en
stringlengths
38
41.9k
cy
stringlengths
50
42.1k
url
stringlengths
31
150
Motorists are advised the section of the A465 between the A470 (Cefn Coed) junction and the temporary roundabout at Pant Industrial Estate will be fully closed for five weeks this summer, to allow for important work to be completed sooner and with less uncertainty for the travelling public.  The closure will start at 6am on Monday 29 July and will end at 6am on Monday 2 September 2024, and is taking place during the school summer holidays when there is less traffic on this section. The closure will allow several important elements of the A465 work to progress, helping save time on the construction programme and removing the uncertainty to journey times which overnight and weekend closures can cause. Feedback from the public indicates constant change, such as overnight and weekend closures, are more disruptive than a fixed closure with a clear diversion. The diversion in this case will be around four miles longer, but the journey time should be under five minutes longer only. The A465 between the Dowlais Top junction and the Pant Industrial Estate temporary roundabout will still be open, but only for local traffic. Discussions have taken place with partners including the local authority, Prince Charles Hospital and the emergency services before the decision was taken. The closure and the work is being managed by Future Valleys Construction.  The work being carried out during the closure is as follows: * Removing the old bridge at Bryniau * Construction of a new bridge at Bryniau * Constructing a new highway embankment for the eastbound carriageway at Gurnos * Progressing work to construct the new of Prince Charles Hospital Junction * Integrating all sections of road and the footway over Taf Fechan viaduct * Completing the carriageway through Cefn Coed and over Taf Fawr viaduct. More information is available on the Future Valleys Construction website. You can also view a map of the diversion.
Cynghorir modurwyr y bydd rhan yr A465 rhwng cyffordd yr A470 (Cefn Coed) a'r gylchfan dros dro yn Ystâd Ddiwydiannol Pant ar gau yn llawn am bum wythnos yr haf hwn, er mwyn caniatáu i waith pwysig gael ei gwblhau yn gynt a gyda llai o ansicrwydd i'r cyhoedd sy'n teithio.  Bydd y cau yn dechrau am 6yb ddydd Llun 29 Gorffennaf a bydd yn dod i ben am 6yh ddydd Llun 2 Medi 2024, ac mae'n digwydd yn ystod gwyliau haf yr ysgol pan fydd llai o draffig ar y rhan hwn o’r ffordd. Bydd cau'r ffordd yn caniatáu i sawl elfen bwysig o waith yr A465 fynd rhagddo, gan helpu i arbed amser ar y rhaglen adeiladu a chael gwared ar yr ansicrwydd i amseroedd teithio y gall cau dros nos ac ar benwythnosau eu hachosi. Mae adborth gan y cyhoedd yn dangos bod newid cyson, fel cau dros nos ac ar benwythnosau, yn tarfu mwy na chau sefydlog gyda gwyriad clir. Bydd y gwyriad yn yr achos hwn tua phedair milltir yn hirach, ond dylai'r amser teithio fod o dan bum munud yn hirach yn unig. Bydd yr A465 rhwng cyffordd Dowlais Top a chylchfan dros dro Ystâd Ddiwydiannol Pant yn dal ar agor, ond dim ond ar gyfer traffig lleol. Mae trafodaethau wedi eu cynnal gyda phartneriaid gan gynnwys yr awdurdod lleol, Ysbyty'r Tywysog Charles a'r gwasanaethau brys cyn i'r penderfyniad gael ei wneud. Mae'r gwaith cau a'r gwaith yn cael ei reoli gan Future Valleys Construction.  Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn ystod y cau fel a ganlyn: * Tynnu'r hen bont ym Mryniau * Adeiladu pont newydd ym Mryniau * Adeiladu arglawdd priffyrdd newydd ar gyfer y ffordd gerbydau tua'r dwyrain yn Gurnos * Datblygu gwaith i adeiladu'r rhan newydd o Gyffordd Ysbyty Tywysog Charles * Integreiddio pob rhan o'r ffordd a'r droedffordd dros draphont Taf Fechan * Cwblhau'r ffordd gerbydau trwy Gefn Coed a thros draphont Taf Fawr Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Future Valleys Construction. Gallwch hefyd weld map yn dangos y gwyriad.
https://www.gov.wales/essential-work-a465-5-weeks
On 25 June 2024, an oral statement was made in the Senedd: **Investment in the education and training of healthcare professionals 2024/25 (external link)****.**
Ar 25 Mehefin 2024, gwnaed **datganiad llafar yn y Senedd: Buddsoddi yn addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol 2024/25 (dolen allanol)**.
https://www.gov.wales/oral-statement-investment-education-and-training-healthcare-professionals-202425
As part of the Welsh Government’s ongoing commitment to establishing an evidence\-informed profession and enhancing opportunities for educators in Wales to support the implementation of the Curriculum for Wales, I am pleased to confirm that a new bilingual Doctor of Education (EdD) (Wales) programme will be available from January 2025\. Building on the success of the National MA Education (Wales) and the existing strong partnership between Welsh Universities, the EdD (Wales) will offer a clear progression route for professionals who are keen to build upon the learning and research experience gained through their Masters, by working with academics across the participating Welsh Universities and with research experts internationally.  In 2017, I chaired the CYPE committee report on the Teachers’ Professional Learning and Education inquiry. This report made it clear that ongoing professional development is vital to deliver on the changing demands on the teaching profession and I am delighted that both the MA Education Wales and now the National EdD Wales will give education professionals the opportunity to thrive through their careers. The aim of the National EdD (Wales) is to ensure that greater research capacity is built within the Welsh education system, hence this National EdD will offer the unique opportunity to extend and enhance research knowledge, skills, and expertise.  This is a hugely positive development and will ensure that we have appropriately qualified education lecturers for future cohorts. Further information will be available in due course. 
Fel rhan o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i sefydlu proffesiwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwella cyfleoedd i addysgwyr yng Nghymru er mwyn cefnogi'r broses o weithredu'r Cwricwlwm i Gymru, rwy'n falch o gadarnhau y bydd rhaglen Doethur Addysg (EdD) (Cymru), rhaglen ddwyieithog newydd, ar gael o fis Ionawr 2025\. Gan adeiladu ar lwyddiant yr MA Addysg Cenedlaethol (Cymru) a'r bartneriaeth gref bresennol rhwng Prifysgolion Cymru, bydd yr EdD (Cymru) yn cynnig llwybr clir i weithwyr proffesiynol sy'n awyddus i adeiladu ar y profiad dysgu ac ymchwil a gafwyd drwy eu cwrs Meistr, trwy weithio gydag academyddion ar draws y prifysgolion yng Nghymru sy'n cymryd rhan a chydag arbenigwyr ymchwil yn rhyngwladol.  Yn 2017, fe wnes i gadeirio adroddiad y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon. Roedd yr adroddiad hwn yn ei gwneud yn glir bod datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol er mwyn i'r proffesiwn addysgu gyflawni'r gofynion sydd arnynt, gofynion sy'n newid yn barhaus, ac rwyf wrth fy modd y bydd MA Addysg Cymru a nawr EdD Cenedlaethol Cymru yn rhoi cyfle i weithwyr addysg proffesiynol ffynnu trwy eu gyrfaoedd. Nod yr EdD Cenedlaethol (Cymru) yw sicrhau bod mwy o gapasiti ymchwil yn cael ei feithrin o fewn system addysg Cymru. Bydd yn gyfle unigryw, felly, i ymestyn a gwella gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd o safbwynt ymchwil.  Mae hwn yn ddatblygiad hynod gadarnhaol a bydd yn sicrhau bod gennym ddarlithwyr addysg sydd wedi'u cymhwyso'n briodol ar gyfer carfanau'r dyfodol. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law. 
https://www.gov.wales/written-statement-doctor-education-edd-wales
On 25 June 2024, an oral statement was made in the Senedd: The Welsh food system – producing food sustainably (external link).
Ar 25 Mehefin 2024, gwnaed **datganiad llafar yn y Senedd: System fwyd Cymru – cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy (dolen allanol)**.
https://www.gov.wales/oral-statement-welsh-food-system-producing-food-sustainably
I congratulate the Prime Minister on the formation of a new UK Government.  This is a major opportunity to re\-set relations and begin a new era of partnership, with two governments working together on a shared vision for Wales’ future. The Welsh Government has consistently made the case for a UK Government approach that backs a stronger Wales in a fairer United Kingdom.  The mandate the new UK Government has won provides the platform for that change. With two governments working together, we can help more people plan secure, ambitious futures in Wales.  I look forward to establishing a new partnership with the new UK Government as early as possible, with mutual respect and a sense of common purpose.   With a focus on economic growth and a new approach that backs Wales’ green growth potential, we can unlock more ambitious opportunities across Wales. New commitments on repairing and extending devolution, after a sustained period of attacks, offers a new era for the Senedd and the Welsh Government.
Rwy’n llongyfarch Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar ffurfio llywodraeth newydd.  Mae hwn yn gyfle mawr i ailosod ein perthynas a dechrau cyfnod newydd o bartneriaeth, gyda dwy lywodraeth yn cydweithio ar weledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau’n gyson y dylai Llywodraeth y DU weithredu i hybu Cymru gryfach mewn Teyrnas Unedig decach.  Mae mandad Llywodraeth newydd y DU yn sail cadarn ar gyfer y newid hwnnw. Gyda dwy lywodraeth yn cydweithio, gallwn helpu mwy o bobl i gynllunio dyfodol sicr ac uchelgeisiol yng Nghymru.  Rwy’n edrych ymlaen at sefydlu partneriaeth newydd gyda Llywodraeth newydd y DU cyn gynted â phosibl, gyda pharch at ein gilydd ac ymdeimlad o bwrpas cyffredin.   Gyda ffocws ar dwf economaidd a dull newydd sy’n cefnogi potensial twf gwyrdd Cymru, gallwn ddatgloi cyfleoedd mwy uchelgeisiol ledled Cymru. Mae ymrwymiadau newydd i atgyweirio ac ymestyn datganoli, ar ôl cyfnod parhaus o ymosodiadau, yn cynnig cyfnod newydd i’r Senedd a Llywodraeth Cymru.
https://www.gov.wales/written-statement-statement-first-minister-0
Following visits to educational settings and hearing first hand from teachers about their experiences, the Cabinet Secretary for Education, Lynne Neagle has announced Welsh Government will introduce simplified, easy to access support to help schools plan their curriculum, deliver for learners and provide consistency across Wales. The support announced today will include; national collaboration to develop common approaches across the profession, simplifying the process of curriculum design and evaluation, tools and templates to plan learning, clearer expectations for teaching and learning and sharing examples of curriculum design and best practice.  It will also put revised Literacy and Numeracy and Digital Competence Frameworks on a statutory footing to provide clear expectations for these critical skills. A sustained improvement in educational attainment is a top priority for the Welsh Government and the new Curriculum for Wales is central to raising standards and providing a broad and balanced education so all learners can reach their full potential. Schools are already making progress and the Curriculum for Wales is now being taught in all schools and settings up to and including year 8, with year 9 following from this September. All year groups will be learning through the Curriculum for Wales from September 2026\. Cabinet Secretary for Education, Lynne Neagle said: > Over the last few months, I have visited schools and met with our education workforce to see the Curriculum for Wales in action. I have seen first hand how effectively the new curriculum is being delivered in some schools But whilst the impact and progress is evident it was clear more support was needed. > > I have listened to these concerns and today I have outlined what further support will be made available to help design and deliver the new curriculum successfully across the whole of Wales. This support will be clear, simple and shaped by the profession. It will provide schools with more consistency and be focused on the issues raised by the teaching workforce. This is about ensuring a common foundation for all schools, without imposing a ceiling on their creativity or innovation, so all learners can thrive.
Yn dilyn ymweliadau â lleoliadau addysgol a chlywed yn uniongyrchol gan athrawon am eu profiadau, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cymorth symlach sy'n hawdd ei gyrchu i helpu ysgolion i gynllunio eu cwricwlwm, darparu ar gyfer dysgwyr a sicrhau cysondeb ledled Cymru. Bydd y gefnogaeth a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys cydweithio cenedlaethol i ddatblygu dulliau cyffredin ar draws y proffesiwn, symleiddio'r broses o gynllunio a gwerthuso'r cwricwlwm, offer a thempledi i gynllunio dysgu, disgwyliadau cliriach ar gyfer addysgu a dysgu a rhannu enghreifftiau o gynllunio'r cwricwlwm ac arferion gorau.  Bydd hefyd yn rhoi Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd a Chymhwysedd Digidol diwygiedig ar sail statudol i ddarparu disgwyliadau clir ar gyfer y sgiliau allweddol hyn. Mae gwelliant parhaus o ran cyrhaeddiad addysgol yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn ganolog i godi safonau a darparu addysg eang a chytbwys fel y gall pob dysgwr gyrraedd ei lawn botensial. Mae ysgolion eisoes yn gwneud cynnydd ac mae'r Cwricwlwm i Gymru bellach yn cael ei addysgu ym mhob ysgol a lleoliad hyd at a chan gynnwys blwyddyn 8, gyda blwyddyn 9 yn dilyn o fis Medi eleni. Bydd pob grŵp blwyddyn yn dysgu drwy'r Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2026\.  Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: > Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi ymweld ag ysgolion ac wedi cyfarfod â'r gweithlu addysg i weld y Cwricwlwm i Gymru ar waith. Rwyf wedi gweld yn uniongyrchol pa mor effeithiol y mae'r cwricwlwm newydd yn cael ei ddarparu mewn rhai ysgolion. Ond, er bod yr effaith a'r cynnydd yn glir, roedd yn amlwg bod angen mwy o gefnogaeth.  > > Rwyf wedi gwrando ar y pryderon hyn a heddiw rwyf wedi amlinellu pa gymorth pellach fydd ar gael i helpu i gynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus ledled Cymru.  Bydd y gefnogaeth hon yn glir, yn syml ac wedi'i llywio gan y proffesiwn.  Bydd yn rhoi mwy o gysondeb i ysgolion ac yn canolbwyntio ar y materion a godwyd gan y gweithlu addysgu.  Mae hyn yn ymwneud â sicrhau sylfaen gyffredin i bob ysgol, heb gyfyngu ar eu creadigrwydd na'u harloesedd, fel y gall pob dysgwr ffynnu.
https://www.gov.wales/further-support-teachers-boost-roll-out-new-curriculum
Legislation to be introduced in the remainder of this Senedd term includes measures to improve transport links across the country, protect people and communities, and tackle the climate emergency. The programme includes: * A Bus Bill, which will enable all levels of government in Wales to work together to design one joined up bus network that puts passengers before profit and helps people move away from using cars for every journey. * A Building Safety Bill, which will fundamentally reform the existing building safety regime in Wales and address fire safety issues in buildings 11 metres and over in existing building stock. * A Disused Tips (Mines and Quarries) Bill, which will reform outdated laws around tip safety and give greater security to the people living in their shadows. * A Homelessness Bill, which will include a package of significant reforms to help people in Wales remain in their homes and prevent anyone from experiencing homelessness. * A Visitor Accommodation (Regulation) Bill, which will see anyone who lets out visitor accommodation have to meet a relevant set of standards to help ensure the safety of visitors and enhance the visitor experience. * An Environmental Principles and Biodiversity Bill, which demonstrates a continued commitment to tackling the nature and climate emergency by establishing a statutory environmental governance body for Wales and introducing legal targets to protect and restore biodiversity. * A Bill to give local authorities powers to introduce a visitor levy, adding a small additional charge on visitors staying overnight in visitor accommodation that will go towards supporting sustainable tourism. Furthermore, towards the end of this Senedd term, a Bill will be brought forward to simplify and modernise the planning law in Wales, which the First Minister said is currently “increasingly inaccessible and overly complex.” The First Minister also confirmed the Welsh Government would consult on a draft Taxi and Private Hire Vehicles Bill. Speaking in the Senedd, he said:  > Both our record of delivery and our plans for the future reflect our commitment to radical and transformative change for every corner of Wales as we focus our resources on what matters most in people's daily lives. > > From completely reshaping the public transport system to protecting our critical infrastructure and safeguarding the environment, our ambitious legislative programme will make a real difference to the lives of people all across Wales. > > I look forward to both a renewed, genuine partnership with the new UK Government and to continuing to work with Members across this Siambr as we strive towards unlocking more opportunities across Wales and delivering positive, progressive change.
Mae’r darnau o ddeddfwriaeth sydd i’w cyflwyno yn ystod gweddill tymor y Senedd hon yn cynnwys camau i wella cysylltiadau trafnidiaeth ledled y wlad, diogelu pobl a chymunedau, ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Mae’r rhaglen yn cynnwys: * Bil Bysiau, a fydd yn galluogi pob lefel o lywodraeth yng Nghymru i gydweithio i gynllunio un rhwydwaith bysiau cydgysylltiedig sy’n rhoi teithwyr cyn elw ac yn helpu pobl i beidio â defnyddio car ar gyfer pob taith. * Bil Diogelwch Adeiladau, a fydd yn diwygio’r drefn diogelwch adeiladau sydd ohoni yng Nghymru yn sylfaenol ac yn mynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â diogelwch tân mewn adeiladau 11 metr ac uwch sy’n rhan o’r stoc adeiladau sydd eisoes yn bod. * Bil Tomenni Nas Defnyddir (Mwyngloddiau a Chwareli), a fydd yn diwygio cyfreithiau sydd wedi dyddio ynghylch diogelwch tomenni ac yn rhoi mwy o sicrwydd i’r bobl sy’n byw yn eu cysgod. * Bil Digartrefedd, a fydd yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau sylweddol i helpu pobl yng Nghymru i aros yn eu cartrefi ac atal unrhyw un rhag profi digartrefedd. * Bil Llety Ymwelwyr (Rheoleiddio), a fydd yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw un sy’n gosod llety i ymwelwyr fodloni set berthnasol o safonau i helpu i sicrhau diogelwch ymwelwyr a gwella profiad ymwelwyr. * Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth, sy’n dangos ein bod wedi ymrwymo o hyd i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd drwy sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol statudol i Gymru a chyflwyno targedau cyfreithiol i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth. * Bil i roi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr a fydd yn codi tâl ychwanegol bach ar ymwelwyr sy’n aros dros nos mewn llety i ymwelwyr, gan helpu i gefnogi twristiaeth gynaliadwy. Yn ogystal, tua diwedd tymor y Senedd hon, bydd Bil yn cael ei gyflwyno i symleiddio a moderneiddio’r gyfraith gynllunio yng Nghymru. Dywedodd y Prif Weinidog fod y system bresennol yn “mynd yn fwyfwy anhygyrch a’i bod yn rhy gymhleth.” Cadarnhaodd y Prif Weinidog hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Fil drafft Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat**.** Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog:  > Mae ein camau gweithredu blaenorol a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn dangos ein hymrwymiad i newid radical a thrawsnewidiol ym mhob cwr o Gymru wrth inni ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer y pethau pwysicaf ym mywydau pob dydd pobl. > > O ail\-lunio’r system drafnidiaeth gyhoeddus yn llwyr i ddiogelu ein seilwaith hanfodol ac amddiffyn yr amgylchedd, bydd ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Cymru. > > Rwy’n edrych ymlaen at adnewyddu’r bartneriaeth, yng ngwir ystyr y gair, â Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ac at barhau i weithio gyda’r Aelodau ar draws y Siambr hon wrth inni anelu at ddatgloi mwy o gyfleoedd ledled Cymru a sicrhau newid cadarnhaol a blaengar.
https://www.gov.wales/first-minister-says-welsh-government-focussed-what-matters-most-peoples-daily-lives-he-announces
The Wales Net Zero 2035 Challenge Group, led by former Minister, Jane Davidson, was established in January 2023 to examine potential pathways to net zero by 2035, delivering on a specific commitment in the formal Co\-operation Agreement between the Welsh Government and Plaid Cymru. The Group’s work is formally drawing to a close. The date of publication is expected to be 11 September.  I will be attending a meeting with the Chair and the Group this month to hear their key findings.
Sefydlwyd Grŵp Her Sero Net Cymru 2035, dan arweiniad y cyn\-Weinidog, Jane Davidson, ym mis Ionawr 2023 i archwilio llwybrau posibl i sero net erbyn 2035, gan gyflawni ymrwymiad penodol yn y Cytundeb Cydweithio ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae gwaith y Grŵp yn dod i ben. Disgwylir i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar 11 Medi.  Byddaf yn mynychu cyfarfod gyda’r Cadeirydd a'r Grŵp y mis hwn i glywed eu casgliadau allweddol.
https://www.gov.wales/written-statement-publication-wales-net-zero-challenge-group-report
On 2 July 2024, an oral statement was made in the Senedd: Tata Steel (external link).
Ar 2 Gorffennaf 2024, gwnaed **datganiad llafar yn y Senedd: Tata Steel (dolen allanol)**.
https://www.gov.wales/oral-statement-tata-steel-7
Further to our written statement on 7 June, we are pleased to confirm the pay offers we made to consultants, SAS doctors and junior doctors to end the strikes and settle the pay dispute in 2023\-24, have been accepted. Each of the BMA’s three branches of practice voted overwhelmingly in favour of accepting the respective pay offers. We will now begin the process of implementing the pay award, so doctors and dentists employed in the NHS will receive the payments as soon as practicable.  We would like to thank members of the BMA’s negotiating teams and NHS Wales Employers for the constructive nature of the talks. Implementing these offers will end this dispute and industrial action, meaning doctors will return to work in Wales for the benefit of the public and NHS services. The Welsh Government is fully committed to working in social partnership to deliver better working lives for all NHS staff and better public services for people in Wales. 
Yn dilyn ein datganiad ysgrifenedig ar 7 Mehefin, rydym yn falch o gadarnhau bod y cynigion cyflog a wnaethom i feddygon ymgynghorol, meddygon SAS a meddygon iau i ddod â'r streiciau i ben a setlo'r anghydfod cyflog yn 2023\-24, wedi cael eu derbyn. Pleidleisiodd pob un o dair cangen ymarfer y BMA o blaid derbyn y cynigion cyflog priodol, a hynny gyda mwyafrif llethol. Byddwn nawr yn dechrau'r broses o weithredu'r dyfarniad cyflog, fel bod meddygon a deintyddion sydd wedi’u cyflogi yn y GIG yn cael y taliadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol.  Hoffem ddiolch i aelodau timau negodi'r BMA a Chyflogwyr GIG Cymru am natur adeiladol y trafodaethau. Bydd gweithredu'r cynigion hyn yn dod â'r anghydfod a'r gweithredu diwydiannol hwn i ben, sy'n golygu y bydd meddygon yn dychwelyd i'r gwaith yng Nghymru er budd y cyhoedd a gwasanaethau'r GIG. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i sicrhau gwell bywydau gwaith i holl staff y GIG a gwell gwasanaethau cyhoeddus i bobl yng Nghymru. 
https://www.gov.wales/written-statement-2023-24-pay-award-junior-doctors-sas-doctors-and-consultants-end-pay-dispute
The Welsh Government has teamed up with three universities to launch new degree apprenticeships in Construction Management, Civil Engineering, Quantity Surveying, Building Surveying, and Real Estate. With the construction sector alone needing an extra 11,000 workers by 2028, the new degree apprenticeships come at a crucial time. Starting in September 2024, these four\-year programmes, fully funded by the Welsh Government, will offer students the chance to earn a degree while gaining hands\-on experience in employment. The courses will be offered at Wrexham University, the University of South Wales, and the University of Wales Trinity St David. The Cabinet Secretary for the Economy, Energy, and Welsh Language, Jeremy Miles, said:  > These programmes not only prepare individuals for high\-demand jobs and higher wage occupations, but will also ensure a skilled, resilient and forward\-looking workforce to drive economic growth and provide innovative solutions to social and climate challenges. Jac Beynon, an assistant Quantity Surveyor at Jones Brothers (Henllan) Ltd in Cross Hands, will be one of the first to benefit from the new apprenticeships in UWTSD in September. He said: > As I finished my A\-Levels in school I was exploring my options as to what to do next. I thought about going to university full\-time, but I didn’t like the idea of waiting three or four years before starting work. So when someone mentioned an apprenticeship scheme which would allow me to work and learn at the same time \- I was sold. > > My primary aim is to gain practical, hands\-on experience. I want to develop industry\-specific skills that are directly applicable to real\-world scenarios. Undertaking an apprenticeship is also about building confidence in my abilities to handle professional responsibilities and make informed decisions independently. The new apprenticeships have also been welcomed by the construction industry, and Universities. The Construction Industry Training Board praised the “sector pulling together in a shared direction to overcome industry and broader challenges”, whilst representatives from Wrexham University, the University of South Wales, and the University of Wales Trinity St David spoke positively about meeting the needs of both learners and employers, creating new and immediate opportunities and delivering high\-level skill sets. Gareth Williams, Standards and Qualifications Manager (Wales) for the Construction Industry Training Board said:  > People wanting to work in construction need clear career pathways into the industry and these new construction degree apprenticeships are a significant milestone towards achieving this. The launch of these apprenticeships also demonstrates a sector pulling together in a shared direction to overcome industry and broader challenges. Professor Maria Hinfelaar, Vice\-Chancellor at Wrexham University, said:  > We continuously review our portfolio and learning pathways across all levels to meet the needs of learners and employers – and the Construction Degree Apprenticeships are a tremendous example of meeting those needs. From engagement with employers in the region, we know that they are excited that these are launching here in Wrexham. Louise Pennell, Associate Dean of Partnerships and Development in University of South Wales’ Faculty of Computing, Engineering, and Science, said:  > At USW we have extensive expertise in running these study routes. Just last year we were a key partner in the launch of the first railway engineering degree apprenticeships in Wales, a course which has already proved popular among both students and those operating in the sector. These new degree apprenticeships will create new opportunities for individuals and companies operating in the construction industry, and further cement our reputation as an institution which is leading the way in producing job\-ready graduates with the skills needed to thrive in crucial sectors. Professor Elwen Evans, KC, Vice\-Chancellor of the University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) said:  > UWTSD is delighted that the Construction Degree Apprenticeships are now available for employers and apprentices in the sector. These programmes will enable individuals to develop a high\-level skill set that will benefit them and their employers in a fast moving and exciting sector.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â thair prifysgol i lansio gradd\-brentisiaethau newydd mewn Rheoli Adeiladu, Peirianneg Sifil, Mesur Meintiau, Arolygu Adeiladau, ac Eiddo Tiriog. Gyda'r sector adeiladu ei hun angen 11,000 o weithwyr ychwanegol erbyn 2028, mae'r gradd\-brentisiaethau newydd yn cael eu cyflwyno ar adeg dyngedfennol. Gan ddechrau ym mis Medi 2024, bydd y rhaglenni pedair blynedd hyn, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill gradd wrth gael profiad ymarferol mewn cyflogaeth. Bydd y cyrsiau'n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Wrecsam, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: > Bydd y rhaglenni hyn nid yn unig yn paratoi unigolion ar gyfer swyddi y mae galw uchel amdanynt a galwedigaethau cyflog uwch, ond hefyd yn sicrhau gweithlu medrus, gwydn a blaengar i ysgogi twf economaidd a darparu atebion arloesol i heriau cymdeithasol a hinsawdd. Jac Beynon, Syrfëwr Meintiau cynorthwyol yn Jones Brothers (Henllan) Ltd yn Cross Hands, fydd un o'r cyntaf i elwa ar y prentisiaethau newydd yng Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Medi. Dywedodd: > Wrth i mi orffen fy arholiadau Safon Uwch yn yr ysgol, roeddwn yn ystyried fy opsiynau o ran beth i'w wneud nesaf. Meddyliais am fynd i'r brifysgol yn llawnamser, ond nid oeddwn yn hoffi'r syniad o aros tair neu bedair blynedd cyn dechrau gweithio. Felly, pan soniodd rhywun am gynllun prentisiaeth a fyddai'n caniatáu i mi weithio a dysgu ar yr un pryd \- cefais fy argyhoeddi. > > "Fy mhrif nod yw ennill profiad ymarferol. Rwyf am ddatblygu sgiliau sy'n benodol i'r diwydiant ac y gellir eu cymhwyso’n uniongyrchol i sefyllfaoedd go iawn. Mae ymgymryd â phrentisiaeth hefyd yn gyfle i fagu hyder yn fy ngallu i ymdrin â chyfrifoldebau proffesiynol a gwneud penderfyniadau gwybodus yn annibynnol. Mae'r diwydiant adeiladu a phrifysgolion hefyd wedi croesawu'r prentisiaethau newydd. Canmolodd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu y sector am dynnu at ei gilydd a symud i gyfeiriad cyffredin i oresgyn heriau yn y diwydiant a heriau ehangach, a siaradodd cynrychiolwyr o Brifysgol Wrecsam, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gadarnhaol am ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr, creu cyfleoedd newydd ac uniongyrchol a chyflwyno setiau sgiliau lefel uchel. Dywedodd Gareth Williams, Rheolwr Safonau a Chymwysterau (Cymru) ar gyfer Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu:  > Mae pobl sydd eisiau gweithio ym maes adeiladu angen llwybrau gyrfa clir i'r diwydiant ac mae'r gradd\-brentisiaethau adeiladu newydd yn garreg filltir bwysig tuag at gyflawni hyn. Mae lansio'r prentisiaethau hyn hefyd yn dangos sector sy'n dod at ei gilydd ac yn symud i gyfeiriad cyffredin i oresgyn heriau yn y diwydiant a heriau ehangach. Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is\-Ganghellor Prifysgol Wrecsam:  > Rydym yn adolygu ein portffolio a'n llwybrau dysgu yn barhaus ar draws pob lefel i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr \- ac mae'r Gradd\-brentisiaethau Adeiladu yn enghraifft wych o ddiwallu'r anghenion hynny. Yn dilyn ymgysylltu â chyflogwyr yn y rhanbarth, rydym yn gwybod eu bod yn gyffrous bod y rhain yn cael eu lansio yma yn Wrecsam. Dywedodd Louise Pennell, Deon Cysylltiol Partneriaethau a Datblygu yng Nghyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth Prifysgol De Cymru: > Ym Mhrifysgol De Cymru mae gennym arbenigedd helaeth ar gyfer rhedeg y llwybrau astudio hyn. Y llynedd roeddem yn bartner allweddol yn y gwaith o lansio’r gradd\-brentisiaethau peirianneg rheilffyrdd cyntaf yng Nghymru, sydd eisoes yn gwrs boblogaidd ymhlith myfyrwyr a'r rhai sy'n gweithredu yn y sector. Bydd y gradd\-brentisiaethau newydd hyn yn creu cyfleoedd newydd i unigolion a chwmnïau sy'n gweithredu yn y diwydiant adeiladu, ac yn cadarnhau ymhellach ein henw da fel sefydliad sy'n arwain y ffordd o ran cynhyrchu graddedigion sy'n barod am swyddi ac yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn sectorau hanfodol. Dywedodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is\-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:  > Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch iawn bod y Gradd\-brentisiaethau Adeiladu bellach ar gael i gyflogwyr a phrentisiaid yn y sector. Bydd y rhaglenni hyn yn galluogi unigolion i ddatblygu sgiliau lefel uchel a fydd o fudd iddyn nhw a'u cyflogwyr mewn sector cyffrous sy'n symud yn gyflym.
https://www.gov.wales/new-degree-apprenticeships-announced-help-build-wales-future
Speaking to delegates from the North Wales construction sector, Jeremy Miles emphasised the importance of the private and public sectors working together to meet this demand. He set out his vision to ensure rapid growth and improvement, including: * working with the new Commission for Tertiary Education \& Research to ensure that the education system meets employer needs, offering courses that address specific gaps in construction skills; * creating more employment spaces and investment\-ready sites through direct intervention, grants, and partnerships to stimulate significant economic growth; * decarbonising social housing, ensuring homes are sustainable, high\-quality, and affordable to heat through the new Welsh Housing Quality Standard 2023, which builds on the £2 billion invested in the original Welsh Housing Quality Standard programme; * ensuring that both public and private sectors are using available tools to address challenges in recruitment, retention, training, and supply chain flexibility. The goal is to drive a shared Net Zero Carbon ambition, innovating with low carbon materials, and adopting modern construction methods. Cabinet Secretary for North Wales and Transport, Ken Skates, also addressed the event and emphasised there are many opportunities for the construction sector in North Wales. Jeremy Miles said: > The construction industry has a huge impact on our economy and society. It creates jobs, drives economic growth, and offers solutions to social, climate, and energy challenges. We are already doing a lot of things right in Wales, with many countries looking at our efforts to transition to a prosperous, sustainable future with fair work at its heart. > > That is not to say we do not acknowledge the challenges construction employers face, the creation of a future talent pipeline, the identification of key projects and the need to support innovation are issues that need further backing. My message to the sector in North Wales is clear: whether through building vital infrastructure for a greener, more sustainable future or maximising opportunities presented by Free Ports and Investment Zones, the construction industry is crucial to shaping the Wales of tomorrow. Ken Skates said:  > I’m pleased this event is taking place in North Wales focussed on the construction sector in the region.  > > Part of my role as Cabinet Secretary for North Wales is to champion  the interests of our communities, businesses and institutions. It’s about ensuring our policies reflect the circumstances, challenges and opportunities in the North. > > We can achieve so much more by working together, and with exciting developments across the region, this is an exciting time for the sector.
Wrth siarad â chynrychiolwyr o sector adeiladu Gogledd Cymru, pwysleisiodd Jeremy Miles pa mor bwysig yw hi i’r sectorau preifat a chyhoeddus weithio gyda'i gilydd i ateb y galw. Amlinellodd ei weledigaeth i sicrhau gwelliant a thwf cyflym, gan gynnwys: * gweithio gyda'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i sicrhau bod y system addysg yn diwallu anghenion cyflogwr ac yn darparu cyrsiau sy'n mynd i'r afael â bylchau penodol mewn sgiliau adeiladu; * creu rhagor o ofodau cyflogaeth a safleoedd sy'n barod ar gyfer buddsoddi drwy ymyrraeth uniongyrchol, grantiau a phartneriaethau i ysgogi twf economaidd sylweddol; * datgarboneiddio tai cymdeithasol, gan sicrhau bod cartrefi'n gynaliadwy, o ansawdd uchel, ac yn fforddiadwy i'w gwresogi drwy Safon Ansawdd Tai newydd Cymru 2023, sy'n adeiladu ar y £2 biliwn a fuddsoddwyd dan raglen wreiddiol Safon Ansawdd Tai Cymru. * sicrhau bod y sectorau cyhoeddus a phreifat yn defnyddio'r offer sydd ar gael i fynd i'r afael â heriau o ran recriwtio, cadw a hyfforddi gweithwyr ac o ran hyblygrwydd y gadwyn gyflenwi. Y nod yw gwireddu uchelgais Sero Net Carbon a rennir, arloesi gyda deunyddiau carbon isel, a mabwysiadu dulliau adeiladu modern. Anerchodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, yn y digwyddiad hefyd, a phwysleisiodd fod llawer o gyfleoedd i'r sector adeiladu yng Ngogledd Cymru. Dywedodd Jeremy Miles:  > Mae'r diwydiant adeiladu’n cael effaith enfawr ar ein heconomi a'n cymdeithas. Mae'n creu swyddi, yn gyrru twf economaidd, ac yn cynnig datrysiadau i heriau cymdeithasol, hinsawdd, ac ynni. Rydym eisoes yn gwneud llawer o bethau'n iawn yma yng Nghymru, ac mae llawer o wledydd eraill yn edrych ar ein hymdrechion i bontio dyfodol ffyniannus a chynaliadwy gyda gwaith teg wrth ei wraidd. > > “Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn cydnabod yr heriau y mae cyflogwyr adeiladu yn eu hwynebu, gyda creu ffynhonnell dalent y dyfodol, adnabod prosiectau allweddol, a'r angen i gefnogi arloesedd yn faterion sydd angen cefnogaeth bellach. Mae fy neges i'r sector yng Ngogledd Cymru yn glir: boed drwy adeiladu seilwaith hanfodol ar gyfer dyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy, neu drwy fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd sy’n cael eu creu gan Borthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi, mae'r diwydiant adeiladu yn hanfodol i lunio Cymru yfory. Dywedodd Ken Skates:  > Rwy'n falch fod y digwyddiad hwn sy'n canolbwyntio ar y sector adeiladu yn y rhanbarth yn cael ei gynnal yng Ngogledd Cymru.  > > Rhan o fy rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru yw hyrwyddo  buddiannau ein cymunedau, ein busnesau a'n sefydliadau. Mae'n ymwneud â sicrhau bod ein polisïau'n adlewyrchu amgylchiadau, heriau a chyfleoedd yn y Gogledd. > > Gallwn gyflawni gymaint mwy drwy weithio gyda'n gilydd, ac mae hwn yn amser cyffrous i’r sector gyda datblygiadau cyffrous ar draws y rhanbarth.
https://www.gov.wales/construction-key-building-sustainable-wales-jeremy-miles
Cabinet Secretary for Culture and Social Justice, Lesley Griffiths, has said the Welsh Government has listened to concerns regarding the intense financial pressures on all cultural institutions – at a national and local level \- and acted to mitigate these difficulties. In addition, the Cabinet Secretary has confirmed £500,000 to help improve storage facilities and protect important collections at local and independent museums and archives which tell the stories of communities across Wales. Funding will also continue to be invested in the redevelopment of Amgueddfa Cymru’s Llanberis site, which will create opportunities for greater and improved access in North Wales to the national collection. The dispersed model for a National Contemporary Art Gallery will provide increased access to the national collection and bring contemporary art closer to communities through a network of nine galleries already established across Wales. More of Wales’ collections will also be provided through the Celf ar y Cyd website. The immediate priority of protecting and preserving cultural institutions and their collections means investing in an anchor gallery for the National Contemporary Art Gallery for Wales and Museum of North Wales will not be possible at this time. The Welsh Government continues to invest in the significant redevelopment of Theatr Clwyd in Flintshire and The Football Museum for Wales in Wrexham. The Welsh Government is also working closely with Amgueddfa Cymru and the National Library of Wales to develop plans to address the wider maintenance issues at the National Museum in Cardiff and the Library’s building in Aberystwyth over the coming years.  Cabinet Secretary for Culture and Social Justice, Lesley Griffiths said:  > “Our museums, archives and galleries are vital parts of cultural life in Wales and today’s announcement will help protect them and their collections for the benefit of people across Wales, now and in the future. > > “We have had to make some difficult decisions and choices, but we have listened and the priority at this time must be helping to safeguard our cultural institutions be they large or small, national or local. > > “The dispersed model of the National Contemporary Art Gallery will bring collections closer to communities, emphasising our commitment to equity of access. We will continue to develop our digital online platform \- Celf ar y Cyd – so more people across Wales and the world can enjoy our national collection of art. > > “Funding will also ensure local museums and archives are supported, recognising the extremely important role they play in telling the stories of their areas. > > “We have been honest about the financial challenges we’re facing,  however, this does not stop us being ambitious for the sector. The investment we’re continuing to make and our consultation on draft priorities for culture over the next six years show the importance this Welsh Government places on culture. > > “We must continue to work together to safeguard our cultural institutions.” Jane Henderson, President of the Federation of Museums and Art Galleries of Wales said:  > “We're delighted that Welsh Government is acknowledging the importance of caring for collections held in local museums and archives. These objects and collections combine to tell the histories of people and their communities which together tell a powerful story of a nation built from many parts.” Amgueddfa Cymru Chief Executive, Jane Richardson said:  > “We are so pleased that Welsh Government are providing additional funding to start critical maintenance work at National Museum Cardiff. The Museum is over 100 years old and was specifically built to house and showcase Wales’ very special national collection. > > “We are delighted that this extra investment will enable us to begin the work to ensure this collection remains accessible to the people of Wales as well as visitors from the rest of the UK and across the world.” National Library of Wales Chief Executive, Rhodri Llwyd Morgan, said:  > “We very much welcome this new investment by the Welsh Government which will go towards essential renovations to the National Library building in Aberystwyth. “The national collection that is kept here is a treasure that belongs to the nation and the funding will enable works that are much needed.  Completing these works will mean that the collections are safe in the long\-term and will ensure access to them for future generations.”
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ynghylch y pwysau ariannol dwys ar bob sefydliad diwylliannol \- ar lefel genedlaethol a lleol \- ac wedi gweithredu i liniaru'r anawsterau hyn. Dyrannwyd £500,000 arall hefyd i helpu i wella cyfleusterau storio a diogelu casgliadau pwysig mewn amgueddfeydd ac archifau lleol ac annibynnol sy'n adrodd straeon cymunedau ledled Cymru. Bydd cyllid hefyd yn parhau i gael ei fuddsoddi i ailddatblygu safle Amgueddfa Cymru yn Llanberis, a fydd yn creu cyfleoedd ar gyfer mwy a gwell mynediad i'r casgliad cenedlaethol yng Ngogledd Cymru. Bydd y model gwasgaredig ar gyfer yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn rhoi mwy o fynediad i'r casgliad cenedlaethol ac yn dod â chelf gyfoes yn agosach at gymunedau trwy rwydwaith o naw oriel sydd eisoes wedi'u sefydlu ledled Cymru. Bydd mwy o gasgliadau Cymru hefyd yn cael eu darparu drwy wefan Celf ar y Cyd Mae'r flaenoriaeth gyntaf o ddiogelu a chadw sefydliadau diwylliannol a'u casgliadau yn golygu na fydd modd buddsoddi mewn oriel angor ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa newydd Gogledd Cymru ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith sylweddol o ailddatblygu Theatr Clwyd yn Sir y Fflint ac Amgueddfa Bêl\-droed Cymru yn Wrecsam. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos gydag Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw ehangach yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac adeilad y Llyfrgell yn Aberystwyth dros y blynyddoedd nesaf.  Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol:  > "Mae ein hamgueddfeydd, ein harchifau a'n horielau yn rhannau hanfodol o fywyd diwylliannol yng Nghymru a bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i'w diogelu hwy a'u casgliadau er budd pobl ledled Cymru, nawr ac yn y dyfodol. > > "Bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau a dewisiadau anodd, fodd bynnag, y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw helpu i ddiogelu ein sefydliadau diwylliannol, boed yn fawr neu'n fach, yn genedlaethol neu'n lleol. > > "Bydd model gwasgaredig yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn dod â chasgliadau'n agosach at gymunedau, gan bwysleisio ein hymrwymiad i degwch mynediad. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein platfform digidol ar\-lein \- Celf ar y Cyd – fel y gall mwy o bobl ledled Cymru a'r byd fwynhau ein casgliad celf cenedlaethol. > > "Bydd cyllid hefyd yn sicrhau bod amgueddfeydd ac archifau lleol yn cael eu cefnogi, gan gydnabod y rôl hynod bwysig y maent yn ei chwarae wrth adrodd straeon eu hardaloedd. > > "Rydym wedi bod yn onest am yr heriau ariannol rydym yn eu hwynebu ond nid yw hyn yn ein hatal rhag bod yn uchelgeisiol ar gyfer y sector. Mae'r buddsoddiad rydym yn parhau i'w wneud a'n hymgynghoriad ar flaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant dros y chwe blynedd nesaf yn dangos pa mor bwysig yw diwylliant i Lywodraeth Cymru. > > "Rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i ddiogelu ein sefydliadau a'n casgliadau diwylliannol." Dywedodd Jane Henderson, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru:  > "Rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gofalu am gasgliadau sydd mewn amgueddfeydd ac archifau lleol. Mae'r gwrthrychau a'r casgliadau hyn yn cyfuno i adrodd hanesion pobl a'u cymunedau, sydd gyda'i gilydd yn adrodd stori bwerus am genedl sydd wedi'i chreu o sawl rhan." Meddai Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson:  > "Da ni mor falch bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i ddechrau gwaith cynnal a chadw critigol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r Amgueddfa dros 100 mlwydd oed ac fe'i hadeiladwyd yn benodol i gadw ac arddangos casgliad cenedlaethol arbennig iawn Cymru. > > "Rydym wrth ein boddau y bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn ein galluogi i ddechrau'r gwaith o sicrhau bod y casgliad hwn yn parhau i fod yn hygyrch i bobl Cymru yn ogystal ag ymwelwyr o weddill y DU ac o bob cwr o'r byd." Meddai Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Llwyd Morgan:  > "Rydym yn croesawu y buddsoddiad newydd hwn gan Lywodraeth Cymru yn fawr, a fydd yn mynd tuag at waith adnewyddu hanfodol i adeilad y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. > > “Mae'r casgliad cenedlaethol sy'n cael ei gadw yma yn drysor sy'n perthyn i'r genedl a bydd yr arian yn galluogi gwaith y mae mawr angen ei wneud.  Bydd cwblhau'r gwaith hwn yn golygu bod y casgliadau'n ddiogel yn y tymor hir a byddant yn sicrhau mynediad iddynt i genedlaethau'r dyfodol."
https://www.gov.wales/37m-additional-funding-protect-and-preserve-wales-national-treasures
The ‘Welsh Way’, the Minister told a delegation in Cardiff including the Future Generations Commissioner, trade unions and representatives from the public and private sectors, is: “…based on relationships borne out of trust and respect. And during the current economic climate it’s more important now than ever before.” The Minister said: > In Wales we have a long\-standing and successful blueprint for social partnership working, bringing together partners from across government, employers, and trade unions to collaborate and co\-produce solutions to shared problems. > > We’ve been doing it for a long time. It is an embedded way of working in Wales. It’s ‘the Welsh Way.’ > > I believe that the ‘Welsh way’ should be characterised by shared ownership of problems and a shared commitment to joint solutions. It’s a model that transcends barriers. > > It provides us with an opportunity to build an economy that promotes fair work, equality, and economic, social and environmental justice. One where we all have a voice. Since the Welsh Government placed social partnership on a statutory footing a little over a year ago, the Social Partnership Council has been established and public bodies are required by law not just to consult but to actively seek consensus or compromise with their recognised trade unions. Examples of social partnership in practice include the Real Living Wage being implemented in the social care sector in Wales through the collective efforts of employers, unions and government. The Retail Forum has been established for members of the retail sector along with government and trade unions to collectively address key issues facing the sector. Reflecting on these examples, the Minister concluded: > It’s a proven model. It works. > > We are working in partnership to make a difference for our communities, our economy and our country \- ensuring workers’ voices are heard. > > Bringing together the collective expertise of social partners to lead to better outcomes for people right across Wales and changing lives. As well as overseeing social partnerships, Sarah Murphy’s Ministerial responsibilities also cover living wage, fair work, tourism, the hospitality and retail sectors, the creative sector and the implementation of the Social Partnership and Public Procurement Act across Wales.  
Dywedodd y Gweinidog wrth ddirprwyaeth yng Nghaerdydd oedd yn cynnwys Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, undebau llafur a chynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus a phreifat, fod y 'Ffordd Gymreig': “… wedi'i seilio ar berthnasoedd sy'n deillio o ymddiriedaeth a pharch. Ac yn ystod yr hinsawdd economaidd bresennol mae'n bwysicach nawr nag erioed o'r blaen." Dywedodd y Gweinidog: > Yng Nghymru mae gennym lasbrint hirsefydlog a llwyddiannus ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, gan ddod â phartneriaid ynghyd o bob rhan o'r llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur i gydweithio a chyd\-ganfod atebion i broblemau a rannwn. > > Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers amser maith. Mae'n ffordd o weithio sydd wedi hen ymwreiddio yng Nghymru. Dyma'r 'Ffordd Gymreig'. > > Rwy'n credu y dylai rhannu problemau ac ymrwymiad i ddarganfod atebion ar y cyd fod yn nodweddion sy'n diffinio'r 'ffordd Gymreig'. Mae'n fodel sy'n goresgyn rhwystrau. > > Mae'n rhoi cyfle i ni adeiladu economi sy'n hyrwyddo gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Un lle mae gan bawb ohonom lais. Ers i Lywodraeth Cymru osod partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol ychydig dros flwyddyn yn ôl, mae'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wedi cael ei sefydlu ac mae'n ofyniad cyfreithiol i gyrff cyhoeddus nid yn unig ymgynghori ond i fynd ati i geisio cyrraedd consensws neu gyfaddawdu gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig. Mae enghreifftiau o bartneriaeth gymdeithasol ar waith yn cynnwys rhoi'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy ymdrechion cyflogwyr, undebau a'r llywodraeth fel ei gilydd. Sefydlwyd y Fforwm Manwerthu ar gyfer aelodau'r sector manwerthu ynghyd â'r llywodraeth ac undebau llafur i fynd i'r afael ar y cyd â phroblemau allweddol sy'n wynebu'r sector. Wrth ystyried yr enghreifftiau hyn, tynnodd y Gweinidog at y terfyn drwy ddweud: > Mae'n fodel sydd wedi'i brofi. Mae'n gweithio. > > Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau, ein heconomi a'n gwlad \- gan sicrhau bod lleisiau gweithwyr yn cael eu clywed. > > Mae'n dod ag arbenigedd partneriaid cymdeithasol at ei gilydd i arwain at well ganlyniadau i bobl ledled Cymru ac at newid bywydau. Yn ogystal â goruchwylio partneriaethau cymdeithasol, mae cyfrifoldebau gweinidogol Sarah Murphy hefyd yn cynnwys cyflog byw, gwaith teg, twristiaeth, y sectorau lletygarwch a manwerthu, y sector creadigol a gweithredu'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus ledled Cymru.
https://www.gov.wales/social-partnership-its-welsh-way-and-it-works-sarah-murphy
The first jobs fair and conference for veterans, service leavers and families in North Wales has taken place in Wrexham, linking the Armed Forces community directly with local and national employers*.* The jobs fair took place alongside a conference for employers which highlighted the many benefits veterans can bring to the workplace. Cabinet Secretary for North Wales and Transport Ken Skates has responsibility for the armed forces and attended the event. He said:  > “It’s a particular pleasure for me to be at this event in North Wales, and to meet some of the veterans and the employers who are attending. > > “This event has 25 employers with active jobs and it’s great to see how they can link up with veterans.  The conference running alongside the fair also gives the opportunity for employers to hear about the benefits of employing veterans and service leavers can bring. > > “Employers at the event include, for example, Transport for Wales, Gold Award holders in the Employer Recognition Scheme and hugely supportive of developing a truly inclusive environment for the Armed forces community. > > “Our veterans bring unique skills and experience which can truly benefit employers.  I’m pleased that in North Wales 172 employers so far have pledged their support by signing the Armed Forces covenant.” Julianne Williams from the Forces Employment charity said:  > “The Wales Employment Fair is personally the highlight of my year, as I get to be involved in Welsh based talent whether it’s from the Welsh based companies or the still serving or veterans. > > I am an RAF veteran and I served for 25 years and I chose to come back home and find work in Wales. I only wish that something like this was available to me when I left.”
Mae'r ffair swyddi a'r gynhadledd gyntaf ar gyfer cyn\-filwyr, y rhai sy'n gadael y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn y Gogledd wedi cael ei chynnal yn Wrecsam.  Roedd yn meithrin cysylltiad uniongyrchol rhwng cymuned y Lluoedd Arfog a chyflogwyr lleol a chenedlaethol. Cynhaliwyd y ffair swyddi ochr yn ochr â chynhadledd i gyflogwyr, a thynnwyd sylw at y llu o fanteision y gall cyn\-filwyr eu cynnig i'r gweithle. Roedd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, sydd â chyfrifoldeb dros y lluoedd arfog, yn y digwyddiad. Dywedodd:  > "Mae'n bleser arbennig i mi fod yn y digwyddiad hwn yn y Gogledd, ac i gwrdd â rhai o'r cyn\-filwyr a'r cyflogwyr sydd wedi dod yma. > > "Mae 25 o gyflogwyr yn y  digwyddiad hwn  ac mae ganddynt swyddi ar hyn o bryd. Mae'n dda gweld sut y gallant feithrin cysylltiadau â chyn\-filwyr. Mae'r gynhadledd, sy'n cael ei chynnal ochr yn ochr â'r ffair, hefyd yn rhoi cyfle i gyflogwyr glywed am y manteision y gall cyflogi cyn\-filwyr a'r rhai sy'n gadael y lluoedd arfog eu cynnig i fusnesau. > > "Mae'r cyflogwyr sydd wedi dod i'r digwyddiad yn cynnwys, er enghraifft, Trafnidiaeth Cymru, deiliaid Gwobrau Aur yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, a chwmni sy'n hynod gefnogol i'r syniad o ddatblygu amgylchedd gwirioneddol gynhwysol i gymuned y Lluoedd Arfog. > > "Mae gan ein cyn\-filwyr sgiliau a phrofiad unigryw a all fod o fudd gwirioneddol i gyflogwyr. Rwy'n falch bod 172 o gyflogwyr yn y Gogledd, hyd yma, wedi addo cefnogi hyn, trwy lofnodi cyfamod y Lluoedd Arfog." Dywedodd Julianne Williams o elusen Cyflogaeth y Lluoedd Arfog:  > "Yn bersonol, Ffair Gyflogaeth Cymru yw uchafbwynt y flwyddyn i mi, gan fy mod yn cael ymwneud â chronfa o dalent o Gymru, boed hynny yn y cwmnïau yng Nghymru, neu ymhlith y rhai sy'n dal i wasanaethu yn y lluoedd arfog neu'n gyn\-filwyr.  > > "Rwy'n gyn\-filwr gyda'r Awyrlu Brenhinol a bûm yn gwasanaethu am 25 mlynedd a dewisais ddod yn ôl adref a dod o hyd i waith yng Nghymru. Hoffwn pe bai rhywbeth fel hyn wedi bod ar gael i mi pan adewais i'r lluoedd arfog."
https://www.gov.wales/first-north-wales-veterans-jobs-fair-and-conference
Today I am announcing Welsh Government is providing additional funding to ensure Wales’ cultural institutions are protected and preserved, with £3\.2m earmarked this financial year for repairs to be carried out at both the National Museum Cardiff and the National Library of Wales in Aberystwyth. A further £500,000 has also been allocated to help improve storage facilities and protect important collections at local and independent museums and archives which tell the stories of our communities across Wales. Funding will also continue to be invested in the re\-development of the National Slate Museum in Llanberis, which will create opportunities for greater and improved access to the national collection in North Wales.  Our museums, archives and galleries are vital parts of cultural life in Wales and this additional funding will help protect them and their collections for the benefit of people across Wales, now and in the future.  Emphasising our commitment to equity of access, the dispersed model for the National Contemporary Art Gallery, will provide increased access to the national collection and bring contemporary art closer to communities through a network of nine galleries already established across Wales. Access to more of Wales’ collections will also be provided through continued development of the digital online platform ‘Celf ar y Cyd’. The existing website already enables more people across Wales and the world to enjoy our national collection of art. The immediate priority of protecting and preserving cultural institutions and their collections means investing in an anchor gallery for the National Contemporary Art Gallery for Wales and a new Museum of North Wales will not be possible at this time. The Welsh Government continues to invest in the significant redevelopment of Theatr Clwyd in Flintshire and The Football Museum for Wales in Wrexham. We are also working closely with Amgueddfa Cymru and the National Library of Wales to develop plans to address the wider maintenance issues at the National Museum Cardiff and the Library’s building in Aberystwyth over the coming years.  The Welsh Government has listened to concerns regarding the intense financial pressures on all cultural institutions, both at a national and local level and is acting to mitigate these difficulties. Difficult decisions and choices have to be made however, the priority at this time must be to help safeguard our cultural institutions, be they large or small, national or local. We have been honest about the financial challenges we are facing, however this does not stop us being ambitious for the sector. The investment we are continuing to make and our consultation on draft priorities for culture over the next six years, show the importance this Welsh Government places on culture. We must continue to work together to safeguard our cultural institutions and collections.
Heddiw rwy'n cyhoeddi fod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod sefydliadau diwylliannol Cymru yn cael eu diogelu a'u cadw, gyda £3\.2m wedi'i glustnodi yn ystod y flwyddyn ariannol hon er mwyn gwneud gwaith atgyweirio i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Dyrannwyd £500,000 arall hefyd i helpu i wella cyfleusterau storio a diogelu casgliadau pwysig mewn amgueddfeydd ac archifau lleol ac annibynnol sy'n adrodd straeon ein cymunedau ledled Cymru. Bydd cyllid hefyd yn parhau i gael ei fuddsoddi i ailddatblygu'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, a fydd yn creu cyfleoedd ar gyfer mwy a gwell mynediad i'r casgliad cenedlaethol yng Ngogledd Cymru.  Mae ein hamgueddfeydd, ein harchifau a'n horielau yn rhannau hanfodol o fywyd diwylliannol yng Nghymru a bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i'w diogelu hwy a'u casgliadau er budd pobl ledled Cymru, nawr ac yn y dyfodol.  Gan bwysleisio ein hymrwymiad i degwch o ran mynediad, bydd y model gwasgaredig ar gyfer yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol, yn rhoi mwy o fynediad i'r casgliad cenedlaethol ac yn dod â chelf gyfoes yn agosach at gymunedau trwy rwydwaith o naw oriel sydd eisoes wedi'u sefydlu ledled Cymru. Bydd mynediad i fwy o gasgliadau Cymru hefyd yn cael ei ddarparu drwy barhau i ddatblygu'r platfform ar\-lein digidol 'Celf ar y Cyd'. Mae'r wefan bresennol eisoes yn galluogi mwy o bobl ledled Cymru a'r byd i fwynhau ein casgliad cenedlaethol o gelf. Mae'r flaenoriaeth uniongyrchol o ddiogelu a chadw sefydliadau diwylliannol a'u casgliadau yn golygu na fydd modd buddsoddi mewn oriel angor ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa newydd Gogledd Cymru ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith sylweddol o ailddatblygu Theatr Clwyd yn Sir y Fflint ac Amgueddfa Bêl\-droed Cymru yn Wrecsam. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw ehangach yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac adeilad y Llyfrgell yn Aberystwyth dros y blynyddoedd nesaf.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ynghylch y pwysau ariannol dwys ar bob sefydliad diwylliannol, \- ar lefel genedlaethol a lleol  ac mae'n gweithredu i liniaru'r anawsterau hyn. Rhaid gwneud penderfyniadau a dewisiadau anodd fodd bynnag a’r flaenoriaeth ar hyn o bryd yw helpu i ddiogelu ein sefydliadau diwylliannol, boed yn fawr neu'n fach, yn genedlaethol neu'n lleol. Rydym wedi bod yn onest am yr heriau ariannol rydym yn eu hwynebu ond nid yw hyn yn ein hatal rhag bod yn uchelgeisiol ar gyfer y sector. Mae'r buddsoddiad rydym yn parhau i'w wneud a'n hymgynghoriad ar flaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant dros y chwe blynedd nesaf yn dangos pa mor bwysig yw diwylliant i Lywodraeth Cymru. Rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i ddiogelu ein sefydliadau a'n casgliadau diwylliannol.
https://www.gov.wales/written-statement-additional-funding-protect-and-preserve-wales-national-treasures
Today I am publishing the Welsh Government’s response to the feedback received to the consultation: Sustainable Farming Scheme: Keeping farmers farming. This consultation was the latest step in developing our future agricultural support for Wales. I’d like to thank everyone who participated in the consultation and who shared their views in other ways, including through the roadshows held earlier this year.  Our ambition is for a vibrant and prosperous farming industry, and the ongoing sustainable production of food is at the core of our proposals. As part of this, we need to acknowledge the nature and climate emergency is the main risk to food production over the long term, and our natural ecosystems are the best defence we have in the adaptation and mitigation of climate change.  Since my appointment, I have been listening to the farming industry and other key stakeholders and I want to work in partnership with them to finalise the Scheme. To this end, I have already hosted two Ministerial Roundtable meetings. The purpose of the Roundtable is to further develop the partnership approach needed to finalise the design and implementation of the Scheme, building on previous phases of co\-design and engagement. Whilst final decisions will be taken by Welsh Ministers, the Roundtable has an important role to play in shaping the Scheme.  Alongside this, the Carbon Sequestration Evidence Panel has met twice and will over the summer consider any further and alternative proposals to achieve additional carbon sequestration within the Universal Actions of the Scheme. I am grateful for the time and commitment that all stakeholders are providing through the Ministerial Roundtable and other supporting groups. Their input is essential in informing the decisions Welsh Ministers will ultimately need to take on the Scheme design and its delivery.  We expect to provide updates from the Ministerial Roundtable periodically through the year. I want to reiterate that no decisions on the Scheme design have yet been made. We have heard and understood the concerns raised through this consultation process, and it is clear changes need to be made before the Scheme is ready to be introduced. And I have been clear that the Scheme will only be introduced when it is ready. This is why I have announced a new timeframe for the introduction of the Scheme. We intend for the SFS to commence in 2026\. This will be preceded by a Preparatory Phase in 2025 providing advice and support to farmers in advance of the Scheme’s introduction.  We will publish further details on the Preparatory Phase for 2025 in due course, along with details on the Basic Payment Scheme in 2025 and other schemes which will be available prior to the introduction of the SFS.  I know that this has been an unsettling time for many farmers and their families. We will continue to work at pace to finalise the Scheme so that we can provide certainty about future support as soon as possible. By working together, we can ensure a sustainable agriculture industry in Wales for generations to come. 
Heddiw, rwy'n cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i'r adborth a gafwyd i'r ymgynghoriad: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cadw ffermwyr yn ffermio*.* Yr ymgynghoriad hwn oedd cam diweddara'r broses i ddatblygu ein cymorth i amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol,  Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ac a rannodd eu barn mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys drwy'r sioeau teithiol a gynhaliwyd yn gynharach eleni.  Ein huchelgais yw gweld diwydiant ffermio byrlymus a llewyrchus; a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy sydd o hyd wrth wraidd ein cynigion. Fel rhan o hynny, rhaid cofio mai'r argyfwng natur a hinsawdd yw'r risg pennaf i'n gallu i gynhyrchu bwyd dros y tymor hir, a'n hecosystemau naturiol yw'r amddiffyniad gorau sydd gennym wrth addasu i'r newid yn yr hinsawdd a lleihau ei effeithiau.  Ers fy mhenodi, rwyf wedi bod yn gwrando ar y diwydiant ffermio a rhanddeiliaid allweddol eraill ac rwyf am weithio mewn partneriaeth â nhw wrth lunio'r Cynllun terfynol. I'r perwyl hwn, rwyf eisoes wedi cynnal dau gyfarfod o'r Ford Gron Gweinidogol. Pwrpas y Ford Gron yw datblygu ymhellach y cydweithio sydd ei angen i ddylunio'r SFS ac i'w roi ar waith, gan adeiladu ar y cyfnodau cyd\-ddylunio ac ymgysylltu sydd eisoes wedi'u cynnal. Er mai Gweinidogion Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol, bydd y Ford Gron yn gwneud cyfraniad pwysig at lunio'r Cynllun.  Hefyd, mae'r Panel Tystiolaeth ar Ddal Carbon wedi cyfarfod ddwywaith a thros yr haf bydd yn ystyried unrhyw gynigion amgen i ddal rhagor o garbon o fewn Gweithredoedd Cyffredinol y Cynllun. Rwy'n ddiolchgar i'r holl randdeiliaid am eu hamser a'u hymrwymiad fel aelodau o'r Ford Gron Gweinidogol a grwpiau cefnogi eraill. Mae eu cyfraniad at y penderfyniadau y bydd angen i Weinidogion Cymru eu gwneud yn y pen draw i ddyluniad y Cynllun a sut i'w roi ar waith, wedi bod yn hanfodol.  Rydym yn disgwyl diweddariadau achlysurol gan y Ford Gron drwy'r flwyddyn. Rwyf am ddweud eto nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynghylch dyluniad y Cynllun eto. Rydym wedi clywed ac yn deall y pryderon a godwyd yn y broses ymgynghori, ac mae'n amlwg y bydd angen newid y Cynllun cyn y bydd yn barod ar gyfer ei fabwysiadu. Ac rwyf wedi bod yn glir mai dim ond pan y bydd yn barod y bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno. Dyna pam dw i wedi cyhoeddi amserlen newydd ar gyfer cyflwyno'r Cynllun.  Rydym am i'r SFS ddechrau yn 2026\. Cyn hynny byddwn yn cynnal Cam Paratoi yn 2025 i roi  cyngor a help i ffermwyr cyn cyflwyno'r Cynllun.  Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y Cam Paratoi ar gyfer 2025 maes o law, ynghyd â manylion y BPS yn 2025 a chynlluniau eraill a fydd ar gael cyn cyflwyno'r SFS.  Rwy'n gwybod bod hwn wedi bod yn gyfnod ansicr i lawer o ffermwyr a'u teuluoedd. Byddwn yn parhau i weithio'n gyflym i lunio'r Cynllun terfynol er mwyn i ni allu rhoi sicrwydd ynghylch y cymorth a fydd ar gael yn y dyfodol cyn gynted â phosibl. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau diwydiant amaeth cynaliadwy yng Nghymru am genedlaethau i ddod. 
https://www.gov.wales/written-statement-sustainable-farming-scheme-keeping-farmers-farming-response-consultation
On 2 July 2024, an oral statement was made in the Senedd: **Progress on the rollout of curriculum reform and next steps (external link)****.**
Ar 2 Gorffennaf 2024, gwnaed **datganiad llafar yn y Senedd: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf (dolen allanol)**.
https://www.gov.wales/oral-statement-progress-rollout-curriculum-reform-and-next-steps
On 2 July 2024, an oral statement was made in the Senedd: **Partnership approach to the new compulsory Bovine Viral Diarrhoea Scheme (external link)****.**
Ar 2 Gorffennaf 2024, gwnaed **datganiad llafar yn y Senedd: Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer y cynllun gorfodol newydd i ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol (dolen allanol)**.
https://www.gov.wales/oral-statement-partnership-approach-new-compulsory-bovine-viral-diarrhoea-scheme
Rhian is recognised as an expert chair of Domestic Homicide Reviews involving older people and was Wales’ first National Adviser for Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence. She will take up the post in September, when Heléna Herklots’ term as Commissioner comes to an end. In 2008, Wales became the first country in the world to appoint an Older People’s Commissioner. The Commissioner has a range of legal powers to help safeguard and promote the interests of older people. The role includes: * promoting awareness of the rights and interests of older people * challenging discrimination against older people * promoting best practice in the treatment of older people * reviewing legislation affecting the interests of older people First Minister Vaughan Gething said: > “Our shared vision is of a Wales that enables people to live and age well, where ageism does not limit people’s potential in their later years. > > “I’m pleased to appoint Rhian to the role, who will bring with her extensive experience in shaping policy and driving forward improvements to be a strong advocate for older people. > > “I would also like to extend my thanks to Heléna Herklots, whose work, particularly during the pandemic, enabled the voices of some of the most marginalised people to be heard and to influence policy for the better.” Rhian Bowen\-Davies said: > “It is an honour and a privilege to be offered the opportunity to serve as the Older People’s Commissioner for Wales. > > “Working with and on behalf of older people, I’m looking forward to increasing awareness and understanding, upholding and promoting rights and addressing inequality. > > “Together we will ensure our voices are heard at a local, regional and national level to realise the vision to make Wales an age\-friendly nation.”
Mae Rhian yn cael ei chydnabod fel cadeirydd arbenigol Adolygiadau Lladdiadau Domestig sy'n cynnwys pobl hŷn a hi oedd Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam\-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Bydd hi'n dechrau ar ei swydd ym mis Medi, pan ddaw cyfnod Heléna Herklots fel Comisiynydd i ben. Yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn. Mae gan y Comisiynydd ystod o bwerau cyfreithiol i helpu i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn. Mae’r rôl yn cynnwys: * Hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru * herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn * hyrwyddo arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin * adolygu deddfwriaeth sy'n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn Dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething: > “Ein gweledigaeth gyffredin yw Cymru sy'n galluogi pobl i fyw a heneiddio'n dda, lle nad yw rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar botensial pobl yn eu blynyddoedd diweddarach. > > “Rwy'n falch o benodi Rhian i'r rôl. Bydd hi'n dod â phrofiad helaeth o lunio polisi a sbarduno gwelliannau i fod yn eiriolwr cryf dros bobl hŷn. > > “Hoffwn ddiolch hefyd i Heléna Herklots, y gwnaeth ei gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig, alluogi lleisiau rhai o'r bobl sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf i gael eu clywed ac i ddylanwadu ar bolisi er gwell.” Dywedodd Rhian Bowen\-Davies: > “Braint ac anrhydedd yw cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. > > “Gan weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan, rwy'n edrych ymlaen at gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cynnal a hyrwyddo hawliau a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. > > “Gyda'n gilydd byddwn yn sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol i wireddu'r weledigaeth i wneud Cymru'n wlad oed\-gyfeillgar.”
https://www.gov.wales/new-older-peoples-commissioner-announced
The Welsh Government has today published the new Welsh Language and Education Bill, aimed at giving every child in Wales a fair opportunity to speak Welsh independently and confidently, whatever their background or schooling. Currently, pupils' ability to speak Welsh varies significantly depending on which school they attend\- the Bill sets out to close this gap. Cabinet Secretary for the Economy, Energy, and Welsh Language, Jeremy Miles, said:  > The Welsh language belongs to us all, and these proposals are about giving children and young people a fairer chance to become Welsh speakers. There is widespread support for our vision of one million Welsh speakers, and today, we’re taking a crucial step towards realising that ambition. > > As a government, we’re committed to building a Wales where the Welsh language thrives in every community, and where all can be proud of their bilingual or multilingual heritage and skills. The Bill also proposes making Welsh language immersion education universally available across Wales. Cabinet Secretary for Education, Lynne Neagle, added:  > Our approach to immersing learners in the Welsh language is unique to us in Wales, and I take pride in what our teachers and educational practitioners do every day. The Bill is a long\-term project and we’ll continue to support our schools to introduce more Welsh into their activities. Support for schools includes working with the sector to increase the number of staff able to work through the medium of Welsh, developing the language skills of the existing workforce, and providing Welsh language learning materials. Lisa Jenkins, Senior Assistant Headteacher at Ysgol Stanwell School, said:  > We are fully committed to making our learners proficient in the Welsh language and have invested significantly in promoting the benefits of bilingualism. Since 2023 it has been one of our school improvement priorities and is a focus of much of our work regarding standards, values and skills development. We have adapted our timetable to increase the number of Welsh lessons in Years 7 and 8 to ensure they are immersed in the language more frequently and are continually looking to recruit Welsh speakers to support us in our long term vision. > > This new Bill is intended to build on these foundations and we are supportive of any measures that support schools to achieve this. American\-born Isabella Colby Browne moved to Flintshire at a young age, shared her experience:  > For a while as a Welsh learner, I was envious of my friends who had gone to Welsh\-medium schools. After going to an English\-medium school and then deciding to learn Welsh later, I've had my own unique and exciting experience of learning the language. The Bill introduces a standard method for describing people of all ages’ ability in Welsh, a move welcomed by business leaders. Siân Goodson, Founder \& Managing Director of Goodson Thomas executive search company said: > We recognise the value of enabling young people to be independent and confident Welsh speakers by the time they leave school. We often have conversations with candidates who underestimate their language skills and work with them to bridge the gap between their perceived abilities with the expectations of our clients.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg, gyda'r nod o roi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru siarad Cymraeg yn annibynnol ac yn hyderus erbyn 2050, beth bynnag fo'u cefndir neu eu haddysg. Ar hyn o bryd, mae gallu disgyblion i siarad Cymraeg yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar ba ysgol y maent yn ei mynychu. Bydd y Bil yn mynd ati i gau’r bwlch o ran gallu disgyblion yn y Gymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles:  > Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae'r cynigion hyn yn ymwneud â rhoi cyfle tecach i blant a phobl ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg. Mae cefnogaeth eang i'n gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg, a heddiw, rydym yn cymryd cam hanfodol tuag at wireddu'r uchelgais honno. > > Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i adeiladu Cymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned, a lle gall pob un fod yn falch o'u treftadaeth a'u sgiliau dwyieithog neu amlieithog. Mae'r Bil hefyd yn mynd ati i sicrhau bod addysg drochi Gymraeg ar gael ar draws Cymru. Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:  > Mae ein dull o drochi dysgwyr yn y Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru, ac rwy'n ymfalchïo yn yr hyn y mae ein hathrawon yn ei wneud bob dydd. Mae’r Bil yn brosiect hirdymor a byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion i gyflwyno mwy o Gymraeg i'w gweithgareddau. Mae'r gefnogaeth i ysgolion yn cynnwys gweithio gyda’r sector i gynyddu nifer yr athrawon all weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, datblygu sgiliau iaith y gweithlu presennol, a darparu deunyddiau dysgu Cymraeg. Dywedodd Lisa Jenkins, Uwch Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Stanwell:  > Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i wneud ein dysgwyr yn hyfedr yn y Gymraeg ac wedi buddsoddi'n sylweddol mewn hyrwyddo manteision dwyieithrwydd. Ers 2023 mae wedi bod yn un o'n blaenoriaethau gwella ysgol ac mae'n ffocws ar lawer o'n gwaith o ran datblygu safonau, gwerthoedd a sgiliau. > > Rydyn ni wedi addasu ein hamserlen i gynyddu nifer y gwersi Cymraeg ym Mlynyddoedd 7 ac 8 i sicrhau eu bod yn cael eu trochi yn yr iaith yn amlach ac rydym yn awyddus i recriwtio siaradwyr Cymraeg i gefnogi yn ein gweledigaeth hirdymor. Bwriad y Bil newydd hwn yw adeiladu'r sylfeini ac rydym yn cefnogi unrhyw fesurau sy'n cefnogi ysgolion i gyflawni hyn. Rhannodd Isabella Colby Browne, a aned yn America a symudodd i Sir y Fflint yn ifanc, ei phrofiad:  > Am gyfnod fel dysgwr, roeddwn yn eiddigeddus iawn o fy ffrindiau oedd wedi mynd i ysgolion Cymraeg. Fodd bynnag, wrth fynd i ysgol Saesneg ac yna penderfynu dysgu Cymraeg yn ddiweddarach, dwi wedi cael fy mhrofiad unigryw a chyffrous fy hun o ddysgu’r iaith. Mae'r Bil yn cyflwyno dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg i bobl o bob oed, cam sydd wedi ei groesawu gan arweinwyr busnes. Dywedodd Siân Goodson, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni chwilio gweithredol Goodson Thomas: > Rydym yn cydnabod gwerth galluogi pobl ifanc i fod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus erbyn iddynt adael yr ysgol. Rydym yn aml yn cael sgyrsiau gydag ymgeiswyr sy'n tanamcangyfrif eu sgiliau iaith ac yn gweithio gyda nhw i bontio'r bwlch rhwng eu galluoedd canfyddedig â disgwyliadau ein cleientiaid.
https://www.gov.wales/fair-opportunity-all-speak-welsh
The Year 12 Seren Academy learners from across Wales spent three days as medical undergrads at Cardiff University’s state\-of\-the\-art medical facilities, attending practical clinical sessions and interactive lectures. Living on campus like a real undergraduate and learning clinical and communication skills from practising doctors and experts During the 3 days the potential medics got hands on experience as a doctor during the ‘Hope Hospital’ workshop. With volunteers playing the part of patients the students, supported by clinicians, were required to take their clinical history, assess, and treat symptoms. A further 15 Seren students attended the dentistry residential at Wales’ only Dental School at Cardiff University taking part in dental workshops and getting firsthand experience in dentistry.  The Seren Academy’s residential courses are one part of the programme of activity provided to its learners to build the relevant skills, experience and expertise to apply for competitive courses and universities. Last year 166 learners from the Seren Academy went on to study medicine or dentistry at leading Universities. The Seren Academy is a fully funded Welsh Government initiative to support the most able learners, regardless of socioeconomic background, have the ambition, capability and curiosity to fulfil their potential and excel in their future educational goals at the highest level. Currently around 23,000 learners in years 8 to 13 are participating in Seren. The Cabinet Secretary for Education, Lynne Neagle said: > Seren has had tremendous success supporting the most able Welsh students to reach their full potential. This is yet another example of how the academy is inspiring the doctors and dentists of the future to apply to the best degree courses. > > We will always need highly skilled medical professionals, and this is a great way of not only highlighting the fantastic facilities Welsh universities can offer students but also help Welsh students get into rewarding careers in medicine, irrespective of background. Chief Dental Officer, Andrew Dickenson, said: > It was a privilege to welcome and chat to the prospective dental students at Cardiff University School of Dentistry Summer School this week. Good oral health is integral to everyone’s overall health and, as such, dentists are essential members of our healthcare system. > > The Summer School will highlight that dentistry is a rewarding career with opportunities to make a genuine contribution to our populations health. Using the fantastic modern facilities at Cardiff Dental Hospital will showcase how our future dentists are being trained and stimulate their interest whilst preparing for their university applications. Professor Rachel Errington, Deputy Head School of Medicine at Cardiff University, said: > As the host of Seren Academy, the staff and students at Cardiff University’s School of Medicine were excited to welcome learners from across Wales to experience medical school. We were delighted to be working with the Welsh Government on this project. The residential course presented a fantastic opportunity to increase the number of learners from Wales who go on to study Medicine. We hope the experiences they have had encourages them to train and work as doctors in Wales. We take immense pride in helping to nurture and develop the next generation of clinicians.  
Treuliodd dysgwyr Blwyddyn 12 Academi Seren o bob rhan o Gymru dridiau fel israddedigion meddygol yng nghyfleusterau gwych ysgol feddygol Prifysgol Caerdydd, gan fynd i sesiynau clinigol ymarferol a darlithoedd rhyngweithiol. Roeddent yn byw ar y campws fel myfyriwr go iawn, yn dysgu sgiliau clinigol a chyfathrebu gan feddygon ac arbenigwyr. Yn ystod y tridiau cafodd y darpar feddygon brofiad ymarferol fel meddyg yn ystod gweithdy 'Ysbyty Gobaith'. Gyda gwirfoddolwyr yn chwarae rhan cleifion roedd gofyn i'r myfyrwyr, gyda chefnogaeth clinigwyr, gymryd eu hanes clinigol, eu hasesu a thrin eu symptomau. Aeth 15 o fyfyrwyr eraill Seren ar gwrs deintyddiaeth preswyl yn unig Ysgol Ddeintyddol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd gan gymryd rhan mewn gweithdai deintyddol a chael profiad uniongyrchol mewn deintyddiaeth. Mae cyrsiau preswyl Academi Seren yn un rhan o'r rhaglen o weithgareddau a ddarperir i'w dysgwyr i feithrin y sgiliau, y profiad a'r arbenigedd perthnasol i ymgeisio am gyrsiau a phrifysgolion cystadleuol. Y llynedd aeth 166 o ddysgwyr o Academi Seren ymlaen i astudio meddygaeth neu ddeintyddiaeth mewn Prifysgolion blaenllaw. Mae Academi Seren yn fenter a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r dysgwyr mwyaf galluog, waeth beth fo'u cefndir economaidd\-gymdeithasol, sydd â'r uchelgais, y gallu a'r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial a rhagori yn addysgol yn y dyfodol ar y lefel uchaf. Ar hyn o bryd mae tua 23,000 o ddysgwyr ym mlynyddoedd 8 i 13 yn cymryd rhan yn Seren. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: > *Mae Seren wedi cael llwyddiant aruthrol wrth gefnogi'r myfyrwyr mwyaf galluog o Gymru i gyrraedd eu llawn botensial. Dyma enghraifft arall eto o sut mae'r academi yn ysbrydoli meddygon a deintyddion y dyfodol i wneud cais i'r cyrsiau gradd gorau.* > > *Bydd angen gweithwyr meddygol proffesiynol medrus iawn arnom bob amser, ac mae hyn yn ffordd dda iawn o dynnu sylw at y cyfleusterau gwych y gall prifysgolion Cymru eu cynnig i fyfyrwyr a hefyd helpu myfyrwyr Cymru i gael gyrfaoedd gwerth chweil mewn meddygaeth, waeth beth fo'u cefndir*. Dywedodd y Prif Swyddog Deintyddol, Andrew Dickenson: > *Roedd yn fraint croesawu a sgwrsio gyda'r darpar fyfyrwyr deintyddol yn Ysgol Haf Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd yr wythnos hon. Mae sicrhau bod iechyd y geg yn dda yn rhan annatod o iechyd cyffredinol pawb ac, o'r herwydd, mae deintyddion yn aelodau hanfodol o'n system gofal iechyd.* > > *Bydd yr Ysgol Haf yn tynnu sylw at y ffaith bod deintyddiaeth yn yrfa werth chweil sy'n rhoi chyfleoedd i rywun wneud cyfraniad gwirioneddol i iechyd y cyhoedd. Bydd defnyddio'r cyfleusterau gwych a modern yn Ysbyty Deintyddol Caerdydd yn gyfle i arddangos sut mae deintyddion y dyfodol yn cael eu hyfforddi ac yn tanio eu diddordeb wrth baratoi ar gyfer eu ceisiadau prifysgol*. Dywedodd yr Athro Rachel Errington, Dirprwy Bennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd: > *Roedd staff a myfyrwyr Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd yn gyffrous am y cyfle i groesawu myfyrwyr o bob cwr o Gymru i weld beth sydd gennym i’w gynnig. Roeddem yn falch iawn o gael cydweithio â Llywodraeth Cymru ar y prosiect hwn. Roedd y cwrs preswyl yn gyfle gwych i gynyddu nifer y dysgwyr o Gymru sy’n mynd ymlaen i astudio Meddygaeth. Rydym yn gobeithio bod y profiadau wedi eu sbarduno i hyfforddi a gweithio fel meddygon yng Nghymru. Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith i helpu i feithrin a datblygu’r genhedlaeth nesaf o glinigwyr.*
https://www.gov.wales/welsh-school-students-get-experience-doctors-and-dentists
The Welsh Government currently manages a number of permitted public cockle fisheries around the coastline of Wales. In response to calls for improvements in the way we manage our cockle fisheries, the Welsh Government launched a public consultation on proposals for change in 2022\. The response was overwhelmingly in favour of the proposed measures and I am grateful to all those who took the time to respond.  Today I am pleased to announce the coming into force of The Cockle Fishing Management and Permitting (Specified Area) (Wales) Order 2024\. This Order will, for the first time, introduce a cohesive and adaptive management system for all public cockle fisheries in Wales within specified areas. It will build on other initiatives brought forward by this government to introduce more flexible fisheries management to ensure sustainability. The Order will help to protect cockle stocks and the sensitive intertidal habitats and species that live nearby. As a result, it will ensure the long term sustainability of cockle fisheries in Wales, so they continue to provide social and economic benefits to coastal communities in the future.  I am fully committed to introducing similar evidence based flexible management regimes for a range of other stocks to safeguard the marine environment and the fishing industry in Wales.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn rheoli nifer o bysgodfeydd cocos cyhoeddus dan drwydded o amgylch arfordir Cymru. Mewn ymateb i alwadau am welliannau yn y ffordd yr ydym yn rheoli ein pysgodfeydd cocos, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion ar gyfer newid yn 2022\.  Roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad yn gryf o blaid y mesurau arfaethedig, ac rwy'n ddiolchgar i bawb am roi o'u hamser i ymateb.  Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi bod Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgodfeydd Cocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024 wedi dod i rym. Bydd y Gorchymyn hwn, am y tro cyntaf, yn cyflwyno system reoli gydlynol ac addasol ar gyfer pob un o'r pysgodfeydd cocos cyhoeddus yng Nghymru mewn ardaloedd penodedig.  Bydd yn adeiladu ar fentrau eraill a gyflwynwyd gan y llywodraeth hon i gyflwyno rheolaeth mwy hyblyg o bysgodfeydd i sicrhau cynaliadwyedd. Bydd y Gorchymyn yn helpu i warchod stociau cocos a chynefinoedd a rhywogaethau rhynglanwol sensitif sy’n byw yn agos. O ganlyniad, bydd yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor pysgodfeydd cocos yng Nghymru, fel eu bod yn parhau i ddarparu manteision cymdeithasol ac economaidd i gymunedau arfordirol yn y dyfodol.  Rwyf wedi ymrwymo'n llawn i gyflwyno cyfundrefnau rheoli hyblyg tebyg sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ystod o stociau eraill er mwyn diogelu'r amgylchedd morol a'r diwydiant pysgota yng Nghymru.
https://www.gov.wales/written-statement-cockle-fishing-management-and-permitting-specified-area-wales-order-2024
All children aged 4 to 11 can visit their local library, register for the challenge, select 6 books of their choice and once the challenge is completed will receive a certificate, with rewards along the way. An online version of the challenge is also available. The Cabinet Secretary for Education, Lynne Neagle said: > I know what a great pleasure it is to be truly absorbed in a book. The Summer Reading Challenge is a really fantastic way for children to develop reading skills, discover new authors and gain a lifelong passion for books. > > That’s why we are funding the scheme again this year to make sure all children have the opportunity to continue their reading during the summer holidays. The theme for the challenge this year is ‘Marvelous Makers’ with new books to be discovered, including a new Welsh Language booklist from the Books Council of Wales who are delivering the Welsh Government funded scheme in Wales in partnership with the Reading Agency. The Books Council of Wales are arranging a Summer Reading Challenge event at Denbigh Library on Wednesday 10 July with writer Leisa Mererid talking about her new book and taking part in yoga activities with children from a local primary school, Ysgol Twm o’r Nant. Bethan Jones, Head of Children’s Books and Reading Promotion at the Book Council of Wales said: > We are thrilled to be working alongside the Reading Agency to develop bilingual resources for the 2024 Summer Reading Challenge. The funding from Welsh Government ensures that we can produce bilingual resources and highlight relevant Welsh titles to inspire a love of reading amongst children and young people. > > This year’s Summer Reading Challenge has a fabulous theme, sure to unleash power of creativity through reading. The Summer Reading Challenge is an excellent opportunity to discover new books, authors and illustrators as well as making the most of the excellent services and workshops within the local Library – all for free! The Welsh Government funding also supports the Winter Mini Challenge which takes place during the winter holidays. Many libraries offer a variety of events and activities for children and families to enjoy for free throughout the summer. Find your local library.
Gall pob plentyn 4 i 11 oed fynd i’w llyfrgell leol, cofrestru ar gyfer y sialens, dewis 6 llyfr, ac unwaith y byddant wedi cwblhau’r sialens, gan ennill gwobrau bob cam o’r ffordd, byddant yn cael tystysgrif. Mae fersiwn ar\-lein o’r sialens ar gael hefyd. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: > Dw i’n gwybod beth yw’r pleser mawr sy’n dod o ymgolli mewn llyfr. Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wirioneddol wych i blant ddatblygu sgiliau darllen, darganfod awduron newydd a meithrin cariad angerddol at lyfrau a fydd yn para am byth. > > Dyna pam ein bod ni’n cyllido’r cynllun hwn unwaith eto eleni, i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael cyfle i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau’r haf. Thema’r sialens eleni yw ‘Crefftwyr Campus’ ac mae llyfrau newydd i’w darganfod, gan gynnwys rhestr newydd o lyfrau Cymraeg gan Gyngor Llyfrau Cymru sy’n gweithredu’r cynllun sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Ddarllen. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn trefnu digwyddiad i nodi Sialens Ddarllen yr Haf yn Llyfrgell Dinbych ddydd Mercher 10 Gorffennaf, a bydd yr awdur Leisa Mererid yn siarad am ei llyfr newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau ioga gyda phlant o ysgol gynradd leol, Ysgol Twm o’r Nant. Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen yng Nghyngor Llyfrau Cymru: > Rydyn ni wrth ein bodd yn cael gweithio ochr yn ochr â’r Asiantaeth Ddarllen i ddatblygu adnoddau dwyieithog ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf 2024\. Mae’r cyllid gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau ein bod ni’n gallu creu adnoddau dwyieithog a thynnu sylw at deitlau Cymraeg perthnasol i ysbrydoli cariad at ddarllen ymhlith plant a phobl ifanc. > > Eleni, mae thema wych i Sialens Ddarllen yr Haf, sy’n sicr o ryddhau grym creadigol drwy ddarllen. Mae’r Sialens yn gyfle bendigedig i ddarganfod llyfrau, awduron ac arlunwyr newydd yn ogystal â gwneud y mwyaf o’r gwasanaethau a’r gweithdai rhagorol o fewn y Llyfrgell leol – a’r cyfan yn rhad ac am ddim! Mae cyllid Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi Sialens Fach y Gaeaf sy’n cael ei chynnal yn ystod gwyliau’r gaeaf. Mae llawer o lyfrgelloedd yn cynnig amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau i blant a theuluoedd eu mwynhau yn rhad ac am ddim drwy gydol yr haf. Chwiliwch am eich llyfrgell leol.
https://www.gov.wales/children-encouraged-take-part-years-summer-reading-challenge
On 9 July 2024, an oral statement was made in the Senedd: The Legislative Programme (external link).
Ar 9 Gorffennaf 2024, gwnaed **datganiad llafar yn y Senedd: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (dolen allanol)**.
https://www.gov.wales/oral-statement-legislative-programme-10
Today, I laid the Welsh Language and Education (Wales) Bill before the Senedd.  We have committed to contribute towards the aim of ensuring one million Welsh speakers by 2050\. This Bill will meet that objective by aiming to ensure that all pupils are independent Welsh language users, at least, by the time they reach the end of compulsory school age. Furthermore, the aim is for all pupils to develop oral skills equivalent to level B2, at least, of the Common European Framework of Reference for Languages. In summary, the key provisions in the Bill will: * provide a statutory basis for the target of one million Welsh speakers by 2050, as well as other targets relating to the use of the language, including in the workplace and socially; * establish a standard method for describing Welsh language ability based on the common reference levels of the Common European Framework of Reference for Languages; * make provisions for designating statutory language categories for schools, along with requirements relating to the amount of Welsh language education provided (including a minimum amount), and Welsh language learning goals for each category; * link linguistic planning at a national level (by placing a duty on the Welsh Ministers to prepare a National Framework for Welsh Language Education and Learning Welsh), at local authority level (by placing a duty on the local authorities to prepare local Welsh in education strategic plans), and at school level (by placing a duty on schools to prepare Welsh language education delivery plans); * establish a National Institute for Learning Welsh as a statutory body responsible for supporting people (of all ages) to learn Welsh. I will be making a legislative statement in Plenary tomorrow, which will provide greater detail about the Bill.  I look forward to working with Members as the Bill is scrutinised by the Senedd.
Heddiw, gosodais Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) gerbron y Senedd.  Rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050\.  Bydd y Bil yn cyflawni’r nod hynny drwy geisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol, o leiaf. Yn benodol, yr amcan yw i bob disgybl feithrin sgiliau llafar sydd gyfystyr â lefel B2, o leiaf, o’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd. Yn gryno, bydd prif ddarpariaethau’r Bil: * yn rhoi sail statudol i’r targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ogystal â thargedau eraill yn ymwneud â defnyddio’r iaith, gan gynnwys yn y gweithle ac yn gymdeithasol; * yn sefydlu dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg ar sail lefelau cyfeirio cyffredin y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar Ieithoedd; * yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi categorïau iaith statudol ar gyfer ysgolion, ynghyd â gofynion o ran swm yr addysg Gymraeg a ddarperir (yn cynnwys isafswm), a nodau dysgu Cymraeg sydd ynghlwm wrth y categorïau; * yn cysylltu’r cynllunio ieithyddol a wneir ar lefel genedlaethol (drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg), ar lefel awdurdod lleol (drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio Cynlluniau Strategol Lleol Cymraeg mewn Addysg), ac ar lefel ysgol (drwy osod dyletswydd ar ysgolion i lunio cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg); * yn sefydlu corff statudol, sef yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fydd yn gyfrifol am gefnogi pobl (o bob oedran) i ddysgu Cymraeg. Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory, gan roi mwy o fanylion am y Bil.  Edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau wrth i'r Senedd graffu ar y Bil. 
https://www.gov.wales/written-statement-introduction-welsh-language-and-education-wales-bill
I am pleased to announce my decision to appoint Rhian Bowen\-Davies as the next Older People’s Commissioner for Wales. The recruitment process commenced in January 2024\. A strong field of shortlisted candidates met with a stakeholder panel of older people and an interview panel chaired by the Cabinet Secretary for Culture and Social Justice. My preferred candidate also attended a pre appointment hearing with the Equality and Social Justice Committee.  Rhian was Wales’ first National Adviser for Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence and is currently recognised as an expert Chair of Domestic Homicide Reviews involving older people. Rhian has extensive experience of working across sectors to shape policy and drive forward improvement and I am confident she will be an influential champion and strong advocate for the rights of older people. Wales was the first country in the world to appoint an Older People’s Commissioner in 2008 to safeguard and promote the interests of older people. Successive commissioners have taken a strong stance against ageism and age discrimination and I would like to extend my thanks to the current Commissioner, Heléna Herklots.  Helena’s work, particularly during the pandemic, has enabled the voices of the most marginalised older people to be heard and to influence policy and practice for the better. Heléna’s passion to create an age friendly Wales has drawn international recognition and I look forward to continuing this work with Rhian.  Our shared vision is for an age friendly Wales that supports people of all ages to live and age well and where ageism does not limit potential or affect the quality of services older people receive. Rhian Bowen\-Davies said: “It is an honour and a privilege to be offered the opportunity to serve as the Older People’s Commissioner for Wales. Working with and on behalf of older people I’m looking forward to making a contribution; increasing awareness and understanding, upholding and promoting rights and addressing inequality. Together we will ensure that our voices are heard at a local, regional and national level and that we support and progress Wales’ vision to become an age\-friendly nation.” Heléna Herklots will be finishing her term of office in August 2024\.
Rwy'n falch o gyhoeddi fy mhenderfyniad i benodi Rhian Bowen\-Davies yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Dechreuodd y broses recriwtio ym mis Ionawr 2024\. Cafodd maes cryf o ymgeiswyr a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer gyfarfod â phanel rhanddeiliaid o bobl hŷn a phanel cyfweld dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd a ffefrir hefyd yn mynd i wrandawiad cyn penodi â’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.  Rhian oedd y gyntaf i ymgymryd â rôl y Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a mathau eraill o Drais ar Sail Rhywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n cael ei chydnabod fel Cadeirydd arbenigol Adolygiadau o Laddiadau Domestig sy’n ymwneud â phobl hŷn. Mae gan Rhian brofiad helaeth o weithio ar draws sectorau yn ffurfio polisïau ac yn ysgogi gwelliannau, ac rwy’n hyderus y bydd yn hyrwyddwr dylanwadol ac yn eiriolwr cryf dros hawliau pobl hŷn. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i benodi Comisiynydd Pobl Hŷn yn 2008 i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn. Mae’r naill gomisiynydd ar ôl y llall wedi cymryd safiad cryf yn erbyn rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran a hoffwn ddiolch i’r Comisiynydd presennol, Heléna Herklots.  Mae gwaith Heléna, yn enwedig yn ystod y pandemig, wedi galluogi i leisiau’r bobl hŷn hynny sydd wirioneddol ar y cyrion gael eu clywed a hefyd wedi sicrhau eu bod yn cael dylanwad er gwell ar bolisïau ac arferion. Mae angerdd Heléna am greu Cymru oed\-gyfeillgar wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac edrychaf ymlaen at barhau â’r gwaith hwn gyda Rhian. Ein gweledigaeth ar y cyd yw Cymru oed\-gyfeillgar sy’n cefnogi pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio’n dda. Rydyn ni am weld Cymru lle nad yw rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar botensial pobl hŷn, nac yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn. Dywedodd Rhian Bowen\-Davies: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Gan weithio gyda phobl hŷn, ac ar eu rhan, rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu. Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cynnal a hyrwyddo hawliau a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yw’r nod. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a’n bod ni’n cefnogi ac yn datblygu gweledigaeth Cymru i ddod yn genedl oed\-gyfeillgar.” Bydd cyfnod Heléna Herklots yn y swydd yn dod i ben ym mis Awst 2024\.
https://www.gov.wales/written-statement-appointment-older-peoples-commissioner-wales-0
The multibank sees businesses donating surplus items so they can be given for free to people who cannot afford them. This includes cleaning products, household items, toiletries and furnishings. In the first two months since its launch, Cwtch Mawr supported more than 15,000 people, as well as hosting community events, cooking courses, drop\-in events and celebrations like International Women’s Day. Cwtch Mawr now has a strong network of 60 registered partners who collect donated items and deliver them to the people who need them. Social workers, health professionals, teachers and charities can refer people to the multibank for support. Cwtch Mawr is run by Swansea\-based charity Faith in Families, with support from Gordon Brown and Amazon, who co\-founded the multi\-bank initiative. The Welsh Government is providing £125,000 for the start\-up of the project, with other support coming from the local partners including Swansea County Council, Pobl Housing Association, Moondance Foundation and Swansea Bay University Health Board. The Cabinet Secretary for Culture and Social Justice, Lesley Griffiths, said:  > “The cost of living crisis means many people are struggling to buy essential items, and it’s good to see how Cwtch Mawr is able to help people by providing lots of different essentials all in one place.  > > “This is a fantastic example of different sectors coming together to support people in their communities. By giving away unsold items, retailers can support the circular economy and reduce their impact on the environment, while helping local people.” Chief Executive of Faith in Families, Cherrie Bija said:  > “The cost of living is no longer a crisis; it has become the norm for thousands in our communities. Children are not just missing out on treats, but on essentials like clothes, shoes, toys, and healthy food. In 2024, it’s heartbreaking to see this happening in Swansea, with childhoods slipping away. > > “Faith in Families \- Cwtch Mawr is stepping up, providing immediate, quality essentials to help families survive and hopefully thrive, in a unique partnership with Amazon. There’s so much more to be done, but this collaboration is immense and enables us to come together with hundreds of charity partners across the region and provide – hugs not handouts.”
Mae'r busnesau yn rhoi eitemau sydd ganddynt dros ben i'r banc bob dim, ac mae'r rheini yn eu tro yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim i bobl na allant eu fforddio. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchion glanhau, eitemau cartref, nwyddau ymolchi a dodrefn. Yn ystod y ddau fis cyntaf ers lansio Cwtch Mawr, cefnogwyd dros 15,000 o bobl, ac fe gynhaliwyd digwyddiadau cymunedol, cyrsiau coginio, digwyddiadau galw heibio a digwyddiadau dathlu fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Bellach mae gan Cwtch Mawr rwydwaith cryf o 60 o bartneriaid cofrestredig sy'n casglu eitemau a roddwyd er mwyn eu dosbarthu i'r bobl sydd eu hangen. Gall gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, athrawon ac elusennau gyfeirio pobl i’r banc bob dim i gael cymorth. Mae Cwtch Mawr yn cael ei redeg gan elusen Faith in Families o Abertawe, gyda chefnogaeth Gordon Brown ac Amazon a sefydlodd y fenter banc bob dim ar y cyd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £125,000 ar gyfer sefydlu'r prosiect, gyda phartneriaid lleol fel Cyngor Abertawe, Cymdeithas Tai Pobl, Sefydliad Moondance  a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cyfrannu at y prosiect hefyd. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths:  > "Mae llawer o bobl yn cael trafferth fforddio eitemau hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw, ac mae'n dda gweld sut mae Cwtch Mawr yn gallu helpu pobl drwy ddarparu llawer o hanfodion gwahanol, a hynny o dan un to.  > > "Mae hon yn enghraifft wych o wahanol sectorau yn cydweithio i gefnogi pobl yn eu cymunedau. Trwy roi eitemau sydd heb eu gwerthu i'r banc bob dim, gall manwerthwyr gefnogi'r economi gylchol a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd, a helpu pobl leol ar yr un pryd." Dywedodd Prif Weithredwr Faith in Families, Cherrie Bija:  > "Nid argyfwng yw costau byw bellach. Mae wedi dod yn normal ac yn ffordd o fyw i filoedd o bobl yn ein cymunedau. Mae plant nid yn unig yn colli cyfle i gael 'rhywbeth bach neis' nawr ac yn y man, ond hefyd yn mynd heb bethau hanfodol fel dillad, esgidiau, teganau a bwyd iach. Gresyn bod hyn yn digwydd yn Abertawe yn 2024\. Mae cymaint yn colli eu plentyndod. > > "Mae Faith in Families \- Cwtch Mawr yn camu i'r adwy gan ddarparu hanfodion o ansawdd, a hynny ar unwaith, er mwyn helpu teuluoedd i ddygymod â’u sefyllfa a ffynnu gobeithio, a hynny mewn partneriaeth unigryw gydag Amazon. Mae cymaint mwy o waith i'w wneud, ond mae'r cydweithio hwn yn digwydd ar raddfa enfawr ac yn ein galluogi i ddod ynghyd â channoedd o bartneriaid elusennol ar draws y rhanbarth i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd i roi – cymorth nid cardod."
https://www.gov.wales/partnership-project-provides-over-62000-essential-items-people-need
Today, we have published the third Annual Report of this Senedd term, setting out the progress we have made towards the well\-being objectives in our Programme for Government. I will lead a debate on the Annual Report in the Senedd on the 16 July. The Annual Report can be found via the following link:  https://www.gov.wales/welsh\-government\-annual\-report\-2024
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi trydydd Adroddiad Blynyddol tymor y Senedd hon, sy’n nodi’r cynnydd rydym wedi'i wneud tuag at ein hamcanion llesiant fel y’u nodir yn y Rhaglen Lywodraethu. Byddaf yn arwain dadl ar yr Adroddiad Blynyddol yn y Senedd ar 16 Gorffennaf.  Mae’r Adroddiad Blynyddol ar gael drwy'r dolen canlynol: https://www.llyw.cymru/adroddiad\-blynyddol\-llywodraeth\-cymru\-2024
https://www.gov.wales/written-statement-welsh-government-annual-report-2023-2024
I am pleased to announce my decision to appoint Rhian Bowen\-Davies as the next Older People’s Commissioner for Wales. The recruitment process commenced in January 2024\. A strong field of shortlisted candidates met with a stakeholder panel of older people and an interview panel chaired by the Cabinet Secretary for Culture and Social Justice. My preferred candidate also attended a pre appointment hearing with the Equality and Social Justice Committee.  Rhian was Wales’ first National Adviser for Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence and is currently recognised as an expert Chair of Domestic Homicide Reviews involving older people. Rhian has extensive experience of working across sectors to shape policy and drive forward improvement and I am confident she will be an influential champion and strong advocate for the rights of older people. Wales was the first country in the world to appoint an Older People’s Commissioner in 2008 to safeguard and promote the interests of older people. Successive commissioners have taken a strong stance against ageism and age discrimination and I would like to extend my thanks to the current Commissioner, Heléna Herklots.  Helena’s work, particularly during the pandemic, has enabled the voices of the most marginalised older people to be heard and to influence policy and practice for the better. Heléna’s passion to create an age friendly Wales has drawn international recognition and I look forward to continuing this work with Rhian.  Our shared vision is for an age friendly Wales that supports people of all ages to live and age well and where ageism does not limit potential or affect the quality of services older people receive. Rhian Bowen\-Davies said: > “It is an honour and a privilege to be offered the opportunity to serve as the Older People’s Commissioner for Wales. Working with and on behalf of older people I’m looking forward to making a contribution; increasing awareness and understanding, upholding and promoting rights and addressing inequality. Together we will ensure that our voices are heard at a local, regional and national level and that we support and progress Wales’ vision to become an age\-friendly nation.” Heléna Herklots will be finishing her term of office in August 2024\.  
Rwy'n falch o gyhoeddi fy mhenderfyniad i benodi Rhian Bowen\-Davies yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Dechreuodd y broses recriwtio ym mis Ionawr 2024\. Cafodd maes cryf o ymgeiswyr a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer gyfarfod â phanel rhanddeiliaid o bobl hŷn a phanel cyfweld dan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol. Bydd yr ymgeisydd a ffefrir hefyd yn mynd i wrandawiad cyn penodi â’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.  Rhian oedd y gyntaf i ymgymryd â rôl y Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a mathau eraill o Drais ar Sail Rhywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n cael ei chydnabod fel Cadeirydd arbenigol Adolygiadau o Laddiadau Domestig sy’n ymwneud â phobl hŷn. Mae gan Rhian brofiad helaeth o weithio ar draws sectorau yn ffurfio polisïau ac yn ysgogi gwelliannau, ac rwy’n hyderus y bydd yn hyrwyddwr dylanwadol ac yn eiriolwr cryf dros hawliau pobl hŷn. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i benodi Comisiynydd Pobl Hŷn yn 2008 i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn. Mae’r naill gomisiynydd ar ôl y llall wedi cymryd safiad cryf yn erbyn rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran a hoffwn ddiolch i’r Comisiynydd presennol, Heléna Herklots.  Mae gwaith Heléna, yn enwedig yn ystod y pandemig, wedi galluogi i leisiau’r bobl hŷn hynny sydd wirioneddol ar y cyrion gael eu clywed a hefyd wedi sicrhau eu bod yn cael dylanwad er gwell ar bolisïau ac arferion. Mae angerdd Heléna am greu Cymru oed\-gyfeillgar wedi cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac edrychaf ymlaen at barhau â’r gwaith hwn gyda Rhian. Ein gweledigaeth ar y cyd yw Cymru oed\-gyfeillgar sy’n cefnogi pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio’n dda. Rydyn ni am weld Cymru lle nad yw rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar botensial pobl hŷn, nac yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn. Dywedodd Rhian Bowen\-Davies: > “Mae’n fraint ac yn anrhydedd cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Gan weithio gyda phobl hŷn, ac ar eu rhan, rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu. Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cynnal a hyrwyddo hawliau a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yw’r nod. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a’n bod ni’n cefnogi ac yn datblygu gweledigaeth Cymru i ddod yn genedl oed\-gyfeillgar.” Bydd cyfnod Heléna Herklots yn y swydd yn dod i ben ym mis Awst 2024\.
https://www.gov.wales/written-statement-appointment-older-peoples-commissioner-wales
The company has been established to accelerate the development of renewable energy projects, particularly onshore wind, on the wider Welsh public estate and maximise their value for the people of Wales. The Trydan Gwyrdd team, based in Merthyr Tydfil, will be working alongside Natural Resources Wales to develop wind farms on the woodland estate. They will begin engaging with communities near initial sites at the earliest opportunity. At the launch in Bryncynon, Jeremy Miles set out the Welsh Government’s long\-term plans for a greener, more sustainable energy supply and decarbonisation and announced the publication of a Heat Strategy. Jeremy Miles, Cabinet Secretary for the Economy, Energy and the Welsh Language said: > “There is no question that clean energy is central to a more prosperous Wales and a better future for our communities. I hope today’s announcements show how we will make the energy transition benefit Wales, both now and in the future. > > “We are already making progress in offshore wind and today marks an important step in the right direction for onshore, and in particular large scale, Welsh owned onshore projects. There are enormous opportunities here. > > “Owning our own renewables company on behalf of Wales will allow us not only to develop renewables in ways that fit with the natural environment but most importantly to provide us, and the people of Wales, with the ability to own the returns on what will be a significant investment. > > “We have a long road ahead and we will not start generating income for Wales for some years – but the work to better secure our energy future starts today.” UK Government Energy Secretary Ed Miliband said: > “The people of Wales will benefit hugely from the sustainable, homegrown clean power from Trydan Gwyrdd Cymru. > > “I look forward to working closely with the Welsh Government as we make Britain a clean energy superpower, including setting out the first steps of Great British Energy, boosting our energy independence and bring down bills for good.” Richard Evans, Chief Executive Officer of Trydan, said: > “In Wales, we have a history of social collaboration and engagement, which Trydan will continue. for people to support more and faster deployment, the renewable sector will need to visibly embed benefits into local communities, invest more in Welsh and UK supply chains, and help residents and businesses worried about energy bills. > > “Today we launch our engagement seeking to bring Welsh citizens with us on this exciting journey. Next, we’ll be reaching out to local communities to discuss very early plans associated with priority projects on the Welsh woodland estate. > > “There are great professionals within the industry in Wales – I’m happy to have recruited several to work alongside me in Trydan – and we look forward to working with all key players, including communities, on strategic goals and on shaping our projects from their inception." During the launch event at the Feel Good Factory in Bryncynon this morning, the Welsh Government also published its cross\-Government Heat Strategy, setting out a roadmap for decarbonising the heating of homes, commercial properties and industry as part of its Net Zero commitments. With heating accounting for 50% of energy use in Wales, 75% of which is generated using fossil fuels, the strategy looks across homes, businesses, industry and the public sector at what each area will need to put in place to achieve a low carbon energy system. One example being considered is whether warm water in old mine workings can be used to heat homes in former mining communities. This work is at a very early stage but the Coal Authority have produced detailed maps highlighting where there is potential accessible minewater and the Welsh Government will support them and identified local authorities in maximising the unintended opportunities from Wales’ coaling heritage to support the delivery of a net zero society.
Mae'r cwmni wedi cael ei sefydlu i gyflymu'r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni gwynt ar y tir, ar ystâd gyhoeddus ehangach Cymru, ac i gynyddu eu gwerth ar gyfer pobl Cymru cymaint ag y bo modd. Bydd tîm Trydan Gwyrdd, a leolir ym Merthyr Tudful, yn gweithio ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu ffermydd gwynt ar yr ystad goetir. Byddan nhw'n dechrau ymgysylltu â chymunedau ar bwys y safleoedd cyntaf cyn gynted â phosibl. Yn y lansiad ym Mryncynon, nododd Jeremy Miles gynlluniau tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio a chyflenwadau ynni gwyrddach, mwy cynaliadwy, a chyhoeddodd y byddai Strategaeth Wres yn cael ei chyhoeddi. Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg > "Heb os mae ynni glân yn ganolog i Gymru fwy llewyrchus a dyfodol gwell i'n cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddiadau heddiw yn dangos sut byddwn yn sicrhau bod newid y math o ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio o fudd i Gymru, nawr ac yn y dyfodol. > > "Rydyn ni eisoes yn gwneud cynnydd ym maes ynni gwynt ar y môr ac mae heddiw yn gam pwysig yn y cyfeiriad cywir ar gyfer prosiectau ar y tir – yn enwedig prosiectau mawr ar y tir y mae Cymru yn berchen arnyn nhw.  Mae cyfleoedd enfawr yma. > > "Bydd bod yn berchen ar ein cwmni ynni adnewyddadwy ein hunain ar ran Cymru yn ein galluogi nid yn unig i ddatblygu ynni adnewyddadwy mewn ffyrdd sy'n cyd\-fynd â'r amgylchedd naturiol, ond yn bwysicaf oll i roi'r gallu inni, a phobl Cymru, i dderbyn enillion yr hyn a fydd yn fuddsoddiad sylweddol. > > "Mae gennyn ni ffordd hir o'n blaenau ac ni fyddwn yn dechrau cynhyrchu incwm i Gymru am nifer o flynyddoedd – ond mae'r gwaith i sicrhau dyfodol gwell ar gyfer ein hynni yn dechrau heddiw." Dywedodd Ed Miliband, Ysgrifennydd Ynni y Deyrnas Unedig:  > "Bydd pobl Cymru yn elwa'n fawr o'r ynni glân cynaliadwy o Gymru gan Drydan Gwyrdd Cymru. > > "Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth i ni wneud Prydain yn bŵerdy ynni glân, gan gynnwys amlinellu camau cyntaf Great British Energy, rhoi hwb i'n hannibyniaeth ynni a gostwng biliau unwaith ac am byth." Dywedodd Richard Evans, Prif Swyddog Gweithredol Trydan: > "Yng Nghymru mae gennyn ni hanes o gydweithio ac ymgysylltu cymdeithasol, a bydd Trydan yn parhau â  hynny. Er mwyn sicrhau cefnogaeth pobl wrth roi ynni adnewyddadwy ar waith yn gyflymach ac ar raddfa fwy, bydd angen i'r sector dangos bod manteision amlwg ar gyfer cymunedau lleol, buddsoddi mwy yng nghadwyni cyflenwi Cymru a'r DU, a helpu preswylwyr a busnesau sy'n poeni am filiau ynni. > > "Heddiw rydyn ni'n lansio ein hymarfer ymgysylltu gan geisio dod â dinasyddion Cymru gyda ni ar y daith gyffrous hon. Nesaf, byddwn yn estyn allan i gymunedau lleol i drafod cynlluniau cynnar iawn sy'n gysylltiedig â phrosiectau â blaenoriaeth ar ystad goetir Cymru. > > "Mae gweithwyr proffesiynol gwych yn y diwydiant yng Nghymru \- rwy'n hapus fy mod wedi recriwtio sawl un i weithio ochr yn ochr â mi yn Trydan \- ac edrychwn ni ymlaen at weithio gyda'r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cymunedau, ar nodau strategol ac ar lunio ein prosiectau o'r dechrau un." Yn ystod y digwyddiad lansio yn y Feel Good Factory ym Mryncynon y bore yma, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Wres Drawslywodraethol hefyd – sy'n nodi map ffordd ar gyfer datgarboneiddio gwresogi cartrefi, eiddo masnachol a diwydiant fel rhan o'i hymrwymiadau sero net. Gyda gwres yn cyfrif am 50% o'r ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru, y mae 75% ohono'n dod o danwyddau ffosil, mae'r strategaeth yn edrych ar draws cartrefi, busnesau, diwydiant a'r sector cyhoeddus ar yr hyn y bydd angen i bob maes ei roi ar waith i sicrhau system ynni carbon isel. Un enghraifft sy'n cael ei ystyried yw a ellir defnyddio dŵr cynnes o hen byllau glo i wresogi cartrefi mewn hen gymunedau glofaol. Newydd ddechrau mae'r gwaith hwn, ond mae'r Awdurdod Glo wedi cynhyrchu mapiau manwl sy'n nodi ble mae dŵr mewn pyllau glo y gellid cael mynediad ato, a bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi nhw a'r awdurdodau lleol perthnasol i fanteisio i'r eithaf ar ganlyniadau anfwriadol treftadaeth lo Cymru i ategu'r gwaith o sicrhau cymdeithas sero net.
https://www.gov.wales/securing-wales-green-future-trydan-gwyrdd-cymru-launched
I am today publishing the evidence underpinning the decision to ask the former Minister for Social Partnership to leave the Welsh Government.  In the interests of clarity and the accuracy of the debate regarding this matter in the Senedd, I believe it is now right to set out the evidence that led to the decision I took. Specifically, I consider that it is important for the integrity of the Welsh Government that there is now clarity on the evidence that supported the decision.  Upholding collective responsibility is integral to the ability of cabinet to function effectively. Welsh Ministers must be able to consider and discuss challenging issues and sensitive information on matters that impact directly on communities, businesses, public services and citizens. It is important that they – and civil servants \- are able to do so in a trusted, confidential environment.  The first piece of evidence, as I described in detail to the Senedd on 10 July, is a photograph of a fragment of an iMessage chat from August 2020 involving eleven Welsh Labour Ministers. It was sent to the Welsh Government in May this year in exactly the form I am publishing today by a journalist seeking a comment on its contents. We have previously published this in redacted form, however it is now available to Members without any redaction. The second is a corresponding image from the same chat, which was subsequently located on the phone of another of the participants after the photograph was provided to us. The full exchange from this chat has now been submitted to the COVID Inquiry.  This image demonstrates that the former Minister for Social Partnership was a member of the chat on that day.  When an iMessage chat is viewed on an individual’s device, the initials of all other participants are visible, apart from the participant themselves. By cross referencing the subsequently located chat membership with the photograph of the chat fragment that was provided to us by the journalist, it becomes clear that the only missing initials on this image are that of the former Minister for Social Partnership. It is also clear that the image was captured in 2020 and was retained before the leak become evident earlier this year.  These two pieces of evidence, taken together, are the reason I have been clear with the Senedd that it can only be an image of the former Minister’s phone. I took the difficult decision to ask the former Minister to leave the Government based on this information and the lack of a credible explanation.  Ministers are responsible for the security of their data, and regardless of how the photograph came into the journalist’s possession, the image should not have been allowed to have been taken, leading as it did to the breakdown of trust for Ministers’ expectation of privacy for their discussions. It was particularly difficult for other colleagues who were unable to be clear that they were not responsible for the leak in question.  The Senedd is due to debate a Section 37 motion later this week. Whilst I do not consider the material published today can be required by that motion, in the interests of transparency and given the ongoing interest, I have taken the decision to provide them to Members today. I will reiterate what I said in the Senedd on 10 July, and to the Committee for the Scrutiny of the First Minister on Friday. Throughout this difficult process I have sought to protect the well\-being of the former Minister, and to offer her any ongoing support she wishes to take up.  ### Documents * #### Image 1, file type: pdf, file size: 247 KB 247 KB ### Documents * #### Image 2, file type: pdf, file size: 80 KB 80 KB
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r dystiolaeth sy'n sail i'r penderfyniad dros ofyn i'r cyn\-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol adael Llywodraeth Cymru.  Er mwyn cadarnhau eglurder a chywirdeb y ddadl ynglŷn â'r mater hwn yn y Senedd, credaf ei bod bellach yn iawn imi nodi'r dystiolaeth a arweiniodd at fy mhenderfyniad. Yn benodol, rwyf o'r farn ei bod yn bwysig i integriti Llywodraeth Cymru fod eglurder yn cael ei roi bellach ynglŷn â’r dystiolaeth a gefnogodd y penderfyniad hwnnw.  Mae cynnal cyfrifoldeb ar y cyd yn rhan annatod o allu'r Cabinet i weithredu'n effeithiol. Rhaid i Weinidogion Cymru allu ystyried a thrafod materion heriol a gwybodaeth sensitif am faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar gymunedau, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion. Mae'n bwysig eu bod nhw \- a gweision sifil \- yn gallu gwneud hynny mewn amgylchedd dibynadwy a chyfrinachol.  Mae'r darn cyntaf o dystiolaeth, fel y disgrifiais yn fanwl i'r Senedd ar 10 Gorffennaf, yn llun o ddarn o sgwrs iMessage o fis Awst 2020 rhwng un ar ddeg o Weinidogion Llafur Cymru. Fe anfonwyd y llun hwnnw at Lywodraeth Cymru ym mis Mai eleni yn yr union ffurf rwy'n ei gyhoeddi heddiw gan newyddiadurwr a oedd yn ceisio sylw ar ei gynnwys. Rydym wedi cyhoeddi’r llun hwn o'r blaen ar ffurf wedi'i golygu, fodd bynnag, mae bellach ar gael i'r Aelodau heb ei olygu. Mae'r ail yn ddelwedd gyfatebol o'r un sgwrs, a gafodd ei lleoli wedyn ar ffôn un arall o'r cyfranogwyr ar ôl i'r ddelwedd gael ei rhannu â ni. Mae cynnwys llawn y sgwrs hon bellach wedi'i gyflwyno i'r Ymchwiliad COVID.  Mae'r ddelwedd hon yn dangos bod y cyn\-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn aelod o'r sgwrs ar y diwrnod hwnnw.  Wrth edrych ar sgwrs iMessage ar ddyfais unigolyn, bydd modd gweld llythrennau cyntaf yr holl gyfranogwyr eraill, ar wahân i rai’r cyfranogwr ei hunan. Drwy groesgyfeirio'r dystiolaeth ynghylch aelodau’r sgwrs yn erbyn y llun o’r sgwrs a gafodd ei rannu â ni gan y newyddiadurwr, daw'n amlwg mai'r unig lythrennau cyntaf sydd ar goll yn y ddelwedd hon yw rhai’r cyn\-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Mae hefyd yn amlwg bod y ddelwedd wedi'i thynnu yn 2020 a'i chadw cyn i’r datgeliad ddod yn amlwg yn gynharach eleni.  Y ddau ddarn o dystiolaeth hyn, gyda'i gilydd, yw’r rheswm pam rwyf wedi nodi’n glir wrth y Senedd na all y llun hwn ond fod yn ddelwedd o ffôn y cyn\-Weinidog. Gwnes i'r penderfyniad anodd i ofyn i'r cyn\-Weinidog adael y Llywodraeth ar sail yr wybodaeth hon a'r diffyg esboniad credadwy.  Gweinidogion sy'n gyfrifol am ddiogelwch eu data, ac ni waeth sut y daeth y llun i feddiant y newyddiadurwr, ni ddylai'r ddelwedd fod wedi cael ei chymryd, gan arwain fel y gwnaeth at Weinidogion yn colli ymddiriedaeth yn y ffordd y diogelir preifatrwydd eu trafodaethau. Roedd yn arbennig o anodd i gydweithwyr eraill nad oeddent yn gallu bod yn glir nad nhw oedd yn gyfrifol am y datgeliad dan sylw.  Mae disgwyl i'r Senedd drafod cynnig Adran 37 yn ddiweddarach yr wythnos hon. Er nad wyf yn ystyried y gall y deunydd a gyhoeddir heddiw fod yn ofynnol gan y cynnig hwnnw, er tryloywder ac o ystyried y diddordeb parhaus, rwyf wedi penderfynu ei rannu â’r Aelodau heddiw. Byddaf yn ailadrodd yr hyn a ddywedais yn y Senedd ar 10 Gorffennaf, ac i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener. Drwy gydol y broses anodd hon, rwyf wedi ceisio diogelu llesiant y cyn\-Weinidog, a chynnig unrhyw gymorth parhaus y mae hi'n dymuno ei gael. ### Dogfennau * #### Image 1, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 247 KB 247 KB ### Dogfennau * #### Image 2, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 80 KB 80 KB
https://www.gov.wales/written-statement-statement-first-minister-1
Today I’m pleased to publish the Welsh Government’s Approach to Trade Policy. The purpose of this paper is to set out our approach to trade policy, its grounding in the Well\-being of Future Generations Act, and explain the cross\-cutting policy objectives we believe the UK government should pursue when negotiating trade agreements. Our approach to trade policy is underpinned by our ambition to increase prosperity in Wales, our values, our wider commitments to sustainability and our responsibilities through the Well\-being of Future Generations Act. This includes growing our economy sustainably, enhancing exports and attracting inward investment; acting as a responsible nation on the global stage; respecting and protecting human rights; taking action to respond to the global climate emergency and safeguarding our valued public services. In recent years, the trade environment has changed beyond all recognition. As the world changes, Wales changes with it. Our prosperity has long depended on trade, with opportunities opening up around the world and here at home. The collective challenge for us in Wales is to identify those opportunities and equip ourselves to take fullest advantage of them to boost the economic, social, cultural and environmental well\-being of Wales. Whilst only the UK government can enter the whole of the United Kingdom into trade deals, Welsh Ministers have the power to make representations to the UK government whilst negotiating trade agreements and the Senedd has competence to pass laws relating to the observation and implementation of international obligations. We have a clear interest in trade deals as they can impact on our people, places and businesses and create new international opportunities and obligations. I’m publishing this paper today to provide the new UK government with an opportunity to consider our approach to trade policy before they decide on their own strategy. I look forward to working closely with the new UK government to help ensure that trade agreements will enable the people and businesses of Wales to prosper whilst acting as a platform for constructive engagement around the environment, consumer standards, human rights, health, and equality.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw Ddull Llywodraeth Cymru o Ymdrin â Pholisi Masnach. Diben y papur hwn yw nodi ein dull o ymdrin â pholisi masnach, ei sylfaen yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac egluro’r amcanion polisi trawsbynciol y credwn y dylai Llywodraeth y DU eu dilyn wrth negodi cytundebau masnach. Mae ein dull o ymdrin â pholisi masnach yn seiliedig ar ein huchelgais i gynyddu ffyniant yng Nghymru, ein gwerthoedd, ein hymrwymiadau ehangach i gynaliadwyedd a’n cyfrifoldebau drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hyn yn cynnwys tyfu ein heconomi mewn modd cynaliadwy, gwella allforion a denu mewnfuddsoddi; gweithredu fel cenedl gyfrifol ar y llwyfan byd\-eang; parchu a diogelu hawliau dynol; cymryd camau i ymateb i’r argyfwng hinsawdd byd\-eang a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r amgylchedd masnachu wedi newid yn gyfan gwbl. Wrth i’r byd newid, mae Cymru yn newid hefyd. Mae ein ffyniant wedi dibynnu ar fasnach ers tro byd, gyda chyfleoedd yn agor o amgylch y byd yn ogystal ag yma yng Nghymru. Yr her i bawb yng Nghymru yw nodi'r cyfleoedd hynny a sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau i fanteisio'n llawn arnynt i hybu llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Cymru. Er mai Llywodraeth y DU yn unig sy'n cael ymrwymo'r Deyrnas Unedig gyfan i gytundebau masnach, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyflwyno sylwadau i lywodraeth y DU wrth negodi cytundebau masnach, ac mae gan y Senedd gymhwysedd i basio deddfau sy’n ymwneud ag arsylwi a gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol. Felly, mae gennym ddiddordeb amlwg mewn cytundebau masnach gan y gallant effeithio ar ein pobl, ein lleoedd a’n busnesau, a chreu cyfleoedd a rhwymedigaethau rhyngwladol newydd. Rwy'n cyhoeddi'r papur hwn heddiw i roi cyfle i Lywodraeth newydd y DU ystyried ein dull o ymdrin â pholisi masnach cyn iddynt benderfynu ar eu strategaeth eu hunain. Edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth newydd y DU i helpu i sicrhau y bydd cytundebau masnach yn galluogi pobl a busnesau Cymru i ffynnu, wrth weithredu fel platfform ar gyfer gweithio mewn ffordd adeiladol ynghylch yr amgylchedd, safonau defnyddwyr, hawliau dynol, iechyd a chydraddoldeb.
https://www.gov.wales/written-statement-welsh-governments-approach-trade-policy
In May, a new timeframe for the Sustainable Farming Scheme was introduced as part of a Welsh Government commitment to listening to farmers and rural communities. The scheme will now begin in 2026, giving more time to engage with key partners. Speaking ahead of the Royal Welsh Show, the Cabinet Secretary has announced that the 2025 preparatory phase will include a number of schemes which will provide advice and support to farmers in advance of the introduction of SFS. The Schemes include: 1. **Habitat Wales Scheme**is offered in 2025 with all eligible individual farmers able to apply. 2. **Existing Habitat Wales Scheme Commons** agreements can be extended for 2025\. 3. **The Organic Support Payment** will be maintained for 2025\. 4. An extension to **Farming Connect** to 2026, continuing the knowledge transfer and innovation support on farms. 5. A new **Integrated Natural Resources Scheme** will support farmer\-focussed partnerships delivering nature\-based solutions across a landscape, catchment or on a pan Wales scale.  It will continue the transition to a new way of supporting farmers and the vital work they do ahead of the introduction of SFS Collaborative Actions. In addition to these five schemes, a **data confirmation exercise** will be launched. With feedback from farmers who decide to participate the exercise will provide a more accurate picture of the habitat and tree cover across their farm. This is in preparation for Habitat Wales Scheme 2025 and the introduction of SFS. Farmers who wish to apply for HWS 2025 are encouraged to complete the data confirmation exercise.  Huw Irranca\-Davies said:  > The announcement of the schemes is intended to give reassurance to farmers that support will continue to be available in the lead up to 2026\. > > We also recognise the transition from the Basic Payment Scheme will be a significant change for many farmers, and we therefore intend to help, guide and support Welsh farmers for a number of years as we finalise and move towards the SFS.” > > We will continue to listen to the sector and work in partnership. Together we can create a future where our farmers produce the very best Welsh food to the highest standards, while safeguarding our precious environment to help tackle the climate and nature emergency. > > We will continue to work with farmers and landowners at pace through the Ministerial Roundtable to finalise the Scheme so that we can provide certainty about future support as soon as possible. Subject to budget availability, we will confirm additional 2025 support schemes later this year. > > We want to deliver a sustainable farming industry which supports thriving rural communities and the Welsh language \- sustainable in every sense of the word.
Ym mis Mai, cyhoeddwyd amserlen newydd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrando ar ffermwyr a chymunedau gwledig. Bydd y cynllun nawr yn dechrau yn 2026, gan roi mwy o amser I siarad a thrafod gyda prif bartneriaid. Gan siarad ar drothwy'r Sioe Fawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y bydd 'cyfnod paratoi' 2025 yn cynnwys nifer o gynlluniau i roi cyngor a help i ffermwyr cyn cyflwyno'r SFS. Ymhlith y Cynlluniau hynny y mae: 1. **Cynllun Cynefin Cymru**\- yn cael ei gynnig yn 2025 a bydd pob ffermwr cymwys yn cael gwneud cais. 2. **Cytundebau Tir Comin presennol Cynllun Cynefin Cymru** \- yn gallu cael eu hestyn ar gyfer 2025\. 3. **Y Taliad Cymorth Organig** \- yn cael ei gadw ar gyfer 2025\. 4. **Cyswllt Ffermio** \- yn cael ei estyn hyd at 2026, gan gadw'r cymorth i helpu ffermwyr i drosglwyddo gwybodaeth ac arloesiffermydd. 5. **Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig** newydd \- yn cael ei greu i gefnogi partneriaethau rhwng ffermwyr i gael hyd i atebion sy'n seiliedig ar natur ar draws tirwedd, dalgylch neu ar raddfa gyfan Cymru.  Bydd yn parhau'n bont i ffordd newydd o gefnogi ffermwyr a'r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud cyn cyflwyno Gweithredoedd Cydweithredol yr SFS. Yn ogystal â'r pum cynllun hyn, bydd **ymarfer cadarnhau data**yn cael ei lansio.  Gydag adborth gan y ffermwyr sy'n penderfynu cymryd rhan bydd yr ymarfer yn rhoi darlun cywirach o'r tir cynefin a'r gorchudd coed a welir ar ffermydd. Bydd hyn yn help i baratoi ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru (CCC) 2025 a chyflwyno'r SFS. Os ydy ffermwyr am wneud cais am CCC 2025, maent yn cael eu hannog i gwblhau'r ymarfer cadarnhau data.  Dywedodd Huw Irranca\-Davies:  > Bwriad cyhoeddi'r cynlluniau hyn yw rhoi sicrwydd i ffermwyr y bydd yna gymorth iddyn nhw yn y cyfnod cyn 2026\. > > Rydyn ni'n cydnabod hefyd y bydd y newid o'r BPS yn golygu newid mawr i lawer o ffermwyr, ac felly rydyn ni am helpu, tywys a chynnal ffermwyr Cymru dros gyfnod o flynyddoedd wrth i ni gwblhau a symud tuag at yr SFS. > > Byddwn yn dal i wrando ar y sector a chydweithio â hi. Gyda'n gilydd gallwn greu dyfodol lle bydd ein ffermwyr yn cynhyrchu'r bwyd gorau at y safonau uchaf, ac yn diogelu yr un pryd ein hamgylchedd gwerthfawr ac yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. > > Byddwn yn parhau i weithio gyda ffermwyr a pherchenogion tir trwy Ford Gron Gweinidogol i lunio'r Cynllun terfynol a rhoi sicrwydd ynghylch y cymorth a fydd ar gael yn y dyfodol cyn gynted â phosibl. Gan ddibynnu ar faint o arian fydd ar gael, byddwn yn cadarnhau cynlluniau cymorth ychwanegol 2025 yn ddiweddarach eleni. > > Rydyn ni am weld diwydiant ffermio cynaliadwy sy'n cefnogi cymunedau gwledig ffyniannus a'r iaith Gymraeg \- cynaliadwy ym mhob ystyr y gair.
https://www.gov.wales/cabinet-secretary-confirms-support-available-farmers-2025
HMRC has published the fourth set of annual outturn statistics for the Welsh rates of income tax (external link). The outturn statistics show that the Welsh rates of income tax in 2022\-23 raised £2,618m, up by £254m or 11% on 2021\-22\. The income tax outturn statistics provide both the Welsh rates of income tax revenues and the equivalent income tax revenues for the rest of UK.  The outturn figures are used to calculate a final block grant adjustment for 2022\-23\.  The difference between the outturn and the forecasts used in the 2022\-23 Budget will be added to the block grant for 2025\-26 as a reconciliation adjustment. While figures have yet to be agreed by the UK Government, the net reconciliation will have a positive impact on the Welsh Government’s funding for 2025\-26\. This year’s outturn publication includes small revisions to previous years’ outturn. The Welsh Government and UK Government will publish a jointly agreed statement detailing the treatment of these revisions in previously reconciled years, as well as setting out the detail of the 2022\-23 reconciliation. This is intended to ensure full transparency in, and to help improve wider understanding of the Fiscal Framework.
Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi wedi cyhoeddi’r bedwaredd set o ystadegau alldro blynyddol ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru (dolen allanol, Saesneg yn unig). Mae’r ystadegau alldro yn dangos bod cyfraddau treth incwm Cymru yn 2022\-23 wedi codi £2,618m, sydd £254m neu 11% yn fwy na 2021\-22\. Mae’r ystadegau alldro treth incwm yn darparu cyfraddau refeniw treth incwm Cymru a’r refeniw treth incwm cyfwerth ar gyfer gweddill y Deyrnas Unedig. Bydd y ffigurau alldro yn cael eu defnyddio i gyfrifo addasiad terfynol i’r grant bloc ar gyfer 2022\-23\.  Bydd y gwahaniaeth rhwng yr alldro a’r rhagolygon a ddefnyddiwyd yng Nghyllideb 2022\-23 yn cael ei ychwanegu at y grant bloc ar gyfer 2025\-26 fel addasiad cysoni. Nid yw Llywodraeth y DU wedi cytuno ar y ffigurau hyd yma, ond bydd y cysoniad net yn cael effaith gadarnhaol ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025\-26\. Mae’r cyhoeddiad ynghylch alldro eleni yn cynnwys diwygiadau bach i alldro’r blynyddoedd blaenorol. Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi datganiad y cytunwyd arno ar y cyd a fydd yn egluro sut y cafodd y diwygiadau hyn eu trin wrth gysoni mewn blynyddoedd blaenorol, yn ogystal â nodi manylion y cysoniad ar gyfer 2022\-23\. Y bwriad yw sicrhau tryloywder llawn yn y Fframwaith Cyllidol, a helpu i wella’r ddealltwriaeth ehangach o’r Fframwaith.
https://www.gov.wales/written-statement-publication-welsh-rates-income-tax-outturn-statistics-2
The Cockle Fishing Management and Permitting (Specified Area) (Wales) Order 2024 will simplify regulations and give the Welsh Government new tools to flexibly manage each cockle fishery in response to evidence about the health of the stock and the environment. Cockle gathering has a long and well\-documented history in Wales. In modern times its economic importance has increased, and it is now acknowledged as making an important contribution to the Welsh fishing industry.  Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs, Huw Irranca\-Davies said: > I am pleased to be able to announce the introduction of this new legislation which will help to ensure cockle fisheries in Wales remain environmentally sustainable and economically viable for the future. > > Gatherers and local communities are proud of their heritage and this new legislation will promote cockle gathering as a legitimate and sustainable occupation for future generations.  > > This Order will have a positive impact on well\-being by supporting economic growth through the continued operation of long\-standing and historically important fisheries. New checks on permit applications will ensure cockle gathering is undertaken by those with knowledge of how to work safely in intertidal environments. Robust scientific evidence and flexible management will ensure exploitation of the cockle beds is sustainable in the long\-term and does not impact the important intertidal habitats and species which live nearby.
Bydd Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024 yn symleiddio'r rheoliadau ac yn rhoi pwerau newydd i Lywodraeth Cymru i reoli pob pysgodfa gocos mewn modd hyblyg, gan ymateb i dystiolaeth am iechyd y stoc a'r amgylchedd. Mae hanes hir o gasglu cocos yng Nghymru sydd wedi cael ei gofnodi'n dda. Yn y cyfnod modern mae ei bwysigrwydd economaidd wedi cynyddu, ac erbyn hyn cydnabyddir ei fod yn gwneud cyfraniad pwysig at ddiwydiant pysgota Cymru.  Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca\-Davies: > Mae'n bleser gennyf gyhoeddi cyflwyniad y ddeddfwriaeth newydd hon. Bydd yn helpu i sicrhau bod pysgodfeydd cocos yng Nghymru yn parhau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy ac yn economaidd hyfyw yn y dyfodol. > > Mae casglwyr a chymunedau lleol yn falch o'u treftadaeth, a bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn hyrwyddo casglu cocos fel gwaith dilys a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  > > Bydd y Gorchymyn hwn yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant, gan  gefnogi twf economaidd drwy barhau i weithredu pysgodfeydd hirsefydlog a hanesyddol bwysig. > > Bydd gwiriadau newydd ar geisiadau am drwyddedau'n sicrhau mai'r bobl sydd â'r wybodaeth am sut i weithio'n ddiogel mewn amgylcheddau rhynglanwol sy'n casglu cocos. Bydd tystiolaeth wyddonol gadarn a dulliau rheoli hyblyg yn sicrhau bod cocos yn cael eu casglu mewn ffordd gynaliadwy yn y tymor hir, ac nad yw'n effeithio ar y cynefinoedd a'r rhywogaethau rhynglanwol pwysig sy'n byw gerllaw.
https://www.gov.wales/securing-sustainable-future-wales-cockle-fishing-heritage
The Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (“the 2021 Act”) included provisions to address several specific issues about the practical arrangements for job\-share partnerships. These included voting arrangements in cabinet, quorum arrangements for meetings where job\-share partners attended and rules about the number of cabinet members permissible when cabinets included job\-share arrangements. It is early days, but there has been, and continues to be, interest in these arrangements across Wales.  The key point is that the legislation makes it possible for individual principal councils to put arrangements in place to support diversity, encourage greater exposure to the work of the executive and to establish career progression pathways.  The number of principal councils that will have arrangements in place is likely to fluctuate depending on the individual circumstances of each council. The 2021 Act provides for job share arrangements to be extended to senior non\-executive roles such as committee chairs.  A consultation has been issued today to explore views about: * the current arrangements for executive members and whether there are issues that have arisen during the application of these arrangements which require further consideration; and * extending the provisions to non\-executive roles, including the identification of issues that will need to be addressed if this approach is followed. Job share is one aspect of our approach to diversity and one which can provide significant opportunities.  Members are encouraged to share your views about these matters as part of the consultation process. 
Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn cynnwys darpariaethau i fynd i'r afael â sawl mater penodol ynghylch y trefniadau ymarferol ar gyfer partneriaethau rhannu swydd. Roedd y rhain yn cynnwys trefniadau pleidleisio yn y cabinet, trefniadau cworwm ar gyfer cyfarfodydd lle'r oedd partneriaid rhannu swydd yn bresennol a rheolau ynghylch nifer yr aelodau cabinet a ganiateir pan oedd y cabinet yn cynnwys trefniadau rhannu swydd. Mae'n ddyddiau cynnar, ond mae diddordeb wedi bod, ac yn parhau i fod, yn y trefniadau hyn ledled Cymru.  Y pwynt allweddol yw bod y ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn bosibl i brif gynghorau unigol roi trefniadau ar waith i gefnogi amrywiaeth, hybu mwy o gysylltiad â gwaith y weithrediaeth a sefydlu llwybrau dilyniant gyrfa.  Mae nifer y prif gynghorau a fydd â threfniadau yn eu lle yn debygol o amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau unigol pob cyngor. Mae Deddf 2021 yn darparu i drefniadau rhannu swydd gael eu hymestyn i rolau anweithredol uwch megis cadeiryddion pwyllgorau.  Mae ymgynghoriad wedi'i gyhoeddi heddiw i edrych ar safbwyntiau am y canlynol: * y trefniadau presennol ar gyfer aelodau gweithrediaeth ac a oes materion sydd wedi codi wrth gymhwyso'r trefniadau hyn y mae angen eu hystyried ymhellach; * ymestyn y darpariaethau i rolau nad ydynt yn rhan o'r weithrediaeth, gan gynnwys nodi materion y bydd angen mynd i'r afael â hwy os dilynir y dull hwn. Mae rhannu swydd yn un agwedd ar ein dull o ymdrin ag amrywiaeth ac yn un a all gynnig cyfleoedd sylweddol.  Anogir aelodau i rannu eu barn am y materion hyn fel rhan o'r broses ymgynghori. 
https://www.gov.wales/written-statement-extension-job-share-provisions-elected-members-principal-councils-non-executive
The Bill will remove barriers to democratic engagement and create a system of electoral administration fit for the 21st century, by: * introducing new pilots leading to the automatic registration of voters for Senedd and local government elections in Wales  \- with 400,000 people potentially set to be added to the register; * establishing a new all\-Wales body responsible for co\-ordinating the effective administration of Welsh elections; * creating a new online voter information platform; * introducing measures to increase diversity in the membership of the Senedd and local government. Expected to get Royal Assent in the summer, the Bill also includes commitments to expand the role and remit of the Democracy and Boundary Commission Cymru. The proposals complement the recent reforms to the Senedd and its electoral system made through the Senedd Cymru (Members and Elections) Act 2024\. Counsel General, Mick Antoniw, said: > This is a big year for elections, with last week’s General Election reminding us everyone’s vote counts, and by voting we can determine who runs our governments.  It is important that every citizen has the opportunity to vote and that means being on the electoral register. According to the Electoral Commission, around 400,000 people are missing from it. This is bad for democracy. Our Bill will seek to automatically register every citizen who is entitled to vote. > > Today, members of the Senedd have voted to bring our electoral system into the 21st century and to make it more accountable and accessible to the people of Wales.
Bydd y Bil yn dileu rhwystrau i ymgysylltu democrataidd ac yn creu system o weinyddu etholiadol sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, drwy: * gyflwyno cynlluniau peilot newydd sy'n arwain at gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru \- gyda 400,000 o bobl o bosibl yn cael eu hychwanegu at y gofrestr; * sefydlu corff newydd i Gymru gyfan sy'n gyfrifol am gydgysylltu'r gwaith o weinyddu etholiadau Cymru yn effeithiol; * Creu llwyfan gwybodaeth ar\-lein newydd i bleidleiswyr; * cyflwyno mesurau i gynyddu amrywiaeth yn aelodaeth y Senedd a llywodraeth leol. Disgwylir iddo gael y Cydsyniad Brenhinol yn yr haf, ac mae'r Bil hefyd yn cynnwys ymrwymiadau i ehangu rôl a chylch gwaith Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Mae'r cynigion yn cydategu'r diwygiadau diweddar i'r Senedd a'i system etholiadol a wnaed drwy Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024\. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw: > Mae hon yn flwyddyn fawr ar gyfer etholiadau, gyda'r Etholiad Cyffredinol yr wythnos diwethaf yn ein hatgoffa bod pleidlais pawb yn cyfrif, ac y gallwn benderfynu pwy sy'n rhedeg ein llywodraethau drwy bleidleisio.  Mae'n bwysig bod pob dinesydd yn cael cyfle i bleidleisio ac mae hynny'n golygu bod ar y gofrestr etholiadol. Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, mae tua 400,000 o bobl ar goll o'r rhestr. Mae hyn yn ddrwg i ddemocratiaeth. Bydd ein Bil yn ceisio cofrestru pob dinesydd sydd â hawl i bleidleisio yn awtomatig. > > Heddiw, mae aelodau o'r Senedd wedi pleidleisio dros ddod â'n system etholiadol i mewn i'r 21ain ganrif a'i gwneud yn fwy atebol a hygyrch i bobl Cymru.  
https://www.gov.wales/wales-passes-landmark-bill-introduce-automatic-registration-electors-and-modernise-electoral
In February 2023, I published an independent review of the Health Protection System in Wales, which was positive about the way we worked to respond to the Covid\-19 pandemic and made a number of recommendations to further strengthen the health protection system in Wales.  I also published an implementation plan, which described our plans to address the review’s  recommendations. At the time, I committed to publishing an update on our work in 2024\.  I am today publishing a summary of our progress to April 2024, which recognises the ongoing partnership work across Wales at a local, regional and national level and the action we are taking to create a more sustainable health protection system. It also highlights progress made to deliver on the National Immunisation Framework for Wales.  Developing our health protection system is an ongoing process, and there is still more work to do. The update outlines the next steps we are taking to strengthen our health protection system for the future, including developing a Public Health Protection Framework for Wales. I would like to thank our partners and stakeholders for their continued engagement and commitment, as we build on our achievements and continue to learn and implement lessons from the pandemic.
Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddais adolygiad annibynnol o'r System Diogelu Iechyd yng Nghymru. Roedd yr adolygiad yn gadarnhaol ynglŷn â’r ffordd y gwnaethom weithio i ymateb i bandemig Covid\-19, a chafodd nifer o argymhellion eu gwneud er mwyn cryfhau'r system diogelu iechyd yng Nghymru ymhellach. Cyhoeddais hefyd gynllun gweithredu, a oedd yn disgrifio ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r argymhellion yn yr adolygiad. Ar y pryd, ymrwymais i gyhoeddi diweddariad ar ein gwaith yn 2024\. Heddiw, rwy'n cyhoeddi crynodeb o'n cynnydd hyd at fis Ebrill 2024, sy’n cydnabod y gwaith partneriaeth parhaus ar draws Cymru ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a’r camau yr ydym yn eu cymryd i greu system diogelu iechyd fwy cynaliadwy. Mae hefyd yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed i gyflawni amcanion Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru.  Mae datblygu ein system diogelu iechyd yn broses barhaus, ac mae rhagor o waith i'w wneud o hyd. Mae'r diweddariad yn amlinellu'r camau nesaf yr ydym yn eu cymryd i gryfhau ein system diogelu iechyd ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys datblygu Fframwaith Diogelu Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Cymru. Hoffwn ddiolch i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid am eu hymgysylltiad a'u hymrwymiad parhaus wrth inni adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd a pharhau i ddysgu o'r pandemig a rhoi'r gwersi a ddysgwyd ar waith.
https://www.gov.wales/written-statement-update-health-protection-system-wales-review
The guidance has been co\-developed with highways authorities, the Welsh Local Government Association, and the County Surveyor’s Society for Wales, following a National Listening Programme led by the Cabinet Secretary for North Wales and Transport, Ken Skates.  From September, highway authorities can start to apply the new framework to assess speed limits on roads where a change is considered appropriate. The numbers of roads reviewed is expected to vary considerably depending on the volume of feedback received by each highway authority, and as a result the timescales for delivering change will vary from one local authority to another. The guidance provides a framework to support highways authorities to make the right decisions for local roads – particularly when those calls are finely balanced. It prioritises 20mph limits where pedestrians and cyclists frequently mix with vehicles unless strong evidence supports that higher speeds are safe. Local authorities will shortly be invited to submit bids for funding for them to be able to make speed limit changes in line with the new guidance.   An additional £5 million has been made available for this financial year. Cabinet Secretary for North Wales and Transport, Ken Skates said: > I’m incredibly grateful to everyone who has taken the time to provide us with their feedback. It’s been great to see so many people getting involved.  > > “The recent collisions data for Wales and the reduction in casualties was encouraging. We have still got a way to go but it shows things are moving in the right direction. > > “By working together and supporting highways authorities to make changes where it is right to do so, I believe we can continue to make 20mph a real success story for Wales. Cllr Andrew Morgan OBE, Leader of WLGA and Spokesperson on Transport said:  > We welcome the way the Cabinet Secretary has engaged with councils to review the original guidance and enable councils to relook at some sections of strategic routes, including bus routes. > > “These are not easy decisions for councils and safety remains our priority.  > > There will need to be a high level of confidence that, if and where the limit is raised back to 30mph, it will not result in the very risks the policy was designed to mitigate.
Mae'r canllawiau wedi'u datblygu ar y cyd ag awdurdodau priffyrdd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Chymdeithas Syrfëwyr Sirol Cymru, yn dilyn Rhaglen Wrando Genedlaethol dan arweiniad Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates. O fis Medi ymlaen, gall awdurdodau priffyrdd ddechrau defnyddio'r fframwaith newydd i asesu terfynau cyflymder ar ffyrdd lle ystyrir bod newid yn briodol. Disgwylir i nifer y ffyrdd a adolygir amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar faint o adborth a dderbynnir gan bob awdurdod priffyrdd, ac o ganlyniad bydd yr amserlenni ar gyfer cyflawni newid yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall. Rydym am greu fframwaith ar y cyd sy'n cefnogi awdurdodau priffyrdd i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ffyrdd lleol, yn enwedig pan fo hynny yn gymhleth. Yn unol â Datganiad Stockholm y Cenhedloedd Unedig, mae'r canllawiau'n blaenoriaethu terfynau 20mya lle mae cerddwyr a beicwyr yn cymysgu'n aml â cherbydau oni bai bod tystiolaeth gref i gefnogi bod cyflymderau uwch yn ddiogel. Cyn bo hir, gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am gyllid iddynt allu gwneud newidiadau i derfynau cyflymder yn unol â'r canllawiau newydd. Mae £5 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: > Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd yr amser i roi eu hadborth inni. Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan. > > "Roedd y data diweddar am wrthdrawiadau i Gymru a'r gostyngiad mewn anafiadau'n galonogol. > > "Mae gennym gryn ffordd i fynd eto, ond mae'n galonogol gweld bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir. Drwy weithio mewn partneriaeth a thrwy eich cefnogi i wneud newidiadau lle mae'n iawn gwneud hynny, credaf y gallwn sicrhau bod 20mya yn llwyddiant yng Nghymru. Dywedodd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC a'r Llefarydd ar Drafnidiaeth: > Rydym yn croesawu'r ffordd y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymgysylltu â chynghorau i adolygu'r canllawiau gwreiddiol a galluogi cynghorau i ailedrych ar rai rhannau o lwybrau strategol, gan gynnwys llwybrau bysiau. > > "Nid yw'r rhain yn benderfyniadau hawdd i gynghorau ac mae diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Bydd angen lefel uchel o hyder, os a lle codir y terfyn yn ôl i 30mya, na fydd yn arwain at yr union risgiau y cafodd y polisi eu llunio i liniaru.
https://www.gov.wales/new-framework-support-councils-20mph
Respiratory Syncytial Virus (RSV) is a very contagious virus, which infects 9 out of 10 children before their second birthday. More than a thousand babies in Wales are hospitalised every year with RSV. It can also lead to serious health complications for adults aged over 75, resulting in around 125 deaths every year in Wales. For most people RSV causes a mild respiratory illness with cold\-like symptoms.  However, for babies under one year and the elderly there is a significant risk of severe infection which could result in hospitalisation. The vaccination programme will see those aged 75 to 79 years and pregnant women (from 28 weeks gestation) offered vaccination against RSV for the first time, from September. Cabinet Secretary for Health and Social Care, Eluned Morgan said: > “I am delighted to announce the introduction of an RSV vaccine in Wales.  Evidence shows that the vaccine is safe and effective and vaccinating our mothers\-to\-be will help to prevent our youngest babies becoming seriously ill from the virus from birth.  > > This vaccine will also help us to keep older adults safe over the winter months and I would encourage all those who are eligible to come forward.” Welcoming Cabinet Secretary’s announcement Dr Christopher Johnson, Head of Vaccine Preventable Disease Programme at Public Health Wales said: > “While RSV is a common respiratory virus that usually causes mild symptoms, it can be serious for the more vulnerable. > > "Infants and older adults are more likely to develop severe RSV, which could require hospitalisation. > > "This vaccination programme will be in place to protect vulnerable groups now and in the future. > > "The RSV vaccine has the potential to save 1000 young children every year in Wales from hospitalisation and could save the lives of over 125 older people each year. > > "It is a game\-changing new vaccination programme that will protect thousands of our most vulnerable from getting ill in the first place, or significantly reducing the likelihood of severe infection, keeping people out of hospital and from needing to see a GP, and enabling more people to benefit from NHS services.”
Mae Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) yn feirws heintus iawn, sy'n heintio 9 o bob 10 o blant cyn eu pen\-blwydd yn ddwy oed. Mae mwy na mil o fabanod yng Nghymru yn gorfod mynd i’r ysbyty bob blwyddyn gydag RSV. Gall hefyd arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol i oedolion dros 75 oed, gan arwain at tua 125 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru. I'r rhan fwyaf o bobl mae RSV yn achosi salwch anadlol ysgafn gyda symptomau tebyg i annwyd. Fodd bynnag, ar gyfer babanod dan flwydd oed a'r henoed, mae risg sylweddol o haint difrifol a allai arwain at orfod mynd i'r ysbyty. Bydd y rhaglen frechu yn cynnig brechiad rhag RSV i bobl 75 i 79 oed a merched beichiog (o 28 wythnos y beichiogrwydd) am y tro cyntaf o fis Medi ymlaen. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan: > “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod brechlyn RSV yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. Mae tystiolaeth yn dangos bod y brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol a bydd brechu ein darpar famau yn helpu i atal ein babanod ieuengaf rhag mynd yn ddifrifol wael gyda’r feirws o’u genedigaeth. > > "Bydd y brechlyn hwn hefyd yn ein helpu ni i gadw oedolion hŷn yn ddiogel dros fisoedd y gaeaf a byddwn yn annog pawb sy’n gymwys i’w gael.” Wrth groesawu cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: > “Er bod RSV yn feirws anadlol cyffredin sydd fel rheol yn achosi symptomau ysgafn, gall fod yn ddifrifol i bobl mwy agored i niwed. > > "Mae babanod ac oedolion hŷn yn fwy tebygol o ddatblygu RSV difrifol, a allai olygu gorfod mynd i'r ysbyty. > > "Bydd y rhaglen frechu hon yn ei lle i amddiffyn grwpiau agored i niwed nawr ac yn y dyfodol. > > "Mae gan y brechlyn RSV y potensial i arbed 1000 o blant ifanc bob blwyddyn yng Nghymru rhag gorfod mynd i’r ysbyty a gallai achub bywydau mwy na 125 o bobl hŷn bob blwyddyn. > > "Mae’n rhaglen frechu newydd sy’n newid pethau a bydd yn amddiffyn miloedd o’n pobl mwyaf agored i niwed ni rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf, neu’n lleihau’n sylweddol y tebygolrwydd o haint difrifol, gan gadw pobl allan o’r ysbyty a rhag bod angen gweld meddyg teulu, a galluogi mwy o bobl i gael budd o wasanaethau’r GIG.”
https://www.gov.wales/new-vaccine-could-save-1000-babies-hospitalisation-every-year
This year's Tafwyl will be officially opened by the Welsh Government’s Cabinet Secretary for the Economy, Energy, and Welsh Language, Jeremy Miles, and the Minister for the Creative Industries, Sarah Murphy. With another packed schedule, around 2,500 visitors staying in Cardiff, and local spending expected to be in excess of £410,000 the cultural and economic benefits of Tafwyl, organised by Menter Caerdydd, are significant. . This year’s free\-to\-enter festival held in Bute Park on the 13 and 14 July, is supported by £100,000 from the Welsh Government’s Events Wales  and Cymraeg 2050 grants. Jeremy Miles said:  > "Tafwyl is a perfect example of how the Welsh language belongs to all of us. It’s a fantastic opportunity to bring people together at the heart of our capital city to celebrate the language and showcase our thriving culture so that more and more people join us on our journey towards a million Welsh speakers. > > “It’s also a significant boost to our local economy, providing jobs and drawing in thousands of visitors to enjoy the best of Welsh art, food, and crafts. I'm proud that the Welsh Government has been able to support Tafwyl again this year." One of the festival's success stories is the band Taran, formed through the 'Yn Cyflwyno' (‘Presents’) project. This initiative encourages Cardiff school pupils to set up Welsh language bands, offering them mentoring and performance opportunities at the festival. Since their debut at last year’s Tafwyl, Taran has continued to make an impact on the Welsh music scene. Rhys, Taran’s guitarist, said:  > "Playing at Tafwyl opened our eyes to the vibrant Welsh music scene and all the opportunities it offers. We're aiming to release music and get it played on platforms like BBC 6Music to show that Welsh talent is thriving." Nat, another band member, added:  > "Coming from a non\-Welsh speaking family, I was amazed by the support and opportunities for young Welsh speakers. The gigs and encouragement we've received have been incredible." The creative industries Minister, Sarah Murphy, said:  > "Tafwyl showcases the thriving Welsh creative scene. Taran’s journey has not only sparked their interest in Welsh music but also created a natural context for the Welsh language beyond school. Their enthusiasm reflects the broader excitement that Tafwyl generates." The total economic impact of Tafwyl is expected to be around £2\.1 million.
Bydd Tafwyl eleni yn cael ei agor yn swyddogol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles, a Gweinidog y Diwydiannau Creadigol, Sarah Murphy. Gydag amserlen lawn eto, tua 2,500 o ymwelwyr yn aros yng Nghaerdydd, a disgwyl i’r gwariant lleol fod dros £410,000, mae buddion diwylliannol ac economaidd Tafwyl, a gaiff ei threfnu gan Fenter Caerdydd, yn sylweddol. Bydd yr ŵyl eleni, sydd yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac sy’n cael ei chynnal ym Mharc Bute ar 13 a 14 Gorffennaf, ei chefnogi gan £100,000 o grantiau Digwyddiadau Cymru a Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Dywedodd Jeremy Miles:  > "Mae Tafwyl yn enghraifft berffaith o sut mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae'n gyfle gwych i ddod â phobl at ei gilydd yng nghalon ein prifddinas i ddathlu'n hiaith ac arddangos ein diwylliant byw fel bod mwy a mwy o bobl yn ymuno â ni ar ein taith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg. > > "Mae hefyd yn hwb sylweddol i'r economi leol, gan ddarparu swyddi a denu miloedd o ymwelwyr i fwynhau'r gorau o gelfyddyd, bwyd a chrefftau Cymru. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Tafwyl eto eleni." Un o lwyddiannau'r ŵyl yw'r band Taran, a ffurfiwyd drwy’r prosiect 'Yn Cyflwyno'. Mae'r fenter hon yn annog disgyblion ysgolion Caerdydd i sefydlu bandiau Cymraeg, gan gynnig cyfleoedd mentora a pherfformio iddynt yn yr ŵyl. Ers eu hymddangosiad cyntaf yn Tafwyl y llynedd, mae Taran wedi parhau i wneud argraff ar y sîn gerddoriaeth Gymraeg. Dywedodd Rhys, gitarydd Taran:  > "Fe wnaeth chwarae yn Tafwyl agor ein llygaid i'r sîn gerddoriaeth Gymraeg fywiog a'r holl gyfleoedd sydd ar gael. Rydyn ni'n anelu at ryddhau cerddoriaeth a fydd yn cael ei chwarae ar lwyfannau fel BBC 6Music i ddangos bod talent Cymru yn ffynnu." Ychwanegodd Nat, aelod arall o'r band:  > "Fel rhywun sy’n dod o deulu di\-Gymraeg, cefais fy synnu gan y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg ifanc. Mae'r gigs a'r anogaeth ry'n ni wedi'u derbyn wedi bod yn anhygoel." Dywedodd Gweinidog â chyfrifoldeb am y diwydiannau creadigol, Sarah Murphy:  > "Mae Tafwyl yn arddangos ffyniant y sîn greadigol Gymreig. Mae taith Taran nid yn unig wedi tanio eu diddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg ond hefyd wedi creu cyd\-destun naturiol i'r Gymraeg y tu hwnt i giatiau’r ysgol. Mae eu brwdfrydedd yn adlewyrchu'r cyffro ehangach y mae Tafwyl yn ei greu." Mae disgwyl i gyfanswm effaith economaidd Tafwyl fod tua £2\.1 miliwn.
https://www.gov.wales/welsh-music-and-culture-take-centre-stage-tafwyl
I am this evening announcing changes to my Ministerial team. I have asked Jack Sargeant, Member of the Senedd for Alyn and Deeside, to join my team as the Minister for Social Partnership. I have widened the scope of some Ministerial portfolios, while I will retain oversight for ongoing discussions with TATA working closely with the Cabinet Secretary for Economy, Transport and North Wales, Ken Skates.  * Cabinet Secretary for Finance, Constitution and the Cabinet Office: Rebecca Evans MS * Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs: Huw Irranca\-Davies MS * Cabinet Secretary for Education: Lynne Neagle MS * Cabinet Secretary for Local Government and Housing: Jayne Bryant MS * Cabinet Secretary for Health, Social Care and Welsh Language: Eluned Morgan MS * Cabinet Secretary for the Economy, Transport and North Wales: Ken Skates MS * Cabinet Secretary for Culture, Social Justice, Trefnydd and Chief Whip: Jane Hutt MS * Minister for Social Care: Dawn Bowden MS * Minister for Social Partnership: Jack Sargeant MS * Minister for Mental Health and Early Years: Sarah Murphy MS Note: The Counsel General offered his resignation to His Majesty the King which has been accepted. Section 49 (6\) of GOWA provides that the functions are exercisable by a person designated by the First Minister if the Office of the Counsel General is vacant. Confirmation of the Counsel General designate will follow. 
Rydw i heno yn cyhoeddi newidiadau i fy nhîm Gweinidogol. Rwyf wedi gofyn i Jack Sargeant, Aelod o'r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy, ymuno â fy nhîm fel y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Rwyf wedi ehangu cwmpas rhai portffolios Gweinidogol, tra byddaf yn cadw goruchwyliaeth ar gyfer trafodaethau parhaus gyda TATA yn gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates. * Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Rebecca Evans AS * Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Huw Irranca\-Davies AS * Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Lynne Neagle AS * Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: Jayne Bryant AS * Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg: Eluned Morgan AS * Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ken Skates AS * Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip: Jane Hutt AS * Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Dawn Bowden AS * Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Jack Sargeant AS * Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar: Sarah Murphy AS Noder: Cynigiodd y Cwnsler Cyffredinol ei ymddiswyddiad i'w Fawrhydi y Brenin sydd wedi ei dderbyn. Mae adran 49 (6\) o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn darparu bod y swyddogaethau'n arferadwy gan berson a ddynodwyd gan y Prif Weinidog os yw Swyddfa'r Cwnsler Cyffredinol yn wag. Bydd cadarnhad o'r darpar Gwnsler Cyffredinol yn dilyn.
https://www.gov.wales/written-statement-cabinet-portfolios
On 27 June, we hosted a customer event for public and third sector organisations who collaboratively purchase their energy supply via the Crown Commercial Services (CCS) RM6251 supply of energy framework. CCS outlined their plans for power purchase agreements and the drive towards net zero. Colleagues from the Welsh Government delivered a session on public sector lead energy generation activity. During the afternoon sessions, EDF Energy and Total Energies, suppliers on the CCS energy framework, showcased their services. They highlighted their online portals for managing portfolios, tracking performance and how to access energy market updates. One attendee said “the whole day was excellent”. If you are interested in joining the collaborative arrangement for the purchase of your gas and/or power or would like further details, please e\-mail: CommercialProcurement.Utilities@gov.wales
Ar 27 Mehefin, cynhaliom ddigwyddiad i gwsmeriaid ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n prynu eu cyflenwad ynni ar y cyd drwy fframwaith cyflenwad ynni RM6251 Gwasanaethau Masnachol y Goron. Amlinellodd Gwasanaethau Masnachol y Goron eu cynlluniau ar gyfer cytundebau prynu pŵer a'r ymdrech tuag at sero net. Cyflwynodd cydweithwyr o Lywodraeth Cymru sesiwn ar weithgarwch cynhyrchu ynni enghreifftiol yn y sector cyhoeddus. Yn ystod sesiynau'r prynhawn, fe wnaeth EDF Energy a Total Energies, cyflenwyr ar fframwaith ynni Gwasanaethau Masnachol y Goron, gyflwyno eu gwasanaethau. Fe wnaethant dynnu sylw at eu pyrth ar\-lein ar gyfer rheoli portffolios, olrhain perfformiad a sut i gael diweddariadau ar y farchnad ynni. Dywedodd un o'r mynychwyr "roedd y diwrnod cyfan yn ardderchog". Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'r trefniant cydweithredol ar gyfer prynu eich nwy a/neu bŵer neu os hoffech ragor o fanylion, e\-bostiwch: CaffaelMasnachol.Cyfleustodau@llyw.cymru
https://www.gov.wales/buildings-and-utilities-news-round-up-july-2024
This statement sets out the escalation levels of NHS trusts, special health authorities (SHAs) and health boards in Wales. The environment in which health boards, NHS trusts and SHAs are operating in continues to be difficult. They are experiencing financial, operational and staffing pressures. They are responding to increased urgent, emergency and planned care demand while also working to reduce long waiting times. These challenges are not unique to Wales.  I have accepted the recommendations from Welsh Government officials that there should, for now, be no change to the escalation status of organisations and therefore the escalation status of NHS bodies is as follows:  | **Organisation** | **Current Status (June 2024\)** | | --- | --- | | Aneurin Bevan University Health Board | Level 4 \- Targeted intervention for finance, strategy and planningLevel 3 \- Enhanced monitoring for performance and outcomes relating to urgent and emergency care at the Grange University Hospital | | Betsi Cadwaladr University Health Board | Level 5 \- Special measures | | Cardiff and Vale University Health Board | Level 3 \- Enhanced monitoring for finance, strategy and planning | | Cwm Taf Morgannwg University Health Board | Level 4 \- Targeted intervention for performance and outcomes Level 3 \- Enhanced monitoring for finance, strategy and planning | | Hywel Dda University Health Board | Level 4 \- Targeted intervention | | Powys Teaching Health Board | Level 3 \- Enhanced monitoring for finance, strategy and planning | | Swansea Bay University Health Board | Level 4 \- Targeted intervention for performance and outcomes Level 3 \- Enhanced monitoring for finance, strategy and planning Level 3 \- Enhanced monitoring for maternity and neonatal services | | Public Health Wales NHS Trust | Level 1 \- Routine arrangements | | Velindre University NHS Trust | Level 1 \- Routine arrangements | | Welsh Ambulance Services University NHS Trust | Level 1 \- Routine arrangements | | Digital Health and Care Wales | Level 1 \- Routine arrangements | | Health Education and Improvement Wales | Level 1 \- Routine arrangements | More information is available at: NHS Wales escalation and intervention arrangements \| GOV.WALES  
Mae'r datganiad hwn yn nodi lefelau uwchgyfeirio ymddiriedolaethau'r GIG, awdurdodau iechyd arbennig a byrddau iechyd yng Nghymru. Mae'r amgylchedd y mae byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig yn gweithredu ynddo yn dal yn anodd. Ceir pwysau ariannol, gweithredol a staffio. Maent yn ymateb i alw cynyddol am ofal brys, gofal mewn argyfwng a gofal a gynlluniwyd, gan weithio ar yr un pryd i leihau amseroedd aros hir. Nid rhywbeth unigryw i Gymru yw'r heriau hyn.  Rwyf wedi derbyn yr argymhellion gan swyddogion Llywodraeth Cymru na ddylai fod unrhyw newid, am y tro, i statws uwchgyfeirio sefydliadau ac felly mae statws uwchgyfeirio cyrff y GIG fel a ganlyn: | **Sefydliad** | **Statws Presennol (Mehefin 2024\)** | | --- | --- | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan | Lefel 4 \- Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunioLefel 3 \- Monitro uwch ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal brys a gofal mewn argyfwng yn Ysbyty Athrofaol y Faenor | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Lefel 5 \- Mesurau arbennig | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro | Lefel 3 \- Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg | Lefel 4 \- Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau Lefel 3 \- Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | Lefel 4 \- Ymyrraeth wedi'i thargedu | | Bwrdd Iechyd Addysgu Powys | Lefel 3 \- Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe | Lefel 4 \- Ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau Lefel 3 \- Monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio Lefel 3 \- Monitro uwch ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol | | Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru | Lefel 1 \- Trefniadau arferol | | Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre | Lefel 1 \- Trefniadau arferol | | Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru | Lefel 1 \- Trefniadau arferol | | Iechyd a Gofal Digidol Cymru | Lefel 1 \- Trefniadau arferol | | Addysg a Gwella Iechyd Cymru | Lefel 1 \- Trefniadau arferol | Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru \| LLYW.CYMRU
https://www.gov.wales/written-statement-escalation-and-intervention-arrangements-5
The scheme is being developed by Coastal Housing Group and will see the creation of 13 new affordable homes for social rent. The homes will include 13 two\-person one\-bedroom flats. A new dedicated car park for residents is also being built and will include dedicated disability spaces for the first time. Coastal are also exploring whether secure bike storage and EV charging facilities can also be offered as part of their commitment to environmental sustainability The scheme has received more than £1\.7 million in funding support from the Welsh Government’s Social Housing Grant (SHG). All new homes funded by the SHG must meet the Welsh Development Quality Requirements 2021 (WDQR 2021\). WDQR requires social landlords to build homes which are significantly more energy efficient. The Cabinet Secretary said: > In Wales, we’ve set an ambitious target to deliver 20,000 additional homes for rent within the social sector this government term. > > We have invested record levels of funding to support this and raised the standards that new homes funded by the Social Housing Grant must meet to improve energy efficiency and health and wellbeing for tenants. > > This development will provide much needed affordable housing of the highest standard for the local community and I look forward to seeing the homes once they’re completed.
Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu gan Coastal Housing Group a bydd yn creu 13 o gartrefi fforddiadwy newydd ar gyfer rhent cymdeithasol. Bydd y cartrefi yn cynnwys 13 o fflatiau un ystafell wely ar gyfer dau berson. Mae maes parcio pwrpasol newydd ar gyfer preswylwyr hefyd yn cael ei adeiladu a bydd yn cynnwys mannau penodol ar gyfer pobl anabl am y tro cyntaf. Mae Coastal hefyd yn archwilio a oes modd cynnig cyfleusterau diogel ar gyfer storio beiciau a gwefru cerbydau trydan hefyd fel rhan o'u hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol Mae'r cynllun wedi derbyn mwy na £1\.7 miliwn o gymorth ariannol gan Grant Tai Cymdeithasol (SHG) Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i bob cartref newydd a ariennir gan y Grant hwn fodloni Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 (WDQR 2021\). Mae'r Gofynion yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol adeiladu cartrefi sy'n llawer mwy effeithlon o ran ynni. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: > Yng Nghymru, rydym wedi gosod targed uchelgeisiol i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu o fewn y sector cymdeithasol yn ystod y tymor hwn o'r llywodraeth. > > Rydym wedi buddsoddi'r lefelau uchaf erioed o gyllid i gefnogi hyn ac wedi codi'r safonau y mae'n rhaid i gartrefi newydd a ariennir gan y Grant Tai Cymdeithasol eu cyrraedd i wella effeithlonrwydd ynni ac iechyd a lles tenantiaid. > > Bydd y datblygiad hwn yn darparu tai fforddiadwy y mae gwir eu hangen o'r safon uchaf i'r gymuned leol ac edrychaf ymlaen at weld y cartrefi ar ôl iddynt gael eu cwblhau.
https://www.gov.wales/grant-funding-supports-creation-affordable-homes-and-accessible-parking-facilities-swansea
In October 2022, I made a commitment in the National Immunisation Framework to scope changing the procurement model for inactivated flu vaccine to introduce a centralised model, in line with all other vaccinations.  Following detailed consideration and close working with NHS partners and primary care representative bodies, I am pleased to confirm flu vaccine for the 2025\-26 and subsequent seasons will be procured centrally by the Welsh Government.  I am making this statement today, to provide clarity to primary care contractors that when the ordering window opens for the 2025\-26 season in September 2024, they will not be required to place orders with vaccine manufacturers.  Work will continue with all partners over the coming months to ensure a smooth transition to the new model next year. Further details about how the changes will be implemented will be provided in due course.  I would like to put on record my thanks to all partners for their positive engagement with this important piece of work.   
Ym mis Hydref 2022, gwneuthum ymrwymiad yn y Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol i gwmpasu newid y model caffael ar gyfer y brechlyn ffliw anweithredol i gyflwyno model canolog, yn unol â phob brechiad arall.  Yn dilyn ystyriaeth fanwl a chydweithio'n agos â phartneriaid y GIG a chyrff sy'n cynrychioli gofal sylfaenol, rwyf yn falch o gadarnhau y bydd brechlyn ffliw ar gyfer 2025\-26 a thymhorau dilynol yn cael eu caffael yn ganolog gan Lywodraeth Cymru.  Rwyf yn gwneud y datganiad hwn heddiw, er mwyn rhoi eglurder i gontractwyr gofal sylfaenol na fydd yn ofynnol iddynt osod archebion gyda chynhyrchwyr brechlynnau pan fydd y ffenestr archebu yn agor ar gyfer tymor 2025\-26 ym mis Medi 2024\.  Bydd y gwaith yn parhau gyda'r holl bartneriaid dros y misoedd nesaf i sicrhau pontio esmwyth i'r model newydd y flwyddyn nesaf. Bydd manylion pellach am sut y caiff y newidiadau eu rhoi ar waith eu darparu maes o law.  Hoffwn gofnodi fy niolch i'r holl bartneriaid am eu hymgysylltiad cadarnhaol â'r darn pwysig hwn o waith.   
https://www.gov.wales/written-statement-central-procurement-influenza-vaccine
Today the Welsh Government is publishing a report summarising the responses to the public consultation on land transaction tax reliefs. The consultation was launched on 8 April and closed on 19 May 2024\. The consultation invited views on the Welsh Government’s proposals regarding land transaction tax multiple\-dwellings relief, the extension of an existing relief to Welsh local authorities and other reliefs. All responses have now been considered. The report summarises the responses received in the consultation and sets out the Welsh Government’s response. The Welsh Government will continue to assess the potential impacts, benefits and costs of options related to LTT reliefs. I will provide an update on plans in due course. The report can be found here:  Proposed changes to land transaction tax reliefs \| GOV.WALES
Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ryddhad y dreth trafodiadau tir. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 8 Ebrill a daeth i ben ar 19 Mai 2024\. Roedd yr ymgynghoriad yn gwahodd barn am gynigion Llywodraeth Cymru ynghylch rhyddhad anheddau lluosog o dan y dreth trafodiadau tir, ymestyn rhyddhad presennol i awdurdodau lleol Cymru a rhyddhadau eraill. Mae'r holl ymatebion wedi cael eu hystyried erbyn hyn. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r ymatebion a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad ac yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i asesu effeithiau, buddion a chostau posibl opsiynau sy'n gysylltiedig â rhyddhad LTT. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf am gynlluniau maes o law. Mae'r adroddiad ar gael yma:  Newidiadau arfaethedig i ryddhadau o'r dreth trafodiadau tir \| LLYW.CYMRU
https://www.gov.wales/written-statement-land-transaction-tax-reliefs-summary-report-consultation-responses
Today, I am pleased to announce I have accepted the advice from the Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) and an RSV immunisation programme will start in Wales in September to protect infants and older adults: https://www.gov.uk/government/publications/rsv\-immunisation\-programme\-jcvi\-advice\-7\-june\-2023 Respiratory syncytial virus (RSV) is one of the common viruses causing coughs and colds in winter. Globally, RSV infects up to 90% of children within the first two years of life and frequently reinfects older children and adults. Babies under one and the elderly are at the greatest risk of being hospitalised. The burden of RSV for both children and older adults in the UK is considered to exceed that of influenza. The introduction of a new vaccination programme to protect against RSV is something to be excited about. It will help protect the most vulnerable while also supporting the NHS during the winter.  I am announcing: * A routine, year\-round RSV vaccination offer for older adults as they turn 75, with a one\-off campaign taking place over 12 months for individuals between 75 and 79; and * A routine, year\-round RSV maternal vaccination programme for all pregnant women, aimed at protecting their newborn babies, which will be offered from 28\-weeks gestation. Despite its severity and impact, RSV is a relatively unknown virus. A public awareness\- raising campaign will be really important to support public understanding about the virus and to support informed decisions about having the new vaccination. Public Health Wales will be running this awareness raising campaign in the lead up to the launch of the programme in the autumn. NHS Wales organisations have been engaged with Vaccination Programme Wales, in the NHS Executive, over many months to plan the new programmes. As ever, I am extremely grateful to the NHS and everyone involved in our vaccination programme for their continued hard work to help keep the most vulnerable in our communities safe and protected. I urge all those eligible to come forward for vaccination when invited, to protect themselves, those close to them, and the NHS. 
Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi derbyn cyngor y Cyd\-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ac y bydd rhaglen imiwneiddio RSV yn dechrau yng Nghymru ym mis Medi i ddiogelu babanod ac oedolion hŷn:  https://www.gov.uk/government/publications/rsv\-immunisation\-programme\-jcvi\-advice\-7\-june\-2023 Mae’r feirws syncytiol anadlol (RSV) yn un o’r feirysau cyffredin sy’n achosi peswch ac annwyd yn y gaeaf. Yn fyd\-eang, mae RSV yn heintio hyd at 90% o blant yn ystod dwy flynedd gyntaf eu bywyd, a bydd plant hŷn ac oedolion yn aml yn cael eu hailheintio gan y feirws. Babanod o dan flwydd oed a’r henoed sy’n wynebu’r risg fwyaf o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd yr haint. Ystyrir bod baich RSV ar gyfer plant ac oedolion hŷn yn y DU yn fwy na’r ffliw. Mae cyflwyno rhaglen frechu newydd i ddiogelu rhag RSV yn rhywbeth sy’n peri cryn gyffro. Bydd yn helpu i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ogystal â chefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) dros y gaeaf.  Rwy’n cyhoeddi: * Cynnig brechiad RSV rheolaidd drwy gydol y flwyddyn i oedolion hŷn wrth iddynt droi’n 75 oed, gan gynnal ymgyrch untro dros gyfnod o 12 mis i unigolion rhwng 75 a 79 oed * Rhaglen frechu RSV reolaidd i famau drwy gydol y flwyddyn, ar gyfer pob menyw feichiog, wedi’i thargedu at ddiogelu eu babanod newydd\-anedig, a gynigir o 28 wythnos o feichiogrwydd ymlaen Er gwaethaf difrifoldeb ac effaith RSV, mae’n feirws nad yw llawer iawn o bobl yn ymwybodol ohono. Bydd ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn bwysig iawn i gefnogi dealltwriaeth y cyhoedd o’r feirws ac i gefnogi pobl i wneud penderfyniad sy’n seiliedig ar y ffeithiau wrth ystyried cael y brechiad newydd. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth hon cyn lansio’r rhaglen yn yr hydref. Mae sefydliadau GIG Cymru wedi bod yn cyd\-drafod â Rhaglen Frechu Cymru, yng Ngweithrediaeth GIG Cymru, dros fisoedd lawer i gynllunio’r rhaglenni newydd. Fel ag erioed, rwy'n ddiolchgar iawn i’r Gwasanaeth Iechyd ac i bawb sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus i helpu i gadw'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn ddiogel. Rwy’n annog pawb sy’n gymwys i dderbyn eu gwahoddiad i gael eu brechu, er mwyn diogelu nhw eu hunain, y rhai sy’n agos atynt, a’r Gwasanaeth Iechyd. 
https://www.gov.wales/written-statement-respiratory-syncytial-virus-rsv-vaccination-programme-2024
Today, I am publishing a review and refresh of our 10 year childcare, play and early years workforce plan.  Published in 2017, the plan sets out our ambition for children from all backgrounds to have the best start in life, to ensure they can reach their full potential and lead a healthy, prosperous, and fulfilling life. Ensuring we have a highly skilled, qualified and supported workforce is central to achieving this. The actions in the plan were developed in recognition of the many challenges the sector was facing in 2017 and to support roll out of the Childcare Offer for Wales. I’m pleased we have made progress to deliver many of these under the plan’s key themes, including: Attracting high\-quality new recruits:  * Funded Social Care Wales to develop the WeCare Wales attraction and recruitment framework. * Worked with employability colleagues to promote entry into childcare via Working Wales, Skills Gateway and ReAct\+. * Established a dedicated Anti\-Racist Wales Childcare and Play Governance Group to take the actions of the Anti\-Racist Wales Action Plan forward. Raising Standards and Skills:  * Reviewed and updated the National Minimum Standards to ensure the standards and requirements of staff and settings are fit for purpose. * Introduced a new suite of bilingual childcare qualifications from Level 2 to 5\. * Worked with Play Wales and PETC Wales to develop key playwork qualifications. Investing in building capacity and capability: * Providedall registered full day care premises with 100% business rate relief exemption. Originally for three years (2019\-22\), the exemption has been extended for a further three years to March 2025 following a review. * Worked with Business Wales to provide two business support grants between 2019 and 2022 to support new childminder start\-ups and enable existing childcare providers to expand their businesses by taking on new staff. * Aligned hourly funding rates for Foundation Learning Nursery and Childcare Offer to ensure consistency and equity across the sector. The refreshed 10\-year workforce plan is supportive of and builds on the principles, values and actions set out in the Early Childhood Play Learning and Care (ECPLC) in Wales Plan published on 15 March. It provides further detail on the actions we will take to develop a valued and diverse childcare and playwork workforce and reflects the current Programme for Government commitments and Anti\-racist Wales Action Plan. The refresh also allows us to highlight the crucial role the workforce plays in supporting both children and their families. Our vision for our workforce is unchanged; our policy intention has not wavered – we are committed to taking forward actions focused on attracting high\-quality new recruits, raising standards and skills and building capacity and capability.    I would like to take this opportunity to thank all key stakeholders who continue to be committed to working collaboratively with us to ensure the actions we take over the remainder of the plan’s life recognise the vital contribution the workforce makes to children and families across Wales. 
Heddiw, rwy’n cyhoeddi adolygiad a diweddariad o’n cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.  Wedi’i gyhoeddi yn 2017, mae’r cynllun yn nodi ein huchelgais i blant o bob cefndir gael y dechrau gorau mewn bywyd, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwireddu eu potensial yn llawn a byw bywyd iach, llewyrchus a llawn. Mae sicrhau bod gennym weithlu medrus a chymwysedig iawn sydd wedi’i gefnogi’n llawn yn hollbwysig o ran cyflawni hyn. Cafodd y camau a nodir yn y cynllun eu datblygu i gydnabod yr heriau niferus yr oedd y sector yn eu hwynebu yn 2017 ac i gefnogi’r broses o gyflwyno Cynnig Gofal Plant Cymru. Rwy’n falch ein bod wedi gwneud cynnydd i gyflawni llawer o’r rhain o dan themâu allweddol y cynllun, gan gynnwys: Denu recriwtiaid newydd o ansawdd uchel:  * Ariannu Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu fframwaith denu a recriwtio GofalwnCymru. * Gweithio gyda chydweithwyr ym maes cyflogadwyedd i ddenu unigolion i faes gofal plant drwy Cymru’n Gweithio, Porth Sgiliau a ReAct\+. * Sefydlu Grŵp Llywodraethu Gofal Plant a Chwarae Cymru Wrth\-hiliol dynodedig i fynd ar drywydd camau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth\-hiliol. Codi safonau a sgiliau:  * Adolygu a diweddaru’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod safonau a gofynion o ran staff a lleoliadau yn addas at y diben. * Cyflwyno cyfres newydd o gymwysterau gofal plant dwyieithog o Lefel 2 i 5\. * Gweithio gyda Chwarae Cymru a Chyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru i ddatblygu cymwysterau gwaith chwarae allweddol. Buddsoddi mewn meithrin gallu a galluogrwydd * Cyflwyno rhyddhad ardrethi busnes o 100% i bob safle gofal dydd llawn cofrestredig. Yn dilyn adolygiad, mae’r rhyddhad hwn, a gyflwynwyd am dair blynedd yn wreiddiol (2019\-22\), wedi’i ymestyn am dair blynedd arall tan fis Mawrth 2025\. * Gweithio gyda Busnes Cymru i ddarparu dau grant cymorth busnes (rhwng 2019 a 2022\) gyda’r nod o gefnogi gwarchodwyr plant newydd a galluogi darparwyr gofal plant presennol i ehangu eu busnes drwy gyflogi staff newydd. * Cysoni’r cyfraddau cyllido yr awr ar gyfer Darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen a’r Cynnig Gofal Plant er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch ar draws y sector. Mae’r cynllun gweithlu 10 mlynedd diweddaredig yn cefnogi ac yn adeiladu ar yr egwyddorion, y gwerthoedd a’r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru a gyhoeddwyd ar 15 Mawrth. Mae’n rhoi rhagor o fanylion ynghylch y camau y byddwn yn eu cymryd i ddatblygu gweithlu gofal plant a gwaith chwarae gwerthfawr ac amrywiol ac yn adlewyrchu ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu gyfredol a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth\-hiliol. Mae’r diweddariad hefyd yn ein galluogi i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae’r gweithlu yn ei chwarae i gefnogi plant a’u teuluoedd. Nid yw ein gweledigaeth ar gyfer ein gweithlu wedi newid; ac mae ein bwriad polisi yn parhau’n gadarn – rydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â chamau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddenu recriwtiaid newydd o ansawdd uchel, codi safonau a sgiliau ac adeiladu gallu a galluogrwydd.    Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl randdeiliaid allweddol sy’n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio ar y cyd â ni i sicrhau bod y camau a gymerwn dros weddill oes y cynllun yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae’r gweithlu’n ei wneud i blant a theuluoedd ledled Cymru. 
https://www.gov.wales/written-statement-review-and-refresh-10-year-childcare-play-and-early-years-workforce-plan
On 16 July 2024, an oral statement was made in the Senedd: Transport Update (external link).
Ar 16 Gorffennaf 2024, gwnaed **datganiad llafar yn y Senedd: Diweddariad Trafnidiaeth (dolen allanol)**.
https://www.gov.wales/oral-statement-transport-update
The Local Government Finance (Wales) Bill establishes a series of changes to improve the tax systems. It will make them fairer and work better for the future needs of Wales, by ensuring local taxes reflect economic circumstances more regularly. For non\-domestic rates (also known as business rates), the Bill will: * increase how often the values of all non\-domestic properties in Wales are updated, to once every three years * provide more flexibility to make changes to reliefs and exemptions * enable changes to the calculation of payments for different categories of ratepayers * close known tax avoidance arrangements and increase the ability to tackle future avoidance in a more responsive way * enable improvements to the information provided by ratepayers. In relation to council tax, the Bill will: * establish a five yearly cycle of property revaluations from April 2028 onwards, and allow Welsh Ministers to amend future revaluation years should circumstances require this * provide more flexibility for the organisation and labelling of tax bands if required, to fit future possible redesigns of the system * ensure the continuation of our national Council Tax Reduction Scheme, providing essential financial help to low\-income households * provide more flexibility to make changes to discounts and persons disregarded from paying council tax. Cabinet Secretary for Finance, Constitution and Cabinet Office, Rebecca Evans, said: > This is the first Welsh local government finance bill since devolution. It introduces important changes to the local tax system in Wales, reforming the system to make it more consistent, effective, and to give us flexibility in the future. Extensive research and experience of operating the current systems for more than two decades highlighted a range of limitations and the case for change was clear. > > With the Bill now being approved by the Senedd, we will have a framework designed for modern Wales, and the necessary levers to adapt local taxation in the future as circumstances and priorities change.
Mae Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn sefydlu cyfres o newidiadau i wella'r systemau trethi. Bydd yn eu gwneud yn decach ac yn sicrhau eu bod yn gweithio'n well ar gyfer anghenion Cymru yn y dyfodol, gan sicrhau bod trethi lleol yn cyd\-fynd yn fwy cyson ag amgylchiadau economaidd. Ar gyfer ardrethi annomestig (a elwir hefyd yn ardrethi busnes), bydd y Bil yn gwneud y canlynol: * cynyddu pa mor aml y caiff gwerthoedd pob eiddo annomestig yng Nghymru eu diweddaru i unwaith bob tair blynedd * darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid rhyddhadau ac esemptiadau * galluogi newidiadau wrth gyfrifo taliadau ar gyfer gwahanol gategorïau o dalwyr ardrethi * dod â threfniadau osgoi treth hysbys i ben a chynyddu'r gallu i fynd i'r afael ag achosion o'r fath mewn ffordd fwy ymatebol yn y dyfodol * galluogi gwelliannau i'r wybodaeth a ddarperir gan dalwyr ardrethi. Mewn perthynas â'r dreth gyngor, bydd y Bil yn gwneud y canlynol: * sefydlu cylch pum mlynedd o ailbrisio eiddo o fis Ebrill 2028 ymlaen, a chaniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio blynyddoedd ailbrisio yn y dyfodol pe bai amgylchiadau'n gwneud hynny'n ofynnol * darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer trefnu a labelu bandiau treth pan fo angen, i gyd\-fynd ag ailgynllunio'r system yn y dyfodol * sicrhau parhad ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cenedlaethol, gan ddarparu cymorth ariannol hanfodol i aelwydydd incwm isel * darparu mwy o hyblygrwydd i wneud newidiadau i ostyngiadau a phobl a ddiystyrir rhag talu'r dreth gyngor. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, Rebecca Evans: > Dyma'r Bil cyllid llywodraeth leol Cymreig cyntaf ers datganoli. Mae'n cyflwyno newidiadau pwysig i'r system trethi lleol yng Nghymru, gan ddiwygio'r system i'w gwneud yn fwy cyson, yn fwy effeithiol ac i roi hyblygrwydd inni yn y dyfodol. Mae ymchwil a phrofiad eang o weithredu'r systemau presennol ers ugain mlynedd a mwy wedi dangos nifer o gyfyngiadau ac roedd yr achos dros newid felly yn glir. > > Gyda'r Bil bellach wedi'i gymeradwyo gan y Senedd, bydd gennym fframwaith wedi'i gynllunio ar gyfer y Gymru fodern, a'r dulliau angenrheidiol i addasu trethi lleol yn y dyfodol wrth i amgylchiadau a blaenoriaethau newid.
https://www.gov.wales/senedd-passes-bill-reform-local-tax-system-wales
Digital action plan ------------------- If you would like detailed updates from our eProcurement user group, including recordings of each session, please e\-mail: DigitalProcurementTools@gov.wales Pipeline planning functionality ------------------------------- The new pipeline planning functionality is now live on Sell2wales. The pipeline gives organisations a forward look at potential commercial activities planned by contracting authorities. If you are interested in using the new functionality, please e\-mail: Sell2Waleshelp@gov.wales Policy mapping tool ------------------- We are currently testing the policy mapping tool, designed as a simple questionnaire for buyers. The tool will help identify the necessary policies for purchasing specific goods or services. Once testing is completed, we will run a pilot with limited users from across the Welsh public sector. Participants will complete the questionnaire based on a tender and provide feedback on the results. If you are interested in taking part in the pilot, please e\-mail: DigitalProcurementTools@gov.wales Cyd --- With changes to the procurement landscape coming fast, make sure to keep up with the latest developments by visiting Cyd Cymru, where you will find webinars, training and more. If you have any case studies or information that would be useful to share across the procurement community, please contact Cyd. We’re looking for stories of challenges, learning, and success from across Wales, as well as opinion pieces or big questions that would make for exciting blogs.
Cynllun gweithredu digidol -------------------------- Os hoffech gael diweddariadau manwl gan ein grŵp defnyddwyr eGaffael, gan gynnwys recordiadau o bob sesiwn, anfonwch e\-bost at: OfferCaffaelDigidol@llyw.cymru Swyddogaeth cynllunio piblinellau --------------------------------- Mae'r swyddogaeth cynllunio piblinellau newydd bellach yn fyw ar GwerthwchiGymru. Mae'r biblinell yn caniatáu i sefydliadau gael rhagolwg o’r gweithgareddau masnachol posibl sydd ar y gweill gan awdurdodau contractio. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio'r swyddogaeth newydd, anfonwch e\-bost at : Sell2Waleshelp@llyw.cymru Adnodd mapio polisi ------------------- Ar hyn o bryd rydym wrthi’n profi'r offeryn mapio polisi, a ddyluniwyd ar ffurf holiadur syml i brynwyr. Bydd yr offeryn yn helpu i nodi pa bolisïau sy’n angenrheidiol er mwyn prynu nwyddau neu wasanaethau penodol. Pan fydd y profion wedi'u cwblhau, byddwn yn cynnal peilot gyda nifer fach o ddefnyddwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn llenwi'r holiadur yn seiliedig ar dendr ac yn rhoi adborth ar y canlyniadau. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y peilot, anfonwch e\-bost at: OfferCaffaelDigidol@llyw.cymru Cyd --- Bydd y dirwedd gaffael yn newid yn fuan, felly sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf drwy fynd i Cyd Cymru, lle gallwch ddod o hyd i weminarau, hyfforddiant a mwy. Os oes gennych unrhyw astudiaethau achos neu wybodaeth a fyddai'n ddefnyddiol i'w rhannu ar draws y gymuned gaffael cysylltwch â Cyd. Rydym yn chwilio am straeon am heriau, dysgu a llwyddiannau o bob rhan o Gymru, yn ogystal â darnau barn neu gwestiynau mawr a fyddai’n gwneud blogiau difyr.
https://www.gov.wales/digital-data-and-ict-news-round-july-2024
On 16 July 2024, an oral statement was made in the Senedd: **The Welsh Language and Education (Wales) Bill (external link)****.**
Ar 16 Gorffennaf 2024, gwnaed **datganiad llafar yn y Senedd: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) (dolen allanol)**.
https://www.gov.wales/oral-statement-welsh-language-and-education-wales-bill