en
stringlengths
38
41.9k
cy
stringlengths
50
42.1k
url
stringlengths
31
150
I am today publishing the report by Lord Murphy of Torfaen on conservatoire and performing arts provision in Wales. Lord Murphy was asked by the previous Minister for Education and Skills to examine the current arrangements for supporting conservatoire and performing arts provision in higher education in Wales and also to examine the role of the Higher Education Funding Council of Wales (HEFCW) in supporting this provision.  He was asked specifically for recommendations on the future funding of conservatoire and related provision in Wales, and for possible future curriculum developments to be identified.   Lord Murphy consulted widely and received 22 written submissions from key stakeholders.  The main recommendations of his report are that: • the revenue funding of the Royal Welsh College of Music and Drama (the College) should be increased from its current base level by some £2\.36m per annum, building up over a period of three years from 2017/18, and HEFCW should give consideration to writing off its interest\-free loan to the College; • the College's autonomy should be reinstated, its name should be changed to "The Royal Conservatoire of Wales", and its national role further developed; • the College, subject to the implementation of the recommendations on funding and governance, should plan to introduce contemporary\-dance training at the undergraduate level during the next three years, whilst keeping under review any pressing need for expanded musical theatre provision. Lord Murphy also suggests that HEFCW might wish, in due course, to establish whether any important features of teaching provision in the creative industries might require, as with the STEM subjects, an expensive\-subject premium to cover the full cost of such provision. I am immensely grateful to Lord Murphy for having agreed to lead this review and for having produced a report which so clearly sets out how we might support and develop conservatoire provision in Wales.  The creative industries sector is burgeoning in Wales and it is vital that those industries can continue to recruit people with the skills and expertise they need.  Conservatoire and performing arts provision in higher education in Wales must be of the highest quality and it is in keeping with our wider National Mission that we should support excellence wherever it is to be found. I welcome Lord Murphy’s recommendations.  I have already indicated to HEFCW that reinstatement of the expensive subjects premium funding (which includes funding for conservatoire and related provision) should be a priority for any additional investment in higher education from 2019\-20 onwards made possible by implementation of the Diamond reforms to HE funding and student finance.  In making decisions about future funding allocations, I would expect HEFCW to have regard to Lord Murphy’s recommendations about the base level of revenue funding needed to place the College on a comparable funding base to other competitor institutions.  I have also asked HEFCW to work with the College to explore opportunities for widening its current curriculum offer to include contemporary dance training in future. Lord Murphy’s other recommendations are addressed to the University of South Wales and the College. I am delighted that the University and the College also welcome Lord Murphy’s report and are committed to working together to take forward the ideas set out there.  The future status of the College and governance relationships between the College and the University are entirely a matter for the two organisations.  However, the Welsh Government and HEFCW will continue to work closely with those organisations and others to ensure that conservatoire and related performing arts provision remains buoyant in Wales and is of the highest quality. https://beta.gov.wales/higher\-education\-funding
Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad yr Arglwydd Murphy o Dorfaen ar ddarpariaeth conservatoire a’r celfyddydau perfformio yng Nghymru. Gofynnodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau blaenorol i’r Arglwydd Murphy archwilio’r trefniadau cyfredol ar gyfer cefnogi darpariaeth conservatoire a’r celfyddydau perfformio yng Nghymru ac archwilio rôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn cefnogi’r ddarpariaeth hon. Hefyd, gofynnwyd yn benodol iddo lunio argymhellion ynglŷn ag ariannu darpariaeth conservatoire a darpariaeth gysylltiedig yn y dyfodol yng Nghymru, ac i nodi sut y gellid datblygu’r cwricwlwm. Bu’r Arglwydd Murphy’n ymgynghori’n eang a derbyniodd 22 o gyflwyniadau ysgrifenedig gan randdeiliaid allweddol. Prif argymhellion ei adroddiad yw: • dylid cynyddu cyllid Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (y Coleg) o’i lefel sylfaenol cyfredol tua £2\.36 miliwn y flwyddyn, dros gyfnod o dair blynedd o 2017/18 ymlaen, a dylai CCAUC ystyried dileu dyled ei fenthyciad di\-log i’r Coleg; • dylid adfer ymreolaeth y Coleg, newid ei enw i “Conservatoire Brenhinol Cymru”, a datblygu ei rôl genedlaethol ymhellach; • dylai’r Coleg, yn amodol ar weithredu’r argymhellion yn ymwneud â chyllido a llywodraethu, gynllunio i gyflwyno hyfforddiant dawns gyfoes ar gyfer israddedigion dros y tair blynedd nesaf, a pharhau i adolygu unrhyw angen sylweddol am ddarpariaeth theatr gerddorol estynedig. Mae’r Arglwydd Murphy hefyd yn awgrymu y gallai CCAUC ystyried, maes o lawr, a oes angen premiwm pwnc drud i dalu costau llawn unrhyw nodweddion pwysig o’r ddarpariaeth addysgu yn y diwydiannau creadigol, yn debyg i’r hyn a geir ar gyfer pynciau STEM. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Arglwydd Murphy am gytuno i arwain yr adolygiad hwn ac am lunio adroddiad sy’n nodi’n glir sut y gallem gefnogi a datblygu darpariaeth conservatoire yng Nghymru. Mae sector y diwydiannau creadigol yn cynyddu yng Nghymru ac mae’n hanfodol bod y diwydiannau hynny’n gallu parhau i recriwtio pobl sy’n meddu ar y sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol. Mae’n rhaid i ddarpariaeth conservatoire a’r celfyddydau perfformio yn addysg uwch Cymru fod o’r safon uchaf ac mae cefnogi rhagoriaeth ble bynnag y bo yn cyd\-fynd â’n Cenhadaeth Genedlaethol ehangach. Rwy’n croesawu argymhellion yr Arglwydd Murphy. Rwyf eisoes wedi dweud wrth CCAUC y dylai adfer cyllid premiwm ar gyfer pynciau drud (sy’n cynnwys cyllid ar gyfer darpariaeth conservatoire a darpariaeth gysylltiedig) fod yn flaenoriaeth ar gyfer unrhyw fuddsoddiad ychwanegol mewn addysg uwch o 2019\-20 ymlaen a fydd yn bosibl drwy weithredu diwygiadau Diamond i gyllid AU a chyllid myfyrwyr. Wrth wneud penderfyniadau am ddyraniadau cyllid y dyfodol, byddwn yn disgwyl i CCAUC ystyried argymhellion yr Arglwydd Murphy am lefel sylfaenol y cyllid refeniw sydd ei angen i osod y Coleg ar sail gyllido gymaradwy â sefydliadau eraill sy’n cystadlu ag ef. Rwyf hefyd wedi gofyn i CCAUC weithio gyda’r Coleg i ystyried cyfleoedd i ehangu ei gwricwlwm cyfredol i gynnwys hyfforddiant dawns cyfoes yn y dyfodol. Mae argymhellion eraill yr Arglwydd Murphy wedi’u cyfeirio at Brifysgol De Cymru a’r Coleg. Rwy’n falch bod y Brifysgol a’r Coleg hefyd yn croesawu adroddiad yr Arglwydd Murphy ac yn ymrwymedig i gydweithio i ddatblygu’r syniadau a nodwyd. Mater i’r ddau sefydliad yw statws y Coleg yn y dyfodol a’r cysylltiadau llywodraethu rhwng y Coleg a’r Brifysgol. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru a CCAUC yn parhau i weithio’n agos gyda’r sefydliadau hynny ac eraill i sicrhau bod darpariaeth conservatoire a’r celfyddydau perfformio cysylltiedig yn parhau i fod yn hyfyw yng Nghymru a’i bod o’r safon uchaf. https://beta.llyw.cymru/cyllid\-addysg\-uwch
https://www.gov.wales/written-statement-lord-murphys-report-conservatoire-performing-arts-provision-wales
  Two years ago, the United Nations Committee on the Rights of the Child published its 2016 report on the United Kingdom’s progress in implementing children’s rights since it last reported in 2008\. The report was informed by evidence from all parts of the UK.  At the time, the Committee took note of Wales’ progress in relation to children’s rights, for example, our Together for Children and Young People programme to support improved mental health for children and young people, and efforts on coordinating a better response to child sexual exploitation.  The Committee also praised how the right to play is promoted in Wales. Our work on children’s rights continues.   The Welsh Government is committed to putting the rights of children at the centre of our policy making.  The UN Committee’s recommendations and concluding observations have given us another opportunity to review our work on children’s rights and consider how we can continue to improve. The Committee’s recommendations cover a number of areas, including general principles such as respect for the views of the child; violence against children; family environment and alternative care; disability, basic health and welfare; and education, leisure and cultural activities. Some of the recommendations sit in non\-devolved areas, and, of course, we will work with and seek to influence the UK Government as it considers those. In Wales momentum continues to build on a number of the areas where we have the powers to make a difference. I have highlighted below some of the key areas where progress has been, or is being made. Both the Welsh Government and the Assembly Commission are taking forward the principle and objective of showing respect for the views of the child, by providing greater opportunities to participate in decisions which affect them. Following a unanimous vote of support from Assembly Members on 19 October 2016, the Llywyd announced her intention to establish a Welsh Youth Parliament.  Since then the Assembly Commission has worked with a Youth Parliament Steering Group to develop and consult on a proposal for a Youth Parliament. Elections to the Welsh Youth Parliament of the 60 young members will take place in November 2018, with young people electing 40 of their peers and the remaining 20 elected by partner organisations. This will ensure representation from diverse groups of young people from across Wales. This will complement the work of Young Wales which engages with children and young people through youth groups, forums and councils, and through social media, enabling them to tell the Welsh Government their views on issues of their own choice. The Welsh Government, working with Young Wales, is currently consulting with young people on their hopes and concerns around Brexit. Giving 16 and 17 year olds the vote is a key issue for young people who want to have a say in what happens in their local area and Wales as a whole. In July 2017 the Welsh Government consulted on votes for 16 year olds, as part of a wider programme of electoral reform, with a view to taking this policy forward. Officials engaged with stakeholders and partners working with young people to ensure they had the opportunity to respond to the consultation. Welsh Government intends to take this forward in a Local Government Bill and will consider what awareness and education campaigns will need to accompany the extension of the franchise to inform young people of their right to vote. Engagement with stakeholders on this matter has already started. It is my hope that we will see 16 and 17 year olds participating fully in the democratic process within the next few years. The Welsh Government is committed to creating an inclusive education system for all learners, regardless of their needs and background, to ensure they are able to access a high standard of education and reach their potential. This is the main aim of the Additional Learning Needs Transformation Programme which will ensure that learners are placed at the heart of the process. A fundamental aspect of this programme is the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 which received Royal Assent in January 2018\. Implementation of the Act will introduce a single legislative framework for supporting all learners aged 0\-25 with ALN, regardless of the severity or complexity of need. The framework will improve the planning and delivery of additional learning provision, through a person\-centred approach to identifying needs early on and putting in place effective support and monitoring, and adapting interventions to ensure they deliver appropriate outcomes. Narrowing the attainment gap between disadvantaged learners and their peers is a priority for the Welsh Government and we remain committed to the Pupil Development Grant for the remainder of this Assembly term. This long\-term commitment will enable schools to make sustainable, long\-term decisions on investment that help identify and address barriers to learning early. In addition, the Cabinet Secretary for Education has agreed to provide over £8m in 2018\-19 to support the education of minority ethnic, Gypsy, Roma and Traveller learners. Our commitment to legislate to remove the defence of physical punishment of children is rooted in our determination to protect children’s rights.  We have consulted on our proposal to achieve this and will publish the summary and analysis of responses shortly. This is part of a wider package of measures to support children and their parents byproviding information and advice on positive parenting techniques, whether through our programmes, collaboration with partners in the public and third sectors, or through our “Parenting – Give It Time” campaign. Our early intervention programmes continue to work proactively with children and families to highlight and tackle issues before they become a problem. In 2016\-17 our Flying Start programme supported over 37,000 children and their families, exceeding our target of 36,000\.The provision of high quality, part\-time childcare for 2\-3 year olds is a key element of Flying Start, and childcare is offered to parents of all eligible children for 2\.5 hours a day, 5 days a week for 39 weeks. The childcare provision focuses on improving the outcomes for young children. Wales led research is providing a focus on the potential impact of Adverse Childhood Experiences (ACEs), and I am considering how we can reduce the incidence of ACEs and help children to build resilience.  As part of this work, the Welsh Government is supporting the work of the ACE Support Hub to enable professionals and organisations across sectors such as education, housing and the police to become ACE informed. Together 4 Children and Young People, alongside its work to improve access to clinical service when required, is mapping and evaluating programmes for prevention and early intervention through its Early Intervention and Enhanced Support to Vulnerable Groups work stream. This includes the role of Local Primary Mental Health Support Services to ensure that children and young people in need of targeted support receive this in a co\-ordinated fashion.   We are also investing in quality childcare, both to support  families with employment choices, and to ensure children receive the care and help they need to develop the skills needed in later life.   A key commitment for this government term is the delivery of our childcare offer, which will provide 30 hours of government\-funded childcare and early education to the working parents of three and four year olds for 48 weeks of the year.  Bringing together early education and childcare, we are supporting children with the transition to full time school whilst simultaneously enabling parents to access employment and improve families’ prospects.   The Welsh Government will continue to take every opportunity to reinforce and strengthen our commitment to ensuring children and young people are able to live their lives in a way that allows them to flourish in a safe and nurturing environment.  This will inevitably include all parts of government working closely together and with partners outside government, and I look forward to us making further progress in the coming years. The UN Committee’s report is available on the Welsh Government’s website, a link is provided below. I ask everyone, especially those with an interest in children, young people and their families to take some time to consider the recommendations made and the ways in which every one of us can help make these rights part of the fabric of our society. http://gov.wales/topics/people\-and\-communities/people/children\-and\-young\-people/rights/?lang\=en    
Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ei adroddiad ar gyfer 2016 ar gynnydd y Deyrnas Unedig o ran gweithredu hawliau plant ers yr adroddiad diwethaf yn 2008\. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.  Nododd y Pwyllgor gynnydd Cymru mewn perthynas â hawliau plant. Er enghraifft, nodwyd ein rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, sydd â’r nod o gefnogi’r gwaith o wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Nodwyd hefyd yr ymdrechion i gydlynu gwell ymateb i achosion o gam\-fanteisio’n rhywiol ar blant.  Yn ogystal, fe wnaeth y Pwyllgor ganmol ymdrechion Cymru i hyrwyddo’r hawl i chwarae. Wrth gwrs, mae ein gwaith mewn perthynas â hawliau plant yn parhau.   Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi’r lle canolog i hawliau plant yn ein gwaith o lunio polisïau.  Mae argymhellion Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig a’i sylwadau terfynol wedi rhoi cyfle arall inni adolygu ein gwaith ar hawliau plant ac ystyried sut y gallwn barhau i wella. Mae argymhellion y Pwyllgor yn cyffwrdd â nifer o feysydd, gan gynnwys egwyddorion cyffredinol megis parchu barn plant; trais yn erbyn plant; amgylchedd teuluol a gofal amgen; anabledd; iechyd a lles sylfaenol; ac addysg, hamdden a gweithgareddau diwylliannol. Mae rhai o’r argymhellion yn ymwneud â meysydd nad ydynt wedi’u datganoli ac fe weithiwn, wrth gwrs, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a cheisio dylanwadu arni wrth iddi ystyried y materion hynny. Yng Nghymru, mae momentwm yn parhau i ddatblygu mewn sawl maes lle y mae gennym y pwerau i wneud gwahaniaeth. Rwyf wedi tynnu sylw at rai o’r meysydd allweddol isod lle y mae cynnydd wedi cael ei wneud, neu yn digwydd ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad yn bwrw ymlaen â’u hymdrechion mewn perthynas â’r egwyddor a’r amcan o barchu barn plant, a hynny drwy roi mwy o gyfleoedd i blant gyfrannu at y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Yn dilyn pleidlais unfrydol gan Aelodau’r Cynulliad ar 19 Hydref 2016, cyhoeddodd y Llywydd ei bwriad i sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru.  Ers hynny, mae Comisiwn y Cynulliad wedi gweithio gyda Grŵp Llywio’r Senedd Ieuenctid i ddatblygu ac ymgynghori ar y cynnig i sefydlu Senedd Ieuenctid. Cynhelir etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd 2018 er mwyn ethol 60 o aelodau ifanc. Bydd pobl ifanc yn ethol 40 o’u cyfoedion, a chaiff yr 20 o aelodau eraill eu hethol gan sefydliadau sy’n bartneriaid. Bydd hyn yn sicrhau bod grwpiau amrywiol o bobl ifanc o bob rhan o Gymru yn cael eu cynrychioli. Bydd hyn yn ategu gwaith Cymru Ifanc sy’n ymgysylltu â phlant a phobl ifanc drwy grwpiau, fforymau a chynghorau ieuenctid, a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol, gan roi cyfle iddynt ddweud eu dweud wrth Lywodraeth Cymru am y materion sydd o bwys iddynt. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru, gan gydweithio â Chymru Ifanc, yn ymgynghori â phobl ifanc ar eu gobeithion a’u pryderon mewn perthynas â Brexit. Mae rhoi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn fater o bwys i bobl ifanc sydd am gael llais a dylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd yn eu hardal leol a thrwy Gymru gyfan. Ym mis Gorffennaf 2017, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar roi’r bleidlais i bobl 16 oed, fel rhan o raglen ehangach o ddiwygio’r system etholiadol, gyda golwg ar fwrw ymlaen â’r polisi hwn. Ymgysylltodd swyddogion â rhanddeiliaid a phartneriaid sy’n gweithio gyda phobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod wedi cael cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â’r gwaith hwn mewn Bil Llywodraeth Leol yn ogystal ag ystyried pa ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ac i addysgu y mae eu hangen i gyd\-fynd ag estyn yr etholfraint, er mwyn rhoi gwybod i bobl ifanc am eu hawl i bleidleisio. Mae’r gwaith o ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y mater hwn eisoes wedi dechrau. Fy ngobaith i yw y gwelwn bobl ifanc 16 ac 17 oed yn chwarae rhan lawn yn y broses ddemocrataidd o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol i bob dysgwr, beth bynnag fo’u hanghenion a’u cefndir, i sicrhau y gallant fanteisio ar addysg o safon uchel er mwyn cyrraedd eu potensial. Dyma brif nod y Rhaglen i Drawsnewid y System Anghenion Dysgu Ychwanegol a fydd yn sicrhau bod dysgwyr yn cael y lle canolog yn y broses. Un agwedd allweddol o’r rhaglen hon yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2018\. Bydd y Ddeddf yn cyflwyno un fframwaith deddfwriaethol i gefnogi pob dysgwr rhwng 0 a 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, pa mor ddifrifol neu gymhleth bynnag yw eu hangen. Bydd y fframwaith yn gwella’r broses o gynllunio a chyflwyno darpariaeth ddysgu ychwanegol, drwy ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar unigolion er mwyn nodi anghenion yn gynnar, rhoi system gymorth a monitro effeithiol ar waith, ac addasu ymyriadau er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni’r canlyniadau priodol. Mae lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr sydd o dan anfantais a’u cyfoedion yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac rydym yn dal i fod yn ymroddedig i’r Grant Datblygu Disgyblion am weddill tymor y Cynulliad hwn. Bydd yr ymrwymiad hirdymor hwn yn galluogi ysgolion i wneud penderfyniadau hirdymor a chynaliadwy ar fuddsoddiad, sy’n helpu i nodi a mynd i’r afael â rhwystrau i ddysgu yn gynnar. Yn ogystal, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi dros £8 miliwn yn 2018\-19 i gefnogi addysg ar gyfer dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae ein hymrwymiad i ddeddfu er mwyn dileu’r amddiffyniad o ran cosbi plant yn gorfforol yn dangos pa mor benderfynol yr ydym i warchod hawliau plant.  Rydym wedi ymgynghori ar ein cynnig i gyflawni hyn a byddwn yn cyhoeddi crynodeb a dadansoddiad o’r ymatebion yn fuan. Mae hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau i gefnogi plant a’u rhieni drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor o ran defnyddio technegau mwy cadarnhaol i fagu plant, naill ai drwy ein rhaglenni, drwy gydweithio â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, neu drwy ein hymgyrch “Magu plant – Rhowch amser iddo”. Mae ein rhaglenni ymyrraeth gynnar yn parhau i weithio mewn ffordd broactif â phlant a theuluoedd er mwyn tynnu sylw at faterion penodol a mynd i’r afael â hwy cyn iddynt ddod yn broblem. Yn 2016\-17, fe wnaeth ein rhaglen Dechrau’n Deg gefnogi dros 37,000 o blant a’u teuluoedd, gan ragori ar ein targed o 36,000\. Mae darparu gofal plant rhan\-amser o ansawdd uchel ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed yn elfen allweddol o Dechrau’n Deg, ac mae’r rhaglen yn cynnig gofal plant i rieni pob plentyn cymwys, a hynny am 2\.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am gyfnod o 39 wythnos. Mae’r ddarpariaeth gofal plant yn canolbwyntio ar wella deilliannau ar gyfer plant bach. Mae Cymru’n arwain gwaith ymchwil sy’n edrych ar yr effeithiau posibl yn sgil Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, ac rwyf yn ystyried sut y gallwn leihau niferoedd y Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a helpu plant i feithrin y gallu i oresgyn problemau.  Fel rhan o’r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith y Ganolfan Gymorth ar gyfer Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, er mwyn galluogi gweithwyr proffesiynol a sefydliadau ar draws sectorau megis addysg, tai a’r heddlu i ddod yn fwy gwybodus am brofiadau o’r fath. Mae Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, ochr yn ochr â’i waith i wella mynediad at wasanaeth clinigol pan fo’i angen, yn mapio a gwerthuso rhaglenni atal ac ymyrryd yn gynnar drwy ei ffrwd waith Ymyriadau Cynnar a Gwell Cymorth i Grwpiau sy’n Agored i Niwed. Mae hyn yn cynnwys Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol, sy’n gwneud gwaith i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd angen cymorth penodol yn ei gael mewn ffordd gydlynol.   Rydym hefyd yn buddsoddi mewn gofal plant o safon, er mwyn cefnogi teuluoedd â’u dewisiadau cyflogaeth, a sicrhau bod plant yn derbyn gofal a chymorth er mwyn iddynt allu datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.   Cyflawni ein cynnig gofal plant yw un o brif ymrwymiadau’r Llywodraeth ar gyfer y tymor hwn, sef darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar wedi’i ariannu gan y Llywodraeth i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant tair a phedair blwydd oed, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn.  Gan ddod ag addysg gynnar a gofal plant at ei gilydd, rydym yn cefnogi plant i bontio i addysg lawn\-amser ac, ar yr un pryd, yn galluogi rhieni i gael mynediad at gyflogaeth gan wella rhagolygon teuluoedd.   Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i gryfhau ac ategu ein hymrwymiad i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu byw eu bywydau mewn ffordd sy’n caniatáu iddynt ffynnu a llwyddo, a hynny mewn amgylchedd diogel sy’n helpu i’w meithrin.  Bydd hyn yn golygu bod angen i bob rhan o’r Llywodraeth weithio gyda’i gilydd a chyda phartneriaid y tu allan i’r Llywodraeth, ac edrychaf ymlaen at ein gweld yn gwneud cynnydd pellach yn y blynyddoedd i ddod. Mae adroddiad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru \- gweler y ddolen isod. Gofynnaf i bawb, yn enwedig y rhai hynny sydd â diddordeb ym maes plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, i ystyried yr argymhellion a wnaed a sut y gallwn ni i gyd helpu i sicrhau bod hawliau plant yn rhan annatod o’n cymdeithas. https://gov.wales/topics/people\-and\-communities/people/children\-and\-young\-people/rights/?skip\=1\&lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-marking-second-anniversary-publication-un-committee-rights-childs-concluding
In December I issued a Written Statement to inform you the Welsh Government will introduce a licensing scheme for mobile animal exhibits (MAEs) in Wales. Wales prides itself on having excellent animal welfare standards and expects everyone to reflect this by being responsible owners. The development of this licensing scheme reinforces our commitment to ensuring the highest welfare standards for all animals kept in Wales. Examples of MAEs include travelling falconry and hawking displays, exotic pets taken into schools for educational purposes, reindeer at Christmas events and of course, travelling circuses. A full consultation will be launched in 2018 and we will continue to work closely with stakeholders to ensure we develop a licensing scheme which delivers a lasting impact on animal welfare standards in Wales. We are aware similar schemes are being considered by other UK administrations and will monitor developments to ensure these schemes work together. Although there are no circuses based in Wales, they do visit and it is important the welfare needs of their animals are not overlooked.  I am exploring opportunities to bring forward legislation to ban the use of wild animals in circuses in Wales.   I intend to learn from the recent scrutiny of the Wild Animals in Travelling Circuses (Scotland) Act 2018, particularly discussion of ethical and welfare arguments for a ban. We need to consider how to frame proposals for a similar ban in Wales so they do not impact on all MAEs within the scope of a licensing scheme. I have asked my officials to explore the options now available to Welsh Ministers.
Ym mis Rhagfyr cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig i'ch hysbysu bod Llywodraeth Cymru am gyflwyno cynllun ar gyfer trwyddedu arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid yng Nghymru. Testun balchder inni fel gwlad yw bod gennym safonau lles anifeiliaid rhagorol ac mae disgwyl i bawb gefnogi hynny trwy fod yn berchenogion cyfrifol. Mae datblygu'r cynllun trwyddedu hwn yn cryfhau'n hymrwymiad i sicrhau'r safonau lles uchaf ar gyfer pob anifail a gedwir yng Nghymru. Mae Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid yn cynnwys arddangosfeydd heboga teithiol, anifeiliaid anwes egsotig sy’n cael eu harddangos mewn ysgolion at ddibenion addysgol, a cheirw Llychlyn mewn digwyddiadau adeg y Nadolig, a syrcasau wrth gwrs. Caiff ymgynghoriad llawn ei gynnal yn 2018 a byddwn yn parhau i  gydweithio'n glos â rhanddeiliaid i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu cynllun trwyddedu sy'n cael effaith barhaol ar safonau lles anifeiliaid yng Nghymru. Rydym wedi cael ar ddeall bod gweinyddiaethau eraill y DU wrthi'n ystyried cynlluniau tebyg a byddwn yn monitro datblygiadau i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn ategu'i gilydd. Er nad oes gan Gymru ei syrcasau ei hun, maen nhw'n ymweld â'r wlad ac mae'n bwysig nad ydym yn diystyru anghenion lles eu hanifeiliaid. Rwy'n chwilio am gyfleoedd i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Rwyf am ddysgu oddi wrth y craffu a fu ar y Wild Animals in Travelling Circuses (Scotland) Act 2018, yn enwedig y dadleuon moesol a lles o blaid gwaharddiad. Bydd gofyn inni ystyried geiriad cynigion ar gyfer gwaharddiad tebyg yng Nghymru rhag iddo effeithio ar bob Arddangosfa Deithiol a ddaw o dan drwydded. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion ystyried yr opsiynau sydd ar gael i Weinidogion Cymru.
https://www.gov.wales/written-statement-mobile-animal-exhibits
On 29 March 2018, the 6 health boards covering the south Wales region – Abertawe Bro Morgannwg; Aneurin Bevan; Cardiff and Vale; Cwm Taf; Hywel Dda; and Powys – considered recommendations in relation to the establishment of a major trauma network for south Wales, west Wales and south Powys. This statement is to update Members on the decisions which were taken by the health boards. ### Major trauma Major trauma refers to multiple or serious injuries that may result in disability or death. Injuries can include serious head injuries, multiple injuries caused by road traffic accidents, industrial accidents, falls, mass casualty events and knife and gunshot wounds. Less than 0\.2% of people (two out of 1,000\) attending their local emergency department will have suffered a major trauma. Each individual emergency department will therefore see only one or two major trauma cases a week. There is a significant amount of evidence to show that patients who suffer a major trauma have a greater chance of survival and recover better if they are treated within a major trauma network. ### Establishment of a major trauma network for south Wales Proposals to establish a major trauma network for south wales have been in development for some time. It is currently the only region in England and Wales that is not currently part of such a network. North Wales and north Powys is part of west Midlands major trauma network that supports the major trauma centre in north Staffordshire, and the people in those areas benefit from improved outcomes as a result. The work to coordinate the establishment of the south Wales network has been led by the NHS Wales Collaborative. This was done in collaboration with the six health boards; the Welsh Ambulance Service NHS Trust; the Emergency Medical Retrieval and Transfer Service; and also involved the third sector and community health councils. In 2015, a workshop led by clinicians looked at the options available to develop a network in south Wales and agreed this should be done through the establishment of a major trauma centre on a single site (either Morriston Hospital in Swansea or University Hospital of Wales in Cardiff), supported by a number of trauma units. Local emergency hospitals would continue to see people with serious illness and injuries. ### Independent panel An independent panel of expert clinicians working in major trauma looked at the evidence and provided advice on the best hospital site for the major trauma centre. In doing so, they identified 3 main factors: clinical interdependencies; critical mass; and travel times. After detailed consideration, the panel recommended: * A major trauma network for South Wales with a clinical governance infrastructure should be quickly developed. The aim of a clinical governance infrastructure is to make sure a service is high quality, focuses on the patients, and has strong clinical leadership. * The adults’ and children’s’ major trauma centres should be on the same site. * The major trauma centre should be at University Hospital of Wales, Cardiff. * Morriston Hospital, Swansea should become a large trauma unit and should have a lead role for the major trauma network. * A clear and realistic timetable for putting the trauma network in place should be set. The panel did not believe that either Morriston Hospital or University Hospital of Wales as a major trauma centre would have any significant advantage over the other in terms of geography. Rather, the panel decided that providing specific highly specialist services such as neurosurgery and paediatric neurosurgery on the same site as the major trauma centre was the main factor in deciding where to base the major trauma centre. Full details of the reasoning behind the recommendations can be found on the Public Health Wales website at: publichealthwales.org/majortraumaconsultation ### Public consultation The independent panel’s recommendations were included as part of the formal public consultation which ran between 13 November 2017 and 5 February 2018\. Local meetings were held across the region, with each health board holding a public meeting in each of their districts. There were over 1,000 consultation responses received from across the region, with a further several hundred people engaging through social media. 242 people attended the 17 public meetings.  I would like to thank everyone who took the time to respond to the consultation and value their views on helping to shape this important new service. All of the views expressed through the many channels open to the public were treated on an equal footing and were considered by the NHS Wales Health Collaborative Leadership Forum, which is made up of chairs and chief executives of health boards and trusts in Wales. A range of opinions were expressed, analysed and considered as part of the consultation exercise. After considering the conduct of the consultation and the analysis of the responses received, the Forum was content that the consultation has been conducted in an appropriate manner and in a way that met the requirements of applicable guidance. Whilst issues were raised which will need to be further considered, addressed or mitigated as part of the implementation of the major trauma network, the Forum concluded that nothing had been raised which would affect the recommendations of the Independent Panel. It therefore recommended to health boards that they approve the establishment of a major trauma network for south and west Wales and south Powys, in line with the recommendations of the Independent Panel. ### Board meetings on 29 March 2018 Each of the 6 health boards met on 29 March to consider the recommendations of the NHS Wales Health Collaborative Leadership Forum. All approved the establishment of a major trauma network for the region and that a new major trauma centre should be located at the University Hospital of Wales in Cardiff. None of the Accident \& Emergency Departments at any of the District General Hospitals will be downgraded on the basis of these decisions and will continue to see and treat the vast majority of patients, as they do currently. Morriston Hospital will play a significant role in the major trauma network. It has been agreed that the hospital will become a large trauma unit and have the lead role for the network. I have stated on a number of occasions that there are also no plans to relocate the well established burns and plastics unit from Morriston Hospital and take this opportunity to again confirm that this remains the case. Our commitment to the future of the hospital is clear, as demonstrated by the announcement in January 2018 that the thoracic surgery service in South Wales will be based there. This illustrates the continuing importance we place on the hospital as a centre of excellence. ### Next steps The health boards are now working together to establish an implementation programme, which will continue to involve all community health councils and stakeholders. Work is progressing to establish a Trauma Network Board for South Wales, which is anticipated to have its inaugural meeting in late spring/early Summer. The Network Board will oversee the establishment of the network for the region, ensuring the provision of high quality, safe and effective services for the population. The Board will be responsible for developing policies and protocols to support the successful implementation of the network. It will facilitate joint working including developing links between pre\-hospital services, trauma units and the trauma centre. Work is also progressing with the appointment of a clinical lead, who will provide leadership and management in order to create, shape and embed an effective, patient focussed trauma service in south and west Wales and south Powys. There will be additional capital and revenue costs associated with establishing the major trauma network across the region, including business cases which will be required for the infrastructure at the University Hospital of Wales and Morriston Hospital. These will be considered in the context of the phased implementation programme, the wider site development plans, interdependencies that exist between trauma services and other clinical services and will be subject to formal business case approval by Welsh Government.
Ar 29 Mawrth 2018, ystyriodd y chwe bwrdd iechyd sy'n rhan o ardal De Cymru – sef Abertawe Bro Morgannwg; Aneurin Bevan; Caerdydd a'r Fro; Cwm Taf; Hywel Dda; a Phowys – argymhellion mewn perthynas â  sefydlu rhwydwaith trawma mawr ar gyfer De a Gorllewin Cymru a De Powys. Diben y datganiad hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y penderfyniadau a wnaed gan y byrddau iechyd. Trawma mawr Mae trawma mawr yn cyfeirio at anafiadau niferus neu ddifrifol a allai arwain at anabledd neu farwolaeth.  Mae’r anafiadau’n gallu cynnwys anafiadau difrifol i’r pen, anafiadau niferus ar ôl damweiniau ar y ffyrdd, damweiniau diwydiannol, cwympiadau, anafiadau i lawer o bobl ar ôl digwyddiad mawr a chlwyfau sy’n cael eu hachosi gan gyllyll a drylliau.  Bydd llai na 0\.2% o bobl (dau o bob  1,000\) sy'n mynychu eu hadran argyfwng leol wedi dioddef trawma mawr. Felly ni fydd pob adran argyfwng unigol yn gweld ond un neu ddau o achosion o drawma mawr bob wythnos. Ceir cryn dystiolaeth i ddangos bod gan gleifion sy'n dioddef trawma mawr well siawns o oroesi a'u bod yn gwella'n gynt os cânt eu trin o fewn rhwydwaith trawma mawr. Sefydlu rhwydwaith trawma mawr i Dde Cymru Bu cynigion i sefydlu rhwydwaith trawma mawr i Dde Cymru ar y gweill ers tro. Ar hyn o bryd y De yw'r unig ranbarth yng Nghymru a Lloegr nad yw'n rhan o rwydwaith o'r fath. Mae Gogledd Cymru a Gogledd Powys yn rhan o rwydwaith trawma mawr yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr sy'n cefnogi'r rhwydwaith trawma mawr yng Ngogledd Swydd Stafford, ac mae'r canlyniadau i'r bobl yn yr ardaloedd hynny wedi gwella o ganlyniad. Mae'r gwaith i gydgysylltu rhwydwaith De Cymru wedi cael ei arwain gan Gydweithrediad GIG Cymru.  Gwnaed hyn mewn cydweithrediad â'r chwe bwrdd iechyd; Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys; ac roedd hefyd yn  cynnwys y trydydd sector a'r cynghorau iechyd cymuned. Yn 2015, edrychodd gweithdy a gafodd ei arwain gan glinigwyr ar y dewisiadau sydd ar gael i ddatblygu rhwydwaith yn Ne Cymru a chytuno y dylid gwneud hyn trwy sefydlu canolfan trawma mawr ar un safle (naill ai Ysbyty Treforys yn Abertawe neu Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd), gyda chymorth nifer o unedau trawma. Byddai ysbytai argyfwng lleol yn parhau i weld pobl â salwch ac anafiadau difrifol. Panel annibynnol Edrychodd panel annibynnol o glinigwyr arbenigol ym maes trawma mawr ar y dystiolaeth a rhoi cyngor ar ba ysbyty fyddai'r safle gorau i'r ganolfan trawma mawr. Wrth wneud hynny, nodwyd tri phrif ffactor: rhyngddibyniaethau; màs critigol; ac amseroedd teithio. Wedi ystyriaeth fanwl, argymhellodd y panel y canlynol: • Dylid mynd ati’n gyflym i sefydlu rhwydwaith trawma mawr i Dde Cymru â seilwaith llywodraethu clinigol. Nod seilwaith llywodraethu clinigol yw sicrhau bod gwasanaeth yn wasanaeth o safon uchel sy'n canolbwyntio ar y cleifion, ac sydd ag arweinyddiaeth glinigol gref. • Dylai’r ganolfan trawma mawr i oedolion a’r ganolfan i blant fod ar yr un safle. • Dylai’r ganolfan trawma mawr fod yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. • Dylai Ysbyty Treforys yn Abertawe droi’n uned drawma fawr a dylai gael rôl arweiniol yn y rhwydwaith trawma mawr. • Dylid pennu amserlen glir a realistig ar gyfer y gwaith o greu’r rhwydwaith trawma. Nid oedd y panel yn credu y byddai gan Ysbyty Treforys nac Ysbyty Athrofaol Cymru fel canolfan trawma mawr unrhyw fantais sylweddol dros y llall o safbwynt daearyddiaeth. Yn hytrach, penderfynodd y panel mai darparu gwasanaethau arbenigol iawn megis niwrolawdriniaeth a niwrolawdriniaeth bediatrig ar yr un safle â'r ganolfan trawma mawr oedd y prif ffactor wrth benderfynu ble i leoli'r ganolfan trawma mawr. Mae manylion llawn y rhesymau dros yr argymhellion i'w cael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn: www.publichealthwales.org/majortraumaconsultation Ymgynghoriad cyhoeddus Cafodd argymhellion y panel annibynnol eu cynnwys fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol a barodd rhwng 13 Tachwedd 2017 a 5 Chwefror 2018\. Cynhaliwyd cyfarfodydd lleol ar draws y rhanbarth, gyda phob bwrdd iechyd yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ym mhob un o'i ranbarthau. Daeth dros 1,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad i law o bob cwr o'r rhanbarth, gyda channoedd o bobl eraill yn cymryd rhan drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Daeth 242 o bobl i'r 17 o gyfarfodydd cyhoeddus.   Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ymateb i'r ymgynghoriad ac rwyf yn gwerthfawrogi eu sylwadau ar helpu i lywio'r gwasanaeth pwysig newydd hwn. Cafodd yr holl sylwadau a fynegwyd trwy'r llu o sianeli sydd ar agor i'r cyhoedd eu trin yn gyfartal ac fe'u hystyriwyd gan Fforwm Arweinyddiaeth Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru, sy'n cynnwys cadeiryddion a phrif weithredwyr byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru. Cafodd ystod o safbwyntiau eu mynegi, eu dadansoddi a'u hystyried fel rhan o'r ymarfer ymgynghori. Ar ôl ystyried y ffordd y cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal a'r dadansoddiad o'r ymatebion a ddaeth i law, roedd y Fforwm yn fodlon bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn briodol ac mewn ffordd sydd wedi bodloni gofynion canllawiau cymwys. Er y cafodd materion eu codi y bydd angen eu hystyried ymhellach, delio â hwy neu eu lliniaru fel rhan o roi'r rhwydwaith trawma mawr ar waith, casglodd y Fforwm nad oedd dim wedi cael ei godi a fyddai'n effeithio ar argymhellion y Panel Annibynnol. Argymhellodd felly i’r byrddau iechyd eu bod yn cymeradwyo sefydlu rhwydwaith trawma mawr i Dde a Gorllewin Cymru a De Powys, yn unol ag argymhellion y Panel Annibynnol. Cyfarfodydd byrddau ar 29 Mawrth 2018 Cyfarfu pob un o'r chwe bwrdd iechyd ar 29 Mawrth i ystyried argymhellion Fforwm Arweinyddiaeth  Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru. Cymeradwyodd pob un sefydlu rhwydwaith trawma mawr i'r rhanbarth a chytuno y dylai canolfan trawma mawr gael ei lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Ni chaiff unrhyw rai o'r Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn unrhyw rai o'r Ysbytai Cyffredinol Dosbarth ei hisraddio ar sail y penderfyniadau hyn a byddant yn dal i weld a thrin y mwyafrif helaeth o gleifion, fel ar hyn o bryd. Bydd gan Ysbyty Treforys ran o bwys yn y rhwydwaith trawma mawr. Cytunwyd y daw'r ysbyty'n uned drawma fawr ac y bydd yn arwain ar ran y rhwydwaith. Rwyf wedi dweud ar nifer o adegau nad oes unrhyw gynlluniau i adleoli'r uned llosgiadau a llawfeddygaeth blastig o Ysbyty Treforys a hoffwn achub y cyfle i gadarnhau eto fod hyn yn dal yn wir. Mae ein hymrwymiad i ddyfodol yr ysbyty'n glir, fel y dangosir gan y cyhoeddiad yn Ionawr 2018 y bydd y gwasanaeth llawdriniaeth thorasig yn Ne Cymru yn cael ei leoli yno. Mae hyn yn dangos y pwysigrwydd parhaus yr ydym yn ei roi ar yr ysbyty fel canolfan ragoriaeth. Y camau nesaf Mae’r byrddau iechyd bellach yn cydweithio i sefydlu rhaglen weithredu, a fydd yn parhau i gynnwys pob cyngor iechyd cymuned a phob rhanddeiliad. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu Bwrdd y Rhwydwaith Trawma i Dde Cymru, ac fe ragwelir y bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ar ddiwedd y gwanwyn/dechrau'r haf. Bydd Bwrdd y Rhwydwaith yn goruchwylio sefydlu'r rhwydwaith i'r rhanbarth, gan sicrhau bod gwasanaethau safon uchel, diogel ac effeithiol yn cael eu darparu ar gyfer y boblogaeth. Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am ddatblygu polisïau a phrotocolau i gefnogi'r gwaith o roi'r rhwydwaith ar waith yn  llwyddiannus. Bydd yn hwyluso cydweithio gan gynnwys meithrin cysylltiadau rhwng gwasanaethau cyn\-ysbyty, unedau trawma a'r ganolfan drawma. Mae gwaith yn mynd rhagddo i benodi Arweinydd Clinigol, a fydd yn darparu arweinyddiaeth a rheolaeth er mwyn creu, llywio a sefydlu gwasanaeth trawma effeithiol, sy'n canolbwyntio ar y claf yn Ne a Gorllewin Cymru a De Powys. Bydd costau refeniw a chyfalaf ychwanegol yn gysylltiedig â sefydlu'r rhwydwaith trawma mawr ar draws y rhanbarth, gan gynnwys achosion busnes y bydd eu hangen ar gyfer y seilwaith yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Treforys. Caiff y rhain eu hystyried yng nghyd\-destun y rhaglen weithredu raddedig, y cynlluniau i ddatblygu'r safle ehangach, rhyngddibyniaethau sy'n bodoli rhwng gwasanaethau trawma a gwasanaethau clinigol eraill a bydd Llywodraeth Cymru'n gorfod cymeradwyo achos busnes ffurfiol ar eu cyfer.
https://www.gov.wales/written-statement-major-trauma-network-south-wales
I am delighted to announce the Chair and Board Members of the National Academy for Educational Leadership, following a public appointments process. As a Board they will play a vital role in ensuring that the Academy meets its aim of ensuring leaders in the education system have access to coherent accessible and high quality leadership development opportunities that meet their needs wherever they are and whatever their career stage and ambitions. The Board are: **Chair** --------- Dr Sue Davies – Sue is an internationally recognised education expert with both academic, quality assurance and teaching experience. She has worked across multiple sectors and brings considerable knowledge and standing to the role. **Board Members** ----------------- * Dr John Graystone \- John has a wealth of experience, in particular with FE leadership, but is also a Board Member and Chair for various public and third sector bodies * Prof Stephen Hagen \- Stephen is an experienced senior manager and academic leader in the UK Higher Education sector and internationally * Michael James \- Michael has valuable skills around finance, audit and also extensive leadership experience at a global finance company * Rosemary Jones OBE \- Rosemary has extensive experience of working as secondary Headteacher and has expertise in Welsh medium education and is a Welsh speaker * Dr Paul Marshall \- Paul brings significant financial and audit experience, as well as a successful background in HE across the UK * Davina Payne \- Davina has a media and communications background as well as owning her own media company. She is also a lay panel member for Social Care Wales * Claire Williams \- Claire brings the valuable experience of a successful current Primary Headteacher to the Board
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi Cadeirydd ac Aelodau Bwrdd yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus. Fel Bwrdd, byddant yn chwarae rôl hanfodol o ran sicrhau bod yr Academi yn cyflawni ei nod o sicrhau bod arweinwyr yn y system addysg yn cael mynediad at gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth cydlynol, hygyrch ac o ansawdd uchel sy'n diwallu eu hanghenion lle bynnag y maent a beth bynnag fo cyfnod eu gyrfa a'u huchelgeisiau. Dyma aelodau'r Bwrdd: **Cadeirydd** ------------- Dr Sue Davies \- mae Sue yn arbenigwr o fri ym maes addysg. Mae ganddi brofiad academaidd yn ogystal â phrofiad o addysgu a sicrhau ansawdd. Mae wedi gweithio mewn sawl sector ac yn dod â gwybodaeth a statws sylweddol i'r rôl. **Aelodau'r Bwrdd** ------------------- * Dr John Graystone \- mae gan John gyfoeth o brofiad, yn enwedig ym maes arweinyddiaeth Addysg Bellach, ond mae hefyd yn Aelod Bwrdd ac yn Gadeirydd ar gyfer nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector * Yr Athro Stephen Hagen \- mae Stephen yn uwch\-reolwr profiadol ac yn arweinydd academaidd yn sector Addysg Uwch y DU ac yn rhyngwladol * Michael James \- mae gan Michael sgiliau gwerthfawr ym meysydd cyllid ac archwilio, ac mae ganddo hefyd brofiad helaeth fel arweinydd mewn cwmni cyllid byd\-eang * Rosemary Jones OBE \- mae gan Rosemary brofiad helaeth fel Pennaeth uwchradd ynghyd ag arbenigedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'n siarad Cymraeg * Dr Paul Marshall \- mae gan Paul brofiad sylweddol ym meysydd cyllid ac archwilio, yn ogystal â chefndir llwyddiannus mewn Addysg Uwch ar draws y DU * Davina Payne \- mae gan Davina gefndir yn y cyfryngau a'r maes chyfathrebu ac yn berchen ar ei chwmni cyfryngol ei hun. Mae hefyd yn aelod lleyg o banel Gofal Cymdeithasol Cymru * Claire Williams \- mae Claire yn dod â phrofiad cyfredol gwerthfawr fel Pennaeth cynradd llwyddiannus i'r Bwrdd
https://www.gov.wales/written-statement-national-academy-educational-leadership-chair-and-board-members
  The Welsh Government will take responsibility for teachers’ pay and conditions at the end of this September, ahead of Welsh Ministers determining teachers’ pay and conditions for Wales for the first time in September 2019\.   In my Written Statement of 9th March 2018, I notified Members of a public consultation to help inform the development of an appropriate system to determine teachers’ pay and conditions of service in Wales. The consultation on the proposed mechanism for determining teachers’ pay opened for comment between 9 March and 4 May 2018\. The ‘Teacher Engagement Model’ as proposed in the recent consultation was devised following extensive discussions with all key stakeholders and met a number of the issues raised by teacher unions. The proposed mechanism took forward our commitments to partnership, collaboration and evidence based policy development. The model maintains certain elements of the current system for determining teachers’ pay and conditions, such as retaining its statutory nature. Additionally, the proposed mechanism includes a tripartite social partnership forum, representing Welsh Government, teacher unions and employers, to consider all issues prior to seeking advice from an independent expert body.  I convened a meeting of all teacher and head teacher unions in February to outline this approach and listened to their views on the proposed ‘Teacher Engagement Model’ prior to launching the formal consultation exercise. It was clear that there was no single approach preferred by all the unions.  Overall the consultation responses supported the implementation of the ‘Teacher Engagement Model’ as the determination model for Wales.  I am convinced that this model, as one of social partnership, provides for increased and improved engagement across employers and unions. From the responses received, there was a clear consensus against the need for a public consultation stage as part of the annual decision making process. On reflection, I accept the points that have been made and will adapt this consultation element of the proposed determination process to be a written consultation with key stakeholders only. I therefore propose to adopt the mechanism, subject to the change outlined above. We will now, alongside key stakeholders, take forward the work ahead of implementation next year. It is my intention to issue a formal Welsh Government response to the consultation by 27 July 2018\.                
 Bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyflog ac amodau athrawon o ddiwedd mis Medi yma, cyn i Weinidogion Cymru benderfynu cyflog ac amodau athrawon am y tro cyntaf i Gymru ym mis Medi 2019\. Yn fy Natganiad Ysgrifenedig o 9fed Mawrth 2018, hysbysais aelodau am ymgynghoriad cyhoeddus i helpu datblygiad system briodol i benderfynu cyflog ac amodau gwasanaeth athrawon yng Nghymru.  Roedd yr ymgynghoriad  ar y mecanwaith arfaethedig i benderfynu cyflog athrawon ar agor rhwng 9 Mawrth a 4 Mai 2018\. Roedd y ‘Model Ymgysylltu ag Athrawon’ arfaethedig yn yr ymgynghoriad diweddar wedi’i gynllunio yn dilyn trafodaethau helaeth â’r holl randdeiliaid allweddol ac yn ateb nifer o’r materion a godwyd gan undebau addysgu.  Roedd y mecanwaith arfaethedig yn symud ymlaen ar ein hymrwymiadau i bartneriaethau, cydweithio a datblygu polisi ar sail tystiolaeth. Mae’r model yn cadw rhai elfennau penodol o’r system gyfredol am benderfynu cyflog ac amodau athrawon, megis cadw ei natur  statudol.  Yn ychwanegol, mae’r mecanwaith arfaethedig yn cynnwys fforwm partneriaeth cymdeithasol cyfundrefn deiran, yn cynrychioli Llywodraeth Cymru, undebau athrawon a chyflogwyr, i ystyried yr holl faterion cyn ymofyn cyngor corff arbenigol annibynol. Galwais am gyfarfod o bob undeb athrawon a phenaethiaid ym mis Chwefror i amlinellu’r dull yma a gwrandawais ar eu barn am y ‘Model Ymgysylltu ag Athrawon’ arfaethedig cyn lansio’r ymarfer ymgynghoriad ffurfiol.  Roedd yn glir nad oedd yna ddull unigol dewisol ar draws yr undebau. Ar y cyfan roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cefnogi gweithredu’r ‘Model Ymgysylltu ag Athrawon’ fel y model penderfyniad i Gymru. Rwy’n sicr bod y model yma, fel un bartneriaeth gymdeithasol, yn darparu ar gyfer cynyddu a gwella ymgysylltiad ar draws cyflogwyr ac undebau. O’r ymatebion a dderbyniwyd, roedd yna gonsensws cryf yn erbyn yr angen am gyfnod o ymgynghori cyhoeddus fel rhan o’r broses penderfynu flynyddol. Ar ôl ystyried, rwy’n derbyn y pwyntiau sydd wedi’u codi a byddaf yn addasu’r elfen ymgynghori o’r broses penderfynu arfaethedig i fod yn ymgynghoriad ysgrifenedig â randdeiliaid allweddol yn unig. Felly, rwy’n bwriadu derbyn y mecanwaith, yn amodol ar y newid amlinellwyd uchod.  Nawr, byddwn yn gweithio, ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol, i symud ymlaen â’r gwaith cyn ei weithredu blwyddyn nesaf. Rwy’n bwriadu cyhoeddi ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad erbyn 27 Gorffennaf 2018\.
https://www.gov.wales/written-statement-mechanism-determining-teachers-pay-and-conditions-service
In December 2017 I provided an update on the development of the National Academy for Educational Leadership which included announcing the recruitment of Academy Associates for a pilot programme. 12 Associates have now been chosen who will be in a unique position to influence the initial work of the Academy and help secure its standing among school leaders and shape the Associate role for the future. Associates will have the opportunity to engage in the first leadership development programme to be designed on behalf of the Academy. This programme will develop and strengthen the skills and knowledge they require to play a strategic system\-leadership role across Wales. The 12 Associates are: * Gill Ellis – Blenheim Road and Coed Eva Primary Federation (Torfaen) * John Kendall – Risca Community Comprehensive School (Caerphilly) * Christine Jackson – Glasllwch Primary School (Newport) * Jeremy Griffiths – Ysgol Gwynedd (Flintshire) * Gwyn Tudur – Tryfan Secondary School (Gwynedd) * Sue Roberts – Ysgol Ffordd Dyffryn (Conwy) * Clive Williams – Ysgol Gymraeg Aberystwyth (Ceredigion) * Jan Waldren – Pontarddulais Comprehensive School (Swansea) * Karen Lawrence – Llanfaes Primary (Powys) * Janet Hayward – Cadoxton Primary (Vale of Glamorgan) * Emma Coates – Llanhari Primary School (Rhondda,Cynon,Taff) * Huw Powell – Mary Immaculate High School (Cardiff)
Ym mis Rhagfyr 2017, rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o ddatblygu'r Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol a oedd yn cynnwys cyhoeddi y byddai Aelodau Cyswllt yr Academi yn cael eu recriwtio ar gyfer rhaglen beilot. Mae 12 Aelod Cyswllt bellach wedi cael eu dewis a fyddant mewn sefyllfa unigryw i ddylanwadu ar waith cychwynnol yr Academi a helpu i sicrhau ei henw da ymhlith arweinwyr ysgol a llywio rôl Aelodau Cyswllt yn y dyfodol. Bydd Aelodau Cyswllt yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen datblygu arweinyddiaeth gyntaf a gynllunnir ar ran yr Academi. Bydd y rhaglen hon yn datblygu ac yn atgyfnerthu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt er mwyn chwarae rôl arwain system strategol ledled Cymru. Y 12 Aelod Cyswllt yw: * Gill Ellis \- Ffederasiwn Cynradd Blenheim Road a Choed Eva (Torfaen) * John Kendall – Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga (Caerffili) * Christine Jackson – Ysgol Gynradd Glasllwch (Casnewydd) * Jeremy Griffiths – Ysgol Gwynedd (Sir y Fflint) * Gwyn Tudur – Ysgol Uwchradd Tryfan (Gwynedd) * Sue Roberts – Ysgol Ffordd Dyffryn (Conwy) * Clive Williams – Ysgol Gymraeg Aberystwyth (Ceredigion) * Jan Waldren – Ysgol Gyfun Pontarddulais (Abertawe) * Karen Lawrence – Ysgol Gynradd Llanfaes (Powys) * Janet Hayward – Ysgol Gynradd Tregatwg (Bro Morgannwg) * Emma Coates – Ysgol Gynradd Llanhari (Rhondda Cynon Taf) * Huw Powell – Ysgol Uwchradd y Fair Ddihalog (Caerdydd)
https://www.gov.wales/written-statement-national-academy-educational-leadership-asssociates-programme
The accounts of all ten NHS Wales organisations for 2017\-18 have been audited by the Auditor General for Wales and have been laid before the National Assembly. This is the fourth year the accounts have been prepared under the NHS three\-year financial regime that was introduced under the NHS Finance (Wales) Act, effective from 1 April, 2014\. All NHS accounts in 2017\-18 received a clean ‘true and fair’ audit opinion from the Auditor General for Wales. Six out of ten organisations have complied with the statutory break even duty by operating within their budgets over the three\-year period of assessment from April 2015 to March 2018\. In addition to their reported outturns, Aneurin Bevan and Cwm Taf generated surpluses during 2017\-18 of £2\.4 million and £3 million respectively which Welsh Government has agreed to carry forward. These amounts were removed from the boards’ 2017\-18 allocations, and will be re\-provided to them in 2018\-19\.     Four of the ten organisations have not achieved their financial duty to break even over three years. Abertawe Bro Morgannwg operated within allocations in 2015\-16 but failed to do so in 2016\-17 and 2017\-18; Cardiff and Vale University Health Board operated within allocations in 2015\-16 but failed to do so in 2016\-17 and 2017\-18; Betsi Cadwaladr and Hywel Dda University Health Boards have failed to operate within allocations in all three years. Consequently these four organisations have failed to meet their statutory financial break\-even duty for the three\-year period of assessment, and as a result have received qualified regularity opinions from the Auditor General for Wales on their 2017\-18 accounts. As independent bodies that have a statutory duty to operate within their allocations over a three year period, Welsh Government expects the health boards to take the action needed to meet their financial duties. In 2017\-18 four health boards indicated they would be unable to break\-even and planned for a deficit outturn. To maintain financial discipline with these organisations, Welsh Government set maximum deficit financial control totals in 2017\-18 as follows; * Abertawe Bro Morgannwg £36\.0 million * Betsi Cadwaladr £26\.0 million * Cardiff \& Vale £30\.9 million * Hywel Dda £58\.9 million Two organisations– Abertawe Bro Morgannwg and Cardiff and Vale – achieved an improved financial deficit position in 2017\-18 compared to 2016\-17, and improved upon the deficit control totals set by Welsh Government. In 2015\-16 and 2016\-17, Welsh Government provided Hywel Dda with additional non\-recurrent funding of £14\.4 million in each year as short term structural support in recognition of the financial challenges facing the Board. During 2017\-18, no additional funding was provided, pending the commission by Welsh Government of a zero based review of the board’s cost base. On 23 May 2018 I announced the findings of this review which partially confirms the view that Hywel Dda faces a unique set of healthcare challenges that have contributed to the consistent deficits incurred by the Board and its predecessor organisations. In response, I approved the release of £27 million additional recurrent funding to the Health Board from 2018\-19 onwards. This places the Health Board on a fair funding basis going forward compared to other health boards and provides a sound footing for the Board to develop and transform services. Betsi Cadwaladr remains in Special Measures, despite progress in some important areas, the health board continues to face significant challenges. During 2017\-18, in addition to other areas under special measures, the escalation status was raised in relation to financial management and key areas of performance. A framework setting out the expectations for the next 18 months was issued to the Health Board on 8 May 2018\. All Local Health Boards reporting financial deficits in 2017\-18 have received reports from independent financial governance reviews commissioned by the Welsh Government during 2017\-18, and have developed and published action plans for implementation. Progress on delivery of these actions is being monitored by officials through the regular intervention meetings with these boards. Additional cash support has continued to be provided when required to all boards in deficit to enable them to meet their normal cash commitments including payroll expenditure. This cash assistance is repayable in future financial years when appropriate and improved plans are developed and approved under the Act to enable the repayment of deficits.   Taking account of the two health board surpluses brokered forward during 2017\-18, and the additional non\-recurrent funding provided in previous years to Hywel Dda which was not provided in 2017\-18 but will be replaced from 2018\-19 by recurrent funding following the zero based review, the overall net outturn for NHS Wales in 2017\-18 was slightly improved on the 2016\-17 position. This indicates that the actions being taken to increase financial discipline in NHS Wales through the medium term planning process and escalation and intervention process are having effect. I expect to see further progress towards financial sustainability for NHS Wales during 2018\-19\.         I look forward to the Auditor General for Wales finalising his audit of the Welsh Government’s overall accounts. I am confident this will demonstrate that the health and social services budget has made a modest surplus in 2017\-18 through the actions that have been taken to manage the deficits incurred by the four health boards in 2017\-18\. The accounts can be found at: http://www.assembly.wales/en/bus\-home/Pages/Plenary.aspx?assembly\=4\&category\=Laid Document            
Mae cyfrifon pob un o ddeg corff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru ar gyfer 2017\-18 wedi'u harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Dyma'r bedwaredd flwyddyn i'r cyfrifon gael eu paratoi o dan drefn ariannol dair blynedd y GIG a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), a ddaeth i effaith ar 1 Ebrill, 2014\. Roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru o'r farn bod holl gyfrifon y GIG ar gyfer 2017\-18 yn 'gywir a theg'. Mae chwech o'r deg corff wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd i fantoli'r gyllideb dros gyfnod statudol drwy weithio o fewn eu cyllidebau yn ystod y cyfnod asesu tair blynedd o fis Ebrill 2015 i fis Mawrth 2018\. Yn ogystal â'r alldro yr adroddwyd arno, cynhyrchwyd £2\.4 miliwn a £3 miliwn o warged, yn eu trefn, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddwyn y symiau hyn ymlaen. Cafodd y symiau hyn eu tynnu o ddyraniadau'r byrddau ar gyfer 2017\-18, a byddant yn cael eu rhoi iddynt unwaith eto yn 2018\-19\.     Nid yw pedwar o'r deg corff wedi cyflawni eu dyletswydd ariannol i fantoli'r gyllideb dros gyfnod o dair blynedd. Gweithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg o fewn ei ddyraniadau ar gyfer 2015\-16 ond methodd â gwneud hynny ar gyfer 2016\-17 a 2017\-18; gweithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o fewn ei ddyraniadau ar gyfer 2015\-16 ond methodd â gwneud hynny yn 2016\-17 a 2017\-18; methodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda â gweithio o fewn eu dyraniadau yn ystod pob un o'r tair blynedd dan sylw. Felly, mae'r pedwar corff hwn wedi methu â bodloni eu dyletswydd statudol i fantoli'r gyllideb ar gyfer y cyfnod asesu tair blynedd, ac o ganlyniad, maent wedi cael barn amodol ar reoleidd\-dra gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer eu cyfrifon yn 2017\-18\. Fel cyrff annibynnol a chanddynt ddyletswydd statudol i weithio o fewn eu dyraniadau dros gyfnod o dair blynedd, disgwylia Llywodraeth Cymru i'r byrddau iechyd gymryd y camau angenrheidiol i fodloni eu dyletswyddau ariannol. Yn 2017\-18, dywedodd pedwar bwrdd iechyd na fyddent yn gallu mantoli'r gyllideb a chynlluniasant ar gyfer diffyg yn eu halldro. I gynnal disgyblaeth ariannol y cyrff hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfansymiau rheolaeth ariannol ar gyfer uchasfwm y diffyg yn 2017\-18 fel a ganlyn: * Abertawe Bro Morgannwg £36\.0 miliwn * Betsi Cadwaladr £26\.0 miliwn * Caerdydd a'r Fro £30\.9 miliwn * Hywel Dda £58\.9 miliwn Mae dau gorff – Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro – wedi gwella eu sefyllfa o ran diffyg ariannol yn 2017\-18 o'i gymharu â 2016\-17, ac roedd eu canlyniadau hefyd yn well na'r cyfansymiau rheoli diffyg a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn 2015\-16 a 2016\-17, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol afreolaidd o £14\.4 miliwn yn ystod pob blwyddyn i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, fel cymorth strwythurol tymor byr i gydnabod yr heriau ariannol oedd yn wynebu'r Bwrdd. Yn ystod 2017\-18, ni ddarparwyd unrhyw gyllid ychwanegol, gan fod Llywodraeth Cymru ar fin comisiynu adolygiad seiliedig ar sero o sylfaen gost y Bwrdd. Ar 23 Mai 2018, cyhoeddais ganfyddiadau'r adolygiad hwnnw sy'n cadarnhau'r rhannol fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn wynebu cyfres unigryw o heriau gofal iechyd sydd wedi cyfrannu at y diffygion cyson a ysgwyddir gan y Bwrdd a'i sefydliadau rhagflaenol. Wrth ymateb i'r canfyddiadau hyn, cymeradwyais fod £27 miliwn o gyllid rheolaidd ychwanegol yn cael ei ryddhau i'r Bwrdd Iechyd o 2018\-19 ymlaen. Mae hyn yn golygu y bydd y Bwrdd Iechyd ar sylfaen gyllido deg o gymharu a’r byrddau iechyd eraill wrth fynd ymlaen ac mae'n sail gadarn i'r Bwrdd ddatblygu a thrawsnewid gwasanaethau. Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dal i fod o dan Fesurau Arbennig ac, er gwaetha'r cynnydd a wnaed mewn rhai meysydd pwysig, mae'n dal i wynebu heriau sylweddol. Yn ystod 2017\-18, yn ogystal â meysydd eraill sydd o dan fesurau arbennig, cafodd y statws uwchgyfeirio ei godi mewn perthynas â rheolaeth ariannol a meysydd perfformiad allweddol. Rhoddwyd fframwaith i'r Bwrdd Iechyd ar 8 Mai 2018 sy'n nodi'r disgwyliadau ar gyfer y 18 mis nesaf. Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol a adroddodd am ddiffygion ariannol yn 2017\-18 wedi cael adroddiadau o adolygiadau llywodraethu ariannol annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2017\-18, ac maent wedi datblygu a chyhoeddi cynlluniau gweithredu i'w rhoi ar waith. Mae cynnydd ar gyflawni'r camau hyn yn cael ei fonitro gan swyddogion drwy gyfarfodydd ymyrraeth rheolaidd â'r byrddau hyn. Mae cymorth arian parod ychwanegol yn parhau i gael ei roi yn ôl yr angen i'r holl fyrddau sydd mewn diffyg ariannol i'w galluogi i gyflawni eu hymrwymiadau arian parod arferol, gan gynnwys gwariant y gyflogres. Bydd modd ad\-dalu'r cymorth arian parod hwn yn ystod blynyddoedd ariannol y dyfodol pan fo'n briodol, a chaiff cynlluniau gwell eu datblygu a'u cymeradwyo o dan y Ddeddf ar gyfer ad\-dalu diffygion ariannol.   Gan ystyried gwarged y ddau fwrdd iechyd sydd wedi cael eu broceru ymlaen yn ystod 2017\-18, a'r cyllid afreolaidd ychwanegol a ddarparwyd mewn blynyddoedd blaenorol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda na chafodd ei ddarparu yn 2017\-18 ond a fydd yn cael ei ddisodli o 2018\-19 gan gyllid rheolaidd yn dilyn yr adolygiad yn seiliedig ar sero, roedd yr alldro net cyffredinol ar gyfer GIG Cymru yn 2017\-18 ychydig yn well nag yn 2016\-17\. Mae hyn yn dangos bod y camau sy'n cael eu cymryd i gynyddu disgyblaeth ariannol yn GIG Cymru drwy'r broses gynllunio ar gyfer y tymor canolig a'r broses uwchgyfeirio ac ymyrraeth yn cael effaith. Disgwyliaf weld rhagor o gynnydd eto tuag at sicrhau sefydlogrwydd ariannol i GIG Cymru yn ystod 2018\-19\.         Edrychaf ymlaen at weld archwiliad terfynol Archwilydd Cyffredinol Cymru o gyfrifon cyffredinol Llywodraeth Cymru. Rwy'n hyderus y bydd yn dangos bod y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi gweld gwarged bach yn 2017\-18, a hynny o ganlyniad i'r camau a gymerwyd i reoli'r diffygion a ysgwyddwyd gan y pedwar bwrdd iechyd yn 2017\-18\. Mae'r cyfrifon ar gael yn: http://www.cynulliad.cymru/cy/bus\-home/Pages/Plenary.aspx?assembly\=4\&category\=Laid Document  
https://www.gov.wales/written-statement-nhs-financial-performance-2017-18
A meeting of the Joint Ministerial Committee in Plenary format (JMC(P)) was held in 10 Downing Street on Wednesday 14 March. I represented the Welsh Government. I attach the communique that was issued following the meeting here. The first agenda item was an update from the Prime Minister (who was joined for this item by the National Security Adviser, Sir Mark Sedwill) on the circumstances of the recent Salisbury poisoning incident and the UK Government’s response, which she had just given in the House of Commons. On behalf of the Welsh Government I expressed strong support for the Government’s robust and proportionate response, and expressed my enormous concern at the reckless and wholly unacceptable action that Russia appeared to have taken; quite apart from anything else, many innocent people had been placed seriously at risk by this action. Nicola Sturgeon spoke to the same effect, and both she and I will continue to be briefed as necessary on Privy Council terms on future developments. We then turned to a discussion on Brexit, looking both at the latest position on negotiations with the European Union and on the domestic implications as expressed in the EU (Withdrawal) Bill. On the first, the Prime Minister drew attention both to her recent Mansion House speech and to the forthcoming European Council; so far as the latter is concerned, the UK Government hopes to secure agreement to transition (or ‘implementation’) arrangements for the period immediately following exit day, and to make progress on the legal text giving effect to last December’s agreement on withdrawal arrangements. The Prime Minister also noted that the Council was likely to agree guidelines for its negotiators for the next phase of negotiations on future trade and security relationships. Responding on these points, I reiterated the need for the UK’s fullest possible access to the single market, and referred to the relationship Norway has with the single market. I also restated the Welsh Government’s support for the UK remaining within a Customs Union with the EU, not least because it would go a considerable way to resolving the difficulty of future Irish border arrangements (and in that context I noted the particular difficulties that might be experienced in Holyhead and other Welsh ports handling Irish trade if a satisfactory arrangement could not be reached). I also stressed the need for early agreement on transitional arrangements. Finally, looking further forward, I emphasised the importance the Welsh Government attaches to the engagement of the devolved administrations with the UK Government on the negotiations on the future trade relationship with the EU and with future trade policy and negotiations more generally. There will be a paper on this at the next meeting of JMC(EN), and we will be looking for concrete proposals from the UK Government in this regard. The meeting then turned to a discussion of the domestic consequences of Brexit. Introducing the item, the Chancellor of the Duchy of Lancaster, David Lidington, noted that, to meet a commitment previously given, the UK Government had tabled an amendment to clause 11 of the Withdrawal Bill ahead of Lords Committee consideration which will take place in coming days. Mr Lidington was however keen to stress that this was not necessarily the UK Government’s last word on the issues, and that the UK Government continued to seek agreement with the devolved administrations; serious consideration was being given to ideas brought forward by the devolved administrations at the recent JMC(EN). In reply I reaffirmed our wish to secure agreement, but said that the amendment tabled was insufficient to enable me to recommend that the Assembly give its legislative consent to the Withdrawal Bill. We needed to see provision for consent to the matters which were proposed to be put temporarily beyond the Assembly’s legislative competence, rather than a consultation and Parliamentary reporting requirement as the amendment provides for. We also needed greater clarity on the ‘temporary’ character of the clause 11 arrangements (probably with a ‘sun\-setting’ provision); reassurance that the Sewel Convention would apply to any Parliamentary legislation making new provision for matters temporarily placed in the legislative ‘freezer’ by regulations; and an understanding that Parliament would not legislate on these matters for England, so long as the devolved legislatures were precluded from doing so for their nations. It was agreed that discussions on these various matters would continue. Finally the Committee agreed to publish a Report on the work undertaken under the JMC umbrella for the period 2015\-2018 and remitted officials to review and report back to Ministers on existing inter\-governmental structures and working arrangements, including the Memorandum of Understanding, to enable the governments more effectively to meet new governance challenges following the UK’s withdrawal from the EU. Attention now turns to the important European Council meeting on 22\-23 March, and to the further consideration at Lords Committee stage of the Withdrawal Bill, in particular clause 11\. The Scottish First Minister and I have jointly written to the Lord Speaker, setting out our concerns with the UK Government’s amendment; a copy of that letter is attached. We now await the outcome of that debate, but Welsh Government officials will in the meantime continue to work intensively with their counterparts to see what progress can be made on the matters remaining in dispute.       ### Documents * #### Letter, file type: pdf, file size: 128 KB 128 KB
Cynhaliwyd Cyfarfod Llawn o'r Cyd\-bwyllgor Gweinidogion yn Rhif 10 Stryd Downing ddydd Mercher 14 Mawrth. Roeddwn yn bresennol i gynrychioli Llywodraeth Cymru. Mae’r ohebiaeth a gyhoeddwyd ar ôl y cyfarfod wedi’i hatodi yma. Yr eitem gyntaf ar yr agenda oedd adroddiad gan Brif Weinidog y DU (yng nghwmni'r Cynghorydd ar Ddiogelwch Gwladol, Syr Mark Sedwill) yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am amgylchiadau'r gwenwyno yng Nghaersallog ac ymateb Llywodraeth y DU, yr oedd newydd ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin. Ar ran Llywodraeth Cymru, mynegais fy nghefnogaeth lwyr i ymateb cadarn a chymesur Llywodraeth y DU, a phryder aruthrol am y gweithredoedd di\-hid a chwbl annerbyniol yr ymddengys i Rwsia eu cyflawni; ar wahân i unrhyw beth arall, roedd nifer o bobl ddiniwed wedi'u peryglu'n ddifrifol gan y gweithredoedd hyn. Mynegodd Nicola Sturgeon ymateb tebyg, ac fe fydd hi a minnau'n parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau yn ôl yr angen ar delerau'r Cyfrin Gyngor. Yna cafwyd trafodaeth ar Brexit, gan edrych yn gyntaf ar sefyllfa ddiweddaraf y negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd ac yna ar y goblygiadau domestig sy'n cael eu mynegi ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). O ran y cyntaf, tynnodd Prif Weinidog y DU sylw at ei haraith ddiweddar ym Mansion House ac at y Cyngor Ewropeaidd nesaf; lle mae Llywodraeth y DU yn gobeithio cytuno ar drefniadau pontio (neu 'weithredu') ar gyfer y cyfnod yn union ar ôl y diwrnod ymadael, a symud ymlaen ar y testun cyfreithiol sy'n rhoi effaith i gytundeb mis Rhagfyr diwethaf ar y trefniadau ymadael. Nododd y Prif Weinidog hefyd bod y Cyngor yn debygol o gytuno ar ganllawiau i'w negodwyr ar gyfer cam nesaf y negodiadau ar berthynas masnach a pherthynas diogelwch yn y dyfodol. Gan ymateb i'r pwyntiau hyn, dywedais eto bod angen i'r DU gael mynediad mor llawn â phosib at y farchnad sengl, gan gyfeirio at y berthynas sydd gan Norwy gyda'r farchnad sengl. Hefyd dywedais eto bod Llywodraeth Cymru am weld y DU yn aros o fewn Undeb Tollau gyda'r UE, yn rhannol gan y byddai hynny'n gam sylweddol tuag at ddatrys anawsterau trefniadau ffin Iwerddon yn y dyfodol (ac yn y cyd\-destun hwnnw nodais yr anawsterau penodol a allai godi i Gaergybi a phorthladdoedd eraill Cymru sy'n ymdrin â masnach gydag Iwerddon pe na ellid cytuno ar drefniant boddhaol). Pwysleisiais hefyd bod angen cytuno'n gynnar ar drefniadau pontio. Yn olaf, wrth edrych tua'r dyfodol, pwysleisiais pa mor bwysig yr oedd Llywodraeth Cymru'n gweld cyfranogiad y gweinyddiaethau datganoledig gyda Llywodraeth y DU yn y negodiadau ar berthynas masnachu gyda'r UE yn y dyfodol, a pholisi masnach a negodiadau yn fwy cyffredinol. Bydd papur ar hyn yng nghyfarfod nesaf y Cyd\-bwyllgor Gweinidogion ar Negodiadau'r UE, ac fe fyddwn yn gofyn am argymhellion cadarn gan Lywodraeth y DU ar y mater hwn. Yna cafwyd trafodaeth ar ganlyniadau domestig Brexit. Wrth gyflwyno'r eitem dywedodd Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, David Lidington bod Llywodraeth y DU, er mwyn bodloni ymrwymiad yr oedd eisoes wedi'i roi, wedi cyflwyno gwelliant i gymal 11 o'r Bil Ymadael cyn ystyriaeth Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi a fydd yn digwydd dros y diwrnodau nesaf.  Fodd bynnag, roedd Mr Lidington yn awyddus i bwysleisio nad dyma o reidrwydd oedd gair olaf Llywodraeth y DU ar y mater, a bod Llywodraeth y DU yn parhau i geisio cytundeb gyda'r gweinyddiaethau datganoledig; roedd ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i syniadau a gyflwynwyd gan y gweinyddiaethau datganoledig yng nghyfarfod diweddar y Cyd\-bwyllgor Gweinidogion ar Negodiadau'r UE. Atebais drwy gadarnhau ein bod yn dymuno sicrhau cytundeb, ond dywedais nad oedd y gwelliant a gyflwynwyd yn ddigon i'm galluogi i argymell i'r Cynulliad roi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil Ymadael. Roedd angen i ni weld darpariaeth ar gyfer cydsyniad i'r materion a oedd wedi'u cynnig i'w rhoi tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad dros dro, yn hytrach na'r ymgynghoriad ac adroddiad Seneddol gofynnol y mae darpariaeth ar eu cyfer yn y gwelliant. Hefyd roedd angen mwy o eglurder ar nodwedd 'dros dro' trefniadau cymal 11 (rhyw fath o ddarpariaeth 'machlud' o bosib); sicrwydd y byddai Confensiwn Sewel yn berthnasol i unrhyw ddeddfwriaeth Seneddol sy'n gwneud darpariaeth newydd ar gyfer materion sy'n cael eu 'rhewi' yn ddeddfwriaethol dros dro gan reoliadau; a dealltwriaeth na fydd y Senedd yn deddfu ar y materion hyn yn Lloegr tra bod y gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu rhwystro rhag gwneud hynny yn eu gwledydd. Cytunwyd y byddai'r trafodaethau ar y materion amrywiol hyn yn parhau. Yn olaf, cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi Adroddiad ar y gwaith a wnaed dan ambarél y Cyd\-bwyllgor Gweinidogion ar gyfer y cyfnod 2015\-2018, gan ofyn i swyddogion adolygu ac adrodd yn ôl i Weinidogion ar strwythurau a threfniadau gwaith rhynglywodraethol presennol, gan gynnwys y Memorandwm Cyd\-ddealltwriaeth, er mwyn galluogi'r llywodraethau i fodloni heriau llywodraethu newydd yn fwy effeithiol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Mae'n sylw'n troi yn awr at gyfarfod pwysig y Cyngor Ewropeaidd ar 22\-23 Mawrth, ac ystyriaeth bellach o'r Bil Ymadael, yn arbennig cymal 11, yn ystod cyfnod Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi. Mae Prif Weinidog yr Alban a minnau wedi ysgrifennu ar y cyd at yr Arglwydd Lefarydd, gan nodi ein pryderon am welliant Llywodraeth y DU; atodir copi o'r llythyr hwnnw yma. Nawr rydym yn aros am ganlyniad y drafodaeth honno, ond yn y cyfamser bydd swyddogion Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio'n ddwys gyda'u swyddogion cyfatebol i weld os oes modd symud ymlaen ar y materion sy'n parhau i fod yn destun anghydfod. ### Dogfennau * #### Llythyr, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 128 KB 128 KB
https://www.gov.wales/written-statement-meeting-jmc-plenary-14-march-2018
This is the fifth year of the planning arrangements following the introduction of the NHS Finance (Wales) Act 2014\.  NHS organisations received clear direction in the NHS Wales Planning Framework, which was issued in October 2017\.  Health boards and NHS trusts are required to set out in their Integrated Medium Term Plans how resources will be used over a three\-year period to: * Address areas of population health need * Improve health outcomes and quality of care; and * Ensure best value from resources. These are the first plans to be submitted following the publication of the National Strategy: *Prosperity for All* and the publication of the findings from the Parliamentary Review of Health and Social Care in Wales.  The implementation of *Prosperity for All* has had direct implications on the way in which organisations have constructed their plans, and this year we are beginning to see an increased focus on cross sector working, collaboration and a continued emphasis on well\-being and sustainability, in line with the Well\-being of Future Generations Act.  Going forward plans will of course be aligned to the Long Term Plan for health and social services, but organisations were able to take account of findings of Parliamentary Review in preparing their current submissions. I have decided to approve six organisations that have submitted balanced and achievable three year plans.  They have demonstrated a growing maturity in their planning arrangements and I am pleased to be able to recognise this with approval. I look forward to seeing the progress of transformational service change that these organisations have set out in the plans over the next three years. Following a robust assessment process, I have approved the integrated plans from the following six organisations  –   * Aneurin Bevan University Health Board * Cwm Taf University Health Board * Powys teaching Health Board * Public Health Wales NHS Trust * Velindre NHS Trust, and * Welsh Ambulance Services NHS Trust. I expect these organisations to continue to drive improvement at pace, working across health board and trust boundaries and with public and third sector partners to deliver services for patients in Wales.       Performance of these organisations will continue to be reviewed regularly throughout the three year cycle. The approval of a plan does not prejudice the outcome of any due process required to implement the plan.  Any service reconfiguration needed must be carried out in line with legislation and our existing guidance and any application for capital investment will be subject to the normal business case approval processes. Four organisations were unable to submit Board approved three year plans. They are all in heightened levels of escalation and are working with my officials to develop solutions to their ongoing challenges.   #### Betsi Cadwaladr University Health Board Assembly Members will be aware from my statement last week that Betsi Cadwaladr University Health Board continues to face a number of service, finance and performance challenges which require ongoing support.  The health board’s response to these challenges in 2018 will be set out in their detailed one year annual operating plan.       In addition, my statement explained that Welsh Government will be providing more intensive support to deliver improvements that includes work towards developing an agreed IMTP.  #### Hywel Dda University Health Board Hywel Dda University Health Board continues to face ongoing strategic, performance and financial challenges.  The health board will produce a one year annual operating plan which will allow the health board to focus on priority areas over the next year.  Officials are working closely with the health board to provide support as they develop and implement this plan, and work closely with neighbouring health boards to develop regional solutions to some long standing challenges.  The Transforming Clinical Services consultation is still ongoing and once concluded will inform the future direction of services across the health board.  #### Abertawe Bro Morgannwg University Health Board ABMU is developing a one year annual operating plan to address performance and financial challenges.  I expect the changes at Board level and Executive appointments to drive the progress that is required both in the short and medium term.  Whilst the organisation’s planning and financial position is showing positive signs of improvement, officials will continue to work closely with the health board as they develop longer term, sustainable solutions.  My officials continue to work closely with the organisation to provide the necessary support and challenge as they work towards a sustainable solutions. #### Cardiff and Vale University Health Board The health board has made some progress and is improving some key performance areas, however it has ongoing  financial challenges which need to be resolved before the health board can achieve a sustainable position.   While there has been stabilisation, further focus is required to deliver a balanced financial position. Cardiff and Vale is developing a one year annual operating plan, and officials will continue to work closely with the health board as they develop sustainable longer term solutions. The three year IMTPs are critical statements of the strategic and delivery intentions of NHS organisations.  They must reflect the level of organisational maturity and control that is required in a planned whole system approach.  Therefore the approval process and ongoing monitoring for such important plans must be rigorous.  I expect Boards to ensure their organisations continually review their plans l and ensure they deliver the commitments within them. Where Boards have been unable to provide approvable plans in this planning cycle, my officials will support them to work towards submission of an integrated three year plan for 2019\.
Dyma bumed flwyddyn y trefniadau cynllunio ers cyflwyno Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014\. Derbyniodd sefydliadau'r GIG gyfarwyddyd clir yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017\. Mae gofyn i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG osod yn eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig sut y bydd adnoddau yn cael eu defnyddio dros gyfnod o dair blynedd i wneud y canlynol: * Rhoi sylw i anghenion iechyd y boblogaeth * Gwella canlyniadau iechyd ac ansawdd gofal * Sicrhau'r gwerth mwyaf o'r adnoddau. Dyma'r cynlluniau cyntaf i'w cyflwyno ers cyhoeddi'r Strategaeth Genedlaethol: Ffyniant i Bawb a chyhoeddi canfyddiadau'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae gweithredu Ffyniant i Bawb wedi cael effaith uniongyrchol ar y ffordd y mae sefydliadau wedi strwythuro eu cynlluniau, ac eleni rydym yn dechrau gweld mwy o ganolbwyntio ar weithio ar draws sectorau, cydweithio a phwyslais parhaus ar lesiant a chynaliadwyedd, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd y cynlluniau wrth gwrs yn gydnaws â'r Cynllun Hirdymor ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ond roedd modd i sefydliadau gymryd canfyddiadau'r Adolygiad Seneddol i ystyriaeth wrth baratoi eu cyflwyniadau y tro hwn. Rydw i wedi penderfynu cymeradwyo chwe sefydliad sydd wedi cyflwyno cynlluniau tair blynedd cytbwys ac ymarferol. Maent wedi dangos aeddfedrwydd cynyddol yn eu trefniadau cynllunio, ac rwy'n falch o fedru cydnabod hyn drwy eu cymeradwyo. Rwy'n edrych ymlaen at weld gwasanaethau’n cael eu trawsnewid fel y mae'r sefydliadau hyn wedi'i nodi yn y cynlluniau dros y tair blynedd nesaf. Yn dilyn proses asesu gadarn, rydw i wedi cymeradwyo cynlluniau integredig y chwe sefydliad canlynol – * Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan * Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf * Bwrdd Iechyd Addysgu Powys * Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru * Ymddiriedolaeth GIG Felindre * Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Rwy'n disgwyl i'r sefydliadau hyn barhau i wella ar fyrder, gan weithio ar draws ffiniau byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd a gyda phartneriaid sector cyhoeddus a thrydydd sector i ddarparu gwasanaethau i gleifion yng Nghymru. Bydd perfformiad y sefydliadau hyn yn parhau i gael ei adolygu'n rheolaidd drwy gydol y cylch tair blynedd. Nid yw cymeradwyo cynllun yn rhagfarnu canlyniad unrhyw drefn briodol sy'n ofynnol i roi'r cynllun ar waith. Rhaid i unrhyw waith ad\-drefnu gwasanaethau angenrheidiol gael ei gyflawni yn unol â deddfwriaeth a'n canllawiau presennol, a bydd unrhyw gais am fuddsoddiad cyfalaf yn dilyn prosesau cymeradwyo achos busnes arferol. Methodd pedwar sefydliad gyflwyno cynlluniau tair blynedd wedi'u cymeradwyo gan y Bwrdd. Mae pob un ohonynt wedi'u huwchgyfeirio ac yn gweithio gyda'm swyddogion i ganfod atebion i'r heriau sydd yn eu hwynebu. #### Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Fe fydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol yn sgil fy natganiad yr wythnos ddiwethaf bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i wynebu nifer o heriau o ran gwasanaethau, cyllid a pherfformiad, sydd angen cymorth parhaus. Bydd ymateb y bwrdd iechyd i'r heriau hyn yn 2018 yn cael ei osod yn y cynllun gweithredu blynyddol manwl ar gyfer blwyddyn unigol.   Ar ben hynny, roedd fy natganiad yn egluro y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth mwy dwys i sicrhau gwelliannau gan gynnwys gweithio i ddatblygu a chytuno ar gynllun tymor canolig integredig. #### Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i wynebu heriau strategol, perfformiad ac ariannol. Bydd y bwrdd iechyd yn cynhyrchu cynllun gweithredu blynyddol manwl ar gyfer blwyddyn unigol, a fydd yn caniatáu i'r bwrdd iechyd ganolbwyntio ar feysydd â blaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i ddarparu cymorth wrth ddatblygu a gweithredu'r cynllun hwn, ac yn gweithio gyda byrddau iechyd cyfagos i ddatblygu atebion rhanbarthol i rai heriau hirdymor. Mae'r ymgynghoriad Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol yn parhau i fynd rhagddo, a phan fydd yn dod i ben bydd yn helpu i benderfynu ar gyfeiriad gwasanaethau yn y dyfodol ar draws y bwrdd iechyd.  #### Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn datblygu cynllun gweithredu blynyddol ar gyfer blwyddyn unigol i roi sylw i heriau o ran perfformiad a chyllid. Rwy'n disgwyl i'r newidiadau ar lefel y Bwrdd a phenodiadau Gweithredol ysgogi'r cynnydd sy'n ofynnol yn y tymor byr a'r tymor canolig. Er ei bod yn amlwg bod cynlluniau a sefyllfa ariannol y sefydliad yn gwella, bydd swyddogion yn parhau i gydweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i ddatblygu atebion cynaliadwy yn y tymor hirach. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r sefydliad i ddarparu'r cymorth a'r her angenrheidiol wrth iddynt weithio tuag at atebion cynaliadwy. #### Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ac yn gwella mewn rhai meysydd perfformiad allweddol, ond mae rhai heriau ariannol parhaus sydd angen eu datrys cyn i'r bwrdd iechyd fedru cyrraedd sefyllfa gynaliadwy. Er y gwelwyd rhywfaint o sefydlogi, mae angen canolbwyntio ymhellach i sicrhau sefyllfa ariannol gytbwys. Mae Caerdydd a'r Fro yn datblygu cynllun gweithredu blynyddol ar gyfer blwyddyn unigol, ac fe fydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd wrth iddo ddatblygu atebion cynaliadwy ar gyfer y tymor hirach. Mae cynlluniau tymor canolig integredig tair blynedd yn ddatganiadau hanfodol o fwriad sefydliadau'r GIG. Rhaid iddynt adlewyrchu’r lefel o aeddfedrwydd a rheolaeth sefydliadol sy'n ofynnol wrth gynllunio un system gyfan. Felly rhaid i'r broses gymeradwyo a monitro parhaus ar gyfer cynlluniau mor bwysig fod yn un drylwyr. Rwy'n disgwyl i Fyrddau sicrhau bod eu sefydliadau yn adolygu eu cynlluniau yn barhaus, a sicrhau eu bod yn cyflawni'r ymrwymiadau a nodir ynddynt. Lle na lwyddodd Byrddau i ddarparu cynlluniau cymeradwy yn y cylch cynllunio hwn, bydd fy swyddogion yn eu helpu i weithio tuag at gyflwyno cynllun tair blynedd integredig ar gyfer 2019\.
https://www.gov.wales/written-statement-medium-term-planning-update
Today I am launching a 12\-week public consultation on a draft noise and soundscape action plan for Wales for the period 2018\-2023\. This document replaces the current noise action plan for Wales, which the Welsh Government adopted in 2013\. Environmental noise legislation requires national noise action plans to be reviewed and revised, where necessary, at least every five years. Noise – meaning unwanted or harmful sound – can, in the short term, disrupt sleep and increase levels of stress, irritation and fatigue, as well as interfering with important activities such as learning, working and relaxing. Ultimately, it reduces the quality of people’s lives. Exposure to loud sounds can cause hearing damage, while exposure to noise in the long term can increase the risk of hypertension\-related illnesses and cardiovascular disease. A question on noise was included in the National Survey for Wales for the first time in 2017\-18\. People were asked whether they had regularly been bothered by noise from outside their home in the previous 12 months. 24% said they had. Of these: • 36% said the noise was caused by neighbours inside their homes; • 47% by neighbours outside their homes; and • 45% by traffic, businesses, or factories. Other findings from the National Survey relating to noise are presented in an annex to the consultation draft of the noise and soundscape action plan. These include the finding that “people were more likely to be bothered by noise if they lived in materially deprived households or in deprived areas.” Whilst acknowledging the negative impact of noise on our society, we also recognise that our lives are enhanced by conversation, laughter and cheering, music and the sounds of nature. A healthy acoustic environment is more than simply the absence of unwanted sound. The term “soundscape” refers to the acoustic environment as perceived, experienced or understood by people in any given context, and this includes beneficial and neutral sounds as well as noise. The noise and soundscape action plan is the Welsh Government’s central noise policy document, and has been produced collaboratively with local authorities and other public bodies. It outlines the Welsh public sector’s strategic policy direction in relation to noise and soundscape management for the next five years. It has a broader focus than just clamping down on the decibels, recognising that we also need to create appropriate soundscapes – the right acoustic environment in the right time and place. Towns and cities should contain a variety of soundscapes appropriate to the land use. Key points in the draft plan include: • The Welsh Government expects public bodies subject to the Well\-being of Future Generations (Wales) Act 2015 to follow the five ways of working contained in that Act when managing noise and soundscapes. • By defining environmental noise as an airborne pollutant within our Clean Air Programme, we will create and pursue any opportunities to further align noise/soundscape and air quality policy and regulation in Wales over the course of the next five years, in order to achieve multiple benefits from our actions. • We will build upon the new air quality and soundscape content of Planning Policy Wales as we take forward Wales’ first statutory National Development Framework and produce further guidance on air and soundscape quality to assist local planning authorities in Wales. In particular, we will conduct a detailed review of Technical Advice Note (TAN) 11: Noise with a view to replacing it with a new TAN addressing air quality and soundscape. • New arrangements for providing environment grants, including for improving the provision of tranquil green space in the built environment, will commence during the 2019/20 financial year. • The Welsh Government will prioritise sites on the motorway and trunk road network for treatment, based on ranking the sites according to noise values, numbers of homes affected, complaints received in the five years to June 2018, proximity of network improvement works, cost and deliverability. We will develop a programme of works to treat the most pressing locations with mitigation measures such as noise barriers and low noise surfacing. Decisions on exactly which locations will receive mitigation in the next five years are, however, beyond the scope of the overarching noise and soundscape action plan document, and will be taken by the Cabinet Secretary for Economy and Transport. • Through its membership of the British Standards Institution’s noise committees, the Welsh Government will continue to work to ensure that public bodies in Wales get clear and appropriate technical guidance to help them do their job. • We will continue to work with noise regulators in Wales to keep legislation and guidance relating to neighbourhood noise up to date and provide clear and accurate information to members of the public on how to make a complaint about noise nuisance in their area. I would welcome any views on the proposed content of the 2018 noise and soundscape action plan. The consultation closes on 3 October. https://beta.gov.wales/noise\-and\-soundscape\-action\-plan\-2018\-2023
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar gynllun gweithredu drafft i Gymru ynghylch sŵn a seinwedd, ar gyfer y cyfnod 2018\-23\. Mae’r ddogfen hon yn cymryd lle’r cynllun gweithredu presennol ar gyfer sŵn a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013\. Mae deddfwriaeth ynglŷn â sŵn amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i adolygu cynlluniau gweithredu sŵn, gan eu diwygio lle bo’r angen, o leiaf bob pum mlynedd. Gall sŵn, sy’n golygu sain ddiangen neu niweidiol, yn y byrdymor, amharu ar gwsg a chynyddu lefelau straen, dicter neu flinder, yn ogystal â tharfu ar weithgareddau pwysig megis dysgu, gweithio ac ymlacio. Yn y pen draw, mae’n lleihau ansawdd bywydau pobl. Gall seiniau uchel achosi niwed i’r clyw, tra gall sŵn dros amser hir gynyddu’r risg o gael clefydau sy’n gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel a chlefyd cardiofasgwlaidd. Roedd cwestiwn am sŵn am y tro cyntaf yn Arolwg Cenedlaethol i Gymru 2017\-18\. Gofynnwyd i bobl a oedd sŵn o’r tu allan i’w cartref wedi bod yn eu poeni’n rheolaidd yn ystod y 12 mis blaenorol. Dywedodd 24% ei fod wedi. O'r rhain, dywedodd: • 36% fod y sŵn wedi’i achosi gan gymdogion yn eu cartrefi • 47% ei fod wedi’i achosi gan gymdogion y tu allan i’w cartrefi • 45% ei fod wedi’i achosi gan draffig, busnesau neu ffatrïoedd Ceir canfyddiadau eraill yr Arolwg Cenedlaethol mewn perthynas â sŵn mewn atodiad i’r papur ymgynghori drafft ar y cynllun gweithredu sŵn seinwedd. Roedd y rheini’n cynnwys y canfyddiad fod “pobl yn fwy tebygol o gael eu poeni gan sŵn os oeddent yn byw mewn aelwydydd mewn amddifadedd materol neu ardaloedd difreintiedig.” Er ein bod yn cydnabod effaith niweidiol sŵn ar ein cymdeithas, rydym hefyd yn cydnabod bod siarad, chwerthin, bloeddio cymeradwyaeth, cerddoriaeth a seiniau natur yn cyfoethogi’n bywydau. Mae amgylchedd acwstig iach yn fwy nag un sydd heb sain ddiangen yn unig. Diffinnir seinwedd fel yr amgylchedd acwstig a ganfyddir, a brofir neu a ddeellir gan unigolion neu bobl, o fewn cyd\-destun. Mae’n cynnwys seiniau sy’n fuddiol a seiniau niwtral yn ogystal â sŵn. Y cynllun gweithredu sŵn a seinwedd yw prif ddogfen bolisi Llywodraeth Cymru, a chydweithiodd Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i’w lunio. Mae’n amlinellu polisi strategol y sector cyhoeddus yng Nghymru mewn perthynas â rheoli sŵn a seinwedd yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae’n ymwneud â mwy na lleihau sŵn yn unig. Mae’n cydnabod hefyd fod angen inni greu seinweddau priodol. Hynny yw, yr amgylchedd acwstig iawn yn y man iawn ar yr adeg iawn. Dylai trefi a dinasoedd gynnwys amrywiaeth o seinweddau sy’n briodol iddynt. Mae pwyntiau allweddol y cynllun drafft yn cynnwys: • Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gyrff cyhoeddus sy’n dod o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddilyn y pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf honno wrth reoli sŵn a seinweddau. • Drwy ddiffinio sŵn amgylcheddol fel llygrydd a gludir yn yr awyr yn ein Rhaglen Aer Glân, byddwn yn creu cyfleoedd i gysoni ymhellach bolisïau a rheoliadau sŵn/seinwedd ac ansawdd aer yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf, er mwyn inni elwa’n fawr arnynt. • Byddwn yn datblygu cynnwys newydd Polisi Cynllunio Cymru sy’n ymwneud ag ansawdd aer a seinwedd wrth inni roi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol statudol cyntaf Cymru ar waith ac yn llunio canllawiau pellach ar ansawdd aer a seinwedd i helpu’r awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru. Yn benodol, byddwn yn cynnal adolygiad manwl o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 11: Sŵn, gyda’r nod o gyflwyno TAN newydd yn ei le a fydd yn ymdrin ag ansawdd aer a seinwedd. • Bydd trefniadau newydd ar gyfer rhoi grantiau amgylcheddol, gan gynnwys grantiau ar gyfer darparu mwy o fannau gwyrdd llonydd yn yr amgylchedd adeiledig, yn dechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20\. • Bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu’r gwaith o drin safleoedd ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn ôl lefel y sŵn, nifer y cartrefi yr effeithir arnynt, y cwynion a ddaeth i law yn ystod y pum mlynedd hyd at fis Mehefin 2018, agosrwydd at y gwaith i wella rhwydweithiau, y gost a’r ymarferoldeb. Byddwn yn datblygu rhaglen waith i drin y lleoliadau pwysicaf â mesurau lliniaru megis rhwystrau sŵn ac arwynebau sŵn isel. Fodd bynnag, mae penderfynu ynghylch pa leoliadau yn union fydd yn cael eu lliniaru yn y pum mlynedd nesaf y tu hwnt i gwmpas dogfen gyffredinol y cynllun gweithredu ar gyfer sŵn a seinwedd, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth fydd yn penderfynu yn eu cylch. • Drwy ei haelodaeth o bwyllgorau sŵn y Sefydliad Safonau Prydeinig, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cael canllawiau technegol clir a phriodol er mwyn eu helpu i wneud eu gwaith. • Byddwn yn parhau i gydweithio â rheoleiddwyr sŵn yng Nghymru er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth a chanllawiau sy’n ymwneud â sŵn mewn cymdogaethau yn parhau i fod yn gyfredol, ac yn rhoi gwybodaeth glir a chywir i’r cyhoedd ynghylch sut i wneud cwyn am niwsans sŵn yn eu hardal. Byddwn yn croesawu unrhyw sylwadau ar gynnwys arfaethedig cynllun gweithredu sŵn a seinwedd 2018\. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben 3 Hydref 2018\. https://beta.llyw.cymru/cynllun\-gweithredu\-ynghylch\-swn\-seinwedd\-2018\-2023 
https://www.gov.wales/written-statement-noise-and-soundscape-action-plan-consultation
Following the First Minister’s announcement about his new Cabinet on 3 November 2017, the representation on the Ministerial Taskforce for the South Wales Valleys has been reviewed. I am pleased to announce both Eluned Morgan, Minister for Welsh Language and Lifelong Learning and Rebecca Evans, Minister for Housing and Regeneration will be joining the taskforce. The Ministers’ involvement demonstrates the Welsh Government’s commitment to the taskforce’s ambitions; focusing the power and resources available to government to act as a catalyst for change.    
Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru am ei Gabinet newydd ar 3 Tachwedd 2017, adolygwyd y gynrychiolaeth ar y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De. Mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, a Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio yn ymuno â'r tasglu. Mae cyfraniad y Gweinidogion yn arddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i amcanion y tasglu; mae'n sianelu'r grym a'r adnoddau sydd ar gael i'r Llywodraeth er mwyn newid pethau.
https://www.gov.wales/written-statement-ministerial-taskforce-south-wales-valleys
The National Institute for Health and Care Excellence (NICE) issued its draft guideline for the Management of Urinary Incontinence and Pelvic Organ Prolapse for consultation on 9 October which updates NICE guideline CG171 issued in 2013\. I welcome the draft guideline and NICE’s intention to consult on it, which is now significantly wider in scope covering  the management of urinary incontinence in women and the management of pelvic organ prolapse and importantly, the management of women with complications suspected to be associated with mesh surgery.  The guideline also further identifies a number of recommended areas for research. The guideline is consistent with the recommendations made in July by the Welsh Mesh and Tape Task and Finish Group particularly in relation to the use of non\-surgical options as a first resort, the requirement for fully informed consent, with women being fully advised of the risks of the procedure and provided with written information in relation to the implant; the recording of information on procedures and outcomes on a national registry  and the importance of local, regional and specialist multi\-disciplinary teams.   This guideline also mirrors the initial recommendations made by Baroness Cumberlege’s review and the subsequent ‘high vigilance’ arrangements communicated to clinicians by the Chief Medical Officer in Wales.   The draft guideline has been referred to the Women’s Health Implementation Group which I established to take forward the recommendations of the Welsh Mesh and Tape Task and Finish Group, for full consideration and to be taken into account in the wider implementation that is supported annually by £1m. The consultation on the draft guidelines ends on 19 November and can be accessed at: https://www.nice.org.uk/guidance/indevelopment/gid\-ng10035/consultation/html\-content\-2
Cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ganllawiau drafft Rheoli Anymataliaeth Wrinol a Phrolaps Organau'r Pelfis ar gyfer ymgynghoriad ar 9 Hydref, i ddiweddaru canllawiau CG171 a gyhoeddwyd gan NICE yn 2013\.   Rwy'n croesawu'r canllawiau drafft a bwriad NICE i gynnal ymgynghoriad, sydd bellach cryn dipyn yn ehangach ei gwmpas. Mae'n cynnwys rheoli anymataliaeth wrinol ymysg menywod a rheoli phrolaps organau'r pelfis ac, yn bwysig iawn, rheoli menywod â chymhlethdodau yr amheuir eu bod yn gysylltiedig â llawdriniaeth rhwyll. Mae'r canllawiau hefyd yn argymell nifer o feysydd ar gyfer ymchwil pellach. Mae'r canllawiau yn gyson ag argymhellion a wnaed ym mis Gorffennaf gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y defnydd o Rwyll a Thâp, yn arbennig o ran y defnydd o opsiynau eraill yn lle llawdriniaeth yn y lle cyntaf; yr angen am gydsyniad ar sail gwybodaeth lawn, gan hysbysu'r menywod yn llawn am beryglon y driniaeth a rhoi gwybodaeth ysgrifenedig iddynt am y mewnblaniad; cofnodi gwybodaeth am weithdrefnau a chanlyniadau ar gofrestr genedlaethol a phwysigrwydd timau amlddisgyblaethol lleol, rhanbarthol ac arbenigol.     Mae'r canllawiau hefyd yn adlewyrchu'r argymhellion cychwynnol a wnaed gan adolygiad y Farwnes Cumberlege a'r trefniadau 'gwyliadwriaeth uchel' dilynol a anfonwyd at glinigwyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.   Mae'r canllawiau drafft wedi cael eu cyfeirio at y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod a sefydlais i weithredu argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y defnydd o Rwyll a Thâp, er mwyn iddynt eu hystyried yn llawn a chyfeirio atynt yn eu gwaith gweithredu ehangach, sy’n cael £1m o gefnogaeth yn flynyddol. Daw'r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft i ben ar 19 Tachwedd, a gellir ei weld yma: https://www.nice.org.uk/guidance/indevelopment/gid\-ng10035/consultation/html\-content\-2
https://www.gov.wales/written-statement-nice-guideline-management-urinary-incontinence-and-pelvic-organ-prolapse-draft
The National Strategy on Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence 2016 \- 2021 contains a commitment to develop a sustainable national survivor engagement framework to ensure that the needs and experiences of survivors are understood. We can only understand and respond to violence and abuse by listening to and working alongside those with lived experience. Many survivors are not able to be heard, even though they are the true experts in the effects of violence and abuse. We are committed to learning from their experience and working with survivors to provide a platform that amplifies their voice. From November 2017 \- January 2018 we engaged with over sixty survivors and with stakeholder organisations. This engagement showed strong support for the development of a formal sustainable engagement mechanism. Survivors and stakeholders all felt that survivor voices and experience should be central to policy development, should be planned and meaningful and should be considered from the outset of policy design. At the same time we also undertook a literature review to identify the barriers and enablers to successful survivor engagement.  This background evidence and learning informed the development of a number of options for a national survivor engagement framework. We consulted on these options in the spring and have published a summary of responses:  https://livefearfree.gov.wales/policies\-and\-guidance/national\-survivor\-engagement\-framework?skip\=1\&lang\=en \<?xml:namespace prefix \= "o" ns \= "urn:schemas\-microsoft\-com:office:office" /\> Responses to the consultation were helpful but limited in number and representation.  Although a diverse range of survivors from across Wales have been engaged with this work, there remain hidden groups of survivors including those not accessing services or not part of any formal structured engagement who are not being heard.  These groups include men, Gypsy Roma and Travellers, and LGBT\+ communities. It is important that everyone’s voice is heard, and therefore my officials will initiate a project in September to deliver two main activities: • improving representation of future survivor engagement by undertaking primary research with those survivor groups who are under\-represented in the findings from previous survivor engagement work; and • a small scale pilot for a national survivor engagement panel. The pilot will run until March 2019 and will make recommendations for longer term practice following assessment of the findings. I look forward to sharing the outcomes in due course.
Mae Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam\-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2016\-2021 yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu fframwaith cenedlaethol cynaliadwy i ymgysylltu â goroeswyr er mwyn sicrhau ein bod yn deall anghenion a phrofiadau goroeswyr. Dim ond trwy wrando a chydweithio â'r bobl hynny sydd wedi dioddef trais, cam\-drin domestig a thrais rhywiol y gallwn ddeall y broblem yn iawn, ac ymateb iddi’n effeithiol. Nid ydym yn clywed yn aml gan oroeswyr, er mai nhw yw'r arbenigwyr gwirioneddol ar effeithiau trais a cham\-drin. Rydym yn benderfynol, felly, o gydweithio a nhw i roi llwyfan a llais cryfach iddynt, er mwyn inni allu dysgu o'u profiadau. Rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Ionawr 2018, buom yn trafod â mwy na thrigain o oroeswyr yn ogystal â sefydliadau rhanddeiliad. Yn y trafodaethau, cafwyd cefnogaeth gref i'r syniad o ddatblygu mecanwaith ffurfiol a chynaliadwy sy'n caniatáu trafodaeth. Roedd pawb o’r farn y dylai lleisiau a phrofiadau goroeswyr fod yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu polisi. Dylid cynllunio'n ofalus a bod yn ystyrlon, gan sicrhau bod eu lleisiau a'u safbwyntiau yn cael eu clywed o'r dechrau. Ar yr un pryd, cynhaliwyd adolygiad o lenyddiaeth er mwyn dod o hyd i'r hyn sy'n rhwystro neu'n galluogi trafodaethau llwyddiannus â goroeswyr.  Roedd y dystiolaeth gefndirol hon yn help wrth lunio nifer o opsiynau ar gyfer y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr. Rydym wedi cynnal ymgynghoriad ar yr opsiynau hyn yn ystod y gwanwyn. Rydym hefyd wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion:  https://livefearfree.gov.wales/policies\-and\-guidance/national\-survivor\-engagement\-framework?skip\=1\&lang\=cy \<?xml:namespace prefix \= "o" ns \= "urn:schemas\-microsoft\-com:office:office" /\> Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn ddefnyddiol ond yn gyfyngedig o ran nifer a chynrychiolaeth.  Er bod amrywiaeth eang o oroeswyr ledled Cymru wedi bod yn rhan o'r gwaith hwn, mae grwpiau o oroeswyr na allwn eu cyrraedd o hyd, goroeswyr nad ydynt yn cael mynediad at wasanaethau nac yn rhan o unrhyw drafodaeth ffurfiol, strwythuredig. Nid yw llais y bobl hyn yn cael ei glywed.  Ymhlith y grwpiau hyn mae dynion, Sipsiwn Roma a Theithwyr a chymunedau LGBT\+. Mae'n bwysig bod gan bawb lais, felly mae fy swyddogion yn cychwyn prosiect yn ystod mis Medi, gyda'r bwriad o gyflawni dau brif amcan: • gwella cynrychiolaeth mewn gwaith ymgysylltu â goroeswyr yn y dyfodol drwy gynnal ymchwil sylfaenol gyda'r grwpiau o oroeswyr sydd wedi eu tangynrychioli yng nghanfyddiadau gwaith ymgysylltu blaenorol; a • cynnal cynllun peilot bychan ar gyfer panel cenedlaethol i ymgysylltu â goroeswyr. Bydd y cynllun peilot yn rhedeg tan fis Mawrth 2019 a bydd yn gwneud argymhellion o ran arferion dros dymor hirach wedi i ni asesu'r canfyddiadau. Edrychaf ymlaen at gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor maes o law.
https://www.gov.wales/written-statement-national-survivor-engagement-framework-next-steps
On 22 May 2018, Kirsty Williams, Cabinet Secretary for Education made an oral statement in the Siambr on: National Academy for Educational Leadership (external link).
Ar 22 Mai 2018, gwnaeth y Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-national-academy-educational-leadership
**The Ionising Radiation (Basic safety Standards)(Miscellaneous Provisions)(Amendment)(EU Exit) Regulations 2018\<?xml:namespace prefix \= "o" ns \= "urn:schemas\-microsoft\-com:office:office" /\>** **The \[retained EU] Law which is being amended** *The Ionising Radiation (Basic Safety Standards) (Miscellaneous Provisions) Regulations 2018* **Any impact the SI may have on the Assembly’s legislative competence and/or the Welsh Ministers’ executive competence** The SIs (where relevant) to Wales are within devolved competence, however, in these exceptional circumstances when we are required to consider and correct an unprecedented volume of legislation within a tight timeframe and with finite resources, the Welsh Government’s general principal is that it appropriate that we ask the UK Government to legislate on our behalf in a large number of statutory instruments.   **The purpose of the amendments** The purpose of the amendments is to correct deficiencies in legislation arising from the UK leaving the European Union relating to ‘inoperabilities’ in the Ionising Radiation (Basic Safety Standards) (Miscellaneous Provisions) Regulations 2018 (IRR (BSSD) 2018\).   The SIs and accompanying Explanatory Memorandums, setting out the effect of each amendment is available here: https://www.gov.uk/eu\-withdrawal\-act\-2018\-statutory\-instruments     **Why consent was given** Consent has been given for the UK Government to make these corrections in relation to, and on behalf of, Wales for reasons of efficiency, expediency and due to the technical nature of the amendments. The amendments have been considered fully; and there is no divergence in policy. These amendments are to ensure that the statute book remains functional following the UK’s exit from the EU. This is in line with the principles for correcting agreed by the Cabinet Sub\-Committee on European Transition in May.
Rheoliadau Ioneiddio (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018\<?xml:namespace prefix \= "o" ns \= "urn:schemas\-microsoft\-com:office:office" /\>   Cyfraith \[yr UE a ddargedwir] sy'n cael ei diwygio Rheoliadau Ioneiddio (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018   Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru Mae'r OSau (pan fônt yn berthnasol i Gymru) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn pan fo gofyn inni ystyried a chywiro nifer digyffelyb o ddarnau deddfwriaeth o fewn amserlen dynn gan ddefnyddio adnoddau cyfyngedig, egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw ein bod yn gofyn i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan ar gyfer nifer mawr o offerynnau statudol.        Diben y diwygiadau Diben y diwygiadau yw cywiro diffygion mewn deddfwriaeth sy'n codi oherwydd bod y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ac sy’n ymwneud â ‘materion na ellir eu gweithredu’ yn yr Rheoliadau Ioneiddio (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 (IRR (BSSD) 2018\).   Mae'r OSau a'r Memorandwm Esboniadol sy’n mynd gyda nhw, ac sy'n nodi effaith pob un o'r diwygiadau, ar gael yma: https://www.gov.uk/eu\-withdrawal\-act\-2018\-statutory\-instruments   Pam y rhoddwyd cydsyniad Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn o ran ac ar ran Cymru, am resymau’n ymwneud ag effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd natur dechnegol y diwygiadau. Mae’r diwygiadau wedi cael eu hystyried yn llawn; ac nid oes unrhyw wahaniaeth o ran polisi. Diben y diwygiadau hyn yw sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i weithio ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Mae hyn yn unol â’r egwyddorion ar gyfer cywiro y cytunwyd arnynt ym mis Mai gan Is\-bwyllgor y Cabinet ar Bontio Ewropeaidd.  
https://www.gov.wales/written-statement-notification-relation-statutory-instruments-made-uk-ministers-devolved-areas-0
**The Local Government (Miscellaneous Amendments)** **(EU Exit) Regulations 2018** **The Law which is being amended** ·         Local Authorities (Contracting Out of Investment Functions) Order 1996 ·         Council Tax (Discount Disregards) Order 1992 **Any impact the SI may have on the Assembly’s legislative competence and/or the Welsh Ministers’ executive competence** The proposed amendments will have no impact on the Assembly’s legislative competence and/or the Welsh Ministers’ executive competence. **The purpose of the amendments** The purpose of this SI (negative procedure) is to correct deficiencies in UK legislation subject to exit from the European Union relating to local government finance.   In summary, this SI will remove the references to EEA\-regulated firms not authorised to carry out regulated activities in the UK so that only FCA\-authorised firms will be qualified to act as contractors for local authority investment functions.  The SI will also ensure that students studying within educational establishments situated in the UK and EU Member States will continue to be disregarded for the purposes of council tax. This will involve changing the reference to “Member State” to “relevant authority” and defining relevant authority as meaning England, Wales, Scotland or Northern Ireland or a Member State”.  The SI and accompanying Explanatory Memorandum, setting out the effect of this amendment is available here: https://www.gov.uk/eu\-withdrawal\-act\-2018\-statutory\-instruments/the\-local\-government\-miscellaneous\-amendments\-eu\-exit\-regulations\-2018 **Why consent was given** There is no divergence between the Welsh Government and the UK Government on the policy for the correction and the original legislation predates devolution.  Therefore, making separate SIs would lead to duplication, and unnecessary complication of the statute book. In these exceptional circumstances, the Welsh Government considers it appropriate that the UK Government legislates on our behalf in this instance.
**Rheoliadau Llywodraeth Leol (Diwygiadau Amrywiol)** **(Ymadael â'r UE) 2018** **Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio** ·         Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan o Swyddogaethau Buddsoddi) 1996 ·         Gorchymyn Treth Gyngor (Diystyru Gostyngiad) 1992 **Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru** Ni fydd y diwygiadau arfaethedig yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru. **Diben y diwygiadau** Diben yr OS (gweithdrefn negyddol) hwn yw cywiro diffygion yn neddfwriaeth y DU, yn ddarostyngedig i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn ymwneud â chyllid llywodraeth leol.   I grynhoi, bydd yr OS hwn yn diddymu cyfeiriadau at gwmnïau wedi'u rheoleiddio dan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd nad ydynt wedi'u hawdurdodi i gynnal gweithgareddau wedi'u rheoleiddio yn y DU, fel mai cwmnïau wedi'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn unig fydd yn gymwys i weithredu fel contractwyr ar gyfer swyddogaethau buddsoddi llywodraeth leol. Bydd yr OS hefyd yn sicrhau bod myfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliadau addysgol sydd wedi'u lleoli yn y DU ac yn Aelod\-wladwriaethau'r UE yn parhau i gael eu diystyru at ddibenion y dreth gyngor. Bydd hyn yn golygu newid y cyfeiriad at "Aelod\-wladwriaeth" i "awdurdod perthnasol" a diffinio'r awdurdod perthnasol i olygu Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu Aelod\-wladwriaeth. Mae'r OS a'r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd\-fynd ag ef, ac sy'n nodi effaith y diwygiad hwn, i’w gweld yma: https://www.gov.uk/eu\-withdrawal\-act\-2018\-statutory\-instruments/the\-local\-government\-miscellaneous\-amendments\-eu\-exit\-regulations\-2018 **Pam y rhoddwyd cydsyniad** Nid oes gwahaniaeth rhwng ymagwedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi i'w gywiro, ac fe wnaed y ddeddfwriaeth wreiddiol cyn datganoli. O ganlyniad, byddai gwneud OS ar wahân yn arwain at ddyblygu gwaith a chymhlethdod diangen i'r llyfr statud. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan yn yr achos hwn.
https://www.gov.wales/written-statement-notification-relation-statutory-instruments-made-uk-ministers-devolved-areas-2
I wish to inform members of the appointment of the Chief Fire and Rescue Adviser for Wales, Andy Fry.   The Chief Fire and Rescue Advisor has a vital role in assisting the Welsh Ministers and officials on matters of operational preparedness, performance, structure and organisation of Fire and Rescue Authorities in Wales.   Andy will take up his full duties at the start of July, when the current incumbent, Des Tidbury, leaves the post.  Andy has 30 years’ experience in the Fire Service and has been Chief Fire Officer in the Suffolk and Royal Berkshire Fire and Rescue Services.  He has taken on tough challenges in England and I look forward to working with him.   I would like to thank Des Tidbury for the outstanding job he has done as Chief Fire and Rescue Advisor since 2015\.  Des’s support across all fire related issues has been invaluable, but I and my colleagues particularly appreciate his work in co\-ordinating and overseeing our response to the Grenfell Tower tragedy.  I wish him every success in the future.   The Chief Fire and Rescue Advisor is a Crown appointment under the Fire and Rescue Services Act 2004\.  The Chief Advisor is also legally responsible for inspecting fire safety in all non\-military Crown premises in Wales.  
Hoffwn roi gwybod i aelodau bod Andy Fry wedi'i benodi'n Brif Gynghorydd Tân ac Achub Cymru. Mae gan y Prif Gynghorydd Tân ac Achub rôl hanfodol wrth gynorthwyo Gweinidogion Cymru a swyddogion ar barodrwydd gweithredol, perfformiad, strwythur a threfniadaeth Awdurdodau Tân ac Achub Cymru. Bydd Andy'n ymgymryd â'i ddyletswyddau'n llawn ddechrau mis Gorffennaf pan fydd y deiliad presennol, Des Tidbury, yn gadael y swydd. Mae gan Andy dros 30 mlynedd o brofiad yn y Gwasanaeth Tân a bu'n Brif Swyddog Tân i Wasanaethau Tân ac Achub  Suffolk a Royal Berkshire. Mae wedi ymgymryd â heriau anodd yn Lloegr ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef. Hoffwn ddiolch i Des Tidbury am ei waith rhagorol yn rhinwedd ei swydd yn Brif Gynghorydd Tân ac Achub ers 2015\. Bu cymorth Des i'r holl faterion sy'n ymwneud â thân yn amhrisiadwy, ac rydw i a'm cydweithwyr yn gwerthfawrogi'n benodol ei waith yn cydlynu a goruchwylio ein hymateb i drychineb Tŵr Grenfell. Dymunaf bob llwyddiant iddo i'r dyfodol. Mae'r Prif Gynghorydd Tân ac Achub yn benodiad gan y Goron, dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004\. Y Prif Gynghorydd sydd hefyd yn gyfrifol yn gyfreithiol am arolygu diogelwch tân ym mhob safle'r Goron nad ydynt yn ymwneud â'r fyddin.
https://www.gov.wales/written-statement-new-chief-fire-and-rescue-advisor-and-inspector-wales
A Healthier Wales: Our plan for health and social care was published on 11 June.  The plan committed to ‘establish a national Transformation Programme to drive the implementation of this plan, led by the Director General, Health \& Social Services, supported by a representative cross\-sector Transformation Board.’  I am pleased to announce the following members of the Transformation Board.  They will support the Director General, Andrew Goodall, in leading the Transformation Programme.  • Alex Howells – Chief Executive, Health Education and Improvement Wales • Clare Budden – Chief Executive, Pennaf Housing • Dave Street – Director of Social Services, Caerphilly County Borough Council • Gareth Roberts – Chair, North Wales Regional Partnership Board • Huw David – Leader of Bridgend County Borough Council  • Keith Moultrie – Director, Institute of Public Care, Oxford Brookes University • Jan Williams – Chair, Public Health Wales  • Len Richards – Chief Executive, Cardiff \& Vale UHB • Phil Roberts – Chief Executive, Swansea County Council • Phil Robson – Chair, Aneurin Bevan Regional Partnership Board • Ruth Marks – Chief Executive, Wales Council for Voluntary Action  • Siôn James – Cluster lead, North Ceredigion Primary Care Cluster • Steve Thomas – Chief Executive, Welsh Local Government Association  • Sue Evans – Chief Executive, Social Care Wales  • Vanessa Young – Director, Welsh NHS Confederation              
Cyhoeddwyd Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 11 Mehefin. Ymrwymodd y cynllun i ‘Sefydlu Rhaglen Drawsnewid genedlaethol i annog gweithredu’r cynllun hwn, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda chefnogaeth Bwrdd Trawsnewid o gynrychiolwyr traws\-sector’. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r canlynol fel aelodau o’r Bwrdd Trawsnewid.  Byddant yn cefnogi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Andrew Goodall, wrth iddo arwain y Rhaglen Drawsnewid. • Alex Howells – Prif Weithredwraig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru • Clare Budden – Prif Weithredwraig, Grŵp Tai Pennaf • Dave Street – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili • Gareth Roberts – Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru • Huw David – Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen\-y\-bont ar Ogwr • Keith Moultrie – Cyfarwyddwr, Institute of Public Care, Oxford Brookes University • Jan Williams – Cadeirydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru  • Len Richards – Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro • Phil Roberts – Prif Weithredwr, Cyngor Abertawe • Phil Robson – Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Aneurin Bevan • Ruth Marks – Prif Weithredwraig, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru • Siôn James – Arweinydd Clwstwr, Clwstwr Gofal Gogledd Ceredigion • Steve Thomas – Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru  • Sue Evans – Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru  • Vanessa Young – Cyfarwyddwraig, Conffederasiwn GIG Cymru
https://www.gov.wales/written-statement-national-transformation-board
  I would like to update members on progress in developing the new curriculum and assessment arrangements that will begin to roll out in September 2020 as part of our national mission to raise standards, close the attainment gap and create an education system that’s a source of national pride. The work on developing the new curriculum and assessment framework is progressing well and to timescale and a draft version will be available in April 2019\. Since January Pioneer Schools, supported by world leading educationalist, Welsh Higher Education Institutions, Welsh Government and our stakeholders have made significant progress. Pioneer schools have developed ‘what matters’ statements for each Area of Learning and Experience \- the ways of organising learning across the curriculum. The ‘what matters’ statements set out the most important knowledge and skills to be gained and aim to make what children and young people learn relevant to the world we live in today and help them adapt to a changing society and world. Our new curriculum and assessment arrangements are being built on ‘progression’.  The CAMAU project run by the University of Wales, Trinity St David and Glasgow University has supported Pioneers in developing this approach. It will be based on a nationally described continuum of learning from 3 \- 16\. Progression Steps will be at 5, 8, 11, 14 and 16 and take the form of Achievement Outcomes relating broadly to expectations at those ages.   These will help teachers sequence learning purposefully for each learner. Pioneers are also considering emerging professional learning needs which is informing the National Model for Professional Learning that will be launched in the Autumn to support professionals to move to the new curriculum. In June, Estyn published a route map to help schools prepare. Schools leaders can start preparing for change now by using the route map and looking at the case studies showing how some of our schools are starting to prepare. Our reforms are being developed collaboratively and transparently, with regularly published updates.  This week we have published 5 papers outlining our approach to the AoLE’s, with a further paper to publish in July. We have also released the latest EducationWales podcast focusing on the new curriculum in which teachers and Professors Graham Donaldson, Mark Priestley and Louise Hayward talk about how our reforms are putting Welsh education on the world map. Anyone interested in following the progress of our reforms can subscribe to the Curriculum for Wales blog, listen to the recently launched EducationWales podcast or sign up to receive the Welsh Government’s education newsletter Dysg, which this week will focus entirely on progress in developing curriculum and assessment arrangements. Pioneer Schools are engaging with cluster schools. If schools want further information about progress locally or getting involved they can contact their regional consortia.      
Hoffwn roi diweddariad i aelodau ar ddatblygiad y trefniadau asesu a'r cwricwlwm newydd sydd yn symud yn ei flaen yn dda, ac sydd ar amser, a bydd fersiwn drafft ar gael ym mis Ebrill 2019\. Bydd gan ysgolion wedyn gyfle i ddarparu adborth, i brofi a choethi, cyn iddynt gael mynediad i’r cwricwlwm derfynol o 2020, gan eu caniatáu i fod yn hollol barod ar gyfer ei weithredu’n statudol ym Medi 2022\.  Mae hyn yn ganolog i genhadaeth ein cenedl i godi safonau, i gau’r bwlch cyrhaeddiad a chreu system addysg sydd yn destun balchder cenedlaethol. Ers Ionawr mae Ysgolion Arloesi sydd wedi cael eu cefnogi gan addysgwyr blaengar ledled y byd, Sefydliadau Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru a’n rhanddeiliaid i ddarparu cynnydd sylweddol. Mae Ysgolion Arloesi wedi datblygu datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ ar gyfer y Meysydd Dysgu a Phrofiad \-  y ffyrdd o drefnu dysgu ar draws y cwricwlwm.  Bydd y datganiadau ‘Beth sy’n Bwysig’ yn datgan y wybodaeth a’r sgiliau sydd angen eu cyflawni a gyda’r bwriad o wneud yr hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei ddysgu yn addas ar gyfer y byd y maent yn byw ynddi heddiw ac eu helpu i addasu i gymdeithas a byd sydd yn newid.   Dilyniant a chynnydd sy'n sail i'n cwricwlwm a'n trefniadau asesu newydd.  Mae'r prosiect CAMAU, a redir gan Yr Athrofa ac Y Drindod Dewi Sant a phrifysgol Glasgow, wedi cefnogi Arloeswyr yn y gwaith o ddatblygu'r ymagwedd hon. Bydd yn seiliedig ar gontinwwm dysgu ar gyfer dysgwyr rhwng 3 a 16 oed. Bydd y Camau Cynnydd yn cael eu pennu yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed, a byddant i'w gweld ar ffurf Deilliannau Cyflawniad a fydd yn berthnasol, yn fras, i'r disgwyliadau ar yr adegau hynny.  Bydd y rhain yn helpu athrawon i drefnu dysgu mewn ffordd briodol ar gyfer pob dysgwr. Mae Arloeswyr hefyd yn ystyried anghenion dysgu proffesiynol sy'n dod i'r amlwg. Bydd hyn yn bwydo i mewn i'r Model Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol a gaiff ei lansio yn yr hydref i gefnogi gweithwyr y sector i symud i'r cwricwlwm newydd. Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Estyn drywydd er mwyn helpu ysgolion i baratoi. Gall arweinwyr ysgolion ddechrau paratoi ar gyfer y newid nawr drwy ddefnyddio'r trywydd ac edrych ar yr astudiaethau achos ledled Cymru. Mae ein diwygiadau yn cael eu datblygu mewn ffordd gydweithredol a thryloyw, gan gyhoeddi diweddariadau cyson.  Yr wythnos hon, rydym wedi cyhoeddi 5 papur yn amlinellu ein hymagwedd tuag at y Meysydd Dysgu a Phrofiad, gyda phapur arall i ddod ym mis Gorffennaf. Rydym hefyd wedi cyhoeddi podlediad diweddaraf Addysg Cymru, sy'n rhoi sylw manwl i'r Cwricwlwm. Ynddo, mae Graham Donaldson, Mark Priestley a Louise Hayward yn trafod sut y mae ein diwygiadau'n rhoi addysg Cymru ar y map ar draws y byd. Gall unrhyw un sydd â diddordeb ddilyn ein cynnydd o ran y diwygiadau drwy danysgrifio i flog Cwricwlwm Cymru, gwrando ar y podlediad y soniwyd amdano uchod, neu danysgrifio i dderbyn cylchlythyr addysg Llywodraeth Cymru, sef Dysg. Yr wythnos hon, mae'r rhifyn diweddaraf o Dysg yn canolbwyntio'n llwyr ar ddatblygiadau mewn perthynas â'r trefniadau asesu a'r cwricwlwm newydd.
https://www.gov.wales/written-statement-new-curriculum-and-assessment-arrangements
On the morning of the 24 January a technical issue occurred, which caused an outage at the two data centres operated by the NHS Wales Informatics Service (NWIS) on behalf of NHS Wales. This incident affected twenty\-six nationally\-hosted systems, including systems which manage appointments and which share patient referrals, tests results, laboratory results and GP test requests. The NHS Wales email system was also impacted. During the incident, all Health Boards activated business continuity plans to ensure both NHS Wales staff and patients were supported during this outage and as a result, care and treatment continued to be provided. However, as this incident impacted our frontline staff, there were delays experienced by patients, for example in receiving test results. By 16:15 the same day all systems were operational, with business\-as\-usual service being resumed by 20:00\. I would like to thank all of our NHS Wales technical staff who worked hard to resolve this issue as quickly as possible. I would also like to thank all of our frontline staff who continued to provide excellent services to the people of Wales under difficult circumstances. Following resolution of the issue, NWIS initiated an investigation to establish the cause of the data centre outage and I agreed to issue a written statement once this review had concluded. Firstly, I can confirm this was not a cyber attack and that the integrity of patient records was not compromised by this incident. I can also confirm that the investigation found the cause of the incident to be a problem with the firewall equipment which occurred when a routine firewall change was applied. The manufacturer of the equipment has confirmed that the firewall acted in an unpredictable way and that the change made should not have had a detrimental effect. The manufacturer identified changes to the configuration of the firewalls to avoid a similar circumstance and these were applied successfully to the firewall equipment at 7\.30 on Wednesday 31 January. Further changes have also been made to provide greater monitoring of firewall activity. While this type of IT failure is unusual in NHS Wales, my officials are working with Health Boards and NWIS to develop a new cyber attack and IT incident communications, to alert and update stakeholders in the case of future incidents. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Fore 24 Ionawr, cafwyd mater technegol a achosodd ddiffyg yn y ddwy ganolfan ddata sy'n cael eu gweithredu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ar ran Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru. Effeithiodd y digwyddiad ar ddau ddeg chwech o systemau sy'n cael eu lletya'n genedlaethol sy'n rheoli apwyntiadau i gleifion ac sy'n rhannu atgyfeiriadau cleifion, canlyniadau profion, canlyniadau labordai a cheisiadau gan feddygon teulu am brofion. Cafodd system e\-bost GIG Cymru ei heffeithio hefyd. Yn ystod y digwyddiad, cafodd cynlluniau parhad busnes eu rhoi ar waith gan bob Bwrdd Iechyd i sicrhau bod staff a chleifion GIG Cymru yn cael eu cefnogi yn ystod y diffyg gwasanaeth hwn ac, o ganlyniad, roedd modd parhau i roi gofal a thriniaeth. Fodd bynnag, gan fod y digwyddiad hwn wedi effeithio ar ein staff rheng flaen, wynebodd cleifion oedi, er enghraifft o safbwynt derbyn canlyniadau profion. Erbyn 16:15 ar yr un diwrnod roedd pob system yn weithredol, ac roedd popeth yn gweithio fel arfer erbyn 20:00\. Hoffwn ddiolch i'n holl staff technegol yn GIG Cymru a weithiodd mor ddiwyd i ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosibl. Hoffwn ddiolch hefyd i'n holl staff rheng flaen a barhaodd i gynnig gwasanaethau rhagorol i bobl Cymru mewn amgylchiadau anodd. Ar ôl i'r mater gael ei ddatrys, cafodd ymchwiliad ei ddechrau gan NWIS i ddarganfod beth oedd achos y diffyg yn y canolfannau data a chytunais y byddwn yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig pan fyddai'r adolygiad hwnnw wedi dirwyn i ben. Yn gyntaf, gallaf gadarnhau nad ymosodiad seiber oedd hwn ac nad oedd unrhyw berygl i gadernid cofnodion cleifion o ganlyniad i'r digwyddiad hwn. Gallaf gadarnhau hefyd fod yr ymchwiliad wedi dod i'r casgliad mai problem gyda'r offer waliau tân oedd achos y digwyddiad. Cododd y broblem pan gafodd newid rheolaidd i wneud i wal dân. Mae gweithgynhyrchwr yr offer wedi cadarnhau bod y wal dân wedi ymddwyn mewn modd na ellid fod wedi'i ragweld ac na ddylai'r newid fod wedi cael effaith mor andwyol. Daeth y gweithgynhyrchwr o hyd i newidiadau i gyfluniad y waliau tân er mwyn osgoi amgylchiadau tebyg eto a chafodd y newidiadau hynny eu cymhwyso'n llwyddiannus i'r offer wal dân am 7\.30 ddydd Mercher 31 Ionawr. Mae newidiadau eraill wedi cael eu gwneud hefyd er mwyn monitro gweithgarwch waliau tân yn well. Er bod methiant TG o'r math hwn yn anghyffredin yn GIG Cymru, mae fy swyddogion yn gweithio gyda Byrddau Iechyd a NWIS i ddatblygu ffordd newydd o gyfathrebu am ymosodiadau seiber a digwyddiadau TG, er mwyn  tynnu sylw rhanddeiliaid at ddigwyddiadau yn y dyfodol a rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â hwy. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-nhs-wales-data-centre-outage
The Chief Secretary to the Treasury Rt. Hon. Elizabeth Truss MP and I have confirmed that HMRC, the Welsh Government and new Welsh Revenue Authority (WRA) are ready to go live with the move to Welsh devolved taxes on 1 April. From 1 April 2018, Wales will collect its first national taxes for almost 800 years as stamp duty land tax and landfill tax are devolved, to be replaced by land transaction tax and landfill disposals tax. I have agreed with the Chief Secretary to the Treasury that I am content for the UK Government to set in train the process for the disapplication of the UK taxes, to enable land transaction tax and landfill disposals tax to go live from 1 April 2018\. The Welsh Revenue Authority was established in October 2017 to collect and manage two devolved Welsh taxes following the introduction of the Tax and Collection and Management (Wales) Act 2016\. Today’s meeting was also an opportunity to reflect on the good and constructive relationships that have developed between our governments over this period.  I look forward to this continuing. Tax devolution of these taxes represents a significant milestone for Wales, providing us with further tools to make a fairer Wales and grow the Welsh economy. I’d like to thank members of the Finance Committee for the scrutiny and assurance they have provided to date as we reach this significant point in the Welsh tax devolution process.
Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Y Gwir Anrhydeddus Elizabeth Truss AS a minnau wedi cadarnhau bod Cyllid a Thollau EM, Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn barod i roi’r trethi datganoledig ar waith yng Nghymru ar 1 Ebrill. O 1 Ebrill 2018 ymlaen, bydd Cymru’n casglu ei threthi cenedlaethol cyntaf ers bron i 800 mlynedd wrth i dreth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi gael eu datganoli a’u disodli gan y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi. Rwyf wedi cytuno â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys fy mod yn fodlon i Lywodraeth y DU ddechrau'r broses ar gyfer datgymhwyso trethi'r DU, er mwyn galluogi'r dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi i fynd yn fyw ar 1 Ebrill 2018\. Sefydlwyd Awdurdod Cyllid Cymru ym mis Hydref 2017 i gasglu a rheoli dwy dreth ddatganoledig yng Nghymru ar ôl cyflwyno Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016\. Roedd y cyfarfod heddiw hefyd yn gyfle i fyfyrio ar y cysylltiadau cadarnhaol ac adeiladol sydd wedi datblygu rhwng ein llywodraethau dros y cyfnod hwn. Edrychaf ymlaen at weld hyn yn parhau. Mae datganoli'r trethi hyn yn garreg filltir arwyddocaol i Gymru, ac yn rhoi rhagor o adnoddau i ni i greu Cymru decach ac i ddatblygu economi Cymru. Hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Cyllid am y gwaith craffu a’r sicrwydd sydd wedi’i ddarparu ganddynt hyd yma wrth i ni gyrraedd y pwynt arwyddocaol hwn yn y broses o ddatganoli trethi i Gymru.
https://www.gov.wales/written-statement-finance-secretary-and-chief-secretary-treasury-agree-new-welsh-tax-process-first
I have today made an application to the Supreme Court for permission to participate in the Reference of the UK Withdrawal from the European Union (Legal Continuity) (Scotland) Bill. Some of the issues raised by the Attorney General and the Advocate General for Scotland in that Reference raise questions regarding all of the devolution settlements in the UK and are not limited to the Scottish Bill nor indeed the Scottish devolution settlement. The Reference may raise questions about the legislative role of the devolved legislatures and the limits of their legislative competence. The court’s decision could therefore have an impact on the National Assembly’s legislative competence and the relationship between the National Assembly and the UK Parliament. My decision to make the application does not have any implications for the Intergovernmental Agreement on the EU (Withdrawal) Bill, which was reached between the UK Government and the Welsh Government. My intention is simply to ensure the Supreme Court’s analysis and reasoning in the Reference is fully informed, including any potential impact on the Welsh devolution settlement. The Reference is due to be heard by the Supreme Court on 24 and 25 July. I will of course ensure Members are kept fully updated about the Reference as it progresses in the Supreme Court and intend to make an oral statement in due course.
Rwyf wedi gwneud cais heddiw i’r Goruchaf Lys am ganiatâd i gymryd rhan yn Atgyfeiriad Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban). Mae rhai o’r cwestiynau a godwyd gan y Twrnai Cyffredinol a chan Adfocad Cyffredinol yr Alban yn yr Atgyfeiriad hwnnw yn codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn â phob setliad datganoli yn y Deyrnas Unedig. Nid cwestiynau sy’n berthnasol i’r Bil Albanaidd a setliad datganoli'r Alban yn unig mohonynt. Gall yr Atgyfeiriad godi cwestiynau am rôl ddeddfwriaethol y deddfwrfeydd datganoledig ac am derfynau eu cymhwysedd deddfwriaethol. Gallai penderfyniad y llys felly gael effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a’r berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd y Deyrnas Unedig. Nid oes gan fy mhenderfyniad innau i wneud y cais unrhyw oblygiadau i’r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Fy mwriad i’n syml yw sicrhau bod dadansoddiad a rhesymeg y Goruchaf Lys yn yr Atgyfeiriad yn seiliedig ar yr holl wybodaeth, gan gynnwys unrhyw effaith bosibl ar setliad datganoli Cymru. Disgwylir i’r Atgyfeiriad gael ei glywed gan y Goruchaf Lys ar 24 a 25 Gorffennaf.   Byddaf wrth reswm yn sicrhau bod yr Aelodau yn cael yr holl wybodaeth am yr Atgyfeiriad wrth iddo barhau yn y Goruchaf Lys, ac rwy’n bwriadu gwneud datganiad llafar yn fuan.
https://www.gov.wales/written-statement-proposed-participation-counsel-general-wales-reference-uk-withdrawal-european
The next non\-domestic rates revaluation in Wales will take place in 2021, in line with the next revaluation in England. Bringing the revaluation forward by a year from 2022 will mean the rateable values on which non\-domestic rates bills are based will reflect up\-to\-date market conditions and enable ratepayers in Wales to plan ahead. This decision provides certainty for ratepayers as the Welsh Government explores more fundamental reforms to the system.   Last year, I outlined our approach to reforming local taxes – council tax and non domestic rates – as an integral part of the wider local government finance system.  I published an update on progress last October and will publish a further update in the autumn.   In reforming the business rates system, our aim is to provide greater resilience for local authorities; fairness for citizens and businesses and ensure there is sustainable funding for vital local services. We have already achieved a number of our short\-term goals to develop a Welsh non domestic rates system, including placing our small business rates relief scheme on a permanent footing; changing the basis for uprating the multiplier and consulting on improvements to the administration of rates.   We are now considering wider and longer\-term questions about business rates, including whether different approaches to property valuation in Wales are viable; whether they are fairer and whether there are benefits for public services and the economy in Wales. We are also looking at the potential of other options, such as a land value tax, as an alternative way of raising revenue from non\-domestic property in the longer term.   Local authorities are being invited to bring forward proposals for how regional approaches can help to drive economic growth as part of city and growth deals in Wales. I have recently agreed an in principle approach for the local authorities involved the Swansea Bay city deal to retain 50% of the business rates generated by projects in the deal.   More fundamental changes to business rates in Wales in the future will need to be considered and developed over the longer term. However, in the short\-term, I want to be confident that any changes we make to the business rates system now, does not limit or rule out our options for future developments if these would better meet the needs and objectives for Wales.   Given the range of options which may emerge from the exploratory work we are carrying out, it would be premature at this stage to commit to following the approach announced in England of adopting a three\-yearly revaluation cycle after 2021\. I have not ruled this out but I am keen to examine all options for Wales. The Welsh Government will take advice from experts and work with local government and stakeholders as we take this work forward. This work will be carried out openly and proposals will be shared as they are developed.   The Welsh Government will continue to work closely with the Valuation Office Agency to ensure the revaluation process for 2021 is carried out in a timely and accurate manner, reflecting our ambitions for people and businesses in Wales.
Bydd y cylch ailbrisio ardrethi annomestig nesaf yng Nghymru yn cael ei gynnal yn 2021, gan gyd\-fynd â'r cylch ailbrisio nesaf yn Lloegr. Bydd dod â'r cylch ailbrisio ymlaen flwyddyn o 2022 yn golygu y bydd y gwerth ardrethol, y mae biliau ardrethi annomestig yn seiliedig arno, yn adlewyrchu amodau cyfredol y farchnad, gan sicrhau bod talwyr ardrethi yng Nghymru yn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol.   Mae'r penderfyniad hwn yn rhoi sicrwydd i dalwyr ardrethi wrth i Lywodraeth Cymru fynd ati i ymchwilio i ffyrdd o ddiwygio'r system mewn modd mwy sylfaenol.   Y llynedd, rhoddais amlinelliad o'n dull gweithredu ar gyfer diwygio trethi lleol – y dreth gyngor a'r ardrethi annomestig – fel rhan annatod o system gyllid ehangach llywodraeth leol. Cyhoeddais yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith hwn fis Hydref diwethaf, a byddaf yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth yn yr hydref.   Wrth ddiwygio'r system ardrethi busnes, ein nod yw cryfhau cadernid ein hawdurdodau lleol; sicrhau tegwch i ddinasyddion a busnesau; a hefyd sicrhau bod cyllid cynaliadwy ar gael i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol. Rydym eisoes wedi cyflawni nifer o'n nodau tymor byr ar gyfer datblygu system ardrethi annomestig i Gymru, gan gynnwys rhoi ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach ar sail barhaol; newid y sail ar gyfer graddfeydd uwch i'r lluosydd; ac ymgynghori ar welliannau i'r broses o weinyddu ardrethi.   Bellach rydym yn ystyried cwestiynau ehangach a mwy tymor hir ynghylch ardrethi busnes, gan gynnwys a fyddai'n ymarferol defnyddio dulliau gweithredu gwahanol ar gyfer prisio eiddo yng Nghymru; a fyddai hynny'n decach; ac a fyddai manteision i wasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru. Rydym hefyd yn edrych ar botensial opsiynau eraill, megis treth gwerth tir, fel ffordd arall o godi refeniw o eiddo annomestig yn y tymor hir. Gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion ar gyfer sut y gallai dulliau gweithredu rhanbarthol helpu i hybu twf economaidd fel rhan o fargeinion dinesig a bargeinion twf yng Nghymru. Yn ddiweddar, rwyf wedi cymeradwyo dull gweithredu mewn egwyddor i'r awdurdodau lleol sy'n gysylltiedig â bargen ddinesig Bae Abertawe o ran cadw 50% o'r ardrethi busnes a gynhyrchir gan brosiectau sy'n rhan o'r fargen.   Bydd angen ystyried newidiadau mwy sylfaenol i ardrethi busnes yng Nghymru yn y dyfodol, a datblygu'r newidiadau hynny dros gyfnod hirdymor. Fodd bynnag, yn y tymor byr, rwyf am fod yn hyderus na fyddai unrhyw newidiadau a wneir i'n system ardrethi busnes heddiw, yn cyfyngu ar ein hopsiynau yn y dyfodol, neu’n eu rhwystro rhag gweithio, pe gallai'r opsiynau hynny ddiwallu anghenion a chyflawni amcanion yng Nghymru.   O ystyried yr amrywiaeth o opsiynau a allai godi o'r gwaith ymchwilio yr ydym yn ei gyflawni, byddai'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ymrwymo i ddefnyddio'n un system o ailbrisio bob tair blynedd ar ôl 2021 ag a gyhoeddwyd yn Lloegr. Nid wyf wedi gwrthod yr opsiwn hwn yn llwyr, ond rwy'n awyddus i edrych ar yr holl opsiynau a fyddai'n bosibl yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyngor gan arbenigwyr ac yn gweithio gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni mewn modd agored, a rhoddir gwybod am unrhyw gynigion wrth iddynt gael eu datblygu. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i sicrhau bod y broses ailbrisio ar gyfer 2021 yn cael ei weithredu mewn modd amserol a chywir, gan adlewyrchu ein huchelgais ar gyfer pobl a busnesau Cymru.
https://www.gov.wales/written-statement-non-domestic-rates-revaluation
In March 2014, the joint Escalation and Intervention Arrangements were launched. Under these arrangements, the Welsh Government meets the Wales Audit Office and Healthcare Inspectorate Wales twice a year to discuss the overall position of each health board and NHS trust. A wide range of information and intelligence is considered to help identify any issues to help them be resolved effectively. This statement informs Assembly Members about the outcome of the latest meeting that was held on 18 July 2018\. The framework has four escalation levels: • Routine arrangements; • Enhanced monitoring; • Targeted intervention; • Special measures. As a result of the discussions, the Welsh Government, Wales Audit Office and HIW agreed all organisations will remain at their current escalation level as set out in the table at annex 1\. I have already provided members with an update on Betsi Cadwaladr University Health Board. With regard to the three organisations in targeted intervention, over the last 12 months, progress has been seen, with both Cardiff and Vale and Hywel Dda University Health Boards achieving performance milestones.  In Hywel Dda, the outstanding issue remains finance, though the recent baseline review will help the organisation. In Abertawe Bro Morgannwg University Health Board, a new Chief Executive has been appointed and there have been changes to the Executive Team.  There has been a gradual improvement in performance and I expect this to be sustained. I recognise there is still further work to do across all three organisations and my officials continue to work closely with them. I continue to have expectations for improvement from each of the escalated organisations and their progress will continue to be monitored through formal accountability arrangements and discussions with officials. Annex 1 | **Organisation** | **Previous Status** | **Current Status** | | --- | --- | --- | | Abertawe Bro Morgannwg UHB | Targeted intervention | Targeted intervention | | Aneurin Bevan UHB | Routine arrangements | Routine arrangements | | Betsi Cadwaladr UHB | Special measures | Special measures | | Cardiff and Vale UHB | Targeted intervention | Targeted intervention | | Cwm Taf UHB | Routine arrangements | Routine arrangements | | Hywel Dda UHB | Targeted intervention | Targeted intervention | | Powys tHB | Routine arrangements | Routine arrangements | | Public Health Wales NHS Trust | Routine arrangements | Routine arrangements | | Velindre NHS Trust | Routine arrangements | Routine arrangements | | Welsh Ambulance Services NHS Trust | Routine arrangements | Routine arrangements |     This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so              
Ym mis Mawrth 2014, lansiwyd y Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd ar y cyd. O dan y trefniadau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cwrdd â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth y GIG. Maent yn ystyried ystod eang o wybodaeth i nodi unrhyw broblemau er mwyn helpu i'w datrys yn effeithiol. Mae'r datganiad hwn yn rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad am ganlyniad y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2018\. Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith: • Trefniadau arferol • Monitro uwch • Ymyrraeth wedi'i thargedu • Mesurau arbennig. O ganlyniad i'r trafodaethau, cytunodd Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru y bydd yr holl sefydliadau'n parhau ar eu lefel uwchgyfeirio bresennol fel y'i nodir yn y tabl yn atodiad 1\.  Rwyf eisoes wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. O ran y tri sefydliad sydd ar lefel ymyrraeth wedi ei thargedu, cafwyd cynnydd yn ystod y ddeuddeg mis diwethaf, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyrraedd cerrig milltir o ran eu perfformiad. O ran Bwrdd Hywel Dda, y broblem o hyd yw'r broblem cyllid, er y bydd yr adolygiad llinell sylfaen diweddar o gymorth i'r sefydliad. Cafodd Prif Weithredwr newydd ei benodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a bu newidiadau i'r Tîm Gweithredol. Bu gwella graddol o ran perfformiad, ac rwy'n disgwyl i hynny barhau. Rwy'n cydnabod bod rhagor o waith i'w wneud ar draws y tri sefydliad, ac mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda nhw. Rwy'n parhau i ddisgwyl gweld gwelliant ym mhob un o'r sefydliadau hyn, a byddwn yn dal i fonitro eu cynnydd drwy drefniadau atebolrwydd ffurfiol a thrafodaethau â swyddogion. Atodiad 1 | Sefydliad | Statws Blaenorol | Statws Presennol | | --- | --- | --- | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg | Ymyrraeth wedi'i thargedu | Ymyrraeth wedi'i thargedu | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Mesurau arbennig | Mesurau arbennig | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro | Ymyrraeth wedi'i thargedu | Ymyrraeth wedi'i thargedu | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | Ymyrraeth wedi'i thargedu | Ymyrraeth wedi'i thargedu | | Bwrdd Iechyd Addysgu Powys | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | | Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | | Ymddiriedolaeth GIG Felindre | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-nhs-wales-escalation-and-intervention-arrangements
### The Environmental Assessments and Miscellaneous Planning (Amendment) (EU Exit) Regulations 2018   #### The SI’s impact in relation to Wales: In terms of the SI’s impact in Wales, it only goes as far as to make a technical correction to the definition of waste in section 336 of the Town and Country Planning Act 1990, which applies to both England and Wales. This correction is required to ensure that the statute book is up to date.   #### Any impact the SI may have on the Assembly’s legislative competence and/or the Welsh Ministers’ executive competence The SI (where relevant) to Wales makes provision within devolved competence, however, in these exceptional circumstances when we are required to consider and correct an unprecedented volume of legislation within a tight timeframe and with finite resources, the Welsh Government’s general principle is that it is appropriate, we ask the UK Government to legislate on our behalf in a large number of statutory instruments.  As there is some Welsh equivalent legislation in place, corrections to deficiencies will be addressed in Wales\-only EU Exit SIs.   #### The purpose of the amendment The purpose of the this SI (negative procedure), to be introduced by the Ministry for Housing, Communities \& Local Government is to address failures of retained EU law to operate effectively and other deficiencies arising from the withdrawal of the UK from the EU.  The purpose of the provision, which applies in Wales, is to correct an out\-of\-date reference to EU legislation. It is made under the European Union (Withdrawal) Act 2018 and the European Communities Act 1972\. This instrument will not introduce any policy changes.  The SI and accompanying Explanatory Memorandum, setting out the effect of this amendment is available here (external link).   #### Why consent was given Consent has been given for the UK Government to make this correction in relation to, and on behalf of, Wales for reasons of efficiency, expediency and due to the minor and technical nature of the amendment. Making separate SIs in Wales and England would lead to duplication, and unnecessary complication of the statute book.  This amendment is to update an out of date reference, which is needed to ensure the legislation can operate effectively post EU exit. The amendment has been considered and there is no divergence in policy between the Welsh Government and the UK Government. Therefore, it is appropriate for the UK Government to make the SI in this instance. 
### Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Amrywiol (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 #### Effaith yr OS o ran Cymru: O ran effaith yr OS yng Nghymru, ei unig effaith yw gwneud cywiriad technegol i'r diffiniad o wastraff yn adran 336 o Town and Country Planning Act 1990, sy'n gymwys i Gymru ac i Loegr. Mae angen gwneud y cywiriad er mwyn sicrhau bod y llyfr statud yn parhau’n gyfredol. #### Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru Mae'r OS (pan fo'n berthnasol i Gymru) yn gwneud darpariaeth sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn pan fo gofyn inni ystyried a chywiro nifer digyffelyb o ddarnau deddfwriaeth o fewn amserlen dynn gan ddefnyddio adnoddau cyfyngedig, egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw ei bod yn briodol inni ofyn i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan ar gyfer nifer mawr o offerynnau statudol.  Gan fod peth deddfwriaeth gyfatebol yn ei lle yng Nghymru, bwriedir mynd i'r afael â chywiriadau i ddiffygion yn y ddeddfwriaeth honno drwy wneud Offerynnau Statudol Ymadael â'r UE ar gyfer Cymru.   #### Diben y diwygiad Diben yr OS hwn (y weithdrefn negyddol), a fydd yn cael ei gyflwyno gan y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, yw mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, ac â diffygion eraill sy'n codi yn sgil y ffaith bod y DU yn ymadael â'r UE.  Diben y ddarpariaeth, sy'n gymwys yng Nghymru, yw cywiro cyfeiriad sydd wedi dyddio at ddeddfwriaeth yr UE. Mae'n cael ei wneud o dan European Union (Withdrawal) Act 2018 and the European Communities Act 1972\. Ni fydd yr offeryn yn cyflwyno unrhyw newidiadau polisi.  Mae'r OS a'r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd\-fynd ag ef, ac sy'n nodi effaith y diwygiad hwn, i’w gweld yma (dolen allanol, Saesneg yn unig). #### Pam y rhoddwyd cydsyniad Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriad hwn o ran, ac ar ran Cymru, am resymau’n ymwneud ag effeithlonrwydd, hwylustod ac oherwydd ei fod yn fân ddiwygiad sy'n un technegol ei natur. Byddai gwneud OSau statudol ar wahân yng Nghymru a Lloegr yn arwain at ddyblygu, ac at gymhlethu'r llyfr statud yn ddiangen. Diben y diwygiad hwn yw diweddaru cyfeiriad sydd wedi dyddio, ac mae angen gwneud hynny er mwyn sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth yn gallu gweithredu'n effeithiol ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Mae’r diwygiad wedi cael ei ystyried yn llawn ac nid oes unrhyw wahaniaeth o ran polisi rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n briodol, felly, i Lywodraeth y DU wneud yr OS yn yr achos hwn.
https://www.gov.wales/written-statement-notification-relation-statutory-instruments-made-uk-ministers-devolved-areas
  This statement updates Assembly Members on the next phase of support to Powys County Council and the establishment of an Improvement and Assurance Board to oversee and coordinate the delivery of improvement in Powys County Council.     Following a request for statutory support under the Local Government (Wales) Measure 2009 from Cllr Rosemarie Harris, Leader of Powys Council, an external adviser, Sean Harriss, was appointed to carry out an independent assessment of the Council.  Sean Harriss has now completed his review and the report, *Review of Leadership, Governance, Strategy and Capacity, January 2018* is available via the following link http://gov.wales/topics/localgovernment/publications/review\-leadership\-governance\-powys\-county\-council/?lang\=en     The report shows the Council has made progress but faces significant challenges in respect of strengthening its corporate leadership and capacity.  The report also indicates these challenges can be overcome with increased capacity and capability in the local authority coupled with an enhanced and intense package of sector led improvement. The Leader of the Council has confirmed she intends to implement the recommendations in the report and Welsh Government and the WLGA will be supporting her to do so. We have agreed with the Council to take this opportunity to put in place a new Improvement and Assurance Board with a broader remit encompassing both corporate improvement and social services.  This will replace the current Social Services Improvement Board.  The purpose of the new Improvement and Assurance Board will be to assist the Leader in driving forward the required change and improvement in the local authority.  The Board will be made up of the Leader, Deputy Leader and representatives of the opposition as well as a number of independent members, including the Chair, Jack Straw, who has been chairing the Social Services Improvement Board in Powys. Further details of the terms and reference and members will be provided to Assembly Members once they are confirmed. In addition, the Welsh Ministers will be providing a further focused package of short\-term support, led by an external adviser, to assist the Council in addressing the areas for immediate action outlined in Sean Harriss’ report.   This second phase of support will focus on:   * Developing a clear political and managerial vision for Powys, which sets out the ambition and outcomes for the area over the next three to five years, including a detailed strategy and delivery plans * Developing a performance management system that measures the achievement of the Council's vision and outcomes and enables them to track performance in key service areas * Developing a comprehensive organisational development and change strategy, in order to strengthen its corporate culture and behaviours * Supporting the Council in working with key external partners on the Vision for Powys * Strengthening strategic financial and budget planning processes Sean Harriss has been appointed to take this work forward immediately with the Council over the next six weeks.   The Improvement and Assurance Board then consider what further support may be required once that work is complete. Further updates on progress will be provided to the Assembly.          
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am gam nesaf y cymorth i Gyngor Sir Powys a'r gwaith o sefydlu Bwrdd Gwella a Sicrwydd i oruchwylio a chydlynu'r gwelliant i Gyngor Sir Powys. Yn dilyn cais am gymorth statudol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 gan y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Powys, penodwyd cynghorydd allanol, Sean Harriss, i gynnal asesiad annibynnol o'r Cyngor. Mae Sean Harriss bellach wedi cwblhau ei arolwg ac mae'r adroddiad, Adolygiad o Arweinyddiaeth, Llywodraethu, Strategaeth a Chapasiti, Ionawr 2018 ar gael drwy'r ddolen ganlynol http://llyw.cymru/topics/localgovernment/publications/review\-leadership\-governance\-powys\-county\-council/?lang\=cy  Mae'r adroddiad yn dangos bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd ond ei fod yn wynebu heriau sylweddol mewn perthynas â chryfhau ei arweinyddiaeth a'i gapasiti corfforaethol. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod modd goresgyn yr heriau hyn drwy gynyddu capasiti a gallu'r awdurdod lleol, ynghyd â phecyn uwch a dwys o welliannau dan arweiniad y sector. Mae Arweinydd y Cyngor wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu gweithredu'r argymhellion yn yr adroddiad, a bydd Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei chefnogi i wneud hynny. Rydym wedi cytuno â'r Cyngor i achub ar y cyfle hwn i sefydlu Bwrdd Gwella a Sicrwydd newydd gyda chylch gwaith ehangach a fydd yn cynnwys gwelliant corfforaethol a gwasanaethau cymdeithasol. Bydd hyn yn disodli'r Bwrdd Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol presennol. Diben y Bwrdd newydd fydd cynorthwyo'r Arweinydd i weithredu'r newid a'r gwelliant gofynnol i’r awdurdod lleol. Bydd y Bwrdd yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a chynrychiolwyr o'r gwrthbleidiau, ynghyd â nifer o aelodau annibynnol, gan gynnwys y Cadeirydd, Jack Straw, a fu'n cadeirio'r Bwrdd Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mhowys. Bydd manylion pellach am y cylch gorchwyl a'r aelodau yn cael eu rhoi i Aelodau'r Cynulliad pan fyddant wedi'u cadarnhau. Yn ogystal â hynny, bydd Gweinidogion Cymru yn darparu pecyn pwrpasol arall o gymorth tymor byr, dan arweiniad cynghorydd allanol, i gynorthwyo'r Cyngor i fynd i'r afael â'r meysydd lle mae angen gweithredu ar unwaith sydd wedi’u hamlinellu yn adroddiad Sean Harriss. Bydd ail gam y cymorth yn canolbwyntio ar y canlynol: * Datblygu gweledigaeth wleidyddol a rheolaethol glir ar gyfer Powys, sy'n amlinellu'r uchelgais a'r canlyniadau ar gyfer yr ardal dros y tair i bum mlynedd nesaf, gan gynnwys strategaeth a chynlluniau cyflawni manwl * Datblygu system rheoli perfformiad sy'n mesur llwyddiant gweledigaeth a chanlyniadau'r Cyngor ac sy'n eu galluogi i gadw llygad ar berfformiad meysydd gwasanaeth allweddol * Llunio strategaeth newid a datblygu sefydliadol cynhwysfawr er mwyn cryfhau ei ddiwylliant a'i ymddygiad corfforaethol * Cefnogi'r Cyngor i weithio gyda phartneriaid allanol allweddol ar y Weledigaeth ar gyfer Powys * Cryfhau'r prosesau ariannol a chynllunio'r gyllideb yn strategol. Mae Sean Harriss wedi'i benodi i fynd i'r afael â'r gwaith hwn gyda'r Cyngor ar unwaith dros y chwe wythnos nesaf. Yna bydd y Bwrdd Gwella a Sicrwydd yn ystyried pa gymorth pellach fydd ei angen pan fydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau. Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn cael ei rhoi i'r Cynulliad.
https://www.gov.wales/written-statement-powys-county-council-update
**The Inquiries and Coroners (Amendment) (EU Exit) \<?xml:namespace prefix \= "o" ns \= "urn:schemas\-microsoft\-com:office:office" /\>** **Regulations 2018** **The retained EU Law which is being amended** ·         The Inquiries Act 2005\. ·         The Coroners and Justice Act 2009\. ·         The Coroners Act (Northern Ireland) 1959\. **Any impact the SI may have on the Assembly’s legislative competence and/or the Welsh Ministers’ executive competence** The SI has no impact on the National Assembly’s legislative competence or the Welsh Minister’s executive competence as it is purely technical in nature.   **The purpose of the amendments** The purpose of the amendments is to correct deficiencies in legislation arising from the UK leaving the European Union in relation to public inquiries.  The regulations will replace references to “EU obligations” and “enforceable EU obligations” with “retained EU obligations” and “retained enforceable EU obligations”.   The SI and accompanying Explanatory Memorandum, setting out the effect of each amendment is available here: https://www.gov.uk/eu\-withdrawal\-act\-2018\-statutory\-instruments/the\-inquiries\-and\-coroners\-amendment\-eu\-exit\-regulations\-2018   A Statutory Instrument Consent Memorandum has also been laid in the National Assembly in respect of the amendments tothe Inquiries Act 2005\.   The SI also makes technical corrections to the Coroners and Justice Act 2009 and the Coroners Act (Northern Ireland) 1959, but since these amendments could not be made by the Welsh Ministers (as they are outside devolved competence) they do not require approval.   **Why consent was given** There is no divergence between the Welsh Government and the UK Government on the policy for the correction. Therefore, making separate SIs in Wales and England would lead to duplication, and unnecessary complication of the statute book. Consenting to a UK wide SI ensures that there is a coherent approach wherever possible in preparing the statute book to function properly after the UK has left the EU. This approach will promote the clarity and accessibility of legislation across the UK. In these exceptional circumstances, the Welsh Government considers it appropriate that the UK Government legislates on our behalf in this instance.  
Rheoliadau Ymchwiliadau a Chrwneriaid (Diwygio) \<?xml:namespace prefix \= "o" ns \= "urn:schemas\-microsoft\-com:office:office" /\> (Ymadael â’r UE) 2018   Cyfraith yr UE a ddargedwir sy'n cael ei diwygio ·         Deddf Ymchwiliadau 2005 ·         Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 ·         Deddf Crwneriaid (Gogledd Iwerddon) 1959\. Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru Nid yw’r OS yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol na chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru gan mai un o natur dechnegol ydyw.   Diben y diwygiadau Diben y diwygiadau yw cywiro diffygion mewn deddfwriaeth sy'n codi wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mewn perthynas ag ymchwiliadau cyhoeddus. Bydd y rheoliadau yn newid cyfeiriadau at “EU obligations” ac “enforcable EU obligations” i “retained EU obligations” a “retained enforcable EU obligations”.   Mae’r OS a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy’n nodi effaith pob diwygiad, ar gael yma: https://www.gov.uk/eu\-withdrawal\-act\-2018\-statutory\-instruments/the\-inquiries\-and\-coroners\-amendment\-eu\-exit\-regulations\-2018   Mae Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol hefyd wedi’i osod yn y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â’r diwygiadau i Ddeddf Ymchwiliadau 2005\.   Mae’r OS hefyd yn gwneud cywiriadau technegol i Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 a Deddf Crwneriaid (Gogledd Iwerddon) 1959, ond gan nad oedd modd i’r diwygiadau hyn gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru (gan eu bod y tu allan i’r cymhwysedd datganoledig) nid oes angen cymeradwyaeth ar eu cyfer.   Pam y rhoddwyd cydsyniad Nid oes gwahaniaeth rhwng ymagwedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y polisi i'w gywiro. O ganlyniad, byddai gwneud OSau ar wahân yng Nghymru ac yn Lloegr yn arwain at ddyblygu gwaith a chymhlethdod diangen i'r llyfr statud. Mae cydsynio i OS ar draws y DU yn sicrhau bod dull gweithredu cydlynus lle bo modd wrth baratoi’r llyfr statud fel ei fod yn gweithio’n iawn ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Bydd y dull gweithredu hwn yn helpu i wneud y ddeddfwriaeth yn eglur ac yn hygyrch ledled y DU. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ein rhan yn yr achos hwn.
https://www.gov.wales/written-statement-notification-relation-statutory-instruments-made-uk-ministers-devolved-areas-1
On 10 July 2018, the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services made an Oral Statement in the Siambr on: Our Valleys, Our Future Progress Report (external link).
Ar 10 Gorffennaf 2018, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Datganiad Llafar yn y Siambr ar: Adroddiad Cynnydd ar Ein Cymoedd, Ein Dyfodol (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-our-valleys-our-future-progress-report
From today, the 1st of October, the Welsh Ministers assume responsibility for the licensing of onshore petroleum extraction. The Welsh Government has been working with UK Government and the UK Oil \& Gas Authority to ensure a smooth transfer of the powers.   I have put in place the necessary administrative arrangements for the licensing functions to operate effectively, including, technical guidance and information materials, and a new statutory instrument which enables us to charge existing license holders for these licensing functions. In preparation for this new area of responsibility I also launched a consultation in July seeking views on our preferred policy towards future petroleum extraction in Wales. The consultation closed last week and we have had over 1800 responses. We have started analysing the submissions and will publish our response to the consultation outcome before the end of this year. In the meantime we have a Notification Direction in place which prohibits local planning authorities approving planning applications for fracking without Welsh Minister’s approval.  This supports our ongoing opposition to unconventional extraction, including fracking, whilst we develop and confirm our future policy.
O heddiw ymlaen, 1 Hydref, bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am drwyddedu echdynnu petrolewm ar y tir. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac Awdurdod Olew a Nwy y DU i sicrhau bod y pwerau yn cael eu trosglwyddo’n hwylus. Yr wyf wedi gwneud y trefniadau gweinyddol i sicrhau gweithdrefn effeithiol ar gyfer y trwyddedu, sy’n cynnwys canllaw technegol, gwybodaeth, ac offeryn statudol newydd sy’n ein galluogi i godi tâl ar ddeiliaid trwydded am y swyddogaethau trwyddedu hyn. I baratoi ar gyfer y cyfrifoldeb newydd hwn, yr wyf hefyd wedi cynnal  ymgynghoriad ym mis Gorffennaf a oedd yn ceisio barn ar y polisi a ffefrir gennym ar gyfer echdynnu petrolewm yng Nghymru yn y dyfodol. Daeth yr ymgynghoriad i ben yr wythnos ddiwethaf a rydym wedi derbyn dros 1800 o ymatebion. Rydym wedi dechrau dadansoddi'r ymatebion a byddwn yn cyhoeddi ein hymateb i ganlyniad yr ymgynghoriad cyn diwedd y flwyddyn. Yn y cyfamser, mae gennym Gyfarwyddyd Hysbysu sy'n gwahardd awdurdodau cynllunio lleol rhag cymeradwyo ceisiadau cynllunio am ffracio heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.  Mae hyn yn ategu ein gwrthwynebiad parhaus i gloddio anghonfensiynol, gan gynnwys ffracio, wrth inni ddatblygu a chadarnhau ein polisi yn y dyfodol.
https://www.gov.wales/written-statement-petroleum-licensing-functions
On 18 September 2018, the Minister for Welsh Language and Lifelong Learning made an oral statement in the Siambr on: Progress Report on Employability (external link).
Ar 18 Medi 2018, gwnaeth y Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ddatganiad lafar yn y Siambr: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-progress-report-employability-plan
The following Written Statements have been laid before the Assembly under Standing Order 30C \- Notification in Relation to Statutory Instruments made by UK Ministers in devolved areas under the European Union (Withdrawal) Act 2018 not laid before the Assembly:   #### 2 November 2018 * Fertilisers and Ammonium Nitrate Material (Amendment) (EU Exit) Regulations 2018 * The Heavy Goods Vehicles (Charging For The Use Of Certain Infrastructure On The Trans\-European Road Network) (Amendment) (EU Exit) Regulations 2018 * The Maritime Transport Access To Trade And Cabotage (Revocation) (EU Exit) Regulations 2018     #### 5 November 2018 * The Tobacco Products and Nicotine Inhaling Products (Amendment) (EU Exit) Regulations 2018      
Gosodwyd y Datganiadau Ysgrifenedig canlynol gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 30C \- Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Cynulliad: #### 2 Tachwedd 2018 * Rheoliadau Gwrteithiau a Deunydd Amoniwm Nitrad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018 * Rheoliadau Cerbydau Nwyddau Trwm (Codi Tâl am Ddefnyddio Seilwaith Penodol Ar y Rhwydwaith Ffyrdd Traws\-Ewropeaidd) (Diwygio)(Ymadael â’r UE) 2018 * Rheoliadau Mynediad Trafnidiaeth Forol at Fasnach a Masnach Arforol (Dirymu) (Ymadael â'r UE) 2018 #### 5 Tachwedd 2018 * Rheoliadau Cynhyrchion Tybaco a Chynhyrchion Mewnanadlu Nicotin (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018
https://www.gov.wales/written-statements-laid-under-standing-order-30c
Members will wish to be aware that the Cabinet Sub Committee for EU Transition has now committed over half of the £50 million EU Transition fund to help Welsh businesses and public services plan and prepare for Brexit. The fund, announced in January 2018, is providing direct financial support to sectors across Wales to plan and prepare for the significant changes ahead. A number of projects have already benefited from £7\.4 million including support to our agriculture and fisheries industry sectors, in particular £2\.15 million for the development of the red meat sector in Wales. We have also provided £150,000 to help deliver a Brexit support package to our local authorities in Wales and £200,000 to help the social care sector research into how Brexit could impact the Welsh workforce and help them plan for any eventualities. Wales’ universities also received £3\.5 million to drive international partnerships and promote Wales as a study destination in a post\-Brexit world. Today we are announcing further business support for Airbus (£3 million), Ford (£1\.6 million) and other automotive component manufacturers to ensure their workforce are up\-skilled and prepared post\-Brexit. Despite our skills support programmes to assist all employers to meet these challenges, the scale of training identified by the likes of Airbus and Ford cannot be supported from within existing budgets. Airbus and Ford are part of global groups and our support will help significantly improve the chances of developing the Welsh\-based sites as the preferred locations for any future and post\-Brexit European investment projects and also in turn securing business for the aerospace and automotive supply chains in Wales. Any opportunity to up\-skill a workforce with transferable skills is imperative in order to continue showcasing Wales on the global stage as a desirable place for business, especially in a post\-Brexit world. It is important we are flexible and responsive to deal with the consequences of leaving the EU as details emerge during Brexit negotiations and over the whole period of the transition arrangements. Our support will help future proof our economy. The Fund is designed to help business and others, but while this investment will boost our resilience, it cannot insulate us from the effects of ‘no deal’ or a hard Brexit. While there are ongoing levels of uncertainty around the nature of many aspects of Brexit we will continue to consider proposals which identify emerging issues that may become vital for Welsh interests depending on the nature of the exit – deal or no deal – and once we get clarity and certainty of the impacts and implications for our sectors. We will be announcing the further financial commitments that have recently been agreed from the EU Transition Fund for other businesses and public services over the coming weeks.
Bydd yr Aelodau am wybod bod Is\-bwyllgor y Cabinet ar Drefniadau Pontio'r UE bellach wedi ymrwymo dros hanner y £50 miliwn o Gronfa Bontio'r UE i helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru i gynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit. Mae'r gronfa, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018, yn darparu cymorth ariannol yn uniongyrchol i sectorau ar draws Cymru er mwyn cynllunio a pharatoi ar gyfer y newidiadau sylweddol sydd o'n blaen. Mae nifer o brosiectau eisoes wedi elwa ar £7\.4 miliwn gan gynnwys cymorth i'n sectorau amaethyddiaeth a physgodfeydd, yn arbennig £2\.15 miliwn i ddatblygu'r sector cig coch yng Nghymru. Rydym hefyd wedi darparu £150,000 i helpu i roi pecyn cymorth Brexit i awdurdodau lleol Cymru, a £200,000 i helpu'r sector gofal cymdeithasol i ymchwilio i effaith bosib Brexit ar y gweithlu a'u cynorthwyo i gynllunio ar gyfer pob sefyllfa bosib. Derbyniodd prifysgolion Cymru £3\.5 miliwn hefyd i ysgogi partneriaethau rhyngwladol a hyrwyddo Cymru fel man astudio ar ôl Brexit. Heddiw rydym yn cyhoeddi cymorth busnes pellach i Airbus (£3 miliwn), Ford (£1\.6 miliwn) a chwmnïau eraill sy’n cynhyrchu rhannau ar gyfer moduron er mwyn sicrhau bod eu gweithlu'n meithrin sgiliau ac yn barod ar gyfer bywyd ar ôl Brexit. Er bod gennym raglenni cymorth sgiliau i helpu pob cyflogwr i wynebu'r heriau hyn, mae cwmnïau fel Airbus a Ford wedi nodi bod angen hyfforddiant ar raddfa nad oes modd ei gynnal o fewn y cyllidebau presennol. Mae Airbus a Ford yn rhan o grwpiau byd\-eang, ac fe fydd ein cymorth yn help mawr i wella’r cyfleoedd o ddatblygu eu safleoedd yng Nghymru fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer unrhyw brosiectau buddsoddi Ewropeaidd yn y dyfodol ac ar ôl Brexit, a fydd yn ei dro yn sicrhau busnes i gadwyni cyflenwi’r sector awyrofod a modurol yng Nghymru. Mae'n hanfodol manteisio ar bob cyfle i roi mwy o sgiliau trosglwyddadwy i'r gweithlu er mwyn i Gymru barhau i gael ei gweld fel man dymunol i fusnesau, yn arbennig ar ôl Brexit. Mae'n bwysig inni fod yn hyblyg ac yn ymatebol i ymdopi â chanlyniadau ymadael â'r UE wrth i fanylion ddod i'r amlwg yn ystod negodiadau Brexit a thros holl gyfnod y trefniadau pontio. Bydd ein cymorth yn helpu i ddiogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol. Bwriad y Gronfa yw helpu busnesau ac eraill, ond er y bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi hwb i'n cadernid, nid yw'n gallu ein hynysu rhag effeithiau 'dim cytundeb' na Brexit caled. Er bod tipyn o ansicrwydd yn parhau ynghylch sawl agwedd ar Brexit, byddwn yn parhau i ystyried cynigion sy’n nodi materion newydd all fod yn hanfodol i Gymru gan ddibynnu ar natur yr ymadawiad \- cytundeb neu ddim cytundeb \- a phan fydd eglurder a sicrwydd am yr effaith a'r goblygiadau i'n sectorau. Byddwn yn cyhoeddi'r ymrwymiadau ariannol pellach a gytunwyd yn ddiweddar o Gronfa Bontio'r UE i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus eraill dros yr wythnosau nesaf.
https://www.gov.wales/written-statement-over-ps25-million-now-committed-help-welsh-businesses-and-public-services-prepare
  On 13 December last year the Welsh Government issued a consultation proposing that responsibility for healthcare services in the Bridgend County Borough Council (CBC) area should transfer to Cwm Taf University Health Board (Cwm Taf) from Abertawe Bro Morgannwg University Health Board (ABM); moving the health board boundary accordingly. The purpose of the proposed change, as outlined in the consultation, is to ensure Bridgend CBC is not disadvantaged working with multiple\-strategic partners across two strategic footprints, to support the strengthening of regional partnership arrangements and facilitate more effective leadership and decision making. The consultation closed on 7 March and the summary of responses is available at: https://beta.gov.wales/proposed\-health\-board\-boundary\-change\-bridgend  The analysis of the consultation is now complete, and I am today publishing a summary of the responses.  The key findings were that: • responses were relatively evenly balanced between those that agreed and those that disagreed that changing the health board boundary would strengthen partnership working arrangements; • respondents that included comments supporting the proposal considered that partnership arrangements would be strengthened by the boundary change, and tended to agree that the current arrangements were challenging for Bridgend CBC; • those that concluded they did not consider partnership arrangements would be strengthened by the boundary change generally raised concerns about the possible impact on health services, transport issues linked to concerns about service location change, cost and changes to individual care; • there was a strong correlation on the issues that were raised at the stakeholder events and the online responses to the consultation;   • the consultation highlighted that under the Social Services and Well\-being (Wales) Act 2014, regional partnership boards, safeguarding boards and regional adoption collaboratives would need to be realigned; • the key organisations involved in delivering the boundary change expressed a firm view that April 2019 was preferred over April 2020, the alternative date proposed in the consultation; and • few respondents raised any matters related to the Welsh Language or the equality impact assessments. I have taken careful note of the concerns raised by individuals and organisations about the impact on service provision in Bridgend and the wider ABM health board area. I recognise that any proposed change to health structures raises concern about the effect on individual patient care and service provision generally and are grateful to the health boards for their assurance that there are no planned service changes linked to the boundary change. Should there be any future requirement to change services in the Bridgend area to improve quality or sustainability, the health boards have confirmed that those proposals would be the subject of a separate public engagement and, where appropriate, consultation. Both the health boards have also emphasised that irrespective of the health board boundary change, they remain committed to delivering safe, sustainable, high quality services as locally as possible for all patients. I have carefully considered the responses to the consultation and discussed the changes required to effect the proposals with the health boards and Bridgend CBC. It is now my clear view that the health board boundary should be changed in accordance with the proposal.  I consider that an expeditious timeline would prevent prolonged uncertainty for staff, patients and in the on\-going development of key partnership arrangements. Therefore, my intention is for the boundary change to take effect from 1 April 2019\.  The Welsh Government will continue to work with the health boards and other partners as preparations for the boundary change are developed and the relevant legislation will be brought forward in due course.        I am grateful to all those who took the time to participate in the consultation exercise.
Ar 13 Rhagfyr y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn cynnig y dylid trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen\-y\-bont ar Ogwr, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; gan newid ffiniau'r byrddau iechyd yn unol â hynny. Fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad, diben y newid arfaethedig yw sicrhau nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen\-y\-bont ar Ogwr o dan unrhyw anfantais o orfod gweithio gyda phartneriaid strategol gwahanol ar draws ddau batrwm strategol; cryfhau trefniadau partneriaethau rhanbarthol; a hwyluso'r gwaith o arwain a gwneud penderfyniadau. Caeodd yr ymgynghoriad ar 7 Mawrth, ac mae crynodeb o'r ymatebion ar gael yma: https://beta.llyw.cymru/newid\-arfaethedig\-i\-ffin\-y\-byrddau\-iechyd\-ym\-mhen\-y\-bont\-ar\-ogwr Mae'r dadansoddiad o'r ymgynghoriad bellach wedi ei gwblhau, a heddiw rwyf  yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion. Dyma brif gasgliadau’r dadansoddiad: • cymharol debyg oedd nifer yr ymatebion a oedd yn cytuno a’r nifer a oedd yn anghytuno y byddai newid ffiniau'r byrddau iechyd yn cryfhau'r trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth; • roedd yr ymatebwyr yr oedd eu sylwadau'n cefnogi'r cynnig  o'r farn y byddai'r trefniadau partneriaeth yn cael eu cryfhau gan y newid yn y ffiniau, ac roeddent yn tueddu i gytuno bod y trefniadau presennol yn peri anhawster i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen\-y\-bont ar Ogwr; • yn achos y rheini  a oedd wedi dod i'r casgliad na fyddai'r newid yn y ffiniau’n cryfhau’r trefniadau partneriaeth,  mynegwyd pryderon ynghylch yr effeithiau posibl ar wasanaethau iechyd, a phroblemau posibl o ran teithio i leoliadau gwasanaethau gwahanol, costau, a newidiadau i ofal unigol; • roedd y materion a godwyd mewn digwyddiadau i randdeiliaid yn adlewyrchu'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar\-lein; • roedd yr ymgynghoriad wedi tynnu sylw at y ffaith y byddai angen cysoni ffiniau byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau diogelu, a threfniadau mabwysiadu cydweithredol rhanbarthol, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;   • roedd y prif sefydliadau a fyddai'n gweithredu'r newid yn y ffiniau yn bendant eu barn mai Ebrill 2019 fyddai orau yn hytrach nag Ebrill 2020, sef y dyddiad arall a gynigiwyd yn yr ymgynghoriad;   • prin oedd yr ymatebwyr a gododd unrhyw faterion yn ymwneud â'r Gymraeg na'r asesiadau o effaith ar gydraddoldeb; Rwyf  wedi nodi'n ofalus y pryderon a godwyd gan unigolion a sefydliadau ynghylch yr effeithiau posibl ar y ddarpariaeth o wasanaethau ym Mhen\-y\-bont ar Ogwr ac ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn ehangach. Rwy’n  cydnabod bod unrhyw newidiadau arfaethedig i strwythurau iechyd yn codi pryderon ynghylch yr effeithiau posibl ar ofal cleifion unigol a'r ddarpariaeth o wasanaethau'n gyffredinol, ac rydym yn ddiolchgar i'r byrddau iechyd am roi sicrwydd nad ydynt yn bwriadu cyflwyno newidiadau i'w gwasanaethau o ganlyniad i'r newid yn y ffiniau. Pe bai angen newid gwasanaethau yn ardal Pen\-y\-bont ar Ogwr yn y dyfodol er mwyn gwella ansawdd neu gynaliadwyedd, mae'r byrddau iechyd wedi cadarnhau y byddai'r cynigion hynny yn destun ymgysylltiad cyhoeddus ar wahân a, lle bo'n briodol, ymgynghori. Mae'r ddau ffwrdd iechyd hefyd wedi pwysleisio eu bod yn parhau'n ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy o ansawdd da, a hynny mor lleol â phosibl, ar gyfer eu holl gleifion, ac ni fyddai unrhyw newid yn y ffiniau yn effeithio ar yr ymrwymiad hwnnw. Rwyf wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus, ac wedi trafod, gyda'r byrddau iechyd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen\-y\-bont ar Ogwr, y newidiadau y byddai eu hangen i roi'r cynigion ar waith. Rwy’n bellach yn argyhoeddiedig y dylid newid ffiniau'r byrddau iechyd yn unol â'r cynnig. Rydym yn credu y byddai gweithredu yn unol ag amserlen effeithlon a chyflym yn osgoi sefyllfa a allai greu ansicrwydd i staff a chleifion dros gyfnod o amser, neu ansicrwydd yn y gwaith o ddatblygu trefniadau partneriaeth allweddol. Felly,  rwy’n  bwriadu y bydd y newid yn y ffiniau yn dod yn weithredol o 1 Ebrill 2019\. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r byrddau iechyd a phartneriaid eraill wrth i'r paratoadau ar gyfer y newid yn y ffiniau fynd rhagddynt, a bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn cael ei chyflwyno maes o law.       Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn.
https://www.gov.wales/written-statement-outcome-consultation-bridgend-health-board-boundary-change-proposals
The independent panel report into the deaths of patients at Gosport War Memorial Hospital in Hampshire found at least 456 patients had their lives shortened through the use of opioids without justification, between 1989 and 2000\.  Whilst the report looked specifically at concerns regarding the standards of care at Gosport, it serves as an important reminder to all care providers about the importance of robust systems and processes to support the safe use of opioids and other controlled drugs. It also highlights the need to ensure the concerns of staff, patients and their loved ones are listened to and acted upon. It is essential that we have robust arrangements in place for the management and use of Controlled Drugs to minimise patient harm, misuse and criminality.  The tragic deaths of patients at Gosport War Memorial Hospital occurred many years ago.  In the intervening years a great deal has been done to improve the management and supervision of the use of controlled drugs within the NHS. Measures to enable and require NHS and independent healthcare providers to monitor their use of controlled drugs and assure themselves of the quality and safety of the care they provide have been put in place.  The Controlled Drugs (Supervision of Management and Use) (Wales) Regulations 2008 require that all local health boards, NHS Trusts and independent hospitals in Wales appoint a Controlled Drugs Accountable Officer. The Accountable Officer, who must be a fit and proper suitably experienced person, has a range of responsibilities relating to the safe management and use of controlled drugs. The responsibilities include ensuring  there are appropriate arrangements in place for monitoring and auditing the management and use of controlled drugs and for the investigation of any concerns raised in regards to improper management or use of controlled drugs.  Regulations provide powers for the Accountable Officer to act upon well\-founded concerns to protect patients, or members of the public, in cases of concern relating to the management or use of controlled drugs. Regulations also provide for local health boards to establish Controlled Drugs Local Intelligence Networks (LINs) with representatives from across health, social care, health and care regulators and the police, to facilitate sharing and discussion of concerns. Our policy is to take an evidence based approach to the prescribing and administration of all medicines. To provide assurance that organisations adhere to the evidence based approach we routinely measure performance in key areas through national prescribing indicators. These include a number relating to opioids use. In NHS Wales we are committed to a culture of openness and transparency.  Patients and staff are able to report concerns with the care or treatment provided through the ‘Putting Things Right’ process. This process promotes a culture of openness through the principles of ‘Being Open’.  In addition, there is an all Wales whistleblowing policy which enables staff to raise concerns where they believe there has been malpractice/wrongdoing.  The purpose of this policy is to provide an internal mechanism for reporting, investigating and remedying any wrongdoing/inappropriate practice in the workplace. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.              
Mewn adroddiad gan banel annibynnol ar farwolaethau cleifion yn ysbyty Gosport War Memorial Hospital yn Hampshire, canfuwyd bod bywydau o leiaf 456 o gleifion wedi eu byrhau yn sgil defnyddio cyffuriau opioid heb gyfiawnhad, rhwng 1989 a 2000\. Er bod yr adroddiad yn edrych yn benodol ar bryderon ynghylch safonau gofal Gosport, dyma gyfle pwysig i atgoffa pob darparwr gofal am bwysigrwydd systemau a phrosesau cadarn i ddefnyddio cyffuriau opioid a chyffuriau eraill a reolir mewn ffordd ddiogel. Mae hefyd yn gyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd gwrando ar bryderon staff, cleifion a'u hanwyliaid, a gweithredu ar y pryderon hynny. Mae'n hanfodol i ni gael trefniadau cadarn yn eu lle ar gyfer goruchwylio a defnyddio cyffuriau a reolir er mwyn cyfyngu ar niwed i'r cleifion, camddefnydd a throseddau.  Digwyddodd y marwolaethau trasig hyn yn Ysbyty Gosport nifer o flynyddoedd yn ôl. Yn y cyfamser, fe wnaed cryn dipyn i wella rheolaeth a goruchwyliaeth o'r defnydd o gyffuriau a reolir o fewn y GIG. Gosodwyd mesurau i alluogi a gorfodi'r GIG a darparwyr gofal iechyd i fonitro eu defnydd o gyffuriau a reolir, a chadarnhau bod mesurau sicrhau ansawdd a diogelwch yn eu lle ar gyfer y gofal sy'n cael ei ddarparu ganddynt. Mae Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac ysbytai annibynnol Cymru benodi Swyddog Atebol Cyffuriau a Reolir. Rhaid i'r Swyddog Atebol fod yn berson cymwys a phriodol, digon profiadol. Bydd ganddo amrywiol gyfrifoldebau yn ymwneud â rheoli a defnyddio cyffuriau a reolir yn ddiogel. Ymysg y cyfrifoldebau mae sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i fonitro ac archwilio’r defnydd o gyffuriau a reolir ac ymchwilio i unrhyw bryderon sy'n cael eu codi mewn perthynas â rheolaeth neu ddefnydd amhriodol ohonynt. Mae rheoliadau yn rhoi pwerau i'r Swyddog Atebol weithredu pan fo pryderon dilys yn ymwneud â diogelu cleifion neu aelodau o'r cyhoedd, mewn achosion o bryder yn ymwneud â rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir. Mae rheoliadau hefyd yn caniatáu i fyrddau iechyd lleol sefydlu Rhwydweithiau Gwybodaeth Lleol Cyffuriau a Reolir gyda chynrychiolwyr o fyd iechyd, gofal cymdeithasol, rheoleiddwyr iechyd a gofal a'r heddlu, er mwyn hwyluso'r broses o rannu a thrafod pryderon. Ein polisi yw dilyn dull gweithredu seiliedig ar dystiolaeth wrth bresgripsiynu a gweinyddu pob meddyginiaeth. Er mwyn sicrhau bod sefydliadau yn cadw at y dull gweithredu hwn, rydym yn gyson yn mesur perfformiad mewn meysydd allweddol drwy ddangosyddion presgripsiynu cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys nifer yn ymwneud â defnydd o gyffuriau opioid. Mae GIG Cymru wedi ymrwymo i ddiwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw. Gall cleifion a staff fynegi pryderon ynghylch gofal neu driniaeth drwy broses 'Gweithio i Wella'. Mae'r broses hon yn hyrwyddo diwylliant o fod yn agored drwy egwyddorion 'Bod yn Agored'.  Ar ben hynny, mae polisi chwythu'r chwiban drwy Gymru gyfan sy'n galluogi staff i fynegi pryderon pan fyddant yn credu bod achos o gamweddau neu gamymddygiad. Diben y polisi hwn yw darparu trefn fewnol ar gyfer adrodd, ymchwilio a gwneud yn iawn am unrhyw gamymddygiad/ymarfer amhriodol yn y gweithle. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-opiate-use-and-guidance-within-nhs-wales
As part of the fiscal framework agreement between the Welsh and UK governments, which secured a permanent funding floor for Wales and paved the way for the introduction of Welsh rates of income tax1 , the Welsh Government committed to introducing arrangements for the independent production of revenue forecasts for devolved taxes. In the short\-term, it was agreed the Welsh Government would produce its own independently\-assured forecasts, while working to put in place longer\-term arrangements. Bangor Business School provided independent assurance of the Welsh Government’s forecasts for land transaction tax and landfill disposals tax revenues as part of the 2018\-19 Budget process. The same arrangements will be in place for the 2019\-20 Budget, but the scope has been extended to include assurance of the Welsh Government’s forecast methodology for Welsh rates of income tax.   I am grateful to Bangor Business School for the important and professional work it has done in the first two years of tax devolution in Wales. The Welsh Government has considered a number of options for longer\-term forecasting arrangements, including using the expertise of an existing organisation; establishing a Welsh fiscal commission and  long\-term contractual arrangements. When the draft Budget 2018\-19 was published, in October 2017, I said two options continued to be considered – establishing an independent commission or using the Office for Budget Responsibility (OBR). The preferred option was using the OBR, based on the criteria the Welsh Government set: * It is essential the function is exercised in a way, which is sufficiently independent from government; * Discharge of the function should represent value for money; * The body appointed to fulfil this function should have demonstrable expertise to fulfil its mandate. After considerable discussions and further detailed work, the OBR provides the most proportionate and best value for money option for the independent production of the Welsh tax forecasts. I have decided to enter into an arrangement with the OBR for the provision of Welsh tax revenue forecasts for the 2020\-21 Welsh Government Budget and beyond.   The expertise and independence of the OBR is well\-established and good working relationships have been developed between its officials and the Welsh Treasury. I expect this new arrangement will produce high\-quality forecasts, which will provide a robust foundation for the financing element of the Welsh Government’s Budget. Our new arrangement with the OBR will formally start on 1 April 2019\. In support of the delivery of the Welsh Government’s Budget and to assist members with scrutiny, the OBR will produce two reports. These will include forecasts for Welsh taxes – land transaction tax and landfill tax – and Welsh rates of income tax, which will be based on the OBR’s most recent macro\-economic forecasts and any relevant specific data for Wales.  The OBR’s forecast will also take appropriate account of any Welsh Government tax policy changes.  These reports will be published alongside the Welsh Government’s outline draft Budget and the final Budget.   In addition, as part of the new arrangements, the OBR has agreed to increase its presence in Wales by engaging more substantially with interested organisations and individuals, including the National Assembly’s Finance Committee. This will provide a welcome link between the publication of the OBR’s spring Economic and Fiscal Outlook and the Welsh Government’s draft Budget.   An updated Memorandum of Understanding and an accompanying Terms of Reference will be published by the end of this financial year. These arrangements will be reviewed by the Welsh Government and the OBR after the first year.   I’d like to thank the Finance Committee for its constructive and supportive engagement while the Welsh Government has been considering the options for independent assurance of Welsh tax forecasts.     \[1]Y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru https://gov.wales/docs/caecd/publications/161219\-fiscal\-agreement\-en.pdf
Fel rhan o gytundeb y fframwaith cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a lwyddodd i sicrhau cyllid gwaelodol parhaol i Gymru gan hwyluso'r ffordd ar gyfer cyflwyno cyfraddau Cymreig o dreth incwm1 , ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno trefniadau i gynhyrchu rhagolygon refeniw ar gyfer trethi datganoledig. Yn y tymor byr, cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru'n cynhyrchu ei rhagolygon ei hun sydd wedi'u sicrhau'n annibynnol, gan weithio ar yr un pryd i sefydlu trefniadau tymor hwy. Rhoes Ysgol Fusnes Bangor sicrwydd annibynnol o ragolygon Llywodraeth Cymru ar gyfer refeniw'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi fel rhan o broses Cyllideb 2018\-19\. Bydd yr un trefniadau'n bodoli ar gyfer Cyllideb 2019\-20, ond mae'r cwmpas wedi'i ymestyn i gynnwys sicrwydd am fethodoleg rhagolygon Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfraddau Cymreig o dreth incwm.   Rwyf yn ddiolchgar i Ysgol Fusnes Bangor am y gwaith pwysig a phroffesiynol y mae wedi'i wneud yn ystod dwy flynedd gyntaf datganoli trethi yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried nifer o ddewisiadau ar gyfer trefniadau ar gyfer rhagolygon, gan gynnwys defnyddio arbenigedd sefydliad sy'n bodoli eisoes; sefydlu comisiwn cyllidol i Gymru a threfniadau contractiol tymor hir. Pan gyhoeddwyd cyllideb ddrafft 2018\-19 ym mis Hydref 2017, dywedais fod dau ddewis i'w hystyried o hyd \- sef sefydlu comisiwn annibynnol neu ddefnyddio'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR). Y dewis a oedd yn cael ei ffafrio oedd defnyddio'r OBR, yn seiliedig ar y meini prawf a bennwyd gan Lywodraeth Cymru: * Mae'n hanfodol bod y swyddogaeth yn cael ei harfer mewn ffordd sy'n ddigon annibynnol ar y Llywodraeth; * Dylai'r ffordd y cyflawnir y swyddogaeth adlewyrchu gwerth am arian; * Dylai'r corff a benodir i gyflawni'r swyddogaeth hon allu dangos yr arbenigedd y mae ei angen i gyflawni ei fandad. Ar ôl cryn drafod a gwaith manwl pellach, yr OBR sy'n cynnig y dewis gorau o ran gwerth am arian a'r dewis mwyaf cymesur ar gyfer cynhyrchu rhagolygon trethi Cymreig. Rwyf wedi penderfynu gwneud trefniant gydag OBR i ddarparu rhagolygon refeniw trethi ar gyfer Cyllideb Llywodraeth Cymru 2020\-21 a'r tu hwnt.   Mae arbenigedd ac annibyniaeth OBR wedi ennill eu plwyf ac mae perthynas weithio dda wedi cael ei datblygu rhwng ei swyddogion a Thrysorlys Cymru. Rwyf yn disgwyl i'r trefniant newydd hwn gynhyrchu rhagolygon o safon uchel, a fydd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer elfen gyllido Cyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd ein trefniant newydd ag OBR yn dechrau'n ffurfiol eto ar 1 Ebrill 2019\. I gefnogi'r gwaith o gyflenwi Cyllideb Llywodraeth Cymru ac i helpu aelodau gyda'r gwaith craffu, bydd OBR yn cynhyrchu dau adroddiad. Bydd y rhain yn cynnwys rhagolygon ar gyfer trethi Cymreig \- y dreth trafodiadau tir a’r dreth dirlenwi \- a chyfraddau Cymreig o dreth incwm, a fydd yn seiliedig ar ragolygon macro\-economaidd diweddaraf OBR ac unrhyw ddata penodol perthnasol i Gymru.  Bydd rhagolygon OBR hefyd yn rhoi ystyriaeth briodol i unrhyw newidiadau ym mholisi trethi Llywodraeth Cymru.  Caiff yr adroddiadau hyn eu cyhoeddi ochr yn ochr â chyllideb ddrafft amlinellol Llywodraeth Cymru a'r gyllideb derfynol.   Yn ogystal, fel rhan o'r trefniadau newydd, mae OBR wedi cytuno i gynyddu ei phresenoldeb yng Nghymru trwy ymgysylltu'n helaethach â chyrff ac unigolion sydd â buddiant, gan gynnwys Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd hyn yn darparu dolen gyswllt i'w chroesawu rhwng cyhoeddi Economic and Fiscal Outlook OBR ar gyfer y Gwanwyn a Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru.   Caiff Memorandwm Cyd\-ddealltwriaeth wedi'i ddiweddaru ynghyd â Thelerau ac Amodau ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Caiff y trefniadau hyn eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru ac OBR ar ôl y flwyddyn gyntaf.   Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei ymgysylltiad adeiladol a chefnogol tra bu Llywodraeth Cymru'n ystyried y dewisiadau ar gyfer sicrwydd annibynnol i ragolygon trethi Cymreig. \[1]Y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru  https://gov.wales/docs/caecd/publications/161219\-fiscal\-agreement\-en.pdf
https://www.gov.wales/written-statement-provision-welsh-tax-forecasts-office-budget-responsibility
I promised back in December to provide further updates on the National Academy for Educational Leadership, and on opportunities for the education sector to be actively engaged in the development of the Academy. I am pleased to say that we are now advertising for the board of the Academy, and are seeking a Chair and other non\-executive Board Members. This will be a small, agile Board, recruited on the basis of their skills, and they will have a critical role in both supporting the CEO once appointed, and ensuring the effective governance of the Academy. The application period will be from today until 11 February, with the Chair and Board to be in place by early May following a public appointments process.
Gwnes addewid ym mis Rhagfyr i ddarparu'r newyddion diweddaraf i chi ynghylch Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, ac ynghylch y cyfleoedd i'r sector addysg gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r Academi. Mae'n bleser cael dweud ein bod nawr yn hysbysebu am aelodau bwrdd yr Academi, a'n bod yn chwilio am Gadeirydd ac Aelodau Bwrdd anweithredol eraill. Bydd hwn yn fwrdd bach, ystwyth, wedi'i recriwtio ar sail sgiliau'r aelodau a bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae drwy gefnogi'r Prif Weithredwr pan fydd wedi'i benodi, a thrwy sicrhau bod yr Academi'n cael ei llywodraethu'n effeithiol. Bydd y cyfnod ymgeisio'n para o heddiw hyd at 11 Chwefror, a bydd y Cadeirydd a'r Bwrdd wedi'u penodi erbyn dechrau mis Mai, yn dilyn  proses penodiadau cyhoeddus.
https://www.gov.wales/written-statement-public-appointments-national-academy-educational-leadership
On 17 July 2018, the Cabinet Secretary for Health and Social Services made an oral statement in the Siambr on: Publication of Donna Ockenden's Governance Review Action Plan (external link).
Ar 17 Gorffennaf 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Cyhoeddi Adroddiad Llywodraethu Donna Ockenden (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-publication-donna-ockendens-governance-review-action-plan
Last summer, people across Wales contributed their ideas for new Welsh taxes – part of a national debate I started as a means of testing new powers under the Wales Act 2014, which enable us to introduce new taxes in areas of devolved responsibility. Professor Gerald Holtham put forward the idea of a levy to fund social care in Wales in the future and published a short report outlining how this could work. The levy was one of four ideas on the new tax ideas shortlist and I commissioned Professor Holtham to carry out further work into his proposal. Professor Holtham’s final report, Paying for Social Care, is published today. It considers the economic case for a system of enhanced social insurance to help fund social care costs for older people. The challenge of paying for care is by no means unique to Wales, but it is important that our approach is tailored to Wales’ needs and aligns with our priorities for the future of health and social care, which are set out in A Healthier Wales – our long\-term plan for health and social care in Wales. Professor Holtham’s report will inform the work of the new inter\-Ministerial group on social care, which is chaired by the Minister for Children, Older People and Social Care. Huw Irranca\-Davies will publish a more detailed written statement about the inter\-Ministerial group, its membership, priorities and work programme in the coming weeks.
Yr haf diwethaf, cyfrannodd pobl ledled Cymru eu syniadau ar gyfer trethi Cymreig newydd \- rhan o drafodaeth genedlaethol a ddechreuais fel ffordd o brofi pwerau newydd o dan Ddeddf Cymru 2014, sy'n ein galluogi i gyflwyno trethi newydd mewn meysydd o gyfrifoldeb datganoledig. Cyflwynodd yr Athro Gerald Holtham y syniad o ardoll i ariannu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol ac fe gyhoeddodd adroddiad byr yn amlinellu sut y gallai hyn weithio. Roedd yr ardoll yn un o bedwar syniad ar y rhestr fer o syniadau ar gyfer  trethi newydd ac fe gomisiynais yr Athro Holtham i wneud gwaith pellach ar ei gynnig. Cyhoeddir adroddiad terfynol yr Athro Holtham, Talu am Ofal Cymdeithasol, heddiw. Mae'n ystyried yr achos economaidd dros system o yswiriant cymdeithasol datblygedig i helpu i ariannu costau gofal cymdeithasol i bobl hŷn. Nid yw'r her o dalu am ofal yn unigryw o bell ffordd i Gymru, ond mae’n bwysig i'n dull gweithredu gael ei deilwra i anghenion Cymru a gweddu i'n blaenoriaethau ar gyfer dyfodol iechyd a Gofal Cymdeithasol, a nodir yn Cymru Iachach  \- ein cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd adroddiad yr Athro Holtham yn llywio gwaith y Grŵp Gweinidogion newydd ar ofal cymdeithasol, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Bydd Huw Irranca\-Davies yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig manylach am y Grŵp Gweinidogion, ei aelodaeth, ei flaenoriaethau a’i rhaglen waith dros yr wythnosau nesaf.
https://www.gov.wales/written-statement-paying-social-care-independent-report-professor-gerald-holtham
On 23 January 2018, Vaughan Gething, Cabinet Secretary for Health and Social Services made an Oral Statement in the Siambr on: Progress on the New Treatment Fund (external link).
Ar 23 Ionawr 2018, gwnaeth y Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Cynnydd o ran y Gronfa Triniaethau Newydd (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-progress-new-treatment-fund
The National School Categorisation System was introduced in 2014\. It provides a clear picture of how well schools in Wales are performing and the level of support they need to do better. Today we have published the support categories for primary and secondary schools for a fourth year. The purpose of the categorisation system is to identify the support our schools need to improve. It offers a holistic approach to school improvement, which allows the context of the school and a broad range of information to be taken into account when determining a judgement on the school\`s self\-evaluation and capacity to improve. The system is about providing support and encouraging collaborative improvement and is not about labelling or creating crude league tables.  It is about putting schools into a position that enables them to identify what the factors are that contribute to their progress and achievement or which areas to focus on to achieve further development. The system evaluates and assesses schools and places then in a support category using the following process: • Step One: A broad range of performance information is provided by the Welsh Government to inform schools self\-evaluation of their capacity to improve in relation to teaching and learning; and inform the starting point of discussions with their regional consortium challenge advisor about their performance and areas for improvement;   • Step Two: Assessment of the schools’ self\-evaluation by challenge advisers in the regional consortia; • Step Three: After the outcome indicators and self\-evaluation information have been analysed, a draft support category is agreed in discussion with the school. This category is moderated by the local authority and regional education consortium, verified nationally, and leads to a colour\-coded support category for the school which will trigger a tailored programme of support, challenge and intervention. Updated guidance has been made available, which sets out the categorisation process in more detail. Last September, I announced changes to the system from this year in which the Welsh Government will no longer use a specific set of data to calculate a Standards Group for schools as part of Step One. This change was implemented following recommendations made by the OECD in their rapid policy assessment of our education system, and forms part of our commitment to reform accountability, as set out in Education in Wales: our National Mission. The effect of this change is powerful. It encourages the system to use a broader range of information to feed into the school’s self\-evaluation; it places more emphasis on professional dialogue between schools and their challenge advisers and it reflects the sophistication and rigour of the system that we have developed over time in collaboration with the regional consortia and local authorities. The figures we have published today show that 85\.3 per cent of primary schools and 68\.3 per cent of secondary schools are now in the green and yellow categories. This increase from last year continues the upward trend since 2015 and is to be welcomed. These schools will have a key role to play in supporting other schools in Wales, by sharing their expertise, skills, and good practice. In this way they will be making a vital contribution to driving forward improvements in Wales and moving us towards a truly self\-improving system. The publication of these outcomes today is a strong indicator of the supportive and collaborative system that we are building in Wales and will ensure that schools, and ultimately learners, are given the right support at the right time to enable them to fully realise their potential. I will now ask my officials to review the system with our regional education consortia to consider the best way forward for categorisation in the evolving landscape of Welsh education and our reform journey. http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/raisingstandards/schoolcategorisation/?lang\=en    
Cyflwynwyd y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn 2014\. Mae’n rhoi darlun clir o sut y mae ysgolion yng Nghymru yn perfformio, a lefel y cymorth sydd ei angen arnynt i wneud yn well. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi’r categorïau cymorth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Dyma’r bedwaredd flwyddyn inni wneud hyn. Nod y system gategoreiddio yw pennu’r cymorth sydd ei angen ar ysgolion er mwyn iddynt wella. Mae’n cynnig ffordd gyfannol, holistaidd o wella ysgolion \- gan ystyried cyd\-destun yr ysgol ac ystod eang o wybodaeth wrth ddyfarnu ar hunanasesiad yr ysgol a’i chapasiti i wella. Nod y system yw cynorthwyo ac annog gwella drwy gydweithio, nid labelu na chreu tablau cynghrair amrwd.  Y nod yw helpu ysgolion i weld pa ffactorau sy’n cyfrannu at gynnydd a llwyddiant, a pha feysydd y dylid canolbwyntio arnynt i wella ymhellach. Mae’r system yn gwerthuso ac yn asesu ysgolion ac yna’n eu rhoi mewn categori cymorth gan ddefnyddio’r broses isod: • Cam Un: Rhoddir ystod eang o wybodaeth am berfformiad i ysgolion gan Lywodraeth Cymru fel sail i’w hunanasesiadau o’u capasiti i wella mewn perthynas â dysgu ac addysgu, ac fel man cychwyn i’w trafodaethau â’r cynghorydd herio yn y consortiwm rhanbarthol am eu perfformiad a meysydd i’w gwella;   • Cam Dau: Cynghorwyr herio yn y consortia rhanbarthol i asesu hunanasesiadau’r ysgolion; • Cam Tri: Ar ôl dadansoddi’r dangosyddion deilliannau a’r wybodaeth hunanasesu, cytunir ar gategori cymorth drafft, a hynny drwy drafod â’r ysgol. Caiff y categori hwn yna’i gymedroli gan yr awdurdod lleol a’r consortiwm addysg rhanbarthol. Yna, caiff ei wirio ar lefel genedlaethol, a rhoddir categori lliw i’r ysgol a fydd yn sbarduno rhaglen benodol o gymorth, heriau ac ymyriadau. Mae canllawiau am hyn ar gael, ac maent wedi’u diweddaru i esbonio’r broses mewn mwy o fanylder. Mis Medi diwethaf, cyhoeddais newidiadau i’r system o eleni ymlaen: ni fydd Llywodraeth Cymru bellach yn defnyddio set benodol o ddata i gyfrifo Grŵp Safonau ar gyfer ysgolion fel rhan o Gam Un. Mae’r newid hwn yn deillio o argymhellion yn asesiad cyflym y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o’n system addysg. Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad i ddiwygio atebolrwydd, fel y nodir yn Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl. Caiff y newid hwn effaith sylweddol: yn ei sgil, mae’r system yn manteisio ar ystod ehangach o wybodaeth fel sail i hunanasesiadau’r ysgolion, a rhoddir mwy o bwyslais ar ddeialog broffesiynol rhwng ysgolion a’u cynghorwyr herio. Mae hyn yn adlewyrchu soffistigeiddrwydd a thrylwyredd y system yr ydym wedi’i datblygu dros gyfnod, ar y cyd â’r consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Mae’r ffigurau yr ydym wedi’u cyhoeddi heddiw yn dangos bod  85\.3 y cant o ysgolion cynradd a 68\.3 y cant o ysgolion uwchradd bellach yn y categorïau gwyrdd neu felyn. Mae hyn yn gynnydd o’i gymharu â llynedd ac mae’n parhau â’r cynnydd sydd wedi’i weld ers 2015\. Mae hyn yn galonogol. Bydd gan yr ysgolion hyn rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi ysgolion eraill yng Nghymru drwy rannu arbenigedd, sgiliau, ac arfer da. Drwy hyn, byddant yn gwneud cyfraniad hollbwysig tuag at sicrhau gwelliannau i addysg yng Nghymru a’n symud ni tuag at system o hunanwella parhaus. Mae’r hyn a gyhoeddwn heddiw yn dangos yn glir ein bod yn datblygu system gefnogol a chydweithiol yng Nghymru, ac y byddwn yn sicrhau bod ysgolion \- a dysgwyr yn y pendraw \- yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a hynny’n amserol, i wireddu eu potensial. Yn awr, byddaf yn gofyn i fy swyddogion adolygu’r system gyda’n consortia addysg rhanbarthol er mwyn canfod y ffordd orau ymlaen i gategoreiddio yn nhirlun addysg Cymru, sy’n datblygu o hyd, ac yng nghyd\-destun ein gwaith diwygio. http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/raisingstandards/schoolcategorisation/?lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-publication-national-school-categorisation-system-categories-year-four
On 1 Mai 2018, the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services made an Oral Statement in the Siambr on: Powys County Council \- Update on Support under the Local Government Measure 2009 (external link).
Ar 1 Mai 2018, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Datganiad Llafar yn y Siambr ar: Cyngor Sir Powys \- Diweddariad ar Gefnogaeth o dan Fesur Llywodraeth Leol 2009 (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-powys-county-council-update-support-under-local-government-measure-2009
The Mutual Investment Model (MIM) was launched last February, to help make good the shortfall in conventional investment in public infrastructure in Wales. It will provide more than £1bn of necessary investment in our capital programme, over and above our diminished capital budgets, EU funding and our new capital borrowing powers. When I launched the MIM, I was clear it would promote the public interest – unlike the old discredited PFI model – including wellbeing and value for money. Private partners will be required to adopt the Code of Practice Ethical Employment in Supply Chains and establish high levels of environmental sustainability. MIM projects will promote value for money through the provision of public equity; the adoption of standardised, replicable contracts; and the exclusion of services which can be funded more efficiently from capital budgets. Transparency will be promoted though the appointment of public interest directors to MIM project boards. Since the launch of the MIM last year, the United Nations Economic Commission for Europe (UNECE) has taken a strong interest in the model, particularly in how the promotion of the public interest aligns with UN objectives for the development of People First public private partnerships (PPPs) on a global scale. The Welsh Government was invited to present the MIM at the UN headquarters in Geneva in May and the MIM has subsequently been published in the UN compendium of aspiring People First PPPs.  Further details are available here. My officials have been engaged in discussions with the Office of National Statistics and Eurostat to clarify the control and influence the public sector can exercise over the operations of private partners delivering MIM projects. Eurostat has concluded – I believe for the first time – that the public sector can exercise a menu of specific controls, known as reserved matters, while ensuring the MIM continues to be classified to the private sector. Eurostat’s decision is available here. The development of business cases for the 3 MIM projects – dualling sections 5 and 6 of the A465; the new Velindre Cancer Centre and Band B of the 21st Century Schools and Education programme – continues. I expect the first scheme in the pipeline, the A465, to be ready for a decision to proceed to procurement in the late summer. I will continue to keep Members updated about the MIM projects.
Lansiwyd y Model Buddsoddi Cydfuddiannol fis Chwefror diwethaf i helpu i wneud iawn am y diffyg yn y buddsoddiad confensiynol mewn seilwaith cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn darparu dros £1bn o fuddsoddiad angenrheidiol ar gyfer ein rhaglen gyfalaf sy’n ychwanegol at ein cyllidebau cyfalaf sy’n lleihau, cyllid yr UE a’n pwerau benthyca cyfalaf newydd. Pan lansiais y model, dywedais yn glir y byddai – yn wahanol i’r hen fodel Menter Cyllid Preifat sydd bellach wedi colli hygrededd – yn hyrwyddo budd y cyhoedd, gan gynnwys llesiant a gwerth am arian. Bydd yn ofynnol i bartneriaid preifat fabwysiadu'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a sefydlu lefelau uchel o gynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd prosiectau'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn hyrwyddo gwerth am arian drwy ddarparu ecwiti cyhoeddus, mabwysiadu contractau safonol y gellir eu hatgynhyrchu ac allgáu'r gwasanaethau sy’n gallu cael eu hariannu'n fwy effeithiol drwy gyllidebau cyfalaf. Bydd tryloywder yn cael ei hyrwyddo drwy benodi cyfarwyddwyr budd y cyhoedd i fyrddau prosiect y Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Ers lansio’r Model y llynedd, mae Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig wedi dangos diddordeb mawr yn y model, yn enwedig yn y ffordd y mae hyrwyddo budd y cyhoedd yn cyd\-fynd ag amcanion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer datblygu partneriaethau cyhoeddus\-preifat Pobl yn Gyntaf yn fyd\-eang. Gwahoddwyd Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r Model ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa ym mis Mai. O ganlyniad i hynny, mae'r Model wedi'i gyhoeddi yng nghasgliad y Cenhedloedd Unedig o ddarpar Bartneriaethau Cyhoeddus\-Preifat Pobl yn Gyntaf.  Mae rhagor o fanylion ar gael yma. Mae fy swyddogion wedi bod yn rhan o drafodaethau â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat i gael eglurder ynghylch y rheolaeth a'r dylanwad y gall y sector cyhoeddus eu harfer dros weithrediadau partneriaid preifat sy'n cyflawni prosiectau'r Model. Mae Eurostat wedi dod i'r casgliad – am y tro cyntaf, rwy'n credu – bod modd i'r sector cyhoeddus arfer dewis o reolaethau penodol, a elwir yn faterion a gedwir yn ôl, wrth sicrhau bod y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn parhau wedi'i ddosbarthu i'r sector preifat. Mae penderfyniad Eurostat ar gael yma. Mae’r gwaith o ddatblygu achosion busnes yn parhau ar gyfer y tri phrosiect y Model, sef deuoli rhannau 5 a 6 o'r A465, y Ganolfan Ganser newydd yn Felindre a Band B o’r rhaglen i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Rwy'n disgwyl i'r cynllun cyntaf yn y llif, sef yr A465, fod yn barod ar gyfer penderfyniad i fynd ati i gaffael ddiwedd yr haf. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y prosiectau o dan y Model.
https://www.gov.wales/written-statement-promoting-public-interest-using-mutual-investment-model
On 25 September 2018, Dafydd Elis\-Thomas, Minister for Culture, Tourism and Sport made an oral statement in the Siambr on: Priorities for the Historic Environment of Wales (external link).
Ar 25 Medi 2018, gwnaeth y Dafydd Elis\-Thomas, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Blaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-priorities-historic-environment-wales
Today, the Health and Social Care Advisory Service (HASCAS) published the outcome of its independent evidence\-based, clinical investigation into the care and treatment provided to patients on the Tawel Fan Ward of the Ablett Unit at Ysbyty Glan Clwyd (external link). This investigation was commissioned by Betsi Cadwaladr University Health Board (BCU) in August 2015 as part of the Putting Things Right process. The HASCAS investigation was initially asked to examine specific concerns raised by 23 families about the care and treatment of their relatives on the Tawel Fan ward between 2007 and its closure in December 2013\. HASCAS were also asked to extend the investigation to include consideration of the archives of 3 other related processes to identify other patients whose care and treatment might have fallen below acceptable standards.  A total of 108 patients and a number of staff were considered in detail as part of HASCAS investigation. The HASCAS report is the product of a very extensive and lengthy process involving 108 case reviews, 148 interviews and the review of around 700,000 pages of documentation. It considered the material provided as part of the Ockenden report published in May 2015; a North Wales Police investigation concluded in 2015 and a mortality review conducted by BCU in 2015\. This report provides the thematic findings of the HASCAS investigation.  HASCAS will also produce separate reports for the families of each of the patients falling within the scope of this investigation. Those reports will provide the specific analysis of the care of each individual patient and these reports will be shared with families. This thematic report sets out a very clear rationale for HASCAS’ findings, together with their detailed conclusions, lessons for learning and recommendations. Whilst the report does provide the very important reassurance that they could not substantiate previous claims of patients of Tawel Fan being the victims of institutional abuse or neglect, it does reinforce with even greater clarity some of the findings of previous governance and inspection reports. In this report HASCAS describe the very considerable journey that BCU has needed to embark on to improve the governance and clinical oversight arrangements established for the organisation at the time of its establishment in 2009 \- again demonstrating that they were not fit for purpose.  However, the methodology deployed in this investigation enables HASCAS to go further than other reports and very starkly set out where these failings have compromised care in some important areas. Given the genesis of this investigation, it most closely examines the care provided on Tawel Fan. However, by listening to those families who came forward, it has been able to undertake a detailed analysis of the care pathway for elderly patients. By so doing, it has been able to throw a spotlight on shortcomings that extend beyond those within the remit and control of mental health services. It highlights the need for more rapid attention to secure improvements across a range of areas, whilst recognising that work is underway to address some of issues raised. Overall the report makes it very clear there is still some way for the BCU to go on this improvement journey and this will require further focused oversight under the special measures arrangements. I would urge caution in jumping to conclusions about the apparent contradiction in the conclusions of the HASCAS investigation and some earlier reports and findings. Those reports focused on smaller cohorts of patients, did not have access to the very comprehensive set of documentation (including clinical records) and other evidence examined as part of the HASCAS investigations – nor were they able to draw in specific mental health expertise. This is a very substantial report that warrants careful reading and consideration to fully understand why HASCAS has reached the conclusions it has published today. Elements of these HASCAS findings should act as a wakeup call for other NHS organisations and safeguarding partners both in Wales and elsewhere in the UK.  It offers a mirror for them to hold up against their care pathways and practices for elderly patients living with dementia and the support provided for their families and carers. Whilst this will be very difficult day for both families and staff of BCU who were involved or affected by the investigation, I would hope that these HASCAS findings can act as a catalyst to the lifting of a dark shadow that has extended over mental health services in North Wales for a number of years. This shadow has resulted in the population of North Wales losing confidence in their local services and the staff who provide them. BCU and other partners still have a great deal of work to do together to restore that confidence. I discussed this report’s findings and my expectations for the response from BCU with the Chair and Chief Executive just prior to the Board’s receipt of the report yesterday. I will be discussing next steps with them further over the coming days and I will be making an oral statement next week.
Heddiw, cyhoeddodd y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ganlyniad ei ymchwiliad clinigol annibynnol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i'r gofal a'r driniaeth a ddarparwyd i gleifion ar Ward Tawel Fan yn Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd (dolen allanol). Cafodd yr ymchwiliad ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Awst 2015 fel rhan o'r broses Gweithio i Wella. Yn wreiddiol, gofynnwyd i'r ymchwiliad ystyried pryderon penodol a godwyd gan 23 o deuluoedd ynglŷn â'r gofal a'r driniaeth a gafodd eu hanwyliaid ar Ward Tawel Fan rhwng 2007 a mis Rhagfyr 2013, pan gafodd y ward ei chau. Gofynnwyd i'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd ymestyn ei ymchwiliad i ystyried archifau 3 phroses cysylltiedig arall i adnabod cleifion eraill nad oedd y gofal a'r driniaeth a dderbyniwyd ganddynt o bosibl yn cyrraedd y safonau derbyniol. Cafodd cyfanswm o 108 o gleifion a staff eu hystyried yn fanwl fel rhan o ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.   Mae'r adroddiad a luniwyd gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymru yn ffrwyth llafur proses eang a hirfaith a oedd yn cynnwys 108 o adolygiadau achos, 148 o gyfweliadau ac adolygiadau o tua 700,000 o dudalennau o ddogfennaeth. Ystyriwyd y deunydd a ddarparwyd fel rhan o adroddiad Ockenden a gyhoeddwyd ym mis Mai 2015, ymchwiliad gan Heddlu'r Gogledd a ddaeth i ben yn 2015, ac adolygiad o gyfraddau marwolaeth a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2015\. Mae'r adroddiad yn rhoi canfyddiadau thematig ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bydd y Gwasanaeth hefyd yn llunio adroddiadau ar wahân ar gyfer teuluoedd pob un o'r cleifion a oedd yn destun yr ymchwiliad hwn. Bydd yr adroddiadau hynny yn rhoi dadansoddiad penodol o'r gofal a gafodd pob claf a byddant yn cael eu rhannu â theuluoedd y cleifion. Mae'r adroddiad thematig hwn yn gosod sail resymegol eglur iawn ar gyfer canfyddiadau'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae'n sôn am y casgliadau manwl, y gwersi i'w dysgu ac argymhellion. Er bod yr adroddiad yn rhoi'r sicrwydd pwysig nad oedd modd cadarnhau'r honiadau a wnaed yn y gorffennol bod cleifion Tawel Fan wedi bod yn destun camdriniaeth neu esgeulustod sefydliadol, mae'n atgyfnerthu hefyd, gyda mwy o eglurder nag o'r blaen, rai o ganfyddiadau adroddiadau llywodraethu ac arolygu a gyhoeddwyd cyn hyn. Yn yr adroddiad hwn, eglura'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gorfod cychwyn ar dipyn o daith i wella'r trefniadau llywodraethu a throsolwg clinigol a roddwyd ar waith ar gyfer y sefydliad adeg ei sefydlu yn 2009\. Mae hyn yn dangos unwaith eto nad oedd y trefniadau hynny yn addas at y diben. Fodd bynnag, mae'r fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr ymchwiliad hwn yn caniatáu i'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol fynd ymhellach nag unrhyw adroddiad arall a dweud yn gwbl glir lle mae ansawdd y gofal wedi cael ei beryglu mewn rhai meysydd pwysig o ganlyniad i’r methiannau hyn. O ystyried y rheswm dros gynnal yr ymchwiliad yn y lle cyntaf, mae’n canolbwyntio’n bennaf ar y gofal a ddarparwyd ar Ward Tawel Fan. Fodd bynnag, drwy wrando ar y teuluoedd hynny a gytunodd i fod yn rhan o’r ymchwiliad, roedd yn bosibl cynnal dadansoddiad manwl o'r llwybr gofal i gleifion hŷn.  O ganlyniad, mae’r ymchwiliad wedi taflu goleuni ar ddiffygion sy’n mynd y tu hwnt i gylch gwaith gwasanaethau iechyd meddwl, ac sydd allan o’u rheolaeth. Amlygir yng nghanfyddiadau'r ymchwiliad fod angen mynd ati’n gyflymach i wneud gwelliannau ar draws ystod o feysydd, ond cydnabyddir hefyd fod gwaith ar y gweill i fynd i'r afael â rhai o'r materion a godwyd. Yn gyffredinol, mae'r adroddiad yn gwbl glir fod tipyn o waith gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i'w wneud eto i wella a bydd angen mwy o drosolwg ag iddo ffocws penodol o dan y trefniadau mesurau arbennig. Dylid pwyllo cyn dod i gasgliadau am yr anghysondeb ymddangosiadol rhwng casgliadau ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol a rhai adroddiadau a chanfyddiadau cynharach. Roedd yr adroddiadau hynny yn canolbwyntio ar gohortau o gleifion llai o faint. Nid oedd gan yr awduron fynediad at y set gynhwysfawr iawn o ddogfennau (gan gynnwys cofnodion clinigol) a thystiolaeth arall a archwiliwyd fel rhan o ymchwiliadau'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac nid oeddynt ychwaith yn gallu elwa ar arbenigedd iechyd meddwl penodol.   Mae hwn yn adroddiad sylweddol y mae angen ei ddarllen a'i ystyried yn ofalus i ddeall yn iawn pam mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi dod i'r casgliadau a gyhoeddwyd ganddo heddiw. Dylai elfennau o'r canfyddiadau hynny fod yn rhybudd i sefydliadau eraill y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a phartneriaid diogelu yng Nghymru, ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae'n cynnig cyfle iddynt fwrw golwg beirniadol ar eu llwybrau gofal ac arferion hwythau ar gyfer cleifion hŷn sy'n byw gyda dementia, a'r cymorth a roddir ganddynt i’w teuluoedd a'u gofalwyr. Bydd hwn yn ddiwrnod anodd iawn i deuluoedd a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gymerodd ran yn yr ymchwiliad neu yr effeithiwyd arnynt ganddo. Er hynny, hyderaf y bydd y canfyddiadau hyn gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn sbardun i wasanaethau iechyd meddwl yn y Gogledd allu camu allan o'r cysgod sydd wedi ei daflu drostynt ers blynyddoedd bellach.  Mae'r cysgod hwnnw wedi peri i boblogaeth y Gogledd golli hyder yn eu gwasanaethau lleol a'r staff sy'n eu darparu. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd os yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid eraill am gydweithio i adennill yr hyder hwnnw. Trafodais ganfyddiadau'r adroddiad hwn a'm disgwyliadau i o ran ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr ychydig cyn i'r Bwrdd gael yr adroddiad ddoe. Byddaf yn trafod y camau nesaf â hwy dros y diwrnodau sydd i ddod a byddaf yn gwneud datganiad llafar yr wythnos nesaf.
https://www.gov.wales/written-statement-publication-hascas-investigation-care-and-treatment-provided-tawel-fan
Endometriosis is a common condition that affects as many as 1 in 10 women of childbearing age. Although some women might not have any noticeable symptoms of the condition, I have heard from others that have suffered significant symptoms and impact on their quality of life. Last year, following a report by Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW), the Chief Executive of the NHS in Wales established a Task and Finish Group to review endometriosis services in Wales. The Group, chaired by consultant obstetrician and gynaecologist, Dr Richard Penketh, was made up of a multidisciplinary team of clinicians, academics and patients.  It considered many sources of data, including recent NICE guidelines and research as well as new evidence produced in Wales. I wish to express my thanks to all members of the group for their hard work in the preparation of their report, which I am pleased to publish today. This report is the start of a process that will improve the lives of women in Wales affected by endometriosis. Additionally, it highlights the benefits of collective working between clinicians and patient groups to achieve a positive outcome. The report describes a lack of understanding of endometriosis among some health professionals and how current provision fails to meet the level of need. This has caused delays in diagnosis and sub\-optimal clinical care on some occasions, with a consequent impact on the quality of life of users of these services. The Group make a number of recommendations to improve endometriosis services and provide better outcomes for women. This includes raising awareness among health professionals and promoting education around menstrual well\-being. Health boards have a responsibility to deliver high quality gynaecology services and it is vital they provide a robust and effective pathway, including early diagnosis, for the management of endometriosis. My officials have written to health boards seeking assurance that they are operating their services so they deliver the NICE guidance on endometriosis. It is important that serious health issues affecting women are dealt with effectively and appropriately. For this reason, I have directed the recently established Women’s Health Implementation Group, chaired by Tracy Myhill, Chief Executive of ABMU Health Board, to consider all the recommendations in this report alongside its work on vaginal mesh and tape. The Women’s Health Implementation Group will provide strategic leadership to ensure an all\-Wales approach to break down barriers and join up pathways between primary, secondary and tertiary care, so women’s health is managed in the community wherever possible, with minimal need for intervention. Review: https://gov.wales/topics/health/publications/health/reports/endometriosis\-care\-in\-Wales/?lang\=en  
Mae endometriosis yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar gynifer ag 1 o bob 10 o fenywod mewn oed i gael plant. Er efallai na fydd gan rai menywod unrhyw symptomau amlwg o'r cyflwr, rwyf wedi clywed gan eraill sydd wedi dioddef symptomau sylweddol sydd wedi effeithio cryn dipyn ar ansawdd eu bywydau. Llynedd, yn dilyn adroddiad gan Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW), sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen gan Brif Weithredwr GIG Cymru i adolygu gwasanaethau endometriosis yng Nghymru. Roedd y grŵp, dan gadeiryddiaeth yr obstetregydd ymgynghorol a'r gynaecolegydd, Dr Richard Penketh, yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o glinigwyr, academyddion a chleifion.    Fe ystyriodd nifer o ffynonellau data, gan gynnwys canllawiau ac ymchwil diweddar NICE yn ogystal â thystiolaeth newydd a gynhyrchwyd yng Nghymru. Hoffwn i ddiolch i holl aelodau'r grŵp am eu gwaith caled yn paratoi'r adroddiad hwn, yr wyf mor falch ei gyhoeddi heddiw. Mae'r adroddiad hwn yn ddechrau proses a fydd yn gwella bywydau menywod yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio gan endometriosis. Ar ben hynny, mae'n tynnu sylw at fanteision gwaith ar y cyd rhwng clinigwyr a grwpiau o gleifion i sicrhau canlyniad cadarnhaol. Mae'r adroddiad yn disgrifio diffyg dealltwriaeth o endometriosis ymysg rhai gweithwyr iechyd proffesiynol, a'r ffordd y mae'r ddarpariaeth bresennol yn methu â bodloni lefel yr angen. O ganlyniad, gwelwyd oedi i gael diagnosis a gofal clinigol nad oedd o'r ansawdd orau ar rai achlysuron, gan effeithio ar ansawdd bywydau defnyddwyr y gwasanaethau hyn. Mae'r grŵp yn gwneud nifer o argymhellion i wella gwasanaethau endometriosis a darparu gwell canlyniadau i fenywod. Yn eu plith mae codi ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol a hyrwyddo addysg ynghylch llesiant mislifol. Mae cyfrifoldeb ar fyrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau gynaecoleg o ansawdd uchel, ac mae'n hanfodol iddynt ddarparu llwybr cadarn ac effeithiol, gan gynnwys diagnosis cynnar, i reoli endometriosis. Mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd i ofyn am sicrwydd eu bod yn gweithredu eu gwasanaethau gan gyflawni canllawiau NICE ar endometriosis. Rhaid i faterion iechyd difrifol sy'n effeithio ar fenywod gael sylw effeithiol a phriodol. Am y rheswm hwn, rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod a sefydlwyd yn ddiweddar dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, i ystyried holl argymhellion yr adroddiad hwn ynghyd â'i waith ar dâp a rhwyll y wain. Bydd y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod yn darparu arweiniad strategol er mwyn gweithredu ar draws Cymru gyfan i chwalu rhwystrau a chyfuno llwybrau gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal trydyddol, fel bod iechyd menywod yn cael ei reoli yn y gymuned lle bynnag y bo'n bosibl gan leihau'r angen am ymyrraeth. Adroddiad: https://gov.wales/topics/health/publications/health/reports/endometriosis\-care\-in\-Wales/?lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-publication-endometriosis-task-and-finish-group-report
I have today published the Welsh Government's Technical Consultation ‘Public Good and a Prosperous Wales – the next steps’, outlining in more detail our proposals for the structure and operation of the new Tertiary Education and Research Commission for Wales. https://beta.gov.wales/tertiary\-education\-and\-research\-commission\-wales The consultation provides details of proposals for the next steps in the reform of the PCET sector in Wales following the report by Professor Hazelkorn in 2016\. The consultation will be open for 12 weeks until 17 July and I encourage all stakeholders to respond to our more detailed proposals. It is critical that we hear from learners, leaders and practitioners on how post\-compulsory education and training meets their needs, and can be an even greater force for social mobility and national prosperity. It must involve the education sector as a whole, business, learners and all who have an interest in making our post\-compulsory education and training system the very best that it can be.      
Cyhoeddais heddiw Ymgynghoriad Technegol Llywodraeth Cymru 'Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus \- y camau nesaf' sy'n amlinellu'n fanylach ein cynigion ar gyfer strwythur a gweithrediad y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Newydd i Gymru. https://beta.llyw.cymru/comisiwn\-addysg\-drydyddol\-ac\-ymchwil\-i\-gymru Ceir yn yr ymgynghoriad fanylion y cynigion ar gyfer camau nesaf y gwaith o ddiwygio'r sector addysg a hyfforddiant ôl\-orfodol yng Nghymru yn dilyn adroddiad yr Athro Hazelkorn yn 2016\. Bydd yr ymgynghoriad yn agored am 12 wythnos tan 17 Gorffennaf a byddwn yn annog ein holl randdeiliaid i ymateb i'n cynigion manylach. Mae'n hanfodol ein bod yn clywed barn dysgwyr, arweinwyr ac ymarferwyr ynghylch sut mae addysg a hyfforddiant ôl\-orfodol yn bodloni eu hanghenion, a sut y gall fod yn gyfrwng hyd yn oed yn fwy grymus ar gyfer symudedd cymdeithasol a ffyniant cenedlaethol. Rhaid cynnwys y sector addysg yn ei gyfanrwydd, busnesau, dysgwyr a phawb sydd â diddordeb mewn sicrhau bod ein system addysg a hyfforddiant ôl\-orfodol yn cyrraedd y safon orau bosib.  
https://www.gov.wales/written-statement-public-good-and-prosperous-wales-next-steps
Following the announcement last week, by the Cabinet Secretary for Finance, of the outline Draft Budget 2019\-20, details of the core funding allocations for local authorities for 2019\-20 are published today.  The Welsh Government’s budget statement sets out the context for this year’s local government settlement – the uncertainty surrounding the arrangements for leaving the EU, the forthcoming UK Autumn Budget and the UK Government’s planned Spending Review in 2019, and the continuing constraints on public spending.  These same factors form the backdrop for local authorities’ own budget\-setting processes for the coming financial year.  Adjusting for transfers, the core revenue funding for local government in 2019\-20 will reduce by 0\.3% on a like\-for\-like basis compared to the current year. After the announcement of the Final Budget last year, despite the additional £40 million to support ongoing pressures in local government, authorities were facing the prospect of a 1\.0% reduction in core funding for 2019\-20, equating to a £43 million reduction in cash terms.  We have worked hard, across Government, to offer local government the best settlement possible in the current financial climate, and we have made further allocations to the local government settlement to mitigate most of the reduction local government had been expecting. In 2019\-20, local authorities will receive £4\.2 billion from the Welsh Government in core revenue funding and non\-domestic rates to spend on delivering key services.  This includes £2\.5 million of floor funding, fully funded by the Welsh Government, to ensure that no authority has to manage with a reduction of more than 1\.0% in its Aggregate External Finance next year. Within this settlement, we have provided funding for additional costs arising from changes by the UK Government through the teachers’ pay award, and to reflect the importance of local government’s role in the health and social care system. We are also providing funding for our proposals for new eligibility criteria for free school meals given the continued rollout of Universal Credit by the UK Government. Specifically, in line with the proposals in our recent consultation, we are making an additional £7 million available to local authorities, through the settlement, for free school meals in 2019\-20, based on the latest forecasts.   We will also be providing additional funding of £4 million to local authorities in 2018\-19 for free school meals via a grant scheme.  This will support local authorities in meeting the costs associated with our proposed threshold and transitional protection measures. We are directing all of the £23\.5 million announced by the UK Government on 13 September, to fund the school teachers’ pay award.  For 2018\-19, £8\.7 million will be made available via specific grants.  £13\.7 million has been included in the settlement for 2019\-20 to fund the increase in teachers’ pay in maintained schools from nursery to year 11, and the remaining £1\.1 million will continue to be delivered outside the settlement, as a specific grant, for teachers in school sixth forms. In recognition of the important role local authorities play in delivering core social services and the preventative approach at the heart of delivery, this settlement contains a further £20 million to help ease those pressures. As the budget announcement set out, we have been able to restore funding to a number of grants to local authorities and made other funding decisions from which local authorities will directly benefit.  An additional £30 million targeted funding for social care outside the settlement is being made available, bringing the total additional investment in social care in 2019\-20 to £50 million compared to previously published plans for the year. The importance of education is reflected in an additional £15 million, allocated through the Education Main Expenditure Group, for schools.  We are committed to investing in raising school standards and removing barriers to learning to support young people to reach their potential. Alongside the settlement we are, again, providing £600,000 to support local government to eliminate charging for child burials.  This recognises and builds on the positive steps already taken by all councils in Wales and continues to ensure a fair and consistent approach across Wales. This Welsh Government remains committed to protecting vulnerable and low\-income households from any reduction in support under the Council Tax Reduction Schemes, despite the shortfall in the funding transferred by the UK Government following its abolition of Council Tax Benefit. We will continue to maintain full entitlements under our Council Tax Reduction Scheme (CTRS) for 2019\-20 and are again providing £244 million for CTRS in the local government settlement in recognition of this.  The arrangements for 2020\-21 onwards will be determined as part of our wider considerations about how to make council tax fairer. Prior to the final settlement, we will consider further evidence collected about the financial impact of increasing the capital limit used in charging for residential care.  This will allow a decision to be taken on the next stage of increasing this limit to deliver our commitment to raise it to £50,000 during the lifetime of this government and to reflect any financial implications of that decision for 2019\-20 in the final settlement. While we have worked hard to offer local government the best settlement possible, I recognise that this settlement is a real terms cut in core funding, when authorities face real pressures from things such as an ageing population, pay awards and other inflationary pressures.  Therefore, it is vital that we continue to work together to deliver efficiencies and develop more effective ways of delivering services. I have listened carefully to the case made by Welsh councils that one way in which efficiencies can be realised is through reducing the administrative costs associated with specific grants and to provide greater flexibility to authorities in using these resources to support vulnerable people.  On 3 October, I jointly announced, with the Minister for Housing and Regeneration, that we are amalgamating a number of grants and will be establishing a Children and Communities Grant (bringing together seven existing programmes) and a single Housing Support Grant (bringing together a further three programmes) from 1 April 2019\.  This will increase flexibility for local authorities and help to reduce the administrative burden associated with grant funding. Further details of the grants for local government will be published alongside the detailed Draft Budget on 23 October. Attached to this statement is a summary table setting out the settlement allocations by authority.  The allocations are derived using the formula agreed with local government.  As a result of the formula and related data, the table shows the range of the funding allocations.  The inclusion of additional resources to support a floor arrangement benefits five authorities.  Six authorities receive an overall increase in their settlement on a like\-for\-like basis. Further details on the settlement will be sent to all local authorities and published on the Welsh Government’s website: https://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/settlement/lg\-settlement\-2019\-20/?lang\=en   I know that authorities will need to make choices in setting their budgets.  They will need to engage meaningfully with their local communities as they consider their budget priorities.  The setting of budgets, and in turn council tax, is the responsibility of each local authority and authorities will need to take account of the full range of sources of funding available to them, as well as the pressures they face, in setting their budgets for the coming year. With regard to capital funding, this settlement maintains the general capital funding at £143 million for the next two years.  This provides clarity and certainty on future funding for authorities’ own capital spending priorities. In addition, we are providing £60 million over three years for a local authority road refurbishment scheme to help repair the damage caused by a series of hard winters and this summer’s heatwave. This announcement commences the formal six\-week consultation on the provisional local government settlement.  This will end on 20 November 2018\. ### Documents * #### 181009 \- Summary Table \- Provisional Local Government Settlement 2019\-20, file type: pdf, file size: 168 KB 168 KB
Yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft amlinellol 2019\-20 yr wythnos ddiwethaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, heddiw rydym yn cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i awdurdodau lleol ar gyfer 2019\-20\. Mae datganiad cyllideb Llywodraeth Cymru yn gosod cyd\-destun y setliad llywodraeth leol eleni \- yr ansicrwydd ynghylch y trefniadau ar gyfer ymadael â'r UE, Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU sydd ar ddod, a chynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Adolygiad o Wariant yn 2019, ynghyd â'r cyfyngiadau sy'n parhau ar wariant cyhoeddus. Mae'r awdurdodau lleol yn wynebu'r un ffactorau wrth osod eu cyllidebau eu hunain ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2019\-20 yn gostwng 0\.3%, ar sail tebyg at ei debyg, o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol. Ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb Derfynol llynedd, er gwaetha'r £40 miliwn ychwanegol i gynorthwyo gyda'r pwysau parhaus ar lywodraeth leol, roedd awdurdodau'n wynebu'r posibilrwydd o 1\.0% o ostyngiad mewn cyllid craidd ar gyfer 2019\-20, sy'n cyfateb i £43 miliwn o ostyngiad o ran arian.  Rydym wedi bod yn gweithio'n galed, ar draws y Llywodraeth, i gynnig y setliad gorau posib i lywodraeth leol yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, gan wneud dyraniadau pellach i'r setliad llywodraeth leol er mwyn lliniaru'r rhan fwyaf o'r gostyngiad yr oedd llywodraeth leol yn ei ddisgwyl. Yn 2019\-20, bydd awdurdodau lleol yn derbyn £4\.2 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Mae hynny'n cynnwys £2\.5 miliwn o gyllid gwaelodol, wedi'i ariannu'n llwyr gan Lywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau nad oes rhaid i unrhyw awdurdod ddygymod â dros 1\.0% o ostyngiad yn ei Gyllid Allanol Cyfun y flwyddyn nesaf. O fewn y setliad hwn, rydym wedi darparu cyllid ar gyfer costau ychwanegol yn deillio o newidiadau gan Lywodraeth y DU drwy ddyfarniad cyflog yr athrawon, ac i adlewyrchu pwysigrwydd rôl llywodraeth leol yn y system iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym hefyd yn darparu cyllid ar gyfer ein cynigion am feini prawf cymhwysedd newydd i gael prydau ysgol am ddim, gan fod Llywodraeth y DU yn parhau i gyflwyno Credyd Cynhwysol. Yn benodol, yn unol â'r cynigion yn ein hymgynghoriad diweddar, rydym yn sicrhau bod £7 miliwn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol drwy'r setliad ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2019\-20, yn seiliedig ar y rhagolygon diweddaraf. Byddwn hefyd yn darparu £4 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2018\-19 ar gyfer prydau ysgol am ddim drwy gynllun grant.  Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol i dalu’r costau sy'n gysylltiedig â'n trothwy arfaethedig a mesurau diogelu yn ystod y cyfnod pontio. Rydym yn cyfeirio pob ceiniog o'r £23\.5 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 13 Medi i ariannu dyfarniad cyflog yr athrawon ysgol. Yn 2018\-19, bydd £8\.7 miliwn ar gael drwy grantiau penodol. Mae £13\.7 miliwn wedi'i gynnwys yn y setliad ar gyfer 2019\-20 er mwyn ariannu'r cynnydd i gyflog athrawon mewn ysgolion a gynhelir o'r dosbarth meithrin i flwyddyn 11, ac fe fydd yr £1\.1 miliwn sy'n weddill yn parhau i gael ei gynnig y tu allan i'r setliad, fel grant penodol, ar gyfer athrawon chweched dosbarth ysgolion. Gan gydnabod rôl bwysig awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol craidd a'r pwyslais ar atal problemau, mae'r setliad hwn yn cynnwys £20 miliwn arall i helpu i leddfu pwysau. Fel y dywedwyd yng nghyhoeddiad y Gyllideb, rydym wedi medru adfer cyllid i nifer o grantiau i awdurdodau lleol, ac wedi gwneud penderfyniadau ariannu eraill a fydd o fantais uniongyrchol iddynt. Bydd £30 miliwn ychwanegol o gyllid penodol ar gyfer gofal cymdeithasol ar gael y tu allan i'r setliad, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad ychwanegol mewn gofal cymdeithasol yn 2019\-20 i £50 miliwn o gymharu â chynlluniau a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn yn flaenorol.   Adlewyrchir pwysigrwydd addysg yn y £15 miliwn ychwanegol sy'n cael ei ddyrannu i ysgolion drwy'r Prif Grŵp Gwariant Addysg. Rydym wedi ymrwymo i godi safonau ysgolion a dileu rhwystrau rhag dysgu er mwyn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial. Ar ben y setliad rydym, unwaith eto, yn darparu £600,000 er mwyn helpu llywodraeth leol i ddileu taliadau am gladdu plant. Mae hyn yn cydnabod ac yn adeiladu ar y camau cadarnhaol y mae pob cyngor yng Nghymru eisoes yn eu cymryd i sicrhau dull gweithredu teg a chyson ar draws Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i amddiffyn aelwydydd incwm isel ac agored i niwed rhag unrhyw ostyngiad mewn cymorth dan Gynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, er gwaetha'r diffyg mewn cyllid oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl diddymu Budd\-dal y Dreth Gyngor. Byddwn yn parhau i gynnal hawliau llawn dan ein Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ein hunain ar gyfer 2019\-20, ac rydym unwaith eto yn darparu £244 miliwn ar gyfer y cynllun yn y setliad llywodraeth leol mewn cydnabyddiaeth o hyn. Bydd y trefniadau ar gyfer 2020\-21 ymlaen yn cael eu pennu fel rhan o'r ystyriaethau ehangach i sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy teg. Cyn y setliad terfynol, byddwn yn ystyried tystiolaeth bellach sy'n dod i law am effaith ariannol cynyddu'r terfyn cyfalaf a ddefnyddir wrth godi tâl am ofal preswyl. Bydd hyn yn caniatáu i ni wneud penderfyniad ar y cam nesaf o godi'r terfyn hwn er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i'w godi i £50,000 yn ystod oes y llywodraeth hon, ac adlewyrchu unrhyw oblygiadau ariannol y penderfyniad hwnnw ar gyfer 2019\-20 yn y setliad terfynol. Er ein bod wedi gweithio'n galed i gynnig y setliad llywodraeth leol gorau posib, rwy'n cydnabod bod y setliad hwn yn doriad mewn termau real i'r cyllid craidd, pan fo awdurdodau'n wynebu pwysau gwirioneddol yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio, dyfarniadau cyflog a phwysau chwyddiant o fath arall, ymysg pethau eraill. Felly mae'n hanfodol i ni barhau i gydweithio er mwyn sicrhau arbedion a datblygu ffyrdd mwy effeithiol o ddarparu gwasanaethau. Rydw i wedi bod yn gwrando'n ofalus ar sylwadau cynghorau Cymru mai un ffordd o arbed arian yw lleihau costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â grantiau penodol a rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau ddefnyddio'r adnoddau hyn i gefnogi pobl agored i niwed. Ar 3 Hydref, ar y cyd â'r Gweinidog Tai ac Adfywio, fe gyhoeddais y byddwn yn cyfuno nifer o grantiau ac yn sefydlu Grant Plant a Chymunedau (gan uno saith o raglenni presennol) ac un Grant Cymorth Tai (gan uno tair rhaglen arall) o 1 Ebrill 2019 ymlaen. Bydd hyn yn sicrhau mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ac yn helpu i ostwng y baich sy'n gysylltiedig â chyllid grant. Bydd rhagor o fanylion am grantiau llywodraeth leol yn cael eu cyhoeddi wrth ochr y Gyllideb Ddrafft fanwl ar 23 Hydref. Mae tabl cryno wedi'i atodi i'r datganiad hwn, sy'n dangos dyraniadau'r setliad fesul awdurdod.  Pennwyd y dyraniadau gan ddefnyddio'r fformiwla a gytunwyd gyda llywodraeth leol. O ganlyniad i'r fformiwla a'r data cysylltiedig, mae'r tabl yn dangos amrediad y dyraniadau cyllid.  Mae cynnwys adnoddau ychwanegol i sicrhau trefniant terfyn isaf yn fanteisiol i bum awdurdod.  Mae chwe awdurdod yn derbyn cynnydd cyffredinol yn eu setliad ar sail tebyg at ei debyg. Bydd rhagor o fanylion am y setliad yn cael eu hanfon at bob awdurdod lleol a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru: https://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/settlement/lg\-settlement\-2019\-20/?lang\=cy   Rwy'n gwybod y bydd yn rhaid i awdurdodau wneud penderfyniadau anodd wrth osod eu cyllidebau. Bydd angen iddynt gynnal trafodaethau ystyrlon gyda'u cymunedau lleol wrth ystyried blaenoriaethau eu cyllidebau. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol unigol yw gosod cyllidebau, a'r dreth gyngor yn ei thro. Bydd angen i awdurdodau ystyried pob ffynhonnell o gyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau sy'n eu hwynebu, wrth osod eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. O ran cyllid cyfalaf, mae'r setliad hwn yn cynnal y cyllid cyfalaf cyffredinol ar £143 miliwn am y ddau blynedd nesaf. Mae hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd i awdurdodau ynghylch y cyllid a fydd ar gael iddynt ar gyfer eu blaenoriaethau gwariant cyfalaf yn y dyfodol. Ar ben hynny, rydym yn darparu £60 miliwn dros dair blynedd ar gyfer cynllun adnewyddu ffyrdd awdurdodau lleol er mwyn helpu i atgyweirio'r difrod a achoswyd gan gyfres o aeafau caled a'r tywydd poeth dros yr haf eleni. Daw'r cyhoeddiad hwn ar ddechrau chwe wythnos o ymgynghoriad ffurfiol ar y setliad dros dro i lywodraeth leol.  Bydd yn dod i ben ar 20 Tachwedd 2018\. ### Dogfennau * #### 181009 \- Tabl Cryno \- Setliad dros dro Llywodraeth Leol 2019\-20, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 267 KB 267 KB
https://www.gov.wales/written-statement-provisional-local-government-settlement-2019-20
  Breaking the cycle of disadvantage and poverty is critical to the long term well\-being and success of our children. Education has a fundamental role in this and can make a real difference. Someone’s ability to benefit from education should not be determined by their personal circumstances and the Welsh Government is committed to removing barriers to learning and ensuring equity and excellence for all children and young people.  Our Pupil Development Grant (PDG) is central to this. I announced in Plenary in April arrangements to further expand the PDG from the start of this financial year.  This included increasing again the funding for the early years element of the grant.  Today I am pleased to announce a further expansion of PDG with the introduction of ‘PDG Access’.  PDG Access will sit alongside the other elements of PDG and will have a particular focus on supporting parents with the additional costs associated with their children starting education, and with progressing into secondary school.    This new fund – amounting to £1\.7 million – will be more flexible and relevant to the needs of disadvantaged learners than the previous school uniform grant; it will also support more learners.   We are focusing the new grant on the entry point into education and transition into secondary school.   For the first time, learners in both Reception and Year 7, who are eligible for free school meals, or are children who are looked after, will fall within scope of the funding.   Unlike the previous school uniform grant, all looked after children in these year groups will be covered, reflecting the particular barriers this group of learners face in terms of their education. Funding of up to £125 will be available per learner, which is an increase on the previous school uniform grant. The funding will be distributed via local authorities. In recognition of the variety of costs parents have when their children start school and to promote a greater uptake of wider activities by our disadvantaged learners, the funding is wide in scope.   It is simply unacceptable the some of our young people miss out on opportunities because of their personal circumstances and background.  All learners should be encouraged to aim high and be supported to achieve their goals. That is the aim of the PDG and this new funding will further support progress in this regard by helping address the greater disadvantage learners face simply by not being in a financial position to engage in extra\-curricular; enrichment and after school activities. That is why this funding will not be limited to supporting the cost of school uniform; it will support greater aspiration, cultural enrichment, well\-being and resilience by covering:   * School uniform; * School sports kit; * Uniform for wider activities, for example sports, scouts and guides; * School equipment  where new curriculum activities begin such as design and technology; and * Equipment for out of school hours trips such as waterproofs for outdoor learning.   Local authorities have been involved in the development of the new grant and we will continue to work with them to ensure parents and carers have access to this new funding ready for the start of the new school year this September.    To support the implementation of the new funding and more generally support schools to make effective decisions on their school uniform policies, we are continuing to explore how the current school uniform guidance can be strengthened.  We are also considering more broadly the cost for parents of the school day.  Members will be aware of my absolute commitment to supporting our disadvantaged learners to reach their full potential and to narrowing the attainment gap between those learners and their peers.  I am very pleased, therefore, to be announcing further funding to support this commitment.      
Mae torri cylch anfantais a thlodi yn hanfodol i lesiant hirdymor a llwyddiant ein plant. Mae gan addysg rôl hanfodol yn hyn, ac mae’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Ni ddylai gallu rhywun i elwa ar addysg fod yn ddibynnol ar ei amgylchiadau personol ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gael gwared ag unrhyw rwystrau i ddysgu a sicrhau tegwch a rhagoriaeth i blant a phobl ifanc. Mae ein Grant Datblygu Disgyblion yn ganolog i hyn.  Mewn cyfarfod llawn ym mis Ebrill cyhoeddais drefniadau i ehangu’r Grant ymhellach o ddechrau’r flwyddyn ariannol hon. Roedd hyn yn golygu cynyddu unwaith eto y cyllid ar gyfer elfen blynyddoedd cynnar y grant. Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi bod y Grant i’w ehangu ymhellach drwy gyflwyno Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad. Bydd Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn eistedd ochr yn ochr ag elfennau eraill y Grant, a bydd yn canolbwyntio’n benodol ar helpu rhieni gyda’r costau ychwanegol sy’n codi wrth i’w plant ddechrau mewn addysg, a gyda symud ymlaen i ysgol uwchradd. Bydd y cyllid newydd hwn \- £1\.7 miliwn \- yn fwy hyblyg a pherthnasol i anghenion dysgwyr difreintiedig na’r grant gwisg ysgol blaenorol; bydd hefyd yn cefnogi mwy o ddysgwyr. Rydym yn canolbwyntio ar y cyfnod mynediad i addysg a’r cyfnod pontio i’r ysgol uwchradd. Am y tro cyntaf, bydd y cyllid ar gael i ddysgwyr yn y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim neu sy’n derbyn gofal.  Yn annhebyg i’r hen grant gwisg ysgol blaenorol, bydd plant sy’n derbyn gofal yn y grwpiau blwyddyn yma yn gymwys, sy’n adlewyrchu’r rhwystrau penodol mae’r grŵp yma o ddysgwyr yn eu hwynebu o ran eu haddysg. Bydd hyd at £125 ar gael i bob dysgwr cymwys, sy’n gynnydd ar y grant gwisg ysgol blaenorol. Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleol. I gydnabod y costau amrywiol i rieni pan fydd eu plant yn dechrau’r ysgol, ac i annog mwy o ddysgwyr difreintiedig i gymryd rhan mewn gweithgareddau ehangach, mae’r cyllid yn eang ei gwmpas. Mae’n gwbl annerbyniol bod rhai o’n pobl ifanc yn colli cyfleoedd oherwydd eu cefndir neu eu hamgylchiadau personol. Dylid annog pob dysgwr i anelu’n uchel, a’u cefnogi i gyflawni eu hamcanion. Dyna fwriad y Grant Datblygu Disgyblion a fe fydd y cyllid newydd hwn yn helpu i sicrhau hyn drwy fynd i’r afael â’r anfanteision mwy y mae dysgwyr yn eu hwynebu am nad ydynt mewn sefyllfa ariannol i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol a chyfoethogi a gweithgareddau ar\-ôl\-ysgol. Dyna pam na fydd y cyllid hwn yn gyfyngedig i gynorthwyo â chost gwisg ysgol yn unig. Bydd yn helpu i godi uchelgais disgyblion a’u cyfoethogi’n ddiwylliannol, ac yn datblygu eu lles a’u gallu i oresgyn problemau. Bydd yn cyfrannu at: * Wisg ysgol; * Dillad chwaraeon ysgol; * Dillad ar gyfer gweithgareddau ehangach, er enghraifft chwaraeon, gwaith sgowtiaid a geidiaid; * Cyfarpar ysgol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn cychwyn, fel dylunio a thechnoleg; a * Chyfarpar ar gyfer tripiau ysgol y tu allan i oriau ysgol fel dillad gwrth\-ddŵr ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Mae awdurdodau lleol wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r grant newydd a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i sicrhau bod y cyllid hwn ar gael i rieni a gofalwyr erbyn dechrau’r flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi. I gefnogi cyflwyno’r cyllid, ac i gefnogi ysgolion yn fwy cyffredinol i wneud penderfyniadau effeithiol ar eu polisïau gwisg ysgol, rydym yn parhau i ystyried sut y gellir cryfhau’r canllawiau cyfredol ynghylch gwisg ysgol. Rydym hefyd yn ystyried yn fwy cyffredinol y gost sy’n gysylltiedig â’r diwrnod ysgol i rieni. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o’m hymrwymiad llwyr i gefnogi ein dysgwyr difreintiedig i gyflawni eu potensial llawn a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng y dysgwyr hynny a’u cyfoedion. Rwy’n hapus iawn, felly, i gael cyhoeddi cyllid pellach i gefnogi’r ymrwymiad hwn.
https://www.gov.wales/written-statement-pupil-development-grant-access
Donna Ockenden presented the findings from her Governance Review to the BCU Board this morning and her report has now been published on BCU’s website.   The terms of reference for the review were agreed by BCU in November of 2015 and I am pleased that the report is now complete and that the Board can consider the findings in detail, as part of its wider improvement plans. It has been over 4 and half years since concerns were first raised regarding the care and treatment on Tawel Fan ward and this review has drawn heavily on the findings from previous reports. It helpfully brings these together into one place, providing the opportunity to reflect on the learning from this series of investigations and reviews, for BCU and the NHS more broadly.   This review reinforces what we already know about the position of the health board and why it was placed in special measures. It also reflects the significant journey that BCU continues to be on. The health board is establishing an Improvement Group, led by the Executive Director of Nursing and Midwifery, to drive forward the work required in response to both the Donna Ockenden Governance review and the HASCAS Investigation. My previous statements were clear on how I expect BCU to act on recommendations and report on its progress as part of the special measures improvement framework and this will include actions in response Donna Ockenden’s Governance report. My focus, and that of the new chair when he takes up post, the Board and Chief Executive, is on moving forward, with an emphasis on ensuring support is in place to build on the work to date and make the necessary improvements at pace to benefit the population of North Wales and staff at BCU.                
Cyflwynodd Donna Ockenden ganfyddiadau ei Hadolygiad Llywodraethu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y bore yma, ac mae ei hadroddiad bellach wedi'i gyhoeddi ar eu gwefan. Cytunodd y Bwrdd Iechyd ar gylch gorchwyl yr adolygiad ym mis Tachwedd 2015, ac rwy'n falch iawn bod yr adroddiad bellach wedi'i gwblhau ac y gall y Bwrdd ystyried y canfyddiadau yn fanwl, fel rhan o'i gynlluniau gwella ehangach. Mae dros 4 blynedd a hanner wedi pasio ers i bryderon gael eu codi am y tro cyntaf am y gofal a'r driniaeth ar ward Tawel Fan, ac mae'r adolygiad hwn wedi pwyso'n helaeth ar ganfyddiadau adroddiadau blaenorol. Daw â'r rhain ynghyd mewn un man defnyddiol, gan roi cyfle i ystyried y gwersi a ddysgwyd o'r gyfres hon o ymchwiliadau ac adolygiadau, ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r GIG yn ehangach.   Mae'r adolygiad hwn yn atgyfnerthu'r hyn a wyddom eisoes am sefyllfa'r bwrdd iechyd, a'r rhesymau dros ei osod dan fesurau arbennig. Mae hefyd yn adlewyrchu’r daith sylweddol y mae'r Bwrdd Iechyd yn dal i fod arni. Mae'r bwrdd iechyd yn sefydlu Grŵp Gwella, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, i fwrw ymlaen â'r gwaith sy'n ofynnol mewn ymateb i Adolygiad Llywodraethu Donna Ockenden ac Ymchwiliad HASCAS. Dywedais yn glir yn fy natganiadau blaenorol fy mod yn disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr weithredu ar yr argymhellion ac adrodd ar y cynnydd fel rhan o’r fframwaith gwella dan y mesurau arbennig, a bydd hyn yn cynnwys camau gweithredu mewn ymateb i Adroddiad Llywodraethu Donna Ockenden. Fe fyddaf i, y cadeirydd newydd pan fydd yn ymgymryd â'i swydd, y Bwrdd a’r Prif Weithredwr yn canolbwyntio nawr ar symud ymlaen, gan roi pwyslais ar sicrhau bod y cymorth angenrheidiol yn ei le i adeiladu ar y gwaith hyd yma a gwneud y gwelliannau angenrheidiol ar fyrder er lles pobl gogledd Cymru a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
https://www.gov.wales/written-statement-publication-donna-ockendens-governance-review
A series of workshops on the implementation of the Wellbeing of Future Generations Act (WFG) were co\-designed and delivered by the Welsh Government (WG) and WWF Cymru earlier this year. The workshops aimed to agree how the implementation of the Act can be achieved and demonstrated.  They looked at what needs to improve and how third sector stakeholders can be involved more effectively in the future.   Key areas for action include procurement, policy integration, capacity and capability, and the need for a “whole government” approach, together with the emphasis on the five ways of working.   I will continue to oversee this action and would like to thank WWF Cymru for working with us. The report will be made available in the autumn. Web link:  Well\-being of Future Generations (Wales) Act 2015 http://gov.wales/topics/people\-and\-communities/people/future\-generations\-act
Cafodd cyfres o weithdai ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ei chynllunio a'i darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a WWF Cymru yn gynharach eleni. Nod y gweithdai oedd cytuno ar sut y gellir sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith a sut y gellir dangos hynny.  Yn y gweithdai ystyriwyd ble mae angen gwelliant a sut y gellir cynnwys rhanddeiliaid y trydydd sector yn y dyfodol.   Ymhlith y meysydd gweithredu allweddol roedd caffael, integreiddio polisi, capasiti a galluogrwydd, ynghyd â phwyslais ar y pum ffordd o weithio.   Byddaf yn parhau i oruchwylio'r camau gweithredu hyn a hoffwn ddiolch i WWF Cymru am weithio gyda ni. Bydd yr adroddiad ar gael yn yr hydref. Dolen:  Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 http://gov.wales/topics/people\-and\-communities/people/future\-generations\-act/?lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-publication-wellbeing-future-generations-workshops-report
On 27 February 2018, Hannah Blythyn, Minister for the Environment made an Oral Statement in the Siambr on: Recycling in Wales (external link).
Ar 27 Chwefror 2018, gwnaeth y Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Ailgylchu yng Nghymru (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-recycling-wales
I am pleased to announce the publication of the summary of responses to the consultation on the commission rate payable on the sale of a park home. I have also published the independent review of financial information from site owners. There is a clear and consistent divide between the views of residents and park owners, with most residents supporting the reduction or abolition of the commission paid, whilst all site owners wish to see it retained at the current maximum rate of 10%. The summary outlines the next steps following this extensive exercise. Following consideration of the views and evidence presented, I am setting out my intention to begin a phased reduction of the commission rate over a period of time. I also intend to take forward a range of proposals designed to support good management in the sector and to ensure that those buying and selling park homes have access to clear, consistent information to support their decision making. I will make an oral statement in due course. The summary of responses and financial review are available here: https://beta.gov.wales/park\-homes\-commission\-rate
Mae'n dda gen i gyhoeddi bod crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gyfradd y comisiwn ar gartrefi mewn parciau wedi ei gyhoeddi. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol o'r wybodaeth ariannol gan berchnogion safleoedd. Mae rhaniad clir a chyson rhwng sylwadau preswylwyr a pherchnogion y parciau gyda'r rhan fwyaf o'r preswylwyr yn cefnogi lleihau neu ddileu'r gyfradd i'w thalu tra bo holl berchnogion y safleoedd am ei gweld yn parhau ar y gyfradd uchaf gyfredol o 10%. Mae'r crynodeb yn amlinellu'r camau nesaf yn dilyn yr ymarferiad helaeth hwn. Ar ôl ystyried y sylwadau a'r dystiolaeth a gyflwynwyd, dyma nodi fy mwriad i ddechrau lleihau cyfradd y comisiwn yn raddol dros gyfnod o amser. Rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno nifer o gynigion sydd wedi'u cynllunio i gefnogi systemau rheoli da yn y sector ac i sicrhau bod gan y bobl hynny sy'n prynu ac yn gwerthu cartrefi mewn parciau wybodaeth glir a chyson i'w helpu wrth wneud penderfyniadau. Byddaf yn gwneud datganiad llafar maes o law. Mae crynodeb o'r ymatebion a'r adolygiad ariannol ar gael i'w gweld yma: https://beta.llyw.cymru/cyfradd\-y\-comisiwn\-ar\-gartrefi\-mewn\-parciau
https://www.gov.wales/written-statement-publication-summary-responses-consultation-park-home-commission-rate
During the procurement of the Wales \& Borders rail services contract I made a commitment to publish the documents which formed the basis for the procurement. Following the award of the contract, I am now pleased to advise members that the process to publicise these documents has begun. There are two broad sets of information which will be published, firstly the agreements between the Welsh Government and UK Government (Department for Transport) and secondly the procurement information. Information regarding the intra Governmental agreements will be made available on the Welsh Government’s website and the procurement documents can be found on Transport for Wales’ website. https://tfw.gov.wales/projects/wales\-and\-borders\-rail\-service This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.        
Yn ystod y broses o gaffael y contract ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, ymrwymais i gyhoeddi’r dogfennau a oedd yn sail i’r broses honno. Ar ôl dyfarnu’r contract, rwy’n falch o roi gwybod i’r Aelodau bod y broses ar gyfer cyhoeddi’r dogfennau wedi dechrau. Caiff dwy set eang o wybodaeth eu cyhoeddi, sef y cytundebau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (yr Adran Drafnidiaeth) a’r wybodaeth gaffael. Bydd gwybodaeth am y cytundebau rhynglywodraethol yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a chewch weld y dogfennau caffael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.   https://tfw.gov.wales/cy/prosiectau/gwasanaeth\-rheilffyrdd\-cymru\-ar\-gororau Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-publication-wales-borders-procurement-documentation
  Today, I have agreed to publish our annual report for 2016\-17 in relation to the Welsh Government’s Welsh language strategy.   2016\-17 was the final full year our strategy A living language: a language for living was operational, and during this period we worked on developing the strategy that replaced it, with its target of a million Welsh speakers by 2050\. As a result of this focus on drafting and beginning to implement the new strategy, this report is being published a little later than we would have wished. The Welsh Government’s strategy, A living language: a language for living (Iaith fyw: Iaith byw) was published in 2012 for the period 2012\-17\. The policy statement A living language: a language for living \- Moving Forward (Iaith fyw: Iaith byw – Bwrw Mlaen), published in August 2014, gave specific focus to our priorities as a Government over the final three years of the strategy. The report that I have agreed to publish today summarises our achievements in relation to those priorities during 2016\-17, noting how those activities contribute to the six Strategic Areas of the Strategy. Link to document: http://gov.wales/topics/welshlanguage/welsh\-language\-strategy\-and\-policies/welsh\-language\-policies\-upto\-2017/wl\-strategy\-annual\-report/?lang\=en This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.          
Heddiw, rwyf wedi cytuno i gyhoeddi ein hadroddiad blynyddol ar gyfer 2016\-17 mewn perthynas â strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru.   2016\-17 oedd y flwyddyn olaf lawn o weithredu yn erbyn strategaeth Iaith fyw: iaith byw, ac yn ystod y cyfnod hwn buom yn gweithio ar ddatblygu’r strategaeth a’i dilynodd, gyda’i tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050\. Oherwydd y ffocws hwn ar lunio a dechrau gweithredu’r strategaeth newydd, cyhoeddir yr adroddiad hwn rhywfaint yn ddiweddarach nag y byddem yn ei ddymuno. Cyhoeddwyd strategaeth Iaith fyw: iaith byw yn 2012, gan amlinellu’r blaenoriaethau gweithredu ar gyfer y cyfnod 2012\-2017\. Roedd y datganiad polisi Iaith fyw: iaith byw – Bwrw Mlaen, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014, yn rhoi ffocws penodol i’n blaenoriaethau fel Llywodraeth dros dair blynedd olaf y strategaeth. Mae’r adroddiad rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn crynhoi ein gweithredu yn erbyn y blaenoriaethau hynny yn ystod 2016\-17, gan nodi sut wnaeth hynny gyfrannu at chwe maes strategol y Strategaeth. Linc i’r ddogfen: http://gov.wales/topics/welshlanguage/welsh\-language\-strategy\-and\-policies/welsh\-language\-policies\-upto\-2017/wl\-strategy\-annual\-report/?lang\=cy Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-publication-welsh-language-strategy-annual-report-2016-17
Research and innovation in Wales is strong with many examples of national and international impact and success. It is essential that we continue to build on this success, as we respond to the changing UK research context and potential consequences of Brexit. Today, we have published the Review of Government\-funded Research and Innovation in Wales, which was led by Professor Graeme Reid from University College London. https://gov.wales/topics/science\-and\-technology/science/reid\-review/?skip\=1\&lang\=en The review provides clear but sophisticated analysis of current and future challenges and opportunities in Wales and across the UK, including an analysis of the strengths, gaps and future potential to sustain and grow strong research and innovation activity across Wales.  We agree that, working across sectors, Government can do more to increase the visibility and influence of Welsh research. We accept all the recommendations in principle, and we will immediately take forward the recommendation on a dedicated London presence to promote Welsh Research and Innovation. The other two recommendations relate to future resources, beyond existing budgets. We welcome the direction of travel set out in these recommendations, having already committed to accept, in principle, the relevant recommendations from the Diamond Review. We recognise, however, that policy and funding decisions from the newly\-formed UK Research and Innovation (UKRI) are still emerging and we remain committed to influencing and responding to these changes on behalf of Wales and Welsh research and innovation. The report has been published during the technical consultation on our proposals for the structure and operation of the new Tertiary Education and Research Commission for Wales so that everyone wishing to contribute can do so with awareness of Professor Reid’s work and recommendations. I am very grateful for the clarity of the report and its recommendations and would like to thank Professor Reid formally as well as thanking the distinguished panel of his advisers who assisted him in his work.  
Mae gwaith da iawn yn cael ei wneud yng Nghymru ym maes ymchwil ac arloesi, gyda nifer o enghreifftiau o ddylanwad a llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn, wrth inni ymateb i'r cyd\-destun ymchwil cyfnewidiol o fewn y DU a chanlyniadau posibl Brexit. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi'r Adolygiad o waith Ymchwil ac Arloesi wedi'i ariannu gan Lywodraeth yng Nghymru, o dan arweiniad yr Athro Graeme Reid o Goleg y Brifysgol Llundain.  https://gov.wales/topics/science\-and\-technology/science/reid\-review/?lang\=cy Mae'r adolygiad yn rhoi dadansoddiad clir ond soffistigedig o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n bodoli yn awr ac yn y dyfodol yng Nghymru ac ar draws gweddill y DU. Mae’n cynnwys dadansoddiad o’r cryfderau, y bylchau a’r potensial yn y dyfodol i gynnal a datblygu gweithgareddau ymchwil ac arloesi cadarn ledled Cymru. Rydym yn cytuno, wrth weithio ar draws sectorau, y gall y Llywodraeth wneud mwy i sicrhau bod gwaith ymchwil yng Nghymru yn fwy amlwg ac â mwy o ddylanwad. Rydym yn derbyn yr holl argymhellion mewn egwyddor a byddwn yn mynd ati’n ddi\-oed i ddatblygu’r argymhelliad i greu  presenoldeb yn Llundain i hyrwyddo gwaith Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru. Mae'r ddau argymhelliad arall yn gysylltiedig ag adnoddau'r dyfodol, y tu hwnt i gyllidebau presennol. Rydym yn croesawu'r cyfeiriad sydd wedi'i bennu yn yr argymhellion hyn, gan ein bod eisoes wedi ymrwymo i dderbyn, mewn egwyddor, argymhellion perthnasol Adolygiad Diamond. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, bod penderfyniadau polisi ac ariannu'r sefydliad newydd Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) yn parhau i ddod i'r amlwg. Rydym wedi ymrwymo o hyd i ddylanwadu ar y newidiadau hyn ac ymateb iddynt, ar ran Cymru ac ymchwil ac arloesi yng Nghymru. Cafodd yr adroddiad hwn ei gyhoeddi yn ystod yr ymgynghoriad technegol ar ein cynigion ar gyfer strwythur a dull gweithredu'r Comisiwn newydd ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru, fel y gall bawb sy'n dymuno cyfrannu wneud hynny gydag ymwybyddiaeth o waith ac argymhellion yr Athro Reid. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr eglurder sy’n cael ei gynnig gan yr adroddiad hwn a hefyd yr argymhellion. Hoffwn ddiolch i’r Athro Reid yn ffurfiol, yn ogystal â diolch i'r panel amlwg o gynghorwyr fu'n ei gynorthwyo yn ei waith.
https://www.gov.wales/written-statement-publication-reid-review-government-funded-research-innovation-wales
The independent regulator, Qualifications Wales, today presented us with the outcome of their review clear of the Skills Challenge Certificate (SCC) and its place within the Welsh Baccalaureate (external link). I welcome this report which recognises the many strengths of the Skills Challenge Certificate and Welsh Baccalaureate. It is particularly pleasing to see the strength of support for the SCC amongst teachers, employers and students – this endorses our view that the qualification is delivering when it comes to teaching skills needed to succeed in the workplace. The Welsh Government remains committed to the Welsh Baccalaureate. Our challenge now is to build on these strengths, reduce complexity and consolidate the status of these qualifications amongst learners, teachers, universities and employers. This means improving the way we communicate the many benefits of this qualification. I am also looking at what measures can be taken in terms of future funding for post\-16 delivery of the Welsh Bacc. I expect all young people who are able to take the SCC element of the Welsh Bacc to study this part of the qualification. From this year, the Welsh Bacc will be a published performance measure for Key Stage 4 and we are also developing measures for post\-16\. Whilst the majority of the report’s recommendations are for Qualifications Wales, some fall under the responsibility for Welsh Government. I will therefore be responding to these recommendations in due course.            
Mae'r rheoleiddiwr annibynnol, Cymwysterau Cymru, wedi cyflwyno heddiw ganlyniad eu hadolygiad o'r Dystysgrif Her Sgiliau a'i rhan o fewn Bagloriaeth Cymru (dolen allanol). Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn sy'n cydnabod holl gryfderau'r Dystysgrif Her Sgiliau a hefyd gryfderau Bagloriaeth Cymru. Rwy'n falch iawn o weld yr holl gefnogaeth sy'n bodoli ar gyfer y Dystysgrif Her Sgiliau ymysg athrawon, cyflogwyr a myfyrwyr \- mae hyn yn atgyfnerthu ein barn fod y cymhwyster yn llwyddiannus o safbwynt addysgu'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y gweithle. Rwyf i, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, yn ymrwymedig i Fagloriaeth Cymru. Ein her yn awr fydd adeiladu ar y cryfderau hyn, lleihau unrhyw gymhlethdod a sicrhau bod dysgwyr, athrawon, prifysgolion a chyflogwyr yn cydnabod statws y cymwysterau hyn. Golyga hyn wella'r modd yr ydym yn hyrwyddo holl fanteision y cymhwyster hwn. Rwyf hefyd yn ystyried pa fesurau y gallwn eu cyflwyno o safbwynt cyllido'r ddarpariaeth o Fagloriaeth Cymru ar gyfer dysgwyr ôl\-16\. Byddaf yn disgwyl i'r holl bobl ifanc a all ddilyn y Dystysgrif Her Sgiliau i astudio'r rhan hon o Fagloriaeth Cymru. O'r flwyddyn hon ymlaen bydd Bagloriaeth Cymru'n fesur perfformiad a gaiff ei gyhoeddi ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 ac rydym hefyd wrthi'n datblygu mesurau ar gyfer y Fagloriaeth ôl\-16\. Nodaf y camau y bydd Cymwysterau Cymru'n eu cymryd a byddaf yn cyflwyno'n fuan fy ymateb o ran sut y gallwn fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad.
https://www.gov.wales/written-statement-qualifications-wales-review-skills-challenge-certificate-and-its-place-within
I am pleased to announce the re\-appointment of Ann Evans as Chair of Qualifications Wales.   Ann was originally appointed as Chair of Qualifications Wales in March 2015 for an initial term of three years and will continue as Chair for a further 18 months. Ann brings a wealth of experience to the role.  Ann has been an independent education consultant since 2012 following four years as Chief Executive of Careers Wales Mid Glamorgan and Powys. Her earlier positions include Assistant Chief Executive of the Qualifications Curriculum and Assessment Authority for Wales. Prior to this Ann was first a school teacher followed by being a lecturer and manager in Further Education. I attach great importance to the role of Qualifications Wales and the work of its Chair; I am delighted with this re\-appointment.
Pleser yw cyhoeddi bod Ann Evans wedi cael ei hailbenodi yn Gadeirydd Cymwysterau Cymru.   Yn wreiddiol, penodwyd Ann yn Gadeirydd Cymwysterau Cymru ym mis Mawrth 2015, a hynny am gyfnod o dair blynedd. Bydd yn parhau yn Gadeirydd am 18 mis arall. Mae Ann yn dod â chryn dipyn o brofiad i’w swydd fel Cadeirydd. Mae hi wedi bod yn ymgynghorydd addysg annibynnol ers 2012, ar ôl pedair blynedd fel Prif Weithredwr Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol a Phowys. Bu’n Brif Weithredwr Cynorthwyol Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru. Cyn hynny, roedd Ann yn athrawes. Symudodd ymlaen wedyn i fod yn ddarlithydd ac yn rheolwr mewn Addysg Bellach. Nid oes modd i mi orbwysleisio pa mor bwysig yw rôl Cymwysterau Cymru a gwaith y Cadeirydd; rwyf wrth fy modd â’r ailbenodiad hwn.
https://www.gov.wales/written-statement-re-appointment-chair-qualifications-wales
On 5 June 2018, the Cabinet Secretary for Economy and Transport made an Oral Statement in the Siambr on: Rail Services and the South Wales Metro (external link).
Ar 5 Mehefin 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Gwasanaethau Rheilffyrdd a Metro De Cymru (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-rail-services-and-south-wales-metro
On 13 November 2018, the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services made an Oral Statement in the Siambr on: Reform of Fire and Rescue Authorities' Governance and Finance Arrangements (external link).
Ar 13 Tachwedd 2018, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Datganiad Llafar yn y Siambr ar: Diwygio Trefniadau Llywodraethu a Chyllid Awdurdodau Tân ac Achub (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-reform-fire-and-rescue-authorities-governance-and-finance-arrangements
Our National Mission is to raise standards, reduce the attainment gap and deliver an education system which is a source of national pride and public confidence. International research and evidence tells us there is a positive connection between smaller class sizes and attainment, particularly for pupils from poorer backgrounds.  This is most significant for younger children. And a reduction has the largest effect in raising standards when accompanied by changes and reforms to teaching and pedagogy.  In response to this evidence, the Welsh Government has made available a total of £36m over the course of this Assembly to reduce infant class sizes, starting with the largest classes first. The criterion for the funding is aimed at infant classes of 29 or more in schools which have at least one or a combination of:   * high levels of eligibility for free school meals; * below average outcomes and where the school is Red or Amber in the School Categorisation System; * high levels of special educational needs; * high levels of where English/Welsh is not the first language. I am pleased that local authorities expressed a keen interest in benefiting from the grant and subsequently all authorities submitted detailed business cases for the £16 million revenue element of the grant targeting schools that meet the criteria. This means that more than 80 schools across Wales will benefit from the revenue funding initially, through the appointment of over 80 additional teachers to reduce the largest infant classes in schools which have high levels of deprivation, special education needs and/or where teaching and learning need to improve.  As this is the first year the grant will be in operation, this number will increase as local authorities target further schools for the revenue funding.   I had the pleasure of visiting one of those schools yesterday.  Awel\-y\-Mor Primary School in Neath Port Talbot is a prime candidate for the grant, having above average levels of eligibility for free school meals and special educational needs.  From September the school will benefit from an additional teacher to reduce its infant class sizes and improve standards.  The appointment of an additional teacher and smaller infant class sizes will benefit the school as it continues on its improvement journey. A number of local authorities have also submitted bids for the capital element of the grant where reducing infant class sizes in schools that meet the criteria is dependent on additional classrooms.  These bids are undergoing final scrutiny and will further increase the number of schools benefiting from the grant. Reducing teacher workload is a key priority for the Welsh Government.  Smaller class sizes will both lessen the workload while improving the quality and quantity of time teachers spend with pupils. The additional teachers secured through the reduction in class sizes will support compliance with foundation phase ratios, and importantly will also provide additional qualified teaching time, which is crucial for the effective implementation of the foundation phase pedagogy. This investment linked to our other reforms, will improve early years’ attainment, have a significant impact for more disadvantaged pupils and support teachers to be innovative and increase pupil engagement. We recognise that reducing class sizes is not the only driver for school improvement in our schools, which is why this policy is being delivered in the context of our wider reforms as part of our nation mission to raise standards. This includes removing unnecessary bureaucracy, strengthening initial teacher training, new professional standards for teachers, a national approach to professional learning development and incentivising new and mature graduates into the profession to ensure every child gets the best start in life. I am confident that this is a policy that not only responds to concerns by teachers and parents, but also contributes to our mission to raise standards, reduce the attainment gap and deliver an education system which is a source of national pride and public confidence.                    
Cenhadaeth ein cenedl yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol. Dengys tystiolaeth ac ymchwil ryngwladol fod cysylltiad cadarnhaol rhwng dosbarthiadau llai o faint a chyrhaeddiad, yn enwedig ar gyfer disgyblion o gefndiroedd tlotach. Mae hyn i'w weld fwyaf ymhlith plant iau. Yn ogystal, mae lleihau maint dosbarthiadau yn cael yr effaith fwyaf o ran codi safonau pan gyfunir hynny â newidiadau a diwygiadau i addysgu ac addysgeg. Mewn ymateb i'r dystiolaeth hon, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfanswm o £36m dros dymor y Cynulliad hwn i leihau maint dosbarthiadau babanod, gan ddechrau gyda'r dosbarthiadau mwyaf gyntaf. Mae'r meini prawf ar gyfer y cyllid hwn yn targedu dosbarthiadau babanod o 29 neu fwy mewn ysgolion sydd ag o leiaf un o'r canlynol neu gyfuniad ohonynt: * lefelau uchel o ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim; * deilliannau is na'r cyfartaledd a lle mae'r ysgol yn y categori Coch neu Oren yn y System Gategoreiddio Ysgolion; * lefelau uchel o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig; * lefelau uchel o ddisgyblion nad Cymraeg/Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Rwy'n hynod falch bod awdurdodau lleol wedi dangos diddordeb mawr yn y grant hwn a bod pob awdurdod wedi cyflwyno achosion busnes manwl ar gyfer elfen refeniw'r grant, sy'n werth £16 miliwn, ar gyfer ysgolion sy'n bodloni'r meini prawf. Golyga hyn y bydd mwy na 80 o ysgolion ar draws Cymru'n elwa ar y cyllid refeniw i ddechrau, a hynny drwy benodi mwy na 80 o athrawon ychwanegol i leihau'r dosbarthiadau babanod mwyaf mewn ysgolion lle ceir lefelau uchel o amddifadedd, anghenion addysgol arbennig a/neu lle mae angen gwella'r addysgu a'r dysgu. Dyma flwyddyn gyntaf y grant, ac felly bydd y niferoedd yn cynyddu wrth i'r awdurdodau lleol dargedu ysgolion eraill ar gyfer y cyllid refeniw.   Cefais y pleser o ymweld ag un o'r ysgolion hynny ddoe. Mae Ysgol Gynradd Awel\-y\-Môr yng Nghastell\-nedd Port Talbot yn ymgeisydd da ar gyfer y grant, gyda niferoedd uwch na'r cyfartaledd o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu ag anghenion addysgol arbennig. O fis Medi ymlaen, bydd yr ysgol yn cael athro ychwanegol er mwyn lleihau maint ei dosbarthiadau babanod a gwella safonau. Bydd penodi athro ychwanegol a dosbarthiadau babanod llai o faint yn fuddiol iawn i'r ysgol wrth iddi barhau â'i hymdrechion i wella. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi cyflwyno ceisiadau ar gyfer yr elfen gyfalaf o'r grant hefyd, lle mae lleihau maint dosbarthiadau babanod mewn ysgolion sy'n bodloni'r meini prawf yn dibynnu ar gael dosbarthiadau ychwanegol. Mae'r ceisiadau hyn bellach wedi cyrraedd y cam craffu terfynol a byddant yn cynyddu ymhellach nifer yr ysgolion sy'n elwa ar y grant. Mae lleihau llwyth gwaith athrawon yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.  Bydd dosbarthiadau llai o faint yn lleihau'r llwyth gwaith ac yn cynyddu'r amser y mae'r athrawon yn ei dreulio gyda'r disgyblion a'i ansawdd.   Bydd yr athrawon ychwanegol a geir drwy leihau maint dosbarthiadau yn cefnogi cydymffurfiaeth â chymarebau'r Cyfnod Sylfaen ac, yn bwysicach fyth, yn darparu mwy o amser yng nghwmni athro cymwysedig, sy'n hanfodol ar gyfer gweithredu addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn effeithiol. Bydd y buddsoddiad hwn, yn gysylltiedig â’n diwygiadau eraill, yn gwella cyrhaeddiad yn y blynyddoedd cynnar, yn cael effaith sylweddol ar gyfer disgyblion mwy difreintiedig, yn cefnogi athrawon i fod yn arloesol ac yn cynyddu ymgysylltiad â disgyblion. Rydym yn cydnabod nad lleihau maint dosbarthiadau yw'r unig ffactor sy'n ysgogi gwelliant yn ein hysgolion, a dyma pam mae'r polisi hwn yn cael ei weithredu yng nghyd\-destun ein diwygiadau ehangach fel rhan o'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau. Mae hyn yn cynnwys dileu biwrocratiaeth ddiangen, cryfhau hyfforddiant cychwynnol i athrawon, safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, dull cenedlaethol ar gyfer dysgu a datblygu proffesiynol, a darparu cymhelliannau i raddedigion newydd ac aeddfed er mwyn eu denu i'r proffesiwn er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Rwy'n hyderus bod y polisi hwn yn ymateb i bryderon athrawon a rhieni a hefyd yn cyfrannu at ein cenhadaeth i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun hyder a balchder cenedlaethol.
https://www.gov.wales/written-statement-reducing-infant-class-sizes-and-raising-standards
On 30 January 2018, the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services made an Oral Statement in the Siambr on: Reforming Electoral Arrangements in Local Government (external link).
Ar 30 Ionawr 2018, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Datganiad Llafar yn y Siambr ar: Diwygio Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-reforming-electoral-arrangements-local-government
On 19 June 2018, Julie James, Leader of the House and Chief Whip made an oral statement in the Siambr on: Refugee Week – Wales, a Nation of Sanctuary (external link).
Ar 19 Mehefin 2018, gwnaeth y Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Wythnos Ffoaduriaid – Cymru, Cenedl sy'n Noddfa (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-refugee-week-wales-nation-sanctuary
Members will be aware that I commissioned a Task and Finish Group to provide advice on the use of synthetic mesh tape and sheets for stress urinary incontinence and pelvic organ prolapse.  This followed the serious and life changing complications experienced by some women who had undergone the procedures in the UK, including Wales. I am pleased to inform you that I have now received their report which I am publishing today.   The group was chaired by Professor Simon Emery from Abertawe Bro Morgannwg Health Board and was made up of clinicians and academics in the area of uro\-gynaecology, colorectal surgery, primary care, independent healthcare, physiotherapy, continence and pain management.  Patient representatives chose not to join the group but I have met with representatives of the Welsh Mesh Survivors Group and information they chose to share with me was forwarded for full consideration by the group. The group met between October and January 2018 and considered the experiences of women in Wales, the Welsh data available at the time, and the position of medical device regulators and governments in the UK and around the world.   The group considered in detail the care currently provided for women in Wales with stress urinary incontinence or pelvic organ prolapse and have made several recommendations on how this could be improved particularly in the areas of preventative strategies and conservative management in the community with surgery as a last resort.  The group has also advised on support and care arrangements for those with problems following surgery. It is also recognised that improvements in data capture of these procedures is needed.  This includes better information on the procedures undertaken, the devices used and the reporting of any complications.  Advice has also been provided on the patient information required to improve clinical decision making and ensure a more robust, fully informed consent process. I will make an Oral Statement next Tuesday, 8th May, when I shall go through the report’s key findings and the actions I consider necessary to implement its recommendations.          
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol fy mod wedi comisiynu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gynghori ar y defnydd o dâp a llieiniau rhwyll synthetig ar gyfer anymataliaeth wrinol sy’n gysylltiedig â straen a phrolaps organau'r pelfis. Roedd hyn yn dilyn y cymhlethdodau difrifol a brofodd rhai menywod a oedd wedi cael triniaeth yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yng Nghymru. Rwy'n falch o roi gwybod ichi fy mod wedi derbyn yr adroddiad yn awr ac rwy'n ei gyhoeddi heddiw.  Yr Athro Simon Emery o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg oedd yn cadeirio'r grŵp ac roedd yr aelodau’n cynnwys clinigwyr ac academyddion o'r meysydd wro\-gynaecoleg, llawdriniaethau'r colon a'r rhefr, gofal sylfaenol, gofal iechyd annibynnol, ffisiotherapi, rheoli ymataliaeth a phoen. Dewisodd cynrychiolwyr y cleifion beidio ag ymuno â'r grŵp ond rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Grŵp Goroeswyr Triniaethau Rhwyll Cymru a chafodd yr wybodaeth yr oeddynt hwy am ei rhannu â mi ei hanfon ymlaen at y grŵp i’w hystyried. Cyfarfu'r grŵp rhwng mis Hydref a mis Ionawr 2018 ac ystyriwyd profiadau menywod yng Nghymru, y data ar gyfer Cymru a oedd i'w cael ar y pryd, a barn rheoleiddwyr dyfeisiau meddygol a llywodraethau'r DU a ledled y byd.   Ystyriodd y grŵp yn fanwl y gofal a roddir ar hyn o bryd i fenywod sydd ag ymataliaeth wrinol sy'n gysylltiedig â straen neu brolaps organau'r pelfis yng Nghymru. Mae’r grŵp wedi gwneud amryw o argymhellion sut y gellid gwella'r gofal hwn, yn arbennig o safbwynt strategaethau ataliol a rheoli ceidwadol yn y gymuned gan gynnig llawdriniaeth i glaf fel opsiwn pan fetho popeth arall. Mae'r grŵp hefyd wedi cynghori ar drefniadau cymorth a gofal ar gyfer y rheini sydd â phroblemau ar ôl iddynt gael llawdriniaeth. Cydnabyddir hefyd fod angen gwella'r ffordd y mae data ar y triniaethau hyn yn cael eu casglu. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth well am y triniaethau sy'n cael eu rhoi, ac am y dyfeisiau a ddefnyddir ac adrodd ar unrhyw gymhlethdodau. Rhoddwyd cyngor hefyd ar yr wybodaeth sydd ei hangen ar gleifion i wella'r penderfyniadau clinigol sy'n cael eu gwneud a sicrhau bod y broses gydsynio yn fwy cadarn, ac yn seiliedig ar roi'r holl ffeithiau i gleifion. Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar ddydd Mawrth nesaf, 8 Mai. Yn y datganiad hwnnw, byddaf yn trafod canfyddiadau allweddol yr adroddiad a'r camau gweithredu yr wyf i o’r farn y bydd angen eu cymryd i weithredu'r argymhellion.
https://www.gov.wales/written-statement-report-welsh-task-and-finish-group-review-use-vaginal-synthetic-mesh-tape-and
Today we publish our latest Brexit policy paper, Reforming UK funding and fiscal arrangements after Brexit. Brexit will have an impact on every nation and region of the UK and we must consider how the UK will function outside the EU. This includes establishing how the UK's funding and fiscal arrangements will evolve to meet the new circumstances and challenges, to provide clarity for businesses and communities and, above all, to build confidence for the future. Brexit provides an opportunity to design a new funding mechanism which will guarantee fair and continuing investment where it is needed, in Wales and in the rest of the UK. This should also help clarify important aspects of the UK's future relationship with EU networks, including continued access to the finance and expertise available from the European Investment Bank. We also set out again our position that Wales must not lose a penny of funding due to Brexit, with the UK Government replacing EU funding without any top slicing or conditions attached. This document is the latest in our series that sets out detailed proposals for Brexit that have been designed to make a constructive debate about the UK’s future outside the EU. It makes the case for a Brexit which would secure the interests of Wales, and argues for a pragmatic and balanced approach which would deliver a robust funding solution to serve the UK for many decades to come. ### Documents * #### Reforming UK funding and fiscal arrangements after Brexit, file type: pdf, file size: 199 KB 199 KB
Heddiw rydym yn cyhoeddi ein papur polisi Brexit diweddaraf, Diwygio trefniadau ariannu a chodi cyllid y DU ar ôl Brexit. Bydd Brexit yn effeithio ar bob gwlad a rhanbarth yn  y DU ac mae'n rhaid i ni ystyried sut y bydd y DU yn gweithredu y tu allan i'r UE. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau sut y bydd trefniadau ariannu a chodi cyllid y DU yn esblygu i ymateb i'r amgylchiadau a'r heriau newydd, i ddarparu eglurder i fusnesau a chymunedau ac, yn anad dim, codi hyder ar gyfer y dyfodol. Mae Brexit yn cynnig cyfle i lunio system ariannu newydd a fydd yn gwarantu buddsoddiad teg a pharhaus lle bo'i angen, yng Nghymru ac yng ngweddill y DU. Dylai hyn hefyd helpu i egluro agweddau pwysig o berthynas y DU yn y dyfodol â rhwydweithiau'r UE, gan gynnwys parhau i gael mynediad at gyllid ac arbenigedd Banc Buddsoddi Ewrop. Rydym yn dweud unwaith eto na ddylai Cymru golli ceiniog o gyllid yn sgil Brexit, ac y dylai Llywodraeth y DU wneud yn iawn am unrhyw gyllid yr UE sy'n cael ei golli heb unrhyw amodau na chymryd cyfran ei hun. Y ddogfen hon yw'r ddiweddaraf yn ein cyfres sy'n gosod cynigion manwl ar gyfer Brexit, gyda'r nod o gyfrannu'n adeiladol i'r drafodaeth am ddyfodol y DU y tu allan i'r UE. Mae'n gosod yr achos dros Brexit a fyddai'n diogelu buddiannau Cymru, ac yn dadlau dros ymagwedd bragmataidd a chytbwys a fyddai'n cynnig system ariannu gadarn i wasanaethu'r DU am sawl degawd i ddod. ### Dogfennau * #### Diwygio trefniadau ariannu a chodi cyllid y DU ar ôl Brexit, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 204 KB 204 KB
https://www.gov.wales/written-statement-reforming-uk-fiscal-and-funding-arrangements-after-brexit
On 22 May 2018, Kirsty Williams, Cabinet Secretary for Education made an oral statement in the Siambr on: Relationships and Sexuality Education (external link).
Ar 22 Mai 2018, gwnaeth y Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-relationships-and-sexuality-education
On 19 December 2017, Regeneration Investment Fund for Wales LLP issued legal proceedings in the Business and Property Courts in Wales for breach of contract and professional negligence against Amber Fund Management and Lambert Smith Hampton Group Limited in connection with the sale of parcels of publically owned land to South Wales Land Developments Limited in 2012\. John Whiting QC of One Crown Office Row and Peter Ratcliffe of 3 Verulam Buildings are representing Regeneration Investment Fund for Wales LLP instructed by Geldards LLP. The papers have now been served on the relevant parties. I will make further statements in due course.  
Ar 19 Rhagfyr 2017, gwnaeth Regeneration Investment Fund for Wales LLP ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn Amber Fund Management a Lambert Smith Hampton Group Limited yn Llysoedd Busnes ac Eiddo Cymru am dorri contract ac esgeuluster proffesiynol . Roedd hyn yn ymwneud â gwerthu parseli o dir sy’n eiddo i’r cyhoedd i South Wales Land Developments Limited yn 2012\. Mae John Whiting CF o One Crown Office Row a Peter Ratcliffe o 3 Verulam Buildings yn cynrychioli Regeneration Investment Fund for Wales LLP ac fe’u cyfarwyddir gan Geldards LLP. Mae’r papurau wedi eu cyflwyno i’r partïon perthnasol. Byddaf yn gwneud datganiadau pellach maes o law.  
https://www.gov.wales/written-statement-regeneration-investment-fund-wales-legal-proceedings
On 6 November 2018, the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services made an Oral Statement in the Siambr on: The Valleys Regional Park (external link).
Ar 6 Tachwedd 2018, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Datganiad Llafar yn y Siambr ar: Cofio ein Lluoedd Arfog a Chyflawni ar gyfer Cymuned ein Lluoedd Arfog (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-remembering-our-armed-forces-and-delivering-our-armed-forces-community
The Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure 2011 placed a duty on Welsh Ministers, not only to have due regard to children’s rights when making decisions about new or existing legislation and policies, but also to publish a report on how they and the First Minister have complied with the duty.  These arrangements were detailed in our Children’s Rights Scheme which was approved by Assembly Members in  2014\. I am pleased to publish the third report on our compliance arrangements as set out in our Children’s Rights Scheme. The report shows how, during the last two and a half years, we have had due regard to children’s rights when developing or reviewing policy and legislation.  It also covers some of our wider work related to children’s rights and promoting awareness of them outside of our own organisation. To demonstrate the Welsh Government’s ongoing commitment to children’s rights and encourage other public bodies to make use of the framework, we have structured the Compliance Report around the five principles highlighted in the Children’s Commissioner for Wales guide The Right Way: A Children’s Rights Approach in Wales.   The current Children’s Rights Scheme reflects the arrangements which were in place in 2014 to implement the Measure. I believe it is now time to reflect on the progress we’ve made on children’s rights and bring it up to date.  We will give full consideration to this over the coming months, in consultation with children and young people, the Children’s Commissioner for Wales and other stakeholder groups, before proposing any changes or seeking the National Assembly for Wales’ approval.  Our aim will be to complete this work by the end of 2018\.    
Gosodwyd dyletswydd ar Weinidogion Cymru gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 nid yn unig i roi sylw dyledus i hawliau plant wrth wneud penderfyniadau am ddeddfwriaeth a pholisïau newydd neu ddeddfwriaeth a pholisïau sydd eisoes yn bodoli, ond hefyd i gyhoeddi adroddiad ar yr hyn a wnaed ganddynt hwy a'r Prif Weinidog i gydymffurfio â'r ddyletswydd. Cafodd y trefniadau hyn eu hamlinellu yn y Cynllun Hawliau Plant a gymeradwywyd gan Aelodau’r Cynulliad yn 2014\. Mae'n dda gen i gyhoeddi'r trydydd adroddiad ar ein trefniadau cydymffurfio fel y nodwyd yn y Cynllun Hawliau Plant. Yn ôl yr adroddiad, yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf, rydym wedi rhoi sylw dyledus i hawliau plant wrth ddatblygu neu adolygu polisi a deddfwriaeth.  Mae hefyd yn ymwneud â'n gwaith ehangach yn gysylltiedig â hawliau plant a hybu ymwybyddiaeth amdanynt y tu allan i'n sefydliad ni. I ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant ac i annog cyrff cyhoeddus eraill i ddefnyddio'r fframwaith, rydym wedi strwythuro'r Adroddiad Cydymffurfedd o gwmpas y pum egwyddor a nodwyd yng nghanllawiau'r Comisiynydd Plant sef Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru.   Mae'r Cynllun Hawliau Plant presennol yn adlewyrchu'r trefniadau oedd yn eu lle yn 2014 i roi'r Mesur ar waith. Credaf ei bod hi'n bryd erbyn hyn i edrych ar yr hyn a wnaed gennym mewn perthynas â hawliau plant a'i ddiweddaru.  Byddwn yn ystyried yn llawn yn ystod y misoedd sydd i ddod, drwy ymgynghori â phlant a phobl ifanc, Comisiynydd Plant Cymru a grwpiau rhanddeiliaid eraill, cyn cynnig unrhyw newidiadau neu ofyn am gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  Ein nod yw cwblhau'r gwaith erbyn diwedd 2018\.
https://www.gov.wales/written-statement-report-compliance-duty-under-section-1-rights-children-and-young-persons-wales
Today, I publish the summary of responses to our consultation on the removal of the sanction of imprisonment for the non\-payment of council tax. I am also announcing my intention to bring forward the legislation to ensure that, from 1 April 2019, it will no longer be possible to start proceedings to commit an individual to prison for council tax debt. The payment of council tax is vital to maintaining the local services which we all rely upon every day. However, it is also right that those who are less able to contribute are treated fairly and with dignity. The sanction of imprisonment is an outdated and disproportionate response to a civil debt issue. The additional costs associated with the committal process and with imprisoning someone for non\-payment of council tax; the failure of imprisonment to address the underlying causes of the debt and the impact on the future and wellbeing of those who are sent to prison and those closest to them can no longer be left unchallenged. The sanction of imprisonment was introduced as a mechanism for compelling the payment of council tax rather than for punishing non\-payment. The Welsh Government’s consultation received 188 responses from a wide range of stakeholders. A substantial majority responded in favour of our proposals. In response to the consultation, local authorities asked for additional measures to help them to maintain collection rates. We are committed to working with local authorities to monitor the implementation of the change to the legislation and will consider the introduction of new measures if necessary. However, as a first step, I know that local authorities will want to examine their approaches  to the collection of council tax and share good practice. There is little evidence of a relationship between the use of the committal process and collection rates while there is growing evidence that collection levels and arrears are best managed through early engagement with citizens. My ambition is that removing the sanction of imprisonment, and the threat of it, for the non\-payment of council tax will help to promote earlier engagement between citizens and local authorities when issues arise, and encourage a more constructive dialogue. The Welsh Government is committed to working with local authorities to make council tax fairer in Wales. Today’s announcement marks an important milestone in these efforts. The summary of consultation responses is available at: https://beta.gov.wales/removal\-sanction\-imprisonment\-non\-payment\-council\-tax  
Heddiw rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’n hymgynghoriad ar ddileu’r gosb o garchar am beidio â thalu treth gyngor. Rwyf hefyd yn cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno deddfwriaeth i wneud yn siŵr na fydd yn bosibl, o fis Ebrill 2019, cychwyn achos i draddodi unigolyn i garchar oherwydd dyled treth gyngor. Mae talu treth gyngor yn hanfodol er mwy cynnal y gwasanaethau cyhoeddus yr ydyn ni i gyd yn dibynnu arnynt bob dydd. Fodd bynnag, mae’n iawn hefyd bod y rhai sy’n llai abl i gyfrannu yn cael eu trin yn deg a chydag urddas. Mae cosbi drwy garcharu yn ymateb hen\-ffasiwn ac anghymesur i fater dyled sifil. Mae’r costau ychwanegol sy’n deillio o’r broses draddodi ac o anfon rhywun i’r carchar am beidio â thalu’r dreth gyngor; methiant y ddedfryd o garchar i fynd i’r afael ag achosion gwaelodol y ddyled, a’r effaith ar ddyfodol a llesiant y sawl sy’n cael ei garcharu a’i anwyliaid, yn golygu bellach nad oes modd i’r mater hwn gael ei adael heb ei herio.   Derbyniodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 188 o ymatebion oddi wrth ystod eang o randdeiliaid. Roedd mwyafrif helaeth y rhai a ymatebodd yn cefnogi ein cynigion. Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, gofynnodd yr awdurdodau lleol am fesurau ychwanegol i’w helpu i gynnal eu cyfraddau casglu. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â’r awdurdodau lleol i fonitro’r gwaith o newid y ddeddfwriaeth a byddaf yn ystyried cyflwyno mesurau newydd os bydd angen. Fodd bynnag, fel cam gyntaf, rwy’n gwybod y bydd yr awdurdodau lleol am edrych eto ar eu dulliau o fynd at i gasglu’r dreth gyngor, a rhannu arferion da. Ychydig o dystiolaeth sydd bod perthynas rhwng defnyddio’r broses draddodi a chyfraddau casglu, ond mae mwy a mwy o dystiolaeth mai’r ffordd orau o reoli lefelau casglu ac ôl\-ddyledion yw drwy ymgysylltu’n gynnar â dinasyddion. Fy nghobaith i yw y bydd dileu’r gosb o garchar, a’r bygythiad o gosb, am beidio â thalu’r dreth gyngor yn helpu i sicrhau bod ymgysylltu cynt rhwng dinasyddion ac awdurdodau lleol pan fydd materion yn codi, ac y bydd deialog fwy cadarnhaol yn digwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’r awdurdodau lleol i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn garreg filltir bwysig yn yr ymdrechion hynny. Mae’r crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yn: https://beta.llyw.cymru/dileur\-gosb\-o\-garchar\-am\-beidio\-thalu\-treth\-gyngor  
https://www.gov.wales/written-statement-removal-sanction-imprisonment-non-payment-council-tax
I have today accepted the resignation of the Chair of Natural Resources Wales (NRW).  This is an appropriate response in the light of the recent WAO report which qualifies the accounts for the third time, and the concerns and criticisms from all parties in the Assembly.  I have written to thank Diane McCrea for her service.   I will be appointing an interim Chair of the NRW Board, while I undertake a recruitment process for a new Chair. We are currently undertaking a planned recruitment of five new Board Members. Together the new Chair and Board Members will be part of the new leadership moving the organisation forward, with an emphasis on ensuring good governance whilst delivering its regulatory and environmental objectives. I regularly meet committed and professional people who work for NRW, building flood defences, protecting rare species, improving the quality of our rivers or regulating our major industries.  They work tirelessly to protect and enhance Wales’ precious natural environment. The Chief Executive is taking the WAO’s concerns seriously, which is recognised in the report, and implementing the changes necessary to have a delivery organisation with strong governance.  To help with this, a senior member of Welsh Government staff will be seconded to NRW.  This will allow NRW to continue to build its important role in protecting and enhancing the environment in Wales.
Rwyf wedi derbyn ymddiswyddiad Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw. Mae’n ymateb priodol yng ngoleuni adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru sy'n amodi'r cyfrifon am y trydydd tro ac yng ngoleuni pryderon a beirniadaeth gan bob plaid yn y Cynulliad. Rwyf wedi ysgrifennu at Diane McCrea i ddiolch iddi am ei gwasanaeth. Byddaf yn penodi Cadeirydd dros dro ar Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru tra byddaf yn cynnal proses i benodi Cadeirydd newydd. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn cynnal proses a gynlluniwyd i benodi pum aelod newydd i'r Bwrdd. Gyda'i gilydd, bydd y Cadeirydd ac Aelodau’r Bwrdd yn rhan o dîm newydd a fydd yn arwain ac yn symud y sefydliad yn ei flaen, gan roi pwyslais ar sicrhau llywodraethiant da wrth gyflawni amcanion y sefydliad o ran rheoleiddio a’r amgylchedd. Rwyf yn cyfarfod yn rheolaidd â phobl ymroddedig a phroffesiynol sy’n gweithio i CNC, yn adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd, yn gwarchod rhywogaethau prin, yn gwella ansawdd ein hafonydd neu’n rheoleiddio’n diwydiannau mawr. Maent yn gweithio’n ddiflino i warchod ac i wella amgylchedd naturiol gwerthfawr Cymru. Mae’r Prif Weithredwr yn cymryd pryderon Swyddfa Archwilio Cymru o ddifrif, fel sy'n cael ei gydnabod yn yr adroddiad, ac mae’n rhoi’r newidiadau angenrheidiol ar waith i sicrhau sefydliad cyflenwi sy’n arddel llywodraethiant cryf. I helpu yn hynny o beth, bydd aelod o staff uwch Llywodraeth Cymru yn cael ei secondio i CNC. Bydd hynny’n caniatáu i CNC barhau i ddatblygu’r rôl bwysig sydd ganddo o ran diogelu a gwella’r amgylchedd yng Nghymru.
https://www.gov.wales/written-statement-resignation-chair-natural-resources-wales
The Economic Action Plan we published in December made very clear that future proofing the Welsh economy for the challenges and opportunities facing it over the coming years should be at the heart of our work as a government. It outlined our ambition to work across departmental silos and with social partners to build a fair work nation and economy, fit for the future. The plan identifies the pace and the scale of the changes facing Wales in the fourth industrial age, committing us to harness its potential and manage its threats through a new, whole\-government approach to economic development.  The Economic Action Plan identifies the close synergy between automation, artificial intelligence and other forms of digitalisation as well as the transformative effect these emerging fields are likely to have on the Welsh economy and the structure of our future labour market. I am keen to ensure that Wales is best placed to capitalise on the next phase of digital innovation in a co\-ordinated and effective way.  In line with the ambition of the Economic Action Plan I want us to prepare for what’s coming by future\-proofing the skills of our workforce but also going beyond and supporting new employment opportunities, underpinning grassroots innovation within businesses and examining the impact on our wider public services. I want to explore how technological change can enable shared prosperity across Wales, building inclusive communities and support our plans for regional economic development. That is why alongside my Cabinet colleagues, the Cabinet Secretary for Education and the Leader of the House and Chief Whip as well as the Minister for Welsh Language and Lifelong Learning, I have agreed that Professor Phil Brown, Distinguished Research Professor at Cardiff University School of Social Sciences, should lead a review into Digital Innovation, including Artificial Intelligence and Automation in the context of the Economic Action Plan. Given the cross\-government nature of the work I will be finalising terms of reference for the review in the coming weeks that can shape the evidence gathering, analysis and final recommendations. The review will take an international perspective of digital innovation and examine what Wales can learn from other countries and explore how, working together, we can respond positively to areas of challenge. It will work closely with the Digital and Data Group being led by my colleague the Leader of the House, Julie James, examining the opportunities of big data as well as the digital opportunities in public service delivery. Through working with the centres of excellence that exist in our higher and further education institutions I believe that we can harness the transformational power of data to improve services and our economy. I have asked that the review reflects on the Welsh Government’s National Strategy: Prosperity for All and the our new Economic Action Plan as well as the well\-being goals and ways of working referenced within the Well\-being of Future Generations Act (Wales) 2015\. I will work closely with social partners and expect the review to engage intelligently with stakeholders across the country and with international experts across the globe to shape a report for us here in Wales. I will write to Assembly Members when the terms of reference have been finalised and I expect to receive an interim report later this year with a final report in the first quarter of 2019\. The review will report into the work of the new Ministerial Advisory Board which I will be establishing shortly. *This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.*    
Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf, yn ei gwneud yn glir bod paratoi'r economi Cymru ar gyfer heriau a chyfleoedd y dyfodol yn rhan ganolog o'n gwaith fel llywodraeth. Mae'n disgrifio'n huchelgais i weithio ar draws adrannau a chyda'n partneriaid cymdeithasol i adeiladu gwlad ac economi sy'n cynnig gwaith teg ac sy'n barod at y dyfodol. Mae'r cynllun yn enwi maint a chyflymder y newidiadau sy'n wynebu Cymru yn ei phedwaredd oes ddiwydiannol ac mae'n ein hymrwymo i harneisio potensial yr oes a rheoli'i bygythiadau trwy weithio mewn ffordd newydd ar lefel llywodraeth gyfan i ddatblygu'r economi. Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn dangos y synergedd agos rhwng awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial a mathau eraill o ddigideiddio, yn ogystal â'r effaith drawsnewidiol y bydd y meysydd newydd hyn yn debygol o'i chael ar economi Cymru ac adeiladwaith y farchnad lafur yn y dyfodol. Rwy'n awyddus i wneud yn siŵr bod Cymru mewn lle da i elwa mewn ffordd gydgysylltiedig ac effeithiol ar gam nesa arloesedd digidol. Yn unol ag uchelgais y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, rwyf am inni baratoi at yr hyn ddaw trwy sicrhau bod gan ein gweithwyr y sgiliau y bydd eu hangen arnynt, a hefyd trwy gefnogi cyfleoedd gwaith newydd, helpu busnesau ar lawr gwlad i arloesi ac ystyried yr effeithiau ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Rwyf am weld sut y gall newid technolegol ein galluogi i rannu ffyniant ar draws Cymru, adeiladu cymunedau cynhwysol a chefnogi'n cynlluniau i ddatblygu economïau'r rhanbarthau. Dyna pam rwyf i a'm cydweithwyr yn y Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip yn ogystal â Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi cytuno y dylai'r Athro Phil Brown, Athro Ymchwil uchel ei barch yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, arwain adolygiad o Arloesedd Digidol, gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomatiaeth, yng nghyd\-destun y Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Gan gadw natur drawslywodraethol y gwaith mewn cof, byddaf yn cytuno ar gylch gorchwyl yn yr wythnosau i ddod all llywio'r ffordd y caiff y dystiolaeth ei chasglu, y gwaith dadansoddi a'r argymhellion. Bydd yr adolygiad yn ystyried arloesi digidol o safbwynt rhyngwladol a hefyd yn pwyso a mesur yr hyn y gall Cymru ei ddysgu gan wledydd eraill. Hoffwn iddo hefyd ystyried sut y gallwn ymateb yn bositif i heriau drwy gydweithio. Bydd yn cydweithio'n agos â Grŵp Digidol a Data Llywodraeth Cymru o dan arweiniad fy nghydweinidog, Arweinydd y Tŷ sef Julie James, er mwyn ystyried y cyfleoedd a gynigir gan ddata mawr a hefyd y cyfleoedd digidol a ddaw wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.   Trwy weithio â chanolfannau rhagoriaeth yn ein sefydliadau addysg bellach ac uwch, rwy'n credu y gallwn harneisio grym data i drawsnewid er mwyn gwella gwasanaethau a'n heconomi. Rwyf wedi gofyn bod yr adolygiad yn adlewyrchu Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb a'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi newydd a hefyd y nodau llesiant a'r dulliau gweithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015\. Byddaf yn gweithio'n glos â phartneriaid cymdeithasol ac yn disgwyl i'r adolygiad gydweithio mewn ffordd ddeallus â rhanddeiliaid ledled y wlad a chydag arbenigwyr rhyngwladol o bedwar ban i baratoi adroddiad ar ein cyfer ni yma yng Nghymru. Byddaf yn ysgrifennu at Aelodau'r Cynulliad pan fydd y cylch gorchwyl yn barod ac rwyf wedi gofyn am gael adroddiad interim yn diweddarach eleni a'r adroddiad terfynol yn chwarter cyntaf 2019\. Byddaf yn sefydlu Bwrdd Cynghori Gweinidogion newydd cyn hir a bydd gofyn i'r adolygiad ystyried hwnnw hefyd. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-review-digital-innovation-artificial-intelligence-and-automation-wales
Earlier this year I launched a 12 week public consultation on the Draft Legislation (Wales) Bill.  The Bill proposes imposing obligations on the Welsh Ministers and the Counsel General to make Welsh laws more accessible, and also makes bespoke provision about the interpretation of Welsh legislation. The consultation on the Draft Bill closed in early June and I am pleased to issue a summary of responses today. We received 20 written responses from across the UK from legal professionals, academics and law students, representative bodies, individuals and the third sector. We also had the opportunity to discuss our proposals at three stakeholder engagement events, including one organised by the Law Society Wales. I am grateful to everyone who responded to the consultation and generously shared their knowledge and experience. I was pleased to see the significant support for the proposals to improve the accessibility of Welsh law. Stakeholders agree there is a need to take substantive action as soon as possible, whilst also recognising that the task of consolidating and codifying Welsh law will take a significant period of time. Respondents consider the proposed duty is necessary to support this work, to bring about real and meaningful change, and to ensure that successive Governments are accountable for improving access to the law. Respondents also welcomed the impact the proposals would have on increasing the availability of laws applicable in Wales in the Welsh language and the enhancement of the use of the Welsh language as a language of law. I have also found the responses particularly helpful in identifying areas where it will be important to maintain some consistency with the existing arrangements for statutory interpretation of the law, and where there are opportunities for innovation by making changes to better reflect Wales’ constitution. In line with my programme for improving the accessibility of Welsh law, I am keen to provide clarity and certainty for users of Welsh legislation so that they can access and use it with confidence. The consultation responses represent a valuable source of views, information and ideas which will inform the development of the legislative proposals in the Bill for introduction into the National Assembly later this year. The summary of the consultation responses is available here: https://beta.llyw.cymru/y\-bil\-deddfwriaeth\-cymru\-drafft https://beta.gov.wales/draft\-legislation\-wales\-bill This statement is being issued during recess in order to keep Members informed. Should Members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Yn gynharach eleni lansiais ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) Drafft. Mae’r Bil yn cynnig gosod rhwymedigaethau ar Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol i wneud cyfreithiau Cymru yn fwy hygyrch, ac yn gwneud darpariaeth bwrpasol ynghylch dehongli deddfwriaeth Cymru. Daeth yr ymgynghoriad ar y Bil Drafft i ben ddechrau mis Mehefin ac rwy’n falch o allu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion heddiw. Derbyniwyd 20 o ymatebion ysgrifenedig o wahanol rannau o’r DU oddi wrth rai sy’n gweithio’r broffesiynol ym maes y gyfraith, ynghyd ag academyddion a myfyrwyr y gyfraith, cyrff cynrychioliadol, unigolion a’r trydydd sector. Cawsom gyfle hefyd i drafod ein cynigion mewn tri digwyddiad a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys un a drefnwyd gan Gymdeithas y Gyfraith yng Ngymru. Rwy’n ddiolchgar i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad ac a rannodd yn hael o’u gwybodaeth a’u profiad.   Roeddwn yn falch o weld y gefnogaeth sylweddol i’r cynigion i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae rhanddeiliaid yn cytuno bod angen cymryd camau pendant cyn gynted â phosibl, gan gydnabod hefyd y bydd y dasg o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru yn cymryd cryn dipyn o amser. Roedd yr ymatebwyr o’r farn bod y ddyletswydd arfaethedig yn angenrheidiol er mwyn cefnogi’r gwaith hwn, a hynny er mwyn sicrhau newid gwirioneddol ac ystyrlon a sicrhau bod Llywodraethau olynol yn atebol am wella mynediad at y gyfraith. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn croesawu’r effaith y byddai’r cynigion yn eu cael o ran sicrhau bod rhagor o gyfreithiau sy’n gymwys yng Nghymru ar gael yn Gymraeg ac o ran cryfhau’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith y gyfraith. Rwy’n teimlo hefyd bod yr ymatebion yn arbennig o ddefnyddiol o safbwynt nodi meysydd lle bydd yn bwysig cynnal peth cysondeb â’r trefniadau presennol ar gyfer dehongli’r gyfraith yn statudol, a lle mae cyfle i arloesi drwy wneud newidiadau er mwyn adlewyrchu cyfansoddiad Cymru yn well. Yn unol â’m rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, rwy’n awyddus i roi eglurder a sicrwydd i’r rhai sy’n defnyddio deddfwriaeth Cymru, fel y gallant gael gafael arni a’i defnyddio’n hyderus. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn ffynhonnell werthfawr o safbwyntiau, gwybodaeth a syniadau a fydd o gymorth i lywio datblygiad y cynigion deddfwriaethol yn y Bil cyn iddo gael ei gyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ddiweddarach eleni. Mae’r crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yma: https://beta.llyw.cymru/y\-bil\-deddfwriaeth\-cymru\-drafft https://beta.gov.wales/draft\-legislation\-wales\-bill Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-responses-draft-legislation-wales-bill-consultation
I am pleased to lay before the Assembly today, the third annual report on the Welsh Government’s implementation of Law Commission proposals.   Under Section 3C of the Law Commissions Act 1965, as inserted by Section 25 of the Wales Act 2014, the Welsh Ministers are required to report annually on the extent to which Law Commission proposals relating to Welsh devolved matters have been implemented. This report covers the period from 17 February 2017 to 16 February 2018, and provides an update on the work of the Welsh Government in relation to Law Commission proposals. These including those contained in the report on the Form and Accessibility of the Law Applicable in Wales. I also look forward to the outcome of other Law Commission reviews that relate to Welsh devolved matters, including the project relating to planning law in Wales. The Welsh Government regards the proposals of the Law Commission with great importance, which is demonstrated by the progress set out in the report.  
Rwy'n falch o osod gerbron y Cynulliad heddiw y trydydd adroddiad blynyddol ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith gan Lywodraeth Cymru.   Yn unol ag Adran 3C o Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965, fel y’i mewnosodwyd gan Adran 25 o Ddeddf Cymru 2014, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol gan egluro i ba raddau y mae cynigion Comisiwn y Gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig yng Nghymru wedi cael eu gweithredu. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r cyfnod o 17 Chwefror 2017 i 16 Chwefror 2018, ac mae'n rhoi diweddariad ar waith Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion Comisiwn y Gyfraith. Mae'r rhain yn cynnwys y rheini sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ar Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru. Edrychaf ymlaen hefyd at ganlyniad adolygiadau eraill Comisiwn y Gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig yng Nghymru, gan gynnwys y prosiect sy'n gysylltiedig â'r gyfraith gynllunio yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer o bwys ar gynigion Comisiwn y Gyfraith, ac mae hyn yn amlwg yn y cynnydd a ddisgrifir yn yr adroddiad.
https://www.gov.wales/written-statement-report-implementation-law-commission-proposals
  In September, I announced that I had appointed Professor Harvey Weingarten to undertake a Review of Systems for Monitoring and Improving the Effectiveness of Post\-compulsory Education in Wales.  With his background, experience and expertise and independence from the Welsh education sector, Professor Weingarten was well\-placed to undertake a review of this kind for the Welsh Government.   Professor Weingarten has now produced his report, which recognises the fragmentation of the current system for performance monitoring, and adds further weight to the case for change.  He has presented a report which recognises our shared national objectives, set within international innovation and best practice on improved system performance.  We will now take the time to give careful consideration to the 10 recommendations in the report, which must be seen in the context of our ongoing development of systems for monitoring and supporting the post\-compulsory education system in Wales.   Professor Weingarten’s review has given us some really valuable input to help support the longer term reform of post\-compulsory education and training in Wales, which includes the current technical consultation on the creation of a new Tertiary and Education and Research Commission for Wales.   The report is available on the Welsh Government website: **https://gov.wales/topics/educationandskills/highereducation/reviews/review\-of\-systems\-for\-monitoring\-and\-improving\-the\-effectiveness\-of\-post\-compulsory\-education\-in\-wales/?lang\=en**      
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi penodi'r Athro Harvey Weingarten i gynnal Adolygiad o Systemau Monitro a Gwella Effeithiolrwydd Addysg Ôl\-orfodol yng Nghymru. Gyda'i gefndir, ei brofiad a'i arbenigedd, ynghyd â'i annibyniaeth ar y sector addysg Cymru, roedd yr Athro Weingarten mewn sefyllfa unigryw i gynnal yr adolygiad hwn ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae'r Athro Weingarten bellach wedi llunio ei adroddiad, sy'n cydnabod natur dameidiog y system bresennol ar gyfer monitro perfformiad, ac yn cryfhau’r achos dros newid. Mae wedi cyflwyno adroddiad sy’n cydnabod ein hamcanion cenedlaethol cyffredin, a bennwyd ar sail arloesi rhyngwladol ac arfer gorau o ran gwella perfformiad systemau. Byddwn yn mynd ati nawr i roi ystyriaeth ofalus i'r 10 argymhelliad yn yr adroddiad, a hynny yng nghyd\-destun ein gwaith parhaus i ddatblygu systemau ar gyfer monitro a chefnogi'r system addysg ôl\-orfodol yng Nghymru. Mae adolygiad yr Athro Weingarten yn gyfraniad gwerthfawr at ein gwaith mwy hirdymor i ddiwygio addysg a hyfforddiant ôl\-orfodol yng Nghymru, sy'n cynnwys yr ymgynghoriad technegol cyfredol ar greu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i Gymru.   Mae'r adroddiad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://gov.wales/topics/educationandskills/highereducation/reviews/review\-of\-systems\-for\-monitoring\-and\-improving\-the\-effectiveness\-of\-post\-compulsory\-education\-in\-wales/?skip\=1\&lang\=cy 
https://www.gov.wales/written-statement-review-systems-monitoring-and-improving-effectiveness-post-compulsory-education
On 30 January 2018, Kirsty Williams, Cabinet Secretary for Education made an Oral Statement in the Siambr on: Securing the Right to a Suitable Education for All Children (external link).
Ar 30 Ionawr 2018, gwnaeth y Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Diogelu’r Hawl i Addysg Addas i bob Plentyn (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-securing-right-suitable-education-all-children
Today, I am launching a consultation on the Welsh Government’s proposals for revised eligibility criteria for free school meals in Wales. It is necessary that we consult as a result of the UK Government’s introduction of Universal Credit as part of their welfare benefit changes. We remain deeply concerned about the fundamental flaws of Universal Credit and we are extremely disappointed that the UK Government is persisting with its roll out, despite ours and others call on them to halt the roll out and address these issues. At present, eligibility for free school meals is based on receipt of one of a range of welfare benefits, which are being replaced by Universal Credit. Universal Credit is currently being rolled out across Wales. The Department for Work and Pensions’ latest published timetable indicates a gradual expansion of Universal Credit to jobcentres across Wales, with the rollout in respect of new claimants due to complete in Wales by December 2018\. Some families already in receipt of the welfare benefits which it will replace, and who have had a change in their circumstances, are already being migrated on to Universal Credit. All remaining claimants are currently expected to be migrated onto Universal Credit between 2019 and 2022, although, the Department for Work and Pension’s timetable is subject to change . As an interim measure, the Free School Lunches and Milk (Universal Credit) (Wales) Order 2013 came into force on 6 September 2013\. This extended the eligibility criteria for free school lunches and milk to include all families in receipt of Universal Credit, to ensure that families who might previously have been able to claim free school meals did not lose out.   Universal Credit will replace a number of “in work” benefits such as Working Tax Credit, receipt of which would not currently result in eligibility for free school meals. By the time Universal Credit is fully rolled out, we estimate that the free school meals caseload in Wales would treble under this extended eligibility criteria. This would mean that around half of all pupils would be eligible for free school meals compared to 16 per cent in January 2017\. It is important to be aware that no additional funding has been provided to the Welsh Government to manage the impact of the UK Government’s welfare benefit changes on free school meals. The Welsh Government is proposing to introduce an annualised net earned income threshold of £7,400 for Universal Credit claimants in January 2019\. An earned income threshold is the approach that is being taken in the other home nations. Depending on their individual circumstances, a typical family earning around £7,400 per annum would have a total household income of between £18,000 and £24,000 per annum once benefits are taken into account. We estimate that this threshold would increase the number of children benefitting from free school meals in Wales by around 3,000 by the time Universal Credit is currently expected to be fully rolled out in 2022\. There is a lot of uncertainty surrounding our estimates due to factors such as behavioural change. Our estimates are also subject to change as Universal Credit rollout plans, economic forecasts, and the underlying data used in our analysis, continue to be updated. Although the proposals have been carefully designed to ensure that the vast majority of children who now receive free school meals continue to receive them, there would be some who lose their entitlement. That is unacceptable, therefore the Welsh Government is proposing to include transitional protection measures which will protect families from losing entitlement to free school meals for a limited period of time, helping to avoid hardship by giving them more time to adjust. The earned income threshold and transitional protection proposals would mean the Welsh Government would be spending around an additional £10 million a year between 2019\-20 to 2022\-23 providing free school meals, according to our latest estimates – this is despite no additional funding being provided by the UK Government. This consultation is available at https:https://beta.gov.wales/eligibility\-free\-school\-meals and will close on 14 September 2018\. In taking this work forward, I want to engage openly and comprehensively and I look forward to comments from stakeholders.  
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer meini prawf cymhwysedd diwygiedig ar gyfer prydau ysgol am ddim yng Nghymru. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n ymgynghori ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno Credyd Cynhwysol fel rhan o’u newidiadau i’r budd\-daliadau lles. Rydym yn dal i bryderu’n fawr am wendidau sylfaenol Credyd Cynhwysol ac yn hynod siomedig bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o’i gyflwyno’n raddol, er gwaethaf ein galwadau taer ninnau ac eraill i atal y broses a mynd i’r afael â’r problemau hyn. Ar hyn o bryd, mae bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim yn seiliedig ar dderbyn un o’r llu o fudd\-daliadau lles, sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol. Mae Credyd Cynhwysol wrthi’n cael ei gyflwyno’n raddol ledled Cymru nawr. Mae amserlen gyhoeddedig ddiweddaraf yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos y bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno’n raddol i ganolfannau gwaith ledled Cymru, a disgwylir y bydd wedi gorffen cael ei gyflwyno i hawlwyr newydd yma yng Nghymru erbyn mis Rhagfyr 2018\. Mae rhai teuluoedd sydd eisoes yn derbyn y budd\-daliadau lles a ddisodlir gan y drefn newydd, ac y mae eu hamgylchiadau wedi newid, eisoes yn cael eu trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol. Disgwylir i’r holl hawlwyr eraill symud i’r drefn newydd rhwng 2019 a 2022 er ei bod yn bosibl y bydd amserlen yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid. Fel mesur dros dro, daeth Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2013 i rym ar 6 Medi 2013\. Roedd yn ymestyn y meini prawf cymhwysedd am giniawau ysgol a llaeth am ddim i gynnwys pob teulu sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, er mwyn sicrhau nad oedd teuluoedd a allai fod wedi hawlio prydau ysgol am ddim o’r blaen, ar eu colled. Bydd Credyd Cynhwysol yn cymryd lle nifer o fudd\-daliadau “mewn gwaith” fel y Credyd Treth Gwaith – nid yw’r rhai sy’n eu derbyn yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd. Erbyn i Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno’n llawn, rydym yn amcangyfrif y byddai’r llwyth achosion prydau ysgol am ddim yng Nghymru yn treblu dan y meini prawf cymhwysedd estynedig hyn. Felly, byddai hynny’n golygu bod tua hanner yr holl ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim o gymharu ag 16 y cant ym mis Ionawr 2017\. Mae’n bwysig cofio nad oes unrhyw gyllid ychwanegol wedi’i darparu i Lywodraeth Cymru reoli effaith newidiadau budd\-daliadau lles Llywodraeth y DU ar brydau ysgol am ddim. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno trothwy incwm blynyddol net a enillir o £7,400 ar gyfer hawlwyr Credyd Cynhwysol ym mis Ionawr 2019 Trothwy incwm a enillir yw’r dull sy’n cael ei ddefnyddio yng ngwledydd eraill y DU. Gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau unigol, byddai gan deulu arferol sy’n ennill tua £7,400 y flwyddyn gyfanswm incwm aelwyd o rhwng £18,000 a £24,000 y flwyddyn ar ôl cynnwys eu budd\-daliadau. Amcangyfrifwn y byddai’r trothwy hwn yn golygu bod tua 3,000 yn fwy o blant yn elwa ar brydau ysgol am ddim yng Nghymru erbyn y disgwylir ar hyn o bryd y bydd Credyd Cynhwysol ar waith yn llawn yn 2022\. Mae cryn ansicrwydd ynghylch ein hamcangyfrifon oherwydd ffactorau fel newid ymddygiadol. Hefyd, gall ein hamcangyfrifon newid wrth i gynlluniau cyflwyno Credyd Cynhwysol, rhagolygon economaidd, a’r data sylfaenol a ddefnyddir yn ein dadansoddiadau, barhau i gael eu diweddaru. Er bod y cynigion wedi’u cynllunio’n ofalus i sicrhau y bydd y mwyafrif helaeth o blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd yn parhau i’w derbyn, fe fydd rhai yn colli’r hawliad. Mae hyn yn annerbyniol, felly mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno mesurau amddiffyniad pontio a fydd yn diogelu teuluoedd rhag colli’r hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim am amser cyfyngedig, a’u helpu i osgoi caledi trwy roi rhagor o amser iddyn nhw addasu. Byddai’r cynigion trothwy incwm a enillir a’r amddiffyniad pontio yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn gwario tua £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn rhwng 2019\-20 a 2022\-23 er mwyn darparu prydau ysgol am ddim, yn ôl ein hamcangyfrifon diweddaraf – hyn er gwaetha’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU yn darparu unrhyw gyllid ychwanegol. Mae’r ymgynghoriad ar gael yn https:https://beta.llyw.cymru/meini\-prawf\-cymhwystra\-ar\-gyfer\-prydau\-ysgol\-am\-ddim a bydd yn gorffen ar 14 Medi 2018\. Wrth fwrw ymlaen â’r gwaith, hoffwn ymgysylltu’n agored a chynhwysfawr, ac edrychaf ymlaen at dderbyn eich sylwadau.
https://www.gov.wales/written-statement-revised-eligibility-criteria-free-school-meals-wales-due-rollout-universal-credit
As part of a range of information intended to support transparency in public affairs the Welsh Government publishes data annually on the levels of reserves held by local authorities.   1The levels of reserves held by Local Authorities in Wales are a matter for local elected members.  It is of course important for local electors and elected members to understand the local detail and authorities’ policies around setting and holding reserves. The information presented in this statement sets out wider comparative examples and trends over time. It is prudent to build up and hold reserves for specific purposes, including transforming services to meet the continuing financial pressures, which I recognise councils face.    There will always be a need for authorities to carry reserves for such things as insurance and PFI liabilities, which can be significant.  Slippage for certain types of projects can impact on the timing of drawing upon reserves.  The Welsh Government also carries reserve provision, in the context of expenditure allocations of £14\.5 billion and proportional to the range of risks the Government faces across all portfolios. Local Authorities are expected to set out, in a way that is clear and accessible to members of the public, how the level of general contingency reserve has been set and the detail of activities or items to be funded from each earmarked reserve. Reserves can only be used once.  The Welsh Government has continued to protect local authorities from the worst of the UK Government’s spending reductions and while there are specific circumstances for each authority, the evidence shows that in recent years, the levels of reserves held by some local authorities have continued to increase.  Authorities which increase levels of reserves need to explain how these financial decisions serve the best interests of their communities.  If reserves are held for budget contingencies against the risk of not delivering on planned service changes in order to meet budget pressures, authorities will need to consider whether their plans are realistic.   I believe that local authorities in Wales will wish to use their reserves strategically to drive forward the change required to deliver essential services to communities.  They will need to consider how to use available funds to work with others to deliver longer term efficiencies.  All authorities should continue to ensure that their reserves remain adequate for planned future needs and contingencies without placing undue constraints on current expenditure.  Local authorities with high levels of reserves relative to their spending should review the purposes for which these are held to ensure they are still required.  The purposes for holding reserves, particularly where they are increasing, should be communicated clearly through the annual accounts. The information attached contextualises authority’s reserves with reference to their annual spending so that standardised comparisons can be made between different size authorities and over time.  The annex also illustrates the variation and movement across authorities on the same basis for each authority at March 2011, 2016 \& 2018\.   The latest data available indicates that, at the end of March 2018, earmarked reserves for all local authorities in Wales amounted to £866 million.  These are reserves set aside for specific projects or purposes.    Authorities also hold non\-earmarked reserves to deal with unforeseen situations.  The balance of these reserves stood at £198 million at the end of March 2018\. The average of earmarked reserves as a percentage of expenditure in Wales at March 2018 was 12\.1% compared to 10\.9% at March 2011\.  Levels have increased by £122 million since March 2011; eleven authorities have seen a reduction over this period, eleven increased. Similarly the levels of unallocated reserves have increased by £41 million since March 2011\.  Five authorities reduced levels over the period but seventeen increased.  1https://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/whole\-government\-accounts/publications/whole\-government\-accounts\-reserves/?lang\=en\<?xml:namespace prefix \= "o" ns \= "urn:schemas\-microsoft\-com:office:office" /\>   ### Documents * #### Reserves Held by Local Authorities, file type: pdf, file size: 1 MB 1 MB
Fel rhan o gyfres o wybodaeth gyda'r bwriad o sicrhau tryloywder mewn materion cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data blynyddol ar lefelau'r cronfeydd a gedwir wrth gefn gan awdurdodau lleol.  1Mae lefelau'r cronfeydd a gedwir wrth gefn gan Awdurdodau Lleol Cymru yn fater i'r aelodau etholedig yn lleol.  Wrth gwrs, mae'n bwysig i etholwyr lleol ac aelodau etholedig ddeall manylion lleol a pholisïau awdurdodau ynghylch gosod a chadw cyllid wrth gefn. Mae'r wybodaeth yn y datganiad hwn yn gosod enghreifftiau ehangach a'r tueddiadau dros gyfnod o amser.   Mae'n synhwyrol adeiladu a chadw cronfeydd wrth gefn at ddibenion penodol, gan gynnwys trawsnewid gwasanaethau i ateb y pwysau ariannol parhaus rwy'n cydnabod y mae cynghorau'n ei wynebu. Bydd angen o hyd i awdurdodau gadw cronfeydd wrth gefn ar gyfer pethau fel yswiriant a rhwymedigaethau Mentrau Cyllid Preifat, a all fod yn sylweddol. Gall llithriadau ar gyfer mathau penodol o brosiectau effeithio ar amseriad tynnu o'r cronfeydd wrth gefn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cadw darpariaeth wrth gefn, yng nghyd\-destun dyraniadau gwariant o £14\.5 biliwn ac yn gymesur i'r amrywiaeth o beryglon sy'n wynebu'r Llywodraeth ar draws pob portffolio. Disgwylir i Awdurdodau Lleol amlinellu, mewn ffordd glir a hygyrch i'r cyhoedd, sut y gosodwyd lefel y cronfeydd hapddigwyddiadau cyffredinol a manylion am y gweithgareddau neu'r eitemau i'w hariannu o bob cronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi. Dim ond unwaith y gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i amddiffyn awdurdodau lleol rhag toriadau gwariant gwaethaf Llywodraeth y DU. Er bod pob awdurdod, wrth gwrs, yn wynebu amgylchiadau penodol, mae'r dystiolaeth yn dangos bod lefelau'r cronfeydd wrth gefn sy'n cael eu cadw gan rai awdurdodau lleol wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.  Rhaid i awdurdodau sy'n cynyddu lefelau eu cronfeydd wrth gefn egluro sut mae'r penderfyniadau ariannu hyn er budd eu cymunedau. Os yw'r cronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw rhag ofn na lwyddir i gyflawni newidiadau a gynlluniwyd i wasanaethau er mwyn ateb pwysau ar y gyllideb, bydd angen i awdurdodau ystyried a yw eu cynlluniau yn rai realistig.   Rwy'n credu y bydd awdurdodau lleol Cymru yn dymuno defnyddio eu cronfeydd wrth gefn mewn ffordd strategol i ysgogi'r newidiadau sy'n ofynnol i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau. Bydd angen iddynt ystyried sut i ddefnyddio'r cronfeydd sydd ar gael i gydweithio gydag eraill i sicrhau arbedion effeithlonrwydd tymor hir. Dylai pob awdurdod barhau i sicrhau bod eu cronfeydd wrth gefn yn ddigonol ar gyfer anghenion wedi'u cynllunio neu hapddigwyddiadau yn y dyfodol, heb osod cyfyngiadau gormodol ar wariant presennol. Dylai awdurdodau lleol sydd â lefelau uchel o gronfeydd wrth gefn o gymharu â'u gwariant adolygu'r dibenion ar gyfer eu cadw i sicrhau bod eu hangen o hyd. Dylai diben cadw cronfeydd wrth gefn gael ei gyfathrebu'n glir drwy'r cyfrifon blynyddol, yn arbennig os ydynt yn cynyddu. Mae'r wybodaeth sydd wedi'i hatodi yn rhoi cyd\-destun i gronfeydd wrth gefn yr awdurdodau gan gyfeirio at eu gwariant blynyddol fel bod modd cymharu rhwng awdurdodau o wahanol feintiau a dros gyfnod o amser. Mae'r atodiad hefyd yn dangos amrywiad a symudiad ar draws awdurdodau ar yr un sail ar gyfer pob awdurdod ym mis Mawrth 2011, 2016 a 2018\.   Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos, ar ddiwedd mis Mawrth 2018, bod cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi i bob awdurdod lleol yn £866 miliwn. Mae'r rhain yn gronfeydd a neilltuwyd ar gyfer prosiectau neu ddibenion penodol. Mae awdurdodau hefyd yn cadw cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi i fynd i'r afael â sefyllfaoedd na ellir eu rhagweld. Ar ddiwedd mis Mawrth 2018 roedd gweddill y cronfeydd hyn yn £198 miliwn. Cyfartaledd y cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi fel canran o wariant Cymru ym mis Mawrth 2018 oedd 12\.1% o gymharu â 10\.9% ym mis Mawrth 2011\. Gwelwyd cynnydd o £122 miliwn yn y lefelau ers mis Mawrth 2011; mae unarddeg awdurdod wedi gweld gostyngiad dros y cyfnod hwn a unarddeg wedi gweld cynnydd. Yn yr un modd, mae lefelau cronfeydd wrth gefn heb eu neilltuo wedi cynyddu £41 miliwn ers mis Mawrth 2011\. Gwelodd pump awdurdod lefelau is dros y cyfnod, ond gwelodd un deg saith lefelau uwch. 1https://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/whole\-government\-accounts/publications/whole\-government\-accounts\-reserves/?skip\=1\&lang\=cy   ### Dogfennau * #### Cronfeydd wrth Gefn a ddelir gan Awdurdodau Lleol, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 1 MB 1 MB
https://www.gov.wales/written-statement-reserves-held-local-authorities
I commissioned Equiventus Ltd. to review the Control of Horses (Wales) Act 2014 (the Act) on behalf of the Welsh Government, fulfilling the commitment made by the then Minister for Natural Resources and Food to do so within three years of the Act coming into force. The review was commissioned to consider whether the Act:   • is fit for purpose and Local Authorities who have used or are using the legislation are complying with the requirements of the Act; and • has resulted in benefits to communities across Wales as well as being in the best interests in welfare terms of the animals concerned. The Welsh Government acted quickly to introduce the Act in response to calls for urgent action by Local Authorities, equine charities and the Police to tackle the problem of fly grazing, straying and abandonment of horses and ponies across Wales.  The legislation provides Local Authorities in Wales with consistent legal powers to address issues connected with fly grazing. I am pleased the report finds:  ‘In the three years since the introduction of the Control of Horses (Wales) Act 2014 there is clear evidence to show a reduction in the number of horses reported and ultimately removed, due to fly grazing straying or abandonment’. The report further notes:  ‘The evidence available demonstrates the reduction in this behavior is attributed to a number of key factors: these include the swift introduction of the Act, an increase in education programmes for horse owners, the rise in public awareness of the potential problem and improved collaborative working across all stakeholders to address concerns’.   It is clear from the report’s findings, the Act has made a positive impact but this is not to say there is no room for improvement. I have asked my officials to provide the report and highlight the recommendations to all Local Authorities in Wales and those stakeholders who contributed to the process. I have also asked my officials to discuss the recommendations with members of the Animal Health and Welfare Framework Group with a view to establishing a partnership approach to the development of proposals to deliver on the report recommendations where change is considered appropriate.   I am grateful to Equiventus Ltd., for the time and expertise they brought to the review, and to all those who gave their time to contribute so readily to help inform the process. The formal Welsh Government response to the 14 recommendations made by Equiventus Ltd. is published on the Welsh Government website alongside the report.    http://gov.wales/topics/environmentcountryside/ahw/horses/control\-of\-horses\-wales\-act\-2014/?lang\=en
Comisiynais Equiventus Ltd i adolygu Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 (y Ddeddf) ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi ar waith yr ymrwymiad a wnaed gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar y pryd i gynnal adolygiad ymhen tair blynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym. Comisiynwyd yr adolygiad i ystyried a yw’r Ddeddf:   • yn addas i’r diben, ac a yw’r Awdurdodau Lleol sydd wedi defnyddio’r ddeddfwriaeth neu sy’n ei defnyddio ar hyn o bryd yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf; • wedi dod â manteision i gymunedau ledled Cymru yn ogystal â bod er lles gorau’r anifeiliaid dan sylw   Ymatebodd Llywodraeth Cymru’n gyflym i roi’r Ddeddf ar waith ar ôl i Awdurdodau Lleol, elusennau ceffylau a’r Heddlu alw am gamau brys i fynd i’r afael â phori anghyfreithlon a cheffylau a merlod yn crwydro ac yn cael eu gadael ledled Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau cyfreithiol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru fynd i’r afael â phori anghyfreithlon. Rwy’n falch o weld bod yr adroddiad yn nodi bod tystiolaeth glir yn dangos gostyngiad yn nifer y ceffylau sy’n achosi problemau ers cyflwyno Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 dair blynedd yn ôl yn sgil pori anghyfreithlon a cheffylau a merlod yn crwydro ac yn cael eu gadael ledled Cymru. Yn ogystal, yn ôl yr adroddiad, mae tystiolaeth yn dangos bod y gostyngiad hwn wedi’i achosi gan nifer o ffactorau pwysig, gan gynnwys: cyflwyno’r Ddeddf yn gyflym, cynyddu nifer y rhaglenni i addysgu perchnogion ceffylau, cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r problemau posibl, a chydweithio’n well â’r holl randdeiliaid wrth fynd i’r afael â’r problemau.   Yn ôl yr adroddiad, mae’r Ddeddf wedi cael effaith gadarnhaol ond, wrth gwrs, “nid da lle gellir gwell”. Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ddarparu’r adroddiad, gan dynnu sylw holl awdurdodau lleol Cymru a’r holl randdeiliaid a gyfrannodd at y gwaith at ei argymhellion. Rwyf hefyd wedi gofyn i’m swyddogion drafod yr argymhellion ag aelodau’r Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid er mwyn sefydlu dull partneriaeth o ddatblygu cynigion i roi argymhellion yr adroddiad ar waith lle bernir bod newid yn briodol.   Rwy’n ddiolchgar i staff Equiventus Ltd am eu hamser a’u harbenigedd a phawb a gyfrannodd eu hamser mor hael yn ystod y broses o gynnal yr adolygiad. Mae ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i’r 14 o argymhellion a wnaed gan Equiventus Ltd i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â’r adroddiad.  http://gov.wales/topics/environmentcountryside/ahw/horses/control\-of\-horses\-wales\-act\-2014/?lang\=cy 
https://www.gov.wales/written-statement-review-control-horses-wales-act-2014
Today I am announcing the Welsh Government’s plans to set National Milestones for Wales, the next step in our implementation of the Well\-being of Future Generations Act. I will consult in the autumn on both the criteria for selecting milestones and on proposals for the small set of National Indicators that should have milestones related to them. I will look to publish the final set in 2019\.  The National Milestones will assist Ministers in measuring whether progress is being made at a national level towards the achievement of the well\-being goals, and will help explain at a national level the scale and pace of change required. To support this assessment, subsequent Annual Well\-being Reports will assess progress made towards achievement of the goals by reference to the milestones. The milestones will be of interest to Public Bodies and Public Services Boards in their own assessments. It is likely that the work on the National Milestones may identify some potential improvements to the set of 46 National Indicators. Ideally we would want to maintain consistency in what is after all a set of indicators intended to assess long term progress, and there was significant consultation activity on the indicators in 2015\. Nevertheless we will use this opportunity to make small changes where there is a justifiable case to improve the set. We will therefore use the consultation process to help gather updated views on the National Indicators.  Weblink:  Well\-being of Future Generations (Wales) Act 2015 http://gov.wales/topics/people\-and\-communities/people/future\-generations\-act National Indicators for Wales https://gov.wales/topics/people\-and\-communities/people/future\-generations\-act/national\-indicators/
Heddiw rwy'n cyhoeddi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer pennu Cerrig Milltir Cenedlaethol i Gymru, y cam nesaf wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn yr hydref, byddaf yn ymgynghori ar y meini prawf ar gyfer dewis cerrig milltir, a hefyd ar gynigion ar gyfer y set fach o Ddangosyddion Cenedlaethol a fydd yn gysylltiedig â nhw. Fy mwriad yw cyhoeddi'r set derfynol yn 2019\.  Bydd y Cerrig Milltir Cenedlaethol yn helpu Gweinidogion i fesur unrhyw gynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant ar lefel genedlaethol, a byddant yn helpu i egluro, ar lefel genedlaethol, raddfa a chyflymder y newidiadau y mae angen eu gweithredu. I ategu'r asesiad hwn, bydd Adroddiadau Llesiant Blynyddol dilynol yn  asesu'r cynnydd a wneir o ran cyflawni'r nodau, a hynny drwy gyfeirio at y cerrig milltir. Bydd y cerrig milltir o ddiddordeb i Gyrff Cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth iddynt gynnal eu hasesiadau hwythau. Mae'n debygol y bydd gwelliannau posibl i'r set o 46 o Ddangosyddion Cenedlaethol yn cael eu nodi wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith ar y Cerrig Milltir Cenedlaethol. Yn ddelfrydol, rydym yn awyddus i gynnal cysondeb y set o ddangosyddion gan mai’r  nod yw asesu cynnydd yn y tymor hir, a bu ymgynghori sylweddol arnynt yn 2015\. Serch hynny, byddwn yn defnyddio'r cyfle presennol i wneud newidiadau bach lle y gellir cyfiawnhau y bydd hynny’n eu gwella. Byddwn ni felly'n defnyddio'r broses ymgynghori i helpu i gasglu’r sylwadau diweddaraf ar ein Dangosyddion Cenedlaethol.  Cyfeiriadau gwefan:\-  Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015: http://gov.wales/topics/people\-and\-communities/people/future\-generations\-act/?skip\=1\&lang\=cy Dangosyddion Cenedlaethol Cymru: https://gov.wales/topics/people\-and\-communities/people/future\-generations\-act/national\-indicators/?skip\=1\&lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-setting-national-milestones-wales
I would like to update members on our progress towards the Prosperity for All commitment; reiterated in Our Valleys, Our Future, the Ministerial Taskforce for the Valleys delivery plan; to deliver a social prescribing pilot for mental health. I’m pleased to announce that we have now awarded a total of £1,351,066 of funding to Mind Cymru and the British Red Cross to deliver two projects. Mind Cymru will co\-produce a social prescribing model for referral from frontline healthcare professionals to a link worker, who will provide tailored support plans, and support engagement with community services. Peer navigators with lived experience of mental health problems will offer additional support. They will work with adults who are isolated, lonely and at risk of poor mental health in Taf Ely, South Powys and North Denbighshire. The British Red Cross will test two different social prescribing models for adult patients who have low to moderate mental health problems and are frequent attenders of GP or ambulance services in Pembrokeshire and Caerphilly. Link co\-ordinators will work with the service user to set their own personal goals geared at empowering them to develop alternative non\-clinical responses to managing mental distress. Central to both pilots is robust, independent evaluation to fill gaps in the existing evidence base and inform our future decision making. We are also finalising plans for a third pilot and I hope to be able to announce the details soon. The pilots form part of our wider approach, which includes socials prescribing pilots funding through our Innovate to Save fund and a focus on social prescribing though our Research Funding Scheme: Social Care Grant, administered by Health and Care Research Wales. The pilots will build on existing work across Wales to promote social prescribing, to ensure people have access to care and support which truly recognises them as an individual, and takes account of the full range of factors which could be affecting their mental health and wellbeing.
Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ein cynnydd o ran yr ymrwymiad yn Ffyniant i Bawb; a nodwyd eto yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, cynllun cyflawni'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer y Cymoedd; i gyflawni cynllun peilot presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer iechyd meddwl. Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni bellach wedi dyfarnu cyfanswm o £1,351,066 i Mind Cymru a'r Groes Goch Brydeinig i gyflawni dau brosiect. Bydd Mind Cymru yn cyd\-gynhyrchu model presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer cyfeirio o weithwyr gofal iechyd rheng flaen at weithiwr cyswllt, a fydd yn darparu cynlluniau cymorth penodol a chefnogi ymgysylltiad â gwasanaethau cymunedol. Bydd cymheiriaid sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl yn cynnig cymorth ychwanegol. Byddant yn gweithio gydag oedolion sydd wrth eu hunain, yn unig ac mewn perygl o ddioddef iechyd meddwl gwael yn ardaloedd Taf Elai, De Powys a Gogledd Sir Ddinbych. Bydd y Groes Goch Brydeinig yn profi dau fodel gwahanol o bresgripsiynu cymdeithasol ar gyfer cleifion sy'n oedolion â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i ganolig, ac sy'n defnyddio gwasanaethau meddyg teulu neu ambiwlans yn gyson yn Sir Benfro a Chaerffili. Bydd cydlynwyr cyswllt yn gweithio gyda'r defnyddwyr gwasanaethau i'w helpu i osod nodau personol er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu ffyrdd gwahanol, nad ydynt yn glinigol, i reoli trallod meddwl. Elfen ganolog o'r ddau gynllun peilot yw gwerthusiad cadarn, annibynnol i lenwi bylchau yn y sylfaen o dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli a'n helpu i wneud penderfyniadau yn y dyfodol. Rydym hefyd yn cwblhau cynlluniau ar gyfer trydydd cynllun peilot, ac rwy'n gobeithio cyhoeddi'r manylion yn fuan. Mae'r cynlluniau peilot hyn yn rhan o'n dull gweithredu ehangach, sy'n cynnwys cyllido cynlluniau peilot presgripsiynu cymdeithasol drwy ein cronfa Arloesi i Arbed a chanolbwyntio ar bresgripsiynu cymdeithasol drwy ein Cynllun Cyllido Ymchwil: Grant Cymdeithasol Cymru, sy'n cael ei weinyddu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd y cynlluniau peilot yn adeiladu ar waith sydd eisoes yn digwydd ar draws Cymru i hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael mynediad at ofal a chymorth sy'n eu gweld fel unigolion, ac sy'n ystyried yr holl ffactorau a allai effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant.
https://www.gov.wales/written-statement-social-prescribing-pilots-mental-health
On 27 February 2018, the Cabinet Secretary for Healthand SOcial Services made an oral statement in the Siambr on: Services Fit for the Future White Paper (external link).
Ar 27 Chwefror 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol llafar yn y Siambr ar: Papur Gwyn ar Wasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-services-fit-future-white-paper
Last September, I announced a review of the work of the National Procurement Service (NPS) and Value Wales. This statement details the results of the review and the next steps. The review was designed to clarify stakeholders’ priorities to help maximise the value of the £6 billion annual procurement expenditure across Wales at a time of unprecedented pressures on public services and as the UK prepares to leave the European Union. Since announcing the review, the National Assembly’s Public Accounts Committee launched its own inquiry into procurement, which I have followed with interest. I have today written to the chair of the committee setting out how this review has sought to respond to commitments made during the inquiry and to a statement about public procurement in Plenary on 2 May. A range of stakeholders, including public sector leaders, procurement officers, businesses and the Future Generations Commissioner took part in the review. They have told us that simply refocusing NPS and Value Wales is not enough. The review has revealed the need for an in\-depth examination of how we use public funding to support public service delivery and to build economic growth across all regions of Wales. Through the review process, stakeholders have confirmed a number of future priority actions for procurement, including: * Greater focus on delivering collaborative procurement agreements aligned to regional and local priorities. Such an approach will not only afford maximum access to Welsh suppliers, it will also complement the aims set out in the Economic Action Plan, the decarbonisation programme and support our drive to make Wales a Fair Work nation by leveraging fair work outcomes from public spending and procurement practice * Delivery of a smaller number of national contracts where Wales\-wide solutions, in areas such as vehicles and fleet hire, provide the greatest value for a large proportion of the Welsh public sector, and * Exploring with the UK Government how we can strengthen our relationship with the Crown Commercial Service, to fully engage where its work is aligned with Welsh needs and priorities. Going forward, this approach will be informed by a national policy development and delivery support function. We will work closely with stakeholders to develop a new procurement strategy, which clarifies the future operating model and enables the full value of procurement to be realised nationally, regionally and locally. Stakeholders have advised that this national policy approach should aim to deliver new support in social care and construction, driving up consistency and capability in the commissioning and procurement of these vital areas of public service delivery. Effective procurement must be underpinned by a skills development programme. A new capability and capacity programme will therefore be drawn up to equip procurement officers with modern commercial techniques and create a future talent pipeline to help tackle skill shortages and gaps created by different pay and rewards structures. Stakeholders have also been clear about the need for a progressive future digital procurement strategy to underpin collaboration, simplify access for suppliers and provide the data and intelligence to inform future policy and decision making. We will work with our customers and stakeholders to develop this. To support these requirements, I am announcing that NPS will, over time, cease to exist in its current form. It is clear that delivering a high volume of national frameworks is no longer a priority for customers and this is reflected in the level of engagement with NPS frameworks, which falls short of the business case forecast. This transition will be managed to ensure business continuity is maintained in relation to framework contracts currently in use by public bodies and to provide certainty for the suppliers who are on them. A smaller operation will be set up to manage a reduced portfolio of national contracts, where such agreements can demonstrate delivery of value across a significant majority of Welsh public sector organisations. The NPS team will be consulted and engaged in developing the way forward and those not part of the smaller national contracting function will be offered opportunities to be involved in delivery of regional and local priorities; the national policy development and delivery support unit or the Welsh Government’s commercial and procurement programme, or other similar activities. Evidence gathered through the review has informed the need for our future procurement policy and national/regional collaborative procurement programmes to be managed and delivered separately as key elements of a strategic, cross\-cutting collaborative programme of work, which has greater emphasis on driving up community wealth\-building across Wales. Our aim is to maximise procurement spend in Wales while also using the £6 billion annual procurement spend to support sustainable jobs and growth; fair work and employment practices; infrastructure and construction investment; use of public assets and improve the resilience of local businesses and their communities. The feedback from the review has been clear that we must also work to provide a clear link between procurement and the wellbeing goals of public bodies across Wales and ensure the supply base can better engage in public procurement. My officials will work collaboratively with public sector partners to develop plans to move this work forward. This statement is being issued during recess in order to keep Assembly Members and the industry informed. Should Assembly Members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Fis Medi diwethaf, cyhoeddais adolygiad o waith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru. Mae'r datganiad hwn yn rhoi manylion am ganlyniadau'r adolygiad a'r camau nesaf i'w cymryd.   Bwriad yr adolygiad oedd cadarnhau blaenoriaethau'r rhanddeiliaid er mwyn manteisio i'r eithaf ar y £6bn o wariant caffael blynyddol ar draws Cymru ar adeg pan fo pwysau na welwyd ei debyg o'r blaen ar wasanaethau cyhoeddus ac wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Ers cyhoeddi'r adolygiad, mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol wedi lansio ei ymchwiliad ei hun i gaffael, ac rwyf wedi dilyn yr ymchwiliad hwnnw gyda diddordeb. Heddiw fe ysgrifennais at gadeirydd y pwyllgor i nodi sut y ceisiodd yr adolygiad hwn ymateb i ymrwymiadau a wnaed yn ystod yr ymchwiliad ac i ddatganiad am gaffael cyhoeddus yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Mai. Bu amrywiol randdeiliaid, gan gynnwys arweinwyr sector cyhoeddus, swyddogion caffael, busnesau a'r Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn cymryd rhan yn yr adolygiad. Maent wedi dweud wrthym nad yw newid pwyslais y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru yn ddigon. Dangosodd yr adolygiad bod angen edrych mewn manylder ar ein ffordd o ddefnyddio cyllid cyhoeddus i helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a meithrin twf economaidd ar draws pob rhan o Gymru. Drwy'r broses adolygu, mae rhanddeiliaid wedi cadarnhau nifer o flaenoriaethau ar gyfer caffael yn y dyfodol, gan gynnwys: * Canolbwyntio mwy ar sicrhau cytundebau caffael ar y cyd yn unol â blaenoriaethau rhanbarthol a lleol. Yn ogystal â chaniatáu'r mynediad gorau posib at gyflenwyr Cymru, byddai dull gweithredu o'r fath hefyd yn ategu'r nodau yn y Cynllun Gweithredu Economaidd, y rhaglen ddatgarboneiddio a'n hymdrechion i wneud Cymru'n Genedl Gwaith Teg drwy arferion caffael a gwariant cyhoeddus; * Sicrhau nifer llai o gontractau cenedlaethol lle gall systemau ar draws Cymru gyfan, mewn meysydd fel llogi cerbydau, ddarparu'r gwerth gorau am arian i gyfran fawr o sector cyhoeddus Cymru; * Ystyried, gyda Llywodraeth y DU, sut y gallwn gryfhau ein perthynas â Gwasanaeth Masnachol y Goron er mwyn cymryd rhan yn llawn pan fo’i waith yn gyson ag anghenion a blaenoriaethau Cymru. Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd uned cymorth cyflawni a datblygu polisi cenedlaethol yn helpu gyda’r gwaith hwn. Byddwn yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid er mwyn datblygu strategaeth gaffael newydd, sy'n egluro model gweithredu'r dyfodol ac yn galluogi gwerth llawn y caffael i gael ei wireddu'n genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol. Dywedodd rhanddeiliaid y dylai'r polisi cenedlaethol hwn geisio darparu cefnogaeth newydd mewn gofal cymdeithasol ac adeiladu, gan annog cysondeb a gallu wrth gomisiynu a chaffael y meysydd hanfodol bwysig hyn o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Rhaid i drefn gaffael effeithiol gael ei hategu gan raglen datblygu sgiliau. Bydd rhaglen sgiliau a gallu newydd felly yn cael ei llunio er mwyn i swyddogion caffael ddysgu am dechnegau masnachol modern ac er mwyn cynhyrchu llif o dalent ar gyfer y dyfodol i geisio mynd i'r afael â phrinder sgiliau a bylchau sy'n cael eu creu gan wahanol strwythurau cyflog a thâl. Mae'r rhanddeiliaid hefyd wedi dweud yn glir bod angen strategaeth gaffael ddigidol flaengar yn y dyfodol er mwyn cydweithio, symleiddio mynediad i gyflenwyr a darparu data a gwybodaeth ar gyfer gwneud polisïau a phenderfyniadau yn y dyfodol. Byddwn yn gweithio gyda'n cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid i ddatblygu hyn. Er mwyn cefnogi'r gofynion hyn, rwy'n cyhoeddi y bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn raddol ddod i ben ar ei ffurf bresennol. Mae'n amlwg nad yw darparu swm uchel o fframweithiau cenedlaethol bellach yn flaenoriaeth i gwsmeriaid, ac fe welir hyn yn lefel y gyfranogaeth yn fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, sy'n llai na'r hyn a ragwelwyd yn yr achos busnes. Bydd y newid hwn yn cael ei reoli er mwyn sicrhau parhad busnes mewn perthynas â chontractau fframwaith sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan gyrff cyhoeddus, ac i roi sicrwydd i gyflenwyr sy'n rhan ohonynt. Bydd gweithrediad llai yn cael ei sefydlu i reoli portffolio llai o gontractau cenedlaethol lle bo’n amlwg bod trefniadau o'r fath yn cynnig gwerth am arian ar draws mwyafrif sylweddol o sefydliadau sector cyhoeddus Cymru. Byddwn yn ymgynghori â thîm y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac yn eu cynnwys wrth ddatblygu ffordd ymlaen. Bydd y rhai nad ydynt yn rhan o'r swyddogaeth gontractio genedlaethol yn cael cynnig cyfleoedd i fod yn rhan o'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau rhanbarthol a lleol, yr uned gymorth cyflawni a datblygu polisi cenedlaethol neu raglen fasnach a chaffael Llywodraeth Cymru, neu weithgareddau tebyg. Mae'r dystiolaeth a gasglwyd drwy'r adolygiad wedi dangos bod angen i'n polisi caffael a rhaglenni caffael cenedlaethol/rhanbarthol yn y dyfodol gael eu rheoli a'u cyflawni ar wahân fel elfennau allweddol o raglen waith strategol, trawsbynciol sydd â mwy o bwyslais ar adeiladu cyfoeth cymunedol ar draws Cymru. Ein nod yw manteisio i'r eithaf ar wariant caffael yng Nghymru, gan ddefnyddio'r £6bn o wariant caffael blynyddol i gefnogi swyddi a thwf cynaliadwy; gwaith ac arferion gweithio teg; buddsoddi mewn seilwaith ac adeiladu; defnyddio asedau cyhoeddus a chryfhau busnesau lleol a'u cymunedau. Mae adborth yr adolygiad wedi dangos yn glir bod rhaid i ni hefyd weithio i sicrhau cysylltiad clir rhwng caffael a nodau llesiant cyrff cyhoeddus ar draws Cymru, a sicrhau bod modd i'r cyflenwyr gymryd rhan yn well mewn prosesau caffael cyhoeddus. Bydd fy swyddogion yn cydweithio â phartneriaid sector cyhoeddus i ddatblygu cynlluniau i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad a'r diwydiant. Os bydd Aelodau'r Cynulliad eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, buaswn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-review-national-procurement-service-and-value-wales-commencement-order
I would like to inform Members of appointments I have made to the Board of Sport Wales, following an open recruitment process which attracted over 40 candidates.   I have appointed Lawrence Conway as Chair of Sport Wales.  Lawrence has served as Interim Chair of Sport Wales since February 2017 and has provided renewed confidence and a stable platform to the organisation.  Lawrence will continue to implement and embed the recommendations of the Ministerial Review into Sport Wales, with the utmost of professionalism and enthusiasm. I have made four further appointments to the board, as several members have come to the end of their terms. I am grateful to those out\-going members for their service. The new members are Judi Rhys, Professor Leigh Robinson, Martin Veale and Phil Tilley. Together; they bring a wealth of experience throughout the sporting arena and across sectors. I am grateful to the new members for accepting the invitation to serve on the Board. The Chair and new members will commence their term of office on 1 September for a three year period. I am confident that the board has the expertise and experience required to support me and the staff of Sport Wales in taking forward our ambitions for a more inclusive and healthy nation.  I look forward to working with them.   #### Chair Lawrence Conway Lawrence was born and raised in Cardiff and is married with four children. He joined the civil service in 1968 and had various roles within the Welsh Office, including a secondment to Cardiff Bay Development Corporation in the early 1990s as Assistant to the Chief Executive. Following that appointment Lawrence headed the Welsh Office division of sponsored arms\-length bodies including the Welsh Development Agency. He became head of the Cabinet Secretariat and First Minister’s Department in 1998 and held that post until his retirement in 2010\.  Lawrence was awarded the Companion of the Bath in 2012\.  He has served as Interim Chair of Sport Wales since February 2017\.   Sport has always been an important part of Lawrence’s life, and since joining Sport Wales over year ago he has seen the direct impact physical health and the wider benefits of sport can have across Wales’ diverse sporting landscape.     #### Board Members Judi Rhys Judi has a background in health, education and social welfare and initially worked in the NHS as a health promotion specialist in the south Wales Valleys. She was a staff tutor at the Open University and an academic staff manager at Cardiff University, before appointment as Director of Diabetes UK Cymru, then as Director of MS Society Cymru, and subsequently UK Director of Operations at MS Society.  Judi has held Chief Executive roles at the charities Arthritis Care and the British Liver Trust.  She is a non\-executive director of Public Health Wales and has postgraduate qualifications in health promotion, management, education and executive coaching. Judi achieved an ACEVO Fellowship award in 2015\.  Judi was born and raised in south Wales and now lives in Cardiff. A keen amateur sportswoman, she has previously competed in equestrianism, hockey and swimming and is now an enthusiastic long distance runner. Professor Leigh Robinson Professor Leigh Robinson is a Professor of Sport Management and the Pro\-Vice Chancellor (Cyncoed) and Executive Dean of the School of Sport and Health Sciences at Cardiff Metropolitan University. She has a global reputation for her research and knowledge exchange in the development of competitive advantage and governance in developing sport nations. She has worked with a range of organisations, such as the International Olympic Committee, the British Olympic Association, Trinidad and Tobago Olympic Committee and the Malaysian Government, providing governance management training and consultancy. She is a member of the MEMOS network, a global network of academics responsible for delivering executive management education on behalf of the International Olympic Committee. Leigh has been a member of the Board of Commonwealth games Scotland and Sport Scotland and is an advisor to Olympic Solidarity, the education commission of the Olympic Committee on their management education programmes. Martin Veale JP Martin is an Independent Member at Velindre NHS Trust, a trustee of Merthyr Tydfil Leisure Trust, a governor at Coleg Gwent, and a governor at his daughter’s primary school. He also serves on the audit committees at Pembrokeshire County Council, the Higher Education Funding Council for Wales and Bristol Community Health. A serving magistrate, Martin sits on the Mid Wales bench.  Martin attended Ebbw Vale Grammar School, and holds a BA from East London and an MSc from Birmingham City universities. He is a Fellow of the Chartered Institute of Public Finance and Accountancy and has the Institute of Internal Auditors’ Qualification in Internal Audit Leadership. His finance, risk and corporate governance career covered local government, the NHS and Welsh Government, before he joined Forestry Commission Wales as Director of Finance, and became Head of Audit and Risk on the formation of Natural Resources Wales.   Martin grew up in Ebbw Vale and now lives in Pontypridd with his wife and daughter. He is a supporter of Ebbw Vale rugby and Glamorgan cricket. Phil Tilley Phil has recently retired following a 25 year career in global high tech marketing. He has experience of leading global marketing teams and industry forums representing Nokia communications cloud strategy and solutions. He has been a lifelong sailor and is currently chair of selectors for UK youth racing as well as a committee member on the RYA participation and membership committee. Recently appointed a trustee for AllAfloat Wales, a new charity set up by RYA Cymru Wales to help make the sport available to anyone close to the water. He previously held positions on the UK youth racing committee and RYA Cymru Wales performance committee.  He went to college at the University college of North Wales in Bangor and has lived in Wales ever since. Now married with three daughters and living in Monmouthshire. As an active triathlete you will frequently see him, cycling running or swimming and enjoying the Welsh countryside.              
Hoffwn roi gwybod i Aelodau am y rheini yr wyf wedi'u penodi i Fwrdd Chwaraeon Cymru, yn dilyn proses recriwtio agored a ddenodd dros 40 o ymgeiswyr.   Rwyf wedi penodi Lawrence Conway yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru.  Bu Lawrence yn Gadeirydd dros dro Chwaraeon Cymru ers Chwefror 2017 ac mae wedi rhoi hyder newydd a phlatfform cadarn i'r sefydliad.  Bydd Lawrence yn parhau i weithredu a sefydlu argymhellion yr Adolygiad Gweinidogol i Chwaraeon Cymru, gyda'r proffesiynoldeb a'r brwdfrydedd mwyaf. Rwyf wedi penodi pedwar person arall i'r Bwrdd, gan fod cyfnod sawl aelod yn dod i ben. Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau hynny sy'n gadael am eu gwasanaeth. Yr aelodau newydd yw Judi Rhys, yr Athro Leigh Robinson, Martin Veale a Phil Tilley. Gyda'i gilydd, maent yn dod â phrofiad eang o'r byd chwaraeon ac ar draws sectorau. Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau newydd am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Bwrdd. Bydd yr aelodau newydd yn dechrau eu swydd, a fydd yn para tair blynedd, ar 1 Hydref. Rwy'n hyderus bod gan y bwrdd yr arbenigedd a'r profiad angenrheidiol i'm helpu i a staff Chwaraeon Cymru i gyflawni ein huchelgais i greu cenedl fwy cynhwysol a iach.  Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw. #### Cadeirydd Lawrence Conway Ganwyd Lawrence yng Nghaerdydd ac mae'n briod gyda pedwar o blant. Ymunodd â'r gwasanaeth sifil yn 1968 a chafodd amrywiol swyddi o fewn y Swyddfa Gymreig, gan gynnwys secondiad i Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ar ddechrau'r 1990au fel Cynorthwyydd i'r Prif Weithredwr. Yn dilyn y penodiad hwnnw bu Lawrence yn bennaeth is\-adran y Swyddfa Gymreig o gyrff lled braich wedi'u noddi gan gynnwys Awdurdod Datblygu Cymru. Daeth yn bennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet ac Adran y Prif Weinidog yn 1998 ac roedd yn y swydd honno tan iddo ymddeol yn 2010\.  Derbyniodd Lawrence y teitl 'Companion of the Bath'  yn 2012\.  Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd dros dro Chwaraeon Cymru ers Chwefror 2017\.   Mae chwaraeon wedi bod yn rhan bwysig o fywyd Lawrence, ac ers ymuno â Chwaraeon Cymru dros flwyddyn yn ôl, mae wedi gweld yr effaith uniongyrchol a'r manteision ehangach a gaiff chwaraeon ar iechyd corfforol ar draws maes chwaraeon yng Nghymru. #### Aelodau'r Bwrdd Judi Rhys Mae gan Judi gefndir ym myd iechyd, addysg a lles cymdeithasol a gweithiodd fel arbenigwr hybu iechyd gyda'r GIG ar y cychwyn yng Nghymoedd De Cymru. Roedd yn diwtor staff y Brifysgol Agored ac yn rheolwr y staff academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn ei phenodi yn Gyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, yna'n Gyfarwyddwr Cymdeithas MS Cymru, ac yn dilyn hynny Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cymdeithas MS y DU.  Mae Judi wedi bod yn Brif Weithredwr gyda'r elusennau Gofal Arthritis ac Ymddiriedolaeth Afu Prydain.  Mae'n gyfarwyddwr anweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae ganddi gymhwyster ôl\-raddedig yn hyrwyddo iechyd, rheoli, addysg a hyfforddi gweithredol. Derbyniodd Judi wobr Cymrodoriaeth ACEVO yn 2015\.  Cafodd Judi ei geni a'i magu yn ne Cymru ac mae bellach yn byw yn Nghaerdydd. Mae'n mwynhau chwaraeon amatur, ac wedi cystadlu yn y gorffennol ym maes marchogaeth, hoci a nofio ac mae bellach yn redwr pellter hir brwdfrydig. Yr Athro Leigh Robinson Mae'r Athro Leigh Robinson yn Athro Rheoli Chwaraeon ac yn Ddirprwy Is\-Ganghellor (Cyncoed) a Deon Gweithredol Coleg Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ganddi enw da yn rhyngwladol am ei gwaith ymchwil a'i gwybodaeth o ddatblygu mantais gystadleuol a llywodraethu wrth ddatblygu gwledydd sy'n cystadlu ym maes chwaraeon. Mae wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau, megis y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, Cymdeithas Olympaidd Prydain, Pwyllgor Olympaidd Trinidad a Tobago a Llywodraeth Malaysia, gan gynnig hyfforddiant rheoli llywodraethu ac ymgynghori. Mae'n aelod y rhwydwaith MEMOS, rhwydwaith byd\-eang o academyddion sy'n gyfrifol am ddarparu addysg rheoli gweithredol ar ran y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Bu Leigh yn aelod o Fwrdd Gemau'r Gymanwlad yn yr Alban a Sport Scotland a bu'n cynghori'r sefydliad Olympic Solidarity, comisiwn addysgol y Pwyllgor Olympaidd ar eu rhaglenni dysgu rheoli. Martin Veale YH Mae Martin yn Aelod Annibynnol o Ymddiriedolaeth GIG Felindre, ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, llywodraethwr Coleg Gwent, a llywodraethwr yn ysgol gynradd ei ferch. Mae hefyd yn gwasanaethu ar bwyllgorau archwilio Cyngor Sir Penfro, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Bristol Community Health. Yn ynad ar hyn o bryd, mae Martin ar y fainc yn y Canolbarth.  Aeth Martin i Ysgol Ramadeg Glynebwy, ac mae ganddo radd BA o Ddwyrain Llundain ac MSc o brifysgolion Dinas Birmingham. Mae'n Gymrodor Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ac mae ganddo Gymhwyster y Sefydliad Archwilwyr Mewnol mewn Arweinyddiaeth Archwilio Mewnol. Mae ei yrfa cyllid, risg a llywodraethu corfforaethol yn cynnwys llywodraeth leol, y GIG a Llywodraeth Cymru, cyn iddo ymuno â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru fel Cyfarwyddwr Cyllid, a daeth yn Bennaeth Archwilio a Risg wedi creu Cyfoeth Naturiol Cymru.   Cafodd Martin ei fagu yng Nglynebwy ac mae bellach yn byw ym Mhontypridd gyda'i wraig a'i ferch. Mae'n cefnogi tîm rygbi Glynebwy a chriced Morgannwg. Phil Tilley Mae Phil wedi ymddeol yn ddiweddar yn dilyn gyrfa o dros 25 mlynedd ym maes marchnata uwch\-dechnegol. Mae wedi cael profiad o dimau marchnata byd\-eang a fforymau'r diwydiant yn cynrychioli cyfathrebu Nokia a strategaethau ac atebion cwmwl. Mae wedi bod yn llongwr gydol ei oes ac mae ar hyn o bryd yn gadeirydd pwyllgor dewiswyr rasio ieuenctid y DU yn ogystal â bod yn aelod o bwyllgor cyfranogiad Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol ac yn aelod o'r pwyllgor. Cafodd ei benodi'n ddiweddar yn ymddiriedolwr AllAfloat Wales, elusen newydd a sefydlwyd i sicrhau bod y chwaraeon ar gael i unrhyw un sy'n agos at ddŵr. Bu ganddo swyddi yn y gorffennol ar bwyllgor rasio ieuenctid y DU a phwyllgor perfformiad Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol yng Nghymru.  Aeth i Brifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ac mae wedi byw yng Nghymru ers hynny. Mae bellach yn briod a chanddo dair merch ac  mae'n byw yn Sir Fynwy. Fel triathletwr prysur, gallwch ei weld yn aml yn  beicio, rhedeg neu nofio ac yn mwynau cefn gwlad Cymru.
https://www.gov.wales/written-statement-sport-wales-board-appointments
Today has seen the publication of the evaluation of the  Seren Network and I am taking this opportunity to provide you with further supporting information, and to set out my initial response to the recommendations put forward in the evaluation. The formative evaluation of the Seren Network provides us with a set of 15 recommendations which the Welsh Government welcomes and which will be used to shape the future development of the programme.  Progress has already been made in responding to a number of these recommendations, with outstanding matters to be addressed in partnership with the Seren Network coordinators and partner organisations. The Seren Network seeks to engage young people who have the aspiration and academic excellence required to pursue highly competitive academic courses of higher education. Entry requirements for Higher Education courses at leading universities demand the highest academic standards to be achieved. Moreover, when considering which young people should be granted places on more highly competitive courses, admissions departments within Universities are looking to see evidence that applicants have a genuine passion for their subject and the resilience needed to make a success of the university experience.   Since there are many high quality and competitive courses at different universities right across the UK and beyond,  the Seren Network does not limit participation only to those young people who aspire to study at a narrow list of defined institutions (such as Oxford and Cambridge or Sutton Trust 30 or Russell Group Universities). The Seren Network starts with the learner, through stimulating and encouraging their aspiration to apply for high tariff and/or highly competitive course and focuses on supporting this aspiration \-  irrespective of which university or course they ultimately end up applying for.  We do expect the work of the Seren Network to impact on the proportion of Welsh domiciled learners attending leading institutions and believe encouraging Wales’ academically brightest to reach their academic potential is in the long\-term interests of Wales and our economy. With that in mind I will shortly be setting out my proposals for identifying and nurturing our most able learners, which include consideration of the important role Seren plays in a wider network of support and challenge. In a fast moving and global marketplace for higher education it would be wrong to start with a closed list of courses or universities even if such listings will inevitably play a part in helping us understand the wider impact of the project. There are three key strands to the work of the network which the evaluation activity will help us further refine and improve upon: 1\. Seren aims to stimulate young people’s investment into supra\-curricular activities. For a young person seeking to access a place at a leading university or on a highly competitive course, being able to evidence and demonstrate wider subject engagement and reading is vital and can translate into a powerful competitive advantage. The Seren Network provides masterclasses and other enrichment opportunities which are designed to stimulate participants own further study and engagement beyond the confines of the curriculum. Very intentionally Seren does not set out to provide a complete supra\-curricular solution. Young people have to develop and grow their own passion for their chosen fields of study, and Seren is there to support this.   2\. Seren seeks to provide information, advice and support both to young people and to professionals within the schools and colleges where they are based through a genuine collaborative efforts For young people, this means equipping them to navigate what can be complex and demanding application procedures, and understand what makes a strong application and how to go about presenting themselves to their prospective HE institutions. Certain courses and institutions require specific additional examinations, interviews and assessments. Through the work of the Seren Network we aim to ensure young people get timely support, encouragement and advice relevant to these processes.  For staff within schools and colleges, this means understanding how to guide young people and maximise the impact of their own professional input (such as references). Collaboration across hubs on a regional basis has been an effective way of recruiting students to attend subject specific masterclasses and preparatory sessions for interviews and entrance exams. This has resulted in increased number of students attending the sessions, which has been welcomed by the university partners who often deliver these sessions. 3\. Seren seeks to raise aspirations and widen horizons. Already through the work of the Seren Network we have seen young people growing in confidence and changing how they feel, both about the prospect of applying to competitive courses at a range of universities and about their own ability and suitability to apply to such courses. In doing so, this has opened up life\-changing opportunities across the World. The evaluation of Seren can be found at:  http://gov.wales/statistics\-and\-research/evaluation\-seren\-network/?lang\=en http://gov.wales/statistics\-and\-research/evaluation\-seren\-network/?skip\=1\&lang\=cy I welcome the evaluation report \-  the progress and achievements it highlights as well as the challenges it poses.  While the partners who make up the Seren Network will be considering how best to respond to the issues raised in the coming weeks, I am able to provide some further information and direction at this time. At the outset it is important to recognise that the Seren Network has only been operating on a fully national basis since November 2016 \- and the 2017/18 is the first full academic year where a cohort of participants from across Wales is fully supported from the beginning of year 12\. I wish to commend the partners who come together in the Seren Network for what has been achieved in such a short period of time. It is a testament to the collaborative partnership including the schools, colleges, unitary authorities and universities in Wales, the UK and beyond, and to the young people who have come together within the Seren Network, that the evaluation reports that Seren makes a positive contribution to raising aspirations, boosting confidence and encouraging students to think more ambitiously about their university choices. Furthermore, while the evaluation points to areas for future development, we should not lose sight of the fact that this evaluation concludes that Seren has been of value in helping participants make better decisions about their preferred university course and making them realise the importance of reading widely around their subject area. A growing number of universities are finding the Seren Network a great way to engage and target high achieving students directly. It also supports many of their widening participation targets. Creating the Seren Network is stimulating new and exciting opportunities for many more young people to interact with HEIs and this is to be welcomed and further strengthened. Welsh HEIs in particular make a vital contribution to the work of the Seren Network and, as recommended by the evaluation, I believe that this contribution needs to be more fully recognised. To this end, I will be writing to the Vice Chancellors of those Welsh HEIs who are actively contributing to the success of Seren to recognise their contribution as valued delivery partners going forward. Each of the 11 Seren Hubs has, to date, defined their own criteria for participation in network activities. This flexibility has been a strength and has allowed a range of approaches to be developed and trialled. As the work of the Seren Network is now becoming more established I recognise the need for greater consistency in approach and, to that end, have asked that a common approach be adopted from September 2018 onward. Similarly, I am pleased to report that the Hubs themselves have brought forward proposals for a ‘minimum offer’ to young people that I believe will be of value in shaping effective and engaging programmes for all the young people who are invited to be part of the Seren Network., regardless of their location. In developing the Seren Network we have become increasingly aware that some of the advice and information made available to participants has a relevance to wider groups of learners. I believe that digital services can, and should, play an important role in opening up access to the information and advice currently targeted through the Seren Network. To this end I have asked Careers Wales to engage with the Seren Network with a view to providing universal access to key resources, information and advice. One of the foundations of the Seren Network was to form the collaborative partnership approach. This has been invaluable in developing the programme and in developing the opportunities for the students to attend stretch and challenge sessions, the national conference, university visits, summer schools and much more. The calibre and potential of the Welsh students is being recognised globally through the Seren Network, and I’m delighted to be supporting a new partnership between Yale and Seren in Wales. We hope that this will result in a number of Welsh students participating in the Yale Young Global Scholars Summer Programme this summer – a potentially life changing experience. The progress achieved to date by the Seren Network gives me confidence that this programme should be maintained and encouraged to continue developing,  innovating,  and strengthening links with our wider policies and programmes.   The Seren Network is becoming an increasingly valued and important part of the support landscape in Wales and I believe that this evaluation gives a timely challenge, and valuable steer to guide future policy and the ongoing evolution of the Seren Network’s activities and partnerships.  I trust that this statement has helped you understand the work of the Seren Network and that you will join with me in celebrating what has been achieved by the young people, schools, colleges, unitary authorities, universities and other partners through the work of the Seren Network to date.
Heddiw, cyhoeddwyd gwerthusiad o Rwydwaith Seren. Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i roi gwybodaeth ategol ichi, ac i nodi fy ymateb cychwynnol i argymhellion y gwerthusiad. Mae'r gwerthusiad ffurfiannol o Rwydwaith Seren wedi rhoi inni set o bymtheg argymhelliad. Mae Llywodraeth Cymru'n croesawu'r argymhellion hyn, a chânt eu defnyddio i lywio datblygiad y rhaglen at y dyfodol. Mae cynnydd eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â nifer o'r argymhellion; eir i'r afael â’r materion eraill mewn partneriaeth a chydlynwyr Rhwydwaith Seren a sefydliadau partner. Nod Rhwydwaith Seren yw cefnogi pobl ifanc sydd â'r dyheadau a'r rhagoriaeth academaidd angenrheidiol i fynd ati i ddilyn cyrsiau addysg uwch cystadleuol iawn. Mae angen cyrraedd y safonau uchaf oll i fodloni gofynion mynediad cyrsiau Addysg Uwch y prifysgolion gorau. At hynny, wrth benderfynu pa bobl ifanc ddylid eu derbyn ar y cyrsiau mwyaf cystadleuol, mae adrannau mynediad Prifysgolion hefyd yn edrych am dystiolaeth bod ymgeiswyr yn angerddol am y pwnc dan sylw, a'u bod yn ddigon penderfynol a brwdfrydig i sicrhau y bydd eu profiad yn y brifysgol yn llwyddiant. Mae llawer o gyrsiau o safon a chyrsiau cystadleuol i'w cael mewn gwahanol brifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig, a thu hwnt. O'r herwydd, nid yw Rhwydwaith Seren yn cyfyngu ei wasanaeth i'r bobl ifanc hynny sydd am astudio mewn rhestr benodol o sefydliadau (megis Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, neu'r 30 prifysgol sy'n rhan o Ymddiriedolaeth Sutton, neu brifysgolion Grŵp Russell er enghraifft). Yn hytrach, mae Rhwydwaith Seren yn dechrau gyda'r dysgwr; mae'n ysgogi ac yn annog y dyhead i wneud cais i gyrsiau tariff uchel a/neu gyrsiau cystadleuol iawn, ac mae'n canolbwyntio ar gefnogi'r dyhead hwnnw, heb ystyried yn union pa gwrs ym mha brifysgol y bydd y myfyriwr dan sylw yn gwneud cais amdano yn y pen draw. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, mae disgwyl i waith Rhwydwaith Seren gael effaith ar gyfran y dysgwyr yng Nghymru sy'n mynd i'r sefydliadau gorau, a chredwn fod annog dysgwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial o fudd i'r wlad a'i heconomi yn y tymor hir. Gyda hynny mewn cof, yn fuan byddaf yn nodi fy nghynigion ar gyfer pennu a meithrin ein dysgwyr mwyaf galluog, gan gynnwys ystyriaeth o rôl bwysig Seren mewn rhwydwaith ehangach o gymorth a heriau. Mewn marchnad addysg uwch fyd\-eang sy'n newid yn gyflym iawn, ni fyddai'n briodol dechrau gyda rhestr gaeedig o gyrsiau neu brifysgolion, hyd yn oed os bydd rhestrau o'r fath yn siŵr o chwarae rôl o ran ein helpu ni i ddeall effaith ehangach y prosiect. Mae tair prif elfen i waith y rhwydwaith y bydd y gwerthusiad hwn yn ein helpu i'w mireinio a'u gwella: 1\. Nod Seren yw hybu ymroddiad pobl ifanc i weithgareddau sydd y tu hwnt i'r cwricwlwm \- hynny yw, gweithgareddau ychwanegol. I berson ifanc sy'n ceisio cael lle yn un o'r prifysgolion gorau neu ar gwrs cystadleuol iawn, mae dangos ei fod yn ymwneud â'r pwnc mewn ffordd ehangach, ac yn darllen yn eang am y pwnc, yn fantais fawr. Mae Rhwydwaith Seren yn darparu dosbarthiadau meistr a chyfleoedd eraill sydd â'r nod o ysgogi dysgwyr i fynd ati i astudio ac ymgysylltu ymhellach, a hynny y tu hwnt i'r hyn a gynigir yn y cwricwlwm. Yn hollol fwriadol, nid yw Seren yn ceisio darparu ystod gyflawn o weithgareddau y tu hwnt i'r cwricwlwm; mae angen i bobl ifanc ddatblygu eu hangerdd eu hunain am eu meysydd \- cefnogi hyn yw rôl Seren. 2\. Nod Seren yw darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc ac i bobl broffesiynol mewn ysgolion a cholegau, a hynny drwy gydweithio. O ran pobl ifanc, golyga hyn eu helpu gyda gweithdrefnau ymgeisio \- gweithdrefnau sy'n gallu bod yn gymhleth ac anodd. Hefyd, golyga hyn helpu pobl ifanc i ddeall beth sy'n gwneud cais cryf, a deall sut i gyflwyno'u hunain i'r sefydliadau addysg uwch. Mae rhai cyrsiau a sefydliadau yn cynnal arholiadau, cyfweliadau ac asesiadau penodol ychwanegol. Drwy waith Rhwydwaith Seren, ein nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael cymorth, anogaeth a chyngor amserol mewn perthynas â'r prosesau hyn. O ran staff ysgolion a cholegau, golyga hyn feithrin dealltwriaeth o sut i lywio a thywys pobl ifanc a sicrhau'r effaith fwyaf posibl o'u gwaith (ee. drwy roi geirdaon). Mae cydweithio rhanbarthol, ar draws canolfannau, wedi bod yn ffordd effeithiol o recriwtio myfyrwyr ar gyfer dosbarthiadau meistr penodol i bwnc, a sesiynau paratoi ar gyfer cyfweliadau ac arholiadau mynediad. Mae hyn wedi arwain at fwy o fyfyrwyr yn mynd i’r sesiynau, sydd wedi'i groesawu gan ein prifysgolion partner, sy'n aml yn darparu'r sesiynau. 3\. Nod Seren yw codi dyheadau ac ehangu gorwelion. Mae gwaith Rhwydwaith Seren eisoes wedi cynyddu hyder pobl ifanc a newid sut maent yn teimlo am wneud cais am gyrsiau cystadleuol mewn ystod o brifysgolion, ac am eu gallu a'u haddasrwydd i wneud cyrsiau o'r fath. Mae hyn wedi arwain at gyfleoedd gwych iddynt ar draws y byd. Gallwch ddod o hyd i'r gwerthusiad o Rwydwaith Seren yma: http://gov.wales/statistics\-and\-research/evaluation\-seren\-network/?lang\=en http://gov.wales/statistics\-and\-research/evaluation\-seren\-network/?skip\=1\&lang\=cy Rwy'n croesawu'r adroddiad gwerthuso \- y cynnydd a'r cyflawniadau a nodir ynddo \- yn ogystal â'r heriau y mae'n eu gosod. Bydd y partneriaid sy'n rhan o Rwydwaith Seren yn awr yn mynd ati i ystyried sut orau i ymateb i'r materion a godir. Fodd bynnag, gallaf i roi peth gwybodaeth bellach ar unwaith, ynghyd â sôn am y trywydd y bwriedir ei gymryd. I ddechrau, mae'n bwysig nodi mai dim ond ers mis Tachwedd 2016 y mae Rhwydwaith Seren wedi bod yn rhedeg yn genedlaethol. Yn wir, 2017/18 yw'r flwyddyn academaidd lawn gyntaf y mae cohort o fyfyrwyr o bob rhan o Gymru yn cael eu cefnogi'n llawn o ddechrau blwyddyn 12\. Dymunaf ganmol y partneriaid sy'n rhan o Rwydwaith Seren am yr hyn y maent wedi'i gyflawni mewn cyfnod byr. Mae'r adroddiad gwerthuso yn nodi bod Seren yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i godi dyheadau, hybu hyder ac annog disgyblion i feddwl yn fwy uchelgeisiol am eu dewisiadau. Mae'r diolch am hynny i'r bartneriaeth gydweithiol rhwng ysgolion, colegau, awdurdodau unedol a phrifysgolion ledled Cymru, y Deyrnas Unedig, a thu hwnt. At hynny, er bod y gwerthusiad yn nodi meysydd y gellir eu gwella at y dyfodol, rhaid nodi a chofio bod y gwerthusiad hwn yn dod i'r casgliad bod gwerth i Seren o ran helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwell am gyrsiau ac o ran eu helpu i ddeall pwysigrwydd darllen yn eang am eu pynciau. Mae mwy a mwy o brifysgolion o'r farn bod Rhwydwaith Seren yn ffordd wych o dargedu ac ymgysylltu â myfyrwyr galluog yn uniongyrchol. Hefyd, mae'n cyd\-fynd â llawer o'u targedau o ran ehangu cyfranogiad. Mae Rhwydwaith Seren yn ysgogi cyfleoedd newydd a chyffrous i lawer iawn mwy o bobl ifanc allu ymgysylltu â sefydliadau addysg uwch ac mae hyn i'w groesawu, a'i gryfhau ymhellach os yn bosibl. Mae sefydliadau addysg uwch Cymru, yn enwedig, yn gwneud cyfraniad hollbwysig i waith Seren. Fel a argymhellir yn y gwerthusiad, credaf fod angen gwneud mwy i gydnabod y cyfraniad hwn. At y diben hwn, byddaf yn ysgrifennu at Is\-gangellorion y sefydliadau hynny sy'n gweithio'n ddiwyd i gyfrannu at lwyddiant Seren i gydnabod eu cyfraniad fel partneriaid cyflawni pwysig. Hyd yma, mae'r 11 o ganolfannau Seren wedi nodi eu meini prawf eu hunain ar gyfer cymryd rhan yng ngweithgareddau'r rhwydwaith. Mae'r hyblygrwydd hwn wedi bod yn gryfder, ac mae wedi caniatáu datblygu a threialu ystod o ffyrdd o weithio. Wrth i waith Rhwydwaith Seren ddatblygu a dod yn fwy sefydledig, rwy'n cydnabod bod angen mwy o gysondeb. I'r perwyl hwnnw, rwyf wedi gofyn am sefydlu un ymagwedd gyson i'w defnyddio o fis Medi 2018 ymlaen. Yn yr un modd, mae'n dda gen i nodi bod y gwahanol ganolfannau eu hunain wedi cyflwyno cynigion am 'gynnig sylfaenol' i bobl ifanc. Credaf y bydd hyn yn ddefnyddiol ar gyfer llunio rhaglenni effeithiol a diddorol ar gyfer pawb sy'n cael eu gwahodd i fod yn rhan o Rwydwaith Seren,  lle bynnag y bônt. Wrth ddatblygu Seren, rydym wedi dod yn fwyfwy ymwybodol bod peth o'r wybodaeth a'r cyngor a roddir yn berthnasol i grŵp ehangach o ddysgwyr. Credaf y gall ac y dylai gwasanaethau digidol chwarae rôl bwysig o ran sicrhau mynediad at yr wybodaeth a'r cyngor a roddir drwy Rwydwaith Seren. I'r perwyl hwn, rwyf wedi gofyn i Gyrfa Cymru ymgysylltu â Rhwydwaith Seren er mwyn, yn y pen draw, ddarparu mynediad i bawb at adnoddau, gwybodaeth a chyngor allweddol. Un o gonglfeini Rhwydwaith Seren yw ymagwedd o gydweithio a phartneriaeth. Mae hyn wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu'r rhaglen ac o ran datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr fynychu sesiynau ymestyn a herio, ynghyd â'r gynhadledd genedlaethol, ymweliadau â phrifysgolion, ysgolion haf a llawer mwy. Mae safon, gallu a photensial myfyrwyr Cymru yn cael ei gydnabod ar draws y byd drwy Rwydwaith Seren. Fel enghraifft o hyn, rwyf yn falch iawn o gefnogi partneriaeth newydd rhwng Seren a Phrifysgol Yale. Drwy hyn, yr haf hwn, bydd nifer o fyfyrwyr o Gymru yn cymryd rhan yn Rhaglen Haf y Brifysgol ar gyfer Ysgolorion Ifanc Byd\-eang \- profiad a allai newid byd i’r myfyrwyr dan sylw. Mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn gan Rwydwaith Seren yn fy llenwi â hyder y dylem barhau â'r rhaglen a'i hannog i ddatblygu, arloesi a chryfhau, gan feithrin cysylltiadau gyda'n rhaglenni a'n polisïau ehangach.   Mae Seren yn datblygu'n rhan fwyfwy gwerthfawr a phwysig o'r tirlun cymorth addysgol yng Nghymru. Credaf fod y gwerthusiad hwn yn rhoi her amserol i'r Rhwydwaith. Bydd hefyd yn ddefnyddiol iawn o ran llywio polisi yn y dyfodol ac o ran gwerthuso gweithgareddau a phartneriaethau Rhwydwaith Seren. Hyderaf y bydd y datganiad hwn yn eich helpu gyda’ch dealltwriaeth o waith Rhwydwaith Seren. Hyderaf, hefyd, y byddwch yn dymuno ymuno â mi i ddathlu'r hyn y mae'r bobl ifanc, yr ysgolion, y colegau, yr awdurdodau unedol, y prifysgolion a phartneriaid eraill oll wedi'i gyflawni drwy Fframwaith Seren hyd yma.
https://www.gov.wales/written-statement-seren-network-formative-process-evaluation
The Environment (Wales) Act 2016 sets our long\-term ambition to reduce greenhouse gas emissions by at least 80% in 2050 and provides strong foundations to meet our international commitments. Last year I confirmed we will be accounting for all our emissions in Wales. The purpose of this statement is to update the Assembly with regards setting interim emissions reduction targets and our first two carbon budgets. Setting interim targets and our first two carbon budgets represents a significant milestone in terms of providing clarity and certainty for government, business and stakeholders with regards Wales’ pathway to a low\-carbon society. It also demonstrates Wales’ commitment to contributing to UK emissions reduction targets and international agreements. Our targets and budgets must be set using the most up\-to\-date and robust evidence, which takes into account all seven well\-being goals and the impact on our consumption emissions to avoid unintended consequences. This is especially important in Wales given our economic make up and the communities we live and work in. Over the last year, we have worked with stakeholders to develop our evidence base. We hosted events with our statutory advisory body, the UK Committee on Climate Change (UKCCC), alongside their Call for Evidence seeking views on the targets and budgets.  I was pleased to see a wide range of stakeholders attended our events, including representatives from industry, business, the public sector, third sector, academia and civil society. The UKCCC used this input to underpin their advice to us on our interim targets and first two carbon budgets. I would like to thank stakeholders for their involvement and for helping us to collectively understand our unique Welsh context. My officials have also worked extensively across government, supporting decarbonisation working groups in Agriculture and Land Use, Buildings, Electricity, Industry and Business, Public Sector, Transport and Waste to test the assumptions and evidence presented by the UKCCC and compare them with our existing knowledge and evidence base. We have also analysed historic trends in emissions data and assessed options in the context of the Future Trends Report, the State of Natural Resources Report and international agreements on climate change. Having considered the evidence, including the UKCCC advice, Cabinet has agreed to set interim targets and first two carbon budgets as follows (against the 1990 baseline): • 2020: 27% reduction • 2030: 45% reduction • 2040: 67% reduction • Carbon budget 1 (2016\-20\): Average of 23% reduction • Carbon budget 2 (2021\-25\): Average of 33% reduction These levels are consistent with the UKCCC advice. I will ask the Assembly to approve these figures within Regulations to be laid before the Assembly towards the end of this year. The targets will be reviewed in light of emerging evidence and our well\-being objectives. We will be working with the UK Government and the UKCCC to review our long\-term targets in light of the Paris Agreement, ensuring they reflect our commitment to being a globally responsible Wales. However, the advice to date from the UKCCC has shown a reduction of 80% in Wales will be more stretching than the equivalent reduction for the UK as a whole and close to the maximum feasible reduction identified in their scenarios.   Achieving these numbers will be extremely challenging, not least in light of the recently published emissions data for 2016 which showed our emissions have increased compared to 2015\. This was largely due to a 22% increase in emissions from power stations. As a result, Wales has reduced its emissions by 14% since 1990\. While I am disappointed with the 2016 data, it is important to acknowledge the different challenges and opportunities we face compared to the rest of the UK. Historic trends show emissions are disproportionately volatile in Wales. Nearly 60% of our emissions come from heavy industry and electricity generation (referred to as the ‘traded sector’ under the EU Emissions Trading Scheme). Despite the impressive growth in renewable energy generation, a large proportion of energy produced in Wales is generated from fossil fuels. The figures reinforce the importance of setting targets and budgets, and establishing a clear pathway for decarbonisation. We are working across government to identify what actions we need to take in the short, medium and long\-term, and I have been encouraged by the response of Cabinet colleagues to this agenda. We will launch a consultation in July focusing on how to achieve our low\-carbon pathway to 2030 and maximising benefits on our well\-being goals. I look forward to discussing the consultation with Members later in the year.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn pennu ein huchelgais hirdymor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 80% yn 2050 ac mae'n sylfaen gref i fodloni ein hymrwymiadau rhyngwladol. Llynedd, rhoddais gadarnhad y byddwn yn cyfrifo ein holl allyriadau yng Nghymru. Bwriad y datganiad hwn yw diweddaru'r Cynulliad o ran gosod targedau lleihau allyriadau dros dro a'n dwy gyllideb garbon gyntaf. Mae gosod ein targedau dros dro a'n dwy gyllideb garbon gyntaf yn gerrig milltir pwysig o ran cynnig eglurder a sicrwydd i lywodraeth, busnes a rhanddeiliaid o ran llwybr Cymru tuag at gymdeithas garbon isel. Mae hefyd yn dangos ymrwymiad Cymru i gyfrannu at dargedau lleihau allyriadau y DU a chytundebau rhyngwladol. Mae'n rhaid i'n targedau a'n cyllidebau gael eu pennu gan ddefnyddio'r dystiolaeth gadarn ddiweddaraf, sy'n ystyried y saith nod llesiant a'r effaith ar allyriadau i osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng Nghymru o ystyried ein sefyllfa economaidd a'r cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth. Rydym wedi cynnal digwyddiadau gyda'n corff cynghori statudol, Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd (UKCC), ochr yn ochr â'u Cais am Dystiolaeth sy'n holi barn ar y targedau a'r cyllidebau.  Roeddwn yn falch o weld yr amrywiaeth eang o randdeiliaid yn ein digwyddiadau, gan gynnwys cynrychiolwyr y diwydiant, busnes, y sector cyhoeddus, y trydydd sector, academia a dinasyddion. Defnyddiodd UKCC y mewnbwn hwn fel sail i'w cyngor inni ar ein targedau dros dro a'u dwy gyllideb garbon gyntaf. Hoffwn ddiolch i randdeiliaid am eu cyfraniad ac am helpu inni ddeall gyda'n gilydd ein cyd\-destun Cymreig unigryw. Mae fy swyddogion hefyd wedi gweithio'n eang ar draws llywodraeth, gan gefnogi gweithgorau datgarboneiddio ym maes Amaethyddiaeth a'r Defnydd o Dir, Adeiladau, Trydan, Diwydiant a Busnes, y Sector Cyhoeddus, Trafnidiaeth a Gwastraff i brofi'r rhagdybiaethau a'r dystiolaeth sy'n cael eu cyflwyno gan UKCCC a'u cymharu gyda'n gwybodaeth a'n sylfaen dystiolaeth bresennol. Rydym hefyd wedi dadansoddi tueddiadau hanesyddol mewn data allyriadau ac wedi asesu opsiynau yng nghyd\-destun Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol, yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a chytundebau rhyngwladol ar y newid yn yr hinsawdd. Wedi ystyried y dystiolaeth, gan gynnwys cyngor UKCC, mae'r Cabinet wedi cytuno i osod targedau dros dro a'r ddwy gyllideb garbon fel a ganlyn (yn erbyn gwaelodlin 1990\): • 2020: Gostyngiad o 27% • 2030: Gostyngiad o 45% • 2040: Gostyngiad o 67% • Cyllideb garbon 1 (2016\-20\): Gostyngiad o 23% ar gyfartaledd • Cyllideb garbon 2 (2021\-25\): Gostyngiad o 33% ar gyfartaledd Mae'r lefelau hyn yn gyson â chyngor UKCCC. Byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gymeradwyo'r ffigurau hyn o fewn Rheoliadau i'w gosod gerbon y Cynulliad tuag at ddiwedd y flwyddyn. Caiff y targedau eu hadolygu yn dilyn tystiolaeth newydd a'n hamcanion llesiant. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r UKCC i adolygu ein targedau hirdymor yng ngoleuni Cytundeb Paris, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fod yn Gymru sy'n gyfrifol yn fyd\-eang. Fodd bynnag, mae'r cyngor hyd yma gan UKCCC wedi dangos y bydd y gostyngiad o 80% yng Nghymru yn fwy o ymdrech na'r gostyngiad cyfatebol i'r DU yn gyfan ac yn agos at y gostyngiad uchaf posibl o fewn y sefyllfa.   Bydd cyrraedd y ffigurau hyn yn hynod anodd, fel yr oedd y data allyriadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer 2016 yn dangos, bod ein allyriadau wedi cynyddu o gymharu â 2015\. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y cynnydd o 22% mewn allyriadau o bwerdai. O ganlyniad, mae Cymru wedi lleihau ei hallyriadau 14% ers 1990\. Er fy mod yn siomedig gyda data 2016, mae'n bwysig cydnabod y gwahanol heriau a'r cyfleoedd rydyn ni'n eu hwyneb o gymharu â gweddill y DU. Mae tueddiadau hanesyddol yn dangos bod allyriadau yn amrywiol iawn yng Nghymru. Mae bron 60% o'n hallyriadau'n dod o ddiwydiant trwm a chynhyrchu trydan (sy'n cael ei adnabod fel y 'sector masnachu' o dan Gynllun Masnachu Allyriadau yr UE). Er gwaethaf y twf sylweddol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy, mae cyfran helaeth o'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru yn dod o danwyddau ffosil. Mae’r ffigurau yn cadarnhau pwysigrwydd gosod targedau a chyllidebau, a sefydlu llwybr clir ar gyfer datgarboneiddio.  Rydym yn gweithio ar draws y llywodraeth i nodi pa gamau sydd angen inni eu cymryd yn y tymor byr, canolig a hirdymor, a chefais fy nghalonogi gan ymateb fy nghydweithwyr yn y Cabinet i’r agenda hon.  Byddwn yn lansio ymgynghoriad ym mis Gorffennaf yn canolbwyntio ar sut i gyflawni ein llwybr carbon isel tan 2030 a manteisio i’r eithaf ar ein hamcanion llesiant.  Rwy’n edrych ymlaen at drafod yr ymgynghoriad gyda’r Aelodau yn hwyrach yn y flwyddyn.
https://www.gov.wales/written-statement-setting-our-interim-emissions-reduction-targets-and-first-two-carbon-budgets
One of the first actions I said I would take on becoming Cabinet Secretary for Education was to consult on strengthening the School Organisation Code in respect of a presumption against the closure of rural schools. The School Organisation Code, made under the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013, imposes requirements in accordance with which relevant bodies (the Welsh Ministers, local authorities, governing bodies and other promoters) must act. It also includes practical guidance to which they must have due regard and sets out the policy context, general principles and factors that should be taken into account by those bringing forward proposals to reconfigure school provision and by those responsible for determining proposals. A fourteen week consultation on proposed revisions to the Code took place last year. I am pleased to say that there was broad agreement to all of the proposals. The draft Code was amended to reflect consultation responses and laid before the Assembly for 40 days in September as required by 2013 Act.   The 40 day period ended on 26 October. I am now delighted to advise that the revised Code, which introduces a presumption against the closure of rural schools and sets out the first ever designation and list of rural schools for this purpose, came into force today.   A presumption against closure does not mean rural schools will never close. However, the case for closure must be strong and not taken until all viable alternatives to closure have been conscientiously considered, including federation. I believe that consideration of alternatives should be a two stage process with the proposer doing this before they even decide to proceed to consultation and an opportunity for interested parties to put forward their suggestions for alternatives as part of the consultation process, which the local authority or other proposer must consider. The revised Code provides for this. The presumption against closure of rural schools will apply solely to schools designated as rural for this purpose. We therefore sought views on an appropriate designation of a rural school as part of the consultation. The designation and list of schools set out in the Code is informed by responses.   When proposing to close a school, local authorities and other proposers will be required to check whether the school is on the list, if so proposers will be required to follow a more detailed set of procedures and requirements in formulating a rural school closure proposal and in consulting on and reaching a decision as to whether to implement a rural school closure proposal. The revised Code comes into force on 1 November 2018 and comes into effect immediately. However to ensure that proposers are able to comply with the Code in respect of consultation, where a consultation document has been published prior to the coming into force date of 1 November 2018, proposals must be published and determined in accordance with the first edition of the Code. The presumption against the closure of rural schools is just one of a number of actions I am taking to support the delivery of education in rural Wales as part of our Rural Education Action Plan. It contributes to our commitment to develop a national approach to small and rural schools within the self\-improving system as part of our national mission. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish us to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns we would be happy to do so. The revised Code is available on the Welsh Government’s website at 9:00 on 1 November using the link below. https://beta.gov.wales/school\-organisation\-code\-0  
Un o’r camau cyntaf y dywedais i y byddwn i’n eu cymryd pan fyddwn i’n cael fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg oedd ymgynghori ar gryfhau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion mewn perthynas â’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a wnaed o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, yn gosod gofynion y mae’n rhaid i gyrff perthnasol (Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu a hyrwyddwyr eraill) weithredu yn unol â nhw. Mae’n cynnwys hefyd ganllawiau ymarferol y mae’n rhaid iddynt roi sylw priodol iddynt, ac mae’n amlinellu’r cyd\-destun polisi, egwyddorion cyffredinol a ffactorau a ddylai gael eu hystyried gan y rhai sy’n cyflwyno cynigion i ad\-drefnu darpariaeth ysgolion a’r rhai sy’n gyfrifol am benderfynu ar gynigion. Cynhaliwyd ymgynghoriad 14 wythnos ar ddiwygiadau arfaethedig i’r Cod y llynedd. Rwy’n falch o ddweud bod yna gytundeb eang i bob un o’r cynigion. Cafodd y Cod drafft ei ddiwygio i adlewyrchu ymatebion i’r ymgynghoriad a’i osod gerbron y Cynulliad am 40 diwrnod ym mis Medi fel sy’n ofynnol gan Ddeddf 2013\.   Daeth y cyfnod o 40 diwrnod i ben ar 26 Hydref. Pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi bod y Cod diwygiedig, sy’n cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig ac sy’n amlinellu’r dynodiad a’r rhestr gyntaf erioed o ysgolion gwledig i’r diben hwn, wedi dod i rym heddiw.   Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu na fyddant byth yn cau. Fodd bynnag, rhaid i’r achos dros gau fod yn gryf ac ni ddylid gwneud y penderfyniad i gau ysgol hyd nes i bob opsiwn arall gael ei ystyried yn gydwybodol, gan gynnwys ffedereiddio. Credaf y dylai’r broses o ystyried opsiynau eraill fod yn broses ddau gam, gyda’r cynigiwr yn gwneud hyn cyn hyd yn oed penderfynu mynd ati i gynnal ymgynghoriad a rhoi cyfle i bartïon â buddiant gyflwyno eu hawgrymiadau fel rhan o’r broses ymgynghori, y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol neu’r cynigiwr arall eu hystyried. Mae’r Cod diwygiedig yn darparu ar gyfer hyn. Bydd y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn berthnasol i ysgolion a ddynodir yn ysgolion gwledig i’r diben hwn. Felly, roeddem yn awyddus i gael barn pobl ar ddynodiad priodol o ysgol wledig fel rhan o’r ymgynghoriad. Mae’r dynodiad a’r rhestr o ysgolion a amlinellir yn y Cod yn cael eu llywio gan ymatebion.   Wrth gynnig cau ysgol, bydd hi’n ofynnol i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill wirio a yw’r ysgol ar y rhestr ac, os felly, bydd hi’n ofynnol i gynigwyr ddilyn cyfres o weithdrefnau a gofynion manylach wrth lunio cynnig i gau ysgol wledig, ymgynghori ar y cynnig hwnnw a gwneud penderfyniad ar a ddylid cyflwyno’r cynnig i gau ysgol wledig. Daw’r Cod diwygiedig i rym ar 1 Tachwedd 2018 a bydd yn weithredol yn syth. Fodd bynnag, i sicrhau bod cynigwyr yn gallu cydymffurfio â’r Cod mewn perthynas ag ymgynghoriad, lle mae dogfen ymgynghori wedi’i chyhoeddi cyn y dyddiad dod i rym, sef 1 Tachwedd 2018, rhaid i gynigion gael eu cyhoeddi a’u pennu yn unol ag argraffiad cyntaf y Cod. Mae’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn un o amryw o gamau rwy’n eu cymryd i gefnogi darpariaeth addysg yng Nghymru wledig fel rhan o’n Cynllun Gweithredu Addysg Wledig. Mae’n cyfrannu at ein hymrwymiad i ddatblygu ymagwedd genedlaethol at ysgolion bach a gwledig o fewn y system sy’n gwella ei hun fel rhan o’n cenhadaeth genedlaethol. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i ni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddem yn hapus i wneud hynny. Bydd y Cod diwygiedig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar 1 Tachwedd am 9:00am. Dilynwch y ddolen isod. https://beta.llyw.cymru/cod\-trefniadaeth\-ysgolion\-0
https://www.gov.wales/written-statement-strengthening-school-organisation-code-respect-presumption-against-closure-rural
I am pleased to inform Members of two major offers of funding to steel producers from the Welsh Government. We have provided over £4m of skills funding for Tata Steel in 2017\-18 to support further development of the workforce.   The Welsh Government’s continued investment in skills development for the company is intended to enable real efficiencies to be delivered across the Welsh plants as well as provide direct support to individuals. It will provide additional training that will enable the organisation to become more innovative and introduce advanced manufacturing and engineering techniques into the business to improve levels of efficiency, productivity and cost effectiveness.  It will also increase the flexibility and capacity of the workforce. The award of further skills funding means that to date we have offered funding of £17m across Tata Steel’s Welsh operations.  Along with support for skills development, this includes investment in the power plant at Tata’s Port Talbot plant to increase energy efficiency and reduce carbon emissions, and R\&D funding for new product development. We continue to work closely with Tata Steel on other specific packages of potential support. With the exception of funding for skills support, Tata will not be able to draw funding against these offers until we have agreed the detail of overarching legally binding conditions. In addition, we have recently made a significant offer to Celsa in Cardiff for environmental improvements that will help reduce the amount of energy used. Not only will this have a positive impact on carbon emissions but it will reduce Celsa’s energy costs. Celsa is a major employer in Cardiff, employing over 800 people and is the largest manufacturer of reinforced steel and wire products in the UK. The company produces around 1\.2m tonnes of steel annually from recycled scrap, using an electric arc furnace process, a process that is energy intensive. At this time, the offer of funding is subject to formal acceptance by the company.  We also announced today Welsh Government funding of £100,000 to BRC Reinforcements, part of the Celsa Group, to increase productivity at its Newport plant and create and protect 35 jobs. On 8 February, the First Minister opened the new Steel and Metals Institute in Swansea University.  The Institute, which has been supported with Welsh Government funding of just over £2m, will enable businesses across Wales to collaborate in the development of new products and processes as well as increase the number of researchers employed in Wales by businesses using the facilities. The facilities at the Institute will provide a substantial resource for Wales and reinforce our position as a region with progressive steel and metals research capability and helping to secure a more sustainable future for the sector. It will put the sector in a strong position to bring competitive won funding into Wales, for example Innovate UK funding.  The capability of the equipment provides potential for it to be utilised by the steel sector as a whole – from primary steel and metal producers to the downstream businesses and wider supply chain. The Steel Institute builds on wider R\&D support we have given the metals industry. This includes Swansea University’s state\-of\-the\-art IMPACT research hub based at the Swansea Bay campus.  The total cost is some £35m, supported by £17\.4m of EU funds and includes a Metal Technology Centre which will benefit the metal supply chain in Wales will include equipment that is set up to service predominantly lower technology readiness level work. The Welsh Government has also provided support to the SPECIFIC initiative in Swansea University undertaking exciting research and innovation that will lead to a transformation of the construction industry and that will change the way buildings are designed, built and used. Tata has been a key partner within SPECIFIC since it started as a collaborative project with Swansea University. The Welsh Government has supported SPECIFIC through two rounds of funding as an UK Innovation and Knowledge Centre and continues to support its ambition to deliver buildings as power stations. Alongside the significant investments that we have made as a Government in both facilities and also direct funding for companies, a priority for the Welsh Government in terms for further R\&D support for the steel industry is working with the sector and Universities to attract more of the UK research budget.  The budget has been increased until 2020, primarily due to the Industrial Strategy Challenge Fund. Our new Economic Action Plan – and our calls to action – have been designed in part to help Wales develop new platforms and new partnerships between government, universities, colleges and businesses that can allow us to go after more of that competitively awarded funding, as well as new UK Industrial Strategy challenge funding. I will continue to keep Members updated as matters progress.
Rwyf yn falch o hysbysu'r Aelodau o ddau gynnig sylweddol am gyllid i gynhyrchwyr dur gan Lywodraeth Cymru.Rydym wedi darparu dros £4 miliwn o gyllid ar gyfer sgiliau i Tata Steel yn 2017\-18 i helpu i ddatblygu'r gweithlu ymhellach. Bwriad buddsoddiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu sgiliau o fewn y cwmni yw sicrhau bod y gweithfeydd yng Nghymru yn fwy effeithlon yn ogystal â rhoi cymorth uniongyrchol i unigolion. Bydd yn darparu hyfforddiant ychwanegol fydd yn galluogi'r sefydliad i fod yn fwy arloesol ac i gyflwyno gweithgynhyrchu uwch a dulliau peirianyddol i'r busnes i wella lefelau effeithlonrwydd, cynhyrchiant ac effeithiolrwydd o ran y gost. Bydd hefyd yn sicrhau bod y gweithlu yn fwy hyblyg ac yn cynyddu gallu y gweithlu. Mae darparu sgiliau ychwanegol yn golygu ein bod hyd yma wedi cynnig cyllid o £17 miliwn ar draws gweithfeydd Tata Steel yng Nghymru. Yn ogystal â'r cymorth hwn i ddatblygu sgiliau, mae hyn yn cynnwys buddsoddiad yn y gweithfeydd ar safle Tata ym Mhort Talbot i arbed ynni ac i leihau allyriadau carbon, a chyllid Ymchwil a Datblygu i ddatblygu cynnyrch newydd. Rydym yn parhau i gydweithio'n agos â Tata Steel a phecynnau penodol eraill o gymorth posibl. Ag eithrio cyllid ar gyfer sgiliau, ni fydd Tata yn gallu defnyddio cyllid ar gyfer y cynigion hyn tan ein bod wedi cytuno ar fanylion amodau trosfwaol sydd wedi'u rhwymo mewn cyfraith. Hefyd, rydym wedi gwneud cynnig sylweddol i Celsa yng Nghaerdydd ar gyfer gwelliannau amgylcheddol fydd yn helpu i leihau faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio. Nid yn unig bydd hyn yn cael effaith bositif ar allyriadau carbon ond bydd yn lleihau costau ynni Celsa. Mae Celsa yn gyflogwr amlwg yng Nghaerdydd, sy'n cyflogi dros 800 o bobl a dyma'r gweithgynhyrchwr mwyaf ar gyfer dur wedi'i atgyfnerthu a chynnyrch gwifr yn y DU. Mae'r cwmni yn cynhyrchu oddeutu 1\.2 tunnell o ddur yn flynyddol o ddeunydd sgrap wedi'i ail\-gylchu, gan ddefnyddio proses ffwrnais gyda bwa trydan, proses sy'n defnyddio llawer o ynni. Ar hyn o bryd, mae'r cynnig o gyllid yn amodol ar gael ei dderbyn yn ffurfiol gan y cwmni.  Cyhoeddwyd gennym heddiw hefyd gyllid o £100,000 i BRC Reinforcements, rhan o Grŵp Celsa, i gynyddu cynhyrchiant yn eu canolfan yng Nghasnewydd, ac i greu a diogelu 35 o swyddi.   Ar 8 Chwefror, agorodd y Prif Weinidog y Ganolfan Dur a Metalau newydd ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y Ganolfan, sydd wedi'i chefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru o ychydig dros £2 filiwn, yn galluogi busnesau ledled Cymru i gydweithio i ddatblygu cynnyrch a phrosesau newydd yn ogystal â chynyddu nifer yr ymchwilwyr sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru gan fusnesau sy'n defnyddio'r cyfleusterau. Bydd cyfleusterau y Ganolfan yn cynnig adnodd sylweddol i Gymru ac yn cadarnhau ein safle fel rhanbarth sydd â'r gallu i wneud gwaith ymchwil blaengar ym maes dur a metalau gan helpu i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'r sector. Bydd yn rhoi'r sector mewn sefyllfa gref i ddod â chyllid sydd wedi'i ennill yn gystadleuol i Gymru, er enghraifft cyllid Innovate UK. Mae gallu yr offer yn golygu bod posibilrwydd iddo gael ei ddefnyddio gan y sector dur yn gyffredinol \- o ddur primaidd a chynhyrchwyr metal i'r busnesau at y cwsmer a'r gadwyn gyflenwi yn ehangach. Mae'r Ganolfan Ddur yn adeiladu ar y cymorth ehangach ar gyfer Ymchwil a Datblygu yr ydym wedi ei roi i'r diwydiant metalau. Mae hyn yn cynnwys canolfan ymchwil fodern IMPACT ym Mhrifysgol Abertawe sydd ar gampws Bae Abertawe. Cyfanswm y gost yw oddeutu £35 miliwn, wedi'i gefnogi gan £17\.4 miliwn o gyllid yr UE ac mae'n cynnwys Canolfan Technoleg Metal fydd o fudd i'r gadwyn cyflenwi metalau yng Nghymru, a bydd yn cynnwys offer sy'n cael ei sefydlu'n bennaf i wasanaethu gwaith technoleg is. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i fenter Y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC) hefyd ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cynnal gwaith ymchwil ac arloesi cyffrous fydd yn arwain at drawsnewid y diwydiant adeilad, ac yn newid y ffordd y caiff adeiladau eu cynllunio, eu hadeiladu a'u defnyddio. Bu Tata yn bartner allweddol o fewn SPECIFIC ers iddo ddechrau fel prosiect cydweithredol gyda Phrifysgol Abertawe. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi SPECIFIC trwy ddau gylch cyllido fel UK Innovation a Chanolfan Wybodaeth ac mae'n parhau i gefnogi ei uchelgais i ddarparu adeiladau fel pwerdai. Ochr yn ochr â'r buddsoddiadau sylweddol yr ydym wedi eu gwneud fel Llywodraeth o ran cyfleusterau a hefyd o ran cyllid uniongyrchol i gwmnïau, blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru o ran cymorth Ymchwil a Datblygu pellach ar gyfer y diwydiant dur yw gweithio gyda'r sector a Phrifysgolion i ddenu mwy o gyllid ymchwil y DU. Mae'r gyllideb wedi ei chynyddu tan 2020, yn bennaf oherwydd Cronfa Herio'r Strategaeth Ddiwydiannol. Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd newydd \- a'n galwadau i weithredu \- wedi'u cynllunio'n rhannol i helpu Cymru i ddatblygu platfformau newydd a phartneriaethau newydd rhwng llywodraeth, prifysgolion, colegau a busnesau sy'n caniatáu inni fynd ar ôl y cyllid mwy cystadleuol, yn ogystal â chyllid newydd her Strategaeth Ddiwydiannol y DU. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Weinidogion am y datblygiadau diweddaraf.
https://www.gov.wales/written-statement-steel-update
The Welsh Government remains firmly committed to providing services and support that meets the needs of our Armed Services community. As part of our support we are determined to provide veterans with the services they need to adjust to life outside of the Armed Forces or to help deal with often life changing impacts of service I recently attended the Ministerial Covenant and Veterans Board where we, along with the other UK Administrations, agreed to support a new Veterans Strategy. That Strategy has been published today and I have laid a copy in the Assembly. The Strategy recognises that each country in the UK is different and delivery will look different in each part of the country However, the Strategy confirms, all parts of the UK’s  commitment to achieving a shared vision and the best outcomes for our Veterans. A copy of the Strategy published in both Welsh and English can be found at: www.gov.wales/armedforcessupport  
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth sy'n diwallu anghenion ein cymuned Gwasanaethau Arfog. Fel rhan o'n cefnogaeth rydym yn benderfynol o ddarparu'r gwasanaethau y mae eu hangen ar gyn\-filwyr i addasu i fywyd y tu allan i'r Lluoedd Arfog neu i helpu i ddelio ag effeithiau gwasanaeth sy'n newid yn aml Yn ddiweddar, fe wnes i fynychu Bwrdd y Cyfamod a Chyn\-filwyr Gweinidogol lle cytunom, ynghyd â Gweinyddiaethau eraill y DU, i gefnogi Strategaeth Cyn\-filwyr newydd. Mae'r Strategaeth honno wedi'i chyhoeddi heddiw ac rwyf wedi gosod copi yn y Cynulliad. Mae'r Strategaeth yn cydnabod bod pob gwlad yn y DU yn wahanol a bydd y ddarpariaeth yn edrych yn wahanol ym mhob rhan o'r wlad. Fodd bynnag, mae'r Strategaeth yn cadarnhau, pob rhan o ymrwymiad y DU i gyflawni gweledigaeth a rennir a'r canlyniadau gorau i'n Cyn\-filwyr. Gellir dod o hyd i copi o'r Strategaeth, wedi ei gyhoeddi yn y Gymraeg a Saesneg, ar: www.llyw.cymru/cefnogiylluoeddarfog  
https://www.gov.wales/written-statement-strategy-our-veterans
The Cabinet Secretary for Local Government and Public Services, Alun Davies AM, informed the Chamber he would provide a Written Statement on the issue raised by Russell George AM during plenary on the 28 February concerning the contaminated land regime. I am providing this statement as contaminated land falls within my portfolio. The Welsh Government is committed to tackling the legacy of historical land contamination in Wales and continues to help support Local Authorities with this work. Addressing its impact on the environment and the well\-being of our communities remains a priority. This is why funding was allocated in 2017/18 to assist Local Authorities and Natural Resources Wales in investigating and remediating contaminated sites across Wales. Over £850,000 was allocated and this included the funding of ground\-breaking work to remediate metal mine water pollution, drawing international interest.   In the case to which Russell George AM referred, (Powys County Council v Price and Hardwick (2017\)), the Court found Powys County Council was not liable under the contaminated land regime for the remediation of contaminated land associated with waste deposited at a (now closed) landfill site operated by its predecessor organisation, the Borough of Brecknock. The contaminated land regime set out in Part 2A of the Environmental Protection Act 1990 provides a means of dealing with potential risks posed by contaminated land. Local Authorities are required to inspect their areas with a view to identifying such sites. Once the enforcing authority is satisfied land meets the definition of contaminated land set out in the Act, it must consider how it should be remediated. The process of determining and discharging liabilities follows. The ‘polluter pays’ principle underpins the operation of the contaminated land regime. Any person who caused or knowingly permitted the introduction of the substances by reason of which the land becomes contaminated land is liable for its remediation (referred to as a ‘Class A’ person(s)). Where there is more than one Class A person, liability is apportioned amongst the group. It is only if a Class A person cannot be found that any current owner and/or occupier of the land becomes liable (referred to as a ‘Class B’ person(s)). The Court case examined the effect of the legislation relating to the 1996 Local Government re\-organisation. In particular, it examined the Local Government Reorganisation (Wales) (Property etc.) Order 1996, which transferred liabilities to the successor local authorities.  The Court found that there was no liability under Part 2A of the Environmental Protection Act 1990 at time of the transfer (Part 2A did not come into force in relation to Wales until 2001\), and so there was no liability capable of transferring to the successor authority under the 1996 Order. The case makes it clear successor organisations established by the 1996 Local Government re\-organisation will not be ‘Class A’ persons in relation to contaminated land which has been identified as such because of substances introduced by the activities of their predecessors. My officials are now considering the implications of this legislative arrangement in light of the case cited by Russell George AM.   It is important to note the identification, attribution and apportionment of contaminated land liabilities is influenced by a variety of factors. Land (including legacy industrial waste disposal/landfill sites), will only become contaminated land for the purposes of Part 2A of the Environment Act 1990 if, upon investigation, it satisfies the definition set out in the Act. Even then, there will be a number of factors which will affect the identification of the person(s) liable to remediate the land, and also the attribution and apportionment of liabilities to the liable person(s). Where land is identified as contaminated land, enforcing authorities will have regard to the circumstances of each individual case when exercising their functions in relation to remediation requirements and the associated costs (further details can be found within the Contaminated Land Statutory Guidance for Wales 2012(1\)). Each case should be considered on its own facts. Anyone who is concerned about the potential implications of the Court judgment for them should consider seeking legal advice on their specific circumstances, and talking to their local authority.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, wrth y Siambr y byddai'n gwneud Datganiad Ysgrifenedig ar y mater a godwyd gan Russell George AC yn y cyfarfod llawn ar 28 Chwefror am y drefn ar gyfer delio â thir halogedig. Bydda i'n rhoi'r datganiad hwnnw gan fod tir halogedig yn bwnc sy'n perthyn i'm portffolio i. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddelio â'r gwaddol o dir halogedig rydym wedi'i etifeddu yng Nghymru ac mae'n parhau i helpu Awdurdodau Lleol â'r gwaith hwn. Mae mynd i'r afael â'i effaith ar yr amgylchedd a lles ein cymunedau yn dal i fod yn flaenoriaeth. Dyna pam y neilltuwyd arian yn 2017/18 i helpu Awdurdodau Lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i archwilio ac adfer tiroedd halogedig ledled Cymru. Cafodd dros £850,000 ei neilltuo a'i ddefnyddio ymhlith pethau eraill i ariannu gwaith arloesol i lanhau llygredd dŵr o fwyngloddiau metel, gan ennyn diddordeb o bob rhan o'r byd. Yn yr achos y cyfeiriodd Russell George AC ato, (Cyngor Sir Powys v Price a Hardwick (2017\)), cafodd y Llys nad oedd Cyngor Sir Powys yn atebol o dan y drefn tir halogedig am adfer tir a halogwyd gan wastraff a ollyngwyd ar safle tirlenwi (sydd bellach wedi cau) oedd yn cael ei redeg gan ei ragflaenydd, Bwrdeistref Brycheiniog. Disgrifir y drefn tir halogedig yn Rhan 2A Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ac mae'n darparu ffordd o ddelio â'r peryglon y gall tir halogedig eu creu. Disgwylir i Awdurdodau Lleol archwilio'u hardaloedd er mwyn cael hyd i safleoedd o'r fath. Pan fydd yr awdurdod gorfodi'n fodlon bod y tir dan sylw'n cyfateb i'r diffiniad o dir halogedig a ddisgrifir yn y Ddeddf, rhaid iddo ystyried sut y dylai ei adfer. Yna daw'r broses o benderfynu pwy sy'n atebol a sut i gyflawni'r rhwymedigaethau. Sylfaen y drefn tir halogedig yw'r egwyddor mai'r 'llygrwr sy'n talu'. Bydd unrhyw berson a barodd cyflwyno'r sylweddau sydd wedi halogi'r tir neu a wnaeth caniatáu eu cyflwyno yn atebol am ei adfer (cyfeirir ato fel person 'Dosbarth A'). Lle ceir mwy nag un person Dosbarth A, rhennir yr atebolrwydd ymhlith y grŵp. Dim ond os nad oes person Dosbarth A y daw perchennog a/neu feddiannydd y tir yn atebol (cyfeirir ato fel person 'Dosbarth B').  Cafodd effaith y ddeddfwriaeth ad\-drefnu Llywodraeth Leol 1996 ei hystyried gan y Llys. Archwiliodd yn arbennig Orchymyn Ad\-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Eiddo ac ati) 1996, a drosglwyddodd eu rhwymedigaethau i'r awdurdodau lleol newydd. Ym marn y Llys, nid oedd rhwymedigaeth o dan Ran 2A Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 adeg y trosglwyddiad (ni ddaeth Rhan 2A i rym yng Nghymru tan 2001\), ac felly nid oedd rhwymedigaeth i'w drosglwyddo i'r awdurdod olynol o dan Orchymyn 1996\. Mae'r achos yn ei gwneud yn glir na chaiff awdurdodau olynol a sefydlwyd yn sgil ad\-drefnu llywodraeth leol ym 1996 fod yn berson 'Dosbarth A' mewn cysylltiad â thir a halogwyd yn sgil cyflwyno sylweddau gan weithgareddau'u rhagflaenwyr. Mae fy swyddogion wrthi'n ystyried goblygiadau'r trefniant deddfwriaethol hwn yng ngoleuni'r achos y cyfeiriodd Russell George AC ato.  Mae'n bwysig nodi bod nifer o ffactorau'n dylanwadu ar sut y caiff yr atebolrwydd am dir halogedig ei adnabod, ei briodoli a'i rannu. Er mwyn i dir (gan gynnwys hen safleoedd tirlenwi/gwastraff diwydiannol) gael ei ystyried yn dir halogedig o dan Ran 2A Deddf Amgylchedd 1990, rhaid iddo fodloni ar ôl archwiliad y diffiniad a geir yn y Ddeddf. Hyd yn oed wedyn, ceir nifer o ffactorau fydd yn effeithio ar adnabod y person sy'n atebol am adfer y tir, a sut y caiff yr atebolrwydd hwnnw ei briodoli a'i rannu i'r person atebol. Lle nodir bod y tir wedi'i halogi, bydd yr awdurdod gorfodi'n ystyried amgylchiadau pob achos unigol wrth arfer ei swyddogaethau i bennu'r gofynion adfer a'r costau cysylltiedig (cewch fanylion pellach yn y Canllaw Statudol i Gymru ar Dir Halogedig 2012(1\)). Cloriennir pob achos yn ôl ei ffeithiau. Dylai unrhyw un sy'n bryderus ynghylch goblygiadau posib dyfarniad y Llys iddynt hwy ystyried gofyn barn gyfreithiol am eu hamgylchiadau penodol a siarad â'r awdurdod lleol. 
https://www.gov.wales/written-statement-statement-contaminated-land
Special advisers add a political dimension to the advice and assistance available to Ministers while reinforcing the political impartiality of the permanent Civil Service by distinguishing the source of political advice and support. They are appointed by the First Minister to help Ministers on matters where the work of Government and the work of the Government Party overlap and where it would be inappropriate for permanent civil servants to become involved. They are an additional resource for the Minister providing assistance from a standpoint that is more politically committed and politically aware than would be available to a Minister from the permanent Civil Service. There were 10 Special Advisors in post for all or part of the 2017/18 financial year, as set out in the table below   #### Special Adviser (Pay Band) Matt Greenough (PB3\) Alex Rawlin (PB2\) Andrew Johnson (PB2\) Jane Runeckles \* (PB2\) Gareth Williams\* (PB3\) David Costa (PB2\) Tom Woodward (PB2\) Huw Price (PB2\) Madeleine Brindley (PB2\) Kate Edmunds \*\* (PB2\)   *\* Part\-time \*\* Commenced employment on 16/10/17* The paybill cost for the period 1 April 2017 to 31 March 2018 totalled £674,673\. This includes salary, employers’ national insurance contributions and pension contributions.   #### Special Adviser Pay Bands for 2017\-18 The pay bands and pay ranges for special advisers for 2017\-18 were as follows: * PB2 £53,000 \- £69,999 * PB3 £70,000 \- £94,999 *This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.*                        
Mae cynghorwyr arbennig yn ychwanegu dimensiwn gwleidyddol at y cyngor a'r cymorth sydd ar gael i’r Gweinidogion. Ar yr un pryd maent yn atgyfnerthu amhleidioldeb gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol trwy fod yn ffynhonnell ar wahân o gyngor a chymorth gwleidyddol.   Maent yn cael eu penodi gan y Prif Weinidog i helpu’r Gweinidogion ar faterion lle mae gwaith y Llywodraeth a gwaith Plaid y Llywodraeth yn gorgyffwrdd a lle y byddai'n amhriodol i weision sifil parhaol gymryd rhan. Maent hefyd yn adnodd ychwanegol ar gyfer y Gweinidog gan ddarparu cymorth o safbwynt sy'n fwy ymroddedig ac ymwybodol yn wleidyddol nag y byddai modd i’r Gwasanaeth Sifil parhaol ei gynnig i’r Gweinidog.   Roedd 10 o gynghorwyr arbennig yn eu swyddi am y cyfan neu ran o'r flwyddyn ariannol 2017/18, fel y nodir yn y tabl isod #### Cynghorydd Arbennig (Band Cyflog) Matt Greenough (BC3\) Alex Rawlin (BC2\) Andrew Johnson (BC2\) Jane Runeckles (BC2\)\* Gareth Williams (BC3\)\* David Costa (BC2\) Tom Woodward (BC2\) Huw Price (BC2\) Madeleine Brindley (BC2\) Kate Edmunds (BC2\)\*\*   \* Rhan\-amser \*\* Cyflogaeth wedi cychwyn ar 16/10/17 Cyfanswm y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018 oedd £674,543\. Mae hyn yn cynnwys cyflogau, cyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn cyflogwyr. #### Bandiau cyflog Cynghorwyr Arbennig ar gyfer 2017\-18 Roedd bandiau cyflog ac ystodau cyflog cynghorwyr arbennig ar gyfer 2017\-18 fel a ganlyn: * Band Cyflog 2 £53,000 – £69,999 * Band Cyflog 3 £70,000 – £94,999 Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-special-advisers
This statement is made in accordance with paragraph 1(7\) of Schedule 2 to the Law Derived from the European Union (Wales) Act (LDEU Act). The LDEU Act was passed by the National Assembly on 21 March and received Royal Assent on 6 June. As part of the Intergovernmental Agreement reached with the UK Government in relation to the European Union (Withdrawal) Act, the Welsh Government initiated steps to secure the repeal of the LDEU Act by laying draft regulations under section 22 of the Act. Regulations brought forward under section 22 of the Act are subject to the enhanced procedure. The draft regulations were laid before the National Assembly on 8 June for a 60\-day period (ignoring any days for which the National Assembly is dissolved or in recess for more than four days). Paragraph 1(6\) of Schedule 2 to the LDEU Act requires the Welsh Ministers to have regard to: * any representations, * any resolution of the National Assembly, and * any recommendations of a committee of the National Assembly charged with reporting on the draft regulations, made during the 60\-day period with regard to the draft regulations. If after the expiry of the 60\-day period the Welsh Ministers wish to make regulations in the terms of the draft, the Welsh Ministers must lay before the National Assembly a statement stating whether any representations were made, and if any representations were made, giving details of them. The 60\-day period for representations expired on 1 October and one representation was made by the Constitutional and Legislative Affairs Committee, in respect of the draft Regulations. The Committee identified one point for reporting under Standing Order 21\.3 in respect of this instrument as follows: *Standing Order 21\.3(ii) \- that it is of political or legal importance or gives rise to issues of public policy likely to be of interest to the Assembly We note the significance of these Regulations and how the repeal would mean that important constitutional and legal matters (such as the continuation of EU\-related Welsh law after exit and the powers of the Welsh Ministers to correct deficiencies in retained EU law) will be dealt with under the European Union (Withdrawal) Act 2018\. We also note that the repeal of the Act forms part of the Intergovernmental Agreement on the European Union (Withdrawal) Bill and the Establishment of Common Frameworks.* No other representations were received, nor were there any resolutions of the National Assembly or any recommendations from a committee of the National Assembly charged with reporting on the draft regulations. Following the laying of this statement, the Welsh Ministers now intend to seek an Assembly resolution approving the draft regulations, allowing them to make the Regulations in terms of the draft.
Gwneir y datganiad hwn yn unol â pharagraff 1(7\) o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Pasiwyd y Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 21 Mawrth ac fe gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin. Fel rhan o'r Cytundeb Rhynglywodraethol gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), dechreuodd Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y byddai'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn cael ei dileu drwy osod rheoliadau drafft dan adran 22 o'r Ddeddf. Mae rheoliadau sy'n cael eu cyflwyno dan adran 22 o'r Ddeddf yn ddarostyngedig i'r weithdrefn uwch. Gosodwyd y rheoliadau drafft gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 8 Mehefin am gyfnod o 60 diwrnod (gan anwybyddu unrhyw amser pan oedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod). Mae paragraff 1(6\) o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r UE yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i: * unrhyw sylwadau, * unrhyw benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac * unrhyw argymhellion gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft, a wneir yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau o ran y rheoliadau drafft. Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yn dymuno gwneud rheoliadau ar ffurf y drafft, rhaid iddynt osod datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn nodi a gyflwynwyd unrhyw sylwadau ac, os felly, yn rhoi manylion y sylwadau hynny. Daeth y cyfnod o 60 o ddiwrnodau ar gyfer sylwadau i ben ar 1 Hydref, ac fe ddaeth un sylw i law gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Rheoliadau drafft.   Nododd y Pwyllgor un pwynt i gyflwyno adroddiad arno dan Reol Sefydlog 21\.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn fel a ganlyn: *Rheol Sefydlog 21\.3(ii) \- ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad Rydym yn nodi arwyddocâd y Rheoliadau hyn a’r ffaith y byddai’r diddymiad yn golygu y bydd materion cyfansoddiadol a chyfreithiol pwysig (megis parhad cyfraith Cymru sy’n gysylltiedig â’r UE ar ôl ymadael, a phwerau Gweinidogion Cymru i gywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir) yn cael eu trin o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018\.   Rydym hefyd yn nodi bod diddymu’r Ddeddf yn rhan o’r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin.* Ni chafwyd unrhyw sylwadau eraill, nac unrhyw benderfyniadau gan y Cynulliad Cenedlaethol na chwaith unrhyw argymhellion gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft. Yn dilyn gosod y datganiad hwn, mae Gweinidogion Cymru nawr am geisio penderfyniad gan y Cynulliad yn cymeradwyo'r rheoliadau drafft, gan ganiatáu iddynt wneud y Rheoliadau ar ffurf y drafft.
https://www.gov.wales/written-statement-statement-law-derived-european-union-wales-act-2018-repeal-regulations-2018
Diagnostic imaging services play a vital role in the early and accurate identification of diseases to ensure patients receive the right treatment at the earliest opportunity. These services are generally provided by hospital\-based Radiology Departments (X\-Ray) through a range of technologies including: radiographs (x\-rays), ultrasound, Magnetic Resonance Imaging (MRI) and Positron Emission Tomography – Computed Tomography (PET\-CT). Wales also enjoys a leading position at the forefront of innovative imaging facilities, with a strong international reputation stemming from the work being done at Cardiff University’s Brain Research Imaging Centre (CUBRIC) and the Wales Research and Diagnostic Positron Emission Tomography Imaging Centre (PETIC). The NHS Wales National Imaging Academy in Pencoed will also be open for business in April 2018\. It is important that we build upon these successes and work with our partners in addressing service level challenges. Imaging services face a number of significant challenges such as the increasing demand for non\-invasive and accurate imaging modalities; workforce issues related to recruitment, training and retirement; the need to diagnose conditions quicker and; new imaging techniques and technologies. Such challenges can lead to unnecessary delays in diagnoses and treatment and there is compelling evidence of the need to transform the provision of imaging services here in Wales. To respond to these challenges it is essential that we develop a coordinated implementation plan for imaging services in NHS Wales. To prepare the ground for this, a Welsh Government\-led Imaging Taskforce has come together to prepare a strategic, forward looking, Statement of Intent (SoI). Today I have published the Statement of Intent for Imaging which sets out in more detail the work that will be developed under 8 key priority areas: * public involvement and engagement * workforce development * equipment * quality * services * informatics and information * research and innovation, and * governance. This work will inform and shape an implementation plan that aims to deliver sustainable high\-quality imaging services in NHS Wales that is fit for the future. The plan will: * set out how the National Imaging Academy and Health Education and Improvement Wales will work together to ensure that the imaging workforce is flexible and sustainable * identify priorities for, and improve co\-ordination of, investment in imaging equipment * strengthen the evidence\-base of imaging services to promote quality improvement and prudent healthcare * develop an all\-Wales Network to ensure service delivery is integrated and equitable * enhance IT systems to enable better and more consistent data reporting; * strengthen collaboration for research and innovation to address service challenges * promote excellence by national and international bench\-marking of imaging services, and, * support improvements to the imaging service’s leadership capacity and accountability. The implementation plan will bring many benefits for patients, families and the population of Wales, including: * a more efficient and prudent imaging service, directing resources to where they are most needed, and, * earlier, more accurate diagnosis, supporting early intervention and better targeted treatments, resulting in better responses to treatment, fewer side effects and quicker recovery from illness. I have asked the Imaging Taskforce to continue its good work and to help develop the implementation plan. The Taskforce composed of experts from NHS Wales and Welsh Government officials and led by Dr Rob Orford, Chief Scientific Adviser (Health) will engage with key stakeholders across Wales in the development of the plan. I have asked the Taskforce to report back to me by summer 2018\. Statement of Intent for Diagnostic Imaging Services
Mae gwasanaethau delweddu diagnostig yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o adnabod clefydau yn gynnar ac yn gywir er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth iawn cyn gynted â phosibl. Fel arfer mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan Adrannau Radioleg (pelydr\-X) dryw amryw o dechnolegau, gan gynnwys: radiograffau (pelydr\-X), uwchsain, delweddu atseiniol magnetig (MRI) a Tomograffeg Allyriant Positron – Tomograffeg Gyfrifiadurol (PET\-CT). Gall Cymru hefyd ymfalchïo yn ei safle blaenllaw ym maes cyfleusterau delweddu arloesol, a'i henw da yn rhyngwladol yn sgil y gwaith a wneir yng Nghanolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC) a Chanolfan Delweddu Tomograffeg Allyriant Positron Cymru (PETIC). Bydd Academi Ddelweddu Genedlaethol GIG Cymru ym Mhencoed yn agor ym mis Ebrill 2018\. Mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar y llwyddiannau hyn, gan weithio gyda'n partneriaid i ymateb i heriau ar lefel gwasanaethau. Mae gwasanaethau delweddu'n wynebu nifer o heriau sylweddol megis y galw cynyddol am ddulliau delweddu cywir ac anfewnwthiol; materion sy’n ymwneud â’r gweithlu megis recriwtio, hyfforddi, ac ymddeol; yr angen i roi diagnosis cyflymach ar gyfer cyflyrau; technegau a thechnolegau delweddu newydd. Gallai heriau o'r fath olygu oedi diangen wrth roi diagnosis a thriniaeth, ac mae yna dystiolaeth gref bod angen inni weddnewid ein darpariaeth o wasanaethau. Er mwyn inni allu ymateb i'r heriau hyn, mae'n hanfodol ein bod yn datblygu cynllun gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer gwasanaethau delweddu GIG Cymru. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, mae Tasglu Delweddu, o dan arweiniad Llywodraeth Cymru, wedi dod ynghyd i baratoi Datganiad o Fwriad strategol ar gyfer y dyfodol. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r Datganiad o Fwriad ar gyfer Gwasanaethau Delweddu sy'n disgrifio'n fanylach y gwaith a fydd yn cael ei ddatblygu o dan wyth maes o flaenoriaeth allweddol. * ymgysylltu â'r cyhoedd * datblygu'r gweithlu * cyfarpar * ansawdd * gwasanaethau * gwybodeg a gwybodaeth * gwaith ymchwil ac arloesedd * llywodraethu. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i lunio cynllun gweithredu i Gymru sydd â'r nod o ddarparu gwasanaethau delweddu o ansawdd uchel mewn GIG sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Bydd y cynllun hwnnw’n gwneud y canlynol: * disgrifio sut y bydd yr Academi Ddelweddu Genedlaethol ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cydweithio i greu gweithlu delweddu hyblyg a chynaliadwy * nodi'r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn cyfarpar delweddu, a gwella'r dulliau o gydgysylltu hynny * cryfhau'r sail dystiolaeth ar gyfer gwasanaethau delweddu er mwyn helpu i wella ansawdd a darparu gofal iechyd darbodus * datblygu Rhwydwaith Cymru gyfan i sicrhau bod y gwasanaethau a darperir wedi eu hintegreiddio ac yn deg * gwella systemau TG i wella a chysoni dulliau o gofnodi data * cryfhau dulliau o gydweithredu ym meysydd ymchwil ac arloesi er mwyn ymateb i'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau * hyrwyddo rhagoriaeth drwy ddefnyddio dulliau meincnodi cenedlaethol a rhyngwladol mewn perthynas â gwasanaethau delweddu; * cefnogi'r gwaith o wella capasiti arweinyddiaeth y gwasanaethau delweddu a’i hatebolrwydd. Bydd y cynllun gweithredu yn dod â llawer o fanteision i gleifion, teuluoedd a phobl Cymru, sef manteision megis: * gwasanaeth delweddu mwy effeithlon a darbodus, sy'n defnyddio adnoddau lle mae'r angen mwyaf amdanynt; a, * diagnosis cynharach a chywirach, fel bod modd ymyrryd yn gynnar a chynnig triniaeth sydd wedi'i thargedu'n well, a allai olygu bod pobl yn ymateb yn well i driniaeth, yn dioddef llai o sgil\-effeithiau, ac yn gwella'n gyflymach ar ôl salwch. Rwyf wedi gofyn i'r Tasglu Delweddu barhau â'i waith da ac i helpu i ddatblygu'r cynllun gweithredu. Bydd y Tasglu, sy'n cynnwys arbenigwyr o GIG Cymru a swyddogion o Lywodraeth Cymru, o dan arweiniad Dr Rob Orford, y Prif Gynghorydd Gwyddonol (Iechyd), yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru wrth ddatblygu'r cynllun. Rwyf wedi gofyn i'r Tasglu roi adroddiad imi erbyn haf 2018\. Datganiad o Fwriad ar gyfer Gwasanaethau Delweddu Diagnostig
https://www.gov.wales/written-statement-statement-intent-diagnostic-imaging-services
In August last year, the Welsh Government published a White Paper: *Striking the right balance: proposals for a Welsh Language Bill*. At the heart of the proposals was our commitment to ensure a suitable legislative foundation to promote and facilitate the use of the Welsh language to help us reach our target of a million Welsh speakers by 2050\. 504 written responses were received during the course of the consultation and today, I am pleased to publish a summary report of the consultation responses. I am also publishing the consultation responses in full. The report shows that, with the exception of one question relating to the frequency with which the Welsh Government reports to the Assembly on our Welsh language strategy, our proposals were supported by those who responded to the consultation. I am very grateful to everyone who spent time preparing their consultation responses and I will continue to consider these responses carefully to help inform our policy in moving forward with the Welsh Language Bill. I will make a further statement on this work in due course.   https://consultations.gov.wales/consultations/welsh\-language\-bill\-white\-paper        
Ym mis Awst llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn: Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. Wrth galon y cynigion oedd ein hymrwymiad i sicrhau sylfaen ddeddfwriaethol addas i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg i’n helpu i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050\.   Derbyniwyd 504 o ymatebion ysgrifenedig dros y cyfnod ymgynghori ac heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r ymatebion a ddaeth i law. Rwyf hefyd yn cyhoeddi’r cyfan o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r adroddiad yn dangos, ac eithrio yn achos un cwestiwn yn ymwneud â’r amlder y mae Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r Cynulliad ar ein strategaeth y Gymraeg, cefnogwyd ein cynigion gan y sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a dreuliodd amser yn paratoi eu hymatebion i’r ymgynghoriad a byddaf yn parhau i ystyried yr ymatebion hyn yn ofalus i helpu i lywio ein polisi wrth symud ymlaen gyda Bil y Gymraeg. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar y gwaith hwn maes o law.   https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/bil\-y\-gymraeg\-papur\-gwyn
https://www.gov.wales/written-statement-summary-responses-consultation-white-paper-striking-right-balance-proposals-welsh
Our consultation on the Sustainable Management of Natural Resources (SMNR) last year attracted a large number of responses from stakeholder organisations and individual citizens.   In total, 17,391 responses were recorded during the consultation period and all of these have been considered in preparing the Welsh Government’s summary document. I would like to thank everyone who took the time to contribute to the consultation. Some of the proposals secured wide public support where others generated a range of views. Nevertheless, the responses have allowed the Welsh Government to gain a better understanding of stakeholder views and positions across Wales informing how we take forward our ground\-breaking legislation enabling us to optimise the opportunities our natural resources provide, whilst ensuring their long\-term resilience. The consultation fulfilled its purpose to collate evidence and propositions on how we can develop our policies to manage sustainably our natural resources, which underpin our long\-term prosperity and well\-being   The exercise also provided an opportunity to hear views on the possible benefits and challenges the UK’s exit from the EU represents, as well as gain views on the regulatory approaches, which may be required in the short and long term. It is encouraging to see that in general there is wide support for delivering a sustainable management of Wales’ natural resources. Stakeholders offered new and innovative approaches for utilising and also protecting our environment, some of which could present longer term solutions in the context of regulatory reforms post EU Exit. The summary published today presents both a quantitative assessment and an objective synopsis of the comments and views expressed by the respondents. Representative organisations and groups initiated 17 campaigns associated with specific proposals within the SMNR consultation. The campaign responses and individual contributions have all been taken into consideration during the analysis and finalising the published document. The individual elements of the consultation document have been and will be further considered by my officials in light of the evidence and views provided. The next stage of the process will be setting out the appropriate timescales for policy development over the short and long term, in the context of the Welsh Government’s wider objectives and the UK’s exit from the EU. I have already issued a statement that our existing designated landscapes will be retained and their purpose of conserving and enhancing natural beauty will not be weakened, and a further priorities statement will be issued following the wide range of comments in response to the Future Landscapes Wales report and the SMNR consultation. I look forward to in the coming days to providing a statement on the refreshed Forestry Strategy which takes into account the principles of SMNR and new legislation since its last update in 2009\. Doing even more to develop a more resource efficient, ‘circular’ economy will be taken forward in our planned consultation later in 2018 on an update of our waste strategy, ‘Towards Zero Waste’ and on a draft route map for a more resource efficient Wales. Useful contributions have been received in response to smarter regulation proposals; these and other views in relation to appropriate regulatory needs for land management post EU Exit have been considered in the “Brexit and our Land” consultation document scheduled for publication in early July. There were strong but differing views on how best to reform access legislation. We therefore believe that now is not the right time for substantive reform. But we are committed to exploring selected aspects of change where there was greater consensus, including on some of the administrative arrangements and multi\-use paths. We will continue to facilitate further discussions through established groups such as the National Access Forum. Likewise, I recognise there was strong support for the introduction of new financial penalties to help address littering from vehicles, the consultation identified a number of issues with the proposed new powers and these require further consideration. On this basis we will continue to engage with stakeholders and will explore how best to support Local Authorities in implementing their existing powers. Marine planning for Wales is making good progress and I look forward to introducing the first Welsh National Marine Plan and will give further consideration to regional plans once we have experience from implementing the national plan. Stakeholders and the wider public will be updated on any future developments through established working groups and other Welsh Government communications channels. The published summary of the responses can be accessed at the following link: https://beta.gov.wales/taking\-forward\-wales\-sustainable\-management\-natural\-resources 
Daeth nifer dda o ymatebion i law gan gyrff rhanddeiliaid ac unigolion i'r ymgynghoriad y gwnaethon ni ei gynnal y llynedd ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Cafwyd cyfanswm o 17,391 o ymatebion dros gyfnod yr ymgynghoriad ac mae Llywodraeth Cymru wedi'u hystyried i gyd wrth baratoi'i chrynodeb. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o'u hamser i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Mynegwyd cryn gefnogaeth gan y cyhoedd i rai cynigion ond amrywiol oedd yr ymateb i rai eraill. Serch hynny, diolch i'r ymatebion, mae Llywodraeth Cymru wedi dod i ddeall yn well farn a safbwyntiau rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru.  Bydd hynny'n ein helpu i benderfynu sut i fynd â'n deddfwriaeth arloesol yn ei blaen a gwneud y gorau o'r cyfleoedd y mae ein hadnoddau naturiol yn eu cynnig gan eu diogelu yr un pryd ar gyfer y dyfodol. Cyflawnodd yr ymgynghoriad ei bwrpas o ran casglu tystiolaeth a syniadau ar gyfer datblygu polisïau i reoli'n hadnoddau'n gynaliadwy.  Bydd hynny'n sail i'n ffyniant a'n lles tymor hir. Bu'n gyfle hefyd i glywed barn ynghylch y buddiannau a'r heriau posib a ddaw wrth i'r DU adael yr UE, yn ogystal â chasglu barn am y drefn reoleiddio y bydd ei hangen o bosib yn y tymor byr a hir.   Mae'n galonogol gweld bod cefnogaeth eang ar y cyfan i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru. Cynigiodd y rhanddeiliaid ffyrdd newydd ac arloesol o ddefnyddio a diogelu'r amgylchedd.  Gallai rhai ohonyn nhw fod yn atebion tymor hir yng nghyd\-destun y newidiadau y bydd angen eu gwneud i'r drefn reoleiddio ar ôl gadael yr UE. Mae'r crynodeb hwn a gyhoeddir heddiw yn asesiad niferol ac yn grynodeb gwrthrychol o sylwadau a safbwyntiau'r ymatebwyr. Mae cymdeithasau a grwpiau wedi cynnal 17 o ymgyrchoedd oedd yn gysylltiedig â chynigion penodol yn yr ymgynghoriad. Rydym wedi ystyried yr holl ymatebion i'r ymgyrchoedd a'r cyfraniadau unigol ar gyfer llunio'r ddogfen derfynol. Mae fy swyddogion wedi ystyried elfennau unigol y ddogfen ymgynghori a'u hystyried ymhellach yng ngoleuni'r dystiolaeth a'r safbwyntiau a gyflwynwyd. Cam nesa'r broses fydd paratoi amserlen briodol ar gyfer datblygu polisi dros y tymor byr a hir, yng nghyd\-destun amcanion ehangach Llywodraeth Cymru ac wrth i'r DU adael yr UE. Rwyf eisoes wedi datgan y caiff ein tirweddau dynodedig eu cadw ac na fydd unrhyw wanhau ar eu pwrpas o ran diogelu a chyfoethogi harddwch naturiol, a chaiff datganiad o flaenoriaethau arall ei gyhoeddi fel ymateb i'r amrywiaeth eang o sylwadau a ddaeth i law ar adroddiad Tirweddau Dyfodol Cymru a'r ymgynghoriad ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Rwy'n disgwyl ymlaen yn y dyddiau nesaf at roi datganiad ar y Strategaeth Goedwigaeth newydd fydd yn rhoi ystyriaeth i egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a'r ddeddfwriaeth newydd ers ei diweddaru y tro diwethaf yn 2009\. Byddwn yn ymdrin hyd yn oed yn fwy â datblygu economi 'gylchol' sy'n defnyddio adnoddau'n fwy effeithiol yn yr ymgynghoriad y bwriadwn ei gynnal yn ddiweddarach yn 2018 ar ddiweddaru'n strategaeth wastraff, 'Tuag at Gymru Ddiwastraff' a map ffordd drafft i greu Cymru sy'n defnyddio'i hadnoddau'n fwy effeithiol. Mae cyfraniadau defnyddiol wedi dod i law fel ymateb i'r cynigion ar gyfer rheoleiddio'n well; rydym wedi'u hystyried a safbwyntiau eraill ynghylch yr angen am reoleiddio priodol ym maes rheoli tir ar ôl gadael yr UE yn y ddogfen "Brexit a'n Tir" y bwriedir ei chyhoeddi ddechrau Gorffennaf. Clywyd safbwyntiau cryf ond amrywiol ynghylch sut orau i ddiwygio'r rheoliadau mynediad. Rydym o'r farn nad nawr yw'r amser gorau am ddiwygio sylweddol. Ond rydym wedi ymrwymo i ymchwilio i rai agweddau ar newid lle cafwyd mwy o gonsensws, gan gynnwys i rai o'r trefniadau gweinyddol a'r llwybrau aml\-ddefnydd. Byddwn yn parhau i hwyluso rhagor o drafod trwy grwpiau fel y Fforwm Mynediad Cenedlaethol. Yn yr un modd, rwy'n cydnabod bod cefnogaeth gref dros gyflwyno cosbau ariannol newydd i fynd i'r afael â phobl sy'n taflu sbwriel o'u cerbydau. Nododd yr ymgynghoriad nifer o broblemau â'r pwerau newydd a gynigir ac mae angen rhoi rhagor o ystyriaeth iddynt. Ar sail hynny, byddwn yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid ac yn ymchwilio sut orau i helpu Awdurdodau Lleol i gynnal y pwerau sydd ganddynt eisoes. Mae cynllunio morol yn mynd rhagddo'n dda yng Nghymru ac rwy'n disgwyl ymlaen at gyflwyno Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Byddaf yn rhoi rhagor o ystyriaeth i gynlluniau rhanbarthol ar ôl inni gael profiad o roi'r cynllun cenedlaethol ar waith. Caiff rhanddeiliaid a'r cyhoedd wybod am unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol trwy'r gweithgorau sydd wedi'u sefydlu a sianeli cyfathrebu eraill Llywodraeth Cymru. Cewch weld y crynodeb sydd wedi'i gyhoeddi trwy'r ddolen ganlynol: https://beta.llyw.cymru/bwrw\-ymlaen\-rheoli\-adnoddau\-naturiol\-cymru\-yn\-gynaliadwy 
https://www.gov.wales/written-statement-summary-responses-received-sustainable-management-natural-resources-consultation
Today, I am publishing my assessment of the benefits and value of appointing an Armed Forces Commissioner for Wales.  This follows my commitment during Plenary on 29 November, to meet with the Cross\-Party Group for Armed Forces and Cadets and make an informed decision following the meeting. Having met with the Cross\-Party Group and considered the work being undertaken in Wales, and across the UK and beyond, I set out my decision below; A tremendous amount of progress has been made in Wales over the last two years. Working closely with the Armed Forces Expert Group, we have delivered on key areas including;   * Revision and promotion of the Package of Support for the Armed Forces community, and the development of the Welcome to Wales document for serving personnel and their families. * Armed Forces free swimming scheme. * A Housing Referral Pathway and Code of Guidance for Local Authorities on the Allocation of Accommodation and Homelessness – this provides early assistance to veterans at risk of becoming homeless. * Total disregard of War Disablement Pension for veterans accessing social care. * Further financial support to Veterans NHS Wales to alleviate waiting lists and increase capacity to treat veterans with mental health issues. * Revision of the Healthcare Priority for Veterans Guidance. * Support for veterans in the criminal justice system. The work of the Armed Forces Expert Group has been at the forefront of this.  Unique to Wales, it provides a collective voice and platform to identify and deliver services and support for our Armed Forces community. Supporting the Armed Forces Expert Group is the work of the WLGA’s Networking Group, and regional and local fora. They engage with issues identified by veterans, thus ensuring key issues are identified and acted on by the Expert Group.  The appointment of Armed Forces Liaison officers across most of Wales also provides us with a unique means of supporting Local Authorities, to ensure consistent delivery of policies and procedures that support the Armed Forces community. Wales has punched above its weight in obtaining Covenant Funds to deliver initiatives and projects in support of this sector, many of the larger projects being approved by the Armed Forces Expert Group.  Governance and monitoring of the projects are the responsibility of the Ministry of Defence through the UK Covenant Fund Board.  The Expert Group is kept informed of progress and outcomes of the projects.   Moving forward, the Expert Group will be leading on the development of an Employment Pathway and Employers’ Toolkit to support those needing help in accessing meaningful employment.  Recently commissioned research into Adverse Childhood Experiences and Early Service Leavers will give us an insight into triggers for their early release, and help identify specific support that may alleviate this. The launch of the Veterans Gateway not only provides 24 hour access to support for veterans and their families, it will also provide us with qualitative data to direct our resources to specific identified needs. We have made tremendous progress in Wales in delivering services and support for our Armed Forces community.  However, that is not to say there is not more we can and will do. I have reviewed the structures we have in place, our progress to date, and our ability to build on these. The cost of approximately £550k per annum to fund a Commissioner and support staff would divert resources from practical services and support for the Armed Forces community in Wales. I have made an informed decision, that I do not consider the appointment of an Armed Forces Commissioner for Wales would add any further benefit or value. However I do also recognise that we need to continue to invest in, and to strengthen, the support we provide to those delivering services to veterans. I am therefore asking my officials to strengthen the veterans unit within Welsh Government and to provide me with a further detailed assessment of gaps in service delivery. I will seek to provide additional funding where I find that it is needed to maintain the quality and breadth of the services required by the Armed Forces community. Welsh Government remains totally committed to providing services and support that meets the needs of our Armed Services community. I will also give an undertaking to provide annual report to the National Assembly on our progress in delivering our commitments.          
Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy asesiad o fanteision a gwerth penodi Comisiynydd Lluoedd Arfog i Gymru. Mae hyn yn dilyn fy ymrwymiad yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid ac i wneud penderfyniad ar y mater yn dilyn y cyfarfod. Wedi cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ac ystyried y gwaith sy'n mynd rhagddo yng Nghymru, y DU a thu hwnt, rwy'n nodi fy mhenderfyniad isod: Gwelwyd cynnydd aruthrol yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Gan gydweithio'n agos gyda Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog, rydym wedi llwyddo i gyflawni mewn meysydd pwysig gan gynnwys; * Adolygu a hyrwyddo'r pecyn cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog, a datblygu'r ddogfen Croeso i Gymru ar gyfer pobl sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd. * Cynllun nofio am ddim i'r Lluoedd Arfog * Llwybr Atgyfeirio Tai a Chod Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd \- i roi cymorth cynnar i gyn\-filwyr sydd mewn perygl o fod yn ddigartref * Diystyru Pensiwn Anabledd Rhyfel yn llwyr wrth i gyn\-filwyr ddefnyddio gofal cymdeithasol * Cymorth ariannol pellach i GIG Cymru i Gyn\-filwyr er mwyn lleihau rhestrau aros a chynyddu'r gallu i drin cyn\-filwyr â phroblemau iechyd meddwl * Diwygio'r Canllawiau Blaenoriaeth Gofal Iechyd i Gyn\-filwyr * Cymorth i gyn\-filwyr yn y system cyfiawnder troseddol. Mae gwaith Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog wedi bod yn flaengar yn hyn o beth. Yn unigryw i Gymru, mae'n rhoi llais a llwyfan i nodi a darparu gwasanaethau a chymorth i gymuned y Lluoedd Arfog. Yn ategu Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog mae gwaith Grŵp Rhwydweithio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fforymau rhanbarthol a lleol. Maent yn trafod materion a nodwyd gan y cyn\-filwyr, gan sicrhau bod materion pwysig yn cael eu nodi a bod y Grŵp Arbenigol yn gweithredu arnynt. Mae penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ar draws y rhan fwyaf o Gymru hefyd yn rhoi ffordd unigryw i ni gefnogi Awdurdodau Lleol, er mwyn sicrhau darpariaeth gyson o bolisïau a gweithdrefnau sy'n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Mae Cymru wedi llwyddo i wneud mwy na'r disgwyl i gael Cronfeydd y Cyfamod i gyflawni mentrau a phrosiectau i gefnogi'r sector hwn, gyda nifer o'r prosiectau mwyaf yn cael eu cymeradwyo gan Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog. Cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Amddiffyn yw llywodraethu a monitro'r prosiectau drwy Fwrdd Cronfeydd y Cyfamod y DU. Caiff y Grŵp Arbenigol wybod am gynnydd a chanlyniadau'r prosiectau.   Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd y Grŵp Arbenigol yn arwain y gwaith o ddatblygu Llwybr Cyflogaeth a Phecyn Cymorth i Gyflogwyr er mwyn helpu'r rhai sydd angen cymorth i gyrraedd at swyddi ystyrlon. Bydd ymchwil a gomisiynwyd yn ddiweddar i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r rheini sy'n gadael y lluoedd arfog yn gynnar yn ein helpu i weld beth sy'n medru achosi iddynt adael yn gynnar, gan ein cynorthwyo i nodi pa gefnogaeth benodol allai leddfu hyn. Gyda lansiad Porth y Cyn\-filwyr, bydd cyn\-filwyr a'u teuluoedd yn cael mynediad at gymorth 24 awr y dydd, ac fe fydd hefyd yn gyfle i ni gael data ansoddol i gyfeirio ein hadnoddau at anghenion penodol. Rydym wedi llwyddo i wneud cynnydd ardderchog yng Nghymru wrth ddarparu gwasanaethau a chymorth i gymuned y Lluoedd Arfog. Fodd bynnag, dydy hynny ddim yn golygu nad oes lle i wneud mwy. Rydw i wedi adolygu'r strwythurau sydd yn eu lle, ein cynnydd hyd yma, a'n gallu i adeiladu arnynt. Byddai costau ariannu Comisiynydd a staff cynorthwyol tua £550k y flwyddyn, ac fe fyddai hynny'n gwyro adnoddau oddi wrth wasanaethau a chefnogaeth ymarferol i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Ar ôl edrych ar yr wybodaeth, rwyf wedi penderfynu na fyddai penodi Comisiynydd Lluoedd Arfog i Gymru yn ychwanegu unrhyw fanteision neu werth pellach. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen i ni barhau i fuddsoddi a chryfhau'r gefnogaeth sy'n cael ei darparu i'r rhai sy'n cynnig gwasanaethau i gyn\-filwyr. Felly rwy'n gofyn i'm swyddogion gryfhau uned y cyn\-filwyr o fewn Llywodraeth Cymru a rhoi asesiad manwl pellach o fylchau mewn darpariaeth gwasanaethau. Byddaf yn ceisio darparu cyllid ychwanegol lle gwelaf fod angen er mwyn cynnal ansawdd ac ystod y gwasanaethau sy'n ofynnol gan gymuned y Lluoedd Arfog. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i ddarparu gwasanaethau a chymorth sy'n diwallu anghenion cymuned y Lluoedd Arfog. Byddaf hefyd yn rhoi adroddiad blynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ein cynnydd wrth gyflawni'n hymrwymiadau.
https://www.gov.wales/written-statement-support-armed-forces-wales
We recognise the continued pressure on local authorities across Wales to deliver services which safeguard and support children, their families and ageing population with increasingly complex care needs, whilst managing growing demand and a challenging economic climate. These pressures have been exacerbated by the UK’s Government continuing constraints on public spending and the ongoing impact of tax and welfare reforms which have disproportionately affected our more deprived communities. We acknowledge and appreciate the hard work, dedication and commitment of local authorities across Wales who are continuing to deliver vital high quality services in the face of these challenges. In recognition of this and to support the sustainability of social services we will be providing an additional one\-off £10 million of funding to local authorities in this financial year. This funding is intended to help local authorities respond to current service pressures and to be better placed to plan and meet the demands and challenges that the coming winter period will undoubtedly present, ensuring that core social services are better positioned to manage unexpected or increased demands. Honouring our commitment to provide greater flexibility to local government in using their resources, it will be for local authorities to determine how this additional funding is used to support the delivery of their social services functions. So that a preventative approach continues to be at the heart of delivery, this may mean helping to address workforce challenges such as high turnover and vacancy rates, a growing reliance on agency staff and continuing professional development needs to support a sustainable workforce. For Children’s services this could mean focussing on mitigating existing pressures such as placement costs or enhancing early support and advice for families. For winter pressures this could mean planning for and responding to additional demands on social care resources, such as domiciliary care packages, reablement beds and care and repair services, in order to enable social services to support people in their homes and communities. By supporting local authorities with this additional funding to address in year pressures, we hope it will provide greater capability for local government to work alongside us in 2019\-20 to continue to develop social services so they are resilient and sustainable. As such, this new money is part of a strategy of investment to support local authorities in planning and delivering coherent Children’s and Adults’ Services, focussed on our shared goal of improving outcomes for people requiring care and support.  
Rydym yn cydnabod y pwysau parhaus sydd ar awdurdodau lleol drwy Gymru i ddarparu gwasanaethau sy’n cefnogi plant a’u teuluoedd, ynghyd â phoblogaeth sy'n heneiddio sydd ag anghenion gofal mwyfwy cymhleth. Ar yr un pryd maent yn rheoli galw cynyddol ac yn wynebu hinsawdd economaidd heriol. Mae’r pwysau hyn wedi mynd yn waeth oherwydd bod Llywodraeth y DU yn parhau â'i chyfyngiadau ar wariant cyhoeddus ac oherwydd effeithiau parhaus ei diwygiadau i’r  system les a threthi, sydd wedi taro ein cymunedau mwy difreintiedig yn arbennig o wael.   Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi gwaith caled awdurdodau lleol Cymru a’u hymroddiad i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel er gwaethaf yr heriau hyn. I gydnabod hyn ac er mwyn helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy, byddwn yn rhoi swm untro ychwanegol o £10 miliwn i’r awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol hon.   Y bwriad y tu ôl i'r cyllid hwn yw helpu'r awdurdodau lleol i ymateb i'r pwysau sydd ar eu gwasanaethau ar hyn o bryd. Hefyd, i’w rhoi mewn sefyllfa well i allu cynllunio ar gyfer y galw a’r heriau sy’n siŵr o godi yn ystod y gaeaf hwn, ac ymateb iddynt, gan sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol craidd mewn sefyllfa i allu rheoli galw cynyddol neu annisgwyl mewn modd effeithiol. Rydym yn cadw at ein hymrwymiad i sicrhau bod llywodraeth leol yn cael mwy o hyblygrwydd yn y modd y mae'n defnyddio ei hadnoddau, a chyfrifoldeb yr awdurdodau lleol fydd penderfynu sut y dylid defnyddio'r cyllid ychwanegol hwn i helpu i gyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Rhaid i ddull gweithredu ataliol fod yn ganolog i’r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu. Felly, gallai hyn olygu bod angen helpu i ymateb i heriau sy'n ymwneud â'r gweithlu, megis nifer y staff sy'n gadael a nifer y swyddi gwag, y ddibyniaeth gynyddol ar staff asiantaeth, a'r angen i ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn helpu i greu gweithlu cynaliadwy. O ran gwasanaethau plant, gallai hynny olygu canolbwyntio ar liniaru'r pwysau presennol megis costau lleoliadau neu wella'r cymorth a'r cyngor cychwynnol a roddir i deuluoedd. O ran pwysau'r gaeaf, gallai olygu cynllunio ar gyfer ymateb i alw ychwanegol am adnoddau gofal cymdeithasol, megis pecynnau gofal cartref, gwelyau ailalluogi, a gwasanaethau gofal a thrwsio, er mwyn galluogi'r gwasanaethau cymdeithasol i roi cymorth i bobl yn eu cartrefi a'u cymunedau.     Drwy roi'r cyllid ychwanegol hwn i helpu awdurdodau lleol i ymdopi â'r pwysau sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn bresennol, rydym yn gobeithio y bydd yn bosib cynyddu eu gallu i weithio ochr yn ochr â ni yn 2019\-20 i barhau i ddatblygu gwasanaethau cymdeithasol sy'n gadarn ac yn gynaliadwy. Mae’r cyllid newydd hwn yn rhan o strategaeth fuddsoddi i helpu awdurdodau lleol i gynllunio a darparu gwasanaethau cydlynol ar gyfer plant ac oedolion, gan ganolbwyntio ar ein nod cyffredin, sef gwella canlyniadau i bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt.
https://www.gov.wales/written-statement-supporting-sustainable-social-services
The Welsh Government is today publishing a new steel Procurement Advice Note (PAN), which will support the sourcing and procurement of steel in construction and infrastructure projects in Wales. The publication of the PAN is part of our ongoing commitment to support the long\-term viability of steel\-making in Wales and recognises the importance of steel to the Welsh and UK economy as a provider of highly\-skilled, well\-paid jobs – both directly and in the supply chain – and as a key investor in further education and research and development. The PAN is a further example of the Welsh Government’s commitment to providing opportunities for local suppliers to engage in public contracts – either directly or through the supply chain – and is part of our wider support package for the steel sector in Wales. It also highlights our ongoing policy of using public procurement policy to support ethical business practices. The PAN is designed to encourage the widest use of Welsh and UK steel in public sector contracts. Public sector bodies are encouraged to determine, which of their procurements are major projects in which steel is likely to be a critical component. Major projects may include but are not limited to: • Infrastructure projects, such as rail and roads; • Construction projects, such as the building and or refurbishment of prisons, hospitals, universities, housing, community centres, bridges and schools; • Flood defences. We are already seeing results of the first PAN, which was issued in 2016 – the Eastern Bay Link Road project, which is funded by the Welsh Government, has sourced 89% of the steel reinforcing bars used in its construction from within Wales. The PAN is a product of the work of the procurement sub\-group of Welsh Government’s Tata Steel Taskforce, which was set up in 2016 to respond to the adverse conditions in the steel market in 2015\-16\. The sub\-group includes supply\-side representatives from Tata Steel, Celsa Steel UK, the Engineering Employers Federation, representing UK Steel, officials from Welsh Government and Value Wales. I would like to thank all members of the steel procurement sub group for their work in developing this new PAN, which is available on the Procurement Route Planner at http://prp.wales.gov.uk.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Nodyn Cyngor Caffael newydd ar ddur a fydd yn cefnogi'r gwaith o gyrchu a chaffael dur mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yng Nghymru. Rydym yn cyhoeddi'r Nodyn Cyngor fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi hyfywedd hirdymor y diwydiant cynhyrchu dur yng Nghymru. Mae hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw'r diwydiant dur i economi Cymru a'r DU o ran darparu swyddi cyflogau uwch sy'n gofyn am lawer o sgiliau – yn uniongyrchol ac yn y gadwyn gyflenwi – ac fel buddsoddwr allweddol ym meysydd addysg bellach, ymchwil a datblygu. Mae'r Nodyn Cyngor yn enghraifft arall o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cyfleoedd i gyflenwyr lleol wneud cais am gontractau cyhoeddus, un ai'n uniongyrchol neu drwy'r gadwyn gyflenwi, ac mae'n rhan o'n pecyn cymorth ehangach i'r sector dur yng Nghymru. Mae hefyd yn tynnu sylw at ein polisi parhaus i gefnogi arferion busnes moesegol drwy ddefnyddio polisi caffael cyhoeddus. Bwriad y Nodyn Cyngor yw annog cymaint o ddefnydd â phosibl o ddur o Gymru a'r DU yng nghontractau'r sector cyhoeddus. Mae cyrff y sector cyhoeddus yn cael eu hannog i benderfynu pa rai o'u caffaeliadau sy’n brosiectau ‘mawr’ lle mae dur yn debygol o fod yn elfen hanfodol. Gallai prosiectau mawr gynnwys y canlynol, ymysg eraill: • Prosiectau seilwaith, fel rheilffyrdd a ffyrdd; • Prosiectau adeiladu neu adnewyddu carchardai, ysbytai, prifysgolion, tai, canolfannau cymunedol, pontydd ac ysgolion; • Amddiffynfeydd llifogydd. Rydym eisoes yn gweld canlyniadau'r Nodyn Cyngor Caffael cyntaf a gyhoeddwyd yn 2016 ar brosiect Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Daw 89% o'r bariau atgyfnerthu dur ar gyfer y prosiect o Gymru. Mae'r Nodyn Cyngor yn ffrwyth gwaith is\-grŵp caffael Tasglu Tata Steel Llywodraeth Cymru a sefydlwyd yn 2016 i ymateb i'r amodau gwael yn y farchnad dur yn ystod 2015\-16\. Mae'r is\-grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o ochr gyflenwi Tata Steel, Celsa Steel UK, y Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianyddol, yn cynrychioli UK Steel, swyddogion Llywodraeth Cymru a Gwerth Cymru. Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r is\-grŵp caffael dur am eu gwaith yn datblygu'r Nodyn Cyngor newydd hwn, sydd ar gael ar dudalen y Canllaw Cynllunio Caffael yma http://prp.gov.wales/?lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-steel-procurement-policy
Earlier this year, I published a technical consultation document “Public Good and a Prosperous Wales – the next steps” and I am today publishing a summary of the responses to the consultation. https://beta.gov.wales/tertiary\-education\-and\-research\-commission\-wales   The technical consultation took account of the feedback received from the earlier White Paper published in 2017 and explained in more detail how we envisaged the new Commission might operate. The consultation closed on 17 July; a total of 422 written responses were received. During the consultation period a number of themed focus groups were also held with selected stakeholders.  They each covered a particular section of the technical consultation and stakeholders with a particular interest in these areas were invited to attend. I would like to thank all those who contributed to the consultation for their views and helping to shape the next stage of our proposals. I was pleased to see that the responses remain broadly supportive of the principles, and there were also refinements of some areas of thinking suggested. That thinking is being taken fully into account as the policy develops during the legislative process. I would also like to take this opportunity to thank Miller Research Ltd, who facilitated the stakeholder focus groups, and provided this detailed analysis of the written responses. My commitment to bring forward legislation within this Assembly term remains firm and we will continue to engage with stakeholders going forward to ensure the new Commission will be able to work effectively in the national interest and for all learners.  
Yn gynharach eleni, cyhoeddais ddogfen ymgynghori dechnegol, sef “Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus – y camau nesaf”. Heddiw, rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw. https://beta.llyw.cymru/comisiwn\-addysg\-drydyddol\-ac\-ymchwil\-i\-gymru   Roedd yr ymgynghoriad technegol yn rhoi ystyriaeth i’r adborth a gafwyd ar y Papur Gwyn cynharach a gyhoeddwyd yn 2017 ac roedd yn esbonio’n fanylach sut yr oeddem yn rhagweld y byddai’r Comisiwn newydd yn gweithredu. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Gorffennaf; daeth 422 o ymatebion ysgrifenedig i law. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, cynhaliwyd nifer o grwpiau ffocws thematig gyda rhanddeiliaid dethol. Roeddent oll yn ymdrin ag adran benodol o’r ymgynghoriad technegol a rhoddwyd gwahoddiad i randdeiliaid â diddordeb penodol yn y meysydd hyn i fod yn bresennol. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad am eu sylwadau a’u help i llywio cam nesaf ein cynigion. Roeddwn yn falch o weld bod yr ymatebion yn parhau i fod yn gefnogol i’r egwyddorion ar y cyfan, ac roedd rhai’n awgrymu hefyd bod angen mireinio ychydig ar y syniadau. Mae’r syniadau hynny yn cael eu ystyried yn llawn wrth ddatblygu’r polisi ymhellach yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i Miller Research Ltd, a hwylusodd y grwpiau ffocws gyda’r rhanddeiliaid a darparu dadansoddiad manwl o’r ymatebion ysgrifenedig. Mae fy ymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth gerbron y Cynulliad hwn yn parhau’n gadarn. Byddwn yn parhau i drafod â rhanddeiliaid wrth fwrw ymlaen er mwyn sicrhau bod y Comisiwn newydd yn gallu gweithio’n effeithiol er budd y genedl a holl ddysgwyr Cymru.
https://www.gov.wales/written-statement-summary-responses-public-good-and-prosperous-wales-next-steps
I support the role of community and town councils as an integral part of local government, closest to people and local communities and working with local authorities and other partners to improve the wellbeing of their area.   The independent review of the community and town council sector is nearing completion. I met Panel members on 13 June and received their emerging findings and recommendations on 17 July. I am pleased that the Panel have undertaken a considerable amount of engagement with the sector in order to develop their recommendations. The Panel are now in the process of working their recommendations into a final report, which I anticipate will be submitted to me in the Autumn. I understand the panel are intending to share their emerging findings, and will be holding information sessions over the Summer. The Panel’s work has been broad\-ranging and their findings are similarly comprehensive, addressing what community and councils are; what they do; how they do it; and how they are held to account. I will provide a further update once I have received their final report. The importance of a constructive and mutually supportive relationship between town and community councils and principal councils has been a clear theme of the evidence the Panel have gathered. I look forward to considering their emerging thinking and recommendations on how this can be strengthened. The original guidance on relationship building measures and charters: ‘A Shared Community’ was issued ten years ago to both local authorities and community and town councils.  This guidance was the result of research and collaboration between the then Assembly Government, One Voice Wales, Welsh Local Government Association, Society of Local Council Clerks and representatives from community and town councils and local authorities. I want to further stimulate more of the positive ways of working between local authorities and community and town councils and provide a platform to share the good examples.  Later this year, building upon a similar, successful event in July 2017 held at the Pierhead Building, I intend to host an event for councillors from local authorities and community and town councils. The event will share good practice on issues around formalising relationships between both sectors of local government and how such relationships can benefit the process around the transfer of services and assets. Alongside this, I am progressing a number of actions to help community and town councils be more effective and resilient in the short to medium term, and ensure they are in the best place to engage on an equal basis with local authorities and other partners. I have made modest funding available in 2018\-19 to facilitate the initial setting up of joint arrangements between community and town councils around themes of community engagement; increasing citizen participation and engagement in local democracy; and enabling working together on a shared service. Training for councillors and council clerks is being incentivised through continued funding of bursary schemes which encourages smaller councils, with an annual turnover of less than £40,000, to participate in training. Ahead of the local government elections in May 2017 Welsh Government published “The good councillor’s guide”, updating the second edition from 2012\. The guide is an introduction to being a community or town councillor, suitable for all councillors, but particularly useful for those who have recently been elected or co\-opted to a council. Community and town councils asked for easier access to relevant and up\-to date information to help them on the journey of taking on more community assets.  We worked with the sector to better understand their needs and will shortly publish an on\-line “toolkit” as a handy reference guide of checklists, templates and case studies for them.  We intend to build and tailor this resource further during 2018\-19\. *This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.*
Rwy'n cefnogi rôl cynghorau tref a chymuned oherwydd eu rôl hanfodol mewn llywodraeth leol. Nhw sydd agosaf at y bobl a chymunedau lleol, ac maent yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i wella llesiant yn eu hardaloedd. Mae'r adolygiad annibynnol o’r sector cynghorau tref a chymuned bron wedi ei gwblhau. Bûm mewn cyfarfod ag aelodau'r Panel ar 13 Mehefin, ac rwyf wedi cael eu casgliadau a’u hargymhellion diweddaraf yn 17 Gorffennaf. Rwy’n falch bod y Panel wedi cymryd camau i ymgysylltu’n effeithiol â’r sector wrth ddatblygu ei argymhellion. Mae’r Panel bellach wrthi’n gweithio ar ei argymhellion terfynol er mwyn eu cynnwys yn ei adroddiad terfynol a fydd yn cael ei gyflwyno imi yn yr hydref. Rwy’n deall bod y Panel yn bwriadu rhannu ei gasgliadau, ac y bydd yn cynnal sesiynau gwybodaeth yn ystod yr haf. Bu cwmpas eang i waith y Panel, ac mae wedi llunio casgliadau cynhwysfawr sy’n mynd ati i ddiffinio cynghorau cymuned a thref, gan edrych ar yr hyn y maent yn ei wneud, sut y maent yn cyflawni eu gwaith, a’u hatebolrwydd. Byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth ar ôl cael yr adroddiad terfynol. Mae'n bwysig meithrin perthynas adeiladol, sy'n fuddiol i'r ddwy ochr, rhwng cynghorau cymuned a thref a'r prif gynghorau, ac mae hyn wedi bod yn thema amlwg yn y dystiolaeth a gasglwyd gan y Panel. Rwy'n edrych ymlaen at ystyried ei syniadau a’u hargymhellion newydd ar gyfer cryfhau'r berthynas hon. Ddeng mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd y canllawiau gwreiddiol ar weithredu mesurau a siarteri meithrin cysylltiadau, 'Cymuned ar y Cyd', ar gyfer awdurdodau lleol a chynghorau cymuned a thref. Roedd y canllawiau hynny'n ffrwyth ymchwil a chydweithredu rhwng Llywodraeth y Cynulliad ar y pryd, Un Llais Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, a chynrychiolwyr o gynghorau cymuned a thref ac awdurdodau lleol.   Rwy'n awyddus i weld mwy o ddulliau effeithiol o weithio yn cael eu sefydlu ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a chynghorau cymuned a thref, ac i greu platfform ar gyfer rhannu enghreifftiau da. Yn nes ymlaen eleni, gan adeiladu ar ddigwyddiad tebyg a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2017 yn adeilad y Pierhead, rwy'n bwriadu cynnal digwyddiad i gynghorwyr o awdurdodau lleol a chynghorau cymuned a thref. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i rannu arferion sy'n ffurfioli cysylltiadau rhwng y ddau sector llywodraeth leol, a thrafod sut y gall y cysylltiadau rhyngddynt hwyluso'r broses o drosglwyddo gwasanaethau ac asedau. Ochr yn ochr â hyn, rwy'n bwrw ymlaen â nifer o gamau gweithredu i sicrhau bod cynghorau cymuned a thref yn fwy effeithiol a chadarn yn y tymor byr a'r tymor canolig, ac i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i ymgysylltu fel partneriaid cyfartal ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill. Rwyf wedi neilltuo rhywfaint o gyllid yn 2018\-19 i helpu cynghorau cymuned a thref i sefydlu trefniadau gweithio cychwynnol ar y cyd mewn perthynas â themâu'n ymwneud ag ymgysylltu â'r gymuned; denu mwy o ddinasyddion i gyfranogi ac i gymryd rhan mewn democratiaeth leol; a sefydlu trefniadau ar gyfer cydweithio ar wasanaeth a ddarperir ar y cyd. Mae cynghorwyr a chlercod cynghorau yn cael eu cymell i ddilyn hyfforddiant drwy fod cynlluniau bwrsari yn dal i gael eu hariannu er mwyn annog cynghorau llai, sydd â throsiant blynyddol o dan £40,000, i fanteisio ar yr hyfforddiant a ddarperir. Cyn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ym mis Mai 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, 'Canllaw y Cynghorydd Da', sef fersiwn ohono sydd wedi ei diweddaru ers 2012\. Mae'r canllaw yn gyflwyniad i'r hyn sydd ynghlwm wrth gyflawni dyletswyddau cynghorydd cymuned neu gynghorydd tref, ac er ei fod yn addas ar gyfer pob cynghorydd, mae'n arbennig o ddefnyddiol i'r rheini sydd newydd eu hethol neu eu cyfethol i gyngor. Roedd y cynghorau cymuned a thref wedi gofyn am gael mynediad haws at wybodaeth berthnasol a chyfredol i'w helpu wrth iddynt ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros fwy o asedau cymunedol. Rydym wedi gweithio gyda'r sector i ddeall eu hanghenion yn well, a maes o law byddwn yn cyhoeddi pecyn cymorth ar\-lein, a fydd yn cynnwys rhestrau gwirio, templedi, ac astudiaethau achos, fel canllaw defnyddiol iddynt gyfeirio ato. Ein bwriad yw datblygu a theilwra'r adnodd hwn ymhellach yn ystod 2018\-19\. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-support-community-and-town-councils