source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
Thank you. Members, following Brexit, Tata Steel in my region has a better chance of survival and I urge you to support the motion. Moving to the amendments, I urge Members to reject the Welsh Conservative amendment. We do not disagree with the points you are making and, if you had decided to add those points to our motion, we would have supported you. However, perhaps your group is still divided on the subject of Europe; you choose to delete our motion. We cannot, therefore, support you. We will also be rejecting the Welsh Labour amendment. Continued membership of the EU does not guarantee the future of Welsh steel and our decision to leave does not jeopardise a sustainable future for steel making in Wales. With regard to Plaid's amendments, we will be supporting amendments 2 and 3. Of course, the UK and Welsh Governments should already be doing all they can to support the steel industry. We should also be looking at all sources of funding to support the steel industry, whether that is money we have sent to the EU and get back or funding direct from the UK and Welsh Governments. We will be abstaining on Plaid's amendment No. 4. We do not believe there will be the huge uncertainty and economic upheaval that is predicted by other parties that will come as a result of our vote to leave the EU. In fact, the stock market has already started recovering the losses that were seen on the news after we had secured a Brexit vote. Finally, on amendments 1 and 5, we will be voting against. The single market is not the be-all and end-all. We need to be able to trade freely with the EU 27 and not be shackled by the restrictions imposed by the single market. Amendment 5 is mischief making. Plaid Cymru know full well that a number of UKIP members vote against all EU Commission proposals on the basis that they want to see democratically elected parliamentarians, such as in Westminster, making laws and regulations and not unelected bureaucrats in Brussels. Dirprwy Lywydd, I commend this motion to the Chamber. Diolch yn fawr.
Diolch. Aelodau, ar ôl gadael yr UE, bydd gan Tata Steel yn fy rhanbarth obaith gwell o oroesi ac fe'ch anogaf i gefnogi'r cynnig. Gan symud at y gwelliannau, rwy'n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Nid ydym yn anghytuno â'r pwyntiau rydych yn eu gwneud a phe baech wedi penderfynu ychwanegu'r pwyntiau hynny at ein cynnig, byddem wedi eich cefnogi. Fodd bynnag, efallai fod eich grŵp yn dal yn rhanedig ar fater Ewrop; rydych yn dewis dileu ein cynnig. Ni allwn eich cefnogi felly. Byddwn hefyd yn gwrthod gwelliant Llafur Cymru. Nid yw parhau ein haelodaeth o'r UE yn gwarantu dyfodol dur Cymru ac nid yw ein penderfyniad i adael yn peryglu dyfodol cynaliadwy i gynhyrchu dur yng Nghymru. O ran gwelliannau Plaid Cymru, byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3. Wrth gwrs, dylai'r DU a Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth a allant eisoes i gefnogi'r diwydiant dur. Dylem edrych hefyd ar bob ffynhonnell o gyllid i gefnogi'r diwydiant dur, boed yn arian rydym wedi ei anfon i'r UE ac yn ei gael yn ôl neu ariannu uniongyrchol gan y DU a Llywodraeth Cymru. Byddwn yn ymatal ar welliant rhif 4 Plaid Cymru. Nid ydym yn credu y bydd yna ansicrwydd enfawr a chwalfa economaidd fel y mae'r pleidiau eraill yn ei ragweld yn sgil ein pleidlais i adael yr UE. Yn wir, mae'r farchnad stoc eisoes wedi dechrau adennill y colledion a welwyd ar y newyddion ar ôl i ni sicrhau pleidlais dros adael yr UE. Yn olaf, ar welliannau 1 a 5, byddwn yn pleidleisio yn erbyn. Nid yw'r farchnad sengl yn bopeth. Mae angen i ni allu masnachu'n rhydd gyda'r UE 27 heb gael ein llyffetheirio gan y cyfyngiadau a osodir gan y farchnad sengl. Creu helynt yw bwriad gwelliant 5. Mae Plaid Cymru yn gwybod yn iawn fod nifer o aelodau UKIP yn pleidleisio yn erbyn holl gynigion Comisiwn yr UE ar y sail eu bod am weld seneddwyr a etholwyd yn ddemocrataidd, megis yn San Steffan, yn gwneud cyfreithiau a rheoliadau ac nid biwrocratiaid anetholedig ym Mrwsel. Ddirprwy Lywydd, rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr. Diolch yn fawr.
I have selected the seven amendments to the motion. If amendment 1 is agreed, amendments 2 and 3 will be deselected. If amendment 2 is agreed, amendment 3 will be deselected. I call on Bethan Jenkins to move amendments 1, 4, 5, 6 and 7 tabled in the name of Simon Thomas.
Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1, 4, 5, 6 a 7 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas.
I stand to move Plaid Cymru's amendments. There is premature and then there is this debate. Look at the chaos engulfing British politics. The Prime Minister gone. What was his most likely successor gone. A leadership battle in the Labour Party. And yet, even as their own party leader resigns, for now, and leaves his mess for the rest of us to sort, we have the UK Independence Party somehow trying to argue that Brexit would be better for the steel industry without even contemplating a plan for that realisation. As abstract arguments go, this would be entertaining if it wasn't so serious. That is why, on amendment 1, we decided to replace the motion rather than rewording it, because its premise is absurd. While the value of iron and steel imports is greater than exports for the whole of the UK, for Wales it is considerably higher. Last year, we imported 400 million tonnes of iron and steel but exported one billion - two and a half times as much. Of that amount, some 69 per cent - over two thirds - goes to the European market. Frankly, it is impossible to argue that the steel industry will benefit from losing its ability to trade on the open market. The EU has made this clear; there are no special deals to be had. You're either in or you're out. [Interruption.] No, sorry. The size of the economy and reciprocal markets don't enter into it. So far, it's been fine for UKIP and other 'leave' supporters to argue that this is not true, but we should only give that some credence once a single one of the 'leave' campaign's predictions proves to be true. I'll address amendments 4 and 5 together. Plaid Cymru's provided two very clear ideas on what we could be doing here in Wales to support Tata in Port Talbot to become more competitive and sustainable. It can be done without breaching EU competition rules, in spite of what has been previously said. How do I know this? Because the European Commission staff - those faceless bureaucrats that you keep talking about - told me so when I bothered to go and visit them. Regardless of what some Members of this Chamber might think of them, the ones I've met I hold in the highest regard. They are better placed than anyone else, I think, to know what constitutes unacceptable state aid. So, let's park that argument and talk positively about what can be done. Well, the Welsh Government already makes use of the European fund for strategic investments. We had a statement from the former Minister for finance in the last Assembly updating us on its progress, and that of Horizon 2020. The EFSI, I was also told in Brussels, is well suited to funding Tata's plans for a new power station. These proposals are fully realised and have the requisite permissions. The new plant would reuse gases that are a by-product of steel making. This environmental aspect, which would reduce the site's emissions, is a significant factor in deciding whether such a project should receive money. It will also, crucially, reduce Tata's energy costs.
Rwy'n sefyll i gynnig gwelliannau Plaid Cymru. Mae yna gynamserol, wedyn mae yna'r ddadl hon. Edrychwch ar yr anhrefn sydd yng ngwleidyddiaeth Prydain drwyddi draw. Mae'r Prif Weinidog wedi mynd. Mae'r person a oedd yn olynydd mwyaf tebygol iddo wedi mynd. Brwydr arweinyddiaeth yn y Blaid Lafur. Ac eto, hyd yn oed wrth i arweinydd eu plaid eu hunain ymddiswyddo, am nawr, a gadael ei lanast i'r gweddill ohonom gael trefn arno, mae gennym Blaid Annibyniaeth y DU rywsut yn ceisio dadlau y byddai gadael yr UE yn well i'r diwydiant dur heb hyd yn oed ystyried cynllun ar gyfer gwireddu hynny. Fel y mae dadleuon haniaethol yn mynd, byddai hyn yn ddifyr pe na bai mor ddifrifol. Dyna pam, ar welliant 1, rydym wedi penderfynu rhoi cynnig newydd yn hytrach na'i aileirio, am fod ei gynsail yn hurt. Er bod gwerth mewnforion haearn a dur yn fwy na'r allforion ar gyfer y DU i gyd, ar gyfer Cymru, mae'n sylweddol uwch. Y llynedd, mewnforiwyd 400 miliwn tunnell o haearn a dur gennym ond allforiwyd un biliwn - ddwywaith a hanner cymaint. O'r swm hwnnw, mae oddeutu 69 y cant - dros ddwy ran o dair - yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd. A dweud y gwir, mae'n amhosibl dadlau y bydd y diwydiant dur yn elwa o golli ei gallu i fasnachu ar y farchnad agored. Mae'r UE wedi gwneud hyn yn glir; nid oes unrhyw gytundebau arbennig i'w cael. Naill ai rydych chi i mewn neu rydych chi allan. [Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gennyf. Nid yw'n ymwneud â maint yr economi a marchnadoedd dwyochrog. Hyd yn hyn, mae wedi bod yn iawn i UKIP a chefnogwyr 'gadael' eraill ddadlau nad yw hyn yn wir, ond ni ddylem roi unrhyw goel ar hynny hyd nes y profir bod un o ragfynegiadau'r ymgyrch dros 'adael' yn wir. Rwyf am ymdrin â gwelliannau 4 a 5 gyda'i gilydd. Mae Plaid Cymru wedi rhoi dau syniad clir iawn o'r hyn y gallem ei wneud yma yng Nghymru i gefnogi Tata ym Mhort Talbot i ddod yn fwy cystadleuol a chynaliadwy. Gellir ei wneud heb dorri rheolau cystadleuaeth yr UE, er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd yn flaenorol. Sut y gwn i hyn? Oherwydd bod staff y Comisiwn Ewropeaidd - y biwrocratiaid diwyneb y siaradwch amdanynt o hyd - wedi dweud wrthyf pan euthum i'r drafferth o ymweld â hwy. Ni waeth beth y mae rhai o Aelodau'r Siambr hon yn ei feddwl ohonynt, mae gennyf y parch mwyaf at y rhai y cyfarfûm â hwy. Maent mewn sefyllfa well nag unrhyw un arall, rwy'n meddwl, i wybod beth sy'n gymorth gwladwriaethol annerbyniol. Felly, beth am roi'r ddadl honno o'r neilltu a siarad yn gadarnhaol am yr hyn y gellir ei wneud. Wel, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn defnyddio Cronfa Fuddsoddi Strategol Ewrop. Cawsom ddatganiad gan y cyn-Weinidog cyllid yn y Cynulliad diwethaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar ei gynnydd, a chynnydd Horizon 2020. Dywedwyd wrthyf ym Mrwsel hefyd fod Cronfa Fuddsoddi Strategol Ewrop yn addas iawn i ariannu cynlluniau Tata ar gyfer gorsaf bŵer newydd. Mae'r cynigion hyn wedi eu gwireddu'n llawn ac mae ganddynt y caniatadau angenrheidiol. Byddai'r gwaith newydd yn ailddefnyddio nwyon sy'n sgil-gynhyrchion cynhyrchu dur. Mae'r agwedd amgylcheddol hon, a fyddai'n lleihau allyriadau'r safle, yn ffactor arwyddocaol wrth benderfynu a ddylai prosiect o'r fath gael arian. Bydd hefyd, yn allweddol, yn lleihau costau ynni Tata.
I thank the Member for taking the intervention. Do you therefore agree that it's important that we reuse that waste gas, and that it's important therefore that we keep the heavy end in the steelworks to actually produce that waste gas, so that the integrated works stays as an integrated works?
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. A ydych yn cytuno felly ei bod yn bwysig ein bod yn ailddefnyddio nwy gwastraff, a'i bod yn bwysig felly ein bod yn cadw'r pen trwm yn y gwaith dur i gynhyrchu'r nwy gwastraff hwnnw mewn gwirionedd, fel bod y gwaith integredig yn parhau'n waith integredig?
Yes, of course, I would definitely agree with that. There have been a lot of myths peddled about the policy cost of energy. What we do know is that it constitutes a fraction of the price of utility bills, and we also know that there is a snowball's chance in hell of seeing that market reformed. So, a renewable energy power station remains the best option - the only option. Similarly, the EU has a pot it must spend in four years that is aimed at encouraging research and scientific advancement. We have a steel department based in Swansea University's new innovation campus that is already working with Tata Steel. Indeed, a new department was established to support engineering and the foundation industries, and it wants to strengthen that relationship. Staff at the university believe they have an unrivalled advantage in having blast furnaces within sight of their campus, and for the cost of around £17 million spent over five years, we could establish a research and development institute that would lead the world in steel innovation. Both of these projects would sustain the plant and other sites across Wales. I want to get an update from the Welsh Government as to what they are doing with regard to the taskforce and with regard to what they're doing to be proactive in this sense. With the Brexit vote, we must make sure that there is urgency behind this. Lastly, I'd like to reflect on the issue that has been mentioned already in relation to the voting on the dumping of steel. Nigel Farage did not turn up to the overall legislative vote on the dumping of Chinese steel. If UKIP really did care about the dumping of Chinese steel that makes Port Talbot less viable then you would have turned up to vote for that legislation in favour of higher tariffs on Chinese steel and shame on you for not doing so. [Interruption.]
Ydw, wrth gwrs, rwy'n bendant yn cytuno â hynny. Mae llawer o fythau wedi cael eu gwyntyllu ynghylch cost polisi ynni. Yr hyn y gwyddom yw ei fod yn rhan fach iawn o bris biliau cyfleustodau, ac rydym hefyd yn gwybod nad oes affliw o obaith o weld diwygio'r farchnad honno. Felly, gorsaf bŵer ynni adnewyddadwy yw'r opsiwn gorau o hyd - yr unig opsiwn. Yn yr un modd, mae gan yr UE bot sy'n rhaid ei wario mewn pedair blynedd ar gyfer annog ymchwil a datblygu gwyddonol. Mae gennym adran ddur yng nghampws arloesi newydd Prifysgol Abertawe sydd eisoes yn gweithio gyda Tata Steel. Yn wir, sefydlwyd adran newydd i gefnogi peirianneg a'r diwydiannau sylfaen, ac mae am gryfhau'r berthynas honno. Mae staff yn y brifysgol yn credu bod ganddynt fantais heb ei thebyg o gael ffwrneisi chwyth o fewn golwg i'w campws, ac am gost o tua £17 miliwn a werir dros bum mlynedd, gallem sefydlu sefydliad ymchwil a datblygu a fyddai'n arwain y byd mewn arloesedd dur. Byddai'r ddau brosiect yn cynnal y gwaith a safleoedd eraill ar draws Cymru. Rwyf am gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud o ran y tasglu ac o ran yr hyn y maent yn ei wneud i fod yn rhagweithiol yn hyn o beth. Gyda'r bleidlais i adael yr UE, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod yna frys ynghylch hyn. Yn olaf, hoffwn ystyried y mater a grybwyllwyd eisoes mewn perthynas â'r bleidlais ar ddympio dur. Nid oedd Nigel Farage yn bresennol ar gyfer y bleidlais ddeddfwriaethol gyffredinol ar ddympio dur o Tsieina. Pe bai UKIP yn malio go iawn am ddympio dur Tsieineaidd sy'n gwneud Port Talbot yn llai hyfyw, yna byddech wedi pleidleisio dros y ddeddfwriaeth o blaid tariffau uwch ar ddur o Tsieina a chywilydd arnoch am beidio â gwneud hynny. [Torri ar draws.]
Thank you, we won't have - . I've said once before we won't have conversations across the Chamber. If you wanted to intervene you should have stood up and intervened on the Member, but we've lost that one. I call on Russell George to move amendment 2, tabled in the name of Paul Davies.
Diolch, nid ydym eisiau - . Rwyf wedi dweud unwaith o'r blaen nad ydym am gael sgyrsiau ar draws y Siambr. Pe baech chi eisiau ymyrryd dylech fod wedi sefyll ar eich traed ac ymyrryd ar yr Aelod, ond rydym wedi colli'r un honno. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Thank you, Deputy Presiding Officer. I'd like to move the Welsh Conservative amendment in the name of Paul Davies. Now, the Welsh Conservatives and I welcome this debate on the future of the steel industry in Wales. Welsh steel production is of course of vital importance to the Welsh economy, to workers and their families, and to those communities that rely on steel making. We will not be supporting the proposed motion without amendment as we don't believe that the motion adequately reflects the complexity and uncertainty of the difficult situation facing steel communities across Wales. The steel industry across the UK and Europe is facing very challenging economic conditions with a global collapse in demand for steel and there is a major over-production going on across the world. This is a truly global issue and as such I believe that the situation facing Tata in Wales cannot be seen in isolation of a Brexit vote. I acknowledge the fact that the result of the EU referendum means that it is all the more important for the UK Government to work with the Welsh Government to secure a strong future for steel making in Wales. The EU, of course, remains the most important market for steel, with over half of our exports going to the EU and more than two thirds of our imports coming from the EU. In that context, we are therefore happy to support the Government's amendment in the name of Jane Hutt and amendment 4 in the name of Simon Thomas. I should say we also support the wording in amendment 1, in the name of Simon Thomas, but we can't support that amendment in voting as it would delete, of course - our amendments would fall. I suspect that all Members in this Chamber, Senedd, Parliament, recognise the importance of Welsh steel to our nation's economic well-being and I'm pleased, to date, that there has been a significant amount of cross-party consensus to support our steel industry. Therefore, in the spirit of co-operation I was very keen that the Welsh Conservatives' amendments were uncontentious, and I hope that Members will agree with that. I'm disappointed that UKIP can't support our amendments in that spirit. But, you know, the steelworks play an important part in the Welsh economy and it's important that the UK and Welsh Governments continue to work together to maximise the viability and the potential of Welsh steel production into the future. Tata Steel contributes £200 million in wages to the Welsh economy and a further £3.2 billion in total economic impact to Wales as a whole - that's according to the Members' research brief that I read. It also employs 4,000 people at Port Talbot with many more, of course, in the region reliant on the steel industry for their livelihoods. We therefore believe it's essential that the Welsh and UK Governments continue to work closely together to devise a strategy to help Tata secure a credible buyer for the steelworks that offers the best possible opportunities for future economic growth and safeguards jobs and the Welsh steelworkers. I think, as well, that it's critical that this strategy isn't a knee-jerk approach, such as those calling for nationalisation, but is rather a long-term plan to secure the future of the Welsh steel industry within the private sector. We therefore support amendment 6, in the name of Simon Thomas, which looks to the Welsh and UK Governments to provide additional funding if that's necessary. Of course, the UK Government has already taken action to create a competitive environment for steel making in Wales by providing a package of support worth hundreds of millions. Also, the Welsh Government has created a package for those threatened with redundancy, and the UK Government has also taken action on the high energy costs. Other measures to offset the burden of high energy on steel manufacturing would also be welcome, and I am therefore interested in considering Plaid's amendments and details in amendment 5 for a new renewable energy plant and further reducing energy costs, and how a new steel research and development centre would fit into Treasury support for an enterprise zone for Port Talbot. I also want to, myself, encourage the UK and Welsh Governments to work together with other nations - not just in Europe, but around the world - to secure the best possible trade agreements for the Welsh steel industry. In the light of the Brexit vote, there does remain a great deal of uncertainty - that's got to be recognised - of how future trade deals will be formulated. That's uncertain yet, and it is, of course, essential that future trade agreements are arranged with other nations and they don't ignore the importance of the steel industry. Now, I would say -
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn enw Paul Davies. Nawr, mae'r Ceidwadwyr Cymreig a minnau'n croesawu'r ddadl hon ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru. Mae cynhyrchu dur yng Nghymru yn hanfodol bwysig i economi Cymru wrth gwrs, i weithwyr a'u teuluoedd, ac i'r cymunedau sy'n dibynnu ar gynhyrchu dur. Ni fyddwn yn cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio gan nad ydym yn credu bod y cynnig yn adlewyrchu'n ddigonol gymhlethdod ac ansicrwydd y sefyllfa anodd sy'n wynebu cymunedau dur ar draws Cymru. Mae'r diwydiant dur ar draws y DU ac Ewrop yn wynebu hinsawdd economaidd heriol iawn gyda chwymp byd-eang yn y galw am ddur a cheir gorgynhyrchu mawr ar draws y byd. Mae hwn yn fater gwirioneddol fyd-eang ac fel y cyfryw rwy'n credu na ellir ystyried y sefyllfa sy'n wynebu Tata yng Nghymru ar wahân i'r bleidlais i adael yr UE. Rwy'n cydnabod y ffaith fod canlyniad refferendwm yr UE yn golygu ei bod yn bwysicach fyth i Lywodraeth y DU weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru. Yr UE, wrth gwrs, yw'r farchnad bwysicaf ar gyfer dur o hyd, gyda thros hanner ein hallforion yn mynd i'r UE ac mae mwy na dwy ran o dair o'n mewnforion yn dod o'r UE. Yn y cyd-destun hwnnw felly rydym yn hapus i gefnogi gwelliant y Llywodraeth yn enw Jane Hutt a gwelliant 4 yn enw Simon Thomas. Dylwn ddweud ein bod hefyd yn cefnogi geiriad gwelliant 1, yn enw Simon Thomas, ond ni allwn gefnogi'r gwelliant hwnnw wrth bleidleisio gan y byddai'n dileu, wrth gwrs - byddai ein gwelliannau ni'n methu. Rwy'n amau bod yr holl Aelodau yn y Siambr hon, y Senedd, yn cydnabod pwysigrwydd dur Cymru i les economaidd ein cenedl ac rwy'n falch, hyd yn hyn, fod cryn dipyn o gonsensws trawsbleidiol wedi bod i gefnogi ein diwydiant dur. Felly, mewn ysbryd o gydweithrediad roeddwn yn awyddus iawn i welliannau'r Ceidwadwyr Cymreig beidio â bod yn ddadleuol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cytuno â hynny. Rwy'n siomedig na all UKIP gefnogi ein gwelliannau yn yr ysbryd hwnnw. Ond wyddoch chi, mae'r gwaith dur yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae'n bwysig fod Llywodraethau'r DU a Chymru yn parhau i weithio gyda'i gilydd i sicrhau cymaint â phosibl o hyfywedd a photensial i gynhyrchiant dur yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Tata Steel yn cyfrannu £200 miliwn mewn cyflogau i economi Cymru a chyfanswm o £3.2 biliwn o effaith economaidd i Gymru yn ei chyfanrwydd - yn ôl brîff a ddarllenais gan wasanaeth ymchwil yr Aelodau. Mae hefyd yn cyflogi 4,000 o bobl ym Mhort Talbot gyda llawer mwy, wrth gwrs, yn y rhanbarth yn ddibynnol ar y diwydiant dur am eu bywoliaeth. Felly, credwn ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau i weithio'n agos gyda'i gilydd i lunio strategaeth i helpu Tata i sicrhau prynwr credadwy i'r gwaith dur sy'n cynnig y cyfleoedd gorau posibl ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol ac yn diogelu swyddi a gweithwyr dur Cymru. Rwy'n meddwl hefyd ei bod yn hanfodol nad yw'r strategaeth hon yn ymagwedd ddifeddwl, megis y rhai sy'n galw am wladoli, ond yn hytrach, ei fod yn gynllun hirdymor i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru yn y sector preifat. Felly, rydym yn cefnogi gwelliant 6, yn enw Simon Thomas, sy'n troi at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol os yw hynny'n angenrheidiol. Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cymryd camau i greu amgylchedd cystadleuol ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru drwy ddarparu pecyn cymorth gwerth cannoedd o filiynau. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi creu pecyn ar gyfer y rhai dan fygythiad o golli swydd, ac mae Llywodraeth y DU hefyd wedi rhoi camau ar waith mewn perthynas â chostau ynni uchel. Byddai mesurau eraill i wneud iawn am y baich ynni trwm ar weithgynhyrchu dur i'w croesawu hefyd, a hoffwn ystyried gwelliannau a manylion y Blaid yng ngwelliant 5 mewn perthynas â gwaith ynni adnewyddadwy newydd a lleihau costau ynni ymhellach, a sut y byddai canolfan ymchwil a datblygu dur newydd yn addas i gael cymorth Trysorlys tuag at ardal fenter ar gyfer Port Talbot. Rwyf hefyd yn awyddus i annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gydweithio gyda chenhedloedd eraill - nid yn unig yn Ewrop, ond o gwmpas y byd - er mwyn sicrhau'r cytundebau masnach gorau posibl i ddiwydiant dur Cymru. Yng ngoleuni'r bleidlais i adael yr UE, ceir cryn dipyn o ansicrwydd o hyd - rhaid cydnabod hynny - ynglŷn â'r modd y caiff cytundebau masnach eu llunio yn y dyfodol. Mae hynny'n ansicr hyd yma, ac wrth gwrs, mae'n hanfodol fod cytundebau masnach yn y dyfodol yn cael eu trefnu gyda chenhedloedd eraill ac nad ydynt yn anwybyddu pwysigrwydd y diwydiant dur. Nawr, byddwn yn dweud -
You've got to wind it up now.
Mae'n rhaid i chi ddirwyn i ben yn awr.
Yes, I will, in that case, wind up, Deputy Presiding Officer. Just to say that, from my perspective, I hope the Welsh and UK Governments continue to work together towards a positive outcome.
Iawn, fe wnaf ddirwyn i ben felly, Ddirprwy Lywydd. Dim ond dweud, o fy safbwynt i, fy mod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda'i gilydd tuag at ganlyniad cadarnhaol.
Thank you very much. I call on the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure to formally move amendment 3 tabled in the name of Jane Hutt. You can stand to do it; it's very nice. [Laughter.]
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol. Gallwch sefyll i wneud hynny; mae'n neis iawn. [Chwerthin.]
Move, formally.
Cynnig, yn ffurfiol.
Move formally, thank you. David Rees.
Cynnig yn ffurfiol, diolch. David Rees.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. As Members are fully aware, steel is the beating heart of my home town and I welcome another opportunity to debate the future of that industry here today. However, today, we should be debating how we secure a sustainable future through working together to build a stable economic environment and tackle the challenges facing steelworkers; not using the steel industry as an excuse for welcoming a Brexit vote, which is what this motion is. The steelworks in Port Talbot has been part of our skyline for over a century and I hope that it will continue to dominate that skyline for many, many more years to come. The steel industry in Wales - not only in Port Talbot, because there are other plants in Wales - is a vital part of the economy. But we can't hide from the fact that there are pressures across Europe, which are resulting in the UK steel industry actually experiencing a greater uncertainty, leaving its employees with that feeling of having the sword of Damocles hanging over them. Many of my constituents, their families and the wider community in Aberavon are still unsure about the future of the plant at Port Talbot, and our commitment must be to work to secure that future and provide the much-needed reassurances. I know that there is a meeting in Mumbai of the Tata board this Friday, which will definitely have an impact upon what the future is there. A range of factors has led to thousands of job losses in the sector across the UK and over a thousand have actually been lost in my own constituency - we cannot forget those contractors and the supply chain workers who are also affected by the steel crisis. One major factor has been the cheap imports, but not just from China, it's also from Turkey and Russia. As we know, the EU has had levers to put tariffs on imported steel to tackle dumping, and they have done so in the past. It's been mentioned that they've only got 16 per cent, but let's remind ourselves that the UK Government actually didn't push for the change in the lesser duty rate; they actually blocked it. That's something we need to address. Perhaps the fact that we have a Brexit actually might remove the blocking of the lesser duty rate, but it won't apply for us; it'll apply against us, possibly, and that's something we have got to watch. So, don't blame the EU for that, blame the current UK Government. As I said, as a consequence of Brexit, we may be subject to those tariffs in the future, particularly if the UK cannot agree on a deal for the single market, and that is something that is clearly in question at this moment in time. This will affect the price per tonne of steel and you'll remember that Port Talbot actually exports a third of its market to the EU. So, that's a huge amount of impact upon us if we have to pay additional costs.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae'r Aelodau'n llwyr ymwybodol, dur yw calon fy nhref enedigol ac rwy'n croesawu cyfle arall i drafod dyfodol y diwydiant yma heddiw. Fodd bynnag, heddiw, dylem fod yn trafod sut y gallwn sicrhau dyfodol cynaliadwy drwy weithio gyda'n gilydd i adeiladu amgylchedd economaidd sefydlog a mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gweithwyr dur, yn hytrach na defnyddio'r diwydiant dur fel esgus ar gyfer croesawu pleidlais i adael yr UE, sef yr hyn yw'r cynnig hwn. Mae'r gwaith dur ym Mhort Talbot wedi bod yn rhan o'n nenlinell ers dros ganrif ac rwy'n gobeithio y bydd yn parhau i dra-arglwyddiaethu'r nenlinell am lawer iawn mwy o flynyddoedd i ddod. Mae'r diwydiant dur yng Nghymru - nid yn unig ym Mhort Talbot, gan fod gweithfeydd eraill yng Nghymru - yn rhan hanfodol o'r economi. Ond ni allwn guddio rhag y ffaith fod yna bwysau ar draws Ewrop, sy'n golygu bod y diwydiant dur yn y DU yn dioddef mwy o ansicrwydd mewn gwirionedd, gan beri i'w weithwyr deimlo bod cleddyf Damocles yn hongian drostynt. Mae llawer o fy etholwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach yn Aberafan yn dal yn ansicr ynghylch dyfodol y gwaith ym Mhort Talbot, a rhaid i ni ymrwymo i weithio i sicrhau'r dyfodol hwnnw a darparu sicrwydd mawr ei angen. Gwn fod yna gyfarfod o fwrdd Tata yn Mumbai ddydd Gwener a fydd yn sicr o effeithio ar beth fydd y dyfodol yno. Mae amrywiaeth o ffactorau wedi arwain at filoedd o swyddi'n cael eu colli yn y sector ar draws y DU a chollwyd dros fil mewn gwirionedd yn fy etholaeth i - ni allwn anghofio'r contractwyr a gweithwyr y gadwyn gyflenwi hefyd yr effeithir arnynt yn sgil yr argyfwng dur. Un ffactor pwysig fu'r mewnforion rhad, ond nid yn unig o Tsieina: dônt hefyd o Dwrci a Rwsia. Fel y gwyddom, mae'r UE wedi cael dulliau o roi tariffau ar ddur a fewnforir i fynd i'r afael â dympio, ac maent wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Soniwyd mai dim ond 16 y cant sydd ganddynt, ond gadewch i ni atgoffa ein hunain na wasgodd Llywodraeth y DU am newid i'r gyfradd is o dollau; mewn gwirionedd fe wnaethant ei rwystro. Mae hynny'n rhywbeth mae angen i ni fynd i'r afael ag ef. Efallai y bydd y ffaith ein bod yn mynd i adael yr UE yn diddymu'r rhwystr ar y gyfradd is o dollau mewn gwirionedd, ond ni fydd yn berthnasol i ni; bydd yn berthnasol yn ein herbyn, o bosibl, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n rhaid i ni ei wylio. Felly, peidiwch â rhoi'r bai ar yr UE am hynny, rhowch y bai ar Lywodraeth bresennol y DU. Fel y dywedais, o ganlyniad i adael yr UE, efallai y byddwn yn ddarostyngedig i'r tariffau hynny yn y dyfodol, yn enwedig os na all y DU gytuno ar gytundeb ar gyfer y farchnad sengl, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n amlwg dan sylw ar hyn o bryd. Bydd hyn yn effeithio ar bris tunnell o ddur a byddwch yn cofio bod Port Talbot mewn gwirionedd yn allforio traean o'i farchnad i'r UE. Felly, mae honno'n effaith drom iawn arnom os bydd yn rhaid i ni dalu costau ychwanegol.
Does the Member recognise that, since the Brexit vote, the level of the pound has now declined by some 10 per cent and will that not flow through into significantly improved competitiveness for the Welsh and UK steel industry?
A yw'r Aelod yn cydnabod, ers y bleidlais i adael yr UE, fod lefel y bunt bellach wedi gostwng oddeutu 10 y cant ac oni fydd hynny'n llifo drwodd i welliant sylweddol yng nghystadleurwydd y diwydiant dur yng Nghymru a'r DU?
Yes, I accept that point that the pound is down, therefore the exports are cheaper and possibly more enticing to buyers, but, of course, we are buying raw materials in dollars, and the pound has dropped like a rock to a 31-year low against the dollar, so the consequences are that we've probably got, perhaps, a worse situation, not necessarily a better situation.
Ydw, rwy'n derbyn y pwynt fod y bunt yn is, felly mae'r allforion yn rhatach ac o bosibl yn fwy deniadol i brynwyr, ond wrth gwrs, rydym yn prynu deunyddiau crai mewn doleri, ac mae'r bunt wedi suddo fel plwm i bwynt is nag y gwnaeth ers 31 o flynyddoedd yn erbyn y ddoler, felly mae'r canlyniadau sydd gennym, yn ôl pob tebyg efallai, yn sefyllfa waeth, nid yn sefyllfa well o reidrwydd.
I won't take a second one, no. I actually welcome the amendment by the Welsh Conservatives, which encourages UK and Welsh Governments to actually work together to devise a strategy to maximise the long-term viability and potential of steel production in Wales. This is something I've been calling for for a long time. I actually marched alongside Port Talbot steelworkers in May as they lobbied the UK Government to bring forward an industrial strategy to strengthen our steel sector. I feel that the Welsh Government should have a part to play in those discussions as the majority of steel making now lies in Wales. With regard to Plaid Cymru's amendment 5, I agree with the sentiment behind it totally, highlighting the need to support the development of the power plant and the establishment of a research hub based in Swansea University, centred on Swansea University. The amendment, though, asks the Welsh Government to act when I don't think it has the authority to do so, but we must stress the fantastic work that Swansea University has been undertaking in conjunction with Tata and emphasise that it should lead any research and development hub within the UK. I have visited the innovation campus at the university and specific projects also in Baglan bay on numerous occasions along with the First Minister and the Minister for Skills and Science. These are world-leading research facilities and should be supported in the years ahead. I agree with any call for Welsh Government to engage in support for these areas. Finally, we must now ensure that any potential buyers of Tata Steel UK business are offered the support they were offered before the referendum result. We must also ensure that Tata continues to be a responsible employer and seller. Only a fortnight ago, I was assured that there would be when I met with Mr Jha, the chief executive officer of Tata Steel UK. Let's hope that continues and that will continue to happen. But, through all this huge uncertainty, the workers at Port Talbot have continued to demonstrate their commitment to steel making and have broken production records, despite having that cloud of uncertainty hovering over them. We must ensure that Welsh Government continues to pressure the UK Government to bring forward the tax breaks promised and the pension consultation, which closed on the twenty-third - strangely enough, the same day the UK voted on Brexit, but that's when the pension consultation closed - and that it's looked at very carefully, scrutinised properly, and we come to some conclusion. Because the last thing we want is the pensions going into the pension protection fund because that would be devastating for pensioners and the workers in the works now. I continue to believe that steel making in Port Talbot has a future. We must all unite to ensure that we protect this foundation industry. I, for one, will continue to work with the trade union colleagues, management, workforce and all people in Port Talbot to secure that future.
Nid wyf am gymryd ail un, nac ydw. Rwy'n croesawu'r gwelliant gan y Ceidwadwyr Cymreig mewn gwirionedd, sy'n annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda'i gilydd i lunio strategaeth i hyrwyddo i sicrhau cymaint â phosibl o hyfywedd a photensial hirdymor i gynhyrchiant dur yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth y bûm yn galw amdano ers amser hir. Gorymdeithiais ochr yn ochr â gweithwyr dur Port Talbot ym mis Mai wrth iddynt lobïo Llywodraeth y DU i gyflwyno strategaeth ddiwydiannol i gryfhau ein sector dur. Rwy'n teimlo y dylai Llywodraeth Cymru fod â rhan i'w chwarae yn y trafodaethau hynny gan fod y rhan fwyaf o'r gweithgarwch cynhyrchu dur bellach yn digwydd yng Nghymru. O ran gwelliant 5 Plaid Cymru, rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimlad sy'n sail iddo, yn tynnu sylw at yr angen i gefnogi datblygiad yr orsaf bŵer a sefydlu canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, wedi'i chanoli ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r gwelliant, fodd bynnag, yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu pan nad wyf yn credu bod ganddi'r awdurdod i wneud hynny, ond rhaid i ni bwysleisio'r gwaith gwych y mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn ei wneud ar y cyd â Tata a phwysleisio y dylai arwain unrhyw ganolfan ymchwil a datblygu yn y DU. Rwyf wedi ymweld â'r campws arloesi yn y brifysgol a phrosiectau penodol hefyd ym mae Baglan ar sawl achlysur gyda'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Mae'r rhain yn gyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf a dylid eu cefnogi yn y blynyddoedd i ddod. Rwy'n cytuno ag unrhyw alwad ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r meysydd hyn. Yn olaf, mae'n rhaid i ni yn awr sicrhau bod unrhyw brynwyr posibl i fusnes Tata Steel UK yn cael cynnig y cymorth a gynigiwyd iddynt cyn canlyniad y refferendwm. Mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod Tata yn parhau i fod yn gyflogwr a gwerthwr cyfrifol. Bythefnos yn ôl yn unig, cefais sicrwydd y byddai pan gyfarfûm â Mr Jha, prif swyddog gweithredol Tata Steel UK. Gadewch i ni obeithio y bydd yn parhau ac y bydd hynny'n parhau i ddigwydd. Ond drwy'r holl ansicrwydd enfawr hwn, mae'r gweithwyr ym Mhort Talbot wedi parhau i ddangos eu hymrwymiad i gynhyrchu dur ac wedi bod yn cynhyrchu mwy nag erioed, er bod y cwmwl hwn o ansicrwydd yn hofran drostynt. Rhaid i ni sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i gyflwyno'r manteision treth a addawyd a'r ymgynghoriad pensiwn, a ddaeth i ben ar y trydydd ar hugain - yn rhyfedd ddigon, ar yr un diwrnod y pleidleisiodd y DU dros adael yr UE, ond dyna pryd y caeodd yr ymgynghoriad pensiwn - a'i fod wedi edrych yn ofalus iawn, wedi craffu'n briodol, a'n bod yn dod i ryw gasgliad. Oherwydd y peth olaf rydym ei eisiau yw pensiynau'n mynd i mewn i'r gronfa diogelu pensiynau oherwydd byddai hynny'n drychinebus i bensiynwyr a'r gweithwyr yn y gwaith yn awr. Rwy'n parhau i gredu bod yna ddyfodol i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot. Mae'n rhaid i ni i gyd uno i sicrhau ein bod yn gwarchod y diwydiant sylfaen hwn. Byddaf i, yn bendant, yn parhau i weithio gyda'r cydweithwyr yn yr undebau llafur, rheolwyr, y gweithlu a'r holl bobl ym Mhort Talbot i sicrhau'r dyfodol hwnnw.
The steel industry in Wales is facing a crisis, which threatens jobs and livelihoods. So, I feel it is right and proper that we do deliberate on this issue in the Assembly. My UKIP colleague Caroline Jones has already pointed to the issue of tariffs and the way in which membership of the EU has constrained the UK's ability to respond to Chinese steel dumping. This point is, as ever, contentious in this Chamber. I personally endorse the point Caroline made, but I won't go over it again now as it's been argued several times in this Chamber. Obviously, we will never come -
Mae'r diwydiant dur yng Nghymru yn wynebu argyfwng sy'n bygwth swyddi a bywoliaeth. Felly, rwy'n teimlo ei bod yn iawn ac yn briodol i ni ystyried y mater hwn yn y Cynulliad. Mae fy nghyd-Aelod UKIP, Caroline Jones, eisoes wedi tynnu sylw at fater tariffau a'r ffordd y mae aelodaeth o'r UE wedi cyfyngu ar allu'r DU i ymateb i ddympio dur o Tsieina. Mae'r pwynt, fel bob amser, yn ddadleuol yn y Siambr hon. Yn bersonol, rwy'n cymeradwyo'r pwynt a wnaeth Caroline, ond nid wyf am ymhel ag ef eto yn awr gan ei fod wedi bod yn destun dadl sawl gwaith yn y Siambr hon. Yn amlwg, ni fyddwn byth yn dod -
Go on. Go ahead, then.
Iawn. Ewch ymlaen felly.
The point is the British Government also opposed those amendments.
Y pwynt yw bod Llywodraeth Prydain hefyd wedi gwrthwynebu'r gwelliannau hynny.
Yes, I am coming to that.
Do, rwy'n dod at hynny.
Why is, therefore, better in the hands of the British Government if they also voted in that way?
Felly, pam y mae'n well yn nwylo Llywodraeth Prydain os ydynt hwy hefyd wedi pleidleisio yn y ffordd honno?
Okay. That's a good point, and I do address that later in my contribution. Right. The only addition I would make to the tariffs argument is this, and it goes along with what David Rees just raised: David rightly raised the important point - actually, it's the same point that Bethan raised as well - that the Conservative Government in Westminster has itself acted and voted against taking retaliatory tariffs against China. So, in this aspect - you're quite right, they have done that - the point I would make is that leaving the EU gives a UK Government a theoretical right to raise tariffs. It is up to the UK Government itself to decide whether or not to use that right. Unfortunately, at the moment, it has decided not to. It's far better to have that theoretical right to act than not to have it at all. At least the UK electorate has the right to vote out the UK Government if it disagrees with its industrial policy. It had no such right to vote out the EU bureaucrats who hitherto controlled our industrial policy. Please note, Bethan, I didn't call them faceless. Once we have left the EU and regain the measure of control over our industry, what can we then do as a nation to support Welsh steel? Is there, indeed, a viable future for Welsh steel? Well, in fact, if we look at the market situation currently, world demand for steel is likely to rise as advanced economies gradually recover from the slump of 2008 and as more emerging economies raise living standards. As they do so, more people want and can afford cars, domestic appliances and other products with a steel content. In the UK itself, the Government has pledged to buy more British steel as part of UK public sector contracts. Several of the large infrastructure and equipment programmes have a substantial steel content. However, another problem we have to overcome is the relatively high cost of energy for UK industry, compared with many of its European rivals. Much of this is due to carbon emissions penalties that were introduced, not by the EU, but by a previous UK Government. In 2008, Gordon Brown and his Labour Cabinet took the momentous decision to rename the Department of Energy as the Department of Energy and Climate Change. Under the stewardship of Ed Miliband - that man of wonderful foresight - this department then brought in the Climate Change Act 2008 and with it the stiff emissions taxes that the UK steel industry now faces. Many independently minded political pundits predicted at the time that this would lead to industrial disaster, and we may now be staring that disaster fully in the face. While the UK steel industry stands on the precipice, German and Dutch steelworkers face nowhere near such a menacing future. That is because, in part, but in large part -
Iawn. Mae hwnnw'n bwynt da, ac rwy'n ymdrin â hynny yn nes ymlaen yn fy nghyfraniad. Iawn. Yr unig ychwanegiad y byddwn yn ei wneud i'r ddadl ar dariffau yw hyn, ac mae'n cyd-fynd â'r hyn y mae David Rees newydd ei grybwyll. Cyfeiriodd David yn briodol at y pwynt pwysig - yr un pwynt ag y gwnaeth Bethan hefyd mewn gwirionedd - fod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ei hun wedi gweithredu a phleidleisio yn erbyn gosod tariffau dialgar yn erbyn Tsieina. Felly, yn hyn o beth - rydych yn hollol iawn, maent wedi gwneud hynny - y pwynt y byddwn yn ei wneud yw bod gadael yr UE yn rhoi hawl damcaniaethol i Lywodraeth y DU godi tariffau. Mater i Lywodraeth y DU ei hun yw penderfynu a yw am ddefnyddio'r hawl honno ai peidio. Yn anffodus, ar hyn o bryd, mae wedi penderfynu peidio â gwneud hynny. Mae'n llawer gwell cael yr hawl ddamcaniaethol i weithredu na pheidio â'i chael o gwbl. O leiaf mae gan etholwyr y DU yr hawl i bleidleisio i gael gwared ar Lywodraeth y DU os ydynt yn anghytuno â'i pholisi diwydiannol. Nid oedd ganddynt hawl o'r fath i bleidleisio i gael gwared ar fiwrocratiaid yr UE a fu'n rheoli ein polisi diwydiannol hyd yn hyn. Sylwer, Bethan, na wneuthum eu galw'n ddiwyneb. Pan fyddwn wedi gadael yr UE ac yn adennill y mesur o reolaeth dros ein diwydiant, beth y gallwn ei wneud wedyn fel cenedl i gefnogi dur Cymru? A oes yna, yn wir, ddyfodol hyfyw i ddur Cymru? Wel, mewn gwirionedd, os edrychwn ar sefyllfa'r farchnad ar hyn o bryd, mae'r galw byd-eang am ddur yn debygol o godi wrth i economïau datblygedig ymadfer yn raddol ar ôl cwymp 2008 ac wrth i fwy o economïau sy'n dod i'r amlwg godi safonau byw. Wrth iddynt wneud hynny, mae mwy o bobl eisiau ac yn gallu fforddio ceir, offer domestig a chynhyrchion eraill sy'n cynnwys dur. Yn y DU ei hun, mae'r Llywodraeth wedi addo prynu mwy o ddur Prydain fel rhan o gontractau sector cyhoeddus yn y DU. Mae nifer o'r rhaglenni seilwaith ac offer mawr yn cynnwys cryn dipyn o ddur. Fodd bynnag, problem arall sy'n rhaid i ni ei goresgyn yw cost gymharol uchel ynni i ddiwydiant y DU, o'i gymharu â llawer o'i gystadleuwyr Ewropeaidd. Mae llawer o hyn yn ganlyniad i gosbau allyriadau carbon a gyflwynwyd, nid gan yr UE, ond gan Lywodraeth flaenorol yn y DU. Yn 2008, gwnaeth Gordon Brown a'i Gabinet Llafur y penderfyniad tyngedfennol i ailenwi'r Adran Ynni yn Adran Ynni a Newid Hinsawdd. Dan stiwardiaeth Ed Miliband - y dyn hynod o graff hwnnw - cyflwynodd yr adran hon Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 wedyn a gyda hi, y trethi allyriadau llym y mae diwydiant dur y DU bellach yn eu hwynebu. Roedd llawer o bynditiaid gwleidyddol annibynnol eu barn yn rhagweld ar y pryd y byddai hyn yn arwain at drychineb diwydiannol, ac efallai ein bod bellach yn wynebu'r trychineb hwnnw. Tra bo diwydiant dur y DU yn sefyll ar ymyl y dibyn, nid yw gweithwyr dur yr Almaen a'r Iseldiroedd yn wynebu dyfodol mor fygythiol o bell ffordd. Y rheswm am hynny, yn rhannol, ond i raddau helaeth -
I'm just coming to the end, so, sorry. Their energy costs are relatively much lower than ours. So, we must look to regain control of our steel industry from the tentacles of EU bureaucracy, but we also need to legislate sensibly at home. Thank you.
Rwy'n dod at y diwedd, felly, mae'n ddrwg gennyf. Mae eu costau ynni yn is o lawer o gymharu â'n rhai ni. Felly, rhaid i ni geisio adennill rheolaeth dros ein diwydiant dur o fachau biwrocratiaeth yr UE, ond mae angen i ni hefyd ddeddfu'n synhwyrol gartref. Diolch.
I'm pleased to be able to contribute to this debate because it is a very important matter, the Tata steelworks. Could I, in the first place, congratulate David Rees and Bethan Jenkins on their contributions? They've been excellent this afternoon. I won't repeat their points, but it's worth noting that the Tata steelworks is the source of thousands of local jobs with high salaries, with thousands of residents from Port Talbot, Neath and Swansea being employed directly and indirectly in this area. Now, in February, the European Commission announced tariff payments to try to stop China from dumping cheap steel here in the UK, which is very relevant, as we've heard, to Port Talbot, of course. Now, this is the exact mechanism that the United States has used to set anti-dumping tariffs of 266 per cent, and 256 per cent tariffs on cold rolled steel from China - a total of 522 per cent, as we've heard already from Caroline Jones. The mechanism that has brought that tariff to the United States, the exact same mechanism, is available in Europe, but the UK Government voted against that, using the veto. That's why the tariff is only 16 per cent on Chinese steel - because the UK Government voted against it. It's very misleading to blame Europe for that. If you want to blame anyone, and someone should be blamed for this, the UK Government is to blame. It doesn't make any sense, therefore, to blame Europe for a problem that the London, the UK Government, has caused. We're in a worse situation now, out of Europe. We depend on the decisions of the UK Government, and it has been against these tariffs. That's why the payments are so low. The argument makes no sense at all, and all because the current UK Government wants to favour its new friends in China at the expense of industry in the UK, and Wales in particular. We do regret, as Bethan and several others have mentioned, UKIP's decision to vote against the Commission's measures in the EU Parliament this year. They decided to vote against measures that would have raised tariffs, much higher tariffs, on Chinese steel. So, blame is also in your hands, and I can't understand the kind of thinking that can bring this debate before us this afternoon when you are partly to blame for that problem. Following the referendum, naturally, we accept the result, but we need to act in the interests of trade and business in Wales, and for steelworkers in Port Talbot. We've heard the history of the blow - .
Rwy'n falch i allu cyfrannu at y ddadl yma achos mae'n fater pwysig iawn - gwaith dur Tata. A allaf i, yn y lle cyntaf, longyfarch David Rees a Bethan Jenkins ar eu cyfraniadau? Maen nhw wedi bod yn arbennig y prynhawn yma. Ni wnaf i ailadrodd y pwyntiau, ond mae'n werth nodi bod gwaith dur Tata yn ffynhonnell o filoedd o swyddi lleol gyda chyflogau uchel, gyda miloedd o drigolion o Bort Talbot, Castell-nedd ac Abertawe yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn y maes. Nawr, ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd 'tariffs', sef taliadau arbennig i geisio rhwystro Tsieina rhag dympio dur rhad yma yn y Deyrnas Gyfunol - perthnasol iawn, fel rydym ni wedi clywed, i Bort Talbot, wrth gwrs. Dyma'r union fecanwaith mae Unol Daleithiau'r America wedi ei ddefnyddio i osod tariff o 266 o 'percentage' yn yr 'anti-dumping tariff' a 256 'per cent' o dariff ar ddur a roliwyd yn oer o Tsieina - cyfanswm o 522 y cant, fel rydym ni wedi clywed eisoes gan Caroline Jones. Dyna'r mecanwaith sydd wedi dod â'r tariff yna i'r Unol Daleithiau. Mae'r union fecanwaith yna ar gael yn Ewrop, ond gwnaeth Llywodraeth Prydain bleidleisio yn erbyn hynny, gan ddefnyddio'r feto. Dyna pam mae'r tariff yn ddim ond 16 y cant ar ddur o Tsieina - achos gwnaeth Lywodraeth Prydain bleidleisio yn erbyn. Mae e'n gamarweiniol tost i feio Ewrop am hynny. Os ydych chi eisiau beio rhywun, a dylai rhywun gael ei feio, Llywodraeth Prydain sydd ar fai yn y fanna. Nid yw'n gwneud dim synnwyr o gwbl, felly, i feio Ewrop am broblem mae Llywodraeth Llundain, y Deyrnas Gyfunol, wedi ei achosi. Rydym ni mewn sefyllfa waeth nawr, allan o Ewrop. Rydym ni'n dibynnu ar benderfyniadau Llywodraeth Prydain, sydd newydd fod yn erbyn y 'tariffs' yma. Dyna pam mae'r taliadau mor isel. Nid ydy'r ddadl yn gwneud dim synnwyr o gwbl - i gyd achos bod Llywodraeth bresennol Prydain eisiau ffafrio ei ffrindiau newydd yn Tsieina ar draul diwydiant ym Mhrydain, ac yng Nghymru yn benodol. Fel mae Bethan a sawl un arall wedi sôn yn barod, rydym ni yn gresynu at benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn mesurau'r Comisiwn Ewropeaidd yn Senedd Ewrop eleni. Gwnaethon nhw benderfynu pleidleisio yn erbyn mesurau a fyddai wedi codi costau llawer uwch ar ddur o Tsieina. Mae'r bai hefyd yn eich dwylo chi'ch hunan, ac nid wyf i'n gallu deall y fath feddylfryd sy'n gallu dod â'r ddadl yma gerbron y prynhawn yma, pan, yn rhannol, rydych chi wedi achosi'r broblem. Wedi'r refferendwm, yn naturiol, rydym ni'n derbyn y canlyniad, ond mae angen gweithredu dros fasnach a thros fusnes yng Nghymru, a thros weithwyr dur Port Talbot. Rydym wedi clywed olrhain hanes yr ergydion -
Oh, here we go again.
O, dyma ni eto.
Last November the UK Government Minister asked Brussels to convene a meeting to discuss the tariffs. They agreed to that, but the time delays after that led to the outgoing economy Minister here, Edwina Hart, saying two months ago the rules were 'rather inflexible' and had driven her mad. When I raised this with the First Minister and what discussions he had had with the European Commission when we were recalled at the beginning of April, all he said was, 'we have been in correspondence with the Commission'. Do you agree with me that we need to know what dialogue has been occurring between the Welsh Government and the European Commission over these months?
Fis Tachwedd diwethaf, gofynnodd Gweinidog Llywodraeth y DU i Frwsel alw cyfarfod i drafod y tariffau. Cytunasant i wneud hynny, ond parodd oedi ar ôl hynny i Edwina Hart, Gweinidog yr economi ymadawol y lle hwn, ddweud ddeufis yn ôl fod y rheolau braidd yn anhyblyg a'u bod wedi ei gyrru'n wallgof. Pan ofynnais i'r Prif Weinidog am hyn a pha drafodaethau a gafodd gyda'r Comisiwn Ewropeaidd pan gawsom ein galw yn ôl ddechrau mis Ebrill, y cyfan a ddywedodd oedd, rydym wedi bod yn gohebu â'r Comisiwn. A ydych yn cytuno bod angen i ni wybod pa ddeialog sydd wedi bod yn digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd dros y misoedd hyn?
I want to start by noting the amended title of this debate and I welcome the realisation that our steel industry in Wales is much more than simply one site. Whilst I recognise the importance of our foundation industry, not just to our economy but to society as a whole in Wales, it won't surprise Members that I wish to focus my contribution today on Shotton. I cannot emphasise enough the success of Shotton steel. Not one but two profitable, viable, innovative businesses with a highly skilled and motivated and loyal workforce committed to the future. A bright future, as I said before and I'll say again, with the right support. On that I must credit our Government and the First Minister, the Cabinet Secretary and my colleagues in Flintshire for the support and the collective working that's gone in to support Shotton going into the future. But like our steel industry across Wales and the UK, we need certain external factors and actions in order not just for it to survive but to thrive. Firstly, we need a proactive or even an active UK Government that prioritise the future of our steel industry rather than the future Prime Minister. We also need, as my colleague from Aberavon said, a deal to access the single market. Now, the UKIP spokesperson said, 'It's all right; we'll get trade agreements instead', but trade agreements do not happen overnight. Our steel industry needs action right now, right away, to support its future. It's more important than ever that the UK Government works with the Welsh Government to secure a sustainable future for our steel industry. Finally, as an Assembly Member in Flintshire and a political product of that steel industry, now more than ever I'll give the workforce there my reassurance that, post the EU referendum, I will be fighting for their future to make sure they are successful into the future.
Rwyf am ddechrau drwy nodi teitl diwygiedig y ddadl hon ac rwy'n croesawu'r sylweddoliad fod ein diwydiant dur yng Nghymru yn llawer mwy na dim ond un safle. Er fy mod yn cydnabod pwysigrwydd ein diwydiant sylfaen, nid yn unig i'n heconomi, ond i gymdeithas yn gyffredinol yng Nghymru, ni fydd yn syndod i'r Aelodau fy mod yn dymuno canolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar Shotton. Ni allaf bwysleisio digon cymaint o lwyddiant yw dur Shotton. Nid un ond dau fusnes arloesol proffidiol a hyfyw gyda gweithlu medrus a brwdfrydig a theyrngar sydd wedi ymrwymo i'r dyfodol; dyfodol disglair - fel y dywedais o'r blaen a dywedaf eto - gyda'r cymorth cywir. Ar hynny, rhaid i mi roi clod i'n Llywodraeth a'n Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet a fy nghydweithwyr yn Sir y Fflint am y gefnogaeth a'r gwaith ar y cyd a wnaed i gefnogi Shotton wrth edrych tua'r dyfodol. Ond fel ein diwydiant dur ar draws Cymru a'r DU, mae angen ffactorau a gweithredoedd allanol penodol, nid yn unig er mwyn iddo allu goroesi, ond er mwyn iddo allu ffynnu. Yn gyntaf, mae angen Llywodraeth y DU sy'n rhagweithiol neu hyd yn oed yn weithredol ac sy'n rhoi blaenoriaeth i'n diwydiant dur yn y dyfodol hytrach na'r Prif Weinidog yn y dyfodol. Mae angen i ni hefyd, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod o Aberafan, gael cytundeb ar gyfer mynd i mewn i'r farchnad sengl. Nawr, dywedodd llefarydd UKIP, 'Mae'n iawn; fe gawn gytundebau masnach yn lle hynny', ond nid yw cytundebau masnach yn digwydd dros nos. Mae angen gweithredu yn awr, ar unwaith, er mwyn cynnal dyfodol ein diwydiant dur. Mae'n bwysicach nag erioed fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ein diwydiant dur. Yn olaf, fel Aelod Cynulliad yn Sir y Fflint a chynnyrch gwleidyddol y diwydiant dur hwnnw, yn awr yn fwy nag erioed fe roddaf fy sicrwydd i'r gweithlu yno, wedi refferendwm yr UE, y byddaf yn ymladd dros eu dyfodol er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn parhau'n llwyddiannus yn y dyfodol.
Similarly to Hannah, I will stress the wider picture in Wales regarding steel and the need to support the steel industry moving forward, Dirprwy Lywydd, because, obviously, in my area of Newport we have the Llanwern Tata works, we have the Orb works, which is part of Tata Steel, and also Liberty and a number of smaller operators as well. So, steel is still very important to Newport and the surrounding regional economy. I think it's clear from the debate already here today that the effects of Brexit in the majority view does make life more difficult, more stressful and more worrying for the steel industry and steelworkers in Wales. That's why I'm pleased that the Welsh Government amendment recognises that and puts it in the context of, following Brexit, the need for UK Government and Welsh Government to work ever more closely together to address the needs of the steel industry in Wales. So, although the wording of this motion concentrates on Port Talbot, we know very well that Port Talbot is integrated with the other Tata steelworks in Wales, and we do have to look at the holistic picture if we're going to do the job for steel in Wales that the people of Wales, and steelworkers especially, would expect of us. As far as Newport is concerned, then, Dirprwy Lywydd, we have had, I think, a very productive working relationship with Welsh Government over a period of time. I recently visited the Llanwern steelworks, along with the First Minister. It was quite clear that there is a good working relationship. There is a very good quality of product there at Llanwern, exemplified by the Zodiac plant, for example, which produces very high-quality steel for the car industry. And, similarly, in a recent visit to the Orb works, they were absolutely crystal clear that they have a good working relationship with Welsh Government. It's about support for investment, support for new processes, and, indeed, skills development, and they want to see that relationship strengthened and taken forward in the light of the new situation and the new concerns. And particularly with Liberty, having visited there just the other week, they, of course, are part of the bidding process for Tata Steel, but they also have independent operations in Newport that incorporate energy development as well as steel. They are ambitious; they're a multinational company with real resource. They have the current coal-fired power station at Uskmouth, which they would like to convert to biomass. They are part of the consortium that wishes to take forward tidal lagoons in Swansea, of course, and in Newport and Cardiff, and the energy that those lagoons produce could be an important part of their overall plans. They term it 'green steel', Dirprwy Llywydd, and it is about energy production to meet the great energy needs of steel. It's about recycling scrap and perhaps bringing electric arc furnaces to that Newport site to provide the facility to process that scrap metal. So, putting all of that together, their requirement - and this was their plea to me, really - was to work with Welsh Government to get the message across to the UK administration that they require important decisions to be taken in a timely fashion, for example, with regard to those energy needs, with regard to the conversion to biomass for that Uskmouth power plant, and with regard to decisions on the tidal lagoons. They are impatient to see progress with these decisions and I very much understand that impatience. I would like to say today, Dirprwy Llywydd, that in the current context, with all the uncertainty that's around, we could have greater certainty on the way ahead if we had timely and, you know, the right decisions on those energy questions. I hope very much that the UK Government is listening and will act in very short order.
Yn yr un modd â Hannah, rwyf am bwysleisio'r darlun ehangach yng Nghymru mewn perthynas â dur a'r angen i gefnogi'r diwydiant dur yn y dyfodol, Ddirprwy Lywydd, oherwydd, yn amlwg, yn fy ardal i, yng Nghasnewydd, mae gennym waith Tata yn Llanwern, mae gennym waith Orb, sy'n rhan o Tata Steel, a hefyd Liberty a nifer o weithredwyr llai yn ogystal. Felly, mae dur yn dal yn bwysig iawn i Gasnewydd a'r economi ranbarthol o'i hamgylch. Rwy'n credu ei bod yn amlwg o'r ddadl rydym wedi'i chael yma eisoes heddiw fod effeithiau gadael yr UE ym marn y mwyafrif yn gwneud bywyd yn fwy anodd, yn fwy o straen ac yn fwy pryderus i'r diwydiant dur a gweithwyr dur yng Nghymru. Dyna pam rwy'n falch fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny ac yn ei roi yng nghyd-destun - yn dilyn gadael yr UE - yr angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio'n agosach byth gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag anghenion y diwydiant dur yng Nghymru. Felly, er bod geiriad y cynnig hwn yn canolbwyntio ar Bort Talbot, gwyddom yn iawn fod Port Talbot wedi ei integreiddio â'r gweithfeydd dur Tata eraill yng Nghymru, ac mae'n rhaid i ni edrych ar y darlun cyfannol os ydym yn mynd i wneud y gwaith mewn perthynas â dur yng Nghymru y mae pobl Cymru, a gweithwyr dur yn arbennig, yn disgwyl i ni ei wneud. O ran Casnewydd, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ein bod wedi cael perthynas waith gynhyrchiol iawn gyda Llywodraeth Cymru dros gyfnod o amser. Yn ddiweddar, ymwelais â gwaith dur Llanwern gyda'r Prif Weinidog. Roedd yn eithaf amlwg fod yna berthynas waith dda. Mae cynnyrch o ansawdd da iawn yno yn Llanwern, fel y mae safle Zodiac, er enghraifft, yn ei ddangos, gwaith sy'n cynhyrchu dur o ansawdd uchel iawn ar gyfer y diwydiant ceir. Ac yn yr un modd, mewn ymweliad diweddar â gwaith Orb, roeddent yn gwbl glir fod ganddynt berthynas waith dda gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n ymwneud â chymorth ar gyfer buddsoddi, cymorth ar gyfer prosesau newydd, ac yn wir, datblygu sgiliau, ac maent am weld y berthynas honno'n cael ei chryfhau a'i datblygu yng ngoleuni'r sefyllfa newydd a'r pryderon newydd. Ac yn enwedig yn achos Liberty, ar ôl ymweld â'r safle yr wythnos o'r blaen, maent, wrth gwrs, yn rhan o'r broses geisiadau ar gyfer Tata Steel, ond mae ganddynt weithrediadau annibynnol hefyd yng Nghasnewydd sy'n ymgorffori datblygiad ynni yn ogystal â dur. Maent yn uchelgeisiol; maent yn gwmni rhyngwladol gydag adnoddau go iawn. Ganddynt hwy y mae'r orsaf bŵer glo bresennol yn Aber-wysg, a byddent yn hoffi ei throi'n orsaf biomas. Maent yn rhan o'r consortiwm sy'n dymuno datblygu morlynnoedd llanw yn Abertawe, wrth gwrs, ac yng Nghasnewydd a Chaerdydd, a gallai'r ynni y gallai'r morlynnoedd hyn ei gynhyrchu fod yn rhan bwysig o'u cynlluniau cyffredinol. Maent yn ei ddisgrifio fel 'dur gwyrdd', Ddirprwy Lywydd, ac mae'n ymwneud â chynhyrchu ynni i ddiwallu'r anghenion ynni mawr sy'n gysylltiedig â dur. Mae'n ymwneud ag ailgylchu sgrap a dod â ffwrneisi arc trydan i'r safle yng Nghasnewydd o bosibl er mwyn darparu'r cyfleuster ar gyfer prosesu'r metel sgrap. Felly, o roi hynny i gyd at ei gilydd, yr hyn y gofynnent amdano - a dyma oedd eu ple i mi, mewn gwirionedd - oedd gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyfleu'r neges i weinyddiaeth y DU eu bod angen i benderfyniadau pwysig gael eu gwneud yn amserol, mewn perthynas â'r anghenion ynni hynny er enghraifft, o ran y newid i fiomas yng ngwaith pŵer Aber-wysg, ac o ran penderfyniadau ar y morlynnoedd llanw. Maent yn ddiamynedd yn eu hawydd i weld cynnydd ar y penderfyniadau hyn ac rwy'n deall y diffyg amynedd hwnnw'n iawn. Hoffwn ddweud heddiw, Ddirprwy Lywydd, yn y cyd-destun presennol, gyda'r holl ansicrwydd, y gallem gael mwy o sicrwydd ar y ffordd ymlaen pe baem yn cael penderfyniadau amserol a chywir, wyddoch chi, ynglŷn â'r cwestiynau ynni hynny. Rwy'n gobeithio'n fawr fod Llywodraeth y DU yn gwrando ac y bydd yn gweithredu ar fyrder.
I must confess that when I first read the motion, that, following Brexit, Tata Steel in Port Talbot has a better chance of survival, I thought it was a sick joke. I don't want to begrudge those who campaigned to leave the EU their moment to enjoy their victory, but I would ask them not to be flippant. I have constituents working in Port Talbot, and hundreds of families reliant on the Trostre works in Llanelli who are deeply worried about the fallout from the decision to leave the EU, and today's motion is insensitive to their concerns. The early signs, I must say, are not encouraging. The downgrading of the UK's credit rating has already led to a halt in business investment in Wales. Just yesterday, I was told that a major pension fund had pulled out of a development in south Wales because they cannot put money into an economy that does not have a AAA rating. Grand claims about the benefits that will flow to us from being outside the EU already appear hollow, and the backtracking on the promise of extra money for the NHS is not encouraging. Of course, the truth is we don't know what the trade and tariff arrangements will be. It is possible they might be better. I doubt it, but let's be generous and optimistic; they might be. But the fact is that it's uncertain and is likely to be uncertain for several years to come. That uncertainty poses a significant risk to the future of the steelworks in the short term.
Rhaid i mi gyfaddef pan ddarllenais y cynnig yn gyntaf sy'n dweud bod gwell gobaith i Tata Steel ym Mhort Talbot oroesi yn sgil gadael yr UE, roeddwn yn meddwl mai jôc sâl oedd hi. Nid wyf am warafun i'r rheini a ymgyrchodd i adael yr UE eu heiliad i fwynhau eu buddugoliaeth, ond byddwn yn gofyn iddynt beidio â bod yn anystyriol. Mae gennyf etholwyr sy'n gweithio ym Mhort Talbot, a channoedd o deuluoedd sy'n dibynnu ar waith Trostre yn Llanelli ac sy'n poeni'n fawr am ganlyniadau'r penderfyniad i adael yr UE, ac mae cynnig heddiw yn ansensitif i'w pryderon. Nid yw'r arwyddion cynnar, mae'n rhaid i mi ddweud, yn galonogol. Mae israddio statws credyd y DU eisoes wedi arwain at atal buddsoddiad busnes yng Nghymru. Ddoe ddiwethaf, dywedwyd wrthyf fod cronfa bensiwn fawr wedi tynnu allan o ddatblygiad yn ne Cymru oherwydd na allant roi arian i mewn i economi sydd heb statws AAA. Mae honiadau aruchel am y buddion a fydd yn llifo i ni o fod y tu allan i'r UE eisoes yn ymddangos yn wag, ac nid yw'r cefnu a wnaed ar yr addewid o arian ychwanegol ar gyfer y GIG yn galonogol. Wrth gwrs, y gwir yw nad ydym yn gwybod beth fydd y trefniadau masnach a thariff. Mae'n bosibl y gallent fod yn well. Rwy'n amau hynny, ond gadewch i ni fod yn hael ac yn optimistaidd; gallent fod. Ond y ffaith yw ei bod yn sefyllfa ansicr ac yn debygol o fod yn ansicr am nifer o flynyddoedd i ddod. Mae'r ansicrwydd hwnnw'n creu risg sylweddol i ddyfodol y gwaith dur yn y tymor byr.
I'm surprised by his comment about pension funds. France and the US have been downgraded from AAA - there are very few AAA economies out there. Surely, the one thing we do know is that exports from these plants are now 10 per cent cheaper than they were two weeks ago. We heard from Bethan that there are two and a half times more exports than imports. Surely, that's already improved competitiveness, and that's why our motion is a very serious motion - it should be addressed as such.
Rwy'n synnu at ei sylw am gronfeydd pensiwn. Mae Ffrainc a'r Unol Daleithiau wedi cael eu hisraddio o statws AAA - ychydig iawn o economïau AAA sydd i'w cael. Yn sicr, yr un peth y gwyddom yw bod allforion o'r gweithfeydd hyn bellach 10 y cant yn rhatach nag yr oeddent bythefnos yn ôl. Clywsom gan Bethan fod dwywaith a hanner yn fwy o allforion na mewnforion. Yn sicr, mae hynny eisoes wedi gwella cystadleurwydd a dyna pam y mae ein cynnig yn un difrifol iawn - dylid ei drin felly.
I'm simply reflecting the views of business, and he's taking a very selective view of the economic picture to justify the hell that has been unleashed on the markets. An economic policy based simply on the cheap exchange rate is a very short-sighted one, I would argue. A few weeks ago, as David Rees, the Member for Aberavon, has already said, he and I met with the chief executive of Tata Steel in the UK, Mr Bimlendra Jha, here in the Assembly. It was clear from his conversation that if he was able to put a deal together to persuade the board of Tata in India to retain ownership of the UK plants, he would do his best, but he was worried about the liabilities of the pension fund and he was worried about the UK pulling out of the EU. Indeed, it is rumoured that a rescue deal was on the cards, but was pulled the morning after the vote. It is now harder to raise investment, so we cannot know whether the other bidders can proceed. The future of all the works in Wales and the workers' pensions is in doubt. So much for a better chance of survival being outside the EU. The Welsh Government, we know, has put money on the table, and Mr Jha made clear to us that Tata warmly welcomed that, in contrast to the lack of forthcoming information from the UK Government, who've yet to make good on their promises of help. But, the Brexiteers now need to deliver, and UKIP would do well to stop treating people's fears as a political plaything.
Rwy'n adlewyrchu safbwyntiau busnesau, dyna'i gyd, ac mae ef yn rhoi safbwynt dethol iawn o'r darlun economaidd i gyfiawnhau'r uffern a ryddhawyd ar y marchnadoedd. Byddwn yn dadlau bod polisi economaidd sy'n seiliedig yn unig ar y gyfradd gyfnewid rad yn un annoeth iawn. Ychydig wythnosau yn ôl, fel y dywedodd David Rees, yr Aelod dros Aberafan, eisoes, cyfarfu ef a minnau â phrif weithredwr Tata Steel yn y DU, Mr Bimlendra Jha, yma yn y Cynulliad. Roedd yn amlwg o'i sgwrs, pe bai'n gallu rhoi pecyn at ei gilydd i ddwyn perswâd ar fwrdd Tata yn India i gadw perchnogaeth ar weithfeydd y DU, byddai'n gwneud ei orau, ond ei fod yn poeni am rwymedigaethau'r gronfa bensiwn ac yn poeni ynglŷn â'r DU yn gadael yr UE. Yn wir, mae si ar led fod pecyn achub yn yr arfaeth, ond iddo gael ei dynnu'n ôl y bore ar ôl y bleidlais. Mae bellach yn fwy anodd sicrhau buddsoddiad, felly ni allwn wybod pa un a yw'r cynigwyr eraill yn gallu bwrw ymlaen. Mae dyfodol yr holl weithfeydd yng Nghymru a phensiynau gweithwyr dan amheuaeth. Naw wfft i'r gobaith gwell o oroesi o fod y tu allan i'r UE. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ar y bwrdd, a dywedodd Mr Jha wrthym yn glir fod Tata wedi croesawu hwnnw'n gynnes, yn wahanol i'r diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth y DU, sydd eto i wireddu eu haddewidion o gymorth. Ond yn awr mae angen i'r rhai a oedd am adael yr UE gyflawni, a byddai'n dda pe bai UKIP yn rhoi'r gorau i drin ofnau pobl fel pethau i chwarae gwleidyddiaeth â hwy.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Can I thank Members for their contributions today? I do know that everyone will be concerned about the impact that the referendum has had on the UK's steel industry, and there is no doubt that the referendum result has created considerable uncertainty, but also a deep sense of anxiety. I endorse the contribution made by Lee Waters, who I think captured the degree of anxiety that steelworkers and their families now face. I'm not at all convinced by UKIP's strategy that killing the national currency is the best way to grow an economy. I don't recall the Member who currently sits here today, but was in another place for many years, celebrating the devaluation of the pound back in the 1990s.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw? Rwy'n gwybod y bydd pawb yn pryderu am yr effaith y mae'r refferendwm wedi ei chael ar y diwydiant dur yn y DU, ac nid oes amheuaeth fod canlyniad y refferendwm wedi creu cryn ansicrwydd ac ymdeimlad dwfn o bryder hefyd. Ategaf gyfraniad Lee Waters, a ddisgrifiodd faint y pryder y mae gweithwyr dur a'u teuluoedd bellach yn ei wynebu. Nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl gan strategaeth UKIP mai lladd arian cyfredol cenedlaethol yw'r ffordd orau i dyfu economi. Nid wyf yn cofio'r Aelod sy'n eistedd yma heddiw ar hyn o bryd, ond a oedd mewn man arall am nifer o flynyddoedd, yn dathlu'r gostyngiad yng ngwerth y bunt yn ôl yn y 1990au.
Yes, of course I will.
Gwnaf, wrth gwrs y gwnaf.
On the contrary, I think it was the most extraordinary moment, which I've always called 'White Wednesday' rather than 'Black Wednesday'. However, unlike then, on the latest data, we have a current account deficit of 7 per cent of gross domestic product. His boss has gone on about how the high pound has handicapped steel production. Surely, in order to become more competitive, we need a lower currency.
I'r gwrthwyneb, rwy'n meddwl ei bod yn adeg ryfeddol tu hwnt, ac rwyf bob amser wedi ei alw'n 'Ddydd Mercher Gwyn' yn hytrach na 'Dydd Mercher Du'. Fodd bynnag, yn wahanol i'r adeg honno, ar y data diweddaraf, mae gennym ddiffyg cyfrif cyfredol o 7 y cant o gynnyrch domestig gros. Mae ei bennaeth wedi sôn llawer am y modd y mae'r bunt uchel wedi bod yn anfantais i gynhyrchiant dur. Yn sicr, er mwyn dod yn fwy cystadleuol, mae arnom angen arian cyfredol is.
The Member has repeatedly ignored the fact that raw materials imported from abroad are now even more expensive and will stifle growth in this sector. There is no doubt about it; there is no net benefit. There is also, as Members have already pointed out - Bethan Jenkins, Dai Lloyd and others - a tragic Shakespearian irony in what UKIP Members have said today and what they've actually done in previous times, where they have today claimed that protective tariffs will be great for the steel industry, but in the past, when they had an opportunity to introduce tariffs that would favour our steel industry, they did precisely the opposite. A cynic might suspect that UKIP in the past have deliberately sabotaged the steel industry in order to make political gain from the uncertainty that it led to. I think members of the public would rightly suspect any politician who stands up now and says, definitively, 'This is great' or 'This is dire.' Let's leave it to the experts. Just in the final few days, UK Steel have published their manifesto, which opens with a pretty clear statement. I quote: 'The result of the EU Referendum was a blow to the steel industry.' It's my belief that Brexit is still not the best course for Britain's steel industry to be taken on, but I can assure you of this: the people have spoken and, as a Welsh Government, we will do all we can to deliver a secure future. We are working relentlessly to support the sales process and the communities involved, and we will continue to put every resource we have as a Government to that purpose. The First Minister has consistently and directly pressed this message with Tata's senior leaders in Europe and in Mumbai, as well as at the highest levels of the Westminster Government. We will continue to press this message. Indeed, the deputy permanent secretary, my most senior official, is flying out to the board meeting on Friday to convey in the strongest possible terms our position. Nevertheless, both the referendum result and the UK Government changes do pose important questions about the future. It is essential that leadership uncertainty at a UK Government level does not impact on their stated commitment to do all they can to secure the future of our steel industry. I do hope that attention at Whitehall on the future of our steel plants here in Wales has not slipped as a result of recent events, will not waver and will not cease. One of our key priorities is keeping the blast furnaces at Port Talbot operating, but, of equal importance is ensuring that Port Talbot continues to be the primary supplier of steel to other Welsh sites, as well as to Hartlepool and to Corby. Hannah Blythyn raised the important issue of securing all of our steel sites, and I'd like to commend her for the work she has done in representing workers at the Shotton site. Hannah Blythyn also, rightly, pointed to the fact that considerable uncertainty would be caused during the course of negotiating a new framework agreement, which could take a decade or more - uncertainty and, of course, as I've said already, anxiety for those employed in the steel industry. We are waiting for updates from Tata on how it is progressing with the sale process, and we remain ready to support any bidders that will see jobs and sustainable steel production remain in Wales. Our offer of support remains on the table, but we can only consider the detail of any particular proposal when we get to the next stage and have greater clarity about a bidder's plans. [Interruption.] I'd like to, but I'm sorry. Whilst Tata is continuing to give the matter due consideration, it is more vital than ever before, as Russell George said and as John Griffiths said, that the UK Government continues to work with us, the steel industry, steel trade unions and other partners to instil confidence that we are all working together to create the right business environment that will support a sustainable steel industry in the United Kingdom. Last month, I attended the UK Government's steel council. The council has four industry-led working groups that are considering not only how we respond to the current steel crisis, but also how to enable the long-term sustainability of steel making in the future. Of course, we also have our own steel taskforce. I will be chairing future meetings of the taskforce to ensure we keep up the momentum and maintain the positive partnership that is being developed to support workers. And, I would be pleased to update Member in the coming weeks on the progress that has been made. Work is also advancing well to strengthen our procurement policy, which will clarify the importance of opening up opportunities for UK steel suppliers. There has been progress, too, on the newly established Port Talbot waterfront enterprise zone, which held its first meeting last month. The board will develop its strategy by building on the world-class advanced manufacturing skills and strong manufacturing heritage. It will focus on research and development, innovation-driven entrepreneurship, including opportunities related to the university and Swansea bay city region, as outlined by my friend and colleague, Dai Rees. Deputy Presiding Officer, we will continue to work with the UK Government, Tata Steel and representatives of the steel industry in Wales and the UK to reiterate that Wales, as a country, is committed to doing all we are able to to ensure a sustainable steel industry. We expect all those we are engaging with to do their utmost to ensure this is achieved. Despite the referendum result, Wales is - and I am determined to keep it - open for business, and I am equally determined to build a bright future for our steel industry, too.
Mae'r Aelod wedi anwybyddu dro ar ôl tro y ffaith fod deunyddiau crai a fewnforir o dramor hyd yn oed yn fwy drud yn awr a bydd yn mygu twf yn y sector hwn. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny; nid oes unrhyw fudd net. Mae yna hefyd, fel y nododd yr Aelodau eisoes - Bethan Jenkins, Dai Lloyd ac eraill - eironi Shakespearaidd trasig yn yr hyn y mae Aelodau UKIP wedi ei ddweud heddiw a'r hyn y maent wedi ei wneud mewn gwirionedd yn y gorffennol, lle maent heddiw wedi honni y bydd tariffau amddiffynnol yn wych ar gyfer y diwydiant dur, ond yn y gorffennol, pan oedd ganddynt gyfle i gyflwyno tariffau a fyddai'n ffafrio ein diwydiant dur, fe wnaethant y gwrthwyneb yn llwyr. Gallai sinig amau bod UKIP yn y gorffennol wedi mynd ati'n fwriadol i danseilio'r diwydiant dur er mwyn gwneud elw gwleidyddol o'r ansicrwydd yr arweiniai hynny ato. Rwy'n credu y byddai aelodau o'r cyhoedd yn gywir yn amau unrhyw wleidydd sy'n dweud yn derfynol, 'Mae hyn yn wych' neu 'Mae hyn yn enbyd.' Gadewch i ni ei adael i'r arbenigwyr. Yn yr ychydig ddyddiau diwethaf yn unig, cyhoeddodd UK Steel eu maniffesto, sy'n agor gyda datganiad go glir: Roedd canlyniad Refferendwm yr UE yn ergyd i'r diwydiant dur. Yn fy marn i, nid gadael yr UE yw'r ffordd orau o ddatblygu diwydiant dur Prydain, ond gallaf eich sicrhau o hyn: mae'r bobl wedi siarad ac fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn gwneud popeth a allwn i sicrhau dyfodol diogel. Rydym yn gweithio'n ddiflino i gefnogi'r broses werthu a'r cymunedau dan sylw, a byddwn yn parhau i roi pob adnodd sydd gennym fel Llywodraeth tuag at y diben hwnnw. Mae'r Prif Weinidog wedi pwysleisio'r neges hon yn gyson ac yn uniongyrchol wrth uwch-arweinwyr Tata yn Ewrop ac yn Mumbai, yn ogystal ag ar y lefelau uchaf o Lywodraeth San Steffan. Byddwn yn parhau i bwysleisio'r neges hon. Yn wir, mae'r dirprwy ysgrifennydd parhaol, fy swyddog uchaf, yn hedfan allan i gyfarfod y bwrdd ddydd Gwener i gyfleu ein safbwynt yn y termau cryfaf posibl. Serch hynny, mae canlyniad y refferendwm a newidiadau Llywodraeth y DU yn codi cwestiynau pwysig am y dyfodol. Mae'n hanfodol nad yw ansicrwydd arweinwyr ar lefel Llywodraeth y DU yn effeithio ar eu hymrwymiad datganedig i wneud popeth a allant i sicrhau dyfodol ein diwydiant dur. Rwy'n gobeithio nad yw sylw Whitehall ar ddyfodol ein gweithfeydd dur yma yng Nghymru wedi llacio o ganlyniad i ddigwyddiadau diweddar, ac na fydd yn gwanhau nac yn dod i ben. Un o'n blaenoriaethau allweddol yw cadw'r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot yn weithredol, ond yr un mor bwysig yw sicrhau bod Port Talbot yn parhau i fod yn brif gyflenwr dur i safleoedd eraill Cymru, yn ogystal ag i Hartlepool ac i Corby. Soniodd Hannah Blythyn am fater pwysig diogelu ein holl safleoedd dur, a hoffwn ei chanmol am y gwaith y mae wedi ei wneud yn cynrychioli gweithwyr ar safle Shotton. Hefyd, roedd Hannah Blythyn, yn gwbl briodol, yn tynnu sylw at y ffaith y byddai cryn ansicrwydd yn cael ei achosi yn ystod y broses o drafod cytundeb fframwaith newydd, a allai gymryd degawd neu fwy - ansicrwydd ac wrth gwrs, fel y dywedais eisoes, pryder i'r rhai a gyflogir yn y diwydiant dur. Rydym yn aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan Tata ar sut y mae'n dod yn ei flaen gyda'r broses werthu, ac rydym yn parhau'n barod i gefnogi unrhyw gynigwyr a fydd yn sicrhau bod swyddi a chynhyrchiant dur cynaliadwy yn aros yng Nghymru. Mae ein cynnig o gymorth yn parhau i fod ar y bwrdd, ond ni allwn ystyried manylion unrhyw gynnig penodol hyd nes y cyrhaeddwn y cam nesaf pan fydd gennym fwy o eglurder ynghylch cynlluniau cynigydd. [Torri ar draws.] Buaswn yn hoffi, ond mae'n ddrwg gennyf. Tra bo Tata yn parhau i roi ystyriaeth ddyladwy i'r mater, mae'n fwy hanfodol nag erioed o'r blaen, fel y dywedodd Russell George ac fel y dywedodd John Griffiths, fod Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda ni, y diwydiant dur, undebau llafur dur a phartneriaid eraill i ennyn hyder ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i greu'r amgylchedd busnes cywir a fydd yn cynnal diwydiant dur cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig. Fis diwethaf, mynychais gyngor dur Llywodraeth y DU. Mae gan y cyngor bedwar grŵp sy'n gweithio dan arweiniad y diwydiant i ystyried, nid yn unig sut rydym yn ymateb i'r argyfwng dur presennol, ond hefyd sut i alluogi cynaladwyedd hirdymor cynhyrchu dur yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae gennym ein tasglu dur ein hunain hefyd. Byddaf yn cadeirio cyfarfodydd y tasglu yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y momentwm a'r bartneriaeth gadarnhaol sy'n cael ei datblygu i gefnogi gweithwyr. A byddwn yn falch o roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau yn yr wythnosau nesaf ar y cynnydd a wnaed. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo'n dda ar gryfhau ein polisi caffael, a fydd yn egluro pwysigrwydd agor cyfleoedd i gyflenwyr dur yn y DU. Bu cynnydd, hefyd, ar ardal fenter glannau Port Talbot sydd newydd ei sefydlu, ac a gynhaliodd ei gyfarfod cyntaf fis diwethaf. Bydd y bwrdd yn datblygu ei strategaeth drwy adeiladu ar y sgiliau gweithgynhyrchu uwch o'r radd flaenaf a'r dreftadaeth weithgynhyrchu gref. Bydd yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu, entrepreneuriaeth wedi ei gyrru gan arloesedd, gan gynnwys cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r brifysgol a dinas-ranbarth Bae Abertawe, fel yr amlinellwyd gan fy ffrind a fy nghyd-Aelod, Dai Rees. Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, Tata Steel a chynrychiolwyr y diwydiant dur yng Nghymru a'r DU i ailadrodd bod Cymru, fel gwlad, wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau diwydiant dur cynaliadwy. Disgwyliwn i'r holl rai rydym yn ymgysylltu â hwy i wneud eu gorau glas i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Er gwaethaf canlyniad y refferendwm, mae Cymru ar agor i fusnes - ac rwy'n benderfynol o'i chadw felly, ac rwyf yr un mor benderfynol o adeiladu dyfodol disglair i'n diwydiant dur hefyd.
Thank you very much. I call on David Rowlands to reply to the debate. David Rowlands.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar David Rowlands i ymateb i'r ddadl. David Rowlands.
Diolch yn fawr. Well, I have to say that much has been said in this Chamber about the necessity to keep confidence in both the Welsh and the British economy. Well, over the last two weeks since Brexit, anybody who had been listening to the comments in this Chamber would have no confidence whatsoever in our ability as a nation to run a good, confident, expanding economy. It goes without saying that we all regret the instability with regard to the Tata Steel plant in Port Talbot and the consequences that would arise were it to close, not only for employees and their families, but for the wider economy of Port Talbot as a whole. But I feel a point has to be made here that the Labour Party are coming very late to the table in the fight to save jobs in the steel industry, both here in Wales and in the UK as a whole. Under the Labour Government and, of course, whilst we were in the UK - the EU - the UK lost around - [Interruption.] The UK lost around 33,000 jobs in the steel industry, falling from 68,000 when Labour came to office in 1997 to around 35,000 when they left in 2010, including falling from 17,000 to 7,000 in Wales in the same period. [Interruption.] No, I'm sorry. [Assembly Members: 'Oh.'] I put it to you that, far from helping the British steel industry, our presence in the European political project has been a massive disadvantage to the industry. Under EU procurement rules, for instance, 100 of the British Army's new Ajax fighting vehicles will be built in Spain using Swedish steel. This was at the request of Brussels, who used EU grants in order to support Spanish jobs. [Interruption.] I could enumerate - [Interruption.] I could enumerate many such instances. Since joining the European Union we have all but lost vast areas of our manufacturing industries - shipbuilding, train and rolling stock construction, the chemical industry in terminal decline, textiles in crisis, the fishing industry and farming all but decimated. The First Minister has cited several times, if I recall, how clean our rivers and beaches are as a result of EU environmental legislation. Well, I'm sorry to inform the First Minister that it's got nothing to do with EU regulations; it's because we no longer have the industries to pollute them. [Assembly Members: 'Oh'.] We have heard ad infinitum from Members of this Assembly of the catastrophe that will befall the Welsh economy if we do not receive grant money.
Diolch yn fawr. Wel, rhaid i mi ddweud bod llawer wedi cael ei ddweud yn y Siambr hon am yr angen i gadw hyder yn economi Cymru ac economi Prydain. Wel, yn ystod y pythefnos diwethaf ers pleidleisio dros adael yr UE, ni fyddai gan neb a fu'n gwrando ar y sylwadau yn y Siambr hon unrhyw hyder o gwbl yn ein gallu fel cenedl i gynnal economi dda a hyderus sy'n ehangu. Afraid dweud ein bod i gyd yn gresynu at yr ansefydlogrwydd mewn perthynas â gwaith Tata Steel ym Mhort Talbot a'r canlyniadau a fyddai'n deillio o'i gau, nid yn unig i weithwyr a'u teuluoedd, ond i economi ehangach Port Talbot yn ei chyfanrwydd. Ond teimlaf fod yn rhaid gwneud pwynt yma fod y Blaid Lafur yn hwyr iawn yn dod at y frwydr i achub swyddi yn y diwydiant dur, yma yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol. O dan y Llywodraeth Lafur ac wrth gwrs, tra roeddem yn y DU - yr UE - collodd y DU oddeutu - [Torri ar draws.] Collodd y DU oddeutu 33,000 o swyddi yn y diwydiant dur, gan ddisgyn o 68,000 pan ddaeth Llafur i rym yn 1997 i tua 35,000 pan adawsant yn 2010, gan gynnwys gostwng o 17,000 i 7,000 yng Nghymru yn yr un cyfnod. [Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gennyf. [Aelodau'r Cynulliad: 'O.']. Yn hytrach na helpu diwydiant dur Prydain, rwy'n awgrymu bod ein presenoldeb yn y prosiect gwleidyddol Ewropeaidd wedi bod yn anfantais enfawr i'r diwydiant. O dan reolau caffael yr UE, er enghraifft, bydd 100 o gerbydau ymladd Ajax newydd y Fyddin Brydeinig yn cael eu hadeiladu yn Sbaen gan ddefnyddio dur o Sweden. Roedd hyn ar gais Brwsel, a ddefnyddiodd grantiau'r UE er mwyn cynnal swyddi yn Sbaen. [Torri ar draws.] Gallwn gyfrif - [Torri ar draws.] Gallwn gyfrif nifer o achosion o'r fath. Ers ymuno â'r Undeb Ewropeaidd rydym bron iawn â cholli rhannau helaeth o'n diwydiannau gweithgynhyrchu - adeiladu llongau, adeiladu trenau a cherbydau, mae'r diwydiant cemegol yn dirywio'n derfynol, mae tecstilau mewn argyfwng, ac mae'r diwydiant pysgota a ffermio bron iawn â bod wedi dirywio'n llwyr. Mae'r Prif Weinidog wedi datgan sawl gwaith, os cofiaf yn iawn, pa mor lân yw ein hafonydd a'n traethau o ganlyniad i ddeddfwriaeth amgylcheddol yr UE. Wel, mae'n ddrwg gennyf hysbysu'r Prif Weinidog nad oes ganddo ddim i'w wneud â rheoliadau'r UE; y rheswm am hynny yw nad oes gennym ddiwydiannau i'w llygru bellach. [Aelodau'r Cynulliad: 'O.'] Rydym wedi clywed hyd syrffed gan Aelodau'r Cynulliad hwn am y trychineb a ddaw i ran economi Cymru os na chawn arian grant.
Are your proposals then - ? Are you therefore prepared to scrap all industry in Wales so you can have a clean environment, because that's what you've just said?
Ai eich cynigion felly - ? A ydych felly yn barod i gael gwared ar yr holl ddiwydiant yng Nghymru er mwyn i chi gael amgylchedd glân, oherwydd dyna rydych newydd ei ddweud?
Well, that's what's happening. [Interruption.] That's what's happening. [Interruption.] It's a consequence of not having the industry. The answer lies in the fact that, after 17 years of Labour rule in this institution, and for many years with a Labour Government in Westminster, we qualified for those grants - . I'm sorry, I'll just repeat this, because I was interrupted. We have heard ad infinitum from Members of this Assembly of the catastrophe that will befall the Welsh economy if we do not receive EU grant money or, of course, the equivalent money from the UK Government following Brexit. If this is true we must ask the question 'why?' The answer lies in the fact that, after 17 years of Labour rule in this institution, and for many years with a Labour Government in Westminster, we qualified for those grants because we are still one of the poorest regions of Europe. Many of the Members of this Assembly act as if this European money is the lifeblood of this nation. They ignore the fact that all the moneys we receive from Europe are dwarfed by the sums we get from the Barnett formula, even with its evident deficiencies. [Interruption.] We in UKIP are confident that if the parties of the house act in concert with the other parties, as we have all pledged to do, we will get funding from the UK Government that will match - no, exceed - that which we receive from Europe. We in UKIP, unlike most of the opposition in the Assembly, believe we can trust our own Welsh and British politicians in Westminster rather than a collection of unaccountable, undemocratic foreign commissioners in Brussels, and it is through our own auspices that Tata Steel will have the prospect of surviving for many years to come. Thank you.
Wel, dyna beth sy'n digwydd. [Torri ar draws.] Dyna beth sy'n digwydd. [Torri ar draws.] Mae'n ganlyniad peidio â chael y diwydiant. Mae'r ateb yn y ffaith ein bod, ar ôl 17 mlynedd o reolaeth Lafur yn y sefydliad hwn ac am flynyddoedd lawer gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, yn gymwys i gael y grantiau hynny - . Mae'n ddrwg gennyf, fe ailadroddaf hyn, gan i rywun dorri ar draws. Rydym wedi clywed hyd syrffed gan Aelodau'r Cynulliad hwn am y trychineb a ddaw i ran economi Cymru os na fyddwn yn cael arian grant yr UE neu wrth gwrs, yr arian cyfatebol gan Lywodraeth y DU ar ôl gadael yr UE. Os yw hyn yn wir mae'n rhaid i ni ofyn y cwestiwn 'pam?' Mae'r ateb yn y ffaith ein bod, ar ôl 17 mlynedd o reolaeth Lafur yn y sefydliad hwn ac am flynyddoedd lawer gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, yn gymwys i gael y grantiau hynny oherwydd ein bod yn dal i fod yn un o ranbarthau tlotaf Ewrop. Mae llawer o Aelodau'r Cynulliad hwn yn ymddwyn fel pe bai'r arian Ewropeaidd hwn yn galon ac enaid y genedl hon. Maent yn anwybyddu'r ffaith fod yr holl arian a gawn gan Ewrop yn fychan iawn o gymharu â'r symiau a gawn gan fformiwla Barnett, hyd yn oed gyda'i ddiffygion amlwg. [Torri ar draws.] Rydym ni yn UKIP yn hyderus os yw'r pleidiau'r tŷ yn gweithredu'n unedig â'r pleidiau eraill, fel rydym i gyd wedi addo ei wneud, fe gawn arian gan Lywodraeth y DU a fydd yn cyfateb - na, yn fwy - na'r arian a gawn gan Ewrop. Rydym ni yn UKIP, yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r wrthblaid yn y Cynulliad, yn credu y gallwn ymddiried yn ein gwleidyddion Cymreig a Phrydeinig ein hunain yn San Steffan yn hytrach na chasgliad o gomisiynwyr tramor anatebol ac annemocrataidd ym Mrwsel, a than ein nawdd ein hunain bydd gobaith i Tata Steel oroesi am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch.
Thank you very much. The proposal is to agree the motion without amendment. Does any Member object? [Objection.] Thank you. There has been an objection, therefore we - [Interruption.] Thank you. I know everybody's getting excited about an event that may happen tonight but, if we don't calm down, we'll still be here voting before the start of that event, so can we do the voting in quiet, please? I will defer the voting now until voting time.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Cafwyd gwrthwynebiad, felly fe - [Torri ar draws.] Diolch. Rwy'n gwybod bod pawb yn gynhyrfus ynglŷn â digwyddiad a allai ddigwydd heno ond os na fyddwn yn ymdawelu, byddwn yn dal yma'n pleidleisio cyn dechrau'r digwyddiad hwnnw, felly a gawn ni bleidleisio'n ddistaw, os gwelwch yn dda? Gohiriaf y pleidleisio yn awr tan y cyfnod pleidleisio.
We've agreed that voting time will take place before the short debate. Unless three Members wish the bell to be rung, I will proceed directly to voting time. Does anybody wish the bell to be rung? No.
Rydym wedi cytuno y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, af ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. A oes unrhyw un sy'n dymuno i'r gloch gael ei chanu? Nac oes.
Right, we shall move on to voting. I call for a vote on the motion tabled in the name of Neil Hamilton and Caroline Jones. If the proposal is not agreed, we will vote on the amendments tabled to the motion. Open the vote. Close the vote. For the motion five, against the motion 43. There were no abstentions. Therefore the motion is lost.
Iawn, symudwn ymlaen at y pleidleisio. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton a Caroline Jones. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 5, yn erbyn y cynnig 43. Nid oedd neb yn ymatal. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
I will now call for a vote on the amendments. If amendment 1 is agreed, amendments 2 and 3 will be deselected. So, I call for a vote on amendment 1, tabled in the name of Simon Thomas. Open the vote. Close the vote. For the motion 34, against the motion - sorry, the amendment, sorry. So, for amendment 1 34, against amendment 1 14, no abstentions. Therefore amendment 1 is agreed.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 34, yn erbyn y cynnig - mae'n ddrwg gennyf, y gwelliant, mae'n ddrwg gennyf. Felly, o blaid gwelliant 1 34, yn erbyn gwelliant 1 14, neb yn ymatal. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
As amendment 1 was agreed, amendments 2 and 3 are deselected.
Gan fod gwelliant 1 wedi'i dderbyn, mae gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol.
We move to a vote on amendment 4. I call for the vote on amendment 4, tabled in the name of Simon Thomas. Open the vote. Close the vote. For the amendment 46, against the amendment two. Therefore amendment 4 is carried.
Symudwn i bleidlais ar welliant 4. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 46, yn erbyn y gwelliant 2. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.
I call for a vote on amendment 5, tabled in the name of Simon Thomas. Open the vote. Close the vote. For the motion 10, against 27, and there were 10 abstentions. Therefore amendment 5 is lost.
Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 10, yn erbyn 27, ac roedd 10 yn ymatal. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.
I call for a vote on amendment 6, tabled in the name of Simon Thomas. Open the vote. Close the vote. For the amendment 44, against the amendment two, with one abstention. Therefore that amendment is agreed.
Galwaf am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 44, yn erbyn y gwelliant 2, gydag un yn ymatal. Felly derbyniwyd y gwelliant.
I call for a vote on amendment 7, tabled in the name of Simon Thomas. Open the vote. Close the vote. For the amendment 34, against the amendment five. There were nine abstentions. Therefore that amendment is carried.
Galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 34, yn erbyn y gwelliant 5. Roedd 9 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y gwelliant.
Open the vote. Close the vote. For the motion 43, against the motion five. There were no abstentions.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 43, yn erbyn y cynnig 5. Nid oedd neb yn ymatal.
It has been agreed that the short debate will be postponed until Wednesday, 13 July. Therefore, this brings today's proceedings to a close. And, as the Presiding Officer mentioned at the start of the proceedings, good luck to the football team, and, wherever we're watching it, can we all say, 'Stronger together, united as a country'? And I'm sure we'll all return tomorrow with the right result. Diolch yn fawr iawn.
Cytunwyd y bydd y ddadl fer yn cael ei gohirio tan ddydd Mercher 13 Gorffennaf. Felly, dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Ac fel y soniodd y Llywydd ar ddechrau'r trafodion, pob lwc i'r tîm pêl-droed, a lle bynnag y byddwn yn gwylio, a gawn ni i gyd ddweud, 'Yn gryfach gyda'n gilydd, yn unedig fel gwlad'? Ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn dychwelyd yfory gyda'r canlyniad cywir. Diolch yn fawr iawn.
Order, and I call the National Assembly to order .
Trefn, ac rwy'n galw'r Cynulliad Cenedlaethol i drefn.
The first item this afternoon is questions to the First Minister, and I call on Russell George to ask the first question.
Yr eitem gyntaf ar yr agenda yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac rwy'n galw ar Russell George i ofyn y cwestiwn cyntaf.
We continue to work with the health board and other partners in Wales to take a range of actions to improve access to healthcare services that are safe and sustainable and as close to people's homes as possible.
Rydym yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill yng Nghymru i gymryd amrywiaeth o gamau i wella mynediad at wasanaethau gofal iechyd sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy ac mor agos i gartrefi pobl â phosibl.
Thank you. I welcome that answer in that case, First Minister. You may be aware that stroke patients in mid Wales are no longer able to access special treatment from the Royal Shrewsbury Hospital following a reconfiguration of services, which has resulted in services moving further away to the Princess Royal Hospital in Telford. Can I ask you what discussions your Government has had with the UK Government, and with Shrewsbury and Telford Hospital NHS Trust, to press the case for specialist services to be retained in Shropshire? And, can I also ask you what your Government is doing to ensure that mid Wales stroke patients have adequate access to this specialist service?
Diolch. Rwy'n croesawu'r ateb yna felly, Brif Weinidog. Efallai y byddwch yn ymwybodol na all cleifion strôc yn y canolbarth gael mynediad at driniaeth arbennig yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig mwyach, ar ôl ad-drefnu gwasanaethau, sydd wedi arwain at wasanaethau yn symud ymhellach i ffwrdd i Ysbyty'r Dywysoges Frenhinol yn Telford. A gaf i ofyn i chi pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU, a chydag Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford, i bwyso'r achos dros gadw gwasanaethau arbenigol yn Sir Amwythig? Ac, a gaf i hefyd ofyn i chi beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gan gleifion strôc yn y canolbarth fynediad digonol at y gwasanaeth arbenigol hwn?
I'm aware, of course, of the proposals. We expect, as a Government, that the relevant stakeholders on our side of the border are involved in any potential changes. I know Powys Teaching Local Health Board has been very involved in representing the concerns of residents, and I understand there will be further work taking place for final options to be subject to formal consultation later this year.
Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r cynigion. Rydym ni'n disgwyl, fel Llywodraeth, y bydd y rhanddeiliaid perthnasol ar ein hochr ni i'r ffin yn rhan o unrhyw newidiadau posibl. Gwn fod Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys wedi bod yn weithgar iawn o ran cynrychioli pryderon trigolion, ac rwy'n deall y bydd rhagor o waith yn cael ei wneud fel y bydd dewisiadau terfynol yn destun ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach eleni.
First Minister, I met recently with Newtown health forum, who told me that between the hours of six o'clock and 12 o'clock at night in Newtown, there is no GP or primary care service at all. The GP surgery closes at six o'clock, and it's hard enough to get an appointment there, and the GP Shropdoc, run from the Newtown Hospital, starts at midnight. Between six and 12, people in Newtown have to travel to Welshpool in order to access GP services. Do you think that's a sufficient service for GP services in Newtown?
Brif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar â fforwm iechyd y Drenewydd, a ddywedodd wrthyf nad oes unrhyw wasanaeth meddyg teulu na gofal sylfaenol o gwbl yn y Drenewydd rhwng chwech o'r gloch a 12 o'r gloch y nos. Mae'r feddygfa deulu'n cau am chwech o'r gloch, ac mae'n ddigon anodd cael apwyntiad yno, ac mae'r meddyg teulu Shropdoc, sy'n cael ei redeg o Ysbyty'r Drenewydd, yn dechrau am hanner nos. Rhwng chwech a 12, mae'n rhaid i bobl yn y Drenewydd deithio i'r Trallwng er mwyn cael gafael ar wasanaethau meddyg teulu. A ydych chi'n credu bod hwnnw'n wasanaeth digonol o ran gwasanaethau meddyg teulu yn y Drenewydd?
I know that the health board is looking at the situation, and I know that filling that gap is important to them. For example, if we look at the minor injuries unit at Newtown, the health board will be starting a process to develop a long-term health and care strategy for Powys during 2016, and the health board will be reviewing MIU services across Powys as part of its work on unscheduled care services in order to make sure that any gap that exists is plugged.
Gwn fod y bwrdd iechyd yn edrych ar y sefyllfa, a gwn fod llenwi'r bwlch hwnnw yn bwysig iddyn nhw. Er enghraifft, os edrychwn ni ar yr uned mân anafiadau yn y Drenewydd, bydd y bwrdd iechyd yn cychwyn proses i ddatblygu strategaeth iechyd a gofal hirdymor ar gyfer Powys yn ystod 2016, a bydd y bwrdd iechyd yn adolygu gwasanaethau UMA ar draws Powys yn rhan o'i waith ar wasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw fwlch sy'n bodoli yn cael ei gau.
Ministers are accessible in a variety of ways.
Mae mynediad at weinidogion ar gael mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Your Government has made sure that Wales has the weakest protection in the UK against commercial lobbying. There is no register. The last Presiding Officer said that we don't have the same problems as Westminster. But, from what I can see, companies like Deryn, selling access and information to the highest bidder, seem to be everywhere in this Assembly. I wasn't even allowed to submit a question about cash for access to Welsh Ministers. Clearly, we do not believe in open Government. So, what are you hiding, First Minister?
Mae eich Llywodraeth wedi gwneud yn siŵr mai Cymru sydd â'r amddiffyniad gwannaf yn y DU rhag lobïo masnachol. Nid oes cofrestr. Dywedodd y Llywydd diwethaf nad yw'r un problemau â San Steffan gennym ni. Ond, o'r hyn y gallaf ei weld, mae'n ymddangos bod cwmnïau fel Deryn, sy'n gwerthu mynediad a gwybodaeth i'r cynigydd uchaf, ym mhobman yn y Cynulliad hwn. Nid oeddwn i hyd yn oed yn cael cyflwyno cwestiwn am arian am fynediad at Weinidogion Cymru. Nid ydym ni'n credu mewn Llywodraeth agored yn amlwg. Felly, beth ydych chi'n ei guddio, Brif Weinidog?
Sorry, I need to clarify that all questions that are tabled in order are accepted to be asked in this Assembly, and your question has been accepted as it is in order.
Mae'n ddrwg gen i, mae angen i mi egluro bod yr holl gwestiynau sy'n cael eu cyflwyno yn eu trefn yn cael eu derbyn i'w gofyn yn y Cynulliad hwn, ac mae eich cwestiwn chi wedi ei dderbyn gan ei fod mewn trefn.
I submitted a question about cash for access to Welsh Ministers -
Cyflwynais gwestiwn am arian am fynediad at Weinidogion Cymru -
No, no -
Na, na -
So, one is on the record, but my substantive question to the First Minister is: you clearly don't believe in open Government, otherwise you'd have a register and we'd have regulations. What are you hiding? What are you hiding?
Felly, mae un ar y cofnod, ond fy nghwestiwn gwreiddiol i'r Prif Weinidog yw: mae'n amlwg nad ydych chi'n credu mewn Llywodraeth agored, neu fel arall byddai gennych chi gofrestr a byddai gennym ni reoliadau. Beth ydych chi'n ei guddio? Beth ydych chi'n ei guddio?
Nothing. Commercial lobbyists don't have access to Welsh Ministers.
Dim byd. Nid oes gan lobïwyr masnachol fynediad at Weinidogion Cymru.
First Minister, perhaps I can turn matters a bit more constructively. I think it's very important that politicians, and particularly Ministers, listen, and I hope you'll identify ways in which your Ministers, either individually or collectively, can listen to the vital interests out there of stakeholders, and individuals indeed. Your predecessor used to have open-mike sessions of the Cabinet; I think these have fallen into disuse. There may be other methods but, really, listening to people's views is key to good governmental decision-making.
Brif Weinidog, efallai y gallaf i droi materion ychydig yn fwy adeiladol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gwleidyddion, a Gweinidogion yn arbennig, yn gwrando, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi nodi ffyrdd y gall eich Gweinidogion, naill ai'n unigol neu ar y cyd, wrando ar fuddiannau hanfodol rhanddeiliaid allan yna, ac unigolion yn wir. Roedd eich rhagflaenydd yn arfer cynnal sesiynau Cabinet meicroffon agored; nid wyf yn credu bod y rheini yn digwydd mwyach. Efallai fod dulliau eraill ond, mewn gwirionedd, mae gwrando ar safbwyntiau pobl yn allweddol ar gyfer penderfyniadau llywodraethol da.
I entirely agree with that, and being able to engage with organisations is hugely important. It's right to say that open-mike sessions haven't taken place for some years. However, I did travel around Wales offering myself up as part of a masochism strategy, taking questions from members of the public, and, like all Members - well, I trust all Members - I hold surgeries in my constituency in order to listen to the views of my constituents.
Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, ac mae gallu ymgysylltu â sefydliadau yn hynod o bwysig. Mae'n iawn i ddweud nad oes sesiynau meicroffon agored wedi eu cynnal ers rhai blynyddoedd. Fodd bynnag, fe wnes i deithio o gwmpas Cymru yn cynnig fy hun yn rhan o strategaeth fasocistiaeth, gan dderbyn cwestiynau gan y cyhoedd, ac, fel pob Aelod - wel, rwy'n gobeithio pob Aelod - rwy'n cynnal cymorthfeydd yn fy etholaeth er mwyn gwrando ar safbwyntiau fy etholwyr.
I think that the issue that the Plaid Cymru member raised are perhaps important ones. Transparency is paramount. Now, we know that lobbying exists in reality, in political circles, but we do have to make sure that it's done legitimately, and we need to know who's lobbying who at times. Are there any plans to establish a register of lobbyists here in Cardiff Bay?
Credaf fod y materion a godwyd gan aelod Plaid Cymru o bosibl yn rhai pwysig. Mae tryloywder yn hollbwysig. Nawr, rydym ni'n gwybod bod lobïo yn bodoli mewn gwirionedd, mewn cylchoedd gwleidyddol, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud yn gyfreithlon, ac mae angen i ni wybod pwy sy'n lobïo pwy ar adegau. A oes unrhyw gynlluniau i sefydlu cofrestr o lobïwyr yma ym Mae Caerdydd?
Well, these are matters that were looked at by the standards committee in 2013 - not a committee that's run by Government - and it came to the conclusions that it did. Just to re-emphasise, Ministers do not meet with commercial lobbyists; Ministers, of course, do meet with organisations, such as charities and so forth, in order to listen to their views. But it's certainly not the case that commercial lobbying companies are able to bring clients to meet Ministers. That is certainly not happening, and nor will it happen.
Wel, mae'r rhain yn faterion a ystyriwyd gan y pwyllgor safonau yn 2013 - nid pwyllgor sy'n cael ei redeg gan y Llywodraeth - a daeth i'r casgliadau y daeth iddynt. Dim ond i ail-bwysleisio, nid yw Gweinidogion yn cyfarfod â lobïwyr masnachol; mae Gweinidogion, wrth gwrs, yn cyfarfod â sefydliadau, fel elusennau ac yn y blaen, er mwyn gwrando ar eu safbwyntiau. Ond, yn sicr, nid yw'n wir y gall cwmnïau lobïo masnachol ddod â chleientiaid i gyfarfod â Gweinidogion. Nid yw hynny'n digwydd, yn sicr, ac ni fydd yn digwydd ychwaith.
We now move to questions from the party leaders, and I first call the leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies.
Rydym yn symud yn awr at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau, ac rwy'n galw yn gyntaf ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Thank you, Presiding Officer. First Minister, with all the politics that are going on in the country at the moment, with changing leaderships in other legislatures, and the fallout from the Brexit referendum, some of the bread-and-butter issues do tend to get looked over. And I'd like to draw your attention to the Bliss report that was brought forward last week, by the charity, which I think is a vital document that I hope your Government will study with care, because it does offer a real route-map to developing neonatal services here in Wales. One of the findings in that report showed that only 20 per cent of neonatal units had enough nurses to staff the cots according to national standards. Now, there have been improvements over time to neonatal units in Wales, but they are considerable - 2008, 2010, and 2011, the report points to. Can you commit, in this Assembly session, to addressing the staffing problems that this report clearly identifies: that only 20 per cent of units have enough staff to man the cots according to national standards?
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, gyda'r holl wleidyddiaeth sy'n digwydd yn y wlad ar hyn o bryd, wrth i arweinyddiaethau newid mewn deddfwrfeydd eraill, a sgil-effeithiau'r refferendwm Brexit, mae rhai o'r materion bara 'menyn yn tueddu i gael eu hesgeuluso. A hoffwn dynnu eich sylw at adroddiad Bliss a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf, gan yr elusen, yr wyf yn credu sy'n ddogfen hollbwysig yr wyf yn gobeithio y bydd eich Llywodraeth yn ei hastudio gyda gofal, oherwydd mae'n cynnig map ffordd gwirioneddol i ddatblygu gwasanaethau newyddenedigol yma yng Nghymru. Roedd un o'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwnnw yn dangos mai dim ond 20 y cant o unedau newyddenedigol sydd â digon o nyrsys i staffio'r cotiau yn unol â safonau cenedlaethol. Nawr, bu gwelliannau dros amser i unedau newyddenedigol yng Nghymru, ond maen nhw'n sylweddol - mae'r adroddiad yn cyfeirio at 2008, 2010 a 2011. A allwch chi ymrwymo, yn y sesiwn Cynulliad hwn, i fynd i'r afael â'r problemau staffio y mae'r adroddiad hwn yn eu nodi'n eglur: mai dim ond 20 y cant o unedau sydd â digon o staff i staffio'r cotiau yn unol â safonau cenedlaethol?
Well, the neonatal network works with health boards to provide flexible, responsive staffing to meet the fluctuating needs for specialised neonatal services and to address any shortcomings in staffing levels. To support the development of our workforce, we have announced an £85 million-package of investment in the education and training of healthcare professionals in Wales, including neonatal staff. And, of course, the findings of the Bliss report will be used by the neonatal network to help all units to reflect on, and plan for, any changes for the future.
Wel, mae'r rhwydwaith newyddenedigol yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddarparu staffio hyblyg, ymatebol i ddiwallu anghenion newidiol ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol arbenigol ac i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion o ran lefelau staffio. Er mwyn cefnogi datblygiad ein gweithlu, rydym wedi cyhoeddi pecyn buddsoddi gwerth £85 miliwn mewn addysg a hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, gan gynnwys staff newyddenedigol. Ac, wrth gwrs, bydd canfyddiadau adroddiad Bliss yn cael eu defnyddio gan y rhwydwaith newyddenedigol i helpu pob uned i fyfyrio ar unrhyw newidiadau ar gyfer y dyfodol, a chynllunio ar eu cyfer.
I appreciate that detailed answer, and it is a road map of sorts. But I think one thing that would be really appreciated is knowing how, in this Assembly, we will measure your success - going from 20 per cent to 50 per cent of units having enough staff, or, indeed 100 per cent of units having enough staff. Because what is key here is identifying the road to success, in getting the numbers up in the neonatal units. So, can you give us a timeline when the script that you read there is actually acted on and when we will see more staff in the neonatal units providing that vital service?
Rwy'n gwerthfawrogi'r ateb manwl yna, ac mae'n fap ffordd o ryw fath. Ond rwy'n credu mai un peth a fyddai wir yn cael ei werthfawrogi fyddai gwybod sut, yn y Cynulliad hwn, y byddwn yn mesur eich llwyddiant - gan fynd o 20 y cant i 50 y cant o unedau â digon o staff, neu, yn wir 100 y cant o unedau â digon o staff. Oherwydd yr hyn sy'n allweddol yma yw nodi'r ffordd i lwyddiant, o ran cynyddu'r niferoedd yn yr unedau newyddenedigol. Felly, a allwch chi roi amserlen i ni pan fydd y sgript yr ydych chi'n ei ddarllen yn y fan yna yn cael ei weithredu mewn gwirionedd a pha bryd y byddwn ni'n gweld mwy o staff yn yr unedau newyddenedigol yn darparu'r gwasanaeth hanfodol hwnnw?
Well, I expect those numbers to grow over the course of the next five years, and I expect every neonatal unit to be properly staffed in that time. It is true to say that recruitment has been a challenge; it will continue to be a challenge in the light of the vote of a fortnight ago. But we will continue to say to those who want to come to work in Wales that they are welcome, as well as, of course, looking to train new specialists ourselves.
Wel, rwy'n disgwyl i'r niferoedd hynny gynyddu yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac rwy'n disgwyl i bob uned newyddenedigol gael ei staffio'n briodol yn y cyfnod hwnnw. Mae'n wir i ddweud bod recriwtio wedi bod yn her; bydd yn parhau i fod yn her yng ngoleuni'r bleidlais bythefnos yn ôl. Ond byddwn yn parhau i ddweud wrth y rhai sydd eisiau dod i weithio yng Nghymru bod croeso iddyn nhw, yn ogystal, wrth gwrs, â cheisio hyfforddi arbenigwyr newydd ein hunain.
One of the issues that was identified in the report is the retention of staff. I mean, very often, we do focus on attracting new staff into the health service, but, in particular on neonatal units, it is the ability to retain staff once you've attracted them into the unit. In particular, 40 per cent of mothers will suffer postnatal depression and who will have an episode on these units. Ultimately, only five of the units can actually offer support for postnatal depression. Now, when you look at those numbers - 40 per cent of expectant mothers will suffer an episode of postnatal depression and only five units can offer that support - that's a clear area that really does need detailed work undertaken on behalf of your Government and the health boards. What assurances can you give the Assembly today, and Bliss in particular as a charity that has a special interest in this field, that this area will be given the attention it deserves and we will see progress so that that support can be offered in all units, wherever those units exist in Wales?
Un o'r materion a nodwyd yn yr adroddiad yw cadw staff. Hynny yw, yn aml iawn, rydym ni'n canolbwyntio ar ddenu staff newydd i'r gwasanaeth iechyd, ond, yn enwedig ar unedau newyddenedigol, y gallu i gadw staff ar ôl i chi eu denu nhw i'r uned sy'n bwysig. Yn arbennig, bydd 40 y cant o famau yn dioddef iselder ôl-enedigol ac yn cael pwl yn yr unedau hyn. Yn y pen draw, dim ond pump o'r unedau sy'n gallu cynnig cymorth ar gyfer iselder ôl-enedigol mewn gwirionedd. Nawr, pan edrychwch chi ar y niferoedd hynny - bydd 40 y cant o famau beichiog yn dioddef pwl o iselder ôl-enedigol a dim ond pum uned sy'n gallu cynnig y cymorth hwnnw - mae hwnnw'n faes eglur sydd wir angen gwaith manwl ar ran eich Llywodraeth a'r byrddau iechyd. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r Cynulliad heddiw, a Bliss yn enwedig fel elusen sydd â diddordeb arbennig yn y maes hwn, y bydd y maes hwn yn cael y sylw y mae'n ei haeddu ac y byddwn yn gweld cynnydd fel y gellir cynnig cymorth ym mhob uned , ble bynnag y mae'r unedau hynny'n bodoli yng Nghymru?
Well, I can say that the Welsh Health Specialised Services Committee are working with local services in order to look to provide the services that people would expect. We did announce last year that new perinatal mental health services would be set up across Wales. They are developing well, with 30 new specialist staff being recruited, backed by £1.5 million of new investment.
Wel, gallaf ddweud bod y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gweithio gyda gwasanaethau lleol er mwyn ceisio darparu'r gwasanaethau y byddai pobl yn eu disgwyl. Fe wnaethom gyhoeddi y llynedd y byddai gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol newydd yn cael eu sefydlu ledled Cymru. Maen nhw'n datblygu'n dda, ac mae 30 o staff arbenigol newydd wedi eu recriwtio, gyda chymorth £1.5 miliwn o fuddsoddiad newydd.
I saw the report, but, in common with a number of businesses that I've met over the course of the past week and beyond, access to the single market is now crucial for them. They are reassured that the position is stabilising within the UK, as they see it, but the next big question for them will be: will there be free access to the single market without tariffs?
Gwelais yr adroddiad, ond, fel nifer o fusnesau yr wyf i wedi eu cyfarfod yn ystod yr wythnos ddiwethaf a thu hwnt, mae mynediad at y farchnad sengl yn hanfodol iddyn nhw nawr. Maen nhw wedi eu calonogi bod y sefyllfa yn sefydlogi yn y DU, fel y maen nhw'n ei gweld hi, ond y cwestiwn mawr nesaf iddyn nhw fydd: a fydd mynediad am ddim at y farchnad sengl heb dariffau ar gael iddyn nhw?
I wholly agree with the First Minister on that. Free trade is obviously very sensible for both sides, because we have a massive trade deficit with Germany and it's very much in their interests that there should be free trade within the EU. Trade is mutually beneficial to both sides, whether you have a surplus or a deficit. But in a spirit of constructive co-operation, will the First Minister agree with me that we need, in Wales, to beef up our relationship with Germany and to put more resource into our connections through the German industry federation, the German Länder and with the federal Government to encourage further trade with Germany and also to take advantage of the political clout that Germany is clearly going to have in the EU in the years to come? A German commitment to free trade in the EU is the best way that we can get what we both want.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Prif Weinidog am hynny. Mae masnach rydd yn amlwg yn synhwyrol iawn i'r ddwy ochr, gan fod gennym ni ddiffyg masnach enfawr gyda'r Almaen ac mae'n sicr y byddai masnach rydd o fewn yr UE yn fuddiol iawn iddyn nhw. Mae masnach o fudd i'r ddwy ochr, pa un a oes gennych chi warged neu ddiffyg. Ond mewn ysbryd o gydweithredu adeiladol, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi bod angen i ni, yng Nghymru, gryfhau ein perthynas â'r Almaen a neilltuo mwy o adnoddau i'n cysylltiadau trwy ffederasiwn diwydiant yr Almaen, Länder yr Almaen a chyda'r Llywodraeth ffederal i annog masnach bellach gyda'r Almaen a hefyd i fanteisio ar y grym gwleidyddol y mae'n amlwg y bydd gan yr Almaen yn yr UE yn y blynyddoedd i ddod? Ymrwymiad gan yr Almaen i fasnach rydd yn yr UE yw'r ffordd orau y gallwn ni gael yr hyn yr ydym ni ill dau ei eisiau.
The leader of UKIP seems to be saying that, with the UK out of the EU, we need to get Germany to do the work for us in the EU, which is a curious scenario, may I say? The only model that exists that offers free access to the single market is the European economic area model. There is no other model. That has with it, of course, connotations in terms of the free movement of people, but there's nothing else on the table at the moment. For me, access to the single market is an absolute red line as far as Wales is concerned. He asked a question about our relationship with Germany. Germany is a major investor in the Welsh economy, we have good relationships with German commercial organisations, and one of the issues that I am examining now is how we beef up our offices overseas, whether we should look to increase staffing in the existing offices, or whether we should open new offices. It's a difficult balance to strike. We have had work done by the Public Policy Institute for Wales on that and we've listened to Ireland. They have a similar dilemma to us because of their limited resources and their size as well. But we will look to increase the Welsh presence now, as we have done over the past few years, in markets that are important to us.
Mae'n ymddangos bod arweinydd UKIP yn dweud, gyda'r DU allan o'r UE, bod angen i ni gael yr Almaen i wneud y gwaith i ni yn yr UE, sy'n sefyllfa ryfedd, os caf i ddweud? Yr unig fodel sy'n bodoli sy'n cynnig mynediad am ddim at y farchnad sengl yw model ardal economaidd Ewrop. Nid oes unrhyw fodel arall. Ynghlwm â hwnnw, wrth gwrs, ceir goblygiadau o ran pobl yn cael symud yn rhydd, ond nid oes unrhyw beth arall ar y bwrdd ar hyn o bryd. I mi, mae mynediad at y farchnad sengl yn llinell goch absoliwt cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn. Gofynnodd gwestiwn am ein perthynas â'r Almaen. Mae'r Almaen yn brif fuddsoddwr yn economi Cymru, mae gennym ni berthynas dda â sefydliadau masnachol o'r Almaen, ac un o'r materion yr wyf i'n eu hystyried nawr yw sut yr ydym ni'n mynd i gryfhau ein swyddfeydd tramor, pa un a ddylem ni gynyddu'r staffio yn y swyddfeydd presennol, neu a ddylem ni agor swyddfeydd newydd. Mae'n gydbwysedd anodd ei daro. Rydym ni wedi cael gwaith a wnaed gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ar hynny ac rydym ni wedi gwrando ar Iwerddon. Mae ganddyn nhw benbleth debyg i ni oherwydd eu hadnoddau cyfyngedig a'u maint hefyd. Ond byddwn yn ceisio cynyddu presenoldeb Cymru nawr, fel yr ydym ni wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf, mewn marchnadoedd sy'n bwysig i ni.
Well, I welcome that response. But turning to a different matter, after today, the First Minister will be unique in the United Kingdom, because we will have a woman Prime Minister in the UK, and we have a woman First Minister in Scotland and a woman First Minister in Northern Ireland. Does he look forward to the day when he can make way for a woman to replace him in this Assembly?
Wel, rwy'n croesawu'r ymateb yna. Ond i droi at fater gwahanol, ar ôl heddiw, bydd y Prif Weinidog yn unigryw yn y Deyrnas Unedig, oherwydd bydd gennym ni Brif Weinidog benywaidd yn y DU, ac mae gennym ni Brif Weinidog benywaidd yn yr Alban a Phrif Weinidog benywaidd yng Ngogledd Iwerddon. A yw ef yn edrych ymlaen at y diwrnod pan y gall ef symud o'r neilltu i fenyw gymryd ei le yn y Cynulliad hwn?
What I can say to the leader of UKIP is that 'The Guardian' - I'm not sure that's a paper that he reads often - a few days ago said that it would be the case that women would now be heads of Government across the UK. I have to say that that was corrected by 'The Guardian', saving me, hopefully, from radical surgery. [Laughter.]
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth arweinydd UKIP yw bod 'The Guardian' - nid wyf yn siŵr a yw hwnnw'n bapur newydd y mae'n ei ddarllen yn aml - wedi dweud ychydig ddiwrnodau yn ôl y byddai'n wir y byddai menywod yn benaethiaid Llywodraethau ar draws y DU nawr. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny wedi cael ei gywiro gan 'The Guardian', gan fy achub i, gobeithio, rhag cael llawdriniaeth sylweddol. [Chwerthin.]
Diolch, Lywydd. I very much look forward to the day when Wales is presided over by a woman First Minister. First Minister, tomorrow there will be a new Prime Minister, who says she intends to implement the UK's withdrawal from the European Union. Now, Plaid Cymru's view is that the next Prime Minister must implement the pledges that were made to people in Wales by the 'leave' campaign, even if she comes from the other side of the debate. We want to see an official Welsh negotiating position to be agreed by this Assembly and on her desk as soon as is possible. First Minister, when I asked you last week, you failed to commit to publishing a formal position or to having it debated and formally approved by this Assembly. Whilst I would accept that the new Prime Minister is coming into office much sooner than expected, can you confirm that you will aim to come to an agreed official negotiating position and that you will press the new Prime Minister for Wales to have a direct role in negotiations as was offered by David Cameron?
Diolch, Lywydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod pan fydd Cymru yn cael ei harwain gan Brif Weinidog benywaidd. Brif Weinidog, bydd Prif Weinidog y DU newydd yfory, sy'n dweud ei bod yn bwriadu gweithredu tynnu'n ôl y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, barn Plaid Cymru yw bod yn rhaid i'r Prif Weinidog nesaf gyflawni'r addewidion a wnaed i bobl yng Nghymru gan yr ymgyrch i adael, hyd yn oed os yw hi'n dod o ochr arall y ddadl. Rydym ni eisiau gweld safbwynt negodi swyddogol i Gymru i'w gytuno gan y Cynulliad hwn ac ar ei desg hi cyn gynted â phosibl. Brif Weinidog, pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi fethu ag ymrwymo i gyhoeddi safbwynt ffurfiol nac iddo gael ei drafod a'i gymeradwyo'n ffurfiol gan y Cynulliad hwn. Er y byddwn yn derbyn bod y Prif Weinidog newydd yn dod i mewn i'w swydd yn gynharach o lawer na'r disgwyl, a allwch chi gadarnhau mai eich nod fydd ffurfio safbwynt negodi swyddogol wedi ei gytuno ac y byddwch yn pwyso ar Brif Weinidog newydd y DU am i Gymru gael rhan uniongyrchol mewn trafodaethau fel y cynigiwyd gan David Cameron?
Yes, I can. I expect that promise to be honoured. We will of course have a twin-track approach. We'll have our own negotiating team based in Brussels to see what we can achieve via that route as well. It's complementary to the UK route. There are two issues that are red lines for us: firstly, free access to the single market - that cannot be compromised on - and, secondly, that every penny that has been lost through European funding should be made up by the UK Government in accordance with that promise given, not, it's right to say, by the future Prime Minister, but by many in her party.
Gallaf, mi allaf. Rwy'n disgwyl i'r addewid hwnnw gael ei anrhydeddu. Bydd gennym, wrth gwrs, ddull deublyg. Bydd gennym ni ein tîm negodi ein hunain wedi'i leoli ym Mrwsel i weld beth allwn ni ei gyflawni drwy'r llwybr hwnnw hefyd. Mae'n cyd-fynd â llwybr y DU. Ceir dau fater sy'n llinellau coch i ni: yn gyntaf, mynediad am ddim at y farchnad sengl - ni ellir cyfaddawdu ar hynny - ac, yn ail, y dylai pob ceiniog sydd wedi cael ei cholli trwy gyllid Ewropeaidd gael ei thalu gan Lywodraeth y DU yn unol â'r addewid hwnnw a wnaed, nid, mae'n iawn i ddweud, gan y darpar Brif Weinidog, ond gan lawer yn ei phlaid.
Thank you, First Minister. You'll recall last week, when we discussed this, that I suggested that you needed to have a word with your Westminster Members of Parliament, and that you needed to tell them to get a grip and get on with their jobs. Last night the amendments to the Wales Bill were again debated in the House of Commons, and your MPs - the ones, at least, who turned up - abstained again on Welsh Government policy, this time in relation to the devolution of policing. They did exactly the same last week, abstaining on Welsh Labour Government policy to create a legal jurisdiction. How come your Labour MPs have no problem supporting policing powers for greater Manchester but can't bring themselves to support the devolution of policing to Wales? Why are your MPs letting the Tories off the hook in this way, and how can you defend their behaviour, First Minister?
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Byddwch yn cofio yr wythnos diwethaf, pan fuom yn trafod hyn, fy mod i wedi awgrymu bod angen i chi gael gair gyda'ch Aelodau Seneddol yn San Steffan, a bod angen i chi ddweud wrthyn nhw am gallio a bwrw ymlaen â'u swyddi. Trafodwyd y gwelliannau i Fil Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin eto neithiwr, ac ymatalodd eich ASau eto - y rhai a oedd yno, o leiaf - ar bolisi Llywodraeth Cymru, o ran datganoli plismona y tro hwn. Fe wnaethant yn union yr un fath yr wythnos diwethaf, gan ymatal ar bolisi Llywodraeth Lafur Cymru i greu awdurdodaeth gyfreithiol. Pam nad oes gan eich ASau Llafur unrhyw broblem yn cefnogi pwerau plismona Manceinion Fwyaf ond nad ydynt yn gallu perswadio eu hunain i gefnogi datganoli plismona i Gymru? Pam mae eich ASau yn gadael i'r Torïaid fynd yn groeniach fel hyn, a sut y gallwch chi amddiffyn eu hymddygiad, Brif Weinidog?
Well, it's a matter of timing rather than principle, but our position is very, very clear. The situation that we will face in years to come is that there may be very different sets of criminal law in Wales compared to England. It will be possible, for example, for somebody to be arrested in Wales for an offence that's not an offence in Wales but is an offence in England. It will be possible for somebody to serve a sentence for a crime committed in Wales that isn't a crime in England, potentially. That's nonsensical as far as the jurisdiction is concerned. It is also not sustainable to be in a situation where it would be a matter for the people of Wales to decide what offences they wish to create, but to have no say at all on how those offences are policed and enforced, and that remains the position of this Government.
Wel, mae'n fater o amseru yn hytrach nag egwyddor, ond mae ein safbwynt yn eglur iawn, iawn. Y sefyllfa y byddwn yn ei hwynebu yn y blynyddoedd i ddod yw y gallai fod cyfresi gwahanol iawn o gyfraith droseddol yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. Bydd yn bosibl, er enghraifft, i rywun gael ei arestio yng Nghymru am drosedd nad yw'n drosedd yng Nghymru ond sy'n drosedd yn Lloegr. Bydd yn bosibl i rywun fynd i'r carchar am drosedd a gyflawnwyd yng Nghymru nad yw'n drosedd yn Lloegr, o bosibl. Mae hynny'n hurt cyn belled ag y mae'r awdurdodaeth yn y cwestiwn. Nid yw'n gynaliadwy ychwaith i fod mewn sefyllfa lle y byddai'n fater i bobl Cymru benderfynu pa droseddau y maen nhw'n dymuno eu creu, ond heb gael unrhyw lais o gwbl ynghylch sut y mae'r troseddau hynny'n cael eu plismona a'u gorfodi, a dyna yw safbwynt y Llywodraeth hon o hyd.
That's not an issue of timing, First Minister. There is an issue of principle here. Okay, so, the Wales Bill is a matter that may not be of overriding priority for your MPs, but the future of the steel industry is critical. Wales without a steel industry is not a Wales that I am prepared to contemplate. The suspension of Tata Steel's sale process is of significant concern. Now, the proposed joint venture could lead to cost-cutting measures and a reduction in UK steel capacity. That's according to the analysis by the investment bank, Jefferies. If that merger proceeds we need a cast-iron guarantee that there is a future for steel making in Port Talbot and the other Welsh sites. How will you secure such a guarantee? And can you explain why there's no statement on this week's agenda on the suspension of the sales process? Will you also confirm that you'll continue to provide support to the employment and management buy-out bid, and that you'll press on Tata the importance of retaining the secondment arrangement for senior managers to work on that bid?
Nid mater o amseru yw hynny, Brif Weinidog. Ceir mater o egwyddor yma. Iawn, felly, mae Bil Cymru yn fater efallai nad yw'n brif flaenoriaeth i'ch ASau, ond mae dyfodol y diwydiant dur yn hollbwysig. Nid yw Cymru heb ddiwydiant dur yn Gymru yr wyf yn fodlon meddwl amdani. Mae gohirio'r broses o werthu Tata Steel yn peri pryder sylweddol. Nawr, gallai'r fenter ar y cyd arfaethedig hon arwain at fesurau torri costau a lleihau capasiti dur y DU. Mae hynny yn ôl y dadansoddiad gan y banc buddsoddi, Jefferies. Os bydd yr uno hwnnw'n digwydd, mae angen sicrwydd pendant arnom fod dyfodol i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot a safleoedd eraill yng Nghymru. Sut byddwch chi'n cael sicrwydd o'r fath? Ac a allwch chi egluro pam nad oes datganiad ar agenda yr wythnos hon ar ohirio'r broses werthu? A wnewch chi gadarnhau hefyd y byddwch chi'n parhau i ddarparu cymorth i'r cais i brynu'r cwmni gan y gweithwyr a'r rheolwyr, ac y byddwch chi'n pwysleisio i Tata pwysigrwydd cadw'r trefniant secondiad i uwch reolwyr weithio ar y cais hwnnw?
Well, two things: the Secretary is meeting with the management buy-out team today and, of course, he has an urgent question that we were content to accept, of course, in relation to the events of the weekend. I did have a senior official on Friday - [Interruption.] I had a senior official on Friday based in Mumbai who has reported back to me. The issue now for Tata is this: we have put a financial package on the table. We expect there to be a quid pro quo, and that does mean that we need to see conditions in terms of guarantees of future jobs and guarantees in terms of a commitment for a specified period of time, for several years. We do, however, need to see further progress on the pensions issue, over which we have no control, and indeed the issue of energy prices. So, we have a package on the table that we believe Tata would be content with. We need to make sure that we can demonstrate to the people of Wales that that package will achieve what they would expect, but we do need to see progress now, particularly on the pensions issue.
Wel, dau beth: mae'r Ysgrifennydd yn cyfarfod â thîm prynu'r rheolwyr heddiw ac, wrth gwrs, mae ganddo gwestiwn brys yr oeddem ni'n fodlon ei dderbyn, wrth gwrs, yn ymwneud â digwyddiadau'r penwythnos. Roedd gen i uwch swyddog ddydd Gwener - [Torri ar draws.] Roedd gen i uwch swyddog ddydd Gwener wedi'i leoli ym Mumbai sydd wedi adrodd yn ôl i mi. Y cwestiwn i Tata nawr yw hyn: rydym ni wedi rhoi pecyn ariannol ar y bwrdd. Rydym ni'n disgwyl y bydd quid pro quo, ac nid yw hynny'n golygu bod angen i ni weld amodau o ran sicrwydd am swyddi yn y dyfodol a sicrwydd o ran ymrwymiad am gyfnod penodol o amser, am sawl blwyddyn. Fodd bynnag, mae angen i ni weld rhagor o gynnydd ar y mater pensiynau, nad oes gennym unrhyw reolaeth drosto, a'r mater o brisiau ynni mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ni becyn ar y bwrdd y credwn y byddai Tata yn fodlon ag ef. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gallu dangos i bobl Cymru y bydd y pecyn hwnnw'n cyflawni'r hyn y byddent yn ei ddisgwyl, ond mae angen i ni weld cynnydd nawr, yn enwedig ar fater y pensiynau.
The outstanding performance by our national team in Euro 2016 has presented a great opportunity for us to represent Wales abroad. I know that the Football Association of Wales Trust is already planning to use that success as a catalyst to grow the game further across the country.
Mae'r perfformiad rhagorol gan ein tîm cenedlaethol yn Ewro 2016 wedi cynnig cyfle gwych i ni i gynrychioli Cymru dramor. Gwn fod Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes yn bwriadu defnyddio'r llwyddiant hwnnw fel catalydd i dyfu'r gamp ymhellach ar draws y wlad.
Thank you, First Minister. I'm also very pleased with how the Welsh team did in the European championships, and I am sure that I'm not the only one who spent Sunday night thinking, 'It could have been us', especially when a former Swansea City player won the tournament for Portugal. In order to continue to develop football, there is a need for improved pitches. I would like to ask the First Minister how it is intended to increase the number of 3G and 4G pitches in Wales, thus reducing the number of games lost to bad weather throughout the winter.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwyf innau hefyd yn falch iawn o sut y gwnaeth tîm Cymru yn y pencampwriaethau Ewropeaidd, ac rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un a dreuliodd nos Sul yn meddwl, 'Gallai fod wedi bod yn ni', yn enwedig pan enillodd gyn-chwaraewr Abertawe y gystadleuaeth dros Bortiwgal. Er mwyn parhau i ddatblygu pêl-droed, mae angen gwell caeau. Hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog sut y bwriedir cynyddu nifer y caeau 3G a 4G yng Nghymru, gan leihau nifer y gemau a gollir i dywydd garw drwy'r gaeaf.
I know that Sport Wales are working with the governing bodies of various sports, such as the Welsh Rugby Union, Hockey Wales and the FAW, to develop an investment programme for 3G pitches. I know as well that they're developing a blueprint for sport and recreation facilities in Wales to support our drive to facilitate regular participation in sport and physical activity, and to make sure that we have facilities that are appropriate and sustainable in the future.
Gwn fod Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda chyrff llywodraethu gwahanol gampau, fel Undeb Rygbi Cymru, Hoci Cymru a'r Gymdeithas Bêl-droed, i ddatblygu rhaglen fuddsoddi ar gyfer caeau 3G. Gwn hefyd eu bod yn datblygu glasbrint ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a hamdden yng Nghymru i gefnogi ein hymgyrch i hwyluso cyfranogiad rheolaidd mewn chwaraeon ac ymarfer corff, ac i wneud yn siŵr y bydd gennym ni gyfleusterau sy'n briodol ac yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Do you not think that there's a contradiction between seeking to increase the number of 4G pitches, and yet, just a mile down the road, there is an all-weather pitch that is locked up? Children are unable to play there because it's too expensive. Also in this city, in the south of this city, in a very challenged ward such as Splott, the STAR leisure centre is being closed by your Labour council here in the city. So, there is a hall that children use, where they learn to play football. Do you not see the contradiction between what is being said here about increasing facilities, and yet the reality on the ground is that your Labour councils are actually cutting them?
Onid ydych chi'n credu bod gwrthdaro rhwng ceisio cynyddu nifer y caeau 4G, ac eto, dim ond milltir i lawr y ffordd, ceir cae pob tywydd sydd o dan glo? Ni all plant chwarae yno gan ei fod yn rhy ddrud. Hefyd yn y ddinas hon, yn ne'r ddinas hon, mewn ward â phroblemau mawr fel Sblot, mae canolfan hamdden STAR yn cael ei chau gan eich cyngor Llafur chi yma yn y ddinas. Felly, ceir neuadd y mae plant yn ei defnyddio, lle maen nhw'n dysgu chwarae pêl-droed. Onid ydych chi'n gweld y gwrthdaro rhwng yr hyn sy'n cael ei ddweud yma am gynyddu cyfleusterau, ac eto y gwirionedd ar lawr gwlad yw bod eich cynghorau Llafur yn eu torri?
Same in Carmarthenshire.
Yr un fath yn Sir Gaerfyrddin.
Well, I think the same is true - . I am told by my colleague, the Member for Llanelli, that Carmarthenshire is in the same position - run by his party, of course. The reality is that councils are in difficult positions financially, but they must ensure that they don't price communities out of facilities in those communities. The Member makes a fair point, actually, which is that we need to make sure that, where facilities are developed, they do not become so expensive that people can't use them. Where there is a danger of doing that, we would urge all those involved to think again in order to make sure that facilities are accessible.
Wel, rwy'n meddwl bod yr un peth yn wir - . Mae fy nghydweithiwr, yr Aelod dros Lanelli, yn fy hysbysu bod Sir Gaerfyrddin yn yr un sefyllfa - sy'n cael ei rhedeg gan ei blaid ef, wrth gwrs. Y gwir amdani yw bod cynghorau mewn sefyllfaoedd anodd yn ariannol, ond mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau nad ydynt yn gwneud cyfleusterau yn rhy ddrud i bobl yn y cymunedau hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg, mewn gwirionedd, sef bod angen i ni wneud yn siŵr, lle mae cyfleusterau'n cael eu datblygu, nad ydynt yn mynd mor ddrud fel na all pobl eu defnyddio. Pan fo perygl o wneud hynny, byddem yn annog pawb dan sylw i feddwl eto er mwyn gwneud yn siŵr bod cyfleusterau ar gael i bobl.
First Minister, I'd like to join with you in saying what wonderful news it was last week. Not only did our Welsh team do as well as they did, but they actually managed to turn someone like me, for whom, I can honestly say, football was of absolutely zero interest, into a passionate supporter. I could probably even talk about the offside rule if I tried hard enough. But I was very proud of them, and I was also incredibly proud of our fans and the way our fans behaved. Also, our footballers came across as real, decent, grounded human beings, and a real example to our young people. So, I come to the heart of my question, which is: will you have discussions with the Cabinet Secretary for Education to talk about how we can up the hours and minutes that young people in primary school spend in sport? It's actually been cut consistently, year on year. If we want to identify not just our football stars of the future, but also our sporting stars of the future, we need to start early, get them early, get them healthy and get them really used to the whole sports agenda. Instead, at the moment in primary schools that is becoming a dwindling time, and very difficult for rural children, especially those with no access to public transport, to access after school as well.
Brif Weinidog, hoffwn ymuno â chi i ddweud pa mor wych oedd newyddion yr wythnos diwethaf. Nid yn unig y gwnaeth ein tîm Cymru cystal ag y gwnaethant, ond llwyddasant i droi rhywun fel fi, y gallaf ddweud yn onest nad oedd pêl-droed o unrhyw ddiddordeb o gwbl i mi, yn gefnogwr brwd. Mae'n debyg y gallwn i hyd yn oed drafod y rheol camsefyll pe bawn i'n trio'n ddigon caled. Ond roeddwn i'n falch iawn ohonyn nhw, ac roeddwn i hefyd yn hynod falch o'n cefnogwyr a'r ffordd y gwnaeth ein cefnogwyr ymddwyn. Hefyd, gwnaeth ein pêl-droedwyr argraff dda fel pobl gyffredin, nobl â'u traed ar y ddaear, ac yn esiampl wirioneddol i'n pobl ifanc. Felly, rwy'n dod at wraidd fy nghwestiwn, sef: a fyddwch chi'n cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i drafod sut y gallwn ni gynyddu'r oriau a'r munudau y mae pobl ifanc yn yr ysgol gynradd yn eu treulio yn gwneud chwaraeon? Mae wedi cael ei dorri'n gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn, a dweud y gwir. Os ydym ni eisiau darganfod nid yn unig ein sêr pêl-droed ar gyfer y dyfodol, ond hefyd ein sêr chwaraeon ar gyfer y dyfodol, mae angen i ni ddechrau'n gynnar, eu cael nhw'n gynnar, eu gwneud nhw'n iach a'u cael nhw i arfer â'r holl agenda chwaraeon. Yn hytrach, mae'r amser hwnnw'n prinhau ar hyn o bryd mewn ysgolion cynradd, ac mae'n anodd iawn i blant cefn gwlad, yn enwedig y rhai heb fynediad at gludiant cyhoeddus, gymryd rhan ar ôl yr ysgol hefyd.
These are the issues that we'd love to explore with sports governing bodies. The Member has refreshing candour when she says she had no interest in football until now. [Interruption.] Well, converts are always welcome, of course. It's difficult to underestimate the publicity that this has given our nation. I was in Paris on the night of the semi-final. I was in Mametz the following day. Around me, all I could hear was people saying 'Pays de Galles'. That kind of publicity is very difficult for us to replicate. We have to build on that, and we're working with Visit Wales in order for that to happen. She's absolutely right to say as well that the team have been role models as far as young people are concerned. They will see that it is possible to be hugely successful in football - and, indeed, in any other professional sport - without carrying emotional baggage, if I can put it that way, as we have seen in years gone by. We are fortunate in Wales in that we haven't lost many school playing fields, as has been the case elsewhere over many years, and we will look to work now with Sport Wales and the governing bodies in order to deliver as many accessible facilities of the highest standard that we can across Wales.
Dyma'r materion yr hoffem eu hystyried gyda chyrff llywodraethu chwaraeon. Mae'r Aelod yn anarferol o onest pan ddywed nad oedd ganddi unrhyw ddiddordeb mewn pêl-droed tan nawr. [Torri ar draws.] Wel, mae croeso i gefnogwyr newydd bob amser, wrth gwrs. Mae'n anodd tanbwysleisio'r cyhoeddusrwydd y mae hyn wedi ei roi i'n cenedl. Roeddwn i ym Mharis ar noson y rownd gynderfynol. Roeddwn i yn Mametz y diwrnod canlynol. O'm cwmpas, y cwbl y gallwn ei glywed oedd pobl yn dweud 'Pays de Galles'. Mae'r math hwnnw o gyhoeddusrwydd yn anodd iawn i ni ei ailadrodd. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar hynny, ac rydym ni'n gweithio gyda Croeso Cymru er mwyn i hynny ddigwydd. Mae hi'n gwbl gywir i ddweud hefyd bod y tîm wedi bod yn esiampl dda cyn belled ag y mae pobl ifanc yn y cwestiwn. Byddant yn gweld ei bod yn bosibl bod yn hynod lwyddiannus ym myd pêl-droed - ac, yn wir, mewn unrhyw gamp broffesiynol arall - heb fod â baich emosiynol, os caf ei roi felly, fel yr ydym ni wedi gweld yn y blynyddoedd a fu. Rydym ni'n ffodus yng Nghymru nad ydym ni wedi colli llawer o gaeau chwarae ysgolion, fel sydd wedi digwydd mewn mannau eraill dros flynyddoedd lawer, a byddwn yn ceisio gweithio gyda Chwaraeon Cymru a'r cyrff llywodraethu nawr er mwyn darparu cymaint o gyfleusterau hygyrch o'r safon uchaf ag y galllwn ar draws Cymru.
We have a range of programmes aimed at increasing employability, improving skills, and supporting people of all ages and abilities to enter and progress into employment, and, of course, they play a fundamental role in reducing inequalities and tackling poverty.
Mae gennym ni amrywiaeth o raglenni sydd â'r nod o gynyddu cyflogadwyedd, gwella sgiliau, a chefnogi pobl o bob oed a gallu i fynd i mewn i gyflogaeth a symud ymlaen ynddi, ac, wrth gwrs, maen nhw'n chwarae rhan sylfaenol o ran lleihau anghydraddoldebau a threchu tlodi.
Adult education can play a vital role in breaking the poverty cycle. That was the message from the Inspire! adult learners awards last month, at which I presented the life career change award. The new £22 million Coleg y Cymoedd building in Aberdare will provide an aspirational setting for adult education, but the challenge is also to ensure suitable provision of good-quality courses for learners. How is the Welsh Government working with providers to achieve this?
Gall addysg i oedolion gyflawni swyddogaeth hanfodol i dorri'r cylch tlodi. Dyna oedd y neges o wobrau addysg oedolion Ysbrydoli! y mis diwethaf, pryd y cyflwynais y wobr newid gyrfa oes. Bydd adeilad £22 miliwn newydd Coleg y Cymoedd yn Aberdâr yn cynnig lleoliad dyheadol ar gyfer addysg oedolion, ond yr her hefyd yw sicrhau darpariaeth addas o gyrsiau o ansawdd da i ddysgwyr. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr i gyflawni hyn?
Well, the Member is right to say that the new campus will be a superb facility for the people of Aberdare and the surrounding area. We are in regular contact with the post-16 sector with regard to the planning of provision; that includes the planning of part-time and adult community provision delivered by the FE sector. Delivery plans are also collected and scrutinised by officials to ensure a suitable range of provision is offered within the budget available, and, of course, FE institutions are subject to Estyn inspections.
Wel, mae'r Aelod yn iawn i ddweud y bydd y campws newydd yn gyfleuster gwych i bobl Aberdâr a'r cyffiniau. Rydym ni mewn cysylltiad rheolaidd â'r sector ôl-16 o ran cynllunio darpariaeth; mae hynny'n cynnwys cynllunio darpariaeth ran-amser a chymunedol i oedolion gan y sector Addysg Bellach. Caiff cynlluniau cyflawni hefyd eu casglu a'u harchwilio gan swyddogion er mwyn sicrhau y cynigir amrywiaeth briodol o ddarpariaeth o fewn y gyllideb sydd ar gael, ac, wrth gwrs, mae sefydliadau Addysg Bellach yn destun arolygiadau Estyn.
There is serious concern amongst adults learning Welsh throughout the country because of the new system, which has led to a loss of jobs amongst local tutors. Already, a significant number of experienced staff have been made redundant in Swansea, and a further number are facing job losses in north-east Wales and in Ceredigion. There is great uncertainty in the field after the Government failed to commit to funding the Welsh for adults course for next year, and, as you know, the budget for Welsh for adults has already been cut by £3 million. If cuts on this scale are going to continue, don't you believe that that will work against your Government's ambition to increase the number of speakers to 1 million?
Mae yna bryder difrifol ymhlith oedolion sy'n dysgu Cymraeg ledled y wlad oherwydd y gyfundrefn newydd, sydd wedi arwain at golli swyddi ymhlith tiwtoriaid lleol. Yn barod, mae yna nifer sylweddol o staff profiadol sydd wedi cael ei ddiswyddo yn Abertawe, a nifer pellach yn wynebu colli swyddi yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yng Ngheredigion. Mae yna ansicrwydd mawr yn y maes ar ôl i'r Llywodraeth fethu ag ymrwymo i ariannu cwrs Cymraeg i oedolion ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac, fel rydych chi'n gwybod, mae cyllideb cyrsiau Cymraeg i oedolion eisoes wedi cael ei thorri bron £3 miliwn. Os ydy toriadau ar y raddfa yma yn mynd i barhau, onid ydych chi'n teimlo bod hynny'n mynd i weithio yn erbyn uchelgais eich Llywodraeth chi i gynyddu nifer y siaradwyr i 1 filiwn?
It's been difficult over the past financial year; that's quite true. But we've also ensured that new centres have been opened across Wales - from Pontardawe to Llanelli to the capital city - in order to ensure that there are places where people can go and use the Welsh language, particularly in those areas where the language is no longer the language of the high street or generally used. Now, I know that places such as Y Lle, in Llanelli, have been very successful in ensuring that people can learn Welsh, but also use Welsh, so that they don't lose the language once they have learnt it.
Mae wedi bod yn anodd dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf; mae hynny'n iawn. Ond hefyd rydym ni wedi sicrhau bod yna lefydd newydd wedi cael eu hagor ar draws Cymru - o Bontardawe, er enghraifft, a Llanelli i'r brifddinas - er mwyn sicrhau bod yna lefydd lle mae pobl yn gallu mynd a defnyddio'r Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad yw'r Gymraeg rhagor yn iaith yr heol neu iaith gymdeithasol gyffredinol. Rwy'n gwybod bod llefydd fel Y Lle yn Llanelli, er enghraifft, wedi bod yn llwyddiannus dros ben wrth sicrhau bod pobl yn gallu dysgu Cymraeg a hefyd defnyddio Cymraeg fel nad ydyn nhw'n colli'r iaith ar ôl ei dysgu.
That's true. We have invested heavily, of course, in ensuring that the language is used widely in schools. We know that there are good examples like Gwynedd, like Ceredigion, where there are centres that enable children to be - the word in Welsh is 'trochi'; it doesn't quite work in English, because it means to get dirty in English, if you translate it literally. [Interruption.] 'Immersed'; that's a better word - for them to be immersed in the language. And they work very, very well. We find then, of course, that children are able to influence their parents and help their parents to learn Welsh, as they themselves learn Welsh so easily.
Mae hynny'n wir. Rydym ni wedi buddsoddi'n helaeth, wrth gwrs, mewn sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio'n eang mewn ysgolion. Rydym ni'n gwybod bod enghreifftiau da fel Gwynedd, fel Ceredigion, lle ceir canolfannau sy'n galluogi plant i - 'trochi' yw'r gair yn y Gymraeg; nid yw'n gweithio yr un fath yn Saesneg, gan ei fod yn golygu dwyno yn Saesneg, os byddwch yn ei gyfieithu'n llythrennol. [Torri ar draws.] 'Ymdrwytho'; dyna air gwell - iddyn nhw gael eu hymdrwytho yn yr iaith. Ac maen nhw'n gweithio'n dda iawn, iawn. Rydym ni'n canfod wedyn, wrth gwrs, bod plant yn gallu dylanwadu ar eu rhieni a helpu eu rhieni i ddysgu Cymraeg, gan eu bod nhw eu hunain yn dysgu Cymraeg mor hawdd.