text
stringlengths 76
2.23k
| __index_level_0__
int64 0
4.36k
|
---|---|
Nid wyf yn ildio. Caiff ef wrando am eiliad. Bydd yn falch o wybod bod fy etholwyr i eisoes wedi clywed y neges honno yn gwbl glir gan ei blaid. Cyn belled ag y maen nhw yn y cwestiwn, mae'r Llywodraeth Cymru hon yn gwario gormod arnynt, a dylid cymryd arian oddi wrthynt i'w wario yn rhywle arall. Ond yn fwy rhyfedd fyth, Lywydd - yn llawer mwy rhyfedd - fydd y ffaith ei fod yn bwriadu bwrw ei bleidlais y prynhawn yma i amddifadu'r cyhoedd sy'n byw yn ei etholaeth - ac, yn wir, etholaethau bron pob Aelod arall o Blaid Cymru y gallaf eu gweld - o'r cymorth y byddai'r gyllideb atodol hon yn ei roi iddynt: yr arian y mae'r gyllideb hon yn ei darparu i Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda; yr arian y bydd y gyllideb hon yn ei darparu i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr; yr arian sy'n ei gwneud yn bosibl i wasanaethau barhau i gael eu darparu - [Ymyriad.] Rwyf eisoes wedi dweud wrtho nad wyf am ildio. Felly, yr arian y bydd y gyllideb atodol hon yn ei ddarparu i bobl sy'n byw yn ei etholaeth - [Ymyriad.] - a bydd yn pleidleisio heddiw i wrthod y cymorth hwnnw iddynt. Roedd yn gyfraniad hynod o annoeth. [Ymyriad.] Rwyf yn gobeithio na fydd Aelodau eraill yn teimlo rheidrwydd i'w ddilyn yn y ffordd honno. Bu'n bosibl i ni glustnodi cronfeydd wrth gefn drwy ein rheolaeth ariannol ofalus. Byddwn yn parhau â'r rheiny lle y gallwn i'r flwyddyn ariannol sydd i ddod. Rydym wedi eu defnyddio yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus - byddant yn cefnogi blaenoriaethau allweddol, byddant yn darparu arian wrth gefn ychwanegol. Mae pasio'r gyllideb atodol hon yn angenrheidiol er mwyn gwneud yn siŵr bod y pethau y mae pobl ledled Cymru yn dibynnu arnynt bob dydd yn parhau i gael - | 4,000 |
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn ac rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y cynnig - Kirsty Williams. | 4,001 |
Mae Llafur Cymru wedi bod yn rheoli addysg ar ryw ffurf neu'i gilydd ers sefydlu'r Cynulliad. Weithiau maen nhw wedi cael cymorth drwy glymblaid â Phlaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol, fel y maen nhw ar hyn o bryd. Mae elfennau ar adroddiad Estyn heddiw yn dangos yn glir i bobl Cymru yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn rhoi'r rheolaeth dros bolisi addysg i un o'r partïon hyn a elwir yn flaengar. Yn gyntaf, mae Estyn yn cyfaddef mai dim ond lleiafrif o'r disgyblion sydd â sgiliau rhesymu cadarn ac sy'n gallu datrys problemau yn rhesymegol. Mae'r cyfaddefiad hwn yn gwbl syfrdanol. Mae ein hysgolion i fod i baratoi pobl ifanc ar gyfer busnes, entrepreneuriaeth, gwyddoniaeth ac ymchwil o'r safon uchaf, ond nid oes gan y mwyafrif ohonynt, yn ôl Estyn, yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd, sgiliau rhesymu a datrys problemau cadarn, na chrap ar resymeg. Os mai dyma yw canlyniad polisi clymblaid flaengar, mae'n rhaid i gyhoedd Cymru feddwl tybed beth y mae Llywodraeth Cymru, trwy ei chwricwlwm, yn cyfarwyddo athrawon a myfyrwyr i dreulio eu hamser yn ei wneud. Mae'r adroddiadau yn sôn am amser yn cael ei dreulio ar eco-bwyllgorau - | 4,002 |
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i wneud y cynnig. Carl Sargeant. | 4,003 |
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol pedwar gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1, 2, 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Sian. | 4,004 |
Y cynnig yw cytuno ar welliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Gwelliant 2 - na? Iawn. Felly, caiff gwelliant 2 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. | 4,005 |
Y cynnig yw derbyn gwelliant 4. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Iawn, iawn, diolch. Byddwn yn dychwelyd at bleidleisio ar hynny ar yr adeg pleidleisio. | 4,006 |
Symudwn i'r cyfnod pleidleisio, felly, ac mae'r bleidlais gyntaf ar yr ail gyllideb atodol a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 27, dim ymatal, 26 yn erbyn. Felly, caiff y cynnig ei dderbyn. | 4,007 |
Symudwn at bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 26, dim ymatal, 27 yn erbyn. Felly, ni chaiff y gwelliant ei dderbyn. | 4,008 |
Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 53, dim ymatal, dim un yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 4. | 4,009 |
Symudwn i bleidlais ar welliant 4 ar y ddadl Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 20, dim ymatal, yn erbyn y cynnig 33. Felly, ni chaiff gwelliant 4 ei dderbyn. | 4,010 |
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. A'r cwestiwn cyntaf, Gareth Bennett. | 4,011 |
Diolch am y wybodaeth honno, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae hynny ynddo'i hun yn berfformiad da. Y broblem yw bod nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yn aml yn codi wrth i gynghorau anelu at gyrraedd targedau ailgylchu. Yn y ddwy flynedd hyd at 2016, bu cynnydd o 10 y cant mewn tipio anghyfreithlon yng Nghonwy, 22 y cant yng Ngwynedd, ac yn Sir Benfro, bu cynnydd enfawr o 47 y cant. Yng ngoleuni'r ffigurau hyn, a yw'n bryd i'ch adran adolygu ei thargedau ailgylchu? | 4,012 |
Ceredigion oedd yr awdurdod lleol gorau o ran ailgylchu yn y 12 mis hyd at ddiwedd Medi 2016, gyda 70 y cant o'i wastraff yn cael ei ailgylchu. Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n cael eu harwain gan Blaid Cymru yn cyrraedd y targed cenedlaethol o ailgylchu 60 y cant o wastraff. Mae rhai awdurdodau, fel Blaenau Gwent, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, yn parhau i fethu â chyrraedd y targed cenedlaethol. A ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno bod angen gwneud mwy i ysgogi a galluogi pobl i ailgylchu er mwyn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn cyrraedd safon Ceredigion ac yn ailgylchu 70 y cant o'u gwastraff erbyn 2025? Ac, er enghraifft, beth am gael cynllun i adael plastig, gwydr a chaniau - y 'deposit-return scheme' - a chynllun gwahardd polystyren ym mhob ardal? | 4,013 |
Ysgrifennydd y Cabinet, ni allwn dynnu'n troed oddi ar y pedal mewn perthynas â hyn. Mae'n rhaid i ni dargedu tipio anghyfreithlon yn ogystal â thargedau ailgylchu. Nid oes y fath beth â chael gwared ar wastraff - mae angen trin pob gwastraff mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Felly, ceir costau yn hynny o beth. Ac yng Nghaerdydd, maent wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, ac rwy'n falch iawn o hynny. Ac mae angen inni barhau, oherwydd bydd y safle tirlenwi ar Ffordd Lamby yn cau y flwyddyn nesaf gan ei fod yn llawn, a golyga hynny y bydd unrhyw warediadau tirlenwi pellach yn costio £80 y dunnell. Ac felly, dylai fod pwyslais ar sicrhau bod y cyhoedd yn ailgylchu'r hyn y mae angen iddynt ei ailgylchu, yn hytrach na'i roi yn y biniau ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. A wnewch chi ymuno â mi i gefnogi'r cysyniad hwn, nad oes y fath beth â chael gwared ar wastraff, a bod angen i ni fynd i'r afael â phob safle diwydiannol sy'n cynhyrchu gwastraff na ellir ei ailgylchu er mwyn eu perswadio i newid, fel y gallwn bob amser ailddefnyddio ac ailgylchu? | 4,014 |
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau cynifer o gyfleoedd â phosibl i gynyddu gwaith plannu a rheoli coetiroedd. Dylai hyn sicrhau bod cyflenwad digonol o bren ar gyfer y sector gweithgynhyrchu. Bydd ein polisi adnoddau naturiol yn allweddol wrth gynllunio a blaenoriaethu'r defnydd o dir yn y dyfodol. | 4,015 |
Do, rwyf innau hefyd wedi ymweld â Clifford Jones Timber yn Rhuthun, a mynegwyd yr un pryderon wrthyf. Cyfoeth Naturiol Cymru yw darparwyr pren mwyaf Cymru, a chredaf fod hynny'n cyflenwi 60 y cant o holl ofynion y sector. Mae'n rhaid i ni gyflenwi mwy nag yr ydym wedi bod yn ei wneud. Bellach, mae gennym y cynllun marchnata pren, sy'n amlinellu argaeledd pren. Bydd hwnnw'n para am bum mlynedd yn unig, ond credaf ei fod yn fan cychwyn da. Rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion sicrhau ein bod yn parhau i weithio gyda ffermwyr, er enghraifft, gan ein bod yn awyddus i ffermwyr arallgyfeirio, ac mae hwn yn faes y gallant wneud hynny ynddo. | 4,016 |
Ydy, yn bendant, ac roedd enghreifftiau da iawn o sut y gellid defnyddio pren wrth adeiladu tai ym Mhentre Solar pan fu'r ddau ohonom yno. Rwyf wedi bod yn trafod hyn gyda fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mewn perthynas ag edrych ar wahanol ffyrdd o adeiladu tai. Soniais yn fy ateb blaenorol i Darren Millar fod gennym gynllun marchnata pren newydd. Credaf fod angen i ni edrych ar hyn. Rydym newydd sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer y panel cynghori ar y strategaeth goetiroedd. Bydd yn edrych ar argaeledd pren, ac mae tai yn un maes y gallent ganolbwyntio arno. | 4,017 |
Ysgrifennydd Cabinet, rydym ni wedi cael ein hatgoffa eto ddoe, o'r dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynglŷn â'r ffaith bod llygredd awyr yn argyfwng iechyd cyhoeddus yng Nghymru, gan achosi rhywbeth fel 2,000 o farwolaethau y flwyddyn. Mae 6 y cant o'r holl farwolaethau sy'n digwydd yng Nghymru yn dilyn yn sgil llygredd awyr, ac yn ail yn unig felly fel achos marwolaeth i ysmygu. Beth felly mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr hyn rydym ni'n ei wneud ar gyfer ansawdd awyr yn cael ei gadw wrth i ni fynd o'r Undeb Ewropeaidd a cholli, ar hyn o bryd, rai o'r rheoliadau hynod bwysig yn y cyd-destun yma? | 4,018 |
Diolch am yr ateb, ac rwy'n falch o glywed eich bod chi'n rhoi hyn ar ben y rhestr o flaenoriaethau sydd gennych chi, achos nid oes dim byd mwy amlwg yn eich portffolio chi sydd hefyd yn effeithio ar fywyd bob dydd nifer fawr ohonom sydd yn byw mewn ardaloedd lle mae llygredd awyr yn wael. Rydych chi'n sôn bod angen i hyn gael ei wneud ar draws Llywodraeth. Mae Bil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) ar hyn o bryd yn cael ei ystyried gan y Cynulliad. Ar hyn o bryd, nid yw'r Bil hwnnw'n cynnwys unrhyw gyfeiriad at lygredd awyr neu fynd i'r afael â llygredd awyr fel mater o iechyd cyhoeddus. Er nad chi yw'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am y Bil, beth ydych chi'n ei wneud wrth drafod gyda'ch cyd-Ysgrifenyddion Cabinet i sicrhau bod y Bil yma'n eich helpu chi i fynd i'r afael â llygredd awyr yng Nghymru? | 4,019 |
Gobeithiaf y bydd y trafodaethau hynny'n arwain at feddwl mwy cydgysylltiedig mewn perthynas â'r Bil hwnnw, ac wrth gwrs, bydd y Cynulliad cyfan yn cael y cyfle i'w ddiwygio, os oes angen. Ond a gaf fi ddychwelyd hefyd at orsaf bŵer Aberddawan, oherwydd y tro diwethaf i mi eich holi chi a'r Prif Weinidog ynglŷn â hyn, dywedwyd wrthyf fod Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi cysylltu â pherchnogion Aberddawan ac wedi gofyn iddynt gyflwyno cynnig erbyn hyn, rwy'n meddwl, ynglŷn â sut y byddent yn lleihau'r allyriadau y barnodd Llys Cyfiawnder Ewrop eu bod yn anghyfreithlon. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ynglŷn â'r sefyllfa yn Aberddawan, ac a ydych bellach yn fodlon fod rhaglen ar waith i leihau'r allyriadau niweidiol hynny? | 4,020 |
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, comisiynodd eich rhagflaenydd yr adolygiad annibynnol o'r sector llaeth yng Nghymru, a fanylai ar nifer o argymhellion i helpu i gefnogi'r diwydiant llaeth a'i wneud yn fwy cystadleuol. Yn dilyn yr adroddiad hwnnw, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ymateb i'r adolygiad hwnnw ac amlinellu pa ganlyniadau a gyflawnwyd gennych i wneud y diwydiant llaeth yng Nghymru yn fwy cystadleuol? | 4,021 |
Argymhelliad arall yn yr adolygiad hwnnw oedd tynnu sylw at fater trethu busnesau amaethyddol yng Nghymru, ac edrych yn agosach ar y drefn bresennol a pha un a fydd yn atal rhagor o fuddsoddiad yn y sector yn y dyfodol. Mewn ymateb diweddar i gwestiwn ysgrifenedig, fe ddywedoch fod y broses o gyflawni'r argymhelliad hwn wedi cael ei harafu ac y dylid edrych ar hyn mewn partneriaeth â rhannau eraill o'r DU, a chytunaf â hynny. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â'r agenda benodol hon a dweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei gyflawni mewn perthynas â chanlyniadau ar y mater penodol hwn? | 4,022 |
Yn amlwg, byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i roi hyn ar yr agenda, o ystyried ei fod yn un o'r argymhellion yn yr adolygiad penodol hwn. Roedd yr adolygiad annibynnol hefyd yn llygad ei le yn cydnabod bod rhai ffermwyr yn y sector llaeth yn wynebu problemau sylweddol o ran llif arian, er fy mod yn siŵr fod hynny hefyd yn broblem i ffermwyr llaeth ledled y DU. Yn wir, nid yw'r costau mewnbwn uchel i ffermwyr llaeth yn helpu, ac ychydig iawn o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ar gyfer gwelliannau cyfalaf. A wnewch chi, felly, ymrwymo i werthuso'r costau sydd ynghlwm wrth ffermio llaeth yng Nghymru, ac i edrych ar ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gefnogi ffermwyr llaeth drwy gymorth buddsoddi cyfalaf ychwanegol i helpu i wella effeithlonrwydd, ac felly dichonoldeb y sector ar gyfer y dyfodol? | 4,023 |
Diolch, Lywydd. Yn ôl pob tebyg bydd Brexit yn cael mwy o effaith ar amaethyddiaeth nag ar y rhan fwyaf o'r sectorau eraill, yn amlwg oherwydd ei fod yn cael ei reoleiddio o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn cael ei ariannu i raddau helaeth drwy'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth, felly, feddwl yn ofalus iawn am yr hyn fydd ein cyfundrefn amaethyddol ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf wedi bod yn darllen cofnodion y grŵp cynghori ar Ewrop a sefydlwyd gan y Prif Weinidog chwe mis yn ôl i weld beth y maent yn ei feddwl, a chefais fy synnu wrth weld nad yw amaethyddiaeth wedi codi o gwbl yn eu trafodaethau hyd yn hyn. Efallai fod hynny'n gysylltiedig â'r ffaith mai un aelod yn unig o'r rhai a benodwyd sydd ag unrhyw gymwysterau amaethyddol amlwg. Felly, tybed a yw hyn yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru lawer o ddiddordeb, efallai, yn nyfodol amaethyddiaeth yn ein gwlad. | 4,024 |
Wel, rwy'n falch iawn o glywed hynny, a gallaf ddweud o fy mhrofiad fy hun, wrth siarad â phobl sy'n ymwneud â grwpiau sy'n cynrychioli amaethyddiaeth a ffermio, eu bod yn hapus gyda lefel yr ymgysylltu a roesoch iddynt. Ond nid wyf yn gwybod a ydych wedi cael cyfle eto i ddarllen y datganiad polisi ar Brexit a gyhoeddwyd gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, ond un o'r pethau cadarnhaol a ddywedant yw bod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyfle i ni adolygu'r rheoliadau sy'n effeithio ar ffermio ac amaethyddiaeth ar hyn o bryd, a dywedant mai rheoleiddio gwael yw'r rheswm dros ddiffyg hyder busnesau fferm - ac mae hyn yn gysylltiedig â chostau cydymffurfiaeth, a'r amser a roddir i gydymffurfiaeth a dangos cydymffurfiaeth. Mae'r rhain yn ychwanegu'n sylweddol at lwyth gwaith ffermwyr. Felly, heb daflu'r llo a chadw'r brych a chael gwared ar yr holl reoliadau, mae'n gyfle gwych i ni adolygu effeithiolrwydd rheoleiddio a pha un a yw'n gosod costau anghymesur o ran y budd cyhoeddus sydd i fod i ddeillio ohono. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth y Cynulliad y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych o ddifrif ar adolygu rheoleiddio a lleihau ei effaith ar ffermwyr heb gyfaddawdu ar ddiogelwch y cyhoedd ac amcanion eraill? | 4,025 |
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Mae Brexit hefyd yn rhoi'r rhyddid i ni gyflwyno rheoliadau a rheolaethau newydd mewn meysydd lle y gallem fod wedi dymuno gwneud hynny, ond lle y cawsom ein rhwystro yn y gorffennol gan ddiffyg brwdfrydedd ar ran ein partneriaid eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Un o'r meysydd hyn yw allforio anifeiliaid byw, er enghraifft, y cawsom ein hatal rhag ei wahardd a hefyd cyflwyno rheoliadau mewn perthynas â lles anifeiliaid, er enghraifft, yr uchafswm o wyth awr o amser teithio ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu cludo i gael eu pesgi a'u lladd. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i mi y gall mesurau fel hyn fod ar yr agenda hefyd? | 4,026 |
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid sylweddol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ac i awdurdodau lleol ar gyfer mynediad cyhoeddus ledled Cymru. Yn ddiweddar, cyhoeddais fy mwriad i ddatblygu a chyhoeddi cynigion i ddiwygio deddfwriaeth er mwyn datblygu ymagwedd well a thecach at fynediad cyhoeddus ar gyfer hamdden awyr agored. | 4,027 |
Byddwn, rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da iawn ac wrth gwrs, mae'r pumed pen blwydd eleni. Credaf nad yw'r cyfraniad at economi Cymru, er enghraifft, yn rhywbeth sy'n cael ei gydnabod bob amser. Ond rwy'n cytuno y dylem ei ddathlu. Fel y gwyddoch, rydym yn darparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i barhau i wella a hyrwyddo'r llwybr ac rwy'n credu bod yna bethau y gallwn eu gwneud hefyd, efallai, nad ydynt yn costio llawer o arian. Rwy'n credu efallai y gallem gysylltu camlesi, er enghraifft, â rhannau eraill o gefn gwlad, ac yna, yn amlwg, mae gennym lwybr yr arfordir sy'n cysylltu â hynny hefyd. Mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn oherwydd bydd hi'n Flwyddyn y Môr y flwyddyn nesaf. Felly, rwy'n credu, unwaith eto, fod yna gyfle i hyrwyddo llwybr yr arfordir yn dda. Ac rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith yn awyddus iawn i sicrhau bod unrhyw gynlluniau marchnata yn y dyfodol mewn perthynas â hynny yn helpu i wireddu manteision llawn y buddsoddiad yr ydym wedi ei wneud yn Llwybr Arfordir Cymru. | 4,028 |
Mae'r Aelod yn nodi pwynt pwysig iawn ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw'n iawn hefyd. Yn sicr, rydym wedi cael tua 5,800 o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â hynny, ac ni fyddwch yn synnu clywed bod pynciau megis y rhai yr ydych newydd eu crybwyll wedi cael eu nodi yn hwnnw. Ond yn sicr, gallwn edrych i wneud yn siŵr fod - . Fel y dywedais, byddaf yn edrych ar y ddeddfwriaeth, ac yn sicr gallem ystyried cael rhyw fath o ymgyrch addysg ochr yn ochr â hynny, fel yr ydych yn ei awgrymu. | 4,029 |
Wel, soniais yn fy ateb blaenorol i arweinydd y Ceidwadwyr fod yn rhaid cael y cydbwysedd hwnnw, ac mae'r trafodaethau hynny'n barhaus, mewn gwirionedd. Ond pan fyddaf yn ystyried addasu'r ddeddfwriaeth, credaf y bydd hwnnw'n gyfle arall i gael y drafodaeth honno gyda thirfeddianwyr. Ond yn sicr, byddwn yn dweud ei fod yn fater sy'n codi yn y rhan fwyaf o fy nghyfarfodydd gyda'r sector amaethyddiaeth. Yn enwedig pan fyddaf yn ymweld â ffermydd, mae'n fater y maent yn ei ddwyn i fy sylw. | 4,030 |
A allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud pa un a fyddai'n bosibl addasu'r rhaglen, hyd yn oed ar y cam diweddar hwn, er mwyn, er enghraifft, ehangu'r defnydd o offerynnau ariannol yn y rhaglen, gan ddarparu cyfleusterau benthyca pellach i fusnesau mewn cymunedau gwledig, a allai gael eu hailddosbarthu yn yr economi ar ôl Brexit? | 4,031 |
Rydw i'n falch o glywed yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud ei bod hi'n sylweddoli pwysigrwydd gwneud yn fawr o'r hyn sydd gennym ni ar ôl o'r rhaglenni Ewropeaidd sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Mi ydw i, yn y gorffennol, wedi trafod gyda hi a'i swyddogion y posibilrwydd o sefydlu parc cynhyrchu bwyd yn Ynys Môn. A fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod i ystyried hynny rŵan, fel un o'r cynlluniau mawr, yn buddsoddi yn yr economi wledig mewn ardal fel Ynys Môn, a allai fanteisio ar yr arian sydd ar ôl rŵan? | 4,032 |
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n amlwg fod llawer o gwestiynau heb eu hateb ynglŷn â phroses hynod gymhleth Brexit. Mewn ateb i gwestiwn gan Neil Hamilton, rwy'n credu, yn gynharach, fe ddywedoch fod Cymru ymhell ar y blaen i wledydd eraill ar y pwynt hwn - rwy'n tybio, wrth ddweud hynny, eich bod yn golygu o fewn y DU - o ran edrych ar sut y byddwn yn datblygu'r systemau ar ôl Brexit. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni - ? A allwch egluro ychydig mwy ar eich rhesymeg i gefnogi hynny? A hefyd, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r undebau ffermio yng Nghymru i wneud yn siŵr fod cymorth ffermio'n parhau? | 4,033 |
Diolch. Mae'r cynllun gweithredu twristiaeth bwyd, a lansiwyd ym mis Ebrill 2015, yn nodi mentrau a gweithgaredd hyrwyddo i ddatblygu twristiaeth yng Nghymru. Mae'n cynnwys camau i ddatblygu twristiaeth bwyd fel sector ac fel pwynt gwerthu i Gymru, gyda bwydydd o Gymru yn cael eu hyrwyddo mewn digwyddiadau, gweithgareddau ac atyniadau mawr. | 4,034 |
Rydych yn iawn; soniais fod y sector bwyd a'r sector twristiaeth yn sectorau blaenoriaeth, ac os ydym yn rhoi'r ddau gyda'i gilydd, gallwn weld fod bwyd yn rhan gwbl hanfodol o'r cynnig twristiaeth yma yng Nghymru. Mae'n darparu pwynt cyswllt cyffredin, rwy'n credu. Mae pobl yn dod i Gymru i weld y golygfeydd rhyfeddol; maent hefyd yn dod i fwynhau ein bwyd a diod gwych. Felly, mae gennym y cynllun gweithredu twristiaeth bwyd. Mae hwnnw'n canolbwyntio ar bwysigrwydd bwyd a diod o Gymru mewn perthynas â phrofiad yr ymwelwyr, a byddwn yn hapus iawn i ymweld â'r Grub Kitchen os yw'r Aelod yn dymuno fy ngwahodd. | 4,035 |
Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr, ond mewn ateb ychydig o atebion yn ôl, soniais ei bod yn Flwyddyn y Môr y flwyddyn nesaf, ond gallwn yn sicr edrych ar - | 4,036 |
Diolch. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw darparu a chynnal a chadw parciau cyhoeddus. Gall ein parciau cyhoeddus wella cydnerthedd ein hecosystemau a'n helpu i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd fel llifogydd. Mae parciau cyhoeddus yn darparu mannau ar gyfer gweithgareddau hamdden, ardaloedd chwarae i blant, dysgu awyr agored a chyfleoedd i wella lles corfforol a meddyliol. | 4,037 |
Fel y dywedaf, mae'n fater ar gyfer awdurdodau lleol, ac rydym wedi datgan ein barn yn glir iawn. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi ymgynghori'n ddiweddar ar y polisi adnoddau naturiol - daeth yr ymgynghoriad i ben ar 13 Chwefror - ac rwy'n paratoi i gyhoeddi'r polisi terfynol ddiwedd y gwanwyn neu ddechrau'r haf, ac mae hwn yn faes yr ydym yn canolbwyntio arno. | 4,038 |
Ydw, rwyf wedi cael cyfle, ac yn amlwg roeddwn yn y portffolio hwnnw yn flaenorol, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn ei ystyried. | 4,039 |
Gwnawn, yn sicr. Mae'n dda iawn gweld y gwaith hwn yn cael ei wneud. Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â'r parciau yng Nghaerdydd. Rwy'n credu bod hynny'n un o'r pethau, pan ddechreuais ymweld â Chaerdydd fel oedolyn; mae'r parciau'n ogoneddus iawn yn wir ac mae cymaint o fannau gwyrdd yn ein prifddinas. | 4,040 |
Diolch am yr ateb cadarnhaol, Weinidog. Roedd adroddiad gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2007 yn amlygu pwysigrwydd pysgota i economi Cymru. Amcangyfrifwyd fod pysgodfeydd mewndirol Cymru yn cynhyrchu £75 miliwn o wariant gan bysgotwyr, gyda llawer ohonynt yn ymwelwyr â Chymru o dramor. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y gallai cynyddu mynediad cyfrifol a chynaliadwy at ddyfroedd mewndirol Cymru, ynghyd ag ymgyrch i hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer pysgota, ddod â manteision enfawr i economi Cymru yn y dyfodol agos? | 4,041 |
Rydym wedi cael ein bendithio yng Nghymru â thirwedd syfrdanol a chefn gwlad helaeth ac un ffordd wych o weld cefn gwlad a gwneud ymarfer corff ar yr un pryd yw ar gefn ceffyl. Nid ffordd o wneud ymarfer corff yn unig ydyw; gall fod o fudd mawr i bobl anabl a chafwyd cynlluniau marchogaeth ar gyfer pobl anabl ar draws y wlad. Mae cynnal sefydliad marchogaeth wedi mynd yn fwyfwy anodd ac mae llawer wedi cau. Pa gymorth rydych chi'n ei gynnig i sefydliadau marchogaeth i'w cael yn weithredol eto, fel y gallant gynnig y cyfleuster hwn i bobl fel yr anabl? | 4,042 |
Diolch. Byddaf yn gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer ynni adnewyddadwy. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried pa agweddau y gallai targedau ynni ymwneud â hwy. Rwy'n credu bod prosiectau ynni cymunedol a lleol yn bwysig, gan ein bod eisiau gweld prosiectau'n cynnal budd economaidd a chymdeithasol yng Nghymru. | 4,043 |
Yn hollol, ac rydym wedi parhau i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i greu'r budd lleol mwyaf posibl o'r ystad, ac rydym yn cynnig cymorth o dan y gwasanaeth ynni lleol i alluogi datblygwyr cymunedol i gyflawni ar y cyfleoedd hyn. Rwy'n ymwybodol fod grwpiau wedi dod gerbron, yn enwedig cwmnïau cydweithredol, ac oherwydd nad oes ganddynt y math hwnnw o gofnod hanesyddol, ariannol, mae wedi arwain at broblemau. Gwn fod Gwerth Cymru wedi bod yn edrych ar y materion penodol hyn ac rwyf wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gysylltu â hwy i weld beth arall y gellir ei wneud yn y maes hwnnw. | 4,044 |
Ie, mae'n sicr yn rhywbeth y gallwn edrych arno. Mae gennym ddadl ddydd Mawrth nesaf, Lywydd, yn amser y Llywodraeth, sy'n ymwneud â hyn a thargedau ac yn y blaen. Roeddwn yn falch iawn o weld y targed hwnnw'n cael ei gyflwyno o'r mis nesaf a bydd 50 y cant o'r ynni hwnnw'n dod o Gymru ar y cychwyn. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn uchelgeisiol iawn - yn ymarferol ac yn realistig, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn uchelgeisiol iawn - ac rwy'n hapus iawn i edrych ar yr hyn y mae'r Aelod yn ei awgrymu. | 4,045 |
Ie, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod. Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad yw'r broses mor anodd ag y mae wedi bod ar adegau, o bosibl. Yn sicr, pan fyddaf yn cyfarfod â grwpiau sydd wedi rhoi'r cynlluniau ynni cymunedol hyn ar waith, maent wedi bod angen dycnwch ac amynedd anhygoel ac rwy'n credu bod angen i ni wneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi. Rwy'n meddwl ein bod wedi rhoi llawer o adnoddau tuag at wneud hynny, nid adnoddau ariannol yn unig, ond hefyd y cymorth sy'n fawr ei angen. | 4,046 |
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn gwybod bod gan y sector ynni adnewyddadwy botensial aruthrol i hybu'r economi a thrwy rwydweithiau cyflenwi effeithlon, gellir lledaenu unrhyw fanteision ledled Cymru. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ar gael i fwrw ymlaen â'r prosiectau hyn? Rwy'n meddwl yma ynglŷn â chymorth uniongyrchol ar gyfer cynhyrchu cymunedol, fel y crybwyllwyd yn y cwestiwn blaenorol, ond hefyd ynglŷn â buddsoddiad o ffynonellau allanol. | 4,047 |
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr eich bod yn rhannu fy siom nad oedd y gyllideb heddiw yn cynnwys datganiad cadarnhaol am y morlyn llanw. Mae hynny'n rhywbeth a fyddai'n cael croeso enfawr yma yng Nghymru. Pa gamau pellach y gall hi eu cymryd yn awr i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno penderfyniad cadarnhaol ar y morlyn llanw? Hefyd, o gofio, er enghraifft, ein bod wedi cael digwyddiad da iawn yma neithiwr, pan glywsom gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, beth y gallwn ei wneud i adeiladu cadwyn gyflenwi sy'n barod, ledled Cymru, i gyflenwi'r morlyn hwnnw pan fydd, gobeithio yn cael y golau gwyrdd? | 4,048 |
Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnais i chi o'r blaen ynglŷn â chysylltedd â'r grid, sy'n rhwystr go iawn i lawer o brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach i gael eu traed danynt mewn gwirionedd. Pan ofynnais y cwestiwn hwn i chi y tro diwethaf, fe ddywedoch fod y Llywodraeth yn gwneud cynnydd da iawn. Dilynais hynny gyda chwestiwn ysgrifenedig a ddangosodd mai dau gyfarfod yn unig a gafwyd gyda swyddogion a'r dosbarthwyr, Western Power Distribution. Felly, a wnewch chi ymhelaethu ar sut yn union y mae'r cynnydd da y dywedoch wrthyf fod Llywodraeth Cymru yn ei wneud y tro diwethaf y gofynnais y cwestiwn hwn i chi i'w weld ar lawr gwlad, fel bod mwy o gynnydd yn y capasiti er mwyn i fwy o brosiectau ynni adnewyddadwy yn y gymuned allu cael y cysylltiad hwnnw a gallu bwrw ymlaen mewn gwirionedd? | 4,049 |
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a'r cwestiwn cyntaf, Angela Burns. | 4,050 |
Diolch am yr ymateb a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am ddod i'r digwyddiad Mothers Affection Matters yn gynharach heddiw. Oherwydd dyma ni, yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017, ac eto, heddiw, clywsom straeon dirdynnol a dysgu am ofn enbyd pobl sydd wedi cael eu cam-drin ac sy'n gyndyn i ofyn am gymorth am eu bod yn teimlo y bydd eu plant yn cael eu cymryd oddi wrthynt. Fe fyddaf yn hollol onest, mae rhai o'r straeon a glywais heddiw wedi effeithio'n fawr arnaf felly, fy ymddiheuriadau. Oherwydd dylem i gyd gael bod yn rhydd, a'r menywod hyn hefyd. Mae'n costio llawer llai i gynorthwyo mamau diogel a llawer mwy pan fydd plant yn cael eu symud i'r system ofal. A gaf fi bwyso arnoch, Ysgrifennydd y Cabinet, i adolygu'r model llwyddiannus yn yr Almaen o symud y rhai sy'n cyflawni trais domestig a galluogi'r sawl a gamdriniwyd i aros yn eu cymuned, gyda chefnogaeth yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, a meddygon teulu? Hoffwn weld a allai'r arferion ardderchog hyn fod yn wers y gallwn ei dysgu yma yng Nghymru. Rydym wedi bod mor llwyddiannus mewn cymaint o feysydd eraill drwy fod y wlad gyntaf yn y byd gyda phethau fel comisiynwyr plant ac yn y blaen, a hoffwn i ni weld a allwn wneud rhywbeth radical mewn gwirionedd, a dysgu gan ein cymdogion Ewropeaidd o bosibl. Diolch. | 4,051 |
Yr wythnos diwethaf, gofynnais beth oedd yn cael ei wneud i atal anffurfio organau cenhedlu benywod ac i gynorthwyo'r rhai y mae'n effeithio arnynt. Flwyddyn yn ôl, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, lansiodd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant a BAWSO, gyda chefnogaeth Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, y prosiect Llais Nid Tawelwch, sy'n anelu at wneud hynny. Mae'n brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n caniatáu i 16 o fenywod ifanc gael eu hyfforddi fel llysgenhadon ieuenctid ar anffurfio organau cenhedlu benywod i danio sgyrsiau am anffurfio organau cenhedlu benywod mewn ysgolion ac mewn cymunedau ledled Cymru. Rwy'n hynod o falch o ddweud fod y prosiect wedi ennill gwobr Coleg Brenhinol y Bydwragedd neithiwr am weithio mewn partneriaeth. Felly, gofynnaf i chi ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i longyfarch pawb sy'n rhan o'r fenter ragorol hon. | 4,052 |
Brynhawn ddoe, fe wnaethoch chi wrthod cefnogi gwelliant gan Blaid Cymru a fyddai wedi'i gwneud hi'n orfodol i gyflwyno addysg perthnasoedd iach yn ysgolion Cymru. Buaswn i'n hoffi deall pam y gwnaethoch chi wrthod cefnogi hynny. Sut ydym ni'n mynd i leihau trais yn erbyn merched mewn ffordd barhaol os nad ydy ein plant ni a'n pobl ifanc ni'n cael cyfle i drafod materion allweddol o gwmpas sicrhau perthnasoedd iach? Ac, os nad ydy o'n orfodol yn yr ysgolion, nid oes sicrwydd y bydd o'n digwydd ac yn digwydd gyda chysondeb ar draws Cymru. | 4,053 |
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n bryderus iawn fod y ffioedd a godir gan asiantau gosod yn gosod baich anghymesur ar denantiaid. Cyn hir, gobeithiaf allu cyhoeddi sut yr ydym ni fel Llywodraeth yn bwriadu ymateb i'r mater hwn. | 4,054 |
Rydym yn ymwybodol fod yr Alban wedi gwahardd y ffioedd hyn rai blynyddoedd yn ôl. Bydd Lloegr yn ymgynghori ar eu hargymhellion cyn bo hir. Bydd eu profiad yn helpu i lywio'r argymhellion yma yng Nghymru. Nid oes gennyf amserlen sefydlog ar hyn, ond rwy'n annog yr Aelod, unwaith eto, a Jenny Rathbone ac Aelodau eraill wrth gwrs, i deimlo'n rhydd i'w gyflwyno ar gyfer pleidlais yr Aelodau, caiff ei gefnogi gan y - | 4,055 |
Wel, dyna oedd un o'r materion yr oeddem yn pryderu yn eu cylch - trosglwyddo risg i denantiaid, yn enwedig mewn ffioedd. Rydym yn fwy bodlon bellach â'r dystiolaeth sy'n dod o'r Alban nad yw'n ymddangos bod hynny'n digwydd. Dyma ddeddfwriaeth y byddai'n rhaid i ni ei chyflwyno, felly bydd hynny'n dibynnu ar ei gyflwyno yn ôl yr amserlen ddeddfwriaethol, os a phryd y gallwn wneud hynny. | 4,056 |
Rwy'n ddiolchgar am y gydnabyddiaeth, pe baem yn cyflwyno deddfwriaeth, y byddai'r Aelod yn ei chefnogi wrth i ni fwrw ymlaen i'w chyflwyno. Edrychwch, Aelodau, rwy'n gobeithio gallu cyhoeddi'n fuan sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymateb i'r mater hwn. Byddaf yn cyflwyno hynny i'r Siambr yn unol â hynny. | 4,057 |
Hoffwn ychwanegu fy llais ar bwysigrwydd y mater hwn. Nid yn unig y gofynnir i fyfyrwyr dalu £150 i gael yr eiddo wedi'i dynnu oddi ar y farchnad tra'u bod yn datrys y contract tenantiaeth, a allai beidio â digwydd o gwbl, ond mae pobl sengl ar fudd-daliadau tai, pobl sy'n rhan o'r rhaglen Cefnogi Pobl ar lwfans cyflogaeth a chymorth, yn gorfod talu'r ffioedd hyn o'r arian y maent i fod i'w ddefnyddio ar fwyd, am na allant gael budd-dal tai i dalu'r ffioedd hyn. Felly, mae hwn yn fater gwirioneddol bwysig, ac rwy'n gobeithio y gallaf eich argyhoeddi bod angen i ni fwrw ymlaen â'r mater. | 4,058 |
Diolch, Lywydd. Wrth i chi ystyried y dyfodol ar gyfer adeiladu cymunedau cryf wrth i'r newidiadau yr ydych wedi'u cyhoeddi fynd rhagddynt, mae llawer wedi bod yn digwydd gyda chydgysylltu ardaloedd lleol, gan gynorthwyo trigolion a chymunedau, ac rwy'n dyfynnu, 'i gael bywyd, nid gwasanaeth', ac ysgogi cydweithredu rhwng pobl, teuluoedd, cymunedau a sefydliadau lleol i adeiladu rhywbeth mwy o faint a mwy cynaliadwy ochr yn ochr â'r bobl a'r cymunedau eu hunain. Pa ystyriaeth a roesoch, neu y byddwch yn ei roi i'r sgyrsiau ynglŷn â chydgysylltu ardaloedd lleol a ddechreuodd ym Mynwy yn 2013? | 4,059 |
Ymhellach - dechrau'n unig oedd hynny, oherwydd mae cydgysylltwyr ardaloedd lleol yn Abertawe yn gweithio ar yr egwyddor o ddod i adnabod pobl, eu teuluoedd, a chymunedau, i adeiladu eu gweledigaeth ar gyfer bywyd da, i aros yn gryf ac yn gysylltiedig, ac i deimlo'n fwy diogel ac yn fwy hyderus ar gyfer y dyfodol. Unwaith eto, a allech ystyried y gwaith a ddatblygwyd mewn nifer o awdurdodau lleol, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, mewn sawl rhan o Gymru? | 4,060 |
Wel, diolch i chi, a'r enghraifft fwyaf - nid yng Nghymru y mae, ond yn Derby, gan fod cydgysylltiad ardaloedd lleol yn y DU wedi dechrau yn Derby yn 2012, gan adeiladu ar fodel llwyddiannus iawn a weithredir yn Awstralia, sy'n darparu tystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol ar gyfer dinasyddion ac arbedion. Yn Swydd Derby, canfu gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Derby dros 10 i 12 mis arbedion o £800,000 i'r economi iechyd a gofal cymdeithasol a gwelwyd hefyd fod hyn wedi cyflwyno a meithrin perthnasoedd, wedi sefydlu ymddiriedaeth, wedi gweithio ar sail yr unigolyn, gan ddefnyddio cryfderau pobl, a ffurfio cysylltiadau gyda theuluoedd a dinasyddion i greu atebion ar gyfer y cymunedau hynny. Argyhoeddodd hyn yr awdurdod lleol a'r GIG yno i fuddsoddi ac i ehangu i bob un o'r 17 ward cyngor. Felly, os gall prosiect sydd â 50 o bobl wella bywydau, ailgysylltu cymunedau, ac arbed £800,000, a wnewch chi roi ystyriaeth ddifrifol i sut y gellid mabwysiadu'r model hwn yma? | 4,061 |
Diolch i chi, Lywydd. Tan 1970, cafodd miloedd o blant o bob cwr o'r DU eu halltudio dan orfod i wledydd ar draws y Gymanwlad fel rhan o bolisi llywodraeth afresymol a rwygodd blant oddi wrth eu teuluoedd a'u hanfon ar draws y byd i gael eu defnyddio fel llafur rhad, i gael eu hesgeuluso a'u cam-drin weithiau. Pa gamau a roesoch ar waith i ganfod faint o blant Cymru, y bydd rhai ohonynt yn dal yn fyw heddiw o bosibl, a gafodd eu halltudio o dan y rhaglen plant mudol ers y 1950au? | 4,062 |
Iawn. Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Cafodd bywydau'r plant eu chwalu'n gyfan gwbl, a chawsant eu rhwygo oddi wrth eu teuluoedd. Pa gymorth y gallwch ei gynnig i geisio eu haduno â'r teuluoedd hynny? | 4,063 |
Diolch. Rwy'n falch iawn o glywed hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod achosion o gam-drin rhywiol honedig ymhlith blant a alltudiwyd o dan y rhaglen yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd gan yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol, fel rhan o'u hymchwiliad i amddiffyn plant y tu allan i'r DU. Pa gyfraniad fydd gennych chi i'r ymchwiliad hwnnw? | 4,064 |
Ysgrifennydd y Cabinet, yr haf diwethaf, roedd y cwestiwn cyntaf a ofynnais i chi yn ymwneud â chasglu a chyhoeddi data mewn perthynas â chynlluniau gwrth-dlodi, a oedd yn un o argymhellion allweddol y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y Cynulliad blaenorol. A allwch ddweud wrthyf pa gynnydd sy'n cael ei wneud ar hyn, a phryd y gallwn ddisgwyl gweld data'n cael ei gasglu a'i fesur yn well? | 4,065 |
Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedwch mewn perthynas â hynny, ond wrth gwrs, mae'n dal i fod gennym nifer o gynlluniau sy'n seiliedig ar ddata cyfredol a data o'r gorffennol. A bûm yn siarad yn ddiweddar ag ystod o sefydliadau, sydd wedi dweud wrthyf nad oeddent yn gallu dod o hyd i ddata ar ganlyniadau ar gyfer 29 allan o'r 35 o raglenni cymunedol a ariannwyd o gronfa gymdeithasol Ewrop ers 2007, er bod y cyllid wedi cael ei ymestyn yn ddiweddar hyd nes 2020. Felly, gan ei bod yn amlwg fod yna brinder data mesuradwy o hyd, beth oedd y sail dros ymestyn y cyllid penodol hwn? | 4,066 |
Un o'r prosiectau hynny oedd Cymunedau am Waith, ac rwyf wedi crybwyll hyn wrthych droeon, nid yn unig yma, ond yn y pwyllgor hefyd. Felly, rwy'n credu bod honno'n un enghraifft y gallech edrych arni, o bosibl, a dod yn ôl ataf. Ond mewn perthynas â dyfodol eich strategaethau gwrth-dlodi yn fwy cyffredinol, rwyf wedi clywed hefyd mai'r broblem gyda llawer o gynlluniau yn y gorffennol yw nad ydynt yn mesur y canlyniadau hirdymor, ac yn creu data a all fod yn gamarweiniol mewn gwirionedd. Felly, er enghraifft, bydd rhywun sy'n cael swydd drwy'r rhaglen Cymunedau am Waith yn cael ei gyfrif yn llwyddiant ynddo'i hun, pa un a fydd yn dal i fod yn y swydd ymhen ychydig wythnosau ai peidio. Ond rydym i gyd yn gwybod bod tlodi pobl mewn gwaith yn dal i fod yn broblem enfawr. Felly, sut y bernir bod y cynllun penodol hwnnw ac eraill tebyg iddo yn llwyddiant, a minnau newydd amlinellu ei bod yn anodd iawn i chi ddeall a ydynt yn rhan ohono am wythnos, neu bythefnos, neu fis, ar ôl iddynt gael y lleoliad gwaith penodol hwnnw mewn gwirionedd? | 4,067 |
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Ers cyhoeddi'r cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol ym mis Rhagfyr 2016, rydym wedi datblygu llawer o'r camau gweithredu, drwy weithio gyda sefydliadau partner ar draws pob sector. Bydd diweddariad blynyddol yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2017 gan nodi'r cynnydd a wnaethom. | 4,068 |
Wrth gwrs. Rwy'n credu bod cysondeb yn bwysig iawn. Mae proffesiynoldeb y gwasanaeth yn bwysig hefyd. Rydym wedi gwneud llawer o waith gydag undebau credyd. Mae undebau credyd wedi darparu gwerth £20.4 miliwn o fenthyciadau i fwy na 25,000 o aelodau wedi'u hallgáu'n ariannol rhwng mis Ebrill 2014, a Medi 2016. Rhyddhawyd y cyllid diweddaraf o £422,000 yn 2017-18, a bydd yn helpu undebau credyd i barhau â'r cymorth ariannol ar gyfer aelodau sydd wedi'u hallgáu ac yn cyflwyno cynlluniau gweithredu o fewn y strategaeth cynhwysiant ariannol. Byddaf yn ystyried pwynt yr Aelod mewn perthynas â chysondeb mewn rhai ardaloedd a gweld pa gyngor a ddaw yn ôl. Ond fe ymwelais ag undeb credyd gwych yn etholaeth Jayne Bryant yn ardal Pill ychydig wythnosau'n ôl yn unig lle roedd y bobl ifanc yn dechrau cynilo ar gyfer y pethau gwych yr oeddent yn awyddus i'w prynu yn y dyfodol. | 4,069 |
Suzy Davies, gallwch fynd â fy nghefnogaeth i'ch cyfarfod yfory gyda HSBC. Dywedwch wrthynt fy mod yn gobeithio y gallant barhau i gefnogi eich cymuned a llawer o gymunedau ledled Cymru. Mae banc yn ganolbwynt trefnus iawn i gymuned, a dylem barhau, cymaint ag y gallwn, i'w hannog i aros yn y cymunedau yr ydych yn eu cynrychioli ac yr wyf fi'n eu cynrychioli. | 4,070 |
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb ac am egluro'r effaith. Bydd yn gwybod, flwyddyn yn ôl, cyn y gyllideb fis Mawrth diwethaf, fod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau wedi ymddiswyddo dros y toriadau a oedd ar y ffordd ar y pryd i daliadau annibyniaeth personol gan ddadlau nad oedd modd amddiffyn y toriadau mewn cyllideb a oedd yn creu budd i drethdalwyr ar gyflogau uwch. Ac wrth ymddiswyddo, fe ddywedodd: Bu gormod o bwyslais ar ymarferion arbed arian a dim digon o ymwybyddiaeth gan y Trysorlys, yn benodol, na allai gweledigaeth y llywodraeth o system fudd-dal i waith newydd gael ei thorri fesul tamaid dro ar ôl tro. Eleni, ceir tynhau pellach ar drefniadau taliadau annibyniaeth personol drwy offeryn statudol, yn hytrach nag ar lawr Tŷ'r Cyffredin yng ngolwg y cyhoedd. Mae rhai ASau Ceidwadol wedi mynegi anesmwythyd dwfn ynglŷn â hyn, nid yn lleiaf wedi i Weinidog ddweud ei fod am ganolbwyntio ar yr 'anabl iawn', a chafwyd ymddiheuriad ganddo yn sgil hynny. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gomisiynu archwiliad cyfredol o effaith y rhain a newidiadau polisi eraill diweddar iawn yn y DU ar bobl ag anableddau, ac ar gyfraddau tlodi yng Nghymru, efallai drwy swyddfa'r archwilydd cyffredinol, fel bod modd i ni asesu'r niwed i unigolion a chymunedau, a chyflwyno gwir effaith y polisïau hyn i Lywodraeth y DU gyda'r dystiolaeth honno? | 4,071 |
Mae nifer o sefydliadau wedi cyhoeddi dadansoddiad cynhwysfawr, ac academyddion a'r Llywodraeth, ar effaith diwygiadau lles y DU ar Gymru. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet - heb fynd yn erbyn ysbryd yr hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ogwr - ond efallai y gallwn fynd y tu hwnt i ddadansoddi'r effaith i chwilio am atebion a wnaed yma yng Nghymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, felly, ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru ar greu rhwyd ddiogelwch cymdeithasol gref yng Nghymru? Gallai hyn gynnwys edrych ar sut y gallem wneud y gorau o bwerau cymhwysedd sydd gennym eisoes gan edrych ar gryfhau partneriaeth â llywodraeth leol a darparwyr gwasanaethau eraill ac efallai, os caf fentro dweud, gan edrych tua'r dyfodol, y posibilrwydd hyd yn oed o drosglwyddo cyfrifoldebau diogelwch cymdeithasol penodol o San Steffan i Gymru. Felly, a wnaiff ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar ymagwedd drugarog Gymreig newydd tuag at nawdd cymdeithasol? | 4,072 |
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi tynnu eich sylw'n flaenorol at bryderon ynglŷn ag effaith newidiadau Llywodraeth San Steffan i'r lwfans tai lleol o 2019 a'r effaith a gaiff hynny ar Gymru, wedi'i dwysáu, rwy'n credu y byddwch yn cytuno â mi, gan y penderfyniad gwarthus a wnaed yr wythnos diwethaf i gael gwared ar fudd-daliadau tai ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed. Edrychodd astudiaeth a gomisiynwyd gan Cartrefi Cymoedd Merthyr ar y lefel o lwfans tai lleol sydd wedi'i rewi o gymharu â'r gyfradd rhent preifat ar gyfartaledd ym Merthyr Tudful a nododd wahaniaeth o hyd at £7.35 yr wythnos y byddai'n rhaid i'r tenant ei dalu. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd peth o'r newid yn golygu bod arian a delir fel budd-dal tai ar hyn o bryd yn cael ei ddatganoli i Gymru. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa drafodaethau a gafodd ef neu ei swyddogion gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y caiff y lefel honno o gyllid datganoledig ei phennu a pha sicrwydd y gall ei roi y bydd yn cael ei glustnodi mewn rhyw ffordd i helpu'r rhai mwyaf difreintiedig drwy rewi'r Lwfans Tai Lleol? | 4,073 |
Mae ein blaenoriaethau ar gyfer trechu tlodi plant yn cynnwys gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar, adeiladu economi gref, cynyddu cyflogadwyedd a chynorthwyo rhieni i gael gwaith. Bydd cymunedau sydd wedi'u grymuso ac sy'n cymryd rhan yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o sicrhau bod plant yn ne-ddwyrain Cymru, a thrwy weddill Cymru, yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. | 4,074 |
Rwy'n synnu braidd ynglŷn â chwestiwn yr Aelod. Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr wythnos yn ôl pan wneuthum gyhoeddiad ynghylch cyfnod pontio Cymunedau yn Gyntaf a'r rhaglenni. Ni fydd yn gweld yn unrhyw un o'r datganiadau a wneuthum fy mod yn bwriadu cael gwared ag unrhyw raglen. Rydym wedi gwneud argymhelliad cadarnhaol iawn ar gyfer pontio. Mae fy nhîm wedi bod allan yr wythnos diwethaf yn cyfarfod â byrddau cyflawni lleol Cymunedau yn Gyntaf yng ngogledd Cymru a de Cymru i drafod y dyfodol a sut olwg fydd arno, gyda 70 y cant o'r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer eleni a'r cyllid pontio o £10 miliwn o refeniw a chyfalaf ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Rwy'n credu ei fod yn gyfle gwych i gymunedau ddechrau bod yn wahanol o ran y ffordd y maent yn rheoli cydnerthedd o ran yr achosion unigol sydd gan Aelodau yn eu hetholaethau eu hunain. | 4,075 |
Wel, dylem ddweud, 'Llongyfarchiadau a diolch' wrth staff Dechrau'n Deg ledled Cymru. Yn Nwyrain De Cymru, rydym wedi cyrraedd ychydig o dan 10,000 o blant yn yr ardal honno, gan eu cefnogi gyda gwasanaethau ar gyfer eu teuluoedd. Gyda'r pontio rhwng Cymunedau yn Gyntaf a'r rhaglenni cryfder cymunedol newydd, mae Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf yn rhan o'r ymagwedd integredig tuag at gyflwyno gwasanaethau, ac rwy'n bwriadu cefnogi hynny gyda hyblygrwydd yn y dull hwnnw o weithredu, lle y gall pobl mewn angen y tu allan i'r ardal honno gael cyfle i gael mynediad at Dechrau'n Deg neu Teuluoedd yn Gyntaf neu broffilio profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a fydd, gobeithio, yn helpu eich cymuned a chymunedau ledled Cymru. | 4,076 |
Diolch. Wrth ymateb i'ch datganiad ar 7 Chwefror ar gymunedau mwy diogel, cyfeiriais at adroddiadau yn y wasg y diwrnod cynt am gynnydd o 11 y cant yn nifer y tanau bwriadol yng Nghymru yn y flwyddyn flaenorol a oedd wedi dargyfeirio o alwadau 999 eraill a dargyfeirio criwiau tân i ffwrdd oddi wrth eu blaenoriaethau eraill. Ddeng diwrnod yn ddiweddarach, roedd sylw yn y wasg i ffigurau Llywodraeth Cymru yn sôn am drydydd cynnydd yn nifer y tanau glaswellt a gynheuwyd yn fwriadol yng Nghymru y llynedd, gydag oddeutu 2,604 o danau glaswellt wedi'u cynnau'n fwriadol. Pan ymateboch i fy nghwestiwn ar 7 Chwefror, fe ddywedoch fod y Gweinidog blaenorol wedi cael cyfarfod ar y cyd ag awdurdodau lleol, awdurdodau tân a'r heddlu, ond o ystyried y lefelau cynyddol hyn yn awr o dan eich gwyliadwraeth chi, pa gamau a roddwyd ar waith gennych neu y byddwch yn eu cymryd gyda'r awdurdodau perthnasol? | 4,077 |
Yn amlwg, mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ddifrifol iawn. Hoffwn dalu teyrnged i'r gwasanaethau tân a ymatebodd mor sydyn mewn ymosodiad tân bwriadol ar gerbyd yn Llanedern ar 15 Ionawr, oherwydd heb hynny, byddai bywydau wedi'u colli. Ond rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i wasanaethau ieuenctid Caerdydd a'u gwaith gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i sicrhau bod pobl ifanc sy'n cynnau tanau'n fwriadol yn wirioneddol ymwybodol o'r peryglon posibl. Nid ydynt yn targedu neb yn benodol; maent yn ei weld fel adloniant. Felly, mae prosiect Phoenix, y cynllun diffoddwyr tân ifanc a'r cynllun ymyrraeth cynnau tanau i'w gweld i mi yn dri pheth sy'n help mawr i bobl ifanc ddeall bod llosgi unrhyw beth yn weithgaredd peryglus iawn, ac yn rhywbeth i'w osgoi'n gyfan gwbl. | 4,078 |
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid craidd ar gyfer cynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru, gan gynnwys Cynghorau Gwirfoddol Sirol yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam. Yn ogystal, bydd prosiectau cymorth cymunedol yn elwa ar gyfnod pontio Cymunedau yn Gyntaf, cyllido etifeddol a'r grant cyflogaeth. | 4,079 |
Mae dwy elfen i hynny. Ceir cyfnod pontio lle y byddwn yn darparu 70 y cant o'r cyllid ar gyfer paratoi clystyrau Cymunedau yn Gyntaf i ddechrau meddwl am yr hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol a sut y gallant ddenu ffynonellau cyllid eraill. Hefyd, rydym wedi gwneud buddsoddiad o £11.7 miliwn drwy'r rhaglen gyflogadwyedd, Cymunedau am Waith, Esgyn, a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth. Rydym yn parhau â'r argymhellion wrth i ni fwrw ymlaen â hynny. Bydd y blaenoriaethau eraill ar gyfer awdurdodau lleol neu ar gyfer byrddau cyflawni yn fater iddynt hwy o ran faint o gyllid sydd ar gael iddynt a sut y gallant weithio gyda setliad presennol Cymunedau yn Gyntaf i symud ymlaen ar gyfer y dyfodol. Rwy'n hyderus y byddant, gydag amser, yn gallu addasu'r rhaglenni yn unol â hynny. | 4,080 |
Wel, mae hynny bob amser yn wir, onid yw? Rwy'n meddwl eich bod yn cael hynny gyda phleidiau gwleidyddol ac ewyllys gwleidyddol ar draws y sbectrwm. Fy mwriad yw gwneud yn siŵr fod byrddau gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol yn agos iawn at eu cymunedau. Rydym wedi deddfu ar hyn, ar y ffaith fod ymgysylltiad yn rhan hanfodol wrth wneud penderfyniadau. Byddwn yn disgwyl i unrhyw awdurdod sy'n symud i gyfnod pontio Cymunedau yn Gyntaf ymgysylltu â'r cymunedau y maent yn gweithio gyda hwy, er mwyn i ni allu adeiladu hyn o'r gwaelod i fyny yn hytrach na gwneud pethau i gymunedau, gan weithio gyda hwy i wneud yn siŵr fod y syniadau'n dod o'r canol. | 4,081 |
Yr wythnos nesaf, mi fydd hi'n 11 mis ers i Ganolfan y Fron gyflwyno cais am grant o'r rhaglen yma. Mae oedi gan y Llywodraeth yn rhoi dyfodol y prosiect cyfan mewn perygl. Mae hi hefyd bron i naw mis ers i GISDA - elusen pobl ifanc bregus - anfon eu cais nhw ac maen nhw hefyd yn disgwyl i glywed a oedd eu cais yn llwyddiannus. Roedd y Llywodraeth wedi addo y buasen nhw wedi derbyn ymateb erbyn mis Hydref. Rwyf i wedi ysgrifennu atoch chi nifer o weithiau dros y misoedd diwethaf ynglŷn â hyn. Yn eich ymateb i un o fy llythyrau, bedwar mis yn ôl, fe soniwyd fod penderfyniad ar fin ei gyrraedd. Nid oes dal dim ateb. Mae'r ddau fudiad yma yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau nifer o bobl yn fy etholaeth i, ond maen nhw'n cael eu dal yn ôl yn sylweddol oherwydd diffyg gwybodaeth gan y Llywodraeth. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi gwybod i ni heddiw yr union ddyddiad y caiff GISDA a Chanolfan y Fron wybod os yw eu ceisiadau nhw wedi bod yn llwyddiannus? | 4,082 |
Wel, rwy'n falch o glywed am y buddsoddiad ychwanegol, beth bynnag. Mae canllawiau'r rhaglen cyfleusterau cymunedol yn dweud y gall awdurdodau lleol, byrddau iechyd, cyrff cyhoeddus eraill a busnesau fod yn bartneriaid i sefydliadau lleol sydd eisiau ymgeisio i'r gronfa. Ond, mae'n debyg bod mwyafrif y prosiectau yn cael eu gweinyddu a'u trefnu drwy awdurdodau lleol. Mae'n anodd i weld pa mor hawdd yw hi i sefydliadau lleol weithio gyda busnesau preifat a defnyddio'r cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth sydd ganddyn nhw. A fyddai'n bosibl ichi ddweud faint o brosiectau'r rhaglen sy'n gweithio gydag awdurdodau lleol o'i gymharu â busnesau lleol? Sut fath o anogaeth y mae'r sefydliadau a'r busnesau yn ei chael i gydweithio? | 4,083 |
Mae'r blaenoriaethau adfywio ar gyfer Sir Benfro yn parhau i gefnogi'r cymunedau drwy ystod o raglenni adfywio sy'n sail i ddatblygiad cynaliadwy. | 4,084 |
Wrth gwrs, ac rwy'n credu bod cyfleoedd yno i weithio mewn partneriaeth. O dan y fframwaith Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, rydym yn cefnogi Cyngor Sir Penfro gyda chynllun benthyciadau canol y dref gwerth £2.25 miliwn, sef grant benthyciad ailgylchadwy 15 mlynedd. Bydd hyn, gobeithio, yn lleihau nifer y safleoedd ac adeiladu gwag a segur yng nghanol trefi fel Penfro, Aberdaugleddau a Hwlffordd. Felly, rydym eisoes yn rhoi camau sylweddol ar waith gyda'r awdurdod, o ran cynnig newydd ar gyfer yr ardal y mae'r Aelod yn ei chynrychioli. | 4,085 |
Nid wyf yn gwybod pa bryd y bydd yr Aelod yn ymweld â'r safle, ond gallaf geisio gofyn i un o fy swyddogion ymuno ag ef er mwyn cael sgwrs gyda phobl ifanc a Sipsiwn a Theithwyr ar y safle i weld pa gamau y maent eisiau eu gweld yn digwydd. Rwy'n credu bod gennym strategaeth Sipsiwn a Theithwyr gadarnhaol iawn, ac mae gennyf dîm o swyddogion sy'n gweithio'n agos iawn gyda theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr. Mae lefelau cyrhaeddiad addysgol teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr a'u plant yn ffactor pwysig sy'n cael ei ystyried gennym. Byddwn yn hapus i ofyn i un o fy nhîm ddod gyda chi i ymweld â'r safle. | 4,086 |
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mynegwyd pryderon wrthyf ynglŷn â sut yr ymdrinnir ag achosion o aflonyddu - gyda'r sensitifrwydd a'r difrifoldeb angenrheidiol a phriodol - gan y rhai sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi sicrwydd ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i atal aflonyddu gyda'r bobl mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig rheng flaen? Hefyd, pa waith sy'n cael ei wneud gyda gwasanaethau cyhoeddus heb eu datganoli, megis yr heddlu, i sicrhau y caiff achosion o aflonyddu eu trin yn gywir? | 4,087 |
Yn ôl at ddigwyddiad Mothers Affection Matters yn gynharach heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, a gwrando ar rai o'r bobl a roddodd eu straeon; roeddent yn sôn am aflonyddu yn troi'n gam-drin o oed cynnar iawn. Hoffwn atgyfnerthu'r galwadau a wnaed gan Sian Gwenllian, ac eraill ddoe rwy'n meddwl, am hyfforddiant a chwnsela a datblygu perthynas iach mewn ysgolion. Os gallwn hyfforddi plant ifanc, merched a bechgyn ifanc, dynion a menywod ifanc i barchu a thrysori ei gilydd, yna byddwn wedi mynd gryn ffordd i atal aflonyddu a cham-drin menywod a dynion yn eu bywydau fel oedolion. | 4,088 |
Cofio Val: Val Feld oedd yr AC dros Ddwyrain Abertawe ac mae'n addas ein bod yn ei chofio yma ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Roedd Val wedi ymrwymo'n angerddol i gyfle cyfartal a chyfiawnder cymdeithasol. Hi oedd un o benseiri allweddol datganoli: un o arweinwyr yr ymgyrch 'Ie dros Gymru'. Mae gwreiddio cyfle cyfartal yn y Cynulliad yn deillio i raddau helaeth o waith Val. Buom yn gweithio gyda'n gilydd pan oeddwn yn Aelod Seneddol yn San Steffan yn pwyso ar yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd i sicrhau bod egwyddor cyfle cyfartal i bawb wedi'i gynnwys yn y Ddeddf Llywodraeth Cymru gyntaf yn 1998 a oedd i ddod yn sylfaen i'r Cynulliad hwn. Roedd hi'n ddi-ildio. Gwelai ddatganoli fel cyfle i wneud Cymru'n gymdeithas fwy cyfartal a mwy cyfiawn yn gymdeithasol. Roedd gan Val hanes rhyfeddol o wasanaeth cyhoeddus a gwirfoddol: roedd hi'n sylfaenydd Shelter Cymru, gan gydnabod trafferthion y digartref a phwysigrwydd tai, ac roedd yn gyfarwyddwr Comisiwn Cyfle Cyfartal Cymru rhwng 1989 a 1999. Roedd hefyd yn fam a phartner. Roedd rhai ohonoch yn ei hadnabod yn ystod ei chyfnod byr fel Aelod Cynulliad. Pan siaradai, roedd pawb yn gwrando. Siaradai gydag awdurdod, roedd ganddi gyfoeth o brofiad ac egwyddorion i'w cyfrannu. Nid oedd terfyn ar yr hyn y dymunai Val ei wneud a rhoddwyd diwedd ar y potensial hwnnw'n drasig iawn gyda'r hyn a oedd yn salwch angheuol yn y diwedd. Rwy'n cofio ymweld â hi yn Abertawe gyda Jane Hutt yn fuan cyn iddi farw. Rydym yn gweld ei cholli'n fawr. We miss her very much. | 4,089 |
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 23 mewn perthynas â deisebau'r cyhoedd. Rydw i'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig - Paul Davies. | 4,090 |
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21 ar yr economi sylfaenol. Rydw i'n galw ar Lee Waters i wneud y cynnig. | 4,091 |
Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser. Rwy'n arbennig o bryderus nad yw pobl mewn gwaith yn ennill digon. Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, roedd adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree 'UK Poverty: Causes, costs and solutions' yn bwysig a hefyd yn galondid. Rwy'n llwyr gefnogi'r alwad am gyflog ac amodau gwell. Fe allwn ac fe ddylem bwyso i gael y cyflog byw gwirfoddol wedi'i gyflwyno fel blaenoriaeth uchel ym mhob swydd yn y sector cyhoeddus a'i gyflwyno mewn contractau caffael cyhoeddus. Dylai cyflogwyr sector preifat gael eu cynorthwyo a'u hannog i'w gyflwyno. Mae'n briodol ein bod ni yn Llafur Cymru yn lledaenu hyn ac yn arwain y ffordd ac fel y cyfryw, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau Llafur Cymru Lee Waters, Hefin David, Vikki Howells a Jeremy Miles am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Rwyf am ychwanegu fy llais at alwad am arloesedd, dewrder ac uchelgais gyda strategaeth economaidd newydd gadarn, ac addas i'r diben, ar gyfer Cymru fodern, fywiog a ffyniannus. Diolch. | 4,092 |
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd plant a galwaf ar Angela Burns i gynnig y cynnig. | 4,093 |
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol. | 4,094 |
Nid wyf yn sicr y byddai trampolinio'n fy nghynnal, mewn gwirionedd, David Melding. [Chwerthin.] Nid wyf am dorri rhagor o esgyrn. Ond mae'n ymwneud â dal yr ifanc a newid eu ffyrdd o fyw a newid eu disgwyliadau. Y peth arall nad ydym wedi'i grybwyll yw hyn: bydd unigolyn iach sy'n wydn yn emosiynol, a fydd, yn 18, 19 neu'n 20 oed, yn dechrau mewn swydd neu'n cychwyn mewn addysg uwch yn rhywun a fydd yn llwyddo'n llawer gwell yn eu bywydau mewn gwirionedd. Byddant yn cael gwell canlyniadau ac yn eu tro, byddant yn magu plant hapusach, iachach a mwy gwydn. Rwy'n falch iawn o glywed eich bod yn mynd i fwrw ymlaen â hyn a cheisio ffurfio gweledigaeth. Byddwn yn gweithio gyda chi. Hoffwn ddiolch i bawb - nid wyf wedi cael cyfle i ddiolch i bawb - am gymryd rhan yn y ddadl. | 4,095 |
Symudwn ymlaen at eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl Plaid Cymru ar Gronfa'r Teulu. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y cynnig. Rhun. | 4,096 |
Diolch. Wrth gwrs, os yw hwn yn cael ei basio heddiw, ni fydd un geiniog yn mynd drwodd. Yr unig ffordd i gael arian ychwanegol ar gyfer hyn yw drwy'r gyllideb atodol gyntaf, onid e? | 4,097 |
Rwy'n ceisio deall pam eich bod yn canolbwyntio cymaint ar Gronfa'r Teulu, oherwydd ceir 32 o sefydliadau sydd wedi elwa o'r cynllun grant gwasanaethau cymdeithasol hwn ac nid Cronfa'r Teulu yw'r unig gynllun sydd ar gael o ran cefnogaeth i deuluoedd anabl, ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud y gorau o'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt drwy wahanol sefydliadau. | 4,098 |
Mae UKIP yn llwyr gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Mae Cronfa'r Teulu yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iawn i deuluoedd sydd â phlant anabl ac mae'n anffodus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu torri cyllid y gronfa. Mae colli £5.5 miliwn o Gronfa'r Teulu yng Nghymru yn golygu nad yw miloedd o deuluoedd yn cael y math o gefnogaeth y mae teuluoedd yng ngweddill y DU yn ei mwynhau. Deallaf honiad Llywodraeth Cymru fod yn rhaid iddynt reoli adnoddau cyfyngedig; fodd bynnag, pan fyddwch yn cyhoeddi eich bod yn rhyddhau £10 miliwn i ddatblygu teithiau hedfan rhwng Caerdydd a Heathrow, rhaid i mi gwestiynu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwadu cymorth brys a gofal seibiant i filoedd o blant anabl ar yr un pryd ag yr ydym yn ceisio prynu busnes ychwanegol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd. Ni allaf gytuno â phenderfyniad Llywodraeth Cymru ar hyn. Mae UKIP yn llwyr gefnogi'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio'i wneud gyda Maes Awyr Caerdydd, ond ar adeg pan fo arian yn dynn, ni ddylem fod yn ceisio denu cwmnïau hedfan i hedfan rhwng Caerdydd a Heathrow, ac nid ar draul plant anabl yn enwedig. Byddai'r £10 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer y maes awyr yn talu am Gronfa'r Teulu am y chwe blynedd nesaf. Nid wyf yn dweud y dylid canslo'r gwaith ar ddatblygu llwybrau, dim ond ei ohirio hyd nes y gallwn ei fforddio, a pheidio â bwrw ymlaen ar draul plant anabl. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried. Byddaf yn sefyll gyda'r dros 4,000 o deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl yr effeithir arnynt gan y penderfyniad hwn. Mae Gofalwyr Cymru, Cyswllt Teulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid ei phenderfyniad ac adfer Cronfa'r Teulu i'w lefelau blaenorol fan lleiaf. Bydd UKIP yn gwrthod gwelliant Llywodraeth Cymru a byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig. Rwy'n annog cyd-Aelodau i wneud yr un peth. Gadewch i ni anfon neges glir: nid yw caledi yn golygu cosbi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Diolch. | 4,099 |
Subsets and Splits