source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
Among Plaid Cymru's priorities in this Assembly will be pressing for real measures to tackle recruitment within the health service, as is reflected in the post-election compact. But will the First Minister acknowledge, along with me, in the meantime, the contribution made by health professionals from the European Union to dealing with the recruitment problem that we have in the health service at present, and the threat to that from the campaign to leave the European Union?
Ymhlith blaenoriaethau Plaid Cymru yn y Cynulliad yma bydd gwthio am fesurau gwirioneddol i daclo recriwtio o fewn y gwasanaeth iechyd, fel sy'n cael ei adlewyrchu, wrth gwrs, yn y cytundeb ar ôl yr etholiad. Ond a wnaiff y Prif Weinidog gydnabod, ynghyd â mi, yn y cyfamser, y cyfraniad sy'n cael ei wneud gan weithwyr iechyd proffesiynol o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd i ddelio â'r problemau recriwtio sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, a'r bygythiad i hynny gan yr ymgyrch i adael yr Undeb?
The Member is right to say that medicine and nursing is a global market; people travel the world with the qualifications that they have, and, of course, there are a number of nurses and doctors working in the NHS in Wales who come from other European Union countries or outwith the European Union, for example, the nurses in the hospital in Bridgend who come from the Philippines, very many of them. Without those people, we wouldn't have a health service in Wales, nor in the rest of the United Kingdom either. So, it's extremely important that no obstacles are placed in their way to stop them from coming to Wales or the rest of the United Kingdom, because it will the patients that will suffer.
Mae'r Aelod yn iawn i ddweud taw marchnad fyd-eang yw meddyginiaeth a nyrsio; mae pobl yn teithio ar draws y byd gyda'r cymwysterau sydd gyda nhw, ac, wrth gwrs, mae yna sawl doctor a nyrs sydd yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n dod o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd neu o'r tu fas i'r Undeb Ewropeaidd, er enghraifft y nyrsys yn yr ysbyty ym Mhen-y-bont sy'n dod o'r Philippines, lot fawr ohonyn nhw. Heb y bobl hynny, ni fyddai gwasanaeth iechyd gyda ni yng Nghymru nac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae'n bwysig dros ben nad oes yna rwystr yn cael ei rhoi o'u blaenau nhw fel eu bod nhw'n ffaelu dod i Gymru nac i weddill y Deyrnas Unedig, achos y cleifion fydd yn dioddef o achos hynny.
First Minister, I received a letter from one of my constituents who is a health worker who's been working in the NHS for 19 years. He expresses his concerns about the Betsi Cadwaladr health board. He says the service is floundering for lack of strategic direction and he goes on to say the effect of this means that individuals are now burnt out and stepping aside or looking for early retirement. What is the Welsh Government going to do to fix this situation and to deliver the health service that the people of north Wales deserve?
Brif Weinidog, rwyf wedi derbyn llythyr oddi wrth un o fy etholwyr sy'n weithiwr iechyd sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG am 19 mlynedd. Mae'n mynegi ei bryderon am Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Mae'n dweud bod y gwasanaeth yn methu oherwydd diffyg cyfeiriad strategol ac mae'n mynd ymlaen i ddweud bod effaith hyn yn golygu bod y straen yn ormod i unigolion bellach a'u bod yn camu o'r neilltu neu'n chwilio am ymddeoliad cynnar. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i ddatrys y sefyllfa hon ac i ddarparu'r gwasanaeth iechyd y mae pobl y gogledd yn ei haeddu?
I think the Member's comments would have been fair at one time; I don't think they're fair now. We obviously put Betsi Cadwaladr into special measures. We know that there were problems -
Rwy'n credu y byddai sylwadau'r Aelod wedi bod yn deg ar un adeg; nid wyf yn credu eu bod yn deg nawr. Yn amlwg, fe roesom Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Rydym yn gwybod bod problemau -
They're not my comments; they're a constituent's comments.
Nid fy sylwadau i ydyn' nhw; sylwadau etholwr ydyn nhw.
I take what the Member says. I don't think the comments are correct now. We put Betsi Cadwaladr into special measures. We have seen significant improvements - ambulance times, for example, were one thing - in terms of the delivery of services in the area. And rightly so because it was quite clear to us at the time that the local health board was not delivering as it should - certainly it wasn't communicating with people as it should. The situation now I believe has improved markedly. But, nevertheless, it's important to take on board the comments of those who work in the health service in order to make sure that every possibility for improvement is being taken.
Rwyf yn derbyn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Nid wyf yn credu bod y sylwadau'n gywir bellach. Rhoesom Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol - amseroedd ambiwlans, er enghraifft, yn un peth - o ran darparu gwasanaethau yn yr ardal. Ac mae hynny'n briodol oherwydd roedd yn eithaf amlwg i ni ar y pryd nad oedd y bwrdd iechyd lleol yn cyflawni fel y dylai - yn sicr nid oedd yn cyfathrebu â phobl fel y dylai. Mae'r sefyllfa bellach, yn fy marn i, wedi gwella'n sylweddol. Ond, serch hynny, mae'n bwysig ystyried sylwadau y rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn achub ar bob cyfle i wella.
That guidance already exists. The regulators' code sets out good practice in how regulatory functions should be exercised, and local authorities are encouraged to act within the code.
Mae'r canllawiau hynny yn bodoli eisoes. Mae cod y rheoleiddwyr yn nodi arferion da yn y modd y dylid gweithredu swyddogaethau rheoleiddio, ac mae awdurdodau lleol yn cael eu hannog i weithredu o fewn y cod.
I thank the First Minister for that reply, but is he aware of the problems that have been faced by The Union pub in Tremadog in north Wales in my region where, having been closed for several months on account of flooding, over the bank holiday weekend, the landlady decided, because it was sunny, to put out tables and chairs for drinkers to drink outside, which was very successful. Unfortunately, a killjoy from Gwynedd county council came around and told her to remove the tables because, technically, they were on a highway. In fact, it's normally a car park. This is a prime example of the kind of heavy-handed actions that local authorities can take that discourage business and discourage wealth creation.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond a yw'n ymwybodol o'r problemau y mae tafarn yr Union yn Nhremadog yn eu hwynebu yn y gogledd yn fy rhanbarth i lle, ar ôl bod ar gau am sawl mis o ganlyniad i lifogydd, yn ystod penwythnos gŵyl y banc , penderfynodd y dafarnwraig, oherwydd ei bod yn heulog, y byddai'n rhoi byrddau a chadeiriau allan ar gyfer yfwyr i yfed y tu allan, ac roedd hyn yn llwyddiannus iawn. Yn anffodus, daeth surbwch o gyngor sir Gwynedd yno a dweud wrthi i gael gwared ar y byrddau oherwydd, yn dechnegol, eu bod ar briffordd. Mewn gwirionedd, maes parcio ydyw fel arfer. Mae hon yn enghraifft wych o'r math o gamau gweithredu llawdrwm y gall awdurdodau lleol eu cymryd sy'n atal busnesau ac sy'n atal pobl rhag creu cyfoeth.
I wasn't aware. I know where The Union is in Tremadog. [Laughter.] I know full well where The Union Inn is, but I must say he has caught me there in terms of the detail. I will write to him, of course. He raises an issue that is important to The Union Inn, I understand that - or indeed to any pub, and pubs have faced difficulty for many years because of changing habits. I will investigate the situation and I will, of course, provide a full answer to the Member.
Nid oeddwn i'n ymwybodol. Rwy'n gwybod ble Mae'r Union yn Nhremadog. [Chwerthin.] Rwy'n gwybod yn iawn ble mae tafarn yr Union, ond mae'n rhaid i mi ddweud ei fod wedi fy nal yn y fan yna o ran y manylion. Byddaf yn ysgrifennu ato, wrth gwrs. Mae'n codi mater sy'n bwysig i dafarn yr Union, rwyf yn deall hynny - neu yn wir i unrhyw dafarn, ac mae tafarndai wedi wynebu anhawster ers blynyddoedd lawer oherwydd bod arferion yn newid. Fe wnaf ymchwilio i'r sefyllfa, ac fe wnaf, wrth gwrs, roi ateb llawn i'r Aelod.
First Minister, regulatory services are, of course, a very important service and a valuable key area of local government - environmental health, trading standards, food safety, public protection, regulatory housing provisions, to name just some. But much of the new legislation passed in the last Assembly term has actually placed even more obligations on our departments and there's only 1 per cent of councils' spend on average being spent on these services across Wales on an annual basis. How will you work with the new Cabinet member for - Secretary for local government, Mark Drakeford, who I very much look forward to shadowing over this Assembly term - ? How will you work with him to make sure that our regulatory departments have the appropriate and adequate funding in order to keep our constituents across Wales actually safe?
Brif Weinidog, mae gwasanaethau rheoleiddio, wrth gwrs, yn wasanaeth pwysig iawn ac yn faes allweddol werthfawr o lywodraeth leol - iechyd yr amgylchedd, safonau masnach, diogelwch bwyd, diogelu'r cyhoedd, darpariaethau tai rheoleiddiol, i enwi dim ond rhai. Ond mae llawer o'r ddeddfwriaeth newydd a basiwyd yn nhymor diwethaf y Cynulliad, mewn gwirionedd, wedi rhoi hyd yn oed mwy o rwymedigaethau ar ein hadrannau a dim ond 1 y cant o wariant cynghorau ar gyfartaledd sy'n cael ei wario ar y gwasanaethau hyn ledled Cymru bob blwyddyn. Sut y byddwch chi'n gweithio gyda'r Aelod Cabinet newydd - yr Ysgrifennydd dros lywodraeth leol, Mark Drakeford, yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr at ei gysgodi dros dymor y Cynulliad hwn - ? Sut byddwch chi'n gweithio gydag ef i sicrhau bod ein hadrannau rheoleiddio yn cael cyllid priodol a digonol er mwyn cadw ein hetholwyr ledled Cymru yn wirioneddol ddiogel?
It won't come as a surprise to the Member when I say that I will work closely with the Cabinet Secretary for Finance and Local Government. And, of course, we will seek to provide local government with an appropriate level of funding, bearing in mind the level of funding we ourselves get from the UK Government.
Ni fydd yn syndod i'r Aelod pan ddywedaf y byddaf yn gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ac, wrth gwrs, byddwn yn ceisio darparu llywodraeth leol gyda lefel briodol o gyllid, gan gofio lefel y cyllid yr ydym ni ein hunain yn ei gael gan Lywodraeth y DU.
Ensuring that the Welsh language prospers in Wales remains a priority for the Welsh Government, and we will continue to deliver the priorities set out in the 'Bwrw Mlaen', with a focus on increasing people's use of the language. We also want to improve planning and develop the infrastructure through technology and standards and increasing Welsh language education also.
Mae sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru yn parhau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau, wrth gwrs, i weithredu'r blaenoriaethau a nodir yn 'Bwrw Mlaen', gyda ffocws ar gynyddu defnydd o'r iaith gan bobl, ynglŷn â sicrhau ein bod yn gwella cynllunio a datblygu'r seilwaith drwy dechnoleg a safonau a chynyddu addysg Gymraeg.
Thank you. I'm very pleased to hear that, but your manifesto did set a target of a million speakers by 2050 - I'm sure that you agree with that, and that is an excellent thing, and I congratulate you on setting such a target, which means that, 34 years hence, we will have doubled the number of Welsh speakers that we have at present, but how are you going to proceed to do that, what are the action points that you'll be taking, and on what exactly will you be focusing, and what is the timetable for that action? Would you agree with me that it appears to the public that the political ambition does not exist, bearing in mind that you have now moved the Welsh language out of the Cabinet? There is a Minister with responsibility for the Welsh language; I don't doubt his commitment and his passion for the Welsh language, but he's not centrally part of the Cabinet by now, and so one can be rather sceptical about this ambition by now. Do you agree with me about that, and how are you going to progress matters? How can you convince me that the Welsh language is a priority for this Government?
Diolch. Rwy'n falch o glywed hynny, ond roedd eich maniffesto chi yn gosod targed o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050 - rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno â hynny, ac mae hynny'n wych o beth, ac rwy'n eich longyfarch chi am osod y ffasiwn darged, sy'n golygu, 34 mlynedd o rŵan y bydd gennym ni ddwbl nifer y bobl sydd gennym ni ar hyn o bryd yn siarad Cymraeg, ond sut ydych chi'n mynd i symud ymlaen i wneud hynny, beth ydy'r camau gweithredol, ac ar beth yn union fyddwch chi'n canolbwyntio, a beth ydy'r amserlen ar gyfer y gweithredu? A fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n ymddangos i'r cyhoedd nad yw'r uchelgais gwleidyddol yno, o gofio eich bod chi, rŵan, wedi symud y Gymraeg allan o'r Cabinet? Mae yna Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg; nid wyf yn amau dim am ei ymroddiad o a'i arddeliad o ynglŷn â'r Gymraeg, ond nid yw, yn ganolog, yn rhan o'r Cabinet erbyn hyn, felly mae rhywun yn amheus o'r uchelgais yma erbyn hyn. A ydych chi'n cytuno efo fi ynglŷn â hynny a sut ydych chi'n mynd i symud pethau ymlaen? Sut ydych chi'n mynd i fy argyhoeddi i bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth yma?
The Welsh language is a priority for me as one who comes from an entirely Welsh-speaking family and one who has children attending a Welsh-medium school. Therefore, this is something that is prospering across Government, although there is a Minister that has individual responsibility for the language. There will be a full statement during Eisteddfod week on the details of how we are going to progress in this area. But, of course, we need to ensure that there is more Welsh-language education available. This is extremely important. In some parts of Wales, it is difficult to access Welsh-medium schools, particularly Welsh-medium comprehensives, which are occasionally a long way away from where people live. That needs to change in years to come, and that's why there are plans in place by local authorities to ensure that change is secured - and also to ensure that the new national centre, which will assist Welsh for adults to prosper, does work effectively. But there will be a full statement during August.
Mae'r Gymraeg yn flaenoriaeth i fi, wrth gwrs, fel rhywun sy'n dod o deulu sy'n hollol Gymraeg ei iaith a rhywun sydd â phlant mewn ysgol Gymraeg. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd yn ffynnu ar draws Llywodraeth, er bod yna Weinidog, wrth gwrs, sydd â chyfrifoldeb unigol dros yr iaith. Fe fydd yna ddatganiad cyflawn yn ystod wythnos yr Eisteddfod ynglŷn â'r manylion am ba ffordd rŷm ni'n mynd i symud ymlaen. Ond, wrth gwrs, mae sicrhau bod mwy o addysg Gymraeg ar gael yn bwysig dros ben. Mewn rhai mannau o Gymru, mae'n anodd i fynd i ysgolion Cymraeg, yn enwedig ysgolion cyfun Cymraeg, sydd, efallai, yn bell o ble mae pobl yn byw. Mae'n rhaid i hynny newid dros y blynyddoedd a dyna pam, wrth gwrs, mae cynlluniau gan awdurdodau lleol i sicrhau bod hynny'n digwydd - ac, wrth gwrs, i sicrhau bod canolfan genedlaethol newydd sydd yn mynd i helpu ffynnu Cymraeg i oedolion yn gweithredu'n effeithiol yn y pen draw. Ond fe fydd yna ddatganiad cyflawn yn ystod mis Awst.
Will the First Minister join me in giving good wishes to Tŷ'r Gwrhyd language centre in Pontardawe in my constituency, which has just been launched with significant from the Welsh Government? Does he agree that there is a fundamental role for language centres in developing the need in our communities for public and business services through the medium of Welsh?
A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ddymuno'n dda i ganolfan iaith Tŷ'r Gwrhyd ym Mhontardawe yn fy etholaeth i, sydd newydd lansio gyda buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru? A yw'n cytuno bod rôl sylfaenol i ganolfannau iaith i ddatblygu'r galw yn ein cymunedau am wasanaethau cyhoeddus a busnes wedi'u darparu trwy'r Gymraeg?
I very warmly welcome the opening of that centre - we've invested in it. Of course, the Swansea valley is an area that has gone from being a majority Welsh-speaking area to an area where the Welsh language tends to be spoken at the top of the valley - that has happened in a period of 30 years, which is a substantial decline in that time. It's very important that we ensure that the Welsh language is viable beyond Ystalyfera towards Ynysmeudwy and Pontardawe, and to Clydach and further afield, in order to ensure that the Welsh heritage of the area is revitalised.
Rwy'n croesawu'n fawr iawn agoriad y ganolfan ei hun - rydym wedi buddsoddi yn y ganolfan. Mae cwm Tawe yn ardal sydd wedi mynd o ardal a oedd yn ardal mwyafrif Cymraeg i ardal lle mae'r Gymraeg yn tueddu i gael ei siarad nawr ar ben y cwm - mewn 30 o flynyddoedd, byddwn i'n dweud, sy'n gwymp sylweddol. Mae'n bwysig dros ben, felly, ein bod yn gallu sicrhau bod yna fywoliaeth i'r Gymraeg islaw Ystalyfera tuag at Ynysmeudwy a Phontardawe, i lawr i Glydach ac ymhellach, er mwyn sicrhau bod yr etifeddiaeth Gymraeg yn yr ardal yn cael ei hailfywhau.
First Minister, according to the language use survey 2013-15 that was commissioned by your last Government, it was demonstrated that only about 50 per cent of people in Pembrokeshire thought that businesses were supportive of the language. Given this figure, what does your Government intend to do to ensure that businesses are given greater support to promote the Welsh language?
Brif Weinidog, yn ôl yr arolwg defnydd iaith 2013-15, a gomisiynwyd gan eich Llywodraeth ddiwethaf chi, dangoswyd mai dim ond rhyw 50 y cant o bobl yn sir Benfro, a ofynnwyd, a oedd yn credu bod busnesau'n gefnogol o'r iaith Gymraeg. Yn sgil y ffigwr yma, beth mae'ch Llywodraeth newydd chi'n bwriadu ei wneud i sicrhau bod busnesau'n cael mwy o gefnogaeth er mwyn hybu'r iaith Gymraeg?
A pilot project is taking place in the Teifi valley to ensure that businesses don't feel that it's too difficult to ensure that a Welsh-language service is provided, and also to demonstrate that this is something that would be commercially beneficial to them, so that they can provide services to those who wish to use the Welsh language, or those who feel that it is important that that services should be available. Therefore, we will consider the outcomes of that project to see how we can ensure that businesses do see the commercial benefits of using the Welsh language within their own businesses.
Mae yna brosiect peilot wedi cymryd lle yn nyffryn Teifi er mwyn sicrhau bod busnesau'n gweld nad yw'n anodd dros ben i sicrhau bod yna wasanaeth Cymraeg ar gael, a hefyd i weld bod hwn yn rhywbeth sydd o les iddyn nhw'n fasnachol, er mwyn eu bod yn gallu gweithredu gwasanaeth i bobl sydd eisiau defnyddio'r Gymraeg a phobl sy'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod yna wasanaeth ar gael. Felly, byddwn ni'n ystyried canlyniadau'r prosiect hynny i weld ym mha ffordd y gallwn sicrhau bod busnesau'n gweld ei bod yn fantais masnachol iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg yn eu busnesau nhw.
We are committed to offering 30 hours of free childcare to three and four-year-olds of working parents for 48 weeks a year, the most generous offer in the UK. A delivery plan will be published shortly.
Rydym yn ymrwymedig i gynnig 30 awr o ofal plant am ddim i blant tair a phedair blwydd oed i rieni sy'n gweithio am 48 wythnos y flwyddyn, y cynnig mwyaf hael yn y DU. Bydd cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.
Thank you, First Minister. I welcome your commitment to working parents. I know this is a huge issue for my constituents; it's been raised with me time and time again in correspondence and in conversations as well. Whilst it's fantastic that we're offering the most ambitious childcare support in the UK, it's important that it works well and fits the lives of working parents today. What assurances can you give that childcare support will be flexible and that its delivery will both take into account and meet the needs of working parents?
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwyf yn croesawu eich ymrwymiad i rieni sy'n gweithio. Gwn fod hwn yn fater pwysig i'm hetholwyr; mae wedi ei godi gyda mi dro ar ôl tro mewn gohebiaeth ac mewn sgyrsiau hefyd. Er ei bod yn wych ein bod yn cynnig y cymorth gofal plant mwyaf uchelgeisiol yn y DU, mae'n bwysig ei fod yn gweithio'n dda ac yn cyd-fynd â bywydau rhieni sy'n gweithio heddiw. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd cymorth gofal plant yn hyblyg ac y bydd y modd o'i ddarparu yn ystyried ac yn diwallu anghenion rhieni sy'n gweithio?
That's exactly what it must do. One thing I have to say is that the intention is not to displace existing childcare providers. What the scheme will do is help them, in fact, because it'll mean that they will have a greater source of income than is the case now, and, in many parts of Wales, childcare provision is non-existent, so it will help to stimulate childcare provision in many parts of Wales as well. We know that for many parents, at three and four years old, that is the time when people are looking to go back to work and that's the time when it's most difficult and most expensive to get access to childcare, which is why, of course, we made this pledge.
Dyna yn union y mae'n rhaid iddo ei wneud. Un peth y mae'n rhaid i mi ei ddweud yw nad oes bwriad i ddisodli darparwyr gofal plant presennol yn hyn. Yr hyn y bydd y cynllun yn ei wneud yw eu helpu, mewn gwirionedd, oherwydd bydd yn golygu y byddant yn cael mwy o incwm nag y maent yn ei gael ar hyn o bryd, ac, mewn sawl rhan o Gymru, nid yw darpariaeth gofal plant yn bodoli, felly bydd yn helpu i ysgogi darpariaeth gofal plant mewn sawl rhan o Gymru hefyd. Rydym yn gwybod, i lawer o rieni, pan fydd eu plant yn dair a phedair blwydd oed, dyna'r adeg y mae pobl yn ystyried mynd yn ôl i'r gwaith a dyna'r adeg pan mae'n anoddaf a drutaf i gael gafael ar ofal plant, a dyna pam, wrth gwrs, y gwnaethom ni yr addewid hwn.
Creating the provision that you refer to for working families is something that should be welcomed, but you will be very aware, of course, that it would be desirable to expand that provision to all families, because that would create opportunities for parents who currently aren't working to return to the workplace, as many do want to do. So, what consideration are you giving to extending that provision?
Mae creu'r ddarpariaeth yr ydych chi wedi cyfeirio ati i deuluoedd sy'n gweithio yn rhywbeth i'w groesawu, ond fe fyddwch chi'n ymwybodol iawn, wrth gwrs, y byddai'n ddymunol i ehangu'r ddarpariaeth i bob teulu, oherwydd mi fyddai hynny yn creu cyfle wedyn i rieni sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd, efallai, i fynd yn ôl i'r gweithle, fel y mae nifer ohonyn nhw am ei wneud. Felly, pa ystyriaeth rydych am ei roi i estyn y ddarpariaeth honno yn y pen draw?
We asked the Public Policy Institute for Wales to look at this to see what would be the best way of delivering this: to do it broadly or to target it at those who are working. According to their evidence, the most effective way would be to target working people, because of the fact that people who don't work at present have informal networks that assist them with childcare. What we want to ensure is that we can encourage people back into the labour market so that they will then get free childcare. That is the principle behind the scheme as it stands.
Fe ofynnon ni i Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru edrych ar hwn i weld beth fyddai'r ffordd orau o wneud hyn: ei wneud yn eang, neu ei dargedu at rieni sy'n gweithio. Fe ddywedon nhw, yn ôl eu tystiolaeth nhw, mai'r ffordd fwyaf effeithiol fyddai targedau'r rheini sy'n gweithio, o achos y ffaith bod gan y rhai sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd rwydweithiau anffurfiol sy'n eu helpu gyda phlant. Y peth rydym am ei sicrhau yw ein bod yn gallu hybu pobl yn ôl i mewn i'r gwaith, felly, wrth gwrs, maen nhw'n cael gofal plant am ddim. Dyna beth yw'r egwyddor y tu ôl i'r cynllun fel y mae e.
First Minister, in England, of course, there's already an entitlement for 15 hours' worth of childcare each and every week versus the entitlement to just 10 hours here in Wales. I know some local authorities are providing more than that at present, but it's certainly not something that reaches across the board. Given that there is already a second-rate deal, as it where, for parents here in Wales, can I ask you for a very clear timetable by which you expect to be able to transition to this 30 hours? Can we see an immediate jump to the 15 hours so that at least we've got a level-playing field between England and Wales?
Brif Weinidog, yn Lloegr, wrth gwrs, mae eisoes hawl i werth 15 awr o ofal plant bob wythnos o'i gymharu â'r hawl i ddim ond 10 awr yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod rhai awdurdodau lleol yn darparu mwy na hynny ar hyn o bryd, ond yn sicr nid yw'n rhywbeth sy'n cyrraedd pob rhan o Gymru. O gofio bod eisoes cytundeb eilradd, fel petai, i rieni yma yng Nghymru, a gaf i ofyn i chi am amserlen glir iawn o ran erbyn pryd yr ydych yn disgwyl gallu newid i'r 30 awr hyn? A gawn ni weld naid ar unwaith i'r 15 awr fel bod gennym, o leiaf, sefyllfa gyffelyb rhwng Cymru a Lloegr?
I saw the commitment that was made by his party in the election. I never understood it because it was never clear. We were absolutely clear what we were offering to working parents, and it was reflected in the respective results of the parties, I would argue. We will roll this out as what was our main pledge of our five first pledges as soon as we can.
Gwelais yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan ei blaid ef yn yr etholiad. Nid oeddwn yn ei ddeall oherwydd nad oedd yn glir. Roeddem yn hollol glir o ran yr hyn yr oeddem ni yn ei gynnig i rieni sy'n gweithio, ac adlewyrchwyd hynny yng nghanlyniadau gwahanol y partïon, byddwn yn dadlau. Byddwn yn cyflwyno hyn fel yr hyn a oedd y prif addewid o'n pum addewid cyntaf cyn gynted ag y gallwn.
This business statement and announcement is next. I call on Jane Hutt.
Datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Rwy'n galw ar Jane Hutt.
There have been several changes to the business statement for this week's business, Llywydd. Today's business now also includes oral statements on building on our recycling success for a circular economy, apprenticeships in Wales, volunteering week and a report on the working group on the Welsh language and local government. Additionally, the Business Committee agreed to the reordering of tomorrow afternoon's debates. Business for the next three weeks is as shown on the business statement and announcement found among the meeting papers available to Members electronically.
Bu nifer o newidiadau i'r datganiad busnes ar gyfer busnes yr wythnos hon, Lywydd. Mae busnes heddiw, erbyn hyn, hefyd yn cynnwys datganiadau llafar am wneud cynnydd ar ein llwyddiant ailgylchu ar gyfer economi gylchol, prentisiaethau yng Nghymru, wythnos wirfoddoli ac adroddiad ar weithgor y Gymraeg a llywodraeth leol. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ad-drefnu dadleuon prynhawn yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y'i dangosir yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Can I request a statement from the Cabinet Secretary for health on the 'Together for Mental Health' consultation, which closed shortly before dissolution? The document covers a wide range of important mental health issues, but it is the proposals on a dementia-friendly nation that I want to focus on. Having led the short debate in January calling for a comprehensive and fully resourced national dementia strategy for Wales, I responded to the consultation echoing the goals and actions I consider vital: dementia training, support workers, public awareness campaigns, to name just a few. Given that this consultation is now closed and a new Government and Minister are in place, I'd be grateful for a statement with an update on progress so far, setting out priorities and timescales going forward.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar yr ymgynghoriad 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a ddaeth i ben ychydig cyn y diddymu? Mae'r ddogfen yn ymdrin ag ystod eang o faterion iechyd meddwl pwysig, ond y cynigion ynglŷn â gwlad sy'n ystyrlon o ddementia yr wyf yn dymuno canolbwyntio arnynt. Ar ôl arwain y ddadl fer ym mis Ionawr yn galw am strategaeth genedlaethol, gynhwysfawr i Gymru ar gyfer dementia, sydd wedi ei hadnoddu'n llawn, ymatebais i'r ymgynghoriad gan adleisio'r nodau a'r camau gweithredu y credaf sydd yn hanfodol: hyfforddiant ar ddementia, gweithwyr cymorth, ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, i enwi ond ychydig. O gofio bod yr ymgynghoriad hwn wedi cau erbyn hyn a bod Llywodraeth a Gweinidog newydd ar waith, byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad i roi diweddariad ar y cynnydd hyd yn hyn, gan nodi blaenoriaethau ac amserlenni wrth symud ymlaen.
I think Lynne Neagle has consistently raised these issues and played a full part in terms of responding to the consultation, seeing it in the context of 'Together for Mental Health', the delivery plan. Of course, as you say, the formal consultation is now closed. So, we are committed to developing a new dementia strategic action plan for Wales, working closely with key stakeholders. The final version of that delivery plan will be published in the summer.
Credaf fod Lynne Neagle wedi codi'r materion hyn yn gyson ac wedi chwarae rhan lawn o ran ymateb i'r ymgynghoriad, gan ei ystyried yng nghyd-destun 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', y cynllun cyflenwi. Wrth gwrs, fel y dywedwch, mae'r ymgynghoriad ffurfiol wedi cau bellach. Felly, rydym yn ymrwymedig i ddatblygu cynllun gweithredu strategol newydd i Gymru ar gyfer dementia, gan weithio'n agos â rhanddeiliaid allweddol. Bydd fersiwn derfynol y cynllun cyflenwi hwnnw yn cael ei gyhoeddi yn yr haf.
Thank you, Minister, for your statement. I would like to raise two issues with you, and I do hope that the Government will be able to respond with statements on these issues. First of all, we today commemorate the massacre in Orlando with a minute's silence in this Chamber, and it was noted that the flags of the Assembly and the Welsh Government were at half-mast today and yesterday, with the rainbow banner among them, of course. Can we therefore have a further statement from the Government on its policy on flags? You will recall that I raised this with you last when the Welsh Government actually raised its flags to half-mast to commemorate the death of the King of Saudia Arabia, which was an insult to the people of Wales in my view. Now, the First Minister said at that time that there would be a review of the policy, and rather than slavishly following the advice of the Foreign Office, the Welsh Government would develop its own policy. What, therefore, has been the outcome of that review? Can we have a statement from the First Minister explaining the guidance now in place for Government, in order to decide when flags should be flown at half-mast? The second question I'd like to raise with you is that this Assembly has a reputation for being innovative in legislating in two languages, and the Government is working in the same way. It was a disappointment, therefore, for me to see that Chris Grayling, the leader of the other House, had rejected calls for the use of the Welsh language in the Welsh Grand Committee in that other place. Those demands, to be fair, had been led by Chris Bryant. Now, the Welsh language can be used at that committee when it meets in Wales. We knew that because I did so myself in Cwmbran some years ago, and it's about time that the same right should be made available when the committee meets in the House of Commons itself. Could you, therefore, as the business manager in this place, lead the way in providing practical support for the Commons to actually overcome the prejudices that they have against the use of the Welsh language, to provide advice from Government so that that can be achieved, and to report back in the appropriate way to this place?
Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Hoffwn i godi dau fater gyda chi, a gobeithio y bydd modd i'r Llywodraeth ymateb mewn datganiad i'r materion hyn. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, rydym heddiw yn nodi'r gyflafan a fu yn Orlando gyda munud o dawelwch yn y Siambr hon, ac roedd yn briodol, hefyd, gweld bod baneri'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru ar eu hanner ddoe a heddiw, a baner enfys yn eu plith, wrth gwrs. A fedrwn ni, felly, gael datganiad pellach gan y Llywodraeth parthed ei pholisi cyhwfan baneri? Fe gofiwch, efallai, imi godi hwn ddiwethaf gyda chi adeg y bu Llywodraeth Cymru yn cyhwfan baneri ar eu hanner i nodi marwolaeth Brenin Saudi Arabia, digwyddiad a oedd i mi yn dwyn sarhad a sen ar bobl Cymru. Addawyd gan y Prif Weinidog bryd hynny y byddai adolygiad o'r polisi yn dilyn ac yn hytrach na dilyn yn slafaidd gyngor y weinyddiaeth dramor, y byddai Llywodraeth Cymru yn datblygu ei pholisi ei hun. Beth, felly, yw canlyniad yr adolygiad hwnnw? A gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog i esbonio'r canllawiau sy'n cael eu defnyddio bellach gan y Llywodraeth i benderfynu pryd i arddangos eu lliwiau, yn llythrennol? Yr ail gwestiwn yr hoffwn ei godi gyda chi yw bod y Cynulliad hwn, wrth gwrs, ag enw arloesol ym maes deddfu a seneddu, os caf i fathu term, yn y ddwy iaith, a'r Llywodraeth yn dilyn. Roedd yn siom, felly, imi weld bod Chris Grayling, arweinydd y Tŷ arall, wedi gwrthod galwadau ar gyfer gwneud defnydd o'r Gymraeg yn uwch-bwyllgor Cymreig y lle hwnnw - galwadau a oedd wedi cael eu harwain, i fod yn deg, gan Chris Bryant. Mae modd defnyddio'r Gymraeg yn y pwyllgor hwnnw os yw'n cyfarfod yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod hynny achos rwyf i wedi ei wneud e fy hunan yng Nghwmbrân rai blynyddoedd yn ôl, ac mae'n hen bryd i ganiatáu'r un peth pan fo'r pwyllgor yn cyfarfod yn Nhŷ'r Cyffredin ei hunan. A oes modd, felly, i chi, fel y prif reolydd busnes yn y Cynulliad yma, arwain y ffordd i gynnig cymorth ymarferol i Dŷ'r Cyffredin i ddod dros y rhagdybiaethau sydd ganddynt yno yn erbyn defnyddio'r Gymraeg, cynnig cyngor gan y Llywodraeth i gyflawni hynny ac adrodd nôl yn y ffordd briodol i'r lle hwn?
Diolch yn fawr, Simon Thomas. Certainly, I think on your first point, it's worth just spending a moment recognising the tragedy and the massacre at Orlando and the fact that we did bring together a lot of people yesterday outside the Senedd - members and allies of the LGBT community, people of different faiths, joining Wales with other nations in that show of strength and solidarity for all those who are affected by the tragic and deeply saddening attack in Orlando. Of course, we were able to have that moment of silence, very appropriately, at the beginning of this session today. As you said, the First Minister did say he would review that policy, and I'm certainly happy to follow that up. It was very good to see the rainbow flag with the Welsh dragon, and the recognition of that in the way that we as an Assembly had pulled together in support. I think that was very welcome last night. But I would also say that, of course, this is about how Welsh Government, the Assembly and Stonewall Cymru work so closely together to tackle LGBT inequality. I want to say on your second point that I was also very disappointed. I will certainly be happy to not only approach the Leader of the House of Commons, but also to work with the shadow leader, Chris Bryant, on this issue. Again, it not only is disappointing, it's disrespectful in terms of the Welsh Grand Committee, not just in terms of those entitlements and rights, but the respect for the way in which we here, of course, work together with our two languages.
Diolch yn fawr, Simon Thomas. Yn sicr, o ran eich pwynt cyntaf, credaf fod gwerth mewn treulio eiliad i gydnabod y trychineb a'r gyflafan yn Orlando a'r ffaith ein bod wedi dwyn ynghyd llawer o bobl ddoe y tu allan i'r Senedd - aelodau a chefnogwyr y gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, pobl o wahanol grefyddau, gan uno Cymru â chenhedloedd eraill i ddangos cryfder ac undod i bawb sydd wedi eu heffeithio gan yr ymosodiad trasig a hynod drist yn Orlando. Wrth gwrs, roeddem yn gallu cael y munud o dawelwch hwnnw, yn briodol iawn, ar ddechrau'r sesiwn hon heddiw. Fel y dywedasoch, mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn adolygu'r polisi hwnnw, ac rwy'n sicr yn hapus i ddilyn yr un trywydd. Roedd yn dda iawn gweld y faner enfys gyda'r ddraig goch, a chydnabyddiaeth o hynny yn y ffordd y gwnaethom ni fel Cynulliad gyd-dynnu i ddangos ein cefnogaeth. Credaf y gwerthfawrogwyd hynnny yn fawr iawn neithiwr. Ond byddwn hefyd yn dweud, wrth gwrs, bod hyn yn ymwneud â sut mae Llywodraeth Cymru, y Cynulliad a Stonewall Cymru yn gweithio mor agos â'i gilydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol. Rwyf eisiau dweud, ynglŷn â'ch ail bwynt, fy mod innau hefyd yn siomedig iawn. Byddaf yn sicr yn hapus, nid yn unig i fynd at Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, ond hefyd i weithio gydag arweinydd yr wrthblaid, Chris Bryant, ar y mater hwn. Unwaith eto, nid yn unig y mae'n peri siom, mae'n amharchus hefyd o ran yr Uwch Bwyllgor Cymreig, nid yn unig o ran yr hawliadau a'r hawliau hynny, ond hefyd o ran y parch tuag at y ffordd yr ydym ninnau yma, wrth gwrs, yn cydweithio gyda'n dwy iaith.
Leader of the house, I'd be grateful if you could please ask the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs to bring forward a statement clarifying the Welsh Government's new approach to dealing with bovine TB. As has already been said in this Chamber today, recently published official Government statistics show that there has been a huge year-on-year increase of 78 per cent in the number of cattle slaughtered in Pembrokeshire as a result of bovine TB. Now, in last week's business statement, you said, in response to the Member for North Wales, that this will be an issue for the Cabinet Secretary in terms of one of her early considerations of the situation. Given that the Welsh Government has suspended the vaccination programme, it's quite clear that the Government does not have a current policy to eradicate bovine TB. In the circumstances, can you please encourage the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs to bring forward a statement on this issue as soon as possible so that Welsh farmers can understand exactly what the Welsh Government's approach to dealing with bovine TB actually is?
Arweinydd y tŷ, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig gyflwyno datganiad yn egluro dull newydd Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â TB buchol. Fel y dywedwyd eisoes yn y Siambr hon heddiw, mae ystadegau swyddogol y Llywodraeth, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos y bu cynnydd enfawr o 78 y cant o un flwyddyn i'r llall yn nifer y gwartheg a laddwyd yn Sir Benfro o ganlyniad i TB buchol. Nawr, yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf, dywedasoch, mewn ymateb i'r Aelod dros Ogledd Cymru, mai mater i Ysgrifennydd y Cabinet fydd hwn o ran un o'i hystyriaethau cynnar o'r sefyllfa. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi atal y rhaglen frechu, mae'n eithaf amlwg nad oes gan y Llywodraeth bolisi cyfredol i ddileu TB buchol. O dan yr amgylchiadau, a wnewch chi annog Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gyflwyno datganiad ar y mater hwn cyn gynted ag y bo modd, fel y gall ffermwyr Cymru ddeall yn union sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â TB buchol mewn gwirionedd?
Paul Davies, I'm very happy to repeat, I'm sure, the same words that I used last week in terms of questions on the business statement: the Welsh Government is committed, led by the Cabinet Secretary, to deliver that science-led approach to the eradication of bovine TB. Our comprehensive TB eradication programme - that is our policy, led by the Welsh Government - includes annual testing of cattle, strict biosecurity measures and movement controls. This approach, of course, is aimed at tackling all sources of infection. I again repeat those statistics: between May 2011 and November 2015 - that's the latest period for which we've got results - the trend in new TB incidents in Wales fell by 19 per cent. There is no sign that the supply issue regarding the BCG vaccine will be resolved in the short term. Of course, when it does become available, we will make a decision on the way forward with vaccination in Wales, and continue in terms of implementing the policies. A new TB Order came into force on 1 April, changing the way farmers are compensated for cattle slaughtered for TB, and those changes do aim to reduce the risk of the disease spreading by encouraging best practice, and that does follow a full consultation with the industry. Of course, it is a question of discussing with the farming community, which the Cabinet Secretary is undertaking, to ensure that they are fully aware of our commitment in terms of the positive approach that we're taking with our TB eradication programme.
Paul Davies, rwyf i'n hapus iawn i ailadrodd, rwy'n siŵr, yr un geiriau a ddefnyddiais yr wythnos diwethaf o ran cwestiynau ynglŷn â'r datganiad busnes: mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflawni'r dull hwnnw ar sail gwyddoniaeth o ddileu TB buchol. Mae ein rhaglen gynhwysfawr i ddileu TB - sef ein polisi, dan arweiniad Llywodraeth Cymru - yn cynnwys profi gwartheg yn flynyddol, mesurau bioddiogelwch llym a rheolaethau symud. Nod y dull hwn, wrth gwrs, yw mynd i'r afael â holl darddiadau'r haint. Rwyf unwaith eto yn ailadrodd yr ystadegau hynny: rhwng mis Mai 2011 a mis Tachwedd 2015 - dyna'r cyfnod diweddaraf y mae gennym ganlyniadau ar ei gyfer - gwelwyd gostyngiad o 19 y cant yn y duedd mewn achosion newydd o TB yng Nghymru. Nid oes unrhyw arwydd y bydd y mater o gyflenwi'r brechlyn BCG yn cael ei ddatrys yn y tymor byr. Wrth gwrs, pan fydd ar gael, byddwn yn penderfynu ar y ffordd ymlaen o ran brechu yng Nghymru, ac yn parhau i weithredu'r polisïau. Daeth Gorchymyn TB newydd i rym ar 1 Ebrill, gan newid y ffordd o ddigolledu ffermwyr ar gyfer gwartheg a laddwyd oherwydd TB, a nod y newidiadau hynny yw lleihau'r risg o ledaenu'r clefyd drwy annog arfer gorau, ac mae hynny'n dilyn ymgynghoriad llawn â'r diwydiant. Wrth gwrs, mae'n fater o drafod â'r gymuned ffermio, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'n hymrwymiad o ran ein dull cadarnhaol yn ein rhaglen i ddileu TB.
I'd like to thank the Minister for Government business for her statement. We have five statements today - four newly announced. I just wondered if the number of statements reflect the fact we've come through a recess, Ministers have been recently appointed and are perhaps finding their feet following the election, and there are more statements than one might normally expect, or has there been a particular decision, with the self-denying ordinance, I believe, on legislation for the first 100 days, to use the opportunity of Government time to perhaps give statements on a wider range of issues than would be the norm?
Hoffwn ddiolch i Weinidog Busnes y Llywodraeth am ei datganiad. Mae gennym bum datganiad heddiw - pedwar ohonynt sydd newydd eu cyhoeddi. Roeddwn i'n meddwl tybed a yw nifer y datganiadau yn adlewyrchu'r ffaith ein bod wedi cael toriad, bod Gweinidogion wedi eu penodi yn ddiweddar ac efallai ei bod yn ymgynefino yn dilyn yr etholiad, a bod mwy o ddatganiadau nag y byddai rhywun fel arfer yn eu disgwyl, neu a wnaed penderfyniad penodol, gyda'r ddeddf hunanymwadiad ar ddeddfwriaeth ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf, rwy'n credu, i ddefnyddio'r cyfle i ddefnyddio amser y Llywodraeth i gyflwyno datganiadau ar ystod ehangach o faterion nag a fyddai'n arferol, efallai?
Mark Reckless, I'm very glad you welcome the fact that there are oral statements from a number of Cabinet Secretaries today. It is vital that Welsh Government and our Cabinet Secretaries do have the opportunity to update the Assembly. Of course, questions on my Business Committee statement always raise other issues that I know you would like Cabinet Secretaries to make statements on, and, of course, they will appear in due course. This is an opportunity, and I'm sure the statement this afternoon will receive robust scrutiny from across the Chamber.
Mark Reckless, rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu'r ffaith bod datganiadau llafar gan nifer o Ysgrifenyddion y Cabinet heddiw. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a'n Hysgrifenyddion y Cabinet yn cael y cyfle i roi diweddariad i'r Cynulliad. Wrth gwrs, mae cwestiynau ynglŷn â fy natganiad o'r Pwyllgor Busnes bob amser yn codi materion eraill yr wyf yn gwybod yr hoffech i Ysgrifenyddion y Cabinet wneud datganiadau arnynt, ac, wrth gwrs, byddant yn ymddangos maes o law. Mae hwn yn gyfle, ac rwy'n siŵr y bydd y datganiad y prynhawn yma yn cael ei graffu yn drylwyr ar draws y Siambr.
There is a substantial need in Wales for good-quality housing, not least in Swansea East. I would like to ask for a statement by the Minister with housing as part of their portfolio on how they intend to increase the availability of social and co-operative housing, including support for councils such as Swansea building new council houses?
Mae angen sylweddol yng Nghymru am dai o ansawdd da, yn enwedig yn Nwyrain Abertawe. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog sydd â thai yn rhan o'i bortffolio ar sut mae'n bwriadu cynyddu nifer y tai cymdeithasol a chydweithredol sydd ar gael, gan gynnwys cymorth i gynghorau fel Abertawe i adeiladu tai cyngor newydd?
Well, I know that the Minister is very committed indeed, with former responsibilities for housing in previous portfolios, to progressing not only investment in social housing, but also in the more innovative ways in which social housing can be delivered through the co-operative approach. Of course, there have been pilots that were undertaken by the former Minister with responsibility, Lesley Griffiths, in terms of co-operative housing as one route to ways in which we can provide that affordable housing, with new ways in which they can be managed as well.
Wel, gwn fod y Gweinidog, gyda chyfrifoldebau blaenorol am dai mewn portffolios blaenorol, yn ymrwymedig iawn, iawn i ddatblygu buddsoddiad, nid yn unig mewn tai cymdeithasol, ond hefyd yn y ffyrdd mwy arloesol o ddarparu tai cymdeithasol drwy'r dull cydweithredol. Wrth gwrs, bu cynlluniau arbrofol a dreialwyd gan y cyn Weinidog â'r cyfrifoldeb hwn, sef Lesley Griffiths, o ran tai cydweithredol fel un llwybr at ffyrdd y gallwn ddarparu'r tai fforddiadwy hynny, gyda ffyrdd newydd o allu eu rheoli hefyd.
I call for a single statement on support for Wales's armed forces veterans, following the 'Call to Mind: Wales' report, published at the beginning of this month, which showed that much more needs to be done to support the mental health needs of veterans in Wales. Only a fraction of the estimated 10,000 Welsh veterans living with mental illness of some form are being referred to NHS Wales. The report was commissioned by the Forces in Mind Trust, but based on interviews with veterans and their families and people working in the voluntary and independent sector. It called for increased Veterans' NHS Wales capacity; increased data to inform, commissioning and service provision; more to support family and carers; and it highlighted the work needed to progress and to identify the need for involvement, liaison and action with people in the armed forces, serving and/or at transition into civilian life, and proposes that veterans and family members' mental and related health needs are considered in the new legislation introduced at the end of the last Assembly, such as the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 and Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015. So, could I call for a statement? We need a statement detailing the Welsh Government's proposals and the new health Minister's proposals to make assessment of, and provision for, the mental health needs of Wales's veterans a priority of this Welsh Government.
Galwaf am ddatganiad unigol ar gymorth i gyn-filwyr lluoedd arfog Cymru, yn dilyn yr adroddiad 'Galw i Gof: Cymru', a gyhoeddwyd ar ddechrau'r mis hwn, a ddangosodd fod angen gwneud llawer mwy i gefnogi anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru. Rhan fechan iawn yn unig o'r 10,000 o gyn-filwyr yr amcangyfrifir sydd yn byw â salwch meddwl o ryw fath yng Nghymru, sy'n cael eu hatgyfeirio i GIG Cymru. Comisiynwyd yr adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Forces in Mind, ond yr oedd yn seiliedig ar gyfweliadau â chyn-filwyr a'u teuluoedd a phobl sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol ac annibynnol. Roedd yr adroddiad yn galw am fwy o allu gan GIG Cymru i ymdrin â chyn-filwyr; cynyddu data i lywio, comisiynu a darparu gwasanaethau; gwneud mwy i gefnogi teuluoedd a gofalwyr; ac amlygodd y gwaith sydd ei angen i symud ymlaen ac i nodi'r angen am gyfranogi, cydgysylltu a gweithredu gyda phobl yn y lluoedd arfog, sy'n gwasanaethu ac/neu'n trosglwyddo i fywyd fel sifiliaid, ac yn cynnig y dylid rhoi ystyriaeth i anghenion iechyd meddwl ac anghenion iechyd cysylltiedig cyn-filwyr ac aelodau o'r teulu yn y ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf, megis y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, a gaf i alw am ddatganiad? Mae angen datganiad arnom sy'n rhoi manylion am gynigion Llywodraeth Cymru a chynigion y Gweinidog iechyd newydd i wneud asesu anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr Cymru, a darparu ar eu cyfer, yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth Cymru hon.
This Welsh Government will be very happy to provide that statement, Mark Isherwood. Of course, as you say, although led by the Minister for communities and children, this will also involve other Ministers, including the Minister for health, and it provides an appropriate opportunity for me to respond today, in answer to that question on the business statement, that we will progress with a statement, as you called for.
Bydd y Llywodraeth Cymru hon yn falch iawn o ddarparu'r datganiad hwnnw, Mark Isherwood. Wrth gwrs, fel y dywedwch, er bod hyn dan arweiniad y Gweinidog cymunedau a phlant, bydd hefyd yn cynnwys Gweinidogion eraill, gan gynnwys y Gweinidog iechyd, ac mae'n rhoi cyfle priodol i mi ymateb heddiw, wrth ateb y cwestiwn hwnnw ar y busnes datganiad, y byddwn ni'n llunio datganiad, fel y gwnaethoch alw amdano.
I'd like to ask the leader of the house about a point of practice about the issuing of statements to opposition parties in advance of their being read out in this Chamber. I appreciate the courtesy that this is, and it is important, I think, that debate and scrutiny should be informed, for that debate and scrutiny to be best. Today, I received copies of these statements at 13:20, so that didn't leave any time at all before coming down to the Chamber to read them. I appreciate that today's statements are not exactly controversial, but there will come a time when they are controversial, and they may require a bit of research in order to respond to them properly. So, I'm wondering if the leader of the house would undertake today to ensure that, in future, the Welsh Government does give opposition parties proper notice of statements, so that they can prepare for debate.
Hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ am bwynt o arfer ynghylch cyhoeddi datganiadau i wrthbleidiau cyn iddynt gael eu darllen yn y Siambr hon. Gwerthfawrogaf y cwrteisi yn hyn o beth, ac mae'n bwysig, yn fy marn i, y dylai trafodaeth a chraffu fod yn ddeallus, er mwyn i'r trafod a'r craffu hwnnw fod ar ei orau. Heddiw, derbyniais gopïau o'r datganiadau hyn am 13:20, felly ni roddodd hynny unrhyw amser o gwbl i'w darllen cyn dod yma i'r Siambr. Rwy'n sylweddoli nad yw datganiadau heddiw yn ddadleuol iawn, ond daw amser pan fyddant yn ddadleuol, pan fyddai angen ychydig o waith ymchwil er mwyn ymateb iddynt yn briodol. Felly, rwy'n gofyn a wnaiff arweinydd y tŷ sicrhau heddiw, y bydd Llywodraeth Cymru, yn y dyfodol, yn rhoi rhybudd priodol o ddatganiadau i wrthbleidiau, er mwyn iddynt allu paratoi ar gyfer y drafodaeth.
Well, I'm very happy to provide the leader of UKIP, Neil Hamilton, the clarification of how we do manage this, how we have managed this in this Senedd, and to offer you every courtesy, as I do to all business managers. Hard copies of our oral statements are circulated to party business managers through their offices, as close to 1 o'clock on Plenary days as possible - I think business managers will recognise that - and they, obviously, have to be subject to ministerial clearance. And it is for individual business managers to pass those copies of the statements to the relevant spokespeople within their parties. So, in accordance with that, I know the hard copies were passed to Mark Reckless, in line with that established and long-standing practice. But, of course, then electronic copies of the oral statements are e-mailed to all Members, once the Minister has started to deliver them. I hope that that, again, will progress as customary practice.
Wel, rwy'n hapus iawn i ddarparu eglurhad i arweinydd UKIP, Neil Hamilton, o sut yr ydym yn llwyddo i wneud hyn, sut yr ydym wedi llwyddo i wneud hyn yn y Senedd hon, ac i gynnig pob cwrteisi i chi, fel y gwnaf i bob rheolwr busnes. Mae copïau caled o'n datganiadau llafar yn cael eu dosbarthu i reolwyr busnes y pleidiau drwy eu swyddfeydd, mor agos at 1 o'r gloch ar ddiwrnodau y Cyfarfod Llawn ag y bo modd - rwy'n credu y bydd rheolwyr busnes yn cydnabod hynny - ac mae'n rhaid iddynt, yn amlwg, gael eu cymeradwyo gan Weinidogion. A swyddogaeth rheolwyr busnes unigol yw rhoi'r copïau hynny o'r datganiadau i'r llefarwyr perthnasol yn eu pleidiau. Felly, yn unol â hynny, gwn y cafodd y copïau caled eu rhoi i Mark Reckless, yn unol â'r arfer sefydledig a hir-sefydlog hwnnw. Ond, wrth gwrs, caiff copïau electronig o'r datganiadau llafar wedyn eu hanfon drwy e-bost at yr holl Aelodau, pan fydd y Gweinidog wedi dechrau eu cyflwyno. Rwy'n gobeithio y bydd hynny, unwaith eto, yn parhau yn unol ag arfer arferol.
I thank the leader of the house for her statement. The Government in the fourth Assembly welcomed the conclusions and recommendations of the Welsh Co-operative and Mutuals Commission, chaired by Andrew Davies. Will the Government bring forward a statement outlining what steps it will take in the fifth Assembly to take those recommendations forward?
Diolchaf i arweinydd y tŷ am ei datganiad. Croesawodd y Llywodraeth yn y pedwerydd Cynulliad gasgliadau ac argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, dan gadeiryddiaeth Andrew Davies. A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad yn amlinellu pa gamau y bydd yn eu cymryd yn y pumed Cynulliad i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny?
Well, I know Jeremy Miles's interest in the work of the Welsh Co-operative and Mutuals Commission, of course chaired by Professor Andrew Davies, a former Member of this Senedd. It reconvened last year, in February of last year, to take stock of how the recommendations are being implemented. All Ministers then, obviously, had to respond. They reported on their findings earlier this year - in February of this year. There has been progress in those 18 months, since the publication of the first report. It is crucially important to ensure that we see how new co-operative ways of working and doing business are becoming the norm, not the exception. Perhaps a couple of examples: the publication of the alternative delivery models action plan - that came out of the review undertaken by Keith Edwards, 'Is the Feeling Mutual? New Ways of Designing and Delivering Public Services in Wales' - and also a new support facility, Social Business Wales. Now, interestingly, as far as Social Business Wales is concerned, that was a European regional development fund project. We provided funding towards this £11 million European Union-funded project, and that's going to, of course, support EU-funded Social Business Wales enterprises and co-operatives.
Wel, rwyf yn gwybod am ddiddordeb Jeremy Miles yng ngwaith Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, wrth gwrs, dan gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Davies, cyn Aelod o'r Senedd hon. Fe wnaeth ailymgynnull y llynedd, ym mis Chwefror y llynedd, i edrych ar sut y mae'r argymhellion yn cael eu rhoi ar waith. Bu'n rhaid i bob Gweinidog ymateb wedyn, yn amlwg. Adroddwyd ar eu canfyddiadau yn gynharach eleni - ym mis Chwefror eleni. Bu cynnydd yn ystod y 18 mis hynny, ers cyhoeddi'r adroddiad cyntaf. Mae'n hanfodol bwysig i sicrhau ein bod yn gweld sut mae ffyrdd cydweithredol newydd o weithio a gwneud busnes yn dod yn arfer yn hytrach na bod yn eithriad. Ychydig o enghreifftiau, efallai: cyhoeddi'r cynllun gweithredu modelau cyflawni amgen - a ddeilliodd o'r adolygiad a gynhaliwyd gan Keith Edwards, 'Ai Cydfuddiannaeth yw'r Ffordd Ymlaen? Ffyrdd Newydd o Gynllunio a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru' - a hefyd cyfleuster cymorth newydd, Busnes Cymdeithasol Cymru. Nawr, yn ddiddorol, cyn belled ag y mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn y cwestiwn, prosiect cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop oedd hwnnw. Gwnaethom gyfrannu arian i'r prosiect gwerth £11 miliwn a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cefnogi mentrau a chwmnïau cydweithredol Busnes Cymdeithasol Cymru a ariennir gan yr UE.
Could I raise two matters with you, leader of the house? The first is: could we have a statement from the Cabinet Secretary for local government on the obligation that he believes local authorities have to maintain council roads? It seems, across the whole of the south Wales region, councils seem to have given up filling in potholes and maintaining the surfaces of the public highway. And the amount of constituents I have raising this issue - and I can see certain Members sniggering at this, but, actually, for most Members it's quite an important issue, and for a lot of constituents, who suffer the blight of potholes and dangerous surfaces, it's most probably one of their biggest priorities when they come to see their elected Members. I'd be grateful - where there is an obligation placed on the local authority to maintain those surfaces, what is the expectation of the Welsh Government in them fulfilling that obligation, and, indeed, when the Minister makes money available to local authorities, does he make sure - and categorically make sure - to those local authorities that they have a duty to maintain the fabric of the highway in their respective areas? The second point I'd like to make is to add voice to the concerns already raised about the bovine TB strategy - and I do declare an interest as a livestock farmer - that the Welsh Government do have. Yes, there are many controls in place at the moment, but one of the central planks of the strategy was the vaccination policy - and we can argue the merits of that strategy, but, obviously, that was what was put in place by the previous Government, and I presume it is the policy of the current Government to maintain that - and it is a fact that the vaccine supply has ceased to come forward now. So, one of the central planks of the Government's strategy to eradicate bovine TB here in Wales has been removed, and it is critical for livestock farmers to understand exactly how the new Government will come forward with a comprehensive strategy that is joined-up and isn't just mere window-dressing. Ultimately, in many parts of Wales, this terrible disease is driving many businesses out of existence by the excessive costs that they have to face and the emotional trauma that they go through when the blight of bovine TB visits that particular business.
A gaf i godi dau fater gyda chi, arweinydd y tŷ? Yn gyntaf: a fyddai modd i ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar y rhwymedigaeth sydd gan awdurdodau lleol, yn ei dyb ef, i gynnal a chadw ffyrdd cyngor? Ymddengys, ar hyd a lled rhanbarth de Cymru, bod cynghorau wedi rhoi'r gorau i lenwi tyllau yn y ffyrdd a chynnal arwynebau y briffordd gyhoeddus. Ac mae'r nifer o etholwyr sy'n sôn am y broblem hon i mi - a gallaf weld Aelodau penodol yn piffian chwerthin ar hyn, ond, mewn gwirionedd, mae'n fater eithaf pwysig i'r rhan fwyaf o Aelodau, ac i lawer o etholwyr, sy'n dioddef melltith y ceudyllau a'r arwynebau peryglus, mae'n debygol mai dyna un o'u blaenoriaethau pwysicaf wrth ddod i weld eu Haelodau etholedig. Byddwn i'n ddiolchgar - pan fo rhwymedigaeth ar yr awdurdod lleol i gynnal yr arwynebau hynny, beth yw disgwyliad Llywodraeth Cymru o ran cyflawni'r rhwymedigaeth honno, ac, yn wir, pan fydd y Gweinidog yn neilltuo arian i awdurdodau lleol, a yw'n sicrhau - ac yn sicrhau yn bendant - bod yr awdurdodau lleol hynny yn gwybod bod dyletswydd arnynt i gynnal ffabrig y briffordd yn eu hardaloedd? Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw ychwanegu llais at y pryderon a godwyd eisoes ynglŷn â'r strategaeth TB buchol - ac rwyf yn datgan buddiant fel ffermwr da byw - sydd gan Lywodraeth Cymru. Oes, mae llawer o reolaethau sydd ar waith ar hyn o bryd, ond un o elfennau canolog y strategaeth oedd y polisi brechu - a gallwn ddadlau rhinweddau'r strategaeth honno, ond, yn amlwg, dyna a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth flaenorol, ac rwyf yn cymryd mai polisi'r Llywodraeth bresennol yw cynnal hynny - ac mae'n ffaith nad yw cyflenwad y brechlyn ar gael bellach. Felly, mae un o elfennau canolog strategaeth y Llywodraeth i ddileu TB buchol yng Nghymru wedi ei dileu, ac mae'n hanfodol i ffermwyr da byw ddeall yn union sut y bydd y Llywodraeth newydd yn cyflwyno strategaeth gynhwysfawr sydd yn gydgysylltiedig yn hytrach na dim ond edrych yn dda. Yn y pen draw, mewn sawl rhan o Gymru, mae'r clefyd ofnadwy hwn yn dirwyn llawer o fusnesau i ben oherwydd y costau eithafol y mae'n rhaid eu talu a'r trawma emosiynol pan fydd TB buchol yn effeithio ar y busnes penodol hwnnw.
Andrew R.T. Davies, I completely understand the concerns that constituents and residents have about the state of their roads and their local roads. We know that that's an issue that's raised with all of us as Assembly Members. I'm very proud of the fact that it's a Welsh Labour Government that worked with local government to develop the local government borrowing initiative, which enabled us to actually then support and assist the borrowing of local authorities, which we didn't have and they have got, to undertake a comprehensive investment in improving road structure across the whole of Wales, involving all of our 22 local authorities. Of course, that meant thousands of construction jobs and demonstrably better environments, particularly in some of our more deprived communities. Now, of course, we would like to continue with those kinds of initiatives if we, of course, had a better financial settlement from the UK Government, under your party's leadership, because these are key issues, which local government, alongside the Welsh Government, want to tackle. I have responded earlier to the questions about our Government's commitment to the eradication of bovine TB. Of course, this is one of the top priorities of the Cabinet Secretary.
Andrew R.T. Davies, rwyf yn deall yn iawn pryderon etholwyr a phreswylwyr am gyflwr eu ffyrdd a'u ffyrdd lleol. Gwyddom fod hwnnw'n fater a gaiff ei godi gyda phob un ohonom fel Aelodau Cynulliad. Rwy'n falch iawn o'r ffaith mai Llywodraeth Lafur Cymru a weithiodd gyda llywodraeth leol i ddatblygu'r fenter benthyca i lywodraeth leol, a'n galluogodd wedyn i gefnogi a chynorthwyo benthyca awdurdodau lleol, nad oedd gennym ni, ac sydd ganddyn nhw bellach, i fuddsoddi'n gynhwysfawr mewn gwella strwythur y ffyrdd ledled Cymru gyfan, sy'n cynnwys pob un o'n 22 awdurdod lleol. Wrth gwrs, arweiniodd hynny at filoedd o swyddi adeiladu ac amgylcheddau gwell o lawer, yn enwedig mewn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Nawr, wrth gwrs, byddem yn hoffi parhau â'r mathau hynny o fentrau pe byddai gennym, wrth gwrs, setliad ariannol gwell gan Lywodraeth y DU, dan arweiniad eich plaid chi, gan fod y rhain yn faterion allweddol, y mae llywodraeth leol, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, yn dymuno mynd i'r afael â nhw. Rwyf wedi ymateb yn gynharach i'r cwestiynau ynglŷn ag ymrwymiad ein Llywodraeth i ddileu TB buchol. Wrth gwrs, dyma un o brif flaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet.
Following the massacre at Orlando and the vigil outside the Senedd last night, would the business Secretary consider tabling a debate to give the opportunity for Members to highlight areas of policy where further progress could be made in ensuring that discrimination suffered by members of the LGBT community could be tackled? At the vigil last night - and I know the Minister was there - speakers were highlighting issues of concern in Wales, and that included hate crime, homophobic bullying, which we have discussed in this Chamber, I know, on a number of occasions, and inequalities in giving blood. In light of the dreadful experiences in Orlando, would she agree that we should assess our performance in Wales in tackling discrimination and promoting equality? Perhaps having a debate in the Chamber would give us all an opportunity to share those views.
Yn dilyn y gyflafan yn Orlando a'r wylnos y tu allan i'r Senedd neithiwr, a wnaiff yr Ysgrifennydd Busnes ystyried amserlennu dadl i roi cyfle i Aelodau amlygu meysydd polisi lle y gellid gwneud cynnydd pellach o ran sicrhau mynd i'r afael â'r gwahaniaethu a ddioddefir gan aelodau o'r gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol? Yn yr wylnos neithiwr - a gwn fod y Gweinidog yno - roedd siaradwyr yn amlygu materion sy'n peri pryder yng Nghymru, gan gynnwys troseddau casineb, bwlio homoffobig, yr ydym wedi eu trafod yn y Siambr hon ar sawl achlysur, mi wn, ac anghydraddoldeb o ran rhoi gwaed. Yng ngoleuni'r profiadau ofnadwy yn Orlando, a yw hi'n cytuno y dylem ni asesu ein perfformiad yng Nghymru o ran mynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb? Efallai y byddai cael dadl yn y Siambr yn rhoi cyfle i bob un ohonom rannu'r safbwyntiau hynny.
I thank Julie Morgan for raising that again, following Simon Thomas's questions to the business statement earlier on, and, again, how important it was that we were there - members of the Government as well as Assembly Members - to listen to those powerful messages and to hear from those who have been affected by that hate crime, and also to see a very good article in the 'Western Mail' today by Andrew White: stand together against hate and look to a brighter future. Also, can I say how Jeremy Miles, Hannah Blythyn and Adam Price spoke so powerfully yesterday at the vigil and put on the record how you have made that stand and for us to be held to account for how we can then take this forward in terms of tackling discrimination and barriers to the equality of LGBT people in Wales. Of course, as I've said, it is about us working closely together. Also, I think it's about activities in schools, as well as workplaces, the community working along with our public services in tackling hate crime.
Diolchaf i Julie Morgan am godi hyn eto, yn dilyn cwestiynau Simon Thomas ynglŷn â'r datganiad busnes yn gynharach, ac, unwaith eto, pa mor bwysig oedd hi ein bod ni yno - aelodau'r Llywodraeth yn ogystal ag Aelodau'r Cynulliad - i wrando ar y negeseuon pwerus hynny a chlywed gan y rhai sydd wedi eu heffeithio gan y drosedd casineb honno, a hefyd i weld erthygl dda iawn yn y 'Western Mail' heddiw gan Andrew White: sefyll gyda'n gilydd yn erbyn casineb ac edrych at ddyfodol gwell. Hefyd, a gaf i ddatgan pa mor bwerus y siaradodd Jeremy Miles, Hannah Blythyn ac Adam Price ddoe yn yr wylnos a'i roi ar y cofnod sut yr ydych chi wedi gwneud y safiad hwnnw ac i ni gael ein dwyn i gyfrif ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn o ran mynd i'r afael â gwahaniaethu a rhwystrau i gydraddoldeb Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru. Wrth gwrs, fel yr wyf wedi ei ddweud, mae'n ymwneud â gweithio'n agos â'n gilydd. Hefyd, credaf ei fod yn ymwneud â gweithgareddau mewn ysgolion, yn ogystal â gweithleoedd, a'r gymuned yn cydweithio â'n gwasanaethau cyhoeddus i fynd i'r afael â throseddau casineb.
Diolch. Leader of the house, I wonder if I could ask you for an update from the new Cabinet Secretary for infrastructure and transport on the development of the south Wales metro scheme. Members of the previous Assembly will remember that I was most concerned when the town of Monmouth dropped off some of the south Wales metro maps, reappeared on others and dropped off subsequent maps. So, I'd be grateful for an update on where we are with making sure that the south Wales metro does reach all areas of the south Wales network it is supposed to, including some of the more far-flung rural areas, not just the urban areas. Secondly, could we have an updated statement from the Cabinet Secretary for local government and finance on where we are with the devolution of taxation and specifically the development of a Welsh treasury function and Welsh Revenue Authority? In your previous role, you were heavily involved in this, leader of the house. I know you've handed the reins on now to the Member for Cardiff West. I think it's very important, with time pressing on, that we make sure that we are moving towards the structures that we need when the devolution of certain taxes happens, so that this Welsh Assembly and Welsh Government is able to hit the ground running at that point in time. Time is pressing on and I think we do need to know where we are with the development of those functions.
Diolch. Arweinydd y tŷ, tybed a gaf i ofyn i chi am ddiweddariad gan Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros seilwaith a thrafnidiaeth ar ddatblygiad cynllun metro de Cymru. Bydd aelodau'r Cynulliad blaenorol yn cofio fy mhryder mawr pan gafodd Trefynwy ei hepgor o rai o fapiau metro de Cymru, ac wedyn ailymddangosodd ar eraill cyn cael ei hepgor o fapiau dilynol. Felly, byddwn i'n ddiolchgar am ddiweddariad ar ein sefyllfa o ran sicrhau bod metro de Cymru yn cyrraedd pob ardal o rwydwaith de Cymru y mae i fod i'w chyrraedd, gan gynnwys rhai o'r ardaloedd gwledig mwy anghysbell, nid yr ardaloedd trefol yn unig. Yn ail, a gawn ni ddatganiad cyfredol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a llywodraeth leol ar ein sefyllfa o ran datganoli trethi ac yn benodol y gwaith o ddatblygu swyddogaeth trysorlys Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru? Yn eich swyddogaeth flaenorol, arweinydd y tŷ, roeddech yn ymwneud yn helaeth â hyn. Gwn eich bod wedi trosglwyddo'r awenau bellach i'r Aelod dros Orllewin Caerdydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth i amser fynd yn ei flaen, ein bod yn sicrhau ein bod yn symud tuag at y strwythurau y bydd eu hangen arnom pan fydd rhai trethi yn cael eu datganoli, fel y gall y Cynulliad Cymru hwn a'r Llywodraeth Cymru hon fwrw ati ar unwaith ar yr adeg honno. Mae amser yn prysuro yn ei flaen a chredaf fod angen i ni wybod ein sefyllfa ar hyn o bryd o ran datblygu'r swyddogaethau hynny.
I thank Nick Ramsay very much for those questions. Of course, he's been a strong advocate for his constituency of Monmouthshire and Monmouth in recognising the importance, particularly to Monmouthshire, of the metro. You've raised this on many occasions and we've had updates or statements to the Assembly, and of course in due course the Minister for economy and infrastructure will want to come to the Chamber and, of course, as we then move into the committees that we're establishing, there will be further opportunities, and indeed tomorrow, of course, questions to the Cabinet Secretary, which would be very appropriate. On your second question, of course, my colleague the Cabinet Secretary for Finance and Local Government is also hitting the ground running in terms of moving forward, making good progress with the preparation of the introduction of devolved taxes. We've had Royal Assent for the Tax Collection and Management (Wales) Act 2016, which I was very glad to take forward, with further legislation on land transaction and landfill disposals taxes due to be introduced later in this year. But also crucially important, Nick Ramsay, are the talks that are under way with the UK Government, seeking agreement on the fiscal framework underpinning our future funding arrangements.
Diolch i Nick Ramsay yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Wrth gwrs, bu ef yn eiriolwr cryf dros ei etholaeth Sir Fynwy a Threfynwy wrth gydnabod pwysigrwydd y metro, yn enwedig i Sir Fynwy. Rydych chi wedi codi hyn sawl gwaith ac rydym wedi cael diweddariadau neu ddatganiadau i'r Cynulliad, ac wrth gwrs bydd y Gweinidog dros yr economi a seilwaith yn dymuno dod i'r Siambr maes o law ac, wrth gwrs, gan ein bod wedyn yn symud i'r pwyllgorau yr ydym yn eu sefydlu, bydd rhagor o gyfleoedd, ac yn wir cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet yfory, wrth gwrs, a fyddai'n briodol iawn. O ran eich ail gwestiwn, wrth gwrs, mae fy nghyfaill Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol hefyd yn bwrw ati ar unwaith o ran symud ymlaen, gan wneud cynnydd da wrth baratoi at gyflwyno trethi datganoledig. Rydym wedi cael Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, yr oeddwn yn falch iawn o'i datblygu, gyda deddfwriaeth bellach ar drethi trafodiad tir a gwarediadau tirlenwi i'w cyflwyno yn ddiweddarach eleni. Ond yr hyn sydd hefyd yn hanfodol bwysig, Nick Ramsay, yw'r trafodaethau â Llywodraeth y DU, yn ceisio cael cytundeb ar y fframwaith cyllidol a fydd yn sail i'n trefniadau ariannu yn y dyfodol.
The next item is the statement by the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport on deemed consent for organ donation - the first six months. I call on the Cabinet Secretary, Vaughan Gething.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar ganiatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau - y chwe mis cyntaf. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Vaughan Gething.
Thank you, Presiding Officer. I am grateful for the opportunity to provide Members with an update six months on from the introduction of the Human Transplantation (Wales) Act 2013 and the introduction of deemed consent for deceased organ donation in Wales. This fully came into force on 1 December 2015. Members will know that people aged 18 and over who have lived in Wales for more than 12 months and who die in Wales are now regarded as being willing to donate their organs unless they have expressly said they do not wish to do so. The path to organ donation is a complex one, but consent is the stage at which most donations are lost and I am extremely proud that Wales now leads the way as the first nation in the UK to move to a soft opt-out system of consent. I fully expect that the new system will create a step change in consent for organ donation in Wales and early indications are that that is the case. In line with many other European countries with similar systems, this law was introduced to address the chronic shortage of organs for transplant that we face in Wales. I am sure we've all heard heart-breaking stories about people on organ waiting lists. However, based on international evidence, we anticipate that the new system will increase organ donation by around 25 per cent, or an additional 45 organs per year. In preparation for the change in the organ donation consent system, a great deal of work was undertaken to inform and engage the public. In the two years prior to full implementation, we undertook the largest and most wide-ranging public health information campaign in the history of devolution to explain these changes. Now, regular information has been collected on public awareness and the understanding of the organ donation law to monitor the effectiveness of that campaign. The latest survey in February 2016 showed that 74 per cent of the Welsh public could describe the changes unprompted, compared with 53 per cent in 2012. Now, this is an unprecedented level of understanding for something that was considered by some as being complicated. That 21 percentage point difference highlights a highly effective campaign, and I'd like to express my heartfelt thanks to the people of Wales for not only embracing this ground-breaking legislation but for also taking the time to consider, to discuss and to register their decision about organ donation. As of 28 May 2016, just over 167,000 people in Wales, or roughly 5 per cent of the population, are registered on the NHS organ donor register to opt out. That's far less than was anticipated in June last year, when a survey showed that 14 per cent of Welsh residents would opt out. It's really important that people who do want to positively opt out of the system have the opportunity to do so. But, in addition, there are now over 1.1 million people in Wales, over 35 per cent of the population, who are now positively registered to opt in to organ donation. I'd like to thank the numerous stakeholder organisations for their unstinting support. I'd especially like to thank all the patients and families who helped with our public information campaign by generously sharing their own experiences, their moving experiences, to personalise the campaign. None of this would have been possible without the hard work and support of a very large number of people across Wales and beyond. The redevelopment of the organ donor register was a key part of the work needed to provide the means to record an opt-out decision. That work was carried out with NHS Blood and Transplant and the other UK nations, and it was delivered six months before the law came into force. This allowed people enough time to record their decision. Everyone in the UK is now able to record their organ donation decision, whatever that might be. This has only been possible by the support provided by people across this Chamber in the development and implementation of the Act. There will continue to be a need to maintain an understanding of the new system and the organ donation choices that people have in Wales: opt out, opt in or to do nothing. The communication plan for the coming year will focus on promoting conversations between families and loved ones on their organ donation decisions, whilst also encouraging people to register their decision on the organ donor register. Although an increase in awareness levels is a measure of success, the real indication that that our legislation has delivered the required outcome will be an increase in donors, resulting in more patients and families benefiting from transplantation. Results for the first six months of the new legislation being in place, from 1 December last year to 31 May this year, showed 18 cases where consent was deemed in Wales. Ten of those proceeded to donation, but there were 42 consenting additional donors in total for that period. For the same period in 2014-15, there were 38 consenting donors, and 31 in 2013-14. If we look solely at the 18 cases where we can identify that consent was deemed, 10 patients proceeded to donate. From those donors, 37 organs were donated and 32 went on to transplantation. In comparison to the figures for the similar period prior to the change in the law for all proceeding donors, these numbers do look very positive indeed. A formal evaluation of the impact of the new law has been commissioned and will be published next year. I am grateful to Members of all parties for their contributions over the last few years in ensuring that Wales has been able to lead the UK in developing a soft opt-out system of consent for organ donation. Wales needed a transformation in donor and family consent, and the implementation of the Human Transplantation (Wales) Act 2013, I believe, has delivered that change. I look forward to hearing Members' comments and questions.
Diolch ichi, Lywydd. Rwyf yn ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau chwe mis ar ôl cyflwyno Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 a chyflwyno cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau ar ôl marw yng Nghymru. Daeth hyn i rym yn llawn ar 1 Rhagfyr 2015. Bydd yr Aelodau'n gwybod y tybir bellach bod pobl 18 mlwydd oed a throsodd sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na 12 mis ac sy'n marw yng Nghymru yn barod i roi eu horganau oni bai eu bod wedi nodi'n benodol nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae'r llwybr tuag at roi organau yn un cymhleth, ond yn y cam cydsynio y mae'r rhan fwyaf o roddion yn cael eu colli, ac rwyf yn hynod falch bod Cymru bellach yn arwain y ffordd fel y wlad gyntaf yn y DU i newid i system feddal o optio allan o gydsynio i roi organau. Rwyf yn llwyr ddisgwyl y bydd y system newydd yn sicrhau newid sylweddol o ran cydsynio i roi organau yng Nghymru ac mae arwyddion cynnar mai dyna sy'n digwydd. Yn yr un modd ag mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill sydd â systemau tebyg, cyflwynwyd y gyfraith hon i fynd i'r afael â phrinder difrifol organau i'w trawsblannu sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Rwyf yn siŵr ein bod i gyd wedi clywed straeon torcalonnus am bobl ar restrau aros am organau. Fodd bynnag, yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol, rydym yn rhagweld y bydd y system newydd yn golygu y bydd tua 25 y cant yn fwy o achosion o roi organau, neu 45 o organau ychwanegol y flwyddyn. I baratoi at y newid yn y system gydsynio ar gyfer rhoi organau, gwnaethpwyd llawer iawn o waith i roi gwybodaeth i'r cyhoedd ac i ymgysylltu â hwy. Yn y ddwy flynedd cyn rhoi'r ddeddf ar waith yn llawn, cynhaliwyd yr ymgyrch gwybodaeth iechyd y cyhoedd mwyaf a'r mwyaf pellgyrhaeddol yn hanes datganoli i esbonio'r newidiadau hyn. Yn awr, mae gwybodaeth reolaidd wedi ei chasglu am ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r gyfraith rhoi organau i fonitro effeithiolrwydd yr ymgyrch hwnnw. Dangosodd yr arolwg diweddaraf ym mis Chwefror 2016 y gallai 74 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru ddisgrifio'r newidiadau yn ddigymell, o gymharu â 53 y cant yn 2012. Yn awr, mae hon yn lefel ddigynsail o ddealltwriaeth ynghylch rhywbeth yr oedd rhai'n ei ystyried yn gymhleth. Mae'r gwahaniaeth hwn o 21 y cant yn tystio i ymgyrch hynod effeithiol, a hoffwn ddiolch o galon i bobl Cymru nid yn unig am gofleidio'r ddeddfwriaeth hon sy'n torri tir newydd ond hefyd am roi o'u hamser i ystyried, i drafod ac i gofrestru eu penderfyniad ynghylch rhoi organau. O 28 Mai 2016, mae ychydig dros 167,000 o bobl yng Nghymru, neu tua 5 y cant o'r boblogaeth, wedi eu cofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG i optio allan. Mae hynny'n llai o lawer nag a ragwelwyd ym mis Mehefin y llynedd, pan ddangosodd arolwg y byddai 14 y cant o drigolion Cymru'n optio allan. Mae'n bwysig iawn fod pobl sy'n dymuno optio allan yn gadarnhaol o'r system yn cael cyfle i wneud hynny. Ond, yn ogystal, erbyn hyn mae dros 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru, dros 35 y cant o'r boblogaeth, bellach wedi eu cofrestru yn gadarnhaol i optio i mewn i roi organau. Hoffwn ddiolch i'r sefydliadau niferus sy'n rhanddeiliaid am eu cefnogaeth ddiflino. Hoffwn ddiolch yn arbennig i'r holl gleifion a theuluoedd a helpodd â'n hymgyrch gwybodaeth gyhoeddus trwy rannu eu profiadau eu hunain, eu profiadau teimladwy, i bersonoli'r ymgyrch. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb waith caled a chefnogaeth nifer fawr iawn o bobl ledled Cymru a thu hwnt. Roedd ailddatblygu'r gofrestr rhoddwyr organau yn rhan allweddol o'r gwaith yr oedd ei angen i ddarparu modd o gofnodi penderfyniad i optio allan. Cafodd y gwaith hwnnw ei wneud gyda Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG a gwledydd eraill y DU, a'i gyflwyno chwe mis cyn i'r gyfraith ddod i rym. Roedd hynny'n rhoi digon o amser i bobl i gofnodi eu penderfyniad. Gall pawb yn y DU yn awr gofnodi eu penderfyniad ynghylch rhoi organau, beth bynnag fo'r penderfyniad hwnnw. Ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth pobl ar draws y Siambr hon i ddatblygu a gweithredu'r Ddeddf. Bydd angen parhau i hybu dealltwriaeth o'r system newydd a'r dewisiadau ynghylch rhoi organau sydd ar gael i bobl yng Nghymru: optio allan, optio i mewn neu wneud dim. Bydd y cynllun cyfathrebu ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn canolbwyntio ar hyrwyddo sgyrsiau rhwng teuluoedd ac anwyliaid am eu penderfyniadau ynghylch rhoi organau, ac annog pobl hefyd i gofrestru eu penderfyniad ar y gofrestr rhoi organau. Er bod cynnydd yn lefelau ymwybyddiaeth pobl yn fesur o lwyddiant, y prawf gwirioneddol fod ein deddfwriaeth wedi sicrhau'r canlyniad sydd ei angen fydd cynnydd yn nifer y rhoddwyr, a fydd yn golygu bod mwy o gleifion a theuluoedd yn elwa ar drawsblaniadau. Roedd canlyniadau'r chwe mis cyntaf ar ôl rhoi'r ddeddfwriaeth newydd ar waith, o 1 Rhagfyr y llynedd hyd at 31 Mai eleni, yn dangos y bu 18 o achosion o gydsynio tybiedig yng Nghymru. Aeth deg o'r rhain ymlaen i roi organau, ond roedd cyfanswm o 42 yn rhagor o roddwyr wedi cydsynio i roi organau yn y cyfnod hwnnw. Yn yr un cyfnod yn 2014-15, roedd 38 o roddwyr wedi cydsynio, a 31 yn 2013-14. Os edrychwn ar y 18 o achosion o gydsyniad tybiedig, aeth 10 claf ymlaen i roi organau. O'r rhoddwyr hynny, rhoddwyd 37 o organau ac aeth 32 ymlaen i'w trawsblannu. O gymharu â'r ffigurau ar gyfer y cyfnod cyfatebol cyn y newid yn y gyfraith ar gyfer yr holl roddwyr yr aethpwyd ymlaen i drawsblannu eu horganau, mae'r niferoedd hyn yn edrych yn gadarnhaol iawn yn wir. Mae gwerthusiad ffurfiol o effaith y gyfraith newydd wedi ei gomisiynu a chaiff ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf. Rwyf yn ddiolchgar i Aelodau o bob plaid am eu cyfraniadau dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod Cymru wedi gallu arwain y DU a datblygu system feddal o optio allan o gydsynio i roi organau. Roedd angen gweddnewid y drefn ar gyfer sicrhau cydsyniad rhoddwyr a theuluoedd yng Nghymru, a chredaf fod rhoi Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 ar waith wedi sicrhau'r newid hwnnw. Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau a chwestiynau'r Aelodau.
As well as taking this first opportunity in the Senedd to congratulate the Cabinet Secretary on his appointment and to thank him for this statement, may I congratulate each and every one who has made it possible for us to reach this point in terms of organ donation in Wales? We will hear from my fellow Member, Dr Dai Lloyd, in a few moments, as I know that he has a few questions to ask. But I would like to pay tribute to him and thank him for introducing the proposal to change the legislation back in 2007. I hope that the early statistics that have been outlined by the Secretary do demonstrate that this has been a valuable step, and a step that has already saved lives and will continue to do so. It will save many lives here in Wales. But I also hope, as we've seen with a number of other pieces of innovative legislation here in the National Assembly for Wales, that it will encourage other democratic bodies in these isles to be just as innovative. May I ask what discussions the Welsh Government has had with other Governments within the UK to urge them to adopt a similar system, particularly bearing in mind, of course, that patients in other parts of these isles could have benefited from our new legislation here in Wales and the positive statistics that have emerged as a result of the introduction of the legislation? May I also ask how many people who could have donated organs during this period had opted out? I note from the statement that far fewer than expected had opted out - some 5 per cent, as compared with the 14 per cent that was estimated in an earlier prediction - but each lost opportunity is an opportunity lost in terms of saving lives. So, what are the statistics there? Given that we need to continue to inform people on the importance of organ donation, what is the Government's intention as regards continuing with the work of educating people in this area, following this legislative change? In the case of those who hadn't stated one way or another what their preference was, in how many cases was a decision made to not donate organs on the basis of discussions with family, and not on a medical basis? More generally, along with most people in this Chamber today, this has been a debate that has raised very complex moral questions over the past few years, but, as I say, it's the outcomes that matter at the end of the day, and it's good to be able to look back at a successful start to this new piece of legislation.
Yn ogystal â defnyddio'r cyfle cyntaf hwn yn y Senedd i longyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei benodiad a diolch iddo, wrth gwrs, am y datganiad yma, a gaf i longyfarch pob un sydd wedi'i gwneud hi'n bosibl inni gyrraedd y pwynt yma o ran rhoi organau yng Nghymru? Mi glywn ni, rwy'n gwybod, gan fy nghyd-Aelod i, Dr Dai Lloyd, yn y man. Rwy'n gwybod fod ganddo fo ychydig o gwestiynau i'w gofyn. Ond, mi fyddwn i'n licio rhoi teyrnged iddo fo a diolch iddo fo am gyflwyno'r cynnig i newid deddfwriaeth yn ôl yn 2007. Rwy'n gobeithio bod yr ystadegau cynnar sydd wedi cael eu hamlinellu gan yr Ysgrifennydd yn dangos bod hwn yn gam sydd wedi bod yn werthfawr ac yn gam sydd wedi yn barod ac a fydd yn achub llawer iawn o fywydau. Mi fydd yn achub llawer o fywydau yma yng Nghymru. Ond, rwy'n gobeithio, fel sydd wedi'i weld efo sawl darn o ddeddfwriaeth arloesol yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, y bydd yn hwb i gyrff democrataidd eraill yn yr ynysoedd yma i weithredu mewn modd yr un mor flaengar. A gaf i ofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael efo Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig i wthio arnynt hwy i fabwysiadu system debyg, yn enwedig, wrth gwrs, o ystyried y gallai cleifion mewn rhannau eraill o'r ynysoedd yma fod wedi manteisio o'n Deddf newydd ni yng Nghymru a'r ystadegau positif sydd wedi dod ymlaen o ganlyniad i hynny? A gaf i ofyn hefyd faint o bobl a allai fod wedi rhoi organau a oedd wedi optio allan yn y cyfnod yma? Rwy'n nodi o'r datganiad fod llawer llai wedi optio allan na'r disgwyl - rhyw 5 y cant o'i gymharu, o bosib, â 14 y cant a gafodd ei amcangyfrif mewn arolwg cynharach - ond mae pob un sy'n cael ei golli, wrth gwrs, yn gyfle yn cael ei golli i arbed bywyd. Felly, beth ydy'r ystadegau yn y fan honno? Ac, o ystyried, felly, fod angen parhau i hysbysu pobl am y pwysigrwydd o roi organau, pa fwriad sydd gan y Llywodraeth i barhau â'r gwaith o addysgu pobl yn y maes yma, yn dilyn y newid deddfwriaethol? Yn achos rhai nad oedd wedi nodi'r naill ffordd na'r llall, yn sawl achos gwnaed penderfyniad i beidio â rhoi organau wedi trafodaethau efo'r teulu, ac nid, hynny yw, ar sail feddygol? Ond, yn gyffredinol heddiw, wrth gwrs, fel pawb arall yma yn y Siambr, mae hon wedi bod yn drafodaeth sydd wedi codi cwestiynau moesol dyrys iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ond, fel rwy'n dweud, y canlyniadau sy'n cyfrif yn y pen draw, ac mae'n braf gallu edrych yn ôl ar gychwyn llwyddiannus i gyfnod dan y ddeddfwriaeth newydd yma.
I thank the Member for his comments. In particular, I acknowledge the work of, as I said, a range of people in the Chamber, including Dai Lloyd. In the interim, when he left us for a brief period of time, we actually passed the legislation that we're now debating and discussing today. To start, I think there were three particular points and questions that you made for me to answer. The first was about other Parliaments and other parts of the UK. I actually attended the board meeting of NHS Blood and Transplant before the election, in Cardiff. It was interesting, as you could see very real interest in the system that we have here in Wales and the impact that it is having. So, there is very real interest right across the NHS family in the United Kingdom about the amount of difference that this legislation will be making. I can't speak for other Parliaments as to whether they plan to follow our legislation, but I do know there's a very real interest in it. Personally, I'd be surprised if, in 10 years' time, we don't see similar pieces of legislation in other parts of the United Kingdom, because, if it makes the difference we want it to, and we think it has done already in the first six months, then you would have thought that people across parties, in other parts of the UK, would equally want to see extra dozens of lives saved every year, because the challenge of having enough donors available to match people waiting on the organ donor waiting list is not just a problem here in Wales. In terms of those people who have opted out but might otherwise have been donors, I'm not actually aware that we do collect that particular information - I will check, though. Part of the reason is, of course, that there are precise circumstances under which people can be donors for organ transplantation, and I'm not aware that we can assume that someone could be a donor if it were not for the fact that they had opted out. But, I will check that and the particular point you also raised about the number of people where donation does not proceed because of objections from the family. I made the point earlier in interviews today about this that, even for people who have positively opted in and are on the register, it is still possible that transplantation won't proceed because of the conversation with the family around the time of donation. Now, that's something that some people are very frustrated by, but we do have to think about the impact on people who are here, not just the person who wishes for donation to take place. The final point that I want to address is: you mentioned those people who are sceptical and those people who were not positive about the change being made - a range of people from different communities and a number of faiths had concerns about the change to a deemed-consent system One of the things I'm really pleased about is the work that we did specifically with a range of different groups, including religious and faith communities, to look at what the changes meant, and, actually, we've seen a different sort of attitude. People are more relaxed. They are happier that some of the concerns they had about how the system might work have not been borne out, and I think that's part of the reason why we've not seen quite as many people positively opting out, to register that they don't want to take part in the donation system. But, it is something where, after six months, after a year, and further on, we need to review the impact and understand whether we're making the difference we want to or whether we could still do more.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Yn benodol, rwyf yn cydnabod gwaith amryw o bobl yn y Siambr, fel y dywedais, gan gynnwys Dai Lloyd. Yn y cyfamser, ac yntau wedi'n gadael am gyfnod byr, llwyddasom i basio'r ddeddfwriaeth yr ydym yn awr yn ei thrafod heddiw. I ddechrau, roedd tri phwynt a chwestiwn penodol i mi eu hateb. Roedd y cyntaf ynghylch Seneddau eraill a rhannau eraill o'r DU. Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod bwrdd Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG cyn yr etholiad, yng Nghaerdydd. Roedd yn ddiddorol, oherwydd roedd yno ddiddordeb gwirioneddol yn y system sydd gennym yma yng Nghymru a'r effaith y mae'n ei chael. Felly, mae diddordeb gwirioneddol ledled teulu'r GIG yn y Deyrnas Unedig ynglŷn â faint o wahaniaeth y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei wneud. Ni allaf siarad dros Seneddau eraill ynghylch a ydynt yn bwriadu dilyn ein deddfwriaeth, ond gwn fod diddordeb gwirioneddol ynddi. Yn bersonol, byddwn yn synnu pe na baem, ymhen 10 mlynedd, yn gweld darnau tebyg o ddeddfwriaeth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, oherwydd os gwnaiff y gwahaniaeth yr ydym am iddi'i wneud, ac yr ydym yn credu ei bod wedi ei wneud eisoes yn y chwe mis cyntaf, yna byddech yn tybio y byddai pobl ar draws y pleidiau, mewn rhannau eraill o'r DU, yr un mor awyddus i weld dwsinau'n rhagor o fywydau'n cael eu hachub bob blwyddyn, oherwydd nid yng Nghymru'n unig y mae her sicrhau bod digon o roddwyr i gyd-fynd â'r bobl sy'n aros ar y rhestr aros am organau yn broblem. O ran y bobl hynny sydd wedi optio allan ond a allai fel arall fod wedi bod yn rhoddwyr, nid wyf yn ymwybodol ein bod yn casglu'r wybodaeth neilltuol honno - ond fe holaf ynghylch hynny. Rhan o'r rheswm, wrth gwrs, yw bod amgylchiadau penodol lle y gall pobl fod yn rhoddwyr ar gyfer trawsblannu organau, ac nid wyf yn ymwybodol y gallwn gymryd yn ganiataol y gallai rhywun fod wedi bod yn rhoddwr oni bai am y ffaith ei fod wedi optio allan. Ond fe holaf ynghylch hynny a'r pwynt penodol yr ydych hefyd yn ei godi ynghylch nifer y bobl lle na chaiff yr organau eu rhoi oherwydd gwrthwynebiadau gan y teulu. Soniais mewn cyfweliadau yn gynharach heddiw am hyn, sef hyd yn oed ar gyfer pobl sydd wedi optio i mewn yn gadarnhaol ac sydd ar y gofrestr, mae'n dal yn bosibl na fydd eu horganau'n cael eu trawsblannu oherwydd y sgwrs â'r teulu tua adeg rhoi'r organau. Yn awr, mae hynny'n rhywbeth y mae rhai pobl yn teimlo'n rhwystredig iawn yn ei gylch, ond mae'n rhaid i ni feddwl am yr effaith ar y bobl sydd yma, nid dim ond y sawl sy'n dymuno i'r organau gael eu rhoi. Y pwynt olaf yr wyf am ymdrin ag ef yw hyn: soniasoch am y bobl hynny sydd ag amheuon a'r bobl hynny nad oeddent yn gadarnhaol am y newid oedd yn cael ei wneud - roedd gan amryw o bobl o wahanol gymunedau a nifer o grefyddau bryderon am y newid i system cydsyniad tybiedig. Un o'r pethau yr wyf i'n falch iawn yn ei gylch yw'r gwaith a wnaethom yn benodol gydag ystod o grwpiau gwahanol, gan gynnwys cymunedau crefyddol a ffydd, i edrych ar yr hyn yr oedd y newidiadau'n ei olygu, ac, mewn gwirionedd, rydym wedi gweld math gwahanol o agwedd. Mae pobl wedi ymlacio mwy. Maent yn hapusach nad yw rhai o'r pryderon a oedd ganddynt ynghylch sut y gallai'r system weithio wedi cael eu gwireddu, a chredaf fod hynny'n rhan o'r rheswm pam nad ydym wedi gweld cymaint o bobl yn optio allan yn gadarnhaol i gofrestru nad ydynt am gymryd rhan yn y system rhoi organau. Ond mae'n rhywbeth lle y bydd angen inni, ar ôl chwe mis, ar ôl blwyddyn, ac ymhellach ymlaen, adolygu'r effaith a deall a ydym yn gwneud y gwahaniaeth yr ydym am ei wneud neu a allem wneud mwy eto.
First of all, may I start off by welcoming you to your position? I hope we have the opportunity to work well together to try to improve health services within Wales. I'm very grateful for this statement. For those of you who were here in the last Assembly, you will remember that I very clearly worked very hard on this as an individual Member and I leant the Government my vote, and I'm very pleased to see, after six months - because I said I'd keep a watching brief over the next few years - that things are going so well. There are a couple of areas, though, where I would like some questions, and I would like to make the point that I speak on my own behalf because, of course, the Welsh Conservatives had a free vote on this matter. Minister, have you had any additional thought as to promoting this with your colleague, the education Secretary, in terms of getting the message through to young people in particular? I conducted a very unscientific piece of research at the weekend when I saw this was coming up, when I asked representatives from one school in Carmarthenshire - a secondary school - two in Pembrokeshire and two in the Vale of Glamorgan what they knew about organ donation, and there were very, very lukewarm and woolly replies. Now, the previous Minister gave a commitment that our communication plan already has new funds set out in it to make a special effort to ensure that young people have the information that they need, and, of course, schoolchildren, those who are coming up to leaving secondary school and those at higher education colleges are those who are about to become 18 and will then be able to opt in or out. So, I'd like to know what you're going to do to really try and ramp up that communication programme, do you have funds set aside, and if you could give us an indication of how much those funds might be. I'd like to just drill down very slightly into the 18 people who hadn't made a preference either way. You said that 10 of them went on to donate and, obviously, eight didn't, and I wondered if there'd been much qualitative research undertaken as to the reasons that those who didn't go on to donate might not have. It could have been just that they didn't have a match and there was no-one who wanted their particular organs, but it would be very interesting to see if there are any trends there as to perhaps age groups or background as to why that message hadn't got through to them. I also would like to know if you've done or intend to do any qualitative research on those people whose families who did agree to allow organ donation to go ahead because, of course, one of the things that we talked about a lot last time was ensuring that there was proper training in place for the doctors and nurses who are involved in the organ donation area, and it's about lessons learned. Are we handling those people effectively, kindly, compassionately? They're at a time of great personal stress, and that's why I just want to pick you up on one comment you made, which gave me a slight shadow of unease, when you said that there is a frustration that some people said 'no' and didn't let their organs go ahead. We should accept that frustration as part of the freedoms that we give people, and I wouldn't like that ever to be translated to a person at the front line into any pressure on a family. At the end of the day, it's the family's right. We've enshrined that in this piece of legislation, that if there isn't presumed consent, that the discussion happens, that there is the ability for them not to proceed. And we shouldn't show a flicker of concern over that, because that's what we said and that's what we must adhere to. Finally, Minister, could you set out the budget that's in place to promote organ donation and outline whether there's scope for further investment, if research proves that we need it to move this issue forward? Thank you.
Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy eich croesawu i'ch swydd? Rwyf yn gobeithio y cawn gyfle i weithio'n dda gyda'n gilydd i geisio gwella gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Rwyf yn ddiolchgar iawn am y datganiad hwn. I'r rhai hynny ohonoch a oedd yma yn y Cynulliad diwethaf, fe gofiwch fy mod yn amlwg iawn wedi gweithio'n galed iawn ar hyn fel Aelod unigol a rhoddais fy mhleidlais i'r Llywodraeth, ac rwyf yn falch iawn o weld, ar ôl chwe mis - oherwydd dywedais y byddwn i'n cadw golwg dros yr ychydig flynyddoedd nesaf - fod pethau'n mynd cystal. Mae rhai meysydd, fodd bynnag, lle'r hoffwn rai cwestiynau, a hoffwn wneud y pwynt fy mod yn siarad ar fy rhan fy hun oherwydd, wrth gwrs, roedd gan y Ceidwadwyr Cymreig bleidlais rydd ar y mater hwn. Weinidog, a ydych wedi rhoi ystyriaeth bellach i hyrwyddo hyn gyda'ch cydweithiwr, yr Ysgrifennydd Addysg, o ran cyfleu'r neges i bobl ifanc yn benodol? Cynhaliais waith ymchwil anwyddonol iawn dros y penwythnos pan welais y byddai hyn yn codi, a gofyn i gynrychiolwyr o un ysgol yn Sir Gaerfyrddin - ysgol uwchradd - dwy yn Sir Benfro a dwy ym Mro Morgannwg beth roeddent yn ei wybod am roi organau, a chefais atebion llugoer ac annelwig iawn, iawn. Yn awr, gwnaeth y Gweinidog blaenorol ymrwymiad fod cyllid newydd eisoes wedi'i neilltuo yn ein cynllun cyfathrebu i wneud ymdrech arbennig i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, ac, wrth gwrs, plant ysgol, y rhai sy'n paratoi i adael yr ysgol uwchradd a'r rhai sydd mewn colegau addysg uwch yw'r rhai sydd ar fin troi'n 18 oed a byddant wedyn yn gallu optio i mewn neu allan. Felly, hoffwn wybod beth rydych chi'n mynd i'w wneud i fynd ati o ddifrif i geisio gwella'r rhaglen gyfathrebu honno, a oes gennych gyllid wedi'i neilltuo, ac a allwch roi syniad inni o faint y gallai'r cyllid hwnnw fod. Hoffwn holi ychydig am y 18 o bobl nad oedd wedi gwneud dewis y naill ffordd na'r llall. Dywedasoch fod 10 ohonynt wedi mynd ymlaen i roi organau, ac yn amlwg, roedd wyth heb wneud, felly tybed a wnaed rhywfaint o ymchwil ansoddol i'r rhesymau pam nad oedd y rhai na aeth ymlaen i roi organau wedi gwneud hynny. Mae'n bosibl nad oedd eu horganau'n cydweddu ac nad oedd ar neb eisiau eu horganau hwy, ond byddai'n ddiddorol iawn gweld a oes unrhyw dueddiadau yno efallai ynghylch grwpiau oedran neu gefndir o ran pam nad yw'r neges wedi eu cyrraedd. Hoffwn wybod hefyd a ydych wedi gwneud neu a ydych yn bwriadu gwneud unrhyw ymchwil ansoddol ar y bobl hynny y cytunodd eu teuluoedd i ganiatáu i'w horganau gael eu rhoi oherwydd, wrth gwrs, un o'r pethau yr oedd llawer o sôn amdano y tro diwethaf oedd sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael i'r meddygon a'r nyrsys ym maes rhoi organau, ac mae'n fater o ddysgu gwersi. A ydym yn trin y bobl hynny'n effeithiol, yn garedig, yn dosturiol? Maent mewn cyfnod o straen personol mawr, a dyna pam yr wyf am eich holi am un sylw a wnaethoch, a barodd fymryn o anesmwythyd i mi, pan ddywedasoch fod rhwystredigaeth bod rhai pobl yn dweud 'na' ac nad oeddent yn gadael i'w horganau fynd yn eu blaen. Dylem dderbyn y rhwystredigaeth honno, fel rhan o'r rhyddid yr ydym yn ei roi i bobl, ac ni fyddwn yn hoffi i hynny fyth gael ei drosglwyddo i rywun yn y rheng flaen ac i unrhyw bwysau ar deulu. Yn y pen draw, dyma hawl y teulu. Rydym wedi ymgorffori hynny yn y darn hwn o ddeddfwriaeth, sef os nad oes cydsyniad tybiedig, fod y drafodaeth yn digwydd, a bod modd iddynt beidio â bwrw ymlaen. Ac ni ddylem ddangos dim pryder ynghylch hynny, oherwydd dyna a ddywedasom a dyna y mae'n rhaid i ni gadw ato. Yn olaf, Weinidog, a wnewch chi amlinellu'r gyllideb sydd ar waith i hyrwyddo rhoi organau ac amlinellu a oes lle i fuddsoddi pellach, os yw ymchwil yn profi bod angen hynny arnom i symud y mater hwn ymlaen? Diolch.
Thank you for that series of questions. I'll just deal first with the point that I think was about a misunderstanding, rather than anything else, because I was actually referring to the role of the family in not supporting donation, but of someone who's actually made a decision to go on to the register to opt in. That still happens, but that's part of what we need to do. It's part of the sensitivity of the medical professionals and, in particular, in the scrutiny phase of this and afterwards, the record of the role of the specialist nurse, both being positive in explaining choice and what it means for people at that time, whether they opt in or opt out, whether they consent to donation proceeding and also, in particular, those who do say 'yes', because that's been one of the things that's been most affecting through this process is meeting families and loved ones of people who have gone on to be donors. So many of them have a positive story to tell about a death not being in vain, and understanding that there are other people who have continued with their lives because of the choice that's been made. And that's absolutely been very genuinely, very motivational, hearing that. In terms of your broader points about research on impact and a review, we have, of course, committed to reviewing the impact of the legislation. I'm sure there will be a number of people wishing to undertake their own research on the impact of the law, but the Government has committed to review the impact of the legislation. We won't be doing that right now because this is an update statement rather than a formal review of where we are in the first six months. We're going to spend approximately £200,000 over the course of this next year on promoting what's taken place, that information campaign, but you'll be aware funding will continue into the next year because the Assembly committed to spending about £7.5 million over 10 years when we passed this legislation. I do want to start off by recognising what Angela Burns said at the start of her contribution, and not just thank you - I should say it to Rhun as well - but say congratulations both to yourself and Rhun ap Iorwerth on your changes in role, and welcome to a significantly interesting portfolio where nearly half the Government's money is spent. I do recognise that on this particular issue, not only did the Welsh Conservatives have a free vote, but I recognise very well that you said you were a sceptic, and it was a leap of faith to support the legislation coming into place. That's why it is important that we're open and transparent about the impact that the legislation is having and, equally, if we understand there's more that we could or should do to improve the system. And that isn't just about increasing the number of donors, but actually understanding the impact on families of any decision to proceed with donation. I'll deal with two final points that occurred in your comments and questions. The first was about ensuring that awareness continues, in particular for younger people. We're already planning to ensure that people who are approaching their eighteenth birthday have what's been called - I'm not sure if this is the right terminology - 'a rising 18s letter'. So, people who are approaching their eighteenth birthdays receive formal communication that tells them, reminds them, about the new system and what their choices are and it encourages them to talk to their loved ones, to have the conversation with people around them about what they would like to see happen. Equally, for the future, we're looking at GP registration. It isn't ready yet, but at some point we should be able to do something when people register with their GPs, so people can register their choice at that point as well. The more opportunities we give people, the easier we make it for people to record what their choice is - to opt in, to opt out or to do nothing - I think the better it is for all of us. That's part of the success this legislation needs to have, to see the impact we want it to have, when more and more lives are saved each year.
Diolch ichi am y gyfres honno o gwestiynau. Rwyf am ymdrin yn gyntaf â'r pwynt yr wyf yn credu oedd yn gamddealltwriaeth, yn anad dim, oherwydd roeddwn yn cyfeirio mewn gwirionedd at rôl y teulu wrth beidio â chefnogi rhoi organau, ond rhywun sydd wedi gwneud y penderfyniad i fynd ar y gofrestr i optio i mewn. Mae hynny'n dal i ddigwydd, ond mae hynny'n rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud. Mae'n rhan o sensitifrwydd y gweithwyr meddygol proffesiynol ac, yn arbennig, yn y cyfnod craffu ar hyn ac wedi hynny, y cofnod o rôl y nyrs arbenigol, o ran bod yn gadarnhaol wrth esbonio'r dewis a'r hyn y mae'n ei olygu i bobl ar y pryd, p'un a ydynt yn optio i mewn neu allan, p'un a ydynt yn cydsynio i'r organau gael eu rhoi a hefyd, yn benodol, y rhai sydd yn dweud 'ie', oherwydd un o'r pethau sydd wedi bod fwyaf teimladwy drwy'r broses hon yw cwrdd â theuluoedd ac anwyliaid y bobl sydd wedi mynd ymlaen i fod yn rhoddwyr. Felly, mae gan lawer ohonynt stori gadarnhaol i'w hadrodd am farwolaeth na fu'n ofer, a deall bod pobl eraill sydd wedi parhau â'u bywydau oherwydd y dewis sydd wedi ei wneud. Ac mae clywed hynny wedi bod yn ddiffuant iawn, ac yn ysbrydoliaeth. O ran eich pwyntiau ehangach am ymchwil ynglŷn ag effaith hyn ac adolygiad, rydym, wrth gwrs, wedi ymrwymo i adolygu effaith y ddeddfwriaeth. Rwyf yn siŵr y bydd nifer o bobl sy'n dymuno gwneud eu hymchwil eu hunain ar effaith y gyfraith, ond mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i adolygu effaith y ddeddfwriaeth. Ni fyddwn yn gwneud hynny ar hyn o bryd oherwydd datganiad diweddaru yw hwn yn hytrach nag adolygiad ffurfiol o ble yr ydym yn y chwe mis cyntaf. Byddwn yn gwario tua £200,000 yn ystod y flwyddyn nesaf ar hyrwyddo'r hyn sydd wedi digwydd, yr ymgyrch wybodaeth, ond fel y gwyddoch, bydd y cyllid yn parhau i mewn i'r flwyddyn nesaf oherwydd bod y Cynulliad wedi ymrwymo i wario tua £7.5 miliwn dros 10 mlynedd pan basiwyd y ddeddfwriaeth hon. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod yr hyn a ddywedodd Angela Burns ar ddechrau ei chyfraniad, ac nid dim ond diolch - dylwn ddweud hynny wrth Rhun hefyd - ond dweud llongyfarchiadau wrthoch chi a Rhun ap Iorwerth ar y newid yn eich swyddogaeth, a chroeso i bortffolio diddorol iawn lle mae bron i hanner arian y Llywodraeth yn cael ei wario. Rwyf yn cydnabod, ar y mater penodol hwn, nid yn unig fod gan y Ceidwadwyr Cymreig bleidlais rydd, ond rwyf yn cydnabod ichi ddweud eich bod yn sgeptig, a'i fod yn gam mentrus cefnogi'r ddeddfwriaeth a oedd ar ddod. Dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch yr effaith y mae'r ddeddfwriaeth yn ei chael ac, yn yr un modd, ein bod yn deall bod mwy y gallem neu y dylem fod yn ei wneud i wella'r system. Ac nid mater o gynyddu nifer y rhoddwyr yn unig yw hynny, ond deall yn wirioneddol effaith unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen â rhoi organau ar deuluoedd. Ymdriniaf â'r ddau bwynt olaf yn eich sylwadau a'ch cwestiynau. Roedd y cyntaf yn ymwneud â sicrhau bod ymwybyddiaeth yn parhau, yn enwedig ymhlith pobl iau. Rydym eisoes yn bwriadu sicrhau bod pobl sy'n agosáu at eu pen-blwydd yn ddeunaw oed yn cael yr hyn a alwyd yn - nid wyf yn siŵr ai dyma'r derminoleg iawn - 'llythyr codi'n 18 oed'. Felly, mae pobl sy'n agosáu at eu pen-blwydd yn ddeunaw yn cael neges ffurfiol sy'n dweud wrthynt, yn eu hatgoffa, am y system newydd a beth yw eu dewisiadau ac yn eu hannog i siarad â'u hanwyliaid, i gael y sgwrs gyda phobl o'u cwmpas am yr hyn yr hoffent ei weld yn digwydd. Yn yr un modd, ar gyfer y dyfodol, rydym yn edrych ar gofrestru â meddygon teulu. Nid yw'n barod eto, ond rywbryd dylem fod yn gallu gwneud rhywbeth lle bydd pobl yn cofrestru â'u meddygon teulu, fel y gall pobl gofrestru eu dewis yn y fan honno hefyd. Po fwyaf o gyfleoedd a roddwn i bobl, po hawsaf yr ydym yn ei gwneud i bobl gofnodi beth yw eu dewis - optio i mewn, optio allan neu wneud dim - gorau oll y bydd hi yn fy marn i i bob un ohonom. Dyna ran o'r llwyddiant y mae ei angen i'r ddeddfwriaeth hon ei gael, gweld yr effaith yr ydym am iddi ei chael, lle bydd mwy a mwy o fywydau'n cael eu hachub bob blwyddyn.
I too would like to offer my congratulations on your appointment, Cabinet Secretary, and thank you for your statement. It is indeed good news that deemed consent created 10 more donors who contributed to half of the transplants in the last six months. Organ donation is the greatest act of generosity and compassion a person can undertake. Sadly, we still have over 200 people waiting for a life-saving transplant in Wales, and yet only 35 per cent of people in Wales have opted in to the organ donation register. Deemed consent is a great leap forward and 32 organs have been transplanted that might not have been if the system was not in place. But, we all have a duty to encourage people to register as donors. In 43 per cent of cases where organ donation is possible, families say 'no' to donation, because they don't know whether their loved one wanted to be a donor. Let's take the burden off our grieving families and register as organ donors. When someone registers as a donor, their wishes, whether their family agrees or not, should be respected and not overridden. Deemed consent only applies if you die in Wales. Let's ensure that we can save lives after our deaths elsewhere in the UK by opting in to the organ donation register. Cabinet Secretary, what is the Welsh Government doing to encourage more people to register as donors? What about parental guidance to young people embarking on leaving school? What is the Government doing to improve education about organ donation? A lot of objections to organ donation are on religious grounds. Is the Welsh Government working with religious groups to help educate people about the beliefs of becoming an organ donor? It is unfortunate that if a potential donor's family cannot be contacted, consent for donation cannot be deemed. What consideration has the Government given to adding emergency contact details to a patient's medical records? Cabinet Secretary, only 157,000 people have opted out from the organ donation register. Let's use the next six months to persuade the remainder of the Welsh public that it is better if they give their express consent to organ donation and make their wishes known to their loved ones than to rely on deemed consent alone. Thank you.
Hoffwn innau hefyd eich llongyfarch ar eich penodiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a diolch ichi am eich datganiad. Mae'n newyddion da yn wir fod cydsyniad tybiedig wedi creu 10 yn rhagor o roddwyr a gyfrannodd at hanner y trawsblaniadau yn y chwe mis diwethaf. Rhoi organau yw'r weithred fwyaf o haelioni a thrugaredd y gall person ei gyflawni. Yn anffodus, mae gennym dros 200 o bobl sy'n dal i aros am drawsblaniad achub bywyd yng Nghymru, ac eto dim ond 35 y cant o bobl yng Nghymru sydd wedi optio i mewn i'r gofrestr rhoi organau. Mae cydsyniad tybiedig yn gam mawr ymlaen ac mae 32 o organau wedi eu trawsblannu na fyddent efallai wedi eu trawsblannu pe na bai'r system ar waith. Ond mae gennym i gyd ddyletswydd i annog pobl i gofrestru fel rhoddwyr. Mewn 43 y cant o achosion lle mae rhoi organau yn bosibl, mae teuluoedd yn dweud 'na' i roi'r organau, am nad ydynt yn gwybod a oedd eu hanwyliaid am fod yn rhoddwyr. Gadewch inni gymryd y baich oddi ar ein teuluoedd sy'n galaru a chofrestru fel rhoddwyr organau. Pan fydd pobl yn cofrestru fel rhoddwyr, dylai eu dymuniadau, p'un a yw eu teuluoedd yn cytuno ai peidio, gael eu parchu ac ni ddylent gael eu diystyrru. Dim ond os byddwch yn marw yng Nghymru y bydd cydsyniad tybiedig yn berthnasol. Gadewch inni sicrhau ein bod yn gallu arbed bywydau ar ôl ein marwolaeth mewn mannau eraill yn y DU drwy optio i mewn i'r gofrestr rhoi organau. Ysgrifennydd y Cabinet, beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i annog mwy o bobl i gofrestru fel rhoddwyr? Beth am gyngor rhieni i bobl ifanc sy'n paratoi i adael yr ysgol? Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella addysg am roi organau? Mae llawer o'r bobl sy'n gwrthwynebu rhoi organau yn gwneud hynny am resymau crefyddol. A yw Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda grwpiau crefyddol i helpu i addysgu pobl am gredoau bod yn rhoddwr organau? Mae'n anffodus, os na ellir cysylltu â theulu rhoddwr posibl, na ellir tybio cydsyniad i roi organau. Pa ystyriaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i ychwanegu manylion cysylltu mewn argyfwng i gofnodion meddygol claf? Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond 157,000 o bobl sydd wedi optio allan o'r gofrestr rhoi organau. Gadewch inni ddefnyddio'r chwe mis nesaf i berswadio gweddill y cyhoedd yng Nghymru ei bod yn well os ydynt yn rhoi eu cydsyniad penodol i roi organau ac yn dweud wrth eu hanwyliaid beth yw eu dymuniadau na dibynnu ar ganiatâd tybiedig yn unig. Diolch.
Thank you for the comments from the UKIP health spokesperson and welcome to your own role. I'm pleased to hear your very clear support for the legislation and the outcomes that we wish to achieve. A part of what we're doing today, and we'll be doing throughout the rest of this year and the rest of the time we have a communication campaign, is to encourage people to make choices - whether that choice is to opt out or to opt in or to agree to do nothing and to potentially allow their consent to be deemed. I've dealt with a range of the points that I think you've raised about what we're doing to try and promote a different range of people to have a conversation with their loved ones to make sure that their choices are known to the people they leave behind in particular. And in response to Angela Burns and Rhun ap Iorwerth, I've mentioned a number of things that we are already looking to do. On the two particular points I think I should probably respond on, one is about the emergency contact for a family or loved one. Because of the particular circumstances in which people are able to be organ donors, it's likely that a family member or loved one will be there with them. Where that isn't the case, they still need to check that organ donation is possible, because you need to know enough about their medical history to understand whether their organs could in fact be made available for donation. So, there are practical points about that. Just on your point about faith communities in particular, which I mentioned earlier, just to confirm, we employed a specialist consultancy called Cognition, which have experience of dealing with a range of different communities, and they've actually brought together people of different faith backgrounds to understand the concerns they had and how they've been able to get over those. So, I think people are more informed now, and that's been part of the success of the legislation to date. I actually attended a workshop with a range of different people - not because of my particular role in Government, but also significantly because of my own constituency and the diversity that exists - with different faith groups to understand what their concerns were, where they'd moved to an understanding of the system that we have available and the choices that they can make. Because, actually, a range of people who are leaders in faith communities have the potential to influence people, to look at what we're doing and to make their choice - whether it's to opt in, opt out or do nothing. So, I'm pleased with where we are now, six months in of the legislation going active, and I look forward to giving further updates to Members on where we have got to and where we still want to get to in the years and months to come.
Diolch am sylwadau llefarydd iechyd UKIP a chroeso i chithau i'ch rôl. Rwyf yn falch o glywed eich cefnogaeth glir iawn i'r ddeddfwriaeth a'r canlyniadau yr ydym am eu cyflawni. Rhan o'r hyn yr ydym yn ei wneud heddiw, ac y byddwn yn ei wneud drwy gydol gweddill y flwyddyn hon a gweddill yr amser y bydd gennym ymgyrch gyfathrebu, yw annog pobl i wneud dewisiadau - boed y dewis hwnnw i optio allan neu i optio i mewn neu gytuno i wneud dim byd ac o bosibl i ganiatáu i'w cydsyniad gael ei dybio. Rwyf wedi ymdrin ag amryw o'r pwyntiau yr ydych wedi'u codi ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wneud i geisio annog ystod wahanol o bobl i gael sgwrs â'u hanwyliaid i wneud yn siŵr bod y bobl y maent yn eu gadael ar eu holau yn gwybod beth yw eu dewisiadau'n benodol. Ac mewn ymateb i Angela Burns a Rhun ap Iorwerth, rwyf wedi crybwyll nifer o bethau yr ydym eisoes am eu gwneud. O ran y ddau bwynt penodol y credaf y dylwn ymateb iddynt, mae un ynghylch manylion cysylltu mewn argyfwng â theulu neu rywun annwyl. Oherwydd yr amgylchiadau penodol lle mae pobl yn gallu bod yn rhoddwyr organau, mae'n debygol y bydd aelod o'r teulu neu rywun annwyl yno gyda hwy. Lle nad yw hynny'n digwydd, mae'n dal angen iddynt wirio bod rhoi organau yn bosibl, oherwydd mae angen ichi wybod digon am eu hanes meddygol i ddeall a ellid cynnig eu horganau i'w rhoi. Felly, mae pwyntiau ymarferol ynghylch hynny. Ynghylch eich pwynt am gymunedau ffydd yn benodol, a chrybwyllais hynny'n gynharach, gallaf gadarnhau inni gyflogi cwmni ymgynghori arbenigol o'r enw Cognition, sydd â phrofiad o ymdrin ag ystod o wahanol gymunedau, ac maent wedi dod â phobl o wahanol gefndiroedd ffydd ynghyd er mwyn deall y pryderon a oedd ganddynt a sut y maent wedi llwyddo i'w goresgyn. Felly, credaf fod pobl yn fwy gwybodus erbyn hyn, ac mae hynny wedi bod yn rhan o lwyddiant y ddeddfwriaeth hyd yn hyn. Roeddwn yn bresennol mewn gweithdy gydag amryw o wahanol bobl - nid oherwydd fy rôl benodol yn y Llywodraeth, ond hefyd yn arwyddocaol oherwydd fy etholaeth a'r amrywiaeth sydd yno - gyda gwahanol grwpiau ffydd i ddeall beth oedd eu pryderon, lle roeddent wedi dod i ddeall y system sydd ar gael a'r dewisiadau y gallant eu gwneud. Oherwydd, a dweud y gwir, mae gan ystod o bobl sy'n arweinwyr mewn cymunedau ffydd allu i ddylanwadu ar bobl, i edrych ar yr hyn yr ydym yn ei wneud ac i wneud eu dewis - p'un ai i optio i mewn, optio allan neu wneud dim. Felly, rwyf yn falch o ble yr ydym yn awr, chwe mis ers i'r ddeddfwriaeth ddod yn weithredol, ac edrychaf ymlaen at roi diweddariadau pellach i'r Aelodau ynghylch ble yr ydym wedi cyrraedd a ble yr ydym yn dal yn awyddus i'w gyrraedd yn y blynyddoedd a'r misoedd i ddod.
I thank the Cabinet Secretary for health for his statement and also for his kind words. Naturally, this is an example of the commendable use of legislation in this place, and it is worth noting that, without the Assembly, this Act would not exist. I know that that's stating the obvious to some extent, but many people ask, 'What has the Assembly ever done for us?' Well, here we have quite a commendable example of legislation that changes lives, that saves lives and which transforms other lives. Would you agree with me that one of the main aspects of this legislation is that it sets a precedent in the discussion between the doctor or nurse and the family in these tragic circumstances, when somebody who they love deeply has died, and they have to have the conversation about what happens to the organs? I've been in that position myself. If you didn't have the background of the legislation, that is, that the will of the country states that the expectation is that you will donate your organs - . Previously, prior to the legislation, there was no such expectation and, as a doctor, you could sound extremely hard-hearted in those extremely poignant moments when you also have to ask permission for somebody's organs who, two hours previously, was completely healthy. That's the great difference. International surveys have demonstrated that, in the previous situation in this country, if I, as a doctor, asked for that permission in that most difficult of situations, 40 per cent of families refused permission. But, in other countries that have already changed, where that discussion has taken place, and with the background that there is an expectation and that that is the will of the country, only 15 per cent of families now refuse consent. Those are the kinds of figures that we would expect to see now. It's also important to note that, when one person dies and consents to give their organs, you actually transform the lives of seven other people, bearing in mind that we've all got two kidneys, one liver, one pancreas, a heart, lungs and two corneas. All you need to do is the maths. So, I'm extremely pleased to see the success of this legislation. I could anticipate it happening over the years when we've had very intense and serious discussion in this place and outwith this place. I'm very pleased to see those figures confirming that. I would emphasise and also push you to persuade other Governments within these isles to follow the same path. Over the years, I have had discussions with people in the Scottish Parliament and in Northern Ireland and there are organisations there that are also following the way that we have taken here. But England is the big problem - well, in this context, as in a number of other contexts, obviously. But I would encourage you to try to persuade the Government in London to try and adopt similar legislation. Thank you.
Rwy'n diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd am ei ddatganiad a hefyd am ei eiriau caredig. Yn naturiol, mae hwn yn esiampl o ddefnydd clodwiw o ddeddfwriaeth yn y lle hwn, ac mae'n werth nodi, heb y Cynulliad, fyddai yna ddim mo'r Ddeddf hon. Rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth digon plaen i'w ddweud, ond mae yna lot o bobl yn holi beth y mae'r Cynulliad erioed wedi'i wneud iddyn nhw. Wel, dyma esiampl bur, glodwiw o ddeddfwriaeth sydd yn newid bywydau, sy'n achub bywydau, ac sy'n trawsnewid bywydau eraill. A fyddech yn cytuno efo fi taw un o'r prif bethau ynglŷn â'r ddeddfwriaeth hon yw gosod y cynsail yn y drafodaeth rhwng y meddyg neu'r nyrs a'r teulu yn y sefyllfa ingol hon, pan fydd rhywun y maen nhw'n ei garu'n ddwfn iawn yn sylfaenol wedi marw, ac mae'n rhaid cael y sgwrs honno ynglŷn â beth sy'n digwydd i'r organau? Rwyf wedi bod yn y sefyllfa honno. Chi'n gwybod, os na fyddai'r ddeddfwriaeth yn y cefndir, hynny yw, bod ewyllys y wlad yn dweud mai'r disgwyl yw eich bod yn mynd i roi eich organau - . O'r blaen, cyn y ddeddfwriaeth hon, nid oedd disgwyl y byddech yn rhoi eich organau ac, fel meddyg, roeddech yn gallu swnio weithiau yn hynod galon galed yn y sefyllfaoedd gyfan gwbl ingol hynny, pan yr oedd yn rhaid ichi hefyd ofyn caniatâd am organau rhywun a oedd, ddwy awr ynghynt, yn berffaith byw ac iach. Dyna yw'r gwahaniaeth yn sylfaenol. Mae astudiaethau rhyngwladol wedi dangos, yn y sefyllfa gynt, fel yr oedd hi yn y wlad hon, pe bawn i fel meddyg yn gofyn caniatâd yn y sefyllfa anodd, anodd iawn honno, fod 40 y cant o deuluoedd yn gwrthod rhoi caniatâd. Ond, mewn gwledydd eraill, sydd eisoes wedi newid a chael yr un drafodaeth, ac sydd â'r cefndir hwnnw bod yna ddisgwyliad a dyna beth yw ewyllys y wlad, dim ond 15 y cant o deuluoedd sydd yn gwrthod rhoi eu caniatâd. Dyna'r math o ffigurau y buaswn yn disgwyl eu gweld yn awr. Mae'n bwysig nodi hefyd, pan fydd un person yn marw ac yn cytuno rhoi ei organau, rydych yn trawsnewid bywyd saith person arall, gan gofio bod gennym i gyd ddwy aren, un afu, un pancreas, calon, ysgyfaint a dau 'cornea'. Mae jest angen gwneud y 'maths'. Felly, rwy'n falch iawn gweld llwyddiant y mesur hwn o ddeddfwriaeth. Roeddwn yn gallu rhagweld hynny'n digwydd lawr y blynyddoedd, pan gawsom drafodaethau dwys iawn yn y lle hwn a'r tu allan. Rwy'n falch iawn gweld y ffigurau hynny'n cadarnhau hyn. Buaswn yn pwysleisio, ac yn eich gwthio chi hefyd, i ddwyn perswâd ar Lywodraethau eraill yn yr ynysoedd hyn i ddilyn yr un trywydd. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi cael trafodaethau efo pobl yn Senedd yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon ac mae yna fudiadau yn fanna sydd hefyd yn dilyn y ffordd rydym ni'n gweithredu yn y fan hyn. Ond Lloegr ydy'r broblem fawr - wel, yn y cyd-destun yma, fel mewn ambell i gyd-destun arall, yn amlwg. Ond mi fuaswn i yn eich cefnogi chi i geisio dwyn perswâd ar y Llywodraeth yn Llundain hefyd i geisio mabwysiadu deddfwriaeth debyg. Diolch yn fawr.
Thank you for the comments and questions, Dai Lloyd. I'm more than happy, as I said in response to Rhun ap Iorwerth, to continue the conversation with other Parliaments and other parts of the NHS family across the UK. As I say, I know they are actively considering and interested in the progress of our legislation and the practical impact on the numbers of people going on to be organ donors. I think this is a really good example of the creative use of our powers in this place for a real purpose - a practical and improved difference for citizens in Wales. And I think it is a genuine cross-party cause for recognition about how we could do things in the future as well. In particular, your point that each donor helps more than one person: we've seen 10 people proceeding to donation, 32 extra transplants taken, in the first six months through deemed consent. That's a significant number of people who are being helped by the progress of this legislation and I hope to see further improvement on that in the future too. But I would say that, even at this point, if we see that maintained in the future, then the legislation will have been well worth it - having many, many people in years to come who can say that their life has been improved or saved because of the choice that we've made to create this legislation. I'll deal with your final point about the nature of the conversation. You're absolutely right about the fact that we've had the legislation passed, so it changes the nature of the conversation and the approach that people take in having a conversation at an incredibly difficult time for individuals in saying goodbye to a loved one and understanding what might then happen about the gift of life to other people as well. Having the conversation start from a positive point about donation being, if you like, the default option to opt for, was something that came through in the consultation during the course of the Bill and has been reinforced in engagement that we've had with people throughout the last couple of years as well. So, I think there's good reason to be optimistic about that, but equally good reason to review whether that is still the case in practice, about the way that different people outside this place - faith and voluntary communities - and, in particular, linking to people actually undertaking those conversations, as to whether what we think we're seeing in the first six months is being maintained or whether there is more that we can do to improve the situation further.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau, Dai Lloyd. Rwyf yn fwy na hapus, fel y dywedais wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, i barhau â'r sgwrs â Seneddau eraill a rhannau eraill o deulu'r GIG ledled y DU. Fel y dywedais, gwn eu bod yn ystyried hynt ein deddfwriaeth a'r effaith ymarferol ar nifer y bobl sy'n mynd ymlaen i roi organau, a bod ganddynt ddiddordeb yn hynny. Credaf fod hyn yn enghraifft dda iawn o ddefnyddio ein pwerau'n greadigol yn y lle hwn at ddiben go iawn - gwahaniaeth ymarferol a gwell i ddinasyddion yng Nghymru. A chredaf fod rheswm trawsbleidiol gwirioneddol yma i gydnabod sut y gallem wneud pethau yn y dyfodol yn ogystal. Yn benodol, ynghylch eich pwynt fod pob rhoddwr yn helpu mwy nag un person: rydym wedi gweld 10 o bobl yn mynd ymlaen i roi organau, 32 trawsblaniad ychwanegol yn digwydd, yn y chwe mis cyntaf trwy gydsyniad tybiedig. Dyna nifer sylweddol o bobl sy'n cael eu helpu gan y ddeddfwriaeth hon ac rwyf yn gobeithio gweld gwelliant pellach yn hynny o beth yn y dyfodol hefyd. Ond byddwn yn dweud, hyd yn oed yn awr, os bydd hynny'n parhau yn y dyfodol, yna bydd y ddeddfwriaeth wedi bod yn werth chweil - llawer iawn, iawn o bobl yn y blynyddoedd i ddod sy'n gallu dweud bod eu bywyd wedi gwella neu ei achub oherwydd y dewis yr ydym wedi ei wneud i greu'r ddeddfwriaeth hon. Ymdriniaf â'ch pwynt olaf ynglŷn â natur y sgwrs. Rydych yn llygad eich lle ein bod wedi llwyddo i basio'r ddeddfwriaeth, felly mae'n newid natur y sgwrs a'r ffordd y mae pobl yn mynd ati i gael sgwrs ar adeg anhygoel o anodd i unigolion wrth ffarwelio â rhywun annwyl a deall yr hyn a allai ddigwydd wedyn o ran rhoi bywyd i bobl eraill hefyd. Mae sicrhau bod y sgwrs yn dechrau o bwynt cadarnhaol ynghylch rhoi organau, os mynnwch, fel yr opsiwn diofyn i'w ddewis, yn rhywbeth a ddaeth yn amlwg yn yr ymgynghoriad yn ystod taith y Bil ac mae wedi ei atgyfnerthu hefyd yn y cyswllt rhyngom a phobl drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, credaf fod rheswm da dros fod yn optimistaidd am hynny, ond rheswm yr un mor dda i weld a yw hynny'n dal i fod yn wir yn ymarferol, o ran y ffordd y mae gwahanol bobl y tu allan i'r lle hwn - cymunedau ffydd a gwirfoddol - ac, yn arbennig, cysylltu â phobl sy'n cael y sgyrsiau hynny, ynghylch a yw'r hyn yr ydym yn meddwl ein bod yn ei weld yn y chwe mis cyntaf yn cael ei gynnal neu a oes mwy y gallwn ei wneud i wella'r sefyllfa ymhellach.
Thank you very much, madam Presiding Officer. Minister, I congratulate you on your new post. I will say it's a very noble job to give organ donation. An independent report by the organ donation taskforce found that people of Asian and Afro-Caribbean origin make up 23 per cent of the kidney waiting list, but only 3 per cent of those donors come from these communities. Studies also show that cultural issues are important influencing factors when making a decision about organ donation. A recent study in Birmingham found that 60 per cent of Muslims said that organ donation is against their faith. I can assure you, Minister, that that is not the case. Engaging and educating our Muslim communities in Wales with relevant Muslim organisations is the answer. What steps are you going to take? I'm quite voluntarily trying to help you, if possible, to go to all mosques in this country to make sure that Muslims know the benefit of this noble object. Written leaflets are not good enough - they have different languages in Muslim communities, more than half a dozen. And to make sure that they understand the language and the objective of this Government to make sure that our noble job is achieved in this country and we set an example - I'm sure you're doing a wonderful job, but there's still a long way to go for that. Thank you very much.
Diolch yn fawr iawn, madam Llywydd. Weinidog, rwyf yn eich llongyfarch ar eich swydd newydd. Hoffwn ddweud bod rhoi organau'n beth anrhydeddus iawn. Canfu adroddiad annibynnol gan y tasglu rhoi organau fod pobl o dras Asiaidd ac Affro-Caribïaidd yn cyfrif am 23 y cant o'r rhestr aros am arennau, ond mai dim ond 3 y cant o'r rhoddwyr hynny sy'n dod o'r cymunedau hyn. Mae astudiaethau hefyd yn dangos bod materion diwylliannol yn ffactorau pwysig sy'n dylanwadu ar wneud penderfyniad ynghylch rhoi organau. Canfu astudiaeth ddiweddar yn Birmingham fod 60 y cant o Fwslimiaid yn dweud bod rhoi organau yn erbyn eu ffydd. Gallaf eich sicrhau, Weinidog, nad yw hynny'n wir. Yr ateb yw ymgysylltu ac addysgu ein cymunedau Mwslimaidd yng Nghymru gyda sefydliadau Mwslimaidd perthnasol. Pa gamau ydych chi'n mynd i'w cymryd? Rwyf o'm gwirfodd yn ceisio eich helpu, os yw hynny'n bosibl, i fynd i bob mosg yn y wlad hon i wneud yn siŵr bod Mwslimiaid yn gwybod am fanteision y nod anrhydeddus hwn. Nid yw taflenni ysgrifenedig yn ddigon da - mae ganddynt wahanol ieithoedd mewn cymunedau Mwslimaidd, mwy na hanner dwsin. A gwneud yn siŵr eu bod yn deall yr iaith ac amcan y Llywodraeth hon i sicrhau bod ein gwaith anrhydeddus yn cael ei gyflawni yn y wlad hon a'n bod yn gosod esiampl - rwyf yn siŵr eich bod yn gwneud gwaith ardderchog, ond mae ffordd hir i fynd cyn cyflawni hynny. Diolch yn fawr iawn.
I thank Mohammad Asghar for his particular points in an area of real challenge for us. I'm particularly grateful that you've highlighted the fact that, of people on the waiting list, there is a significantly higher than expected number, certainly out of proportion with the general population, of people from black and Asian origin communities, and yet, of the people who are registered on the organ donation list, there's a significantly lesser amount than in the population as well. So, we do have a real challenge and some of it is cultural, you're right. I also know that this isn't religious; there's no religious bar to being a donor. But there is the challenge of some of the cultural norms that have built up and how we get around those. That's why the work of cognition in supporting that conversation has been so important. There's no point in pretending that that work is done and everything is fine now. It needs to be a continued conversation. We want to change the culture and the way in which people have that conversation. It's also why personal stories have been so important and so powerful. Understanding people in the communities that you live in, seeing someone waiting on the list, and then seeing someone and their family who've gone through the process of someone in their family passing away but becoming an organ donor, are really powerful motivators to challenge the way people feel about their choices, and, in many ways, the most persuasive way. So, I do recognise there's more to do in this area. There's no lack of complacency, but what I would say is we've already undertaken steps, and not just with people in the Muslim community; there is a range of black and Asian-origin communities in the Christian faith, as well as the Hindu community and the Sikhs as well, that we've had conversations with, too - so, a wide range of faiths to engage here as well, but also a wide range of languages. We have made sure that a range of information is available in a different number of community languages. That doesn't mean to say that all is perfect or the engagement we have with a different range of communities cannot be improved, and I look forward to us understanding what more we can do to achieve exactly that, because I don't think there's any difference between parties on this point.
Diolch i Mohammad Asghar am ei bwyntiau penodol mewn maes sy'n wirioneddol heriol i ni. Rwyf yn arbennig o ddiolchgar eich bod wedi tynnu sylw at y ffaith fod nifer sylweddol uwch na'r disgwyl o'r bobl sydd ar y rhestr aros, nifer sy'n sicr yn anghymesur â'r boblogaeth yn gyffredinol, yn bobl o gymunedau o bobl o darddiad du ac Asiaidd, ac eto, o'r bobl sydd wedi cofrestru ar y rhestr rhoi organau, mae nifer sylweddol lai nag yn y boblogaeth yn ogystal. Felly, mae her go iawn inni ac mae rhywfaint ohoni'n ddiwylliannol, rydych yn iawn. Gwn hefyd nad yw hyn yn grefyddol; nid oes gwaharddiad crefyddol ar fod yn rhoddwr. Ond mae her yn rhai o'r normau diwylliannol sydd wedi datblygu a sut mae goresgyn hynny. Dyna pam y mae gwaith gwybyddol wrth gynorthwyo'r sgwrs honno wedi bod mor bwysig. Nid oes diben esgus bod y gwaith wedi ei gwblhau a bod popeth yn iawn nawr. Mae angen iddi fod yn sgwrs barhaus. Rydym yn awyddus i newid y diwylliant a'r ffordd y mae pobl yn cael y sgwrs honno. Dyna hefyd pam y mae straeon personol wedi bod mor bwysig ac mor bwerus. Mae deall pobl yn y cymunedau yr ydych yn byw ynddynt, gweld rhywun yn aros ar y rhestr, ac yna gweld rhywun a'i deulu sydd wedi gweld rhywun yn y teulu'n marw, ond yn dod yn rhoddwr organau, yn gymhellion pwerus iawn i herio'r ffordd y mae pobl yn teimlo am eu dewisiadau, ac mewn sawl ffordd, dyna'r ffordd fwyaf darbwyllol. Felly, rwyf yn cydnabod bod mwy i'w wneud yn y maes hwn. Nid oes diffyg hunanfodlonrwydd, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ein bod eisoes wedi cymryd camau, ac nid dim ond gyda phobl yn y gymuned Fwslimaidd; mae ystod o gymunedau pobl o darddiad du ac Asiaidd yn y ffydd Gristnogol, yn ogystal â'r gymuned Hindŵaidd a'r Sikhiaid yn ogystal, yr ydym wedi cael sgyrsiau â nhw hefyd - felly mae ystod eang o grefyddau y mae angen ymgysylltu â hwy yma hefyd, ond hefyd ystod eang o ieithoedd. Rydym wedi sicrhau bod ystod o wybodaeth ar gael mewn nifer o wahanol ieithoedd cymunedol. Nid yw hynny'n golygu bod popeth yn berffaith neu na ellir gwella ein hymgysylltiad ag ystod wahanol o gymunedau, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn deall beth arall y gallwn ei wneud i gyflawni'r union beth hwnnw, oherwydd nid wyf yn credu bod dim gwahaniaeth rhwng y pleidiau ar y mater hwn.
The next item is a statement by the Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs on building on our recycling success for a circular economy. I call on the Cabinet Secretary, Lesley Griffiths.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar adeiladu ar ein llwyddiant ailgylchu ar gyfer economi gylchol. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Lesley Griffiths.
Thank you, Presiding Officer. I want to draw the attention of the Senedd to a real success story for Wales and how we can build on this success for the future. Wales has achieved the highest municipal recycling rate in the United Kingdom and, if it were to report separately, the fourth highest rate in Europe. I would like to pay tribute to my predecessor, Carl Sargeant, for his contribution towards Wales's achievements in recycling and resource efficiency and also acknowledge the efforts of Welsh local authorities and the Welsh public in this achievement. Wales's municipal recycling rate reached 59 per cent for the 12 months to the end of December 2015 and 58 per cent in quarter 3 of the full year 2015-16. This is up 5 per cent on the same quarter in 2014-15. In the new compositional analysis of municipal waste, published by the Waste and Resources Action Programme today, it is identified that around a quarter of what is in the black bag waste - residual waste - is food waste, and another quarter is dry recyclables. If we could capture even half of this material, we could comfortably achieve our target of 70 per cent recycling of municipal waste. This demonstrates a great advance in sustainable waste management in Wales. However, its real significance is that waste and resource efficiency offers a gateway into the circular economy. A circular economy is one where materials can be productively used again and again, creating added value and associated multiple benefits. These benefits can help us deliver on many of our well-being goals under the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015, especially a prosperous Wales, a resilient Wales and a globally responsible Wales. A recent study by the Ellen MacArthur Foundation and WRAP identified potential economic benefits of more than £2 billion each year to the Welsh economy. A further study by WRAP and the Green Alliance predicts that up to 30,000 new jobs can be created in Wales through development of a circular economy. Thousands of Welsh workers are employed in supply chain companies, large and small, involved in collection, transportation, reprocessing and remanufacture of materials throughout Wales. Steel, aluminium, paper, cardboard, glass, plastics, textiles and electronic goods can all be recycled, creating jobs and adding value through the circular economy. We need to make sure as large a quantity of materials as possible is reused within the Welsh circular economy. These materials need to be of high quality to be attractive to local reprocessing companies and command the best prices. In this way, local authorities and householders will be contributing to better environmental and economic outcomes as well as higher recycling. It is important for Welsh householders to know where the materials collected from them are recycled. A recent report into the end destinations of materials collected for recycling by Welsh local authorities showed less than half, by weight, is recycled in Wales. There is enormous potential to boost the Welsh economy and the number of jobs by reprocessing more of these materials here in Wales. Therefore, it is my intention as Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs to drive forward policies towards delivering a circular economy in Wales. This will be one of my key priorities and aligns with our work in response to the circular economy package being proposed by the European Commission. I will explore all necessary mechanisms, including legislation, to require a high content of recycled materials in products procured by the Welsh public sector. I will also explore the use of extended producer responsibility to ensure that producers and retailers share more evenly the burdens of managing waste from households. I will work with Welsh local authorities and the private sector to explore how we achieve these goals. The Welsh Government has recently published the results of a review of the collections blueprint, which confirms the validity of the approach. A revised edition of the blueprint is currently in preparation, and we shall consult on this later this year. We need to consider the potential benefits of more consistent waste collection services to deliver higher quality feedstock at a lower cost of collection. The success that we have seen is largely due to the clarity and direction of the national waste strategy 'Towards Zero Waste' and its supporting sector plans. The municipal sector plan and its collections blueprint provide guidance to local authorities about how they can improve financial, environmental and economic outcomes. I want to continue to work closely with local authorities, the Welsh Local Government Association and other stakeholders in the sector, including business and the third sector, to ensure progress towards our targets is maintained and we develop and deliver effective policies to achieve our wider objectives in this area. We are making steady progress towards our overall goal of becoming a zero-waste nation by 2050. We stated in our manifesto that we want a carbon-neutral Welsh Government by 2020. The goals are ambitious but achievable and mean, as a nation, we will need to up our game on the broader waste management agenda, not just recycling, to further cut emissions and promote resource efficiency all along the supply chain. The Welsh Government is committed to a review of the 2010 waste strategy 'Towards Zero Waste'. We published an interim progress report last year and are currently preparing discussion papers to kick off the debate about what the new strategy should embrace. I shall be bringing these forward to the Senedd and for wider public consultation by the end of this year. Wales has a proud record on municipal recycling, and the targets that are in place will ensure Wales continues to progress towards having the highest municipal recycling rate in Europe. This will bring extra economic activity, more jobs and better carbon reductions. We must maintain progress and ensure we take every opportunity to contribute towards the goals set out in the well-being of future generations Act. The next few years are going to be very exciting in the field of municipal recycling and resource efficiency, and I'm pleased to have the opportunity to set out this agenda to you today. Thank you.
Diolch ichi, Lywydd. Rwyf am dynnu sylw'r Senedd at stori lwyddiant go iawn i Gymru a sut y gallwn adeiladu ar y llwyddiant hwn ar gyfer y dyfodol. Yng Nghymru y mae'r gyfradd ailgylchu trefol uchaf yn y Deyrnas Unedig a phe byddai'n adrodd ar wahân, y bedwaredd gyfradd uchaf yn Ewrop. Hoffwn dalu teyrnged i'm rhagflaenydd, Carl Sargeant, am ei gyfraniad i gyflawniadau Cymru o ran ailgylchu a defnyddio adnoddau'n effeithlon a hefyd gydnabod ymdrechion awdurdodau lleol Cymru a'r cyhoedd yng Nghymru er mwyn cyflawni hyn. Cyrhaeddodd cyfradd ailgylchu trefol Cymru 59 y cant yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2015 a 58 y cant yn nhrydydd chwarter blwyddyn lawn 2015-16. Mae hyn 5 y cant yn uwch nag yn yr un chwarter yn 2014-15. Yn y dadansoddiad cyfansoddol newydd o wastraff trefol, a gyhoeddwyd gan Raglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau heddiw, nodir bod tua chwarter yr hyn sydd yn y gwastraff bag du - gwastraff gweddilliol - yn wastraff bwyd, a chwarter arall yn ddeunydd ailgylchadwy sych. Pe gallem gadw hyd yn oed hanner y deunydd hwn, gallem yn gyfforddus gyrraedd ein targed o ailgylchu 70 y cant o wastraff trefol. Mae hyn yn dangos cynnydd mawr o ran rheoli gwastraff cynaliadwy yng Nghymru. Fodd bynnag, ei arwyddocâd gwirioneddol yw bod gwastraff a defnyddio adnoddau'n effeithlon yn cynnig porth i'r economi gylchol. Mae economi gylchol yn un lle gellir defnyddio deunyddiau mewn modd cynhyrchiol dro ar ôl tro, gan greu gwerth ychwanegol a manteision niferus law yn llaw â hynny. Gall y manteision hyn ein helpu i gyflawni nifer o'n nodau lles o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn arbennig felly Gymru lewyrchus, Cymru wydn a Chymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Mae astudiaeth ddiweddar gan Sefydliad Ellen MacArthur a WRAP wedi nodi buddion economaidd posibl o fwy na £2 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae astudiaeth bellach gan WRAP a'r Gynghrair Werdd yn darogan y gall hyd at 30,000 o swyddi newydd gael eu creu yng Nghymru drwy ddatblygu economi gylchol. Mae miloedd o weithwyr Cymru'n cael eu cyflogi mewn cwmnïau cadwyn gyflenwi mawr a bach, sy'n ymwneud â chasglu, cludo, ailbrosesu ac ailweithgynhyrchu deunyddiau ledled Cymru. Gall dur, alwminiwm, papur, cardfwrdd, gwydr, plastig, tecstilau a nwyddau electronig i gyd gael eu hailgylchu, gan greu swyddi ac ychwanegu gwerth drwy'r economi gylchol. Mae angen inni sicrhau bod cymaint o ddeunyddiau â phosibl yn cael eu hailddefnyddio o fewn economi gylchol Cymru. Mae angen i'r deunyddiau hyn fod o ansawdd da er mwyn bod yn ddeniadol i gwmnïau ailbrosesu lleol a chael y prisiau gorau. Drwy hynny, bydd awdurdodau lleol a deiliaid tai yn cyfrannu at ganlyniadau amgylcheddol ac economaidd gwell yn ogystal â mwy o ailgylchu. Mae'n bwysig i ddeiliaid tai yng Nghymru wybod ble mae'r deunyddiau a gasglwyd oddi wrthynt yn cael eu hailgylchu. Mae adroddiad diweddar ar gyrchfannau terfynol y deunyddiau a gesglir i'w hailgylchu gan awdurdodau lleol Cymru yn dangos bod llai na'u hanner, yn ôl pwysau, yn cael eu hailgylchu yng Nghymru. Mae potensial aruthrol i roi hwb i economi Cymru a nifer y swyddi drwy ailbrosesu mwy o'r deunyddiau hyn yma yng Nghymru. Felly, fy mwriad fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yw bwrw ymlaen â pholisïau er mwyn sicrhau economi gylchol yng Nghymru. Bydd hyn yn un o'm blaenoriaethau allweddol ac mae'n cyd-fynd â'n gwaith i ymateb i becyn yr economi gylchol sy'n cael ei gynnig gan y Comisiwn Ewropeaidd. Byddaf yn edrych ar yr holl fecanweithiau angenrheidiol, gan gynnwys deddfwriaeth, i'w gwneud yn ofynnol sicrhau bod llawer iawn o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu mewn cynnyrch sy'n cael ei gaffael gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Byddaf hefyd yn edrych ar estyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd i sicrhau bod cynhyrchwyr a manwerthwyr yn rhannu beichiau rheoli gwastraff o gartrefi yn fwy cyfartal. Byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru a'r sector preifat i weld sut mae cyflawni'r nodau hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi canlyniadau adolygiad o'r glasbrint casgliadau, sy'n cadarnhau dilysrwydd y dull hwn o weithredu. Mae fersiwn diwygiedig o'r glasbrint ar hyn o bryd yn cael ei baratoi, a byddwn yn ymgynghori ar hyn yn ddiweddarach eleni. Mae angen inni ystyried buddion posibl gwasanaethau casglu gwastraff mwy cyson i ddarparu deunydd crai o ansawdd uwch am gost casglu is. Mae'r llwyddiant yr ydym wedi'i weld yn ganlyniad yn bennaf i eglurder a chyfeiriad y strategaeth wastraff genedlaethol 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' a'i chynlluniau sector ategol. Mae'r cynllun sector trefol a'i lasbrint casgliadau yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch sut y gallant wella canlyniadau ariannol, amgylcheddol ac economaidd. Rwyf am barhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a rhanddeiliaid eraill yn y sector, gan gynnwys busnes a'r trydydd sector, er mwyn sicrhau bod cynnydd tuag at ein targedau yn cael ei gynnal, a'n bod yn datblygu ac yn darparu polisïau effeithiol i gyflawni ein hamcanion ehangach yn y maes hwn. Rydym yn symud yn gyson tuag at ein nod cyffredinol o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Dywedasom yn ein maniffesto ein bod am weld Llywodraeth Cymru'n garbon-niwtral erbyn 2020. Mae'r nodau'n uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy ac yn golygu y bydd angen inni fel cenedl gynyddu ein hymdrechion o ran yr agenda rheoli gwastraff ehangach, nid dim ond ailgylchu, i leihau allyriadau ymhellach a hyrwyddo defnyddio adnoddau'n effeithlon drwy'r gadwyn gyflenwi gyfan. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o strategaeth wastraff 2010 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd dros dro y llynedd ac ar hyn o bryd rydym yn paratoi papur trafod i gychwyn y drafodaeth ynghylch yr hyn y dylai'r strategaeth newydd ei gofleidio. Byddaf yn cyflwyno hyn i'r Senedd ac ar gyfer ymgynghori cyhoeddus ehangach erbyn diwedd eleni. Mae gan Gymru hanes balch o ran ailgylchu trefol, a bydd y targedau sydd ar waith yn sicrhau bod Cymru'n parhau i symud tuag at fod â'r gyfradd ailgylchu trefol uchaf yn Ewrop. Bydd hyn yn dod â gweithgarwch economaidd ychwanegol, mwy o swyddi a mwy o ostyngiadau carbon. Mae'n rhaid inni gynnal y cynnydd hwn a sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i gyfrannu tuag at y nodau sydd yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn gyffrous iawn ym maes ailgylchu trefol a defnyddio adnoddau'n effeithlon, ac rwyf yn falch o gael cyfle i amlinellu'r agenda hon ichi heddiw. Diolch.
Thank you very much. I call Simon Thomas.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Simon Thomas.
Thank you, Deputy Presiding Officer, and can I welcome the new Secretary to her role and yourself to the Deputy Presiding Officer's role? I think it's the first time you've been in the Chair, as well. [Assembly Members: 'Hear, hear.'] I'd like to thank the Secretary for her statement. I'd like to say there was an awful lot of rubbish in it, but I mean that in the best possible, positive way. [Laughter.] I'll stick with the bad jokes after that one. The one thing I did think about the way we describe this very positive story for Wales, however, is perhaps we need to be a little more proactive in the way we do it. I think 'circular economy' doesn't do it on the doorstep for me. I think when you talk about a zero-waste strategy, people understand that, and I think when you talk about the jobs that can come from reusing our core materials that we use in our economy, I think people understand that. 'Circular economy' leaves me cold, so I hope the Government can come up with more exciting ways of describing what is a good news story for the Government and for Wales as a nation. The questions I'd like to ask the Secretary at this stage are about how we are going to make further progress towards that target. Now, your statement today did focus on recycling, and I understand why, but, within a zero-waste strategy, of course, reduction and reuse are also key methods of achieving that, and, particularly in the low-carbon or zero-carbon aims that you have as a Government, reduction and reuse must come before even recycling. So, I'd like to hear a little more about what your thoughts are on how you're going to use those tools to further your aims and, in that context, are you giving particular focus and consideration to, for example, a deposit-return scheme for plastic bottles in Wales? I took part in a beach clean fairly recently in Llansteffan; it was very noticeable that just about every second piece of item we picked up from the beach was a top of a plastic drink bottle - a sports cap. I think a way that we can encourage the reuse of such materials in Wales is something that I'd like to see this Government consider, and certainly, Plaid Cymru will be advocating. Are there things, as we're looking towards the summer, and a lot of festivals - I've been to one or two already; looking forward to more - and agricultural shows and events and so forth, where we can build in reuse and recycling into these? Because there's an awful lot of food waste, and an awful lot of plastic waste that's created by our outdoor events. They are very important for our communities, but it would be good to have the zero-waste strategy put in the centre of those public events as well. You said in the statement - it was quite interesting, I think - that it is important that people in Wales understand what's happening to their waste. I do think that's important; I get a lot of myths on the doorstep, quite literally, where people say that they put out the compost and, in fact, the compost is just incinerated somewhere; it doesn't actually end up in a compost. I think we need to understand and explain this. Can you say, therefore, how you're going to increase the amount of actual recycling that takes place here in Wales, the jobs here in Wales and the economy here in Wales? You mentioned in the statement that it's about half of our recycling that actually takes place in our country. I think we should increase that, and I'd like the Government to have a specific target within its waste strategy to increase that. The second element I'd like to ask you about is your view, or the Government's view, on incineration. What place, if any, does incineration of waste have within the zero-waste strategy? My mind is that it should have no strategic role at all, and that you should look for a moratorium on incineration of waste. There are certain types of waste, of course, that have to be incinerated, like surgical waste and hospital waste, but as a waste reduction strategy, and waste recycling strategy, incineration should have no part. I think we've made some false steps in the past by encouraging local and regional solutions to waste strategy that haven't addressed our national priorities. I hope that the lessons of the past have been learnt and you will bear down on any local authority or consortium that starts to use incineration as a way of dealing with this extremely important area, because, as your statement sets out, recycling and reusing these materials does in fact mean a better deal for our communities and our economy. The final point I wanted to raise with you is one around commercial recycling. I think we're all still very frustrated that, as we do our best in our own homes to compost, whether it's in the garden or in the bins, whether we recycle and put cardboard to one side, put bottles to one side or put plastic to one side, when we try and purchase goods - and sometimes we do have to have new goods - we find them over-packaged and over-delivered in that way. It seems, really, that there is a limited stepping up to the plate by the commercial sector here. What elements of our success is down to success within the commercial sector, and what are you doing to increase the reduction, first of all, and very importantly, within the commercial sector, of unnecessary packaging and waste? I think it's a bit unfair, in many cases, to put a burden on domestic ratepayers and domestic households, when we see so clearly that many companies, operating of course outside Wales as well, are not taking account of our message here of reduction and reuse. It is a good success story that Wales is the fourth highest rate in Europe. It's an excellent success story that we recycle more than the rest of the United Kingdom. We once did better on renewable energy as well and we fell behind. I hope we don't fall behind in this matter, and I hope that in your response today, and in your work as a new Secretary, you will actually achieve your aim of a zero-waste economy in Wales.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i groesawu'r Ysgrifennydd newydd i'w swydd a chithau i swydd y Dirprwy Lywydd? Credaf mai dyma'r tro cyntaf i chi fod yn y Gadair, hefyd. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.'] Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad. Hoffwn ddweud bod llawer iawn o sbwriel ynddo, ond golygaf hynny yn y ffordd gadarnhaol orau bosibl. [Chwerthin.] Fe arhosaf gyda'r jôcs gwael ar ôl honno. Yr un peth yr oeddwn yn ei feddwl am y ffordd yr ydym yn disgrifio'r stori gadarnhaol iawn hon i Gymru, fodd bynnag, yw efallai fod angen inni fod ychydig yn fwy rhagweithiol yn y ffordd yr ydym yn gwneud hyn. Nid yw 'economi gylchol' yn taro deuddeg ar garreg y drws i mi. Pan fyddwch yn sôn am strategaeth dyfodol diwastraff, credaf fod pobl yn deall hynny, a phan fyddwch yn sôn am y swyddi a all ddod yn sgil ailddefnyddio'r deunyddiau craidd a ddefnyddir gennym yn ein heconomi, credaf fod pobl yn deall hynny. Mae 'economi gylchol' yn fy ngadael yn oer, felly rwyf yn gobeithio y gall y Llywodraeth ddod o hyd i ffyrdd mwy cyffrous o ddisgrifio'r hyn sy'n stori newyddion da i'r Llywodraeth ac i Gymru fel cenedl. Mae'r cwestiynau yr hoffwn eu gofyn i'r Ysgrifennydd yn awr yn ymwneud â'r ffordd yr ydym yn mynd i symud yn nes at y targed hwnnw. Yn awr, roedd eich datganiad heddiw yn canolbwyntio ar ailgylchu, ac rwyf yn deall pam, ond o dan strategaeth dyfodol diwastraff, wrth gwrs, mae lleihau ac ailddefnyddio hefyd yn ddulliau allweddol o gyflawni hynny, ac, yn enwedig yn eich nodau carbon isel neu ddi-garbon chi fel Llywodraeth, rhaid i leihau ac ailddefnyddio fod yn fwy blaenllaw hyd yn oed nag ailgylchu. Felly, hoffwn glywed ychydig mwy am eich barn ynghylch sut yr ydych yn mynd i ddefnyddio'r offer hynny i hyrwyddo eich nodau ac, yn y cyd-destun hwnnw, a ydych yn rhoi pwyslais a sylw arbennig, er enghraifft, i gynllun blaendal-dychwelyd ar gyfer poteli plastig yng Nghymru? Cymerais ran mewn gweithgaredd glanhau traeth yn gymharol ddiweddar yn Llansteffan; roedd yn amlwg iawn fod bron pob yn ail eitem yr oeddem yn ei godi o'r traeth yn gaead potel ddiod blastig - caead chwaraeon. Hoffwn weld y Llywodraeth hon yn ystyried ffordd o annog pobl i ailddefnyddio deunyddiau o'r fath yng Nghymru, a bydd Plaid Cymru yn sicr yn dadlau o blaid hynny. A oes pethau, gan ein bod yn edrych tuag at yr haf, a bydd llawer o wyliau'n cael eu cynnal - rwyf wedi bod i un neu ddwy yn barod ac yn edrych ymlaen at ragor - a sioeau a digwyddiadau amaethyddol ac yn y blaen, lle y gallwn sicrhau bod ailddefnyddio ac ailgylchu'n rhan o hynny? Oherwydd mae llawer iawn o wastraff bwyd, a llawer iawn o wastraff plastig sy'n cael ei greu yn sgil ein digwyddiadau awyr agored. Maent yn bwysig iawn i'n cymunedau, ond byddai'n dda o beth sicrhau bod y strategaeth dyfodol diwastraff yn rhan ganolog o'r digwyddiadau cyhoeddus hynny yn ogystal. Dywedasoch yn y datganiad - roedd yn eithaf diddorol, yn fy marn i - ei bod yn bwysig fod pobl Cymru'n deall yr hyn sy'n digwydd i'w gwastraff. Credaf fod hynny'n bwysig; clywaf lawer o fythau ar garreg y drws, yn llythrennol, lle mae pobl yn dweud eu bod yn rhoi'r compost allan ac nad yw'r compost ond yn cael ei losgi yn rhywle; nad yw a dweud y gwir ond yn diweddu mewn compost. Credaf fod angen inni ddeall ac esbonio hyn. A allwch ddweud, felly, sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod mwy o ailgylchu'n digwydd yma yng Nghymru, a chynyddu nifer y swyddi yma yng Nghymru a'r economi yma yng Nghymru? Soniasoch yn y datganiad mai tua hanner ein hailgylchu sydd mewn gwirionedd yn digwydd yn ein gwlad ein hunain. Credaf y dylem gynyddu hynny, a hoffwn i'r Llywodraeth bennu targed penodol o fewn ei strategaeth wastraff i gynyddu hynny. Yr ail elfen yr hoffwn eich holi amdani yw eich barn, neu farn y Llywodraeth, am losgi. Pa le, os o gwbl, sydd i losgi gwastraff yn y strategaeth dyfodol diwastraff? Yn fy marn i ni ddylai fod dim rôl strategol iddo o gwbl, a dylech fynd ar drywydd moratoriwm ar losgi gwastraff. Mae rhai mathau o wastraff, wrth gwrs, y mae'n rhaid eu llosgi, fel gwastraff llawfeddygol a gwastraff ysbyty, ond fel strategaeth lleihau gwastraff, a strategaeth ailgylchu gwastraff, ni ddylai fod dim lle i losgi. Credaf ein bod wedi cymryd rhai camau gwag yn y gorffennol drwy annog atebion lleol a rhanbarthol o ran strategaeth wastraff nad ydynt wedi mynd i'r afael â'n blaenoriaethau cenedlaethol. Rwyf yn gobeithio bod gwersi'r gorffennol wedi eu dysgu ac y byddwch yn pwyso ar unrhyw awdurdod lleol neu gonsortiwm sy'n dechrau defnyddio llosgi fel ffordd o ymdrin â'r maes hynod bwysig hwn, oherwydd, fel y mae eich datganiad yn nodi, mae ailgylchu ac ailddefnyddio'r deunyddiau hyn mewn gwirionedd yn golygu gwell bargen i'n cymunedau a'n heconomi. Mae'r pwynt olaf yr wyf am ei godi â chi'n ymwneud ag ailgylchu masnachol. Credaf ein bod i gyd yn dal i fod yn rhwystredig iawn, gan ein bod yn gwneud ein gorau yn ein cartrefi ein hunain i gompostio, boed yn yr ardd neu yn y biniau, p'un a ydym yn ailgylchu ac yn rhoi cardfwrdd i'r naill ochr, yn rhoi poteli i'r naill ochr neu'n rhoi plastig i'r naill ochr, pan geisiwn brynu nwyddau - ac weithiau mae'n rhaid inni gael nwyddau newydd - rydym yn gweld eu bod wedi eu gor-becynnu a'u gor-gyflenwi yn y ffordd honno. Mae'n ymddangos, mewn gwirionedd, mai gweithredu cyfyngedig sydd yn y sector masnachol yn hyn o beth. Pa elfennau o'n llwyddiant sy'n ganlyniad i lwyddiant yn y sector masnachol, a beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod llai, yn gyntaf oll, ac yn bwysig iawn, yn y sector masnachol, o ddeunydd pecynnu diangen a gwastraff? Credaf ei bod braidd yn annheg, yn aml iawn, rhoi baich ar drethdalwyr domestig ac aelwydydd domestig, pan welwn mor glir nad yw llawer o gwmnïau, sy'n gweithredu, wrth gwrs, y tu allan i Gymru, yn ogystal, yn ystyried ein neges yma ynghylch lleihau ac ailddefnyddio. Mae'n stori lwyddiant dda mai yng Nghymru y mae'r bedwaredd gyfradd uchaf yn Ewrop. Mae'n stori lwyddiant ragorol ein bod yn ailgylchu mwy na gweddill y Deyrnas Unedig. Roeddem yn arfer gwneud yn well ar ynni adnewyddadwy hefyd, ond cwympo'n ôl a wnaethom wedyn. Rwyf yn gobeithio na fyddwn yn cwympo yn ôl yn hyn o beth, ac rwyf yn gobeithio yn eich ymateb heddiw, ac yn eich gwaith fel Ysgrifennydd newydd, y byddwch yn llwyddo i gyflawni eich nod o sicrhau economi ddiwastraff yng Nghymru.
I'd like to thank Simon Thomas for his comments and I look forward to him shadowing me; I hope his jokes improve over the coming months. I actually agree with you about the circular economy, because when the title of the statement was put in front of me, I baulked a bit. But I think you're right; we need something that people very much understand and can grasp hold of. We have made a huge amount of progress, and, as you say, it is a good news story. To be where we are in the UK and in Europe is a real success story. Clearly, we need to do more to get over that 59 per cent that we have to reach our target. And I think there is more that we can do, but it is about ensuring that the public come with us in relation to that. You asked what more we can do, because, obviously, we've probably come to a bit of a plateau really, and there is going to have to be further action to go forward. You asked specifically about a deposit recovery scheme, and I know that has been looked at. You may be aware that currently the Scottish Government are doing a great deal of work around this, and we are sort of actively working with the Scottish Government - there's no point duplicating the work that they're doing - and we're waiting for some advice from them. Officials are working very closely together. My early understanding of having such a deposit recovery scheme is that it would be incredibly complicated to introduce. But, certainly, I am looking to have that advice, and I know that, again, my officials have been working with stakeholders on whether we should do that. I thought it was very interesting what you said about cleaning up on a beach, which you are to be commended for, and it was the plastic tops. I remember when I was first elected, back in 2007, not doing a beach scheme - we don't have any beaches in Wrexham - but, you know, going on a litter pick, where it was carrier bags. And I think the fact now that we don't see many carrier bags littering is because of the legislation that this place brought forward to reduce the use of those. I think the point you made also about agricultural shows and festivals is very good. Plastic can't be reused practically. So, I think we need to look at what we can do, going forward. I did mention about the people of Wales knowing what happened to the products that are recycled, and I think there's a conversation that I need to have with my colleague, the Minister for economy and infrastructure, around this. And, certainly, we need to encourage businesses. In fact, in Ken Skates's own constituency - I've made a visit myself - there is a new company that recycles coat hangers, and there are literally hundreds of thousands of coat hangers going through this. So I think it's something that we could do, to encourage new businesses like that to come to Wales. I think, in relation to incineration, prevention is obviously the key, but, again, it's very early days in my portfolio. I need to have a look at that, but, certainly, I think we need to continue to focus on where we have been with that. You asked about commercial waste, and I think you're quite right - if we're encouraging households to do it, we should be encouraging businesses. They recognise that recycling saves them money. But I think we also need to look at extending producer responsibility, and making sure that they design products that will last longer, that they think about what happens to the products when they get to end of life, how they can then be recycled or repaired, and thinking about the infrastructure that needs to be in place there.
Hoffwn ddiolch i Simon Thomas am ei sylwadau ac edrychaf ymlaen at ei gael yn fy nghysgodi; rwyf yn gobeithio y bydd ei jôcs yn gwella dros y misoedd nesaf. Rwyf yn cytuno â chi am yr economi gylchol, oherwydd pan roddwyd teitl y datganiad o fy mlaen, fe betrusais ychydig. Ond credaf eich bod yn iawn; mae arnom angen rhywbeth y mae pobl yn ei ddeall yn iawn ac yn gallu cydio ynddo. Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol, ac fel y dywedwch, mae'n stori newyddion da. Mae bod lle yr ydym yn y DU ac yn Ewrop yn llwyddiant go iawn. Wrth gwrs, mae angen inni wneud mwy i wthio dros y 59 y cant er mwyn cyrraedd ein targed. A chredaf fod mwy y gallwn ei wneud, ond mae'n fater o sicrhau bod y cyhoedd yn dod gyda ni yn hynny o beth. Gofynasoch beth arall y gallwn ei wneud, oherwydd, yn amlwg, rydym yn ôl pob tebyg wedi dod i dipyn o fan gwastad, a bydd yn rhaid cymryd camau pellach er mwyn symud ymlaen. Holasoch yn benodol am gynllun adfer blaendal, a gwn fod hynny wedi cael ei ystyried. Efallai eich bod yn ymwybodol fod Llywodraeth yr Alban ar hyn o bryd yn gwneud llawer iawn o waith ynghylch hyn, ac rydym mewn ffordd yn gweithio'n weithredol gyda Llywodraeth yr Alban - does dim pwynt dyblygu'r gwaith y maent hwy'n ei wneud - ac rydym yn aros am rywfaint o gyngor ganddynt. Mae swyddogion yn cydweithio'n agos iawn. Fy nealltwriaeth gynnar o gael cynllun adfer blaendal o'r fath yw y byddai'n hynod o gymhleth i'w gyflwyno. Ond, yn sicr, rwyf yn disgwyl cael y cyngor hwnnw, a gwn, unwaith eto, fod fy swyddogion wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid ynghylch p'un a ddylem wneud hynny. Roeddwn yn meddwl bod yr hyn a ddywedasoch am y gweithgaredd glanhau'r traeth yn ddiddorol iawn, ac rydych i'ch canmol am wneud hynny, a'r caeadau plastig oedd y drwg yn y caws. Cofiaf pan gefais fy ethol gyntaf, yn ôl yn 2007, nid gwneud cynllun traeth - nid oes gennym draethau yn Wrecsam - ond, wyddoch chi, mynd ar ymgyrch casglu sbwriel, lle y bagiau siopa oedd y drwg. A chredaf nad ydym erbyn hyn yn gweld llawer o fagiau plastig sbwriel yn benodol oherwydd y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan y lle hwn i leihau eu defnydd. Roedd y pwynt a wnaethoch hefyd am sioeau amaethyddol a gwyliau yn un da iawn. Ni ellir ailddefnyddio plastig yn ymarferol. Felly, credaf fod angen inni edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud, wrth symud ymlaen. Soniais am sicrhau bod pobl Cymru'n gwybod beth sy'n digwydd i'r cynhyrchion sy'n cael eu hailgylchu, a chredaf fod sgwrs y mae angen imi ei chael â'm cydweithiwr, y Gweinidog dros yr economi a seilwaith, ynghylch hyn. Ac, yn sicr, mae angen inni annog busnesau. Yn wir, yn etholaeth Ken Skates ei hun - rwyf wedi bod ar ymweliad fy hun - mae cwmni newydd sy'n ailgylchu prennau hongian cotiau, ac mae cannoedd o filoedd o brennau hongian cotiau yn llythrennol yn mynd drwyddo. Felly credaf fod hynny'n rhywbeth y gallem ei wneud, er mwyn annog busnesau newydd fel yna i ddod i Gymru. Credaf, mewn perthynas â llosgi, mai atal yn amlwg yw'r allwedd, ond, unwaith eto, megis dechrau yr wyf yn fy mhortffolio. Mae angen imi gael golwg ar hynny, ond, yn sicr, credaf fod angen parhau i ganolbwyntio ar ble yr ydym wedi bod gyda hynny. Gofynasoch am wastraff masnachol, a chredaf eich bod yn llygad eich lle - os ydym yn annog aelwydydd i wneud hyn, dylem fod yn annog busnesau. Maent yn cydnabod bod ailgylchu'n arbed arian iddynt. Ond credaf fod yn rhaid inni hefyd edrych ar estyn cyfrifoldeb y cynhyrchwyr, a sicrhau eu bod yn dylunio cynhyrchion a fydd yn para'n hirach, eu bod yn meddwl am yr hyn sy'n digwydd i'r cynhyrchion pan fyddant yn dod at ddiwedd eu hoes, sut y gallant wedyn gael eu hailgylchu neu eu hatgyweirio, a meddwl am y seilwaith y mae ei angen yn hynny o beth.
Can I thank the Secretary for her statement - such a positive statement? She referred to the 30,000 potential jobs in this sector. As she may know, Neath Port Talbot, in my area, has secured the second-highest number of jobs in reprocessing under WRAP Cymru's EU-funded ARID programme, which highlights the practical reality of the job creation potential here. What assessment has the Welsh Government made of the types of jobs that may be created, and the skill mix required, in order to be able to take full advantage of the circular economy in all its guises, be it waste collection, recycling, but also remanufacture, reuse and repair?
A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad - datganiad mor gadarnhaol? Cyfeiriodd at y 30,000 o swyddi posibl yn y sector hwn. Fel y gŵyr hi efallai, mae Castell-nedd Port Talbot, yn fy ardal i, wedi sicrhau'r ail nifer uchaf o swyddi mewn ailbrosesu dan raglen ARID WRAP Cymru a ariennir gan yr UE, sy'n tynnu sylw at realiti ymarferol y potensial i greu swyddi yma. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r mathau o swyddi y gellid eu creu, a'r gymysgedd sgiliau sydd ei hangen, er mwyn gallu manteisio'n llawn ar yr economi gylchol yn ei holl ffurfiau, boed yn gasglu gwastraff, ailgylchu, ond hefyd ailweithgynhyrchu, ailddefnyddio ac atgyweirio?
Well, I haven't undertaken that piece of work in the first month of the portfolio. But I think you raise a very important point, and there is that prospect of bringing more jobs in. I mentioned how we could be looking at encouraging businesses in the way I've mentioned about Ken Skates's constituency having the coat hanger one. I think it's really important that we recognise that we've made a big decision here in Wales to be a recycling nation, and we need to ensure that when we encourage businesses to come here, we show that one of the reasons that we want to be that recycling nation is to have that economic resilience. So, be assured that, going forward, I will be having those conversations.
Wel, nid wyf wedi ymgymryd â'r darn hwnnw o waith ym mis cyntaf y portffolio. Ond credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'r posibilrwydd hwnnw o ddod â mwy o swyddi. Soniais y gallem fod yn edrych ar annog busnesau yn y ffordd yr wyf wedi'i chrybwyll ynglŷn ag etholaeth Ken Skates a'r busnes prennau hongian cotiau. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod ein bod wedi gwneud penderfyniad mawr yma yng Nghymru i fod yn genedl sy'n ailgylchu, ac mae angen inni sicrhau, pan fyddwn yn annog busnesau i ddod yma, ein bod yn dangos mai un o'r rhesymau pam yr ydym am fod yn genedl sy'n ailgylchu yw er mwyn cael y cadernid economaidd hwnnw. Felly gallaf eich sicrhau y byddaf, wrth symud ymlaen, yn cael y sgyrsiau hynny.
Deputy Presiding Officer, can I add my congratulations to your office? I'm not sure you'd want to recycle anything the last chap did, but I know you will have your own personality in the role, and I do hope you'll soon forget the odd occasion when we clashed when I sat in that Chair, especially should I heckle rather inadvertently occasionally, having heard some of the contributions of the frontbench. It is also slightly unnerving, when I have to make my first contribution as a spokesperson, in an area I've never shadowed before, to do it in an area of rather high achievement for the Government. Can I place on record my congratulations to the Government, and also to the new what we now must call Cabinet Secretary? I do recall that's what the term was in the first Assembly; so, even that's been recycled. But I do hope that you will enjoy your role and that you will achieve many of the things that you have set out to achieve in these early days for your portfolio. I think the Welsh Government has shown leadership in this area, and it would be churlish not to acknowledge that. We're now in a position where we could see further ambition. This pretty much relates to the circular economy, which I think takes us a bit more into the commercial side of things, having noted the pretty good record in terms of municipal waste, even at a European level, let alone on a UK scale. So, I do think we need to concentrate now on how we're going to use the resources of small and medium-sized enterprises, in particular, who I think need to be at the heart of a strategy that effectively recycles and retains more of the recycled material within Wales. Because, in your admirably candid statement, you do acknowledge that over half of the material currently recycled actually then leaves Wales. So, if we look at that as a resource, which is what I think we need to do, rather than the problem to be exported, then I think it is crucial that we get SMEs more fully involved. To do that, we need not to engulf them in regulation, but we need to give them the tools to see the opportunities and to develop their skills and to see where there can be commercial advantage. So, in that case, I just have one particular thing, really, to follow up, and that is: whilst you're saying that you're looking at the way that can be done and that you are drawing up plans for that, I would like to know how ERDF, our European moneys, might be used together with EU Horizon funding, because it seems to me, in improving the skills and key infrastructure in the economy, then those European programmes could be very, very promising and an area where we could really have competitive advantage. In so much of what happens in the Welsh economy, we're trying to emulate best practice elsewhere, but I suppose the real ambition that you are expressing this afternoon is that we can lead not only at a UK level but at a European one as well. If we achieve that ambition and I'm still in post, then I look forward to be able to acknowledge that and congratulate further success as it occurs.
Ddirprwy Lywydd, a gaf i ychwanegu fy llongyfarchiadau ichi ar eich swydd? Nid wyf yn siŵr y byddech eisiau ailgylchu dim byd a wnaeth y dyn diwethaf, ond gwn y bydd gennych eich personoliaeth eich hun yn y swydd, ac rwyf yn gobeithio y byddwch yn anghofio'n fuan yr ambell achlysur pan fu inni wrthdaro pan oeddwn i'n eistedd yn y Gadair honno, yn enwedig os digwydd imi heclo braidd yn anfwriadol o bryd i'w gilydd, ar ôl clywed rhai o gyfraniadau'r fainc flaen. Mae hefyd yn deimlad braidd yn rhyfedd fod yn rhaid imi wneud fy nghyfraniad cyntaf fel llefarydd, mewn maes nad wyf erioed wedi'i gysgodi o'r blaen, a gwneud hynny mewn maes lle mae'r Llywodraeth yn cyflawni'n uchel. A gaf i roi ar gofnod fy llongyfarchiadau i'r Llywodraeth, a hefyd i'r sawl y mae'n rhaid inni yn awr ei galw yn Ysgrifennydd Cabinet newydd? Cofiaf mai dyna oedd y term yn y Cynulliad cyntaf; felly, mae hyd yn oed hynny wedi ei ailgylchu. Ond rwyf yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich swydd ac y byddwch yn cyflawni llawer o'r pethau yr ydych yn gobeithio'u cyflawni yn y dyddiau cynnar hyn yn eich portffolio. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi dangos arweiniad yn y maes hwn, ac anfoesgar fyddai peidio â chydnabod hynny. Rydym yn awr mewn sefyllfa lle y gallem weld rhagor o uchelgais. Mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth â'r economi gylchol, sy'n mynd â ni ychydig ymhellach i ochr fasnachol pethau, wedi nodi'r hanes eithaf da o ran gwastraff trefol, hyd yn oed ar lefel Ewropeaidd, heb sôn am ar raddfa'r DU. Felly, credaf fod angen inni yn awr ganolbwyntio ar sut yr ydym yn mynd i ddefnyddio adnoddau mentrau bach a chanolig, yn arbennig, ac mae angen iddynt yn fy marn i fod yn ganolog i strategaeth sy'n ailgylchu'n effeithiol ac yn cadw mwy o ddeunydd wedi'i ailgylchu yng Nghymru. Oherwydd, yn eich datganiad clodwiw o onest, rydych yn cydnabod bod dros hanner y deunydd sy'n cael ei ailgylchu ar hyn o bryd wedyn yn gadael Cymru. Felly, os edrychwn ar hynny fel adnodd, sef yr hyn yr wyf yn credu bod angen inni ei wneud, yn hytrach nag yn broblem i'w hallforio, yna credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi mwy o ran i fusnesau bach a chanolig. I wneud hynny, mae angen inni beidio â'u llethu â rheoleiddio, ond rhoi'r offer iddynt i weld y cyfleoedd ac i ddatblygu eu sgiliau ac i weld ble y gall fod mantais fasnachol. Gan hynny, felly, mae gennyf un peth penodol, a dweud y gwir, i fynd ar ei drywydd, a hynny yw: rydych yn dweud eich bod yn edrych ar sut y gellir gwneud hynny a'ch bod yn llunio cynlluniau ar gyfer hynny, a hoffwn wybod sut y gellid defnyddio ERDF, ein harian o Ewrop, ynghyd â chyllid Horizon yr UE, oherwydd mae'n ymddangos i mi, wrth wella sgiliau a seilwaith allweddol yn yr economi, y gallai'r rhaglenni Ewropeaidd hynny fod yn addawol iawn, iawn ac yn faes lle y gallem mewn gwirionedd fod â mantais gystadleuol. Mewn cymaint o'r hyn sy'n digwydd yn economi Cymru, rydym yn ceisio efelychu arfer gorau mewn mannau eraill, ond mae'n debyg mai'r gwir uchelgais yr ydych yn ei mynegi'r prynhawn yma yw y gallwn arwain nid yn unig ar lefel y DU ond ar lefel Ewropeaidd yn ogystal. Os gallwn gyflawni'r uchelgais honno a minnau'n dal i fod yn y swydd, yna edrychaf ymlaen at allu cydnabod hynny a llongyfarch llwyddiant pellach fel y mae'n digwydd.
Thank you, David Melding, for your kind words. I only realised just yesterday - because, obviously, I've only been here since 2007 - that 'Cabinet Secretary' was used. So, again, that was a much better joke than Simon Thomas's. [Laughter.] You are quite right, and it's very good that you recognise the high achievement of the recycling rates municipally. That's why I was so candid about the commercial sector. What I want to do is build on the industrial and commercial sector plan that we have within our schemes to ensure that we do work with businesses. You will have heard me say before about the extended producer responsibility, but I think it's about ensuring that we work with businesses to make sure that their design of products and packaging enables them then to reduce waste, to increase that reuse, to increase their recyclability and increase the recycled content. It's also about sustainable management of residual waste as well, and we need to be having those conversations with them. You mentioned European funding. Again, I'm due to meet my colleague the Cabinet Secretary for Finance and Local Government to have those discussions around how we can use European funding - yet another aspect about why we should vote to remain, I believe, next week, to make sure that that European funding is still there, going forward. I think we've already offered a great deal of support to local government, for instance. I know that local government were quite cynical about these targets that we set for them in relation to municipal waste. I'm sure that when I do start to have those discussions with businesses I might meet with the same sort of level. So, it's about not taking success for granted. It's about all working very hard together to make sure that we improve the services and we are able to reach our target in due course.
Diolch ichi, David Melding, am eich geiriau caredig. Ddoe ddiwethaf y sylweddolais - oherwydd, wrth gwrs, dim ond ers 2007 yr wyf yma - fod 'Ysgrifennydd Cabinet' yn arfer cael ei ddefnyddio. Felly, unwaith eto, roedd honno'n jôc well o lawer nag un Simon Thomas. [Chwerthin.] Rydych yn llygad eich lle, ac mae'n dda iawn eich bod yn cydnabod cyflawniad uchel y cyfraddau ailgylchu trefol. Dyna pam yr oeddwn mor onest am y sector masnachol. Yr hyn yr wyf am ei wneud yw adeiladu ar gynllun y sector diwydiannol a masnachol sydd gennym yn ein cynlluniau er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio gyda busnesau. Byddwch wedi fy nghlywed yn sôn o'r blaen am estyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd, ond credaf fod hyn yn fater o sicrhau ein bod yn gweithio gyda busnesau i sicrhau eu bod, wrth ddylunio eu cynnyrch a'u deunydd pacio, yn gallu lleihau gwastraff, ailddefnyddio mwy, gwella eu gallu i ailgylchu a chynyddu'r cynnwys sydd wedi'i ailgylchu. Mae hefyd yn ymwneud â rheolaeth gynaliadwy ar wastraff gweddilliol, ac mae angen inni fod yn cael y sgyrsiau hynny gyda hwy. Soniasoch am arian Ewropeaidd. Unwaith eto, rwyf i fod i gwrdd â'm cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, i gael y trafodaethau hynny ynghylch sut y gallwn ddefnyddio arian Ewropeaidd - agwedd arall eto ar pam y dylem bleidleisio i aros, yn fy marn i, yr wythnos nesaf, i sicrhau bod y cyllid Ewropeaidd yn dal i fod yno, wrth symud ymlaen. Credaf ein bod eisoes wedi cynnig llawer iawn o gymorth i lywodraeth leol, er enghraifft. Gwn fod llywodraeth leol yn eithaf sinigaidd am y targedau a bennwyd gennym ar ei chyfer o ran gwastraff trefol. Rwyf yn siŵr y byddaf, pan ddechreuaf gael y trafodaethau hynny â busnesau, yn dod ar draws yr un math o lefel. Felly, mae'n fater o beidio â chymryd llwyddiant yn ganiataol. Mae'n fater o weithio'n galed iawn gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn gwella'r gwasanaethau a'n bod yn gallu cyrraedd ein targed maes o law.
I welcome the Cabinet Secretary to her post and welcome her statement and her commitment to a circular economy. Obviously, she has concentrated on recycling in this statement, and I note that she raises the potential for further recycling from the analysis of the content of the black bags, which shows there is much more there that could be recycled. However, I do think that we should, in conjunction with continuing to pursue what can be recycled, be looking at reuse, and we should be looking at prevention of waste. I know in the previous Assembly we did have quite a bit of discussion here about a deposit-return bottle scheme - I think William Powell raised it at every debate we had - and I note that in your reply to Simon Thomas you said that you are discussing this with the Scottish Minister and seeing what their experiences are in Scotland. Obviously, you would be analysing it closely, but it would be a very direct way of reusing and would prevent an awful lot of the waste that there actually is, when analysis is made of what causes litter, for example. So, I am very pleased that that is being considered. The other point I wanted to raise was the issue of garden waste, because I am always very concerned, particularly in the country, when you see garden waste being put out for collection by local authorities, and I wondered how much emphasis is able to be put on composting and trying to prevent this, which really seems to me quite an unnecessary thing for local authorities to be doing. We should be concentrating on encouraging garden waste to be recycled within the garden itself. I understand it in a town - that is, you can't do that in a town with people in small gardens or yards or things like that, maybe, but in the country, it just seems to me not a good thing to be doing.
Rwyf yn estyn croeso i'r Ysgrifennydd Cabinet i'w swydd ac yn croesawu ei datganiad a'i hymrwymiad i economi gylchol. Yn amlwg, mae wedi canolbwyntio ar ailgylchu yn y datganiad hwn, a nodaf ei bod yn codi'r potensial ar gyfer ailgylchu pellach drwy ddadansoddi cynnwys y bagiau duon, sy'n dangos bod llawer mwy yno y gellid ei ailgylchu. Fodd bynnag, credaf y dylem, law yn llaw â pharhau i fynd ar drywydd yr hyn y gellir ei ailgylchu, edrych ar ailddefnyddio, a dylem fod yn edrych ar atal gwastraff. Gwn y bu cryn dipyn o drafod yma yn y Cynulliad blaenorol am gynllun poteli blaendal-dychwelyd - credaf fod William Powell wedi ei godi ym mhob dadl a gawsom - a nodaf yn eich ateb i Simon Thomas ichi ddweud eich bod yn trafod hyn gyda Gweinidog yr Alban ac yn gweld beth yw eu profiadau yn yr Alban. Yn amlwg, byddwch yn dadansoddi hyn yn ofalus, ond byddai'n ffordd uniongyrchol iawn o ailddefnyddio ac yn atal llawer iawn o'r gwastraff a geir mewn gwirionedd, pan ddadansoddir beth sy'n achosi sbwriel, er enghraifft. Felly, rwyf yn falch iawn fod hynny'n cael ei ystyried. Y pwynt arall yr oeddwn am ei godi oedd gwastraff gardd, oherwydd rwyf bob amser yn bryderus iawn, yn enwedig yn y wlad, pan welwch wastraff gardd yn cael ei roi allan i'w gasglu gan awdurdodau lleol, a tybed faint o bwyslais y gellir ei roi ar gompostio a cheisio atal hyn, sy'n ymddangos i mi yn beth braidd yn ddiangen i awdurdodau lleol fod yn ei wneud. Dylem fod yn canolbwyntio ar annog ailgylchu gwastraff gardd yn yr ardd ei hun. Rwyf yn deall hynny mewn tref - hynny yw, ni allwch wneud hynny mewn tref lle mae gan bobl ardd fach neu iard neu bethau felly, efallai, ond yn y wlad, mae'n ymddangos i mi nad yw'n beth da i fod yn ei wneud.
I thank the Member for her questions. You're right - you heard me say to Simon Thomas that we've been very closely working with the Scottish Government, and certainly officials are watching what they do. They're going to come forward with some advice that I'll consider certainly before the end of the year, but it is a very complicated process to bring forward a deposit-return scheme from scratch. I think it would be a major undertaking and we'd have to work out whether the costs and benefits were balanced. I think I mentioned that plastic is quite hard to recycle. If you think about it, most drinks bottles now, the glass ones, have been replaced by plastic, and that cannot be used practically. In relation to composting, I think most local authorities carried out campaigns to promote home composting to householders. If you think about it, I think most people would produce too much garden waste to then manage their own compost bins. So, I think people do really value the service that local authorities provide in relation to taking away surplus garden waste, and if that compost then can benefit other gardeners, you can see the process there. I think what I would really want to avoid is people burning their garden waste, because that can often give off very toxic smoke.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Rydych yn iawn - clywsoch fi'n dweud wrth Simon Thomas ein bod wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth yr Alban, ac yn sicr mae swyddogion yn gwylio'r hyn a wnânt yno. Byddant yn cyflwyno rhywfaint o gyngor y byddaf yn ei ystyried yn sicr cyn diwedd y flwyddyn, ond mae'n broses gymhleth iawn dechrau cynllun blaendal-dychwelyd o ddim. Credaf y byddai'n fenter fawr a byddai'n rhaid inni weithio allan a yw'r costau a'r buddion yn gytbwys. Credaf fy mod wedi sôn bod plastig yn eithaf anodd ei ailgylchu. Os feddyliwch chi am y peth, mae'r rhan fwyaf o'r poteli diodydd yn awr, y rhai gwydr, wedi eu disodli gan blastig, ac ni ellir defnyddio hwnnw'n ymarferol. O ran compostio, credaf fod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo compostio gartref ymhlith deiliaid tai. Os feddyliwch chi am y peth, credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cynhyrchu gormod o wastraff o'r ardd i reoli eu biniau compost eu hunain. Felly, credaf fod pobl yn wirioneddol yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth y mae awdurdodau lleol yn ei ddarparu mewn perthynas â chasglu gwastraff gardd dros ben, ac os gall y compost hwnnw wedyn fod o fudd i arddwyr eraill, gallwch weld y broses yno. Credaf mai'r hyn y byddwn yn awyddus iawn i'w osgoi yw pobl yn llosgi eu gwastraff gardd, oherwydd gall hynny yn aml greu mwg gwenwynig iawn.
Minister, can I ask you with regard to recycling rates in Wales? One of the best-performing local authorities was Conwy, and it has managed to achieve its success in recycling with a current recycling regime with a trolley box that is collected on a weekly basis, with different recyclates that are collected at the kerbside and separated at the kerbside, and then a black bin collection on a fortnightly basis. Now, you may be aware that the local authority is planning to move to a three-week cycle across the local authority area, and is about to conduct a pilot also, which it intends to commence in the summer months, of a four-weekly collection cycle. I'm very concerned about that pilot and the impact that it might have on encouraging positive recycling behaviour amongst the local community. There's a lot of concern that that might lead to environmental problems from those who don't engage in recycling in the way that you and I would want them to, and there's no provision within the proposals to deal with pet waste, which of course can be particularly unpleasant if left festering in black bins for a long time. So, I just wonder, Minister, what guidance you might be able to issue, as the Welsh Government, to ensure that these things are catered for properly, so that if there is a shift to a four-weekly general refuse collection service, that doesn't have an adverse impact on the wider environment, upon local communities, and indeed on the visitor economy, particularly in a place like Conwy where visitors are essential in giving that particular area an economic boost?
Weinidog, a gaf i ofyn ichi ynghylch cyfraddau ailgylchu yng Nghymru? Un o'r awdurdodau lleol oedd yn perfformio orau oedd Conwy, ac mae wedi llwyddo i sicrhau llwyddiant o ran ailgylchu gyda threfn ailgylchu gyfredol a bocs troli sy'n cael ei gasglu'n wythnosol, a gwahanol ddeunyddiau ailgylchu sy'n cael eu casglu wrth ymyl y ffordd a'u didoli wrth ymyl y ffordd, ac yna gasgliad bin du bob pythefnos. Yn awr, fel y gwyddoch efallai, mae'r awdurdod lleol yn bwriadu symud i gylch tair wythnos ar draws ardal yr awdurdod lleol, ac mae ar fin cynnal cynllun peilot hefyd, y mae'n bwriadu ei gychwyn yn ystod misoedd yr haf, ar gyfer casglu bob pedair wythnos. Rwyf yn bryderus iawn am y cynllun peilot a'r effaith y gallai ei chael ar annog ymddygiad ailgylchu cadarnhaol ymysg y gymuned leol. Mae llawer o bryder y gallai hynny arwain at broblemau amgylcheddol yn sgil y rhai nad ydynt yn ailgylchu yn y ffordd y byddech chi a fi am iddynt ei wneud, ac nid oes darpariaeth yn y cynigion i ymdrin â gwastraff anifeiliaid anwes, sydd wrth gwrs yn gallu bod yn arbennig o annymunol os caiff ei adael i bydru mewn biniau du am yn hir. Felly tybed, Weinidog, pa ganllawiau y gallai Llywodraeth Cymru eu cyhoeddi er mwyn sicrhau y darperir ar gyfer y pethau hyn yn iawn, felly os oes newid i wasanaeth casglu sbwriel cyffredinol bob pedair wythnos, nad yw'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd ehangach, ar gymunedau lleol, ac yn wir ar yr economi ymwelwyr, yn enwedig mewn lle fel Conwy lle mae ymwelwyr yn hanfodol o ran rhoi hwb economaidd i'r ardal benodol honno?
I thank Darren Millar for his question. I was aware Conwy are going to pilot to trial four-weekly collections. I think they're starting at the end of next month. We, as a Welsh Government, don't have a policy for monthly collection of non-recyclable rubbish. It really is a matter for local authorities to decide the frequency of their waste collections and what's best for their community and their local populations. I have no plans to enforce any specific collection frequency arrangements on them. In relation to pet waste, that's not something that has come across my desk in these early days. But I think you do raise a very important point about pet waste and I'm happy to have a look at that and write to the Member.
Diolch i Darren Millar am ei gwestiwn. Roeddwn yn gwybod bod Conwy yn bwriadu cynnal cynllun peilot i dreialu casgliadau bob pedair wythnos. Credaf eu bod yn dechrau ddiwedd y mis nesaf. Nid oes gennym ni yn Llywodraeth Cymru bolisi ar gyfer casglu sbwriel na ellir ei ailgylchu yn fisol. Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu pa mor aml y maent yn casglu gwastraff a beth sydd orau i'w cymuned a'u poblogaethau lleol. Nid oes gennyf ddim cynlluniau i orfodi unrhyw drefniadau penodol arnynt ynghylch pa mor aml y cesglir gwastraff. O ran gwastraff anifeiliaid anwes, nid yw hynny'n rhywbeth sydd wedi cyrraedd fy nesg yn y dyddiau cynnar hyn. Ond credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn am wastraff anifeiliaid anwes ac rwyf yn hapus i gael golwg ar hynny ac ysgrifennu at yr Aelod.
I have two more speakers and we've got less than a minute to get through them. Can I ask both speakers, then, just for questions on this occasion, please? I've got Jenny Rathbone next.
Mae gennyf ddau siaradwr arall ac mae gennym lai na munud i fynd trwyddynt. A gaf i ofyn i'r ddau siaradwr, felly, am gwestiynau yn unig ar yr achlysur hwn, os gwelwch yn dda? Jenny Rathbone nesaf.
Thank you very much, and welcome, Minister. I'd just like to pay tribute to - you've said that an amount of food waste is still appearing in black recycling, which is obviously a major health issue, as well as loved by the gulls - the work that Love Food Hate Waste is doing to divert food from having to go to land waste into being used productively by organisations. I think it's really important. I just want to ask you about the perverse incentives around weight-based recycling - No. 1 - and also what consideration you might give to how we could put levies on the plastic bottles or the can lids that have been mentioned earlier by others as a way of ensuring that we're not sorting out one problem and creating another. How can we get the polluter to pay - i.e. those who do tip their cans onto the beach? How do we prevent that happening in the first place by maybe having bottles for drinks that have to be returnable as an alternative to that?
Diolch yn fawr iawn, a chroeso, Weinidog. Hoffwn dalu teyrnged - rydych wedi dweud bod rhyw gymaint o wastraff bwyd yn dal i ymddangos mewn ailgylchu du, sydd yn amlwg yn fater iechyd mawr, yn ogystal ag yn hoff iawn gan y gwylanod - i'r gwaith y mae Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff yn ei wneud i ddargyfeirio bwyd rhag gorfod mynd i safleoedd tirlenwi a chael ei ddefnyddio'n gynhyrchiol gan sefydliadau. Credaf fod hynny'n bwysig iawn. Hoffwn ofyn ichi am y cymhellion croes o ran ailgylchu seiliedig ar bwysau - Rhif 1 - a hefyd pa ystyriaeth y gallech ei rhoi i sut y gallem roi ardollau ar y poteli plastig neu'r caeadau caniau sydd wedi eu crybwyll yn gynharach gan eraill fel ffordd o sicrhau nad ydym yn datrys un broblem a chreu un arall. Sut allwn ni gael y llygrwr i dalu - h.y. y rhai sydd yn taflu eu caniau ar y traeth? Sut mae atal hynny rhag digwydd yn y lle cyntaf drwy efallai gael poteli diodydd y mae'n rhaid eu dychwelyd fel dewis amgen i hynny?
Thank you, Jenny Rathbone. You will have heard me say to previous Members my views on deposit-return schemes, in relation to your last question. In relation to throwing out by weight, a briefing I read was embracing what other European countries have done. I think Austria and Italy and parts of Belgium were areas where they'd had a pay-as-you-throw tax. I actually think that's quite controversial. Going forward, we would have to consider future models of how we fund local authorities to deliver the high-quality services that we've seen. But, certainly, I wouldn't think pay-as-you-throw would be something that I would want to see here in Wales. I absolutely agree that we know that probably 50 per cent of rubbish thrown into a black bin could be recycled. It's about ensuring that we find a way of encouraging people to look at what they're throwing away - to have a look around their house and see what they can throw away, and to make sure they throw the right things away in the right places at the right time. It may be that we need to have a further campaign, for instance, to raise public awareness. I think that's been very successful previously. But these are all things that I will have to consider to make sure that we do reach that 70 per cent target.
Diolch ichi, Jenny Rathbone. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud wrth Aelodau blaenorol am fy safbwyntiau ar gynlluniau blaendal-dychwelyd, o ran eich cwestiwn olaf. Mewn perthynas â thaflu yn ôl pwysau, roedd briff yr oeddwn yn ei ddarllen yn cofleidio'r hyn y mae gwledydd eraill yn Ewrop wedi ei wneud. Credaf fod Awstria a'r Eidal a rhannau o Wlad Belg yn ardaloedd lle'r oedd treth talu wrth daflu. Credaf fod hynny'n eithaf dadleuol. Wrth symud ymlaen, byddai'n rhaid inni ystyried modelau ar gyfer sut yr ydym yn ariannu awdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau uchel eu safon yr ydym wedi'u gweld. Ond, yn sicr, ni chredaf y byddai talu-wrth-daflu yn rhywbeth y byddwn am ei weld yma yng Nghymru. Cytunaf yn llwyr ein bod yn gwybod y gallai 50 y cant o sbwriel yn ôl pob tebyg sy'n cael ei daflu i mewn i fin du gael ei ailgylchu. Mae'n fater o sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffordd o annog pobl i edrych ar yr hyn y maent yn ei daflu - edrych o gwmpas eu tŷ a gweld yr hyn y gallant ei daflu, a sicrhau eu bod yn taflu'r pethau iawn yn y mannau iawn ar yr adeg iawn. Efallai y bydd angen inni gael ymgyrch arall, er enghraifft, i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Credaf fod hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol. Ond mae'r rhain i gyd yn bethau y bydd yn rhaid imi eu hystyried er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd y targed o 70 y cant.
Thank you very much, Deputy Presiding Officer. Cabinet Secretary, the aims of the Welsh Government are admirable, but perhaps unrealistic: 70 per cent recycling by 2025 and 100 per cent by 2050. In order to get to the 100 per cent mark, you really must bring the householders of Wales with you. You are working in response to the EU framework directive, which only requires a 65 per cent recycling rate by 2030. This is a classic case of the gold-plating of EU legislation, which Labour complains so much about in Westminster, and, all of a sudden, here we are, we're getting it in Wales. Now, there's two main ways to get people to recycle in Wales: we can use the carrot or we can use the stick. I'm afraid that it appears that we are going down the stick route all too often. Many of my constituents in Conwy and, soon to be, Anglesey are being asked to not only sort their own rubbish on behalf of the council but also to make do with a four-weekly bin collection. Now, those of you who suffer from the system that we have on Anglesey know that, when the wind blows, literally the recycled rubbish ends up all the way down the street, and many of the inhabitants of the estate where I live, when it's windy, don't even bother putting out the recycled rubbish, because it just ends up everywhere. Is it not draconian to expect people with large families to put their rubbish into a bin that's exactly the same size as that of somebody who only has one person in their household? Of course, Cardiff is now possibly facing the four-weekly scourge as well. Cabinet Secretary, what carrots can you offer to our residents regarding recycling, as opposed to this being a thorn in the collective side of the Welsh people? And what's more, why is it not possible for us to - ?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae nodau Llywodraeth Cymru yn glodwiw, ond efallai'n afrealistig: ailgylchu 70 y cant erbyn 2025 a 100 y cant erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y 100 y cant, rhaid ichi ddod â deiliaid tai Cymru gyda chi. Rydych yn gweithio mewn ymateb i gyfarwyddeb fframwaith yr UE, sydd ddim ond yn gofyn am gyfradd ailgylchu o 65 y cant erbyn 2030. Dyma achos perffaith o oreuro deddfwriaeth yr UE, y mae Llafur yn cwyno cymaint amdani yn San Steffan, ac, yn sydyn, dyma ni, yn ei chael yng Nghymru. Yn awr, mae dwy brif ffordd o gael pobl i ailgylchu yng Nghymru: gallwn ddefnyddio'r foronen neu gallwn ddefnyddio'r ffon. Rwyf yn ofni ei bod yn ymddangos ein bod yn dilyn llwybr y ffon yn rhy aml. Disgwylir i lawer o fy etholwyr yng Nghonwy ac, yn fuan, yn Ynys Môn, nid yn unig ddidoli eu sbwriel eu hunain ar ran y cyngor ond hefyd wneud y tro â chasglu biniau pob pedair wythnos. Yn awr, mae'r rhai ohonoch sy'n dioddef o'r system sydd gennym ar Ynys Môn yn gwybod, pan fydd y gwynt yn chwythu, fod y sbwriel wedi'i ailgylchu yn llythrennol yn diweddu yr holl ffordd i lawr y stryd, ac mae llawer o drigolion y stad lle yr wyf i'n byw, pan fydd hi'n wyntog, nad ydynt hyd yn oed yn trafferthu rhoi'r sbwriel wedi'i ailgylchu allan, gan ei fod yn chwalu i bob man. Onid yw'n llym iawn disgwyl i bobl â theuluoedd mawr roi eu sbwriel mewn bin yn union yr un maint ag aelwyd lle nad oes ond un person yn byw? Wrth gwrs, mae Caerdydd yn awr o bosibl yn wynebu'r pla pedair wythnos yn ogystal. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gymhelliad allwch chi ei gynnig i'n trigolion ynghylch ailgylchu, yn hytrach na bod hyn yn ddraenen yn ystlys gasgliadol y Cymry? Ac ar ben hynny, pam nad yw'n bosibl inni - ?
That's two questions and we're out of time. I've been very lenient.
Mae hynna'n ddau gwestiwn ac mae ein hamser ar ben. Rwyf wedi bod yn drugarog iawn.
You've been extremely lenient, and thank you ever so much.
Rydych wedi bod yn hynod drugarog, a diolch yn fawr iawn ichi.
Yes, well, don't push it any further. [Laughter.]Cabinet Secretary.
Ie, wel, peidiwch â gwthio ymhellach. [Chwerthin.]Ysgrifennydd y Cabinet.
Thank you, Deputy Presiding Officer, and I thank Nathan Gill for his question, although I think it was a little bit sour. It was a shame that that was the last question to end what I think has been a really positive statement. You know, the statistics don't back up what you're saying. I don't think we've had to use carrots and sticks. I really think people have engaged with this. I do accept that we've reached, with 58 or 59 per cent, a bit of a plateau and, to get to that 70 per cent, we are going to have to think about different things, about how we get that 50 per cent out of the residual waste into the recycling boxes. But, you know, every local authority is engaging in the way that you referred to in Anglesey and Conwy, not just those two local authorities. Unfortunately, we have 22 local authorities, and sometimes - I'm not saying we have 22 examples of how we do it, but, again, let's look at best practice, let's make sure that we get that best practice around Wales to ensure that we do reach those targets. They are ambitious, but I do think they are achievable and, as I mentioned in a previous answer, we chose to have those targets; we chose for Wales to be a high recycling nation. Thank you.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Nathan Gill am ei gwestiwn, er fy mod yn meddwl ei fod braidd yn sur. Roedd yn drueni mai dyna oedd y cwestiwn olaf i roi terfyn ar yr hyn yr wyf yn meddwl sydd wedi bod yn ddatganiad cadarnhaol iawn. Wyddoch chi, nid yw'r ystadegau'n ategu'r hyn yr ydych yn ei ddweud. Nid wyf yn credu ein bod wedi gorfod defnyddio moron a ffyn. Rwyf yn meddwl bod pobl wedi ymgysylltu â hyn yn wirioneddol. Rwyf yn derbyn ein bod wedi cyrraedd, gyda 58 neu 59 y cant, tipyn o fan gwastad, ac er mwyn cyrraedd y 70 y cant, bydd yn rhaid inni feddwl am bethau gwahanol, ynghylch sut mae cael y 50 y cant allan o'r gwastraff gweddilliol i mewn i'r blychau ailgylchu. Ond, wyddoch chi, mae pob awdurdod lleol yn ymgysylltu yn y ffordd y cyfeiriasoch ato yn Ynys Môn a Chonwy, nid dim ond y ddau awdurdod lleol hynny. Yn anffodus, mae gennym 22 o awdurdodau lleol, ac weithiau - nid wyf yn dweud bod gennym 22 o enghreifftiau o'r ffordd yr ydym yn gwneud hyn, ond, unwaith eto, gadewch inni edrych ar yr arfer gorau, gadewch inni sicrhau ein bod yn cael yr arfer gorau ledled Cymru i sicrhau ein bod yn cyrraedd y targedau hynny. Maent yn uchelgeisiol, ond credaf eu bod yn gyraeddadwy, ac fel y soniais mewn ateb blaenorol, ein dewis ni oedd y targedau hynny; ein dewis ni oedd i Gymru fod yn genedl â lefelau uchel o ailgylchu. Diolch.
We move on to the next item, which is a statement by the Minister for Skills and Science on apprenticeships in Wales, and I call on Julie James.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar brentisiaethau yng Nghymru, a galwaf ar Julie James.
Thank you, Deputy Presiding Officer, and can I also add my congratulations to you on your new role, in an effort to curry some favour? [Laughter.] I would like to take this opportunity to inform members about the Government's plans regarding the recruitment of apprentices over the coming months. As my statement today will make clear, we are taking action quickly to deliver on our pledge for a 100,000 quality apprenticeships for all ages over the next five years. Apprenticeships in Wales are delivered on a flexible basis with people starting throughout the year, but by far the largest recruitment drive takes place in line with the school year. Therefore, changes will need to take place with immediate effect, so that an all-age approach can be applied to our apprenticeship contracts for delivery during the school year, which begins in early September. As you will all doubtless already know, the apprenticeship programme performs very well. Completion rates are consistently over 80 per cent, with many of them up as high as 86 per cent. Feedback from employers and apprentices is positive and the quality of the programmes delivered is rated highly by external assessors. Given this good track record, I intend to keep my focus on quality. We are committing to a minimum target number of apprenticeships over the next five years, but I am not going to be drawn into making commitments to numbers that cannot be delivered, nor am I going to compromise our established record of high quality. I believe in meaningful training that supports career progression for individuals, increases productivity for employers and in turn meets the future skills needs of our country. Our procurement and contracting arrangements and our partnership working with providers has proven to be very effective in our drive to raise standards and deliver high-quality, meaningful training, and that will remain unchanged. Over the next few months, we are taking action to engage with school leavers. An example is our 'Have a Go' programme, which gives young people the chance to use modern equipment and workplace technology in a safe and fun environment. This scheme will be expanded through joint working with schools, colleges, apprenticeship providers and Careers Wales. We have also made additional resource available to our apprenticeship providers to engage with employers and stakeholders to help them to be more aware of existing apprenticeship opportunities and new vacancies. These actions will ensure that school leavers, employees moving jobs and people returning to the labour market are aware of these openings and have plenty of time to apply for them. I want to ensure that people of any age can benefit from the opportunities offered by the quality apprenticeships we offer in Wales, but in particular those trying to enter or re-enter the labour market. I also want us to build on our established record of high-quality vocational education and training with a growing number of higher apprenticeships. Our higher apprenticeships at level 4 and above provide us with a golden opportunity to develop stronger and deeper skills among our existing workforce, and also to provide employers with the skilled staff they need to boost productivity, innovation and overall business performance. Last year, we saw big increases in the number of higher apprenticeships in Wales - an impressive 22 per cent of all apprenticeship starts. As we increase the number of higher apprenticeships, we will continue to support the broad sector priorities set out by our regional skills partnerships in their annual plans and also the national priorities set by Welsh Ministers. However, we do want to do more. We know there is a growing demand for us to expand higher level apprenticeships, particularly in professional science, technology and engineering sectors, as there is clear evidence of skills shortages in each of these areas. We believe we owe it to the people of Wales to strengthen progression to higher level skills; we need to work with our provider network to expand their capacity to deliver, including through Welsh-medium delivery. In addition, we will continue to ensure that those groups currently under-represented are given equal opportunities to benefit from our programme, and we have appointed a quality champion specifically to take forward this work. I am also exploring how we can increase degree-equivalent activity on the programme, and I will work with the outcomes from the Diamond review to encourage this development. To create a step change will involve new types of partnership working that include schools, colleges, work-based learning providers and the higher education sector. In turn, we will also need to review lower level apprenticeships, particularly where employers are not reporting skills shortages and there is a weak platform for career progression. We have already asked sector skills councils to ensure that the learning content on our key apprenticeship frameworks is relevant to the changing needs of employers in different industry sectors in Wales. In undertaking this work, the sector skills councils will ensure that employers have a greater input into the design of our apprenticeship frameworks while maintaining a system that is flexible and responsive to the evermore rapidly changing needs of the Welsh economy. We in the Welsh Government remain committed to the UK's national occupational standards and the inclusion of qualifications in apprenticeship frameworks, as we know they provide skills that are recognised nationally and internationally. Last year, the Welsh Government consulted extensively on aligning our apprenticeship model with the needs of the economy in Wales and the wider UK. We published our consultation responses in July 2015. Since that time, we have delayed publishing our apprenticeship implementation plan to provide us with an opportunity to properly consider the impact of the UK Government's proposals for the operation of the apprenticeship levy in England, and associated changes to apprenticeship standards. No-one in the skills arena can escape the issue of the apprenticeship levy. The levy is a matter of fundamental concern for the Welsh Government. Today, I regret to say that we still do not have complete clarity from the UK Government about how the planned apprenticeship levy scheme will operate in England and the impact in Wales. While things remain unclear, they should not and do not remove the need for us to seek greater certainty and to begin to plan apprenticeship provision here in Wales in more detail for the first and subsequent years of this new Assembly term. The plans I am announcing today start the process of delivery on our pledge for 100,000 all-age apprenticeships, as outlined in the First Minister's statement in May. They also support our longer term vision for how apprenticeships contribute to a more prosperous, more resilient Wales and a more equal Wales. Apprenticeships are by far the most well-known and respected 'earn whilst you learn' option and the returns for individuals, employers and the broader economy are well documented. All-age apprenticeships, together with the all-age employability programme, are central to our proposed skills reforms. Apprenticeships are a proven route to sustainable employment and prosperity. The priorities I have announced today - a relentless focus on quality, opportunities for all, expansion of higher level skills and greater employer engagement - will ensure that this Government delivers on its pledge to the people of Wales.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf innau hefyd ychwanegu fy llongyfarchiadau i chi ar eich swydd newydd, mewn ymdrech i geisio rhywfaint o ffafr? [Chwerthin.] Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi gwybod i aelodau am gynlluniau'r Llywodraeth ynghylch recriwtio prentisiaid dros y misoedd nesaf. Fel y bydd fy natganiad heddiw yn gwneud yn glir, rydym yn cymryd camau yn gyflym i gyflawni ein haddewid i gael 100,000 o brentisiaethau o ansawdd ar gyfer pob oedran yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae prentisiaethau yng Nghymru yn cael eu darparu ar sail hyblyg gyda phobl yn dechrau drwy gydol y flwyddyn, ond mae'r ymgyrch recriwtio fwyaf o bell ffordd yn digwydd yn unol â'r flwyddyn ysgol. Felly, bydd angen i newidiadau ddigwydd ar unwaith, fel y gellir defnyddio ymagwedd pob oedran at ein contractau prentisiaeth ar gyfer cyflenwi yn ystod y flwyddyn ysgol, sy'n dechrau yn gynnar ym mis Medi. Fel y byddwch i gyd yn ddiau yn gwybod eisoes, mae'r rhaglen brentisiaeth yn perfformio'n dda iawn. Mae cyfraddau cwblhau yn gyson dros 80 y cant, gyda llawer ohonynt i fyny mor uchel ag 86 y cant. Mae adborth gan gyflogwyr a phrentisiaid yn gadarnhaol ac ansawdd y rhaglenni a gyflwynir yn cael ei ystyried yn uchel gan aseswyr allanol. O ystyried yr hanes da hwn, rwy'n bwriadu cadw fy mhwyslais ar ansawdd. Rydym yn ymrwymo i nifer targed isaf o brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf, ond nid wyf yn mynd i gael fy nhynnu i wneud ymrwymiadau i rifau na ellir eu cyflawni, ac nid wyf i'n mynd i beryglu ein hanes sefydledig o ansawdd uchel. Rwy'n credu mewn hyfforddiant ystyrlon sy'n cefnogi dilyniant gyrfa ar gyfer unigolion, sy'n cynyddu cynhyrchiant ar gyfer cyflogwyr ac yn ei dro yn bodloni anghenion sgiliau ein gwlad yn y dyfodol. Mae ein trefniadau caffael a chontractio a'n gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr wedi dangos ei fod yn effeithiol iawn yn ein hymgyrch i godi safonau a darparu hyfforddiant ystyrlon, o ansawdd uchel, a bydd hynny yn aros yn ddigyfnewid. Dros y misoedd nesaf, rydym yn cymryd camau i ymgysylltu â phobl sy'n gadael yr ysgol. Un enghraifft yw ein rhaglen 'Have a Go', sy'n rhoi cyfle i ddefnyddio offer modern a thechnoleg y gweithle mewn amgylchedd diogel a llawn hwyl i bobl ifanc. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ehangu trwy weithio ar y cyd ag ysgolion, colegau, darparwyr prentisiaethau a Gyrfa Cymru. Rydym hefyd wedi sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i'n darparwyr prentisiaethau i ymgysylltu â chyflogwyr a rhanddeiliaid er mwyn eu helpu i fod yn fwy ymwybodol o gyfleoedd prentisiaeth presennol a swyddi gwag newydd. Bydd y camau hyn yn sicrhau bod pobl sy'n gadael yr ysgol, gweithwyr sy'n symud rhwng swyddi a phobl sy'n dychwelyd i'r farchnad lafur yn ymwybodol o'r cyfleoedd hyn ac yn cael digon o amser i wneud cais ar eu cyfer. Rwyf eisiau sicrhau y gall pobl o unrhyw oed elwa ar y cyfleoedd a gynigir gan y prentisiaethau o safon yr ydym yn eu cynnig yng Nghymru, ond yn arbennig y rhai sy'n ceisio mynd i mewn neu ail-fynd i mewn i'r farchnad lafur. Rwyf hefyd eisiau i ni adeiladu ar ein hanes sefydledig o addysg a hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd uchel gyda nifer cynyddol o brentisiaethau uwch. Mae ein prentisiaethau uwch ar lefel 4 ac uwch yn rhoi cyfle euraidd i ni ddatblygu sgiliau cryfach a dyfnach ymysg ein gweithlu presennol, a hefyd i ddarparu cyflogwyr â staff medrus y mae eu hangen arnynt i hybu cynhyrchiant, arloesi a pherfformiad busnes yn gyffredinol. Y llynedd, gwelsom gynnydd mawr yn nifer y prentisiaethau uwch yng Nghymru - 22 y cant trawiadol o'r holl brentisiaethau a ddechreuodd. Wrth i ni gynyddu nifer y prentisiaethau uwch, byddwn yn parhau i gefnogi'r blaenoriaethau eang y sector a nodir gan ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn eu cynlluniau blynyddol a hefyd y blaenoriaethau cenedlaethol a bennir gan Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i wneud mwy. Rydym yn gwybod bod galw cynyddol am inni ehangu prentisiaethau lefel uwch, yn enwedig yn y sectorau gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg proffesiynol, gan fod tystiolaeth glir o brinder sgiliau ym mhob un o'r meysydd hyn. Rydym yn credu bod gennym ddyletswydd i bobl Cymru i gryfhau dilyniant i sgiliau lefel uwch; mae angen i ni weithio gyda'n rhwydwaith o ddarparwyr i ehangu eu gallu i gyflenwi, gan gynnwys cyflenwi drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal, byddwn yn parhau i sicrhau bod y grwpiau hynny nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn cael cyfleoedd cyfartal i elwa ar ein rhaglen, ac rydym wedi penodi hyrwyddwr ansawdd penodol i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Rwyf hefyd yn edrych ar sut y gallwn gynyddu gweithgarwch cyfwerth â gradd ar y rhaglen, a byddaf yn gweithio gyda'r canlyniadau o adolygiad Diamond i annog y datblygiad hwn. Bydd creu newid sylweddol yn golygu mathau newydd o weithio mewn partneriaeth sy'n cynnwys ysgolion, colegau, darparwyr dysgu yn y gwaith a'r sector addysg uwch. Yn ei dro, bydd angen i ni hefyd adolygu prentisiaethau lefel is, yn enwedig pan nad yw cyflogwyr yn adrodd am brinder sgiliau a bod llwyfan gwan ar gyfer dilyniant gyrfa. Rydym eisoes wedi gofyn i gynghorau sgiliau sector i sicrhau bod y cynnwys dysgu ar ein fframweithiau prentisiaeth allweddol yn berthnasol i anghenion newidiol cyflogwyr mewn gwahanol sectorau diwydiant yng Nghymru. Wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, bydd y cynghorau sgiliau sector yn sicrhau bod cyflogwyr yn cael mwy o fewnbwn i ddyluniad ein fframweithiau prentisiaeth gan gynnal ar yr un pryd system sy'n hyblyg ac yn ymatebol i anghenion economi Cymru sy'n newid yn fwy cyflym fyth. Rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i safonau galwedigaethol cenedlaethol y DU a chynnwys cymwysterau mewn fframweithiau prentisiaeth, gan y gwyddom eu bod yn darparu sgiliau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Y llynedd, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru yn helaeth ar gyfochri ein model prentisiaeth gydag anghenion yr economi yng Nghymru a'r DU yn ehangach. Cyhoeddwyd ein hymatebion ymgynghori ym mis Gorffennaf 2015. Ers hynny, rydym wedi gohirio cyhoeddi ein cynllun gweithredu prentisiaeth i roi cyfle i ni ystyried yn briodol effaith cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer gweithredu'r ardoll brentisiaethau yn Lloegr, a'r newidiadau cysylltiedig i safonau prentisiaeth. Ni all neb yn yr arena sgiliau ddianc rhag mater yr ardoll brentisiaethau. Mae'r ardoll yn fater o bryder sylfaenol i Lywodraeth Cymru. Heddiw, mae'n ddrwg gennyf ddweud ein bod yn dal heb gael eglurder llwyr gan Lywodraeth y DU ynghylch sut y bydd y cynllun ardoll brentisiaethau arfaethedig yn gweithredu yn Lloegr a'r effaith yng Nghymru. Er bod pethau yn parhau i fod yn aneglur, ni ddylent ac nid ydynt yn dileu'r angen i ni geisio mwy o sicrwydd ac i ddechrau cynllunio darpariaeth prentisiaethau yma yng Nghymru yn fwy manwl ar gyfer blwyddyn gyntaf a blynyddoedd dilynol y tymor Cynulliad newydd hwn. Mae'r cynlluniau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn cychwyn y broses o gyflawni ein haddewid o 100,000 o brentisiaethau pob oed, fel yr amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog ym mis Mai. Maent hefyd yn cefnogi ein gweledigaeth tymor hwy ar gyfer sut y mae prentisiaethau yn cyfrannu at Gymru fwy cydnerth, fwy ffyniannus a Chymru fwy cyfartal. Prentisiaethau yw'r dewis mwyaf adnabyddus ac uchel ei barch o bell ffordd o 'ennill wrth ddysgu' ac mae'r buddion ar gyfer unigolion, cyflogwyr a'r economi ehangach yn dra hysbys. Mae prentisiaethau pob oed, ynghyd â'r rhaglen gyflogadwyedd bob oed, yn ganolog i'n diwygiadau sgiliau arfaethedig. Mae prentisiaethau yn llwybr profedig i gyflogaeth a ffyniant cynaliadwy. Bydd y blaenoriaethau a gyhoeddais heddiw - pwyslais di-baid ar ansawdd, cyfleoedd i bawb, ehangu sgiliau lefel uwch a mwy o ymgysylltu â chyflogwyr - yn sicrhau bod y Llywodraeth hon yn cyflawni ei haddewid i bobl Cymru.
Thank you for those questions. I'll start with the last one: yes, about 25 per cent of the present programme is funded by European funds and I think it's fair to say that without those funds the apprenticeship programme would not be the success it is today. We've also benefited from membership of various CVET organisations across Europe and indeed I have attended a conference in order to learn from the best practice across Europe in implementing apprenticeship schemes and work-based learning schemes in general. There's no doubt at all, in my mind anyway, that our European Union membership has improved both the quality of and our ability to pay for our current programme. I'll just go backwards through your questions because that's the way I've written them down. In terms of the shared apprenticeship schemes, we do have a number of successful ones. One of the things that we're looking to improve on is using the labour market intelligence from our regional skills partnerships, which are really all up and running very seriously now and we're looking forward to getting their annual plans in any minute now - I think it's the end of this month, off the top of my head; if I'm wrong I'll correct myself, but I think it's the end of this month. What they're doing is driving regional arrangements of that sort and we all know that they help small employers the most. There was an excellent scheme up in Blaenau Gwent that I attended with Alun Davies, the launch of that alongside the local council, which is a very good exemplar of how those schemes can work. So, yes, what we're very much looking to do is have horses for courses. So, the regional skills partnerships will drive a lot of the implementation in their area and that also goes for the Welsh language, because, as you know, there's much more demand for apprenticeships through the medium of Welsh in various parts of Wales than there is, for example, in Swansea, where I represent, although there is some demand there. What we'll be doing is working with a network of providers to make sure that where apprenticeships in Welsh are required, or where there's a skills gap for that, that we can fill that gap with appropriate provision, and I look forward to working with the Member in doing that. We don't know what success looks like for that at the moment because one of the things we want to do between now and September is to talk again to all of our stakeholders about exactly that and make sure that we shape the upcoming programme exactly right. What I'm announcing today really is the plan to consult on that over the summer and to come back to this Assembly early in the autumn term with a plan for that. In terms of the numbers and types that are part of that, I'm not going to be drawn on the numbers because it takes, for example, three times as much money to train an engineering apprentice as it does a business process apprentice. So, if I say that there will be an exact number, it may be that I then have to train more of the people we don't want than the people we do want in order to hit what would be a false number target. What we're saying is that there will be a minimum of 100,000. That's around the level, because it went up and down a little bit over the last Assembly term, but it's broadly equivalent to the level we had last time. That was a good level. It was assisted by a number of budget agreements with your party and the Liberal Democrats and we're very happy to go ahead on that basis. But I do very much want to match the provision of apprenticeships to the need in the economy for it and our projected skills shortages. Then, last but not least, on the levy, we have had extensive communication and negotiation, with officials meeting. I've met with the Ministers myself. We do not have clarity. Our understanding at the moment is that it will be Barnettised in the same line as the Department for Business, Innovation and Skills. BIS suffered a 17-ish per cent cut, and that would give us no extra money at all, but those negotiations are not yet over and I and the Minister for finance will be talking again in some depth about how we can maximise that for Wales. However, it's not just Wales. In England, it is clear now that the apprenticeship levy moneys are replacing moneys that were previously in general taxation, and what we're effectively looking at is a specific employer tax, replacing money that was previously given to this sort of funding by general taxation moneys.
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Dechreuaf â'r un olaf: ydy, mae tua 25 y cant o'r rhaglen bresennol yn cael ei ariannu gan gronfeydd Ewropeaidd, ac rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud na fyddai'r rhaglen brentisiaeth y llwyddiant yw hi heddiw heb y cronfeydd hynny. Rydym hefyd wedi elwa ar aelodaeth o wahanol sefydliadau CVET ledled Ewrop ac yn wir rwyf wedi mynychu cynhadledd er mwyn dysgu o'r arfer gorau ledled Ewrop wrth weithredu cynlluniau prentisiaeth a chynlluniau dysgu yn y gwaith yn gyffredinol. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, yn fy meddwl i beth bynnag, bod ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd wedi gwella ein hansawdd a'n gallu i dalu am ein rhaglen gyfredol. Af yn ôl drwy eich cwestiynau oherwydd dyna'r ffordd yr wyf wedi eu hysgrifennu i lawr. O ran y cynlluniau prentisiaeth ar y cyd, mae gennym nifer o rai llwyddiannus. Un o'r pethau yr ydym yn ceisio ei wella yw defnyddio'r wybodaeth am y farchnad lafur a geir oddi wrth ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol, sydd mewn gwirionedd i gyd yn gweithredu o ddifrif erbyn hyn ac rydym yn edrych ymlaen at gael eu cynlluniau blynyddol unrhyw funud nawr - rwy'n credu mai diwedd y mis hwn fydd hynny, heb edrych yn fwy manwl; os ydw i'n anghywir byddaf yn cywiro fy hun, ond rwy'n meddwl mai diwedd y mis hwn fydd hynny. Yr hyn y maen nhw'n ei wneud yw sbarduno trefniadau rhanbarthol o'r math hwnnw ac rydym i gyd yn gwybod mai cyflogwyr bychan sy'n cael eu helpu fwyaf. Roedd cynllun ardderchog i fyny ym Mlaenau Gwent y bûm i yno gydag Alun Davies, lansio hynny ochr yn ochr â'r cyngor lleol, sydd yn esiampl dda iawn o sut y gall y cynlluniau hynny weithio. Felly, ie, yr hyn yr ydym yn gobeithio'n fawr ei wneud yw cael yr hyn sy'n addas ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Felly, bydd y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn sbarduno llawer o'r gweithredu yn eu hardal ac mae hynny hefyd yn wir am y Gymraeg, oherwydd, fel y gwyddoch, mae llawer mwy o alw am brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru nag sydd , er enghraifft, yn Abertawe, y lle rwyf i'n ei gynrychioli, er bod rhywfaint o alw yno. Yr hyn y byddwn yn ei wneud yw gweithio gyda rhwydwaith o ddarparwyr i wneud yn siŵr lle mae prentisiaethau yn y Gymraeg yn ofynnol, neu lle mae bwlch sgiliau ar gyfer hynny, ein bod yn gallu llenwi'r bwlch hwnnw gyda darpariaeth briodol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelod wrth wneud hynny. Nid ydym yn gwybod sut beth yw llwyddiant ar gyfer hynny ar hyn o bryd oherwydd mai un o'r pethau yr ydym am ei wneud rhwng nawr a mis Medi yw siarad eto â bob un o'n rhanddeiliaid am yn union hynny a sicrhau ein bod yn llunio'r rhaglen sydd ar y gweill yn gwbl gywir. Yr hyn yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw mewn gwirionedd yw'r cynllun i ymgynghori ar hynny dros yr haf ac i ddod yn ôl i'r Cynulliad hwn yn gynnar yn nhymor yr hydref gyda chynllun ar gyfer hynny. O ran y niferoedd a'r mathau sy'n rhan o hynny, nid wyf i'n fodlon sôn am niferoedd oherwydd mae'n cymryd, er enghraifft, tair gwaith cymaint o arian i hyfforddi prentis peirianneg ag y mae i hyfforddi prentis proses fusnes. Felly, os byddaf yn dweud y bydd nifer penodol, mae'n bosibl wedyn y bydd yn rhaid i mi hyfforddi mwy o bobl nad ydym eu heisiau na'r bobl yr ydym eu heisiau er mwyn taro beth fyddai'n rhif targed ffug. Yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw y bydd o leiaf 100,000. Dyna oddeutu'r lefel, gan ei fod wedi mynd i fyny ac i lawr ychydig dros dymor diwethaf y Cynulliad, ond mae'n cyfateb yn fras i'r lefel oedd gennym y tro diwethaf. Roedd hwnnw'n lefel da. Cafodd ei gynorthwyo gan nifer o gytundebau cyllideb gyda'ch plaid chi a'r Democratiaid Rhyddfrydol ac rydym yn hapus iawn i fynd ymlaen ar y sail honno. Ond rwy'n awyddus iawn i gyfateb y ddarpariaeth prentisiaethau i'r angen yn yr economi am hynny ac i'r diffyg sgiliau a ragwelir. Yna, yn olaf ond nid yn lleiaf, ar yr ardoll, rydym wedi cael cyfathrebu a thrafod helaeth, gyda swyddogion yn cwrdd. Rwyf wedi cwrdd â Gweinidogion fy hun. Nid oes gennym eglurder. Ein dealltwriaeth ar hyn o bryd yw y bydd yn gweithredu ar fformiwla Barnett yn yr un modd â'r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Dioddefodd yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau doriad o tua 17 y cant, ac ni fyddai hynny'n rhoi unrhyw arian ychwanegol i ni o gwbl, ond nid yw'r trafodaethau hynny drosodd eto a byddaf i a'r Gweinidog cyllid yn siarad eto mewn peth dyfnder am sut y gallwn wneud y gorau ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, nid dim ond Cymru yw hyn. Yn Lloegr, mae'n amlwg erbyn hyn bod yr arian ardoll brentisiaeth yn disodli arian a oedd yn drethi cyffredinol yn flaenorol, a'r hyn yr ydym yn edrych arno mewn gwirionedd yw treth gyflogwr benodol, gan ddisodli arian a roddwyd i'r math hwn o gyllid gan arian trethi cyffredinol yn flaenorol.
Can I thank the Minister for her statement? Minister, I recently met with the principal of Merthyr college and our dialogue included discussions around apprenticeship programmes delivered in conjunction with employers such as General Dynamics in Merthyr, which, working in partnership with Merthyr college, is creating two new all-age apprenticeship programmes starting in September 2016, when the first staff start taking up their employment at that facility. Those apprenticeships will be in manufacturing, engineering and mechanical fitter/craft apprenticeships. Will the Minister join me in applauding initiatives such as this, which will help to deliver Welsh Labour's commitment to create 100,000 new apprenticeships in Wales during this Assembly term? Does she also agree that delivering apprenticeships funded by the public purse - and by that I mean both Welsh Government and European funding - through further education colleges like Merthyr could revitalise the further education sector as well as delivering best value for money by reinvesting in the public sector?
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? Weinidog, cwrddais yn ddiweddar â phennaeth coleg Merthyr ac roedd ein deialog yn cynnwys trafodaethau ar raglenni prentisiaeth a gyflwynir ar y cyd â chyflogwyr megis General Dynamics ym Merthyr, sydd, gan weithio mewn partneriaeth â choleg Merthyr, yn creu dwy raglen prentisiaeth pob oed newydd yn cychwyn ym mis Medi 2016, pan fydd yr aelodau staff cyntaf yn dechrau ar eu cyflogaeth yn y cyfleuster hwnnw. Bydd y prentisiaethau hynny mewn gweithgynhyrchu, peirianneg a phrentisiaethau ffitiwr/crefft mecanyddol. A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i gymeradwyo cynlluniau fel hwn, a fydd yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llafur Cymru i greu 100,000 o brentisiaethau newydd yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn? A yw hi hefyd yn cytuno y gallai cyflwyno prentisiaethau a ariennir gan bwrs y wlad - ac wrth hynny rwy'n golygu cyllid Llywodraeth Cymru ac Ewrop - drwy golegau addysg bellach fel Merthyr adfywio'r sector addysg bellach yn ogystal â chyflwyno gwerth gorau am arian drwy ailfuddsoddi yn y sector cyhoeddus?
Yes, I'm very happy to agree with the Member for Merthyr Tydfil that that scheme is very good. I'm familiar with it. I visited the college myself in the previous Assembly to have a look at some of the good schemes there. What is clear as well is that we have a number of employers who are very persuaded of the need for good-quality professional training, both for apprenticeships and for work-based learning in general. But we do have an uphill struggle, and the UK Commission for Employment and Skills' last report - because, unfortunately, it's now been abolished by the current Government - . The UKCES' very useful last report showed us that, where employers do train in Wales, they are training more in Wales and they have higher quality training. But we aren't making very many inroads into the number of employers that train - the large number of them who don't train. So, we will be redoubling our efforts to reach out to the employers through the regional skills partnerships and the chambers of commerce and the Federation of Small Businesses and a number of other partners to bring as many of those employers into this fold as possible.
Ydw, rwy'n hapus iawn i gytuno â'r Aelod dros Ferthyr Tudful fod y cynllun hwnnw yn dda iawn. Rwy'n gyfarwydd ag ef. Ymwelais â'r coleg fy hun yn y Cynulliad blaenorol i gael golwg ar rai o'r cynlluniau da yno. Yr hyn sy'n amlwg, yn ogystal yw bod gennym nifer o gyflogwyr sy'n argyhoeddedig o'r angen am hyfforddiant proffesiynol o ansawdd da, ar gyfer prentisiaethau ac ar gyfer dysgu yn y gwaith yn gyffredinol. Ond mae talcen caled o'n blaenau, ac mae adroddiad olaf Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau - oherwydd, yn anffodus, mae bellach wedi ei ddiddymu gan y Llywodraeth bresennol - . Roedd adroddiad diwethaf defnyddiol iawn Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yn dangos i ni, lle mae cyflogwyr yn hyfforddi yng Nghymru, maent yn hyfforddi mwy yng Nghymru, ac mae ganddynt hyfforddiant o ansawdd uwch. Ond nid ydym yn ennill llawer iawn o dir o ran nifer y cyflogwyr sy'n hyfforddi - y nifer fawr ohonynt nad ydynt yn hyfforddi. Felly, byddwn yn cynyddu ein hymdrechion i estyn allan at y cyflogwyr drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol a'r siambrau masnach a Ffederasiwn y Busnesau Bach a nifer o bartneriaid eraill i ddwyn cymaint o'r cyflogwyr hynny i mewn i'r gorlan hon ag y bo modd.
Thank you, Madam Presiding Officer. I also thank the Minister for her statement today. A skilled workforce enables a nation to prosper in an increasingly competitive global market. It is essential that we develop and adapt our skill base in Wales. We need to address the skills gap and end the inequalities in the existing system. To do this, it is vital that we can mobilise between all aspects of the education system and businesses to help young people to be more ready for work. Time and time again, we have heard how Wales's students are leaving education without the right skills to help them get on in the world of work. So, can I ask the Minister what plans she has to strengthen ties between education, employment and especially the business community, to ensure that students have work-ready skills? Strengthening ties between educators and employers can help reduce the gender imbalance in Welsh industries. These closer links could bring young girls into contact with positive role models in non-traditional sectors who can promote apprenticeships as a viable alternative to university. May I ask the Minister what she's doing to tackle the problem of gender imbalance here? The Welsh Government is also failing to support older people to take up skills and access training. The older people's commissioner for Wales has warned about the cuts to lifelong learning and the need to keep our older people in the workforce and to bring them back into work as well. People have achieved degrees when they're in their eighties, Minister, so why can't they have some opportunity here in Wales to do the same? Does the Minister agree that apprenticeships should be delivered on a needs basis rather than on the age of the person? Finally, Deputy Presiding Officer, the Minister will be aware that I recently wrote to her to raise an example of the lack of flexibility in Jobs Growth Wales's sustainability rate formula. Although this company has had its case successfully recognised, I am concerned that the rigid application of this formula could prevent companies in Wales from being allowed to take on apprentices and from providing much needed training and employment. Will the Minister agree to review the sustainability rate formula of Jobs Growth Wales to ensure that the system works and that the maximum jobs and training come into Wales?
Diolch i chi, Madam Llywydd. Diolch hefyd i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae gweithlu medrus yn galluogi gwlad i ffynnu mewn marchnad fyd-eang sy'n fwyfwy cystadleuol. Mae'n hanfodol ein bod yn datblygu ac yn addasu ein sylfaen sgiliau yng Nghymru. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau a rhoi diwedd ar yr anghydraddoldebau yn y system bresennol. Er mwyn gwneud hyn, mae'n hanfodol ein bod yn gallu mwstro rhwng pob agwedd ar y system addysg a busnesau i helpu pobl ifanc i fod yn fwy parod ar gyfer gwaith. Dro ar ôl tro, rydym wedi clywed sut y mae myfyrwyr Cymru yn gadael addysg heb y sgiliau iawn i'w helpu i wneud cynnydd yn y byd gwaith. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa gynlluniau sydd ganddi i gryfhau cysylltiadau rhwng addysg, cyflogaeth ac yn enwedig y gymuned fusnes, i sicrhau bod gan fyfyrwyr sgiliau sy'n eu gwneud yn barod am waith? Gall cryfhau cysylltiadau rhwng addysgwyr a chyflogwyr helpu i leihau'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn niwydiannau Cymru. Gallai'r cysylltiadau agosach hyn ddod â merched ifanc i gysylltiad esiamplau cadarnhaol mewn sectorau anhraddodiadol sy'n gallu hyrwyddo prentisiaethau fel dewis ymarferol arall yn hytrach na phrifysgol. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog beth mae hi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem o anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn hyn o beth? Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn methu â chefnogi pobl hŷn i fanteisio ar sgiliau a chael mynediad at hyfforddiant. Mae comisiynydd pobl hŷn Cymru wedi rhybuddio am y toriadau i ddysgu gydol oes a'r angen i gadw ein pobl hŷn yn y gweithlu ac i ddod â nhw yn ôl i weithio yn ogystal. Mae pobl wedi ennill graddau pan eu bod yn eu hwythdegau, Weinidog, pam felly na allant gael rhywfaint o gyfle yma yng Nghymru i wneud yr un peth? A yw'r Gweinidog yn cytuno y dylai prentisiaethau gael eu darparu ar sail angen yn hytrach nag ar oedran y person? Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu ati yn ddiweddar i nodi enghraifft o'r diffyg hyblygrwydd yn fformiwla cyfradd cynaliadwyedd Twf Swyddi Cymru. Er bod achos y cwmni hwn wedi ei gydnabod yn llwyddiannus, rwy'n pryderu y gallai cymhwyso anhyblyg y fformiwla hon atal cwmnïau yng Nghymru rhag cael caniatâd i dderbyn prentisiaid a darparu hyfforddiant a chyflogaeth y mae wir eu hangen. A wnaiff y Gweinidog gytuno i adolygu fformiwla cyfradd cynaliadwyedd Twf Swyddi Cymru i sicrhau bod y system yn gweithio a bod cymaint â phosib o swyddi a hyfforddiant yn dod i Gymru?
Thank you for those questions. On that last one, I'm not going to agree to review the sustainability formula because we think it works extremely well and is one of the reasons that the programme has been so successful. However, the Member has correctly identified - and I remember the letter very well - that occasionally we have decisions that are not in line with the formula and, on review there, we have examples where companies should've been allowed to take a Jobs Growth Wales applicant and, indeed, in the instance that the Member outlines, the review was successful and the company was allowed to go ahead. However, I don't think that the odd occasion where the formula hasn't been correctly applied in the first instance is a good reason to review the formula overall. One of the reasons that the scheme has been so successful - and we are looking forward to the final evaluation of it coming in very shortly; I hope before the summer recess - is that businesses have to demonstrate an ability to maintain people in that job and to grow themselves in line with the Welsh Government investment in the wage subsidy that the Jobs Growth Wales scheme represents. It isn't a revolving door to take on more and more youngsters and give them unsustainable employment. So, I'm very pleased with the way the scheme works; I look forward to the final evaluation. But I accept that, in some instances, it does need review and, as you saw, we're very happy to do that review. In terms of girls in non-traditional sectors, the Member will know that this is a hobby horse of mine as well; I've spoken many times in this Chamber on it. In fact, over the next few weeks, I'm visiting a number of workplaces to talk about that alongside ICE, the Institution of Civil Engineers, for example, which are holding a number of events and so on. The Member will also know that we fund Chwarae Teg to do a programme around getting girls into non-traditional industries and promote it in businesses where there are gender imbalances. And, indeed, we have a similar problem in health and social care where the gender balance is the other way around, and we'd like to see more male entrants into some areas of that economy and we're working very hard to make sure that those opportunities are open to all. In terms of the all-age point, as the Member heard when I made my statement, we are, of course, committed to an all-age apprenticeship scheme. We recognise that age is not the only reason that you should go on to an apprenticeship scheme. However, we are still targeting 16 to 19-year-olds coming out of school to get into those schemes and we have targets for people wanting to change jobs and people returning to work. The reason for this is that we want to look very carefully at employers who want to place existing employees on schemes that they call apprenticeships, so that we can be sure that they are, in fact, apprenticeships and not a relabeling of an existing training scheme. I think the Member will appreciate why we want to make that distinction. This is about getting people into the workforce and getting people properly trained when in the workforce; it isn't about labelling something to get a badge for it. I think, in terms of the ties, what we're talking about in terms of the regional skills partnerships is very much about bringing education, employers and business communities together. We also run a scheme with help supported by businesses in the community. We've run a very successful pilot of that down in Carmarthenshire - I know some Members are familiar with it - and we are looking to roll that out in more areas of the country as rapidly as we can. That scheme is to get good-quality work experience out there. I would make a plea to the Member and, indeed, everybody else present in the Chamber today and say this: many employers tell me - in fact a very large percentage of employers, according to the UK Commission for Employment and Skills survey, say - that they'd be more inclined to take a person on as a new entrant to their firm if they had good work experience, but a very large number of those people who say that don't actually provide work experience. So, if you have firms of that sort in your constituencies and regions, I urge you to encourage them to join our work experience schemes and to give that experience to a wider range of young people.
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Ar yr un olaf, nid wyf yn mynd i gytuno i adolygu'r fformiwla cynaliadwyedd oherwydd ein bod yn credu ei fod yn gweithio yn eithriadol o dda ac yn un o'r rhesymau pam mae'r rhaglen wedi bod mor llwyddiannus. Fodd bynnag, mae'r Aelod wedi nodi yn gywir - ac rwy'n cofio'r llythyr yn dda iawn - y ceir penderfyniadau yn achlysurol nad ydynt yn unol â'r fformiwla ac, wrth adolygu hynny, mae gennym enghreifftiau lle dylai cwmnïau fod wedi cael caniatâd i gymryd ymgeisydd Twf Swyddi Cymru ac, yn wir, yn yr achos y mae'r Aelod yn ei amlinellu, roedd yr adolygiad yn llwyddiannus a chafodd y cwmni ganiatâd i fwrw ymlaen. Fodd bynnag, nid wyf yn credu bod yr adegau prin lle nad yw'r fformiwla wedi ei gymhwyso'n gywir yn y lle cyntaf yn rheswm da i adolygu'r fformiwla yn gyffredinol. Un o'r rhesymau pam mae'r cynllun wedi bod mor llwyddiannus - ac rydym yn edrych ymlaen at y gwerthusiad terfynol ohono a fydd yn dod i mewn yn fuan iawn; rwy'n gobeithio cyn toriad yr haf - yw bod yn rhaid i fusnesau ddangos y gallu i gadw pobl yn y swydd honno ac i dyfu eu hunain yn unol â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cymhorthdal cyflogau y mae cynllun Twf Swyddi Cymru yn ei gynrychioli. Nid drws troi i dderbyn mwy a mwy o bobl ifanc a rhoi cyflogaeth anghynaladwy iddynt yw hyn. Felly, rwy'n falch iawn â'r ffordd y mae'r cynllun yn gweithio; rwy'n edrych ymlaen at y gwerthusiad terfynol. Ond rwy'n derbyn, mewn rhai achosion, bod angen adolygu ac, fel y gwelsoch, rydym yn hapus iawn i wneud yr adolygiad hwnnw. O ran merched mewn sectorau anhraddodiadol, bydd yr Aelod yn gwybod bod hwn yn hoff bwnc i minnau hefyd; rwyf wedi siarad lawer gwaith yn y Siambr hon yn ei gylch. Yn wir, yn ystod yr wythnosau nesaf, rwy'n ymweld â nifer o weithleoedd i siarad am hynny ochr yn ochr ag ICE, Sefydliad y Peirianwyr Sifil, er enghraifft, sy'n cynnal nifer o ddigwyddiadau ac yn y blaen. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod ein bod yn ariannu Chwarae Teg i wneud rhaglen ynghylch cael merched i mewn i ddiwydiannau anhraddodiadol a hyrwyddo hynny mewn busnesau lle ceir anghydbwysedd rhwng y rhywiau. Ac, yn wir, mae gennym broblem debyg o ran iechyd a gofal cymdeithasol lle mae cydbwysedd rhwng y rhywiau y ffordd groes, a hoffem weld mwy o ddynion yn dod i mewn i rai meysydd o'r economi, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y cyfleoedd hynny yn agored i bawb. O ran y pwynt pob oed, fel y clywodd yr Aelod pan wneuthum fy natganiad, rydym, wrth gwrs, wedi ymrwymo i gynllun prentisiaeth pob oed. Rydym yn cydnabod nad oedran yw'r unig reswm y dylech fynd ymlaen i gynllun prentisiaeth. Fodd bynnag, rydym yn dal i dargedu pobl 16 i 19 oed sy'n dod allan o'r ysgol i fynd i mewn i'r cynlluniau hynny ac mae gennym dargedau ar gyfer pobl sydd eisiau newid swyddi a phobl sy'n dychwelyd i'r gwaith. Y rheswm am hyn yw ein bod eisiau edrych yn ofalus iawn ar gyflogwyr sydd eisiau rhoi gweithwyr presennol ar gynlluniau y maent yn eu galw yn brentisiaethau, fel y gallwn fod yn sicr, mewn gwirionedd, mai prentisiaethau ydynt ac nid ail-labelu cynllun hyfforddi sy'n bodoli eisoes . Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn gwerthfawrogi pam yr ydym eisiau gwneud y gwahaniaeth hwnnw. Mae hyn yn ymwneud â chael pobl i mewn i'r gweithlu a chael pobl wedi'u hyfforddi'n briodol pan eu bod yn y gweithlu; nid yw'n ymwneud â labelu rhywbeth i gael bathodyn ar ei gyfer. Rwy'n credu, o ran y cysylltiadau, bod yr hyn yr ydym yn sôn amdano o ran y partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn ymwneud i raddau helaeth â dod ag addysg, cyflogwyr a chymunedau busnes ynghyd. Rydym hefyd yn rhedeg cynllun gyda chymorth a gefnogir gan fusnesau yn y gymuned. Rydym wedi cynnal cynllun arbrofol llwyddiannus iawn ar gyfer hynny i lawr yn Sir Gaerfyrddin - rwy'n gwybod bod rhai Aelodau yn gyfarwydd ag ef - ac rydym yn gobeithio cyflwyno hynny mewn mwy o ardaloedd o'r wlad mor gyflym ag y gallwn. Bwriad y cynllun hwnnw yw cael profiad gwaith o ansawdd da allan yna. Rwyf am ymbil ar yr Aelod ac, yn wir, pawb arall sy'n bresennol yn y Siambr heddiw a dweud hyn: mae llawer o gyflogwyr yn dweud wrthyf - canran fawr iawn o gyflogwyr mewn gwirionedd, yn ôl arolwg Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, yn dweud - y byddent yn fwy parod i gymryd person ymlaen fel newydd-ddyfodiad i'w cwmni pe byddai ganddo brofiad gwaith da, ond mae nifer fawr iawn o bobl sy'n dweud hynny nad ydynt mewn gwirionedd yn darparu profiad gwaith. Felly, os oes gennych gwmnïau o'r fath yn eich etholaethau a'ch rhanbarthau, rwy'n eich cymell i'w hannog i ymuno â'n cynlluniau profiad gwaith ac i roi'r profiad i ystod ehangach o bobl ifanc.
Thank you, Minister, for the statement. Returning to the question of the apprenticeship levy for a moment, you referred to it as an employer tax in your statement. Is there any analysis of the potential risk to jobs in Wales of this levy on employers, being mindful that the point of apprenticeship, of course, is to get people into high-skilled, decently paid jobs?
Diolch, Weinidog, am y datganiad. Gan ddychwelyd at gwestiwn yr ardoll brentisiaeth am eiliad, cyfeiriasoch ato fel treth cyflogwr yn eich datganiad. A oes unrhyw ddadansoddiad o'r risg bosibl i swyddi yng Nghymru a achosir gan yr ardoll hon ar gyflogwyr, gan gofio mai pwynt prentisiaeth, wrth gwrs, yw cael pobl i mewn i swyddi sgiliau uchel, am gyflog gweddus?
We haven't got that, yet. Those of us who were present in the previous Assembly will know that we took a legislative consent motion through to allow HMRC to collect data in Wales and to data share it with us. At the moment, HMRC are the only people in possession of those data and we're in negotiation with them around the costs of releasing those data to us. However, we do know, in conversation with officials from the UK Government, that it's proved to be as difficult as we thought it might be, and more difficult than they thought it might be, to correctly identify who works and lives in Wales, because, obviously, we have a very porous border, which many Members will be aware of. We are continuing to push the UK Government very heavily on this, but it has to be said that, even in the English scheme, as proposed, they are clearly replacing moneys that used to be funded through general taxation with moneys now funded through this very specific employers tax.
Nid oes gennym hynny, hyd yma. Bydd y rhai hynny ohonom a oedd yn bresennol yn y Cynulliad blaenorol yn gwybod ein bod wedi pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol i ganiatáu i Gyllid a Thollau EM gasglu data yng Nghymru ac i rannu data â ni. Ar hyn o bryd, Cyllid a Thollau EM yw'r unig bobl sydd â'r data hwnnw ac rydym mewn trafodaethau gyda hwy ynglŷn â chostau rhyddhau'r data hwnnw i ni. Fodd bynnag, rydym yn gwybod, wrth sgwrsio â swyddogion o Lywodraeth y DU, ei fod wedi bod mor anodd ag yr oeddem ni'n tybio y gallai fod, ac yn fwy anodd nag yr oedden nhw yn meddwl y gallai fod, i nodi'n gywir pwy sy'n gweithio ac yn byw yng Nghymru, oherwydd , yn amlwg, mae gennym ffin hydraidd iawn, a bydd llawer o'r Aelodau yn ymwybodol o hynny. Rydym yn parhau i wthio Llywodraeth y DU yn drwm iawn ar hyn, ond mae'n rhaid dweud, hyd yn oed yn y cynllun yn Lloegr, fel y'i cynigir, maent yn amlwg yn disodli arian a arferai gael ei ariannu trwy drethi cyffredinol gydag arian a ariennir bellach trwy'r dreth cyflogwyr benodol iawn hon.
I wish to congratulate our Minister and the Welsh Government on the continuing strategic commitment to the apprenticeship agenda in securing a more prosperous and resilient and equal Wales. I'm also very proud to have been elected on our manifesto pledge of around 100,000 new apprenticeships, and that's further to the success of Jobs Growth Wales. I also very much welcome the cross-party consensus that I've heard again today over the importance of the apprenticeships programmes, but there's a very real risk that's staring us in the face, and it's already been articulated today. Although I share very much the concerns over the apprenticeship levy, I need to state that 94,000 apprenticeships, as you are aware, over the next four years, are to be supported by £83 million-worth of EU social funds. Does the Minister believe that removal of European funding from Wales via a vote to leave will indeed, as the party opposite wish to see, put at risk such valued and life-changing apprenticeship programmes and consequently put at risk the entire Welsh economy?
Hoffwn longyfarch ein Gweinidog a Llywodraeth Cymru ar yr ymrwymiad strategol parhaus i'r agenda brentisiaeth wrth sicrhau Cymru fwy ffyniannus a chydnerth a chyfartal. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod wedi cael fy ethol ar ein haddewid maniffesto o tua 100,000 o brentisiaethau newydd, ac mae hynny y tu draw i lwyddiant Twf Swyddi Cymru. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr iawn y consensws trawsbleidiol yr wyf wedi ei glywed eto heddiw dros bwysigrwydd y rhaglenni prentisiaethau, ond mae perygl gwirioneddol sy'n amlwg iawn, ac mae eisoes wedi ei fynegi heddiw. Er fy mod yn sicr yn rhannu'r pryderon ynghylch yr ardoll brentisiaeth, mae angen i mi ddatgan y bydd 94,000 o brentisiaethau, fel y gwyddoch, yn ystod y pedair blynedd nesaf, yn cael eu cefnogi gan werth £83 miliwn o gronfeydd cymdeithasol yr UE. A yw'r Gweinidog yn credu y bydd cael gwared ar arian Ewropeaidd o Gymru drwy bleidlais i adael, mewn gwirionedd, fel y mae'r blaid gyferbyn yn dymuno ei weld, yn peryglu'r rhaglenni prentisiaeth gwerthfawr o'r fath sy'n newid bywydau ac, o ganlyniad yn peryglu economi Cymru gyfan?
I do entirely agree that the loss of European structural and social funding to the apprenticeship programme would be a grievous blow to Wales, but I'd like to take it a bit further than just the money. As I said in my previous answer to Llyr, actually, we've benefitted hugely from sharing good practice across Europe and from being able to be part of the European family in terms of developing good vocational training programmes. We've visited several countries in Europe that have excellent vocational training programmes. Members may be familiar with the dual qualification programmes in Germany, for example. There are excellent examples in Holland and a number of others that we were able to take advantage of. Indeed, in shaping our own very successful apprenticeship programme, we've taken account of those very good examples. I think that's another reason for not wanting to be an isolated little island on the edge of a very big continent.
Rwy'n cytuno'n llwyr y byddai colli arian strwythurol a chymdeithasol Ewrop i'r rhaglen brentisiaeth yn ergyd ddifrifol i Gymru, ond hoffwn i fynd â hyn ychydig ymhellach na dim ond yr arian. Fel y dywedais yn fy ateb blaenorol i Llyr, mewn gwirionedd, rydym wedi elwa'n aruthrol ar rannu arfer da ar draws Ewrop ac o allu bod yn rhan o'r teulu Ewropeaidd o ran datblygu rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol da. Rydym wedi ymweld â nifer o wledydd yn Ewrop sydd â rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol ardderchog. Efallai fod yr aelodau yn gyfarwydd â'r rhaglenni cymhwyster deuol yn yr Almaen, er enghraifft. Mae enghreifftiau rhagorol yn yr Iseldiroedd a nifer o rai eraill yr oeddem yn gallu manteisio arnynt. Yn wir, wrth lunio ein rhaglen brentisiaeth lwyddiannus iawn ein hunain, rydym wedi ystyried yr enghreifftiau da iawn hynny. Rwy'n credu bod hwnnw'n rheswm arall dros beidio â bod eisiau bod yn ynys fach anghysbell ar ymyl cyfandir mawr iawn.
Thank you very much. And, finally, Michelle Brown.
Diolch yn fawr iawn. Ac, yn olaf, Michelle Brown.
Thank you, Deputy Presiding Officer. I welcome the pledge to create myriad and loads more apprenticeships. Quality training is extremely important, and the intentions in creating these apprenticeships are laudable, but apprentices need work to go to after they've finished their apprenticeships. So, without those jobs to go to, the apprenticeship is of personal value for the apprentice, but it's largely window dressing without a job to go to. So, what I'd like to ask the Minister is: what's the Welsh Government doing to encourage the production of jobs for these apprentices to go to and to ensure that these apprentices can use their training to earn a decent living? What support can you provide employers to encourage them to take these apprentices on after they've finished their training? Thank you.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r addewid i greu myrdd a llawer mwy o brentisiaethau. Mae hyfforddiant o safon yn eithriadol o bwysig, ac mae'r bwriadau wrth greu'r prentisiaethau hyn yn ganmoladwy, ond mae ar brentisiaid angen gwaith i fynd iddo ar ôl iddynt orffen eu prentisiaethau. Felly, heb y swyddi hynny i fynd iddynt, mae'r brentisiaeth o werth personol ar gyfer y prentis, ond dim ond edrych yn dda mae hynny i raddau helaeth heb swydd i fynd iddi. Felly, yr hyn yr hoffwn i ofyn i'r Gweinidog yw: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog creu swyddi i'r prentisiaid hyn i fynd iddynt ac i sicrhau y gall y prentisiaid hyn ddefnyddio eu hyfforddiant i ennill bywoliaeth weddus? Pa gymorth y gallwch chi ei roi i gyflogwyr er mwyn eu hannog i roi gwaith i'r prentisiaid hyn ar ôl iddynt orffen eu hyfforddiant? Diolch.
So, the Member will have heard in my statement that what I talked about is encouraging apprenticeship provision in skill-shortage areas in Wales, as identified through the regional skills partnerships, both for the three regions of Wales where we have the partnerships and for Wales as a whole. The Member may have heard my replies to other Members about our sorrow that the UKCES survey has been stopped by the UK Government. We are in conversation with the other devolved nations about whether we can take that forward on our own, because we used that survey very much to shape our provision, to make sure that we employ apprentices in areas where we know there are skills shortages and, therefore, jobs for them to go into once they're trained. The Member may also have heard me mention that we're reviewing some of our level 2 apprentice provision where we know that we are overproviding in some areas and we want to discourage the provider network from providing a very large number of level 2 apprentices in areas where we know there's overprovision and, instead, redirect their efforts into areas where we know there's underprovision. That also means - because we know the underprovision is mostly in the higher skilled areas - that we want to encourage apprenticeships not just at the entry level, level 2, or that we want school leavers to go into those, but we want an all-age apprenticeship system that encourages people at level 3, A-level equivalent, and level 4, foundation degree and upwards, to go into the apprenticeship system as well to fill the higher level skills shortages that employers report through the regional skills partnerships and, indeed, actually, up to this year, through UKCES. So, we do have a strategy for that. Also, an apprentice has to be employed in the first place, obviously, in order to be an apprentice, and a large number of the shared apprenticeship schemes that we have are ways of getting around that by - . For example, Blaenau Gwent - a very progressive scheme where the council is able to act as the employer for a number of shared apprentices for very small SMEs that would not otherwise be able to afford the employment costs. So, we do look at that very much. The Member identifies a very important point, and we continue to look at that through our regional skills partnerships.
Felly, bydd yr Aelod wedi clywed yn fy natganiad mai'r hyn yr wyf i'n siarad amdano yw annog darpariaeth prentisiaeth mewn meysydd prinder sgiliau yng Nghymru, fel y nodwyd trwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol, ar gyfer y tri rhanbarth o Gymru lle mae gennym y partneriaethau ac ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd. Efallai fod yr Aelod wedi clywed fy atebion i Aelodau eraill am ein tristwch bod arolwg Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau wedi ei atal gan Lywodraeth y DU. Rydym mewn sgwrs gyda'r gwledydd datganoledig eraill ynghylch pa un a allwn fwrw ymlaen â hynny ar ein pennau ein hunain, oherwydd roeddem yn defnyddio'r arolwg hwnnw i raddau helaeth i lunio ein darpariaeth, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflogi prentisiaid mewn ardaloedd lle gwyddom fod prinder sgiliau ac, felly, swyddi iddynt fynd iddynt ar ôl iddyn nhw gael eu hyfforddi. Efallai fod yr Aelod hefyd wedi fy nghlywed yn crybwyll ein bod yn adolygu rhai o'n darpariaethau prentisiaid lefel 2 lle y gwyddom ein bod yn gor-ddarparu mewn rhai meysydd a'n bod eisiau annog y rhwydwaith o ddarparwyr i beidio â darparu nifer fawr iawn o brentisiaid lefel 2 mewn meysydd lle'r ydym yn gwybod bod gorddarpariaeth ac, yn hytrach, ailgyfeirio eu hymdrechion i feysydd lle'r ydym yn gwybod bod tanddarparu. Mae hynny hefyd yn golygu - oherwydd gwyddom fod tanddarparu yn bennaf yn y meysydd sgiliau uwch hynny - ein bod eisiau annog prentisiaethau, nid yn unig ar y lefel mynediad, lefel 2, neu bod arnom eisiau i'r rhai sy'n gadael yr ysgol fynd i mewn i'r rheini, ond rydym yn awyddus i gael system brentisiaeth bob oed sy'n annog pobl ar lefel 3, cyfwerth â lefel A, a lefel 4, gradd sylfaen ac uwch, i fynd i mewn i'r system brentisiaeth hefyd i lenwi'r prinder sgiliau lefel uwch y mae cyflogwyr yn adrodd amdano drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol ac, yn wir, mewn gwirionedd, hyd at eleni, drwy Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau Felly, mae gennym strategaeth ar gyfer hynny. Hefyd, mae'n rhaid i brentis fod wedi ei gyflogi yn y lle cyntaf, yn amlwg, er mwyn bod yn brentis, ac mae nifer fawr o'r cynlluniau prentisiaeth ar y cyd sydd gennym yn ffyrdd o drefnu hynny drwy - . Er enghraifft, Blaenau Gwent - cynllun blaengar iawn lle mae'r cyngor yn gallu gweithredu fel y cyflogwr ar gyfer nifer o brentisiaid a rennir ar gyfer busnesau bach a chanolig bychan iawn na fyddai fel arall yn gallu fforddio'r costau cyflogi. Felly, rydym yn edrych ar hynny yn fanwl iawn. Mae'r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn, ac rydym yn parhau i edrych ar hynny drwy ein partneriaethau sgiliau rhanbarthol.
Thank you very much, Minister. There we are, we've redeemed ourselves and back - I've redeemed myself by not running over.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Dyna ni, rydym wedi achub ein cam a mwy - rwyf innau wedi achub cam fy hun drwy beidio â mynd dros amser.
The next item on the agenda then is item 6, which is a statement by the Cabinet Secretary for Communities and Children - volunteering week. I call the Cabinet Secretary for Communities and Children, Carl Sargeant.
Yr eitem nesaf ar yr agenda felly yw eitem 6, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - wythnos gwirfoddoli. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Thank you, Deputy Presiding Officer. I thought it important to take a moment at the beginning of this fifth term to say 'thank you' to all the people who volunteer here in Wales. There certainly are a lot of them. Almost one in three Welsh people volunteer in Wales in some way. Volunteers' Week provides a chance to think about the difference volunteers have made to our lives and our communities, and to encourage even more people to volunteer. This year, there were celebrations across Wales, including the national Volunteer of the Year awards at Cardiff castle last Friday, and I'd like to take a moment for us to acknowledge the dedication and achievements of just a few of those winners. Sue Osman, a retired neonatal nurse, spends her time, having retired, helping the families of children with disabilities. Sue volunteers at Newport's children's centre to help families and children through some of the most difficult times they ever face. People use words like 'inspiring' and 'privilege' when they talk about the work with her. A group of young people, acting as world heritage ambassadors, working to promote the world heritage town of Blaenavon, are inspiring other young people to take a community lead. Imogen, a young person from Monmouth, volunteers at the Caerwent inclusive youth club. Imogen helps young people with complex needs. Her colleagues call Imogen a real ambassador for commitment, competence and willingness to help other young volunteers with what they have to offer. Valerie from Cardiff has been instrumental, as a member of the Insole Court Trust, in saving a historic building, Insole Court, for public benefit, and Michael Baker of Pontypridd is another person. He's described as one of the most committed volunteers in running the Too Good To Waste project. Michael has overcome very real difficulties to help others in projects that focus on improving the environment through recycling. Since January 2010, Michael himself has volunteered over a staggering 7,500 hours. Countless organisations are appreciative of the contribution of their volunteers. In addition to the national awards, a great number of local celebrities took part last week. For example, Groundwork North Wales held a volunteers' event as a 'thank you' for all the support and hard work carried out over the past year. As I mentioned, about one in three of our citizens volunteer - that's nearly 1 million people in Wales volunteering every year, here in Wales. It's hard to be precise because so much voluntary action is carried out by people who may not even think that they're volunteering themselves. Nevertheless, this is a figure we should celebrate. To use a sporting analogy to illustrate the numbers, which I know my north Wales colleagues may appreciate, you could fill the Deeside Stadium 624 times over with the number of volunteers recorded each year - an attendance that my local team, Nomads, would be very pleased to have, I'm sure. But Wales has, of course, always had a strong sense of community spirit. In many respects this forms the character of our nation, and we must do all we can to foster and harness this rich seam of community spirit. Presiding Officer, I'd like to acknowledge the value that volunteering contributes to our economy and society, and also those countless individuals who, every single day, provide vital support to family members, neighbours and friends in need. It's even harder to put a firm number on this than to calculate the precise number of volunteers. However, we can imagine the additional strain on public services if the myriad of community groups and charities were not there at the front line that we all see. I'm proud that this Welsh Government has been committed to encouraging and supporting volunteers. This commitment was reaffirmed last year in our volunteering policy, 'Supporting Communities, Changing Lives'. The Welsh Government stands by the principles set out in that document, which affirms that we are doing the right things already. For example, supporting new volunteers through grants - and this year the Welsh Government has offered over £5 million to support volunteering grants and county voluntary councils. Over 8,000 volunteer placements were made last year, with funding for 417 young people receiving 200 hours of Millennium Volunteers certificates - enabling the WCVA to maintain a database of over 5,000 volunteering opportunities, and training people to provide the support volunteers need. Last year our funding helped to train 5,000 trustees. There are also new actions to be taken forward. I'll mention just a few today. Volunteering can promote social inclusion. We need better intelligence on the barriers that prevent some people from volunteering - particularly those who have higher support needs. We will work with partners to better understand and tackle these barriers. In some circumstances, volunteering can be the route to employment. It's also important that we help volunteers to evidence the skills they have developed and we will also identify an appropriate way for doing this too. We also want to make sure that the funding we invest in supporting volunteers provides the best value for money. We will make sure that existing volunteering offers are more straightforward, making it simple, effective and accessible, whether it is learning more through social media or the internet or walking into the local volunteering centre. Employers also have a role in encouraging volunteering. Some of you may be aware that civil servants at the Welsh Government are afforded up to five days a year for voluntary activities, taking their expertise into communities and voluntary organisations. Civil servants are encouraged to use volunteering as a way of giving back to the community and taking the Welsh Government into communities and learning, themselves, from the experience of the programmes. This may be something you would like to consider doing yourself - or your own staff, as Members and colleagues. There is help available through the volunteering-wales.net website, which has over 5,000 volunteering opportunities.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn i'n meddwl ei bod yn bwysig i gymryd eiliad ar ddechrau'r pumed tymor hwn i ddweud 'diolch' wrth yr holl bobl sy'n gwirfoddoli yma yng Nghymru. Mae llawer ohonyn nhw yn sicr. Mae traean o Gymry yn gwirfoddoli yng Nghymru mewn rhyw ffordd. Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i feddwl am y gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr wedi ei wneud i'n bywydau ac i'n cymunedau, ac i annog hyd yn oed mwy o bobl i wirfoddoli. Eleni, bu dathliadau ledled Cymru, gan gynnwys gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn cenedlaethol yng nghastell Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, a hoffwn i ni gymryd eiliad i gydnabod ymroddiad a chyflawniadau dim ond rhai o'r enillwyr hynny. Mae Sue Osman, nyrs y newydd-anedig sydd wedi ymddeol, yn treulio ei hamser, ar ôl ymddeol, yn helpu teuluoedd plant sydd ag anableddau. Mae Sue yn gwirfoddoli yng nghanolfan plant Casnewydd i helpu teuluoedd a phlant yn ystod rhai o'r adegau anoddaf y maent erioed wedi eu hwynebu. Mae pobl yn defnyddio geiriau fel 'ysbrydoledig' a 'braint' pan fyddant yn siarad am weithio gyda hi. Mae grŵp o bobl ifanc, sy'n gweithredu fel cenhadon treftadaeth y byd, yn gweithio i hyrwyddo tref treftadaeth y byd Blaenafon, ac yn ysbrydoli pobl ifanc eraill i arwain yn y gymuned. Mae Imogen, merch ifanc o Drefynwy, yn gwirfoddoli yng nghlwb ieuenctid cynhwysol Caerwent. Mae Imogen yn helpu pobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth. Mae cydweithwyr Imogen yn dweud ei bod hi'n gennad gwirioneddol o ran ymroddiad, cymhwysedd a pharodrwydd i helpu gwirfoddolwyr ifanc eraill â'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig. Mae Valerie o Gaerdydd wedi bod yn allweddol, fel aelod o Ymddiriedolaeth Llys Insole, wrth achub adeilad hanesyddol, Llys Insole, er budd y cyhoedd. Unigolyn arall allweddol yw Michael Baker o Bontypridd sy'n cael ei ddisgrifio fel un o'r gwirfoddolwyr mwyaf ymroddedig yn y gwaith o gynnal y prosiect 'Too Good To Waste'. Mae Michael wedi goresgyn anawsterau gwirioneddol i helpu eraill mewn prosiectau sy'n canolbwyntio ar wella'r amgylchedd drwy ailgylchu. Ers mis Ionawr 2010, mae Michael ei hun wedi gwirfoddoli am y nifer anhygoel o fwy na 7,500 o oriau. Mae nifer di-ri o sefydliadau yn werthfawrogol o gyfraniad eu gwirfoddolwyr. Yn ogystal â'r gwobrau cenedlaethol, cymerodd nifer fawr o enwogion lleol ran yr wythnos diwethaf. Er enghraifft, cynhaliodd Groundwork Gogledd Cymru ddigwyddiad gwirfoddolwyr i ddweud 'diolch' am yr holl gymorth a'r gwaith caled a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf. Fel y soniais, mae oddeutu traean o'n dinasyddion yn gwirfoddoli - mae hynny'n bron i filiwn o bobl yn gwirfoddoli bob blwyddyn, yma yng Nghymru. Mae'n anodd bod yn fanwl gywir gan fod cymaint o weithredu gwirfoddol yn cael ei wneud gan bobl nad ydynt hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yn gwirfoddoli. Serch hynny, mae hwn yn ffigwr y dylem ei glodfori. I ddefnyddio cymhariaeth o fyd chwaraeon i ddangos y rhifau, ac rwyf yn gwybod efallai y bydd fy nghydweithwyr yn y gogledd yn ei gwerthfawrogi, gallech lenwi Stadiwm Glannau Dyfrdwy 624 o weithiau a mwy gyda nifer y gwirfoddolwyr a gofnodir bob blwyddyn - presenoldeb y byddai fy nhîm lleol, y Crwydriaid, yn falch iawn o'i gael, rwy'n siŵr. Ond bu gan Gymru, wrth gwrs, ysbryd cymunedol cryf erioed. Mewn sawl ffordd, mae hyn yn ffurfio cymeriad ein cenedl, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i feithrin a manteisio ar yr elfen gyfoethog hon o ysbryd cymunedol. Lywydd, hoffwn gydnabod y gwerth y mae gwirfoddoli yn ei gyfrannu at ein heconomi a'n cymdeithas, a hefyd yr unigolion dirifedi hynny sydd, bob dydd, yn darparu cymorth hanfodol i aelodau o'r teulu, cymdogion a ffrindiau sydd mewn angen. Mae'n anoddach fyth pennu rhif pendant ar gyfer hyn nag ydyw i gyfrifo union nifer y gwirfoddolwyr. Fodd bynnag, gallwn ddychmygu'r straen ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus pe na byddai'r amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol ac elusennau yno ar y rheng flaen, y mae pob un ohonom yn eu gweld. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymrwymedig i annog a chefnogi gwirfoddolwyr. Ailddatganwyd yr ymrwymiad hwn y llynedd yn ein polisi gwirfoddoli, 'Cefnogi Cymunedau, Newid Bywydau'. Mae Llywodraeth Cymru yn glynu wrth yr egwyddorion a nodir yn y ddogfen honno, sy'n cadarnhau ein bod eisoes yn gwneud y pethau iawn. Er enghraifft, cefnogi gwirfoddolwyr newydd drwy ddyfarnu grantiau - ac eleni mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig dros £5 miliwn i gefnogi grantiau gwirfoddoli a chynghorau gwirfoddol sirol. Trefnwyd dros 8,000 o leoliadau gwirfoddoli y llynedd, gyda chyllid ar gyfer 417 o bobl ifanc yn derbyn 200 awr o dystysgrifau Gwirfoddolwyr y Mileniwm - gan alluogi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynnal cronfa ddata o dros 5,000 o gyfleoedd gwirfoddoli, a hyfforddi pobl i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar wirfoddolwyr. Y llynedd, cyfrannodd ein cyllid at hyfforddi 5,000 o ymddiriedolwyr. Ceir camau gweithredu newydd sydd i'w datblygu hefyd. Rwyf am grybwyll dim ond rhai ohonynt heddiw. Gall gwirfoddoli hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol. Mae angen gwell gwybodaeth arnom ynglŷn â'r rhwystrau sy'n atal rhai pobl rhag gwirfoddoli - yn enwedig y rhai hynny sydd ag anghenion cymorth uwch. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall y rhwystrau hyn yn well ac i fynd i'r afael â nhw. Mewn rhai amgylchiadau, gall gwirfoddoli fod yn llwybr i gyflogaeth. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn helpu gwirfoddolwyr i ddangos y sgiliau y maent wedi eu datblygu a byddwn yn nodi ffordd addas ar gyfer gwneud hynny hefyd. Rydym hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod y cyllid yr ydym yn ei fuddsoddi i gefnogi gwirfoddolwyr yn darparu'r gwerth gorau am arian. Byddwn yn sicrhau bod cynigion gwirfoddoli presennol yn symlach, gan wneud dysgu mwy drwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol neu'r rhyngrwyd neu fynd i'r ganolfan wirfoddoli lleol yn syml, yn effeithiol ac yn hygyrch. Mae gan gyflogwyr hefyd swyddogaeth wrth annog gwirfoddoli. Efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol y rhoddir hyd at bum diwrnod y flwyddyn i weision sifil yn Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgareddau gwirfoddol, gan rannu eu harbenigedd â chymunedau a mudiadau gwirfoddol. Mae gweision sifil yn cael eu hannog i ddefnyddio gwirfoddoli fel ffordd o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a chyflwyno Llywodraeth Cymru i gymunedau, ac i ddysgu eu hunain, o brofiad y rhaglenni. Gall hyn fod yn rhywbeth yr hoffech ystyried ei wneud eich hun - neu eich aelodau staff eich hun, fel Aelodau a chydweithwyr. Mae cymorth ar gael ar wefan gwirfoddolicymru.net, lle y ceir mwy na 5,000 o gyfleoedd gwirfoddoli.
I'm keen to renew our bond with the third sector and maximise the potential for volunteering. I'd like to see an even bigger number of volunteers. People giving of their own time for the benefit of others, making a big difference to communities and the people who live in them. Presiding Officer, it's a day for celebration and recognising the great work that volunteers do throughout the year. This is just placing on record our thanks from the Welsh Government.
Rwy'n awyddus i adnewyddu ein perthynas glós gyda'r trydydd sector a gwneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer gwirfoddoli. Hoffwn weld hyd yn oed mwy o wirfoddolwyr. Pobl yn rhoi o'u hamser eu hunain er budd pobl eraill, gan wneud gwahaniaeth mawr i gymunedau a'r bobl sy'n byw ynddynt. Lywydd, mae'n ddiwrnod i glodfori a chydnabod y gwaith gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud trwy gydol y flwyddyn. Mae hyn i gofnodi ein diolch oddi wrth Lywodraeth Cymru.