text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Dywedodd Gweinidog y Llywodraeth fod cymorth yn bodoli mewn ffyrdd eraill. Rwy'n cytuno bod cefnogaeth yn bodoli mewn ffyrdd eraill. Rwy'n cytuno ei bod yn syniad da iawn i weithio gyda Cyngor ar Bopeth er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gael cymaint â phosibl o fudd-daliadau. Rwy'n cytuno â strategaethau ar gynyddu seibiant, er nad oes digon yn cael ei wneud. Rwy'n cytuno bod y trydydd sector yn ei gyfanrwydd angen yr adnoddau i gynorthwyo teuluoedd a phlant sy'n agored i niwed. Ond unwaith eto, rwy'n pwysleisio ein bod yn sôn am gronfa benodol nad oes dim i gymryd ei lle yn unrhyw ran arall o ddarpariaeth y trydydd sector yng Nghymru. Rwy'n meddwl bod yr achos wedi'i wneud yma gan bob un o'r gwrthbleidiau. Nid oes dim yn dod yn lle'r cyllid hwn. Mae'n cael ei gadw mewn rhannau eraill o'r DU am ei bod yn gronfa mor benodol o ddefnyddiol. Gofynnaf eto i'r Llywodraeth dynnu'r gwelliant yn ôl, ac i gytuno i ystyried adfer y cyllid uniongyrchol hwn i'w lefel flaenorol, naill ai drwy Gronfa'r Teulu, sydd i'w gweld i mi yn gweithio'n dda, neu drwy ddulliau eraill, os hoffwch, oherwydd nid yw'n fater o sut y caiff ei wneud - mae'n ymwneud â sicrhau mynediad at y potiau untro hyn o arian. Efallai nad ydych yn meddwl bod taliad untro o £500 yn rhywbeth a all wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Credwn ei fod yn gwneud gwahaniaeth.
4,100
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rwy'n symud yn syth i'r bleidlais. Ac mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd plant. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.
4,101
Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 55, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant - gwelliant 2 - wedi ei dderbyn.
4,102
Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 55, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae gwelliant 4 wedi ei dderbyn.
4,103
Pleidlais nawr ar ddadl Plaid Cymru ar Gronfa'r Teulu. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
4,104
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 27 yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.
4,105
Os gwnaiff pawb adael y Siambr yn dawel, mae'r trafodion yn parhau. Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r ddadl fer. Rwy'n galw ar Neil McEvoy i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Neil McEvoy.
4,106
Mae'n debyg, mewn gwirionedd, mai'r eliffant yn yr ystafell yw bod cyfnewidfeydd stoc fel arfer yn gwmnïau preifat. Ceir rhai enghreifftiau o gyfnewidfeydd stoc sy'n eiddo cyhoeddus - mae cyfnewidfeydd stoc Shenzhen a Shanghai yn sefydliadau lled-wladwriaethol mewn gwirionedd, i'r graddau eu bod wedi'u creu gan gyrff Llywodraeth yn Tsieina a bod ganddynt bersonél blaenllaw a benodwyd yn uniongyrchol gan Gomisiwn Rheoleiddio Gwarantau Tsieina. Enghraifft arall yw cyfnewidfa stoc weriniaethol Tashkent yn Uzbekistan, a sefydlwyd yn 1994, dair blynedd ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd, ac sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn bennaf, ond gyda rhyw ffurf ar gorfforaeth gyhoeddus. Ond nid yw'r rhain yn fodelau y byddwn yn eu hargymell ar gyfer Cymru. Mae'n bosibl y gallai Llywodraeth Cymru chwarae rhan mewn cyfnewidfa stoc i Gymru, ond mae'r marchnadoedd ariannol yn fater a gadwyd yn ôl, ac felly mae rheoleiddio rhestrau a chynigion cyhoeddus, gwarantau a buddsoddiadau y tu hwnt i gymhwysedd Llywodraeth Cymru. Felly, yr hyn y mae gwir angen i ni feddwl amdano yw sut y gallwn roi cymhellion ac annog cwmni preifat i sefydlu cyfnewidfa stoc yng Nghymru. Gallai hyn ddigwydd drwy grantiau, drwy gynadleddau, swyddfeydd ar gael yng Nghaerdydd neu rywle arall. Nid wyf yn mynd i siarad yn hwy ar hyn o bryd. Byddwn yn gobeithio bod eraill wedi cefnogi'r syniadau hyn, ac os oes unrhyw un yn dymuno cyfrannu, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud. Diolch. Diolch.
4,107
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £20 miliwn yn ychwanegol i gefnogi busnesau sy'n cael eu heffeithio gan yr ailbrisio ardrethi - £10 miliwn trwy ein cynllun rhyddhad trosiannol a £10 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi stryd fawr. Mae hyn yn ychwanegol at ein rhyddhad ardrethi o £100 miliwn i fusnesau bach. Rydym wedi gweithredu i roi sicrwydd a diogelwch i drethdalwyr yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan yr ailbrisio.
4,108
Bydd ein cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol o £10 miliwn yn cynorthwyo busnesau y byddai eu hawl i ryddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael ei effeithio'n andwyol gan ailbrisio. Mae ein rhyddhad ardrethi stryd fawr o £10 miliwn yn targedu busnesau yn eich etholaeth chi yn benodol. Rwy'n gwybod y ceir talwyr ardrethi stryd fawr, gan gynnwys siopau, tafarndai a chaffis, ac, wrth gwrs, gwrandawyd ar y pryderon ac ymatebwyd i'r busnesau bach yng Nghymru. Mae'r rhain yn gynlluniau a ariannwyd yn bwrpasol, ac, yn wir, maen nhw'n ychwanegol at ein rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o £100 miliwn. O ganlyniad, bydd tri o bob pedwar busnes yn derbyn cymorth gyda'u biliau yn 2017-18.
4,109
Wel, wrth gwrs, mae'r ystadegau a gyhoeddwyd gan yr awdurdod prisio yn dangos y bydd cyfanswm y gwerth ardrethol yn gostwng yn holl awdurdodau'r Cymoedd. Mae hynny'n golygu y bydd y rhan fwyaf o dalwyr ardrethi yn yr ardaloedd hyn yn elwa ar ostyngiad i'w biliau, ac rydym wedi cymryd camau i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwnnw i fusnesau drwy ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o £100 miliwn. Ond, wrth gwrs, bydd Busnes Cymru, a'r holl ysgogwyr eraill a fydd yn cynorthwyo busnesau yn eich etholaeth chi, yn cael effaith ar gyfleoedd economaidd, gan gynnwys y fargen ddinesig, y mae Rhondda Cynon Taf yn bartner allweddol ynddi.
4,110
Yn amlwg, mae hwn yn fater lle'r ydym ni wedi gweithio dros gyfnod o amser, fel Llywodraeth sy'n sicr o blaid busnes, i gymryd camau i helpu busnesau newydd a phresennol, ac yn wir i edrych ar yr effaith nid yn unig o ran ailbrisio, ond ein cynllun cymorth busnes. Rydym ni'n ystyried cynllun parhaol newydd o ran rhyddhad ardrethi busnes bach o 2018, ac mae'n bwysig targedu cymorth mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu anghenion Cymru. Rydym wedi ymgysylltu mor eang â phosibl ar ein cynlluniau yn yr amser byr a oedd ar gael rhwng cyhoeddiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio o'i rhestr ardrethi drafft a'r dyddiad erbyn pryd yr oedd yn rhaid i'r rheoliadau hyn fod ar waith. Ond eu cynllun nhw yw hwn. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn ailddosbarthu'r swm sy'n daladwy rhwng adeiladau, gan adlewyrchu'r newidiadau i'r farchnad adeiladau. Eu cyfrifoldeb nhw yw hynny.
4,111
A gaf i ei gwneud yn eglur ein bod ni'n gwneud mwy na Llywodraeth y DU? Os edrychwch chi ar y cyllid ar gyfer y mesurau rhyddhad ardrethi a gyhoeddodd y Canghellor yr wythnos diwethaf, byddai'n dod i ychydig dros £12 miliwn. Pe byddem ni wedi dibynnu ar hynny, byddai wedi golygu £8 miliwn yn llai o gefnogaeth i fusnesau bach yng Nghymru. Mae gennym ni ddau gynllun pwrpasol wedi'u hariannu'n llawn. Rwy'n siŵr y bydd llawer o'r busnesau yn eich etholaeth yn elwa'n benodol ar y ddau hynny - nid dim ond y cynllun trosiannol, ond hefyd y cynllun newydd sy'n targedu'r talwyr ardrethi stryd fawr hynny yn benodol.
4,112
Mae llawer o waith rhagorol eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru, ond gallai rhoi effeithlonrwydd ynni domestig ochr yn ochr â rhaglenni seilwaith eraill o bwysigrwydd cenedlaethol arwain at fanteision lluosog, gan gynnwys rhoi hwb sylweddol i ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, gan ddarparu'r cartrefi cynnes a chlyd hynny, gwella iechyd a llesiant ein dinasyddion hŷn, lleihau'r allyriadau carbon trwy effeithlonrwydd ynni, lleihau'r defnydd o ynni, lleihau nifer y gorsafoedd pŵer newydd y mae angen i ni eu hadeiladu, a chreu miloedd ar filoedd o swyddi ym mhob stryd ac ym mhob cymuned ledled y wlad. Felly, ymhell o fod yn ennill ennill, byddai'n ennill ennill, ennill ennill, ennill ennill, 'ac ati'. Wrth i ni aros am ganlyniadau'r ymgynghoriad diweddar ar y comisiwn seilwaith cenedlaethol, a gaf i ofyn i arweinydd y tŷ a'r Prif Weinidog a'i Gabinet i ystyried o ddifrif y potensial enfawr i Gymru o roi effeithlonrwydd ynni fel seilwaith cenedlaethol a'r effaith weddnewidiol y gallai ei gael ar ffyniant a llesiant yn y dyfodol?
4,113
Ysgrifennydd y Cabinet, mae ein stoc dai ymhlith yr hynaf yn Ewrop, ac mae gwir angen i ni ganolbwyntio ar gynlluniau ôl-ffitio gan fod llawer o'r stoc dai honno wedi ei meddiannu gan bobl sydd ag incwm isel neu'n agored i niwed mewn ffordd arall. Yn wir, pe byddem ni'n gwella'r sgiliau hyn ac yn datblygu cynhyrchion ôl-ffitio, byddem yn canfod marchnad wedyn mewn rhannau eraill o'r DU ar gyfer y sgiliau a'r cynhyrchion hynny, ac mewn rhannau eraill o Ewrop yn wir.
4,114
Rwy'n cytuno â chynnig yr holwr gwreiddiol - nid oes unrhyw enghraifft well o'r hyn a drafodwyd gennym yr wythnos diwethaf yn y fan yma o economi sylfaenol na buddsoddi yn y maes hwn lle'r ydych chi'n cysylltu sgiliau ar lefel leol ac yn sicrhau bod gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru yn cael ei wasgaru ledled Cymru hefyd, oherwydd nid problem ranbarthol yw hon; mae wedi lledaenu ar draws Cymru o ran y tai hŷn sydd gennym ni. Yr hyn yr ydym ni ei eisiau gan Lywodraeth Cymru yw diben sydd wedi'i nodi'n fwy eglur o ran buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni ac, fel y gofynnwyd eisoes, rhywbeth sy'n cael ei roi i mewn i'r comisiwn seilwaith cenedlaethol fel tasg a nod y comisiwn hwnnw.
4,115
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, er nad yw ein potensial economaidd wedi ei wireddu eto, gallwn eisoes weld bod Cymru yn genedl allforio gref. Y llynedd, roedd gennym warged masnach o £2.2 biliwn gyda'r UE. Roedd ein gwarged yn uwch nag yn 2015, pan oedd yn £1.5 biliwn. Gyda gwledydd y tu allan i'r UE, roedd gennym ddiffyg masnach o £2.3 biliwn, tra bod gan y DU yn ei chyfanrwydd ddiffygion masnach gyda marchnad yr UE a marchnadoedd y tu allan i'r UE. Pa ddyfodol ydych chi'n ei weld i'n gwarged masnach yr UE os byddwn ni'n cael ein tynnu allan o'r farchnad sengl?
4,116
Mae Plaid Cymru yn rhagweld dyfodol anodd i'r allforwyr hynny sy'n dibynnu ar y farchnad sengl. Mae gennym ni rai yn Llywodraeth y DU yn sôn erbyn hyn am adael yr UE heb unrhyw gytundeb o gwbl, a fydd yn golygu rheolau Sefydliad Masnach y Byd i bob pwrpas. Dyna fyddai'r math caletaf posibl o Brexit. Gallai arwain at dariffau yn y dyfodol a rhwystrau eraill. Ac ar yr ochr gymdeithasol ac amgylcheddol, gallai arwain at ddadreoleiddio a gostwng safonau. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi bellach y bydd y llythyr erthygl 50 yn cael ei anfon yn ddiweddarach y mis hwn. Mae hynny'n golygu bod ffenestr o gyfle, ffenestr lle gellir cael rhywfaint o ddylanwad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn awyddus i Lywodraeth y DU ymgynghori â hi. Tybed a allwch chi ddweud wrthym: a ydych chi wedi cael unrhyw ymgynghoriad eto? A beth yw goblygiadau Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r llythyr erthygl 50 hwnnw heb ymgynghori'n llawn â Chymru o ran ei gynnwys?
4,117
Mae'n eithaf eglur beth mae eich Llywodraeth chi ei eisiau. Yr hyn nad yw'n eglur yw'r hyn y byddwch yn ei wneud os na fyddwch chi'n ei gael. Ddoe, gwelsom sut y bydd cam-drafod Brexit yn arwain at refferendwm newydd ar annibyniaeth i'r Alban. Gallai'r refferendwm hwnnw roi terfyn ar y Deyrnas Unedig. Gallai'r wladwriaeth, fel yr ydym yn ei hadnabod, beidio â bodoli mwyach, a byddai hynny'n newid radical i Gymru. Ond byddai hefyd yn creu'r cyfle i fod yn fwy beiddgar, yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy hyderus am ein dyfodol ein hunain, ac rwy'n amau y gallai fod pobl yn y Siambr hon hyd yn oed a gefnogodd ymgyrch 'Na' yr Alban y tro diwethaf a fyddai'n teimlo'n llai cyfforddus yn gwneud hynny nawr. Arweinydd y tŷ, roedd diffyg manylion yn natganiad y Prif Weinidog ddoe ar refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Nid oedd yn dweud fawr ddim am ddyfodol Cymru. A allwch chi ychwanegu mwy o fanylion ar ble'r ydych chi'n gweld y Llywodraeth yn mynd â Chymru dros y ddwy flynedd nesaf? Beth yw eich gweledigaeth? A pha gynlluniau y mae'n rhaid i'ch Llywodraeth eu rhoi ar waith ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol ac economaidd y wlad hon?
4,118
Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, bydd llawer ohonom ni wedi gweld yn y cyfryngau dros yr wythnos ddiwethaf y delweddau brawychus o gamddefnyddio cyffuriau, gyda phobl yn anymwybodol mewn mannau cyhoeddus, a ni all rhywun ond teimlo llawer iawn o gydymdeimlad â'r unigolion sydd wedi disgyn mor isel ag i fod yn y sefyllfa honno, a bod yr un mor awyddus i wneud yn siŵr bod cynifer o fesurau diogelu â phosibl yn cael eu cyflwyno i geisio datrys y problemau sydd gan bobl yn eu bywydau sydd wedi eu harwain i'r sefyllfa drasig dros ben hon. Yn anffodus, mae llawer o'r sylw hwnnw yn y cyfryngau wedi rhoi darlun negyddol iawn o dref benodol yng Nghymru, delwedd na fydd llawer ohonom ni yn y Siambr hon yn ei hadnabod o'n hymweliadau â'r dref honno, ond mae'n ffaith bod y delweddau hynny wedi bod yn y cyfryngau cenedlaethol. Heddiw, mae gennym ni Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru yn galw am gyfreithloni cyffuriau fel ateb i'r mater hwn. Ar yr ochr hon i'r tŷ, yn sicr nid ydym yn credu bod hynny'n wir, ond byddwn yn ddiolchgar, yn eich swyddogaeth fel arweinydd y tŷ yn ymateb ar ran y Prif Weinidog heddiw, pe gallech roi ymateb y Llywodraeth i ni ar ba gamau yr ydych chi'n eu cymryd fel Llywodraeth Cymru, o gofio eich bod chi wedi cynnal cyfarfod yr wythnos diwethaf rhwng y comisiynydd heddlu a throseddu, chi eich hunain ac asiantaethau eraill i geisio mynd i'r afael â rhai o'r diffygion yn y maes penodol hwn.
4,119
Roeddwn i wedi gobeithio, gyda'r amser sydd wedi mynd heibio ers rhedeg y stori wreiddiol hon tua 10 diwrnod yn ôl, efallai y byddem ni wedi cael ateb llawnach gan arweinydd y tŷ, o ystyried y pwyntiau a godais. Oherwydd cyflwynodd Llywodraeth Cymru, yn 2008, strategaeth, 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed', ac o'r hyn a welwn yn y mathau hyn o ddelweddau, mae'n amlwg nad yw'r strategaeth honno, o'r hyn y gallaf ei weld, yn gweithio. Pa werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynnal o'r strategaeth hon a'r cymorth sydd ar gael i awdurdodau lleol, i'r heddluoedd yma, y comisiynydd heddlu a throseddu ac asiantaethau cymorth ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, i roi sylw i'r materion hyn sy'n digwydd ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos, ar y strydoedd mewn trefi a phentrefi ledled Cymru, sy'n crefu am ateb a chymorth gan Lywodraeth ganolog yn y fan yma - Llywodraeth Cymru? Yn arbennig, mae'r strategaeth hon wedi bod ar waith gennych ers 10 mlynedd ac mae'n dechrau cyrraedd y diwedd erbyn hyn, ac eto, rydym ni'n gweld y delweddau erchyll hyn a ddangoswyd ar y cyfryngau sy'n digwydd mewn mannau cyhoeddus y funud hon.
4,120
Arweinydd y tŷ, mae Andrew Atkinson, sef cadeirydd grŵp llywio fforwm canol tref Wrecsam, wedi nodi ei bod yn ymddangos bod pawb yn rhoi'r bai ar bawb arall, yn hytrach na mynd i'r afael â'r broblem. Clywais oddi ar eu heistedd ar yr ochr arall, gan genedlaetholwyr Cymru, eu bod yn credu bod cyfreithloni cyffuriau yn ddewis synhwyrol yma. O'r ochr hon o'r tŷ, nid ydym yn credu yn sicr bod cyfreithloni cyffuriau yn rhan o'r ateb. Ac, yn benodol, pan welwch chi fod y marwolaethau o gyffuriau wedi dyblu ers 2012, a bod 114,000 wedi marw y llynedd, mae'n amlwg nad dyna'r ffordd i ddatrys y broblem hon. Yr hyn yr ydych chi fel Llywodraeth Cymru - [Torri ar draws.] Mae llawer o fwmian yn dod o'r ochr arall i'r tŷ. [Torri ar draws.] Gan y Llywodraeth yma yng Nghaerdydd, mae'n amlwg nawr bod angen i weithgor gael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i ddod â'r elusennau, y cyrff iechyd a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gogledd Cymru at ei gilydd i wneud yn siŵr y gallwn gael dull cydgysylltiedig o ymdrin â'r mater hwn, yn enwedig yn Wrecsam, lle mae'n ymddangos bod diwylliant o fwrw bai yn datblygu, yn hytrach na'r gallu i fynd i'r afael â'r mater difrifol iawn y mae llawer o'r bobl hyn yn ei wynebu, a'r drasiedi bod eu bywydau wedi mynd allan o reolaeth. Yn y pen draw, maen nhw angen cymorth y Llywodraeth yn gweithio gyda chyrff a noddir i roi'r mesurau ar waith. A gaf i gadarnhau y byddwch chi'n gwneud hynny?
4,121
Bydd arweinydd y tŷ wedi gweld nad oedd cyllideb yr wythnos diwethaf yn llwyddiant ysgubol i'r Canghellor nac i'r Llywodraeth. A ydy hi a Llywodraeth Cymru yn dysgu unrhyw wersi o'r profiad hwnnw, gyda golwg ar sut y maen nhw'n mynd i arfer y pwerau amrywio trethi yr ydym ni ar fin eu cael o dan Ddeddf Cymru 2017?
4,122
Nid yw'r cyllid ychwanegol yn newid maint y gostyngiadau i wariant yr ydym ni'n eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. Er gwaethaf yr ychwanegiadau bach, bydd ein cyllideb gyfalaf yn 2019-20 yn dal i fod 11 y cant yn is mewn termau real nag yn 2010-11, a bydd ein cyllideb refeniw yn dal i fod 8 y cant yn is.
4,123
Wyddoch chi, nid wyf yn meddwl y byddem ni'n disgwyl unrhyw beth gwahanol gan arweinydd UKIP. Byddwn wedi gobeithio y byddai arweinydd UKIP yn ystyried effaith cyllideb y Canghellor yr wythnos diwethaf, yr effaith ar y bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli, effaith y ffaith fod y tro yng nghynffon y gyllideb honno a'r rhagolygon yw bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud toriad o £3.5 biliwn ar gyfer 2019-20, a allai olygu tynnu £175 miliwn arall allan o gyllideb Llywodraeth Cymru. Dyna'r hyn yr wyf i'n pryderu amdano ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni ystyried hynny o ran goblygiadau'r gyllideb hon, nid yn unig i bobl hunangyflogedig, ond i rai o'r bobl dlotaf yng Nghymru. Bydd yr hyn yr ydym ni'n ei wario fesul pen o'r boblogaeth yn gostwng gan 4 y cant mewn termau real dros gyfnod rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.
4,124
Wel, cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn, rydym ni'n cymryd cyfrifoldeb ac, yn wir, mae gennym ni ein cyfrifoldebau yr ydym ni'n bwrw ymlaen â nhw mewn deddfwriaeth nawr o ran y trethi datganoledig sydd ar eu ffordd, ac rydym ni'n edrych ymlaen at ddadl ar hyn yn ystod y pythefnos nesaf. Ond rwy'n credu bod angen i ni gydnabod, ac rwy'n gobeithio fod Neil Hamilton yn cydnabod, effaith niweidiol y penderfyniadau a wnaed yr wythnos diwethaf gan 'Spreadsheet Phil' lle gwnaeth smonach o'i gyllideb gyntaf, a chydnabod hefyd y ffaith fod hynny'n wael, y ffaith ei fod yn tanseilio eu cenhadaeth o hyrwyddo'r DU fel lle i ddechrau busnes newydd ynddo.
4,125
Mae ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn dangos bod lefel gwariant cyfalaf Llywodraeth Cymru ar seilwaith yn y de-ddwyrain ddwywaith hynny fesul pen yn y gogledd, a thair gwaith y ffigur ar gyfer y canolbarth a'r gorllewin. Hynny yw, pryder ynghylch y bwlch buddsoddi enfawr hwnnw a arweiniodd at fy mhlaid yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol yr wythnos diwethaf. Pa sicrwydd - [Torri ar draws.] Pa sicrwydd - [Torri ar draws.]
4,126
Wel, rwy'n meddwl bod yr Aelod wedi gweld dyraniadau cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac awdurdodau heddlu ar gyfer 2017-18, ac wedi gweld mai dim ond un ardal sydd lle ceir dyraniad ychydig yn wahanol y pen, a hoffwn rannu hyn eto gyda'r Aelod. O ran gwariant cyfalaf, ar sail Cymru gyfan mae hynny'n hanfodol bwysig o ran ein buddsoddiad mewn tai cymdeithasol, ein buddsoddiad mewn ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a'n buddsoddiad mewn trafnidiaeth. Gallaf, unwaith eto, roi'r buddsoddiadau i chi mewn, er enghraifft, rheoli perygl llifogydd ac arfordirol, yn cefnogi Cymru gyfan gyda £144 miliwn; £700 miliwn i wella ein rhwydwaith cefnffyrdd; ac o ran y gogledd, yn arbennig o bwysig, £50 miliwn i hybu datblygiadau metro gogledd-ddwyrain Cymru, gyda photensial i ehangu i'r gorllewin yn y dyfodol. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, o ran y gyllideb atodol, mae'r hyn a oedd yn y gyllideb atodol honno'n bwysig iawn i bobl Cymru. Mae'n £170 miliwn i gefnogi GIG Cymru - i roi un enghraifft yn unig - ac £16 miliwn i gronfa driniaeth ar gyfer mathau newydd o driniaeth; cyllid ychwanegol o £20 miliwn ar gyfer addysg uwch; a £55.5 miliwn yn ychwanegol i gefnogi'r gwaith o adeiladu a chynnal a chadw'r rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys cynlluniau i gyflymu'r gwaith o gyflawni ffordd osgoi Llandeilo yn sgil ein cytundebau cyllideb. Felly, gadewch i ni gydnabod pwysigrwydd ein hystyriaethau.
4,127
Wrth gwrs, mae gwaith wedi ei wneud, fel y gwyddoch, Russell George, o ran sut y gallwn ymateb i gyfleoedd twf yn y canolbarth, ond rwy'n credu ei bod hefyd yn berthnasol i ddweud - ac rwy'n mynd i fod yn berthnasol iawn i'ch ardal chi - bod y rhain yn ymwneud â dewisiadau cyllideb o ran y toriadau hynny i'r rhaglen gyfalaf yr wyf i wedi sôn amdanynt eisoes. Ond rydym ni'n adeiladu pum ysgol gynradd newydd ym Mhowys - a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae hynny mor bwysig i ragolygon eich plant a'ch pobl ifanc o ran cyfleoedd twf yn y canolbarth.
4,128
Mae bob amser yn dda pan fyddwn ni'n dychwelyd i gonsensws yn y Siambr hon, fel y gwnaethom, yn bendant iawn, o ran y ddadl honno ar yr economi sylfaenol, yr ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth yn gadarnhaol iawn iddi, wrth gwrs. Roedd gen i ddiddordeb hefyd mewn gweld y dadleuon cryf iawn dros y pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud, Hefin David, ar gyd-ddibyniaeth y Cymoedd gogleddol, gyda Vikki Howells, mewn erthygl yn y 'Western Mail.' Mae'n bwynt perthnasol iawn o ran y cytundeb dinas-ranbarth, oherwydd mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cydnabod y Cymoedd gogleddol ac nad yw'n tynnu i lawr yn unig, ei fod yn mynd i fyny, a'r gyd-ddibyniaeth honno.
4,129
Diolch ichi am eich ateb. Mae Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru, wrth gwrs, wedi galw am gofnod o'r niferoedd o bobl sydd ar y sbectrwm er mwyn helpu awdurdodau lleol i gynllunio gwasanaethau yn fwy effeithiol ac yn fwy cynhwysfawr. Nawr, mi fydd disgwyl cofnod, wrth gwrs, o'r bobl awtistig sydd â chynllun gofal o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, ond mae nifer o bobl ag awtistiaeth sydd ddim â chynllun gofal ac mae yna bobl eraill sydd yn mynd i mewn ac allan o'r system. A gaf i ofyn, felly, pryd fydd eich Llywodraeth chi'n mynnu bod cofnod llawn yn cael ei gadw er mwyn sicrhau bod yr adnoddau llawn a'r ddarpariaeth lawn yn cael eu darparu lle mae eu hangen ym mhob rhan o Gymru?
4,130
Weinidog - mae'n ddrwg gen i, arweinydd y tŷ - rwy'n deall, yn amlwg, nad yw'r cynllun gweithredu strategol ond wedi bod ar waith am tua phump neu chwe mis, ond yr hyn y mae gwir angen i ni ei weld yw sut y mae'r bylchau yn y ddarpariaeth o wasanaethau, yn enwedig ar gyfer oedolion, yn mynd i gael eu llenwi. Yn Sir Benfro, ceir bwlch enfawr yn y ddarpariaeth o wasanaethau i oedolion ag awtistiaeth ac nid yw'n ymddangos bod gan Gyngor Sir Penfro na'r bwrdd iechyd lleol ddull digon cydlynol o allu llenwi'r bylchau hynny. Felly, beth allwch chi, fel Llywodraeth Cymru, ei wneud i annog hynny i ddigwydd, oherwydd gallaf ddweud wrthych chi nawr, nid yw eich cynllun gweithredu strategol yn cyffwrdd yr ochrau hyd yn oed yn hynny o beth?
4,131
Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn parhau i weithredu ein rhaglenni ariannu'r UE, fel y cytunwyd gyda'r Comisiwn Ewropeaidd, i ddarparu swyddi a thwf. Mae bron i ddwy ran o dair o'r arian wedi cael ei ymrwymo hyd yn hyn, a'n nod yw buddsoddi holl arian yr UE sydd ar gael i Gymru erbyn dechrau 2019.
4,132
Wel, yn amlwg, mae prosiectau UE gwerth sawl miliwn yn cynnwys prentisiaethau Busnes Cymru, sy'n uniongyrchol berthnasol i'r sector preifat, gweithle'r de-orllewin a mwy, y byddwch yn ymwybodol iawn ohono yn eich rhanbarth chi, yn cael effaith trwy roi hwb i fusnesau, gan eu helpu i gynyddu rhagolygon gwaith a sgiliau ein pobl, ond gan sicrhau hefyd, trwy'r pwyllgor monitro rhaglenni, ein bod ni'n ymgysylltu'n llawn â rhanddeiliaid o Gymru, gan gynnwys y sector preifat o ran safbwynt Cymru cyffredin ar drefniadau ar gyfer ariannu rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae hynny'n hollbwysig - mae'r PMC yn cael ei gadeirio gan Julie Morgan - o ran diogelu'r buddsoddiadau hynny.
4,133
Rwy'n meddwl bod ein Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru', yn hanfodol bwysig gan ei fod yn cyflwyno'r hyn a wnaethom yn eglur o ran datblygiad economaidd rhanbarthol - . Mae'n eglur iawn, iawn bod hwnnw'n gymhwysedd datganoledig, ac mae'n rhaid iddo aros felly. Byddem yn gwrthsefyll yn gadarn unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i wrthdroi unrhyw fath o ddatganoli a chymryd rheolaeth dros bolisi rhanbarthol. Felly, rwy'n falch fy mod i wedi cael y cyfle i roi hynny ar y cofnod heddiw. Mae'n bwysig bod gennym ni ein hymgysylltiad drwy'r Cydbwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd, lle mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ein cynrychioli ni. Ef a gyflwynodd ein Papur Gwyn yn eu cyfarfod ar 8 Chwefror.
4,134
Diolch i chi am yr ateb yna, arweinydd y tŷ. Bu llawer o sôn am yr angen am barch cydradd rhwng addysg uwch ac addysg bellach yn y Siambr hon yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ond mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu â chyflawni ar y sgwrs na'r uchelgais honno. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, mewn gwirionedd, wedi cadarnhau mewn adroddiad diweddar ar oruchwylio cyllid colegau addysg bellach y bu toriad sylweddol o £22 miliwn i'n colegau AB dros y pum mlynedd diwethaf, a bod hynny wedi eu hatal rhag gallu gwneud rhywfaint o gynnydd. A dweud y gwir, rydym ni'n gweld nawr bron i hanner ein colegau yng Nghymru yn cario diffygion mawr ac yn cael eu gorfodi i ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn. Tybed, arweinydd y tŷ, a allwch chi ddweud wrthyf pa gamau, yn benodol, y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd yn sgil yr arbedion a fydd yn cael eu sicrhau trwy newidiadau i gymorth i fyfyrwyr addysg uwch o ran buddsoddi rhywfaint o'r arian hwnnw yn ein sector addysg bellach er mwyn ailgydbwyso'r sefyllfa o ran cydraddoldeb rhwng y ddau fath o addysg.
4,135
Wel, ar yr un thema, yn amlwg mae yna ymchwil gan YouGov y llynedd sydd wedi dangos mai dim ond 7 y cant o bobl rhwng 18 a 24 oed a oedd yn ystyried prentisiaeth fel yr opsiwn gorau iddyn nhw, i'w gymharu â 68 y cant a oedd yn gweld mai addysg uwch oedd yn cynnig yr opsiwn gorau iddyn nhw. Felly, mae'r canfyddiad yn dal i fod yna, onid yw e, rydw i'n meddwl, nad oes yna barch cydradd, os leiciwch chi, yn sicr rhwng y cyrsiau galwedigaethol a'r cyrsiau academaidd. Felly, a gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, er enghraifft, i hyrwyddo canfyddiadau ymchwil y Sutton Trust, sy'n dangos bod enillion posib rhai o'r prentisiaid gorau filoedd lawer o bunnoedd yn fwy, dros gwrs eu bywydau, na myfyrwyr sydd wedi bod mewn addysg uwch y tu fas i'r Grŵp Russell o brifysgolion - heb, wrth gwrs, y dyledion sy'n dod yn sgil addysg uwch, hefyd?
4,136
Mae ein gwasanaeth ynni lleol yn cefnogi cymunedau ledled Cymru i redeg cynigion cyfranddaliadau, ennill cefnogaeth leol, codi cyfalaf lleol sy'n cadw manteision prosiectau adnewyddadwy yng Nghymru. Rydym ni'n ystyried sut y gall y prosiectau hyn barhau i gael eu datblygu yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar gymorth ar gyfer solar a gwynt.
4,137
Rwy'n cytuno â'r holl bwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Mae'r gwasanaeth ynni lleol wedi cefnogi cynigion cyfranddaliadau cymunedol sydd wedi codi dros £5.5 miliwn ers 2010, a byddwch yn ymwybodol iawn o lawer o'r prosiectau cymunedol hynny, ond rydym ni eisiau gweld datblygwyr masnachol yn gweithio'n agosach â chymunedau ar berchnogaeth a buddsoddiad a rennir. Rwy'n meddwl, yn bwysig - ac rydych chi'n sôn am y model cydweithredol: wel, rydym ni'n falch iawn o fod â Chanolfan Cydweithredol Cymru, yr ydym ni'n ei chefnogi i sefydlu Cyfranddaliadau Cymunedol Cymru, ac mae hynny'n helpu cymunedau i rannu profiad o sut y gallant ddatblygu'r gwasanaethau ynni lleol hyn.
4,138
Ffurfiwyd gwasanaeth swyddogion traffig Llywodraeth Cymru yn wreiddiol, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, ar gyfer y rhannau prysurach hynny o rwydwaith cefnffyrdd Cymru. Etifeddwyd y contract PFI hwn gennym a dweud y gwir, fel y byddwch yn gwybod, sydd wedi, o ran y cyfrifoldebau - mae angen i ni edrych yn ofalus ar effaith hynny o ran cwmpasu'r ardaloedd hynny. Ond, yn y gogledd, yr ardal wasanaeth, wrth gwrs, oedd yr A55/A494, fel y dywedais, o'r ffin â Lloegr i gyffordd 11. A gwelsom wedyn bod angen i ni ymestyn y gwasanaeth hwnnw i bont Britannia gan wella ei gydnerthedd drwy hynny.
4,139
Diolch yn fawr am yr ateb, ac rwyf yn sicr bod y Prif Weinidog wedi cael sgwrs ddiddorol, fel bob amser, â Phrif Weinidog yr Alban. Ond oherwydd bod yna gymaint yn gyffredin, arweinydd y tŷ, rhwng Papur Gwyn Llywodraeth yr Alban cyn y Nadolig, 'Scotland's Place in Europe', a phapur coch Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop', a yw Llywodraeth Cymru yn gweld y pwysigrwydd, beth bynnag fydd penderfyniad yr Alban ynglŷn â'i dyfodol cyfansoddiadol - a mater iddyn nhw yw hynny, wrth gwrs - fod yna le i gydweithio yn y trafodaethau presennol o fewn y Deyrnas Unedig, a rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, yn arbennig i ddiogelu mynediad dilyffethair i'r farchnad sengl ar gyfer y ddwy wlad?
4,140
Rwyf wedi derbyn pedwar cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy'n galw ar Dawn Bowden i ofyn y cwestiwn brys cyntaf - Dawn Bowden.
4,141
Yr ateb byr iawn i'ch cwestiwn yw 'gwnaf'. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r holl bartïon hynny. Rwyf yn ymwybodol fod y Gweinidog wedi cyfarfod â'r rapporteur, ac yn sicr mae ei farn ef yn unigryw. Ond os oes gan yr Aelod unrhyw bryderon yr hoffai eu codi yn benodol am Ffos-y-fran, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog gan hynny yn croesawu llythyr gan yr Aelod.
4,142
Rwy'n ymwybodol iawn o'r materion emosiynol sydd ynghlwm â chloddio am lo brig. Rhoddwyd caniatâd am safle Ffos-y-fran ym mis Ebrill 2005. Roedd wedyn yn rhwym i asesiad effaith amgylcheddol. Roedd hyn yn golygu bod yr holl faterion perthnasol, gan gynnwys yr effeithiau cynyddol, a'r rhai oedd yn ymwneud ag iechyd, yn cael eu hystyried yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Mae'r adroddiad y mae'r Aelod yn sôn amdano i'w gyflwyno i gyngor hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, ac nid i ni. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog pan ddaw yn ei hôl i roi ystyriaeth i hyn, a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu at yr Aelodau yn unol â'i barn.
4,143
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel arfer, mae ganddi farn gref iawn am gloddio glo brig. Mae'r Llywodraeth hon yn rhoi ystyriaeth ddwys iawn i'r goblygiadau iechyd ac amodau cynllunio a gyflwynir ym mhob un o'n cymunedau. Mae hefyd yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i hynny yn y nodiadau cyngor technegol a chanllawiau cynllunio a roddwn i awdurdodau cynllunio. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod unrhyw sylw gan y rapporteur arbennig yn cael ei wneud ar sail tystiolaeth. Bydd gennyf ddiddordeb mawr i weld manylion y cynllun hwnnw a'i gyflwyniad gorffenedig. Bydd yr Aelod yn ymwybodol y bydd y Gweinidog dros gynllunio yn mynegi barn ar y MTAN 2 a'r trafodaethau dilynol a gynhaliwyd ynglŷn â'r trafodion am gynnwys MTAN 2. Byddaf yn gofyn iddi ymateb yn uniongyrchol i chi ar y mater hwnnw. Nid fi yw'r Gweinidog dros gynllunio bellach o ran hynny.
4,144
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'r BBC, wrth iddynt ddweud mai Dr Carol Bell oedd yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth y DU, wedi dyfynnu ffynhonnell o Lywodraeth y DU yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gweld yn dda i atal ymgeisydd dewisedig yr ysgrifennydd gwladol. A wnewch chi egluro i'r Cynulliad Cenedlaethol swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y broses o gael aelod dros Gymru o fwrdd y BBC? A oedd yn fater o roi sêl bendith yn unig, neu a oedd yn fwriad iddi fod â rôl ystyrlon? A oedd ganddi, mewn gwirionedd, rôl ystyrlon? A fyddai hefyd yn dweud wrthym ble y mae'n credu yr ydym ni arni nawr? Beth yw'r amserlen ar gyfer penodi aelod Cymreig o'r bwrdd? Mae gweddill y bwrdd yn ei le erbyn hyn ac yn dechrau ar ei waith. Yn olaf, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad wedi argymell yn gryf y dylai unrhyw gynrychiolydd dros Gymru o fwrdd y BBC fod yn atebol i wrandawiad gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn ei gadarnhau. Ni ddigwyddodd hynny yn yr achos hwn. Fel y deallaf i, y rheswm am hynny oedd diffyg amser. Gan fod llai o frys erbyn hyn i benodi aelod o fwrdd y BBC dros Gymru, a fyddai'n cytuno â'r pwyllgor trawsbleidiol y dylai fod cyfle i drafod â'r sawl sydd wedi'i benodi, a'i holi, cyn i chi roi cydsyniad Llywodraeth Cymru i'r apwyntiad hwnnw?
4,145
Ni fyddaf yn ymuno â'r Blaid Geidwadol y prynhawn yma i ladd ar unigolion sy'n ymgeisio am benodiadau cyhoeddus, ac ni fyddaf yn ymuno â'r Blaid Geidwadol i gyhuddo'r unigolion sy'n gwneud cais ac sydd â'r hawl i wneud hynny. Credaf fod gan bawb sy'n gwneud cais am benodiadau cyhoeddus yr hawl i ddisgwyl i'w cais aros yn gyfrinachol. Mae'n fater o gofnod fod ffynonellau o Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi'r enwau hyn ar gofnod ac rwyf yn gresynu bod hynny wedi digwydd. Ni fyddaf yn ymuno â chi i wneud hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn wrth y Blaid Geidwadol: roedd aelodau'r panel a fu'n cyfweld yr ymgeiswyr ac a ddaeth i gytundeb yn eglur iawn, iawn o ran pwy, yn eu barn nhw, oedd yn ymgeiswyr cryf a phwy nad oeddent yn ymgeiswyr cryf. Ysgrifennodd fy nghynrychiolydd i ar y panel at Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon drannoeth ar 15 Chwefror. Dywedodd yn yr e-bost hwnnw: Mae hynny yn golygu - ac aralleirio wyf i - na ellir penodi'r ymgeisydd hwnnw. Gallaf ddarllen yr e-bost hwnnw y prynhawn yma. Anfonodd Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ateb at fy swyddog i yn cytuno nad yr ymgeisydd dan sylw oedd yr ymgeisydd gorau. Ni fyddai'n dderbyniol i mi yn y swydd hon, fel Gweinidog, dderbyn unrhyw ymgeisydd nad wyf yn ei ystyried fel yr ymgeisydd gorau, pwy bynnag y bo. Rwyf yn deall swyddogaethau a chyfrifoldebau'r fangre hon. Rwyf yn cydnabod bod yn rhaid inni gael y bobl orau ar fwrdd y BBC. Mae angen i fwrdd y BBC gael pobl sydd ag ystod eang o wahanol gyfrifoldebau, profiadau a sgiliau. Ond mae'n rhaid bod un ohonyn nhw, un ohonyn nhw, yn cael ei benodi i'r swydd o fod y cynrychiolydd gorau un y gall Cymru ei gael ar y bwrdd hwnnw, ac ni fyddaf yn cyfaddawdu ar hynny.
4,146
Mae'n amlwg, Lywydd, fod llawer iawn o bryder led y Siambr. Byddaf, felly, yn rhoi fy llythyr terfynol i'r Ysgrifennydd Gwladol, dyddiedig 7 Mawrth, yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol fel bod pob Aelod yn gallu dod i gasgliad ar hynny ac ar y broses sydd wedi ei dilyn. O ran y cwestiwn a ofynnwyd gan Bethan Jenkins a Lee Waters fel ei gilydd ar swyddogaeth y pwyllgor cyfathrebu, rwyf yn gweld swyddogaeth ystyrlon i'r pwyllgor hwnnw ac i'r ddeddfwrfa hon wrth ddwyn y BBC a darlledwyr eraill i gyfrif. Credaf fod angen adolygu'r broses hon yn ei chyfanrwydd, a chyn i ni symud ymlaen gydag ailgynnal y broses hon, mae angen cytundeb ymlaen llaw gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar strwythur a natur y broses honno. Roeddwn yn teimlo, a dweud y gwir, y byddai modd inni allu gweithio ar sail ymddiriedaeth a pharch rhwng gweinyddiaethau yn y wlad hon. Mae'n amlwg i mi na allwn weithio ar y sail honno a bod angen i ni adolygu'r broses. Rwy'n teimlo'n siomedig iawn na chawsom y cyfle i gael y drafodaeth yr oedd angen inni ei chael. Gwrthododd yr Ysgrifennydd Gwladol drafod unrhyw ymgeisydd arall gyda mi, er gwaethaf fy ngheisiadau niferus am drafod unrhyw ymgeisydd arall. Yn groes i'r safbwyntiau y clywaf yn cael eu mynegi gyferbyn, ni wneuthum yn ystod y broses, ni wneuthum heddiw ac ni fyddaf yn mynegi fy newis o unrhyw ymgeisydd unigol. Ystyriaf yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swyddi fel yr un y byddwn i'n dymuno ei weld yn cael ei benodi i gynrychioli Cymru, pwy bynnag y byddo ef neu hi. Ond rwyf yn sicr yn gweld swyddogaeth ystyrlon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol wrth ddal Llywodraethau a darlledwyr i gyfrif.
4,147
Weinidog y Cabinet, deallaf fod Loganair wedi gweithredu gwasanaeth llwyddiannus yn cysylltu ynysoedd Orkney â Kirkwall ar dir mawr yr Alban ers rhyw wyth mlynedd. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried edrych ar y model a ddefnyddir ar gyfer y gwasanaeth hwn, o ystyried cwymp y trydydd gweithredydd ar y llwybr gogledd i Gaerdydd? A hefyd a wnaiff ystyried defnyddio erodrom Penarlâg fel dewis arall i'r Fali, Ynys Môn? Ac rwyf hefyd yn deall bod modelau newydd o awyrennau erbyn hyn - gydag un injan - sy'n cario'r un nifer o deithwyr. Pan fydd yn edrych ar y rhai a fydd yn darparu'r gwasanaeth, a fydd e'n ystyried y math o awyren a ddefnyddir?
4,148
Diolch am y cwestiwn. Darparwyd y gweinyddion gan gwmni trydydd parti o'r enw Landauer. Fe roesant wybod i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ar 17 Ionawr 2017 eu bod wedi bod yn destun ymosodiad seiberddiogelwch ar 6 Hydref 2016 ac y cafwyd mynediad at wybodaeth am y staff. Mae Landauer wedi cadarnhau bod hynny wedi digwydd ar ei weinyddion y DU yn ei bencadlys yn Swydd Rhydychen, a darparwyd manylion llawn am y digwyddiad i Felindre gan Landauer ar 26 Ionawr 2017.
4,149
Mae canlyniadau difrifol eglur sy'n llifo o'r achos, ac er enghraifft, defnyddiwyd y rhifau yswiriant gwladol er mwyn cael cod adnabod unigryw ar gyfer unigolion, oherwydd mae hyn yn ymwneud ag olrhain amlygiad yr unigolyn i ymbelydredd. Felly, rydych chi angen cod adnabod unigryw, ac mae heriau i'w hadolygu, unwaith eto, ynglŷn â sut mae hynny'n cael ei wneud. Derbyniaf hefyd fod angen ymdrin â heriau yn briodol am y lefel briodol o wybodaeth bersonol sydd i'w chadw a'i throsglwyddo, ac yna sicrhau bod pobl yn cael eu hysbysu'n briodol, nid yn unig ar hyn o bryd, ond rwyf yn derbyn nad yw hyn yn rhywbeth sydd o anghenraid yn mynd i ddiflannu dros gyfnod o fisoedd. Felly, mae'n amlwg bod cwestiynau i'w datrys, ac, fel y dywedais, Lywydd, nid wyf yn credu y gallaf roi i'r Aelodau yr holl atebion i'r cwestiynau y bydd ganddynt yn ddigon teg ac y byddant yn disgwyl iddynt gael eu hateb. Dyna pam y byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig nawr a byddaf yn cyhoeddi unrhyw ddatganiad pellach pan fydd yr ymchwiliad llawn a phriodol hwnnw wedi'i wneud, oherwydd mae'r cwestiynau mae David Rees yn eu codi yn gwbl ddealladwy, a bydd gan Aelodau ar draws y Siambr hon y pryderon hynny ar ran eu hetholwyr, pa un a ydynt yn berthnasol ai peidio. Ond, maen nhw'n gwestiynau hollol deg.
4,150
Rwy'n ceisio bod yn adeiladol wrth ymateb, Lywydd, ond rwyf yn credu bod llawer o'r hyn sydd newydd gael ei ddweud nad yw wedi bod o gymorth o gwbl. Y cyhuddiad nad oes modd ymddiried yn y GIG i gadw gwybodaeth ac yna ceisio creu cysylltiad rhwng achos o danseilio diogelwch data oherwydd gweithred droseddol, pan, wrth gwrs, ein bod eisiau sicrhau bod seiberddiogelwch ar wybodaeth sensitif yn briodol ac yn gyfredol, i'r graddau mwyaf posibl, yn erbyn y ffaith ein bod yn gwybod mai cymuned droseddol sy'n datblygu'n barhaus sy'n cael gafael ar y data hwn - nid yw ceisio creu cysylltiad rhwng hynny a'r gweithwyr proffesiynol unigol sydd wedi methu yn eu dyletswydd i'w proffesiwn ac i'r bobl y maen nhw'n atebol iddynt ac yn gyfrifol amdanynt, o gymorth o gwbl yn fy marn. Nid wyf yn derbyn bod lle i greu cyswllt priodol. Yn hytrach na cheisio codi ofn ar aelodau'r cyhoedd ynghylch diogelwch data'r GIG ac awgrymu bod yr ateb yn y gyfraith - nid wyf yn credu bod yr ateb yn y gyfraith. Mae'n ymwneud â'n systemau ar gyfer diogelu'r data hwnnw a darparu sicrwydd i bobl sy'n cael gweld y data hwnnw y gellir ymddiried ynddynt. Os ydynt yn torri eu rhwymedigaethau clir iawn, naill ai fel cyflogeion, fel gweithwyr proffesiynol gofal iechyd neu o ran torri'r gyfraith, yna gallant ddisgwyl y bydd rhywun yn eu herlid am wneud hynny, ond, mewn gwirionedd, y pwynt pwysig am ddata iechyd, wrth gwrs, yw eich bod yn dymuno iddynt fod yn ddiogel, ond ein bod yn dymuno iddynt gael eu rhannu. Mae Aelodau yn gofyn yn rheolaidd i mi yn y pwyllgor ac yn y Siambr hon, 'Sut gallwn ni sicrhau bod data a gwybodaeth am iechyd yn cael eu rhannu rhwng gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, oherwydd mae llawer i'w elwa ym maes gofal iechyd drwy rannu'r data hynny?' Rydym yn dymuno cael systemau diogel, rydym yn dymuno cael gweithwyr proffesiynol y gellir ymddiried ynddynt a chael eu dwyn i gyfrif os ydynt yn torri'r rhwymedigaethau hynny, a dyna'r sail y byddaf yn parhau i weithredu arni wrth gydbwyso'r holl agweddau gwahanol hynny, ond gan sicrhau, yn y pen draw, mai buddiannau gorau y claf fydd yn arwain yr hyn yr ydym yn ei wneud a'r hyn na fyddwn yn ei wneud.
4,151
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am dynnu sylw at y cydbwysedd sydd ei angen o ran sicrhau bod pobl yn cael gwybod cyn gynted â phosibl ac, ar yr un pryd, y ceir cywirdeb o ran y bobl sy'n cael eu hysbysu. Rydych chi'n iawn; effeithiwyd ar fwy na 3,000 o staff y GIG, ond effeithiwyd ar nifer o bobl y tu allan i'r GIG hefyd. Rwy'n credu y gallai sefydliadau iechyd eraill edrych ar yr hyn y mae Felindre wedi ei wneud i ddarparu'r gefnogaeth a'r arweiniad a grybwyllwyd gennych, a hefyd y ffaith y cysylltwyd â holl staff Felindre erbyn hyn ac y darparwyd y gefnogaeth a'r arweiniad hwnnw iddynt. Credaf fod Felindre hefyd wedi llwyddo i ysgrifennu at eu cyn staff yn ogystal. Felly, mae angen cymryd gofal a thalu sylw wrth gysylltu â staff o fewn a thu allan i'r GIG - y rhai nad ydynt bellach yn cael eu cyflogi gan y GIG - i sicrhau bod cywirdeb gwirioneddol yn hynny ac, wrth gwrs, bod yr aelodau hynny yn cael eu diweddaru wrth i'r darlun ddatblygu o ran yr hyn a ddigwyddodd a pham, a beth fydd wedyn yn cael ei wneud o ganlyniad.
4,152
Ceir un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau'r amser sydd wedi'i neilltuo i gwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y'i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
4,153
Diolch i chi am y cwestiynau yna. O ran y cwestiwn cyntaf, mae parc busnes awyrofod Sain Tathan, wrth gwrs, yn rhan o'r ardal fenter, ac rwy'n gyfarwydd iawn, unwaith eto, â'r materion gweithio pob awr o bob dydd a nos, sef, yn amlwg, lle mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau cefnogaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Awdurdod Hedfan Sifil hefyd. Felly, byddaf i'n sicr yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am ddiweddariad ar y trefniadau hynny, ond yn amlwg nid ydym yn sôn am Lywodraeth Cymru yn unig yma, o ran cyfrifoldebau am sicrhau hynny, o ran diogelwch a diogelwch awyrennau. O ran eich ail bwynt, unwaith eto, ynghylch Cardiff Aviation, mae hwnnw'n fater y byddaf yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet ato.
4,154
Byddaf i'n sicr yn codi hynny gyda'r Prif Weinidog. Rwy'n ymwybodol ei fod nid yn unig, wrth gwrs, fel y gwyddoch, wedi ysgrifennu'r llythyr yn egluro'r sefyllfa, ond ei fod hefyd - . Rwy'n credu fy mod i'n deall efallai ei fod wedi cael ymateb i'r llythyr hwnnw gan yr Ysgrifennydd Tramor, felly mae'n gyfle nawr i roi diweddariad ar y sefyllfa honno. Diolch i chi am ei chodi.
4,155
Rwy'n credu bod hwn yn gyhoeddiad siomedig arall gan fanc stryd fawr pwysig arall, ac rydym ni wedi eu cael nhw ym mhob un o'n hetholaethau ledled Cymru - a hefyd, yn wir, Yorkshire Building Society; un arall yn ddiweddar iawn. Rydym ni wedi bod yn ymwybodol o raglen ailstrwythuro Barclays, ac mae'n amlwg yn duedd, fel yr ydym ni wedi dweud - tuedd anffodus - o ran y sector bancio. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith a'r economi wedi ysgrifennu at Barclays, yn eu hannog i ailystyried y penderfyniad. Rydym ni eisiau diogelu swyddi ledled Cymru. Byddwn, yn amlwg, yn helpu staff sy'n wynebu cael eu diswyddo. Rwy'n credu ei bod hi'n werth sôn am raglen ReAct III. Mae honno'n cynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth i bobl yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan ddiswyddiad, ac, wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth lle mae cyflogaeth newydd bosibl i'w chael yn fuan ar ôl diswyddo, gan atal dilyniant i ddiweithdra hirdymor. Felly, gwnaed cysylltiad rhwng Barclays a Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith. Rydym ni hefyd wedi rhoi gwybod i'n cysylltiadau sy'n gyflogwyr, gan gynnwys fforwm canolfan gyswllt Cymru, am y posibilrwydd y bydd staff medrus yn dod i'r farchnad swyddi yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac maen nhw'n mynd i weithio, pan fo'n bosibl, gyda Barclays a'r gweithwyr a effeithiwyd. Ddoe, cyhoeddodd menter gwasanaeth cwsmeriaid sy'n ehangu'n gyflym, Firstsource, y bydd yn dechrau digwyddiad recriwtio deuddydd yn ddiweddarach yr wythnos hon, gyda'r gobaith o greu 300 o swyddi ychwanegol yng Nghaerdydd - Discovery House, fel y gwyddom, ym Mae Caerdydd, ac Oakleigh House yng nghanol y ddinas. Hefyd, mae gennym ni gyhoeddiad Vodafone o 100 o swyddi gwasanaeth cwsmeriaid newydd. Felly, rwy'n credu y bydd yr holl gysylltiadau hyn yn rhoi rhywfaint o obaith a rhagolygon i'r bobl hynny a allai golli eu swyddi yn anffodus, yn enwedig o ran eich etholaeth chi a chanolfan gyswllt cyngor morgeisi Llanisien.
4,156
Wel, a ydw i'n gweld rhywun sydd wedi ei argyhoeddi bellach, Mark Isherwood, ynghylch datganoli plismona i Gymru? Oherwydd yn sicr nid oes gennym ni gyfrifoldeb o ran plismona, ac yn sicr, nid ydym yn gyfrifol am gyflwyno'r ardoll prentisiaeth, y mae gennym ni bryderon mawr amdani. Yn amlwg, byddwn yn ymchwilio i'r sefyllfa o ran sut i symud y ddeialog gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu yn ei blaen.
4,157
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y contract meddygon teulu presennol. Fe'm hysbyswyd gan etholwyr yn ddiweddar bod un feddygfa yn gwrthod newid rhwymynnau ac yn atgyfeirio cleifion i'r ysbyty. Mae meddygfa arall yn fodlon darparu presgripsiynau amlroddadwy trwy gais ar y cyfrifiadur yn unig, sy'n eithriadol o anodd i rai o'm hetholwyr oedrannus. Mae'r un feddygfa yn gwrthod trefnu apwyntiad i gleifion tan fod y meddyg wedi siarad â nhw. Ni all y cleifion wybod pa un a yw hynny'n gywir neu'n anghywir, a pha un a all y feddygfa deulu wneud hynny. Ni allaf ddweud hynny wrthyn nhw, ac, yn bwysicaf oll, pan fyddaf yn cysylltu â Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, maen nhw'n dweud bod meddygfeydd teulu yn gontractwyr preifat i'r GIG, ac nid ydynt yn fodlon trafod hyn â nhw. Felly, roeddwn i'n meddwl mae'n rhaid bod rhywun yn rhywle yn gwybod beth yw'r contract, oherwydd rwy'n credu bod yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn annerbyniol.
4,158
A gaf i ofyn am ddatganiad os gwelwch yn dda ar Lywodraeth Cymru yn gwneud taliadau i gyflenwyr yn brydlon? Rwy'n ymwybodol, o gwmnïau bysiau sydd wedi codi'r mater gyda mi, bod taliadau hwyr, wrth gwrs, yn peri problemau llif arian i rai cwmnïau bysiau, yn enwedig cwmnïau llai. Rwy'n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, yr wythnos diwethaf, yn ystod y datganiad ar wasanaethau bysiau, wedi dweud bod y mater hwn yn fater llywodraeth leol. Ond mae'n sicr yn fater Llywodraeth Cymru. Felly, byddwn yn croesawu yn fawr iawn datganiad yn cadarnhau y bydd y mater o daliadau hwyr gan Lywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn yn cael sylw.
4,159
Rwy'n datgan buddiant gan fod y mater hwn yn ymwneud â chyngor Caerdydd. Mae'n fater pwysig ac yn ymwneud â thrafnidiaeth. Mae'r aelod cabinet dros drafnidiaeth yng nghyngor Caerdydd yn gwrthod gweithredu ar lwybrau peryglus i'r ysgol. Daw dwy ffordd i'r meddwl: Heol Isaf yn Radur, lle mae ceir yn gyrru ar hyd at 70 milltir yr awr, a Caerau Lane yng Nghaerau, lle mae'r ffordd yn arwain tuag at Ysgol Uwchradd Mary Immaculate lle mae'n rhaid i blant groesi, cannoedd ohonynt, ffordd brysur, sydd yn beryglus iawn. [Torri ar draws.] Gyda phob parch, rwy'n ceisio gofyn i'r Gweinidog am ddatganiad a hoffwn eich sylw, os gwelwch yn dda, yn hytrach na heclo.
4,160
Wel, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bolisi arloesol a phwysig iawn o ran Llwybrau Diogel i'r Ysgol, gan ddarparu cyllid i awdurdodau lleol. Wrth gwrs, maen nhw'n gwneud cais am y cyllid hwnnw ac yn cyflwyno cynigion ar gyfer llwybrau diogel i'r ysgol a llwybrau diogel yn y cymunedau hynny. Mae'r cyngor, wrth gwrs, yn gwbl ymwybodol ac yn eglur ynghylch ei rwymedigaethau statudol o ran y Mesur teithio gan ddysgwyr.
4,161
Rwy'n parchu'r ffaith bod yr Aelod wedi tynnu ein sylw at hyn ac rwy'n credu ei fod yn amlygu unwaith eto yr achosion cwbl annerbyniol hynny o drais yn erbyn - . Ni ydym yn goddef trais o unrhyw fath yn erbyn ein staff. Mae'r rhain yn staff sy'n gweithio o dan bwysau enfawr. Mae hwn yn fater, wrth gwrs, yr ydym ni'n ei gymryd o ddifrif iawn yn Llywodraeth Cymru i gefnogi ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru. Mae'n bwysig, wrth gwrs, unwaith eto, bod y bwrdd iechyd lleol hefyd yn ymwybodol o hynny a bod gwaith dilynol yn cael ei wneud ac, os oes angen, camau'n cael eu cymryd i amddiffyn y staff.
4,162
Diolch i chi, Lywydd. Roeddwn yn falch ddoe o gyflwyno Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), ynghyd â'r memorandwm esboniadol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ein cyflenwad o dai cymdeithasol dan bwysau sylweddol. Rhwng 1 Ebrill 1981 a 31 Mawrth 2016, cafodd 139,100 o gartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai - mae hynny yn 45 y cant o stoc tai cymdeithasol 1981 - eu gwerthu o dan yr hawl i brynu a'r hawl i gaffael. Mae'r gostyngiad yn y stoc yn ystod y cyfnod hwnnw yn gorfodi llawer o bobl sy'n agored i niwed i aros yn hwy am gartref heddiw, ac yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree, datblygu a diogelu tai cymdeithasol yw un o'r ffyrdd gorau y gellir defnyddio polisi tai i fynd i'r afael â thlodi. O ystyried y pwysau ar dai cymdeithasol a'r angen i adeiladu mwy o gartrefi, mae'r amser wedi dod i roi terfyn ar yr hawl i brynu fel un o'r ffyrdd i fynd i'r afael â'r pwysau. Yn ogystal â diddymu'r hawl i brynu, bydd y Bil yn annog landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd, gan wybod na fyddant mewn perygl o orfod cael eu gwerthu ar ôl dim ond ychydig flynyddoedd. Mae'r Bil wedi cael ei ddatblygu yn dilyn ymgynghoriad ar Bapur Gwyn yn 2015. Mae ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc, hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithdai. Hoffwn gofnodi heddiw fy niolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad y broses honno.
4,163
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gwybod bod cartrefi saff, diogel a fforddiadwy yn rhan hanfodol o wead sicrhau bywydau a chymunedau cryf a chydlynol, ac mae diogelu a sicrhau safonau gweddus o stoc tai Cymru yn elfen graidd wrth gyflawni hyn. Fel yr ydych yn ymwybodol, ym mis Chwefror eleni, roedd fy nghyngor fy hun, Sir y Fflint, yn llwyddiannus yn ei gais i atal yr hawl i brynu o ran yr holl anheddau cyngor. Rhwng 1996 a 2016, cafodd cyfanswm o 1,606 o dai eu gwerthu yn erbyn cefndir o alw gormodol a rhestrau tai sy'n tyfu fwyfwy. Ysgrifennydd y Cabinet, fel y crybwyllwyd gennych mewn ateb blaenorol, mae'r cyngor wedi arwain y ffordd wrth ddechrau adeiladu'r llwyth cyntaf o dai cyngor newydd mewn cenhedlaeth drwy'r rhaglen tai ac adfywio strategol. Rwy'n siŵr nad oes raid i mi ofyn a fyddwch yn ymuno â mi ac yn croesawu'r cynsail a osodwyd gan Gyngor Sir y Fflint a'i agwedd arloesol sy'n torri cwys newydd. Ond mae gen i gwestiwn ychwanegol: yn eich datganiad, rydych yn dweud yr ysgrifennir yn ffurfiol at bob tenant yr effeithir arnynt ar draws Cymru ynghylch newidiadau dan y ddeddfwriaeth. A gaf i ofyn pa arweiniad neu adnoddau sy'n cael eu darparu i sicrhau bod hyn yn digwydd? A hefyd, a ellir rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i'r wybodaeth am y cynlluniau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru megis Cymorth i Brynu a rhentu i brynu, a sut i fod yn gymwys amdanynt?
4,164
Wel, byddaf yn dechrau cyflwyno rhai cwestiynau. Diolch am fy atgoffa, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn meddwl tybed, Weinidog, beth oedd eich barn am hyn fel rhan o'ch dull cydgysylltiedig chi o weithio, yn ôl pob tebyg, ar fater tai. Efallai y gallwch roi sylwadau ar hyn pan wyf yn awgrymu mai'r hyn nad ydym ei eisiau mewn gwirionedd yw ystadau preifat newydd diddiwedd ar y llain las, gyda dim ond elfennau anfoddog a bach iawn o dai cymdeithasol, y mae eu preswylwyr yn achosi tagfeydd ar y ffyrdd pan fyddant yn teithio i mewn i'w swyddi yn y ddinas. A yw hwn yn syniad da ar gyfer y dyfodol? Efallai y gallwch chi daflu goleuni ar eich gweledigaeth ar hyn? Llawer gwell yn fy marn i - yn ein barn ni - yw ceisio cadw swyddi yn y Cymoedd cyn belled ag y bo modd, ac adfywio tai yn y Cymoedd eu hunain, a hefyd datblygu safleoedd tir llwyd a mewnlenwi yn y ddinas. Felly, roeddwn yn meddwl beth oedd eich barn ar y syniadau hynny. Mae hefyd ffactorau allanol eraill - [Torri ar draws.] - efallai y byddwch yn gallu taflu rhywfaint o oleuni arnynt - ac rwy'n diolch i chi am eich diddordeb, Aelodau draw acw. Er enghraifft, rydym yn gadael yr UE -
4,165
Cyn imi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i atgoffa'r Aelodau, yr holl Aelodau yn y Siambr, fod hwn yn ddatganiad a dylai fod pedwar llefarydd, rhagarweiniad byr, ac yna un neu ddau o gwestiynau i bob llefarydd? Ac am y gweddill ohonoch chi, mae'n gwestiwn syml i'r Gweinidog, nid yw'n fater o gymryd faint bynnag o amser a gymerwch i wastraffu amser, rhaid i mi ddweud, er mwyn dod at gwestiynau. Maent yn gwestiynau, ac mae gen i nifer o siaradwyr. Ysgrifennydd y Cabinet.
4,166
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad yma heddiw. Mae hwn yn gyhoeddiad pwysig ac, ar ben hynny, yn un gafodd ei gymeradwyo gan bleidleiswyr yng Nghymru yn ystod etholiad y Cynulliad y llynedd. Fel yr ydych wedi nodi, ar gyfer pob 20 o dai cymdeithasol oedd yn bodoli ym 1981, mae naw bellach wedi'u gwerthu, ac er bod yr hawl i brynu wedi helpu llawer o deuluoedd i gamu ar yr ysgol dai, nid oedd y polisi wedi ei gyflwyno mewn ffordd gynaliadwy. Rydym yn wynebu canlyniadau cymdeithasol hyn heddiw, felly rwy'n croesawu eich camau gweithredu. Fy nghwestiynau i: sylwaf o'ch datganiad y bydd yn dal yn rhoi'r dewis i landlordiaid cymdeithasol i werthu cartrefi i'w tenantiaid. Os bydd hyn yn digwydd, pa fesurau diogelu fydd ar waith i wneud yn siŵr na fydd unrhyw werthiant o'r fath yn effeithio ar y ddarpariaeth o'r stoc dai? Sut fydd Llywodraeth Cymru yn annog landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi unrhyw arian a wneir yn y modd hwn yn ôl i ddarparu mwy o dai i wneud iawn am y diffyg? Ac yn olaf, mae'n bwysig bod dinasyddion Cymru yn gwybod am y newidiadau hyn, a nodaf y ddyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol i hysbysu eu tenantiaid. Ond sut fyddwch chi'n monitro hyn i wneud yn siŵr ei fod wedi digwydd mewn gwirionedd, a pha ganlyniadau a geir os nad yw landlordiaid cymdeithasol yn cyfleu'r wybodaeth hon yn gywir?
4,167
Roeddwn yn falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r Bil hwn yng nghyd-destun cyfres o bolisïau a gynlluniwyd i gadw stoc tai cymdeithasol, a chynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. A yw'n rhannu fy mhryder am yr hyn fyddai'r effaith ar y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru pe byddai Plaid Cymru, y Torïaid ac UKIP wedi llwyddo'r wythnos ddiwethaf yn eu hymdrech i atal y Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru rhag buddsoddi gwerth £30 miliwn pellach mewn tai fforddiadwy?
4,168
Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio dod i Gydweli ac ymweld â'r tai newydd oedd yn cael eu hadeiladu ym Morfa Maen yn 2013 o dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur bryd hynny ar Gyngor Sir Caerfyrddin - y cyngor cyntaf i adeiladu tai cyngor yng Nghymru ers y 1980au. Erbyn hyn mae gennym 11 awdurdod yng Nghymru sy'n berchen ar gartrefi sydd wedi dod allan o gymhorthdal y cyfrif refeniw tai. Mae hynny'n golygu eu bod bellach yn cadw eu refeniw rhent yn lleol yn hytrach na'i anfon yn ôl i'r Trysorlys, ac maent yn gallu buddsoddi'r arian hwnnw mewn stoc leol. Felly, fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw a ydych yn teimlo, fel rhan o'r Bil hwn, drwy roi terfyn ar yr hawl i brynu, y bydd yn ychwanegu at y diogelwch y bydd cynghorau yn ei gael, ac mewn gwirionedd yn calonogi awdurdodau lleol i ailafael yn eu swyddogaeth hanesyddol fel adeiladwyr tai mawr?
4,169
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ôl i chi geryddu Aelodau eraill, rwyf wedi torri i lawr cryn dipyn ar yr hyn yr oeddwn yn mynd i'w ddweud yn wreiddiol. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad derbyniol iawn, gan nodi enghraifft arall o Lywodraeth Lafur Cymru yn cyflawni un o'i haddewidion maniffesto yn ei blwyddyn gyntaf? Byddai'n rhaid i mi ddweud bod hyn yn gwrthgyferbynu'n llwyr â'r addewidion a welwyd yn cael eu torri yn ddiweddar gan y Torïaid o ran eu haddewidion maniffesto ar yswiriant gwladol, ac mewn gwirionedd, o ran adeiladu tai fforddiadwy, y maent wedi newid eu cân arno yr wythnos hon hefyd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gadawodd etifeddiaeth yr hawl i brynu yn y 1980au, fel yr ydych eisoes wedi ei grybwyll, ni yn druenus o brin o stoc dai ac, fel yr ydym eisoes wedi clywed, cafodd awdurdodau lleol eu hatal rhag ail-fuddsoddi'r arian o werthu'r tai hynny. Pan glywaf y Ceidwadwyr ac UKIP yn siarad am ail-fuddsoddi hynny, mae'r cyfan - mae arnaf ofn - yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Roedd angen hynny arnom yn y 1980au, ac ni chawsom hynny, ac arweiniodd hynny, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, at yr argyfwng tai yr ydym yn dal i geisio ymdrin ag ef. Felly, er fy mod yn gallu deall y dyhead o fod yn berchen ar dŷ, rwy'n credu bod angen mynd i'r afael â hynny mewn ffyrdd gwahanol, fel yr amlygwyd eisoes gennych hefyd yn eich datganiad. Rwyf wedi cael rhai trafodaethau diweddar, Ysgrifennydd y Cabinet, â Chartrefi Cymoedd Merthyr am yr hawl i brynu. Gan gofio mai dyma'r awdurdod lleol lleiaf yng Nghymru, maen nhw'n dal i fod wedi gwerthu 93 o'u cartrefi ar gost o £5.5 miliwn - [Torri ar draws.]
4,170
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r polisi sydd wedi digwydd yn Lloegr yn fater i Lywodraeth y DU. Rwyf hefyd yn cytuno â'r Aelod bod y Papur Gwyn ar dai a'r materion ynghylch eu haddewid ar ddatblygu cartrefi newydd yn mynd i'r wal, ond nid ydym yn Lloegr - eto. Y ffaith yw, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud yma. Dyna pam ein bod yn gwneud datganiad cadarnhaol iawn wrth roi terfyn ar yr hawl i brynu, ond hefyd yr holl gamau gweithredu eraill hynny y mae'r Aelod yn eu codi, am gymorth i brynu, rhentu i brynu, a gweithio gyda set ystwyth iawn o sefydliadau. Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn drefnus iawn ac yn cyflawni llawer, mewn nifer o achosion - yn fwy felly yr agenda tai plws. Felly, nid ydynt yn adeiladu cartrefi yn unig; maent yn adeiladu cymunedau, ac mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol yn y ffordd yr ydym yn gwneud yn siŵr bod ein harian yn mynd ymhellach o ran sicrhau, pan fyddwn yn creu cymunedau, y gallwn greu rhai cynaliadwy. Felly, nid yw'r is-adran dai hon ond yn rhan o gyfres o ddulliau y byddwch wedi fy nghlywed yn siarad amdanynt, am y ffordd yr ydym yn creu cymuned gydnerth, cymuned gryfach, wedi'i grymuso, ac nid yw hyn ond yn rhan o'r jig-so hwnnw. Gan weithio gyda fy nghydweithwyr, ar draws y Cabinet, gallwn sicrhau Cymru wahanol, a fydd yn rhoi cyfle i bobl sydd eisiau prynu cartrefi yn y dyfodol - mae gennym gynhyrchion i wneud hynny - ond mae ein stoc tai cymdeithasol, sydd dan bwysau eithafol, yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
4,171
Mae hwnnw'n bwynt diddorol iawn y mae'r Aelod yn ei godi, a'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud yma yw nad ydym yn atal pobl rhag bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain. Rydym yn gwneud yn siŵr bod cynnyrch ar gael a fydd yn caniatáu i bobl ymuno â'r farchnad dai, a'r rheini yw'r cynlluniau yr wyf wedi siarad amdanynt: y rhaglenni cymorth i brynu a rhentu i brynu sydd bob amser yn cefnogi gallu pobl i wneud hynny. Nid wyf yn anghytuno â'r Aelod o ran yr economi cylchol a gwneud yn siŵr os ydym yn gwerthu un tŷ, ein bod yn adeiladu un arall. Nid yw hynny wedi digwydd yn y gorffennol, a dyna pam yr ydym yn ceisio diogelu'r stoc sydd gennym yn awr. Yn y gorffennol - a bydd yr Aelod yn ymwybodol o hyn - mae'r cartrefi wedi eu gwerthu ac mae'r Cyfrif Refeniw Tai dim ond wedi caniatáu i'r gwariant cyfalaf o 75 y cant gael ei gadw yn ôl i mewn, felly roeddech bob amser ar eich colled ac ni allech adeiladu eiddo newydd ar hynny. A dyna pam ei bod yn bwysig i ni atal y cynnig hwnnw rhag digwydd. Rydym yn mynd i fod yn adeiladu mwy o dai cymdeithasol ar gyfer pobl sydd eisiau hynny, ond rydym hefyd yn darparu cynnyrch fel y gall pobl gamu ar ysgol y farchnad dai, os mai dyna beth maent am ei wneud.
4,172
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy gofnodi'n gyhoeddus fy niolch i'r awdurdodau lleol am eu gwaith ar gyfer cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg ar gyfer 2017-20? Dengys rhai o'r cynlluniau berchnogaeth ac ymrwymiad i'r iaith Gymraeg, ac mae hyn i'w groesawu. Fodd bynnag, mae angen i eraill ddangos mwy o gyfrifoldeb am dwf addysg cyfrwng Cymraeg. Nid yw lefel yr uchelgais yr oeddwn i wedi gobeithio amdano ddim mor amlwg ag yr oeddwn wedi ei ddisgwyl. Erbyn hyn, byddwch yn ymwybodol ein bod ni ar drothwy lansio strategaeth newydd sy'n anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a byddwn ni fel Aelodau etholedig, fel dinasyddion Cymru, yn methu â chyflawni hyn ar ein pennau ein hunain. Rydym am i bawb yng Nghymru ymuno â ni ar y daith hon.
4,173
Mi oeddech chi'n iawn, wrth ysgrifennu'r llythyr, fod yna rywfaint o gynlluniau heb ddigon o uchelgais. Beth rydw i wedi trio'i wneud y prynhawn yma yw ymateb i hynny mewn ffordd bositif, ac nid drwy orymateb, os ydych chi'n licio, ond ymateb mewn ffordd sy'n cadarnhau ein huchelgais a'n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, ac i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd ein huchelgais drwy gydweithio. Rwy'n mawr obeithio y byddwn ni'n gallu gwneud hynny. Mi fydd y broses yma yn rhedeg ymlaen ac mi fydd y strategaeth yn dod fel rhan - wel, mi fydd y broses yma yn rhan o'r strategaeth, wrth gwrs. Pan fyddwn ni'n cyhoeddi'r strategaeth yn yr haf, mi fyddwch chi'n gweld bod sawl elfen wahanol i'r strategaeth. Mae'n rhaid i gynlluniau addysg Gymraeg fod yn rhan bwysig o'r strategaeth addysg, ac mi fydd y strategaeth addysg yn ffitio i mewn i fframwaith a strategaeth yn ei chyfanrwydd, os ydych chi'n licio. So, mi fydd yna strategaeth sy'n fwy holistig ar gyfer y dyfodol, ond mi fydd y cynlluniau addysg yma yn rhan hanfodol ohono fe. Rwy'n mawr obeithio y gallwn ni gyhoeddi cynlluniau a fydd â'r uchelgais rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau ei weld, ac rwy'n cytuno bod angen ei weld, ac wedyn mi fydd hynny yn rhan bwysig o'r strategaeth ar gyfer y dyfodol. Ac rwy'n mawr obeithio, wrth inni gydweithio gyda'n gilydd, y gallwn ni rannu arfer da a sicrhau ein bod ni'n dysgu gwersi i'n gilydd hefyd. Mae rhyw sôn wedi bod heddiw amboutu sut rydym ni'n mesur y galw ar gyfer addysg Gymraeg, ac mae hynny'n enghraifft, efallai, o sut y gall cynghorau gydweithio i ddysgu oddi wrth ei gilydd i sicrhau ein bod ni ddim jest yn rhannu'r uchelgais, ond ein bod ni'n rhannu'r ffyrdd gwahanol o wireddu'r uchelgais. Fy mhwyslais i y prynhawn yma yw sicrhau bod y broses dros y misoedd nesaf yn broses bositif, lle rydym ni'n cydweithio gyda'n gilydd i gyrraedd y nod rydym ni i gyd yn cytuno ein bod ni eisiau ei gyrraedd.
4,174
Mi fydd yr adolygiad yma ac mi fydd y broses yma yn ystyried y cynlluniau addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna yw pwrpas a phwynt y cynlluniau strategol, ac mi fyddwn ni yn ystyried sut rydym ni'n gallu ehangu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf. Mi fydd hyn yn seilwaith pwysig ar gyfer sut rydym ni'n creu mwy o siaradwyr Cymraeg ar gyfer y dyfodol. Ond bydd hefyd yn galluogi pobl i ddysgu Cymraeg yn gynnar iawn yn eu bywydau, a'r gobaith yw y bydd y Gymraeg yn aros gyda nhw wedi hynny, a bod ganddyn nhw'r cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg drwy'r ysgol, ar ôl 16, ac wedyn, os ydynt yn dewis gwneud hynny, gweithio neu ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith ar ôl hynny. Rydw i'n mawr obeithio y bydd hynny wedyn yn adlewyrchu ar weddill y system addysg, ac mi fydd mwy o le i'r Gymraeg trwy gydol y system addysg i sicrhau bod pobl ifanc, pan maent yn gadael yr ysgol, pan maen nhw yn 16, lle bynnag maen nhw wedi bod i'r ysgol - ysgol Gymraeg neu ysgol Saesneg - yn gallu defnyddio a siarad y Gymraeg. Achos dyna beth rydym ni eisiau ei wneud os ydym eisiau creu Cymru ddwyieithog.
4,175
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar fesur yr economi ddigidol, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig - Mark Drakeford.
4,176
Dim ond ar y pwynt yna - ac rwy'n falch iawn o glywed bod y Llywodraeth yn mynd i ystyried cynllun dychwelyd blaendal - a wnaiff ef ystyried, ac a wnaiff y Gweinidog ystyried, pan fydd hi'n dychwelyd, y ffaith bod cwmnïau mawr fel Coca-Cola bellach wedi gostwng eu gwrthwynebiad i gynllun fel hwn?
4,177
Rwy'n cydnabod y pwyntiau a wnewch. Onid dadl yw honno, fodd bynnag, dros well gorfodaeth, a dros weithio gyda theuluoedd i'w helpu i newid eu hymddygiad, yn hytrach na dim ond dweud y dylem roi'r gorau i'r ymgyrch am fwy o ailgylchu?
4,178
Gwrandewais yn astud iawn ar eich cyfraniad yn y fan yna o ran y mater eich bod yn gwneud cyswllt rhwng tipio anghyfreithlon a newidiadau i gasglu. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw ddata a fyddai'n cefnogi hynny. A oes gennych chi ddata sy'n cefnogi hynny?
4,179
[Yn parhau.] - awgrymwyd y dylem anghofio targedau ailgylchu sy'n seiliedig ar bwysau a defnyddio targedau sy'n seiliedig ar garbon, er mwyn osgoi cymhellion gwrthnysig ac, yn fwy radical, gallem weddnewid casgliadau gwastraff -
4,180
Rydych yn rhannol gywir, ond byddwn yn eich cynghori i edrych ar y darn gwreiddiol a ysgrifennodd Martin Shipton, oherwydd doeddwn i ddim yn beio lleiafrifoedd ethnig yn unig; roeddwn i'n beio myfyrwyr hefyd.
4,181
Felly sut y gallant gadw eu canolfannau ailgylchu gwastraff ar agor, a chithau'n cymryd yr arian i wneud hynny oddi arnynt? Gadewch imi hefyd atgoffa'r Aelodau - [Torri ar draws.] Fe dderbyniaf ymyriad. Byddwn wrth fy modd. Gadewch imi hefyd atgoffa'r Aelodau gyferbyn. [Torri ar draws.] Lywydd, gadewch imi atgoffa'r Aelodau gyferbyn: roeddent yn siarad am yr hyn yr ydym yn ei wneud dros yr amgylchedd a'r hyn y gallwn ei wneud i helpu busnesau hefyd. Rwyf hefyd yn cofio pan gyflwynwyd y Ddeddf amgylchedd yn y Llywodraeth ddiwethaf, bod y bobl hynny wedi pleidleisio yn erbyn hynny, hefyd. Felly, peidiwch â honni eich bod yn hyrwyddwyr yr amgylchedd; dydych chi ddim yn hyrwyddwyr yr amgylchedd, gwleidyddol ydych chi - . Dim ond herio'r cylch gwleidyddol ydych chi, yn ceisio ennill pleidleisiau lle nad yw'n helpu. Lywydd, i orffen, rydym yn ail yn Ewrop, yn drydydd yn y byd o ran ein cyfleoedd ailgylchu, ac rwy'n cynnig y cynnig heddiw. [Torri ar draws.]
4,182
Rwy'n symud yn syth i'r bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf felly ar y ddadl sydd newydd ei chynnal ar wastraff trefol ac ailgylchu, ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. Pedwar o blaid, neb yn ymatal, 46 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.
4,183
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 3 wedi ei dderbyn.
4,184
Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 28 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 5 wedi ei wrthod.
4,185
Ar Ddiwrnod y Gymanwlad eleni, bydd baton yn gadael Palas Buckingham ac yn dechrau taith hir a hynod. Dros y deuddeng mis nesaf, bydd y baton hwn yn ymweld â phobl sy'n byw yng ngwledydd a thiriogaethau teulu'r Gymanwlad ym mhob cyfandir a chefnfor. Bydd yn cael ei gludo ar ei daith gan filoedd o bobl o bob oed a chefndir. Erbyn iddo gyrraedd ei gyrchfan derfynol, bydd Baton y Frenhines wedi dwyn ynghyd - drwy ei lwybr a'i symbolaeth - bron 2.5 biliwn o bobl sy'n rhannu'r cysylltiad arbennig o fod yn ddinasyddion y Gymanwlad. Bydd y Baton yn cynnwys neges ysgrifenedig a fydd yn cael ei hagor a'i darllen yng Ngemau'r Gymanwlad yn Awstralia y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae neges fwy pwerus fyth i'w gweld a'i phrofi wrth i'r Baton gael ei drosglwyddo o law i law, o'r traethau i'r mynyddoedd, drwy ddinasoedd, trefi, a phentrefi. Dyma neges Cymanwlad sy'n hyrwyddo heddwch. Yn syml, parch a dealltwriaeth yw'r conglfeini y mae heddwch wedi'i seilio arnynt. Drwy gydweithio, rydym yn hyrwyddo heddwch drwy amddiffyn urddas pob unigolyn a chymuned. Drwy gynnal cyfiawnder a rheolaeth y gyfraith, a thrwy ymdrechu i greu cymdeithasau sy'n deg ac sy'n cynnig cyfleoedd i bawb, rydym yn goresgyn rhaniadau ac yn cymodi, a hynny er mwyn sicrhau bod buddion unrhyw gynnydd neu ffyniant yn cael eu lluosi a'u rhannu. Fel aelodau o deulu'r Gymanwlad, mae llawer o bethau y gallwn fod yn ddiolchgar yn eu cylch - y pethau hynny yr ydym wedi'u hetifeddu o'n cyndeidiau. Drwy gonsensws a chydweithio, mae pethau mawr wedi'u cyflawni. Gallwn ddod o hyd i fudd a boddhad pellach drwy barhau I gydweithio ag eraill mewn ysbryd o ewyllys da, er mwyn creu dyfodol heddychlon a thoreithiog i bob un o ddinasyddion y Gymanwlad.
4,186
Diolch yn fawr. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i brosiectau gwasanaethau cyhoeddus, mawr neu fach, o fewn Dinas a Sir Abertawe. Mae hyn yn amrywio o £100,000 o arian buddsoddi i arbed ar gyfer gwasanaeth i blant sy'n derbyn gofal i £100 miliwn tuag at safle Ysbyty Treforys.
4,187
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rwy'n gyfarwydd gyda'r pwnc. Gwelais yr ateb roedd arweinydd y sir yn Abertawe wedi rhoi mas, yn dweud bod arian ychwanegol ar gael i'r fferm i roi cais i fewn amdano, i weld os mae nhw'n gallu helpu nhw yn y ffordd yna. Mae'r sir yn mynd i helpu'r fferm gyda manylion am sut i roi i fewn am yr arian, ac rwy'n fodlon siarad ag aelodau eraill y cabinet i weld a oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud. Ond nid ydym ni wedi derbyn cais o gwbl gan y fferm fel Llywodraeth eto.
4,188
Rwy'n hapus iawn i roi'r ymrwymiad hwnnw y prynhawn yma, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod i arwyddo bargen ddinesig Abertawe ers rhai wythnosau bellach. Rydym yn teimlo'n rhwystredig oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU yn y gwahanol negeseuon y mae gwahanol Weinidogion yn y Llywodraeth honno i'w gweld yn eu cyfleu. Roeddwn yn falch o weld y llythyr oddi wrth Ganghellor y Trysorlys i Jonathan Edwards, yr AS dros Ddwyrain Caerfyrddin, lle roedd y Canghellor yn ymrwymo i'r fargen unwaith eto, a dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth mewn sefyllfa i symud ymlaen â hynny'n fuan iawn. Rydym yn sicr yn credu y dylent fod yn y sefyllfa honno.
4,189
Rwy'n hapus iawn i ddarparu'r ffigurau a'r manylion hynny i'r Aelod. Yn gyffredinol, fel y gŵyr, partneriaid sector preifat yw un o'r prif ffyrdd y gallwn gyflenwi arian Ewropeaidd ochr yn ochr â'n prifysgolion, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru ei hun. Mae partneriaid sector preifat i fyny yno ar y pen hwnnw i'r gynghrair, ac yn cael eu cynrychioli'n llawn yn y pwyllgor monitro rhaglenni, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod, Julie Morgan. Roeddwn yn falch o fod ar y pwyllgor monitro rhaglenni ar ddiwedd Chwefror, ac yn falch o siarad â phartneriaid sector preifat yno, am y ffordd y maent yn gallu defnyddio arian o dan y cylch presennol, a sut y gallant ein helpu i ffurfio syniadau mewn perthynas â pholisi rhanbarthol y tu hwnt i Brexit.
4,190
Rwy'n credu bod pobl Abertawe yn cael gwerth da am arian o'r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud yn eu gwasanaethau cyhoeddus - gwasanaethau iechyd a gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Wrth gwrs, mae angen i ni fod yn uchelgeisiol parthed lefelau boddhad. Mae lefelau boddhad y gwasanaeth iechyd, fel y gwyddoch, mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn eithriadol o uchel a bob amser wedi bod. Gwn fod cydweithwyr mewn llywodraeth leol yn anelu at gyflawni lefelau boddhad tebyg yn y dyfodol.
4,191
Diolch. Mae'r ymateb cychwynnol rydw i wedi'i dderbyn gan gynghorwyr yn bennaf, ac o bob rhan o Gymru, yn nodi nifer o bryderon difrifol. Tra'n cefnogi'r ymgais i wneud gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn fwy effeithiol, mae llawer yn pryderi fod y cynigion sy'n cael eu hamlinellu yn y Papur Gwyn yn peryglu egwyddorion craidd llywodraeth leol - egwyddorion sy'n ymwneud efo bod yn ymatebol ac yn atebol yn lleol. Fe all eich cynigion chi beryglu rôl llywodraeth leol fel rhan allweddol o ddemocratiaeth Cymru. Mae yna eraill yn gofyn a fydd creu'r haenau rhanbarthol yn arwain at gyfundrefn fwy effeithiol ac effeithlon. Felly, sut ydych chi'n bwriadu cynnal yr atebolrwydd pwysig yma yn y gyfundrefn ranbarthol? A fydd yna ddadansoddiad o gost cynigion y Papur Gwyn yn cael ei wneud?
4,192
Ar ymweliad diweddar ag Aberdaugleddau gyda'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, roeddwn yn synnu clywed uwch-swyddog un o'r cyrff cyhoeddus yn y cyfarfod yn dweud bod syndod wedi'i fynegi, ar lefel uwch, fod arian yn cael ei dalu i sefydliad arall gyflawni swyddogaeth a oedd yn mynd i fod o fudd cyfunol i'r gymuned. Pa mor dda rydych chi'n credu y mae awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn manteisio ar gyfleoedd y byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel ffordd newydd o weithio ac fel ffordd newydd o feddwl ynglŷn â sut rydym yn darparu'r manteision i'n cymunedau?
4,193
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn am ofyn y cwestiwn ynglŷn â'r ymatebion sy'n dod i mewn ar uno gwirfoddol, a gofyn a oes unrhyw awdurdodau lleol wedi ymateb mewn gwirionedd ac yn awyddus i uno'n wirfoddol, sy'n rhan fawr o'ch cynlluniau sydd ar y ffordd ar gyfer diwygio llywodraeth leol o ran chwilio am arbedion effeithlonrwydd. O ystyried nad ydym ond wedi cael un ymateb - un yn unig o 22 awdurdod lleol - sut rydych yn bwriadu bwrw iddi yn awr? Mae wedi bod yn anhrefn arnom dros y tair blynedd diwethaf o ran diwygio llywodraeth leol. Nid yw'n ymddangos i mi fod yna awydd i ymgysylltu â chi, o ystyried mai un ymateb yn unig a gafwyd. Felly, sut rydych yn bwriadu symud ymlaen yn awr a gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau nad ydym yn cadw ein gweithwyr rheng flaen a'n haelodau etholedig mewn sefyllfa amwys lle nad oes neb yn gwybod beth sy'n digwydd? Rwy'n siomedig iawn o glywed nad ydym ond wedi cael un ymateb.
4,194
Ymddiheuriadau. Roeddem yn ymgysylltu llawer ag awdurdodau lleol er mwyn eu hannog i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud y cyflwyniadau hynny, ond bydd yn fanteisiol iddynt wneud hynny, a dyna pam rwy'n teimlo'n hyderus y byddwn yn gweld nifer lawer mwy dros yr ychydig wythnosau nesaf.
4,195
Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ateb ystyrlon. Fe glywom ni yn y Pwyllgor Economi, Isadeiledd a Sgiliau y bore yma gonsýrn gan Sefydliad Bevan, er enghraifft, a gan yr Athro Karel Williams, bod gorddibyniaeth ar y model ac ar y map sydd, yn y de, ar sail y dinas-ranbarthau, yn y gogledd ar y fargen twf i ogledd Cymru, a'r perig o ddiwallu - o lastwreiddio'r ffocws, yn hytrach - ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng ngogledd y Cymoedd, er enghraifft, neu yng ngogledd-orllewin Cymru. A fyddai fe yn edrych ar y syniadau amgen sy'n cael eu cyflwyno gan Sefydliad Bevan ynglŷn â chreu parth menter i'r Cymoedd ac, a dweud y gwir, gan fy mhlaid i ynglŷn a chreu fersiwn newydd o'r Bwrdd Datblygu Cymru Wledig mewn ffordd, a hefyd asiantaeth datblygu pwrpasol i'r Cymoedd?
4,196
Gadeirydd, clywais y drafodaeth yn y Siambr ddoe rhwng arweinydd y tŷ a'r Aelod mewn perthynas â buddsoddi mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae llawer o wybodaeth eisoes ar gael am batrymau buddsoddi dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy'n siŵr y gellid sicrhau bod y wybodaeth ar gael. Yn bersonol, rwy'n canolbwyntio mwy ar sicrhau ein bod yn gwneud y buddsoddiadau cywir ar gyfer y dyfodol a'n bod yn buddsoddi ein hadnoddau cyfalaf prin mewn ffordd sy'n sicrhau ffyniant i bawb ym mhob rhan o Gymru. O ran y cwestiwn ar Gylchffordd Cymru, gwn fod fy nghyd-Aelod, Ken Skates, wedi crybwyll yr hyn y mae eisoes wedi ei addo i'r Siambr hon, sef cyfnod o graffu ar y cynlluniau terfynol a ddaeth i law gan Gylchffordd Cymru. Bydd yn dymuno gwneud hynny gydag ymdeimlad priodol o ddiwydrwydd dyladwy a bydd yn rhaid iddo gymryd yr amser sydd ei angen i wneud y gwaith hwnnw. Rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol o'r purdah, ond bydd yn canolbwyntio, rwy'n siŵr, ar sicrhau bod y cynlluniau a gyflwynwyd yn destun i'r lefel gywir o graffu er mwyn iddo allu gwneud argymhelliad i'r Cynulliad Cenedlaethol maes o law.
4,197
Wel, diolch i chi, Lywydd. Ers i'r fframwaith cyllidol gael ei lofnodi rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, rwyf wedi parhau i gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Cyfarfûm ag ef ddiwethaf yng Nghaeredin mewn cyfarfod pedairochrog rhwng y Gweinidogion cyllid, lle y trafodwyd datganoli ariannol ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Dwy agwedd, mae'n debyg: sut rydym yn gwneud i'r system yr ydym yn awr wedi cytuno arni i weithio'n effeithiol; pa bethau y mae angen i ni eu gweld ar y gorwel y gallem fod eisiau eu rhoi ar ein hagendâu yn y dyfodol ar gyfer cyflawni gwaith rhyngom.
4,198
Wel, Lywydd, cyfarfûm â Robert Chote, pennaeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yng Nghaerdydd ychydig cyn y Nadolig i drafod gwaith y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a sut y gall gasglu data sy'n bwysig i ni yng Nghymru. Ond fel y bydd Nick Ramsay yn ei wybod, un o'r pethau allweddol a sicrhawyd gennym yn y fframwaith cyllidol oedd ffrwd o gyngor annibynnol - annibynnol ar y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol - a fyddai'n dod o safbwynt Cymreig yn benodol pe bai angen i ni ddefnyddio hwnnw fel rhan o'r cytundeb fframwaith cyllidol. Rhan o'r cytundeb oedd y byddem yn sicrhau gwaith craffu annibynnol ar ragolygon Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol agos, ac roeddwn yn falch o gyhoeddi datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau ychydig ddyddiau yn ôl, yn cadarnhau bod Prifysgol Bangor wedi llwyddo i ennill y cytundeb i ddarparu'r oruchwyliaeth annibynnol honno.
4,199