source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
The Chancellor's and the Prime Minister's focus on stability, which I'm sure will continue in the spring budget, lays the ground for the UK to focus on growth. With the latest predictions that the UK economy is expected to recover sooner than thought, there is an opportunity in Wales for us to gear up into the high-growth innovative economy that we need to be, building on the assets we have. How is the Government planning to stimulate economic momentum, boost confidence and encourage investment here, and how are you planning to tackle the labour and skills shortages to help that growth?
Mae pwyslais y Canghellor a Phrif Weinidog y DU ar sefydlogrwydd, yr wyf i'n siŵr fydd yn parhau yng nghyllideb y gwanwyn, yn paratoi'r tir er mwyn i'r DU ganolbwyntio ar dwf. Gyda'r rhagfynegiadau diweddaraf y disgwylir i economi'r DU wella yn gynt na'r disgwyl, ceir cyfle yng Nghymru i ni wneud y cam i fyny i'r economi arloesol twf uchel y mae angen i ni fod, gan adeiladu ar yr asedau sydd gennym ni. Sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu ysgogi momentwm economaidd, hybu hyder ac annog buddsoddiad yma, a sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r prinder llafur a sgiliau i helpu'r twf hwnnw?
Well, I wish I had your confidence that the Prime Minister and his Chancellor will be addressing their priorities in the spring budget. I know that the Minister for finance obviously discussed what was upcoming; I don't think she got very far with much information about what was going to be upcoming in the spring budget. What's really important is that we get our fair share of funding, and we've seen a significant decrease in our budget, particularly our capital budget, over the past few years. But obviously, investing in skills is very important for the jobs, going forward, and we know how quickly different jobs come long, and making sure that we have people with those skills. Again, around the forecast of the economy, you'll remember that, just a couple of weeks ago, the International Monetary Fund forecasted that the UK will be the only major economy to shrink into 2023, with a falling GDP of 0.6 per cent, so I'm afraid I really don't share your confidence.
Wel, byddwn yn hapus pe bai gen i eich hyder chi y bydd Prif Weinidog y DU a'i Ganghellor yn mynd i'r afael â'u blaenoriaethau yng nghyllideb y gwanwyn. Gwn fod y Gweinidog cyllid yn amlwg wedi trafod yr hyn a oedd ar y gweill; nid wyf i'n credu ei bod hi wedi mynd yn bell iawn gyda llawer o wybodaeth am yr hyn a oedd yn mynd i ddod yng nghyllideb y gwanwyn. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni'n cael ein cyfran deg o gyllid, ac rydym ni wedi gweld gostyngiad sylweddol i'n cyllideb, yn enwedig ein cyllideb gyfalaf, dros y blynyddoedd diwethaf. Ond yn amlwg, mae buddsoddi mewn sgiliau yn bwysig iawn i'r swyddi, yn y dyfodol, ac rydyn ni'n gwybod pa mor gyflym y mae gwahanol swyddi yn dod i'r amlwg, a gwneud yn siŵr bod gennym ni bobl â'r sgiliau hynny. Eto, o ran y rhagolwg ar gyfer yr economi, byddwch yn cofio, dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, bod y Gronfa Ariannol Ryngwladol yn rhagweld mai'r DU fydd yr unig economi fawr i grebachu i mewn i 2023, chynnyrch domestig gros yn gostwng 0.6 y cant, felly mae gen i ofn nad ydw i wir yn rhannu eich hyder.
I'd just like to take this opportunity to raise rail enhancement funding. As everyone in this Chamber knows, including those on the Conservative benches, Wales has been completely shortchanged by Westminster Governments: no Barnett consequentials from HS2, and underfunding over years that goes into billions. The Conservatives' own Hendry report endorses the recommendations of the Burns report, agreeing that it has the right transport solution for south-east Wales, so, in any budget discussions, have you been told when the much-needed funding for the upgrade of the relief lines between the Severn tunnel and Cardiff will finally be forthcoming?
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i godi cyllid gwella rheilffyrdd. Fel y mae pawb yn y Siambr hon yn gwybod, gan gynnwys rhai ar y meinciau Ceidwadol, mae Cymru wedi cael ei gadael yn gwbl brin o arian gan Lywodraethau San Steffan: dim symiau canlyniadol Barnett o HS2, a thanariannu dros flynyddoedd sy'n dod i gyfanswm o sawl biliwn. Mae adroddiad Hendry y Ceidwadwyr eu hunain yn cymeradwyo argymhellion adroddiad Burns, gan gytuno bod ganddo'r ateb trafnidiaeth iawn ar gyfer de-ddwyrain Cymru, felly, mewn unrhyw drafodaethau cyllidebol, a ydych chi wedi cael gwybod pryd fydd y cyllid y mae mawr ei angen ar gyfer uwchraddio'r llinellau rhyddhad rhwng twnnel Hafren a Chaerdydd ar ei ffordd o'r diwedd?
We are awaiting confirmation of the final Wales rail enhancement funding from the UK Government. You will have heard me say in my earlier answer that the Minister for Finance and Local Government raised this again last week with the Chief Secretary to the Treasury, particularly around HS2 being an England-and-Wales project. I'm really not sure how they can possibly believe that; it's really important. And I don't think that the Minister's going to let that drop; I think she's going to persevere in trying to make sure that we do get that £5 billion consequential. We know that the rail enhancement funding really would bring clear benefits; that we would be able to deliver that integrated public transport network and encourage that modal shift that we want to see, but unfortunately, the UK Government has consistently rejected our request, continually - as you pointed out - failing to invest in our infrastructure here in Wales. And in the absence of the appropriate devolution of rail infrastructure and a fair funding settlement - I think both of those things - we really do need the UK Government to fulfil their responsibilities to improve our rail network in Wales.
Rydyn ni'n aros am gadarnhad o gyllid gwella rheilffyrdd terfynol Cymru gan Lywodraeth y DU. Byddwch wedi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb cynharach fod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi codi hyn eto yr wythnos diwethaf gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn enwedig o ran y ffaith fod HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr. Nid wyf i wir yn siŵr sut y gallan nhw o bosibl gredu hynny; mae'n bwysig iawn. Ac nid wyf i'n meddwl bod y Gweinidog yn mynd i anghofio am hynny; rwy'n credu ei bod hi'n mynd i ddyfalbarhau wrth geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael y swm canlyniadol hwnnw o £5 biliwn. Rydyn ni'n gwybod y byddai'r cyllid gwella rheilffyrdd wir yn dod â manteision eglur; y byddem ni'n gallu darparu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig hwnnw ac annog y newid i ddulliau teithio hwnnw yr ydym ni eisiau ei weld, ond yn anffodus, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ein cais yn gyson, yn barhaus - fel y gwnaethoch chi nodi - gan fethu â buddsoddi yn ein seilwaith yma yng Nghymru. Ac yn absenoldeb datganoli priodol y seilwaith rheilffyrdd a setliad cyllid teg - y ddau beth hynny rwy'n credu - rydyn ni wir angen i Lywodraeth y DU gyflawni ei chyfrifoldebau i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
The pathways of care reporting pilot has been successfully rolled out across all health boards. Whilst the full impact is not yet known, it's intended to provide a single data source to better understand the reasons for delays at the point of discharge and help partners identify solutions together.
Mae'r cynllun treialu adrodd ar lwybrau gofal wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus ar draws yr holl fyrddau iechyd. Er nad yw'r effaith lawn yn hysbys eto, bwriedir iddo ddarparu un ffynhonnell ddata er mwyn deall yn well y rhesymau am oediadau ar y pwynt rhyddhau a helpu partneriaid i nodi atebion gyda'i gilydd.
Thank you, Minister. Nurses in Rhondda are contacting me almost daily at the end of their tether. Demand over the winter months for ambulances and accident and emergency has been nothing like they've experienced before. They know that, in order to get sick patients through the door, patients ready to leave the hospital need to do so as soon and as safely as possible. Their colleagues in social care play a vital role in ensuring this, but we simply need more of them. Building on the commitment to provide social care workers the real living wage, what work is Welsh Government doing to encourage young people and to retrain older people into social care roles? And what discussion has the Welsh Government had with colleges like Coleg y Cymoedd in my constituency regarding enrolment numbers and the appeal of care courses?
Diolch, Gweinidog. Mae nyrsys yn y Rhondda yn cysylltu â mi bron yn ddyddiol ar ben eu tennyn. Nid yw'r galw dros fisoedd y gaeaf am ambiwlansys a damweiniau ac achosion brys wedi bod yn ddim byd tebyg i'r hyn y maen nhw wedi ei weld o'r blaen. Maen nhw'n gwybod, er mwyn cael cleifion sâl drwy'r drws, bod angen i gleifion sy'n barod i adael yr ysbyty wneud hynny cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl. Mae eu cydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau hyn, ond, yn syml, rydyn ni angen mwy ohonyn nhw. Gan adeiladu ar yr ymrwymiad i roi'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc ac ailhyfforddi pobl hŷn i swyddi gofal cymdeithasol? A pha drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chael gyda cholegau fel Coleg y Cymoedd yn fy etholaeth i ynglŷn â niferoedd cofrestru ac apêl cyrsiau gofal?
I think the real living wage was a vital first step, really, and it provided a very important starting point for improved working conditions for our social care staff. I know that the Deputy Minister continues to work very closely with the social care fair work forum to look at more ways of how we can further improve the terms and conditions of all of our social care workers across Wales. We continue to work with our key partners to examine all avenues to help people back into work and encourage people, particularly young people, to consider social care as a career. I think that's a really important piece of work that the Deputy Minister is doing. The Social Care Wales-led WeCare.Wales campaign provides some inspirational video case studies about why individuals took up care and support roles within social care, and, of course, we've run several high-profile campaigns to promote the sector. Both Welsh Government apprenticeship and further education officials have regular discussions with colleges as well as with our independent training providers to make sure that courses - and that's for all sectors, and that obviously includes social care - provide effective training for our learners.
Rwy'n credu bod y cyflog byw gwirioneddol yn gam cyntaf hanfodol, mewn gwirionedd, a rhoddodd fan cychwyn pwysig iawn ar gyfer amodau gwaith gwell i'n staff gofal cymdeithasol. Gwn fod y Dirprwy Weinidog yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i edrych ar fwy o ffyrdd o sut y gallwn ni wella telerau ac amodau ein holl weithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru ymhellach. Rydyn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid allweddol i archwilio pob llwybr i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith ac i annog pobl, yn enwedig pobl ifanc, i ystyried gofal cymdeithasol fel gyrfa. Rwy'n credu bod hwnnw'n ddarn pwysig iawn o waith y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei wneud. Mae ymgyrch Gofalwn.cymru, a arweinir gan Gofal Cymdeithasol Cymru, yn darparu astudiaethau achos fideo sy'n ysbrydoli ynghylch pam y gwnaeth unigolion ymgymryd â swyddi gofal a chymorth ym maes gofal cymdeithasol, ac wrth gwrs, rydyn ni wedi cynnal sawl ymgyrch uchel eu proffil i hyrwyddo'r sector. Mae prentisiaeth Llywodraeth Cymru a swyddogion addysg bellach yn cael trafodaethau rheolaidd â cholegau yn ogystal â gyda'n darparwyr hyfforddiant annibynnol i wneud yn siŵr bod cyrsiau - ac mae hynny i bob sector, ac mae hynny'n amlwg yn cynnwys gofal cymdeithasol - yn darparu hyfforddiant effeithiol i'n dysgwyr.
Minister, the pathways for care reporting framework is a welcome addition. We're all too aware of the impact that delayed transfers of care have across the NHS. The framework aims to promote closer working between health and care, and we will only be able to assess its full impact when we see a more integrated discharge regime. Minister, has the introduction of the framework led to the creation of multidisciplinary teams that include not only health and social care staff, but also housing officials and officers from Care and Repair so that we can ensure that all the patient's needs are safely met upon discharge?
Gweinidog, mae'r fframwaith Adrodd ar Lwybrau Gofal yn ychwanegiad i'w groesawu. Rydyn ni'n rhy ymwybodol o'r effaith y mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn ei chael ar draws y GIG. Nod y fframwaith yw hyrwyddo cydweithio agosach rhwng meysydd iechyd a gofal, a dim ond pan fyddwn ni'n gweld trefn ryddhau fwy integredig y byddwn ni'n gallu asesu ei effaith lawn. Gweinidog, a yw cyflwyno'r fframwaith wedi arwain at greu timau amlddisgyblaeth sy'n cynnwys nid yn unig staff iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd swyddogion tai a swyddogion o Ofal a Thrwsio fel y gallwn ni sicrhau bod holl anghenion y claf yn cael eu diwallu'n ddiogel wrth gael ei ryddhau?
Thank you. You raise a very important point: it is about making sure that they have that multi-agency approach, as you say, so if there are specific barriers to someone being able to leave hospital, all the partners are working very closely together. The pathways of care reporting framework has been developed jointly by an expert group, and that comprised of partners from across a range of services. What that framework has done is really revise the process to make system improvements and to bring it in line with contemporary patient pathway processes such as discharge to recover then assess. They weren't previously included in the delayed transfers of care. The pilot's now being rolled out to an all-Wales phase from November last year to January of this year, and that system and that new pathway have really been fully tested, going forward. I think it's fair to say, during the phases, as always, there are lessons to be learned, and we were able to identify improvements and efficiencies. They're now being implemented as we prepare to fully embed the final reporting framework.
Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn: mae'n golygu gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r dull amlasiantaeth hwnnw, fel rydych chi'n dweud, felly os oes rhwystrau penodol sy'n atal rhywun rhag gadael yr ysbyty, mae'r holl bartneriaid yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd. Datblygwyd y fframwaith adrodd ar lwybrau gofal ar y cyd gan grŵp arbenigol, ac roedd hwnnw'n cynnwys partneriaid o amrywiaeth o wasanaethau. Yr hyn y mae'r fframwaith hwnnw wedi ei wneud yw diwygio'r broses yn wirioneddol i wneud gwelliannau i'r system a sicrhau ei bod yn cyd-fynd â phrosesau llwybrau cleifion cyfoes fel rhyddhau i wella ac yna asesu. Nid oedden nhw wedi'u cynnwys yn y broses o oedi wrth drosglwyddo gofal yn flaenorol. Mae'r cynllun treialu bellach yn cael ei gyflwyno i gam Cymru gyfan rhwng mis Tachwedd y llynedd a mis Ionawr eleni, ac mae'r system honno a'r llwybr newydd hwnnw wir wedi cael eu profi'n llawn, ar gyfer y dyfodol. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, yn ystod y camau, yn ôl yr arfer, bod gwersi i'w dysgu, ac roedden ni'n gallu nodi gwelliannau ac arbedion effeithlonrwydd. Maen nhw bellach yn cael eu rhoi ar waith wrth i ni baratoi i ymwreiddio'r fframwaith adrodd terfynol yn llawn.
People with health needs have been severely affected by the crisis. Our 'Here to help' campaign is supporting people to access all the financial support that they are entitled to. Training for front-line workers is also helping support workers to signpost vulnerable people so they can receive the help that's available.
Effeithiwyd yn ddifrifol ar bobl ag anghenion iechyd gan yr argyfwng. Mae ein hymgyrch 'Yma i helpu' yn cynorthwyo pobl i fanteisio ar yr holl gymorth ariannol y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae hyfforddiant i weithwyr rheng flaen hefyd yn helpu gweithwyr cymorth i gyfeirio pobl agored i niwed fel y gallan nhw dderbyn y cymorth sydd ar gael.
Diolch yn fawr iawn. I was discussing during a recent visit to Tŷ Gobaith the pressures on families who have very poorly children, or children with very significant needs. They face challenges that most of us don't have to face all of the time, but of course the cost-of-living crisis has added hugely to the pressures on them. I'm thinking of the Gleave family near Amlwch, three children - Katie, Kelly and Mason. Obviously, the public purse pays for full-time staff to look after them, but the cost of heating for them, the cost of keeping the banks of machines that keep them on life support, is significant. I'm thinking of Pam and Mark and the challenges they face from day to day, just looking after the children. Now, there are families in the same situation in all parts of Wales. I plead on Welsh Government to look at what more can be done to give them the assistance to support their children properly - and if they weren't able to support them at home they would be in hospital, with the huge costs that that would entail for the public purse. So, it's an appeal for Government to look again at what it might be able to do to help them.
Diolch yn fawr iawn. Roeddwn i'n trafod yn ystod ymweliad â Tŷ Gobaith yn ddiweddar, y pwysau sydd ar deuluoedd sydd â phlant sâl iawn, neu blant ag anghenion sylweddol iawn. Maen nhw'n wynebu heriau nad oes rhaid i'r rhan fwyaf ohonon ni wynebu bob amser, ond wrth gwrs mae'r argyfwng costau byw wedi ychwanegu'n enfawr at y pwysau sydd arnyn nhw. Rwy'n meddwl am deulu Gleave ger Amlwch, tri o blant - Katie, Kelly a Mason. Yn amlwg, mae'r pwrs cyhoeddus yn talu i staff llawn amser ofalu amdanyn nhw, ond mae cost gwresogi iddyn nhw, y gost o gynnal y rhesi o peiriannau sy'n eu cadw ar gymorth bywyd, yn sylweddol. Rwy'n meddwl am Pam a Mark a'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu o ddydd i ddydd, dim ond yn gofalu am y plant. Nawr, mae teuluoedd yn yr un sefyllfa ym mhob rhan o Gymru. Rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ystyried beth arall y mae modd ei wneud i roi'r cymorth iddyn nhw allu cefnogi eu plant yn iawn - ac os nad fydden nhw'n gallu eu cefnogi nhw gartref bydden nhw yn yr ysbyty, gyda'r costau enfawr y byddai hynny yn eu golygu ar gyfer y pwrs cyhoeddus. Felly, mae'n apêl i'r Llywodraeth ystyried eto yr hyn y gallai ei wneud i'w helpu.
Thank you, and you clearly outline, as you say, that some families face difficulties and challenges that we just haven't had to in our lives, and they're very, very difficult. As you know, we've allocated £90 million for a second Welsh Government fuel support scheme - I do hope your constituents have been able to access that - and there are a variety of schemes that have been brought forward to try and help people facing a very uncertain time at the moment due to the cost-of-living crisis, and we continue to do all we can to support people. There's a discretionary assistance fund that maybe they would be able to access that perhaps they haven't done as yet.
Diolch, ac rydych chi'n amlinellu'n glir, fel yr ydych chi'n ei ddweud, bod rhai teuluoedd yn wynebu anawsterau a heriau nad ydyn ni wedi gorfod ei wneud yn ein bywydau ni, ac maen nhw'n anodd iawn, iawn. Fel y gwyddoch chi, rydyn ni wedi dyrannu £90 miliwn ar gyfer ail gynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru - rwy'n gobeithio bod eich etholwyr wedi gallu cael y cyfle i fanteisio ar hynny - ac mae yna amrywiaeth o gynlluniau sydd wedi'u cyflwyno i geisio helpu pobl sy'n wynebu amser ansicr iawn ar hyn o bryd oherwydd yr argyfwng costau byw, ac rydyn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl. Mae yna gronfa cymorth dewisol y bydden nhw efallai yn gallu manteisio arni nad ydyn nhw o bosibl wedi gwneud hyd yma.
I thank the Trefnydd for answering questions on behalf of the First Minister.
Diolch i'r Trefnydd am ateb y cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
The next item will be the business statement and announcement, and the Trefnydd will be answering questions again. I call on the Trefnydd to make that statement - Lesley Griffiths.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd fydd yn ateb cwestiynau eto. Fe wnaf alw ar y Trefnydd i gyflwyno'r datganiad hwnnw - Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. There is one change to this week's business. The Packaging Waste (Data Collection and Reporting) (Wales) Regulations 2023 have been withdrawn and the debate postponed. Draft business for the next three weeks is set out in the business statement and announcement, which can be found amongst the meeting papers available to Members electronically.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae Rheoliadau Gwastraff Pecynnu (Casglu a Chofnodi Data) (Cymru) 2023 wedi cael eu tynnu'n ôl a'r ddadl wedi'i gohirio. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, can I call for a statement on the local government funding formula? Residents in my constituency are very concerned that Conwy County Borough Council has suggested that council tax may have to rise by up to 12.45 per cent, which obviously is in excess of the already very high rate of inflation. That is a matter of great concern to many constituents who are finding it hard to make ends met due to cost-of-living pressures. But one thing we do know is that that funding formula has allowed some local authorities in Wales to stash up hundreds of millions of pounds of reserves, while others have very depleted reserves because they've been having to chop into them on an annual basis because the funding formula is fundamentally flawed and unfair. Can we have an update on what the Welsh Government is doing to address this issue? And will the Trefnydd seek to get the agreement of her Cabinet colleague the Minister for finance, and indeed the Minister with responsibility for local government, for an independent review - an independent review - of the funding formula to make sure that there's equitable access to funding for local government across the country?
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad ar fformiwla gyllido llywodraeth leol? Mae trigolion fy etholaeth i'n bryderus iawn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi awgrymu y gallai'r dreth gyngor orfod codi hyd at 12.45 y cant, sy'n amlwg yn uwch na'r gyfradd chwyddiant sydd eisoes yn uchel iawn. Mae hynny'n destun pryder mawr i nifer o etholwyr sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd oherwydd pwysau costau byw. Ond un peth yr ydyn ni'n ei wybod yw bod y fformiwla gyllido honno wedi caniatáu i rai awdurdodau lleol yng Nghymru gronni cannoedd o filiynau o bunnoedd o gronfeydd wrth gefn, tra bod eraill â chronfeydd prin iawn wrth gefn oherwydd iddyn nhw eu defnyddio'n flynyddol oherwydd bod y fformiwla gyllido yn sylfaenol ddiffygiol ac annheg. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn? Ac a fydd y Trefnydd yn ceisio cael cytundeb ei chyd-Aelod Cabinet y Gweinidog cyllid, ac yn wir y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb am lywodraeth leol, am adolygiad annibynnol - adolygiad annibynnol - o'r fformiwla gyllido i wneud yn siŵr bod cyfle teg i fanteisio ar gyllid ar gyfer llywodraeth leol ledled y wlad?
The Member will be aware that the setting of council tax is a matter for each local authority, and whilst, of course, any increase of council tax is often very unwelcome to the majority of local tax payers, I think it is good to recognise it's a significant source of funding for local services. You say the funding formula is flawed - well, you'll appreciate that that funding formula is not imposed by Welsh Government; it's done in conjunction and in partnership between local government and Welsh Government. So, I don't agree with you it's flawed. It might not be the best, and there are always going to be people that do better than others. As far as I know - and I'm looking to the Minister for Finance and Local Government - I don't think there's been any call by local authorities to have a look at the funding formula, never mind an independent review.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol mai mater i bob awdurdod lleol yw pennu'r dreth gyngor, ac wrth gwrs, mae unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor yn aml yn ddigroeso iawn i'r mwyafrif o dalwyr trethi lleol, rwy'n credu ei bod hi'n dda cydnabod ei bod yn ffynhonnell ariannu sylweddol ar gyfer gwasanaethau lleol. Rydych chi'n dweud bod y fformiwla gyllido yn ddiffygiol - wel, byddwch chi'n gwerthfawrogi nad yw'r fformiwla gyllido honno'n cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru; mae'n cael ei wneud ar y cyd ac mewn partneriaeth rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Felly, nid ydw i'n cytuno â chi ei bod yn ddiffygiol. Efallai nad dyma'r gorau, a bydd bob amser pobl sy'n gwneud yn well nag eraill. Hyd y gwn i - ac rwy'n edrych at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - nid ydw i'n credu bod unrhyw alwad wedi bod gan awdurdodau lleol i gael golwg ar y fformiwla gyllido, heb sôn am adolygiad annibynnol.
Thank you, Llywydd. I only heard you the second time, I suspect. I want to ask the Trenfydd if we can have a statement on the level of support available through the Healthy Start scheme. The level of support was last increased in April 2021 to £4.25 a week, but it's been two years since then, and since then the cost of living has gone up, food inflation has been very significant, but the support has remained static. And there are implications for that when it comes to families accessing healthy, nutritious foods, which is the whole purpose of the scheme. So, I'm asking for a statement from the Deputy Minister for Mental Health and Well-being on the possibility of increasing the level of support, because the value and contribution of the scheme is undermined month by month as food costs increase while the level of support has remained static.
Diolch, Llywydd. Gwnes i dim ond eich clywed chi ar yr ail gynnig, dwi'n amau. Dwi eisiau gofyn i'r Trefnydd os cawn ni ddatganiad ar lefel y gefnogaeth sydd ar gael drwy'r cynllun Cychwyn Iach, the Healthy Start scheme. Fe godwyd y lefel o gefnogaeth ddiwethaf yn ôl yn Ebrill 2021 i £4.25 yr wythnos, ond, wrth gwrs, mae yna flwy flynedd bron iawn ers hynny, ac yn y cyfamser mae costau byw wedi mynd drwy'r to, mae chwyddiant bwyd wedi bod yn sylweddol, ond mae'r gefnogaeth wedi aros yr un peth. Ac mae yna oblygiadau, wrth gwrs, yn hynny o beth pan fo'n dod wedyn i deuluoedd fedru cael mynediad at fwydydd iach a maethlon, sef holl bwrpas y cynllun. Felly, gofyn dwi'n ei wneud am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y posibilrwydd o gynyddu'r lefel cefnogaeth, oherwydd mae gwerth a chyfraniad y cynllun yn cael ei danseilio o fis i fis wrth i brisiau bwyd gynyddu tra bod lefel y gefnogaeth, wrth gwrs, i bob pwrpas, wedi ei rewi.
Thank you. I don't disagree with what you're saying about the support, but you will appreciate the significant demands on the health budget. Obviously, the supplementary budget is due to be published, and I'm unaware if this scheme is receiving any increase, but it may be worth waiting to see if that's the case before asking for a further statement.
Diolch. Nid ydw i'n anghytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y gefnogaeth, ond byddwch chi'n gwerthfawrogi'r galw sylweddol ar y gyllideb iechyd. Yn amlwg, mae disgwyl i'r gyllideb atodol gael ei chyhoeddi, ac nid ydw i'n ymwybodol a yw'r cynllun hwn yn cael unrhyw gynnydd, ond gallai fod yn werth aros i weld a yw hynny'n wir cyn gofyn am ddatganiad arall.
Going back to the Silk report on the devolution of taxation, that recommended that aggregates levy should be devolved to Wales. It could not be devolved due to European Union intervention. In November 2022, Liz Saville Roberts asked the Chancellor of the Exchequer whether he had had discussions with the Welsh Government on devolving the aggregates levy to Wales. The Treasury response was that they 'are always happy to engage with the Welsh Government, should they wish to discuss this or any other issue further.' I'm asking for a Welsh Government statement on progress towards devolving the aggregates levy. I'm also asking for a statement on rare conditions. Whilst individually they are rare, hence their name, they affect a lot of people, with one in 17 people being affected during their lifetime. Many rare conditions are lifelong and complex. Often, rare diseases are chronic and life-threatening. As a result, people affected by rare conditions often need support and expertise from a wide range of healthcare professionals. This can mean having multiple appointments across different settings, and on different dates. I think a statement on that would be very helpful.
Wrth fynd yn ôl i adroddiad Silk ynghylch datganoli trethiant, a wnaeth argymell y dylai'r ardoll agregau gael ei datganoli i Gymru. Nid oedd modd ei datganoli oherwydd ymyrraeth yr Undeb Ewropeaidd. Ym mis Tachwedd 2022, gofynnodd Liz Saville Roberts i Ganghellor y Trysorlys a oedd wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch datganoli'r ardoll agregau i Gymru. Ymateb y Trysorlys oedd eu bod 'bob amser yn hapus i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, pe bydden nhw eisiau trafod hyn neu unrhyw fater arall ymhellach.' Rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gynnydd tuag at ddatganoli'r ardoll agregau. Rydw i hefyd yn gofyn am ddatganiad ar gyflyrau prin. Er eu bod yn brin yn unigol, ac felly eu henw, maen nhw'n effeithio ar lawer o bobl, gydag un o bob 17 o bobl yn cael eu yn ystod eu hoes. Mae llawer o gyflyrau prin yn rhai gydol oes ac yn gymhleth. Yn aml, mae clefydau prin yn gronig ac yn peryglu bywyd. O ganlyniad, mae pobl y mae cyflyrau prin yn effeithio arnyn nhw yn aml angen cefnogaeth ac arbenigedd gan amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Gall hyn olygu cael nifer o apwyntiadau mewn gwahanol leoliadau, ac ar ddyddiadau gwahanol. Rwy'n credu y byddai datganiad ar hynny o gymorth mawr.
I agree with you and I will ask the Minister for Health and Social Services to issue a written statement. We do have Rare Disease Day coming up at the end of this month, so I will ask the Minister for Health and Social Services to issue a written statement to highlight our support for rare disease, and also the progress that we are making here in Wales. In response to your first request, aggregates are a valuable Welsh natural resource, and we recognise that devolution of the aggregates levy could be beneficial to our fiscal and environmental aims. We do continue to be open to further conversations with the UK Government on the possible devolution of the levy, recognising that there are a number of key issues to consider, in particular, potential cross-border issues and block grant impacts that could arise. We're also really interested to learn from the Scottish Government's experience as they move forward in developing their approach to a Scottish aggregates levy. It would be good perhaps to apply the learning that they have had to further considerations, but any further engagement with the UK Government on a levy needs to really be set in the context of the wider devolution on tax devolution. That includes addressing our request to gain the power to introduce a vacant land tax in Wales.
Rwy'n cytuno â chi ac fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Mae gennym ni Ddiwrnod Clefydau Prin yn dod ar ddiwedd y mis hwn, felly fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i dynnu sylw at ein cefnogaeth i glefydau prin, a hefyd y cynnydd yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Mewn ymateb i'ch cais cyntaf, mae agregau yn adnodd naturiol gwerthfawr yng Nghymru ac rydyn ni'n cydnabod y gallai datganoli'r ardoll agregau fod o fudd i'n nodau cyllidol ac amgylcheddol. Rydyn ni'n parhau i fod yn agored i sgyrsiau eraill gyda Llywodraeth y DU am ddatganoli posibl yr ardoll, gan gydnabod bod nifer o faterion allweddol i'w hystyried, yn benodol, materion traws-ffiniol posibl a rhwystro effeithiau grant a allai godi. Mae gennym ni hefyd ddiddordeb mawr i ddysgu o brofiad Llywodraeth yr Alban wrth iddyn nhw symud ymlaen i ddatblygu eu hagwedd at ardoll agregau yr Alban. Byddai'n dda efallai cymhwyso'r dysgu y maen nhw wedi'i gael at ystyriaethau eraill, ond mae gwir angen pennu unrhyw ymgysylltu arall â Llywodraeth y DU ar ardoll yng nghyd-destun datganoli ehangach ar ddatganoli trethi. Mae hynny'n cynnwys ymdrin â'n cais i gael y pŵer i gyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru.
Business Minister, I'd like to request a statement from the Minister for Education and Welsh Language on the replacement of BTECs and what our Welsh equivalent of T-levels will actually look like. This month, the Department for Education in England announced a new £12 million T-level employer placement scheme to boost the uptake from businesses to take on student placements and access to providers for multiple grants, yet we still have no idea what T-level equivalents will look like in Wales. Once again, we see colleges and sixth forms in a state of panic due to the Minister's lacklustre approach to this, and many now feel that it's simply too late to make the changes implemented well or done properly, putting Wales at a big disadvantage. A statement updating the Senedd, learners and our educators is urgently needed. Thank you, business Minister.
Gweinidog Busnes, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg am amnewid cymwysterau BTEC a sut olwg, mewn gwirionedd, fydd ar yr hyn sy'n cyfateb i gymwysterau Safon T yng Nghymru. Y mis hwn, cyhoeddodd yr Adran Addysg yn Lloegr gynllun lleoliad cyflogwyr Safon T newydd gwerth £12 miliwn i roi hwb i nifer y busnesau sy'n manteisio ar hyn i ymgymryd â lleoliadau myfyrwyr a mynediad i ddarparwyr ar gyfer grantiau lluosog, ond eto nid oes gennym ni syniad o hyd sut olwg fydd ar gymwysterau Safon T yng Nghymru. Unwaith eto, rydyn ni'n gweld colegau a chweched dosbarthiadau mewn cyflwr o banig oherwydd agwedd ddilewyrch y Gweinidog tuag at hyn, ac mae llawer nawr yn credu ei bod hi'n rhy hwyr i wneud y newidiadau a weithredwyd yn dda neu'n gywir, gan roi Cymru dan anfantais fawr. Mae angen datganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd, dysgwyr a'n haddysgwyr ar frys. Diolch, Gweinidog Busnes.
I don't think the way that you set that out is correct - we've already extended BTEC eligibility, for instance - but I know the Minister for Education and Welsh Language is continuing to have discussions with Qualifications Wales and will provide a statement in due course.
Nid wyf i'n credu bod y ffordd y gwnaethoch chi nodi hynny'n gywir - rydyn ni eisoes wedi ymestyn cymhwysedd ar gyfer BTEC, er enghraifft - ond rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn parhau i gael trafodaethau gyda Cymwysterau Cymru ac fe wnaiff ddarparu datganiad maes o law.
Thank you very much, Llywydd. As you know, this is a very busy time for farmers, of course, because the lambing season has just started, and the weather is improving, people are tempted to go out for a walk with their dogs in rural areas of Wales, and this, of course, is a cause of great concern to farmers because of the attacks by dogs on farm animals. Recent research by NFU Mutual notes that the cost of damage to animals and those killed by dogs was around £400,000 last year, which is an increase of almost 15 per cent on the previous year. And the same research shows that two out of three people who take their dogs for a walk are willing to let their dogs run wild when they are out in rural areas. So, can I ask how the Welsh Government intends to respond to these figures, these increases that I've outlined, and will you make a statement on that? And how do you intend to encourage people to be more responsible when they take their dogs for a walk in rural areas?
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fel rŷch chi'n gwybod, mae hwn yn gyfnod prysur iawn i ffermwyr, wrth gwrs, achos mae'r tymor wyna newydd dechrau, ac mae'r tywydd yn gwella, mae pobl yn cael eu temtio i fynd mas am dro gyda'u cŵn yng nghefn gwlad Cymru, ac mae hyn, wrth gwrs, yn achosi pryder mawr i ffermwyr oherwydd yr ymosodiadau gan gŵn ar anifeiliaid fferm. Mae ymchwil diweddar gan NFU Mutual yn nodi bod gwerth niwed i anifeiliaid a'r rhai sydd wedi cael eu lladd gan gŵn o gwmpas rhyw £400,000 y llynedd, sydd yn gynnydd o ryw 15 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Ac mae'r un ymchwil yn dangos hefyd fod dau o bob tri pherson sy'n mynd â'u cŵn am dro yn barod i adael i'r cŵn yma redeg yn wyllt pan fyddan nhw mas yn y wlad. Felly, gaf i ofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'r ffigurau yma sydd ar gynnydd, ac ydych chi'n fodlon gwneud datganiad arno fe? A sut ydych chi'n bwriadu annog pobl i fod yn fwy cyfrifol pan fyddan nhw'n mynd â'u cŵn am dro, mas yng nghefn gwlad?
Thank you. You're quite right; we see far too many dog attacks, particularly on sheep and lambs, and I think it's very important. As you say, we're just - . Well, some areas have already started lambing; others are to follow. But I was really pleased to see the wildlife and rural crime commissioner's campaign, 'ewes a lead' - 'use' spelt 'ewes' - which I thought was very clever. But I think it's really good to have these campaigns, and certainly as a Government we're doing all we can to promote that campaign, because responsible dog ownership is very important, and you'll be aware of all the different schemes. But it was really good to see that campaign, particularly this time of year, ahead of, as you say, people starting to go out, perhaps, more into the countryside as springtime approaches.
Diolch i chi. Rydych chi'n hollol gywir; rydyn ni'n gweld llawer gormod o achosion o gŵn yn ymosod, yn enwedig ar ddefaid ac ŵyn, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn. Fel rydych chi'n dweud, rydyn ni'n ond yn - . Wel, mae'r wyna wedi cychwyn mewn rhai ardaloedd eisoes; bydd eraill yn eu dilyn. Ond roeddwn i'n falch iawn o weld ymgyrch y comisiynydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt, 'ewes a lead' - 'use' wedi'i sillafu 'ewes' - a oedd, yn fy marn i, yn ffraeth iawn. Ond rwy'n credu bod yr ymgyrchoedd hyn yn bethau da iawn, ac yn y Llywodraeth rydyn ni'n sicr yn gwneud popeth yn ein gallu i hyrwyddo'r ymgyrch honno, oherwydd mae perchnogaeth gyfrifol o gŵn yn bwysig iawn, ac rydych chi'n ymwybodol o'r cynlluniau amrywiol i gyd. Ond roedd hi'n dda iawn cael gweld yr ymgyrch honno, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, cyn, fel rydych chi'n dweud, i bobl ddechrau mynd allan yn fwy, efallai, i gefn gwlad wrth i'r gwanwyn agosáu.
The next item, therefore, will be the statement by the Deputy Minister for Climate Change on the roads review and national transport delivery plan. I call on the Deputy Minister to make his statement - Lee Waters.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar yr adolygiad ffyrdd a'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth. Galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad - Lee Waters.
Diolch yn fawr, Llywydd. Today we are publishing the final report of the independent roads review panel. This is a landmark report of international significance, and I'd like to thank Dr Lynn Sloman and her fellow panelists. Their report is detailed, authoritative and compelling, and the Welsh Government accepts its core principles and the new approach it sets out. When we published the Wales transport strategy two years ago, we committed to start upon a llwybr newydd, a new path. The publication of this roads review, along with the national transport delivery plan and our new roads policy statement, represents a major step forward on that journey. Let me be very clear at the outset: we will still invest in roads. In fact, we are building new roads as I speak, but we are raising the bar for where new roads are the right response to transport problems. We're also investing in real alternatives. Today's national transport delivery plan sets out a five-year programme of investment in rail, bus, walking and cycling projects. Modern successful economies have modern successful public transport systems. Ours has withered on the vine of privatisation, and that must change. Of course, doing that in an age of austerity is very challenging. Not only are we not getting our share of High Speed rail investment, but the UK Government is pushing many bus services over a cliff edge, as well as slashing our capital investment budgets. Even if we'd wanted to keep progressing all the road schemes in the pipeline, we just do not have the money to do so. Our capital budget will be 8 per cent lower next year in real terms as a result of the last UK Government budget. So, when the Conservatives criticise us, they should remember the financial reality of their making: the roads programme is simply unaffordable. With fewer resources it becomes even more important to prioritise, and the roads review helps us to do that. Road schemes take many years from the first plan on the page to the first shovel in the ground. This means most of the schemes currently in development in Wales were conceived before we declared a climate and nature emergency and before we set stretching policy commitments in the Wales transport strategy, the programme for government and Net Zero Wales. The roads review looked at each of the 55 schemes in development and tested them against our current policies. The panel sets out their detailed view on each one in their report, along with a set of purposes and conditions for future road investment.
Diolch yn fawr, Llywydd. Heddiw, rydyn ni'n cyhoeddi adroddiad terfynol y panel annibynnol adolygu ffyrdd. Mae hwn yn adroddiad pwysig iawn ag arwyddocâd rhyngwladol, ac fe hoffwn i ddiolch i Dr Lynn Sloman a'i chyd-banelwyr. Mae eu hadroddiad yn un manwl, awdurdodol a grymus, ac mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ei hegwyddorion craidd a'r ymagwedd newydd y mae'n eu nodi. Pan gyhoeddwyd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ddwy flynedd yn ôl, fe wnaethom ni ymrwymo i ddechrau ar lwybr newydd. Mae cyhoeddi'r adolygiad hwn o'r ffyrdd, ynghyd â'r cynllun cyflawni trafnidiaeth cenedlaethol a'n datganiad polisi ffyrdd newydd, yn gam mawr ymlaen ar y daith honno. Gadewch i mi fod yn eglur iawn o'r cychwyn: fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn ffyrdd. Yn wir, rydyn ni'n adeiladu ffyrdd newydd wrth i mi siarad, ond rydyn ni'n codi'r bar o ran ystyried ai ffyrdd newydd yw'r ymateb cywir i broblemau trafnidiaeth. Rydyn ni'n buddsoddi mewn dewisiadau amgen gwirioneddol hefyd. Mae cynllun cyflenwi trafnidiaeth cenedlaethol heddiw yn nod rhaglen bum mlynedd o fuddsoddiad mewn prosiectau rheilffyrdd, bysiau, cerdded a beicio. Mae gan economïau llwyddiannus cyfoes systemau trafnidiaeth gyhoeddus lwyddiannus cyfoes. Mae ein un ni wedi crebachu oherwydd preifateiddio, ac mae'n rhaid i hynny newid. Wrth gwrs, mae gwneud hynny mewn cyfnod o gyni yn heriol iawn. Nid yn unig ein bod ni'n cael ein hamddifadu o'n cyfran ni o fuddsoddiad rheilffyrdd Cyflymder Uchel, ond mae Llywodraeth y DU yn gwthio llawer o wasanaethau bws dros ddibyn, yn ogystal â thorri ein cyllidebau ar gyfer buddsoddi cyfalaf. Hyd yn oed pe byddem ni wedi dymuno parhau â'r holl gynlluniau ffyrdd a oedd ar y gweill, nid oes gennym ni'r arian i wneud hynny. Bydd ein cyllideb gyfalaf ni 8 y cant yn is y flwyddyn nesaf mewn termau real o ganlyniad i gyllideb ddiwethaf Llywodraeth y DU. Felly, pan fydd y Ceidwadwyr yn ein beirniadu ni, fe ddylen nhw gofio'r sefyllfa ariannol wirioneddol o'u gwneuthuriad nhw: yn syml, ni ellir fforddio'r rhaglen ffyrdd. Gyda llai o adnoddau mae hi'n bwysicach fyth i flaenoriaethu, ac mae'r adolygiad ffyrdd yn ein helpu ni i wneud hynny. Mae cynlluniau ffyrdd yn cymryd blynyddoedd lawer rhwng y cynllun dechreuol ar y dudalen i'r rhaw gyntaf yn y ddaear. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu yng Nghymru ar hyn o bryd wedi cael eu llunio cyn i ni ddatgan argyfwng hinsawdd a natur a chyn i ni bennu ymrwymiadau polisi yn strategaeth trafnidiaeth Cymru, y rhaglen lywodraethu a Cymru Sero Net. Roedd yr adolygiad ffyrdd yn ystyried pob un o'r 55 cynllun a ddatblygir ac yn rhoi prawf arnyn nhw yn ôl ein polisïau presennol. Mae'r panel yn nodi eu barn fanwl ar bob un yn eu hadroddiad, ynghyd â chyfres o ddibenion ac amodau ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd yn y dyfodol.
The report says that we need to do more to look after the roads we already have, and pay more attention to supporting the movement of freight. I've today published a written statement on a review of our approach to road maintenance, and we will also be publishing a freight plan later in the year. We need roads, but we need to remember that roads are not just for cars. The panel said we need to give greater priority to buses and active travel networks in road schemes. The report also says that, where there are road safety concerns, we should be looking first to reduce speeds in collision blackspots. And when we do take forward a new scheme, we should opt for the one with the lowest environmental impact. About a third of the carbon generated from a road scheme comes from the materials used in constructing, lighting and maintaining it over its whole lifecycle: steel, concrete, asphalt, water - everything that goes into a road scheme has a significant carbon footprint of its own. And we need to reduce this embodied carbon, through innovation, but also through making the most of what we have. The central argument presented by the roads review panel is that we can't build our way out of congestion. When looked at in isolation, there is often a case to be made for a by-pass or an extra lane, but, cumulatively, it exacerbates the problem. In the short term, creating new road space often speeds up a car journey and makes it more attractive than a public transport alternative. This encourages more people to drive. But over time, this generates more journeys, with people travelling longer distances. This then creates extra traffic and congestion. It also results in retail and residential developments popping up close to the new junctions, as we have seen right across Wales. And these are places, usually, that have few public transport or active travel options, and so people have little choice but to get to them by car, and this produces even more traffic. As people drive more, fewer people use public transport, which results in fewer services being viable, leaving people with even fewer alternatives. This disproportionately disadvantages women and people on low incomes, who we know from the data are the most dependent on public transport. For those who feel forced into running a car to access work, the costs can be punitive. Studies have shown that the poorest households can spend up to a quarter of their income on transport costs, putting them into transport poverty. Not only has our approach been running counter to our climate policy and our planning policy, but it has also been running counter to our social justice policies, and that has to change. Llywydd, our approach for the last 70 years is not working. As the review points out, the by-pass that was demanded to relieve congestion often ends up leading to extra traffic, which, in time, brings further demands for extra lanes, wider junctions and more roads. Round and round we go, emitting more and more carbon as we do it. This is an internationally recognised trend that academics call 'induced demand'. And the panel report says very clearly that schemes that create extra road capacity for cars should not be supported. Instead, they recommend greater attention should be given to schemes that focus on demand management, improvements in public transport, and active travel. This, they say, will help to reduce non-essential traffic and make capacity available for essential road users, including freight operators. We have accepted the report's case for change. We will not get to net zero unless we stop doing the same thing over and over. Where we can create an easier alternative to driving, let's do so. It's an approach that will bring multiple benefits, and it will help those who have no alternative to the car to go about their business. That's the best way to address congestion and costs for businesses in the short term. And in the longer term, economists have warned us that the knock-on consequences of rising temperatures will trigger annual falling rates of gross domestic product of between 5 per cent and 7 per cent, bringing profound harm to jobs and investment. So, there is no long-term conflict between the environment and the economy. Our policies will help both. We need both. The national transport delivery plan that we are publishing today lists the road schemes that we will continue to develop over the next five years. Where the roads review panel has recommended a scheme should not proceed, we will not be progressing with that scheme as planned. But where there is an agreed transport problem, we will work with the scheme sponsors to identify a solution that meets the new tests for investment. Our new roads policy makes clear that we will continue to invest in new and existing roads, but, to qualify for future funding, the focus should be on minimising carbon emissions, not increasing capacity, not increasing emissions through higher vehicle speeds, and not adversely affecting ecologically valuable sites. For those roads that are designed to link to sites of economic development, the report has made a series of suggestions, and I have asked Councillor Anthony Hunt, the leader of Torfaen council, and Councillor Llinos Medi, the leader of Ynys Môn council, to work with us to find a practical way of allowing for growth sites to go forward that is consistent with our planning and transport policies. Llywydd, let's remember what Julie James and I said when we took up our posts: in this decade, Wales has to make greater cuts in emissions than we have in the whole of the last three decades combined. Greater cuts in the next 10 years than we've managed in the whole of the last 30. That's what the science says we need to do. We know what's coming. Our task is to futureproof Wales. I would urge Members to read the roads review panel report in full. None of this is easy, but neither is the alternative. The UN general secretary has warned that, unless we act decisively now, we face a climate catastrophe. I say this with all sincerity to all Members: if we are to declare a climate and nature emergency, legislate to protect the well-being of future generations, which we've done, and put into law a requirement to reach net zero by 2050, we simply have to be prepared to follow through, and I'm very grateful to the roads review panel for helping us set out a way to do that. Diolch.
Mae'r adroddiad yn mynegi bod angen i ni wneud mwy i ofalu am y ffyrdd sydd gennym ni eisoes, a rhoi mwy o sylw i gefnogi cludo nwyddau. Rwyf i wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw ar adolygiad o'n dull ni o gynnal a chadw ffyrdd, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi cynllun cludo nwyddau yn ddiweddarach yn y flwyddyn hefyd. Mae angen ffyrdd arnom ni, ond mae angen i ni gofio nad ar gyfer ceir yn unig y mae ffyrdd. Dywedodd y panel fod angen i ni roi mwy o flaenoriaeth i fysiau a rhwydweithiau teithio llesol mewn cynlluniau ar gyfer ffyrdd. Mae'r adroddiad yn mynegi hefyd, lle ceir pryderon ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd, y dylem ni ystyried yn gyntaf leihau cyflymder mewn mannau lle ceir gwrthdrawiadau. A phan fyddwn ni'n bwrw ymlaen â chynllun newydd, fe ddylem ni ddewis yr un sydd â'r effaith amgylcheddol leiaf. Daw tua thraean o'r carbon a gynhyrchir o gynllun ffordd o'r deunyddiau a ddefnyddir wrth adeiladu, goleuo a'i chynnal drwy ei hoes gyfan: dur, concrit, asffalt, dŵr - mae gan bopeth sy'n mynd i gynllun ffordd ôl troed carbon sylweddol ei hun. Ac mae angen i ni leihau'r carbon hwn a gaiff ei ymgorffori, drwy arloesedd, ond drwy wneud y mwyaf o'r hyn sydd gennym ni hefyd. Y ddadl ganolog a gyflwynwyd gan y panel adolygu ffyrdd yw na allwn ni adeiladu ein ffordd allan o dagfeydd. Wrth edrych ar hyn ar ei ben ei hun, yn aml mae achos dros ffordd osgoi neu lôn ychwanegol, ond, yn gronnus, gwaethygu'r broblem a wna hynny. Yn y byrdymor, mae creu lle newydd ar gyfer ffordd yn aml yn cyflymu taith mewn car ac yn gwneud hynny'n fwy deniadol na dewis arall ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn annog mwy o bobl i yrru. Ond gydag amser, mae hyn yn creu mwy o deithiau, gyda phobl yn teithio pellteroedd hirach. Mae hyn yn ei dro yn creu traffig a thagfeydd ychwanegol. Mae'n arwain hefyd at ddatblygiadau manwerthu a phreswyl yn ymddangos yn agos at y cyffyrdd newydd, fel yr ydym wedi'u gweld ledled Cymru. Ac mae'r rhain yn fannau sydd, fel arfer, yn brin o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus neu ddewisiadau o ran teithio llesol, ac felly nid oes gan bobl fawr o ddewis ond eu cyrraedd mewn car, ac mae hyn yn creu mwy o draffig eto, hyd yn oed. Wrth i bobl yrru mwy, mae llai o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n golygu bod llai o wasanaethau yn hyfyw, gan adael pobl â llai fyth o ddewisiadau amgen. Mae hyn yn anfanteisiol yn anghymesur i fenywod a phobl ar incwm isel, yr ydym ni'n gwybod o'r data sy'n fwyaf dibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. I'r rhai sy'n teimlo eu bod nhw'n cael eu gorfodi i redeg car ar gyfer gallu gweithio, fe all y costau fod yn uchel iawn. Mae astudiaethau wedi dangos bod yr aelwydydd tlotaf yn gallu gwario hyd at chwarter eu hincwm ar gostau trafnidiaeth, gan eu rhoi mewn tlodi trafnidiaeth. Nid yn unig y mae ein dull gweithredu wedi bod yn mynd yn gwbl groes i'n polisi hinsawdd a'n polisi cynllunio, mae hefyd wedi bod yn mynd yn gwbl groes i'n polisïau cyfiawnder cymdeithasol, ac mae'n rhaid i hynny newid. Llywydd, nid yw ein hymagwedd ni am y 70 mlynedd diwethaf yn gweithio. Fel mae'r adolygiad yn nodi, mae'r ffordd osgoi a fynnwyd i leddfu tagfeydd yn aml yn arwain at draffig ychwanegol, sydd, ymhen amser, yn dod â galwadau pellach am lonydd ychwanegol, cyffyrdd ehangach a mwy o ffyrdd. Rownd a rownd yr awn ni, gan allyrru mwy a mwy o garbon wrth wneud hynny. Mae hon yn duedd a gydnabyddir yn rhyngwladol y mae academyddion yn ei galw yn 'ysgogi galw'. Ac mae adroddiad y panel yn dweud yn eglur iawn na ddylai cynlluniau sy'n creu mwy o le i geir ar ffyrdd gael eu cefnogi. Yn hytrach, maen nhw'n argymell y dylid rhoi mwy o sylw i gynlluniau sy'n canolbwyntio ar reoli galw, gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a theithio llesol. Fe fydd hyn, medden nhw, yn helpu i leihau traffig nad yw'n hanfodol a sicrhau bod lle digonol ar gael i ddefnyddwyr ffyrdd hanfodol, gan gynnwys cludwyr nwyddau. Rydym ni wedi derbyn achos yr adroddiad dros newid. Ni fyddwn ni'n cyrraedd sero net oni bai ein bod ni'n rhoi'r gorau i wneud yr un peth dro ar ôl tro. Lle gallwn ni greu dewis arall sy'n rhwyddach na gyrru, gadewch i ni wneud hynny. Mae hwn yn ddull a fydd yn dod â llawer o fanteision, ac fe fydd yn helpu'r rhai sydd heb ddewis heblaw am gar i barhau â'u gweithgarwch. Dyna'r ffordd orau i fynd i'r afael â thagfeydd a chostau i fusnesau yn y byrdymor. Ac yn y tymor hirach, mae economegwyr wedi ein rhybuddio y bydd canlyniadau tymereddau cynyddol yn achosi gostyngiad mewn cyfraddau blynyddol o gynnyrch domestig gros o rhwng 5 y cant a 7 y cant, gan beri niwed mawr i swyddi a buddsoddiad. Felly, nid oes unrhyw wrthdaro rhwng yr amgylchedd a'r economi yn yr hirdymor. Bydd ein polisïau ni o gymorth gyda'r ddau. Mae angen y ddau arnom ni. Mae'r cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yr ydym ni'n ei gyhoeddi heddiw yn rhestru'r cynlluniau ffyrdd y byddwn ni'n parhau â'u datblygiad dros y pum mlynedd nesaf. Lle mae'r panel adolygu ffyrdd wedi argymell na ddylai cynllun fynd yn ei flaen, ni fyddwn ni'n bwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw fel y cynlluniwyd. Ond lle mae cytundeb ynglŷn â phroblem drafnidiaeth, fe fyddwn ni'n gweithio gyda noddwyr y cynllun i nodi ateb sy'n bodloni'r profion newydd ar gyfer buddsoddiad. Mae ein polisi ffyrdd newydd yn ei gwneud yn eglur y byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn ffyrdd newydd a ffyrdd sy'n bodoli eisoes, ond, i fod yn gymwys i dderbyn cyllid yn y dyfodol, fe ddylid canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, nid creu mwy o gapasiti, peidio â chynyddu allyriadau drwy gynyddu cyflymder cerbydau, a pheidio â dinistrio safleoedd sy'n werthfawr yn ecolegol. Ar gyfer y ffyrdd hynny sydd wedi eu cynllunio i gysylltu â safleoedd o ddatblygiad economaidd, mae'r adroddiad wedi gwneud cyfres o awgrymiadau, ac rwyf i wedi gofyn i'r Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd cyngor Torfaen, a'r Cynghorydd Llinos Medi, arweinydd cyngor Ynys Môn, weithio gyda ni er mwyn dod o hyd i ddull ymarferol o ganiatáu i safleoedd twf gael eu hyrwyddo sy'n unol â'n polisïau cynllunio a thrafnidiaeth. Llywydd, gadewch i ni gofio'r hyn a ddywedodd Julie James ac y dywedais i wrth ddechrau yn ein swyddi: yn y degawd hwn, mae'n rhaid i Gymru wneud mwy o doriadau mewn allyriadau nag a wnaethom ni yn y tri degawd diwethaf i gyd gyda'i gilydd. Mwy o doriadau yn y 10 mlynedd nesaf nag a lwyddom yn ystod y 30 diwethaf i gyd. Dyna mae'r wyddoniaeth yn dweud bod angen i ni ei wneud. Fe wyddom ni beth sy'n dod. Ein gorchwyl ni yw paratoi Cymru ar gyfer y dyfodol. Rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen adroddiad y panel adolygu ffyrdd yn llawn. Nid oes dim yn hawdd yn hyn, ond nid yw'r dewis arall yn hawdd chwaith. Mae ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio, oni bai ein bod ni'n gweithredu yn bendant nawr, byddwn ni'n wynebu trychineb hinsawdd. Rwy'n dweud hyn gyda phob diffuantrwydd wrth yr holl Aelodau: os ydym ni am ddatgan argyfwng hinsawdd a natur, a deddfu i ddiogelu llesiant cenedlaethau'r dyfodol, fel gwnaethom ni, a'i gwneud hi'n ofyniad cyfreithiol i gyrraedd sero net erbyn 2050, mae'n rhaid i ni fod yn barod i weithredu ar hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r panel adolygu ffyrdd am ein helpu ni i nodi ffordd o wneud hynny. Diolch.
Deputy Minister, you had a real chance here to get Wales moving again by giving communities across Wales infrastructure they not only need, but really deserve. Residents in all four corners of Wales have been on tenterhooks for nearly two years while this backwards road building ban has been in place. But the wait is finally over, just under 60 schemes went under the microscope as part of your review, and now we find out just a handful have been spared the axe and will be going ahead as planned. Deputy Minister, given people in those areas have been waiting for action for so long, when exactly do you expect the diggers to hit the ground? Whilst news of some of the projects being waved through will be very much welcomed by commuters, visitors and residents in those areas, the misery, mayhem and uncertainty for everyone else in limbo is still unfortunately going to carry on. Deputy Minister, what will you say to all those people who are going to carry on suffering as a direct result of your decision? What do you say, Deputy Minister, to all those businesses that are struggling to operate and will now continue to struggle because of this decision? I know that you get great pleasure from blaming the UK Government for all of your shortcomings. However, I feel like I should remind you that your Government did return £155 million back to Westminster because you simply didn't spend it in Wales for the people of Wales. And I don't need to remind you that many areas of transport that we talk about are, in fact, devolved. To you, Deputy Minister, roads might be these awful stretches of concrete, but to us, businesses, commuters and residents, they are a necessity. We need adequate roads to run a top-quality public transport network, to help businesses thrive, and to get the economy firing on all cylinders - just some of the few reasons why I speak so passionately about this. I understand that some projects might eventually be given the green light if some tweaks and amendments are made and they pass your rings-of-fire tests that are now in place. So, given that £24 million had already been spent on road projects in research and development before this freeze took place, who is now going to foot the bill for the redesign work? The director of the Civil Engineering Contractors Association has contacted us saying that he wants some urgent clarity on the matter of what's going to be happening moving forward. I also have some concerns about two councillors, Labour's Anthony Hunt and Plaid's Llinos Medi, tasked with reviewing projects that are economic development sites going forward. Couldn't a panel of independent people have been assembled to explore this, instead of two politically aligned councillors? One of the review's recommendations was to provide better parking facilities and rest areas for heavy goods vehicle drivers, something I welcome and have been long calling for, alongside the Road Haulage Association, to achieve. Can I have a firm confirmation from you, Deputy Minister, that this will indeed happen, and when exactly you expect these improvements to be made? When you announced a road building freeze, Deputy Minister, and I quote you now, you said, 'we need a shift away from spending money on projects that encourage more people to drive, and invest in real alternatives that give people a meaningful choice.' Now, if that is the case, Deputy Minister, why has your Government slashed spending within active travel for 2023-24 from the mooted £223 million to £184 million? What exactly are these so-called 'real alternatives' that you are supposedly investing in, Deputy Minister? You claim that you want to stop spending money on things that encourage people to drive. Fair enough. So, I'm curious to know, Deputy Minister, why your Government has not spent a single penny on advertising active travel since 2018. Strangely, your Government also did not spend anything on advertising public transport during 2021-22. And, now, let's turn to the transport plan. You said that it would prioritise climate change, social justice and equality. Correct? Yet, having read the full version of 162 pages and the short version of 16 pages, it did not acknowledge anywhere transport poverty or make any note of how your work with transport operators to reduce fares is going forward. So, what are you and your colleagues doing to ease the financial burden on those actually using public transport, Deputy Minister? Across the border in England, the Conservative UK Government has introduced a £2 cap on bus fares. Deputy Minister, why haven't we got a similar scheme here in Wales for our commuters? And will you seriously look into this, because I have no doubt that it will encourage more people to use buses? Another one of the plan's aims is that by 2025 all users of electric cars and vans in Wales are confident that they can access electric vehicle charging infrastructure when and where they need it. How is this going to work, Deputy Minister, Because it looks to me that you're royally failing with just 39 public charging devices per 100,000 of the population in Wales? It's just not sufficient. With Wales having the lowest level of rapid or quicker charging devices, are you confident that you're going to hit this target? One of the plan's priorities is to get more people working from home. I must admit that did make me laugh, because to me it felt like you are basically saying that the transport network in Wales is so poor that you'd rather keep people at home, instead of providing real solutions. Deputy Minister, it's clear to me that all of this today, mixed with the blanket 20 mph speed limit roll-out and the rumoured congestion charge going forward, only further highlight Labour's anti-car, anti-growth, anti-job agenda. For me, it's seems like Labour's transport strategy is in complete chaos. Deputy Minister, you've previously admitted that your Government doesn't know what it's doing when it comes to the economy. It's now time for you to hold up your hands and, in front of us all, admit that you clearly don't know what you're doing when it comes to transport as well.
Dirprwy Weinidog, roedd gennych chi gyfle gwirioneddol yma i gael Cymru yn symud unwaith eto drwy roi seilwaith i gymunedau ledled Cymru yr oedden nhw nid yn unig ei angen, ond yn ei haeddu. Mae trigolion ym mhob cwr o Gymru wedi bod ar bigau'r drain ers bron i ddwy flynedd tra bod y gwaharddiad er gwaeth hwn ar adeiladu ffyrdd wedi bod ar waith. Ond nawr mae'r disgwyl ar ben o'r diwedd, fe aeth ychydig o dan 60 cynllun o dan y microsgop yn rhan o'ch adolygiad chi, ac yn awr rydyn ni'n darganfod mai dim ond llond llaw sydd wedi eu harbed o'r tân ac yn bwrw ymlaen fel y cynlluniwyd. Dirprwy Weinidog, o ystyried bod pobl yn yr ardaloedd hynny wedi bod yn aros cyhyd am weithredu, pryd yn union ydych chi'n disgwyl i'r peiriannau cloddio ddechrau gweithio? Er y bydd newyddion am rai o'r prosiectau sy'n cael eu chwifio drwodd yn cael eu croesawu yn fawr gan gymudwyr, ymwelwyr a thrigolion yn yr ardaloedd hynny, mae'r diflastod, yr anhrefn a'r ansicrwydd i bawb arall mewn anwybodaeth a fydd yn parhau, yn anffodus. Dirprwy Weinidog, beth ydych chi am ei ddweud wrth y bobl hyn a fydd yn dal i ddioddef o ganlyniad uniongyrchol i'ch penderfyniad? Beth ydych chi am ei ddweud, Dirprwy Weinidog, wrth y busnesau hyn i gyd sy'n ei chael hi'n anodd dal ati ac a fydd nawr yn dal i straffaglu oherwydd y penderfyniad hwn? Fe wn eich bod yn cael pleser mawr o weld bai ar Lywodraeth y DU am eich holl ddiffygion chi. Serch hynny, rwy'n teimlo y dylwn i eich atgoffa chi fod eich Llywodraeth chi wedi rhoi £155 miliwn yn ôl i San Steffan am na wnaethoch chi ei wario yng Nghymru ar bobl Cymru. Ac nid oes unrhyw angen i mi eich atgoffa chi bod llawer o feysydd trafnidiaeth yr ydym yn siarad amdanyn nhw, mewn gwirionedd, wedi eu datganoli. I chi, Dirprwy Weinidog, gallai ffyrdd fod yn ddarnau dychrynllyd o goncrit fel hyn, ond i ni, busnesau, cymudwyr a thrigolion, maen nhw'n angenrheidiol. Mae angen ffyrdd digonol arnom ni i redeg rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus o'r safon uchaf, i helpu busnesau i ffynnu, a rhedeg injan yr economi yn briodol - dim ond rhai o'r ychydig resymau pam rwy'n siarad mor angerddol am hyn. Rwy'n deall y gallai rhai prosiectau gael y golau gwyrdd yn y pen draw os gwneir peth mireinio a gwelliannau a'u bod yn pasio eich profion gorchestol sydd ar waith erbyn hyn. Felly, o ystyried bod £24 miliwn eisoes wedi cael ei wario ar brosiectau ffyrdd ar ffurf ymchwil a datblygu cyn i'r gwaharddiad hwn ddigwydd, pwy fydd yn talu'r bil nawr am y gwaith o ailgynllunio? Mae cyfarwyddwr Cymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil wedi cysylltu â ni gan ddweud bod angen peth eglurder ar unwaith o ran yr hyn a fydd yn digwydd wrth symud ymlaen. Mae gen i bryderon hefyd am ddau gynghorydd, Anthony Hunt o'r Blaid Lafur a Llinos Medi o Blaid Cymru, sydd â'r dasg o adolygu prosiectau safleoedd datblygu economaidd wrth symud ymlaen. Oni allai panel o bobl annibynnol gael eu hymgynnull i archwilio hyn, yn lle dau gynghorydd sydd ag aliniad gwleidyddol? Un o argymhellion yr adolygiad oedd darparu gwell cyfleusterau parcio a mannau gorffwys ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, rhywbeth rwy'n ei groesawu ac wedi bod yn galw amdano ers tro, ochr yn ochr â'r Gymdeithas Cludo ar Ffyrdd, i gyflawni hyn. A gaf i gadarnhad pendant gennych chi, Dirprwy Weinidog, y bydd hyn yn wir yn digwydd, a phryd yn union yr ydych chi'n disgwyl i'r gwelliannau hyn gael eu gwneud? Pan wnaethoch chi gyhoeddi'r gwaharddiad ar adeilad ffyrdd, Dirprwy Weinidog, ac rwy'n eich dyfynnu chi nawr, fe ddywedoch chi, 'mae angen inni symud oddi wrth wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru, a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn sy'n rhoi dewis ystyrlon i bobl.' Nawr, os yw hynny'n wir, Dirprwy Weinidog, pam mae eich Llywodraeth chi wedi torri gwariant o fewn teithio llesol ar gyfer 2023-24 o'r £223 miliwn a grybwyllwyd i £184 miliwn? Beth yn union yw'r 'dewisiadau amgen go iawn' honedig hyn yr ydych chi'n buddsoddi ynddyn nhw yn ôl y sôn, Dirprwy Weinidog? Rydych chi'n honni eich bod chi am roi'r gorau i wario arian ar bethau sy'n annog pobl i yrru. Digon teg. Felly, rwy'n awyddus i wybod, Dirprwy Weinidog, pam nad yw eich Llywodraeth chi wedi gwario'r un geiniog ar hysbysebu teithio llesol ers 2018. Yn rhyfedd iawn, ni wnaeth eich Llywodraeth wario unrhyw beth chwaith ar hysbysebu trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod 2021-22. Ac yn awr, gadewch i ni droi at y cynllun trafnidiaeth. Roeddech chi'n dweud y byddai hwnnw'n blaenoriaethu newid hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Cywir? Eto i gyd, ar ôl darllen y fersiwn lawn o 162 tudalen a'r fersiwn fer o 16 tudalen, nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth o dlodi trafnidiaeth nac unrhyw arwydd o sut mae eich gwaith gyda gweithredwyr trafnidiaeth am leihau prisiau teithio wrth symud ymlaen. Felly, beth ydych chi a'ch cydweithwyr yn ei wneud i leddfu'r baich ariannol sydd ar y rhai sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus mewn gwirionedd, Dirprwy Weinidog? Dros y ffin yn Lloegr, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi cyflwyno cap o £2 ar brisiau bws. Dirprwy Weinidog, pam nad oes gennym ni gynllun tebyg yma yng Nghymru i'n cymudwyr ni? Ac a fyddwch chi'n ystyried hyn o ddifrif, oherwydd nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y byddai'n annog mwy o bobl i ddefnyddio bysiau? Un arall o amcanion y cynllun yw erbyn 2025 y bydd ddefnyddwyr ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallan nhw fod o fewn cyrraedd seilwaith gwefru cerbydau trydan pan fo angen. Sut fydd hyn yn gweithio, Dirprwy Weinidog, oherwydd rwy'n amau eich bod chi'n fethiant llwyr gyda dim ond 39 dyfais gwefru cyhoeddus fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru? Nid yw hynny'n ddigonol. Gyda Chymru â'r gyfradd leiaf o ddyfeisiau gwefru cyflym neu gyflymach, a ydych chi'n hyderus eich bod chi am gyrraedd y nod hwn? Un o flaenoriaethau'r cynllun yw cael mwy o bobl i weithio o gartref. Mae'n rhaid i mi gyfaddef y gwnaeth hynny i mi chwerthin, oherwydd i mi roedd hi'n debyg eich bod chi, yn ei hanfod, yn dweud fod y rhwydwaith drafnidiaeth yng Nghymru mor wael y byddai'n well gennych chi gadw pobl yn eu cartrefi, yn lle cynnig datrysiadau gwirioneddol. Dirprwy Weinidog, mae hi'n amlwg i mi nad yw hyn i gyd heddiw, yn gymysg oll â'r terfyn cyflymder 20 mya cyffredinol sy'n cael ei gyflwyno a'r tâl tagfeydd y sibrydir amdano wrth symud ymlaen, yn gwneud dim ond tynnu sylw pellach at agenda gwrth-gar, gwrth-dwf, gwrth-swydd Llafur. I mi, mae'n ymddangos bod strategaeth drafnidiaeth Llafur mewn anhrefn llwyr. Dirprwy Weinidog, rydych chi wedi cyfaddef yn y gorffennol nad yw eich Llywodraeth chi'n gwybod beth mae hi'n ei wneud o ran yr economi. Mae hi'n hen bryd nawr i chi godi eich dwylo a chyfaddef, gerbron pawb ohonom ni, ei bod hi'n amlwg nad ydych chi'n gwybod beth yr ydych chi'n ei wneud o ran trafnidiaeth chwaith.
Well, I do know how to read a budget, and I'm afraid she's got the complete wrong end of the stick while reading ours. There was no cut from £220 million to £180 million on active travel. I don't know where she gets these figures from; that's a complete fantasy, and, as for handing £155 million back to the Treasury, I think that's an act of fantasy too. I appreciate we might have wrong-footed Natasha Asghar with today's announcement, because I've been reading increasingly alarmist pieces from her on how I was going to bring about the end of humanity as we know it, and clearly we've come up with a sensible set of recommendations based on independent experts, agreed as a consensus for them, agreed as a consensus within Government, greeted warmly by local government, that makes us meet the challenges ahead of us. As I say to her and her colleagues, with the greatest of respect, if we sign up to targets of net zero by 2050, we have to be prepared to do things differently. Let me quote this to them: 'the longer we fail to act, the worse it gets and the higher the price when we are eventually forced, by catastrophe, to act It's one minute to midnight on that doomsday clock, and we need to act now. If we don't get serious about climate change today, it will be too late for our children to do so tomorrow.' That was said by a Conservative Prime Minister less than a year ago. So, the words on net zero are there, certainly amongst her party in London - less so here. But it's no good saying words unless you're prepared to do things differently. All I've heard from her is a set of slogans that she wants to create wedge issues to wind people up over. I haven't heard a single constructive suggestion of how, if we accept we need to achieve net zero, we do it in transport. That's what we've done here; we've taken that exam question: 'How do we achieve net zero in our roads programme? Let's go away and examine that.' That's what's happened, and that's what we've come up with: a credible, practical, pragmatic way forward that keeps building roads, but builds roads that don't keep adding to our problems. And that's the difference, I'm afraid, between opposition and Government: we can't speak in slogans; we have to look at practical projects to take forward, and that's what we've done. I'm sure, when she has a chance to read the report in more detail, she will realise that we have set out a pragmatic way forward. And if she has other suggestions of ways we can bring emissions down, I'm all ears.
Wel, rwy'n gwybod sut i ddarllen cyllideb, ac rwy'n ofni ei bod hi wedi camddeall yn llwyr wrth ddarllen ein un ni. Ni chafwyd toriad o £220 miliwn i £180 miliwn ar deithio llesol. Wn i ddim o ble y cafodd hi'r ffigyrau hyn; mae hynna'n ffantasi llwyr, ac, o ran rhoi £155 miliwn yn ôl i'r Trysorlys, rwy'n credu bod honno'n weithred ffantasïol hefyd. Rwy'n gwerthfawrogi y gallem ni fod wedi rhoi Natasha Asghar dan anfantais gyda'r cyhoeddiad heddiw, oherwydd rwyf i wedi bod yn darllen darnau cynyddol frawychol ganddi hi ynglŷn â sut yr oeddwn i am esgor ar ddiwedd y ddynoliaeth fel rydyn ni'n ei hadnabod, ac yn amlwg rydyn ni wedi cynnig cyfres synhwyrol o argymhellion ar sail gwaith arbenigwyr annibynnol, a gytunwyd yn gyffredin ganddyn nhw, a gytunwyd yn gyffredin yn y Llywodraeth, ac a dderbyniwyd yn dda gan lywodraeth leol, sy'n golygu ein bod ni'n ymdrin â'r heriau sydd o'n blaenau. Fel y dywedais i wrthi hi a'i chydweithwyr, gyda'r parch mwyaf, os ydyn ni am ymrwymo i nodau sero net erbyn 2050, mae'n rhaid i ni fod yn barod i wneud pethau mewn ffordd wahanol. Gadewch i mi ddyfynnu hyn ar eu cyfer nhw: 'po hwyaf y byddwn ni'n methu â gweithredu, y gwaethaf y bydd hi a'r uchaf fydd y pris pan fyddwn ni'n cael ein gorfodi yn y pen draw, trwy drychineb, i wneud rhywbeth Mae hi'n un funud i hanner nos ar y cloc dydd y farn hwn, ac mae angen i ni weithredu nawr. Os nad ydyn ni'n cymryd newid hinsawdd o ddifrif heddiw, fe fydd hi'n rhy hwyr i'n plant ni wneud felly yfory.' Cafodd hynny ei ddweud gan Brif Weinidog Ceidwadol lai na blwyddyn yn ôl. Felly, mae'r geiriau hyn ar sero net yno, yn sicr ymysg ei phlaid hi yn Llundain - yn llai felly yn y fan hon. Ond nid yw hi o unrhyw les dweud geiriau oni bai eich bod chi'n barod i wneud pethau mewn ffordd wahanol. Y cyfan a glywais ganddi hi yw cyfres o sloganau y mae hi'n awyddus i'w hybu ar gyfer cynhyrfu pobl. Ni chlywais i'r un awgrym adeiladol o ran sut, os ydym ni'n derbyn bod angen i ni gyflawni nod sero net, y byddwn ni'n gwneud hynny gyda thrafnidiaeth. Dyna wnaethom ni yma; rydyn ni wedi cymryd y cwestiwn arholiad hwn: 'Sut mae sicrhau sero net yn ein rhaglen ffyrdd? Gadewch i ni fynd oddi yma ac archwilio hynny.' Dyna sydd wedi digwydd, a dyna beth y gwnaethom ni ei gynnig: ffordd ymlaen sy'n gredadwy, ymarferol, bragmataidd sy'n dal ati i adeiladu ffyrdd, ond yn adeiladu ffyrdd nad ydyn nhw'n parhau i ychwanegu at ein problemau ni. A dyna'r gwahaniaeth, mae arna' i ofn, rhwng gwrthblaid a Llywodraeth: nid ydyn ni'n gallu siarad ar sloganau; mae'n rhaid i ni roi ystyriaeth i brosiectau ymarferol ar gyfer symud ymlaen, a dyna a wnaethom ni. Rwy'n siŵr, pan gaiff hi'r cyfle i ddarllen yr adroddiad yn fwy manwl, fe wnaiff hi sylweddoli ein bod ni wedi nodi ffordd bragmataidd ymlaen. Ac os oes ganddi hi awgrymiadau eraill i ni o ran dulliau ar gyfer lleihau allyriadau, fe fydda' i'n glustiau i gyd.
Diolch, Weinidog. I would have hoped that everyone in the Chamber would agree that addressing climate change is one of the greatest challenges of our time. The science is clear: if we don't take bold action to reduce greenhouse gas emissions, we will have no future. So, the roads review and all of the difficult decisions it entails has to be seen in that context. The principle is one I welcome - how can we not? But, the policy is far from perfect, because we need to find ways of helping people to change their lives, but many of the areas where road building projects have been paused are already underserved by public transport links. I have concerns, Minister, about the effect that this will have on the lives of people who live in those areas. Many people in rural Wales rely on private vehicles to get around, just like many people in Valleys communities rely on buses. We, of course, have to change that over-reliance on cars, but it won't happen overnight. It's the transition period that I'm most concerned about, because many people will rely on roads to get to work, to access essential services, to visit friends and family, and a pause on new roads without, perhaps, more certain investment in public transport could mean longer journeys, increased travel costs and reduce access to important services. So, it's the social justice element of this that I'm concerned about. That's why I believe it's important that the Welsh Government needs to be clear about what other steps it will take to respond to air pollution that absolutely are essential. I know that reducing emissions from transport is a critical part of the solution. It can't be the only solution, of course. We need to consider the needs of all communities, to work together to find ways to reduce emissions and improve air quality. So, in terms of the other steps that the Welsh Government needs to take to respond to air pollution, surely key to all of this needs to be investment in alternative modes of transport, like public transport. This should surely be the most important time to promote and provide certainty about funding for public transport. I would associate myself with the comments already made in the Siambr earlier today about the certainty over bus service funding. Now, I know that active travel, Minister, is something that's close to your heart, and I welcome the point that you made about giving priority with roads to active travel routes to buses. I would welcome more information on that, because investing in these alternative modes would reduce the number of cars on the road and help to reduce emissions. Surely we should also be investing in electric vehicle infrastructure so that people can switch to cleaner, more sustainable forms of transport. There is chronic underfunding in that area. It's welcome to say that we want better bus services and modal shift. It's not just welcome, it's vital. But, with all of these things, they will rely on roads still. Again, it's the transition that I'm concerned about. Secondly, would you agree, Minister, that we need to promote low-emission zones in our cities to help reduce emissions in our most populated areas and improve air quality for those who live and work there? I think there's something particularly to be said about improved monitoring of air pollution, particularly outside schools. Again, these interventions need to be undertaken in concert, of course, with the plan. Finally, do you agree that we need to educate and empower people with the knowledge about the importance of reducing emissions and the impact that air pollution has on our health? Because if we work together to encourage people to make sustainable choices like using public transport - where it's available, of course, and making it more available - cycling, reducing energy use, that will help change, perhaps, the perception so that people don't feel that this is something that is being done to them, that it's a decision that they're part of as well, and getting that buy-in through the education system. So, the roads review policy, I think, is a step in the right direction. It's a direction we have to go in, or we'll be swallowed by smog, but people have to be taken in that direction. There needs to be a route through for them to get there. The policy isn't perfect, but we need a comprehensive, integrated approach to addressing air pollution, to reducing emissions. It should include all of these different pieces coming together alongside sustainable agriculture and education. I think the obvious point here as well is about legislation. We need the clean air Bill soon. An update on that would be very welcome as well. Together, we have to create a cleaner, greener, more sustainable future for Wales. I think that we want here - . We have to be en route to the same destination, but we need to make it easier and not harder for people to get there. So, let's work together to make that a reality.
Diolch, Gweinidog. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno mai mynd i'r afael â newid hinsawdd yw un o heriau mwyaf ein hoes. Mae'r wyddoniaeth yn eglur: os na wnawn ni gymryd camau beiddgar i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ni fydd gennym ddyfodol. Felly, mae'n rhaid gweld yr adolygiad ffyrdd a'r holl benderfyniadau anodd y mae hynny'n eu golygu yn y cyd-destun hwnnw. Mae'r egwyddor yn un yr wyf i'n ei chroesawu - sut na allem ni? Ond, mae'r polisi ymhell o fod yn berffaith, oherwydd mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o helpu pobl i newid eu bywydau, ond mae llawer o'r ardaloedd lle mae prosiectau adeiladu ffyrdd wedi cael eu gohirio yn cael eu tanwasanaethu gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus eisoes. Mae pryderon gennyf i, Gweinidog, am yr effaith a gaiff hyn ar fywydau pobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Mae llawer o bobl yng nghefn gwlad Cymru yn dibynnu ar gerbydau preifat i fynd o gwmpas, yn union fel mae llawer o bobl yng nghymunedau'r Cymoedd yn dibynnu ar fysiau. Mae'n rhaid i ni, wrth gwrs, newid yr orddibyniaeth honno ar geir, ond ni fydd hynny'n digwydd dros nos. Dyma'r cyfnod pontio sy'n peri'r pryder mwyaf i mi, oherwydd fe fydd yna lawer o bobl yn dibynnu ar ffyrdd i gyrraedd eu gwaith, i allu cael gafael ar wasanaethau hanfodol, i ymweld â ffrindiau a theulu, ac fe allai ataliad ffyrdd newydd heb, efallai, fuddsoddiad mwy penodol mewn trafnidiaeth gyhoeddus olygu teithiau hirach, cynnydd mewn costau teithio a rhwystro hygyrchedd gwasanaethau pwysig. Felly, yr elfen cyfiawnder cymdeithasol yn hyn o beth sy'n fy mhoeni i. Dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i Lywodraeth Cymru fod yn eglur ynghylch pa gamau eraill y bydd hi'n eu cymryd ar gyfer yr ymateb cwbl hanfodol i lygredd aer. Fe wn i fod lleihau allyriadau o drafnidiaeth yn rhan hanfodol o'r ateb. Ni all hwnnw fod yr unig ateb, wrth gwrs. Mae angen i ni ystyried anghenion pob cymuned, a chydweithio i ddod o hyd i ffyrdd o leihau allyriadau a gwella ansawdd aer. Felly, o ran y camau eraill y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd i ymateb i lygredd aer, siawns nad oes angen i hyn i gyd fod yn fuddsoddiad mewn dulliau teithio amgen, fel trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n siŵr mai dyma'r amser pwysicaf i hyrwyddo a rhoi sicrwydd o ran cyllid i drafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n dymuno ategu'r sylwadau a wnaethpwyd yn barod yn y Siambr yn gynharach heddiw ynglŷn â sicrwydd o gyllid i wasanaethau bws. Nawr, fe wn i fod teithio llesol, Gweinidog, yn rhywbeth sy'n agos at eich calon, ac rwy'n croesawu'r pwynt a wnaethoch chi am roi blaenoriaeth i ffyrdd ar gyfer llwybrau teithio llesol at fysiau. Fe fyddwn i'n croesawu mwy o wybodaeth am hynny, oherwydd fe fyddai buddsoddi yn y dulliau amgen hyn yn lleihau nifer y ceir ar y ffordd ac yn helpu i leihau allyriadau. Siawns na ddylem ni fod yn buddsoddi hefyd mewn seilwaith cerbydau trydan fel gall pobl newid i fathau glanach, mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Mae'r tanariannu yn y maes hwnnw'n alaethus. Mae croeso i ni ddweud ein bod ni'n awyddus i fod â gwell gwasanaethau bws a newid dulliau teithio. Nid dim ond croeso sydd i hynny, mae'n rhywbeth hanfodol. Ond, fel gyda'r pethau hyn i gyd, fe fyddan nhw'n dal i fod yn ddibynnol ar ffyrdd. Eto i gyd, y pontio sy'n fy mhoeni i. Yn ail, a fyddech chi'n cytuno, Gweinidog, bod angen i ni hyrwyddo parthau allyriadau isel yn ein dinasoedd i helpu i leihau allyriadau yn ein hardaloedd mwyaf poblog a gwella ansawdd aer i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y mannau hynny? Rwy'n credu bod rhywbeth arbennig i'w ddweud am fonitro llygredd aer yn well, yn enwedig y tu allan i ysgolion. Unwaith eto, mae angen ymgymryd â'r ymyriadau hyn ar y cyd, wrth gwrs, â'r cynllun. Yn olaf, a ydych chi'n cytuno bod angen i ni addysgu a grymuso pobl gyda gwybodaeth am bwysigrwydd lleihau allyriadau a'r effaith y mae llygredd aer yn ei gael ar ein hiechyd ni? Oherwydd os ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i annog pobl i wneud dewisiadau cynaliadwy fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus - lle mae honno ar gael, wrth gwrs, a'i gwneud yn fwy hygyrch - beicio, lleihau'r defnydd o ynni, fe fyddai hynny'n helpu i newid, efallai, y syniad nad yw pobl yn teimlo mai rhywbeth sy'n cael ei wneud er eu mwyn nhw yw hyn, a'i fod yn benderfyniad y maen nhw'n rhan ohono hefyd, ac yn cael eu dysgu am eu cyfranogiad drwy'r system addysg. Felly, mae'r polisi adolygu ffyrdd, rwy'n credu, yn gam i'r cyfeiriad cywir. Mae hwnnw'n gyfeiriad y mae'n rhaid i ni fynd iddo, neu fe gawn ein llyncu gan fwrllwch, ond mae'n rhaid tywys pobl i'r cyfeiriad hwnnw. Mae angen llwybr trwodd iddyn nhw gyrraedd yno. Nid yw'r polisi yn berffaith, ond mae angen dull cynhwysfawr, integredig arnom ni o fynd i'r afael â llygredd aer, i leihau allyriadau. Fe ddylai gynnwys yr holl ddarnau amrywiol hyn yn dod at ei gilydd ochr yn ochr ag amaethyddiaeth gynaliadwy ac addysg. Rwy'n credu hefyd fod y pwynt amlwg yn hyn o beth yn ymwneud â deddfwriaeth. Mae angen y Bil aer glân arnom ni'n fuan. Fe fyddai croeso mawr i ddiweddariad ynglŷn â hynny hefyd. Gyda'n gilydd, mae'n rhaid i ni greu dyfodol glanach, gwyrddach, mwy cynaliadwy i Gymru. Rwy'n credu ein bod ni eisiau yma - . Mae'n rhaid i ni fod ar y ffordd i'r un gyrchfan, ond mae angen i ni ei gwneud hi'n haws ac nid yn anos i bobl gyrraedd yno. Felly, gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wireddu hynny.
Thank you for your broad welcome to the approach, and I certainly agree with you that we need to make it easy for people to make the transition. I think that is absolutely central to the approach that we all need to take. I'm struck with the parallel with our record on recycling. When you think 20 years ago, few people in Wales recycled. Now we have the third best rate in the world. And why is that? Because it's easy. We've taken the pain away and it's now become habitual. People have their own dynamic, and we all know it from our own lives and become quite obsessed about recycling and chasing down the odd bit of cardboard that's gone down the back of the chair. But, when you look at the difference between transport and waste, since 1990, waste has reduced its emissions by 64 per cent. In the same period, transport has reduced its emissions by 6 per cent, even with the rapid gains in vehicle technology we've seen in that time. And you think about the lessons we can draw from that: we became recycling leaders through sustained investment over a decade, central leadership by the Welsh Government, and determined efforts by local authorities working hand in glove. Now, we did that for waste. We need to do that for transport. We need to make the right thing to do, the easiest thing to do, and it's doable, but it requires a change of approach, and that's what today is signalling. And certainly, in terms of air quality, we have an air quality Bill that Julie James, my colleague, will be making a statement about very soon. We have a package of reforms. From bus reform, we have a Bill coming forward later this year, which will put in place a coherent system, in contrast to the wild west of the privatised system that we're dealing with at the moment. We have £1.6 billion of investment going into rail and metros across Wales now. There are new carriages into service this week and every month for the next 18 months, and we've increased by tenfold our investment in active travel. There is more to do, and there is a role for low-emission zones, and that's part of the clean air Bill, and we know that Cardiff council is leading the way in looking at introducing congestion charging. So, I think we have the framework for a policy approach that will tackle this problem. The challenge we have in the short term is the finance we need for buses, and we're all very concerned about the situation the bus industry now faces. The fact of the matter is - . I listened with interest to what Adam Price said in the Chamber earlier, but, collectively, your party and my party have made financial choices. We've prioritised issues. We've prioritised free school meals. We've prioritised cost-of-living measures. We've prioritised, us as a Government, a pay rise for public sector workers. Those are the right things to do. But you can't spend the same money twice, and the money simply isn't in the budget. Adam Price nods, but I'd like to see his workings out. He's seen the Welsh Government budget, just as I have. There is simply money not there in the short term to make up that shortfall, which was never meant to have been sustained; it was an emergency fund. It was never meant to be a permanent solution. That said, we do need to safeguard the network as best as we can. We've managed a three-month extension, and we're working closely with the industry and local authorities to try and do what we can, but, clearly, it's not going to be enough to keep the services as they currently stand, and that is a real shame. Today's announcement is about changing the pipeline for medium- and long-term investments, to shift the funding out of road building schemes into public transport.
Diolch i chi am eich croeso cyffredinol i'r ymagwedd, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi am yr angen i ni ei gwneud hi'n hawdd i bobl bontio. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl ganolog i'r ymagwedd y mae angen i ni i gyd ei gymryd. Rwy'n cael fy nharo gyda'r gyfatebiaeth â'n hanes ni gydag ailgylchu. Pan ydych chi'n meddwl am y peth, 20 mlynedd yn ôl, ychydig iawn o bobl yng Nghymru oedd yn ailgylchu. Nawr mae gennym ni'r drydedd gyfradd orau yn y byd. A pham hynny? Oherwydd mae hynny'n beth rhwydd. Rydym ni wedi cymryd y boen i ffwrdd ac mae wedi mynd yn beth arferol erbyn hyn. Mae gan bobl eu deinamig eu hunain, ac rydyn ni i gyd yn gwybod hyn o'n bywydau ein hunain ac mae hi'n mynd yn obsesiwn mawr am ailgylchu ac ymestyn am y mymryn lleiaf o gardfwrdd sydd wedi syrthio i lawr cefn y gadair. Ond, pan edrychwch chi ar y gwahaniaeth rhwng trafnidiaeth a gwastraff, ers 1990, mae'r allyriadau oherwydd gwastraff wedi lleihau 64 y cant. Yn yr un cyfnod, mae trafnidiaeth wedi lleihau ei allyriadau 6 y cant, hyd yn oed gyda'r enillion cyflym mewn technoleg cerbydau a welsom ni yn yr amser hwnnw. Ac rydych chi'n meddwl am y gwersi y gallwn ni eu defnyddio o hynny: fe ddaethom ni'n arloeswyr ailgylchu drwy fuddsoddiad parhaus dros ddegawd, arweinyddiaeth ganolog gan Lywodraeth Cymru, ac ymdrechion penderfynol gan awdurdodau lleol yn gweithio law yn llaw. Nawr, fe wnaethon ni hynny gyda gwastraff. Mae angen i ni wneud hynny gyda thrafnidiaeth. Mae angen i ni wneud y peth cyfiawn i'w wneud yn beth hawsaf un ei wneud, ac mae hynny'n bosibl, ond mae angen newid dull gweithredu, a dyna'r arwydd sy'n cael ei roi heddiw. Ac yn sicr, o ran ansawdd aer, mae gennym ni Fil ansawdd aer y bydd Julie James, fy nghydweithiwr, yn gwneud datganiad yn ei gylch yn fuan iawn. Mae gennym ni becyn o ddiwygiadau. O ddiwygio bysiau, mae gennym Fil a gaiff ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni, a fydd yn rhoi system gydlynol ar waith, mewn cyferbyniad â gorllewin gwyllt y system breifateiddio yr ydym ni'n ymdrin ag ef ar hyn o bryd. Mae gennym ni £1.6 biliwn o fuddsoddiad yn mynd i'r rheilffyrdd a'r metros ledled Cymru nawr. Mae cerbydau newydd yn dod i'r gwasanaeth yr wythnos hon a phob mis am y 18 mis nesaf, ac rydym ni wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn teithio llesol ddeg gwaith. Mae mwy i'w wneud eto, ac mae swyddogaeth i barthau allyriadau isel, ac mae hynny'n rhan o'r Bil Aer Glân, ac rydym ni'n gwybod mai cyngor Caerdydd sy'n arwain y ffordd wrth edrych ar gyflwyno codi tâl tagfeydd. Felly, rwy'n credu bod y fframwaith gennym ni ar gyfer ymagwedd polisi a fydd yn mynd i'r afael â'r broblem hon. Yr her sydd gennym ni yn y byrdymor yw'r cyllid sydd ei angen arnom ni ar gyfer bysiau, ac rydyn ni i gyd yn bryderus iawn ynglŷn â'r sefyllfa y mae'r diwydiant bysus yn ei hwynebu erbyn hyn. Y gwir amdani yw - . Roeddwn i'n gwrando gyda diddordeb ar yr hyn a ddywedodd Adam Price yn y Siambr yn gynharach, ond, ar y cyd, mae eich plaid chi a'm plaid innau wedi gwneud dewisiadau ariannol. Rydyn ni wedi blaenoriaethu rhai materion. Rydyn ni wedi blaenoriaethu prydau ysgol am ddim. Rydyn ni wedi blaenoriaethu mesurau costau byw. Rydyn ni wedi blaenoriaethu, yn ein Llywodraeth, godiad cyflog i weithwyr yn y sector cyhoeddus. Dyna'r pethau priodol i'w gwneud. Ond allwch chi ddim gwario'r un arian ddwywaith, ac yn syml, nid yw'r arian ar gael yn y gyllideb. Mae Adam Price yn anghytuno, ond fe hoffwn i weld ei gyfrifiadau ef. Fe welodd ef gyllideb Llywodraeth Cymru, fel gwnes innau. Yn syml, nid yw'r arian yno yn y byrdymor i wneud yn iawn am y diffyg hwnnw, nad oedd erioed wedi ei fwriadu i'w gynnal dros amser; cronfa argyfwng oedd honno. Nid oedd hi fyth wedi ei bwriadu i fod yn ddatrysiad parhaol. Wedi dweud hynny, mae angen i ni ddiogelu'r rhwydwaith orau ag y gallwn ni. Rydym ni wedi gallu rhoi estyniad o dri mis, ac rydyn ni'n gweithio yn agos gyda'r diwydiant a'r awdurdodau lleol i geisio gwneud yr hyn a allwn ni, ond, yn amlwg, ni fydd hynny'n ddigon i gadw'r gwasanaethau fel maen nhw ar hyn o bryd, ac mae hynny'n drueni mawr. Ystyr cyhoeddiad heddiw yw ein bod ni'n newid y cyfeiriad ar gyfer buddsoddiadau tymor canol a hirdymor, ar gyfer symud yr arian oddi wrth gynlluniau adeiladu ffyrdd i'w roi i drafnidiaeth gyhoeddus.
There's a long debate to be had over public transport and transport in Wales, but I don't think today is the right time to do it, and I'm sure you don't think that today is the right time to do it. I've got two questions for the Minister. What is the Welsh Government's policy on new roads to land designated in local development plans for housing development? And, in the 1960s, the Llandeilio northern bypass was built. Does the Minister intend to build a second Llandeilo bypass? And, really, how many other towns and cities have got two bypasses?
Mae 'na ddadl hirfaith i'w chynnal ynglŷn â thrafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth yng Nghymru, ond dydw i ddim yn credu mai heddiw yw'r amser priodol i wneud hynny, ac rwy'n siŵr nad ydych chithau yn credu mai heddiw yw'r amser priodol i wneud hynny. Mae gen i ddau gwestiwn i'r Gweinidog. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ffyrdd newydd ar gyfer tir a ddynodwyd mewn cynlluniau datblygu lleol ar gyfer datblygu tai? Ac, yn yr 1960au, fe adeiladwyd ffordd osgoi ogleddol Llandeilo. A yw'r Gweinidog yn bwriadu adeiladu ail ffordd i osgoi Llandeilo? Ac, mewn gwirionedd, faint o drefi a dinasoedd eraill sydd â dwy ffordd osgoi?
Well, thank you for being brief and to the point - much appreciated. So, on the first point about new roads for land identified in local development plans for housing, once you get a chance to look at the roads review, it makes comments on this very subject, and we've had a discussion within Government about the best way to implement this, and this is partly what the review that has already been mentioned that we've asked Anthony Hunt and Llinos Medi to help us with is, to pragmatically marry our planning, transport and climate policies with the development schemes already in place. For example, the project at the Grange near Cwmbran in Llanfrechfa, where, next to the hospital with no bus route, is planned to be a housing estate. Now, we don't want a traditional, edge-of-town, car-dominated housing estate, so the review panel recommends an exemplar project where we build in low car ownership from the get-go, and that's what we want to work with local government to design. Similarly, in Wrexham, the local authority are very disappointed that the roads review panel - and we've accepted - have decided not to build junction enhancements next to a planned large housing estate on the edge of Wrexham town centre, right next to the dual carriageway junctions. Now, we think that will simply create more traffic and will create more congestion. We've said very clearly to Wrexham that we want to work with them to get that development to go ahead, but to do it in a way as an exemplar where we build in low car ownership and we don't contribute to the same problems over and over again. We want access roads to development sites. What we don't want is to use development sites as an excuse to introduce a bypass or a rat run. So, the review panel makes clear that a road in and a road out is what we need, not using edge-of-town developments as a motor for yet more out-of-town roads that generate additional traffic. As for Llandeilo, the Member knows, and it's mentioned in the plan, that the commitment we made in the budget agreement some years ago stands, to investigate options for a Llandeilo bypass. We continue to do that. We are going through the WelTAG process. We have a proposal for a part extension of the road at Ffairfach, and we will be publishing a preference for the next steps in the coming months.
Wel, diolch i chi am fod yn gryno ac i'r pwynt - rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Felly, ar y pwynt cyntaf am ffyrdd newydd ar gyfer tir a nodwyd mewn cynlluniau datblygu lleol ar gyfer tai, pan gewch chi gyfle i edrych ar yr adolygiad ffyrdd, fe geir sylwadau ynddo ar yr union bwnc hwn, ac rydyn ni wedi cael trafodaeth yn y Llywodraeth ynglŷn â'r ffordd orau o weithredu hyn, ac yn rhannol, dyma yw'r adolygiad a grybwyllwyd eisoes yr ydym ni wedi gofyn i Anthony Hunt a Llinos Medi ein cynorthwyo ni ag ef, sef cyplysu ein polisïau cynllunio, trafnidiaeth a hinsawdd mewn ffordd ymarferol â'r cynlluniau datblygu sydd eisoes ar waith. Er enghraifft, y bwriad yw i'r prosiect yn y Faenor ger Cwmbrân yn Llanfrechfa, ar bwys yr ysbyty sydd heb lwybr bysiau, fod yn stad o dai. Nawr, nid ydym ni'n dymuno stad draddodiadol o dai, ar fin tref, yn llawn o geir, felly mae'r panel adolygu yn argymell prosiect enghreifftiol lle byddwn ni'n cynnwys pherchnogaeth ceir isel o'r dechrau, a dyna yr ydym ni'n dymuno gweithio gyda llywodraeth leol i'w ddylunio. Yn yr un modd, yn Wrecsam, mae'r awdurdod lleol yn siomedig iawn fod y panel adolygu ffyrdd - a ninnau'n derbyn - wedi penderfynu peidio ag adeiladu gwelliannau i gyffordd wrth ymyl stad dai fawr a gynlluniwyd ar gyrion canol tref Wrecsam, wrth ymyl cyffyrdd ffordd ddeuol. Nawr, rydyn ni o'r farn y byddai hynny'n gwneud dim ond annog mwy o draffig ac y byddai'n achosi mwy o dagfeydd. Rydyn ni wedi dweud yn eglur iawn wrth Wrecsam ein bod ni'n dymuno gweithio gyda nhw i weld y datblygiad hwnnw'n digwydd, ond yn digwydd mewn ffordd sy'n esiampl o adeiladu gyda golwg ar berchnogaeth isel o geir heb i ni gyfrannu at yr un problemau dro ar ôl tro. Rydyn ni'n awyddus i gael ffyrdd mynediad i safleoedd datblygu. Yr hyn nad ydym ni'n awyddus i'w weld yw defnyddio safleoedd datblygu fel esgus i gael ffordd osgoi neu lwybr answyddogol i osgoi traffig. Felly, mae'r panel adolygu yn egluro mai ffordd i mewn a ffordd allan yw'r hyn sydd ei angen arnom ni, heb ddefnyddio datblygiadau ar ymylon tref i ysgogi mwy fyth o ffyrdd y tu allan i dref sy'n cynhyrchu traffig ychwanegol. O ran Llandeilo, mae'r Aelod yn gwybod, ac fe sonnir am hyn yn y cynllun, fod yr ymrwymiad a wnaethon ni yn y cytundeb cyllideb rai blynyddoedd yn ôl, i ymchwilio i'r dewisiadau am ffordd osgoi i Landeilo, yn parhau. Rydym ni'n parhau i wneud hynny. Rydym ni'n mynd trwy'r broses WelTAG. Mae cynnig gennym ni am estyniad i ran o'r ffordd yn Ffairfach, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi beth fyddai orau gennym ni o ran y camau nesaf yn ystod y misoedd nesaf.
I thank the Deputy Minister for the statement today, but I must say I'm disappointed that, at the point of the statement being read out, we didn't have a copy of the roads review available to us. So, in terms of being able to make a sensible contribution today in response to your statement, that's made it very difficult for many Members in this Chamber. This is a 327-page document now, and you said to us in your statement, 'I would urge Members to read the roads review panel report in full.' It was impossible for us to do that by the time you got on your feet to make the statement. But, nonetheless, looking at the statement - or the report, should I say - since you have been talking, it's clear to me that north Wales is going to miss out massively as a result of this review. Of the 16 projects that are lined up there, the recommendations are for 15 of those to either stop or to be scrapped altogether, and let's look at some of those. You've already mentioned the Wrexham bypass at junctions 3 to 6 on the A55. You've got the A494 Lôn Fawr Ruthin/Corwen Road scheme to be scrapped; the A5/A483 Halton roundabout work to be scrapped; the A55 junctions 15 and 16 to be scrapped; the A55 junctions 32 to 33, that work to be scrapped; the Flintshire corridor improvement work to be scrapped; and then, the kick in the teeth, the third Menai crossing completely dismissed, despite the issues that we've seen across to the island, even in recent months. My constituents in north Wales are going to be extremely concerned not just at this, but also the reports we've heard earlier in regard to the north Wales metro in terms of the amount of investment intended there, compared to what's happening down in south Wales.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ddatganiad heddiw, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n siomedig, pan oedd y datganiad yn cael ei ddarllen, nad oedd copi o'r adolygiad ffyrdd ar gael i ni. Felly, o ran gallu gwneud cyfraniad ystyrlon heddiw mewn ymateb i'ch datganiad, fe wnaeth hynny hi'n anodd iawn i lawer o Aelodau yn y Siambr hon. Mae hon yn ddogfen o 327 tudalen erbyn hyn, ac roeddech chi'n dweud wrthym ni yn eich datganiad, 'Rwy'n annog yr Aelodau i ddarllen adroddiad y panel adolygu ffyrdd yn llawn.' Roedd hi'n amhosibl i ni wneud hynny pan oeddech chi'n codi i wneud y datganiad. Ond, er hynny, wrth edrych ar y datganiad - neu'r adroddiad, fe ddylwn i ddweud - ers i chi fod yn siarad, mae hi'n amlwg i mi y bydd y gogledd ar ei golled yn aruthrol o ganlyniad i'r adolygiad hwn. O'r 16 prosiect a oedd yn yr arfaeth yno, yr argymhellion yw i 15 o'r rhain naill ai gael eu hatal neu eu diddymu yn gyfan gwbl, a gadewch i ni edrych ar rai o'u plith. Rydych chi wedi crybwyll ffordd osgoi Wrecsam eisoes wrth gyffyrdd 3 i 6 ar yr A55. Mae cynllun ffordd Lôn Fawr Rhuthun/Corwen A494 am gael ei ddiddymu gennych chi; mae'r gwaith ar gylchfan A5/A483 Halton i'w ddiddymu; mae cyffyrdd 15 ac 16 yr A55 i'w diddymu; cyffyrdd 32 i 33 yr A55, y gwaith hwnnw i'w ddiddymu; diddymu'r gwaith i wella coridor sir y Fflint; ac yna, yr ergyd fwyaf un, trydedd bont dros y Fenai i'w diystyru yn llwyr, er gwaethaf y problemau a welsom ni ar draws yr ynys, hyd yn oed yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd fy etholwyr i yn y gogledd yn hynod bryderus nid yn unig oherwydd hyn, ond oherwydd yr adroddiadau a glywsom ni'n gynharach o ran metro'r gogledd o ran maint y buddsoddiad a fwriadwyd ar ei gyfer yno, o gymharu â'r hyn sy'n digwydd i lawr yn y de.
You need to ask the question now, please, Sam.
Mae angen i chi ofyn y cwestiwn nawr, os gwelwch chi'n dda, Sam.
I certainly will do. What assurances can you give to my residents in north Wales that they'll get a fair share of public transport investment, which clearly isn't happening at the moment?
Fe fyddaf i'n siŵr o wneud. Pa sicrwydd y gallwch chi eu rhoi i fy nhrigolion yn y gogledd y byddan nhw'n cael cyfran deg o fuddsoddiad trafnidiaeth gyhoeddus, nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd, yn amlwg iawn?
Well, thank you for the question, and can I first of all apologise that the statement wasn't given to you in good time? It certainly was the intention. I think we started a little earlier and, as a result, there was a delay in getting it before I got on my feet, but that was a sin of omission not commission, and I did in fact meet with Natasha Asghar this morning and briefed her and talked her through fully what the report said, as a courtesy. So, certainly no disrespect was meant, and I can apologise sincerely for that. There's still a chance, of course, to digest it. I wouldn't expect the full report to be digested today. I've had several months to digest it, and I wouldn't expect Members to take it all on board immediately. I'm sure there will be further opportunities in this Chamber and in committees to talk in detail about the report, and I'd very much welcome that. In terms of the substance of his charge, I realise he does enjoy driving the north-south divide wedge whenever he has the opportunity, but I think he's misplaced on this one, because what this report is doing is applying the decisions already made on the M4 - a £2 billion project in south-east Wales - and the Burns commission approach in south-east Wales to the rest of Wales. So, it's not a case of one part of Wales being treated differently; this is about, through a staged process, all parts of Wales being subject to the same rationale. We have also set up a Burns commission, as the Member knows, which is currently meeting. It has published its interim report, and it will be engaging with Members for ideas and publishing its proposals in the summer. The idea behind that is just like the Burns commission in the south-east: it'll come up with a pipeline of public transport schemes and other schemes that will be able to be developed up, working jointly with the local authorities, Transport for Wales and the Welsh Government, to put forward for funding to the UK Government for rail schemes and to Welsh Government for other public transport schemes. So, there's no question of the north being treated any differently or being missed out; we've just done this in different phases. On the schemes he mentioned, the Menai crossing certainly hasn't been dismissed. The roads review panel looked at it and decided that it did not stand on its merits. They've looked at that scheme as a stand-alone scheme; we want it looked at properly as part of the Burns work to see its role across the north Wales transport corridor. We've asked Burns to look at the Menai crossing within that context and report as part of its work in July. So, it hasn't been dismissed, but the roads review panel have found that it does not stand against the tests by itself. But there is more work to do on that. In terms of the Flintshire corridor example, that is a classic 1990s-style £350 million bypass through an ancient woodland. I hear Members on your benches often talking about the nature and biodiversity crisis, and this is a scheme that would work in the opposite direction to that agenda. So, I think it's entirely right that that scheme has been stopped in its tracks. Mark Isherwood has been a great champion for cancelling that scheme. So, you've got division in your own ranks on that one, I would say, as indeed do we. It divides opinion, that scheme. But we've said to the local authority that we recognise that, in Aston Hill in particular, there is a transport problem that could well merit a roads-based solution, and we will work with the local authority to come up with something to help the congestion in Aston Hill. So, we're not taking a blanket approach; we're taking a targeted approach to minimise carbon emissions, to stop induced demand and to reduce speeds where we can in order to both deal with transport problems and deal with the climate emergency.
Wel, diolch i chi am y cwestiwn, ac a gaf i'n gyntaf oll ymddiheuro na chafodd y datganiad ei roi i chi mewn da bryd? Yn sicr, dyna oedd y bwriad. Rwy'n credu i ni ddechrau ychydig yn gynt, o ganlyniad i hynny, roedd yna oedi wrth iddo gael ei roi i chi cyn i mi godi, ond pechod trwy esgeulustod yn hytrach nag un bwriadus oedd hwnnw, ac fe wnes i gyfarfod â Natasha Asghar fore heddiw mewn gwirionedd a'i briffio hi a siarad gyda hi am yr hyn a oedd yr adroddiad yn ei ddweud yn llawn, o gwrteisi. Felly, yn sicr ni fwriadwyd unrhyw amarch, ac rwy'n ymddiheuro yn ddiffuant am hynny. Mae yna gyfle o hyd, wrth gwrs, i bori ynddo. Ni fyddwn i'n disgwyl i neb fod yn mynd trwy'r adroddiad i gyd heddiw. Fe gefais i fis i bori ynddo, ac ni fyddwn i'n disgwyl i'r Aelodau ddarllen y cyfan ar unwaith. Rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd pellach yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau eto i siarad yn fanwl am yr adroddiad, ac fe fyddwn i'n croesawu hynny'n fawr. O ran sylwedd y cyhuddiad hwn, rwy'n sylweddoli ei fod ef yn mwynhau gyrru'r hollt rhwng gogledd a de pryd bynnag y caiff gyfle i wneud felly, ond rwy'n credu ei fod ar gyfeiliorn ar yr un yma, oherwydd yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei wneud yw cymhwyso'r penderfyniadau a wnaethpwyd ar yr M4 eisoes - prosiect £2 biliwn yn y de-ddwyrain - ac ymagwedd Comisiwn Burns yn y de-ddwyrain i weddill Cymru. Felly, nid achos yw hwn o un rhan o Gymru yn cael ei thrin yn wahanol; mae hyn yn ymwneud, drwy broses ar gamau, â phob rhan o Gymru yn destun i'r un sail resymegol. Rydyn ni wedi sefydlu comisiwn Burns hefyd, fel gwŷr yr Aelod, sy'n cynnal cyfarfodydd ar hyn o bryd. Fe gyhoeddwyd ei adroddiad interim, ac fe fydd yn ymgysylltu ag Aelodau am syniadau ac yn cyhoeddi ei gynigion yn yr haf. Mae'r syniad y tu cefn i hynny'n union fel comisiwn Burns yn y de-ddwyrain: fe fydd yn cynnig llif prosiectau o gynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau eraill a fydd yn gallu cael eu datblygu, gan weithio ar y cyd â'r awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, i gyflwyno cyllid i Lywodraeth y DU ar gyfer cynlluniau rheilffyrdd a Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus eraill. Felly, nid oes unrhyw gwestiwn o drin y gogledd yn wahanol neu anghofio amdano; fe wnaethom ni hyn mewn gwahanol gyfnodau, a dyna i gyd. O ran y cynlluniau y soniodd ef amdanyn nhw, yn sicr, ni chafodd y drydedd bont dros y Fenai ei diystyru. Edrychodd y panel adolygu ffyrdd arni a phenderfynodd nad oedd ei manteision yn ei chyfiawnhau. Maen nhw wedi edrych ar y cynllun hwnnw fel cynllun ar ei ben ei hun; rydyn ni'n dymuno cael ystyriaeth lawn i'r mater yn rhan o waith comisiwn Burns ynglŷn â choridor trafnidiaeth y gogledd. Rydym ni wedi gofyn i Burns edrych ar bont dros y Fenai yn y cyd-destun hwnnw ac adrodd ar hynny'n rhan o'i waith ym mis Gorffennaf. Felly, ni chafodd hyn ei ddiystyru, ond mae'r panel adolygu ffyrdd wedi canfod nad yw pont arall yn gwrthsefyll y profion ar ei phen ei hun. Ond mae mwy o waith i'w wneud ar hynny eto. O ran enghraifft coridor sir y Fflint, mae honno'n ffordd osgoi glasurol o'r 1990au gwerth £350 miliwn yn torri drwy goetir hynafol. Rwy'n clywed Aelodau ar eich meinciau chi'n sôn yn aml am argyfyngau natur a bioamrywiaeth, ac mae hwn yn gynllun a fyddai'n gweithio yn gwbl groes i'r agenda honno. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl gywir i'r cynllun hwnnw fod wedi cael ei atal lle'r ydoedd. Mae Mark Isherwood wedi bod yn eiriolwr ardderchog dros ganslo'r cynllun hwnnw. Felly, mae gennych chi raniad yn eich rhengoedd eich hun yn hyn o beth, yn fy marn i, fel sydd gennym ninnau, yn wir. Mae hwn yn rhannu barn, y cynllun hwn. Ond rydyn ni wedi dweud wrth yr awdurdod lleol ein bod ni'n cydnabod, yn Aston Hill yn arbennig felly, fod problem trafnidiaeth a allai fod yn deilwng o ddatrysiad sy'n seiliedig ar ffyrdd, ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda'r awdurdod lleol i gynnig rhywbeth i helpu'r tagfeydd yn Aston Hill. Felly, nid ydym ni'n cymryd pob sefyllfa yn yr un modd; rydyn ni'n dilyn dull wedi'i thargedu i leihau allyriadau carbon, sy'n atal cynyddu'r galw ac yn arafu cyflymderau lle gallwn ni er mwyn ymdrin â phroblemau trafnidiaeth yn ogystal ag ymdrin â'r argyfwng hinsawdd.
Minister, this has taken us back a good 15 years, undoing the good work of my predecessor, Ieuan Wyn Jones, when he was transport Minister, undoing the good work of your predecessors in mapping out why the case had been made for a third Menai crossing and which routes should be pursued and why. Can I also comment on the way that this announcement has been made? I have had a chance, in a short period of time, to read through the review and what it said about the Menai crossing. I have just heard reference there to a further review by the Burns wider look at north Wales travel; that's not mentioned in the roads review, as far as I can see. We have here a decision that states very clearly, 'The A55 Third Menai Crossing should not proceed.' That is as clear as it possibly could be. It explains why the third crossing, as planned, runs contrary to Government policy, but the decision itself not to proceed with the crossing, I would argue, runs contrary to the Government's own policy. Look at what the report says among the five stated objectives behind the need for a bridge: improving network resilience and reducing reliance on the use of the Menai suspension bridge. I see no reference whatsoever to the fact that the Menai suspension bridge has been closed for three months. I'd love to know when this was signed off. There was mention of -
Gweinidog, mae hyn wedi mynd â ni yn ein holau 15 mlynedd dda, gan ddadwneud gwaith da fy rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, pan oedd ef yn Weinidog trafnidiaeth, a dadwneud gwaith da eich rhagflaenwyr chi gydag egluro'r achos dros drydedd bont dros y Fenai a pha lwybrau y dylid eu dilyn a pham hynny. A gaf i wneud sylw hefyd ynglŷn â sut y gwnaethpwyd y cyhoeddiad hwn? Rwyf i wedi cael cyfle, mewn byr amser, i ddarllen trwy'r adolygiad a'r hyn yr oedd yn ei ddweud am y bont arall dros y Fenai. Rwyf i newydd glywed cyfeiriad nawr at adolygiad pellach gan olwg ehangach Burns ar deithio yn y gogledd; nid oes unrhyw sôn am hynny yn yr adolygiad ffyrdd, hyd y gwelaf i. Mae gennym ni benderfyniad yma sy'n datgan yn eglur iawn, 'Ni ddylid bwrw ymlaen â Thrydedd Bont y Fenai ar yr A55.' Mae hynny mor eglur ag y gallai fod. Mae hynny'n egluro pam mae'r drydedd bont, fel cynlluniwyd hi, yn mynd yn groes i bolisi'r Llywodraeth, ond mae'r penderfyniad ei hun i beidio â bwrw ymlaen â'r bont, fe fyddwn i'n dadlau, yn mynd yn groes i bolisi'r Llywodraeth ei hun. Edrychwch chi ar yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud ymhlith y pum amcan a nodwyd am yr angen am bont: i wella cydnerthedd rhwydwaith a lleihau'r ddibyniaeth ar y defnydd o bont grog Menai. Ni welaf unrhyw gyfeiriad o gwbl at y ffaith bod pont grog y Fenai wedi bod ar gau am dri mis. Fe fyddwn i wrth fy modd yn gwybod pryd gafodd hwn ei lofnodi. Roedd yna sôn am -
This is of huge importance to my constituents.
Mae hyn o bwys mawr i'm hetholwyr i.
I appreciate that, but we have lots of people who want to speak as well.
Rwy'n deall hynny, ond mae gennym ni lawer o bobl sy'n dymuno siarad hefyd.
There's mention of a site visit; I'd like to know when the site visit happened and whether that saw the chaos caused by the closing of the Menai bridge. It says it's to improve accessibility for pedestrians and cyclists, but another part of the review says that one opportunity for increasing modal shift is to dual the railway line on the Britannia bridge. Is that right? Well, the only place where you could put pedestrians and cyclists currently is on that second rail line across the Britannia bridge. So, you're moving, potentially, pedestrians and cyclists away from the Menai bridge. There is so much that this is contradictory here. It is inconsistent with your own policy. The report speaks of increased regularity and severity of weather events; this is a resilience issue. And do you know what? I agree with the principles behind this roads review. I agree with principle that we need to pursue modal shift, and I agree with the principle that decisions to proceed on roads in future should be based on environmental reasons. But there is a missing link here. There should also be a basic level of resilience within our road network and that is what I have argued long and hard for in terms of the need for a third crossing. We have seen in the last three months -
Mae sôn am ymweliad â'r safle; fe hoffwn i wybod pryd ddigwyddodd yr ymweliad â'r safle ac a roddwyd unrhyw ystyriaeth bryd hynny i'r anrhefn oherwydd cau pont Menai. Mae'n dweud bod hynny ar gyfer gwella hygyrchedd i gerddwyr a beicwyr, ond mae rhan arall o'r adolygiad yn dweud mai un cyfle i gynyddu newid dulliau teithio yw deuoli'r rheilffordd ar bont Britannia. A yw hynny'n gywir? Wel, yr unig le y gallech chi roi cerddwyr a seiclwyr ar hyn o bryd yw ar yr ail reilffordd honno dros bont Britannia. Felly, rydych chi'n symud cerddwyr a beicwyr, o bosibl, oddi ar bont Menai. Mae cymaint o anghysondebau yn hyn. Mae hyn yn anghyson â'ch polisi chi eich hun. Mae'r adroddiad yn sôn am gynnydd yn nifrifoldeb ac amlder digwyddiadau tywydd; mater o gydnerthedd yw hwn. Ac a wyddoch chi beth? Rwy'n cytuno â'r egwyddorion sydd wrth gefn yr adolygiad hwn o ffyrdd. Rwy'n cytuno a'r egwyddor fod angen i ni newid dulliau teithio, ac rwy'n cytuno â'r egwyddor y dylai penderfyniadau i fwrw ymlaen ar ffyrdd yn y dyfodol fod ar sail rhesymau amgylcheddol. Ond mae yna ddolen goll yma. Fe ddylai fod lefel sylfaenol o gydnerthedd fod yn ymhlyg yn ein rhwydwaith ni o ffyrdd a dyna'r wyf i wedi bod yn dadlau yn hir ac yn galed amdano o ran yr angen am drydedd bont. Fe welsom ni yn ystod y tri mis diwethaf -
- what that lack of resilience means. I'm appalled by this decision, the way that it has been made, and the inconsistencies in the way this Government has made this decision today.
- beth mae'r diffyg cydnerthedd hwnnw'n ei olygu. Mae'r penderfyniad wedi fy siomi i'n fawr, yn y ffordd y cafodd ei wneud, a'r anghysondebau yn y ffordd y mae'r Llywodraeth hon wedi dod i'r penderfyniad hwn heddiw.
Perhaps I can explain. I realise there are lots of documents for Members to digest in a short period of time. I did provide a briefing to Plaid Cymru this morning to try and allow you to understand the contours of the decision making here. The roads review is not a report of the Welsh Government; it's an independent report. You're quoting there, accusing us of running contradictory to our own policies; it is an independent report. The national transport delivery plan that we published alongside it is the Government policy response. The schemes included in the national transport delivery plans, based on the recommendations in the independent review, are our response; that's what the Government is supporting. Alongside that is the roads policy statement, which is now the new policy of the Welsh Government, and the tests applied for future funding schemes and in the WelTAG process. The panel makes its view clear on the Menai bridge, based on the tests it has consistently applied across the other 55 schemes. You'll see at the back of the report, in the annex, a chapter with a detailed view on that. He says from a sedentary position, 'It's totally inconsistent.' It's the panel's analysis. It's allowed to be inconsistent. It's not our analysis; it's their analysis. We've asked an independent panel to look at it. We have said - and I've just told him what we have said - 'We will ask the Burns commission to look at this in the broader context of north Wales.' I hear what he says about resilience; we have to balance short-term resilience with a longer term resilience to the climate change issues. At the moment, this is a £400 million scheme for which we do not have the funding. So, regardless of the recommendation in the review, it's a slightly academic point at the moment given the state of our budgets from the UK Government. I know there's a hotly contested race going on in Anglesey, and no doubt Virginia Crosbie will be - [ Interruption. ] Let me finish. No doubt Virginia Crosbie will be issuing press releases this afternoon calling us everything. There is no money from the UK Government to proceed with a third Menai crossing. We're going to look at the Burns commission work in north Wales to look at a whole package of support, and whether or not the resilience case that Rhun ap Iorwerth has just made stands scrutiny or if the work of the roads review is robust in its own terms. We'll return to this question.
Efallai y gallaf i egluro. Rwy'n sylweddoli bod llawer o ddogfennau i'r Aelodau bori drwyddyn nhw mewn byr o amser. Fe wnes i roi sesiwn friffio i Blaid Cymru fore heddiw i geisio caniatáu i chi ddeall cefndir y penderfyniadau hyn. Nid adroddiad gan Lywodraeth Cymru yw'r adolygiad ffyrdd; adroddiad annibynnol yw hwn. Rydych chi'n dyfynnu yn y fan yna, gan ein cyhuddo ni o fynd yn groes i'n polisïau ein hunain; adroddiad annibynnol yw hwn. Y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth a gyhoeddwyd gennym ni ochr yn ochr ag ef yw ymateb polisi'r Llywodraeth. Y cynlluniau a gynhwysir yn y cynlluniau cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, ar sail yr argymhellion yn yr adolygiad annibynnol, yw ein hymateb ni; dyna mae'r Llywodraeth yn ei gefnogi. Ochr yn ochr â hynny fe geir y datganiad polisi ffyrdd, sy'n bolisi newydd i Lywodraeth Cymru erbyn hyn, a'r profion a gymhwysir ar gyfer cynlluniau ariannu yn y dyfodol ac yn y broses WelTAG. Mae'r panel yn mynegi barn eglur ynglŷn â'r bont dros y Fenai, sy'n seiliedig ar y profion a gymhwyswyd yn gyson ar draws y 55 cynllun arall. Fe welwch chi, yng nghefn yr adroddiad, yn yr atodiad, bennod sy'n rhoi golwg fanwl ar hynny. Mae ef yn dweud ar ei eistedd, 'Mae hyn yn gwbl anghyson.' Dadansoddiad y panel yw hyn. Mae ganddo hawl i fod yn anghyson. Nid ein dadansoddiad ni mohono; ond eu dadansoddiad nhw. Rydyn ni wedi gofyn i banel annibynnol ystyried hyn. Rydyn ni wedi dweud - ac rwyf i newydd ddweud wrtho ef yr hyn y gwnaethom ni ei ddweud - 'Fe fyddwn yn gofyn i gomisiwn Burns ystyried hyn yng nghyd-destun ehangach y gogledd.' Rwy'n clywed yr hyn a ddywed ef am gadernid; mae'n rhaid i ni gydbwyso cadernid byrdymor â chadernid mwy hirdymor o ran materion newid hinsawdd. Ar hyn o bryd, mae hwn yn gynllun gwerth £400 miliwn nad oes gennym ni mo'r cyllid ar ei gyfer. Felly, ni waeth beth yw'r argymhelliad yn yr adolygiad, pwynt braidd yn academaidd yw hwn ar hyn o bryd o ystyried cyflwr ein cyllidebau ni oddi wrth Lywodraeth y DU. Fe wn i fod yna ornest fawr yn digwydd yn sir Fôn, ac mae'n siŵr y bydd Virginia Crosbie - [ Torri ar draws. ] Gadewch i mi orffen. Mae'n siŵr y bydd Virginia Crosbie yn cyhoeddi datganiadau i'r wasg y prynhawn yma yn ein galw ni'n bob math o enwau. Nid oes unrhyw arian oddi wrth Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen gyda thrydedd bont dros y Fenai. Fe fyddwn ni'n edrych ar waith comisiwn Burns yn y gogledd i edrych ar becyn cymorth cyfan, ac a yw'r achos a wnaeth Rhun ap Iorwerth nawr o ran cydnerthedd yn gallu gwrthsefyll manylu arno neu a yw'r gwaith a wnaeth yr adolygiad ffyrdd yn gydnerth ynddo'i hun. Fe fyddwn ni'n dod yn ôl at y cwestiwn hwn eto.
Can I remind Members that I have 12 Members who still wish to speak? I understand the passion and the emotion that Members wish to express on behalf of their constituents, but can we try and ensure we keep the to the times to allow all 12 Members to contribute today, please? Jack Sargeant.
A gaf i atgoffa'r Aelodau fod gennyf i 12 Aelod eto sy'n dymuno siarad? Rwy'n deall yr angerdd a'r teimlad y mae'r Aelodau yn dymuno ei fynegi ar ran eu hetholwyr, ond a gawn ni ymdrechu i sicrhau ein bod ni'n cadw at yr amseriadau i ganiatáu y bydd pob un o'r 12 Aelod yn cael cyfrannu heddiw, os gwelwch chi'n dda? Jack Sargeant.
Thank you, Deputy Presiding Officer. It will come as no surprise to the Minister, I'm sure, that I'm obviously deeply disappointed in today's announcement. It's clear from the publications and the statement you've made today that the red route in Flintshire is not going ahead. Ultimately, this project was about reducing air pollution. Minister, I'm conscious that other Members in the Chamber have similar passions, but this is one deep passion of mine. It's time for you to deliver now. My constituents need immediate action; they don't need more reviews. I'd be grateful if you could update the Chamber today and outline what immediate action looks like, and also what steps you are taking as the Minister responsible to invest all of the money earmarked for the red route in Deeside to alleviate this very serious public health problem.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Ni fydd hi'n syndod i'r Gweinidog, rwy'n siŵr, fy mod i'n amlwg yn siomedig iawn gyda chyhoeddiad heddiw. Mae hi'n amlwg o'r cyhoeddiadau a'r datganiad a wnaethoch chi heddiw nad yw'r llwybr coch yn sir y Fflint am fynd yn ei flaen. Yn y pen draw, roedd y prosiect hwn yn ymwneud â lleihau llygredd aer. Gweinidog, rwy'n ymwybodol bod gan aelodau eraill yn y Siambr angerdd tebyg, ond mae hwn yn destun angerdd mawr i mi. Mae hi'n bryd i chi gyflawni nawr. Mae angen gweithredu ar unwaith ar fy etholwyr i; nid oes angen mwy o adolygiadau arnyn nhw. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n diweddaru'r Siambr heddiw ac yn amlinellu sut olwg sydd yna ar weithredu ar unwaith, a hefyd pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am fuddsoddi'r holl arian a glustnodwyd ar gyfer y llwybr coch yng Nglannau Dyfrdwy i leddfu'r broblem ddifrifol iawn hon o ran iechyd y cyhoedd.
Thank you. I respect Jack Sargeant's point of view, and I was pleased to meet with him and Mark Tami to talk through the issues. I understand the strength of feeling there is in the local area to address the air quality concerns, and that is why we have decided to look at Aston Hill as a separate case. We will look with the local authority to develop solutions that will bring some short-term benefits to that area. In terms of immediacy, I would point out that the Flintshire red route would not have been immediate. The construction time for that - even if the money had been available, which it is not - would have been very considerable. So, I don't think that is fair. I know it's been a long-running debate, but what's very clear from these schemes - . When you look at the conclusions of the roads review and each of the panel's suggestions, it goes through the detailed process of how these decisions have been made. In every single case, at the first stage of the options appraisal, there were a slew of other schemes that could have been developed that would have addressed the transport problems in the area, at stage 1. When it got to stage 2, all but the road options, typically, were removed and the engineers focused on taking forward the road option. So, I believe there are other ways of tackling many of these problems short of building a large, expensive, climate-damaging, biodiversity-damaging bypass. I think we need to separate out the issues of air quality that we hope to do something about from the broader case for a traffic-inducing road. I will continue to work with him to understand and address the needs of his constituents, but in a way that is consistent with the climate emergency. I'll say again to Members that I've often heard many people saying, 'We agree with the principles of the roads review, but in the case of my constituency, there are exceptional circumstances.' I understand that, and that applies to my constituency too. I understand the pressures we all face from a set of expectations and a set of behaviours and investment decisions over 70 years in terms of the way to deal with transport problems. But if you read the report and if you draw through our own commitments on net zero and how that applies to transport, the slowest of all sectors to respond, we should all surely recognise that we need to do something different.
Diolch i chi. Rwy'n parchu safbwynt Jack Sargeant, ac roeddwn i'n falch o gwrdd ag ef a Mark Tami i drafod y materion. Rwy'n deall cryfder y teimladau sydd yn yr ardal leol ynglŷn â mynd i'r afael â'r pryderon o ran ansawdd aer, a dyna pam rydyn ni wedi penderfynu edrych ar Aston Hill fel achos ar wahân. Fe fyddwn ni'n ystyried datblygu datrysiadau gyda'r awdurdod lleol a fydd yn dod â rhai manteision byrdymor i'r ardal honno. O ran bod yn ddisyfyd, rwyf i am dynnu sylw at y ffaith na fyddai llwybr coch sir y Fflint wedi digwydd ar unwaith. Fe fyddai'r amser adeiladu ar gyfer hwnnw - hyd yn oed pe byddai'r arian i'w gael, ac nid ydyw - wedi bod yn faith iawn. Felly, nid wyf i o'r farn fod hynny'n deg. Fe wn i fod hon wedi bod yn ddadl hirfaith, ond yr hyn sy'n eglur iawn o'r cynlluniau hyn - . Pan fyddwch chi'n edrych ar gasgliadau'r adolygiad ffyrdd a phob un o awgrymiadau'r panel, mae'r rhain yn nodi'r broses fanwl o ran sut y gwnaethpwyd y penderfyniadau hyn. Ym mhob achos, ar gam cyntaf yr arfarniad dewisiadau, roedd nifer o gynlluniau eraill y gellid bod wedi eu datblygu a fyddai wedi mynd i'r afael â'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal, ar gam 1. Pan aeth hi'n gam 2, cafodd pob dewis heblaw am y dewisiadau o wneud ffyrdd, fel arfer, eu dileu a'r peirianwyr yn canolbwyntio ar fwrw ymlaen â'r dewis o wneud ffordd. Felly, rwy'n credu bod dulliau eraill o fynd i'r afael â llawer o'r problemau hyn heb fynd mor bell ag adeiladu ffordd osgoi fawr, ddrud, niweidiol i'r hinsawdd, a niweidiol i fioamrywiaeth. Rwy'n credu bod angen i ni wahanu materion ansawdd aer yr ydym ni'n gobeithio gwneud rhywbeth yn eu cylch a'r achos dros ffordd sy'n creu mwy o draffig. Fe fyddaf i'n parhau i weithio gydag ef i ddeall a mynd i'r afael ag anghenion ei etholwyr ef, ond mewn ffordd sy'n gyson â'r argyfwng hinsawdd. Rwyf i am ddweud wrth Aelodau unwaith eto fy mod i wedi clywed llawer o bobl yn dweud yn aml iawn, 'Rydyn ni'n cytuno ag egwyddorion yr adolygiad ffyrdd, ond yn achos fy etholaeth i, fe geir amgylchiadau eithriadol.' Rwy'n deall hynny, ac mae hynny'n berthnasol yn fy etholaeth innau hefyd. Rwy'n deall y pwysau yr ydym ni i gyd yn ei wynebu oherwydd cyfres o ddisgwyliadau a chyfres o ymddygiadau a phenderfyniadau buddsoddi dros 70 mlynedd o ran y ffordd i ymdrin â phroblemau trafnidiaeth. Ond pe byddech chi'n darllen yr adroddiad a phe byddech chi'n tynnu drwodd ein hymrwymiadau ein hunain ar sero net a sut mae hynny'n berthnasol i drafnidiaeth, yr arafaf o'r sectorau i gyd i ymateb, fe ddylai pob un ohonom ni gydnabod yr angen mawr i ni wneud rhywbeth gwahanol.
Deputy Minister, a decent road and transport infrastructure is key to a vibrant economy, yet you seem to want to block Wales's progress at every turn. What else have we come to expect from a failed socialist Government intent on banning things and slowing progress down? We could and should have seen an M4 relief road by now, yet this ludicrous decision to scrap the M4 relief road was taken despite spending £157 million on it, despite the vast inward investment that that would have brought. It just goes to show this Government will spend millions of pounds on anything apart from improving our road infrastructure. This Government wants to seemingly ban driving or make it impossible to drive, which, for someone living in a rural area, like many people in Wales, is a little bit insane, without significant public transport routes in place or laying more track. I cannot see this in any of your plans. On some of your successes to date, Deputy Minister, there has been no increase in the uptake of cycling for active travel purposes, and no money spent on advertising active travel since 2018 by this Welsh Government. Wales is falling significantly behind on moving towards electric vehicles, as my colleague Natasha Asghar outlined. And to top it off, the Welsh Government has reduced spending on active travel in 2023-24. Deputy Minister, I have one question for you: with an inadequate rail service, failing airport and crumbling roads, how do you expect people to get around, let alone get this economy moving again?
Dirprwy Weinidog, mae seilwaith ffyrdd a chludiant digonol yn allweddol i economi fywiog, ond eto mae'n ymddangos eich bod chi eisiau rhwystro cynnydd Cymru bob tro. Beth arall rydyn ni wedi dod i'w ddisgwyl gan Lywodraeth sosialaidd aflwyddiannus sy'n benderfynol o wahardd pethau ac arafu cynnydd? Fe allen ni fod wedi gweld ffordd liniaru'r M4 erbyn hyn, ond eto fe wnaed y penderfyniad chwerthinllyd hwn i gael gwared ar ffordd liniaru'r M4 er gwaethaf gwario £157 miliwn arno, er gwaethaf y buddsoddiad mewnol enfawr a fyddai wedi dod yn ei sgil. Mae'n dangos y bydd y Llywodraeth hon yn gwario miliynau o bunnoedd ar unrhyw beth ar wahân i wella seilwaith ein ffyrdd. Mae'r Llywodraeth hon eisiau gwahardd gyrru yn ôl pob golwg neu ei gwneud hi'n amhosib gyrru, sydd, i rywun sy'n byw mewn ardal wledig, fel llawer o bobl yng Nghymru, ychydig yn wallgof, heb lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus sylweddol mewn lle neu osod mwy o draciau. Ni allaf weld hyn yn unrhyw un o'ch cynlluniau. Ar rai o'ch llwyddiannau hyd yma, Dirprwy Weinidog, ni fu cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar seiclo at ddibenion teithio llesol, ac ni wariwyd unrhyw arian ar hysbysebu teithio llesol ers 2018 gan y Lywodraeth hon yng Nghymru. Mae Cymru ar ei hôl hi yn sylweddol wrth symud tuag at gerbydau trydan, fel yr amlinellodd fy nghydweithiwr Natasha Asghar. Ac ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau gwariant ar deithio llesol yn 2023-24. Dirprwy Weinidog, mae gen i un cwestiwn i chi: gyda gwasanaeth rheilffordd annigonol, maes awyr sy'n methu a ffyrdd dadfeiliol, sut ydych chi'n disgwyl i bobl fynd o un lle i'r llall, heb sôn am gael yr economi hwn i symud eto?
First of all, Deputy Presiding Officer, given the complaints that have been made in this Chamber about the use of language around mental health recently, I would question whether the use of the term 'insane' is appropriate. The Conservatives have made criticisms about other Members, and I think they should apply that to their own. Perhaps I'd ask you to consider that when you examine the record. As ever, I enjoy Laura Anne Jones's rehearsals for the Conservative leadership election, pressing the buttons of her grass roots, continuing the culture wars whenever she gets an opportunity. Her starting premise is simply false. Nobody disagrees that a decent road infrastructure is key to the modern economy. If you'd taken the trouble to listen to my speech before writing your own, you'd have noticed that we said that we will continue to build roads, that road building is a key part of our transport approach, but we need to reassess the type of roads we build, the purposes for which they're built and the way in which they're built. Your own Government's net-zero capacity - [ Interruption. ] - will surely support that. We are having the usual tropes from the benches in a sedentary position that we're anti-roads, anti-inward investment. These are vacuous slogans without any basis in policy, intellectual analysis or rigour - [ Interruption. ] If you took the trouble to read the report instead of pressing buttons for your own activists -
Yn gyntaf oll, Dirprwy Lywydd, o ystyried y cwynion sydd wedi eu gwneud yn y Siambr hon am y defnydd o iaith ynghylch iechyd meddwl yn ddiweddar, byddwn yn cwestiynu a yw defnyddio'r term 'gwallgof' yn briodol. Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu Aelodau eraill, ac rwy'n meddwl y dylen nhw gymhwyso hynny iddyn nhw eu hunain. Efallai y byddwn i'n gofyn i chi ystyried hynny wrth archwilio'r cofnod. Fel erioed, rwy'n mwynhau ymarferion Laura Anne Jones ar gyfer etholiad arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, gan wasgu botymau llawr gwlad, a pharhau â'r rhyfeloedd diwylliant pryd bynnag mae'n cael cyfle i wneud hynny. Yn syml, mae ei chynsail cychwynnol yn ffug. Nid oes unrhyw un yn anghytuno bod seilwaith ffyrdd digonol yn allweddol i'r economi fodern. Os byddech chi wedi mynd i'r drafferth i wrando ar fy araith cyn ysgrifennu eich araith eich hun, byddech chi wedi sylwi ein bod ni wedi dweud y byddwn ni'n parhau i adeiladu ffyrdd, bod adeiladu ffyrdd yn rhan allweddol o'n dull trafnidiaeth, ond mae angen i ni ailasesu'r math o ffyrdd rydyn ni'n eu hadeiladu, y dibenion maen nhw wedi'u hadeiladu ar eu cyfer a'r ffordd maen nhw'n cael eu hadeiladu. Bydd capasiti sero-net eich Llywodraeth eich hun - [ Torri ar draws. ] - yn siŵr o gefnogi hynny. Rydyn ni'n cael y trosiadau arferol o'r meinciau ar eu heistedd ein bod ni'n wrth-ffyrdd, yn wrth-fuddsoddiad mewnol. Sloganau gwag yw'r rhain heb unrhyw sail mewn polisi, dadansoddiad deallusol neu drylwyredd - [ Torri ar draws. ] Pe byddech chi wedi mynd i drafferth i ddarllen yr adroddiad yn lle pwyso botymau ar gyfer eich ymgyrchwyr eich hun -
Can we allow the Deputy Minister to give his answer, please?
A allwn ni ganiatáu i'r Dirprwy Weinidog roi ei ateb, os gwelwch yn dda?
- we would have a richer debate. The issue of spending on active travel being below where we would have seen it is an issue of capacity in local authorities. That is an issue we are addressing with local authorities, who simply can't spend the budget we are making available for them. That's why the money is where it is. So, I do hope that we can all do better than this, because it's not going to address any of the problems we face. This is just inane tittle-tattle.
- byddai gennym ddadl gyfoethocach. Mae'r mater bod gwariant ar deithio llesol yn is na lle byddem wedi hoffi ei weld yn fater o gapasiti mewn awdurdodau lleol. Mae hynny'n fater yr ydym ni'n mynd i'r afael ag ef gydag awdurdodau lleol, nad ydynt, yn syml, yn gallu gwario'r gyllideb rydyn ni'n ei darparu ar eu cyfer. Dyna pam mae'r arian lle mae e. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn ni i gyd wneud yn well na hyn, oherwydd nid yw'n mynd i fynd i'r afael ag unrhyw un o'r problemau rydyn ni'n eu hwynebu. Dim ond mân-siarad hurt yw hwn.
Can I assure the Deputy Minister that we will review the transcript?
A gaf sicrhau'r Dirprwy Weinidog y byddwn ni'n adolygu'r trawsgrifiad?
I think we are here to both represent our communities and our constituencies, but also to take the wider picture, and that is hard. I and three others in this Siambr represent Mid and West Wales, and Brecon and Radnorshire is the most sparsely populated constituency in England and Wales. So, we do know about rural communities, but I stand here saying that I support this review, and I'm here to say that we need to take a brave step forward for the most pressing issue that we have ahead of us, which is the climate emergency. I will be defending this, and I'm sure I'll come in for a lot of stick, but we need to be saying: let's have more bus services, let's look at how we develop our opportunity to be an exciting, vibrant country that demonstrates that we don't need to rely on roads, that we're taking the climate emergency seriously, and let us go ahead on the basis of this. I support this statement, and I would like to ask the Minister: what can you offer to rural communities? Because it is important that we hear exactly what this roads review can offer to rural communities, including, I hope, looking at enhanced bus transport and, I would hope, free bus transport for our under-25s. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n credu ein bod ni yma i gynrychioli ein cymunedau a'n hetholaethau, ond hefyd i dynnu'r darlun ehangach, ac mae hynny'n anodd. Rydw i a thri arall yn y Siambr hon yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Brycheiniog a Maesyfed yw'r etholaeth fwyaf tenau ei phoblogaeth yng Nghymru a Lloegr. Felly, rydyn ni'n gwybod am gymunedau gwledig, ond rwy'n sefyll yma yn dweud fy mod i'n cefnogi'r adolygiad hwn, ac rydw i yma i ddweud bod angen i ni gymryd cam dewr ymlaen ar gyfer y mater mwyaf dybryd sydd o'n blaenau, sef yr argyfwng hinsawdd. Byddaf yn amddiffyn hyn, ac rwy'n siŵr y byddaf yn cael fy meirniadu'n fawr, ond mae angen i ni fod yn dweud: gadewch i ni gael mwy o wasanaethau bws, gadewch i ni edrych ar sut rydym ni'n datblygu ein cyfle i fod yn wlad gyffrous, fywiog sy'n dangos nad oes angen i ni ddibynnu ar ffyrdd, ein bod ni'n cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifrif, a gadewch i ni fynd ymlaen ar sail hyn. Rwy'n cefnogi'r datganiad hwn, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog: beth allwch chi ei gynnig i gymunedau gwledig? Oherwydd mae'n bwysig ein bod ni'n clywed yn union beth y gall yr adolygiad ffyrdd hwn ei gynnig i gymunedau gwledig, gan gynnwys, gobeithio, edrych ar well trafnidiaeth bws a, byddwn i'n gobeithio, trafnidiaeth bws am ddim i'n rhai dan 25 mlwydd oed. Diolch yn fawr iawn.
Thank you for that, and it's a consistent position that Jane Dodds has taken on these issues, and I appreciate it. On the point of rural areas, which I know is something that the Conservatives have been raising too, I fully accept that, in rural areas, you need a different approach to urban areas. It's entirely possible to do that. If you look at rural Switzerland or rural Sweden or rural Germany, with much deeper rural areas than ours, they manage to have, in many parts, a bus service to every village every hour. There's nothing set in stone that we can't provide alternative transport in rural areas. These are choices we've made. Of course you're more likely to be car dependent in rural areas than you are in urban areas, but there are other things that we can work together on. I published a written statement last week on rural areas, I've been holding a series of round-tables with local authorities and others who live in rural areas. It's interesting now how the Conservative benches have gone quiet and they're looking at their phones while I'm actually answering their questions, because they're denied their cheap campaign lines. The truth is that there is an answer for rural areas if we want to find it, and if we are to tackle climate change, we have to tackle it in urban and in rural Wales, and we need to work together on solutions rather than constantly saying there's nothing that can be done in rural areas. Now, on Jane Dodds's specific point about her constituency, one of the concerns, I know, is speeds in rural areas, and our next piece of work is to review speed limits across the country. One of the key points in the roads review is that, where there are accident black spots or safety concerns, we should be looking to reduce the speed limits in those areas first, and do small-scale interventions rather than rebuilding entire corridors to make them suitable to drive at a faster rate. So, I don't think there is any tension, actually, between a viable, safe rural transport system and the climate goals - it's how we go about it.
Diolch am hynny, ac mae'n safbwynt cyson mae Jane Dodds wedi ei chymryd ar y materion hyn, ac rwy'n ei werthfawrogi. Ar bwynt ardaloedd gwledig, yr wyf yn gwybod sy'n rhywbeth mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei godi hefyd, rwy'n derbyn yn llwyr, mewn ardaloedd gwledig, bod angen agwedd wahanol i ardaloedd trefol. Mae'n hollol bosib gwneud hynny. Os edrychwch chi ar gefn gwlad y Swistir neu gefn gwlad Sweden neu gefn gwlad yr Almaen, gydag ardaloedd gwledig llawer dyfnach na'n rhai ni, maen nhw'n llwyddo i gael, mewn sawl rhan, gwasanaeth bws i bob pentref bob awr. Nid yw'n ddigyfnewid na allwn ddarparu trafnidiaeth amgen mewn ardaloedd gwledig. Mae'r rhain yn ddewisiadau rydyn ni wedi'u gwneud. Wrth gwrs eich bod chi'n fwy tebygol o fod yn ddibynnol ar geir mewn ardaloedd gwledig nag ydych chi mewn ardaloedd trefol, ond mae yna bethau eraill y gallwn ni gydweithio arnyn nhw. Fe wnes i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yr wythnos ddiwethaf ar ardaloedd gwledig, rwyf i wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron gydag awdurdodau lleol ac eraill sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae'n ddiddorol nawr sut mae'r meinciau Ceidwadol wedi mynd yn dawel ac maen nhw'n edrych ar eu ffonau tra fy mod i'n ateb eu cwestiynau nhw mewn gwirionedd, oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu llinellau ymgyrchu rhad. Y gwir yw bod ateb i ardaloedd gwledig os ydym ni am ddod o hyd iddo, ac os ydym ni am fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae'n rhaid i ni ei daclo yn y Gymru drefol ac yng nghefn gwlad Cymru, ac mae angen i ni weithio gyda'n gilydd ar atebion yn hytrach na dweud yn gyson nad oes dim y gellir ei wneud mewn ardaloedd gwledig. Nawr, ar bwynt penodol Jane Dodds am ei hetholaeth, un o'r pryderon, rwy'n gwybod, yw cyflymder mewn ardaloedd gwledig, a'n darn nesaf o waith yw adolygu terfynau cyflymder ar draws y wlad. Un o'r prif bwyntiau yn yr adolygiad ffyrdd yw, lle mae mannau lle ceir damweiniau neu bryderon diogelwch, y dylem ni fod yn edrych i leihau'r terfynau cyflymder yn yr ardaloedd hynny yn gyntaf, a gwneud ymyriadau ar raddfa fach yn hytrach nag ailadeiladu coridorau cyfan i'w gwneud yn addas i yrru yn gyflymach. Felly, dydw i ddim yn credu bod unrhyw densiwn, mewn gwirionedd, rhwng system drafnidiaeth wledig hyfyw, ddiogel a'r nodau hinsawdd - mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n mynd ati.
But, of course, in the real world, it is the Welsh Government that is taking services further away from people. It was the Welsh Government, of course, that funded a new hospital without any public transport links at all for my constituents, and I've come back here for the last six, seven years, and been assured by every Minister who's held that portfolio that public transport links would be provided, and they haven't been. They haven't been today. And so, what I want to see from the Welsh Government is more joined-up thinking - that, if we're going to take services away from people in terms of distance, then what we have to be able to do is to provide a public transport option that is available for people to reach those services, and that hasn't happened. It's the easiest thing in the world to make a pious speech or to say 'no'. What is more difficult is designing the public transport structures and systems that give people a real choice, and the most striking part of your statement for me, Deputy Minister, was when you said that most successful economies have modern, successful public transport systems. Now, you know, and I know, that the deregulation of the buses, which didn't happen in London, of course, by Thatcher's Government has wiped out bus services across Wales - rural and urban - and what we need to do is to reinstate those. So, what we need to sit alongside this statement is another statement on the alternatives available to people, to some of the most poor and vulnerable people in the country, because promising more committees and more commissions year, after year, after year is not going to cut the mustard any more. People want to see real plans for real public transport options, and when that is done, you won't need to make speeches like this; you won't need to have any more statements -
Ond wrth gwrs, yn y byd go iawn, Llywodraeth Cymru sy'n tynnu gwasanaethau yn bellach oddi wrth bobl. Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wnaeth ariannu ysbyty newydd heb unrhyw gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus o gwbl ar gyfer fy etholwyr, ac rwyf i wedi dod yn ôl yma am y chwe, saith mlynedd diwethaf, ac wedi cael sicrwydd gan bob Gweinidog sydd wedi dal y portffolio hwnnw y byddai cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu darparu, a dydyn nhw heb gael eu darparu. Dydyn nhw heb gael eu darparu hyd heddiw. Ac felly, yr hyn rydw i eisiau ei weld gan Lywodraeth Cymru yw meddwl mwy cydgysylltiedig - bod, os ydyn ni'n mynd i dynnu gwasanaethau oddi wrth bobl o ran pellter, yna'r hyn sy'n rhaid i ni allu ei wneud yw darparu opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael i bobl gyrraedd y gwasanaethau hynny, a dydy hynny heb ddigwydd. Y peth hawsaf yn y byd yw gwneud araith dduwiol neu ddweud 'na'. Yr hyn sy'n anoddach yw dylunio'r strwythurau a'r systemau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhoi dewis go iawn i bobl, a'r rhan fwyaf trawiadol o'ch datganiad i mi, Dirprwy Weinidog, oedd pan wnaethoch chi ddweud bod gan y rhan fwyaf o economïau llwyddiannus systemau trafnidiaeth gyhoeddus fodern, llwyddiannus. Nawr, rydych chi'n gwybod, ac rwyf i'n gwybod, bod dadreoleiddio'r bysiau, na ddigwyddodd yn Llundain, wrth gwrs, gan Lywodraeth Thatcher wedi dileu gwasanaethau bws ledled Cymru - gwledig a threfol - a'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw adfer y rheini. Felly, yr hyn rydyn ni ei angen ochr yn ochr â'r datganiad hwn yw datganiad arall ar y dewisiadau amgen sydd ar gael i bobl, i rai o'r bobl fwyaf tlawd a bregus yn y wlad, oherwydd nid yw addo mwy o bwyllgorau a mwy o gomisiynau flwyddyn, ar ôl blwyddyn, ar ôl blwyddyn yn ddigon da bellach. Mae pobl eisiau gweld cynlluniau go iawn ar gyfer opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus go iawn, a phan fydd hynny'n cael ei wneud, ni fydd angen i chi wneud areithiau fel hyn; ni fydd angen i chi gael mwy o ddatganiadau -
Alun, can you conclude now, please?
Alun, wnewch chi orffen nawr, os gwelwch yn dda?
- because people would make the choices themselves.
- oherwydd byddai pobl yn gwneud y dewisiadau eu hunain.
Of course, I agree with that, and I said earlier that we need to make the right thing to do the easiest thing to do. We need public transport to be on the doorstep for people to turn up and go. And one of the purposes of redirecting our roads pipeline is to free up finance in future years to allow that investment to take place. We are suffering at the moment from past decisions and from, as you said rightly, a fragmented and privatised public transport system, and, of course, the headwinds of COVID, which has caused real damage. He's absolutely right about the lack of joined-up thinking about placing services at out-of-town sites, and we need to stop that, and that's one of the things that the roads review makes very clear. Julie James and I have been working on the new 'town centre first' policy statement, which will be published soon, which has, at its core, the need for the public sector, in particular, to join up and think about where it places its services so that it strengthens town centres, and it doesn't occur to drag them out into out-of-town centres where no thought has been given to public transport. He is right; that example is a scar on the record of joined-up thinking in the public sector. In terms of the private sector, Julie James has already published a new planning policy, 'Future Wales', which makes those sorts of developments out of line with policy. In terms of alternatives, we have provided and trialed the 'fflecsi' demand-responsive bus in Blaenau Gwent, and the results in different settings have been very encouraging. It's been different in the different places we've trialed it. We've got some good data that we're now evaluating. The challenge then will be to spread and scale, but, as ever, when the budgets are as they are as a result of austerity, which is a political choice by the Government in London, we don't have the resources to do all the things that we want to do. And the specific example that he quotes of the bus service in Blaenau Gwent, which, as he knows, we've tried very hard to put a publicly-subsidised bus in there, but it has been challenged by a commercial operator, and that's one of the reasons why we are re-regulating the bus network to make sure that there's a coherence to the transport system, and is not left to the randomness of the market.
Wrth gwrs, rwy'n cytuno â hynny, a dywedais i yn gynharach bod angen i ni wneud y peth iawn i wneud y peth hawsaf i'w wneud. Rydyn ni angen trafnidiaeth gyhoeddus ar garreg y drws i bobl gyrraedd a mynd. Ac un o ddibenion ailgyfeirio ein llif prosiectau ffyrdd yw rhyddhau cyllid yn y blynyddoedd i ddod er mwyn caniatáu i'r buddsoddiad hwnnw ddigwydd. Rydyn ni'n dioddef ar hyn o bryd o benderfyniadau'r gorffennol ac o, fel y gwnaethoch chi ddweud yn gywir, system drafnidiaeth gyhoeddus dameidiog a phreifat, ac, wrth gwrs, effaith COVID, sydd wedi achosi niwed go iawn. Mae e'n hollol iawn am y diffyg meddwl cydgysylltiedig am osod gwasanaethau mewn safleoedd y tu allan i'r dref, ac mae angen i ni atal hynny, ac mae hynny'n un o'r pethau mae'r adolygiad ffyrdd yn ei wneud yn glir iawn. Mae Julie James a minnau wedi bod yn gweithio ar ddatganiad polisi newydd 'canol tref yn gyntaf', a fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan, sydd yn cynnwys, wrth ei wraidd, yr angen i'r sector cyhoeddus, yn benodol, ymuno a meddwl lle mae'n gosod ei gwasanaethau fel ei fod yn cryfhau canol trefi, ac nad yw'n eu llusgo allan i ganolfannau y tu allan i drefi lle nad oes unrhyw ystyriaeth wedi'i roi i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n iawn; mae'r enghraifft honno'n graith ar gofnod meddwl cydgysylltiedig yn y sector cyhoeddus. O ran y sector breifat, mae Julie James eisoes wedi cyhoeddi polisi cynllunio newydd, 'Cymru'r Dyfodol', sydd yn gwneud y mathau hynny o ddatblygiadau yn anghyson â pholisi. O ran dewisiadau eraill, rydyn ni wedi darparu a threialu'r bws 'fflecsi' sy'n ymateb i'r galw ym Mlaenau Gwent, ac mae'r canlyniadau mewn lleoliadau gwahanol wedi bod yn galonogol iawn. Mae wedi bod yn wahanol yn y gwahanol lefydd rydyn ni wedi ei dreialu. Mae gennym ni ddata da rydyn ni nawr yn ei werthuso. Yr her wedyn fydd lledaenu a datblygu, ond, fel erioed, pan fydd y cyllidebau fel y maen nhw o ganlyniad i gyni, sy'n ddewis gwleidyddol gan y Llywodraeth yn Llundain, nid oes gennym ni'r adnoddau i wneud yr holl bethau rydyn ni am eu gwneud. A'r enghraifft benodol y mae'n dyfynnu o'r gwasanaeth bws ym Mlaenau Gwent, rydyn ni, fel mae'n gwybod, wedi ymdrechu'n galed iawn i roi bws sy'n derbyn cymhorthdal cyhoeddus yno, ond mae wedi cael ei herio gan weithredwr masnachol, a dyna un o'r rhesymau pam ein bod ni'n ail-reoleiddio'r rhwydwaith bysiau i wneud yn siŵr bod cydlyniad i'r system drafnidiaeth, ac nad yw'n cael ei adael i natur ar hap y farchnad.
I would like to say that the one thing I would say about you, Minister, Lee, is that your heart is in this, and it has been for quite some time, and no-one is denying that we need more active travel. But I think the point that Alun Davies, my colleague, has made is the fact that you get your infrastructure in place, then you can decide not to do what we've always done and keep building roads. But I am going to have another moan about my two roundabouts on the A55, because part of the reason is about the environment and climate change, and also about air pollution. Really, I would ask you now today to review the options on those two roundabouts. I'm also told that the Holyhead free port could be under threat if those roundabouts are not removed, because there are no roundabouts from Hull to Holyhead in that way, and those roundabouts do cause congestion now for my residents, where, when you did go to consultation, £9 million - and it was proven that those roundabouts should be taken out. They were scrapped before even this roads review. All I would say is that you've seen the keen interest. We've all got issues in terms of our own constituencies. As a shadow Minister for climate change and environment, we've been taking extensive evidence on our public transport system, and it does not make good reading for anybody or for the Welsh Government. You need to get that infrastructure in place. People are not going to get out of their cars and get on to buses that don't exist, or get on trains that are unreliable, sometimes very dirty and are often cancelled. I would just ask you, Minister: can we have a full debate on this? Dirprwy Lywydd, you've been really, really good letting all of us have our little say today. I was excited for this roads review and the plan, and today, my bubble has been burst, because we've not been able to really scrutinise it. So, please step up to the mark. Let's have a good debate next week on it, a Government-brought debate. Cheers. Thank you.
Hoffwn ddweud mai'r un peth y byddwn i'n ei ddweud amdanoch chi, Gweinidog, Lee, yw bod eich calon yn hyn, ac mae wedi bod ers cryn amser, a does neb yn gwadu bod angen mwy o deithio llesol. Ond rwy'n meddwl mai'r pwynt mae Alun Davies, fy nghyd-Aelod, wedi ei wneud yw'r ffaith eich bod chi'n sicrhau bod eich seilwaith yn ei le, yna gallwch chi benderfynu peidio gwneud yr hyn rydyn ni wastad wedi ei wneud a pharhau i adeiladu ffyrdd. Ond rydw i am gwyno eto am fy nwy gylchfan ar yr A55, achos mae rhan o'r rheswm yn ymwneud â'r amgylchedd a newid hinsawdd, a hefyd am lygredd aer. Mewn gwirionedd, byddwn yn gofyn i chi nawr heddiw i adolygu'r opsiynau ar y ddwy gylchfan honno. Rwyf i hefyd wedi cael gwybod y gallai porthladd rhydd Caergybi fod dan fygythiad os nad yw'r cylchfannau hynny'n cael eu dileu, oherwydd nid oes cylchfannau o Hull i Gaergybi yn y ffordd honno, ac mae'r cylchfannau hynny'n achosi tagfeydd nawr i fy nhrigolion, lle, pan aethoch chi i ymgynghori, £9 miliwn - a phrofwyd y dylid cael gwared ar cylchfannau hynny. Cawsant eu dileu cyn yr adolygiad ffyrdd hwn hyd yn oed. Y cyfan fyddwn i'n ei ddweud yw eich bod chi wedi gweld y diddordeb brwd. Mae gennym ni i gyd broblemau o ran ein hetholaethau ein hunain. Fel Gweinidog yr wrthblaid dros newid hinsawdd ac amgylchedd, rydyn ni wedi bod yn cymryd tystiolaeth helaeth ar ein system drafnidiaeth gyhoeddus, ac nid yw'n dda i'w ddarllen i unrhyw un nac i Lywodraeth Cymru. Mae angen i chi gael y seilwaith hwnnw yn ei le. Nid yw pobl yn mynd i fynd allan o'u ceir a mynd ar fysiau nad ydyn nhw'n bodoli, neu'n mynd ar drenau sy'n annibynadwy, weithiau'n fudr iawn ac yn aml yn cael eu canslo. Byddwn i'n gofyn i chi, Gweinidog: a allwn ni gael dadl lawn ar hyn? Dirprwy Lywydd, rydych chi wedi bod yn dda iawn, iawn yn gadael i bob un ohonom gael dweud ein dweud heddiw. Roeddwn i'n gyffrous am yr adolygiad ffyrdd yma a'r cynllun, a heddiw, mae fy swigen wedi ei byrstio, oherwydd dydyn ni ddim wedi gallu craffu go iawn arno. Felly, mae angen i chi wynebu'r heriau. Gadewch i ni gael dadl dda yr wythnos nesaf arno, dadl sy'n cael ei chyflwyno gan y Llywodraeth. Diolch.
Well, I sincerely am sorry to burst your bubble, Janet. It is hard to keep up, I must say, because when we made the decision not to go ahead with the roundabout changes, you told me that you were in favour of the decision. You're now against the decision. So, it's quite confusing. The point about those roundabouts, like the other decisions made in the roads review, is that, when schemes were built for road-safety reasons, the cases being made by our own departments and engineers were that the way to deal with that was by putting in grade-separated junctions - so, flyovers, in effect. Now, as I mentioned in the speech earlier, a third of all emissions from transport schemes come from the embodied carbon in the scheme. So, grade-separated junctions are expensive, they use a large amount of carbon, and the safety case that you make - if you read again the report that the roads review issued of those junctions - the safety case had not been made. They were effectively about increasing traffic flow and traffic speeds. Now, that is not consistent with safety. I know nothing about your claim that it would put economic development in jeopardy, and I'd like to hear some evidence behind that, if that is, indeed, the case. But let me go back to the earlier point: you said that you want to put the infrastructure in place first and then look at the services. You know, this is a chicken-and-egg situation. We've been trying this approach of, 'Let's deal with this traffic problem with a bypass; let's deal with this traffic problem with an extra lane' for 70 years, and what it's done, as the roads review makes clear, is generate extra travel, which, then, the roads fill up and there's more congestion and then you have more investment. So, there is never any money to fund the alternatives. At some point, we have to break this cycle to put us in a way that we are fit for purpose with the climate targets that you and I have both said publicly we support, because it's no good supporting the target if you don't support the actions necessary.
Wel, mae'n ddrwg iawn gen i fyrstio eich swigen, Janet. Mae'n anodd dal i fyny, rhaid i mi ddweud, oherwydd pan wnaethon ni'r penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â'r newidiadau cylchfan, fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i eich bod chi o blaid y penderfyniad. Rydych chi nawr yn erbyn y penderfyniad. Felly, mae'n eithaf dryslyd. Y pwynt am y cylchfannau hynny, fel y penderfyniadau eraill a wnaed yn yr adolygiad ffyrdd, yw, pan adeiladwyd cynlluniau am resymau diogelwch ar y ffyrdd, yr achosion oedd yn cael eu gwneud gan ein hadrannau a'n peirianwyr ein hunain oedd mai'r ffordd i ymdrin â hynny oedd drwy roi cyffyrdd aml-lefel - felly, trosffyrdd, i bob pwrpas. Nawr, fel y soniais yn yr araith yn gynharach, mae traean o'r holl allyriadau o gynlluniau trafnidiaeth yn dod o'r carbon sydd wedi'i ymgorffori yn y cynllun. Felly, mae cyffyrdd aml-lefel yn ddrud, maen nhw'n defnyddio llawer iawn o garbon, a'r achos diogelwch rydych chi'n ei wneud - pe byddech chi'n darllen yr adroddiad eto y gwnaeth yr adolygiad ffyrdd ei gyhoeddi o'r cyffyrdd hynny - nid oedd yr achos diogelwch wedi'i wneud. Roedden nhw i bob pwrpas yn ymwneud â chynyddu llif y traffig a chyflymder traffig. Nawr, nid yw hynny'n gyson â diogelwch. Wyddwn i ddim am eich honiad chi y byddai'n peryglu datblygiad economaidd, a hoffwn glywed rhywfaint o dystiolaeth y tu ôl i hynny, os yw hynny, yn wir. Ond gadewch i mi fynd yn ôl i'r pwynt cynharach: fe wnaethoch chi ddweud eich bod chi am roi'r seilwaith yn ei le yn gyntaf ac yna edrych ar y gwasanaethau. Wyddoch chi, sefyllfa'r iâr a'r ŵy yw hon. Rydyn ni wedi bod yn ceisio'r dull hwn o, 'Gadewch i ni ymdrin â'r broblem draffig hon gyda ffordd osgoi; gadewch i ni ymdrin â'r broblem draffig hon gyda lôn ychwanegol' am 70 mlynedd, a'r hyn mae wedi'i wneud, fel mae'r adolygiad ffyrdd yn ei wneud yn glir, yw cynhyrchu teithio ychwanegol, ac wedyn, mae ffyrdd yn llenwi ac mae mwy o dagfeydd ac yna mae gennych chi fwy o fuddsoddiad. Felly, nid oes byth unrhyw arian i ariannu'r dewisiadau amgen. Ar ryw adeg, mae'n rhaid i ni dorri'r cylch hwn i'n rhoi ni mewn modd addas i'r diben gyda'r targedau hinsawdd rydych chi a minnau wedi dweud yn gyhoeddus ein bod ni'n eu cefnogi, oherwydd dydy cefnogi'r targed yn dda i ddim os nad ydych chi'n cefnogi'r camau sydd eu hangen.
The announcement regarding the decision to stop the Llanbedr bypass was made in the autumn of 2021. It was the wrong decision and it came as a very bitter pill after decades of promises. So, while we accept that everything must be done to tackle climate change, not only should this action allow for a just transition, but it should also be commensurate with the likely impact on the communities affected. In Llanbedr's case, we're not looking at a road that will add further vehicles to the road network, but rather, we're looking at a plan to improve the safety of the local residents and strengthen the local economy. In fact, the Deputy Minister talked, in his presentation, about the most vulnerable people who suffer because of a lack of public transport. He talked about improvements in public transport and increasing active travel. Yet, in the year and a half since the Llanbedr announcement was made, we've seen no investment into any of these things in Llanbedr or even the Meirionnydd coast. In fact, last week, the Government intended to cut the bus emergency scheme, making routes along the Meirionnydd coast unviable for most bus providers. And, in another part of my constituency, we've seen the essential T19 service cut as well without any help from the Government. So, it seems like a lot of warm words but no action at all as far as the Meirionnydd experience is concerned. So, can the Deputy Minister tell me today what investment is the Government putting into Llanbedr and the Meirionnydd coast, so that the people living in those communities have easy access to all that they need to live a life of dignity and free of the deadly dangers that they currently face? Also, the Llanbedr report recommended building an amended version of the original proposal, with a slower speed limit. This would be welcomed by the community, but we've had no movement on this as yet. So, will the Deputy Minister commit to this alternative here today and have a meeting with me and the stakeholders to move this plan forward? Diolch.
Cafodd y cyhoeddiad ynglŷn â'r penderfyniad i atal ffordd osgoi Llanbedr ei wneud yn hydref 2021. Hwn oedd y penderfyniad anghywir ac fe ddaeth fel pilsen chwerw iawn ar ôl degawdau o addewidion. Felly, er ein bod ni'n derbyn bod yn rhaid gwneud popeth i fynd i'r afael â newid hinsawdd, nid yn unig y dylai'r weithred hon ganiatáu pontio cyfiawn, ond dylai hefyd fod yn gymesur â'r effaith debygol ar y cymunedau sy'n cael eu heffeithio. Yn achos Llanbedr, dydyn ni ddim yn edrych ar ffordd fydd yn ychwanegu mwy o gerbydau at y rhwydwaith ffyrdd, ond yn hytrach, rydyn ni'n edrych ar gynllun i wella diogelwch y trigolion lleol ac i gryfhau'r economi leol. Mewn gwirionedd, siaradodd y Dirprwy Weinidog, yn ei gyflwyniad, am y bobl fwyaf bregus sy'n dioddef oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Soniodd am welliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chynyddu teithio llesol. Ac eto, yn y flwyddyn a hanner ers gwneud cyhoeddiad Llanbedr, nid ydym wedi gweld unrhyw fuddsoddiad i unrhyw un o'r pethau hyn yn Llanbedr na hyd yn oed arfordir Meirionnydd. Yn wir, yr wythnos ddiwethaf, bwriad y Llywodraeth oedd cwtogi'r cynllun argyfwng bysiau, gan wneud llwybrau ar hyd arfordir Meirionnydd yn anhyfyw i'r rhan fwyaf o ddarparwyr bysiau. Ac, mewn rhan arall o fy etholaeth, rydyn ni wedi gweld y gwasanaeth T19 hanfodol yn cael ei dorri hefyd heb unrhyw gymorth gan y Llywodraeth. Felly, mae'n ymddangos fod llawer o eiriau cynnes ond dim gweithredu o gwbl cyn belled ag y mae profiad Meirionnydd yn y cwestiwn. Felly, a all y Dirprwy Weinidog ddweud wrthyf i heddiw pa fuddsoddiad mae'r Llywodraeth yn ei roi i mewn i Lanbedr ac arfordir Meirionnydd, fel bod gan y bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny fynediad hawdd at bopeth maen nhw ei angen i fyw bywyd o urddas ac yn rhydd o'r peryglon marwol maen nhw'n eu hwynebu ar hyn o bryd? Hefyd, roedd adroddiad Llanbedr yn argymell adeiladu fersiwn ddiwygiedig o'r cynnig gwreiddiol, gyda therfyn cyflymder arafach. Byddai hyn yn cael ei groesawu gan y gymuned, ond nid ydym wedi cael unrhyw symudiad ar hyn hyd yma. Felly, a fydd y Dirprwy Weinidog yn ymrwymo i'r dewis arall hwn yma heddiw a chael cyfarfod gyda mi a'r rhanddeiliaid i symud y cynllun hwn yn ei flaen? Diolch.
Well, as the Member knows, I've already agreed to meet with him and a delegation from Llanbedr to discuss the issue. I'm slightly gobsmacked by his claims of a lack of action, when we have been trying repeatedly to make progress with the local authority, who have not engaged in a way that has brought progress with us. We've had meetings - they've certainly turned up to meetings - but we've had no willingness to seriously engage in solutions. Instead, they've gone outside the devolution settlement - this is a Plaid Cymru-led council - to appeal to Westminster, who have no powers over transport, to fund, over the heads of their devolved elected Welsh Government who do have powers for transport, a scheme under the levelling-up fund, at the same time as Plaid Cymru are here, pushing us to reach net zero by 2035. You know, I think the contradictions are breathtaking. We remain willing to work with the local authority. I would like to treat Llanbedr as an exemplar rural scheme, to try and find alternative solutions to deal with the problems. I've said that to the council leader, I've said that to the cabinet member on multiple occasions, and I remain willing to work with them, but it takes two to tango.
Wel, fel y gŵyr yr Aelod, rwyf i eisoes wedi cytuno i'w gyfarfod ef a dirprwyaeth o Lanbedr i drafod y mater. Rwyf i wedi fy rhyfeddu gan ei honiadau o ddiffyg gweithredu, pan ydyn ni wedi bod yn ceisio dro ar ôl tro i wneud cynnydd gyda'r awdurdod lleol, nad yw wedi cymryd rhan mewn ffordd sydd wedi dod â chynnydd gyda ni. Rydyn ni wedi cael cyfarfodydd - maen nhw'n sicr wedi troi i fyny i gyfarfodydd - ond dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw barodrwydd i gymryd rhan o ddifrif mewn atebion. Yn hytrach, maen nhw wedi mynd y tu allan i'r setliad datganoli - cyngor sy'n cael ei arwain gan Blaid Cymru yw hon - i apelio ar San Steffan, nad oes ganddynt bwerau dros drafnidiaeth, i ariannu, dros bennau eu Llywodraeth etholedig ddatganoledig yng Nghymru sydd â phwerau dros drafnidiaeth, cynllun o dan y gronfa ffyniant bro, ar yr un pryd ag y mae Plaid Cymru yma, yn ein gwthio i gyrraedd sero-net erbyn 2035. Wyddoch chi, rwy'n credu bod y gwrthddweud hwn yn syfrdanol. Rydym ni'n parhau i fod yn barod i gydweithio gyda'r awdurdod lleol. Hoffwn drin Llanbedr fel cynllun gwledig enghreifftiol, er mwyn ceisio dod o hyd i atebion amgen i ddelio gyda'r problemau. Rwyf wedi dweud hynny wrth arweinydd y cyngor, rwyf wedi dweud hynny wrth yr aelod cabinet ar sawl achlysur, ac rwy'n parhau i fod yn barod i weithio gyda nhw, ond mae'n cymryd y ddwy ochr i wneud hynny.
Deputy Minister, you will be aware of my long-standing commitment to the Cynon Gateway North, working alongside residents of Llwydcoed and Penywaun and the local councillors there. The purpose of the gateway scheme is to mitigate the forced dispersal of traffic from the dualling of sections 5 and 6 of the Heads of the Valleys road, due to the permanent removal of the main Hirwaun entry and exit point. Can you place on record today the fact you understand that this is a scheme that is not designed to increase road capacity, but rather to mitigate the effects of the removal of this main route in and out of the Cynon valley? I'm encouraged to hear that local authorities will be able to start resubmitting their plans from the start of the next financial year, in just a few weeks' time. So, can you give an undertaking that your officials will work closely with Rhondda Cynon Taf County Borough Council to explore how this scheme might be amended in order to meet the future road building tests?
Dirprwy Weinidog, byddwch yn ymwybodol o fy ymrwymiad hirsefydlog i Borth Gogledd Cynon, gan weithio ochr yn ochr â thrigolion Llwydcoed a Phen-y-waun a'r cynghorwyr lleol yno. Pwrpas y cynllun porth yw lliniaru gwasgariad gorfodol traffig o ddeuoli rhannau 5 a 6 o ffordd Blaenau'r Cymoedd, oherwydd cael gwared yn barhaol ar brif fynediad a man ymadael Hirwaun. A allwch chi roi ar y cofnod heddiw y ffaith eich bod chi'n deall nad cynllun wedi'i gynllunio i gynyddu capasiti ffyrdd yw hwn, ond yn hytrach i liniaru effeithiau cael gwared ar y prif lwybr hwn i mewn ac allan o gwm Cynon? Mae'n galonogol clywed y bydd awdurdodau lleol yn gallu dechrau ailgyflwyno eu cynlluniau o ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, ymhen ychydig wythnosau. Felly, allwch chi addo y bydd eich swyddogion yn gweithio'n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i archwilio sut y gallai'r cynllun yma gael ei ddiwygio er mwyn bodloni profion adeiladu ffyrdd y dyfodol?
Thank you. I understand Vikki Howells's position on this road, and she's been consistent in her campaigning for it. The roads review examined it, and they set out in detail in their report the reasons why they don't think it's compliant with the tests that it has set, and we've agreed with, to develop as a road scheme. That said, we have said in our national transport delivery plan, and in the conversations I've had with both her and with Andrew Morgan, the leader of the council, that we are willing to look at this scheme to see if we can make it compliant with our policies, to see if it can meet the tests. And that applies to all schemes in Wales: where there is a genuine transport problem in a community, we want to tackle that problem. We're not convinced that building a traditional road scheme is the best way to do it; we think there are other ways. Let's try and find an agreement and a consensus way forward, so we can help her constituents.
Diolch. Rwy'n deall safbwynt Vikki Howells ar y ffordd hon, ac mae hi wedi bod yn ymgyrchu drosti'n gyson. Fe wnaeth yr adolygiad ffyrdd ei archwilio, ac maen nhw'n nodi'n fanwl yn eu hadroddiad y rhesymau pam nad ydyn nhw'n credu ei fod yn cydymffurfio â'r profion y mae wedi'u gosod, ac rydym ni wedi cytuno â nhw, i ddatblygu fel cynllun ffordd. Wedi dweud hynny, rydym ni wedi dweud yn ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, ac yn y sgyrsiau rydw i wedi'u cael gyda hi a gydag Andrew Morgan, arweinydd y cyngor, ein bod ni'n barod i edrych ar y cynllun hwn i weld a allwn ni wneud iddo gydymffurfio â'n polisïau, i weld a all ddiwallu'r profion. Ac mae hynny'n berthnasol i bob cynllun yng Nghymru: lle mae problem trafnidiaeth go iawn mewn cymuned, rydym ni am fynd i'r afael â'r broblem honno. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi mai adeiladu cynllun ffordd traddodiadol yw'r ffordd orau o'i wneud; rydyn ni'n meddwl bod ffyrdd eraill. Gadewch i ni geisio dod o hyd i gytundeb a ffordd gonsensws ymlaen, fel y gallwn ni helpu ei hetholwyr.
There are three schemes that are referred to in my constituency in the roads review report, all of which, unfortunately, it's likely, appearing from the document, are going to be scrapped. Now, these are schemes that I've corresponded with you and your predecessors on over many years and each time I have corresponded with you, up until the roads review started, everything had a green light and the work was going ahead, and dates were being scheduled and everybody was being prepared for the work. I refer in particular to the Maes Gamedd junction in Gwyddelwern, a project that has been promised for well over a decade, with you and your predecessors giving me answers to written questions saying that the work would proceed. That's a dangerous junction, which needs to be addressed, and the local community will be looking to you to find out why on earth it isn't going to be addressed, given today's announcement. The Corwen road and Lôn Fawr junction on the A494 in Ruthin - another project that has been promised for a very long time, a gateway into Ruthin, a junction that needs to improve, Minister, if I may say, in order to deliver active travel on a circular route around Ruthin as a town. And yet you're scrapping a piece of work that will enable the delivery of that, and yet you're saying you're in favour of active travel. And I believe you're in favour of active travel, but I don't see how that decision is consistent with your ambition to deliver it. And a third scheme - Abergele town centre congestion scheme - again, ditched. And this is a town that is facing congestion on a daily basis, not just in the summer months, when it's very acute because of the visitors that we receive, but every single day of the week. So, I would challenge you, Minister: come with me to my constituency. I'll give you a tour of these locations, and you can see for yourself the problems that your decision is going to result in as a result of the scrappage of these particular schemes. And I do hope that you'll consider my invitation, because I want you to see first-hand, for yourself, why scrapping these schemes doesn't make any sense.
Mae tri chynllun y cyfeirir atynt yn fy etholaeth yn yr adroddiad adolygu ffyrdd, ac mae pob un ohonyn nhw, yn anffodus, yn debygol, i'w weld o'r ddogfen, yn mynd i gael eu dileu. Nawr, mae'r rhain yn gynlluniau yr wyf i wedi gohebu â chi a'ch rhagflaenwyr amdanynt dros nifer o flynyddoedd a phob tro rwyf wedi gohebu â chi, hyd nes i'r adolygiad ffyrdd ddechrau, roedd popeth yn cael golau gwyrdd ac roedd y gwaith yn mynd yn ei flaen, ac roedd dyddiadau'n cael eu trefnu ac roedd pawb yn cael eu paratoi ar gyfer y gwaith. Cyfeiriaf yn arbennig at gyffordd Maes Gamedd yng Ngwyddelwern, prosiect sydd wedi ei addo ers ymhell dros ddegawd, gyda chi a'ch rhagflaenwyr yn rhoi atebion i mi i gwestiynau ysgrifenedig yn dweud y byddai'r gwaith yn mynd yn ei flaen. Mae'n gyffordd beryglus, sydd angen sylw, a bydd y gymuned leol yn edrych atoch chi i ddarganfod pam ar y ddaear nad yw'n mynd i gael sylw, o ystyried y cyhoeddiad heddiw. Ffordd Corwen a chyffordd Lôn Fawr ar yr A494 yn Rhuthun - prosiect arall sydd wedi ei addo ers amser maith iawn, porth i Ruthun, cyffordd sydd angen ei wella, Gweinidog, os caf i ddweud, er mwyn cynnal teithio llesol ar lwybr cylchol o amgylch Rhuthun fel tref. Ac eto rydych chi'n cael gwared ar ddarn o waith a fydd yn galluogi cyflawni hynny, ac eto rydych chi'n dweud eich bod o blaid teithio llesol. Ac rwy'n credu eich bod chi o blaid teithio llesol, ond dydw i ddim yn gweld sut mae'r penderfyniad hwnnw'n gyson â'ch uchelgais i'w gyflawni. A thrydydd cynllun - cynllun tagfeydd canol tref Abergele - eto, wedi'i ddileu. Ac mae hon yn dref sy'n wynebu tagfeydd yn ddyddiol, nid yn unig ym misoedd yr haf, pan fydd yn aciwt iawn oherwydd yr ymwelwyr rydyn ni'n eu derbyn, ond bob un diwrnod o'r wythnos. Felly, byddwn i'n eich herio chi, Gweinidog: dewch gyda mi i fy etholaeth. Fe wnaf i roi taith o amgylch y lleoliadau hyn i chi, a gallwch weld drosoch chi eich hun y problemau mae eich penderfyniad yn mynd i arwain ato yn sgil dileu y cynlluniau penodol hyn. Ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ystyried fy ngwahoddiad, oherwydd rwyf i am i chi weld o lygad y ffynnon, drosoch chi eich hun, pam nad yw cael gwared ar y cynlluniau hyn yn gwneud unrhyw synnwyr.
Well, I'm sure you've had a chance to look at - perhaps not in full yet - the reasons set out for the three schemes in the roads review. For example, on the Maes Gamedd road junction improvement on the A494, the review panel says that it 'should not proceed in its current form. The safety of the junction should continue to be monitored. Further options to reduce speed and improve the visibility splay at the existing junction should be developed if the collision record suggests that action should be taken.' In our national transport delivery plan, we have said that we will consider 'alternative and small-scale options to improve safety, aligned to tests set out in the Welsh Government's response to the Roads Review.' I think that it's another example of that we're not denying that there's a problem, and we're not saying that we don't want to work on a solution, but we need to make the solution proportionate, in carbon terms, to what's appropriate at that junction. And I think that that's what we will continue to do. So, I think that your constituents can be reassured that we're committed to work to find a safe solution, but one that meets the tests that we now have set out in policy.
Wel, rwy'n siŵr eich bod chi wedi cael cyfle i edrych ar - efallai ddim yn llawn eto - y rhesymau a nodir ar gyfer y tri chynllun yn yr adolygiad ffyrdd. Er enghraifft, ar welliant cyffordd ffordd Maes Gamedd ar yr A494, dywed y panel adolygu: 'Ni ddylai'r cynllun fynd rhagddo ar ei ffurf bresennol. Dylid parhau i fonitro diogelwch y gyffordd. Dylid datblygu opsiynau eraill i arafu a gwella'r llain welededd yn y gyffordd bresennol os yw'r cofnod gwrthdrawiadau'n awgrymu y dylid cymryd camau.' Yn ein cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, rydyn ni wedi dweud y byddwn ni'n ystyried 'opsiynau amgen ar raddfa fach i wella diogelwch, wedi'u halinio â phrofion a nodir ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Ffyrdd.' Rwy'n credu ei bod yn enghraifft arall ohonom ni'n gwadu bod problem, ac nid ydym yn dweud nad ydym am weithio ar ddatrysiad, ond mae angen i ni wneud yr ateb yn gymesur, mewn termau carbon, i'r hyn sy'n briodol ar y gyffordd honno. Ac rwy'n credu mai dyna fyddwn ni'n parhau i'w wneud. Felly, rwy'n credu y gall eich etholwyr fod yn dawel eu meddyliau ein bod ni wedi ymrwymo i weithio i ddod o hyd i ateb diogel, ond un sy'n bodloni'r profion yr ydym ni bellach wedi'u nodi mewn polisi.
I fully support Janet Finch-Saunders's request for a full debate. We need to be able to digest all the content here - and I do accept that you did apologise, Deputy Minister, for not publishing beforehand - because it is important for our constituents that we are able to engage fully in matters like this, and just glancing during the course of debate doesn't allow for that. You'll be aware that many local development plans contain national targets for the quarrying of aggregates for roads. This includes Craig-yr-Hesg quarry just outside of Pontypridd, which has been granted permission to proceed with an extension to its life and area quarried by Welsh Government, despite strong local objections. In reviewing the investment in roads, what consideration has been given to how this will impact on the need for aggregates? Communities such as Glyncoch have previously been told that the economic need for the aggregate outweighs environmental or health considerations, which is at odds with the approach you're outlining today in terms of the roads review. Therefore, I think we need some clarification. If there is a review in terms of the need for new roads and the investment in new roads, how will that then impact on the need for aggregate?
Rwy'n llwyr gefnogi cais Janet Finch-Saunders am ddadl lawn. Mae angen i ni allu treulio'r holl gynnwys yma - ac rwy'n derbyn eich bod chi wedi ymddiheuro, Dirprwy Weinidog, am beidio â chyhoeddi o flaen llaw - oherwydd mae'n bwysig i'n hetholwyr ein bod ni'n gallu ymgysylltu'n llawn ar faterion fel hyn, ac nid yw cael golwg yn ystod dadl yn caniatáu hynny. Byddwch yn ymwybodol bod llawer o gynlluniau datblygu lleol yn cynnwys targedau cenedlaethol ar gyfer chwarela agregau ar gyfer ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys chwarel Craig-yr-Hesg ychydig y tu allan i Bontypridd, y rhoddwyd caniatâd iddi fwrw ymlaen ag estyniad i'w hoes a'r ardal sy'n cael ei chloddio gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf gwrthwynebiadau lleol cryf. Wrth adolygu'r buddsoddiad mewn ffyrdd, pa ystyriaeth sydd wedi ei roi i sut y bydd hyn yn effeithio ar yr angen am agregau? Dywedwyd wrth gymunedau fel Glyncoch yn y gorffennol bod yr angen economaidd am yr agregau yn drech nag ystyriaethau amgylcheddol neu iechyd, sydd yn groes i'r dull yr ydych chi'n ei amlinellu heddiw o ran yr adolygiad ffyrdd. Felly, rwy'n credu ein bod ni angen rhywfaint o eglurhad. Os oes adolygiad o ran yr angen am ffyrdd newydd a'r buddsoddiad mewn ffyrdd newydd, sut fydd hynny wedyn yn effeithio ar yr angen am agregau?
I'm not familiar with the detail of the example she quotes, but I would say in general the key finding - . One of the tests we've set for future road schemes is minimising the amount of embedded and embodied carbon that is involved. That implies that we'd use less carbon-intensive materials, so we'd need fewer materials overall. That may well have knock-on consequences. But, rather than give an off-the-cuff response, perhaps I could get back to her once I have the chance to consider it more fully.
Dydw i ddim yn gyfarwydd â manylion yr enghraifft y mae hi'n ei dyfynnu, ond byddwn i'n dweud yn gyffredinol y canfyddiad allweddol - . Un o'r profion rydyn ni wedi'u gosod ar gyfer cynlluniau ffyrdd yn y dyfodol yw lleihau faint o garbon wedi'i wreiddio a'i ymgorffori sy'n gysylltiedig â hynny. Mae hynny'n awgrymu y byddem ni'n defnyddio deunyddiau llai carbon-ddwys, felly byddai angen llai o ddeunyddiau yn gyffredinol. Mae'n ddigon posib y bydd sgil-ganlyniadau i hynny. Ond, yn hytrach na rhoi ymateb byrfyfyr, efallai y gallaf i fynd yn ôl ati unwaith y caf gyfle i'w ystyried yn llawnach.
Deputy Minister, I rather fear that the cart is being put before the horse today, and has rolled over it. Alternative public transport options really must exist if people are to get out of their cars, and that's what the Wales transport strategy was designed to deliver, but it's hard to find any new alternatives in today's announcement. Does the £56 million earmarked for the A483 junction improvements remain in the national transport delivery plan for improvements around Wrexham? Will you agree to commence the devolution of responsibilities and funding for north Wales trunk roads to north Wales? Given the need for clear and consistent policy as well with the end to new road routes, will new air and ferry routes to and from Welsh ports now be stopped? And finally, as a result of today's announcement, how much extra revenue are you planning to put into bus services as the main alternative to cars?
Dirprwy Weinidog, rwy'n ofni braidd bod y drol yn cael ei rhoi o flaen y ceffyl heddiw, ac wedi rholio drosto. Mae'n rhaid i opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus amgen fodoli os yw pobl am fynd allan o'u ceir, a dyna beth gafodd strategaeth trafnidiaeth Cymru ei chynllunio i'w gyflawni, ond mae'n anodd dod o hyd i unrhyw ddewisiadau amgen newydd yn y cyhoeddiad heddiw. Ydy'r £56 miliwn a glustnodwyd ar gyfer gwella cyffordd yr A483 yn aros yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth ar gyfer gwelliannau o amgylch Wrecsam? A fyddwch chi'n cytuno i ddechrau ar ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer cefnffyrdd y gogledd i'r gogledd? O ystyried yr angen am bolisi clir a chyson yn ogystal â'r diwedd i lwybrau ffyrdd newydd, a fydd teithiau awyr a fferi newydd i borthladdoedd Cymru bellach yn cael eu hatal? Ac yn olaf, o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw, faint o refeniw ychwanegol ydych chi'n bwriadu ei roi mewn gwasanaethau bws fel y prif ddewis amgen i geir?
In terms of the geographical spread, of the 17 schemes that are going ahead in the national transport delivery plan, five are in north Wales, five are in mid Wales, so I don't think the case that there's geographical bias here stands scrutiny. And I don't accept the idea that we should not have a national approach to transport and roads building. So, I don't agree with the Member about that. We've set out a detailed, evidence-based analysis, based on the carbon targets we all joined up to, developing the Wales transport strategy he and I developed together and which we endorsed. The national transport delivery plan is designed to implement the principles in that. I appreciate, at a constituency level, the Member has some concerns about a scheme, which I was pleased to meet him last week to discuss. As I said then, we will continue to work with the local authority to find a way of addressing the local air quality problems in a way consistent with the tests. But building extra road capacity has been shown, time and again, to generate further traffic, which has the overall impact of worsening air quality and damaging the climate. So, I appreciate these are difficult trade-offs at times, and we all have local constituency considerations, and he is not the only one with that, but we have to be prepared to follow through on the policies that we've set out.
O ran gwasgariad daearyddol, o'r 17 cynllun sy'n mynd ymlaen yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar drafnidiaeth, mae pump yn y gogledd, mae pump yn y canolbarth, felly nid wyf yn credu bod yr achos bod gogwydd daearyddol yn gwrthsefyll craffu. Ac nid wyf i'n derbyn y syniad na ddylen ni gael dull cenedlaethol o gludo ac adeiladu ffyrdd. Felly, dydw i ddim yn cytuno gyda'r Aelod ar hynny. Rydyn ni wedi gosod dadansoddiad manwl, seiliedig ar dystiolaeth, yn seiliedig ar y targedau carbon yr oeddem ni i gyd eu cefnogi, gan ddatblygu strategaeth trafnidiaeth Cymru y gwnaeth ef a minnau ei datblygu gyda'n gilydd ac y gwnaethom ni ei gymeradwyo. Bwriad y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth yw gweithredu'r egwyddorion yn hwnnw. Rwy'n gwerthfawrogi, ar lefel etholaeth, fod gan yr Aelod rai pryderon am gynllun, yr oeddwn i'n falch o'i gyfarfod yr wythnos diwethaf i'w drafod. Fel y dywedais bryd hynny, byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i ddod o hyd i ffordd o fynd i'r afael â'r problemau ansawdd aer lleol mewn ffordd sy'n gyson â'r profion. Ond dangoswyd dro ar ôl tro bod adeiladu capasiti ychwanegol ar y ffyrdd, yn cynhyrchu traffig pellach, sy'n cael yr effaith gyffredinol o waethygu ansawdd aer a niweidio'r hinsawdd. Felly, rwy'n gwerthfawrogi bod y rhain yn gyfnewidiadau anodd ar adegau, ac mae gan bob un ohonom ystyriaethau etholaethol lleol, ac nid ef yw'r unig un â hynny, ond mae'n rhaid i ni fod yn barod i wireddu'r polisïau rydyn ni wedi'u nodi.
Minister, I'm disappointed that a number of schemes that I've been promoting for many years are not progressing, but I was pleased to see that the Caersws road scheme is progressing, and really I suppose to challenge that perhaps it really shouldn't have been in the road review scheme in the first place, because it was more about a safety issue, rather than building a new road. But I think you're pushing at an open door when the report talks about more active travel being included in that scheme; that will gain community support. But, particularly, I notice, Minister, there's no mention of the Pant and Llanymynech bypass - this is a scheme that straddles the Wales-Shropshire border - being progressed, and which had support on the Welsh Government side and the UK Government's side for a number of years, mainly funded by the UK Government, and the road scheme would be largely in England as well, but I think you did confirm to me 18 months ago that this was part of the road review scheme. So, if it's not included, perhaps you could update me on that, and, if not today, perhaps you could write an update with regards to that element and that particular project.
Gweinidog, rwy'n siomedig nad yw nifer o gynlluniau yr wyf i wedi bod yn eu hyrwyddo ers blynyddoedd lawer yn mynd yn eu blaen, ond roeddwn i'n falch o weld bod cynllun ffordd Caersws yn mynd yn ei flaen, ac mewn gwirionedd mae'n debyg i herio hynny efallai na ddylai fod wedi bod yn y cynllun adolygu ffyrdd yn y lle cyntaf, gan ei fod yn fwy o fater diogelwch, yn hytrach nag adeiladu ffordd newydd. Ond rwy'n credu eich bod yn gwthio ar ddrws agored pan fo'r adroddiad yn sôn am fwy o deithio llesol yn cael ei gynnwys yn y cynllun hwnnw; bydd hynny'n cael cefnogaeth gymunedol. Ond, yn enwedig, rwy'n sylwi, Gweinidog, nid oes sôn am ffordd osgoi Pant a Llanymynech - mae hwn yn gynllun sy'n pontio'r ffin rhwng Cymru a Swydd Amwythig - yn mynd yn ei blaen, ac a gafodd gefnogaeth ar ochr Llywodraeth Cymru ac ochr Llywodraeth y DU am nifer o flynyddoedd, sy'n cael ei hariannu yn bennaf gan Lywodraeth y DU, a byddai'r cynllun ffordd yn Lloegr i raddau helaeth hefyd, ond rwy'n credu eich bod chi wedi cadarnhau i mi 18 mis yn ôl bod hwn yn rhan o'r cynllun adolygu ffyrdd. Felly, os nad yw'n cael ei gynnwys, efallai y gallech chi fy niweddaru ar hynny, ac, os nad heddiw, efallai y gallech chi ysgrifennu diweddariad o ran yr elfen honno a'r prosiect penodol hwnnw.
Thank you. Again, I appreciate you haven't had long to look at it, but I think you'll find in the national transport delivery plan there is mention of the scheme, that it will be subject to the test, like any other scheme is. And as you say, it is largely in England, but we are expected to pay a disproportionate share of the costs ourselves, given how little is in Wales. But that would be treated the same as any other scheme.
Diolch. Eto, rwy'n gwerthfawrogi nad ydych chi wedi cael llawer o amser i edrych arno, ond rwy'n credu y byddwch chi'n gweld yn y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth bod sôn am y cynllun, y bydd yn destun y prawf, fel y mae unrhyw gynllun arall. Ac fel rydych chi'n ei ddweud, yn Lloegr y mae yn bennaf, ond mae disgwyl i ni dalu cyfran anghymesur o'r costau ein hunain, gan ystyried cyn lleied sydd yng Nghymru. Ond byddai hynny'n cael ei drin yr un fath ag unrhyw gynllun arall.
You referred, Minister, to the bypass in Llandeilo, and I welcome the commitment that there is in the transport delivery plan to that particular scheme. But could you explain, in terms of the announcement that you are about to make, as you say, that that will be done on the basis of WelTAG 2, namely the framework that was the basis for the consultation? And will it move on then to WelTAG stage 3 in accordance with what has been presented in terms of the stakeholders? And in your response to the review, in terms of your policy, is there anything that you think could be a barrier to delivering on the commitment you made seven years ago to build that bypass in Llandeilo?
Roeddech chi wedi cyfeirio, Gweinidog, at ffordd osgoi ddwyreiniol Llandeilo, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad sydd yn y cynllun cyflawni ar gyfer trafnidiaeth i'r cynllun hwnnw. Ond a ydych chi jest yn gallu egluro, o ran y cyhoeddiad rŷch chi ar fin ei wneud, meddai chi, a fydd hynny'n cael ei wneud ar sail WelTAG cam 2, sef y fframwaith oedd yn sail i'r ymgynghoriad? Ac a fydd e'n symud ymlaen wedyn i WelTAG cam 3 yn unol â'r hyn sydd wedi cael ei gyflwyno o ran y rhanddeiliad? Ac oes yna unrhyw beth yn eich ymateb chi i'r adolygiad, o ran eich polisi chi, rŷch chi'n meddwl, gall fod mewn unrhyw ffordd yn rhwystr i chi ddelifro ar yr ymrwymiad wnaethoch chi saith mlynedd yn ôl nawr i adeiladu ffordd osgoi yn Llandeilo?
Well, I know that Adam Price is committed to seeing this scheme through. The words in the transport plan are clear. They are the same words that we jointly agreed between our parties in the budget agreement. As I said earlier, we'll progress to the next step of that process. In terms of the status of policy, we now have a roads policy statement that is Welsh policy, so that will apply to all schemes, and obviously it'll be a material consideration in the event of any planning dispute. So, the policy applies to everybody, and we have made a commitment to you and your constituents for your particular scheme, which we are working through and will honour.
Wel, rwy'n gwybod bod Adam Price wedi ymrwymo i wireddu'r cynllun hwn. Mae'r geiriau yn y cynllun trafnidiaeth yn glir. Yr un geiriau ag y gwnaethom ni gytuno arnynt ar y cyd rhwng ein pleidiau yng nghytundeb y gyllideb. Fel y dywedais i yn gynharach, byddwn ni'n symud ymlaen i gam nesaf y broses honno. O ran statws polisi, mae gennym ni nawr ddatganiad polisi ffyrdd sy'n bolisi Cymru, felly bydd hynny'n berthnasol i bob cynllun, ac yn amlwg bydd yn ystyriaeth berthnasol pe bai unrhyw anghydfod cynllunio. Felly, mae'r polisi yn berthnasol i bawb, ac rydyn ni wedi ymrwymo i chi a'ch etholwyr ar gyfer eich cynllun penodol, yr ydym ni'n gweithio drwyddo ac y byddwn ni'n ei anrhydeddu.
Thank you, Deputy Presiding Officer. Thank you, Deputy Minister, for commissioning this roads review, which is going to help us align our net-zero obligations with our transport strategy, and it's clear that there's still quite a lot of work to do to ensure our planning policies are also aligned with our net-zero obligations. For example, just as we need to halt unsustainable housing developments, such as the one you referred to in Wrexham - and the one that is in my constituency, the Lisvane housing development, where Redrow has made an absolute killing on it, and I've yet to see any measures to improve active travel or, indeed, bus routes to join up that very large housing development with any public transport, and so that's something that we should all worry about as it starts to reach completion - . I think that it's really helpful, this roads review, because it gives us a really clear direction of travel. Roads were invented long before the combustion engine. In fact, it was the Romans that built the A5, so it's about how we use our road network and surely we have to focus on those who don't have a car, as to how we can enable them to get around. And I think that the issue I want to speak about, and ask you about today, is really how we can get more rapid bus transport routes with dedicated bus lanes as a vehicle for getting the constituents of Blaenau Gwent or the Cynon Valley into Cardiff without having to use cars? Because, at the moment, the main reason given by people who bring their cars into the city centre, just to sit for eight hours while they are working, is that they can't rely -
Diolch. Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gomisiynu'r adolygiad ffyrdd hwn, sy'n mynd i'n helpu i gysoni ein rhwymedigaethau sero-net gyda'n strategaeth drafnidiaeth, ac mae'n amlwg bod cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod ein polisïau cynllunio hefyd yn cyd-fynd â'n rhwymedigaethau sero-net. Er enghraifft, yn union fel mae angen i ni atal datblygiadau tai anghynaladwy, fel yr un y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn Wrecsam - a'r un sydd yn fy etholaeth i, datblygiad tai Llysfaen, lle mae Redrow wedi gwneud yn arian mawr arno, ac nid wyf eto wedi gweld unrhyw fesurau i wella teithio llesol neu, yn wir, llwybrau bysiau i ymuno â'r datblygiad tai mawr iawn hwnnw gydag unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus, Ac felly mae hynny'n rhywbeth y dylen ni i gyd boeni amdano wrth iddo ddechrau cyrraedd ei gyflawniad - . Rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol iawn, yr adolygiad ffyrdd hwn, oherwydd mae'n rhoi cyfeiriad clir iawn i ni. Dyfeisiwyd ffyrdd ymhell cyn yr injan hylosgi. Yn wir, y Rhufeiniaid a adeiladodd yr A5, felly mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n defnyddio ein rhwydwaith ffyrdd a siawns nad oes rhaid i ni ganolbwyntio ar y rhai nad oes ganddynt gar, o ran sut y gallwn ni eu galluogi i deithio. Ac rwy'n credu mai'r mater rydw i eisiau siarad amdano, a gofyn i chi amdano heddiw, mewn gwirionedd yw sut y gallwn ni gael llwybrau cludo bws mwy cyflym gyda lonydd bws pwrpasol fel cyfrwng i gael etholwyr Blaenau Gwent neu Gwm Cynon i mewn i Gaerdydd heb orfod defnyddio ceir? Oherwydd, ar hyn o bryd, y prif reswm sy'n cael ei roi gan bobl sy'n dod â'u ceir i ganol y ddinas, dim ond i eistedd am wyth awr tra'u bod nhw'n gweithio, yw nad ydyn nhw'n gallu dibynnu -
You need to conclude now, please.
Mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
- on the buses, because they are clogged up in the congestion created by cars, which is an absolutely vicious circle, and I wondered how we can make serious and rapid progress on that in order to make rapid progress there.
- ar y bysiau, oherwydd eu bod nhw'n sownd yn y tagfeydd sy'n cael eu creu gan geir, sy'n gylch cwbl gythreulig, a meddwl oeddwn i tybed sut allwn ni wneud cynnydd o ddifrif a chyflym ar hynny er mwyn symud ymlaen yn gyflym arno.
One of my great frustrations is how long everything takes in transport. One of the tensions we have is we have climate science that tells us that we need to act urgently, and we have systems that take forever. If only we could embrace some of the innovation that we saw during the pandemic, when we saw pop-up bike lanes put in place at break-neck speed, in all fairness to local government, but we seem to have reverted to type. That is a real challenge for us, I think. In terms of your specific point on rapid bus transport, I absolutely agree that that is an essential part of the mix that we need to see. I have awarded money in the current financial year, £1 million, for the consortia to work together on a regional footprint to identify pinch-points and potential regional bus corridors in order that we can then create a pipeline of schemes. I've also made an invitation to the bus companies to identify areas that they think would make a significant difference to their reliability and journey times. That needs accelerating. The purpose of the regional transport plans that we're going to be developing, and the vanguard work that the Burns commission has done in the south-east, is to start mapping out some of these regional bus corridors and then to systematically work together to make them happen. But I share your impatience with the length of time it's taking.
Un o fy rhwystredigaethau mawr yw pa mor hir y mae popeth yn cymryd mewn trafnidiaeth. Un o'r tensiynau sydd gennym ni yw bod gennym ni wyddoniaeth hinsawdd sy'n dweud wrthym ni fod angen i ni weithredu ar frys, ac mae gennym ni systemau sy'n cymryd am byth. Pe baem ond yn gallu croesawu rhywfaint o'r arloesedd a welon ni yn ystod y pandemig, pan wnaethon ni weld lonydd beiciau dros dro yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym iawn, chwarae teg i lywodraeth leol, ond mae'n ymddangos ein bod ni wedi mynd yn ôl i'r hyn yr oeddem yn ei wneud yn flaenorol. Mae hynny'n her wirioneddol i ni, rwy'n credu. O ran eich pwynt penodol ar drafnidiaeth bysiau cyflym, rwy'n cytuno'n llwyr fod hynny'n rhan hanfodol o'r gymysgedd mae angen i ni ei weld. Rwyf i wedi dyfarnu arian yn y flwyddyn ariannol bresennol, £1 miliwn, i'r consortia weithio gyda'i gilydd ar ôl troed rhanbarthol i nodi mannau cul a choridorau bysiau rhanbarthol posibl er mwyn i ni wedyn greu llwybr o gynlluniau. Rwyf i hefyd wedi gwahodd cwmnïau bysiau i nodi meysydd y maen nhw'n credu y byddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w dibynadwyedd a'u hamseroedd teithio. Mae angen cyflymu hynny. Pwrpas y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yr ydym ni'n mynd i fod yn eu datblygu, a'r gwaith ar flaen y gad y mae comisiwn Burns wedi'i wneud yn y de-ddwyrain, yw dechrau mapio rhai o'r coridorau bysiau rhanbarthol hyn ac yna i weithio'n systematig gyda'n gilydd i wneud iddyn nhw ddigwydd. Ond rwy'n rhannu'ch diffyg amynedd gyda'r amser y mae'n ei gymryd.
Thank you, Deputy Minister. Before we move on -
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Cyn i ni symud ymlaen -
I've received a request from two Members to raise a point of order. Alun Davies.
Rydw i wedi cael cais gan ddau Aelod i godi pwynt o drefn. Alun Davies.
I'm grateful to you, Deputy Presiding Officer. During the statement, in reply to a question, the Deputy Minister referred to Plaid Cymru as shaping the budget. This was also referred to in answer to a question at First Minister's questions. Now, since shaping the budget is a fundamental part of the executive role of Government, it raises significant questions about our ability to scrutinise Members of Plaid Cymru who are shaping the Government and working within the Government. At the moment, there is no means of holding designated Members to account. We need to have a debate in this place about how designated Members function within Government, and decisions that are taken alongside designated Members, so that we can have proper accountability and scrutiny in this Chamber.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Yn ystod y datganiad, wrth ateb cwestiwn cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at Blaid Cymru yn llunio'r gyllideb. Cyfeiriwyd at hyn hefyd wrth ateb cwestiwn yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Erbyn hyn, gan fod llunio'r gyllideb yn rhan sylfaenol o rôl weithredol y Llywodraeth, mae'n codi cwestiynau sylweddol am ein gallu ni i graffu ar aelodau Plaid Cymru sy'n llunio'r Llywodraeth ac yn gweithio o fewn y Llywodraeth. Ar hyn o bryd, nid oes modd dwyn Aelodau dynodedig i gyfrif. Mae angen i ni gael dadl yn y lle hwn ynghylch sut mae Aelodau dynodedig yn gweithredu o fewn y Llywodraeth, a phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud ochr yn ochr ag Aelodau dynodedig, fel y gallwn ni gael atebolrwydd a chraffu priodol yn y Siambr hon.
Thank you for raising that point, which is an important issue. I don't believe it's a point of order, but it is an important point that needs further consideration, which will obviously be done. The second person is Janet Finch-Saunders.
Diolch am godi'r pwynt hwnnw, sy'n fater pwysig. Nid ydw i'n credu ei fod yn bwynt o drefn, ond mae'n bwynt pwysig sydd angen ystyriaeth arall, a fydd yn cael ei wneud, yn amlwg. Yr ail berson yw Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I would like to take issue with the Deputy Minister because he said two factually incorrect things, in my opinion, here today. On one, you said that - . I only raised with you about the two roundabouts in my constituency, and you made the point that I was saying one thing now, but I'd said something else differently, that I welcomed the fact that they were staying. Well, let me remind you of this: on 16 February 2022, I put 'It will come as no surprise, Deputy Minister, that I rise to challenge you on your decision to scrap the roundabout removal schemes on These schemes have been on the table since 2017, involving many costly assessments', costing the taxpayer approximately £9 million. And, actually, that's the position I have today. So, I'd like an apology or a retraction of that. You also said that there was nothing at the time that indicated there were any safety issues, and I said to you then as well: 'Now, the Welsh Government's own report highlights safety concerns as junctions are not compliant with current design standards; traffic delays as a result of poor network resilience; a lack of suitable diversion routes'. But, the thing is there, we've got to be very clear when we're speaking in this Chamber that we don't set out to mislead. I don't think you did set out to mislead, but I would like you to correct the record. Thank you.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i herio'r Dirprwy Weinidog oherwydd dywedodd ddau beth ffeithiol anghywir, yn fy marn i, yma heddiw. Ar un, fe ddywedoch chi fod - . Wnes i ond codi gyda chi ynghylch y ddwy gylchfan yn fy etholaeth, a gwnaethoch chi'r pwynt fy mod i'n dweud un peth nawr, ond fy mod i wedi dweud rhywbeth arall yn wahanol, fy mod i'n croesawu'r ffaith eu bod nhw'n aros. Wel, gadewch i mi eich atgoffa chi o hyn: ar 16 Chwefror 2022, dywedais i 'Ni fydd yn syndod, Ddirprwy Weinidog, fy mod yn codi i herio eich penderfyniad i roi'r gorau i'r cynlluniau i gael gwared ar gylchfannau ar Mae'r cynlluniau hyn wedi bod ar y gweill ers 2017, ac wedi bod yn destun llawer o asesiadau costus' gan gostio tua £9 miliwn i'r trethdalwr. Ac, mewn gwirionedd, dyna'r sefyllfa sydd gennym ni i heddiw. Felly, hoffwn i ymddiheuriad neu wrthdyniad. Gwnaethoch chi ddweud hefyd nad oedd dim ar y pryd a oedd yn dangos bod unrhyw broblemau diogelwch, a dywedais i wrthych chi bryd hynny hefyd: 'Nawr, mae adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn tynnu sylw at bryderon diogelwch gan nad yw cyffyrdd yn cydymffurfio â'r safonau dylunio presennol; oedi traffig o ganlyniad i ddiffyg cadernid y rhwydwaith; diffyg llwybrau gwyro addas'. Ond, y peth yw, mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn pan ydyn ni'n siarad yn y Siambr hon nad ydyn ni'n bwriadu camarwain. Nid ydw i'n credu eich bod chi wedi mynd ati i gamarwain, ond hoffwn i chi gywiro'r cofnod. Diolch.
As the Deputy Minister has already asked me to review the transcript, I'm sure he will also review the transcript and then come back to correct any errors that have been made within it. Okay? Thank you.
Gan fod y Dirprwy Weinidog eisoes wedi gofyn i mi adolygu'r trawsgrifiad, rwy'n siŵr y bydd ef hefyd yn adolygu'r trawsgrifiad ac yna'n dod yn ôl i gywiro unrhyw wallau sydd wedi'u gwneud o'i fewn. Iawn? Diolch.
Item 4 this afternoon is a statement by the Minister for Health and Social Services on the Health Service Procurement (Wales) Bill. I call on the Minister, Eluned Morgan.
Eitem 4 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. I'm pleased to have the opportunity to make a statement on the Health Service Procurement (Wales) Bill, which I introduced to the Senedd yesterday, together with the accompanying explanatory memorandum and regulatory impact assessment. The Bill seeks to reform the way in which certain NHS healthcare services are procured in Wales, bringing forward primary legislative powers and enabling the Welsh Ministers to create a new regime for NHS health service procurement. The powers within the Bill support the aims and objectives of our 'A Healthier Wales' strategy and this Government's commitment to provide effective, high-quality and sustainable health care, by supporting the NHS in Wales to deliver better health outcomes for the citizens of Wales. The provisions in the Bill are partly in response to proposed changes established as a result of the UK Government's Health and Care Act 2022, under which there are plans to introduce regulations and a new regime for the procurement of NHS health services in England. The Department of Health and Social Care's provider selection regime, applicable only to the procurement of health services in England, will aim to improve patient outcomes by seeking to remove unnecessary bureaucracy from the process of working with independent healthcare providers, by encouraging collaboration and partnerships. The provider selection regime will therefore give NHS England more flexibility to procure and arrange health services. As a consequence, these new arrangements may have an impact on NHS Wales's ability to maintain and secure health services in Wales when working with independent providers. To ensure that health service procurement in Wales is not disadvantaged as a result of introducing the provider selection regime in England, we too need to ensure that the NHS in Wales also has the ability to benefit from more flexible procurement practices. The provisions in the Bill and the future regulations will facilitate that flexibility, providing a supportive mechanism that aims to maintain the current procurement level playing field for NHS health services between England and Wales. This will assist in mitigating the risk of NHS Wales being adversely affected by the operation of a different health service procurement regime in England. It will retain the ability for the NHS in Wales to commission independent health service providers on a co-compliant and collaborative basis, in turn supporting and optimising financial and staff resources, supporting the NHS in Wales to deliver efficiently and effectively. Measures in the Bill will also aim to mitigate any potential market distortion by ensuring that the Welsh health service marketplace remains attractive to independent health service providers who may otherwise be deterred by having to participate in two different procurement regimes between England and Wales. It is hoped that a more flexible, collaborative and less bureaucratic approach will open up more supplier opportunities for small and medium-sized enterprises and third sector organisations based here in Wales and, therefore, as a consequence, bring economic benefits across other programme for government priorities, such as our commitment to the foundational economy of Wales.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i wneud datganiad ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), a gyflwynais i'r Senedd ddoe, ynghyd â'r memorandwm esboniadol ac asesiad effaith rheoleiddiol. Mae'r Bil yn ceisio diwygio'r ffordd y mae rhai gwasanaethau gofal iechyd y GIG yn cael eu caffael yng Nghymru, gan gyflwyno pwerau deddfu sylfaenol a galluogi Gweinidogion Cymru i greu trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd y GIG. Mae'r pwerau yn y Bil yn cefnogi nodau ac amcanion ein strategaeth 'Cymru Iachach' ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddarparu gofal iechyd effeithiol, o ansawdd uchel a chynaliadwy, drwy gefnogi'r GIG yng Nghymru i sicrhau canlyniadau iechyd gwell i ddinasyddion Cymru. Mae'r darpariaethau yn y Bil yn rhannol mewn ymateb i newidiadau arfaethedig a gafodd eu sefydlu o ganlyniad i Ddeddf Iechyd a Gofal Llywodraeth y DU 2022, lle mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno rheoliadau a threfn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd y GIG yn Lloegr. Nod trefn dewis darparwyr yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n berthnasol i gaffael gwasanaethau iechyd yn Lloegr yn unig, fydd gwella canlyniadau cleifion drwy geisio cael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen o'r broses o weithio gyda darparwyr gofal iechyd annibynnol, drwy annog cydweithio a phartneriaethau. Bydd y gydundrefn dethol darparwyr felly yn rhoi mwy o hyblygrwydd i GIG Lloegr gaffael a threfnu gwasanaethau iechyd. O ganlyniad, gallai'r trefniadau newydd hyn gael effaith ar allu GIG Cymru i gynnal a sicrhau gwasanaethau iechyd yng Nghymru wrth weithio gyda darparwyr annibynnol. Er mwyn sicrhau nad yw caffael y gwasanaeth iechyd yng Nghymru dan anfantais o ganlyniad i gyflwyno trefn ddethol y darparwyr yn Lloegr, mae angen i ni sicrhau bod y GIG yng Nghymru hefyd â'r gallu i elwa ar arferion caffael mwy hyblyg. Bydd y darpariaethau yn y Bil a'r rheoliadau yn y dyfodol yn hwyluso'r hyblygrwydd hwnnw, gan ddarparu mecanwaith cefnogol sy'n ceisio cynnal y tegwch, o ran caffael presennol, yng ngwasanaethau iechyd y GIG rhwng Cymru a Lloegr. Bydd hyn yn helpu i liniaru'r risg o effaith anffafriol ar GIG Cymru oherwydd gweithredu trefn gaffael wahanol gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr. Bydd yn cadw'r gallu i'r GIG yng Nghymru gomisiynu darparwyr gwasanaethau iechyd annibynnol ar sail cyd-gydymffurfio a chydweithredu, ac yn ei dro yn cefnogi ac optimeiddio adnoddau ariannol a staff, gan gefnogi'r GIG yng Nghymru i ddarparu'n effeithlon ac effeithiol. Bydd mesurau yn y Bil hefyd yn ceisio lliniaru unrhyw afluniad posibl y farchnad drwy sicrhau bod marchnad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn parhau i fod yn ddeniadol i ddarparwyr gwasanaethau iechyd annibynnol a allai gael eu rhwystro fel arall drwy orfod cymryd rhan mewn dwy drefn gaffael wahanol rhwng Cymru a Lloegr. Y gobaith yw y bydd dull gweithredu mwy hyblyg, cydweithredol a llai biwrocrataidd yn agor mwy o gyfleoedd i gyflenwyr, i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau trydydd sector a leolir yma yng Nghymru ac, felly, o ganlyniad, yn dod â manteision economaidd ar draws blaenoriaethau eraill y rhaglen lywodraethu, fel ein hymrwymiad i economi sylfaenol Cymru.
The draft Bill seeks to bring forward two regulation-making powers. Firstly, it will include a disapplication power, which will enable Welsh Ministers to dissaply provisions of the UK Government procurement Act that would otherwise apply to NHS health service procurement in Wales. Secondly, it will include a creation power to enable the Welsh Ministers to develop and implement a new, alternative procurement regime for NHS health services in Wales. This will be done through future regulations that will be accompanied by new procurement regime guidance, and these will be co-designed and implemented by the NHS in Wales. The provider selection regime in England is expected to commence later this year. Therefore, to reduce any potential market distortion and to ensure continued delivery of key NHS health services in Wales, there is some urgency to minimise the period of time when NHS health service procurement platforms in England and Wales will operate on a different basis. And as such, it's proposed that the Bill follows an expedited timetable to seek Royal Assent this summer and to future regulations aiming to come into force early next year. This timeline will also seek to maximise procedural efficiencies for NHS Wales by coinciding with wider changes being brought about as part of the UK Government's Procurement Bill reforms, which are currently programmed for next year. Whilst we need to be mindful that any new regime and any future regulations and guidelines need to operate on a similar basis to the proposed provider selection regime in England, Welsh Ministers have the necessary legislative competence and ability to design a new regime that best suits the specific needs of Wales in terms of patient care and health outcomes. The practical details of how this will work will be explored further and defined at the future regulation stage. In conclusion, the proposed Bill will provide the necessary powers to enable future regulations to adapt and respond to proposed changes being introduced to NHS health service procurement in England. Consequently, they will bring about a new procurement regime for NHS health services in Wales to support patient care and better health outcomes for the citizens of Wales. I am pleased to introduce this Bill and very much look forward to the contributions of Senedd Members today, and, of course, in the coming weeks, as part of the Senedd scrutiny process. Thank you.
Mae'r Bil drafft yn ceisio cyflwyno dau bŵer i wneud rheoliadau. Yn gyntaf, bydd yn cynnwys pŵer datgymhwyso, disapplication. Bydd hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod darpariaethau Deddf caffael Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amherthnasol i gaffael gwasanaethau iechyd yr NHS yng Nghymru. Yn ail, bydd yn cynnwys pŵer creu i alluogi Gweinidogion Cymru i ddatblygu a gweithredu trefn gaffael newydd, wahanol ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy reoliadau yn y dyfodol, gyda chanllawiau newydd ar y trefniadau caffael yn cael eu cydgynllunio a'u rhoi ar waith gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae disgwyl i'r gyfundrefn dethol darparwyr, y provider selection regime, yn Lloegr gychwyn nes ymlaen eleni. Felly, er mwyn lleihau unrhyw wyrdroi posib yn y farchnad a sicrhau bod gwasanaethau iechyd allweddol yr NHS yng Nghymru yn parhau i gael eu darparu, mae rhywfaint o frys i gyfyngu ar y cyfnod lle bydd platfformau caffael yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n wahanol. Y cynnig, felly, yw bod y Bil yn dilyn amserlen gyflym i geisio cael Cydsyniad Brenhinol yr haf yma a rheoliadau a fydd yn dod i rym yn fuan y flwyddyn nesaf. Bydd yr amserlen yma hefyd yn ceisio sicrhau'r arbedion effeithlonrwydd gorau posibl ar gyfer yr NHS yng Nghymru drwy gyd-fynd â newidiadau ehangach sy'n cael eu cyflwyno fel rhan o ddiwygiadau Bil Caffael Llywodraeth y DU sy'n cael eu cynllunio at y flwyddyn nesaf. Er bod angen cofio bydd yn rhaid i unrhyw drefn newydd ac unrhyw reoliadau a chanllawiau yn y dyfodol weithio'n debyg i'r gyfundrefn dethol darparwyr sy'n cael ei chynnig yn Lloegr, mae gan Weinidogion Cymru y cymhwysedd a'r gallu deddfwriaethol sydd ei angen i greu trefn newydd sy'n gweddu orau i anghenion penodol Cymru o ran gofal cleifion a chanlyniadau iechyd. Bydd y manylion ymarferol yn cael eu harchwilio ymhellach a'u diffinio yn ystod y cam rheoleiddio. I gloi, bydd y Bil sy'n cael ei gynnig yn rhoi'r pwerau angenrheidiol fel bod rheoliadau yn y dyfodol yn gallu addasu ac ymateb wrth i newidiadau gael eu cyflwyno i drefniadau caffael gwasanaethau iechyd yr NHS yn Lloegr. O ganlyniad, bydd yn creu trefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru i gefnogi gofal cleifion a gwell canlyniadau iechyd i bobl Cymru. Dwi'n falch o gyflwyno'r Bil yma ac yn edrych ymlaen at gyfraniadau Aelodau o'r Senedd heddiw, ac yn ystod, wrth gwrs, yr wythnosau nesaf, fel rhan o broses graffu'r Senedd. Diolch.
Minister, can I thank you in advance for the briefing that you gave to the Health and Social Care Committee last week? I know that your officials are going to be providing a technical briefing to Members as well, so that's of course appreciated. Of course, we do need to ensure that the NHS is nimble enough in its procurement practices so it doesn't fall behind other parts of the UK. As I've understood - and I'm still learning - the Bill to date, I understand why you're bringing this Bill forward, but there are some questions I have that sit behind that. I do think, Minister, it's right, of course, to highlight that we don't want Wales to fall behind or be disadvantaged compared to England when it comes to health procurement, but I suppose it would be helpful if you could set out anything that helps us to understand how we got into this position in the first place. Then there's the position of whether an LCM could have been brought forward via the legislation being passed through the UK Parliament. That would have, of course, saved the Senedd and indeed Welsh Government valuable time. So, I wonder if the Welsh Government actively sought this legislative route, and if not, perhaps you could outline some of the obstacles that sat behind that decision. This is an enabling Bill, so, as is often said, the devil is in the detail of the regulations that will be made using the powers that this law will create. So, given that secondary legislation will be perhaps the more significant part of this Bill, I hope that won't be contentious, but I am of course pleased that the Senedd will be allowed to vote on them as they will be part of the affirmative procedure, as I've understood it. But we do need to understand the policy intention behind the Bill, so I wonder, Minister, whether you can tell us what these regulations to follow might look like, and which health services in particular would these powers be used for. We were also told that it's particularly important for those NHS services that deliver for patients near the England-Wales border, and of course I would have an interest in that. So, can I ask if you have any examples of where this would apply, especially for NHS-to-NHS services? And given that the Bill is about giving the Welsh Government flexibility in procuring the services of independent providers, does this mean at all that the Labour Government here is intent on increasing the use of private services in the NHS at all? Can we expect this to occur? Also, just to understand how this Bill might help those 50,000 people who are of course waiting for over two years for treatment. I know your target is approaching, to eliminate the backlog by the end of March, and I think you'll probably confirm that that is unlikely to be achieved, but how would this Bill help in that regard? I think the Senedd and the public perhaps would also benefit from an explanation of how the provider selection regime, or the PSR, would - . How that would - . An explanation of that. It would be good, perhaps, to hear the Minister perhaps illustrate what changes we can expect in that regard. Finally, when the regulations do come forward, how much can we expect those to mirror the regulations that the UK Government is bringing forward? Will it be, for example, word for word? Would it be lifted out of the UK Government's legislation? And perhaps you could talk about the degree of collaboration, if any, with the Department of Health and Social Care.
Gweinidog, a gaf i ddiolch o flaen llaw am y briff y gwnaethoch chi ei roi i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr wythnos diwethaf? Rwy'n gwybod bod eich swyddogion yn mynd i fod yn darparu briff technegol i Aelodau hefyd, felly mae hynny wrth gwrs yn cael ei werthfawrogi. Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau bod y GIG yn ddigon ystwyth yn ei arferion caffael fel na fydd ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Fel yr ydw i wedi'i ddeall - ac rwy'n dal i ddysgu - y Bil hyd yma, rwy'n deall pam eich bod chi'n cyflwyno'r Bil hwn, ond mae rhai cwestiynau gennyf i y tu ôl i hynny. Rydw i'n meddwl, Gweinidog, ei bod hi'n iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y ffaith nad ydyn ni eisiau i Gymru fod ar ei hôl hi neu fod o dan anfantais o gymharu â Lloegr pan fo'n dod at gaffael iechyd, ond mae'n debyg y byddai'n ddefnyddiol pe baech yn nodi unrhyw beth sy'n ein helpu ni i ddeall sut y daethom ni i'r sefyllfa hon yn y lle cyntaf. Yna mae'r pwynt tybed a allai memorandwm cydsyniad deddfwriaethol fod wedi ei gyflwyno drwy'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio drwy Senedd y DU. Wrth gwrs, byddai hynny wedi arbed amser gwerthfawr y Senedd ac yn wir Llywodraeth Cymru. Felly, tybed a aeth Llywodraeth Cymru ati i geisio'r llwybr deddfwriaethol hwn, ac os naddo, efallai y gallech chi amlinellu rhai o'r rhwystrau y tu ôl i'r penderfyniad hwnnw. Mae hwn yn Fil galluogi, felly, fel y caiff ei ddweud yn aml, rhaid edrych yn fanwl ar y rheoliadau a fydd yn cael eu gwneud gan ddefnyddio'r pwerau y bydd y gyfraith hon yn eu creu. Felly, o ystyried efallai mai is-ddeddfwriaeth fydd y rhan fwy arwyddocaol o'r Bil hwn, rwy'n gobeithio na fydd hynny'n ddadleuol, ond rwy'n falch wrth gwrs y bydd y Senedd yn cael pleidleisio arnyn nhw gan y byddan nhw'n rhan o'r weithdrefn gadarnhaol, fel yr wyf i wedi'i deall. Ond mae angen i ni ddeall y bwriad polisi y tu ôl i'r Bil, felly tybed, Gweinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni sut fath o reoliadau y gallai'r rhain sydd i ddilyn fod, ac ar gyfer pa wasanaethau iechyd yn benodol fyddai'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio. Cawson ni wybod hefyd, ei bod hi'n arbennig o bwysig i'r gwasanaethau GIG hynny sy'n darparu ar gyfer cleifion ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac wrth gwrs byddai gennyf i ddiddordeb yn hynny. Felly, a gaf i ofyn a oes gennych chi unrhyw enghreifftiau o ble fyddai hyn yn berthnasol, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau'r GIG-i-GIG? Ac o ystyried bod y Bil yn ymwneud â rhoi hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru i gaffael gwasanaethau darparwyr annibynnol, ydy hyn yn golygu o gwbl fod y Llywodraeth Lafur yma'n benderfynol o gynyddu defnyddio gwasanaethau preifat yn y GIG? A allwn ni ddisgwyl i hyn ddigwydd? Hefyd, dim ond i ddeall sut y gallai'r Bil hwn helpu'r 50,000 o bobl hynny sydd wrth gwrs yn aros am dros ddwy flynedd am driniaeth. Rwy'n gwybod bod eich targed yn agosáu, i ddileu'r ôl-groniad erbyn diwedd mis Mawrth, ac rwy'n credu y byddwch chi'n cadarnhau mae'n debyg y bydd hynny'n annhebygol o gael ei gyflawni, ond sut fyddai'r Bil hwn yn helpu yn hynny o beth? Rwy'n credu y byddai'r Senedd a'r cyhoedd efallai hefyd yn elwa ar esboniad o sut y byddai'r gyfundrefn dethol darparwyr, neu'r PSr, yn - . Sut byddai hynny - . Esboniad o hynny. Byddai'n dda, efallai, clywed y Gweinidog yn egluro pa newidiadau y gallwn ni eu disgwyl yn hynny o beth. Yn olaf, pan gyflwynir y rheoliadau, i ba raddau gallwn ni ddisgwyl i'r rhain adlewyrchu'r rheoliadau y mae Llywodraeth y DU yn eu cyflwyno? A fyddant, er enghraifft, gair am air? A fyddant yn cael eu codi o ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU? Ac efallai y gallech chi sôn am faint o gydweithio, os o gwbl, fydd gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Thanks very much. There are lots of questions there. If I'm honest, this is not the most exciting Bill that this Senedd has ever seen. What we're doing here is responding to the fact that what has happened in England is they've presented this new Bill that will allow some organisations, perhaps, not to have to retender. Sometimes that takes a lot of energy, effort and finance, when actually the service that they're providing is pretty good. So, I think that's the intention from the UK Government's point of view. We did ask, 'Listen, can you just slip us in there? Why don't you just add our name to that?' And actually, they said that they couldn't provide Welsh Ministers with the two necessary powers to disapply the current procurement rules and to create the new rules. That's why we're in this situation. So, we did ask that question, and that's why we're having to bring this forward now, because otherwise there will be, effectively, a gap and there's going to be a difference in terms of the different procurement regimes between Wales and England. We don't want to be disadvantaged. This is an enabling Bill, it's a framework Bill. As you said, the more exciting bits, the bits that bring this thing to life, will come when secondary legislation comes in. I'm pleased to say that the Senedd will have a chance to look at that detail through the affirmative procedure. That's the bit that I think everybody needs to get excited about; this is just creating the framework. In terms of whether we'll just cut and paste whatever they do in England, we haven't seen what they're going to do in England yet. We haven't seen the detail of their secondary legislation. So, we don't know whether we want to copy and paste that. We'll have to have a look. It may be that we want to do things differently. Maybe we want to skew things in a slightly different way from what they're intending to do in England. It's about keeping an open mind and seeing what they come up with. But at least we will have the flexibility to respond if we need to. There are, I think, opportunities. There are lots of areas where we do procure from across the border in England for highly specialised services, and there's no reason why we would want that to stop, necessarily. There are, for example, renal services, child and adult mental health services where it's really, really specialised, and those services may not be available in Wales. What we can do then is to go under the same procurement banner as they would in England. You asked about the border, and you're absolutely right; there are examples, for example out-of-hours GP services. There is an example in Powys where the out-of-hours service is shared between Wales and England on the border. That would be really difficult for us to do in future unless we've got a common procurement framework. There will be examples where we want to do this. If the regulations come forward, we'll have to see whether we agree with them or not in terms of what England wants to do. But we'll have a chance to discuss that in the Senedd at that time.
Diolch yn fawr. Mae llawer o gwestiynau yn y fan yna. Os ydw i'n onest, nid dyma'r Bil mwyaf cyffrous y gwelodd y Senedd hon erioed. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yw ymateb i'r ffaith mai'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr yw eu bod wedi cyflwyno'r Bil newydd hwn a fydd yn caniatáu i rai sefydliadau, efallai, beidio â gorfod ail-dendro. Weithiau mae hynny'n cymryd llawer o egni, ymdrech a chyllid, pan, mewn gwirionedd, mae'r gwasanaeth y maen nhw'n ei ddarparu yn eithaf da. Felly, rwy'n credu mai dyna'r bwriad o safbwynt Llywodraeth y DU. Gwnaethom ni ofyn, 'Gwrandewch, allwch chi ein cynnwys ni yna? Pam na wnewch chi ond ychwanegu ein henw at hynna?' Ac mewn gwirionedd, dywedon nhw na allan nhw roi'r ddau bŵer angenrheidiol i Weinidogion Cymru i ddatgymhwyso'r rheolau caffael presennol a chreu'r rheolau newydd. Dyna pam y rydyn ni yn y sefyllfa yma. Felly, gwnaethom ni ofyn y cwestiwn hwnnw, a dyna pam ein bod ni'n gorfod cyflwyno hyn nawr, oherwydd fel arall fe fydd yna, i bob pwrpas, bwlch ac mae gwahaniaeth yn mynd i fod o ran y gwahanol drefnau caffael rhwng Cymru a Lloegr. Nid ydym eisiau bod o dan anfantais. Mae hwn yn Fil sy'n galluogi, mae'n Fil fframwaith. Fel y dywedoch chi, bydd y darnau mwy cyffrous, y darnau sy'n dod â'r peth hwn yn fyw, yn dod pan gyflwynir is-ddeddfwriaeth. Rwy'n falch o ddweud y bydd gan y Senedd gyfle i edrych ar y manylion hynny drwy'r weithdrefn gadarnhaol. Dyna rwy'n credu yw'r darn y mae angen i bawb deimlo'n gyffrous yn ei gylch; dim ond creu'r fframwaith yw hyn. O ran a fyddwn ni dim ond yn torri a gludo beth bynnag y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, nid ydym wedi gweld yr hyn y maen nhw'n mynd i'w wneud yn Lloegr eto. Nid ydym wedi gweld manylion eu his-ddeddfwriaeth. Felly, nid ydym ni'n gwybod a ydym eisiau torri a gludo hynny. Bydd rhaid i ni gael golwg. Efallai ein bod ni eisiau gwneud pethau'n wahanol. Efallai ein bod ni eisiau gwyro pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol i'r hyn y maen nhw'n bwriadu'i wneud yn Lloegr. Mae'n ymwneud â chadw meddwl agored a gweld beth maen nhw'n ei greu. Ond o leiaf bydd gennym ni'r hyblygrwydd i ymateb os oes angen i ni wneud hynny. Mae yna, rwy'n credu, gyfleoedd. Mae llawer o feysydd lle y rydyn ni'n caffael o dros y ffin yn Lloegr ar gyfer gwasanaethau arbenigol iawn, ac nid oes rheswm pam y byddem ni eisiau i hynny ddod i ben, o reidrwydd. Er enghraifft, mae gwasanaethau arennol, gwasanaethau iechyd meddwl plant ac oedolion sy'n wirioneddol arbenigol iawn, ac efallai na fydd y gwasanaethau hynny ar gael yng Nghymru. Yr hyn y gallwn ni ei wneud wedyn yw mynd o dan yr un faner gaffael ag y bydden nhw yn Lloegr. Gwnaethoch chi ofyn am y ffin, ac rydych chi'n hollol gywir; mae enghreifftiau, er enghraifft ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau. Mae enghraifft ym Mhowys lle mae'r gwasanaeth y tu allan i oriau yn cael ei rannu rhwng Cymru a Lloegr ar y ffin. Byddai hynny'n anodd iawn i ni'i wneud yn y dyfodol oni bai fod gennym ni fframwaith caffael cyffredin. Bydd enghreifftiau pan fyddwn ni eisiau gwneud hyn. Os caiff y rheoliadau eu cyflwyno, bydd rhaid i ni weld a ydym ni'n cytuno â nhw neu beidio o ran yr hyn mae Lloegr eisiau'i wneud. Ond bydd cyfle i drafod hynny yn y Senedd bryd hynny.
Thank you for the statement this afternoon, Minister, and for the briefing provided to us beforehand. It's a little unclear at this point some of the things that we will discover as this proceeds over the next weeks and months. I have listened to the Minister's rationale for her belief that this is necessary and that there needs to be a level of protection because of legislation being introduced over the border in England that could create the kind of distortion that may be problematic to us. In that context, I want to be pragmatic and fully understand what the practical impacts of that may be and what is the practical need for taking this step in Wales. The fundamental problem that I have is why the Government in Westminster, or rather in Whitehall, is introducing this change when the Minister tells us today:
Diolch am y datganiad heddiw gan y Gweinidog a hefyd am y briefing a roddwyd i ni ymlaen llaw. Mae'n ychydig yn aneglur, dwi'n meddwl, ar y pwynt yma o beth ydy rhai o'r pethau y byddwn ni'n eu canfod wrth i'r broses yma fynd yn ei blaen dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Dwi'n clywed y rhesymeg gan y Gweinidog dros ei chred hi bod angen gwneud hyn, bod angen lefel o warchodaeth oherwydd deddfwriaeth sy'n cael ei gyflwyno dros y ffin yn Lloegr a allai greu math o distortion fyddai'n gallu bod yn broblematig i ni. Yng nghyd-destun hynny, dwi eisiau bod yn bragmataidd, a deall go iawn beth fydd effeithiau ymarferol hynny a beth ydy'r angen ymarferol dros gymryd y cam yma yng Nghymru. Y broblem sylfaenol sydd gen i yw pam mae'r Llywodraeth yn San Steffan, neu yn Whitehall, yn cyflwyno'r newid yma pan fo'r Gweinidog yn dweud wrthym ni heddiw:
'The provider selection regime will therefore give NHS England more flexibility to procure and arrange health services.'
'Bydd y gydundrefn dethol darparwyr felly yn rhoi mwy o hyblygrwydd i GIG Lloegr gaffael a threfnu gwasanaethau iechyd.'
I don't trust the motives of the Conservative Government for wanting to do that, and there will be issues of principle leading me through this process. The fundamental principle is that I don't want to see this as a means for the private sector to lay down deeper roots within the provision of health services in Wales, and to be able to set those roots far more easily than they would have been able to do in the past. So, I would like to hear from the Minister on the record that she shares those concerns. It is a concern of mine that there is an expedited process for scrutiny of this. Because I want to be pragmatic and to understand exactly what's at stake here, it's a cause of concern that that scrutiny period is shorter than it perhaps should be. So, what confidence can the Minister give me that the period, even if it is shorter than usual, will allow the same depth of scrutiny? Because we do need to be entirely clear that we look at all of the possible implications here. I will be pragmatic, as I've said, but those concerns do mean that the scrutiny is extremely important. I know that other Members on these benches share my concerns, and I would welcome the Minister's comments on her concerns. One specific question that I have asked previously, and I just wanted to know if there are any early findings coming from the work done by Government here: procurement in a more streamlined way would make it easier to give contracts to the third sector, not just to the private sector. I have wondered whether we can differentiate between third sector and private-sector provision within this legislation. I would appreciate an update on any work that is been being done on that possibility.
Dydw i ddim yn trystio beth ydy cymhelliad y Llywodraeth Geidwadol dros fod eisiau gwneud hynny, ac mi fydd yna egwyddorion yn fy arwain i drwy'r broses yma. Egwyddor sylfaenol ydy dydw i ddim eisiau gweld hwn yn fodd i'r sector breifat allu rhoi gwreiddiau dyfnach o fewn darpariaeth gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac i allu gosod y gwreiddiau dyfnach hynny mewn ffordd llawer haws na bydden nhw wedi gorfod gweithredu yn y gorffennol. Felly mi fyddwn i'n licio clywed gan y Gweinidog yn fan hyn ar y cofnod ei bod hithau hefyd yn rhannu y pryderon hynny. Mae hi'n bryder i mi fod yna broses fyrrach yn mynd i fod ar gyfer gwneud y gwaith sgrwtineiddio. Oherwydd fy mod i eisiau bod yn bragmataidd a dysgu yn union beth sydd yn y fantol fan hyn, mae o'n achos pryder i fi bod y cyfnod i ddod i ddeall y goblygiadau posib yn fyrrach nag y dylai fo fod. Pa hyder mae'r Gweinidog yn meddwl y gall hi ei roi i fi y bydd y cyfnod, os nad yr un hyd ag arfer, yn caniatáu yr un dyfnder o sgrwtini? Achos mi ydyn ni angen bod yn berffaith glir ein bod ni'n edrych ar yr holl oblygiadau yn fan hyn. Mi fyddaf i'n bragmataidd, fel dwi'n dweud, ond mae'r pryderon yna yn golygu bod y sgrwtini yn hynod, hynod bwysig. Dwi'n gwybod bod Aelodau eraill ar y meinciau yma yn rhannu hynny efo fi, ac mi fyddwn i'n croesawu clywed gan y Gweinidog ei chonsérn hithau. Un cwestiwn penodol dwi wedi ei ofyn o'r blaen, a dim ond eisiau gwybod os oes unrhyw ganfyddiadau cynnar yn dod o waith sy'n cael ei wneud gan y Llywodraeth ar hyn: mi fyddai caffael mewn ffordd haws yn ei gwneud hi'n haws i roi cytundebau i'r trydydd sector, nid dim ond i'r sector breifat. Dwi wedi ystyried oes yna fodd i wahaniaethu rhwng darpariaeth trydydd sector a darpariaeth sector breifat o fewn y ddeddfwriaeth yma. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi diweddariad ar unrhyw waith sy'n cael ei wneud ar y posibilrwydd hwnnw.
Thank you very much. I do think that we do need to keep a weather eye on what is happening, and we do need to bear in mind that this is a very brief Bill. So, what we're talking about here is a framework, and what will be important is what will go into that framework, and that's why it's important that we'll have an opportunity to come back to discuss the details of what goes into the framework. That'll be the point at which it will be much more of a political issue, and that's the point where we'll have to look at whether what's being proposed in England is appropriate for us here in Wales too. So, I don't think that this initial phase is as contentious as that; it's the second phase that will be, and of course, we'll have to come back to the Senedd for that. I do share your concerns in terms of the private sector, and we have to be vigilant in that regard, but I also think that there are examples where the third sector, for example, does excellent work, and what is a barrier to them - and I'm sure you've discussed this with some of them, too - is that they have to jump through all of these hoops, even though they provide such a good service. Why do we have to go through that process time and time again even though the service they provide is so good? That causes difficulties in terms of keeping people in their posts and so on. So, I think that there are aspects that will be of assistance to the third sector, and that is something that I would be comfortable with. I just want to be clear: in terms of the reason why - .
Diolch yn fawr iawn. Dwi yn meddwl bod yn rhaid inni gadw golwg ar beth sy'n digwydd, ac mae'n rhaid inni gofio, dwi'n meddwl, bod hwn yn Fil hynod o fyr. Felly, beth dŷn ni'n sôn am yw fframwaith, a beth fydd yn bwysig yw beth sy'n mynd mewn i'r fframwaith, a dyna pam beth sy'n bwysig yw y byddwn ni'n cael cyfle i ddod yn ôl i drafod y manylion sydd yn mynd i mewn i'r fframwaith. A dyna fydd y pwynt pan efallai y bydd hi'n lot mwy gwleidyddol, a dyna'r pwynt lle bydd yn rhaid inni edrych i weld ydy beth sy'n cael ei gynnig yn Lloegr yn weddus i ni yma yng Nghymru hefyd. Felly, dwi ddim yn meddwl bod y rhan gyntaf yma hwn mor contentious â hynny; yr ail ran fydd, ac wrth gwrs, bydd rhaid inni ddod nôl i'r Senedd ar gyfer hynny. Dwi yn rhannu pryderon o ran y sector breifat, ac mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus ynglŷn â hynny, ond dwi yn meddwl hefyd bod yna enghreifftiau lle mae'r trydydd sector, er enghraifft, yn gwneud gwaith anhygoel, a beth sy'n rhwystr iddyn nhw - a dwi'n siŵr eich bod chi wedi trafod gyda rhai ohonyn nhw hefyd - yw bod yn rhaid iddyn nhw fynd drwy'r lwpiau yma dro ar ôl tro, er eu bod nhw'n cynnig gwasanaeth hynod o dda. Pam mae'n rhaid inni fynd trwy hynny dro ar ôl tro er bod y gwasanaeth maen nhw'n ei cynnig yn dda? Mae hynny'n creu anhawster o ran cadw pobl yn eu swyddi nhw a phob math o bethau. Felly dwi'n meddwl bod yna agweddau fydd yn help efallai i'r trydydd sector, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n gyfforddus gyda. Dwi jest eisiau bod yn glir: o ran y rheswm pam - .
Just to go back to Russell's point earlier in terms of why we couldn't get into the first Health and Care Act, the point there is that the scope of the Health and Care Act was for England, so that's why it was difficult for us to say - . It was about the scope of the Act itself, which meant that it was difficult for us to join in. It was just applied to England, so they were reluctant. Usually, I think, when it comes to LCMs, they're dealing with broader issues, but this is very much a very carefully defined devolved area, which is why I guess the scope was quite defined for them.
Dim ond i fynd yn ôl at bwynt Russell yn gynharach o ran pam nad oedd modd i ni gael ein cynnwys yn y Ddeddf Iechyd a Gofal gyntaf, y pwynt yna yw bod cwmpas y Ddeddf Iechyd a Gofal ar gyfer Lloegr, felly dyna pam roedd hi'n anodd i ni ddweud - . Roedd yn ymwneud â chwmpas y Ddeddf ei hun, a oedd yn golygu ei bod hi'n anodd i ni ymuno â hi. Roedd hi wedi'i chymhwyso ar gyfer Lloegr yn unig, felly roedden nhw'n anfodlon. Fel arfer, rwy'n credu, o ran memoranda cydsyniad deddfwriaethol, maen nhw'n ymdrin â materion ehangach, ond mae hwn yn faes datganoledig wedi'i ddiffinio'n ofalus iawn, a dyna pam rwy'n dyfalu bod y cwmpas wedi'i ddiffinio'n eithaf da ar eu cyfer nhw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I thank you, Minister, for your statement. As you say, the first stage of this is a framework Bill, and the second stage will be where the detail lies. When I put the term 'flexible procurement in the NHS' and the Tories together, I get really concerned, as most of the country should be, because we will remember the personal protective equipment fiasco that happened with the flexible VIP fast-tracking, or, if you like, in my words, fast-profiting, regime being put together. We need to clearly keep a watching brief. We know that there's going to be a provider selection regime and we need to know more about how that will look in Wales, because you're absolutely right not to go down the same road as we suspect the Tories in England will do and give jobs to those people who invest in that party. They've got a good track record in putting those two things together. We don't wish to follow that, and we want legislation that will safeguard, first of all, the NHS in Wales in and of itself, but also, of course, the patients, because it would be those people who'd be receiving that care and receiving the outcomes from that care who have to be at the absolute centre of everything that we do. Yes, we would have all liked more time, but, as you say, the first stage is a framework, so it has to go through as it is -
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Fel y dywedwch, cam cyntaf hyn yw Bil fframwaith, a'r ail gam fydd pryd y cawn y manylion. Pan roddaf y term 'caffael hyblyg yn y GIG' a'r Torïaid gyda'i gilydd, rwy'n pryderu'n fawr, fel y dylai'r rhan fwyaf o'r wlad, oherwydd byddwn ni'n cofio ffiasgo'r cyfarpar diogelu personol a ddigwyddodd gyda'r weithdrefn llwybr carlam VIP hyblyg, neu, os hoffech chi, yn fy ngeiriau i, trefn elw cyflym, yn cael ei chreu. Yn amlwg, mae angen i ni gadw golwg arni. Rydyn ni'n gwybod bod trefn dewis darparwyr yn mynd i fod ac mae angen i ni wybod mwy am sut bydd hynny'n edrych yng Nghymru, oherwydd rydych chi'n hollol iawn i beidio â mynd lawr yr un llwybr ag rydyn ni'n amau y bydd y Torïaid yn Lloegr yn ei wneud ac yn rhoi swyddi i'r bobl hynny sy'n buddsoddi yn y blaid honno. Mae ganddyn nhw hanes da o ran rhoi'r ddau beth yna at ei gilydd. Nid ydym yn dymuno dilyn hynny, ac rydyn ni eisiau cael deddfwriaeth a fydd yn diogelu, yn gyntaf oll, y GIG yng Nghymru ei hun, ond hefyd, wrth gwrs, y cleifion, oherwydd mae'n rhaid i'r bobl hynny a fyddai'n derbyn y gofal hwnnw a chanlyniadau'r gofal hwnnw fod yn ganolog i bopeth a wnawn ni. Ie, byddem ni i gyd wedi hoffi mwy o amser, ond, fel yr ydych chi'n ei ddweud, fframwaith yw'r cam cyntaf, felly mae'n rhaid iddo fynd trwyddo fel y mae -
You need to conclude now, Joyce, please.
Mae angen i chi ddod i ben nawr, Joyce, os gwelwch yn dda.
My question to you, Minister, is: when you exercise the second part of this, will you give adequate time, or more time, certainly, to scrutinise what will be in that framework so that we can all be assured that those things that I've just outlined happening over the border won't happen here in Wales?
Fy nghwestiwn i chi, Gweinidog, yw: pan fyddwch chi'n gweithredu'r ail ran o hyn, a wnewch chi roi amser digonol, neu fwy o amser, yn sicr, i graffu ar beth fydd yn y fframwaith hwnnw fel y gallwn ni i gyd fod yn sicr na fydd y pethau hynny yr ydw i newydd eu hamlinellu sy'n digwydd dros y ffin yn digwydd yma yng Nghymru?
Thanks very much, Joyce. I just want to reassure you, really, that we'll be the ones who decide what it looks like in Wales. If we like what they're doing in England, we can copy it. If we don't like it, we don't have to copy it. But we've got the framework now to make those decisions. What we are talking about here is quite often highly specialised services that we can't offer in Wales, so we're not in a position, very often, to make choices; it's either there, or you don't get a service. We've got to keep an eye on what is good for the patient constantly, and that is part of what we need to do here, which is why, for example - . You represent also a border constituency. Shropdoc, the out-of-hours service, is co-commissioned with health boards in England and Powys health authority, so it would be much more difficult to do that in future, which means that the cover for the people living in those border areas out of hours would be very, very difficult to provide. It may be that in that example, there wouldn't be enough people on the Welsh side for people to tender for that service. So, it is about being practical, this, I think, and just keeping our eye on what is best for the patients, but without losing that ideological lens that I think we're all very committed to.
Diolch yn fawr, Joyce. Rydw i dim ond eisiau eich sicrhau chi, mewn gwirionedd, mai ni fydd y rhai sy'n penderfynu sut mae'n edrych yng Nghymru. Os ydym ni'n hoffi'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, gallwn ni ei gopïo. Os nad ydym ni'n ei hoffi, does dim rhaid i ni ei gopïo. Ond mae gennym ni'r fframwaith nawr i wneud y penderfyniadau hynny. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yn eithaf aml yma yw gwasanaethau arbenigol na allwn ni eu cynnig yng Nghymru, felly nid ydym mewn sefyllfa, yn aml iawn, i wneud dewisiadau; mae e naill ai yno, neu ni chewch chi wasanaeth. Mae'n rhaid i ni gadw llygad ar beth sy'n dda i'r claf yn gyson, ac mae hynny'n rhan o'r hyn sydd angen i ni ei wneud yma, a dyna pam, er enghraifft - . Rydych chi hefyd yn cynrychioli etholaeth ehangach ar y ffin. Mae Shropdoc, y gwasanaeth y tu allan i oriau, yn cael ei gyd-gomisiynu gyda byrddau iechyd yn Lloegr ac awdurdod iechyd Powys, felly byddai'n llawer anoddach gwneud hynny yn y dyfodol, sy'n golygu y byddai gwasanaethu'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny ar y ffin, y tu allan i oriau yn anodd iawn, iawn. Efallai yn yr enghraifft honno, na fyddai digon o bobl ar ochr Cymru i bobl dendro ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Felly, mae'n ymwneud â bod yn ymarferol, rwy'n credu, cadw ein llygad ar beth sydd orau i'r cleifion, ond heb golli'r lens ideolegol yna rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ymrwymo'n llwyr iddi.
Item 5 this afternoon is a statement by the Minister for Education and Welsh Language on digital learning in further education. I call on the Minister, Jeremy Miles.
Eitem 5 y prynhawn yma yw daganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar ddysgu digidol mewn addysg bellach. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.
Thank you, Dirprwy Lywydd. Over the past three years, we have seen a step change in the development of digital learning, on a scale that we could never have anticipated before the COVID-19 pandemic. I want to pay tribute to the dedication of our staff and leaders across the whole education sector, who worked to keep our learners engaged during a period of unprecedented challenge. It's now time to look forward. We have an exciting opportunity to consider how teaching and learning can evolve to meet the changing needs of learners, the changing needs of the economy and the changing needs of society - these are ever-changing needs. And this is is about harnessing the potential of technology to enhance learning experiences and widen access to learning opportunities for people in Wales. Our new school curriculum will help to develop pupils' digital competence, and I want to ensure that our young people can continue on that journey as they progress into post-16 learning. The further education sector is also at the forefront of our plans to equip learners of all ages with the skills they need to progress into meaningful, fulfilling work. Effective vocational learning means working with the tools and techniques used by modern industry, and our colleges have forged strong partnerships with employers to help fulfil the digital skills mission in the digital strategy for Wales. In spring of last year, I set out my overall vision for the further education sector in Wales. I made it clear that I expect digital tools and technologies to become a natural part of a learner's journey, as part of a modern, coherent approach to learning. We already have a strong foundation to help make this ambition a reality. Our strategic framework for digital learning, namely 'Digital 2030', which was published in 2019, was co-produced with the post-16 sector. We are using the vision, aims and objectives set out in 'Digital 2030' to guide investment and support for the sector.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dros y tair blynedd diwethaf, rŷn ni wedi gweld newid mawr yn natblygiad dysgu digidol ar raddfa na allen ni erioed fod wedi ei rhagweld cyn pandemig COVID-19. Dwi am dalu teyrnged i ymroddiad ein staff a'n harweinwyr ar draws y sector addysg a weithiodd i gynnal brwdfrydedd ein dysgwyr yn ystod cyfnod o her na welwyd ei thebyg o'r blaen. Mae'n amser nawr i edrych ymlaen. Mae gyda ni gyfle cyffrous i ystyried sut y gall addysgu a dysgu esblygu i ddiwallu anghenion dysgwyr, anghenion yr economi a chymdeithas - anghenion sydd, wrth gwrs, yn newid o hyd. Mae hyn yn golygu harneisio potensial technoleg i wella profiadau dysgu ac ehangu mynediad pobl yng Nghymru i gyfleoedd dysgu. Bydd ein cwricwlwm newydd i ysgolion yn help i ddatblygu gallu digidol disgyblion, ac rwyf am wneud yn siŵr bod ein pobl ifanc yn gallu parhau gyda'r daith honno wrth iddyn nhw symud ymlaen i ddysgu ôl-16. Mae'r sector addysg bellach hefyd yn rhan ganolog o'n cynlluniau ni i roi'r sgiliau sydd eu hangen i ddysgwyr o bob oed, er mwyn gallu symud ymlaen i waith ystyrlon, sy'n dod â boddhad iddyn nhw. Mae dysgu galwedigaethol effeithiol yn golygu gweithio gyda'r adnoddau a'r technegau sy'n cael eu defnyddio o fewn diwydiant modern, ac mae ein colegau ni wedi creu partneriaethau cryf gyda chyflogwyr er mwyn helpu i gyflawni'r amcan o ran sgiliau digidol yn y strategaeth ddigidol i Gymru. Yng ngwanwyn y llynedd, fe wnes i nodi fy ngweledigaeth gyffredinol ar gyfer y sector addysg bellach yng Nghymru. Fe'i wnes i'n glir fy mod yn disgwyl i adnoddau a thechnolegau digidol ddod yn rhan naturiol o daith dysgwr, a hynny fel rhan o ddull cydlynol, modern o ddysgu. Eisoes, mae gyda ni sylfaen gref i helpu i wireddu'r uchelgais hon. Fe gafodd ein fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol, 'Digidol 2030', a gyhoeddwyd yn 2019, ei gydlunio ochr yn ochr gyda'r sector ôl-16. Rŷn ni'n defnyddio'r weledigaeth, y nodau a'r amcanion sydd yn 'Digidol 2030' fel sail i'n buddsoddiad a'n cymorth ar gyfer y sector.