source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
I am pleased to return to what I hope will be a positive debate on the health service. Over the past weeks, I, like many other people, have been dealing with constituents who are greatly concerned about the fact that there is increasing pressure on the local surgeries, that they have to wait for 10 days or a fortnight for an appointment with a GP, and that the services in the local hospital have been reduced. It's important that we here acknowledge that this arises directly from the decisions of the Welsh Government. Whether good or bad, decisions that we have made over the years are responsible for this, and not immigrants from outside as has been suggested in debates over the past weeks. You are much more likely to be treated by somebody from outside Wales and outside the United Kingdom as part of the workforce that is needed from outside the United Kingdom than lying in a hospital bed side by side with an immigrant. That's what we're discussing here. I believe that the Plaid Cymru debate acknowledges two things: that we did actually take the wrong turning, as it were, as regards the recruitment and retention of GPs in Wales. Another false move, if you like, is the way we treated some of our community hospitals, and the failure, particularly in rural areas, to recognise that we needed community hospitals, perhaps in a new guise - not like the old cottage hospitals - but that we needed some kind of institution in the rural areas to sustain the network of local hospitals that people appreciate but also enrich public health. One example of this was the undoubted success, in my view, of the bargain that was struck between Plaid Cymru and the former Labour Government to establish an intermediate care fund. At the time, the Government didn't believe that there was a need for such a fund, to provide for integration between health services and social services. By now, that fund is acknowledged as something which has been a success and has led to a number of people being able to stay in their homes, and been the means of integration between health and social services. So, I believe that we missed an opportunity to build on our community hospitals. There are opportunities to improve. The mid Wales joint partnership was established recently by the former health Minister, and is beginning to bear fruit. It's starting to bring new ideas to the fore to see what hospital and primary care services can do in rural areas. Examples have been portrayed during meetings of that joint partnership of places beyond Wales - Scandinavia and North America - but we don't need to go any further than Yorkshire to see what can be done with community hospitals in Wales. In Pontefract, a brand new community hospital was established with 42 beds in order to reduce the pressure on the acute wards. That new hospital that's only just opened, just under a year ago, has already saved money and enables patients to return from tertiary hospital treatment more successfully. So, these are the examples of what community hospitals in my constituency, such as in Blaenau Ffestiniog and in Tenby, could do in the future. Looking at Tenby specifically, this is another example of a hospital that lost its minor injuries unit, unfortunately, as it was closed for safety reasons - we've heard of this a number of times - but it has returned in pilot form last Easter and it was a sweeping success, and the local GPs also wish to see this being established. So, in rural areas - for example, 60 per cent of the population in Ceredigion and 53 per cent of the population in Carmarthen East and Dinefwr are further than 15 minutes away from their GP - we need to seriously consider how we can establish a network of community hospitals. During this debate we are looking to reconsider the way our community hospitals and GPs can deliver services, particularly in rural areas. Perhaps we should set aside some of the debates and arguments from the past and look forward to a more affirmative and positive attitude from this new Government.
Mae'n dda gen i ddychwelyd at beth fydd, yr wyf yn gobeithio, yn ddadl gadarnhaol dros y gwasanaeth iechyd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf innau, fel sawl un, rwy'n siŵr, wedi bod yn delio efo etholwyr sydd yn poeni yn ddirfawr ynglŷn â'r ffaith bod yna bwysau cynyddol ar feddygfeydd lleol, eu bod yn gorfod aros 10 diwrnod neu bythefnos i gael apwyntiad gyda meddyg teulu, a bod y gwasanaethau yn yr ysbyty lleol wedi cael eu lleihau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni fan hyn yn cydnabod bod hynny'n deillio yn uniongyrchol o benderfyniadau'r Llywodraeth, a Llywodraeth Cymru yn hynny o beth. Er da neu er drwg, penderfyniadau rydym ni wedi eu cymryd dros y blynyddoedd sy'n gyfrifol am hyn, ac nid mewnfudwyr o'r tu allan fel sydd wedi cael ei greu yn ystod y ddadl yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydych yn llawer fwy tebygol yng Nghymru o gael eich trin gan rywun o'r tu allan i Gymru a thu allan i'r Deyrnas Gyfunol fel rhan o'r gweithlu sydd ei angen o'r tu allan i'r Deyrnas gyfunol, na gorwedd mewn gwely mewn ysbyty wrth ochr mewnfudwr o'r tu allan. Felly, dyna'r cyd-destun rydym yn ei drafod fan hyn. Rwy'n credu bod y ddadl gan Blaid Cymru heddiw yn cydnabod dau beth: ein bod ni wedi cymryd tro gwag rhywbryd yn y gorffennol, un ynglŷn â diffyg cynllunio ar gyfer recriwtio a chadw meddygon teulu yng Nghymru, ac un tro gwag arall - diffyg cynllunio ynglŷn â dyfodol rhai o'n hysbytai cymunedol ni, a methiant i gydnabod, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad, bod angen ysbytai cymunedol, efallai ar wedd newydd - nid fel yr hen ysbytai bwthyn fel oedd hi efallai - ond bod angen yr adeiladau hyn a'r presenoldeb yn y cymunedau i gynnal gwe o wasanaethau lleol y mae pobl leol yn eu gwerthfawrogi, ond sydd hefyd yn ychwanegu at iechyd y cyhoedd. Un enghraifft o hyn oedd llwyddiant digamsyniol, rwy'n meddwl, y cytundeb a darwyd rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur flaenorol i sefydlu cronfa gofal canolradd. Ar y pryd, nid oedd y Llywodraeth wedi cydnabod bod angen cronfa o'r fath i ddarparu ar gyfer integreiddio rhwng gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal ac iechyd. Ac erbyn hyn mae'r gronfa yna yn cael ei chydnabod fel rhywbeth sydd wedi bod yn llwyddiant ac wedi cynnal nifer o bobl i aros yn eu cartrefi, ac wedi bod yn ffordd i integreiddio rhwng y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol. Felly, rwy'n meddwl ein bod ni wedi methu cyfle i adeiladu ar ein hysbytai cymunedol ni. Nawr, mae yna gyfleoedd i wella. Mae cyd-bartneriaeth canolbarth Cymru wedi ei sefydlu yn ddiweddar gan y cyn Weinidog iechyd, ac mae'n dechrau bod yn llwyddiannus; mae'n dechrau dod â syniadau newydd i mewn i weld beth all gwasanaethau ysbytai a gwasanaethau sylfaenol fod mewn ardaloedd cefn gwlad. Mae yna enghreifftiau wedi cael eu portreadu yn ystod cyfarfodydd y cyd-bartneriaeth yna o'r tu hwnt i Gymru - lleoedd yn Sgandinafia, lleoedd yng Ngogledd America - ond nid oes rhaid mynd ymhellach na swydd Efrog, a dweud y gwir, i weld beth allem ni wneud gydag ysbytai cymunedol yng Nghymru. Fe sefydlwyd yn Pontefract ysbyty cymunedol cwbl newydd gyda 42 o welyau, er mwyn lleihau'r pwysau ar y wardiau aciwt. Ac mae'r ysbyty newydd yna, sydd ond newydd agor, llai na blwyddyn yn ôl, eisoes yn cyfrannu at arbed arian, ac yn galluogi pobl i fynd yn ôl o driniaeth mewn ysbytai trydyddol yn fwy llwyddiannus. Felly, dyma enghreifftiau o'r rôl y gallai ysbytai cymunedol yng Nghymru, yn fy etholaeth i, mewn lleoedd fel Blaenau Ffestiniog a Dinbych-y-Pysgod, efallai eu chwarae ar gyfer y dyfodol. Ac wrth edrych ar Ddinbych-y-Pysgod yn benodol, dyma enghraifft arall o ysbyty cymunedol a gollodd uned mân anafiadau yn anffodus, a gafodd ei chau am resymau diogelwch - rydym wedi clywed hynny sawl gwaith - ac sydd wedi dod yn ôl fel peilot yr uned mân anafiadau dros y Pasg diwethaf, ac a oedd yn llwyddiant ysgubol, lle roedd y meddygon teulu lleol hefyd yn dymuno gweld hynny yn cael ei sefydlu. Felly, mewn ardaloedd gwledig - er enghraifft, mae 60 y cant o'r boblogaeth yng Ngheredigion a 53 y cant o'r boblogaeth yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ymhellach i ffwrdd o'r meddyg teulu na 15 munud - mae angen edrych yn ddifrifol ar sut y gallwn ni adeiladu rhwydwaith rhwng ysbytai cymunedol yn ogystal. Rydym ni'n galw yn y ddadl yma am ailedrych ar y ffordd mae ysbytai cymunedol a'n meddygon teulu ni yn gallu gwasanaethu, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad. A allwn ni roi o'r neilltu, efallai am y tro, rai o ddadleuon y gorffennol, gan edrych ymlaen at agwedd fwy cadarnhaol gan y Llywodraeth newydd hon?
I'm slightly diffident in rising to speak on the topic of the integration of health and social care, given the immense contribution that my predecessor as Assembly Member for Neath, Gwenda Thomas, has made in this particular policy area in Wales, and in particular with regard to the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 itself. So, I'll take this opportunity to pay tribute to her for her political legacy in this place, which will surely benefit hundreds of thousands of people in Wales. Like many Members, I'm sure, access to a GP is something that came up routinely on the doorstep during the election campaign we've just fought, and it still does. One issue it seems to me important for us to recognise, as Dai Lloyd already has, is that the increasing numbers of older people that our NHS and care services need to provide for is the result of improved healthcare provision over the years. And, in that sense, it's a result of success. I am always mindful of the language that we use when we speak about the needs of older patients in describing the challenges facing health and social care. We would all agree that it is unequivocally a good thing and a thing to be celebrated that we have a generation of older people living longer whose needs we're able to cater for. But the operational challenges of addressing this need are another matter, and we do need more GPs in order to meet the needs of our population, and this is, and must be, a priority for the Government. But, actually, the overriding aim must be a primary care service that provides the right sort of care, whether that's provided by a GP or another health professional perhaps better equipped to do that. The development of multidisciplinary practices with pharmacists, practice nurses and other professionals working alongside GPs offers the potential to provide the type of care required by the patient whilst also enabling the GP to focus on patients who have a particular clinical need to see a general practitioner. I'd refer to the excellent model of innovation in the Amman Tawe practice in my constituency, which also extends into the Carmarthen East and Dinefwr constituency of Adam Price. It seems to me that a strong practice ethos and parity of esteem between practitioners is vital to the success of that model, and the prize is not only care that better meets the needs of the population, but perhaps it also makes it easier to attract GPs to those practices. I stress that this isn't to deny the fact that we need to recruit more GPs. We clearly do, and we need to continue to help those practices that are finding it hard, for whatever reason, to fill those vacancies. One of the key issues, it seems to me, is that the reconfiguration of those practices is one part of the equation. But the other vital part is the role and in particular the expectations of the patient. It may be understandable for a patient who has been, over the years, used to seeing a GP to feel that seeing another healthcare professional doesn't do the same or indeed a better job. Many of us will have examples of concerns raised over triage arrangements in particular. So, it seems to me vital that ways are found to engage local communities genuinely and deeply as partners in improving health and care provision. There is a relationship of trust at the heart of the doctor-patient relationship that is not straightforward to replicate. But, equally, successful multidisciplinary arrangements seem to me to depend on a good level of health literacy in the general population. There is an element of physical and mental self-awareness and an understanding of risk that perhaps isn't where it needs to be in order for some of these practises to work in the best way. So, the work that Public Health Wales and others do in striving to improve health literacy is crucial. I want to say something about the relationship between public transport and primary care services. The work done by the Government's bus advisory group acknowledges the importance of aligning routes to key trip generators like health centres. We should also explore the potential for primary care centres themselves to partner with volunteer-based regulated community transport providers to make it easier for patients to access appointments. Indeed, we should also look at how primary care practices can be supported generally to work more closely with the voluntary sector as equal partners, which Sian Gwenllian alluded to in her contribution. A community level focus on this is important. Getting this right will support the integration of health and social care at a primary care level as well as at a secondary level, and care planning needs to focus on the holistic needs of the patient, taking into account the role of social services in the community and indeed the role and, in fact, needs of carers themselves. As many speakers have mentioned, there are excellent examples of this across Wales, and the intermediate care fund exists to support that way of working. But we must ensure that in this, as with other areas that I've mentioned, best practice is identified and universalised.
Rwyf ychydig yn betrusgar wrth godi i siarad ynghylch integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, o ystyried y cyfraniad enfawr a wnaed yn y maes polisi penodol hwn yng Nghymru gan fy rhagflaenydd, Gwenda Thomas, yr Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd, ac yn enwedig mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, manteisiaf ar y cyfle hwn i dalu teyrnged iddi am ei hetifeddiaeth wleidyddol yn y lle hwn, a fydd yn sicr o fod o fudd i gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru. Fel nifer o'r Aelodau, rwy'n siŵr, roedd mynediad at feddyg teulu yn bwnc a gododd dro ar ôl tro ar garreg y drws yn ystod yr ymgyrch etholiadol rydym newydd fod yn ei hymladd, ac mae'n dal i godi. Un mater y credaf ei bod yn bwysig i ni ei gydnabod, fel y gwnaeth Dai Lloyd eisoes, yw bod y niferoedd cynyddol o bobl hŷn sydd angen i'n GIG a'n gwasanaethau gofal ddarparu ar eu cyfer yn ganlyniad darpariaeth gofal iechyd gwell dros y blynyddoedd. Ac yn hynny o beth, mae'n ganlyniad i lwyddiant. Rwyf bob amser yn ymwybodol o'r iaith a ddefnyddiwn wrth siarad am anghenion cleifion hŷn a disgrifio'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym oll yn gytûn fod y ffaith ein bod yn gallu darparu ar gyfer anghenion cenhedlaeth o bobl hŷn sy'n byw'n hwy yn amlwg yn beth da, ac yn rhywbeth i'w ddathlu. Ond mae'r heriau gweithredol wrth fynd i'r afael â'r angen hwn yn fater arall, ac mae angen mwy o feddygon teulu er mwyn diwallu anghenion ein poblogaeth, ac mae hon yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, fel y dylai fod. Ond mewn gwirionedd, dylid anelu'n bennaf at sicrhau gwasanaeth gofal sylfaenol sy'n darparu'r math cywir o ofal, boed wedi'i ddarparu gan feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall sydd efallai wedi'i gyfarparu'n well i wneud hynny. Mae datblygu practisau amlddisgyblaethol gyda fferyllwyr, nyrsys practis a gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio ochr yn ochr â meddygon teulu yn cynnig potensial i ddarparu'r math o ofal y mae'r claf ei angen, gan alluogi'r meddyg teulu i ganolbwyntio ar gleifion sydd angen gweld meddyg teulu oherwydd anghenion clinigol penodol. Cyfeiriaf at y model arloesi rhagorol ym mhractis Aman Tawe yn fy etholaeth, sydd hefyd yn ymestyn i etholaeth Adam Price yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ymddengys i mi fod ethos ymarfer cryf a pharch cydradd rhwng ymarferwyr yn hanfodol i lwyddiant y model hwnnw, ac nid gofal sy'n diwallu anghenion y boblogaeth yn well yw'r unig wobr, ond efallai fod hynny hefyd yn ei gwneud yn haws denu meddygon teulu i'r practisau hynny. Pwysleisiaf nad yw hyn yn gwadu'r ffaith fod angen i ni recriwtio rhagor o feddygon teulu. Mae'n amlwg fod angen i ni wneud hynny, ac mae'n rhaid i ni barhau i helpu'r practisau sy'n ei chael yn anodd, am ba reswm bynnag, i lenwi'r swyddi hynny. Un o'r materion allweddol, ymddengys i mi, yw mai un rhan o'r hafaliad yw ad-drefnu'r practisau hynny. Ond y rhan hanfodol arall yw rôl y claf, a disgwyliadau'r claf yn arbennig. Gall fod yn ddealladwy i glaf sydd wedi arfer gweld meddyg teulu dros y blynyddoedd deimlo nad yw gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall gystal neu'n well yn wir na gweld meddyg teulu. Bydd gan lawer ohonom enghreifftiau o bryderon a leisiwyd ynglŷn â threfniadau brysbennu yn arbennig. Felly, ymddengys i mi fod yn rhaid i ni ganfod ffyrdd o ymgysylltu'n ddilys ac yn dreiddgar â chymunedau lleol fel partneriaid yn y broses o wella'r ddarpariaeth iechyd a gofal. Ceir perthynas o ymddiriedaeth ganolog rhwng y meddyg a chlaf nad yw'n hawdd ei hail-greu. Ond yn yr un modd, ymddengys i mi fod trefniadau amlddisgyblaethol llwyddiannus yn dibynnu ar lefel dda o lythrennedd iechyd yn y boblogaeth gyffredinol. Efallai nad yw'r ddealltwriaeth o risg a'r elfen o hunanymwybyddiaeth gorfforol a meddyliol gystal ag y mae angen iddynt fod er mwyn i rai o'r practisau hyn weithio yn y ffordd orau. Felly, mae'r gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill yn ei wneud i geisio gwella llythrennedd iechyd yn allweddol. Dymunaf ddweud rhywbeth am y berthynas rhwng trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae'r gwaith a wnaed gan grŵp cynghori'r Llywodraeth ar fysiau yn cydnabod pwysigrwydd alinio llwybrau â sbardunau teithiau allweddol fel canolfannau iechyd. Dylem hefyd ystyried y potensial i'r canolfannau gofal sylfaenol eu hunain bartneru â darparwyr cludiant cymunedol gwirfoddol rheoledig er mwyn ei gwneud yn haws i gleifion allu mynychu apwyntiadau. Yn wir, dylem edrych hefyd ar sut y gellid cynorthwyo practisau gofal sylfaenol yn gyffredinol i weithio'n agosach gyda'r sector gwirfoddol fel partneriaid cyfartal, fel y soniodd Sian Gwenllian yn ei chyfraniad. Mae'n bwysig canolbwyntio ar hyn ar lefel gymunedol. Bydd llwyddo yn hyn o beth yn cefnogi integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel gofal sylfaenol yn ogystal ag ar lefel eilaidd, ac mae'n rhaid i'r broses o gynllunio gofal ganolbwyntio ar anghenion holistaidd y claf, gan ystyried rôl gwasanaethau cymdeithasol yn y gymuned, ac yn wir, rôl ac anghenion gofalwyr eu hunain. Fel y crybwyllodd llawer o siaradwyr, ceir enghreifftiau ardderchog o hyn ledled Cymru, ac mae'r gronfa gofal canolraddol yn bodoli er mwyn cefnogi'r ffordd honno o weithio. Ond yn hyn o beth, fel yn y meysydd eraill y soniais amdanynt, mae'n rhaid i ni sicrhau bod arferion gorau yn cael eu nodi a'u rhoi ar waith ym mhopeth a wnawn.
The Welsh Government policy on community health services and health budget cuts described by the Wales Audit Office as 'unprecedented in UK history' increased pressure on our general hospitals. The 2016 Welsh Conservative manifesto included proposals to drive greater integration between health, social services and communities. We also said we'd create a community hospital development fund and re-establish minor injury units to repair the damage caused by Labour's community bed cuts and minor injury unit closures. In March 2010, the Labour health Minister then said, 'I'm not aware of any threats to community hospitals across Wales.' In reality, I'd established CHANT Cymru - Community Hospitals Acting Nationally Together - which successfully campaigned for suspension of Labour's plans to close community hospitals in 2007. However, when Labour returned to single-party power in Cardiff in 2011, they again pushed ahead with their community hospital and bed closure programme. North Wales Community Health Council wrote to the then health Minister expressing concerns about the robustness of the information provided by Betsi Cadwaladr university health board, which they had used to inform their closure decisions for community hospitals in Flint, Llangollen, Blaenau Ffestiniog and Prestatyn. Dozens of community beds were lost, despite bed occupancy levels of 95 per cent and above. The GP who set up the north Wales pilot enhanced care at home scheme with the health board said that this will bring a service that is currently frequently gridlocked further to its knees, and that a central part of the proposed shake up of health services - providing more care in people's homes - won't fill the gap left by shutting community hospitals. The Labour Government ignored the Flint referendum in which 99.3 per cent voted in favour of returning in-patient beds to Flint and then ignored the Blaenau Ffestiniog referendum when an overwhelming majority voted in favour of returning beds there. When I had visited Holywell hospital, staff told me that extra investment in our local community hospitals such as Holywell and NHS community beds in Flint would take pressure off our general hospitals, help tackle the A&E crisis and enable the health board to use its resources more efficiently. As the head of the NHS in England said not so long ago, smaller community hospitals should play a bigger role, particularly in the care of older patients. At a British Medical Association Cymru briefing in the Assembly in June 2014, the chair of the North Wales Local Medical Committee warned that general practice in north Wales is in crisis, that several practices had been unable to fill vacancies and that many GPs were seriously considering retirement. Early this year, GPs in north Wales wrote to this First Minister accusing him of being out of touch with the reality of the challenges facing them. The Royal College of GPs states that general practice in Wales provides, as we've heard, 90 per cent of NHS consultations, but only 7.8 per cent of the budget. They say prolonged underinvestment means that funding for general practice has been decreasing compared to the overall Welsh NHS, yet we face the significant challenges of an ageing and growing population. As they say, consultations are becoming longer and more complicated as we deal with an increasing number of patients with multiple chronic conditions. As they stated in an Assembly meeting yesterday, nearly four in 10 patients in Wales find it difficult to make a convenient GP appointment - up 4 per cent in two years; 84 per cent of GPs in Wales worry that they miss something serious with a patient due to pressures; and more than 52 per cent of GPs face significant recruitment issues, with Wales needing to employ more than 400 more GPs. Given the GP shortage, we heard that models such as the multi-disciplinary practice introduced in Prestatyn are needed. However, we also heard that this was based on an overseas model, which had a higher ratio of GPs to other disciplines; that we will lose the holistic view and continuity provided by GPs, damaging the well-being of patients; and that the health board is not stepping in until crisis or disaster. We heard that, in Manchester, 100 per cent of junior doctors will spend time in general practice, compared with just 13 per cent in Wales, and that every junior doctor in Wales should be exposed to general practice. We heard that north Wales needs to focus, once again, on recruiting GPs from Manchester and Liverpool universities; that support is needed for struggling practices and individual GPs suffering burnout; and that NHS community beds add to the breadth of things GPs can do, assisting both primary and secondary sectors. So, let us hope that this reshuffled Labour Government starts listening, at last, and delivering the solutions that the professionals know that we need.
Mae polisi Llywodraeth Cymru ar wasanaethau iechyd cymunedol a thoriadau yn y gyllideb iechyd, a ddisgrifiwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru fel rhai 'digynsail yn hanes y DU', wedi rhoi mwy o bwysau ar ein hysbytai cyffredinol. Roedd maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer 2016 yn cynnwys argymhellion i hybu mwy o integreiddio rhwng iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chymunedau. Dywedasom hefyd y byddem yn creu cronfa datblygu ysbytai cymuned ac yn ailsefydlu unedau mân anafiadau i unioni'r difrod a achoswyd gan y Blaid Lafur yn cael gwared ar welyau cymunedol a chau unedau mân anafiadau. Ym mis Mawrth 2010, dywedodd Gweinidog Iechyd y Blaid Lafur ar y pryd, 'Ni wn am ddim bygythiadau i ysbytai cymunedol ar draws Cymru.' Mewn gwirionedd, roeddwn wedi sefydlu CHANT Cymru - Ysbytai Cymuned yn Gweithredu'n Genedlaethol Gyda'i Gilydd - a ymgyrchodd yn llwyddiannus i atal cynlluniau Llafur i gau ysbytai cymuned yn 2007. Fodd bynnag, pan ddychwelodd Llafur i rym un blaid yng Nghaerdydd yn 2011, aethant ati eto i fwrw ymlaen â'u rhaglen i gau ysbytai a gwelyau cymunedol. Ysgrifennodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru at y Gweinidog Iechyd ar y pryd yn mynegi pryderon ynghylch safon y wybodaeth a ddarparwyd gan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, ac a ddefnyddiwyd ganddynt i lywio eu penderfyniadau i gau ysbytai cymuned yn y Fflint, Llangollen, Blaenau Ffestiniog a Phrestatyn. Collwyd dwsinau o welyau cymunedol, er bod lefelau defnydd gwelyau yn 95 y cant ac yn uwch. Dywedodd y meddyg teulu a sefydlodd y cynllun peilot gofal estynedig yn y cartref gyda'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru y byddai hyn yn llorio gwasanaeth sydd eisoes yn aml dan bwysau ar hyn o bryd, ac na fydd rhan ganolog o'r ad-drefnu arfaethedig ym maes gwasanaethau iechyd - darparu mwy o ofal yng nghartrefi pobl - yn llenwi'r bwlch o ganlyniad i gau ysbytai cymuned. Anwybyddodd y Llywodraeth Lafur refferendwm y Fflint, lle y pleidleisiodd 99.3 y cant o blaid adfer gwelyau i gleifion mewnol yn y Fflint, ac yna anwybyddodd refferendwm Blaenau Ffestiniog, lle y pleidleisiodd mwyafrif llethol o blaid adfer gwelyau yno. Pan ymwelais ag Ysbyty Treffynnon, dywedodd staff wrthyf y byddai buddsoddiad ychwanegol yn ein hysbytai cymuned lleol, fel Treffynnon, a gwelyau GIG cymunedol yn y Fflint, yn tynnu'r pwysau oddi ar ein hysbytai cyffredinol, yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn galluogi'r bwrdd iechyd i ddefnyddio'i adnoddau yn fwy effeithlon. Fel y dywedodd pennaeth y GIG yn Lloegr heb fod mor bell yn ôl, dylai ysbytai cymuned llai o faint chwarae rhan fwy, yn enwedig yng ngofal cleifion hŷn. Mewn briff gan Gymdeithas Feddygol Prydain Cymru yn y Cynulliad ym mis Mehefin 2014, rhybuddiodd cadeirydd Pwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru ei bod yn argyfwng ar bractisau cyffredinol yng ngogledd Cymru, fod nifer o feddygfeydd wedi methu â llenwi swyddi gwag, a bod llawer o feddygon teulu o ddifrif yn ystyried ymddeol. Yn gynnar eleni, ysgrifennodd meddygon teulu yng ngogledd Cymru at y Prif Weinidog yn ei gyhuddo o fod wedi colli gafael ar realiti'r heriau sy'n eu hwynebu. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn nodi bod ymarfer meddygol cyffredinol yng Nghymru yn darparu 90 y cant o ymgynghoriadau'r GIG, fel y clywsom, a 7.8 y cant yn unig o'r gyllideb. Maent yn dweud bod tanfuddsoddi hirdymor wedi golygu bod cyllid i ymarfer meddygol cyffredinol wedi bod yn gostwng o'i gymharu â'r GIG yng Nghymru yn gyffredinol, ac eto rydym yn wynebu heriau sylweddol poblogaeth sy'n heneiddio ac yn tyfu. Fel y dywedant, mae ymgynghoriadau yn mynd yn hwy ac yn fwy cymhleth wrth i ni ddelio â nifer cynyddol o gleifion gyda mwy nag un cyflwr cronig. Fel y dywedasant yng nghyfarfod y Cynulliad ddoe, mae bron i bedwar o bob 10 claf yng Nghymru yn ei chael yn anodd gwneud apwyntiad cyfleus i weld meddyg teulu - cynnydd o 4 y cant mewn dwy flynedd; mae 84 y cant o feddygon teulu yng Nghymru yn poeni eu bod yn mynd i fethu â sylwi ar broblem ddifrifol gyda chlaf oherwydd pwysau; ac mae dros 52 y cant o bractisau meddygon teulu yn wynebu problemau recriwtio sylweddol, gyda Chymru angen cyflogi mwy na 400 o feddygon teulu ychwanegol. O ystyried y prinder meddygon teulu, rydym wedi clywed bod angen modelau megis y practis amlddisgyblaethol a gyflwynwyd ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, clywsom hefyd fod hwn yn seiliedig ar fodel tramor, a oedd â chymhareb uwch o feddygon teulu i ddisgyblaethau eraill; y byddwn yn colli'r ymagwedd holistaidd a'r parhad a ddarperir gan feddygon teulu, gan niweidio lles cleifion; ac na fydd y bwrdd iechyd yn ymyrryd hyd nes y ceir argyfwng neu drychineb. Clywsom y bydd 100 y cant o feddygon iau ym Manceinion yn treulio amser mewn practisau cyffredinol, o gymharu â 13 y cant yn unig yng Nghymru, ac y dylai pob meddyg iau yng Nghymru gael profiad o ymarfer meddygol cyffredinol. Clywsom fod angen i ogledd Cymru ganolbwyntio, unwaith eto, ar recriwtio meddygon teulu o brifysgolion Manceinion a Lerpwl; bod angen cymorth ar bractisau sy'n ei chael hi'n anodd a meddygon teulu unigol sy'n dioddef o orweithio; a bod gwelyau GIG cymunedol yn ychwanegu at y nifer o bethau y gall meddygon teulu eu gwneud, gan gynorthwyo'r sectorau sylfaenol ac eilaidd fel ei gilydd. Felly, gadewch i ni obeithio y bydd y Llywodraeth Lafur hon, wedi'i had-drefnu, yn dechrau gwrando o'r diwedd, ac yn darparu'r atebion y gŵyr y gweithwyr proffesiynol sydd eu hangen arnom.
Thank you, Deputy Presiding Officer. I'm grateful to Plaid Cymru for bringing forward this debate and for the generally constructive manner in which Members across parties have engaged. In Wales, we recognise that more than a quarter of our population are over 50, and this is due to rise by more than a third in the next 20 years. Inevitably, our ageing population will increase demand and put extra pressure on the health and social care system. In 2015-16, over half of all adult hospital admissions were for patients over 65. That accounted for over 70 per cent of the total bed days in our health service. Hospital stays should, of course, be kept to a minimum, but here it's appropriate to comment on some of the points made about delayed transfers. We have an improving picture here in Wales, in direct contrast to England, which has record highs - the highest figure since records began. What I'm pleased to see here in Wales is that health boards and local authorities recognise their shared challenge in this area, and it's fair to say that hasn't always been the case. There is room for optimism, as well as room for rigour and more challenge for improvement. We recognise that we need to ensure that older people are able to maintain their independence and focus efforts on returning people to their home with appropriate care and support. So, the Welsh Government wants to make sure that health and social services work together to improve outcomes and the well-being of older people. In March 2014 we published our integrated framework for older people with complex needs. Now, that focused on ensuring the development and delivery of integrated care and support services for older people, particularly the frail elderly. The intermediate care fund, mentioned several times in the Chamber today, has been a key driver for integration. The fund was established, as has been mentioned, in a previous budget agreement, to improve care and support services, in particular for older people, through partnership working with health, social services, housing and the third and independent sectors. This year, £60 million of funding has been provided, and we've continued with the fund and its existence, and this should continue to fund initiatives that will help older people to maintain their independence, avoid unnecessary hospital admission and prevent delayed discharges. There are successful examples up and down the country. Members will be aware of the transformational Social Services and Well-being (Wales) Act 2014, which was commenced in April this year, and I was pleased to hear recognition of the legacy of the previous Member for Neath in delivering that piece of legislation. A key principle within this new legal framework is a requirement for integrated and sustainable care and support services. Now, though I'm sure everyone has read the regulations under Part 9 of the Act, they've established statutory regional partnership boards. These will drive the delivery of efficient and effective integrated services. They will not be bureaucratic talking shops. They will be a key part of making partnership real and delivering change on the ground. Supporting statutory guidance sets out that these regional partnership boards must - not 'will' or 'may', but 'must' - prioritise the integration of services in a number of areas. That includes a continued focus on older people with complex needs and long-term conditions, including dementia. The second part of the motion deals with GP numbers and, as part of the compact to move Wales forward agreed with Plaid Cymru, this Government is focusing on increasing the numbers of GPs and primary health care workers across Wales. A key commitment includes delivering actions to help train, recruit and retain GPs, including in rural areas. We do now have more GPs than ever before, employed in different ways, but, in Wales, we are also filling more of our training places than England or Scotland. But we know that this is still a challenge, and they don't fill all of our places. It's a challenge to be taken on and dealt with, and not ignored. So, we will continue to listen to workforce representatives and other parties, as we do take this work forward. I can also confirm, given the direct question, that I've already met with the Royal College of GPs and the BMA's GP committee, and I look forward to a constructive working relationship with them. They, in fact, were very supportive of the measures the Government wants to take. Their key challenge for us is to deliver on the plan that they agree with. So, we will continue to address workload concerns and support the development of new models of care. We also need to ensure that we recruit, train and retain other primary care professionals who can support GPs. Good examples are clinical pharmacists, nurses and therapists, for example physiotherapists, who are doing a great deal of work to make sure that people have their needs dealt with appropriately, within community settings and avoiding the need for people to go onto orthopaedic waiting lists. The challenge is how consistently we share that good practice, and I continue to want to drive that improvement throughout the whole system. The role of the GP is, of course, critical, and the leadership role within those new clusters of arrangements, but there is broader recognition that their role has to evolve so that they can be used to the best effect to focus on patients with the most complex needs - as a number of people have said today and on other occasions, to do only what a GP can only do, to provide that leadership to the practice and also within cluster activity. I'm particularly pleased to see the broadly positive welcome that clusters have had, both from the BMA and from the Royal College of GPs, and we will take that learning forward over this next year and more. I do expect services to shift into primary care and for resources to be shifted with them. We do recognise that the recruitment of GPs is a challenge, and it's a challenge not limited to Wales. A plan to address this issue will be developed within the first 100 days of this Government to deliver on the commitment given by the First Minister. This work, of course, is complemented by a £40 million national primary care fund. In the last year this resulted in improvements in many parts of Wales, including an increase in the number of GP appointments later in the day. I should now turn to the amendments. We won't support the first amendment. The Social Services and Well-being (Wales) Act introduced a care and support assessment process for all people, including older people. That assessment is person-centred and focuses on the personal outcomes that they want to achieve. The core of this process is a conversation with the individual to agree solutions to help them retain or to regain their independence. Understanding what is important to the individual citizen and agreeing how to achieve that outcome in a much more consistent way is a real challenge for health and social care services, or, to put it another way, how to work with and not simply to deliver to an individual. We also won't support amendment 2. The Mid Wales Healthcare Collaborative is already taking action to improve access to primary care services, including the recruitment and retention of GPs. It's already developed a range of innovative solutions, which will have a wider learning opportunity for other rural areas. The Welsh Government is supporting the move of care close to home, through initiatives such as a virtual ward scheme, and, indeed, work on the emergency medical retrieval and transfer service to make sure that people can be transferred to the most appropriate setting. I'd also mention here the scheme on Ynys Môn that I've mentioned previously in the past - the enhanced care scheme that is delivered between GPs, social services, advanced nurse practitioners and Ysbyty Gwynedd. The improvements that I've seen being directly delivered in that part of Wales - there's learning there for the rest of the country. We'll also oppose amendment 3. We're considering the review by Mike Shooter on the role of the children's commissioner. That has lessons for us on the role of all commissioners, including the older persons' commissioner. And finally, we will also oppose amendment 4. Several outdated community hospitals have been replaced by modern primary care resource centres. We recognise the challenge that we face. We know that we cannot provide the same model of care and improve outcomes for our population for the changing demographics that we face. There will be, with this Government, a greater focus on integration, with care closer to home to both prevent and to treat. Our ambition is clear: to meet the changing needs of people across Wales, to deliver different services but better services with better care and better outcomes. I look forward to working with people in and outside the Chamber to do exactly that.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon ac am y modd adeiladol y mae'r Aelodau ar draws y pleidiau wedi cymryd rhan ynddi at ei gilydd. Yng Nghymru, rydym yn cydnabod bod mwy na chwarter ein poblogaeth dros 50 oed, a bydd hyn yn codi fwy na thraean dros y 20 mlynedd nesaf. Yn anochel, bydd ein poblogaeth sy'n heneiddio yn cynyddu'r galw ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar y system iechyd a gofal cymdeithasol. Yn 2015-16, roedd dros hanner yr holl oedolion a dderbyniwyd i'r ysbyty yn gleifion dros 65 oed. Mae hynny'n cyfateb i dros 70 y cant o gyfanswm y dyddiau gwely yn ein gwasanaeth iechyd. Dylai cyfnodau yn yr ysbyty, wrth gwrs, gael eu cadw mor fyr â phosib, ond yn yr achos hwn mae'n briodol gwneud sylwadau ar rai o'r pwyntiau a wnaed ynghylch oedi wrth drosglwyddo. Mae'r darlun sydd gennym yma yng Nghymru yn un sy'n gwella, yn hollol wahanol i Loegr, sydd â'r ffigurau uchaf - y ffigur uchaf ers iddynt ddechrau cadw cofnodion. Rwy'n falch o weld bod byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yma yng Nghymru yn cydnabod yr her gyffredin yn y maes hwn, ac mae'n deg dweud nad yw hynny wedi bod yn wir bob tro. Mae lle i fod yn optimistaidd, yn ogystal â lle i drylwyredd a mwy o her i wella. Rydym yn cydnabod bod angen i ni sicrhau bod pobl hŷn yn gallu aros yn annibynnol, a chanolbwyntio ymdrechion ar sicrhau bod pobl yn dychwelyd i'w cartref gyda gofal a chymorth priodol. Felly, mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i wella canlyniadau a lles pobl hŷn. Ym mis Mawrth 2014 cyhoeddwyd ein fframwaith integredig ar gyfer pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Nawr, roedd hwnnw'n canolbwyntio ar sicrhau bod gwasanaethau gofal a chymorth integredig yn cael eu datblygu a'u darparu i bobl hŷn, yn enwedig pobl eiddil oedrannus. Mae'r gronfa gofal canolraddol, a grybwyllwyd sawl gwaith yn y Siambr heddiw, wedi bod yn sbardun allweddol i integreiddio. Sefydlwyd y gronfa, fel y crybwyllwyd, mewn cytundeb cyllidebol blaenorol i wella gwasanaethau gofal a chymorth, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn, drwy weithio mewn partneriaeth ag iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, tai, y trydydd sector a'r sector annibynnol. Eleni, mae dros £60 miliwn o gyllid wedi'i ddarparu, ac rydym wedi parhau gyda'r gronfa a'i bodolaeth, a dylai barhau i ariannu mentrau a fydd yn helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol, osgoi mynd i'r ysbyty'n ddiangen ac atal oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Ceir enghreifftiau llwyddiannus ledled y wlad. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drawsnewidiol a ddaeth i rym ym mis Ebrill eleni, ac roeddwn yn falch o glywed cydnabyddiaeth i etifeddiaeth yr Aelod blaenorol dros Gastell-nedd a gyflwynodd y ddeddfwriaeth honno. Un o egwyddorion allweddol y fframwaith cyfreithiol newydd hwn yw'r angen am wasanaethau gofal a chymorth integredig a chynaliadwy. Nawr, er fy mod yn sicr fod pawb wedi darllen y rheoliadau o dan Ran 9 y Ddeddf, maent wedi sefydlu byrddau partneriaeth rhanbarthol statudol. Bydd y rhain yn ysgogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau integredig effeithlon ac effeithiol. Nid ydynt am fod yn siopau siarad biwrocrataidd. Byddant yn rhan allweddol o wireddu partneriaethau a chyflwyno newid ar lawr gwlad. Mae'r canllawiau statudol ategol yn nodi bod yn rhaid i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol hyn - nid 'byddant' neu 'gallant', ond bod yn 'rhaid' iddynt - flaenoriaethu integreiddiad gwasanaethau mewn nifer o feysydd. Mae hynny'n cynnwys ffocws parhaus ar bobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia. Mae ail ran y cynnig yn ymwneud â niferoedd meddygon teulu, ac fel rhan o'r compact y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru i symud Cymru ymlaen, mae'r Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd sylfaenol ledled Cymru. Un o'r ymrwymiadau allweddol yw cyflwyno camau gweithredu er mwyn helpu i hyfforddi, recriwtio a chadw meddygon teulu, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig. Mae gennym fwy o feddygon teulu ar hyn o bryd nag erioed o'r blaen, wedi'u cyflogi mewn gwahanol ffyrdd, ond yng Nghymru, rydym hefyd yn llenwi mwy o'n lleoedd hyfforddi na Lloegr neu'r Alban. Ond gwyddom fod hyn yn dal i fod yn her, ac nid ydynt yn llenwi pob lle gwag. Mae'n her i'w hwynebu a mynd i'r afael â hi, nid ei hanwybyddu. Felly, byddwn yn parhau i wrando ar gynrychiolwyr y gweithlu ac eraill, wrth i ni symud y gwaith hwn yn ei flaen. Gallaf hefyd gadarnhau, o ystyried y cwestiwn uniongyrchol, fy mod eisoes wedi cyfarfod â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a phwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain, ac edrychaf ymlaen at berthynas waith adeiladol gyda hwy. Mewn gwirionedd, roeddent yn frwd eu cefnogaeth i'r mesurau y mae'r Llywodraeth yn dymuno eu rhoi ar waith. Eu her allweddol i ni yw cyflawni'r cynllun y maent yn cytuno ag ef. Felly, byddwn yn parhau i roi sylw i bryderon ynglŷn â llwyth gwaith ac yn cefnogi datblygiad modelau gofal newydd. Mae angen i ni sicrhau hefyd ein bod yn recriwtio, hyfforddi a chadw gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill sy'n gallu cynorthwyo meddygon teulu. Enghreifftiau da o'r rhain yw fferyllwyr, nyrsys a therapyddion clinigol, er enghraifft ffisiotherapyddion, sy'n gwneud llawer iawn o waith i sicrhau bod anghenion pobl yn cael sylw priodol mewn lleoliadau cymunedol, gan osgoi'r angen i bobl fynd ar restrau aros orthopedig. Yr her yw pa mor gyson rydym yn rhannu'r arfer da hwnnw, ac rwy'n dal i fod eisiau sicrhau'r gwelliant hwn ar draws y system gyfan. Mae rôl y meddyg teulu, wrth gwrs, yn hollbwysig, ac yn rôl arweiniol o fewn y trefniadau clwstwr newydd hynny, ond ceir cydnabyddiaeth ehangach fod yn rhaid i'w rôl esblygu er mwyn iddynt allu mynd ati yn y ffordd orau i ganolbwyntio ar gleifion gyda'r anghenion mwyaf cymhleth - fel y mae nifer o bobl wedi'i ddweud heddiw ac ar achlysuron eraill, er mwyn iddynt wneud yr hyn nad ellir ei wneud gan neb ond meddyg teulu, a darparu'r arweinyddiaeth honno yn y practis ac yng ngweithgarwch y clwstwr. Rwy'n arbennig o falch o weld y croeso cadarnhaol at ei gilydd y mae'r clystyrau wedi'i gael gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, a byddwn yn datblygu'r hyn a ddysgwyd dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Rwy'n disgwyl i wasanaethau symud tuag at ofal sylfaenol ac i adnoddau gael eu symud gyda hwy. Rydym yn cydnabod bod y broses o recriwtio meddygon teulu yn her, ac nid yw'n her sy'n gyfyngedig i Gymru. Bydd cynllun i fynd i'r afael â'r mater hwn yn cael ei ddatblygu yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon er mwyn cyflawni'r ymrwymiad a roddwyd gan y Prif Weinidog. Bydd y gwaith, wrth gwrs, yn cael ei ategu gan gronfa genedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol sy'n werth £40 miliwn. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, arweiniodd hyn at welliannau mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys cynnydd yn nifer yr apwyntiadau meddygon teulu yn nes ymlaen yn y dydd. Dylwn droi yn awr at y gwelliannau. Ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliant cyntaf. Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) broses asesu gofal a chymorth i bawb, gan gynnwys pobl hŷn. Mae'r asesiad hwnnw'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar y canlyniadau personol y maent am eu cyflawni. Wrth wraidd y broses hon mae sgwrs gyda'r unigolyn i gytuno ar ffyrdd o'i helpu i gadw neu adennill ei annibyniaeth. Mae deall yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn a chytuno ar sut i gyflawni'r canlyniad hwnnw mewn modd llawer mwy cyson yn her wirioneddol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, neu o'i roi mewn ffordd arall, sut i weithio gydag unigolion yn hytrach na darparu ar eu cyfer yn unig. Ni fyddwn ychwaith yn cefnogi gwelliant 2. Mae Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth eisoes yn rhoi camau ar waith i wella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys recriwtio a chadw meddygon teulu. Mae eisoes wedi datblygu ystod o atebion arloesol, a fydd yn gyfle dysgu ehangach i ardaloedd gwledig eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi symud gofal yn agosach at y cartref, drwy fentrau megis cynllun wardiau rhithwir, ac yn wir, gwaith ar y gwasanaeth casglu a throsglwyddo meddygol brys i sicrhau y gall pobl gael eu trosglwyddo i'r lleoliad mwyaf priodol. Yma, hoffwn grybwyll y cynllun ar Ynys Môn y soniais amdano o'r blaen - y cynllun gofal estynedig sy'n cael ei ddarparu rhwng meddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol, uwch-ymarferwyr nyrsio ac Ysbyty Gwynedd. Y gwelliannau a welais yn cael eu cyflwyno'n uniongyrchol yn y rhan honno o Gymru - mae gwersi yno ar gyfer gweddill y wlad. Byddwn hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 3. Rydym wrthi'n ystyried adolygiad Mike Shooter ar rôl y comisiynydd plant. Mae hwnnw'n cynnwys gwersi i ni ar rôl pob comisiynydd, gan gynnwys y comisiynydd pobl hŷn. Ac yn olaf, byddwn hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 4. Mae canolfannau adnoddau gofal sylfaenol modern wedi cymryd lle nifer o ysbytai cymuned a oedd wedi dyddio. Rydym yn cydnabod yr her sy'n ein hwynebu. Gwyddom nad allwn ddarparu'r un model gofal a gwella canlyniadau ar gyfer ein poblogaeth wrth i ni wynebu'r ddemograffeg newidiol sydd ohoni. Gyda'r Llywodraeth hon, bydd mwy o ffocws ar integreiddio, gyda gofal yn agosach at y cartref i atal a thrin problemau. Mae ein huchelgais yn glir: diwallu anghenion newidiol pobl ledled Cymru, er mwyn darparu gwasanaethau gwahanol ond gwell gyda gwell gofal a gwell canlyniadau. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda phobl yn y Siambr a thu allan iddi i wneud yn union hynny.
Thank you very much. The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] Okay. There's been an objection, therefore we'll defer voting under this item until voting time.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn. Cafwyd gwrthwynebiad, felly gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Thank you, Deputy Presiding Officer, and may I take this opportunity to congratulate you on your new role? I'm very proud and pleased to lead the Welsh Conservatives' opposition group debate on public service delivery, and in doing so to thank my Assembly group leader, Andrew R.T. Davies AM, for his confidence in reappointing me as the shadow spokesperson for local government. I would also like to congratulate Mark Drakeford AM on his appointment as the Cabinet Secretary for Finance and Local Government, and I do look forward to shadowing you in a constructive manner as we work together, where we can, to face many of the difficulties and uncertainties now facing local government in Wales. During the last term of this Assembly, the lack of continuity for ministerial responsibility has left those charged with the delivery of so many of our vital services confused, undervalued and facing much uncertainty. In 2013, and at a cost to the taxpayer of £130,000, we saw the Williams commission report published, advising 62 recommendations, all deemed necessary in order to take future public service delivery in Wales forward. Many of those recommendations now have largely been ignored. This was a much wider remit than local government, and included many of those charged with the delivery of all of our public services in Wales. It did not single out local government as being the only area in need of urgent reform. As Members, we genuinely believed that this work would be a catalyst for real change, and an improved delivery programme for all of our public services in Wales. The integration of health and social care was considered to be of critical importance, yet look how little progress we've seen. The Welsh Government, having failed at the collaboration agenda, simply took it upon themselves to start a programme of change and reorganisation for local government in Wales, like never seen before - riding roughshod over many, to include the communities who so often rely on these vital services and, at the same time, and in the harshest fashion, alienating our elected members, our front-line workers, our senior officers and, again, our communities. The commission specifically called for local authorities to merge into larger units, by merging existing local authorities, and specified by not the re-drawing of boundaries. Again, ignored. Voluntary mergers were considered as the way forward, and reorganisation options to be decided and implemented urgently, to be agreed by key stakeholders and the Welsh Government by no later than Easter 2014. Didn't happen. The commissioners called for the Government to support and incentivise early adopters who wanted to see such an initiative, by beginning a voluntary process of merger with completion by 2017-18. Yet, the Minister at the time conjured up his own new boundaries, to include a map of only eight or nine authorities, and chose instead to reject, out of hand, costed proposals that came in from six local authorities, by the required date, and with the correct criteria - Conwy and Denbighshire, my own authority, included. A wasted opportunity to say the least. And here we are today, still a lack of vision, no direction, and much uncertainty. Cabinet Secretary, I urge you to get to grips with this situation as an immediate priority. Work with our officers, consult with our communities, work with the WLGA, and most importantly, talk to the Members here. We all have a direct interest in how well our own local authorities perform and are able to deal with the challenges presented. In May 2017, our voters will go to the polls for the local government elections. The year 2012, sadly, saw a 38 per cent turnout, a drop of 4 per cent, with 99 uncontested seats at county council level, and a staggering 3,600 - that's 45 per cent - uncontested seats at town and community level. Twelve to 15 per cent are still left vacant. As part of my working with you going forward, I would certainly like you to address the issue of our community councils and their workings. This is, of course, the first level of democratic governance in Wales, affecting our citizens, and, yes, it does come with a chargeable precept. Across Wales there are many who feel disenfranchised at this level, often due to a lack of clarity around who does what, and many completely unaware of the functions and governance associated. Often, by some, seen as a closed shop and some not publishing agendas or minutes, and not having a website, despite having had the funding to do this. Others before you have promised much needed reform and review, without any success. There is now much uncertainty with our town clerks and community councillors, about community-backed council boundaries, as a result of a very low-key boundary review, that sees many of our current seats slashed, but, again, there appears to be nothing definite. Some do not even know how many seats they will be contesting. Some clarity is now required. Now is the time to invigorate our electorate, at all levels of democracy, by re-engaging with them, working with them, and giving them a reason to be confident in a local government system that works efficiently, effectively and with due diligence. Cabinet Secretary, you are aware of our call on these benches regarding community rights. Community rights by their very nature are another opportunity for big government to engage, empower and energise our communities. Over the past five years we've seen so many lost opportunities as community halls, local pubs and libraries have been lost, all in the name of cutting cost, with little regard for the immense value that these facilities provide for our own communities. The Localism Act 2011, implemented over the border, has freed up so many of our communities, devolving power from on high to the very communities they serve. I urge you to bring a fresh pair of eyes to the table and to work to ensure that we do adopt more articles within this Act. The previous top-down approach of the Welsh Government to community engagement through the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 and the 'Principles for working with communities' document, issued to public sector organisations, has sadly been coupled with a reluctance to introduce the localism agenda, contrasting starkly with England and Scotland, where communities enjoy rights through this Act and the Community Empowerment (Scotland) Act 2015. Welsh Conservatives want those rights to be implemented here in Wales. The people of Wales want those rights, too. We all know of hard-working community champions in our own constituencies, willing to take on these local assets, working with others to stop the loss of them. Seventy-eight per cent of respondents actually responded to the Welsh Government's consultation on protecting community assets readily supporting a right-to-bid initiative, willing to hold out their hand to work with the Welsh Government and their own local authorities in order to protect such assets, but there has been very little recognition of this, and virtually nothing taken forward. Again, I urge you, Minister: work with us, work with our communities. It only takes a little help, support and some guidance to see our rural communities in particular provided with brilliant opportunities like never before. Gwent is now piloting the funding of a community asset transfer officer. I welcome this initiative and ask again for you to work to ensure that all local authorities in Wales document and list every single one of our valuable community assets, allowing for future posterity and the possibility of safeguarding rather than sacrificing these important facilities. Now, the failed collaboration agenda I've referred to earlier was another wasted opportunity, and I do ask you to go back to the drawing board to see where shared services can and will work. In England, £462 million has been saved through shared service agreements across local authorities. A KPMG report here in Wales identified £151 million of back-room savings that can be achieved without any merger process. Now is the time to nurture growth and confidence within our authorities, allowing them to be brave, taking bold steps to deliver other models of delivery, and empowering them to work with neighbouring authorities if the demand calls. Give them the support, give them the guidance and give them the hope that their efforts will not be in vain. Furthermore, the National Audit Office estimates that the public service transformation agenda in England will have potentially delivered a net annual benefit of savings between £4.2 billion and £7.9 billion by around 2018-19. This is not chicken feed. In Scotland too, shared service delivery is working. The Ayrshire Roads Alliance between East and South Ayrshire councils is expected to save £8 million over the next few years. The idea of shared services and joint-working agreements was put in place in Wales 10 years ago in the Beecham review. However, the Communities, Equality and Local Government Committee's inquiry into the progress of local government collaboration following the Simpson report identified the strong need for the collaboration agenda to be pushed further, for more clarity, more direction and more leadership from this Welsh Government, placing an emphasis on the very need to take action in the face of a difficult financial future for local government. Regrettably, the select recommendations of the Williams commission and subsequent map of the previous Minister were driven forward unilaterally and unsuccessfully. With regard to the amendments tabled to the debate, we do of course recognise the Sunderland report, although I have to say it is a very outdated report. We continue to endorse many of its top-line principles, such as promoting public understanding of local government, and initiatives such as active citizenship to boost engagement with the local government process. However, Welsh Conservatives remain opposed to implementing STV as the preferred voting system. We will, therefore, not be voting in support of amendment 2, which calls for this. We are at the start of the fifth Assembly term. The local government part of your Cabinet responsibility has the second largest budget and is responsible for much of the well-being of our society. Whilst you are new to this role, I do believe that your own local government previous experience will bode well for you to make a difference. Work with your Assembly Members, engage meaningfully with the WLGA, speak to colleagues and backbenchers here and, most of all, work with local authorities. Together, let us all work towards a model of local government that is affordable, sustainable and effective. Diolch yn fawr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi fanteisio ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch ar eich rôl newydd? Mae'n bleser mawr gennyf arwain dadl grŵp gwrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, a diolch, wrth wneud hynny, i arweinydd fy ngrŵp yn y Cynulliad, Andrew R.T. Davies AC, am ei hyder yn fy ailbenodi'n llefarydd yr wrthblaid ar lywodraeth leol. Hoffwn longyfarch Mark Drakeford AC hefyd ar ei benodi'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ac edrychaf ymlaen at eich cysgodi mewn modd adeiladol wrth i ni weithio gyda'n gilydd, lle bo modd, i wynebu llawer o'r anawsterau a'r ansicrwydd sydd bellach yn wynebu llywodraeth leol yng Nghymru. Yn ystod tymor olaf y Cynulliad hwn, mae diffyg parhad y cyfrifoldeb gweinidogol wedi gadael y rhai sy'n gyfrifol am ddarparu cymaint o'n gwasanaethau hanfodol yn teimlo'n ddryslyd, wedi'u dibrisio ac yn wynebu llawer o ansicrwydd. Yn 2013, ac ar gost i'r trethdalwr o £130,000, gwelsom gyhoeddi adroddiad comisiwn Williams, yn rhoi 62 o argymhellion, a phob un yn cael ei ystyried yn angenrheidiol i ddatblygu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol. Mae llawer o'r argymhellion hynny bellach wedi'u hanwybyddu i raddau helaeth. Roedd hwn yn gylch gwaith ehangach o lawer na llywodraeth leol ac yn cynnwys llawer o'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu ein holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid oedd yn canolbwyntio ar lywodraeth leol fel yr unig faes sydd angen ei ddiwygio ar frys. Fel Aelodau, roeddem yn credu'n wirioneddol y byddai'r gwaith hwn yn gatalydd ar gyfer newid gwirioneddol, ac yn cynnig rhaglen gyflawni well ar gyfer ein holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ystyrid bod integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol bwysig, ac eto edrychwch cyn lleied o gynnydd a wnaed gennym. Ar ôl methu gyda'r agenda gydweithredu, aeth Llywodraeth Cymru ati i ddechrau gwaith ar raglen nas gwelwyd ei thebyg erioed o'r blaen o newid ac ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru - gan anwybyddu sawl un, yn cynnwys y cymunedau sydd mor aml yn dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hyn a gelyniaethu ar yr un pryd ein haelodau etholedig, ein gweithwyr rheng flaen, ein huwch- swyddogion a'n cymunedau eto fyth yn y modd mwyaf didrugaredd. Roedd y comisiwn yn galw'n benodol ar awdurdodau lleol i uno'n unedau mwy o faint, drwy uno awdurdodau lleol presennol, a'u pennu drwy beidio ag ailosod ffiniau. Unwaith eto, cafodd ei anwybyddu. Ystyriwyd uno gwirfoddol fel ffordd ymlaen, ac opsiynau ad-drefnu i'w penderfynu a'u gweithredu ar frys, i'w cytuno gan randdeiliaid allweddol a Llywodraeth Cymru heb fod yn hwyrach na Phasg 2014. Ni ddigwyddodd. Galwodd y comisiynwyr ar y Llywodraeth i gefnogi a chymell mabwysiadwyr gynnar a oedd am weld menter o'r fath, drwy ddechrau proses o uno gwirfoddol i'w chwblhau erbyn 2017-18. Eto i gyd, dyfeisiodd y Gweinidog ar y pryd ei ffiniau newydd ei hun, i gynnwys map o wyth neu naw awdurdod yn unig, ac yn lle hynny dewisodd wrthod yn llwyr y cynigion wedi'u costio a ddaeth i law gan chwe awdurdod lleol, erbyn y dyddiad gofynnol, a gyda'r meini prawf gofynnol - gan gynnwys Conwy a Sir Ddinbych, fy awdurdod i. Gwastraff cyfle a dweud y lleiaf. A dyma ni heddiw, yn dal i fod heb weledigaeth, heb gyfeiriad, ac yn wynebu llawer o ansicrwydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n eich annog i roi blaenoriaeth uniongyrchol i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Gweithiwch gyda'n swyddogion, ymgynghorwch â'n cymunedau, gweithiwch gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac yn bwysicaf oll, siaradwch â'r Aelodau yma. Mae gennym i gyd ddiddordeb uniongyrchol ym mha mor dda y mae ein hawdurdodau lleol yn perfformio ac yn gallu delio â'r heriau sy'n codi. Ym mis Mai 2017 bydd ein hetholwyr yn pleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol. Yn y flwyddyn 2012, yn anffodus, 38 y cant oedd canran y bobl a bleidleisiodd, gostyngiad o 4 y cant, gyda 99 o seddi diwrthwynebiad ar lefel cyngor sir, a nifer anhygoel o 3,600 - 45 y cant - o seddi diwrthwynebiad ar lefel tref a chymuned. Mae 12 i 15 y cant ohonynt yn dal yn wag. Fel rhan o fy ngwaith gyda chi yn y dyfodol, byddwn yn sicr yn hoffi i chi fynd i'r afael â'n cynghorau cymuned a'u gwaith. Wrth gwrs, hon yw'r lefel gyntaf o lywodraethu democrataidd yng Nghymru, ac mae'n effeithio ar ein dinasyddion, ac ydy, mae'n cynnwys praeseptau y gellir codi tâl amdanynt. Ar draws Cymru mae llawer yn teimlo eu bod wedi'u difreinio ar y lefel hon, yn aml oherwydd diffyg eglurder ynghylch pwy sy'n gwneud beth, ac mae llawer yn gwbl anymwybodol o'r swyddogaethau a'r materion llywodraethu cysylltiedig. Yn aml, fe'i gwelir gan rai fel siop gaeedig a cheir rhai nad ydynt yn cyhoeddi agendâu neu gofnodion, ac nid oes ganddynt wefan, er eu bod wedi cael cyllid i wneud hyn. Mae eraill o'ch blaen wedi addo llawer o ddiwygio ac adolygu mawr ei angen, heb unrhyw lwyddiant. Erbyn hyn ceir llawer o ansicrwydd ymhlith ein clercod tref a chynghorwyr cymuned, ynghylch ffiniau cynghorau a gefnogir gan y gymuned, o ganlyniad i adolygiad ffiniau isel iawn ei broffil sy'n arwain at dorri'r nifer bresennol o seddau, ond unwaith eto, nid oes dim i'w weld yn bendant. Nid yw rhai ohonynt hyd yn oed yn gwybod faint o seddau y byddant yn eu hymladd. Mae angen eglurder yn awr. Mae'n bryd bywiogi ein hetholwyr, ar bob lefel o ddemocratiaeth, drwy ailymgysylltu â hwy, gan weithio gyda hwy, a rhoi rheswm iddynt fod â hyder mewn system llywodraeth leol sy'n gweithio'n effeithlon, yn effeithiol a gyda diwydrwydd dyladwy. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn ymwybodol o'n galwad ar y meinciau hyn mewn perthynas â hawliau cymunedol. Mae hawliau cymunedol drwy eu natur yn gyfle arall i lywodraeth fawr ymgysylltu â'n cymunedau, eu grymuso a'u bywiogi. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi gweld cymaint o gyfleoedd yn cael eu colli, wrth i neuaddau cymuned, tafarndai lleol a llyfrgelloedd gael eu colli, a'r cyfan er mwyn torri costau, heb fawr o ystyriaeth i werth enfawr y cyfleusterau hyn yn darparu ar gyfer ein cymunedau. Mae Deddf Lleoliaeth 2011, a roddwyd mewn grym dros y ffin, wedi rhyddhau cymaint o'n cymunedau, gan ddatganoli grym oddi fry i'r union gymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Fe'ch anogaf i edrych ar hyn o'r newydd a gweithio i sicrhau ein bod yn mabwysiadu mwy o'r erthyglau yn y Ddeddf hon. Mae dull blaenorol o'r brig i lawr Llywodraeth Cymru o ymgysylltu â'r gymuned drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r ddogfen 'Egwyddorion ar gyfer gweithio gyda chymunedau', a ddosbarthwyd i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, wedi'u cysylltu, yn anffodus, ag amharodrwydd i gyflwyno agenda lleoliaeth, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â Lloegr a'r Alban, lle mae cymunedau yn arfer hawliau drwy'r Ddeddf hon a Deddf Ymrymuso'r Gymuned (yr Alban) 2015. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau i'r hawliau hyn gael eu rhoi ar waith yma yng Nghymru. Mae pobl Cymru eisiau'r hawliau hynny hefyd. Rydym i gyd yn gwybod am hyrwyddwyr cymunedol gweithgar yn ein hetholaethau sy'n barod i feddiannu'r asedau lleol hyn, gan weithio gydag eraill i'w hatal rhag cael eu colli. Ymatebodd 78 y cant o ymatebwyr i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiogelu asedau cymunedol mewn gwirionedd, ac roeddent yn barod iawn eu cefnogaeth i'r fenter hawl i wneud cais ac yn barod i estyn llaw i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'u hawdurdodau lleol eu hunain er mwyn gwarchod y cyfryw asedau, ond ychydig iawn o gydnabyddiaeth a gafodd hyn, ac nid oes fawr ddim wedi'i ddatblygu. Unwaith eto, rwy'n eich annog, Weinidog: gweithiwch gyda ni, gweithiwch gyda'n cymunedau. Ychydig o help, cefnogaeth ac arweiniad y mae'n ei gymryd i sicrhau bod ein cymunedau gwledig yn arbennig yn cael cyfleoedd gwell nag erioed o'r blaen. Mae Gwent bellach yn treialu'r cynllun i ariannu swyddog trosglwyddo asedau cymunedol. Rwy'n croesawu'r fenter hon ac yn gofyn eto i chi weithio i sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cofnodi ac yn rhestru pob un o'n hasedau cymunedol gwerthfawr, gan ganiatáu ar gyfer y dyfodol a'r posibilrwydd o ddiogelu yn hytrach nag aberthu'r cyfleusterau pwysig hyn. Nawr, roedd yr agenda gydweithredu aflwyddiannus y cyfeiriais ati yn gynharach yn gyfle arall a wastraffwyd, ac rwy'n gofyn i chi fynd yn ôl i'r cychwyn i weld lle y gall a lle y bydd cydwasanaethau yn gweithio. Yn Lloegr, arbedwyd £462 miliwn drwy gytundebau cydwasanaethau ar draws awdurdodau lleol. Nododd adroddiad KPMG yma yng Nghymru £151 miliwn o arbedion ystafell gefn y gellir eu cyflawni heb unrhyw broses uno. Nawr yw'r amser i feithrin twf a hyder yn ein hawdurdodau, gan eu galluogi i fod yn ddewr, i roi camau beiddgar ar waith er mwyn cyflwyno modelau darparu eraill, a'u grymuso i weithio gydag awdurdodau cyfagos os oes galw. Rhowch gefnogaeth ac arweiniad iddynt a rhowch obaith iddynt na fydd eu hymdrechion yn ofer. Ar ben hynny, mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn amcangyfrif y bydd yr agenda trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr o bosibl wedi cyflwyno budd blynyddol net o rhwng £4.2 biliwn a £7.9 biliwn o arbedion erbyn tua 2018-19. Nid briwsion yw'r rhain. Yn yr Alban hefyd, mae darparu cydwasanaethau yn gweithio. Mae disgwyl i'r Ayrshire Roads Alliance rhwng cynghorau De Ayrshire a Dwyrain Ayrshire arbed £8 miliwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rhoddwyd y syniad o gydwasanaethau a chytundebau cydweithio ar waith yng Nghymru 10 mlynedd yn ôl yn adolygiad Beecham. Fodd bynnag, roedd ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gynnydd cydweithio mewn llywodraeth leol yn dilyn adroddiad Simpson yn nodi'r angen cryf i roi hwb pellach i'r agenda gydweithredu, yr angen am fwy o eglurder, mwy o gyfeiriad a mwy o arweiniad gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, gan osod pwyslais ar yr union angen i roi camau ar waith yn wyneb dyfodol ariannol anodd i lywodraeth leol. Yn anffodus, cafodd argymhellion dethol comisiwn Williams a map dilynol y Gweinidog blaenorol eu gwthio ymlaen yn unochrog ac yn aflwyddiannus. O ran y gwelliannau a gyflwynwyd i'r ddadl, rydym yn cydnabod adroddiad Sunderland wrth gwrs, er bod rhaid i mi ddweud ei fod yn adroddiad hen ffasiwn iawn. Rydym yn parhau i gymeradwyo llawer o'i brif egwyddorion, megis hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o lywodraeth leol, a mentrau megis dinasyddiaeth weithredol i roi hwb i ymgysylltiad â phroses llywodraeth leol. Fodd bynnag, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i wrthwynebu gweithredu pleidlais sengl drosglwyddadwy fel y system bleidleisio a ffefrir. Ni fyddwn, felly, yn pleidleisio o blaid gwelliant 2, sy'n galw am hyn. Rydym ar ddechrau pumed tymor y Cynulliad. Llywodraeth leol yw'r rhan o'ch cyfrifoldeb Cabinet sydd â'r gyllideb fwyaf ond un ac mae'n gyfrifol am lawer o lesiant ein cymdeithas. Er eich bod yn newydd i'r rôl hon, rwy'n credu y bydd eich profiad blaenorol gyda llywodraeth leol yn golygu y gallwch wneud gwahaniaeth. Gweithiwch gydag Aelodau'r Cynulliad, ymgysylltwch yn ystyrlon â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, siaradwch â chydweithwyr ac aelodau'r meinciau cefn yma ac yn bennaf oll, gweithiwch gydag awdurdodau lleol. Gyda'n gilydd, gadewch i ni i gyd weithio tuag at fodel llywodraeth leol sy'n fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn effeithiol. Diolch yn fawr.
Thank you. I have selected the two amendments to the motion. I call on Sian Gwenllian to move amendments 1 and 2, tabled in the name of Simon Thomas. Sian.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Sian.
Thank you. I wish, on behalf of Plaid Cymru, to move our amendments on the reform of local government in Wales. There's a great deal to be said about the subject, but today I will focus on two specific aspects that were included as part of Plaid Cymru policy during the Assembly election in May. That is, first of all, the need for Welsh Government to act to implement single transferrable votes for future local government elections, and, secondly, the need for any reform in the future to include regional authorities in order to give a strategic direction to local authorities and to share best practice across the various authorities. Like any other nation, Wales requires regional leadership to give strategic direction that reflects a set of priorities throughout Wales, together with strong local government to secure local accountability and co-ordination at community level. We want to do this in a gradual way, using the current structures to create new leadership at the regional and community levels. Also, as we alluded to in the debate we held in the Chamber earlier, we wish to see much more purposeful and sensible integration between health and social services. One obvious advantage of doing that is to create accountability in the health sector as well as improving the provision for our people. Plaid Cymru is of the view that we need to create comprehensive regional authorities out of the local authorities that already exist. We need to forget about the map and consult on how this new regional vision would look and what exactly the duties would be on that level. Our amendments to this debate today focus on the need to introduce a new electoral system, namely a single transferrable vote, STV, in order to secure equitable representation for each political point of view. The Sunderland report was published in 2002. Yes, that's quite some time ago, but it was a very thorough report and it concluded that the single transferrable vote is the most appropriate to meet the diverse needs of local people from the point of view of a local electoral system. And, that was after the commission tested seven other electoral systems. In my view, the introduction of STV into local government elections in Scotland is one of the most positive developments in the age of devolution. In Scotland, the local elections are much more lively and interesting. Many more people are competing for the seats there and local government itself, following on from that, is intertwining itself much more closely to the desires of the population. The Government here have had an opportunity to implement the recommendations of the Sunderland report in the past. And, as a nation, if we truly believe that every citizen is equal, then we should also believe, and therefore ensure, that every vote is equal. As far as I can see, there is no good reason for not introducing STV for local government elections in Wales. Therefore, we ask you to support the amendments. Thank you.
Diolch. Hoffwn, ar ran Plaid Cymru, gyflwyno ein gwelliannau ni, felly, i'r ddadl yma ar ddiwygio awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn amlwg, mae yna gryn dipyn i'w ddweud am y pwnc yma. Ond, heddiw, rwy'n mynd i ganolbwyntio ar ddwy agwedd benodol a gafodd eu cynnwys fel rhan o bolisi Plaid Cymru yn ystod etholiad y Cynulliad ym mis Mai. Hynny yw, yn gyntaf, yr angen i Lywodraeth Cymru i weithredu i gynnwys pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn y dyfodol. Ac, yn ail, yr angen i unrhyw ddiwygiad yn y dyfodol gynnwys awdurdodau rhanbarthol er mwyn rhoi cyfeiriad strategol i awdurdodau lleol ac i rannu arferion gorau ar draws awdurdodau gwahanol. Fel unrhyw genedl, mae Cymru angen arweinyddiaeth ranbarthol i roi cyfeiriad strategol sy'n adlewyrchu set o flaenoriaethau ledled Cymru, ynghyd â llywodraeth leol gref i sicrhau atebolrwydd lleol a chydlynu ar lefel y gymdogaeth. Ein cynnig ni yw esblygu graddol gan ddefnyddio strwythurau presennol i greu arweinyddiaeth newydd ar lefel ranbarthol a chymunedol. Rydym hefyd, fel y gwnaethom ni sôn yn y ddadl roeddem ni'n ei chynnal yn y Siambr yn gynharach, eisiau gweld integreiddio llawer iawn mwy pwrpasol a synhwyrol rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Un fantais amlwg o wneud hynny ydy creu atebolrwydd yn y maes iechyd yn ogystal â gwella'r ddarpariaeth i'n pobl ni. Mae Plaid Cymru o'r farn bod angen creu awdurdodau rhanbarthol cyfunol, wedi'u cyfansoddi o gynghorau lleol sy'n bodoli yn barod. Mae angen anghofio am y map ac ymgynghori ar sut y byddai'r weledigaeth ranbarthol newydd yma'n edrych a beth fyddai'r union ddyletswyddau ar y lefel honno. Mae'n gwelliannau ni i'r ddadl yma heddiw yn canolbwyntio ar yr angen i gyflwyno system etholiadol newydd, sef pleidlais sengl drosglwyddadwy, STV, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt gwleidyddol. Mi gyhoeddwyd adroddiad Sunderland yn 2002. Ydy, mae hynny gryn amser yn ôl. Ond, mi oedd yn adroddiad trwyadl iawn ac mi ddaethpwyd i'r casgliad mai ffurf y bleidlais sengl drosglwyddadwy oedd fwyaf addas i ddiwallu gofynion amrywiol pobl leol o ran system etholiadol leol. Ac, roedd hynny ar ôl i'r comisiwn brofi saith o systemau etholiadol eraill. Yn fy marn i, cyflwyno STV i etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban yw un o'r datblygiadau mwyaf cadarnhaol ers oes datganoli. Yn yr Alban, mae etholiadau llywodraeth leol yn llawer iawn mwy bywiog a mwy diddorol. Mae llawer iawn mwy o bobl yn cystadlu ar gyfer y seddi yno ac mae llywodraeth leol ei hun, yn sgil hynny, yn plethu ei hun yn agosach at ddymuniadau y boblogaeth. Mae'r Llywodraeth yma wedi cael cyfle i weithredu ar argymhellion adroddiad Sunderland yn barod yn y gorffennol. Ac, fel cenedl, os ydym wir yn credu bod pob dinesydd yn gyfartal, yna dylem ni hefyd gredu, ac felly sicrhau, fod pob pleidlais yn gyfartal. Hyd y gwelaf i, nid oes rheswm da dros beidio â chyflwyno STV ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Felly, rydym yn gofyn ichi gefnogi'r gwelliannau. Diolch.
I welcome the opportunity to speak in the debate today. Public services, and the delivery of public services, are a vital plank of support for many people the length and breadth of Wales, and local government obviously plays a vital role in delivering those public services. I did mean my comments to the First Minister in the first weeks of this Government, when I said to him that we do wish the Government well in its mission - and the Cabinet Secretaries in their mission - to deliver on the aspirations that they have had in their manifesto, because, if Government does fail, then the services that each and every Cabinet Secretary is charged with delivering have failed for the people who need those services to support them in their everyday lives. It is our job, as an opposition, obviously, to hold the Government to account, and to make sure that we do put forward an alternative as well, because it easy to carp from the sidelines, but you need to say what exactly you will do if you are serious about, obviously, one day being in Government. From these benches, in these early weeks and months of this Assembly, we will certainly be engaging and looking to engage positively with the new Cabinet Secretary around the agenda for local government, because so much energy and so much time was spent in this Assembly in the last session dealing with - as the lead speaker, Janet Finch-Saunders, spoke - maps and lines on maps that actually didn't mean very much to the very communities that were going to have either a service or a facility withdrawn, and ultimately carried little or no support. It really does come to something when a Conservative leader goes to the annual WLGA meeting and gets more cheers than the Labour Minister did in Swansea - bearing in mind that, I think, 16 of the 22 leaders of local authorities in Wales are Labour leaders. But that was at the height, obviously, of the previous Minister's map about local government reorganisation. I do hope that the Minister - the Cabinet Secretary, sorry - sticks to the comments that he has made public so far, in that he does want to have that conversation, and he does want to work collaboratively with those at the coalface in local government, rather than going into those meetings over the next weeks and months and actually dictating to them what will happen, because I have yet to find someone who actually does want to destroy local government. There are many ideas out there about which model we should look at - the combined model that Plaid Cymru have talked about, the county model that others hark to, and, ultimately, the 1974 model that, obviously, the previous Government was supporting. But what is quite clear is that, with the cost pressures that are coming through in the delivery of the service, with the ever-increasing demand on the services that local government has to deliver, the status quo is not an option. What we need to do, as the primary legislature here in Wales with responsibility for local government, is find a solution to getting a sustainable map for local government delivered here in Wales. It is a fact that, every 20 years or so, previous Governments have come - of all shapes and colours - and redesigned local government in Wales. That cannot be a good model for governance, it cannot be a good model for delivery, and, ultimately, it cannot be a good model for those who work within the service, and those who vitally depend on those services to provide their everyday assistance. I think that what is really important today in this debate is that the Minister does use the opportunity to respond in these early weeks as to how he will take the discussions forward. Importantly, with the elections next May, is it the Government's intention that, if there was to be a consensus about reorganisation, the mandates that politicians will be seeking from the electorate will be full mandates - i.e. will they serve the full five-year term of local government? Because they will be putting manifestos to the electorate in a little over nine or 10 months' time, which the electorate will be voting on. So, I do hope that the Minister - the Cabinet Secretary, sorry - will give that clarity over this surety that candidates and incumbents will require when they are having those debates and having those discussions over what local government will look like over the next five years, and, indeed, as I said earlier, about the discussions that he intends to lead with local authorities, and give that genuine commitment that it will be a discussion rather than a lecture, as his predecessor, regrettably, started these discussions in the fourth Assembly. I do want to just touch on as well, importantly, turnout at local government elections. Regrettably, that was down in 2012 by some 4 or 5 per cent, and many seats, in fact, as Janet Finch-Saunders touched on, went uncontested. It is vital that there is an awareness around the vital role that local councillors and candidates, indeed, can perform in the run-up to the election, and post the election, in supporting villages, towns and communities in any part of Wales. So, I look forward to the Minister's response and I do hope he uses this debate as an opportunity to flesh out some of the ideas he might be having.
Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Mae gwasanaethau cyhoeddus, a darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn elfen hanfodol o gymorth i lawer o bobl ar hyd a lled Cymru, ac mae llywodraeth leol yn amlwg yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny. Roeddwn o ddifrif yn fy sylwadau i'r Prif Weinidog yn ystod wythnosau cyntaf y Llywodraeth hon, pan ddywedais wrtho ein bod yn dymuno'n dda i'r Llywodraeth yn ei chenhadaeth - ac i Ysgrifenyddion y Cabinet yn eu cenhadaeth - i gyflawni'r dyheadau yn eu maniffesto, oherwydd, os yw Llywodraeth yn methu, yna bydd y gwasanaethau y mae pob Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfrifol am eu darparu wedi methu i'r bobl sydd angen y gwasanaethau hynny i'w cynnal yn eu bywydau bob dydd. Ein gwaith ni, fel gwrthblaid, yn amlwg, yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ac i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig dewis arall yn ogystal, gan ei bod yn hawdd cecru o'r ymyl, ond mae angen i chi ddweud beth yn union y byddwch yn ei wneud os ydych o ddifrif am fod yn Llywodraeth un diwrnod. O'r meinciau hyn, dros wythnosau a misoedd cynnar y Cynulliad hwn, byddwn yn sicr yn ymgysylltu ac yn ceisio ymwneud yn gadarnhaol ag Ysgrifennydd newydd y Cabinet ar yr agenda ar gyfer llywodraeth leol, oherwydd bod cymaint o ynni ac amser wedi'i dreulio yn y Cynulliad hwn yn ystod y tymor diwethaf yn ymdrin â mapiau a llinellau ar fapiau - fel y soniodd y siaradwr arweiniol, Janet Finch-Saunders - nad oeddent mewn gwirionedd yn golygu fawr iawn i'r cymunedau a oedd yn mynd i gael gwasanaeth neu gyfleuster wedi'i ddiddymu, ac yn y pen draw nid oedd fawr o gefnogaeth iddo os o gwbl. Mae'n dipyn o beth pan fo arweinydd y Ceidwadwyr yn mynd i gyfarfod blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn cael mwy o gymeradwyaeth nag a gafodd y Gweinidog Llafur yn Abertawe - gan gofio bod 16 o'r 22 o arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru, rwy'n meddwl, yn arweinwyr Llafur. Ond roedd hynny ar anterth y sôn am fap y Gweinidog blaenorol ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol wrth gwrs. Gobeithio y bydd y Gweinidog - Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ddrwg gennyf - yn glynu at y sylwadau a wnaeth yn gyhoeddus hyd yn hyn, yn yr ystyr ei fod am gael y drafodaeth honno, a'i fod eisiau cydweithio â'r rhai ar y rheng flaen mewn llywodraeth leol, yn hytrach na mynd i'r cyfarfodydd hynny yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf a dweud wrthynt beth fydd yn digwydd, mewn gwirionedd, oherwydd rwyf eto i ddod o hyd i rywun sydd o ddifrif yn awyddus i ddinistrio llywodraeth leol. Ceir llawer o syniadau ynglŷn â pha fodel y dylem edrych arno - y model cyfun y soniodd Plaid Cymru amdano, y model sirol y mae eraill yn cyfeirio ato ac yn y pen draw, model 1974 roedd y Llywodraeth flaenorol yn amlwg yn ei gefnogi. Ond gyda'r pwysau o ran costau ar ddarparu gwasanaethau, a'r galw cynyddol am y gwasanaethau sy'n rhaid i lywodraeth leol eu darparu, yr hyn sy'n hollol amlwg yw nad yw'r status quo yn opsiwn. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud, fel y ddeddfwrfa sylfaenol yma yng Nghymru gyda chyfrifoldeb dros lywodraeth leol, yw dod o hyd i ateb er mwyn sicrhau bod map cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei gyflwyno yma yng Nghymru. Bob oddeutu 20 mlynedd, mae'n ffaith fod Llywodraethau blaenorol - o bob lliw a llun - wedi ailgynllunio llywodraeth leol yng Nghymru. Ni all hynny fod yn fodel da ar gyfer llywodraethu, ni all fod yn fodel da ar gyfer cyflawni, ac yn y pen draw, ni all fod yn fodel da ar gyfer y rhai sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth, a'r rhai sy'n dibynnu'n sylfaenol ar y gwasanaethau hynny i ddarparu eu cymorth o ddydd i ddydd. Rwy'n meddwl mai'r hyn sy'n wirioneddol bwysig heddiw yn y ddadl hon yw bod y Gweinidog yn achub ar y cyfle i ymateb yn yr wythnosau cynnar hyn ynglŷn â sut y bydd yn symud y trafodaethau yn eu blaen. Yn bwysig, gyda'r etholiadau fis Mai nesaf, a yw'n fwriad gan y Llywodraeth, os oedd consensws yn mynd i fod ar ad-drefnu, i sicrhau bod y mandadau y bydd gwleidyddion yn eu ceisio gan yr etholwyr yn fandadau llawn - h.y. a fyddant yn para am y tymor llawn o bum mlynedd ar gyfer llywodraeth leol? Oherwydd byddant yn cyflwyno maniffestos i'r etholwyr mewn ychydig dros 9 neu 10 mis, maniffestos y bydd yr etholwyr yn pleidleisio ar eu sail. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog - Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ddrwg gennyf - yn rhoi'r eglurder hwnnw ynghylch y sicrwydd y bydd ei angen ar ymgeiswyr a deiliaid swyddi pan fyddant yn cael y dadleuon hynny ac yn cael y trafodaethau ynglŷn â sut olwg fydd ar lywodraeth leol dros y pum mlynedd nesaf, ac yn wir, fel y dywedais yn gynharach, ynglŷn â'r trafodaethau y mae'n bwriadu eu harwain gydag awdurdodau lleol, a rhoi'r ymrwymiad dilys mai trafodaeth fydd hi yn hytrach na darlith, fel y cafwyd gan ei ragflaenydd, yn anffodus, ar ddechrau'r trafodaethau hyn yn y pedwerydd Cynulliad. Hefyd, yn bwysig, rwyf eisiau crybwyll y nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Yn anffodus, roedd i lawr 4 neu 5 y cant yn 2012, ac etholwyd nifer i seddau yn ddiwrthwynebiad, mewn gwirionedd, fel y soniodd Janet Finch-Saunders. Mae'n hanfodol fod yna ymwybyddiaeth ynglŷn â'r rôl allweddol y gall cynghorwyr lleol ac ymgeiswyr, yn wir, ei chwarae yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad ac ar ôl yr etholiad, yn cefnogi pentrefi, trefi a chymunedau mewn unrhyw ran o Gymru. Felly, edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog ac rwy'n gobeithio y bydd yn defnyddio'r ddadl hon fel cyfle i roi cnawd ar esgyrn rhai o'r syniadau a allai fod ganddo.
I'm glad the Conservatives have finally recognised the importance of local government. For those who've been here for the last five years, we've heard them attempt to take money out of local government and give it to health, the equivalent of buying a car, not maintaining it, but spending money on repairs. Spending on sports facilities, environmental health and elderly care helps keep people from needing hospital care. Local government provides a huge variety and a wide range of services. There's a booklet called the A to Z of environmental services - for those who haven't seen it, it's not a thin booklet, and that's just one area of local government. Local authority services affect everybody and everyone every day: roads, pavements, refuse collection, litter removal, education and social services daily affect the lives of the people living in an area. Social services departments in Wales are under more financial pressure than any other service area in the public sector, and I include the health service in that. We know that the population is ageing and that people are living longer, often with substantial care needs that have to be provided outside of hospitals. The reason why local government is cutting back on other services is because social services' need is so great and has to be met. Can I just quote the Cardiff University Centre for Local and Regional Government Research? It undertook the first comprehensive analysis of the impact of size on the performance of local authorities. The team developed a groundbreaking model that used inspection scores, national performance indicators, public confidence and a value for money index. The results showed local authorities have no ideal size. Larger councils have lower central administrative overheads, but size effects varied between services. Subsequent research found reorganisation-produced larger councils can disrupt performances. We also know that the largest local authority in Europe - Birmingham - has had serious problems with its social services department. So, big is not always better. They tested the impact of population size and controlled for difference in socio-economic context, including deprivation and diversity of service needs. The result of this analysis showed that population size had little impact on CPA scores, but it did affect about half of the measures of service inspection and a majority of the measures of consumer satisfaction. It also impacted on measures of value for money. But the relationship between size and performance is complex. In some cases, larger authorities performed better, in others, smaller councils performed better, and, in others, medium-sized authorities achieved the best results. In fact, if you look at the Welsh performance indicators across local authorities, it's actually the medium-sized authorities that do best in terms of getting the most greens. We know that size is not proportional to performance. Everybody doesn't look and say, 'If every council could be like Cardiff and Rhondda Cynon Taf, then we'd have a wonderful set of local authorities in Wales'. Local authorities have lost control of a large number of service areas that they had when I was first elected a councillor in 1989. They've lost institutes of higher education and the polytechnics, further education colleges, direct control of schools, a majority on police committees, Cardiff Airport, and, in many council areas, housing. Does anyone actually think these changes have been for the better regarding service delivery? On turnout, this is a problem across all elections in Wales, including, unfortunately, the Assembly election. Comparisons between council and Assembly elections are difficult, because in areas that traditionally have the highest Assembly turnout, many seats at council level go uncontested. We do know that council election turnout is substantially above the European election turnout, and, when held separately, the police commission elections. An obvious solution to getting higher turnout for local elections would be to give local authorities more control and have less Welsh Government direction. The single transferrable vote, also known as 'Guess how many seats you're going to win?', creating large wards in rural areas, moving local government away from voters - I can think of no better way of reducing turnout in local government elections than introducing STV. I note you don't ask to have a referendum on it, because I think that people know what the result would be. We had a referendum on changing the voting system, and that was overwhelmingly against making a change. So, obviously we don't want to have another one - let's impose it from above. I urge the Welsh Government to consider the following: give local authorities the power of general competence, something local governments have asked for for as long as I can remember, provide less central control over services - let local decisions be made - promote joint working for education and social services, but on the same footprint. Every Minister who takes over a different portfolio creates their own little footprint for each service; we need to have services covering the same area. Look to local authorities to work together on regional planning for housing and economic development. We have a development plan for each local authority, and we all know, don't we, that changes that are made in Swansea will have an effect in Neath Port Talbot and Carmarthenshire and the same the other way. So we need to have some sort of regional policy so we all know where we are. We should look to maximise the number of services under direct local government control. I actually believe in local government and I think it really is important that we let local authorities make decisions on behalf of their local people and then, if the people don't like it, they can kick them out.
Rwy'n falch fod y Ceidwadwyr wedi cydnabod pwysigrwydd llywodraeth leol o'r diwedd. I'r rhai sydd wedi bod yma dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi'u clywed yn ceisio mynd ag arian oddi wrth lywodraeth leol a'i roi i iechyd, sy'n cyfateb i brynu car, peidio â'i gynnal a'i gadw, ond gwario arian ar atgyweiriadau. Mae gwariant ar gyfleusterau chwaraeon, iechyd yr amgylchedd a gofal henoed yn helpu i gadw pobl rhag bod angen gofal mewn ysbyty. Mae llywodraeth leol yn darparu amrywiaeth enfawr ac ystod eang o wasanaethau. Ceir llyfryn o'r enw A i Y o wasanaethau'r amgylchedd - ar gyfer y rhai nad ydynt wedi'i weld, nid yw'n llyfryn tenau, ac un maes yn unig o lywodraeth leol yw hwnnw. Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn effeithio ar bawb a phob un bob dydd: mae ffyrdd, palmentydd, casglu sbwriel, cael gwared ar sbwriel, addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn effeithio'n ddyddiol ar fywydau'r bobl sy'n byw mewn ardal. Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru dan fwy o bwysau ariannol nag unrhyw faes gwasanaeth arall yn y sector cyhoeddus, ac rwy'n cynnwys y gwasanaeth iechyd yn hynny. Gwyddom fod y boblogaeth yn heneiddio a bod pobl yn byw yn hwy, yn aml gydag anghenion gofal sylweddol sy'n rhaid eu darparu y tu allan i ysbytai. Y rheswm pam y mae llywodraeth leol yn torri'n ôl ar wasanaethau eraill yw oherwydd bod angen gwasanaethau cymdeithasol mor fawr ac mae'n rhaid ei ddiwallu. A gaf fi ddyfynnu Canolfan Ymchwil i Lywodraeth Leol a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd? Cynhaliodd y dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o effaith maint ar berfformiad awdurdodau lleol. Datblygodd y tîm fodel arloesol sy'n defnyddio sgoriau arolygon, dangosyddion perfformiad cenedlaethol, hyder y cyhoedd a mynegai gwerth am arian. Dangosodd y canlyniadau nad oes maint sy'n ddelfrydol ar gyfer awdurdodau lleol. Mae gan gynghorau mwy o faint lai o orbenion gweinyddol canolog, ond roedd effeithiau maint yn amrywio rhwng gwasanaethau. Gwelodd ymchwil dilynol y gallai cynghorau mwy o faint a gynhyrchwyd drwy ad-drefnu darfu ar berfformiadau. Gwyddom hefyd fod yr awdurdod lleol mwyaf yn Ewrop - Birmingham - wedi cael problemau difrifol gyda'i adran gwasanaethau cymdeithasol. Felly, nid yw mawr bob amser yn well. Cynhaliwyd profion ganddynt ar effaith maint y boblogaeth a gosodasant reolaethau ar gyfer gwahaniaethau yn y cyd-destun economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys amddifadedd ac amrywiaeth anghenion gwasanaethau. Dangosai canlyniad y dadansoddiad hwn nad oedd maint y boblogaeth yn effeithio fawr ddim ar sgoriau Asesu Perfformiad Corfforaethol, ond roedd yn effeithio ar oddeutu hanner y mesurau arolygu gwasanaethau a'r rhan fwyaf o fesurau boddhad defnyddwyr. Mae hefyd yn effeithio ar fesurau gwerth am arian. Ond mae'r berthynas rhwng maint a pherfformiad yn gymhleth. Mewn rhai achosion, roedd awdurdodau mwy o faint yn perfformio'n well, ac mewn eraill, roedd cynghorau llai'n perfformio'n well, ac mewn eraill, awdurdodau canolig eu maint a gâi'r canlyniadau gorau. Yn wir, os edrychwch ar ddangosyddion perfformiad Cymru ar draws awdurdodau lleol, awdurdodau o faint canolig sy'n gwneud orau mewn gwirionedd ac sy'n cael fwyaf o sgoriau gwyrdd. Gwyddom nad yw maint yn gymesur â pherfformiad. Nid yw pawb yn edrych ac yn dweud, 'Pe gallai pob cyngor fod fel Caerdydd a Rhondda Cynon Taf, yna byddai gennym set wych o awdurdodau lleol yng Nghymru'. Mae awdurdodau lleol wedi colli rheolaeth ar nifer fawr o'r meysydd gwasanaeth a oedd ganddynt pan gefais fy ethol yn gynghorydd gyntaf yn 1989. Maent wedi colli sefydliadau addysg uwch a'r colegau polytechnig, colegau addysg bellach, rheolaeth uniongyrchol ar ysgolion, mwyafrif ar bwyllgorau heddlu, Maes Awyr Caerdydd, ac mewn llawer o ardaloedd cyngor, tai. A oes unrhyw un mewn gwirionedd yn credu bod y newidiadau hyn wedi bod er gwell o ran darparu gwasanaethau? Ar y nifer sy'n pleidleisio, mae hon yn broblem yn holl etholiadau Cymru, gan gynnwys, yn anffodus, etholiad y Cynulliad. Mae'n anodd cymharu rhwng etholiadau cyngor ac etholiadau'r Cynulliad, oherwydd yn yr ardaloedd sydd â'r nifer uchaf o bobl yn pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad yn draddodiadol, mae llawer yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad i seddau'r cyngor. Gwyddom fod y nifer sy'n pleidleisio i etholiadau'r cyngor yn sylweddol uwch na'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau Ewropeaidd, a phan gânt eu cynnal ar wahân, yn etholiadau comisiynwyr yr heddlu. Un ateb amlwg i gynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau lleol fyddai rhoi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol a llai o gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, a elwir hefyd yn 'Dyfalwch faint o seddau rydych yn mynd i'w hennill?', gan greu wardiau mawr mewn ardaloedd gwledig, a symud llywodraeth leol i ffwrdd oddi wrth bleidleiswyr - ni allaf feddwl am ffordd well o leihau'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol na chyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Nodaf nad ydych yn gofyn am gael refferendwm arno, oherwydd credaf fod pobl yn gwybod beth fyddai'r canlyniad. Cawsom refferendwm ar newid y system bleidleisio, ac roedd canlyniad hwnnw'n bendant yn erbyn newid. Felly, yn amlwg nid oes arnom eisiau un arall - gadewch i ni ei orfodi oddi fry. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y canlynol: rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol, rhywbeth y mae llywodraeth leol wedi gofyn amdano ers cyn cof, darparu llai o reolaeth ganolog dros wasanaethau - gadewch i benderfyniadau gael eu gwneud yn lleol - hyrwyddo cydweithio ym maes addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ond ar yr un ôl troed. Mae pob Gweinidog sy'n cymryd portffolio gwahanol yn creu eu hôl-troed bach eu hunain ar gyfer pob gwasanaeth; mae angen i ni gael gwasanaethau'n cwmpasu'r un ardal. Ceisiwch gael awdurdodau lleol i gydweithio ar gynllunio rhanbarthol ar gyfer tai a datblygu economaidd. Mae gennym gynllun datblygu ar gyfer pob awdurdod lleol, ac rydym i gyd yn gwybod, onid ydym, y bydd y newidiadau sy'n cael eu gwneud yn Abertawe yn effeithio ar Gastell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin ac fel arall. Felly mae angen i ni gael rhyw fath o bolisi rhanbarthol er mwyn i ni i gyd wybod lle rydym. Dylem geisio uchafu nifer y gwasanaethau o dan reolaeth uniongyrchol llywodraeth leol. Rwy'n credu'n gryf mewn llywodraeth leol ac rwy'n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gadael i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau ar ran eu pobl leol ac yna, os nad yw'r bobl yn eu hoffi, gallant gael gwared arnynt.
Wales's radical political tradition of empowered local communities has come to be represented in modern times by our local authorities, by elected representatives, who, in some cases, experience so little buy-in from residents they serve that they can sometimes hang onto civic influence for decades. And they can hang onto ideologies for decades too: public services can only effectively be delivered by the public sector, short-term contracts with the third sector are okay as long as councils hold the purse strings and they can be ditched if they're not liked, and, in some cases, you can't even mention the private sector. The dominating, monolithic structures of local authorities even today no longer function as a model of community empowerment. Local government reform needs to be more than about mergers; it's about a new balance between local authorities, society and the citizen. Now of course we need the public sector to be a central part of the way that our communities are served, but we have to move on from this culture of, 'Oh, that's the council's job' or 'Oh, the council won't let you do that.' This is not just about localism that's characterised by the kind of asset transfer we've been talking about - obviously that's part of it. It's about recognising that local authorities can't do it all. This is about recognising the potential of co-production. Local authorities are home to committed officers and employees, to expertise, to a range of professional skills, strategic thinkers as well, but, by dumping so many challenges on the steps of county hall, we overlook what we as citizens, individually and collectively, other organisations and other bodies can do to meet the demands of our communities. The increasing demands and shrinking budgets identified by Mike Hedges mean that we all lose out when non-statutory services are threatened by the pressure for councils to meet their statutory obligations first. Public dissatisfaction with 'the council' grows, disconnection between service providers and service users grows. The vocabulary we use for this just reinforces that. What on earth happened to 'people'? Just take adult social services: a fifth of us are already over 65 and it'll be well over a quarter by 2033. In Conwy, a quarter of the population are already pensioners. The state may have a range of public health messages to help us keep fit and healthy for longer, but it requires personal responsibility to take on those messages and make them work for us and our families and our communities. Local authorities will come under tremendous pressure to provide support and care through the traditional adult care routes, let alone fulfil their other social services obligations. So, do we really leave it all to them? Labour has lost its fervour for the localism that underpinned the co-operative model of economic development long ago, putting its faith instead in state centralisation. Rather than leading the way in the UK, the co-operative economy in Wales is smaller per head of population than it is in Scotland and Northern Ireland. Even the plans for the not-for-profit body to run our railways have the inky fingerprints of Government all over them. Dr Dan Boucher is right when he says that the current challenge to public service delivery 'is not helped by Labour's failure to embrace the opportunity of injecting a greater measure of mutuality into the organisation of our public services through the development of public service mutuals.' While England has enjoyed the development of 106 public service mutuals in the last five years, providing over £1 billion-worth of public services, the same period has not witnessed the creation of any public service mutual in Wales. That's quite strange as the Labour Government's 2009 social enterprise action plan specifically said that public bodies should consider whether any aspect of their roles could be better carried out by social enterprises. In 2014, its Welsh Co-operative and Mutuals Commission supported the extension of mutuals in the economy and public services. Indeed, the commission said that mutuals were superior to state provision when it came to housing, Mike Hedges, and highlighted opportunities in a number of areas, including social care and health. However, this March, on the eve of the Assembly election, the Welsh Government action plan on alternative delivery models for public service delivery stated plainly: 'We advocate co-operative and mutual models of delivery and other alternative delivery models only as an alternative to ceasing or privatising services, as a least worst option'. Now, I think Robert Owen would be ashamed that a Welsh Government has signalled so clearly that its sympathies remain squarely with state centralisation. Welsh Conservatives believe that one of the keys to success in securing policies is in speaking to our culture. We will continue, ourselves, to promote co-production, including mutuals, where appropriate, not because mutuals are the least worst option, but because they are the best option, both for the specific services in question and also because of the way they resonate with our own culture and national identity.
Daeth traddodiad gwleidyddol radicalaidd Cymru o gymunedau lleol wedi'u grymuso i gael eu cynrychioli yn y cyfnod modern gan ein hawdurdodau lleol, gan gynrychiolwyr etholedig, sydd mewn rhai achosion, yn ennyn cyn lleied o ddiddordeb y trigolion y maent yn eu gwasanaethu fel eu bod weithiau'n gallu dal eu gafael ar ddylanwad dinesig am ddegawdau. A gallant ddal eu gafael ar ideolegau am ddegawdau hefyd: y sector cyhoeddus yn unig a all ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol, mae contractau tymor byr gyda'r trydydd sector yn iawn cyn belled â bod y cynghorau'n rheoli'r arian ac y gellir eu hepgor os nad ydynt yn ddymunol, ac mewn rhai achosion, ni allwch grybwyll y sector preifat hyd yn oed. Hyd yn oed heddiw, nid yw strwythurau monolithig gormesol awdurdodau lleol yn gweithredu mwyach fel model ar gyfer grymuso cymunedau. Mae angen i ddiwygio llywodraeth leol ymwneud â mwy nag uno; mae'n ymwneud â chydbwysedd newydd rhwng awdurdodau lleol, y gymdeithas a'r dinesydd. Nawr, wrth gwrs ein bod angen i'r sector cyhoeddus fod yn rhan ganolog o'r ffordd y mae ein cymunedau yn cael eu gwasanaethu, ond mae'n rhaid i ni symud ymlaen o ddiwylliant o 'O, gwaith y cyngor yw hynny' neu 'O, ni fydd y cyngor yn gadael i chi wneud hynny.' Nid yw hyn yn fater o leoliaeth yn unig, a nodweddir gan y math o drosglwyddo asedau y buom yn siarad amdano - yn amlwg mae hynny'n rhan ohono. Mae'n ymwneud â chydnabod na all awdurdodau lleol wneud y cyfan. Mae'n ymwneud â chydnabod potensial cydgynhyrchu. Mae awdurdodau lleol yn gartref i swyddogion a chyflogeion ymroddedig, i arbenigedd, i amrywiaeth o sgiliau proffesiynol, meddylwyr strategol yn ogystal, ond drwy adael cymaint o heriau ar risiau'r Neuadd y Sir, rydym yn anwybyddu'r hyn rydym ni fel dinasyddion, fel unigolion a gyda'n gilydd, a sefydliadau a chyrff eraill yn gallu ei wneud i ateb gofynion ein cymunedau. Mae'r galwadau cynyddol a'r cyllidebau sy'n crebachu a nododd Mike Hedges yn golygu ein bod i gyd ar ein colled pan fo gwasanaethau anstatudol yn cael eu bygwth gan y pwysau ar gynghorau i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol yn gyntaf. Mae anfodlonrwydd y cyhoedd â'r 'cyngor' yn tyfu, mae'r datgysylltiad rhwng darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau'n tyfu. Mae'r eirfa a ddefnyddiwn ar gyfer hyn yn atgyfnerthu hynny. Beth ar y ddaear a ddigwyddodd i 'bobl'? Cymerwch wasanaethau cymdeithasol i oedolion: mae un o bob pump ohonom eisoes dros 65 oed a bydd ymhell dros chwarter erbyn 2033. Yng Nghonwy, mae chwarter y boblogaeth eisoes yn bensiynwyr. Efallai y bydd gan y wladwriaeth amrywiaeth o negeseuon iechyd y cyhoedd i'n helpu i gadw'n heini ac yn iach am gyfnod hwy, ond mae angen cyfrifoldeb personol i allu cymryd y negeseuon a gwneud iddynt weithio ar ein cyfer ni a'n teuluoedd a'n cymunedau. Bydd awdurdodau lleol yn dod o dan bwysau aruthrol i ddarparu cymorth a gofal drwy'r llwybrau gofal traddodiadol i oedolion, heb sôn am gyflawni eu rhwymedigaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill. Felly, a ydym yn mynd i adael y cyfan iddynt hwy mewn gwirionedd? Mae Llafur wedi colli ei brwdfrydedd dros y lleoliaeth a oedd yn sail i'r model cydweithredol o ddatblygu economaidd amser maith yn ôl, gan roi ei ffydd yn lle hynny mewn canoli'r wladwriaeth. Yn hytrach nag arwain y ffordd yn y DU, mae'r economi gydweithredol yng Nghymru yn llai fesul pen o'r boblogaeth nag ydyw yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hyd yn oed y cynlluniau ar gyfer y corff dielw i redeg ein rheilffyrdd ag olion bysedd y Llywodraeth drostynt i gyd. Mae Dr Dan Boucher yn gywir pan ddywed na chaiff yr her bresennol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus 'ei helpu gan fethiant Llafur i groesawu'r cyfle i chwistrellu mesur mwy o gydfuddiannaeth i mewn i drefniadaeth ein gwasanaethau cyhoeddus drwy ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus cydfuddiannol.' Er bod Lloegr wedi elwa o ddatblygu 106 o wasanaethau cyhoeddus cydfuddiannol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gan ddarparu gwerth dros £1 biliwn o wasanaethau cyhoeddus, ni welwyd unrhyw wasanaeth cyhoeddus cydfuddiannol yn cael ei greu yng Nghymru dros yr un cyfnod. Mae hynny'n eithaf rhyfedd gan fod cynllun gweithredu'r Llywodraeth Lafur ar gyfer mentrau cymdeithasol yn 2009 yn dweud yn benodol y dylai cyrff cyhoeddus ystyried a allai mentrau cymdeithasol gyflawni unrhyw agwedd ar eu rolau yn well. Yn 2014, cefnogodd ei Gomisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol yng Nghymru gamau i ehangu cwmnïau cydfuddiannol yn yr economi a gwasanaethau cyhoeddus. Yn wir, dywedodd y comisiwn fod cwmnïau cydfuddiannol yn rhagori ar ddarpariaeth y wladwriaeth ym maes tai, Mike Hedges, a thynnodd sylw at gyfleoedd mewn nifer o feysydd, gan gynnwys gofal cymdeithasol ac iechyd. Fodd bynnag, fis Mawrth, ar y noson cyn etholiad y Cynulliad, roedd cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer modelau darparu amgen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn nodi'n blaen: 'Rydym yn cefnogi modelau darparu cydweithredol a chydfuddiannol a modelau darparu amgen eraill dim ond fel dewis yn lle dirwyn gwasanaethau i ben neu eu preifateiddio, fel yr opsiwn 'lleiaf gwael'.' Nawr, rwy'n meddwl y byddai gan Robert Owen gywilydd fod Llywodraeth Cymru wedi dangos mor glir ei bod yn bendant yn parhau i gefnogi canoli'r wladwriaeth. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu mai un o'r allweddi ar gyfer llwyddo i sicrhau polisïau yw ystyriaeth o'n diwylliant. Byddwn yn parhau, ein hunain, i hyrwyddo cydgynhyrchu, gan gynnwys cwmnïau cydfuddiannol, lle bo'n briodol, nid oherwydd mai cwmnïau cydfuddiannol yw'r opsiwn lleiaf gwael, ond oherwydd mai dyna'r dewis gorau, ar gyfer y gwasanaethau penodol dan sylw a hefyd oherwydd y ffordd y maent yn asio â'n diwylliant ein hunain a'n hunaniaeth genedlaethol.
Local government in Wales is suffering from a lack of community engagement. This lack of engagement has led to voter apathy and poor voter turnout in successive local elections. At the last local election in 2012, average voter turnout was under 39 per cent - a fall of 4 per cent from the previous election in 2008. According to the national survey for Wales, 88 per cent of people had not contacted their councillors in the last 12 months. More worryingly, 59 per cent of respondents either disagreed or strongly disagreed with the statement that they could influence a decision affecting their local area. This apathy towards local government is in marked contrast to public campaigns and demonstrations when local authority assets are threatened with closures. The Welsh Government had a chance of addressing this problem when the UK Government passed the Localism Act 2011. It is disappointing, therefore, that the Welsh Government has failed to implement the community rights agenda in Wales. Community rights are about empowering communities, so that they have a bigger say in the issues that matter to them. By a series of measures, the Localism Act set out to achieve a substantial shift of power to local people. Two of these measures were the community right to challenge and the community right to bid. First, the community right to challenge, Minister. Local authorities in Wales facing budgetary constraints may attempt to relieve the pressure by letting go of assets such as leisure centres. Without a community right to challenge, allowing communities to take over the running of services, these assets could be lost permanently. The best councils in Wales are constantly on the lookout for new and better ways to design and deliver local services. Many recognise the potential of social enterprises and community groups to provide high-quality services at good value. They should work together to deliver these services. Secondly, the community right to bid. Every community is a home to buildings or amenities that play a vital role in local life. These include community centres, libraries, swimming pools, village shops, markets and pubs. The closure of these assets can present a local loss to the community. Community groups often need more time to organise a bid and to raise money than the private enterprise that may be bidding against them. The community right to bid provides a six-week opportunity for communities to express an interest in buying an asset. If they do so, a further four-and-a-half-month window of opportunity is open to allow communities the time to raise funds to buy the asset. To assist community groups, we need a list of assets of community value nominated by the local communities themselves. However, councils in Wales do not have to keep a register of assets of community value and they are not obliged to undertake community asset transfers. I believe these rights enjoyed in England should be extended to Wales to enhance the existing community asset transfer and the community facilities and activity programmes. Deputy Presiding Officer, allowing communities to challenge these local authorities over services they provide or buildings they own will greatly enhance community involvement and engagement. I hope the Cabinet Secretary will embrace the community rights agenda and implement the Localism Act in full in Wales. And finally, Deputy Presiding Officer, there's one area that I regularly get a problem with in my office. When people come to get in touch with the council, there's always a local telephone call. In Newport, it's 656656 for a call centre. Normally, no less than 10 minutes somebody has to wait and listen to music and then, half of the time, you never get in touch with the right person you have to speak to. I'd like to find out how much money the local council are making from people waiting on the telephone when they ring the councils. I think the councils should realise that poor people ring about their problems - not for the cost of staying to put their problems to the councils. I think this is an area where connectivity between the people and the councils is also lacking in Wales. Thank you.
Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn dioddef o ddiffyg ymgysylltiad â'r gymuned. Mae'r diffyg ymgysylltu wedi arwain at ddifaterwch ymhlith pleidleiswyr a'r ganran isel a bleidleisiodd mewn etholiadau lleol olynol. Yn yr etholiad lleol diwethaf yn 2012, roedd cyfartaledd y ganran a bleidleisiodd o dan 39 y cant - gostyngiad o 4 y cant ers yr etholiad blaenorol yn 2008. Yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru, nid oedd 88 y cant o bobl wedi cysylltu â'u cynghorwyr dros y 12 mis blaenorol. Yn fwy pryderus, roedd 59 y cant o ymatebwyr naill ai'n anghytuno neu'n anghytuno'n gryf â'r datganiad y gallent ddylanwadu ar benderfyniad sy'n effeithio ar eu hardal leol. Mae'r difaterwch hwn tuag at lywodraeth leol yn wahanol iawn i'r ymgyrchoedd cyhoeddus a'r protestiadau pan fydd asedau awdurdodau lleol yn wynebu bygythiad o gael eu cau. Cafodd Llywodraeth Cymru gyfle i fynd i'r afael â'r broblem hon pan basiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Lleoliaeth 2011. Mae'n siomedig, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi methu â gweithredu'r agenda hawliau cymunedol yng Nghymru. Mae hawliau cymunedol yn ymwneud â grymuso cymunedau, er mwyn iddynt gael mwy o lais yn y materion sy'n bwysig iddynt. Trwy gyfres o fesurau, aeth y Ddeddf Lleoliaeth ati i sicrhau bod pŵer sylweddol yn trosglwyddo i bobl leol. Dau o'r mesurau hyn oedd yr hawl gymunedol i herio a hawl y gymuned i wneud cais. Yn gyntaf, yr hawl gymunedol i herio, Weinidog. Efallai y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru sy'n wynebu cyfyngiadau cyllidebol yn ceisio lleddfu'r pwysau drwy ollwng gafael ar asedau megis canolfannau hamdden. Heb hawl gymunedol i herio, i ganiatáu i gymunedau ysgwyddo'r gwaith o redeg gwasanaethau, gallai'r asedau hyn gael eu colli am byth. Mae'r cynghorau gorau yng Nghymru yn gyson yn chwilio am ffyrdd newydd a gwell o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau lleol. Mae llawer yn cydnabod potensial mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n werth da am arian. Dylent weithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gwasanaethau hyn. Yn ail, yr hawl gymunedol i wneud cais. Mae pob cymuned yn gartref i adeiladau neu gyfleusterau sy'n chwarae rôl hanfodol mewn bywyd lleol. Mae'r rhain yn cynnwys canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, pyllau nofio, siopau pentref, marchnadoedd a thafarndai. Gall cau'r asedau hyn olygu bod y gymuned ar ei cholled. Yn aml mae grwpiau cymunedol angen mwy o amser i drefnu cais ac i godi arian na'r mentrau preifat a allai fod yn gwneud cais yn eu herbyn. Mae'r hawl gymunedol i wneud cais yn rhoi cyfle chwe wythnos i gymunedau fynegi diddordeb mewn prynu ased. Os ydynt yn gwneud hynny, mae cyfnod pellach o bedwar mis a hanner o gyfle i gymunedau allu cael amser i godi arian i brynu'r ased. Er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol, mae arnom angen rhestr o asedau o werth cymunedol wedi'i henwebu gan y cymunedau lleol eu hunain. Fodd bynnag, nid oes rhaid i gynghorau yng Nghymru gadw cofrestr o asedau o werth cymunedol ac nid oes rhaid iddynt drosglwyddo asedau cymunedol. Rwy'n credu y dylai'r hawliau hyn y mae Lloegr yn manteisio arnynt gael eu hymestyn i Gymru i wella'r broses bresennol o drosglwyddo asedau cymunedol a'r rhaglenni cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol. Ddirprwy Lywydd, bydd caniatáu i gymunedau herio'r awdurdodau lleol hyn ynglŷn â'r gwasanaethau y maent yn eu darparu neu adeiladau y maent yn berchen arnynt yn gwella cyfranogiad ac ymgysylltiad â'r gymuned yn fawr. Rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu'r agenda hawliau cymunedol ac yn gweithredu'r Ddeddf Lleoliaeth yn llawn yng Nghymru. Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae yna un maes rwy'n cael trafferth ag ef yn rheolaidd yn fy swyddfa. Pan fydd pobl yn cysylltu â'r cyngor, mae yna bob amser alwad ffôn leol. Yng Nghasnewydd, mae'n 656656 i ganolfan alwadau. Fel arfer, bydd rhaid aros o leiaf 10 munud a gwrando ar gerddoriaeth ac yna, hanner yr amser, ni fyddwch yn cael eich cysylltu â'r person cywir sy'n rhaid i chi siarad â hwy. Hoffwn wybod faint o arian y mae'r cyngor lleol yn ei wneud gan bobl sy'n aros ar y ffôn pan fyddant yn ffonio'r cynghorau. Rwy'n credu y dylai cynghorau sylweddoli bod pobl dlawd yn ffonio ynglŷn â'u problemau - nid am y gost o aros i gyflwyno'u problemau i'r cynghorau. Rwy'n credu bod hwn yn faes lle mae cysylltedd rhwng y bobl a'r cynghorau hefyd yn brin yng Nghymru. Diolch.
It's been an interesting discussion so far, and it's been good to hear so many people speak and have passionate views on this subject. Here in the UKIP group, we certainly recognise that local government has a major role to play in people's everyday lives. So, it is important that, if we are going to have yet another major local government shake-up, which, as was pointed out earlier by R.T. Davies, we seem to have every 20 years, pretty punctually, then we need to make sure this time that we do get it right and, also, that we do not systematically take services further and further away from the people they are supposed to serve. We do support some reorganisation of local government in Wales, but the massive reduction to nine councils proposed by the previous Minister - we believe that that was too big a reduction and would represent a major degradation in council services. In general, we support bottom-up reorganisation, rather than a top-down model, the kind of model that Leighton Andrews wanted to impose on the Welsh councils. We note with dismay that, when Vale of Glamorgan Council did come to a voluntary agreement with their neighbouring authority of Bridgend, the ambitions of those councils were rather casually rejected by the relevant Minister, who has, perhaps thankfully, now departed, although, of course, I'm sure he did good things here as well. What people in the Vale do not want is to be submerged by Cardiff council and then swamped by huge housing developments on their green fields. This is a problem we already have facing us on the outskirts of Cardiff, as the new Plaid regional Member has repeatedly, and rightly, alluded to. We certainly don't want that problem extended to the Vale of Glamorgan as well by a forced merger with Cardiff. I can tell you that Cardiff's Labour-run authority would love to get its hands on those lovely fields in the Vale of Glamorgan. Similarly, Rhondda Cynon Taf council should not be railroaded into a forced merger with Merthyr. RCT is already one of the biggest councils in Wales in terms of its population, and it's quite capable, we believe, of standing on its own two feet. Now, referring to other points that were made during the debate, Janet mentioned the number of uncontested seats, which is an obvious cause for concern. We believe that if you have these forced mergers, leading to super councils, they will be too large. This will lead to increasing lack of interest from the electorate in these elections, and you'll probably have a lower turnout as a result. The Localism Act is interesting; that's an interesting point. We tend to agree that we need to think about adopting more articles from that Act here in Wales, and there may be a debate here soon on a portion of that Act. We also have the issue of the term of the next council, raised by R.T. Davies. I remember, in 1993, we had elections; they took place regardless of a local government reorganisation that was imminent at that time. We had county council elections in 1993; two years later, we had to have the unitary authority elections - really, a considerable waste of expense. In these times of local authority cuts, we need to make sure that we avoid that kind of duplication and that kind of waste of money this time around. Oscar Asghar raised the issue of the call centres. I heard murmurs from that side that these council numbers cost nothing for the consumer to pay for when he's ringing up, but I think the problem is, essentially, one of inaccessibility, because it takes a long time for people to get hold of the council. They are put through to a call centre. They're not on a direct line to any council switchboard - . Well, it is essentially a switchboard. Sometimes also, these call centres serve more than one council; so, you might find that you ring a call centre enquiring about services in Cardiff and you're speaking to someone in a call centre in Wrexham who knows nothing about what you're talking about. So, we need to look at that, and we need to look at whether we need to have some statutory provision that we have to have locally-manned call centres, at least, so you don't have people ringing up these lines and finding that they're talking to people who have no local knowledge. On the question of the Plaid Cymru amendment regarding voting reform, this is a very important issue. We believe that to encourage a higher turnout in the elections in Wales we do need to support the introduction of the single transferable vote in Welsh council elections. [Interruption.] Indeed, that may be the case, but we certainly do support that, and we are willing to collaborate with whoever else supports it. So, Sian, if you want to have a chat, then by all means do so, but of course it would mean collaborating with us here in UKIP, which may be an awful prospect for you. Thank you.
Mae wedi bod yn drafodaeth ddiddorol hyd yn hyn, ac mae wedi bod yn dda clywed cymaint o bobl yn siarad ac yn lleisio barn angerddol ar y pwnc hwn. Yma yng ngrŵp UKIP, rydym yn sicr yn cydnabod bod gan lywodraeth leol ran bwysig i'w chwarae ym mywydau pob dydd pobl. Felly, mae'n bwysig, os ydym yn mynd i gael newid mawr arall i lywodraeth leol - ac fel y nodwyd yn gynharach gan R.T. Davies, ymddengys ein bod yn cael un bob 20 mlynedd, yn eithaf cyson - yna mae angen gwneud yn siŵr y tro hwn ein bod yn ei gael yn iawn a hefyd, nad ydym yn mynd ati'n systematig i symud gwasanaethau ymhellach ac ymhellach i ffwrdd oddi wrth y bobl y maent i fod i'w gwasanaethu. Rydym yn cefnogi rhywfaint o ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru, ond y gostyngiad enfawr i naw cyngor a argymhellodd y Gweinidog blaenorol - credwn fod hwnnw'n ostyngiad rhy fawr a byddai'n golygu bod gwasanaethau cyngor yn cael eu diraddio'n helaeth. Yn gyffredinol, rydym yn cefnogi ad-drefnu o'r gwaelod i fyny, yn hytrach na model o'r brig i lawr, y math o fodel roedd Leighton Andrews yn awyddus i'w orfodi ar y cynghorau yng Nghymru. Pan ddaeth Cyngor Bro Morgannwg i gytundeb gwirfoddol gyda'u hawdurdod cyfagos ym Mhen-y-bont ar Ogwr, siom i ni oedd nodi bod uchelgeisiau'r cynghorau hynny wedi cael eu gwrthod yn ddisymwth braidd gan y Gweinidog perthnasol, sydd wedi gadael bellach, a diolch am hynny o bosibl, er fy mod yn siŵr ei fod wedi gwneud pethau da yma hefyd wrth gwrs. Yr hyn nad yw pobl yn y Fro ei eisiau yw cael eu suddo gan gyngor Caerdydd ac yna'u boddi gan ddatblygiadau tai enfawr ar eu meysydd gwyrdd. Mae hon yn broblem sydd eisoes yn ein hwynebu ar gyrion Caerdydd, fel y mae Aelod rhanbarthol newydd Plaid Cymru wedi sôn dro ar ôl tro, a hynny'n briodol. Yn sicr, nid ydym eisiau i'r broblem ymestyn i Fro Morgannwg hefyd drwy uno gorfodol gyda Chaerdydd. Gallaf ddweud wrthych y byddai awdurdod Caerdydd dan arweiniad Llafur wrth ei fodd yn cael ei ddwylo ar y caeau hyfryd hynny ym Mro Morgannwg. Yn yr un modd, ni ddylai cyngor Rhondda Cynon Taf gael ei orfodi i uno gyda Merthyr. Mae Rhondda Cynon Taf eisoes yn un o'r cynghorau mwyaf yng Nghymru o ran ei boblogaeth, ac mae'n ddigon abl, yn ein barn ni, i sefyll ar ei draed ei hun. Nawr, gan gyfeirio at bwyntiau eraill a wnaed yn ystod y ddadl, crybwyllodd Janet nifer y seddi diwrthwynebiad, sy'n destun pryder amlwg. Os oes gennych uno gorfodol o'r fath, yn arwain at uwch-gynghorau, credwn y byddant yn rhy fawr. Bydd hyn yn arwain at gynyddu'r diffyg diddordeb ymhlith yr etholwyr yn yr etholiadau hyn, ac mae'n debygol y bydd gennych nifer is yn pleidleisio yn sgil hynny. Mae'r Ddeddf Lleoliaeth yn ddiddorol; dyna bwynt diddorol. Rydym yn tueddu i gytuno bod angen i ni feddwl am fabwysiadu mwy o erthyglau o'r Ddeddf honno yma yng Nghymru, ac efallai y bydd dadl yma'n fuan ar gyfran o'r Ddeddf honno. Mae gennym hefyd fater yn codi ynglŷn â thymor y cyngor nesaf, a grybwyllwyd gan R.T. Davies. Rwy'n cofio etholiadau a gawsom yn 1993; fe'u cynhaliwyd er gwaethaf ad-drefnu llywodraeth leol a oedd ar fin digwydd ar y pryd. Cawsom etholiadau'r cyngor sir yn 1993; ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu'n rhaid i ni gael etholiadau'r awdurdod unedol - o ddifrif, roedd yn wastraff arian sylweddol. Yn y cyfnod hwn o doriadau i awdurdodau lleol, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn osgoi'r math hwnnw o ddyblygu a'r math hwnnw o wastraff arian y tro hwn. Soniodd Oscar Asghar am fater y canolfannau galwadau. Clywais si o'r ochr honno nad yw rhifau'r cyngor yn costio dim i'r defnyddiwr ei dalu pan fydd yn ffonio, ond rwy'n meddwl bod y broblem yn ei hanfod yn ymwneud ag anhygyrchedd, gan ei bod yn cymryd amser hir i bobl gael gafael ar y cyngor. Maent yn cael eu trosglwyddo i ganolfan alwadau. Nid ydynt ar linell uniongyrchol i switsfwrdd unrhyw gyngor - . Wel, switsfwrdd ydyw yn ei hanfod. Weithiau hefyd, mae'r canolfannau galwadau hyn yn gwasanaethu mwy nag un cyngor; felly, efallai y gwelwch eich bod yn ffonio canolfan alwadau i holi am wasanaethau yng Nghaerdydd a byddwch yn siarad â rhywun mewn canolfan alwadau yn Wrecsam nad yw'n gwybod dim am yr hyn rydych yn sôn amdano. Felly, mae angen i ni edrych ar hynny, ac mae angen i ni edrych i weld a oes angen i ni gael rhywfaint o ddarpariaeth statudol er mwyn cael canolfannau galwadau gyda phobl leol yn ateb y ffôn, o leiaf, fel na fydd gennych bobl yn ffonio'r llinellau hyn a gweld eu bod yn siarad â phobl heb wybodaeth leol. O ran y cwestiwn yng ngwelliant Plaid Cymru ynghylch diwygio pleidleisio, mae hwn yn fater pwysig iawn. Er mwyn annog nifer uwch o bleidleiswyr yn yr etholiadau yng Nghymru credwn fod angen i ni gefnogi camau i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy yn etholiadau'r cynghorau yng Nghymru. [Torri ar draws.] Yn wir, efallai fod hynny'n wir, ond rydym ni'n sicr yn cefnogi hynny, ac rydym yn barod i gydweithio â phwy bynnag arall sy'n ei gefnogi. Felly, Sian, os ydych am gael sgwrs, yna ar bob cyfrif gwnewch hynny, ond wrth gwrs byddai'n golygu cydweithio â ni yma yn UKIP, a allai fod yn syniad ofnadwy i chi. Diolch.
We have to recognise that Wales has yet to suffer from the extent of the cuts that have been experienced in England. In England, council budgets were cut by 10 per cent in cash terms in the last five years whereas in Wales overall they went up by 2.5 per cent. That is because schools and social services were ring-fenced, avoiding the cuts that occurred in other services, but obviously there have been huge challenges in trying to deliver the other services that weren't ring-fenced. It isn't going to get any easier. It can't be sustainable in the long term, because of the shrinking budgets coming from the Tory UK Government. By 2020 the Welsh budget will be nearly £1.5 billion lower in real terms than it was in 2010. So, fundamental reform of how public services are delivered and organised across Wales has to be addressed and addressed now. The salami-slicing and the withdrawal of non-essential activities has already been done. The low-hanging fruit have been eliminated. So, continuing to do less is unlikely to meet anything other than public dismay. Local authorities are going to have to do things differently. The Welsh Government has set out a range of ideas in the draft local government Bill to improve openness, transparency and public accountability of local government. That is long overdue. In the last five years we had no less than three councils where the chief executive and some senior officers were writing their own remuneration plans, and the elected members were found wanting absolutely in their failure to prevent such a massive level of maladministration. It took the intervention of the Wales Audit Office to expose these governance failings. Such scandals undermine staff and the public's confidence and trust in public services, and we need to let in some light if we're going to attract more people who want to serve in local government. I think that public service boards and their obligations under the future generations Act provide a breath of fresh air and necessary collaboration if they're going to meet their obligations. In addition to that, the bitter referendum contest that we have all suffered over the last few months has thrown up some challenging issues, which will not go away whatever the result is tomorrow. People have got used to clicking their preferences online rather than getting their jackets off and helping solve problems. Is it really the case that it's always somebody else's responsibility? To blame whichever level of government is not hard to do, but instead we need to get people to reflect on what they can do to help resolve problems. I can agree with Suzy Davies that the status quo is not an option. Some of the things that local authorities can do to grasp the nettle of doing things differently were illustrated in the smarter energy for Wales report, which set out the opportunities that are available to local authorities to harness our natural resources for the well-being of local communities. Sadly, few local authorities at any level have seized the opportunity and the money. Indeed, in many areas, local authorities actively block community-led energy schemes, rather than embracing these initiatives to enhance the well-being and income of their populations. Suzy Davies recognises there has to be co-production, and that requires us to trust people but also to expect that they will play their part, rather than simply demand. It is not local authorities who throw litter, it is people; it's not local authorities that churn up the roads and create potholes, it's vehicles, particularly heavy goods vehicles, which are reluctant to pay the cost in their licences that should reflect the damage they do. It is no use Mohammad Asghar simply decrying the loss of services; we have to think what we're going to do about it. It is undoubtedly the case that poorer neighbourhoods have lower reserves to fall back on when changes are proposed. For example, Rhydypennau library in Cyncoed, which is a relatively well-off area, threatened with closure, has not just been kept open, the local community has massively enhanced the service, with a huge range of concerts, fundraisers and readings, ably supported by the exemplary librarian, who goes the extra mile to deliver for the public. As it's Public Service Day tomorrow, I think we should recognise that. I think virtual mergers and voluntary mergers have to be the way forward, to make people from different organisations feel comfortable with each other, and I wait with interest, for example, to hear about the increased collaboration between health and local authorities in Powys, to find out whether that might be a forward model for other local authorities as well.
Mae'n rhaid i ni gydnabod bod Cymru eto i ddioddef graddau'r toriadau a brofwyd yn Lloegr. Yn Lloegr, torwyd cyllidebau cynghorau 10 y cant mewn termau arian parod dros y pum mlynedd diwethaf ond yng Nghymru yn gyffredinol maent wedi codi 2.5 y cant. Mae hynny oherwydd bod cyllid ar gyfer ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol wedi'i glustnodi, gan osgoi'r toriadau a welwyd mewn gwasanaethau eraill, ond yn amlwg cafwyd heriau enfawr wrth geisio darparu'r gwasanaethau eraill na chafodd eu clustnodi. Nid yw'n mynd i fod yn haws. Ni all fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, oherwydd y cyllidebau sy'n lleihau a ddaw gan Lywodraeth Dorïaidd y DU. Erbyn 2020, bydd cyllideb Cymru bron £1.5 biliwn yn is mewn termau real nag yn 2010. Felly, rhaid diwygio'n sylfaenol y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu a'u trefnu ar draws Cymru a rhaid gwneud hynny nawr. Eisoes, cafwyd toriadau tameidiog a diddymu gweithgareddau nad ydynt yn hanfodol. Mae'r toriadau mwyaf amlwg wedi'u gwneud. Felly, mae parhau i wneud llai yn annhebygol o gymell dim heblaw siom cyhoeddus. Mae awdurdodau lleol yn mynd i orfod gwneud pethau'n wahanol. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ystod o syniadau yn y Bil llywodraeth leol drafft i wella agwedd agored, tryloywder ac atebolrwydd i'r cyhoedd mewn llywodraeth leol. Mae'n hen bryd gwneud hynny. Yn y pum mlynedd diwethaf cawsom gymaint â thri chyngor lle roedd y prif weithredwyr a rhai uwch-swyddogion yn ysgrifennu eu cynlluniau cydnabyddiaeth ariannol eu hunain, a diffygion pendant ymhlith aelodau etholedig a fethodd atal lefel mor eithriadol o uchel o gamweinyddu. Bu'n rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ymyrryd er mwyn amlygu'r methiannau hyn yn y trefniadau llywodraethu. Mae sgandalau o'r fath yn tanseilio hyder staff a'r cyhoedd ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac mae angen i ni adael rhywfaint o oleuni i mewn os ydym yn mynd i ddenu mwy o bobl sydd am wasanaethu mewn llywodraeth leol. Credaf fod byrddau gwasanaethau cyhoeddus a'u rhwymedigaethau o dan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yn darparu chwa o awyr iach a chydweithio angenrheidiol os ydynt yn mynd i gyflawni eu rhwymedigaethau. Yn ogystal â hynny, mae'r ddadl refferendwm chwerw rydym i gyd wedi dioddef yn ei sgil yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi datgelu rhai materion heriol, na fydd yn diflannu waeth beth fydd y canlyniad yfory. Mae pobl wedi dod i arfer â chlicio eu dewisiadau ar-lein yn hytrach na thynnu eu siacedi a helpu i ddatrys problemau. A yw'n wir mewn gwirionedd ei fod bob amser yn gyfrifoldeb i rywun arall? Nid yw'n anodd beio pa lefel bynnag o lywodraeth, ond yn lle hynny mae angen i ni gael pobl i feddwl ynglŷn â'r hyn y gallant ei wneud i helpu i ddatrys problemau. Gallaf gytuno â Suzy Davies nad yw'r status quo yn opsiwn. Darluniwyd rhai o'r pethau y gall awdurdodau lleol ei wneud i fachu ar y cyfle i wneud pethau'n wahanol yn yr adroddiad ar ynni craffach i Gymru, a nodai'r cyfleoedd sydd ar gael i awdurdodau lleol harneisio ein hadnoddau naturiol er lles cymunedau lleol. Yn anffodus, ychydig o awdurdodau lleol ar unrhyw lefel sydd wedi manteisio ar y cyfle a'r arian. Yn wir, mewn llawer o ardaloedd, mae awdurdodau lleol yn mynd ati i rwystro cynlluniau ynni dan arweiniad y gymuned, yn hytrach na chroesawu'r mentrau hyn er mwyn gwella lles ac incwm eu poblogaethau. Roedd Suzy Davies yn cydnabod bod yn rhaid cydgynhyrchu, a bod gofyn i ni ymddiried mewn pobl, a disgwyl hefyd y byddant yn chwarae eu rhan, yn hytrach na hawlio'n unig. Nid awdurdodau lleol sy'n taflu sbwriel, ond pobl; nid awdurdodau lleol sy'n dryllio'r ffyrdd a chreu tyllau, ond cerbydau, yn enwedig cerbydau nwyddau trwm, sy'n amharod i dalu'r gost yn eu trwyddedau a ddylai adlewyrchu'r niwed y maent yn ei wneud. Nid oes diben i Mohammad Asghar alaru am wasanaethau a gollir; mae'n rhaid i ni feddwl beth rydym yn mynd i wneud am y peth. Yn ddi-os, mae gan gymdogaethau tlotach lai o gronfeydd wrth gefn i ddisgyn yn ôl arnynt pan fydd newidiadau'n cael eu hargymell. Er enghraifft, nid yn unig y mae llyfrgell Rhydypennau yng Nghyncoed, sy'n ardal gymharol lewyrchus, a oedd dan fygythiad o gau wedi cael ei chadw ar agor, ond mae'r gymuned leol wedi gwella'r gwasanaeth yn aruthrol, gydag amrywiaeth enfawr o gyngherddau, digwyddiadau codi arian a darlleniadau, wedi'u cefnogi'n fedrus gan lyfrgellydd rhagorol, sy'n teithio'r filltir ychwanegol i gyflawni ar ran y cyhoedd. Gan ei bod yn Ddiwrnod Gwasanaethau Cyhoeddus yfory, credaf y dylem gydnabod hynny. Rwy'n credu bod yn rhaid i uno rhithwir ac uno gwirfoddol fod yn ffordd ymlaen, i wneud i bobl o wahanol sefydliadau deimlo'n gyfforddus gyda'i gilydd, ac rwy'n aros gyda diddordeb, er enghraifft, i glywed am y cydweithio cynyddol rhwng awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol ym Mhowys, i gael gwybod a allai hwnnw fod yn fodel ar gyfer y dyfodol i awdurdodau lleol eraill hefyd.
First of all, I'd like to welcome the Cabinet Secretary to his post and welcome very much his approach and his commitment in the co-production process, moving forward. Yes, I think, in terms of reinforcing the points that have just been made, there is no shadow of a doubt that Wales has not borne the brunt of the cuts that local authorities have borne in England. We've mentioned already the 10 per cent slashing of local authorities' budgets and the fact that one of the Conservative Members opposite has tried to talk about the love of mutuals; I think mutuals have an absolute place in Wales, but what I would say is that, in England, the reality is that it's for-profit private companies that are taking over the running of public services and not at all doing a good job in some parts. The Welsh budget has been slashed by £1.5 billion, so there is a need to look at this with fresh eyes and move forward in a way that is constructive. I welcome very much the Cabinet Secretary's approach in already meeting with council leaders and local authorities so very early on in his post. Yes, it's going to be an interesting way forward, but I know very much that we have the approach, the willingness, the co-production process in place that will deliver for the people of Wales.
Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w swydd a chroesawu'n fawr ei ddull a'i ymrwymiad tuag at y broses gydgynhyrchu wrth edrych tua'r dyfodol. O ran atgyfnerthu'r pwyntiau sydd newydd eu gwneud, ydw, rwy'n credu nad oes amheuaeth nad yw Cymru wedi cario baich y toriadau y mae awdurdodau lleol wedi'u cario yn Lloegr. Rydym wedi crybwyll eisoes y toriad o 10 y cant i gyllidebau awdurdodau lleol a'r ffaith fod un o'r Aelodau Ceidwadol gyferbyn wedi ceisio siarad am hoffter o gwmnïau cydfuddiannol; rwy'n credu bod gan gwmnïau cydfuddiannol le pendant yng Nghymru, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw mai'r realiti yn Lloegr yw mai cwmnïau preifat er elw sy'n cymryd y gwaith o redeg gwasanaethau cyhoeddus ac nid ydynt yn gwneud gwaith da o gwbl mewn rhai mannau. Torrwyd £1.5 biliwn oddi ar gyllideb Cymru, felly mae angen edrych ar hyn gyda llygaid ffres a symud ymlaen mewn ffordd adeiladol. Rwy'n croesawu'n fawr y modd y mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cyfarfod ag arweinwyr cynghorau ac awdurdodau lleol mor gynnar yn ei swydd. Ydy, mae'n mynd i fod yn ffordd ddiddorol ymlaen, ond rwy'n gwybod yn iawn fod gennym y dull, y parodrwydd, y broses gydgynhyrchu yn ei lle a fydd yn darparu ar gyfer pobl Cymru.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Can I begin by thanking the Conservative group at the Assembly for using their time this afternoon to bring forward this debate? I've listened very carefully to each contribution, and I'm very glad to have this opportunity to discuss the future of local government in Wales and to set out some of my own early thinking. My starting point, Dirprwy Lywydd, is this: that good local government plays a vitally important part in the lives of almost every citizen in Wales, from the earliest years of nursery education and the foundation phase to the social care provided to our oldest and most vulnerable. As Mike Hedges suggested, each one of us has a direct interest in the way in which our rubbish is collected, our streets kept clean, how our roads are maintained and our children are educated, and each one of those services is provided by our local authorities. Now, Dirprwy Lywydd, I am fortunate that, partly as a result of the very close attention provided by my predecessors, I take on this portfolio at a time when, despite the very real challenges, local government in Wales has been improving. Most previous local government Ministers will have inherited a position where more than one council in Wales has been in need of intervention for its education or social services, or for its own corporate governance. Today, no council in Wales is in that position, and I am very keen to reflect that pattern of improvement in our discussion of local government. When I met the leader of Ynys Môn council, he asked me that the first time I mentioned his authority on the floor of this Assembly, I should not describe it as a failing authority, but instead I should focus on the considerable success that his council has achieved over the last three years. That authority is in a very different position today than it was at the start of the last Assembly term, and I'm very pleased to be able to do just that - to say something about the efforts, all those efforts, here at the National Assembly, through the intervention of regulators and councils themselves, which have helped to bring about this improved picture. Now, none of this is to suggest that real challenges do not remain, nor could we possibly believe that the provision of local authority services in Wales is uniformly as we would wish it to be simply because no local authority is currently performing below the minimum standard required of it. All Members here will be familiar with the basic position. Each and every local authority in Wales is good at something. Most are good at many things. None are good at everything. The challenge, then, will be to go on securing improvement in a future that will be very testing indeed. Local authorities face rising demand for many of their services, and they and we know that the money to meet those needs is diminishing, and, on current central Government plans, as Jenny Rathbone pointed out, will go on diminishing in each year of this Assembly term. No-one that I have met in my meetings with local authorities so far argues that the status quo can be sustained. The nature of the problem is widely understood and shared; crafting solutions to it has been less easy. The last Welsh Government attempted to take a lead, to shape an agenda, to set out a way forward and to persuade others to follow. We would not have had the uniform commitment to change, I believe, had that work not been undertaken. Now, one aspect of the proposed solution, the map, did not create consensus. Many other aspects of the draft Bill published by my predecessor were widely welcomed, both in this Chamber and beyond. Mike Hedges mentioned the general power of competence for local authorities, but the Bill also included greater clarity of relationships between executive and political leadership, the strengthening of the community leadership role of individual councillors, and measures to improve the responsiveness of local councils, answering the issues that Mohammad Asghar identified.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad am ddefnyddio'u hamser y prynhawn yma i gyflwyno'r ddadl hon? Rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar bob cyfraniad, ac rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i drafod dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ac i amlinellu rhai o fy syniadau cynnar fy hun. Fy man cychwyn, ddirprwy Lywydd, yw bod llywodraeth leol dda yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau bron bob dinesydd yng Nghymru, o flynyddoedd cynharaf addysg feithrin a'r cyfnod sylfaen i ofal cymdeithasol a ddarperir i'r bobl hynaf a mwyaf agored i niwed. Fel yr awgrymodd Mike Hedges, mae gan bob un ohonom ddiddordeb uniongyrchol yn y ffordd y caiff ein sbwriel ei gasglu, a'n strydoedd eu cadw'n lân, yn y modd y caiff ein ffyrdd eu cynnal a sut y caiff ein plant eu haddysgu, ac mae pob un o'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan ein hawdurdodau lleol. Nawr, ddirprwy Lywydd, yn rhannol o ganlyniad i'r sylw manwl iawn a roddwyd i hyn gan fy rhagflaenwyr, rwy'n ffodus fy mod yn mabwysiadu'r portffolio hwn ar adeg pan fo llywodraeth leol yng Nghymru wedi bod yn gwella, er gwaethaf yr heriau real iawn. Bydd y rhan fwyaf o'r Gweinidogion llywodraeth leol blaenorol wedi etifeddu sefyllfa lle y bu angen ymyrryd mewn mwy nag un cyngor yng Nghymru mewn perthynas â'u haddysg neu eu gwasanaethau cymdeithasol, neu eu trefniadau llywodraethu corfforaethol eu hunain. Heddiw, nid oes unrhyw gyngor yng Nghymru yn y sefyllfa honno, ac rwy'n awyddus iawn i adlewyrchu'r patrwm hwn o welliant yn ein trafodaeth ar lywodraeth leol. Pan gyfarfûm ag arweinydd Cyngor Ynys Môn, y tro cyntaf i mi grybwyll ei awdurdod ar lawr y Cynulliad hwn, gofynnodd i mi beidio â disgrifio ei awdurdod fel un sy'n methu, ond yn hytrach y dylwn ganolbwyntio ar y llwyddiant sylweddol y mae ei gyngor wedi'i gyflawni dros y tair blynedd diwethaf. Mae'r awdurdod hwnnw mewn sefyllfa wahanol iawn heddiw i'r un roedd ynddi ar ddechrau tymor diwethaf y Cynulliad, ac rwy'n falch iawn o allu gwneud hynny - dweud rhywbeth am yr ymdrechion, yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, drwy ymyrraeth rheoleiddwyr a chynghorau eu hunain, yr holl ymdrechion hynny sydd wedi helpu i sicrhau'r darlun gwell hwn. Nawr, nid oes dim o hyn yn awgrymu nad oes heriau gwirioneddol yn parhau, ac ni allem gredu o gwbl ychwaith fod darparu gwasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru fel y byddem yn dymuno iddo fod ym mhob man am nad oes unrhyw awdurdod lleol ar hyn o bryd yn perfformio islaw'r safon sy'n ofynnol ganddo. Bydd yr holl Aelodau yma yn gyfarwydd â'r safbwynt sylfaenol. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dda am wneud rhywbeth. Mae'r rhan fwyaf yn dda am lawer o bethau. Nid oes yr un yn dda am bopeth. Yr her, felly, fydd parhau i sicrhau gwelliant mewn dyfodol a fydd yn heriol iawn yn wir. Mae awdurdodau lleol yn wynebu galw cynyddol am lawer o'u gwasanaethau, ac maent hwy a ninnau'n gwybod fod yr arian i ddiwallu'r anghenion hynny'n lleihau, ac yn ôl cynlluniau Llywodraeth ganolog ar hyn o bryd, fel y nododd Jenny Rathbone, bydd yn parhau i leihau ym mhob blwyddyn o'r tymor Cynulliad hwn. Nid oes neb rwyf wedi cyfarfod â hwy yn fy nghyfarfodydd gydag awdurdodau lleol hyd yn hyn yn dadlau y gellir cynnal y status quo. Mae natur y broblem wedi'i deall a'i rhannu'n eang; mae creu atebion iddi wedi bod yn llai hawdd. Ceisiodd y Llywodraeth ddiwethaf arwain, llunio agenda, gosod ffordd ymlaen a pherswadio eraill i ddilyn. Nid wyf yn credu y byddem wedi cael yr ymrwymiad cyson i newid pe na bai'r gwaith hwnnw wedi'i wneud. Nawr, nid oedd un agwedd ar yr ateb arfaethedig, y map, yn creu consensws. Mae llawer o agweddau eraill ar y Bil drafft a gyhoeddwyd gan fy rhagflaenydd wedi cael croeso eang, yn y Siambr hon a thu hwnt. Crybwyllodd Mike Hedges y pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol, ond roedd y Bil hefyd yn cynnwys rhagor o eglurder ynghylch y berthynas rhwng arweinyddiaeth weithredol a gwleidyddol, cryfhau rôl arweinyddiaeth gymunedol cynghorwyr unigol, a mesurau i wella ymatebolrwydd cynghorau lleol, i ateb y materion a nododd Mohammad Asghar.
All of these remain important ingredients in securing effective local government for the future. As far as the map is concerned, I have been clear in my discussions with local authorities and others that my intention is to spend these early weeks talking, listening and learning. My aim will be to seek a consensus, if that is at all possible, on a way forward. It is my strong preference for that consensus to include other political parties in this Assembly where common ground can be found. I was very grateful to meet the Member for Arfon last week and for a first and early discussion of these issues. [Interruption.] Yes, of course.
Mae'r rhain i gyd yn parhau i fod yn gynhwysion pwysig wrth sicrhau llywodraeth leol effeithiol ar gyfer y dyfodol. O ran y map, rwyf wedi bod yn glir yn fy nhrafodaethau gydag awdurdodau lleol ac eraill mai fy mwriad yw treulio'r wythnosau cynnar hyn yn siarad, gwrando a dysgu. Fy nod fydd ceisio consensws, os yw hynny'n bosibl o gwbl, ar y ffordd ymlaen. Byddwn yn awyddus iawn i'r consensws hwnnw gynnwys pleidiau gwleidyddol eraill yn y Cynulliad hwn lle y gellir dod o hyd i dir cyffredin. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â'r Aelod dros Arfon yr wythnos diwethaf ac am drafodaeth gyntaf a chynnar ar y materion hyn. [Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Thank you for giving way, Secretary. I'm pleased to hear that you're trying to seek a consensus on this. That wasn't always the approach of your predecessor. Would you agree with me that councils such as Monmouthshire have put forward interesting ideas in terms of providing a combined authority where you would not have the expense of reorganisation, but you would be making sure that those authorities worked together?
Diolch i chi am ildio, Ysgrifennydd. Rwy'n falch o glywed eich bod yn chwilio am gonsensws ar hyn. Nid dyna oedd ymagwedd eich rhagflaenydd bob amser. A fyddech yn cytuno bod cynghorau fel Sir Fynwy wedi cyflwyno syniadau diddorol o ran darparu awdurdod cyfunol lle na fyddai gennych y gost o ad-drefnu, ond byddech yn gwneud yn siŵr fod yr awdurdodau hynny'n gweithio gyda'i gilydd?
Llywydd, I was very glad to meet the leader and chief executive of Monmouthshire County Council 10 days ago. It was a very constructive meeting. They have a series of interesting ideas, which they've promised to provide further information to me about. I was very pleased to accept their invitation to visit Monmouthshire again to see some of the practical work they're doing around community hubs. I am keen to take ideas wherever they are to be found and to see how much we can make of them. I was particularly interested in my meeting with the Member for Arfon to learn more about the proposals set out in the Plaid Cymru manifesto around the regional approach that he has discussed here this afternoon, and the issues of accountability that are implicit in any democratic arrangement. In the same spirit, I look forward to meeting Janet Finch-Saunders over the next few weeks, and was grateful for her offer of co-operation where common ground can be found, for example in considering the future of community councils. Where there is a constructive contribution to be made, I will certainly want to respond in the same spirit. [Interruption.] Of course.
Lywydd, roeddwn yn falch iawn o gyfarfod ag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Sir Fynwy 10 diwrnod yn ôl. Roedd yn gyfarfod adeiladol iawn. Mae ganddynt gyfres o syniadau diddorol, ac maent wedi addo rhoi rhagor o wybodaeth i mi amdanynt. Roeddwn yn falch iawn o dderbyn eu gwahoddiad i ymweld â Mynwy eto i weld peth o'r gwaith ymarferol y maent yn ei wneud mewn perthynas â chanolfannau cymunedol. Rwy'n awyddus i gymryd syniadau ble bynnag y maent i'w cael ac i weld faint y gallwn wneud ohonynt. Yn fy nghyfarfod â'r Aelod dros Arfon, roedd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am yr argymhellion a nodir ym maniffesto Plaid Cymru ynglŷn â'r dull rhanbarthol y mae wedi'i drafod yma y prynhawn yma, a'r materion ynghylch atebolrwydd sydd ymhlyg mewn unrhyw drefniant democrataidd. Yn yr un ysbryd, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â Janet Finch-Saunders yn ystod yr wythnosau nesaf, ac roeddwn yn ddiolchgar am ei chynnig i gydweithredu lle y gellir dod o hyd i dir cyffredin, er enghraifft, wrth ystyried dyfodol cynghorau cymuned. Lle mae cyfraniad adeiladol i'w wneud, byddaf yn sicr yn awyddus i ymateb yn yr un ysbryd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Thank you, Cabinet Secretary, for giving way. We're coming to the end of the Minister's contribution. I would be grateful if you could confirm for the electorate next year that the mandate that will be given to elected members will be a full five-year mandate and there is, in your view, no need to curtail that mandate - so that people know who they're voting for when they go to the polls next May.
Diolch i chi am ildio, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn dod i ddiwedd cyfraniad y Gweinidog. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau ar gyfer yr etholaeth y flwyddyn nesaf y bydd y mandad a roddir i aelodau etholedig yn fandad pum mlynedd lawn ac nad oes angen cwtogi'r mandad hwnnw yn eich barn chi - fel bod pobl yn gwybod dros bwy y maent yn pleidleisio pan fyddant yn gwneud hynny fis Mai nesaf.
Llywydd, I'm very alert to the corrosive effect that uncertainty produces for those who work in local authorities and those who put themselves forward for election. I will publish a written statement tomorrow. I wanted to wait until I'd heard what people had said today before finalising that statement, but I'm happy to confirm, in direct answer to Andrew Davies's question, that that written statement will say that elections will go ahead for local councils in Wales in May of next year and that those elected can expect to serve a full five-year term. Llywydd, there are details in the motion before the Assembly this afternoon that the Government might have phrased differently. There are, for example, better explanations for the genuinely concerning low participation rates in local authorities than describing voters as apathetic. One of the things that I look forward to most in my new responsibilities will be to use the powers, which we hope will be devolved to the National Assembly through the Wales Bill, to put before you a genuinely radical set of proposals for the reform of the way in which elections are conducted in Wales - moving from the nineteenth to the twenty-first century and re-energising democratic engagement as we do so. But, in the broader spirit of wishing to create consensus, to participate in dialogue, and to pursue a way forward that is both positive and constructive, the Government side will support this motion this afternoon.
Lywydd, rwy'n effro iawn i'r effaith gyrydol y mae ansicrwydd yn ei chreu i'r rheini sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol a'r rhai sy'n sefyll etholiad. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yfory. Roeddwn eisiau aros nes fy mod wedi clywed beth oedd pobl wedi'i ddweud heddiw cyn cwblhau'r datganiad hwnnw, ond rwy'n hapus i gadarnhau, i ateb cwestiwn Andrew Davies yn uniongyrchol, y bydd y datganiad ysgrifenedig yn dweud y bydd etholiadau'n cael eu cynnal ar gyfer cynghorau lleol yng Nghymru ym mis Mai y flwyddyn nesaf ac y gall y rhai a etholir ddisgwyl gwasanaethu am dymor llawn o bum mlynedd. Lywydd, mae yna fanylion yn y cynnig gerbron y Cynulliad y prynhawn yma y gallai'r Llywodraeth fod wedi'u geirio'n wahanol. Er enghraifft, ceir ffyrdd gwell o esbonio'r cyfraddau cyfranogiad isel sy'n peri pryder gwirioneddol mewn awdurdodau lleol na galw pleidleiswyr yn apathetig. Un o'r pethau rwy'n edrych ymlaen atynt fwyaf yn fy nghyfrifoldebau newydd fydd defnyddio'r pwerau y gobeithiwn y cânt eu datganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy Fil Cymru, er mwyn rhoi set wirioneddol radical o gynigion ger eich bron ar gyfer diwygio'r ffordd y caiff etholiadau eu cynnal yng Nghymru - gan symud o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg i'r unfed ganrif ar hugain ac ailfywiogi ymwneud democrataidd wrth i ni wneud hynny. Ond yn yr ysbryd ehangach o fod eisiau creu consensws, cymryd rhan mewn deialog, a dilyn llwybr sy'n gadarnhaol ac yn adeiladol, bydd ochr y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma.
Thanks, everybody, for your contributions, and I very much welcome the Minister's closing comments. Janet Finch-Saunders began by reminding us that the Williams commission's recommendations to take public service delivery forward have largely been ignored, there has been little progress on the integration of health and social care, that roughshod has been ridden over our community councillors and local government officers, that early adopters of voluntary mergers have been rejected, and that with low voter turnout at local government elections and town and community council seats uncontested, it's time to re-engage with the electorate, Welsh Local Government Association and local authorities in order to regenerate local government. She also pointed out the Welsh Government's failure to implement powers under the UK Localism Act 2011, which could have empowered communities in Wales as they have in England and Scotland. Sian Gwenllian put the case for a single transferrable vote in local government elections. Andrew R.T. Davies reminded us that lines on the map mean little to communities and we must engage instead of dictating what will happen. Mike Hedges told us that sports facilities are good for health. Thanks for that, Mike. Of course, the auditor general has recommended, in his report on leisure services, that councils do things differently. He says that councils have no ideal size and big is not always better. It is a shame that colleagues in the last Welsh Government failed to recognise that. Suzy Davies talked about reform needing to be about a balance between Government, local authorities and citizens, recognising that local authorities can't do it all and the potential of co-production. She said, 'Whatever happened to people?', that Labour put state centralisation before mutuality in public service delivery as the best option and that Robert Owen would be ashamed. Mohammad Asghar talked about the need to shift power to the people, giving communities a right to challenge and deliver high-quality services of good value. Gareth Bennett talked about a need not to take services systematically away from the people they're supposed to serve and the need to support bottom-up reorganisation. Jenny Rathbone talked about the need for fundamental reform of how we provide services in Wales and the need for that to be delivered now; Rhianon Passmore, the need for a co-productive approach; and the Cabinet Secretary, the need to celebrate local government success - of course, we must - but that real challenges remain, and his intention to spend his early weeks in his new role talking, listening, learning and seeking consensus. At the final stage of the draft Local Government (Wales) Bill evidence sessions of the previous Communities, Equality and Local Government Committee, the leader of Gwynedd - one of the people representing the WLGA - told us, rightly, that surely the questions to ask are: what do we want to achieve through public services; what do we want to achieve through our local authorities; and then, which structure is required? There is a tendency for the horse and cart to be in the wrong order in this discussion. As the Williams commission report, which we heard referred to, on public service governance and delivery said: 'the only viable way to meet the needs and aspirations of people is to shift the emphasis of public service towards co-production and prevention.' As the newly established co-production network for Wales, which the Welsh Government must engage with, has said: this is about the total transformation of public services, delivering them in equal and reciprocal relationships between professionals, people using services, their families and their neighbours, enabling both services and neighbourhoods to become far more effective agents of change. After all, as Marcel Proust suggested, 'The real voyage of discovery consists not in seeking new landscapes, but in having new eyes.' Let us hope that the Welsh Government and all parties will have new eyes on this matter.
Diolch am eich cyfraniadau, bawb, ac rwy'n croesawu sylwadau terfynol y Gweinidog yn fawr iawn. Dechreuodd Janet Finch-Saunders drwy ein hatgoffa bod argymhellion comisiwn Williams i symud y broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn ei blaen wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth, mai ychydig iawn o gynnydd a gafwyd ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, fod ein cynghorwyr cymuned a'n swyddogion llywodraeth leol wedi'u sathru dan draed, fod y rhai a fabwysiadodd uno gwirfoddol yn gynnar wedi cael eu gwrthod, a gyda chanran isel yn pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol a seddau cynghorau tref a chymuned yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad, ei bod hi'n bryd ailymgysylltu â'r etholwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn adfywio llywodraeth leol. Hefyd, nododd fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu'r pwerau o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 y DU, a allai fod wedi grymuso cymunedau yng Nghymru fel y maent wedi'i wneud yn Lloegr a'r Alban. Cyflwynodd Sian Gwenllian yr achos dros bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn etholiadau llywodraeth leol. Cawsom ein hatgoffa gan Andrew R.T. Davies nad yw llinellau ar y map yn golygu llawer i gymunedau ac mae'n rhaid i ni ymgysylltu yn hytrach na datgan beth fydd yn digwydd. Dywedodd Mike Hedges wrthym fod cyfleusterau chwaraeon yn dda i iechyd. Diolch am hynny, Mike. Wrth gwrs, mae'r archwilydd cyffredinol wedi argymell, yn ei adroddiad ar wasanaethau hamdden, y dylai cynghorau wneud pethau'n wahanol. Dywed na cheir maint delfrydol ar gyfer cynghorau ac nid yw mawr bob amser yn well. Mae'n drueni fod cyd-Aelodau yn Llywodraeth ddiwethaf Cymru wedi methu â chydnabod hynny. Soniodd Suzy Davies am yr angen i ddiwygio ymwneud â chydbwysedd rhwng y Llywodraeth, awdurdodau lleol a dinasyddion, gan gydnabod na all awdurdodau lleol wneud y cyfan, a photensial cydgynhyrchu. Dywedodd 'Beth yn y byd a ddigwyddodd i bobl?', a bod Llafur yn rhoi canoli'r wladwriaeth o flaen cydfuddiannaeth o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus fel yr opsiwn gorau ac y byddai gan Robert Owen gywilydd. Soniodd Mohammad Asghar am yr angen i symud grym i'r bobl, gan roi hawl i gymunedau herio a darparu gwasanaethau o safon uchel ac o werth da am arian. Siaradodd Gareth Bennett am yr angen i beidio â mynd ati'n systematig i symud gwasanaethau oddi wrth y bobl y maent i fod i'w gwasanaethu a'r angen i gefnogi ad-drefnu o'r gwaelod i fyny. Soniodd Jenny Rathbone am yr angen i ddiwygio'n sylfaenol y modd y darparwn wasanaethau yng Nghymru a'r angen i hynny gael ei gyflawni yn awr; Rhianon Passmore, yr angen am agwedd gydgynhyrchiol; ac Ysgrifennydd y Cabinet, yr angen i ddathlu llwyddiant llywodraeth leol - wrth gwrs fod rhaid i ni - ond bod heriau gwirioneddol yn parhau, a'i fwriad i dreulio ei wythnosau cynnar yn ei rôl newydd yn siarad, gwrando, dysgu a chwilio am gonsensws. Ar gam olaf sesiynau tystiolaeth Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol blaenorol, dywedodd arweinydd Gwynedd wrthym - un o'r bobl sy'n cynrychioli Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - yn gwbl gywir, mai'r cwestiynau i'w gofyn yw'r rhain: beth rydym eisiau ei gyflawni drwy wasanaethau cyhoeddus; beth rydym eisiau ei gyflawni drwy ein hawdurdodau lleol; ac yna, pa strwythur sydd ei angen? Ceir tuedd i'r ceffyl a'r cert fod yn y drefn anghywir yn y drafodaeth hon. Fel roedd adroddiad comisiwn Williams y cyfeiriwyd ato ar lywodraethu a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn ei ddweud: 'yr unig ffordd hyfyw o ddiwallu anghenion a bodloni dyheadau pobl yw drwy symud y pwyslais o ran gwasanaethau cyhoeddus tuag at gydgynhyrchu ac atal.' Fel y dywedodd rhwydwaith cydgynhyrchu Cymru sydd newydd ei sefydlu, sy'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymgysylltu ag ef: mae hyn yn ymwneud â thrawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr, gan eu darparu mewn perthynas gyfartal a dwyochrog rhwng gweithwyr proffesiynol, pobl sy'n defnyddio gwasanaethau, eu teuluoedd a'u cymdogion, gan alluogi gwasanaethau a chymdogaethau i ddod yn gyfryngau llawer mwy effeithiol ar gyfer newid. Wedi'r cyfan, fel yr awgrymodd Marcel Proust, mae taith darganfyddiad go iawn yn galw nid yn unig am chwilio am dirweddau newydd, ond am gael llygaid newydd hefyd. Gadewch i ni obeithio y bydd gan Lywodraeth Cymru a'r holl bleidiau lygaid newydd ar y mater hwn.
Thank you. The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? I will defer voting on this item until voting time.
Diolch. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The next item therefore is the debate in the name of UKIP on the European Union. Before we start this debate, I'd like to remind Members of what I said last week regarding behaviour in the Chamber ahead of last week's debate on the European Union. I very much hope that we will have a debate in the same spirit as we had last week. I call on Neil Hamilton to move the motion.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl yn enw UKIP - y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd. Cyn imi ddechrau'r ddadl hon, hoffwn atgoffa'r Aelodau am yr hyn a ddywedais yr wythnos diwethaf ynglŷn ag ymddygiad yn y Siambr ar y ddadl ar yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos diwethaf. Rwyf yn mawr obeithio y cawn ddadl mewn cystal ysbryd yr wythnos hon ag y cawson ni yr wythnos ddiwethaf. Rwy'n galw ar Neil Hamilton i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. I think, to begin with, it would be fair to acknowledge that this referendum would not be taking place at all but for my party, and my party would not exist but for the upswell of feeling against the European Union, which has existed for quite some time. When we joined the European Community, as it then was, in 1973, anybody would think, from what we've heard in the course of this campaign, that Britain was an isolationist country. In fact, we were already a member of an international organisation - the European Free Trade Association. The way that the EEC was sold to the British people all those years ago was merely as a kind of extension of the free trade area. But, of course, as we now know, and as anybody who had done any research about what we now call the European Union at that time would have known, it was always a political project to create a kind of united states of Europe. The British people never wanted political union. Indeed, Edward Heath, as Prime Minister, in 1973 made the astonishing claim that it involved no surrender of essential sovereignty. Well, the EU is a 1940s answer to a 1930s problem. Of course, nobody wants war again in Europe, but nobody can credibly, I think, advance the proposition that a resurgent Germany would have territorial designs upon its neighbours. So, the problem that the EU was created to resolve is totally irrelevant in the twenty-first century. When we joined all those years ago, nobody expected that, at this date, we would have 28 countries in the EU, 19 of them in a single currency. Nobody would have believed that 500 million people would now have the right, automatically, to come to this country to live and to work. And nobody would have believed also, I think, that the EU would be able to tell us what sort of vacuum cleaners we would be allowed to buy in this country, nor that the Prime Minister of this country would have to spend days and days locked up in darkened rooms, asking the EU's permission to change the rules on who is entitled to British welfare benefits. So, the European Union that we're in now is very different from the one that the British people expected to belong to as a result of joining all those years ago. Of course, in the 1970s, the United Kingdom was an economic basket case, and Europe had done much better economically in the post-war period. Now, the truth is the opposite. It's the EU that is the economic basket case and Britain is, at least relatively speaking, resurgent. Since the beginning of this century, there has been almost no economic growth in the European Union. In the 30-odd years since 1980, the proportion of world trade accounted for by the EU has plummeted. It stood at 30 per cent in 1980. It's now 15 per cent and rapidly going down. Unemployment throughout Europe is a scandal: 49 per cent youth unemployment in Greece, 45 per cent in Spain, 39 per cent in Italy, 30 per cent in Portugal and 25 per cent in France because of the eurozone. This is part of the utopian political project that was embarked upon all those years ago, and despite the devastation that it has caused to countries that have basically become less and less competitive with Germany, they still push on regardless of the cost in human suffering. Germany now has an endemic trade surplus in the EU, and all those other countries have an endemic trade deficit. The problem can only get worse, not better. Now, what this referendum is about is democracy, not nationalism. And the problem is that the EU is unresponsive to popular opinion. We have one European commissioner; I think that a very small number of people could actually name him if you asked people in the street. We have 8 per cent of the votes in the Council of Ministers, and we elect 73 out of 751 Members of the European Parliament. There is no European demos; therefore, Europe can never be a democracy. We have seen, in the course of the last few weeks, project fear rampant in the country. The uncertainties of making the decision tomorrow to leave the EU have been up in headlines. Very few people have spoken about the possibility that there is no vote tomorrow for the status quo. Whatever happens tomorrow, there will be change, and we can't predict what that change will be in the European Union. The five presidents' report, published not so long ago - a few months ago - forecasts that for at least the 19 countries in the eurozone, they're going to move to further integration and centralisation. We cannot be immune to the consequences of that because we will be one of the nine countries out of 28 who will be on the outside of that centralising force. And the idea that Britain is going to be exempt from those forces is, of course, moonshine. We are told that there will be a leap in the dark if we vote for national independence tomorrow. It's curious to reflect on the history of that remark, because, of course, it was what Lord Derby said of Disraeli's 1867 reform Bill, which gave the vote to the industrial working classes. That was the leap in the dark then. And, of course, it would be a leap in the dark in one sense tomorrow if we restore democracy to this country for exactly the same reason. And for exactly the same reason as the 1867 reform Act was a success, leaving the EU will be a success for Britain tomorrow. The worst case scenario is that by leaving the single market, we would have a hurdle of an average of 3 to 4 per cent tariffs to jump over. The consequence on the other hand would be that - .
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n meddwl, i ddechrau, y byddai'n deg cydnabod na fyddai'r refferendwm hwn yn digwydd o gwbl oni bai am fy mhlaid, ac ni fyddai fy mhlaid yn bodoli oni bai am yr ymchwydd o deimlad yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi bodoli ers peth amser. Pan ymunasom â'r Gymuned Ewropeaidd, fel roedd bryd hynny, yn 1973, byddai unrhyw un yn meddwl, o'r hyn rydym wedi'i glywed yn ystod yr ymgyrch hon, fod Prydain yn wlad ymynysol. Yn wir, roeddem eisoes yn aelod o sefydliad rhyngwladol - Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop. Y ffordd y cafodd y Gymuned Economaidd Ewropeaidd ei gwerthu i bobl Prydain yr holl flynyddoedd hynny'n ôl oedd fel rhyw fath o estyniad o'r ardal masnach rydd. Ond wrth gwrs, fel y gwyddom bellach, ac fel y byddai unrhyw un a oedd wedi gwneud unrhyw ymchwil ar yr hyn rydym yn awr yn ei alw'n Undeb Ewropeaidd wedi gwybod bryd hynny, yr hyn ydoedd o'r cychwyn oedd prosiect gwleidyddol i greu rhyw fath o unol daleithiau Ewrop. Nid oedd pobl Prydain erioed eisiau undeb gwleidyddol. Yn wir, gwnaeth Edward Heath, y Prif Weinidog yn 1973, yr honiad rhyfeddol nad oedd yn galw am ildio unrhyw sofraniaeth hanfodol. Wel, mae'r UE yn ateb o'r 1940au i broblem o'r 1930au. Wrth gwrs, nid oes neb eisiau rhyfel eto yn Ewrop, ond ni chredaf y gall neb, yn gredadwy, hybu'r rhagdybiaeth y byddai Almaen sy'n cryfhau â bwriadau tiriogaethol mewn perthynas â'i chymdogion. Felly, mae'r broblem y crëwyd yr UE i'w datrys yn gwbl amherthnasol yn yr unfed ganrif ar hugain. Pan ymunasom yr holl flynyddoedd hynny'n ôl, nid oedd neb yn disgwyl y byddai gennym, ar y dyddiad hwn, 28 o wledydd yn yr UE, gydag 19 ohonynt ag arian sengl. Ni fyddai neb wedi credu y byddai 500 miliwn o bobl â hawl awtomatig yn awr i ddod i'r wlad hon i fyw ac i weithio. Ac nid wyf yn credu y byddai neb wedi credu ychwaith y byddai'r UE yn gallu dweud wrthym pa fath o sugnwyr llwch y caem eu prynu yn y wlad hon, nac ychwaith y byddai'n rhaid i Brif Weinidog y wlad hon dreulio dyddiau lawer wedi'i gloi mewn ystafelloedd tywyll yn gofyn am ganiatâd yr UE i newid y rheolau ar bwy sydd â hawl i fudd-daliadau lles Prydain. Felly, mae'r Undeb Ewropeaidd rydym ynddo yn awr yn wahanol iawn i'r un y disgwyliai pobl Prydain berthyn iddo o ganlyniad i ymuno yr holl flynyddoedd hynny'n ôl. Wrth gwrs, yn y 1970au, roedd y Deyrnas Unedig yn anobeithiol yn economaidd, ac roedd Ewrop wedi gwneud lawer yn well yn economaidd yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Yn awr, mae'r gwrthwyneb yn wir. Yr UE sy'n anobeithiol yn economaidd ac mae Prydain ar gynnydd, i raddau o leiaf. Ers dechrau'r ganrif hon, ni chafwyd y nesaf peth i ddim twf economaidd yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn yr oddeutu 30 mlynedd ers 1980, mae cyfran yr UE o fasnach y byd wedi plymio. Roedd yn 30 y cant yn 1980. Mae bellach yn 15 y cant ac yn gostwng yn gyflym. Mae diweithdra ledled Ewrop yn gywilyddus: diweithdra o 49 y cant ymysg pobl ifanc Gwlad Groeg, 45 y cant yn Sbaen, 39 y cant yn yr Eidal, 30 y cant ym Mhortiwgal a 25 y cant yn Ffrainc oherwydd ardal yr ewro. Mae hyn yn rhan o'r prosiect gwleidyddol iwtopaidd a ddechreuwyd yr holl flynyddoedd hynny'n ôl, ac er gwaethaf y dinistr a achosodd i wledydd sydd wedi dod yn llai ac yn llai cystadleuol gyda'r Almaen yn y bôn, maent yn dal i wthio yn eu blaenau beth bynnag y gost mewn dioddefaint dynol. Erbyn hyn mae gan yr Almaen warged masnach endemig yn yr UE, ac mae gan yr holl wledydd eraill hynny ddiffyg masnach endemig. Gwaethygu'n unig y gall y broblem ei wneud, nid gwella. Nawr, yr hyn y mae'r refferendwm hwn yn ymwneud ag ef yw democratiaeth, nid cenedlaetholdeb. A'r broblem yw nad yw'r UE yn ymateb i farn boblogaidd. Mae gennym un comisiynydd Ewropeaidd; rwy'n meddwl mai nifer fach iawn o bobl mewn gwirionedd a fyddai'n gallu ei enwi pe baech yn gofyn i bobl ar y stryd. Mae gennym 8 y cant o'r pleidleisiau yng Nghyngor y Gweinidogion, ac rydym yn ethol 73 o 751 Aelod o Senedd Ewrop. Nid oes unrhyw ddemos Ewropeaidd; felly, ni all Ewrop byth fod yn ddemocratiaeth. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, gwelsom brosiect ofn yn rhemp yn y wlad. Mae'r ansicrwydd o wneud y penderfyniad yfory i adael yr UE wedi bod yn y penawdau. Ychydig iawn o bobl sydd wedi siarad am y posibilrwydd na fydd yna bleidlais yfory dros y status quo. Beth bynnag fydd yn digwydd yfory, fe fydd yna newid, ac ni allwn ragweld beth fydd y newid yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae adroddiad y pum llywydd, a gyhoeddwyd heb fod mor bell yn ôl - ychydig fisoedd yn ôl - yn rhagweld eu bod yn mynd i symud tuag at integreiddio a chanoli pellach, ar gyfer yr 19 o wledydd yn ardal yr ewro fan lleiaf. Ni allwn fod yn ddiogel rhag canlyniadau hynny oherwydd byddwn yn un o'r 9 gwlad o 28 a fydd ar y tu allan i'r grym canolog hwnnw. Ac mae'r syniad y caiff Prydain ei heithrio rhag y grymoedd hynny'n nonsens wrth gwrs. Dywedir wrthym y byddwn yn neidio i'r tywyllwch drwy bleidleisio dros annibyniaeth genedlaethol yfory. Mae'n rhyfedd meddwl am hanes y sylw hwnnw, oherwydd, wrth gwrs, dyna a ddywedodd yr Arglwydd Derby am Fil diwygio Disraeli, a roddodd bleidlais i'r dosbarthiadau gweithiol diwydiannol. Dyna oedd y naid yn y tywyllwch bryd hynny. Ac wrth gwrs, byddai'n naid i'r tywyllwch mewn un ystyr yfory os byddwn yn adfer democratiaeth i'r wlad hon am yr un rheswm yn union. Ac am yr un rheswm yn union ag roedd Deddf diwygio 1867 yn llwyddiant, bydd gadael yr UE yn llwyddiant i Brydain yfory. Y senario waethaf yw y byddai gennym, drwy adael y farchnad sengl, rwystr o 3 i 4 y cant o dariffau i'w goresgyn. Y canlyniad ar y llaw arall yw y byddai - .
Can I intervene, sorry? If you're talking about car components - and there are a lot of car components made in Wales - then that figure is actually 9.8 per cent, which is almost 10 per cent. That would make a lot of car component factories in Wales uncompetitive, which would mean jobs would be lost and that means there'd be less tax, less money to pay for our NHS and less money to pay for our services in Wales. I think it's unacceptable.
Mae'n ddrwg gennyf, a gaf fi ymyrryd? Os ydych yn siarad am gydrannau ceir - ac mae llawer o gydrannau ceir yn cael eu gwneud yng Nghymru - mae'r ffigur hwnnw mewn gwirionedd yn 9.8 y cant, sef bron 10 y cant. Byddai hynny'n gwneud llawer o ffatrïoedd cydrannau ceir yng Nghymru yn anghystadleuol, a fyddai'n golygu bod swyddi'n cael eu colli ac mae hynny'n golygu y byddai yna lai o dreth, llai o arian i dalu am ein GIG a llai o arian i dalu am ein gwasanaethau yng Nghymru. Rwy'n credu ei fod yn annerbyniol.
I'm completely confident that there will be no tariffs on motor car components because - . [Interruption.] Well, let me just give you the facts. We import from Germany 820,000 vehicles a year and we have a deficit in motor car trade with Germany amounting to £10 billion a year. I don't think that Chancellor Merkel, going into an election in Germany next year, is going to advance the cause of a trade war with Britain as the best way for her party to win. [Interruption.] Matthias Wissmann, the president of Germany's automotive industry association says: 'Keeping Britain in the EU is more significant than keeping Greece in the euro.' They're interested in selling German cars to us just as much as we are interested in selling British cars to them. German engineering exports to Britain are £7 billion a year. Car exports are £18 billion a year. So, I don't think that there is going to be any trade war between Britain and Germany. I give way.
Rwy'n hollol ffyddiog na cheir unrhyw dariffau ar gydrannau ceir modur oherwydd - .[Torri ar draws.] Wel, gadewch i mi roi'r ffeithiau i chi'n syml. Rydym yn mewnforio 820,000 o gerbydau y flwyddyn o'r Almaen ac mae gennym ddiffyg yn y fasnach ceir modur gyda'r Almaen sy'n £10 biliwn y flwyddyn i gyd. Nid wyf yn credu y bydd y Canghellor Merkel, wrth iddi wynebu etholiad yn yr Almaen y flwyddyn nesaf, yn hyrwyddo achos rhyfel masnach gyda Phrydain fel y ffordd orau i'w phlaid ennill. [Torri ar draws.] Mae Matthias Wissmann, llywydd cymdeithas ddiwydiant modurol yr Almaen yn dweud bod cadw Prydain yn yr UE yn fwy arwyddocaol na chadw Gwlad Groeg yn yr ewro. Mae ganddynt ddiddordeb mewn gwerthu ceir Almaenig i ni lawn cymaint ag y mae gennym ni ddiddordeb mewn gwerthu ceir Prydeinig iddynt hwy. Mae allforion peirianneg Almaenig i Brydain yn £7 biliwn y flwyddyn. Mae allforion ceir yn £18 biliwn y flwyddyn. Felly, nid wyf yn credu y ceir rhyfel masnach rhwng Prydain a'r Almaen. Fe ildiaf.
I thank the gentleman for giving way, but can I just ask him: what does he know that the Ford Europe managing director and my local plant director do not know, when they've written to their employees to highlight the very risks that he says are not just inconsequential, but do not even exist? What does he know that Toyota in Britain doesn't know? What does he know that Rolls-Royce doesn't know?
Diolch i'r gŵr bonheddig am ildio, ond a gaf fi ofyn iddo: beth y mae'n ei wybod nad yw rheolwr gyfarwyddwr Ford Europe a chyfarwyddwr fy ffatri leol yn ei wybod, a hwythau wedi ysgrifennu at eu gweithwyr i dynnu sylw at yr union risgiau y mae'n dweud eu bod nid yn unig ddibwys, ond nad ydynt yn bodoli hyd yn oed? Beth y mae'n ei wybod nad yw Toyota ym Mhrydain yn ei wybod? Beth y mae'n ei wybod nad yw Rolls-Royce yn ei wybod?
What do the experts know?
Beth y mae'r arbenigwyr yn ei wybod?
Yes, we do like experts. The future is inherently unpredictable - I know that - but common sense tells us that Germany will not want a trade war with Britain when it would hurt them far more than it hurts us [Interruption.] The Treasury - . There's a limit to how many times I can give way. The Treasury's Armageddon forecast of just a few weeks ago forecast the worst that George Osborne could throw at us, and, although they were purporting to forecast what the state of the economy would be like in 2030, it would be nice if they could forecast the state of the economy next week. He's never met a single one of his forecasts for economic growth or the Government deficit in the five years or so that he's been the Chancellor. But he has purported to know, as an expert, what's going to happen in the year 2030, and what that report says is that, if we are inside the EU, we can expect to get a 37 per cent growth in disposable income in the next 15 years or so. Out of the EU, it would be a 29 per cent growth in income. So, there's going to be no collapse of the economy. Even on the worst-case Treasury forecast scenario, it would be a growth of 29 per cent rather than 37 per cent. But, I pay no attention to these guesstimates at all, because it's garbage in and garbage out with the computer. It all depends on the assumptions that you use. So, so much for David Cameron's forecast that this would trash the economy. Actually, what he has done, of course, is to trash the truth. And, as he described himself six years ago, as the heir to Blair, I think, out of the mouths of babes and sucklings. What voting to leave the EU tomorrow will do is enable us to take back control of some of the most important policy decisions that affect this country, in particular, of course, control of our borders, because uncontrolled immigration, adding a city the size of Cardiff to the population of the UK each year, from population increases alone, has brought massive wage compression so that, for millions of people now, the minimum wage is the maximum wage. The Bank of England's own research has shown that, for a 10 per cent increase in immigration, there's a 2 per cent fall in the wages of semi-skilled and unskilled people. Energy prices have been pushed up by crazy EU green energy schemes and green energy levies. We could probably halve the energy costs of Tata in Port Talbot if we had control of our own energy prices. We could take control of our own trade policy again. Like the United States, we could slap a 522 per cent levy on imports of cold-rolled steel from China, which are exported below cost on world markets, instead of the 24 per cent that the EU has proposed -
Ydym, rydym yn hoffi arbenigwyr. Mae'r dyfodol yn ei hanfod yn anrhagweladwy - fe wn i hynny - ond mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthym na fydd yr Almaen eisiau rhyfel masnach gyda Phrydain pan fyddai'n eu brifo hwy'n llawer mwy nag y mae'n ein brifo ni [Torri ar draws.] Y Trysorlys - . Mae yna derfyn ar faint o weithiau y gallaf ildio. Roedd rhagolwg Armagedon y Trysorlys ychydig wythnosau'n ôl yn unig yn rhagweld y gwaethaf y gallai George Osborne ei daflu atom, ac er eu bod yn honni y gallant ragweld sut gyflwr fyddai ar yr economi yn 2030, byddai'n braf pe gallent ragweld cyflwr yr economi yr wythnos nesaf. Nid yw erioed wedi cyflawni un o'i ragolygon ar gyfer twf economaidd neu ddiffyg y Llywodraeth yn yr oddeutu pum mlynedd y bu'n Ganghellor. Ond mae wedi honni ei fod yn gwybod, fel arbenigwr, beth sy'n mynd i ddigwydd yn y flwyddyn 2030, a'r hyn y mae'r adroddiad hwnnw'n ei ddweud yw, os ydym yn yr UE, gallwn ddisgwyl cael 37 y cant o dwf mewn incwm gwario yn yr oddeutu 15 mlynedd nesaf. Y tu allan i'r UE, byddai'n dwf o 29 y cant mewn incwm. Felly, ni fydd yna gwymp yn yr economi. Hyd yn oed yn ôl senario waethaf rhagolwg y Trysorlys, byddai'n dwf o 29 y cant yn hytrach na 37 y cant. Ond nid wyf yn rhoi unrhyw sylw i'r amcanddyfaliadau hyn o gwbl, gan mai rwtsh i mewn a rwtsh allan ydyw gyda'r cyfrifiadur. Mae'r cyfan yn dibynnu ar y rhagdybiaethau a ddefnyddiwch. Felly, naw wfft i ragolwg David Cameron y byddai hyn yn dinistrio'r economi. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae wedi'i wneud, wrth gwrs, yw dinistrio'r gwir. Ac fel y disgrifiodd ei hun chwe blynedd yn ôl, fel etifedd i Blair, rwy'n meddwl, allan o enau plant bychain a'r rhai'n sugno. Yr hyn y bydd pleidleisio i adael yr UE yfory yn ei wneud yw ein galluogi i adfer rheolaeth ar rai o'r penderfyniadau polisi pwysicaf sy'n effeithio ar y wlad hon, ac yn arbennig, wrth gwrs, rheolaeth ar ein ffiniau, oherwydd bod mewnfudo direolaeth, sy'n ychwanegu dinas o faint Caerdydd at boblogaeth y DU bob blwyddyn o gynnydd yn y boblogaeth yn unig, wedi gwasgu'n fawr ar gyflogau nes bod yr isafswm cyflog i filiynau o bobl bellach yn uchafswm cyflog. Ar gyfer cynnydd o 10 y cant mewn mewnfudo, mae ymchwil Banc Lloegr ei hun wedi dangos bod gostyngiad o 2 y cant yng nghyflogau pobl lled-grefftus a heb sgiliau. Mae prisiau ynni wedi cael eu gwthio i fyny gan gynlluniau ynni gwyrdd gwallgof yr UE ac ardollau ynni gwyrdd. Yn ôl pob tebyg gallem haneru costau ynni Tata ym Mhort Talbot pe bai gennym reolaeth dros ein prisiau ynni ein hunain. Gallem gymryd rheolaeth ar ein polisi masnach ein hunain eto. Fel yr Unol Daleithiau, gallem osod ardoll o 522 y cant ar fewnforion dur wedi'i rolio'n oer o Tsieina, sy'n cael ei allforio'n is na chost ar farchnadoedd y byd, yn hytrach na'r 24 y cant y mae'r UE wedi'i argymell -
Will you take an intervention on steel?
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar ddur?
I'm afraid I can't take an intervention.
Rwy'n ofni na allaf dderbyn ymyriad.
On steel.
Ar ddur.
He's not taking an intervention. Carry on.
Nid yw'n derbyn ymyriad. Ewch ymlaen.
Again, we would be outside the whole state aid rules of the EU, which preclude us from giving help to industries such as the steel industry in Port Talbot. We would be able to take control of our indirect taxes. The Labour Government, in 1997, was unable to abolish the VAT on domestic heating fuel, so we now have a 5 per cent charge on everybody's heating bills, and that's because the EU won't allow us to have control of our own VAT. Similarly on tampons, that's also been in the news recently, again, hasn't it? So, there are so many different ways in which the necessities of life are taxed and we have no means of taking a decision to remove them. As regards project fear, we have nothing to fear but fear itself, because this is an opportunity for Britain and an opportunity for Wales for the first time in 40 years, once again, to take charge of our own country. Project fear has concentrated in this Chamber upon structural funds to the Valleys and west Wales in particular; we heard that again this afternoon in questions. Well, over the course of the last six years, that amounted to about £3.5 billion. That's £600 million a year on average. The net gain that would come to the British Treasury as a result of leaving the EU would be £10 billion - that would be three times that particular budget, in itself. We could do everything that is done at present by the EU, and a lot more, if only we restored our national independence. And, £3.5 billion in six years is a drop in the ocean by the £75 billion annual deficit that George Osborne has as a hole in the public accounts. Similarly, on workers' rights, you would think that we never had any workers' rights in this country before we joined the EU, and yet the Equal Pay Act was introduced in 1970, the Employment Protection Act in 1975 and the Sex Discrimination Act in 1975 also. So, what the other parties in this Chamber that are against Britain recovering its independence suffer from is a poverty of ambition. What we're fighting here for is democracy in this country. In fact, because the Labour Party has concentrated on this workers' rights issue, they must imply that there will never ever be a Labour Government in Britain again, and, with Jeremy Corbyn as a leader, who can blame them for thinking that? But the problem that they fail to identify is that it's the British people, ultimately, who take these decisions, and, if a Government takes decisions of which they disapprove, under a democracy, you can get rid of them. In the EU, you can't. If you don't like the decisions of the European Commission, there is next to nothing that you can do to override them. So, it's a pathetic lack of self-confidence and trust in the judgment of the people. As for Plaid Cymru, it's a most bizarre form of nationalism to want to send power not down further to the people, but further up and away from them. They'd rather be governed from Brussels than from Westminster, which is a most extraordinary and rather - [interruption.] Which is a rather extraordinary reflection for a nationalist party, because, if we left the EU, we could devolve the policies that they are responsible for from Brussels down here to Cardiff. We used to see graffiti daubed all over Wales when I was a boy - 'Rhyddid i Gymru' - and their party, of course, doesn't believe in freedom for Wales, because they believe that we should just be a region of the European Union. Fundamentally, what both the Labour Party and Plaid Cymru believe is that the people of this country are not up to the job of running our own country for ourselves, and, tomorrow, the people of this country have the opportunity to make the decisive vote to restore our freedoms once again.
Unwaith eto, byddem y tu allan i holl reolau cymorth gwladwriaethol yr Undeb Ewropeaidd, sy'n ein rhwystro rhag rhoi cymorth i ddiwydiannau megis y diwydiant dur ym Mhort Talbot. Byddem yn gallu rheoli ein trethi anuniongyrchol. Ni allodd y Llywodraeth Lafur dddiddymu'r TAW ar danwydd gwresogi domestig yn 1997, felly mae gennym bellach dâl o 5 y cant ar filiau gwresogi pawb, ac mae hynny oherwydd nad yw'r UE yn caniatáu i ni gael rheolaeth ar ein TAW ein hunain. Yr un modd ar damponau, sydd hefyd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, unwaith eto, ond yw? Felly, mae yna gymaint o wahanol ffyrdd y gall angenrheidiau bywyd fod wedi'u trethu ac nid oes gennym unrhyw ffordd o wneud penderfyniad i gael gwared arnynt. O ran y prosiect ofn, nid oes gennym ddim i'w ofni ond ofn ei hun, gan fod hwn yn gyfle i Brydain ac yn gyfle i Gymru am y tro cyntaf ers 40 mlynedd, unwaith eto, i gymryd yr awennau yn ein gwlad ein hunain. Mae prosiect ofn wedi canolbwyntio yn y Siambr hon ar gronfeydd strwythurol i'r Cymoedd a gorllewin Cymru yn benodol; clywsom hynny eto y prynhawn yma yn ystod y cwestiynau. Wel, dros y chwe blynedd diwethaf, roedd hynny'n cyfateb i oddeutu £3.5 biliwn. Dyna £600 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd. Byddai'r cynnydd net a fyddai'n dod i Drysorlys Prydain o ganlyniad i adael yr UE yn £10 biliwn - byddai hynny ynddo'i hun yn dair gwaith y gyllideb honno. Gallem wneud popeth a wneir ar hyn o bryd gan yr UE, a llawer mwy, ond i ni adfer ein hannibyniaeth genedlaethol. Ac nid yw £3.5 biliwn mewn chwe blynedd ond yn ddiferyn yn y môr o gymharu â'r diffyg blynyddol o £75 biliwn o dwll sydd gan George Osborne yn y cyfrifon cyhoeddus. Yn yr un modd, ar hawliau gweithwyr, byddech yn meddwl na fu erioed unrhyw hawliau gweithwyr gennym yn y wlad hon cyn i ni ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, ac eto cyflwynwyd y Ddeddf Cyflog Cyfartal yn 1970, Deddf Diogelu Cyflogaeth yn 1975 a'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn 1975 hefyd. Felly, yr hyn y mae'r pleidiau eraill yn y Siambr hon sydd yn erbyn gweld Prydain yn adennill ei hannibyniaeth yn dioddef ohono yw tlodi uchelgais. Yr hyn rydym yn ymladd drosto yma yw democratiaeth yn y wlad hon. Mewn gwirionedd, gan fod y Blaid Lafur wedi canolbwyntio ar fater hawliau gweithwyr, rhaid eu bod yn awgrymu na fydd yna byth Lywodraeth Lafur ym Mhrydain eto, a gyda Jeremy Corbyn yn arweinydd, pwy all eu beio am feddwl hynny? Ond y broblem y maent yn methu â'i nodi yw mai pobl Prydain, yn y pen draw, sy'n gwneud y penderfyniadau hyn, ac os bydd Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau nad ydynt yn eu cymeradwyo, mewn democratiaeth, gallwch gael gwared arnynt. Yn yr UE, ni allwch wneud hynny. Os nad ydych yn hoffi penderfyniadau'r Comisiwn Ewropeaidd, nid oes y nesaf peth i ddim y gallwch ei wneud i'w goresgyn. Felly, mae'n ddiffyg pathetig o hunanhyder ac ymddiriedaeth ym marn y bobl. Ac am Blaid Cymru, mae'n ffurf hynod o ryfedd ar genedlaetholdeb i fod eisiau anfon pŵer nid i lawr ymhellach at y bobl, ond ymhellach i fyny ac i ffwrdd oddi wrthynt. Byddai'n well ganddynt gael eu llywodraethu o Frwsel nag o San Steffan, sy'n rhyfeddol a braidd yn - [Torri ar draws.] Sy'n syniad braidd yn eithriadol i blaid genedlaetholgar, oherwydd pe baem yn gadael yr UE, gallem ddatganoli'r polisïau y maent yn gyfrifol amdanynt o Frwsel i lawr yma i Gaerdydd. Roeddem yn arfer gweld graffiti wedi'i beintio ledled Cymru pan oeddwn yn fachgen - 'Rhyddid i Gymru' - ac nid yw eu plaid, wrth gwrs, yn credu mewn rhyddid i Gymru, am eu bod yn credu na ddylem fod yn ddim mwy na rhanbarth o'r Undeb Ewropeaidd. Yn y bôn, yr hyn y mae'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn credu yw nad yw bobl y wlad hon yn gallu gwneud y gwaith o redeg ein gwlad ein hunain drosom ein hunain, ac yfory, bydd pobl y wlad hon yn cael cyfle i bleidleisio'n bendant dros adfer ein rhyddid unwaith eto.
I'd like to try and address two of the main arguments of those who want us to walk away from the European Union. Now, whenever the benefits of membership are stressed, those people who want to abandon our European partners say, time and again, 'This is not EU money, it's our money we're getting back', and we've heard it again this afternoon. Of course, the UK makes a contribution to the EU; so we should. Those of us who believe in the EU, we believe in solidarity. We believe that the weakest part of Europe should be helped by the strongest parts, and Wales benefits from that. Of course, every club has a membership fee, and, in return for that, we get benefits, not least tariff-free access to the single market. If we withdraw from Europe, we'll still have costs. We'd still have to pay for access to this market, albeit without any ability to influence its rules. But the amount of money that we hand over to Brussels, to use the pejorative terms we've become inured to after 30 years of anti-European tabloid propaganda, and it's chipped away - the amount of money is relatively small. The Treasury says we make a net contribution of £8.4 billion a year, which is less than 1 per cent of all Government spending. So, let's put this in proportion. That's the size of our contribution. That's the size of the amount of money we hand over to Brussels: 1 per cent of all Government spending in the UK, enough to fund the NHS across the UK for 19 days a year. Now, we've had, I think, a thoroughly dishonest and unpleasant referendum campaign, capped by the disgraceful and disgusting dog-whistle images of Nigel Farage standing in front of posters of refugees, appealing to the most base elements of people's desperation, which has been brought on by austerity politics. I think that UKIP should be thoroughly ashamed of themselves for the low level of politics they've brought into this campaign.
Hoffwn geisio mynd i'r afael â dwy o brif ddadleuon y rhai hynny sydd eisiau i ni gerdded i ffwrdd oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, pa bryd bynnag y pwysleisir manteision aelodaeth, mae'r bobl sydd am droi eu cefnau ar ein partneriaid Ewropeaidd yn dweud dro ar ôl tro, 'Nid arian yr UE yw hwn, ond ein harian ein hunain rydym yn ei gael yn ôl', ac rydym wedi'i glywed eto y prynhawn yma. Wrth gwrs, mae'r DU yn gwneud cyfraniad i'r UE; ac fe ddylem. Y rhai ohonom sy'n credu yn yr UE, rydym yn credu mewn undod. Rydym yn credu y dylai'r rhan wannaf o Ewrop gael ei helpu gan y rhannau cryfaf, ac mae Cymru'n elwa o hynny. Wrth gwrs, mae gan bob clwb ffi aelodaeth, ac yn gyfnewid am hynny, rydym yn cael manteision, nid yn lleiaf y mynediad heb dariff i'r farchnad sengl. Os byddwn yn tynnu'n ôl o Ewrop, byddwn yn dal i wynebu costau. Byddai'n dal yn rhaid i ni dalu am fynediad i'r farchnad hon, a hynny heb unrhyw allu i ddylanwadu ar ei rheolau. Ond mae'r swm o arian rydym yn ei drosglwyddo i Frwsel, i ddefnyddio'r termau difrïol rydym wedi ymgyfarwyddo â hwy ar ôl 30 mlynedd o bropaganda tabloid a gwrth-Ewropeaidd, ac mae wedi naddu ymaith - mae'r swm o arian yn gymharol fach. Dywed y Trysorlys ein bod yn gwneud cyfraniad net o £8.4 biliwn y flwyddyn, sy'n llai nag 1 y cant o holl wariant y Llywodraeth. Felly, gadewch i ni edrych ar hyn yn rhesymol. Dyna faint ein cyfraniad. Dyna faint y swm o arian rydym yn ei drosglwyddo i Frwsel: 1 y cant o holl wariant Llywodraeth y DU, digon i ariannu'r GIG ar draws y DU am 19 diwrnod y flwyddyn. Nawr, rwy'n meddwl ein bod wedi cael ymgyrch refferendwm gyfan gwbl anonest ac annymunol, ac yn goron arni cafwyd y lluniau 'chwiban y ci' gwarthus a ffiaidd o Nigel Farage yn sefyll o flaen posteri o ffoaduriaid, gan apelio at yr elfennau mwyaf gwael o anobaith pobl a achoswyd gan wleidyddiaeth caledi. Rwy'n credu y dylai UKIP fod â chywilydd llwyr ohonynt eu hunain am y lefel isel o wleidyddiaeth y maent wedi'i gyflwyno i'r ymgyrch hon.
By listening to the people on the doorstep? Thank you.
Drwy wrando ar y bobl ar garreg y drws? Diolch.
Well, the people on the doorstep, David Rowlands, have genuine grievances - genuine grievances - and your gutter politics do nothing to bring solutions to the everyday problems - [Interruption.] If you want to make an intervention, stand up, but gabbling away like a goldfish doesn't do anybody any good. People on the doorstep are genuinely fearful, and you are playing into the worst base elements, with none of the -
Wel, mae gan y bobl ar garreg y drws, David Rowlands, gwynion dilys - cwynion dilys - ac nid yw gwleidyddiaeth y gwter a gafwyd gennych chi yn gwneud dim i ddod ag atebion i broblemau pob dydd - [Torri ar draws.] Os ydych am ymyrryd, codwch ar eich traed, ond nid yw brygawthan fel pysgodyn aur yn gwneud unrhyw les i neb. Mae pobl ar garreg y drws yn wirioneddol ofnus, ac rydych yn chwarae gyda'r elfennau gwaethaf a mwyaf gwael, a dim o'r -
Respect the people on the doorstep, please.
Parchwch y bobl ar garreg y drws, os gwelwch yn dda.
Well, that wasn't really worth waiting for, was it? [Laughter.] I do listen to the people on the doorstep. I have long, painful discussions with people on the doorstep explaining to them that the problems we face - and in constituencies like Llanelli, we face them in spades - of left-behind areas, because of the economic model we have in this country, none of that is going to be helped by pulling out of the EU. Neil Hamilton has talked about car manufacturing this afternoon. In Llanelli we have a successful car-manufacturing plant, owned by a foreign company. We have a sister plant in another part of the EU. Are we honestly saying that, if we pull out, the medium- and long-term capital investment decisions to be made by the headquarters of that plant are going to favour a plant outside of the trading bloc with tariffs or inside of the trading bloc without tariffs? People don't buy that. It's dishonest politics that you're sending. So, let's be clear that the -
Wel, nid oedd hynny'n werth aros amdano mewn gwirionedd, oedd e? [Chwerthin.] Rwy'n gwrando ar y bobl ar garreg y drws. Rwy'n cael trafodaethau hir a phoenus gyda phobl ar garreg y drws yn egluro wrthynt fod y problemau a wynebwn - ac mewn etholaethau fel Llanelli, rydym yn wynebu llwyth ohonynt - sy'n ymwneud ag ardaloedd wedi'u gadael ar ôl oherwydd y model economaidd sydd gennym yn y wlad hon, ac nid oes dim o hynny'n mynd i gael ei helpu drwy dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Neil Hamilton wedi siarad am weithgynhyrchu ceir y prynhawn yma. Yn Llanelli mae gennym ffatri gweithgynhyrchu ceir lwyddiannus, sy'n eiddo i gwmni tramor. Mae gennym chwaer ffatri mewn rhan arall o'r UE. Os ydym yn gadael, a ydym o ddifrif yn dweud bod y penderfyniadau yn y tymor canolig a'r tymor hir ynglŷn â buddsoddi cyfalaf sydd i'w gwneud gan bencadlys y gwaith hwnnw yn mynd i ffafrio ffatri y tu allan i'r bloc masnachu gyda thariffau neu y tu mewn i'r bloc masnachu heb dariffau? Nid yw pobl yn derbyn hynny. Rydych yn defnyddio gwleidyddiaeth anonest. Felly, gadewch i ni fod yn glir fod y -
If the company he's speaking to is Ford, is he not aware that Ford had a plant in this country - at least in the UK, which was in Southampton - that went instead, that closed down in Southampton and moved, to Turkey, paid for with European Union money, paid with our own taxpayers?
Os mai'r cwmni y mae'n siarad â hwy yw Ford, onid yw'n ymwybodol fod gan Ford ffatri yn y wlad hon - yn y DU o leiaf, yn Southampton - a aeth yn lle hynny, a gaeodd yn Southampton, a symud i Dwrci, a thalwyd amdani ag arian yr Undeb Ewropeaidd, a dalwyd gan ein trethdalwyr ein hunain?
I appreciate he's new to these parts, but Ford does not have a plant in Llanelli, and the forces you describe are global forces - global forces we are better equipped to deal with by being part of a strong trading bloc. So, the disingenuous pledges of the 'leave' campaign of what they'd do with a supposed mountain of money are not worth the paper they are written on. So, it brings me to the second of the arguments we've heard here from the right, and that's not that the EU has secured peace in Europe over the last 70 years, but our membership of NATO. And, of course, the promise of American military protection has been crucial during the cold war, but peace is more than just the absence of war. Three generations of peace are built upon layers of confidence and understanding between peoples and crucially - crucially - the institutions to resolve differences. For my holiday reading I made my way through Christopher Clark's mighty history of the run-up to the first world war, 'The Sleepwalkers'. He points out that one of the reasons the economic turmoil of the eurozone crisis did not result in fighting, while the events of 1914 did, was the existence of powerful supranational institutions. I'm proud that, by being part of the EU, we have played a role in an alliance that has brought stability and prosperity to a continent with a history of instability. None of this is an accident. It's the result of patient and painful integration: economic, democratic and, yes, bureaucratic. But give me directives over demagoguery any day.
Rwy'n sylweddoli ei fod yn newydd i'r rhannau hyn, ond nid oes gan Ford ffatri yn Llanelli, ac mae'r grymoedd rydych yn eu disgrifio yn rymoedd byd-eang - grymoedd byd-eang rydym wedi'n harfogi'n well i ymdrin â hwy drwy fod yn rhan o floc masnachu cryf. Felly, nid yw addewidion annidwyll yr ymgyrch i adael ynglŷn â'r hyn y byddent yn ei wneud gyda mynydd tybiedig o arian yn werth y papur y cawsant eu hysgrifennu arno. Felly, daw hynny â mi at yr ail o'r dadleuon a glywsom yma gan yr asgell dde, ac nid y ffaith fod yr UE wedi sicrhau heddwch yn Ewrop dros y 70 mlynedd diwethaf, ond ein haelodaeth o NATO. Ac wrth gwrs, mae'r addewid o amddiffyniad milwrol Americanaidd wedi bod yn allweddol yn ystod y rhyfel oer, ond mae heddwch yn ymwneud â mwy nag absenoldeb rhyfel. Adeiladwyd tair cenhedlaeth o heddwch ar haenau o hyder a dealltwriaeth rhwng pobloedd ac yn hollbwysig - yn hollbwysig - ar y sefydliadau i ddatrys gwahaniaethau. Ar fy ngwyliau darllenais drwy lyfr hanes grymus Christopher Clark am y cyfnod yn arwain at y rhyfel byd cyntaf, 'The Sleepwalkers'. Mae'n nodi mai un o'r rhesymau pam nad arweiniodd cythrwfl economaidd yr argyfwng yn ardal yr ewro at ymladd, er bod digwyddiadau 1914 wedi gwneud hynny, oedd bodolaeth sefydliadau goruwchgenedlaethol pwerus. Trwy fod yn rhan o'r UE, rwy'n falch ein bod wedi chwarae rhan mewn cynghrair sydd wedi dwyn sefydlogrwydd a ffyniant i gyfandir sydd â hanes o ansefydlogrwydd. Nid damwain mo hynny. Canlyniad integreiddio amyneddgar a phoenus ydyw: economaidd, democrataidd ac ie, biwrocrataidd. Ond rhowch gyfarwyddebau i mi yn lle demagogiaeth unrhyw ddiwrnod.
I welcome the opportunity to take part in this debate. Tomorrow every citizen over the age of 18 from every part of the UK gets to decide whether we remain as part of the European Union or whether we become independent once more. This is democracy. People can decide and they can choose for themselves. It will be of little surprise to anyone that I believe that Wales is better off out. My colleagues will be making the economic arguments, the security arguments and the political arguments for why Wales would be better off outside the EU. I want to focus my comments today on the health arguments for leaving. Under European law, Governments and citizens of other European Economic Area countries and Switzerland reimburse the UK for the cost of the NHS providing treatment to people they are responsible for, just as the UK reimburses other EEA countries and Switzerland for the cost of providing treatment to people we are responsible for. However, figures obtained by the Labour MP, John Mann, show a huge deficit to the UK. The UK paid out a staggering £674 million to European countries for their health costs last year, but we only received £49 million in return. We are subsidising the healthcare of other EU countries. [Interruption.] We are.
Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Yfory bydd cyfle i bob dinesydd dros 18 oed o bob rhan o'r DU benderfynu a ydym yn parhau i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd neu a ydym yn dod yn annibynnol unwaith eto. Democratiaeth yw hyn. Gall pobl benderfynu a gallant ddewis drostynt eu hunain. Ni fydd yn fawr o syndod i neb fy mod yn credu bod Cymru yn well ei byd allan o'r UE. Bydd fy nghyd-Aelodau yn cyflwyno'r dadleuon economaidd, y dadleuon ynglŷn â diogelwch a'r dadleuon gwleidyddol pam y byddai Cymru ar ei hennill y tu allan i'r UE. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar y dadleuon iechyd dros adael. O dan y gyfraith Ewropeaidd, mae Llywodraethau a dinasyddion o wledydd eraill Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ad-dalu'r DU am y gost o ddarparu triniaeth GIG i bobl y maent yn gyfrifol amdanynt, yn union fel y mae'r DU yn ad-dalu gwledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir am y gost o ddarparu triniaeth i bobl rydym yn gyfrifol amdanynt. Fodd bynnag, mae ffigurau a gafwyd gan yr AS Llafur, John Mann, yn dangos diffyg enfawr i'r DU. Talodd y DU y swm anhygoel o £674 miliwn i wledydd Ewrop am eu costau iechyd y llynedd, ond £49 miliwn yn unig a gawsom yn ôl. Rydym yn rhoi cymhorthdal tuag at ofal iechyd gwledydd eraill yr UE. [Torri ar draws.] Mae'n wir.
Would you give way on that very point?
A wnewch chi ildio ar yr union bwynt hwnnw?
No, Huw, because I'm trying to get through something. Is that all right? However, is it right for people living outside of the UK who pay no tax and national insurance to just continue to benefit from our free healthcare service, or should we insist that those living outside the UK should have health insurance? And the biggest threat to our NHS comes from EU directives. In 2011 the EU introduced a healthcare directive that Labour MPs warned would lead to the demise of the publicly-funded national health service. Negotiations are continuing on the EU's proposed trade and investment partnership or TTIP deal with the USA, which could have a serious impact on the NHS and lead to the privatisation of our national health service.
Na, Huw, am fy mod i'n ceisio mynd drwy rywbeth. A yw hynny'n iawn? Fodd bynnag, a yw'n iawn fod pobl y tu allan i'r Deyrnas Unedig nad ydynt yn talu treth ac yswiriant gwladol yn cael parhau i fanteisio ar ein gwasanaeth gofal iechyd rhad ac am ddim, neu a ddylem fynnu y dylai'r rhai sy'n byw y tu allan i'r DU gael yswiriant iechyd? A'r bygythiad mwyaf i'n GIG yw cyfarwyddebau'r UE. Yn 2011 cyflwynodd yr UE gyfarwyddeb gofal iechyd y rhybuddiodd ASau Llafur y gallai arwain at dranc y gwasanaeth iechyd gwladol a ariennir yn gyhoeddus. Mae trafodaethau'n parhau ar bartneriaeth fasnach a buddsoddi arfaethedig yr UE neu'r cytundeb TTIP arfaethedig gydag UDA, a allai effeithio'n ddifrifol ar y GIG ac arwain at breifateiddio ein gwasanaeth iechyd gwladol.
'The British Medical Journal' recently warned that the risk to the NHS would be that it could never afford to return a service in-house once it was contracted out, and top QCs have warned that TTIP poses a real and serious risk to future UK Government decision making in respect of the NHS. This means, if we do remain in the EU, it will become harder and harder to keep the NHS in public hands. And Labour politicians from all levels and the trade unions have all attacked TTIP, yet those same politicians are arguing for us to remain as part of the EU. The EU is incapable of reform. Faced with the possibility of Brexit, they couldn't even agree the meagre changes sought by our timid Prime Minister. The EU dances to the tune of the big corporations and big money. This is clearly evident from the TTIP negotiations and the introduction of many laws that undermine the NHS. EU officials have imposed extensive expensive restrictions on the development of cancer drugs, with the clinical trials directive creating serious problems, delaying the testing of lifesaving drugs. The European court will increasingly use the charter of fundamental rights to take more control of public health if we vote to stay. Remaining a member of the European Union is a clear and present danger to the very existence of our NHS. I say: don't allow Brussels to take control of our NHS, don't allow them to threaten patient safety, but, above all, don't allow them to subject our NHS to the greed of the big US corporations, and secure the future of our NHS by voting 'leave' tomorrow. Diolch yn fawr.
Yn ddiweddar rhybuddiodd 'The British Medical Journal' mai'r risg i'r GIG fyddai na allai byth fforddio dod â gwasanaeth yn ôl yn fewnol ar ôl ei roi allan ar gontract ac mae uwch-gwnsleriaid y frenhines wedi rhybuddio bod TTIP yn creu risg real a difrifol i benderfyniadau Llywodraeth y DU yn y dyfodol mewn perthynas â'r GIG. Os ydym yn parhau i fod yn yr UE, golyga hyn y bydd cadw'r GIG mewn dwylo cyhoeddus yn fwyfwy anodd. Ac mae gwleidyddion Llafur ar bob lefel a'r undebau llafur i gyd wedi ymosod ar TTIP, ac eto mae'r un gwleidyddion yn dadlau y dylem aros yn rhan o'r UE. Nid yw'r UE yn gallu diwygio. Yn wyneb y posibilrwydd o adael yr UE, ni allent hyd yn oed gytuno ar y newidiadau pitw y ceisiodd ein Prif Weinidog llywaeth eu hennill. Mae'r UE o dan ddylanwad y corfforaethau mawr ac arian mawr. Mae hyn yn amlwg o'r trafodaethau TTIP a chyflwyno llawer o ddeddfau sy'n tanseilio'r GIG. Mae swyddogion yr UE wedi gosod cyfyngiadau drud a helaeth ar ddatblygu cyffuriau canser, gyda'r gyfarwyddeb treialon clinigol yn creu problemau difrifol, ac yn oedi'r gwaith o gynnal profion ar gyffuriau sy'n achub bywyd. Bydd y llys Ewropeaidd yn gwneud defnydd cynyddol o'r siarter hawliau sylfaenol i reoli mwy ar iechyd y cyhoedd os byddwn yn pleidleisio dros aros. Mae parhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn berygl clir a real i fodolaeth ein GIG. Rwy'n dweud: peidiwch â gadael i Frwsel gymryd rheolaeth ar ein GIG, peidiwch â chaniatáu iddynt fygwth diogelwch cleifion, ond yn anad dim, peidiwch â chaniatáu iddynt ddarostwng ein GIG i drachwant corfforaethau mawr yr Unol Daleithiau, a diogelwch ddyfodol ein GIG drwy bleidleisio dros adael yfory. Diolch yn fawr.
A very long referendum campaign is, thankfully, due to come to an end, and I'm sure many will agree that the tone, the nature and the content of this campaign has not been a particularly good advertisement for democratic engagement. As the campaign enters its final hours, it appears that the 'leave' side in particular wish to focus on two primary areas, those of immigration and sovereignty. Sadly, on both issues, the 'leave' side have tried their best in not allowing the facts to get in the way of a good story. The facts on the issue of immigration have been well versed, and I do not wish to spend too much time repeating them this afternoon, save to say that I am of the firm belief that migration has made Wales richer in both a cultural and economic sense. There will always be a challenge in open, democratic societies in striking a balance between multiculturalism and integration, but the terms of such debate and discussion are only ever helpful when they're conducted in a spirit of tolerance, rather than seeking to play up fears of the other. Perhaps one day such a context will exist. I'd like to specifically address the question of sovereignty, which is often intentionally conflated with the principle of democracy by many Brexiteers. In listening carefully to those making the case for the reassertion of state sovereignty, one could be forgiven for thinking that we're in the company of Thomas Cromwell, back all those centuries ago. Back then, there were arguments over whether Parliament's sovereignty superseded holy scripture; now, it is parliamentary sovereignty versus EU regulation. There was never a glorious time of absolute parliamentary sovereignty, even during those days of empire. In the twentieth century, following the devastation of war, international treaties creating fundamental rights for individuals and global conventions outlawing genocide were accepted as being universal and beyond the so-called sovereignty of any nation or any state. And, on this continent, blood soaked for much of the last century, nations decided to come together in a spirit of peace and solidarity. And, on this point, I want to emphasise that I find the suggestion that a UK withdrawal from the EU would lead to war to be crass and distasteful, but let no-one ever underestimate the fact that the European Union has laid the infrastructure for peace that makes war between its members impossible. From a Welsh perspective, of course, we're able to compare and contrast two very different unions of which we are members. The UK is based on the principle that the Westminster Parliament is supreme. We need no written constitution here to know that to be, indeed, the political reality. Here we have an unequal, uneven union built to endure, not to thrive. The EU, for all of its faults and its imperfections, and the challenges that it faces, has principles of subsidiarity and consensus built into its very anatomy. For those of us who love Wales, we must consider where power will lie in the event of a UK withdrawal from the European Union tomorrow. A 'leave' vote will amount to a transfer of functions from the European partnership to the hands of Whitehall, who will be free to do as they please to Welsh communities. A vote to leave means Europe leaving Wales behind in the shadows of the Palace of Westminster, occupied by an establishment drunk on a new self-confidence.
Mae ymgyrch refferendwm hir iawn ar fin dod i ben, diolch byth, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn cytuno nad yw tôn, natur a chynnwys yr ymgyrch hon wedi bod yn hysbyseb arbennig o dda i ymwneud democrataidd. Wrth i'r ymgyrch wynebu ei horiau olaf, mae'n ymddangos bod yr ochr dros adael yn arbennig yn dymuno canolbwyntio ar ddau faes sylfaenol, sef mewnfudo a sofraniaeth. Yn anffodus, ar y ddau fater, mae'r ochr dros adael wedi ceisio eu gorau glas i beidio â gadael i'r ffeithiau fynd o ffordd stori dda. Clywyd y ffeithiau ar fater mewnfudo droeon, ac nid wyf yn dymuno treulio gormod o amser yn eu hailadrodd y prynhawn yma, heblaw i ddweud fy mod yn credu'n gadarn fod ymfudo wedi gwneud Cymru'n gyfoethocach mewn ystyr ddiwylliannol ac economaidd. Bydd yna bob amser her mewn cymdeithasau agored a democrataidd i sicrhau cydbwysedd rhwng amlddiwylliannedd ac integreiddio, ond nid yw termau dadl a thrafodaeth o'r fath ond yn ddefnyddiol pan gânt eu cynnal mewn ysbryd o oddefgarwch, yn hytrach na cheisio cynyddu ofnau'r ochr arall. Efallai y bydd cyd-destun o'r fath yn bodoli rhyw ddydd. Hoffwn fynd i'r afael yn benodol â mater sofraniaeth, sy'n aml yn cael ei gyfuno'n fwriadol ag egwyddor democratiaeth gan lawer o'r rhai sydd eisiau i Brydain adael yr UE. Wrth wrando'n ofalus ar y rhai sy'n gwneud yr achos dros ailddatgan sofraniaeth y wladwriaeth, gelllid maddau i rywun am feddwl ein bod yng nghwmni Thomas Cromwell, yr holl ganrifoedd hynny'n ôl. Bryd hynny, roedd yna ddadleuon ynglŷn ag a oedd sofraniaeth y Senedd yn disodli'r ysgrythur; yn awr, mae'n fater o sofraniaeth seneddol yn erbyn rheoliadau'r UE. Ni chafwyd erioed amser gogoneddus o sofraniaeth seneddol absoliwt, hyd yn oed yn ystod dyddiau'r ymerodraeth. Yn yr ugeinfed ganrif, yn dilyn dinistr rhyfel, cafodd cytuniadau rhyngwladol a oedd yn creu hawliau sylfaenol i unigolion a chonfensiynau byd-eang yn gwahardd hil-laddiad eu derbyn fel rhai cyffredinol a thu hwnt i'r hyn a elwid yn sofraniaeth unrhyw genedl neu wladwriaeth. Ac ar y cyfandir hwn, a olchwyd â gwaed dros lawer o'r ganrif ddiwethaf, penderfynodd cenhedloedd ddod at ei gilydd mewn ysbryd o heddwch ac undod. Ac ar y pwynt hwn, hoffwn bwysleisio fy mod yn ystyried yr awgrym y byddai i'r DU adael yr UE yn arwain at ryfel yn anneallus a di-chwaeth, ond peidiwch â gadael i neb fychanu'r ffaith fod yr Undeb Ewropeaidd wedi gosod y seilwaith ar gyfer heddwch sy'n gwneud rhyfel rhwng ei aelodau'n amhosibl. O safbwynt Cymru, wrth gwrs, gallwn gymharu a chyferbynnu dau undeb gwahanol iawn rydym yn aelodau ohonynt. Mae'r DU yn seiliedig ar yr egwyddor fod y Senedd yn San Steffan yn oruchaf. Nid oes angen unrhyw gyfansoddiad ysgrifenedig arnom yma i wybod mai dyna'r realiti gwleidyddol yn wir. Yma mae gennym undeb anghyfartal, anwastad a adeiladwyd i bara, nid i ffynnu. Mae gan yr UE, er ei holl ddiffygion a'i amherffeithrwydd, a'r heriau y mae'n eu hwynebu, egwyddorion sybsidiaredd a chonsensws wedi'u hadeiladu i mewn i'w wead sylfaenol. I'r rhai ohonom sy'n caru Cymru, rhaid i ni ystyried lle y bydd y pŵer pe bai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yfory. Bydd pleidlais dros adael yn gyfystyr â throsglwyddo swyddogaethau o'r bartneriaeth Ewropeaidd i ddwylo Whitehall, a fydd yn rhydd i wneud fel y mynn i gymunedau Cymru. Bydd pleidlais dros adael yn golygu bod Ewrop yn gadael Cymru ar ôl yng nghysgodion Palas San Steffan ym meddiant sefydliad wedi meddwi ar hunanhyder newydd.
It's been a long campaign, and perhaps in many ways we'll all be glad to see the back of it, whatever the outcome.
Bu'n ymgyrch hir, ac efallai mewn sawl ffordd, bydd pawb ohonom yn falch o weld ei chefn, beth bynnag yw'r canlyniad.
You can't chew gum when you're speaking to the National Assembly.
Ni allwch gnoi gwm pan fyddwch yn siarad â'r Cynulliad Cenedlaethol.
Okay. Apologies for that.
Iawn. Ymddiheuriadau am hynny.
Carry on with your contribution.
Ewch ymlaen â'ch cyfraniad.
Disregard anything that was said to you from another place. Just carry on with your contribution.
Diystyrwch unrhyw beth a ddywedwyd wrthych mewn man arall. Parhewch â'ch cyfraniad.
Thank you, Llywydd. There was no disrespect intended. I'm tempted to ask: where do you start on the EU? We've been bombarded with so many facts and figures from both sides, most of them of course conflicting with each other. There are so many aspects of this question to consider. Some of them we have already covered. It's impossible to cover all of it in one speech, so I will confine myself to the issue that Labour Members frequently raise, of workers' rights, which they are completely correct to do. But I have to point out that, in my opinion, there is no divinely ordained level of workers' rights. We had workers' rights legislation in the UK before we joined the EU, and we will still have it once we have left. The question is: what level of workers' rights? [Interruption.] That is indeed the question, but the point is this: that it is a matter for an elected UK Government to decide on that, not an unelected bunch of EU bureaucrats. If the electorate of the UK disagrees with the employment policies of an elected UK Government, they can always vote out the Government at the next election. That is what is known as democracy, and that is what we've had in this country for a long time, which is now being impeded by the EU. Of course, Labour Members have every chance to convince the UK electorate of the need for more a left-wing programme now that they have such a capable leader in Jeremy Corbyn. My own view on workers' rights is that there are actually two versions. There is the version peddled by the Labour Members, which depends on regulations emanating from governments, and there is the version in the real world, which depends on the supply and demand of labour in the employment market. In this real-world scenario, wages and working conditions improve as demand for workers in an industry increases. Without a ready supply of alternative labour, bosses are forced to properly pay their workers, treat them reasonably well and even invest in their training. But, since 1975, when we last voted in a European referendum, more than 200 million workers have entered the EU labour market. [Interruption.] No. The inevitable effect has been to depress wages and worsen working conditions for British workers. More and more foreigners arrive and are used by big business as cheap labour. That is one important factor in why wages at the bottom end lag, and why we have the so-called 'Amazon culture'. This reality is a nightmare for British workers. Now, Labour has made great play about the people supporting the 'leave' campaign. Well, perhaps it is a motley crew of characters, but then it is inevitable in such a referendum that you do have strange bedfellows occurring. You remainers are in bed with David Cameron and George Osborne, the architects of austerity, as you keep reminding us. You are also in bed with Goldman Sachs, J.P. Morgan, the International Monetary Fund - need I go on? On the leave side are not just Ukippers and Conservatives - [Interruption.]
Diolch i chi, Lywydd. Ni fwriadwyd unrhyw amarch. Caf fy nhemtio i ofyn: ble mae dechrau ar yr UE? Rydym wedi cael ein peledu â chymaint o ffeithiau a ffigyrau o'r ddwy ochr, y rhan fwyaf ohonynt yn gwrthdaro â'i gilydd wrth gwrs. Mae yna gymaint o agweddau ar y cwestiwn i'w hystyried. Rydym eisoes wedi trafod rhai ohonynt. Mae'n amhosibl cynnwys y cyfan ohono mewn un araith, felly cyfyngaf fy hun i'r mater y mae Aelodau Llafur yn aml yn ei godi, sef hawliau gweithwyr, ac maent yn gwbl gywir i wneud hynny. Ond yn fy marn i, rhaid i mi nodi nad oes unrhyw lefel o hawliau gweithwyr wedi'i hordeinio'n ddwyfol. Roedd gennym ddeddfwriaeth hawliau gweithwyr yn y DU cyn i ni ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, a bydd yn dal i fod gennym ar ôl i ni adael. Y cwestiwn yw: pa lefel o hawliau gweithwyr? [Torri ar draws.] Dyna yw'r cwestiwn yn wir, ond y pwynt yw hwn: mai mater yw hynny i Lywodraeth etholedig yn y DU ei benderfynu, nid criw anetholedig o fiwrocratiaid yr UE. Os yw etholwyr y DU yn anghytuno â pholisïau cyflogaeth Llywodraeth etholedig y DU, gallant bob amser bleidleisio i gael gwared ar y Llywodraeth yn yr etholiad nesaf. Dyna yw'r hyn a elwir yn ddemocratiaeth, a dyna rydym wedi'i gael yn y wlad hon ers amser hir, ac mae bellach yn cael ei rwystro gan yr UE. Wrth gwrs, mae gan Aelodau Llafur bob cyfle i argyhoeddi etholwyr y DU ynglŷn â'r angen am raglen fwy adain chwith gan fod ganddynt yn awr arweinydd mor abl yn Jeremy Corbyn. Fy marn i ar hawliau gweithwyr yw bod yna ddwy fersiwn mewn gwirionedd. Ceir y fersiwn y mae'r Aelodau Llafur yn ei phedlera, sy'n dibynnu ar reoliadau a ddaw gan lywodraethau, a cheir fersiwn y byd go iawn, sy'n dibynnu ar alw a chyflenwad llafur yn y farchnad gyflogaeth. Yn senario'r byd go iawn, mae cyflogau ac amodau gwaith yn gwella wrth i'r galw am weithwyr gynyddu mewn diwydiant. Heb gyflenwad parod o lafur amgen, caiff penaethiaid eu gorfodi i dalu eu gweithwyr yn briodol, eu trin yn weddol dda a buddsoddi yn eu hyfforddiant hyd yn oed. Ond ers 1975, y tro diwethaf i ni bleidleisio mewn refferendwm Ewropeaidd, mae mwy na 200 miliwn o weithwyr wedi dod i mewn i farchnad lafur yr UE. [Torri ar draws.] Na. Yr effaith anochel fu ostwng cyflogau a gwaethygu amodau gwaith i weithwyr o Brydain. Mae mwy a mwy o dramorwyr yn cyrraedd ac yn cael eu defnyddio gan fusnesau mawr fel llafur rhad. Dyna un ffactor pwysig pam y mae cyflogau ar y pen gwaelod ar ei hôl hi, a pham y mae gennym yr hyn a elwir yn 'ddiwylliant Amazon'. Mae'r realiti yn hunllef i weithwyr Prydeinig. Nawr, mae Llafur wedi gwneud môr a mynydd ynghylch y bobl sy'n cefnogi'r ymgyrch dros adael. Wel, efallai ei fod yn griw brith o gymeriadau, ond mae'n anochel mewn refferendwm o'r fath fod rhai elfennau rhyfedd yn rhannu'r daith â chi. Rydych chi, y rhai sydd am aros, yn rhannu'r daith gyda David Cameron a George Osborne, penseiri caledi, fel rydych yn ein hatgoffa o hyd. Rydych hefyd yn rhannu'r daith gyda Goldman Sachs, J.P. Morgan, y Gronfa Ariannol Ryngwladol - a oes angen i mi barhau? Ar yr ochr sy'n ffafrio gadael, nid yn unig y mae gennych aelodau o UKIP a Cheidwadwyr - [Torri ar draws.]
Allow the Member to carry on, please.
Gadewch i'r Aelod barhau, os gwelwch yn dda.
Thank you, Llywydd. On the leave side are not just Ukippers and Conservatives. We also have Labour people like Frank Field, Gisela Stuart, John Mann and Dennis Skinner. Not enough has been made of the fact that David Owen, one of the most enthusiastic of Europhiles until recently, is now a convinced Brexiteer. Ultimately, you have to decide if you want to side with the workers or the bosses. Here, to conclude, are two short interviews from 'The Sunday Times' a couple of years ago, which, taken together, I think illustrate the point fairly well. [Interruption.] Yes, well it has to be selective - there is a lot of material to draw on. Do you mind? What an asinine point.
Diolch i chi, Lywydd. Ar yr ochr sy'n ffafrio gadael, nid yn unig y mae gennych aelodau UKIP a'r Ceidwadwyr. Mae gennym hefyd bobl Llafur fel Frank Field, Gisela Stuart, John Mann a Dennis Skinner. Nid oes digon wedi'i wneud o'r ffaith fod David Owen, un o'r Ewroffiliaid mwyaf brwdfrydig tan yn ddiweddar, bellach yn argyhoeddedig ynglŷn â Phrydain yn gadael yr UE. Yn y pen draw, mae'n rhaid i chi benderfynu a ydych am ochri â'r gweithwyr neu'r rheolwyr. I orffen, dyma ddau gyfweliad byr o 'The Sunday Times' flwyddyn neu ddwy yn ôl, sydd, o'u cymryd gyda'i gilydd, yn egluro'r pwynt yn eithaf da yn fy marn i. [Torri ar draws.] Ie, wel mae'n rhaid iddo fod yn ddetholus - mae yna lawer o ddeunydd ar gael. Esgusodwch fi? Am bwynt asynnaidd.
Carry on. Carry on. Carry on.
Ewch ymlaen. Ewch ymlaen. Ewch ymlaen.
We're looking forward to hearing the two interviews. Carry on.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed y ddau gyfweliad. Ewch ymlaen.
Thank you. First, the piece quoting Darren Hunt, the boss of a construction company in Scunthorpe. These were his words: 'It is proving very difficult to get British people in. It seems that people are no longer interested in earning their wages by the sweat of their brow. It is disappointing that we are having to go to Europe to get workers, but we have no option. The good thing about the eastern Europeans is that they have an old-fashioned approach and they're not afraid of hard work. They don't mind working long hours at weekends and they're willing to get stuck in.' So, that is the view of business. Here, to contrast with that, are the words of Eddie Sullivan, a 33-year-old trained chef: 'I have worked from the day I was 16, but now it's almost impossible to find a decent job here. My last job was part time in an electrical shop on a retail park. I was paid less than £60 gross for 10 hours a week. What jobs there are seem to go to immigrants. Locals don't get a look in. Employers know that the foreigners will accept any job and never complain or question the pay, conditions' - [Interruption.] - No, sit down -
Diolch. Yn gyntaf, y darn yn dyfynnu Darren Hunt, rheolwr cwmni adeiladu yn Scunthorpe. Dyma'i eiriau ef: 'Mae'n anodd iawn cael pobl o Brydain i mewn. Mae'n ymddangos nad oes diddordeb gan bobl bellach mewn ennill cyflog drwy chwys eu hwyneb. Mae'n siomedig ein bod yn gorfod mynd i Ewrop i gael gweithwyr, ond nid oes gennym unrhyw ddewis. Y peth da am bobl dwyrain Ewrop yw bod ganddynt agwedd hen ffasiwn ac nid oes arnynt ofn gwaith caled. Nid ydynt yn poeni am weithio oriau hir ar benwythnosau ac maent yn barod i fwrw iddi.' Felly, dyna safbwynt busnes. I gyferbynnu â hynny, dyma eiriau Eddie Sullivan, cogydd hyfforddedig 33 oed: 'Rwyf wedi gweithio ers y diwrnod roeddwn yn 16 oed, ond erbyn hyn mae bron yn amhosibl dod o hyd i swydd dda yma. Roedd fy swydd ddiwethaf yn un ran amser mewn siop drydanol ar barc manwerthu. Cawn fy nhalu lai na £60 gros am 10 awr yr wythnos. Mae'r swyddi sydd i'w cael i'w gweld yn mynd i fewnfudwyr. Nid yw pobl leol yn cael cyfle. Mae cyflogwyr yn gwybod y bydd y tramorwyr yn derbyn unrhyw waith a byth yn cwyno na chwestiynu cyflogau, amodau - [Torri ar draws.] - Na, eisteddwch -
No. the Member is bringing his remarks to an end now.
Na. Mae'r Aelod yn dirwyn ei sylwadau i ben yn awr.
[Continues.] - 'and never complain or question the pay, conditions or hours.' So, there you have it. Whose side are you on, you saviours of the working class? Are you on the side of the workers or the bosses? Thank you.
[Yn parhau.] - 'a byth yn cwyno na chwestiynu cyflogau, amodau neu oriau.' Felly, dyna ni. Ar ochr pwy rydych chi, chi waredwyr y dosbarth gweithiol? A ydych ar ochr y gweithwyr neu'r rheolwyr? Diolch.
Tomorrow's vote is the most important decision to be taken by Britain for a generation. It will set in stone the direction for our country, not just for this generation but for our children's generation too. It is vitally important that everyone casting their vote takes this long view. This decision is not about the here and now, but it will shape the next 30 to 40 years of Britain's future. This decision should not be a popularity contest between today's politicians. It's not Boris or Dave that matter, it's our children and grandchildren. That is why everyone must think about that when they vote tomorrow. This is why I want to address my remarks to my constituents in Torfaen in particular and to the people of Wales as a whole. In Torfaen, I want you to think hard about the prospects for your children and grandchildren. I'd like you to remember that, very often, in the last few years, it has been Brussels that has stood by us and our kids when Westminster turned its back and walked away. Please think about employment projects like Bridges into Work, which has seen £5.4 million of EU funds, providing opportunities and training for young people in Torfaen, or the EU funds helping to deliver accredited employment support locally, such as in the Cwmbran centre for young people. If the vote is to leave the EU tomorrow, what will happen to this kind of sustained commitment to jobs, skills and regeneration? Do we want to rely on Farage, Gove or Boris Johnson? These are the people who turned their backs on us, gave us the bedroom tax and will slash investment as a matter of ideology. I know that many are worried about the pace of change in our communities, but voting to leave the EU will not address these worries. These arguments from the 'leave' campaign on immigration are nothing but snake oil. If local workers are being undercut then the answer is a decent living wage - properly enforced and properly policed. If there is a shortage of skills, the answer is investment in training. When the housing situation is difficult, the answer is decent, affordable homes for everyone. The Valleys are not full - we've been bleeding people - our population has declined for generations. That has to stop if our communities are going to survive. We cannot steer our way through the problems we face by turning our back on the world and wishing it away. Change must come, but we may best shape that change if we retain a seat at the European table. To the voters of Wales as a whole, I ask: what kind of Wales will you vote for tomorrow? Will it be one that embraces the £150 million on offer from Europe for the Valleys metro, or one that squanders that transformational investment? Will it be a Wales that utilises the £90 million on offer from Europe to complete the work on superfast broadband and take a connected Wales into the twenty-first century, or a Wales that remains firmly in the twentieth? Will you take the long view for the sake of your children and grandchildren? Do you want them to feel committed to a free, democratic and stable Europe - free to travel, study and work within the biggest free economy on Earth, and benefit from the huge advantages that offers? Or, will you offer them uncertainty and a disconnected future? Will they inherit a Wales cut off from the biggest economy in the world, and will you gamble with their job prospects and prosperity? Tomorrow, remember why the EU was founded and why its future stability is crucial to the future our children and grandchildren will inherit. Remember that the EU is, first and foremost, about peace. UKIP will tell you that it has been NATO that has kept the peace in western Europe since 1945, and they deny the role of the EU. They are wrong. It is true that NATO has been indispensable in the military and political spheres, but the EU has been indispensable too, in the social, economic and cultural spheres. Military alliances matter, but they can't deliver peace on their own. Europe in 1914 was awash with military alliances. Our children now live in a Europe where war between European democracies has become unthinkable, precisely because our EU has linked hands, not just militarily, but socially and economically too. That stability has given us 70 years of peace. Don't deny our children and our grandchildren the best chance of another 70 years of the same. If Britain votes to leave tomorrow, it will be a vote to cut off my constituency from desperately needed investment in jobs, skills and infrastructure, plunging us into economic uncertainty and making us poor. If Britain votes to leave tomorrow, then we destabilise the EU itself, and the world becomes a little more dangerous - maybe not immediately and maybe not for us, but for our children and grandchildren certainly. So, I call on everyone to take the long view. When you stand in that polling booth, even though the ballot is secret, you will not be alone. The futures of your children and your grandchildren will be standing right next to you. Don't gamble with that future. Keep it safe.
Y bleidlais yfory yw'r penderfyniad pwysicaf i Brydain ei wneud ers cenhedlaeth. Bydd yn gosod cyfeiriad pendant ar gyfer ein gwlad, nid yn unig i'r genhedlaeth hon, ond i genhedlaeth ein plant hefyd. Mae'n hanfodol bwysig fod pawb sy'n bwrw eu pleidlais yn edrych ar y darlun hirdymor. Nid yw'r penderfyniad yn ymwneud â'r fan hon yn awr, ond bydd yn siapio'r 30 i 40 mlynedd nesaf o ddyfodol Prydain. Ni ddylai'r penderfyniad fod yn gystadleuaeth boblogrwydd rhwng gwleidyddion heddiw. Nid Boris neu Dave sy'n cyfrif, ond ein plant a'n hwyrion. Dyna pam y mae'n rhaid i bawb feddwl am hynny pan fyddant yn pleidleisio yfory. Dyma pam rwyf am gyfeirio fy sylwadau at fy etholwyr yn Nhorfaen yn benodol ac at bobl Cymru yn ei chyfanrwydd. Yn Nhorfaen, rwyf am i chi feddwl yn galed am y rhagolygon ar gyfer eich plant a'ch wyrion. Hoffwn i chi gofio mai Brwsel, yn aml iawn, dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi sefyll gyda ni a'n plant pan oedd San Steffan wedi troi'i chefn a cherdded i ffwrdd. Meddyliwch am y prosiectau cyflogaeth fel Pontydd i Waith, sydd wedi arwain at £5.4 miliwn o gyllid yr UE ar gyfer darparu cyfleoedd a hyfforddiant i bobl ifanc yn Nhorfaen, neu arian yr UE sy'n helpu i ddarparu cymorth cyflogaeth achrededig yn lleol, megis yng nghanolfan Cwmbrân i bobl ifanc. Os yw'r bleidlais yfory dros adael yr UE, beth fydd yn digwydd i'r math hwn o ymrwymiad parhaus i swyddi, sgiliau ac adfywio? A ydym eisiau dibynnu ar Farage, Gove neu Boris Johnson? Dyma'r bobl a drodd eu cefnau arnom, a roddodd y dreth ystafell wely i ni ac a fydd yn torri buddsoddiad fel mater o ideoleg. Gwn fod llawer yn poeni am gyflymder newid yn ein cymunedau, ond ni fydd pleidleisio dros adael yr UE yn ateb i'r pryderon hyn. Nid yw'r dadleuon ar fewnfudo gan yr ymgyrch dros adael yn ddim byd ond olew neidr. Os telir cyflogau is i rai ar draul gweithwyr lleol, yr ateb yw cyflog byw gweddus - wedi'i orfodi a'i blismona'n briodol. Os ceir prinder sgiliau, yr ateb yw buddsoddi mewn hyfforddiant. Pan fydd y sefyllfa dai yn anodd, yr ateb yw cartrefi gweddus a fforddiadwy i bawb. Nid yw'r Cymoedd yn llawn - rydym wedi bod yn gwaedu pobl - mae ein poblogaeth wedi bod yn gostwng ers cenedlaethau. Rhaid i hynny ddod i ben os yw ein cymunedau yn mynd i oroesi. Ni allwn lywio ein ffordd drwy'r problemau a wynebwn drwy droi ein cefnau ar y byd a dymuno y bydd y problemau hynny'n diflannu. Rhaid i newid ddod, ond y ffordd orau o siapio'r newid hwnnw yw cadw ein sedd wrth y bwrdd Ewropeaidd. I bleidleiswyr Cymru gyfan, rwy'n gofyn: pa fath o Gymru fyddwch chi'n pleidleisio drosti yfory? A fydd yn un sy'n croesawu'r £150 miliwn y mae Ewrop yn ei gynnig i fetro'r Cymoedd, neu'n un sy'n afradu'r buddsoddiad trawsnewidiol hwnnw? A fydd yn Gymru sy'n defnyddio'r £90 miliwn y mae Ewrop yn ei gynnig i gwblhau'r gwaith ar fand eang cyflym iawn ac yn mynd â Chymru gysylltiedig i mewn i'r unfed ganrif ar hugain, neu Gymru sy'n parhau'n gadarn yn yr ugeinfed ganrif? A wnewch chi edrych ar y darlun hirdymor er lles eich plant a'ch wyrion? A ydych eisiau iddynt deimlo'n ymrwymedig i Ewrop rydd, ddemocrataidd a sefydlog - rhydd i deithio, astudio a gweithio yn yr economi rydd fwyaf ar y Ddaear, ac elwa o'r manteision enfawr y mae hynny'n ei gynnig? Neu a fyddwch yn cynnig ansicrwydd a dyfodol datgysylltiedig iddynt? A fyddant yn etifeddu Cymru wedi'i thorri i ffwrdd oddi wrth yr economi fwyaf yn y byd, ac a fyddwch yn gamblo gyda'u rhagolygon gwaith a'u ffyniant? Yfory, cofiwch pam y sefydlwyd yr UE a pham y mae ei sefydlogrwydd yn y dyfodol yn allweddol i'r dyfodol y bydd ein plant a'n hwyrion yn ei etifeddu. Cofiwch fod yr UE, yn anad dim, yn ymwneud â heddwch. Bydd UKIP yn dweud wrthych mai NATO sydd wedi cadw'r heddwch yng ngorllewin Ewrop ers 1945, ac maent yn gwadu rôl yr UE. Maent yn anghywir. Mae'n wir fod NATO wedi bod yn anhepgor yn y cylchoedd milwrol a gwleidyddol, ond mae'r UE wedi bod yn anhepgor hefyd, yn y meysydd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Mae cynghreiriau milwrol yn bwysig, ond ni allant gyflawni heddwch ar eu pen eu hunain. Roedd Ewrop yn 1914 yn fôr o gynghreiriau milwrol. Mae ein plant yn awr yn byw mewn Ewrop lle mae rhyfel rhwng gwledydd democrataidd Ewrop y tu hwnt i amgyffred, a hynny oherwydd bod ein UE wedi cysylltu dwylo, nid yn unig yn filwrol, ond yn gymdeithasol ac yn economaidd hefyd. Mae'r sefydlogrwydd hwnnw wedi rhoi 70 mlynedd o heddwch i ni. Peidiwch â gwadu'r cyfle gorau i gael 70 mlynedd arall o'r un peth i'n plant a'n hwyrion. Os yw Prydain yn pleidleisio dros adael yfory, bydd yn bleidlais dros dorri buddsoddiad mawr iawn ei angen i fy etholaeth mewn swyddi, sgiliau a seilwaith, gan ein gollwng i bydew ansicrwydd economaidd a'n gwneud yn dlawd. Os yw Prydain yn pleidleisio dros adael yfory, yna rydym yn ansefydlogi'r UE ei hun, ac mae'r byd yn mynd ychydig yn fwy peryglus - efallai nad ar unwaith ac efallai nad i ni, ond i'n plant a'n hwyrion yn sicr. Felly, galwaf ar bawb i edrych ar y darlun hirdymor. Pan fyddwch yn sefyll yn y bwth pleidleisio, er bod y bleidlais yn gyfrinachol, ni fyddwch ar eich pen eich hun. Bydd dyfodol eich plant a'ch wyrion yn sefyll drws nesaf i chi. Peidiwch â gamblo â'r dyfodol hwnnw. Cadwch ef yn ddiogel.
Much has been made, particularly in this Chamber, of the benefits to Wales of so-called European money. We've heard a Member say today that the £10 billion we give to Europe is absolutely inconsequential. But, when a part of that comes back to Wales, they represent it as absolutely crucial to the economy of Wales. So, one thing doesn't tie up with the other. So, can I seek to enlighten those who appear to be devoid of the ability to comprehend the very simple fact that there is no such thing as European money? The money Wales receives from Brussels, as with the rest of the UK, is British money coming back to us after Brussels has taken more than 50 per cent to subsidise projects across the whole of the European mainland. It therefore follows, to even the most fiscally inept, that if we retained the whole of this money within the UK, we would all benefit from the retention of that 50 per cent currently spent by Brussels Eurocrats. The lording of this European money is often followed by the spurious argument that, if we were to leave the UK, the British Parliament would not give Wales its fair share of the £50 bonus. [Interruption.] I call this a spurious argument because those who promulgate it must be suggesting that the 40 MPs who represent Wales in Westminster - most of whom are, of course, Labour MPs - are impotent in ensuring that Wales does not indeed get a fair share of this money. Further, are they suggesting that the four MEPs that we have in the European Parliament are a far more effective force than the 40 we send to Westminster? Last, but by no means least - [Interruption.] I'm sorry, no. Last, but by no means least, let's put this European money into its true perspective. Westminster's willingness to invest in Wales is evidenced by the fact that Wales receives around £14.7 billion more from the UK Government than it pays in taxes. That's every single year. This, of course, dwarfs the total amount of money Wales has received from Europe over the whole of the last 16 years. It follows that in any unbiased accurate analysis of facts, devoid of party politics, Wales would be better off out of this European superstate. Can I finish by saying that in this matter of the European superstate, I find it incomprehensible that the two so-called socialist parties in this Chamber find themselves supporting big banks, big business, and a political elite against the interests of the working classes of Wales?
Mae llawer wedi cael ei wneud, yn enwedig yn y Siambr hon, am y manteision i Gymru o'r hyn a elwir yn arian Ewropeaidd. Rydym wedi clywed Aelod yn dweud heddiw fod y £10 biliwn a roddwn i Ewrop yn gwbl amherthnasol. Ond pan fydd rhan o hynny'n dod yn ôl i Gymru, maent yn ei alw'n gwbl hanfodol i economi Cymru. Felly, nid yw un peth yn cyd-fynd â'r llall. Felly, a gaf fi geisio goleuo'r rhai sydd i'w gweld yn amddifad o'r gallu i amgyffred y ffaith syml iawn nad oes y fath beth ag arian Ewropeaidd? Yr arian y mae Cymru'n ei gael o Frwsel, fel gyda gweddill y DU, yw arian Prydain yn dod yn ôl i ni ar ôl i Frwsel fynd â mwy na 50 y cant i roi cymhorthdal i brosiectau ar draws tir mawr Ewrop gyfan. Mae'n dilyn felly, hyd yn oed i'r mwyaf di-glem ynghylch materion ariannol, os ydym am gadw'r holl arian hwn yn y DU, byddem i gyd yn elwa o gadw'r 50 y cant sy'n cael ei wario ar hyn o bryd gan Ewrocratiaid Brwsel. Mae'r pwys gormodol a roddir ar yr arian Ewropeaidd hwn yn aml yn arwain at y ddadl gyfeiliornus na fyddai Senedd Prydain, pe baem yn gadael y DU, yn rhoi ei chyfran deg i Gymru o'r £50 o fonws. [Torri ar draws.] Rwy'n galw hon yn ddadl gyfeiliornus gan fod rhaid bod y bobl sy'n ei lledaenu yn awgrymu bod y 40 o ASau sy'n cynrychioli Cymru yn San Steffan - gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ASau Llafur wrth gwrs - yn ddirym i sicrhau nad yw Cymru yn wir yn cael ei chyfran deg o'r arian hwn. Ymhellach, a ydynt yn awgrymu bod y pedwar ASE sydd gennym yn y Senedd Ewropeaidd yn rym llawer mwy effeithiol na'r 40 rydym yn eu hanfon i San Steffan? Yn olaf, ond nid yn lleiaf - [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, na. Yn olaf, ond nid yn lleiaf, gadewch i ni osod yr arian Ewropeaidd hwn mewn persbectif go iawn. Ceir tystiolaeth o barodrwydd San Steffan i fuddsoddi yng Nghymru yn y ffaith fod Cymru yn derbyn tua £14.7 biliwn yn fwy gan Lywodraeth y DU nag y mae'n ei dalu mewn trethi. Mae hynny bob blwyddyn. Mae hyn, wrth gwrs, yn llawer mwy na chyfanswm yr arian y mae Cymru wedi'i gael o Ewrop dros yr 16 mlynedd diwethaf i gyd. Mewn unrhyw ddadansoddiad cywir a diduedd o'r ffeithiau, a heb unrhyw wleidyddiaeth plaid, mae'n dilyn y byddai Cymru ar ei hennill o adael yr archwladwriaeth Ewropeaidd hon. O ran y mater hwn ynglŷn â'r archwladwriaeth Ewropeaidd, a gaf fi orffen drwy ddweud fy mod yn ei chael yn annealladwy fod y ddwy blaid a elwir yn bleidiau sosialaidd yn y Siambr hon yn cefnogi banciau mawr, busnesau mawr, ac elît gwleidyddol yn erbyn buddiannau'r dosbarthiadau gweithiol yng Nghymru?
I think it is important to concentrate on facts and not project fear. We should be focusing on project - [Interruption.]
Rwy'n credu ei bod yn bwysig canolbwyntio ar ffeithiau ac nid ar brosiect ofn. Dylem ganolbwyntio ar brosiect - [Torri ar draws.]
What about your project fear - world war three?
Beth am eich prosiect ofn chi - y trydydd rhyfel byd?
We should be - [Interruption.]
Dylem ganolbwyntio ar - [Torri ar draws.]
That's not project fear?
Onid yw hwnnw'n brosiect ofn?
I'll take an intervention; it would be entertaining, no doubt. [Interruption.]
Fe gymeraf ymyriad; byddai'n ddifyr, heb os. [Torri ar draws.]
I'll decide if the Member carries on, not you.
Fi sydd i benderfynu a yw'r Aelod yn mynd yn ei flaen, nid chi.
Carry on, Adam Price.
Ewch ymlaen, Adam Price.
By the way, I have no objection to Members chewing gum - it works for Chris Coleman; maybe we should all start. Look, I figure we should concentrate on the Welsh national interest, and particularly in terms of the economy, I have to say that I think many of us are right to be afraid. Because, you know, it's a fact, isn't it - the sectoral composition of the Welsh economy is different? We have a much bigger manufacturing sector, agriculture is more important to us, and that leads to a different pattern of trade. We're one of the only parts of the UK that has a substantial trade surplus with the EU. As we've heard from the leader of UKIP, the UK has a massive trade deficit; not true for Wales. Wales per capita has the biggest trade surplus with the EU, and as a result of that it makes a critical positive contribution to the whole of our GDP. I mean, brush down your memories of your economics A-level; you know, Y = C + I + G + (X − M). Net exports: in Wales, we have a surplus, which is equivalent to about 10 per cent of our entire GDP in terms of trade in goods. We're an export-sensitive economy. If that trade surplus goes down, it has a direct effect on our economic wealth and our prosperity. We've seen that already, actually, in 2014. We had a little glimpse of that; exports went down by 11 per cent. What happened? We had - . I won't take any more interventions from you. What happened? What happened as a result of that? Our GVA growth went down in Wales, right, because there's a direct relationship between our surplus in trade and our economy as a whole. Now, nobody can know for certain what will happen to our economy as a result of Brexit. Four different scenarios have been offered by 'leave'; we don't know which one it's going to be. Therein lies the rub. Uncertainty is toxic for business, for investment, particularly for manufacturing where the lead times necessary for investment projects are three to seven years. That's the key. It's not the issue of the terms of trade - you know, whether we'll have to accept tariffs or whether there'll be a compensating fall in terms of the exchange rate; it's the uncertainty that will kill the Welsh economy as a result of this Brexit. There haven't been many experiments when nations have walked away from a successful trading relationship, and there are good reasons why. Why would you? The only example that economists can find is what happened to the Finnish economy when it lost overnight as a result of the collapse of the Soviet Union half of its exports to the Soviet Union - a 55 per cent collapse in investment as a result of that - actually, the deepest worst economic contraction to an industrialised country since the 1930s. That's what could be facing Wales. That's the economic argument; there are other arguments as well, which are closer to our sense of who we are. When we sing 'Hen Wlad fy Nhadau' in Wales, we sing it as Welsh Europeans. You know, the Celts were the fathers of Europe. We came in, by the way, through Asia Minor, which is now known as Turkey. We created, yes, some of the glories of European civilisation along the way in our march west in La Tène and Hallstatt. Wales itself is a fusion of that Celtic inheritance and Roman civilisation. When we sing that other song, 'Yma o Hyd', we mean Europe too, because it contains within it that great creation myth of the Welsh nation that we were founded by Magnus Maximus - Macsen Wledig - a Roman legionary born in Galicia. That red dragon flag that we all waved earlier is a Roman military standard - 'draco cocus', in vulgar Latin that you, Neil Hamilton, and I learnt in Amman Valley - y ddraig goch. And that's just two of the thousand words of Latin that there are in the Welsh language. We're not just the original Britons of these islands, we're the original Europeans too. You're not just trying to cut us off from a continent, you're cutting us off from our own history in an act of collective suicide. If Brexit does happen against our own will, then maybe we can remind ourselves of the words of Raymond Williams: 'I want the Welsh people - still a radical and cultured people - to defeat, override or bypassEngland.' If England does want to go off into some splendid isolation, then maybe we need a new campaign, 'rejoin', but this time as our own nation in Europe.
Gyda llaw, nid oes gennyf wrthwynebiad i'r Aelodau gnoi gwm - mae'n gweithio i Chris Coleman; efallai y dylem i gyd ddechrau. Edrychwch, rwy'n meddwl y dylem ganolbwyntio ar y diddordeb cenedlaethol i Gymru, ac yn enwedig mewn perthynas â'r economi, rhaid i mi ddweud fy mod yn meddwl bod llawer ohonom yn iawn i ofni. Oherwydd, wyddoch chi, mae'n ffaith, onid yw - mae cyfansoddiad sectoraidd yr economi yng Nghymru yn wahanol? Mae gennym sector gweithgynhyrchu lawer mwy o faint, mae amaethyddiaeth yn bwysicach i ni, ac mae hynny'n arwain at batrwm masnachu gwahanol. Ni yw un o'r unig rannau o'r DU sydd â gwarged masnach sylweddol gyda'r UE. Fel y clywsom gan arweinydd UKIP, mae gan y DU ddiffyg masnach enfawr; nid yw'n wir am Gymru. Cymru, fesul y pen, sydd â'r gwarged masnach mwyaf gyda'r UE, ac o ganlyniad i hynny mae'n gwneud cyfraniad cadarnhaol hollbwysig i'n holl gynnyrch domestig gros. Hynny yw, os cofiwch eich economeg lefel A; wyddoch chi, Y = C + I + G + (X - M). Allforion net: yng Nghymru, mae gennym warged, sy'n cyfateb i tua 10 y cant o'n holl gynnyrch domestig gros o ran masnach mewn nwyddau. Rydym yn economi sy'n sensitif i allforio. Os yw'r gwarged masnach yn mynd i lawr, mae'n effeithio'n uniongyrchol ar ein cyfoeth economaidd a'n ffyniant. Gwelsom hynny eisoes, mewn gwirionedd, yn 2014. Cawsom gipolwg bach ar hynny; aeth allforion i lawr 11 y cant. Beth a ddigwyddodd? Cawsom - . Nid wyf am dderbyn rhagor o ymyriadau gennych. Beth a ddigwyddodd? Beth a ddigwyddodd o ganlyniad i hynny? Aeth twf gwerth ychwanegol gros i lawr yng Nghymru, iawn, gan fod perthynas uniongyrchol rhwng ein gwarged mewn masnach a'n heconomi yn ei chyfanrwydd. Nawr, ni all neb wybod i sicrwydd beth fydd yn digwydd i'n heconomi o ganlyniad i Brydain yn gadael yr UE. Mae'r ymgyrch dros adael wedi cynnig pedair senario wahanol; nid ydym yn gwybod pa un a gawn. A dyna'r broblem. Mae ansicrwydd yn wenwynig i fusnes, i fuddsoddiad, yn enwedig mewn gweithgynhyrchu lle mae'r amseroedd arwain angenrheidiol ar gyfer prosiectau buddsoddi rhwng tair a saith mlynedd. Dyna'r allwedd. Nid yw'n fater o delerau masnach - wyddoch chi, pa un a fydd yn rhaid i ni dderbyn tariffau neu a fydd yna gwymp gyfadferol o ran y gyfradd gyfnewid; yr ansicrwydd fydd yn lladd economi Cymru o ganlyniad i adael yr UE. Ni chafwyd llawer o arbrofion pan fo cenhedloedd wedi troi cefn ar berthynas fasnachu lwyddiannus, ac mae yna resymau da pam. Pam y byddech y gwneud hynny? Yr unig enghraifft y gall economegwyr ddod o hyd iddi yw'r hyn a ddigwyddodd i economi'r Ffindir pan gollodd hanner ei hallforion i'r Undeb Sofietaidd dros nos yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd - cwymp o 55 y cant yn y buddsoddiad o ganlyniad i hynny - mewn gwirionedd, dyna'r cyfangiad economaidd gwaethaf a dyfnaf i wlad ddiwydiannol ers y 1930au. Dyna beth allai fod yn wynebu Cymru. Dyna'r ddadl economaidd; mae yna ddadleuon eraill yn ogystal, sydd yn nes at ein synnwyr o bwy rydym. Pan fyddwn yn canu 'Hen Wlad fy Nhadau' yng Nghymru, rydym yn ei chanu fel Ewropeaid Cymreig. Wyddoch chi, y Celtiaid oedd tadau Ewrop. Daethom i mewn, gyda llaw, drwy Asia Leiaf, a elwir erbyn hyn yn Dwrci. Do, crëwyd rhai o ogoniannau gwareiddiad Ewrop gennym ar y ffordd yn ein gorymdaith i'r gorllewin yn La Tène a Hallstatt. Mae Cymru ei hun yn gyfuniad o'r etifeddiaeth Geltaidd honno a gwareiddiad Rhufeinig. Pan fyddwn yn canu'r gân arall honno, 'Yma o Hyd', rydym yn golygu Ewrop hefyd, am ei bod yn cynnwys o'i mewn y chwedl wych am greu'r genedl Gymreig, mai Magnus Maximus - Macsen Wledig - llengfilwr Rhufeinig a aned yn Galicia a sefydlodd ein cenedl. Baner filwrol Rufeinig yw baner y ddraig goch y buom i gyd yn ei chwifio'n gynharach - 'draco cocus' mewn Lladin llafar a ddysgais, a chithau Neil Hamilton, yn Nyffryn Aman - y ddraig goch. A dau yn unig o'r mil o eiriau Lladin yn yr iaith Gymraeg yw'r rheini. Nid yn unig mai ni yw Prydeinwyr gwreiddiol yr ynysoedd hyn, ni yw'r Ewropeaid gwreiddiol hefyd. Nid yn unig eich bod yn ceisio ein torri i ffwrdd oddi wrth gyfandir, rydych yn ein torri i ffwrdd oddi wrth ein hanes ein hunain mewn gweithred o hunanladdiad torfol. Os yw Prydain yn gadael yr UE yn erbyn ein hewyllys ein hunain, yna efallai y gallwn atgoffa ein hunain am eiriau Raymond Williams: Rwyf am i'r Cymry - sy'n dal i fod yn bobl radical a diwylliedig - drechu, diystyru neu fynd heibio i Loegr. Os yw Lloegr eisiau mynd ymaith i ryw arwahanrwydd ysblennydd, yna efallai fod arnom angen ymgyrch newydd, 'ailymuno', ond y tro hwn fel cenedl ein hunain yn Ewrop.
I call on the Cabinet Secretary for Finance and Local Government - Mark Drakeford.
Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd. Well, there's a motion before the National Assembly this afternoon that sets out three tests for a decision to take Wales out of the European Union, and, as has been undoubtedly demonstrated over the last hour, the motion fails on each one of those tests that they would have us accept. Wales would neither be stronger, safer and certainly not more prosperous if we were to leave the European Union, as this motion suggests. Now, those of us who remember and were part of the campaign to establish this National Assembly will recall that, while we had no constitutional convention of the sort established in Scotland, we did have a very effective cross-party and cross-sectoral group that argued the case in the slogan that was used at the time - that a National Assembly would give Wales a stronger voice in Europe. And, thanks to the work of many Members here and many, many others across Wales, that proposition has been very directly delivered. Our language and our culture are stronger through our membership of the European Union. Our research base in science and in our universities is stronger because we are in the European Union. Our social protection for workers and consumers is stronger because of the safeguards guaranteed through the European Union. Llywydd, Wales is safer too. The quality of our water is safer because of common action across the European Union. Food quality and security is safer because they are protected by European Union membership. Our membership of the European Union-wide networks on illegal drug use makes our citizens safer here in Wales. Our ability to deal with transnational crime and the modern scourge of terrorism, through the machinery of a European Union, makes us safer every single day. That's the view of the most senior figures in the field - the head of MI5, the head of MI6, the head of the Government Communications Headquarters, five former NATO chiefs, the British head of Europol, and our allies in Australia, Canada, New Zealand and the United States. Now, Llywydd, I'm not much given to quoting Conservative politicians, but we've not heard much from them this afternoon. So, let me make up, in a very small way, for that deficit by repeating and adapting what Ruth Davidson, the Conservative leader at the Scottish Parliament, said yesterday: when it comes to a choice between listening to all those people and listening to those who proposed this motion, I'm going to vote for the experts every single day of the week and twice on Sundays, too. And they do that, and they say that for those reasons that Lynne Neagle expressed so eloquently here this afternoon - because membership of the European Union makes the future safer for our children and our grandchildren too.
Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, mae yna gynnig gerbron Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma sy'n nodi tri phrawf ar gyfer penderfyniad i fynd â Chymru allan o'r Undeb Ewropeaidd, ac fel y dangoswyd yn ddiau yn ystod yr awr olaf, mae'r cynnig yn methu ar bob un o'r profion hynny y byddent am i ni eu derbyn. Ni fyddai Cymru yn gryfach, yn fwy diogel ac yn sicr ni fyddai'n fwy llewyrchus pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel y mae'r cynnig hwn yn awgrymu. Nawr, bydd y rhai ohonom sy'n cofio ac a oedd yn rhan o'r ymgyrch i sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cofio, er nad oedd gennym unrhyw gonfensiwn cyfansoddiadol o'r math a sefydlwyd yn yr Alban, roedd gennym grŵp trawsbleidiol a thraws-sector effeithiol iawn a ddadleuai'r achos yn y slogan a ddefnyddid ar y pryd - y byddai Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi llais cryfach i Gymru yn Ewrop. A diolch i waith llawer o'r Aelodau yma a llawer iawn o bobl eraill ar draws Cymru, cafodd y gosodiad hwnnw ei gyflawni'n uniongyrchol iawn. Mae ein hiaith a'n diwylliant yn gryfach drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Mae ein sylfaen ymchwil mewn gwyddoniaeth ac yn ein prifysgolion yn gryfach oherwydd ein bod yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein hamddiffyniad cymdeithasol i weithwyr a defnyddwyr yn gryfach oherwydd y mesurau diogelu a sicrhawyd drwy'r Undeb Ewropeaidd. Lywydd, mae Cymru'n fwy diogel hefyd. Mae ansawdd ein dŵr yn fwy diogel oherwydd camau gweithredu cyffredin ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Mae ansawdd a diogelwch bwyd yn fwy diogel oherwydd eu bod yn cael eu gwarchod gan ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Mae ein haelodaeth o'r rhwydweithiau ledled yr Undeb Ewropeaidd ar y defnydd anghyfreithlon o gyffuriau yn gwneud ein dinasyddion yn fwy diogel yma yng Nghymru. Mae ein gallu i ymdrin â throseddau trawswladol a phla modern terfysgaeth, drwy beirianwaith Undeb Ewropeaidd, yn ein gwneud yn fwy diogel bob dydd. Dyna farn y ffigyrau uchaf yn y maes - pennaeth MI5, pennaeth MI6, pennaeth Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth, pump o gyn-benaethiaid NATO, pennaeth Europol ym Mhrydain, a'n cynghreiriaid yn Awstralia, Canada, Seland Newydd a'r Unol Daleithiau. Nawr, Lywydd, nid wyf yn rhy hoff o ddyfynnu gwleidyddion Ceidwadol, ond nid ydym wedi clywed llawer ganddynt y prynhawn yma. Felly, gadewch i mi wneud iawn am hynny, mewn ffordd fach iawn, drwy ailadrodd ac addasu yr hyn a ddywedodd Ruth Davidson, arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd yr Alban, ddoe: os yw'n fater o ddewis rhwng gwrando ar yr holl bobl hynny a gwrando ar y rhai a gynigiodd y cynnig hwn, rwy'n mynd i bleidleisio dros yr arbenigwyr bob dydd o'r wythnos a ddwywaith ar ddydd Sul hefyd. Ac maent yn gwneud hynny, ac maent yn dweud hynny, am y rhesymau a fynegodd Lynne Neagle mor huawdl yma y prynhawn yma - am fod aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn gwneud y dyfodol yn fwy diogel i'n plant a'n hwyrion hefyd.
Will the Cabinet Secretary give way? I fear I must try to help him out as he's made a reference to the Conservative group. I don't speak for it; I speak only as an individual. But talking about the benefits of the European Union, the 'leave' side say we've given up essential sovereignty and it's not worth the price, but if we've given up essential sovereignty, how on earth are we having a referendum tomorrow on membership?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio? Rwy'n ofni bod yn rhaid i mi geisio'i helpu gan iddo gyfeirio at grŵp y Ceidwadwyr. Nid wyf yn siarad ar ei ran; rwy'n siarad fel unigolyn yn unig. Ond wrth siarad am fanteision yr Undeb Ewropeaidd, mae'r ochr sy'n ffafrio gadael yn dweud ei bod wedi ildio sofraniaeth hanfodol ac nad yw'n werth y pris, ond os ydym wedi ildio sofraniaeth hanfodol, sut ar y ddaear rydym yn cael refferendwm yfory ar aelodaeth?
Well, that's an extremely good point that the Member makes. It plays into, I think, the third part of the proposition that we're invited to sign up to this afternoon: that, somehow, we would be more prosperous if we were to leave the European Union; that we would be more prosperous without the 500 companies from other EU countries that have operations in Wales, providing more than 57,000 jobs; that we would be, somehow, more prosperous if the 70,000 people in Wales who have benefited from European Union funding helping them into work - if we didn't have that available to us; and that, somehow, Welsh farming would be more prosperous without the €300 million of European funding that it has every year. The notion that Wales would be better off outside Europe is just a product of the voodoo economics that we've had outlined to us this afternoon. In its place, we're offered a self-inflicted, do-it-yourself recession, an enormous act of economic folly, a retreat from the complex realities of the world we actually inhabit; and at best, a retreat to the sidelines and the sideshows of the real world, at worst, a retreat to the contemptible distortions of a poster that exploits the terror of children and the despair of their parents, caught up in events so far beyond their own responsibility or control. So, Llywydd, there we have it: we want a Wales that is stronger, safer and more prosperous, and we know how to achieve it too. Wales benefits hugely from our membership of the European Union. Wales belongs in Europe, Wales needs to remain in Europe and, tomorrow, let's vote to make sure that we do.
Wel, dyna bwynt eithriadol o dda gan yr Aelod. Mae'n cysylltu â thrydedd ran y cynnig y cawn ein gwahodd i'w gefnogi y prynhawn yma, rwy'n credu: sef y byddem rywsut yn fwy llewyrchus pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd; y byddem yn fwy llewyrchus heb y 500 o gwmnïau o wledydd eraill yr UE sydd â gweithfeydd yng Nghymru, ac yn darparu mwy na 57,000 o swyddi; y byddem, rywsut, yn fwy llewyrchus pe bai'r 70,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi elwa o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i'w helpu i gael gwaith - pe na bai hwnnw ar gael i ni; a phe bai ffermio yng Nghymru, rywsut, yn fwy llewyrchus heb y €300 miliwn o gyllid Ewropeaidd y mae'n ei gael bob blwyddyn. Mae'r syniad y byddai Cymru yn well ei byd y tu allan i Ewrop yn gynnyrch yr economeg fwdw a ddisgrifiwyd i ni y prynhawn yma. Yn ei lle, cawn gynnig dirwasgiad wedi'i wneud ein hunain a'i achosi gennym ni ein hunain, gweithred enfawr o ffolineb economaidd, encilfa rhag realiti cymhleth y byd rydym yn byw ynddo mewn gwirionedd; ac ar ei orau, encil i'r llinellau ochr ac i ymylon y byd go iawn; ar ei waethaf, encil i lurguniadau ffiaidd poster sy'n camfanteisio ar arswyd plant ac anobaith eu rhieni, wedi'u dal mewn digwyddiadau mor bell y tu hwnt i'w cyfrifoldeb neu eu rheolaeth eu hunain. Felly, Lywydd, dyna ni: rydym am gael Cymru sy'n gryfach, yn fwy diogel ac yn fwy ffyniannus, ac rydym yn gwybod sut i gyflawni hynny hefyd. Mae Cymru'n elwa'n aruthrol o'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Cymru yn perthyn i Ewrop, mae angen i Gymru aros yn Ewrop ac yfory, gadewch i ni bleidleisio i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny.
Unfortunately, I have only a minute to reply, so I can't - I'll be available afterwards to continue the discussion. But, I'm amazed at the other Members in this house who take a different view from me of the European Union. Their defeatism and their pessimism about the spirit and character of the Welsh people - that, somehow or other, they're incapable of making their way in the world. As for the so-called experts that we're supposed to rely on: are these the same experts who recommended that we joined the euro, the same experts who failed to predict the banking crisis and, in many cases, were responsible for it? Great people, aren't they? I'm sure we're all very happy to have their advice at this time. Fundamentally, what this debate is about - it's between democracy and bureaucracy. The people who are taking the decisions that affect our daily lives: are you going to elect them or not? If they take the wrong decisions, how do you get rid of them? That was the question that Tony Benn always used to ask when he met somebody with power: 'Where did you get it from? How are you going to exercise it and if you make a mistake, how are we going to get rid of you?' How do you get rid of the Commissioners in Brussels if they make a different set of decisions from the ones that they're taking now that you actually happen to like? If you don't like the decisions they're taking then what you do? Then you're stuck. With elected politicians, at least, you can, every so often, vote to get rid of them, and that's what we're going to do tomorrow: put the power back into the hands of the people.
Yn anffodus, munud yn unig sydd gennyf i ymateb, felly ni allaf - byddaf ar gael wedyn i barhau â'r drafodaeth. Ond rwy'n rhyfeddu at yr Aelodau eraill yn y tŷ hwn sydd â safbwynt gwahanol i fy un i ar yr Undeb Ewropeaidd. Eu gwangalondid a'u pesimistiaeth ynglŷn ag ysbryd a chymeriad y Cymry - eu bod, rywsut neu'i gilydd, yn analluog i wneud eu ffordd yn y byd. Am yr arbenigwyr honedig rydym i fod i ddibynnu arnynt: ai dyma'r un arbenigwyr a argymhellodd ein bod yn ymuno â'r ewro, yr un arbenigwyr a fethodd ragweld yr argyfwng bancio ac a oedd, mewn llawer o achosion, yn gyfrifol amdano? Pobl wych, onid ydynt? Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn hapus iawn i gael eu cyngor ar yr adeg hon. Yn y bôn, yr hyn y mae'r ddadl hon yn ymwneud ag ef yw - mae rhwng democratiaeth a biwrocratiaeth. Y bobl sy'n gwneud y penderfyniadau sy'n effeithio ar ein bywydau bob dydd: a ydych yn mynd i'w hethol ai peidio? Os ydynt yn gwneud y penderfyniadau anghywir, sut rydych chi'n cael gwared arnynt? Dyna oedd y cwestiwn roedd Tony Benn bob amser yn arfer ei ofyn pan fyddai'n cyfarfod â rhywun â phŵer: 'O ble y cawsoch y pŵer? Sut rydych chi'n mynd i'w ddefnyddio ac os gwnewch gamgymeriad, sut rydym yn mynd i gael gwared arnoch?' Sut rydych chi'n cael gwared ar y Comisiynwyr ym Mrwsel os ydynt yn gwneud set wahanol o benderfyniadau i'r rhai y maent yn eu gwneud yn awr, penderfyniadau rydych yn digwydd bod yn eu hoffi, mewn gwirionedd? Os nad ydych yn hoffi'r penderfyniadau a wnant, beth wnewch chi wedyn? Wedyn rydych chi'n gaeth. Gyda gwleidyddion etholedig, bob hyn a hyn o leiaf, gallwch bleidleisio i gael gwared arnynt, a dyna beth rydym yn mynd i'w wneud yfory: rhoi'r pŵer yn ôl yn nwylo'r bobl.
The proposal therefore is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting on this item until voting time.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
It was agreed that voting time should be held after the final item of business. Unless three Members wish the bell to be rung I will move immediately to voting time. I first of all call for a vote on the Plaid Cymru debate and the motion tabled in the name of Simon Thomas. If the proposal is not agreed we will vote on the amendment tabled to the motion. Open the vote. Close the vote. For 33, abstentions 4, against 11. Therefore, the motion is agreed.
Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch. Fe symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. Rwy'n galw'n gyntaf, felly, am bleidlais ar ddadl Plaid Cymru a'r cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 33, ymatal 4 ac 11 yn erbyn. Mae'r cynnig felly wedi ei dderbyn.
We will therefore move to the Welsh Conservative motion, and I call for a vote on the motion tabled in the name of Paul Davies. If the motion is not agreed we will vote on the amendment tabled to the motion. Open the vote. Close the vote. For 37, 5 abstentions, 7 against. The motion is therefore agreed.
Symudwn yn awr felly at y cynnig yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 37, 5 yn ymatal a 7 yn erbyn. Mae'r cynnig felly wedi ei dderbyn.
We will now move to the motion in the name of the United Kingdom Independence Party, and I call for a vote on the motion tabled in the name of Neil Hamilton. Open the vote. Close the vote. For 10, against 38. The motion is therefore not agreed.
Symudwn ni ymlaen yn awr, felly, i'r cynnig yn enw Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 10, yn erbyn 38. Mae'r cynnig felly wedi ei wrthod.
I now move to the short debate. For those of you who are not remaining for the short debate, please leave swiftly and quietly. I call on Julie Morgan to speak on the topic that she has chosen. Julie Morgan.
Rwy'n symud yn awr, felly, i'r ddadl fer. I'r rhai ohonoch chi sydd ddim yn aros yn y Siambr ar gyfer y ddadl fer, os gwnewch chi adael yn dawel ac yn gyflym. Ac felly, rwy'n galw ar Julie Morgan i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Julie Morgan.
Thank you. Diolch, Presiding Officer. Just to say at the beginning of the debate, I've given a minute to Rhianon Passmore and a minute to Joyce Watson at the end of my speech. The title of the debate that I chose was 'Should I Stay or Should I Go? What factors have influenced public opinion over the EU referendum campaign?' Now, I tabled this debate before the terrible events on Thursday last week when the MP for Batley and Spen, Jo Cox, was tragically killed in her constituency. I think it is fitting that we look at the influences on public opinion in the run-up to the referendum tomorrow. Sadly, I think Jo's death has had an influence on the debate over the weekend and on into this week. It was right and fitting that there was a lull in campaigning over the weekend, but now we're back to it quite ferociously, as the previous debate has shown, but perhaps there is, UK-wide, a slightly different tone. So, I hope, in the light of the type of person Jo was and what her husband, Brendan Cox, has said following her tragic death, that she would be happy and would want us to carry on with the debate on the EU referendum and the fight to remain in the EU because she was, as her husband said, a passionate supporter of the EU and was campaigning for a 'remain' vote. So, Presiding Officer, I want to say a bit about Jo, personally, and then link her beliefs to the vote that we will be having tomorrow. Today would have been Jo's forty-second birthday, and events are taking place all over the world to remember her. There were events in New York, Brussels, Buenos Aires, Dublin, London, and there will even be a tribute at the Glastonbury Festival. There's also a candlelit vigil at a woman's charity in Syria because Jo was a great supporter of women's rights. I'm very pleased that we had the cross-party event of women Assembly Members on the steps of the Senedd yesterday, highlighting what the EU has done for women because, as I say, Jo believed that the EU was delivering for women. And an event is taking place just up the road now - or has already taken place - in the Temple of Peace and Health here in Cardiff, at the Welsh Centre for International Affairs, with the theme of 'What can we do?' I didn't know Jo Cox, but I feel like I do, and as one of my colleagues said recently, I wish I had known her. I identify with her as a woman politician and as a mother, and I can especially imagine the excitement she must have felt arriving in Westminster just over a year ago, after the general election in 2015. I can remember that feeling, when I was elected in 1997 for the first time as a Member of Parliament. I think we all felt it, just six weeks ago, when we all had the thrill of being elected and came to this Chamber with our plans to change the world. The poignancy of what has happened to all those hopes and to her individually, I think, strikes me so strongly, but the things she believed in, I think, are what we must carry on with. I must say, I was particularly struck, listening to the present women MPs talking about being in the House of Commons with Jo and how they all used to talk about their worries, about how they balance their family life, looking after their children and doing politics, and the maternal guilt that this produces, which many of us have had. The discussion in the House of Commons, in that sort of way, strikes a chord with many of us. What has emerged from the coverage of Jo's life is how she loved her family so much, but she loved her politics as well, and they didn't conflict. She was a passionate campaigner, and she was full of compassion. She campaigned for human rights, international development, the plight of refugees, the plight of people who are dispossessed, and her background was working in campaigning non-governmental organisations, like Oxfam. Of course, we've already heard a lot about her ability to work on a cross-party basis, and the Conservative MP Andrew Mitchell said that Jo was 'a truly exceptional woman, whose goodness and passionate dedication to humanitarian values has inspired us all.' Jo's husband Brendan has said that, before she died, she was becoming increasingly concerned about the tone of the debate in the EU referendum campaign, and I think those feelings have been reflected here this afternoon in the debate we've already had. Four days before she was killed, Jo Cox wrote an article warning against the spin around immigration in the EU debate. She wrote 'We cannot allow voters to fall for the spin that a vote to leave is the only way to deal with concerns about immigration.' Following her death, in his Commons tribute to her, Stephen Kinnock warned that 'rhetoric has consequences', and I think that is very important for us to remember. We must be very careful when we talk about sensitive issues like immigration, because rhetoric does have consequences. He referred to the poster that the Cabinet Secretary referred to earlier on today and said that Jo Cox would have been disgusted had she lived to see the UKIP poster, which depicted a crowd of refugees fleeing from the Syrian civil war as a way of boosting support for Brexit, and: 'I can only imagine Jo's reaction had she seen the poster that was unveiled hours before her death - a poster on the streets of Britain that demonised hundreds of desperate refugees, including hungry, terrified children, fleeing from the terror of ISIS and from Russian bombs. She would have responded with outrage, and with a robust rejection of the calculated narrative of cynicism, division and despair that it represents'. And I do believe that that is the tone that this referendum has encouraged, because immigration has been a running theme throughout the referendum campaign. It's been hugely reported in the newspapers, online and in the broadcast media. I'm sure many of you will have seen the debate last night and, as Sadiq Khan said in the referendum debate last night, to the 'Out' campaign, with regard to immigration, 'Your campaign hasn't been project fear, it's been project hate'. I've been out campaigning in my own constituency in Cardiff North, and when I speak to people, I think there's absolutely no doubt that the tone of the debate has influenced, and is influencing, people's view on immigration. And I think it's really important that, when we talk about immigration, when we talk about immigrants and migrants, we should think about the effect that this is having on people who are immigrants, who are migrants, who are living in this country. What do they think about this debate? What is their reaction? There's absolutely no doubt that this is having an effect on people in that situation. They feel they're not wanted here. People have come and told me here that they feel they're second-class citizens, and I think it's absolutely outrageous that human beings in our country should be made to feel like this. I think it is possible to have a debate about immigration, a proper, balanced debate, but not in the tones that this debate has been framed. I think it has been insidious, and I think it has influenced people when they are considering how they're going to vote. Also, it's very important that we have a debate that is based on facts, and we know that the figures that are given, and the tone of the debate, are just grossly exaggerated. According to figures from Cardiff University School of Social Sciences, the percentage of non-UK-born nationals in Wales is just 5.8 per cent, and the percentage of migrants of working age in Wales is 8 per cent of the population. That includes asylum seekers, refugees, 25,000 international students - and we know how much we want to encourage international students here - and, of course, migrants engaged in both high- and low-skilled work. We know that migrant workers are likely to be younger, they're more likely to be better educated, and they're more likely to be employed than the UK-born population. I think those figures show the huge contribution that migrants are making to Wales and to the UK. Thousands of migrants are working in the NHS. Thousands of migrants are working in the care industry. What if they all decide to go home because they're so fed up of the way they're being treated in this country, that they're being treated like second-class citizens? Of course, across the UK, EU immigrants make up 10 per cent of registered doctors, and we know how difficult it is to get doctors. What is going to happen if they decide they want to go home? Also, why should migrants living here get the blame for any deficiencies there are in housing or hospitals or schools? Because that's what people have taken from this insidious propaganda - they say, 'They're taking our houses; they're taking our places in schools.' We have seen a prolonged period of austerity from the Tory Government at Westminster, which has made even more cuts to local authority services inevitable, but it is not the fault of the migrants if there aren't enough council houses to go round, or if a local library closes. That is in the hands of the Government - our Governments here in the UK. The other arguments that have actually been aired very robustly here this afternoon are about sovereignty - the idea that we should take back control of our borders, when we already know that we're not part of the Schengen agreement, so we do have control of our borders - and also the idea that unelected officials in the EU are making policy here in the UK, which is completely false, because nothing can go through unless it's agreed by the Council of Ministers, who are elected. It is very rich that a country that still has a House of Lords thinks that the European Union is bureaucratic and non-elected, because, really, I think most other countries thinks that it's absolutely extraordinary that we have a House of Lords here. So, in terms of work and the idea that immigrants are taking people's jobs, this again is another myth that has been perpetuated. There are more people in work in Wales now than at any other time, and there are more people born in the UK who are working now than ever. That is true of Wales and the UK. Migrants are part of the economic success. So, this idea that migrants and immigrants are taking jobs is nonsense, and I just hope that, when people vote tomorrow, they will take into account these important facts and will not be influenced by the insidious spin that has been put on all these facts, because there's no doubt that there is a divide in the country - a divide in how people are going to vote. Whatever the result, we're going, I think, to have a job in trying to restore community cohesion. But I do hope that people, as they vote, will think of their children and their grandchildren, as has been said this afternoon in the debate, and the hopes and opportunities for their children and grandchildren, but also think about the huge contribution - the economic contribution, the cultural contribution - that every person who lives here in our country, in Wales, contributes. When we say things, let's remember that.
Diolch. Diolch, Lywydd. Carwn ddweud ar ddechrau'r ddadl, fy mod wedi rhoi munud i Rhianon Passmore a munud i Joyce Watson ar ddiwedd fy araith. Teitl y ddadl a dewisais yw 'Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE?' Nawr, cyflwynais y ddadl hon cyn y digwyddiadau ofnadwy ddydd Iau diwethaf pan gafodd yr AS dros Batley a Spen, Jo Cox, ei lladd yn drasig yn ei hetholaeth. Rwy'n credu ei bod yn briodol i ni edrych ar y dylanwadau ar y farn gyhoeddus yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm yfory. Yn anffodus, rwy'n meddwl bod marwolaeth Jo wedi cael dylanwad ar y ddadl dros y penwythnos ac i mewn i'r wythnos hon. Roedd hi'n iawn ac yn briodol fod toriad wedi bod yn yr ymgyrchu dros y penwythnos, ond erbyn hyn rydym yn ôl wrthi'n go ffyrnig, fel y dangosodd y ddadl flaenorol, ond efallai fod yna dôn ychydig yn wahanol iddo ledled y DU. Felly, rwy'n gobeithio, yng ngoleuni'r math o berson oedd Jo a'r hyn a ddywedodd ei gŵr, Brendan Cox, yn dilyn ei marwolaeth drasig, y byddai hi'n hapus ac yn awyddus i ni barhau â'r ddadl ar refferendwm yr UE a'r frwydr i aros yn yr UE oherwydd roedd hi, fel y dywedodd ei gŵr, yn cefnogi'r UE yn frwd ac yn ymgyrchu dros bleidlais 'aros'. Felly, Lywydd, hoffwn ddweud ychydig am Jo, yn bersonol, a chysylltu ei chredoau wedyn â'r bleidlais y byddwn yn ei chael yfory. Heddiw fyddai pen-blwydd Jo yn 42 oed, a chynhelir digwyddiadau ar draws y byd i gofio amdani. Roedd digwyddiadau yn Efrog Newydd, Brwsel, Buenos Aires, Dulyn, Llundain, a bydd teyrnged iddi yng Ngŵyl Glastonbury hyd yn oed. Mae yna wylnos golau cannwyll hefyd mewn elusen i fenywod yn Syria am fod Jo'n frwd ei chefnogaeth i hawliau menywod. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cael y digwyddiad trawsbleidiol i fenywod sy'n Aelodau o'r Cynulliad ar risiau'r Senedd ddoe, pan dynnwyd sylw at yr hyn y mae'r UE wedi'i wneud i fenywod oherwydd, fel y dywedais, credai Jo fod yr UE yn cyflawni ar gyfer menywod. A chynhelir digwyddiad ychydig i fyny'r ffordd yn awr - neu mae eisoes wedi digwydd - yn y Deml Heddwch ac Iechyd yma yng Nghaerdydd, yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ar y thema 'Beth allwn ni ei wneud?' Nid oeddwn yn adnabod Jo Cox, ond rwy'n teimlo fy mod yn ei hadnabod, ac fel y dywedodd un o fy nghydweithwyr yn ddiweddar, hoffwn pe bawn i wedi ei hadnabod. Rwy'n uniaethu â hi fel gwleidydd benywaidd ac fel mam, ac yn arbennig, gallaf ddychmygu'r cyffro a deimlodd, mae'n rhaid, wrth gyrraedd San Steffan ychydig dros flwyddyn yn ôl, ar ôl yr etholiad cyffredinol yn 2015. Gallaf gofio'r teimlad hwnnw pan gefais fy ethol yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf yn 1997. Rwy'n meddwl ein bod i gyd wedi'i deimlo, gwta chwe wythnos yn ôl, pan gawsom oll y wefr o gael ein hethol a dod i'r Siambr hon gyda'n cynlluniau i newid y byd. Mae dwyster yr hyn sydd wedi digwydd i'r holl obeithion hynny ac iddi hi fel unigolyn, rwy'n meddwl, yn fy nharo mor gryf, ond rwy'n credu mai'r pethau roedd hi'n credu ynddynt yw'r hyn sy'n rhaid i ni barhau â hwy. Rhaid i mi ddweud, cefais fy nharo yn arbennig, wrth wrando ar yr ASau benywaidd presennol yn siarad am fod yn y Tŷ Cyffredin gyda Jo a sut roeddent i gyd yn arfer siarad am eu pryderon, ynglŷn â sut y maent yn sicrhau cydbwysedd yn eu bywyd teuluol, yn edrych ar ôl eu plant a gwneud gwleidyddiaeth, a'r euogrwydd mamol y mae hyn yn ei gynhyrchu, euogrwydd y mae llawer ohonom wedi'i deimlo. Mae'r drafodaeth yn Nhŷ'r Cyffredin, yn y ffordd honno, yn taro tant gyda llawer ohonom. Yr hyn a ddaeth yn amlwg o'r darllediadau am fywyd Jo yw cymaint roedd hi'n caru ei theulu, ond roedd hi'n caru ei gwleidyddiaeth yn ogystal, ac nid oeddent yn gwrthdaro. Roedd yn ymgyrchydd brwd, ac roedd hi'n llawn o dosturi. Ymgyrchodd dros hawliau dynol, datblygu rhyngwladol, sefyllfa ffoaduriaid, sefyllfa pobl amddifad, a'i chefndir yn gweithio mewn sefydliadau anllywodraethol sy'n ymgyrchu, fel Oxfam. Wrth gwrs, rydym eisoes wedi clywed llawer am ei gallu i weithio ar sail drawsbleidiol, a dywedodd yr AS Ceidwadol Andrew Mitchell fod Jo yn fenyw wirioneddol eithriadol y mae ei daioni a'i hymroddiad angerddol i werthoedd dyngarol wedi ysbrydoli pawb ohonom. Dywedodd gŵr Jo, Brendan, ei bod hi, cyn iddi farw, yn gynyddol bryderus am dôn y ddadl yn ymgyrch refferendwm yr UE, ac rwy'n meddwl bod y teimladau hynny wedi cael eu hadlewyrchu yma y prynhawn yma yn y ddadl rydym eisoes wedi'i chael. Bedwar diwrnod cyn iddi gael ei lladd, ysgrifennodd Jo Cox erthygl yn rhybuddio yn erbyn y sbin ynglŷn â mewnfudo yn y ddadl ar yr UE. Ysgrifennodd Ni allwn ganiatáu i bleidleiswyr gredu'r sbin mai pleidlais i adael yw'r unig ffordd o ymdrin â phryderon am fewnfudo. Yn dilyn ei marwolaeth, yn ei deyrnged iddi yn Nhŷ'r Cyffredin, rhybuddiodd Stephen Kinnock fod 'canlyniadau i rethreg', a chredaf ei bod yn bwysig iawn i ni gofio hynny. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn pan fyddwn yn sôn am faterion sensitif megis mewnfudo, gan fod canlyniadau i rethreg. Cyfeiriodd at y poster y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato'n gynharach heddiw a dywedodd y byddai Jo Cox wedi ffieiddio pe bai hi wedi byw i weld poster UKIP, a oedd yn dangos torf o ffoaduriaid yn dianc rhag y rhyfel cartref yn Syria fel ffordd o roi hwb i'r gefnogaeth i'r rhai sydd am adael y DU, ac: Ni allaf ond dychmygu ymateb Jo pe bai wedi gweld y poster a gafodd ei ddadorchuddio oriau cyn ei marwolaeth - poster ar strydoedd Prydain a oedd yn pardduo cannoedd o ffoaduriaid diobaith, gan gynnwys plant newynog ac ofnus yn dianc rhag arswyd ISIS a bomiau Rwsia. Byddai wedi ymateb gyda dicter, ac wedi gwrthod yn gadarn y naratif bwriadol o sinigiaeth, ymraniad ac anobaith. Ac rwy'n credu mai dyna yw'r dôn y mae'r refferendwm hwn wedi'i hannog, oherwydd mae mewnfudo wedi bod yn thema sydd wedi rhedeg drwy ymgyrch y refferendwm. Mae wedi cael sylw enfawr yn y papurau newydd, ar-lein ac yn y cyfryngau darlledu. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi gweld y ddadl neithiwr ac fel y dywedodd Sadiq Khan yn nadl y refferendwm neithiwr, wrth yr ymgyrch dros adael, mewn perthynas â mewnfudo, Nid prosiect ofn yw eich ymgyrch wedi bod, ond prosiect casineb. Rwyf wedi bod allan yn ymgyrchu yn fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd, a phan fyddaf yn siarad â phobl, rwy'n credu nad oes yna amheuaeth o gwbl fod tôn y ddadl wedi dylanwadu, ac yn dylanwadu ar farn pobl ynglŷn â mewnfudo. Ac rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn, pan fyddwn yn sôn am fewnfudo, pan fyddwn yn sôn am fewnfudwyr ac ymfudwyr, dylem feddwl am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl sy'n fewnfudwyr, sy'n ymfudwyr, sy'n byw yn y wlad hon. Beth yw eu barn am y ddadl hon? Beth yw eu hymateb? Nid oes amheuaeth o gwbl fod hyn yn effeithio ar bobl yn y sefyllfa honno. Maent yn teimlo nad oes neb eu heisiau yma. Mae pobl wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod yn ddinasyddion eilradd, ac rwy'n credu ei bod yn hollol warthus fod bodau dynol yn ein gwlad yn cael eu gwneud i deimlo fel hyn. Credaf ei bod yn bosibl cael dadl am fewnfudo, dadl iawn, gytbwys, ond nid yn y dôn y mae'r ddadl hon wedi'i fframio. Rwy'n credu ei bod wedi bod yn ddichellgar, ac rwy'n credu ei bod wedi dylanwadu ar bobl pan fyddant yn ystyried sut y maent yn mynd i bleidleisio. Hefyd, mae'n bwysig iawn ein bod yn cael dadl sy'n seiliedig ar ffeithiau, a gwyddom fod y ffigurau sy'n cael eu rhoi, a thôn y ddadl, wedi'i gorliwio'n helaeth. Yn ôl ffigurau o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, 5.8 y cant yn unig yw canran y dinasyddion a aned y tu allan i'r DU yng Nghymru, ac mae canran yr ymfudwyr o oedran gweithio yng Nghymru yn 8 y cant o'r boblogaeth. Mae hynny'n cynnwys ceiswyr lloches, ffoaduriaid, 25,000 o fyfyrwyr rhyngwladol - a gwyddom cymaint rydym am annog myfyrwyr rhyngwladol yma - ac wrth gwrs, ymfudwyr sy'n gwneud gwaith sgiliau uwch a gwaith heb sgiliau. Gwyddom fod gweithwyr mudol yn debygol o fod yn iau, maent yn fwy tebygol o fod wedi'u haddysgu'n well, ac maent yn fwy tebygol o fod yn gyflogedig na'r boblogaeth a aned yn y DU. Rwy'n meddwl bod y ffigurau hynny'n dangos cyfraniad enfawr ymfudwyr i Gymru ac i'r DU. Mae miloedd o ymfudwyr yn gweithio yn y GIG. Mae miloedd o ymfudwyr yn gweithio yn y diwydiant gofal. Beth pe baent i gyd yn penderfynu mynd adref am eu bod wedi cael llond bol ar y ffordd y cânt eu trin yn y wlad hon, am eu bod yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd? Wrth gwrs, ar draws y DU, mewnfudwyr o'r UE yw 10 y cant o feddygon cofrestredig, a gwyddom pa mor anodd yw hi i gael meddygon. Beth sy'n mynd i ddigwydd os ydynt yn penderfynu eu bod eisiau mynd adref? Hefyd, pam ddylai ymfudwyr sy'n byw yma gael y bai am unrhyw ddiffygion ym maes tai neu ysbytai neu ysgolion? Oherwydd dyna beth y mae pobl wedi'i lyncu o'r propaganda dichellgar hwn - maent yn dweud, 'Maent yn cymryd ein tai; maent yn cymryd ein lleoedd mewn ysgolion.' Rydym wedi gweld cyfnod estynedig o galedi gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, sydd wedi golygu ei bod yn anochel y gwelwn fwy o doriadau eto i wasanaethau awdurdodau lleol, ond nid yw'n fai ar ymfudwyr os nad oes digon o dai cyngor i'w cael, neu os yw llyfrgell leol yn cau. Mae hynny yn nwylo'r Llywodraeth - ein Llywodraethau ni yma yn y DU. Mae'r dadleuon eraill sydd wedi cael eu gwyntyllu'n gadarn iawn yma y prynhawn yma yn ymwneud â sofraniaeth - y syniad y dylem adfer ein rheolaeth ar ein ffiniau, a ninnau eisoes yn gwybod nad ydym yn rhan o gytundeb Schengen, felly mae gennym reolaeth dros ein ffiniau - a hefyd y syniad fod swyddogion anetholedig yn yr UE yn gwneud polisi yma yn y DU, sy'n hollol anghywir, oherwydd ni all unrhyw beth basio oni bai ei fod wedi'i gytuno gan Gyngor y Gweinidogion, a gaiff eu hethol. Mae'n chwerthinllyd fod gwlad sy'n dal i feddu ar Dŷ'r Arglwyddi yn meddwl bod yr Undeb Ewropeaidd yn fiwrocrataidd ac yn anetholedig, oherwydd, mewn gwirionedd, rwy'n meddwl bod y rhan fwyaf o'r gwledydd eraill yn meddwl ei fod yn hollol anhygoel fod gennym Dŷ'r Arglwyddi yma. Felly, o ran gwaith a'r syniad fod mewnfudwyr yn mynd â swyddi pobl, dyma chwedl arall eto sydd wedi'i pharhau'n ddiddiwedd. Mae mwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru yn awr nag ar unrhyw adeg arall, ac mae mwy o bobl a aned yn y DU yn gweithio yn awr nag erioed. Mae hynny'n wir am Gymru a'r DU. Mae ymfudwyr yn rhan o'r llwyddiant economaidd. Felly, mae'r syniad hwn fod ymfudwyr a mewnfudwyr yn mynd â swyddi yn nonsens, ac rwy'n gobeithio, pan fydd pobl yn pleidleisio yfory, y byddant yn ystyried y ffeithiau pwysig hyn ac na chânt eu dylanwadu gan y sbin dichellgar sydd wedi'i roi ar yr holl ffeithiau hyn, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod rhaniad yn y wlad - rhaniad yn y ffordd y mae pobl yn mynd i bleidleisio. Beth bynnag fydd y canlyniad, rydym yn mynd i gael gwaith adfer cydlyniant cymunedol yn fy marn i. Ond rwy'n gobeithio y bydd pobl, wrth iddynt bleidleisio, yn meddwl am eu plant a'u hwyrion, fel y dywedwyd y prynhawn yma yn y ddadl, ac am obeithion a chyfleoedd ar gyfer eu plant a'u hwyrion, ac yn meddwl hefyd am y cyfraniad enfawr - y cyfraniad economaidd, y cyfraniad diwylliannol - y mae pob person sy'n byw yma yn ein gwlad, yng Nghymru, yn ei gyfrannu. Pan fyddwn yn dweud pethau, gadewch i ni gofio hynny.
Diolch, Lywydd. It is also with great sadness that I stand here today and speak to the influences of public opinion. The tragedy here is that this has been predictable in terms of the shift across the media in particular in terms of the tabloid newspapers that have, indeed, fuelled this insidious racism - let's call it what it is. I feel very sad that, as a result of this type of misinformation, as a result of that the facts haven't got through effectively in terms of immigration, that the expert opinion of every known economic body, almost, to man has been discounted in favour of an insidious race to the gutter in terms of the party opposite, who, quite frankly, haven't even bothered to turn up to this short debate this evening or this afternoon - . I find it, personally, quite tragic that this has contributed to increasing division in our society, an increasing lack of cohesion in our society, and increasing racial hatred, which the data now are actually proving in terms of what's coming through. The sick pictures that have been referenced by many today are still out there; they've not been recalled as far as I know. I know that Unison is taking action with the metropolitan police in terms of incitement to racial hatred, but what I find very tragic is that this is actually normal and it's been normalised. The tone of this debate has got to such an awful point that we're actually here talking about pictures of refugees being used as political fodder, so that we can actually target opinion based around false facts around immigration and false argument around what this is all about.
Diolch, Lywydd. Gyda thristwch mawr rwyf finnau hefyd yn siarad yma heddiw am ddylanwadau ar y farn gyhoeddus. Y drasiedi yma yw bod hyn wedi bod yn rhagweladwy o ran y newid ar draws y cyfryngau yn arbennig o ran y papurau newydd tabloid sydd wedi tanio'r hiliaeth ddichellgar hon yn wir - gadewch i ni ei alw yr hyn ydyw. Rwy'n teimlo'n drist iawn, o ganlyniad i'r math hwn o gamwybodaeth, o ganlyniad i'r methiant i drosglwyddo ffeithiau'n effeithiol ynglŷn â mewnfudo, fod barn arbenigol bron bob corff economaidd y gwyddys amdano wedi cael ei diystyru o blaid ras ddichellgar i gyrraedd y gwter ar ran y blaid gyferbyn, nad yw hyd yn oed wedi trafferthu dod i'r ddadl fer hon heno neu'r prynhawn yma a dweud y gwir - . Yn bersonol, rwy'n teimlo ei bod yn drueni mawr fod hyn wedi cyfrannu at gynyddu rhaniadau yn ein cymdeithas, at ddiffyg cydlyniad cynyddol yn ein cymdeithas, a'r cynnydd mewn casineb hiliol sydd bellach wedi'i brofi gan y data mewn gwirionedd o ran yr hyn sy'n dod drwodd. Mae'r lluniau di-chwaeth y cyfeiriodd sawl un atynt heddiw yn dal i fod allan yno; nid ydynt wedi cael eu tynnu'n ôl hyd y gwn. Gwn fod Unsain yn rhoi camau ar waith gyda'r heddlu metropolitanaidd mewn perthynas ag ysgogi casineb hiliol, ond yr hyn sy'n drasiedi yn fy meddwl i yw bod hyn mewn gwirionedd yn eithaf normal ac mae wedi cael ei normaleiddio. Mae tôn y ddadl hon wedi cyrraedd lle mor ofnadwy fel ein bod yma mewn gwirionedd yn y fan hon yn sôn am luniau o ffoaduriaid yn cael eu defnyddio fel porthiant gwleidyddol, fel y gallwn dargedu barn mewn gwirionedd yn seiliedig ar ffeithiau ffug ynglŷn â mewnfudo a dadl ffug ynglŷn â beth y mae hyn i gyd yn ymwneud ag ef.
You need to bring your words to a conclusion.
Mae angen i chi ddod â'ch geiriau i ben.
Okay, thank you. So, instead of pandering to these issues around immigration and ignoring the facts, all I would say, to finish my comments, is that, to honour the memory of Jo Leadbeater - Jo Cox - who was for equal treatment and humanitarian causes, aid for refugees and a fair media, we must choose to collaborate and work within the EU, not outside of it. To use her words, we are all far better working together than divided apart, and I think this is a fitting statement for us to consider and for Wales to consider when, tomorrow, we actually make that vote.
Iawn, diolch. Felly, yn lle porthi'r materion hyn sy'n ymwneud â mewnfudo ac anwybyddu'r ffeithiau, y cyfan y byddwn yn ei ddweud, i orffen fy sylwadau yw hyn: er mwyn anrhydeddu'r cof am Jo Leadbeater - Jo Cox - a oedd yn sefyll dros driniaeth gyfartal ac achosion dyngarol, cymorth i ffoaduriaid a chyfryngau teg, mae'n rhaid i ni ddewis cydweithio a gweithio o fewn yr UE, nid y tu allan iddo. I ddefnyddio ei geiriau, rydym i gyd yn llawer gwell pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd na phan fyddwn yn rhanedig ar wahân, ac rwy'n credu bod hwn yn ddatganiad addas i ni ei ystyried ac i Gymru ei ystyried wrth i ni fynd ati i bleidleisio yfory.
I thank Julie Morgan, first, for bringing this debate and, secondly, for giving me one minute, which I shall try and stick to. I, like all the colleagues here, present now, want to pay tribute to Jo Cox. We are all stunned by what happened, but we are also, I hope, inspired by what she left behind, and want to pick up what she believed in and what she, hopefully, has left behind as a marker, as a catalyst for change in political discourse, going forward. There is no doubt that the political discourse hasn't been very helpful in this referendum campaign, but there has been a change. The sadness is that it took somebody's death for that change to happen. I believe - and I'm sure everybody else does here - that what we need to do, whatever the result tomorrow, is move forward in celebrating the diversity that the different cultures and individuals bring to our society. We must make a promise here, today, on what would've been Jo's birthday, to never promote division and fear, but to unite together to move forward in hope and love.
Diolch i Julie Morgan, yn gyntaf, am gyflwyno'r ddadl hon ac yn ail, am roi munud i mi, a cheisiaf gadw ati. Rwyf fi, fel yr holl gyd-Aelodau sy'n b resennol yn awr, eisiau talu teyrnged i Jo Cox. Cawsom i gyd ein syfrdanu gan yr hyn a ddigwyddodd, ond rydym hefyd, rwy'n gobeithio, wedi cael ein hysbrydoli gan yr hyn a adawodd ar ôl, ac rydym yn awyddus i gymryd yr hyn y credai ynddo a'r hyn y mae hi, gobeithio, wedi'i adael ar ôl fel nod, fel catalydd ar gyfer newid mewn trafodaethau gwleidyddol yn y dyfodol. Nid oes amheuaeth nad yw'r drafodaeth wleidyddol wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn ymgyrch y refferendwm hwn, ond mae newid wedi digwydd. Y tristwch yw bod rhywun wedi gorfod marw er mwyn i'r newid hwnnw ddigwydd. Rwy'n credu - ac rwy'n siŵr fod pawb arall yma hefyd yn credu - mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud, beth bynnag fo'r canlyniad yfory, yw symud ymlaen i ddathlu'r amrywiaeth y mae'r gwahanol ddiwylliannau ac unigolion yn eu cyfrannu i'n cymdeithas. Mae'n rhaid i ni wneud addewid yma, heddiw, ar yr hyn a fyddai wedi bod yn ben-blwydd Jo, i beidio byth â hybu rhaniadau ac ofn, ond i uno gyda'n gilydd a symud ymlaen mewn gobaith a chariad.
I call on the Cabinet Secretary for Finance and Local Government, Mark Drakeford.
Galwaf nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd. I'm very glad that I've had the chance to stay and hear this short debate. I thought Julie Morgan's contribution was absolutely characteristically thoughtful about the issues and committed to finding answers for people who need them most of all. She began by talking about the life of Jo Cox, and I don't think there's anything I could say that would add to the tributes that were paid yesterday, and again in the short debate, to her life. I thought what I would do is just to think, for a moment or two, about the causes that the money that has flooded in in the aftermath of her death - the causes to which that money is to be devoted. Because that money is a spontaneous way in which people, so touched by what happened and struggling to know what they could do to say anything about their own reaction to it - handing some money in is just one way that people feel they can do something practical, and there are three causes, as people will know, that her remarkable family have decided that that money should be devoted to. The first is to help volunteers in combating loneliness in her constituency. Now we were urged earlier this afternoon to listen to what people say to us on the doorstep. And when we are puzzling, as we must, as to why so many people who in other ways would share many other things that we think are important are going to vote in a different way than we would hope they would vote tomorrow, then - I think, as I went around the business of knocking doors in my constituency in March and April, that the more people are cut off from the life of the rest of the community around them, the more they feel they lack connections to ordinary and mainstream things, then the more people were likely to ask you about the referendum and more likely to tell you that they were going to vote to leave the European Union. The social bonds that connect us in our own communities are the same social bonds that allow us to feel confident in wanting to be part of communities even beyond our own. The work that that money will do in helping to combat loneliness is part of work to stitch back that social fabric for people who have been disconnected from it by the impact of austerity, but also, for people that Julie spoke of who come to live in our society and who often struggle most of all to feel that they are welcome and that they have connections that they can build on to build a future for themselves amongst the rest of us, that money will help them as well. And it will help them in a way that the second of the organisations that money will help explains very well indeed, because it will be money for HOPE not hate. It is true, as we've heard in this Chamber this afternoon, that, amongst some of those who have tried to persuade other people to vote to leave the European Union, their appeal has been to fear and to hate. We cannot possibly fashion a future that is the one we would want to see for ourselves or those that we hold dear to us that is based on that way of thinking. For a family that has been the direct recipients of the outcome of what hate can do to put money into hope, and hope for the future, I think is an absolutely remarkable decision, and which links the way in which people who feel apart from society, and therefore are susceptible to appeals that there is some easy answer that involves blaming somebody else for the predicament that they find themselves in - . To say that what we must offer those people is not hatred of other people, but hope for themselves and for their communities, is, I think, a genuine tribute to her life and what it has meant. The third organisation is the White Helmets organisation, an organisation that operates not in this country, let alone her constituency, but in Syria - an organisation that has saved 51,000 lives of people trapped under the rubble that comes from being under a real threat of death and disruption. And that third sense of being connected, not just to the life of people in the community that is around you, but the way that that community can be connected to the lives of people experiencing things that we can barely imagine, I think is that third and remarkable tribute to her life, but not just to her life, but to the things that her life held to be important, and which would be identified with so very strongly by so many people in this National Assembly for Wales. Now, Julie went on to make her own connections between the life of Jo Cox and the decision that is going to be made in this country tomorrow. The public has undoubtedly been exposed to a huge range of information during the referendum campaign, so much of it highly negative. But the case that we would make, the Welsh Government would wish to make, and other people in this Chamber would wish to make, for the future that has us in the European Union is one that is wholly positive. Being part of the European Union has been a positive experience for Wales economically, environmentally and socially. When we think of what we know about how people may vote tomorrow, then, as well as a difference between those people who feel isolated and cut off and those people who are able to live connected lives, there will be a difference, as far as we can tell, between the decisions of older people, who are more likely to feel that they are at a distance from the life of the community, and how young people will vote. The future of the European Union for young people in Wales seems to me absolutely essential in making it clear that we are a nation in the European mainstream where our young people can work, live and study in other European states, can go, can take the richness of the culture we have here in Wales and return to Wales enriched still further by the opportunities that they will have had. It's that positive sense of what being a European is about that I think should be at the heart of our message to people and why we want them to vote tomorrow for Wales to continue to be connected into a European Union that is vital to the present and future prosperity of Wales, that promotes and protects our businesses, our children's education, our environment and the services that we rely on, that protects our workers' rights, that is clear that environmental damage does not stop at borders and that progress against climate change, for example, can only be made by nations acting together - a Europe that helps keep us safer at a time when understandable fears about security are felt by everyone, a Europe that acts together to tackle the great challenges of our time and acts positively to provide a future for our children and our nation of the sort that those three organisations that the money raised in memory of Jo Cox will be doing in her part of the world and across the world as a whole. Thank you very much.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i aros a chlywed y ddadl fer hon. Roeddwn i'n meddwl bod cyfraniad Julie Morgan yn gwbl nodweddiadol feddylgar am y materion sy'n codi ac yn ymrwymedig i ddod o hyd i atebion ar gyfer y bobl sydd fwyaf o'u hangen. Dechreuodd drwy sôn am fywyd Jo Cox, ac nid wyf yn credu bod unrhyw beth y gallwn ei ddweud a fyddai'n ychwanegu at y teyrngedau a roddwyd ddoe, ac eto yn y ddadl fer, i'w bywyd. Roeddwn i'n meddwl mai'r hyn y byddwn yn ei wneud yw meddwl, am funud neu ddau, am yr achosion y mae'r arian sydd wedi llifo i mewn yn dilyn ei marwolaeth - yr achosion y rhoddir yr arian hwnnw tuag atynt. Oherwydd mae'r arian hwnnw'n ffordd ddigymell y mae pobl sydd wedi'u cyffwrdd cymaint gan yr hyn a ddigwyddodd ac sy'n ei chael yn anodd gwybod beth y gallent ei wneud i ddweud unrhyw beth am eu hymateb iddo - mae cyfrannu ychydig o arian yn un ffordd y mae pobl yn teimlo y gallant wneud rhywbeth ymarferol, a cheir tri achos, fel y bydd pobl yn gwybod, y mae ei theulu eithriadol wedi penderfynu rhoi'r arian hwnnw tuag atynt. Y cyntaf yw helpu gwirfoddolwyr i frwydro yn erbyn unigrwydd yn ei hetholaeth. Nawr cawsom ein hannog yn gynharach y prynhawn yma i wrando ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthym ar garreg y drws. A phan fyddwn yn cwestiynu, fel y mae'n rhaid i ni, pam fod cymaint o bobl a fyddai mewn ffyrdd eraill yn rhannu llawer o bethau eraill y credwn eu bod yn bwysig yn bwriadu pleidleisio mewn ffordd wahanol i'r un y byddem yn ei obeithio yfory, yna - rwy'n meddwl, wrth i mi fynd o gwmpas yn curo drysau yn fy etholaeth ym mis Mawrth a mis Ebrill, po fwyaf y bydd pobl wedi'u gwahanu oddi wrth fywyd gweddill y gymuned o'u cwmpas, y mwyaf y maent yn teimlo nad oes ganddynt gysylltiad â phethau cyffredin a phrif ffrwd, yna'r mwyaf y bydd bobl yn debygol o ofyn i chi am y refferendwm a'r mwyaf tebygol y byddent o ddweud wrthych eu bod yn mynd i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Y clymau cymdeithasol sy'n ein cysylltu yn ein cymunedau yw'r un clymau cymdeithasol sy'n ein galluogi i deimlo'n hyderus i fod yn rhan o gymunedau, hyd yn oed y tu hwnt i'n rhai ni ein hunain. Mae'r gwaith y bydd yr arian yn ei wneud i helpu i wrthsefyll unigrwydd yn rhan o'r gwaith ar bwytho'r gwead cymdeithasol yn ôl at ei gilydd ar gyfer pobl sydd wedi'u datgysylltu oddi wrth gymdeithas gan effaith caledi, ond hefyd, ar gyfer pobl y soniodd Julie amdanynt sy'n dod i fyw yn ein cymdeithas ac sy'n aml yn ei chael yn anodd yn bennaf oll i deimlo bod croeso iddynt a bod ganddynt gysylltiadau y gallant adeiladu arnynt i greu dyfodol iddynt eu hunain ymhlith y gweddill ohonom, a bydd yr arian hwnnw'n eu helpu hwythau hefyd. A bydd yn eu helpu mewn ffordd y mae'r ail sefydliad y bydd yr arian hwnnw'n ei helpu yn ei esbonio'n dda iawn yn wir, oherwydd bydd yr arian yn mynd i HOPE not hate. Fel y clywsom yn y Siambr hon y prynhawn yma, mae'n wir fod rhai o'r rheini sydd wedi ceisio perswadio pobl eraill i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn apelio at ofn a chasineb. Ni allwn greu dyfodol y byddem am ei weld i ni ein hunain neu'r rhai sy'n annwyl i ni yn seiliedig ar y ffordd honno o feddwl. Mae i deulu sydd wedi dioddef canlyniad yr hyn y gall casineb ei wneud yn uniongyrchol roi arian tuag at obaith, a gobaith ar gyfer y dyfodol, rwy'n meddwl bod hwnnw'n benderfyniad hollol eithriadol, ac mae'n cysylltu'r ffordd y mae pobl sy'n teimlo ar wahân i gymdeithas, ac felly'n agored i apêl fod yna ateb hawdd sy'n cynnwys beio rhywun arall am y trafferthion y maent ynddynt eu hunain yn - . Rwy'n credu bod dweud mai'r hyn sy'n rhaid i ni ei gynnig i'r bobl hynny yw gobaith iddynt eu hunain a'u cymunedau yn hytrach na chasineb tuag bobl eraill yn deyrnged wirioneddol i'w bywyd a'r hyn y mae wedi'i olygu. Y trydydd sefydliad yw sefydliad White Helmets, sefydliad sy'n gweithredu, nid yn y wlad hon, heb sôn am ei hetholaeth, ond yn hytrach yn Syria - sefydliad sydd wedi achub 51,000 o fywydau pobl a gaethiwyd dan y rwbel sy'n deillio o fod dan fygythiad gwirioneddol o farwolaeth ac aflonyddwch. A'r trydydd ymdeimlad hwnnw o fod wedi'ch cysylltu, nid yn unig â bywyd pobl yn y gymuned sydd o'ch cwmpas, ond y ffordd y gall y gymuned honno fod wedi'i chysylltu at fywydau pobl sy'n dioddef pethau na allwn eu dychmygu bron, rwy'n meddwl mai dyna'r drydedd deyrnged hynod i'w bywyd, ond nid yn unig i'w bywyd hi, ond i'r pethau roedd hi'n eu hystyried yn bwysig yn ei bywyd, ac y byddai cymaint o bobl yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn uniaethu mor gryf â hwy. Nawr, aeth Julie ymlaen i wneud ei chysylltiadau ei hun rhwng bywyd Jo Cox a'r penderfyniad sy'n mynd i gael ei wneud yn y wlad hon yfory. Yn ddiamau, mae'r cyhoedd wedi bod yn agored i amrywiaeth enfawr o wybodaeth yn ystod ymgyrch y refferendwm, a chymaint ohono'n hynod negyddol. Ond mae'r achos y byddem yn ei wneud, yr achos y byddai Llywodraeth Cymru am ei wneud, ac y byddai pobl eraill yn y Siambr hon yn dymuno ei wneud dros ddyfodol sy'n ein cynnwys yn yr Undeb Ewropeaidd yn un sy'n gyfan gwbl gadarnhaol. Mae bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn brofiad cadarnhaol i Gymru yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. Pan fyddwn yn meddwl am yr hyn a wyddom ynglŷn â sut y bydd pobl yn pleidleisio yfory, yna, yn ogystal â gwahaniaeth rhwng y bobl hynny sy'n teimlo'u bod wedi'u hynysu ac wedi'u torri i ffwrdd oddi wrth y bobl sy'n gallu byw bywydau cysylltiedig, bydd yna wahaniaeth, cyn belled ag y gallwn ddweud, rhwng penderfyniadau pobl hŷn, sy'n fwy tebygol o deimlo eu bod yn bell oddi wrth fywyd y gymuned, a sut y bydd pobl ifanc yn pleidleisio. Mae dyfodol yr Undeb Ewropeaidd i bobl ifanc yng Nghymru yn ymddangos i mi yn gwbl hanfodol o ran ei gwneud yn glir ein bod yn genedl yn y brif ffrwd yn Ewrop lle y gall ein pobl ifanc weithio, byw ac astudio mewn gwladwriaethau Ewropeaidd eraill, a gallu mynd, gallu mynd â chyfoeth y diwylliant sydd gennym yma yng Nghymru a dychwelyd i Gymru wedi'u cyfoethogi ymhellach gan y cyfleoedd y byddant wedi'u cael. Credaf mai'r ymdeimlad cadarnhaol hwnnw o beth yw bod yn Ewropead a ddylai fod wrth wraidd ein neges i bobl a pham rydym am iddynt bleidleisio yfory er mwyn i Gymru barhau i fod yn gysylltiedig mewn Undeb Ewropeaidd sy'n hanfodol i ffyniant presennol Cymru a'u ffyniant yn y dyfodol, sy'n hyrwyddo ac yn diogelu ein busnesau, addysg ein plant, ein hamgylchedd a'r gwasanaethau rydym yn dibynnu arnynt, sy'n amddiffyn hawliau ein gweithwyr, sy'n glir nad yw difrod amgylcheddol yn dod i ben gyda ffiniau gwledydd ac na ellir gwneud cynnydd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd er enghraifft, oni bai bod gwledydd yn gweithio gyda'i gilydd - Ewrop sy'n helpu i'n cadw'n fwy diogel ar adeg pan fo pawb yn teimlo ofnau dealladwy ynglŷn â diogelwch, Ewrop sy'n gweithredu gyda'i gilydd i fynd i'r afael â heriau mawr ein hoes ac sy'n gweithredu'n gadarnhaol i roi dyfodol i'n plant a'n cenedl o'r math y bydd y tri sefydliad y mae'r arian a godir er cof am Jo Cox yn ei wneud yn ei rhan hi o'r byd ac ar draws y byd yn gyfan. Diolch yn fawr iawn.
I thank the Cabinet Secretary, and that brings today's proceedings to a close.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, a daw hynny â'n trafodion ni heddiw i ben.
The first item on our agenda this afternoon is questions to the First Minister, and the first question is from Janet Finch-Saunders.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Janet Finch-Saunders.
Over 99 per cent of eligible farm businesses have been paid.
Mae dros 99 y cant o fusnesau fferm cymwys wedi cael eu talu.
Thank you. I'm obliged to raise this question, actually, as a result of my own intense concerns at the handling of basic payments that are still outstanding to our farmers, and your own Government department's process. Seventeen thousand and sixty-three farmers submitted their applications in June 2015, yet 12 months later, there are approximately 171 yet to receive any payment. Indeed, in Aberconwy, I have represented farmers who have waited several months for payment without any acknowledgment of their application, and many promised that they've been paid, when, in fact, they have not - one was for £60,000. First Minister, a delay of such magnitude is now putting farmers' livelihoods at risk. Outstanding payments are causing immense stress and frustration. First Minister, will you look into your own Government department's workings in this regard, to ensure that our hardworking farmers and the custodians of our countryside are not facing potential financial ruin because of your own Government department delays?
Diolch. Mae'n rhaid i mi godi'r cwestiwn hwn, a dweud y gwir, yn sgil fy mhryderon dwys fy hun am y ffordd y mae taliadau sylfaenol sy'n dal heb eu talu i'n ffermwyr wedi eu trin, a phroses eich adran Llywodraeth eich hun. Cyflwynodd dwy fil ar bymtheg a chwe deg a thri o ffermwyr eu ceisiadau ym mis Mehefin 2015, ond 12 mis yn ddiweddarach, mae tua 171 yn dal i fod heb gael unrhyw daliad. Yn wir, yn Aberconwy, rwyf wedi cynrychioli ffermwyr sydd wedi aros sawl mis am daliad heb unrhyw gydnabyddiaeth o'u cais, a llawer yr addawyd iddynt eu bod wedi cael eu talu, pan, mewn gwirionedd, nad ydynt - roedd un am £60,000. Brif Weinidog, mae oedi mor hir yn rhoi bywoliaeth ffermwyr mewn perygl yn awr. Mae taliadau nad ydynt wedi eu gwneud yn achosi straen a rhwystredigaeth aruthrol. Brif Weinidog, a wnewch chi edrych i mewn i drefn eich adran Llywodraeth eich hun yn hyn o beth, er mwyn sicrhau nad yw ein ffermwyr gweithgar a cheidwaid ein cefn gwlad yn wynebu chwalfa ariannol posibl oherwydd oediadau eich adran Llywodraeth eich hun?
I repeat again the answer I gave to the original question: over 99 per cent of eligible farm businesses have been paid - have had a basic payment scheme payment. If there are individual farms where there are difficulties, the correct thing to do is to raise those difficulties with the Minister, so that they can be looked at for those individuals. But we consistently outperform England and Scotland year upon year upon year when it comes to paying our farmers.
Ailadroddaf eto yr ateb a roddais i'r cwestiwn gwreiddiol: mae dros 99 y cant o fusnesau fferm cymwys wedi cael eu talu - wedi cael taliad o'r cynllun taliadau sylfaenol. Os oes ffermydd unigol lle ceir anawsterau, y peth iawn i'w wneud yw codi'r anawsterau hynny gyda'r Gweinidog, fel y gellir eu hystyried ar ran yr unigolion hynny. Ond rydym ni'n perfformio'n well na Lloegr a'r Alban yn gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn pan ddaw i dalu ein ffermwyr.
I'm sure, First Minister, that you, like me, regret the fact that so many farmers voted to leave the European Union and that there's no doubt that that did happen. One of the reasons that they gave me for considering that, when I discussed the issue with them, was not that the payments were late but that penalties and fines would follow minor disagreements or minor errors, as were identified by civil servants in the claims for these payments. Now, you've lost a great deal of confidence among the farming community because of those penalties, when Phil Hogan and the European Commission had said that it would be possible to be flexible. Although that's water under the bridge now, can you now actually revive the reputation of the Welsh Government among farmers by looking at the situation where penalties follow what should be a discussion between you as a Government and farmers about their payments?
Mae'n siŵr, Brif Weinidog, eich bod chithau, fel finnau, yn gresynu ac yn difaru bod siẁd gymaint o ffermwyr wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid oes dim dwywaith eu bod nhw wedi gwneud hynny. Un o'r rhesymau y gwnaethon nhw ei ddweud wrtha i eu bod nhw'n ystyried hynny pan oeddwn i'n trafod gyda nhw oedd nid bod y taliadau'n hwyr, ond bod cosbau a dirwyon yn dilyn mân anghytuno neu gamgymeriadau fel oedd yn cael eu gweld gan y gweision sifil yn yr hawliadau ar gyfer y taliadau hyn. Nawr, rydych chi wedi colli lot o ffydd ymysg y ffermwyr drwy fynnu'r cosbau hynny, pan oedd Phil Hogan a'r Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud bod modd bod yn hyblyg. Er bod y dŵr o dan y bont bellach, a oes modd adfer enw da Llywodraeth Cymru ymysg rhai ffermwyr o leiaf, drwy ailedrych ar y sefyllfa lle mae cosbau yn dilyn beth sydd i fod yn drafodaeth rhyngoch chithau fel Llywodraeth a ffermwyr dros eu taliadau?
May I ask the Member to write to me with more details? Of course, we have been following the regulations that exist at present and, of course, we have been paying farmers much more quickly than is the case in Scotland or England. But as regards the details of the individual farmers, I'd be pleased to receive a letter in order to consider exactly what's happened.
A gaf ofyn i'r Aelod i ysgrifennu ataf gyda mwy o fanylion? Ond, rydym wedi bod yn dilyn y rheolau sydd yna ar hyn o bryd, ac, wrth gwrs, fel ddywedais i'n gynharach, rydym wedi bod yn talu ffermwyr yn glou - lot yn gyflymach na beth sy'n iawn yn Lloegr a'r Alban. Ond ynglŷn â'r manylion am ffermydd unigol, byddwn i'n falch o gael llythyr er mwyn gallu ystyried beth yn gwmws sydd wedi digwydd.
Seventy-eight Syrian refugees were resettled in Wales at the end of May and we would expect more to arrive in Wales over the coming months.
Cafodd saith deg wyth o ffoaduriaid o Syria eu hailsefydlu yng Nghymru ddiwedd mis Mai a byddem yn disgwyl i fwy gyrraedd Cymru yn ystod y misoedd nesaf.
I thank the First Minister for that response. It's been very disturbing to hear of the racist comments that have increased since the result of the EU referendum and we hope that that won't affect the really good welcome that's been given in Wales to the Syrian refugees. But what more does the First Minister think can be done to help refugee children in particular, and unaccompanied asylum-seeking children, so that they get the maximum support from local authorities and the communities where they're placed?
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae wedi bod yn annymunol iawn clywed am y sylwadau hiliol sydd wedi cynyddu ers canlyniad refferendwm yr UE ac rydym ni'n gobeithio na fydd hynny'n effeithio ar y croeso gwirioneddol dda a roddwyd yng Nghymru i'r ffoaduriaid o Syria. Ond beth arall y mae'r Prif Weinidog yn ei gredu y gellir ei wneud i helpu plant sy'n ffoaduriaid yn benodol, a phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches, fel eu bod yn cael cymaint o gymorth â phosibl gan awdurdodau lleol a'r cymunedau lle y cânt eu lleoli?
I can inform the Member that the ministerial Syrian refugee taskforce, as she will know, was established in November 2015. That is supported by an operations board. There is a children's sub-group of that operations board, and that will ensure co-ordination of new schemes to take refugee children from the middle east and north Africa, unaccompanied asylum-seeking children from camps in Europe, and unaccompanied asylum-seeking children who have arrived in Kent. A conference is being hosted on 12 July by the Home Office with the local authorities to launch the national transfer scheme in Wales.
Gallaf hysbysu'r Aelod y sefydlwyd y tasglu gweinidogol ar gyfer ffoaduriaid o Syria, fel y bydd yn gwybod, ym mis Tachwedd 2015. Mae hwnnw wedi ei gefnogi gan fwrdd gweithrediadau. Ceir is-grŵp plant i'r bwrdd gweithrediadau, a bydd hwnnw'n sicrhau cydgysylltiad cynlluniau newydd i gymryd plant sy'n ffoaduriaid o'r dwyrain canol a gogledd Affrica, plant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches o wersylloedd yn Ewrop, a phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches sydd wedi cyrraedd yng Nghaint. Mae cynhadledd yn cael ei chynnal ar 12 Gorffennaf gan y Swyddfa Gartref gyda'r awdurdodau lleol i lansio'r cynllun trosglwyddo cenedlaethol yng Nghymru.
First Minister, I echo the concerns raised by Julie Morgan in relation to the racist comments that have happened since the European vote last week, and I would condemn that approach to the reaction to the European referendum. But I wonder whether you have considered how, moving forward - with the communities Minister, potentially - we can try and bring communities together. Because, a lot of people voted in this referendum, be it for reasons of voting against the establishment or voting against poverty in their local areas. How can we now, regardless of the vote, try and bring people together, to move forward as a nation so that we do not see future situations where people are divided and are turning against each other in their own communities?
Brif Weinidog, hoffwn adleisio'r pryderon a godwyd gan Julie Morgan o ran y sylwadau hiliol sydd wedi digwydd ers y bleidlais Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, a byddwn yn condemnio'r dull hwnnw o ymateb i'r refferendwm Ewropeaidd. Ond tybed a ydych chi wedi ystyried sut, yn y dyfodol - gyda'r Gweinidog cymunedau, o bosibl - y gallwn ni geisio dod â chymunedau at ei gilydd. Oherwydd, pleidleisiodd llawer o bobl yn y refferendwm hwn, boed hynny am resymau o bleidleisio yn erbyn y sefydliad neu bleidleisio yn erbyn tlodi yn eu hardaloedd lleol. Sut y gallwn ni nawr, gan roi'r bleidlais o'r neilltu, geisio dod â phobl at ei gilydd, i symud ymlaen fel cenedl fel nad ydym yn gweld sefyllfaoedd yn y dyfodol lle mae pobl wedi eu rhannu ac yn troi yn erbyn ei gilydd yn eu cymunedau eu hunain?
There is no doubt that our nation is divided, and it's important that that cohesion is re-established. I don't believe that division has suddenly appeared. I don't believe that, suddenly, people have changed their minds in terms of the way they perceive others. There will always be a small minority who feel that way - that's true of almost every country in the world, unfortunately. But, no, I think the emphasis now has to be - and I'll mention it later on, in the debate - that now is the time to rebuild and unite our nation of Wales in order to make sure that what we've seen as a breakdown in some communities, in terms of cohesion, is not something that we should see in the long term.
Nid oes amheuaeth bod ein cenedl wedi ei rhannu, ac mae'n bwysig bod y cydlyniad hwnnw'n cael ei ailsefydlu. Nid wyf yn credu bod y rhaniad hwnnw wedi ymddangos yn sydyn. Nid wyf yn credu, yn sydyn, bod pobl wedi newid eu meddyliau o ran y ffordd y maen nhw'n gweld pobl eraill. Bydd lleiafrif bach bob amser sy'n teimlo felly - mae hynny'n wir am bron i bob gwlad yn y byd, yn anffodus. Ond, na, rwy'n meddwl bod rhaid i'r pwyslais nawr fod - a byddaf yn sôn amdano yn ddiweddarach, yn y ddadl - mai nawr yw'r amser i ailadeiladu ac uno Cymru, ein cenedl, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw'r hyn yr ydym ni wedi ei weld fel chwalfa mewn rhai cymunedau, o ran cydlyniant, yn rhywbeth y dylem ni ei weld yn y tymor hir.
First Minister, can I join with those who've already expressed their condemnation of the racist attacks and criticisms that have taken place on social media and elsewhere in recent days? But can you also join with me in praising the work of faith communities across Wales, who've done their utmost to protect those Syrian refugees and others who have come to Wales to flee persecution in their countries, and, in particular, the Syrian Orthodox Church, which, of course, does have strong representation here in Wales and has engaged very positively both with the faith communities forum, which you, of course, chair, and the work of the Assembly, with the cross-party group on faith?
Brif Weinidog, a gaf i ymuno â'r rhai sydd eisoes wedi mynegi eu condemniad o'r ymosodiadau a'r beirniadaethau hiliol sydd wedi digwydd ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn mannau eraill yn y diwrnodau diwethaf? Ond a allwch chi hefyd ymuno â mi i ganmol gwaith cymunedau ffydd ledled Cymru, sydd wedi gwneud eu gorau glas i amddiffyn y ffoaduriaid hynny o Syria a phobl sydd wedi dod i Gymru i ffoi erledigaeth yn eu gwledydd, ac, yn arbennig, Eglwys Uniongred Syria, sydd, wrth gwrs, â chynrychiolaeth gref yma yng Nghymru ac sydd wedi ymgysylltu'n gadarnhaol iawn gyda'r fforwm cymunedau ffydd, yr ydych chi, wrth gwrs, yn ei gadeirio, a gwaith y Cynulliad, gyda'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd?