. It is innovative; producing healthy, vegetable-based snacks to meet the increasing demand from consumers for snacking. The food industry has a responsibility towards achieving a healthier Wales. Diet and nutrition are major determinants of lifespan and quality of life. Our food-for-the-future conference emphasised the shared responsibility throughout the food chain to support healthier eating. Manufacturers must look to product reformulation while retailers and food service must provide clear and informative labelling and encourage the healthy choices. We work with the National Procurement Service through its food category forum to factor healthy eating criteria into the tendering process. Seventy-three public bodies are now committed to using NPS in areas of common and repeatable expenditure. I will continue to sponsor Food Innovation Wales, which provides research and development facilities and expertise for food manufacturers, including the manufacture of healthier products. In the past year, £12 million of additional growth in Welsh businesses resulted from new product and process development. Food poverty can be due to lack of affordability or limited access to enable healthy choices. We support many initiatives to tackle food poverty - some well established such as community growing and community food co-operatives. The new food poverty alliance is a coming together of public, private and third sector organisations and is taking forward work to address holiday hunger in schoolchildren, which was piloted by Food Cardiff last year. The alliance will also investigate how to improve the uptake of free school meals and will work with retailers to partner them in tackling food poverty initiatives. We are providing significant support to food businesses to enable them to be globally responsible. The Resource Efficient Wales service helps businesses achieve efficiencies in water and energy use and achieve more effective waste management. We are signatories to Courtauld 2025, which is an ambitious voluntary agreement that brings together organisations and businesses across the food system to cut waste and greenhouse gas emissions associated with food and drink by at least one fifth by 2025. We are encouraging businesses to become signatories. Global responsibility extends to the design of our grant schemes. The food business investment scheme includes sustainability measures in its application screening process. The first round has identified £197 million of investment and potentially 1,333 new job opportunities. The food industry's contribution to cohesive communities is readily apparent in our support for food festivals. An independent evaluation in 2015 reported that, collectively, they are estimated to support 417 jobs within the Welsh economy and bring in a net additional £25 million per annum through trading, but also through business generated in the local economies surrounding festivals. Food security and food safety are priorities in the plan and are paramount towards achieving a resilient Wales. We work closely with the Food Standards Agency to improve food safety. The food hygiene ratings scheme has proved a tremendous success in raising standards in catering establishments and is an exemplar for other nations. The resilience of the Welsh food and drink industry is private sector dominated and well-developed contingency plans are in place. Food is one of the critical sectors represented on our internal resilience steering group. We participate in the global food security programme and in the Department for Environment, Food and Rural Affairs's food chain emergency liaison group, which assesses risks to food supply and mitigates threats. Food events are a great vehicle to promote our vibrant culture and thriving Welsh language. The Food and Drink Wales identity is now well recognised internationally and is widely respected. We launched our website last year to communicate and inform industry, stakeholders and the public about our Wales food nation and have recorded over 5,000 page views and 1,500 Twitter followers. We are actively working with many quality Welsh producers to secure many more protected food name products and Wales is becoming synonymous with a rich food heritage. Deputy Presiding Officer, I have presented a snapshot today of the achievements of the food and drink action plan. The plan is about so much more than food; it is about delivering on our promises to future generations.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r cynllun gweithredu bwyd a diod yn cyflwyno ein strategaeth bwyd yng Nghymru. Fe'i cyhoeddwyd ymhell o flaen Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae'n cyflawni ar bob un o'r saith o nodau lles. Mae 48 cam gweithredu'r cynllun yn cwmpasu pum blaenoriaeth, gan gynnwys bwrdd arweinyddiaeth o arweinwyr diwydiant a sector; tarddiad cryf ar gyfer bwyd a diod Cymru; mwy o hyfforddiant, uwchsgilio ac arloesedd; twf cynaliadwy ar gyfer busnesau a masnach; a ffocws ar ddiogelwch a diogelu'r cyflenwad bwyd. Mae bwrdd diwydiant Bwyd a Diod Cymru, dan gadeiryddiaeth Andy Richardson, yn bwrw ymlaen â ffrydiau gwaith gan gynnwys busnes a buddsoddiad, cwsmeriaid a marchnadoedd, a phobl a sgiliau. Bydd y gwaith hwn yn fy hysbysu o'r camau gweithredu pellach sydd eu hangen ar gyfer twf parhaus. Mae twf y sector bwyd yn cyfrannu at y nod o greu Cymru lewyrchus. Mae'r diwydiant hwn yn un sylweddol iawn yn economi Cymru. Mae gan y gadwyn fwyd o'r fferm i'r fforc drosiant o dros £15.5 biliwn ac mae'n cyflogi dros 220,000 o bobl a dyma gyflogwr mwyaf Cymru. Mae'r cynllun gweithredu yn gosod targed uchelgeisiol i dyfu trosiant y sector bwyd a ffermio o 30 y cant i £7 biliwn y flwyddyn ac i gyflawni hyn erbyn 2020. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ac mae'r twf wedi rhagori ar y disgwyliadau ar 17 y cant i £6.1 biliwn ac mae eisoes yn fwy na hanner ffordd tuag at darged 2020. Felly, sut mae'r twf hwn yn edrych? Yn 2014-15, cyfrannodd ein rhaglen dwf yn uniongyrchol at dros £10 miliwn mewn twf gwerthiant a chreu 550 o swyddi. Mae cymorth busnes yn cynnwys Cymru-Iwerddon, rhaglen clystyrau a ariennir gan Ewrop, a gefnogir gan Ifor Ffowcs-Williams, pennaeth dadansoddi a chlystyrau'r UE. Mae'r rhaglen eisoes wedi ymgysylltu â bron hanner y gwneuthurwyr bwyd yng Nghymru. Mae clystyrau presennol yn cynnwys cynnyrch premiwm, busnesau twf uchel, arloesi mewn cynhyrchion maethol iachach, a chlwstwr penodol i fwyd môr. Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y byddwn yn lansio clwstwr allforio yn ddiweddarach eleni. Bydd datblygiadau pellach o farchnadoedd allforio yn parhau i fod yn hanfodol wrth ymdrechu tuag at weledigaeth y cynllun. Mae'r diwydiant yn cynhyrchu dros £260 miliwn o allforion, gyda bron 90 y cant o'r rheini i'r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn gynnydd o dros 102 y cant ers 2005. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae ein rhaglenni digwyddiadau allforio a masnach wedi helpu busnesau Cymru i gyflawni dros £7 miliwn o werthiannau newydd, ac mae dros £15 miliwn o ragolygon yn cael eu datblygu. Mae'r gefnogaeth a gynigiwn i gynhyrchwyr bwyd yn cynnwys cyngor pwrpasol, arddangos, cymorth i fynychu digwyddiadau masnach, teithiau allforio ymroddedig i dargedu marchnadoedd, a chyfarfodydd busnes wedi'u hwyluso. Mae busnesau mewn rhannau eraill o'r DU yn awr yn edrych ar Gymru fel enghraifft o arfer gorau. Mae buddsoddiad tramor uniongyrchol yn gwneud cyfraniad pwysig i dwf. Rydym yn targedu yn ein dull ni o weithredu, gan ei bod yn ofynnol i'r diwydiant bwyd a diod adeiladu perthynas dros amser. Llwyddiant nodedig yn y cyfnod diweddar yw Calbee, y gwneuthurwr bwyd byrbryd Siapaneaidd a sefydlwyd yng Nglannau Dyfrdwy yn 2015, a grëodd hyd at 100 o swyddi. Mae Calbee yr union fath o gwmni yr ydym yn falch o'i helpu. Mae'n arloesol; yn cynhyrchu byrbrydau iach, sy'n seiliedig ar lysiau, i ateb y galw cynyddol gan ddefnyddwyr am fyrbrydau. Mae gan y diwydiant bwyd gyfrifoldeb i greu Cymru iachach. Mae deiet a maeth yn benderfynyddion pwysig o hyd oes ac ansawdd bywyd. Pwysleisiodd ein cynhadledd bwyd at y dyfodol y cyfrifoldeb a rennir ar draws y gadwyn fwyd i gefnogi bwyta'n iachach. Rhaid i wneuthurwyr edrych i ailffurfio cynnyrch tra mae'n rhaid i adwerthwyr a gwasanaeth bwyd ddarparu labeli clir sy'n llawn gwybodaeth ac annog dewisiadau iach. Rydym yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS) drwy ei fforwm categori bwyd i ffactoreiddio meini prawf bwyta'n iach i mewn i'r broses dendro. Mae saith deg tri o gyrff cyhoeddus yn awr wedi ymrwymo i ddefnyddio NPS mewn meysydd gwariant cyffredin ac ailadroddadwy. Byddaf yn parhau i noddi Arloesi Bwyd Cymru, sy'n darparu cyfleusterau ac arbenigedd ymchwil a datblygu ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd, gan gynnwys gweithgynhyrchu cynhyrchion iachach. Yn y flwyddyn ddiwethaf, roedd £12 miliwn o dwf ychwanegol mewn busnesau yng Nghymru yn deillio o ddatblygu cynnyrch a phroses newydd. Gall tlodi bwyd fod oherwydd diffyg fforddiadwyedd neu fynediad cyfyngedig i alluogi dewisiadau iach. Rydym yn cefnogi llawer o fentrau i fynd i'r afael â thlodi bwyd - rhai sydd wedi hen sefydlu megis tyfu cymunedol a chwmnïau cydweithredol bwyd cymunedol. Mae'r gynghrair tlodi bwyd newydd yn gydgyfarfod o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector ac mae'n datblygu gwaith i fynd i'r afael â newyn gwyliau mewn plant ysgol, a gafodd ei dreialu gan Fwyd Caerdydd y llynedd. Bydd y gynghrair hefyd yn ymchwilio i sut i wella'r nifer sy'n cael prydau ysgol am ddim a bydd yn gweithio gyda manwerthwyr i fod yn bartner iddynt i fynd i'r afael â mentrau tlodi bwyd. Rydym yn darparu cefnogaeth sylweddol i fusnesau bwyd er mwyn eu galluogi i fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Mae'r gwasanaeth Cymru Effeithlon yn helpu busnesau i gyflawni effeithlonrwydd o ran defnydd dŵr ac ynni a chyflawni rheoli gwastraff mwy effeithiol. Rydym yn llofnodwyr i Courtauld 2025, sef cytundeb gwirfoddol uchelgeisiol sy'n dod â sefydliadau a busnesau ynghyd ar draws y system fwyd i dorri allyriadau gwastraff a nwy tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â bwyd a diod gan o leiaf un rhan o bump erbyn 2025. Rydym yn annog busnesau i fod yn llofnodwyr. Mae cyfrifoldeb byd-eang yn ymestyn i ddyluniad ein cynlluniau grant. Mae'r cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd yn cynnwys mesurau cynaliadwyedd yn ei broses sgrinio ceisiadau. Mae'r rownd gyntaf wedi nodi £197 miliwn o fuddsoddiad ac 1,333 o gyfleoedd gwaith newydd posibl. Mae cyfraniad y diwydiant bwyd i gymunedau cydlynol yn gwbl amlwg yn ein cefnogaeth i wyliau bwyd. Dywedodd gwerthusiad annibynnol yn 2015, gyda'i gilydd, yr amcangyfrifir eu bod yn cefnogi 417 o swyddi yn economi Cymru ac yn dod â £25 miliwn net ychwanegol y flwyddyn drwy fasnachu, ond hefyd trwy fusnes a gynhyrchir yn yr economïau lleol o amgylch gwyliau. Mae diogelu'r cyflenwad bwyd a diogelwch bwyd yn flaenoriaethau yn y cynllun ac yn holl bwysig tuag at greu Cymru wydn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd i wella diogelwch bwyd. Mae'r cynllun sgoriau hylendid bwyd wedi bod yn llwyddiant aruthrol mewn codi safonau mewn sefydliadau arlwyo ac yn esiampl i genhedloedd eraill. Mae gwytnwch diwydiant bwyd a diod Cymru yn y sector preifat yn bennaf ac mae cynlluniau wrth gefn wedi'u datblygu'n dda ar waith. Mae bwyd yn un o'r sectorau allweddol a gynrychiolir ar ein grŵp llywio gwytnwch mewnol. Rydym yn cymryd rhan yn y rhaglen diogelwch bwyd byd-eang ac yn y grŵp cyswllt mewn argyfwng yn y gadwyn fwyd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sy'n asesu risgiau i gyflenwad bwyd ac yn lliniaru bygythiadau. Mae digwyddiadau bwyd yn gyfrwng gwych i hyrwyddo ein diwylliant bywiog a'r iaith Gymraeg sy'n ffynnu. Mae hunaniaeth Bwyd a Diod Cymru bellach yn cael ei gydnabod yn dda yn rhyngwladol ac yn cael ei barchu yn eang. Lansiwyd ein gwefan y llynedd i gyfathrebu a hysbysu diwydiant, rhanddeiliaid a'r cyhoedd am ein cenedl fwyd Cymru ac rydym wedi cofnodi bod dros 5,000 wedi gweld y dudalen a 1,500 o ddilynwyr Twitter. Rydym wrthi'n gweithio gyda nifer o gynhyrchwyr Cymru o ansawdd i sicrhau llawer mwy o gynhyrchion enw bwyd wedi'i amddiffyn ac mae Cymru yn dod yn gyfystyr â threftadaeth bwyd gyfoethog. Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi cyflwyno ciplun heddiw o'r hyn a gyflawnwyd gan y cynllun gweithredu bwyd a diod. Mae'r cynllun yn ymwneud â llawer mwy na bwyd; mae'n ymwneud â chyflawni ein haddewidion i genedlaethau'r dyfodol.
Thank you. I call the Plaid Cymru spokesperson, Simon Thomas.
Diolch. Galwaf ar lefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Thank you, Deputy Presiding Officer. I'd like to thank the Cabinet Secretary for her statement. I feel confident in responding to this statement, because this is a sector of the economy where I make the biggest personal contribution, namely food and drink. I look forward very much to celebrating with the National Farmers Union tomorrow in this Assembly - we'll be celebrating Welsh food - and we'll be celebrating Welsh drink with the Campaign for Real Ale later in the evening. So, I'm very pleased to see that this sector, which has grown, as the Minister has said in her statement, over the past two years, continues to develop and continues to develop apace. May I start, therefore, with a question on this statement and its relevance to our membership of the European Union? We are all aware, of course, that things such as PGI for Welsh lamb assists in promoting that particular product, and, of course, over 90 per cent of Welsh meat and dairy products that are exported are actually exported to the European Union, which shows me that this is a crucially important aspect as to why we should remain members of the European Union. I'd like to ask the Secretary what assessment has been made of the importance of membership of the European Union and growth in this sector. If I could just ask her one specific question that perhaps she won't be able to answer today, but if she could look at what's happened to the 'Carmarthen ham' application for PGI status, because I do understand that that bid is still hanging, like the 'Carmarthen ham' itself, and we do need to make some progress in order to improve things there. If I could turn to the second issue that I wanted to raise with the Cabinet Secretary, namely what we are doing on food waste, the Cabinet Secretary mentioned the Courtauld agreement of 2025 and this is a commitment that places no duties whatsoever in terms of reducing food waste in terms of businesses and the food production sector. I'm very disappointed that the Westminster Government hasn't legislated, as our colleagues in France have, in order to limit food waste and also to ensure that the over 1 million tonnes of food wasted every year, which is appropriate for human consumption, is referred to the people who need that food. In the world in which we all live, where our communities are full of food banks, it is a disgrace that we continue to waste so much food. Whilst I accept that the Welsh Government only has the option to be part of Courtauld 2025, I would like to hear from the Cabinet Secretary that this Government is eager to legislate, as they've done in France, to actually place a duty on major food traders and producers to reduce food waste, to recycle food waste and also to give any food suitable for human consumption to those people who need it. Whilst we are talking of people who are going hungry, may I refer now to another section of the statement - the section on healthy eating? It is disappointing to learn that eating fresh fruit and vegetables according to the guidance, in terms of having five a day - although I think that may have gone up to seven a day according to some now - . It is disappointing that we continue to struggle to reach even that five-a-day target in Wales, and we've reduced from 36 per cent of the population to 32 per cent of the population achieving it. So, we're moving backwards in terms of encouraging people to eat more healthily, and that relates back, of course, to the statement that we heard from the health Secretary a little earlier. Plaid Cymru, during the last campaign, had proposed that it would be possible to provide fruit bowls free of charge - to put free fruit bowls in every school and every classroom in Wales. Do you think that that is a good idea and can that be achieved, particularly using fresh fruit from Wales? We have wonderful strawberries at the moment. We will also have lovely pears and apples from Wales, and they could be provided within our schools. The other area that I do want to turn to briefly is food security. You mentioned this in your statement. The latest figures demonstrate that only 46 per cent of food eaten in Britain is actually produced here, and we have fallen back significantly in terms of local food production within Wales and within Britain. Now, some would argue that, in a single market and a globalised world, the importation of food is going to play an important part. I do accept that, of course, but I would like to hear that it is the Government's aim to increase the amount of food that is produced in Wales and that is consumed in Wales, and that that is a positive objective for our farmers, for our environment and also for healthy eating. I was very disappointed to hear the leader of UKIP earlier, in asking a question of the First Minister, suggesting that it may be possible to move away entirely from providing support to Welsh farmers and to import food cheaply, rather than producing our own healthy produce that is also good for the environment here in Wales. The final point that I want to raise, Deputy Presiding Officer - thank you for your patience - is one on how we use food to present a positive image of our nation. We know that football has been doing that very successfully recently, but I also think that food has a very important role to play here. May I ask you, are you of the opinion, as the Minister responsible for this area, that we sufficiently celebrate the excellent food and drink that we have here in Wales? You mentioned a new identity for Welsh food and drink, and I don't think that that's really taken hold. When Joe Ledley's beard has more followers on Twitter than Welsh food has, then I think there's a lot more work to be done to promote this and to celebrate Welsh produce. There are - I'm sure you'll be part of them, Minister - hundreds of food fairs and events happening the length and breadth of Wales over the next few months. I look forward to going to the seafood fair in Aberaeron, in Milford Haven, in Lampeter - there are festivals in all parts of Wales. But are we really actually bringing these together with our farmers' markets, and are you content with the way that we market Welsh food within Wales and outwith Wales? There is some work to be done here. We lost a very strong brand in the past and I don't think we've regained that ground, as of yet.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad. Rwy'n teimlo'n hyderus wrth ymateb i'r datganiad yma, achos dyma'r sector o'r economi rwy'n gwneud y cyfraniad personol mwyaf iddi hi, sef bwyd a diod, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu gyda'r NFU, yma yn y Cynulliad yfory, y bwyd o Gymru, a dathlu hefyd gyda CAMRA, ar ddiwedd y Cynulliad yfory, y ddiod o Gymru. Felly, rwy'n awyddus iawn i weld bod y sector yma, sydd wedi tyfu, fel y mae'r Gweinidog wedi dweud yn ei datganiad, dros y ddwy flynedd diwethaf, yn parhau i dyfu ac yn parhau i dyfu fwyfwy hefyd. A gaf i ddechrau, felly, gyda chwestiwn ynglŷn â pherthynas y datganiad heddiw ar y sector yma gyda'n haelodaeth ni o'r Undeb Ewropeaidd? Rydym i gyd yn gyfarwydd, wrth gwrs, â'r ffaith bod pethau megis PGI ar gig oen Cymru yn helpu i hyrwyddo y cig hwnnw ac, wrth gwrs, mae dros 90 y cant o gynnyrch cig a llaeth Cymru sy'n cael ei allforio yn cael ei allforio i'r Undeb Ewropeaidd, sy'n dangos i mi fod hwn yn faes hollbwysig i ni barhau i fod yn aelodau ohono. Hoffwn ofyn i'r Ysgrifennydd pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o'r berthynas â'r Undeb Ewropeaidd a thwf yn y sector yma. Ac os caf yn fanna jest ofyn un peth penodol iddi hi, efallai na fydd hi'n gallu ateb heddiw, ond os gall hi edrych am yr hyn sydd wedi digwydd i gais 'Carmarthen ham', cig moch hallt o Gaerfyrddin, ar gyfer dyfarniad PGI, achos rwy'n deall bod y cais yna ar hyn o bryd yn dal i hongian, fel 'Carmarthen ham' a dweud y gwir, ac mae eisiau symud ymlaen i wella hynny. A gaf i droi at yr ail beth rwyf eisiau ei godi gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, sef yr hyn rydym yn ei wneud ynglŷn â gwastraff bwyd? Fe soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet am gytundeb Courtauld 2025. Dyma ymrwymiad sydd heb unrhyw ddyletswydd o gwbl i leihau gwastraff bwyd gan fusnesau a gan y sector cynhyrchu bwyd. Rwy'n siomedig iawn nad yw Llywodraeth San Steffan wedi mynd ati i ddeddfu, a dweud y gwir, fel ein cyfeillion ni yn Ffrainc, i gyfyngu ar wastraff bwyd ac i sicrhau bod dros 1 miliwn o dunelli o fwyd bob blwyddyn sy'n cael ei wastraffu, ond sydd yn addas i gael ei fwyta, yn cael ei gyfeirio at bobl sydd angen y bwyd yna. Ac yn y byd rydym i gyd yn byw ynddo, lle mae ein cymunedau ni yn llawn o fanciau bwyd, mae'n dal yn gywilydd ein bod ni'n gwastraffu cymaint o fwyd. Ac felly er fy mod i'n derbyn mai unig opsiwn Llywodraeth Cymru yw i fod yn rhan o Courtauld 2025, byddwn yn hoffi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet fod y Lywodraeth hon yn awyddus i ddeddfu fel maen nhw wedi ei wneud yn Ffrainc, i roi dyletswydd ar fasnachwyr bwyd mawr a chynhyrchwyr bwyd i leihau gwastraff bwyd, i ailgylchu gwastraff bwyd ac i roi unrhyw fwyd sydd dros ben sydd yn addas ar gyfer ei fwyta i'w ddosbarthu ymysg y bobl hynny sydd angen bwyd. A thra'n bod ni'n sôn am bobl sydd angen bwyd, a gaf i droi at ran arall o'r datganiad sef yr un am fwyta'n iach? Mae'n siomedig i ddeall bod bwyta ffrwythau a llysiau ffres yn unol a'r canllawiau, sef pump y diwrnod - er bod y rheini wedi codi, rwy'n meddwl, i saith y diwrnod nawr yn ôl rhai - . Ond, beth bynnag, rydym yn stryglo i hyd yn oed gyrraedd pump y diwrnod yma yng Nghymru, ac rydym wedi lleihau o 36 y cant o'r boblogaeth i 32 y cant o'r boblogaeth. Felly, rydym yn mynd tua'n ôl ynglŷn â chael pobl i fwyta mwy o fwyd iach, ac mae hynny yn gyswllt yn ôl, wrth gwrs, i'r datganiad a gawsom ni gan yr Ysgrifennydd iechyd gynnau fach. Roedd Plaid Cymru yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf wedi cynnig bod modd gwneud ffrwythau am ddim - rhoi powlenni o ffrwythau am ddim ym mhob ysgol a phob dosbarth ysgol yng Nghymru. A ydych chi'n meddwl bod hynny yn syniad da, ac oes modd cyflawni hynny gan ddefnyddio yn arbennig ffrwythau ffres o Gymru? Mae gennym mi fefus neu syfi hyfryd ar hyn o bryd. Fe fydd gellyg ac afalau hyfryd o Gymru, ac mae modd cyflwyno hynny i'n hysgolion ni. Y maes arall rwyf eisiau troi ato yw un o ddiogelwch bwyd. Roeddech yn sôn am ddiogelwch bwyd yn y datganiad. Mae'r ffigur diweddaraf yn dangos mai dim ond 46 y cant o fwyd sy'n cael ei fwyta ym Mhrydain sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain, ac rydym wedi colli a llithro nôl yn sylweddol tu fewn i gynhyrchu bwyd yn lleol, a thu fewn i Gymru a Phrydain ar gyfer bwyta fan hyn. Nawr, mae rhai yn dadlau, wrth gwrs, mewn Undeb Ewropeaidd a marchnad sengl a byd rhyngwladol fod mewnforio bwyd ac ati yn mynd i fod yn ran bwysig o hynny. Rwy'n derbyn hynny yn llwyr, wrth gwrs, ond byddwn yn licio gweld ei bod yn fwriad gan y Llywodraeth i gynyddu faint o fwyd sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru sy'n cael ei fwyta yng Nghymru, bod hwnnw yn amcan da ar gyfer ein ffermwyr ni, amcan da ar gyfer yr amgylchedd ac yn amcan da ar gyfer bwyta'n iach yn ogystal. Ac roeddwn yn siomedig iawn i glywed arweinydd UKIP gynnau fach wrth ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog yn awgrymu bod modd symud ymaith yn llwyr oddi wrth gymorth i ffermwyr yng Nghymru a mewnforio bwyd yn tsiêp, yn hytrach na chynhyrchu ein bwyd ni yn iachus ac yn dda i'r amgylchedd fan hyn yng Nghymru. Y pwynt olaf rwyf eisiau ei godi, Ddirprwy Lywydd - diolch am eich amynedd - yw un ynglŷn â sut rydym yn defnyddio bwyd i roi argraff dda o'r wlad hon - o'r genedl felly. Rŷm ni'n gwybod bod pêl-droed yn gwneud hynny yn ddiweddar iawn, ond rwy'n meddwl bod gan fwyd hefyd rôl hynod o bwysig i chwarae yn fan hyn. A gaf i ofyn i chi, a ydych chi o'r farn, fel y Gweinidog newydd sy'n edrych ar y maes yma, ein bod ni'n dathlu digon y bwyd a'r ddiod wych sydd gyda ni yng Nghymru? Rŷch chi'n sôn am yr 'identity' newydd yma i fwyd a diod o Gymru. Nid ydw i'n meddwl bod hynny wedi cydio - pan fod gan farf Joe Ledley mwy o ddilynwyr ar Trydar nag sydd gan fwyd a diod o Gymru, mae eisiau bach mwy o waith, rwy'n meddwl, i hybu hyn a hefyd i ddathlu. Mae yna - a byddwch chi'n rhan ohonyn nhw, mae'n siŵr, Weinidog - gannoedd o ffeiriau bwyd a digwyddiadau bwyd yn digwydd dros y misoedd nesaf ar hyd a lled Cymru. Rwy'n edrych ymlaen i fynd i Aberaeron i'r ffair bysgod, mae'r ffair bwyd môr Aberdaugleddau, Llambed - mae rhai ym mhob rhan o Gymru. Ond a ydym ni'n cydblethu'r rhain yn ddigon gyda marchnad ffermwyr hefyd a, rili, a ydych chi'n hapus gyda'r ffordd rŷm ni'n gwerthu bwyd Cymru y tu mewn i Gymru a thu hwnt hefyd? Rwy'n meddwl bod angen bach mwy o waith ar hyn. Fe gollwyd brand arbennig o gryf yn y gorffennol ac nid ydw i'n meddwl ein bod ni cweit wedi adennill y tir hwnnw.
I thank Simon Thomas for his questions and comments. I'm glad to see your jokes haven't improved since last week's oral statement, but I do look forward to celebrating both the NFU and CAMRA events to be held here tomorrow. Just in relation to Carmarthen ham, I'm expecting several items of food to receive the PGI later this year. I can't give you a definitive date but I'm very hopeful it will be later this year. In relation to the EU, clearly work has had to be done ahead of Thursday's vote but I'm personally very confident that we won't have to look that way later on. But we know that if we did have Brexit it would have a massive impact on the food and drink industry. The single market is the world's biggest free trade area in GDP terms and is the UK's and Wales's largest trading partner. We know that businesses in the EU enjoy a home market of just over 500 million people, and that's got the ability to sell goods and services without tariffs or other trade restrictions and with common safety standards. And, as you stated, it is the largest market for Welsh exports. So, we know what damage that would do to the Welsh food and drink sector. You mentioned Courtauld 2025 and your disappointment that the UK Government hadn't legislated in this area like France, and I'm very keen to have a look at what France has done. I think it's very important that we do everything we can to reduce the environmental impact with food businesses and also food waste. Some research that was published earlier this year showed that 1.9 million tonnes of food is wasted in the UK grocery supply chain every year. That's a huge amount. Fortunately, from that about 47,000 tonnes is redistributed to people who need it, and that equates to about 90 million meals a year. But I'm very keen to do what we can to reduce that wastage, and I met with the FSA this morning where, I think, one aspect where we could improve things is I think people get very confused with best-by date and use-by date and sell-by date - you know, we have all these different things on food and I think it's really important that people understand what all these different things mean. You raised an issue around healthy eating and, certainly, when I was listening to the Cabinet Secretary for health's statement several things came up where you can see the crossover to my portfolio around obesity and, you're quite right, we should be doing all we can to encourage people to eat at least five a day. Your suggestion around fruit bowls in schools sounds eminently sensible and I suppose, like everything, it's probably down to cost. But I'd be very happy to have a discussion with the Cabinet Secretary for Education in relation to that. You talked about food security and there are increasing global pressures on food supply, but I believe that Wales is very well placed to respond to challenges of changing climate, for instance. I think the livestock industry in Wales dominates as the geography and climate of Wales is very well suited to grass-based systems and the sustainable management of our natural resources is critical to the future success of our economy and creating a future for all our communities. I think football, actually, will have an impact on the Welsh food sector. We are seeing Wales on a stage that perhaps many people won't have seen Wales on before, with the football, and more people will know where Wales is, and we can only build on that. So, I think it would be a really good opportunity over the next couple of months. As you say, we'll have lots of summer shows and festivals, and I'm sure our paths will cross at many of them, but I think it's a really good opportunity. We can always do more to celebrate. I do think we do a great deal to celebrate our wonderful food and drink sector, but, of course, we can always do more, and I'm very keen to do so.
Diolch i Simon Thomas am ei gwestiynau a'i sylwadau. Rwy'n falch o weld nad yw eich jôcs wedi gwella ers datganiad llafar yr wythnos diwethaf, ond rwy'n edrych ymlaen at ddathlu digwyddiadau'r NFU a CAMRA i'w cynnal yma yfory. O ran ham Caerfyrddin, dwi'n disgwyl sawl eitem o fwyd i dderbyn y PGI yn ddiweddarach eleni. Ni allaf roi dyddiad pendant ichi ond rwy'n obeithiol iawn y bydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni. Mewn perthynas â'r UE, yn amlwg bu'n rhaid gwneud gwaith cyn pleidlais ddydd Iau ond rwy'n hyderus iawn yn bersonol na fydd yn rhaid inni edrych y ffordd honno yn nes ymlaen. Ond rydym yn gwybod pe byddem yn cael Brexit y byddai'n cael effaith enfawr ar y diwydiant bwyd a diod. Y farchnad sengl yw maes masnach rydd mwyaf y byd yn nhermau cynnyrch domestig gros a phartner masnachu mwyaf y DU a Chymru. Rydym yn gwybod bod busnesau yn yr UE yn mwynhau marchnad gartref o ychydig dros 500 miliwn o bobl, ac mae gan hynny'r gallu i werthu nwyddau a gwasanaethau heb dariffau neu gyfyngiadau masnach eraill ac â safonau diogelwch cyffredin. Ac, fel y nodwyd gennych, dyma'r farchnad fwyaf ar gyfer allforion o Gymru. Felly, rydym yn gwybod pa niwed a fyddai'n ei gwneud i sector bwyd a diod Cymru. Soniasoch am Courtauld 2025 a'ch siom nad oedd Llywodraeth y DU wedi deddfu yn y maes hwn fel Ffrainc, ac rwy'n awyddus iawn i gael golwg ar yr hyn y mae Ffrainc wedi ei wneud. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r effaith amgylcheddol gyda busnesau bwyd a hefyd wastraff bwyd. Mae rhywfaint o ymchwil a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn dangos bod 1.9 miliwn tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yng nghadwyn cyflenwi bwyd y DU bob blwyddyn. Mae hynny'n swm uchel iawn. Yn ffodus, mae tua 47,000 o dunelli o hynny yn cael ei ailddosbarthu i bobl sydd ei angen, ac mae hynny'n cyfateb i tua 90 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn. Ond rwy'n awyddus iawn i wneud yr hyn a allwn i leihau'r gwastraff, a chyfarfûm â'r ASB y bore yma ac, rwy'n meddwl, mai un agwedd lle y gallem wella pethau rwy'n credu yw bod pobl yn mynd yn ddryslyd iawn gyda dyddiad ar ei orau cyn, defnyddio erbyn a gwerthu erbyn - chi'n gwybod, mae gennym yr holl bethau gwahanol hyn ar fwyd ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn deall beth mae'r holl bethau gwahanol hyn yn ei olygu. Codasoch fater am fwyta'n iach ac, yn sicr, pan oeddwn yn gwrando ar ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer iechyd daeth nifer o bethau i'r amlwg lle mae gorgyffwrdd yn digwydd gyda fy mhortffolio i o gwmpas gordewdra ac, rydych yn llygad eich lle, dylem fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl i fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae eich awgrym o gwmpas powlenni ffrwythau mewn ysgolion yn swnio'n dra synhwyrol ac am wn i, fel popeth, mae'n fwy na thebyg yn fater o gost. Ond byddwn yn hapus iawn i gael trafodaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg mewn cysylltiad â hynny. Soniasoch am ddiogelwch bwyd ac mae pwysau cynyddol byd-eang ar y cyflenwad bwyd. Ond rwy'n credu bod Cymru mewn sefyllfa dda iawn i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd, er enghraifft. Rwy'n meddwl bod y diwydiant da byw yng Nghymru yn dominyddu gan fod daearyddiaeth a hinsawdd Cymru yn addas iawn i systemau sy'n seiliedig ar laswellt ac mae rheolaeth gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol yn hanfodol i lwyddiant dyfodol ein heconomi a chreu dyfodol i'n holl gymunedau. Rwy'n meddwl y bydd pêl-droed, mewn gwirionedd, yn cael effaith ar sector bwyd Cymru. Rydym yn gweld Cymru ar lwyfan na fydd llawer o bobl o bosibl wedi gweld Cymru arno o'r blaen, gyda'r pêl-droed, a bydd mwy o bobl yn gwybod ble mae Cymru, ac ni allwn ond adeiladu ar hynny. Felly, rwy'n meddwl y byddai'n gyfle da iawn dros y misoedd nesaf. Fel y dywedwch, byddwn yn cael llawer o sioeau a gwyliau haf, ac rwy'n siŵr y bydd ein llwybrau'n croesi mewn llawer ohonynt, ond rwy'n credu ei fod yn gyfle da iawn. Gallwn bob amser wneud mwy i ddathlu. Rwy'n meddwl ein bod yn gwneud llawer iawn i ddathlu ein sector bwyd a diod rhagorol, ond, wrth gwrs, gallwn bob amser wneud mwy, ac rwy'n awyddus iawn i wneud hynny.
Okay, thank you. Conservative spokesperson, Paul Davies.
Iawn, diolch. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Can I thank the Cabinet Secretary for her statement today and wish her all the best in her new role? I look forward to working with her constructively wherever I can to help make our rural communities more prosperous and sustainable in the future. Like the Member for Mid and West Wales, I too probably make a significant contribution to this sector - perhaps too much. In relation to the action plan for the food and drink industry, whilst I very much accept that there has been some progress, there is still plenty of work to be done with regard to the procurement of Welsh food and drink for public sector contracts. I appreciate that, last year, the National Procurement Service brought the procurement of food within its scope and that 73 public bodies are now committed to using the National Procurement Service. However, can the Cabinet Secretary be more specific and tell us how the Welsh Government is ensuring that there are robust supplier selection procedures in place for food contracts across Wales so that Welsh farmers and food producers don't miss out on these very important contracts? A key area of this action plan is in relation to education, training and skills for the food and drink sector, and that is something that I very much welcome. I'm pleased to see from last year's update that the Welsh baccalaureate has been reviewed to include food and drink modules, and I'd welcome an update on that progress. However, I believe that more needs to be done at a younger level to teach children and young people about where their food comes from. The Cabinet Secretary touched earlier on promoting healthy eating generally, so can she tell us what discussions she's had with her colleague the Cabinet Secretary for Education about raising the profile of food and agriculture within the education system, perhaps through the curriculum or through voluntary schemes and work placements? In the summary of responses to this action plan, there were concerns expressed about the difficulty in understanding what training is available and how to access it. In particular, respondents felt that the Government was not joined up in its approach, particularly with the Department for Education and Skills and also with partner bodies, including sector skills councils. In light of this, perhaps the Cabinet Secretary can tell us what specific improvements have been made since the launch of the action plan in relation to these specific concerns. If we want our food and drink industry to flourish then the development of a skilled workforce is crucial, and the Welsh Government must build stronger links with businesses and education providers to meet the skills gap in the industry. I'd be grateful if the Cabinet Secretary would commit to perhaps publishing job creation statistics and employment opportunity figures with each annual update so that Members can actually scrutinise the Welsh Government's action in this particular area. I appreciate that there is a separate food tourism action plan for Wales 2015-20, and I fully support the importance of food tourism in Wales and the need for a separate strategy. However, can the Cabinet Secretary tell us how she's ensuring that other strategies, like the food tourism action plan and the food procurement strategy, are actually co-ordinated with other Welsh Government policies and that they are actually joined up? As the Member for Mid and West Wales said earlier, food festivals play an important role in promoting our food and drink industry, so it's important that they get as much support as possible. It's been suggested to me that the money each food festival receives from the Welsh Government is capped at a certain figure. Could the Cabinet Secretary confirm whether this is the case? Surely funds should be provided to these festivals on a case-by-case basis and it's crucial that there is flexibility in the funding process to ensure that festivals are properly supported. Farmers' markets also play an important part in showcasing Welsh food and drink and, in particular, helping smaller producers to promote regional produce. There are some fantastic farmers' markets across Wales - quite a few in my own constituency - so can the Cabinet Secretary tell us how this strategy supports those farmers' markets specifically? Deputy Presiding Officer, at the heart of any action plan for the food and drink industry must be a strong export strategy, and I appreciate that the Welsh Government is launching an export cluster later this year. However, will she tell us a bit more about how the Welsh Government is identifying business opportunities in both the domestic and the international markets? As the plan states, export market development is advanced by Government departments working together, and Governments at all levels working together. I appreciate that the Welsh Government participates in the global food security programme and in DEFRA's food chain emergency liaison group, however, can she tell us what outcomes have been realised in relation to food security and food safety for Welsh producers? Therefore, in closing, Deputy Presiding Officer, can I thank the Minister, once again, for her statement? I look forward to seeing some of the themes within this plan further developed to help the Welsh food and drink industry flourish in the future.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw a dymuno'r gorau iddi yn ei rôl newydd? Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi yn adeiladol lle bynnag y gallaf i helpu i wneud ein cymunedau gwledig yn fwy ffyniannus a chynaliadwy yn y dyfodol. Fel yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, rwyf innau hefyd yn ôl pob tebyg yn gwneud cyfraniad sylweddol i'r sector hwn - gormod efallai. O ran y cynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, er fy mod yn derbyn y bu rhywfaint o gynnydd, mae digon o waith i'w wneud o ran y broses o gaffael bwyd a diod ar gyfer contractau sector cyhoeddus. Rwy'n sylweddoli, y llynedd, bod y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi dwyn caffael bwyd o fewn ei gwmpas a bod 73 o gyrff cyhoeddus bellach yn ymrwymedig i ddefnyddio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Fodd bynnag, a all Ysgrifennydd y Cabinet fod yn fwy penodol a dweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gweithdrefnau dethol cyflenwyr cadarn ar waith ar gyfer contractau bwyd ar draws Cymru er mwyn sicrhau nad yw ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd Cymru yn colli allan ar y contractau pwysig iawn hyn? Mae maes allweddol o'r cynllun gweithredu hwn yn gysylltiedig ag addysg, hyfforddiant a sgiliau ar gyfer y sector bwyd a diod, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Rwy'n falch o weld o ddiweddariad y llynedd bod bagloriaeth Cymru wedi cael ei hadolygu i gynnwys modiwlau bwyd a diod, a byddwn i'n croesawu diweddariad ar y cynnydd hwnnw. Fodd bynnag, credaf fod angen gwneud mwy ar lefel iau i ddysgu plant a phobl ifanc o ble y mae eu bwyd yn dod. Cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach at hybu bwyta'n iach yn gyffredinol, felly a all hi ddweud wrthym pa drafodaethau y mae hi wedi'u cael gyda'i chydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am godi proffil bwyd ac amaethyddiaeth o fewn y system addysg, efallai drwy'r cwricwlwm neu drwy gynlluniau gwirfoddol a lleoliadau gwaith? Yn y crynodeb o ymatebion i'r cynllun gweithredu hwn, mynegwyd pryderon am yr anhawster o ran deall pa hyfforddiant sydd ar gael a sut i gael gafael arno. Yn benodol, teimlai ymatebwyr nad oedd y Llywodraeth yn gydgysylltiedig yn ei dull, yn benodol gyda'r Adran Addysg a Sgiliau a hefyd gyda chyrff sy'n bartneriaid, gan gynnwys cynghorau sgiliau sector. Yng ngoleuni hyn, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa welliannau penodol sydd wedi'u gwneud ers lansio'r cynllun gweithredu mewn cysylltiad â'r pryderon penodol hyn. Os ydym yn dymuno gweld ein diwydiant bwyd a diod yn ffynnu, yna mae datblygu gweithlu medrus yn hanfodol, a rhaid i Lywodraeth Cymru feithrin cysylltiadau cryfach â busnesau a darparwyr addysg i ddiwallu'r bwlch sgiliau yn y diwydiant. Byddwn yn ddiolchgar pe byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i efallai gyhoeddi ystadegau creu swyddi a ffigurau cyfleoedd cyflogaeth gyda phob diweddariad blynyddol fel y gall Aelodau wir graffu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn. Rwy'n sylweddoli bod cynllun gweithredu twristiaeth bwyd ar wahân i Gymru 2015-20, ac rwy'n llwyr gefnogi pwysigrwydd twristiaeth bwyd yng Nghymru a'r angen am strategaeth ar wahân. Fodd bynnag, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae hi'n sicrhau bod strategaethau eraill, fel y cynllun gweithredu twristiaeth bwyd a'r strategaeth gaffael bwyd, mewn gwirionedd yn cydgysylltu â pholisïau eraill Llywodraeth Cymru a'u bod yn gydgysylltiedig mewn gwirionedd? Fel y dywedodd yr Aelod dros y Canolbarth a'r Gorllewin yn gynharach, mae gwyliau bwyd yn chwarae rhan bwysig mewn hyrwyddo ein diwydiant bwyd a diod, felly mae'n bwysig eu bod yn cael cymaint o gefnogaeth ag y bo modd. Awgrymwyd i mi fod yr arian y mae bob gŵyl fwyd yn ei gael gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gapio ar ffigur penodol. A allai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw hyn yn wir? Siawns y dylai arian gael ei ddarparu i'r gwyliau hyn ar sail achos ac mae'n hanfodol bod hyblygrwydd yn y broses ariannu er mwyn sicrhau bod gwyliau yn cael eu cefnogi'n briodol. Mae marchnadoedd ffermwyr hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn arddangos bwyd a diod Cymru ac, yn benodol, drwy helpu cynhyrchwyr llai i hyrwyddo cynnyrch rhanbarthol. Mae marchnadoedd ffermwyr gwych ledled Cymru - cryn dipyn ohonynt yn fy etholaeth i fy hun - felly a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym sut y mae'r strategaeth hon yn cefnogi'r marchnadoedd ffermwyr penodol hynny? Ddirprwy Lywydd, wrth wraidd unrhyw gynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant bwyd a diod rhaid cael strategaeth allforio gref, ac rwy'n gwerthfawrogi bod Llywodraeth Cymru yn lansio clwstwr allforio yn ddiweddarach eleni. Fodd bynnag, a wnaiff hi ddweud wrthym ychydig mwy am sut mae Llywodraeth Cymru yn nodi cyfleoedd busnes marchnadoedd cartref a rhyngwladol? Fel y mae'r cynllun yn datgan, mae datblygu'r farchnad allforio yn cael ei hyrwyddo gan adrannau Llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd, a Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y rhaglen diogelwch bwyd byd-eang ac yn y grŵp cyswllt mewn argyfwng yn y gadwyn fwyd DEFRA, fodd bynnag, a all hi ddweud wrthym pa ganlyniadau sydd wedi cael eu gwireddu o ran diogelu'r cyflenwad bwyd a diogelwch bwyd i gynhyrchwyr Cymru? Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog, unwaith eto, am ei datganiad? Edrychaf ymlaen at weld rhai o'r themâu yn y cynllun hwn yn cael eu datblygu ymhellach i helpu diwydiant bwyd a diod Cymru i ffynnu yn y dyfodol.
I thank Paul Davies for his questions and comments, and I, too, very much look forward to working with him in this very important area. You asked about the procurement of Welsh produce and products in the public sector, and, as I said, we've been working very closely with the National Procurement Service, which, you'll be aware, was established back in 2013, I think it was, and that brought together the procurement of common and repetitive spend right across the public sector on a once-for-Wales basis. The NPS set up a food category forum to develop a food strategy, and that will inform the process of bringing the procurement of food within its scope throughout 2016. The food division sits on the NPS food category forum, and we are actively working with the NPS and key stakeholders. We've now got several new lots that are being procured during this year: prepared sandwiches, sandwich fillings and buffet provision, for instance, and frozen plated meals. We're making sure that we work - the health service with local authorities - to make sure that we are best placed to use Welsh products. What the NPS is aiming, initially, for is to let contracts for a two-year period, then there's the option to have a one-year extension, and we are now beginning to develop the tender documentation. The food category forum will be developing this documentation as we are going forward, and my officials are fully engaged in this process and working with NPS to identify suitable Welsh suppliers to provide them with the opportunity to bid for the frameworks. You raised the point about education, training, skills and innovation, and that's incredibly important. I think what we need to make sure is that we have a very skilled and capable workforce going forward, and that's all about developing key partnerships within the skill supply chain. That means engaging with both secondary and higher education, and I've had some informal discussions with the Minister for education. I'm very keen to see young people brought in to show them what can be offered as a career within the food and drink sector, and you mentioned the work that has been done within the revised Welsh baccalaureate, where we've identified ways to introduce food modules, for instance. We've also worked with the sector skills councils to support the development of career ambassadors in the food industry, so that we can champion the wealth of opportunities that - as I said, it's Wales's biggest employer: 222,000 people if you include retail and restaurants and all aspects of food and drink. So, it's the biggest employer we have across Wales. What the sector skills councils have done is they've developed industrial skill panels in the dairy sector, in technical skills and manufacturing skills, and that then will inform the development of the industrial skills that will be required within education and training. You raised a question regarding food tourism, and, obviously, we have the food tourism action plan. That focuses on the importance of Welsh food and drink in terms of the visitor experience, and food and drink, I think, should be emblematic of the Welsh culture and have an international reputation for quality and authenticity that really reflects and enhances the very positive values of Welsh provenance. I think some excellent examples I can give you of collaboration between tourism and the food industry across Wales include businesses such as Dylan's Restaurant in Menai Bridge, which has been very successful in winning the bronze award at the recent national tourism awards in the 'eating out' category. Food and tourism, I think, are particularly important in Wales due to the economic importance of both of the sectors. It really does provide an essential part of the tourism offer that I think we have here in Wales, because it offers, I think, probably the most common point of contact with visitors. In relation to exports, you mentioned the Hybu Cig Cymru enhanced export programme. What we want here, and we set that out within the Welsh red meat strategic action plan, is we want the industry to seek to increase sales. Export sales will obviously be a key component to that. I just had some conversations earlier today with someone who owns an abattoir, regarding red meat sales and the red meat sector specifically, because we know that exports are absolutely vital to farming and the processing industry in Wales. They account, approximately, for one third of all production. So, increasing returns to industry by maximising exports is really important in Wales. I'm very pleased to see that the Welsh Government's three-year investment programme in supporting exports and developing new markets for quality Welsh lamb and beef has already produced an excellent return. In relation to food festivals, I agree that there should be some flexibility about them. I've got a very rigid budget, unfortunately. I'd like to have more money, but I think you're right: it's about ensuring that it's not just large food festivals that receive money; it's about those small farmers' markets. I remember, when I first got elected, back in 2007, somebody coming to me to try and get a farmers' market up and running and there was just no funding available. So, it's something that I have said to officials I'd be very keen to see, even if it's just a small pot of money, to give them that sort of start going forward, because we know that a farmers' market could really enhance a town centre experience and we're looking into how we can regenerate our town centres. So, I think it is important to have that flexibility.
Diolch i Paul Davies am ei gwestiynau a'i sylwadau, ac rwyf innau, hefyd, yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gydag ef yn y maes pwysig iawn hwn. Gofynasoch am y broses o gaffael cynhyrchion a chynnyrch Cymru yn y sector cyhoeddus, ac, fel y dywedais, rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, a gafodd, fel y gwyddoch, ei sefydlu yn ôl yn 2013, rwy'n meddwl, a gwnaeth hwnnw ddwyn ynghyd y broses o gaffael gwariant cyffredin ac ailadroddus ar draws y sector cyhoeddus ar sail unwaith ar gyfer Cymru. Sefydlodd yr NPS fforwm categori bwyd i ddatblygu strategaeth fwyd, a fydd yn llywio'r broses o ddod â chaffael bwyd o fewn ei gwmpas trwy gydol 2016. Mae'r isadran bwyd yn eistedd ar fforwm categori bwyd yr NPS, ac rydym wrthi'n gweithio â'r NPS a rhanddeiliaid allweddol. Rydym bellach wedi cael nifer o eitemau newydd sy'n cael eu caffael yn ystod y flwyddyn: brechdanau wedi'u paratoi, llenwadau brechdanau a darpariaeth bwffe, er enghraifft, a phrydau plât wedi'u rhewi. Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio - y gwasanaeth iechyd gydag awdurdodau lleol - i wneud yn siŵr ein bod yn y sefyllfa orau i ddefnyddio cynnyrch Cymru. Yr hyn y mae'r NPS yn anelu ato, yn y lle cyntaf, yw gosod contractau am gyfnod o ddwy flynedd, yna mae'r opsiwn i gael estyniad un flwyddyn, ac rydym yn awr yn dechrau datblygu'r dogfennau tendro. Bydd y fforwm categori bwyd yn datblygu'r ddogfennaeth hon wrth i ni symud ymlaen, ac mae fy swyddogion yn cymryd rhan lawn yn y broses hon ac yn gweithio gyda'r NPS i nodi cyflenwyr addas yng Nghymru i roi'r cyfle iddynt i gynnig am y fframweithiau. Codasoch y pwynt am addysg, hyfforddiant, sgiliau ac arloesedd, ac mae hynny'n eithriadol o bwysig. Rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei sicrhau yw bod gennym weithlu medrus iawn a galluog wrth symud ymlaen, ac mae hynny'n ymwneud â datblygu partneriaethau allweddol o fewn y gadwyn gyflenwi sgiliau. Mae hynny'n golygu ymgysylltu ag addysg uwchradd ac addysg uwch, ac rwyf wedi cael rhai trafodaethau anffurfiol gyda'r Gweinidog Addysg. Rwy'n awyddus iawn i weld pobl ifanc yn cael eu dwyn i mewn i ddangos iddynt beth y gellir ei gynnig fel gyrfa o fewn y sector bwyd a diod, a soniasoch am y gwaith sydd wedi ei wneud o fewn y fagloriaeth Cymru ddiwygiedig, lle'r ydym wedi nodi ffyrdd o gyflwyno modiwlau bwyd, er enghraifft. Rydym hefyd wedi gweithio gyda'r cynghorau sgiliau sector i gefnogi datblygiad llysgenhadon gyrfa yn y diwydiant bwyd, fel y gallwn hyrwyddo cyfoeth o gyfleoedd sydd - fel y dywedais, dyma gyflogwr mwyaf Cymru: 222,000 o bobl os ydych yn cynnwys adwerthu a bwytai a phob agwedd ar fwyd a diod. Felly, dyma'r cyflogwr mwyaf sydd gennym ar draws Cymru. Yr hyn y mae'r cynghorau sgiliau sector wedi ei wneud yw datblygu paneli sgiliau diwydiannol yn y sector llaeth, mewn sgiliau technegol a sgiliau gweithgynhyrchu, a bydd hynny wedyn yn llywio'r gwaith o ddatblygu sgiliau diwydiannol a fydd yn ofynnol o fewn addysg a hyfforddiant. Codasoch gwestiwn am dwristiaeth bwyd, ac, yn amlwg, mae gennym y cynllun gweithredu ar dwristiaeth bwyd. Mae hwnnw'n canolbwyntio ar bwysigrwydd bwyd a diod o Gymru yn nhermau profiad yr ymwelwyr, a dylai bwyd a diod, rwy'n credu, fod yn arwyddlun o ddiwylliant Cymru a chael enw da yn rhyngwladol am ansawdd a dilysrwydd sydd wir yn adlewyrchu a hyrwyddo gwerthoedd cadarnhaol iawn o darddiad Cymreig. Credaf fod rhai enghreifftiau rhagorol y gallaf eu rhoi i chi o gydweithio rhwng twristiaeth a'r diwydiant bwyd ar draws Cymru, yn cynnwys busnesau megis Bwyty Dylan's ym Mhorthaethwy, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ennill y wobr efydd yn y gwobrau twristiaeth cenedlaethol diweddar yn y categori 'bwyta allan'. Mae bwyd a thwristiaeth, rwy'n meddwl, yn arbennig o bwysig yng Nghymru oherwydd pwysigrwydd economaidd y ddau sector. Mae'n wir yn darparu rhan hanfodol o'r cynnig twristiaeth y credaf sydd gennym yma yng Nghymru, oherwydd ei fod yn cynnig, yn fy marn i y pwynt cyswllt mwyaf cyffredin ag ymwelwyr fwy na thebyg. O ran allforion, soniasoch am raglen allforio well Hybu Cig Cymru. Yr hyn yr ydym ei eisiau yma, ac rydym wedi nodi hynny o fewn cynllun gweithredu strategol cig coch Cymru, yw ein bod am weld y diwydiant yn ceisio cynyddu gwerthiant. Bydd gwerthiant allforio yn amlwg yn elfen allweddol i hynny. Cefais rai sgyrsiau yn gynharach heddiw gyda rhywun sy'n berchen ar ladd-dy, ynghylch gwerthiant cig coch a'r sector cig coch yn benodol, oherwydd gwyddom fod allforion yn gwbl hanfodol i ffermio a'r diwydiant prosesu yng Nghymru. Maent yn cyfrif, yn fras, am un rhan o dair o'r holl gynhyrchu. Felly, mae cynyddu enillion i ddiwydiant trwy uchafu allforion yn wirioneddol bwysig yng Nghymru. Rwy'n falch iawn o weld bod rhaglen fuddsoddi tair blynedd Llywodraeth Cymru mewn cefnogi allforion a datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer cig oen a chig eidion Cymreig o safon eisoes wedi cynhyrchu adenillion gwych. O ran gwyliau bwyd, rwy'n cytuno y dylid cael rhywfaint o hyblygrwydd yn eu cylch. Mae gen i gyllideb anhyblyg iawn, yn anffodus. Hoffwn i gael mwy o arian, ond rwy'n meddwl eich bod yn iawn: mae'n ymwneud â sicrhau nad y gwyliau bwyd mawr yn unig sy'n cael yr arian; mae'n ymwneud â'r marchnadoedd ffermwyr bach hynny. Rwy'n cofio, pan gefais fy ethol y tro cyntaf, yn ôl yn 2007, rywun yn dod ataf i geisio sefydlu marchnad ffermwyr ac nid oedd arian ar gael. Felly, mae'n rhywbeth yr wyf wedi dweud wrth swyddogion y byddwn i'n awyddus iawn i'w weld, hyd yn oed os mai dim ond pot bach o arian ydyw, fel bod modd rhoi'r math hwnnw o ddechrau iddynt wrth ddatblygu, oherwydd gwyddom y gallai marchnad ffermwyr wella profiad canol y dref yn wirioneddol, ac rydym yn edrych ar sut y gallwn ni adfywio canol ein trefi. Felly, rwy'n meddwl ei bod yn bwysig cael yr hyblygrwydd hwnnw.
Okay. Thank you. We haven't had any backbenchers speak, so I intend to call three backbenchers, but, again, the plea is for concise questions and concise answers. So, Jeremy Miles.
Iawn. Diolch. Nid oes unrhyw aelodau o'r meinciau cefn wedi siarad, felly rwy'n bwriadu galw ar dri aelod o'r meinciau cefn, ond, unwaith eto, gofynnaf am gwestiynau cryno ac atebion cryno. Felly, Jeremy Miles.
Diolch, Lywydd. I thank the Secretary for her statement. It's such an important sector for us in Wales, so it's great to hear of the rapid growth in the sector. For those of us who enjoy food, the renaissance of local food production in Wales is a thing of great joy even if it leads to rapid growth of a slightly less welcome kind perhaps. [Laughter.] You've spoken about skills quite extensively, but I just have one particular point to develop on that. Obviously, filling the skills gap was a major priority in the action plan, and that has two components: attracting skilled employees, which you've talked about, but also developing the skills of existing employees in the workforce. Since many businesses in this sector are small and, indeed, are microbusinesses and micro-employers, they'll face particular challenges in providing training and professional development to their workforce. So, will the Welsh Government be taking particular steps, bearing in mind the profile of employers in the sector, to support small and micro-employers in training and developing their workforce skills?
Diolch, Lywydd. Diolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad. Mae'n sector mor bwysig i ni yng Nghymru, felly mae'n wych clywed am y twf cyflym yn y sector. I'r rhai hynny ohonom sy'n mwynhau bwyd, mae'r dadeni cynhyrchu bwyd lleol yng Nghymru yn fater o lawenydd mawr, hyd yn oed os yw'n arwain at dwf cyflym o fath sydd ychydig yn llai derbyniol efallai. [Chwerthin.] Rydych chi wedi siarad am sgiliau yn eithaf helaeth, ond mae gennyf un pwynt penodol i'w ddatblygu ar hynny. Yn amlwg, roedd llenwi'r bwlch sgiliau yn flaenoriaeth bwysig yn y cynllun gweithredu, ac mae dwy gydran i hynny: denu gweithwyr medrus, yr ydych chi wedi siarad amdano, ond hefyd ddatblygu sgiliau'r gweithwyr presennol yn y gweithlu. Gan fod llawer o fusnesau yn y sector hwn yn fach ac, yn wir, yn ficrofusnesau ac yn ficro-gyflogwyr, byddant yn wynebu heriau penodol wrth ddarparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i'w gweithlu. Felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau penodol, gan gofio proffil cyflogwyr yn y sector, i gefnogi cyflogwyr bach a micro o ran hyfforddi a datblygu sgiliau eu gweithlu?
Thank you, Jeremy Miles, for that question. I think you raise a really important point around ensuring that we do create innovative, and maybe novel, approaches to encourage industry training for SME businesses. What we're going to do is have a cluster approach, and we're already trialling this with food businesses to support business growth. Upskilling and training is absolutely fundamental if we're going to see that growth, and clusters are also identifying and addressing training needs in the most cost-effective way possible. We're having some pilots in fine foods, NutriWales and the seafood, impact and export sectors, where a number of businesses are directly engaged in that skills development. As a Government, we already have a number of key skills programmes, but it is about building on that. We've also been able to use Jobs Growth Wales very successfully in this area too, and that's helped employers to take on extra employees. That's obviously provided valuable work experience opportunities for people right across Wales between the ages of 16 and 24.
Diolch i chi, Jeremy Miles, am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n meddwl eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynghylch sicrhau ein bod yn creu dulliau arloesol, ac efallai newydd, i annog hyfforddiant y diwydiant ar gyfer busnesau bach a chanolig. Yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud yw cael dull clwstwr, ac rydym eisoes yn treialu hyn gyda busnesau bwyd i gefnogi twf busnesau. Mae uwchsgilio a hyfforddi yn gwbl sylfaenol os ydym yn mynd i weld y twf, ac mae clystyrau hefyd yn nodi ac yn mynd i'r afael ag anghenion hyfforddi yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol bosibl. Rydym yn cael rhai cynlluniau peilot mewn bwydydd cain, NutriWales a'r sector bwyd môr, effaith ac allforio, lle mae nifer o fusnesau yn ymwneud yn uniongyrchol â'r datblygu sgiliau hwnnw. Fel Llywodraeth, mae gennym eisoes nifer o raglenni sgiliau allweddol, ond mae'n ymwneud ag adeiladu ar hynny. Rydym hefyd wedi bod yn gallu defnyddio Twf Swyddi Cymru yn llwyddiannus iawn yn y maes hwn, ac mae hynny wedi helpu cyflogwyr i gyflogi gweithwyr ychwanegol. Mae hynny'n amlwg wedi rhoi cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr i bobl ar draws Cymru rhwng 16 a 24 oed.
I particularly welcome the actions on food poverty, and I am pleased that she mentioned the initiative that was taken in Cardiff by Food Cardiff - the school holidays initiative. One of the things that I'm very concerned about is waste. I held a short debate on waste during the last Assembly and there was a huge amount of public interest. As a result, I had some sort of training sessions in my constituency. Obviously, it's not just the public themselves who waste food, but Tesco in particular - I think the amount of food it wastes went up 4 per cent in the year up to April 2016. So, I was wondering whether there was anything that could be done to incentivise businesses not to waste food. I know that you are going to review all of the food awards - I think that's part of your action plan - and I just wondered if you could build into any of the food awards manufacturers who prevent waste. The other issue, as part of this debate, is I held meetings with WRAP Cymru and other organisations, and another issue that I think is very important for food is the packaging of food. I know we want to have the Welsh brand on the packaging, but is there anything that can be done to try to reduce the amount of packaging that is used while still retaining the identification of the Welsh brand?
Rwy'n croesawu'r camau gweithredu ar dlodi bwyd yn arbennig, ac rwy'n falch ei bod hi wedi crybwyll y fenter a gymerwyd yng Nghaerdydd gan Bwyd Caerdydd - y fenter gwyliau ysgol. Un o'r pethau yr wyf yn poeni'n fawr amdano yw gwastraff. Cynhaliais ddadl fer ar wastraff yn ystod y Cynulliad diwethaf, a chafwyd llawer iawn o ddiddordeb gan y cyhoedd. O ganlyniad, cefais ryw fath o sesiynau hyfforddi yn fy etholaeth. Yn amlwg, nid dim ond y cyhoedd sy'n gwastraffu bwyd, ond sefydliadau fel Tesco yn benodol - credaf fod faint o fwyd y mae'n ei wastraffu wedi mynd i fyny 4 y cant yn y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2016. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw beth y gellid ei wneud i gymell busnesau i beidio â gwastraffu bwyd. Rwy'n gwybod eich bod yn mynd i adolygu'r holl wobrau bwyd - rwy'n credu bod hynny'n rhan o'ch cynllun gweithredu - roeddwn yn meddwl tybed pe gallech gynnwys yn unrhyw un o'r gwobrau bwyd y gwneuthurwyr sy'n atal gwastraff. Y mater arall, fel rhan o'r ddadl hon, yw fy mod wedi cynnal cyfarfodydd â WRAP Cymru a sefydliadau eraill, a mater arall sy'n bwysig iawn yn fy marn i ar gyfer bwyd yw deunydd pacio bwyd. Rwy'n gwybod ein bod eisiau cael y brand Cymreig ar y pecyn, ond a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i geisio lleihau faint o ddeunydd pacio sy'n cael ei ddefnyddio ond gan barhau i gadw nod adnabod y brand Cymreig o hyd?
Thank you, Julie Morgan, for those points. I think it's not just about food waste; I mentioned in my answer to Simon Thomas about the huge amount of food waste that there is, although some is redistributed, and obviously some goes for animal feed, it's also about encouraging businesses to resource much more efficiently than they do. I'm not quite sure about incentivising large organisations such as Tesco, but I think it's really important that we work with them to show that, if they do resource efficiently, there are many benefits to their own business, there are benefits to Wales, and of course there are benefits to the individuals who live in Wales. It's about saving energy in Wales and being that much more sustainable and therefore creating less waste. I was very interested in the pilot in Cardiff last year about the holiday hungry. I had one in my own constituency, which was run by a church. When you think about it, for a number of children who receive free school meals, what happens during the school holidays? It is a very successful scheme that's been run for about a year now, in Wrexham, and I'm sure there are examples right across Wales. But, I think it is really important that we work, again, with big companies, maybe big supermarkets, to see if we can somehow redistribute that food in that way. I mentioned earlier that I met with the FSA this morning, and that was something we talked about, because they feel that, perhaps, some of the big supermarkets are a bit afraid of giving food that is, perhaps, out of date, or past its sell-by date or past its use-by date. So, again, I think it's really important that we get that right, get that labelling right, about what it all means. For instance, if it's 'use by', that you do follow the instructions carefully, because that tends to be for food that goes off quickly, for instance, whereas if you have the 'best before', that tends to be frozen, dried, or tinned, and that's not really about safety, it's more about quality, and it can be used past the date. So, I think there is a great deal more that we can do. I'm very interested in the research that came out of WRAP in relation to that, but I think we definitely want to see, as we go through the action plan, that reduction in food waste.
Diolch i chi, Julie Morgan, am y pwyntiau hynny. Rwy'n credu nad yw'n ymwneud â gwastraff bwyd yn unig; soniais yn fy ateb i Simon Thomas am y llwyth enfawr o wastraff bwyd sy'n bodoli, er bod rhywfaint yn cael ei ailddosbarthu, ac yn amlwg mae rhywfaint yn mynd ar gyfer bwydydd anifeiliaid. Mae hyn hefyd yn ymwneud ag annog busnesau i ddefnyddio adnoddau yn llawer mwy effeithlon nag y maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn hollol siŵr am gymell sefydliadau mawr fel Tesco, ond rwy'n credu ei fod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gweithio gyda nhw i ddangos, os ydynt yn defnyddio adnoddau yn effeithlon, bod llawer o fanteision i'w busnes eu hunain, bod manteision i Gymru, ac wrth gwrs fod manteision i'r unigolion sy'n byw yng Nghymru. Mae'n ymwneud ag arbed ynni yng Nghymru a bod yn llawer mwy cynaliadwy ac felly'n creu llawer llai o wastraff. Roedd gen i ddiddordeb mawr yn y cynllun peilot yng Nghaerdydd y llynedd am y newyn gwyliau. Roedd gen i un yn fy etholaeth fy hun, a oedd yn cael ei redeg gan eglwys. O ystyried y nifer o blant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, beth sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol? Mae'n gynllun llwyddiannus iawn sydd wedi'i redeg am tua blwyddyn yn awr, yn Wrecsam, ac rwy'n siŵr bod enghreifftiau ledled Cymru. Ond, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio, unwaith eto, gyda chwmnïau mawr, efallai archfarchnadoedd mawr, i weld a allwn rywsut ailddosbarthu'r bwyd hwnnw yn y ffordd honno. Soniais yn gynharach fy mod wedi cyfarfod â'r ASB y bore yma, ac roedd hynny'n rhywbeth y buom yn ei drafod, oherwydd bod yr ASB yn teimlo, efallai, bod rhai o'r archfarchnadoedd mawr ychydig yn ofnus o roi bwyd sydd, o bosibl, yn hen, neu heibio ei ddyddiad 'gwerthu erbyn' neu 'ddefnyddio erbyn'. Felly, unwaith eto, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael hynny'n iawn, yn cael y labelu hwnnw yn iawn, a'r hyn y mae'n ei olygu. Er enghraifft, os mai 'defnyddio erbyn' sydd ar y label, eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus, gan ei fod yn tueddu i fod ar gyfer bwyd sy'n mynd yn ddrwg yn gyflym, ond os oes 'ar ei orau cyn' ar y label, mae hynny'n tueddu i fod ar gyfer bwydydd sydd wedi'u rhewi, wedi'u sychu, neu fwydydd tun, ac nid yw hynny'n ymwneud â diogelwch mewn gwirionedd, mae'n ymwneud yn fwy ag ansawdd, ac mae modd ei ddefnyddio wedi'r dyddiad. Felly, rwy'n credu bod llawer mwy y gallwn ei wneud. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y gwaith ymchwil a ddaeth allan o WRAP yng nghyswllt hynny, ond rwy'n meddwl ein bod yn bendant eisiau gweld, wrth inni fynd drwy'r cynllun gweithredu, y gostyngiad hwnnw mewn gwastraff bwyd.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Can I thank the Secretary for her statement this afternoon and for putting forward the action plan? If I can, I'll just ask you about two points. First of all, this is probably a good opportunity to join Simon Thomas in flagging up the CAMRA event at the Assembly tomorrow evening - always a popular event; I can't imagine why. I know that you're going to be speaking at that event, Minister, so thank you for that. Real ale has been a huge success story. It looked like it was on the way out 30 or 40 years ago, but that has been turned around. How is your action plan going to ensure that other areas of food and drink that haven't been doing so well in Wales over the last few years can be turned around as well? It's very easy to put forward action plans and to talk about these things, but what actual positive changes will that make? Secondly, you're right to cite Wales as a potential exemplar of best practice. Again, how is that going to be achieved? You mentioned the food festivals. I, of course, in my area have the fantastic Abergavenny Food Festival. The Minister emeritus, Alun Davies, over there, in a previous ministerial life, used to very much enjoy that festival. I'm sure that you will be joining me - and probably him as well - at this festival later in the year. What are you doing to make sure that best practice is taken from food festivals? We talk about Abergavenny Food Festival now as a success story, but it did go through some difficult patches as well. There are other food festivals, both large and small, and farmers' markets, trying to get off the ground across Wales and trying to improve. It'd be very easy if best practice is spread from one area to another so that those up-and-coming festivals don't make some of the same mistakes as previous ones have.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad y prynhawn yma ac am gynnig y cynllun gweithredu? Os caf i, fe'ch holaf chi am ddau bwynt yn unig. Yn gyntaf oll, mae hyn fwy na thebyg yn gyfle da i ymuno â Simon Thomas wrth dynnu sylw at y digwyddiad CAMRA yn y Cynulliad nos yfory - digwyddiad poblogaidd bob amser; ni allaf ddychmygu pam. Rwy'n gwybod eich bod yn mynd i fod yn siarad yn y digwyddiad hwnnw, Weinidog, felly diolch ichi am hynny. Mae cwrw go iawn wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn edrych fel ei fod ar y ffordd allan 30 neu 40 mlynedd yn ôl, ond mae wedi'i wrthdroi. Sut mae eich cynllun gweithredu chi yn mynd i sicrhau y gellir gwrthdroi mathau eraill o fwyd a diod nad ydynt wedi bod yn gwneud cystal yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf hefyd? Mae'n hawdd iawn cyflwyno cynlluniau gweithredu a siarad am y pethau hyn, ond pa newidiadau cadarnhaol go iawn fydd hynny'n ei wneud? Yn ail, rydych chi'n iawn i ddyfynnu Cymru fel enghraifft bosibl o arfer gorau. Unwaith eto, sut y mae hynny'n mynd i gael ei gyflawni? Soniasoch am y gwyliau bwyd. Mae gennyf i, wrth gwrs, yn fy ardal i Ŵyl Fwyd wych y Fenni. Roedd y Gweinidog emeritws, Alun Davies, draw acw, mewn bywyd gweinidogol blaenorol, yn arfer mwynhau'r ŵyl yn fawr. Rwy'n siŵr y byddwch chi yn ymuno â mi - ac ef hefyd, mae'n debyg - yn yr ŵyl hon yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu lledaenu o wyliau bwyd? Rydym yn siarad am Ŵyl Fwyd y Fenni yn awr fel stori lwyddiant, ond fe aeth drwy rai cyfnodau anodd hefyd. Mae gwyliau bwyd eraill, yn fawr a bach, a marchnadoedd ffermwyr, yn ceisio sefydlu ar draws Cymru ac yn ceisio gwella. Byddai'n hawdd iawn pe byddai arfer gorau yn cael ei ledaenu o un ardal i'r llall fel bod modd i wyliau sy'n datblygu osgoi gwneud yr un camgymeriadau â gwyliau blaenorol.
Thank you. Yes, I know that the Member is sponsoring the CAMRA event, and I very much look forward to attending and speaking at it tomorrow evening. You're quite right about ale. I attended a cider and beer festival, and I think it was my very first engagement in this portfolio. As someone who doesn't normally drink ale, I was absolutely astonished to see how many different types there were. I did try and pour one, but not very well unfortunately. I think you are right: it's about looking at the sectors within the food and drink sector as a whole that aren't doing so well, but I don't think that that is an area that isn't. I think we have given them support, and we are seeing several microbreweries appearing right across Wales. In relation to best practice, you will have heard me speak in all my ministerial portfolios about the need for best practice. I think it's an amazing traveller. People say it doesn't travel well; I disagree, as it is something you can steal. I am very much looking forward to going to the food festivals over the coming months, starting, obviously, with the Royal Welsh Show, which I think is the best rural show that we have in the UK, and, in going to the food festivals, learning myself, listening to people who put these festivals on and seeing what we can take. If there is a food festival that feels it could benefit from another food festival's experiences, I'd be very happy to ensure that officials get that across. In Wales, we have so many products now with that European protected status, and we have more now coming forward. I mentioned, in reply to Simon Thomas, Carmarthen ham, and we've got about 10 UK applications, of which nine are from Wales. So, that shows that we really are punching above our weight.
Diolch. Ie, dwi'n gwybod bod yr Aelod yn noddi'r digwyddiad CAMRA, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd yno a siarad yno nos yfory. Rydych chi'n hollol iawn am gwrw. Bûm i mewn gŵyl seidr a chwrw, ac rwy'n credu mai dyna oedd fy ymrwymiad cyntaf yn y portffolio hwn. Fel rhywun nad yw fel arfer yn yfed cwrw, roeddwn i wedi fy synnu o weld faint o fathau gwahanol o gwrw oedd yno. Ceisiais arllwys un, ond ddim yn dda iawn yn anffodus. Rwy'n meddwl eich bod yn iawn: mae'n ymwneud ag edrych ar y sectorau o fewn y sector bwyd a diod yn ei gyfanrwydd nad ydynt yn gwneud cystal, ond nid wyf yn meddwl bod cwrw yn faes nad yw'n gwneud cystal. Rwy'n credu ein bod wedi rhoi cefnogaeth iddynt, ac rydym yn gweld nifer o ficrofragdai yn ymddangos ledled Cymru. O ran arfer gorau, byddwch wedi fy nghlywed yn siarad yn fy holl bortffolios gweinidogol am yr angen am arferion gorau. Rwy'n credu ei fod yn deithiwr anhygoel. Mae pobl yn dweud nad yw'n teithio'n dda; rwy'n anghytuno, gan ei fod yn rhywbeth y gallwch ei ddwyn. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd i'r gwyliau bwyd dros y misoedd nesaf, gan ddechrau, yn amlwg, gyda Sioe Frenhinol Cymru, sef y sioe wledig orau sydd gennym yn y DU, yn fy marn i, ac yna mynd i'r gwyliau bwyd, dysgu fy hun, gwrando ar y bobl sy'n cynnal y gwyliau hyn a gweld beth y gallwn ni ei gymryd. Os oes gŵyl fwyd sy'n teimlo y gallai elwa o brofiadau gŵyl fwyd arall, byddwn yn hapus iawn i sicrhau bod swyddogion yn cyfleu hynny. Yng Nghymru, mae gennym gymaint o gynnyrch yn awr sydd â statws gwarchodedig Ewropeaidd, ac mae gennym ragor eto yn dod i'r amlwg. Soniais, mewn ateb i Simon Thomas, am ham Caerfyrddin, ac mae gennym tua 10 o geisiadau yn y DU, naw ohonynt yn dod o Gymru. Felly, mae hynny'n dangos ein bod mewn gwirionedd yn cyflawni'n well na'r disgwyl.
Thank you very much, and that bring today's proceedings to a close.
Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â'n trafodion i ben am heddiw.
The first item this afternoon is questions to the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs. The first question, Sian Gwenllian.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Y cwestiwn cyntaf, Sian Gwenllian.
Diolch. Climate change is perhaps the biggest threat to our future generations, and the Welsh Government is committed to reducing net Welsh emissions by at least 80 per cent by 2050. Local energy projects, and reducing distances between generation and consumption more generally, will have a critical part to play in achieving this.
Diolch. Mae'n bosibl mai newid yn yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i genedlaethau'r dyfodol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau net Cymru o leiaf 80 y cant erbyn 2050. Bydd gan brosiectau ynni lleol, a lleihau pellteroedd rhwng cynhyrchu a defnydd yn fwy cyffredinol, ran hanfodol i'w chwarae yn cyflawni hyn.
During the last Assembly term, my predecessor, Alun Ffred Jones, worked tirelessly in order to secure the success of two community hydro schemes as they started the process of providing an opportunity for the public to buy shares in these projects. I'm pleased to be able to say that these projects have been exceptionally successful, attracting a number of people in those communities to purchase shares in those projects, and Ynni Ogwen and YnNi Padarn Peris are now proceeding well. Ynni Anafon in Abergwyngregyn is also a community hydro scheme that has been exceptionally successful. But, with the Ynni Ogwen project particualrly, it did take two years for this scheme to gain its water abstraction licence from Natural Resources Wales, which goes way beyond the four months in their statutory guidelines to process such applications. In an evidence session to the Environment and Sustainability Committee in November of last year, it was stated that it was a problem of staff and resources in Natural Resources Wales that accounted for this problem. Has the Minister carried out any assessment of the resources needed by NRW in order to achieve its functions in full? If so, are you content that they have the necessary resources to achieve that, and, if not, will you commit to carrying out such an assessment and report back to the Assembly?
Diolch. Yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf, mi wnaeth fy rhagflaenydd, Alun Ffred Jones, weithio'n ddiflino er mwyn sicrhau llwyddiant dau gynllun hydro cymunedol wrth iddyn nhw ddechrau'r broses o gynnig cyfle i'r cyhoedd brynu cyfranddaliadau yn y prosiectau yma. Maen braf gen i ddatgan bod y prosiectau yma wedi bod yn hynod lwyddiannus, gan ddenu nifer o gymdogion y cymunedau hynny i brynu cyfranddaliadau yn y prosiectau, ac mae Ynni Ogwen Cyf ac YnNi Padarn Peris bellach yn mynd ar eu taith. Mae Ynni Anafon yn Abergwyngregyn hefyd yn gynllun hydro cymunedol llwyddiannus iawn. Ond, efo'r prosiect Ynni Ogwen yn benodol, mi wnaeth hi gymryd dwy flynedd i'r cynllun dderbyn ei drwydded echdynnu dŵr, sef yr 'abstraction licence' gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy'n mynd yn bell tu hwnt i'r pedwar mis sydd yn eu canllawiau statudol nhw i brosesu ceisiadau o'r math yma. Mewn sesiwn dystiolaeth i'r pwyllgor amgylchedd fis Tachwedd y flwyddyn ddiwethaf, mi ddywedwyd bryd hynny mai diffyg staff ac adnoddau gan Gyfoeth Naturiol Cymru oedd ffynhonnell y broblem. A ydy'r Gweinidog wedi gwneud unrhyw asesiadau o'r adnoddau sydd eu hangen gan Gyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei rwymedigaethau yn llawn, ac, os felly, a ydych chi'n fodlon fod ganddo fo'r adnoddau digonol i wneud hynny, ac, os na, a fedrwch chi ymrwymo i wneud asesiad o'r fath yma ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad, os gwelwch yn dda?
Thank you. I was very pleased that we are supporting Ynni Ogwen in Bethesda. It was the first pilot of its kind in the UK, so I think there's probably a lot we can learn from it, with it obviously being the first, and I know that they are trialling a model of encouraging local use of energy from distributed generation. You'll appreciate I'm very new in the portfolio. I've met with Natural Resources Wales. Clearly, they receive significant funding from us and it's up to them to sort out and ensure that they've got the staff to cover all parts of the project that they need. But it's something that I'll certainly discuss with them at my next meeting, which I think is next week, actually. But I do think, with it being a pilot, there is a lot we can learn from Ynni Ogwen in Bethesda.
Diolch. Roeddwn yn falch iawn ein bod yn cefnogi Ynni Ogwen ym Methesda. Dyna'r cynllun peilot cyntaf o'i fath yn y DU, felly rwy'n credu bod llawer y gallwn ei ddysgu ohono yn ôl pob tebyg, o ystyried mai hwnnw yn amlwg oedd y cyntaf, ac rwy'n gwybod eu bod yn treialu model o annog defnydd lleol o ynni drwy gynhyrchu gwasgaredig. Fe fyddwch yn derbyn fy mod yn newydd iawn yn y portffolio. Rwyf wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn amlwg, maent yn cael cyllid sylweddol gennym a'u cyfrifoldeb hwy yw trefnu a sicrhau bod ganddynt y staff sy'n angenrheidiol i gwmpasu pob rhan o'r prosiect. Ond mae'n rhywbeth y byddaf yn sicr yn ei drafod gyda hwy yn fy nghyfarfod nesaf a gynhelir yr wythnos nesaf, rwy'n credu. Ond gan ei fod yn gynllun peilot, rwy'n credu bod llawer y gallwn ei ddysgu gan Ynni Ogwen ym Methesda.
Cabinet Secretary, the climate strategy also sets targets for improving energy efficiency within our homes. Part of the approach to achieving this includes external cladding of some of those buildings being widely used, but also on pre-1919 stock, which are mainly solid block or solid wall buildings. The external cladding, whilst providing energy efficiency for those properties, may also actually limit the breathing of those properties, which causes difficulties. Will you commission research on the impact of the external cladding on those types of buildings, so that we can ensure that it doesn't give us long-term problems, but actually does give us long-term benefits?
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r strategaeth hinsawdd hefyd yn gosod targedau ar gyfer gwella defnydd effeithlon o ynni yn ein cartrefi. Mae rhan o'r dull o gyflawni hyn yn cynnwys rhoi cladin allanol ar rai o'r adeiladau sy'n cael eu defnyddio'n eang, ond hefyd ar stoc a adeiladwyd cyn 1919, sy'n adeiladau bloc solet neu waliau solet yn bennaf. Mae'r cladin allanol yn ei gwneud hi'n bosibl i'r eiddo hwnnw ddefnyddio ynni'n effeithlon, ond gallai hefyd gyfyngu ar allu'r eiddo hwnnw i anadlu, sy'n achosi anawsterau. A wnewch chi gomisiynu ymchwil ar effaith y cladin allanol ar y mathau hyn o adeiladau, fel y gallwn sicrhau nad yw'n achosi problemau hirdymor i ni, ond yn hytrach ei fod yn rhoi manteision hirdymor i ni?
I think it's very important that we know if it's going to give us difficulties or benefits, so, if that research hasn't been done previously, I'll certainly look to having that carried out.
Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni wybod a yw'n mynd i achosi anawsterau neu fanteision i ni, felly, os nad yw'r ymchwil hwnnw wedi'i wneud o'r blaen, byddaf yn sicr yn ystyried ei roi ar waith.
Minister, I've asked you previously about the community benefits of renewable energy schemes. I'll ask you again because it is a very important issue for my constituents. When a solar farm was being planned at Llanvapley between Monmouth and Abergavenny in my area, it was opposed by local people. After it was passed, they subsequently found that they'd lost the opportunity to lobby for the community benefits that are normally associated with such schemes, and the company involved has been largely non-responsive to their inquiries. I appreciate there is a non-devolved aspect to this, but can you tell me in what ways the Welsh Government is looking to strengthen these procedures and guidelines so that companies can't avoid providing valuable community benefits when schemes are built in communities?
Weinidog, rwyf wedi gofyn i chi o'r blaen am fanteision cymunedol cynlluniau ynni adnewyddadwy. Rwyf am ofyn i chi eto am ei fod yn fater pwysig iawn i fy etholwyr. Pan oedd fferm solar yn cael ei chynllunio yn Llanfable rhwng Trefynwy a'r Fenni yn fy ardal, fe'i gwrthwynebwyd gan bobl leol. Ar ôl i'r cynllun gael ei basio, daethant i wybod yn ddiweddarach eu bod wedi colli'r cyfle i lobïo dros y buddion cymunedol sydd fel arfer yn gysylltiedig â chynlluniau o'r fath, ac nid yw'r cwmni dan sylw wedi ymateb rhyw lawer i'w hymholiadau. Rwy'n sylweddoli bod yna agwedd ar hyn sydd heb ei datganoli, ond a wnewch chi ddweud wrthyf ym mha ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cryfhau'r gweithdrefnau a'r canllawiau hyn fel na all cwmnïau osgoi darparu buddion cymunedol gwerthfawr pan fo cynlluniau'n cael eu hadeiladu mewn cymunedau?
Yes, I think it's really important, if we are going to ensure that we have these community projects, that people understand the benefits of them - that it's very real to them, and that they are able to take part in it. So, I'll certainly look into it. I think I've already started to look into it. When you first raised it with me, I asked officials. As you say, there is a reserved part to this, but, again, I'll be very happy to make representations to the relevant Minister in the UK Government.
Ie, os ydym am sicrhau bod gennym y prosiectau cymunedol hyn, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall eu manteision - ei fod yn real iawn iddynt, a'u bod yn gallu cymryd rhan ynddo. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. Rwy'n credu fy mod eisoes wedi dechrau edrych ar hynny. Y tro cyntaf i chi ddwyn y mater i fy sylw, gofynnais i swyddogion. Fel y dywedwch, mae rhan o hyn wedi'i gadw'n ôl, ond unwaith eto, byddaf yn hapus iawn i gyflwyno sylwadau i'r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth y DU.
Thank you. Clwyd West benefited from more than £20 million of investment over the last Government, with flood risk reduction schemes successfully delivered at Colwyn Bay, Kinmel Bay and Rhuthin. We're assessing possible schemes at Abergele, Llansannan and Mochdre and funding feasibility work is being carried out in other areas across Clwyd West.
Diolch. Mae Gorllewin Clwyd wedi elwa o dros £20 miliwn o fuddsoddiad dros dymor y Llywodraeth ddiwethaf, gyda chynlluniau i leihau perygl llifogydd wedi'u cyflawni'n llwyddiannus ym Mae Colwyn, Bae Cinmel a Rhuthun. Rydym yn asesu cynlluniau posibl yn Abergele, Llansannan a Mochdre ac mae gwaith dichonoldeb cyllid yn cael ei wneud mewn ardaloedd eraill ar draws Gorllewin Clwyd.
Thank you very much, Cabinet Secretary. I'm very grateful for the investment that was put by the previous Government into addressing flood risk issues in Clwyd West, and you will know that, on many occasions, I've welcomed that investment. I am concerned for those areas that you also listed, to say that they are currently under consideration, but I was disappointed not to hear any reference to the Old Colwyn promenade and flood defences, which of course do protect the very important, vital transport infrastructure of north Wales, particularly the A55 trunk road and the north Wales railway line. Can you give some assurances that you're also considering the flood-risk management issues in that particular area, and what action are you taking to ensure that they're going to be done in a timely manner, because they have been pelted by storms in recent years and that has severely undermined those defences?
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n ddiolchgar iawn am fuddsoddiad y Llywodraeth flaenorol i fynd i'r afael â materion perygl llifogydd yng Ngorllewin Clwyd, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod, ar sawl achlysur, wedi croesawu'r buddsoddiad hwnnw. Rwy'n bryderus ynglŷn â'r ardaloedd a restrwyd gennych hefyd i ddweud eu bod dan ystyriaeth ar hyn o bryd, ond cefais fy siomi gan y ffaith na chlywais unrhyw gyfeiriad at y promenâd ac amddiffynfeydd llifogydd Hen Golwyn, sydd wrth gwrs yn amddiffyn seilwaith trafnidiaeth hanfodol a hollbwysig gogledd Cymru, yn enwedig cefnffordd yr A55 a rheilffordd gogledd Cymru. A allwch roi rhywfaint o sicrwydd i ni eich bod hefyd yn ystyried y materion rheoli perygl llifogydd yn yr ardal benodol honno, a pha gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau eu bod yn mynd i gael eu gwneud mewn modd amserol, oherwydd maent wedi cael eu peledu gan stormydd dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny wedi tanseilio'r amddiffynfeydd hynny'n ddifrifol?
No decisions have been made yet on funding for Old Colwyn. To take this forward, we need all partners to work together, so I think that's something that you need to take on board too. I know my officials are working with Conwy County Borough Council, and it's really important that we do bring everybody together to find an appropriate solution. So, as I say, if the Member can also assist in that way, that would be very helpful.
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud eto ar gyllid ar gyfer Hen Golwyn. Er mwyn datblygu hyn, mae angen i'r holl bartneriaid weithio gyda'i gilydd, felly rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd angen i chi ei ystyried hefyd. Rwy'n gwybod bod fy swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn dod â phawb at ei gilydd i ddod o hyd i ateb priodol. Felly, fel y dywedais, pe bai'r Aelod hefyd yn gallu cynorthwyo yn y modd hwnnw, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.
Cabinet Secretary, you'll be aware that a number of parts of north-east Wales have been impacted by flash flooding after heavy and sustained rainfall in recent weeks. Just last week, I visited residents and business in Bagillt who'd been left devastated after flooding, and, worryingly, this is an area that's been hit before in recent years. What discussions have you had with Flintshire County Council to take preventative steps in such flood-prone areas, what support is available for victims and will you consider visiting the areas?
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod nifer o rannau o ogledd-ddwyrain Cymru wedi dioddef llifogydd sydyn ar ôl glaw trwm a pharhaus dros yr wythnosau diwethaf. Yr wythnos diwethaf, ymwelais â thrigolion a busnesau ym Magillt sydd wedi'u hanrheithio gan lifogydd, ac mae'n destun pryder fod hon yn ardal sydd eisoes wedi dioddef llifogydd yn y blynyddoedd diwethaf. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Chyngor Sir y Fflint er mwyn rhoi camau ataliol ar waith mewn ardaloedd o'r fath sy'n dueddol o gael llifogydd, pa gymorth sydd ar gael i ddioddefwyr ac a fyddwch chi'n ystyried ymweld â'r ardaloedd?
Thank you, Hannah Blythyn, for that question. I know there was flash flooding in north-east Wales last week and I really do express my sympathy to those businesses and houses that did experience that flash flooding after the heavy rain last week. I know Bagillt was particularly affected, and my officials have been in discussions with Flintshire County Council and also the emergency services - we want to thank them because they did alleviate the immediate risk to some of the properties. I think there's now going to be an investigation into how the flooding occurred following the heavy rain, and we need to understand what factors were involved so that we can take potential measures to reduce the risk of such flooding reoccurring.
Diolch i chi am y cwestiwn, Hannah Blythyn. Rwy'n gwybod eu bod wedi cael llifogydd sydyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yr wythnos diwethaf ac rwy'n cydymdeimlo'n fawr â'r busnesau a'r tai a ddioddefodd yn sgil y llifogydd sydyn ar ôl y glaw trwm yr wythnos diwethaf. Rwy'n gwybod fod Bagillt yn arbennig wedi dioddef, ac mae fy swyddogion wedi bod mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint yn ogystal â'r gwasanaethau brys - rydym am ddiolch iddynt gan eu bod wedi lliniaru'r perygl uniongyrchol i beth o'r eiddo. Rwy'n credu y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal yn awr i geisio darganfod sut y digwyddodd y llifogydd yn dilyn y glaw trwm, ac mae angen i ni ddeall pa ffactorau oedd ynghlwm wrth hyn fel y gallwn roi camau posibl ar waith i leihau'r perygl y bydd llifogydd o'r fath yn digwydd eto.
Much of the funding invested in tackling the challenge of flooding comes from European sources, of course. Would you agree with me, therefore, Cabinet Secretary, that leaving the European Union would leave many of these communities even more exposed to the risk of flooding, particularly in areas such as Clwyd West?
Mae llawer iawn o'r arian, wrth gwrs, sy'n cael ei fuddsoddi i fynd i'r afael â'r her o lifogydd yn dod o ffynonellau Ewropeaidd, wrth gwrs. A fyddech chi'n cytuno â mi felly, Ysgrifennydd Cabinet, y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gadael nifer o'r cymunedau hyn hyd yn oed yn fwy 'exposed' i'r risg o ddioddef gorlifo, yn enwedig mewn ardaloedd fel Gorllewin Clwyd?
Absolutely. I agree completely with Llyr Huws Gruffydd that to leave the European Union would certainly cut our funding significantly, within my portfolio particularly. I've asked officials to have a look at the impact, and it is absolutely significant. I absolutely agree with you.
Yn hollol. Cytunaf yn llwyr â Llyr Huws Gruffydd y buasai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn sicr yn torri ein cyllid yn sylweddol, yn fy mhortffolio i'n arbennig. Rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar yr effaith, ac mae'n sylweddol tu hwnt. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi.
This is a difficulty for certain parts of the rural areas, and I think it's about improving the infrastructure for those areas. I will be working closely with my Cabinet colleagues and other Government colleagues to ensure that we get that high-speed broadband in rural areas as quickly as possible.
Mae hyn yn anhawster i rai rhannau o'r ardaloedd gwledig, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â gwella'r seilwaith ar gyfer yr ardaloedd hynny. Byddaf yn gweithio'n agos gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a chyd-Aelodau eraill y Llywodraeth er mwyn sicrhau ein bod yn cael band eang cyflym mewn ardaloedd gwledig cyn gynted â phosibl.
Forgive me for observing, Cabinet Secretary, that that was rather short on detail in that response. What we are dealing with here are long-term cases of promises that have not been kept by the companies involved. I have a constituent who's written to me from Abergorlech, in the Carmarthen East and Dinefwr constituency, who was promised an upgrade to fibre broadband in 2015; it didn't happen. He was then promised that it would be by June of this year; it hasn't happened. He's recently been told that he'll have to wait now until at least the spring of next year before there's any prospect of improvement. So, I wonder what practical action the Welsh Government can take to put pressure on the companies who are responsible for rolling out broadband in these areas?
Maddeuwch i mi am nodi, Ysgrifennydd y Cabinet, fod yr ymateb hwnnw braidd yn brin o fanylion. Yr hyn rydym yn sôn amdano yma yw achosion hirdymor o addewidion wedi'u torri gan y cwmnïau dan sylw. Mae gennyf etholwr a ysgrifennodd ataf o Abergorlech, yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a gafodd addewid o uwchraddiad i fand eang ffeibr yn 2015; ni ddigwyddodd hynny. Yna cafodd addewid y buasai'n digwydd erbyn mis Mehefin eleni; nid yw hynny wedi digwydd. Cafodd wybod yn ddiweddar y bydd yn rhaid iddo aros tan y gwanwyn y flwyddyn nesaf cyn y bydd unrhyw obaith o welliant. Felly, tybed pa gamau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i roi pwysau ar y cwmnïau sy'n gyfrifol am gyflwyno band eang yn yr ardaloedd hyn?
I obviously can't comment on that individual case. The Minister responsible for broadband has just heard your comments. If you'd like to write to her about that specific case, I'm sure that she can chase it up with the company.
Yn amlwg, ni allaf roi sylwadau ar yr achos unigol hwnnw. Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am fand eang wedi clywed eich sylwadau. Os hoffech ysgrifennu ati ynglŷn â'r achos penodol hwnnw, rwy'n siŵr y gallai gysylltu â'r cwmni i drafod y mater.
One of the big problems here is that Openreach has effectively got a stranglehold on the infrastructure, and I suppose that this all goes back ultimately to the way British Telecom was privatised many years ago. [Interruption.]
Un o'r problemau mawr yma yw bod gan Openreach afael haearnaidd ar y seilwaith i bob pwrpas, ac mae'n debyg bod hyn i gyd yn mynd yn ôl i'r modd y cafodd British Telecom ei breifateiddio flynyddoedd lawer yn ôl. [Torri ar draws.]
Okay, let the Member finish his question.
Iawn, gadewch i'r Aelod orffen ei gwestiwn.
I think the honourable Member should be gracious in accepting my mea culpa. But, of course, 30 years ago, we couldn't predict the future with the certainty that Members have today about the future of the European Union. But, nevertheless, where there was a mistake all those years ago, perhaps we should now reconsider those options, and I wonder if the Welsh Government would take that on board as well.
Rwy'n credu y dylai'r anrhydeddus Aelod fod yn drugarog wrth dderbyn fy mea culpa. Ond wrth gwrs, 30 mlynedd yn ôl, ni allem ragweld y dyfodol gyda'r sicrwydd sydd gan Aelodau heddiw mewn perthynas â dyfodol yr Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, lle cafwyd camgymeriad flynyddoedd mawr yn ôl, efallai y dylem yn awr ailystyried yr opsiynau hynny, ac rwy'n meddwl tybed a fuasai Llywodraeth Cymru yn ystyried hynny hefyd.
Well, again, I'm sure that the Minister has heard you. I know, in my own constituency, there are other companies providing it, but, as I said, if you'd like to write to the Minister responsible, Julie James, I'm sure you'll get the answer.
Wel, unwaith eto, rwy'n siŵr fod y Gweinidog wedi eich clywed. Yn fy etholaeth i, gwn fod yna gwmnïau eraill yn ei ddarparu, ond fel y dywedais, os hoffech ysgrifennu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am y mater, Julie James, rwy'n siŵr y cewch yr ateb.
Thank you, Presiding Officer. Minister, there's another important team that's been in Paris, prior to the football team, which we were congratulating and wishing well earlier on, and that's the team led by the former Minister that went to the climate change negotiations in Paris prior to Christmas last year. In light of those discussions, does this Government, your Government, consider itself committed, if not legally, at least morally, to achieving the targets set in the Paris agreement?
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae yna dîm pwysig arall wedi bod ym Mharis, o flaen y tîm pêl-droed, yr oeddem ni yn ei longyfarch ac yn dymuno'n dda iddyn nhw gynnau bach, sef y tîm wedi'i arwain gan y cyn-Weinidog a aeth i'r trafodaethau newid hinsawdd ym Mharis cyn y Nadolig y llynedd. Yn sgil y trafodaethau hynny, a ydy'r Llywodraeth hyn - eich Llywodraeth chi - yn ystyried ei hunan wedi'i hymrwymo, os nad yn gyfreithlon o leiaf yn foesol, i gyrraedd y targedau a osodwyd yng nghytundeb Paris?
Yes, absolutely.
Ie, yn hollol
Thank you for that confirmation. Of course, that agreement does set the course in taking carbon emissions to zero by the second half of this century and to keep the increase in carbon emissions at 1.5 per cent until that point. Now, during last week, we heard news that we're about to pass the symbolic but important threshold of 400 parts per million carbon emissions, which shows that the world as a whole is a long way from achieving any target. The Environment (Wales) Act 2016, which your Government was responsible for in the previous Assembly, sets out a target to reduce carbon emissions by 2050. Do you still consider this target to be adequate in order to meet the ambitions of the Paris accord?
Diolch am y cadarnhad hwnnw. Wrth gwrs, mae'r cytundeb hwnnw'n gosod cwrs i fynd at allyriadau carbon o sero, dim, erbyn ail hanner y ganrif hon ac i ddal allyriadau carbon i dyfiant o 1.5 y cant tan hynny. Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae newyddion wedi dod ein bod ni ar fin pasio'r trothwy symbolaidd ond pwysig o 400 rhan y filiwn o allyriadau carbon, sy'n dangos bod yr holl fyd yn bell oddi ar y targed. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yr oedd eich Llywodraeth yn gyfrifol amdano yn y Cynulliad diwethaf, yn gosod allan targed ar ostwng allyriadau carbon erbyn 2050. A ydych chi'n dal i ystyried y targed yma'n ddigonol i gwrdd â'r uchelgais yng nghytundeb Paris?
Currently, I do. As you say, the environment Act sets a target of at least 80 per cent reduction in emissions by 2050. I think it's something that we need to watch very closely and I'm committed to doing that.
Ar hyn o bryd, ydw. Fel y dywedwch, mae Deddf yr amgylchedd yn gosod targed o 80 y cant o ostyngiad fan lleiaf mewn allyriadau erbyn 2050. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sydd angen i ni ei wylio'n agos iawn ac rwy'n ymrwymo i wneud hynny.
Thank you for that confirmation, but I do think that we need to keep these targets under review, because an 80 per cent reduction target may not be enough in fact to contribute to that overall Paris ambition. But one of the key ways in which we in Wales could contribute to our own targets and world targets is through better developed renewable energy. We've already heard a little about that from north Wales. Would it not be better, therefore, if we had control over energy projects under the Wales Bill without any reference to thresholds whatsoever? So, for example, we could give better support and confidence to exciting and fantastic ideas such as the Swansea bay barrage, and I declare an interest as a community shareholder in that project.
Diolch i chi am y cadarnhad hwnnw, ond rwy'n credu bod angen i ni barhau i adolygu'r targedau hyn, oherwydd mae'n bosibl na fydd targed o 80 y cant o ostyngiad yn ddigon mewn gwirionedd i gyfrannu at uchelgais Paris yn gyffredinol. Ond un o'r ffyrdd allweddol y gallem ni yng Nghymru gyfrannu tuag at ein targedau ein hunain a thargedau byd-eang yw drwy ynni adnewyddadwy wedi'i ddatblygu'n well. Rydym eisoes wedi clywed ychydig am hynny o ogledd Cymru. Oni fyddai'n well, felly, pe bai gennym reolaeth dros brosiectau ynni o dan Fil Cymru heb unrhyw gyfeiriad at drothwyon o gwbl? Felly, er enghraifft, gallem roi gwell cefnogaeth a hyder i syniadau cyffrous a gwych megis y morglawdd ym mae Abertawe, ac rwy'n datgan buddiant fel cyfranddaliwr cymunedol yn y prosiect hwnnw.
Yes, I think it would, and certainly you'll be aware of the representations that the First Minister has made to the UK Government in relation to this, and we'll await with interest what comes now from Westminster.
Fe fyddai, ac yn sicr fe fyddwch yn ymwybodol o'r sylwadau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU mewn perthynas â hyn, a disgwyliwn yn eiddgar i glywed beth a ddaw o San Steffan yn awr.
Thank you, Presiding Officer. Cabinet Secretary, I wish you well with your new portfolio. I look forward to shadowing you in this important area of public policy. I'm afraid I have to start on a sour note, unfortunately. I have noticed that air quality is not listed as one of your responsibilities on the official Welsh Government website - not listed specifically; you'll argue that it's there generically, of course - while, for instance, noise policy, which is very important, is there specifically. Does this indicate a lacklustre approach on air quality on the part of the Welsh Government?
Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n dymuno'n dda i chi gyda'ch portffolio newydd. Rwy'n edrych ymlaen at eich cysgodi yn y maes pwysig hwn o bolisi cyhoeddus. Rwy'n ofni bod rhaid i mi gychwyn ar nodyn sur, yn anffodus. Rwyf wedi sylwi nad yw ansawdd aer wedi'i restru fel un o'ch cyfrifoldebau ar wefan swyddogol Llywodraeth Cymru - nid yw wedi cael ei restru'n benodol; byddwch yn dadlau ei fod yno'n enerig, wrth gwrs - er bod polisi sŵn, er enghraifft, sy'n bwysig iawn, wedi'i restru'n benodol. A yw hyn yn arwydd o agwedd ddi-fflach tuag at ansawdd aer ar ran Llywodraeth Cymru?
I'm very disappointed that you've started on such a sour note. It is absolutely my responsibility and I can assure David Melding that improving air quality is absolutely a key objective for the Welsh Government.
Rwy'n siomedig iawn eich bod wedi dechrau ar nodyn mor sur. Mae'n bendant yn gyfrifoldeb i mi a gallaf sicrhau David Melding fod gwella ansawdd aer yn sicr yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru.
I'm sure you're as concerned as I am, Cabinet Secretary, about the growing scientific evidence that diesel particulates pose a very significant risk to public health. We're used to talking about the risk of passive smoking, for instance, but these particulates probably carry a graver danger to a wide range of the population. What measures are planned to improve air quality in the light of this evidence?
Rwy'n siŵr eich bod yr un mor bryderus â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â'r dystiolaeth wyddonol gynyddol sy'n dangos bod gronynnau diesel yn peri risg sylweddol iawn i iechyd y cyhoedd. Rydym wedi arfer sôn am beryglon ysmygu goddefol, er enghraifft, ond mae'n fwy na thebyg fod y gronynnau hyn yn creu perygl mwy difrifol i ystod eang o'r boblogaeth. Pa fesurau sy'n cael eu cynllunio i wella ansawdd aer o ganlyniad i'r dystiolaeth hon?
Well this is part of the whole thing that I'm looking at in relation to air quality, and you'll be aware that local authorities obviously have duties under the local air quality management regime, and I know in certain areas I've been lobbied by Assembly Members, very early in the portfolio, around particular areas in particular local authorities. What I've done is ask officials to monitor local authorities very carefully, to make sure they are fulfilling their duties to produce an air quality action plan, so that we can have a look at what specific measures each of them are doing, and obviously the scientific research that we're getting now in relation to diesel will form part of that.
Wel mae hyn yn rhan o'r holl beth rwy'n edrych arno mewn perthynas ag ansawdd aer, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod gan awdurdodau lleol ddyletswyddau, yn amlwg, o dan y gyfundrefn rheoli ansawdd aer lleol, a gwn fy mod wedi cael fy lobïo gan Aelodau Cynulliad mewn ardaloedd penodol, yn gynnar iawn yn y portffolio, ynglŷn ag ardaloedd penodol mewn awdurdodau lleol penodol. Yr hyn rwyf wedi'i wneud yw gofyn i swyddogion fonitro awdurdodau lleol yn ofalus iawn er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau i gynhyrchu cynllun gweithredu ar gyfer ansawdd aer, er mwyn i ni allu edrych i weld pa fesurau penodol y mae pob un ohonynt yn eu gwneud, ac yn amlwg bydd yr ymchwil wyddonol rydym yn ei chael yn awr mewn perthynas â diesel yn rhan o hynny.
Cabinet Secretary, I'm glad to note that, but do you think, in a more practical sense, it's time that in Wales, and in Britain generally, we face up to some of the practical consequences of, for instance, the school run? I think we're of the same generation, and in my day it was only the ill or the mildly delinquent that were taken to school by private transport. This has a big effect, because it's children who are going to school, it's these diesel monsters that are driving lots of other kids there, and they're then inhaling these dreadful pollutants. We need to do something about it, because it's not normal for this mass of the school population to be driven to and from school.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n falch o nodi hynny, ond a ydych yn credu, mewn ystyr fwy ymarferol, ei bod hi'n bryd i ni yng Nghymru, ac ym Mhrydain yn gyffredinol, wynebu rhai o ganlyniadau ymarferol cludo plant i'r ysgol, er enghraifft? Rwy'n credu ein bod yn perthyn i'r un genhedlaeth, ac yn fy amser i, y rhai a oedd yn sâl neu'n dueddol o gamymddwyn a gâi eu cludo i'r ysgol gan drafnidiaeth breifat. Mae hyn yn cael effaith fawr, gan mai plant sy'n mynd i'r ysgol, y bwystfilod diesel hyn sy'n gyrru llawer o blant eraill yno, ac yna maent yn anadlu'r llygryddion ofnadwy hyn. Mae angen i ni wneud rhywbeth am y peth, oherwydd nid yw'n normal i gynifer o'r boblogaeth ysgol gael eu gyrru i'r ysgol ac yn ôl.
I absolutely agree. I remember walking at least, I think, about a mile and a half each way, both to primary and high school. You're right, we need to have a look at what we can do to encourage people not to use their vehicles, and to make sure that we have the cycle routes that are needed, and to encourage more walking, and that obviously fits in with a healthier lifestyle and well-being as well.
Rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n cofio cerdded tua milltir a hanner o leiaf, rwy'n credu, bob ffordd i'r ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. Rydych yn llygad eich lle, mae angen i ni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i annog pobl i beidio â defnyddio'u cerbydau, ac i wneud yn siŵr fod gennym y llwybrau beicio sydd eu hangen, ac i annog mwy o gerdded, ac mae hynny'n amlwg yn cyd-fynd â ffordd o fyw iachach a lles yn ogystal.
Diolch. I will be making a statement on my plans to address TB in cattle in the autumn. Any future measures will build on the existing eradication programme and take a science-based approach, tackling all sources of infection to continue the long-term downward trend in incidence of the disease.
Diolch. Byddaf yn gwneud datganiad am fy nghynlluniau i fynd i'r afael â TB mewn gwartheg yn yr hydref. Bydd unrhyw fesurau yn y dyfodol yn adeiladu ar y rhaglen gyfredol i ddileu TB ac yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, gan fynd i'r afael â holl ffynonellau'r haint er mwyn parhau â'r duedd ostyngol hirdymor yn nifer yr achosion o'r clefyd.
Thank you for your answer. I was there last night to listen intently to your speech at the British Veterinary Association's event. You spoke there about your wish to ensure that there is a comprehensive programme to tackle TB in cattle, and the impression, certainly, was that all options were very much on the table. Could you confirm to the Assembly this afternoon that you're not ruling out the possibility of introducing an element of badger culling as part of that strategy?
Diolch i chi am eich ateb. Roeddwn yno neithiwr yn gwrando'n astud ar eich araith yn nigwyddiad Cymdeithas Milfeddygon Prydain. Roeddech yn siarad yno am eich dymuniad i sicrhau bod yna raglen gynhwysfawr i fynd i'r afael â TB mewn gwartheg, ac yn sicr, yr argraff oedd bod yr holl opsiynau ar y bwrdd. A wnewch chi gadarnhau i'r Cynulliad y prynhawn yma nad ydych yn diystyru'r posibilrwydd o gyflwyno elfen o ddifa moch daear yn rhan o'r strategaeth honno?
Well, you know we've had a very comprehensive TB eradication programme in place since 2008. I am absolutely committed to delivering a science-led approach to the eradication of bovine TB. I want to see an eradication of bovine TB - I think that the statistics that were published last week show that we have seen an improving situation across Wales over the past six years. I'm sure you'll appreciate I'm having a great deal of information and advice on this issue, and I will make a statement in the autumn.
Wel, fe wyddoch fod gennym raglen dileu TB gynhwysfawr iawn ar waith ers 2008. Rwy'n gwbl ymrwymedig i fabwysiadu dull gwyddonol o ddileu TB mewn gwartheg. Rwyf am weld TB mewn gwartheg yn cael ei ddileu - credaf fod yr ystadegau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn dangos ein bod wedi gweld sefyllfa sy'n gwella ledled Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Rwy'n siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi fy mod yn cael llawer iawn o wybodaeth a chyngor ar y mater hwn, a byddaf yn gwneud datganiad yn yr hydref.
The Cabinet Secretary will be aware that £3.7 million has been spent since 2011 vaccinating badgers in the intensive action area in my constituency, and clearly the vaccination policy has failed. Now, the latest scientific report shows an increase of 78 per cent in the number of cattle slaughtered in Pembrokeshire due to bovine TB. Given the increase in cattle slaughtered in my area, can the Cabinet Secretary tell us what discussions she intends to have with farmers in Pembrokeshire? And I would urge her to bring forward a statement before the autumn, because farmers want to know what the Welsh Government's policy is on this issue.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod £3.7 miliwn wedi'i wario ers 2011 ar frechu moch daear yn yr ardal triniaeth ddwys yn fy etholaeth, ac yn amlwg mae'r polisi brechu wedi methu. Nawr, mae'r adroddiad gwyddonol diweddaraf yn dangos cynnydd o 78 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd yn Sir Benfro o ganlyniad i TB mewn gwartheg. O ystyried y cynnydd yn nifer y gwartheg a laddwyd yn fy ardal, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa drafodaethau y mae'n bwriadu eu cael gyda ffermwyr yn Sir Benfro? A charwn ei hannog i gyflwyno datganiad cyn yr hydref, gan fod ffermwyr yn awyddus i wybod beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.
Well, I think farmers are very aware of what our policy is on this issue. I've already met with farmers. [Interruption.] As I said, we're very committed to delivering a science-led approach to the eradication of bovine TB. The statistics were out last week: they've shown an improving situation across Wales over the past six years. The number of new TB incidents has substantially declined since 2009. We've got the review of the strategy by the Office of the Chief Veterinary Officer, and I'm expecting draft proposals to have the strategy refreshed and a new strategy later this month, and I will make a statement in the autumn.
Wel, rwy'n credu bod ffermwyr yn ymwybodol iawn o'n polisi ar y mater hwn. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â ffermwyr. [Torri ar draws.] Fel y dywedais, rydym yn ymrwymedig iawn i ddarparu dull gwyddonol o ddileu TB mewn gwartheg. Ymddangosodd yr ystadegau yr wythnos diwethaf: maent wedi dangos sefyllfa sy'n gwella ar draws Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae'r nifer o achosion newydd o TB wedi gostwng yn sylweddol ers 2009. Mae gennym adolygiad o'r strategaeth gan Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, ac rwy'n disgwyl argymhellion drafft er mwyn adnewyddu'r strategaeth a strategaeth newydd yn ddiweddarach y mis hwn, a byddaf yn gwneud datganiad yn yr hydref.
Thank you. Through the planning and building control systems, the Welsh Government seeks to ensure new developments are accessible to all members of society. To stress the importance of access for all, the Welsh Government has recently provided funding for training on this issue, which was attended by 160 built environment professionals.
Diolch. Drwy'r systemau cynllunio a rheoli adeiladu, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod datblygiadau newydd yn hygyrch i bob aelod o'r gymdeithas. Er mwyn cadarnhau pwysigrwydd mynediad i bawb, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid yn ddiweddar ar gyfer hyfforddiant ar y mater a fynychwyd gan 160 o weithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig.
Thank you, Minister. Natural Resources Wales has stated, regarding the tree felling on the seven-mile Cwmcarn forest scenic drive, which temporarily closed in November 2014, that this is a long-term operation that could take between three and four years to complete. Will the Cabinet Secretary reiterate the Welsh Government's absolute, unequivocal determination that one of the natural wonders of the Welsh environment will be a priority for the Welsh Government, with priority put on ensuring that the drive will once again become available to the public?
Diolch yn fawr, Weinidog. Mewn perthynas â'r gwaith torri coed ar ffordd goedwig hardd Cwmcarn, sy'n saith milltir o hyd, a gaewyd dros dro ym mis Tachwedd 2014, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan fod hwn yn waith hirdymor a allai gymryd rhwng tair a phedair blynedd i'w gwblhau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailadrodd penderfyniad diamod a digamsyniol Llywodraeth Cymru y bydd un o ryfeddodau naturiol amgylchedd Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac y bydd yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau y bydd y ffordd ar gael i'r cyhoedd unwaith eto?
The Welsh Government is very aware of the value of the Cwmcarn forest drive to the local communities and to visitors. Both Natural Resources Wales and Caerphilly County Borough Council have set up a working group to look at the long-term opportunities there, including how walking and cycling routes, and campsites, can be sustainably funded in future.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o werth ffordd goedwig Cwmcarn i'r cymunedau lleol ac i ymwelwyr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi sefydlu gweithgor i edrych ar y cyfleoedd hirdymor yno, gan gynnwys sut y gellir ariannu llwybrau cerdded a beicio, a meysydd gwersylla, yn gynaliadwy yn y dyfodol.
We all recognise the benefit of increasing access to the countryside for recreation and to improve the health and well-being of the public. However, groups such as the Countryside Alliance have warned that unrestricted access to the countryside could have an environmental impact on river habitats, damage lands and limit landowners' ability to manage and protect their land. Minister, I've got a friend who lives just outside my region's boundary, Dr Randhawa, and he's maintaining all the paths that go through his land. The council never pay a penny towards it, but, always, he is having a problem with the local council and red tape. So, could you please, Cabinet Secretary, agree that any proposal to open access to the countryside must take into account the concern of those who live and work in, and manage the countryside in Wales?
Mae pob un ohonom yn cydnabod y fantais o gynyddu mynediad i gefn gwlad mewn perthynas â hamdden a gwella iechyd a lles y cyhoedd. Fodd bynnag, mae grwpiau fel y Gynghrair Cefn Gwlad wedi rhybuddio y gallai mynediad anghyfyngedig i gefn gwlad effeithio'n amgylcheddol ar gynefinoedd afon, difrodi tiroedd a chyfyngu ar allu tirfeddianwyr i reoli a diogelu eu tir. Weinidog, mae gennyf ffrind sy'n byw ychydig y tu allan i ffin fy rhanbarth, Dr Randhawa, ac mae'n cynnal yr holl lwybrau sy'n croesi ei dir. Nid yw'r cyngor byth yn rhoi ceiniog tuag at y gwaith, ond mae bob amser yn cael trafferth gyda'r cyngor lleol a biwrocratiaeth. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi gytuno bod yn rhaid i unrhyw gynnig i agor mynediad at gefn gwlad ystyried barn y rhai sy'n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru, a'r rhai sy'n ei gynnal?
I think it's about getting a balance. It's about people having access, it's about the environment, it's about animal health and welfare. You'll be aware that, in the previous Government, we had a Green Paper about access. I will be looking at the recommendations and the consultation responses that we had in relation to that before making any further decisions.
Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chael cydbwysedd. Mae'n ymwneud â phobl yn cael mynediad, mae'n ymwneud â'r amgylchedd, mae'n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid. Yn y Llywodraeth flaenorol, fe wyddoch ein bod wedi cael Papur Gwyrdd ynglŷn â mynediad. Byddaf yn edrych ar yr argymhellion a'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gawsom mewn perthynas â hynny cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach.
Thank you. Cardiff's local development plan will have a central role in shaping place and enhancing quality of life through the provision of well-designed, high-quality buildings and public space. Well-planned public transport, cycling and walking routes delivered through the LDP enable sustainable access to jobs, schools and shops.
Diolch. Bydd cynllun datblygu lleol Caerdydd yn chwarae rhan ganolog yn y broses o ffurfio lle a gwella ansawdd bywyd drwy ddarparu adeiladau a gofod cyhoeddus o ansawdd uchel ac wedi'u cynllunio'n dda. Mae trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau beicio a cherdded wedi'u cynllunio'n dda a gyflwynir drwy'r CDLl yn galluogi mynediad cynaliadwy at swyddi, ysgolion a siopau.
Okay. I think the reality is that the plan forecasts huge increases in traffic, there is mass building on greenfield sites, and most people consider it to be an environmental disaster. The question to you is: how do you think that the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 could be used to improve the local environment in relation to the local development plan?
Iawn. Rwy'n credu mai'r realiti yw bod y cynllun yn rhagweld cynnydd enfawr mewn traffig, mae yna adeiladu ar raddfa eang ar safleoedd tir glas, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried yn drychineb amgylcheddol. Y cwestiwn i chi yw: yn eich barn chi, sut y gellir defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i wella'r amgylchedd lleol mewn perthynas â'r cynllun datblygu lleol?
Well, obviously, Cardiff have brought forward their LDP. I know it is a very fine balance for local authorities to make arrangements for housing and services for a growing population, and protecting the points that you've just raised. I think the future generations Act is there, and we can very clearly see the goals, and it's up to my officials to make sure that they monitor all the LDPs that are coming in. We're still awaiting, I think, six across Wales, to make sure that they do fit in with the goals of the Act.
Wel, yn amlwg, mae Caerdydd wedi cyflwyno eu CDLl. Rwy'n gwybod ei fod yn gydbwysedd bregus iawn rhwng bod awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau ar gyfer tai a gwasanaethau ar gyfer poblogaeth sy'n tyfu, ac amddiffyn y pwyntiau rydych newydd eu crybwyll. Rwy'n credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yno, a gallwn weld yr amcanion yn glir iawn, a chyfrifoldeb fy swyddogion yw gwneud yn siŵr eu bod yn monitro'r holl Gynlluniau Datblygu Lleol a ddaw i law. Rwy'n credu ein bod yn dal i aros am chwech ohonynt ledled Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion y Ddeddf.
Cabinet Secretary, the LDP process obviously causes great controversy in many areas and is also the plank that is used to develop, stimulate and regenerate large areas as well. But, one of the biggest bones of contention in my own electoral region of South Wales Central is around the housing projections that councils use to arrive at their LDP allocations. Those projections come from the Welsh Government. In your initial view of these projections that are provided on behalf of the Welsh Government to the local authorities, what is your feeling about taking this process forward? Are you happy that those projections are robust, or do they need to be revisited and, ultimately, re-evaluated in the light of some of the representations that have been made by councils in my own electoral region of South Wales Central?
Ysgrifennydd y Cabinet, mae proses y CDLl yn amlwg yn destun dadlau mawr mewn sawl ardal a dyna hefyd yw'r sail a ddefnyddir i ddatblygu, ysgogi ac adfywio ardaloedd mawr yn ogystal. Ond mae un o'r materion mwyaf dadleuol yn fy rhanbarth etholiadol i, sef Canol De Cymru, yn ymwneud â'r amcanestyniadau tai y mae cynghorau yn eu defnyddio i benderfynu ar eu dyraniadau CDLl. Daw'r amcanestyniadau hynny gan Lywodraeth Cymru. Wrth i chi edrych yn gyntaf ar yr amcanestyniadau hyn a ddarperir ar ran Llywodraeth Cymru i'r awdurdodau lleol, sut y teimlwch ynglŷn â bwrw ymlaen â'r broses hon? A ydych yn fodlon fod yr amcanestyniadau hynny'n gadarn, neu a oes angen ailedrych arnynt, a'u hailwerthuso yn y pen draw, yn sgil rhai o'r sylwadau a wnaed gan gynghorau yn fy rhanbarth etholiadol yng Nghanol De Cymru?
Well, the LDP is a matter for each individual local authority. I want them to have adopted LDPs in place and I think it's six local authorities that haven't. I've asked them to get on with it. If we don't have those LDPs in place, as I know from my own constituency, you have these developers coming in with plans that really don't fit in with what the local population wants or needs. So, I think it's really important that the local development plan is in place. As I say, it's not for me to set it out, or for any of my Cabinet colleagues; it's for the local authority to do it themselves. What the LDP does is provide that policy framework to ensure that the local authority delivers the community infrastructure that's required.
Wel, mater i bob awdurdod lleol unigol yw'r CDLl. Rwyf am gael Cynlluniau Datblygu Lleol wedi'u mabwysiadu ar waith ac rwy'n credu bod yna chwe awdurdod lleol nad ydynt wedi gwneud hyn eto. Rwyf wedi gofyn iddynt fwrw ymlaen â hyn. Os nad oes gennym y Cynlluniau Datblygu Lleol hynny ar waith, fel y gwn yn fy etholaeth fy hun, mae gennych ddatblygwyr yn dod â chynlluniau nad ydynt yn cyd-fynd â'r hyn y mae'r boblogaeth leol ei eisiau a'i angen. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn rhoi'r cynllun datblygu lleol ar waith. Fel rwy'n ei ddweud, nid fy lle i yw ei lunio, nac unrhyw un o fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet; cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw gwneud hynny eu hunain. Yr hyn y mae'r CDLl yn ei wneud yw darparu'r fframwaith polisi i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn darparu'r seilwaith cymunedol angenrheidiol.
Yes. Common agriculture policy payments of £350 million each year play a vitally important role in maintaining the viability of Welsh farms and of realising the Welsh Government and the industry's shared vision of a prosperous and resilient agricultural industry in Wales.
Gwnaf. Mae taliadau polisi amaethyddol cyffredin o £350 miliwn bob blwyddyn yn chwarae rhan hanfodol bwysig yn cynnal hyfywedd ffermydd Cymru a gwireddu gweledigaeth ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r diwydiant ynghylch diwydiant amaethyddol ffyniannus a gwydn yng Nghymru.
I'm sure the Minister will agree with me that subsidy has been an important element in farmers' incomes throughout my entire lifetime, both before we went into the common market, as we then called it, and of course since, and that if the country votes tomorrow to leave, then public subsidies will continue at least at their present level because we pay in £2 to get only £1 back. We had a perfectly good system of subsidy based on deficiency payments before 1973, which supported farm incomes whilst having cheap food for the people.
Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno bod cymhorthdaliadau wedi bod yn elfen bwysig yn incwm ffermwyr drwy gydol fy oes, cyn i ni fynd i mewn i'r farchnad gyffredin, fel y'i gelwid bryd hynny, ac ers hynny wrth gwrs, ac os yw'r wlad yn pleidleisio dros adael yfory, yna byddai cymhorthdaliadau cyhoeddus yn parhau ar eu lefel bresennol fan lleiaf oherwydd ein bod yn talu £2 i mewn ac ond yn cael £1 yn ôl. Roedd gennym system dda o gymhorthdaliadau yn seiliedig ar daliadau diffyg cyn 1973 a oedd yn cynnal incwm ffermydd gan sicrhau bwyd rhad i'r bobl.
I think the Member's comments are all supposition.
Rwy'n credu bod sylwadau'r Aelod i gyd yn gwbl ddamcaniaethol.
Can I introduce you to some facts, Minister? Can I refer you to an article in the 'Agricultural History Review', entitled 'Measuring Regional Variation in Farm Support: Wales and the UK, 1947-72'? The conclusion of this article was this: previous pre-EU farm subsidies penalised Wales when farm size was smaller on average than in the UK as a whole. The fact is that the Welsh farmer has more in common with farmers throughout the rest of the EU than he or she has with a bunch of right-wing privatising Tories who are only interested in self-aggrandisement and their own self-promotion. It is better for the Welsh farmer to stay in the EU. That is the conclusion from the president of the National Farmers Union today, here in this Assembly, and also the Farmers Union of Wales. I hope that we, in the last 24 hours, will work hard to provide the assurances that the farming community needs that we will look after their interests, but as part of a reformed European Union.
A gaf fi gyflwyno ambell ffaith i chi, Weinidog? A gaf fi eich cyfeirio at erthygl yn yr 'Agricultural History Review', o dan y pennawd 'Measuring Regional Variation in Farm Support: Wales and the UK, 1947-72'? Dyma oedd casgliad yr erthygl hon: roedd cymorthdaliadau blaenorol i ffermydd cyn ffurfio'r UE yn cosbi Cymru pan oedd maint y fferm yn llai ar gyfartaledd nag yn y DU gyfan. Y ffaith yw bod gan ffermwr yng Nghymru fwy yn gyffredin â ffermwyr ledled gweddill yr UE nag sydd ganddo â chriw o Dorïaid asgell dde sy'n cefnogi preifateiddio a heb ddiddordeb mewn dim heblaw chwyddo a hyrwyddo'u lles eu hunain. Mae'n well i ffermwyr Cymru aros yn yr UE. Dyna gasgliad llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr heddiw, yma yn y Cynulliad hwn, yn ogystal ag Undeb Amaethwyr Cymru. Rwy'n gobeithio y byddwn, yn ystod y 24 awr olaf, yn gweithio'n galed i ddarparu'r sicrwydd y mae'r gymuned amaethyddol ei hangen y byddwn yn gwarchod eu buddiannau, ond fel rhan o Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig.
I absolutely agree with the Member. I was at the event with the NFU and I've met with both the NFU and the FUW, who have sent out a very positive message to their members that they should vote to remain in the EU tomorrow. We know that the single market is absolutely critical to our farming and food sectors and I think that the risks associated with the potential exit are significant. We really don't know, and what we are hearing from some politicians, as I say, is just supposition and we know that 81 per cent of the profit of Welsh farming businesses is derived from the EU subsidy payments that they receive.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod. Roeddwn yn y digwyddiad gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac rwyf wedi cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, sydd wedi anfon neges gadarnhaol iawn i'w haelodau y dylent bleidleisio dros aros yn yr UE yfory. Gwyddom fod y farchnad sengl yn gwbl allweddol i'n sectorau ffermio a bwyd ac rwy'n credu bod y peryglon sy'n gysylltiedig â'r posibilrwydd o adael yn sylweddol. Nid ydym yn gwybod, ac mae'r hyn a glywn gan rai gwleidyddion, fel rwy'n ei ddweud, yn seiliedig ar ddamcaniaeth lwyr a gwyddom fod 81 y cant o elw busnesau ffermio yng Nghymru yn deillio o'r cymorthdaliadau y maent yn eu derbyn gan yr UE.
Cabinet Secretary, the previous Welsh Government's decision to move to the 15 per cent modulation rate has made it much tougher for some Welsh farmers to compete in the marketplace against food producers from other countries. Given these circumstances, what is the Welsh Government doing specifically to ensure that farmers get the opportunity to directly access these funds under the rural development plan, to offset the loss of earnings under pillar 1?
Ysgrifennydd y Cabinet, mae penderfyniad Llywodraeth flaenorol Cymru i symud i'r gyfradd fodiwleiddio o 15 y cant wedi'i gwneud yn llawer anos i rai ffermwyr yng Nghymru gystadlu yn y farchnad yn erbyn cynhyrchwyr bwyd o wledydd eraill. O ystyried yr amgylchiadau hyn, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i sicrhau bod ffermwyr yn cael cyfle i gael mynediad uniongyrchol at y cronfeydd hyn o dan y cynllun datblygu gwledig er mwyn gwneud iawn am golli enillion o dan golofn 1?
Well, actually, you know, I'm just in the first month of the portfolio and I think they're actually getting back more than the 15 per cent. We are in the process of setting up the small grants scheme and the farmers are very happy with what we're doing in relation to that.
Wel, mewn gwirionedd, wyddoch chi, rwyf ar ganol fy mis cyntaf yn y portffolio ac rwy'n credu eu bod yn cael mwy na'r 15 y cant yn ôl mewn gwirionedd. Rydym yn y broses o sefydlu'r cynllun grantiau bach ac mae'r ffermwyr yn hapus iawn â'r hyn rydym yn ei wneud mewn perthynas â hynny.
The Welsh Government rural communities rural development programme 2014-20 is supporting rural communities and the economy with a combination of Welsh Government and EU funding. Fifteen schemes have opened already and Glastir small grants will open on 27 June. We are continuing to work with stakeholders to refine and develop the programme.
Mae rhaglen datblygu gwledig cymunedau gwledig Llywodraeth Cymru 2014-20 yn cefnogi cymunedau gwledig a'r economi gyda chyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru a'r UE. Mae pymtheg o gynlluniau wedi agor yn barod a bydd grantiau bach Glastir yn agor ar 27 Mehefin. Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i fireinio a datblygu'r rhaglen.
Thank you. It was good to see the NFU here in the Senedd today outlining their vision for the industry. But, what the NFU, like farmers across Wales, are looking for is not simply warm words of support from Government, but action too. Now, there was a pledge made by the previous Minister that the new rural development plan could be transformational in terms of the rural economy and the agricultural industry. Two years in to the programme, having only a handful of projects approved is a long way from being transformational. Farmers in my constituency of Anglesey, and farmers across Wales, are still waiting. So, when is this transformation going to happen and will the Minister share her vision on the potential for the new RDP?
Diolch. Mi oedd hi'n dda gweld yr NFU yma yn y Senedd heddiw yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y diwydiant. Ond, beth mae'r NFU, fel ffermwyr ledled Cymru, yn chwilio amdano fo ydy nid yn unig geiriau o gefnogaeth gan y Llywodraeth, ond gweithredoedd hefyd. Rŵan, mi gafwyd addewid gan Weinidog blaenorol y byddai'r gallu gan y cynllun datblygu gwledig newydd i fod yn drawsnewidiol o ran yr economi wledig ac o ran y diwydiant amaeth. Ddwy flynedd i mewn i'r rhaglen, mae cael dim ond llond llaw o brosiectau wedi'u cymeradwyo ymhell iawn, iawn o fod yn drawsnewidiol. Mae ffermwyr yn fy etholaeth i yn Ynys Môn, fel ledled Cymru, yn dal i aros. Pa bryd mae'r trawsnewid am ddigwydd ac a wnaiff y Gweinidog rannu ei gweledigaeth ynglŷn â'r potensial i'r cynllun datblygu gwledig newydd?
I think you're absolutely right. We do need to see much more of a transformational change, and we need to do that in partnership with the farmers. Certainly, from my discussions with the FUW and NFU, they're very up for this. I do think that they want to see some speed in relation to going forward. One of the things I have discussed with them is the strategic initiatives, and to have those strategic initiatives running right across the RDP to make sure we're improving skills for instance. I also think we need to look at how we can help them with the sustainability and the resilience of their businesses, and to look at the business side of it, because I think farmers, certainly in my very early discussions with them, are perhaps not the best people to run a business. They haven't that kind of business perspective, yet they want to work with us in relation to that. This is just some of the farmers I've spoken to early in the portfolio - I'm not saying all farmers at all. But this is the thing they're saying to me that they want assistance with, and that's where I think we can help, with strategic initiatives across the RDP.
Rwy'n credu eich bod yn hollol gywir. Mae angen i ni weld llawer mwy o newid trawsnewidiol, ac mae angen i ni wneud hynny mewn partneriaeth â'r ffermwyr. Yn sicr, o fy nhrafodaethau gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, maent yn barod iawn ar gyfer hyn. Rwy'n credu eu bod am weld rhywfaint o gyflymder wrth symud ymlaen. Un o'r pethau rwyf wedi'u trafod gyda hwy yw'r mentrau strategol, a chael y mentrau strategol hynny i redeg ar draws y Cynllun Datblygu Gwledig er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwella sgiliau er enghraifft. Rwyf hefyd yn credu bod angen i ni edrych ar sut y gallwn eu helpu gyda chynaliadwyedd a gwydnwch eu busnesau, ac edrych ar yr ochr fusnes, oherwydd rwy'n credu efallai nad ffermwyr, yn sicr yn y trafodaethau cynnar iawn a gefais gyda hwy, yw'r bobl orau i redeg busnes o bosibl. Nid oes ganddynt y math hwnnw o weledigaeth fusnes, ac eto maent yn awyddus i weithio gyda ni mewn perthynas â hynny. Rhai'n unig o'r ffermwyr y siaradais â hwy'n gynnar yn y portffolio yw hyn - nid wyf yn dweud bod pob ffermwr felly o gwbl. Ond dyna'r hyn y maent yn dweud wrthyf eu bod eisiau cymorth gydag ef, a dyna ble rwy'n credu y gallwn helpu, gyda mentrau strategol ar draws y Cynllun Datblygu Gwledig.
Minister, I would endorse the comments of the original speaker on this about the speed that the money is being delivered out of the rural development plan into the various schemes. I'd be grateful if you could enlarge on some of your comments in the last answer to say: are you satisfied with the speed that is being developed behind the rural development plan to create that transformational agenda that you talk about? Because many of the sentiments people do support, but there is a huge logjam, I would suggest to you, in the system of processing applications to the RDP, and, above all, people actually accessing the money in the first place. So, what are your initial assessments, given you've now been in post several weeks?
Weinidog, buaswn yn cymeradwyo sylwadau'r siaradwr gwreiddiol ar hyn ynglŷn â chyflymder rhyddhau'r arian o'r cynllun datblygu gwledig i'r gwahanol gynlluniau. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ymhelaethu ar rai o'ch sylwadau yn yr ateb diwethaf a dweud: a ydych yn fodlon ar y cyflymder sy'n cael ei ddatblygu y tu ôl i'r cynllun datblygu gwledig i greu'r agenda drawsnewidiol rydych yn sôn amdani? Oherwydd mae pobl yn cefnogi llawer o'r teimladau, ond buaswn yn awgrymu bod yna dagfa enfawr yn y system o brosesu ceisiadau i'r Cynllun Datblygu Gwledig, ac yn anad dim, o ran bod pobl yn cael mynediad at yr arian yn y lle cyntaf. Felly, beth yw eich asesiadau cychwynnol, o ystyried eich bod wedi bod yn y swydd ers sawl wythnos bellach?
Well, it only won approval in May of last year, so it's only just over a year. We have opened 15 schemes: I opened a further scheme last week. We've got over £260 million of funding committed across all sectors. So, I think there is, as I say, immense potential for the sector. I want to really work on those strategic initiatives across. I suppose we can always do things more quickly, but I don't want to see logjams and I want to see that money out there as quickly as possible, and I've pledged to do that.
Wel, ym mis Mai y llynedd y cafodd ei gymeradwyo, felly ychydig dros flwyddyn yn unig sydd wedi bod. Rydym wedi agor 15 o gynlluniau: agorais gynllun pellach yr wythnos diwethaf. Mae gennym dros £260 miliwn o gyllid wedi'i ymrwymo ar draws pob sector. Felly, fel rwy'n dweud, rwy'n credu bod potensial aruthrol ar gyfer y sector. Rwyf eisiau gweithio'n iawn ar y mentrau strategol hynny ar draws y sector. Mae'n debyg y gallwn bob amser wneud pethau'n gyflymach, ond nid wyf am weld tagfeydd ac rwyf eisiau gweld yr arian allan yno cyn gynted â phosibl, ac rwyf wedi addo gwneud hynny.
Thank you. Improving local air quality is a key objective for the Welsh Government. We support local authorities in the implementation of their duties under the Environment Act 1995, which requires them to monitor air quality and implement action plans to improve it in areas affected by high levels of pollution.
Diolch. Mae gwella ansawdd aer yn lleol yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru. Rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt fonitro ansawdd aer a chyflawni cynlluniau gweithredu i'w wella mewn ardaloedd a effeithir gan lefelau uchel o lygredd.
Thank you for that answer, Cabinet Secretary. The A472 in Crumlin: according to Government data, the levels of nitrogen dioxide here are the highest recorded in the UK outside London. The levels are exceeded in England only by a similar monitor on Marylebone Road in central London, and according to Asthma UK Cymru, 314,000 people have asthma in Wales, including 59,000 children: almost one child in 10. A report from NHS Wales and the Welsh Government, published in 2015, said the percentage of patients registered with their GP for asthma and COPD, chronic obstructive pulmonary disease, was greater than in England, and there had been a slight increase in recent years. What urgent action can the Welsh Government take to work with Caerphilly County Borough Council and other stakeholders to lift the scourge of air pollution?
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr A472 yng Nghrymlyn: yn ôl data'r Llywodraeth, y lefelau o nitrogen deuocsid a gofnodwyd yma yw'r rhai uchaf a gofnodwyd yn y DU y tu allan i Lundain. Yr unig le y gwelir lefelau uwch yn Lloegr yw ar fonitor tebyg ar Marylebone Road yng nghanol Llundain, ac yn ôl Asthma UK Cymru, mae 314,000 o bobl yn dioddef o asthma yng Nghymru, gan gynnwys 59,000 o blant: bron un o bob 10 plentyn. Mewn adroddiad gan GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2015, nodwyd bod canran y cleifion y cofrestrwyd gan eu meddyg teulu eu bod yn dioddef o asthma a COPD, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, yn uwch nag yn Lloegr, a bod rhywfaint o gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf. Pa gamau brys y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a rhanddeiliaid eraill i gael gwared ar broblem llygredd aer?
Thank you. My officials have sought assurances from Caerphilly County Borough Council in relation to the A472 air quality management area near Crumlin that you mention, concerning what action they're going to take to improve the local air quality. The council are planning a steering group meeting, which you're probably aware of next month, and they're going to get input from local groups and local residents, which I think is really important. They're then going to have an air quality action plan developed. That will also include a list of traffic management options for the area to measure the air quality in the area. The council has given us an initial date of November for when this will be implemented, but I've asked officials to monitor that very carefully to make sure they do keep to that timeline.
Diolch. Mae fy swyddogion wedi ceisio sicrwydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn perthynas ag ardal rheoli ansawdd aer yr A472 ger Crymlyn a grybwyllwyd gennych, o ran y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i wella ansawdd aer yn lleol. Mae'r cyngor yn trefnu cyfarfod grŵp llywio fis nesaf, fel rydych yn gwybod mae'n siŵr, a byddant yn cael mewnbwn gan grwpiau lleol a thrigolion lleol, ac rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Wedyn, maent am sicrhau bod cynllun gweithredu ansawdd aer yn cael ei ddatblygu. Bydd hynny hefyd yn cynnwys rhestr o opsiynau rheoli traffig ar gyfer yr ardal er mwyn mesur ansawdd aer yn yr ardal. Mae'r cyngor wedi rhoi dyddiad cychwynnol i ni ar gyfer gweithredu hyn, sef mis Tachwedd, ond rwyf wedi gofyn i swyddogion fonitro hynny'n ofalus iawn i sicrhau eu bod yn cadw at yr amserlen honno.
The Port Talbot peripheral distributor road, opened to relieve local traffic demand on the M4, has been operational for about three years now. What data has the Welsh Government received from the local authority, or extracted from its own work during the junction 41 experiment, about changes to movements of traffic and air quality in particular? Can you tell me what permanent changes have been identified to air quality and are those influential in your final decision on what's going to happen to junction 41?
Mae ffordd ddosbarthu'r cyrion ym Mhort Talbot, a agorwyd i leddfu galw traffig lleol ar yr M4, wedi bod yn weithredol ers oddeutu tair blynedd bellach. Pa ddata y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gan yr awdurdod lleol, neu wedi'i dynnu o waith y Llywodraeth ei hun yn ystod arbrawf cyffordd 41, ynglŷn â newidiadau i symudiadau traffig ac ansawdd aer yn benodol? A allwch ddweud wrthyf pa newidiadau parhaol a nodwyd o ran ansawdd aer ac a yw'r rheini'n dylanwadu ar eich penderfyniad terfynol ynglŷn â'r hyn a fydd yn digwydd i gyffordd 41?
I'm afraid I don't have those data to hand, but I will be happy to write to the Member with that.
Rwy'n ofni nad oes gennyf y data hwnnw ar hyn o bryd, ond byddaf yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda hynny.
Following on from that question, obviously the air quality in Port Talbot, Cabinet Secretary, has been recognised to be one of the worst in Wales. In fact, a World Health Organization report recently published said that it was the worst in the UK for some particulates, and definitely one of the worst in the UK. I understand the issues we have. We have a heavy industrial area, we have a narrow coastal strip with the M4 driving through it, and they do impact on levels of pollution and particulates, but we need to do more to actually minimise any increase. I understand the Welsh Government has actually commissioned work by the University of Birmingham and by King's College London to look at the implications of air quality. Could you make a statement on the outcomes of that research and can you also ensure that the issues about the air quality in Port Talbot can be improved, because we are facing some of the challenges ahead of us?
Yn dilyn y cwestiwn hwnnw, mae'n amlwg fod yr ansawdd aer ym Mhort Talbot, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cael sylw fel un o'r gwaethaf yng Nghymru. Yn wir, dywedodd adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd a gyhoeddwyd yn ddiweddar mai dyna'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU mewn perthynas â rhai gronynnau, ac yn sicr mae'n un o'r rhai gwaethaf yn y DU. Rwy'n deall y problemau sydd gennym. Mae gennym ardal ddiwydiannol iawn, mae gennym lain arfordirol gul gyda'r M4 yn rhedeg drwyddi, ac maent yn effeithio ar lefelau llygredd a gronynnau, ond mae angen i ni wneud mwy mewn gwirionedd i leihau unrhyw gynnydd. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith gan Brifysgol Birmingham a Choleg y Brenin, Llundain i edrych ar oblygiadau ansawdd aer. A allech roi datganiad am ganlyniadau'r gwaith ymchwil hwnnw ac a allwch sicrhau hefyd y bydd modd gwella'r problemau sy'n codi o ansawdd aer ym Mhort Talbot, am ein bod yn wynebu rhai o'r heriau sydd o'n blaenau?
Again, I'm sorry I don't have the research information in front of me, but I will write to you.
Unwaith eto, mae'n ddrwg gennyf nad oes gennyf y wybodaeth ynglŷn â'r gwaith ymchwil o fy mlaen, ond byddaf yn ysgrifennu atoch.
Thank you. I will be making a statement next week on flood and coastal-risk management for the whole of Wales. Flood-risk management plans have recently been published by Rhondda Cynon Taf and Natural Resources Wales that set out the detailed approach to managing the flood risk in the Cynon Valley.
Diolch. Byddaf yn gwneud datganiad yr wythnos nesaf ar reoli perygl llifogydd ac arfordirol ar gyfer Cymru gyfan. Yn ddiweddar cyhoeddwyd cynlluniau rheoli perygl llifogydd Rhondda Cynon Taf a Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n nodi'r dull manwl o reoli perygl llifogydd yng Nghwm Cynon.
Thank you. The risk of flooding to properties in Abercynon, Aberaman, Cilfynydd, Cwmdu and Ynysboeth in my constituency has been reduced through Rhondda Cynon Taf's multimillion-pound flood alleviation programme, funded by the council's capital programme, Welsh Government money and European regional development funding. Do you agree with me that these schemes to protect homes and families from the devastation caused by flooding could be at risk if we weren't in the EU?
Diolch. Mae perygl llifogydd i eiddo yn Abercynon, Aberaman, Cilfynydd, Cwm-du ac Ynysboeth yn fy etholaeth wedi cael ei leihau drwy raglen lliniaru llifogydd gwerth miliynau o bunnoedd Rhondda Cynon Taf, a ariennir gan raglen gyfalaf y cyngor, arian Llywodraeth Cymru a chyllid datblygu rhanbarthol Ewrop. A ydych chi'n cytuno y gallai'r cynlluniau hyn i ddiogelu cartrefi a theuluoedd rhag y dinistr a achosir gan lifogydd fod mewn perygl pe na baem yn rhan o'r UE?
Yes, you're absolutely right. These locations have benefited from contributions from EU funding for flood-risk management schemes. They've supplemented our own funding too, and they've enabled us to increase the amount of properties that are protected in Wales from flooding.
Ydw, rydych yn hollol gywir. Mae'r llefydd hyn wedi elwa o gyfraniadau cyllid yr UE ar gyfer cynlluniau rheoli perygl llifogydd. Maent wedi ategu ein cyllid ein hunain hefyd, ac maent wedi ein galluogi i gynyddu nifer yr eiddo sy'n cael eu hamddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru.
Cabinet Secretary, the improvement and maintenance of culverts are key to effective flood defence, and if anyone in valley areas like Cynon Valley has seen how fast those water courses can move, it is truly terrifying. There's a lot we can do in terms of maintaining culverts through the use of new technology and cameras. This is something that we must do, with great vigilance, and it does, of course, require extensive investment.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwella a chynnal a chadw cwlfertau yn allweddol i amddiffyn rhag llifogydd yn effeithiol, ac os oes unrhyw un yn ardaloedd cymoedd fel Cwm Cynon wedi gweld pa mor gyflym y gall y cyrsiau dŵr hynny symud, mae'n wirioneddol frawychus. Mae yna lawer y gallwn ei wneud i gynnal cwlfertau drwy ddefnyddio technoleg newydd a chamerâu. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei wneud, gyda lefel uchel o wyliadwriaeth, ac mae'n galw am fuddsoddiad helaeth wrth gwrs.
Yes, I absolutely agree. It's something, as we look at what schemes we'll be funding over the coming years, that we can have a look at - that specific issue. There's always technology and research that shows us new ways of doing it, and it's really important that we have that flexibility to be able to do that.
Ydy, cytunaf yn llwyr. Wrth i ni edrych ar ba gynlluniau y byddwn yn eu hariannu dros y blynyddoedd nesaf, mae'n rhywbeth y gallwn edrych arno - y mater penodol hwnnw. Mae yna bob amser dechnoleg ac ymchwil sy'n dangos ffyrdd newydd o wneud hynny i ni, ac mae'n bwysig iawn fod gennym yr hyblygrwydd i allu gwneud hynny.
Thank you. The nature recovery plan for Wales sets out our objectives and actions to achieve our ambition to reverse the decline in biodiversity by 2020. This will contribute to the nation's well-being and the sustainable management of our natural resources.
Diolch. Mae cynllun adfer natur Cymru yn amlinellu ein hamcanion a'n camau gweithredu ar gyfer cyflawni ein huchelgais i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2020. Bydd hyn yn cyfrannu at les y genedl a rheolaeth gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol.
Cabinet Secretary, you'll be aware that the Wildlife Trusts recently launched a species champions strategy. I and other Assembly Members are championing species in Wales. The water vole - [Interruption.] - is my particular species, but many others will be helping with the efforts. But would you agree with me, Cabinet Secretary, that we do need to protect our biodiversity and these species, including the water vole, on the Gwent levels, and one aspect of that is engagement with local people and local children? Schools are very much captivated by the water voles and it does lead to a greater appreciation of biodiversity and nature. So, I think there are many aspects of Welsh Government strategy that can be furthered through this scheme.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod yr Ymddiriedolaethau Natur wedi lansio strategaeth hyrwyddwyr rhywogaethau yn ddiweddar. Rwyf fi ac Aelodau eraill o'r Cynulliad yn hyrwyddo rhywogaethau yng Nghymru. Llygoden y dŵr - [Torri ar draws.] - yw fy rhywogaeth benodol i, ond bydd llawer o rai eraill yn helpu gyda'r ymdrechion. Ond a fyddech yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, fod angen i ni ddiogelu ein bioamrywiaeth a'r rhywogaethau hyn, gan gynnwys llygod y dŵr, ar wastadeddau Gwent, ac un agwedd ar hynny yw ymgysylltu â phobl leol a phlant lleol? Mae ysgolion wedi'u swyno'n fawr gan lygod y dŵr ac mae'n arwain at werthfawrogiad gwell o fioamrywiaeth a natur. Felly, rwy'n credu bod llawer o agweddau ar strategaeth Llywodraeth Cymru y gellir eu hyrwyddo drwy'r cynllun hwn.
I was very pleased to see that last week. They offered me the hedgehog, but I decided that I would be champion for all of Wales's biodiversity. [Interruption.] I thought perhaps it was a bit prickly. [Laughter.] But I absolutely do support the role of species champions. I think it's a really good initiative, because it will highlight the importance of species, their habitat needs, and the absolutely essential part they play in healthy, functioning ecosystems. I think this is part and parcel of a broader approach that we need to have in relation to the sustainable management of our resources, and you're absolutely right about schools and young children and teenage children. I think you only have to look at the way that recycling - . I think that went into schools very early on, and now for those children, as they've grown up, it's just part of their everyday lives. So, if we can start them young, I think that's a very good idea, and the Minister for education is in the Chamber and is hearing this, so I'm sure she will take that on board, too.
Roeddwn yn falch iawn o weld hynny yr wythnos diwethaf. Cefais gynnig y draenog, ond penderfynais y buaswn yn hyrwyddo holl fioamrywiaeth Cymru. [Torri ar draws.] Roeddwn yn tybio efallai ei fod braidd yn bigog. [Chwerthin.] Ond rwy'n cefnogi rôl hyrwyddwyr rhywogaethau. Rwy'n credu ei bod yn fenter wirioneddol dda, gan y bydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhywogaethau, eu hanghenion cynefin, a'r rhan gwbl hanfodol y maent yn ei chwarae mewn ecosystemau iach, gweithredol. Rwy'n credu bod hyn yn rhan annatod o ymagwedd ehangach y mae angen i ni ei chael mewn perthynas â rheoli ein hadnoddau yn gynaliadwy, ac rydych yn hollol gywir am ysgolion a phlant ifanc a phlant yn eu harddegau. Rwy'n credu nad oes ond angen i chi edrych ar y ffordd y mae ailgylchu - . Rwy'n credu bod hynny wedi mynd i mewn i'r ysgolion yn gynnar iawn, ac yn awr i'r plant hynny, wrth iddynt dyfu, mae ailgylchu yn rhan o'u bywydau bob dydd. Felly, os gallwn ddechrau eu hannog yn ifanc, credaf ei fod yn syniad da iawn, ac mae'r Gweinidog addysg yn y Siambr ac yn clywed hyn, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n ystyried hynny, hefyd.
As the species champion for the red squirrel in Wales, I'm delighted that one of the largest populations of red squirrels is in the Clocaenog forest in my constituency. You will be aware that that forestry is managed by a taxpayer-funded organisation, Natural Resources Wales. What work are you doing to ensure that, where there is publicly owned land, it does promote biodiversity and, in particular, the red squirrel population?
Fel hyrwyddwr rhywogaeth y wiwer goch yng Nghymru, rwy'n falch iawn fod un o'r poblogaethau mwyaf o wiwerod coch yng nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth. Fe fyddwch yn gwybod bod gwaith coedwigaeth yn cael ei reoli gan sefydliad a ariennir gan y trethdalwr, Cyfoeth Naturiol Cymru. Pa waith rydych yn ei wneud i sicrhau, lle mae yna dir sy'n eiddo cyhoeddus, ei fod yn hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn benodol, poblogaeth y wiwer goch?
I was just going to say that, in my day, that was called Tufty. I think you raise a very important point, and, certainly, I will be meeting very regularly with Natural Resources Wales on forestry. It's hugely important to our country, so I'm very happy to take that forward.
Roeddwn am ddweud fod hwnnw, yn fy amser i, yn cael ei alw'n Tufty. Rwy'n credu eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod coedwigaeth. Mae'n hynod bwysig i'n gwlad, felly rwy'n hapus iawn i fwrw ymlaen â hynny.
Thank you. This was a serious water pollution incident caused by an unknown quantity of farm slurry entering the watercourse from a local farm, resulting in 380 dead fish. Natural Resources Wales is considering formal enforcement action following a review of the facts of the case and public interest factors.
Diolch. Roedd hwn yn ddigwyddiad o lygredd dŵr difrifol a achoswyd gan gyfaint anhysbys o fiswail fferm yn llifo i mewn i gwrs dŵr o fferm leol, gan ladd 380 o bysgod. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried camau gorfodi ffurfiol yn dilyn adolygiad o ffeithiau'r achos a ffactorau budd y cyhoedd.
I thank you for that answer, Cabinet Secretary, and, as you say, there was a large number of fish estimated to have been killed. But this is only one, or the latest, incident on that section of the water, and it isn't the first time that such an incident has occurred. There was another incident of around 10,000 gallons of slurry spilled into a stream in the Towy valley in March 2015. I of course do welcome that Natural Resources Wales officers are investigating the source of the slurry and also that the pollution has now stopped, but my question to you is: what assessment has been made, or will be made, as to the impact on the long-term recovery of that stretch of water? And will you also be able to confirm what work is being done to reduce the likelihood of similar slurry spillages occurring in the future, and also to ensure that those who do damage our wonderful environment are actually held accountable for doing so?
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fel y dywedwch, amcangyfrifiwyd bod nifer fawr o bysgod wedi'u lladd. Ond un digwyddiad yn unig yw hwn, neu'r digwyddiad diweddaraf, ar y rhan honno o'r dŵr, ac nid dyma'r tro cyntaf y cafwyd digwyddiad o'r fath. Cafwyd digwyddiad arall pan ollyngodd tua 10,000 galwyn o fiswail i nant yn nyffryn Tywi ym mis Mawrth 2015. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith fod swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i ffynhonnell y biswail a hefyd mae'r llygredd hwnnw bellach wedi dod i ben, ond fy nghwestiwn i chi yw: pa asesiad a wnaed, neu a fydd yn cael ei wneud, o ran yr effaith ar adferiad hirdymor y rhan honno o'r dŵr? Ac a allwch hefyd gadarnhau pa waith sy'n cael ei wneud i leihau'r tebygolrwydd y bydd gollyngiadau biswail tebyg yn digwydd yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau bod y rhai sy'n niweidio ein hamgylchedd gwych yn cael eu dwyn i gyfrif am wneud hynny?
Thank you. The nitrous oxide in fish, we know, will have a future impact on egg counts, but it is hoped that the river will recover naturally over time. I mentioned that Natural Resources Wales are working with the farmer to implement pollution prevention measures - to improve the infrastructure at the farm to reduce the likelihood of further pollution incidents. They have collected evidence in response to the incident, and, as I say, they are investigating and deciding what further action will be taken. I think it's really important that we do work with the industry to develop a programme to ensure that everybody's aware of their responsibilities. We also need to look to see if there's anything that we need to do here, whether it be legislative or non-legislative, to assist, going forward.
Diolch. Fe wyddom y bydd yr ocsid nitraidd mewn pysgod yn effeithio ar niferoedd wyau yn y dyfodol, ond y gobaith yw y bydd yr afon yn adfer yn naturiol ymhen amser. Soniais fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r ffermwr i weithredu mesurau atal llygredd - er mwyn gwella'r seilwaith ar y fferm a lleihau'r tebygolrwydd o ddigwyddiadau pellach o lygredd. Maent wedi casglu tystiolaeth mewn ymateb i'r digwyddiad, ac fel rwy'n dweud, maent yn ymchwilio ac yn penderfynu pa gamau pellach a roddir ar waith. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r diwydiant i ddatblygu rhaglen i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau. Mae angen i ni hefyd edrych i weld a oes unrhyw beth sydd angen i ni ei wneud yma, boed yn ddeddfwriaethol neu anneddfwriaethol, i gynorthwyo yn y dyfodol.
Thank you. Generally, rural areas are not impacted by significant levels of pollution from traffic, due to the smaller volumes of traffic in rural locations. A small number of rural towns have elevated levels of pollutants generated by traffic. Local authorities implement air-quality action plans to reduce pollution in these locations.
Diolch. Yn gyffredinol, nid yw ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio gan lefelau sylweddol o lygredd o ganlyniad i draffig, oherwydd y cyfeintiau llai o draffig mewn lleoliadau gwledig. Mae gan nifer fach o drefi gwledig lefelau uchel o lygryddion a gynhyrchir gan draffig. Mae awdurdodau lleol yn rhoi cynlluniau gweithredu ansawdd aer ar waith er mwyn lleihau llygredd yn y lleoliadau hyn.