source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
Absolutely. I do thank you for that question. I'm pleased that we already have over 3,500 girl football players registered under the age of 18 and also nearly 1,500 adult women. I think that perhaps the current games will inspire more to consider getting involved with that. But you're absolutely right that sport plays an important role in public health, which is why the Welsh Government have moved sport and public health into the same portfolio. I'm very keen to find out more about the This Girl Can programme; perhaps we can have a meeting to discuss that further, because I'm very keen to see what we can do to encourage girls and women to take more interest in sport and physical activity and recreation as well. I'm aware that we're doing some great work through Street Games, which encourages girls in particular to get involved with street dance and other forms of activity that are beyond the traditional netball and hockey, which is not appealing to everybody, I know.
Yn bendant. Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n falch fod gennym eisoes dros 3,500 o chwaraewyr pêl-droed benywaidd o dan 18 oed wedi'u cofrestru yn ogystal â bron i 1,500 o fenywod sy'n oedolion. Credaf efallai y bydd y gemau presennol yn ysbrydoli mwy ohonynt i ystyried cymryd rhan yn hynny. Ond rydych yn hollol gywir fod chwaraeon yn chwarae rhan bwysig ym maes iechyd y cyhoedd, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi cyfuno chwaraeon ac iechyd y cyhoedd yn yr un portffolio. Rwy'n awyddus iawn i gael gwybod mwy am y rhaglen This Girl Can; efallai y gallwn gael cyfarfod i drafod hynny ymhellach, oherwydd rwy'n awyddus iawn i weld beth y gallwn ei wneud i annog merched a menywod i fod â mwy o ddiddordeb mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol a hamdden yn ogystal. Rwy'n ymwybodol ein bod yn gwneud gwaith gwych drwy Street Games, sy'n annog merched yn benodol i gymryd rhan mewn dawnsio stryd a mathau eraill o weithgaredd sydd y tu hwnt i'r pêl-rwyd a'r hoci traddodiadol, nad ydynt yn apelio at bawb, rwy'n gwybod.
In Newport East, we've been meeting locally - myself, the local health board, the leisure trust, Newport City Council, Natural Resources Wales, the local sports bodies and a host of others - to work out how we can get the local population more physically active. So, I wonder if you would agree with me, Minister, that Welsh Government should support those efforts, because if we are going to become more proactive and forge ahead on the preventative health front, we need to pull partners together to deliver meaningful action locally, right across Wales.
Yn Nwyrain Casnewydd, rydym wedi bod yn cyfarfod yn lleol - fi, y bwrdd iechyd lleol, yr ymddiriedolaeth hamdden, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, y cyrff chwaraeon lleol a llu o rai eraill - i weld sut y gallwn gael y boblogaeth leol yn fwy corfforol egnïol. Felly, tybed a fuasech yn cytuno, Weinidog, y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi'r ymdrechion hynny, oherwydd os ydym am fod yn fwy rhagweithiol a bwrw ymlaen gydag iechyd ataliol, mae angen i ni ddod â phartneriaid at ei gilydd i gyflawni camau gweithredu ystyrlon yn lleol, ar hyd a lled Cymru.
You're absolutely right in identifying there that the answer does lie in partnership working and this is why Welsh Government has, with Sport Wales and Public Health Wales, put in place a director of physical activity for Wales, and that director is currently putting together an action plan for action. We look forward to receiving that towards the end of this term. I'll spend this summer considering that and talking to stakeholders about it, with a view to publishing it later on in the autumn, setting out the actions for the next steps.
Rydych yn hollol gywir i nodi mai gweithio mewn partneriaeth yw'r ateb a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru, gyda Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi penodi cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol ar gyfer Cymru, ac mae'r cyfarwyddwr hwnnw yn paratoi cynllun gweithredu ar hyn o bryd. Rydym yn edrych ymlaen at gael hwnnw tua diwedd y tymor hwn. Byddaf yn treulio'r haf yn ei ystyried ac yn siarad â rhanddeiliaid amdano, gyda golwg ar ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn yr hydref, a nodi'r camau gweithredu ar gyfer y camau nesaf.
Thank you for the question in Diabetes Week. We invest nearly £100 million each year in specific diabetes care and we will continue to invest £1 million a year for improvement through the NHS-led diabetes implementation group. We expect to see improved patient outcomes by consistently meeting national service standards, supporting patient self-management through education programmes and helping to prevent people at high risk from developing diabetes.
Diolch am y cwestiwn yn ystod Wythnos Diabetes. Rydym yn buddsoddi bron i £100 miliwn bob blwyddyn mewn gofal diabetes penodol a byddwn yn parhau i fuddsoddi £1 filiwn y flwyddyn ar gyfer gwella drwy'r grŵp gweithredu diabetes a arweinir gan y GIG. Rydym yn disgwyl gweld canlyniadau gwell i gleifion drwy gyrraedd safonau gwasanaeth cenedlaethol yn gyson, cynorthwyo cleifion i hunanreoli drwy raglenni addysg a helpu i atal pobl sy'n wynebu risg uchel rhag datblygu diabetes.
Thank you for the answer, business Secretary. Figures revealed by Diabetes UK Cymru reveal that the number of people living with diabetes in Wales is at its highest ever level. Their director has highlighted the lack of understanding when it comes to people being aware of the seriousness of diabetes. Given that Wales has the worst rate of child obesity, does the Minister agree that we need to prevent children becoming overweight to reduce figure levels of diabetes? What plans does he have to work with schools and parents to improve the information necessary to achieve this goal in Wales?
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd busnes. Mae ffigurau gan Diabetes UK Cymru yn datgelu bod nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru yn uwch nag erioed. Mae eu cyfarwyddwr wedi tynnu sylw at y diffyg dealltwriaeth o ran ymwybyddiaeth pobl o ddifrifoldeb diabetes. O ystyried mai Cymru sydd â'r gyfradd waethaf o ordewdra ymysg plant, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen i ni atal plant rhag mynd dros bwysau er mwyn gostwng lefelau diabetes? Pa gynlluniau sydd ganddo i weithio gydag ysgolion a rhieni i wella'r wybodaeth sydd ei hangen i gyflawni'r nod hwn yng Nghymru?
I thank the Member for his follow-up question. Of course, we have two types of diabetes: type 1, which is not related to lifestyle factors at all, and type 2, which is, frankly, lifestyle-factor related. So, we need to deal with both of those issues. A number of children at varying ages understand that they will have type 1 diabetes and we do need to make sure that the care and support that they receive is appropriate, and also, for type 2 diabetes, we're much more into the field of prevention. So, let me just address both of those points. On type 2, it goes across a range of public health measures; it's not just a health and social services or even sport responsibility - there's a whole range of other people with an issue here, for example the work that we do on healthy schools and the way that schools engage. In every school I visit in my own constituency and around the country, you see a very clear healthy eating and healthy drinking message and in particular an awareness of sugar. So, a range of things that we do to encourage people to make different choices are important. We do have to work with parents as well, because we do know that whatever children have in school, a much bigger influence takes place outside of the school gates too. Just to reiterate the serious consequence of diabetes, yesterday Cardiff and Vale University Local Health Board highlighted a woman in her 50s who'd lost her sight in one eye; she had type 1 diabetes. She didn't manage her condition well in her 20s and 30s and had now lost sight in her eye. She's encouraging people to take advantage of the patient education programmes that are available. There's a broad range of people at risk, a broad range of messages and actions that we all need to take. It's a complex issue, but one we cannot avoid.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn dilynol. Wrth gwrs, mae gennym ddau fath o ddiabetes: math 1, nad yw'n gysylltiedig o gwbl â ffactorau'n ymwneud â ffordd o fyw unigolyn, a math 2, sydd, a bod yn onest, yn gysylltiedig â ffactorau sy'n ymwneud â ffordd o fyw unigolyn. Felly, mae angen i ni ymdrin â'r ddau fater hwnnw. Mae nifer o blant o wahanol oedrannau yn deall bod ganddynt ddiabetes math 1 ac mae angen i ni wneud yn siŵr fod y gofal a'r cymorth y maent yn ei gael yn briodol, a hefyd, o ran diabetes math 2, mae'n ymwneud llawer mwy ag atal. Felly, gadewch i mi fynd i'r afael â'r ddau bwynt hwnnw. Gyda math 2, mae'n ymestyn ar draws ystod o fesurau iechyd cyhoeddus; nid cyfrifoldeb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn unig mohono na chyfrifoldeb chwaraeon hyd yn oed - mae gan amrywiaeth eang o bobl eraill ran i'w chwarae yn hyn, er enghraifft, y gwaith rydym yn ei wneud ar ysgolion iach a'r ffordd y mae ysgolion yn ymgysylltu. Ym mhob ysgol rwy'n ymweld â hwy yn fy etholaeth fy hun a ledled y wlad, fe welwch neges glir iawn ar fwyta ac yfed yn iach ac ymwybyddiaeth o siwgr yn arbennig. Felly, mae amryw o'r pethau rydym yn eu gwneud i annog pobl i wneud dewisiadau gwahanol yn bwysig. Mae'n rhaid i ni weithio gyda rhieni yn ogystal, oherwydd beth bynnag y mae plant yn ei gael yn yr ysgol, gwyddom fod dylanwad llawer mwy y tu allan i giatiau'r ysgol hefyd. I ailadrodd canlyniadau difrifol diabetes, ddoe disgrifiodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro fenyw yn ei 50au a oedd wedi colli ei golwg mewn un llygad; roedd ganddi ddiabetes math 1. Ni lwyddodd i reoli ei chyflwr yn dda yn ei 20au a 30au ac erbyn hyn mae hi wedi colli ei golwg yn ei llygad. Mae hi'n annog pobl i fanteisio ar y rhaglenni addysg i gleifion sydd ar gael. Mae yna amrywiaeth eang o bobl yn wynebu risg, ac ystod eang o negeseuon a chamau sydd angen i ni i gyd eu rhoi ar waith. Mae'n fater cymhleth, ond yn un na allwn ei osgoi.
Yesterday, Cabinet Secretary, you and I heard from people who have diabetes about the improvements that have taken place in services across Wales. That is to be commended and to be celebrated - the work that was done by your predecessor, Mark Drakeford, in implementing the diabetes plans. As a result, we are now the envy of diabetes champions in England, because of the fact that each health board now has a diabetes lead, which I'm sure is one of the reasons why we've had so much improvement in the way that we look after people with diabetes. But you'll also recall that we heard from the mother of a child who died of undiagnosed type 1 diabetes, and I wondered if you could say something about how we can work with other services to ensure that everybody is aware of the potential risk factors and the signs that somebody may or may not have type 1 diabetes.
Ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, fe glywoch chi a minnau gan bobl sydd â diabetes am y gwelliannau sydd wedi digwydd yn y gwasanaethau ledled Cymru. Mae hynny i'w ganmol ac i'w ddathlu - y gwaith a wnaeth eich rhagflaenydd, Mark Drakeford, ar weithredu'r cynlluniau diabetes. O ganlyniad, rydym yn awr yn destun eiddigedd hyrwyddwyr negeseuon diabetes yn Lloegr, am fod gan bob bwrdd iechyd arweinydd ar gyfer diabetes, ac rwy'n siŵr fod hwnnw'n un o'r rhesymau pam y gwelsom gymaint o welliant yn y ffordd rydym yn gofalu am bobl sydd â diabetes. Ond fe fyddwch hefyd yn cofio i ni glywed gan fam i blentyn a fu farw o ddiabetes math 1 na wnaed diagnosis ohono, ac roeddwn yn meddwl tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth ynglŷn â sut y gallwn weithio gyda gwasanaethau eraill i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r ffactorau risg posibl a'r arwyddion a allai ddynodi fod rhywun â diabetes math 1.
Thank you for the question. I was very pleased to join you in the event yesterday to highlight Diabetes Week and the work they're undertaking here in Wales to improve the position. The point about undiagnosed diabetes applies both to type 1 and type 2 and the risk factors that are there. It's a particularly difficult case, and I'll be happy to meet again with you and the cross-party group. I understand the mother is coming to the next cross-party group to explain her own experiences. There's a message here about awareness between health and education, about factors that could have been picked up at an earlier stage. I'm really pleased to see that the mother is keen to ensure that other people learn the lesson and understand and recognise more of the signs; there is a positive message there. But I'm really pleased to hear you recognise the improvements we've made in patient care here in Wales. In particular, Diabetes UK were very clear about the fact that there's real momentum here in Wales in improving care, which they want to see in other parts of the UK. So, some good news for us here in Wales, but, equally, a recognition that there is still much more to do.
Diolch am y cwestiwn. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â chi yn y digwyddiad ddoe i dynnu sylw at Wythnos Diabetes a'r gwaith y maent yn ei wneud yma yng Nghymru i wella'r sefyllfa. Mae'r pwynt am ddiabetes na wnaed diagnosis ohono yn berthnasol i fath 1 a math 2 a'r ffactorau risg sy'n codi. Mae'n achos arbennig o anodd, a byddaf yn hapus i gyfarfod â chi a'r grŵp trawsbleidiol eto. Rwy'n deall y bydd y fam yn mynychu'r grŵp trawsbleidiol nesaf i egluro ei phrofiadau ei hun. Mae yna neges yma am ymwybyddiaeth rhwng iechyd ac addysg, am ffactorau y gellid bod wedi sylwi arnynt yn gynharach. Rwy'n falch iawn o weld bod y fam yn awyddus i sicrhau bod pobl eraill yn dysgu'r gwersi ac yn deall ac yn adnabod mwy o'r arwyddion; mae yna neges gadarnhaol yno. Ond rwy'n wirioneddol falch o'ch clywed yn cydnabod y gwelliannau rydym wedi'u gwneud mewn gofal cleifion yma yng Nghymru. Yn benodol, roedd Diabetes UK yn glir iawn ynglŷn â'r ffaith fod yna fomentwm go iawn yma yng Nghymru o ran gwella gofal, a'u bod am weld hynny mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, mae rhywfaint o newyddion da i ni yma yng Nghymru, ond i'r un graddau, ceir cydnabyddiaeth fod llawer mwy i'w wneud.
We now move to the questions from party spokespeople to the Cabinet Secretary, and, first this week, the Welsh Conservative spokesperson, Angela Burns.
Symudwn yn awr at gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau i'r Ysgrifennydd Cabinet ac, yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Cabinet Secretary, you'll be aware that the incidence of cancer is rising, with one in two people born after 1960 expected to be diagnosed with cancer in their lifetime. So, I'm sure you will agree with me that early screening is vital. You will, no doubt, be aware that this week is Cervical Screening Awareness Week. Cervical cancer is the most common cancer in women under 35, but the good news shows that the mortality rate for this type of cancer is dropping and is lower than it was some years ago. That is why I share the concern of cancer charities, because screening rates across Wales for women of all ages in terms of cervical cancer is on the fall. Minister, can you tell me what your Government is going to do to encourage women in Wales to be screened for the potential of this disease?
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod nifer yr achosion o ganser yn cynyddu, gyda disgwyl y bydd un o bob dau unigolyn a anwyd ar ôl 1960 yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu hoes. Felly, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod sgrinio cynnar yn hanfodol. Diau y byddwch yn ymwybodol ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol yr wythnos hon. Canser ceg y groth yw'r canser mwyaf cyffredin mewn menywod o dan 35 oed, ond y newyddion da yw bod y gyfradd farwolaethau ar gyfer y math hwn o ganser yn gostwng ac yn is nag oedd rai blynyddoedd yn ôl. Dyna pam rwy'n rhannu pryder elusennau canser, gan fod cyfraddau sgrinio ledled Cymru ar gyfer menywod o bob oed o ran canser ceg y groth yn disgyn. Weinidog, a allwch ddweud wrthyf beth y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i annog menywod yng Nghymru i gael eu sgrinio am arwyddion posibl o'r clefyd hwn?
Thank you for the question. It's a fair point to raise about what we need to do, not so much about the health service responding to the significant rise in cancer referrals - in fact, in the last seven years, there's been a doubling in urgent cancer referrals into the NHS, and it's a remarkable achievement that it has managed to deal with those in such a timely manner, given the increase in volume - but there is a point about the understanding of healthcare messages by us as individual citizens and the risk factors that we have, and to take up the opportunity for screening that our programmes actually provide. So, there's a need to understand where we are now, something that Public Health Wales will look at, and we always need to review and understand where we're succeeding, what we need to do more of and, equally, where we're not meeting our expectations. It is something that I've raised with them, not just on cervical screening but also on bowel cancer, for example, as well, in terms of what more we could do. Sometimes, it's about the test and so it's actually about persuading people to do more to safeguard their own healthcare, now and in the future.
Diolch am y cwestiwn. Mae'n bwynt teg i'w nodi ynghylch yr hyn y mae angen i ni ei wneud, ond nid yn gymaint o ran ymateb y gwasanaeth iechyd i'r cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau canser - yn wir, dros y saith mlynedd diwethaf, mae nifer yr atgyfeiriadau canser brys i mewn i'r GIG wedi dyblu, ac mae'n gyflawniad hynod ei fod wedi llwyddo i ymdrin â'r rheini yn y fath fodd amserol, o ystyried y cynnydd yn y niferoedd - ond mae yna bwynt am ein dealltwriaeth ni fel dinasyddion unigol o negeseuon gofal iechyd a'r ffactorau risg sydd gennym, a manteisio ar y cyfle hwnnw i gael ein sgrinio fel sy'n cael ei ddarparu gan ein rhaglenni mewn gwirionedd. Felly, mae angen deall lle'r ydym yn awr, rhywbeth y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych arno, ac mae angen i ni bob amser adolygu a deall lle'r ydym yn llwyddo, beth sydd angen i ni wneud mwy ohono ac yn yr un modd, lle nad ydym yn cyflawni'r hyn y disgwyliwn ei gyflawni. Mae'n rhywbeth rwyf wedi'i ddwyn i'w sylw, nid yn unig mewn perthynas â sgrinio serfigol ond hefyd mewn perthynas â chanser y coluddyn, er enghraifft, hefyd, o ran beth arall y gallem ei wneud. Weithiau, mae'n ymwneud â'r prawf ac felly mae'n ymwneud â pherswadio pobl i wneud mwy i ddiogelu eu gofal iechyd eu hunain, yn awr ac yn y dyfodol.
Thank you for that, although, Minister, I think you and I both know where we are on this. The rates are falling and we need to make people more responsible for their own health. My question was actually what can you do to encourage people to have this screening test. So, if we move to bowel cancer, which you've already alluded to, one of the ideas is that, here, for example, in Wales, bowel cancer screening is currently undertaken every two years for those between 60 and 74; Scotland undertake this screening from 50; and England is currently introducing a second bowel scope screening, which is proven to reduce the risks of individuals developing bowel cancer by 33 per cent, and Scotland also intend to trial this. So, again, Minister, on another type of cancer, I ask you: why should those who have the highest risk of bowel cancer have a lower chance of an early diagnosis here in Wales? You and I both know we all have to take responsibility for our health, but what can you as a Government do to improve the screening rates for both cervical cancer and bowel cancer?
Diolch am hynny, er fy mod yn credu, Weinidog, ein bod ein dau'n gwybod lle rydym yn sefyll ar hyn. Mae'r cyfraddau'n gostwng ac mae angen i ni wneud pobl yn fwy cyfrifol am eu hiechyd eu hunain. Mewn gwirionedd, fy nghwestiwn oedd beth y gallwch ei wneud i annog pobl i gael y prawf sgrinio hwn. Felly, os symudwn at ganser y coluddyn, fel rydych eisoes wedi'i grybwyll, un o'r syniadau yw bod prawf sgrinio canser y coluddyn ar hyn o bryd yma yng Nghymru er enghraifft yn cael ei wneud bob dwy flynedd i rai rhwng 60 a 74 oed; mae'r Alban yn cynnal y prawf sgrinio hwn o 50 oed ymlaen; ac mae Lloegr ar hyn o bryd yn cyflwyno ail brawf sgrinio ar y coluddyn, y profwyd ei fod yn lleihau'r risg y bydd unigolyn yn datblygu canser y coluddyn 33 y cant, ac mae'r Alban hefyd yn bwriadu treialu hwn. Felly, unwaith eto, Weinidog, ar fath arall o ganser, rwy'n gofyn i chi: pam y dylai'r rhai sy'n wynebu'r risg mwyaf o gael canser y coluddyn gael llai o gyfle i gael diagnosis cynnar yma yng Nghymru? Mae'r ddau ohonom yn gwybod bod rhaid i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb am ein hiechyd, ond beth y gallwch chi fel Llywodraeth ei wneud i wella'r cyfraddau sgrinio ar gyfer canser ceg y groth a chanser y coluddyn?
Well, I think there's a fairly high awareness of both cervical cancer screening and also bowel cancer screening. The challenge is how we make it easy for people to take that up. On bowel cancer, in particular, it's not so much about the advice people get, because we will follow the advice we're given about where is the most appropriate point for people to be screened, but it's about the test. Because, frankly, the test currently is not a very pleasant test to have to do; I won't describe it. But the reality is that there is the potential for a new test - it will be easier to administer and we are much more likely to see a much greater take-up therefore, and a much greater surveillance and, actually, earlier warning for people. So, there is something about how technology and movement can actually help people to undertake screening, to avail themselves of screening resources that are available. So, we need to take account of that progress that is made and then understand if the evidence says it will be a better job, we then need to make sure it's rolled out in a consistent way across the country.
Wel, rwy'n credu bod yna ymwybyddiaeth eithaf uchel o sgrinio canser ceg y groth a sgrinio canser y coluddyn hefyd. Yr her yw sut y gallwn ei gwneud yn hawdd i bobl fanteisio ar y cyfleoedd hynny. O ran canser y coluddyn yn arbennig, nid yw'n ymwneud yn gymaint â'r cyngor y mae pobl yn ei gael, oherwydd byddwn yn dilyn y cyngor rydym yn ei gael ynglŷn â'r man mwyaf priodol i bobl gael eu sgrinio, ond mae'n ymwneud â'r prawf. Oherwydd, a dweud y gwir, nid yw'r prawf yn un dymunol iawn i orfod ei wneud ar hyn o bryd; ni wnaf ei ddisgrifio. Ond y realiti yw bod yna botensial ar gyfer prawf newydd - bydd yn haws i'w gyflawni, ac rydym felly yn llawer mwy tebygol o weld llawer mwy yn manteisio arno, a llawer mwy o wyliadwriaeth a rhybudd cynharach i bobl mewn gwirionedd. Felly, mae rhywbeth ynglŷn â sut y gall technoleg a newid helpu pobl i gael prawf sgrinio, a manteisio ar adnoddau sgrinio sydd ar gael. Felly, mae angen i ni ystyried y cynnydd a wnaed a deall os yw'r dystiolaeth yn dweud y bydd yn gwneud gwaith gwell, bydd angen i ni wneud yn siŵr wedyn ei fod yn cael ei gyflwyno mewn ffordd gyson ledled y wlad.
I agree with you that all I've heard about the test is that it's deeply unpleasant. However, test or having cancer, it's a self-evident choice and I will do anything to support you to try and get this message out to people that they should be doing this. Because bowel, lung, prostate and breast cancers account for over 50 per cent of diagnoses in Wales. As you yourself said earlier, the annual number of cancer cases continues to rise. The target of 95 per cent for newly diagnosed cancer patients referred via the urgent route to begin treatment within 62 days of referral has not been met since 2008. So, how will you, Minister, seek to address these areas, when you draw up your new cancer delivery plan, which is scheduled for later this year? And, given that Welsh Government struggled to deliver on the previous plan, how can we have confidence that you will draw up and rigorously and successfully implement a new plan?
Rwy'n cytuno â chi mai'r unig beth rwyf wedi'i glywed am y prawf yw ei fod yn annymunol iawn. Fodd bynnag, cael prawf neu gael canser, mae'n ddewis amlwg a byddaf yn gwneud unrhyw beth i'ch cynorthwyo i geisio lledaenu'r neges y dylai pobl fod yn gwneud hyn. Oherwydd canser y coluddyn, canser yr ysgyfaint, canser y prostad a chanser y fron yw dros 50 y cant o'r diagnosis a wneir yng Nghymru. Fel y dywedoch chi'n gynharach, mae nifer blynyddol yr achosion o ganser yn parhau i godi. Nid yw'r targed o 95 y cant ar gyfer cleifion canser newydd gael diagnosis a atgyfeiriwyd drwy'r llwybr brys i ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i gael eu hatgyfeirio wedi cael ei gyrraedd ers 2008. Felly, sut y byddwch chi, Weinidog, yn ceisio mynd i'r afael â'r meysydd hyn pan fyddwch yn llunio eich cynllun cyflawni newydd ar gyfer canser sydd i'w gyhoeddi yn nes ymlaen eleni? Ac o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi'i chael hi'n anodd cyflawni'r cynllun blaenorol, sut y gallwn fod yn hyderus y byddwch yn llunio ac yn gweithredu cynllun newydd yn drwyadl ac yn llwyddiannus?
Well, thank you for the series of questions in there. I don't share your optimistic assessment that if people understand there's a test or the risk of cancer that people will undertake the test. I'm not even sure that a lot of people don't make that choice. So, there are lots of risk factors for health outcomes that people ignore. There is often a very high awareness of health behaviours and their impacts. The challenge then is how we persuade people to change their own behaviours, and how we make it easy for them to do that, whether it's smoking, drinking, exercise - a whole range of factors. And, in particular in terms of the 62-day target, I recognise that we have not met our stretching target. It's, of course, one of those things - we have a higher target than England; if we had the English target, we'd meet it on a regular basis. So, there is still something, not just about comparing ourselves with England, but about having some real ambitions for outcomes. Because one of the things we can take real comfort from, and optimism from, is not just the fact that more and more people are being diagnosed, being seen and treated, but also that cancer survival rates are improving. But our challenge, and our ambition, in the refreshed cancer delivery plan must be to make sure that our services are in a sustainable position, so we tackle the backlogs that exist on waiting times for treatment, and where the best available treatments are available on a consistent basis. Actually, our ambition is to have cancer survival rates that compare with the best in Europe because, right across the UK, we don't do well enough, and there's got to be some honesty and some recognition that that's where we are now, to see the benefit and the improvement that we've had, and to recognise that too, but, at the same time, to have some real ambition about the future and then have a practical way to map that forward. The delivery plan won't just be something that is in the hands of Government. We will have a cross-sector partnership, involving the voluntary sector too, as well as the NHS, as well as Government, on taking the plan forward, and then, hopefully, making sure we see a successful implementation across the board.
Wel, diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Nid wyf yn rhannu eich asesiad optimistaidd y bydd pobl yn manteisio ar y prawf cyhyd â'u bod yn deall bod prawf yn bodoli neu'n deall y risg o ganser. Nid wyf yn siŵr nad oes llawer o bobl yn gwneud y dewis hwnnw hyd yn oed. Felly, mae yna lawer o ffactorau risg i ganlyniadau iechyd y mae pobl yn eu hanwybyddu. Yn aml ceir ymwybyddiaeth uchel iawn o batrymau ymddygiad iechyd a'u heffeithiau. Yr her felly yw sut rydym yn perswadio pobl i newid eu hymddygiad eu hunain, a sut rydym yn ei gwneud hi'n hawdd iddynt wneud hynny, boed yn smygu, yfed, ymarfer corff - amrywiaeth eang o ffactorau. Hefyd, yn arbennig o ran y targed 62 diwrnod, rwy'n cydnabod nad ydym wedi cyrraedd ein targed ymestynnol. Wrth gwrs, mae'n un o'r pethau hynny - mae gennym darged uwch na Lloegr; pe bai gennym darged Lloegr, byddem yn ei gyrraedd yn rheolaidd. Felly, mae rhywbeth i'w ddweud o hyd, nid yn unig dros gymharu ein hunain â Lloegr, ond dros gael uchelgeisiau gwirioneddol i sicrhau canlyniadau. Oherwydd un o'r pethau y gallwn gael cysur gwirioneddol ac optimistiaeth ohono, yw hyn: nid yn unig y mae mwy a mwy o bobl yn cael diagnosis, yn cael eu gweld a'u trin, ond hefyd mae cyfraddau goroesi canser yn gwella. Ond mae'n rhaid i ni ei gwneud yn her, ac yn uchelgais, yn y cynllun cyflawni newydd ar gyfer canser i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gynaliadwy, fel ein bod yn mynd i'r afael â'r ôl-groniadau ar restrau aros am driniaeth, a lle mae'r triniaethau gorau ar gael yn gyson. Mewn gwirionedd, ein huchelgais yw cael cyfraddau goroesi canser sy'n cymharu â'r gorau yn Ewrop oherwydd, ar draws y DU, nid ydym yn gwneud yn ddigon da, ac mae angen gonestrwydd a chydnabyddiaeth mai dyna lle rydym yn awr, er mwyn gweld y budd a'r gwelliant a gawsom, ac er mwyn cydnabod hynny hefyd, ond ar yr un pryd, mae angen cael uchelgais go iawn ynglŷn â'r dyfodol ac yna canfod ffordd ymarferol o symud ymlaen ar hynny. Ni fydd y cynllun cyflawni yn rhywbeth a fydd yn nwylo Llywodraeth yn unig. Bydd gennym bartneriaeth draws-sector, gan gynnwys y sector gwirfoddol hefyd, yn ogystal â'r GIG, yn ogystal â Llywodraeth, i symud y cynllun yn ei flaen, a gwneud yn siŵr, gobeithio, ein bod yn ei weld yn cael ei weithredu'n llwyddiannus ym mhob man.
Diolch, Lywydd. Cabinet Secretary, with one in eight people in Wales currently seeking help for a mental illness, what will the new Welsh Government be doing to improve waiting times for access to mental health care?
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am help ar gyfer salwch meddwl, beth fydd y Llywodraeth newydd yn ei wneud i wella amseroedd aros ar gyfer mynediad at ofal iechyd meddwl?
Thank you for the question. Mental health is a priority area for this Government. As I said yesterday, in response to a range of questions, we will be refreshing the mental health delivery plan. That will take place this year as well, so it's not been forgotten. And, really importantly, in undertaking both the consultation and delivering the action plan, we'll be talking with and listening to service users themselves. It's been one of the strengths of what we've actually managed to do over the last few years, to understand the current impact of the service, and things that will make a difference for them. There are a range of things for us to do, and, actually, mental health is the biggest single area of spend within the national health service. So, it does receive very real priority. We've changed our mental health waiting time standards to make them tougher and, in fact, we are in a better position than England. We have different waiting time standards - much more rigorous - and more people are seen within the target time. The challenge for us - and, following the earlier question - is to recognise the progress we've made, and, at the same time, to understand what more we need to do. There is something about recruitment and retention, both in the community service as well as in the secondary care service. So, our next challenge is to confront. But, again, working with the third sector, and service users themselves, I'm confident we will continue to see an improvement in mental health treatment and outcomes here in Wales.
Diolch am y cwestiwn. Mae iechyd meddwl yn faes blaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Fel y dywedais ddoe, wrth ymateb i ystod o gwestiynau, byddwn yn adnewyddu'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl. Bydd hynny'n digwydd eleni hefyd, felly nid yw wedi mynd yn angof. Hefyd, yn hollbwysig, wrth gynnal yr ymgynghoriad a chyflawni'r cynllun gweithredu, byddwn yn siarad ac yn gwrando ar ddefnyddwyr y gwasanaethau eu hunain. Dyma oedd un o gryfderau'r hyn rydym wedi llwyddo i'w wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, er mwyn deall effaith presennol y gwasanaeth, a'r pethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth iddynt. Mae amrywiaeth o bethau i ni eu gwneud, ac mewn gwirionedd, iechyd meddwl yw'r maes gwariant unigol mwyaf yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, mae'n cael blaenoriaeth go iawn. Rydym wedi newid ein safonau ar gyfer amseroedd aros iechyd meddwl er mwyn eu gwneud yn fwy llym ac mewn gwirionedd, rydym mewn sefyllfa well na Lloegr. Mae gennym wahanol safonau ar gyfer amseroedd aros - sy'n llawer mwy trylwyr - ac mae mwy o bobl yn cael eu gweld o fewn yr amser targed. Yr her i ni - yn dilyn y cwestiwn cynharach - yw cydnabod y cynnydd rydym wedi'i wneud, ac ar yr un pryd, deall beth arall sydd angen i ni ei wneud. Mae yna rywbeth am recriwtio a chadw staff, yn y gwasanaeth cymunedol yn ogystal ag yn y gwasanaeth gofal eilaidd. Felly, ein her nesaf yw wynebu hynny. Ond unwaith eto, drwy weithio gyda'r trydydd sector, a defnyddwyr y gwasanaethau eu hunain, rwy'n hyderus y byddwn yn parhau i weld gwelliant mewn triniaethau a chanlyniadau iechyd meddwl yma yng Nghymru.
Thank you for your answer, Cabinet Secretary, but part of the problem with waiting times for mental health care is around funding. Mental health is the poor relation in our NHS. Do you agree with me that mental health funding should be ring-fenced at a much higher level than the current spend?
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae rhan o'r broblem gydag amseroedd aros am ofal iechyd meddwl yn ymwneud â chyllid. Iechyd meddwl yw'r perthynas tlawd yn ein GIG. A ydych yn cytuno y dylid clustnodi cyllid iechyd meddwl ar lefel lawer uwch na'r gwariant presennol?
Thank you for the question. I do wonder if you thought you were asking a question about the English system, because in Wales we have ring-fenced mental health funding, and as I said earlier, it is the biggest single area of spend within NHS Wales. I've seen campaigns that have taken place on an England and Wales basis, and, actually, they're really talking about the English system. I remember responding to letters as a Deputy Minister and writing back to Members of Parliament saying, 'You're writing to me about England and we're doing things differently here.' The challenge is for England to catch up with Wales in this area, so I really do think we've got a good story to tell, and not just from the Government's point of view, but so much of this flows from work done in the third Assembly when the Mental Health (Wales) Measure 2010 was passed. We took a view at that point in time that there needed to be greater priority given to this particular area of service and the impact that it has, and I'm really pleased that we're delivering upon that. It's not perfect, but we are making real progress, and the challenge is how we further improve what we're already doing.
Diolch am y cwestiwn. Tybed a oeddech yn meddwl eich bod yn gofyn cwestiwn am y system yn Lloegr, oherwydd yng Nghymru mae cyllid iechyd meddwl wedi'i glustnodi, ac fel y dywedais yn gynharach, hwnnw yw'r maes gwariant unigol mwyaf yn y GIG yng Nghymru. Rwyf wedi gweld ymgyrchoedd ar sail Cymru a Lloegr, ac mewn gwirionedd, maent yn siarad am y system yn Lloegr. Rwy'n cofio ymateb i lythyrau fel Dirprwy Weinidog ac ysgrifennu'n ôl at Aelodau Seneddol yn dweud, 'Rydych yn ysgrifennu ataf am Loegr ac rydym yn gwneud pethau'n wahanol yma.' Yr her i Loegr yw cau'r bwlch rhyngddi a Chymru yn y maes hwn, felly rwy'n credu'n wirioneddol fod gennym stori dda i'w hadrodd, ac nid o safbwynt y Llywodraeth yn unig, ond mae cymaint o hyn yn llifo o waith a wnaed yn y trydydd Cynulliad pan basiwyd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Ein safbwynt ar y pryd oedd bod angen rhoi mwy o flaenoriaeth i'r maes penodol hwn o'r gwasanaeth a'r effaith y mae'n ei chael, ac rwy'n falch iawn ein bod yn cyflawni ar hynny. Nid yw'n berffaith, ond rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol, a'r her yw sut yr awn ati i sicrhau gwelliant pellach i'r hyn rydym eisoes yn ei wneud.
Finally, Cabinet Secretary, cuts to local authority spending are threatening community mental health services. What is your Government doing to incentivise councils in Wales to protect the mental health services they provide, and to make greater use of third sector mental health services?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae toriadau i wariant awdurdodau lleol yn bygwth gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gymell cynghorau yng Nghymru i ddiogelu'r gwasanaethau iechyd meddwl a ddarparant, ac i wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau iechyd meddwl y trydydd sector?
I don't think local government provide direct mental health services, but they do provide services that have an impact on mental health and well-being. We all recognise that. For example, the conversation earlier about physical health and activity. Being physically active isn't just a good thing for your physical health; it's actually incredibly good for your mental health and well-being too. And there's an honest challenge here as well for all of us in this Chamber. Whenever we talk about budgets - and you mentioned cuts to local government - the honest truth is that to maintain a high level of spend in the NHS and social care, which we have done - and I'm proud of the fact that we've done that - we've had to make a difficult choice. And to do that, to have 48 per cent of the Government spend in this particular department, means there's been less money to spend on local government. That's an honest choice that we made. If people want to come to me or anyone else and say, 'We want to see more money in local government,' you've got to find it from somewhere else, and that means compromises in other areas of service. I actually have great sympathy for people in local government of all political shades and colours, who are running local authorities, for the really difficult choices they will make. That is the honest reflection of having a falling level of funding available for public services in Wales, and across the rest of the piece: really difficult choices to be made. It's not just about making services more effective with less money, but the honest reality that people are now choosing what not to do. So, I don't want to give a glib answer by saying that local authorities just need to up their game; we all need to do what we can do to improve services and outcomes; we all need to face the reality that there is less money to spend, and we are making a choice to fund the NHS, and that means less money for local government.
Nid wyf yn credu bod llywodraeth leol yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl uniongyrchol, ond maent yn darparu gwasanaethau sy'n effeithio ar iechyd meddwl a lles. Rydym i gyd yn cydnabod hynny. Er enghraifft, y sgwrs yn gynharach am iechyd a gweithgarwch corfforol: mae bod yn heini yn llesol i'ch iechyd corfforol, ond mae hefyd yn anhygoel o dda i'ch iechyd meddwl a'ch lles hefyd. Ac mae yna her onest yma hefyd i bob un ohonom yn y Siambr hon. Pan fyddwn yn sôn am gyllidebau - ac fe sonioch am doriadau i lywodraeth leol - y gwir plaen yw ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniad anodd er mwyn cynnal lefel uchel o wariant yn y GIG a gofal cymdeithasol - fel rydym wedi'i wneud - ac rwy'n falch ein bod wedi gwneud hynny. Ac mae gwneud hynny, cael 48 y cant o wariant y Llywodraeth yn yr adran benodol hon, yn golygu bod llai o arian wedi bod ar gael i'w wario ar lywodraeth leol. Roedd hwnnw'n benderfyniad gonest a wnaethom. Os yw pobl am ddod ataf fi neu at unrhyw un arall a dweud, 'Rydym am weld mwy o arian i lywodraeth leol,' mae'n rhaid i chi ddod o hyd iddo yn rhywle arall, ac mae hynny'n golygu cyfaddawdu mewn meysydd gwasanaeth eraill. Mewn gwirionedd, rwy'n cydymdeimlo'n fawr â phobl mewn llywodraeth leol o bob lliw gwleidyddol, sy'n arwain awdurdodau lleol, am y penderfyniadau anodd iawn y byddant yn eu gwneud. Dyna yw'r ystyriaeth onest o gael lefel ostyngol o gyllid ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac yn gyffredinol: penderfyniadau anodd iawn i'w gwneud. Nid yw'n ymwneud yn unig â gwneud gwasanaethau'n fwy effeithiol gyda llai o arian, ond y gwir gonest fod pobl yn awr yn dewis beth i beidio â'i wneud. Felly, nid wyf am roi ateb slic drwy ddweud yn syml fod awdurdodau lleol angen gwella; mae angen i ni i gyd wneud yr hyn a allwn i wella gwasanaethau a chanlyniadau; mae angen i ni i gyd wynebu'r realiti fod llai o arian i'w wario, ac rydym yn gwneud penderfyniad i ariannu'r GIG, ac mae hynny'n golygu llai o arian ar gyfer llywodraeth leol.
Thank you, Llywydd. Two years ago, Plaid Cymru highlighted the frighteningly long waiting times for MRI scans in Wales as compared to Scotland and England, with over 40 per cent of patients at that time waiting over six weeks here, as compared to 1 per cent in England and 2 per cent in Scotland. Following on from that and some press coverage of the issue, you did make an effort to tackle the issue and those waiting times have now reduced: some 17.6 per cent of patients are now waiting over six weeks for a scan. Is that figure acceptable to you and what assurance can you give that the pattern of reducing the waiting times for MRI scans will continue?
Diolch, Lywydd. Ddwy flynedd yn ôl, mi wnaeth Plaid Cymru dynnu sylw at amseroedd aros brawychus ar gyfer sganiau MRI yng Nghymru o'u cymharu efo Lloegr a'r Alban. Roedd dros 40 y cant o gleifion bryd hynny yn aros dros chwech wythnos yma, o'u cymharu efo 1 y cant yn Lloegr a 2 y cant yn yr Alban. Rŵan, yn dilyn hynny a chryn sylw yn y wasg ar y pryd, mi wnaethoch chi ymdrech i daclo'r mater ac mae'r amseroedd aros rŵan wedi gostwng - rhyw 17.6 y cant o gleifion sy'n aros dros chwech wythnos am sgan bellach. A ydy'r ffigur yna yn dderbyniol, a pha sicrwydd a allwch chi ei roi y bydd y patrwm o fyrhau amseroedd am sgan MRI yn parhau?
I thank the Member for the question and for highlighting an area where we've made real progress over the last calendar year. Because at the high point that we reached in summer last year, we had a real challenge in understanding what could and should take place to reduce the diagnostic waiting times. We're now in a much better place and MRI is a good example: there are a number of health boards - at least two - where it's practically at zero, so no people wait above the target time, but we do have a very real challenge in particular in the south-east of Wales, where far too many people still wait too long. So, I fully expect that it's a message that the service understands perfectly well. The progress we made, in particular in the last six months of the last year, will continue into this year, and I'm looking forward to the figures in the first quarter, and in particular in the second quarter of this year, to understand whether that ambition within the service is being made real, because that is certainly what I expect to see.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at faes lle rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn ystod y flwyddyn galendr ddiwethaf. Oherwydd ar y pwynt uchaf a gyrhaeddwyd gennym yn ystod yr haf y llynedd, roeddem yn wynebu her wirioneddol o ran deall yr hyn a allai ac a ddylai ddigwydd i leihau'r amseroedd aros diagnostig. Rydym yn awr mewn lle llawer gwell ac mae MRI yn enghraifft dda: mae ar sero i bob pwrpas mewn sawl bwrdd iechyd - o leiaf ddau - felly nid oes yna bobl sy'n aros yn hwy na'r amser targed, ond mae gennym her go iawn yn enwedig yn ne-ddwyrain Cymru, lle mae llawer gormod o bobl yn dal i aros yn rhy hir. Felly, rwy'n llawn ddisgwyl ei bod yn neges y mae'r gwasanaeth yn ei deall yn iawn. Bydd y cynnydd rydym wedi'i wneud, yn enwedig dros chwe mis olaf y llynedd, yn parhau eleni, ac rwy'n edrych ymlaen at weld ffigurau'r chwarter cyntaf, ac yn enwedig ail chwarter y flwyddyn hon, er mwyn deall a yw'r uchelgais o fewn y gwasanaeth yn cael ei wireddu, oherwydd rwy'n sicr yn disgwyl gweld hynny.
What the improvement does demonstrate, of course, is that effort pays off and that we should never accept that budgetary limitations or increases in demand will inevitably lead to longer waiting times. As I said, MRI scans were given some press coverage a few years ago; there are other diagnostic tests that aren't as headline grabbing, perhaps, where there are major problems that remain, for example, colonoscopy or cystoscopy. Performance in those areas is as poor now as it was two years ago, with around half of patients waiting over six weeks, as compared to 6 per cent in England and 12 per cent in Scotland. The equipment is cheaper for these tests, there is less demand for them and some GP surgeries can actually do the tests themselves. Apart from waiting for newspaper headlines, what will make you give the same attention to colonoscopy and cystoscopy tests as you gave to MRIs?
Beth mae'r gwelliant, wrth gwrs, yn ei ddangos yw bod ymdrechu yn talu, ac na ddylen ni fyth dderbyn rywsut fod cyfyngiadau cyllidol, neu gynnydd mewn galw, yn arwain yn anochel at amseroedd aros hirach. Fel y dywedais i, fe gafodd sganiau MRI dipyn o sylw yn y wasg gwpwl o flynyddoedd yn ôl. Mae profion diagnostig eraill sydd ddim mor ddeniadol mewn penawdau, efallai, lle mae problemau mawr yn parhau, er enghraifft, colonosgopi neu 'cystoscopy'. Mae perfformiad yn y rheini cynddrwg rŵan ag yr oedd ddwy flynedd yn ôl, efo tua hanner y cleifion yn aros dros chwech wythnos, o'i gymharu â 6 y cant yn Lloegr a 12 y cant yn yr Alban. Mae'r offer yn rhatach ar gyfer gwneud y profion, mae yna lai o alw am y profion ac mi all rhai syrjeris GP wneud y profion eu hunain. Rŵan, ar wahân i aros am benawdau papur newydd, beth wnaiff i chi roi yr un sylw i brofion colonosgopi a 'cystoscopy' ag a wnaethoch chi i brofion MRI?
I thank the Member for his second question on the area. On this, there are two points that I would make: the first is that in some of the areas on diagnostics where we have waits, it is tied up in workforce. So, there are challenges for us, for example, in training more sonographers in Wales. Where they're currently trained, you tend to see better outcomes. For example, Swansea and west Wales do better on this than the south-east of Wales and lots of the training is undertaken in Swansea. So, that shouldn't be a surprise. There's something about our workforce planning and understanding where and how we train more members of staff, as well as attracting people to come into the country. The second point that I'd make is that, in terms of the attention given to it, it isn't really about the headlines because, again, from my previous role and into this one, it is something that I regularly discussed with health board chairs and chief executives and there was certainly no lack of focus on the need to see improvement. That's what we saw in the last half of the last year. I'm really, really clear with health boards and the public that I expect to see further improvement. There's something about understanding how we improve our headline rates in the here and now and what we need to do to improve the system that lies underneath it - so, improving diagnostic treatment and where that should take place, because you make a fair point in that some of these could take place within primary care. That is what we have to do at the same time. They're not necessarily easy things to do: to maintain headline performance at an acceptable level and to reform the system, which does mean making some difficult and, at time, imperfect choices, but it is absolutely what I expect the service to do.
Diolch i'r Aelod am ei ail gwestiwn ar y maes. Ar hyn, mae dau bwynt y byddwn yn eu gwneud, a'r cyntaf yw hwn: yn rhai o'r meysydd diagnosteg sydd ag amseroedd aros, mae'n ymwneud â'r gweithlu. Felly, mae yna heriau yn ein hwynebu, er enghraifft, o ran hyfforddi mwy o sonograffwyr yng Nghymru. Lle y cânt eu hyfforddi ar hyn o bryd, rydych yn tueddu i weld gwell canlyniadau. Er enghraifft, mae Abertawe a gorllewin Cymru yn gwneud yn well ar hyn na de-ddwyrain Cymru ac mae llawer o'r hyfforddiant yn cael ei gyflawni yn Abertawe. Felly, ni ddylai hynny fod yn syndod. Mae rhywbeth ynglŷn â'n cynllunio ar gyfer y gweithlu a deall ble a sut rydym yn hyfforddi mwy o staff, yn ogystal â denu pobl i mewn i'r wlad. Yr ail bwynt y buaswn yn ei wneud yw hwn: o ran y sylw a roddir iddo, nid yw'n ymwneud â'r prif faterion mewn gwirionedd oherwydd, unwaith eto, yn fy rôl flaenorol ac yn y rôl hon, mae'n rhywbeth y bûm yn ei drafod yn rheolaidd gyda chadeiryddion a phrif weithredwyr byrddau iechyd ac yn sicr nid oedd diffyg ffocws ar yr angen i weld gwelliant. Dyna a welsom yn ystod hanner olaf y flwyddyn ddiwethaf. Rwy'n hynod, hynod glir gyda byrddau iechyd a'r cyhoedd fy mod yn disgwyl gweld gwelliant pellach. Mae yna rywbeth ynglŷn â deall sut y gallwn wella ein prif gyfraddau ar hyn o bryd a'r hyn sydd angen i ni ei wneud i wella'r system sy'n sail iddo - felly, gwella triniaeth ddiagnostig a lle y dylai hynny ddigwydd, oherwydd rydych yn gwneud pwynt teg wrth ddweud y gallai rhai o'r rhain ddigwydd mewn gofal sylfaenol. Dyna sy'n rhaid i ni ei wneud ar yr un pryd. Nid ydynt o reidrwydd yn bethau hawdd i'w gwneud: cynnal y prif berfformiad ar lefel dderbyniol a diwygio'r system, sy'n golygu gwneud rhai penderfyniadau anodd ac amherffaith ar adegau, ond dyna'n bendant rwy'n disgwyl i'r gwasanaeth ei wneud.
But there are innovative steps that could be taken. Last week, Cancer Research published a report on the next steps that they would want to see taken for a cancer strategy for Wales. They are asking for the introduction of a specific target of 28 days so that we can improve survival rates and, through that, they are adding to the chorus of authoritative voices supporting our policy, as Plaid Cymru, for the introduction of a 28-day diagnosis target. Before the election, your Government rejected that target, although all the main oncologists in Britain, more or less, are calling for it. In order to achieve such a target, we would need improved waiting times for a number of tests, including better direct access to GP services, to the testing system and to expertise in testing. Will you, therefore, look again at Plaid Cymru's policy of establishing three multidisciplinary diagnostic centres of the kind that have been very successful in other nations, including Denmark, as part of a strategy to reduce waiting times for these vital diagnostic tests?
Ond mae yna gamau arloesol y gellid eu cymryd wrth gwrs. Wythnos diwethaf, mi wnaeth sefydliad Cancer Research gyhoeddi adroddiad ar y camau nesaf y maen nhw'n dymuno eu gweld yn cael eu cymryd ar gyfer strategaeth canser i Gymru. Maen nhw'n gofyn am gyflwyno targed pendant 28 diwrnod fel ein bod ni'n gallu gwella cyfraddau goroesi a, drwy hynny, maen nhw'n ychwanegu at y corws o adroddiadau awdurdodol eraill sy'n cefnogi ein polisi ni, fel Plaid Cymru, am gyflwyno targed diagnosis 28 diwrnod. Cyn yr etholiad, mi wnaeth eich Llywodraeth chi wrthod y targed yna, er bod prif oncolegwyr Prydain i gyd, mwy neu lai, yn galw amdano. Rŵan, er mwyn cyrraedd y fath darged, mi fyddai angen gwell amseroedd aros ar gyfer llawer o brofion, gan gynnwys rhoi gwell mynediad uniongyrchol i feddygon teulu, i'r system brofi ac i arbenigedd mewn profi. A wnewch chi, felly, edrych eto ar bolisi Plaid Cymru o sefydlu tair canolfan ddiagnostig, amlddisgyblaeth o'r math sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Denmarc, fel rhan o strategaeth i leihau amseroedd am y profion diagnostig, cwbl allweddol yma?
Thank you for the third question. There's been a clear recognition across parties and within the service for some time that to improve cancer outcomes, we need to improve access to diagnostic certainty, but what we're not doing is actually implementing a different target on diagnostics within the cancer pathway. I'm not persuaded that that will actually help us to get where we want to in terms of focusing on the time it takes to get to first treatment, but also then for outcomes for cancer patients as well. That's where our focus is going to be. We've already been to - . Officials have already been to Copenhagen to look at the work that they do to understand how they have a different pathway and how that speeds up access to treatment and to outcomes, so there's nothing new in that sense and it's part of what we've been doing over the last year in any event. Our focus, though, will be on outcomes to understand what we need to do to improve outcomes for patients. Some of the really interesting work that I hope you will see when you see the refreshed cancer delivery plan is actually looking at a single pathway as well, which actually will require a different focus and a change in the way in which we look at and understand our targets. It should mean that we have a more focused and more appropriate look at what will make a difference on the cancer pathway that the clinicians will support and also that the patients will support, which is really delivering improved outcomes that all of us in this Chamber will want to see. Diagnostics are one part of improving that pathway.
Diolch am y trydydd cwestiwn. Cafwyd cydnabyddiaeth glir ar draws y pleidiau ac yn y gwasanaeth ers tro bod angen i ni wella mynediad at sicrwydd diagnostig er mwyn gwella canlyniadau canser, ond yr hyn nad ydym yn ei wneud mewn gwirionedd yw gweithredu targed gwahanol ar ddiagnosteg o fewn y llwybr canser. Nid wyf yn argyhoeddedig y bydd hynny'n ein helpu mewn gwirionedd i gyrraedd lle rydym am fod o ran canolbwyntio ar yr amser y mae'n ei gymryd i gyrraedd triniaeth gyntaf, ond hefyd wedyn o ran canlyniadau i gleifion canser yn ogystal. Dyna lle mae ein ffocws yn mynd i fod. Rydym eisoes wedi bod yn - . Mae swyddogion eisoes wedi bod yn Copenhagen yn edrych ar y gwaith y maent yn ei wneud i ddeall sut y mae ganddynt lwybr gwahanol a sut y mae hynny'n cyflymu mynediad at driniaeth a chanlyniadau, felly nid oes dim yn newydd yn yr ystyr honno ac mae'n rhan o'r hyn rydym wedi bod yn ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf beth bynnag. Bydd ein ffocws, fodd bynnag, ar ganlyniadau er mwyn deall beth sydd angen i ni ei wneud i wella canlyniadau i gleifion. Mae peth o'r gwaith gwirioneddol ddiddorol rwy'n gobeithio y byddwch yn ei weld pan welwch y cynllun cyflawni ar gyfer canser ar ei newydd wedd yn edrych ar un llwybr mewn gwirionedd, a bydd hynny'n galw am ffocws gwahanol a newid yn y ffordd rydym yn deall ac yn edrych ar ein targedau. Dylai olygu ein bod yn edrych yn fwy penodol a mwy priodol ar yr hyn fydd yn gwneud gwahaniaeth ar y llwybr canser y bydd y clinigwyr yn ei gefnogi ac y bydd y cleifion yn ei gefnogi hefyd, sef cyflawni canlyniadau gwell y bydd pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau eu gweld. Un rhan o wella'r llwybr hwnnw yw diagnosteg.
Thank you for the question. Our aim is to ensure that people in Pembrokeshire are provided with high-quality, compassionate health services. Our focus will be on improving patient outcomes and in doing so, we will be led by the most up-to-date clinical advice and evidence.
Diolch am y cwestiwn. Ein nod yw sicrhau bod gwasanaethau iechyd tosturiol o safon uchel yn cael eu darparu i bobl Sir Benfro. Byddwn yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i gleifion ac wrth wneud hynny, cawn ein harwain gan y cyngor a'r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf.
Of course, it's absolutely essential that appropriate emergency health services are actually based in Pembrokeshire in the future. You will be aware, Cabinet Secretary, that I've been re-elected with a strong mandate in Preseli Pembrokeshire by standing on a platform to reintroduce full-time paediatric services and the special care baby unit at Withybush hospital. Given the clear public support in my constituency for re-establishing these services, are you now prepared to listen to the people of Pembrokeshire by considering re-establishing these particular services?
Wrth gwrs, mae'n gwbl hanfodol fod gwasanaethau iechyd brys priodol wedi'u lleoli yn Sir Benfro yn y dyfodol mewn gwirionedd. Fe fyddwch yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod wedi cael fy ailethol gyda mandad cryf ym Mhreseli Sir Benfro drwy sefyll dros ailgyflwyno gwasanaethau pediatrig amser llawn a'r uned gofal arbennig i fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg. O ystyried y gefnogaeth gyhoeddus glir yn fy etholaeth i ailsefydlu'r gwasanaethau hyn, a ydych yn awr yn barod i wrando ar bobl Sir Benfro drwy ystyried ailsefydlu'r gwasanaethau penodol hyn?
Thank you for the question. We rehearsed this argument before the election and I'm sure we will do more than once afterwards. I don't see the Member's re-election to his constituency as a referendum on this particular issue. There are real challenges in this area between a very clear demand for locality versus the quality of the service that is provided as well, and you'll be aware that the Royal College of Paediatrics and Child Health reviewed the changes to the services that had been made, in maternity and neonatal services, and they came back and confirmed that no person's care had been compromised, no-one had suffered any clinical harm from the changes and, in fact, it had improved the service being provided to your constituents. Now, that's the most up-to-date clinical advice and evidence. I just do not believe that any Minister of any party in this position would, on the basis of that evidence, decide to change the service, because to do so we be to fly in the face of that evidence and, I believe, would be agreeing to provide a worse service for the people of Pembrokeshire because of the public noise made about wanting services to be provided locally. We need to have a balance in understanding those services that need to be provided in specialist centres. We need a smaller number of those across the country to provide actually better outcomes for our people and, at the same time, to understand what services we really do need to provide locally and more of those services in a primary and community setting where possible. I appreciate I'm unlikely to persuade the Member to change his position in today's exchange, but, as I said in my first response, I will be guided by the very best most up-to-date clinical evidence and advice, and where that tells me that changing a service back to the way it was is not the right thing to do for people in Pembrokeshire, I will not do it because I do not think that that is a responsible thing for me to do.
Diolch am y cwestiwn. Cawsom y ddadl hon cyn yr etholiad ac rwy'n siŵr y byddwn yn ei chael fwy nag unwaith ar ei ôl. Nid wyf yn gweld y ffaith fod yr Aelod wedi'i ailethol yn ei etholaeth yn refferendwm ar y mater penodol hwn. Mae yna heriau go iawn yn yr ardal hefyd rhwng galw clir iawn am gadw gwasanaethau'n lleol ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant wedi adolygu'r newidiadau a wnaed i'r gwasanaethau, mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, ac maent wedi cadarnhau na pheryglwyd gofal neb, ni ddioddefodd neb unrhyw niwed clinigol o ganlyniad i'r newidiadau ac mewn gwirionedd, roedd wedi gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'ch etholwyr. Nawr, dyna'r cyngor a'r dystiolaeth glinigol ddiweddaraf. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw Weinidog o unrhyw blaid yn y sefyllfa hon, ar sail y dystiolaeth honno, yn penderfynu newid y gwasanaeth, gan y buasai gwneud hynny'n mynd yn groes i'r dystiolaeth honno ac yn fy marn i, yn gyfystyr â chytuno i ddarparu gwasanaeth salach i bobl Sir Benfro oherwydd y twrw cyhoeddus a gafwyd oherwydd eu bod eisiau i wasanaethau gael eu darparu'n lleol. Mae angen i ni gael cydbwysedd o ran deall y gwasanaethau sydd angen eu darparu mewn canolfannau arbenigol. Rydym angen llai o'r rheini ar draws y wlad er mwyn cyflawni canlyniadau gwell i'n pobl ac ar yr un pryd, er mwyn deall pa wasanaethau y mae gwir angen i ni eu darparu'n lleol a chael mwy o'r gwasanaethau hynny mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol lle bo hynny'n bosibl. Rwy'n sylweddoli fy mod yn annhebygol o ddwyn perswâd ar yr Aelod i newid ei safbwynt yn y drafodaeth heddiw, ond fel y dywedais yn fy ymateb cyntaf, byddaf yn cael fy arwain gan y cyngor a'r dystiolaeth glinigol orau a diweddaraf, a phan fo hynny'n dweud wrthyf nad newid y gwasanaeth yn ôl i'r ffordd yr arferai fod yw'r peth iawn i'w wneud ar gyfer pobl Sir Benfro, ni fyddaf yn gwneud hynny gan nad wyf yn credu bod hynny'n beth cyfrifol i mi ei wneud.
I want to congratulate the Cabinet Secretary on his appointment but I also want to pay some tribute to the previous Minister, who had a very tough job and has exercised some change. They are not veiled congratulations, I can assure you. However, moving swiftly on, I did last Friday visit Withybush hospital and I did speak with staff and patients about the new services and how they are bedding in. I'm pleased to report, having done that, that the picture is overwhelmingly positive. I did speak with a woman who had just had delivery of her sixth baby in that new unit and who had nothing but praise for the midwives, the staff and the facilities that she availed herself of. But there was an issue that did come up and that was the future of the 24/7 dedicated ambulance vehicle, or the DAV, that was introduced for emergency transfers between Withybush and Glangwili hospitals as part of the phased introduction of safety measures supported by the previous Minister. Hywel Dda Local Health Board has extended that contract with the Welsh ambulance service but it is due to end at the end of the financial year. Cabinet Secretary, while the service is being used less, maybe, than it was anticipated - but it is shared with other services - the staff did say that it is valued and needed. My question therefore is: would you commit to discussing with Hywel Dda health board the option for putting those vital services on a permanent footing? Also, Minister, I have spoken to you about visiting both Glangwili and Withybush hospitals, which you've agreed to, but I would like to have your agreement on record. Thank you.
Hoffwn longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei benodiad ond rwyf hefyd yn awyddus i dalu teyrnged i'r Gweinidog blaenorol, a oedd â swydd anodd iawn ac fe gyflawnodd rywfaint o newid. Nid llongyfarchiadau ffug mohono, gallaf eich sicrhau. Fodd bynnag, os caf symud ymlaen yn gyflym, ddydd Gwener diwethaf ymwelais ag ysbyty Llwynhelyg a siaradais â staff a chleifion am y gwasanaethau newydd a'r modd y maent yn ymwreiddio. Rwy'n falch o adrodd, ar ôl gwneud hynny, fod y darlun yn eithriadol o gadarnhaol. Siaradais â menyw a oedd wedi newydd roi genedigaeth i'w chweched babi yn yr uned newydd ac roedd hi'n llawn canmoliaeth i'r bydwragedd, y staff a'r cyfleusterau a ddefnyddiodd. Ond roedd un mater yn codi, sef dyfodol y cerbyd ambiwlans penodedig 24/7, neu'r DAV, a gyflwynwyd ar gyfer trosglwyddiadau brys rhwng ysbytai Llwynhelyg a Glangwili fel rhan o'r broses o gyflwyno mesurau diogelwch fesul cam a gefnogai'r Gweinidog blaenorol. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda wedi ymestyn y contract hwnnw gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru, ond mae i fod i ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ysgrifennydd y Cabinet, er bod y gwasanaeth yn cael llai o ddefnydd na'r hyn a ddisgwylid, efallai - ond mae'n cael ei rannu gyda gwasanaethau eraill - dywedodd y staff ei fod yn cael ei werthfawrogi a bod ei angen. Fy nghwestiwn, felly, yw hwn: a fyddech yn ymrwymo i drafod gyda bwrdd iechyd Hywel Dda yr opsiwn o roi'r gwasanaethau hanfodol hynny ar sail barhaol? Hefyd, Weinidog, rwyf wedi siarad â chi ynglŷn ag ymweld ag ysbytai Glangwili a Llwynhelyg, ac rydych wedi cytuno i hynny, ond hoffwn gael eich cytundeb wedi'i gofnodi. Diolch.
Thank you for the two questions. Yes, I'll be happy to arrange a convenient time to visit both hospitals and to meet staff in the midwifery units. On your specific point about the dedicated ambulance vehicle, this was an important part of providing confidence about the service to make sure that there was emergency transfer, if needed, to take women and their babies to Glangwili. In many ways, I am pleased that it has been used less than anticipated because that underlines and underscores the fact that safe care is being provided in that midwife-led unit. Over 200 babies were born in that midwife-led unit in Withybush in the last calendar year: women and their babies safely delivered with high-quality care. That's real praise for the midwives themselves. I also wanted to praise the paramedics, who are not sitting with their feet up and having a cup of tea when they are not being used to transfer people to Glangwili. They are actually undertaking work within the hospital in different teams, using their skills in a way that benefits the whole service. So, it is a really good example of the way integration can work in the planning of the service. I will definitely take up the issue and have a conversation with Hywel Dda health board and the Welsh ambulance trust to look at the future of that service on a more sustained footing.
Diolch i chi am y ddau gwestiwn. Ydw, rwy'n hapus i drefnu amser cyfleus i ymweld â'r ddau ysbyty ac i gwrdd â staff yn yr unedau bydwreigiaeth. O ran eich pwynt penodol am y cerbyd ambiwlans penodedig, roedd hyn yn rhan bwysig o sicrhau hyder yn y gwasanaeth er mwyn gwneud yn siŵr fod modd trosglwyddo ar frys, lle bo angen, ar gyfer cludo menywod a'u babanod i Ysbyty Glangwili. Mewn sawl ffordd, rwy'n falch ei fod wedi cael ei ddefnyddio lai na'r disgwyl oherwydd mae hynny'n tanlinellu ac yn cadarnhau'r ffaith fod gofal diogel yn cael ei ddarparu yn yr uned dan arweiniad bydwragedd. Cafodd dros 200 o fabanod eu geni yn yr uned dan arweiniad bydwragedd yn Llwynhelyg yn y flwyddyn galendr ddiwethaf: menywod a'u babanod yn cael eu geni'n ddiogel gyda gofal o ansawdd uchel. Dyna ganmoliaeth go iawn i'r bydwragedd eu hunain. Roeddwn hefyd yn awyddus i ganmol y parafeddygon nad ydynt yn eistedd gyda'u traed i fyny yn cael paned o de pan nad ydynt yn cael eu defnyddio i drosglwyddo pobl i Glangwili. Mewn gwirionedd maent yn gwneud gwaith yn yr ysbyty mewn gwahanol dimau, gan ddefnyddio'u sgiliau mewn ffordd sydd o fudd i'r gwasanaeth cyfan. Felly, mae'n enghraifft wirioneddol dda o'r modd y gall integreiddio weithio yn y broses o gynllunio'r gwasanaeth. Byddaf yn bendant yn codi'r mater ac yn trafod gyda bwrdd iechyd Hywel Dda ac ymddiriedolaeth ambiwlans Cymru er mwyn ceisio rhoi dyfodol y gwasanaeth hwnnw ar sail fwy cyson.
We haven't forgotten the election that we've just fought, and I do very clearly recall the Labour Party candidate in Carmarthen West and South Pembrokeshire speaking very clearly and pledging that, if he had been elected, he would come to this place and argue for the return of maternity services to Withybush hospital and argue in favour of the repatriation of paediatric services to Withybush hospital. So, was he seeking to mislead people in the constituency? What will the Minister do now to ensure that paediatric services particularly are safe and secure in Withybush in order to ensure that the emergency services are also safe and secure?
Nid ŷm ni wedi anghofio'r etholiad yr ŷm ni newydd fynd drwyddo. Rwy'n cofio'n glir iawn ymgeisydd y Blaid Lafur yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn siarad yn glir iawn, ac yn addo, pe byddai e'n cael ei ethol, y byddai'n dod i'r lle hwn ac yn dadlau dros ddychwelyd gwasanaethau mamolaeth i ysbyty Llwynhelyg, ac yn dadlau dros ddychwelyd gwasanaethau pediatreg i ysbyty Llwynhelyg. Felly, a oedd e yn edrych i gamarwain pobl yr etholaeth, a beth mae'r Gweinidog yn mynd i'w wneud nawr i sicrhau bod gwasanaethau pediatreg, yn arbennig, yn saff ac yn ddiogel yn Llwynhelyg er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau brys hefyd yn saff ac yn ddiogel?
I thank the Member for the question. In understanding what we do, I go back to saying that we have to be led by the evidence and the advice. To make this work, it's perhaps instructive to look at what happened at Prince Philip - not at the distinct model there, but that Prince Philip Hospital stopped being an issue because clinicians within Prince Philip Hospital had a conversation about what was possible. They stopped talking down what they were doing. They stopped having a row in the pub and they said, 'What can we do? What can we do safely? What do we want to do, and how do we get there?' They had a conversation between themselves about leading care and about leading change within that hospital for a model, now, that there is not very much noise about. Broadly, people support what's taken place there. I'm really pleased that that engagement with the clinical community in Withybush is still taking place. For example, at the start of May, there was a workshop day involving a range of clinicians - both primary care as well as secondary care and the community health council - to look at where they are and where they want to be as well on a range of these services. They have got to have that constructive conversation because if they can't agree amongst themselves what is appropriate and what is necessary for that particular part of the world and how they can go about providing it, we are unlikely to be able to support them or make choices that the people of Pembrokeshire would want to see. So, understanding what they want, having a constructive conversation and being prepared to lead that change - or to support difficult choices if those have to be made - is part of what I think we should expect, and I'm really pleased to see that is now happening on a more consistent basis within Withybush. It's a good thing for clinicians and the public they serve.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. I ddeall yr hyn rydym yn ei wneud, rwy'n mynd yn ôl i ddweud bod yn rhaid i ni gael ei arwain gan y dystiolaeth a'r cyngor. I wneud i hyn weithio, mae'n werth edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn Ysbyty'r Tywysog Philip - nid ar y model penodol yno, ond ar y ffaith fod Ysbyty'r Tywysog Philip wedi peidio â bod yn broblem gan fod clinigwyr yno wedi trafod yr hyn oedd yn bosibl. Rhoesant y gorau i fychanu'r hyn roeddent yn ei wneud. Rhoesant y gorau i ddadlau yn y dafarn a dweud, 'Beth allwn ni ei wneud? Beth allwn ni ei wneud yn ddiogel? Beth rydym ni am ei wneud, a sut mae cyrraedd yno?' Cawsant drafodaeth ymysg ei gilydd ynglŷn ag arwain gofal ac ynglŷn ag arwain newid o fewn yr ysbyty hwnnw fel model, nawr, nad oes fawr iawn o sŵn amdano. At ei gilydd, mae pobl yn cefnogi'r hyn sydd wedi digwydd yno. Rwy'n falch iawn fod yr ymgysylltiad hwnnw â'r gymuned glinigol yn Llwynhelyg yn dal i ddigwydd. Er enghraifft, ar ddechrau mis Mai, cafwyd diwrnod gweithdy yn cynnwys amryw o glinigwyr - gofal sylfaenol yn ogystal â gofal eilaidd a'r cyngor iechyd cymuned - i edrych ar ble y maent a ble y maent am fod hefyd gydag amrywiaeth o'r gwasanaethau hyn. Mae'n rhaid iddynt gael y drafodaeth adeiladol honno oherwydd os na allant gytuno ymysg ei gilydd beth sy'n briodol a beth sy'n angenrheidiol ar gyfer y rhan benodol honno o'r byd a sut y gallant fynd ati i'w ddarparu, rydym yn annhebygol o allu eu cynorthwyo neu wneud dewisiadau y byddai pobl Sir Benfro am eu gweld. Felly, mae deall yr hyn y maent ei eisiau, cael trafodaeth adeiladol a bod yn barod i arwain y newid hwnnw - neu gefnogi dewisiadau anodd os oes rhaid eu gwneud - yn rhan o'r hyn rwy'n meddwl y dylem ei ddisgwyl, ac rwy'n wirioneddol falch o weld bod hyn bellach yn digwydd ar sail fwy cyson yn Llwynhelyg. Mae'n beth da i'r clinigwyr a'r cyhoedd a wasanaethant.
I thank the Member for the question. We will not establish a Welsh cancer drugs fund. The English cancer drugs fund will be scrapped at the end of this month. We are prioritising the establishment of a new treatment fund as one of our key commitments in the first 100 days. I expect to be able to tell Members more about it. The fund will support the speedy introduction of innovative and effective high-cost treatments for life-threatening diseases.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Ni fyddwn yn sefydlu cronfa cyffuriau canser yng Nghymru. Bydd y gronfa cyffuriau canser yn Lloegr yn cael ei diddymu ddiwedd y mis hwn. Rydym yn blaenoriaethu'r gwaith o sefydlu cronfa triniaethau newydd fel un o'n hymrwymiadau allweddol yn y 100 diwrnod cyntaf. Rwy'n disgwyl gallu dweud rhagor wrth yr Aelodau amdani. Bydd y gronfa'n cefnogi'r broses o fynd ati'n gyflym i gyflwyno triniaethau arloesol ac effeithiol sy'n costio llawer ar gyfer clefydau sy'n bygwth bywyd.
Minister, our own proposals for a Welsh cancer treatment fund would not only have improved access to new, modern medicines, but would also have made cancer treatment more accessible for patients through the establishment of a mobile cancer treatment unit. In rural parts of Wales, such as my own constituency in Montgomeryshire, that would, of course, be an invaluable service. My question, Cabinet Secretary, is: what consideration have you given to the establishment of a mobile cancer treatment service?
Weinidog, byddai ein hargymhellion ein hunain ar gyfer cronfa triniaethau canser Cymru nid yn unig wedi gwella mynediad at feddyginiaethau newydd, modern, ond byddai hefyd wedi gwneud triniaethau canser yn fwy hygyrch i gleifion drwy sefydlu uned trin canser symudol. Mewn rhannau gwledig o Gymru, megis fy etholaeth fy hun yn Sir Drefaldwyn, byddai'n wasanaeth amhrisiadwy wrth gwrs. Fy nghwestiwn, Ysgrifennydd y Cabinet, yw hwn: pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i sefydlu gwasanaeth trin canser symudol?
Well, we, of course, already undertake a range of mobile cancer treatment services, and you will be very well aware of our ambition to undertake more care within the community - that shift from secondary to primary care. It's an important part of what we wish to do. That would certainly be the case within cancer services as well. We have had well-established programmes, working with Macmillan Cancer Support, for example, on understanding primary care oncology services. We are working with our clinicians to improve what they do and to make sure that care is provided in the most appropriate setting. I will make no apology for not accepting or following Tory proposals for a Welsh cancer drugs fund. We do not believe that that is the right thing to do. It's not just that: the Public Accounts Committee of the House of Commons said there was no evidence of improved outcomes from the English fund, and Sir Bruce Keogh, whom the Tories are often fond of quoting in this Chamber, has described the cancer drugs fund as not a smart and sustainable use of money. He recognised that more of the budget there is being spent on less effective medication. That is a poor model for us to follow, and I'm proud of what we are already doing and what we are committed to doing with the new treatment fund.
Wel wrth gwrs, rydym eisoes yn ymgymryd ag ystod o wasanaethau trin canser symudol, ac fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'n huchelgais i gyflawni mwy o ofal yn y gymuned - y newid hwnnw o ofal eilaidd i ofal sylfaenol. Mae'n rhan bwysig o'r hyn rydym am ei wneud. Byddai hynny'n sicr yn wir mewn gwasanaethau canser yn ogystal. Rydym wedi cael rhaglenni sefydledig, gan weithio gyda Chymorth Canser Macmillan, er enghraifft, ar ddeall gwasanaethau oncoleg gofal sylfaenol. Rydym yn gweithio gyda'n clinigwyr i wella'r hyn a wnânt ac i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu yn y lleoliad mwyaf priodol. Nid wyf yn ymddiheuro am beidio â derbyn neu ddilyn argymhellion y Torïaid ar gronfa cyffuriau canser yng Nghymru. Nid ydym yn credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Nid yn unig hynny: dywedodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin nad oedd unrhyw dystiolaeth fod y gronfa yn Lloegr wedi arwain at ganlyniadau gwell, ac mae Syr Bruce Keogh, gŵr y mae'r Torïaid yn aml yn hoff o'i ddyfynnu yn y Siambr hon, wedi disgrifio'r gronfa cyffuriau canser fel cynllun nad yw'n gwneud defnydd doeth a chynaliadwy o arian. Roedd yn cydnabod bod mwy o'r gyllideb yno yn cael ei gwario ar feddyginiaeth lai effeithiol. Mae hwnnw'n fodel gwael i ni ei ddilyn, ac rwy'n falch o'r hyn rydym eisoes yn ei wneud a'r hyn rydym wedi ymrwymo i'w wneud gyda'r gronfa triniaethau newydd.
As you've indicated, health Secretary, the English cancer drugs fund has not worked and is being abolished this week. However, I'm delighted that this Government is committed to a new treatment fund, and I'm also really pleased that we are committed to a further review of the individual patient funding requests system. As you know, I am a long-standing advocate of the need to move to a national panel that would ensure consistency and fairness in decision making, and I also would like to see the end of the exceptionality test, which I do not believe has the support of many clinicians in Wales. What assurances can you offer that this review will be undertaken in a speedy manner, but also that you will ensure that the views of clinicians and patients are taken into account?
Fel yn nodoch, Ysgrifennydd Iechyd, nid yw'r gronfa cyffuriau canser yn Lloegr wedi gweithio ac mae'n cael ei diddymu yr wythnos hon. Fodd bynnag, rwyf wrth fy modd fod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gronfa triniaethau newydd, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i adolygiad pellach o'r system ceisiadau cyllido cleifion unigol hefyd. Fel y gwyddoch, ers amser maith rwyf wedi cefnogi'r angen i newid i banel cenedlaethol a fyddai'n sicrhau cysondeb a thegwch wrth wneud penderfyniadau, a hoffwn weld diwedd ar y prawf eithriadoldeb hefyd, gan nad wyf yn credu bod llawer o glinigwyr yng Nghymru yn ei gefnogi. Pa sicrwydd y gallwch ei gynnig y bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gynnal yn gyflym, ond hefyd y byddwch yn sicrhau bod safbwyntiau clinigwyr a chleifion yn cael eu hystyried?
I thank the Member for her question, and she is right; she has taken a very consistent interest in this particular area. You'll be aware that, in the discussions we had prior to the formation of this Government, in the compact with Plaid Cymru, an IPFR review was one of the things that we agreed upon between our parties. I expect to come forward with some proposals, after discussion - hopefully, before recess - on what an IPFR review could look like and to set a timescale in a matter of months for that to take place. It is important to me that that review has proper clinical buy-in of clinicians with expertise in the area and that there is a proper patient voice as part of the evidence-gathering process. So, I can also confirm that, in any review, it is my view that for the review to have real meaning, it must consider again the points about whether there should or should not be a national panel - you'll understand that the previous review came down against a national panel, for practical reasons as much as anything else - but also, to examine again whether the exceptionality criteria are the right way to proceed. So, I'm happy to confirm that I expect those to be part of the review and for us to be able to report back in a prompt manner to this place and then to undertake any changes, if that is what the review itself recommends.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, ac mae hi'n iawn; mae hi wedi dangos diddordeb cyson iawn yn y maes penodol hwn. Yn y trafodaethau a gawsom cyn ffurfio'r Llywodraeth hon, yn y compact gyda Phlaid Cymru, fe fyddwch yn ymwybodol fod adolygiad o'r system ceisiadau cyllido cleifion unigol yn un o'r pethau y cafwyd cytundeb yn ei gylch rhwng ein pleidiau. Rwy'n disgwyl gallu cyflwyno rhai cynigion, ar ôl cael trafodaeth - cyn y toriad, gobeithio - ynglŷn â sut beth fydd yr adolygiad o'r system ceisiadau cyllido cleifion unigol a gosod amserlen ymhen rhai misoedd i hynny allu digwydd. Mae'n bwysig i mi fod yr adolygiad yn ennyn cefnogaeth glinigol briodol gan glinigwyr gydag arbenigedd yn y maes a bod gan gleifion lais priodol yn rhan o'r broses o gasglu tystiolaeth. Felly, gallaf gadarnhau hefyd, mewn unrhyw adolygiad yn fy marn i, er mwyn sicrhau bod yr adolygiad hwnnw'n wirioneddol ystyrlon, rhaid iddo ystyried eto y pwyntiau ynglŷn ag a ddylid cael panel cenedlaethol ai peidio - byddwch yn deall bod yr adolygiad blaenorol wedi penderfynu yn erbyn cael panel cenedlaethol, am resymau ymarferol lawn cymaint ag unrhyw beth arall - ond hefyd, i edrych eto ai'r meini prawf eithriadoldeb yw'r ffordd iawn i fwrw ymlaen. Felly, rwy'n fodlon cadarnhau fy mod yn disgwyl i'r ystyriaethau hynny fod yn rhan o'r adolygiad ac y byddwn yn gallu adrodd yn ôl y brydlon i'r lle hwn, a gwneud unrhyw newidiadau wedyn, os mai dyna y mae'r adolygiad ei hun yn ei argymell.
Cabinet Secretary, as you've stated often, and repeated this afternoon, the need for a treatment fund extends beyond the cancer drugs issue and should incorporate a wide range of treatments, including new forms of radiotherapy, which I know the Cabinet Secretary for Education championed in the last Assembly - CyberKnife stereotactic body radiotherapy, and proton beam therapy, and an information event is actually being sponsored by Bethan Jenkins tomorrow on that issue. But, they depend upon equipment and a trained workforce. So, what investment strategies has the Welsh Government established to introduce greater availability of such treatments across Wales, and what workforce requirements have been identified to deliver these?
Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych wedi'i ddatgan yn aml, a'i ailadrodd y prynhawn yma, mae'r angen am gronfa triniaethau yn ymestyn y tu hwnt i fater cyffuriau canser a dylai ymgorffori ystod eang o driniaethau, gan gynnwys ffurfiau newydd ar radiotherapi, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi hyrwyddo hynny yn y Cynulliad diwethaf - radiotherapi stereotactig CyberKnife ar y corff, a therapi pelydr proton, ac mae digwyddiad gwybodaeth yn cael ei noddi gan Bethan Jenkins ar y mater hwn yfory mewn gwirionedd. Ond maent yn dibynnu ar offer a gweithlu wedi'i hyfforddi. Felly, pa strategaethau buddsoddi a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod rhagor o driniaethau o'r fath ar gael ledled Cymru, a pha anghenion gweithlu a nodwyd ar gyfer darparu'r rhain?
I thank the Member for the question. One of the points I'll make is that, on life sciences and the life sciences industry, we've actually got a good record on seeing development here, and the proton beam developments that could take place in south-east Wales are being led by the private sector, and that could lead to improved access in the NHS here in Wales but also potentially improve costs as well. We could actually see people coming in from other parts of England to use a service there. So, the commissioning will be important, and I look forward to having constructive conversations on the life sciences industry with my colleague Julie James, the Minister for Skills and Science. On your broader point about workforce planning, of course there is an issue here about making sure we have the right workforce, equipped with the right skills to undertake the right care in the right place at the right time, and I'm really pleased to remind Members of the decision made at the end of the last Assembly, by my predecessor, on medical training. We will train more nurses than ever before, and more radiologists than ever before, so, we recognise where we need to have more people coming into the service with the right skills to deliver the sort of modern healthcare service that we need. It is doctors, it is nurses, and a whole range of other professions who are needed to ensure that we can deliver the sort of service that all of us wish to see.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Un o'r pwyntiau a wnaf yw bod gennym hanes da o ddatblygiadau ym maes gwyddorau bywyd a'r diwydiant gwyddorau bywyd yma mewn gwirionedd, ac mae'r datblygiadau pelydr proton a allai ddigwydd yn ne-ddwyrain Cymru yn cael eu harwain gan y sector preifat, a gallai hynny arwain at wella mynediad yn y GIG yma yng Nghymru a gwella costau hefyd o bosibl. Gallem weld pobl yn dod i mewn o rannau eraill o Loegr i ddefnyddio gwasanaeth yno. Felly, bydd y comisiynu'n bwysig, ac edrychaf ymlaen at gael trafodaethau adeiladol ar y diwydiant gwyddorau bywyd gyda fy nghyd-Aelod Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â chynllunio'r gweithlu, wrth gwrs mae yna broblem yma ynghylch sicrhau bod gennym y gweithlu cywir, sy'n meddu ar y sgiliau cywir i ymgymryd â'r gofal iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn, ac rwy'n falch iawn o atgoffa'r Aelodau o'r penderfyniad a wnaed ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf gan fy rhagflaenydd, ynglŷn â hyfforddiant meddygol. Byddwn yn hyfforddi mwy o nyrsys nag erioed o'r blaen, a mwy o radiolegwyr nag erioed o'r blaen, felly rydym yn gweld lle mae angen cael mwy o bobl yn dod i mewn i'r gwasanaeth sydd â'r sgiliau cywir i ddarparu'r math o wasanaeth gofal iechyd modern sydd ei angen arnom. Mae angen meddygon, nyrsys, ac ystod gyfan o broffesiynau eraill i sicrhau y gallwn ddarparu'r math o wasanaeth y mae pob un ohonom am ei weld.
I expect health boards to work with their partners to ensure people have timely access to emergency care services when they need them. The national programme for unscheduled care is driving a whole-system approach to facilitate sustainable change and improvement for unscheduled health and care services across Wales.
Rwy'n disgwyl i'r byrddau iechyd weithio gyda'u partneriaid i sicrhau bod pobl yn cael mynediad amserol at wasanaethau gofal brys pan fyddant eu hangen. Mae'r rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu yn gyrru dull gweithredu ar sail system gyfan i hwyluso newid cynaliadwy a gwella gwasanaethau iechyd a gofal heb ei drefnu ar draws Cymru.
Thank you for that answer, Cabinet Secretary. In March, the A&E waiting times showed that 380 people had waited 12 hours or more at the University Hospital of Wales, as opposed to 111 people in January. Clearly, these figures are clearly very disturbing, and despite what you've just said in your first answer to me, something is going very much amiss in the delivery of A&E services here in Cardiff. What certainty can you give that those figures will not continue to go up and that, actually, people will be seen within the Welsh Government's own targets and that we can have confidence that when we do go into the winter, the winter pressure scenario will not exacerbate these figures that I've just quoted to you already?
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Ym mis Mawrth, dangosai amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys fod 380 o bobl wedi aros 12 awr neu fwy yn Ysbyty Athrofaol Cymru, o gymharu â 111 o bobl ym mis Ionawr. Yn amlwg, mae'r ffigurau hyn yn peri pryder mawr, ac er gwaethaf yr hyn rydych newydd ei ddweud yn eich ateb cyntaf i mi, mae rhywbeth yn mynd o ymhell o'i le wrth ddarparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yma yng Nghaerdydd. Pa sicrwydd y gallwch ei roi na fydd y ffigurau hynny'n parhau i godi, ac y bydd pobl yn cael eu gweld o fewn targedau Llywodraeth Cymru ei hun mewn gwirionedd, ac y gallwn fod yn hyderus wrth i ni wynebu'r gaeaf, na fydd senario pwysau'r gaeaf yn gwaethygu'r ffigurau hyn rwyf newydd eu dyfynnu i chi?
Thank you for the follow-up question. I expect that when figures are published for April, we'll see a further improvement on 12-hour waits, and Cardiff and Vale University Local Health Board have actually done a relatively good job in driving down the number of 12-hour waits. They know, from my own point of view, that I expect to see further progress made so that there are fewer and fewer people waiting 12 hours in any of our hospitals here in Cardiff and Vale. So, progress made, but much more progress still needed to do, I think is the point. It's important to me that the system is in balance before we head into winter. I don't want to see an unscheduled care system that has not recovered and is not in a stable place before we get into the winter months and inevitable winter pressure. We all know that, right across the UK family, winter pressures mean that there are changes in the numbers of people coming in and the acuity of people coming in to our unscheduled care system and the length of time it often takes to treat those people as well. We're not uniquely facing a challenge in that sense, but it's not just about A&E: it's about what takes place within the community to avoid people coming into an A&E unit in the first place, and also, on delayed transfers of care, making it so that people are able to leave the hospital when it's appropriate for them to do so as well. So, that whole-system approach has to be looked at, not just the figures in an A&E unit on our four-hour and our 12-hour figures, but to understand what we can do for the whole-system approach. As I say, I do think you'll see an improvement again when the figures come out for April.
Diolch am y cwestiwn dilynol. Pan gaiff y ffigurau eu cyhoeddi ar gyfer mis Ebrill, rwy'n disgwyl y byddwn yn gweld gwelliant pellach o ran y nifer sy'n aros 12 awr, ac mewn gwirionedd, mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi gwneud gwaith cymharol dda yn lleihau nifer y bobl sy'n aros 12 awr. Maent yn gwybod, o fy safbwynt i, fy mod yn disgwyl gweld cynnydd pellach fel bod llai a llai o bobl yn aros 12 awr mewn unrhyw un o'n hysbytai yma yng Nghaerdydd a'r Fro. Felly, gwnaed cynnydd, ond mae angen gwneud llawer mwy o gynnydd eto, dyna yw'r pwynt rwy'n meddwl. Mae'n bwysig i mi fod y system yn gytbwys cyn i ni wynebu'r gaeaf. Nid wyf am weld system gofal heb ei drefnu nad yw wedi gwella ac nad yw'n sefydlog cyn i ni wynebu misoedd y gaeaf a phwysau'r gaeaf sy'n anochel. Rydym i gyd yn gwybod bod pwysau'r gaeaf ar draws gwledydd y DU yn golygu bod newidiadau yn niferoedd y bobl sy'n dod i mewn ac aciwtedd y bobl sy'n dod i mewn i'n system gofal heb ei drefnu a faint o amser y mae'n aml yn ei gymryd i drin y bobl hynny hefyd. Nid ydym yn wynebu her sy'n unigryw yn yr ystyr honno, ond nid yw'n ymwneud yn unig â'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys: mae'n ymwneud â'r hyn sy'n digwydd yn y gymuned i osgoi gorfod derbyn pobl i uned ddamweiniau ac achosion brys yn y lle cyntaf, a hefyd yr hyn sy'n digwydd ynglŷn ag oedi wrth drosglwyddo gofal, fel bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan fo'n briodol iddynt wneud hynny. Felly, rhaid ystyried gweithredu ar sail system gyfan, nid yn unig ar sail ffigurau mewn uned ddamweiniau ac achosion brys o ran y ffigurau pedair awr a 12 awr, ond er mwyn deall yr hyn y gallwn ei wneud ar sail dull system gyfan o weithredu. Fel rwy'n dweud, rwy'n meddwl y byddwch yn gweld gwelliant eto pan gyhoeddir y ffigurau ar gyfer mis Ebrill.
Cabinet Secretary, the link between accident and emergency challenges and the support for adult social care is well established. We've seen the crisis that's occurred in accident and emergency admissions in England because of an 8 per cent real-terms cut in support for adult social care. What steps are the Welsh Government taking to ensure there is adequate support for adult social care in Wales to avoid the problems that are faced and caused a crisis in England occurring within Wales?
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cysylltiad rhwng heriau damweiniau ac achosion brys a'r cymorth ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion wedi'i hen sefydlu. Gwelsom yr argyfwng sydd wedi digwydd o ran niferoedd derbyniadau damweiniau ac achosion brys yn Lloegr oherwydd toriad o 8 y cant mewn termau real yn y cymorth ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yna gymorth digonol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru er mwyn atal y problemau sydd wedi achosi argyfwng yn Lloegr rhag digwydd yng Nghymru?
I thank the Member for the question. It highlights the fact that there are UK-wide pressures, and we're taking different approaches to them. In England, they've taken an approach that has reduced funding into adult social care. We spend 7 per cent higher on health and social services per head, or £172, more in Wales than in England. We've also taken a different approach because of the way our health and social care services are organised. We don't have the competitive and at times antagonistic relationship between providers in England, for example. That means that we've been able to take a system-wide approach to delayed transfers of care, working with a care system that has not been denuded of funds, and actually the morale of staff in England is particularly difficult. That's why we've seen a fall over the last couple of months in delayed transfers here in Wales, which are at a record high in England since figures actually began. So, there are real lessons of what we're doing here in Wales, and the positive points about that, but there's no complacency here, because what we have done is to manage what we need to do and to understand more about what we do so that people don't have a poor experience of going into the unscheduled care system, and equally they move into an appropriate place within the care system that meets their needs and understands what we could and should do to support them to maintain as much independence as possible. Much of that is how we prevent people from going into a hospital in the first place.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'n tynnu sylw at y ffaith fod pwysau ar draws y DU, ac rydym yn gweithredu mewn ffyrdd gwahanol i oresgyn y pwysau hynny. Yn Lloegr, maent wedi mabwysiadu dull o weithredu sydd wedi lleihau cyllid ar ofal cymdeithasol i oedolion. Rydym yn gwario 7 y cant y pen, neu £172, yn fwy yng Nghymru nag yn Lloegr ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Rydym hefyd wedi mabwysiadu dull gwahanol oherwydd y ffordd y caiff ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu trefnu. Nid oes gennym y berthynas gystadleuol, a gelyniaethus ar adegau, rhwng darparwyr yn Lloegr, er enghraifft. Mae hynny'n golygu ein bod wedi gallu edrych ar oedi wrth drosglwyddo gofal drwy weithredu ar sail system gyfan, gan weithio gyda system ofal nad yw wedi'i flingo o gyllid, ac mewn gwirionedd mae morâl staff yn Lloegr yn arbennig o anodd. Dyna pam ein bod wedi gweld gostyngiad yn ystod y misoedd diwethaf yn lefelau oedi wrth drosglwyddo yma yng Nghymru, sy'n uwch nag erioed yn Lloegr ers i'r ffigurau ddechrau mewn gwirionedd. Felly, mae yna wersi go iawn i'w dysgu o'r hyn rydym yn ei wneud yma yng Nghymru, a'r pwyntiau cadarnhaol ynghylch hynny, ond nid oes hunanfoddhad yma, oherwydd yr hyn rydym wedi'i wneud yw rheoli'r hyn sydd angen i ni ei wneud a deall mwy am yr hyn a wnawn fel nad yw pobl yn cael profiad gwael o fynd i mewn i'r system gofal heb ei drefnu, ac yn yr un modd, maent yn symud i le priodol yn y system ofal sy'n diwallu eu hanghenion ac yn deall beth y gallem a beth y dylem ei wneud i'w cynorthwyo i aros mor annibynnol ag y bo modd. Mae llawer o hynny'n ymwneud â sut rydym yn atal pobl rhag mynd i ysbyty yn y lle cyntaf.
The Welsh health survey 2015 reports that 19 per cent of adults smoke. This reduction means the Welsh Government has already exceeded its aim of reducing smoking rates to 20 per cent by 2016, and is well on track to achieve its ambitious target to reduce levels to 16 per cent by 2020.
Mae arolwg iechyd Cymru 2015 yn nodi bod 19 y cant o oedolion yn smygu. Mae'r gostyngiad hwn yn golygu bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhagori ar ei nod o leihau cyfraddau smygu i 20 y cant erbyn 2016, ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol i ostwng y lefelau i 16 y cant erbyn 2020.
Diolch. It's very good news, then, that the Welsh Government has exceeded its 2016 target of reducing the level of smoking to 20 per cent. How do you plan to achieve our ambitious target of reducing those levels to 16 per cent by 2020?
Diolch. Mae'n newyddion da iawn, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi rhagori ar ei tharged ar gyfer 2016 o ostwng lefelau smygu i 20 y cant. Sut rydych chi'n bwriadu cyrraedd ein targed uchelgeisiol ar gyfer gostwng y lefelau hynny i 16 y cant erbyn 2020?
Thank you. We intend to build on our success so far with the new tobacco control strategic board, which has been set up to oversee the next steps forward. We have three specific sub-groups looking at best practice on smoking prevention, cessation and the denormalisation of smoking behaviours as well, to make it particularly unattractive to young people. We also have a separate task and finish group looking at ways of decreasing the demand for illegal tobacco, and these sub-groups will come together to provide us with recommendations for a refreshed tobacco control delivery plan to take us along those next steps to 2020. And, of course, this approach goes alongside all the work that's going on there together at a UK level, such as standardised packaging to ensure a co-ordinated and comprehensive approach to tobacco control in Wales.
Diolch. Rydym yn bwriadu adeiladu ar ein llwyddiant hyd yn hyn gyda'r bwrdd strategol rheoli tybaco newydd a sefydlwyd i oruchwylio'r camau nesaf. Mae gennym dri is-grŵp penodol sy'n edrych ar yr arferion gorau o ran atal smygu, rhoi'r gorau i smygu a dadnormaleiddio patrymau ymddygiad sy'n ymwneud â smygu hefyd, i'w wneud yn arbennig o anatyniadol i bobl ifanc. Hefyd, mae gennym grŵp gorchwyl a gorffen ar wahân sy'n edrych ar ffyrdd o leihau'r galw am dybaco anghyfreithlon, a bydd yr is-grwpiau hyn yn dod at ei gilydd i ddarparu argymhellion ar gyfer cynllun cyflawni ar reoli tybaco ar ei newydd wedd i fynd â ni ar hyd y camau nesaf hynny tuag at 2020. Ac wrth gwrs, mae'r dull hwn o weithredu yn mynd ochr yn ochr â'r holl waith sy'n digwydd gyda'n gilydd ar lefel y DU, fel pecynnu safonol i sicrhau dull cydlynol a chynhwysfawr o reoli tybaco yng Nghymru.
The next item is the motion under Standing Order 16.1 to establish an interim Committee on Constitutional and Legislative Affairs. I call on a member of the Business Committee to move the motion - Paul Davies.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro. Rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig - Paul Davies.
Thank you. The proposal is to agree the motion. Does any Member object? If there are no objections, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Diolch. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The next item on our agenda is the motion to elect Members to a committee, and I call on a member of the Business Committee to move the motion - Paul Davies.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r cynnig i ethol aelodau i bwyllgor. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig - Paul Davies.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? If not, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The next item is the debate by individual Members under Standing Order 11.21 (iv). Before we start this debate, I'd like to remind Members of my expectations when it comes to behaviour in the Chamber. This is a subject on which there are strongly held views on both sides on a very topical issue. That should mean that we have an interesting, engaging and passionate debate, but that's no excuse for heckling or otherwise speaking over speakers or any kind of behaviour that would detract from the dignity of this place. I would also remind Members, given the level of interest in this debate, that I want to call as many Members as possible, so I will limit speakers to three minutes each, with the exception of those opening and closing the debate and the Minister responding to it. As this is an individual Member debate, I will also be seeking to ensure a fair reflection of both sides of the argument, rather than a party-political balance, as I would normally do. Therefore, I call on Eluned Morgan to move the motion.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 (iv). Cyn inni ddechrau ar y ddadl yma, rydw i eisiau atgoffa Aelodau am fy nisgwyliadau o ran ymddygiad yn y Siambr. Mae hwn yn bwnc lle mae barn gryf ar y ddwy ochr, a hynny ar fater sy'n amserol iawn. Dylai hynny olygu ein bod yn cael dadl nawr sy'n ddiddorol, yn ddifyr ac yn angerddol. Ond nid yw hynny'n esgus dros heclo neu siarad dros siaradwyr neu unrhyw fath o ymddygiad a fyddai'n amharu ar urddas y lle yma. Rydw i hefyd eisiau atgoffa Aelodau, o ystyried lefel y diddordeb yn y ddadl a'r pwnc yma, fy mod i am alw cynifer o Aelodau â phosibl. Byddaf felly'n cyfyngu'r siaradwyr i dri munud yr un, ac eithrio'r rhai sy'n agor a chau'r ddadl, a'r Gweinidog sy'n ymateb. Gan mai dadl Aelodau unigol yw hon, byddaf hefyd yn ymdrechu i sicrhau adlewyrchiad teg o'r ddau safbwynt wrth alw Aelodau, yn hytrach na'r cydbwysedd pleidiol, fel y byddwn yn arfer. Felly, rydw i'n galw, i wneud y cynnig, Eluned Morgan.
Oh, heck. Diolch. Apologies, Presiding Officer. We don't need to be in the EU to co-operate with European partners. Wales in Britain must be a sovereign partner of Europe not a province of the EU as part of an outward-looking global community. If we leave, nothing immediately changes during the first two years. Both farm support and structural funding would then be a matter for the UK Government in consultation with the devolved administrations. Because the UK is a major net contributor to the EU, more money would be available. When the EU Commission planned to allocate structural funds for the period 2014-2020, it sought cuts for Wales of around 27 per cent. The UK Government reallocated part of the funding for England to rebalance some of that shortfall. With Wales out of the EU, future funding will be determined by politicians accountable to the Welsh electorate. The UK subsidised its farmers before it joined the EU and would do so after we vote 'leave', with the Welsh Government responsible for replacing badly designed EU farm regulations with new policies to help farmers. The UK farming Minister made it clear that a UK Government would continue to give farmers and the environment at least as much support as they get now. Even the Prime Minister has made that clear.
O, diar. Diolch. Ymddiheuriadau, Lywydd. Nid oes angen i ni fod yn yr UE i gydweithredu gyda phartneriaid Ewropeaidd. Rhaid i Gymru ym Mhrydain fod yn bartner sofran i Ewrop nid yn dalaith o'r UE fel rhan o gymuned fyd-eang sy'n edrych tuag allan. Os byddwn yn gadael, nid oes newid yn digwydd ar unwaith yn ystod y ddwy flynedd gyntaf. Byddai cymorth ffermio a chyllido strwythurol wedyn yn fater i Lywodraeth y DU mewn ymgynghoriad â'r gweinyddiaethau datganoledig. Oherwydd bod y DU yn un o gyfranwyr net mawr i'r UE, byddai mwy o arian ar gael. Pan gynlluniodd Comisiwn yr UE i ddyrannu cronfeydd strwythurol ar gyfer y cyfnod 2014-2020, ceisiodd sicrhau toriadau o tua 27 y cant i Gymru. Ailddyrannodd Llywodraeth y DU ran o'r cyllid ar gyfer Lloegr er mwyn ailgydbwyso rhywfaint o'r diffyg hwnnw. Gyda Chymru allan o'r UE, gwleidyddion atebol i etholwyr Cymru fydd yn pennu cyllid yn y dyfodol. Rhoddai'r DU gymhorthdal i'w ffermwyr cyn iddi ymuno â'r UE a byddai'n gwneud hynny ar ôl i ni bleidleisio dros adael, gyda Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am osod polisïau newydd i helpu ffermwyr yn lle rheoliadau fferm yr UE sydd wedi'u cynllunio'n wael. Eglurodd Gweinidog ffermio'r DU y byddai Llywodraeth y DU yn parhau i roi o leiaf yr un faint o gymorth ag y maent yn ei gael yn awr i ffermwyr ac i'r amgylchedd. Mae hyd yn oed y Prif Weinidog wedi dweud hynny'n glir.
Thank you for taking the intervention. Of course, I listened to the interview that person actually made, and when he was challenged on it he said he couldn't give any guarantee. Are you saying he could give a guarantee or do you agree with him that he cannot give a guarantee, just a wish list?
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Wrth gwrs, gwrandewais ar y cyfweliad a wnaeth y person hwnnw mewn gwirionedd, a phan gafodd ei herio yn ei gylch dywedodd na allai roi unrhyw sicrwydd. A ydych yn dweud y gallai roi sicrwydd neu a ydych yn cytuno ag ef na all roi sicrwydd, dim ond rhestr o ddymuniadau?
As a Minister he can bring forward proposals and if the House of Commons passes it as the sovereign body with elected politicians it will happen, and the Prime Minister himself made that commitment. After all, non-EU countries like Switzerland and Norway actually give more support to their farmers than the UK and Wales do. The EU is a shrinking market for the UK, with exports of goods and services to the EU falling from 54 per cent in 2006 to just 44 per cent today. Over 60 per cent of Welsh exports are now to non-EU countries. In 2014, the share of UK goods exports going to countries outside the EU was higher than every other EU member state except Malta. The UK-EU balance of trade has favoured the rest of the EU every year since we joined except 1975, and the UK now has a record trade deficit with the EU. The UK is the EU's largest export partner, guaranteeing millions of EU jobs. It is overwhelmingly in the EU's interest to agree a friendly UK-EU free trade deal. As the former deputy director of the International Monetary Fund's European research department said two weeks ago, when we go back to core economic principles, 'Economics is neutral on whether to leave or remain'. In supporting a European federal union, Churchill stressed that Great Britain could never be a part of it, stating, 'We are with Europe, but not of it. We are linked but not combined. We are interested and associated but not absorbed.' Well, it's time to put sovereignty before the scaremongers, democracy before the doomsayers and freedom before fear. It's time to take our United Kingdom back.
Fel Gweinidog gall gyflwyno cynigion ac os yw Tŷ'r Cyffredin yn ei basio fel corff sofran gyda gwleidyddion etholedig, fe fydd yn digwydd, ac mae'r Prif Weinidog ei hun wedi gneud yr ymrwymiad hwnnw. Wedi'r cyfan, mae gwledydd y tu allan i'r UE fel y Swistir a Norwy yn rhoi mwy o gymorth i'w ffermwyr mewn gwirionedd nag y mae'r DU a Chymru yn ei wneud. Mae'r UE yn farchnad sy'n crebachu i'r DU, gydag allforion nwyddau a gwasanaethau i'r UE yn gostwng o 54 y cant yn 2006 i 44 y cant heddiw. Mae dros 60 y cant o allforion o Gymru bellach yn mynd i wledydd nad ydynt yn aelodau o'r UE. Yn 2014, roedd cyfran allforion nwyddau'r DU a oedd yn mynd i wledydd y tu allan i'r UE yn uwch na phob un o aelod-wladwriaethau eraill yr UE ac eithrio Malta. Mae cydbwysedd masnach rhwng y DU a'r UE wedi ffafrio gweddill yr UE bob blwyddyn ers i ni ymuno ac eithrio 1975, ac erbyn hyn mae gan y DU ddiffyg masnach mwy nag erioed gyda'r UE. Y DU yw partner allforio mwyaf yr UE, ac mae'n gwarantu miliynau o swyddi'r UE. Byddai o fudd enfawr i'r UE greu cytundeb masnach rydd cyfeillgar rhwng y DU a'r UE. Fel y dywedodd cyn-ddirprwy gyfarwyddwr adran ymchwil Ewropeaidd y Gronfa Ariannol Ryngwladol bythefnos yn ôl, os awn yn ôl at yr egwyddorion economaidd craidd, 'mae economeg yn niwtral ynglŷn ag a ddylid gadael neu aros'. Wrth gefnogi undeb ffederal Ewropeaidd, pwysleisiodd Churchill na allai Prydain Fawr byth fod yn rhan ohono, gan ddatgan, 'Rydym gydag Ewrop, ond heb fod yn rhan ohoni. Rydym yn gysylltiedig ond heb fod wedi'n cyfuno. Mae gennym ddiddordeb a chysylltiad ond nid ydym wedi'n hamsugno.' Wel, mae'n bryd rhoi sofraniaeth o flaen y codwyr bwganod, democratiaeth o flaen y daroganwyr gwae a rhyddid o flaen ofn. Mae'n bryd i ni gymryd ein Teyrnas Unedig yn ôl.
Llywydd, I'm a big fan of The Clash. I remember seeing them at Sofia Gardens when I was 17. I can't get into those size 28 leather trousers any more - if I ever could - though the ringing in my ears, and there is, is a constant reminder that I may have overdosed on loud music at those concerts - Siouxsie and the Banshees, The Damned, Tom Robinson and, of course, The Clash. So, it's good to hear one of their totemic tracks, 'Should I Stay or Should I Go', on the airwaves and in the news so much lately. From Radio 4 to Radio Wales to opinion pieces in 'Time' magazine and the Norfolk 'Eastern Daily Press'. I bet they never thought that this punchy punk rock track would end up as a backdrop for a debate on the future of the UK and EU membership. For Wales, for south Wales, for my constituency of Ogmore, there are clear reasons why it's better not to have the door of the EU slammed in our faces, and the first is the spending power. One of the benefits of the EU is that funds can be allocated towards regions of greater need, so we are, inarguably, better off financially in the EU because we receive structural funds for the Valleys and for rural development funds and so on well beyond what we put in - well beyond what we put in. And yes, this is our money, but it's our money coming back with even more added into south Wales and the west and the Valleys. Anyone arguing for Leave is arguing (a) for less regional and rural development money coming to west Wales and the Valleys and rural communities or (b) has had secret talks with the Chancellor to guarantee that he'll bolster the block grant for Wales to replace the lost moneys and, as we just heard, there is no guarantee. Some £1.8 million of those funds went into the regeneration of Maesteg market, also supported ably by the Labour local authority. They went into the Bridges into Work scheme, benefiting up to 2,000 people in Ogmore and throughout the south Wales Valleys, improving training and mentoring for skills into work. And £1.7 million went into the STEM Cymru scheme, promoting careers in science, technology, engineering and maths to our young people. And, for a rural wards - and that's all but two of the wards in my constituency of Ogmore - it goes into real improvements in the places we live, through the EU-funded Welsh Government-administered rural development programme, creating things like a community gym in a refurbished church hall in Blaengarw or renovating the Llangynwyd village hall, turning it from a semi-derelict unused shell into a thriving community space that brings people together and provides a lovely cup of tea and cake as well. It's the extension of this with the new Bridgend Thriving Rural Communities scheme, promoted by Bridgend's Labour council, offering support and grants of up to £100,000 for ideas to improve and regenerate our communities. I could go on. So, should we stay or should we go? Well, maybe there is a hint in the song itself, subtly tucked away. In the fury of the rock riff and the belted out lyrics, it's easy to miss the fact that the chorus is being sung in sync in Tex-Mex and Castilian Spanish by Joe Ely and the late, great Joe Strummer. Castilian Spanish in a quintessentially British punk rock classic. Maybe it's trying to tell us something: we're better off staying together.
Lywydd, rwy'n ffan mawr o'r grŵp The Clash. Rwy'n cofio eu gweld yng Ngerddi Soffia pan oeddwn yn 17 oed. Ni allaf fynd i mewn i'r trowsus lledr maint 28 hynny mwyach - os gallwn i byth - er bod y canu yn fy nghlustiau, ac mae yna, mae'n atgoffa'n barhaol efallai fy mod wedi cael gorddos o gerddoriaeth uchel yn y cyngherddau hynny - Siouxsie and the Banshees, The Damned, Tom Robinson ac wrth gwrs, The Clash. Felly, mae'n dda clywed un o'u traciau totemaidd, 'Should I Stay or Should I Go', ar yr awyr ac yn y newyddion cymaint yn ddiweddar. O Radio 4 i Radio Wales i erthyglau barn yn y cylchgrawn 'Time' a'r 'Norfolk Eastern Daily Press'. Rwy'n siŵr na feddyliasant erioed y byddai'r trac roc pync bachog hwn yn dod yn gefndir i ddadl ar ddyfodol aelodaeth y DU yn yr UE yn y pen draw. I Gymru, i dde Cymru, i fy etholaeth sef Ogwr, mae yna resymau clir pam y mae'n well peidio â chael drws yr UE wedi'i gau'n glep yn ein hwynebau, a'r cyntaf yw'r grym gwario. Un o fanteision yr UE yw y gellir dyrannu arian i ranbarthau lle y ceir mwy o angen, felly rydym yn bendant yn well ein byd yn ariannol yn yr UE gan ein bod yn derbyn cronfeydd strwythurol ar gyfer y Cymoedd ac ar gyfer cronfeydd datblygu gwledig ac yn y blaen i raddau llawer mwy na'r hyn a rown i mewn - llawer mwy na'r hyn rydym yn ei roi i mewn. Ac ie, ein harian ni yw hwn, ond ein harian ni yn dod yn ôl gyda hyd yn oed mwy wedi'i ychwanegu ato i dde Cymru a'r gorllewin a'r Cymoedd. Mae unrhyw un sy'n dadlau dros adael yn dadlau (a) dros gael llai o arian rhanbarthol a datblygu gwledig yn dod i orllewin Cymru a'r Cymoedd a chymunedau gwledig neu (b) wedi cael trafodaethau cyfrinachol gyda'r Canghellor i warantu y bydd yn ychwanegu at y grant bloc i Gymru wneud iawn am yr arian a gollwyd ac fel rydym newydd glywed, nid oes unrhyw sicrwydd. Aeth tua £1.8 miliwn o'r cyllid hwnnw tuag at adfywio marchnad Maesteg, gwaith a gefnogwyd hefyd gan yr awdurdod lleol Llafur. Aeth tuag at y cynllun Pontydd i Waith, sydd o fudd i hyd at 2,000 o bobl yn Ogwr ac ar draws Cymoedd de Cymru, gan wella hyfforddiant a mentora sgiliau ar gyfer gwaith. Ac aeth £1.7 miliwn i'r cynllun STEM Cymru, sy'n hyrwyddo gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i'n pobl ifanc. Ac i wardiau gwledig - sef pob un ond dwy o'r wardiau yn fy etholaeth yn Ogwr - mae'n mynd tuag at welliannau go iawn yn y mannau rydym yn byw ynddynt, drwy'r rhaglen datblygu gwledig a weinyddir gan Lywodraeth Cymru ac a ariennir gan yr UE, gan greu pethau fel campfa gymunedol mewn neuadd eglwys a adnewyddwyd ym Mlaengarw neu adnewyddu neuadd bentref Llangynwyd, gan ei throi o fod yn gragen led-adfeiliedig na châi ei defnyddio i fod yn ofod cymunedol ffyniannus sy'n dod â phobl at ei gilydd ac yn darparu paned hyfryd o de a chacen hefyd. Caiff hyn ei ymestyn gyda chynllun newydd Cymunedau Gwledig Ffyniannus Pen-y-bont a hyrwyddir gan gyngor Llafur Pen-y-bont, gan gynnig cymorth a grantiau o hyd at £100,000 i syniadau ar gyfer gwella ac adfywio ein cymunedau. Gallwn fynd ymlaen. Felly, a ddylem aros neu a ddylem adael? Wel, efallai fod yna awgrym yn y gân ei hun, wedi'i guddio'n gynnil. Yng nghynddaredd y riff roc a'r geiriau sy'n cael eu bloeddio, mae'n hawdd methu'r ffaith fod y cytgan yn cael ei ganu ar yr un pryd mewn Tex-Mex a Sbaeneg Castiliaidd gan Joe Ely a'r diweddar Joe Strummer gwych. Sbaeneg Castiliaidd mewn clasur o gân roc pync nodweddiadol Brydeinig. Efallai ei bod yn ceisio dweud rhywbeth wrthym: rydym yn well ein byd yn aros gyda'n gilydd.
Labour Members don't seem to have caught up with the news that project fear isn't working. Look at the opinion polls. The public don't believe you any longer. Of course, the truth of the matter is that every single penny that is spent by the EU on all these great projects that we've heard catalogued this afternoon is our money. And, on top of that, we're sending £10 billion a year to the EU that they're spending elsewhere. That £10 billion could be added to all the projects that have been described today. The truth of the matter is that the EU is an economic dead-end. In 1980, it accounted for 30 per cent of world trade; today, it accounts for only 15 per cent and declining. The EU is the only part of the world - the only continent - that has had zero growth in this century, apart from Antarctica. All the other continents in the world have been roaring ahead. As regards trade between the UK and the EU, the idea that this is going to come to a stop if we were to leave after the vote on 23 June is just complete nonsense. I don't suppose that Labour Members have caught up with the other news this week that we had a £24 billion trade deficit with the EU in the first quarter of this year alone. That's a £100 billion-a-year trade deficit. Why on earth would the EU want to erect trade barriers against us when they gain so much from trade with us, unless they're acting irrationally? And if they are acting irrationally, why would we want to be shackled to people who are not rational? The whole thing is nonsense. Our exports to the EU in 2000 were 60 per cent of our total exports worldwide. Today, as Mark Isherwood has pointed out, they are only 44 per cent. That's because the eurozone is a total disaster, and for those poor people in Spain, in Portugal, in Greece, in Italy and in France who see their countries going down the tubes, then it's certainly no cakewalk for them because they are paying the price of euro madness. The idea that we're going to be excluded from European trade is just nonsense. Even if we came to no trade -
Nid yw'n ymddangos bod Aelodau Llafur wedi clywed y newyddion nad yw prosiect ofn yn gweithio. Edrychwch ar y polau piniwn. Nid yw'r cyhoedd yn eich credu mwyach. Wrth gwrs, y gwir amdani yw mai ein harian ni yw pob ceiniog a werir gan yr Undeb Ewropeaidd ar bob un o'r prosiectau mawr y clywsom eu rhestru y prynhawn yma. Ac ar ben hynny, rydym yn anfon £10 biliwn y flwyddyn i'r UE ac maent hwy'n ei wario yn rhywle arall. Mae hynny'n £10 biliwn y gellid ei ychwanegu at yr holl brosiectau a ddisgrifiwyd heddiw. Y gwir amdani yw nad yw'r UE yn mynd i unman yn economaidd. Yn 1980, roedd ei chyfran o fasnach y byd yn 30 y cant; heddiw, nid yw ond yn 15 y cant ac mae'n lleihau. Yr UE yw'r unig ran o'r byd - yr unig gyfandir - sydd heb weld twf o gwbl yn y ganrif hon, ar wahân i Antarctica. Mae pob un o'r cyfandiroedd eraill yn y byd wedi bod yn bwrw yn eu blaenau. O ran masnach rhwng y DU a'r UE, mae'r syniad y daw i ben pe baem yn gadael ar ôl y bleidlais ar 23 Mehefin yn nonsens llwyr. Nid wyf yn tybio bod Aelodau Llafur wedi clywed y newyddion arall yr wythnos hon fod gennym ddiffyg masnach o £24 biliwn gyda'r UE yn chwarter cyntaf y flwyddyn hon yn unig. Dyna ddiffyg masnach o £100 biliwn y flwyddyn. Pam ar y ddaear y byddai'r UE yn awyddus i godi rhwystrau masnach yn ein herbyn a hwythau'n ennill cymaint o fasnachu gyda ni, oni bai eu bod yn gweithredu'n afresymol? Ac os ydynt yn gweithredu'n afresymol, pam y byddem eisiau cael ein clymu at bobl nad ydynt yn rhesymegol? Mae'r holl beth yn nonsens. Roedd ein hallforion i'r UE yn 2000 yn 60 y cant o gyfanswm ein hallforion byd-eang. Heddiw, fel y mae Mark Isherwood wedi nodi, 44 y cant yn unig ydynt. Y rheswm am hynny yw bod ardal yr ewro yn drychineb llwyr, ac i'r bobl hynny druain yn Sbaen, ym Mhortiwgal, yng Ngwlad Groeg, yn yr Eidal ac yn Ffrainc sy'n gweld eu gwledydd yn mynd rhwng y cŵn â'r brain, yn sicr nid yw'n hawdd iddynt gan eu bod yn talu'r pris am wallgofrwydd yr ewro. Mae'r syniad ein bod yn mynd i gael ein heithrio o fasnach Ewropeaidd yn nonsens. Hyd yn oed pe na baem yn masnachu -
Thank you for taking the intervention. Of course, one of the arguments that you haven't mentioned is the importance of workers' rights protection through Europe. You were a member of the Thatcher Government in the 1980s that devastated trade unions, that smashed workers' rights, that smashed the National Union of Mineworkers and the coal industry; do you not think that before there can be any confidence or belief that your campaign will do anything to support workers' rights, you should apologise for your role in the Thatcher Government in the 1980s?
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Wrth gwrs, un o'r dadleuon nad ydych wedi crybwyll yw pwysigrwydd diogelu hawliau gweithwyr drwy Ewrop. Roeddech yn aelod o Lywodraeth Thatcher yn yr 1980au a aeth ati i ddinistrio undebau llafur, i chwalu hawliau gweithwyr, a malu Undeb Cenedlaethol y Glowyr a'r diwydiant glo; cyn y gellir sicrhau unrhyw hyder neu gred y bydd eich ymgyrch yn gwneud unrhyw beth i gefnogi hawliau gweithwyr, onid ydych yn credu y dylech ymddiheuro am eich rôl yn Llywodraeth Thatcher yn yr 1980au?
Well, this just goes to show how far Labour is living in the past - doesn't it - that we're arguing today about what happened 30-odd years ago rather than what's happening in the world today. But, what I note is that the Labour Government for, I think, the last 30 years, did nothing to repeal any of the measures that that Tory Government of the 1980s introduced. So, so much for that argument. But to return to the point that I was making about access to the single market if we were to leave, we would have to jump over a tariff of an average of 3 per cent, which is nonsense. This is all about taking back control of our own country and giving the control of public policy to people who we can elect and dismiss, not unelected, faceless bureaucrats in Brussels whom we can't even name.
Wel, mae hyn ond dangos i ba raddau y mae Llafur yn byw yn y gorffennol - onid yw - ein bod yn dadlau heddiw am yr hyn ddigwyddodd oddeutu 30 o flynyddoedd yn ôl yn hytrach na beth sy'n digwydd yn y byd heddiw. Ond yr hyn rwy'n ei nodi yw nad yw'r Llywodraeth Lafur dros y 30 mlynedd ddiwethaf, rwy'n meddwl, wedi gwneud unrhyw beth i ddiddymu unrhyw rai o'r mesurau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Dorïaidd yn yr 1980au. Felly, naw wfft i'r ddadl honno. Ond i ddychwelyd at y pwynt roeddwn yn ei wneud am fynediad i'r farchnad sengl pe baem yn gadael, byddai'n rhaid i ni neidio dros dariff o 3 y cant ar gyfartaledd, sy'n nonsens. Mae hyn yn ymwneud yn llwyr ag adfer rheolaeth ar ein gwlad ein hunain a rhoi rheolaeth am bolisi cyhoeddus i bobl y gallwn eu hethol a chael gwared arnynt, nid biwrocratiaid anetholedig di-wyneb ym Mrwsel na allwn eu henwi hyd yn oed.
I suppose we all have experiences that help us to reach a particular view on the question of our membership of the European Union. In my case, I draw upon 30 years' experience as a trade union official before being elected to this Assembly. I know from first-hand experience that workers in Wales and their families are better off because the EU provides for a basic range of workers' rights. These include - and these are not exclusive; this is not an exclusive list - the transfer of undertakings regulations; the minimum leave entitlements; anti-discrimination laws; maternity and paternity rights; a limit on maximum working hours; guaranteed rest breaks; health and safety regulations and equal treatment for temporary, agency and part-time staff, including access to pensions, which, incidentally, we had to fight for through the European courts. Many voices in the Brexit camp see these minimum standards as so-called red tape or costs to business. We are told that, if the UK could remove these minimum standards, then things would somehow and magically improve for workers. Well, I remember many of those same voices who opposed the national minimum wage and, when asked about discrimination legislation, said they would remove most of it. So, I, for one, will take no recommendation from them when it comes to workers' rights in Europe. My message to workers across Wales is this: the big issue in our economy is fighting the conditions that allow the continuing exploitation of workers, not removing the rights that those workers currently enjoy. The last thing workers in Wales need is a Tory Government at Westminster being given the opportunity to embark on another attack on hard-won employment rights. Left to their own devices, what Tories deliver are draconian laws like the recent Trade Union Act. What more would follow if we vote to leave the union on 23 June? Llywydd, I'd like to now turn to the economic benefit of EU membership in my own constituency of Merthyr Tydfil and Rhymney. In Merthyr Tydfil alone, EU-funded projects have helped over 4,000 people into work, with another 2,000 plus benefitting from EU-funded apprenticeships. The EU has contributed towards a number of projects that have benefitted the local economy, including the town centre regeneration, creating the Penderyn square, the redevelopment of the Redhouse and the Taff Bargoed regeneration area. We have the Bike Park Wales, the riverside walk in Rhymney, the Winding House museum - all great attractions to enjoy, funded partly by European money. On transport, we welcome the ongoing investment in the Heads of the Valleys road, the upgrade of the Rhymney station and the investment in the line from Merthyr to Cardiff, providing a basis for further work to deliver the metro. And, of course, in the current context of the excitement around the Welsh football team, it would be remiss not to mention the redevelopment of Merthyr Town FC's Penydarren Park. For me, at the heart of this EU debate is a basic question, and it is this: do you really feel that a Tory Government would provide the level of support that we currently see for communities like Merthyr Tydfil and Rhymney, and enjoy the same workers' rights across the UK, if we were not in the European Union? Llywydd, my conclusion is that we would not.
Mae'n debyg fod gennym oll brofiadau sy'n ein helpu i lunio barn benodol ar gwestiwn ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Yn fy achos i, rwy'n pwyso ar 30 mlynedd o brofiad fel swyddog undeb llafur cyn cael fy ethol i'r Cynulliad hwn. Gwn o brofiad uniongyrchol fod gweithwyr yng Nghymru a'u teuluoedd yn well eu byd oherwydd bod yr UE yn darparu ar gyfer ystod sylfaenol o hawliau gweithwyr. Mae'r rhain yn cynnwys - ac nid yw hon yn rhestr lawn; nid yw'n rhestr gyflawn - rheoliadau trosglwyddo ymgymeriadau; hawliau lleiafswm gwyliau; cyfreithiau gwrth-wahaniaethu; hawliau mamolaeth a thadolaeth; terfyn uchaf ar oriau gwaith; seibiannau gorffwys gwarantedig; rheoliadau iechyd a diogelwch a thriniaeth gyfartal i staff dros dro, staff asiantaeth a staff rhan-amser, gan gynnwys mynediad at bensiynau, y bu'n rhaid i ni ymladd drostynt, gyda llaw, drwy'r llysoedd Ewropeaidd. Mae llawer o'r rhai sydd eisiau i Brydain adael Ewrop yn gweld y safonau gofynnol hyn fel biwrocratiaeth neu gostau i fusnesau. Pe gallai'r DU gael gwared ar y safonau gofynnol hyn, dywedir wrthym y byddai pethau'n gwella'n rhyfeddol rywsut i weithwyr. Wel, rwy'n cofio llawer o'r un lleisiau yn gwrthwynebu'r isafswm cyflog cenedlaethol a phan ofynnwyd iddynt am ddeddfwriaeth gwahaniaethu, dywedasant y byddent yn cael gwared ar y rhan fwyaf ohoni. Felly, nid wyf fi'n mynd i gymryd unrhyw argymhelliad ganddynt ynghylch hawliau gweithwyr yn Ewrop. Fy neges i weithwyr ar draws Cymru yw hon: y mater o bwys yn ein heconomi yw ymladd yr amodau sy'n caniatáu i weithwyr barhau i gael eu hecsbloetio, nid cael gwared ar yr hawliau y mae'r gweithwyr hynny'n eu mwynhau ar hyn o bryd. Y peth olaf sydd ei angen ar weithwyr yng Nghymru yw Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn cael cyfle i ddechrau ar ymosodiad arall ar hawliau cyflogaeth a enillwyd drwy waith caled. O gael eu gadael i wneud fel y mynnant, yr hyn y mae Torïaid yn ei gyflwyno yw deddfau llym fel y Ddeddf Undebau Llafur yn ddiweddar. Beth arall fyddai'n dilyn pe baem yn pleidleisio dros adael yr undeb ar 23 Mehefin? Lywydd, hoffwn droi yn awr at fudd economaidd ein haelodaeth o'r UE yn fy etholaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni. Ym Merthyr Tudful ei hun, mae prosiectau a ariennir gan yr UE wedi helpu dros 4,000 o bobl i gael gwaith, gyda thros 2,000 arall yn elwa ar brentisiaethau a ariennir gan yr UE. Mae'r UE wedi cyfrannu at nifer o brosiectau sydd wedi bod o fudd i'r economi leol, gan gynnwys adfywio canol y dref, gan greu sgwâr Penderyn, ailddatblygu'r Redhouse ac ardal adfywio Taf Bargoed. Mae gennym Barc Beicio Cymru, y llwybr cerdded ar lan yr afon yn Rhymni, amgueddfa'r Tŷ Weindio - pob un yn atyniad gwych i'w fwynhau, ac wedi'i ariannu'n rhannol gan arian Ewropeaidd. O ran trafnidiaeth, rydym yn croesawu'r buddsoddiad parhaus yn ffordd Blaenau'r Cymoedd, uwchraddio gorsaf Rhymni a'r buddsoddiad yn y rheilffordd o Ferthyr i Gaerdydd, sy'n darparu sail i waith pellach ar gyflawni'r metro. Ac wrth gwrs, yng nghyd-destun presennol y cyffro ynglŷn â thîm pêl-droed Cymru, byddai'n esgeulus peidio â sôn am y gwaith o ailddatblygu Parc Penydarren Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful. I mi, mae yna gwestiwn sylfaenol wrth wraidd y ddadl hon ar yr UE: a ydych chi wir yn teimlo y byddai Llywodraeth Dorïaidd yn darparu'r lefel o gefnogaeth a welwn ar hyn o bryd ar gyfer cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni, ac y byddwn yn mwynhau'r un hawliau gweithwyr ar draws y DU pe na baem yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd? Lywydd, fy nghasgliad i yw na fyddem.
Holiday pay was thanks to Neville Chamberlain. Equal pay at work was thanks to the women of Dagenham, and to Barbara Castle. Presiding Officer, campaigns reveal character. As we speak, the First Minister stands side by side with David Cameron - united against people governing themselves, united for free movement and unlimited immigration, united with a Prime Minister who tried to protect the EU budget in real terms, until he lost a vote in Parliament. Later, he lost some seats in Parliament, although he won mine back. Indeed, he spoke about this today, at what may prove to be his last Prime Minister's questions. 'Happy days', he said, as he reminisced about my defeat. We may soon reminisce about his. He and his Chancellor want to remain, whatever the price to truth, and whatever the price to other people's jobs, because they want to protect their jobs, and their positions. I may have an insight into why the Chancellor acts as he did. I first met the Chancellor at freshers' week in Oxford. I spoke in a debate, arguing for no confidence in a Conservative Government that had just joined the European exchange rate mechanism, to crucify our economy at the altar of its European project. Afterwards, George Osborne said to me that, while I might be right about the economics, he would always support Europe, because he felt more in common with the European aristocracy than he did with the British working class. Next Thursday, that British working class may bite back, because we will be better off out, because we are good enough to govern ourselves, because we are more than a star on somebody else's flag.
Diolch i Neville Chamberlain ein bod wedi cael tâl gwyliau. Diolch i fenywod Dagenham, ac i Barbara Castle ein bod wedi cael cyflog cyfartal yn y gwaith. Lywydd, mae ymgyrchoedd yn datgelu cymeriad. Wrth i ni siarad, mae Prif Weinidog Cymru yn sefyll ochr yn ochr â David Cameron - yn unedig yn erbyn pobl sy'n llywodraethu eu hunain, yn unedig dros symud yn rhydd a mewnfudo digyfyngiad, yn unedig gyda Phrif Weinidog a geisiodd ddiogelu cyllideb yr UE mewn termau real, nes iddo golli pleidlais yn y Senedd. Yn ddiweddarach, collodd rai seddi yn y Senedd, er iddo ennill fy un i yn ôl. Yn wir, siaradodd am hyn heddiw, yn yr hyn a allai fod yn sesiwn gwestiynau olaf iddo fel Prif Weinidog. 'Dyddiau da', meddai, wrth iddo hel atgofion am fy methiant. Efallai y byddwn hel atgofion am ei fethiant ef yn fuan. Mae ef a'i Ganghellor eisiau aros, beth bynnag fo'r pris i'r gwirionedd, a beth bynnag fo'r pris i swyddi pobl eraill, am eu bod am ddiogelu eu swyddi, a'u statws. Efallai fod gennyf fewnwelediad i'r rheswm pam y mae'r Canghellor yn gweithredu fel y gwnaeth. Cyfarfûm â'r Canghellor gyntaf adeg wythnos y glas yn Rhydychen. Siaradais mewn dadl, gan ddadlau dros ddiffyg hyder mewn Llywodraeth Geidwadol a oedd newydd ymuno â'r mecanwaith cyfraddau cyfnewid Ewropeaidd, i groeshoelio ein heconomi wrth allor ei phrosiect Ewropeaidd. Wedyn, dywedodd George Osborne wrthyf, er fy mod yn gywir ynglŷn â'r economeg o bosibl, y byddai bob amser yn cefnogi Ewrop, am ei fod yn teimlo bod ganddo fwy yn gyffredin ag aristocratiaeth Ewropeaidd nag â'r dosbarth gweithiol ym Mhrydain. Ddydd Iau nesaf, efallai y bydd y dosbarth gweithiol ym Mhrydain yn brathu'n ôl, am y byddwn yn well ein byd, am ein bod yn ddigon da i lywodraethu ein hunain, am ein bod yn fwy na seren ar faner rhywun arall.
Are you going to mention Wales at all in your speech, or are you just betraying the fact that you are just using Wales as a vehicle to push your own agenda?
A ydych yn mynd i sôn am Gymru o gwbl yn ystod eich araith, neu a ydych chi'n bradychu'r ffaith nad ydych ond yn defnyddio Cymru fel cerbyd i wthio eich agenda eich hun?
Wales, more, I think, than any part of our United Kingdom, I am pleased to say, will be better off outside the European Union. We get from the EU £600 million or £700 million, some argue on that side, yet, in per capita terms, our contribution is £1 billion a year, compared to perhaps £16 billion that we pay in tax to the UK Treasury, compared to £32 billion we get back in spending - a gap of £16 billion, perhaps, compared to, at best, £200 million or £300 million, one way or the other. Yet, his party wants to leave this United Kingdom, when we will be better off as independent Britain, in a community of the globe, raising our eyes to the horizon, better off out - [Interruption.] - trading with Europe -
Bydd Cymru, yn fwy, rwy'n meddwl, nag unrhyw ran o'n Teyrnas Unedig, rwy'n falch o ddweud, yn well ei byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Cawn £600 neu £700 miliwn o'r UE, mae rhai yn dadlau ar yr ochr honno, ac eto, fesul y pen, mae ein cyfraniad yn £1 biliwn y flwyddyn, o'i gymharu â thua £16 biliwn rydym yn ei dalu mewn trethiant i Drysorlys y DU, o'i gymharu â'r £32 biliwn a gawn yn ôl mewn gwariant - bwlch o £16 biliwn efallai, o gymharu ag, ar y gorau, £200 miliwn neu £300 miliwn, un ffordd neu'r llall. Eto i gyd, mae ei blaid eisiau gadael y Deyrnas Unedig, pan fyddwn yn well ein byd fel Prydain annibynnol, mewn cymuned o'r byd, gan godi ein llygaid at y gorwel, yn well ein byd allan - [Torri ar draws.] - yn masnachu gydag Ewrop -
[Continues.] - but governing ourselves.
[Yn parhau.] - ond yn llywodraethu ein hunain.
Campaigns do indeed reveal character, and people living in the past are the leavers, not the remainers. I'm in the strange position of today agreeing with George Osborne, who says that, if you are wealthy and don't use public services, then you can afford to toy with the idea of harking back to a bygone era, when Britain ruled the waves, and the sun never set on the British empire. Because that is the direction that the leavers want to take us. They want to take us back in a time capsule. Remember 60 years ago, to the dirty days of the 1950s, when the pea soup fogs were so thick you couldn't even see your own front door? Yes, it was the Clean Air Act 1956 that started the clean-up, but it is now the 2008 air quality directive that is going to hold Boris Johnson to account for having fiddled the figures on air pollution in the capital city. Fifty years ago - let's go back 50 years to the disaster of Aberfan. Impossible today, as a result of the 2006 management of waste from extractive industry directive, which actually quotes the Aberfan disaster as one of the things underpinning it. Let's go back 40 years ago, where our beaches were full of raw sewage, and today, since the 1976 bathing waters directive, we now have clean beaches and many, many of them in Wales, of which we can be proud. The people who really, really want to leave the EU are the industrial polluters, the tax evaders, the food adulterers, the irresponsible and exploitative employers. I note that the leave flotilla up the Thames included a fishing trawler called the Christina S, guilty of a £63 million fishing scam in Scotland. These are the sorts of people who want us to leave, and, sadly, a conversation I had the other day with a senior civil servant, who told me privately that if we vote 'leave', we can turn this country into a tax haven, so we can attract all the hot money from around the world. Scarily, I don't think he was joking; even more scarily, he was a retired judge. Contrast him and all the other greedy, selfish people at the top of the establishment who never need to use public services, apart from the bin collections, with people who are struggling in austerity Britain, who somehow think, misguidedly, that voting 'leave' will ameliorate their suffering. For example, the unemployed graduate I spoke to last night, who's planning to vote to leave - he thinks, tragically, his situation will improve when, in fact, the opposite is the case; also the people in my constituency on zero-hours contracts, who've had their wages frozen for the last several years, and who are fearful that more immigrants will lead to even lower wages for them; the pensioner who thinks that by leaving, their grandchildren are going to get a house that they currently can't get. This is an argument for building more housing, not for leaving the EU. The 'leave' lot have lost all the economic arguments, so that they are now using the sorry spectre of immigration to peddle their poison. This is absolutely -
Yn wir, mae ymgyrchoedd yn datgelu cymeriad, a phobl sy'n byw yn y gorffennol yw'r rhai sy'n gadael, nid y rhai sy'n aros. Rwyf yn y sefyllfa ryfedd heddiw o gytuno â George Osborne, sy'n dweud, os ydych yn gyfoethog ac nad ydych yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, yna gallwch fforddio chwarae gyda'r syniad o rygnu ymlaen am oes a fu, pan oedd Prydain yn rheoli'r tonnau, a'r haul byth yn machlud ar yr ymerodraeth Brydeinig. Oherwydd dyna'r cyfeiriad y mae'r rhai sydd am adael yn awyddus i fynd â ni. Maent yn awyddus i fynd â ni yn ôl mewn capsiwl amser. Fe gofiwch 60 mlynedd yn ôl, a dyddiau budr y 1950au, pan oedd niwl cawl pys mor drwchus fel na allech weld eich drws ffrynt eich hun hyd yn oed? Ie, Deddf Aer Glân 1956 a ddechreuodd y glanhau, ond bellach cyfarwyddeb ansawdd aer 2008 sy'n mynd i ddwyn Boris Johnson i gyfrif am fod wedi ffidlan y ffigurau ar lygredd aer yn y brifddinas. Hanner can mlynedd yn ôl - gadewch i ni fynd yn ôl 50 mlynedd at drychineb Aberfan. Amhosibl heddiw, o ganlyniad i gyfarwyddeb rheoli gwastraff y diwydiannau echdynnol 2006, sydd mewn gwirionedd yn dyfynnu trychineb Aberfan fel un o'r pethau sy'n sail iddi. Gadewch i ni fynd yn ôl 40 mlynedd, pan oedd ein traethau yn llawn o garthion amrwd, a heddiw, ers cyfarwyddeb dŵr ymdrochi 1976, mae gennym bellach draethau glân, a llawer iawn ohonynt yng Nghymru y gallwn fod yn falch ohonynt. Y bobl sy'n torri eu boliau eisiau gadael yr UE yw'r llygrwyr diwydiannol, y bobl sy'n osgoi talu trethi, y llygrwyr bwyd, y cyflogwyr anghyfrifol ac ecsbloetiol. Nodaf fod llynges yr ymgyrch dros adael ar afon Tafwys yn cynnwys treill-long bysgota o'r enw Christina S, a oedd yn euog o dwyll pysgota gwerth £63 miliwn yn yr Alban. Dyma'r math o bobl sydd am i ni adael, ac yn anffodus, mewn sgwrs a gefais y diwrnod o'r blaen gydag uwch was sifil, dywedodd wrthyf yn breifat, pe baem yn pleidleisio dros adael, gallwn droi'r wlad hon yn hafan treth, fel y gallwn ddenu'r holl arian amheus o bob cwr o'r byd. Yn ddigon dychrynllyd, nid wyf yn meddwl ei fod yn cellwair; hyd yn oed yn fwy dychrynllyd, barnwr wedi ymddeol ydoedd. Cyferbynnwch ef a'r holl bobl farus, hunanol eraill ar frig y sefydliad nad ydynt byth angen defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, ar wahân i gasgliadau bin, â phobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi mewn Prydain lawn caledi, sydd rywsut yn meddwl, yn gamarweiniol, y bydd pleidleisio dros adael yn lleddfu eu dioddefaint. Er enghraifft, y person graddedig di-waith y siaradais ag ef neithiwr, sy'n bwriadu pleidleisio dros adael - yn drasig, mae'n credu y bydd ei sefyllfa'n gwella er mai'r gwrthwyneb sy'n wir mewn gwirionedd; hefyd y bobl yn fy etholaeth ar gontractau dim oriau y rhewyd eu cyflogau dros y nifer o flynyddoedd diwethaf, ac sy'n ofni y bydd mwy o fewnfudwyr yn arwain at gyflogau is byth; y pensiynwr sy'n credu y bydd ei wyron, drwy adael Ewrop, yn cael tŷ, yn wahanol i nawr. Dadl dros adeiladu mwy o dai yw hon, nid dros adael yr UE. Mae'r garfan dros adael wedi colli'r holl ddadleuon economaidd, nes eu bod bellach yn defnyddio bwgan truenus mewnfudo i bedlera eu gwenwyn. Mae hyn yn wirioneddol -
Can you bring your conclusions to an end now?
A wnewch chi ddod â'ch casgliadau i ben yn awr?
Yes. Anyway, just to say that I think that we need to recognise whey we formed the European Union - to ward off the return of fascism and to represent the democratic future we all need to have. We need to lead on Europe, not leave it.
Gwnaf. Beth bynnag, dim ond dweud fy mod yn credu bod angen i ni gydnabod pan ffurfiwyd yr Undeb Ewropeaidd - i gadw ffasgiaeth rhag dychwelyd ac i gynrychioli'r dyfodol democrataidd sydd angen i ni i gyd ei gael. Mae angen i ni arwain ar Ewrop, nid ei gadael.
I just want to say a few words about the single market, which I believe to be a singular British achievement and something that continues to offer great opportunities to Wales, and even greater as it extends more to services, having been based initially on goods. We've heard a lot of talk about somehow things will almost be the same if we leave, only we'll have much more control over resources and over our democracy. Well, things will change, otherwise it's hardly worth leaving. I don't think the markets will react with equanimity to a decision that they're routinely telling us would be damaging to the British, and therefore, the Welsh economy. Something will happen to the pound, and nearly everyone says it will go down. In fact, some leavers are welcoming that because of the fact it would make our exports cheaper. But these facts have to be faced. They'll have a profound effect on the British economy, and the Welsh economy in the next few years. And we do hear from some - there was a hint of it in what Neil Hamilton said - that the single market will still be there for us to take advantage of. Well, whatever else happens, our access to it will not be as profitable as it is today. The single market also offers London great opportunities, and if we withdraw from the European Union, the future of London, as the first and still the premier global city, will be affected, and I believe the economy of south Wales needs to attract more and more resources from an overcrowded London, and an expanding London, as we see our own services strengthened, particularly in the professional sphere, and all that would be put in peril and the potential of Cardiff, and the area around Cardiff, as an economic magnet would be much, much weakened. The single market was invented in the 1980s by the Thatcher Government. I think this is perhaps part of the guilt problem that certain Conservatives have - that it worked: it transformed Europe because we pushed through the principle of majority voting. It was a Conservative idea to get Europe going and, boy, it not only got Europe going, it then absorbed eastern Europe into the current European Union. What would have happened if eastern Europe had become a string of failed states, like we see now around the Maghreb and the middle east? What sort of world would we be living in if that had happened? There've been huge successes in the European Union, not only in the single market, but also expansion and we should give thanks that we live in a more secure world as a result, whatever our challenges, and we do face challenges. But, frankly, to face your challenges without your neighbours is, in my view, a very reckless strategy indeed. Also, to say that you want to be open to the world, but as your first step to that openness, you're turning your back on your neighbours, is a flat contradiction and I hope the electorate see through it a week tomorrow.
Rwyf eisiau dweud ychydig eiriau am y farchnad sengl, gan fy mod yn credu ei bod yn gyflawniad Prydeinig hynod ac yn rhywbeth sy'n parhau i gynnig cyfleoedd gwych i Gymru, a hyd yn oed yn fwy wrth iddi ehangu mwy i gynnwys gwasanaethau, ar ôl bod yn seiliedig ar nwyddau i ddechrau. Clywsom lawer o sôn ynglŷn â sut y bydd pethau bron yr un fath rywsut pe baem yn gadael, ond y bydd gennym lawer mwy o reolaeth dros yr adnoddau a thros ein democratiaeth. Wel, bydd pethau'n newid, neu fel arall prin ei bod yn werth gadael. Nid wyf yn credu y bydd y marchnadoedd yn ymateb yn bwyllog i benderfyniad y maent yn dweud wrthym fel mater o drefn y byddai'n niweidiol i economi Prydain, ac felly, i economi Cymru. Bydd rhywbeth yn digwydd i'r bunt, ac mae bron bawb yn dweud y bydd yn disgyn. Yn wir, mae rhai pobl sy'n ffafrio gadael yn croesawu hynny am y byddai'n gwneud ein hallforion yn rhatach. Ond rhaid wynebu'r ffeithiau hyn. Byddant yn cael effaith enfawr ar economi Prydain, ac economi Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ac rydym yn clywed gan rai - roedd awgrym ohono yn yr hyn a ddywedodd Neil Hamilton - y bydd y farchnad sengl yn dal i fod yno i ni fanteisio arni. Wel, beth bynnag arall sy'n digwydd, ni fydd ein mynediad iddi mor broffidiol ag y mae heddiw. Mae'r farchnad sengl hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i Lundain, a phe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, effeithir ar ddyfodol Llundain, fel y ddinas fyd-eang gyntaf a'r fwyaf blaenllaw o hyd, a chredaf fod angen i economi de Cymru ddenu mwy a mwy o adnoddau o Lundain orboblog, a Llundain sy'n ehangu, wrth i ni weld ein gwasanaethau ein hunain yn cael eu cryfhau, yn enwedig yn y byd proffesiynol, a byddai hynny i gyd yn cael ei beryglu a byddai potensial Caerdydd, a'r ardal o amgylch Caerdydd, fel magnet economaidd yn llawer llawer gwanach. Dyfeisiwyd y farchnad sengl yn y 1980au gan Lywodraeth Thatcher. Rwy'n meddwl efallai mai dyma ran o'r broblem euogrwydd sydd gan rai Ceidwadwyr - ei fod yn gweithio: trawsnewidiodd Ewrop am ein bod wedi gwthio'r egwyddor o bleidleisio mwyafrifol. Roedd yn syniad gan y Ceidwadwyr i gael Ewrop i symud, a bois bach, nid yn unig fe lwyddodd i gael Ewrop i symud, aeth ati wedyn i amsugno dwyrain Ewrop i mewn i'r Undeb Ewropeaidd presennol. Beth fyddai wedi digwydd pe bai dwyrain Ewrop wedi dod yn rhes o wladwriaethau aflwyddiannus, fel rydym yn ei weld yn awr o amgylch y Maghreb a'r dwyrain canol? Pa fath o fyd y byddem yn byw ynddo pe bai hynny wedi digwydd? Cafwyd llwyddiannau mawr yn yr Undeb Ewropeaidd, nid yn unig yn y farchnad sengl, ond hefyd o ran ehangu a dylem ddiolch ein bod yn byw mewn byd mwy diogel o ganlyniad, beth bynnag fo'r heriau, ac rydym yn wynebu heriau. Ond a dweud y gwir, mae wynebu eich heriau heb eich cymdogion, yn fy marn i, yn strategaeth ddi-hid iawn yn wir. Hefyd, mae dweud eich bod am fod yn agored i'r byd, ond fel eich cam cyntaf tuag at fod yn agored, eich bod yn troi eich cefn ar eich cymdogion, yn wrthddywediad pendant ac rwy'n gobeithio y bydd yr etholwyr yn gweld drwy hynny wythnos i yfory.
First of all, there is no such thing as European money - it's British money coming back to us after they've purloined half of it. But I'd like here to perhaps pause and reflect on Wales's constitutional position within Europe. As we all know, Brussels only recognises Wales as a mere region within Europe; it has no national status, whilst the very existence of this Senedd is testament to our growing state of nationhood within the United Kingdom. So, I put it to you - [Interruption.] I put it to you that only a fool would exchange being a nation in a union of nations we call the United Kingdom for that of a region in a vast conglomeration of regions that stretches from the Baltic to the Aegean and soon to be extended to the far side of the Bosphorus.
Yn gyntaf oll, nid oes y fath beth ag arian Ewropeaidd - arian Prydeinig yn dod yn ôl i ni ar ôl iddynt ddwyn ei hanner ydyw. Ond yma hoffwn oedi a myfyrio efallai ar sefyllfa gyfansoddiadol Cymru o fewn Ewrop. Fel rydym i gyd yn gwybod, nid yw Brwsel ond yn cydnabod Cymru fel rhanbarth yn unig yn Ewrop; nid oes ganddi statws cenedlaethol, er bod bodolaeth y Senedd hon ynddi'i hun yn brawf o'n statws cynyddol fel cenedl o fewn y Deyrnas Unedig. Felly, rwy'n awgrymu wrthych - [Torri ar draws.] Rwy'n awgrymu wrthych mai ffwl yn unig a fyddai'n cyfnewid bod yn genedl mewn undeb o genhedloedd a alwn yn Deyrnas Unedig am fod yn rhanbarth mewn cydgasgliad helaeth o ranbarthau sy'n ymestyn o Fôr y Baltig i Fôr Aegea ac sydd i'w ymestyn yn fuan i'r ochr draw i'r Bosphorus.
Would you take an intervention? Thank you for taking the intervention. So, if your argument, constitutionally, is that you support an independent UK, do you also then support an independent and separate Wales?
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Felly, os mai eich dadl, yn gyfansoddiadol, yw eich bod yn cefnogi DU annibynnol, a ydych hefyd felly yn cefnogi Cymru annibynnol ac ar wahân?
No, I don't, because what I'm telling you is that we within Wales have a wonderful relationship with the other nations within the United Kingdom that has benefited us. There is no benefit to us within Europe. [Interruption.] There is no benefit to us to be in Europe. Given this constitutional deficit, why is it that those who make up this institution feel that we will not get our fair share of the Brexit financial bonus? [Interruption.] I guessed you might be saying that, but there is going to be a Brexit financial bonus. And are they saying that the 40 Welsh MPs in Westminster would fail to carry out their duties in securing those funds for Wales? The majority of those MPs are, of course, Labour MPs. Members have made much of workers' rights. What rights do those on agency contracts or, worst of all, zero-hours contracts have - the most iniquitous form of employment since dockyard workers turned up at the dockyard gates to be hired for a single day's work or not? So much for workers' rights under the European Parliament. Labour, truthfully, has sold out to big business, bankers and the political elite of Europe. Thank you.
Nac ydw, oherwydd yr hyn rwy'n dweud wrthych yw bod gennym yng Nghymru berthynas ardderchog â gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig sydd wedi bod o fudd i ni. Nid oes mantais i ni o fewn Ewrop. [Torri ar draws.] Nid oes mantais i ni o fod yn Ewrop. O ystyried y diffyg cyfansoddiadol hwn, pam nad yw'r rhai sy'n aelodau o'r sefydliad hwn yn teimlo na fyddwn yn cael ein cyfran deg o fonws ariannol yn sgil gadael Ewrop? [Torri ar draws.] Roeddwn yn dyfalu efallai y byddwch yn dweud hynny, ond mae yna fonws ariannol yn mynd i fod yn sgil gadael Ewrop. Ac a ydynt yn dweud y byddai'r 40 o ASau Cymru yn San Steffan yn methu â chyflawni eu dyletswyddau o ran sicrhau'r cronfeydd hynny i Gymru? Mae'r rhan fwyaf o'r ASau hynny, wrth gwrs, yn ASau Llafur. Mae Aelodau wedi sôn llawer am hawliau gweithwyr. Pa hawliau sydd gan y rheini sydd ar gontractau asiantaeth neu'n waeth na dim, ar gontractau dim oriau - y math mwyaf anghyfiawn o gyflogaeth er pan oedd gweithwyr y dociau'n dod at giatiau'r dociau i gael eu llogi ar gyfer gwaith un diwrnod neu beidio? Naw wfft i hawliau gweithwyr o dan y Senedd Ewropeaidd. Mae Llafur, mewn difrif, wedi gwerthu eu heneidiau i fusnesau mawr, bancwyr ac elît gwleidyddol Ewrop. Diolch.
I'd like to express my support for those who are campaigning for a 'remain' vote in this referendum. It's not for me to criticise those who wish to leave, but to make a positive case for why I've made a different decision after much thought. First and foremost in my mind is the well-being and prosperity of the people of Caerphilly. The chief executive of Catnic, a company based in my constituency, told me that approximately 30 per cent of their trade is with Germany, France and the Benelux region, and the EU enables that trade. That is a direct quote from them. A decision to radically change our trading relationships will directly impact negatively on Catnic. I've also spoken to small business employers, who've used, for example, Jobs Growth Wales to hire staff, and they fear that the ending of £396 million of European funding will limit their ability to hire and train. That is directly from a small firm in my constituency. I simply, as Eluned has said, do not believe Boris and Gove when they say that they will make up that funding if we leave. I do not believe it. But there is, undoubtedly, in Caerphilly an anti-EU feeling, which we have to say that UKIP have done their best to capitalise on. People in my constituency have told me that they feel - [Interruption.] - that the EU elite is - . I'm not going to take an intervention, because I've only got three minutes; I want to get through it. People in my constituency have told me that they feel that the EU is literally and figuratively distant from the day-to-day experiences of our community. If we vote to remain, this must change, and I will work to change that. Indeed, I recall 20 years ago, when I was in sixth form in Bargoed, an academic from Cardiff University came to talk to us about joining the euro. He held up a pound coin and he said, 'How can any of you have an emotional attachment to this piece of metal because the Queen's face is on it?' I remember, at that time, feeling incredulous and patronised. I can imagine Leanne Wood would feel the same; she's looking at me right now. He completely failed to address though, in my view, the key problem with the single currency, and that is that interest rates are set for Germany, and that will not help Greece. Yet, we never joined the euro. Our parliamentary democracy and our sovereignty in Europe were strong enough to withstand this grandest of follies and this is one of the reasons I am confident in being a member of the European Union and confident we should remain. Similarly, when we elected a Conservative Government in 1992, much to my dismay, they were able to exempt us from EU law based on principles of fair pay and equal rights, which Dawn Bowden has already mentioned. However, in 1997, when we had a Labour Government, we then signed up to those. Again, that was democracy. That was a democratic choice by the people of this country - a sovereign choice. Which brings me - and I do feel that these democratic decisions have partially fuelled right-wing campaigns to vote 'leave'. Which finally brings me to immigration. We must engage with these concerns. I believe that leaving the EU will lead, at best, to very little change in our ability to control our borders and we may make things even worse. Not only will a Europe without Britain be a less stable Europe, it will also remove any incentive countries like France have to police and protect our borders. We must make a positive case for remain, one that encompasses the benefits for our economy, our democracy and our borders. I therefore urge Members to vote for 'remain' today.
Hoffwn fynegi fy nghefnogaeth i'r rhai sy'n ymgyrchu dros bleidlais 'aros' yn y refferendwm hwn. Nid fy lle i yw beirniadu'r rhai sy'n dymuno gadael, ond yn hytrach rwyf am wneud achos cadarnhaol dros pam rwyf wedi gwneud penderfyniad gwahanol ar ôl meddwl lawer. Yn bennaf oll yn fy meddwl mae lles a ffyniant pobl Caerffili. Dywedodd prif weithredwr Catnic, cwmni wedi'i leoli yn fy etholaeth, fod tua 30 y cant o'u masnach gyda'r Almaen, Ffrainc ac ardal Benelux, ac mae'r UE yn galluogi'r fasnach honno. Dyna ddyfyniad uniongyrchol oddi wrthynt. Bydd penderfyniad i newid ein perthynas fasnachu yn radical yn effeithio'n negyddol ar Catnic yn uniongyrchol. Rwyf hefyd wedi siarad â chyflogwyr busnesau bach, sydd wedi defnyddio, er enghraifft, Twf Swyddi Cymru i logi staff, ac maent yn ofni y bydd diwedd ar y £396 miliwn o gyllid Ewropeaidd yn cyfyngu ar eu gallu i logi a hyfforddi. Daw hynny'n uniongyrchol gan gwmni bach yn fy etholaeth. Fel y dywedodd Eluned, nid wyf yn credu Boris a Gove pan ddywedant y byddant yn digolledu'r cyllid hwnnw pe baem yn gadael. Nid wyf yn credu hynny. Ond heb os, yng Nghaerffili mae yna deimlad gwrth-UE, a rhaid i ni ddweud bod UKIP wedi gwneud eu gorau i fanteisio arno. Mae pobl yn fy etholaeth wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo - [Torri ar draws.] - bod yr elît yn yr UE - . Nid wyf yn mynd i dderbyn ymyriad, gan mai tri munud yn unig sydd gennyf; rwyf am fynd drwyddo. Mae pobl yn fy etholaeth wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo bod yr UE yn bell yn llythrennol ac yn ffigurol o brofiadau ein cymuned o ddydd i ddydd. Os pleidleisiwn dros aros, mae'n rhaid i hyn newid, a byddaf yn gweithio i newid hynny. Yn wir, rwy'n cofio 20 mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn y chweched dosbarth ym Margoed, daeth academydd o Brifysgol Caerdydd i siarad â ni ynglŷn ag ymuno â'r ewro. Daliodd ddarn punt i fyny a dywedodd, 'Sut y gall unrhyw un ohonoch fod ag ymlyniad emosiynol i'r darn hwn o fetel am fod wyneb y Frenhines arno?' Rwy'n cofio teimlo'n anghrediniol ac wedi fy mychanu. Gallaf ddychmygu y byddai Leanne Wood yn teimlo yr un fath; mae hi'n edrych arnaf yn awr. Yn fy marn i, methodd yn llwyr â mynd i'r afael er hynny â'r broblem allweddol gydag arian sengl, sef bod cyfraddau llog yn cael eu gosod ar gyfer yr Almaen, ac ni fydd hynny'n helpu Gwlad Groeg. Eto i gyd, ni wnaethom ymuno â'r ewro. Roedd ein democratiaeth seneddol a'n sofraniaeth yn Ewrop yn ddigon cryf i wrthsefyll y ffwlbri mwyaf hwn a dyma un o'r rhesymau pam rwy'n hyderus i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ac yn hyderus y dylem aros. Yn yr un modd, pan etholwyd Llywodraeth Geidwadol yn 1992, er mawr siom i mi, roeddent yn gallu ein heithrio o gyfraith yr UE yn seiliedig ar egwyddorion cyflog teg a hawliau cyfartal, a grybwyllwyd eisoes gan Dawn Bowden. Fodd bynnag, yn 1997, pan gawsom Lywodraeth Lafur, fe ymrwymasom i'r egwyddorion hynny. Unwaith eto, democratiaeth oedd hynny. Roedd yn ddewis democrataidd gan bobl y wlad hon - dewis sofran. Sy'n dod â mi - ac rwy'n teimlo bod y penderfyniadau democrataidd hyn wedi tanio ymgyrchoedd yr adain dde yn rhannol i bleidleisio dros adael. Sy'n dod â mi yn olaf at fewnfudo. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Credaf na fydd gadael yr UE ond yn arwain, ar y gorau, at ychydig iawn o newid yn ein gallu i reoli ein ffiniau ac efallai y byddwn yn gwneud pethau hyd yn oed yn waeth. Nid yn unig y bydd Ewrop heb Brydain yn Ewrop lai sefydlog, bydd hefyd yn cael gwared ar unrhyw gymhelliad sydd gan wledydd fel Ffrainc i blismona a diogelu ein ffiniau. Mae'n rhaid i ni gyflwyno achos cadarnhaol dros aros, un sy'n cwmpasu'r manteision i'n heconomi, ein democratiaeth a'n ffiniau. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio dros 'aros' heddiw.
I now call on the Cabinet Secretary for Finance and Local Government, Mark Drakeford.
Rwy'n galw nawr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd. Can I thank those Members who have brought this important debate to the floor of the Assembly this afternoon? My job is to set out the position of the Welsh Government, and that position is absolutely clear. Our continued membership of the European Union is pivotal to our future in all its fundamental dimensions. Now, we've heard a series of contributions this afternoon that set out just that case in criminal justice, in environmental protection, food security, employment rights and protection from discrimination. I want to begin by just reminding us of the cultural case: Wales is a European nation. The fact that two languages are in daily use in Wales puts us firmly in the European mainstream. The fact of being Welsh means to be comfortable with multiple identities. 'O ble ti'n dod?' 'Where do you come from?' - the first question we ask each other. We understand that that answer can be the town or the village, the nation or, indeed, the continent to which we belong. We understand that we can belong to more than one place at one and the same time. As well as those cultural affinities, as we've heard, the European Union brings us advantages that are social, economic and political. Socially, we on this side believe in a Europe of solidarity, a Europe of protected and extended rights for working people and the strong defence of the socially vulnerable. We heard from Dawn Bowden and others of just the practical way that those social rights bite in the lives of working people here in Wales. Economically, as many people in this debate have said, the European Union is fundamental to us in Wales - in agriculture, in industry, in structural investment, in university research. Eluned Morgan began by outlining them all, and others, such as Huw Irranca-Davies, have gone on to place those practical economic advantages directly in the communities that we represent. The direct funding to Wales from the European Union is worth more than £500 million every year. Over 500 companies from other European countries have their operations here in Wales, and those operations provide more than 57,000 jobs. A vote to leave the EU would inevitably cause major concerns about that sort of international investment. It is absolute nonsense to suggest that leaving the European Union would have no impact here on the economy of Wales. It would. It would begin to happen the day after such a decision was made, and the impact would be deeply damaging. But, Llywydd, perhaps politically - and this is a political forum, after all - the case for the European Union is the most powerful of all. All of us in this Chamber are hugely fortunate to have lived for more than 70 years without a war between the nations of Europe. Just as we heard from Eluned at the start, I think of my own family. Both of my grandfathers were combatants in the first world war. I vividly remember, as a child in primary school, being told by eyewitnesses of the sight of Swansea burning from Carmarthen, 30 miles away. When I heard that story fewer years had gone by since those awful events than have gone by since the first opening of this National Assembly. The notion that conflict is a matter of the distant past, that 70 years of peace is somehow more typical than 1,000 years marked by warfare, is simply to fly in the face of history. The European Coal and Steel Community, the precursor of the union today, was set up in 1951 explicitly to ensure that the sinews of war, as they were called - coal and steel - would never again be used for wars between European neighbours. Today's Europe, with its guarantees of shared democratic values and fundamental human rights is also our guarantee that differences are solved by politics not by force. It is unfathomable that we should be at a moment of risking that advantage in the pursuit of some embittered turning away from the world. Llywydd, campaigns reveal character. I bring no advice for the Welsh working class from the freshers' fair at Oxford. [Laughter.] But, I do know that the group of right-wing zealots who lead the campaign to take Wales and the United Kingdom out of Europe are gathering around the gambling table. It is our futures - those of our children and our country - that they are prepared to gamble away. Let the message go clearly from this Assembly this afternoon: Wales is better in Europe. Wales belongs to Europe, and that is the choice we need to make next week. [Applause.]
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau hynny sydd wedi cyflwyno'r ddadl bwysig hon ar lawr y Cynulliad y prynhawn yma? Fy ngwaith i yw gosod safbwynt Llywodraeth Cymru, ac mae'r safbwynt hwnnw'n gwbl glir. Mae parhau ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i'n dyfodol yn ei holl ddimensiynau sylfaenol. Nawr, clywsom gyfres o gyfraniadau y prynhawn yma yn nodi'r union achos hwnnw ym maes cyfiawnder troseddol, gwarchod yr amgylchedd, diogelwch bwyd, hawliau cyflogaeth a diogelwch rhag gwahaniaethu. Rwyf am ddechrau drwy ein hatgoffa am yr achos diwylliannol: mae Cymru'n genedl Ewropeaidd. Mae'r ffaith fod dwy iaith yn cael eu defnyddio'n ddyddiol yng Nghymru yn ein gosod yn gadarn yn y brif ffrwd Ewropeaidd. Mae'r ffaith ein bod yn Gymry yn golygu ein bod yn gyfforddus gyda hunaniaethau lluosog. 'O ble rwyt ti'n dod?' - y cwestiwn cyntaf a ofynnwn i'n gilydd. Rydym yn deall y gall yr ateb fod yn dref neu'n bentref, yn wlad neu'n wir, yn gyfandir rydym yn perthyn iddynt. Rydym yn deall y gallwn berthyn i fwy nag un lle ar yr un pryd. Yn ogystal â'r cysylltiadau diwylliannol hynny, fel y clywsom, mae'r Undeb Ewropeaidd yn sicrhau manteision i ni sy'n gymdeithasol, yn economaidd ac yn wleidyddol. Yn gymdeithasol, rydym ni ar yr ochr hon yn credu mewn Ewrop o undod, Ewrop o hawliau wedi'u diogelu a'u hymestyn i bobl sy'n gweithio ac amddiffyniad cryf i bobl sy'n agored i niwed yn y gymdeithas. Clywsom gan Dawn Bowden ac eraill am y ffordd ymarferol y mae'r hawliau cymdeithasol hynny'n gadael eu hôl ar fywydau pobl sy'n gweithio yma yng Nghymru. Yn economaidd, fel y mae llawer o bobl yn y ddadl hon wedi'i ddweud, mae'r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i ni yng Nghymru - mewn amaethyddiaeth, mewn diwydiant, mewn buddsoddiad strwythurol, mewn ymchwil prifysgol. Dechreuodd Eluned Morgan drwy eu hamlinellu i gyd, ac aeth eraill, megis Huw Irranca-Davies, ymlaen i osod y manteision economaidd ymarferol hynny yn uniongyrchol yn y cymunedau rydym yn eu cynrychioli. Mae'r cyllid uniongyrchol i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd yn werth mwy na £500 miliwn bob blwyddyn. Mae gan dros 500 o gwmnïau o wledydd Ewropeaidd eraill weithrediadau yma yng Nghymru, ac mae'r gweithrediadau hynny'n darparu mwy na 57,000 o swyddi. Byddai pleidlais i adael yr UE yn anochel yn achosi pryderon mawr ynghylch y math hwnnw o fuddsoddiad rhyngwladol. Nonsens llwyr yw awgrymu na fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio dim ar economi Cymru. Fe fyddai. Byddai'n dechrau digwydd y diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o'r fath, a byddai'r effaith yn niweidiol iawn. Ond Lywydd, efallai mai yn wleidyddol - a fforwm gwleidyddol yw hwn, wedi'r cyfan - y gwneir yr achos mwyaf pwerus dros yr Undeb Ewropeaidd. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn hynod o ffodus o fod wedi byw am dros 70 mlynedd heb ryfel rhwng gwledydd Ewrop. Yn union fel y clywsom gan Eluned ar y dechrau, rwy'n meddwl am fy nheulu fy hun. Roedd fy nau daid yn ymladd yn y rhyfel byd cyntaf. Yn blentyn yn yr ysgol gynradd, rwy'n cofio'n glir cael clywed gan lygad-dystion a welodd Abertawe'n llosgi o Gaerfyrddin, 30 milltir i ffwrdd. Pan glywais y stori honno roedd llai o flynyddoedd wedi mynd heibio ers y digwyddiadau ofnadwy hynny nag a aeth heibio ers agor y Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf. Mae'r syniad fod gwrthdaro yn perthyn i'r gorffennol pell, fod 70 mlynedd o heddwch rywsut yn fwy nodweddiadol na 1,000 o flynyddoedd o ryfela, yn mynd yn groes i hanes. Sefydlwyd Cymuned Glo a Dur Ewrop, rhagflaenydd yr undeb heddiw, yn 1951 yn benodol i sicrhau na fyddai gïau rhyfel, fel y'u gelwid - glo a dur - byth eto'n cael eu defnyddio ar gyfer rhyfeloedd rhwng cymdogion Ewropeaidd. Ewrop heddiw, gyda'i sicrwydd o werthoedd democrataidd a rennir a hawliau dynol sylfaenol yw ein sicrwydd ninnau hefyd mai drwy wleidyddiaeth y caiff gwahaniaethau eu datrys nid drwy rym. Mae'n annirnadwy ein bod ar hyn o bryd yn wynebu peryglu'r fantais honno ar drywydd rhyw droi cefn chwerw ar y byd. Lywydd, mae ymgyrchoedd yn datgelu cymeriad. Nid oes gennyf unrhyw gyngor ar gyfer y dosbarth gweithiol yng Nghymru o ffair y glas yn Rhydychen. [Chwerthin.] Ond gwn fod y grŵp o benboethiaid adain dde sy'n arwain yr ymgyrch i dynnu Cymru a'r Deyrnas Unedig allan o Ewrop yn ymgasglu o amgylch y bwrdd gamblo. Maent yn barod i gamblo gyda'n dyfodol ni - dyfodol ein plant a'n gwlad. Gadewch i'r neges seinio'n glir o'r Cynulliad hwn y prynhawn yma: mae Cymru yn well yn Ewrop. Mae Cymru yn perthyn i Ewrop, a dyna yw'r dewis sydd angen i ni ei wneud yr wythnos nesaf. [Cymeradwyaeth.]
I call on Dafydd Elis-Thomas to reply to the debate.
Galwaf ar Dafydd Elis-Thomas i ymateb i'r ddadl.
Thank you very much, Llywydd. It's a very difficult task to respond or even summarise a debate such as this, but I am grateful to all Members for us having a reasonable and relatively rational debate in the contributions made. We started with Mark Isherwood referring to the agricultural arguments and the kinds of arguments that I have heard a number of times in the area that I represent, and across west Wales: this concept that we can secure a future for Welsh agriculture and fisheries by returning to a regime that many of us well remember, before we had things such as the European lamb regime to develop and safeguard our industry, and likewise our fisheries are now protected through the system that we have in place. Because what's important to bear in mind about the European Union is that it's a union that has changed and reformed across the years. That was emphasised by Huw Irranca-Davies in terms of the importance of the investment in his community, the contributions of the structural funds to the economy of the Valleys of Wales time and time again. Then, we came to the interesting and amusing contribution, as always, from Neil Hamilton, where he tried to emphasise on the one hand that ensuring that the United Kingdom were to actually exit the European Union would somehow ensure that there would be greater control over what happens in Wales, in England, in Ireland and in Scotland. This is an argument that I have failed to understand, because it seems to me to reject the most important argument about what the European Union provides us with. We live in a globalised world. That is the nature of what has developed across the globe. We have huge economic regions across the globe. Yet, you see this argument that's put forward that for us as a kingdom to be outwith that global region would somehow be beneficial to us. I can't accept that argument that the trade deficit between the European Union and the continent and the UK will be any sort of guarantee that we can have a new free market within the single market. That's what's important, I think, that we bear in mind, that there are four main freedoms that are fundamental to the European Union: the freedom of movement of goods; the freedom of movement of services; the freedom of movement of capital; and the freedom of movement of people. This is where the debate on immigration confuses people more than any other, because it is not immigration when people come from the continent of Europe, which is part of the European Union, to work in Wales. That isn't immigration. What that is is fellow citizens of a whole continent sharing work opportunities, as I can do if I were to go out to work within the European Union, or as our students working from Bangor University, where I -
Diolch yn fawr, Lywydd. Anodd iawn yw ymateb, ac yn sicr grynhoi, dadl fel hon, ond rydw i'n ddiolchgar i'r Aelodau i gyd am i ni gael dadl resymol a gweddol resymegol yn y cyfraniadau a wnaed. Fe ddechreuom ni gyda Mark Isherwood yn cyfeirio at y dadleuon amaethyddol a'r math o ddadleuon rwyf wedi clywed llawer ohonyn nhw yn yr ardal rwyf i'n ei chynrychioli, ac ar hyd y gorllewin: y syniad yma y gallwn ni sicrhau diogelwch i amaethyddiaeth a physgodfeydd Cymru drwy ddychwelyd i gyfundrefn y mae llawer ohonom ni yn ei chofio hi'n iawn, cyn inni gael pethau fel 'regime' cig oen yr Undeb Ewropeaidd i ddiogelu a datblygu ein diwydiant, yn yr un modd ag y mae ein pysgodfeydd ni bellach yn cael eu gwarchod drwy'r gyfundrefn sydd gennym ni. Oherwydd beth sy'n bwysig inni gofio am yr Undeb Ewropeaidd yw ei bod hi'n undeb sydd wedi newid ac wedi diwygio ar hyd ei hamser. Fe bwysleisiwyd hynny gan Huw Irranca-Davies - y pwysigrwydd o'r buddsoddiad yn ei gymuned o, cyfraniad y cronfeydd strategol i economi Cymoedd Cymru drwodd a thro. Yna, fe ddaethom ni at gyfraniad difyr a digrif, fel y mae o hyd, gan Neil Hamilton. Roedd o'n ceisio pwysleisio, ar yr un llaw, y byddai sicrhau bod yr Undeb Brydeinig - y Deyrnas Unedig - yn dod mas o'r Ewrop unedig rhyw fodd yn sicrhau y byddai mwy o reolaeth dros beth sy'n digwydd yng Nghymru, yn Lloegr, yn Iwerddon ac yn yr Alban. Mae hon yn ddadl yr wyf wedi methu ei deall, oherwydd mae hi'n gwrthod imi y ddadl bwysicaf ynglŷn â beth y mae'r Undeb Ewropeaidd yn ei gynnig i ni. Rydym yn byw mewn byd sydd yn fyd-eang. Dyna natur yr hyn sydd wedi datblygu ar draws y byd. Mae gyda ni ranbarthau economaidd enfawr drwy'r byd i gyd. Ac eto, mae'r ddadl yma yn cael ei chyflwyno y byddai i ni, fel teyrnas, i fod y tu fas i ranbarth byd-eang o fyd sydd yn farchnad gyfan yn rhyw fodd yn fanteisiol. Felly, nid wyf yn derbyn y ddadl honno bod y diffyg masnachol sydd rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r tir mawr a'r Deyrnas Unedig yn mynd i fod yn warant o gwbl y bydd modd cael marchnad rydd o'r newydd yn y farchnad sengl. Dyma sy'n bwysig, rwy'n credu, i ni gofio bod yna bedwar rhyddid mawr sydd yn sylfaenol i'r Undeb Ewropeaidd: rhyddid nwyddau i symud; rhyddid gwasanaethau i symud; rhyddid cyfalaf i symud; a rhyddid pobl i symud. Dyma lle mae'r ddadl ynglŷn â mewnlifiad yn tywyllu ac yn drysu pobl yn fwy nag unrhyw ddadl arall. Nid mewnlifiad yw bod pobl yn dod o dir mawr Ewrop sy'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd i weithio yng Nghymru. Nid mewnlifiad ydy hynny. Beth ydy o ydy pobl sydd yn gyd-ddinasyddion o gyfandir cyfan yn gallu rhannu gwaith, fel yr ydw i'n gallu rhannu gwaith os ydw i'n mynd mas i weithio yn yr Undeb Ewropeaidd, neu fel y myfyrwyr sydd yn gweithio o Brifysgol Bangor, lle'r wyf i'n -
Thank you. It beggars belief to me that two so-called socialist parties that care about the working classes are those parties that advocate a huge number of people pouring into this country. They did not take chief executives' jobs. They didn't take top civil servants' jobs. They didn't take bankers' jobs. They took working-class jobs. Where they didn't take those jobs, they have forced the price of labour down to such a level that the living wage is now the standard wage. Disgraceful - for all of you.
Diolch. Mae'n anhygoel i mi mai dwy blaid a elwir yn bleidiau sosialaidd sy'n poeni am y dosbarth gweithiol yw'r pleidiau sy'n dadlau dros gael nifer fawr o bobl yn arllwys i mewn i'r wlad hon. Nid oeddent yn cymryd swyddi prif weithredwyr. Nid oeddent yn cymryd swyddi uwch-weision sifil. Nid oeddent yn cymryd swyddi bancwyr. Roeddent yn cymryd swyddi dosbarth gweithiol. Lle nad oeddent yn cymryd y swyddi hynny, maent wedi gorfodi pris llafur i lawr i'r fath lefel fel mai'r cyflog byw yn awr yw'r cyflog safonol. Gwarthus - bawb ohonoch.
The only thing I will say to you, David: without those people, what would happen to the fresh meat industry in Wales? And the NHS?
Yr unig beth a ddywedaf wrthych, David: heb y bobl hynny, beth fyddai'n digwydd i'r diwydiant cig ffres yng Nghymru? A'r GIG?
If they paid -
Pe baent yn talu -
No, the Member is not taking a further intervention. Dafydd Elis-Thomas.
Na, nid yw'r Aelod yn cymryd ymyriad pellach. Dafydd Elis-Thomas.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [Objection.] I will defer voting, therefore, under this item until voting time.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
The next item is the Welsh Conservatives debate, and I call on Russell George to move the motion.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig, ac rwy'n galw ar Russell George i wneud y cynnig.
Thank you, Presiding Officer. I hope that this debate will be a little bit less controversial than the last, but I will be mentioning Europe a number of times in this debate. I'm pleased to introduce this debate on the effects of the European football championships on Wales, as well as the longer term health repercussions of the event, and to move the motion in the name of Paul Davies. I'm also pleased to indicate support for the amendment to our motion in the name of Simon Thomas. I wanted to start today's debate by congratulating the Welsh national football team. I'm sure that, like everyone else in the Assembly today, we are immensely proud of the achievements of our team in reaching their first international football tournament since the 1958 World Cup in Sweden, and the pride is only intensified following their victory, of course - their 2-1 victory over Slovakia on Saturday - and we're only, of course, one result away from the knockout stage of the tournament, and wouldn't it be so sweet if that result came against our English neighbours tomorrow? Wales has got a proud history of sporting success in hosting major sporting events that far exceeds the norm for a country of our size. We hosted the 1999 Rugby World Cup, the FA Cup finals between 2001 and 2005, two Ashes test matches, an annual stage in the world rally championships, as well as the 2010 Ryder Cup, and we've also secured the rights to host the 2017 championship league final. I hope I haven't missed anything out. If I have, please intervene. But many Welsh sportsmen, from Gareth Bale and Geraint Thomas to gold medallist Jade Jones, have risen to the top of their fields and have represented our country with distinction around the world. Now, despite these successes, sports participation rates across Wales are worryingly low. A previous Welsh Government, when it announced the 'Climbing Higher' strategy in 2005, stated their desire to place sport and physical activity at the heart of Welsh life. Now, recent surveys show that the proportion of adults undertaking more than 150 minutes of sport per week has only marginally increased, and, though these findings are of course welcome, I believe that they also highlight numerous areas where Government needs to concentrate on. One of the main issues that desperately need to be addressed is the clear link between sports participation and socioeconomic background. People with lower earnings are far less likely to exercise on a regular basis, and, of course, I think we can all agree that that must be rectified. At a junior level, sports participation at primary schools across Wales has notably decreased. Physical education is, of course, essential to the upbringing of children all around Wales, and it's encouraging that a healthy lifestyle keeps children fit and well-motivated to continue exercise, of course, in their adult life. At a time when all eyes are of course glued to the exploits of our boys in France, it should be asked where the future Gareth Bales will come from if the time dedicated to junior physical education continues to decrease. Now, in regards to the impact of Welsh sport and exercise uptake, I'm particularly concerned that in the recent budget the previous Government cut funding to physical activity across Wales. Additionally, community funding for sporting and leisure clubs across Wales has also continued to decline, so at the same time fees are going up for our football and rugby pitches - I know in Cardiff it costs £55 now a football pitch, and £75 a rugby field. These increases are of course barriers to participation in sport. Now, with increased sports participation linked to good health, it naturally follows that low participation rates are detrimental to public health. In 2015, 24 per cent of the Welsh population was classified as obese, and 59 per cent of the population overweight. Weight problems, of course, bring with them additional health issues such as diabetes and higher blood pressure, both of which have increased dramatically in Wales over the past decade. Now, economically, our success at the Euros also creates a fantastic opportunity to advertise Wales as a tourist destination, not only to Europeans, but also around the world. I was glad to see that the Welsh Government has taken steps to showcase our nation's tourist destinations at the European Village, and has invested in advertisements in several languages to market this great country, and I hope that they're successful in attracting visitors. Now, domestically of course, the Euros are also a good boon to our local clubs and bars and pubs, and I know that I'll be doing my bit to help Montgomeryshire's local economy at 2 p.m. tomorrow. So, with many eyes watching the team across lounge rooms and pubs and fanzones across Wales, but also in France, the Euros present a brilliant opportunity to encourage participation in sport across Wales now and in the future, and I sincerely hope that the Welsh Government, working of course in partnership with other Government bodies, local authorities and key partners, builds upon the success of our football team to increase sporting participation, particularly among the most vulnerable of our society, and that steps are taken to improve the public health of Welsh men and Welsh women. Finally, events like this bring a huge sense of national pride, and I want to take this opportunity to wish our football team the very best of luck tomorrow and for the rest of the tournament. [Assembly Members: 'Hear, hear.']
Diolch i chi, Lywydd. Gobeithiaf y bydd y drafodaeth hon ychydig yn llai dadleuol na'r olaf, ond byddaf yn sôn am Ewrop sawl gwaith yn y ddadl hon. Rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon ar effeithiau'r pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd ar Gymru, yn ogystal ag ôl-effeithiau hirdymor y digwyddiad ar iechyd, ac i gynnig y cynnig yn enw Paul Davies. Rwy'n falch o ddynodi cefnogaeth i'r gwelliant i'n cynnig yn enw Simon Thomas hefyd. Roeddwn eisiau dechrau'r ddadl heddiw drwy longyfarch tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Rwy'n siwr ein bod, fel pawb arall yn y Cynulliad heddiw, yn hynod o falch o gyflawniadau ein tîm yn cyrraedd eu pencampwriaeth bêl-droed rhyngwladol cyntaf ers y Cwpan y Byd 1958 yn Sweden, ac mae'r balchder yn dwysáu yn dilyn eu buddugoliaeth, wrth gwrs - eu buddugoliaeth 2-1 dros Slofacia ddydd Sadwrn - ac nid ydym ond un canlyniad yn unig i ffwrdd o'r cam bwrw allan yn y bencampwriaeth, ac oni fyddai mor felys pe bai'r canlyniad hwnnw'n dod yn erbyn ein cymdogion Seisnig yfory? Mae gan Gymru hanes balch o lwyddiant yn y byd chwaraeon yn cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr sy'n fwy o lawer na'r norm ar gyfer gwlad o'i maint. Cynaliasom Gwpan Rygbi'r Byd yn 1999, rowndiau terfynol Cwpan yr FA rhwng 2001 a 2005, dwy gêm brawf Cyfres y Lludw, cam blynyddol ym mhencampwriaethau ralïo'r byd, yn ogystal â Chwpan Ryder 2010, ac rydym hefyd wedi sicrhau'r hawliau i gynnal rownd derfynol cynghrair y pencampwyr 2017. Rwy'n gobeithio nad wyf wedi anghofio unrhyw beth. Os ydw i, croeso i chi ymyrryd. Ond mae llawer o bencampwyr yng Nghymru, o Gareth Bale a Geraint Thomas i'r enillydd medal aur, Jade Jones, wedi codi i frig eu meysydd ac wedi cynrychioli ein gwlad gyda rhagoriaeth ar draws y byd. Nawr, er gwaethaf y llwyddiannau hyn, mae'r cyfraddau sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ledled Cymru yn bryderus o isel. Pan gyhoeddodd Llywodraeth flaenorol y strategaeth 'Dringo'n Uwch' yn 2005, dywedodd mai ei dymuniad oedd gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ganolog i fywyd Cymru. Nawr, mae arolygon diweddar yn dangos mai ychydig iawn o gynnydd a fu yn y gyfran o oedolion sy'n gwneud mwy na 150 munud o chwaraeon yr wythnos, ac er bod y canfyddiadau hyn i'w croesawu wrth gwrs, rwy'n credu eu bod hefyd yn tynnu sylw at nifer o feysydd y mae angen i'r Llywodraeth ganolbwyntio arnynt. Un o'r prif faterion y mae angen mynd i'r afael ag ef yn ddybryd yw'r cysylltiad clir rhwng cymryd rhan mewn chwaraeon a chefndir economaidd-gymdeithasol. Mae pobl sy'n ennill cyflogau is yn llawer llai tebygol o wneud ymarfer corff yn rheolaidd, ac wrth gwrs, rwy'n meddwl y gallwn i gyd gytuno bod rhaid unioni hynny. Ar lefel plant cynradd, mae'r nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ysgolion cynradd ledled Cymru yn amlwg wedi gostwng. Mae addysg gorfforol, wrth gwrs, yn hanfodol i fagwraeth plant ledled Cymru, ac mae'n galonogol fod ffordd iach o fyw yn cadw plant yn heini ac yn llawn cymhelliant i barhau i wneud ymarfer corff yn eu bywydau fel oedolion. Ar adeg pan fydd pob llygad wedi'i hoelio ar gampau ein bechgyn yn Ffrainc, dylid gofyn o ble y daw Gareth Bales y dyfodol os yw'r amser a roddir i addysg gorfforol plant cynradd yn parhau i leihau. Nawr, o ran effaith chwaraeon yng Nghymru ar y nifer sy'n gwneud ymarfer corff, rwy'n arbennig o bryderus fod y Llywodraeth flaenorol wedi torri cyllid i weithgarwch corfforol ledled Cymru yn y gyllideb ddiweddar. Yn ogystal, mae cyllid cymunedol i glybiau chwaraeon a hamdden ar draws Cymru wedi parhau i ddirywio, felly ar yr un pryd ag y mae ffioedd yn codi ar gyfer ein caeau pêl-droed a rygbi - gwn ei bod yn costio £55 yn awr am gae pêl-droed, a £75 am gae rygbi. Mae'r cynnydd hwn yn rhwystrau wrth gwrs i gymryd rhan mewn chwaraeon. Nawr, gyda'r cysylltiad rhwng y niferoedd cynyddol sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac iechyd da, mae'n dilyn yn naturiol fod cyfraddau cyfranogiad isel yn niweidiol i iechyd y cyhoedd. Yn 2015, roedd 24 y cant o boblogaeth Cymru wedi'u categoreiddio'n ordew, ac roedd 59 y cant o'r boblogaeth dros bwysau. Mae problemau pwysau, wrth gwrs, yn creu problemau iechyd ychwanegol fel diabetes a phwysedd gwaed uwch, dau gyflwr sydd wedi cynyddu'n ddramatig yng Nghymru dros y degawd diwethaf. Nawr, yn economaidd, mae ein llwyddiant yn Ewro 2016 hefyd yn creu cyfle gwych i hysbysebu Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, nid yn unig i Ewropeaid, ond hefyd o amgylch y byd. Roeddwn yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i arddangos cyrchfannau twristaidd ein cenedl ym Mhentref Ewrop, ac wedi buddsoddi mewn hysbysebion mewn nifer o ieithoedd i farchnata'r wlad wych hon, ac rwy'n gobeithio eu bod yn llwyddo i ddenu ymwelwyr. Nawr, yn ddomestig wrth gwrs, mae'r bencampwriaeth Ewropeaidd hefyd yn hwb da i'n clybiau a'n bariau a'n tafarndai lleol, ac rwy'n gwybod y byddaf yn gwneud fy rhan i helpu economi leol Sir Drefaldwyn am 2 o'r gloch yfory. Felly, gyda llawer o lygaid yn gwylio'r tîm mewn lolfeydd a thafarndai a pharthau cefnogwyr ar draws Cymru, ond hefyd yn Ffrainc, mae Ewro 2016 yn darparu cyfle gwych i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ar draws Cymru yn awr ac yn y dyfodol, ac rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru, gan weithio wrth gwrs mewn partneriaeth â chyrff eraill y Llywodraeth, awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol, yn adeiladu ar lwyddiant ein tîm pêl-droed er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn enwedig ymysg y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, a bod camau'n cael eu rhoi ar waith i wella iechyd cyhoeddus dynion Cymru a merched Cymru. Yn olaf, mae digwyddiadau fel hyn yn dod ag ymdeimlad enfawr o falchder cenedlaethol, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob lwc i'n tîm pêl-droed yfory ac ar gyfer gweddill y bencampwriaeth. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.']
Thank you very much. I have selected the amendment to the motion. Therefore I'll call on Dai Lloyd to move amendment 1, tabled in the name of Simon Thomas. Dai Lloyd.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Felly galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Dai Lloyd.
Thank you, Deputy Presiding Officer, and thank you to Russell for opening this debate and for accepting our amendment, which is factual. We do regret that cuts have been made to grass-roots sports as a result of funding cuts, and it's important as well for us to join in congratulating the Welsh football team, who had exceptional success over the weekend. And, of course, that is a great boost to the mental health of all of us, I would think, as we're talking about the impact of sport on our health - not just physical health, but out mental health. Everybody is happier when our national teams have success and especially so during that time in the second half when it appeared quite poor, but it was great to see the boys turning things round and succeeding in winning in the end. But I want to talk in the time that I have about the importance of physical education. Fitness, that is: fitness, and the need for everybody to keep fit, even though this can be difficult for a number of us. But we can always walk to places, for example, rather than using lifts. There is a lot of medical research work that has shown that keeping fit safeguards you from developing things such as dementia, reduces the rates of diabetes, high blood pressure and stroke, and so forth - a number of diseases that we're battling to develop new medicines to treat. Yet, if you're fit, you tend to suffer less from these diseases. If keeping fit were a tablet, then all of us would insist that NICE agree that doctors such as I should prescribe it. But keeping fit is much more effective than most tablets and medicines that we have at the moment to address dementia and stroke, and so forth. Therefore, walking 10,000 steps every day is the thing - 10,000 steps. It's very easy to achieve, but it can be a challenge. I don't know whether I've mentioned yet that I've been a Member of this Assembly before. Some six years ago now, I had success in passing a Measure to safeguard our playing fields in Wales, and I was very grateful for support from every party at the time to safeguard the future of our playing fields to ensure that the next generation of Gareth Bales, and so forth, could have somewhere to play and run around, even in the centre of our cities. And of course, to end now, as we're all ageing, that speed that we had when we were young in playing rugby or football and so forth is starting to get deficient as we're getting older, quite naturally. But there are other things that develop, such as walking football. It's developing in a number of parts of Wales, and it's important for those of us who are ageing and who can't run around quite as fast as we could before. That, of course, is looking for support, like all other sporting activities. In conclusion - the Assembly's rugby team. There are a number of Members here who can play rugby for the Assembly. I will be making my pitch to be on the left wing again, for obvious reasons. But, of course, membership of that team is open to everybody, and I'm looking at my fellow Members also to develop that fitness, to become an integral part of the National Assembly for Wales's rugby team. Thank you very much.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i Russell am agor y ddadl yma a hefyd am dderbyn ein gwelliant ni, sydd yn ffeithiol, a dweud y gwir. Rydym ni yn gresynu bod yna doriadau wedi bod mewn chwaraeon ar lawr gwlad achos toriadau cyllidol. Ac wrth gwrs mae'n bwysig inni hefyd ymuno wrth longyfarch tîm pêl-droed Cymru, a wnaeth gael llwyddiant eithriadol dros y penwythnos. Ac, wrth gwrs, mae hwn yn hwb sylweddol i'n hiechyd meddwl i gyd, buaswn i'n meddwl, gan ein bod yn sôn am effaith mabolgampau, chwaraeon, ac ati ar ein hiechyd ni - nid jest iechyd corfforol, ond wrth gwrs iechyd meddwl. Mae pawb yn hapusach eu byd pan fydd ein timau cenedlaethol ni yn cael llwyddiant, ac yn arbennig, felly, pan oedd ar un adeg yn yr ail hanner yna yn edrych yn go ddu, ac wedyn roedd y bechgyn yn troi pethau rownd, ac yn lwyddo i ennill ar ddiwedd y dydd. Ond rwy'n mynd i sôn nawr, yn yr amser sydd gyda fi, jest am bwysigrwydd ymarfer corff. Ffitrwydd, hynny yw: ffitrwydd, a'r angen i bawb gadw'n heini er mor anodd mae hyn yn gallu bod i nifer fawr ohonom ni. Ond rydym ni wastad yn gallu cerdded i lefydd, er enghraifft, yn lle defnyddio'r lifftiau. Achos mae yna sawl ymchwil meddygol wedi dangos rŵan bod cadw'n heini - bod yn ffit, hynny yw - yn eich diogelu chi rhag ddatblygu pethau fel dementia, yn lleihau graddfeydd o glefyd melys, pwysau gwaed a strôc ac ati - nifer o afiechydon rydym ni'n brwydro'n hir i ddatblygu tabledi newydd i'w trin nhw. Ac eto, os ydych chi'n ffit, rydych chi'n dueddol o ddioddef llai o'r afiechydon yna. Pe bai cadw'n ffit yn dabled, byddem ni i gyd yn mynnu bod NICE yn cytuno i feddygon fel fi i'w presgreibio. Ond mae bod yn ffit yn llawn fwy effeithiol na'r rhan fwyaf o dabledi sydd gyda ni ar hyn o bryd i fynd i'r afael â dementia a strôc ac ati. Felly, cerdded 10,000 o gamau bob dydd ydy'r peth - 10,000 ohonyn nhw. Mae'n ddigon hawdd i'w gyflawni, ond mae'n gallu bod yn her. Nid wyf yn gwybod os wyf wedi sôn eto fy mod wedi bod yn Aelod o'r Cynulliad yma o'r blaen. Rhyw chwe mlynedd yn ôl yn awr, fe wnes i gael llwyddiant efo pasio Mesur yn diogelu ein meysydd chwarae ni yng Nghymru. Roeddwn yn ddiolchgar iawn am bob cefnogaeth o bob plaid bryd hynny i ddiogelu dyfodol ein meysydd chwarae ni, i wneud yn siŵr bod y genhedlaeth nesaf o Gareth Bales ac ati yn gallu cael rhywle i redeg o gwmpas, hyd yn oed yng nghanol ein dinasoedd mwyaf ni. Ac, wrth gwrs, i orffen, fel rydym ni i gyd yn heneiddio, mae'r cyflymder treiddgar oedd gyda ni pan oeddem ni'n ifanc wrth chwarae rygbi neu bêl-droed ac ati yn dechrau mynd yn ddiffygiol rŵan fel rydym ni'n mynd yn hŷn, yn naturiol. Ond, wrth gwrs, mae yna bethau eraill yn datblygu, fel pêl-droed wrth gerdded - 'walking football'. Mae'n datblygu mewn sawl rhan o Gymru ac mae'n bwysig i'r rhai ohonom ni sy'n heneiddio a ddim yn gallu rhedeg o gwmpas cweit mor gyflym ag yr oeddem ni ers llawer dydd. Wrth gwrs, mae hwnnw hefyd yn edrych am gefnogaeth, fel pob camp arall. I ddiweddu hefyd - tîm rygbi'r Cynulliad. Mae yna sawl Aelod yn fan hyn sy'n gallu chwarae rygbi i'r Cynulliad. Mi fyddaf yn gwneud 'pitch' i fod ar yr asgell chwith unwaith eto, am resymau amlwg. Ond, wrth gwrs, mae aelodaeth y tîm yna ar agor i bawb. Rwy'n edrych ar fy nghyd-Aelodau hefyd i ddatblygu'r ffitrwydd yna, i ddod yn rhan annatod o dîm rygbi Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Diolch yn fawr iawn ichi.
May I just begin today by putting on the record, I'm sure, the thanks of all of us to Professor Laura McAllister and to congratulate her on the honour she received in the birthday honours list just a few days ago? Returning Members may remember in a debate in November 2014 that I shared my consternation at the revelation that I am considered now to be an older person. Perhaps the worst part of that awakening was the discovery that I am married to an older person as well. In fact, he's so old that he too has a Clash T-shirt; it's tucked away in his chest of drawers. It pre-dates the house that we moved into nearly 26 years ago by a significant number of years, but sadly there are no leather trousers to be found there - unlike, it sounds like, in Huw Irranca-Davies's home. Even older, though, are the shirts that he's kept from his days as a player with the football and rugby clubs in mid Wales, from childhood through the youth teams and ultimately into adulthood. They're not famous teams. Even now, there are parts of Wales where potentially elite talent slips through the net because it is difficult to develop elite talent in sparsely populated areas. It's a 60-mile round trip to the nearest football academy from where my family lives, for example, and no public transport to speak of. Of course, if you're able to make that trip, that could be followed by a round trip of nearly 200 miles to actually play a match. It's a challenge for the players and their mam-and-dad taxis for players in somewhere like Bridgend in my region, where they go to Aberystwyth once a year. But for the players and the mam-and-dad taxis in Aberystwyth, those long journeys are weekly and talent gets lost as patience wears thin. If the next Sophie Ingle or the next Gareth Bale is from, let's say, Cribyn or Llanbryn-mair, are we sure that we're actually going to get to know about them? My old man - I'm allowed to call him that now - however, is hooked on sport. He doesn't just shout at the telly and engage the cat in amazing punditry from his armchair: until recently, he coached the town's children and youth football teams and every week he joins a bunch of, well, I'm going to call them veterans, just to be kind, to play five-a-side football. He may have a season ticket to the local osteopath as a result of this, and many others who join him, but for him and those older men, this sport is not just about fitness; it's the stress-busting; it's the keeping up of long-held male friendships; it's always the pub after the game; it's kind of the men's shed in a knock-off Barcelona strip. And so campaigns like 'We Wear the Same Shirt' have helped highlight the value of sport to male mental health in particular, but the principles of it apply also to older people. Public Health Wales have shown that the most sparsely populated counties in Wales are those inhabited by the largest proportion of older people, with isolation leading to loneliness and a decline in mental and physical health. Now, my husband's only in his fifties, but between one and three and one in five people over the age of 65 also claim to be hooked on sport. And as we heard from Russell George earlier on, the figures aren't necessarily convincing on this, and I think there's still a little bit of work to do on statistics so that we can be absolutely sure what the position actually is. I mean, I thought those figures sounded pretty high when I looked at them, even when you recognise that this includes bowls, swimming, using an exercise machine and golf. But, when you drill down a little further, it's just 7 per cent of the over-65s who do sport or exercise twice a week, even though 18 per cent of them are members of sports clubs, and I think that's pretty interesting. Over half of over-65s do no frequent sports or organised exercise, and the pattern sets in long before this with less than half of 55 to 64-year-olds doing any sport. Yet, over a third say that they do participate three times a week. It looks like it's all or nothing, doesn't it? Those hooked on it really seem to be hooked on it. The Swansea half marathon is taking place on 26 June, and, while not everyone is from Wales in that, of course, you'd be surprised to hear how many older people took part in that last year. Out of 3,441 runners, 241 of them were men between the ages of 50 and 60, and 51 men over the age of 60. Forty women over the age of 45 took part too; that's just under 10 per cent of those taking part being older people. The much lower figure for women participants is where I'm coming to just to finish this, because Sport Wales recognises that the value of sport goes beyond physical activity, and has a special value to women who are at risk of social exclusion. And it also claims that women are very good at responding to appropriate provision. So, I'll finish my contribution with this, Cabinet Secretary. I applaud all the work that's happening on men's mental health and the policymakers' work that's being done on encouraging young girls to take up sport, but how can we help women, and older women, at risk of becoming obese - women like me - overcome the bygone embarrassment of the old school gym and to become hooked on sport in later life, even if that is football?
A gaf fi ddechrau heddiw drwy gofnodi diolch pawb ohonom, rwy'n siŵr, i Athro Laura McAllister ac i'w llongyfarch ar yr anrhydedd a dderbyniodd yn y rhestr anrhydeddau pen-blwydd ychydig ddyddiau yn ôl? Gall yr Aelodau sy'n dychwelyd gofio dadl ym mis Tachwedd 2014 pan rennais fy syndod ynghylch y datgeliad fy mod bellach yn cael fy ystyried yn berson hŷn. Efallai mai'r rhan waethaf o'r deffroad hwnnw oedd y darganfyddiad fy mod yn briod â pherson hŷn hefyd. Yn wir, mae mor hen fel bod ganddo yntau hefyd grys-T The Clash; mae wedi'i guddio yn ei gwpwrdd dillad. Mae nifer o flynyddoedd yn hŷn na'r tŷ y symudasom i mewn iddo bron 26 mlynedd yn ôl, ond yn anffodus nid oes unrhyw drowsus lledr i'w ganfod yno - yn wahanol i gartref Huw Irranca-Davies, mae'n ymddangos. Fodd bynnag, mae'r crysau a gadwodd ers ei ddyddiau fel chwaraewr gyda thimau pêl-droed a rygbi yng nghanolbarth Cymru, o'i blentyndod i'r timau ieuenctid ac yn y pen draw fel oedolyn, yn hŷn na hynny hyd yn oed. Nid ydynt yn dimau enwog. Hyd yn oed yn awr, mae yna rannau o Gymru lle mae talent a allai fod yn elitaidd yn llithro drwy'r rhwyd oherwydd ei bod yn anodd datblygu talent elît mewn ardaloedd prin eu poblogaeth. Mae'n daith 60 milltir i'r academi bêl-droed agosaf ac yn ôl i ble mae fy nheulu yn byw, er enghraifft, ac ni cheir cludiant cyhoeddus o unrhyw werth. Wrth gwrs, os ydych yn gallu gwneud y daith, mae'n bosibl y caiff ei dilyn gan daith o bron i 200 milltir i gyd i chwarae gêm. Mae'n her i'r chwaraewyr a'u tacsis mam a dad yn rhywle fel Pen-y-bont yn fy rhanbarth i pan fyddant yn mynd i Aberystwyth unwaith y flwyddyn. Ond i chwaraewyr a thacsis mam a dad yn Aberystwyth, mae'r teithiau hir hynny'n wythnosol a thalent yn cael ei golli wrth i'r amynedd dreulio. Os yw'r Sophie Ingle neu'r Gareth Bale nesaf yn dod o Gribyn neu Lanbryn-mair, dyweder, a ydym yn siŵr ein bod yn mynd i ddod i wybod amdanynt mewn gwirionedd? Fodd bynnag, mae'r hen ddyn fy nhad - rwy'n cael ei alw'n hynny bellach - wedi gwirioni ar chwaraeon. Mae'n gweiddi ar y teledu ac yn cynnwys y gath yn rhan o'i bynditiaeth ryfeddol o'i gadair freichiau: tan yn ddiweddar, roedd yn hyfforddi plant y dref a thimau pêl-droed ieuenctid a phob wythnos mae'n ymuno â chriw o, wel, fe'u galwaf yn hen lawiau, i fod yn garedig, i chwarae pêl-droed pump bob ochr. Efallai fod ganddo docyn tymor at yr osteopath lleol o ganlyniad i hyn, a llawer o bobl eraill sy'n ymuno ag ef, ond iddo ef a'r dynion hŷn hynny, nid ymwneud â ffitrwydd yn unig y mae'r chwaraeon hyn; mae'n ymwneud â chael gwared ar straen; mae'n ymwneud â chadw cyfeillgarwch maith rhwng dynion; mae'n ymwneud â'r dafarn bob amser wedi'r gêm; mae'n fath o sied y dynion mewn cit pêl-droed Barcelona rhad. Ac felly mae ymgyrchoedd fel 'Ry'n ni'n gwisgo'r un crys' wedi helpu i dynnu sylw at werth chwaraeon i iechyd meddwl dynion yn benodol, ond mae ei hegwyddorion yn berthnasol hefyd i bobl hŷn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos mai'r siroedd mwyaf prin eu poblogaeth yng Nghymru yw'r rhai lle mae'r gyfran fwyaf o bobl hŷn yn byw, gydag arwahanrwydd yn arwain at unigrwydd a dirywiad mewn iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Nawr, nid yw fy ngŵr ond yn ei bumdegau, ond mae rhwng un o bob tri ac un o bob pump o bobl dros 65 oed hefyd yn honni eu bod wedi gwirioni ar chwaraeon. Ac fel y clywsom gan Russell George yn gynharach, nid yw'r ffigurau o reidrwydd yn argyhoeddi ar hyn, ac rwy'n meddwl bod yna ychydig o waith i'w wneud o hyd ar yr ystadegau fel y gallwn fod yn hollol siŵr beth yw'r sefyllfa mewn gwirionedd. Hynny yw, roeddwn yn meddwl bod y ffigurau'n swnio'n eithaf uchel pan edrychais arnynt, hyd yn oed pan ydych yn cydnabod eu bod yn cynnwys bowls, nofio, defnyddio peiriant ymarfer corff a golff. Ond os edrychwch ychydig yn agosach, dim ond 7 y cant o rai dros 65 oed sy'n gwneud chwaraeon neu ymarfer corff ddwywaith yr wythnos, er bod 18 y cant ohonynt yn aelodau o glybiau chwaraeon, ac rwy'n credu bod hynny'n eithaf diddorol. Nid yw dros hanner y bobl dros 65 oed yn gwneud unrhyw chwaraeon neu ymarfer corff wedi'i drefnu, ac mae'r patrwm yn cychwyn gryn dipyn yn gynt gyda llai na hanner y rhai rhwng 55 a 64 oed yn gwneud unrhyw chwaraeon. Eto i gyd, mae dros draean yn dweud eu bod yn cymryd rhan dair gwaith yr wythnos. Mae'n edrych fel naill ai'r cyfan neu ddim o gwbl, onid yw? Mae'r rhai sy'n gwirioni ar chwaraeon i'w gweld yn gwirioni go iawn. Cynhelir hanner marathon Abertawe ar 26 Mehefin, ac er nad yw pawb sy'n cymryd rhan yn dod o Gymru wrth gwrs, byddech yn synnu clywed faint o bobl hŷn a gymerodd ran yn y ras honno y llynedd. O 3,441 o redwyr, roedd 241 ohonynt yn ddynion rhwng 50 a 60, a 51 o ddynion dros 60 oed. Cymerodd 40 o fenywod dros 45 oed ran hefyd; mae hynny'n golygu bod ychydig o dan 10 y cant o'r rhai a gymerodd ran yn bobl hŷn. Y ffigur llawer is ar gyfer menywod sy'n cymryd rhan yw'r hyn rwy'n dod ato i orffen hyn, oherwydd mae Chwaraeon Cymru yn cydnabod bod gwerth chwaraeon yn mynd y tu hwnt i weithgarwch corfforol, ac mae'n arbennig o werthfawr i fenywod sydd mewn perygl o gael eu heithrio'n gymdeithasol. Ac mae hefyd yn honni bod menywod yn dda iawn am ymateb i ddarpariaeth briodol. Felly, gorffennaf fy nghyfraniad gyda hyn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n canmol yr holl waith sy'n digwydd ar iechyd meddwl dynion a gwaith y gwneuthurwyr polisi sy'n cael ei wneud ar annog merched ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon, ond sut y gallwn helpu menywod, a menywod hŷn, sydd mewn perygl o fynd yn ordew - menywod fel fi - i oresgyn embaras y dyddiau a fu yn hen gampfa'r ysgol a dod i wirioni ar chwaraeon yn ddiweddarach mewn bywyd, hyd yn oed os mai pêl-droed yw'r chwaraeon?
I'd like to start by recognising the enormous achievement of the Welsh national football team in participating in Euro 2016 in France. And as everybody has said, it's the first time that Wales has accomplished that in 58 years. And yes, the 2-1 win against Slovakia in their first game was impressive, and I couldn't mention the game without also mentioning one player, Joe Allen from Haverfordwest. But Wales's success in sporting events over recent years has indeed already inspired people across the country to become more involved in sport. And it is already widely accepted that major sporting events can, and do, have the potential to boost public participation in sport, and also consequently to increase tourism. I'm not going to run through the list of things that Wales has been involved in because Russell George did that for me. But we do need to take advantage of the momentum that has been created from Wales's participation in this Euro 2016, and the participation in and staging of those events that were previously mentioned. And we must encourage even more children, young people and adults to take up sport and to continue being active. We must also reap both the health and the economic benefits that naturally flow on from that. But we must also leave an ongoing legacy for our elite athletes. That is, in any case, an extremely tall order. But it is the case that, since 2008, the active adults survey does demonstrate that 41 per cent of adults are now participating three times a week in some form of activity, and that was only 29 per cent in 2008. It is also the case that that increased activity, when attributed to young people, is even greater. There is no doubt that we need to improve in some areas the participation in sport and we need to look at why some of those individuals and groups of people don't actually participate in sport or have the opportunity to participate in sport as much as they could. But nonetheless, we have had improvements and some of those improvements are partly thanks to the Welsh Labour Government's engagement in a range of work that promotes sport and physical activity. That has achieved improving access to opportunities, it has ensured that physical education meets the needs of our children and young people and it has also helped support community sport and physical activity. But that is only part of the picture. I think that we can't go through this debate today without recognising the huge contribution from the masses of volunteers - they were called by Suzy Davies mum-and-dad taxis - but nonetheless they are volunteers. They do actually help achieve a massive 235,000 volunteers right across Wales. It is the case that 10 hours or more a month are spent volunteering. That is an enormous contribution and one, I feel, worthy of stating here today. If we costed that contribution, it would come to £300 million or 15,000 full-time employees. So, that gives an idea of the scale of that contribution. Moving on to the gaps in sport. I think we must pay attention to the fact that there is a gender gap; that girls seem to fall off as they get into young adulthood. It is the case that there are gaps, and some of them have been mentioned, where poorer children, disabled children and individuals also don't participate as often as they could. Moving back to what Dai said at the very start, it is the case that if people stay fit, they stay healthy. And if they stay fit and they stay healthy, they don't find themselves in need of the care. They don't find themselves to be obese and consequently they don't find themselves to have some of the diseases that we find so prevalent and so hard to do something about.
Hoffwn ddechrau drwy gydnabod cyflawniad enfawr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn cymryd rhan yn Ewro 2016 yn Ffrainc. Ac fel y mae pawb wedi dweud, dyma'r tro cyntaf ers 58 mlynedd i Gymru gyflawni hynny. Ac oedd, roedd y fuddugoliaeth 2-1 yn erbyn Slofacia yn eu gêm gyntaf yn drawiadol, ac ni allwn sôn am y gêm heb hefyd sôn am un chwaraewr, Joe Allen o Hwlffordd. Ond mae llwyddiant Cymru mewn digwyddiadau chwaraeon dros y blynyddoedd diwethaf eisoes wedi ysbrydoli pobl ar draws y wlad yn wir i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon. A derbynnir yn eang eisoes y gall digwyddiadau chwaraeon mawr fod â photensial i hybu cyfranogiad y cyhoedd mewn chwaraeon, a hefyd i gynyddu twristiaeth yn sgil hynny. Nid wyf yn mynd i redeg drwy'r rhestr o bethau y mae Cymru wedi bod yn ymwneud â hwy oherwydd gwnaeth Russell George hynny ar fy rhan. Ond mae angen i ni fanteisio ar y momentwm sydd wedi'i greu gan gyfranogiad Cymru yn Ewro 2016, a'i rhan yn cynnal ac yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hynny a gafodd eu crybwyll yn flaenorol. A rhaid i ni annog rhagor eto o blant, pobl ifanc ac oedolion i gymryd rhan mewn chwaraeon ac i barhau i wneud ymarfer corff. Rhaid i ni hefyd fedi'r manteision economaidd a'r budd i iechyd sy'n llifo'n naturiol o hynny. Ond rhaid i ni hefyd adael etifeddiaeth barhaus i'n hathletwyr elitaidd. Mae hynny, mewn unrhyw achos, yn llawer iawn i'w ofyn. Ond ers 2008, mae'n wir fod yr arolwg ar oedolion egnïol yn dangos bod 41 y cant o oedolion bellach yn cymryd rhan dair gwaith yr wythnos mewn rhyw fath o weithgaredd, a dim ond 29 y cant oedd y ffigur yn 2008. Mae hefyd yn wir fod gweithgaredd cynyddol, o'i briodoli i bobl ifanc, yn fwy byth. Nid oes amheuaeth fod angen i ni wella'r nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon mewn rhai meysydd ac mae angen i ni edrych ar pam nad yw rhai o'r unigolion a'r grwpiau hyn o bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon mewn gwirionedd neu'n cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon gymaint ag y gallent. Serch hynny, rydym wedi cael gwelliannau ac mae rhai o'r gwelliannau hynny i'w priodoli'n rhannol i ymwneud Llywodraeth Lafur Cymru mewn ystod o waith sy'n hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae hynny wedi llwyddo i wella mynediad at gyfleoedd, mae wedi sicrhau bod addysg gorfforol yn diwallu anghenion ein plant a'n pobl ifanc ac mae hefyd wedi helpu i gefnogi chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol. Ond rhan o'r darlun yn unig yw hynny. Rwy'n meddwl na allwn fynd drwy'r ddadl hon heddiw heb gydnabod cyfraniad aruthrol y llu o wirfoddolwyr - roedd Suzy Davies yn eu galw'n dacsis mam a dad - ond gwirfoddolwyr ydynt er hynny. Maent yn helpu i sicrhau bod yna nifer enfawr o 235,000 o wirfoddolwyr ledled Cymru. Mae'n wir fod 10 awr neu fwy bob mis yn cael eu treulio'n gwirfoddoli. Mae hwnnw'n gyfraniad enfawr ac yn un, rwy'n teimlo, sy'n deilwng i gael ei ddatgan yma heddiw. Pe baem yn rhoi pris ar y cyfraniad hwnnw, byddai'n £300 miliwn neu'n 15,000 o weithwyr amser llawn. Felly, mae hynny'n rhoi syniad o faint y cyfraniad hwnnw. Gan symud ymlaen at y bylchau mewn chwaraeon. Rwy'n credu bod rhaid i ni dynnu sylw at y ffaith fod yna fwlch rhwng y rhywiau; mae lefelau ymhlith merched i'w gweld yn disgyn wrth iddynt droi'n oedolion ifanc. Mae'n wir fod yna fylchau, a soniwyd am rai ohonynt, lle nad yw plant tlotach, plant ac unigolion anabl hefyd yn cymryd rhan mor aml ag y gallent. Gan symud yn ôl at yr hyn a ddywedodd Dai ar y dechrau un, mae'n wir fod pobl sy'n cadw'n heini, yn cadw'n iach. Ac os ydynt yn cadw'n ffit ac yn iach, nid ydynt yn mynd i fod angen gofal. Nid ydynt yn mynd i fod yn ordew ac o ganlyniad nid ydynt yn mynd i gael rhai o'r clefydau sydd mor gyffredin ac mor anodd gwneud unrhyw beth yn eu cylch.
Given my Welsh children, my Scottish husband and my English father, I've learnt to tread in a very inclusive manner around the subject of team sports. However, I think I can safely say that the performance of the Welsh team in France will be an inspiration to many young boys and girls and we need to ensure that this enthusiasm and interest is built upon and doesn't go to waste. I think we could look at the success of the London Olympics, because certain sports there saw massive increase in participation in the year immediately following the games. Again, it's important that we should note that, whilst this will dissipate over time, and although it goes back, there's always an incremental increase that remains and it is worth using that as a lever to build on again and again. Tennis is a perfect example of how sport harnesses the extra media coverage at certain times of the year, with tennis clubs generally seeing an increase in membership in the weeks immediately following the grass court championships at Wimbledon. More locally, in my particular constituency, events such as Ironman Wales and the Long Course Weekend provide an inspiration for people, and young people especially, to join up. My kids have entered into Ironkids this time and it's not actually very easy at all. I'm not entirely sure I'd make it through Ironkids let alone Ironman itself. It is depressing to see that the uptake of exercise remains inextricably linked to socio-economic factors and Joyce Watson touched upon this in some detail. It's a fact of life that the lower down the socio-economic ladder you are, the harder it is for you to partake in sports. But there are inexpensive and highly effective opportunities that we can take advantage of. Things like parkruns are a very good example of how mass exercise can be done at very little cost. Minister, I'd like to understand what you feel the Welsh Government might be able to do to promote initiatives such as that. My colleague Suzy Davies touched a little bit on children living in more deprived areas. I think that that is an extremely important area to start with, because, as we all know, whatever we learn in our childhood tends to go forward with us into older age. So, for me to suddenly take up taekwondo or whatever it's called is highly unlikely and a very scary thought, to be truthful. However, if my 11-year-old were to take it up, that's the kind of fitness regime that she will get used to and she will, as a 20-year-old, hopefully go to the gym and so on and so forth. So, if we can capture our young people at a very early age, we have a much better chance of being able to increase sport participation. I think that Russell George touched on the fact that, actually, the amount of time given to sport in primary schools is dropping and dropping quite significantly. If we look at France, which is where the Welsh rugby team - football team; forgive me please, all those football people who love the beautiful game - . Where the Welsh football team currently are, in France, it is four hours per week for a primary school child. In Wales, they are lucky if they get a proper two. In Scandinavian countries, it's four to five hours per week for sport, with a big emphasis on including everybody within the school in a sports activity at the weekend. This does really hurt young people who live in rural communities where poverty can be very easily hidden. If you're in a household that doesn't have a great income and you only have one car and that one car is out working with one of the parents, you can only get the school bus into school and back out again; you don't have the opportunity to stay behind and partake in team sports. You don't have such a great opportunity at the weekend to go back, join the swimming club and do all the rest of it. So, if we really want to make a difference to our health as a nation, to the appalling statistics we have on obesity, on smoking, on the cancers that I spoke of earlier this afternoon with the Cabinet Secretary for health - in all of these rising rates that we have - . One in two people born after 1960 will have cancer. That is a horrifying statistic. The way to make the difference is to grab the young, engage them - don't let anybody escape; don't let them go and live in Angle and not be able to get out. Let's find ways of bringing sport to young families, sport to young people, because, by doing that, we are going to not only protect them as individuals but take such an enormous burden off our country going forward. Public health is in quite a crisis. It needs a lot of money to try and sort it out. There's not a lot, perhaps, that you can do for someone of my advanced age - I can tell you that now. But my children - my 11-year-old and my 13-year-old - they have a real chance. Put the money into the kids and really let's try to get that grass-roots sport up and running. The benefits to our society are incalculable.
O ystyried bod gennyf blant sy'n Gymry, gŵr o'r Alban a thad o Loegr, rwyf wedi dysgu troedio mewn modd cynhwysol iawn ynghylch mater chwaraeon tîm. Fodd bynnag, rwy'n meddwl y gallaf ddweud yn ddiogel fod perfformiad tîm Cymru yn Ffrainc yn ysbrydoliaeth i lawer o fechgyn a merched ifanc ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn adeiladu ar y brwdfrydedd a'r diddordeb hwn ac nad yw'n cael ei wastraffu. Rwy'n credu y gallem edrych ar lwyddiant y Gemau Olympaidd yn Llundain, gan fod cynnydd enfawr wedi bod yn y lefelau a oedd yn cymryd rhan mewn rhai o'r chwaraeon yno yn ystod y flwyddyn yn syth ar ôl y gemau. Unwaith eto, mae'n bwysig i ni nodi, er y bydd hyn yn gwanychu dros amser, ac er ei fod yn lleihau, mae yna bob amser gynnydd cynyddrannol sy'n parhau ac mae'n werth defnyddio hwnnw fel lifer i adeiladu arno dro ar ôl tro. Mae tenis yn enghraifft berffaith o sut y mae chwaraeon yn bachu sylw ychwanegol ar y cyfryngau ar adegau penodol o'r flwyddyn, gyda chlybiau tenis yn gyffredinol yn gweld cynnydd yn eu haelodaeth yn ystod yr wythnosau yn syth ar ôl y pencampwriaethau cyrtiau glaswellt yn Wimbledon. Yn fwy lleol, yn fy etholaeth i, mae digwyddiadau fel Ironman Cymru a'r Penwythnos Cwrs Hir yn ysbrydoli pobl, a phobl ifanc yn arbennig, i ymuno. Mae fy mhlant wedi cofrestru gydag Ironkids y tro hwn ac nid yw'n hawdd iawn o gwbl mewn gwirionedd. Nid wyf yn hollol siŵr y buaswn yn llwyddo i gyflawni Ironkids heb sôn am Ironman ei hun. Mae'n dorcalonnus gweld bod cysylltiad anorfod rhwng y nifer sy'n gwneud ymarfer corff a ffactorau economaidd-gymdeithasol a chyffyrddodd Joyce Watson ar hyn yn eithaf manwl. Mae'n un o ffeithiau bywyd: po isaf i lawr yr ysgol economaidd-gymdeithasol y byddwch, yr anoddaf yw hi i chi gymryd rhan mewn chwaraeon. Ond mae yna gyfleoedd rhad ac effeithiol iawn y gallwn fanteisio arnynt. Mae pethau fel parkrun yn enghraifft dda iawn o sut y mae modd gwneud ymarfer corff torfol am gost fach iawn. Weinidog, hoffwn ddeall beth y teimlwch y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo mentrau megis parkrun. Soniodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies rywfaint am blant sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Credaf fod hwnnw'n faes hynod o bwysig i ddechrau ag ef, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae beth bynnag y byddwn yn ei ddysgu yn ystod ein plentyndod yn tueddu i fynd ymlaen gyda ni i oedran hŷn. Felly, mae'n annhebygol iawn y byddaf yn sydyn yn dechrau gwneud taekwondo neu beth bynnag y'i gelwir ac mae'n syniad sy'n peri cryn dipyn o ofn, a bod yn onest. Fodd bynnag, pe bai fy mhlentyn 11 oed yn dechrau ei wneud, dyna'r math o gyfundrefn ffitrwydd y byddai'n dod i arfer â hi ac yn 20 oed, byddai'n mynd i'r gampfa ac yn y blaen gobeithio. Felly, os gallwn fachu ein pobl ifanc yn ifanc iawn, mae gennym lawer gwell gobaith o allu cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon. Credaf fod Russell George wedi cyffwrdd ar y ffaith fod faint o amser a roddir i chwaraeon mewn ysgolion cynradd yn gostwng ac yn gostwng yn eithaf sylweddol. Os edrychwn ar Ffrainc, lle mae tîm rygbi Cymru - tîm pêl-droed Cymru; maddewch i mi os gwelwch yn dda, yr holl bobl bêl-droed hynny sy'n caru'r gêm hardd - . Lle mae tîm pêl-droed Cymru ar hyn o bryd, yn Ffrainc, mae'n bedair awr yr wythnos ar gyfer plentyn ysgol gynradd. Yng Nghymru, maent yn lwcus os ydynt yn cael dwy awr yn iawn. Mewn gwledydd Sgandinafaidd, mae'n bedair i bum awr yr wythnos o chwaraeon, gyda phwyslais mawr ar gynnwys pawb yn yr ysgol mewn gweithgaredd chwaraeon ar y penwythnos. Mae hyn yn bendant yn brifo pobl ifanc sy'n byw mewn cymunedau gwledig lle mae'n hawdd iawn i dlodi fod yn guddiedig. Os ydych chi'n byw ar aelwyd lle nad oes incwm uchel a dim ond un car a bod y car hwnnw allan yn y gwaith gydag un o'r rhieni, ni allwch ond dal y bws ysgol i'r ysgol ac yn ôl eto; nid ydych yn cael cyfle i aros ar ôl a chymryd rhan mewn chwaraeon tîm. Nid ydych yn cael cyfle mor wych ar y penwythnos i fynd yn ôl, ymuno â chlwb nofio a gwneud yr holl bethau eraill. Felly, os ydym eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i'n hiechyd fel cenedl, i'r ystadegau ofnadwy sydd gennym ar ordewdra, ar smygu, ar y canserau y siaradais amdanynt yn gynharach y prynhawn yma gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd - ym mhob un o'r cyfraddau cynyddol hyn sydd gennym - . Mae un o bob dau o bobl a anwyd ar ôl 1960 yn mynd i gael canser. Mae hwnnw'n ystadegyn arswydus. Y ffordd i wneud gwahaniaeth yw bachu'r bobl ifanc, ennyn eu diddordeb - peidio â gadael i neb ddianc; peidio â gadael iddynt fynd i fyw yn Angle a methu â dod oddi yno. Gadewch i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddod â chwaraeon i deuluoedd ifanc, chwaraeon i bobl ifanc, oherwydd, drwy wneud hynny, nid yn unig ein bod yn mynd i'w hamddiffyn fel unigolion ond byddwn yn cymryd baich mor enfawr oddi ar ein gwlad yn y dyfodol. Mae iechyd y cyhoedd yn wynebu tipyn o argyfwng. Mae angen llawer o arian i geisio datrys y broblem. Efallai nad oes llawer y gallwch ei wneud i rywun yn fy oedran i - gallaf ddweud hynny wrthych yn awr. Ond mae gan fy mhlant - fy mhlant 11 oed a 13 oed - mae ganddynt gyfle gwirioneddol. Buddsoddwch yr arian yn y plant a gadewch i ni fynd ati o ddifrif i geisio cael chwaraeon ar eu traed ar lawr gwlad. Mae'r manteision i'n cymdeithas yn anfesuradwy.
Yes, it's a significant achievement that the Welsh football team has reached the European championship finals, as was noted in the Chamber last week as well. Yes, it would be nice to imagine that this sort of achievement in professional sport will trigger major increases in participation in amateur sport at youth and grass-roots levels. Unfortunately, this does not always prove to be the case. Much is made nowadays of what will be the legacy of a particular sporting event - for instance, London's hosting of the 2012 Olympics. Unfortunately though, staging huge events such as the Olympics costs rather a lot of money, and the London boroughs afterwards found that their budgets for contributing to grass-roots sport were actually cut. So, it may be the case that, in reality, there is no real positive legacy from such an event. To protect and improve grass-roots sport, we should first recognise that investment in this area can be seen as leading to a long-term cost saving as healthy and sporting youngsters and young adults are much less likely to become unfit or obese adults later on in life. There could be major savings in future NHS bills in return for relatively small investments now. Instead of cutting sports funding, we need to invest. Invest where, though? Well, we need to strengthen the place of physical education in schools, we need to enhance links between the schools and sports clubs; PE teachers should be encouraged to develop these links. There could be a programme of regular visits to school PE lessons from club coaches in each local authority area. Youngsters of varying abilities need to be encouraged to sign up to sports clubs, not just the elite, and grants to clubs could reflect this kind of sporting diversity. Angela just mentioned the issue of parkruns. This has cropped up recently in the national press. I believe there were parkruns organised in Hampstead Heath and possibly other parks in London, and there was an issue that they may be charged by local councils - the people organising the parkruns - for the use of the public parklands, which, to me, seems entirely ludicrous. And that's a path that we need to make sure we don't follow in Wales. We should be encouraging this kind of voluntary activity that could get lots of people who are not particularly sporting - it could get them involved in sport, because it is a mass participation event. You don't have to be that good to go to a parkrun; there will be people just as slow as you if you're one of the slowest. So, we need to encourage that kind of activity, as Angela suggested. Finally, there are many young adults in Wales who have graduated in sports science in recent years who are not employed in this field. Their talents and enthusiasm for sport need to be harnessed and we need to think constructively about how we can best invest to utilise this latent talent pool.
Ydy, mae'n gamp sylweddol fod tîm pêl-droed Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewrop, fel y nodwyd yn y Siambr yr wythnos diwethaf hefyd. Byddai'n braf dychmygu y bydd y math hwn o gyflawniad mewn chwaraeon proffesiynol yn sbarduno cynnydd mawr yn y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon amatur ar lefelau ieuenctid a llawr gwlad. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn wir. Mae llawer yn cael ei wneud y dyddiau hyn o'r hyn a fydd yn etifeddiaeth digwyddiad chwaraeon penodol - er enghraifft, y ffaith fod Llundain wedi cynnal y Gemau Olympaidd yn 2012. Yn anffodus, fodd bynnag, mae cynnal digwyddiadau mawr fel y Gemau Olympaidd yn costio cryn dipyn o arian, a gwelodd y bwrdeistrefi yn Llundain wedyn fod eu cyllidebau ar gyfer cyfrannu at chwaraeon ar lawr gwlad wedi cael eu torri mewn gwirionedd. Felly, gall fod yn wir nad oes unrhyw etifeddiaeth gadarnhaol go iawn i ddigwyddiad o'r fath. Er mwyn diogelu a gwella chwaraeon ar lawr gwlad, dylem yn gyntaf gydnabod y gellir gweld buddsoddiad yn y maes fel rhywbeth sy'n arwain at arbed costau hirdymor gan fod pobl ifanc ac oedolion iach sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn llawer llai tebygol o ddod yn oedolion nad ydynt yn ffit neu'n oedolion gordew yn nes ymlaen mewn bywyd. Gallai fod arbedion mawr i filiau'r GIG yn y dyfodol yn gyfnewid am fuddsoddiadau cymharol fach yn awr. Yn hytrach na thorri cyllid chwaraeon, mae angen i ni fuddsoddi. Ond buddsoddi ymhle? Wel, mae angen cryfhau lle addysg gorfforol mewn ysgolion, mae angen i ni wella'r cysylltiadau rhwng yr ysgolion a chlybiau chwaraeon; dylai athrawon addysg gorfforol gael eu hannog i ddatblygu'r cysylltiadau hyn. Gallai fod rhaglen o ymweliadau rheolaidd gan hyfforddwyr clybiau â gwersi addysg gorfforol ysgolion yn ardal pob awdurdod lleol. Mae angen annog pobl ifanc o alluoedd amrywiol i gofrestru â chlybiau chwaraeon, nid yr elît yn unig, a gallai grantiau i glybiau adlewyrchu'r math hwn o amrywiaeth ym maes chwaraeon. Mae Angela newydd sôn am y parkruns. Mae hyn wedi cael sylw yn y wasg genedlaethol yn ddiweddar. Rwy'n credu bod parkruns wedi'u trefnu yn Hampstead Heath, a pharciau eraill o bosibl, yn Llundain, ac roedd yna gwestiwn pa un a fyddai tâl yn cael ei godi arnynt gan gynghorau lleol - y bobl sy'n trefnu'r parkruns - am ddefnyddio parcdiroedd cyhoeddus, sydd, i mi, yn ymddangos yn hollol chwerthinllyd. A dyna lwybr y mae angen i ni wneud yn siŵr nad ydym yn ei ddilyn yng Nghymru. Dylem fod yn annog y math hwn o weithgarwch gwirfoddol a allai gael llawer o bobl nad ydynt yn gwneud llawer o ymarfer corff - gallai eu cael i gymryd rhan mewn chwaraeon, gan ei fod yn ddigwyddiad cyfranogaeth dorfol. Nid oes rhaid i chi fod yn dda i gymryd rhan mewn parkrun; bydd yna bobl yr un mor araf â chi yno os ydych ymhlith yr arafaf. Felly, mae angen i ni annog y math hwnnw o weithgaredd, fel yr awgrymodd Angela. Yn olaf, mae yna lawer o oedolion ifanc yng Nghymru sydd wedi graddio mewn gwyddor chwaraeon yn y blynyddoedd diwethaf nad ydynt yn gyflogedig yn y maes hwn. Mae angen harneisio'u doniau a'u brwdfrydedd ynglŷn â chwaraeon ac mae angen i ni feddwl yn adeiladol ynglŷn â sut y gallwn fuddsoddi yn y ffordd orau o ddefnyddio'r gronfa hon o dalent segur.
Thank you, Deputy Presiding Officer. May I begin by congratulating Wales on qualifying for 2016 - the first major football tournament we have qualified for since the World Cup in Sweden in 1958? It has taken nearly half a century to achieve this goal and it's a wonderful goal and I congratulate the team, the managers and everybody who made an effort to be there. I hope they'll win tomorrow against England. Each major sporting event increases the interest of people in taking part in sport. The Welsh Government has failed to build on the impetus of Welsh sporting success. Strategies such as 'Climbing Higher' and 'Creating an Active Wales' have good intentions, but inactivity rates remain high. The uptake of exercise remains linked to socioeconomic factors, with vulnerable groups failing to enjoy increased participation in sport. This has had a detrimental effect on public health in Wales. The result of the Wales health survey in 2015 confirmed that health remains the greatest challenge faced by the Welsh Government. Wales faces a public health crisis with around 60 per cent of adults classed as overweight and about a quarter as obese. But there is some good news in the survey also, Deputy Presiding Officer. The number of adults who smoke has dropped to 19 per cent and binge drinking has also decreased. However the overall picture is a bleak one of the health of our nation. Soaring rates of obesity have led to an increase of diabetes class 2, and cancer and heart diseases have increased. Since 1996, the number of people living with diabetes in Wales has more than doubled. Over 180,000 people in Wales now have diabetes and it's increasing. If we don't do anything, Minister, then in 2025, there'll be nearly 300,000. What a staggering figure. You must encourage our people. In my young age, I was a long-distance runner, I did go for an Olympic torch run back home, and I can assure you, I am 70 years old and that is actually the fruit I am reaping now. I advise every individual and every family in this country to encourage their children to participate in sports - it is the best recipe for longevity. I can assure you this one piece of advice to every family is more than spending millions and billions of pounds on sports. But, in sport, also very essential is safety for our children. It is very paramount. I can assure you, Minister, there are three areas that I will mention now, on which you must take steps. One is to make sure that our children have free access to playing fields. Sporting venues must have reduced charges. Local councils are doubling the charges for either cricket, football, rugby or whatever it is. I don't want to go on figures, but I can assure you, in the last few years, the amounts charged for these fields has trebled and the children are actually leaving sports, because - especially ethnic minorities - they just can't afford them. No. 2, also, in Wales, we must make a law that all these fast-food chain stores must use the low number or low standard of the cholesterol in their oil. It is not good enough that burger vans are parked outside our primary and high schools. That should be stopped also. Also, the third one, which is very important - in the last few months, I have had to go to hospital to see some constituents and some family members. What I saw there in the canteens, in the restaurant, in hospitals, NHS hospitals - the food quality was great, but the chocolate, ice cream, fried chips and everything were nicely given by the staff, but that's not good enough. That is actually carrying to these people not a good healthy sign, but, actually, is giving the reverse effect to the people. I have known some people who go to these restaurants for food because that is one place where people can get very good food for a very reasonable price, but I would ask the Minister to make sure our hospitals' procurement is healthy, buying local foods and produce. Also, there are certain other areas, Minister, that - . The result of the health survey I was talking about from 2015 - however, the overall picture is bleak on the health of our nation: soaring rates of obesity and ill health. Sporting events increased the interest of people taking part in sports. Welsh Government has failed to build on the impetus of Welsh sporting successes. Minister, I know there is no time, but this debate needs a much longer time to feed in that sport is one of the best for our national health. Thank you.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy longyfarch Cymru ar ennill ei lle yn Ewro 2016 - y bencampwriaeth bêl-droed fawr gyntaf o bwys i ni fynd drwodd i'w rowndiau terfynol ers Cwpan y Byd yn Sweden yn 1958? Mae wedi cymryd bron i hanner canrif i gyflawni'r nod hwn ac mae'n nod gwych a hoffwn longyfarch y tîm, y rheolwyr a phawb a wnaeth ymdrech i fod yno. Rwy'n gobeithio y byddant yn ennill yfory yn erbyn Lloegr. Mae pob digwyddiad chwaraeon mawr yn cynyddu diddordeb pobl mewn cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu ag adeiladu ar symbyliad llwyddiant chwaraeon Cymru. Mae strategaethau megis 'Dringo'n Uwch' a 'Creu Cymru Egnïol' yn llawn bwriadau da, ond mae cyfraddau anweithgarwch yn dal i fod yn uchel. Mae'r nifer sy'n gwneud ymarfer corff yn parhau i fod yn gysylltiedig â ffactorau economaidd-gymdeithasol, ac ni cheir cynnydd yn y nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ymhlith grwpiau sy'n agored i niwed. Mae hyn wedi cael effaith andwyol ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Cadarnhaodd canlyniadau arolwg iechyd Cymru yn 2015 mai iechyd yw'r her fwyaf y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu o hyd. Mae Cymru'n wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus gydag oddeutu 60 y cant o oedolion yn cael eu hystyried yn rhy drwm a thua'u chwarter yn ordew. Ond mae rhywfaint o newyddion da yn yr arolwg hefyd, Ddirprwy Lywydd. Mae nifer yr oedolion sy'n smygu wedi gostwng i 19 y cant ac mae goryfed mewn pyliau hefyd wedi gostwng. Fodd bynnag, mae'r darlun cyffredinol o iechyd ein cenedl yn un llwm. Mae cyfraddau cynyddol o ordewdra wedi arwain at gynnydd mewn diabetes math 2, ac mae cyfraddau canser a chlefydau'r galon wedi cynyddu. Ers 1996, mae nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru wedi mwy na dyblu. Mae dros 180,000 o bobl yng Nghymru bellach yn dioddef o ddiabetes ac mae'n cynyddu. Os na wnawn unrhyw beth, Weinidog, yn 2025, bydd bron i 300,000 o bobl â diabetes. Am ffigur syfrdanol. Mae'n rhaid i chi annog ein pobl. Pan oeddwn yn ifanc, roeddwn yn rhedwr pellter hir, fe es am rediad fflam Olympaidd yn ôl adref, a gallaf eich sicrhau, rwy'n 70 mlwydd oed a dyna yw'r ffrwyth rwy'n ei fedi yn awr mewn gwirionedd. Rwy'n cynghori pob unigolyn a phob teulu yn y wlad hon i annog eu plant i gymryd rhan mewn chwaraeon - dyna'r rysáit gorau ar gyfer hirhoedledd. Gallaf eich sicrhau bod y cyngor hwn i bob teulu yn werth mwy na gwario miliynau a biliynau o bunnoedd ar chwaraeon. Ond mewn chwaraeon hefyd, peth arall sy'n hanfodol iawn yw diogelwch i'n plant. Mae'n hollbwysig. Gallaf eich sicrhau, Weinidog, fod tri maes y byddaf yn sôn amdanynt yn awr y bydd yn rhaid i chi gymryd camau yn eu cylch. Un yw sicrhau bod ein plant yn cael mynediad am ddim i gaeau chwarae. Rhaid cael ffïoedd is i leoliadau chwaraeon. Mae cynghorau lleol yn dyblu'r ffïoedd ar gyfer naill ai criced, pêl-droed, rygbi neu beth bynnag ydyw. Nid wyf eisiau dibynnu ar ffigurau, ond gallaf eich sicrhau, yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r symiau a godir am y caeau hyn wedi treblu ac mae'r plant yn gadael chwaraeon - yn enwedig lleiafrifoedd ethnig - am na allant eu fforddio. Rhif 2, hefyd, yng Nghymru, rhaid i ni ddeddfu bod yn rhaid i'r holl siopau cadwyn bwyd cyflym hyn ddefnyddio colestrol isel neu safon isel o golestrol yn eu holew. Nid yw'n ddigon da fod faniau byrgyrs yn parcio y tu allan i'n hysgolion cynradd ac uwchradd. Dylid rhoi diwedd ar hynny hefyd. Hefyd, y trydydd, sy'n bwysig iawn - yn y misoedd diwethaf, rwyf wedi gorfod mynd i'r ysbyty i weld etholwyr ac aelodau o'r teulu. Yr hyn a welais yno yn y ffreuturau, yn y bwyty, mewn ysbytai, ysbytai'r GIG - roedd ansawdd y bwyd yn wych, ond câi'r siocled, yr hufen iâ, y sglodion wedi'u ffrio a phopeth eu rhoi'n garedig gan y staff, ond nid yw hynny'n ddigon da. Nid yw hynny mewn gwirionedd yn cyfleu neges iach i'r bobl hyn, ond mewn gwirionedd, mae'n effeithio'n gwbl groes i hynny ar bobl. Rwyf wedi adnabod pobl sy'n mynd i'r bwytai hyn i gael bwyd am mai dyna un man lle y gall pobl gael bwyd da iawn am bris rhesymol iawn, ond byddwn yn gofyn i'r Gweinidog wneud yn siŵr fod y bwyd y mae ein hysbytai yn ei gaffael yn iach, a'u bod yn prynu bwydydd a chynnyrch lleol. Hefyd, mae yna feysydd eraill penodol, Weinidog, y - . Canlyniad yr arolwg iechyd roeddwn yn sôn amdano yn 2015 - fodd bynnag, mae'r darlun cyffredinol yn llwm o ran iechyd ein cenedl: cyfraddau cynyddol o ordewdra ac afiechyd. Cynyddodd digwyddiadau chwaraeon ddiddordeb y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu ag adeiladu ar symbyliad llwyddiannau chwaraeon yng Nghymru. Weinidog, gwn nad oes amser, ond mae angen mwy o amser ar y ddadl hon i fwydo i mewn mai chwaraeon yw un o'r pethau gorau er lles ein hiechyd cenedlaethol. Diolch.
Thank you. And finally, John Griffiths, please.
Diolch. Ac yn olaf, John Griffiths, os gwelwch yn dda.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. It certainly was an immense achievement for the Wales football team to qualify for the Euro finals after several decades of waiting, and that's exactly how it felt in Bordeaux on Saturday. I was lucky enough to be there with other Members from across the parties, and I think I can say for all of us, Dirprwy Lywydd, that the way that the Wales football team performed on and off the field and the way the supporters behaved were absolutely magnificent and a great reflection on our nation. It was certainly seen that way by the French and other football-team supporters who were present. So, it has been a very, very positive story that we need to build on. One way in which I think we can do that, perhaps, Dirprwy Lywydd, is to revive our Welsh Assembly football team. Somebody mentioned the rugby team earlier. Well, we did have a football team and we did play the Scottish Parliament, Westminster and the Northern Ireland Assembly, and, indeed, we won the tournament on at least one occasion. So, perhaps we can revive that with some of the new, younger membership that we've had at the last election, and show a good example. Can I also say, Dirprwy Lywydd, that in Newport, as I mentioned earlier, I believe we are doing some good things around physical activity? It does include football and the local sports clubs, and it's about pulling everyone together: the health sector, the leisure trust, the local authority, the sports clubs, Natural Resources Wales, Newport City Homes, and a number of others as well, to work on how we can get our local population more physically active. I know that Welsh Government, as the Minister said earlier, is supporting these efforts and will support these efforts, and I look forward to working in partnership with Welsh Government in terms of those local endeavours. Finally, Dirprwy Lywydd, when it comes to the legacy that the motion also rightly mentions, it is difficult to build a lasting legacy, but this is a great opportunity, isn't it, because it took us so long to qualify? But not only are we finally there in France, but we have performed very, very well indeed, and I hope, as everybody else does, that we can build on that and go forward to the knockout stages. But what we found locally in terms of the efforts that I mentioned in Newport is that some clubs are ambitious to grow - not all, but some are ambitious to grow - and those clubs need support if we are to build on the legacy. Sometimes it's legal advice, sometimes it's accountancy help, sometimes it's helping setting up a trust or a charity; but I do believe that we need Sport Wales to step up to the plate, and local authorities and leisure trusts to step up to the plate, to identify the clubs that are ambitious locally and to enable them to grow and develop. They will provide opportunities for the areas, as people mentioned, that are currently missing out in terms of deprivation, and also for girls, ethnic minorities and people with disabilities. If we give them the support, they will deliver on the ambitions that we all have.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn sicr, roedd yn gamp aruthrol i dîm pêl-droed Cymru ennill ei le yn rowndiau terfynol Ewro 2016 ar ôl sawl degawd o aros, a dyna'n union sut y teimlai yn Bordeaux ddydd Sadwrn. Roeddwn yn ddigon ffodus i fod yno gydag Aelodau eraill o bob un o'r pleidiau, ac rwy'n meddwl y gallaf ddweud ar ran pob un ohonom, ddirprwy Lywydd, fod y ffordd y perfformiodd tîm pêl-droed Cymru ar ac oddi ar y cae a'r modd y gwnaeth y cefnogwyr ymddwyn yn hollol wych ac yn adlewyrchiad gwych ar ein cenedl. Yn sicr roedd y Ffrancwyr a chefnogwyr timau pêl-droed eraill a oedd yn bresennol yn credu hynny. Felly, mae wedi bod yn stori gadarnhaol tu hwnt sy'n rhaid i ni adeiladu arni. Un ffordd y credaf y gallwn wneud hynny, efallai, ddirprwy Lywydd, yw adfywio tîm pêl-droed ein Cynulliad. Soniodd rhywun am y tîm rygbi yn gynharach. Wel, roedd gennym dîm pêl-droed ac fe chwaraeasom yn erbyn Senedd yr Alban, San Steffan a Chynulliad Gogledd Iwerddon, ac yn wir, enillasom y twrnament ar o leiaf un achlysur. Felly, efallai y gallwn adfer hynny gyda rhai o'r aelodau newydd iau a gawsom yn yr etholiad diwethaf, a dangos esiampl dda. A gaf fi ddweud hefyd, ddirprwy Lywydd, fy mod yn credu ein bod, yng Nghasnewydd, fel y soniais yn gynharach, yn gwneud rhai pethau da mewn perthynas â gweithgarwch corfforol? Mae'n cynnwys pêl-droed a'r clybiau chwaraeon lleol, ac mae'n ymwneud â thynnu pawb at ei gilydd: y sector iechyd, yr ymddiriedolaeth hamdden, yr awdurdod lleol, clybiau chwaraeon, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cartrefi Dinas Casnewydd, a nifer o gyrff eraill yn ogystal, i weithio ar sut y gallwn gael ein poblogaeth leol i wneud mwy o ymarfer corff. Gwn fod Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd y Gweinidog yn gynharach, yn cefnogi'r ymdrechion hyn ac y bydd yn cefnogi'r ymdrechion hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar yr ymdrechion lleol hynny. Yn olaf, ddirprwy Lywydd, o ran yr etifeddiaeth y mae'r cynnig yn gywir i sôn amdano hefyd, mae'n anodd adeiladu etifeddiaeth barhaol, ond dyma gyfle gwych, onid e, gan iddi gymryd cyhyd i ni fynd drwodd? Ond nid yn unig ein bod yno o'r diwedd yn Ffrainc, rydym hefyd wedi perfformio'n eithriadol o dda yn wir, ac rwy'n gobeithio, fel pawb arall, y gallwn adeiladu ar hynny a mynd ymlaen i'r rowndiau bwrw allan. Ond yr hyn a welsom yn lleol o ran yr ymdrechion a grybwyllais yng Nghasnewydd yw bod gan rai clybiau uchelgais i dyfu - nid pob un, ond mae gan rai uchelgais i dyfu - ac mae angen cefnogaeth ar y clybiau hynny os ydym am adeiladu ar yr etifeddiaeth. Weithiau mae'n golygu cyngor cyfreithiol, weithiau mae'n golygu cymorth gyda chyfrifyddiaeth, weithiau mae'n golygu helpu i sefydlu ymddiriedolaeth neu elusen; ond rwy'n credu bod arnom angen i Chwaraeon Cymru ymateb i'r her, ac i awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau hamdden ymateb i'r her, a nodi'r clybiau sy'n uchelgeisiol yn lleol a'u galluogi i dyfu a datblygu. Byddant yn darparu cyfleoedd, fel y mae pobl wedi sôn, ar gyfer ardaloedd sydd ar eu colled ar hyn o bryd o ran amddifadedd, a hefyd ar gyfer merched, lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Os rhown gefnogaeth iddynt, byddant yn cyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym i gyd.
Thank you. I'd like to thank Members for what I think has been a really constructive and helpful debate this afternoon. It gives me great pleasure to begin by joining Members in applauding the success of our men's senior national football team, both in qualifying for a major tournament and in showing the world how sport can unite a nation. It's a tremendous achievement and it shows how the whole squad has worked for each other and has been galvanised by the leadership of their manager, Chris Coleman. The European championship is one of the world's highest-profile sporting events, with an aggregated TV audience of 1.9 billion for 2012. That sort of global audience will help raise the profile of Wales not just as a sporting nation but also as a small country where working together to achieve common goals continues to mean that we surpass both our own and others' expectations. Football is immensely popular in Wales, and, recognising this, the Welsh Government provides financial support to the development of the game at grass-roots level. This work is driven forward by the Welsh Football Trust, who have made significant progress over the last few years. There are now 105,000 registered football players across Wales, including 5,000 women and 800 disabled players. The Welsh Football Trust is working to use the European championships as a catalyst to stimulate young people to take part in football. This is very much using the momentum that Joyce Watson and Angela Burns have described in their contributions. The trust has established a first-class coaching infrastructure, attracting coaches from right across the world. They provide 4,000 training opportunities each year, and Wales is the first nation to provide coach education online. Many young players will have been inspired by the current team, and establishing this sort of infrastructure will help develop our more talented players, no matter where they are or where they live. I listened carefully to Suzy Davies's contribution, and that of Angela Burns, because I certainly don't want to see talent being lost or opportunities unavailable purely because the young people might live in a rural area. Major sporting events can provide good opportunities to drive home messages about being more physically active and the benefits that this can bring. For example, mass participation events, such as the world half marathon and that long list recited to us by Russell George, provide us with high-profile platforms for promoting healthy lifestyles. We continue to work closely with Sport Wales and national governing bodies to exploit these kinds of opportunities for encouraging more people to take part in sport and physical activity more often. They also provide our talented sportsmen and women with valuable opportunities to compete against the world's best on home soil, and opportunities to qualify for the Commonwealth, Olympic and Paralympic Games. It's clear that sport is a huge part of Welsh culture and certainly helps define us as a nation. However, the value of sport goes beyond personal enjoyment and fulfilment; it's a very powerful tool that can help us achieve some ambitious goals. One area of concern that is a challenge to Governments around the world is the slow but steady increase of the levels of overweight and obesity amongst the adult population. The recent figures released for 2015 from the Welsh health survey showed that 59 per cent of adults were overweight or obese, compared to 54 per cent in 2003-04. Levels also increased with deprivation, and they ended as highest in middle age. We know that lifestyle changes don't happen overnight and we have to continue to support our adult population to be healthier. However, it is reassuring that the majority of children maintain a healthy weight. Recent data from the child measurement programme show that prevalence of reception-age children being overweight and obese in Wales is stable, with 72.9 per cent being of a healthy weight. This is important as we know that early-life behaviours may track into adulthood and influence weight in later life. So, this healthy majority is an encouraging sign for future generations. In the same way, adults are more likely to be physically active if it becomes part of their lives before the age of seven. The Sport Wales school sports survey shows the number of children and young people regularly taking part in sport is now at 48 per cent, up from 27 per cent in 2011. So, we are making progress, but there is more to do. As Dr Dai Lloyd and Mohammad Asghar reminded us, the evidence is clearly there, demonstrating that addressing obesity can play a significant role in reducing the prevalence and impact of cardiovascular disease, diabetes, dementia and some forms of cancer, as well as helping with overall improvements in physical and mental health. Gareth Bennett was right to talk about the cost saving that is available to us if we address this. Our manifesto made clear our commitment to tackle this issue through increasing levels of physical activity and improving our diet. Education to inform better choices, free swimming, increased active travel, limiting the amount and availability of unhealthy food in key settings, ensuring that children and young people understand the consequences of poor lifestyle choices, and increasing rates of breast feeding are just some of the things that we are putting in place to support our population at many levels. Other developments include Public Health Wales's close collaborative working with health boards to develop effective early years intervention, using concepts from the '10 Steps to a Healthy Weight' programme. Sport Wales, Public Health Wales and the Welsh Government will continue to jointly fund a physical activity director, who has produced a new physical activity action plan. This plan is currently being considered by all three bodies, and I look forward to seeing the final draft soon. I intend to take time over the summer to consider the document and to discuss it with our key stakeholders, with a view to launching it in September. The background to this debate is our involvement in one of football's biggest competitions. I'm sure that all Members will support me in wishing Chris Coleman, the players, the support staff and the FAW the very best of luck. It's a fantastic time to be a Welsh football fan and an exciting time to be a Minister with responsibility for sport. No-one here will need reminding that Wales play England tomorrow, and it promises to be a very exciting game. I'm grateful for the First Minister's intervention with the French authorities regarding the safety of our fans during the rest of the tournament. Keeping our people safe is our first priority, and I'm sure that the increased security being put in place will mean that our fans will continue to act as the great ambassadors for Wales that John Griffiths spoke of, and will have a safe and enjoyable experience. Diolch yn fawr.
Diolch. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am yr hyn a fu'n ddadl wirioneddol adeiladol a defnyddiol y prynhawn yma yn fy marn i. Mae'n rhoi pleser mawr i mi ddechrau drwy ymuno â'r Aelodau i ganmol llwyddiant tîm pêl-droed cenedlaethol ein dynion, ar ennill eu lle mewn pencampwriaeth fawr ac am ddangos i'r byd sut y gall chwaraeon uno cenedl. Mae'n gamp aruthrol ac mae'n dangos sut y mae'r garfan gyfan wedi gweithio gyda'i gilydd ac wedi'i symbylu gan arweinyddiaeth eu rheolwr, Chris Coleman. Mae'r bencampwriaeth Ewropeaidd yn un o'r digwyddiadau chwaraeon sydd â'r proffil mwyaf yn y byd, gyda chynulleidfa deledu gyfanredol o 1.9 biliwn yn 2012. Bydd cynulleidfa fyd-eang o'r fath yn helpu i wella proffil Cymru, nid yn unig fel cenedl chwaraeon ond hefyd fel gwlad fach lle mae cydweithio i gyflawni nodau cyffredin yn parhau i olygu ein bod yn rhagori ar ein disgwyliadau ein hunain ac eraill. Mae pêl-droed yn hynod o boblogaidd yng Nghymru, ac i gydnabod hyn, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol i ddatblygu'r gêm ar lawr gwlad. Caiff y gwaith hwn ei yrru ymlaen gan Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, sydd wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn ceir 105,000 o chwaraewyr pêl-droed cofrestredig ar draws Cymru, gan gynnwys 5,000 o fenywod ac 800 o chwaraewyr anabl. Mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn gweithio i ddefnyddio'r pencampwriaethau Ewropeaidd fel catalydd i ysgogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn pêl-droed. Mae hon yn enghraifft amlwg o ddefnyddio'r momentwm y mae Joyce Watson ac Angela Burns wedi'i ddisgrifio yn eu cyfraniadau. Mae'r ymddiriedolaeth wedi sefydlu seilwaith hyfforddi o'r radd flaenaf, gan ddenu hyfforddwyr o bob rhan o'r byd. Maent yn darparu 4,000 o gyfleoedd hyfforddi bob blwyddyn, a Chymru yw'r wlad gyntaf i ddarparu addysg ar-lein i hyfforddwyr. Bydd llawer o chwaraewyr ifanc wedi cael eu hysbrydoli gan y tîm cyfredol, a bydd sefydlu'r math hwn o seilwaith yn helpu i ddatblygu ein chwaraewyr mwy talentog, ble bynnag y maent neu ble bynnag y maent yn byw. Gwrandewais yn ofalus ar gyfraniad Suzy Davies, ac un Angela Burns, oherwydd yn sicr nid wyf am weld talent yn cael ei golli neu gyfleoedd heb fod ar gael a hynny'n unig am fod y bobl ifanc yn byw mewn ardal wledig. Gall digwyddiadau chwaraeon mawr ddarparu cyfleoedd da i gyfleu negeseuon ynglŷn â gwneud mwy o ymarfer corff a'r manteision y gallai hyn eu creu. Er enghraifft, mae digwyddiadau cyfranogaeth dorfol, megis hanner marathon y byd a'r rhestr hir a roddodd Russell George i ni, yn cynnig llwyfannau proffil uchel ar gyfer hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Chwaraeon Cymru a chyrff llywodraethu cenedlaethol i fanteisio ar y mathau hyn o gyfleoedd i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy aml. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i'n pobl ddawnus ym maes chwaraeon allu cystadlu yn erbyn goreuon y byd gartref, a chyfleoedd i fynd drwodd i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd. Mae'n amlwg fod chwaraeon yn rhan enfawr o ddiwylliant Cymru ac yn sicr yn helpu i'n diffinio fel cenedl. Fodd bynnag, mae gwerth chwaraeon mynd y tu hwnt i fwynhad a boddhad personol; mae'n arf pwerus iawn a all ein helpu i gyflawni nodau uchelgeisiol. Un testun pryder sy'n her i Lywodraethau o gwmpas y byd yw'r cynnydd araf ond cyson yn lefelau gorbwysau a gordewdra ymysg y boblogaeth sy'n oedolion. Dangosodd y ffigurau diweddar a ryddhawyd ar gyfer 2015 o arolwg iechyd Cymru fod 59 y cant o oedolion dros bwysau neu'n ordew, o'i gymharu â 54 y cant yn 2003-04. Roedd y lefelau hefyd yn codi gyda lefelau amddifadedd, ac roeddent ar eu huchaf ymhlith pobl ganol oed. Gwyddom nad yw newid ffordd o fyw yn digwydd dros nos ac mae'n rhaid i ni barhau i gynorthwyo ein poblogaeth sy'n oedolion i fod yn iachach. Fodd bynnag, mae'n galonogol fod y rhan fwyaf o blant yn cynnal pwysau iach. Mae data diweddar o'r rhaglen mesur plant yn dangos bod nifer yr achosion o blant oedran derbyn sydd dros bwysau ac yn ordew yng Nghymru yn sefydlog, gyda 72.9 cant yn cynnal pwysau iach. Mae hyn yn bwysig gan ein bod yn gwybod y gall patrymau ymddygiad cynnar mewn bywyd barhau wrth dyfu'n oedolyn a dylanwadu ar bwysau yn ddiweddarach mewn bywyd. Felly, mae'r mwyafrif hwn sy'n iach yn arwydd calonogol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn yr un modd, mae oedolion yn fwy tebygol o wneud mwy o ymarfer corff os daw'n rhan o'u bywydau cyn iddynt gyrraedd saith oed. Mae arolwg chwaraeon ysgolion Chwaraeon Cymru yn dangos bod nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd bellach yn 48 y cant, i fyny o 27 y cant yn 2011. Felly, rydym yn gwneud cynnydd, ond mae mwy i'w wneud. Fel y mae Dr Dai Lloyd a Mohammad Asghar wedi ein hatgoffa, mae'r dystiolaeth yn amlwg yno, gan ddangos y gall mynd i'r afael â gordewdra chwarae rôl sylweddol yn lleihau effeithiau a nifer yr achosion o glefyd cardiofasgwlaidd, diabetes, dementia a rhai mathau o ganser, yn ogystal â helpu i wella iechyd corfforol a meddyliol yn gyffredinol. Roedd Gareth Bennett yn iawn i sôn am y gost sy'n cael ei harbed i ni os awn i'r afael â hyn. Roedd ein maniffesto yn dangos yn glir ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r mater hwn drwy gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a gwella ein diet. Rhai yn unig o'r pethau y gallwn eu rhoi ar waith yw addysg i lywio dewisiadau gwell, nofio am ddim, mwy o deithio llesol, cyfyngu ar faint ac argaeledd bwyd afiach mewn lleoliadau allweddol, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall canlyniadau dewisiadau ffyrdd o fyw llai iach, a chyfraddau cynyddol o fwydo ar y fron er mwyn cynorthwyo ein poblogaeth ar sawl lefel. Mae datblygiadau eraill yn cynnwys cydweithio agos rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd i ddatblygu ymyrraeth effeithiol yn y blynyddoedd cynnar, gan ddefnyddio cysyniadau o'r rhaglen '10 Cam i Bwysau Iach'. Bydd Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn parhau i gydariannu cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol, sydd wedi llunio cynllun gweithredu newydd ar weithgarwch corfforol. Mae'r cynllun hwn yn cael ei ystyried gan y tri chorff ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen at weld y drafft terfynol cyn bo hir. Rwy'n bwriadu rhoi amser dros yr haf i ystyried y ddogfen a'i thrafod gyda'n rhanddeiliaid allweddol, gyda golwg ar ei lansio ym mis Medi. Y cefndir i'r ddadl hon yw ein hymwneud yn un o'r cystadlaethau pêl-droed mwyaf. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn fy nghefnogi wrth i mi ddymuno pob lwc i Chris Coleman, y chwaraewyr, y staff cefnogi a'r FAW. Mae'n amser gwych i fod yn gefnogwr pêl-droed yng Nghymru ac yn amser cyffrous i fod yn Weinidog â chyfrifoldeb dros chwaraeon. Ni fydd angen atgoffa neb yma fod Cymru yn chwarae Lloegr yfory, ac mae'n argoeli i fod yn gêm gyffrous iawn. Rwy'n ddiolchgar am ymyrraeth y Prif Weinidog gydag awdurdodau Ffrainc ynglŷn â diogelwch ein cefnogwyr yn ystod gweddill y bencampwriaeth. Cadw ein pobl yn ddiogel yw ein blaenoriaeth gyntaf, ac rwy'n siŵr y bydd y mesurau diogelwch gwell a roddir ar waith yn golygu y bydd ein cefnogwyr yn parhau i weithredu fel llysgenhadon gwych dros Gymru fel y soniodd John Griffiths, ac yn cael profiad diogel a phleserus. Diolch yn fawr.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Could I thank the Minister for responding to the debate and thank everyone who has participated in the debate this afternoon, and wish the Minister well in her new portfolio? We have had a series of debates this afternoon. Obviously, we have had the European debate as the backbench debate, and we're going to have the Wales Bill debate after this. Actually, if you look at some of the pressures in this debate - public health, the diabetes time bomb and also the important role that sports play in driving economic development in parts of Wales - many of the features that sit in this debate are critical to many communities the length and breadth of Wales. Whilst there is a lot of motherhood and apple pie in this - in particular, wishing the Welsh team well, as we all do, standing shoulder to shoulder with them, and hoping for a good performance tomorrow on the field and ultimately moving through to the next round - it is vital that we make sure that we look at all the other issues that are contained in this debate. As Dr Dai Lloyd touched on, public health messaging is of vital importance. Yesterday, with it being National Diabetes Week, the awareness around what we can do as individuals for our own personal health and public health is a vital component in actually reducing the pressures on the national health service. Figures were brought out by Mohammad Asghar about diabetes, that if we don't take action by 2025, there will be 300,000 people diagnosed with type 2 diabetes in Wales. That's nine years away. At the moment, that figure stands at - and this is a pretty astonishing figure in itself - 185,000. That's type 2. There is type 1 on top of that as well, so that's not all diabetes. Those figures will present a huge challenge to the health service to meet and to work with people to manage that condition. Sport will play a vital role in actually getting people fitter and healthier. For my sins, I still play veterans' rugby for the Assembly. Any one of the new Members who have come here this session, we would welcome you to come along to any of the matches that we will be playing. [Interruption.] I'll keep my shirt on next time I am playing, thank you, Darren. [Laughter.] I think I traumatised the politics award in Cardiff in December. But, actually, from what Suzy Davies was saying about her husband Geraint and all the memorabilia he has from his playing days, as well as obviously offering vital coaching experience, it did remind me of some of the memorabilia I have from my sporting days. We went on holiday on the Whitsun week, and I was told to find my bathing shorts, and, actually, I found a pair of Speedos - I wouldn't want to give you that thought - and I was told in no uncertain terms by my 14-year-old daughter that if I took those on holiday, I certainly wouldn't be having her with me on holiday as well then. But, in midlife, we are all of a different disposition, shall we say, to when we were 18, 19, 20, but, actually, sport shouldn't be held back because of our age, as Angela Burns touched on. It is vital that all sections of society feel that if they want to participate in sport, whether that's - [Interruption.] I'll take an intervention.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ymateb i'r ddadl a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, a dymuno'n dda i'r Gweinidog yn ei phortffolio newydd? Rydym wedi cael cyfres o ddadleuon y prynhawn yma. Yn amlwg, cawsom y ddadl Ewropeaidd fel dadl y meinciau cefn, ac rydym yn mynd i gael y ddadl ar Fil Cymru ar ôl hyn. Mewn gwirionedd, os edrychwch ar rai o'r pwysau yn y ddadl hon - iechyd y cyhoedd, bom amser diabetes a hefyd y rôl bwysig y mae chwaraeon yn ei chwarae yn sbarduno datblygiad economaidd mewn rhannau o Gymru - mae llawer o'r nodweddion yn y ddadl hon yn hollbwysig i lawer o gymunedau ar hyd a lled Cymru. Er bod llawer o hyn yn amlwg yn dda - yn enwedig dymuno'n dda i dîm Cymru, fel rydym i gyd yn ei wneud, gan sefyll ysgwydd yn ysgwydd â hwy, a gobeithio am berfformiad da yfory ar y cae a mynd ymlaen yn y pen draw i'r rownd nesaf - mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau ein bod yn edrych ar yr holl faterion eraill sydd wedi'u cynnwys yn y ddadl hon. Fel y crybwyllodd Dr Dai Lloyd, mae negeseuon iechyd y cyhoedd yn hanfodol bwysig. Ddoe, gan ei bod yn Wythnos Diabetes Cenedlaethol, mae'r ymwybyddiaeth ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud fel unigolion dros ein hiechyd personol ac iechyd y cyhoedd yn elfen hanfodol wrth fynd ati i leihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd gwladol mewn gwirionedd. Cyflwynodd Mohammad Asghar ffigurau ar ddiabetes, ac os na fyddwn yn cymryd camau erbyn 2025, bydd 300,000 o bobl wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2 yng Nghymru. Naw mlynedd sydd yna tan hynny. Ar hyn o bryd, mae'r ffigur yn - ac mae hwn yn ffigwr eithaf syfrdanol ynddo'i hun - 185,000. Dyna ddiabetes math 2. Mae math 1 ar ben hynny hefyd, felly nid dyna'r holl achosion o ddiabetes. Bydd y ffigurau hynny'n her enfawr i'r gwasanaeth iechyd fynd i'r afael â hi a gweithio gyda phobl i reoli'r cyflwr hwnnw. Bydd chwaraeon yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o wneud pobl yn fwy heini ac yn iachach. Am fy mhechodau, rwy'n dal i chwarae rygbi hŷn dros y Cynulliad. Unrhyw un o'r Aelodau newydd sydd wedi dod yma y tymor hwn, byddem yn eich gwahodd i ddod draw i unrhyw un o'r gemau y byddwn yn eu chwarae. [Torri ar draws.] Byddaf yn cadw fy nghrys amdanaf y tro nesaf rwy'n chwarae, diolch i chi, Darren. [Chwerthin.] Rwy'n credu fy mod wedi peri trawma adeg y wobr wleidyddiaeth yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr. Ond mewn gwirionedd, o'r hyn roedd Suzy Davies yn ei ddweud am ei gŵr Geraint a'r holl femorabilia sydd ganddo o'i ddyddiau chwarae, yn ogystal â chynnig profiad hyfforddi hanfodol wrth gwrs, roedd yn fy atgoffa o beth o'r memorabilia sydd gennyf o fy nyddiau chwarae i. Aethom ar wyliau wythnos y Sulgwyn, a dywedwyd wrthyf am ddod o hyd i fy nhrowsus nofio, ac mewn gwirionedd, deuthum o hyd i bâr o Speedos - ni fyddwn yn awyddus i roi'r darlun hwnnw i chi - a dywedodd fy merch 14 oed wrthyf yn bendant iawn os oedd y rheini'n dod gyda mi ar wyliau, yna'n sicr ni fyddai hi'n dod ar wyliau hefyd. Ond yn ganol oed, rydym i gyd yn wahanol, ddywedwn ni, i pan oeddem yn 18, 19, 20, ond mewn gwirionedd, ni ddylai chwaraeon gael ei gadw rhagom oherwydd ein hoed, fel y soniodd Angela Burns. Mae'n hanfodol fod pob rhan o gymdeithas yn teimlo, os ydynt am gymryd rhan mewn chwaraeon, boed yn - [Torri ar draws.] Fe gymeraf ymyriad.
You've mentioned the relationship between age and sports participation. Would you agree with me that one of the best sports for intergenerational activities is actually crown green bowling, which, of course, is practised widely across north Wales - very little in the south? And, of course, there are some excellent facilities in the Deputy Presiding Officer's constituency in the town of Rhyl. Do you agree with me that the Welsh Government ought to take action to promote crown green bowling as one of those intergenerational sports that can get people active?
Rydych wedi sôn am y berthynas rhwng oed a'r nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon. A fyddech yn cytuno mai un o'r chwaraeon gorau fel gweithgaredd sy'n pontio'r cenedlaethau mewn gwirionedd yw bowlio lawnt goron, sydd, wrth gwrs, yn cael ei chwarae'n eang ar draws gogledd Cymru - ac ychydig iawn yn y de? Ac wrth gwrs, mae yna gyfleusterau ardderchog yn etholaeth y Dirprwy Lywydd yn nhref y Rhyl. A ydych yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru roi camau ar waith i hybu bowlio lawnt goron fel un o'r chwaraeon hynny sy'n pontio'r cenedlaethau a all gael pobl i wneud rhagor o ymarfer corff?
I certainly do, and I'd agree entirely with the Member making the case for crown green bowling. In Dinas Powys, for example, in Cowbridge, there are very good teams for bowling, both intergenerational teams and men and women playing as well, and, ultimately, it was a real pleasure at the Commonwealth Games to go along to Dinas Powis Bowling Club, who were hosting the New Zealand team, who were hosting the Irish team, as well as the Welsh team practising there ahead of the Commonwealth Games. And so, there's a rich tradition across the length and breadth of Wales that we can look at. But the important thing here, as many Members have highlighted, is the interdependency between the health service and sport and the ability for health to be radically improved and transformed, and that's why, in our debate, we've called on the Welsh Government to actually work with the governing bodies - not just the glamour governing bodies that have the big infrastructure, but those for some of the lesser sports as well that, ultimately, can raise significant funding through applications to the lottery, for example, or just donations from the communities themselves, to provide those assets in the community. Because, again, the point that came over from Angela Burns was that if you live in a rural environment and you only have the one car in the family, very often, understandably, that car is allocated to getting to work and getting back from work, rather than maybe attending that after-school club. I was really heartened by the Minister saying that she would look into this particular aspect of school transport, after-school transport, to allow greater participation levels, because it is a big obstacle, especially when you look at the demographics on the socioeconomic scale. Obviously, sadly, the poorer households in Wales, regrettably, do have the lower participation levels in sport, and that's a vital area that we do need because, obviously, if you look then at the health statistics, the health statistics show that the incidences of cancer, heart disease, et cetera actually do have a far higher percentage in those communities. Gareth Bennett was touching on the legacy issues. Obviously, we're all well aware of the legacy issues around the London Olympics, but, ultimately, unless those are carried through, the host areas very often find that their budgets get hit, because once the glamour event has moved out of town, very often the debts have to be met and debts have to be paid. And so, the legacy of any major event, obviously Cardiff next year is hosting the Champions League final, for example, and, hopefully, the Welsh Government will be working with other governing bodies to bring forward a Commonwealth bid for 2026, which I know has been spoken about in this Chamber, and those legacy issues are really important to make sure that it's not just a bandwagon that comes into town over the weeks and months that it's held, a big splash, and then, ultimately, a year or two down the road, the health indices and the participation levels disappear. It was disappointing to have a sports debate without Mike Hedges offering his insight into football. I do feel we've definitely been missing something this afternoon, because, obviously, Mike has a great insight into this from his former playing days. But, in this debate today, whilst there is a bit of fun to be had, there is a serious message to be delivered. If you look at cancer rates amongst women in particular, they have seen the highest increase over the last 10 years, especially in that 65 to 69 bracket, where they have gone up dramatically by 57 per cent. That is a huge increase, and, ultimately, in the question I put to the Minister in ministerial questions today, we know that when it comes to women, they lag behind men in participating in sports. Ultimately, in Wales, the gap is about 100,000; across the UK it's 2 million people. I do implore the Welsh Government to actually look at the programme that I touched on with them, the This Girl Can programme, to try and incorporate that into its policies and into its proposals. But sadly, in the last budget round, it is a fact that the Welsh Government, for its sports initiatives, did cut the budget by 7 per cent. So, if we are to actually make a difference here, whilst it's not just money related, it does have to be working with the governing bodies and delivering for communities. As the health Minister in his response to questions this afternoon made clear, it is about the priorities. The Government has a limited amount of money, I accept that, but you can talk in this Chamber all you want; unless you're prepared to put some resource behind it, then it's going to be difficult to deliver those projects and programmes. Clearly, with a 7 per cent cut in the budget last year, the last Welsh Government didn't see this as a key line to deliver. I will deliver the final point, if I may: we need to look at young people and children. If you actually look at participation levels in primary schools, which was identified by some speakers earlier, regrettably over the last 10 years participation levels at schools have declined dramatically in Wales. A quarter of an hour per week has been taken out of physical activity in schools, going from 115 minutes on average down to 101 minutes. That's the direction of travel. The direction of travel, as I highlighted in public health, is sadly that many of the conditions are spiralling out of control, and at the other end of the spectrum, participation levels in sport are declining in many of our communities. We need to link up and get it joined up and deliver a coherent strategy, and I do hope that the new Minister will do that, and be more successful than her predecessors, and that's why I urge support for the motion before the Assembly this afternoon.
Yn bendant, a byddwn yn cytuno'n llwyr gyda'r Aelod yn cyflwyno'r achos dros fowlio lawnt goron. Yn Ninas Powys, er enghraifft, yn y Bont-faen, ceir timau bowlio da iawn, gyda thimau sy'n pontio'r cenedlaethau a dynion a menywod yn chwarae hefyd, ac yn y pen draw, adeg Gemau'r Gymanwlad roedd yn bleser go iawn cael mynd i Glwb Bowlio Dinas Powys, lle'r oedd tîm Seland Newydd, lle roedd y tîm Gwyddelig, yn ogystal â bod tîm Cymru yn ymarfer yno cyn Gemau'r Gymanwlad. Ac felly, mae yna draddodiad cyfoethog ar hyd a lled Cymru y gallwn edrych arno. Ond y peth pwysig yma, fel y mae nifer o'r Aelodau wedi nodi, yw'r gyd-ddibyniaeth rhwng y gwasanaeth iechyd a chwaraeon a'r gallu i wella iechyd a'i drawsnewid yn sylweddol, a dyna pam rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn ein dadl i fynd ati i weithio gyda'r cyrff llywodraethu - nid y cyrff llywodraethu atyniadol sydd â'r seilwaith mawr, ond y cyrff ar gyfer rhai o'r chwaraeon llai hefyd, yn y pen draw, sy'n gallu codi arian sylweddol drwy geisiadau i'r loteri, er enghraifft, neu roddion gan y cymunedau eu hunain, er mwyn darparu'r asedau hyn yn y gymuned. Oherwydd, unwaith eto, y pwynt a wnaed yn glir gan Angela Burns oedd hwn: os ydych yn byw mewn amgylchedd gwledig ac nad oes gennych fwy nag un car yn y teulu, yn aml iawn, ac yn ddealladwy, caiff y car ei ddefnyddio ar gyfer mynd i'r gwaith ac yn ôl, yn hytrach na mynychu'r clwb ar ôl ysgol efallai. Cefais fy nghalonogi'n fawr gan y Gweinidog yn dweud y byddai'n edrych ar yr agwedd benodol hon o gludiant ysgol, cludiant ôl-ysgol, i ganiatáu i fwy o blant gymryd rhan, gan ei fod yn rhwystr mawr, yn enwedig os edrychwch ar ddemograffeg ar y raddfa economaidd-gymdeithasol. Yn amlwg, yn anffodus, mae'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ymhlith aelwydydd tlotach yng Nghymru, yn is, ac mae hwnnw'n faes hanfodol sydd ei angen arnom oherwydd, yn amlwg, os edrychwch wedyn ar yr ystadegau iechyd, mae'r ystadegau iechyd yn dangos bod canran lawer uwch o achosion o ganser, clefyd y galon, ac ati yn y cymunedau hynny mewn gwirionedd. Cyffyrddodd Gareth Bennett ar faterion yn ymwneud ag etifeddiaeth. Yn amlwg, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r materion etifeddiaeth mewn perthynas â Gemau Olympaidd Llundain, ond yn y pen draw, oni bai bod y rheini'n cael eu parhau, yn aml iawn mae'r ardaloedd lle y cynhelir y digwyddiadau yn gweld eu cyllidebau'n dioddef, oherwydd pan fydd y digwyddiad mawr wedi symud o'r dref, yn aml iawn rhaid talu'r dyledion. Ac felly, etifeddiaeth unrhyw ddigwyddiad mawr - yn amlwg mae Caerdydd yn cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y flwyddyn nesaf, er enghraifft, a bydd Llywodraeth Cymru, gobeithio, yn gweithio gyda chyrff llywodraethu eraill i gyflwyno cais am Gemau'r Gymanwlad yn 2026, a gwn ein bod wedi siarad am hyn yn y Siambr hon, ac mae'r materion hynny sy'n ymwneud ag etifeddiaeth yn bwysig iawn er mwyn gwneud yn siŵr nad sioe sy'n dod i'r dref dros yr wythnosau a'r misoedd y caiff ei chynnal yw hi, sblash mawr, ac yna, yn y pen draw, flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, mae'r mynegeion iechyd a'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn diflannu. Roedd yn siomedig ein bod wedi cael dadl ar chwaraeon heb Mike Hedges i gynnig ei ddealltwriaeth o bêl-droed. Rwy'n teimlo ein bod yn bendant wedi colli rhywbeth y prynhawn yma, oherwydd, yn amlwg, mae gan Mike ddealltwriaeth wych o hyn o'i ddyddiau fel chwaraewr. Ond yn y ddadl hon heddiw, er bod tipyn o hwyl i'w gael, mae yna neges ddifrifol i'w chyflwyno. Os edrychwch ar gyfraddau canser ymhlith menywod yn arbennig, dyna lle y gwelwyd y cynnydd mwyaf dros y 10 mlynedd diwethaf, yn enwedig ymhlith menywod 65-69 oed, lle mae'r cyfraddau wedi codi'n sylweddol, 57 y cant. Mae hwnnw'n gynnydd aruthrol, ac yn y pen draw, yn y cwestiwn a ofynnais i'r Gweinidog yn ystod y cwestiynau i'r gweinidogion heddiw, o ran menywod, gwyddom eu bod yn llusgo y tu ôl i'r dynion o ran y niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon. Yn y pen draw, yng Nghymru, mae'r bwlch oddeutu 100,000; ar draws y DU mae'n 2 filiwn o bobl. Rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y rhaglen a grybwyllais, y rhaglen This Girl Can, i geisio ymgorffori hynny yn ei pholisïau ac yn ei hargymhellion. Ond yn anffodus, yn y cylch cyllidebol diwethaf, mae'n ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi torri 7 y cant oddi ar ei chyllideb i'w mentrau chwaraeon. Felly, os ydym am wneud gwahaniaeth yma mewn gwirionedd, er nad yw'n ymwneud ag arian yn unig, mae'n rhaid iddo weithio gyda'r cyrff llywodraethu a darparu ar gyfer cymunedau. Fel y mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud yn glir yn ei ymateb i'r cwestiynau y prynhawn yma, mae'n ymwneud â'r blaenoriaethau. Swm cyfyngedig o arian sydd gan y Llywodraeth, rwy'n derbyn hynny, ond gallwch siarad faint a fynnwch yn y Siambr hon; oni bai eich bod yn barod i roi adnoddau y tu ôl i hyn, yna mae'n mynd i fod yn anodd cyflwyno'r prosiectau a'r rhaglenni hynny. Yn amlwg, gyda thoriad o 7 y cant yn y gyllideb y llynedd, nid oedd y Llywodraeth ddiwethaf yn gweld hon fel llinell allweddol i'w chyflenwi. Rwyf am gyflwyno'r pwynt olaf, os caf: mae angen i ni edrych ar bobl ifanc a phlant. Os edrychwch mewn gwirionedd ar y niferoedd sy'n cymryd rhan mewn ysgolion cynradd, a nodwyd hyn gan rai siaradwyr yn gynharach, yn anffodus dros y 10 mlynedd diwethaf mae'r niferoedd sy'n cymryd rhan yn yr ysgolion wedi gostwng yn ddramatig yng Nghymru. Mae chwarter awr yr wythnos wedi cael ei dynnu oddi ar weithgarwch corfforol mewn ysgolion, gan ostwng o 115 munud ar gyfartaledd i 101 munud. Dyna'r cyfeiriad teithio. Yn anffodus, y cyfeiriad teithio, fel y tynnais sylw ato ym maes iechyd y cyhoedd, yw bod nifer o'r amodau yn mynd allan o reolaeth, ac ar ben arall y sbectrwm, mae'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn gostwng yn llawer o'n cymunedau. Mae angen i ni gydgysylltu a'i gael yn gydlynus a chyflwyno strategaeth gydlynol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog newydd yn gwneud hynny, ac yn fwy llwyddiannus na'i rhagflaenwyr, a dyna pam rwy'n eich annog i gefnogi'r cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.
Thank you very much. The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] Okay, then I will defer voting under this item until voting time.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, felly rwy'n gohirio'r pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Let's move on, then, to item 7, which is the Plaid Cymru debate on the Wales Bill. I call on Steffan Lewis to move the motion. Steffan.
Gadewch i ni symud ymlaen, felly, at eitem 7, sef dadl Plaid Cymru ar Fil Cymru. Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig y cynnig. Steffan.