text
stringlengths 76
2.23k
| __index_level_0__
int64 0
4.36k
|
---|---|
Rydym newydd gael dechrau trafodaeth bwysig iawn ar y penderfyniad tyngedfennol a brawychus a wnaed ddydd Iau diwethaf. Tybed a yw'n bosibl, cyn toriad yr haf, cynnwys tair dadl arall ynglŷn â meysydd penodol sy'n deillio o'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd? Un ohonynt yw dyfodol ein pysgodfeydd, a sut y gallwn eu hamddiffyn yn wyneb y ffaith nad oes gennym ond un cwch ar hyn o bryd i amddiffyn ein harfordir cyfan. Yn ail, y goblygiadau i bob un o'n prifysgolion o ganlyniad i'r posibilrwydd o golli cyllid Horizon 2020 - er enghraifft yr ymchwil pwysig sy'n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd i ymchwilio i'r hyn sy'n achosi dementia, salwch deubegynol a chlefydau pwysig eraill sy'n gysylltiedig â'r ffordd y mae'r ymennydd yn gweithio, a'r ffaith bod y rhain yn amlwg yn glefydau cyffredinol, ac mae angen rhannu'r canlyniadau rhwng yr holl genhedloedd. Felly, pwysigrwydd gallu, gobeithio, cynnal yr arweinyddiaeth honno ar draws Ewrop - yr arweinyddiaeth a'r cydweithio - a sut y gallwn wneud hynny wrth inni fwrw ymlaen â'r trafodaethau hyn. Mae'r trydydd yn ymwneud â dyfodol ein diwydiant ffermio, yng ngoleuni'r ffaith ein bod yn dal i fewnforio 40 y cant o'n bwyd, a fydd, wrth gwrs, yn cynyddu yn sgil y gostyngiad aruthrol yng ngwerth y bunt yn erbyn arian gwledydd eraill, a pha gyfleoedd a all fod ar gael i ffermwyr yn sgil y bygythiad hwn er mwyn cynyddu cynhyrchu bwyd ac amaethyddiaeth fel nad oes yn rhaid wrth gymaint o fwyd drud wedi'i fewnforio. | 500 |
A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynglŷn ag ardrethi busnes? Yn sicr, rwyf wedi ymweld â nifer o fusnesau bach dros yr wythnos ddiwethaf ac mae llawer iawn o ansicrwydd. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, derbyniodd busnesau ryddhad ardrethi gwerth £1,500, ac yna y flwyddyn flaenorol roedd yn £1,000. Yn amlwg, mae angen i fusnesau wybod a ydynt am dderbyn y gyfradd honno yn y flwyddyn ariannol hon. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynlluniau ar gyfer ardrethi busnes, felly byddwn yn awyddus iawn pe gallem gael datganiad yn amlinellu beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar gyfer y pumed Cynulliad, ond yn enwedig ynglŷn â sut y bydd yn effeithio ar fusnesau yn y flwyddyn ariannol hon sydd i ddod. | 501 |
Diolch i'r Gweinidog busnes am ei datganiad. Rwyf yn ailadrodd rhai o'r pethau yr ydym eisoes wedi sôn amdanynt yn y ddadl, ond credaf fod hyn yn arbennig o bwysig oherwydd, er y gallai llawer ohonom, yn fy marn i, yn ôl pob tebyg fod wedi gallu rhagweld nifer o oblygiadau pleidlais 'gadael' yn refferendwm yr UE, gan gynnwys y cynnydd brawychus a ffiaidd mewn ymosodiadau hiliol yr ydym wedi eu gweld ledled y DU ers y bleidlais honno - . Credaf fod nifer y digwyddiadau a gofnodwyd wedi cynyddu tua 57 y cant ers dydd Iau ar draws y DU a hyd yn oed yma yng Nghymru. Croesewir y ffaith bod comisiynwyr yr heddlu a throseddu wedi cyhoeddi datganiadau'n condemnio'r ymosodiadau hyn ac yn annog pawb i roi gwybod ar unwaith am unrhyw achosion o gam-drin hiliol y maent wedi'u dioddef neu wedi bod yn dyst iddynt. Er nad yw plismona, wrth gwrs, yn fater sydd wedi'i ddatganoli eto, mae mynd i'r afael â hiliaeth yn ein cymunedau yn flaenoriaeth i bob un o'n gwasanaethau cyhoeddus a'n cymdeithas. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog busnes ynglŷn ag unrhyw fesurau sy'n cael eu hystyried i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn ac i wrthwynebu unrhyw ddiwylliant o gasineb ac anoddefgarwch? | 502 |
Tybed a fyddai modd inni gael datganiad ynglŷn â lefelau diogelwch yn Tata Steel? Dywedaf hyn am fy mod wedi clywed rhai pryderon, yn y lle cyntaf gan etholwyr, o ran agweddau ar ddiogelwch gyda'r swyddi sy'n cael eu torri yno, ond mae wedi troi mewn gwirionedd yn ffrydlif gan etholwyr sy'n gweithio yn Tata Steel. Tybed a gawn ni ddatganiad i ddeall a yw'r Llywodraeth wedi bod yn siarad ag undebau llafur am y sefyllfa? Mae gennyf restr o gwynion, os yw'r Gweinidog neu un o'i chydweithwyr yn dymuno ei gweld, sy'n amlygu'r rheswm pam rwyf yn codi hyn yma heddiw yn y modd hwn. Mae'r ail fater yr wyf am ei godi yn ymwneud â'r cwestiwn a ofynnais yr wythnos diwethaf. Nid wyf yn credu imi gael ateb y naill ffordd na'r llall gennych o ran rhoi gwybod a gawn ni ddatganiad am awtistiaeth ac anghenion ôl-addysgol y rhai sydd wedi gadael yr ysgol. Mae'n sefyllfa frys. Roedd gan Leighton Andrews, yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog addysg, dasglu yn ystyried y ddarpariaeth ar gyfer y rhai sydd wedi gadael yr ysgol, ac mae llawer iawn, iawn o deuluoedd yn fy ardal i, ac ar draws Cymru rwyf yn siŵr, sy'n wynebu dyfodol ansicr pan fydd eu plant yn gadael yr ysgol - diffyg gwasanaethau, diffyg cyfeiriad a diffyg llwybr clir. Felly, byddwn yn pwyso, unwaith eto am ddatganiad neu ddadl am y mater penodol hwnnw cyn i'n tymor ddod i ben a chyn i dymor yr ysgol ddod i ben. | 503 |
Diolch ichi am eich cwestiynau. O ran y pwynt cyntaf, wrth gwrs, fel y dywedwch, roedd ymgynghoriad ar gynllun gweithredu Cymru ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd yn y cyfnod cyn etholiadau'r Cynulliad. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw, wrth gwrs, yn cael eu cyhoeddi, a bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn cael ei gyhoeddi hefyd yn ddiweddarach eleni. Dyma £6 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog i ariannu cynllun gweithredu Cymru ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd, ac mae'n hollbwysig ein bod yn symud ymlaen yn hynny o beth i ymateb i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd. O ran eich ail bwynt, wrth gwrs, mae Cymru wedi arwain y ffordd o ran sicrhau bod Iaith Arwyddion Prydain ar gael ac mae llawer o hynny, hefyd, wedi bod yn sgil cyfraniad y cydweithio rhwng grwpiau trawsbleidiol yn ogystal ag ymateb Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, mae cyfleoedd yn awr i fwrw ymlaen â hyn yn sgil ein deddfwriaeth ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn awyddus i wneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny. | 504 |
Rwyf yn falch bod hyn wedi ei godi y prynhawn yma, oherwydd mae hyn yn rhywbeth, wyddoch chi, lle y mae angen ymdrin â'r ansicrwydd hwnnw. Mae'r cwmni wedi dechrau ymgynghori ag undebau llafur a rhanddeiliaid eraill, a bydd Joyce Watson yn gwybod am hynny. Gallai'r ymgynghoriad hwnnw weld y gweithlu'n lleihau, ond fel yr wyf yn deall, mae cyllid adfer wedi bod yn cronni ar safle Nant Helen, a bydd yr awdurdod cynllunio lleol a'r cwmni yn gallu cadarnhau'r sefyllfa ddiweddaraf, ond rwyf ar ddeall y dylai fod modd rheoli'r gwaith o adfer y safle. | 505 |
Wel, credaf, Nick Ramsay, ein bod yn rhannu pryderon am ragolygon a dyfodol cytundeb y ddinas, sy'n hollbwysig, a gwn fod eich awdurdod lleol yn gefnogol iawn ohono ac wedi bod yn rhan o sicrhau ein bod yn ennill ac wedi sicrhau'r cais hwnnw sy'n cynnwys y 10 awdurdod lleol. Mae hyn, wrth gwrs, hefyd yn rhywbeth lle rydym yn disgwyl am ymateb gan y Canghellor yn ogystal â'r effaith ar ôl y penderfyniad i adael yr UE, ond credaf fod yr ymrwymiad clir yn eich cyfraniad heddiw yn bwysig iawn o ran cydnabod pwysigrwydd allweddol cytundeb y ddinas i'r rhanbarth hwn, y rhanbarth yr ydych yn rhan ohono, i'n heconomi ac i les y rhanbarth hwnnw. | 506 |
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. | 507 |
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. | 508 |
Y cynnig, felly, yw i ddiwygio Rheol Sefydlog 17. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. | 509 |
Nid oes sôn yn y datganiad ynglŷn ag unrhyw ddeddfu bydd ei angen yn sgil adroddiad Diamond. A ydy hynny oherwydd bod y Prif Weinidog yn teimlo bod unrhyw beth sy'n deillio o Diamond yn debygol o ddigwydd yn yr ail flwyddyn ddeddfwriaethol, fel petai, neu a oes gyda fe ryw ffordd arall o ddelio â Diamond? Ac yn sgil y ffaith bod penderfyniad i symud allan o'r Undeb Ewropeaidd, mae yna lwyth o ddeddfau Ewropeaidd - ni wnaf eu henwi nhw i gyd, Ddirprwy Lywydd, ond, ym maes amgylchedd yn unig, mae yna dros 200 o wahanol ddeddfau sydd yn rhan, bellach, o'r ffordd rŷm ni'n ymdrin â'r amgylchedd yng Nghymru, ac nid yw rhai o'r cyfarwyddiadau hynod bwysig ynglŷn â chynefinoedd, gwastraff a dŵr yn rhywbeth sydd wedi cael ei dodi arnom ni gan Frwsel, ond rhywbeth rŷm ni wedi'i groesawu a gweithio gyda fe fel ffordd o gryfhau deddfwriaeth amgylcheddol yma yng Nghymru. Ym mha ffordd ydych chi'n rhagweld y byddwn ni'n gallu ymdopi a delio â hynny wrth i ni symud i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond am gadw, does bosib, fel Cynulliad cyfan, rhai o'r pethau yma sydd wedi bod mor llwyddiannus wrth amddiffyn ein hamgylchedd ni ac amddiffyn bioamrywiaeth yn ogystal? Y cwestiwn olaf sy'n deillio yn sgil hynny yw: beth fydd y modd o ddelio â'r newidiadau yn CAP, y taliadau ffermwyr, sy'n deillio eto o adael yr Undeb Ewropeaidd, ac a yw'r Llywodraeth - os nid yn y flwyddyn nesaf - yn teimlo bod angen deddfu yn ystod y Cynulliad hwn i ddelio â'r mater yma? | 510 |
Yn gyntaf oll, bydd y trethi y byddwn yn bwriadu eu cyflwyno yn briodol i Gymru, fel yr ydym yn gweld pethau. Yn amlwg, bydd angen mesurau gwrth-osgoi cadarn o fewn y ddeddfwriaeth, a bydd yr Aelodau'n gallu gweld y ddeddfwriaeth a'r hyn sydd wedi'i gynnwys ynddi pan gaiff y ddeddfwriaeth ei chyflwyno. O ran dysgu gan yr Alban, ydy, mae'n amlwg i mi bod arnoch angen yr awdurdod codi refeniw ar waith i sicrhau y gellir codi'r dreth, neu'n sicr cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Mae'r Aelod eisoes wedi sôn am yr anawsterau a gafodd yr Alban yn hynny o beth. O ran cyfathrebu â rhanddeiliaid, yr hyn a wyddom - dylai'r rhai sydd ag angen gwybod am y dreth trafodiadau tirlenwi pan gaiff ei chyflwyno gael eu hysbysu drwy eu cymdeithasau proffesiynol drwy eu gofynion datblygiad proffesiynol parhaus. Mae'n ddyletswydd arnynt beth bynnag i sicrhau eu hunain eu bod yn deall y system drethi newydd yn llwyr. Ond, wrth gwrs, byddwn yn parhau i gadw ac adolygu'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gyfathrebu'r newidiadau. Cyn belled ag y mae'r cyhoedd dan sylw, maent wedi arfer â threth stamp, felly maent wedi arfer â'r syniad o dalu treth neu doll wrth i drafodiadau eiddo ddigwydd, ond mae'n amlwg yn bwysig gwneud yn siŵr bod y gweithwyr proffesiynol yn deall sut y bydd y dreth yn gweithio ac, yn arbennig, sut y caiff ei chasglu a'r rheolau sy'n berthnasol i'r dreth honno. Yn amlwg, byddwn yn gwneud yn siŵr bod popeth ar waith y gellir ei roi ar waith i sicrhau bod gwerthwyr tai, er enghraifft, a chyfrifwyr, i roi dwy enghraifft, yn ymwybodol o'r newidiadau. | 511 |
Mae'r Aelod yn hollol gywir, wrth gwrs, wrth ddweud bod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd ac addysg o ran anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn gwybod, er enghraifft, ynglŷn â phlant sy'n derbyn gofal, i roi enghraifft, nad yw edrych ar eu cyflawniad addysg yn unig ar wahân i bopeth arall byth y ffordd iawn o weithio, a dyna pam yr ydym wedi defnyddio'r ymagwedd gyfannol hon. Ond, bydd, wrth gwrs, bydd y ddeddfwriaeth yn ceisio bod mor realistig ac mor gynhwysfawr â phosibl. O ran y Bil undebau llafur, wrth gwrs, ar y meinciau hyn mae gennym wrthwynebiad ideolegol i gynnwys y Bil hwnnw, ond mae gennym broblem gyfansoddiadol ehangach yma, sef bod elfennau'r Bil undebau llafur y byddwn yn ceisio eu diddymu, yn ein barn ni, yn bendant o fewn ein pwerau datganoledig - mae yma fater cyfansoddiadol hefyd. Yn ogystal, rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU wedi cael cyngor gan gyfreithwyr bod hynny'n wir hefyd, oherwydd gwelsom fod y cyngor cyfreithiol wedi'i ddatgelu heb ganiatâd - nid gennym ni, wrth gwrs, ond gan eraill - ac y dywedwyd wrth Lywodraeth y DU bod eu hachos yn wan o ran dadlau nad oedd hyn o fewn cymhwysedd datganoledig. Felly, ar wahân i fater pwysig ein barn ni am y Bil ei hun, mae gennym broblem gyfansoddiadol, sef ein bod o'r farn mai mater i'r Cynulliad benderfynu arno yw hwn, ac nid y Senedd. | 512 |
Un o'r rhesymau pam y mae cynifer ohonom yn wynebu gadael yr Undeb Ewropeaidd ag anesmwythyd o'r fath yw bod cymaint o ryfela wedi bod yn Ewrop. Mae'n ganmlwyddiant y Somme, lle y bu farw miliwn o bobl, ac ni all neb bellach gofio pa fudd oedd i hynny. Felly, yn amlwg, rwyf yn cefnogi ein lluoedd arfog sy'n ein cadw'n ddiogel ac yn amddiffyn ein rhyddid, ond mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn osgoi rhyfel, lle y bo hynny'n bosibl. Fel y dywedwch yn eich datganiad, mae hwn yn gyfnod anodd a chyllidebau'n dynn. I lawer o bobl, mae'r gwasanaeth milwrol yn dod yn ail deulu, yn enwedig i bobl nad ydynt efallai wedi cael y cyfleoedd gorau yn eu teulu cyntaf. Felly, pan gânt eu rhyddhau, gall fod yn debyg i brofedigaeth. Mae gennyf rai pryderon am rai o'r bobl sy'n cael eu rhyddhau i dai cymdeithasol ynysig yn fy etholaeth, ac yna, o ganlyniad i iselder, yn ei chael yn anodd iawn mynd ati i ofyn am help. Felly, meddwl oeddwn i tybed, yn eich grŵp lluoedd arfog, a ydych wedi trafod y ffyrdd y mae'r gwahanol grwpiau cyn-filwyr yn cydlynu ac yn cydgysylltu â'i gilydd er mwyn sicrhau nad oes neb yn disgyn drwy'r bylchau yn y gwasanaethau, a bod yr holl gyn-filwyr diweddar yn cael eu cefnogi a'r cysylltiad â hwy'n cael ei gynnal er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan gânt eu rhyddhau ac wrth iddynt addasu i fywyd sifil. | 513 |
Diolch ichi, Lywydd. Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod yr angen am wybodaeth ynghylch anghenion aelodau cyfredol a chyn-aelodau o'r lluoedd arfog. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i lobïo Llywodraeth y DU i gynnwys cwestiynau yn y cyfrifiad nesaf i bennu anghenion aelodau cyfredol a chyn-aelodau o'r lluoedd arfog a'u plant, fel y gellir targedu gwasanaethau ar eu cyfer yn fwy priodol, yn unol â chais y Lleng Brydeinig Frenhinol? | 514 |
Nawr, rŷm ni'n symud ymlaen i eitem 11, sef datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar reoli perygl llifogydd, ac mae'r eitem yna wedi'i dynnu'n ôl. | 515 |
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf yn cynnig yn ffurfiol, ond dim ond er mwyn ychwanegu at hynny a thynnu sylw'r Cynulliad at y ffaith ein bod wedi pasio Rheolau Sefydlog yn gynharach yn caniatáu i hyn fynd yn ei flaen. Yn y Rheolau Sefydlog hynny, nid oeddem yn ei gwneud yn glir - ac nid yw yn y Rheolau Sefydlog - bod yn rhaid i Aelod fod yn bresennol yma er mwyn cael ei enwebu. Felly, mae'n bosibl i rywun gael ei enwebu heddiw pan nad yw'n bresennol i dderbyn yr enwebiad hwnnw. Yn anffodus, ni wnaethom unrhyw ddarpariaeth ar gyfer hynny yn ein Rheolau Sefydlog. | 516 |
Rŷm ni nawr, felly, yn symud ymlaen i ethol Cadeiryddion y pwyllgorau. Rwyf i nawr yn mynd i wahodd enwebiadau o dan Reol Sefydlog 17.2F i ethol Cadeiryddion i'r pwyllgorau. Yn unol â'r weithdrefn a gytunwyd yn gynharach heddiw, dim ond Aelod o'r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo a all gael ei enwebu fel Cadeirydd. Dim ond Aelod o'r un grŵp plaid sy'n cael cynnig yr enwebiad. Cytunwyd ar ddyraniad swyddi'r Cadeiryddion i grwpiau gwleidyddol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A. Pan fo gan grŵp plaid fwy nag 20 Aelod, mae'n rhaid i'r sawl a enwebir gael ei eilio gan Aelod arall yn yr un grŵp. Yn achos grwpiau plaid sydd â llai nag 20 Aelod, nid oes angen eilydd. Os bydd yna unrhyw Aelod yn gwrthwynebu enwebiad, neu os ceir dau enwebiad neu ragor ar gyfer un pwyllgor, dilynir y drefn bleidleisio a nodir yn Rheol Sefydlog 17 i ethol Cadeirydd y pwyllgor hwnnw. Yna byddaf yn parhau i alw am enwebiadau ar gyfer gweddill y pwyllgorau. Rwy'n dechrau, felly, ac rwy'n gwahodd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y dyrannwyd Cadeirydd iddo o'r Blaid Lafur. A oes unrhyw enwebiadau? | 517 |
A oes unrhyw Aelod, felly - a oes rhagor o enwebiadau? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiad yna? Os felly, rwy'n datgan bod Mark Reckless wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Symud nawr, felly, i'r enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y dyrannwyd Cadeirydd iddo o'r Blaid Lafur. A oes unrhyw enwebiadau i gadeirio'r pwyllgor yma - y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol? A oes unrhyw enwebiadau? | 518 |
A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiad? Gan nad oes yna wrthwynebiad, rwy'n datgan bod Bethan Jenkins wedi ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Rwy'n symud ymlaen nawr i agor enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, y dyrannwyd Cadeirydd iddo o grŵp y Ceidwadwyr. A oes enwebiad ar gyfer y Gadair yma? | 519 |
A oes rhagor o enwebiadau? Gan nad oes rhagor o enwebiadau, a chan fod mwy na dau enwebiad, bydd y Cadeirydd yma yn cael ei ethol neu ei hethol drwy bleidlais gudd. Rwy'n symud ymlaen yn awr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid y dyrannwyd y gadeiryddiaeth yma i Blaid Cymru. A oes enwebiadau? | 520 |
Gan fod yna ddau enwebiad ar gyfer y pwyllgor yma, fe fydd yna bleidlais gudd ar gyfer ethol Cadeirydd y pwyllgor yma. Rwy'n gwahodd yn awr enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau y dyrannwyd Cadeirydd iddo o'r Blaid Lafur. Rwy'n galw am enwebiadau. | 521 |
Felly, mae yna fwy na dau enwebiad ar gyfer y gadeiryddiaeth yna. Fe fydd hynny'n symud at ethol drwy bleidlais gudd. Rydw i'n nawr yn gofyn am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn y dyrannwyd y Cadeirydd iddo o'r Blaid Lafur. A oes enwebiad i'r pwyllgor yma? | 522 |
A oes rhagor o enwebiadau? Gan nad oes mwy o enwebiadau, a chan taw un yn unig sydd, ryw'n datgan bod Jayne Bryant wedi'i hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Dyna derfyn ar y broses enwebu. Yn achos yr enwebiadau hynny a gyfeirir ar gyfer pleidlais gudd yn unol â'r Rheolau Sefydlog, rwy'n dweud wrth Aelodau y bydd y pleidleisiau cudd yn cael eu cynnal yn Ystafell Briffio 13 yn y Senedd yma rhwng 12 o'r gloch prynhawn yfory a 3 o'r gloch prynhawn yfory. Y clerc fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r broses bleidleisio a'r broses o gyfrif y pleidleisiau. Ar ôl y pleidleisiau cudd, byddaf yn cyhoeddi'r canlyniad cyn y ddadl fer yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yfory. Diolch i chi, felly. Daw hynny â'r trafodion heddiw i ben. | 523 |
Cafodd cynlluniau i ddiddymu agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur eu cynnwys yn natganiad rhaglen ddeddfwriaethol y Prif Weinidog ddoe, a bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn ystod blwyddyn gyntaf y tymor Cynulliad hwn. | 524 |
Wel, mae'r Aelod yn llygad ei lle wrth ddweud mai'r rheswm pam rydym yn gwrthwynebu'r agweddau hyn ar y Ddeddf Undebau Llafur yw oherwydd ein bod yn credu y byddant yn gwneud pethau'n waeth, yn hytrach na gwell, o ran cysylltiadau diwydiannol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ac mae'r dull partneriaeth rydym wedi'i gael yng Nghymru yn golygu, er bod streiciau wedi bod ar draws y ffin yn y gwasanaeth tân, ymysg nyrsys ac ymysg meddygon, nid yw hynny wedi digwydd o gwbl yma yng Nghymru, ac yn fy marn i, y rheswm dros hynny yw oherwydd ein hymrwymiad i'r dull partneriaeth. Rydym wedi ymrwymo i barhau â'r dull hwnnw. Cyfarfûm â chyd-ysgrifenyddion cyngor partneriaeth y gweithlu ddoe, a bydd ein cynigion ar gyfer Bil y Cynulliad i ddiddymu'r agweddau hynny ar y Ddeddf Undebau Llafur yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf cyngor partneriaeth y gweithlu, ar 14 Gorffennaf. | 525 |
Wel, Lywydd, mae'n rhaid i ni weithredu o fewn ffiniau ein cymhwysedd datganoledig. Yn ogystal â dymuno diddymu agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur oherwydd ei heffaith ar gysylltiadau diwydiannol a'n dull partneriaeth, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, mae ein gwrthwynebiad iddynt yn seiliedig ar ein cred eu bod yn tresmasu ar gyfrifoldebau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a dyna pam y byddwn yn ceisio eu diddymu. I ateb cwestiynau'r Aelodau ynghylch deddfau undebau llafur blaenorol, cyngor partneriaeth y gweithlu yw'r union fan y byddwn yn trafod y pethau hynny, a phan fo cytundeb rhyngom ni, undebau llafur a chyflogwyr, byddwn yn parhau i adolygu pob agwedd ar ddeddfwriaeth o'r fath. O ran contractau dim oriau, mae cryn dipyn o waith yn digwydd ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â'r mater hwnnw, a bydd Aelodau eraill o'r Cabinet yn cyflwyno cynigion yn ystod gweddill y tymor Cynulliad hwn. | 526 |
Wel, mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn, sy'n gosod ein penderfyniad i ddiddymu - i ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu - agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur yn y cyd-destun hynod o bwysig hwnnw. Roedd yr achos dros barhau i fod yn aelod o'r UE yn seiliedig ar y mesurau diogelwch cymdeithasol roedd bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn eu darparu i bobl sy'n gweithio. Heb y mesurau diogelwch hynny, ac o ystyried bod Llywodraeth y DU yn nwylo pobl a oedd yn dadlau dros adael yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn iawn i geisio sicrhau cymaint o ddiogelwch ag y gallwn ei roi i weithwyr yng Nghymru, drwy'r camau gweithredu y mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gallu eu cymryd. | 527 |
Fe fyddwch yn ymwybodol o'r grŵp ymgyrchu Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sef grŵp o bobl ar draws Cymru, a bydd llawer ohonynt yn byw yn ein hetholaethau, a frwydrodd yn erbyn canlyniadau annheg iawn Deddf Pensiynau 2011. Mae'r ddeddfwriaeth, fel y dywedwch, wedi gadael degau o filoedd o fenywod a anwyd ar ôl 6 Ebrill 1951 ar eu colled. Y ffigur swyddogol rwyf wedi'i weld yw £12,000, er i mi gyfarfod â'r etholwyr Janet Davies a Julie Peach yr wythnos diwethaf a ddywedodd y byddent hwy'n bersonol hyd at £38,000 yn waeth eu byd. Roedd gan fy nghyd-Aelod Vikki Howells ddatganiad barn a lofnodwyd gan Aelodau trawsbleidiol, er i mi nodi na wnaed hynny gan Aelodau Ceidwadol. A wnewch chi ymuno â fy etholwyr a chytuno i barhau i ymgyrchu - rwy'n falch eich bod wedi gwneud hynny - a galw'n uniongyrchol, drwy ysgrifennu, ar Lywodraeth y DU i gyflwyno trefniadau teg? | 528 |
Weinidog, cafodd cydraddoli graddol oedran pensiwn y wladwriaeth i 65 oed ar gyfer dynion a menywod ei nodi gyntaf yn Neddf Pensiynau 1995. Yn hytrach na chynyddu oedran pensiwn y wladwriaeth dros nos, mae Llywodraethau olynol wedi cyflwyno newidiadau fesul cam. O ystyried bod y gyfradd gyflogaeth ymysg menywod yn uwch nag erioed, a yw'r Gweinidog yn cytuno bod cydraddoli oedran ymddeol ar gyfer dynion a menywod yn gam mawr tuag at fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a'i fod yn rhoi pensiwn y wladwriaeth ar sail gynaliadwy drwy ystyried bod disgwyliad oes yn cynyddu? | 529 |
Diau y bydd gwrthdystiad Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth a lobïo'r Senedd heddiw wedi cael eu boddi gan ddigwyddiadau eraill. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod bod y Pwyllgor Dethol ar Waith a Phensiynau yn Nhŷ'r Cyffredin wedi dod o hyd i ateb i'r broblem hon, er mwyn galluogi menywod i hawlio eu pensiwn yn gynnar ar gyfradd is. Beth y gallwch ei wneud i berswadio Llywodraeth y DU, yn enwedig Stephen Crabb yn ei swydd bresennol, y dylent ailystyried y trefniadau trosiannol hyn, sy'n ymddangos yn gwbl resymol ac na fydd yn costio mwy o arian o gwbl i'r trethdalwr? | 530 |
Symudwn nawr i gwestiynau gan lefarwyr y pleidiau i'r Ysgrifennydd Cabinet ac, yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay. | 531 |
Diolch i Nick Ramsay am ei sylwadau agoriadol ac am gytuno i gyfarfod â mi i rannu rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â'r heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae'n hollol iawn i ddweud bod y rheini'n cael eu siapio gan y tirlun sydd ohoni yn dilyn y refferendwm. Rwyf wedi cael trafodaeth eisoes â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Cytunasom yn y sgwrs dros y ffôn y byddem yn cyfarfod cyn toriad yr haf, a'r cynllun y buom yn siarad amdano oedd cael cyfres o gyfarfodydd yn ystod yr hydref er mwyn cytuno ar y fframwaith cyllidol y bydd yn gwbl angenrheidiol i ni weithredu o'i fewn pan ddaw pwerau trethu yn uniongyrchol i Gymru. Mae'r cyfarfod cyn toriad yr haf wedi'i nodi yn y dyddiadur a bydd yn digwydd. Nid oes amheuaeth y bydd yn rhaid i ni raddnodi rhai o'r cynlluniau ar gyfer yr hydref yn ôl rhai o'r digwyddiadau - cyllideb bellach, er enghraifft - y gwyddom bellach eu bod yn mynd i ddigwydd. | 532 |
Mae'n hollol wir i ddweud bod yr Alban eisoes wedi bod o gwmpas y trac hwn o ran cytuno ar fframwaith cyllidol ar gyfer datganoli pwerau trethu i Senedd yr Alban. Mewn sawl ffordd, rydym yn ffodus ein bod yn eu dilyn o gwmpas y trac hwnnw, oherwydd bod Llywodraeth yr Alban wedi bod yn hael yn rhannu ei phrofiad gyda ni a rhoi ambell gipolwg i ni ar eu trafodaethau gyda'r Trysorlys. Ni fydd yn syndod i'r Aelodau yma a ddilynodd y stori yn y wasg glywed nad oedd y trafodaethau hynny bob amser yn hawdd a'u bod wedi cynnwys ambell ennyd chwerw. Roedd y chwerwedd yn ymwneud â'r egwyddor 'dim niwed' allweddol. I ni yma yng Nghymru, pan wneir addasiadau i'r grant bloc mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried y trethi y byddwn yn awr yn eu codi yng Nghymru, fod yr addasiadau hynny'n adlewyrchu'r penderfyniadau sydd yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol, penderfyniadau y mae'n rhaid i bob un ohonom fod yn barod i dderbyn cyfrifoldeb amdanynt, ac ni ddylent fod yn seiliedig ar benderfyniadau nad oes gennym unrhyw ddylanwad o gwbl arnynt. Roedd y dimensiwn poblogaeth y cyfeiriodd Nick Ramsay ato yn ganolog i rai o'r trafodaethau hynny. Dadleuodd Llywodraeth yr Alban yn llwyddiannus na ddylai'r addasiad i'r grant bloc gosbi'r Alban yn sgil newidiadau yn ei phoblogaeth a gâi eu dylanwadu'n fwy gan benderfyniadau San Steffan na phenderfyniadau a wneid yng Nghaeredin. Byddaf yn sicr yn disgwyl i unrhyw gytundeb ar gyfer Cymru adlewyrchu'r union ddull 'dim niwed' hwnnw. | 533 |
Unwaith eto, diolch i Nick Ramsay am y ddau bwynt pwysig hwnnw. Bydd yr Aelodau yma yn gwybod bod fy rhagflaenydd yn y swydd hon, Jane Hutt, ar ôl llawer iawn o drafod, wedi llwyddo i gael cytundeb i gyllid gwaelodol gan y Trysorlys dros gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant presennol. Yn y trafodaethau ar y fframwaith cyllidol byddwn yn dadlau'n galed dros sicrhau bod y cyllid gwaelodol hwnnw'n cael ei wneud yn barhaol. Mae angen iddo fod yn rhan barhaol o'r fframwaith hwnnw a'r tirlun y mae'n ei ddarparu yma yng Nghymru ac mae honno'n un o'r ffyrdd y bydd angen i'n trafodaethau fynd y tu hwnt i'r safbwynt a sefydlwyd yn yr Alban. Fodd bynnag, fel yr aeth Nick Ramsay ymlaen i ddweud, mae'r ansicrwydd a grëwyd gan y bleidlais yr wythnos diwethaf - nid yn syml o ran perthynas y Deyrnas Unedig ag Ewrop ond y berthynas rhwng rhannau'r Deyrnas Unedig a'i gilydd hefyd - yn golygu bod angen adolygu fformiwla Barnett yn ei chyfanrwydd. Ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru at Brif Weinidog y DU ar 27 Mehefin a dywedodd yn glir iawn yn y llythyr hwnnw mai dyma'r amser i archwilio ac ailedrych ar fformiwla Barnett. Dywedodd mai dyma'r amser yn sicr i gyflwyno fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion yng Nghymru fel bod ei dinasyddion yn gweld bod y Deyrnas Unedig ar y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn rhoi cydnabyddiaeth deg i'w hanghenion a'u hamgylchiadau. Ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl gywir. | 534 |
Diolch i Adam Price am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig wrth agor am y ffordd y mae patrymau pleidleisio yn y refferendwm yn dilyn llinellau economaidd ar draws y Deyrnas Unedig. O ran amcangyfrif effaith penderfyniad yr wythnos diwethaf ar Gymru, mae yna ddwy ffordd benodol sy'n rhaid i ni asesu hynny, ac mae un ohonynt yn haws na'r llall. Bydd yna golled uniongyrchol o arian Ewropeaidd a fyddai fel arall wedi dod i Gymru, rwy'n credu, yn ystod cyfnod presennol y cronfeydd strwythurol. Byddem wedi gallu cael cyllid yn ystod y cyfnod hwn tan 2023. Mae'n ymddangos y byddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn hynny a bryd hynny bydd ein gallu i gael cyllid Ewropeaidd yn dod i ben. Rydym wedi ymrwymo dros £700 miliwn o'r cylch presennol eisoes. Mae hynny'n 40 y cant o'r cyfanswm y byddem yn gallu ei gael yn ystod cylch 2014-2020 a byddwn yn ceisio cael cymaint o gyllid â phosibl o'r cronfeydd hynny. Dadleuodd Prif Weinidog Cymru yn ei lythyr at Brif Weinidog y DU y dylai fod yn trafod ar ein rhan i ni allu parhau i gael yr arian hwnnw dros holl gyfnod y cronfeydd strwythurol. Ond bydd yn rhaid i ni aros am ganlyniad y trafodaethau ar hynny. Ond o ran y ffigurau hynny rwy'n credu ein bod mewn sefyllfa dda i wneud asesiad - ac rwyf newydd grybwyll rhai o'r ffeithiau ynglŷn â hynny. Yr ail ffordd yr effeithir ar Gymru gan ganlyniadau economaidd gadael yr Undeb Ewropeaidd fydd drwy'r gyllideb y gwyddom bellach y byddwn yn ei hwynebu yn yr hydref eleni: cyllideb y dywedir wrthym y bydd yn cynnwys codiadau treth a thoriadau gwariant cyhoeddus ac nid oes amheuaeth y bydd y toriadau gwariant hynny'n bwydo i mewn i gyllideb Cymru. Mae'n anos o lawer gwneud unrhyw asesiad o hynny, ond yn Llywodraeth Cymru byddwn yn sicr yn gwneud yr hyn a allwn i baratoi ar eu cyfer ar sail wrth gefn. | 535 |
Wel, rwy'n credu y bydd pobl a wrandawodd ar yr honiadau a wnaed gan yr ymgyrch 'gadael' yn ystod y refferendwm wedi meddwl yn syml na fyddai Cymru yn gwneud mor dda ag y gwnaethom o dan y drefn flaenorol, ond y byddai llif newydd o arian i wasanaethau cyhoeddus, ac i'r lleoedd sydd ei angen fwyaf yn sgil y penderfyniad hwnnw. Ac wrth gwrs fel Llywodraeth Cymru byddem yn awyddus i ddadlau'r union achos hwnnw. Bydd Bil Cymru, os yw'n cyrraedd y llyfr statud, yn rhoi rhai pwerau newydd i argymell trethi newydd yma yng Nghymru. Rwy'n credu y byddwn yn ddi-os eisiau trafod a ddylai treth gorfforaeth fod yn eu plith - yn bersonol rwyf bob amser wedi teimlo bod yr achos drosti yn wan iawn, ac yn llawer mwy tebygol o arwain at ras i'r gwaelod, lle byddwn yn cymryd llai o arian gan gorfforaethau i ariannu gwasanaethau cyhoeddus nag y gwnaethom yn y gorffennol. Mae'n ddilema a welwch yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd. | 536 |
Wel, yn sicr nid oes angen i ni aros, oherwydd fel y dywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn, rydym eisoes wedi dechrau gwneud yn union hyn. Ceir tri chynllun sydd eisoes yn cael eu datblygu, ac ystod o gynlluniau eraill posibl a allai ddilyn yr un llwybr. Felly, mae'r model dosbarthu dielw yn fodd o geisio denu ffyrdd o ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn arbennig i mewn i economi Cymru, ar adeg pan fo cyfalaf cyhoeddus yn lleihau'n gyflym iawn. Byddwn yn dysgu llawer, ac mae angen i ni ddysgu llawer, o'r tri chynllun rydym eisoes wedi dechrau eu datblygu, os gellir gwneud iddynt lwyddo. Mae llawer iawn o waith i'w wneud i ganfod a fyddant yn gallu llwyddo, ac mae cyd-Aelodau yn yr Alban sydd wedi bod o amgylch y cwrs hwn eisoes wedi gweld bod penderfyniadau dosbarthu nad oeddent wedi eu rhagweld, gan Eurostat a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, wedi golygu eu bod wedi gorfod ail-lunio'r cynlluniau a oedd ganddynt i gychwyn. Felly nid yw'n fater syml o allu cymryd rhywbeth oddi ar y silff y gallwch ei ddefnyddio. Efallai na fydd Eurostat yn broblem iddynt yn y dyfodol, ond fe fydd y Swyddfa Ystadegol Gwladol. Felly nid oes model y gallwch yn syml ei dynnu oddi ar y silff a'i ddefnyddio, a dweud, 'brysiwch a gwnewch hynny'. Mae llawer i'w ddysgu i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu model sy'n iawn i Gymru. Mae gennym dri chynllun yn yr arfaeth; mae yna fwy yr hoffem ei wneud, neu bydd angen i ni ddysgu wrth i ni wneud iddo ddigwydd. | 537 |
Esgusodwch fi. A gaf fi ddweud - ? Rydych wedi gwrando ar lefarwyr pleidiau eraill gyda rhywfaint o dawelwch ac urddas, ac rwy'n disgwyl yr un peth i Gareth Bennett. Diolch. | 538 |
Diolch i Mr Bennett am ei sylwadau agoriadol ac am fy atgoffa am fy hanes gwleidyddol hir o 30 mlynedd yn ôl. Roeddwn yn gynghorydd y tro diwethaf y cafwyd ad-drefnu llywodraeth leol, i ddangos cymaint o amser sydd wedi bod ers i hynny ddigwydd. Mae'r amserlen rwy'n gobeithio ei dilyn fel a ganlyn: mae yna gyfnod angenrheidiol dros yr haf rwyf am ei dreulio'n gwrando a dysgu gan y rhai sydd â barn ar y mater hwn. Cyfarfûm ag undebau llafur llywodraeth leol y bore yma i glywed yr hyn oedd ganddynt i'w ddweud, a byddaf yn cyfarfod ag awdurdodau lleol ac eraill. Rwyf eisiau gweld a oes modd creu rhyw fath o gonsensws ynglŷn â'r ffordd ymlaen. Rwy'n cydnabod effaith andwyol oedi ar fywydau'r bobl sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol, a hoffwn ddod â hynny i ben cyn gynted ag y gallaf. Ond mae hynny'n dibynnu ar greu ymdeimlad o bwrpas cyffredin mewn perthynas â dyfodol trefniadau llywodraeth leol yma yng Nghymru. Os digwydd hynny'n gyflym, rwy'n gobeithio gallu cyflwyno datganiad yn gynnar yn yr hydref. Os yw'n cymryd mwy o amser, byddaf yn cyflwyno datganiad ychydig yn ddiweddarach yn yr hydref, ond dyna'r amserlen rwy'n ei dilyn ar hyn o bryd. | 539 |
Nid wyf yn credu y byddai'n iawn i mi i ddod i unrhyw gasgliad y prynhawn yma ar ôl dweud fy mod am dreulio cyfnod o amser yn gwrando a dysgu. Rwyf wedi cyfarfod â thua hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yn hyn, Lywydd, felly mae'r hanner arall ar ôl gennyf o hyd. Rwy'n cyfarfod â Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yfory, ac rwyf am ei gwneud yn glir iddynt fy mod i lawn mor agored i'r hyn sydd ganddynt hwy i'w ddweud ag unrhyw un y siaradais â hwy hyd yn hyn. Roedd nifer o'r bobl y cyfarfûm â hwy yn ystod hanner cyntaf fy ymweliadau o amgylch awdurdodau lleol yng Nghymru yn cefnogi rhinweddau uno gwirfoddol, ac mae gennyf feddwl agored iawn i glywed yr hyn sydd gan bobl eraill i'w ddweud. Nid wyf mewn unrhyw ffordd yn gwrthod eu barn ar y ffordd y byddwn yn gwneud busnes yn y dyfodol mewn awdurdodau lleol yng Nghymru. Ond nid wyf am ddod i gasgliad nes y bydd pawb sydd â hawl i fod yn rhan o'r drafodaeth hon wedi cael cyfle i fynegi eu barn. | 540 |
Cafodd Bil drafft ei gyflwyno gan fy rhagflaenydd, a oedd yn cynnwys llawer mwy na newid ffiniau ar fap yn unig. Roedd yn cynnwys cynigion ar gyfer newid refferenda lleol. Ni fyddent wedi gwneud hynny yn y ffordd y cynigiodd yr Aelod, ac nid oes gennyf unrhyw fwriad ar hyn o bryd i symud i'r cyfeiriad yr oedd yn ei argymell. | 541 |
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond roedd ymgyrch y refferendwm, yn enwedig tuag at y diwedd, yn llawn o anoddefgarwch, ac mae'r gwenwyn hwnnw wedi ymdreiddio i fywyd cyhoeddus. Rydym i gyd wedi gweld adroddiadau am gam-drin hiliol ar ein strydoedd. Rydym hefyd, diolch byth, wedi gweld yr ymateb iddo yn Llanelli ac mewn mannau eraill lle mae pobl leol yn cefnogi ac yn amddiffyn eu cymdogion o Ddwyrain Ewrop, ac rwy'n deall y bydd y Prif Weinidog yn ymweld â Chymdeithas Pwyliaid Cymru yn Llanelli yfory. Ond mae'r ffaith yn aros fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cofnodi cynnydd sylweddol mewn troseddau casineb o gymharu â'r mis hwn y llynedd. Felly, mae'n amlwg bod angen i ni wella'r clwyfau yn awr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid eraill, roi camau ar waith i ddiogelu a chryfhau cysylltiadau cymunedol rhwng pobl o bob cenedl a diwylliant yn ystod y cyfnod cythryblus hwn? | 542 |
Rydych chi'ch dau wedi sôn am y cynnydd mewn digwyddiadau hiliol yn ystod ac ar ôl y refferendwm, ac rwyf innau'n rhannu'ch barn chi yn condemnio yr hyn sydd yn digwydd. Ond a fedrwch chi fynd ymhellach na jest gwneud datganiad yn y Siambr heddiw? A ydych chi'n gallu ystyried cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ac addysgu ynghylch y cyfraniad y mae pobl o wahanol wledydd Ewrop a'r byd yn ei wneud i fywyd Cymru? | 543 |
Diolch yn fawr, Eluned Morgan. Mae Cymru wedi mwynhau perthynas gadarnhaol â Banc Buddsoddi Ewrop gydol y cyfnod datganoli. Mae bron £2 biliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus a phreifat, sy'n cynnwys dŵr, hedfan, y diwydiant moduro a thai. | 544 |
Diolch i Eluned Morgan am gwestiwn atodol pwysig iawn. Mae hi'n hollol gywir fod Banc Buddsoddi Ewrop yn eiddo i'w gyfranddalwyr yn llwyr a'i holl gyfranddalwyr yw 28 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan y Deyrnas Unedig gyfranddaliad o 16 y cant ym Manc Buddsoddi Ewrop ac felly mae'n un o bedwar prif gyfranddaliwr y banc. Ac wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn rhaid i ni adael ein haelodaeth uniongyrchol o Fanc Buddsoddi Ewrop yn ogystal. Nawr, mae Eluned Morgan yn iawn i ddweud fod Banc Buddsoddi Ewrop yn gallu benthyca arian i wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ond mae benthyca gan Fanc Buddsoddi Ewrop y tu allan i'r UE yn cael ei lywodraethu gan gyfres o fandadau UE i gefnogi polisïau datblygu a chydweithredu mewn gwledydd partner. Mewn geiriau eraill, bob tro y mae'n sefydlu perthynas â gwlad arall, mae'n rhaid iddo gael mandad penodol gan y gwledydd sy'n aelodau cyfranddaliadol o Fanc Buddsoddi Ewrop. Felly, bydd yn rhaid i ni bwyso i drafod y math hwnnw'n union o berthynas er mwyn caniatáu i ni yng Nghymru barhau i elwa ar yr arian y mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi'i ddarparu yn y gorffennol, ac sy'n ganolog i rai o'r cynlluniau sydd gennym ar gyfer y dyfodol. | 545 |
I ateb cwestiwn atodol cyntaf Simon Thomas, nid wyf eto wedi cael trafodaethau uniongyrchol ar y mater pwysig hwn y mae'n ei nodi ynglŷn â gwasanaethau wedi'u lleoli yng Nghymru sydd eisoes mewn perthynas â Banc Buddsoddi Ewrop y bydd angen iddynt ymestyn ymhell y tu hwnt i unrhyw benderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae Banc Buddsoddi Ewrop ei hun wedi dweud nad yw'n gallu darparu unrhyw sicrwydd ar ystod eang o faterion sy'n ymwneud â'r cysylltiadau sydd ganddo ar draws y Deyrnas Unedig heb eglurder, fel y mae'n ei ddweud, ynglŷn â'r amgylchiadau amseru ac amodau setliad gadael. Ond mae'r trefniadau a fydd yn dilyn trefniadau sydd eisoes ar waith gan Fanc Buddsoddi Ewrop ar ôl i Brydain adael yr UE yn rhan bwysig o'r drafodaeth honno. Yma yn y Siambr ddoe, trafodwyd trefniadau amgen a allai fod yn bosibl naill ai ar gyfer Cymru'n unig neu ar sail gydweithredol â gwledydd eraill y DU, a gwn fod y Prif Weinidog wedi ymateb yn gadarnhaol i'r awgrym y dylem fynd ar drywydd hynny gyda'n partneriaid eraill yn y DU. | 546 |
Diolch i chi am yr ateb calonogol hwnnw, Brif - Ysgrifennydd y Cabinet; fe ddof i ddeall hyn. [Chwerthin.] Wrth gwrs, ceir llawer o enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol ac eraill, yn enwedig byrddau iechyd, i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, ond credaf fod y gair 'darparu' yn dweud y cyfan mewn gwirionedd, yn enwedig am y ffordd yr ydym fel poblogaeth yn gweithio i gefnogi'r rheini y ceisiwn eu helpu. Rwy'n credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, er gwaethaf ei holl ddiffygion, yn pwyntio'n gadarn iawn i gyfeiriad cydgynhyrchu, rôl cwmnïau cydfuddiannol a sefydliadau cymdeithasol eraill fel tir ffrwythlon ar gyfer datblygu modelau newydd o wasanaethau cynaliadwy, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol. A ydych yn gweld y rhain, fel yr awgryma'r ymateb i adroddiad comisiwn Williams, fel dewis olaf pan fydd y sector cyhoeddus yn methu neu a ydych yn cytuno bod angen i ni edrych ymlaen at gydbwysedd newydd rhwng gwladwriaeth a chymdeithas er mwyn sicrhau'r ateb sy'n gweddu orau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a'r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu? | 547 |
Diolch, Lywydd. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet newydd ateb fy nghwestiwn yn ôl pob tebyg, ond rwyf am ei ofyn beth bynnag. Rwy'n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, y gallwn i gyd fod yn falch yma yng Nghymru nad ydym wedi gweld gwasanaethau awdurdodau lleol yn cael eu preifateiddio ar raddfa eang fel y gwelsom yn Lloegr. Mae hynny'n seiliedig ar y rhagdybiaeth fod ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol ar eu gorau a'u mwyaf effeithlon pan gânt eu cadw'n fewnol a'u darparu gan weithlu a gyflogir yn uniongyrchol. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad am safbwynt y weinyddiaeth flaenorol, a oedd yn atgyfnerthu'r farn y dylid rhybuddio rhag preifateiddio gwasanaethau cyhoeddus allweddol, ond hefyd na ddylid byth ystyried opsiynau eraill ar gyfer rhoi gwaith ar gontract allanol, gan gynnwys cwmnïau cydfuddiannol a chydweithredol, oni bai mai dyma'r unig ddewis ar wahân i breifateiddio? | 548 |
Mae'r gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr yn ei gwneud yn haws i gyflenwyr o Gymru gystadlu am fusnes yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n un o ofynion datganiad polisi caffael Cymru a lofnodwyd gan bob awdurdod lleol. | 549 |
Diolch i Mike Hedges am hynny ac wrth gwrs, rwy'n croesawu adborth gan y Gymdeithas Contractwyr Trydanol ac eraill sydd â diddordeb mewn caffael yma yng Nghymru. Mae Mike Hedges yn llygad ei le yn dweud bod y dystiolaeth yn dangos bod SQuID wedi effeithio'n gadarnhaol ar y sector adeiladu. Cyn ei gyflwyno roedd tua 30 y cant o'r holl gontractau yng Nghymru yn cael eu hennill gan gyflenwyr cynhenid. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ddau fis yn unig yn ôl, enillwydd 82 y cant o gontractau adeiladu mawr a ddyfarnwyd drwy GwerthwchiGymru gan fusnesau cynhenid o Gymru. Felly, mae'n stori lwyddiant. Darllenais y gwaith ymchwil a ddefnyddiwyd gan y Gymdeithas Contractwyr Trydanol. Mae'n bolisi gan Lywodraeth Cymru i annog pob awdurdod cyhoeddus i wneud y defnydd mwyaf posibl o ddull SQuID, ac rwy'n barod iawn i ofyn i fy swyddogion wneud ymdrechion pellach i sicrhau bod y defnydd mwyaf posibl yn cael ei wneud ohono mewn caffael cyhoeddus drwyddo draw. | 550 |
Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw. Credaf ei bod yn bwysig dweud bod ymchwil y Gymdeithas Contractwyr Trydanol yn nodi mai saith yn unig o'r 22 cyngor sy'n defnyddio'r system yn llawn - mae llawer mwy ohonynt yn ei defnyddio ar gyfer rhannau o'r hyn y maent yn ei wneud. Felly, mae'n fater o adeiladu ar yr hyn y maent yn ei wneud yn barod a'i ddefnyddio'n mewn dimensiynau ehangach o'u gwaith. Rwy'n deall y pwynt y mae'n ei wneud ynglŷn â cheisio sicrhau cyn lleied â phosibl o fiwrocratiaeth. Mae dull SQuID wedi ei gynllunio'n fwriadol i geisio ei gwneud yn haws i gwmnïau bach cynhenid gystadlu am fusnes drwy sicrhau mynediad haws at gaffael a chontractau posibl. Rwy'n hapus iawn i ddweud y byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill sy'n ymwneud â'r maes hwn i leihau biwrocratiaeth ddiangen lle bynnag y gellir dod o hyd iddi. | 551 |
Yr eitem nesaf, felly, eitem 3, yw'r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, ac rydw i'n galw ar David Melding i wneud y cynnig. | 552 |
Diolch i chi, Suzy, am dderbyn ymyriad. A fyddech yn cytuno nad yw plant yn gallu camu ymlaen? Rwyf wedi clywed llawer iawn o ystadegau heddiw, ond unigolion ag anghenion unigol yw'r rhain. A fyddech yn cytuno, oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'u lles emosiynol yn gyntaf, yna ni allwch ddisgwyl unrhyw lefelau cyrhaeddiad tra'u bod yn dal i gario'r pwysau emosiynol hwnnw? | 553 |
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn ddiolchgar iawn felly - . Roedd gwrando ar yr hyn a oedd gennych i'w ddweud yn galondid gan fod hwn yn faes y bûm yn bryderus iawn yn ei gylch gydag adolygiad Donaldson. Felly, o ystyried yr hyn a ddywedwch ynglŷn â chael pum TGAU gradd C neu uwch fel dull o fesur y bobl yma yng Nghymru - ac mae gennym gymaint o bobl ifanc, bron i chwarter y bobl ifanc, ag anawsterau dysgu ac a fydd yn ei chael yn anodd cyrraedd y lefel honno, a wnewch chi siarad â'r Ysgrifennydd addysg, ac adolygu dau beth yn ystod Adolygiad Donaldson - un ynglŷn â sut y gallwch edrych ar yr ymarfer ticio blychau hwnnw sydd gennym i raddau helaeth, i fesur cyflawniad academaidd unigolion, ac yn ail, sut y gallem gyflwyno'r hyn y sonioch amdano, y sgil dysgu hwnnw, i ddatblygu'r unigolyn cyflawn? Oherwydd rydych yn hollol gywir - nid yw addysg dda yn ymwneud ag arholiadau, na'r maes llafur, ond yn hytrach mae'n ymwneud â datblygu dinesydd da. | 554 |
Wrth gwrs, a chredaf fod yr Aelod yn iawn i grybwyll y mater hwnnw hefyd. Edrychwch, rydym yn sôn am bobl arbennig iawn yma. Y rhaglen sydd gennym yw Pan Fydda i'n Barod, a sicrhau bod hynny'n golygu pan fo'r unigolyn yn barod, nid pan fo'n gyfleus i ddarparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn ymwneud â phobl go iawn - dyna sy'n rhaid i ni ei ddirnad. Waeth beth fo'r proffil oedran, credaf fod yn rhaid i ni ddeall yn well sut i fynd ati i ddarparu gwasanaethau o safon uchel. Felly, yn olaf Lywydd - rwy'n ymwybodol iawn o'r amser ac mae hi wedi bod yn garedig iawn wrthyf y prynhawn yma - a gaf fi ddweud mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw gweithio gyda'n gilydd? Bydd y grŵp trawsbleidiol yn parhau i weithio gyda ni - byddaf yn cael cyngor, ac yn gwrando'n ofalus iawn arnoch. Byddaf yn adrodd yn ôl i'r Senedd ar ein cynnydd yn y maes hwn, sy'n bwysig iawn i mi. Gwn ei fod yn bwysig i'r Aelodau hefyd, ac mae ganddo gefnogaeth drawsbleidiol. Felly rwy'n annog yr Aelodau heddiw i gefnogi'r cynnig; bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny. | 555 |
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw dadl yn enw Plaid Cymru ar y system etholiadol, ac rwy'n galw ar Sian Gwenllian i gyflwyno'r cynnig. | 556 |
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y gwelliant hwnnw, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Y Prif Weinidog. | 557 |
Rwyf am gael ychydig o wybodaeth ar y cychwyn. Fe ddywedoch nad oes gennych safbwynt. Serch hynny, a ydych yn derbyn argymhelliad comisiwn Richard y dylid defnyddio pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, hyd yn oed os nad ydych wedi penderfynu ynglŷn â'r Cynulliad ei hun? | 558 |
A fyddech yn cytuno bod y sefyllfa bresennol, lle mae gennym wardiau mawr wedi'u cynrychioli gan nifer o aelodau yng nghanol ein dinasoedd mawr, wedi'i chyfuno â system y cyntaf i'r felin, yn wrth-ddemocrataidd mewn gwirionedd, yn union fel roedd yr enghraifft yn ei ddisgrifio? | 559 |
Rydym wedi cael democratiaeth yn y DU ers peth amser ond mae wedi esblygu'n raddol dros y blynyddoedd. Cafwyd dwy Ddeddf ddiwygio fawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a ymestynnodd y bleidlais yn sylweddol ac a ddileodd lawer o fwrdeistrefi pwdr. Efallai y bydd rhai o'r Aelodau'n cofio enghraifft Old Sarum yn Hampshire, o'u gwersi hanes, lle y dywedwyd mai cath oedd yr unig etholwr. Wel, mae bwrdeistrefi pwdr o fath yn dal i fodoli yma yng Nghymru: llefydd fel Blaenau Gwent, lle yr enillodd un blaid - ac ni ddywedaf pwy - 81 y cant o seddi'r cyngor â 55 y cant o'r bleidlais. Ceir enghreifftiau tebyg eraill. Ni waeth pa blaid sy'n elwa, mae system y cyntaf i'r felin yn amlwg yn system etholiadol sy'n aml yn creu sefyllfa y mae'r Aelodau Llafur yn hoffi cyfeirio ati fel y diffyg democrataidd. Mae'r gwaith o graffu a goruchwylio cyngor yn amlwg yn anos mewn sefyllfa lle mae mwyafrif helaeth y seddau gan un blaid. Mewn amgylchiadau o'r fath, efallai y bydd darpariaeth gwasanaethau'r cyngor yn dioddef yn sgil hynny. Yma yn UKIP, rydym yn cefnogi cyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy fel system fwy democrataidd. Byddwn yn gweithio gyda phwy bynnag arall yn y Siambr sy'n ein cefnogi yn y mater hwn. Diolch. | 560 |
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog. Efallai gallai fo helpu fi gyda'r anhawster cyfansoddiadol sydd gen i, hefyd, gyda'r cynnig sydd gerbron, sef bod y Cynulliad hwn yn gofyn unwaith eto i San Steffan i ddeddfu, fel rydw i'n deall y cynnig, ar faterion cyfansoddiadol ddylai fod yn perchen i ni yn y lle hwn. | 561 |
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Byddwn yn gohirio'r bleidlais hon, felly, tan y cyfnod pleidleisio. | 562 |
Diolch. Rwyf wedi dethol tri gwelliant i'r cynnig hwn, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. | 563 |
A gawn ni i gyd ymdawelu a gwrando ar yr hyn y mae'r Aelod sydd ar ei draed yn ei ddweud? Yna caiff eraill y cyfle yn nes ymlaen. | 564 |
Hoffwn ofyn i chi feddwl am y frawddeg olaf ac a fyddai modd i chi newid y geiriad yn y frawddeg olaf honno. Nid oes neb yn dweud celwydd yn y Siambr hon tra rwyf fi yn y gadair. | 565 |
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r rhan fwyaf o'r Aelodau am eu cyfraniadau. [Chwerthin.] I egluro yn gyntaf oll - i ymdrin â'r gwelliannau. Gwn fod yr Aelodau'n pryderu y dylai cod y gweinidogion fod yn agored - mae'n agored; ei fod yn cael ei ddiwygio a'i adolygu o bryd i'w gilydd - mae hynny'n digwydd; a bod yr Aelodau'n ymwybodol o'r hyn y mae cod y gweinidogion yn ei ddweud mewn gwirionedd. Yr hyn a wna'r gwelliant, wrth gwrs, yw sicrhau fy mod yn parhau i adolygu cod y gweinidogion ac yn wir, y ffordd y mae'n gweithredu a bydd hynny'n parhau yn y dyfodol. Mae'r ail welliant, yn enw Paul Davies, ynglŷn â'r comisiynwyr, yn gysylltiedig, am wn i, â'r angen i fod yn agored fel Llywodraeth, ond rwy'n gofyn y cwestiwn mewn gwirionedd: a yw hon yn broblem o ddifrif? Gwyddom y dylai'r comisiynwyr fod yn annibynnol ac maent yn annibynnol ar ôl iddynt gael eu penodi. Ni fyddent yn fwy annibynnol pe baent wedi'u penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol; rhaid i rywun eu penodi. Yr hyn sy'n bwysig yw eu bod yn gallu gweithredu'n annibynnol cyn gynted ag y cânt eu penodi. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd wedi digwydd. Nid ydynt yn gweithredu yn enw'r Llywodraeth fwy nag y byddent yn gweithredu yn enw'r Cynulliad pe bai'r Cynulliad wedi'u penodi, ac felly, fy safbwynt i yw fy mod yn sicr yn credu bod comisiynwyr wedi gweithredu'n annibynnol ac wedi cyflawni eu dyletswyddau'n briodol. Nid oes neb wedi awgrymu ar unrhyw adeg fod y comisiynwyr yn cael eu llyffetheirio mewn unrhyw fodd o ran eu gallu i fynegi eu safbwyntiau a mynegi'r safbwyntiau hynny'n briodol. O ran cynghorwyr arbennig, nid yw hyn yn rhywbeth sy'n digwydd yn San Steffan. Penodir cynghorwyr arbennig gennyf fi; maent hwy hefyd yn ddarostyngedig i god ac mae hynny'n rhywbeth rwyf fi, unwaith eto, yn ei gadw mewn cof wrth iddynt gael eu penodi. Wrth gwrs, disgwylir i gynghorwyr arbennig gadw at y rheolau yn eu swydd ac yn benodol o ran y ffordd y maent yn cadw eu bywyd gwleidyddol, o ran ymgyrchu, ar wahân i'w gwaith fel cynghorwyr arbennig. Ynglŷn â'r trydydd gwelliant - | 566 |
Fy ateb i hynny yw: pam newid rhywbeth sy'n gweithio? Ni fu amheuaeth erioed ynglŷn ag ymddygiad cynghorwyr arbennig. Disgwylir iddynt ymddwyn yn unol â'u cod eu hunain. Ni welaf unrhyw reswm pam y dylid cael gwrandawiadau ar gyfer penodi cynghorwyr arbennig. O ran y trydydd gwelliant yn enw Paul Davies, mae hwn yn welliant drygionus, gadewch i ni fod yn onest, fel y mae'r blaid gyferbyn yn gwybod yn iawn. Mae yna Aelodau yma a fydd yn gwybod y rhoddir camau ar waith lle rwyf fi o'r farn fod cod y gweinidogion wedi'i dorri. Nid wyf yn meddwl y gellir fy nghyhuddo o wneud dim byd os oes yna faterion sy'n galw am sylw. Mae'r penderfyniadau hynny wedi bod yn anodd ac yn boenus i bawb a oedd ynghlwm wrthynt, ond serch hynny mae'n bwysig fod y penderfyniadau hynny wedi'u gwneud. Yr awgrym yw na wneir unrhyw benderfyniadau byth mewn perthynas ag achosion o dorri cod y gweinidogion. Gŵyr yr Aelodau fel arall. Beth bynnag, rwy'n gwybod y gall Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gan ei bod yn rhan o'r Llywodraeth bellach, weithredu fel gwarcheidwad yn hyn o beth. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y caiff cod y gweinidogion ei ddilyn gan y Llywodraeth a sefydlwyd gennym yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae pob Gweinidog yn gwbl ymwybodol o'r cod ac wedi cael gwybod bod yn rhaid iddynt ddarllen y cod hefyd. | 567 |
Yr ateb yw 'gallaf' a do, fe wnaeth, fel y mae hi newydd ddweud wrthych. Gan fod yr holl Weinidogion wedi'u rhwymo gan god y gweinidogion, nid oes unrhyw fodd iddynt allu dewis a dethol, ac ni fu erioed. Bydd y cod hwnnw'n berthnasol i bawb ac mae'n hysbys beth yw'r canlyniadau os torrir y cod. Wel, ni wnaf lawer o sylwadau ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod Neil McEvoy. Mae ei obsesiynau'n hysbys i'r Siambr hon. Mae ganddo ei gŵys ei hun y mae'n dymuno ei thorri. Nid oedd yn ddigon dewr i wneud unrhyw honiadau ac felly, nid yw ei sylwadau yn y Siambr hon yn haeddu ymateb. Felly, o ran gwelliant 1, fel y dywedais, mae hynny'n rhywbeth - [Torri ar draws.] Rydych wedi cael eich cyfle i ddweud eich barn. Mae hwnnw'n rhywbeth rwyf eisoes wedi'i gynnig yn ffurfiol. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 3, nac yn wir y cynnig ei hun heb ei ddiwygio. | 568 |
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Diolch. Felly, gohiriwn yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. | 569 |
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. 9.5 ar raddfa o 10 ydyw, rwy'n meddwl. Ceir graddfa a ddyrennir, ac mae'n 9.5 ar y raddfa honno. Felly, dyna'r gwerth uchaf. | 570 |
Efallai y dylwn ddatgan diddordeb mewn cefnogi gwelliant 1, ar ôl cael y llythyr a ofnwyd gan Volkswagen yn ddiweddar mewn perthynas â fy nghar fy hun. Os byddaf yn gadael ffenestr fy ystafell wely ar agor dros nos yn fy nghartref yn Abertawe, byddaf yn deffro gyda pheswch smygu, ond wrth gwrs, nid peswch smygu ydyw, peswch Port Talbot ydyw. Mae'n fy nghyrraedd ar draws y bae o ran o fy rhanbarth - | 571 |
Ymddengys bod ffocws y ddadl y prynhawn yma ar geir, diwydiant ac unigolion, yn bennaf, ac wrth gwrs dylid canmol ymdrechion synhwyrol i leihau allyriadau o'r ffynonellau hyn. Fodd bynnag, mae yna un llygrwr sy'n llawer mwy na cheir neu bobl. Ceir oddeutu 90,000 o longau cargo ar foroedd y byd. Maent yn llosgi 7.29 miliwn o gasgenni y dydd o'r tanwydd butraf a mwyaf llygrol a adewir dros ben o'r broses puro olew. Mae'r peth mor fudr a thrwm fel y gallwch gerdded arno pan fo'n oer. Mae llongau cargo yn cynhyrchu 260 gwaith y llygredd sy'n cael ei gynhyrchu o geir yn y byd bob blwyddyn. Oherwydd hynny, gallai Cymru a'r DU gau pob cyfleuster sy'n cynhyrchu carbon a llygryddion eraill a thynnu pob car oddi ar y ffordd ac ni fyddai hyd yn oed yn creu tolc o ran faint o lygredd aer sy'n cael ei greu gan y llongau cargo hyn. Mae llygredd aer yn broblem fyd-eang ac mae angen i Gymru a'r DU weithio gyda'r Sefydliad Morol Rhyngwladol a chyrff byd-eang eraill i annog gwaith ar ddatblygu a chyflwyno tanwydd amgen ar gyfer y llongau cargo hyn neu leihau'r llygredd mewn ffyrdd eraill, megis ei gwneud yn ofynnol i longau cargo gario offer technolegol megis sgwrwyr, cyfarpar trosi catalytig a datblygu ffynonellau ynni amgen. Fel arall, rydym yn ceisio gwagio'r cefnfor â gwniadur. | 572 |
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod yn gynharach, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn datgan bod 29,000 o bobl yn y DU yn marw yn gynamserol o ganlyniad i lygredd aer, a 1,500 yn marw o ganlyniad i ddamweiniau ffordd. Mae gwrando ar yr hyn a ddywedwyd o gwmpas y Siambr yn y ddadl hon yn peri pryder mawr, ac mae'n dda clywed geiriau brwd gan bob AC. Ond rwy'n credu mai rhan o'r rheswm rwy'n sefyll yma yn awr yn ôl pob tebyg yw'r gwrthgyferbyniad enfawr rhwng y geiriau brwd yn y Siambr hon gan yr Aelodau Llafur a realiti a chanlyniadau eu polisïau mewn gwirionedd. Am newid, fe siaradaf am gynllun datblygu lleol Caerdydd a chynlluniau datblygu lleol eraill yn fy etholaeth, oherwydd yr hyn y mae'r Blaid Lafur yng Nghyngor Dinas Caerdydd, yma, yr hyn rydych chi - . [Torri ar draws.] Fe ildiaf. | 573 |
Wel, â siarad ar ran fy etholaeth, y camau a gymerwyd gan eich Llywodraeth a'ch Cyngor - [Torri ar draws.] - eich Llywodraeth a'ch cyngor - yw cynyddu llygredd aer ble rydym yn byw. A dyna'r eironi - dyna'r eironi - oherwydd efallai'n wir eich bod yn ei fonitro ond mae eich polisïau yn ei gynyddu, a dyna'r pwynt allweddol. Nawr, rhoddaf rai enghreifftiau lleol i chi. Ffordd Llantrisant - os ydych yn tisian yn y bore, rydych drwyn wrth din, a'r hyn y mae eich polisïau yn ei wneud yw dod â degau o filoedd o geir ychwanegol ar y ffyrdd, ac mae'n mynd i fod yr un fath yng Nghaerffili oni bai eich bod yn rhoi camau ar waith yno. Yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd, ac yn wir, ledled Canol De Cymru, yw bod safleoedd tir glas yn diflannu a safleoedd - . [Torri ar draws.] Nid wyf am ildio y tro hwn. Mae safleoedd tir glas yn diflannu ac rydym yn gweld cynigion lle bydd y traffig drwyn wrth din. Y perygl yn awr gyda'r posibilrwydd o golli cyllid y metro yw nad oes unrhyw gynllun trafnidiaeth hyfyw ar gyfer ein rhanbarth - ar gyfer y cyfan o dde Cymru, mewn gwirionedd. A'r hyn y dylem ei wneud, yn hytrach na siarad a dweud, 'Onid yw'r llygredd aer hwn yn ofnadwy, wyddoch chi, mae'n wirioneddol ddrwg, a hoffem wneud pethau'n well', yr hyn y dylem fod yn ei wneud yn y Siambr hon yw deddfu - deddfu - defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i atal y cynlluniau datblygu lleol hyn rhag dinistrio ein hamgylchedd lleol a gorfodi pobl yn y rhanbarth hwn i anadlu aer llygredig, oherwydd dyna yw canlyniadau'r polisïau y mae'r corff hwn yma wedi'u pasio a'r hyn y mae eich cynghorau yn yr ardal hon hefyd yn ei wneud. Felly, yr hyn rwy'n gofyn amdano, mewn gwirionedd, yw diwedd ar y rhagrith o ddweud, 'Onid yw hyn yn ofnadwy, hoffem wella pethau', a rhoi camau pendant ar waith i wella'r amgylchedd ac ansawdd bywyd yn rhanbarth hwn. Diolch. Diolch yn fawr iawn. | 574 |
Wel, rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â chael cydbwysedd rhwng llygredd aer a llygredd sŵn, ond mae'n ymwneud, fel y dywedais, â sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Nid yw hynny wedi cael ei ddwyn i fy sylw o'r blaen, ond rwy'n hapus iawn i edrych arno. Y tu hwnt i Gymru, mae yna nifer o feysydd gweithgaredd heb eu datganoli sydd eu hangen er mwyn lleihau allyriadau cyn gynted â phosibl. Er enghraifft, mae Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ'r Cyffredin wedi argymell i Lywodraeth y DU y dylid lansio cynllun sgrapio diesel a fyddai'n rhoi grantiau i dorri costau cerbyd allyriadau isel i berchennog sy'n sgrapio ei gerbyd diesel. Felly, ar ôl cyffes Simon Thomas, efallai fod hynny'n rhywbeth rwyf fi'n sicr am ei wylio'n ofalus, ond efallai y byddai Simon Thomas yn hoffi gwneud hynny hefyd. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar lefel yr UE, ond fel y dywedais eisoes, nid cefnogi deddfwriaeth yr UE yn erbyn ein hewyllys a wnaethom: roeddem yn ei wneud am mai dyna sy'n iawn i bobl Cymru, roeddem yn ei wneud am mai dyna sy'n iawn i iechyd y cyhoedd, ac rwy'n credu bod hwn yn gyfle i ni ystyried cryfhau'r ddeddfwriaeth yn y dyfodol. Cefais gyfarfod y bore yma gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ac yn amlwg, mae ansawdd aer yn rhywbeth sy'n rhan o'r broses barhaus o weithredu'r Ddeddf. Cyfeiriodd un Aelod at dacsis, ac un peth a drafodais gyda'r comisiynydd y bore yma oedd y modd y maent wedi cyflwyno fflyd o geir tacsi trydan yn Quebec. Felly, unwaith eto, mae yna enghreifftiau. Gofynnodd rhywun i mi os wyf fi'n edrych ar draws Ewrop; wel, mewn gwirionedd rwy'n edrych ar draws y byd i weld pa enghreifftiau o arferion gorau y gallwn ddysgu gwersi ohonynt. Yn olaf, yn amlwg, byddaf yn cefnogi'r cynnig, ond mewn perthynas â'r ail welliant gan Blaid Cymru, rwy'n bendant yn cefnogi hwnnw. Mae'n cyd-fynd ag amcanion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a'n cynllun gweithredu teithio llesol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Diolch. | 575 |
Rŷm ni'n symud yn awr at y cyfnod pleidleisio. Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio cyn y ddadl fer. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio. | 576 |
Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 39, yn ymatal un, ac 11 yn erbyn y gwelliant. Mae'r gwelliant wedi'i dderbyn. | 577 |
Symud yn awr i'r bleidlais ar ddadl Plaid Cymru ar y cod gweinidogol, ac rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, yn erbyn 39. Felly gwrthodwyd y cynnig. | 578 |
Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 22, yn ymatal dim, yn erbyn y gwelliant 30. Felly mae'r gwelliant wedi'i wrthod. | 579 |
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, yn ymatal un, yn erbyn 21. Mae'r cynnig wedi ei ddiwygio wedi ei dderbyn. | 580 |
Diolch, Lywydd. Anrhydedd mawr i mi, wrth gynrychioli pobl Islwyn, yw codi i gyflwyno'r ddadl fer gyntaf yn y pumed Cynulliad gan Aelod Cynulliad a etholwyd ym mis Mai 2016. Fel cyn-athro, darlithydd a chyn-aelod cabinet dros addysg mewn llywodraeth leol nid yw'n syndod fy mod wedi penderfynu canolbwyntio'r ddadl hon ar y mater mwyaf y mae cartref democratiaeth Cymru yn y fan hon yn gyfrifol amdano - addysg. Lywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau Cynulliad Llafur Cymru canlynol sydd wedi gofyn i mi i siarad yn y ddadl hon. Yn dilyn fy araith byddaf yn ildio munud o'r pymtheg munud a glustnodwyd ar fy nghyfer i'r canlynol: Mike Hedges AC, Hannah Blythyn AC, Hefin David AC, David Rees AC a Huw Irranca-Davies AC. | 581 |
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi'n gyntaf oll ddiolch i Rhianon am roi cyfle i mi siarad? Yn Nwyrain Abertawe, adeiladwyd dwy ysgol uwchradd newydd ac un ysgol gynradd newydd. Mae un ysgol gynradd newydd yn cael ei hadeiladu a gwnaed cais cynllunio i adeiladu ysgol uwchradd newydd arall. Cafwyd adeiladau parhaol yn lle adeiladau dros dro. Mae'r ysgolion newydd hyn yn gwella'r amgylchedd addysgol ar gyfer eu disgyblion. Siaradais â phennaeth un o'r ysgolion hyn a ddywedodd nad oes pryder rhagor pan fydd hi'n bwrw glaw ynglŷn â lle bydd y dŵr yn dod i mewn. Maent yn gwella'r strydoedd yn yr ardal ac yn gwneud iddi edrych yn well ar gyfer y rhai sy'n byw o'i hamgylch. Maent yn darparu gwaith ac yn hwb i'r economi leol. Rwy'n cofio pan oedd adeiladu ysgolion newydd yn golygu ein bod yn disgwyl iddynt bara ymhell dros 400 o flynyddoedd. Gadewch i ni obeithio y bydd y cynllun hwn yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod. | 582 |
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn gyflym iawn, iawn. [Chwerthin.] A gaf fi ddiolch i'r Aelod yn gyntaf oll am ddod â'r mater pwysig hwn i'r Siambr, oherwydd yr hyn rydym yn ei wneud yw darparu cyfleoedd i'n plant ifanc mewn cyfleusterau newydd modern er mwyn sicrhau eu bod yn gallu datblygu i mewn i'r unfed ganrif ar hugain? Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ofyn un peth. Byddaf yn gyflym. Mae'r cynllun busnes, pan edrychwn ar y pethau hyn, yn bwysig, oherwydd weithiau rydym yn symud ysgolion allan o gymunedau. Mae angen i ni sicrhau na niweidir y cymunedau hynny mewn unrhyw ffordd, a hefyd ein bod yn darparu llwybrau diogel i'r ysgol i rai o'r plant hynny hefyd. Felly, fel rhan o'r cynllun, a fyddech cystal â sicrhau bod hynny'n digwydd pan fyddwn yn adeiladu'r cyfleusterau newydd sy'n wych ar gyfer y plant ifanc hynny? | 583 |
Da iawn. Nawr, Rydych i gyd wedi profi y gallwch wneud areithiau byr iawn a dal i wneud eich pwyntiau, felly rydym yn disgwyl i hynny barhau. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams. | 584 |
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi'r diwydiant ffermio yn sir Benfro er mwyn iddo ddod yn fwy proffidiol a chynaliadwy ac, wrth gwrs, i sicrhau bod ffermwyr yn gwneud elw yn y pen draw. | 585 |
Maen nhw'n dal i barhau, wrth gofio'r ffaith bod y gyfraith amgylcheddol sydd wedi cael ei throsglwyddo i gyfraith Cymru yn mynd i aros er bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddai'n fater wedyn i Lywodraeth Cymru benderfynu pa gyfreithiau i gadw yn y pen draw, a pha gyfreithiau na fyddent yn cael eu cadw yn y pen draw. | 586 |
Mae'n wir i ddweud ein bod ni wedi cefnogi ffermwyr i wneud hynny dros y blynyddoedd diwethaf drwy gynlluniau fel Cyswllt Ffermio er enghraifft, a thrwy'r cynllun datblygu gwledig. Mae'n bwysig dros ben ein bod ni'n sicrhau bod pob ffordd i wneud arian yn cael ei roi o flaen ffermwyr er mwyn sicrhau bod eu ffermydd nhw yn fwy cynaliadwy. | 587 |
Bydd hyn yn hollbwysig, ond rydym yn ansicr ar hyn o bryd ynglŷn â beth yw'r sefyllfa. Pe bai statws PGI yn cael ei golli, byddai hynny'n bwrw nid yn unig tato yn sir Benfro, ond cig oen yn enwedig. Mae'r farchnad allforio cig oen yn bwysig dros ben, ac un o'r pethau sydd yn sicrhau ein bod ni'n gallu gwerthu ar draws y byd yw'r ffaith ein bod ni'n gallu rhoi gwarant i brynwyr bod y cig oen yn dod o Gymru a bod y cig oen hynny o'r safon uchaf. Mae'r un peth yn digwydd gyda thato, felly, petaem ni'n colli PGI a statws PDO hefyd, byddai'n rhaid sicrhau bod gyda ni statws cyfartal yng Nghymru er mwyn i brynwyr allu cael yr un hyder. | 588 |
Y metro yw un o elfennau allweddol y cytundeb dinas, a gallai weddnewid gwasanaethau trafnidiaeth yn y de a'r cymoedd. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud, mae swm sylweddol o arian y prosiect nad yw wedi ei gadarnhau hyd yn hyn. Pa gyfle fyddai gan y Prif Weinidog i drafod yn uniongyrchol ag Ewrop am barhad yr arian hwnnw neu gael gweddill yr arian hwnnw? | 589 |
Cyn i mi ddod at gwestiwn, cefais fy heclo gennych chi yr wythnos diwethaf, ac fe wnaethoch chi fy ngalw i'n llwfrgi yn eglur. Byddwn yn awgrymu, yn y dyfodol, eich bod yn ymddwyn mewn ffordd fwy - | 590 |
Rwyf i yn gofyn fy nghwestiwn, gyda pharch, Lywydd, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny. [Torri ar draws.] Rwyf newydd gadeirio cynhadledd ar y cytundeb dinas. [Torri ar draws.] | 591 |
Roedd cannoedd o gynadleddwyr, o'r trydydd sector, o'r Llywodraeth, ac eto dim ond un person oedd yno o fusnes lleol. Fy nghwestiwn i yw: pam nad yw cymunedau lleol a pham nad yw busnesau lleol yn cael eu cynnwys yn y cytundeb dinas? Busnesau bach yw asgwrn cefn yr economi hon ac eto prin y mae eu llais yn cael ei glywed. Pam mae hynny? | 592 |
Brif Weinidog, rydym ni wedi clywed bod y cytundeb metro yn ganolog i'r holl gysyniad hwn. Yn anffodus, bythefnos yn ôl, rwy'n meddwl ein bod wedi sylweddoli bod gagendor mawr rhwng ardaloedd fel Caerdydd ac ardaloedd y cymoedd i'r gogledd, ac adlewyrchwyd hyn yn y patrwm pleidleisio. Ac mae'r metro yn rhoi cyfle i ni integreiddio dyfodol economaidd y ddwy ran bwysig iawn hyn o economi'r de. | 593 |
Diolch yn fawr. Brif Weinidog, mae system wleidyddol San Steffan mewn argyfwng, gyda thwyll ac anfadwaith yn digwydd yn y Blaid Geidwadol a'ch plaid eich hun yn Llundain. Ac mae hyn wedi cael effaith fawr ar Gymru ac ar ddyfodol ein gwlad. A fyddai'r Prif Weinidog yn barod i gael gair gydag ASau Cymru i ddweud wrthynt am gallio ac i wneud eu gwaith, sef dwyn y Llywodraeth Geidwadol i gyfrif, a gwneud yn siŵr bod Cymru'n cael pob ceiniog o'r arian a addawyd i ni pe byddai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd? | 594 |
Brif Weinidog, rwy'n siomedig nad ydych chi'n barod i ddangos rhywfaint o arweinyddiaeth ar y cwestiwn hwn. Os nad ydych chi'n barod i gael gair gyda'ch ASau eich hun, efallai y byddan nhw'n barod i wrando ar y neges hon gennyf i: mae pleidleiswyr yn ein hetholaethau eisiau i ni fod yn llais iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn. Maen nhw eisiau i ni fynd i'r afael â'r hiliaeth sydd wedi codi yn ein cymunedau, maen nhw eisiau i ni fynd yn ôl i'r gwaith, ac maen nhw eisiau ein gweld ni'n symud ein gwlad yn ei blaen. Nawr, y peth olaf sydd ei angen arnyn nhw ar hyn o bryd yw mwy o raniadau a mwy o ymladd mewnol. Yn y cyfarfod cyhoeddus yr oeddwn i'n rhan ohono neithiwr yn Aberystwyth, Brif Weinidog, clywais gan ŵr ifanc y mae ei deulu o dras Almaenig, ac maen nhw'n pryderu am eu dyfodol. Nid ydyn nhw'n gwybod pa hawliau fydd ganddyn nhw, maen nhw'n poeni am adroddiadau yn y wasg ei bod yn bosibl iawn y gallai eu statws fod ar y bwrdd yn y trafodaethau. Nawr, mae llawer o blant wedi bod yn gofyn cwestiynau i'w rhieni pan eu bod yn y sefyllfa hon, ac mae rhieni yn ei chael hi'n anodd iawn ateb y cwestiynau hynny pan fo cymaint nad yw'n hysbys. Nawr, rwy'n gobeithio y gallwch chi ymdrin â hyn yn fwy cynhwysfawr yn y cwestiwn brys yn ddiweddarach, ond mae angen i ni fod yn eglur bod dinasyddion yr UE o fudd net i Gymru. Dylem i gyd ddweud bod croeso i bob un ohonyn nhw yma ac na ddylent orfod gadael y wlad hon os neu pan fydd Brexit yn digwydd yn y pen draw. Brif Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi i bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n dod o rannau eraill o Ewrop y byddwch chi'n eu cefnogi nhw, eu hawliau a'u teuluoedd? | 595 |
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Nawr, mewn gwahanol gyfarfod yr es i iddo ddoe yng Nghaerdydd, clywais gan gynrychiolydd un o'r sectorau a fydd yn cael eu heffeithio'n helaeth gan y bleidlais Brexit. Fe'n hysbyswyd y gallai'r sector addysg bellach a sgiliau golli £760 miliwn o gyllid yn y dyfodol os na chaiff yr arian hwnnw ei ddarparu. Os a phan nad yw'r cyllid hwnnw'n cael ei ddarparu, y bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio fwyaf fydd y rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad gyflogaeth. Dim ond un sector o gymdeithas ddinesig Cymru yw hwnnw, ac mae'n dangos pa mor bwysig yw ein haelodaeth o'r UE a'r manteision sydd yno ac na ddylent eu taflu i ffwrdd. A ydych chi'n cytuno â mi bod y lleisiau hynny o'r gymdeithas ddinesig yn haeddu cael eu clywed pan gaiff telerau Brexit eu trafod, ac a wnewch chi fabwysiadu safbwynt negodi swyddogol i Gymru, i'w gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn a'i anfon at Brif Weinidog newydd y DU? Ac, os na allwch chi ddwyn yr arweinydd Torïaidd newydd yn San Steffan i gyfrif am yr addewidion a wnaed yn ymgyrch refferendwm yr UE, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y bydd y lleoedd prentisiaeth, y cyrsiau hyfforddi a'r cynlluniau dychwelyd i'r gwaith hynny sydd o fudd i rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar hyn o bryd, ar gael i'r bobl hynny yn y dyfodol? | 596 |
Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol nad oes unrhyw gwestiwn y bydd dinasyddion yr UE sy'n byw neu'n gweithio yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio fel testunau bargeinio mewn unrhyw ailnegodi, gan fod eu hawliau wedi eu diogelu'n llawn o dan gonfensiwn 1969 Vienna. A all y Prif Weinidog gadarnhau i mi fod hynny'n wir? | 597 |
Gan droi oddi wrth faterion yr UE, mae'r Prif Weinidog wedi crybwyll yn gwbl gywir y rhagolygon ar gyfer cyflogaeth yng Nghymru ar ôl i ni adael yr UE, a bydd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru'n eistedd ar hyn o bryd ar benderfyniad ynghylch cylchffordd Cymru. Roedd problem o ran hyn dros faint y warant y byddai ei hangen ar gyfer ariannu'r prosiect. Nawr rwy'n deall bod honno wedi cael ei lleihau i lai na 50 y cant o'r cyfanswm, felly nid yw'n ymddangos bod unrhyw reswm pam na allwn ni symud yn gyflym i benderfyniad i roi'r warant hon fel y gall y prosiect enfawr hwn a fydd yn creu swyddi fynd rhagddo. Felly, a allai'r Prif Weinidog ddweud wrthyf os gwelwch yn dda i ble'r ydym ni wedi cyrraedd ar hyn ar hyn o bryd? | 598 |
Bydd yr holl ffactorau hyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Rwy'n cymryd y byddaf yn cael fy atgoffa cyn i'r penderfyniad gael ei wneud - rwy'n siŵr y byddaf - ond gwn y bydd yr Ysgrifennydd dros yr economi yn gwneud cyhoeddiad yr wythnos nesaf ar gynnydd y cynllun hwn. | 599 |