instruction
stringclasses
2 values
input
stringlengths
38
42.1k
output
stringlengths
38
42.1k
Translate the text from English to Welsh.
The St David Awards are the national awards of Wales. They acknowledge the extraordinary achievements of people in or from Wales and recognise the great deeds and contributions made by people from all walks of life.  Announcing the finalists, First Minister Carwyn Jones said:  > “The St David Awards, now in their 4th year, are all about celebrating people who have gone the extra mile to make a difference to someone else’s life, overcome adversity or achieved something truly inspirational.  > > > “Once again, the St David Awards finalists are an exceptional group of people. Every single one is a credit to Wales \- it is going to be tough to choose the winners! I look forward to celebrating their outstanding achievements at the awards ceremony on 23 March.” The finalists in the award categories: Bravery; Citizenship; Culture; Enterprise; Innovation, Science and Technology; International; Sport; and Young Person are as follows. ### Bravery **Firefighters Gary Slack and Billy Connor.** In August 2016, on\-call firefighters Gary Slack and Billy Connor braved strong currents at Castle Beach, Tenby, to save 2 children from drowning.  **PC Christopher Bluck and PC Rhys Edwards, South Wales Police.** In March 2016, police constables Christopher Bluck and Rhys Edwards risked their own safety to save the life of a woman who had set herself on fire and was armed with a handgun.  **Pontardawe Fire Crew.** In July 2016, the fire crew were called to a house which was on fire with 2 young boys trapped inside. The crew battled dangerous conditions and 800 degree heat to save one of the children, a 3 year old boy, from the fire. The second child was also recovered from the property but tragically died.  ### Citizenship **Special Constable Cairn Newton\-Evans, Dyfed\-Powys Police.** Having been a victim of a violent homophobic hate crime, Cairn joined the police to try to stop such attacks happening to others. Cairn is a regular volunteer and a passionate advocate for LGBT rights.  **21 Plus, Down’s syndrome support charity.** Run by 3 mothers who each have children with Down’s syndrome, the charity has gone from strength to strength over the past 10 years.  **Anthony Evans, education campaigner for disabled students.** Spurred on while looking to further improve his severely disabled son’s education, Anthony has campaigned for post\-19 education for severely disabled adults. Thanks to Anthony’s efforts, a day college for disabled young adults in Wales was established in September 2016\.  ### Culture **Elfed Roberts, Chief Executive of the National Eisteddfod.** Having been at the festival’s helm for nearly 25 years, Elfed has ensured the Eisteddfod continues to grow and develop, while remaining contemporary and welcoming to all.  **Professor Jen Wilson, jazz musician and archivist.** For more than 50 years, Jen has played a central role in promoting jazz music in Wales and in documenting its history and social impact – and in particular the role of women in jazz.  **The Cory Band.** Established in Treorchy in 1884, the brass band has a reputation for excellence. They made history in 2016 by becoming the first band to be quadruple champions; simultaneously holding the National, Open, European and Brass in Concert titles.  ### Enterprise **Llaeth y Llan \- The Village Dairy, yogurt producers.** A family run business, developed through diversification of a farm in Conwy, Llaeth y Llan produces yogurts sold across Wales and the UK. They believe their business is only as good as their 43 staff and put an emphasis on training and investing in the community.  **David Banner, video games director.** As well as being a multi\-award winning games director and managing director of Wales Interactive, Dai has been instrumental in the growth of Wales’ games industry. He founded the annual Wales Games Show in 2012 and created the GamesLab project, a digital development initiative for the University of South Wales, which has nurtured hundreds of students and provides a global platform for Welsh digital companies.  **Halen Môn – Anglesey Sea Salt.** Owners Alison and David Lea\-Wilson have succeeded in starting a sustainable, successful business which employs local people with environmental and educational principles whilst also attracting tourists to Anglesey.  ### Innovation, Science and Technology **Jessica Leigh Jones, astrophysicist and engineer.** The astrophysics graduate and former UK Young Engineer of the Year received the Intel Inspiration Award for Entrepreneurship for developing a series of novel fibre optic transducers. An advocate for technical sciences, she is also director of the Engineering Education Scheme Wales and patron of Science and Engineering at Alton Convent School. **Professor Meena Upadhyaya OBE, geneticist.** Britain’s first female British\-Indian professor in medical genetics within the UK, Meena’s career focused on identifying genetic disorders. Meena has made a difference to people’s lives either through her medical research or community and charity work and received an OBE in 2016 for services to medical genetics and the Welsh Asian community. **Genesis Biosciences.** In a market dominated by harsh and sometimes dangerous chemical cleaners, Genesis develops products that put customers’ safety and the environment first. This approach has been recognised through a number of industry awards, including the EDIE Sustainability Leaders Awards 2015 and the Technology and Innovation Business of the Year category at the 2015 Cardiff Business Awards. ### International **Dr David Nott OBE, warzone surgeon.** Each year, for the past 23 years, David has taken unpaid leave from his job as consultant surgeon at Chelsea and Westminster Hospital to work for aid agencies and provide surgical treatment to the victims of conflict and catastrophe. David and his wife, Elly, have also established the David Nott Foundation, raising hundreds of thousands of pounds for charity and providing surgical training to front line medics.  **Nizar Dahan, international volunteer.** Nizar works for the Human Relief Foundation and is nominated for his extensive international humanitarian work in response to the refugee crisis and for establishing the Swansea Humanitarian Aid Response Project, which supports displaced and vulnerable people.  **Professor Carl G. Jones MBE, conservation biologist.** Professor Jones has dedicated his life to restoring endangered animal populations and habitats, and is regarded as one of the most accomplished conservationists on earth. He is responsible for saving from extinction the Mauritius kestrel, 3 species of reptiles, a fruit bat and several plants.  ### Sport **Wales International Football Squad, UEFA Euro 2016\.** The Wales National football team, led by Chris Coleman, reached the semi\-final of the Euros 2016\. The squad were first class ambassadors for Wales, both on and off the pitch, and their strapline of “Together Stronger” has inspired the nation and captured worldwide interest.  **The Welsh Members of TeamGB Olympics and Paralympic, Rio 2016\.** The 24 Welsh athletes selected by TeamGB was the largest ever overseas contingent of Welsh athletes at an Olympic Games, while the 26 Welsh Paralympics athletes accounted for 10% of the Great Britain team. 2016 was a very successful year for the Welsh athletes, while they also represented the country with dignity and courage. **Anne Ellis OBE, Sport Ambassador.** In July 2016, Anne Ellis stepped down as President of Hockey Wales, after 20 years at the helm. During the past 2 decades, Welsh Hockey has seen significant changes and Anne has been involved in it all. ### Young Person **Brittany Davies, volunteer for looked after children.** Brittany became looked after at the age of 16 and, despite many significant and harrowing challenges, she is now studying for her A Levels and volunteers regularly to help others in similar situations.  **Savannah Lloyd, mental health volunteer.** Having battled mental health problems since she was 11 years old, Savannah uses her experiences to reach out and help others in similar situations.  **Elan Môn Gilford, sport volunteer.** Despite 18 year old Elan’s hearing loss, she volunteers 8 to 10 hours a week to coach sport sessions, children’s karate and netball. Elan also runs a community sign language course.
Gwobrau Dewi Sant yw'r gwobrau cenedlaethol Cymru. Maent yn cydnabod llwyddiannau anhygoel bobl i mewn neu o Gymru ac yn cydnabod gorchestion a chyfraniadau gwych pobl o bob cefndir. Wrth gyhoeddi'r teilyngwyr, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: > "Nod Gwobrau Dewi Sant, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, yw dathlu pobl sydd wedi mynd yr ail filltir i wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, sydd wedi goresgyn anawsterau neu wedi cyflawni rhywbeth ysbrydoledig. > > "Unwaith eto, mae teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant yn grŵp eithriadol o bobl. Mae pob un ohonynt yn gaffaeliad i Gymru \- mae hi’n mynd i fod yn anodd dewis yr enillwyr! Rwy'n edrych ymlaen at ddathlu yr hyn y maen nhw wedi’i wneud yn y seremoni wobrwyo ar 23 Mawrth." Dyma'r rhestr o deilyngwyr yn y categorïau gwobrwyo canlynol: Dewrder; Dinasyddiaeth; Diwylliant; Menter; Arloesedd a Thechnoleg; Rhyngwladol; Chwaraeon; a Pherson ifanc. ### Dewrder Diffoddwyr Tân, Gary Slack a Billy Connor. Ym mis Awst 2016, gwnaeth y diffoddwyr tân, Gary Slack a Billy Connor, herio cerrynt cryf ar Draeth y Castell, Dinbych\-y\-pysgod, i achub dau blentyn rhag boddi. PC Christopher Bluck a PC Rhys Edwards, Heddlu De Cymru. Ym mis Mawrth 2016, gwnaeth y cwnstabliaid Christopher Bluck a Rhys Edwards beryglu eu hunain i achub bywyd menyw a oedd wedi rhoi ei hun ar dân ac a oedd â gwn yn ei llaw. Diffoddwyr Tân Pontardawe. Ym mis Gorffennaf 2016, galwyd y diffoddwyr tân i dŷ oedd ar dân gyda dau fachgen bach yn methu dianc ohono. Gwnaeth y diffoddwyr frwydro yn erbyn amodau peryglus ac 800 gradd o wres i achub un o'r plant, bachgen tair blwydd oed, o'r tân. Achubwyd ail blentyn o'r tŷ hefyd, ond yn anffodus, bu farw. ### Dinasyddiaeth Cwnstabl Arbennig Cairn Newton\-Evans, Heddlu Dyfed\-Powys. Ar ôl dioddef trosedd casineb homoffobig, ymunodd Cairn â'r Heddlu er mwyn ceisio rhoi stop ar y math hwn o ymosodiadau rhag digwydd i eraill. Mae Cairn yn wirfoddolwr rheolaidd ac yn eiriolwr brwdfrydig dros hawliau LGBT. 21 Plus, elusen i gefnogi pobl â syndrom Down. Mae'r elusen, sy'n cael ei rhedeg gan dair mam sydd â phlant sydd â syndrom Down, wedi mynd o nerth i nerth dros y deng mlynedd diwethaf. Anthony Evans, ymgyrchydd addysg i fyfyrwyr anabl. Wedi'i sbarduno wrth geisio gwella addysg ei fab sydd ag anabledd difrifol, mae Anthony wedi ymgyrchu dros addysg ôl\-19 i oedolion sydd ag anableddau difrifol. O ganlyniad i ymdrechion Anthony, sefydlwyd coleg dydd i oedolion ifanc anabl yng Nghymru ym mis Medi 2016\. ### Diwylliant Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Elfed, sydd wedi bod wrth lyw'r ŵyl am bron 25 mlynedd, wedi sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i dyfu a datblygu, gan aros yn gyfoes a chroesawgar i bawb. Yr Athro Jen Wilso, cerddor ac archifydd jazz. Am dros 50 mlynedd, mae Jen wedi chwarae rôl ganolog yn hyrwyddo cerddoriaeth jazz yng Nghymru ac yn dogfennu ei hanes a'i heffaith gymdeithasol \- ac yn benodol rôl menywod mewn jazz. The Cory Band. Wedi'i sefydlu yn Nhreorci yn 1884, mae gan y band pres enw da am ragoriaeth. Fe wnaethant greu hanes yn 2016 drwy fod y band cyntaf i fod yn bencampwyr y cystadlaethau Cenedlaethol, Agored, Ewrop a Brass in Concert a hynny i gyd yr un pryd. ### Menter Llaeth y Llan \- The Village Dairy, cynhyrchwyr iogwrt. Mae Llaeth y Llan, busnes teuluol a ddatblygwyd drwy arallgyfeirio fferm yng Nghonwy, yn cynhyrchu iogyrtiau a werthir ledled Cymru a'r DU. Maent yn credu bod eu busnes dim ond mor dda â'u 43 aelod o staff ac maent yn rhoi pwyslais ar hyfforddi a buddsoddi yn y gymuned. David Banner, cyfarwyddwr gemau fideo. Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr gemau llwyddiannus ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Wales Interactive, mae Dai wedi bod yn rhan bwysig o dwf y diwydiant gemau yng Nghymru. Sefydlodd Sioe Gemau flynyddol Cymru yn 2012 a chreodd y prosiect GamesLab, menter datblygu ddigidol i Brifysgol De Cymru. Mae wedi helpu cannoedd o fyfyrwyr ac mae'n rhoi platfform byd\-eang i gwmnïau digidol Cymru. Halen Môn. Mae'r perchnogion, Alison a David Lea\-Wilson, wedi llwyddo i ddechrau busnes cynaliadwy a llwyddiannus sy'n cyflogi pobl leol sydd ag egwyddorion amgylcheddol ac addysgol. Maent hefyd yn denu twristiaid i Ynys Môn. ### Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Jessica Leigh Jones, astroffisegwr a pheiriannydd. Mae gan Jessica radd mewn astroffiseg ac a enillodd wobr Peiriannydd Ifanc y Flwyddyn yn y DU. Mae hefyd wedi ennill Gwobr Entrepreneuriaeth Intel Inspiration am ddatblygu cyfres o droswyr ffibr optig newydd. Mae'n eiriolwr ar gyfer y gwyddorau technoleg, ac mae hefyd yn gyfarwyddwr Cynllun Addysg Beirianneg Cymru ac yn noddi Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn Ysgol Alton Convent. Yr Athro Meena Upadhyaya OBE, genetegydd. Mae gyrfa Meena, y fenyw Brydeinig gyntaf o dras Indiaidd i fynd yn Athro Prifysgol mewn geneteg feddygol yn y DU, gan ganolbwyntio ar anhwylderau genetig. Mae Meena wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl drwy ei hymchwil feddygol a’i gwaith cymunedol ac elusennol. Derbyniodd OBE yn 2016 am ei gwaith ar eneteg feddygol a thros y gymuned Asiaidd yng Nghymru. Genesis Biosciences. Mewn marchnad sy'n cael ei dominyddu gan ddeunydd glanhau cemegol caled a pheryglus ar adegau, mae Genesis yn datblygu cynnyrch sy'n ceisio diogelu cwsmeriaid a'r amgylchedd. Mae’r diwydiant wedi’u gwobrwyo droeon am eu gwaith gan gynnwys Gwobrau Arweinwyr Cynaliadwyedd EDIE 2015 a chategori Busnes Technoleg ac Arloesi'r Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2015\. ### Rhyngwladol Dr David Nott OBE, llawfeddyg rhyfel. Bob blwyddyn ers 23 mlynedd, mae David wedi cymryd gwyliau heb dâl o'i swydd fel llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty Chelsea a San Steffan i weithio i asiantaethau cymorth a darparu triniaeth lawfeddygol i ddioddefwyr rhyfel a thrychinebau. Mae David a'i wraig, Elly, hefyd wedi sefydlu'r "davidnottfoundation", gan godi cannoedd a miloedd o bunnoedd i elusen a rhoi hyfforddiant llawfeddygol i feddygon ar y rheng flaen. Nizar Dahan, gwirfoddolwr rhyngwladol. Mae Nizar yn gweithio i'r Human Relief Foundation. Mae wedi cael ei enwebu am ei waith dyngarol rhyngwladol helaeth mewn ymateb i argyfwng y ffoaduriaid ac am sefydlu Prosiect Ymateb Cymorth Dyngarol Abertawe, sy'n cefnogi pobl sy'n agored i niwed ac sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi. Yr Athro Carl G. Jones MBE, biolegydd cadwraeth. Mae'r Athro Jones wedi treulio'u holl fywyd yn adfer poblogaethau a chynefinoedd anifeiliaid mewn perygl, ac mae'n cael ei ystyried yn un o'r cadwraethwyr mwyaf llwyddiannus yn y byd. Mae'n gyfrifol am achub cudyllod cochion Mauritius, tair rhywogaeth o ymlusgiaid, ystlumod ffrwythau a sawl math o blanhigyn rhag diflannu. ### Chwaraeon Tîm Pêl\-droed Rhyngwladol Cymru, UEFA Euro 2016\. Gwnaeth tîm pêl\-droed rhyngwladol Cymru, dan arweiniad Chris Coleman, gyrraedd y rownd gyn\-derfynol yn Euros 2016\. Roedd y tîm yn gynrychiolwyr o'r radd flaenaf i Gymru, ar y cae ac oddi arno, ac mae eu slogan, "Gorau Chwarae Cyd Chwarae", wedi ysbrydoli'r genedl ac wedi denu diddordeb byd\-eang. Aelodau o Gymru oedd yn rhan o TeamGB yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, Rio 2016\. Y 24 athletwr o Gymru a ddewiswyd gan TeamGB oedd y garfan fwyaf o athletwyr o Gymru i fynd i Gemau Olympaidd dramor erioed, tra roedd y 26 o athletwyr Paralympaidd o Gymru yn cynrychioli 10% o dîm Prydain Fawr. Roedd 2016 yn flwyddyn lwyddiannus iawn i athletwyr Cymru. Gwnaethant gynrychioli'r wlad gydag urddas a dewrder. Anne Ellis OBE, Llysgennad Chwaraeon. Ym mis Gorffennaf 2016, penderfynodd Anne Ellis roi'r gorau i fod yn Llywydd Hoci Cymru ar ôl ugain mlynedd wrth y llyw. Yn ystod y dau ddegawd, mae Hoci Cymru wedi gweld newidiadau sylweddol ac mae Anne wedi bod yn rhan o bob cam. ### Person ifanc Brittany Davies, gwirfoddolwr gyda phlant sy’n derbyn gofal. Dechreuodd Brittany dderbyn gofal pan oedd yn 16 oed ac er gwaethaf nifer o heriau arwyddocaol a thruenus, mae bellach yn astudio ar gyfer ei harholiadau Lefel Uwch ac yn gwirfoddoli'n rheolaidd i helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Savannah Lloyd, gwirfoddolwr iechyd meddwl. Ar ôl brwydro problemau iechyd meddwl ers pan oedd yn 11 mlwydd oed, mae Savannah yn defnyddio ei phrofiadau i estyn llaw a help i eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Elan Môn Gilford, gwirfoddolwr chwaraeon. Er bod gan Elan, sy'n 18 oed, nam ar ei chlyw, mae'n gwirfoddoli am 8\-10 awr yr wythnos i hyfforddi mewn sesiynau chwaraeon, karate i blant a phêl\-rwyd. Mae Elan hefyd yn cynnal cwrs iaith arwyddion yn y gymuned.
Translate the text from Welsh to English.
Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau'r Senedd ar ymagwedd Llywodraeth y DU at gymorthdaliadau yn awr bod y DU y tu allan i'r UE fel y nodir ym Mil Rheoli Cymorthdaliadau'r DU 2021 a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 30 Mehefin. Rydym wedi dadansoddi manylion y Bil ac mae gennym bryderon difrifol am ymagwedd Llywodraeth y DU gan nad yw'n adlewyrchu unrhyw rai o'r materion a nodwyd yn wreiddiol gan Weinidogion Cymru yn ystod y broses o ddatblygu polisi. Er gwaethaf awgrymiadau gan Lywodraeth y DU bod ymgysylltu manwl wedi'i gynnal, nid yw'r Bil ond yn adlewyrchu buddiannau cul Llywodraeth y DU. Ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, at Weinidog y DU dros Fusnesau Bach, Defnyddwyr a Marchnadoedd Llafur, Paul Scully AS, yn amlinellu ein pryderon a restrir isod. Datblygwyd y Bil Rheoli Cymorthdaliadau yn ôl amserlen diangen o dynn, gan arwain at ddiffyg ymgysylltu ystyrlon ar fanylion y Bil, yn ogystal â chyfle cyfyngedig yn unig i Weinidogion llywodraethau datganoledig dylanwadu ar ei gynnwys cyn iddo gael ei osod. Dylai'r broses fod wedi cael ei chynnal mewn ffordd fwy cytbwys a chydweithredol er mwyn galluogi dull gweithredu i gael ei ddatblygu ar gyfer y DU gyfan. O ganlyniad, er gwaethaf ein hymdrechion i ymgysylltu â'r broses o ddatblygu polisi, nid yw'r Bil ond yn adlewyrchu buddiannau gwleidyddol cul Llywodraeth y DU yn hytrach nag anghenion ehangach y DU gyfan. Rydym yn pryderu nad yw'r Bil yn cynnwys unrhyw lwybr diffiniedig i ganiatáu i ranbarthau difreintiedig y DU gystadlu yn gyfartal â rhanbarthau mwy llewyrchus y DU, naill ai trwy lwybrau ychwanegol ar gyfer cymorth neu ddefnydd gwarantedig o lwybrau cymhorthdal ystwyth. Rydym wedi galw ar i hyn gael ei egluro a'i wneud yn gyfraith er mwyn tanategu'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi rhannau mwy difreintiedig o Gymru a chreu Teyrnas Unedig decach. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer pwerau newydd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Strategaeth Ddiwydiannol “alw i mewn” materion cymhorthdal gan gyrff dyfarnu yng Nghymru ar gyfer adolygiad annibynnol gan yr awdurdod Cystadlaethau a Marchnadoedd.  Mae'r pwerau galw i mewn a ddefnyddir gan y Bil i rymuso'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Strategaeth Ddiwydiannol yn faen tramgwydd annerbyniol ar feysydd polisi datganoledig trwy roi pwerau i Lywodraeth y DU gyfyngu ar wneud penderfyniadau ar feysydd polisi datganoledig. Ni ddylai'r Bil Rheoli Cymorthdaliadau effeithio ar bwerau datganoledig Gweinidogion Cymru na bod yn arf i wrthdroi datganoli trwy ddrws y cefn. Mae'r Bil yn dod â chymorthdaliadau Amaethyddol a Physgodfeydd o fewn cwmpas trefn cymorthdaliadau'r DU er gwaethaf pryderon a godwyd droeon gan Weinidogion Cymru a'r llywodraethau datganoledig eraill ynghylch yr anhawster wrth ddarparu tystiolaeth o gydymffurfiad cymorthdaliadau ag egwyddorion y drefn ar gyfer cymorthdaliadau cytûn, yn ogystal â diffyg canllawiau manwl. Er y dylid cydnabod bod y Bil yn darparu hepgoriadau hael ar gyfer 'legacy and withdrawal agreement subsidies', bydd gwerth y rhain yn gostwng dros amser ac mae'n ategu ein dadl y dylai cymorthdaliadau Amaethyddol a Pysgodfeydd aros y tu allan i drefn cymorthdaliadau'r DU. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn wedi'i osod heddiw: LEGISLATIVE CONSENT MEMORANDUM (senedd.cymru)
This Written Statement updates Senedd Members on the UK Government’s approach to subsidies now that the UK is outside the EU as set out in the UK Subsidy Control Bill 2021 laid before Parliament on 30 June. We have analysed the details of the Bill and have serious concerns about the UK Government’s approach as it does not reflect any of the issues previously identified by Welsh Ministers during the policy development process. Despite suggestions from the UK Government that detailed engagement has been undertaken, the Bill only reflects the narrow interests of the UK Government. The Minister for Finance and Local Government, Rebecca Evans MS, wrote to UK Minister for Small Business, Consumers \& Labour Markets, Paul Scully MP, outlining our concerns listed below. The Subsidy Control Bill has been developed on an unnecessarily tight timetable, resulting in a lack of any meaningful engagement on the details of the Bill, as well as minimal opportunity for devolved government Ministers to influence its content before laying. This process should have been undertaken in a more considered and collegiate manner to enable a more pan\-UK approach to be developed. The result is that, despite our efforts to proactively engage with the policy development process throughout, this Bill merely reflects the narrow political interests of the UK Government rather than the wider needs of the whole of the UK. We are concerned the Bill contains no defined pathway to allow disadvantaged regions of the UK to compete on a level playing field with more prosperous regions of the UK, either through additional avenues for support or guaranteed use of streamlined subsidy routes. We have called for this to be clarified and brought into law in order to underpin the actions we are taking in supporting disadvantaged parts of Wales and building a more equitable UK. The Bill provides for new powers for the Secretary of State for Business and Industrial Strategy to “call\-in” subsidies issues by awarding bodies in Wales for independent review by the Competitions and Markets authority. The call\-in powers with which the Bill empowers the Secretary of State for Business, Enterprise and Industrial Strategy serve as an unacceptable imposition upon areas of devolved policy by providing the UK Government with powers to constrain decision\-making on areas of devolved policy. The Subsidy Control Bill should not impact upon the devolved powers of Welsh Ministers or act as a tool to reverse devolution through the back door. The Bill brings Agricultural and Fisheries subsidies within scope of the UK subsidy regime despite concerns repeatedly raised by Welsh Ministers and the other devolved governments about the difficulty in evidencing the compliance of subsidies with the regime’s principles for compatible subsidies, as well as the lack of detailed guidance. Whilst it should be acknowledged that the Bill provides generous carve\-outs for 'legacy and withdrawal agreement subsidies' the value of these will diminish over time and serve to support our argument that Agricultural and Fisheries subsidies should remain out of scope of the UK subsidy regime. A Legislative Consent Memorandum for this Bill has today been laid: LEGISLATIVE CONSENT MEMORANDUM (senedd.wales)
Translate the text from English to Welsh.
I am pleased to launch the consultation on the draft ‘Children Act 2004 Children Missing Education (Wales) Regulations’. In my Oral Statement in June 2023, I announced my intention to make regulations that will require a database of children who are not registered at a school, not in receipt of education other than at school, or who are not known to the local authority as being suitably home\-educated, and to consult on the regulations in early 2024\.  Missing education is in itself a welfare issue, and the database proposals aim to support our commitment to the success and well\-being of every learner.  The proposal has been informed by the first consultation on the Education Database Regulations in 2020\. The responses were considered in detail, and we have worked to ensure the right balance between assisting local authorities to effectively undertake their duties in relation to education, and ensuring data sharing between public bodies is proportionate and solely for the purpose of identifying children who may be missing education.  The Welsh Government has already engaged with our key stakeholders on these proposals and sought feedback. The Regulations will initially be piloted across a small number of local authorities to determine how effective they are in identifying children not known to the local authority. The pilot will be evaluated, with any required changes made ahead of wider roll\-out across Wales. The consultation commences today and will conclude on 25 April 2024\. 
Rwy'n falch o gael lansio'r ymgynghoriad ar Reoliadau drafft ‘Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg) (Cymru)’. Yn fy Natganiad Llafar ym mis Mehefin 2023, cyhoeddais fy mwriad i lunio rheoliadau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol cael cronfa ddata o'r plant nad ydynt wedi'u cofrestru mewn ysgol, nad ydynt yn derbyn addysg y tu allan i'r ysgol, neu nad yw'n hysbys i'r awdurdod lleol eu bod yn cael eu haddysgu'n briodol gartref, ac i ymgynghori ar y rheoliadau yn fuan yn 2024\.  Mae colli addysg ynddo'i hun yn fater lles, a nod y cynigion ar gyfer cronfa ddata yw cyfrannu at ein hymrwymiad i lwyddiant a lles pob dysgwr.  Mae'r cynnig yn seiliedig ar yr ymgynghoriad cyntaf ar Reoliadau drafft Cronfa Ddata Deddf Plant 2004 (Cymru) yn 2020\. Ystyriwyd yr ymatebion yn fanwl, ac rydym wedi gweithio i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau yn effeithiol mewn perthynas ag addysg a sicrhau bod y broses o rannu data rhwng cyrff cyhoeddus yn gymesur ac at ddiben nodi plant a allai fod yn colli addysg yn unig.  Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgysylltu â'n prif randdeiliaid ar y cynigion hyn ac wedi gofyn am adborth. Bydd y Rheoliadau yn cael eu treialu i ddechrau ar draws nifer fach o awdurdodau lleol er mwyn asesu pa mor effeithiol ydynt o ran nodi plant nad ydynt yn hysbys i'r awdurdod lleol. Bydd y peilot yn cael ei werthuso, a chaiff unrhyw newidiadau gofynnol eu gwneud cyn cyflwyno'r cynllun yn ehangach ledled Cymru. Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau heddiw ac yn dod i ben ar 25 Ebrill 2024\. 
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw, mae’n dda gennyf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i amddiffyn aelwydydd sydd mewn sefyllfa fregus ac ar incwm isel drwy barhau â’r hawliau llawn i gael budd\-daliadau o dan Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor hyd at ddiwedd blwyddyn 2017\-18\. Bydd y trefniadau tymor hir ar gyfer 2018\-19 ymlaen yn cael eu penderfynu fel rhan o broses ystyried ehangach ynghylch sut i wneud y dreth gyngor yn decach. Yn Adolygiad Gwariant 2010, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n diddymu Budd\-dal y Dreth Gyngor gan roi’r cyfrifoldeb dros ddatblygu unrhyw drefniadau i’w ddisodli i awdurdodau lleol yn Lloegr. Ar yr un pryd, cyhoeddodd y byddai cyllid yn cael ei drosglwyddo i’r Gweinyddiaethau Datganoledig yng Nghymru a’r Alban, yn cael ei leihau 10% a’i drosglwyddo i gyllidebau sefydlog yn hytrach na chyllidebau sy’n seiliedig ar alw.   Er gwaethaf y diffyg yn y cyllid, mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru wedi cydweithio i gynnal yr hawliau llawn i gael budd\-daliadau o dan Gynlluniau  Gostyngiadau’r Dreth Gyngor drwy weithredu un fframwaith cenedlaethol. Cefnogir y fframwaith gan ddarpariaeth flynyddol o £244m a roddir i awdurdodau lleol yn y setliad llywodraeth leol.  Bydd y trefniadau hyn yn parhau am flwyddyn arall hyd at ddiwedd 2017\-18\.   Bydd y penderfyniad hwn yn sicrhau bod tua 300,000 o aelwydydd sydd mewn sefyllfa fregus ac ar incwm isel yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw gynnydd o ran y dreth gyngor y maent yn atebol i’w thalu. Bydd 220,000 o’r rhain yn parhau heb fod yn atebol i dalu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Rydym yn gwybod bod llawer o’r aelwydydd hyn eisoes yn ei chael yn anodd iawn ymdopi ag effeithiau’r diwygiadau lles a gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU, a bydd parhau â’n trefniadau ni ar gyfer y Cynlluniau Gostyngiadau yn helpu i leddfu rhai o effeithiau gwaethaf y diwygiadau hynny. Mae ein polisi ni yn cyferbynnu’n llwyr â’r sefyllfa yn Lloegr, lle gadawyd i awdurdodau lleol greu eu cynlluniau eu hunain a rheoli unrhyw ddiffyg yn y cyllid. O ganlyniad, mae’r dreth gyngor y mae aelwydydd yn atebol i’w talu yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall; mae llu o wahanol gynlluniau ar waith; ac mae dros ddwy filiwn o aelwydydd incwm isel bellach yn gorfod talu cyfran fwy o’u bil treth gyngor. Mae teuluoedd incwm isel yn Lloegr bellach yn talu £169 y flwyddyn ar gyfartaledd yn rhagor nag y byddent wedi ei dalu pe bai Budd\-dal y Dreth Gyngor yn dal ar gael.   Bydd awdurdodau yng Nghymru yn parhau i gael eu diogelu rhag y risgiau a’r costau y mae cynghorau yn Lloegr yn eu hwynebu wrth iddynt fynd ati i geisio casglu’r dreth gyngor oddi wrth aelwydydd am y tro cyntaf.  Roedd yr adolygiad annibynnol o gynlluniau cymorth y dreth gyngor yng Nghymru a Lloegr, a gynhaliwyd gan Eric Ollerenshaw, yn gefnogol iawn i’r dull gweithredu hwn, gan gydnabod ei fod wedi amddiffyn aelwydydd sydd mewn sefyllfa fregus, ac wedi achub awdurdodau lleol rhag gorfod ymdopi â chynnydd yn eu baich gweinyddol. Rwy’n ddiolchgar i awdurdodau lleol am y cymorth y maent yn parhau i’w roi o ran gweithredu Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a’r cymorth ariannol hanfodol y maent yn ei roi i aelwydydd cymwys.  
Today, I am pleased to confirm the Welsh Government has agreed to continue to protect vulnerable and low income households by maintaining full entitlements for Council Tax Reduction Scheme (CTRS) until the end of 2017\-18\.  The longer term arrangements for 2018\-19 onwards will be determined as part of wider considerations about how to make council tax fairer. In the 2010 Spending Review, the UK Government announced it would abolish Council Tax Benefit and give responsibility for developing replacement arrangements to local authorities in England.  At the same time, it announced that funding would be passed to the Devolved Administrations in Scotland and Wales, cut by 10% and transferred into fixed, rather than demand\-led, budgets.   Despite the shortfall in funding, Welsh Government and local government in Wales have worked together to maintain full entitlements for CTRS through a single national framework supported with the annual provision of £244m to local authorities  in the local government settlement.  These arrangements will continue for a further year until the end of 2017\-18\.   This decision will ensure that approximately 300,000 vulnerable and low\-income households in Wales will continue to be protected from any increase in their council tax liability.  Of these, 220,000 will continue to pay no council tax at all.  We know many of these households are already struggling to cope with the impacts of the UK Government’s welfare reforms and maintaining our CTRS arrangements will help to mitigate some of the worst impacts on those affected. Our policy approach is in stark contrast to the situation in England, where local authorities have been left to design their own schemes and manage the associated funding shortfall.  As a result, council tax liability varies by local authority, a multitude of different schemes operate and over two million low\-income households are faced with having to pay more of their council tax bill.  Low\-income families in England are now paying on average £169 a year more in council tax than they would have if Council Tax Benefit were still in place.   Local authorities in Wales will continue to be shielded from the risks and costs faced by councils in England who are having to try to collect council tax from some households for the first time.  The recent Independent Review of Council Tax Support Schemes in England and Wales carried out by Eric Ollerenshaw, was very supportive of this approach, recognising it has protected vulnerable households and saved local authorities from any increased level of administration burden. I am grateful for the continued assistance of local authorities in delivering CTRS and the important financial support it provides to eligible households.    
Translate the text from Welsh to English.
Lansiais ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd partïon yng Nghymru.   Mae pryderon y gallai gwerthu cŵn a chathod bach yn fasnachol gan drydydd partïon fod yn gysylltiedig â gwaeth amodau lles i'r anifeiliaid o gymharu â phrynu'n uniongyrchol oddi wrth y bridiwr. Er enghraifft, wrth i’r cŵn neu'r cathod bach gael eu rhoi mewn sawl amgylchedd newydd ac anghyfarwydd, ac oherwydd ei bod yn fwy tebygol y byddant yn gorfod wynebu sawl siwrnai, gallai hynny olygu bod mwy o risg iddynt ddal clefydau ac na fydd y cŵn neu'r cathod bach yn cael eu cymdeithasoli nac yn ymgyfarwyddo â'i gilydd. Roedd yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben, ar 17 Mai, hefyd yn ceisio barn am faterion ehangach sy'n gysylltiedig â bridio cŵn a chathod. Bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi heddiw, 18 Gorffennaf. Daeth 458 o ymatebion i law. Mae hyn y dangos bod gan y cyhoedd deimladau cryf am y mater hwn. Hoffai mwyafrif llethol yr ymatebwyr weld diwedd ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd partïon yng Nghymru. Thema arall a gododd dro ar ôl tro hefyd oedd yr angen i  wneud mwy i wella lles cŵn a chathod ar bob safle bridio yng Nghymru.  Yn ogystal â phryderon am amodau ar safleoedd bridio, dryswch ynglŷn â'r system bresennol, a'r adnoddau sydd ar gael i orfodi'r rheolau, tynnodd yr ymatebwyr sylw hefyd at broblemau gyda gwerthu ar\-lein, prynu ar fympwy, ac atebolrwydd bridwyr.  Cyfeiriwyd hefyd at fewnforio cŵn bach yn anghyfreithlon. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r galwadau i wella'r system bresennol, rwyf yn bwriadu cyflwyno gwaharddiad ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd partïon. Gan gydnabod na fydd gwaharddiad ar werthu cŵn a chathod bach gan drydydd partïon yn ddigon ynddo'i hun i fynd i'r afael â'r holl bryderon a ddaeth i'r amlwg yn ystod y broses ymgynghori, rwyf hefyd yn bwriadu ailedrych ar y rheoliadau bridio presennol er mwyn gwella amodau lles mewn sefydliadau bridio, ac ystyried sut i helpu'r cyhoedd i wneud dewisiadau mwy deallus wrth brynu anifail anwes. Bydd angen paratoi asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer y ddau beth hyn, ynghyd â chynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn arall ar y diwygiadau arfaethedig.  Rydym yn parhau i gydweithio'n agos â rhanddeiliaid ac asiantaethau gorfodi i gael effaith barhaol ar safonau lles ar gyfer cŵn a chathod sy'n cael eu bridio yng Nghymru.
In February, I launched a public consultation on third party sales of puppies and kittens in Wales.   There are concerns commercial third\-party sales of puppies and kittens may be associated with poorer welfare conditions for the animals compared with direct purchase from the breeder. For example, the introduction to several new and unfamiliar environments, and the increased likelihood of multiple journeys the puppies or kittens have to undertake have the potential to contribute to an increased risk of disease and a lack of socialisation and habituation for the puppies or  kittens. The consultation, which closed on 17 May, also sought views on wider issues associated with breeding dogs and cats. A summary of the responses will be published today; 18 July. 458 responses were received. This demonstrates the strong public feeling on this matter. The vast majority of respondents would like to see an end to the third party selling of puppies and kittens in Wales. In addition, a call for more to be done to improve the welfare of cats and dogs at all breeding premises in Wales was a reoccurring theme. Along with concerns over conditions at breeding premises, confusion with the current system and resourcing of enforcement, respondents highlighted issues with on\-line sales, impulse purchasing, and breeder accountability.  The illegal importation of puppies was also raised. Having considered the consultation responses and the demand for improvement to the current system, I propose to introduce a ban on the third party sales of puppies and kittens.  Recognising the banning of third party sales of puppies and kittens alone will not address all of the concerns raised through the consultation process; I intend also to revisit the current breeding regulations to improve welfare conditions at breeding establishments, and to consider how to help the public make more informed choices when buying a pet. These two strands of work will require regulatory impact assessments and further full public consultation on the proposed amendments. We continue to work closely with stakeholders and enforcement agencies to make a lasting impact on the welfare standards for dogs and cats bred in Wales.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 17 Mawrth cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ynghylch yr ymosodiad diogelwch seiber ar Landauer, y cwmni trydydd parti sy’n darparu’r Gwasanaeth Diogelu Rhag Ymbelydredd i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ar ran GIG Cymru. Yn sgil yr ymosodiad hwn, cafwyd mynediad anghyfreithlon at wybodaeth bersonol am staff.     Yn y datganiad hwnnw, amlinellais y camau sy'n cael eu cymryd mewn ymateb i'r digwyddiad, ynghyd â'r adolygiadau ehangach a fyddai'n cael eu cynnal o ganlyniad. Rwy'n cyhoeddi'r datganiad ysgrifenedig hwn, fel yr addewais, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf gan fod ymchwiliadau’r GIG bellach wedi'u cwblhau. Yn gyntaf, gallaf gadarnhau bod pob aelod o staff GIG Cymru a gafodd eu heffeithio ac y bu modd eu hadnabod wedi cael eu hysbysu ac wedi cael cynnig cymorth. Roedd y cymorth hwnnw'n cynnwys canllawiau ynghylch monitro eu materion ariannol; dros y ffôn, e\-bost a sesiynau galw heibio; a mynediad rhad ac am ddim at wasanaeth Experian i ymchwilio i statws credyd am ddwy flynedd. Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd hefyd wedi tawelu meddyliau staff na chafodd eu heffeithio gan yr ymosodiad, ond a oedd efallai'n poeni am hynny.   Er gwaetha'r ymdrechion sylweddol, mae sawl unigolyn na lwyddwyd i gysylltu â nhw o hyd, gan nad oedd digon o wybodaeth ar gael i'w hadnabod. Yn ogystal â'r ymchwiliad a gynhaliwyd o fewn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a arweiniodd at adroddiad llawn, gofynnais am sefydlu grŵp i ymchwilio i fynediad diawdurdod at ddata er mwyn adolygu'r digwyddiad a rhoi sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre. O ganlyniad i waith y grŵp: * Cynhaliwyd adolygiad o bob system genedlaethol sydd naill ai'n cael eu cynnal neu'n cael eu defnyddio gan ddarparwyr trydydd parti, a gosodwyd mesurau lliniaru er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw risgiau yn y dyfodol. * Ysgrifennodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru at Brif Weithredwyr GIG Cymru i’w hatgoffa o'r angen am fesurau rheoli contractau yn ymwneud â rheoli gwybodaeth a sicrwydd gwybodaeth ar gyfer cyflenwyr trydydd parti. * Mae cynllun ymateb i ddigwyddiadau seiber Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cael ei roi ar waith ar gyfer pob digwyddiad diogelwch seiber ar draws Cymru. Bydd hyn yn ffordd o sicrhau bod prosesau safonol yn cael eu dilyn ar draws GIG Cymru yn achos unrhyw ddigwyddiad diogelwch seiber, gan sicrhau bod digwyddiadau yn cael eu hadrodd, eu cyfathrebu a'u huwchgyfeirio’n briodol. Mae'r GIG yn gweithio i sicrhau bod eu cynlluniau ymateb lleol i ddigwyddiadau seiber yn cyfateb i'r templed cenedlaethol. * Mae grŵp dan arweiniad Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Uwch\-berchnogion Risg yn adolygu arferion presennol ac yn mynd i gynghori ynghylch datblygiadau pellach. Mae gan bob un o Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru swyddog ar lefel bwrdd i gyflawni’r swyddogaeth hon fel person sy’n gyfrifol am reoli risg yn ymwneud â gwybodaeth. Mae adolygiad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn parhau ac fe fydd y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi yn y man. Mae'r achos hwn o fynediad diawdurdod at ddata, yn ogystal â'r ymosodiad seiber meddalwedd wystlo diweddar, wedi'n hatgoffa bod angen i ni fod ar ein gwyliadwriaeth, sicrhau ein bod yn cymryd rhagofalon priodol a bod yn barod i ymateb.
On 17 March, I published a written statement on the cyber security attack on Landauer, the third party company providing the Radiation Protection Service for Velindre NHS Trust, on behalf of NHS Wales, which resulted in some personal information of staff being accessed illegally. In that statement, I outlined the action being taken in response to the Landauer incident, along with the wider reviews that would be undertaken as a result of it. As I said I would, I am issuing this written statement to provide an update now that NHS  investigations have been completed. Firstly, I can confirm that all identified affected NHS Wales staff have been notified and offered support. The support included guidance on monitoring their financial affairs; via telephone, email and drop\-in sessions; and, free access to the Experian credit check service for two years. Health boards and trusts have also provided assurance to staff who were not affected by the breach, but who may have been concerned that they were. Although considerable effort was made, there remain a number of individuals who could not be contacted because there was insufficient detail available to identify them. In addition to the investigation undertaken within Velindre NHS Trust, which delivered a full incident report, I requested that a data breach review group be established to review the breach and take action to ensure future assurance. This group included representation from Welsh Government, NHS Wales Informatics Service (NWIS) and Velindre NHS Trust. As a result of the work of the data breach group:   * A review of all nationally hosted systems which are either hosted by, or accessed by, third party providers has been undertaken and mitigating controls have been put in place to address any future risk; * The Director General for Health and Social Services/ NHS Wales Chief Executive has written to NHS Wales Chief Executives reminding them of the need to have contractual controls in place relating to information governance and information security for third party suppliers; * The NHS Wales Informatics Service cyber incident response plan is being applied for any cyber security incidents across Wales.  This ensures that standard processes will be deployed across NHS Wales in the event of a cyber security incident, ensuring that incidents are reported, communicated and escalated appropriately.  The NHS is working to align local cyber incident response plans to the national template; and * A group led by NWIS and Senior Information Risk Owners is reviewing current practice and will advise on further developments. Each Health Board and Trust in Wales now has a board\-level executive fulfilling this function as the person responsible for information risk management. A review by the Information Commissioner’s Office is ongoing and the findings will be published in due course. This data breach, as well as the recent ransomware cyber attack, has reminded us of the need to remain vigilant, ensure that we take the appropriate precautions and be ready to respond.      
Translate the text from English to Welsh.
Members will be aware that I reconvened the Wales Pavement Parking Taskforce last year and asked them to explore other ways of achieving our policy aims for pavement parking. The taskforce subsequently provided an addendum to its original report and I accepted its recommendation: Welsh Government response to the recommendations made in the Pavement Parking Task Force report Following this work, the proposal was to consult widely, with a view to introducing the necessary legislation by the end of 2023\. However, I recognise that we are asking a lot of hard\-pressed local authorities at what continues to be a difficult time. I have listened to the feedback from leaders and decided to delay the consultation on pavement parking until next year. This will enable local authorities to focus on the implementation and introduction of default 20mph speed limits in September 2023 and the work to prepare for bus franchising. This is an incredibly busy period for local government. Councils across Wales continue to deliver vitally important services, which people rely on every day and we continue to support them to do so. We have worked closely with, and supported local authorities, through the tough times of austerity, through floods, through the pandemic, and through the cost\-of\-living crisis. I want to put on record my thanks to all local government elected members and staff for the critical work that they do for communities, people, and businesses across Wales. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol imi ailgynnull Tasglu Parcio ar y Palmant Cymru y llynedd a gofyn iddynt archwilio ffyrdd eraill o gyflawni ein nodau polisi ar gyfer parcio ar y palmant. Wedi hynny, darparodd y tasglu atodiad i’w adroddiad gwreiddiol a derbyniais ei argymhelliad: Ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion a wnaed yn Adroddiad Grŵp Tasglu Parcio ar y palmant Cymru Yn dilyn y gwaith hwn, y cynnig oedd ymgynghori’n eang, gyda’r bwriad o gyflwyno’r ddeddfwriaeth angenrheidiol erbyn diwedd 2023\. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod ein bod yn gofyn i lawer o awdurdodau lleol sydd dan bwysau mawr ar yr hyn sy’n parhau i fod yn gyfnod anodd. Rwyf wedi gwrando ar yr adborth gan arweinwyr ac wedi penderfynu gohirio’r ymgynghoriad ar barcio ar balmentydd tan y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a chyflwyno terfynau cyflymder 20mya diofyn ym mis Medi 2023 a’r gwaith i baratoi ar gyfer masnachfreinio bysiau. Mae hwn yn gyfnod hynod o brysur i lywodraeth leol. Mae cynghorau ledled Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol bwysig, y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd ac rydym yn parhau i'w cefnogi i wneud hynny. Rydym wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol, a’u cefnogi, drwy’r cyfnod anodd o galedi, drwy lifogydd, drwy’r pandemig, a thrwy’r argyfwng costau byw. Rwyf am gofnodi fy niolch i holl aelodau etholedig a staff llywodraeth leol am y gwaith hollbwysig y maent yn ei wneud i gymunedau, pobl a busnesau ledled Cymru. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Translate the text from Welsh to English.
Mae awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig yn cadw'r hawl i bennu dyddiadau tymhorau ar gyfer eu hysgolion. Fodd bynnag, mae ganddynt ddyletswydd i gydweithredu a chydlynu â'i gilydd er mwyn sicrhau bod dyddiadau tymhorau’r un fath, neu mor debyg â phosibl (adran 32A o Ddeddf Addysg 2002\). Mae'r trefniadau’n ymateb i bryderon am y problemau mae rhieni brodyr a chwiorydd yn eu hwynebu wrth gael gafael ar ofal plant a thalu amdano lle mae eu plant yn mynychu ysgolion gyda gwahanol ddyddiadau tymhorau. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Llywodraeth Cymru o'r dyddiadau tymhorau y bwriadant eu pennu erbyn diwrnod gwaith olaf mis Awst, ddwy flynedd lawn cyn y dyddiadau dan sylw. Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiadau o’r dyddiadau tymhorau y bwriadant eu pennu ar gyfer 2018/19\. Derbyniwyd gwybodaeth hefyd ar ran 101 o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig. Mae gwaith caled awdurdodau lleol ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig i sicrhau bod dyddiadau tymhorau’r un fath, neu mor debyg â phosibl yn 2018/19, wedi creu argraff arnaf. Oherwydd eu gwaith caled bu modd iddynt gytuno ar ddyddiadau cyson ledled Cymru ar gyfer pob gwyliau ysgol ac eithrio hanner tymor y Gwanwyn ym 2019\. Mae un set o awdurdodau lleol (17\) a’u hysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig wedi dewis 25 Chwefror i 1 Mawrth 2019, tra bod yr awdurdodau eraill, o’r consortiwm Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn Ne\-ddwyrain Cymru, wedi dewis wythnos yn gynharach, sef 18 Chwefror i 22 Chwefror. Roedd yn galonogol iawn gweld bod mwy o dystiolaeth o gysoni nag a fu ar gyfer y ddau ymarfer blaenorol ar gyfer dyddiadau tymhorau 2016/17 a 2017/18\. Roedd tystiolaeth arwyddocaol hefyd o gytundeb rhwng awdurdodau lleol a'u hysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig wrth i 83 o’r 86 hysbysiad wedi'i lofnodi gan yr ysgolion hyn gytuno i gyd\-fynd â'u hawdurdod, gyda'r tair ysgol arall sy’n ysgolion Catholig yn dewis aros ar agor yn ystod yr Wythnos Fawr. Lle na cheir consensws dywed y gyfraith y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol ac ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ar y dyddiadau a bennir (adran 32B o Ddeddf 2002\). Cyn penderfynu defnyddio'r pwerau hyn mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori. Ymgynghorais ar y dyddiadau tymhorau a ddewiswyd gan y mwyafrif. Cyhoeddir crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/cysoni\-dyddiadau\-tymhorau\-ysgolion\-ar\-gyfer\-2018\-i\-2019 O ystyried y gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol i symud tuag at gysoni dyddiadau tymhorau, rwyf wedi penderfynu peidio â defnyddio fy mhwerau i roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ynghylch pa ddyddiadau y dylent eu pennu. Mae’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol yng Nghymru wedi alinio eu trefniadau ar gyfer pob set o ddyddiadau ond un – Hanner Tymor y Gwanwyn 2019 ac yn yr achos yma mae wythnos o wahaniaeth. Yr hyn yr wyf yn ei ddisgwyl felly yw bod awdurdodau lleol ac ysgolion sefydledig a rhai gwirfoddol a gynorthwyir yn sicrhau bod eu dyddiadau ar gyfer tymhorau 2018/19 yn cael eu pennu yn unol â'r dyddiadau hynny yr oeddent wedi hysbysu Gweinidogion Cymru amdanynt yn y lle cyntaf. Ni fydd fy mhenderfyniad i beidio â chyhoeddi cyfarwyddyd ar ddyddiadau tymhorau 2018/19 yn effeithio ar drefniadau i bennu dyddiadau tymhorau yn y dyfodol. Mae gan awdurdodau lleol ac ysgolion perthnasol ddyletswydd statudol i gydweithio a chydgysylltu â’i gilydd i sicrhau bod y dyddiadau hynny’r un fath neu mor debyg ag y gallant fod ar gyfer 2018/19\. Bydd fy swyddogion yn ysgrifennu i'r awdurdodau lleol a'r ysgolion cyn hir, i'w hatgoffa i gyflwyno hysbysiadau i Lywodraeth Cymru am y dyddiadau y maent yn cynnig eu pennu ar gyfer tymhorau 2019/20 erbyn diwedd diwrnod gwaith olaf mis Awst 2017\.
Local authorities and the governing bodies of voluntary aided (VA) and foundation schools retain the right to set term dates for their schools. However, they are under a duty to co\-operate and co\-ordinate with each other to ensure that term dates are the same or as similar as possible (section 32A of the Education Act 2002\). The arrangements respond to concerns about problems parents of siblings face in finding and financing child care where their children attend schools, with different term dates. Local authorities are required to notify the Welsh Government of the term dates they propose to set by the last working day of August, 2 full years in advance of the dates in question. All 22 local authorities submitted notifications of term dates they propose to set for 2018/19\. Information was also received on behalf of 101 VA and foundation schools. I am extremely impressed by the hard work undertaken by local authorities and VA and foundation schools in ensuring that term dates are the same or as similar as possible in 2018/19\. Due to their hard work they were able to agree consistent dates across Wales for all school holidays except the spring half term in 2019\. One set of local authorities (17\) and their VA and foundation schools chose the 25 February to 1 March 2019, whilst the other authorities, from the Education Achievement Service consortium covering South East Wales, chose a week earlier, i.e. 18 February to 22 February. I was very encouraged to see that there was greater evidence of harmonisation than there was for the previous 2 exercises for term dates for 2016/17 and 2017/18 There was also significant evidence of agreement between local authorities and their VA and foundation schools as from 86 signed notices from these schools, 83 agreed to align with their authority, with the other 3 being Roman Catholic schools who chose to remain open during Holy Week. Where consensus is not achieved the law provides that Welsh Ministers may direct local authorities and voluntary aided and foundation schools on what the dates will be (section 32B of the 2002 Act). Before deciding to use these powers Welsh Ministers are under a duty to consult. I consulted on term dates which were those chosen by the majority. A copy of the summary of consultation responses is published on the Welsh Government’s website: https://consultations.gov.wales/consultations/harmonising\-school\-term\-dates\-2018\-2019 In light of the work undertaken by local authorities to move to more harmonised term dates I have decided not to use my powers to direct local authorities and the governing bodies of VA and foundation schools as to what their term dates must be. The majority of Welsh local authorities have aligned for all bar one set of dates – the Spring Half Term in 2019 and here the difference is one week. My expectation therefore is that local authorities and VA and foundation schools set their term dates for 2018/19 in line with those they originally notified to the Welsh Ministers. My decision not to issue a direction on term dates for 2018/19, will not affect future term date setting arrangements. Local authorities and relevant school remain under a statutory duty to co\-ordinate and co\-operate which each other to ensure that term dates are the same or as similar as possible for 2018/19\. My officials will shortly be writing out to LAs and schools reminding them to submit notifications of the term dates they propose to set for 2019/20 to the Welsh Government by the last working day of August 2017\.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 20 Chwefror 2024, gwnaed **datganiad llafar yn y Senedd: Dwy flynedd ers yr ymosodiad llawn ar Wcráin a diweddariad ar y Genedl Noddfa (dolen allanol)****.**
On 20 February 2024, an oral statement was made in the Senedd: **Anniversary of the full\-scale invasion of Ukraine and Nation of Sanctuary update (external link)****.**
Translate the text from Welsh to English.
Ar 08 Chwefror 2011 gwnaeth y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Gynaliadwyedd a Thai Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Bolisi Dŵr. Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon http://www.assemblywales.org/bus\-home/bus\-chamber/bus\-chamber\-third\-assembly\-rop.htm?act\=dis\&id\=209687\&ds\=2/2011\#dat2 Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol: www.cynulliadcymru.org /Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.  
On 08 February 2011 the Minister for Environment Sustainability and Housing made an oral Statement in the Siambr on: Water Policy. The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink: http://www.assemblywales.org/bus\-home/bus\-chamber/bus\-chamber\-third\-assembly\-rop.htm?act\=dis\&id\=209687\&ds\=2/2011\#dat2 If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following: www.assemblywales.org /Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.