source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
First of all, I thank the leader of UKIP for some of his comments. He is right, indeed, on energy prices. We've been saying this for the past five years to the UK Government. It is right to say - I've spoken to Celsa, for example, who've said to me that energy prices in Germany are 20 per cent lower and in Spain 37 per cent lower. Why? It's the nature of the UK's energy market. That's the problem; it's nothing to do with the EU - it's the way the UK has structured it. What they say to me is that, basically, they're offered tariffs that would be offered to a domestic consumer. In Germany and Spain there are discounts for energy-intensive industries, but not in the UK. The UK energy market is arcane, opaque and not transparent because is quite clear that energy prices are more expensive here. It's not just me; any energy-intensive industry is saying this: they are cheaper elsewhere in Europe. That needs to be dealt with. Some progress has been made in that regard but not enough, to my mind. He is right to say that Tata should not walk away from its responsibilities. It has not indicated that it should. It has indicated to me, of course, that its reputation is important around the world. The kind of aid we can offer is hugely attractive to any potential buyer - the money we can put on the table as the Welsh Government; the substantial resources the UK Government can put on the table as well. These are all perfectly compliant with state aid rules. What we can't do is offer an ongoing revenue subsidy - that much is true - but we have to remember that, at the end of the day, steel needs a market. The UK isn't big enough to provide a market on its own for British steel. If we were outside of the European market, the tariff barriers would go up and that would mean that steel from Britain would be more expensive as it entered the European market. I noted what Professor Patrick Minford - that's the second time I've mentioned him today in this Chamber - said today when he said that his approach would be that there should be no barriers at all to goods coming into the UK. He would have no tariffs on anything coming into the UK, even if other countries put up tariff barriers themselves. I just don't think that that's a sensible - . He is somebody who is produced as an economist for the Leave campaign. That is his view; I don't agree with that view. To my mind, you need to have access to as many large markets as possible, and leaving the EU, especially with steel, would put British steel at risk of having substantial tariffs put against British steel entering the European market. We'll have that argument again. It's not an argument, of course, that Tata have used; their view is that they are a European operation. Indeed, many of the assets in Wales, like Shotton, for example, are connected very closely with operations elsewhere in Europe, which would be quite difficult to untangle. What is right to say is that all the Welsh operations are connected to Port Talbot. One of the concerns was that there would be an attempt to cherry-pick - that those operations like Orb, like Llanwern, like Shotton, like Trostre, the rolling mill in Port Talbot, which are making money, would be cherry-picked and the heavy end at Port Talbot would go. But the reality is, as I've said in this Chamber before, all those plants are supplied with steel from Port Talbot. It would take about six months for them to find a source of steel from somewhere else. In the meantime, they're reliant on stocks, they're going to be laying people off and they're going to start losing customers. So, they are reliant on Port Talbot making steel to supply those plants. From our perspective, just to re-emphasise it, we take the view that all of Tata's assets in Wales should be bought as a package and that there should be no cherry-picking.
Yn gyntaf oll, diolch i arweinydd UKIP am rai o'i sylwadau. Mae'n gywir, yn wir, ynghylch prisiau ynni. Rydym wedi bod yn dweud hyn wrth Lywodraeth y DU dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae'n gywir dweud - rwyf wedi siarad â Celsa, er enghraifft, sydd wedi dweud wrthyf fod prisiau ynni yn yr Almaen 20 y cant yn is ac yn Sbaen, 37 y cant yn is. Pam? Dyna natur marchnad ynni'r DU. Dyna'r broblem; nid yw'n ddim i'w wneud â'r UE - mae'n ymwneud â'r ffordd y mae'r DU wedi ei strwythuro. Yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf, yn y bôn, yw eu bod yn cael cynnig tariffau a fyddai'n cael eu cynnig i ddefnyddwyr domestig. Yn yr Almaen a Sbaen ceir gostyngiadau i ddiwydiannau ynni-ddwys, ond nid yn y DU. Mae marchnad ynni'r DU yn ddirgel, yn anhydraidd ac nid yw'n dryloyw am ei bod yn gwbl glir fod prisiau ynni yn ddrutach yma. Nid fi'n unig sy'n dweud hynny; mae unrhyw ddiwydiant ynni-ddwys yn dweud hyn: maent yn rhatach mewn mannau eraill yn Ewrop. Mae angen mynd i'r afael â hyn. Gwnaed rhywfaint o gynnydd yn hynny o beth, ond nid yw'n ddigon, yn fy marn i. Mae'n gywir i ddweud na ddylai Tata droi cefn ar ei gyfrifoldebau. Nid yw wedi nodi y bydd yn gwneud hynny. Mae wedi nodi i mi, wrth gwrs, fod ei enw da yn bwysig o amgylch y byd. Mae'r math o gymorth y gallwn ei gynnig yn hynod ddeniadol i unrhyw ddarpar brynwr - yr arian y gallwn ei roi ar y bwrdd fel Llywodraeth Cymru; yr adnoddau sylweddol y gall Llywodraeth y DU eu rhoi ar y bwrdd hefyd. Mae'r rhain i gyd yn cydymffurfio'n berffaith â rheolau cymorth gwladwriaethol. Yr hyn na allwn ei wneud yw cynnig cymhorthdal refeniw parhaus - mae hynny'n wir - ond mae'n rhaid i ni gofio, yn y pen draw, fod dur angen marchnad. Nid yw'r DU yn ddigon mawr i ddarparu marchnad ar ei phen ei hun ar gyfer dur Prydain. Pe baem y tu allan i'r farchnad Ewropeaidd, byddai'r rhwystrau tariff yn codi a byddai hynny'n golygu y byddai dur o Brydain yn ddrutach wrth iddo ddod i mewn i'r farchnad Ewropeaidd. Nodais yr hyn a ddywedodd yr Athro Patrick Minford - dyna'r eilwaith i mi ei grybwyll yn y Siambr hon heddiw - pan soniodd mai ei ddull ef o fynd ati fyddai na ddylai fod unrhyw rwystrau o gwbl i nwyddau ddod i mewn i'r DU. Ni fyddai ganddo unrhyw dariffau ar unrhyw beth sy'n dod i mewn i'r DU, hyd yn oed os yw gwledydd eraill yn gosod rhwystrau tariff eu hunain. Nid wyf yn credu bod hynny'n synhwyrol - . Mae'n rhywun sy'n cael ei gyflwyno fel economegydd ar ran yr ymgyrch dros adael yr UE. Dyna'i farn ef; nid wyf yn cytuno â'r farn honno. Yn fy marn i, mae angen i chi gael mynediad at gymaint o farchnadoedd mawr ag y bo modd, a byddai gadael yr UE, yn enwedig gyda dur, yn creu risg o osod tariffau sylweddol rhag i ddur Prydain fynd i mewn i'r farchnad Ewropeaidd. Cawn y ddadl honno eto. Nid yw'n ddadl y mae Tata wedi'i defnyddio wrth gwrs; eu barn hwy yw eu bod yn waith Ewropeaidd. Yn wir, mae llawer o'r asedau yng Nghymru, fel Shotton, er enghraifft, yn cysylltu'n agos iawn â gweithfeydd mewn mannau eraill yn Ewrop, a byddai hynny'n eithaf anodd ei ddatod. Yr hyn sy'n gywir i'w ddweud yw bod yr holl weithfeydd yng Nghymru yn gysylltiedig â Phort Talbot. Un o'r pryderon oedd y byddai ymgais i ddewis y gorau o blith y gweithfeydd hynny - y byddai gweithfeydd fel Orb, fel Llanwern, fel Shotton, fel Trostre, y felin rolio ym Mhort Talbot, sy'n gwneud arian, y byddai'r rheini yn cael eu dewis ac y byddai'r pen trwm ym Mhort Talbot yn mynd. Ond fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, y gwirionedd yw mai dur o Bort Talbot sy'n cyflenwi'r holl weithfeydd hynny. Byddai'n cymryd tua chwe mis iddynt ddod o hyd i ffynhonnell o ddur o rywle arall. Yn y cyfamser, maent yn dibynnu ar stociau, maent yn mynd i fod yn diswyddo pobl ac maent yn mynd i ddechrau colli cwsmeriaid. Felly, maent yn dibynnu ar Bort Talbot i wneud dur i gyflenwi'r gweithfeydd hyn. O'n safbwynt ni, i ailbwysleisio hyn, rydym o'r farn y dylai holl asedau Tata yng Nghymru gael eu prynu fel pecyn ac na ddylid dewis y gorau'n unig.
Diolch. Thanks for the update, First Minister. Many of my constituents in communities across Flintshire are understandably concerned about the future of the Shotton site and fear that it often gets lost in all of the headlines. Shotton has two successful, viable, profitable businesses that have risen, almost phoenix-like, from the ashes of the record mass redundancies of the 1980s. Shotton has a bright future with the right support, and on that note, I must pay credit to the leadership that you've shown on this and leadership that, I know, is recognised by the workforce there. I've co-ordinated meetings with management and trade unions at the Shotton site and know, first hand, the highly skilled, hardworking and flexible workforce. First Minister, can I ask that you will continue to ensure that Shotton is not forgotten and that the workforce there is kept fully informed?
Diolch. Diolch am y wybodaeth ddiweddaraf, Brif Weinidog. Mae llawer o fy etholwyr mewn cymunedau ar draws Sir y Fflint yn pryderu'n ddealladwy am ddyfodol y safle yn Shotton ac yn ofni ei fod yn aml yn mynd ar goll yn yr holl benawdau. Mae gan Shotton ddau fusnes llwyddiannus, hyfyw a phroffidiol sydd wedi codi, bron fel ffenics o ludw'r diswyddiadau torfol yn y 1980au na welwyd eu tebyg cyn hynny. Mae gan Shotton ddyfodol disglair gyda'r gefnogaeth gywir, ac ar y nodyn hwnnw, rhaid i mi ganmol yr arweinyddiaeth rydych wedi'i dangos ar hyn ac mae'r arweinyddiaeth honno, rwy'n gwybod, yn cael ei chydnabod gan y gweithlu yno. Rwyf wedi cydgysylltu cyfarfodydd â rheolwyr a'r undebau llafur ar safle Shotton ac yn adnabod y gweithlu hyblyg, gweithgar a medrus iawn. Brif Weinidog, a gaf fi ofyn i chi barhau i sicrhau nad yw Shotton yn cael ei anghofio a bod y gweithlu yno yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn llawn?
I can give an absolute assurance that that's true of Shotton, of Trostre and, indeed, of the works in Newport as well. I know that there's been some fear amongst the workers that, whenever steel is talked about, it's always Port Talbot. It is the biggest employer, of course, but we know that all of our steel plants in Wales are hugely important and we know that they're interdependent. The Member will know that I visited Shotton very soon after the announcement; I did the same with all the plants across Wales and will continue to make sure that the steel industry in Wales is seen as one whole industry that must be bought as a whole, and developed and invested in in the future.
Gallaf roi sicrwydd pendant fod hynny'n wir am Shotton, am Drostre ac yn wir, y gwaith yng Nghasnewydd hefyd. Gwn fod rhywfaint o ofn ymhlith y gweithwyr hynny, pa bryd bynnag y siaredir am ddur, mai am Bort Talbot y sonnir bob amser. Yno mae'r cyflogwr mwyaf, wrth gwrs, ond gwyddom fod ein holl weithfeydd dur yng Nghymru yn hynod o bwysig a gwyddom eu bod yn gyd-ddibynnol. Bydd yr Aelod yn gwybod fy mod wedi ymweld â Shotton yn fuan iawn ar ôl y cyhoeddiad; gwnes yr un peth gyda'r holl weithfeydd ledled Cymru a byddaf yn parhau i wneud yn siŵr fod y diwydiant dur yng Nghymru yn cael ei weld fel un diwydiant cyfan sy'n rhaid ei brynu yn ei gyfanrwydd, a'i ddatblygu, a buddsoddi ynddo yn y dyfodol.
I'm grateful to the First Minister for bringing this statement and I agree with some of the comments that have been raised here today, although I would like to say, in relation to the dumping of steel, the UK Government has already previously refused higher measures on the dumping of steel, and so, if we did come out of the European Union, you would expect opposition on that level. So, I can't understand the rationale that is being brought to the debate today in terms of the UK Government somehow being more supportive of putting higher tariffs on Chinese steel. Particularly concerning to me is the precedent the UK Government could be setting with the pension fund, as has been mentioned earlier. The moral hazard argument is one that was well rehearsed with Ministers and their officials while dealing with ASW and Visteon cases, all to no avail - our warnings fell on deaf ears in Whitehall. But, I just wanted to focus briefly on the internal dynamics at Tata as reported by steelworkers to myself. Has the First Minister heard that officials from Tata Europe attended a town hall meeting in Port Talbot in the past fortnight, at which they got up and severely criticised the workforce, causing the trade union delegation to get up and walk out? This seems to be the latest concern surrounding Tata Europe leadership and its conduct before and during this period. You'll know it was largely comprised of the Hoogovens management - the company that was effectively saved from bankruptcy through the Corus merger with British Steel. Since Tata brought Corus, steelworkers say the IJmuiden plant has received the bulk of investment, including the same kind of investment that Plaid Cymru have mooted in relation to a new power plant, predominantly because of the Dutch management and the influence that they have. Is that something that you have heard, First Minister? Also, it's been claimed that Port Talbot's financial position was effectively made to look worse than it was, because the cost of materials bound for both steelmaking sites were booked solely for Port Talbot. So, I heard of one example of a shipment of iron ore that stopped off in Wales first before going to the Netherlands, with the entire cost borne by the Port Talbot site. Is that something that you've heard about, First Minister? Then, of course, my question comes to the order book. As far as we know, this has been centralised in the Netherlands. This is considerably worrying to my constituents who see it as an opportunity for Tata Europe to pick off the best contracts even though, as I hear, they are not capable of fulfilling some of them, leaving Port Talbot and the rest of the UK operation to fail. So, I would like to know whether the Welsh Government has enquired as to the whereabouts of the order book and questioned the rationale for moving it to the Netherlands, and whether efforts have been made by yourself or your officials to repatriate the order book ahead of any potential sale. Do we have reassurances from the company that it is happy to open its books to potential buyers for the diligence phase of any sale? I think these are questions that need answering, for the workforce especially, who have raised those points with me, but also for the wider steel industry here in the UK.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am gyflwyno'r datganiad hwn ac rwy'n cytuno â rhai o'r sylwadau sydd wedi'u crybwyll yma heddiw, er y byddwn yn hoffi dweud, mewn perthynas â dympio dur, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwrthod mesurau pellach ar ddympio dur o'r blaen, ac felly, pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddech yn disgwyl gwrthwynebiad ar y lefel honno. Felly, ni allaf ddeall y rhesymeg yn y ddadl heddiw fod Llywodraeth y DU rywsut yn fwy cefnogol i osod tariffau uwch ar ddur o Tsieina. Yr hyn sy'n peri pryder arbennig i mi yw'r cynsail y gallai Llywodraeth y DU fod yn ei osod gyda'r gronfa bensiwn, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Mae'r ddadl ynghylch perygl moesol yn un a ailadroddwyd droeon gyda Gweinidogion a'u swyddogion wrth ymdrin ag achosion ASW a Visteon, a'r cyfan yn ofer - disgynnodd ein rhybuddion ar glustiau byddar yn Whitehall. Ond roeddwn eisiau canolbwyntio'n fyr ar y ddynameg fewnol yn Tata fel y soniodd gweithwyr dur wrthyf amdani. A yw'r Prif Weinidog wedi clywed bod swyddogion o Tata Europe wedi mynychu cyfarfod neuadd y dref ym Mhort Talbot yn y pythefnos diwethaf, lle codasant ar eu traed i feirniadu'r gweithlu'n hallt, gan beri i'r ddirprwyaeth ar ran yr undebau llafur godi a cherdded allan? Mae'n ymddangos mai dyma'r pryder diweddaraf ynghylch arweinyddiaeth Tata Europe a'i hymddygiad cyn ac yn ystod y cyfnod hwn. Fe fyddwch yn gwybod ei bod yn cynnwys rheolwyr Hoogovens yn bennaf - y cwmni a gafodd ei achub i bob pwrpas rhag mynd yn fethdalwr drwy uno Corus a Dur Prydain. Ers i Tata brynu Corus, mae gweithwyr dur yn dweud bod gwaith IJmuiden wedi cael y rhan fwyaf o'r buddsoddiad, gan gynnwys yr un math o fuddsoddiad y mae Plaid Cymru wedi'i grybwyll mewn perthynas â gorsaf ynni newydd, yn bennaf oherwydd y rheolwyr o'r Iseldiroedd a'r dylanwad sydd ganddynt. A yw hynny'n rhywbeth rydych chi wedi'i glywed, Brif Weinidog? Hefyd, honnwyd bod sefyllfa ariannol Port Talbot wedi'i gwneud i edrych yn waeth nag oedd hi i bob pwrpas, gan fod cost deunyddiau ar gyfer y ddau safle gwneud dur wedi'u harchebu ar gyfer Port Talbot yn unig. Felly, clywais am un enghraifft o lwyth o fwyn haearn a arhosodd yng Nghymru yn gyntaf cyn mynd i'r Iseldiroedd, gyda'r gost gyfan yn cael ei thalu gan safle Port Talbot. A yw hynny'n rhywbeth rydych wedi'i glywed, Brif Weinidog? Wedyn, wrth gwrs, daw fy nghwestiwn at y llyfr archebion. Cyn belled ag y gwyddom, mae hwn wedi'i ganoli yn yr Iseldiroedd. Mae hyn yn destun cryn bryder i fy etholwyr sy'n ei weld fel cyfle i Tata Europe ddewis y contractau gorau er nad ydynt, fel rwy'n clywed, yn gallu cyflawni rhai ohonynt, gan adael Port Talbot a gweddill y gweithfeydd yn y DU i fethu. Felly, hoffwn wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi holi ble mae'r llyfr archebion ac wedi cwestiynu'r rhesymeg dros ei symud i'r Iseldiroedd, ac a wnaed ymdrechion gennych chi neu eich swyddogion i ddychwelyd y llyfr archebion cyn unrhyw werthiant posibl. A oes gennym sicrwydd gan y cwmni ei fod yn barod i agor ei lyfrau i ddarpar brynwyr ar gyfer cyfnod diwydrwydd dyladwy unrhyw werthiant? Rwy'n meddwl bod y rhain yn gwestiynau sydd angen eu hateb, er mwyn y gweithlu yn arbennig, sydd wedi crybwyll y pwyntiau hyn wrthyf, ond hefyd er mwyn y diwydiant dur ehangach yma yn y DU.
Many of the comments that the Member has made I've heard, like the issue of IJmuiden. I wasn't aware of the town-hall meeting, although I've heard something about what had happened, but I wasn't aware that it was in Port Talbot. I have heard it said to me that Port Talbot has been made to look worse than it is. I've got no evidence to back that up, but I've heard that said. I've heard, for example, that there are issues with regard to the port, and particularly fees charged by the company owning the port. Why on earth there is a separate business owning the port compared with the steelworks, only the Tories in the 1980s could explain to you, but that is, nevertheless, the situation there. There have been issues that have been said to me with regard to charges at the port. So, there are a number of issues that have been raised where there is no easy answer. In terms of the order book, well, of course, due diligence would have to be carried out by any buyer in any event. Nobody's going to buy assets or buy a business without looking at the books. It's fair to say there has been investment in the steel industry in Wales, particularly in Port Talbot. We saw the blast furnace No. 5 being rebuilt. We have put an offer on the table with regard to the power plant. We worked with the company three years ago over looking at whether a mine could be sunk in the curtilage of the steelworks. So, all these things have been explored. Research and development is another issue. We need to make sure that, as we look at the future of the steel industry over the next few years, that R&D capacity exist in Wales. I know that Swansea University have expressed an interest in that, and we're keen to work to make sure that that R&D capacity does exist in Wales. We've been successful for the past few years in attracting more R&D into Wales to supplement the manufacturing that we do and the same will be important for steel in the future. So, all this work is being done. I've heard many of the issues that she has raised being raised with me and with others. I hear that Port Talbot is now breaking even after three months ago losing £1 million a day, which is a substantial turnaround, but, of course, there will be a need, as the sale process continues, to make sure there is an understanding of what the true financial situation is with regard to the steel industry in Wales.
Rwyf wedi clywed llawer o'r sylwadau y mae'r Aelod wedi'u gwneud, fel mater IJmuiden. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r cyfarfod yn neuadd y dref, er fy mod wedi clywed rhywbeth am yr hyn a oedd wedi digwydd, ond nid oeddwn yn ymwybodol mai ym Mhort Talbot y digwyddodd hynny. Rwyf wedi clywed bod Port Talbot wedi cael ei wneud i edrych yn waeth nag y mae. Nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny, ond rwyf wedi clywed hynny'n cael ei ddweud. Rwyf wedi clywed, er enghraifft, fod yna broblemau gyda'r porthladd, ac yn benodol y ffïoedd a godir gan y cwmni sy'n berchen ar y porthladd. Pam yn y byd y mae busnes ar wahân yn berchen ar y porthladd o gymharu â'r gwaith dur, dim ond y Torïaid yn yr 1980au allai esbonio hynny i chi, ond dyna yw'r sefyllfa yn y fan honno serch hynny. Soniwyd wrthyf am broblemau gyda'r taliadau yn y porthladd. Felly, mae yna nifer o faterion wedi codi lle nad oes ateb hawdd. O ran y llyfr archebion, wel, wrth gwrs, byddai'n rhaid i unrhyw brynwr roi diwydrwydd dyladwy ar waith beth bynnag. Nid oes neb yn mynd i brynu asedau neu brynu busnes heb edrych ar y llyfrau. Mae'n deg dweud y cafwyd buddsoddiad yn y diwydiant dur yng Nghymru, yn enwedig ym Mhort Talbot. Gwelsom ffwrnais chwyth Rhif 5 yn cael ei hailadeiladu. Rydym wedi rhoi cynnig ar y bwrdd mewn perthynas â'r pwerdy. Buom yn gweithio gyda'r cwmni dair blynedd yn ôl yn edrych i weld a ellid tyllu cloddfa o fewn ffiniau'r gwaith dur. Felly, mae'r holl bethau hyn wedi cael eu harchwilio. Mae ymchwil a datblygu yn fater arall. Mae angen i ni wneud yn siŵr, wrth i ni edrych ar ddyfodol y diwydiant dur yn ystod y blynyddoedd nesaf, fod capasiti ymchwil a datblygu yn bodoli yng Nghymru. Gwn fod Prifysgol Abertawe wedi dangos diddordeb yn hynny, ac rydym yn awyddus i weithio i sicrhau bod capasiti ymchwil a datblygu yn bodoli yng Nghymru. Rydym wedi llwyddo dros y blynyddoedd diwethaf i ddenu mwy o ymchwil a datblygu i Gymru i ychwanegu at y gweithgynhyrchu a wnawn a bydd yr un peth yn bwysig ar gyfer dur yn y dyfodol. Felly, mae'r holl waith hwn yn cael ei wneud. Cafodd llawer o'r materion a grybwyllwyd ganddi eu dwyn i fy sylw i ac eraill. Rwy'n clywed bod Port Talbot yn awr yn llwyddo i adennill costau ar ôl bod yn colli £1 miliwn y dydd dri mis yn ôl, sy'n newid cyfeiriad sylweddol, ond wrth gwrs, bydd angen sicrhau, wrth i'r broses werthu fynd rhagddi, fod yna ddealltwriaeth o'r hyn yw'r sefyllfa ariannol go iawn mewn perthynas â'r diwydiant dur yng Nghymru.
First Minister, can I thank you for your statement today? It's clearly important to ensure that not just Members in the Assembly are updated on the progress of the discussion with Tata, but that my constituents and the steelworkers in my constituency are actually fully aware of what we're trying to do. The Member for Carmarthen East and Dinefwr was quite right in some of his questions that some of those levers are actually in London, unfortunately, and some of those concerns we have - and they did come to the table late, I'm sorry to say - are laying with them and we need to address those, very much so. Bethan Jenkins highlighted a couple of points, which I don't want to repeat, so I'll avoid that if I can. But the question comes as to the confidence of the workforce in Tata. At the moment, there is a total lack of confidence of the workforce in Tata. I think what we would want from the Welsh Government is reassurance that it will work with buyers who come in to ensure that there is a sustainable future for the steel industry, not just in Port Talbot, but in all the other plants across Wales, to make sure that steel becomes and remains a major factor in the UK industrial strategy. Have you had discussions also with the UK Government on an industrial strategy? I walked with the steelworkers in London two weeks ago where they called for an industrial strategy for steel for the UK Government, and they still seem to be lacking in effort in the UK Government in that area. You mentioned the ports. Have you had discussions with the Associated British Ports in relation to the use of the port and the association the port has with the steelworks? So, it's how we can work with Tata steel or its buyers to ensure that the inputs coming through the docks can actually work in another very effective price? First Minister, you also highlighted the losses. I've also been informed that the losses are far lower and are working towards break even, and the May figures may actually be break even. So, we are now in a mode of actually getting to a stage where the industry is becoming a viable, attractive proposition for any buyer, and I think that's one of the reasons why Tata are now realising they made a big mistake in January when they made those announcements, and an even bigger one in March. But let's go back also to the question I asked in your First Minister's questions in relation to the taskforce and the support given to those employees who have either lost their jobs at this point, or are about to lose their jobs in the next weeks. Can you give reassurances that not only are the training packages in place, but there will be opportunities for work? Because we can train as many people as we like, but if there aren't opportunities for them to gain employment then all that will happen is, in a few weeks' time, they're going to be facing the challenges of just sitting at home. We need to ensure that the enterprise zone becomes a working, successful operation, that the packages and the work streams that we talked about with the taskforce for looking at businesses are actually attracting investment and jobs so that those people, once they've trained, can get employment. That's crucial to them. The last thing they want to do is to get trained and then go back to their homes without a job. It's crucial that they have that dignity in place. And have you had discussions with our MEPs and the European elements? Because the European Parliament actually did throw out the market economy status argument, very much so, and I was disappointed to hear the negativity from the UKIP leader regarding true steel. There's a lot of positivity in our town, a lot of ambition and hope in our town, and we don't want to see the negative visions being produced by that party. Now, the other question about Roger Maggs - you praised him, but, of course, he is also chair of the enterprise zone. Can you give us clarification as to the separation of the two roles he has, with Excalibur and the enterprise zone, to ensure that we go forward collectively and in a positive manner? The final point, First Minister: I want to praise you for the leadership you've shown over this time. Given the election campaign, when we required it, you definitely showed the leadership and strong leadership we needed in our town and constituency. You demonstrated to the rest of the UK what can be done. I just hope that others follow your suit.
Brif Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw. Mae'n amlwg yn bwysig sicrhau nad yr Aelodau yn y Cynulliad hwn yn unig sy'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y drafodaeth gyda Tata, ond bod fy etholwyr a'r gweithwyr dur yn fy etholaeth mewn gwirionedd yn gwbl ymwybodol o'r hyn rydym yn ceisio ei wneud. Roedd yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn llygad ei le yn rhai o'i gwestiynau fod rhai o'r liferi hynny yn Llundain, yn anffodus, ac mae rhai o'r pryderon sydd gennym - a daethant at hyn yn hwyr yn y dydd, mae'n ddrwg gennyf ddweud - yn ymwneud â hwy ac mae gwir angen i ni fynd i'r afael â hynny. Amlygodd Bethan Jenkins un neu ddau o bwyntiau, nad wyf am eu hailadrodd, felly rwyf am osgoi hynny os gallaf. Ond mae cwestiwn yn codi ynghylch hyder y gweithlu yn Tata. Ar hyn o bryd, mae yna ddiffyg hyder llwyr ymhlith y gweithlu yn Tata. Rwy'n credu mai'r hyn y byddem yn ei ddymuno gan Lywodraeth Cymru yw sicrwydd y bydd yn gweithio gyda phrynwyr sy'n dod i mewn er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant dur, nid yn unig ym Mhort Talbot, ond yn yr holl weithfeydd eraill ar draws Cymru, i wneud yn siŵr fod dur yn dod ac yn parhau i fod yn ffactor pwysig yn strategaeth ddiwydiannol y DU. A ydych wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU hefyd ar strategaeth ddiwydiannol? Cerddais gyda'r gweithwyr dur yn Llundain bythefnos yn ôl lle roeddent yn galw am strategaeth ddiwydiannol ar gyfer dur i Lywodraeth y DU, ac maent yn dal i'w gweld yn brin o ymdrech yn Llywodraeth y DU yn hynny o beth. Fe sonioch am y porthladdoedd. A ydych wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas Porthladdoedd Prydain ar y defnydd o'r porthladd a'r cysylltiad rhwng y porthladd a'r gwaith dur? Felly, mae'n fater o sut y gallwn weithio gyda Tata Steel neu ei brynwyr i sicrhau bod y mewnbynnau sy'n dod drwy'r dociau yn gallu gweithio mewn gwirionedd mewn pris arall effeithiol iawn? Brif Weinidog, fe dynnoch chi sylw at y colledion hefyd. Rwyf innau hefyd wedi cael gwybod bod y colledion yn llawer is ac yn gweithio tuag at adennill costau, ac mae'n bosibl y bydd ffigurau mis Mai yn adennill costau mewn gwirionedd. Felly, rydym yn awr yn cyrraedd sefyllfa mewn gwirionedd lle mae'r diwydiant yn dod yn gynnig hyfyw a deniadol i unrhyw brynwr, ac rwy'n credu mai dyna un o'r rhesymau pam y mae Tata bellach yn sylweddoli eu bod wedi gwneud camgymeriad mawr ym mis Ionawr pan wnaethant y cyhoeddiadau hynny, ac un mwy fyth ym mis Mawrth. Ond gadewch i ni fynd yn ôl hefyd at y cwestiwn a ofynnais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog mewn perthynas â'r tasglu a'r gefnogaeth a roddir i'r gweithwyr sydd naill ai wedi colli eu swyddi ar y pwynt hwn, neu ar fin colli eu swyddi yn ystod yr wythnosau nesaf. A allwch roi sicrwydd nid yn unig fod y pecynnau hyfforddi ar waith, ond y bydd yna gyfleoedd gwaith? Oherwydd gallwn hyfforddi cynifer o bobl ag y dymunwn, ond os nad oes cyfleoedd iddynt gael gwaith yna'r cyfan fydd yn digwydd fydd eu bod, ymhen ychydig wythnosau, yn wynebu heriau gwneud dim ond eistedd gartref. Mae angen i ni sicrhau bod yr ardal fenter yn dod yn weithfan lwyddiannus, fod y pecynnau a'r ffrydiau gwaith y buom yn sôn amdanynt gyda'r tasglu ar gyfer edrych ar fusnesau yn denu buddsoddiad a swyddi mewn gwirionedd fel bod y bobl hynny, ar ôl cael eu hyfforddi, yn gallu cael gwaith. Mae hynny'n hollbwysig iddynt. Y peth olaf y maent am ei wneud yw cael eu hyfforddi a dychwelyd i'w cartrefi wedyn heb swydd. Mae'n hanfodol eu bod yn cael yr urddas hwnnw. Ac a ydych wedi cael trafodaethau gyda'n ASEau a'r elfennau Ewropeaidd? Oherwydd fe wrthododd Senedd Ewrop y ddadl ar statws economi'r farchnad yn bendant iawn, ac roeddwn yn siomedig o glywed pa mor negyddol oedd arweinydd UKIP ynglŷn â dur go iawn. Mae yna lawer o agweddau cadarnhaol yn ein tref, mae yna lawer o uchelgais a gobaith yn ein tref, ac nid ydym am weld y darluniau negyddol sy'n cael eu cynhyrchu gan y blaid honno. Nawr, y cwestiwn arall am Roger Maggs - roeddech yn ei ganmol, ond wrth gwrs, mae hefyd yn gadeirydd yr ardal fenter. A allwch roi eglurhad i ni ynglŷn â'r gwahaniad rhwng y ddwy swyddogaeth sydd ganddo, gydag Excalibur a'r ardal fenter, er mwyn sicrhau ein bod yn symud ymlaen gyda'n gilydd ac mewn modd cadarnhaol? Y pwynt olaf, Brif Weinidog: rwyf am eich canmol am yr arweinyddiaeth rydych wedi'i rhoi dros y cyfnod hwn. O ystyried yr ymgyrch etholiadol, pan oedd ei hangen arnom, yn sicr fe ddangosoch yr arweinyddiaeth gref roeddem ei hangen yn ein tref a'n hetholaeth. Fe ddangosoch i weddill y DU beth y gellir ei wneud. Rwyf ond yn gobeithio y bydd eraill yn dilyn eich esiampl.
Well, can I thank the Member for those kind words and could I reciprocate by saying that he has been a doughty and avid campaigner for those people whom he represents? I know this myself through the late-night phone calls that I've had from him, and he is somebody who has been very concerned to protect their interests. I think he's absolutely right to say there's a lack of confidence amongst Tata workers - how could there not be - because the future is yet uncertain. Nobody knows what's going to happen, and people are bound to feel insecurity, not knowing what the future holds. In terms of an industrial strategy, that's not something that the UK Government have come forward with. They have focused on the matter in hand. I think it's right to say that they might have been quicker in realising the situation that was occurring. That said, I think it is fair to say that they are looking to find a solution and, certainly, Sajid Javid has been in regular contact with me in order to explain what he has been doing, so I have to acknowledge that. I mean, it was quite remarkable, all the way through an election campaign, no political capital was made of the issue in any way, and I think that's a reflection of what the people of Port Talbot would want - the political parties working together in order to find a solution for everybody. With regard to ABP, the ports, of course, are not devolved yet, but they will be. It is curious that we have a port in Port Talbot that, effectively, only exists for the steelworks that, in any rational world, would be owned by the company owning the steelworks. That's not the case. So, effectively, there's not a huge amount of choice other than the coal and iron ore coming in through the port. It can't go, realistically, anywhere else. It has been said to me, certainly by one of the bidders, that there is concern about the cost of using the port. It's not helpful as far as the future is concerned, and that is something that the UK Government themselves have said, and they were having discussions with ABP to make sure that the port was reasonable in terms of what it was charging for raw materials to come through it. I have, of course, been in contact with Derek Vaughan. The Member is right to say that market economy status has not been agreed as far as China is concerned for any number of reasons. He asked, of course, about the people who are affected by this - support particularly. I've outlined already what is available. It is right to say that the enterprise zone needs to be taken forward quickly - we acknowledge that - and it's right to say that the skills are important, but also the jobs that are appropriate to those skills are also important. That's what the enterprise zone is designed to deliver. Thus far, the numbers coming forward have been quite low, reflecting, I think, the situation that a lot of those who have taken voluntary redundancy are looking to retire, but what we don't know is whether there are still people who have not yet come forward to get the support and help that they need. We will stand ready to help the people who work in Port Talbot and in other parts of the industry in Wales to help them to retrain and get the jobs that they need.
Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am y geiriau caredig ac a gaf fi ymateb drwy ddweud ei fod wedi bod yn ymgyrchydd pybyr a brwd dros y bobl y mae'n eu cynrychioli? Rwy'n gwybod hyn fy hun drwy'r galwadau ffôn hwyr y nos a gefais ganddo, ac mae'n rhywun sydd wedi bod yn awyddus iawn i ddiogelu eu buddiannau. Rwy'n credu ei fod yn gwbl gywir i ddweud bod yna ddiffyg hyder ymhlith gweithwyr Tata - sut y gallai beidio â bod - oherwydd mae'r dyfodol yn ansicr o hyd. Nid oes neb yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd, ac mae pobl yn siŵr o deimlo ansicrwydd, heb wybod beth fydd gan y dyfodol i'w gynnig. O ran strategaeth ddiwydiannol, nid yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyflwyno. Maent wedi canolbwyntio ar y mater dan sylw. Rwy'n meddwl ei bod yn iawn dweud y gallent fod wedi sylweddoli beth oedd yn digwydd yn gyflymach. Wedi dweud hynny, rwy'n credu ei bod yn deg dweud eu bod yn ceisio dod o hyd i ateb ac yn sicr, mae Sajid Javid wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â mi er mwyn esbonio'r hyn y mae wedi bod yn ei wneud, felly mae'n rhaid i mi gydnabod hynny. Hynny yw, roedd yn eithaf rhyfeddol, drwy'r ymgyrch etholiadol ar ei hyd, ni wnaed unrhyw elw gwleidyddol o'r mater mewn unrhyw ffordd, ac rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchu'r hyn y byddai pobl Port Talbot ei eisiau - y pleidiau gwleidyddol yn gweithio gyda'i gilydd yn drefnus i ddod o hyd i ateb i bawb. O ran Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, nid yw'r porthladdoedd wedi'u datganoli eto, wrth gwrs, ond fe fyddant. Mae'n rhyfedd fod gennym borthladd ym Mhort Talbot sydd i bob pwrpas ond yn bodoli ar gyfer y gwaith dur, ac a fyddai mewn byd rhesymol, yn eiddo i'r cwmni sy'n berchen ar y gwaith dur. Nid felly y mae. Felly, i bob pwrpas, nid oes llawer iawn o ddewis heblaw dod â'r glo a'r mwyn haearn i mewn drwy'r porthladd. Yn realistig, ni all fynd i unrhyw le arall. Dywedwyd wrthyf, gan un o'r cynigwyr yn bendant, fod pryder ynghylch y gost o ddefnyddio'r porthladd. Nid yw'n ddefnyddiol o ran y dyfodol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU ei hun wedi'i ddweud, ac roeddent yn cael trafodaethau gyda Chymdeithas Porthladdoedd Prydain i wneud yn siŵr fod y porthladd yn rhesymol o ran yr hyn roedd yn ei godi i ddod â deunyddiau crai drwyddo. Wrth gwrs, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Derek Vaughan. Mae'r Aelod yn gywir i ddweud nad yw statws economi marchnad wedi'i gytuno mewn perthynas â Tsieina am nifer fawr o resymau. Gofynnodd, wrth gwrs, am y bobl y mae hyn yn effeithio arnynt - cymorth yn enwedig. Rwyf wedi amlinellu eisoes beth sydd ar gael. Mae'n iawn dweud bod angen datblygu'r ardal fenter yn gyflym - rydym yn cydnabod hynny - ac mae'n iawn dweud bod y sgiliau'n bwysig, ond hefyd mae'r swyddi sy'n briodol i'r sgiliau hynny yn bwysig. I gyflawni hynny y cynlluniwyd yr ardal fenter. Hyd yn hyn, mae'r niferoedd sy'n dod ymlaen wedi bod yn eithaf isel, gan adlewyrchu, rwy'n credu, sefyllfa lle mae llawer o'r rhai sydd wedi dewis diswyddo gwirfoddol yn awyddus i ymddeol, ond yr hyn nad ydym yn ei wybod yw a oes pobl yn dal i fod heb ddod ymlaen eto i gael y gefnogaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Byddwn yn barod i helpu'r bobl sy'n gweithio ym Mhort Talbot ac mewn rhannau eraill o'r diwydiant yng Nghymru i'w helpu i ailhyfforddi a chael y swyddi sydd eu hangen arnynt.
Thank you for your statement, First Minister, particularly your comments regarding procurement. In your statement you mentioned a commitment to the long-term sustainable steel industry and confirmed to Neil Hamilton, later in the debate today, that that included what you called the heavy end of works at Port Talbot. Yet, it was reported a few days ago in 'The Guardian' that none of the bidders were guaranteeing a long-term future for Port Talbot and were seeking cash from Tata as well as from both Governments. Is it your view, then, that any bid that does not include a future for the blast furnaces should not survive the bidding process assessment being conducted by Tata at the moment? You also said in your statement that Tata's priority is to conduct a sale. It does worry me that they confirmed to you, and as you mentioned in the debate we held during recess, that Tata told you that they had a strong preference not to sell. They told the Secretary of State, Sajid Javid, almost back as far as Christmas, I think, that they were intending to sell and now, even this week, Tata's indicating that they may not want to sell Port Talbot after all. I do share the views of other Members in this Chamber regarding the disingenuousness of Tata, perhaps, if I can call it that. So, in your constructive and significant discussions, as you call them, and your indication that you stand ready to support any bidder, which of course could include Tata, bearing in mind that they've indicated they might want to hang on to part of the work here in Wales, what clarity and guarantees have you secured, or are likely to secure, in view of the fact that you're willing to commit £60 million or more of money that could be spent elsewhere by the Welsh Government, when you've been speaking to those bodies? Then, thirdly, if you have time to answer this, in targeting the job support, what specific conversations have you been having with the Swansea bay city region board about identifying the targeted nature of the offer that the taskforce engagement has been able to provide so far? Because, obviously, it's not just any job we'd be looking for for these steelworkers, but jobs that have a future as well.
Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog, yn enwedig eich sylwadau ynglŷn â chaffael. Yn eich datganiad fe sonioch am ymrwymiad i ddiwydiant dur cynaliadwy hirdymor ac fe gadarnhaoch i Neil Hamilton, yn ddiweddarach yn y ddadl heddiw, fod hynny'n cynnwys yr hyn a alwoch yn ben trwm y gwaith ym Mhort Talbot. Eto i gyd, ychydig ddiwrnodau yn ôl yn 'The Guardian' adroddwyd nad oedd unrhyw un o'r cynigwyr yn gwarantu dyfodol hirdymor ar gyfer Port Talbot a'u bod yn chwilio am arian parod gan Tata yn ogystal â gan y ddwy Lywodraeth. A ydych chi'n credu felly na ddylai unrhyw gais nad yw'n cynnwys dyfodol i'r ffwrneisi chwyth oroesi asesiad y broses geisiadau sy'n cael ei chynnal gan Tata ar hyn o bryd? Fe ddywedoch hefyd yn eich datganiad mai blaenoriaeth Tata yw cynnal gwerthiant. Mae'n fy mhoeni eu bod wedi cadarnhau wrthych, ac fel y sonioch yn y ddadl a gynhaliwyd gennym yn ystod y toriad, fod Tata wedi dweud wrthych y byddai'n llawer gwell ganddynt beidio â gwerthu. Dywedasant wrth yr Ysgrifennydd Gwladol, Sajid Javid, mor bell yn ôl â'r Nadolig, rwy'n meddwl, eu bod yn bwriadu gwerthu ac yn awr, hyd yn oed yr wythnos hon, mae Tata yn dynodi efallai nad ydynt am werthu Port Talbot wedi'r cyfan. Rwy'n rhannu barn Aelodau eraill yn y Siambr hon ynglŷn ag anniffuantrwydd Tata, efallai, os gallaf ei alw'n hynny. Felly, yn eich trafodaethau adeiladol ac arwyddocaol, fel rydych yn eu galw, a'ch awgrym eich bod yn barod i gefnogi unrhyw gynigydd, a allai gynnwys Tata wrth gwrs, gan gofio eu bod wedi nodi efallai y byddant am ddal gafael ar ran o'r gwaith yma yng Nghymru, pa eglurder a gwarantau rydych wedi'u sicrhau, neu'n debygol o sicrhau, o ystyried y ffaith eich bod yn barod i ymrwymo £60 miliwn neu fwy o arian y gallai Llywodraeth Cymru ei wario mewn mannau eraill, pan fuoch yn siarad â'r cyrff hynny? Yna'n drydydd, os oes gennych amser i ateb hyn, wrth dargedu cymorth swyddi, pa sgyrsiau penodol a gawsoch gyda bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe ynghylch nodi natur wedi'i thargedu y cynnig y mae'r ymgysylltiad â'r tasglu wedi gallu ei ddarparu hyd yn hyn? Oherwydd, yn amlwg, nid edrych am unrhyw swydd y byddem yn ei wneud ar gyfer y gweithwyr dur hyn, ond swyddi sydd â dyfodol iddynt hefyd.
In terms of the questions that have been asked, in terms of the heavy end, the two bidders that I have had contact with wish to preserve the heavy end. They have different approaches to it, and this is public - it's known that one of the bidders wants to look at the use of scrap in the future, rather than iron ore. The other bidder would keep the process as it is. But, nevertheless, the heavy end at Port Talbot would remain. It's a more difficult question, I think, if bidders are asked to guarantee that every single job will remain in place. I don't think that bidders can offer that assurance at this stage, but they can offer the assurance - the two that I have spoken to - that the heavy end will continue, and that's hugely important. Because once the heavy end goes, it will never be reinstated. Now, when market conditions continue to improve, it's possible then to employ more people, and that's important. So, the protection of the heavy end is there. We would not support, in any way, a bid that included the closure of steel making in Port Talbot because that's where the substantial chunk of the employment is, and then there will be a detrimental effect on the rest of the operations around Wales in terms of tinplate, Tata Steel Colors and specialists like Orb in Llanwern. Before Christmas, in a meeting that I had, it was made clear to me that a sale was not on the cards - that it was either carry on or close. After Christmas, the situation changed. Better that than closure, that much is true, but it's right to say that there was a change in thinking in Tata at that time. Now we find ourselves in a position where a sale is on the cards. Before Christmas, the indications were that the McKinsey report was being taken seriously and that a turnaround would be looked at seriously. It wasn't suggested before Christmas that closure was on the cards, if I can put it that way, but certainly a sale wasn't on the cards at any time before that time. We know that that's what's happening now. Of course, the package that we've put on the table has been intended primarily for new bidders. That was at a time when it wasn't believed that Tata would want to stay in any event. There's no doubt that there will be a need to give certain guarantees as far as any Government help is concerned, whether it's the UK Government or whether it's Welsh Government. We can't put money on the table to find that, in a year or two's time, that money has effectively disappeared because the assets are being reduced in terms of job numbers and in terms of production, and that applies to the UK Government as much as it applies to us. And we recognise that, in fairness, because that would need to be done. If a new bidder comes in who is an established steel maker, it's a reasonable assumption to make that they will want to continue with steel making in any event. If you have asset strippers come in, then obviously there's a very different thought process. It's never clear, of course, where you have an existing operator, what their intention in the future might be, and, yes, there will be a need, as far as the workforce is concerned and as far as the public purse is concerned, to obtain certain guarantees as to future investment and a plan for the future for the Welsh steel industry. In terms of job support, again, that is something that the city region will be looking at. The Member will know that we have an established process for dealing with situations like this, which involve a number of organisations that have come together to offer that support. It's absolutely crucial, of course, that the skills that are on offer are the skills that are required in the local economy and, of course, the city region board will have a very useful input in terms of being able to make that assessment as to what skills need to be provided in order for people to get the secure jobs that they need.
O ran y cwestiynau a ofynnwyd, o ran y pen trwm, mae'r ddau gynigydd y bûm mewn cysylltiad â hwy yn dymuno cadw'r pen trwm. Mae ganddynt ymagweddau gwahanol tuag ato, ac mae hyn yn gyhoeddus - mae'n hysbys fod un o'r cynigwyr am edrych ar y defnydd o sgrap yn y dyfodol, yn hytrach na mwyn haearn. Byddai'r cynigydd arall yn cadw'r broses fel y mae. Er hynny, byddai'r pen trwm ym Mhort Talbot yn parhau. Mae'n gwestiwn anoddach, rwy'n meddwl, os gofynnir i gynigwyr warantu y bydd pob swydd yn aros. Nid wyf yn credu y gall cynigwyr gynnig sicrwydd o'r fath ar hyn o bryd, ond gallant gynnig y sicrwydd - y ddau rwyf wedi siarad â hwy - y bydd y pen trwm yn parhau, ac mae hynny'n hynod o bwysig. Oherwydd os yw'r pen trwm yn mynd, ni fydd byth yn cael ei adfer. Nawr, pan fydd cyflwr y farchnad yn parhau i wella, mae'n bosibl cyflogi mwy o bobl wedyn, ac mae hynny'n bwysig. Felly, mae diogelwch yno i'r pen trwm. Ni fyddem yn cefnogi cynnig a fyddai, mewn unrhyw ffordd, yn cynnwys rhoi diwedd ar gynhyrchu dur ym Mhort Talbot oherwydd dyna ble mae rhan sylweddol o'r gwaith, ac yna bydd yn cael effaith niweidiol ar weddill y gweithfeydd o amgylch Cymru mewn perthynas â thunplat, Tata Steel Colors ac arbenigwyr fel Orb yn Llanwern. Cyn y Nadolig, mewn cyfarfod a gefais, fe'i gwnaed yn glir i mi nad oedd gwerthiant yn debygol - a'i fod yn fater o fwrw ymlaen neu gau. Ar ôl y Nadolig, newidiodd y sefyllfa. Gwell hynny na chau, mae hynny'n wir, ond mae'n iawn dweud y bu newid meddwl yn Tata ar yr adeg honno. Nawr rydym mewn sefyllfa lle mae gwerthiant yn debygol. Cyn y Nadolig, yr arwyddion oedd bod ystyriaeth ddifrifol yn cael ei rhoi i adroddiad McKinsey ac y byddid yn edrych o ddifrif ar newid cyfeiriad. Ni awgrymwyd cyn y Nadolig fod cau'n debygol, os gallaf ei roi felly, ond yn sicr nid oedd gwerthiant yn debygol ar unrhyw adeg cyn yr amser hwnnw. Rydym yn gwybod mai dyna sy'n digwydd nawr. Wrth gwrs, mae'r pecyn rydym wedi'i roi ar y bwrdd wedi'i fwriadu yn bennaf ar gyfer cynigwyr newydd. Roedd hynny ar adeg pan na chredid y byddai Tata am aros beth bynnag. Nid oes amheuaeth y bydd angen rhoi rhai gwarantau o ran unrhyw help gan y Llywodraeth, boed yn Llywodraeth y DU neu'n Llywodraeth Cymru. Ni allwn roi arian ar y bwrdd a gweld, mewn blwyddyn neu ddwy, fod arian wedi diflannu i bob pwrpas oherwydd bod yr asedau'n cael eu lleihau o ran nifer swyddi ac o ran cynhyrchu, ac mae hynny yr un mor berthnasol i Lywodraeth y DU ag i ninnau. Ac rydym yn cydnabod hynny, a bod yn deg, gan y byddai angen gwneud hynny. Os daw cynigydd newydd gerbron sy'n wneuthurwr dur sefydledig, byddai'n dybiaeth resymol y byddant am barhau i wneud dur beth bynnag. Os oes gennych dynnwyr asedau'n dod i mewn, yna yn amlwg bydd yna broses wahanol iawn o feddwl ar waith. Nid yw byth yn glir, wrth gwrs, lle mae gennych weithredwr presennol, beth fydd eu bwriad yn y dyfodol, ac fe fydd angen, ar ran y gweithlu ac ar ran y pwrs cyhoeddus, cael gwarantau penodol ynghylch buddsoddiad yn y dyfodol a chynllun i'r dyfodol ar gyfer diwydiant dur Cymru. O ran cymorth swyddi, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y bydd y dinas-ranbarth yn edrych arno. Bydd yr Aelod yn gwybod bod gennym broses sefydledig ar gyfer delio â sefyllfaoedd fel hyn, sy'n cynnwys nifer o sefydliadau'n dod at ei gilydd i gynnig y gefnogaeth honno. Mae'n hollol hanfodol, wrth gwrs, mai'r sgiliau sy'n cael eu cynnig yw'r sgiliau sydd eu hangen yn yr economi leol ac wrth gwrs, bydd mewnbwn defnyddiol iawn gan fwrdd y dinas-ranbarth o safbwynt gallu asesu pa sgiliau sydd angen eu darparu er mwyn i bobl gael y swyddi diogel sydd eu hangen arnynt.
Diolch, Lywydd. Thank you, First Minister, for your recognition of the position and situation of Newport in the overall steel picture in Wales. You will know from your recent visit to Llanwern what top-quality steel is produced in the Zodiac plant, for example, for the car industry in the UK and beyond. Recently, I also visited the Orb steelworks, where their electrical steels are world-class and exported across the globe. It's key that Orb very much value their partnership with Welsh Government. They told me about the relationship that had been built and the support that they have in terms of their production and processes and skills training, and that they are very keen to build on that and engage further. Recently, I met, along with Jayne Bryant as AM for Newport West and the two Newport MPs, Liberty Steel, and, similarly, they are very keen to engage and, as you would know, they have very ambitious plans not just on the steel front, but also in terms of renewable energy, tidal lagoon, and converting the coal-fired power station to biomass. So, they are very ambitious indeed, and all of these steel producers in Newport, First Minister, have said to me and the other political representatives how keen they are to build on the existing relationship with Welsh Government and ensure that, through support and partnership and investment, we make sure that steel in Newport not only has the great history that is widely recognised, but also a very strong future. So, I'd just like your further reassurance today that Welsh Government is very much of a similar mind and will work with all of us as local political representatives to ensure that we go forward in partnership with those steel firms.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am eich cydnabyddiaeth o safle a sefyllfa Casnewydd yn y darlun cyffredinol o'r diwydiant dur yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod o'ch ymweliad diweddar â Llanwern am y dur o'r safon uchaf sy'n cael ei gynhyrchu yn ffatri Zodiac, er enghraifft, ar gyfer y diwydiant ceir yn y DU a thu hwnt. Yn ddiweddar, ymwelais hefyd â gwaith dur Orb, lle mae eu duroedd trydanol o'r safon orau ac yn cael eu hallforio ar draws y byd. Mae'n allweddol fod Orb yn rhoi gwerth mawr ar eu partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Dywedasant wrthyf am y berthynas oedd wedi'i hadeiladu a'r gefnogaeth a gânt o ran eu cynhyrchiant a'u prosesau a hyfforddiant sgiliau, a'u bod yn awyddus iawn i adeiladu ar hynny ac ymgysylltu ymhellach. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Liberty Steel gyda Jayne Bryant fel AC dros Orllewin Casnewydd a dau AS Casnewydd, ac yn yr un modd, maent yn awyddus iawn i ymgysylltu ac fel y gwyddoch, mae ganddynt gynlluniau uchelgeisiol iawn, nid yn unig ar gyfer dur, ond hefyd ym maes ynni adnewyddadwy, môr-lynnoedd llanw, a throi gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo i ddefnyddio biomas. Felly, maent yn uchelgeisiol iawn yn wir, a dywedodd pob un o'r cynhyrchwyr dur hyn yng Nghasnewydd wrthyf, Brif Weinidog, ac wrth y cynrychiolwyr gwleidyddol eraill pa mor awyddus ydynt i adeiladu ar y berthynas sy'n bodoli gyda Llywodraeth Cymru a sicrhau, drwy gefnogaeth a phartneriaeth a buddsoddi, ein bod yn gwneud yn siŵr fod dur yng Nghasnewydd nid yn unig yn meddu ar yr hanes gwych sy'n cael ei gydnabod yn eang, ond fod ganddo ddyfodol cryf iawn hefyd. Felly, hoffwn eich sicrwydd pellach heddiw fod Llywodraeth Cymru o'r un farn ac y bydd yn gweithio gyda phob un ohonom fel cynrychiolwyr gwleidyddol lleol i sicrhau ein bod yn symud ymlaen mewn partneriaeth â'r cwmnïau dur hynny.
Absolutely, and I know the Member has been vocal in terms of advocating the steel industry in his particular city. Of course, we know that Newport has a substantial export market as well - some 30 per cent of the steel produced is exported and they are successful and profitable. It's hugely important that the future prosperity and sustainability of all the sites in Wales is addressed. But, again, they are all linked to Port Talbot and the steel that is made in Port Talbot that feeds the operations that they carry out. So, I can give the assurance to those workers in Shotton, in Trostre, in Newport and, of course, in Port Talbot that we see the steel industry as integrated within Wales, as profitable in Wales, as having a future in Wales, and, of course, we will continue to speak up for all of those workers.
Yn hollol, a gwn fod yr Aelod wedi bod hyrwyddo'r diwydiant dur yn huawdl yn ei ddinas. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod gan Gasnewydd farchnad allforio sylweddol hefyd - mae tua 30 y cant o'r dur a gynhyrchir yn cael ei allforio ac maent yn llwyddiannus ac yn broffidiol. Mae'n hynod o bwysig fod ffyniant a chynaliadwyedd yr holl safleoedd yng Nghymru yn y dyfodol yn cael sylw. Ond unwaith eto, maent i gyd yn gysylltiedig â Phort Talbot a'r dur sy'n cael ei wneud ym Mhort Talbot sy'n bwydo'r gwaith a gyflawnant. Felly, gallaf roi sicrwydd i'r gweithwyr yn Shotton, yn Nhrostre, yng Nghasnewydd ac wrth gwrs, ym Mhort Talbot ein bod yn gweld y diwydiant dur yn integredig yng Nghymru, yn broffidiol yng Nghymru, ac yn meddu ar ddyfodol yng Nghymru, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i siarad dros bawb o'r gweithwyr hynny.
The next item on the agenda is a statement by the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure on the European football championships, and I call on Ken Skates.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar y pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd, ac rwy'n galw ar Ken Skates.
Thank you, Presiding Officer. As Members will be aware, this week sees the start of the fifteenth UEFA European Championship in France and I am delighted that this year, Wales will be one of the nations taking part in the newly expanded 24-team tournament. On behalf of the Welsh Government and this Assembly, can I begin by congratulating the Welsh team on what has been a hugely successful qualification campaign and also wish them all the very best for the coming tournament? This is, of course, the first major championship finals that Wales has competed in since 1958. Many of us will recall quite vividly the painful series of disappointments that the team has experienced over the years and so it is with great pleasure, and indeed pride, that we have seen the team make this year's tournament. Under the direction of Chris Coleman, the squad has shown great resolve, determination and teamwork and it's only right to place on record our recognition of the leadership his coaching team and the FAW have shown over the last couple of years. The achievement of qualification is a fitting tribute to Gary Speed, who helped lay many foundations of the team's current success and who was respected and admired by so many people across Wales. The first Wales match against Slovakia will kick off at 6 p.m. UK time on Saturday 11 June in Bordeaux, with further group games being played against England in Lens at 2 p.m. on Thursday 16 June, and the final group game against Russia, beginning at 8 p.m. on Monday 20 June in Toulouse. The European championship is one of the world's highest profile sporting events. In total, in Euro 2012 there was an aggregated TV audience of 1.9 billion and the global profile Wales will achieve in the coming weeks is something the Welsh Government is keen to maximise. Alongside the other countries competing in Euro 2016, Wales will be represented at a European Village in Paris, organised by the city mayor's office. The Welsh Government has been working closely with them and with the British Embassy, but in light of the recent flooding in the city the opening of the village has sadly been delayed, due to its location on the banks of the river Seine. Our thoughts are with those in Paris who have worked hard to prepare the European Village on time. When the village does open, the Welsh Government-funded stand will showcase some of our country's diverse and exciting tourist destinations and adventure hotspots, celebrating our Year of Adventure and providing a distinctive presence for Wales in the centre of the French capital and alongside other nations. The Wales team media centre is located at the team's base in Brittany - an appropriate location given the long-standing relationship between Wales and Brittany. Adverts about Wales in several languages will be displayed during the tournament, and information about Wales will be provided to the estimated 300-plus international media who will be covering Wales's journey in the tournament. Visit Wales has also arranged for promotional videos to be shown on the screens at the special fanzones in Toulouse and Bordeaux, which are expected to attract fans from across Europe. Closer to home, iconic Welsh buildings, including Cadw castles, will be illuminated in red to support the team during group games. The demand for tickets alone is testimony to how much the whole country is intending to be part of the championships. Around 30,000 Welsh fans are expected to travel to France. The FAW have been clear that the fans have played a huge part in this success and they will, I am sure, add passion to the tournament. Wales play group games against Slovakia in Bordeaux and Russia in Toulouse - sizable cities with plenty to keep fans entertained. However, the Wales versus England match is being played in Lens, a significantly smaller town. Now, whilst I'm sure the inhabitants of Lens will be as welcoming to fans as anywhere else in France, outside of the stadium there are very few places available to watch the game. I fully endorse the messages given to the Welsh fans by the police that they should not travel to Lens if they do not have match tickets. We are all aware of the current security environment, both in the UK and in France. Fans need to leave plenty of time to travel to games as there will be enhanced security. They should report anything suspicious to the police. The strong advice is to take note of the Foreign and Commonwealth Office travel advice, which will be updated on its website throughout the tournament. The police have also advised that fans need to pre-book accommodation and look after their passports, and have emphasised that fans are acting as ambassadors for our country. I fully support this last point. I hope that Welsh fans will travel to France to enjoy themselves, to make friends and to leave a lasting positive impression of Wales with the people they meet. This is a fantastic time to be a Welsh football fan and an exciting time to be Cabinet Secretary with responsibility for major events. There is a real feeling that qualification is only the beginning for this talented group of players. I, for one, cannot wait to see the team run out onto the pitch in Bordeaux and represent Wales on the world stage. The team, the players and all of the fans have certainly embraced the 'Together Stronger' theme, and I know we all take great pride in the success of that team. The whole nation is behind them.
Diolch i chi, Lywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wythnos hon bydd pymthegfed Pencampwriaeth UEFA Ewrop yn dechrau yn Ffrainc ac rwyf wrth fy modd y bydd Cymru, eleni, yn un o'r gwledydd sy'n cymryd rhan yn y bencampwriaeth sydd newydd ei ymestyn i 24 tîm. Ar ran Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn, a gaf fi ddechrau drwy longyfarch tîm Cymru ar yr hyn a fu'n ymgyrch hynod lwyddiannus i ennill eu lle a dymuno pob lwc iddynt hefyd ar gyfer y bencampwriaeth sydd i ddod? Wrth gwrs, dyma gemau terfynol y bencampwriaeth fawr gyntaf i Gymru gystadlu ynddi ers 1958. Bydd llawer ohonom yn cofio'n eithaf clir y gyfres boenus o siomedigaethau y mae'r tîm wedi'u profi dros y blynyddoedd ac felly gyda phleser mawr, a balchder yn wir, fe welsom y tîm yn cyrraedd y bencampwriaeth eleni. O dan gyfarwyddyd Chris Coleman, mae'r garfan wedi dangos cadernid, penderfyniad a gwaith tîm gwych ac nid yw ond yn deg i ni gofnodi ein cydnabyddiaeth o'r arweinyddiaeth y mae ei dîm hyfforddi a'r FAW wedi'i dangos yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae llwyddo i fynd drwodd i'r rowndiau terfynol yn deyrnged addas i Gary Speed, a helpodd i osod llawer o sylfeini llwyddiant presennol y tîm ac a gâi ei barchu a'i edmygu gan gymaint o bobl ledled Cymru. Bydd gêm gyntaf Cymru yn erbyn Slofacia yn dechrau am 6 pm amser y DU ddydd Sadwrn 11 Mehefin yn Bordeaux, gyda gemau grŵp pellach yn cael eu chwarae yn erbyn Lloegr yn Lens am 2 pm ddydd Iau Mehefin 16, a'r gêm grŵp olaf yn erbyn Rwsia, yn dechrau am 8 pm ddydd Llun 20 Mehefin yn Toulouse. Y bencampwriaeth Ewropeaidd yw un o'r digwyddiadau chwaraeon sydd â'r proffil uchaf yn y byd. Yn Ewro 2012 cafwyd cynulleidfa deledu gyfunol o 1.9 biliwn i gyd a bydd y proffil byd-eang y bydd Cymru yn ei gael yn yr wythnosau nesaf yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i fanteisio i'r eithaf arno. Ochr yn ochr â'r gwledydd eraill sy'n cystadlu yn Ewro 2016, bydd Cymru'n cael ei chynrychioli mewn Pentref Ewropeaidd ym Mharis, a drefnwyd gan swyddfa maer y ddinas. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda hwy a chyda Llysgenhadaeth Prydain, ond yn sgil y llifogydd diweddar yn y ddinas gohiriwyd agoriad y pentref, yn anffodus, oherwydd ei lleoliad ar lan yr afon Seine. Mae ein meddyliau gyda'r rhai ym Mharis sydd wedi gweithio'n galed i baratoi'r Pentref Ewropeaidd mewn pryd. Pan fydd y pentref yn agor, bydd y stondin a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn arddangos rhai o gyrchfannau twristiaid amrywiol a chyffrous ein gwlad a mannau antur, i ddathlu ein Blwyddyn Antur ac i ddarparu presenoldeb arbennig i Gymru yng nghanol prifddinas Ffrainc ac ochr yn ochr â gwledydd eraill. Mae canolfan gyfryngau tîm Cymru wedi'i lleoli yng nghanolfan y tîm yn Llydaw - lleoliad addas o ystyried y berthynas hirsefydlog rhwng Cymru a Llydaw. Bydd hysbysebion am Gymru mewn nifer o ieithoedd yn cael eu harddangos yn ystod y bencampwriaeth, a bydd gwybodaeth am Gymru yn cael ei darparu i'r mwy na 300 amcangyfrifedig o gyfryngau rhyngwladol a fydd yn cofnodi taith Cymru yn y bencampwriaeth. Mae Croeso Cymru hefyd wedi trefnu i fideos hyrwyddo gael eu dangos ar y sgriniau yn y parthau cefnogwyr arbennig yn Toulouse a Bordeaux, y disgwylir iddynt ddenu cefnogwyr o bob cwr o Ewrop. Yn nes at adref, bydd adeiladau eiconig Cymru, gan gynnwys cestyll Cadw, wedi'u goleuo'n goch i gefnogi'r tîm yn ystod y gemau grŵp. Mae'r galw am docynnau ynddo'i hun yn brawf o faint y mae'r wlad gyfan yn bwriadu bod yn rhan o'r pencampwriaethau. Disgwylir i oddeutu 30,000 o gefnogwyr Cymru deithio i Ffrainc. Mae'r FAW wedi dweud yn glir fod y cefnogwyr wedi chwarae rhan enfawr yn y llwyddiant hwn a byddant, rwy'n sicr, yn cyfrannu eu hangerdd i'r bencampwriaeth. Mae Cymru yn chwarae gemau grŵp yn erbyn Slofacia yn Bordeaux a Rwsia yn Toulouse - dinasoedd go fawr gyda digon i ddiddanu'r cefnogwyr. Fodd bynnag, mae gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn cael ei chwarae yn Lens, tref gryn dipyn yn llai. Nawr, er fy mod yn siŵr y bydd trigolion Lens yr un mor groesawgar tuag at y cefnogwyr ag unrhyw le arall yn Ffrainc, y tu allan i'r stadiwm nid oes llawer o leoedd ar gael i wylio'r gêm. Rwy'n llwyr gefnogi'r negeseuon a roddwyd i gefnogwyr Cymru gan yr heddlu na ddylent deithio i Lens os nad oes ganddynt docynnau i'r gêm. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r amgylchedd diogelwch presennol, yn y DU ac yn Ffrainc. Mae angen i gefnogwyr adael digon o amser i deithio i gemau gan y bydd mesurau diogelwch ychwanegol. Dylent roi gwybod i'r heddlu am unrhyw beth amheus. Y cyngor cryf yw y dylid cymryd sylw o gyngor teithio'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad, a fydd yn cael ei ddiweddaru ar ei wefan drwy gydol y bencampwriaeth. Mae'r heddlu hefyd wedi cynghori bod angen i gefnogwyr archebu llety ymlaen llaw ac edrych ar ôl eu pasbortau, ac maent wedi pwysleisio bod y cefnogwyr yn gweithredu fel llysgenhadon ar ran ein gwlad. Rwy'n llwyr gefnogi'r pwynt olaf. Rwy'n gobeithio y bydd cefnogwyr Cymru yn teithio i Ffrainc i fwynhau eu hunain, i wneud ffrindiau ac i wneud argraff gadarnhaol barhaol o Gymru ar y bobl y maent yn eu cyfarfod. Mae hwn yn amser gwych i fod yn gefnogwr pêl-droed yng Nghymru ac yn amser cyffrous i fod yn Ysgrifennydd y Cabinet gyda chyfrifoldeb dros ddigwyddiadau mawr. Ceir teimlad gwirioneddol mai dim ond dechrau yw mynd drwodd i'r rowndiau terfynol i'r grŵp talentog hwn o chwaraewyr. Rwyf fi, yn bendant, yn methu ag aros i weld y tîm yn rhedeg allan ar y cae yn Bordeaux ac yn cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd. Mae'r tîm, y chwaraewyr a'r holl gefnogwyr yn sicr wedi cofleidio'r thema 'Gorau Chwarae Cyd Chwarae', a gwn ein bod i gyd yn ymfalchïo yn llwyddiant y tîm. Mae'r genedl gyfan y tu ôl iddynt.
Everybody in the Plaid group wishes the Wales football team and all supporters a successful, enjoyable and safe trip to France. Reaching the Euro finals is a dream come true for many of us, and the achievement of the players, the manager and the FAW has been enormous, and I just really hope they go to France, play football with a smile on their faces and do us all proud. I'm really glad that you mentioned also the enormous contribution of Gary Speed. Everybody here knows that sport is so important to Wales, so I'm a little confused by the Government's approach, really. On the one hand, we have a Minister for elite sport, and on the other hand we have a Minister for the grass roots. One question is: don't you realise that, to get to the elite level in sport, you need the grass roots? The splitting of the portfolio tells me that you're not really taking this too seriously. So, the first question, really, is: could you tell me what an elite sport is? Secondly, and moving on, just a mile down the road there's an all-weather pitch, which is locked and is empty, and nobody's playing on it, hardly. You've got the local kids in Grangetown locked out, in some cases with faces pressed against the fence, unable to play because Cardiff's Labour council wants them to pay between £34 and £39 an hour. In terms of elite sport, how is tomorrow's Gareth Bale going to become an elite footballer if he or she is unable to use pitches because they cost too much? [Interruption.] So, will you join me on a visit to Channel View to talk to the children and parents? Also, on a practical level of a Euro legacy project, will you commission an audit of all sports facilities all over Wales, with a view to developing schemes to get facilities used to enable the development of elite sport and to improve public health? Finalement, je dirais bonne chance à nos garçons en France et 'Allez les rouges'. Merci. Diolch yn fawr.
Mae pawb yng ngrŵp y Blaid yn dymuno taith lwyddiannus, bleserus a diogel i Ffrainc i dîm pêl-droed Cymru a'r holl gefnogwyr. Mae cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 yn gwireddu breuddwyd i lawer ohonom, ac mae cyflawniad y chwaraewyr, y rheolwr a'r FAW wedi bod yn enfawr, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn mynd i Ffrainc, yn chwarae pêl-droed gyda gwên ar eu hwynebau ac yn ein gwneud ni i gyd yn falch ohonynt. Rwy'n falch eich bod wedi sôn hefyd am gyfraniad enfawr Gary Speed. Mae pawb yma'n gwybod bod chwaraeon mor bwysig i Gymru, felly rwyf ychydig yn ddryslyd ynghylch ymagwedd y Llywodraeth, mewn gwirionedd. Ar y naill law, mae gennym Weinidog ar gyfer chwaraeon elitaidd, ac ar y llaw arall mae gennym Weinidog dros chwaraeon ar lawr gwlad. Un cwestiwn: er mwyn cyrraedd y lefel elitaidd mewn chwaraeon onid ydych yn sylweddoli eich bod angen chwaraeon ar lawr gwlad? Mae hollti'r portffolio yn dweud wrthyf nad ydych ormod o ddifrif ynglŷn â hyn. Felly, y cwestiwn cyntaf, mewn gwirionedd, yw: a allech ddweud wrthyf beth yw chwaraeon elitaidd? Yn ail, i symud ymlaen, filltir i lawr y ffordd mae yna gae pob tywydd, sydd wedi'i gloi ac yn wag, ac nid oes neb yn chwarae arno, bron byth. Mae'r plant lleol yn Grangetown wedi'u cloi allan, mewn rhai achosion gyda'u hwynebau'n gwasgu yn erbyn y ffens, yn methu â chwarae oherwydd bod cyngor Llafur Caerdydd eisiau iddynt dalu rhwng £34 a £39 yr awr. O ran chwaraeon elitaidd, sut y mae Gareth Bale yfory yn mynd i fod yn bêl-droediwr elitaidd os nad yw ef neu hi yn gallu defnyddio caeau chwarae am eu bod yn costio gormod? [Torri ar draws.] Felly, a wnewch chi ymuno â mi ar ymweliad â Channel View i siarad â'r plant a'r rhieni? Hefyd, ar lefel ymarferol prosiect etifeddiaeth Ewro 2016, a wnewch chi gomisiynu archwiliad o'r holl gyfleusterau chwaraeon ar hyd a lled Cymru, gyda golwg ar ddatblygu cynlluniau i gael cyfleusterau wedi'u defnyddio er mwyn hyrwyddo datblygiad chwaraeon elitaidd a gwella iechyd y cyhoedd? Finalement, je dirais bonne chance à nos garçons en France et 'Allez les rouges'. Merci. Thank you.
I thank the Member for his contribution and say, well, actually, for many of us, it's going to be the first time that we've ever seen the Welsh national squad campaign on the world stage, so it's going to be a life first for many of us that I'm sure we're very excited about. On the last point about carrying out an audit of facilities across Wales - I forgive the Member because he wasn't in this Chamber at that time - it was actually carried out towards the back end of the previous Assembly. So, that work has been carried out in conjunction with Sport Wales. With regard to pitch fees, this has been a contentious issue across Wales, particularly in the last 12 months, but as my colleague Lee Waters rightly mentioned, it's also been a problem in his part of Wales, in Carmarthenshire. Perhaps we could visit one of the pitches there as well. In terms of elite and grass-roots sport, the Member should now be aware that both are now in the hands of full budget-holding Ministers; that was not the case previously. So, actually, I would have thought he'd welcome the fact that we now have two people around the Cabinet table with an interest in promoting sport at a community level and sport at an elite level. Grass-roots sport has more than just leisure and elite sport to serve, it also has health and well-being to support and to serve. By placing it in the hands of the Cabinet Secretary for health, it's my belief that we can expand grass-roots sport to include all forms of physical activity that serve the health and the well-being of Wales.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad a dweud, i lawer ohonom, mai dyma'r tro cyntaf erioed mewn gwirionedd i ni weld ymgyrch sgwad genedlaethol Cymru ar lwyfan y byd, felly mae'n mynd i fod yn dro cyntaf mewn bywyd i lawer ohonom ac rwy'n siŵr ein bod yn gyffrous iawn am hynny. Ar y pwynt olaf ynglŷn â chynnal archwiliad o gyfleusterau ledled Cymru - rwy'n maddau i'r Aelod am nad oedd yn y Siambr hon ar yr adeg honno - cafodd ei gynnal mewn gwirionedd tuag at ddiwedd y Cynulliad blaenorol. Felly, mae'r gwaith hwnnw wedi'i wneud ar y cyd â Chwaraeon Cymru. O ran ffïoedd caeau chwarae, mae hwn wedi bod yn fater dadleuol ar draws Cymru, yn enwedig yn ystod y 12 mis diwethaf, ond fel y soniodd fy nghyd-Aelod Lee Waters yn gywir, mae hefyd wedi bod yn broblem yn ei ran ef o Gymru, yn Sir Gaerfyrddin. Efallai y gallem ymweld ag un o'r caeau chwarae yno hefyd. O ran chwaraeon elitaidd a chwaraeon ar lawr gwlad, dylai'r Aelod fod yn ymwybodol bellach fod y ddau yn nwylo Gweinidogion gyda chyllidebau llawn; nid oedd hynny'n wir o'r blaen. Felly, mewn gwirionedd, byddwn wedi meddwl y byddai'n croesawu'r ffaith fod gennym ddau o bobl wrth fwrdd y Cabinet bellach sydd â diddordeb mewn hyrwyddo chwaraeon ar lefel gymunedol a chwaraeon ar lefel elitaidd. Mae chwaraeon ar lawr gwlad yn ymwneud â mwy na hamdden a chwaraeon elitaidd yn unig, mae hefyd yn ymwneud â chefnogi iechyd a lles. Drwy ei roi yn nwylo Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, credaf y gallwn ehangu chwaraeon ar lawr gwlad i gynnwys pob math o weithgarwch corfforol sy'n hybu iechyd a lles yng Nghymru.
Firstly, I would like to welcome the Cabinet Secretary to his new role and thank him for the statement this afternoon on the forthcoming European football championships. For the first time since 1958 - that's long before I was born - people across Wales will have the opportunity to proudly watch our team in a major football championship, and I would like to join you in wishing Chris Coleman and the Welsh football team all the very best. I'm sure that the whole Chamber will agree that the Wales team will do us proud and that we hope that all UK home nations stay in Europe as long as possible. Will the Cabinet Secretary, therefore, confirm that fans in all parts of Wales will be able to enjoy the championships in fanzones across the country? During the Rugby World Cup almost 150,000 people visited fanzones at Cardiff Arms Park, but there has been some concern from supporters in all parts of Wales that fanzones will not be used to the same extent in Euro 2016. So, I'll be interested to know what steps the Welsh Government has taken to encourage local authorities, the FAW and other partner organisations to establish fanzones so that communities across Wales can get behind the Welsh team and share the experience together. It will, of course, be a huge boost to the players out in France to know that fans back home are behind them. Secondly, major sporting events create interest and demand for sporting activities at both junior and grass-roots levels. So, I would suggest a spike in interest should be used to increase the health of our nation. There's a golden opportunity to boost sporting participation so that we can inspire the next generation and improve public health in general. So, will the Cabinet Secretary, therefore, outline what steps the Welsh Government has taken to use Euro 2016 as a means of boosting the virtues of an active lifestyle and other health benefits of sporting activity? Thirdly, you referred to the potential for security threats at the championships. Can I fully endorse your advice for spectators to remain vigilant and take note of the FCO advice? However, I would be grateful if the Welsh Government could outline what discussions it has had with the UK Government and with the French Government following concerning statements from Scotland Yard and others in the French interior ministry that it's impossible to guarantee the safety of supporters who are travelling to France. And, finally, the success of Wales's football team, clearly, has the potential to bring economic benefits to Wales. You have provided some detail in your statement, but perhaps you could also comment on how this event has the potential to host future major sporting events to ensure that Wales's success in Euro 2016 will have a lasting legacy. On behalf of the Welsh Conservative group, Presiding Officer, I would like to join others in wishing the Welsh team every success.
Yn gyntaf, hoffwn groesawu'r Ysgrifennydd y Cabinet i'w rôl newydd a diolch iddo am y datganiad y prynhawn yma ar y pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd sydd ar y gorwel. Am y tro cyntaf ers 1958 - ymhell cyn i mi gael fy ngeni - bydd pobl ar draws Cymru yn cael cyfle i wylio ein tîm gyda balchder mewn pencampwriaeth bêl-droed fawr, a hoffwn ymuno â chi i ddymuno'r gorau i Chris Coleman a thîm pêl-droed Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y Siambr gyfan yn cytuno y byddwn yn ymfalchïo yn nhîm Cymru a'n bod yn gobeithio y bydd holl wledydd cartref y DU yn aros yn Ewrop mor hir â phosibl. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau felly y bydd cefnogwyr ym mhob rhan o Gymru yn gallu mwynhau'r bencampwriaeth mewn parthau cefnogwyr ar draws y wlad? Yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd ymwelodd bron 150,000 o bobl â pharthau cefnogwyr ym Mharc yr Arfau Caerdydd, ond cafwyd peth pryder ymhlith cefnogwyr ym mhob rhan o Gymru na fydd parthau cefnogwyr yn cael eu defnyddio i'r un graddau yn ystod Ewro 2016. Felly, hoffwn wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i annog awdurdodau lleol, FAW a sefydliadau partner eraill i sefydlu parthau cefnogwyr er mwyn i gymunedau ledled Cymru allu cefnogi tîm Cymru a rhannu'r profiad gyda'i gilydd. Wrth gwrs, bydd yn hwb enfawr i'r chwaraewyr allan yn Ffrainc i wybod bod cefnogwyr yn ôl adref y tu ôl iddynt. Yn ail, mae digwyddiadau chwaraeon mawr yn creu diddordeb a galw am weithgareddau chwaraeon ar lefel iau ac ar lawr gwlad. Felly, byddwn yn awgrymu y dylid defnyddio cynnydd sydyn yn y diddordeb i wella iechyd ein cenedl. Mae yna gyfle euraidd i hybu cyfranogiad mewn chwaraeon fel y gallwn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf a gwella iechyd y cyhoedd yn gyffredinol. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i ddefnyddio Ewro 2016 fel modd o hybu rhinweddau ffordd egnïol o fyw a manteision eraill gweithgareddau chwaraeon i iechyd? Yn drydydd, fe gyfeirioch at y posibilrwydd o fygythiadau i ddiogelwch yn y pencampwriaethau. A gaf fi gefnogi'n llawn eich cyngor i wylwyr fod yn wyliadwrus a chymryd sylw o gyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad? Fodd bynnag, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru amlinellu pa drafodaethau a gafodd gyda Llywodraeth y DU a chyda Llywodraeth Ffrainc yn dilyn datganiadau gan Scotland Yard ac eraill yng ngweinyddiaeth fewnol Ffrainc ei bod yn amhosibl gwarantu diogelwch cefnogwyr sy'n teithio i Ffrainc. Ac yn olaf, mae gan lwyddiant tîm pêl-droed Cymru, yn amlwg, botensial i ddod â manteision economaidd i Gymru. Rydych wedi darparu rhai manylion yn eich datganiad, ond efallai y gallech hefyd roi sylwadau ar sut y mae gan y digwyddiad hwn botensial i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn y dyfodol i sicrhau y bydd llwyddiant Cymru yn Ewro 2016 yn creu etifeddiaeth barhaus. Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Lywydd, hoffwn ymuno ag eraill i ddymuno pob llwyddiant i dîm Cymru.
Can I thank Russell George for his valuable contribution and for his kind words and I look forward to working with him in the fifth Assembly as well? If I could just pick up on that final point about promoting Wales moving forward, this, of course, is only the beginning of what I see as a golden period for Welsh football and for Wales promoting the game on a global stage, because, of course, next year Cardiff is the host city of the Champions League final - the single biggest day's sporting event in the calendar. It will be a monumental occasion and this is a perfect opportunity to segue into another grand football occasion. In terms of fanzones, I'm delighted that Cardiff and Swansea are organising fanzones for the tournament. I am aware that many Members have contacted their own local authorities to urge them to do likewise, including my colleague from Wrexham, who's been in touch with Wrexham County Borough Council. I'm not aware of other local authorities having agreed to fanzones. But certainly my officials have been in touch with local authorities and with the WLGA to discuss where and what forms of public gatherings could be organised. I think it's worth saying at this point, though, that the tournament also offers a great opportunity to pubs and restaurants to capitalise on the events, and, indeed, to breweries. So, where those fanzones are being held I would urge the organisers, where and when possible, to make sure that local suppliers and services from within Wales take advantage of those opportunities. In terms of our promotion, I'd like to inform Members that it's my intention, I will say 'if and when' we qualify for the knockout stages, to open up all Cadw sites on that first Sunday after qualification for free entry for everybody, as what you might call a 'celebration Sunday' during the tournament. I think it just marks the importance of the tournament for Wales, and gives people of all ages an opportunity to experience some of our fantastic heritage, which is what so many people come to Wales to experience. In terms of the legacy of the tournament and what we do to support particularly the development of the game at a grass-roots level, we invest something in the region of £1 million a year in grass-roots football through the Welsh Football Trust, and I'd like to put on record my thanks to them for doing a sterling job, not just in promoting the game but in engaging many young people who might otherwise disengage from education. And, in doing so, they keep them in education and make sure that they get a good schooling. Now, going forward, the Welsh Football Trust plan to use qualification for Euro 2016 as a catalyst to move closer to their vision of football being more than a game, and there will be four delivery strands that will see football become stronger and more sustainable in Wales, and football enabling the transformation of communities to take place. Those four strands involve boosting grass-roots clubs, and so there is an ambition, for example, to create 100 community football recruitment days across Wales over the course of the summer. Thirty dates have been established so far, but this will significantly help grass-roots clubs. The second strand is boosting recreational participation within the community. And so, in this regard, the Football Association of Wales have launched Cwpan y Bobl, which is a national recreational five-a-side competition with five participatory groups, including a male and female seniors group, junior group, a walking football group, and also disability participation, to make sure that this truly is inclusive. The third strand is recreational participation within the school environment, and, again, the Welsh Football Trust, and Lidl as well, are doing sterling work in this regard. And then the fourth is to use football as a tool to inspire and assist education, and you may be aware that there has been the launch of the Euro 2016 primary school education programme, which is available to primary schools from the WJEC on the Hwb.
Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gyfraniad gwerthfawr ac am ei eiriau caredig, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef yn y pumed Cynulliad hefyd. Os caf grybwyll y pwynt olaf ynglŷn â hyrwyddo Cymru yn y dyfodol, dim ond dechrau yw hyn, wrth gwrs, ar yr hyn rwy'n ei weld fel cyfnod euraidd i bêl-droed Cymru ac i Gymru yn hyrwyddo'r gêm ar lwyfan byd-eang, oherwydd y flwyddyn nesaf, wrth gwrs, yng Nghaerdydd y cynhelir rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr - y diwrnod mwyaf yn y calendr chwaraeon. Bydd yn achlysur enfawr ac mae hwn yn gyfle perffaith i fynd ymlaen i sôn am achlysur pêl-droed mawreddog arall. O ran parthau cefnogwyr, rwyf wrth fy modd fod Caerdydd ac Abertawe yn trefnu parthau cefnogwyr ar gyfer y bencampwriaeth. Rwy'n ymwybodol fod llawer o'r Aelodau wedi cysylltu â'u hawdurdodau lleol eu hunain i bwyso arnynt i wneud yr un peth, gan gynnwys fy nghyd-Aelod o Wrecsam, sydd wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nid wyf yn ymwybodol fod awdurdodau lleol eraill wedi cytuno i greu parthau cefnogwyr. Ond yn sicr mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol a chyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn trafod ble a pha fathau o gynulliadau cyhoeddus y gellid eu trefnu. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud ar y pwynt hwn, fodd bynnag, fod y bencampwriaeth hefyd yn cynnig cyfle gwych i dafarndai a thai bwyta i fanteisio ar y digwyddiadau, a bragdai yn wir. Felly, lle cynhelir parthau cefnogwyr o'r fath, byddwn yn annog trefnwyr, pan a phryd y bo modd, i sicrhau bod cyflenwyr a gwasanaethau lleol o Gymru yn manteisio ar y cyfleoedd hynny. O ran ein hyrwyddiad, hoffwn roi gwybod i'r Aelodau mai fy mwriad - dywedaf 'os a phan' fyddwn yn mynd drwodd i'r camau bwrw allan - yw agor yr holl safleoedd Cadw ar y Sul cyntaf ar ôl mynd drwodd i roi mynediad am ddim i bawb, fel yr hyn y gallech ei alw'n 'ddydd Sul y dathlu' yn ystod y bencampwriaeth. Rwy'n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd y bencampwriaeth i Gymru, ac yn rhoi cyfle i bobl o bob oed brofi peth o'n treftadaeth wych, sef yr hyn y mae cymaint o bobl yn dod i Gymru i'w brofi. O ran etifeddiaeth y bencampwriaeth a beth rydym yn ei wneud i gefnogi datblygiad y gêm ar lefel llawr gwlad yn arbennig, rydym yn buddsoddi rhywbeth tebyg i £1 filiwn y flwyddyn mewn pêl-droed ar lawr gwlad drwy Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, a hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am wneud gwaith gwych, nid yn unig o ran hyrwyddo'r gêm, ond yn ymgysylltu â llawer o bobl ifanc a allai ymddieithrio o addysg fel arall. A thrwy wneud hynny, maent yn eu cadw mewn addysg ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael addysg dda. Nawr, gan edrych tua'r dyfodol, mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru yn bwriadu defnyddio'r ffaith fod y tîm wedi mynd drwodd i rowndiau terfynol Ewro 2016 fel catalydd i symud yn nes at eu gweledigaeth o bêl-droed fel rhywbeth sy'n fwy na gêm, a bydd pedwar llwybr cyflawni yn arwain at wneud pêl-droed yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy yng Nghymru, a phêl-droed yn galluogi cymunedau i weddnewid. Mae'r pedwar llwybr yn cynnwys hybu clybiau ar lawr gwlad, ac felly ceir uchelgais, er enghraifft, i greu 100 o ddyddiau recriwtio pêl-droed cymunedol ar draws Cymru yn ystod yr haf. Mae tri deg o ddyddiadau wedi'u pennu hyd yn hyn, ond bydd hyn yn help sylweddol i glybiau ar lawr gwlad. Yr ail elfen yw hybu cyfranogiad mewn gweithgareddau hamdden o fewn y gymuned. Ac felly, yn hyn o beth, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio Cwpan y Bobl, sef cystadleuaeth hamdden genedlaethol bump bob ochr gyda phum grŵp cyfranogol, gan gynnwys grŵp i ddynion a menywod hŷn, grŵp iau, grŵp pêl-droed cerdded, a chyfranogiad pobl anabl hefyd, i wneud yn siŵr ei fod yn wirioneddol gynhwysol. Y drydedd elfen yw cyfranogiad hamdden o fewn amgylchedd yr ysgol, ac unwaith eto, mae Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, a Lidl hefyd, yn gwneud gwaith rhagorol yn y cyswllt hwn. A'r pedwerydd yw defnyddio pêl-droed fel arf i ysbrydoli a chynorthwyo addysg, ac efallai eich bod yn ymwybodol o lansiad rhaglen addysg ysgolion cynradd Ewro 2016, sydd ar gael i ysgolion cynradd gan CBAC ar Hwb.
It's a significant achievement for the Welsh squad to qualify for major finals for the first time in 58 years, so I'd like to add the congratulations of the Welsh UKIP group to those of everybody else for that achievement in getting there to Chris Coleman and his team and the squad. It's good that there is thought being given to grass-roots sport in the future with the investment into the Welsh Football Trust, and I hope that will continue. Perhaps for the duration of the tournament it might be an idea - perhaps the Minister can tell me if this can be achieved - if all public buildings in Wales could fly the Welsh flag for as long as Wales are actually participating in the tournament. It could be possibly more striking if we removed the EU flags in the meantime because then it would be more distinctive, and, who knows, by the time the tournament's over, we may never need to put them back up again. [Laughter.]
Mae'n gyflawniad sylweddol i sgwad Cymru fynd drwodd i rowndiau terfynol pencampwriaeth fawr am y tro cyntaf mewn 58 mlynedd, felly hoffwn ychwanegu llongyfarchiadau grŵp UKIP Cymru at rai pawb arall am lwyddo i gyrraedd yno i Chris Coleman a'i dîm a'r garfan. Mae'n dda gweld ystyriaeth yn cael ei rhoi i chwaraeon ar lawr gwlad yn y dyfodol gyda'r buddsoddiad yn Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n parhau. Drwy gydol y bencampwriaeth efallai y byddai'n syniad - efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthyf a ellir cyflawni hyn - pe bai modd i bob adeilad cyhoeddus yng Nghymru chwifio baner Cymru cyhyd ag y bydd Cymru'n rhan o'r bencampwriaeth mewn gwirionedd. Mae'n bosibl y gallai fod yn fwy trawiadol pe baem yn cael gwared ar faneri'r UE yn y cyfamser oherwydd wedyn byddai'n fwy amlwg, a phwy a ŵyr, erbyn i'r bencampwriaeth ddod i ben, efallai na fydd angen i ni eu codi byth eto. [Chwerthin.]
I rather fear that, if they did remove the European flag in some places, they could be discarded and then considered litter in the streets, and then we might have politicians accusing immigrants of doing it. [Laughter.] I'd welcome the Member's warm embrace of the national spirit that we feel the length and breadth of Wales, and, other than to say I would encourage all public buildings to have the Welsh flag hoisted above them, I would just like to point out as well, with regard to Russell George's comments about safety, that we are in regular contact with the Foreign and Commonwealth Office regarding the threat of terrorism, and the need to maintain the best behaviour of fans at matches. I would encourage all fans to check regularly with the Foreign and Commonwealth Office website. There is a headline section called 'Be on the Ball' on the website, and I'd encourage all fans travelling to France to take close notice of that.
Pe baent yn tynnu'r faner Ewropeaidd mewn rhai mannau, mae arnaf ofn y gallent gael eu taflu a'u hystyried yn sbwriel yn y strydoedd, ac yna efallai y bydd gennym wleidyddion yn cyhuddo mewnfudwyr o'i wneud. [Chwerthin.] Byddwn yn croesawu'r modd y mae'r Aelod wedi cofleidio'r ysbryd cenedlaethol rydym yn ei deimlo ar hyd a lled Cymru, ac ar wahân i ddweud y byddwn yn annog pob adeilad cyhoeddus i godi baner Cymru uwch eu pennau, hoffwn nodi yn ogystal, mewn perthynas â sylwadau Russell George ynglŷn â diogelwch, ein bod mewn cysylltiad rheolaidd â'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad ynghylch bygythiad terfysgaeth, a'r angen i gefnogwyr ymddwyn ar eu gorau mewn gemau. Byddwn yn annog yr holl gefnogwyr i edrych yn rheolaidd ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Mae yna adran o'r enw 'Be on the Ball' ar y wefan, a byddwn yn annog yr holl gefnogwyr sy'n teithio i Ffrainc i gadw llygad manwl arni.
I had begun to fear that Wales would never again qualify for a major championship in my lifetime. I was one when they qualified in 1958; most Members in this Chamber probably weren't born. But it's a tremendous achievement for Wales to get to a major tournament, and I'm very, very pleased that they have done so. I think that we need to look at it not just as being good for morale and good for self-confidence in Wales, which it definitely is, but for the effect it's going to have on promoting Wales. In many parts of the world Swansea is incredibly well known because of the success of its football team. I mean, how much would it actually have cost to get the same level of publicity Wales is going to get on television and in printed newspapers over the next few weeks, and, hopefully, over the whole tournament? I remember Greece winning it, I remember Denmark winning it, so we're not asking for the impossible. How much would it actually cost to get that level of publicity for Wales that we're going to get now? But can I add a plea, and I think it's very similar to what Neil McEvoy was saying? I think that we need to get more 3G and 4G pitches in Wales because we need to strengthen football at a grass-roots level, and we need to get more young people playing it and the opportunity for them to do it. I'm looking forward to the women's football team also qualifying and I'm hugely disappointed they lost 2-0 last night to Norwich - Norway, sorry - which means that they cannot now qualify. I'm disappointed by that, but I think that, with the progress women's football has made in Wales, the progress that men's football has made in Wales, we're certainly punching well above our weight and I would hope that we can get more 3G and 4G pitches out there, to get more people playing more of the time. Because you may not have noticed, but in winter in Wales it gets awfully wet and some of the grass pitches become unplayable for a long period of time.
Roeddwn wedi dechrau ofni na fyddai Cymru byth eto yn ennill ei lle mewn pencampwriaeth fawr yn ystod fy oes. Blwydd oed oeddwn i pan aethant drwodd i'r rowndiau terfynol ym 1958; mae'n debyg na fyddai'r rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon wedi'u geni. Ond mae'n gamp aruthrol i Gymru gyrraedd pencampwriaeth fawr, ac rwy'n falch dros ben eu bod wedi gwneud hynny. Credaf fod angen i ni edrych arno, nid yn unig fel rhywbeth sy'n dda i forâl ac yn dda i hunanhyder yng Nghymru, ac mae hynny'n wir, ond am yr effaith y mae'n mynd i'w chael ar hyrwyddo Cymru. Mewn sawl rhan o'r byd mae Abertawe yn hynod o adnabyddus oherwydd llwyddiant eu tîm pêl-droed. Hynny yw, faint fyddai wedi'i gostio mewn gwirionedd i gael yr un lefel o gyhoeddusrwydd â'r hyn y mae Cymru yn mynd i gael ar y teledu ac mewn papurau newydd print dros yr wythnosau nesaf, a thros y bencampwriaeth gyfan gobeithio? Rwy'n cofio Gwlad Groeg yn ei hennill, rwy'n cofio Denmarc yn ei hennill, felly nid ydym yn gofyn am yr amhosibl. Faint fyddai'n ei gostio mewn gwirionedd i gael y lefel honno o gyhoeddusrwydd i Gymru ag a gawn yn awr? Ond a gaf fi ychwanegu ple, ac rwy'n credu ei bod yn debyg iawn i'r hyn roedd Neil McEvoy yn ei ddweud? Credaf fod angen i ni gael mwy o gaeau chwarae 3G a 4G yng Nghymru oherwydd mae angen i ni gryfhau pêl-droed ar lawr gwlad, ac mae angen cael mwy o bobl ifanc yn ei chwarae a'r cyfle iddynt wneud hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weld tîm pêl-droed y menywod hefyd yn mynd drwodd ac rwy'n siomedig iawn eu bod wedi colli 2-0 neithiwr i Norwich - Norwy, mae'n ddrwg gennyf - sy'n golygu na allant fynd drwodd yn awr. Rwy'n siomedig am hynny, ond credaf, gyda'r cynnydd y mae pêl-droed menywod wedi'i wneud yng Nghymru, y cynnydd y mae pêl-droed dynion wedi'i wneud yng Nghymru, rydym yn sicr yn cyflawni'n well na'r disgwyl a byddwn yn gobeithio y gallwn gael rhagor o gaeau chwarae 3G a 4G allan yno, er mwyn cael mwy o bobl i chwarae am fwy o'r amser. Oherwydd efallai nad ydych wedi sylwi, ond yn y gaeaf yng Nghymru mae'n mynd yn ofnadwy o wlyb ac nid oes modd chwarae ar rai o'r caeau glaswellt am gyfnod hir o amser.
Can I thank Mike Hedges for his contribution? I hadn't realised that he was only one year old in 1958; I now know his age. The advertising equivalent would amount to many, many millions of pounds for the tournament. In fact, when we launched the Year of Adventure at the start of this year, we calculated that, in the first 72 hours, the advertising equivalent, simply by promoting Wales in 2016 as Year of Adventure, had amounted to more than £800,000 globally, with the press attention that it was given. So, I think it would probably be unaffordable to pay for the sort of promotion that Wales is going to enjoy during the course of the tournament. The Member also will be aware of the collaboration that is taking place between the Welsh Rugby Union, Hockey Wales and the Football Association of Wales in the creation of 100 new 3G pitches across Wales - [Interruption.] - in key sites, including, the Member is right, in Deeside. This links in with a point that was raised by Neil McEvoy about the need for a strategic approach to ensure that people have access to modern facilities as close to their communities as possible. In terms of promoting Wales, in addition to the incredible value that this will bring us in terms of the advertising equivalent for Wales as a tourist destination, I'm pleased that we're able to take to France as well some experiences that are compelling and unique. So, for example, in the European Village that is being staged in Paris, within the Welsh zone, there will be a virtual reality experience that will enable visitors to Paris to zip across the industrial and natural environment of north Wales.
A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gyfraniad? Nid oeddwn wedi sylweddoli nad oedd ond yn flwydd oed yn 1958; rwy'n gwybod ei oedran yn awr. Byddai'r cyfwerth hysbysebu yn llawer iawn o filiynau o bunnoedd ar gyfer y bencampwriaeth. Yn wir, pan lansiwyd y Flwyddyn Antur gennym ar ddechrau'r flwyddyn hon, fe gyfrifasom, yn y 72 awr gyntaf, fod y cyfwerth hysbysebu drwy hyrwyddo Cymru yn 2016 fel Blwyddyn Antur yn unig, wedi dod i gyfanswm o fwy na £800,000 yn fyd-eang, gyda'r sylw a gafodd yn y wasg. Felly, rwy'n meddwl ei bod yn debygol y byddai talu am hyrwyddo o'r math y mae Cymru yn mynd i'w fwynhau yn ystod y bencampwriaeth yn anfforddiadwy. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol o'r cydweithio sy'n digwydd rhwng Undeb Rygbi Cymru, Hoci Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn y gwaith o greu 100 o gaeau chwarae 3G newydd ledled Cymru - [Torri ar draws.] - mewn safleoedd allweddol, gan gynnwys, mae'r Aelod yn iawn, yng Nglannau Dyfrdwy. Mae hyn yn cysylltu â phwynt a grybwyllwyd gan Neil McEvoy am yr angen am ymagwedd strategol i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud defnydd o gyfleusterau modern mor agos at eu cymunedau ag y bo modd. O ran hyrwyddo Cymru, yn ychwanegol at y gwerth anhygoel y bydd hyn yn ei greu i ni o ran y cyfwerth hysbysebu i Gymru fel cyrchfan i dwristiaid, rwy'n falch ein bod yn gallu mynd â rhai profiadau sy'n rymus ac yn unigryw i Ffrainc hefyd. Felly, er enghraifft, yn y Pentref Ewropeaidd sy'n cael ei lwyfannu ym Mharis, yn y parth Cymreig, bydd yna brofiad rhithwir i alluogi ymwelwyr â Pharis i wibio ar draws amgylchedd diwydiannol a naturiol gogledd Cymru.
Can I thank the Cabinet Secretary for a very good and comprehensive statement? I have to confess at the outset that I'm a failed hooker. I'm a follower of the squashed form of football and fail to understand fully the rules still, but I will be watching and I will be cheering our team on. There are two outcomes that I'm looking for from our remarkable achievement of getting through to the Euro championships. One is that this now - far beyond rugby, far beyond any other sport - is the world stage of the biggest sport, the massive reach that it has - . I hope, both in terms of the immediate impact on restaurants and cafes and bars and others, but also the longer-term impact of promoting inward tourism into Wales, this great place that we have, this adventure tourism paradise that we have in Wales, but also sporting paradise as well - that's one of the outcomes, and the Cabinet Secretary has shown some of the great initiatives that are already under way on that. The second is for those teams - and there are far more, I have to say, football teams than rugby teams in my own patch - in Gilfach Goch and Ogmore Vale, Llangeinor, Maesteg, Caerau, all of those teams are going to benefit, I'm sure, from that grass-roots participation - and their health and well-being - through seeing this on television. And I have to say as well, the Welsh junior girls squad and team who've had such a successful year. They train in Bridgend College, at the Pencoed campus in my constituency as well. But I would just give this note of hope as well to those football aficionados here and ask the Minister if he'd agree with me that there can be moments where Davids beat Goliaths. Nantyffyllon youth rugby football team - all my three boys have played for that team - they just won the all-Wales league cup - their own league - and also the Welsh cup, beating on the way there, with apologies to colleagues, Caerphilly, Pontypridd, Bridgend and many others as well. David can beat Goliath. Let's not give up on hope. This is our Euro championship. [Laughter.]
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ddatganiad da a chynhwysfawr iawn? Mae'n rhaid i mi gyfaddef ar y dechrau mai bachwr aflwyddiannus wyf fi. Rwy'n un o ddilynwyr y ffurf wasgedig ar bêl-droed ac yn methu â deall y rheolau'n iawn o hyd, ond byddaf yn gwylio a byddaf yn cefnogi ein tîm. Mae yna ddau ganlyniad rwy'n chwilio amdanynt o'n camp hynod yn mynd drwodd i'r bencampwriaeth Ewropeaidd. Un yw mai hyn bellach - ymhell y tu hwnt i rygbi, ymhell y tu hwnt i unrhyw gamp arall - yw llwyfan y byd ar gyfer y gamp fwyaf, y cyrhaeddiad enfawr sydd ganddi - . Rwy'n gobeithio, o ran yr effaith uniongyrchol ar fwytai a chaffis a bariau a mannau eraill, ond hefyd o ran effaith fwy hirdymor hyrwyddo twristiaeth i Gymru, y lle gwych hwn sydd gennym, y baradwys antur hon i dwristiaid sydd gennym yng Nghymru, ond hefyd paradwys chwaraeon yn ogystal - dyna un o'r canlyniadau, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dangos rhai o'r mentrau gwych sydd eisoes ar y gweill ar hynny. Yr ail yw i'r timau hynny - ac mae llawer mwy o dimau pêl-droed na thimau rygbi yn fy nghwr i o'r byd, mae'n rhaid i mi ddweud - yn y Gilfach Goch a Chwm Ogwr, Llangeinwyr, Maesteg, Caerau, mae pob un o'r timau hynny'n mynd i elwa, rwy'n siŵr, o'r cyfranogiad llawr gwlad hwnnw - a'u hiechyd a'u lles - drwy weld hyn ar y teledu. Ac mae'n rhaid i mi ddweud hefyd, carfan a thîm merched iau Cymru sydd wedi cael blwyddyn mor llwyddiannus hefyd. Maent yn hyfforddi yng Ngholeg Pen-y-bont, ar gampws Pencoed yn fy etholaeth. Ond hoffwn roi'r nodyn hwn o obaith hefyd i'r aficionados pêl-droed yma a gofyn i'r Gweinidog a fyddai'n cytuno â mi y gall fod adegau pan fydd ambell Ddafydd yn curo ambell Oliath. Mae tîm rygbi ieuenctid Nantyffyllon - mae fy nhri mab wedi chwarae i'r tîm hwnnw - maent newydd ennill cwpan cynghrair Cymru - eu cynghrair eu hunain - a hefyd cwpan Cymru, gan guro ar y ffordd yno, gydag ymddiheuriadau i gyd-Aelodau, Caerffili, Pontypridd, Pen-y-bont a sawl tîm arall hefyd. Fe all Dafydd guro Goliath. Na adewch i ni roi'r gorau i obeithio. Dyma ein pencampwriaeth Ewrop ni. [Chwerthin.]
Well, the Member is absolutely right. This is a tournament where Davids can be incredibly successful. We've seen some great surprises in recent tournaments with nations such as Denmark and Greece having won it. Actually, if we look at the rankings of Wales and the other teams that are in the group, we see that Wales is ranked at the moment globally twenty-sixth, Slovakia twenty-fourth, England eleventh - we were ahead of England not long ago - and Russia is ranked twenty-ninth. It's one of the most compacted groups and it will be very difficult to predict the outcome of many of the matches. So, I firmly believe that, if Wales is David in this tournament, David will be most successful. In terms of tourism, we're breaking records in Wales right now, and I'm very pleased that Euro 2016 and, in 2017, the Champions League final, will assist in promoting Wales in 2017 as the Year of Legends, which I think again will capitalise on our uniqueness as a place of great culture and great heritage. So, I'm very excited about that as well. In terms of grass roots and the role of the Welsh Football Trust in promoting - . And I think you're absolutely right to identify the girls' game. There are now 3,500 registered players who are under 18 in Wales. There are currently 1,465 adult female players, so we can see that there's been a huge growth. But the Welsh Football Trust have great ambition in this regard. They aim to grow the game. They currently have been awarded gold standard association status under UEFA's grass-roots charter in recognition of the scale and standard of the programmes delivered. And it's interesting for Members to note that Wales is the first nation to provide education online attracting world-class coaches to our courses, including Thierry Henry.
Wel, mae'r Aelod yn gwbl iawn. Dyma bencampwriaeth lle gall ambell Ddafydd fod yn hynod o lwyddiannus. Rydym wedi gweld rhai rhyfeddodau mawr mewn pencampwriaethau diweddar gyda chenhedloedd fel Denmarc a Gwlad Groeg yn eu hennill. Mewn gwirionedd, os edrychwn ar safle Cymru a'r timau eraill yn y grŵp, gwelwn fod Cymru ar hyn o bryd yn safle 26 drwy'r byd, a Slofacia yn safle 24, Lloegr yn safle 11 - roeddem ar y blaen i Loegr heb fod yn hir yn ôl - a Rwsia yn safle 29. Mae'n un o'r grwpiau mwyaf cywasgedig a bydd yn anodd iawn rhagweld canlyniad llawer o'r gemau. Felly, rwy'n credu'n gryf os mai Cymru yw Dafydd yn y bencampwriaeth hon, Dafydd fydd fwyaf llwyddiannus. O ran twristiaeth, rydym yn gwneud yn well nag erioed yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rwy'n falch iawn fod Ewro 2016, ac yn 2017, rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, yn gymorth i hyrwyddo Cymru 2017 fel Blwyddyn y Chwedlau, a fydd unwaith eto yn fy marn i yn elwa i'r eithaf ar ein natur unigryw fel lle sy'n meddu ar ddiwylliant a threftadaeth wych. Felly, rwy'n gyffrous iawn am hynny hefyd. O ran llawr gwlad a rôl Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru yn hyrwyddo - . Ac rwy'n meddwl eich bod yn hollol gywir i nodi gêm y merched. Erbyn hyn mae 3,500 o chwaraewyr cofrestredig o dan 18 oed yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae 1,465 o chwaraewyr benywaidd sy'n oedolion, felly gallwn weld bod twf aruthrol wedi digwydd. Ond mae gan Ymddiriedolaeth Bêl-Droed Cymru uchelgais mawr yn hyn o beth. Eu nod yw tyfu'r gêm. Maent ar hyn o bryd wedi ennill statws safon aur y gymdeithas o dan siarter llawr gwlad UEFA i gydnabod maint a safon y rhaglenni a gyflwynwyd. Ac mae'n ddiddorol i'r Aelodau nodi mai Cymru yw'r genedl gyntaf i ddarparu addysg ar-lein sy'n denu hyfforddwyr o'r radd flaenaf i'n cyrsiau, gan gynnwys Thierry Henry.
Thank you to the Cabinet Secretary. I suspect it's unanimous that we are behind Wales as our team for this tournament, regardless of who some Members may have supported in the past. Nonetheless, many Members will be aware of well-publicised incidents of major retailers in Wales promoting the England football team in their stores and on their merchandise. Clearly, this is not ideal, especially when Wales will be playing England in the tournament. I must also pay tribute to Lindsay Whittle, Steffan Lewis's predecessor, because, when he discovered that Panini were selling England sticker books in Tesco and not Wales sticker books, he was climbing the walls, and anyone who knows Lindsay Whittle can imagine that. [Laughter.] Does the Cabinet Secretary plan to hold any conversations with major commercial retail organisations about the appropriateness of promoting the England football team in Wales during Euro 2016? Would he remind them to act more sensitively when it comes to their stores' merchandise so that we can all get behind Wales and wish them well in the month ahead?
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n amau ein bod yn cefnogi Cymru'n unfrydol fel ein tîm ar gyfer y bencampwriaeth hon, ni waeth pwy mae rhai o'r Aelodau wedi cefnogi yn y gorffennol. Serch hynny, bydd llawer o'r Aelodau yn ymwybodol o achosion a gafodd lawer o sylw o fanwerthwyr mawr yng Nghymru sy'n hyrwyddo tîm pêl-droed Lloegr yn eu siopau ac ar eu nwyddau. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddelfrydol, yn enwedig gan fod Cymru yn mynd i fod yn chwarae Lloegr yn y bencampwriaeth. Rhaid i mi hefyd dalu teyrnged i Lindsay Whittle, rhagflaenydd Steffan Lewis, oherwydd, pan ddarganfu fod Panini yn gwerthu llyfrau sticeri Lloegr yn Tesco ac nid llyfrau sticeri Cymru, roedd yn dringo'r waliau, a gall unrhyw un sy'n adnabod Lindsay Whittle ddychmygu hynny. [Chwerthin.] A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu cael unrhyw sgyrsiau gyda sefydliadau manwerthu masnachol mawr ynghylch priodoldeb hyrwyddo tîm pêl-droed Lloegr yng Nghymru yn ystod Ewro 2016? A wnaiff eu hatgoffa i weithredu'n fwy sensitif mewn perthynas â nwyddau eu siopau er mwyn i ni i gyd gefnogi Cymru a dymuno'n dda iddynt yn ystod y mis i ddod?
The Member raises an important point, but I would say that I would like to see English visitors to Wales be able to purchase football items that carry the Welsh flag as well as the English flag if they wish to in order to build the economy of Wales. I am aware of shops - and it has been a contentious issue - that have been selling English merchandise, particularly in north-east Wales, where there is a very porous border. This is not new to this event; this is an issue that has been ongoing for many, many years. I think the key thing for us as politicians to recall is that this is Wales's first opportunity to compete since 1958 and, rather than focus on what other nations might be doing, let's focus on what Wales has achieved and what Wales should be doing and celebrate the success of the Welsh squad.
Mae'r Aelod yn crybwyll pwynt pwysig, ond byddwn yn dweud y byddwn yn hoffi gweld ymwelwyr â Chymru o Loegr yn gallu prynu eitemau pêl-droed sy'n cario baner Cymru yn ogystal â baner Lloegr os ydynt yn dymuno er mwyn gwella economi Cymru. Rwy'n ymwybodol fod yna siopau - ac mae wedi bod yn fater cynhennus - wedi bod yn gwerthu nwyddau Seisnig, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle mae'r ffin yn hydraidd iawn. Nid yw hyn yn newydd i'r digwyddiad hwn; mae hwn yn fater sydd wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer. Rwy'n credu mai'r peth allweddol i ni fel gwleidyddion yw cofio mai hwn yw'r cyfle cyntaf i Gymru gystadlu ers 1958 ac yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn y gallai gwledydd eraill fod yn ei wneud, gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn y mae Cymru wedi'i gyflawni a'r hyn y dylai Cymru fod yn ei wneud a dathlu llwyddiant carfan Cymru.
I agree with you that we should be concentrating on focusing on the success of our own team. You've already mentioned that both in Swansea and Cardiff there will be a fanzone, and I am very pleased to congratulate Cardiff council on getting the sponsorship together so that there can be a fanzone in Bute park for the three events. I just wanted to raise with you the importance of making it a family-friendly event so that people can bring the whole family, safe in the understanding that this is going to be an event that they'll want their children to go to. I'm just a bit concerned from the press reports that there's not going to be any food or drink allowed into the fanzone, and I wondered whether this wasn't an opportunity to try and force people to buy expensive items of refreshment when it's incredibly important that people drink water if it's hot. I just wondered whether you could look into that and make sure it isn't an opportunity to take money off people rather than to celebrate the success of our team.
Rwy'n cytuno â chi y dylem fod yn canolbwyntio ar lwyddiant ein tîm ein hunain. Rydych wedi crybwyll eisoes y bydd parth cefnogwyr yn Abertawe a Chaerdydd, ac rwy'n falch iawn o longyfarch cyngor Caerdydd ar ddenu'r nawdd i gael parth cefnogwyr ym mharc Bute ar gyfer y tri digwyddiad. Roeddwn am sôn wrthych pa mor bwysig yw ei wneud yn ddigwyddiad sy'n ystyriol o deuluoedd fel y gall pobl ddod â'r teulu cyfan, yn ddiogel o ddeall fod hwn yn mynd i fod yn ddigwyddiad y byddant eisiau i'w plant fynd iddo. Rwyf ychydig yn bryderus ynghylch adroddiadau yn y wasg na chaniateir unrhyw fwyd neu ddiod yn y parth cefnogwyr, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd hwn yn gyfle i geisio gorfodi pobl i brynu lluniaeth drud pan fo'n hynod o bwysig fod pobl yn yfed dŵr os yw'n boeth. Roeddwn yn meddwl tybed a allech edrych ar hynny a gwneud yn siŵr nad yw'n gyfle i fynd ag arian oddi wrth bobl yn hytrach na dathlu llwyddiant ein tîm.
Yes. Can I thank the Member for her contribution? It is absolutely vital that, in particular during these hot spells, people do consume as much water as alcohol. It is a matter for Cardiff City Council as to who they have selling refreshments, but as I said a little earlier, I think it's important that Welsh producers and Welsh suppliers are given every opportunity to capitalise from the event. The Member is right that, insofar as the fans' behaviour is concerned, it's not just the players who are ambassadors for Wales abroad, it's also the fans - both those who travel abroad and those who remain in Wales - so, I would urge them to present Wales in the best, most respectable way possible and to refrain from excessive drinking.
Iawn. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chyfraniad? Mae'n gwbl hanfodol, yn enwedig yn ystod y cyfnodau poeth hyn, fod pobl yn yfed cymaint o ddŵr ag o alcohol. Mater i Gyngor Dinas Caerdydd yw pwy sydd ganddynt yn gwerthu lluniaeth, ond fel y dywedais ychydig yn gynharach, rwy'n credu ei bod yn bwysig i gynhyrchwyr Cymru a chyflenwyr o Gymru gael pob cyfle i fanteisio ar y digwyddiad. Mae'r Aelod yn iawn, o ran ymddygiad y cefnogwyr, nid y chwaraewyr yn unig sy'n llysgenhadon dros Gymru tramor, ond y cefnogwyr hefyd - y rhai sy'n teithio dramor a'r rhai sy'n aros yng Nghymru - felly, byddwn yn eu hannog i gyflwyno Cymru yn y ffordd orau a mwyaf parchus posibl ac i ymatal rhag yfed gormod.
I thank the Cabinet Secretary.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet.
The next item is the motion to suspend Standing Orders in order to allow debate of the next item, and I call on a member of the Business Committee to move the motion.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig.
Diolch, Lywydd. You're new to your role, as I am to this Assembly, and my comments on Standing Orders do not reflect on you or your office. Indeed, I value the constructive conversations we've had on the problem. There's no escaping that we are currently in breach of our Standing Orders, which is not a comfortable place for any legislature to be. As a principle, we have transparency and we have accountability. I understand that perhaps not many of our constituents will read these Standing Orders, but I think it's important that those who may wish to engage with the Assembly and our procedures are able to refer to this document in the way that I've sought to, to understand the procedures and the rules that we apply in this place. We are required to appoint an Assembly Commission within 10 days of appointing our Business Committee. We are now 14 days after that and in breach of that requirement. We do have important issues for the Assembly Commission, for instance regarding the European referendum and some of the legal issues surrounding that and purdah. We now have, on item 6, a motion that I consider to be ambiguous. It states that it 'suspends that part of Standing Order 7.1 that requires the consideration of a motion to appoint members of the Commission no later than 10 days after the appointment of the Business Committee'. Presumably, we are only suspending that part that has the 10-day requirement, rather than the whole of the text I have just read. We will then have, in item 7, a reference back to 'in accordance with Standing Order 7.1', which, of course, we have just suspended to a somewhat unknowable or ambiguous degree. What we are clearly doing is acting as required by section 27 of the Government of Wales Act, but I'm concerned that, where we're not acting under Standing Orders, we're amending them in a way that is ambiguous, and this is not a place where we should be. I've heard various people of great seniority in this place refer to, variously, flexible or pragmatic interpretations of Standing Orders, and I just make the point that this is a serious basis for procedure. The rules should be published, they should be clear, our constituents should be able to see them and those of us who look at these things should be able to rely on them as a guide to how business will actually be done in this place. When we met 14 days ago, the option I believe we should have taken would've been to adjourn our proceedings to allow the Business Committee to come up with a motion to appoint the Assembly Commission and then come back for that motion to be agreed. Were we not to have done that, we could've had a motion to suspend Standing Orders, or the relevant part - perhaps 10 working days rather than 10 days - specifically as required, rather than leaving them for us to breach them and then seek merely to amend them to put that right, ostensibly, in arrears. I don't intend to oppose either of these motions, but I did want to say that for the record. Thank you.
Diolch, Lywydd. Rydych yn newydd i'ch rôl, fel rwyf fi i'r Cynulliad hwn, ac nid yw fy sylwadau ar y Rheolau Sefydlog yn adlewyrchiad arnoch chi na'ch swydd. Yn wir, rwy'n gwerthfawrogi'r sgyrsiau adeiladol rydym wedi'u cael ar y broblem. Nid oes dianc rhag y ffaith ein bod ar hyn o bryd yn torri ein Rheolau Sefydlog, ac nid yw'n lle cyfforddus i unrhyw ddeddfwrfa fod. Fel egwyddor, mae gennym dryloywder ac mae gennym atebolrwydd. Rwy'n deall efallai na fydd llawer o'n hetholwyr yn darllen y Rheolau Sefydlog hyn, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i'r rhai a allai fod am ymgysylltu â'r Cynulliad a'n gweithdrefnau allu cyfeirio at y ddogfen hon yn y ffordd rwyf wedi ceisio ei wneud, er mwyn deall y gweithdrefnau a'r rheolau rydym yn eu cymhwyso yn y lle hwn. Mae'n ofynnol i ni benodi Comisiwn y Cynulliad o fewn 10 diwrnod i benodi ein Pwyllgor Busnes. Rydym bellach 14 diwrnod ar ôl hynny ac wedi torri'r gofyniad hwnnw. Mae gennym faterion pwysig i Gomisiwn y Cynulliad, er enghraifft mewn perthynas â'r refferendwm Ewropeaidd a rhai o'r materion cyfreithiol sy'n ymwneud â hynny a neilltuaeth. Mae gennym yn awr, yn eitem 6, gynnig rwy'n ei ystyried yn amwys. Mae'n datgan ei fod 'yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 7.1 sy'n ei gwneud yn ofynnol i ystyried cynnig i benodi aelodau'r Comisiwn heb fod yn fwy na 10 diwrnod ar ôl penodi'r Pwyllgor Busnes'. Yn ôl pob tebyg nid ydym ond yn atal y rhan honno sydd â'r gofyniad 10 diwrnod, yn hytrach na'r holl destun rwyf newydd ei ddarllen. Wedyn, yn eitem 7, bydd gennym gyfeiriad yn ôl at 'yn unol â Rheol Sefydlog 7.1', sydd, wrth gwrs, newydd ei atal gennym i raddau braidd yn annirnadwy neu amwys. Yr hyn rydym yn amlwg yn ei wneud yw gweithredu fel sy'n ofynnol yn adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ond rwy'n poeni, lle nad ydym yn gweithredu o dan y Rheolau Sefydlog, ein bod yn eu diwygio mewn ffordd sy'n amwys, ac ni ddylem fod yn y fan hon. Rwyf wedi clywed amryw o bobl â statws uchel yn y lle hwn yn cyfeirio, yn amrywio, at ddehongliadau hyblyg neu bragmataidd o'r Rheolau Sefydlog, ac rwy'n gwneud y pwynt fod hon yn sail ddifrifol ar gyfer gweithdrefn. Dylai'r rheolau gael eu cyhoeddi, dylent fod yn glir, dylai ein hetholwyr allu eu gweld a dylai'r rhai ohonom sy'n edrych ar y pethau hyn allu dibynnu arnynt fel arweiniad i sut y bydd busnes yn cael ei wneud yn y lle hwn mewn gwirionedd. Pan gyfarfuom 14 diwrnod yn ôl, yr opsiwn y credwn y dylem fod wedi'i ddewis fyddai gohirio'r ein trafodion er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor Busnes ddod o hyd i gynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad a dod yn ôl wedyn i gytuno ar y cynnig. Pe na baem wedi gwneud hynny, gallem fod wedi cael cynnig i atal Rheolau Sefydlog, neu'r rhan berthnasol - 10 diwrnod gwaith efallai yn hytrach na 10 diwrnod - yn benodol yn ôl yr angen, yn hytrach na'u gadael i ni eu tramgwyddo, yna ceisio'u diwygio'n unig i unioni hynny wedyn, yn ôl pob golwg. Nid wyf yn bwriadu gwrthwynebu unrhyw un o'r cynigion hyn, ond roeddwn eisiau dweud hynny ar gyfer y cofnod. Diolch.
May I thank the Member for that contribution to the debate on this motion? I do agree that it's not ideal that we need to suspend Standing Orders in this way. However, circumstances conspired against us on this occasion. The Business Committee, as Members will know, did feel that it was unfortunate that we couldn't comply with Standing Orders on this particular occasion, but the Business Committee did agree to review the 10-day deadline that has led us to this situation where we are debating a motion to suspend Standing Orders. So, I am grateful to the Member for his comments. I now move, therefore, to the question as to whether the motion to suspend Standing Orders should be agreed. Does any Member object? As there are no objections to the motion, the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am gyfrannu at y ddadl ar y cynnig yma? Rwy'n cytuno nad yw'n ddelfrydol bod angen atal y Rheolau Sefydlog fel hyn. Fodd bynnag, fe weithiodd amgylchiadau yn ein herbyn ni y tro yma. Fe roedd y Pwyllgor Busnes, fel mae'r Aelod yn ymwybodol, yn ei hystyried hi'n anffodus nad oedd modd cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog ar yr achlysur yma, ond fe wnaeth y Pwyllgor Busnes gytuno i adolygu'r terfyn amser 10 diwrnod sydd wedi arwain at y sefyllfa o gynnig gohirio'r Rheolau Sefydlog yn yr achos yma. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am wneud y sylwadau hynny. Rwy'n symud felly nawr i'r cwestiwn a ddylid derbyn y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid oes gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The next item is the motion to appoint the Assembly Commission. I call on a member of the Business Committee to move the motion.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad. Rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig hwnnw.
Thank you. The proposal is to agree the motion. Does any Member object? There are no objections; therefore the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Diolch. Rwy'n gofyn, felly, a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Os na, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
That brings today's proceedings to a close.
Felly, fe ddaw trafodion y dydd i ben.
I call the Assembly to order.
Galwaf y Cynulliad i drefn.
Before we move to questions to the First Minister, and following the vigil held outside the Senedd yesterday evening, on behalf of the Assembly I would like to convey our condolences to those who were affected by the Orlando shootings. Today, our thoughts are with the injured and with the families and friends who have been bereaved. As an Assembly, we aspire to a world free from hate crimes of this kind. I ask Members to be upstanding for a minute's silence in commemoration.
Cyn i ni symud at y cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac yn dilyn yr wylnos a gynhaliwyd y tu allan i'r Senedd neithiwr, ar ran y Cynulliad hoffwn fynegi ein cydymdeimlad â'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y saethu yn Orlando. Rydym yn meddwl heddiw am y rhai sydd wedi'u hanafu a'r teuluoedd a'r ffrindiau hynny sy'n galaru. Fel Cynulliad, rydym yn dyheu am fyd sy'n rhydd o droseddau casineb o'r math yma. Gofynnaf i'r Aelodau sefyll am funud o dawelwch er cof.
Sorry, Presiding Officer, do I read out the one in writing?
Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, ydw i'n darllen yr un ysgrifenedig?
Up-to-date adopted local development plans are an essential part of an effective planning system.
Mae cynlluniau datblygu lleol wedi'u mabwysiadu cyfredol yn rhan hanfodol o system gynllunio effeithiol.
Thank you. First Minister, the integrity of, and the people of Wales's confidence in this Assembly are based on being able to believe what is said in this Chamber. In April 2012, you stated in public that Labour would implement its local development plan. Labour's plans included allowing big business to concrete huge swathes of greenfield sites and, as a result, I published that you had announced plans to concrete Cardiff by stating your party would implement its LDP. You said in this Chamber on 24 April 2012 that my publications were wholly untrue and a blatant lie - your words, not mine. Last week -
Diolch. Brif Weinidog, mae uniondeb, a ffydd pobl Cymru yn y Cynulliad hwn yn seiliedig ar y gallu i gredu yr hyn a ddywedir yn y Siambr hon. Ym mis Ebrill 2012, dywedasoch yn gyhoeddus y byddai Llafur yn gweithredu ei gynllun datblygu lleol. Roedd cynlluniau Llafur yn cynnwys caniatáu i fusnesau mawr osod concrit ar ddarnau mawr o safleoedd tir glas ac o ganlyniad i hynny cyhoeddais eich bod wedi cyhoeddi cynlluniau i osod concrit yng Nghaerdydd drwy ddweud y byddai eich plaid yn gweithredu ei Chynllun Datblygu Lleol. Dywedasoch yn y Siambr hon ar 24 Ebrill 2012 bod fy nghyhoeddiadau yn gwbl anwir ac yn gelwydd amlwg - eich geiriau chi, nid fy rhai i. Yr wythnos diwethaf -
Can you bring yourself to a question now please?
A wnewch chi ddod â'ch hun at gwestiwn nawr os gwelwch yn dda?
Last week, you stated that you did not say what you have already said on the record.
Yr wythnos diwethaf, dywedasoch na wnaethoch ddweud yr hyn yr ydych eisoes wedi ei ddweud ar y cofnod.
Can you bring this to a question?
A wnewch chi ddod â hyn at gwestiwn?
Do you think that it is at all acceptable for Wales's First Minister to come here and deny what you've already said? Will you set the record straight?
Ydych chi'n meddwl ei bod yn gwbl dderbyniol i Brif Weinidog Cymru ddod yma a gwadu yr hyn yr ydych eisoes wedi'i ddweud? A wnewch chi ddweud y gwir?
The Member lives in a land of fantasy. He's been living in it for the past three years and he didn't even ask a proper question.
Mae'r Aelod yn byw mewn byd ffantasi. Mae wedi bod yn byw yno dros y tair blynedd diwethaf ac ni ofynnodd gwestiwn priodol hyd yn oed.
Diolch, Lywydd. I've absolutely no idea what that was all about. This isn't Cardiff council chamber - this is the National Assembly for Wales. What we are talking about is the issue of 22 local development plans across south-east Wales, which don't connect very well, and the Welsh Government has already introduced, last year, the Planning Act 2015 to resolve those issues. A south-east Wales strategic development plan could involve all 10 local authorities, and it is certainly the case that with the Cardiff city region, the 10 local authority leaders are already on board, involved and supportive. Does the First Minister agree with me for the need to take such an approach into serious consideration, and does he also agree this can only be achieved by working together, not being party political and tribal, as Neil McEvoy is so intent on being?
Diolch, Lywydd. 'Does gen i ddim syniad beth oedd hynna yn ymwneud ag ef. Nid siambr Cyngor Caerdydd yw hwn - Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yw mater y 22 o gynlluniau datblygu lleol ledled de-ddwyrain Cymru, nad ydynt yn cysylltu yn dda iawn, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno Deddf Cynllunio 2015, y llynedd, i ddatrys y materion hynny. Gallai cynllun datblygu strategol de-ddwyrain Cymru gynnwys pob un o'r 10 o awdurdodau lleol, ac mae'n sicr yn wir gyda Rhanbarth Dinas Caerdydd, fod y 10 o arweinwyr yr awdurdodau lleol eisoes yn cymryd rhan ac yn gefnogol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddull o'r fath, ac a yw hefyd yn cytuno y gellir cyflawni hyn dim ond drwy weithio gyda'n gilydd, heb gefnogi gwleidyddiaeth eich plaid eich hun yn unig a bod yn llwythol, fel y mae Neil McEvoy mor benderfynol o'i wneud?
There are real challenges of course for the entire area of the south-east of Wales. Cardiff can't be expected on its own, nor any other local authority, to provide housing for the entire region. That's why it makes perfect sense, as my colleague, the Member for Caerphilly, says, that the 10 local authorities should work together in order to have a strategic plan that goes beyond the local development plans, which, of themselves, can never be enough to satisfy the demand that the success of the economy of south-east Wales will place on the local area.
Mae heriau gwirioneddol wrth gwrs ar gyfer ardal gyfan de-ddwyrain Cymru. Ni ellir disgwyl i Gaerdydd ar ei ben ei hun, nac unrhyw awdurdod lleol arall, ddarparu tai ar gyfer y rhanbarth cyfan. Dyna pam mae hi'n gwneud synnwyr perffaith, fel y mae fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Gaerffili, yn ei ddweud, y dylai'r 10 awdurdod lleol weithio gyda'i gilydd er mwyn cael cynllun strategol sy'n mynd y tu hwnt i'r cynlluniau datblygu lleol, na fyddant fyth, ar eu pennau eu hunain, yn gallu bod yn ddigon i fodloni'r galw y bydd llwyddiant economi de-ddwyrain Cymru yn ei osod ar yr ardal leol.
Presiding Officer, am I right in -
Lywydd, a wyf yn iawn i -
Am I right in -
A wyf yn iawn i -
Diolch. Well, of course, local development plans don't build any houses. Given that, in England, local plans produced in consultation with the community have been the cornerstone of planning reforms, how will your Government engage with the Homebuilders Federation regarding the statement in its Welsh election paper, 'Building Communities, Boosting Investment', that, because of the many improvements in England, in terms of reduced regulation and greater land availability, the relative attraction of investing in the requisite land and skills in Wales has reduced over recent years? The results can be seen in the most recently published data on planning permissions, which show that, since the start of 2013, the number of private units granted planning permission in Wales has decreased by 4 per cent, whilst increasing by 49 per cent in England.
Diolch. Wel, wrth gwrs, nid yw cynlluniau datblygu lleol yn adeiladu unrhyw dai. O gofio, yn Lloegr, bod cynlluniau lleol a lunnir mewn ymgynghoriad â'r gymuned wedi bod yn gonglfaen i ddiwygiadau cynllunio, sut y bydd eich Llywodraeth yn ymgysylltu â'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi ynghylch y datganiad yn ei bapur etholiad Cymru, 'Adeiladu Cymunedau, Hybu Buddsoddi', oherwydd y gwelliannau lawer yn Lloegr, o ran llai o reoleiddio a mwy o dir ar gael, bod yr atyniad cymharol o fuddsoddi yn y tir a sgiliau angenrheidiol yng Nghymru wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf? Mae'r canlyniadau i'w gweld yn y data a gyhoeddwyd ddiweddaraf ar ganiatâd cynllunio, sy'n dangos bod nifer yr unedau preifat a gafodd ganiatâd cynllunio yng Nghymru er dechrau 2013 wedi gostwng gan 4 y cant, ond wedi cynyddu 49 y cant yn Lloegr.
Well, we have seen significant increases in the number of houses being built in Wales over the past two years. It seems to me that, in England, the plans there are designed to block housing development and not to encourage housing development. What there needs to be, of course, is a properly regulated development plan so that people are able to see where development will take place. I don't believe that local development plans, of themselves, are sufficient over a wider economic area, which is why strategic plans, to my mind, have a great deal of force and are a great deal of help when it comes to planning for the future.
Wel, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n ymddangos i mi fod y cynlluniau a geir yn Lloegr wedi'u llunio i rwystro datblygiadau tai ac nid i annog datblygiadau tai. Yr hyn sydd ei angen, wrth gwrs, yw cynllun datblygu a reoleiddir yn briodol fel bod pobl yn gallu gweld lle y bydd datblygu yn digwydd. Nid wyf yn credu bod cynlluniau datblygu lleol, ar eu pennau eu hunain, yn ddigonol mewn ardal economaidd ehangach, a dyna pam mae cynlluniau strategol, yn fy marn i, yn rymus iawn ac o lawer o gymorth wrth ystyried cynllunio ar gyfer y dyfodol.
There are serious issues, as she will know, of course, relating to opencast mining and the restoration of sites. We know that, in 1994, the UK Government did not require operators to set aside enough money for restoration, and so the UK Government have a moral responsibility to work with us to ensure that sites are restored.
Mae materion difrifol, fel y bydd hi'n gwybod, wrth gwrs, yn ymwneud â chloddio glo brig ac adfer safleoedd. Gwyddom, yn 1994, na wnaeth Llywodraeth y DU ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr neilltuo digon o arian ar gyfer adfer, ac felly mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb moesol i weithio gyda ni i sicrhau bod safleoedd yn cael eu hadfer.
Thank you for that answer, First Minister. You will know that Neath Port Talbot County Borough Council recently passed a partial restoration of Margam opencast area. But, of course, that's partial restoration, and many of the residents there are concerned about the future and the void not being restored, and also, with it being in Celtic Energy's hands, for that full restoration to take place. I was wondering whether you could give us a commitment here today, First Minister, even though that's not part of the plan, in terms of the void, whether you could seek to bring people together to look to restore that eventually, because I think people are concerned, especially as key people within the council are also concerned now about how that will be restored if there are any flooding problems within that void.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ddiweddar wedi cymeradwyo gwaith adfer rhannol o ardal glo brig Margam. Ond, wrth gwrs, adfer rhannol yw hwnnw, ac mae llawer o'r trigolion yno yn pryderu am y dyfodol a'r gwagle nad yw'n cael ei adfer, a hefyd, gan ei fod yn nwylo Celtic Energy, i'r gwaith adfer llawn hwnnw gael ei wneud. Roeddwn yn meddwl tybed a allech chi roi ymrwymiad inni yma heddiw, Brif Weinidog, er nad yw hynny'n rhan o'r cynllun, o ran y gwagle, a allech chi geisio dod â phobl at ei gilydd i edrych i adfer hwnnw yn y pen draw, oherwydd rwy'n credu bod pobl yn pryderu, yn enwedig gan fod pobl allweddol yn y cyngor hefyd yn bryderus bellach ynghylch sut y bydd yn cael ei adfer os bydd unrhyw broblemau llifogydd o fewn y gwagle hwnnw.
Well, I agree with the concern that she expresses. She will know that there is an effect on my constituency as well. In 1994, when privatisation took place, those companies that took over former British Coal sites were specifically excluded from being required to put aside finance for restoration, and this is why we are where we are now. Partial restoration is welcome, but it isn't full restoration, and there must be full restoration in time. Given the fact that it was the UK Government that created this problem, there is no doubt in my mind that they have a responsibility to work with us in order to resolve the problem.
Wel, rwyf yn cytuno â'r pryder y mae hi'n ei fynegi. Bydd hi'n gwybod bod effaith ar fy etholaeth innau hefyd. Yn 1994, pan ddigwyddodd y preifateiddio, cafodd y cwmnïau hynny a gymerodd drosodd hen safleoedd Glo Prydain eu heithrio'n benodol rhag bod yn ofynnol iddynt roi arian o'r neilltu ar gyfer gwaith adfer, a dyma pam yr ydym ble yr ydym ni heddiw. Rydym yn croesawu adfer rhannol, ond nid yw'n adfer llawn, ac mae'n rhaid cael gwaith adfer llawn mewn amser. O gofio'r ffaith mai Llywodraeth y DU a greodd y broblem hon, nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod ganddynt gyfrifoldeb i weithio gyda ni er mwyn datrys y broblem.
I'm sure Members across the Chamber will be pleased to welcome with me the withdrawal of Varteg opencast application in my constituency. And I'm very grateful to the International Council on Monuments and Sites UK, which I invited to visit the site last year, and to Cadw, for their objections, which led to the application being withdrawn. But, of course, most communities cannot rely on the protection of being in a World Heritage Site and do need to rely on us as a National Assembly and the protection that we give them. What assurances can you give that the review of MTAN 2 will be taken forward as a matter of priority by this Welsh Government?
Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr yn falch o groesawu gyda mi y ffaith i'r cais glo brig yn y Farteg, yn fy etholaeth i, gael ei dynnu'n ôl. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd y DU, a wahoddais i ymweld â'r safle y llynedd, ac i Cadw, am eu gwrthwynebiadau, a arweiniodd at i'r cais gael ei dynnu'n ôl. Ond, wrth gwrs, nid yw'r rhan fwyaf o gymunedau yn gallu dibynnu ar gamau diogelu o ganlyniad i fod mewn Safle Treftadaeth y Byd ac mae angen iddynt ddibynnu arnom ni fel Cynulliad Cenedlaethol a'r camau diogelu yr ydym ni yn eu rhoi iddynt. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd yr adolygiad o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2 yn cael ei ddwyn ymlaen fel mater o flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru?
Well, I can assure the Member that a focused review of MTAN 2 was announced by the Minister prior to the UK Government's announcement on coal-fired power stations, and that review, of course, will proceed, because we know that it's important that the planning guidance is as up to date as possible.
Wel, gallaf sicrhau'r Aelod bod adolygiad â phwyslais o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2 wedi ei gyhoeddi gan y Gweinidog cyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar orsafoedd pŵer glo, a bydd yr adolygiad hwnnw, wrth gwrs, yn mynd yn ei flaen, gan ein bod yn gwybod ei bod yn bwysig bod y canllawiau cynllunio mor gyfredol â phosibl.
First Minister, Members will know that the part restoration plans for Parc Slip are pretty unpopular, and none of us would wish to see the history behind that repeated. But we were talking about this in some detail over a year ago now. The local authority strongly asserts that there's no alternative to the plans. So, is the Welsh Government holding direction of April of this year - that's a whole year later - an indication of, perhaps, a prima facie case that perhaps there is an alternative to what's being suggested by Neath Port Talbot, and, if not, what statutory time limits are preventing Welsh Government moving that holding direction sooner?
Brif Weinidog, bydd yr Aelodau'n gwybod bod y cynlluniau adfer rhannol ar gyfer Parc Slip yn eithaf amhoblogaidd, ac ni fyddai neb ohonom am weld yr hanes y tu ôl i hynny'n cael ei ailadrodd. Ond roeddem yn sôn am hyn yn eithaf manwl dros flwyddyn yn ôl bellach. Mae'r awdurdod lleol yn honni'n gryf nad oes dewis arall i'r cynlluniau. Felly, a yw hysbysiad gohirio Llywodraeth Cymru o fis Ebrill eleni - blwyddyn gyfan yn ddiweddarach - yn arwydd o, efallai, achos cyntaf ac efallai bod dewis arall i'r hyn sy'n cael ei awgrymu gan Gastell-nedd Port Talbot, ac, os nad oes, pa derfynau amser statudol sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag cynnig yr hysbysiad gohirio hwnnw yn gynharach?
The difficulty in the site, of course, is that the site at the moment is in the custody of a company that, in reality, doesn't exist. It's registered in the British Virgin Islands, and if legal action were to be taken against it, I have no confidence that that organisation would continue to exist, leaving nobody, as she knows, against whom legal action can lie. To my mind, it is important that the UK Government recognises its responsibilities. This was created not by the current UK Government but by a UK Government in 1994. There is no doubt that the amount of money we're talking here for the full restoration of just one site at Parc Slip is huge. It cannot be reasonable to expect the local authority nor the Welsh Government to meet the full costs of that restoration.
Yr anhawster yn y safle, wrth gwrs, yw bod y safle ar hyn o bryd yn nwylo cwmni nad yw, mewn gwirionedd, yn bodoli. Mae wedi ei gofrestru yn Ynysoedd Virgin Prydain, a phe byddai camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn ei erbyn, nid oes gennyf unrhyw ffydd y byddai'r sefydliad yn parhau i fodoli, gan adael neb, fel y mae hi'n gwybod, y gellir cymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn. Yn fy marn i, mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn cydnabod ei chyfrifoldebau. Ni chrewyd hyn gan Lywodraeth bresennol y DU, ond gan Lywodraeth y DU yn 1994. Nid oes amheuaeth bod y swm o arian yr ydym yn sôn amdano yma, dim ond i adfer un safle yn llawn ym Mharc Slip, yn enfawr. Ni all fod yn rhesymol i ddisgwyl i'r awdurdod lleol na Llywodraeth Cymru dalu costau llawn y gwaith adfer hwnnw.
I now call on the party leaders to question the First Minister, and first this week I call the UKIP group leader, Neil Hamilton.
Rwy'n galw nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog, ac rwy'n galw'n gyntaf yr wythnos hon ar arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
I want to hear an important question on farming. Allow the Member to be heard.
Yr wyf yn awyddus i glywed cwestiwn pwysig ar ffermio. Gadewch i'r Aelod gael ei glywed.
So, I'm going to ask the First Minister: what further progress has been made, particularly with the payments agency in England, to get these problems sorted out?
Felly, rwy'n mynd i ofyn i'r Prif Weinidog: pa gynnydd pellach sydd wedi ei wneud, yn enwedig o ran yr asiantaeth taliadau yn Lloegr, i ddatrys y problemau hyn?
The vast majority of payments in Wales have been made - over 90 per cent, if I recall correctly. There are, as the Member says, some cross-border farms that await payment, and that's because we're awaiting data. It's not the first time it's happened, but we're awaiting data from the Rural Payments Agency. Until that data is available, it's not possible to make full payment, unfortunately. We hope that it will be resolved swiftly.
Mae'r mwyafrif helaeth o'r taliadau yng Nghymru wedi eu gwneud - dros 90 y cant, os cofiaf yn iawn. Mae, fel y dywed yr Aelod, rai ffermydd trawsffiniol sy'n aros am daliad, a hynny oherwydd ein bod yn aros am ddata. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd, ond rydym yn aros am ddata gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig. Hyd nes bod y data hwnnw ar gael, nid yw'n bosibl gwneud taliad llawn, yn anffodus. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cael ei ddatrys yn gyflym.
I fully agree with what the First Minister says, but it's quite extraordinary that two Government agencies can't find the means by which to talk to each other electronically whereas this happens quite naturally in the private sector and, indeed, in our private lives. So, I wonder what he can do to try to integrate the administrative arrangements between England and Wales in this respect, because farmers on the border are in very dire financial straits.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddweud, ond mae'n gwbl anhygoel na all dwy asiantaeth y Llywodraeth ddod o hyd i fodd o siarad â'i gilydd yn electronig er bod hyn yn digwydd yn eithaf naturiol yn y sector preifat ac, yn wir, yn ein bywydau preifat. Felly, tybed beth y gall ef ei wneud i geisio integreiddio'r trefniadau gweinyddol rhwng Cymru a Lloegr yn hyn o beth, gan fod ffermwyr ar y ffin mewn trafferthion ariannol enbyd iawn.
Well, the solution is not in our hands. We await data from the Rural Payments Agency. We're ready to pay once that data is made available. It's very difficult to integrate the administration given the fact that the payment schemes are very radically different, and so they should be because the nature of Welsh farming is very different to the nature of farming across much of England. But, as soon as that data is available, of course we will pay our farmers and we have a very good record of doing that over the last few years.
Wel, nid yw'r ateb yn ein dwylo ni. Rydym ni'n aros am ddata gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig. Rydym yn barod i dalu pan fydd y data hwnnw ar gael. Mae'n anodd iawn integreiddio'r gwaith gweinyddu o ystyried y ffaith bod y cynlluniau talu yn sylweddol wahanol, ac felly y dylai fod oherwydd bod natur ffermio yng Nghymru yn wahanol iawn i natur ffermio ar draws rhan helaeth o Loegr. Ond, cyn gynted ag y bydd y data hwnnw ar gael, byddwn wrth gwrs yn talu ein ffermwyr ac mae gennym hanes da iawn o wneud hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
There is another big problem that needs to be addressed, of course, and that's with the growth of bovine TB. In fact, in my region, in Carmarthenshire, cases of cattle slaughtered as a result of bovine TB are up by 87 per cent this year and in Pembrokeshire up by 78 per cent. With the non-availability of vaccine, the preferred option isn't available to us. So, what can the Welsh Government actually do to try to cope with the growing problem of bovine TB?
Mae problem fawr arall y mae angen mynd i'r afael â hi, wrth gwrs, sef twf TB buchol. Yn wir, yn fy rhanbarth i, yn Sir Gaerfyrddin, mae achosion o wartheg a laddwyd o ganlyniad i TB buchol wedi cynyddu gan 87 y cant eleni ac yn Sir Benfro maent wedi cynyddu gan 78 y cant. Gan nad oes brechlyn ar gael, nid yw'r dewis a ffefrir ar gael i ni. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud mewn gwirionedd i geisio ymdopi â'r broblem gynyddol o TB buchol?
The Member's correct to point out that the vaccine is not available at present. I know that the Minister has held a meeting this week - or certainly at the end of last week - to look at this issue. There is a need to move forward with dealing with bovine TB. It can't be left simply to proceed. The Minister is examining what science-led approach could be taken in order to make sure that, at the very least, there is a reduction in the presence of bovine TB and, in time, of course, eradication.
Mae'r Aelod yn gywir i nodi nad yw'r brechlyn ar gael ar hyn o bryd. Gwn fod y Gweinidog wedi cynnal cyfarfod yr wythnos hon - neu yn sicr ddiwedd wythnos diwethaf - i edrych ar y mater hwn. Mae angen symud ymlaen gyda'r gwaith o fynd i'r afael â TB buchol. Ni ellir ei adael i barhau. Mae'r Gweinidog yn edrych ar ba ddull gwyddonol a allai gael ei weithredu er mwyn gwneud yn siŵr bod gostyngiad ym mhresenoldeb TB buchol o leiaf ac, ymhen amser, wrth gwrs, ei ddileu.
Diolch, Lywydd. I'm sure, First Minister, that you will have shared the warm feelings that I felt on seeing images of the Welsh fans in France singing and linking arms with fellow fans. They were ambassadors for our nation. I thought those images captured something about the naturalness of our place as Wales within Europe, singing with Slovakians - people from another small nation, bilingual and so on. As we approach the final week of the campaign - and families will be gathering together this weekend to work out the best options for them - good information is vital to enable people to make a fully informed choice. What can you and your Government do in the final week to make sure that people vote on accurate information and not on the basis of myth and propaganda?
Diolch, Lywydd. Rwy'n siŵr, Brif Weinidog, y byddwch wedi rhannu'r teimladau cynnes a deimlais i wrth weld lluniau o gefnogwyr Cymru yn Ffrainc yn canu ac yn cysylltu breichiau â chyd gefnogwyr. Roeddynt yn genhadon dros ein gwlad. Roeddwn i'n meddwl bod y delweddau hynny'n cyfleu rhywbeth am naturioldeb ein lle fel Cymru o fewn Ewrop, canu gyda phobl o Slofacia - pobl o genedl fach arall, dwyieithog ac yn y blaen. Wrth i ni nesáu at wythnos olaf yr ymgyrch - a bydd teuluoedd yn ymgasglu y penwythnos hwn i benderfynu ar y dewisiadau gorau ar eu cyfer nhw - mae gwybodaeth dda yn hanfodol er mwyn galluogi pobl i wneud dewis llwyr wybodus. Yr hyn y gallwch chi a'ch Llywodraeth ei wneud yn yr wythnos olaf yw gwneud yn siŵr bod pobl yn pleidleisio ar sail gwybodaeth gywir ac nid ar sail camsyniad a phropaganda?
We can't send out information as a Government - that's covered by purdah - but of course, as politicians, we can make our case. I'll be making the case, as I know she will, over the next few days that Wales is better off in the UK and the EU - well, maybe not the UK as far as she's concerned, but the EU. [Laughter.] The EU.
Ni allwn anfon gwybodaeth allan fel Llywodraeth - mae hynny wedi ei gynnwys yn y cyfyngiadau yn ystod y cyfnod cyn etholiad - ond wrth gwrs, fel gwleidyddion, gallwn gyflwyno ein hachos. Byddaf yn cyflwyno yr achos, fel y gwn y bydd hithau hefyd, dros yr ychydig ddyddiau nesaf, ei bod yn well i Gymru fod yn y DU a'r UE - wel, efallai nid y DU yn ei hachos hi, ond yr UE. [Chwerthin.] Yr UE.
We agree, First Minister, on our unity within Europe, and let's just leave it at that for now. We are, in Wales, the most export-intensive nation within the UK. We've got a balance of trade payments surplus in terms of goods with the EU, and that isn't the case for the UK. Uncertainty, therefore, will impact more upon Welsh businesses and the Welsh economy. We'll be affected disproportionately here. I'm keen to understand what your Government's contingency plans are if there is a vote to leave the EU next week. Can you please outline what plans your Government has to mitigate the worst effects for the Welsh economy and Welsh businesses, especially exporting businesses, in the event of a vote to leave the EU?
Rydym yn cytuno, Brif Weinidog, ar ein hundod o fewn Ewrop, a gadewch i ni ei gadael hi felly am y tro. Ni, yng Nghymru, yw'r wlad gyda'r ffigyrau allforio dwysaf yn y DU. Mae taliadau'r fantolen fasnach yn dangos gwarged o ran nwyddau gyda'r UE, ac nid yw hynny'n wir ar gyfer y DU. Bydd ansicrwydd, felly, yn effeithio mwy ar fusnesau Cymru ac economi Cymru. Byddwn yn cael ein heffeithio yn anghymesur yma. Rwy'n awyddus i ddeall pa gynlluniau wrth gefn sydd gan eich Llywodraeth os ceir pleidlais i adael yr UE yr wythnos nesaf. A allwch chi amlinellu pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i liniaru'r effeithiau gwaethaf ar economi Cymru a busnesau Cymru, yn enwedig busnesau sy'n allforio, pe byddai pleidlais i adael yr UE?
It's very difficult to produce a contingency plan when there's such uncertainty. Nobody knows what would happen if there was to be a 'leave' vote. I took note of the fact that Nigel Farage himself last week said that it didn't matter if there was a trade deal at all with the European Union. That's disastrous for our farmers and for our exporters. For me, I've seen both campaigns, and at the end of the day it comes down to this: why would we put an unnecessary hurdle over which we would have to jump before us when it comes to attracting investment into Wales? It is a huge advantage to have free access to an enormous market, the EU. The UK is a tenth of that market. We have access to that market. To lose that access or to jeopardise that market simply puts another wall in front of us when it comes to attracting investment and when it comes to exporting. The last thing we need to do is to make it harder to export what we produce in Wales, and harder to attract investment into Wales.
Mae'n anodd iawn llunio cynllun wrth gefn pan fo cymaint o ansicrwydd. Does neb yn gwybod beth fyddai'n digwydd pe byddai pleidlais i 'adael'. Sylwais ar y ffaith fod Nigel Farage ei hun wedi dweud yr wythnos diwethaf nad oedd ots os oedd cytundeb masnach o gwbl yn bodoli â'r Undeb Ewropeaidd. Mae hynny'n drychinebus i'n ffermwyr ac i'n hallforwyr. I mi, rwyf wedi gweld y ddwy ymgyrch, ac yn y pen draw mae'n dod i hyn: pam y byddem ni'n rhoi rhwystr diangen y byddai'n rhaid i ni neidio drosto o'n blaenau o ran denu buddsoddiad i Gymru? Mae'n fantais enfawr i gael mynediad am ddim i farchnad enfawr, yr UE. Un rhan o ddeg o'r farchnad honno yw'r DU. Gallwn fynd i'r farchnad honno. Mae colli'r gallu i fynd i'r farchnad honno neu beryglu'r farchnad honno yn rhoi mur arall o'n blaenau wrth geisio denu buddsoddiad ac wrth allforio. Y peth olaf sydd ei angen arnom yw ei gwneud yn anoddach i allforio yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu yng Nghymru, ac yn anoddach denu buddsoddiad i Gymru.
I share your concerns, First Minister, and I think we need to think very carefully about what happens in the event of a vote to leave next week. Now, former Prime Ministers Blair and Major waded into the debate saying that one of the other likely consequences of a vote to leave could be the break-up of the UK. Now, I accept that our parties have got two very different views on that, but I'm sure that we're both agreed that we want to stop a situation whereby Wales is at the total mercy of a Tory Government that we have never, ever in this country voted for. What contingency plans do you have for Wales if we find ourselves part of a rump UK where we will risk facing a Tory Government, or an even more right-wing Government than the present one, on a permanent basis? What plans do you have to protect and promote Wales's best interests under this scenario?
Rwyf yn rhannu eich pryderon, Brif Weinidog, ac rwyf yn credu bod angen i ni feddwl yn ofalus iawn am yr hyn a fyddai'n digwydd pe byddai pleidlais i adael yr wythnos nesaf. Nawr, gwnaeth y cyn Prif Weinidogion Blair a Major fwrw i mewn i'r ddadl gan ddweud mai un arall o'r canlyniadau tebygol o bleidlais i adael fyddai chwalu'r DU. Nawr, rwyf yn derbyn bod gan ein pleidiau ddwy farn wahanol iawn am hynny, ond rwyf yn siwr ein bod yn cytuno ein bod am atal sefyllfa lle mae Cymru ar drugaredd Llywodraeth Dorïaidd yn gyfan gwbl, nad ydym erioed, erioed yn y wlad hon, wedi pleidleisio drosti. Pa gynlluniau wrth gefn sydd gennych chi ar gyfer Cymru os byddwn yn canfod ein hunain yn rhan o Deyrnas Unedig weddilliol lle y byddwn mewn perygl o wynebu Llywodraeth Dorïaidd, neu Lywodraeth hyd yn oed fwy asgell dde na'r un bresennol, ar sail barhaol? Pa gynlluniau sydd gennych chi i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau gorau Cymru yn y sefyllfa honno?
Again, it's impossible to predict what might happen in the event of a leave vote. There are serious consequences for Northern Ireland - a part of the wold I know very, very well. The peace process is based on EU membership and what happens to the peace process is difficult to predict. The border is open with a motorway over it, and that border would be the border between the UK and the EU. It would need border control and customs control, so it means shutting a motorway down, and shutting down most of the roads, as happened in the days of the Troubles. That is hugely difficult for the people who live on that island. It's difficult to know what the people of Scotland might think, but at the very least there needs to be - and this is regardless of the result next week, because I've said it before - a full reassessment of the relationship between the nations of the UK. The current constitution doesn't work. The concept, to my mind - I've said it before - of parliamentary sovereignty doesn't work. I think we need to move towards a system of shared sovereignty. It happens in Canada, and there's no reason why it shouldn't happen here. But there is no question, if there is a 'leave' vote next week, that the UK can just carry on as before. That simply isn't possible if it wishes to remain stable.
Unwaith eto, mae'n amhosibl rhagweld beth allai ddigwydd pe byddai pleidlais i adael. Mae canlyniadau difrifol i Ogledd Iwerddon - rhan o'r byd yr wyf yn gyfarwydd iawn, iawn â hi. Mae'r broses heddwch yn seiliedig ar aelodaeth o'r UE ac mae'n anodd rhagweld beth fyddai'n digwydd i'r broses heddwch. Mae'r ffin yn agored gyda thraffordd drosti, a'r ffin honno fyddai'r ffin rhwng y DU a'r UE. Byddai angen rheoli'r ffin a rheoli tollau, felly mae'n golygu cau traffordd, a chau'r rhan fwyaf o'r ffyrdd, fel y digwyddodd yn nyddiau'r Helyntion. Mae hynny'n hynod o anodd i bobl sy'n byw ar yr ynys honno. Mae'n anodd gwybod beth fyddai barn pobl yr Alban, ond mae angen cynnal ailasesiad llawn o'r berthynas rhwng gwledydd y DU o leiaf - ac mae hyn yn wir beth bynnag fydd y canlyniad yr wythnos nesaf, ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen. Nid yw'r cyfansoddiad presennol yn gweithio. Nid yw'r cysyniad o sofraniaeth seneddol yn gweithio, yn fy marn i - rwyf wedi dweud hynny o'r blaen. Rwy'n credu bod angen i ni symud tuag at system o sofraniaeth a rennir. Mae'n digwydd yng Nghanada, ac nid oes unrhyw reswm pam na ddylai ddigwydd yma. Ond nid oes unrhyw amheuaeth, os ceir pleidlais i 'adael' yr wythnos nesaf, na fydd y DU yn gallu parhau fel o'r blaen. Nid yw hynny'n bosibl o gwbl os yw'n dymuno aros yn sefydlog.
Thank you, Presiding Officer. First Minister, last week in response to my questions on the deal that you struck with the Liberal Democrats, you indicated that your Government would be making available an additional £42 million to meet that commitment over and above the Labour manifesto commitment of £100 million to education. You also then went on to say that if you had the responsibility over the Severn bridge tolls, you would abolish Severn bridge tolls, and that in itself could crystallise in a liability for your Government of between £15 and £20 million. You personally have put a lot of political capital into the most expensive option for the M4 relief road, the black route, which is anything from £1 billion to £1.2 billion. What money tree has the Welsh Government uncovered in Cathays Park that gives you confidence that you are going to suddenly find all this new money to meet these commitments that you are making in the opening weeks of this fifth Assembly?
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf mewn ymateb i fy nghwestiynau ar y fargen y gwnaethoch ei tharo gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, dywedasoch y byddai eich Llywodraeth yn sicrhau bod £42 miliwn ychwanegol ar gael i fodloni yr ymrwymiad hwnnw yn ychwanegol at yr ymrwymiad ym maniffesto Llafur o £100 miliwn i addysg. Aethoch ymlaen hefyd wedyn i ddweud, pe byddai gennych y cyfrifoldeb am dollau Pont Hafren, y byddech yn dileu tollau Pont Hafren, a byddai hynny ynddo'i hun yn achosi rhwymedigaeth o rhwng £15 a £20 miliwn i'ch Llywodraeth chi. Rydych chi'n bersonol wedi rhoi llawer o gyfalaf gwleidyddol i mewn i'r dewis drutaf ar gyfer ffordd liniaru'r M4, y llwybr du, sy'n unrhyw beth o £1 biliwn i £1.2 biliwn. Pa goeden arian y mae Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd iddi ym Mharc Cathays sy'n rhoi ffydd i chi eich bod yn mynd i ddod o hyd i'r holl arian newydd hwn yn sydyn i gyflawni'r ymrwymiadau hyn yr ydych yn eu gwneud yn ystod wythnosau agoriadol y pumed Cynulliad hwn?
So, he is against more spending on education; he is against the abolition of the Severn tolls; he is against the M4 relief road. These are three things that, apparently, he was in favour of last week. We have pressed the UK Government for the devolution of the tolls. We would expect there to be a fair financial settlement to reflect that, so that we can get rid of this tax on people coming into Wales. That is what we stand for as a Government. It is unclear where his party stands now.
Felly, mae ef yn erbyn mwy o wariant ar addysg; y mae yn erbyn diddymu tollau Pont Hafren; mae yn erbyn ffordd liniaru'r M4. Mae'r tri pheth hyn yn bethau yr oedd ef, mae'n debyg, o'u plaid yr wythnos diwethaf. Rydym wedi pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r tollau. Byddem yn disgwyl y byddai setliad ariannol teg i adlewyrchu hynny, er mwyn i ni allu cael gwared ar y dreth hon ar bobl sy'n dod i mewn i Gymru. Dyna'r hyn yr ydym ni yn sefyll drosto fel Llywodraeth. Nid yw'n glir beth yw safbwynt ei blaid ef bellach.
First Minister, it is not unreasonable to ask the question: what will have to give in your spending commitments to meet your new commitments? I've identified £42 million that you've committed to last week; a potential liability of £15 million to £20 million if you get rid of the Severn bridge tolls at the end of the public concession - the concessions to the current Severn bridge user; and, also, if you build the black route, the £1 billion to £1.2 billion liability that you as a Government will have to finance. Now, I don't think that's unreasonable. People in north Wales, mid Wales and west Wales ask those very questions. If the big capital projects in south-east Wales get the go-ahead, what will have to give in their own areas? So, I put the question to you again - not unreasonably from our position of opposition: where are you going to find this money to meet those commitments that you have given on the record, because you only have a set amount of money available to you? Can you just answer a simple question?
Brif Weinidog, nid yw'n afresymol gofyn y cwestiwn: beth fydd yn rhaid ei ildio yn eich ymrwymiadau gwario i gyflawni eich ymrwymiadau newydd? Rwyf wedi nodi £42 miliwn yr ydych wedi ei ymrwymo iddo yr wythnos diwethaf; rhwymedigaeth posibl o £15 miliwn i £20 miliwn os ydych yn cael gwared ar dollau Pont Hafren ar ddiwedd y consesiwn cyhoeddus - y consesiynau i ddefnyddwyr presennol Pont Hafren; a, hefyd, os ydych yn adeiladu'r llwybr du, y rhwymedigaeth o £1 biliwn i £1.2 biliwn y bydd yn rhaid i chi fel Llywodraeth ei ariannu. Nawr, nid wyf yn credu bod hynny'n afresymol. Mae pobl yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin yn gofyn yr union gwestiynau hynny. Os bydd y prosiectau cyfalaf mawr yn ne-ddwyrain Cymru yn cael eu cymeradwyo, beth fydd yn rhaid ei ildio yn eu hardaloedd eu hunain? Felly, rwyf yn gofyn y cwestiwn i chi eto - ac nid yw hynny'n afresymol o'n sefyllfa ni o fod yn wrthblaid: ble ydych chi'n mynd i ddod o hyd i'r arian hwn i dalu am yr ymrwymiadau hynny yr ydych wedi'u datgan, oherwydd dim ond swm penodol o arian sydd ar gael i chi ? A wnewch chi ateb cwestiwn syml?
Borrowing it. That's the whole point. The money for the M4 relief road, whatever it looks like, will be borrowed. The point of that is to make sure that (a) we're able to do it, because we would not be able to build an M4 relief road of any shape or form if we didn't borrow the money; and, secondly, through borrowing the money, it doesn't eat into the roads budget. So, it means that road schemes elsewhere are protected in Wales, they can move forward, and that's on the basis that the M4 relief road would not take a chunk out of the roads budget. So, it is possible to do both - as the Prime Minister himself has said.
Ei fenthyg. Dyna'r holl bwynt. Bydd yr arian ar gyfer ffordd liniaru'r M4, sut bynnag y bydd hynny'n edrych, yn cael ei fenthyg. Pwynt hynny yw gwneud yn siŵr ein bod (a) yn gallu ei wneud, oherwydd ni fyddem yn gallu adeiladu ffordd liniaru i'r M4 ar unrhyw ffurf pe na byddem yn benthyg yr arian; ac, yn ail, drwy fenthyg yr arian, nid yw'n tynnu oddi ar y gyllideb ffyrdd. Felly, mae'n golygu bod cynlluniau ffyrdd mewn mannau eraill yn cael eu diogelu yng Nghymru, gallant symud ymlaen, ac mae hynny ar y sail na fyddai ffordd liniaru'r M4 yn cymryd darn o'r gyllideb ffyrdd. Felly, mae'n bosibl gwneud y ddau - fel y mae'r Prif Weinidog ei hun wedi ei ddweud.
As a Conservative, I fully understand that you can borrow, but you have to pay back borrowing and that has a cost in itself, year in, year out. But, I did also ask you about the education commitment that you made, which we welcome. I also made a comment about the £15 million to £20 million that you would have to meet if you were to abolish the Severn bridge tolls, which, again, in some quarters, is supported. So, how will you meet those liabilities? Those are perfectly legitimate questions. In total, that's an extra £60 million you will have to find out of the Welsh block grant. Some commitments will have to give. Also, on the black route, there is upfront cost that cannot be borrowed against and you will have to meet that out of day-to-day expenditure. From our position of opposition, it is our job to ask you these questions and I'd hope that you as a Government would have the answers that we would require to satisfy our constituents. Or, are you just making it up as you're going along?
Fel Ceidwadwr, rwyf yn deall yn llwyr y gallwch fenthyg, ond mae'n rhaid i chi ad-dalu benthyciadau ac mae cost i hynny ynddo'i hun, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond, fe wnes i hefyd eich holi am yr ymrwymiad a wnaethoch i addysg, ac rydym yn croesawu hynny. Gwnes sylw hefyd am y £15 miliwn i £20 miliwn y byddai'n rhaid i chi ei dalu pe byddech chi'n dileu tollau Pont Hafren, sydd, unwaith eto, mewn rhai mannau, yn cael ei gefnogi. Felly, sut y byddwch chi'n talu am y rhwymedigaethau hynny? Mae'r rheini'n gwestiynau gwbl ddilys. Fel cyfanswm, mae hynny'n £60 miliwn ychwanegol y bydd yn rhaid i chi ddod o hyd iddo allan o grant bloc Cymru. Bydd yn rhaid ildio rhai ymrwymiadau. Hefyd, o ran y llwybr du, mae cost ymlaen llaw na ellir benthyg yn ei herbyn a bydd yn rhaid i chi dalu am hynny allan o wariant o ddydd i ddydd. O'n sefyllfa ni o fod yn wrthblaid, ein gwaith ni yw gofyn y cwestiynau hyn i chi a byddwn yn gobeithio y byddai gennych chi fel Llywodraeth yr atebion y byddem eu hangen i fodloni ein hetholwyr. Neu, a ydych chi ond yn llunio atebion wrth i'r cwestiynau godi?
No. I sat here - or stood here, in fact - in the Chamber before the election, listening to the leader of the opposition, as he was then, saying that they would make spending commitments across the board, not knowing where that money was going to come from. It's a legitimate question and there are two answers to it. First of all, yes, we will have to examine some of our current spending commitments - not our commitments in the manifesto - and that will happen during the course of the budget process, because the money will have to come from somewhere, that's true. But, secondly, even though we will see real-term cuts in the block grant that we receive, there will be an uplift in the amount of money available. So, there will be extra money, even if it isn't sufficient to cover inflation. So, yes, there will be difficult decisions that we'll have to take over the course of the next year or two, but we're confident that the money can be found and that will become clear during the budget process.
Na. Eisteddais yma - neu sefais yma, mewn gwirionedd - yn y Siambr cyn yr etholiad, yn gwrando ar arweinydd yr wrthblaid, fel yr oedd bryd hynny, yn dweud y byddent yn gwneud ymrwymiadau gwario ym mhob maes, heb wybod o ble y byddai'r arian hwnnw yn dod. Mae'n gwestiwn dilys ac mae dau ateb iddo. Yn gyntaf oll, ie, bydd yn rhaid inni edrych ar rai o'n hymrwymiadau gwario cyfredol - nid ein hymrwymiadau yn y maniffesto - a bydd hynny'n digwydd yn ystod proses y gyllideb, oherwydd bydd yn rhaid i'r arian ddod o rywle, mae hynny'n wir. Ond, yn ail, er y byddwn yn gweld toriadau mewn termau real yn y grant bloc a gawn, bydd cynnydd yn y swm o arian sydd ar gael. Felly, bydd arian ychwanegol, hyd yn oed os nad yw'n ddigon ar gyfer chwyddiant. Felly, bydd, bydd penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid i ni eu gwneud yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf, ond rydym yn hyderus y gallwn ddod o hyd i'r arian a bydd hynny'n dod yn amlwg yn ystod proses y gyllideb.
Thank you. Llywydd, I understand you've given your permission for questions 3 and 5 to be grouped. The benefits to Wales of EU membership are wide ranging and fundamental to our prosperity. We know that, in recent years, EU funds have supported significant investments in the Welsh economy and labour market.
Diolch. Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 3 a 5 i gael eu grwpio. Mae'r manteision i Gymru o fod yn aelod o'r UE yn eang ac yn hanfodol i'n ffyniant. Rydym yn gwybod bod arian yr UE, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi cefnogi buddsoddiadau sylweddol yn yr economi a'r farchnad lafur yng Nghymru.
I thank the First Minister for that response. Scientists and universities in Wales have spoken out strongly about the importance of remaining in the EU. Is the First Minister aware that Cardiff University alone has received Horizon 2020 funding for 49 projects at a value of £16.9 million, and that this money enables the university to build working relationships with leading experts all over the European Union and to develop really important groundbreaking research, such as testing innovative vaccines for type 1 diabetes, solar powered water purification and working out how the brain works? Do we want to throw all these opportunities away?
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae gwyddonwyr a phrifysgolion yng Nghymru wedi mynegi'n gryf pa mor bwysig yw aros yn yr UE. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Prifysgol Caerdydd yn unig wedi derbyn cyllid Horizon 2020 ar gyfer 49 o brosiectau gwerth £16.9 miliwn, a bod yr arian hwn yn galluogi'r brifysgol i feithrin perthynas waith gydag arbenigwyr blaenllaw ar hyd a lled yr Undeb Ewropeaidd ac i ddatblygu ymchwil arloesol pwysig iawn, megis profi brechlynnau arloesol ar gyfer diabetes math 1, dulliau o buro dŵr gyda phŵer yr haul ac ymchwilio i sut y mae'r ymennydd yn gweithio? A ydym ni eisiau taflu'r holl gyfleoedd hyn i ffwrdd?
No, we don't. Higher education operates not on a little-Britain model but on a world model. It's important that there's access to as much finance as possible and access to as much academic brain power as possible. We also see of course, for example, in Swansea University, where the new campus has been built partially with the help of European money. Cutting ourselves off from the main stream is not the way to advance science in the UK.
Na, nid ydym eisiau gwneud hynny. Nid yw addysg uwch yn gweithredu ar fodel Prydain fach, ond ar fodel y byd. Mae'n bwysig bod cymaint o arian â phosibl ar gael a chymaint o bŵer ymennydd academaidd ag y bo modd ar gael. Wrth gwrs rydym hefyd yn gweld, er enghraifft, ym Mhrifysgol Abertawe, bod y campws newydd wedi ei adeiladu yn rhannol gyda chymorth arian Ewropeaidd. Nid torri ein hunain i ffwrdd o'r brif ffrwd yw'r ffordd o ddatblygu gwyddoniaeth yn y DU.
As the First Minister knows, if the British state remains a member of the European Union, it will hold the presidency of the council for six months next year. That would be a golden opportunity to start the process of renewing Europe and creating a partnership that works better for our citizens. Would the First Minister agree to ensure that that presidency is one that is held jointly between the various Governments of the UK, with Wales playing a key role, and even consider holding a European summit here in Wales?
Fel y mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol, os bydd y wladwriaeth Brydeinig yn aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, mi fydd yn dal llywyddiaeth cyngor yr undeb am chwe mis y flwyddyn nesaf. Byddai hynny'n gyfle euraidd i ddechrau'r broses o adnewyddu Ewrop a chreu partneriaeth sy'n gweithio yn well dros ein dinasyddion ni. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno i sicrhau bod y llywyddiaeth yna yn un sydd ar y cyd rhwng Llywodraethau gwahanol Prydain, gyda Chymru'n chwarae rhan allweddol, a hyd yn oed ystyried cynnal uwch-gynhadledd Ewropeaidd yma?
Well, firstly, of course, we must ensure that the United Kingdom is still part of the European Union after next week. It's very important that we should be positive about what the European Union has done, namely that it's brought democracy to eastern European countries; namely that funding has gone to those areas of Europe that needed it; namely, of course, investment in a number of parts of Europe that wouldn't have seen such investment previously. It would be extremely odd if the United Kingdom took the European Union presidency on the way out of the union. And, of course, it is important after the referendum next Thursday that that positive message is preached, if you like, not just across Wales, but across the whole of Europe.
Wel, yn gyntaf, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd ar ôl wythnos nesaf. Mae'n bwysig dros ben i fod yn bositif ynglŷn â beth mae'r Undeb Ewropeaidd wedi ei weithredu, sef, wrth gwrs, y ffaith bod democratiaeth wedi dod i wledydd dwyrain Ewrop; sef y ffaith bod arian wedi mynd i ardaloedd o Ewrop lle yr oedd eisiau'r arian hynny; sef, wrth gwrs, fod buddsoddiad wedi dod i sawl rhan o Ewrop na fyddai wedi gweld yr un lefel o fuddsoddiad o'r blaen. Byddai'n beth hynod o od petasai'r Deyrnas Unedig yn cymryd llywyddiaeth yr undeb ar y ffordd mas o'r undeb. Ac mae'n bwysig, wrth gwrs, ar ôl y refferendwm ddydd Iau nesaf, i sicrhau bod y neges bositif yna yn cael ei phregethu ar draws nid dim ond Cymru, ond Ewrop.
First Minister, you may have seen a 'leave' broadcast last week that said that Britain's EU contributions would be spent on the NHS should we leave the European Union. We've also been told that they're going to be spent on guaranteeing Welsh regional aid, they also guarantee payments to farmers, and now, oh wonder, oh wonder of magic money, it's going to preserve the amounts that are going to Welsh universities. Do you agree with me that a better way to preserve all of these valuable contributions to our economy is to vote to remain in the European Union next Thursday?
Brif Weinidog, efallai eich bod wedi gweld darllediad 'gadael' yr wythnos diwethaf a oedd yn dweud y byddai cyfraniadau UE Prydain yn cael eu gwario ar y GIG pe byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym hefyd wedi clywed eu bod yn mynd i gael eu gwario ar warantu cymorth rhanbarthol i Gymru, maent hefyd yn gwarantu taliadau i ffermwyr, ac yn awr, o ryfeddod, o ryfeddod arian hud, mae'n mynd i warchod y symiau sydd yn mynd i brifysgolion Cymru. A ydych chi'n cytuno â mi mai ffordd well o gadw pob un o'r cyfraniadau gwerthfawr hyn i'n heconomi yw pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau nesaf?
The Member puts it well, and I could not improve on that, but he's right to say that we have certainty now; we'll have no certainty if we choose to leave next Thursday. It's a jump off the edge of a cliff. I noted today that - . I saw a letter signed by various backbenchers and Ministers from London, saying that funding would be guaranteed, but they have no such power - no such power - to offer that guarantee. At least with the vow before the Scottish referendum, those who signed it had the power to deliver on it; those who signed this letter have no more power to deliver on it than my children's pet cat.
Mae'r Aelod yn cyfleu hyn yn dda, ac ni allwn i wella ar hynny, ond mae'n iawn i ddweud bod gennym sicrwydd nawr; ni fydd gennym unrhyw sicrwydd os ydym yn dewis gadael ddydd Iau nesaf. Mae'n naid oddi ar ymyl y clogwyn. Nodais heddiw bod - . Gwelais lythyr wedi'i lofnodi gan wahanol rai o'r meinciau cefn a Gweinidogion o Lundain, yn dweud y byddai cyllid yn cael ei warantu, ond nid oes ganddynt unrhyw bŵer o'r fath - dim pŵer o'r fath - i gynnig y warant honno. O leiaf gyda'r adduned cyn y refferendwm yn yr Alban, roedd gan y rhai a'i llofnododd y pŵer i gyflawni hynny; nid oes gan y rhai a lofnododd y llythyr hwn ddim mwy o bŵer i gyflawni hynny na chath anwes fy mhlant.
Given that one of the Labour Party's great benefits of belonging to the European Union is the workers' rights legislation, supposedly emanating from Brussels, perhaps the First Minister would like to comment on the rights of those workers formerly employed at the Bosch plant bordering his constituency, and perhaps reflect on the fact that it was British money, used in regional aid, that actually built the brand-new plant in Hungary, which cost them their jobs, along, of course, with all their workers' rights.
O gofio mai un o fanteision mawr y Blaid Lafur o fod yn perthyn i'r Undeb Ewropeaidd yw'r ddeddfwriaeth hawliau gweithwyr, yr honnir ei bod yn deillio o Frwsel, efallai y byddai'r Prif Weinidog yn dymuno rhoi sylwadau ar hawliau'r gweithwyr hynny a arferai gael eu cyflogi yn ffatri Bosch sy'n ffinio ar ei etholaeth, ac efallai y gallai adlewyrchu ar y ffaith mai arian Prydeinig, a ddefnyddiwyd mewn cymorth rhanbarthol, a adeiladodd y ffatri newydd sbon yn Hwngari mewn gwirionedd, a gostiodd iddynt eu swyddi, ynghyd, wrth gwrs, â'u holl hawliau gweithwyr.
Well, the issue with Bosch was that - . It's right to say that the factory did move to Hungary. Most of those people who were employed there found jobs elsewhere, actually, very quickly. Renishaw now, of course, own the site and Renishaw are developing very, very quickly. But, we need to be careful here, because we are successful at attracting investment from other countries. So, it does work both ways. And yes, we need to make sure that those who have suffered most from globalisation are protected. That has been a weakness, I have to say, because globalisation has not been an unmitigated benefit for so many workers. Whatever happens after Thursday, the idea that we must live in an age of austerity forever and we must live in an age where workers' rights are consistently whittled away, that must be defeated, because the working people of Wales and Britain will not accept that. But, he and I will be in a different position in terms of how we resolve that. I don't see that leaving the EU and putting us in the hands of those who signed that letter, who are wild free-marketeers who care nothing for workers' rights, is actually the way forward. But, the days when we could say to people, 'Globalisation is all a good thing' are gone, and we have to make sure, across Europe, that people's rights are protected, that workers' rights are protected, and that people truly feel that Governments are on their side, and many Governments have lost their way in that regard.
Wel, y broblem gyda Bosch oedd bod - . Mae'n iawn i ddweud bod y ffatri wedi symud i Hwngari. Daeth y rhan fwyaf o'r bobl a oedd yn gweithio yno o hyd i swyddi mewn mannau eraill, mewn gwirionedd, yn gyflym iawn. Mae Renishaw erbyn hyn, wrth gwrs, yw perchennog y safle ac mae Renishaw yn datblygu'n gyflym iawn, iawn. Ond, mae angen i ni fod yn ofalus yn y fan yma, oherwydd ein bod yn llwyddiannus wrth ddenu buddsoddiad o wledydd eraill. Felly, mae'n gweithio y ddwy ffordd. Ac oes, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y rhai sydd wedi dioddef fwyaf o globaleiddio yn cael eu diogelu. Mae hynny wedi bod yn wendid, mae'n rhaid i mi ddweud, gan nad yw globaleiddio wedi bod yn fudd digamsyniol i lawer o weithwyr. Beth bynnag fydd yn digwydd ar ôl dydd Iau, mae'n rhaid trechu'r syniad bod yn rhaid i ni fyw mewn cyfnod o gyni am byth a bod yn rhaid i ni fyw mewn cyfnod lle mae hawliau gweithwyr yn gyson yn cael eu lleihau, oherwydd ni fydd y bobl sy'n gweithio yng Nghymru a Phrydain yn derbyn hynny. Ond, bydd ef a minnau mewn sefyllfa wahanol o ran sut y byddwn yn datrys hynny. Nid wyf i'n ystyried mai gadael yr UE a'n rhoi ni yn nwylo'r rhai a lofnododd y llythyr hwnnw, sydd yn farchnatwyr rhydd anystywallt, nad ydynt yn poeni dim am hawliau gweithwyr, yw'r ffordd ymlaen mewn gwirionedd. Ond, mae'r dyddiau pan y gallem ddweud wrth bobl bod, 'Globaleiddio yn gyfan gwbl yn beth da' wedi mynd, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, ledled Ewrop, bod hawliau pobl yn cael eu diogelu, bod hawliau gweithwyr yn cael eu diogelu, a bod pobl yn teimlo bod llywodraethau wirioneddol ar eu hochr nhw, ac mae llawer o Lywodraethau wedi colli eu ffordd yn hynny o beth.
The previous Member talked about one business; I would like to draw attention to the fact that 770 businesses have been created across Rhondda Cynon Taf, including in my constituency of Cynon Valley, thanks to EU funding, employing local people and contributing to the local economy. First Minister, do you agree with me that our continued membership of the EU and the support it provides are essential to contributing an environment where businesses in Wales can thrive?
Siaradodd yr Aelod blaenorol am un busnes; hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod 770 o fusnesau wedi eu creu ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys yn fy etholaeth i, Cwm Cynon, diolch i arian yr UE, gan gyflogi pobl leol a chyfrannu at yr economi leol. Brif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod ein haelodaeth barhaus o'r UE a'r gefnogaeth y mae'n ei darparu yn hanfodol er mwyn cyfrannu at amgylchedd lle y gall busnesau yng Nghymru ffynnu?
I do. I think we have to remember that the European money that we have seen coming into Wales is money that was not provided by successive British Governments in the 1980s and 1990s; it did not come to Wales. This is extra money that the Tories in the 1980s and 1990s would not provide for Wales. We still have a situation where the Barnett formula has not been addressed properly. At least we can rely on that European funding. What would happen if it wasn't there? That money would end up back in the Barnett formula or end up being kept in London, and regions of England, as well as Wales and Scotland, would not see that money; it would be kept in Whitehall. I don't buy this argument that somehow this is money that would come to Wales; I think this is money, if it does exist at all - I mean, the Member David Melding has made this point - that would sit in Whitehall and we would not see every penny that we get now, and that is dangerous for the people of Wales.
Ydw, rwy'n cytuno. Rwyf yn meddwl bod yn rhaid i ni gofio bod yr arian Ewropeaidd yr ydym wedi ei weld yn dod i mewn i Gymru yn arian na chafodd ei ddarparu gan Lywodraethau Prydain olynol yn y 1980au a'r 1990au; ni ddaeth i Gymru. Mae hwn yn arian ychwanegol nad oedd y Torïaid yn y 1980au a'r 1990au yn fodlon ei ddarparu i Gymru. Mae gennym sefyllfa o hyd lle nad yw fformiwla Barnett wedi cael sylw priodol. O leiaf gallwn ddibynnu ar y cyllid Ewropeaidd hwnnw. Beth fyddai'n digwydd pe na fyddai yno? Byddai'r arian hwnnw yn y pen draw yn ôl yn fformiwla Barnett neu yn cael ei gadw yn Llundain, ac ni fyddai rhanbarthau o Loegr, yn ogystal â Chymru a'r Alban, yn gweld yr arian hwnnw; byddai'n cael ei gadw yn Whitehall. Nid wyf yn credu'r ddadl hon bod yr arian hwn rywsut yn arian a fyddai'n dod i Gymru; rwy'n credu y byddai'r arian hwn, os yw'n bodoli o gwbl - wyddoch chi, mae'r Aelod David Melding wedi gwneud y pwynt hwn - yn eistedd yn Whitehall ac ni fyddem yn gweld pob ceiniog yr ydym yn ei chael ar hyn o bryd, ac mae hynny'n beryglus i bobl Cymru.
The First Minister said earlier that he didn't want exporters to face unnecessarily high hurdles, and, in setting out the challenges to the steel industry, he's emphasised his view that the pound has been too high. Would he therefore welcome a more competitive level for the pound, including against the euro?
Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach nad oedd eisiau gweld allforwyr yn wynebu rhwystrau uchel diangen, ac, wrth nodi'r heriau i'r diwydiant dur, mae wedi pwysleisio ei farn bod y bunt wedi bod yn rhy uchel. A fyddai felly'n croesawu lefel mwy cystadleuol ar gyfer y bunt, gan gynnwys yn erbyn yr ewro?
Well, it depends what you mean by 'competitive'. If it's going to plummet, that, as he knows full well, will drive inflation, because we import so much. More than anything else, what the steel industry needs is a market, and, if it cannot enter the European market or any other world market without a tariff being imposed, then the steel industry doesn't have a future. The UK is not big enough to drive demand for the UK steel industry. And, to my mind, what concerns me more than anything else is that I do not believe that there is a plan for what happens if we leave. Nigel Farage himself has said it doesn't matter if there's a trade deal or not. That is absolutely disastrous for the UK's economy. We export - [Interruption.] Well, we export half of what we produce. We export half of it to the EU: half of our exports go there. Coming the other way, it's 7 per cent; that's the difference. It may be a higher figure financially, but percentage-wise we export far more than comes back in. And what worries me is that our export market will be jeopardised, Welsh lamb will be hit by a double whammy where it would cost more to sell Welsh lamb on the continent, and yet I hear your party say you want a trade deal with New Zealand - that means floods of New Zealand lamb coming in cheaply into Wales. So, there are some consequences here that have not been thought through. Better, I say, that we don't have the barriers to export that leaving the UK would put in place. Better not to have that, and better to have a situation where, yes, we're able to export freely and we're able to get access to those funds. We will not get those funds and not get that guaranteed access if we leave.
Wel, mae'n dibynnu beth yr ydych chi'n ei olygu wrth 'cystadleuol'. Os yw'n mynd i ddisgyn yn helaeth, byddai hynny, fel y gŵyr yn dda iawn, yn ysgogi chwyddiant, oherwydd ein bod yn mewnforio cymaint. Yn fwy na dim arall, yr hyn sydd ei angen ar y diwydiant dur yw marchnad, ac, os nad yw'n gallu mynd i mewn i'r farchnad Ewropeaidd neu unrhyw farchnad arall yn y byd heb i dariff cael ei osod, yna nid oes gan y diwydiant dur ddyfodol. Nid yw'r DU yn ddigon mawr i ysgogi'r galw ar gyfer diwydiant dur y DU. Ac, yn fy marn i, yr hyn sy'n fy mhoeni i yn fwy na dim arall yw nad wyf yn credu bod yna gynllun ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd os byddwn yn gadael. Mae Nigel Farage ei hun wedi dweud nad oes ots pa un a oes cytundeb masnach ai peidio. Mae hynny'n gwbl drychinebus i economi'r DU. Rydym yn allforio - [Torri ar draws.] Wel, rydym yn allforio hanner yr hyn yr ydym yn ei gynhyrchu. Rydym yn allforio ei hanner i'r UE: mae hanner ein hallforion yn mynd yno. Yn dod y ffordd arall, 7 y cant ydyw; dyna'r gwahaniaeth. Gall fod yn ffigwr uwch yn ariannol, ond fel canran rydym yn allforio llawer mwy nag sy'n dod yn ôl i mewn. A'r hyn sy'n fy mhoeni i yw y bydd ein marchnad allforio yn cael ei pheryglu, bydd cig oen Cymru yn cael ei daro gan ergyd ddwbl lle y byddai'n costio mwy i werthu cig oen o Gymru ar y cyfandir, ac eto rwyf yn clywed eich plaid chi yn dweud eich bod eisiau cytundeb masnach gyda Seland Newydd sy'n golygu y bydd llwythi o gig oen o Seland Newydd yn dod i mewn i Gymru yn rhad. Felly, mae rhai canlyniadau yma nad ydynt wedi eu hystyried yn ofalus. Byddai'n well, yn fy marn i, na fyddai gennym y rhwystrau i allforio y byddai gadael y DU yn eu hachosi. Byddai'n well peidio â chael hynny, ac yn well i gael sefyllfa lle, ydym, yr ydym yn gallu allforio yn rhydd ac rydym yn gallu cael gafael ar y cronfeydd arian hynny. Ni fyddwn yn cael y cronfeydd arian hynny ac ni fyddwn yn cael y mynediad gwarantedig hwnnw os byddwn yn gadael.
As a pro-business Government we are delivering on a range of actions to help new and existing businesses to develop, grow and prosper.
Fel Llywodraeth sydd o blaid busnes rydym yn cyflawni amrywiaeth o gamau i helpu busnesau newydd a phresennol i ddatblygu, tyfu a ffynnu.
Thank you, First Minister, and, as you've highlighted, there's no escaping the fact that the outcome of the referendum next week will have a huge impact on businesses in Wales - if you just take Jobs Growth Wales, a Welsh Labour Government programme, which, with the support of EU funds, has enabled small employers to take on one or two people and has helped to support more than 15,000 young people into work over the last few years alone. I'm sure you'll have seen yesterday a letter signed by 10 top Welsh business figures in Wales, including Laura Tenison, the founder of JoJo Maman Bébé, who started her business in Torfaen, arguing the case for Britain to remain in the EU. First Minister, would you agree with me and those leading Welsh business figures that Welsh businesses are stronger, safer and better off in the European Union?
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, ac, fel yr ydych wedi tynnu sylw ato, nid oes dianc rhag y ffaith y bydd canlyniad y refferendwm yr wythnos nesaf yn cael effaith enfawr ar fusnesau Cymru - os ydych chi ond yn ystyried Twf Swyddi Cymru yn unig, rhaglen Llywodraeth Llafur Cymru, sydd, gyda chymorth ariannol yr UE, wedi galluogi cyflogwyr bach i gyflogi un neu ddau o bobl ac wedi helpu i gefnogi mwy na 15,000 o bobl ifanc i mewn i waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn unig. Rwy'n siŵr y byddwch wedi gweld llythyr ddoe a lofnodwyd gan 10 o brif unigolion busnes Cymru, gan gynnwys Laura Tenison, sylfaenydd JoJo Maman Bébé, a ddechreuodd ei busnes yn Nhorfaen, yn dadlau dros yr achos i Brydain aros yn yr UE . Brif Weinidog, a wnewch chi gytuno â mi a'r unigolion busnes arweiniol hynny yng Nghymru bod busnesau yng Nghymru yn gryfach, yn fwy diogel ac yn well eu byd yn yr Undeb Ewropeaidd?
I will. As I say, half of what we export goes to the EU - half of it. You interfere with that market at your peril. Many of our largest employers - Ford, for example, in my own constituency - are part of a European operation. That's why accessing the European market is all-essential for them; that's why they're in the UK. There's no incentive for them to stay in the UK if they can't access the European market. There is no incentive for investors to come into the UK, because its market is too small, if they can't access the European market. We know that we are able to export freely at the moment, we know that our farmers - and our lamb farmers particularly, who are absolutely dependent on exports to the EU - they're able to do that. And it is absolutely crucial that we say, 'We are a positive, confident country, we do not need to hide behind walls, we do not need to put our heads in the sand.' And a sign of that confidence is being part of something bigger, ensuring the prosperity of all.
Gwnaf. Fel yr wyf yn ei ddweud, mae hanner yr hyn yr ydym yn ei allforio yn mynd i'r UE - ei hanner. Mae'n beryglus i chi ymyrryd â'r farchnad honno. Mae llawer o'n cyflogwyr mwyaf - Ford, er enghraifft, yn fy etholaeth fy hun - yn rhan o weithrediad Ewropeaidd. Dyna pam y mae mynd i'r farchnad Ewropeaidd yn gwbl hanfodol ar eu cyfer; dyna pam y maent yn y DU. Does dim cymhelliant iddynt aros yn y DU os na allant fynd i'r farchnad Ewropeaidd. Nid oes cymhelliant i fuddsoddwyr ddod i mewn i'r DU, oherwydd bod ei marchnad yn rhy fach, os nad ydynt yn gallu mynd i'r farchnad Ewropeaidd. Rydym yn gwybod ein bod yn gallu allforio yn rhydd ar hyn o bryd, rydym yn gwybod bod ein ffermwyr - a'n ffermwyr cig oen yn arbennig, sydd yn gwbl ddibynnol ar allforio i'r UE - yn gallu gwneud hynny. Ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn dweud, 'Rydym yn wlad gadarnhaol, hyderus, nid oes angen i ni i guddio y tu ôl i waliau, nid oes angen i ni roi ein pennau yn y tywod.' Ac arwydd o'r hyder hwnnw yw bod yn rhan o rywbeth mwy, gan sicrhau ffyniant i bawb.
One of the Government's aims in terms of business development is to enhance the level of public procurement by Welsh businesses, and it is an aim that Plaid Cymru would agree with. But, if that is the case, then why has Business Wales cut the number of tender advisers that they were funding down from some 12 to 14 just a few years ago to two or three now, and what impact does the First Minister think that that will have on the ability of Welsh businesses to gain contracts in the public sector here in Wales?
Un o nodau'r Llywodraeth o ran datblygu busnes ydy cynyddu'r lefel o gaffael gan fusnesau Cymreig ac mae'n nod, wrth gwrs, y mae Plaid Cymru yn cytuno gydag e. Os felly, pam mae Busnes Cymru wedi torri'r nifer o gynghorwyr tendro roedden nhw'n eu hariannu i lawr o ryw 12 i 14 ychydig o flynyddoedd yn ôl i ddau neu dri nawr, a pha effaith y mae'r Prif Weinidog yn meddwl y bydd hynny'n ei chael ar allu busnesau Cymreig i ennill cytundebau yn y sector cyhoeddus fan hyn yng Nghymru?
Well, the thing is to ensure that a development bank is established, and to use that structure to strengthen and enhance the advice that is available to businesses. It is an age-old problem as regards accessing procurement and accessing capital. We've worked very hard with businesses to ensure that more and more businesses from Wales are able to secure these contracts, particularly in the public sector in Wales, and we've seen an increase in these over the years. There are many measures in place in order to strengthen the position further.
Wel, y peth i ni, wrth gwrs, yw sicrhau bod yna fanc datblygu yn cael ei sefydlu, a defnyddio strwythur hynny er mwyn cryfhau'r cynghori sydd ar gael i fusnesau. Mae'n hen broblem, wrth gwrs, ynglŷn â chael mynediad i gaffael ac i gyfalaf. Rŷm ni, wrth gwrs, wedi gweithio'n galed gyda busnesau er mwyn sicrhau bod yna fwy a mwy o fusnesau o Gymru yn gallu cael cytundebau, yn enwedig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac rŷm ni'n gweld bod y nifer hwnnw wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Wrth gwrs, mae yna sawl cynllun mewn lle er mwyn cryfhau'r sefyllfa ymhellach eto.
First Minister, the Severn Valley Effect was launched nearly two years ago, covering the Severn valley area. I should also declare an interest in having an involvement in the project. Now, the project has helped more than 75 people to start or grow their businesses in my constituency. Funding for the project has been supported by the Welsh Government and it's due to come to an end in August, and additional funding is being sought to secure the future of this service. Will you commit the Welsh Government to looking at how the success of this project can be used as a blueprint to support enterprises in other communities in other parts of Wales, and can I also ask that you consider joining me to visit people who have benefitted from this project the next time you're in Montgomeryshire?
Prif Weinidog, lansiwyd Effaith Dyffryn Hafren bron i ddwy flynedd yn ôl, yn cwmpasu ardal dyffryn Hafren. Dylwn hefyd ddatgan buddiant gan fod gennyf ran yn y prosiect. Nawr, mae'r prosiect wedi helpu mwy na 75 o bobl i ddechrau neu i dyfu eu busnesau yn fy etholaeth i. Mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac mae i fod i ddod i ben ym mis Awst, ac mae arian ychwanegol yn cael ei geisio i sicrhau dyfodol y gwasanaeth hwn. A wnewch chi ymrwymo Llywodraeth Cymru i ystyried sut y gall llwyddiant y prosiect hwn gael ei ddefnyddio fel glasbrint i gefnogi mentrau mewn cymunedau eraill mewn rhannau eraill o Gymru, ac a gaf i hefyd ofyn i chi ystyried ymuno â mi i ymweld â phobl sydd wedi elwa ar y prosiect hwn y tro nesaf y byddwch chi yn Sir Drefaldwyn?
If the Member would write to me with that invitation I will of course consider it. He makes a strong case for the scheme that he has mentioned. We're always keen to make sure that we look at schemes that have worked effectively across the whole of Wales in order to see how they can be rolled out across the rest of the country.
Pe byddai'r Aelod yn ysgrifennu ataf gyda'r gwahoddiad byddaf wrth gwrs yn ei ystyried. Mae'n cyflwyno achos cryf dros y cynllun y mae wedi'i grybwyll. Rydym bob amser yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar gynlluniau sydd wedi gweithio'n effeithiol ledled Cymru gyfan er mwyn gweld sut y gellir eu cyflwyno yng ngweddill y wlad.
Yes, they're set out in our manifesto.
Gwnaf, maent wedi eu nodi yn ein maniffesto.
Thank you very much indeed, First Minister. One of the commitments that you gave during the election period was that within 100 days you would consult on whether the Betsi Cadwaladr university health board ought to be divided into two or more health organisations. Have you abandoned that commitment or are we going to see a proposal come forward from your new Government?
Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog. Un o'r ymrwymiadau a roesoch yn ystod cyfnod yr etholiad oedd y byddech, o fewn 100 diwrnod, yn ymgynghori ar y cwestiwn o ba un a ddylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei rannu'n ddau neu fwy o sefydliadau iechyd. A ydych chi wedi rhoi'r gorau i'r ymrwymiad hwnnw neu a ydym ni'n mynd i weld cynnig yn cael ei gyflwyno gan eich Llywodraeth newydd?
We've not abandoned the commitment to consult people on the future structure of the health service in the north, no; that commitment remains in place.
Nid ydym wedi rhoi'r gorau i'r ymrwymiad i ymgynghori â phobl ar strwythur y gwasanaeth iechyd yn y gogledd ar gyfer y dyfodol, na; mae'r ymrwymiad hwnnw yn parhau i fod mewn grym.