text
stringlengths 76
2.23k
| __index_level_0__
int64 0
4.36k
|
---|---|
Gallaf ddweud bod y digwyddiad ddoe yn llwyddiannus iawn. Pwysleisiwyd i'r sector, sector yr amgylchedd yn gyntaf oll, y bydd yr holl ddeddfau amgylcheddol hynny sydd eisoes yng nghyfraith Cymru yn parhau. Yn ail, cyn belled ag y mae ffermio yn y cwestiwn, dim ond i bwysleisio'r pwynt, nid oes y fath beth â pholisi amaethyddol Prydain. Mae wedi ei ddatganoli'n llwyr. Felly, ceir cyfleoedd i'r diwydiant ffermio weithio gyda ni o ran sut y gallai cynllun ariannu edrych yn y dyfodol, pa gefnogaeth y gallant fod ei heisiau yn y dyfodol - er, wrth gwrs, mae hynny'n dibynnu ar yr arian yn cael ei roi ar gael gan Lywodraeth y DU i ddarparu'r gefnogaeth honno. Ac yn drydydd, wrth gwrs, o ran pysgodfeydd, yr hyn y dylid ei wneud â dyfroedd tiriogaethol Cymru o ran pwy ddylai gael pysgota ynddynt ac, yn ail, pa un a yw cychod o Gymru eisiau i ni drafod gyda gweinyddiaethau eraill o ran sicrhau hawliau pysgota iddyn nhw mewn dyfroedd eraill. | 600 |
Mae'n gwbl ryfeddol eich bod chi wedi gwastraffu cymaint o'ch amser - ond rwy'n ddigon hapus eich bod chi'n defnyddio fy nyfyniadau i, gan fod gennych chi cyn lleied i'w ddweud, Brif Weinidog. Rwy'n cadw at fy nyfyniadau ac rwy'n ddigon hapus i roi hynny ar y cofnod. Rwy'n eithaf hapus i ddadlau gyda chi ar unrhyw bryd, mewn unrhyw fan, Brif Weinidog, ar y buddion a welaf, a chymeradwywyd hynny gan y bobl yn y bleidlais ar y refferendwm ar 23 Mehefin. Mae'n hollol anhygoel i mi, ar ôl dau gwestiwn eglur iawn - un i ymbellhau eich hun oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi gwawdio craffter busnes ffermwyr, a'r llall, ynglŷn â'r cytundeb yr ydych chi wedi ei wneud gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddod â nhw i mewn i Lywodraeth sydd, yn eu geiriau eu hunain, â goblygiadau cyllidebol sylweddol i'ch Llywodraeth chi. Nid wyf yn credu bod y rhain yn gwestiynau ffôl i'w gofyn yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog gan eich bod wedi dweud yn ystod yr ymgyrch, ar gyfer pob ymrwymiad cyllideb newydd a wneid gan eich Llywodraeth y byddai'n rhaid cael toriadau mewn mannau eraill. Felly, naw wythnos erbyn hyn ar ôl yr etholiad, nid yw'n afresymol i arweinydd y Ceidwadwyr yma yn y Cynulliad i ofyn y cwestiwn i chi, 'Iawn, rydych chi wedi ymrwymo'r arian hwn i ymrwymiadau'r Democratiaid Rhyddfrydol; o ble ydych chi'n cael yr arian hwnnw?' Nid yw'n ymwneud â'r bleidlais Brexit. Mae'n ymrwymiad a wnaed gennych cyn y bleidlais Brexit gan y bu'r trafodaethau hyn cyn y bleidlais Brexit. Felly, o ble mae'r arian yn dod i fodloni'r ymrwymiadau ariannol sylweddol yr ydych chi wedi eu cytuno gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer y dyfodol? A allem ni gael ateb syml, uniongyrchol, neu ai'r ffaith syml yw nad ydych chi'n gwybod? | 601 |
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae nifer o gyfleusterau gofal sylfaenol newydd wedi cael eu hagor ar draws y gogledd. Wrth gwrs, maen nhw'n darparu adeiladau o'r safon uchaf i feddygon teulu. | 602 |
Mae'r Aelod yn iawn ynglŷn â'r sefyllfa yna yn y Waunfawr - mae yna bwysau mawr yna. Rwy'n deall bod y feddygfa ei hunan yn trafod y peth yn fanwl iawn â'r bwrdd iechyd. Mae'n rhaid datrys y broblem cyn gynted ag sy'n bosib - rwy'n deall hynny. Wrth gwrs, byddai'n rhaid cael cais o'r feddygfa yn gyntaf, ond i wneud hynny, wrth gwrs, mae'n rhaid trafod y peth â'r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau bod y cais yn un iawn. Ond rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn deall y sefyllfa a'n deall bod yn rhaid sicrhau mwy o le i'r feddygfa yn y pen draw. Rwy'n deall taw siop oedd y feddygfa ar un adeg a bod 5,000 o bobl yn cael eu gwasanaethu oddi yno nawr - 1,000 ar y dechrau - felly mae'n amlwg bod yn rhaid datrys y broblem cyn gynted ag sy'n bosib. | 603 |
Mae hyn yn digwydd, wrth gwrs, mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig mewn rhannau o Gymru wledig. Mae'n bwysig, wrth gwrs, fod pob bwrdd iechyd yn ystyried y model cywir ar gyfer ei ardal. Nawr, rwy'n ymwybodol ac rwyf wedi gweld enghreifftiau fy hun o sut y mae hyn yn gweithredu'n dda. Ni ddylem, wrth gwrs, ddefnyddio hynny fel rheswm i beidio â sicrhau y gall pobl fynd adref gyda'r gefnogaeth iawn cyn gynted â phosibl, ond mae'r model y mae'r Aelod yn sôn amdano eisoes yn bodoli mewn sawl rhan o Gymru. | 604 |
Nid wyf yn gwybod pa un a yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Cyngor Sir Powys yn bwriadu gwerth £0.25 miliwn o doriadau i'r gyllideb llyfrgelloedd rhwng nawr a 2019, a fydd yn golygu torri hanner costau cynnal lleol y gwasanaeth llyfrgelloedd a'r posibilrwydd o gau 11 o lyfrgelloedd cangen. A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i resynu'r synnwyr hwn o flaenoriaethau, oherwydd does bosib na ddylem ystyried llyfrgelloedd fel rhan hanfodol bwysig o wasanaeth addysg ehangach y wlad hon? | 605 |
Brif Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, mae gwasanaethau llyfrgell yn ased cymunedol gwerthfawr, gymaint felly fel bod cymunedau lleol yn Arberth, a hefyd yn Nhrefdraeth yn Sir Benfro, yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro i gadw llyfrgelloedd ar agor fel adnodd a reolir gan y gymuned yn wyneb toriadau cyni cyllidol y Torïaid. A wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r gwirfoddolwyr hynny am eu hymdrechion i gefnogi cadw'r llyfrgelloedd hynny ar agor ac, yn benodol, i ddiolch iddyn nhw yn yr ardaloedd gwledig hynny sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw? | 606 |
Brif Weinidog, yn ystod yr wythnos yr ydym ni'n coffau canmlwyddiant brwydr y Somme, mae'n hanfodol ein bod yn dathlu'r rhan bwysig y mae gwasanaethau archifau sirol yn ei chwarae, yn enwedig o ran helpu cenhedlaeth heddiw i gadw cysylltiad â'u gorffennol. Brif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol bod archif Caerfyrddin wrthi'n cael ei hadfer ar hyn o bryd, ar ôl cael ei difrodi'n ddifrifol oherwydd ei lleoliad gwael mewn adeilad anaddas a ganiataodd i ddogfennau gwerthfawr gael eu gorchuddio â llwydni a phob math o bethau anffodus eraill yn digwydd. A wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r gwaith adfer hwn ar yr archif ddiwylliannol bwysig hon yng Nghymru, ac a wnewch chi amlinellu beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i helpu llyfrgelloedd eraill, archifau gwerthfawr eraill yng Nghymru, i gael eu hadfer a'u cadw ar gyfer dyfodol y genedl? | 607 |
Rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, a fydd yn elfen bwysig o'n targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor hwn, ac rydym ni'n cynorthwyo awdurdodau lleol a chymdeithasau tai er mwyn cyrraedd y targed hwnnw. | 608 |
Rwy'n awyddus i atal hyn rhag cael ei ystyried fel cystadleuaeth rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Mae'r ddau'n hanfodol i gyrraedd ein targed newydd. Rydym ni eisiau gweld, wrth gwrs, mwy o uchelgais gan awdurdodau lleol pan ddaw i adeiladu tai. Mae'n anodd, oherwydd yr ataliwyd awdurdodau lleol rhag adeiladu tai am gymaint o flynyddoedd. Ond rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ddatblygu cynllun cyflawni. | 609 |
Rydym ni eisiau sicrhau, wrth gwrs, nad yw'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn dioddef o ganlyniad i benderfyniadau a wneir mewn mannau eraill. Gwn fod y Gweinidog yn edrych yn ofalus ar y sefyllfa bresennol er mwyn lliniaru unrhyw effaith ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed. | 610 |
Bydd cynghorau, wrth gwrs, yn cynllunio yn ôl y newid demograffig. Rydym ni'n gwybod, yn hanesyddol - ers degawdau lawer - bod tai'n cael eu hadeiladu ar y sail eu bod yn mynd i gartrefu teuluoedd. Rydym ni'n gwybod mwy a mwy o bobl yn gynyddol sydd ar eu pennau eu hunain. Maen nhw wedi cael eu taro'n galed gan y dreth ystafell wely, yn enwedig yng Nghymru wledig, lle mae'n anodd dod o hyd i lety un ystafell wely y tu allan i drefi. O ran y pwynt cyntaf, wrth gwrs mae cynghorau wedi eu rhwymo i'w cynlluniau datblygu lleol eu hunain ac mae'n rhaid iddyn nhw gadw at y cynllun hwnnw, yn union fel y byddai unrhyw ddatblygwr arall yn gorfod ei wneud. | 611 |
Mae'n rhan o thema lle, yr ieuengaf yr ydych chi, y mwyaf y mae'n rhaid i chi ei dalu. Os daw i fudd-dal tai, os daw i fynediad at dai, os yw'n golygu cael eich troed ar yr ysgol forgais, ni fu amser anoddach erioed. Fe'i cefais yn rhwydd yn fy nghenhedlaeth i, fel y gwnaeth fy rhieni, ond mae'n llawer, llawer anoddach i bobl ifanc erbyn hyn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud pwynt bod angen gwneud mwy i helpu pobl ifanc i gael i mewn i lety. Mae hynny'n golygu peidio â gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu hoedran. Rydym ni'n ei weld yn yr un modd gyda'r isafswm cyflog. Does bosib os bydd rhywun yn gwneud gwaith, y dylai gael ei dalu ar yr un gyfradd beth bynnag fo'i oed. | 612 |
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fel Aelod Cynulliad yn y gogledd-ddwyrain, mae llawer o'm hetholwyr yn cael eu cyflogi mewn gweithleoedd mawr fel Airbus. Mae'r bleidlais i adael yr UE wedi creu ansicrwydd i'r bobl hyn a'u teuluoedd yn ogystal â'r cannoedd a gyflogir drwy'r gadwyn gyflenwi sy'n ddibynnol ar y safle awyrofod hefyd. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i'r gweithlu a'u teuluoedd y bydd y Llywodraeth hon yn ymladd dros eu bywoliaeth yn y dyfodol a'r trysor diwydiannol yng nghoron y gogledd? | 613 |
Yn dilyn ymlaen o'r pwynt hwnnw, a yw Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i gynnal dadansoddiad cychwynnol o leiaf o rinweddau cymharol y gwahanol ddewisiadau Brexit - amrywiaeth ddryslyd iawn, o bosibl - sydd wedi cael eu crybwyll: Norwy, y Swistir, Canada a Singapore, hyd yn oed, yn rhyfedd iawn? Yn enwedig oherwydd pwysigrwydd cadw mynediad at y farchnad sengl, fel y mae newydd ei ddweud, a yw wedi dod i'r casgliad, fel y mae llawer yn y gymuned fusnes, mai EFTA AEE sy'n edrych fel y dewis lleiaf gwael ar y bwrdd ar hyn o bryd o bosibl? | 614 |
Brif Weinidog, fel Aelod etholaeth yn Aberconwy, rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd gwerthfawr Airbus ym Mrychdyn gyda'r swyddi - 6,000 o swyddi - y maen nhw'n eu darparu. Gwn eu bod wedi dweud mewn datganiad ar ôl refferendwm eu bod wir yn gobeithio gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth i'w gweithwyr ac, yn wir, i barhau â'u gweithrediadau yma. Sut y byddwch chi, fel Prif Weinidog, a'ch Llywodraeth Cymru yn rhoi'r sicrwydd y mae'n debyg sydd ei angen arnynt ar hyn o bryd? A ydych chi wedi ymweld â nhw? A ydych chi wedi dod i fyny i'r gogledd ac ymweld ag Airbus er mwyn cael y trafodaethau lefel uwch reolwyr hynny, fel eu bod yn cael y sicrwydd hwnnw y byddwch yn gweithio yr un mor galed â Llywodraeth y DU i'w cynorthwyo? | 615 |
A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau, ac nid wyf yn awgrymu mewn unrhyw ffordd eich bod chi'n rhan o hynny, yn ystod y 1970au, bod Ffrainc a Phrydain wedi cydweithio i adeiladu Concorde? Rwy'n credu mai 'entente cordiale' oedd ei enw, ymhell cyn i ni ddod yn aelodau o'r UE. Y casgliad o hyn, wrth gwrs, yw y bydd materion yn Airbus yn parhau yr un fath a bod y ddadl hon nawr yn enghraifft arall o godi bwganod, a gawsom ni cyn Brexit ac sy'n parhau nawr ar ôl Brexit. | 616 |
Mae'n iawn i ddweud bod cyfarwyddebau'r UE wedi sbarduno llawer o'n deddfwriaeth ansawdd aer a byddwn yn edrych ar y rhain ar sail achosion unigol ar ôl i ni gytuno ar y safbwynt negodi ar gyfer gadael, ond caiff rheolaeth ansawdd aer lleol ei sbarduno gan Ddeddf yr amgylchedd 1995. | 617 |
Fel y dywedais yn gynharach, bydd yr hyn sydd eisoes wedi ei drosi i gyfraith Cymru yn aros yng nghyfraith Cymru. Mater i Lywodraeth Cymru wedyn ac, wrth gwrs, i'r Cynulliad, yw penderfynu pa ddeddfau ddylai aros wedyn. Ond, mae'n werth nodi mai cymhellion Ewropeaidd sydd wedi galluogi'r DU i wella ei sefyllfa. Roedd gan y DU enw gwael, yn amgylcheddol, fel ffynhonnell o law asid. Cefais fy magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle'r oedd Afon Ogwr yn llifo mewn gwahanol liwiau, yn llythrennol, yn ôl yr hyn a oedd wedi cael ei daflu i mewn iddi i fyny'r afon o rai o'r ffatrïoedd ac, wrth gwrs, y pyllau glo a oedd yn bodoli i fyny'r afon. Felly, roedd yn llifo'n goch, yn wyrdd, yn ddu - enwch unrhyw liw. Nid yw'n digwydd nawr; mae'n afon y gallwch chi weld ei gwaelod erbyn hyn. Yn Afon Taf, fel y gwyddom, ceir rhediad eogiaid sy'n mynd i fyny'r afon , a fyddai wedi bod y tu hwnt i amgyffred 30 mlynedd yn ôl gan fod yr afon mor llygredig. Mae llawer o'r sbardun hwnnw wedi dod o Ewrop mewn gwirionedd, er mwyn gwneud yn siŵr bod y DU yn dal i fyny â'r gweddill. Yr hyn yr wyf i eisiau ei sicrhau yw nad ydym ni'n colli'r cymhelliad sydd wedi bodoli dros y 30 mlynedd diwethaf. | 618 |
Nid wyf yn credu ei bod yn annirnadwy, o ystyried yr hyn yr wyf i wedi ei glywed am ffracio a chloddio glo brig; nid wyf yn credu ei fod yn annirnadwy. Cyflwynwyd y Ddeddf Aer Glân gan fod pobl yn llythrennol yn syrthio'n farw yn Llundain oherwydd niwl gwenwynig yn y ddinas honno. Nid oedd llawer o ddewis heblaw cyflwyno deddfwriaeth ar yr adeg honno. Ond, yn sicr, yn y 1980au, roedd ein hafonydd yn dal - . Roedd afon yn Swydd Efrog a fyddai'n mynd ar dân, pe byddech chi'n taflu matsien i mewn iddi; roedd gennym ni afonydd yng Nghymru a oedd yn hynod lygredig; nid oedd ein traethau'n lân; roedd ansawdd ein haer yn wael iawn, iawn. Mae hynny i gyd wedi gwella'n aruthrol dros y 30 mlynedd diwethaf, ac rydym ni wedi cael ein gyrru i'r cyfeiriad hwnnw, a dweud y gwir, gan yr Undeb Ewropeaidd; fel arall, ni fyddem wedi ei wneud ein hunain. Rwy'n bwriadu gwneud yn siŵr y bydd yr amgylchedd y mae pobl Cymru wedi dod i'w fwynhau, yr amgylchedd y mae pobl wedi dod i'w haeddu, yn parhau felly yn y dyfodol, ac na fydd yn mynd yn ôl i'r dyddiau pan oeddwn i'n fachgen ifanc, pan oedd yr afonydd yn llygredig, pan oedd tomennydd sbwriel ym mhobman, tan iddyn nhw gael eu clirio, ac yr oedd pobl yn disgwyl y byddai pethau yn aros felly. Nid yw hynny'n wir; rydym ni'n wlad erbyn hyn lle y gallwn fod yn falch o'n hamgylchedd. | 619 |
Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod masnach ryngwladol yn golygu y bydd nwyddau'n symud o gwmpas y byd. Rydym ni'n hynod ddibynnol ar allforion yng Nghymru. Y peth olaf y byddem ni eisiau ei wneud fyddai cyfyngu ar ein gallu i allforio. Wrth gwrs, rydym ni eisiau caffael pethau mor lleol â phosibl, lle gellir gwneud hynny, ac mae ein strategaeth gaffael yn adlewyrchu hynny. | 620 |
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Er 2007, mae prosiectau'r UE wedi creu 11,900 o fentrau a tua 37,000 o swyddi. Mae'r arian UE hwn wedi helpu 72,700 o bobl i mewn i waith, wedi helpu mwy na 229,000 i ennill cymwysterau, ac wedi ariannu 56,000 o bobl i mewn i ddysgu pellach er 2007. O dan y rhaglenni £1.8 biliwn presennol a gefnogir gan yr UE, ymrwymwyd mwy na £700 miliwn o arian strwythurol yr UE eisoes, a dim ond 40 y cant o gyfanswm y dyraniad ar gyfer y cyfnod 2014-20 yw hynny. Felly, a all y Prif Weinidog nodi pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd - ac rydym ni eisoes wedi clywed yn gynharach am addewidion a gwarantau R.T. Davies yn hyn o beth - er mwyn sicrhau bod addewid yr ymadawyr na fydd cyllid Cymru yn cael ei effeithio yn cael ei gadw, yn wahanol i'r addewidion eraill a dorrwyd yr ydym ni wedi eu clywed am roi £350 miliwn yn ychwanegol i mewn i'r GIG? Diolch. | 621 |
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rydw i'n falch bod y Llywodraeth wedi rhoi ymrwymiad i ddatblygu cynllun busnes ar ddeuoli pont Brittania. Rydw i'n meddwl ein bod ni'n disgwyl datblygiad ar hynny yn fuan. Ond mae hwn yn broject y gallem ni fod wedi disgwyl gwneud cais am arian Ewropeaidd fel cyfraniad tuag ato fo, oherwydd pwysigrwydd yr A55 fel rhan o'r rhwydwaith drafnidiaeth Ewropeaidd. A gaf i ofyn beth yw barn y Prif Weinidog ynglŷn â'r posibilrwydd o golli y ffynhonnell yna o arian rŵan, ac a wnaiff o roi ymrwymiad i bwyso ar Lywodraeth Prydain, os ydy'r ffynhonnell yn cael ei cholli, i sicrhau bod yr arian yn dod fel rhan, o bosibl, o ryw 'Marshall plan' ar gyfer economi Cymru rydym ni wedi ei grybwyll fel plaid? | 622 |
Rŷm ni'n nawr yn symud ymlaen i'r cwestiwn brys rwyf wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rydw i'n galw ar Simon Thomas i ofyn y cwestiwn brys. | 623 |
Diolch am y cadarnhad hwnnw, Brif Weinidog. Rwy'n gobeithio y byddwch chi yn cyhoeddi'r llythyr rydych chi wedi ei ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, a'i hateb hithau hefyd atoch chi. Er gwaethaf beth rŷm ni wedi ei glywed yn y Siambr heddiw, fe ddywedodd llefarydd ar ran Theresa May ddoe, wrth esbonio'r safbwynt a fynegwyd yn Nhŷ'r Cyffredin: 'we do not want to give away our negotiating position at the start.' I mi, mae hynny'n swnio fel bod dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu trin fel gwerin gwyddbwyll, ac yn cael eu symud o gwmpas am resymau gwleidyddol. Mae yna 67,000 o bobl o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn byw yng Nghymru, 500 ohonyn nhw yn feddygon yn ein gwasanaeth iechyd ni. Nid oes modd i ni golli'r bobl hyn, a, beth bynnag, maen nhw'n rhan o'n teuluoedd ni, yn rhan o'n cymunedau ni ac yn rhan o'r Gymru fodern. Mae'n warthus fod y bobl hyn yn cael eu trin yn y ffordd maent wedi cael eu trin yn ystod yr wythnos diwethaf oherwydd etholiad tu fewn i un blaid, sy'n blaid leiafrifol yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae'n rhaid inni yrru neges gadarn o Gymru bod yna groeso i'r bobl yma yn ein cymunedau ni, ein bod ni'n moyn iddyn nhw aros, ein bod yn mynd i'w croesawu nhw a gwneud popeth y gallwn ni i ddangos hynny. Roedd yna ddigwyddiad ar y prom yn Aberystwyth dydd Sadwrn - nid wyf yn gwybod os gwelsoch chi fe yn y cyfryngau; ni chafodd lot o sylw, ond roedd yna 400 o bobl yno yn sefyll yn gadarn, ochr yn ochr â ffoaduriaid, pobl o wledydd eraill, a phawb sydd wedi dod i orllewin Cymru. | 624 |
Treuliais ran o fore ddoe yn ceisio cael gwared ar slogan hiliol oddi ar ddrws ffrynt rhywun, ac, yn anffodus, nid yw'r mathau hyn o ddigwyddiadau yn anghyffredin. Beth all y Llywodraeth ei wneud yn eich barn chi i geisio lleddfu'r lefelau casineb y mae'n ymddangos bod y bleidlais Brexit hon wedi eu rhyddhau, yn ogystal â sicrhau ein bod yn cael cydweithrediad llawn awdurdodau lleol, yr heddlu a'r sector gwirfoddol i sicrhau y rhoddir taw ar y pethau hyn ac yr ystyrir eu bod yn annerbyniol? | 625 |
Mae gennyf un newid i fusnes heddiw. Mae'r datganiad ar dai a digartrefedd wedi'i dynnu'n ôl. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i ohirio dadl fer yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes sydd i'w canfod ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig. | 626 |
Diolchaf i Julie Morgan am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n gwybod ei bod wedi crybwyll hyn yn rheolaidd er mwyn dangos cefnogaeth i sicrhau bod penderfyniad yn cael ei wneud o ran yr anghydfod ynglŷn â'r amgueddfa genedlaethol. Wrth gwrs, cynigiodd Lywodraeth Cymru gefnogaeth a hefyd hwylusodd drafodaethau i ddod â'r pleidiau ynghyd ac i ddod â'r anghydfod i ben, ac, yn wir, gwnaeth ddarparu peth cyllid ychwanegol i'r amgueddfa genedlaethol i gynorthwyo gyda chostau o fodloni cynnig cyflog uwch. Mae hynny yn amlwg wedi'i gytuno arno yn ddiweddar gydag aelodau PCS. Credaf fod y cwestiwn ynghylch a allai Ysgrifennydd y Cabinet gynnig eglurder o ran y berthynas, yn un defnyddiol iawn. Mae gennym, mewn gwirionedd, ddogfen fframwaith, sy'n nodi ein trefniadau cyllido rhwng cyrff a noddir a'r Llywodraeth, ond credaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi eglurhad defnyddiol nid yn unig o ran yr amgueddfa genedlaethol, ond o ran cyrff noddedig eraill mewn cysylltiad â threfniadau cyllido. | 627 |
Diolch i chi, Nick Ramsay. Rwy'n siŵr fod sioe arddangos Cerdd Gwent yn arddangosfa aruthrol o dalent a sgiliau, ond hefyd o arbenigedd proffesiynol ac ymrwymiad y proffesiynau cerddoriaeth ac addysg. Ac, wrth gwrs, byddai wedi bod yn bartneriaeth, rwy'n siŵr, â llywodraeth leol, yn ogystal ag ysgolion, a gwn y bydd gan Ysgrifennydd y Cabinet ddiddordeb mawr i weld canlyniad hynny yn y De-ddwyrain. Wrth gwrs, mae'r digwyddiad arall yr ydych yn sôn amdano yn bwysig iawn - digwyddiad y Cyngor Prydeinig yr oeddech yn bresennol ynddo. Rydym yn gweithio gyda'r Cyngor Prydeinig, a hefyd sefydliadau a phrifysgolion iaith ar draws y byd, i rwystro a gwrthdroi'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern. Yn wir, rwy'n cofio digwyddiad yn fy etholaeth i, yn ysgol Bryn Hafren, sy'n arwain y blaen - ym mhob consortiwm ceir ysgol arweiniol - pan gyhoeddwyd 'Dyfodol Byd-eang' y llynedd, sef cynllun pum mlynedd i wella ac i hyrwyddo ieithoedd tramor modern. Felly, rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut mae'r cynllun hwnnw'n cael ei gyflwyno, ond mae'r Cyngor Prydeinig, a'i sefydliad iaith, yn rhan allweddol yn y datblygiad 'Dyfodol Byd-eang' hwnnw. | 628 |
Wrth gwrs, bydd Huw Irranca-Davies, ac eraill yn y Siambr hon, yn cael y cyfle i estyn y gwahoddiad hwnnw eto brynhawn yfory, yn weladwy ac yn lleisiol, yn y ddadl ar Araith y Frenhines. Gallaf ddeall eich siom bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gwrthod eich gwahoddiad, gan ei bod mor bwysig, ac er budd gorau'r ddwy ochr, er mwyn symud ymlaen â Bil Cymru. Ond rwy'n aros i'r gwahoddiad gael ei estyn eto brynhawn yfory, rwy'n siŵr yn fwy agored, yn y ddadl ar Araith y Frenhines. | 629 |
Wel, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog dros gymunedau a phlant yn croesawu'r cyfle hwnnw i egluro pa mor ddifrifol y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei hymroddiad i'r CCUHP, er mwyn sicrhau bod hawliau plant yn pwysleisio ein holl amcanion polisi, ac, yn wir, ein hamcanion a'n dibenion ariannol a chyllidebol hefyd. Mae hynny'n rhan o'n hasesiad ar effaith integredig strategol, ac, wrth gwrs, mae'n cyd-fynd â phapurau cyllideb drafft a therfynol gan Lywodraeth Cymru. Ond mater i'r Gweinidog dros gymunedau a phlant, unwaith eto, yw ymateb i hyn o ran cael yr wybodaeth ddiweddaraf, rwy'n siŵr, a bydd yn agored i dderbyn cwestiynau a chyfleoedd mewn pwyllgorau ac ar lefel cwestiynau llafar y Cynulliad. | 630 |
Wel, mae'r Aelod dros Ddwyrain Casnewydd wedi codi rhai cwestiynau pwysig iawn, yn arbennig o ran yr arolwg ONS diweddar hwnnw. Cyflwynwyd ynddo y ffigurau diweddaraf ar farwolaethau y gellir eu hosgoi yng Nghymru a Lloegr, ac roedd yn dangos y ffigurau 2014 hynny am y tro cyntaf. Ond gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ddatganiad llafar yn ddiweddar ynglŷn â phrif negeseuon arolwg iechyd Cymru, sef ein ffordd ni o edrych yn gyffredinol ar gyflwr iechyd y genedl. Maent, wrth gwrs, yn cael effaith fawr ar sut yr ydym yn mynd i'r afael â'r ffigurau hynny yn adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ond hefyd, credaf fod yr ymrwymiadau yr ydym wedi eu gwneud yn ein maniffesto yn adeiladu ar y sylfaen gref iawn yr ydym wedi ei gosod er mwyn gweithredu ymyriadau iechyd cyhoeddus priodol. Ynglŷn â'ch ail bwynt am ysgolion bro, mae hyn yn rhywbeth lle nad oes amheuaeth fod yn rhaid inni ddefnyddio ein cyfleusterau ysgol, nid yn unig er budd teuluoedd y disgyblion ond hefyd er budd y cymunedau ehangach. Mae angen hefyd inni edrych ar hyn o safbwynt defnydd cymunedol o asedau. Rydych chi wedi crybwyll cyfleusterau chwaraeon, ond hefyd gyd-leoli gwasanaethau allweddol. Mae cryn dipyn o'n mentrau, fel Dechrau'n Deg, hefyd wedi eu lleoli yn ein hysgolion, ond rydym yn gwybod hefyd, o ran mentrau dysgu oedolion a chyfleusterau ysgolion, ac yn wir eu tiroedd a'u cyfleusterau chwaraeon, wrth gwrs - bod angen i ni eu defnyddio i'r eithaf. Fe ofynnodd y Gweinidog blaenorol dros Addysg a Sgiliau i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ddarparu adolygiad a chyngor ar sut y gellir defnyddio cyfleusterau ysgol yn fwy helaeth. Felly hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at eu hadroddiad ar Gynyddu'r Defnydd o Gyfleusterau Ysgol, a gyhoeddwyd fis Mawrth diwethaf. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried yr adroddiad hwn a'i argymhellion. | 631 |
Wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth yr ydym am ei sicrhau, sef bod pobl yn gallu mynd i'r ardaloedd cefnogwyr lleol hynny. Maen nhw wedi dod yn hynod boblogaidd. Yr awdurdodau lleol, yn amlwg, ddylai sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud, yn ogystal â darparu cymorth ariannol ar eu cyfer mewn gwirionedd. Gall cefnogwyr fwynhau'r gêm hefyd, wrth gwrs, drwy gefnogi busnesau, tafarndai a bwytai lleol. Ond rwy'n credu o ran y pwynt a wnaethoch - y pwynt sy'n peri pryder mawr o ran bod pobl yn ceisio camfanteisio ar yr achlysuron hyn drwy werthu tocynnau rhad ac am ddim - rydym yn mynd i wneud datganiad cryf, rwy'n meddwl, o ganlyniad i'ch cwestiwn heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu hwnnw â mi. Rwy'n credu mai'r neges gyffredinol, wrth gwrs - ac mae hyn yn ymateb i Simon Thomas yn gynharach - yw, lle bynnag y byddwch chi'n gwylio'r gêm, gadewch i ni gefnogi Chris Coleman a'r bechgyn a gwneud ein gorau glas i'w calonogi ar gyfer buddugoliaeth fendigedig arall. | 632 |
Diolch i chi, Mark Isherwood, am dynnu sylw at y Diwrnod Sefyll Lan yn erbyn Bwlio, sy'n cael sylw heddiw ac rwyf yn gwybod ein bod ni i gyd yn cefnogi hynny. Yn wir, rwyf yn gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn edrych ar y polisïau - mae'n rhywbeth sydd, i ddweud y gwir, yn cael ei rannu ar draws y Cabinet; yr Ysgrifennydd addysg, wrth gwrs - o ran mynd i'r afael â bwlio. Rydym fel arfer yn cynnal wythnos ym mis Tachwedd sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â bwlio. Rwy'n meddwl eich bod wedi crybwyll bwlio ar-lein, ond, hefyd, rydym yn gwybod ein bod yn poeni'n fawr y gallai rhywfaint o'r cynnydd mewn troseddau casineb hefyd gael effaith ar blant a phobl ifanc yn ogystal, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn monitro hynny ac yn ymateb iddo yn briodol. Mae'n bwysig iawn ein bod ni yn canolbwyntio ar hynny unwaith eto yn awr, a bod Ysgrifenyddion y Cabinet sydd â'r cyfrifoldebau priodol yn edrych ar hyn yn ofalus iawn. O ran eich ail bwynt, rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru ar flaen y gad wrth gyflenwi ein seilwaith digidol o ran band eang cyflym iawn, nid yn unig yn ei gyflenwi â'n harian ni, ond hefyd, wrth gwrs, yn ei gyflenwi o ganlyniad i gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, sydd wrth gwrs dan gymaint o fygythiad yn awr yn sgil Brexit, ond yn amlwg yn cydnabod ei fod yn bartneriaeth sydd yn agos at gyrraedd ei tharged, wrth gwrs, a bydd ar flaen y gad o ran Cymru'n arwain y ffordd. | 633 |
Wel, wrth gwrs, mae Andrew R.T. Davies yn gwybod bod yr ardrethi annomestig, yr ardrethi busnes, wedi'u datganoli'n llawn ar 1 Ebrill 2015. Mae Llywodraeth Cymru yn awr yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli'r gronfa ardrethi annomestig. Ac, wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys y risgiau sy'n gysylltiedig â chydbwyso rhyddhad incwm a thaliadau. Felly, mae'r gwaith o ailbrisio eiddo annomestig ar y gweill ar hyn o bryd, a daw i rym ar 1 Ebrill 2017, a bydd hyn wrth gwrs yn diweddaru prisiadau eiddo annomestig. Ond mater i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yw ymateb i'r pwynt hwn, ac rwy'n siŵr y bydd yn darparu diweddariadau. | 634 |
Yn ffurfiol. Gan nad oes yna siaradwyr eraill, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. | 635 |
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf yn deall nad oes neb wedi gwrthwynebu erioed o'r blaen, yn hanes y Cynulliad i sefydliad y pwyllgorau. Fodd bynnag, nid yw UKIP dan ddyled y consensws blaenorol hwnnw. Rydym yn bwriadu pleidleisio heddiw yn erbyn sefydliad y pwyllgorau polisi a deddfwriaethol ar y sail y cytunwyd arno gan y rheolwyr busnes eraill. Y rheswm yr ydym yn gwneud hyn yw nad yw cydraddoldeb, 4: 4, yn golygu cydbwysedd rhwng partïon. Dywedodd ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes wrthym i ddechrau nad oedd yn golygu cydbwysedd rhwng partïon. Beth newidiodd ynglŷn â hynny - [Torri ar draws.] Rwyf yn ôl. Ar hynny, nid oes dim wedi newid. Fodd bynnag, tarodd y pleidiau eraill fargen â Llafur i ildio ar y pwynt hwnnw yn gyfnewid am gadeiryddiaeth pwyllgorau dethol, yn enwedig o ran Plaid, sy'n cadeirio nid yn unig y Pwyllgor Cyllid ond dau bwyllgor polisi a deddfwriaethol. Oherwydd hynny, ni fydd y gwrthbleidiau cyfunol yn gallu diwygio Biliau yn erbyn y Llywodraeth. Mae buddugoliaeth wych Leanne Wood yn y Rhondda, a wnaeth leihau Llafur i ddim ond 29 yn erbyn 30 o Aelodau gwrthbleidiau, a gan nad oes grŵp Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad erbyn hyn, a'r Aelod Democratiaid Rhyddfrydol dim ond â'r hawl i gael un lle ar bwyllgor pe byddai hi'n dymuno ei dderbyn, mae hynny'n newid sylweddol iawn yn yr hyn yw'r Cynulliad hwn oherwydd na allwn ddiwygio deddfwriaeth yn y pwyllgor pe byddai'r gwrthbleidiau yn unedig ar unrhyw ffordd benodol o weithredu yn erbyn y Llywodraeth. Mae hynny wedi ei roi i ffwrdd, byddwn i'n haeru, yn gyfnewid am sawl cadeiryddiaeth ddethol. Ni fydd UKIP yn rhan o'r cytundeb hwnnw. Byddwn, fodd bynnag, yn trin y trefniadau y cytunwyd arnynt gan eraill gyda pharch. Byddwn yn cadeirio ein pwyllgor ni mewn ffordd ystyriol ar sail y dystiolaeth a byddwn yn cyfrannu ym mhob pwyllgor hyd eithaf ein gallu. Diolch. | 636 |
Ni fyddai D'Hondt wedi golygu dim byd o'r fath. Hyd yn oed ar bwyllgor o saith, byddai UKIP wedi cael un aelod yn ôl D'Hondt. | 637 |
Nid nawr. Rwyf wedi ymateb i'ch cwestiwn. Mae ymateb Plaid Cymru i hyn wedi bod yn glir iawn. Rydym eisiau gweld cydbwysedd gwleidyddol ar draws y strwythur pwyllgorau. Credwn ei bod yn bwysig iawn fod Cadeiryddion o'r gwrthbleidiau yn gyfrifol am bwyllgorau hanfodol megis cyllid a chyfrifon cyhoeddus, ac rydym yn credu ei bod yr un mor bwysig bod gennym drefniadau ar bwyllgorau polisi a deddfwriaethol sydd mewn gwirionedd yn cyflawni cyfraith Cymru y gellir ei gweithredu. Yn y pen draw, mae'r pwyllgorau yno i graffu ac i ymgymryd â sawl cam o ddeddfwriaeth, ond mae'r holl ddeddfwriaeth yn dod yn ôl i'r Cynulliad hwn, lle mae gennym swyddogaeth i'w chyflawni. Os byddwn yn uno fel gwrthblaid, gallwn bleidleisio a goresgyn y Llywodraeth ar yr holl ddeddfwriaeth, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gwneud hynny os gallwn ddod i gytundeb ar y materion hynny. Ond yr hyn sy'n bwysig iawn, yn fy marn i, yw bod gennym bwyllgorau ymarferol a Chadeiryddion da, effeithiol, a etholwyd yn annibynnol am y tro cyntaf. Mae hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer cryfhau'r Cynulliad hwn fel senedd wirioneddol, ac yn yr ysbryd hwnnw y mae Plaid Cymru wedi cytuno i'r trefniadau hyn. Ydy, mae hefyd yn golygu bod yr hyn sydd wedi ei ddisgrifio fel 'cadeiryddiaeth pwyllgorau dethol' - y byddwn i'n eu disgrifio'n hytrach fel cadeiryddiaethau pwysig, gwleidyddol yn nwylo'r gwrthbleidiau, a chredaf fod hynny'n bwysig hefyd, yn enwedig pan fyddwn yn craffu ar gyllid ac iechyd. Mae'r rhain i gyd yn bethau a fydd yn adfywio, rwyf yn gobeithio, y ffordd y mae ein pwyllgorau yn gweithio yn y Cynulliad. Am y rheswm hwnnw, gofynnaf i'r Cynulliad eu cefnogi er mwyn i ni allu symud ymlaen â'n gwaith pwyllgor. | 638 |
Rwy'n symud yn awr at y cynigion i ethol Aelodau i'r chwe phwyllgor arbenigol arall. Os nad oes unrhyw wrthwynebiad, rwy'n cynnig bod y pleidleisiau ar y cynigion i ethol yr Aelodau i'r chwe phwyllgor yma yn cael eu grwpio. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes gwrthwynebiad, fe dderbynnir y cynigion yma yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. | 639 |
Diolch i Mark Reckless am y cwestiynau yna. Mae fy neges heddiw am beidio â newid er mwyn newid yn seiliedig ar y neges glir iawn a ddaeth gan randdeiliaid yn ystod ein hymgynghoriad ar y dreth trosglwyddo tir. Roeddent yn gryf iawn o'r farn bod angen inni symud yn llyfn o'r gyfraith bresennol at y gyfraith newydd ac y byddai'r newidiadau - a byddwn yn cyflwyno newidiadau - ddim ond y rhai sydd eu hangen gan ganiatáu cwmpas ar gyfer mwy o newidiadau yn y dyfodol. Yr hyn a ddywedais yn fy natganiad - rwy'n ymddiheuro os na wnes i hyn yn ddigon clir - oedd, ers inni ymgynghori ar ein cynigion treth trafodiadau tir, bod newidiadau wedi digwydd yn yr Alban ac ar lefel y DU nad oeddent yn hysbys ar adeg yr ymgynghoriad, a thynnais sylw yn benodol at y dreth ychwanegol ar ail gartrefi, na ddaeth yn rhan o dirwedd yr Alban a'r DU tan ar ôl i'n hymgynghoriad ni ddod i ben. Rwy'n meddwl bod Mr Reckless wedi gofyn imi a oedd hwnnw'n bolisi yr oeddwn yn ei gefnogi. Dewch imi ddweud ei fod yn bolisi sy'n ddeniadol imi, ond mae'n rhaid inni ymgynghori arno. Ac felly, nid wyf yn dod i gasgliad tan ein bod wedi cael yr ymgynghoriad, ac roeddwn yn ceisio dweud yn fy natganiad y byddwn yn cyhoeddi dogfen ar gyfer ymgynghoriad yn ystod yr haf hwn, ac yna byddaf yn dod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol â chasgliadau cyn gynted ag y byddwn wedi elwa ar hynny. O ran cyfraddau treth incwm i Gymru, roeddwn yn cyfeirio at y newid arfaethedig yn Bil Cymru ac yn ceisio gwneud y pwynt, yn syml, os na fydd refferendwm, bod arnom angen rhyw fecanwaith i gymryd lle hynny, ac, i mi, hwnnw yw na ddylid trosglwyddo unrhyw gyfrifoldeb am dreth incwm i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn heb gytundeb penodol y Cynulliad Cenedlaethol hwn. | 640 |
Fel y siaradwyr cynharach, rwy'n meddwl bod angen inni symud yn ofalus ar hyn, yn enwedig oherwydd, fel y dywedwch yn eich datganiad, ei bod yn ymddangos bod pob treth a gawn, pob pŵer sy'n cael ei ddatganoli inni, yn arwain at ostyngiad tebyg yn swm y grant bloc, a gallai hynny mewn gwirionedd arwain at fwy o faich ar Gymru nag sydd gennym ar hyn o bryd o'r system ychydig yn ailddosbarthol sydd gennym, hyd yn oed os nad yw'n berffaith. Felly, rwy'n meddwl bod angen inni osgoi cymhellion gwrthnysig, ac, yn amlwg, mae'r dreth gwarediadau tirlenwi yn gwneud hynny, ond gellir ei defnyddio hefyd i ymdrin â chanlyniadau gwrthnysig. Cefais fy nharo gan fwriad San Francisco i godi treth cyflogres gymedrol iawn o 1.5 cant ar y cwmnïau uwch-dechnoleg - cwmnïau byd-eang fel Google, Amazon ac Uber, sydd ddim yn adnabyddus am eu brwdfrydedd i dalu trethi mewn unrhyw le yn y byd. Ond, pe byddai'n llwyddiannus, gellid defnyddio'r arian hwnnw i ddarparu tai fforddiadwy i deuluoedd ar incwm isel sydd wedi cael eu dadleoli gan yr union gwmnïau technoleg llwyddiannus hyn sydd wedi ei gwneud yn amhosibl i bobl barhau i fyw yn y ddinas. Felly, rwy'n meddwl bod yn rhaid inni sylweddoli, os yw polisïau cyni Llywodraeth y DU yn parhau, y bydd pwysau'n dal i fod arnom i ddod o hyd i ffyrdd newydd o roi hwb i refeniw yn y sector cyhoeddus, yn enwedig os ydym yn gweld gostyngiad mewn grantiau sector cyhoeddus yn dod gan Lywodraeth ganolog. Felly, a oes gennym y pwerau yn y dyfodol, pe byddem yn dymuno gwneud hynny, i addasu'r dreth trafodiadau tir i fod yn dreth gwerth tir, a allai roi gwell adlewyrchiad o lwc dda y rheini sy'n cael budd o gymunedau wedi'u cysylltu'n dda a gwasanaethau rhagorol i dalu mwy fel cyfrwng i wrthdroi'r ddeddf gofal gwrthgyfartal adnabyddus, yn ogystal ag osgoi talu treth? Efallai y gallech roi rhyw syniad o'r cyfeiriad teithio y gallai'r Llywodraeth fod yn awgrymu ein bod yn symud ynddo. | 641 |
A gaf i groesawu datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet, a'r sylwadau yn benodol ynglŷn â'r fframwaith gyllidol, a'r ymroddiad y bydd gan y Senedd hon gyfle i drafod a chytuno ai peidio y fframwaith maes o law? O edrych ar y cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth yr Alban, mae'n amlwg ei fod e'n ffrwyth llafur sylweddol iawn, ac rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi cael cydweithrediad ynglŷn â hynny ar gyfer ein trefniadau ni. Ond nid oes ganddo effaith deddf gwlad. A fyddai'n cytuno â fi y byddai sylfaen statudol i'r fframwaith gyllidol yn cynnig gwell gwarant i Gymru o'r ymroddiad i ariannu'n ddigonol, o'r egwyddorion bras sy'n sail i'r ymroddiad hwnnw, ac o beirianwaith i allu delio ag unrhyw anghydfod ac anghytundeb, pan fydd yn codi? | 642 |
Rydym nawr yn symud ymlaen i'r eitem nesaf, sef y datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y tasglu gweinidogol ar y Cymoedd. Ac rwy'n galw ar y Gweinidog, Alun Davies. | 643 |
Byddwn yn awgrymu'n ysgafn iawn i'r Aelod efallai y dylai ddarllen y datganiad cyn iddo ysgrifennu ei gyfraniad ato. Pe baech wedi darllen fy natganiad neu wedi gwrando arno, byddech wedi gwybod y byddwn yn ymgynghori â'r holl wahanol rannau o'r gymuned yr ydych wedi'u rhestru yn eich cwestiynau. A dewch imi ddweud hyn wrthych: mae'n eithaf digrif gweld unrhyw lefarydd y Ceidwadwyr yn dod yma i'r Siambr hon ac yn gwasgu eu dwylo ac yn crio eu dagrau ffug am y tlodi y maent wedi ei greu ar raddfa ddiwydiannol yn y cymunedau hyn. Gadewch imi ddweud hyn wrth lefarydd y Ceidwadwyr: mae effaith diwygiadau lles ar gymunedau i fyny ac i lawr ac ar hyd a lled Cymoedd y de yn gwbl ryfeddol. Rwyf yn gweld, yn fy etholaeth fy hun, colled o tua £60 miliwn o bocedi rhai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed a thlotaf yn y gymuned honno. Rydym yn gweld hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Gallwch ysgwyd eich pen, ond mae'n hollol wir ac rydym yn gweld effaith hynny. Rydym yn gweld yr effaith ar y teuluoedd hynny, ar y plant y buodd yn crio ei ddagrau ffug amdanynt, ac rydym hefyd yn gweld yr effaith, wedyn, ar fusnesau lleol a chymunedau lleol. Rydym yn gweld yr effeithiau hynny heddiw, ac mae'r gwaith hwn wedi ei gynllunio i liniaru'r anawsterau a'r problemau, yr argyfwng a'r anhrefn a achoswyd gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig. Gadewch imi ddweud hyn: byddwn, fel yr wyf wedi'i ddweud wrth ateb Bethan Jenkins, yn sefydlu targedau clir iawn. Yn amlwg, mae'r Gweinidog sgiliau ar y tasglu, felly bydd hi'n ymgysylltu'n llawn â'r agenda hon. Ond, rwy'n meddwl, os yw'r Ceidwadwyr yn dymuno cyfrannu'n gadarnhaol at y gwaith sy'n cael ei wneud, mae angen iddynt ddechrau drwy gydnabod lle'r ydym heddiw a'r rhan y maent wedi'i chwarae o ran creu'r dirywiad economaidd sy'n effeithio ar bobl a chymunedau Cymoedd y de. | 644 |
[Yn parhau.] - wedi gadael, a heb hyd yn oed drafferthu aros yn y Siambr hon am y drafodaeth am union ddyfodol y Cymoedd hynny y maent yn ceisio eu cynrychioli. Ond, a gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog? Does dim amheuaeth y bydd y fenter ôl-Brexit yn awr yn bwysicach fyth i gymunedau Cymoedd y de, fel yr ydym wedi'i ddweud. Ac nid wyf yn mynd i sefyll yma ac ailadrodd popeth sydd wedi cael ei ddweud. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae Bethan Jenkins wedi ei ddweud ac, yn amlwg, yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud. Mae cymaint i'w wneud; mae'n agenda enfawr ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am yr hyn y mae'n ei osod allan. Felly, hoffwn ganolbwyntio ar ddim ond un maes penodol y credaf ei fod wedi'i danddefnyddio'n ddifrifol yn y Cymoedd, sef hyrwyddo ein hamgylchedd a'n twristiaeth, gan gynnwys ein treftadaeth ddiwydiannol. Rwy'n falch iawn, felly, bod hynny'n elfen allweddol o agenda'r tasglu. Yn aml, rydym ni'n meddwl bod Cymru'n dibynnu'n drwm ar ei harddwch naturiol pan ydym yn edrych ar ddatblygu twristiaeth, ac mae hynny'n sicr yn wir yn fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, sydd wedi'i bendithio ag ardaloedd o harddwch naturiol. Ond, wrth gwrs, mae'n eithriadol o gyfoethog o ran ei threftadaeth diwydiannol ac undebau llafur. Mae gennym, er enghraifft, y Tŷ Weindio, Canolfan Treftadaeth Ddiwydiannol Cyfarthfa, Canolfan Treftadaeth Haearn Ynysfach, ac, fel y gwyddom, roedd Merthyr yn ganolog i ddiwygio gwleidyddol a datblygiad undebaeth lafur yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau, lle mae uchelgais y tasglu'n sôn am hyrwyddo ein hamgylchedd a'n twristiaeth, y bydd hyn yn bendant yn cynnwys hanes ein diwydiant a'n hundebau llafur, a ddylai fod yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth, gan gydnabod bod hyrwyddo agweddau ar ein treftadaeth yn gallu chwarae rhan arwyddocaol o ran creu swyddi a chefnogi adfywio? | 645 |
Rwy'n croesawu'r datganiad, ac rwy'n meddwl ei fod yn iawn, rwy'n meddwl, i gysylltu hyn â'r mynegiant o ddieithrio a risialodd i gynifer yn ein cymunedau yn y bleidlais 'gadael'. Tybed a yw hyn yn gyfle i ailfeddwl yn sylfaenol? Y patrwm a welsom, wrth gwrs, oedd llawer o bleidleisiau 'aros' mewn ardaloedd metropolitan, ac yn yr hen gymunedau glofaol ar draws Cymru a Lloegr, cafwyd pleidlais yn erbyn - cymunedau sy'n teimlo nad ydynt, efallai, wedi cael eu cysylltu â'r ffyniant trefol. Nid diferu i lawr, efallai, yw'r model sydd wedi bod ond diferu i fyny - crynodi ffyniant yn y dinasoedd, a rywsut byddai angen inni geisio ei gysylltu â'r Cymoedd. A oes angen model newydd arnom yn awr o ddatblygu economaidd? Ac, yn ogystal â'r tasglu, a allem mewn gwirionedd greu strwythur mwy hirdymor, gan edrych ar gorfforaeth datblygu ar gyfer y Cymoedd? Wyddoch chi, mae strategaethau'n wych, ond heb strwythurau, ni allwch gael darpariaeth hirdymor. | 646 |
Rwy'n cytuno â'r sylwadau sydd newydd gael eu gwneud bod arnom angen ailfeddwl sylfaenol o ran strategaeth fuddsoddi, ond hefyd ynglŷn â gwydnwch hirdymor buddsoddi a throi'r peth ar ei ben fel ein bod ni'n gweld y buddsoddiad yn llifo i mewn i'r Cymoedd. Ond hoffwn awgrymu dau beth. Un yw bod y metro, i mi, bob amser wedi bod yn fwy na'r metro fel y mae'n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Os ydym yn mynd i gael cysylltedd go iawn, rhaid iddo fod yn metro plws. Rhaid iddo fod yn bethau sy'n ymwneud â chysylltu'r cymunedau hynny na fydd byth ar gledrau ysgafn na chledrau trwm hen ffasiwn. Y bysiau cyflym iawn sy'n cysylltu cymunedau - nid dim ond i fyny ac i lawr, ond ar hyd a lled cymunedau; y tocynnau cyffredinol; a fforddiadwyedd yn ogystal. Hoffwn hefyd ddweud bod angen inni ailfeddwl, i godi ar y syniad a gynigiwyd gan Adam Price yno, sut yr ydym nid yn unig yn cysylltu pobl fel y gallant deithio allan o'r Cymoedd, ond dod i mewn i'r Cymoedd, ac mae hynny'n golygu buddsoddi mewn busnesau bach a microfusnesau sydd wedi'u gwreiddio yn y Cymoedd hynny ac yna sut yr ydym yn rhoi'r buddsoddiad hirdymor hwnnw i'w tyfu a'u tyfu a'u tyfu nhw â gwreiddiau dwfn yn y Cymoedd hynny. Ers rhy hir, rydym wedi bod yn dweud wrth ein pobl ifanc, 'Os ydych chi eisiau mynd ymlaen mewn bywyd, mae angen i chi symud allan.' Dewch inni wyrdroi hynny a dweud, 'Os ydych chi eisiau mynd ymlaen mewn bywyd, gallwch aros yma a chael dyfodol ffyniannus.' Ond mae fy nghwestiwn i'r Gweinidog mor syml â hyn: a wnaiff yn siŵr, wrth wneud hynny, nad yw'n taflu'r babi allan gyda'r dŵr, gyda phethau fel Dechrau'n Deg, cynlluniau prentisiaeth - ond sut yr ydym yn mynd i gynnal y cyllid ar gyfer y rhain yn awr ar ôl ein penderfyniad yn y dyddiau diwethaf, nid wyf yn gwybod - gyda phethau fel y cysyniad Sony yno, yn dod ag ysgolion a phobl ifanc i mewn i'w dysgu am y diwydiannau digidol, wedi'i sbarduno gan y sector preifat i lawr ym Mhencoed - sut ydym ni'n adeiladu ar y mathau hynny o bethau, ac a fydd yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag arweinwyr awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai yn fy ardaloedd i ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf? | 647 |
Rwy'n mynd i gymryd dau gwestiwn arall gan fod y cwestiwn cyntaf wedi cymryd cymaint o amser i'w ateb. David Melding. | 648 |
Rwy'n ddiolchgar i David Melding am y pwyntiau y mae'n eu gwneud. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth am anweithgarwch economaidd. Rwy'n gobeithio mai dyma rai o'r materion y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol wedi'i chynllunio, neu am gael ei chynllunio, i roi sylw iddynt oherwydd mae gennym faterion o anweithgarwch yng nghymunedau'r cymoedd. Ond fel y dywedwch, nid ydynt o ganlyniad i ddiweithdra yn unig, ond rhesymau eraill, hefyd, ac mae angen inni edrych ar y rhesymau hynny. Hefyd, wrth gwrs, mae angen inni edrych ar achlysuroli, os mynnwch chi, yr economi, lle nad oes swyddi parhaol llawn amser o safon uchel ar gael i bobl, ac mae'n rhaid iddynt weithio ar gontractau dim oriau, gweithio ar gontractau â llai o oriau, gweithio gwaith rhan-amser a methu mewn gwirionedd â chynnal y teulu yn y ffordd y byddent yn dymuno ei wneud. Felly, mae nifer o heriau gwahanol yno o ran yr agenda ehangach, ac rwy'n sicr yn cytuno â David Melding bod angen inni allu gwneud hynny. Roeddwn yn hapus iawn â gwaith TUC Cymru yn nhermau Gwell Swyddi, Agosach at Adref o ran edrych ar greu gwaith o fewn cymunedau'r Cymoedd, a sut y gall caffael cyhoeddus helpu gyda hynny. Rwy'n meddwl bod hynny'n bwynt sydd wedi'i wneud gan Blaid Cymru yn y gorffennol yn ogystal. Mae'n sicr yn fater y credaf y dylai'r Llywodraeth roi cryn bwyslais iddo. Yn olaf, dim ond i brofi amynedd y Llywydd, mae'r mater ynghylch gwrando ar bobl yn gwbl hanfodol. Dyna pam yr oeddwn yn awyddus i wneud y datganiad hwn heddiw, cyn y toriad, er mwyn imi allu treulio rhywfaint o amser yn ystod yr haf yn gwrando ar bobl, oherwydd yn aml iawn mae'r hyn yr ydym yn ei glywed ar gerrig drysau yn wahanol i'r hyn yr ydym yn ei glywed ac yn ei ddarllen gan newyddiadurwyr a gan wleidyddion sy'n meddwl eu bod yn gwybod orau. Rwy'n meddwl ei bod yn ddyletswydd arnom ni i gyd i wneud mwy na dim ond gwrando, ond mynd ati i geisio gwrando a chlywed beth sy'n cael ei ddweud wrthym, ac nid dim ond gwneud hynny fel ymarfer ticio blwch. | 649 |
Rwy'n cytuno'n llwyr. Rwy'n meddwl bod ffordd goedwig Cwmcarn yn adnodd gwych inni i gyd, ac nid dim ond i'r rhai ohonom sy'n byw yn y Cymoedd. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei lle ac wedi clywed y pwyntiau yr ydych wedi eu gwneud. Ac, yn sicr, bydd y gwaith yr wyf yn credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymwneud ag ef yn sicrhau bod taith olygfaol Cwmcarn ar gael i bobl yn y dyfodol. Mae'n enghraifft dda iawn o sut mae amgylchedd a daearyddiaeth a thirwedd y Cymoedd yn rhywbeth sy'n gallu darparu, nid dim ond mwynhad a phleser i'r rhai ohonom sy'n byw yno, ond gall hefyd sicrhau ein bod yn cael effaith economaidd, ac un y mae angen inni ei harneisio a'i defnyddio ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. | 650 |
Diolch, Simon Thomas, am y cwestiynau yna. O ran brechu, soniais fod brechlyn ar gael a dyma'r unig ddull effeithiol o amddiffyn anifeiliaid a allai fod yn agored i'r tafod glas. Yr amser gorau i frechu yw yn gynnar yn y flwyddyn, cyn i'r tywydd cynnes ddod, a gwn ein bod yn dal, o bosibl, i aros amdano. Bydd hynny wedyn yn darparu amddiffyniad. Felly, rwy'n meddwl bod y math hwnnw o waith wedi ei wneud yn gynharach yn y flwyddyn, ond, yn amlwg, wrth i ni fynd drwy'r haf, mae'r brechiad hwnnw yn dal i fod yn berthnasol pe byddai ffermwyr eisiau gwneud hynny. Soniais y byddai brechiadau yn cael eu rhoi ar gael gan wneuthurwyr, ac, mewn gwirionedd, mae dau wneuthurwr brechlyn wedi datgan eu bod yn bwriadu sicrhau bod eu brechiadau ar gael o'r mis hwn ymlaen, felly mae honno'n drafodaeth y mae'r prif swyddog milfeddygol a'i chynghorwyr yn ei chael. O ran capasiti, rwy'n credu gan fod gennym gymaint mwy o filfeddygon yn mynd allan i ffermydd i gynnal profion ar gyfer TB, er enghraifft, erbyn hyn, rwy'n credu pan fo'r milfeddygon hyn yn mynd ar y fferm, maent yn gwneud gwaith ychwanegol, os mynnwch chi, oherwydd maent yn ymgysylltu â ffermwyr ac yn sôn am fioddiogelwch a'r hyn y gall ffermwyr ei wneud i amddiffyn yn erbyn clefydau. Felly, rwy'n hapus iawn â'r capasiti sydd gennym ni ar hyn o bryd. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â milfeddygon sydd gennym o'r UE, ac, fel y dywedwch, rydym yn gwerthfawrogi eu gwaith yn fawr iawn ac yn sicr mae croeso mawr iddynt yng Nghymru. Roeddwn i'n falch iawn o wneud y cyhoeddiad ynghylch y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae'r cyfleusterau sy'n cael eu rhoi ar waith yno - nid ysgol filfeddygol gyflawn, ond rwy'n meddwl ei fod yn gam cyntaf pwysig y gallwn adeiladu arno. | 651 |
Diolch. Rydym nawr hanner ffordd drwy'r amser sydd wedi ei neilltuo, ac mae gennym dri siaradwr. Galwaf ar Dawn Bowden. | 652 |
Wel, mae gennym system gymhleth o drefniadau contract wedi'i sefydlu i ddarparu dysgu yn y gwaith drwy system o brif gontractau ac wedyn is-gontractau; ac mewn gwirionedd, mae'n ddarlun eithaf cymhleth. Weithiau, mae'r colegau addysg bellach yn is-gontractwyr i'r prif gontractwr ac i'r gwrthwyneb. Yr hyn y gallaf ei gadarnhau i'r Aelod yw ein bod yn rhoi cryn flaenoriaeth i anghenion dysgu sy'n seiliedig ar gymwysterau sy'n seiliedig ar gyfleoedd cyflogaeth penodol, fel y nodwyd drwy'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Rydym yn adolygu'r ffordd yr ydym yn ariannu'r rheini, gyda'r bwriad - fel y dywedais wrth ateb y cwestiwn blaenorol - o fod mor hyblyg â phosibl, o fod mor gyfrifol ag y bo modd, yn dibynnu ar yr hyn fydd yn digwydd. Mae'n gwestiwn cymhleth a manwl iawn a bydd y Llywydd yn flin iawn â mi os gwnaf ei ateb yn fanwl. Felly, rwy'n fwy na pharod i gael trafodaeth arall gyda chi mewn man arall. | 653 |
Byddwn yn awr yn symud ymlaen at eitem 10 ar yr agenda, i drafod y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon i gynnig y cynnig - Vaughan Gething. | 654 |
Diolch ichi am gymryd yr ymyriad. A fyddech chi hefyd yn cydnabod mai un o'r problemau gydag amseroedd aros hir o'r fath ar gyfer gwasanaethau CAMHS yw bod y bobl ifanc hynny wedyn yn cael eu taflu yn ôl i wasanaethau lleol a ddarperir gan gynghorau sir, pobl fel y tîm anableddau, y tîm o amgylch y teulu, ac mae'n rhoi y rheini dan bwysau aruthrol ac yn mynd â nhw oddi wrth y bobl a ddylai fod yn brif gyfrifoldeb iddynt? | 655 |
A ydych yn rhannu fy mhryder, y pryder a fynegwyd i mi gan yr elusen Mind Cymru, bod cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru wedi cael ei greu ar gefn tystiolaeth annigonol oherwydd nad yw data iechyd meddwl megis amseroedd aros ar gyfer therapïau siarad yn cael eu casglu yn ddigonol? | 656 |
Ie, mi fuaswn i'n cytuno, achos mae'r holl system o dan straen. Fe allem ni i gyd wneud efo lot mwy o amser i ymdrin â phobl, ac, unwaith rwyf i wedi penderfynu fy mod yn mynd i arallgyfeirio claf i rywle arall, rwyf eisiau iddo fo gael ei weld, achos beth sy'n digwydd os oes yn rhaid chi aros chwe mis, yw eich bod chi'n mynd yn ôl i weld y meddyg yna, sydd o dan digon o straen yn barod, ac nid ydym yn gallu cynnig dim byd gwahanol i chi. Dyna pam mae'n rhaid i ni fynd i'r afael efo rhestrau aros a chyflogi rhagor o weithwyr yn y maes. Diolch yn fawr iawn i chi. | 657 |
Diolch yn fawr iawn. Rwyf eisiau cytuno'n gryf â'ch sylwadau a'u cymhwyso yn benodol i'r pwysau sy'n wynebu CAMHS. Mae nifer yr atgyfeiriadau i CAMHS wedi cynyddu'n ddramatig, ond yn aml nid yw CAMHS yn gallu rhoi'r cymorth sydd ei angen ar deuluoedd, a'r gwytnwch a'r offer sydd eu hangen arnynt. Dyma lle y gallai'r trydydd sector yn arbennig gynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd. | 658 |
Diolch i chi, ac rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth Rhun ac yr ydych wedi'i ateb. Fodd bynnag, lle mae'n methu yw mewn lle fel hyn: er enghraifft, atgyfeiriad brys ar gyfer CAMHS os yw plentyn sy'n cael ei weld am ei fod yn hunan-niweidio ac wedi dweud ei fod yn mynd i ladd ei hunan. Os yw'r plentyn hwnnw yn awtistig, yna nid yw'n cael y cymorth hwnnw, oherwydd bod CAMHS yn dweud nad yw hynny'n un o'r anhwylderau y maent yn ymdrin â hwy. Mae hwn yn achos parhaus yn fy etholaeth i, ac mae'n sefyllfa hollol chwerthinllyd, lle mae plentyn yn bodloni un set o feini prawf, ond, oherwydd ei fod yn digwydd bod ag anhwylder penodol, mae'n cael ei eithrio o'r broses CAMHS, ac felly wedyn mae'n cael ei wthio yn ôl i mewn i'r gwasanaethau cymdeithasol. Dyna'r math o eglurder sydd ei angen mewn sefyllfa fel hon. | 659 |
Ar y pwynt hwnnw yn benodol - ac mae'n bwynt cyffredinol ar gyllid - mae cyllid ar gyfer CAMHS yn ymddangos, ar yr olwg gyntaf, i fod wedi mynd i lawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. A allech chi egluro ai mater o godio ble yn union y daw'r cyllid ar gyfer trin rhywun 16 mlwydd oed a throsodd o fewn y gwasanaeth iechyd, neu a fu dirywiad yn y cyllid ar gyfer pobl ifanc? | 660 |
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r ddadl ar ailenwi y Cynulliad Cenedlaethol. Cyn i mi alw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig ac agor y ddadl, hoffwn wneud datganiad byr. Mae'r Cynulliad bellach yn lle tra gwahanol i'r un a etholwyd yn 1999. Mae nawr yn pasio Deddfau a'n cytuno trethi, yn ogystal â dwyn y Llywodraeth i gyfrif a rhoi canolbwynt i drafodaethau democrataidd ar faterion o bwys i bobl Cymru. Mae'n briodol felly i ni ystyried o ddifrif ailenwi'r sefydliad. Mae Mesur Cymru sy'n cael ei ystyried yn San Steffan ar hyn o bryd - o bosib wrth ein bod ni'n siarad - yn darparu'r pwerau i'r Cynulliad newid ei enw. Er mwyn cyflawni hyn, bydd rhaid cyflwyno'r ddeddfwriaeth yma, yn unol â threfniadau ein proses deddfwriaethol a bydd angen i ddwy ran o dair o'n haelodaeth gefnogi'r ddeddfwriaeth yma. Mae sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer unrhyw gynnig felly yn allweddol. Os cymeradwyir y cynnig heddiw felly, y camau nesaf fydd i ymgynghori yn fuan ar yr hyn dylai'r enw fod. Mae yna sawl enw posib a sawl term cysylltiol sy'n deillio o'r dewis. Rhaid ystyried pa mor fuan dylid gwneud y newid ac ystyried sut rydym yn cyfathrebu'r newid yn glir a symboli hyn. Dylai'r enw barhau i ysgogi hyder a balchder ymysg bobl Cymru. Byddaf yn trafod y materion yma ymhellach gyda fy nghyd-Gomisiynwyr ar y cyfle cyntaf ac yn hysbysu'r Cynulliad o'r camau nesaf ar gychwyn tymor yr hydref. Ond, am heddiw, edrychaf ymlaen at glywed sylwadau cychwynnol yr Aelodau ar ailenwi ein Cynulliad Cenedlaethol. I gyflwyno'r cynnig, rwy'n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones. | 661 |
Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn ei henw hi. | 662 |
Ydych chi'n credu er hynny pe byddech yn ei roi yn y Gymraeg yn unig, na fyddai gennych hyd yn oed y broblem bosibl o bobl yn camddeall pa un ai Senedd Cymru ynteu Senedd y DU yr oeddech yn sôn amdani? Yn y Gymraeg, felly, byddai'n unigryw ac yn sefyll drosti ei hun, neu a fyddech chi'n anghytuno â hynny? | 663 |
Fel pawb arall, rwyf yn croesawu'r ddadl hon, er fy mod yn meddwl tybed, ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, a allent fod yn ei ystyried fel rhyw fath o fogailsyllu ymhongar braidd ac nad ydynt yn poeni fawr am yr hyn yr ydym yn galw ein hunain - cyn belled ag y gallaf ddweud, maen nhw'n feirniadol iawn o'r hyn yr ydym yn ei wneud yn y lle hwn. Ond, mae nifer ohonom, wrth gwrs, wedi bod yn Aelodau Seneddol mewn lle arall, ac rwyf i'n bersonol yn croesawu'r ffaith bod gennym bellach y cyfle i greu senedd wirioneddol yno, yn hytrach na'r un a fu gennym yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Ond, pan fydd Bil Cymru yn cael ei basio a phwerau trethu yn cael eu datganoli i'r sefydliad hwn, bydd, wrth gwrs, dadl wirioneddol i alw ein hunain yn senedd, gan fod trethu a chynrychiolaeth wedi cyd-fynd yn draddodiadol ym meddyliau pobl sy'n cefnogi democratiaeth. Rwyf i'n bersonol yn eithaf hoff o'r syniad o gael 'Senedd' fel enw, ac rwyf yn mwynhau bod yn 'Aelod o'r Senedd', a tybed a fyddai hynny'n ein gwneud i ni yn seneddwyr, yn y pen draw, a beth fyddai barn y cyhoedd ar hynny. Fel y nododd Bethan Jenkins, mae hyn yn tarddu o'r hen Rufain, ac roedd yn golygu, wrth gwrs, os oeddech yn berson hen, roeddech yn cael eich ystyried fel bod yn ddoeth yn awtomatig, ac mae hon yn ddamcaniaeth yr wyf wedi closio ati - yr hynaf yr wyf yn mynd, y doethaf yr wyf yn mynd rwy'n credu. Ond nid oeddwn yn hoff o'i dadl ynglŷn â'r Cynulliad oherwydd ei fod yn cael ei alw yn hynny yn Cuba ac yn Ffrainc. Nid wyf yn awyddus i ddilyn esiampl yr un o'r ddwy wlad hynny. Ond rydym yn croesawu, yn ein plaid ni - a bydd gennym ni bleidlais rydd ar hyn hefyd - trafodaeth genedlaethol ar y pwnc hwn, ac rwy'n siwr, yn dilyn y refferendwm, y bydd yr un faint o ddiddordeb gan y cyhoedd yn ein trafodaeth ar yr hyn yr ydym yn mynd i alw ein hunain. Felly, nid oes gennym yn bendant unrhyw wrthwynebiad i'r Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad ystyried goblygiadau'r newid hwn ac, yn wir, ymgynghori mor eang â phosibl, ac yna byddwn yn dod yn ôl a thrafod y mater mewn modd gwirioneddol. | 664 |
Iawn, wel, efallai nad yw hyd yn oed yn hynny, ond mae hynny efallai yn pwysleisio fy mhwynt. Pe byddwn yn dechrau siarad am y Senedd yn nhafarn Wetherspoon's yn Nhreganna, prin fyddai'r bobl a fyddai'n gwybod beth yr oeddwn yn sôn amdano. | 665 |
Iawn, diolch, Lee; a gaf i barhau? Iawn, y swigen ddiwylliannol. Y pwynt yw ein bod ni mewn swigen wleidyddol - rwyf innau ynddi erbyn hyn hefyd - ond mae'n rhaid i ni gadw rhywfaint o gyswllt â'r byd go iawn y tu allan. [Torri ar draws.] Iawn, diolch. Yn nhafarn Wetherspoon's yn Nhreganna, prin fyddai'r bobl a fyddai'n gwybod beth oeddwn i'n sôn amdano pe byddwn yn dechrau sôn am y 'Senedd', a gallaf ddweud hynny wrthych o brofiad. Mae Bethan wedi crybwyll yr Urdd, Chwarae Teg a Merched y Wawr. Ie, ond y broblem yw nad yw'r rhan fwyaf o bobl y tu allan i drefedigaeth Gymraeg ei hiaith Pontcanna - y rhan fwyaf o'r bobl yng Nghaerdydd - yn gwybod beth yw'r pethau hyn. Ar y sail honno, rwyf yn ofni bod angen i ni anghofio am y term 'Senedd' hwn. Ar bob cyfrif defnyddiwch ef yn anffurfiol fel y cyfieithiad Cymraeg, ond nid fel prif enw'r sefydliad gwleidyddol hwn os gwelwch yn dda. Fel arall, rydym yn ymddieithrio'r Cynulliad ymhellach oddi wrth y rhan fwyaf o bobl Cymru. Diolch. | 666 |
Ac fe wnaf i gytuno i hynny, os nad oes yna wrthwynebiad i'r ddau welliant beidio cael eu cymryd. Nid oes yna wrthwynebiad. | 667 |
Yn awr, rŷm ni'n symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma yw'r bleidlais ar y cynigion i ethol Aelodau i'r saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynigion. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynigion 47 ac yn erbyn pump. Felly, mae'r cynigion wedi'u derbyn. | 668 |
A gaf i agor y bleidlais? Cau'r bleidlais. O blaid 47, yn ymatal 1, ac yn erbyn 0. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn. | 669 |
Mae'n gwybod fy mod yn cytuno ag ef yn llwyr yn ei ddadansoddiad ynglŷn â pham y gallwn gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu benodol yng Nghymru. Pam ar y ddaear y gwrthwynebodd y Blaid Lafur hynny yn y bleidlais yr wythnos hon? | 670 |
Rwy'n codi oherwydd ei bod wedi crybwyll y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac mae'r gwahoddiad hwnnw'n aros, gyda llaw. Y rheswm y mae'n aros yw oherwydd ein bod, yn ysbryd yr ymgysylltiad adeiladol a wnaed gan y Prif Weinidog, gan arweinwyr y gwrthbleidiau, a hefyd gan y Llywydd - gan gynnwys mynd mor bell ag awgrymu newidiadau hyd yn oed - yn teimlo o ddifrif y gallwn fod o gymorth adeiladol wrth graffu ar y Bil hwn, er mwyn ei wneud yn iawn. Oherwydd mae ganddo botensial i wella, ond mae ganddo hefyd botensial i wrthdroi datganoli mewn rhai meysydd. Felly, mae'r gwahoddiad yn aros. | 671 |
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod. A gaf fi fynd ag ef yn ôl ychydig o funudau pan soniodd am y cyllid gwaelodol, sy'n gytundeb gwleidyddol ac nid yw mewn deddfwriaeth fel y cyfryw? Ond wrth gwrs, cyn i ni dderbyn Bil Cymru i'w gymeradwyo'n derfynol yma a phasio'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a yw'n cytuno bod angen i ni weld fframwaith cyllidol ar waith - cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan - sy'n sicrhau nad oes unrhyw effaith andwyol ar ein perthynas ariannol os ydym yn cael datganoli wedyn ac yn datganoli trethiant ymhellach? | 672 |
Onid ydych yn credu ei fod yn gyfle i newid ffocws y dreth ar siwgr i wneud yn siŵr ei bod yn cynnwys pob math o siwgr mewn pob math o fwydydd? | 673 |
Yn fyr, os caf ymyrryd i ddweud fy mod yn croesawu ymateb adeiladol Ysgrifennydd Gwladol Cymru i barhau i drafod hyn, ac nid fy nghynnig terfynol oedd dau beint; rwy'n barod i fynd yn uwch. [Chwerthin.] | 674 |
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Byddwn yn pleidleisio yn electronig ar y pleidleisiau sy'n weddill ar gyfer yr eitem hon. Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15, fe gytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ddiwedd y ddadl, ac, oni bai fod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r bleidlais. Rwy'n galw felly am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, yn ymatal dim, ac yn erbyn 11. Mae'r gwelliant felly wedi'i dderbyn. | 675 |
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, yn ymatal dau, ac yn erbyn 10. Mae'r cynnig, felly, fel y'i diwygiwyd wedi ei dderbyn. | 676 |
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Nid oes prinder lleoedd ysgolion yng Nghymru. Er bod rhai ysgolion yn boblogaidd iawn ac nad oes ganddynt ddigon o leoedd ar gyfer pawb sy'n dymuno eu mynychu, nid wyf wedi derbyn unrhyw adroddiadau o brinder cyffredinol mewn unrhyw awdurdod lleol. | 677 |
Diolch i'r Aelod am ei eiriau caredig. Mae'n sicr yn brofiad gwahanol iawn i mi fod yn ateb cwestiynau yn hytrach na'u gofyn. A gaf fi ddweud wrth yr Aelod fod peth pwysau ar rai ysgolion mewn rhai rhannau o Gymru, ond nid oes prinder cyffredinol o leoedd mewn ysgolion yng Nghymru? Bydd yr Aelod yn ymwybodol o fy nghytundeb gyda'r Prif Weinidog i adolygu'r polisi ar leoedd gwag, yn enwedig gan ei fod yn effeithio ar y Gymru wledig, a byddaf yn dod yn ôl i'r Siambr cyn bo hir gyda chynigion ar sut y gallwn sicrhau nad effeithir yn andwyol ar ysgolion yng nghefn gwlad Cymru gan orbwyslais ar leoedd gwag. | 678 |
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn? Mae hi'n hollol iawn yn nodi nad yw mater lleoedd gwag yn un sy'n perthyn i ardaloedd gwledig yn unig; mae'n effeithio ar y ffordd rydym yn cynllunio darpariaeth mewn ardaloedd trefol hefyd, a bydd hynny'n ffurfio rhan o'r adolygiad. Mae gan Gaerdydd gynlluniau sy'n hysbys iawn i ehangu darpariaeth ysgolion mewn lleoliadau allweddol, yn enwedig ar lefel gynradd, ac mae eisoes wedi derbyn cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu ysgolion newydd, megis yr ysgol gynradd newydd ym Mhontprennau, y cefais wahoddiad ddoe i'w hagor yn nes ymlaen eleni. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw cynllunio lleoedd ysgolion digonol ar gyfer eu poblogaeth yn y cymunedau iawn, ac fe'u bernir gan Estyn ar ba mor effeithiol y maent yn gwneud hynny. Mae'r Aelod yn crybwyll mater teithio llesol. Dylem geisio annog mesurau teithio llesol lle bynnag y bo modd, er mwyn i bobl allu mynd i'r ysgol drwy gerdded neu ar y beic, a dylai hynny fod yn rhan o'r ystyriaeth wrth gynllunio a datblygu ysgolion newydd. Mae Bil Teithio Llesol (Cymru) 2012 yn nodi gofynion cyfreithiol ar gyfer awdurdodau lleol yn hyn o beth. Nid yw'n fater i mi ond i fy nghyd-Aelod o'r Cabinet, Ken Skates, ond rwy'n siŵr y byddai'r ddau ohonom eisiau sicrwydd, wrth ddatblygu ysgolion newydd, fod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i sicrhau bod plant yn gallu teithio'n ddiogel i'r ysgolion newydd hyn. | 679 |
A gaf fi ddiolch i'r Aelod? Rwy'n ymwybodol iawn o bryderon y rhieni hynny yn ardal Abertawe sy'n ceisio cael addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y cynllun Cymraeg mewn addysg blaenorol ar gyfer ardal Abertawe wedi ei gymeradwyo gan y Gweinidog blaenorol ym mis Mawrth eleni, ac yn wir, roedd y cynllun hwnnw'n nodi rhai o'r pwysau ar rieni sy'n chwilio am addysg cyfrwng Cymraeg. Cyflwynir y rownd nesaf o gynlluniau cyfrwng Cymraeg yn ardal Abertawe ar gyfer y cyfnod 2017-20 i fy adran cyn diwedd y flwyddyn hon, a byddaf eisiau bod yn gwbl hyderus fod yna gynllun cynhwysfawr, cynaliadwy a chyraeddadwy ar gael fel bod y rhieni sy'n gwneud y dewis cadarnhaol iawn hwnnw i anfon eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg yn cael cyfle i wneud hynny yn eu cymunedau, ac nad ydynt yn gorfod teithio pellteroedd hir i gyflawni hynny. | 680 |
Diolch i chi am hynny. Mae'r cyfrifiad ysgolion diweddaraf yn dangos mai'r maint dosbarth babanod cyfartalog yng Nghymru yw 25.4 o ddisgyblion. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gostyngir maint dosbarthiadau babanod yn Islwyn i 25, gan fod lleihau maint dosbarthiadau babanod yn fater pwysig i rieni ac y gall effeithio'n gadarnhaol ar lwyth gwaith athrawon? A pha bryd y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y gellir cyrraedd y targed ar gyfer Islwyn? | 681 |
Rwyf hefyd yn awyddus i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ei swydd newydd. Fy nghwestiwn cyntaf iddi yw - . Yn ôl datganiad i'r wasg gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, cafodd dros 7,500 o ddisgyblion yng Nghymru eu haddysgu mewn dosbarthiadau o fwy na 30 o ddisgyblion y llynedd. Ynddo hefyd, roeddech chi'n dyfynnu - eich dyfyniad chi - ein prif flaenoriaeth addysg yw torri maint dosbarthiadau. Fodd bynnag, mae cynghorydd i Lywodraeth Cymru, yr Athro David Reynolds, wedi dweud, Os edrychwch ar y dystiolaeth academaidd, nid ydych yn ennill llawer o leihau maint dosbarthiadau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw torri maint dosbarthiadau yn Islwyn ac mewn rhannau eraill o Gymru yn dal i fod yn brif flaenoriaeth iddi mewn addysg yng Nghymru? | 682 |
Rwyf wedi bod yn siarad â phenaethiaid yn ddiweddar sy'n pryderu ynglŷn â'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y polisi hwn. Maent hefyd yn pryderu bod ysgolion sydd â gormod o geisiadau eisoes ar eu cyfer - drwy leihau'r nifer safonol, gallai arwain at allu derbyn llai o ddisgyblion nag ar hyn o bryd hyd yn oed. Maent hefyd yn pryderu ynglŷn â gallu adeiladau'r ysgol i ymdopi â'r newidiadau a fydd yn deillio o'r polisi hwn, felly tybed pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei gynnig o ystyried y pryderon hynny. | 683 |
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w chwestiynau addysg cyntaf? Dechreuaf drwy ofyn iddi gadarnhau, efallai, unwaith ac am byth i'r Siambr, y bydd y cyllid ar gyfer y polisi maint dosbarthiadau rydym newydd fod yn ei drafod ac rydych wedi ymrwymo iddo, yn cael ei ddarparu ar wahân i'r addewid addysg o £100 miliwn a wnaed gan y blaid Lafur yn yr etholiad. | 684 |
Wel, rwy'n meddwl ei bod braidd yn siomedig fod yna amwysedd ynglŷn â hynny o hyd oherwydd nid yn unig ar y meinciau hyn, ond ar y meinciau eraill hefyd, mynegwyd pryder ynglŷn â'r diffyg eglurder ynghylch hynny. Efallai y gallech roi rhywfaint o eglurder i ni felly ynghylch y consortia rhanbarthol, sy'n parhau i hollti barn o fewn y sector addysg. Roedd eich maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol yn ymrwymo i ddiddymu'r cyrff hynny, ac roedd maniffesto Llafur yn cefnogi eu parhad. Felly, a allech roi syniad efallai ynglŷn â pholisi maniffesto pa blaid y byddwch yn ei ddilyn? | 685 |
Wel, beth yw problem y Democratiaid Rhyddfrydol gydag addewidion maniffesto? Nid wyf yn gwybod. Dyna ni. Iawn, wel, mae amwysedd yno o hyd. Gadewch i ni weld a ydych yn glynu at eich barn ar PISA, felly, oherwydd, 18 mis yn ôl, wrth holi'r Prif Weinidog ynglŷn â newidiadau'r Llywodraeth i dargedau PISA, fe ddywedoch ac rwy'n dyfynnu, ac yn ddiau, bydd llawer o'r rhain dros y misoedd nesaf: 'Os bu angen enghraifft arnom erioed o ddiffyg uchelgais llwyr y Llywodraeth hon, yna fe'i cafwyd yr wythnos diwethaf. Cafwyd gwared ar un o'r targedau yr oeddech chi fwyaf brwdfrydig drosto wrth ei amddiffyn yn y Siambr - er efallai na ddylem ni synnu, o ystyried bod cynghorydd eich Llywodraeth eich hun wedi dweud ei fod yn gwbl hurt. Yr ymateb gan eich Gweinidog yw targed uchelgeisiol newydd i'n rhoi ni yn yr un sefyllfa erbyn 2021 ag yr oedd yr Alban ynddi y llynedd. Nid ymdrechu i sicrhau uchelgais yw hynny, Brif Weinidog.' Eich geiriau chi. Felly, beth yw eich uchelgais, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a fyddwch, felly, yn gosod targedau newydd? | 686 |
Iawn. Diolch yn fawr iawn. Symudwn felly at lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar. | 687 |
[Yn parhau.] - ar faterion addysg yma yn y Senedd. [Torri ar draws.] Os yw'r Aelodau yn barod, rwyf am barhau. | 688 |
A gaf fi ddweud pa mor falch yr wyf y bydd Darren Millar yn fy nghysgodi? Ar ôl gweithio'n agos â'n gilydd dros y pum mlynedd diwethaf ar y pwyllgor iechyd, byddwn wedi gweld ei golli pe na bai'r newid wedi'i wneud. Fe fyddwch yn ymwybodol o ddatganiad y Prif Weinidog fod y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn flaenoriaeth ddeddfwriaethol i'r Llywodraeth; mae'n hen bryd ei gael. Rwy'n gwybod ei fod yn destun gofid i lawer nad oedd y Llywodraeth mewn sefyllfa i symud ymlaen â hyn yn y tymor diwethaf. Caiff y Bil ei gyflwyno i'r Cynulliad gan fy nghyd-Weinidog ac rydym yn gobeithio cyhoeddi Bil drafft cyn gynted ag y bo modd. | 689 |
Bydd yr Aelod yn ymwybodol, pan gyhoeddir y Bil, ochr yn ochr â hynny cyflawnir asesiad effaith rheoleiddiol a bydd yna asesiad ariannol hefyd, a fydd yn amlinellu'r adnoddau y bydd eu hangen er mwyn gallu gweithredu'r Bil hwnnw'n llwyddiannus. | 690 |
A gaf fi annog yr Aelod i ddarllen nid yn unig adran addysg maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ond y ddogfen gyfan? Mae llawer ynddo i'w argymell i chi. Mae gan y consortia ran bwysig i'w chwarae yn gwella addysg tra bo gennym system o 22 o awdurdodau lleol o hyd, y dangoswyd bod llawer ohonynt, yn y gorffennol, heb adrannau a swyddogaethau gwella addysg effeithiol o'u mewn. Yr hyn y mae'r Aelod yn hollol iawn yn ei ddweud yw bod adroddiad Estyn ar GwE, consortiwm gogledd Cymru, yn siomedig. Cyfarfûm â phrif arolygydd Estyn i drafod yr adroddiad hwnnw yr wythnos diwethaf. Cyfarfu fy swyddogion â chynrychiolwyr GwE ddoe. Nid yw'n ddigon da a bydd angen iddynt wella. Mae adroddiad Estyn ar y consortiwm yng nghanol de Cymru yn gwbl wahanol fodd bynnag. Cyhoeddir y pedwar adroddiad yn ystod yr haf, a byddaf yn cyfarfod â'r holl gonsortia ym mis Medi. Rwy'n disgwyl darpariaeth dda gan bob un ohonynt. Os nad yw hynny'n bosibl, bydd yn rhaid i ni ystyried rôl y consortia eto. Os na allant ychwanegu gwerth i gyrhaeddiad addysgol eu plant, bydd yn rhaid i ni ystyried eto. | 691 |
Diolch i'r Aelod. Gwn ei bod wedi gweithio'n galed iawn dros nifer o flynyddoedd ar y mater hwn. Yn wir, adolygodd Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad diwethaf y canllawiau i raddau helaeth o ganlyniad i'r gwaith ymgyrchu a wnaeth hi yn y maes hwn. Rwy'n arddel y safbwynt synnwyr cyffredin nad yw trefniadau teithio yn addas os nad ydynt yn ddiogel. Fel y soniais yn gynharach mae'r ddeddfwriaeth sydd ar waith, Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, yn gosod y gofynion statudol ar gyfer cludo plant o'r cartref i'r ysgol. Os nad yw llwybr yn cael ei ystyried yn ddiogel, yna ni ellir disgwyl i blentyn gerdded i'r ysgol. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw'r pellter rhwng y cartref a'r ysgol yn llai na'r meini prawf milltiroedd statudol ar gyfer cludiant am ddim. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi tua £150,000 i gyngor sir Castell-nedd Port Talbot er mwyn datblygu llwybrau i'r ysgol newydd, felly mae'n siomedig iawn clywed, er y gwariant hwnnw, fod rhieni'n dal yn bryderus. Byddaf yn gofyn i fy swyddogion, ar y cyd â rhai Ysgrifennydd y Cabinet dros ddatblygu economaidd sydd â chyfrifoldeb dros y Mesur teithio gan ddysgwyr, i ystyried hyn eto. | 692 |
Ar fy ngwir, Mike, rwyf wedi ymdrechu'n galed iawn i wneud yn siŵr fy mod wedi paratoi'n dda ar gyfer y cwestiynau hyn, ond nid oes gennyf y manylion hynny wrth law. Os yw'n dderbyniol i'r Aelod, byddaf yn ysgrifennu ato gydag union fanylion yr ysgolion sy'n cydymffurfio neu nad ydynt yn cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a'r cynlluniau sydd gennym. Rwy'n siŵr fod llawer o'r buddsoddiad yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn cyd-fynd â sicrhau bod ein hysgolion yn hygyrch i'n plant i gyd. | 693 |
Diolch i'r Aelod am y pwynt, sy'n un arbennig o berthnasol. Rydym yn gwybod, hyd yn oed ar y cam cynharaf, pan fydd plant yn dechrau yn yr ysgol, fod ein plant o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig eisoes ar ei hôl hi. Dyna pam, yr wythnos hon, fod Llywodraeth Cymru wedi lansio eu prosiect Parod i Ddysgu er mwyn ceisio rhoi gwybodaeth i rieni a gofalwyr am y pethau bach y gallant eu gwneud gartref i baratoi plant ar gyfer dechrau yn yr ysgol ac i wneud y cyfnod pontio hwnnw'n llwyddiant. Mae'r Llywodraeth hefyd yn cydnabod hyn yn natblygiad y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer ein disgyblion cyfnod sylfaen, a byddaf yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud yn y meini prawf hynny. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dechrau cynllun i weithredu ymrwymiad maniffesto'r Blaid Lafur i ddarparu 30 awr o addysg a gofal plant. Mae'n bwysig iawn fod y ddarpariaeth honno o safon uchel ac y gall fod ar gael i'r plant tlotaf hynny fel eu bod hwy, hefyd, yn gallu manteisio ar hynny. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi i edrych ar sut y gallwn wneud yn siŵr fod y pecyn addysg a gofal hwnnw'n goresgyn rhai o'r heriau sy'n wynebu ein plant o'n cefndiroedd mwyaf difreintiedig cyn iddynt ddechrau eu taith drwy'r ysgol. | 694 |
Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Fel mae'n ymwybodol, mae lot o drafodaethau wedi bod ynglŷn â sut gall colegau addysg bellach fod yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. A ydy'r Gweinidog yn cytuno y dylai'r rhaglen honno gynnwys colegau addysg bellach? Yn wir, ym maniffesto'r Blaid Lafur roedd addewid y byddai'r £2 biliwn o fuddsoddiad yn cynnwys colegau addysg bellach. Wrth gwrs, mae buddsoddi yn meddwl lot mwy nac adeiladau. A fydd y Gweinidog yn fodlon rhannu â ni yn y Cynulliad rhywbryd ei weledigaeth ar gyfer buddsoddiad cyfalaf a hefyd, efallai, ran o'r strategaeth benodol ar gyfer addysg bellach yng Nghymru? | 695 |
A gaf fi dynnu sylw'r Gweinidog at Goleg Penybont, a osodwyd ar y brig y llynedd o blith ein sefydliadau addysg bellach yng Nghymru mewn perthynas ag iechyd a lles, cymorth a chefnogaeth, gwybodaeth a chyngor, ac ymatebolrwydd i fyfyrwyr? Ond yn ogystal â lefelau ardderchog o foddhad myfyrwyr a llwybrau academaidd rhagorol, mae hefyd yn helpu i ddarparu prentisiaethau o safon ar y cyd â chyflogwyr lleol a rhanbarthol. Felly, a all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y sefyllfa bresennol gyda'r ardoll brentisiaethau mewn perthynas â Chymru? Mae'n ymddangos y gallem fod ar ein colled yn hynny o beth. Ond hefyd, ar ôl y bleidlais i adael yr UE, beth yw'r sefyllfa o ran yr arian o gronfa gymdeithasol Ewrop a oedd yn mynd tuag at brentisiaethau a chefnogi prentisiaethau? Sut y mae gwneud iawn am y diffyg a allai ddod yn amlwg bellach yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf a gwneud yn siŵr ein bod yn gallu cadw'r buddsoddiad hwnnw mewn prentisiaethau o safon yn ein colegau addysg bellach ledled Cymru? | 696 |
Rwy'n sylweddoli, Weinidog, fod prentisiaethau yn rhan o gylch gwaith Gweinidog portffolio arall, ond rwy'n siwr eich bod yn gwybod am gynllun prentisiaeth Sir Benfro, sy'n anelu at gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cael hyfforddiant yn y sector ynni ar draws Sir Benfro, cynllun a gefnogir gan sefydliadau megis Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, sy'n noddi cyflogwyr. Nawr, mae hon, wrth gwrs, yn enghraifft wych o fusnesau lleol a darparwyr addysg yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu prentisiaethau sy'n bwysig i'r economi leol. Felly, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog a chynorthwyo mwy o fusnesau i ymgysylltu â sefydliadau addysg bellach, fel Coleg Sir Benfro, fel bod colegau addysg bellach Cymru ar y blaen yn y gwaith o gyflwyno rhaglenni sy'n adlewyrchu marchnadoedd sgiliau lleol mewn gwirionedd? | 697 |
Rydym yn awyddus i drawsnewid disgwyliadau, profiadau a chanlyniadau i bob dysgwr, gan gynnwys dysgwyr mewn ysgolion arbennig. Bydd cyflwyno'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) sydd ar y gorwel yn garreg filltir allweddol yn y daith tuag at newid sydd eisoes wedi cychwyn. | 698 |
Diolch. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith a wnewch chi fel llywodraethwr ac eraill yn Trinity Fields. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod yr ysgol wedi cael ei chydnabod gan Estyn yn yr adroddiad blynyddol fel un y mae ei gwaith yn arwain y sector, ac rwy'n meddwl bod hynny'n rhywbeth i'w ddathlu eto. Mae'n wych gweld y gwaith sy'n cael ei wneud gan ysgolion ar hyd a lled Cymru. Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet gwestiwn cynharach yn dweud y bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei gyhoeddi maes o law ac y bydd yn rhoi cyfle bryd hynny i ni ddadlau a thrafod sut rydym yn cyflawni a sut y byddwn yn sicrhau bod gennym y fframwaith statudol cywir yn sail i'r broses o gyflawni'r gwaith hwn. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelod dros Gaerffili y byddwn yn sicrhau bod y broses o bontio o addysg i fod yn oedolyn yn cael ei chynllunio a'i chefnogi'n well, a byddwn yn fwy na hapus i barhau i gael y drafodaeth honno, o ran y ddeddfwriaeth y byddwn yn ei drafftio ac yn ei chyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ond hefyd o ran sut y darperir y gefnogaeth honno y tu allan i'r fframwaith statudol. | 699 |