text
stringlengths 76
2.23k
| __index_level_0__
int64 0
4.36k
|
---|---|
Rwy'n sicr yn hapus i wneud hynny. Yr wythnos diwethaf cyhoeddais ymateb y Llywodraeth i ymgynghoriad ar y Bil drafft. Nawr, os nad yw'r Aelod yn credu ein bod wedi ymdrin yn llawn â'r meysydd hynny, yna byddwn yn ddiolchgar pe gallai ysgrifennu ataf a byddaf yn sicr o wneud hynny. Ond o ran y pwynt cyffredinol a wnaed yn y cwestiwn, wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr fod angen i ni fabwysiadu ymagwedd gyfannol at bolisi yn hytrach nag ymagwedd sydd ond yn penderfynu ac yn pennu beth sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth heb gydnabod y cymorth ehangach sydd ei angen i ddarparu profiad addysgol llawn i'r plant hynny. Felly, os nad yw'r Aelod neu unrhyw Aelod arall yn credu ein bod wedi cynnwys y pwyntiau hynny'n llawn yn yr ymateb, yna byddwn yn hapus i wneud hynny. Fe ddywedaf fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd y Bil hwn yn rhan o flwyddyn gyntaf ein rhaglen ddeddfwriaethol. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar amserlen ar gyfer hynny, a byddaf yn gwneud datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo modd, pan fyddwn yn gallu deall beth fydd yr amserlen a phryd y byddwn yn gallu cyhoeddi'r ddeddfwriaeth. Felly, bydd yr Aelodau'n cael cyfle wedyn i edrych eto ar y mater hwn. | 700 |
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Yn refferendwm diweddar yr UE, pleidleisiodd 73 y cant o bobl 18 i 24 oed dros aros yn yr UE. Fodd bynnag, dim ond 43 y cant o'r rhai a oedd yn gymwys i bleidleisio a wnaeth hynny mewn gwirionedd, o gymharu â chyfanswm y nifer a bleidleisiodd, sef 72 y cant. Mewn gwirionedd, yn ystod etholiadau'r Cynulliad, cyfarfûm â'r unig bleidleisiwr yng Nghaerdydd a oedd yn cael ei phen-blwydd yn 18 oed ar ddiwrnod yr etholiad, ac fe aeth i bleidleisio. Ond dywedodd wrthyf ei bod hi a'i ffrindiau'n teimlo nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth am wleidyddiaeth a dewisiadau, a beth y gallech ei wneud drwy ddemocratiaeth mewn ysgolion. Felly, a oes unrhyw beth pellach y mae'n meddwl y gellid ei wneud i annog pobl ifanc i gydnabod pa mor bwysig yw'r broses bleidleisio, a pha fath o benderfyniadau y gellir eu gwneud? | 701 |
Rwy'n cael fy nhemtio, yn sgil digwyddiadau'r wythnosau diwethaf, i ddweud nad pobl ifanc sydd eisiau gwella eu dealltwriaeth o wleidyddiaeth, ond y bobl hŷn, o bosib. Ond, yn sicr, mae yna ddyletswydd arnom ni fel pleidiau i ledaenu gwybodaeth ac annog pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth. Ond, yn benodol ar y pwynt yma, rydych chi eisoes wedi sôn am bwrpas y cwricwlwm newydd, a'r ffordd y bydd hwn yn darparu yn wahanol i'r ffordd rydym ni wedi ei wneud yn y gorffennol. A ydych chi'n dal, felly, yn glir mai dyma yw'r ffordd orau i fwrw ymlaen? Hynny yw, fel yr Ysgrifennydd newydd, a ydych chi am weithredu y pedwar pwrpas yna yng nghwricwlwm arfaethedig Donaldson? A lle bellach ydych chi gyda rhan arbennig o'r cwricwlwm y penderfynodd Huw Lewis yn ei chylch, sef i ddisodli addysg grefyddol gyda set newydd o egwyddorion yn troi o gwmpas moeseg ac athroniaeth? | 702 |
A yw disgiau hyblyg wedi dyddio mewn gwirionedd, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae'n rhaid i mi gadw i fyny gyda'r oes, onid oes? Byddwch yn dweud wrthyf nesaf nad oes gwifrau ar ffonau, ond dyna ni. [Chwerthin.] Rydym wedi cael nifer o ddadleuon yn y Siambr hon dros y blynyddoedd, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â gostwng yr oedran pleidleisio, ac mae rhan o'r ddadl honno yn aml wedi cynnwys yr angen i geisio gwella dealltwriaeth pobl iau o wleidyddiaeth. Ac rwy'n cytuno â'r amcan hwnnw. Nid bod yn nawddoglyd yw hynny: pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion yn fy etholaeth, mae pobl ifanc yn dweud wrthyf, 'Byddem yn hoffi cael mwy o wybodaeth am wleidyddiaeth ac am y systemau gwleidyddol, a hyd yn oed am bethau mor syml â sut rydych yn pleidleisio, lle mae'r pleidleisiau'n cael eu cyfrif, a sut y rhoddir ystyriaeth i hynny.' Gwrandewais gyda diddordeb arnoch, ac rwy'n cytuno gyda'ch atebion i Simon Thomas a Julie Morgan. A wnewch chi weithio i gael addysg wleidyddiaeth well yn yr ysgolion, fel bod pobl ifanc yn teimlo eu bod wedi'u paratoi ar gyfer mynd allan i bleidleisio, ar ba oedran bynnag y gallai hynny fod yn y dyfodol? | 703 |
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ein holl ddysgwyr gan gynnwys y rhai sydd ag awtistiaeth. Drwy ganolbwyntio ar ddatblygu ein gweithlu, drwy ein cynllun gweithredu strategol a thrwy rhaglen i drawsnewid y cymorth a roddir tuag at anghenion dysgu ychwanegol, byddwn yn sicrhau bod dysgwyr awtistig yn derbyn y ddarpariaeth sydd ei hangen arnyn nhw. | 704 |
Os yw'r Aelod yn fodlon ysgrifennu ataf gyda'r enghraifft y mae hi wedi'i thrafod yn y Siambr yma, byddaf yn hapus iawn i ymateb i'r pwyntiau penodol rydych chi wedi'u codi gyda ni. Ond, a gaf ddweud yn gyffredinol, rydym ni, fel Llywodraeth - ? Mae'r Aelod wedi cael cyfle i ddarllen y cynllun presennol, y cynllun sydd wedi cael ei newid yn ystod y flwyddyn diwethaf, a'r cynllun roedd Mark Drakeford wedi'i lansio cyn yr etholiad fel y Gweinidog iechyd. Mae angen i ni sicrhau bod pob un person sydd angen cefnogaeth ac angen cwricwlwm 'differential', beth bynnag yw e, yn cael hynny, ym mha bynnag ysgol neu 'setting' maen nhw'n derbyn eu haddysg. Mi fyddwn yn sicrhau bod hynny yn digwydd, naill ai drwy'r Mesur rydym wedi'i drafod yn barod yn y sesiwn yma, neu drwy sicrhau bod y gefnogaeth ar gael y tu fas i hynny. Ond rwy'n hapus iawn i ymateb yn uniongyrchol i'r Aelod ar yr enghraifft y mae hi wedi'i chodi gyda ni. | 705 |
Gwnaf, yn sicr; byddwn yn sicr o wrando ar hynny, ond hoffwn fynd ymhellach na hynny hefyd, oherwydd os oes anawsterau, fel rydych chi a'r Aelod dros Orllewin De Cymru wedi disgrifio, a bod hynny'n arwain at y farn fod yna yn broblem fwy systemig nag anawsterau unigol, yna, yn amlwg, bydd yn rhaid i ni weithredu'n llawer mwy helaeth ar hynny. Mae'r Aelodau'n ymwybodol o'r cytundeb rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, yn yr ystyr y byddwn yn edrych ar y strategaeth awtistiaeth dros y misoedd nesaf ac yn edrych i weld a oes gofyniad i ddeddfu ar y mater hwn neu a oes angen i ni wneud darpariaethau deddfwriaethol ar gyfer y cynllun gweithredu strategol. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelodau fod hynny'n rhywbeth rwy'n ei ystyried yn ddifrifol iawn ac os oes angen cymryd camau deddfwriaethol yn sail i ddarparu'r gwasanaethau hyn, yna ni fyddwn yn oedi rhag gwneud hynny. | 706 |
Yn amlwg, mae'r math o raglen ddysgu sy'n cael ei darparu ar gyfer pob disgybl unigol yn fater iddynt hwy a'r gweithwyr proffesiynol sy'n ymdrin â hwy. Nid wyf yn siŵr y byddai'n briodol i mi, fel Gweinidog, farnu ar y mathau hynny o benderfyniadau neu i wneud sylwadau ar hynny heb ddeall anghenion unigol y disgybl. Ond a gaf fi ddweud hyn wrthych? Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni gydnabod bod pobl yn gallu manteisio ar y cwricwlwm gwahaniaethol sydd ei angen arnynt, eu bod yn cael cymorth i sicrhau eu bod yn cael y gorau o addysg o'r fath, y dysgu hwnnw a'r cwricwlwm hwnnw a'n bod ni, fel Cynulliad Cenedlaethol, yn rhoi'r strwythurau a'r fframweithiau cenedlaethol ar waith fel na fyddwn yn gweld y methiannau y mae Aelodau unigol yn eu disgrifio yma o bryd i'w gilydd. | 707 |
A gaf fi ddiolch i chi yn gyntaf am y cwestiwn - y ddau gwestiwn a gyflwynwyd gennych mewn gwirionedd? Rwyf am ddweud fy mod wedi sylwi, ers i mi gael fy mhenodi, fod nifer y cwestiynau wedi haneru mewn gwirionedd. Rwy'n credu ein bod wedi treulio'r pum mlynedd diwethaf yn meddwl am ffyrdd creadigol o ofyn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol er mwyn ennyn ateb a gwnaf fy ngorau i dreulio'r pum mlynedd nesaf yn meddwl am ffyrdd creadigol o ateb y cwestiynau hynny. Ond mewn ymateb uniongyrchol i'r cwestiwn, fel swyddog y gyfraith, fy mlaenoriaethau yw cynorthwyo'r Llywodraeth i gyflawni ei rhaglen lywodraethu, cynnal rheolaeth y gyfraith, gwella mynediad at gyfreithiau Cymru, a sicrhau ein bod yn gallu sicrhau'r fargen orau i bobl Cymru. | 708 |
Wrth gwrs, mae'r confensiwn a Deddf Hawliau Dynol 1998 yn hawliau sy'n rhaid i ni eu hymgorffori yn ein deddfwriaeth Gymreig ein hunain. Mewn gwirionedd, rhaid i Lywodraeth y DU wneud yr un peth gyda'i deddfwriaeth ei hun. Wrth gwrs, cawsom y sylwadau heddiw gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod deddf hawliau dynol yn mynd i gael ei chyflwyno. Tybiaf eich bod chi hefyd, ynghyd â llawer o rai eraill, wedi cyfarfod â'r pwyllgor gwreiddiol a sefydlwyd i edrych ar ddeddf hawliau dynol. Daeth i'r casgliad mewn gwirionedd na allent gyflawni eu swyddogaeth heb danseilio rhai o'r hawliau sylfaenol a oedd eisoes yn eu lle. Credaf fod y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn un o'r trysorau mawr a roddodd y Deyrnas Unedig i Ewrop. Cafodd ei ddrafftio gan gyfreithwyr Ewropeaidd; cafodd ei ddrafftio a bu rhai cyfreithwyr gwych a sefydledig o Gymru ynghlwm wrth y gwaith - yn aml, pobl a oedd wedi dysgu eu crefft a meithrin eu dealltwriaeth o bwysigrwydd yr egwyddorion hyn yn ystod treialon Nuremberg. Wrth gwrs, yn eu plith roedd yr Arglwydd Elwyn-Jones, a llawer o bobl eraill o Gymru a luniodd hwnnw. Felly, rwy'n meddwl bod y cyfraniad a wnaed gennym iddo - . Rydym wedi gosod y safonau mewn gwirionedd. Rydym wedi sefydlu'r fframwaith deddfwriaethol arno. Cafodd ei hyrwyddo gan Winston Churchill, a chaiff ei gydnabod yn rhyngwladol fel un o'r cyfraniadau mawr i sefydlu safonau, hawliau, ar draws y byd. Yn fy marn i, byddai'n gam difrifol iawn yn wir i wneud unrhyw beth sy'n tanseilio neu'n tynnu'n ôl o'r safonau hynny mewn gwirionedd. | 709 |
Diolch i'r Cwnsler am ei ateb, ac a gaf i ddweud wrtho ar y cychwyn fod ei atebion eisoes wedi bod llawer yn fwy cynhwysfawr nag a gefais i yn ystod y pum mlynedd diwethaf - nag a gafodd ef, o bryd i'w gilydd, yn ystod y pum mlynedd diwethaf hefyd? Rwy'n parchu'r ffaith nad oes llawer o amser wedi pasio ers iddo gael ei benodi, a'r refferendwm, wrth gwrs. Ond, o safbwynt y drafodaeth yr ydym newydd ei chael yn y Siambr hon, mae'n amlwg bod y ffordd y mae'r gyfraith Ewropeaidd wedi'i phlethu i mewn i gyfraith Cymru a chyfraith y Deyrnas Gyfunol yn mynd i fod yn gwestiwn dyrys yn ystod y blynyddoedd nesaf. A gaf i gyfeirio at erthygl sydd yn y 'Western Mail' heddiw gan y bargyfreithiwr Emyr Lewis, sydd yn edrych ar sut y bydd cyfraith Cymru yn rhan o'r cwestiynau dyrys iawn i'r proffesiwn cyfreithiol yn ystod y blynyddoedd nesaf? Felly, beth fydd y camau? Er enghraifft, a ydy'r Cwnsler Cyffredinol â golwg ar gyhoeddi, o leiaf, ryw fath o 'scoping exercise' sydd yn sôn am y gwahanol 'directives' a phethau sy'n effeithio ar gyfraith fan hyn, fel ein bod ni o leiaf yn gallu deall swmp y gwaith cyn mynd ati i ddeall sut i dynnu allan? | 710 |
Pleidleisiodd Aelodau Seneddol Ewropeaidd UKIP yn erbyn gwelliant grŵp Llafur yr oedd Llafur yn honni y byddai'n arwain at fesurau gwrth-ddympio uwch. Ond nid oedd llawer o dystiolaeth o hyn ac ymataliodd UKIP - ymatal - fel rhan o egwyddor. Tariffau UE o 16 y cant yn unig - o ganlyniad, cododd mewnforion dur o Tsieina i'r UE dros 50 y cant. Mae hyn wedi cael effaith ddinistriol ar ddur y DU a Chymru. Dair blynedd yn ôl ni ddefnyddiodd y DU un darn o far atgyfnerthu concrid Tsieineaidd, a'r llynedd barrau atgyfnerthu o Tsieina oedd bron i hanner yr holl farrau atgyfnerthu concrid yn y DU. Yn ôl UK Steel mae'r lefel hon o dwf yn ddigynsail ac yn bygwth holl fodolaeth cynhyrchiant barrau atgyfnerthu yn y Deyrnas Unedig. Aelodau, mae dyfodol diwydiant dur Cymru dan fygythiad. Mae dan fygythiad oherwydd dur rhad o Tsieina. Mae dan fygythiad oherwydd prisiau ynni uchel yn y DU, ac mae dan fygythiad oherwydd Undeb Ewropeaidd sy'n tangyflawni, ac sydd â mwy o ddiddordeb mewn biwrocratiaeth na masnach. Gan fod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru a Phrydain bellach wedi pleidleisio dros adael yr UE gallwn achub ein diwydiant dur. Ar ôl gadael yr UE gall perchnogion newydd Tata Steel, ynghyd â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, edrych tuag at weddill y byd am farchnadoedd i'r dur gorau yn y byd yn ddi-os: dur Cymru. Yn y dyfodol, byddwn yn gallu mynnu bod yr holl waith adeiladu sy'n digwydd yn y DU yn defnyddio dur Prydain a Chymru heb bechu yn erbyn rheolau tendro a chaffael yr UE. Pan fyddwn yn rhydd o hualau'r UE, byddwn yn gallu cynorthwyo ein cynhyrchwyr dur gyda'u biliau ynni - y rhai mwyaf drud yn Ewrop - heb gyfyngiadau rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE. Fel y gwyddoch, ni chaem ymyrryd mewn unrhyw fenthyciadau o unrhyw fath oherwydd rheolau cymorth gwladwriaethol. [Torri ar draws.] Ni chaem ac ni wnaethom. | 711 |
Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1, 4, 5, 6 a 7 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. | 712 |
Ydw, wrth gwrs, rwy'n bendant yn cytuno â hynny. Mae llawer o fythau wedi cael eu gwyntyllu ynghylch cost polisi ynni. Yr hyn y gwyddom yw ei fod yn rhan fach iawn o bris biliau cyfleustodau, ac rydym hefyd yn gwybod nad oes affliw o obaith o weld diwygio'r farchnad honno. Felly, gorsaf bŵer ynni adnewyddadwy yw'r opsiwn gorau o hyd - yr unig opsiwn. Yn yr un modd, mae gan yr UE bot sy'n rhaid ei wario mewn pedair blynedd ar gyfer annog ymchwil a datblygu gwyddonol. Mae gennym adran ddur yng nghampws arloesi newydd Prifysgol Abertawe sydd eisoes yn gweithio gyda Tata Steel. Yn wir, sefydlwyd adran newydd i gefnogi peirianneg a'r diwydiannau sylfaen, ac mae am gryfhau'r berthynas honno. Mae staff yn y brifysgol yn credu bod ganddynt fantais heb ei thebyg o gael ffwrneisi chwyth o fewn golwg i'w campws, ac am gost o tua £17 miliwn a werir dros bum mlynedd, gallem sefydlu sefydliad ymchwil a datblygu a fyddai'n arwain y byd mewn arloesedd dur. Byddai'r ddau brosiect yn cynnal y gwaith a safleoedd eraill ar draws Cymru. Rwyf am gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud o ran y tasglu ac o ran yr hyn y maent yn ei wneud i fod yn rhagweithiol yn hyn o beth. Gyda'r bleidlais i adael yr UE, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod yna frys ynghylch hyn. Yn olaf, hoffwn ystyried y mater a grybwyllwyd eisoes mewn perthynas â'r bleidlais ar ddympio dur. Nid oedd Nigel Farage yn bresennol ar gyfer y bleidlais ddeddfwriaethol gyffredinol ar ddympio dur o Tsieina. Pe bai UKIP yn malio go iawn am ddympio dur Tsieineaidd sy'n gwneud Port Talbot yn llai hyfyw, yna byddech wedi pleidleisio dros y ddeddfwriaeth o blaid tariffau uwch ar ddur o Tsieina a chywilydd arnoch am beidio â gwneud hynny. [Torri ar draws.] | 713 |
Iawn, fe wnaf ddirwyn i ben felly, Ddirprwy Lywydd. Dim ond dweud, o fy safbwynt i, fy mod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda'i gilydd tuag at ganlyniad cadarnhaol. | 714 |
A yw'r Aelod yn cydnabod, ers y bleidlais i adael yr UE, fod lefel y bunt bellach wedi gostwng oddeutu 10 y cant ac oni fydd hynny'n llifo drwodd i welliant sylweddol yng nghystadleurwydd y diwydiant dur yng Nghymru a'r DU? | 715 |
Mae'r diwydiant dur yng Nghymru yn wynebu argyfwng sy'n bygwth swyddi a bywoliaeth. Felly, rwy'n teimlo ei bod yn iawn ac yn briodol i ni ystyried y mater hwn yn y Cynulliad. Mae fy nghyd-Aelod UKIP, Caroline Jones, eisoes wedi tynnu sylw at fater tariffau a'r ffordd y mae aelodaeth o'r UE wedi cyfyngu ar allu'r DU i ymateb i ddympio dur o Tsieina. Mae'r pwynt, fel bob amser, yn ddadleuol yn y Siambr hon. Yn bersonol, rwy'n cymeradwyo'r pwynt a wnaeth Caroline, ond nid wyf am ymhel ag ef eto yn awr gan ei fod wedi bod yn destun dadl sawl gwaith yn y Siambr hon. Yn amlwg, ni fyddwn byth yn dod - | 716 |
Fis Tachwedd diwethaf, gofynnodd Gweinidog Llywodraeth y DU i Frwsel alw cyfarfod i drafod y tariffau. Cytunasant i wneud hynny, ond parodd oedi ar ôl hynny i Edwina Hart, Gweinidog yr economi ymadawol y lle hwn, ddweud ddeufis yn ôl fod y rheolau braidd yn anhyblyg a'u bod wedi ei gyrru'n wallgof. Pan ofynnais i'r Prif Weinidog am hyn a pha drafodaethau a gafodd gyda'r Comisiwn Ewropeaidd pan gawsom ein galw yn ôl ddechrau mis Ebrill, y cyfan a ddywedodd oedd, rydym wedi bod yn gohebu â'r Comisiwn. A ydych yn cytuno bod angen i ni wybod pa ddeialog sydd wedi bod yn digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd dros y misoedd hyn? | 717 |
Rhaid i mi gyfaddef pan ddarllenais y cynnig yn gyntaf sy'n dweud bod gwell gobaith i Tata Steel ym Mhort Talbot oroesi yn sgil gadael yr UE, roeddwn yn meddwl mai jôc sâl oedd hi. Nid wyf am warafun i'r rheini a ymgyrchodd i adael yr UE eu heiliad i fwynhau eu buddugoliaeth, ond byddwn yn gofyn iddynt beidio â bod yn anystyriol. Mae gennyf etholwyr sy'n gweithio ym Mhort Talbot, a channoedd o deuluoedd sy'n dibynnu ar waith Trostre yn Llanelli ac sy'n poeni'n fawr am ganlyniadau'r penderfyniad i adael yr UE, ac mae cynnig heddiw yn ansensitif i'w pryderon. Nid yw'r arwyddion cynnar, mae'n rhaid i mi ddweud, yn galonogol. Mae israddio statws credyd y DU eisoes wedi arwain at atal buddsoddiad busnes yng Nghymru. Ddoe ddiwethaf, dywedwyd wrthyf fod cronfa bensiwn fawr wedi tynnu allan o ddatblygiad yn ne Cymru oherwydd na allant roi arian i mewn i economi sydd heb statws AAA. Mae honiadau aruchel am y buddion a fydd yn llifo i ni o fod y tu allan i'r UE eisoes yn ymddangos yn wag, ac nid yw'r cefnu a wnaed ar yr addewid o arian ychwanegol ar gyfer y GIG yn galonogol. Wrth gwrs, y gwir yw nad ydym yn gwybod beth fydd y trefniadau masnach a thariff. Mae'n bosibl y gallent fod yn well. Rwy'n amau hynny, ond gadewch i ni fod yn hael ac yn optimistaidd; gallent fod. Ond y ffaith yw ei bod yn sefyllfa ansicr ac yn debygol o fod yn ansicr am nifer o flynyddoedd i ddod. Mae'r ansicrwydd hwnnw'n creu risg sylweddol i ddyfodol y gwaith dur yn y tymor byr. | 718 |
Rwy'n adlewyrchu safbwyntiau busnesau, dyna'i gyd, ac mae ef yn rhoi safbwynt dethol iawn o'r darlun economaidd i gyfiawnhau'r uffern a ryddhawyd ar y marchnadoedd. Byddwn yn dadlau bod polisi economaidd sy'n seiliedig yn unig ar y gyfradd gyfnewid rad yn un annoeth iawn. Ychydig wythnosau yn ôl, fel y dywedodd David Rees, yr Aelod dros Aberafan, eisoes, cyfarfu ef a minnau â phrif weithredwr Tata Steel yn y DU, Mr Bimlendra Jha, yma yn y Cynulliad. Roedd yn amlwg o'i sgwrs, pe bai'n gallu rhoi pecyn at ei gilydd i ddwyn perswâd ar fwrdd Tata yn India i gadw perchnogaeth ar weithfeydd y DU, byddai'n gwneud ei orau, ond ei fod yn poeni am rwymedigaethau'r gronfa bensiwn ac yn poeni ynglŷn â'r DU yn gadael yr UE. Yn wir, mae si ar led fod pecyn achub yn yr arfaeth, ond iddo gael ei dynnu'n ôl y bore ar ôl y bleidlais. Mae bellach yn fwy anodd sicrhau buddsoddiad, felly ni allwn wybod pa un a yw'r cynigwyr eraill yn gallu bwrw ymlaen. Mae dyfodol yr holl weithfeydd yng Nghymru a phensiynau gweithwyr dan amheuaeth. Naw wfft i'r gobaith gwell o oroesi o fod y tu allan i'r UE. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ar y bwrdd, a dywedodd Mr Jha wrthym yn glir fod Tata wedi croesawu hwnnw'n gynnes, yn wahanol i'r diffyg gwybodaeth gan Lywodraeth y DU, sydd eto i wireddu eu haddewidion o gymorth. Ond yn awr mae angen i'r rhai a oedd am adael yr UE gyflawni, a byddai'n dda pe bai UKIP yn rhoi'r gorau i drin ofnau pobl fel pethau i chwarae gwleidyddiaeth â hwy. | 719 |
I'r gwrthwyneb, rwy'n meddwl ei bod yn adeg ryfeddol tu hwnt, ac rwyf bob amser wedi ei alw'n 'Ddydd Mercher Gwyn' yn hytrach na 'Dydd Mercher Du'. Fodd bynnag, yn wahanol i'r adeg honno, ar y data diweddaraf, mae gennym ddiffyg cyfrif cyfredol o 7 y cant o gynnyrch domestig gros. Mae ei bennaeth wedi sôn llawer am y modd y mae'r bunt uchel wedi bod yn anfantais i gynhyrchiant dur. Yn sicr, er mwyn dod yn fwy cystadleuol, mae arnom angen arian cyfredol is. | 720 |
Wel, dyna beth sy'n digwydd. [Torri ar draws.] Dyna beth sy'n digwydd. [Torri ar draws.] Mae'n ganlyniad peidio â chael y diwydiant. Mae'r ateb yn y ffaith ein bod, ar ôl 17 mlynedd o reolaeth Lafur yn y sefydliad hwn ac am flynyddoedd lawer gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, yn gymwys i gael y grantiau hynny - . Mae'n ddrwg gennyf, fe ailadroddaf hyn, gan i rywun dorri ar draws. Rydym wedi clywed hyd syrffed gan Aelodau'r Cynulliad hwn am y trychineb a ddaw i ran economi Cymru os na fyddwn yn cael arian grant yr UE neu wrth gwrs, yr arian cyfatebol gan Lywodraeth y DU ar ôl gadael yr UE. Os yw hyn yn wir mae'n rhaid i ni ofyn y cwestiwn 'pam?' Mae'r ateb yn y ffaith ein bod, ar ôl 17 mlynedd o reolaeth Lafur yn y sefydliad hwn ac am flynyddoedd lawer gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, yn gymwys i gael y grantiau hynny oherwydd ein bod yn dal i fod yn un o ranbarthau tlotaf Ewrop. Mae llawer o Aelodau'r Cynulliad hwn yn ymddwyn fel pe bai'r arian Ewropeaidd hwn yn galon ac enaid y genedl hon. Maent yn anwybyddu'r ffaith fod yr holl arian a gawn gan Ewrop yn fychan iawn o gymharu â'r symiau a gawn gan fformiwla Barnett, hyd yn oed gyda'i ddiffygion amlwg. [Torri ar draws.] Rydym ni yn UKIP yn hyderus os yw'r pleidiau'r tŷ yn gweithredu'n unedig â'r pleidiau eraill, fel rydym i gyd wedi addo ei wneud, fe gawn arian gan Lywodraeth y DU a fydd yn cyfateb - na, yn fwy - na'r arian a gawn gan Ewrop. Rydym ni yn UKIP, yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r wrthblaid yn y Cynulliad, yn credu y gallwn ymddiried yn ein gwleidyddion Cymreig a Phrydeinig ein hunain yn San Steffan yn hytrach na chasgliad o gomisiynwyr tramor anatebol ac annemocrataidd ym Mrwsel, a than ein nawdd ein hunain bydd gobaith i Tata Steel oroesi am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch. | 721 |
Rydym wedi cytuno y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, af ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. A oes unrhyw un sy'n dymuno i'r gloch gael ei chanu? Nac oes. | 722 |
Galwaf yn awr am bleidlais ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 34, yn erbyn y cynnig - mae'n ddrwg gennyf, y gwelliant, mae'n ddrwg gennyf. Felly, o blaid gwelliant 1 34, yn erbyn gwelliant 1 14, neb yn ymatal. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. | 723 |
Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 10, yn erbyn 27, ac roedd 10 yn ymatal. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5. | 724 |
Galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 34, yn erbyn y gwelliant 5. Roedd 9 yn ymatal. Felly, derbyniwyd y gwelliant. | 725 |
Cytunwyd y bydd y ddadl fer yn cael ei gohirio tan ddydd Mercher 13 Gorffennaf. Felly, dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Ac fel y soniodd y Llywydd ar ddechrau'r trafodion, pob lwc i'r tîm pêl-droed, a lle bynnag y byddwn yn gwylio, a gawn ni i gyd ddweud, 'Yn gryfach gyda'n gilydd, yn unedig fel gwlad'? Ac rwy'n siŵr y byddwn i gyd yn dychwelyd yfory gyda'r canlyniad cywir. Diolch yn fawr iawn. | 726 |
Rydym yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd a phartneriaid eraill yng Nghymru i gymryd amrywiaeth o gamau i wella mynediad at wasanaethau gofal iechyd sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy ac mor agos i gartrefi pobl â phosibl. | 727 |
Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r cynigion. Rydym ni'n disgwyl, fel Llywodraeth, y bydd y rhanddeiliaid perthnasol ar ein hochr ni i'r ffin yn rhan o unrhyw newidiadau posibl. Gwn fod Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys wedi bod yn weithgar iawn o ran cynrychioli pryderon trigolion, ac rwy'n deall y bydd rhagor o waith yn cael ei wneud fel y bydd dewisiadau terfynol yn destun ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach eleni. | 728 |
Gwn fod y bwrdd iechyd yn edrych ar y sefyllfa, a gwn fod llenwi'r bwlch hwnnw yn bwysig iddyn nhw. Er enghraifft, os edrychwn ni ar yr uned mân anafiadau yn y Drenewydd, bydd y bwrdd iechyd yn cychwyn proses i ddatblygu strategaeth iechyd a gofal hirdymor ar gyfer Powys yn ystod 2016, a bydd y bwrdd iechyd yn adolygu gwasanaethau UMA ar draws Powys yn rhan o'i waith ar wasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw fwlch sy'n bodoli yn cael ei gau. | 729 |
Mae'n ddrwg gen i, mae angen i mi egluro bod yr holl gwestiynau sy'n cael eu cyflwyno yn eu trefn yn cael eu derbyn i'w gofyn yn y Cynulliad hwn, ac mae eich cwestiwn chi wedi ei dderbyn gan ei fod mewn trefn. | 730 |
Brif Weinidog, efallai y gallaf i droi materion ychydig yn fwy adeiladol. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod gwleidyddion, a Gweinidogion yn arbennig, yn gwrando, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi nodi ffyrdd y gall eich Gweinidogion, naill ai'n unigol neu ar y cyd, wrando ar fuddiannau hanfodol rhanddeiliaid allan yna, ac unigolion yn wir. Roedd eich rhagflaenydd yn arfer cynnal sesiynau Cabinet meicroffon agored; nid wyf yn credu bod y rheini yn digwydd mwyach. Efallai fod dulliau eraill ond, mewn gwirionedd, mae gwrando ar safbwyntiau pobl yn allweddol ar gyfer penderfyniadau llywodraethol da. | 731 |
Credaf fod y materion a godwyd gan aelod Plaid Cymru o bosibl yn rhai pwysig. Mae tryloywder yn hollbwysig. Nawr, rydym ni'n gwybod bod lobïo yn bodoli mewn gwirionedd, mewn cylchoedd gwleidyddol, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud yn gyfreithlon, ac mae angen i ni wybod pwy sy'n lobïo pwy ar adegau. A oes unrhyw gynlluniau i sefydlu cofrestr o lobïwyr yma ym Mae Caerdydd? | 732 |
Rydym yn symud yn awr at gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau, ac rwy'n galw yn gyntaf ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. | 733 |
Wel, mae'r rhwydwaith newyddenedigol yn gweithio gyda byrddau iechyd i ddarparu staffio hyblyg, ymatebol i ddiwallu anghenion newidiol ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol arbenigol ac i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion o ran lefelau staffio. Er mwyn cefnogi datblygiad ein gweithlu, rydym wedi cyhoeddi pecyn buddsoddi gwerth £85 miliwn mewn addysg a hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, gan gynnwys staff newyddenedigol. Ac, wrth gwrs, bydd canfyddiadau adroddiad Bliss yn cael eu defnyddio gan y rhwydwaith newyddenedigol i helpu pob uned i fyfyrio ar unrhyw newidiadau ar gyfer y dyfodol, a chynllunio ar eu cyfer. | 734 |
Wel, rwy'n disgwyl i'r niferoedd hynny gynyddu yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac rwy'n disgwyl i bob uned newyddenedigol gael ei staffio'n briodol yn y cyfnod hwnnw. Mae'n wir i ddweud bod recriwtio wedi bod yn her; bydd yn parhau i fod yn her yng ngoleuni'r bleidlais bythefnos yn ôl. Ond byddwn yn parhau i ddweud wrth y rhai sydd eisiau dod i weithio yng Nghymru bod croeso iddyn nhw, yn ogystal, wrth gwrs, â cheisio hyfforddi arbenigwyr newydd ein hunain. | 735 |
Wel, gallaf ddweud bod y Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gweithio gyda gwasanaethau lleol er mwyn ceisio darparu'r gwasanaethau y byddai pobl yn eu disgwyl. Fe wnaethom gyhoeddi y llynedd y byddai gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol newydd yn cael eu sefydlu ledled Cymru. Maen nhw'n datblygu'n dda, ac mae 30 o staff arbenigol newydd wedi eu recriwtio, gyda chymorth £1.5 miliwn o fuddsoddiad newydd. | 736 |
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Prif Weinidog am hynny. Mae masnach rydd yn amlwg yn synhwyrol iawn i'r ddwy ochr, gan fod gennym ni ddiffyg masnach enfawr gyda'r Almaen ac mae'n sicr y byddai masnach rydd o fewn yr UE yn fuddiol iawn iddyn nhw. Mae masnach o fudd i'r ddwy ochr, pa un a oes gennych chi warged neu ddiffyg. Ond mewn ysbryd o gydweithredu adeiladol, a wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi bod angen i ni, yng Nghymru, gryfhau ein perthynas â'r Almaen a neilltuo mwy o adnoddau i'n cysylltiadau trwy ffederasiwn diwydiant yr Almaen, Länder yr Almaen a chyda'r Llywodraeth ffederal i annog masnach bellach gyda'r Almaen a hefyd i fanteisio ar y grym gwleidyddol y mae'n amlwg y bydd gan yr Almaen yn yr UE yn y blynyddoedd i ddod? Ymrwymiad gan yr Almaen i fasnach rydd yn yr UE yw'r ffordd orau y gallwn ni gael yr hyn yr ydym ni ill dau ei eisiau. | 737 |
Wel, rwy'n croesawu'r ymateb yna. Ond i droi at fater gwahanol, ar ôl heddiw, bydd y Prif Weinidog yn unigryw yn y Deyrnas Unedig, oherwydd bydd gennym ni Brif Weinidog benywaidd yn y DU, ac mae gennym ni Brif Weinidog benywaidd yn yr Alban a Phrif Weinidog benywaidd yng Ngogledd Iwerddon. A yw ef yn edrych ymlaen at y diwrnod pan y gall ef symud o'r neilltu i fenyw gymryd ei le yn y Cynulliad hwn? | 738 |
Diolch, Lywydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y diwrnod pan fydd Cymru yn cael ei harwain gan Brif Weinidog benywaidd. Brif Weinidog, bydd Prif Weinidog y DU newydd yfory, sy'n dweud ei bod yn bwriadu gweithredu tynnu'n ôl y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, barn Plaid Cymru yw bod yn rhaid i'r Prif Weinidog nesaf gyflawni'r addewidion a wnaed i bobl yng Nghymru gan yr ymgyrch i adael, hyd yn oed os yw hi'n dod o ochr arall y ddadl. Rydym ni eisiau gweld safbwynt negodi swyddogol i Gymru i'w gytuno gan y Cynulliad hwn ac ar ei desg hi cyn gynted â phosibl. Brif Weinidog, pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi fethu ag ymrwymo i gyhoeddi safbwynt ffurfiol nac iddo gael ei drafod a'i gymeradwyo'n ffurfiol gan y Cynulliad hwn. Er y byddwn yn derbyn bod y Prif Weinidog newydd yn dod i mewn i'w swydd yn gynharach o lawer na'r disgwyl, a allwch chi gadarnhau mai eich nod fydd ffurfio safbwynt negodi swyddogol wedi ei gytuno ac y byddwch yn pwyso ar Brif Weinidog newydd y DU am i Gymru gael rhan uniongyrchol mewn trafodaethau fel y cynigiwyd gan David Cameron? | 739 |
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Byddwch yn cofio yr wythnos diwethaf, pan fuom yn trafod hyn, fy mod i wedi awgrymu bod angen i chi gael gair gyda'ch Aelodau Seneddol yn San Steffan, a bod angen i chi ddweud wrthyn nhw am gallio a bwrw ymlaen â'u swyddi. Trafodwyd y gwelliannau i Fil Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin eto neithiwr, ac ymatalodd eich ASau eto - y rhai a oedd yno, o leiaf - ar bolisi Llywodraeth Cymru, o ran datganoli plismona y tro hwn. Fe wnaethant yn union yr un fath yr wythnos diwethaf, gan ymatal ar bolisi Llywodraeth Lafur Cymru i greu awdurdodaeth gyfreithiol. Pam nad oes gan eich ASau Llafur unrhyw broblem yn cefnogi pwerau plismona Manceinion Fwyaf ond nad ydynt yn gallu perswadio eu hunain i gefnogi datganoli plismona i Gymru? Pam mae eich ASau yn gadael i'r Torïaid fynd yn groeniach fel hyn, a sut y gallwch chi amddiffyn eu hymddygiad, Brif Weinidog? | 740 |
Nid mater o amseru yw hynny, Brif Weinidog. Ceir mater o egwyddor yma. Iawn, felly, mae Bil Cymru yn fater efallai nad yw'n brif flaenoriaeth i'ch ASau, ond mae dyfodol y diwydiant dur yn hollbwysig. Nid yw Cymru heb ddiwydiant dur yn Gymru yr wyf yn fodlon meddwl amdani. Mae gohirio'r broses o werthu Tata Steel yn peri pryder sylweddol. Nawr, gallai'r fenter ar y cyd arfaethedig hon arwain at fesurau torri costau a lleihau capasiti dur y DU. Mae hynny yn ôl y dadansoddiad gan y banc buddsoddi, Jefferies. Os bydd yr uno hwnnw'n digwydd, mae angen sicrwydd pendant arnom fod dyfodol i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot a safleoedd eraill yng Nghymru. Sut byddwch chi'n cael sicrwydd o'r fath? Ac a allwch chi egluro pam nad oes datganiad ar agenda yr wythnos hon ar ohirio'r broses werthu? A wnewch chi gadarnhau hefyd y byddwch chi'n parhau i ddarparu cymorth i'r cais i brynu'r cwmni gan y gweithwyr a'r rheolwyr, ac y byddwch chi'n pwysleisio i Tata pwysigrwydd cadw'r trefniant secondiad i uwch reolwyr weithio ar y cais hwnnw? | 741 |
Mae'r perfformiad rhagorol gan ein tîm cenedlaethol yn Ewro 2016 wedi cynnig cyfle gwych i ni i gynrychioli Cymru dramor. Gwn fod Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes yn bwriadu defnyddio'r llwyddiant hwnnw fel catalydd i dyfu'r gamp ymhellach ar draws y wlad. | 742 |
Gwn fod Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda chyrff llywodraethu gwahanol gampau, fel Undeb Rygbi Cymru, Hoci Cymru a'r Gymdeithas Bêl-droed, i ddatblygu rhaglen fuddsoddi ar gyfer caeau 3G. Gwn hefyd eu bod yn datblygu glasbrint ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a hamdden yng Nghymru i gefnogi ein hymgyrch i hwyluso cyfranogiad rheolaidd mewn chwaraeon ac ymarfer corff, ac i wneud yn siŵr y bydd gennym ni gyfleusterau sy'n briodol ac yn gynaliadwy yn y dyfodol. | 743 |
Wel, rwy'n meddwl bod yr un peth yn wir - . Mae fy nghydweithiwr, yr Aelod dros Lanelli, yn fy hysbysu bod Sir Gaerfyrddin yn yr un sefyllfa - sy'n cael ei rhedeg gan ei blaid ef, wrth gwrs. Y gwir amdani yw bod cynghorau mewn sefyllfaoedd anodd yn ariannol, ond mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau nad ydynt yn gwneud cyfleusterau yn rhy ddrud i bobl yn y cymunedau hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg, mewn gwirionedd, sef bod angen i ni wneud yn siŵr, lle mae cyfleusterau'n cael eu datblygu, nad ydynt yn mynd mor ddrud fel na all pobl eu defnyddio. Pan fo perygl o wneud hynny, byddem yn annog pawb dan sylw i feddwl eto er mwyn gwneud yn siŵr bod cyfleusterau ar gael i bobl. | 744 |
Dyma'r materion yr hoffem eu hystyried gyda chyrff llywodraethu chwaraeon. Mae'r Aelod yn anarferol o onest pan ddywed nad oedd ganddi unrhyw ddiddordeb mewn pêl-droed tan nawr. [Torri ar draws.] Wel, mae croeso i gefnogwyr newydd bob amser, wrth gwrs. Mae'n anodd tanbwysleisio'r cyhoeddusrwydd y mae hyn wedi ei roi i'n cenedl. Roeddwn i ym Mharis ar noson y rownd gynderfynol. Roeddwn i yn Mametz y diwrnod canlynol. O'm cwmpas, y cwbl y gallwn ei glywed oedd pobl yn dweud 'Pays de Galles'. Mae'r math hwnnw o gyhoeddusrwydd yn anodd iawn i ni ei ailadrodd. Mae'n rhaid i ni adeiladu ar hynny, ac rydym ni'n gweithio gyda Croeso Cymru er mwyn i hynny ddigwydd. Mae hi'n gwbl gywir i ddweud hefyd bod y tîm wedi bod yn esiampl dda cyn belled ag y mae pobl ifanc yn y cwestiwn. Byddant yn gweld ei bod yn bosibl bod yn hynod lwyddiannus ym myd pêl-droed - ac, yn wir, mewn unrhyw gamp broffesiynol arall - heb fod â baich emosiynol, os caf ei roi felly, fel yr ydym ni wedi gweld yn y blynyddoedd a fu. Rydym ni'n ffodus yng Nghymru nad ydym ni wedi colli llawer o gaeau chwarae ysgolion, fel sydd wedi digwydd mewn mannau eraill dros flynyddoedd lawer, a byddwn yn ceisio gweithio gyda Chwaraeon Cymru a'r cyrff llywodraethu nawr er mwyn darparu cymaint o gyfleusterau hygyrch o'r safon uchaf ag y galllwn ar draws Cymru. | 745 |
Gall addysg i oedolion gyflawni swyddogaeth hanfodol i dorri'r cylch tlodi. Dyna oedd y neges o wobrau addysg oedolion Ysbrydoli! y mis diwethaf, pryd y cyflwynais y wobr newid gyrfa oes. Bydd adeilad £22 miliwn newydd Coleg y Cymoedd yn Aberdâr yn cynnig lleoliad dyheadol ar gyfer addysg oedolion, ond yr her hefyd yw sicrhau darpariaeth addas o gyrsiau o ansawdd da i ddysgwyr. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr i gyflawni hyn? | 746 |
Mae yna bryder difrifol ymhlith oedolion sy'n dysgu Cymraeg ledled y wlad oherwydd y gyfundrefn newydd, sydd wedi arwain at golli swyddi ymhlith tiwtoriaid lleol. Yn barod, mae yna nifer sylweddol o staff profiadol sydd wedi cael ei ddiswyddo yn Abertawe, a nifer pellach yn wynebu colli swyddi yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yng Ngheredigion. Mae yna ansicrwydd mawr yn y maes ar ôl i'r Llywodraeth fethu ag ymrwymo i ariannu cwrs Cymraeg i oedolion ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac, fel rydych chi'n gwybod, mae cyllideb cyrsiau Cymraeg i oedolion eisoes wedi cael ei thorri bron £3 miliwn. Os ydy toriadau ar y raddfa yma yn mynd i barhau, onid ydych chi'n teimlo bod hynny'n mynd i weithio yn erbyn uchelgais eich Llywodraeth chi i gynyddu nifer y siaradwyr i 1 filiwn? | 747 |
Mae hynny'n wir. Rydym ni wedi buddsoddi'n helaeth, wrth gwrs, mewn sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio'n eang mewn ysgolion. Rydym ni'n gwybod bod enghreifftiau da fel Gwynedd, fel Ceredigion, lle ceir canolfannau sy'n galluogi plant i - 'trochi' yw'r gair yn y Gymraeg; nid yw'n gweithio yr un fath yn Saesneg, gan ei fod yn golygu dwyno yn Saesneg, os byddwch yn ei gyfieithu'n llythrennol. [Torri ar draws.] 'Ymdrwytho'; dyna air gwell - iddyn nhw gael eu hymdrwytho yn yr iaith. Ac maen nhw'n gweithio'n dda iawn, iawn. Rydym ni'n canfod wedyn, wrth gwrs, bod plant yn gallu dylanwadu ar eu rhieni a helpu eu rhieni i ddysgu Cymraeg, gan eu bod nhw eu hunain yn dysgu Cymraeg mor hawdd. | 748 |
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, i rai, pan gaiff ysgol newydd ei chrybwyll, y gall fod pryderon, yn enwedig pan fo plant a rhieni yn hapus iawn â'r ysgol y maen nhw'n ei mynychu. Nawr, o dan adran 5.4 cod trefniadaeth ysgolion statudol Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried yr holl wrthwynebiadau a gyflwynir yn gydwybodol, a pheidio â gwneud penderfyniadau ar gynigion uno gyda meddwl caeedig i'r rhanddeiliaid dan sylw. Fodd bynnag, yng Nghonwy yn ddiweddar, mae'r cyngor yn bwrw ymlaen â dau gynnig uno diweddar sy'n effeithio ar bump o'n hysgolion cynradd, er gwaethaf llawer o wrthwynebiadau. Mae llawer o rieni, athrawon, llywodraethwyr a hyd yn oed yr undebau athrawon yn flin, yn rhwystredig ac yn siomedig ac o'r farn bod yr ymgynghoriad statudol yn ddiystyr, yn enwedig pan gyhoeddwyd cofnodion penderfyniad cabinet perthnasol yn ddiweddar cyn i'r cyfarfod gael ei gynnal hyd yn oed - fait accompli. Er mwyn rhoi sylw i'r pryderon a godwyd, a wnewch chi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg newydd, yn y tymor ysgol newydd yn amlwg, i ystyried eto sut y mae pryderon a safbwyntiau'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf yn cael eu hystyried o fewn y penderfyniadau ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, fel bod y lleisiau hyn yn cael eu clywed ac yn cael sylw priodol? | 749 |
Brif Weinidog, yn ogystal ag adeiladu ysgolion newydd, mae hefyd yn bwysig ein bod yn parhau i adeiladu colegau newydd ar gyfer addysg bellach. Mae gan Goleg Gwent gynlluniau uchelgeisiol a phwysig i adleoli eu campws yng Nghasnewydd i lan yr afon ochr yn ochr â champws Prifysgol De Cymru ac, yn wir, rhagor o adeiladau yn y cyffiniau. A ydych chi'n cytuno â mi bod yn rhaid i ni barhau i wella ein colegau addysg bellach yn y modd hwnnw a chefnogi egni a syniadau i sicrhau gwelliannau i addysg bellach, ac yn enwedig, efallai, cysylltiadau cryf ag addysg uwch? | 750 |
Yng ngoleuni'r dyletswyddau sydd nawr, wrth gwrs, ar y sector cyhoeddus yn dilyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, oni ddylai fod gorfodaeth ar bob adeilad sy'n cael ei godi gydag arian cyhoeddus, ac, yn y cyd-destun yma, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i fod yn defnyddio pob cyfle posib o safbwynt ynni adnewyddadwy? | 751 |
Gwnawn. Byddwn yn cyflwyno cynigion yn fuan ar gyfer ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru a GIG Cymru fel lle deniadol i weithio ynddo. Bydd hynny'n cynnwys gwaith i recriwtio, hyfforddi a chadw meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol ac i fynd i'r afael â'r problemau a wynebir ym Mhowys a ledled Cymru. | 752 |
Do, gwnaethom fuddsoddiad ychwanegol o dros £40 miliwn y llynedd mewn gofal sylfaenol ac roedd £4.5 miliwn o'r cyllid hwnnw wedi ei dargedu at arallgyfeirio'r gweithlu, gan gynnwys creu 300 o swyddi mewn amrywiaeth o swyddi gofal sylfaenol. Mae'r Aelod yn sôn am Goelbren yn benodol; mae'n rhan o feddygfa deulu Cwm Dulais ym Mlaendulais. Bu problemau recriwtio, a chanlyniad hynny fu lleihau nifer y sesiynau meddygon teulu yng Nghoelbren. Gwn fod y feddygfa yn mynd trwy broses cefnogi cynaliadwyedd gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, oherwydd, er ei fod yn rhan o Fwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn ffisegol, PABM yw ei hardal weithredu, ac mae'r ddau fwrdd iechyd yn gweithio'n agos i gytuno ar ateb tymor hwy i sicrhau'r ddarpariaeth barhaus o wasanaethau o ansawdd uchel. | 753 |
Wel, os yw meddygon teulu yn dymuno cael eu hystyried fel contractwyr a busnesau annibynnol, mae risg yn gysylltiedig o ran y gostyngiad posibl i werth adeiladau. Ond, nid wyf yn gweld pam y dylai hynny fod yn wir o reidrwydd. Mae'n gynyddol wir bod llawer o'r rhai sy'n dymuno mynd i faes ymarfer cyffredinol nad ydynt eisiau prynu i mewn i feddygfa - maen nhw eisiau bod yn feddygon teulu cyflogedig. Mae'n duedd yr wyf yn siŵr bod llawer ohonom wedi ei gweld ledled Cymru. Mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ac, yn wir, y proffesiwn, ddarparu ar ei gyfer. O ran Powys yn ei chyfanrwydd, gallaf ddweud y bu chwech o feddygon teulu partner newydd ym Mhowys ac 11 o feddygon teulu cyflogedig a ddechreuodd ar eu gwaith yn ystod 2015-16. | 754 |
Wel, diolch ichi am eich ateb - ateb diddorol iawn, os caf i ddweud, oherwydd mi wnaeth eich Gweinidog sgiliau chi, mewn ymateb i gwestiwn gen i ar ôl ei datganiad yr wythnos diwethaf, ei gwneud yn glir ei bod hi yn parhau i ddatblygu cynlluniau ar y sail bod yr arian yn dod i Gymru. O na ddaw o'r Undeb Ewropeaidd, mae hi'n disgwyl i'r arian ddod, yn ôl yr addewidion, o Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Ond, y diwrnod wedyn, mi wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet materion gwledig gyhoeddi bod rhaglenni megis Glastir, ar ôl 2018, yn cael eu gohirio oherwydd yr ansicrwydd. Mae hynny'n awgrymu i mi bod fawr o strategaeth gennych chi fel Llywodraeth ynglŷn â'r ffordd rydych chi'n ymateb i'r penderfyniad yn dilyn y refferendwm. A allwch chi ddweud wrthyf os ydy'r llaw dde yn gwybod beth y mae'r llaw chwith yn ei wneud? | 755 |
Brif Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi cwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant amaethyddol yr wythnos diwethaf i drafod pryderon yn dilyn canlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n cefnogi eich galwadau ar gyfer cymorthdaliadau ffermio a chyllid ar gyfer cymunedau gwledig i gael eu diogelu yn y dyfodol. O gofio y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn dal i fod yn bartner masnachu mawr i'n ffermwyr ar gyfer y dyfodol, a allwch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau mae eich Llywodraeth chi hyd yn hyn wedi eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hefyd gyda Chomisiynydd yr Undeb Ewropeaidd, i sicrhau bod cynlluniau fel y rhaglen datblygu gwledig yn mynd i barhau? | 756 |
Ar yr un thema â'r ddau gwestiwn diwethaf, rwy'n nodi, yn fy etholaeth fy hun ac yn etholaeth y Prif Weinidog ein bod ni newydd gael hyd at £100,000 o grantiau wedi'u cyhoeddi ar gyfer cynlluniau adfywio unigol yn rhan o ddatblygiad gwledig. Mae'n aml yn synnu pobl, mewn etholaeth fel fy un i yn Ogwr, cyn-etholaeth fwyngloddio a diwydiant trwm, fod pob un ond dwy o'r wardiau yn fy etholaeth yn wledig. Mae gennym ni 40 y cant o ffermio mynydd yr ucheldir, felly mae gennym ni gyllid colofn 1 a cholofn 2 hefyd. Ond mae'r cyllid colofn 2 hwnnw wedi bod yn hanfodol ar gyfer adfywio gwledig, er ei fod yn ddadleuol - y dyraniadau. Felly, a gaf i ofyn iddo, yn ei drafodaethau â Llywodraeth y DU, a yw'n pwysleisio iddyn nhw bwysigrwydd gwneud iawn am unrhyw ddiffyg yn uniongyrchedd rhaglenni yr ymrwymwyd iddynt eisoes, ond hefyd yn y tymor hwy? Oherwydd mae angen i ni wneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn llenwi'r diffyg ôl-lenwi hwnnw fel y gallwn gadw'r cynlluniau hynny yn symud ymlaen am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'n hanfodol ar gyfer adfywio fy nghymunedau i a'i rai yntau. | 757 |
Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y llynedd, yn nodi ein buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith a gwasanaethau ar gyfer 2015-20 ar draws Cymru gyfan. | 758 |
Wel, byddwn yn disgwyl i'r ymchwiliad roi ystyriaeth lawn i safbwyntiau pawb sy'n mynegi barn i'r ymchwiliad. Gwnaethom benderfyniad ymwybodol i wneud yn siŵr bod yr holl bosibiliadau yn cael eu harchwilio gan yr ymchwiliad fel y gallai'r cyhoedd weld yr holl dystiolaeth ac fel y byddai pobl yn deall ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr holl ddewisiadau yn cael eu harchwilio'n briodol. Mae'r Aelod yn gwybod fy mod i wedi sefyll yn y fan yma a dweud bod y llwybr glas yn peri problemau mawr o ran ei effaith ar gymaint o bobl, ond gadewch i ni weld beth fydd yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn ei ddweud a gweld pa argymhellion a wneir yn dilyn hynny. | 759 |
Nid wyf yn cytuno ag ef ar hynny. Rwy'n meddwl bod gan yr holl awdurdodau lleol lais cyfartal o ran datblygiad y ddinas-ranbarth. Mae hunaniaeth yn bwysig, rwy'n deall hynny, ond y gwir amdani yw nad yw'r rhanbarth economaidd yn rhoi unrhyw sylw o gwbl i ffiniau gwleidyddol. Mae Casnewydd yn amlwg yn ddinas bwysig. Dyma ein trydedd ddinas fwyaf. Ynghyd â Chaerdydd ac yn wir ardaloedd y cymoedd i'r gogledd, byddant i gyd yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu'r brifddinas-ranbarth gyfan er lles pawb sy'n byw ynddi. | 760 |
O ran dyfrffyrdd, rwy'n credu ei fod yn fwy o achos o'u potensial ar gyfer twristiaeth. Rhannwyd y dyfrffyrdd ddegawdau lawer iawn yn ôl. Mae camlas Morgannwg - mae'n mynd o dan y brif reilffordd i'r dwyrain o Gaerdydd ond nid yw wedi ei chysylltu â gweddill ei rhwydwaith blaenorol. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y potensial gennym ni ar gyfer twristiaeth trwy ein camlesi, ac yn y modd hwnnw, wrth gwrs, gallant weithredu fel sbardunwyr economaidd, a byddwn yn parhau i weithio â'r rhanddeiliaid dan sylw i sicrhau bod y potensial hwnnw'n cael ei wireddu. | 761 |
Wel, mae datganoli'n golygu nad yw at ddiben a fwriadwyd, i ddechrau; mater i'r Cynulliad yw penderfynu sut y mae'n gwario ei arian. Serch hynny, gwrthodwyd y grant rhewi'r dreth gyngor gan fwyafrif yr awdurdodau yn Lloegr eleni, gan ddewis codi'r dreth gyngor yn hytrach. Er gwaethaf y ffaith honno, mae'r dreth gyngor yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yw hi yn Lloegr, ac, yn wir, bydd ef yn cofio, gan ei fod yn y Siambr pan ddatganolwyd budd-daliadau treth gyngor, mai dim ond 90 y cant o'r gyllideb a ddilynodd. Welais i mohono yn annog yn gryf ar y pryd y dylai Cymru dderbyn ei chyfran lawn o arian er mwyn ymdrin â budd-daliadau'r dreth gyngor. | 762 |
Rŷm ni'n wastad yn agored i ystyried ffyrdd newydd o gyllido awdurdodau lleol. Mae rhai yn sôn, wrth gwrs, am dreth incwm lleol; bydd yn rhaid casglu hynny'n lleol yn lle bod yr arian i gyd yn mynd i'r llefydd y mae pobl yn gweithio, nid lle maen nhw'n byw. Mae'n wir i ddweud - wel, nid yw'n wir i bawb, wrth gwrs - y mwyaf yw pris y tŷ, y mwyaf yw incwm y person sydd yn byw yno. Nid yw hynny'n wastad yn wir, rwy'n deall hynny, ond mae'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd yn system sydd yn gweithio achos y ffaith ei bod yn dreth sydd wedi cael ei rhoi ar ben tŷ sydd ffaelu symud. Ond, wrth gwrs, yn y blynyddoedd i ddod, mae yna'n wastad ddadl ynglŷn ag a oes yna ffordd fwy effeithiol i sicrhau cyllid awdurdodau lleol. | 763 |
Gwnaf. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rydym ni'n parhau â'n trafodaethau helaeth â Tata ac yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU o ran nifer o bwyntiau gan gynnwys rhyddhad priodol o gostau ynni uchel, sy'n fwy hanfodol nag erioed i sicrhau bod ein diwydiannau yn gystadleuol, yn ogystal â'r angen am ddatrysiad ar bensiynau. | 764 |
Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei amddiffyniad angerddol parhaus o'r diwydiant dur yng Nghymru? Rwy'n llwyr gydnabod y pryder a'r ansicrwydd y mae llawer iawn o deuluoedd yn eu dioddef. Cefais i, fy hun, fy magu mewn teulu a oedd yn dibynnu ar ddur am gyflogaeth yn ôl yn y 1980au. Rwy'n gwybod yn iawn faint o bryder ac ansicrwydd a gofid y gellir eu hachosi pan nad ydych chi'n gwybod a fydd gennych chi swydd yr wythnos nesaf, y mis nesaf neu'r flwyddyn nesaf. Yn gyntaf oll, rydym ni'n parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod dyfodol cynaliadwy i ddur yng Nghymru, ond gallaf gynnig y sicrwydd hwn: ni chafwyd unrhyw gyhoeddiad gan Tata ar ohirio'r broses gwerthu dur. Mae hynny'n parhau ochr yn ochr eisoes â'r ystyriaethau menter ar y cyd. Dyna un o'r rhesymau pam (a) y byddaf yn cwrdd ag un o'r partïon y prynhawn yma a (b) pam mae angen i ni sicrhau bod Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi gwerthiant posibl gan barti arall. Nawr, rwy'n credu'n bendant, yfory, y bydd gennym ni Brif Weinidog newydd ym Mhrydain. Yn syml, fy neges i, neu neges ein Llywodraeth, i Theresa May fyddai yn syml: dangoswch eich cryfder ddydd Sadwrn mewn ffordd na wnaeth Margaret Thatcher erioed trwy gefnogi dur Prydain. Gallwch wneud hynny ar unwaith, Brif Weinidog y DU. Gallwch wneud hynny ar unwaith trwy ddatrys yr argyfwng yn ymwneud â chostau ynni sy'n effeithio ar y diwydiant dur yn ogystal â llawer o sectorau gweithgynhyrchu eraill hefyd. | 765 |
Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais i'r Prif Weinidog a oedd y pecyn cymorth yr oedd y Llywodraeth Cymru wedi ei gynnig, gan gynnwys caffael cyfranddaliad o bosibl - lluniwyd y pecyn hwnnw, wrth gwrs, i annog prynwyr credadwy ar gyfer gwaith Port Talbot - yn dal i fod ar gael i Tata pe na byddai'n gwerthu. Felly, hoffwn i chi roi ymrwymiad eglur heddiw o ran beth yw eich safbwynt ar hynny nawr. A yw Tata wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am unrhyw beth newydd o ran cymorth ers neu'n union cyn yr awgrym y gallai newid ei feddwl am werthiant yn y dyfodol agos? Yn benodol, a ofynnwyd am unrhyw beth i chi neu a gawsoch eich annog i gynnig cymorth pe byddai dyfodol Tata yn dibynnu ar ryw fath o fenter ar y cyd gyda Thyssenkrupp? Pa ymrwymiad ydych chi wedi ei gael gan Tata ynghylch pa mor hir y gallai'r newid meddwl hwn bara? Ai dim ond tipyn o amser i Tata gael cyfle i wella ei waelodlin gyda golwg ar wella ei siawns o fenter ar y cyd yw hyn, neu a yw'n rhywbeth mwy sefydlog ac, o leiaf, ar gyfer y tymor canolig? Oherwydd byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, bod, gadewch i ni ddweud, bryder difrifol ynghylch annidwylledd Tata a'i ymddygiad yn ystod y misoedd diwethaf, a phryder dyfnach fyth am swyddogaeth Thyssenkrupp, o bosibl yn hyn, o gofio eu datganiad o fewn y chwe mis diwethaf y byddent yn ceisio cau yn sicr pen Port Talbot o unrhyw weithrediadau y byddent yn ymwneud â nhw pe byddent yn cymryd cyfrifoldeb am fuddiannau Tata. | 766 |
Rwy'n siŵr y gwnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch yr Aelod dros Aberafan ar ei amddiffyniad huawdl, angerddol ac, yn wir, emosiynol o fuddiannau ei etholwyr heddiw. Cefais i yn sicr fy effeithio gan yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud, ond rwy'n ofni nad yw'r sicrwydd y mae ei eisiau ar gael. Mae Mr Chatterjee, sef cyfarwyddwr gweithredol Tata Steel ar gyfer Ewrop, wedi ei gwneud yn gwbl eglur mai'r broblem sylfaenol yma yw anwadalrwydd yn y farchnad, a achoswyd yn bennaf o ganlyniad i or-gapasiti yn Tsieina. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi ei pharlysu gan ddiffyg ewyllys gwleidyddol ar y naill law, a chyfyngiadau cyfreithiol, tra ein bod yn parhau i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, rhag gwneud unrhyw beth ymarferol i ddatrys yr ansicrwydd sy'n bodoli. Ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud - rwy'n gobeithio y bydd yn cytuno â mi yn hyn o beth - yw adennill ein gallu i negodi cytundebau masnach ar ran y wlad hon ei hun a hefyd i ddefnyddio'r pwerau y mae Sefydliad Masnach y Byd yn eu rhoi i'w haelodau i orfodi dyletswyddau gwrth-ddympio digon llym i atal codi prisiau is am ddur sy'n cael ei wneud ym Mhrydain. Mae gennym ni rywfaint o hyblygrwydd o ran prisiau ynni, ond, wrth gwrs, mae'r drefn prisiau ynni gwallgof a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, o dan Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008, yn ei gwneud yn anodd iawn i ni i wneud hynny. Felly, pam na wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet fod yn onest yn y fan yma a dweud wrthym nad oes unrhyw beth y mae'n barod i'w wneud sydd o unrhyw ddefnydd ymarferol i etholwyr Mr Rees yn Aberafan? | 767 |
Weinidog, rwy'n rhannu'r amheuon ynghylch buddiannau tymor canolig Tata. Maen nhw wedi bod yn chwarae gêm o hoci coci â ni. Maen nhw wedi bod i mewn ac maen nhw allan, ac maen nhw i mewn eto. O gofio bod Gerry Holtham wedi amcangyfrif bod cyfraniad Port Talbot i economi Cymru yn gyfwerth â 6 y cant o werth ychwanegol crynswth, mae'n bwysig bod Tata yn deall nad yw hwn yn ddewis rhydd o gostau i economi Cymru nac iddynt hwythau. Ac a wnaiff ef roi sicrwydd i ni y bydd unrhyw becynnau ariannol y byddant yn ceisio eu sicrhau yn y dyfodol ynghlwm â sicrwydd o fuddsoddiad yn y dyfodol, ac y sicrhawyd eu bod yn gwbl ymwybodol o'r costau amgylcheddol a chymdeithasol y bydd yn rhaid iddynt eu derbyn os bydd mwy o chwarae gemau? Rwy'n credu ei bod yn bryd i ninnau fod mor galed â dur. | 768 |
Ysgrifennydd y Cabinet, clywais yr hyn a ddywedasoch wrth ymateb i Adam Price am y sefyllfa lle mae'r cwmnïau yn dal i fod yn agored i drafod â Tata ar hyn o bryd o ran prynu'r cwmni. Mewn erthygl arall ar-lein, mae'n dweud bod Tata yn chwilio am atebion gwahanol a mwy cynaliadwy. Onid yw hyn yn golygu felly eu bod wedi penderfynu nad ydynt wedi eu perswadio gan y dadleuon sy'n cael eu cynnig gan y cwmnïau hyn eu bod yn gallu symud gwaith Port Talbot, a gweithfeydd eraill yng Nghymru, yn eu blaenau? Mae angen i ni ddeall, os ydyn nhw'n mynd i fynd yn ôl at y bwrdd at y dewisiadau amgen hyn, os na chânt lwyddiant gyda Thyssenkrupp ar lefel yr Almaen. Os nad ydym yn cael y sicrwydd hwnnw, yna mae angen i ni gael dealltwriaeth ynghylch ble mae Tata yn mynd yn y dyfodol. Maen nhw wedi dweud wrthyf i bod bwriad i wneud yn siŵr bod swyddi Port Talbot yn cael eu cadw, ond nid yw hynny'n rhoi digon o sicrwydd i mi mai dyna eu bwriad terfynol. Felly, hoffwn ymuno â'r Aelodau i wneud yn siŵr bod cytundeb ffurfiol ar waith i sicrhau bod y gweithfeydd hynny yng Nghymru yn cael eu cadw a'u cynnal ar gyfer y dyfodol cyn i unrhyw gymorth ariannol gael ei roi i Tata gan eich Llywodraeth yn y dyfodol. A 'm cwestiwn arall oedd: yn yr hinsawdd hon lle mae sgyrsiau yn parhau mewn ffordd wahanol, sut gallwch chi ein sicrhau nad yw cwmnïau lleol sy'n ymwneud â Tata Steel yn mynd i ddioddef yn yr amgylchedd cymhleth hwn? Rwyf i wedi clywed, dim ond yn yr wythnos ddiwethaf, bod dau gwmni wedi sy'n gweithio gyda Tata Steel wedi eu diddymu. Rwyf wedi gofyn i Tata am fwy o wybodaeth am hyn, gan nad wyf yn gallu cael gafael ar y cwmnïau dan sylw ar hyn o bryd, yn ôl pob tebyg oherwydd y ffaith eu bod wedi eu diddymu. Ond, ni allwn golli mwy o swyddi yn yr ardal ar hyn o bryd, pan fo swyddi o gwmpas Tata mor werthfawr i bobl leol. Felly, hoffwn glywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud am hynny, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod unrhyw drafodaethau gyda'r fenter ar y cyd newydd hon wedi ffurfioli cytundeb oddi wrthych chi a Llywodraeth y DU. | 769 |
Ysgrifennydd, yn ogystal â Phort Talbot a safleoedd eraill yng Nghymru, mae gweithwyr yng ngweithfeydd Llanwern ac Orb yn bryderus iawn ynghylch eu bywoliaeth yn y dyfodol, a dyfodol eu teuluoedd, o ystyried y pryder a'r bygythiad parhaus. Byddwch yn ymwybodol bod cynhyrchion o'r ansawdd uchaf yn cael eu cynhyrchu yng Nghasnewydd, fel y dur ar gyfer y diwydiant ceir yng ngwaith Zodiac yn Llanwern, a'r dur trydanol yng ngwaith yr Orb. A wnewch chi gytuno â mi, wrth ystyried dyfodol gweithrediadau Tata yng Nghymru, bod angen i'r gweithrediadau hynny gael eu lle priodol yn y trafodaethau, ac y byddwch yn ystyried holl safleoedd Tata Steel yng Nghymru yn rhan o ddull integredig, wrth gymryd rhan mewn trafodaethau, ac, yn wir, wrth gymryd camau gweithredu? | 770 |
Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi a chynorthwyo'r cwmni, wrth iddo gymryd saib i ystyried gwerthu'r busnes, yw trwy ryddhad ardrethi busnes. Ym mis Ebrill, rwy'n credu y dywedodd Llywodraeth Cymru bryd hynny na allai wneud cais am ryddhad ardrethi dros dro gan ei bod, i bob pwrpas, wedi ei llyffetheirio gan reolau'r Undeb Ewropeaidd ar y pryd. Nawr, yn dilyn Brexit, rydym ni'n amlwg mewn gwahanol sefyllfa. A gaf i ofyn pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael - neu mae eich swyddogion wedi eu cael - gyda Llywodraeth y DU, cyrff perthnasol ar lefel yr UE, a chyda Tata, i ailystyried y potensial ar gyfer rhyddhad ardrethi? | 771 |
Diolch yn fawr. Rwyf wedi gwneud sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad, cyn hir, ar ein blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth. Yna ceir datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynglŷn â'r adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Dylan Seabridge. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon wedyn yn gwneud datganiad am y gronfa triniaethau newydd. Ac, er mwyn caniatáu amser i wneud y datganiadau hyn, bydd y datganiad ar glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Yfory, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith yn gwneud datganiad ar Gylchffordd Cymru, yn syth ar ôl cwestiynau llafar y Cynulliad. Mae'r busnes ar gyfer tair wythnos gyntaf tymor yr hydref fel y'i dangosir yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig. | 772 |
Arweinydd y tŷ, roeddwn am ofyn ichi a fyddai modd cael diweddariad ar safonau'r Gymraeg, ond gwelaf fod y Gweinidog perthnasol wedi datblygu gallu telepathig ac wedi achub y blaen arnaf. Fodd bynnag, rwyf wedi darllen ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd amser cinio heddiw, ac nid yw'n cynnwys amserlen ar gyfer cyflwyno'r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol. Credaf fod angen i ni, yr Aelodau, gael rhybudd teg ynglŷn â hyn. Rwyf yn siŵr fod Llywodraeth Cymru'n sylweddoli bod angen amser arnom i graffu ar y rheoliadau hanfodol hyn er mwyn osgoi'r sefyllfa yr oeddem ynddi, rwyf yn credu, ychydig cyn toriad y Pasg yn ystod y Cynulliad diwethaf. Nodaf, yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog, ei fod yn gobeithio dod â'r rheoliadau penodol hynny yn ôl i'r Cynulliad erbyn diwedd y flwyddyn hon. A dweud y gwir, credaf ein bod yn eu disgwyl cyn diwedd y tymor hwn. Felly, pe byddai'n bosibl cael datganiad diwygiedig, byddai hynny'n dda o beth. A phe gwneid datganiad diwygiedig o'r fath, efallai y gallai gynnwys eglurhad ynglŷn â pham nad oedd y rheoliadau hynny ger ein bron cyn y toriad. | 773 |
Rwyf yn siŵr y byddwch yn ymuno â mi i longyfarch yr Athro Maria Hinfelaar ar gael ei phenodi'n is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ddydd Iau diwethaf, a'r ffaith fod nifer y myfyrwyr gradd gyntaf llawn amser yno a lwyddodd i gael gwaith ar lefel graddedigion ar ôl gadael yn uwch na chyfartaledd y DU. Galwaf am ddau ddatganiad - y cyntaf ynglŷn â darpariaeth addysgol ar gyfer oedolion ifanc â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig ac anawsterau dysgu. Dysgais dros y penwythnos fod colegau sy'n darparu ar gyfer llwybrau galwedigaethol mewn addysg i'r myfyrwyr ifanc hyn wedi cael llythyr gan Lywodraeth Cymru yn datgan y bydd cyllid ar gyfer cyrsiau yn cael ei leihau o dair blynedd i ddwy flynedd, yn wahanol i'r atgyfeiriadau a gânt o Loegr, sy'n dal i fod yn dair blynedd, ac er gwaethaf pryder ymysg colegau y bydd hyn yn effeithio'n ddifrifol ar ddeilliannau'r myfyrwyr dan sylw. Yn ail, ac yn olaf, galwaf am ddatganiad ynglŷn ag epilepsi. Yn ystod amser cinio, cynhaliais ddigwyddiad Ymwybodol o Epilepsi, yn dathlu'r ffaith fod yr elusen wedi bod yn darparu gwasanaethau i deuluoedd a gofalwyr am 30 o flynyddoedd. Ond clywsom, er y gellid o bosibl reoli trawiadau 70 y cant o bobl ag epilepsi â thriniaeth, cyngor a chefnogaeth dda iawn, dim ond 52 y cant ar hyn o bryd sydd â rheolaeth o'r fath, gyda chostau mawr, yn rhai dynol ac ariannol; y gellid osgoi dros 40 y cant o farwolaethau a 59 y cant o farwolaethau plant gyda rheolaeth well; bod cyfleoedd anghyfartal mewn iechyd, addysg, hamdden a chyflogaeth; bod anghydraddoldeb o ran y ddarpariaeth ledled Cymru; a bod angen ymgyrch gyhoeddus yn egluro beth i'w wneud os bydd rhywun yn cael trawiad epileptig, ac addysgu pobl ynglŷn â sut y gall camau syml arbed bywydau. Gwn fod - neu y bu mewn Cynulliadau blaenorol - strategaeth epilepsi gan Lywodraeth Cymru. Ond mae'r problemau hyn wedi eu hamlygu yn 2016, ac mae'r gymuned hon, yn fy marn i, yn haeddu datganiad gan Lywodraeth Cymru, yn unol â hynny. | 774 |
Weinidog Busnes, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynglŷn â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i ffermwyr o dan gynllun amaeth-amgylcheddol Glastir. Yn awr, dros y mis diwethaf, rwyf wedi cael gwybod am nifer fawr o fusnesau sydd wedi cael llythyrau gan Lywodraeth Cymru yn mynnu eu bod yn ad-dalu miloedd o bunnoedd yn seiliedig ar gyhuddiadau nad ydynt wedi cyflawni gwaith yn rhan o delerau eu contractau Glastir. Yn awr, byddwn i'n dweud na all hyd yn oed y busnesau hynny sy'n cael eu rhedeg orau - a dylwn ddweud fy mod o'r farn fod ffermwyr yn bobl fusnes ardderchog - weithredu i'w llawn botensial pan ymddengys fod adran y Llywodraeth sy'n gyfrifol am y maes am ymosod ar fusnesau, eu gwawdio a rhoi dirwyon iddynt am y swm uchaf posibl o arian ar bob cyfle posibl am wneud mân gamgymeriadau ar ffurflenni cymhleth iawn. Mae camgymeriadau'n cael eu gwneud wrth ymdrin â ffurflenni cymhleth, fel y dangoswyd yn berffaith gan Lywodraeth Cymru eleni. Mae bron i 90 y cant o apeliadau yn erbyn camgymeriadau mapio Llywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus neu'n rhannol lwyddiannus. Felly, mewn geiriau eraill, yn yr achosion hyn, roedd cyfradd camgymeriadau Llywodraeth Cymru yn 90 y cant. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno datganiad ynglŷn â chynllun Glastir cyn gynted â phosibl. Gwn fod Sioe Frenhinol Cymru gennym yr wythnos nesaf, felly byddai hynny'n gyfle i ddarparu'r datganiad hwnnw, a fydd yn ymrwymo i gefnogi busnesau fferm yng Nghymru trwy fabwysiadu dull cymesur sy'n dangos trugaredd pan wneir mân gamgymeriadau, yn anghywir. | 775 |
Rŷm ni nawr yn symud at yr eitem nesaf, sef y datganiad gan y Prif Weinidog ar flaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth. Rwy'n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones. | 776 |
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud. Mae'n cydnabod heriau Brexit. Rydym yn gwybod ei bod yn amhosibl gweithredu'n effeithiol ar raddfa amgylcheddol, yn enwedig ym maes llygredd aer, dim ond drwy edrych ar Gymru neu ddim ond drwy edrych ar y DU o ran hynny, neu ddim ond drwy edrych ar Ewrop. Mae'n un peth lleihau llygredd aer yn Ewrop, ond os yw diwydiant penodol yn adleoli i ran o'r byd lle mae'r rheolau'n fwy llac, mae hynny'n golygu bod y llygredd yn cael ei allforio i ran arall o'r byd ac, mewn gwirionedd, yn fyd-eang, mae pethau'n mynd yn waeth. Felly, mae'n hynod bwysig ein bod yn dylanwadu ar y meysydd hynny lle y gallwn ac, wrth gwrs, yn ceisio cadw diwydiant ynni-ddwys yng Nghymru, gan, ar yr un pryd, sicrhau eu bod yn dilyn rheoliadau amgylcheddol priodol. Mewn cyfarfod a gefais yr wythnos diwethaf gyda chynrychiolwyr y sector, fe'i gwnes yn glir iddynt y bydd yr hyn sydd eisoes wedi'i ymgorffori yng nghyfraith Cymru'n parhau. Yna, mater i Lywodraeth dros yr ychydig flynyddoedd nesaf fydd penderfynu beth maent yn dymuno ei gadw a beth maent y dymuno cael gwared arno. Nid ydym yn agos at ddechrau'r broses honno, ond rhaid inni ddeall nad yw'n wir, pan fydd y DU yn gadael yr UE, bod popeth sydd erioed wedi dod o Ewrop yn disgyn. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir. Mae'r un fath â phan adawodd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon y DU. Nid yw fel pe bai'r holl gyfreithiau wedi disgyn ac nad oedd cyfraith. Roedd y cyfreithiau a oedd yno'n aros hyd nes iddynt gael eu diwygio yn y dyfodol gan y Dáil ar y pryd. Ond, mae'n wir dweud na ddylem golli golwg ar y cynnydd da yr ydym wedi'i wneud o ran ein hamgylchedd a'r cynnydd rhagorol, yn arbennig, yr ydym wedi'i wneud o ran ailgylchu. | 777 |
Wel, rydym yn disgwyl i'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith gael ei ddarparu, ac os nad yw'n cael ei ddarparu, gellir cymryd camau cyfreithiol, wrth gwrs, i unioni hynny. O ran prif ffrydio hawliau, bydd yr ymarferion yr ydym wedi parhau â nhw hyd yn hyn yn parhau. Bydd yr Aelod yn gwybod bod yna nifer o feysydd lle mae'n rhaid rhoi sylw dyledus i hawliau pobl eraill ac, yn wir, i effaith polisïau penodol ar grwpiau penodol. Bydd y broses honno'n parhau yn y dyfodol i wneud yn siŵr nad yw polisïau'n cael unrhyw ganlyniadau annisgwyl sy'n creu anfantais i rai grwpiau mewn cymdeithas. | 778 |
Rydym yn symud ymlaen i'r eitem nesaf, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a'r adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Dylan Seabridge. Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Carl Sargeant, i wneud ei ddatganiad. | 779 |
Rwy'n meddwl, dim ond i ddweud, bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i'n holl blant. P'un a oes gennym ni blant ai peidio, nhw yw ein dyfodol. A'r ffordd orau y mae cymdeithas yn gofalu am blant, cyn gynted â'u bod o oedran ysgol, yw yn yr ysgol. Felly, mae'n ymddangos i mi, er nad yw'n golygu dweud bod plentyn sy'n cael ei addysgu gartref o reidrwydd mewn perygl, mae'r ffaith nad yw yn yr ysgol yn golygu bod angen rhoi sylw arbennig ychwanegol i sicrhau bod rhywun yn gweld y plentyn hwnnw. Yn amlwg, ni ddigwyddodd hyn yn yr achos hwn. Mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn am y cyfleoedd a gollwyd pan roedd brechiadau i fod i gael eu rhoi. Nid wyf yn dadlau ac yn dweud bod gan y wladwriaeth hawl i fynnu bod brechiad yn digwydd, ond os nad yw'r brechiad yn mynd i ddigwydd, mae angen gweld y plentyn beth bynnag, dim ond i wneud yn siŵr nad yw lles y plentyn yn cael ei beryglu. Mae gan y plentyn hawl i addysg feithrin yn dair oed. Felly, yr awdurdod lleol - tybed pam nad oedden nhw'n meddwl pam nad oedd enw'r plentyn hwn i lawr i gael lle meithrin am ddim. Os nad oeddent, pam ddim? Oherwydd mae angen i bob awdurdod lleol fod yn cynllunio ar gyfer hynny ac, os nad yw'r rhiant yn dymuno ei gymryd, gellir cofnodi hynny. Ond, mae angen gofyn y cwestiwn o leiaf, i'r rhai nad ydynt efallai'n gwybod am yr hawl hwnnw. Pan nad yw plentyn yn bresennol mewn dosbarth derbyn pan mae'n codi'n bum mlwydd oed, mae hwnnw, does bosib, yn gyfle arall i'r awdurdod lleol wirio bod y plentyn naill ai wedi ei gofrestru yn yr ysgol neu wedi ei gofrestru fel rhywun sy'n cael addysg gartref. Felly, rwy'n poeni nad oes gofyniad penodol yn Neddf Addysg 1996 i AALlau ymchwilio i weld a yw rhieni'n cydymffurfio â'r rhwymedigaeth i roi addysg i bob plentyn. Rwy'n gobeithio bod hwnnw'n un o'r - | 780 |
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau cryno. Mae'r Aelod yn gofyn rhai cwestiynau pwysig iawn, ac mae fy nghydweithwyr yn y Cabinet yn eu hystyried yn eu dull o ddatrys rhywfaint o'r dystiolaeth a gyflwynwyd gyda'r adolygiad ymarfer plant hwn. Mae addysg gartref ddewisol yn fater y mae angen i ni ymdrin ag ef yn rhan o hynny hefyd, o ran y posibilrwydd bod hynny'n cynyddu risg. Mae'r Aelod yn cyflwyno ymagwedd resymegol iawn at yr atebion i'r broblem hon o'r hyn a ddigwyddodd yma. Ond mae'n sicr na wnaeth lifo fel hynny yn y broses honno. Bydd yr Aelod yn wybodus am y gofynion penodol yn y Ddeddf. Mae'n fater o gofrestru pobl ifanc pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol; mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni roi sylw iddo. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn deall pwyntiau sbardun a phryd neu ble y dylai unigolion weithredu ar y rhain. Roedd methiant eglur yn y system a chollodd y bachgen ifanc hwn ei fywyd ac mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi o hynny. Mae'n rhywbeth, fel y dywedais yn gynharach, y mae'r pedwar cydweithiwr yn y Cabinet yn gweithio arno gyda mi, i ddatrys rhai o'r bylchau hyn yn y system. Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc o dan yr amgylchiadau hyn yn iawn, ond bydd un neu ddau fel yr ydym ni wedi gweld yma. Ni allaf sefyll yma heddiw a dweud nad oes mwy o blant fel Dylan yn ein cymuned, ac mae hynny'n fy mhoeni. Mae hynny'n rhywbeth lle mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr, gyda'n gilydd, ên bod yn ceisio cau'r bylchau hynny. | 781 |
Rhaid imi ddweud, rwy'n eithaf siomedig â'r datganiad hwn heddiw, Weinidog. Pan ofynnais gwestiwn brys ôl ym mis Ionawr, dywedwyd wrthyf am aros am yr adolygiad ymarfer plant; nawr bod yr adolygiad ymarfer plant wedi cael ei gyhoeddi, dywedir wrthyf am aros am lawer gormod o amser eto, heb ddim amserlen na syniad o'r hyn y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud. Nid wyf yn rhannu eich hyder, Weinidog, ynghylch Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. A allwch gadarnhau wrthyf, er bod y Ddeddf hon yn cyflwyno dyletswyddau newydd a mwy o hyfforddiant, nad yw'n cyflwyno pwerau newydd, ac felly y gallai'r sefyllfa yn wir godi eto? Gyda Dylan Seabridge, ceisiodd swyddogion addysg ei weld yn ystod blwyddyn olaf ei fywyd; nid oedd hynny'n hawl statudol, i weld plentyn sy'n cael addysg gartref, a dyna beth sydd wedi cael sylw yn yr adolygiad ymarfer plant mewn argymhelliad clir i gofrestru plant sy'n cael addysg gartref - nid ymyrryd ag addysg gartref, ond cofrestr a hawl i sicrhau bod y plant hynny'n cael addysg a gofal. Mae hwn yn ddarn coll o'ch datganiad nad ydych wedi ymdrin ag ef. A ydych yn ei fwrw, unwaith eto, o'r neilltu, ynteu a ydych wir yn mynd i wynebu'r angen i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, ym mha bynnag sefyllfa y mae'n cael ei addysgu - gan gynnwys ysgolion preifat yng Nghymru - yn cael ei gofnodi'n briodol o ran ei addysg a'i les? A'r pwynt olaf yw bod yr adolygiad ymarfer plant yn dweud yn glir iawn nad oedd y ffordd y cafodd Dylan Seabridge ei drin gan yr awdurdodau'n cyd-fynd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Ai cerydd i Lywodraeth Cymru yw hynny, ynteu ai cerydd i'r awdurdodau dan sylw, a pha gamau yr ydych wedi'u cymryd? | 782 |
Weinidog, rwy'n mynd i wneud fy natganiad yn fyr, yn finiog ac yn bwrpasol. Fel y gwyddoch, rwy'n byw yn Sir Benfro ac rwyf wedi darllen llawer o adolygiadau achos, ac mae rhai ohonynt yn eithaf trasig, o'r awdurdod hwnnw. Fy nghwestiwn i chi yw-mae'n un miniog a phwrpasol-a ydych chi wedi edrych ar sut y gwnaethant ymdrin â'r achos hwn, a ydych chi wedi edrych ar unrhyw beth y maent wedi'i ddysgu ohono? Oherwydd rwy'n gallu meddwl mai dyma'r trydydd achos trasig sydd wedi dod o Sir Benfro, a gallaf hefyd feddwl ein bod bob tro'n clywed bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd a rhywbeth yn mynd i gael ei ddysgu, ac rwy'n siŵr bod hynny'n wir. Ond yr hyn yr wyf wir eisiau ei wybod yma, a dyma beth sydd wir yn brifo, rwy'n meddwl, yn yr achos hwn yn ei gyfanrwydd, yw bod rhywun wedi riportio'r peth flwyddyn lawn cyn i'r plentyn farw, ac na chafodd dim camau eu cymryd. Dyna i mi beth sydd wir yn brifo. Oherwydd, pe bai'r camau hynny wedi'u cymryd ar y pryd, gallai'r canlyniad wedi bod yn hollol wahanol. Y mater arall oedd bod yr unigolyn a dynnodd sylw at hyn yn byw yng Ngheredigion a'r plentyn yn byw yn Sir Benfro. Ffin artiffisial awdurdodau yw honno. Rwy'n siŵr nad oes un enaid yma a fyddai'n cytuno bod ffin artiffisial yn galluogi pobl i godi llaw a dweud, 'Nid fy mhroblem i; rydw i wedi gwneud fy rhan. Rydw i wedi riportio'r peth ond awdurdod arall ddylai ymdrin ag ef'. Dydw i ddim yn meddwl yr hoffai neb ohonom byth fod yn ôl yma eto mewn sefyllfa lle gallwch ddweud, 'Rydw i wedi ei riportio', ond nad ydych yn dilyn y mater, a'i fod yn cael ei riportio ac nad ydych yn cymryd camau oherwydd bod ychydig o ddeddfwriaeth yn rhwystro hynny rhag digwydd. | 783 |
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, rwyf wrth fy modd o weld yr adroddiad hwn heddiw. Gelwais am adolygiad annibynnol o'r achos hwn a chefais fy nghystwyo - nid gan y Gweinidog, a adawodd fi i lawr yn ysgafn yn y Siambr hon, ond gan aelodau cynghorau sir Ceredigion a Sir Benfro - am alw am adolygiad annibynnol. Fy rheswm dros alw am adolygiad annibynnol oedd yr union bwynt a godwyd yma: cyfathrebu amlasiantaethol a chydweithio. Mae Joyce Watson wedi sôn am ran ohono, ond dewch inni fod yn wirioneddol glir, Weinidog; roedd grŵp cynghori gweinidogol ar waith, roedd Cyngor Sir Benfro mewn mesurau arbennig, roedd Estyn wedi mynd drwyddo â chrib fân, roedd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi mynd drwyddo â chrib fân, ac ni wnaeth dim un o'r sefydliadau hynny feddwl, 'O diar, dyma farwolaeth plentyn ac nid oes neb yn cynnal adolygiad arno'. Ni wnaeth neb feddwl bod hynny'n anghyffredin; ni wnaeth neb feddwl bod hynny'n anhygoel. Yn olaf, Dylan Seabridge yw'r dioddefwr tristaf yn yr achos hwn, ond mae yna ddioddefwr arall, sef y sawl a chwythodd y chwiban, a ddylai fod wedi'i warchod gan yr holl bolisïau a phrotocolau chwythu'r chwiban sydd gennym ar waith. Chwythwr chwiban sydd, unwaith eto, wedi cael ei gystwyo ei hun - gan un yn bennaf, ond mae ail - sydd wedi cael amser ofnadwy yn ei swydd. Ni allaf enwi'r unigolyn. Cafodd yr unigolyn ei drin yn eithaf drwg hefyd gan yr union gorff adolygu hwn, a roddodd ychydig iawn o amser i'r unigolyn - cynnig cyfarfod, tynnu'r cynnig hwnnw'n ôl, a phob math o nonsens felly. Rydym yma i warchod ein chwythwyr chwiban; mae arnom angen chwythwyr chwiban ym mhob sefydliad mawr, cyhoeddus a phreifat, i ddweud wrthym pan fyddwn yn gwneud drwg. Ceisiodd rhywun ddweud wrthym ein bod yn gwneud drwg; wnaethom ni ddim gwrando. | 784 |
Symudwn ymlaen at y datganiad nesaf, sy'n ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar hunanwella'r system addysg. Galwaf ar Kirsty Williams. | 785 |
Diolch. Diolch i chi am eich datganiad. Wrth gwrs, mae'r pethau y mae David Melding yn eu dyfynnu fel pethau da iawn ar gyfer plant sy'n derbyn gofal - gofal bugeiliol, olrhain da ar gynnydd disgyblion, ac ysgolion sy'n gwrando - yn bethau sydd eu hangen arnom ni ar gyfer ein holl ddisgyblion. Yn amlwg, un o'r materion yw sut yr ydym yn mynd i'r afael ag ysgolion sy'n hwylio mynd yn eu blaenau, nad ydynt yn wynebu'r heriau y mae addysgu mewn ardaloedd anodd yn eu hwynebu. Felly, rwy'n meddwl tybed pa bwyslais sy'n mynd i gael ei roi ar y gwerth a ychwanegir gan ysgolion wrth i ni olrhain pa mor dda y mae disgybl yn ei wneud o adeg cael ei dderbyn hyd nes iddo adael yr ysgol. Un o'r pwyntiau yr wyf yn meddwl eich bod wedi'i godi ynghylch y strategaeth arweinyddiaeth sydd ei hangen i sicrhau bod system addysg Cymru yn barod ar gyfer diwygiadau cwricwlwm Donaldson yw sicrhau bod pawb yn gytûn. Bûm yn cadeirio fforwm polisi ar Donaldson ychydig fisoedd yn ôl ac roeddwn yn synnu braidd fod diffyg cwestiynau a brwdfrydedd dros ddysgu o arfer gorau ar draws yr OECD neu gan ysgolion neu ardaloedd penodol o'r wlad. Ymddengys i mi mai'r her fwyaf yw sut mae cael athrawon i ailystyried beth yw eu swyddogaeth, drwy ddefnyddio eu haddysgeg eu hunain yn ogystal â'u dychymyg, i ddysgu rhifedd a llythrennedd digidol ar draws y cwricwlwm cyfan. Fel arall, nid yw'n mynd i weithio, oni bai eu bod yn teimlo'n frwdfrydig am y peth. Felly, edrychaf ymlaen at glywed ychydig mwy am hynny. Roeddwn yn meddwl tybed pa ran y mae clystyrau o ysgolion yn ei chwarae wrth alluogi ysgolion o faint tebyg a'r nifer tebyg o brydau ysgol am ddim i archwilio eu harferion eu hunain, a'u bod yn edrych ar arfer da mewn ysgolion eraill yn y clwstwr, ac yn edrych ar yr ysgol yn y clwstwr sy'n cael y canlyniadau mathemateg gorau er mwyn deall hynny, ac yna mabwysiadu rhai o'r arferion hynny yn eu hysgol eu hunain. Ymddengys bod hynny'n un o'r ffyrdd ychydig llai bygythiol o ymdrin ag ysgolion sy'n cael anhawster i fynd i'r afael â'u cynlluniau gwella eu hunain. | 786 |
Diolch ichi, Lywydd. Roeddwn am godi dau fater. Un oedd pobl ag anableddau a'r anawsterau y maent yn eu cael wrth deithio ar unrhyw fath o drafnidiaeth. Rydym yn gwybod, er enghraifft, gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, fod 54 y cant o bobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall yn cael anawsterau ar y trenau, a gall hyn fod oherwydd goleuo gwael, arwyddion gwael neu ddiffyg hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd ymhlith y staff. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa sylwadau y mae wedi'u cael gan bobl neu grwpiau sy'n cynrychioli pobl anabl ynghylch sicrhau bod materion anabledd yn cael eu hymgorffori yn y fasnachfraint? Roedd yr ail gwestiwn ynghylch metro de Cymru. Rwyf yn croesawu'n fawr ei ddatganiad y bydd yn symud ymlaen; bod cytundeb gyda Llywodraeth y DU; a'i fod yn dweud yn ei ddatganiad, 'Gan weithio gyda'r gweithredwr a'r partner datblygu, byddwn yn dyfarnu contractau cyflenwi seilwaith ar gyfer metro de Cymru yn ystod gwanwyn 2018'. A all ddweud yn union pa seilwaith a fydd yn cael ei gyflwyno yno a beth yw'r contractau cyflenwi cyntaf a fydd yn cael eu cyflwyno yn 2018? | 787 |
Diolch ichi am eich datganiad. Yn amlwg, mae metro de Cymru yn gwbl hanfodol i holl ddatblygiad de-ddwyrain Cymru, felly rwyf ychydig yn bryderus ynghylch y posibiliadau o ran llithriant ar y rhaglen hon, i raddau helaeth oherwydd bod contract Arriva ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yn dod i ben ym mis Hydref 2017, ond eto, yn ôl eich datganiad, nid ydym mewn gwirionedd yn mynd i ddyfarnu contract newydd tan ddiwedd 2017. Felly, mae hynny, ynddo'i hun, yn peri pryder. Rydych yn sôn am raglen o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid. A yw hyn yr un peth â'r ddeialog gystadleuol y soniwyd amdani, gyda chynigwyr posibl? Sut ydych chi'n meddwl bod hynny'n well na chyhoeddi eich strategaeth, y canlyniadau yr ydych am eu gweld ar gyfer rheilffyrdd ysgafn a rheilffyrdd trwm, a sicrhau bod pobl wedyn yn cynnig ar sail y canlyniadau hynny? Un o'r pryderon mwyaf sydd gennyf yw'r cynnydd yr ydym yn ei wneud, neu beidio, o ran nodi sut y mae'r partneriaid yn y fargen ddinesig yn mynd i ddatblygu'r pwerau statudol i gomisiynu cynlluniau defnydd tir a phrynu'r tir sydd ei angen ar gyfer y rheilffyrdd ysgafn newydd hyn ac ar gyfer y gorsafoedd hyn y gallai fod eu hangen. Fel yr ydych eisoes wedi dweud yn eich datganiad, nid oes gan Trafnidiaeth Cymru bwerau i ysgwyddo swyddogaeth awdurdodau lleol statudol. Felly, os nad oes ganddo'r pwerau hynny, pam nad ydym yn awr eisoes yn gwthio ymlaen i ddatblygu'r pwerau statudol hyn? Dyna'r cwestiwn a ofynnwyd gan bennaeth cynllun datblygu Stuttgart ac, felly, mae'n ymddangos i mi yn gwestiwn hollol berthnasol. | 788 |
Diolch, Lywydd - byddaf mor gryno ag y bo modd. Gan edrych ymlaen at fasnachfraint Cymru a'r gororau yn y dyfodol, mae angen i ni yn y gogledd fod wedi ein cysylltu'n well â'n prifddinas. Rwyf yn cydnabod ein bod wedi ein cyfyngu gan seilwaith a rhwydwaith a etifeddwyd, ond ni all fod yn iawn ei bod, o'r brif orsaf yn y Fflint yn fy etholaeth i, yn gynt mynd i Lundain nag ydyw i Gaerdydd. Mae angen inni hefyd sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni gofynion yr unfed ganrif ar hugain a'r iwtopia gyfoes honno. Byddai hynny'n cynnwys Wi-Fi, ond rwyf yn siŵr y byddai llawer o'r cymudwyr rheolaidd yn meddwl, a dweud y gwir, fod y Nadolig wedi dod yn gynnar pe byddai socedi plygiau sy'n gweithio ar bob gwasanaeth. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn falch o glywed y cynlluniau i fwrw ymlaen â'r rhaglen metro ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, ac a chithau hefyd yn Ogleddwr, byddwch yn gwybod, fel finnau, fod ein rhanbarth yn ddiwylliannol ac yn economaidd yn rhyng-gysylltiedig â'n cymdogion agos dros y ffin yng ngogledd-orllewin Lloegr. Felly, a wnewch chi sicrhau bod yr anghenion seilwaith er mwyn i'r gogledd ffynnu a'r cynlluniau ar gyfer metro gogledd-ddwyrain Cymru yn aros yn uchel ar yr agenda wrth symud ymlaen? | 789 |
Diolch, Lywydd. Tri chwestiwn cyflym ichi, Ysgrifennydd y Cabinet: yn gyntaf, ac ystyried arwyddocâd y fasnachfraint rheilffyrdd a'r prosiect metro ar gyfer Cymoedd y de, tybed pa ystyriaeth yr ydych wedi ei rhoi i leoli tîm Trafnidiaeth Cymru yn y Cymoedd? Yn ail, mae'r prosiect metro yn cynnig y cyfle i ailgysylltu cymunedau sydd wedi colli eu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. A ydych yn meddwl y byddai'n bosibl ailgyflwyno gwasanaethau rheilffordd i ardaloedd sydd wedi dioddef dan fwyell Beeching? Rwyf yn meddwl yn benodol am bentref Hirwaun yn fy etholaeth i. Yn olaf, fel y rhan fwyaf o'm cydweithwyr sy'n cynrychioli etholaethau'r Cymoedd, rwyf yn cael cwynion yn aml ynghylch annigonolrwydd gwasanaethau rheilffyrdd y Cymoedd. Pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cynnwys mewn unrhyw fasnachfraint yn y dyfodol fel bod anghenion cymudwyr yn cael eu rhoi yn gyntaf ac yn flaenaf wrth ddarparu unrhyw wasanaethau rheilffordd? | 790 |
Rŷm ni'n symud ymlaen i'r eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y Gymraeg. Rwy'n galw ar y Gweinidog, Alun Davies, i wneud ei ddatganiad. | 791 |
Diolch i chi. Rwy'n gwerthfawrogi beth sydd y tu ôl i'r cwestiwn yma. Mae'n hynod o bwysig bod pobl yn cyrraedd lefel lle maen nhw'n gallu trafod, siarad a defnyddio'r Gymraeg. Rwy'n gweld pa mor bwysig ydy hynny - i gyfathrebu a theimlo'n hyderus i fod yn rhugl a gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. Un o'r pethau rydym wedi ei wneud trwy sefydlu'r Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yw hefyd creu pwyllgor craffu, sy'n cael ei arwain gan Steve Morris ym Mhrifysgol Abertawe, a fydd yn sicrhau bod y safonau sy'n cael eu darparu yn cyrraedd y fath o darged a'r nod y mae'r Aelod wedi disgrifio. Mae'n bwysig ein bod ni'n darparu cyrsiau sy'n addas ym mhob rhan o'r wlad; cyrsiau sy'n cyrraedd anghenion pobl ac yn y ffordd y mae pobl eisiau ei gweld, ac wedyn, cyrsiau sydd hefyd yn creu'r gallu i siarad a defnyddio a theimlo'n gyfforddus yn y Gymraeg. Dyna beth rwy'n hyderus bod y ganolfan genedlaethol eisiau ei weld. Rwyf wedi cyfarfod prif swyddogion y ganolfan; rwyf i wedi siarad yn eu cynhadledd nhw yr wythnos diwethaf ac rwy'n hyderus iawn y bydd hyn yn arwain at fwy o bobl nid jest yn mynd ar gyrsiau Cymraeg, ond mwy o bobl yn siarad Cymraeg, a dyna nod pob un ohonom, rwy'n meddwl. | 792 |
Felly, yr eitem nesaf yw'r ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf 2016-17. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig - Mark Drakeford. | 793 |
Yr eitem gyntaf ar yr agenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, ac mae'r cwestiwn cyntaf yn enw Jeremy Miles. | 794 |
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r diwydiannau creadigol yn un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn economi Cymru ac mae wedi gweld cynnydd aruthrol mewn cyflogaeth. A wnaiff nodi a yw'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn debygol o effeithio ar ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i'w chronfa fuddsoddi yn y cyfryngau a chymhellion cynhyrchu eraill, ac os felly, sut? Ac a wnaiff ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i asesu effaith gadael yr UE ar gytundebau cydgynhyrchu ffilm a theledu sy'n caniatáu i gynhyrchydd o wlad sy'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd gael mynediad at gymhellion cynhyrchu yng ngwledydd eraill yr UE, a rhoi trefniadau ar waith i osgoi colli'r cyfle hwnnw i economi Cymru? | 795 |
Ysgrifennydd y Cabinet, gall y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol weithredu fel ysgogiad pwysig i feddwl yn wahanol ynglŷn â datrys problemau yn ein cymunedau, ac mae'r rhaglen Celf Ar Draws y Ddinas LOCWS yn Abertawe yn enghraifft berffaith o adfywio. Sut y mae Cymru Greadigol yn helpu i fodloni'r amcanion a ddiffinnir yn adroddiad Kay Andrews, yn enwedig o ran dod â phobl greadigol, cyrff cyhoeddus, a chymunedau, yn agosach at ei gilydd i fynd i'r afael ag ystod o broblemau economaidd-gymdeithasol? Ac a ellid ei ddefnyddio i dreialu Celf ar Bresgripsiwn, er enghraifft? | 796 |
Gwnaf. Rydym yn gweithredu tri phrif gynllun i gefnogi prosiectau twristiaeth: y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth, a elwir hefyd yn TISS; y gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol; a chronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth. Mae'r rhain yn gynlluniau ar gyfer Cymru gyfan. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu ceisio cael mynediad at wahanol ffrydiau cyllid sydd ar gael gan yr UE i gefnogi twristiaeth yng Nghymru. | 797 |
Mae'r Aelod yn tynnu sylw at brosiect ardderchog ac mae'n cyd-fynd yn dda gyda'r prosiect y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflawni drwy Croeso Cymru i hyrwyddo ein treftadaeth. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r safleoedd Cadw a gafodd eu goleuo'n goch yn ystod y bencampwriaeth Ewropeaidd yn ddiweddar, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod treftadaeth wrth wraidd ein cynnig i ymwelwyr â Chymru. O ran y cyllid a allai fod ar gael, mae'n gwbl bosibl, o ystyried y cysylltiad cryf â Blwyddyn y Chwedlau - ac ni fyddwn am ragfarnu unrhyw gais - y byddent yn dymuno gwneud cais yn ystod cylch ariannu'r flwyddyn nesaf, yn ystod 2017, am grant drwy'r gronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth. Rwyf wedi dweud yn eithaf clir wrth ymgeiswyr y byddwn yn hoffi gweld llawer mwy o arloesedd a chreadigrwydd yn cael ei gyflwyno ar ffurf ceisiadau am y math hwnnw o gyllid, a byddwn yn croesawu un gan y sefydliad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn fawr iawn. | 798 |
Gallaf. Fel y soniais wrth Suzy Davies, bydd arian ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a hynny yn ystod 2017. Mae'r prosiect y mae'r Aelod yn ei grybwyll heddiw yn swnio'n un arloesol iawn; mae'n rhywbeth rwy'n siŵr y bydd y rheolwr cyrchfannau - . Byddwn yn cynghori'r sefydliad y tu ôl i'r fenter i gysylltu â'u rheolwr cyrchfannau mewn gwirionedd, oherwydd byddant yn gallu rhoi cyngor ar sut i hyrwyddo'r prosiect ar draws y rhanbarth. Yn ychwanegol at y gronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth, tynnodd yr Aelod sylw at adnoddau sydd ar gael drwy'r gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol, ac unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y bydd y rheolwr cyrchfannau yn y rhanbarth yn gallu rhoi cyngor arno. Yn ogystal, mae yna bosibilrwydd hefyd o gydgysylltu gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i weld a allai'r prosiect penodol hwnnw ddenu cyllid ar gyfer celfyddyd gyhoeddus gan gyngor y celfyddydau. Yn olaf, wrth symud ymlaen, roedd gennym addewid yn ein maniffesto i greu cronfa her ar gyfer celfyddydau cymunedol a chwaraeon cymunedol, ac rwy'n dychmygu y byddai'r math hwn o brosiect, lle y gallwch ennyn diddordeb a chynhyrchu adnoddau a ariennir yn dorfol, yn addas ar gyfer arian cyfatebol drwy'r gronfa her. | 799 |