instruction
stringclasses
2 values
input
stringlengths
38
42.1k
output
stringlengths
38
42.1k
Translate the text from English to Welsh.
As a leading software development company, Backbase has offices in Europe, the US and Asia. It is the market leader in omni\-channel banking software and offers a secure platform that empowers banks and other financial institutions to accelerate their digital transformation. With over 100 large financial companies including HSBC, Barclays and Metrobank using its platform across 25 countries, Backbase is recognised globally and continues to garner awards and accolades. The company was recently recognised by Forrester’s industry analysts as a leader in Digital Banking Engagement Platforms. Backbase hopes that the growth of its Cardiff office will support its aim to be at the forefront of digital banking innovation. The company chose Wales as the base for its Research and Development facility because of Cardiff’s growing reputation as a hub for fintech, the quality of local skills supply and the support offered by the Welsh Government. Backbase opened its R\&D facility in Cardiff last year creating 24 highly skilled jobs. It is now expanding to create a further 50 new jobs which will be instrumental in targeting the growing Wealth Management sector. The new team will deliver core software development, software testing and support for clients with the research and development accrued ultimately powering the commercial banking of multiple large financial institutions around the world. Economy Secretary, Ken Skates said: > I am delighted that Backbase will now be adding a further 50 recruits to its Cardiff workforce following a package of Welsh Government support. > > Cardiff’s reputation as a thriving fintech hub grows stronger by the month and we remain committed to working with companies in the sector to provide the skills and support they need in order to grow and expand their businesses. Chris Whitcombe CTO of Backbase Wales said:  > The partnership with the Welsh Government was instrumental in bringing Backbase to Wales, not just in terms of making it easy but the relationships they have been able to introduce us to. The tremendous pool of talent in the fintech sector and the better work life balance available were also factors in our decision to invest in Wales.
Mae gan Backbase, sy’n gwmni blaenllaw ym maes datblygu meddalwedd, swyddfeydd yn Ewrop, yr Unol Daleithiau ac Asia. Mae’n gwmni sydd ar flaen y gad o ran meddalwedd bancio amrywiol, ac yn cynnig llwyfan diogel sy’n caniatáu i fanciau a sefydliadau ariannol eraill gyflymu’r broses o drawsnewid yn ddigidol. Gyda thros 100 o sefydliadau ariannol mawr y byd, fel HSBC, Barclays a Metrobank, yn defnyddio llwyfan Backbase, a hynny ar draws 25 o wledydd, mae gan y cwmni enw yn fyd\-eang, ac mae’n parhau i ennill gwobrau. Yn ddiweddar, cafodd y cwmni gydnabyddiaeth fel arweinydd ym maes Llwyfannau Cyfathrebu Bancio Digidol. Gobaith Backbase yw y bydd yr hwb hwn yng Nghaerdydd yn ategu ei nod o fod ar flaen y gad ym maes arloesi a bancio digidol. Dewisodd y Cwmni sefydlu canolfan ymchwil a datblygu yng Nghaerdydd, a hynny oherwydd bod ganddi enw da, sy’n tyfu fel canolfan dechnoleg ariannol. Roedd y gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru ac ansawdd y sgiliau oedd ar gael yn ffactorau amlwg hefyd. Y llynedd, agorodd Backbase ganolfan ymchwil a datblygu yng Nghaerdydd. Crëwyd 24 swydd oedd yn gofyn am sgiliau uchel. Bellach mae’n ehangu ac yn creu 50 o swyddi ychwanegol. Bydd y swyddi hyn yn allweddol wrth dargedu’r sector rheoli cyfoeth, sy’n tyfu yma yng Nghymru. Bydd y tîm newydd yn gweithio ar ddatblygu meddalwedd craidd, profi meddalwedd ac yn cefnogi cleientiaid gyda’r stôr o ymchwil a’r datblygiadau sydd wedi cronni ganddynt. Bydd hyn yn grymuso bancio masnachol amryw o sefydliadau ariannol mawr ar draws y byd. Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: > Mae’r ffaith bod Backbase yn cynnig 50 o swyddi ychwanegol yn sgil pecyn cymorth gan Lywodraeth Cymru yn newyddion bendigedig. > > Mae enw Caerdydd fel canolfan dechnoleg ariannol yn mynd o nerth i nerth. Rydym yn benderfynol o gydweithio â’r cwmnïau yn y sector i ddarparu’r cymorth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ehangu eu busnesau. Dywedodd Chris Whitcombe, Prif Swyddog Gweithredol Backbase Cymru: > Roedd y bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru yn allweddol er mwyn denu Backbase i Gymru. Maent wedi hwyluso’r broses ac yn bwysicach na hynny, maent wedi cyflwyno cysylltiadau newydd i ni. Roedd y dalent aruthrol sydd gan y sector i’w gynnig yma yng Nghymru a chydbwysedd gwell rhwng bywyd cymdeithasol a bywyd gwaith yn ffactorau wrth i ni benderfynu mynd amdani i fuddsoddi yma.
Translate the text from Welsh to English.
Mae math newydd o’r feirws yn symud ar garlam ar draws Cymru. Mae’n lledaenu’n hawdd rhwng pobl pan fyddwn gyda’n gilydd. Mae wedi cydio yn y Gogledd, lle mae’r achosion coronafeirws yn codi’n gyflym, ac mae’n bosibl y bydd yn gyrru’r cynnydd yn achosion y De hefyd cyn bo hir. Mae’r math newydd hwn o’r feirws yn achosi problemau mewn sawl rhan o’r DU. Symudon ni i lefel rhybudd pedwar – cyfnod clo – cyn y Nadolig er mwyn diogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y coronafeirws. Oherwydd y math newydd o’r feirws, mae’n bwysicach nag erioed dilyn y rheolau ac aros gartref. Dylid gweithio gartref hefyd os yn bosibl. Mae’r gweithwyr rheng flaen yn dal i roi ein hiechyd a’n diogelwch ni gyntaf, bob dydd. Ond wrth i’r achosion coronafeirws gynyddu, tyfu hefyd mae’r pwysau ar y GIG. Wrth i fwy a mwy o bobl fynd yn sâl, rydym ni’n bryderus iawn y gallai’r GIG gael ei llethu’n llwyr. Mae angen i bob un ohonom aros gartref eto a diogelu ein GIG. Diolch o galon i bawb sy’n dilyn y rheolau. Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod hynod o anodd a bod pawb yn aberthu pethau er mwyn diogelu eu teulu a diogelu Cymru. Mae’r brechlynnau Covid\-19 newydd yn cynnig gobaith o ddyfodol gwell dros y misoedd nesaf. Rydym yn gweithio’n wirioneddol galed i roi’r brechlyn ar gael i bawb sydd ei angen. Yn y cyfamser, rhaid i ni ddal ati i ddilyn y rheolau er mwyn diogelu ein hunain a’n teuluoedd. Mae gormod wedi colli eu bywydau eisoes oherwydd y feirws ofnadwy hwn. Byddwn yn gorfodi’r rheolau pan fo rhaid. Beth bynnag fo eich rheswm, gwnewch eich rhan i ddiogelu Cymru. Cofiwch, aros gartref, diogelu’r GIG ac achub bywydau.
A new strain of the virus is moving quickly across Wales – it spreads easily between people whenever we are together. It has a firm foothold in North Wales, where cases of coronavirus are rising sharply, and it could soon become the main cause of infections in South Wales too. This same strain of the virus is causing problems in many parts of the UK. We moved to alert level four – lockdown – to protect people’s health and control the spread of coronavirus just before Christmas. This new strain of virus makes it even more important that we all follow the rules and stay at home. That also means working from home, if possible. Frontline workers are continuing to put our health and safety first, every day. But, as cases of coronavirus rise, so does the pressure on our NHS. We are very concerned there is a risk the NHS could become overwhelmed because so many people are falling ill. We all need to stay at home again and protect our NHS. Thank you so much to everyone who is following the rules. We know this is a really difficult time and we know everyone is making sacrifices to keep their family and Wales safe. The new Covid\-19 vaccines offer us all the hope of a brighter future in the months ahead. We are working really hard to make the vaccine available to everyone who needs it. In the meantime, we need to carry on following the rules and protecting ourselves and our families. For all those who are breaking the rules, and putting themselves first, action will be taken.
Translate the text from Welsh to English.
Cafodd y cynllun 10 mlynedd, *Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach,* ei gyhoeddi yn 2019 ac mae’n nodi sut mae angen i wasanaethau newid a sut mae angen i'r gweithlu ddatblygu i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru. Mae’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol wedi bod yn adolygu’r cynnydd sylweddol sydd wedi ei wneud yn erbyn y 15 o nodau a bennwyd ar gyfer 2022, ac mae wedi bod yn ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol yn y maes fferylliaeth i adnewyddu’r weledigaeth, ac i bennu nodau newydd ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae’r nodau newydd, sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, yn disgrifio’r disgwyliadau o ran y gwaith pellach y gellir ei gyflawni erbyn 2025 drwy gydweithio. Mae’r nodau’n rhai uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar bobl, ac maent wedi eu cynllunio i fanteisio ar gyfraniadau gan bob aelod o’r tîm fferylliaeth ym mhob lleoliad gofal. Rydym yn parhau i weithio tuag at y dyheadau gwreiddiol a nodwyd yn *Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach:* * Gwella profiad y claf, * Datblygu’r gweithlu, * Darparu gofal fferyllol di\-dor, * Manteisio i’r eithaf ar arloesi a thechnoleg wrth gyflawni ein hamcanion. Gwelwyd cynnydd rhagorol o ran gweithredu’r dyheadau hyn ym mhob sector ymarfer fferyllol. Ers cyflwyno ein trefniadau contractiol newydd ar gyfer fferylliaeth gymunedol, a ddisgrifiwyd yn *Presgripsiwn Newydd* y llynedd, rydym yn gweithredu i sicrhau cysondeb wrth i fferyllfeydd cymunedol ddarparu’r ystod eang o wasanaethau clinigol y mae eu hangen ar bobl Cymru a’r GIG yng Nghymru. Mae oddeutu un o bob pump o fferyllfeydd cymunedol bellach yn darparu ein gwasanaeth rhagnodi fferyllol annibynnol, sy’n cynnig mynediad prydlon at driniaethau am amrywiaeth o gyflyrau, a darpariaeth atal cenhedlu rheolaidd. Rydym yn gweithio i gynyddu hyn fel bod y gwasanaeth ar gael mewn un o bob tair o fferyllfeydd erbyn diwedd mis Mawrth. Mae gweithwyr fferylliaeth proffesiynol yn chwarae rôl hanfodol yn ein hysbytai a’n practisau meddygon teulu, ac yn ddiweddar rydym wedi comisiynu’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol i adolygu sut y gellid defnyddio sgiliau clinigol fferyllwyr, rhagnodwyr fferyllol, a’r gweithlu fferylliaeth ehangach yn effeithiol mewn lleoliadau ysbyty er mwyn gwella canlyniadau iechyd pobl. Mae’r nodau newydd yn golygu y bydd timau fferylliaeth wedi cael eu grymuso erbyn 2025 i sicrhau bod pob cysylltiad â’r claf yn cyfrif: drwy adeiladu ar gryfderau fferyllfeydd cymunedol fel asedau cymunedol, ac fel ffynonellau cyfalaf cymdeithasol a mynediad cyfleusat y gwasanaethau sydd eu hangen ar ein pobl. Drwy barhau i gynyddu gallu a sgiliau o fewn timau fferylliaeth, byddwn hefyd yn sicrhau bod pobl yn cael mynediad cyson at aelodau o’r gweithlu fferylliaeth ymroddgar sydd wedi ei hyfforddi i lefel uchel. Drwy sicrhau bod gwybodaeth a sgiliau gweithwyr fferylliaeth proffesiynol yn cyrraedd y lefel uchaf bosibl yn eu rôl fel arbenigwyr meddyginiaethau, gallwn sicrhau hefyd eu bod yn rhan annatod o’r gefnogaeth a roddir i bobl wrth iddynt symud hwng y gwahanol rannau o’r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy gynyddu’r defnydd o awtomatiaeth, bydd yn bosibl cynyddu’r gallu sydd gan weithwyr fferylliaeth proffesiynol i ddarparu gofal o safon ragorol, a thrwy ddefnyddio ap y GIG, bydd timau fferylliaeth yn gweithio gyda chleifion i sicrhau eu bod yn cael mwy o reolaeth ar eu hiechyd a’u meddyginiaethau.    Mae llawer iawn wedi ei gyflawni eisoes. Wrth inni gychwyn ar gam nesaf y daith hon, bydd gweithwyr fferylliaeth proffesiynol yn cyflawni hyd yn oed mwy dros y tair blynedd nesaf. Felly mae’n bleser gennyf gymeradwyo cynlluniau diweddaraf y proffesiwn fferylliaeth.     Fferylliaeth: Sicrhau Cymru iachach (rpharms.com) Nodau 2025 Taflen Gweledigaeth Cymru.pdf (rpharms.com)  
The 10\-year pharmacy plan, *Pharmacy: Delivering a Healthier Wales,* was published in 2019 and sets out how services need to be transformed and how the workforce needs to develop to meet the needs of people in Wales. The Royal Pharmaceutical Society has been reviewing the significant progress made against the 15 goals set for 2022 and has been engaging with pharmacy professionals to refresh the vision and to set new goals for the next three years. The new goals, which are published today, set the expectations for what more can be achieved collectively by 2025\. These goals are ambitious, people\-focused and designed to harness the contribution of the entire pharmacy team, in all care settings. We continue to work towards the original aspirations set out in *Pharmacy: Delivering a Healthier Wales*: * To enhance patient experience, * To develop the workforce, * To deliver seamless pharmaceutical care; and * To harness the benefits of innovation and technology in pursuit of our aims. Excellent progress has been made to deliver these aspirations in all sectors of pharmacy practice. Since the introduction our new community pharmacy contractual arrangements, which were described in *Presgripsiwn Newydd* last year, we are ensuring community pharmacies consistently provide the widest range of clinical services people and the NHS in Wales need.  Approximately one in five community pharmacies are now providing our national pharmacist independent prescribing service, which offers prompt access to treatment for a range of conditions and to regular contraception. We are working to increase this so the service is available in one in three pharmacies by the end of March. Pharmacy professionals play an essential role in our hospitals and GP practices and we have recently commissioned the Royal Pharmaceutical Society to review how the clinical skills of pharmacists, pharmacist prescribers and the wider pharmacy workforce can be used effectively in hospital settings to improve people’s health outcomes. The new goals mean that by 2025, pharmacy teams will feel empowered to make every patient contact count, building on strengths of community pharmacies as community assets, as sources of both social capital and convenient access to the services people need. By continuing to increase the capability and skill within pharmacy teams we will also ensure people have consistent access to highly trained and motivated members of the pharmacy workforce. Optimising the knowledge and skills of pharmacy professionals as medicines’ experts, we will ensure they are integral in supporting people as they transition between different parts of the health and social care service. Increasing use of automation will increase the capacity for pharmacy professionals to deliver outstanding care, and using the NHS app, pharmacy teams will work with patients who are empowered to take greater control of their health and medicines. A great deal has already been achieved. As we embark on the next phase of the journey, pharmacy professionals will achieve even more in the next three years. I am therefore delighted to endorse the pharmacy profession’s refreshed plans. Pharmacy: Delivering a healthier Wales (rpharms.com) 2025 Goals  Wales Vision brochure.pdf (rpharms.com)
Translate the text from Welsh to English.
Mae Gwobrau Dewi Sant, yn ei 8fed flwyddyn, yn gyfle i gydnabod cyflawniadau eithriadol pobl yng Nghymru neu bobl sy’n dod o Gymru, a chydnabod y gweithredoedd a’r cyfraniadau mawr a wnaed gan bobl o bob cefndir, yn ystod blwyddyn eithriadol o anodd yr ydym wedi’i hwynebu. Categorïau’r gwobrau eleni yw: Dewrder, Busnes, Ysbryd y Gymuned, Diwylliant a Chwaraeon, Gwobr Ddyngarol, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Person Ifanc, Gweithiwr Hanfodol a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog. Gan siarad yn y digwyddiad rhithwir, dywedodd Prif Weinidog Cymru: > “Mae teilyngwyr Gwobrau Dewi Sant eleni yn grŵp ysbrydoledig o bobl yr ydym yn lwcus i’w cael yn byw ac yn gweithio yng Nghymru. > > > “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod heriol. Mae pandemig y coronafeirws wedi achosi llawer o dristwch a thorcalon – ond mae hefyd wedi ysgogi’r gorau ymhlith llawer o bobl. Dim ond cyfran fach o’r rhai sydd wedi mynd y tu hwnt i’r galw yw’r enillwyr heno, ac maent yn ysbrydoliaeth wirioneddol i bob un ohonom." Cyhoeddodd y Prif Weinidog fod yr Athro Keshav Singhal MBE yn derbyn Gwobr Arbennig y Prif Weinidog. Yr Athro Singhal yw Cadeirydd grŵp Asesu Risg COVID\-19, a sefydlwyd ar ddechrau’r achosion o’r Coronafeirws, a arweiniodd at ddatblygu adnodd Asesu Risg COVID\-19 Cymru Gyfan. Y rhestr o enillwyr Gwobrau Dewi Sant yw: * Dewrder: John Rees, Lisa Way ac Ayette Bounouri * Busnes: Little Inspirations * Ysbryd y Gymuned: Deial i Deithio Sir Ddinbych * Gweithiwr Hanfodol: Cartref Gofal Cherry Tree * Diwylliant a Chwaraeon: Delwyn Derrick * Gwobr Ddyngarol: John Puzey * Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Y Fenter Ymchwil Busnesau Bach / Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru * Person Ifanc: Molly Fenton – Ymgyrch Love Your Period * Gwobr Arbennig y Prif Weinidog: Yr Athro Keshav Singhal MBE
The St David’s Awards, in its 8th year is a chance to acknowledge the extraordinary achievements of people in or from Wales and recognise the great deeds and contributions made by people from all walks of life, during an exceptionally difficult year we have faced. This year’s award categories are Bravery, Business, Community Spirit, Culture and Sport, Humanitarian, Innovation, Science and Technology, Young Person, Critical Worker and the First Minister’s Special Award. Speaking at the virtual event, the First Minister said: > “This year’s St David Awards finalists are an inspiring group of people that we are lucky to have living and working in Wales. > > > “The past year has been incredibly challenging time. The coronavirus pandemic has brought much sadness and heartbreak – but it has also brought out the best in many people. The winners tonight are just a small proportion of those who have gone above and beyond the call of duty and are a true inspiration to us all." The First Minister announced that Professor Keshav Singhal MBE as the recipient of the First Minister’s Special Award. Professor Singhal is the Chair of the Covid\-19 Risk Assessment group, established at the start of the Coronavirus outbreak, which led to the development of the All\-Wales Covid\-19 Risk Assessment tool. The list of winners of the St David Awards are: * Bravery: John Rees, Lisa Way and Ayette Bounouri * Business: Little Inspirations * Community Spirit: Denbighshire Dial a Ride * Critical Worker: Cartref Gofal Cherry Tree/ Cherry Tree Care Home * Culture and Sport: Delwyn Derrick * Humanitarian: John Puzey * Innovation, Science and Technology: SBRI/ Welsh Ambulance Service Trust * Young Person: Molly Fenton – Love Your Period campaign * First Minister’s Special Award: Professor Keshav Singhal MBE
Translate the text from English to Welsh.
The Wales Animal Health and Welfare Framework Group, set up in June 2014, supports the development and implementation of the Wales Animal Health and Welfare Framework. Its pivotal role is to ensure there is a recognised link between the Welsh Government, livestock keepers, other animal owners and industry representatives, covering a wide range of animal health and welfare issues. Lesley Griffiths said: > “I am pleased to welcome Abi and Paula to the Wales Animal Health and Welfare Framework Group. Both will bring a wealth of know\-how and experience to the Group and I look forward to working closely with them on animal health and welfare issues.” The appointments were made in accordance with the Commissioner’s Code of Practice on Ministerial Appointments. Both will run from 1 June 2017 to 31 May 2020\. 
Mae Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, a sefydlwyd ym mis Mehefin 2014, yn rhoi cefnogaeth i ddatblygu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ac i’w roi ar waith. Mae ganddo rôl allweddol yn sicrhau bod cysylltiad cydnabyddedig rhwng Llywodraeth Cymru, ceidwaid da byw, perchnogion anifeiliaid eraill a chynrychiolwyr y diwydiant sy’n ymwneud ag ystod eang o faterion iechyd a lles anifeiliaid. Dywedodd Lesley Griffiths: > “Pleser i mi yw croesawu Abi a Paula i’r Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid. Bydd y ddwy ohonynt yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’r Grŵp ac rwy’n edrych ymlaen at gael cydweithio â’r ddwy ar faterion iechyd a lles anifeiliaid.” Gwnaed y penodiadau yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd ar Benodiadau gan Weinidogion. Bydd y penodiadau yn dechrau ar 1 Mehefin 2017 hyd 31 Mai 2020\. 
Translate the text from English to Welsh.
The Minister hopes the rallying cry and additional funds will ‘build a planned care system that is bigger, better and more effective than we have seen before’. Planned care is any treatment that doesn't happen as an emergency and usually involves a prearranged appointment. Most patients are referred for planned care from their GP. The funding will predominantly be focused on endoscopy, cataract, orthopaedic and diagnostic and imaging services, but will also go towards cancer and stroke services. It is on top of the £25m extra a year for emergency departments announced in July. Health boards are being urged to develop plans about how they can transform how their services are delivered and make best use of the funding available, which will be split equally between each health board based on population. Speaking at the Planned Care Summit today (4 November), which the Health Minister organised after a meeting with the Royal College of Surgeons England, the Minister also outlined how £1million will go towards the creation of a Planned Care Innovation Fund. The fund, which will be open to applications from 30 November, is based on the principles of the Bevan Commission’s Exemplar programme, and is set out to support innovation and adoption across Wales, maximising the momentum, enthusiasm and opportunity for change this presents. Thanks to the Welsh Government’s £248m investment in COVID recovery funding, Betsi Cadwaladr UHB have already seen further developments in their delivery of orthopaedics with the innovative implementation of virtual follow ups with patients, video group consultations, some joint replacements without an overnight stay and prehabilitation screening for patients before surgery helping to cut their recovery time. While these may appear small innovations, it is hoped they have the potential to be rolled out across all health boards and their learning being applied to many different settings. Newly appointed NHS Wales chief executive Judith Paget will outline at the summit the five goals that will transform planned care, which are: * Effective referrals into secondary care * Access to specialist advice and guidance for primary care and paramedics * Treat accordingly by ensuring that all care pathways are fit for purpose * Follow ups to encourage individuals to manage their own conditions * Measure what is important when looking at waiting lists She said: > We have provided an investment of £248m to support the acceleration of planned care recovery during this financial year. We are making an extra £170m a year available to health boards for them to radically transform and fundamentally change how planned care is delivered, to ensure the planned care programme is fit for purpose and is delivering what we need. > > > We need to transform the way we deliver services. Many advancements and new ways of working have come online during the pandemic, but it is important to build on these and use the opportunity to create modern health and social services for the future. Health Minister Eluned Morgan said: > The impact of the pandemic on planned care has been significant, resulting in a massive backlog of patients waiting for planned treatments. There are, we fear, also many patients who are yet to present to primary care with their illness. > > > We need a whole system approach to how care is delivered and by investing £248m in Covid recovery, £170m in planned care and £42million in social care, we hope to put NHS Wales in a stronger position for future generations. > > > We are calling for health boards to radically transform how planned care is delivered, as we want to not just recover from the pandemic, but to build a planned care system that is bigger, better and more effective than we have seen before.
Mae’r Gweinidog yn gobeithio y bydd yr alwad am newid a’r arian ychwanegol yn ‘creu system gofal wedi’i gynllunio sy’n fwy o faint, yn well ac yn fwy effeithiol nag yr ydym wedi’i weld o’r blaen’. Unrhyw driniaeth nad yw’n digwydd fel argyfwng yw gofal wedi’i gynllunio ac mae fel arfer yn golygu apwyntiad wedi’i drefnu ymlaen llaw. Mae’r mwyafrif o gleifion yn cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu at ofal wedi’i gynllunio. Bydd yr arian yn mynd yn bennaf tuag at wasanaethau endoscopi, cataractau, orthopedeg a diagnostig a delweddu, ond bydd hefyd yn cael ei wario ar wasanaethau canser a strôc. Daw’r arian ar ben y £25m ychwanegol y flwyddyn ar gyfer adrannau achosion brys a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf. Mae byrddau iechyd yn cael eu hannog i ddatblygu cynlluniau ynglŷn â sut y gallan nhw drawsnewid eu ffordd o ddarparu gwasanaethau a gwneud y defnydd gorau o’r arian a fydd ar gael. Bydd yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob bwrdd iechyd yn ôl poblogaeth. Wrth siarad yn yr Uwchgynhadledd ar Ofal wedi’i Gynllunio heddiw (4 Tachwedd), a drefnwyd gan y Gweinidog Iechyd ar ôl cyfarfod â Choleg Brenhinol y Llawfeddygon, Lloegr, dywedodd y Gweinidog hefyd y bydd £1 miliwn yn mynd tuag at greu Cronfa Arloesi Gofal wedi’i Gynllunio. Bydd y gronfa ar agor i geisiadau o 30 Tachwedd ymlaen. Mae wedi’i seilio ar egwyddorion rhaglen Exemplar Comisiwn Bevan, a’i nod fydd cefnogi arloesedd a rhoi cymorth i fabwysiadu’r egwyddorion hyn ledled Cymru, gan wneud y gorau o’r momentwm, y brwdfrydedd a’r cyfle am newid sydd ar gael. Diolch i fuddsoddiad o £248m gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid adfer yn sgil Covid, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi gwneud datblygiadau pellach yn ei ffordd o ddarparu gwasanaethau orthopedeg. Mae wedi arloesi drwy gyflwyno cyfarfodydd dilynol o bell gyda chleifion, ymgyngoriadau grŵp dros fideo, rhai triniaethau ar gyfer cymalau newydd heb aros dros nos a sgrinio rhagsefydlu ar gyfer cleifion cyn llawdriniaeth sy’n helpu i leihau’r amser adfer. Er y gall y rhain ymddangos yn gamau bychain o arloesi, y gobaith yw bod potensial i’w rhoi ar waith ar draws pob bwrdd iechyd a bod modd dysgu ohonynt mewn llawer o wahanol leoliadau. Bydd Prif Weithredwr newydd GIG Cymru, Judith Paget, hefyd yn mynd i’r uwchgynhadledd lle bydd yn amlinellu’r pum nod a fydd yn trawsnewid gofal wedi’i gynllunio, sef: * Atgyfeirio’n effeithiol at ofal eilaidd * Mynediad at gyngor a chanllawiau arbenigol ar gyfer gofal sylfaenol a pharafeddygon * Trin yn briodol drwy sicrhau bod pob llwybr gofal yn addas i’r diben * Cyfathrebu dilynol i annog unigolion i reoli eu cyflyrau eu hunain * Mesur yr hyn sy’n bwysig wrth edrych ar restrau aros Dywedodd: > Rydyn ni wedi darparu buddsoddiad o £248m i helpu i adfer gofal wedi’i gynllunio yn gynt yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Rydyn ni’n cynnig £170m ychwanegol y flwyddyn i fyrddau iechyd i’w galluogi i drawsnewid yn radical ac yn sylfaenol y ffordd o ddarparu gofal wedi’i gynllunio. Bydd hyn yn sicrhau bod y rhaglen gofal wedi’i gynllunio yn addas i’r diben ac yn darparu’r hyn sydd ei angen. > > > Mae angen inni drawsnewid ein ffordd o ddarparu gwasanaethau. Mae llawer o ddatblygiadau a ffyrdd newydd o weithio wedi’u rhoi ar waith yn ystod y pandemig, ond mae’n bwysig adeiladu ar y rhain a manteisio ar y cyfle i greu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol modern ar gyfer y dyfodol. Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: > Mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar ofal wedi’i gynllunio, gan greu ôl\-groniad enfawr o gleifion sy’n aros am driniaethau wedi’u cynllunio. Yn ogystal, rydyn ni’n ofni bod yna lawer o gleifion nad ydyn nhw eto wedi mynd at wasanaethau gofal sylfaenol gyda’u salwch. > > > Mae angen edrych ar y ffordd o ddarparu gofal yn y system gyfan a thrwy fuddsoddi £248 miliwn yn yr adferiad Covid, £170 miliwn mewn gofal wedi’i gynllunio a £42 miliwn mewn gofal cymdeithasol, ein nod yw rhoi’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa gryfach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. > > > Rydyn ni’n galw ar fyrddau iechyd i drawsnewid y ffordd o ddarparu gofal wedi’i gynllunio. Rydyn ni am wneud mwy na dim ond adfer o’r pandemig; rydyn ni am greu system gofal wedi’i gynllunio sy’n fwy o faint, yn well ac yn fwy effeithiol nag yr ydym wedi’i weld o’r blaen.
Translate the text from Welsh to English.
Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno gwybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is\-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru. Gofynnodd yr Arglwydd Benyon, Gweinidog dros Fioddiogelwch, Materion Morol a Gwledig yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) am gytundeb i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enwRheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2023\. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud yr OS uchod drwy arfer y pwerau a roddir o dan Reoliad (EU) 2016/2031, y Rheoliadau Iechyd Planhigion, a Rheoliad (EU) 2017/625, y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol. Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliad (EU) 2019/2072, y Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol, at sawl diben. Yn bennaf, mae'r diwygiadau yn dadreoleiddio ac yn cynnwys plâu amrywiol ar y rhestrau Plâu Cwarantin a Phlâu Cwarantin Dros Dro. Yn ogystal, bydd y diwygiadau yn cyflwyno diwygiad i alluogi darpariaethau o fewn Model Gweithredu Targed y Ffin (TOM). Gosodwyd yr OS gerbron Senedd y DU ar 26 Hydref 2023\. Bydd mesurau brys yn y Rheoliadau yn dod i rym ar 17 Tachwedd a 24 Tachwedd 2023 a bydd mesurau nad ydynt yn rhai brys yn dod i rym ar 2 Mai 2024\. **Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru** Bydd yr Aelodau yn dymuno nodi nad yw'r Rheoliadau yn trosglwyddo unrhyw swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol. **Diben y diwygiadau** Diben y diwygiadau yw diweddaru agweddau ar y Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (PCR) i gyflwyno'r newidiadau canlynol: * Dadreoleiddio plâu cwarantin (QPs) penodol Prydain Fawr sydd wedi'u hasesu gan y Grŵp Risg Iechyd Planhigion (PHRG) fel rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf i fod yn bla cwarantin. * Ychwanegu plâu cwarantin newydd Prydain Fawr sydd wedi'u hasesu gan y PHRG fel rhai sy'n bodloni'r meini prawf i fod yn bla cwarantin. * Ychwanegu plâu cwarantin dros dro (PQPs) newydd Prydain Fawr sydd wedi'u hasesu gan y PHRG fel rhai sy'n bodloni'r meini prawf i fod yn bla cwarantin ar sail asesiad dros dro. * Diweddaru gofynion mewnforio i ystyried newidiadau yn y deunydd a fasnachwyd. * Cyflwyno newid a gollwyd mewn OS blaenorol. * Ffurfioli hawddfraint er mwyn sicrhau bod gofynion mewnforio yn gweithio'n ymarferol. * Cynnwys rhanddirymiad a gafodd ei gario drosodd fel cyfraith yr UE a ddargedwir ond sydd bellach wedi dod i ben ac sydd angen ei gynnwys yn neddfwriaeth Prydain Fawr. Yn ogystal, bydd y diwygiadau yn cyflwyno diwygiad i alluogi darpariaethau o fewn Model Gweithredu Targed y Ffin (TOM). Bydd y ddarpariaeth hon yn diwygio'r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (OCR) i ddarparu eithriad ar gyfer ffrwythau a llysiau penodol o ran gofynion cyn\-hysbysu'r OCR. Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi manylion ynghylch tarddiad, diben ac effaith y diwygiadau, ar gael yma: The Official Controls (Plant Health) (Prior Notification) and Phytosanitary Conditions (Amendment) Regulations 2023 (legislation.gov.uk) **Pam y rhoddwyd cydsyniad** Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud yr offeryn hwn mewn perthynas â Chymru ac ar ei rhan, gan fod yr OS yn ymwneud â maes datganoledig, ond, mae'r OS yn gweithredu ar draws Prydain Fawr ac yn cael effaith ar y cyfyngiadau o ran mewnforio planhigion a chynhyrchion planhigion i Brydain Fawr. Gallai cyflwyno rheoliadau ar wahân yng Nghymru a Lloegr greu baich ychwanegol ar yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), busnesau, masnachwyr a thyfwyr. Mae rheoleiddio ar lefel Prydain Fawr yn sicrhau llyfr statud cydlynol a chyson, gyda'r rheoliadau ar gael mewn un offeryn heb unrhyw risg o wahaniaeth deddfwriaethol ym Mhrydain Fawr.
Members of the Senedd will wish to be aware that we are giving consent to the Secretary of State exercising a subordinate legislation\-making power in a devolved area in relation to Wales. Agreement was sought by Lord Benyon, Minister for Biosecurity, Marine and Rural Affairs at the Department for Environment, Food and Rural Affairs (DEFRA) to make a Statutory Instrument (SI) titled thePhytosanitary Conditions (Amendment) Regulations 2023\. The above titled SI will be made by the Secretary of State, in exercise of the powers conferred under Regulation (EU) 2016/2031, the Plant Health Regulations, and Regulation (EU) 2017/625, the Official Controls Regulations. The Regulations amend Regulation (EU) 2019/2072, the Phytosanitary Conditions Regulations, for multiple purposes. Primarily the amendments deregulate and include various pests to the Quarantine Pests and Provisional Quarantine Pests lists. Additionally, the amendments will introduce an amendment to enable provisions within the Borders Target Operating Model (TOM) The SI was laid before the UK Parliament on 26 October 2023\. Urgent measures in the Regulations will come into force on 17 November and 24 November 2023 and non\-urgent measures on the 2 May 2024\. **Any impact the SI may have on the Senedd’s legislative competence and/or the Welsh Ministers’ executive competence** Members will wish to note that the Regulations do not transfer any functions to the Secretary of State. **The purpose of the amendments** The purpose of the amendments are to update aspects of the Phytosanitary Conditions Regulations (PCR) to introduce the following changes: * Deregulate specific GB quarantine pests (QPs) which have been assessed by the Plant Health Risk Group (PHRG) as not meeting the criteria to be a QP. * The addition of new GB QPs which have been assessed by the PHRG as meeting the criteria to be a QP. * The addition of new GB provisional quarantine pests (PQPs) which have been assessed by the PHRG as meeting the criteria to be a QP on the basis of a provisional assessment. * Update import requirements to take account of changes in the material traded. * Introduce a change missed in a previous SI. * Formalise an easement in order to make import requirements work in practice. * Include a derogation which was carried over as retained EU law but which has now expired and needs to be included in GB legislation. In addition, the amendments will introduce an amendment to enable provisions within the Borders Target Operating Model (TOM). This provision will amend the Official Control Regulations (OCR) to provide an exception of certain fruit and vegetables to the pre\-notification requirements of the OCR. The Regulations and accompanying Explanatory Memorandum, setting out the detail of the provenance, purpose and effect of the amendments is available here: The Official Controls (Plant Health) (Prior Notification) and Phytosanitary Conditions (Amendment) Regulations 2023 (legislation.gov.uk) **Why consent has been given** Consent has been given for the UK Government to make this instrument in relation to, and on behalf of, Wales as the SI relates to a devolved area, however, the SI operates GB\-wide and has effect on the restrictions regarding the importation of plants and plant products into GB. Introducing separate regulations in Wales and England may cause additional burden on the Animal and Plant Health Agency (APHA), business, traders and growers. Regulating on a GB\-wide basis ensures a coherent and consistent statute book with the regulations being accessible in a single instrument with no risk of legislative divergence in GB.  
Translate the text from Welsh to English.
Bydd y cyllid yn gwella mynediad i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac oddi mewn iddo, drwy gefnogi'r broses o gaffael y gwasanaeth parcio a theithio arfaethedig, gwella gwasanaeth gwennol Glannau Dyfrdwy a gwella'r cysylltiad bws o Barth 2 i Barth 3\. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn cydweithio'n agos â chymunedau i ddatblygu cynlluniau bws mini cymunedol arloesol a chynaliadwy.   Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £127,000 i alluogi'r awdurdod lleol i brynu dau fws mini safonol Euro 6 ar gyfer dau gynllun mewn cymunedau gwledig o fewn Sir y Fflint. Bydd hyn yn gwella cysylltiadau â chanolfannau trafnidiaeth lleol, cysylltiadau â'r prif wasanaethau trafnidiaeth a mynediad at gyflogaeth ac addysg. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â safle'r orsaf reilffordd arfaethedig, Deeside Parkway, sy'n rhan mawr o'r datblygiadau metro yn yr ardal. Mae datblygiadau hefyd ar y cynlluniau ar gyfer cyfuno gorsafoedd Shotton Uchaf/Isaf. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio gyda Cyngor Sir y Fflint a Network Rail i ddatblygu'r cynlluniau hyn. Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: > "Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yng Nglannau Dyfrdwy yn dangos yn glir ein hymrwymiad i ddarparu canolfan drafnidiaeth integredig fydd o fudd i gymudwyr a busnesau yn yr ardal a thu hwnt. > > "Mae'r £1\.8 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn hwb i ddarparu cynlluniau pwysig fydd yn gwella mynediad i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac o fewn iddo, a'r Ardal Fenter yn ehangach, gan gysylltu cymunedau gyda swyddi a gwasanaethau. Maent hefyd yn cynnig opsiwn teithio carbon isel sy'n galluogi pobl i adael eu cerbydau gartref fydd o fudd i'r amgylchedd. > > "Dwi'n falch iawn ein bod yn cydweithio'n agos â Chyngor Sir y Fflint, Network Rail a Trafnidiaeth Cymru wrth fynd ymlaen â'r gwaith pwysig hwn yng Nglannau Dyfrdwy, sy'n rhan allweddol o'r weledigaeth ar gyfer metro Gogledd\-ddwyrain Cymru, ac sydd hefyd yn cefnogi Cynllun Glannau Dyfrdwy yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cadarnhau ein hymrwymiad i wneud newidiadau mawr i'r system drafnidiaeth yn yr ardal trwy drafod a chydweithio gyda'n prif bartneriaid. > > "Mae'r buddsoddiad hefyd yn enghraifft gwych o'r camau yr ydym yn eu cymryd fel llywodraeth sy'n edrych i'r dyfodol, i sbarduno ffyniant a chreu model datblygu economaidd sy'n canolbwyntio ar y rhanbarth, ac sy'n rhan bwysig o'n Cynllun Gweithredu Economaidd newydd." Meddai'r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: > "Mae cyhoeddiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet yn datblygu ein huchelgais cyffredinol ers amser i wella a chryfhau cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac o fewn iddo. > > "Dwi'n croesawu'n benodol yr ymrwymiad clir i hwyluso'r broses o greu gorsaf reilffordd newydd ar Lannau Dyfrdwy. Bydd sicrhau bod mynediad uniongyrchol i weithwyr yn lleol ac ar draws y rhanbarth yn newid y sefyllfa'n sylweddol o bosibl i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, mae cysylltiad newydd i drafnidiaeth yn hollbwysig i lwyddiant parhaus Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gan ei alluogi i barhau yn brif ganolfan cyflogaeth o fewn ein rhanbarth." Meddai Alan Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Seilwaith Trafnidiaeth Cymru: > "Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o  gydweithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Sir y Fflint a Network Rail i sicrhau gwelliannau ym Marc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a Shotton Uchaf/Isaf. > > "Mae'r prosiectau hyn yn elfennau pwysig ar gyfer Metro Gogledd\-ddwyrain Cymru, gan wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system drafnidiaeth o safon uchel, fydd yn ei gwneud yn haws i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. > > "Bydd ein dull o gydweithio yn helpu inni sicrhau bod gwelliannau'n bodloni anghenion pobl leol mewn gwirionedd, gan wella'r cysylltiadau rhwng trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol fel y gall bobl gerdded neu feicio yn ôl ac ymlaen o orsafoedd, a sicrhau mynediad mwy cyfleus i orsafoedd trwy ddulliau eraill o deithio." Meddai Bill Kelly, rheolwr\-gyfarwyddwr llwybrau dros dro Network Rail Cymru a'r Gororau: > "Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid eraill i gefnogi'r cynlluniau hynny sy'n darparu rhwydwaith rheilffyrdd diogel, dibynadwy sy'n datblygu. Mae cydweithio'n helpu i sicrhau fod pobl Cymru a'r Gororau yn gallu teithio'n rhwydd ac yn cefnogi twf economaidd."
The funding will improve access to and within Deeside Industrial Park by supporting the acquisition of a site for a proposed park and ride service, enhancing the Deeside shuttle service and improving the bus link from Zone 2 to Zone 3\. Flintshire County Council has also been working closely with communities to develop innovative and sustainable community minibus schemes. The Welsh Government will be providing £127,000 to enable the local authority to purchase two Euro 6 standard minibuses for two schemes in rural communities within Flintshire. This will improve links to local transport hubs, connections with mainline transport services and access to employment and education. The Cabinet Secretary made the announcement during a visit to the site of the proposed Deeside Parkway railway station which is a big part of the metro developments in the area. Progress is also being made on plans for the integration of Shotton High/Low stations. Transport for Wales is working in collaboration with Flintshire County Council and Network Rail to develop these schemes. Cabinet Secretary for Economy and Transport, Ken Skates said: > “The Welsh Government’s investment in Deeside is a clear demonstration of our commitment to delivering an integrated transport hub approach which will benefit commuters and businesses in the area and beyond. > > “The £1\.8 million Welsh Government investment I am announcing today will be a boost to delivering important schemes which will improve access to and within Deeside Industrial Park and the wider Enterprise Zone, linking communities with jobs and services. They also offer a low carbon travel option enabling people to leave their own vehicle at home which will be of benefit to our environment. > > “I’m very pleased we are working closely with Flintshire County Council, Network Rail and Transport for Wales in taking forward important work in Deeside which is a key part of the North East Wales metro vision and also supports the local authority’s Deeside Plan. This reinforces our commitment to deliver major changes to the transport system in the area through engaging and joint working with our key partners. > > “The investment is also a great example of the steps we are taking as a forward\-looking government in driving prosperity and building a regionally focussed model of economic development, which are important parts of our new Economic Action Plan.” Cllr Aaron Shotton, Leader of Flintshire County Council, said: > "Today's announcement by the Cabinet Secretary progresses our long held, shared ambition to improve and strengthen public transport links to and within Deeside Industrial Park.   > > “‎I particularly welcome the clear commitment to facilitating the creation of a new rail station on Deeside. Ensuring direct rail access for workers locally and across the region has the potential to be a real, 'game changer' for Deeside Industrial Park, a new transport connection is vital to the continuing success of Deeside Industrial Park, enabling it to continue as the premier employment hub within our region." Alan Edwards, Executive Director of Infrastructure Development at Transport for Wales said: > “Transport for Wales is pleased to be working with our partners at Flintshire County Council and Network Rail to deliver improvements at Deeside Industrial Park and Shotton High/Low Level. > > “These projects are key components of the North East Wales Metro, realising the Welsh Government’s vision for an efficient, reliable and high quality transport system which will make it easier for people to travel by public transport.   > > “Our collaborative approach will help us to ensure that improvements truly meet the needs of local people, improving links between public transport and active travel routes so people can walk or cycle to and from stations, and facilitating more convenient access to stations by other modes of transport.” Bill Kelly, acting route managing director for Network Rail Wales and Borders, said: > “We will continue to work with the Welsh Government, Transport for Wales and other partners to support schemes which deliver a safe, reliable, affordable and growing railway. Working together helps to keep the people of Wales and Borders moving and supports economic growth.”
Translate the text from Welsh to English.
Cyflwynwyd adroddiad terfynol ac argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer Pobl Ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ar 28 Tachwedd 2012\. Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau bryd hynny, bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb yn llawn i’r adroddiad a’r argymhellion erbyn diwedd mis Ionawr 2013\. Yn y cyfamser, mae’r Dirprwy Weinidog a minnau’n awyddus i roi eglurder i Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid drwy gyhoeddi’r cyfeiriad yr ydym yn bwriadu ei gymryd o ran rheoleiddio cymwysterau. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Huw Evans a’r Bwrdd am eu gwaith gwych wrth gynnal adolygiad o gymwysterau i bobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru ac am baratoi adroddiad trylwyr, ystyriol a gwerthfawr. Rwyf yn croesawu’r adroddiad ac mae’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig yn rhai cyffrous. Dyma’r adroddiad cyntaf ar gymwysterau ar gyfer y grŵp oedran hwn sy’n benodol i Gymru. Rwyf yn hyderus y bydd y camau y byddwn yn eu cymryd wrth ymateb i’r Adolygiad yn drobwynt ac yn gosod y cyfeiriad i ni yng Nghymru er mwyn i ni gael datblygu system gymwysterau o’r radd flaenaf dros y blynyddoedd i ddod. Rhyngddyn nhw, roedd gan aelodau’r Bwrdd wybodaeth, dealltwriaeth, arbenigedd a phrofiad helaeth o ddarparu, llunio, rheoleiddio, gwerthuso ac asesu cymwysterau ar draws y sector ysgolion, y sector addysg bellach a’r sector dysgu seiliedig ar waith, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Cyfrannodd y cyflogwyr a’r ymarferwyr addysg uwch wybodaeth rheng flaen o’r farn am gymwysterau a’r hyn sy’n gwneud cymhwyster yn berthnasol ac yn werthfawr. Mae’n adroddiad annibynnol i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, roeddwn yn falch o weld fod ei argymhellion yn cydnabod y cyd\-destun ehangach o ran polisi. Er enghraifft, mae’n cyd\-fynd ac yn datblygu’r gwaith yr ydym yn ei wneud mewn perthynas â llythrennedd a rhifedd. O ran graddio Bagloriaeth Cymru, bydd Aelodau’n ymwybodol ein bod, yn ystod yr adolygiad, wedi penderfynu graddio Bagloriaeth Cymru ar Lefel Uwch o fis Medi 2013, er mwyn cynyddu ei drylwyredd a’i werth. Gwnaed hyn ar sail cyngor gan Fwrdd yr Adolygiad – ac mae’r adroddiad yn cefnogi’r penderfyniad. Mae’r ffordd gynhwysol yr aeth y bwrdd ati i baratoi’r Adroddiad, a’r ffaith ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth, wedi cael clod gan sylwebwyr yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r ffaith fod yr adolygiad wedi’i seilio ar dystiolaeth ac ar drafodaethau gyda phob grŵp o randdeiliaid yn golygu y gallwn fod yn hyderus y gellir gweithredu’r newidiadau a argymhellir. Bydd Llywodraeth Cymru’n dadansoddi’r adroddiad dros yr wythnosau i ddod. Fodd bynnag, heddiw, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gytûn ag un peth yn yr Adolygiad – sef y cynnig yn argymhelliad 5 y dylid cryfhau rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru a’i wahanu oddi wrth y Llywodraeth. Rwyf wedi ymrwymo i gryfhau trefniadau rheoleiddio a sicrhau ansawdd, er enghraifft drwy wella’r broses ‘borthgadw’ o ran cymeradwyo cymwysterau gan roi mwy o bwyslais ar berthnasedd, diben a gwerth. Mae’r Adolygiad yn argymell sefydlu corff cymwysterau newydd a fyddai’n gyfrifol am ddyfarnu cymwysterau a’u rheoleiddio. Derbyniwn yr argymhelliad hwn ac fe weithiwn i sefydlu’r corff newydd hwn, sef “Cymwysterau Cymru”, i reoleiddio a sicrhau ansawdd pob cymhwyster nad yw ar lefel gradd yng Nghymru. Fel yr argymhellir gan yr Adolygiad, byddwn yn astudio’r model sydd wedi bod ar waith yn yr Alban ers rhai blynyddoedd ac yn ceisio dysgu ohono. Mae’r model hwnnw wedi ennill enw da am ei drylwyredd a’i ansawdd. Fel mae’r Adolygiad yn cydnabod, bydd angen rhoi cryn dipyn o feddwl i sut y bydd Cymwysterau Cymru’n cael ei lywodraethu a’i weithredu a beth fydd ei gylch gwaith a’i strwythur. Rwyf wedi gofyn i swyddogion gomisiynu adolygiad diwydrwydd dyladwy ar fyrder ac, ar sail yr hyn a ganfyddir, ddatblygu cynigion manwl ac achos busnes yn hanner cyntaf 2013 i wneud yn siŵr bod ein ffordd newydd, arfaethedig o weithio yn ddichonadwy ac yn sicrhau gwerth am arian. Rwyf hefyd yn falch iawn i allu cyhoeddi bod Huw Evans OBE, Cadeirydd yr Adolygiad o Gymwysterau, wedi cytuno i Gadeirio Grŵp Gorchwyl a Gorffen y byddwn yn ei sefydlu’n gynnar yn 2013, er mwyn llywio’r gwaith o sefydlu Cymwysterau Cymru. Bydd y grŵp yn cynghori ar faterion yn ymwneud ag amseru, llywodraethu, strwythurau a diwydrwydd dyladwy. Bydd arbenigedd Huw’n amhrisiadwy wrth gefnogi’r rhaglen newid.  Yn amlwg, bydd creu Cymwysterau Cymru yn effeithio ar CBAC. Rydyn ni eisoes wedi cychwyn trafod gyda’r sefydliad hwnnw ac arweinwyr llywodraeth leol ar y mater hwn ac fe barhawn i drafod. Bydd CBAC yn parhau i fod yn ddarparwr cymwysterau allweddol a gwerthfawr yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill wrth i’r trafodaethau hyn fynd yn eu blaenau. Bydd y Dirprwy Weinidog Sgiliau’n rhoi ymateb llawn Llywodraeth Cymru i’r 41 argymhelliad arall yn yr Adolygiad ym mis Ionawr 2013\.
  The Review of Qualifications for 14 to 19\-year\-olds in Wales submitted its final report and recommendations to the Welsh Government on 28 November 2012\. As the Deputy Minister for Skills indicated at that time the Welsh Government will respond in full to the report and recommendations by the end of January 2013\. Meanwhile, the Deputy Minister and I are keen to provide Assembly Members and stakeholders with some clarity by announcing the direction we intend to take in relation to the regulation of qualifications. Firstly I would like to thank Huw Evans and the Board for their excellent work in reviewing qualifications for 14\- to 19\-year\-olds in Wales and for producing an extremely thorough, well considered and valuable report.  I very much welcome the report and I am excited by the opportunities it presents.   It is the first Welsh report on qualifications for this age group, and I am confident that the action we take in response to the Review will mark a point of departure and set the direction for Wales in developing a world class qualifications system over the years to come.   The members of the Board had between them a huge wealth of knowledge, expertise and experience in delivering, designing, regulating and assessing qualifications across the school, further education and work\-based learning sectors, through Welsh and English.  The employers and higher education practitioners brought front\-line knowledge of how qualifications are perceived and what makes a qualification relevant and valued.  Their report is an independent report to the Welsh Government. However I was pleased to note that its recommendations recognise the wider policy context. For instance, they build on and fit with the work we are driving forward in relation to literacy and numeracy.  In relation to grading the Welsh Baccalaureate, Members will be aware that during the course of the Review we decided to grade the Welsh Baccalaureate at Advanced level for teaching from September 2013, to enhance its rigour and value. This was done on advice from the Review Board, whose report supports the decision. The inclusive and evidence\-based approach taken by the Review has received compliments from commentators in Wales and beyond.  The fact that the review is firmly based on evidence and on discussions with the full range of stakeholder groups, means that we can have confidence that the changes they recommend could be implemented. While the Welsh Government will be analysing the report over the coming weeks,  I can today confirm that the Welsh Government can already agree one of the Review’s findings \-the proposal in Recommendation 5 that the regulation of qualifications in Wales should be strengthened and separated from government. I am committed to strengthening regulation and quality assurance arrangements, for instance by improving the gate\-keeping process for approval of qualifications with more emphasis on relevance, purpose and value.   The Review recommended the establishment of a new Qualifications Body responsible for both awarding qualifications and regulating them. We accept this recommendation and will move towards establishing this new body, “Qualifications Wales”, to regulate and assure the quality of all non degree level qualifications in Wales. As recommended by the Review, we will study and learn from the model that has been in operation in Scotland for some years and that has built a strong reputation for rigour and quality.  As the Review acknowledges, considerable thought will need to be given to the governance, remit, structure and operation of Qualifications Wales.  I have asked officials to commission a due diligence review as a matter of urgency and, on the basis of its findings, to develop detailed proposals and a business case in the first half of 2013 to ensure the viability and value for money of our proposed new approach. I am also delighted to announce today that Huw Evans OBE, the Chair of the Review of Qualifications, has agreed to chair a task and finish group, which we will establish early in 2013, to steer the early delivery of Qualifications Wales. The group will advise on issues relating to timing, governance, structures and due diligence. Huw’s expertise will be invaluable in supporting this change programme. Clearly the creation of Qualifications Wales will have implications for the WJEC. We have already commenced discussions with the organisation and with local government leaders on this issue and will be continuing this dialogue. The WJEC will continue to be a key and valued provider of qualifications in Wales and in other nations as these discussions progress. The Deputy Minister for Skills will provide the full Welsh Government response to the remaining 41 recommendations of the Review in January 2013\.  
Translate the text from Welsh to English.
Ym mis Ionawr cyhoeddais fy mod yn bwriadu dod â’r darpariaethau yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i rym ar 15 Gorffennaf 2022\.  Fodd bynnag, dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi derbyn nifer o sylwadau gan landlordiaid, yn enwedig landlordiaid cymdeithasol, sydd wedi gofyn am oedi cyn gweithredu’r Ddeddf. O’r herwydd, ac yn sgil y pwysau digynsail, gan gynnwys adfer ar ôl COVID a chymorth i’r rhai sy’n ffoi o’r rhyfel yn Wcráin, rwyf wedi penderfynu gohirio gweithredu’r Ddeddf hyd 1 Rhagfyr 2022\. Bydd hyn yn rhoi rhagor o amser i landlordiaid gwblhau’r gwaith paratoi sydd ei angen cyn i’r Ddeddf gael ei gweithredu. Yn anaml iawn y gwelir y math o ddiwygio llwyr y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn arwain ato – unwaith mewn cenhedlaeth efallai. Rwyf am wneud popeth yn fy ngallu i sicrhau bod gan landlordiaid ddigon o amser i wneud y gwaith paratoi sydd ei angen i gydymffurfio â gofynion y Ddeddf. Rwy’n gwerthfawrogi y bydd yr oedi hwn, er ei fod yn gymharol fyr, yn destun rhwystredigaeth i rai o’n partneriaid, yn enwedig y rheini sy’n awyddus i weld yr amddiffyniadau gwell y bydd y Ddeddf yn eu darparu. Rwy’n rhannu’r rhwystredigaeth honno, ond rwy’n cydnabod bod paratoi contractau ar gyfer tenantiaid newydd a sicrhau bod yr adeiladau’n bodloni’r safonau addasrwydd a amlinellir yn y ddeddfwriaeth yn peri cryn waith – yn enwedig ar gyfer y landlordiaid hynny sy’n gyfrifol am lawer o adeiladau. Rwyf hefyd yn derbyn y byddai’n fuddiol i landlordiaid o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus, yn ogystal ag asiantiaid gosod a rhanddeiliaid eraill, gael amser ychwanegol i ymgyfarwyddo â’r gwahanol ddarnau o is\-ddeddfwriaeth – y bydd y gyfres olaf ohonynt yn cael eu gwneud ym mis Gorffennaf – cyn i’r Ddeddf ddod i rym.  Rwy’n cydnabod yn llawn y problemau mae newid o’r hen system gyfarwydd i fframwaith deddfwriaeth hollol newydd yn eu peri i landlordiaid ledled Cymru. Yn enwedig mewn cyfnod lle rydym yn parhau i ymdrin â sgil\-effeithiau’r pandemig, a lle rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i groesawu pobl sy’n ffoi o’r rhyfel yn Wcráin i Gymru.  Er hynny, rwy’n hollol siŵr y bydd y diwygio hwn yn arwain at lawer o fanteision hirdymor i landlordiaid a’r rhai sy’n rhentu eu cartref.     Mae canllawiau ac adnoddau eraill ar gyfer landlordiaid a thenantiaid ar gael drwy wefan Rhentu Cartrefi Cymru.
In January I announced my intention to bring into force the provisions of the Renting Homes (Wales) Act 2016 on 15 July 2022\.  However, I have over recent months received representations from landlords, and particularly social landlords, who have requested that implementation of the Act be delayed.  As such, and in the light of the unprecedented pressures they face, including Covid recovery and supporting those who are fleeing the war in Ukraine, I have decided to postpone implementation of the Act until 1st December 2022\.  This will allow more time for landlords to complete the necessary preparations ahead of implementation. Wholesale reform of the type that the Renting Homes (Wales) Act is bringing about happens only very rarely \- perhaps once in a generation.  I want to do all I can to ensure landlords have adequate time to make the necessary preparations to comply with the requirements of the Act. I appreciate that this delay, relatively short though it is, will be a source of frustration to some of our partners, especially those who are anxious to see the enhanced protections for tenants the Act will deliver. I share those frustrations, but I recognise that preparing new occupation contracts and ensuring that properties meet the fitness standards set out in the legislation are major undertakings, particularly for those landlords responsible for a large number of properties and tenants.  I also accept that landlords from both private and public sectors, as well as letting agents and other stakeholders, would benefit from additional time to familiarise themselves with the various pieces of subordinate legislation – the final tranche of which are due to be made in July – before commencement.  I fully acknowledge the disruption that moving from the old familiar system to a brand new legislative framework is causing for landlords across Wales, particularly in a period where we are still having to deal with the aftershocks of the pandemic and where we are doing all we can to welcome to Wales people fleeing the conflict in Ukraine.  I am, though, absolutely certain that that this reform will bring huge long\-term benefits to landlords and to those renting their homes.    Guidance, and other resources for landlords and tenants can be accessed via the Renting Homes Wales website.
Translate the text from English to Welsh.
Giving evidence to the House of Commons’ Welsh Affairs Committee, Economy Minister, Vaughan Gething and Finance and Local Government Minister, Rebecca Evans will say they remain open to the idea of having a Freeport in Wales, and are prepared to explore the use of devolved planning, business support and tax powers to ensure any Freeports in Wales deliver on the Welsh Government’s priorities, including its commitments to fair work and safeguarding the environment. However, despite Welsh Ministers clearly setting out the conditions where a joint approach could be taken, no formal offer has been presented by the UK Government to the Welsh Government on a proposed Freeport in Wales. The Ministers will tell the Committee that the Welsh Government is willing to work constructively with the UK Government. In February, Ministers wrote to the Chancellor of the Exchequer to discuss a proposal for a Freeport. Over five months later, the Chancellor has yet to respond. Ministers have written to the Chief Secretary to the Treasury and the Secretary of State for Wales this week to again set out the conditions where a joint approach could be taken. Ministers have been clear that the Welsh Government cannot accept a proposal where a Welsh Freeport would receive less financial support than the £25 million made available for Freeports in England. Speaking ahead of the committee hearing, Economy Minister, Vaughan Gething said: > “We remain open to the idea of having a Freeport in Wales, but creating one here would require the use of devolved powers. However, as it stands, the UK Government has not agreed to our request for joint decision making, and no appropriate funding has been offered. > > > “We have repeatedly pressed UK Ministers for constructive engagement. The lack of clarity about implementing Freeports in Wales, a policy driven by the UK Government, is destabilising business decisions in an already exceptionally uncertain economic environment, and is having a direct impact on investment decisions. Furthermore, their decision to announce specific Freeports for England, without concluding arrangements for Wales, gives rise to the potential for jobs and investment to be drawn out of Wales. > > > “Until the UK Government responds to us and presents us with a formal offer, the ball remains firmly in the UK Government’s court. > > > “Our message to the UK Government is clear – the Secretary of State for Wales’ suggestion that the UK Government could impose a Freeport in Wales without our agreement would result in a worse outcome for everyone. The UK Government need to work with us, not against us. Finance and Local Government Minister, Rebecca Evans added: > “It would be entirely unacceptable for any Welsh Freeport to receive a penny less than the £25 million the UK Government is providing for each Freeport in England.  It would mean a Welsh Freeport would be immediately disadvantaged in comparison to English counterparts, or would require the Welsh Government to divert millions of pounds away from other priorities to fund a UK Government commitment. > > > “If the UK Government sought to implement the Freeports policy in Wales without our support, it could only be achieved without the devolved levers, which would be an immediately less attractive and competitive offer compared with those in England. > > > “It would be incredibly disappointing if Wales were to receive a worse offer purely because the UK Government were unwilling to work constructively with us.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin, bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, yn dweud eu bod yn dal i fod yn agored i’r syniad o sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru, a’u bod yn barod i ddefnyddio pwerau cynllunio, cefnogi busnesau a threthu datganoledig i sicrhau y byddai unrhyw Borthladd Rhydd yng Nghymru’n cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ei hymrwymiadau i waith teg a diogelu’r amgylchedd. Fodd bynnag, er bod Gweinidogion Cymru wedi nodi'n glir eu hamodau ar gyfer cydweithio, nid yw Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynnig ffurfiol i Lywodraeth Cymru ar Borthladd Rhydd yng Nghymru. Bydd y Gweinidogion yn dweud wrth y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn fodlon gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU. Ym mis Chwefror, ysgrifennodd y Gweinidogion at Ganghellor y Trysorlys i drafod cynnig ar gyfer Porthladd Rhydd. Dros bum mis yn ddiweddarach, nid yw'r Canghellor wedi ateb. Mae’r Gweinidogion wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wythnos hon i nodi eto eu hamodau ar gyfer cydweithio. Mae’r Gweinidogion wedi dweud yn glir na fyddai Llywodraeth Cymru’n barod i ystyried cynnig i sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru a fyddai’n cael llai na'r £25 miliwn o gymorth ariannol sydd ar gael i Borthladdoedd Rhydd yn Lloegr. Wrth siarad cyn gwrandawiad y pwyllgor, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: > "Rydym yn dal i fod yn agored i'r syniad o sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghymru, ond er mwyn creu un yma, rhaid defnyddio pwerau datganoledig. Ond, fel y mae pethau, nid yw Llywodraeth y DU wedi cytuno i'n cais i wneud penderfyniadau ar y cyd, ac nid oes unrhyw gyllid priodol ychwanegol wedi'i gynnig inni. > > > "Rydym wedi gofyn sawl gwaith i Weinidogion y DU am drafodaeth adeiladol. Mae'r diffyg eglurder ynghylch Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, polisi sy’n eiddo i Lywodraeth y DU, yn ansefydlogi penderfyniadau busnes mewn amgylchedd economaidd sydd eisoes yn eithriadol o ansicr, gan gael effaith uniongyrchol ar benderfyniadau buddsoddi. At hynny, gall eu penderfyniad i gyhoeddi Porthladdoedd Rhydd penodol ar gyfer Lloegr, heb benderfynu ar drefniadau ar gyfer Cymru, beryglu swyddi a chynlluniau buddsoddi yng Nghymru. > > > “Tan y cawn ymateb gan Lywodraeth y DU a chynnig ffurfiol ganddi, mae'r bêl yn dal i fod yn nwylo Llywodraeth y DU. > > > "Mae ein neges i Lywodraeth y DU yn glir – gallai awgrym Ysgrifennydd Gwladol Cymru y gallai Llywodraeth y DU orfodi Porthladd Rhydd ar Gymru heb ein bendith arwain at ganlyniad gwaeth i bawb. Mae angen i Lywodraeth y DU weithio gyda ni, nid yn ein herbyn. Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans: > "Byddai'n gwbl annerbyniol i unrhyw Borthladd Rhydd yng Nghymru dderbyn ceiniog yn llai na'r £25 miliwn y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i bob Porthladd Rhydd yn Lloegr.  Byddai'n golygu y byddai Porthladd Rhydd yng Nghymru o dan anfantais o’r funud gyntaf o'i gymharu â phorthladdoedd tebyg yn Lloegr, a byddai'n gorfodi Llywodraeth Cymru i gymryd miliynau o bunnau oddi wrth flaenoriaethau eraill i ariannu un o ymrwymiadau Llywodraeth y DU. > > > "Pe bai Llywodraeth y DU yn ceisio gweithredu'i pholisi ar Borthladdoedd Rhydd yng Nghymru heb ein cefnogaeth ni, byddai’n rhaid iddi wneud hynny heb y mecanweithiau datganoledig ac o’r cychwyn cyntaf, byddai hynny’n gwneud y cynnig yn llai deniadol a chystadleuol na’r rheini yn Lloegr. > > > "Byddai'n hynod siomedig pe bai Cymru'n cael cynnig gwaeth dim ond am fod Llywodraeth y DU yn amharod i weithio'n adeiladol gyda ni.
Translate the text from Welsh to English.
Cynhaliwyd rhith\-ddigwyddiadau yn 2020 a 2021 ond eleni, bydd ffermwyr o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd unwaith eto ar gyfer un o'r sioeau amaethyddol mwyaf yn Ewrop. Dywedodd y Gweinidog: > Dw i’n gwybod nad fi yw’r unig un sy’n edrych ’mlaen yn fawr at y Sioe Frenhinol eleni.  Mae’n arbennig bob amser ond mae hynny’n fwy gwir nag arfer eleni wrth inni ddod at ein gilydd am y tro cyntaf ers tair blynedd. Allwn hi ddim gorbwysleisio pwysigrwydd y Sioe Frenhinol yng nghalendr cymdeithasol y Gymru wledig, a gwn fod peidio â chael mynd i’r Sioe a pheidio â gweld ffrindiau ers 2019 wedi bod yn anodd i lawer. Rydyn ni’n falch o gefnogi Cymdeithas Frenhinol Cymru eto eleni. > > > Yn ogystal â dathlu bywyd cefn gwlad, byddwn ni hefyd yn dod at ein gilydd ac yn trafod yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau. Yn ddiweddar, cyhoeddais i amlinelliad o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy rydyn ni’n bwriadu’i gyflwyno. Y prif ffocws imi yn y Sioe yw siarad â phobl am y cynigion hynny, sydd â’r nod o gryfhau'r diwydiant ffermio a'n cymunedau gwledig, a galluogi’n ffermwyr i fynd i'r afael â’r heriau'r sy’n gysylltiedig â’r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd, ac i addasu er mwyn ymdopi â nhw. > > > Yr argyfwng hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i ddiogelwch bwyd, yn fyd\-eang ac yma yng Nghymru. Drwy weithio gyda'n gilydd, ac ystyried sut gallwn ni gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gallwn ni sicrhau dyfodol llwyddiannus i'r diwydiant ffermio. Bydd Pafiliwn Llywodraeth Cymru yn y Sioe yn ganolbwynt i'r trafodaethau hyn, a dw i'n edrych ymlaen at glywed barn pobl. > > > Mae cynnyrch o Gymru mewn sefyllfa dda i fod yn un o’r rheini sy’n arwain yn fyd\-eang ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Bydd llawer o enghreifftiau o'r bwyd rhagorol rydyn ni’n ei gynhyrchu yma yng Nghymru yn cael eu harddangos yn y Sioe Frenhinol, a dw i am weld y diwydiant hwn yn mynd o nerth i nerth.  > > > Rydyn ni i gyd yn gwybod am y rhybudd tywydd Oren prin ynglŷn â’r tymheredd eithriadol o uchel ar hyn o bryd. Hoffwn i annog pawb sy'n dod i fwynhau'r Sioe i gymryd gofal ychwanegol yn y gwres – yn enwedig pobl hŷn, plant ifanc iawn, a phobl â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes. > > > Cofiwch yfed digon o ddŵr a defnyddiwch y gorsafoedd dŵr, gan gynnwys yr un ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru. Treuliwch amser yn y cysgod a diogelwch eich hun rhag yr haul.  > > > Yn fwy na dim, bydd y Sioe yn ddigwyddiad cymdeithasol i lawer o bobl, a gobeithio y bydd pawb yn cael y cyfle i fwynhau'r digwyddiad gorau yn y calendr gwledig. Mae'n bleser gweld y Sioe yn ôl.
The Royal Welsh Show is particularly special this year, as it takes place in person for the first time in three years, at an important time when we look at securing the long\-term future of the farming industry and rural communities across Wales Minister for Rural Affairs Lesley Griffiths said ahead of the event. Virtual events were held in 2020 and 2021 but this year farmers from across Wales will come together once more for one of the largest agricultural shows in Europe. The Minister said: > I know I’m not alone to be very much looking forward to this year’s Royal Welsh.  It’s always special but especially this year as we come together for the first time in three years.  The importance of the Royal Welsh in the social calendar of rural Wales cannot be overstated, and I know it has been hard for many not to attend and see friends since 2019\.  We’re pleased to support the Royal Welsh Society again this year. > > > As well as celebrating rural life we will also come together and discuss the challenges and opportunities ahead. I recently published a proposed outline of the Sustainable Farming Scheme.  The primary focus for me at the show is to talk to people about these proposals, which aim to strengthen the farming industry and our rural communities,  and enable our farmers to tackle, and adapt to the challenges of the nature and climate emergencies > > > The climate emergency is the biggest threat to food security globally and here in Wales.  By working together, and looking at how we can produce food sustainably we can secure a successful future for the farming industry.  The Welsh Government Pavilion at the Show will be a hub for these discussions, and I’m looking forward to hearing people’s views. > > > Welsh produce is well placed to be one of the global leaders in sustainable food production.  There will be many examples of the excellent food we produce here in Wales on display at the Royal Welsh, and I want to see this industry go from strength to strength.  > > > We are all aware of the rare Amber weather warning for exceptionally high temperatures at the moment.  I would urge everyone coming to enjoy the Show to take extra care in the heat – particularly older people, very young children, and people with pre\-existing medical conditions. > > > Keep hydrated and use the free water stations including the one in the Welsh Government Pavilion. Spend time in the shade and protect yourself from the sun.  > > > More than anything the Show will be a social event for many people, and I hope everyone has the opportunity to enjoy what is the greatest event in the rural calendar.  It’s a pleasure to see it back again.
Translate the text from Welsh to English.
* Prosiect olaf o blith 11 gyrchfannau gwerth eu gweld ar draws Cymru * Buddsoddiad o £62 miliwn yn y diwydiant twristiaeth hyd 2020\. Dyma’r prosiect olaf i gael ei gymeradwyo fel rhan o raglen o welliannu cyrchfannau twristiaeth ar draws Cymru. Mae cyllid yr UE yn cael ei fuddsoddi drwy raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei harwain gan Croeso Cymru, a'r nod yw creu 11 o gyrchfannau, a fydd wir yn werth eu gweld. Mae'r ganolfan newydd yn ychwanegol at y buddsoddiad a wnaed yn Harbwr Saundersfoot gyda chymorth cyllid gan yr UE. Mae'r prosiect hwn yn brosiect trawsnewidiol ar gyfer Sir Benfro a De Cymru a fydd yn cynnig rhaglen o'r radd flaenaf o weithgareddau a digwyddiadau a hefyd atyniadau ar gyfer pob tywydd. Bydd hyn yn sicr yn creu enw i Saundersfoot fel cyrchfan ddeniadol iawn i dwristiaid. Bydd Canolfan Arfordirol Rhyngwladol Cymru'n cynnwys pedwar datblygiad cysylltiedig. Y Ganolfan Ragoriaeth Arfordirol a Chanolfan Stormydd Arfordirol; Dec Digwyddiadau Cenedlaethol; Canolfan i’r  Celfyddydau a’r  Schooner – llong hamdden dal hanesyddol. Mae rhai o'r datblygiadau hyn yn ddibynnol ar ganiatâd cynllunio. Canolfan Arfordirol Rhyngwladol Cymru yw'r olaf o'r 11 cyrchfan i dderbyn cadarnhad o ran cyllid. Bydd £62 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y sector twristiaeth dros y tair blynedd nesaf yn sgil y prosiect Cyrchfannau Denu Twristiaid. Mae hyn yn cynnwys y £27\.7 miliwn o gyllid Ewropeaidd. Mae'r datblygiadau'n mynd rhagddynt ym mhob un o'r 11 o gyrchfannau, gyda'r nod o gwblhau pob prosiect erbyn mis Chwefror 2021\. Mae'r 10 cyrchfan arall sy'n elwa o'r cyllid hwn yn cynnwys Caernarfon; Caergybi;  Pentywyn;  Porthcawl;  Camlas Mynwy ac Aberhonddu; Llys y Fran; Rheilffordd Dyffryn Rheidol;  Bae Colwyn; Venue Cymru, Llandudno; a'r Ganolfan Summit, Merthyr Tudful. Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis\-Thomas: > “Nod ein rhaglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth yw hoelio sylw, ymdrechion a chyllid ar brosiectau allweddol ym mhob rhanbarth, er mwyn cael effaith go iawn ar broffil Cymru yn y farchnad fyd\-eang, sy’n un mor gystadleuol.  Dyma hwb ariannol sylweddol i'r sector a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran y cynhyrchion a'r profiadau y gall Cymru eu cynnig. > > “Y nod yw i'r cyrchfannau hyn roi rheswm cryf i bobl ymweld â Chymru neu aros yn y wlad ar eu gwyliau. Drwy ddenu ymwelwyr i'r safleoedd allweddol hyn bydd yr ardaloedd ehangach hefyd yn elwa ar fuddsoddiad pellach mewn busnesau a bydd yn sicrhau canlyniadau allweddol o ran swyddi ac adfywio. > > “Mae twristiaeth yn un o'n sectorau allweddol ac mae'n creu £8\.7 biliwn ar gyfer economi Cymru ac yn cyflogi 15% o'r gweithlu.  Ni allwn laesu dwylo, a'n nod yw aros yn gystadleuol mewn marchnad fyd\-eang sy'n newid yn gyflym. Bydd prosiectau fel y rhain yn sicrhau y gallwn barhau i gystadlu'n fyd\-eang." Bydd y prosiect yn hwb sylweddol i dwristiaid yn Sir Benfro a'r nod yw creu cyrchfan o'r radd flaenaf yn Saundersfoot a fydd yn cynnig atyniadau ar gyfer pob tywydd a hefyd rhaglen a fydd yn cynnig digwyddiadau a gweithgareddau o safon uchel gydol y flwyddyn. Dywedodd Bradley Davies, Rheolwr Masnachol Harbwr Saundersfoot:  > "Mae nifer yr ymwelwyr â'r ardal wedi cynyddu'n sylweddol ers i'r datblygiadau cynharach gael eu cwblhau. Rydym yn edrych ymlaen at allu cynnig rhywbeth holl newydd a gwahanol i ymwelwyr ac i bobl leol.”
* Final sign off of funding for improvements to 11 ‘must\-visit’ destinations across Wales. * Investment of £62 million in the tourism industry up until 2021\. This is the final project to receive the go ahead under a programme of tourism destination improvements across Wales. The EU funding is being invested through the Welsh Government’s Tourism Attractor Destination programme, led by Visit Wales, which aims to develop 11 must see destinations. The new centre in Saundersfoot builds on previous EU funding for investment in Saundersfoot as part of an ambitious development programme. The project is a transformational development for both Pembrokeshire and South Wales offering a high quality activity and events programme, with all\-weather attractions and establishing Saundersfoot as a must see tourism destination for the region. It will establish new water activity venues and family activity facilities that complement and strengthen the Port’s current leisure and commercial maritime operation.   The Wales International Coastal Centre will comprise of four linked developments: Marine Centre of Excellence and Coastal Storm Centre; National Events Deck; Ocean Square Heritage \& Arts Centre; Coastal Schooner \- historic tall ship recreation. Some of these developments are subject to planning. The Wales International Coastal Centre is the final of 11 destinations to get the green light for funding.  The Tourism Attractor Destination project will see £62 million investment in the tourism sector over the next three years, including £ 27\.7 million of European funding.   Developments are well underway in all 11 destinations with the aim of all projects completing by February 2021\. The other 10 destinations benefiting from this funding include Caernarfon; Holyhead; Pendine; Porthcawl; Monmouthshire and Brecon Canal; Llys y Fran; Vale of Rheidol; Colwyn Bay; Venue Cymru, Llandudno; and the Summit Centre, Merthyr Tydfil. Minister for Culture Tourism and Sport, Lord Elis\-Thomas, said:  > “Our aim through the Tourism Attractor Destination programme is to focus efforts and investment on key projects in each region so we have a real impact on Wales’ profile in this globally competitive market, this represents a huge funding boost for the sector, which will make a real difference to the products and experiences that Wales has to offer.   > > “The aim is for these destinations to develop as attractors and give compelling reasons for people to visit Wales or stay in Wales for a holiday. By attracting visitors to these key sites, the surrounding area will also benefit from further business investment and deliver key outcomes in terms of employment and regeneration. > > “Tourism is one of our key sectors and generates £8\.7 billion for the Welsh economy and employs 15% of the workforce. Our mission is to remain competitive in a very rapidly changing global market\-place. Projects such as these will ensure that we can continue to compete on the world stage.” The project will provide a significant boost to tourism in Pembrokeshire and the aim is to create a must see destination in Saundersfoot that will provide wet weather attractions and a high quality programme of events and activities throughout the year. Bradley Davies, Commercial Manager of Saundersfoot Harbour, said:  > “We’ve seen a big increase in footfall to the area since the completion of the earlier developments, and we look forward to bringing something completely new and different to visitors and locals alike.”
Translate the text from English to Welsh.
Welsh Ministers have serious concerns about the UK government’s EU Withdrawal Bill, which, as currently drafted, allows the UK government to take control of devolved policy areas, such as farming and fishing, once the UK has left the EU. Assembly members are being asked to consider the introduction of the Continuity Bill as an emergency bill, which seeks to transfer EU law in areas already devolved to Wales into Welsh law on the day the UK leaves the EU. This will provide Welsh businesses with the legal certainty and stability they have long called for. The Welsh Government’s preference remains for the UK government to amend their proposed EU Withdrawal Bill. But, as so much time has passed without any agreement between the governments on the amendments required, they need to proceed with the Continuity Bill as a fall\-back option to protect Welsh devolution. First Minister Carwyn Jones said: > “The EU Withdrawal Bill , as currently drafted, would allow the UK government to take control of laws and policy areas that are devolved. This is simply not acceptable to the Welsh Government, or the people of Wales who have voted for devolution in 2 referendums. > > > “Decisions taken now will affect Wales for decades to come. It is vital these decisions are made in a way that respects devolution. > > > “We remain constructive partners in talks with the UK government about changes to their EU Withdrawal Bill – and this remains our preferred outcome. However, we are running out of time and have developed our bill to prepare for a situation where the UK government does not adequately amend its bill to respect the devolution settlement. > > > “It would be irresponsible to refuse to give legislative consent to the UK government’s bill while also not being prepared to put in place our own measures to give clarity about EU\-derived law in Wales relating to devolved matters. > > > “Let me be clear, our bill will not be an attempt to frustrate or block Brexit. We are simply seeking to protect the current devolution settlement for Wales, while making sure there is legal certainty when the UK leaves the EU. This what Welsh businesses are calling for. > > > “The vote to leave the EU was not a vote to reverse devolution. The current devolution settlement in Wales has been backed by 2 referendums – in 1997 and 2011\. This bill is about respecting the will of the people of Wales.”
Mae pryderon difrifol gan Weinidogion Cymru am Fil Llywodraeth y DU i Ymadael â'r UE sydd, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn caniatáu i Lywodraeth y DU gymryd rheolaeth dros feysydd polisi datganoledig fel ffermio a physgota ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Gofynnir i Aelodau'r Cynulliad ystyried cyflwyno'r Bil Parhad fel Bil Brys, i geisio trosglwyddo Cyfraith yr UE mewn meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli i fod yn rhan o gyfraith Cymru ar y diwrnod y bydd y DU yn ymadael â'r UE. Bydd hyn yn rhoi i fusnesau Cymru'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd cyfreithiol y maent wedi bod yn galw amdanynt gyhyd. Yr opsiwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio o hyd yw i Lywodraeth y DU ddiwygio ei Bil Ymadael arfaethedig. Ond gan fod cymaint o amser wedi pasio heb unrhyw gytundeb rhwng y llywodraethau ar y diwygiadau gofynnol, mae angen bwrw ymlaen â'r Bil Parhad fel ail ddewis i amddiffyn datganoli yng Nghymru.  Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:  > "Byddai'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn caniatáu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd rheolaeth dros gyfreithiau a meysydd polisi sydd wedi'u datganoli. Dydy hyn ddim yn dderbyniol o gwbl i Lywodraeth Cymru, nac i bobl Cymru sydd wedi pleidleisio dros ddatganoli mewn dau refferendwm.  > > > > > "Bydd y penderfyniadau a wneir yn awr yn effeithio ar Gymru am ddegawdau i ddod. Mae'n hanfodol i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud mewn ffordd sy'n parchu datganoli.   > > "Rydyn ni’n parhau i fod yn bartneriaid adeiladol mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am newidiadau i'w Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd \- a dyna'r dewis rydyn ni'n ei ffafrio o hyd. Fodd bynnag, mae amser yn brin, ac rydyn ni wedi datblygu ein Bil ein hunain i baratoi ar gyfer sefyllfa lle nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn diwygio ei Bil Ymadael yn ddigonol i barchu'r setliad datganoli. > > "Byddai'n anghyfrifol gwrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol i Fil Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb fod yn barod i osod ein mesurau ein hunain yn eu lle i roi eglurder am gyfraith sy'n deillio o'r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru yn ymwneud â materion datganoledig. > > "Gadewch i mi ddweud yn glir, ni fydd ein Bil yn ymgais i rwystro nac atal Brexit. Yr unig beth rydyn ni'n ceisio ei wneud yw amddiffyn y setliad datganoli presennol i Gymru, gan wneud yn siŵr bod sicrwydd cyfreithiol pan fydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dyma mae busnesau Cymru yn galw amdano.  > >   > > "Doedd y bleidlais dros ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ddim yn bleidlais dros wyrdroi datganoli. Mae'r setliad datganoli presennol yng Nghymru wedi cael cefnogaeth mewn dau refferendwm \- yn 1997 a 2011\. Nod y Bil hwn yw parchu ewyllys pobl Cymru."
Translate the text from Welsh to English.
Ar hyn o bryd mae gan holl ysgolion Cymru gysylltiad band eang â chyflymder o 10Mbps o leiaf ar gyfer ysgolion cynradd a 100Mbps ar gyfer ysgolion uwchradd. Serch hynny, mae cyfyngiadau technegol yn golygu nad yw rhai ysgolion yn gallu gwella cyflymder eu gwasanaethau i fodloni galw cynyddol amdanynt. Ym mis Tachwedd 2016, neilltuwyd buddsoddiad o £5 miliwn a fydd yn talu am osod gwasanaethau band eang newydd. Bydd hyn yn darparu cynnydd yn y cyflymder yn syth ac yn sicrhau y bydd cysylltedd yn parhau i dyfu ymhell i'r dyfodol, yn yr un modd â'r ddarpariaeth mewn ysgolion eraill. Mae archebion am y gwasanaeth newydd wedi dechrau cael eu gosod a disgwylir i'r archeb gyntaf gael ei chyflenwi yn gynnar ym mlwyddyn academaidd 2017/18\. Roedd rhoi blaenoriaeth i gysylltiadau band eang cyflym iawn i ysgolion yn rhan allweddol o'r cytundeb blaengar rhwng Prif Weinidog Cymru a Kirsty Williams. Mae newidiadau i'r cwricwlwm yn golygu y bydd sgiliau digidol yn cael eu haddysgu a'u datblygu ym mhob rhan o addysg disgyblion bellach, ac na fyddant yn cael eu cyfyngu i wersi TGCh a Chyfrifiadureg penodol yn unig. Mae'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn golygu mwy na defnyddio cyfrifiaduron. Ei nod yw rhoi'r sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt i ddisgyblion er mwyn iddyn nhw allu eu defnyddio yn y byd go iawn yn y dyfodol. Dywedodd Kirsty Williams: > "Dw i wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob un o'n hysgolion y seilwaith sydd ei angen i baratoi disgyblion ar gyfer y byd cyfoes. Dyna pam dw i wedi cyhoeddi gwerth £5 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i sicrhau bod gan ein holl ysgolion gysylltiad band eang cyflym iawn fel gofyniad sylfaenol a dw i wrth fy modd y bydd 341 o ysgolion yn elwa ar hyn. > > "Mae gwneud yn siŵr fod gan bob ysgol, ni waeth lle mae hi, gysylltiad band eang cyflym iawn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi. Rydyn ni'n gwybod y bydd y galw am gyflymder o ran cysylltiadau band eang mewn ysgolion yn parhau i gynyddu.  Mae'n gwbl annerbyniol i ysgol weithredu o dan anfantais sylweddol oherwydd cysylltiad araf â'r rhyngrwyd. Byddaf yn parhau i sicrhau bod yr amgylchedd cywir gan ein disgyblion i ddatblygu eu sgiliau digidol hanfodol a pharhau i godi safonau." Datgelodd yr Ysgrifennydd Addysg hefyd fod mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o Hwb, y platfform dysgu digidol, sydd wedi'i gynllunio i ddarparu gwell mynediad i holl ddisgyblion ac athrawon Cymru at amrywiaeth o gyfarpar ac adnoddau ar\-lein a ariennir yn ganolog.  Ym mis Mawrth, edrychwyd ar dudalennau dros 3\.2 miliwn o weithiau a mewngofnodwyd i'r safle dros 28 mil o weithiau bob dydd ar gyfartaledd, sydd gryn dipyn yn uwch na'r hyn a ddisgwylid ar y dechrau.  Mae datblygiadau diweddar i Hwb wedi darparu gwell profiad i athrawon a dysgwyr, gan ei gwneud yn bosibl i gael gafael ar y cyfarpar ac adnoddau a ddefnyddir amlaf yn gyflymach. Datblygwyd y newidiadau yn sgil sylwadau gan athrawon.
Currently all schools in Wales have minimum broadband connections of 10Mbps for primary schools and 100Mbps for secondary schools, but some are not able to upgrade the speed of their services to meet ever increasing demand as a result of technical limitations. In November 2016, £5 million of investment was made available that will cover the installation of new broadband services. This will provide an immediate increase in speed and in line with provision at other schools ensure that connectivity will continue to grow well into the future. Orders for the new services have started to be placed with the first delivery expected early in the academic year 2017/18\. Prioritising schools’ access to superfast broadband was a key part of the progressive agreement between the First Minister and Kirsty Williams. Changes to the curriculum mean digital skills will now be developed and taught through all parts of a pupil’s schooling and not just isolated to specific ICT or computer science classes. The Digital Competence Framework means more than just using computers and aims to equip pupils with the digital skills they need and can apply in the real world in the years to come. Kirsty Williams said: > “I am committed to making sure all our schools have the infrastructure needed to prepare pupils for the modern world. That is why I announced £5 million of extra investment to make sure all our schools have superfast broadband speeds as a minimum and I am delighted 341 schools will benefit from this. > > “Making sure every school, no matter where they are based, has access to superfast broadband remains a priority for me. We know demand for broadband speed in schools will continue to increase.  It is simply unacceptable for a school to be at a significant disadvantage due to poor internet speeds. I will continue to make sure our pupils have the right environment to develop their vital digital skills and continue to raise standards.” The Education Secretary has also revealed that the use of the Hwb digital learning platform, which is designed to provide all pupils and teachers in Wales with greater access to a centrally\-funded range of online tools and resources, is increasing.  In March Hwb received over 3\.2 million page views and averaged over 28 thousand logins each day which has significantly exceeded original expectations. Recent developments to Hwb have delivered an enhanced experience for teachers and learners, giving quicker access to the tools and resources that are most commonly used. The changes were developed following feedback from teachers.
Translate the text from English to Welsh.
The Programme for Government includes important commitments to improve public access to Wales’ wonderful outdoors, in particular for families and young children; and to improve rights of way and create a Wales Coast Path.   In July 2013 I launched a review of legislation relating to access and outdoor recreation with a view to finding ways of increasing opportunities for people to enjoy the outdoors and all the social and economic benefits this can bring.   This Statement provides Assembly Members with an update on developments in outdoor recreation and how we will build on this during  the remainder of this Assembly term. The initial pre\-consultation period allowed interested groups to state their views and facilitated important discussions and consideration of the issues involved.  A wide range of views were expressed on all the matters covered by the review, including rights of way and access to water.  More work is required including further evidence gathering before we should decide the way forward.  However it is already clear that:   * On land, there is a need to improve our rights of way network and make the associated legislative framework on access more effective; * On water, there is a need to see an increase in the number of voluntary access agreements providing for a range of recreational activities.   We will therefore publish a Green Paper on improving public access to land and seeking better facilitation of voluntary access to water.  We do not plan to pursue primary legislation in this Assembly Term. Rights of way are very important to our local communities providing easy access to the local countryside and contributing millions to the Welsh economy each year. Since 2008/9 the Welsh Government has invested £8\.9 million to help local authorities to implement their rights of way improvement plans. The funding has contributed to improving approximately 6,801km, 21% of the 33,000km network in Wales.  Projects in 2013/14 included a good number of improvements to cater specifically for the needs of those with mobility problems.  For example in Bangor the Authority has replaced old existing kissing gates with new wider self\-closing gates; and in Merthyr they have extended provision for people with mobility issues by installing five recreational picnic bench areas with pushchair and wheelchair access. I have committed a further £1 million of capital funding for 2014/15\.   During the review there was strong support for the need to simplify and modernise the legislative framework for rights of way.   I have instructed officials to implement changes that will go some way to easing pressures on local authorities in relation to rights of way, including updating guidance and reviewing existing secondary legislation.  I intend to issue updated guidance to local authorities on producing rights of way improvement plans within 12 months and in time for the ten\-yearly review of those plans due in 2017\.     The review underlined considerable divergence  of views between the different groups who use water for leisure purposes.   Welsh Government continues to encourage and facilitate voluntary access agreements.  Over 2013/14 the Welsh Government invested a further £460k in facilitating access to inland water through the Splash fund.  This has enabled projects such as the lakeside access improvements at Breakwater Country Park in Anglesey to increase water edge access for all and create new and improved disability angling opportunities on the lake. In 2014/15 it is my intention to review the way in which funding is allocated through Splash to improve its effectiveness.   It has been two years since the very successful launch of the Wales Coast Path.  Over the past year local authorities, in partnership with Natural Resources Wales have been making further improvements in the alignment of the route and in the provision of information along the way.  For example, in Gwynedd the Pont Tonfannau Bridge, a 50m long steel bridge over the River Dysynni installed at Tywyn has removed an 8 mile diversion.  Along with improvements to alignment there are opportunities to create circular routes linking with the path.   Since 2008 the Welsh Government has invested over £11\.5 million in its creation and in addition to the £1\.1 million I have committed for further development in 2014/15, the Minister for Economy, Science and Transport has committed £250k towards repairs following the devastating storms earlier this year.  In its first two years the Wales Coast Path has generated over £32 million of expenditure into the Welsh economy. And in July 2013 the Wales Coast Path was the overall winner of the Royal Town Planning Institute (RTPI) Awards for Planning Excellence, the premier awards for planning in the UK. Throughout this month of May we are celebrating the anniversary of the coast path’s completion and launch. It is my intention to build on these events with increased focus, promotion and activity for future anniversaries.  In general we will work to strengthen promotion and profile recognising the considerable success to date and further potential. Natural Resources Wales has been working on the decadal review of access maps under the Countryside and Rights of Way Act 2000 \[“CRoW”].  In the short to medium term it is my intention to look at ways to make this process simpler and more pro\-active in future for the benefit of both users and landowners.  Publically accessible land under CRoW provides significant opportunities for walkers to enjoy the outdoors and is a key attribute to consider in the context of the wider picture of improving access. Natural Resources Wales will shortly issue its Outdoor Recreation and Access Strategic Statement.  We will continue our close partnership with NRW in delivering greater opportunities to access the outdoors. We are supporting a wide\-ranging access agenda and have made significant progress over recent years.  I want to build on this during the remainder of this Assembly term and continue the progress achieved across Welsh Government in  developing Wales as a leader in outdoor recreation provision.  The Green Paper will enable further engagement to inform and help shape our policy and actions over the next two years and our ideas and plans for the next Assembly.  
Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiadau pwysig i wella mynediad cyhoeddus i awyr agored rhyfeddol Cymru, yn arbennig i deuluoedd a phlant ifanc; ac i wella hawliau tramwy a chreu Llwybr Arfordir Cymru. Ym mis Gorffennaf 2013, lansiais adolygiad o ddeddfwriaeth ar fynediad a hamdden awyr agored gyda'r nod o ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu cyfleoedd i bobl fwynhau'r awyr agored a'r holl fanteision economaidd a chymdeithasol cysylltiedig.   Mae'r Datganiad hwn yn rhoi'r diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y datblygiadau mewn hamdden awyr agored  a sut y byddwn yn bwrw ati i wneud mwy dros weddill tymor y Cynulliad hwn: Roedd y cyfnod cyn\-ymgynghori yn caniatáu i grwpiau sydd â diddordeb fynegi barn ac yn hwyluso trafodaethau ac yn rhoi cyfle i ystyried y materion o bwys.  Roedd nifer fawr o sylwadau wedi cael eu mynegi ar bob mater a oedd yn ymwneud â’r adolygiad, gan gynnwys hawliau tramwy a mynediad at ddŵr.  Mae angen gwneud rhagor o waith, gan gynnwys casglu mwy o dystiolaeth cyn i ni benderfynu ar ffordd ymlaen.  Er hynny, mae hyn eisoes yn glir: * Ar dir, mae angen gwella ein rhwydwaith hawliau tramwy a gwneud y fframwaith deddfwriaethol cysylltiedig yn fwy effeithiol; * Ar ddŵr, mae angen gweld cynnydd yn nifer y cytundebau mynediad gwirfoddol sy’n darparu ar gyfer ystod o weithgareddau hamdden. Felly, byddwn yn cyhoeddi Papur Gwyrdd ar wella mynediad at dir i’r cyhoedd a hwyluso mynediad gwirfoddol at ddŵr yn well. Nid  ydym yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol yn nhymor y Cynulliad hwn. Mae hawliau tramwy yn bwysig iawn i'n cymunedau lleol ac yn cynnig mynediad hawdd i gefn gwlad yn lleol ac maent hefyd yn cyfrannu miliynau at economi Cymru bob blwyddyn. Ers 2008/9, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £8\.9 miliwn i helpu awdurdodau lleol i roi eu cynlluniau gwella hawliau tramwy ar waith. Mae'r cyllid wedi cyfrannu at wella tua 6,801km, 21% o'r rhwydwaith 33,000km yng Nghymru. Roedd prosiectau yn 2013/14 yn cynnwys cryn dipyn o welliannau i fodloni'n benodol anghenion y rheini â phroblemau symud. Er enghraifft, ym Mangor, mae'r Awdurdod wedi disodli hen gatiau mochyn gyda gatiau newydd, lletach, sy'n cau ar eu pennau eu hunain; ac ym Merthyr, maen nhw wedi ymestyn darpariaeth i bobl sydd ag anawsterau symud drwy osod pum ardal yn cynnwys byrddau picnic y mae modd cael mynediad iddynt gyda chadair olwyn a chadeiriau gwthio i blant. Rwyf wedi neilltuo £1 filiwn arall o gyllid cyfalaf ar gyfer hyn yn 2014/15\.   Yn ystod yr adolygiad, cafwyd cefnogaeth gadarn i'r angen i foderneiddio a symleiddio'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer hawliau tramwy. Rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i fy swyddogion wneud newidiadau a fydd yn gwneud tipyn i leihau'r pwysau sydd ar awdurdodau lleol mewn perthynas â hawliau tramwy, gan gynnwys diweddaru canllawiau ac adolygu is\-ddeddfwriaeth. Rwy'n bwriadu cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer awdurdodau lleol ar lunio cynlluniau gwella hawliau tramwy ymhen 12 mis ac mewn da bryd ar gyfer yr adolygiad a gynhelir ar ôl deng mlynedd o'r cynlluniau hynny a fydd yn ymddangos yn 2017\. Roedd yr adolygiad yn dangos bod cryn amrywiaeth yn safbwyntiau'r gwahanol grwpiau sy'n defnyddio dŵr at ddibenion hamdden. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i annog hwyluso cytundebau mynediad gwirfoddol. Yn ystod 2013/14, buddsoddwyd £460,000 arall gan Lywodraeth Cymru i hwyluso mynediad i ddŵr mewndirol drwy gronfa Sblash. Mae hyn wedi galluogi prosiectau megis y gwelliannau i fynediad i lan y llyn ym Mharc Gwledig Breakwater yn Ynys Môn i gynyddu mynediad at lan y dŵr i bawb ac i greu cyfleoedd  newydd a gwell i bysgotwyr anabl ar y llyn. Yn 2014/15, rwy’n bwriadu adolygu'r ffordd y mae cyllid yn cael ei ddyrannu drwy Sblash i wella’i effeithiolrwydd.   Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers i Lwybr Arfordir Cymru gael ei lansio'n llwyddiannus. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru i wella aliniad y llwybr ymhellach ac i ddarparu gwybodaeth ar hyd a lled y ffordd. Er enghraifft, yng Ngwynedd, cafodd Pont Tonfannau, sef pont ddur 50m o hyd dros Afon Dysynni, ei gosod yn Nhywyn gan gael gwared ar wyriad 8 milltir o hyd. Yn  ogystal â gwella’r aliniad, mae cyfleoedd i greu llwybrau cylchol sy’n cysylltu â’r llwybr   Ers 2008, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £11\.5 miliwn yn ei greu ac yn ogystal â’r £1\.1 miliwn rwyf innau wedi ymrwymo i ddatblygiad pellach yn 2014/15, mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi neilltuo £250,000 tuag at waith atgyweirio yn dilyn y stormydd niweidiol yn gynharach eleni. Yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi cynhyrchu mwy na £32 miliwn o wariant i mewn i economi Cymru. Yn ogystal â hynny, ym mis Gorffennaf 2013, Llwybr Arfordir Cymru oedd y buddugwr cyffredinol yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Cynllunio'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI), y prif wobrau ar gyfer cynllunio yn y DU. Gydol mis Mai, rydym yn dathlu pen\-blwydd gorffen Llwybr Arfordir Cymru a’i lansio. Mae’n fwriad gen i i wneud mwy o achlysuron fel hyn gan ganolbwyntio mwy ar hyrwyddo a gweithgareddau ar ben\-blwyddi yn y dyfodol.  Yn gyffredinol byddwn yn gweithio i gryfhau proffil a chynyddu gweithgarwch hyrwyddo gan gydnabod y llwyddiannau sylweddol hyd yn hyn ochr yn ochr â photensial pellach. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru  yn gweithio ar adolygiad deng mlynedd o fapiau mynediad o dan Ddeddf Cefn Gwad a Hawliau Tramwy 2000\.  Fy mwriad yn y tymor byr a’r tymor canolig yw edrych ar ffyrdd o wneud y broses hon yn symlach ac yn fwy rhagweithiol er budd defnyddwyr a thirfeddianwyr. Mae tir sy’n agored i’r cyhoedd o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn cynnig cyfleoedd sylweddol i gerddwyr fwynhau’r awyr agored ac yn elfen bwysig i’w hystyried yng nghyd\-destun ehangach gwella mynediad. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ar fin cyhoeddi Datganiad Strategol ar Hamdden a Mynediad Awyr Agored. Byddwn yn parhau â'r bartneriaeth agos sydd rhyngom â Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnig cyfleoedd gwell i gael mynediad i'r awyr agored. Rydym yn cefnogi agenda mynediad sy'n eang ei chwmpas ac, yn hynny o beth, rydym wedi gwneud gwaith da yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwyf am weld mwy yn digwydd dros weddill tymor y Cynulliad hwn gan ddal ati â’r hyn a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cymru fel gwlad sy’n arwain mewn darpariaethau hamdden awyr agored. Bydd y Papur Gwyrdd yn fodd i ymgysylltu ymhellach er mwyn helpu i lywio ein polisi a’n gweithredoedd yn ystod y ddwy flynedd nesaf yn ogystal â’n syniadau a’n cynlluniau ar gyfer y Cynulliad nesaf.
Translate the text from Welsh to English.
Fis Mawrth 2020, ysgrifennais at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Jesse Norman Aelod o Senedd y DU, i wneud cais ffurfiol i ddatganoli cymhwysedd trethu pellach i Senedd Cymru mewn perthynas â ‘threth ar dir gwag’. Roedd y cais ffurfiol hwn yn cyd\-fynd â’r broses y cytunwyd arni rhwng Gweinidogion y DU a Gweinidogion Cymru ar gyfer datganoli pwerau trethu newydd i Gymru fel y darperir gan Ddeddf Cymru 2014\. Hefyd, gwnaed y cais ar ôl cyfarfod adeiladol rhyngof i ac Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys ddiwedd mis Chwefror. Ein cais ffurfiol ar gyfer cymhwysedd trethu yw’r tro cyntaf inni brofi’r system a daw’r cais ar ôl dwy flynedd o waith gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan Drysorlys Ei Mawrhydi wybodaeth ddigonol i asesu cynigion Llywodraeth Cymru. Mae’r profiad o symud drwy’r broses wedi bod yn hirfaith ac yn heriol, gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi yn gofyn yn barhaus am fanylion ynglŷn â gweithrediad penodol y dreth arfaethedig – mater i Gymru – yn hytrach na gwybodaeth ynglŷn â datganoli cymhwysedd ar gyfer deddfwriaeth mewn maes trethu newydd. Ar 19 Awst 2020, ymatebodd Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys drwy ddweud y byddai angen mwy fyth o fanylion cyn y gellid bwrw ymlaen â’n cais ffurfiol. Mae hi wedi dod i’r amlwg nad yw’r broses y cytunwyd arni ar gyfer datganoli cymhwysedd trethu pellach i Gymru yn addas i’r diben, ac o safbwynt ymarferol mae’n nodedig o debyg i broses flaenorol y Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol. Gwaethygir y sefyllfa gan y ffaith y gall Trysorlys Ei Mawrhydi symud y pyst o ran pa wybodaeth sydd ei hangen ar unrhyw adeg. O ystyried yr heriau yr ydym wedi’u hwynebu wrth hebrwng y maes penodol a chul iawn hwn o gymhwysedd deddfwriaethol drwy’r system, mae’n anodd rhag\-weld sefyllfa lle gallai Llywodraeth Cymru lwyddo i ddadlau’r achos dros gymhwysedd trethu pellach, os bydd dull gweithredu Llywodraeth y DU yn parhau. Bydd methiant y system hon yn cael effaith sylweddol ar allu’r llywodraeth hon a llywodraethau’r dyfodol i ddefnyddio treth fel ffordd o ddylanwadu ar ymddygiad neu gefnogi gwariant cyhoeddus i ddiwallu anghenion pobl Cymru. Rwy’n gobeithio nad yw’r ymateb hwn yn adlewyrchu agwedd ehangach Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli. Rydym yn credu’n gryf fod rhaid parchu a chryfhau datganoli er mwyn sicrhau dyfodol y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys i fynegi fy siom o ystyried bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu cymaint o fanylion ag sy’n bosibl yn y cam hwn o’r broses. Fel yr wyf wedi’i grybwyll wrth Lywodraeth y DU sawl gwaith, bydd y gwaith o ystyried gweithrediad penodol y dreth yn cael ei wneud ar ôl datganoli’r cymhwysedd i Gymru, gan ddilyn proses gyhoeddus drwyadl briodol, yn unol â’n hegwyddorion o ran trethi. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth i’r sefyllfa hon ddatblygu. Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
In March 2020, I wrote to the Financial Secretary to the Treasury, the Rt Hon Jesse Norman MP, to formally request devolution to Senedd Cymru of further tax competence relating to a ‘vacant land tax’. This formal request was in keeping with the process agreed between UK and Welsh Ministers for the devolution of new tax powers to Wales as provided by the Wales Act 2014, and followed a constructive meeting between myself and the Financial Secretary to the Treasury at the end of February.   Our formal request for tax competence is the first time we have tested the mechanism and the request follows over two years of work by Welsh Government to ensure HM Treasury had sufficient information to assess Welsh Government proposals. The experience of moving through the process has been protracted and challenging, with HM Treasury continually requesting detail related to the specific operation of the proposed tax – a matter for Wales \- rather than information related to devolving competence for legislation in a new area of taxation. On the 19 August 2020, the Financial Secretary to the Treasury responded by stating that yet more detail would be required before our formal request could be taken forward. It has become clear the agreed process for devolution of further tax competence to Wales is not fit for purpose, and in practice bears a striking similarity to the previous process of Legislative Competence Orders. This is compounded by the fact HM Treasury are able to move the goalposts as to what information is required at any point. Given the challenges encountered taking this particular, very narrow area of legislative competence through the mechanism, it is difficult to envision a scenario whereby, with the current UK Government approach, the Welsh Government could successfully make the case for further tax competence. The failure of this mechanism significantly impacts the ability of this government and future governments to use tax as a lever to influence behaviour or support public spending to meet the needs of the people of Wales. I hope this response is not indicative of the UK Government’s wider attitude towards devolution. We firmly believe that devolution must be respected and strengthened to secure the future of the Union. I have written to the Financial Secretary to the Treasury to express my disappointment given Welsh Government has already provided as much detail as it is able at this stage of the process. As I have outlined to the UK Government on numerous occasions, consideration of the specific operation of the tax will occur after the competence has been devolved to Wales, and will be by means of an appropriately rigorous public process, in line with our tax principles. I will keep Members updated as this situation develops. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so.
Translate the text from Welsh to English.
Mae hyd at £68 miliwn o gyllid wedi’i ddynodi ar gyfer y canolfannau. Cyn y gall y gwaith adeiladu gychwyn, bydd angen cymeradwyo cynlluniau busnes a gyflwynir gan y byrddau iechyd lleol. Y disgwyl yw y bydd pob un o’r cynlluniau wedi’u cyflawni erbyn 2021\.  Dyma’r buddsoddiad mwyaf gan Lywodraeth Cymru sy’n targedu’r seilwaith gofal sylfaenol a chymunedol.  Bwriad y gyfres o gyfleusterau arfaethedig yw gwella gallu pobl i gael gafael ar ystod o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn agosach at eu cartrefi. Mae darparu cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal intregredig yn un o flaenoriaethau allweddol Symud Cymru Ymlaen.  Bwriedir defnyddio nifer o wahanol ffyrdd o fuddsoddi yn y prosiectau \- bydd hyn yn cynnwys adnewyddu ac ailddatblygu safleoedd sy’n bodoli’n barod, yn ogystal â chodi adeiladau newydd.   Mae integreiddio yn elfen allweddol o’r cynlluniau newydd hyn, ac mae’r byrddau iechyd yn bwriadu gweithio gydag amryw o bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a’r trydydd sector, i ddod ag ystod o wasanaethau cyhoeddus ynghyd mewn cymunedau.   Bydd rhan gyntaf y cynlluniau yn golygu adnewyddu ac ailddatblygu rhai o safleoedd presennol y GIG, gan gynnwys y canlynol: ### Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Canolfan Iechyd Pen\-clawdd Clinig Cymunedol Murton Canolfan Gofal Sylfaenol Canol Tref Pen\-y\-bont ar Ogwr Canolfan Iechyd Abertawe### Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Canolfan Iechyd a Llesiant TredegarCanolfan Adnoddau Dwyrain Casnewydd### Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Ailddatblygu Clinig/Ysbyty yng nghanol Sir Ddinbych Canolfan Gofal Iechyd Sylfaenol Waunfawr### Bwrdd Iechyd Prifysgol Cardiff \& Vale Canolfan Iechyd Maelfa Datblygiad Canolfan Cogan Meddygfa Pentyrch### Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Canolfan Iechyd Tonypandy Datblygiad Cam 2 Dewi Sant Canolfan Gofal Sylfaenol Aberpennar### Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Canolfan Gofal Integredig Aberaeron Canolfan Iechyd Abergwaun Canolfan Gofal Integredig Cross Hands### Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Machynlleth – ailgynllunio ac ymestyn er mwyn creu canolfan gofal sylfaenol a chymunedol Canolfan Gofal Sylfaenol Llanfair Caereinon Dywedodd Vaughan Gething: > “Mae pobl yn yr unfed ganrif ar hugain  yn disgwyl cael eu trin mewn canolfannau gofal iechyd modern a chyfoes sy’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau o dan yr un to. Rydyn ninnau’n cytuno – a thrwy dargedu’r buddsoddiad fel hyn, y gobaith yw gwireddu’r cyfleoedd sydd ar gael i wneud  newidiadau i wasanaethau.“Rydyn ni’n ariannu dyfodol gofal iechyd yng Nghymru, a bydd y gyfres o brosiectau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran darparu gofal i bobl yn eu cymunedau eu hunain ac yn agosach at eu cartrefi.”
Funding of up to £68 million has been identified for the centres. Construction will be subject to the agreement of successful business cases from the local health boards, and the expectation is that all schemes will be delivered by 2021\.  This is the biggest targeted investment in primary and community care infrastructure by Welsh Government.  The pipeline of facilities is intended to improve access to a range of health and social care services closer to people’s homes. The provision of a new generation of integrated health and care centres is a key commitment in Taking Wales Forward. The pipeline of projects seeks to invest in a number of ways, and includes the refurbishment and redevelopment of existing sites, as well as a number of new build developments.   A key theme of the pipeline is integration and health boards are looking to work with a range of delivery partners, including local authorities, housing associations and the third sector, to bring together a range of public services into community hubs. The schemes include the following :  ### Abertawe Bro Morgannwg University Health Board Penclawdd Health Centre Murton Community Clinic Bridgend Town Centre Primary Care Centre Swansea Wellness Centre ### Aneurin Bevan University Health Board Tredegar Health and Wellbeing Centre Newport East Resource Centre ### Betsi Cadwaladr University Health Board Central Denbighshire Clinic / Hospital Redevelopment Waunfawr Primary Care Centre ### Cardiff and Vale University Health Board Maelfa Health Centre Hub Cogan Hub Development  Pentyrch Surgery  ### Cwm Taf University Health Board Tonypandy Health Centre Dewi Sant Phase 2 development Mountain Ash Primary Care Centre ### Hywel Dda University Heath Board Aberaeron Integrated Care Centre Fishguard Health Centre  Cross Hands Integrated Care Centre ### Powys Teaching Health Board Machynlleth – reconfiguration and extension to create a primary and community care hub Llanfair Caereinion Primary Care Centre Vaughan Gething said:  > “People in the 21st Century expect to be treated in modern, advanced health care centres that deliver a wide range of services all under one roof. We agree and by targeting investment in this way it is hoped that opportunities for delivering service change can be delivered upon.  > > “We’re funding the future of healthcare in Wales and the pipeline of projects I’m announcing today will make a significant difference to the care people receive closer to home in their communities.”
Translate the text from Welsh to English.
Gyda nifer mawr o aelwydydd yn wynebu toriad yn eu hincwm neu ddiweithdra oherwydd y pandemig, mae’r cynllun yn dal i fod yn gwbl hanfodol i helpu llawer o aelwydydd incwm isel yng Nghymru i oroesi. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn dod â chyfanswm y cymorth COVID\-19 ar gyfer y Cynllun i bron i £5\.5m. Bydd yn helpu awdurdodau lleol i reoli’r cynnydd yn y galw am gymorth o dan y Cynllun, heb effeithio ar y gwasanaethau y maent yn eu darparu eisoes.   Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid: > Bydd y cymorth ychwanegol rydw i’n ei gyhoeddi heddiw yn rhoi i awdurdodau lleol y sicrwydd ariannol sydd ei angen arnyn nhw i barhau i gefnogi’r rheini sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf drwy ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. > > > Hoffwn i annog pob un sy’n meddwl y gallai fod yn gymwys i gael cymorth gyda biliau’r dreth gyngor i gysylltu â’i gyngor am ragor o wybodaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac awdurdodau lleol i ddeall effeithiau tymor hwy y cynnydd yn y galw ar y Cynllun, ac i asesu faint o effaith yn union y bydd unrhyw ostyngiad yn y dreth gyngor a gesglir yn ei chael ar awdurdodau lleol. Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau: > Mae’r cynghorau'n gwybod bod llawer o bobl wedi dioddef caledi ariannol yn ystod y cyfnod hwn ac rydyn ni eisiau i bobl wybod ein bod ni yma i helpu. Mae hwn yn gyfnod anarferol iawn ac rydym yn gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau am gymorth ledled Cymru. Os ydych yn cael trafferth talu eich treth gyngor, cysylltwch â'ch awdurdod lleol i sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth sydd ar gael.
With large numbers of households facing reduced income or unemployment due to the pandemic, the scheme continues to provide a lifeline to many low income households across Wales. This additional funding takes the total amount of COVID\-19 support for the scheme to nearly £5\.5m, helping local authorities to manage the increase in demand without compromising the services they already provide. Finance Minister Rebecca Evans said: > The additional funding I am announcing today will provide local authorities with the financial reassurance they need to continue to support those who need it most through our Council Tax Reduction Scheme. > > > I would encourage anyone who thinks they may be eligible for help with their council tax bills to contact their council for advice. The Welsh Government continues to work with the Welsh Local Government Association (WLGA) and local authorities to understand the longer term effects of increased demand on the scheme and to assess the extent of any decline in council tax collection on local authorities.  Councillor Anthony Hunt (Torfaen), WLGA Spokesperson for Finance and Resources said: > Councils know that many people have experienced financial hardship during this period and we want people to know that we are here to help. These are exceptional times and we are seeing increases in applications for support right across Wales. If you are having difficulty in paying your council tax please contact your local authority to ensure you are getting all the assistance available.
Translate the text from Welsh to English.
Dyna oedd neges Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wrth iddo gyhoeddi 'Golau yn y Gwyll ‒ Gweledigaeth ar gyfer Diwylliant yng Nghymru' sy'n amlinellu ei ddyheadau ar gyfer Diwylliant yng Nghymru yn ystod Tymor y Cynulliad hwn.   Mae'r datganiad yn cadarnhau pa mor bwysig yw'r celfyddydau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a threftadaeth i fywyd yng Nghymru.   Datblygwyd y datganiad er mwyn symbylu trafodaeth am rôl diwylliant yn ein cymdeithas yma yng Nghymru, er mwyn ysgogi syniadau gwych ac annog pobl i feddwl mewn ffyrdd arloesol, ac er mwyn annog pawb i gydweithio i sicrhau'r budd mwyaf posibl o fuddsoddiad y Llywodraeth mewn diwylliant.  Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:  > "Mae 'Golau yn y Gwyll: Gweledigaeth ar gyfer Diwylliant yng Nghymru' yn amlinellu fy nyheadau ar gyfer diwylliant yn ystod Tymor y Cynulliad hwn.  Rydym yn gwybod yn barod bod diwylliant yn cyfoethogi'n bywydau, yn dod â phobl at ei gilydd ac yn gwella lles. Mae sefydliadau diwylliannol yn helpu i fynd i'r afael ag amryw o heriau eraill hefyd drwy'r gwaith y maen nhw'n ei wneud. > > "Mae gennym gryn hanes o lwyddo ym maes diwylliant yn barod. Dw i am ddathlu ein hamryfal atyniadau diwylliannol, ein casgliadau eithriadol a'r arlwy bywiog a dwyieithog y mae'n talentau creadigol gorau yn ei greu.   > > "Ond dw i'n awyddus hefyd inni adeiladu ar ein llwyddiant ac i sicrhau bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael eu cymell i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol ac elwa ar y manteision cysylltiedig.  > > "Rydyn ni'n gwybod bod diwylliant yn grymuso pobl. Mae'n helpu pobl i fagu hyder, i feithrin sgiliau ac yn rhoi mwy o obaith iddyn nhw gael eu cyflogi. Yn ogystal â bod yn gynyddol pwysig i'n heconomi, mae hefyd yn gwneud cyfraniad hanfodol at feysydd allweddol eraill o fywyd cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, addysg, ac adfywio.     > > “Mae gan ddiwylliant rôl allweddol i'w chwarae hefyd o ran uno'n gwlad. Dangosodd ganlyniad y Refferendwm ar aelodaeth o'r UE fod ein cymdeithas yn un rhanedig. Mae angen inni wella rhaniadau, a sicrhau bod pobl yn teimlo'n rhan o gymdeithas a'u bod yn cael eu grymuso. Dw i o'r farn y gallwn ni gymryd camau breision ymlaen tuag at gyrraedd y nod hwnnw drwy berswadio mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol. > > “Mae gennym sylfaen dda o ran Diwylliant, ond dylen ni anelu'n uwch. Yn y pen draw, dw i am sicrhau mai Cymru fydd y genedl fwyaf gweithgar yn greadigol yn Ewrop.  > > “Oni bai ein bod yn ymdrechu i fod yn greadigol ac yn egnïol, fyddwn ni byth mor iach, mor fodlon neu mor hapus ag y gallen ni a dylen ni fod." Ychwanegodd Dr Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:  > “Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn llygad ei le. Nid rhyw bethau ychwanegol y mae’n braf eu cael, neu ychydig o hufen ar y gacen yw Diwylliant a’r Celfyddydau. Maen nhw’n gwbl greiddiol er mwyn creu cymdeithas wâr, fywiog ac iach. Mewn sawl man, y celfyddydau yw’r sment neu’r glud sy’n helpu i uno cymunedau ac i roi profiadau a sgiliau newydd i ddinasyddion o bob oed. Maen nhw’n hanfodol i ansawdd bywyd pobl yng Nghymru ‒ maen nhw’n gwbl ganolog ac yn diffinio pwy ydyn ni. Rydyn ni’n croesawu’r datganiad hwn heddiw ac yn edrych ymlaen at wireddu Gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer Diwylliant yng Nghymru, ac at ddenu hyd yn oed mwy o bobl Cymru i gymryd rhan egnïol a chreadigol yn y celfyddydau." Mae enw'r datganiad yn adlais o eiriau'r bardd Dylan Thomas ac mae'n amlinellu sut y gall y sector diwylliant yng Nghymru, o gael y gefnogaeth a'r anogaeth briodol,  weddnewid bywydau a chymunedau er gwell.  Mae hefyd yn rhestru'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu'u cymryd yn ystod tymor y Cynulliad hwn i gefnogi'r sector, ac yn nodi pa gyfraniad  y mae'n disgwyl i'w phartneriaid ei wneud yn hynny o beth. 
That was the message from Economy Secretary, Ken Skates as he published ‘Light Springs through the Dark \- a Vision for Culture in Wales’ which sets out his ambitions for Culture in Wales during this Assembly Term.  The statement reinforces the importance of the arts, music, literature and heritage in Welsh life.    It has been developed to promote debate around the role of culture in Welsh society, to encourage innovative thinking and bright ideas, and to unite efforts to extract maximum value from Government investment in culture.    The Economy Secretary said:    > ‘Light Springs through the Dark: A Vision for Culture in Wales’ outlines my ambitions for culture in this Assembly term.  We already know that culture enriches our lives, brings people together and improves our wellbeing. Through their work,  cultural organisations are also helping to address a range of other challenges.  > >   > > “Culture is already a big Welsh success story. I want to celebrate our many cultural attractions, our outstanding collections and the vibrant, bilingual offer that our best creative talents are producing.   > >   > > “But I also want  us to build on our success and ensure more people in Wales are compelled to get involved in cultural activities and reap the associated benefits.  > >   > > “We know culture empowers people. It helps develop confidence, skills and employability and along with  being increasingly important to our economy, it also makes a vital contribution to other key areas of public life, including health, education, and regeneration.   > >   > > “Culture also has a key role to play in uniting our country. The result of the Referendum on EU membership showed that we have a divided society. We need to reconcile divisions, and ensure people feel connected and enfranchised.  I believe we can make big progress towards this goal by persuading more people to take part in creative activity.  > >   > > “We start from a good base on Culture, but we should aim higher. Ultimately I want Wales to be the most creatively active nation in Europe.  > >   > > “Unless we strive to be creative and active we will never be as healthy, fulfilled or as happy as we could and should be.” Dr Phil George, Arts Council of Wales Chair added:  > “The Cabinet Secretary is right, Culture and the Arts are not a nice\-to\-have extra or a bit of icing on the cake. They are central to a humane, vibrant and healthy society.  In many places the arts are the cement or the glue that helps bind communities together and give citizens of all ages new experiences and skills. They are crucial to the quality of life of people in Wales \- they are central and definitive of who we are. We welcome today’s statement and look forward to realising the Government’s Vision for Culture in Wales, engaging even more of the people of Wales in an active and creative involvement with the arts.” The statement takes its name from the words of poet Dylan Thomas and sets out ways in which the culture sector in Wales, with the right backing and encouragement, can transform lives and communities for the better.    It also lists the actions the Welsh Government intends to take during the Assembly term to support the sector, and the contributions it expects from its partners.
Translate the text from Welsh to English.
Mae’r cwmni o Abertawe yn troi plastig gwastraff o ddeunydd pacio bwyd a choluron yn gynnyrch ar gyfer pensaernïaeth a’r diwydiant dylunio moethus. Bydd yn defnyddio’r arian i greu 18 o swyddi newydd ac i ddiogelu dwy arall, cyfraniad hanfodol at adferiad yr economi leol ar ôl y coronafeirws. Bydd yr arian yn helpu’r cwmni hefyd i ehangu a chynyddu ei gynhyrchiant i fodloni’r galw cynyddol am ei gynnyrch gan frandiau byd\-eang fel Stella McCartney a Christian Dior. Mae’r cynnyrch hwnnw’n cynnwys arwynebau a gosodiadau lliwgar ac addurniadol wedi’u gwneud o hen blastig ar gyfer arwynebau gwaith a phaneli masnachol a chelfi a phaneli cawodydd domestig. Bydd yn golygu y gall Smile Plastics ailgylchu mwy bob blwyddyn. Bydd Smile Plastics yn cael benthyciad ad\-daladwy o £150,000 trwy Gronfa Dyfodol yr Economi a grant o £150,000 trwy Gronfa’r Economi Gylchol sy’n cael ei gweinyddu gan WRAP Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd:  > Mae potensial Smile Plastics i dyfu yn amlwg ac rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r busnes arloesol hwn, sydd â datgarboneiddio yn fyrdwn iddo. > > > Mae creu economi gylchol ar gyfer gwastraff plastig yn gyfle anferth i economi Cymru yn ogystal ag o les i’r amgylchedd ac rwy’n disgwyl ymlaen at weld yr arian hwn yn helpu Smile Plastics i gynhyrchu cynnyrch newydd a chyffrous a gwireddu ei uchelgais wrth i’n heconomi ymadfer ar ôl y coronafeirws. Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:  > Mae Cymru eisoes yn dangos y ffordd i weddill y DU o ran ailgylchu ond carem ein gweld yn mynd ymhellach a dod y wlad orau yn y byd am ailgylchu – a symud y tu hwnt i ailgylchu. > > > Rydym ar ein taith at economi gylchol – lle rydym yn osgoi creu gwastraff ac yn defnyddio adnoddau mor hir ag y medrwn. > > > Mae Smile Plastics yn enghraifft o’r modd y gellir defnyddio deunydd eildro i greu model busnes llwyddiannus sydd o fudd i’r amgylchedd ac yn sbarduno’r galw am ddeunydd wedi’i ailgylchu. Meddai Rosalie McMillan, cyfarwyddwr Smile Plastics:  > Rydym yn falch iawn o’r £300,000 hwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr arian yn allweddol i feithrin ein gallu i wireddu’n gweledigaeth ar gyfer troi gwastraff yn ddeunydd addurniadol ledled y byd. Dywedodd Bettina Gilbert, rheolwr rhaglen WRAP Cymru:  > Mae £6\.5m Cronfa’r Economi Gylchol yn gyfle i weithgynhyrchwyr yng Nghymru ymgeisio am grantiau cyfalaf i gynyddu’u defnydd o blastig, papur, cerdyn a thecstilau wedi’u hailgylchu. Mae’r gronfa’n helpu paratoadau ar gyfer gweithgareddau ailddefnyddio, ailwampio ac ailgynhyrchu yng Nghymru.  Mae Smile Plastics wedi cael arian i gynhyrchu deunydd sydd wedi’i wneud yn llwyr o ddeunydd wedi’i ailgylchu ac a fydd ei hun yn gallu cael ei ailgylchu.  Dyma enghraifft wych o’r economi gylchol ar waith yng Nghymru. > > > “Mae WRAP Cymru wedi rhoi pum grant hyd yn hyn a fydd yn arwain at ddefnyddio mwy na 10,000 o dunelli o ddeunydd ailgylchu dros dair blynedd, ac mae ceisiadau’n dal i gyrraedd.
The Swansea\-based business, which transforms waste plastics from food and cosmetic packaging for use in architecture and the luxury design industry, will use the funding to create 18 new jobs and safeguard two more. The jobs will be crucial in supporting the local economic recovery from coronavirus (COVID\-19\). The funding will also help the company, which supplies global brands including Stella McCartney and Christian Dior, to expand and increase its production to help satisfy a growing demand for its products. These include making colourful and decorative surfaces and installations from used plastics for commercial work surfaces and panelling and residential shower surrounds and furniture. It will also increase the amount of material Smile Plastics recycles every year. Smile Plastics will receive a £150,000 repayable loan from the Economy Future’s Fund and a further £150,000 grant from the Circular Economy Fund, which is administered by WRAP Cymru on behalf of Welsh Government. Minister for Economy, Transport and North Wales Ken Skates, said:  > Smile Plastics’ growth potential is proven and I am delighted the Welsh Government has been able to support this innovative business, which has decarbonisation at its heart. > > > Creating a circular economy for plastic waste is a huge opportunity for the economy of Wales as well as benefiting the environment, and I look forward to seeing the funding help Smile Plastics continue to produce new and exciting products and fulfil its ambitions as our economy recovers post\-coronavirus. Hannah Blythyn, Deputy Minister for Housing and Local Government, said:  > Wales is already leading the way in the UK when it comes to recycling but I want us to go further and make Wales the number one recycling nation in the world – and move beyond recycling. > > > We are on a journey towards becoming a circular economy, where waste is avoided and resources are kept in use as long as possible. > > > Smile Plastics is an example of how recycled material can be used to create a successful business model, while benefitting our environment and stimulating demand for recycled material. Smile Plastics director Rosalie McMillan said: > “We are delighted to receive the £300,000 from the Welsh Government. This money will be instrumental in expanding our capabilities to achieve our vision of transforming waste into decorative materials around the world.” Bettina Gilbert, WRAP Cymru programme manager, said:  > The £6\.5 million Circular Economy Fund provides the opportunity for manufacturers in Wales to apply for capital grants to increase their use of recycled plastic, paper, card or textiles. The fund is now able to support preparation for re\-use, refurbishment and re\-manufacturing activities in Wales. Smile Plastics has been awarded funding to enable it to manufacture products comprised of 100% recycled content, which can themselves be recycled. This is a great example of the Welsh circular economy in action. > > > WRAP Cymru has so far awarded five grants, which are expected to result in the incorporation of more than 10,000 tonnes of recyclate over three years and we are still accepting applications.
Translate the text from English to Welsh.
The Deputy Minister for Housing and Local Government, Hannah Blythyn welcomed the renovation of Number 10 The Circle. The historic building was once home to the Tredegar Medical Aid Society, used as the blueprint for the creation of the National Health Service in 1948 by Aneurin Bevan. Number 10 The Circle received over £142,000 in Transforming Towns funding, alongside £240,000 of funding from the Heritage Lottery Fund through the Tredegar Townscape Heritage Initiative and Coalfields Regeneration Trust (CRT). The renovation will provide a place where people can work, learn and celebrate the heritage of Tredegar and the National Health Service Hannah Blythyn said: > This building has real historical significance and its renovation will benefit the local community, act as a community hub, and increase footfall to the town centre. Completed over three years, the building will be used as an open access multi\-functional space for educational classes, training, seminars, meetings, and include a heritage centre which will tell the story of the building. The first floor will comprise of four offices, available for rent on a flexible basis to create flexible working space that small and third sector businesses require; as well as complete renovation and restoration of the building’s exterior. The Deputy Minister for Housing and Local Government said: > This small but important building pioneered health care as we know it today. This year more than ever, we should celebrate the role a Welsh town played in helping inspire this vitally important service. > > > Supporting towns and highstreets across Wales has never been so important and it is fantastic to see how Welsh Government’s Transforming Towns funding has been used to support this building to continue to be part of Tredegar’s history and benefit the community it serves. Minister for Health Vaughan Gething said: > Over the last 72 years the NHS has been there for every one of us. This has been never been truer than during the past 10 months, as we’ve all faced some of Wales’ darkest days, and our NHS has been there \- in the face of extreme pressures \- at every step. > > > The transformation of this historic building mirrors the course Wales’ NHS has taken over the past seven decades; a testament to Nye Bevan’s fledgling idea of a National Health Service for all, to the world\-leading organisation we see today. Alun Taylor Head of Operations for the Coalfields Regeneration Trust said: > CRT purchased the building in recognition of it’s huge important to the history of Tredegar Town and the formation of the NHS and it’s potential as a Heritage Centre to tell a great story and to help regenerate the Town Centre. With Welsh Government and partner support a great facility has been developed demonstrating what can be achieved when partnership investment and the community come together. Cllr Dai Davies, Deputy Leader and Executive Member for Regeneration and Economic Development from Blaenau Gwent County Borough Council Said: > It is fantastic news that another historic building in Tredegar has been regenerated adding to the existing portfolio of properties that have been restored in the area. This project is an example of how the programme is supporting important improvements that will benefit whole communities. > > > No10 The Circle will provide additional facilities to the area and support the economic development of the Borough through training and skills development, whilst preserving a link to our past through the Heritage Centre. The facility will make a difference to local life and I wish them all the success.
Roedd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, yn fawr ei chroeso i’r cynllun i adnewyddu Rhif 10, The Circle.  Yr adeilad hanesyddol hwn oedd cartref Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, yr esiampl a gafodd ei defnyddio gan Aneurin Bevan ar gyfer creu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948\. Cafodd dros £142,000 o arian y rhaglen Trawsnewid Trefi, ynghyd â £240,000 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri trwy Ymddiriedolaeth Adfywio’r Maes Glo (CRT) a Menter Treftadaeth Treflun Tredegar, ei neilltuo ar gyfer Rhif 10, The Circle. Bydd y ganolfan yn lle i bobl weithio, dysgu a dathlu hanes Tredegar a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ynddo. Dywedodd Hannah Blythyn: > Mae’r adeilad hwn yn bwysig iawn i’n hanes ni a bydd ei adnewyddu’n dod â budd i’r gymuned, gan dyfu’n ganolfan iddi gan ddenu rhagor o bobl i ganol y dref. Wedi’i gwblhau dros dair blynedd yn ôl, caiff yr adeilad ei ddefnyddio fel gofod aml\-ddiben mynediad agored ar gyfer dosbarthiadau addysg, hyfforddiant, seminarau, cyfarfodydd a bydd yn cynnwys canolfan dreftadaeth ar gyfer adrodd hanes yr adeilad. Bydd y llawr cyntaf wedi’i rannu’n bedair swyddfa, i’w rhentu trwy drefniant hyblyg i greu lle gwaith hyblyg ar gyfer busnesau bach a’r trydydd sector.  Caiff y tu allan ei adnewyddu a’i adfer yn llwyr. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: > Yn yr adeilad bach hwn y datblygwyd y gofal iechyd rydyn ni’n ei adnabod heddiw.  Eleni, yn fwy nag erioed, dylem ddathlu rhan y dref o ran ysbrydoli’r gwasanaeth hynod bwysig hwn. > > > Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach cynnal trefi a phrif strydoedd ledled Cymru ac mae’n wych gweld sut mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi cael ei defnyddio i helpu i gadw’r adeilad hwn yn rhan o hanes Tredegar, er lles i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: > Dros y 72 o flynyddoedd diwethaf, mae’r GIG wedi bod yno i ni.  A buodd hynny erioed yn fwy gwir na thros y 10 mis diwethaf, wrth i ni i gyd wynebu rhai o ddyddiau duaf Cymru. Ac mae’r GIG wedi bod yno – er o dan bwysau aruthrol – bob cam o’r ffordd.  > > > “Mae gweddnewidiad yr adeilad hanesyddol hwn yn adlewyrchu taith GIG Cymru dros y saith degawd diwethaf; o egin syniad Aneurin Bevan o Wasanaeth Iechyd i bawb i’r sefydliad o fri rhyngwladol sydd gennym heddiw. Dywedodd Alun Taylor, Pennaeth Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Adfywio’r Maes Glo: > Prynwyd yr adeilad hwn gan y CRT oherwydd ei bwysigrwydd aruthrol i hanes Tredegar a’r GIG a’i botensial fel Canolfan Dreftadaeth fydd yn adrodd stori dda ac yn helpu i adfywio canol y dref.  Gyda chymorth Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid, mae cyfleuster ardderchog wedi’i ddatblygu sy’n dangos yr hyn y gellir ei wneud trwy gyd\-fuddsoddi ac o gael y gymuned i weithio gyda’i gilydd. Dywedodd y Cyng Dai Davies, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygu Economaidd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: > Dyma newyddion ffantastig bod un arall o adeiladau hanesyddol Tredegar wedi’i adnewyddu, gan ychwanegu at ein portffolio o adeiladau sydd wedi’u hadfer. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft o sut mae’r rhaglen yn cefnogi gwelliannau pwysig er lles cymunedau cyfain. > > > Bydd Rhif 10 The Circle yn darparu cyfleusterau ychwanegol i’r ardal ac yn hwb i ddatblygiad economaidd y Fwrdeistref trwy hyfforddiant a datblygu sgiliau, gan gadw cyswllt â’r gorffennol trwy’r Ganolfan Dreftadaeth.  Bydd y cyfleuster yn gwneud gwahaniaeth i fywyd lleol, a dymunaf bob llwyddiant iddynt.
Translate the text from English to Welsh.
I would like to make members aware that HMRC has published its latest WRIT Annual Report. As set out in the Service Level Agreement (SLA), HMRC are required to report annually on its delivery of WRIT. The report sets out information about HMRC’s administration of WRIT, covering: * compliance activity (including identification of Welsh taxpayers), * the collection of and accounting for WRIT revenues, * customer service and support, * data for WRIT rate setting and forecasting, * data for Welsh Government cash management, and * the costs of delivering WRIT, and recharging of HMRC costs. The administration of WRIT has now moved into a business as usual phase focussing on maintaining and updating systems and improving awareness of WRIT. As set out in the Service Level Agreement (SLA), a formal governance structure is in place to ensure a consistent quality of service to Welsh taxpayers and allow HMRC and the Welsh Government to meet their respective responsibilities in respect of operating WRIT. The report can be found at: Welsh rates of Income Tax \- HMRC annual report 2021 (GOV.UK)
Hoffwn hysbysu aelodau fod CThEM wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol diweddaraf ar CTIC. Fel yr amlinellir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, mae’n ofynnol i CThEM adrodd ar y ffordd mae’n gweithredu CTIC. Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y ffordd mae CThEM yn gweinyddu CTIC, gan gynnwys: * gweithgareddau cydymffurfio (gan gynnwys nodi trethdalwyr yng Nghymru), * casglu refeniw CTIC a rhoi cyfrif amdano, * gwasanaethau a chymorth i gwsmeriaid, * data ar gyfer pennu a rhagolygu CTIC, * data ar gyfer rheoli arian Llywodraeth Cymru * cost darparu CTIC ac ailgodi tâl am gostau CThEM. Mae’r gwaith o weinyddu CTIC bellach wedi symud i gyfnod busnes fel arfer, gan ganolbwyntio ar gynnal a diweddaru systemau a gwella ymwybyddiaeth o CTIC. Fel yr amlinellir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, mae strwythur llywodraethu ffurfiol ar waith i sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth mae trethdalwyr Cymru yn ei dderbyn yn gyson, ac i alluogi CThEM a Llywodraeth Cymru i gyflawni eu gwahanol gyfrifoldebau mewn perthynas â gweithredu CTIC. Mae’r adroddiad ar gael yn:   Cyfraddau Treth Incwm Cymru – Adroddiad Blynyddol CThEM 2021 (GOV.UK)
Translate the text from Welsh to English.
Hoffwn roi diweddariad i'r aelodau ar fy mhenderfyniad i fuddsoddi £1\.2 miliwn ychwanegol yn Hybu Cig Cymru dros y  tair blynedd nesaf er mwyn datblygu ymhellach raglen allforio cig coch Cymru. Roedd allforion cig oen a chig eidion Cymru yn werth £217 miliwn yn 2012, ac mae Hybu Cig Cymru yn amcangyfrif bod cadwyn gyflenwi cig coch Cymru \- gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr \- yn werth £1 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Gallai datblygu rhaglen allforio bresennol Hybu Cig Cymru gynyddu allforion cig coch Cymru £37\.5 miliwn ymhellach dros dair blynedd. Mae cynyddu'r galw o wledydd tramor yn golygu prisiau gwell i ffermwyr a phroseswyr yng Nghymru sydd wedyn yn ail\-fuddsoddi’r arian yn eu cymunedau lleol. Bydd darparu'r rhaglen hon yn cynyddu enillion diwydiant cig coch Cymru sydd, yn ei dro, yn gwella swyddi, twf a chyfoeth Cymru, yn enwedig yr economi wledig.   Mae cig oen a chig eidion Cymru mewn sefyllfa gref ar hyn o bryd yn y farchnad fyd\-eang, gan fod y ddau wedi ennill statws PGI sy'n nodi eu tarddiad a'u rhinweddau unigryw. Mae PGI yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid mai dim ond cig o ŵyn a gwartheg sydd wedi’u magu a’u geni yng Nghymru, y gellir eu holrhain yn llawn, ac sydd wedi'u lladd a’u prosesu mewn lladd\-dai/safleoedd prosesu a gymeradwywyd gan Hybu Cig Cymru, sy’n gallu cael ei alw’n gig o Gymru. Mae Hybu Cig Cymru wrthi'n cynnal trafodaethau i geisio agor marchnadoedd newydd ar gyfer cig oen a chig eidion Cymru yn Tsieina, Rwsia a'r Unol Daleithiau, ac rwy'n hyderus y bydd yr arian ychwanegol hwn yn eu helpu i gyflawni hyn. Caiff oddeutu traean o gig oen Cymru ei allforio dramor, sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw'r farchnad hon i'r sector cig coch.
I would like to update members on my decision to invest an additional £1\.2 million over the next three years in HCC to further develop exports of Welsh red meat. Exports of Welsh Lamb and Welsh Beef were worth £217 million in 2012 and HCC estimates that the total value of the Welsh red meat supply chain to the Welsh economy – including farmers, processors and retailers – is worth £1 billion a year. Enhancement of HCC’s current export programme has the potential to increase Welsh red meat exports by a further £37\.5 million over a three year period. Increasing demand from overseas leads to improved prices for farmers and processors in Wales which they then reinvest in their local communities.  Delivery of this programme will increase returns to the Welsh red meat industry which in turn contributes to improving the jobs, growth and wealth of Wales, in particular the rural economy.   Welsh Lamb and Welsh Beef are currently in a strong position within the global market as both products have been awarded the status of PGI, which identifies their origin and unique qualities. PGI provides consumer assurances that only lambs and cattle, born and reared in Wales, which are fully traceable and have been slaughtered/ processed in HCC approved abattoirs/ processors, can be branded as Welsh. HCC is in negotiations to open up new markets for Welsh Lamb and Welsh Beef products in China, Russia and the United States and I am confident that this additional funding will help them achieve this. Approximately a third of all Welsh Lamb is exported overseas, emphasising the importance of this market for the red meat sector.
Translate the text from English to Welsh.
I am pleased to inform Members that yesterday I made the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 (Commencement No.2 and Transitory Provision) Order 2023\. The duty of the Welsh Ministers to publish a statement of their priorities for and in connection with tertiary education and research will be brought into force on 4 September 2023, with my intention being to publish the first statement in December. In addition to commencing this duty, the Order also commences section 14 of the Act requiring the Commission to prepare a strategic plan setting out how it intends to discharge its strategic duties and address the statement of priorities.  The Commission will be required to submit its draft plan to the Welsh Ministers by 15 December 2024\. The Commencement Order will bring into force, on 4 September 2023, provisions in relation to the following matters: * Academic freedom of higher education providers and staff (section 17\); * Institutional autonomy of tertiary education providers (section 18\); * Compatibility with charity law and governing documents of tertiary education providers (section 19\); * Duty on Commission to have regard to guidance published by the Welsh Ministers. (section 20\); * Provision enabling the Welsh Ministers to give the Commission general directions about the use of any of its functions (section 21\); * Provision enabling the Welsh Ministers to confer supplementary functions on the Commission by way of regulations (section 22\); * Provision enabling the Welsh Ministers to make schemes for the transfer of staff and property, rights and liabilities from HEFCW and the Welsh Ministers to the Commission (section 24 and Sch. 2\). * Power of the Welsh Ministers to fund the Commission (section 85(1\), (2\)(a) and (b)).  The Order brings the remainder of section 85 into force on 1st April 2024\. * Information and advice from the Commission and information from the Welsh Ministers (section 130\) * Ability of the Commission to share information (section 132 other than subsection (1\)(f)) * The status, procedures, operational arrangements and committees of the Commission (Schedule 1\) The Commencement Order also includes provision bringing certain functions within the Act partially into force, so as to enable the Commission to undertake preparatory activities over the autumn and winter to support the implementation of key functions. The functions being brought partially into force will enable the Commission to undertake the following preparatory activities in respect of the registration system: * Initial preparation of the document specifying the requirements to be met in relation to the initial conditions of registration (section 27(1\) and (2\)); * Determination of the general ongoing registration conditions (section 28(1\) to (3\), section 31(1\)(a) to (f), (i), (j) and (2\) and sections 32 and 33\); * Start preparing guidance relating to ongoing registration conditions (sections 35 and 36\); * Undertake preparatory work to determine how it will monitor registered providers’ compliance with ongoing registration conditions (sections 35 and 36\); * Start preparing a statement on its funding policy (section 87\). The Order also includes provision bringing into force the required powers to enable the Welsh Ministers to make the subordinate legislation necessary to support the establishment of the Commission and the ongoing implementation of the Act.  This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so.
Rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau fy mod ddoe wedi gwneud Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023\. Bydd dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad o'u blaenoriaethau ar gyfer ac mewn cysylltiad ag addysg drydyddol ac ymchwil yn dod i rym ar 4 Medi 2023, ac fy mwriad yw cyhoeddi'r datganiad cyntaf ym mis Rhagfyr. Yn ogystal â chychwyn y ddyletswydd hon, mae'r Gorchymyn hefyd yn cychwyn adran 14 o'r Ddeddf sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn baratoi cynllun strategol yn nodi sut mae'n bwriadu cyflawni ei ddyletswyddau strategol a mynd i'r afael â'r datganiad o flaenoriaethau. Bydd gofyn i'r Comisiwn gyflwyno ei gynllun drafft i Weinidogion Cymru erbyn 15 Rhagfyr 2024\. Bydd y Gorchymyn Cychwyn, ar 4 Medi 2023, yn dod â darpariaethau mewn perthynas â'r materion canlynol i rym: * Rhyddid academaidd darparwyr a staff addysg uwch (adran 17\); * Awtonomi sefydliadol darparwyr addysg drydyddol (adran 18\); * Cydnawsedd â chyfraith elusennau a dogfennau llywodraethu darparwyr addysg drydyddol (adran 19\); * Dyletswydd ar y Comisiwn i roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. (adran 20\); * Darpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau cyffredinol i'r Comisiwn ynghylch defnyddio unrhyw un o'i swyddogaethau (adran 21\); * Darpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i roi swyddogaethau atodol i'r Comisiwn drwy reoliadau (adran 22\); * Darpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff ac eiddo, hawliau a rhwymedigaethau o CCAUC a Gweinidogion Cymru i'r Comisiwn (adran 24 ac atodlen 2\). * Pŵer Gweinidogion Cymru i gyllido’r Comisiwn (adran 85(1\), (2\)(a) a (b)). Mae'r Gorchymyn yn dod â gweddill adran 85 i rym ar 1 Ebrill 2024\. * Gwybodaeth a chyngor oddi wrth y Comisiwn a gwybodaeth oddi wrth Weinidogion Cymru (adran 130\) * Gallu'r Comisiwn i rannu gwybodaeth (adran 132 ac eithrio is\-adran (1\)(f)) * Statws, gweithdrefnau, trefniadau gweithredol a phwyllgorau'r Comisiwn (atodlen 1\) Mae'r Gorchymyn Cychwyn hefyd yn cynnwys darpariaeth sy'n dod â swyddogaethau penodol o fewn y Ddeddf i rym yn rhannol, er mwyn galluogi'r Comisiwn i ymgymryd â gweithgareddau paratoadol dros yr hydref a'r gaeaf i gefnogi gweithredu swyddogaethau allweddol. Bydd y swyddogaethau sy'n cael eu dwyn i rym yn rhannol yn galluogi'r Comisiwn i ymgymryd â'r gweithgareddau paratoi canlynol mewn perthynas â'r system gofrestru: * Paratoi’r ddogfen sy'n pennu'r gofynion sydd i'w bodloni mewn perthynas â'r amodau cofrestru cychwynnol (adran 27(1\) a (2\)); * Penderfynu ar yr amodau cofrestru parhaus cyffredinol (adran 28(1\) i (3\), adran 31(1\)(a) i (f), (i), (j) a (2\) ac adrannau 32 a 33\); * Dechrau paratoi canllawiau yn ymwneud ag amodau cofrestru parhaus (adrannau 35 a 36\); * Ymgymryd â gwaith paratoi i benderfynu sut y bydd yn monitro cydymffurfiaeth darparwyr cofrestredig ag amodau cofrestru parhaus (adrannau 35 a 36\); * Dechrau paratoi datganiad ar ei bolisi cyllido (adran 87\). Mae'r Gorchymyn hefyd yn cynnwys darpariaeth sy'n dwyn i rym y pwerau gofynnol i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud yr is\-ddeddfwriaeth sy'n angenrheidiol i gefnogi sefydlu'r Comisiwn a gweithredu'r Ddeddf yn barhaus.  Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Translate the text from Welsh to English.
Ymunodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, sydd â chyfrifoldeb ar lefel y Cabinet am wyddoniaeth yn Llywodraeth Cymru, â’r Gweinidog Materion Gwledig, y Gogledd a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, ar gyfer ymweld â’r safle yn Wrecsam i weld y brechlyn yn cael ei gynhyrchu. Mae Wockhardt yn cynhyrchu brechlyn Astra Zeneca ar gyfer ei ddefnyddio ledled y DU. Mae’r cwmni’n cyflogi tua 500 o staff yn Wrecsam – y  cwmni fferyllol generig mwyaf ond tri yn y DU ac Iwerddon. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: > “Mae’n braf iawn cael bod yn Wrecsam heddiw i weld brechlyn sy’n achub bywydau yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru. Mae’n bleser arbennig hefyd cael cyfle i ddiolch yn bersonol i’r cwmni a’i weithlu ymroddedig am eu rhan allweddol wrth gefnogi cyflwyno’r brechlyn yng Nghymru a gweddill y DU.  Dyma gyfraniad gwych at drechu’r pandemig na welwyd ei debyg ers mwy na chenhedlaeth. > > > “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu’r sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru i dyfu. Bydd presenoldeb Wockhardt a’i gyfraniad hollbwysig yn ein helpu i wireddu’n huchelgais.” Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, y Gogledd a’r Trefnydd, Lesley Griffiths: > “Rwy’n aruthrol o falch o’r ffaith bod brechlyn Astra Zeneca yn cael ei gynhyrchu yma yn y Gogledd. Pan ddaeth yr alwad, camodd Wockhardt a’i weithlu i’r adwy a helpu. > > > “Mae’n dda iawn gweld cwmni rhyngwladol mor flaenllaw ag Wockhardt yn ymgartrefu yma yn y Gogledd ac yn chwarae rhan mor bwysig i’n helpu i ddiogelu ac achub bywydau dros y pandemig.”
Economy Minister, Vaughan Gething, who has Cabinet\-level responsibility for science in the Welsh Government, joined Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd, Lesley Griffiths, on a visit to the Wrexham site to see the vaccine being manufactured first\-hand. Wockhardt is manufacturing the Astra Zeneca vaccine for use across the UK. The company currently employs around 500 staff in Wrexham. It is the fourth largest generic pharmaceutical company in the UK and Ireland. Economy Minister, Vaughan Gething said: > “It’s great to be in Wrexham today to see this truly life\-saving vaccine being manufactured here in Wales. I’m particularly pleased to have the opportunity to personally thank the company and its committed workforce for the vital role they’re playing in supporting the rollout of the vaccine across Wales and the rest of the UK. This really is a fantastic contribution to tackling this once\-in\-a\-generation pandemic.  > > > “The Welsh Government is committed to supporting the Life Sciences sector in Wales to grow. Wockhardt’s continued presence here will play a crucial role in helping us realise our ambition.” Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd, Lesley Griffiths, said: > “I’m immensely proud the Astra Zeneca vaccine is being manufactured right here in North Wales. When the call came, Wockhardt and its workforce stepped up to help. > > > “I’m pleased to see a leading global company like Wockhardt based here in North Wales and playing a key role in helping protect and save lives during the pandemic.”
Translate the text from English to Welsh.
I visited Brittany last week to renew our Memorandum of Understanding with the President of the Regional Council Loïg Chesnais Girard. Wales’ relationship with Brittany is built on long\-standing cultural, linguistic and trading links and the former First Minister first signed a MoU with Brittany in 2004\. The changing political context in Wales, with the UK about to leave the EU, means that it is the right time to re\-commit to our relationship with Brittany. The MoU and Action Plan set out a number of themes which are of common interest to Wales and Brittany.  These include business links, co\-operation on education, marine energy, the environment culture and language. Later this year for example, we will welcome a group of Breton further and higher education leaders to meet their counterparts in Wales with a view to developing an exchange programme for staff and students. Our relationship may be constructed on ancient roots, but it is developing in a way that is absolutely contemporary, with cyber security as one of the areas identified for potential co\-operation. In Rennes, I visited the French Cyber Pole of excellence, an impressive joint initiative between the French Government and the Regional Council which co\-ordinates France’s research, defence, business and training offer. We discussed how the sector in Wales, which is the UK’s biggest cyber cluster, could co\-operate with the Pole and officials will take this forward. I participated in a conference in Brittany about the future of Europe in the light of Brexit, outlining how the Welsh Government is working to protect Wales’ interests. I underlined that while the UK is leaving the European Union, we are committed to maintaining and strengthening our relations with our partner regions and nations across Europe and our membership of European and international networks. I was also able to reassure our Breton friends that Brexit should not disrupt the strong dynamic of collaboration which we have developed over the years and that the Welsh Government is pressing for continued UK participation in European programmes like Erasmus Plus, which have traditionally supported our collaboration.   It was an auspicious moment to renew the MoU as this year Wales will be the country of honour in the Interceltic Festival in Lorient, which attracts over 700,000 participants. During my visit, our cultural connection was celebrated by a concert at the new Congress centre in Rennes where the Breton symphonic orchestra \- whose musical director, Grant Llewellyn, is from Wales \- performed alongside the BBC National Orchestra of Wales Chorus, in a partnership which the orchestras are seeking to develop further.
Bûm ar ymweliad â Llydaw yr wythnos ddiwethaf i adnewyddu ein Memorandwm Cyd\-ddealltwriaeth gyda Llywydd y Cyngor Rhanbarthol, Loïg Chesnais Girard. Mae perthynas Cymru â Llydaw yn seiliedig ar gysylltiadau diwylliannol, ieithyddol a masnachu dros gyfnod maith a llofnodwyd Memorandwm Cyd\-ddealltwriaeth â Llydaw am y tro cyntaf yn 2004 gan y cyn Brif Weinidog. Mae'r cyd\-destun gwleidyddol cyfnewidiol sydd ohoni yng Nghymru oherwydd bod y DU ar fin ymadael â'r UE yn golygu mai dyma'r amser delfrydol i ailymrwymo i'n perthynas â Llydaw. Mae'r Memorandwm a'r Cynllun Gweithredu yn amlinellu nifer o themâu sydd o fudd cyffredin i Gymru a Llydaw. Mae'r rhain yn cynnwys cysylltiadau busnes, cydweithredu ar addysg, ynni'r môr, yr amgylchedd, diwylliant ac iaith. Yn ddiweddarach eleni er enghraifft, byddwn yn croesawu grŵp o arweinwyr addysg bellach ac uwch o Lydaw i gyfarfod â'r staff cyfatebol yng Nghymru gyda'r bwriad o ddatblygu rhaglen gyfnewid i staff a myfyrwyr. Mae ein perthynas yn seiliedig ar wreiddiau hanesyddol, ond mae'n datblygu mewn ffordd sy'n gwbl gyfoes, gyda seiberddiogelwch yn un o'r meysydd a nodwyd ar gyfer y posibilrwydd o gydweithio. Yn Roazhon (Rennes), ymwelais â'r Ganolfan Ragoriaeth Seiber \- menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Ffrainc a'r Cyngor Rhanbarthol sy'n cydlynu cynnig ymchwil, amddiffyn, busnes a hyfforddiant Ffrainc. Trafodwyd sut y gallai'r sector yng Nghymru, sef clwstwr seiber mwyaf y DU, gydweithio â'r Ganolfan Ragoriaeth a bydd swyddogion yn mynd i'r afael â hyn. Bûm mewn cynhadledd yn Llydaw a oedd yn trafod dyfodol Ewrop yn sgil Brexit, gan amlinellu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddiogelu buddion Cymru. Pwysleisiais er bod y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ein bod ni wedi ymrwymo i gynnal a chryfhau ein perthynas â'n rhanbarthau a'n gwledydd partner yn Ewrop, yn ogystal â'n haelodaeth o rwydweithiau Ewropeaidd a rhyngwladol. Cefais hefyd y cyfle i sicrhau ein ffrindiau yn Llydaw na ddylai Brexit effeithio ar y cydweithio cryf sydd wedi datblygu rhyngom dros y blynyddoedd, a bod Llywodraeth Cymru yn pwyso am i'r DU barhau i fod yn rhan o raglenni Ewropeaidd megis Erasmus\+, sydd fel arfer yn cefnogi ein cydweithrediad. Roedd adnewyddu'r Memorandwm yn gam pwysig gan mai Cymru fydd y wlad anrhydeddus eleni yng  Ngŵyl Ryng\-Geltaidd Lorient sy'n denu dros 700,000 o bobl. Yn ystod fy ymweliad, dathlwyd ein cysylltiad diwylliannol gyda chyngerdd yng nghanolfan newydd y Gyngres yn Roazhon lle'r oedd cerddorfa symffonig Llydaw – gyda’r Cymro, Grant Llewellyn, fel cyfarwyddwr cerddorol – yn perfformio ochr yn ochr â Chorws Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, sy’n bartneriaeth y mae'r cerddorfeydd yn awyddus i'w datblygu ymhellach.
Translate the text from English to Welsh.
I offer Members an update on progress on the availability of Welsh\-medium textbooks to support reformed qualifications. Recognising concerns that have been expressed regarding the availability of Welsh\-medium textbooks, my officials have worked with WJEC to look at the best solution in addressing the issue in the short term. I am pleased to say that this has resulted in new working practices which have helped to reduce the difference in timescales between the availability of textbooks in English and Welsh.   Positive, creative steps have been taken to improve the situation, such as making draft versions of the textbooks available on the WJEC’s secure website before free copies of printed versions are distributed to schools.  This ensures that the content is available at a much earlier date for teachers and learners. New digital resources are also being developed, and current resources are being revised to fill any gaps and are available on WJEC’s website. This week Qualifications Wales will inform all schools of the qualifications being introduced in 2017 and will provide information about the available and planned support for these qualifications. However, I am clear that this is merely a temporary solution for the current reform of qualifications. As I have previously stated I am dissatisfied with the current situation and I do not expect Welsh\-medium learners to be disadvantaged in any way. We need to find a long term solution for this issue. We also need to plan for the future requirements of the new curriculum \- in both Welsh and English. I announced on 30 November my intention to hold a summit to look at ways in which we can address this issue. This summit will take place on 26 April. I am keen to hear what the education and creative sectors within Wales itself can do to address this failure in the market. We will bring together relevant stakeholders to explore the ways forward for future resource production, in both Welsh and English, for the reformed curriculum and qualifications. Developing a new curriculum, made in Wales, provides opportunities for us to  work together, to share our expertise and experiences and look at innovative ways of providing resources to support  our teachers and learners.  I also want to ensure that parents and learners in Wales are better served by the provision of relevant learning resources on the high\-street. I expect book retailers to work with the Welsh Government, WJEC and publishers in addressing this issue. Initial discussions held with the publishing sector have been promising and they are ready to embrace the challenge of ensuring that timely and appropriate educational resources, in Welsh and English, are available to meet the needs of our new curriculum and future qualifications. I plan to make a further statement on the issue following the summit.
Hoffwn gynnig diweddariad i Aelodau ar argaeledd gwerslyfrau cyfrwng Cymraeg i gefnogi cymwysterau diwygiedig. Gan gydnabod y pryderon sydd wedi'u mynegi ynghylch argaeledd gwerslyfrau cyfrwng Cymraeg, mae fy swyddogion wedi gweithio’n agos gyda CBAC i edrych ar wella’r sefyllfa yn y tymor byr. Rwy’n falch o ddweud bod hyn wedi arwain at arferion gweithio newydd sydd wedi helpu i leihau'r bwlch rhwng amserlen cyhoeddi’r gwerslyfrau yn Saesneg a'u cyhoeddi yn Gymraeg. Cymerwyd camau cadarnhaol a chreadigol i wella'r sefyllfa, megis rhoi fersiynau drafft o’r  gwerslyfrau ar wefan ddiogel CBAC cyn bo copïau am ddim o fersiynau printiedig ar gael i’w dosbarthu i ysgolion. Mae hyn yn sicrhau bod y cynnwys ar gael yn gynharach o lawer i athrawon a dysgwyr. Mae adnoddau digidol newydd hefyd yn cael eu datblygu ac adnoddau cyfredol yn cael eu diwygio i lenwi unrhyw fylchau. Mae ‘r rhain ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan CBAC. Bydd Cymwysterau Cymru yn rhoi gwybod i ysgolion yr wythnos hon o’r cymwysterau sy’n cael eu cyflwyno yn 2017 a bydd yn darparu gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael ac wedi'i chynllunio ar gyfer y cymwysterau hyn. Fodd bynnag, hoffwn roi ar ddeall mai ateb dros dro ar gyfer y diwygiadau i’r cymwysterau presennol ydy hyn. Fel rwyf wedi datgan eisoes, rwy’n anfodlon gyda’r sefyllfa bresennol ac nid wyf yn disgwyl bod dysgwyr cyfrwng Cymraeg dan anfantais mewn unrhyw ffordd. Mae angen i ni ddod o hyd i ateb tymor hir ar gyfer y mater hwn. Mae angen i ni hefyd gynllunio ar gyfer gofynion adnoddau y cwricwlwm newydd \- yn Gymraeg a Saesneg \- yn y dyfodol. Ar 30 Tachwedd, cyhoeddais fy mwriad i gynnal uwchgynhadledd i edrych ar ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â hyn. Bydd yr uwchgynhadledd hon yn digwydd ar 26 Ebrill. Rwy’n awyddus i glywed beth all y sector addysg a'r sector creadigol yng Nghymru ei hun ei wneud i fynd i'r afael â’r methiant hwn yn y farchnad. Byddwn yn dod â rhanddeiliaid perthnasol at ei gilydd i ymchwilio i ffyrdd o gynhyrchu adnoddau yn y dyfodol, yn Gymraeg a Saesneg, ar gyfer y cwricwlwm diwygiedig a chymwysterau. Mae datblygu cwricwlwm newydd, yng Nghymru, yn rhoi cyfleoedd i ni weithio gyda'n gilydd, i rannu ein harbenigedd a'n profiadau ac edrych ar ffyrdd arloesol o ddarparu adnoddau i gefnogi ein hathrawon a’n dysgwyr. Rwyf hefyd am sicrhau bod rhieni a dysgwyr yng Nghymru yn cael eu gwasanaethu'n well drwy ddarparu adnoddau dysgu perthnasol ar y stryd fawr. Rwy'n disgwyl i lyfrwerthwyr i weithio gyda Llywodraeth Cymru, CBAC a chyhoeddwyr ar hyn. Mae’r trafodaethau cychwynnol sydd wedi'u cynnal gyda’r sector cyhoeddi yng Nghymru wedi bod yn addawol ac maent yn barod i dderbyn yr her o sicrhau bod adnoddau addysgol amserol a phriodol ar gael, yn Gymraeg a Saesneg,  i ddiwallu anghenion ein cwricwlwm newydd a'n cymwysterau yn y dyfodol. Rwy'n bwriadu gwneud datganiad pellach ar y mater yn dilyn yr uwchgynhadledd.
Translate the text from English to Welsh.
Fairtrade Fortnight 2023 took place between 27 February and 12 March. The theme this year is how making the small switch to Fairtrade supports producers in protecting the future of some of our most loved food and the planet.  Climate change is making crops like coffee, bananas and chocolate harder to grow so in turn much more expensive to buy. This, combined with deeply unfair trade practises, means that communities growing these crops are being pushed to the brink. But if more people choose Fairtrade that means extra income, power and support for those communities which help support producers in protecting the future of these crops and the planet.  The Welsh Government is committed to fair trade and Wales has been a fair trade nation since 2008\. We have seen the benefits it brings to farmers who are supported through Welsh Government funding in Uganda. This has allowed community led initiatives, both in Wales and Uganda, to make real impacts on their communities. Jenipher Sambezi and Nimrod Wambette from the Mount Elgon Agroforestry Communities Cooperative (MEACCE) were funded by our Wales and Africa programme to visit Wales from their homes in Eastern Uganda for Fairtrade Fortnight and they continue to be real figureheads for the movement. Through their cooperative they produce quality fairtrade coffee, ‘Jenipher’s Coffi’ that is sold in Wales through a partnership with Ferraris of Pontyclun. I attended a number of events to mark Fairtrade Fortnight. Firstly, I visited Cardiff Metropolitan University on St David’s Day. The student led body continue to be an exemplar of the excellent work taking place throughout Wales. The University was recently awarded first place in the People and Planet University League for year 2022/23\. This was out of 153 UK universities. I also visited the fair trade shop Sussed in Porthcawl. This shop, founded by and supporting the charity Sustainable Wales, is a community owned cooperative staffed entirely by volunteers, a place where everyone has an equal say, promoting workplace democracy. I hosted both Jenipher Sambezi and Nimrod Wambette in Ty Hywel where they discussed fair trade and the positive impact it is having on their community with a large number of Senedd Members.  Those who encounter Jenipher and Nimrod continue to be impressed by the work they do and the impact they have on their community.    On International Women’s Day I spoke at an event hosted by the Welsh Government’s Wales and Africa team, which celebrated the four women’s empowerment projects in Uganda and Lesotho that were funded through our partners in Hub Cymru Africa. The importance of fair trade was also highlighted at this event and how switching to fairtrade products can have a massive impact on small producers in these countries. As we approach Wales’s 15\-year anniversary as a fair trade nation we are working towards developing more ambitious criteria to keep Wales at the forefront of this movement. An announcement on the new criteria will be made this summer to mark the occasion.
Cynhaliwyd Pythefnos Masnach Deg 2023 rhwng 27 Chwefror a 12 Mawrth. Y thema eleni yw sut mae gwneud y newid bach i Fasnach Deg yn cefnogi cynhyrchwyr i ddiogelu dyfodol rhai o'n hoff fwydydd a'r blaned. Mae newid hinsawdd yn gwneud cnydau fel coffi, bananas a siocled yn anoddach i'w tyfu ac yn sgil hynny maent yn llawer drutach i'w prynu. Mae hyn, ynghyd ag arferion masnach hynod annheg, yn golygu bod cymunedau sy'n tyfu'r cnydau hyn yn cael eu gwthio i'r dibyn. Ond os bydd mwy o bobl yn dewis Masnach Deg mae hynny'n golygu incwm, pŵer a chymorth ychwanegol i'r cymunedau hynny sy'n helpu i gefnogi cynhyrchwyr i ddiogelu dyfodol y cnydau hyn a'r blaned. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fasnach deg ac mae Cymru wedi bod yn genedl masnach deg ers 2008\. Rydym wedi gweld y manteision y mae'n eu cynnig i ffermwyr sy'n cael eu cefnogi drwy gyllid Llywodraeth Cymru yn Uganda. Mae hyn wedi caniatáu i fentrau dan arweiniad y gymuned, yng Nghymru ac yn Uganda, gael effeithiau gwirioneddol ar eu cymunedau. Cafodd Jenipher Sambezi a Nimrod Wambette o Fenter Gydweithredol Cymunedau Amaeth\-goedwigaeth Mynydd Elgon (MEACCE) eu hariannu gan ein rhaglen Cymru ac Affrica i ymweld â Chymru o'u cartrefi yn nwyrain Uganda ar gyfer Pythefnos Masnach Deg, ac maent yn parhau i fod yn aelodau blaenllaw ar gyfer y mudiad. Drwy eu menter gydweithredol maent yn cynhyrchu coffi Masnach Deg o safon, sef ‘Jenipher's Coffi’ sy'n cael ei werthu yng Nghymru drwy bartneriaeth gyda Ferrari’s o Bont\-y\-clun. Mynychais nifer o ddigwyddiadau i nodi Pythefnos Masnach Deg. Yn gyntaf, ymwelais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae'r corff dan arweiniad myfyrwyr yn parhau i fod yn enghraifft o'r gwaith rhagorol sy'n digwydd ledled Cymru. Yn ddiweddar, dyfarnwyd y safle cyntaf i'r Brifysgol yng Nghynghrair Prifysgolion Pobl a'r Blaned ar gyfer blwyddyn 2022/23\. Roedd hyn allan o 153 o brifysgolion y DU. Ymwelais hefyd â siop masnach deg Sussed ym Mhorthcawl. Mae'r siop hon, a sefydlwyd gan yr elusen Cymru Gynaliadwy, ac sy’n cefnogi’r elusen honno, yn fenter gydweithredol sy'n eiddo i'r gymuned ac sy'n cael ei staffio'n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Mae’n fan lle mae gan bawb lais cyfartal, gan hyrwyddo democratiaeth yn y gweithle. Croesewais Jenipher Sambezi a Nimrod Wambette yn Nhŷ Hywel, a buont yn trafod masnach deg a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar eu cymuned, gyda nifer fawr o Aelodau o'r Senedd.  Mae Jenipher a Nimrod yn parhau i greu argraff fawr ar y rheini sy'n dod ar eu traws, drwy’r gwaith y maen nhw'n ei wneud a'r effaith maen nhw'n ei gael ar eu cymuned.   Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod siaradais mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, a oedd yn dathlu'r pedwar prosiect grymuso menywod yn Uganda a Lesotho a ariannwyd drwy ein partneriaid yn Hub Cymru Affrica. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd masnach deg yn y digwyddiad hwn hefyd a sut y gall newid i gynhyrchion Masnach Deg gael effaith enfawr ar gynhyrchwyr bach yn y gwledydd hyn.  Wrth inni agosáu at ben\-blwydd Cymru yn 15 oed fel cenedl masnach deg, rydym yn gweithio tuag at ddatblygu meini prawf mwy uchelgeisiol i gadw Cymru ar flaen y gad yn y mudiad hwn. Bydd cyhoeddiad am y meini prawf newydd yn cael ei wneud yr haf hwn i nodi'r achlysur.  
Translate the text from English to Welsh.
First Minister Carwyn Jones said: > “Today signals the end of months of speculation and the start of a critical period of negotiation which will shape our future relationship with Europe and the wider world. > > > > “We remain committed to the priorities set out in our white paper, Securing Wales’ Future, which puts full and unfettered access to the Single Market first and foremost. > > > > “Our white paper sets out a sensible negotiating position for the UK as a whole, and has already influenced the UK Government’s approach in important areas including maintaining full access to the Single Market, upholding existing employment rights and the importance of transitional arrangements. > > > > “While we have often been frustrated with the processes by which we’ve arrived at this point today, we must now concentrate on the job in hand. We stand ready to work constructively with the UK Government to secure a deal which protects Welsh businesses, our economy and the future prosperity of Wales. > > > > “If, as negotiations progress, we believe our priorities are not being championed or our representation falls below a level we find acceptable, we will not remain silent. We will not allow Wales to be side\-lined – we will be outspoken and our voice will be heard. > > > > “As a leader of a country which voted to leave the EU, we are wholly focused on securing Wales’ future. We will step up to the plate and do all we can to deliver the best possible outcome for Wales.”
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: > “Mae heddiw yn nodi diwedd misoedd o ddyfalu a dechrau cyfnod allweddol o negodiadau a fydd yn siapio ein perthynas ag Ewrop a’r byd yn ehangach yn y dyfodol.   > > “Rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i’r blaenoriaethau sydd wedi’u hamlinellu yn ein papur gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, sy’n rhoi mynediad llawn a dirwystr i’r Farchnad Sengl uwchlaw pob dim.   > > “Mae ein papur gwyn yn cyflwyno safbwynt negodi synhwyrol ar gyfer y DU gyfan. Yn wir, mae dull Llywodraeth y DU eisoes wedi’i ddylanwadu ganddo mewn meysydd pwysig, sy’n cynnwys cadw mynediad llawn i’r Farchnad Sengl, cynnal hawliau cyflogaeth presennol a phwysigrwydd y trefniadau pontio. > > “Mae’r prosesau ar gyfer cyrraedd y pwynt hwn heddiw wedi bod yn destun rhwystredigaeth yn aml, ond rhaid inni ganolbwyntio nawr ar y gwaith sydd gennym i’w wneud. Rydyn ni’n barod i weithio mewn modd adeiladol gyda Llywodraeth y DU a sefyll ochr yn ochr â hi i daro bargen sy’n diogelu busnesau Cymru, ein heconomi ac sy’n sicrhau bod Cymru yn ffyniannus yn y dyfodol.   > > “Wrth i’r negodiadau fynd rhagddynt, os na fyddwn ni’n credu bod ein blaenoriaethau yn cael eu hyrwyddo neu os na fyddwn ni’n meddwl bod lefel ein cynrychiolaeth yn dderbyniol, fe fyddwn ni yn codi llais. Fyddwn ni ddim yn caniatáu i Gymru gael ei hanwybyddu – byddwn ni’n llafar ac fe fydd ein llais yn cael ei glywed. > > “Fel arweinydd gwlad a bleidleisiodd i ymadael â’r UE, dw i’n gwbl ymroddedig i ddiogelu dyfodol Cymru. Byddwn ni’n ymateb i’r her ac yn gwneud popeth yn ein gallu i gyflawni’r canlyniad gorau posibl i Gymru.”
Translate the text from Welsh to English.
O 1 Hydref eleni, caiff ardaloedd TB Isel, Canolradd ac Uchel eu sefydlu yng Nghymru ar sail lefelau achosion o TB mewn gwartheg.  Bydd mesurau ychwanegol pwrpasol yn cael eu gweithredu ym mhob ardal TB er mwyn diogelu’r Ardal TB Isel a gostwng lefel y clefyd yn yr Ardal TB Canolradd a’r Ardal TB Uchel. Mae hyn yn dilyn ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad a lansiwyd ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r mesurau rheoli cryfach yn cynnwys cyflwyno profion ar ôl symud yn yr Ardaloedd TB Isel o 1 Hydref 2017\. Bydd hyn yn diogelu’r ardal drwy nodi anifeiliaid sydd wedi’u heintio yn gyflym, cyn iddynt allu heintio anifeiliaid eraill. Cyflwynir y mesur hwn hefyd yn yr Ardaloedd TB Canolradd y flwyddyn nesaf i rwystro’r clefyd rhag lledaenu o Ardaloedd TB Uchel cyfagos.  Y flaenoriaeth ar gyfer Ardaloedd TB Uchel yw parhau i leihau nifer yr achosion o TB. O dan y Rhaglen, bydd gan bob buches â TB cronig gynllun gweithredu unigol gyda mesurau rheoli sy’n anelu’n benodol at glirio’r haint mewn gwartheg.  Yn y buchesi â TB cronig hyn lle ceir tystiolaeth bod moch daear wedi’u heintio, byddwn yn ystyried amrywiaeth o opsiynau i leihau'r risg o ledaenu’r clefyd, gan gynnwys eu trapio mewn cawell, cynnal profion a, lle’r bo angen, lladd heb greulondeb foch daear sydd wedi’u heintio.  Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i ddiystyru rhaglen ar raddfa fawr i ddifa moch daear fel y gwneir yn Lloegr.  Gan siarad yn y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  > “Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gwneud gwir gynnydd tuag at ddileu TB yng Nghymru. Mae nifer yr achosion newydd wedi gostwng 40% ers y lefel uchaf yn 2009\. Ar hyn o bryd mae 95% o fuchesi yng Nghymru heb TB.  > > “Dw i wedi gwrando ar ymatebion y diwydiant i’n hymgynghoriad a dw i wedi cynnwys beth oedd yn briodol ac yn rhesymol yn y Rhaglen. Ni ddylid ystyried hyn yn gynllun y Llywodraeth yn unig; mae wedi’i ddatblygu ar ôl ymgynghori â’r diwydiant a chaiff ei adolygu dros amser. Galwaf yn awr ar y diwydiant ffermio a’r proffesiwn milfeddygol i chwarae rhan lawn ynddi. Gyda’n gilydd gallwn gyflawni ein nod o gael Cymru heb TB." Mae’r Rhaglen Dileu TB newydd a’r Cynllun Cyflawni i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
From the 1st October this year, Low, Intermediate and High TB Areas will be established in Wales based on bovine TB incidence levels.  Enhanced measures will be applied in each TB Area tailored to protect the Low TB Area and reduce the disease in the Intermediate and High TB Areas. This follows consideration of the responses to a consultation launched at the end of last year. The enhanced controls include introducing post\-movement testing in the Low TB Areas from the 1st October 2017\. This will protect the area by identifying infected animals at the earliest opportunity, before they can go on to infect others. This measure will also be introduced in the Intermediate TB Areas next year to stop the risk of the disease spreading from the neighbouring High TB Areas.  The priority for High TB Areas is to continue to reduce the number of TB breakdowns. Under the Programme, chronic breakdown herds will have individual action plans with disease control measures specifically aimed at clearing up infection in cattle.  In these chronic breakdown herds, where there is evidence of infection in the badger population, we will  consider a range of options to reduce the risk of disease spread, including cage\-trapping, testing and where necessary humanely killing infected badgers.  The Cabinet Secretary continues to rule out large scale culling of badgers that is being applied in England.  Speaking at the Senedd, the Cabinet Secretary said:  > “Over the last few years we have made real progress towards eradicating TB in Wales. The number of new incidents has fallen by over 40% since its peak in 2009 and currently 95% of herds in Wales are TB free.  > > “I have listened to the industries responses to our consultation and have fed what was appropriate and reasonable into the Programme.This should not be seen as exclusively a Government plan; it has been developed through consultation with industry, and will be reviewed over time. I now call on the farming industry and veterinary profession to play a full part. Together we can achieve our goal of a TB free Wales.” The new TB Eradication Programme and Delivery Plan are available on the Welsh Government website.
Translate the text from Welsh to English.
Mae Marsh House yn cael ei ddefnyddio unwaith eto i ddarparu 11 uned o lety â chymorth i bobl ifanc ddigartref, 22 uned o lety dros dro, a chyfleuster galw heibio cymunedol. Mae’r nodweddion ychwanegol sydd ar gael yno yn cynnwys ceginau cymunedol, lolfeydd, ystafell gemau ac ystafell deledu, llety ar gyfer y staff, mannau lles yn yr awyr agored, a darpariaethau teithio llesol. Bydd yn ganolfan asesu a brysbennu ar gyfer pobl ddigartref, gan ddarparu ymyriadau i bobl y bydd arnynt angen llety dros dro mewn argyfwng. Mae'r gwaith arloesol i drawsnewid yr adeilad yn ganlyniad i waith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cartrefi Cymoedd Merthyr, a Pobl. Cafwyd mwy na £1 filiwn o gymorth ar gyfer y gwaith adnewyddu drwy Cyllid Cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Trawsnewid Trefi, a chafwyd cymorth hefyd ar ffurf cyllid cyfalaf craidd oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Bydd cyllid ychwanegol o’r Grant Cymorth Tai yn helpu Cartrefi Cymoedd Merthyr gyda’i waith. Cafodd Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, y pleser yn ddiweddar o ymweld â Marsh House a chyfarfod â rhai o'i drigolion i drafod eu profiadau bywyd. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: > Mae prosiect Marsh House yn hyrwyddo gwaith i adfer adeiladau allweddol yng nghanol ein trefi, yn ogystal â darparu llety dros dro hanfodol, llety byw â chymorth, a gwasanaethau mewnol sy’n cael eu teilwra ar gyfer trigolion lleol. > > Mae'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn Marsh House yn dangos y gallwn ni, drwy weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth, helpu i gefnogi’n cymunedau pan fydd arnyn nhw ein hangen fwyaf. > > Nid dim ond drwy ddarparu tai y gallwn ni atal digartrefedd, ac rydyn ni wedi cydnabod ers tro fod gan bob gwasanaeth cyhoeddus, a'r trydydd sector hefyd, ran i'w chwarae er mwyn rhoi diwedd arno. > > Mae pawb yn haeddu cael rhywle i'w alw'n gartref, a hoffwn i weld y math hwn o brosiect mewn ardaloedd eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Dywedodd Lorraine Griffiths, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cymorth) Grŵp Pobl: > Fel y darparwr gwasanaethau cymorth mwyaf yng Nghymru ar gyfer pobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, roedd Pobl yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Marsh House. > > Mae ein gwasanaeth cymorth newydd, Marsh House, yn dangos sut rydym yn gweithio mewn ffordd amlasiantaeth mewn amgylchedd sy'n wybodus yn seicolegol i gefnogi'n gadarnhaol y rhai sydd ei angen fwyaf ar eu taith i greu cartref sefydlog a diogel. Ym mis Hydref 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.   Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn trawsnewid profiad pobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref drwy newid y system ddigartrefedd yn sylfaenol, a hefyd drwy newid rôl y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y system honno ac sy’n gysylltiedig â hi.
Marsh House has been brought back into active use to provide 11 units of supported youth homelessness accommodation, 22 units of temporary accommodation and a community hub drop\-in facility. Additional features also include communal kitchens, lounges, games and TV rooms, accommodation for staff, outside wellbeing spaces and active travel provisions. It will serve as a homelessness assessment and triage centre, providing interventions for those requiring temporary accommodation in a crisis. The innovative transformation is a result of partnership work between the Welsh Government, Merthyr Tydfil County Borough Council, Merthyr Valleys Homes and Pobl. The refurbishment received more than £1 million in funding support from the Welsh Government’s Transforming Towns Capital Funding alongside support from Merthyr Tydfil County Borough Council’s core capital funding. Additional funding from the Housing Support Grant will support ongoing work by Merthyr Valley Homes. The Cabinet Secretary for Housing, Local Government and Planning, Julie James, recently had the pleasure of visiting Marsh House and meeting with some of its residents to discuss their lived experiences. The Cabinet Secretary said: > The Marsh House project promotes the restoration of key buildings in our town centres as well as providing vital temporary accommodation, supported living and tailored in\-house service provisions to local residents. > > The fantastic work being undertaken at Marsh House demonstrates that by working together in partnership we can help support our communities when they need us most. > > Homelessness cannot be prevented through housing alone and we have long recognised that all public services and the third sector have a role to play in ending it. > > Everyone deserves to have somewhere to call home and I would very much like to see this project’s approach replicated in other areas facing similar challenges. Lorraine Griffiths, Assistant Director (Support) at Pobl Group , said: > As the largest provider of support services in Wales for people experiencing or at risk of homelessness, Pobl was delighted to welcome the Cabinet Secretary to Marsh House. > > Our new support service, Marsh House, demonstrates how we work in a multi\-agency way within a psychologically informed environment to positively support those who need it most on their journey to creating a stable and secure home. In October 2023, the Welsh Government introduced it’s White Paper that sets out how the Welsh Government plans to end homelessness in Wales. The proposed legislation will transform the experience of those who are homeless and at risk of homelessness by fundamentally changing the homelessness system and the role of professionals working within and around it.
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno rôl nyrsio band 4 rheoleiddiedig ar gyfer y GIG yng Nghymru, yn amodol ar wneud y diwygiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth y DU. Mae'r penderfyniad hwn yn seiliedig ar yr adolygiad mwyaf, a mwyaf dylanwadol, o nyrsio yng Nghymru ers cyflwyno'r nyrs raddedig yn 2004\. Y llynedd, comisiynais brosiect i edrych ar yr opsiynau a'r cyfleoedd i lywio safbwyntiau polisi ac argymhellion ar gyfer dyfodol y gweithlu nyrsio band 4 ar draws GIG Cymru. Y nod yw ystyried a fyddai rôl band 4 cofrestredig, a rheoleiddiedig, yn ddymunol, yn briodol ac o werth o fewn GIG Cymru. Mae'r gwaith yn gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gweithlu: *Mynd i'r afael â Heriau Gweithlu GIG Cymru*, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023\.  Mae'r prosiect wedi cynnwys adolygiad cynhwysfawr o lenyddiaeth, casglu tystiolaeth ac ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid cyn llunio adroddiad. Mae canfyddiad allweddol yn dangos, er gwaethaf y gwaith sylweddol a wnaed dros ddegawd i safoni datblygiad Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, nad yw’r rôl band 4 yn cael ei defnyddio ddigon o bell ffordd, a bod dull anghyson o’i gweithredu ar draws GIG Cymru.  Yn ei hanfod, canlyniad y prosiect yw'r cadarnhad bod rhanddeiliaid clinigol ac academaidd ar draws Cymru eisiau i'r rôl band 4 mewn nyrsio gael ei rheoleiddio i ddiogelu'r cyhoedd yn well ac i leihau risg, ynghyd â sicrhau cysondeb o ran safonau proffesiynol ac addysgol. Bydd y dull hwn yn adlewyrchu'r gwaith a wnaed yn GIG Lloegr wrth gyflwyno'u rôl Cydymaith Nyrsio Cofrestredig Band 4\. Disgrifiwyd y Cydymaith Nyrsio Cofrestredig fel y model gorau o ehangu mynediad i nyrsio yn Lloegr ac mae'n rhoi cyfle i aelodau newydd, addysgedig o'r gweithlu nyrsio bontio'r bwlch rhwng Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd a Nyrsys Cofrestredig. Mae'r adroddiad yn cynnwys 20 o argymhellion wedi'u rhannu rhwng Llywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG i'w gweithredu ac rwyf wedi derbyn yr holl argymhellion yn llawn. Mae angen gwneud diwygiadau deddfwriaethol i'r Gorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth (2001\) er mwyn cyflwyno'r rôl Cydymaith Nyrsio Cofrestredig yng Nghymru. Mae'r rhain yn bwerau a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Rwyf wedi hysbysu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn ffurfiol fel y gellir ystyried fy mhenderfyniad yn ei raglen diwygio rheoleiddio sydd ar ddod. Rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru gysylltu â'r swyddogion cyfatebol yn Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU mewn perthynas â'r mater hwn. Dros yr wythnosau nesaf bydd adroddiad llawn y prosiect yn cael ei gyhoeddi, ac yn ddiweddarach eleni byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygu paramedrau ymarfer ar gyfer y rôl newydd yng Nghymru. Mae hwn yn benderfyniad pwysig ar gyfer y maes nyrsio ac mae'n hanfodol bwysig o ran sicrhau ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir i gleifion yn ogystal â gwella canlyniadau iddynt.
Today I am announcing my intention to introduce a regulated band 4 nursing role for the NHS in Wales, subject to the necessary UK legislative amendments. This decision is based on the biggest and most impactful review of nursing in Wales since the introduction of the graduate nurse in 2004\. Last year I commissioned a project to explore the options and opportunities to inform a policy position and recommendations for the future of the band 4 nursing workforce across NHS Wales. The aim being to consider whether a registered and regulated band 4 role would be desirable, appropriate and of value within NHS Wales. The work is intrinsically linked to the Welsh Government National Workforce Implementation Plan: *Addressing NHS Wales Workforce Challenges*, published in February 2023\.  The project has involved a comprehensive review of literature, evidence gathering and extensive stakeholder engagement followed by the production of a report.  A key finding demonstrates that despite considerable work over a decade to standardise Health Care Support Worker development, there remains significant under\-utilisation of the band 4 role and an inconsistent approach to its implementation across NHS Wales.  A fundamental outcome of the project confirms that clinical and academic stakeholders across Wales want the band 4 role in nursing to be regulated to provide increased public protection and a reduction in risk, along with consistency in terms of professional and educational standards. This approach will mirror work undertaken in NHS England with the introduction of their band 4 Registered Nursing Associate role. The Registered Nursing Associate has been described as the best model of widening access into nursing in England and provides the opportunity for new, educated members of the nursing workforce to bridge the gap between Health Care Support Workers and Registered Nurses. The report includes 20 recommendations divided between Welsh Government, Health Education and Improvement Wales, health boards and NHS trusts to action and I have accepted all the recommendations in full. Legislative amendments to the Nursing and Midwifery Order (2001\) are required to introduce the Registered Nursing Associate role into Wales. These are powers reserved by the UK Government. I have notified formally the Nursing and Midwifery Council so that my decision can be factored into its imminent regulatory reform programme. I have also asked Welsh Government officials to liaise with counterparts in the UK Department of Health and Social Care in relation to this matter. Over the coming weeks the full project report will be published, and later this year we will undertake public consultation on developing the parameters of practice for the new role in Wales. This is a momentous decision for nursing and is vitally important for the quality and safety of care provided to patients as well as improving patient outcomes.
Translate the text from English to Welsh.
On 31 March, I launched a consultation into changes we were proposing to make to the Child Minding and Day Care (Disqualification) (Wales) Regulations 2010\. These regulations provide important safeguards to reduce the risk of harm to children by preventing unsuitable registered childcare providers, or those who wish to register, to care for children.   The responses to the consultation supported the inclusion of additional offences and updates to law introduced since the 2010 regulations were made. Policy changes, which were suggested as part of the consultation were also welcomed overall. These related to the removal of the disqualification by association provision, which disqualified people who are registered (or wish to register) to provide childcare away from their homes (day care and child minders who work away from their homes) because they live with someone who is disqualified under the regulations.  These changes to the 2022 regulations would mean that people who were previously disqualified from becoming registered childcare providers through no fault of their own can now register to provide childcare. We also proposed removing some of the anomalies in the current legislation to ensure people who may have been subject to care or supervision orders in the past, together with foster, kinship and adoptive parents, are treated fairly. The summary of responses is available here: https://gov.wales/draft\-child\-minding\-and\-day\-care\-disqualification\-wales\-regulations\-2022 These changes are a positive step forwards, allowing more people to register to provide childcare services in Wales. I intend to lay these amended regulations in the autumn. I will also make guidance available to support the 2022 regulations, so people are clear about the regulatory requirements they need to meet to ensure compliance with the law.
Ar 31 Mawrth, lansiais ymgynghoriad ynghylch newidiadau yr oeddem am eu gwneud i Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymwyso) (Cymru) 2010\. Mae’r rheoliadau yn darparu mesurau diogelu pwysig i leihau’r risg o niwed i blant drwy atal darparwyr gofal plant cofrestredig anaddas, neu unigolion anaddas sy’n dymuno cofrestru, rhag gofalu am blant.   Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cefnogi cynnwys troseddau ychwanegol ac elfennau o’r gyfraith a ddiweddarwyd ers i reoliadau 2010 gael eu gwneud. Yn gyffredinol croesawyd y newidiadau polisi a awgrymwyd fel rhan o’r ymgynghoriad hefyd. Roedd y rhain yn ymwneud â chael gwared ar y ddarpariaeth sy’n anghymwyso unigolion ar sail cysylltiad, hynny yw pobl sydd wedi’u cofrestru (neu sy’n dymuno cofrestru) i ddarparu gofal plant ar safle nad yw’n gartref iddynt (gofal dydd a gwarchodwyr plant sy’n gweithio ar safle nad yw’n gartref iddynt) am eu bod yn byw gyda rhywun sydd wedi’i anghymwyso o dan y rheoliadau. Byddai’r newidiadau hyn i reoliadau 2022 yn golygu bod pobl a oedd wedi’u hanghymwyso rhag bod yn ddarparwyr gofal plant cofrestredig, er nad oedd bai arnyn nhw’n bersonol, bellach yn gallu cofrestru i ddarparu gofal plant. Cynigiwyd hefyd gael gwared ar rai anghysonderau yn y ddeddfwriaeth i sicrhau bod pobl a allai fod wedi bod yn destun gorchmynion gofal neu oruchwylio yn y gorffennol, ynghyd â gofalwyr maeth, gofalwyr sy’n berthnasau a phobl sydd wedi mabwysiadu, yn cael eu trin yn deg. Mae’r crynodeb o’r ymatebion ar gael yma: https://llyw.cymru/rheoliadau\-gwarchod\-plant\-gofal\-dydd\-anghymhwyso\-cymru\-drafft\-2022 Mae’r newidiadau hyn yn gam cadarnhaol ymlaen, gan ganiatáu i fwy o bobl gofrestru i ddarparu gwasanaethau gofal plant yng Nghymru. Rwy’n bwriadu gosod y rheoliadau diwygiedig hyn yn yr hydref. Byddaf hefyd yn darparu canllawiau i ategu rheoliadau 2022 er mwyn ei gwneud yn glir beth yw’r gofynion rheoleiddiol y mae angen eu bodloni i gydymffurfio â’r gyfraith.
Translate the text from Welsh to English.
Mae llythyrau gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yn cael eu dosbarthu ar hyn o bryd i’r unigolion hynny sy’n agored iawn i niwed ac a oedd yn arfer gwarchod eu hunain. Rydym wedi gweld cynnydd yn ddiweddar yn nifer yr achosion o’r coronafeirws ar draws ein cymunedau. Mae’r llythyr hwn yn cynnwys y cyngor diweddaraf i bobl am y ffordd orau i’w diogelu eu hunain. Mae copi o’r llythyr i’w gael ynghlwm er gwybodaeth ichi. ### Dogfennau * #### Llythyr, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 518 KB 518 KB * #### Atodiad \- Gofalwch am eich Iechyd Meddwl, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 3 MB 3 MB
Letters from the Chief Medical Officer for Wales (CMO) to those who are extremely vulnerable and were previously shielding, are currently being issued. We have recently seen an increase in cases of coronavirus across our communities. This letter contains the latest advice to people on how to best protect themselves. A copy of the letter is attached for your information. ### Documents * #### Letter, file type: pdf, file size: 514 KB 514 KB * #### Annex \- Support your Mental Wellbeing, file type: pdf, file size: 3 MB 3 MB
Translate the text from English to Welsh.
I am writing to update Members on the future of rail in Wales and the Borders. Members will recall that I wrote on 22nd October 2020 specifically on the future delivery model Transport for Wales will be implementing which will allow us to adapt our plans to a post\-Covid era.   I am pleased to report that following a detailed and thorough transition process, Transport for Wales working in close partnership with Keolis Amey, as of 7 February, TfW is now operating the Wales and Borders rail service under our subsidiary, Transport for Wales Rail LTD. Rail passenger numbers have reduced significantly due to Covid\-19, but our services still remain critically important for people across Wales and the borders. Despite the broader challenges presented by Covid\-19, and the complexity of the transfer process, I’m pleased that we have continued to deliver services throughout the transition with no detrimental impact to passengers. The delivery of key commitments, such as the creation of the Metro, the delivery of brand\-new rolling stock for the Wales and Borders rail network and other improvements remain a priority for Welsh Government, and its delivery arm Transport for Wales . This is in spite of the challenges we are currently facing as a result of the coronavirus pandemic. Transport for Wales continue to work closely with all partners and their supply chain to ensure they deliver our plans and services with safety as the top priority.    From 7 February, the partnership between Transport for Wales, Keolis and Amey will now be made up of three key components:   * The delivery of day to day rail services is now the responsibility of a new publicly\-owned subsidiary of Transport for Wales (Transport for Wales Rail LTD), allowing government to have an even greater role in the delivery of rail services in Wales and the borders, reflective of the new commercial realities of the post Covid\-19 environment. With huge uncertainty over passenger revenue, this provides us with the most stable financial base to manage rail services as we emerge from the pandemic. * Infrastructure management and transformation of the Welsh Government\-owned Core Valley Lines will continue to be delivered under the current contract with AMEY Keolis LTD. This will provide stability for the programme to ensure effective delivery of the South Wales Metro transformation work which is already underway. * A new partnership with Keolis and Amey, led by Transport for Wales, has been developed, which will allow the people of Wales to continue to draw on the international experience and expertise of these partners to help TfW to deliver important commitments such as integrated ticketing, on demand transport systems, cross modal design and delivery, in addition to the ongoing integration of light and heavy rail.  The partnership is in the form of a majority TfW owned joint venture, which will be known as ‘Transport for Wales Innovation Services’. Members are all too aware that we are still in difficult times and we can’t afford to be complacent as we navigate our way out of the pandemic. However, our ambition to continue to deliver a high\-quality public transport system and our commitment to delivering this Government’s ambitious vision remains.  Seeing the impact on people and communities across Wales and its borders has heightened our awareness of the importance of the services TfW deliver, and the wider climate change and social justice priorities are as important as ever. Whatever the future looks like, good quality, integrated sustainable transport is a critical part of how we build back better.   I am sure members will share our desire to see this new model flourish and continue to deliver on our ambitious plans for the future. 
Rwy’n ysgrifennu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar ddyfodol rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau. Bydd Aelodau yn cofio i mi ysgrifennu ar 22 Hydref 2020 yn benodol am y model y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ei gyflwyno a fydd yn caniatáu i ni addasu ein cynlluniau ar gyfer cyfnod ar ôl Covid.   Rwy’n falch i nodi, yn dilyn proses drawsnewid fanwl a thrylwyr, gyda Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos â Keolis Amey, fod Trafnidiaeth Cymru bellach, o 7 Chwefror ymlaen, yn gweithredu gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau dan ein is\-gwmni Transport for Wales Rail Ltd. Mae niferoedd y teithwyr ar drenau wedi gostwng yn sylweddol yn sgil Covid\-19, ond mae ein gwasanaethau’n parhau i fod yn hanfodol bwysig i bobl ar draws Cymru a’r gororau. Serch yr heriau ehangach a gyflwynwyd gan Covid\-19, a chymhlethdod y broses drosglwyddo, rwy’n falch ein bod wedi parhau i ddarparu gwasanaethau drwy gydol y cyfnod pontio heb gael unrhyw effaith andwyol ar deithwyr. Mae darparu ein hymrwymiadau allweddol, megis creu’r Metro, darparu cerbydau newydd sbon ar gyfer rhwydwaith reilffyrdd Cymru a’r Gororau a gwelliannau eraill yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a’i gangen ddarparu, Trafnidiaeth Cymru. Mae hyn er waethaf yr heriau a wynebwn ar hyn o bryd o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.  Mae Trafnidiaeth Cymru’n parhau i weithio’n agos gyda phob partner a’u cadwyn gyflenwi i sicrhau eu bod yn darparu ein cynlluniau a’n gwasanaethau, gyda diogelwch yn brif flaenoriaeth.     O 7 Chwefror ymlaen, bydd y bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru, Keolis ac Amey bellach yn cynnwys tair cydran allweddol.   * Bellach, cyfrifoldeb is\-gwmni newydd dan berchnogaeth gyhoeddus i Trafnidiaeth Cymru (Trafnidiaeth Cymru CYF) yw darparu gwasanaethau rheilffordd o ddydd i ddydd, gan ganiatáu’r llywodraeth i gael rôl hyd yn oed fwy wrth gyflenwi gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru a’r gororau, gan adlewyrchu realiti masnachol yr amgylchedd wedi Covid\-19\. Gan fod ansicrwydd mawr ynghylch refeniw teithwyr, mae hyn yn rhoi’r sylfaen ariannol fwyaf sefydlog i ni allu rheoli’r gwasanaethau rheilffyrdd wrth i ni ddod allan o’r pandemig. * Bydd y gwaith o reoli seilwaith a thrawsnewid Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yn parhau i gael ei gyflawni dan y contract presennol gyda AMEY Keolis CYF. Bydd hyn yn cynnig sefydlogrwydd i’r rhaglen er mwyn sicrhau bod y gwaith o drawsnewid Metro De Cymru, sydd eisoes yn mynd rhagddo, yn cael ei gyflawni’n effeithiol. * Datblygwyd partneriaeth newydd gyda Keolis ac Amey, dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, sy’n galluogi pobl Cymru i barhau i elwa ar brofiad ac arbenigedd rhyngwladol y partneriaid hyn i helpu TrC i gyflawni ymrwymiadau pwysig fel tocynnau integredig, systemau trafnidiaeth ar\-alw, dyluniad a darpariaeth ar draws dulliau teithio, yn ogystal â’r gwaith parhaus o integreiddio rheilffyrdd ysgafn a thrwm.  Mae’r bartneriaeth ar ffurf menter ar y cyd y mae TrC yn berchen arni yn bennaf, a fydd yn cael ei hadnabod fel ‘Gwasanaethau Arloesi Trafnidiaeth Cymru’. Mae’r Aelodau’n ymwybodol iawn ein bod yn dal mewn cyfnod anodd ac na allwn fforddio gorffwys ar ein rhwyfau wrth i ni ganfod ein ffordd allan o’r pandemig. Fodd bynnag, ein huchelgais yw parhau i ddarparu system drafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel, ac mae ein hymrwymiad i wireddu gweledigaeth uchelgeisiol y Llywodraeth yn parhau.  Mae gweld yr effaith ar bobl a chymunedau ledled Cymru a’r gororau wedi cynyddu ein hymwybyddiaeth o bwysigrwydd y gwasanaethau y mae TrC yn eu darparu, ac mae’r blaenoriaethau ehangach o ran y newid yn yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol mor bwysig ag erioed. Beth bynnag ddaw yn y dyfodol, mae trafnidiaeth gynaliadwy, integredig o ansawdd da yn rhan hanfodol o’r ffordd yr ydym yn ailgodi’n gryfach.   Rwy’n siŵr y bydd yr aelodau’n rhannu ein hawydd i weld y model newydd hwn yn ffynnu a’n bod yn parhau i gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. 
Translate the text from Welsh to English.
Roedd y Gynhadledd Ehangu Mynediad yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o annog unigolion i ystyried gyrfa gyda’r GIG, a thynnu sylw at gyfleoedd i’r staff presennol ddatblygu eu gyrfaoedd. Dywedodd Vaughan Gething: > “Mae dros 300 o swyddogaethau gwahanol o fewn y Gwasanaeth Iechyd, o feddygon i ddeintyddion, o nyrsys i niwroffisiolegwyr, o barafeddygon i borthorion, o radiograffwyr i staff y dderbynfa a llawer mwy. > > “Mae pob un o’r swyddi hyn yn gofyn am set o sgiliau, rhai o’r sgiliau hynny’n fwy cyffredinol, ac eraill yn rhai penodol i’r swydd; mae hynny’n golygu bod amrywiaeth eang o gyfleoedd am swyddi gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. > > “Boed drwy weithio gydag ysgolion cynradd i gyflwyno’r Gwasanaeth Iechyd i’r plant bach drwy chwarae; neu gyfleoedd am brofiad gwaith sydd wedi’u llunio i roi blas ar fyd gwaith i fyfyrwyr hŷn, mae cymaint o fentrau cadarnhaol eisoes yn bodoli i annog pobl, beth bynnag eu hoedran neu gefndir, i ystyried gyrfa gyda’n Gwasanaeth Iechyd anhygoel. > > “Mae ‘na brentisiaethau, rhaglenni mynediad a mentrau eraill i helpu i gefnogi pobl ifanc. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu nifer y prentisiaethau i bobl o bob oed – rhaid i ni sicrhau ein bod yn llunio’r prentisiaethau hyn mewn ffordd sy’n adlewyrchu anghenion y Gwasanaeth Iechyd. > > “Mae’n fwy na’r ifanc yn unig, mae ehangu mynediad hefyd yn golygu helpu unigolion i newid gyrfa a chefnogi’r rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant yn eu gyrfa, ac rydyn ni’n gwneud hynny. > > “Ond mae modd gwneud mwy, ac fe fyddwn yn gwneud mwy. > > “Mae’n Gwasanaeth Iechyd yn destun parch ac edmygedd ar draws y byd. Y gweithwyr yw curiad calon y gwasanaeth, ac rwy’n annog unrhyw un sydd ag ymroddiad, brwdfrydedd ac awydd i helpu pobl i ystyried gyrfa gyda’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
The Widening Access Conference aimed to identify ways of encouraging individuals to consider a career in the NHS, and to highlight opportunities for career development for existing staff. Vaughan Gething said: > “There are more than 300 different roles within the NHS, from doctors to dental teams, nurses to neurophysiologists, paramedics to porters, radiographers to receptionists and many more. > > “Each of these roles requires a set of skills, some of those skills will be common, some will be specific to that role; this means there are a wide range of employment opportunities for all within the NHS. > > “Whether it’s working with primary schools to introduce young children to the NHS through play; or work experience opportunities designed to provide older students with a taste of what the working world is like, there are so many positive initiatives already in place to encourage people, whatever their age or background, to consider a career in our fantastic NHS. > > “We have apprenticeships, access programmes and other initiatives to help support young people. We have committed to increasing the number of apprenticeships in Wales for all ages \- we must make sure we shape these apprenticeships in a way that reflects the needs to the NHS. > > “It  is not all about the young, widening access is also about supporting individuals to change careers and supporting those returning after a career break and we’re doing just that. > > “But more can and will be done. > > “Our NHS is respected and admired across the world. The people working in the NHS are the beating heart of this and I would encourage anyone with passion, commitment and a desire to help and support people to consider a career in our NHS.”
Translate the text from Welsh to English.
Am flynyddoedd lawer, y rheol sefydledig a chydnabyddedig yn y system ardrethi annomestig ar gyfer busnesau a oedd yn meddiannu mwy nag un uned gyffiniol o eiddo oedd eu bod yn cael un bil ardrethi annomestig. Yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn Woolway v Mazars \[2015] UKSC 53, bu'n ofynnol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio newid ei harfer. Yn sgil y newid mae nifer bach o dalwyr ardrethi wedi gweld cynnydd yn eu biliau ardrethi, rhai wedi gweld gostyngiad, ac eraill heb weld unrhyw newid. Rydym yn ymgynghori ar y dull gweithredu y byddwn yn ei ddefnyddio mewn perthynas ag eiddo perthnasol yng Nghymru.  Bydd yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod o 12 wythnos, ac ar ôl hynny bydd yr ymatebion yn cael eu dadansoddi a bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi. Rwyf yn cydnabod bod hwn yn faes technegol a chymhleth yn y gyfraith.  Er fy mod am fynd ati'n gyflym i egluro'r sefyllfa ar gyfer talwyr ardrethi, rwyf hefyd am ddarparu dull sydd wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion Cymru orau, gan gymryd i ystyriaeth y ffaith y gallai unrhyw newidiadau gynyddu biliau i rai trethdalwyr. Rwyf yn awyddus i glywed safbwyntiau pawb i helpu i lywio ein dull gweithredu ar y mater hwn.  Mae'r ymgynghoriad i'w weld drwy glicio ar y ddolen ganlynol: Rhannu eiddo annomestig yng Nghymru at ddibenion prisio
For many years, the established and recognised rule in the non\-domestic rates system for businesses which occupied more than one contiguous (touching) unit of property was that they received one non\-domestic rates bill. Following the ruling of the Supreme Court in Woolway v Mazars \[2015] UKSC 53, the Valuation Office Agency has been required to change its practice. This change has resulted in a small number of ratepayers seeing an increase in their rates bills, some seeing a decrease, and others seeing no change. We are consulting on the approach we take in respect of relevant properties in Wales. The consultation will be open for a 12\-week period, after which the responses will be analysed and a summary of responses published. I recognise this is a technical and complex area of law.  While I want to move quickly to clarify the position for ratepayers, I also want to deliver an approach that is tailored to best meet the needs of Wales, taking into account the fact that any changes may increase bills for some ratepayers. I am eager to hear everyone’s views to help inform our policy approach on this matter.  Splitting of non\-domestic properties in Wales for valuation purposes
Translate the text from Welsh to English.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn ceisio hyd at £33\.54m i greu theatrau hybrid a thrawma mawr a mannau adfer newydd mewn cyfleuster a fydd yn cael ei adeiladu o’r newydd yn yr ysbyty. Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cymeradwyo achos busnes amlinellol y bwrdd iechyd i ddatblygu capasiti ei theatrau, er mwyn i lawfeddygon allu rhoi llawdriniaeth i bobl o bob rhan o’r De a’r Gorllewin, gan gynnwys rhai o’r achosion mwyaf cymhleth, megis anafiadau difrifol. Bydd y bwrdd yn cyflwyno achos busnes llawn a fydd yn destun craffu pellach, ac os bydd yr achos busnes hwn yn cael ei gytuno, mae’n bosibl y bydd y prosiect yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2023\. Mae theatr hybrid yn theatr sydd hefyd yn cynnwys cyfarpar radioleg. Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: > Bydd y ddwy theatr arbenigol hyn yn golygu na fydd angen symud y claf rhwng y theatr llawdriniaethau a’r adran ddelweddu, a bydd hynny’n gwella profiad a diogelwch y claf drwy wneud y broses llawdriniaeth yn fwy effeithlon. > > > Bydd y capasiti ychwanegol hwn i gefnogi gwasanaethau fasgwlaidd a thrawma mawr rhanbarthol yn rhyddhau capasiti ym mhrif theatrau’r ysbyty, gan helpu i leihau rhestr y cleifion sy’n aros am lawdriniaeth. Mae’r rhestr honno wedi tyfu yn ystod y pandemig. Dywedodd yr Athro Stuart Walker, Prif Weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: > Rydym yn croesawu’r cyllid ychwanegol hwn a fydd yn ein galluogi i ehangu ein cyfleusterau fel canolfan trawma mawr, er mwyn inni allu trin achosion cymhleth a brys sy’n dod atom o bob rhan o’r De a’r Gorllewin, a gofalu am y cleifion hyn. > > > Fel canolfan trawma mawr, mae angen i gleifion gael mynediad cyflym at y gofal a’r llawdriniaethau priodol, er mwyn gwella canlyniadau iddynt. Bydd y cyfleuster ychwanegol hwn yn parhau i alluogi ein timau i ofalu am bobl mewn modd amserol gan sicrhau bod mynediad at gyfarpar diagnostig ar gael yn yr un man.
Cardiff and Vale University Health Board is seeking up to £33\.54m for new hybrid and major trauma theatres and recovery areas in a specialist new\-build facility at the hospital. Health Minister Eluned Morgan has approved the health board’s outline business case to develop theatre capacity, which will enable surgeons to operate on people from across South and West Wales, with some of the most complex cases, including serious injuries. A full business case will now be submitted by the health board which will be subject to further scrutiny and if agreed, the project could be completed by December 2023\. A hybrid theatre is a surgical theatre that is also equipped with radiology equipment. Health Minister Eluned Morgan said: > These two specialised theatre spaces will prevent patients from having to be moved between the operating theatre and the imaging department, improving patient experience and safety and making surgery more efficient. > > > This additional capacity to support regional vascular and major trauma services will release main theatre capacity at the hospital to help reduce the backlog of surgical cases, which has built up during the pandemic. Professor Stuart Walker, interim chief executive of Cardiff and Vale UHB, said > We welcome this additional funding which will enable us to increase our facilities as a major trauma centre so we can treat and care for the complex and emergency cases which come to us from across South and West Wales. > > > As a major trauma centre, access to appropriate care and surgical interventions needs to be undertaken quickly, to give a better outcome for people. This additional facility will continue to enable our teams to care for people in a timely manner and ensure access to diagnostics in one area.
Translate the text from Welsh to English.
Datganiad ysgrifenedig yw hwn am Gronfa Buddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru. Hyd yn hyn, mae Cronfa Buddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru wedi buddsoddi mewn pedwar cwmni. Y cwmni cyntaf i’r Gronfa fuddsoddi ynddo oedd Simbec Research Limited o Ferthyr Tudful ym mis Mai 2013\.  Mae Simbec yn un o brif gwmnïau ymchwil clinigol y Deyrnas Unedig.   Ym mis Awst 2013, buddsoddodd yn ReNeuron cwmni bôn\-gelloedd blaenllaw iawn.  O ganlyniad i’r buddsoddiad, bydd ReNeuron yn sefydlu ei bencadlys, ei adran ymchwil a datblygu a’i weithgareddau cynhyrchu ym Mhencoed. Ym mis Mawrth 2014, cyhoeddodd y gronfa ei fod wedi gwneud trydydd buddsoddiad mewn cwmni fferyllol o’r enw Verona Pharma.  Mae’r cwmni hwn wedi’i gofrestru ar gyfnewidfa stoc AIM ac mae’n arbenigo mewn cynhyrchu meddyginiaethau i drin clefydau anadlol.  Bydd Verona Pharma yn sefydlu ei bencadlys yng Nghymru. Yn sgil buddsoddiad a wnaeth y gronfa ym mis Mehefin 2014, prynodd Simbec Research gwmni Orion Clinical Services – cwmni datblygu clinigol cam hwyr gan sefydlu Simbec\-Orion Group Ltd.  Bydd pencadlys Simbec\-Orion Group yn aros yn ei safle presennol ym Merthyr Tudful ac mae gan y cwmni, sy’n cyflogi 250 o staff, gynlluniau cyffrous i ehangu’r busnes.  Yn sgil hyn, disgwylir y bydd y cwmni’n prynu rhagor o gwmnïau.  Bydd y cwmni newydd yn gallu darparu ar gyfer pob cam o dreial clinigol gan ei wneud yn wahanol i’w gystadleuwyr sy’n dueddol o ganolbwyntio ar un wahanol gamau o’r broses glinigol yn unig. Mae’r tîm sy’n rheoli’r gronfa yn parhau i ddatblygu cyfleoedd posibl i fuddsoddi a disgwylir i’r cyfleoedd hynny ddwyn ffrwyth cyn diwedd y flwyddyn.   Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.
This written statement provides an update on the activities of the Wales Life Sciences Investment Fund. The Wales Life Sciences Investment Fund, has made four investments to date. In May 2013, Merthyr based Simbec Research Limited, one of the UK’s leading clinical research organisations, benefitted from the first investment of the Fund.  In August 2013 the Stem Cell company ReNeuron became the second recipient of investment and as a result will be setting up its headquarters, research and development, and manufacturing operations in Pencoed.  In March 2014, the fund announced a third investment into the Aim listed pharmaceutical firm specialising in medicines to treat respiratory diseases, Verona Pharma, who will also relocate their headquarters to Wales. In June 2014, the fourth investment of the fund was announced, and resulted in the acquisition of Orion Clinical Services, a late stage clinical development company by Simbec Research to form Simbec\-Orion Group Ltd. The Simbec\-Orion Group headquarters will remain in Merthyr Tydfil and has ambitious growth plans for its 250 workforce.  In this regard further acquisitions are expected. The combined company will be able to offer a complete clinical trial route, thus differentiating itself from competitors that tend to specialise in different stages of the lengthy process. The fund management team continue to develop a strong deal\-flow pipeline and further investments are expected before the end of this year.   This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Translate the text from English to Welsh.
The fourth round of the negotiations between the UK Government and the EU on our future partnership concluded last week and it is clear that fundamental differences remain largely as a consequence of the UK Government moving away from the commitments made in the Political Declaration agreed between both parties in October.  Given how little progress has been made, it is increasingly difficult to see how a Comprehensive Free Trade Agreement can be in place by the end of 2020, when the transition period comes to an end. The Withdrawal Agreement requires that an extension to the transition period must be agreed by the Joint Committee before the end of June. With less than three weeks to go until then, it now seems impossible that the UK Government will be able to give us a credible assurance by then that a deal is within reach. That is why the First Minister has today written jointly with the First Minister of Scotland calling on the Prime Minister to ask for an extension to the transition period in order to provide a breathing space necessary to complete the negotiations. This echoes the call made by the First Minister at the start of this crisis, over 11 weeks ago for the Prime Minister to seek an extension in order to allow all governments to focus their full attention on fighting the pandemic \- a request which was ignored. The prospect of completing these complex negotiations within the transition period was always going to be a challenge, but the wholly unforeseeable and tragic Covid crisis has only compounded the difficulties of the negotiations. As a Government we know it has been impossible to devote the resources we would have wished to European Transition at this time, and it is clear that is also true of the UK Government and indeed the EU. The risk of the UK leaving the transition period without a deal on our future relationship with the EU is very real.  All credible evidence suggests there will be significant adverse economic consequences of such an abrupt and drastic change to our trading relationship with the EU. This is why the OECD’s Economic Outlook for June includes a very strong recommendation for an extension stating that “The United  Kingdom  should  make  a temporary arrangement to stay in the EU Single Market beyond 31 December 2020 given the pressures firms already face from COVID\-19\.” The Welsh Government has previously summarised the evidence of leaving the EU under a range of future relationship scenarios. This evidence is clear the further the UK moves away from the current level of economic integration the greater the economic damage. This analysis is available at: https://gov.wales/the\-future\-uk\-eu\-relationship. At a time when business reserves have been exhausted and the economy is looking for certainty and growth, the UK Government’s approach to our future relationship with our largest export markets risks adding additional costs, new barriers to trade and confusion. The UK Government’s approach further increases the risk of business closures, putting more jobs at risk and adding further strain on our communities.  Public money available to support business and communities through the changes will also have been severely depleted by efforts to respond to the current crisis. Voluntarily putting our country through this at a time when we should be focusing on how we recover from the enormous economic shock caused by the Covid crisis is reckless and unnecessary.  We will therefore be continuing to make the case to the UK Government at every opportunity in the coming weeks for them to request for an extension in order to allow time for the negotiations to conclude with an outcome in the best interests of all our nations.  This will give our fragile economy the chance to restart, and our businesses the breathing space to recover from the shocks of the last few months and to prepare for our future relationship with the EU. 
Daeth pedwerydd cylch y negodiadau rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ar ein partneriaeth yn y dyfodol i ben yr wythnos diwethaf ac mae'n amlwg bod gwahaniaethau sylfaenol yn parhau a hynny i raddau helaeth oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi symud oddi wrth yr ymrwymiadau a wnaed yn y Datganiad Gwleidyddol y cytunwyd arno rhwng y ddwy blaid ym mis Hydref.  O gofio cyn lleied o gynnydd sydd wedi’i wneud, mae'n fwyfwy anodd gweld sut y gall Cytundeb Masnach Rydd Cynhwysfawr fod ar waith erbyn diwedd 2020, pan ddaw'r cyfnod pontio i ben. Mae'r Cytundeb Ymadael yn ei gwneud yn ofynnol i estyniad i'r cyfnod pontio gael ei gytuno gan y Cyd\-bwyllgor cyn diwedd mis Mehefin. Gyda llai na thair wythnos i fynd tan hynny, mae'n ymddangos yn amhosibl bellach y bydd Llywodraeth y DU yn gallu rhoi sicrwydd credadwy inni erbyn hynny fod cytundeb o fewn cyrraedd. Dyna pam y mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu heddiw ar y cyd â Phrif Weinidog yr Alban yn galw ar Brif Weinidog y DU i ofyn am estyniad i'r cyfnod pontio er mwyn darparu’r hoe angenrheidiol i gwblhau'r trafodaethau. Mae hyn yn adlewyrchu’r  alwad a wnaed gan y Prif Weinidog ar ddechrau'r argyfwng hwn, dros 11 wythnos yn ôl i'r Prif Weinidog geisio estyniad er mwyn caniatáu i’r holl lywodraethau ganolbwyntio'u sylw llawn ar ymladd y pandemig \- cais a anwybyddwyd. Roedd y posibilrwydd o gwblhau'r negodiadau cymhleth hyn yn ystod y cyfnod pontio bob amser yn mynd i fod yn her, ond mae argyfwng annisgwyl a thrychinebus Covid\-19 wedi dwysáu anawsterau'r negodiadau. Fel Llywodraeth, gwyddom ei bod wedi bod yn amhosibl neilltuo'r adnoddau y byddem wedi dymuno eu neilltuo i’r trefniadau Pontio Ewropeaidd ar yr adeg hon, ac mae'n glir bod hynny'n wir hefyd am Lywodraeth y DU ac yn wir yr UE. Mae'r risg y bydd y DU yn gadael y cyfnod pontio heb gytundeb ar ein perthynas â'r UE yn y dyfodol yn real iawn.  Mae pob tystiolaeth gredadwy yn awgrymu y bydd canlyniadau economaidd anffafriol sylweddol yn sgil newid sydyn ac eithafol o'r fath yn ein perthynas fasnachu â'r UE. Dyna pam y mae Rhagolygon Economaidd OECD ar gyfer Mehefin yn cynnwys argymhelliad cryf dros estyniad gan ddweud “The  United  Kingdom  should  make  a temporary arrangement to stay in the EU Single Market beyond 31 December 2020 given the pressures firms already face from COVID\-19\.” Mae Llywodraeth Cymru wedi crynhoi'r dystiolaeth mewn perthynas ag ymadael â’r UE yn flaenorol o dan ystod o sefyllfaoedd o ran y berthynas yn y dyfodol. Mae'r dystiolaeth hon yn glir \- po fwyaf y mae'r DU yn symud i ffwrdd oddi wrth y lefel bresennol o integreiddio economaidd, mwyaf yn y byd yw'r difrod economaidd. Mae'r dadansoddiad hwn ar gael yn: https://llyw.cymru/y\-berthynas\-rhwng\-y\-du\-ar\-ue\-yn\-y\-dyfodol?  Ar adeg pan fo cronfeydd busnes wrth gefn wedi dod i ben a'r economi'n chwilio am sicrwydd a thwf, mae perygl y bydd ymagwedd Llywodraeth y DU at ein perthynas yn y dyfodol â'n marchnadoedd allforio mwyaf yn ychwanegu costau ychwanegol a rhwystrau newydd i fasnach a dryswch. Mae ymagwedd Llywodraeth y DU yn cynyddu ymhellach y risg y bydd busnesau’n cau, gan roi mwy o swyddi mewn perygl a gosod rhagor o straen ar ein cymunedau.  Bydd yr arian cyhoeddus sydd ar gael i gefnogi busnesau a chymunedau drwy'r newidiadau hefyd wedi ei ddisbyddu yn ddirfawr gan ymdrechion i ymateb i'r argyfwng presennol. Mae rhoi ein gwlad drwy hyn ar adeg pan y dylem fod yn canolbwyntio ar sut ydym am adfer o'r sioc economaidd enfawr a achoswyd gan argyfwng Covid 19 yn ddi\-hid ac yn ddiangen.  Byddwn felly yn parhau i gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU ar bob cyfle yn ystod yr wythnosau nesaf iddi ofyn am estyniad er mwyn caniatáu amser i'r negodiadau ddod i ben gyda chanlyniad sydd o fudd i bob un o'n gwledydd.  Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i'n heconomi fregus ailgychwyn, ac i'n busnesau gael seibiant i ymadfer ar ôl ergydion y misoedd diwethaf ac i baratoi ar gyfer ein perthynas â'r UE yn y dyfodol.  
Translate the text from English to Welsh.
The Welsh Assembly Government has demonstrated its commitment to working constructively with the new UK government. This is particularly critical at these times of financial pressure, where we are facing difficult budgets at the same time as trying to protect our fragile economic recovery within Wales. We have been clear about where we differ, but have continued to have constructive discussions to take forward matters of mutual interest. Over the last 9 months I have had a number of meetings with the Chief Secretary to the Treasury to discuss issues of interest to Wales, including on a bilateral basis and as part of the Finance Minister Quadrilateral meetings. I was pleased that the Chief Secretary to the Treasury accepted the Finance Committee’s invitation to provide evidence in November last year, and met with him immediately after that session. We had a constructive discussion across a range of current issues, and I have now received a response from the Chief Secretary to my letter following up these discussions. In our meeting, the Chief Secretary and I focused on the Holtham Commission proposals, and in particular the need for immediate implementation of a funding floor to help address our current underfunding. Further to our Plenary debate on the second report on 12 October  2010, I clarified and confirmed for the Chief Secretary that the National Assembly for Wales had unanimously endorsed the immediate implementation of a funding floor by the UK government, but had agreed that tax\-varying powers would be a future matter for the people of Wales. The Chief Secretary has confirmed that the UK government will consider the Holtham Commission’s proposals with us after the referendum. Importantly, the Chief Secretary has agreed that these discussions should include the proposal for a floor and he has agreed that our officials should meet in the New Year to discuss this aspect of the Holtham Commission’s report. I confirmed to the Chief Secretary that their decision to write off our stocks of End Year Flexibility will take away nearly £400 million which is due to Wales, voted to us by Parliament. This is extremely disappointing, particularly in the light of what we know about our budget over coming years. The Chief Secretary noted my concerns and has confirmed that planned underspends will be able to be carried forward on an annual basis from 2011/12 onwards. I look forward to seeing the full guidance on the new system for our comment. The Deputy Minister for Housing and I have regularly discussed the anomalous funding situation in Wales with regard to the Housing Revenue Account Subsidy, and the Chief Secretary has confirmed that officials should discuss the possible application of the England reforms to Welsh Assembly Government, which would address our concerns about surrendering surpluses. I emphasised to the Chief Secretary the importance of EU Structural Funds within Wales, particularly in the context of EU budget discussions. He confirmed that the UK government would bear our interests in mind in future EU negotiations. Equally, I was able to press on him that the decision not to recycle the proceeds from the Carbon Reduction Commitment would create significant financial pressures on organisations within Wales. I will place a copy of the letter from the Chief Secretary to the Treasury in the National Assembly Library subject to his agreement and will send a copy to the Chair of the Finance Committee. I look forward to ongoing engagement with the Chief Secretary on issues for Wales, and to continuing my regular discussions with the Assembly, its Committees and members, on key financial and funding matters.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i weithio mewn ffordd adeiladol gyda llywodraeth newydd y DU. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod hwn o bwysau ariannol, lle rydym yn wynebu cyllidebau anodd tra’n ceisio gwarchod ein hadferiad economaidd bregus yng Nghymru. Rydym wedi bod yn glir ynghylch lle rydym yn mynd ar drywydd gwahanol, ond rydym wedi parhau i gynnal trafodaethau adeiladol i ddelio â materion sydd o ddiddordeb cyffredin. Dros y naw mis diwethaf rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i drafod materion sydd o bwys i Gymru, drwy gyfrwng cyfarfodydd personol a thrwy gyfarfodydd pedeirochr y Gweinidog dros Gyllid. Roeddwn yn falch i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys dderbyn gwahoddiad y Pwyllgor Cyllid i gyflwyno tystiolaeth ym mis Tachwedd y llynedd, a chefais y cyfle i gwrdd ag ef yn syth ar ôl y sesiwn honno. Cawsom drafodaeth adeiladol ynghylch ystod o faterion cyfredol, ac rwyf bellach wedi cael ateb gan y Prif Ysgrifennydd i’m llythyr yn dilyn y trafodaethau hyn. Yn ein cyfarfod, canolbwyntiais i a’r Prif Ysgrifennydd ar gynigion y Comisiwn Holtham, ac yn arbennig ar yr angen i roi arian gwaelodol ar waith ar unwaith i helpu i fynd i’r afael â’n tangyllido presennol. Parthed y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr ail adroddiad ar 12 Hydref 2010, rhoddais eglurhad a chadarnhad i’r Prif Ysgrifennydd bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi cymeradwyaeth unfrydol i Lywodraeth y DU roi arian gwaelodol ar waith ar unwaith, ond wedi cytuno mai mater yn y dyfodol i bobl Cymru fyddai pwerau trethu. Mae’r Prif Ysgrifennydd wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried cynigion Comisiwn Holtham gyda ni ar ôl y refferendwm. Yn hanfodol, mae’r Prif Ysgrifennydd wedi cytuno y dylai’r trafodaethau hyn gynnwys y cynnig am arian gwaelodol ac mae wedi cytuno y dylai’n swyddogion gwrdd yn y Flwyddyn Newydd i drafod yr agwedd hon ar adroddiad y Comisiwn Holtham. Dywedais wrth y Prif Ysgrifennydd y bydd eu penderfyniad i ddibrisio’n dyraniadau Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn yn cymryd bron £400m sy’n ddyledus i Gymru y pleidleisiodd Senedd y DU i’w roi i ni. Mae hyn yn hynod o siomedig, yn enwedig yng ngoleuni’r hyn rydym yn gwybod am ein cyllideb dros y blynyddoedd nesaf. Nododd y Prif Ysgrifennydd fy mhryderon ac mae wedi cadarnhau y bydd modd trosglwyddo tanwariant a gynllunnir yn flynyddol o 2011/12 ymlaen. Rwy’n edrych ymlaen at weld y canllawiau llawn ar y system i ni roi sylw arnynt. Rwyf i a’r Dirprwy Weinidog dros Dai wedi trafod yn rheolaidd y sefyllfa gyllido anghyson yng Nghymru o ran Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai, ac mae’r Prif Ysgrifennydd wedi cadarnhau y dylai swyddogion drafod y posibilrwydd o gymhwyso diwygiadau Lloegr at Lywodraeth Cynulliad Cymru, a fyddai’n lleddfu’n pryderon ynghylch colli gwarged. Pwysleisiais i’r Prif Ysgrifennydd pa mor bwysig yw Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru, yn enwedig yng nghyd\-destun trafodaethau cyllideb yr UE. Cadarnhaodd y byddai Llywodraeth y DU yn ystyried ein safbwyntiau mewn trafodaethau yr UE yn y dyfodol. Yn yr un modd, llwyddais i bwysleisio y byddai’r penderfyniad i beidio ag ailddefnyddio enillion yr Ymrwymiad Lleihau Carbon yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar sefydliadau yng Nghymru. Byddaf yn rhoi copi o lythyr y Prif Ysgrifennydd i’r Trysorlys yn Llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol, cyn belled â’i fod yn cytuno â hynny, a byddaf yn anfon copi ohono i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rwy’n edrych ymlaen at gael trafodaeth barhaus gyda’r Prif Ysgrifennydd ynghylch materion Cymru, ac at barhau â’m trafodaethau rheolaidd gyda’r Cynulliad, ei Bwyllgorau a’i aelodau ynglŷn â materion ariannol a chyllido allweddol
Translate the text from English to Welsh.
Developing and strengthening the foundational sectors which deliver the everyday goods and services that people across Wales depend on, is central to the Welsh Government’s Economic Resilience and Reconstruction plan. We have all seen and recognised through the course of the pandemic, the foundational sectors of Wales’ economy, such as social care, food, retail and construction, are the pillars which have kept our communities safe and secure. Taking further action to help strengthen our foundational sectors should be a priority for all of us in the months and years ahead. We have accepted a report which summarises cross\-Government actions we have agreed to strengthen and deepen the support for the growth of the food sector in Wales, through retail, hospitality, tourism and public procurement. The food sector is a distinct part of our culture and economy, comprising 28,000 jobs across Wales. We will progress these actions to help make the food sector more resilient and strive to identify ways in which we can grow its workforce, embedding principles of Fair Work. This action is aligned to the previously published Foundational Economy delivery plan and sets out the steps for developing support which could further grow our Foundational sectors. The vital contribution of food to our wellbeing endorses the Welsh Government’s focus to fortify and grow this part of the economy. We will continue engagement with and between the private and public sectors in Wales and use all policy and delivery levers available to strengthen the foundational sectors. https://gov.wales/what\-can\-welsh\-government\-do\-increase\-number\-grounded\-sme\-firms\-food\-processing\-and\-distribution
Mae datblygu a chryfhau’r Sectorau Sylfaenol sy’n cyflenwi’r nwyddau a’r gwasanaethau y mae pobl ledled Cymru yn dibynnu arnynt, yn ganolog i gynllun Cryfhau ac Ailadeiladu’r Economi Llywodraeth Cymru. Drwy gydol y pandemig, rydym i gyd wedi gweld a chydnabod mai Sectorau Sylfaenol economi Cymru, megis gofal cymdeithasol, bwyd, manwerthu ac adeiladu, yw’r pileri sydd wedi cadw ein cymunedau yn ddiogel. Dylai fod yn flaenoriaeth i bob un ohonom gymryd camau pellach i helpu i gryfhau ein Sectorau Sylfaenol dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Rydym wedi derbyn adroddiad sy’n crynhoi camau trawslywodraethol yr ydym wedi cytuno i’w cymryd er mwyn cryfhau a dyfnhau’r gefnogaeth ar gyfer hybu twf y sector bwyd yng Nghymru, a hynny drwy fanwerthu, lletygarwch, twristiaeth, a chaffael cyhoeddus. Mae’r sector bwyd yn rhan bwysig o’n diwylliant a’n heconomi, sy’n darparu 28,000 o swyddi ledled Cymru. Byddwn yn datblygu’r camau hyn er mwyn helpu’r sector bwyd i fod yn fwy gwydn, ac yn ymdrechu i nodi ffyrdd y gallwn dyfu ei weithlu, gan ymwreiddio egwyddorion Gwaith eg. Mae’r cam gweithredu hwn yn cyd\-fynd â chynllun cyflenwi’r economi sylfaenol a gyhoeddwyd yn flaenorol, ac yn nodi’r camau ar gyfer datblygu cymorth a allai hybu twf ein Sectorau Sylfaenol ymhellach. Mae’r cyfraniad hanfodol y mae bwyd yn ei wneud at ein llesiant yn cyfiawnhau’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar atgyfnerthu a thyfu’r rhan hon o’r economi. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r sector preifat a’r sector cyhoeddus yng Nghymru, a hybu’r ymgysylltu rhyngddynt, ac yn defnyddio pob dull polisi a chyflawni sydd ar gael er mwyn cryfhau’r Sectorau Sylfaenol. https://llyw.cymru/beth\-all\-llywodraeth\-cymru\-ei\-wneud\-i\-gynyddu\-nifer\-y\-cwmniau\-bbach\-sydd\-wediu\-gwreiddio\-ym\-maes
Translate the text from English to Welsh.
I am pleased to announce the Welsh Government will be funding up to 140 medical student places a year at the new North Wales Medical School. Direct intake will start in 2024\. We expect student numbers to increase steadily and to reach their optimum number from 2029 onwards. This gradual trajectory will provide time to assess and evaluate both the quality tuition and student experience at the new medical school. Establishing a new medical school in North Wales is a key commitment, which will help Wales to train more medical students and ensure that training opportunities and the provision of qualified doctors are spread across Wales. This is a real boost for North Wales, for Betsi Cadwaladr University Health Board and for Bangor University. I have written to the General Medical Council to confirm our support and endorsement of these plans. This letter of assurance enables the GMC to progress the accreditation process.
Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru'n ariannu hyd at 140 o leoedd i fyfyrwyr meddygol bob blwyddyn yn Ysgol Feddygol newydd y Gogledd. Bydd y myfyrwyr cyntaf yn cael eu derbyn yn 2024\. Rydym yn disgwyl i nifer y myfyrwyr gynyddu'n raddol, gan gyrraedd y nifer uchaf posibl o 2029 ymlaen. Bydd y cynnydd graddol hwn yn rhoi amser i asesu a gwerthuso ansawdd yr hyfforddiant a phrofiad y myfyrwyr yn yr ysgol feddygol newydd. Mae sefydlu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd yn ymrwymiad allweddol a fydd yn helpu Cymru i hyfforddi mwy o fyfyrwyr meddygol ac i sicrhau bod y cyfleoedd hyfforddi a’r ddarpariaeth o feddygon cymwysedig yn cael eu gwasgaru ledled Cymru. Mae hyn yn hwb gwirioneddol i’r Gogledd, i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i Brifysgol Bangor. Rwyf wedi ysgrifennu i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cadarnhau ein bod yn cefnogi ac yn cymeradwyo’r cynlluniau hyn. Mae'r llythyr sicrwydd hwn yn galluogi'r Cyngor i fwrw ymlaen ȃ’r broses achredu.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 28 Mawrth 2023, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Adnodd – Cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru (dolen allanol).
On 28 March 2023, an oral statement was made in the Senedd: Adnodd – Supporting the Curriculum for Wales (external link).
Translate the text from Welsh to English.
Rwyf wedi cael copi o adroddiad y Grŵp Llywio ar Gerbydau Carbon Isel.  Fe sefydlais y grŵp er mwyn i mi gael cyngor ac argymhellion ar sut i ddatblygu’r sector cerbydau carbon isel yng Nghymru a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd ar gael yn y sector i dyfu a chreu swyddi a helpu buddiannau cymdeithasol ac amgylcheddol hefyd. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Grŵp, yr Athro Garel Rhys, a’r holl aelodau am eu gwaith. Rwy’n croesawu’r adroddiad sy’n gwneud amrywiaeth o argymhellion ac fel rhan o gyfrifoldebau fy mhortffolio i, rwy’n falch o allu dweud ein bod eisoes yn trafod nifer o’r argymhellion gyda busnesau unigol. Thema bwysig yr adroddiad yw’r dymuniad i greu dull mwy integredig o roi cyngor a chymorth i’r Llywodraeth, thema yr wyf yn ei chefnogi.  Mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn argymhellion pwysig eraill sydd â goblygiadau pwysig iawn ar draws y portffolio, nid yn unig o ran polisi ond o ran cyllid hefyd.Rwy’n cymeradwyo’r argymhellion ac yn argymell y dylent gael eu hystyried mewn mwy o fanylder yn y dyfodol ac mewn dull cydgysylltiedig er mwyn gallu eu symud ymlaen yn effeithiol.  
I have received the report of the Low Carbon Vehicle Expert Steering Group.  I established the group to provide me with advice and recommendations on the development of the low carbon vehicle sector in Wales to maximise the sector’s opportunities for growth and jobs and to support social and environmental benefits.  I would like to thank the Chair of the Group, Professor Garel Rhys, and all the members for their input.  I welcome the report which makes a range of recommendations, a number of which I am pleased to say we are already taking forward with individual businesses as part of my portfolio responsibilities.  A major theme of the report is the desirability of having a more integrated approach in terms of government advice and support, which I support.  This is reflected in other key recommendations which have significant cross portfolio implications both in terms of policy and funding. I commend these recommendations for future consideration, in recognition that they require looking at in more detail and within a joined up approach, in order to be progressed effectively. 
Translate the text from English to Welsh.
  Today Estyn has published its inspection report on education services in the Isle of Anglesey County Council. We are making this statement to inform Members of the action that we propose in response to the report. In its overall judgements the inspection team found that the current performance of the local authority education services is unsatisfactory and also found the local authority’s prospects for improvement unsatisfactory.  In light of these very serious shortcomings, Estyn believe that special measures are required in relation to this authority.   There can be no doubt that this is a highly damning report.  The shortcomings identified are unacceptable and we have moved swiftly to put arrangements in place to secure the necessary improvements.   Estyn’s key findings are as follows: In respect of current performance the Inspection found key issues across a range of areas.  For example, the standards for children and young people are below what could be expected at all key stages; attendance rates in secondary schools are unacceptably low; the school improvement service is judged to be inadequate; a lack of progress has been made in planning for school places; operational leadership in the delivery of education has not driven improvements in areas of underperformance and schools and officers have not been held to account; and business planning and risk\-assessment processes have not been robust enough to identify and address the slow pace of progress in education services and schools. The prospects for improvement were judged as unsatisfactory because there has been long\-term underperformance at service level and the pace of action to bring about improvement has been too slow in the past to assure inspectors that improvement can follow this inspection without external support and challenge. We were very concerned to note the findings and the recommendations of the Estyn report.  The service within the authority is in an unacceptable position and urgent action is needed to address the issues. Anglesey is of course already run by Welsh Government Commissioners who were appointed in March 2011 to address fundamental failures of corporate leadership and governance.  The role and remit of these Commissioners is at that corporate level.  They were not appointed to improve education or any other specific service.  The corporate problems they have been addressing may well have contributed to the failures in education during the period which the Estyn report covers.  So recovery in education needs to go hand in hand with the corporate recovery which the Commissioners are leading. The Welsh Government Commissioners have made good progress in their work.  The Council’s corporate governance is now nearing a state where we can contemplate returning some power to Councillors, under the Commissioners’ supervision and direction.  But that should not diminish the strength or seriousness of Estyn’s findings and the need to tackle them promptly.  The Commissioners will clearly be part of that. We therefore intend to establish a Recovery Board to sustain and advise the Welsh Government Commissioners and to challenge and support the Council’s officers and members in respect of Anglesey’s education services.  This is similar to the approach used with Denbighshire’s education services in 2008\.  The main difference is that the Commissioners will be able to step in directly if the Council is not taking adequate, or prompt action to put things right. The Board will include a senior education official from the Welsh Government and from the WLGA.  There will be an appointed Chair of the Board, and two further education professionals will complete the initial arrangements; we will announce further details of these in due course. The Board will report directly to Ministers and will provide regular monthly updates.  We intend to review the progress and impact of the Board after six months. Given the unacceptable nature of the situation our priority must be to put in place adequate support and challenge to realise improvements as quickly as possible for the children and young people of the area.  We will therefore finalise our proposed arrangements as quickly as is possible, and ensure that the necessary support is provided urgently. In considering the options we and our officials are working closely with the Welsh Government Commissioners, the Isle of Anglesey County Council and the Welsh Local Government Association to ensure that an appropriate and robust solution is in place as soon as possible.  We are pleased to note that all concerned fully support our approach and have contributed effectively to developing it.  In particular, it is good to see that the Isle of Anglesey County Council’s political and officer leadership has accepted the report’s findings fully, has welcomed the appointment of a Board which is fully aligned with the progress of the corporate governance recovery and has committed at an early stage to engaging effectively with the Board to put matters right.  There has been none of the denial and complacency that we have seen elsewhere recently.     This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish us to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns we would be happy to do so.
Heddiw, mae Estyn wedi cyhoeddi ei adroddiad arolygu o’r gwasanaethau addysg yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Rydym yn gwneud y datganiad hwn er mwyn hysbysu’r aelodau am y camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r adroddiad. Barn gyffredinol y tîm arolygu oedd bod perfformiad gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol yn anfoddhaol ar hyn o bryd, ac roedd hefyd o’r farn nad oedd yn argoeli’n dda ar gyfer gwelliannau yn yr awdurdod lleol, a bod y sefyllfa’n anfoddhaol yn hynny o beth. Yng ngoleuni’r diffygion hynod ddifrifol hyn, mae Estyn o’r farn bod angen cyflwyno mesurau arbennig yn yr awdurdod hwn. Mae’r adroddiad hwn yn un hynod ddamniol \- does dim dwywaith am hynny. Mae’r diffygion a nodwyd yn annerbyniol, ac rydym wedi gweithredu’n gyflym i roi trefniadau yn eu lle i sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol. Dyma ganfyddiadau allweddol Estyn: O ran perfformiad ar hyn o bryd, canfu’r Arolygiad faterion allweddol mewn amryw o feysydd. Er enghraifft, mae’r safonau ar gyfer plant a phobl ifanc yn is na’r disgwyl ym mhob cyfnod allweddol; mae’r cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn annerbyniol o isel; bernir bod y gwasanaeth gwella ysgolion yn annigonol; nid oes digon o gynnydd wedi’i wneud o ran cynllunio ar gyfer lleoedd mewn ysgolion; nid yw arweinyddiaeth weithredol wrth gyflwyno addysg wedi ysgogi gwelliannau mewn meysydd lle mae tanberfformio, ac nid yw ysgolion a swyddogion wedi cael eu dwyn i gyfrif; ac nid yw prosesau cynllunio busnes ac asesu risg wedi bod yn ddigon trylwyr i nodi ac i fynd i’r afael ag arafwch y cynnydd sy’n cael ei wneud yn y gwasanaethau addysg ac mewn ysgolion. Barnwyd bod y rhagolygon o ran gwella yn anfoddhaol oherwydd bod tanberfformio ar lefel gwasanaeth ers cryn amser a bod y camau a gymerwyd i ysgogi gwelliant wedi bod yn rhy araf yn y gorffennol i sicrhau’r arolygwyr bod modd gwella yn dilyn yr arolygiad hwn heb her a chefnogaeth o’r tu allan. Roedd y canfyddiadau a’r argymhellion yn adroddiad Estyn yn destun cryn bryder i ni. Mae’r gwasanaeth o fewn yr awdurdod mewn sefyllfa annerbyniol ac mae angen gweithredu ar fyrder i fynd i’r afael â’r problemau. Wrth gwrs, mae Cyngor Ynys Môn yn cael ei redeg eisoes gan Gomisiynwyr Llywodraeth Cymru. Fe’u penodwyd ym mis Mawrth 2011 i fynd i’r afael â methiannau sylfaenol o ran arweinyddiaeth gorfforaethol a llywodraethu. Ar y lefel gorfforaethol honno y mae rôl a chylch gwaith y Comisiynwyr hynny. Ni chawsant eu penodi i wella’r gwasanaeth addysg nac unrhyw wasanaeth penodol arall. Mae’n ddigon posibl bod y problemau corfforaethol y maent wedi bod yn mynd i’r afael â hwy wedi cyfrannu at y methiannau ym maes addysg yn ystod y cyfnod yr ymdrinnir ag ef yn adroddiad Estyn. Felly, mae’n rhaid i’r gwaith o adfer y gwasanaeth addysg fynd law yn llaw â’r gwaith adfer corfforaethol sy’n cael ei arwain gan y Comisiynwyr. Mae Comisiynwyr Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd da yn eu gwaith. O ran llywodraethu corfforaethol, nid yw’r Cyngor bellach yn bell o sefyllfa lle y gallwn ystyried rhoi peth grym yn ôl i Gynghorwyr, o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd y Comisiynwyr. Ond ni ddylai hynny dynnu dim oddi ar gryfder na difrifoldeb canfyddiadau Estyn nac oddi ar yr angen i fynd i’r afael â hwy yn ddi\-oed. Bydd y Comisiynwyr, mae’n amlwg, yn rhan o hynny. Rydym, felly, yn bwriadu sefydlu Bwrdd Adfer i gefnogi ac i gynghori Comisiynwyr Llywodraeth Cymru ac i herio a chefnogi swyddogion ac aelodau’r Cyngor yng nghyswllt gwasanaethau addysg Ynys Môn. Mae’r dull hwn yn debyg i’r un a ddefnyddiwyd gyda gwasanaethau addysg Sir Ddinbych yn 2008\. Y prif wahaniaeth yw y bydd y Comisiynwyr yn gallu ymyrryd yn uniongyrchol oni fydd y Cyngor yn cymryd camau digonol neu’n gweithredu’n gyflym i unioni’r sefyllfa.   Bydd un o uwch\-swyddogion addysg Llywodraeth Cymru ac un o uwch\-swyddogion addysg CLlLC yn aelodau o’r Bwrdd. Bydd Cadeirydd yn cael ei benodi i’r Bwrdd, ac, i gwblhau’r trefniadau cychwynnol, bydd dau weithiwr addysg proffesiynol hefyd yn cael eu penodi; byddwn yn cyhoeddi manylion pellach yn eu cylch yn y man. Bydd y Bwrdd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Gweinidogion, gan ddarparu adroddiadau misol rheolaidd am y sefyllfa ddiweddaraf. Mae’n fwriad gennym fynd ati ymhen chwe mis i adolygu’r cynnydd y bydd y Bwrdd wedi’i wneud, a’r effaith y bydd wedi’i chael. O ystyried natur anfoddhaol y sefyllfa, ein blaenoriaeth, o reidrwydd, yw sicrhau bod her a chefnogaeth ddigonol i sicrhau gwelliannau ar gyfer plant a phobl ifanc yr ardal cyn gynted ag y bo modd. O’r herwydd, byddwn yn cwblhau’n trefniadau arfaethedig cyn gynted ag y bo modd, ac yn sicrhau bod y gefnogaeth angenrheidiol yn cael ei rhoi ar fyrder. Wrth bwyso a mesur yr opsiynau, rydym ni a’n swyddogion yn gweithio’n agos gyda Chomisiynwyr Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod ateb priodol a phendant yn ei le cyn gynted â phosibl.  Rydym yn falch o nodi eu bod i gyd yn llwyr gefnogi’n dull o weithredu yn hyn o beth a’u bod wedi cyfrannu’n effeithiol at ddatblygu’r ateb hwnnw. Yn benodol, mae’n dda gweld bod arweinwyr gwleidyddol Cyngor Sir Ynys Môn, a’r swyddogion sy’n ei arwain, wedi derbyn canfyddiadau’r adroddiad yn llawn, wedi croesawu’r ffaith bod Bwrdd wedi’i benodi sydd â’r un amcanion â’r broses sy’n mynd rhagddi i adfer y sefyllfa llywodraethu corfforaethol, a’u bod wedi ymrwymo o’r dechrau i ymgysylltu’n effeithiol â’r Bwrdd er mwyn unioni’r sefyllfa. Nid oes unrhyw arwydd o’r gwadu a’r agwedd hunanfodlon a welwyd mewn mannau eraill yn ddiweddar.  Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod yr aelodau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os bydd yr aelodau am i ni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar ôl i’r Cynulliad ailymgynnull, byddem yn hapus i wneud hynny.
Translate the text from Welsh to English.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig tegwch o ran darpariaeth mewn addysg i bob plentyn a pherson ifanc fel bod dysgwyr, gan gynnwys plant y Lluoedd Arfog, yn cael eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial a chael y gefnogaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Gallai plant y Lluoedd Arfog wynebu gwahanol fathau o rwystrau at addysg o ganlyniad i'w statws unigryw fel plant aelodau o'r Lluoedd Arfog. Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiect Cefnogi Plant Aelodau o'r Lluoedd Arfog mewn Addysg (SSCE) Cymru a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd SSCE Cymru yn derbyn cyllid blynyddol o £270,000 ar gyfer 2024\-25\.  Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol ac mae'n garreg filltir bwysig sy'n rhoi'r cyfle i ysgolion a sefydliadau ddod ynghyd a chydnabod plant y Lluoedd Arfog. Ar Ddiwrnod Gwisgo'n Borffor! a gynhelir bob blwyddyn, mae pawb yn cael eu hannog i wisgo'n borffor i ddathlu plant o deuluoedd y Lluoedd Arfog. Dewiswyd porffor am ei fod yn cyfuno'r amrywiol liwiau sy'n gysylltiedig â gwahanol adrannau o'r Lluoedd Arfog. Addewid gan y genedl yw Cyfamod y Lluoedd Arfog i wneud yn siŵr bod aelodau a chyn\-aelodau'r Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru a'r DU i gynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog.  Rwy'n falch o ddangos fy ymrwymiad i holl blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl blant, pobl ifanc ac ysgolion, yn ogystal â chymunedau ein Lluoedd Arfog, yn mwynhau dathliadau'r diwrnod.
The Welsh Government is committed to equity of provision in education for all children and young people so that learners, including Service children, are supported to reach their full potential and access the support and help they need. Service children may experience different forms of barriers to education resulting from their unique status as children of Armed Forces personnel. Since 2019 the Welsh Government has funded the Supporting Service Children in Education (SSCE) Cymru project hosted by the Welsh Local Government Association (WLGA). I am delighted to announce SSCE Cymru will receive annual funding of £270,000 for 2024\-25\.  April is the Month of the Military Child and an important milestone giving schools and organisations the opportunity to come together and recognise Service children. Purple Up! Day is held annually and is a day when everyone is encouraged to wear purple to celebrate children from Armed Forces families. Purple was chosen as it combines the various colours associated with different branches of the military. The Armed Forces Covenant is a promise by the nation ensuring those who serve or who have served in the Armed Forces, and their families, are treated fairly. We are working with partners across Wales and the UK to uphold the principles of the Armed Forces Covenant.  I am pleased to show my commitment to all Service children in Wales and wish all children, young people and schools, as well as our Armed Forces communities, an enjoyable day’s celebrations. 
Translate the text from English to Welsh.
Nearly 3,000 keepers have registered onto the system since it was introduced last year and all active livestock markets, abattoirs, collection and assembly centres in Wales are reporting movements electronically to EIDCymru. EIDCymru was developed alongside the industry to provide farming in Wales with a modern and resilient movement reporting and traceability system for sheep. Since its launch, over 22\.5 million sheep and goats' movements have been recorded on the system. Stakeholders continue to be fully involved to ensure the system remains as user friendly as possible and to deliver maximum benefits for the industry and for government. The most recent enhancements include the addition of the online Sheep and Goat Annual Inventory form. The Cabinet Secretary said: > “EIDCymru has been developed with the interests of the sheep industry at its heart and demonstrates our commitment to help modernise farming practices and procedures. > > “During a recent visit to Welshpool livestock market, I was able to experience electronic reporting first hand and the benefits it provides. This system allows sheep movements to be traced in a modern and resilient way, allowing a quick and effective response to any disease outbreak. > > “I would like to thank HCC who operate the EIDCymru service for their continued work in achieving a high level of uptake since its introduction.”
Mae bron i 3,000 o geidwaid wedi cofrestru ar y system ers iddi gael ei chyflwyno’r llynedd ac mae pob marchnad da byw, lladd\-dy a chanolfannau casglu a chynnull yng Nghymru yn adrodd yn electronig i EIDCymru ar symudiadau anifeiliaid. Cafodd EIDCymru ei datblygu ar y cyd â’r diwydiant er mwyn creu system adrodd ac olrhain ar symudiadau defaid ar gyfer y diwydiant ffermio yng Nghymru sy’n fodern ac yn gydnerth. Ers lansio’r system mae dros 22\.5 miliwn o symudiadau gan ddefaid a geifr wedi’u cofnodi ar y system. Mae rhanddeiliaid yn parhau i chwarae rhan amlwg yn y broses er mwyn sicrhau bod y system yn parhau i fod mor syml â phosibl i’w defnyddio a’i bod yn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i’r diwydiant ac i’r llywodraeth. Mae’r ychwanegiadau diweddaraf yn cynnwys y Stocrestr flynyddol o Ddefaid a Geifr sydd ar gael ar\-lein.   Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: > “Cafodd EIDCymru ei datblygu er budd y diwydiant defaid ac mae’n tystio i’n hymrwymiad i helpu i foderneiddio arferion a gweithdrefnau ffermio. > > “Yn ystod ymweliad diweddar â marchnad da byw y Trallwng gwelais y system yn cael ei defnyddio ac roedd y manteision y mae’n eu cynnig yn gwbl amlwg. Mae’r system yn ei gwneud hi’n bosibl i symudiadau defaid gael eu holrhain mewn modd modern a chydnerth ac yn ei gwneud hi’n bosibl i ni ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i unrhyw glefyd a allai ledu.  > > “Hoffwn ddiolch i HCC sy’n gweithredu gwasanaeth EIDCymru am eu gwaith parhaus wrth annog mwy a mwy o bobl i ddechrau defnyddio’r system.”
Translate the text from Welsh to English.
Bydd awdurdodau lleol yn cael £20m o arian ychwanegol yn 2018\-19 a £40m yn 2019\-20 i gefnogi gwasanaethau lleol. Bydd manylion pellach ar gael yn y setliad llywodraeth leol terfynol a fydd yn cael ei gyhoeddi yfory (dydd Mercher 20 Rhagfyr). A bydd swm ychwanegol o £50m y flwyddyn yn cael ei ddyrannu i GIG Cymru yn 2018\-19 a 2019\-20 i hybu’r gwaith sydd ar y gweill i drawsnewid gwasanaethau, gofal sylfaenol a’r Gronfa Gofal Integredig. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:  > “Mae’r Gyllideb derfynol yn nodi carreg filltir arwyddocaol ar lwybr datganoli gan fod Cymru, am y tro cyntaf, yn dod yn gyfrifol am godi cyfran o’i refeniw ei hun drwy ddwy dreth ddatganoledig newydd, i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus. > > “Rwy’n falch o allu darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus – meysydd ry’n ni’n gwybod bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw. Bydd yr arian hwn yn helpu i leddfu rhywfaint ar y pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Maen nhw wedi cael trafferth ymdopi oherwydd y toriadau cyson i’n cyllideb ers 2010\-11, diolch i raglen Llywodraeth y DU o gyni ariannol.” Mae’r Gyllideb derfynol yn cynnwys dyraniadau cyllid refeniw a wneir yn sgil y cyllid canlyniadol a geir drwy Gyllideb y DU. Gan mai cyfnod byr sydd rhwng Cyllideb Hydref Llywodraeth y DU a chyhoeddi Cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn cyhoeddi penderfyniadau cynnar ynghylch dyraniadau cyllid cyfalaf ychwanegol yn y gwanwyn. Mae eisoes wedi cyhoeddi trothwy cychwynnol uwch o £180,000 ar gyfer prif gyfradd breswyl y dreth trafodiadau tir. Bydd hyn yn golygu y bydd degau o filoedd o brynwyr tai, gan gynnwys y rhai sy’n prynu am y tro cyntaf, yn cael eu heithrio rhag talu’r dreth ar eiddo wrth brynu tŷ o 1 Ebrill 2018 ymlaen. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies,  > “Rwy’n falch ein bod wedi gallu darparu’r hwb ychwanegol hwn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus allweddol yng Nghymru. Ry’n ni wedi gwrando ar y pryderon a godwyd gan lawer o’n cynghorau, ac wedi cymryd camau i fynd i’r afael â rhywfaint o’r pwysau mewn meysydd pwysig fel digartrefedd ymhlith pobl ifanc.” Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething,  > “Mae’r buddsoddiad ychwanegol yn y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi cyfle gwirioneddol imi ddarparu cyllid wedi’i dargedu er mwyn bwrw ymlaen â newidiadau i wasanaethau iechyd, a hynny drwy integreiddio, rhoi mwy o ffocws ar ofal sylfaenol a gwneud newidiadau strategol i wasanaethau a leolir mewn ysbytai.”
Local authorities will receive an additional £20m in 2018\-19 and £40m in 2019\-20 to support local services. Further details will be published in the final local government settlement, which will be published tomorrow (Wednesday December 20\). And an extra £50m a year will be allocated to the Welsh NHS in 2018\-19 and 2019\-20 to support the ongoing transformation of services, primary care and the Integrated Care Fund. Finance Secretary Mark Drakeford said:  > “The final Budget marks a significant milestone in Wales’ devolution journey as, for the first time, Wales becomes responsible for raising a proportion of its own revenue from 2 new devolved taxes to spend on public services. > > “I am pleased to be able to provide additional funding for public services – areas we know need extra support. This funding will help to ease some of the pressures on frontline public services, which have been struggling to cope as a result of the successive cuts to our budget, which we have experienced since 2010\-11 thanks to the UK government’s programme of austerity.” The final Budget includes revenue funding allocations made as a result of funding consequentials received from the UK Budget. Due to the short timeframe between the UK government’s Autumn Budget and the publication of the Welsh Government’s final Budget, the Finance Secretary will announce early decisions about additional capital funding allocations in the spring. He has previously announced a new higher starting threshold of £180,000 for the main land transaction tax residential rate, which will mean tens of thousands of homebuyers, including first\-time buyers, will be exempt from paying the property tax when buying a home from April 1, 2018\. Cabinet Secretary for Local Government and Public Services, Alun Davies, said,  > “I am pleased we have been able to provide this additional boost to support key public services in Wales. We have listened to the concerns raised by many of our councils, and we have acted to address some of the pressures that exist in important areas such as youth homelessness.” Cabinet Secretary for Health and Social Services, Vaughan Gething said,  > “The additional investment in the health and social services budget now gives me a real opportunity to provide targeted funding to drive forward change in health services through integration, a greater focus on primary care, and strategic change in hospital\-based services.”
Translate the text from English to Welsh.
I have reviewed the proposed changes to our COVID\-19 restrictions in Wales. The relaxations which are signalled are those which provide health and well being benefits at relatively low risk; either taking place outdoors or in regulated environments. These easements are consistent with our approach of unlocking cautiously so as to allow for relaxations to be monitored and assessed. This approach pays heed to the modelling data which predicts that re\-opening too rapidly could result in increased community transmission with rising hospital admissions and deaths. Our lived experience of emerging from the first UK\-wide lockdown and from the Welsh firebreak have demonstrated how quickly our situation can deteriorate. Our vaccination programme continues at pace but the extent to which it has broken the link between community transmission and direct Covid\-19 harms is not yet clear. We need to learn from the international experience; Israel has high levels of vaccination and lower case rates but it is still too early to conclude with confidence that population immunity has been reached. In Chile the relaxations of NPIs and the use of a vaccine which may be less effective appear to have resulted in cases rising once more. Every relaxation that is made will impact on transmission rates. This has potential to propagate infection into younger age groups thus affecting those who have either not been vaccinated or for whom vaccination does not stimulate a good protective response. There is considerable risk in the too rapid reinstatement of non\-essential international travel as this would pose the threats of re\-seeding of infection and of the introduction of new vaccine\-resistant variants. Wales is currently experiencing the lowest levels of transmission in the UK due to the decisions that have been made to date and the control measures we have in place. Dr Frank Atherton 22 April 2021
Rwyf wedi adolygu'r newidiadau arfaethedig i'r cyfyngiadau COVID\-19 yng Nghymru. Y cyfyngiadau y cyfeirir atynt yw’r rheini sy'n cynnig manteision iechyd a llesiant a lle mae’r risg yn gymharol isel – a gynhelir naill ai yn yr awyr agored neu amgylcheddau a reoleiddir. Mae llacio’r cyfyngiadau fel hyn yn gyson â'n dull o ddatgloi'n ofalus er mwyn caniatáu inni fonitro ac asesu wrth lacio. Wrth ddilyn y dull hwn, ystyrir y data modelu yn ofalus. Mae’r data hynny yn rhagfynegi y gallai ailagor yn rhy gyflym arwain at fwy o drosglwyddiadau yn y gymuned a chynnydd yn nifer y bobl a gaiff eu derbyn i’r ysbyty ac mewn marwolaethau. Mae’r profiad rydym wedi’i gael yn sgil dod allan o'r cyfyngiadau ar symud cyntaf i gael eu gorfodi ar draws y DU gyfan a’r cyfnod atal byr a gafwyd yng Nghymru wedi dangos pa mor gyflym y gall y sefyllfa ddirywio. Mae ein rhaglen frechu yn mynd rhagddi’n gyflym ond nid yw'n glir hyd yma faint o wahaniaeth y mae wedi’i wneud yn union o ran torri’r cysylltiad rhwng trosglwyddiadau yn y gymuned a niwed uniongyrchol yn sgil COVID\-19\. Rhaid inni ddysgu o brofiad gwledydd eraill ar draws y byd. Mae lefelau brechu yn uchel yn Israel ac mae’r cyfraddau achosion yn is yno ond mae'n rhy gynnar i ddweud o hyd yn gwbl hyderus eu bod wedi cyflawni imiwnedd torfol. Yn Chile, mae'n ymddangos bod achosion wedi dechrau codi unwaith eto yn sgil llacio ymyriadau anfferyllol a defnyddio brechlyn sydd yn llai effeithiol o bosibl.  Bydd cyfraddau trosglwyddo yn cael eu heffeithio bob tro y caiff y cyfyngiadau eu llacio. O ganlyniad, gallai’r haint ledaenu i grwpiau oedran iau gan effeithio felly ar y rheini nad ydynt wedi cael eu brechu neu nad yw brechu'n ysgogi ymateb amddiffynnol da ynddynt. Mae caniatáu i bobl ailddechrau teithio yn rhyngwladol yn rhy gyflym, pan nad yw’r daith yn hanfodol, yn risg hefyd oherwydd gallai’r haint ailgydio a gellid cyflwyno amrywiolynnau newydd sy’n gwrthsefyll brechlynnau.  Ar hyn o bryd, yng Nghymru y mae’r lefelau trosglwyddo isaf yn y DU. Mae hyn yn wir diolch i’r penderfyniadau sydd wedi'u gwneud hyd yma a'r mesurau rheoli sydd gennym ar waith.  Dr Frank Atherton 22 Ebrill 2021
Translate the text from English to Welsh.
The Chancellor of the Exchequer has today published the outcome of the UK Government’s Spending Review alongside the Autumn Budget. In his statement, the Chancellor set out the UK Government’s spending plans for the next three years to the end of 2024\-25\. The Spending Review comes at a critical moment on the eve of the COP26 Summit and set against a challenging economic backdrop in extraordinary times. It comes as we continue to navigate the implications of EU exit, manage the ongoing impacts of Covid\-19 and as families and businesses in Wales face price and cost of living increases. The Office for Budget Responsibility (OBR) is now more optimistic about economic prospects than it was at the time of the Budget in March. Output or GDP is expected to increase by 6\.5% this year rather than 4\.0%. The OBR judges that less permanent or scarring damage will be inflicted on the economy as a result of the pandemic than previously expected. Nonetheless, the likely damage, estimated to be 2\.0% of GDP is substantial, and will almost certainly be disproportionately borne by the less well off in society. Once the pandemic bounce in growth is behind us, the outlook for the economy and living standards is mediocre. Productivity growth is expected to average only 1\.2% over the next 5 years. Next year, household income after taking inflation into account is set to increase by only 0\.3%. Over the next 5 years, real household income growth is expected to average approximately 1\.0%, again much lower than the long term trend of more than 2\.0%. The Chancellor’s Budget has not provided enough support to mitigate the impact for Welsh families. The Chancellor confirmed an extra £314m revenue and £111m capital funding for the Welsh Government’s budget to be used in the remaining five months of this financial year but refused to reinstate the Covid Guarantee denying us certainty over our funding position. Looking ahead, overall the Welsh Government’s resource funding is lower in cash terms in each year of the Spending Review period than in the current year. In part that is due to high levels of COVID funding this year, however increases after 2022\-23 are also very small. Between 2022\-23 and 2024\-25 the Welsh Government’s resource funding increases by less than half a per cent in real terms. Overall capital funding falls in cash terms in each year of the Spending Review period and is 11 per cent lower in 2024\-25 than in the current year. The Welsh Government’s budget in 2024\-25 will be nearly £3bn lower than if it had increased in line with the economy since 2010\-11\. The small uplift in funding the UK Government is providing simply doesn’t meet the scale of the challenge we are facing to tackle the looming cost\-of\-living crisis and invest in recovery for public services, communities and families in Wales. While the Chancellor talked about an ‘age of optimism’, vital funding for the priorities highlighted by the Welsh Government as critical to Wales and centred on the climate emergency have been side\-lined. This Budget needed to provide the detail on how UK Government’s public spending plans will help tackle the climate and nature emergencies. Disappointingly on the eve of COP26, the Chancellor chose instead to cut taxes on fossil fuel and failed to support electrification of Welsh railways or provide the much needed plan to help the steel industry deliver its share of Net Zero targets. It is indefensible that the UK Government has refused to work with us and provide funding to support the long\-term remediation and repurposing of coal tips in Wales. These tips are a legacy of the UK’s industrial past. The need for work to address this impact of disruptive climate change was unknown, and provision was not made when Wales’ funding arrangements were agreed in 1999\. The UK Government had an opportunity to show it is would stand behind the communities whose efforts created huge wealth for the UK, instead it has chosen to turn its back on them. The Chancellor gives with one hand while taking with the other. Despite his announcement of support for training and skills, this Spending Review confirms Wales is losing £375m of regional annual funding essential to supporting apprenticeships, skills and businesses. The Chancellor’s announcement of £120m through the Levelling Up Funds, represents only 7% of the total funding compared to Wales previously receiving 24% of eligible EU Structural funds. It falls well short of the full replacement we were promised to tackle inequality. Wales’ farmers and rural communities will lose out on at least £106m of replacement EU funding over the Spending Review period, on top of the £137m not provided for by the UK Government this financial year. We remain fundamentally opposed to the arbitrary use of the financial assistance powers in the UK Internal Market Act to deliver funding in devolved areas. Devolution is about decisions being taken by those elected by people in Wales, close to the communities they serve who best understand their needs and circumstances, accountable to the Senedd for their decisions. It is extremely disappointing to see that UK Government has decided to press on regardless with these divisive and inefficient policies. The lift in restrictions on public sector pay provides some limited relief for our public sector workers who have faced huge challenges in the past 19 months and have worked incredibly hard to keep vital services going. However when the cut to Universal Credit, the effect of inflation and the higher National Insurance Contributions are taken into account, many public sector workers will be no better off and in real terms are considerably poorer than they were a decade ago. We will be exploring with local government and trade unions in Wales how to make progress on our longstanding commitment to improve fairness in pay arrangements. HS2 is expected to have a negative impact of £150m per year on the Welsh economy. To enable us to deliver Net Zero, we need to move quickly to full electrification of the rail line to Swansea and the North Wales main line, to ensure we can reach the ambitious targets both we and the UK Government have signed up to. The lack of any new major UK Government funded projects in the Spending Review allied to the very tight capital budget settlement the Welsh Government now has over the next few years, only reinforces the message that today’s announcement doesn’t match the scale of the challenge ahead – to get to Net Zero and build a post\-Covid economy. Our focus as a Welsh Government remains on bringing forward our plans for an investment led recovery based on the needs of the people of Wales. We will publish the Welsh Government Budget on 20 December and will seek to deliver the fairest possible settlement for Welsh public services to secure a more prosperous, greener and just Wales. Delivering public services will continue to be one of the key priorities in our upcoming budget. The *Health and Social Care in Wales COVID\-19: Looking Forward* document brings together the whole system approach we are adopting for Health and Social Care to demonstrate a clear direction for rebuilding key services. We will continue to deliver our Programme for Government to address the impact of the pandemic on children and young people, build 20,000 low\-carbon homes for social rent, and deliver the Youth Guarantee. We will also be publishing our new Wales infrastructure and Investment Strategy, which includes interventions to deliver Net Zero. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so.
Heddiw, mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi canlyniad Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU ochr yn ochr â Chyllideb yr Hydref. Yn ei ddatganiad, amlinellodd y Canghellor gynlluniau gwario Llywodraeth y DU ar gyfer y tair blynedd nesaf hyd ddiwedd 2024\-25\. Mae’r Adolygiad o Wariant yn digwydd ar adeg dyngedfennol, ar drothwy Uwchgynhadledd COP26 ac mewn hinsawdd economaidd heriol a chyfnod nas gwelwyd ei debyg. Daw hyn wrth inni barhau i ddelio â goblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a rheoli effeithiau parhaus Covid\-19, ac wrth i deuluoedd a busnesau yng Nghymru wynebu cynnydd mewn prisiau a chostau byw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) bellach yn fwy optimistaidd am y rhagolygon economaidd nag oedd hi adeg y Gyllideb ym mis Mawrth. Disgwylir i allbwn neu GDP gynyddu 6\.5% eleni yn hytrach na 4\.0%. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o'r farn y caiff llai o niwed parhaol neu andwyol ei wneud i'r economi o ganlyniad i'r pandemig nag y disgwylid yn wreiddiol. Er hynny, mae'r niwed tebygol, sef 2\.0% o GDP yn ôl yr amcangyfrif, yn sylweddol ac mae bron yn sicr mai’r rhai lleiaf cefnog mewn cymdeithas yn bennaf fydd yn ysgwyddo'r baich. Pan fydd cam a naid y twf yn sgil y pandemig y tu ôl i ni, mae'r rhagolygon ar gyfer yr economi a safonau byw yn eithaf tila. Disgwylir i’r twf mewn cynhyrchiant fod yn 1\.2% yn unig ar gyfartaledd dros y pum mlynedd nesaf. Y flwyddyn nesaf, disgwylir i incwm aelwydydd gynyddu 0\.3% yn unig ar ôl cymryd chwyddiant i ystyriaeth. Dros y pum mlynedd nesaf, disgwylir i’r twf gwirioneddol yn incwm aelwydydd fod tua 1\.0% ar gyfartaledd, unwaith eto'n llawer is na'r duedd hirdymor o fwy na 2\.0%. Nid yw Cyllideb y Canghellor wedi darparu digon o gymorth i liniaru’r effaith ar deuluoedd yng Nghymru. Cadarnhaodd y Canghellor gyllid refeniw ychwanegol o £314m a chyllid cyfalaf o £111m ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru, i’w ddefnyddio ym mhum mis olaf y flwyddyn ariannol hon, ond gwrthododd adfer y Warant Covid gan ein hamddifadu o sicrwydd ynghylch ein sefyllfa ariannu. Gan edrych i'r dyfodol, mae cyllid adnoddau Llywodraeth Cymru yn is mewn termau arian parod ym mhob un o flynyddoedd cyfnod yr Adolygiad o Wariant nag yn y flwyddyn bresennol. Mae hynny i’w briodoli, yn rhannol, i lefelau uchel o gyllid Covid eleni, ond mae'r cynnydd ar ôl 2022\-23 hefyd yn fach iawn. Rhwng 2022\-23 a 2024\-25 mae cyllid adnoddau Llywodraeth Cymru yn cynyddu llai na hanner y cant mewn termau real. Mae’r cyllid cyfalaf cyffredinol yn gostwng mewn termau arian parod ym mhob un o flynyddoedd cyfnod yr Adolygiad o Wariant ac mae 11 y cant yn is yn 2024\-25 nag yn y flwyddyn bresennol. Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2024\-25 bron £3bn yn is na phe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010\-11\. Nid yw'r cynnydd bach yn y cyllid y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu yn bodloni maint yr her yr ydym yn ei hwynebu i fynd i'r afael â'r argyfwng mewn costau byw sydd ar y gorwel ac i fuddsoddi mewn adferiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a theuluoedd yng Nghymru. Er i'r Canghellor sôn am ‘gyfnod o optimistiaeth’, mae’r cyllid hanfodol ar gyfer y blaenoriaethau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi nodi eu bod yn allweddol i Gymru, ac a oedd yn rhoi sylw i’r argyfwng hinsawdd, wedi’i fwrw o’r neilltu. Roedd angen i'r Gyllideb hon fanylu ynghylch sut y bydd cynlluniau gwario cyhoeddus Llywodraeth y DU yn helpu i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Testun siom, ar drothwy COP26, yw bod y Canghellor yn hytrach wedi dewis torri trethi ar danwydd ffosil a’i fod wedi methu â chefnogi trydaneiddio rheilffyrdd Cymru na darparu'r cynllun y mae mawr ei angen i helpu'r diwydiant dur i gyflawni ei gyfran o dargedau sero\-net. Does dim cyfiawnhad dros amharodrwydd Llywodraeth y DU i weithio gyda ni a darparu cyllid i gefnogi’r gwaith hirdymor o adfer ac addasu tomenni glo yng Nghymru. Un o effeithiau hirdymor gorffennol diwydiannol y DU yw’r tomenni hyn. Pan gytunwyd ar drefniadau cyllido Cymru yn 1999, nid oedd yr angen i weithio i ddelio â’r effaith hon yn sgil newid yn yr hinsawdd yn hysbys ac ni wnaed darpariaeth ar ei chyfer. Roedd gan Lywodraeth y DU gyfle i ddangos ei bod yn cefnogi’r cymunedau hynny y gwnaeth eu hymdrechion greu cyfoeth helaeth i’r DU. Yn hytrach, mae wedi dewis troi ei chefn arnyn nhw. Mae’r Canghellor yn rhoi â’r naill law ac yn cymryd ymaith â’r llall. Er iddo gyhoeddi cymorth ar gyfer hyfforddiant a sgiliau, mae’r Adolygiad o Wariant yn cadarnhau bod Cymru yn colli £375m o gyllid rhanbarthol blynyddol sy’n hanfodol i gefnogi prentisiaethau, sgiliau a busnesau. Mae cyhoeddiad y Canghellor o £120m drwy’r Cronfeydd Codi’r Gwastad yn cyfateb i 7% yn unig o gyfanswm y cyllid, o'i gymharu â’r 24% o gyllid cymwys o gronfeydd Strwythurol yr UE yr oedd Cymru'n arfer ei gael. Mae’n llawer llai na’r cyllid disodli llawn a addawyd i ni er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Bydd ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru yn colli £106m o leiaf o ran y cyllid a roddir yn lle cyllid yr UE dros gyfnod yr Adolygiad o Wariant, a hynny ar ben y £137m na ddarparodd Llywodraeth y DU ar ei gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rydym yn parhau i lwyr wrthwynebu’r defnydd gormesol o’r pwerau cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y DU i gyflwyno cyllid mewn meysydd sydd wedi’u datganoli. Hanfod datganoli yw bod penderfyniadau’n cael eu gwneud gan y rhai a etholwyd gan bobl yng Nghymru, yn agos at y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu sy’n deall eu hanghenion a’u hamgylchiadau orau ac sy’n atebol i’r Senedd am eu penderfyniadau. Mae’n hynod o siomedig bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu bwrw ymlaen doed a ddelo â’r polisïau cynhennus ac aneffeithlon hyn. Mae’r penderfyniad i godi’r cyfyngiadau ar gyflogau yn y sector cyhoeddus yn rhoi rhyw gymaint o gymorth i’n gweithwyr yn y sector cyhoeddus wedi wynebu heriau anferth yn y 19 mis diwethaf ac wedi gweithio’n eithriadol o galed i gynnal gwasanaethau hanfodol. Fodd bynnag, pan ystyrir y toriad i Gredyd Cynhwysol, effaith chwyddiant a'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol uwch, ni fydd llawer o weithwyr y sector cyhoeddus yn well eu byd, ac mewn termau real maent gryn dipyn yn dlotach nag yr oedden nhw ddegawd yn ôl. Byddwn yn mynd ati gyda llywodraeth leol ac undebau llafur yng Nghymru i weithio tuag at ein hymrwymiad hirsefydlog i wella tegwch trefniadau cyflogau. Mae disgwyl i HS2 gael effaith negyddol o £150m y flwyddyn ar economi Cymru. Er mwyn gallu cyflawni sero\-net, mae angen inni symud yn gyflym i drydaneiddio'r rheilffordd yn llawn i Abertawe a thrydaneiddio prif linell reilffordd y Gogledd, er mwyn sicrhau y gallwn gyrraedd y targedau uchelgeisiol yr ydym ni a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo iddynt. Mae diffyg unrhyw brosiectau mawr newydd a ariennir gan Lywodraeth y DU yn yr Adolygiad o Wariant, ynghyd â'r setliad tynn iawn sydd gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd nesaf o ran ei chyllideb gyfalaf, yn atgyfnerthu'r neges nad yw'r cyhoeddiad heddiw yn cyfateb i faint yr her sydd o'n blaenau – i gyrraedd sero\-net ac adeiladu’r economi ar ôl Covid. Rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar gyflwyno ein cynlluniau ar gyfer adferiad drwy fuddsoddi, yn seiliedig ar anghenion pobl Cymru. Byddwn yn cyhoeddi Cyllideb Llywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr, gan geisio darparu’r setliad tecaf posibl i wasanaethau cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau Cymru fwy llewyrchus, gwyrdd a chyfiawn. Bydd darparu gwasanaethau cyhoeddus yn dal yn un o'r blaenoriaethau allweddol yn ein cyllideb arfaethedig. Mae’r ddogfen *Gwella Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: (COVID\-19: Edrych tua’r Dyfodol)* yn crynhoi’r dull system gyfan yr ydym yn ei fabwysiadu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddangos cyfeiriad clir ar gyfer ailadeiladu gwasanaethau allweddol. Byddwn yn parhau i roi ein Rhaglen Lywodraethu ar waith i fynd i'r afael ag effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc, adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu'n gymdeithasol, a darparu'r Warant Ieuenctid. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein Strategaeth Seilwaith a Buddsoddi newydd i Gymru, sy'n cynnwys ymyriadau i gyflawni sero\-net. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Translate the text from Welsh to English.
Wrth siarad wedyn, dywedodd y Prif Weinidog: > "Hoffwn i ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi gweithio'n ddiflino dros y misoedd diwethaf, i sicrhau bod y rhaglen frechu wedi bod yn gymaint o lwyddiant yma yng Nghymru. > > > "Rwy'n annog pawb sy'n cael cynnig brechiad atgyfnerthu i ddod i'w hapwyntiadau. > > > "Mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gadw pawb yn ddiogel gan fod y coronafeirws yn dal gyda ni.”
Speaking afterwards the First Minister said: > “I would like to thank all the NHS staff and volunteers that have worked tirelessly over the last few months, to ensure that the vaccination programme has been such a success here in Wales. > > > “I urge everyone that is offered a booster vaccine to turn up for their appointments. > > > “We must do everything we can to keep everyone safe as Coronavirus has not gone away.”
Translate the text from Welsh to English.
Rwy'n ysgrifennu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi ar gam nesaf Dysgu yn y Gymru Ddigidol, rhaglen waith Llywodraeth Cymru i wella'r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth addysgu a dysgu. Mae'r rhaglen addysg hollbwysig hon yn cynnig amrywiaeth gyson o gyfarpar ac adnoddau digidol dwyieithog, a ariennir yn ganolog, i randdeiliaid ledled Cymru, a all gefnogi a hwyluso'r gwaith o drawsnewid arferion digidol yn y dosbarth. Ymhlith prif elfennau'r rhaglen mae: * Hwb \- y platfform dysgu digidol i Gymru sy'n darparu un man i ddefnyddwyr gael gafael ar gyfarpar ac adnoddau digidol dwyieithog, a ariennir yn ganolog.  Mae'r ystadegau diweddaraf ar gyfer Hydref 2017 yn dangos y mewngofnodwyd 736,813 o weithiau yn ystod y mis \- cynnydd o 55% o gymharu â Hydref 2016\. Mae hyn yn cyfateb i fwy na 23,000 o weithiau bob dydd ar gyfartaledd. * Buddsoddi ym Mand Eang Ysgolion \- ymrwymiad Symud Cymru Ymlaen i ddarparu band eang cyflym iawn i bob ysgol yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn darparu cysylltiadau ffeibr ar gyfer 343 o ysgolion ledled Cymru drwy rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus. Bydd yn sicrhau bod amrywiaeth o gyfarpar ac adnoddau ar gael i ysgolion drwy Hwb, yn ogystal â chefnogi'r cwricwlwm newydd.  Hyd yma, mae band eang dros draean o'r ysgolion a dargedwyd wedi cael ei ddiweddaru wrth i'r rhaglen fynd rhagddi, yn unol â'r disgwyliadau. * Diogelwch ar\-lein mewn addysg \- diogelwch ar\-lein yw un o themâu craidd rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol.  Mae'r rhaglen ddiogelwch ar\-lein yn adeiladu ar yr arbenigedd a'r gweithgarwch presennol i ddatblygu mwy o weithgarwch cynaliadwy i sicrhau diogelwch ar\-lein ledled Cymru \- yn ogystal â chynyddu nifer yr adnoddau sydd ar gael yn Gymraeg.  Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn ymgynghori â rhanddeiliaid a phobl ifanc am ein cynllun gweithredu newydd ar ddiogelwch ar\-lein a gaiff ei gyhoeddi erbyn Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ym mis Chwefror 2018\. * Canllawiau Digidol Addysg i Ysgolion \- caiff canllawiau eu cyhoeddi yn fuan i helpu ysgolion i ddeall sut gall materion sy'n ymwneud â rhwydwaith eu hardal leol effeithio ar eu cysylltiad â'r rhyngrwyd.  Materion sy'n ymwneud â rhwydwaith eu hardal leol sydd wrth wraidd problemau cysylltu weithiau, yn hytrach na'r cysylltiad band eang a ddarparwyd i'r ysgol. Bydd y canllawiau yn helpu ysgolion i ddeall y materion hyn, ac yn rhoi cyngor iddynt ar sut y gallant fynd i'r afael â nhw er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r buddsoddiad a wnaed fel rhan o raglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol. Yng ngham nesaf y rhaglen, rhoddir mwy o ddewis i athrawon o ran yr adnoddau digidol y gallant eu defnyddio yn y dosbarth, gan gyflwyno Google for Education i blatfform Hwb.  Mae'r datblygiad hwn yn adeiladu ar y set adnoddau sydd eisoes ar gael gan Office 365 a Just2easy, gan alluogi athrawon i ddewis o amrywiaeth ehangach o adnoddau fel Google Classroom, sy'n hwyluso cydweithio o fewn y dosbarth, a chyfleuster rheoli dyfeisiau Chromebook. Mae fy swyddogion yn cydweithio'n agos â thîm Google Education i sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn gallu gwneud y mwyaf o'r adnoddau newydd a chyffrous hyn yr ydym yn gobeithio eu darparu drwy Hwb yn y gwanwyn 2018\. Mae'r datblygiad newydd hwn wedi'i sefydlu yn sgil adborth gan ysgolion wrth inni barhau i ddatblygu'r amrywiaeth orau bosibl o gyfarpar ac adnoddau digidol i gefnogi athrawon a dysgwyr wrth ddarparu'r cwricwlwm newydd.  Ar sail yr adborth parhaus hwn, ni fyddwn yn adnewyddu platfform dysgu rhithiol Hwb\+ unwaith daw'r contract presennol i ben ym mis Awst 2018, ond byddwn yn sicrhau bod y camau y byddwn yn eu datblygu nawr ac yn y dyfodol yn darparu ar gyfer unrhyw anghenion ymarferol sydd gan ysgolion.   Byddwn yn cyfathrebu ag ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol am y datblygiadau newydd hyn i sicrhau eu bod yn barod i fanteisio ar y cyfarpar a'r adnoddau digidol newydd pan fyddant ar gael.  Byddwn hefyd yn cynnig cymorth i ysgolion yn uniongyrchol i hwyluso'r trosglwyddo o blatfform Hwb\+. Byddaf yn rhoi gwybodaeth reolaidd ichi ar y rhaglen hon dros y misoedd i ddod.
I am writing to update you on the next stage of Learning in Digital Wales, the Welsh Government programme of action for improving the use of digital technology for teaching and learning. This pivotal education programme provides stakeholders across Wales with consistent access to a range of centrally\-funded, bilingual, digital tools and resources that can support and assist the transformation of digital classroom practices. Key elements of the programme include: * **Hwb** – the digital learning platform for Wales which provides its users with a single point of access to a range of centrally\-funded, bilingual, digital tools and resources.  Latest usage statistics for October 2017 show that there were a total of 736,813 log\-ins during the month \- a 55% increase over October 2016 \- which equates to an average of over 23,000 log\-ins every day. * **Investment in School Broadband** – a Taking Wales Forward commitment to provide superfast broadband to all schools in Wales. This work will provide fibre connections for 343 schools across Wales via the PSBA network and will ensure schools are able to access the range of tools and resources available via Hwb, as well as supporting the new curriculum. To date, over a third of our targeted schools have been upgraded to faster speeds as the programme progresses inline with expectations. * **Online safety in Education** – a core theme throughout the LiDW programme is online safety. The online safety programme builds on existing expertise and activities to develop sustainable online safety activities across Wales – as well as increasing the amount of resources available in Welsh. Over the past few months, we have been consulting with stakeholders and young people about our new Online Safety Action Plan which will be published in time for Safer Internet Day in February 2018\. * **Education Digital Guidance for Schools** – guidance will be published shortly to help schools understand how local area network issues can affect their internet connectivity. Local area network issues are sometimes the root cause of connectivity problems experienced by schools, rather than the broadband connections provided to the school. The guidance will help schools to understand these issues, and provide advice on how they can address them to make the best use of the investment made as part of the LiDW programme. The next phase of the programme will see teachers having more choice about the digital tools that they employ in the classroom with the introduction of Google for Education into the Hwb platform. This development builds upon the existing set of tools available from Office 365 and Just2easy, enabling teachers to choose from a wider range of tools such as Google Classroom, facilitating powerful class collaboration and Device management for Chromebooks. My officials are working closely with the Google Education team to ensure schools in Wales are able to make the most of these new and exciting tools which we aim to make available through Hwb in spring 2018\.   This new development has been put in place following feedback from schools as we continue to develop the best possible range of digital tools and resources to support teachers and learners to deliver the new curriculum. As a result of this ongoing feedback, we will not be renewing the Hwb\+ virtual learning platform once the current contract expires in August 2018 but will ensure that any functionality that schools need is catered for in our existing and future developments. We will be communicating with schools, local authorities and regional education consortia about these new developments to ensure they are ready to take advantage of the new digital tools and resources as they become available.  We will also be offering support to schools directly to facilitate their transition from the Hwb\+ platform. I will keep you informed through regular updates on this programme over the forthcoming months.
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw, mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS y DU) \- sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon \- wedi cyhoeddi dau ymgynghoriad ar ehangu ETS y DU.  Ym mis Gorffennaf 2023 cadarnhaodd yr Awdurdod ei fwriad i gyflwyno ynni o wastraff a llosgi gwastraff  i'r cynllun o 2028 ymlaen, gyda chyfnod monitro, adrodd a dilysu dwy flynedd yn unig o 2026\. Mae'r ymgynghoriad heddiw yn rhoi rhagor o fanylion ar sut y bydd yr ehangiad hwn yn cael ei weithredu, gan roi eglurder i sbarduno buddsoddiad mewn datgarboneiddio. Daw'r ail ymgynghoriad yn dilyn cyhoeddiad yr Awdurdod, hefyd fis Gorffennaf diwethaf, fod y cynllun yn farchnad hirdymor addas ar gyfer tynnu nwyon tŷ gwydr. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn archwilio sut y gellid integreiddio technolegau tynnu nwyon tŷ gwydr wedi'u peiriannu o'r DU fel Dal Carbon mewn Aer yn Uniongyrchol, lle mae carbon deuocsid yn cael ei dynnu o'r aer a'i storio'n barhaol, i ETS y DU. Wrth wneud hynny, mae'n anelu at ysgogi buddsoddiad yn y technolegau hyn. Mae hefyd yn ystyried ymhellach y sefydlogrwydd o storio, y costau a'r effeithiau posibl ar reoli tir ehangach pe bai technolegau o ansawdd uchel ar gyfer tynnu nwyon tŷ gwydr o goetir yn y DU yn cael eu cynnwys yn y cynllun. Bydd yr ymgynghoriad ar wastraff ar agor am wyth wythnos, tan 18 Gorffenaf 2024\. Bwriad y cyfnod ymgynghori byrrach hwn yw rhoi amser i gwblhau rhagor o waith paratoi, a galluogi gweithredu’r cynigion erbyn 2026, fel yr ymrwymwyd i wneud yn flaenorol. Bydd unrhyw risg sy’n deillio o’r dull hwn yn cael ei lliniaru gan waith ymgysylltu helaeth i sicrhau cyfranogiad llawn rhanddeiliaid*.*Bydd yr ymgynghoriad ar dynnu nwyon tŷ gwydr ar agor am 12 wythnos tan 15 Awst 2024\. Bydd yr Awdurdod, ynghyd â swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru, yn ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid yr effeithir arnynt i gasglu barn i gefnogi penderfyniadau terfynol ar sut y bydd ETS y DU yn cael ei ehangu. Bydd y diwygiadau hyn i ETS y DU yn gofyn am ddiwygiadau i Orchymyn Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr y DU, felly bydd y Senedd, ynghyd â Seneddau eraill y DU  yn cael cyfle i graffu ar gynlluniau unwaith y byddant wedi'u cwblhau.  Gyda'i gilydd, bydd yr wybodaeth a gesglir yn amhrisiadwy wrth lywio'r gwaith o ehangu'r cynllun, a fydd yn ei dro yn cynyddu'r allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi'u cwmpasu o dan derfyn allyriadau'r cynllun. Rwy'n disgwyl ysgrifennu eto ar gynigion ehangu pellach yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y gwaith hwn yn cymell arloesedd, yn sbarduno gostyngiadau mewn allyriadau, ac yn helpu i sicrhau dyfodol cadarn, cynaliadwy i Gymru.   Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'w hysbysu o'r ymgyngoriadau hyn.
The UK Emissions Trading Scheme (UK ETS) Authority – formed of Welsh Government, UK Government, Scottish Government, and Northern Ireland Executive – has today published two consultations on the expansion of the UK ETS.  In July 2023 the Authority confirmed its intention to bring energy from waste and waste incineration into the scheme from 2028, with a two\-year monitoring, reporting, and verification only period from 2026\. Today’s consultation provides further details on how this expansion will be implemented, giving clarity to drive investment in decarbonisation. The second consultation follows the Authority’s announcement, also last July, that the scheme is a considered to be a suitable long\-term market for greenhouse gas removals. Today’s publication explores how UK\-based engineered greenhouse gas removal technologies such as Direct Air Carbon Capture, where carbon dioxide is removed from the air and permanently stored, could be integrated into the UK ETS. In doing so, it aims to stimulate investment in these technologies. It also further considers the permanence of storage, costs and potential wider land management impacts if high\-quality GGRs from new UK woodland were to be included in the scheme. The waste consultation will be open for 8 weeks, until 18 July 2024\. This shorter consultation period is intended to allow time for further preparatory work to be completed and enable implementation of the proposals by 2026, as previously committed to. Any risk arising from this approach will be mitigated by extensive engagement activity to ensure full stakeholder involvement. The greenhouse gas removals consultation will be open for 12 weeks until 15 August 2024\.  The Authority, along with officials across the Welsh Government, will engage extensively with affected stakeholders to gather views to support final decisions on how the UK ETS will be expanded. These reforms to the UK ETS will require amendments to the UK Greenhouse Gas Emissions Trading Order, so the Senedd, along with other UK Parliaments, will have the opportunity to scrutinise plans once they are finalised.  Collectively, the information gathered will be invaluable in informing expansion of the scheme, which will in turn, increase the greenhouse gas emissions covered under the scheme emissions limit. I expect to write again on further expansion proposals in the coming months. This work will incentivise innovation, drive emission reductions, and help secure a resilient, sustainable future for Wales.  I have written to the Chairs of the Climate Change, Environment, and Infrastructure Committee and the Legislation, Justice, and Constitution Committee to inform them of these consultations.
Translate the text from Welsh to English.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, wrth wneud sylwadau ar yr Ystadegau’r Farchnad Lafur diweddaraf a gafodd eu cyhoeddi heddiw: > “Mae’r ffigurau calonogol heddiw yn dangos bod y farchnad lafur yng Nghymru yn dal i berfformio’n gadarn iawn wrth i’n ffigurau diweithdra, sy’n syrthio, ragori ar weddill y DU am y chweched mis yn olynol.   > > “Mae cyflogaeth yng Nghymru yn cynyddu’n gyflymach na chyfartaledd y DU ac mae nawr wedi cyrraedd lefel uchel na welwyd erioed o’r blaen, gyda 34,000 yn fwy o bobl mewn gwaith erbyn hyn nag yn y 12 mis blaenorol. Mae’r cwymp sydyn hwn mewn diweithdra yng Nghymru wedi rhagori unwaith eto at bob ardal o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 4\.1% yw’r lefel diweithdra yma erbyn hyn, sef 2\.3% yn is na’r flwyddyn flaenorol a 0\.8% yn is na chyfartaledd y DU. Yn ogystal â hynny, mae lefelau anweithgarwch economaidd hefyd wedi syrthio yng Nghymru. > > “Mae hyn yn newyddion gwych i economi Cymru, ond nid nawr yw’r amser inni orffwys ar ein rhwyfau. Byddwn ni’n dal i weithio’n galed i gefnogi busnesau a chreu’r amodau economaidd priodol i greu a diogelu swyddi cynaliadwy ym mhob cwr o Gymru. Rydyn ni’n dal i fod yn uchelgeisiol iawn dros Gymru a’i heconomi ac rydyn ni’n benderfynol o gyflawni ar ran pobl Cymru.”
Commenting on the latest Labour Market Statistics published today (14 September 2016\), First Minister Carwyn Jones said: > “Today’s welcome figures show that the labour market in Wales is continuing to perform very strongly as our falling unemployment outperforms the rest of the UK for the sixth consecutive month. > > > “Employment in Wales is increasing faster than the UK average and now stands at an historic high level, with 34,000 more people in work now than 12 months before. The sharp fall in unemployment in Wales has again outperformed all regions of England, Scotland and Northern Ireland to reach 4\.1%, a fall of 2\.3% on the previous year and 0\.8% lower than the UK average. Economic inactivity in Wales has also decreased. > > > “This is all excellent news for the Welsh economy, but there is no time for complacency. We will continue to work hard to support business and create the economic conditions to create and safeguard sustainable jobs right across Wales. We continue to have big ambitions for Wales and its economy and are determined to deliver on them for the people of Wales.”
Translate the text from English to Welsh.
The proposed legislation will impose obligations on Welsh Ministers and the Counsel General to make laws more accessible and also makes bespoke provision about the interpretation of Welsh legislation. Speaking ahead of his oral statement the Counsel General said: > “The complexity of the law that applies to Wales is a big problem and steps need to be taken to simplify it and make it more accessible to everyone. My goal is to organise Welsh law into comprehensive Codes organised by the subject areas devolved to Wales. > > > “I see this as an issue of social justice. It is vital that citizens understand their rights and responsibilities under the law, they know what the law means and who is responsible for what. That’s why I am today launching a public consultation and engagement on the Draft Bill and would like to encourage everyone to get involved and have their say.” A clear, certain and accessible statute book is an economic asset and gives those who wish to do business in Wales a more stable and settled legal framework, helping investment and growth. It also enables public sector bodies and other organisations to more easily understand the legal context within which they operate, and makes law\-making more efficient and effective. The proposals would also facilitate use of the law in Welsh. The Draft Bill is an important milestone in the development of devolved government in Wales and designed to help make Welsh law fit for the future.
Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol i wneud cyfreithiau yn fwy hygyrch ac mae hefyd yn gwneud darpariaeth bwrpasol ynglŷn â dehongli deddfwriaeth Gymreig. Wrth siarad cyn gwneud ei ddatganiad llafar, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol: > “Mae cymhlethdod y gyfraith sy’n gymwys i Gymru yn broblem fawr, ac mae angen cymryd camau i’w symleiddio a’i gwneud yn fwy hygyrch i bawb. Fy nod yw sicrhau bod cyfraith Cymru yn cael ei threfnu’n Godau cynhwysfawr ar sail y meysydd pwnc sydd wedi’u datganoli i Gymru. > > “Mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hyn yn fy marn i. Mae’n hollbwysig bod dinasyddion yn gallu deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau o dan y gyfraith, a’u bod yn gwybod beth yw ystyr y gyfraith a phwy sy’n gyfrifol am beth. Dyna pam yr ydw i heddiw yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus a chyfnod o ymgysylltu ar y Bil Drafft. Hoffwn i annog pawb i gymryd rhan ac i ddweud eu dweud.” Mae llyfr statud clir, sicr a hygyrch yn ased economaidd ac mae’n rhoi fframwaith cyfreithiol cadarnach a mwy sefydlog i’r rhai sy’n dymuno cynnal busnes yng Nghymru, gan hybu buddsoddiad a thwf drwy hynny. Mae hefyd yn galluogi cyrff y sector cyhoeddus a sefydliadau eraill i ddeall y cyd\-destun y maent yn gweithio ynddo yn well, ac yn gwneud y broses o wneud cyfreithiau yn fwy effeithiol ac effeithlon. Byddai’r cynigon hefyd yn ei gwneud yn haws defnyddio’r gyfraith yn Gymraeg. Mae’r Bil Drafft yn garreg filltir bwysig yn natblygiad llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, a’i nod yw helpu i wneud cyfraith Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol.
Translate the text from English to Welsh.
This is a legal requirement in Wales for those not exempt and is crucial in helping to prevent the spread of the virus. Rates of coronavirus in Wales are currently the highest in the UK and unless rates begin to fall, Welsh Ministers will have to consider reintroducing restrictions to bring the spread of the virus under control. Economy Minister, Vaughan Gething is calling on people in Wales to respect the rules and safety advice in place to prevent coronavirus spreading even further and more people falling seriously ill. This includes making sure that face coverings are worn in indoor public spaces like shops. During a visit to Morrisons in Cardiff Bay, the Minister paid tribute to retail staff across Wales who have been unsung heroes throughout the pandemic, working to keep the nation fed. Economy Minister, Vaughan Gething said: > “We must all play our part in Keeping Wales Safe. > > > “Even though we are all now able enjoy life’s freedoms, we must all keep taking necessary precautions when shopping to keep ourselves, other shoppers, including society’s clinically vulnerable and store workers safe. > > > “Whilst vaccines remain the best defence against the virus and we continue to encourage everyone to work from home wherever possible, I cannot stress enough the importance of wearing a face covering in indoor public places. > > > “And it is important to remember that shopping isn’t a choice unlike a trip to the theatre or pub.  I hear from many clinically vulnerable people who tell me that they feel unsafe whilst shopping because of face coverings not being worn. I am calling on everyone to be considerate to these people and do the right thing. > > > “Wearing a covering in shops is a legal requirement for those not exempt, and I’m very keen to press that point here today. Retailers have an important role in getting this message across and ensuring their shops are safe and it is good to see how seriously many retailers, like Morrisons, are taking this. > > > “The Welsh Government are keen to avoid introducing further restrictions, particularly in the retail sector in the lead up to the festive period. One way we can all help to avoid that is by following rules and safety measures already in place to help keep us all safe. > > > “Shop staff are continuously putting their own health at risk by serving the public every day and we mustn’t forget that. Please continue to show retail workers the respect and courtesy they deserve as they continue to work tirelessly to help ensure that shopping in the run up to Christmas is as pleasant, safe and stress\-free as it can be at this very busy time. > > > “My message to consumers is simple – shop safe, shop kind this year.” David Scott, Corporate Affairs Director at Morrisons, said: > “We were delighted to welcome Vaughan Gething to our Cardiff Bay store. Our store colleagues are working hard to ensure a safe and enjoyable shopping trip for customers. As we enter the festive period we would encourage customers to continue to wear their face covering wherever possible and be considerate to others.” Sara Jones, Welsh Retail Consortium, said: > “Retailers and shopworkers in Wales have worked incredibly hard and responsibly to keep customers and colleagues safe and supplied throughout the pandemic. They’ve done a brilliant job, invested significantly to make their stores as Covid\-secure as they can be, and continue to go above and beyond the baseline measures. > > > However, each and every shopper also has a duty to play their part, by following store safety protocols and the government’s mandate on face coverings, and by being considerate and respectful to fellow shoppers and shop staff. This way we can all enjoy shopping during the festive period and support our favourite shops over the coming weeks, knowing every purchase made and every item bought is a local job supported and a high street helped.”
Mae hyn yn ofyn cyfreithiol yng Nghymru i’r rheini sydd ddim wedi cael eu heithrio ac mae’n hanfodol i atal y feirws rhag lledaenu. Mae lefelau’r Coronafeirws yng Nghymru yn uwch nag yn unrhyw ran arall o’r DU ac os na fydd yn dechrau gostwng yn y tair wythnos nesaf, bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru ystyried ailgyflwyno cyfyngiadau i ddod â’r feirws o dan reolaeth. Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn erfyn ar bobl yng Nghymru i barchu'r rheolau a'r cyngor diogelwch i atal lledaenu’r coronafeirws ymhellach a rhag i ragor o bobl gael eu taro’n ddifrifol sâl. Mae hyn yn cynnwys gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do fel siopau. Yn ystod ei ymweliad â Morrisons ym Mae Caerdydd, talodd y Gweinidog deyrnged i staff manwerthu ledled Cymru sydd wedi bod yn arwyr di\-glod drwy gydol y pandemig, gan weithio’n galed i fwydo’r wlad. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: > "Mae'n rhaid i ni i gyd wneud ein rhan i Gadw Cymru'n Ddiogel. > > > "Er ein bod i gyd bellach wedi cael y rhyddid i allu mwynhau bywyd, rhaid i ni barhau i fod yn ofalus wrth siopa a chadw ein hunain, siopwyr eraill, gan gynnwys pobl sy’n glinigol fregus a staff siopau, yn ddiogel. > > > "Er mai brechlynnau yw'r amddiffyniad gorau o hyd yn erbyn y feirws a’n bod yn dal i annog pawb i weithio gartref os medrant, ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do. > > > "Ac mae'n bwysig cofio nad dewis mo siopa \- yn wahanol i daith i'r theatr neu'r dafarn.  Mae llawer o bobl clinigol fregus wedi dweud wrtha’ i eu bod yn teimlo’n anniogel wrth siopa gan nad yw pobl yn gwisgo gorchudd wyneb.  Rwy’n gofyn i bawb fod yn ystyriol o'r bobl hyn a gwneud y peth iawn. > > > "Mae gwisgo gorchudd mewn siopau yn ofyn cyfreithiol i'r rhai sydd heb eu heithrio, ac rwy'n awyddus iawn i dynnu’ch sylw at y pwynt hwnnw yma heddiw. Mae gan fanwerthwyr rôl bwysig o ran lledaenu’r neges hon a sicrhau bod eu siopau'n ddiogel ac mae'n dda gweld y difrifoldeb y mae llawer o siopau, fel Morrisons, yn ei roi i’r mater. > > > "Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i osgoi cyflwyno rhagor o gyfyngiadau, yn enwedig yn y sector manwerthu wrth i’r Nadolig nesáu. Un ffordd y gallwn i gyd helpu i osgoi hynny yw drwy gadw at y rheolau a mesurau diogelwch sydd eisoes ar waith i’n helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel. > > > "Mae staff siopau yn peryglu eu hiechyd eu hunain drwy’r amser drwy ofalu am y cyhoedd bob dydd a rhaid i ni beidio ag anghofio hynny. Daliwch ati i ddangos y parch a’r cwrteisi y mae gweithwyr siopau’n eu haeddu wrth iddyn nhw weithio’n ddiflino i helpu i sicrhau bod siopa yn y cyfnod cyn y Nadolig mor ddymunol, diogel a di\-straen ag y gall fod ar adeg brysur iawn. > > > "Mae fy neges i siopwyr yn syml – byddwch saff, byddwch garedig." Meddai David Scott, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol Morrisons: > "Roedd yn bleser cael croesawu Vaughan Gething i'n siop ym Mae Caerdydd. Mae ein gweithwyr yn ein siopau yn gweithio'n galed i sicrhau bod siopa’n brofiad diogel a phleserus. A ninnau ar drothwy’r Nadolig, byddem yn annog cwsmeriaid i barhau i wisgo gorchudd wyneb lle bynnag y bo modd a bod yn ystyriol o eraill." Dywedodd Sara Jones, Consortiwm Manwerthwyr Cymru: > "Mae manwerthwyr a gweithwyr siopau yng Nghymru wedi gweithio'n eithriadol o galed a chyfrifol i gadw cwsmeriaid a chydweithwyr yn ddiogel a chyda digonedd o fwyd gydol y pandemig. Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych, wedi buddsoddi'n sylweddol i wneud eu siopau mor ddiogel ag y gallant fod, ac yn parhau i fynd y tu hwnt i'r mesurau sylfaenol. > > > Fodd bynnag, mae dyletswydd ar bob siopwr i wneud ei ran, drwy ddilyn rheolau diogelwch siopau a gorchmynion y llywodraeth ar wisgo gorchudd wyneb, a bod yn ystyriol a dangos parch i siopwyr eraill a staff siopau. Drwy wneud hyn, gallwn i gyd fwynhau siopa dros yr ŵyl a chefnogi ein hoff siopau dros yr wythnosau nesaf, gan wybod bod pob ceiniog sy’n cael ei gwario yn y siop yn cynnal swydd leol ac yn cefnogi’r stryd fawr."
Translate the text from English to Welsh.
Our new national strategy, Prosperity for All, sets out our vision for children from all backgrounds to have the best start in life. We want to ensure all our children have the opportunity to reach their full potential and lead a healthy, prosperous and fulfilling life and are able to contribute to the future economic success of Wales. In taking forward this vision, we recognise the vital contribution the early years workforce makes to supporting our children to reach their full potential. Our ambition is to develop a highly skilled childcare, play and early years’ workforce, which is engaged in a profession regarded as a career of choice, and valued by our society for the vital role it plays in supporting our children’s learning and development. To take forward our ambition, we want to attract the right people into a career in childcare and early years with the skills to provide high\-quality care, education and play opportunities for our children. We want the childcare and play sector to be able to grow sustainably and offer high\-quality care and opportunities for career progression to its workforce. Today I am pleased to publish our 10 year Childcare, Play and Early Years workforce plan. The plan focuses our delivery on 3 key themes: * Attracting high quality new entrants to the sector * Raising standards and skills across the sector * Investing in building capacity and capability across the sector to support economic growth and sustainability. I have set out the actions we will take over the 10 year life of the plan, but initially focusing on the immediate actions for this Assembly term.   During this Assembly, we will provide 30 hours of government funded early education and childcare for 3 to 4 year olds to support working families across Wales and make it easier for people to take up and retain jobs. Our evidence tells us the cost of childcare is a major concern for working parents, and impacts on families’ quality of life. The government funding will help to ease the financial burden of childcare for working families across Wales, while acting as a catalyst to support growth and sustainability for childcare providers. We recognise there are many challenges facing the sector in the current economic climate and that there is a need to invest in building capacity and capability across the sector. To support providers to grow and operate sustainably we will therefore prioritise support for the sector as outlined in our Economic Action Plan launched earlier this week. Work to identify business support and skills assistance which addresses the sector’s needs has already commenced with the following actions: We have provided £100,000 covering the period 17/18; 18/19 and 19/20 to support those providers participating in the development of the childcare offer early implementer pilots across Wales and for those seeking to start or expand a business in order to take advantage of the new opportunities provided by the childcare offer. I am also announcing the expansion of the childcare offer to further areas within authorities running early implementer pilots. Our initial feedback from the pilots has been positive and the launch of the workforce plan will play a vital role in supporting childcare providers to participate fully in delivering the offer To help childcare providers to balance their operating costs, we announced earlier this week, our plans to increase the threshold for Small Business Rates Relief (SBRR) from £12,000 to £20,500 from April 2018\. We will also seek to continue to identify what additional support can be provided under the SBRR scheme, including consideration of Scotland’s Barclay Review on Business Rates published earlier this year. A key action in the first year of implementation will be the completion of the development of a new suite of qualifications for the sector ready for teaching in September 2019\. The new qualifications will cover levels 1 to 5 and will support new and existing practitioners to enhance their professional skills and offer enhanced career progression opportunities. We recognise our plans are ambitious but they are essential if we want to improve the early education and care of our children. The actions set out above demonstrate our commitment to supporting the childcare, play and the early years sector. We will continue to drive forward the actions outlined in this plan and I will be make further announcements as matters progress in the new year. Childcare, Play and Early Years Workforce Plan
Mae ein strategaeth genedlaethol newydd, Ffyniant i Bawb, yn cyflwyno ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau bod plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Rydym am sicrhau bod ein holl blant yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn a byw bywyd iach, ffyniannus a chyflawn ac yn gallu cyfrannu at lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol.   Wrth ddatblygu’r weledigaeth hon, rydym yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae gweithlu’r blynyddoedd cynnar yn ei wneud at gefnogi’n plant i gyrraedd eu potensial llawn. Ein huchelgais yw datblygu gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar hynod fedrus, sy’n gweithio mewn proffesiwn a gaiff ei ystyried fel gyrfa o ddewis, a’i werthfawrogi gan ein cymdeithas am y rôl hanfodol sydd ganddo wrth gefnogi dysgu a datblygiad ein plant. Er mwyn gwneud cynnydd gyda’n huchelgais, rydym am ddenu’r bobl iawn i ddilyn gyrfa ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar sydd â’r sgiliau i ddarparu cyfleoedd gofal, addysg a chwarae o safon uchel i’n plant. Rydym am i’r sector gofal plant a chwarae allu tyfu’n gynaliadwy a chynnig gofal a chyfleoedd o safon uchel ar gyfer camu ymlaen mewn gyrfa i’w weithlu.   Heddiw, mae’n bleser gen i gyhoeddi ein cynllun deng mlynedd ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ein darpariaeth ar dair thema allweddol:             • Denu newydd\-ddyfodiaid newydd o safon uchel i’r sector; • Codi safonau a gwella sgiliau ar draws y sector; • Buddsoddi i feithrin gallu a galluogrwydd ar draws y sector i gefnogi twf economaidd a chynaliadwyedd. Rwyf wedi egluro’r camau y byddwn yn eu cymryd dros ddeng mlynedd, sef oes y cynllun, ond yn y lle cyntaf, rwy’n canolbwyntio ar y camau gweithredu ar gyfer y tymor hwn yn y Cynulliad. Yn ystod y Cynulliad hwn, byddwn yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer plant tair i bedair oed er mwyn cynorthwyo teuluoedd sy’n gweithio ledled Cymru a’i gwneud hi’n haws i bobl dderbyn swyddi a’u cadw.   Mae ein tystiolaeth yn dangos i ni fod cost gofal plant yn bryder mawr i rieni sy’n gweithio, ac mae’n effeithio ar ansawdd bywyd teuluoedd. Bydd cyllid y llywodraeth yn helpu i leddfu baich ariannol gofal plant ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio ledled Cymru, gan weithredu fel ysgogydd i gefnogi twf a chynaliadwyedd i ddarparwyr gofal plant.   Rydym yn cydnabod bod yna sawl her yn wynebu’r sector yn yr hinsawdd economaidd bresennol a bod angen buddsoddi i feithrin gallu a galluogrwydd ar draws y sector. Er mwyn cynorthwyo darparwyr i dyfu a gweithredu’n gynaliadwy, byddwn felly’n rhoi blaenoriaeth i gefnogi’r sector fel yr amlinellir yn ein Cynllun Gweithredu Economaidd a lansiwyd yn gynharach yr wythnos hon. Mae gwaith i nodi cymorth i fusnes a chymorth gyda sgiliau sy’n mynd i’r afael ag anghenion y sector wedi cychwyn eisoes gyda’r camau canlynol: Rydym wedi darparu £100,000 sy’n cwmpasu’r cyfnod 17/18; 18/19 a 19/20 i gefnogi’r darparwyr hynny sy’n cymryd rhan yn natblygiad cynlluniau peilot gweithredwyr cynnar y cynnig gofal plant ledled Cymru a’r rhai sy’n ceisio cychwyn neu ehangu busnes er mwyn manteisio ar y cyfleoedd newydd a ddaw yn sgil y cynnig gofal plant. Rwy’n cyhoeddi’r bwriad hefyd i ehangu’r cynnig gofal plant i ardaloedd pellach o fewn awdurdodau sy’n cynnal cynlluniau peilot gweithredwyr cynnar. Mae ein hadborth cychwynnol o’r cynlluniau peilot wedi bod yn gadarnhaol a bydd lansio cynllun y gweithlu’n gam hollbwysig er mwyn cynorthwyo darparwyr gofal plant i gyfrannu’n llawn at gyflwyno’r cynnig.   Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddwyd ein bwriad i gynyddu’r trothwy ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) o £12,000 i £20,500 ym mis Ebrill 2018 er mwyn helpu darparwyr gofal plant i fantoli eu costau gweithredu. Byddwn hefyd yn ceisio parhau i nodi pa gymorth ychwanegol y gellir ei ddarparu o dan y cynllun SBRR, gan gynnwys ystyried Adolygiad Barclay yn yr Alban ar Ardrethi Busnes a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Un o gamau allweddol y flwyddyn gyntaf o weithredu fydd cwblhau’r gwaith o ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau ar gyfer y sector yn barod i’w haddysgu ym mis Medi 2019\. Bydd y cymwysterau newydd yn cwmpasu lefelau 1 i 5 a byddant yn cynorthwyo ymarferwyr newydd a chyfredol i wella eu sgiliau proffesiynol a chynnig cyfleoedd gwell i gamu ymlaen mewn gyrfa. Rydym yn cydnabod bod ein cynlluniau’n uchelgeisiol ond maen nhw’n hanfodol os ydym am wella addysg a gofal cynnar ein plant. Mae’r camau uchod yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi’r sector gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â’r camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach wrth i’r rhaglen fydd rhagddi yn y flwyddyn newydd.     http://llyw.cymru/topics/people\-and\-communities/people/children\-and\-young\-people/early\-years/childcare\-play\-early\-years\-workforce\-plan/?lang\=cy  
Translate the text from Welsh to English.
Gyda'r tymor wyna wedi hen ddechrau, a llawer o famogiaid ac ŵyn i'w gweld mewn caeau ledled Cymru, mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, a'r Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt, Rob Taylor eisiau sicrhau bod perchnogion cŵn yn deall eu cyfrifoldebau. Mae gormod o ymosodiadau ar ddefaid a da byw eraill gan gŵn o hyd, sy'n arwain at oblygiadau emosiynol ac ariannol ac yn effeithio ar les anifeiliaid. Mae ymchwil wedi canfod bod y rhan fwyaf o ymosodiadau ar ddefaid gan gŵn yn digwydd ar dir lle nad oes hawl mynediad i'r cyhoedd. Dylai perchnogion cŵn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â Chod Cefn Gwlad Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hynny’n cynnwys: * cadw cŵn ar dennyn neu o fewn golwg a dylai perchnogion fod yn hyderus y byddan nhw'n dychwelyd ar orchymyn * ni ddylai cŵn grwydro o'r llwybr neu'r ardal lle mae hawl mynediad * ar dir mynediad agored, rhaid i gŵn fod ar dennyn rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, hyd yn oed os nad oes da byw yn bresennol. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol. Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:  > Mae perchnogaeth cŵn gyfrifol yn allweddol i gadw ŵyn, defaid a phob math arall o dda byw yn ddiogel. > > Rydyn ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gwneud y peth iawn wrth gadw eu cŵn dan reolaeth, ond mae rhai sy ddim. > > Rydyn ni wedi gweld delweddau erchyll yn dilyn ymosodiadau, ond mae modd atal ymosodiadau drwy gymryd y camau priodol. Dywedodd Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru: > Mae modd atal ymosodiadau ar dda byw yn llwyr drwy sicrhau bod perchnogion cŵn yn gyfrifol. Yn anffodus, mae ymosodiadau ar famogiaid beichiog neu ŵyn newydd\-anedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn dal i ddigwydd. > > Rydyn ni'n gofyn i berchnogion fod yn ymwybodol o'r risgiau, rheoli eu cŵn mewn modd rhagofalus a deall y llwybrau lle maen nhw'n mynd â'u cŵn am dro. > > Gall ymosodiad ar dda byw arwain at saethu hanifail anwes, neu ei ladd yn dilyn gorchymyn llys. Does neb eisiau gweld hynny'n digwydd.
With lambing season well underway, and ewes and lambs a common sight in fields across Wales, Rural Affairs Minister Lesley Griffiths and Rural and Wildlife Crime Coordinator Rob Taylor want to ensure dog owners understand their responsibilities.  There continues to be too many dog attacks on sheep and other livestock which have emotional, financial and animal welfare implications. Research has found most incidents involving dogs attacking sheep take place on land not accessible to the public. Dog owners should familiarise themselves with Natural Resources Wales’ Countryside Code. This includes: * keeping dogs on a lead or in sight and owners should be confident they will return on command * dogs should not stray from the path or area where there is a right of access * on open access land, dogs must be on a lead between 1 March and 31 July, even if there are no livestock present. This is a legal requirement. Rural Affairs Minister, Lesley Griffiths said:  > Responsible dog ownership is key in keeping lambs, sheep and all other livestock safe. > > We know most dog owners do the right thing in keeping their dogs under control, but there are some who do not. > > There have been harrowing images of when attacks do happen and by taking the appropriate steps these can be prevented. Wales Rural and Wildlife Crime Coordinator, Rob Taylor said: > Attacks on livestock are completely preventable through responsible dog ownership. Sadly, attacks on pregnant ewes or newborn lambs at this time of year do still occur. > > We ask that owners are aware of the risks, use a precautionary approach in controlling their dog and understand the route on which they take them to exercise. > > An attack on livestock may result in their pet being shot, or euthanised on a court order. Nobody wants to see that happening.
Translate the text from Welsh to English.
Bydd treth dir y dreth stamp a'r dreth treth dirlenwi yn cael eu datganoli ym mis Ebrill 2018 ac mae Deddf Cymru 2014 yn galluogi i dreth incwm gael ei datganoli'n rhannol. Roedd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus David Gauke AS yn cynrychioli Llywodraeth y DU ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC yn cynrychioli Llywodraeth Cymru.   Fe gafodd y Gweinidogion drafodaeth adeiladol ynghylch amrywiol opsiynau ar gyfer y trefniadau cyllid newydd. Ystyriwyd yn benodol sut y dylai'r grant bloc gael ei addasu yn sgil datganoli treth, a pherthynas hynny gyda fformiwla Barnett a'r cyllid gwaelodol.   Hefyd bu'r Gweinidogion yn trafod o dan ba amgylchiadau y dylai effeithiau penderfyniadau ar bolisiau treth arwain at drosglwyddo cyllid rhwng llywodraethau. Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyd\-bwyllgor ym mis Tachwedd, ar ôl Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU.   **Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU**   **25 Hydref 2016**  
Stamp duty land tax and landfill tax will be devolved in April 2018 and the Wales Act 2014 enables the partial devolution of income tax.   The UK Government was represented by the Chief Secretary to the Treasury the Rt Hon David Gauke MP and the Welsh Government was represented by the Cabinet Secretary for Finance and Local Government Professor Mark Drakeford AM.   The Ministers had a constructive discussion about a range of options for the new funding arrangements. In particular, they considered how the block grant adjustment in relation to tax devolution should interact with the Barnett formula and the funding floor*.*   Ministers also discussed the circumstances under which spill\-over effects from tax policy decisions should lead to a transfer of funding between governments. The next meeting of the JEC will take place in November, after the UK Government's Autumn Statement.   **Welsh Government and UK Government** **25 October 2016**
Translate the text from Welsh to English.
Agorodd yr uned newydd, sydd wedi cael ei chynllunio'n arbennig, ar 29 Tachwedd 2017\. Bydd yn allweddol ar gyfer helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ostwng amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau orthopedig.  Cafodd dwy theatr yr oedd Canolfan Orthopedig Caerdydd a'r Fro yn eu defnyddio eu datgomisiynu yn ddiweddar. Mewn wythnos gyffredin, byddai'r theatrau hynny wedi gweld tua 55 o gleifion orthopedig; felly byddai eu cau wedi cael effaith sylweddol ar amseroedd aros. Y theatr fodwlar dros dro newydd hon yw'r cam cyntaf yn y broses o roi sylw i'r mater wrth gynllunio ateb mwy parhaol i gymryd lle'r ddwy theatr wreiddiol. Amcangyfrifir y bydd rhwng 100 a 130 o gleifion yn cael eu trin yn y theatr fodwlar dros dro newydd rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2018\. Mae'r defnydd o theatr fodwlar yn golygu bod llai o bwysau ar y bwrdd iechyd i ddiwallu gofynion drwy gyflenwyr allanol, ac yn sicrhau gwelliannau o ran triniaeth a chanlyniadau i gleifion. Ar ben hynny, bydd ansawdd y gwasanaethau ar y safle yn Llandochau yn gwella i safonau cydnabyddedig, er budd cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol fel ei gilydd. Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: > "Rwy'n falch iawn bod y theatr fodwlar wedi agor ar safle Llandochau, yn dilyn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn lleddfu'r pwysau ar y bwrdd iechyd, gan ganiatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud eu gwaith yn effeithiol, yn ddiogel ac i safon uchel. > > "Rwy'n hyderus mai dyma'r ffordd orau ymlaen o ran gwerth am arian ar gyfer ateb dros dro. Bydd er budd pobl Caerdydd a'r Fro, ac yn helpu i bontio'r bwlch wrth i strwythur mwy parhaol gael ei osod yn ei le." Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Len Richards: > "Rydyn ni'n falch tu hwnt bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'n timau llawfeddygol wrth gomisiynu'r theatr fodwlar newydd yng Nghanolfan Orthopedig Caerdydd a'r Fro ar safle Ysbyty Llandochau. Mae'r theatr newydd hon yn golygu bod modd i'r Bwrdd Iechyd helpu i drin cleifion yn effeithiol ar draws Caerdydd a'r Fro, pan fo angen llawdriniaeth orthopedig i wella'u hiechyd ac ansawdd eu bywydau."
The new specifically designed unit, which opened on 29th November 2017, will be key to helping Cardiff and Vale University Health Board reduce waiting times within orthopaedic services.  Two theatres utilised by Cardiff and Vale Orthopaedic Centre have recently been taken out of commission. In a typical week, these theatres would have seen approximately 55 orthopaedic patients; which meant their closure would have had a significant impact on waiting times. This new temporary modular theatre is the first stage in the process of addressing the issue while a more permanent solution is planned to replace the two original theatres.  It is estimated that between January 2018 and April 2018 the number of patients that will be treated within the new temporary modular theatre will be between 100 and 130\.  The use of the modular theatre means less pressure on the health board in terms of outsourcing requirements and ensures improvements in treatment and patient outcomes. In addition, the quality of services at the site in Llandough will be enhanced to recognised standards, benefitting patients and health professionals alike.  The Health Secretary, Vaughan Gething said; > “I am pleased the modular theatre has opened at the Llandough site, following Welsh Government funding. It will alleviate pressure on the health board, allowing healthcare professionals to do their job effectively, safely and to a high standard.  > > > “I’m confident that this is the best way forward in terms of value for money for a temporary solution. It will benefit the people of Cardiff and the Vale of Glamorgan, and will help to bridge the gap while a more permanent structure is put in place.” Chief Executive of Cardiff and Vale University Health Board, Len Richards said; > “We are delighted that Welsh Government has supported our surgical teams in commissioning a new modular theatre at our Cardiff and Vale Orthopaedic Centre at the University Hospital Llandough site. This new theatre means the Health Board can effectively support treatment of patients across Cardiff and Vale that require orthopaedic surgery to improve their health and quality of life.”
Translate the text from Welsh to English.
Er bod y cynllun bwrsariaeth – ar gyfer myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr iechyd proffesiynol perthynol i iechyd – wedi’i ddileu yn Lloegr yn 2017, bydd y pecyn llawn yn dal ar gael yng Nghymru i’r rhai a fydd yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl cymhwyso. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn rhoi sicrwydd ynglŷn â threfniadau’r fwrsariaeth hyd at 2021 i fyfyrwyr a darparwyr, a fydd yn eu galluogi i gynllunio ar gyfer eu dyfodol. Bydd yr estyniad yn golygu y bydd modd cynnal gwaith ymgysylltu sylweddol gyda rhanddeiliad yn ystod y misoedd nesaf, gan weithio ar sail yr ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd. Bydd hefyd yn caniatáu i’r Gweinidog wneud penderfyniadau, ar sail gwybodaeth lawn, am y trefniadau ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru yn y dyfodol. Os hoffech gael gwybod am y gweithgareddau ymgysylltu sydd i’w cynnal, anfonwch eich manylion i nhsbursary@llyw.cymru. Mae’r fwrsariaeth yn cefnogi’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar Drechu Tlodi, trwy gynnig cyfleoedd am yrfa yn y GIG i rai na fyddai, o bosibl, wedi gallu fforddio talu am eu hastudiaethau neu gostau cysylltiedig fel costau gofal plant. Mae’r cynllun hefyd yn galluogi unigolion i helpu i ddarparu’r gwasanaethau yn ystod eu hyfforddiant, sy’n golygu y gallant feithrin eu sgiliau a’u gwybodaeth wrth gynorthwyo cleifion ar adeg sy’n gallu bod yn anodd iddynt. Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: > “Yng Nghymru rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn hyfforddiant y nyrsys, y bydwragedd a’r gweithwyr proffesiynol hynod fedrus eraill sy’n gweithio yn ein Gwasanaeth Iechyd.  Trwy estyn y pecyn cymorth hwn, rwy am ddangos pa mor werthfawr yw ein gweithlu gofal iechyd inni a pha mor benderfynol yr ydyn ni o’u cefnogi drwy gydol eu cyfnod astudio.  > > > “Rydyn ni hefyd yn cymryd camau positif i ddenu mwy o weithwyr iechyd proffesiynol o rannau eraill o’r DU ac o lefydd eraill drwy ein hymgyrch farchnata ‘Gwlad Gwlad – Hyfforddi, Gweithio, Byw’ sy’n dangos beth sydd gan Gymru i’w gynnig. Bydda i’n mynd ati nawr i ystyried pa drefniadau y gellir eu sefydlu yn y tymor hwy wrth inni ddal ati i ddatblygu ein gweithlu.” Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: > “Mae’n newyddion gwych bod y cynllun bwrsariaeth wedi’i estyn yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i ddenu gweithwyr proffesiynol medrus i Gymru ac i’w cadw ar ôl iddyn nhw fod yn astudio yma. Mae’r fwrsariaeth yn ategu ein pecyn ariannu ar gyfer myfyrwyr, sydd wedi ei wella – yr un mwyaf hael yn y DU.”
While the bursary – for eligible student nurses, midwives and allied health professionals – was withdrawn in England in 2017, the full package will continue to be available in Wales for those who commit to working in Wales for up to two years after qualifying.   Today’s announcement provides certainty about bursary arrangements until 2021 to both students and providers to enable them to plan for their future.  This extension will enable significant stakeholder engagement to take place over the coming months, building on the consultation which took place last year. It will also allow the Minister to make fully informed decisions about the future arrangements for the NHS Wales Bursary Scheme. If you wish to be kept updated on the upcoming engagement activities please send your details to nhsbursary@gov.wales. The bursary supports the priorities outlined in the Tackling Poverty Action Plan, by opening up a career within the NHS to those who might otherwise be unable to fund their studies or related expenses such as childcare. The scheme also enables individuals to assist with service provision during training, meaning they can build on their skills and knowledge in supporting patients during what can be their most vulnerable times.  Health Minister Vaughan Gething said: > “In Wales we are committed to investing in the training of our nurses, midwives and other highly skilled professionals working in our NHS. By extending this support package, I want to demonstrate how much we value our healthcare workforce and are committed to supporting them through their studies. > > > “We’re also taking positive action to attract more health professionals from other parts of the UK and beyond through our ‘This is Wales \- Train, Work, Live’ marketing campaign which sets out what Wales has to offer. I will now be looking at what longer\-term arrangements can be put in place as we continue to develop our workforce.” The Education Minister, Kirsty Williams, added: > “The extension of the bursary in Wales is great news and will help attract and keep skilled professionals in Wales after studying here. The bursary compliments our improved student finance package, the most generous in the UK.”
Translate the text from English to Welsh.
On 6 February 2018, the Cabinet Secretary for Health and Social Services made an oral statement in the Siambr on: How digital technology is improving primary care (external link).
Ar 6 Chwefror 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Sut y mae technoleg ddigidol yn gwella gofal sylfaenol (dolen allanol).
Translate the text from Welsh to English.
Rydym bellach wedi dyfarnu lleoedd i 36 o ymgeiswyr ar lefel Ymarferydd, a 29 ar lefel Uwch Ymarferydd; cwblhaodd 18 ohonynt ein rhaglen lefel Ymarferydd 2020 yn ddiweddar. Cawsom ymgeiswyr o 28 o sefydliadau ledled Cymru gan gynnwys Llywodraeth Leol, yr Heddlu a’r Gwasanaethau Tân, Addysg Uwch, y GIG, Cymdeithasau Tai, a nifer o Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n wych gweld cefnogaeth cynifer o sefydliadau i ddatblygu gweithwyr caffael proffesiynol Cymru’r dyfodol. Dechreuodd ein rhaglen Uwch Ymarferydd mwyaf newydd ym mis Tachwedd, a bydd ein myfyrwyr rhaglen Ymarferydd yn derbyn eu hyfforddiant cynefino ym mis Rhagfyr. Llongyfarchiadau i'r rhai sydd wedi sicrhau lle ar y rhaglen eleni, a phob lwc ar eich taith i MCIPS. Mae myfyrwyr presennol ein rhaglen Uwch Ymarferydd bellach wedi cwblhau'r modiwlau a arweinir gan diwtoriaid, ac mae'r gwaith prosiect unigol wedi dechrau. I gael rhagor o fanylion am raglen Dyfarniad Corfforaethol CIPS, anfonwch e\-bost at GalluMasnachol@llyw.cymru
We have now awarded places to 36 applicants at Practitioner level, and 29 at Advanced Practitioner level; 18 of whom recently completed our 2020 Practitioner level programme. We received applicants from 28 organisations throughout Wales including Local Government, Police and Fire Services, Higher Education, NHS, Housing Associations, and several Welsh Government Sponsored Bodies. It’s fantastic to see the support of so many organisations in developing Wales’ public sector procurement professionals of the future.  Our newest Advanced Practitioner programme began in November, and our Practitioner programme students will receive their induction in December. Congratulations to those who have secured a place on this year’s programme, and good luck on your journey to MCIPS.  Our current Advanced Practitioner programme students have now completed the tutor\-led modules, and the individual project work has commenced.  For further details on the CIPS Corporate Award programme, please e\-mail CommercialCapability@gov.wales
Translate the text from English to Welsh.
The coronavirus pandemic has had an adverse and disproportionate impact on the health and wellbeing of people from Black, Asian and Minority Ethnic communities in Wales and across the UK. They have experienced higher levels of illness and, sadly, death rates have been higher than among the white population. We continue to learn more about coronavirus with every passing week and month, including why people from BAME communities have a higher risk of being affected by coronavirus. Our understanding has been aided by the work of the BAME Covid\-19  Advisory Group, which was led by Judge Ray Singh, and its two sub\-groups chaired by Professor Keshav Singhal and Professor Emmanuel Ogbonna. Professor Singhal’s group, which examined the immediate risk to Black, Asian and Minority Ethnic health and social care workers during the pandemic, led to the development of the two\-stage self\-assessment risk assessment tool. This is now in widespread use in the NHS and social care in Wales and is helping to safeguard people’s health and wellbeing. The Tool is now being used more extensively in the wider Public Sector. Professor Ogbonna’s group examined the socio\-economic factors, which contributed to this disproportionate impact. Its report highlighted the entrenched inequalities experienced by Black, Asian and minority ethnic people and which Covid\-19 has highlighted in the most tragic and worrying of ways. I want to put on record again my thanks to Professor Ogbonna and the socio\-economic sub\- group for undertaking this work, under enormous pressure. The Welsh Government has welcomed findings of this challenging and hard\-hitting report. Today, we publish our detailed response to the report’s many recommendations:  https://gov.wales/covid\-19\-bame\-socio\-economic\-subgroup\-report\-welsh\-government\-response The recommendations from this report will form an integral part of our Race Equality Action Plan for Wales which is being developed at pace.  I am grateful Professor Ogbonna has agreed to provide his continued support through co\-chairing the Steering Group for this work, alongside the Permanent Secretary. However, we will not wait for a plan to tell us what to do. We are reconfirming our long\-held commitment to advancing equality for all; our response today is just part of our approach towards strengthening equality and human rights in Wales. Professor Ogbonna’s report is a sobering and a powerful one – it speaks of people’s lived experiences of racism, an existing culture of racial discrimination and structural inequalities in Wales today. We will use the experience and evidence it provides – particularly that gathered over the course of the pandemic – to inform our work as we strive to embed wide scale, systemic changes necessary to create the equal Wales we all want to be part of. The hard work and passion shown by members of the sub\-group has been crucial in helping us reach this point today. I hope we will be able to call on the group’s continued support as we drive this work forward towards our ambition of an equal Wales, free from discrimination and inequality.
Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith andwyol ac anghymesur ar iechyd a lles pobl o gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ac ar draws y DU. Maen nhw wedi profi lefelau uwch o salwch ac, yn drist iawn, mae’r marwolaethau wedi bod yn uwch nag ymhlith pobl wyn. Rydym yn parhau i ddysgu mwy am y coronafeirws gyda phob wythnos a mis sy’n pasio, gan gynnwys pam mae pobl o gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn wynebu risg uwch. Mae gwaith Grŵp Cynghorol BAME ar Covid\-19, a arweiniwyd gan y Barnwr Ray Singh, a’i ddau is\-grŵp a gadeiriwyd gan yr Athro Keshav Singhal a’r Athro Emmanuel Ogbonna, wedi ein helpu yn ein dealltwriaeth. Yn sgil gwaith grŵp yr Athro Singhal, a ymchwiliodd i’r risg uniongyrchol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn ystod y pandemig, datblygwyd yr adnodd hunanasesu risg dau gam. Mae hwn bellach yn cael ei ddefnyddio’n helaeth o fewn y GIG a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac yn helpu i ddiogelu iechyd a lles pobl. Roedd grŵp yr Athro Ogbonna yn ystyried y ffactorau economaidd\-gymdeithasol a gyfrannodd at yr effaith anghymesur. Roedd ei adroddiad yn tynnu sylw at yr anghydraddoldebau cynhenid a brofir gan bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac y mae Covid\-19 wedi tynnu sylw atynt yn y ffyrdd mwyaf trasig, ac yn wir sy’n creu pryder. Rwyf am gofnodi unwaith eto fy niolch i’r Athro Ogbanna a’r is\-grŵp economaidd\-gymdeithasol am ymgymryd â’r gwaith hwn o dan bwysau aruthrol. Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu canfyddiadau’r adroddiad heriol a difrifol hwn. Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein hymateb manwl i argymhellion lawer yr adroddiad. https://llyw.cymru/adroddiad\-grwp\-economaidd\-gymdeithasol\-bame\-covid\-19\-ymateb\-llywodraeth\-cymru Bydd yr argymhellion o’r adroddiad hwn yn rhan annatod o’n Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru sy’n prysur ddod ynghyd. Rwy’n ddiolchgar bod yr Athro Ogbonna wedi cytuno i barhau i’n cefnogi drwy gydgadeirio Grŵp Llywio’r gwaith hwn, ynghyd â’r Ysgrifennydd Parhaol. Fodd bynnag, nid ydym am aros am gynllun i ddweud wrthym beth i’w wneud. Rydym yn cadarnhau o’r newydd ein hymrwymiad hirsefydlog i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb; rhan yn unig o’n gwaith i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yw ein hymateb heddiw. Mae adroddiad yr Athro Ogbonna yn un sobreiddiol a phwerus – mae’n sôn am brofiadau go iawn o hiliaeth, ac am ddiwylliant o wahaniaethu hiliol ac anghydraddoldebau strwythurol sydd i’w gweld yng Nghymru heddiw. Byddwn yn defnyddio’r profiadau a’r dystiolaeth sydd ynddo – yn enwedig yr hyn a welwyd yn ystod y pandemig – fel sail i’n gwaith wrth inni geisio sefydlu’r newidiadau systemig ar raddfa eang sydd eu hangen er mwyn creu’r Gymru gyfartal y mae pob un ohonom am fod yn rhan ohoni. Mae’r gwaith caled a’r angerdd a ddangoswyd gan aelodau’r is\-grŵp wedi bod yn hollbwysig er mwyn cyrraedd lle rydym heddiw. Rwy’n gobeithio y bydd modd inni barhau i alw ar y grŵp am eu cefnogaeth wrth inni symud y gwaith hwn yn ei flaen tuag at ein huchelgais ar gyfer Cymru gyfartal, sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ac anghydraddoldeb.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 1 Mawrth 2022, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Cymraeg 2050 \- camau nesaf (dolen allanol).
On 1 March 2022, an oral statement was made in the Senedd: Cymraeg 2050 \- next steps (external link).
Translate the text from English to Welsh.
Following recent optometry contract negotiations between the Welsh Government, NHS Wales and Optometry Wales, I am pleased to confirm I have agreed additional optometry services.   Last year (September 2022\) I agreed the new optometry contract and associated financial costs. This represents a significant reform of optometry services, aligned to the commitments set out in the *Future Approach for Optometry Services,* founded on the key principles of prudent healthcare, and aligned to the Primary Care Model and the strategic direction set in Programme for Government*.* The recent consultation on optometry contract reform sought views on the proposals to expand the services delivered by primary care optometry practices and launch the new optometry contract. Taking account of these views, two additional fees for the domiciliary service and additional voucher for children during development periods for vision was agreed. Further policy areas were discussed and agreed which will be developed over the coming months. The additional services will enhance the clinical services delivered by optometrists, working together with hospital eye departments and will provide NHS Wales with assurance, delivery will be equitable, consistent, and timely for citizens across Wales. We have moved forward at pace with optometry contract reform over the last 12 months, through robust dialogue, discussion and collaborative working with NHS Wales and Optometry Wales. This has ensured we reached the best outcomes for all stakeholders during negotiations. These additional optometry services will enable community optometrists to work at the top of their licence and ensure Wales remains at the cutting edge of the UK, leading reform clinically from a patient centred perspective, and being the first UK nation to upskill the profession fully to embrace the delivery of clinical services in primary care optometry.
Yn dilyn negodiadau ar y cytundeb optometreg a gynhaliwyd yn ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru ac Optometreg Cymru, rwyf yn falch o gadarnhau fy mod wedi cytuno ar wasanaethau optometreg ychwanegol.  Cytunais ar y contract optometreg newydd a'r costau ariannol cysylltiedig y llynedd (Medi 2022\). Bydd gwasanaethau optometreg yn newid yn sylweddol yn sgil y contract hwn. Mae'r newid hwn yn cyd\-fynd â'r ymrwymiadau a nodir yn y *Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol*, ac mae'n seiliedig ar yr egwyddorion allweddol ar gyfer gofal iechyd darbodus, ac yn cyd\-fynd â'r Model Gofal Sylfaenol a'r cyfeiriad strategol a nodir yn y *Rhaglen Lywodraethu.* Fel rhan o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar ddiwygio'r contract optometreg, gofynnwyd am farn pobl ar y cynigion i ehangu'r gwasanaethau a ddarperir gan bractisau optometreg gofal sylfaenol ac i lansio'r contract optometreg newydd. Gan ystyried y safbwyntiau a gyflwynwyd, cytunwyd ar ddau ffi ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth yn y cartref a thaleb ychwanegol i blant yn ystod cyfnodau pan fydd eu golwg yn datblygu. Trafodwyd meysydd polisi pellach a chytunwyd arnynt. Caiff y meysydd hyn eu datblygu dros y misoedd nesaf. Bydd y gwasanaethau ychwanegol yn ehangu'r gwasanaethau clinigol a ddarperir gan optometryddion, ar y cyd ag adrannau llygaid mewn ysbytai. Drwy hyn, rhoddir sicrwydd i GIG Cymru y bydd y ddarpariaeth yn deg, yn gyson ac yn amserol i ddinasyddion ym mhob cwr o Gymru. Rydym wedi bwrw ymlaen ar fyrder â'r gwaith o ddiwygio'r contract optometreg dros y 12 mis diwethaf, drwy ddeialog gadarn, trafodaethau a chydweithio â GIG Cymru ac Optometreg Cymru. Drwy hyn sicrhawyd ein bod yn cyflawni'r canlyniadau gorau i'r holl randdeiliaid yn ystod y negodiadau. Bydd y gwasanaethau optometreg ychwanegol hyn yn rhoi cyfle i optometryddion cymunedol weithio hyd eithaf eu trwydded ac yn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod ar flaen y gad yn y DU, gan arwain y gwaith o ddiwygio gwasanaethau mewn modd clinigol, o safbwynt sy'n canolbwyntio ar y claf. Y nod yw gwneud Cymru y wlad gyntaf yn y DU i uwchsgilio'r proffesiwn yn llawn er mwyn ymroi'n llwyr i'r syniad o ddarparu gwasanaethau clinigol yn y sector optometreg gofal sylfaenol.
Translate the text from Welsh to English.
Cadarnhaodd hefyd ei hymrwymiad i’r cynlluniau ehangach i ddiwygio deintyddiaeth y GIG ond dywedodd y bydd newidiadau i gontract deintyddol y GIG yn cael eu gohirio tan y flwyddyn nesaf i alluogi’r gwasanaeth i adfer o effaith y pandemig. Dywedodd y Gweinidog: > Mae’r ffordd y mae pobl wedi defnyddio gwasanaethau deintyddol yn ystod y pandemig wedi newid ond mae gwasanaethau deintyddol y GIG wedi parhau i fod ar gael i’r rhai â’r angen mwyaf. > > > Mae deintyddiaeth wedi bod ymysg y gwasanaethau mwyaf heriol inni eu darparu yn ystod y pandemig oherwydd y gweithdrefnau sy’n cynhyrchu aerosol a pha mor agos y mae’n rhaid i’r deintydd fod at y claf. > > > Ond mae’r gwasanaeth wedi ymateb i’r her er mwyn gwasanaethu’r rhai â’r angen mwyaf. Hoffwn ddiolch i bawb yn y gwasanaeth sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau hynny. Ers dechrau’r pandemig, mae deintyddion wedi gweld dros 1\.3m o bobl mewn practisau ledled Cymru ac wedi darparu 340,000 o ymgyngoriadau o bell, drwy wasanaethau ffôn neu fideo. Mae meddyginiaeth lleddfu poen a gwrthfiotigau wedi parhau i gael eu rhagnodi pan fo angen. Mae nifer yr achosion brys y mae deintyddion yn eu gweld yn dechrau dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig. Mae hyn yn galluogi practisau i fynd i’r afael â’u rhestrau o driniaethau sydd wedi cronni ac i gynnig asesiadau rheolaidd pan fo’n bosibl. Ond dywedodd y Gweinidog Iechyd mai yn raddol y bydd gwasanaethau deintyddol rheolaidd eraill yn dychwelyd wrth i dimau ganolbwyntio ar y gwaith mwyaf brys a thriniaethau a ohiriwyd. Dywedodd: > Bydd angen i bractisau deintyddol barhau i ddilyn mesurau rheoli haint llym er mwyn helpu i atal lledaeniad Covid. Wrth i’r risgiau leihau, bydd modd iddyn nhw gynyddu’r triniaethau a’r asesiadau rheolaidd y maen nhw’n eu darparu. > > > Rydyn ni nawr yn ystyried eleni’n gyfnod o ailosod ac adfer ond rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i ddiwygio deintyddiaeth. Dyna pam yr wyf heddiw’n cyhoeddi bod camau i ddiwygio’r contract yn cael eu gohirio tan fis Ebrill 2022 i roi cyfle i’r gwasanaeth ganolbwyntio ar adfer. Dywedodd Dr Colette Bridgman, Prif Swyddog Deintyddol Cymru: > Mae timau deintyddol yng Nghymru yn gwneud eu gorau i sicrhau bod pawb yn cael ei drin cyn gynted â phosibl, a hynny mewn ffordd ddiogel. Rydyn ni’n gofyn ichi barhau i fod yn amyneddgar ac i alluogi’r rhai sydd â’r angen mwyaf i gael eu trin gyntaf. > > > Yn y cyfamser, cofiwch barhau i gynnal iechyd eich ceg, dilyn cyngor eich deintydd, lleihau faint o siwgr sydd yn eich deiet a pha mor aml rydych yn ei fwyta, a brwsio’ch dannedd gyda phast dannedd fflworid, y peth olaf gyda’r nos ac ar un achlysur arall bob dydd. Ar ôl brwsio’ch dannedd a phoeri’r past dannedd allan, cofiwch beidio â rinsio’ch ceg fel y bydd y past yn aros ar eich dannedd i’w hamddiffyn. Mae gofal deintyddol brys ar gael i unrhyw un sydd ei angen drwy 111 neu drwy gysylltu â’r bwrdd iechyd lleol i gael cyngor. Hyd nes y bydd y gwasanaeth arferol wedi ailddechrau, mae yna lawer o bethau y gall pobl eu gwneud i gynnal iechyd deintyddol da. Mae rhagor o wybodaeth am ofal a thriniaeth iechyd deintyddol ar gael yn GIG 111 Cymru \- Gwyddoniadur : Pydredd dannedd.
She also confirmed her commitment to the wider reform of NHS dentistry but said changes to the NHS dentistry contract will be postponed until next year to allow the service to recover from the impact of the pandemic. The Minister said: > The way people have accessed dental services during the pandemic has changed but NHS dentistry services have continued to be there for those who need it most. > > > Dentistry has been one of the most challenging services for us to deliver during the pandemic because of aerosol generating procedures and the need for dentists to be in such close proximity to the patient. > > > But the service has responded to meet the challenge of providing for those most in need. I want thank all those in the service who have worked tirelessly to deliver this. Since the beginning of the pandemic, dentists have seen more than 1\.3m people in practices across Wales and provided 340,000 consultations remotely, via phone or video services. Pain relief and antibiotics have continued to be prescribed where necessary. The number of urgent cases seen by dentists is beginning to return to pre\-pandemic levels, allowing practices to address the treatment back log and offer routine assessment wherever capacity allows.  But the Health Minister has said the return of other routine dental services will be gradual as teams focus on the most urgent work and people who have had treatment delayed. > Dental practices will need to continue to follow strict infection control measures to help prevent the spread of COVID. As the risks reduce they will be able to increase the treatments and routine assessment they provide, she said. > > > We are now viewing this year as a reset and recovery period but we remain committed to reform in dentistry. That is why I am today announcing postponing the contract reforms until April 2022 to give the service a chance to focus on recovery. Dr Colette Bridgman, Chief Dental Officer for Wales, said: > Dental teams in Wales are doing their best to ensure everyone is treated as soon as it is possible and to do so safely. Please continue to be patient and to enable those with greater need to be treated first. > > > In the meantime please continue to maintain your mouth health, follow the advice of your dentist, reduce the frequency and amount of sugar in your diet and brush teeth with fluoride toothpaste, last thing at night and on one other occasion daily, not forgetting to spit out the toothpaste after brushing and don’t rinse so its stays on the teeth to offer protection. Anyone who needs urgent dental care can access it via 111 or by contacting your health board for advice. Until normal service resumes, there are many ways people can maintain good dental health. More information on dental health care and treatment is available at NHS 111 Wales \- Health A\-Z : Tooth decay
Translate the text from English to Welsh.
The programme provides vital data on the prevalence of coronavirus in the community and was key to the early detection of the Omicron wave across Wales. The process of identifying coronavirus in wastewater was initially developed by scientists from Bangor University who have been working in partnership with the Welsh Government, Cardiff University, Dŵr Cymru Welsh Water and Hafren Dyfrdwy. The initial concept and processes are now used in work being undertaken across the UK. All 48 sites in Wales now have automated monitoring equipment installed to provide wastewater samples which scientists can test to give insights into the virus. Health and Social Services Minister Eluned Morgan said: > The wastewater data has helped us to understand how the pandemic has changed and allowed us to follow the Omicron wave though our communities. > > > With the help of the scientists and water companies in Wales, we have increased the monitoring sites from 19 to 48 and introduced automatic sampling equipment providing even more detailed insights into wastewater testing compared with the methods we originally adopted. Chief Scientific Adviser for Health Rob Orford said: > Wastewater monitoring has the potential to be representative of the true levels of COVID\-19 in our communities, as it is less affected by changes to community testing policy and whether or not people get tested. > > > We are keen to continue to explore how wastewater can play an important part of our future testing strategy as we begin to move from pandemic to endemic. Wastewater also has some exciting potential beyond COVID\-19 and could be used to monitor the levels of many other viruses like influenza and anti\-microbial resistance. Professor David Jones from Bangor University’s School of Natural Sciences, who co\-leads the development of the testing technology, said: > COVID\-19 has been a huge learning curve for virology, and our wastewater testing has been able to identify new variants of the virus in almost real\-time, so we welcome its expansion across Wales. We know that the faster the data can be produced, the better informed public health officials can be in making important decisions about the measures needed.
Mae’r rhaglen yn sicrhau data hanfodol ynghylch nifer yr achosion o’r coronafeirws yn y gymuned, ac roedd hyn yn allweddol ar gyfer canfod y don Omicron yn gynnar ledled Cymru. Cafodd y broses o adnabod y coronafeirws mewn dŵr gwastraff ei datblygu yn y lle cyntaf gan wyddonwyr o Brifysgol Bangor. Maent wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy. Mae’r cysyniad a’r prosesau cychwynnol bellach yn cael eu defnyddio mewn gwaith sy’n cael ei gwblhau ledled y DU. Erbyn hyn, mae cyfarpar monitro awtomatig sy’n rhoi samplau y gall gwyddonwyr eu profi er mwyn rhoi dealltwriaeth ynghylch y feirws wedi eu gosod ym mhob un o’r 48 safle yng Nghymru. Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: > Mae’r data sy’n deillio o ddŵr gwastraff wedi ein helpu i ddeall sut mae’r pandemig wedi newid, ac wedi ein galluogi i olrhain y don Omicron drwy ein cymunedau. > > > Gyda chefnogaeth y gwyddonwyr a’r cwmnïau dŵr yng Nghymru, rydym wedi cynyddu’r safleoedd monitro o 19 i 48\. Rydym hefyd wedi sicrhau cyfarpar sy’n casglu samplau yn awtomatig sy’n rhoi dealltwriaeth fanylach byth o brofion dŵr gwastraff o gymharu â’r dulliau y mabwysiadwyd gennym yn wreiddiol. Dywedodd y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar Iechyd, Rob Orford: > Mae gan fonitro dŵr gwastraff y potensial i gynrychioli’r gwir lefelau o COVID\-19 yn ein cymunedau. Mae hyn oherwydd nad yw’n cael ei effeithio cymaint gan newidiadau i bolisi profi cymunedol ac a yw pobl yn cael eu profi ai peidio. > > > Rydym yn awyddus i barhau i archwilio sut gall dŵr gwastraff chwarae rhan bwysig yn nyfodol ein strategaeth brofi wrth inni ddechrau symud o bandemig i endemig. Yn ogystal, mae gan ddŵr gwastraff rywfaint o botensial cyffrous tu hwnt i COVID\-19\. Gellid ei ddefnyddio i fonitro lefelau nifer o feirysau eraill megis y ffliw ac ymwrthedd gwrthficrobaidd. Dywedodd yr Athro David Jones o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, a arweiniodd ar ddatblygiad y dechnoleg brofi: > Mae COVID\-19 wedi bod yn brofiad dysgu enfawr ym maes firoleg. Mae ein profion ar ddŵr gwastraff wedi ein galluogi i adnabod amrywiolion newydd o’r feirws bron mewn amser real, felly rydym yn croesawu’r ffaith bod y rhaglen wedi’i hehangu ledled Cymru. Rydym yn gwybod mai po gyflymaf y gellir sicrhau’r data, y mwyaf gwybodus gall swyddogion iechyd y cyhoedd fod wrth wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â’r mesurau sydd eu hangen.
Translate the text from English to Welsh.
Today, the Welsh Government is launching a new Innovate to Save fund, which will operate alongside our successful Invest to Save fund. This is an important initiative in the context of the White Paper on Local Government Reform, which was published last month. At a time of reducing budgets, change is a necessity not a choice. More scarce resources and growing demand means all public services must think and work differently if we are to continue to provide the level of services which citizens need.   The new Innovate to Save fund, which the Welsh Government will support with a £5m investment, will enable organisations to test and explore ideas. It does not replace the established and extremely successful Invest to Save fund, which has been operating since 2009 and has supported more than 160 projects with an aggregate value of £157m. In addition to the £5m, which will be available through Innovate to Save in 2017\-18, a further £15m will be available through Invest to Save.     Innovate to Save is a unique partnership between the Welsh Government and Y Lab – itself a partnership between Cardiff University and the innovation charity Nesta. We will also work with the Wales Council for Voluntary Action. This is an arrangement which will bring together government, a leading innovation organisation, an organisation with an internationally\-recognised research capability and the third sector in Wales. The new fund will provide repayable and non\-repayable grant funding. The non\- repayable element will support organisations to prototype, test and develop complex and innovative changes to the way in which services are delivered. Nesta and Cardiff University will work closely with organisations submitting proposals. The resources and experience we will be drawing on will allow us to bring forward a wider range of innovations than has been the case in the past. All areas of the Welsh public and third sectors will be eligible to apply for Innovate to Save funding. We hope to see a range of projects coming forward, which will generate cash\-releasing savings to be re\-invested in services; improve outcomes for people, including quality of life and be able to be rolled out more widely. It is also intended to provide a lead in how we use research to develop and deliver new approaches and ways of working to create change in the public sector. We hope to gain more experience and understanding of which complex interventions work and which do not. Lessons learned from each project will help to shape future ideas and will be made widely available.   Representatives from each of the partner organisations will start work on the new fund immediately. I will update Assembly Members about progress in the future.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn lansio cronfa newydd, sef y Gronfa Arloesi i Arbed, a fydd yn gweithredu ochr yn ochr â’n cronfa lwyddiannus, Buddsoddi i Arbed. Mae hon yn fenter bwysig yng nghyd\-destun y Papur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol, a gyhoeddwyd y mis diwethaf. Ar adeg pan fo cyllidebau’n lleihau, mae newid yn rhywbeth angenrheidiol yn hytrach na ddewisol. Wrth fod adnoddau’n prinhau a’r galw’n cynyddu, rhaid i’r holl wasanaethau cyhoeddus feddwl a gweithio yn wahanol os ydym am barhau i ddarparu gwasanaethau ar y lefel y mae ei hangen ar ein dinasyddion.   Bydd y gronfa newydd, Arloesi i Arbed, y mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £5m ar ei chyfer, yn galluogi sefydliadau i ymchwilio i syniadau a’u treialu. Nid yw’r gronfa newydd hon yn disodli’r gronfa hynod lwyddiannus, Buddsoddi i Arbed, sydd wedi bod ar waith ers 2009 ac sydd wedi rhoi cymorth i fwy na 160 o brosiectau sydd â gwerth cyfanredol o £157m. Yn ogystal â’r £5m, a fydd ar gael drwy Arloesi i Arbed yn 2017\-18, bydd £15m pellach ar gael drwy’r Gronfa Buddsoddi i Arbed.     Mae Arloesi i Arbed yn bartneriaeth unigryw rhwng Llywodraeth Cymru ac Y Lab – sydd ei hunan yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Cymru a’r elusen arloesi, Nesta. Hefyd byddwn yn gweithio gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae hon yn drefniadaeth a fydd yn tynnu ynghyd llywodraeth, sefydliad arloesi arweiniol, sefydliad y mae ei allu ymchwil yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, a’r trydydd sector yng Nghymru. Bydd y gronfa newydd yn darparu cyllid y mae’n rhaid ei ad\-dalu a chyllid nad oes rhaid ei ad\-dalu. Bydd yr elfen nad oes rhaid ei had\-dalu yn helpu sefydliadau i greu prototeipiau, a’u profi eu mwyn datblygu newidiadau cymhleth ac arloesol i’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu. Bydd Nesta a Phrifysgol Caerdydd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau sy’n cyflwyno cynigion. Bydd yr adnoddau a’r profiad y byddwn yn tynnu arnynt yn caniatáu inni helpu i ddatblygu amrywiaeth ehangach o brosiectau arloesol nag sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Bydd yr holl feysydd yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru yn gymwys i wneud cais am gyllid gan y Gronfa Arloesi i Arbed. Rydym yn gobeithio gweld amrywiaeth o brosiectau yn cyflwyno ceisiadau, a fydd yn cynhyrchu arbedion sy’n rhyddhau arian ar gyfer ei ail\-fuddsoddi mewn gwasanaethau. Dylai’r ceisiadau fod yn rhai a fydd yn gwella canlyniadau i bobl, gan gynnwys gwella ansawdd eu bywyd, a dylent ymdrin â syniadau y gellid eu cyflwyno’n ehangach. Bwriedir iddo fod yn esiampl o sut y gallwn ddefnyddio ymchwil i ddatblygu dulliau gweithredu a ffyrdd o weithio newydd er mwyn creu newid yn y sector cyhoeddus. Rydym yn gobeithio cael mwy o brofiad o ran pa ymyriadau cymhleth sy’n gweithio a pha rai nad ydynt yn gweithio, er mwyn meithrin dealltwriaeth yn eu cylch. Defnyddir y gwersi a ddysgir o bob prosiect i lywio syniadau yn y dyfodol, a byddwn yn sicrhau bod unrhyw wybodaeth berthnasol ar gael yn rhwydd.   Bydd cynrychiolwyr o bob un o’r sefydliadau partner yn dechrau gwaith ar y gronfa newydd ar unwaith. Byddaf yn rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad ynghylch unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol.
Translate the text from English to Welsh.
To remind householders in Wales that they must always use a registered waste carrier to remove unwanted household items and excess rubbish from their homes. With over 70% of fly\-tipping incidents in Wales containing household rubbish, The campaign, in partnership with Fly Tipping Action Wales, calls on people to take responsibility for their excess rubbish, keep their local area clean and avoid fines and prosecution by using their duty of care to ensure they know where their waste is going and not put it in the hands of fly\-tippers. Although Wales has led the way when it comes to the amount of waste being recycled, there has been concern over an increase in individuals posing as legitimate waste disposal businesses on social media; during the temporary closure of waste and recycling centres due to the Covid pandemic. These individuals often use social media and low prices to dupe people into believing they are legitimate rubbish collection services, when in reality the collected waste is later fly\-tipped in fields, along country lines and on the roadside. The Welsh Government campaign urges everyone to use their duty of care and ensure all waste is disposed of legally by a registered waste carrier and to report any fly\-tipping to their local authority. A list of registered waste carriers can be found on the Natural Resources Wales website. Other recommendations include asking waste collectors where their rubbish is going, requesting a receipt and to record details of the vehicle involved. These small steps will not only protect households from fines and prosecution but will help to combat fly\-tipping in the long run. As recycling centres across Wales reopen the Welsh Government urges people to check with their local authority to find out what restrictions or booking systems are in place alongside information on what items are being collected. The Deputy Minister for Housing and Local Government, Hannah Blythyn said: > “Everyone in Wales has a duty of care to dispose of their household waste responsibly and to know where their rubbish is going. By working together we can combat fly\-tipping and keep Wales clean. > > > I encourage everyone in Wales only use registered waste carriers and not put their household waste into the hand of fly\-tippers, by being aware of potential scammers and adverts promoting cheap waste collection services.  > > > Local Authorities are working hard on this issue and I don’t want to see any households duped or potentially fined as a result of trusting these unscrupulous collectors to dispose of their waste legally.” Fly\-tipping Action Wales Programme Manager, Neil Harrison, commented: > “For everyone's health and safety and out of respect for our local authority staff who are working hard to provide communities with vital services, please follow your duty of care and dispose of your waste responsibly, whilst adhering to the social distancing rules at recycling centres. > > > “Fly\-tipping is a criminal offence and those committing this crime, particularly during a time of national emergency, place more pressure on already stretched resources and staff, whilst putting waste enforcement officers who investigate and remove fly\-tipped refuse at risk. > > > Fly\-tipping causes considerable damage to the environment, the economy and local communities — those caught fly\-tipping can receive fines of up to £50,000 and/or 12 months imprisonment.” Following Duty of Care towards waste not only protects individuals from being fined or prosecuted but also helps ensure the individual or business disposing of waste do so safely, legally and responsibly.
Mae hyn i agfoffa deiliaid tai yng Nghymru bod yn rhaid iddynt ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig bob amser i gael gwared ar eitemau nad ydynt eu hangen o fewn eu cartrefi a sbwriel dros ben o’u cartrefi.    Mae dros 70% o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon yng Nghymru yn cynnwys sbwriel o gartrefi.  Mae’r ymgyrch, mewn partneriaeth â Taclo Tipio Cymru, yn galw ar bobl i gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel, i gadw eu hardal leol yn lân ac i osgoi dirwyon a chael eu herlyn trwy ddefnyddio eu dyletswydd gofal i sicrhau eu bod yn gwybod ble y mae eu gwastraff yn mynd ac i beidio â’i roi yn nwylo tipwyr anghyfreithlon.  Er bod Cymru wedi arwain y ffordd o ran faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu, bu pryder ynghylch y cynnydd mewn unigolion sy’n galw eu hunain yn fusnesau gwaredu gwastraff dilys ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ystod y cyfnod y bu’n rhaid i ganolfannau gwastraff ac ailgylchu gau dros dro  oherwydd y pandemig Covid.    Mae’r unigolion hyn yn defnyddio y cyfryngau cymdeithasol yn aml a’r prisiau isel i wneud i bobl gredu eu bod yn wasanaethau casglu sbwriel dilys, pan mewn gwirionedd mae’r gwastraff sy’n cael ei gasglu yn cael ei dipio yn anghyfreithlon mewn caeau, ar hyd lonydd cefn gwlad ac ar ochr y ffordd.  Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru yn annog pawb i ddefnyddio eu dyletswydd gofal a sicrhau fod pob gwastraff yn cael ei waredu yn gyfreithiol gan gludwr gwastraff cofrestredig, ac i hysbysu’r awdurdodau o unrhyw dipio anghyfreithlon.  Mae rhestr o gludwyr gwastraff cofrestredig i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.  Mae argymhellion eraill yn cynnwys gofyn i gasglwyr gwastraff ble y mae’r sbwriel yn mynd, gofyn am dderbyneb a chofnodi manylion y cerbyd a ddefnyddir.  Bydd y camau bychain hyn nid yn unig yn diogelu cartrefi rhag dirwyon a rhag cael eu herlyn, ond bydd hefyd yn helpu i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon yn y tymor hir.  Wrth i ganolfannau ailgylchu ledled Cymru ail\-agor, mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i holi eu hawdurdod lleol a dod i wybod pa gyfyngiadau neu systemau archebu sydd ar gael yn ogystal â gwybodaeth am ba eitemau sy’n cael eu casglu.  Meddai Hannah Blythyn y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: > Mae gan bawb yng Nghymru ddyletswydd gofal i gael gwared ar eu gwastraff o’u cartrefi mewn modd gyfrifol ac i wybod ble mae’r sbwriel yn mynd.  Drwy gydweithio gallwn fynd i’r afael â thipio anghyfriethlon a chadw Cymru yn lân.    > > > Dwi’n annog pawb yng Nghymru i ddefnyddio cludwyr gwastraff cofrestredig yn unig ac i beidio â rhoi eu gwastraff cartref yn nwylo tipwyr anghyfreithlon, gan fod yn ymwybodol o dwyllwyr posibl a hysbysebion yn hyrwyddo gwasanaethau casglu gwastraff rhad.  > > > Mae’r Awdurdodau Lleol yn gweithio’n galed ar y mater hwn ac nid wyf am weld unrhyw gartrefi yn cael eu twyllo neu eu dirwyo o bosibl o ganlyniad i ymddiried yn y casglwyr sbwriel anonest hyn i gael gwared ar eu gwastraff yn gyfreithiol. Meddai Rheolwr Rhaglen Taclo Tipio Cymru, Neil Harrison:  > Er iechyd a diogelwch pawb ac er parch i staff ein hawdurdod lleol sy’n gweithio’n galed i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau, gwnewch eich dyletswydd gofal a chael gwared ar eich gwastraff yn gyfrifol, tra’n cadw at reolau pellter cymdeithasol mewn canolfannau ailgylchu.  > > > Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd, ac mae’r rhai hynny sy’n troseddu, yn arbennig yn ystod cyfnod o argyfwng cenedlaethol, yn rhoi mwy o bwysau ar adnoddau staff, sydd eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi, tra’n peryglu swyddogion gorfodi gwastraff sy’n ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon ac yn gael gwared arno.  > > > Mae tipio anghyfreithlon yn achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd, yr economi a chymunedau lleol – gall y rhai sy’n cael eu dal yn tipio yn anghyfreithlon dderbyn dirwyon o hyd at £50,000 ac/neu 12 mis o garchar. Mae cadw Dyletswydd Gofal tuag at wastraff yn gwarchod unigolion rhag cael eu dirwyo neu eu herlyn, ond hefyd yn helpu i sicrhau bod yr unigolyn neu’r busnes sy’n cael gwared ar y gwastraff yn gwneud hynny yn ddiogel, yn gyfreithiol ac yn gyfrifol.  
Translate the text from English to Welsh.
Today has seen the publication of the evaluation of the  Seren Network and I am taking this opportunity to provide you with further supporting information, and to set out my initial response to the recommendations put forward in the evaluation. The formative evaluation of the Seren Network provides us with a set of 15 recommendations which the Welsh Government welcomes and which will be used to shape the future development of the programme.  Progress has already been made in responding to a number of these recommendations, with outstanding matters to be addressed in partnership with the Seren Network coordinators and partner organisations. The Seren Network seeks to engage young people who have the aspiration and academic excellence required to pursue highly competitive academic courses of higher education. Entry requirements for Higher Education courses at leading universities demand the highest academic standards to be achieved. Moreover, when considering which young people should be granted places on more highly competitive courses, admissions departments within Universities are looking to see evidence that applicants have a genuine passion for their subject and the resilience needed to make a success of the university experience.   Since there are many high quality and competitive courses at different universities right across the UK and beyond,  the Seren Network does not limit participation only to those young people who aspire to study at a narrow list of defined institutions (such as Oxford and Cambridge or Sutton Trust 30 or Russell Group Universities). The Seren Network starts with the learner, through stimulating and encouraging their aspiration to apply for high tariff and/or highly competitive course and focuses on supporting this aspiration \-  irrespective of which university or course they ultimately end up applying for.  We do expect the work of the Seren Network to impact on the proportion of Welsh domiciled learners attending leading institutions and believe encouraging Wales’ academically brightest to reach their academic potential is in the long\-term interests of Wales and our economy. With that in mind I will shortly be setting out my proposals for identifying and nurturing our most able learners, which include consideration of the important role Seren plays in a wider network of support and challenge. In a fast moving and global marketplace for higher education it would be wrong to start with a closed list of courses or universities even if such listings will inevitably play a part in helping us understand the wider impact of the project. There are three key strands to the work of the network which the evaluation activity will help us further refine and improve upon: 1\. Seren aims to stimulate young people’s investment into supra\-curricular activities. For a young person seeking to access a place at a leading university or on a highly competitive course, being able to evidence and demonstrate wider subject engagement and reading is vital and can translate into a powerful competitive advantage. The Seren Network provides masterclasses and other enrichment opportunities which are designed to stimulate participants own further study and engagement beyond the confines of the curriculum. Very intentionally Seren does not set out to provide a complete supra\-curricular solution. Young people have to develop and grow their own passion for their chosen fields of study, and Seren is there to support this.   2\. Seren seeks to provide information, advice and support both to young people and to professionals within the schools and colleges where they are based through a genuine collaborative efforts For young people, this means equipping them to navigate what can be complex and demanding application procedures, and understand what makes a strong application and how to go about presenting themselves to their prospective HE institutions. Certain courses and institutions require specific additional examinations, interviews and assessments. Through the work of the Seren Network we aim to ensure young people get timely support, encouragement and advice relevant to these processes.  For staff within schools and colleges, this means understanding how to guide young people and maximise the impact of their own professional input (such as references). Collaboration across hubs on a regional basis has been an effective way of recruiting students to attend subject specific masterclasses and preparatory sessions for interviews and entrance exams. This has resulted in increased number of students attending the sessions, which has been welcomed by the university partners who often deliver these sessions. 3\. Seren seeks to raise aspirations and widen horizons. Already through the work of the Seren Network we have seen young people growing in confidence and changing how they feel, both about the prospect of applying to competitive courses at a range of universities and about their own ability and suitability to apply to such courses. In doing so, this has opened up life\-changing opportunities across the World. The evaluation of Seren can be found at:  http://gov.wales/statistics\-and\-research/evaluation\-seren\-network/?lang\=en http://gov.wales/statistics\-and\-research/evaluation\-seren\-network/?skip\=1\&lang\=cy I welcome the evaluation report \-  the progress and achievements it highlights as well as the challenges it poses.  While the partners who make up the Seren Network will be considering how best to respond to the issues raised in the coming weeks, I am able to provide some further information and direction at this time. At the outset it is important to recognise that the Seren Network has only been operating on a fully national basis since November 2016 \- and the 2017/18 is the first full academic year where a cohort of participants from across Wales is fully supported from the beginning of year 12\. I wish to commend the partners who come together in the Seren Network for what has been achieved in such a short period of time. It is a testament to the collaborative partnership including the schools, colleges, unitary authorities and universities in Wales, the UK and beyond, and to the young people who have come together within the Seren Network, that the evaluation reports that Seren makes a positive contribution to raising aspirations, boosting confidence and encouraging students to think more ambitiously about their university choices. Furthermore, while the evaluation points to areas for future development, we should not lose sight of the fact that this evaluation concludes that Seren has been of value in helping participants make better decisions about their preferred university course and making them realise the importance of reading widely around their subject area. A growing number of universities are finding the Seren Network a great way to engage and target high achieving students directly. It also supports many of their widening participation targets. Creating the Seren Network is stimulating new and exciting opportunities for many more young people to interact with HEIs and this is to be welcomed and further strengthened. Welsh HEIs in particular make a vital contribution to the work of the Seren Network and, as recommended by the evaluation, I believe that this contribution needs to be more fully recognised. To this end, I will be writing to the Vice Chancellors of those Welsh HEIs who are actively contributing to the success of Seren to recognise their contribution as valued delivery partners going forward. Each of the 11 Seren Hubs has, to date, defined their own criteria for participation in network activities. This flexibility has been a strength and has allowed a range of approaches to be developed and trialled. As the work of the Seren Network is now becoming more established I recognise the need for greater consistency in approach and, to that end, have asked that a common approach be adopted from September 2018 onward. Similarly, I am pleased to report that the Hubs themselves have brought forward proposals for a ‘minimum offer’ to young people that I believe will be of value in shaping effective and engaging programmes for all the young people who are invited to be part of the Seren Network., regardless of their location. In developing the Seren Network we have become increasingly aware that some of the advice and information made available to participants has a relevance to wider groups of learners. I believe that digital services can, and should, play an important role in opening up access to the information and advice currently targeted through the Seren Network. To this end I have asked Careers Wales to engage with the Seren Network with a view to providing universal access to key resources, information and advice. One of the foundations of the Seren Network was to form the collaborative partnership approach. This has been invaluable in developing the programme and in developing the opportunities for the students to attend stretch and challenge sessions, the national conference, university visits, summer schools and much more. The calibre and potential of the Welsh students is being recognised globally through the Seren Network, and I’m delighted to be supporting a new partnership between Yale and Seren in Wales. We hope that this will result in a number of Welsh students participating in the Yale Young Global Scholars Summer Programme this summer – a potentially life changing experience. The progress achieved to date by the Seren Network gives me confidence that this programme should be maintained and encouraged to continue developing,  innovating,  and strengthening links with our wider policies and programmes.   The Seren Network is becoming an increasingly valued and important part of the support landscape in Wales and I believe that this evaluation gives a timely challenge, and valuable steer to guide future policy and the ongoing evolution of the Seren Network’s activities and partnerships.  I trust that this statement has helped you understand the work of the Seren Network and that you will join with me in celebrating what has been achieved by the young people, schools, colleges, unitary authorities, universities and other partners through the work of the Seren Network to date.
Heddiw, cyhoeddwyd gwerthusiad o Rwydwaith Seren. Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i roi gwybodaeth ategol ichi, ac i nodi fy ymateb cychwynnol i argymhellion y gwerthusiad. Mae'r gwerthusiad ffurfiannol o Rwydwaith Seren wedi rhoi inni set o bymtheg argymhelliad. Mae Llywodraeth Cymru'n croesawu'r argymhellion hyn, a chânt eu defnyddio i lywio datblygiad y rhaglen at y dyfodol. Mae cynnydd eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â nifer o'r argymhellion; eir i'r afael â’r materion eraill mewn partneriaeth a chydlynwyr Rhwydwaith Seren a sefydliadau partner. Nod Rhwydwaith Seren yw cefnogi pobl ifanc sydd â'r dyheadau a'r rhagoriaeth academaidd angenrheidiol i fynd ati i ddilyn cyrsiau addysg uwch cystadleuol iawn. Mae angen cyrraedd y safonau uchaf oll i fodloni gofynion mynediad cyrsiau Addysg Uwch y prifysgolion gorau. At hynny, wrth benderfynu pa bobl ifanc ddylid eu derbyn ar y cyrsiau mwyaf cystadleuol, mae adrannau mynediad Prifysgolion hefyd yn edrych am dystiolaeth bod ymgeiswyr yn angerddol am y pwnc dan sylw, a'u bod yn ddigon penderfynol a brwdfrydig i sicrhau y bydd eu profiad yn y brifysgol yn llwyddiant. Mae llawer o gyrsiau o safon a chyrsiau cystadleuol i'w cael mewn gwahanol brifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig, a thu hwnt. O'r herwydd, nid yw Rhwydwaith Seren yn cyfyngu ei wasanaeth i'r bobl ifanc hynny sydd am astudio mewn rhestr benodol o sefydliadau (megis Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, neu'r 30 prifysgol sy'n rhan o Ymddiriedolaeth Sutton, neu brifysgolion Grŵp Russell er enghraifft). Yn hytrach, mae Rhwydwaith Seren yn dechrau gyda'r dysgwr; mae'n ysgogi ac yn annog y dyhead i wneud cais i gyrsiau tariff uchel a/neu gyrsiau cystadleuol iawn, ac mae'n canolbwyntio ar gefnogi'r dyhead hwnnw, heb ystyried yn union pa gwrs ym mha brifysgol y bydd y myfyriwr dan sylw yn gwneud cais amdano yn y pen draw. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, mae disgwyl i waith Rhwydwaith Seren gael effaith ar gyfran y dysgwyr yng Nghymru sy'n mynd i'r sefydliadau gorau, a chredwn fod annog dysgwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial o fudd i'r wlad a'i heconomi yn y tymor hir. Gyda hynny mewn cof, yn fuan byddaf yn nodi fy nghynigion ar gyfer pennu a meithrin ein dysgwyr mwyaf galluog, gan gynnwys ystyriaeth o rôl bwysig Seren mewn rhwydwaith ehangach o gymorth a heriau. Mewn marchnad addysg uwch fyd\-eang sy'n newid yn gyflym iawn, ni fyddai'n briodol dechrau gyda rhestr gaeedig o gyrsiau neu brifysgolion, hyd yn oed os bydd rhestrau o'r fath yn siŵr o chwarae rôl o ran ein helpu ni i ddeall effaith ehangach y prosiect. Mae tair prif elfen i waith y rhwydwaith y bydd y gwerthusiad hwn yn ein helpu i'w mireinio a'u gwella: 1\. Nod Seren yw hybu ymroddiad pobl ifanc i weithgareddau sydd y tu hwnt i'r cwricwlwm \- hynny yw, gweithgareddau ychwanegol. I berson ifanc sy'n ceisio cael lle yn un o'r prifysgolion gorau neu ar gwrs cystadleuol iawn, mae dangos ei fod yn ymwneud â'r pwnc mewn ffordd ehangach, ac yn darllen yn eang am y pwnc, yn fantais fawr. Mae Rhwydwaith Seren yn darparu dosbarthiadau meistr a chyfleoedd eraill sydd â'r nod o ysgogi dysgwyr i fynd ati i astudio ac ymgysylltu ymhellach, a hynny y tu hwnt i'r hyn a gynigir yn y cwricwlwm. Yn hollol fwriadol, nid yw Seren yn ceisio darparu ystod gyflawn o weithgareddau y tu hwnt i'r cwricwlwm; mae angen i bobl ifanc ddatblygu eu hangerdd eu hunain am eu meysydd \- cefnogi hyn yw rôl Seren. 2\. Nod Seren yw darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc ac i bobl broffesiynol mewn ysgolion a cholegau, a hynny drwy gydweithio. O ran pobl ifanc, golyga hyn eu helpu gyda gweithdrefnau ymgeisio \- gweithdrefnau sy'n gallu bod yn gymhleth ac anodd. Hefyd, golyga hyn helpu pobl ifanc i ddeall beth sy'n gwneud cais cryf, a deall sut i gyflwyno'u hunain i'r sefydliadau addysg uwch. Mae rhai cyrsiau a sefydliadau yn cynnal arholiadau, cyfweliadau ac asesiadau penodol ychwanegol. Drwy waith Rhwydwaith Seren, ein nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael cymorth, anogaeth a chyngor amserol mewn perthynas â'r prosesau hyn. O ran staff ysgolion a cholegau, golyga hyn feithrin dealltwriaeth o sut i lywio a thywys pobl ifanc a sicrhau'r effaith fwyaf posibl o'u gwaith (ee. drwy roi geirdaon). Mae cydweithio rhanbarthol, ar draws canolfannau, wedi bod yn ffordd effeithiol o recriwtio myfyrwyr ar gyfer dosbarthiadau meistr penodol i bwnc, a sesiynau paratoi ar gyfer cyfweliadau ac arholiadau mynediad. Mae hyn wedi arwain at fwy o fyfyrwyr yn mynd i’r sesiynau, sydd wedi'i groesawu gan ein prifysgolion partner, sy'n aml yn darparu'r sesiynau. 3\. Nod Seren yw codi dyheadau ac ehangu gorwelion. Mae gwaith Rhwydwaith Seren eisoes wedi cynyddu hyder pobl ifanc a newid sut maent yn teimlo am wneud cais am gyrsiau cystadleuol mewn ystod o brifysgolion, ac am eu gallu a'u haddasrwydd i wneud cyrsiau o'r fath. Mae hyn wedi arwain at gyfleoedd gwych iddynt ar draws y byd. Gallwch ddod o hyd i'r gwerthusiad o Rwydwaith Seren yma: http://gov.wales/statistics\-and\-research/evaluation\-seren\-network/?lang\=en http://gov.wales/statistics\-and\-research/evaluation\-seren\-network/?skip\=1\&lang\=cy Rwy'n croesawu'r adroddiad gwerthuso \- y cynnydd a'r cyflawniadau a nodir ynddo \- yn ogystal â'r heriau y mae'n eu gosod. Bydd y partneriaid sy'n rhan o Rwydwaith Seren yn awr yn mynd ati i ystyried sut orau i ymateb i'r materion a godir. Fodd bynnag, gallaf i roi peth gwybodaeth bellach ar unwaith, ynghyd â sôn am y trywydd y bwriedir ei gymryd. I ddechrau, mae'n bwysig nodi mai dim ond ers mis Tachwedd 2016 y mae Rhwydwaith Seren wedi bod yn rhedeg yn genedlaethol. Yn wir, 2017/18 yw'r flwyddyn academaidd lawn gyntaf y mae cohort o fyfyrwyr o bob rhan o Gymru yn cael eu cefnogi'n llawn o ddechrau blwyddyn 12\. Dymunaf ganmol y partneriaid sy'n rhan o Rwydwaith Seren am yr hyn y maent wedi'i gyflawni mewn cyfnod byr. Mae'r adroddiad gwerthuso yn nodi bod Seren yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i godi dyheadau, hybu hyder ac annog disgyblion i feddwl yn fwy uchelgeisiol am eu dewisiadau. Mae'r diolch am hynny i'r bartneriaeth gydweithiol rhwng ysgolion, colegau, awdurdodau unedol a phrifysgolion ledled Cymru, y Deyrnas Unedig, a thu hwnt. At hynny, er bod y gwerthusiad yn nodi meysydd y gellir eu gwella at y dyfodol, rhaid nodi a chofio bod y gwerthusiad hwn yn dod i'r casgliad bod gwerth i Seren o ran helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwell am gyrsiau ac o ran eu helpu i ddeall pwysigrwydd darllen yn eang am eu pynciau. Mae mwy a mwy o brifysgolion o'r farn bod Rhwydwaith Seren yn ffordd wych o dargedu ac ymgysylltu â myfyrwyr galluog yn uniongyrchol. Hefyd, mae'n cyd\-fynd â llawer o'u targedau o ran ehangu cyfranogiad. Mae Rhwydwaith Seren yn ysgogi cyfleoedd newydd a chyffrous i lawer iawn mwy o bobl ifanc allu ymgysylltu â sefydliadau addysg uwch ac mae hyn i'w groesawu, a'i gryfhau ymhellach os yn bosibl. Mae sefydliadau addysg uwch Cymru, yn enwedig, yn gwneud cyfraniad hollbwysig i waith Seren. Fel a argymhellir yn y gwerthusiad, credaf fod angen gwneud mwy i gydnabod y cyfraniad hwn. At y diben hwn, byddaf yn ysgrifennu at Is\-gangellorion y sefydliadau hynny sy'n gweithio'n ddiwyd i gyfrannu at lwyddiant Seren i gydnabod eu cyfraniad fel partneriaid cyflawni pwysig. Hyd yma, mae'r 11 o ganolfannau Seren wedi nodi eu meini prawf eu hunain ar gyfer cymryd rhan yng ngweithgareddau'r rhwydwaith. Mae'r hyblygrwydd hwn wedi bod yn gryfder, ac mae wedi caniatáu datblygu a threialu ystod o ffyrdd o weithio. Wrth i waith Rhwydwaith Seren ddatblygu a dod yn fwy sefydledig, rwy'n cydnabod bod angen mwy o gysondeb. I'r perwyl hwnnw, rwyf wedi gofyn am sefydlu un ymagwedd gyson i'w defnyddio o fis Medi 2018 ymlaen. Yn yr un modd, mae'n dda gen i nodi bod y gwahanol ganolfannau eu hunain wedi cyflwyno cynigion am 'gynnig sylfaenol' i bobl ifanc. Credaf y bydd hyn yn ddefnyddiol ar gyfer llunio rhaglenni effeithiol a diddorol ar gyfer pawb sy'n cael eu gwahodd i fod yn rhan o Rwydwaith Seren,  lle bynnag y bônt. Wrth ddatblygu Seren, rydym wedi dod yn fwyfwy ymwybodol bod peth o'r wybodaeth a'r cyngor a roddir yn berthnasol i grŵp ehangach o ddysgwyr. Credaf y gall ac y dylai gwasanaethau digidol chwarae rôl bwysig o ran sicrhau mynediad at yr wybodaeth a'r cyngor a roddir drwy Rwydwaith Seren. I'r perwyl hwn, rwyf wedi gofyn i Gyrfa Cymru ymgysylltu â Rhwydwaith Seren er mwyn, yn y pen draw, ddarparu mynediad i bawb at adnoddau, gwybodaeth a chyngor allweddol. Un o gonglfeini Rhwydwaith Seren yw ymagwedd o gydweithio a phartneriaeth. Mae hyn wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu'r rhaglen ac o ran datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr fynychu sesiynau ymestyn a herio, ynghyd â'r gynhadledd genedlaethol, ymweliadau â phrifysgolion, ysgolion haf a llawer mwy. Mae safon, gallu a photensial myfyrwyr Cymru yn cael ei gydnabod ar draws y byd drwy Rwydwaith Seren. Fel enghraifft o hyn, rwyf yn falch iawn o gefnogi partneriaeth newydd rhwng Seren a Phrifysgol Yale. Drwy hyn, yr haf hwn, bydd nifer o fyfyrwyr o Gymru yn cymryd rhan yn Rhaglen Haf y Brifysgol ar gyfer Ysgolorion Ifanc Byd\-eang \- profiad a allai newid byd i’r myfyrwyr dan sylw. Mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn gan Rwydwaith Seren yn fy llenwi â hyder y dylem barhau â'r rhaglen a'i hannog i ddatblygu, arloesi a chryfhau, gan feithrin cysylltiadau gyda'n rhaglenni a'n polisïau ehangach.   Mae Seren yn datblygu'n rhan fwyfwy gwerthfawr a phwysig o'r tirlun cymorth addysgol yng Nghymru. Credaf fod y gwerthusiad hwn yn rhoi her amserol i'r Rhwydwaith. Bydd hefyd yn ddefnyddiol iawn o ran llywio polisi yn y dyfodol ac o ran gwerthuso gweithgareddau a phartneriaethau Rhwydwaith Seren. Hyderaf y bydd y datganiad hwn yn eich helpu gyda’ch dealltwriaeth o waith Rhwydwaith Seren. Hyderaf, hefyd, y byddwch yn dymuno ymuno â mi i ddathlu'r hyn y mae'r bobl ifanc, yr ysgolion, y colegau, yr awdurdodau unedol, y prifysgolion a phartneriaid eraill oll wedi'i gyflawni drwy Fframwaith Seren hyd yma.
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw, cyhoeddais adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2021, sef ein hadroddiad blynyddol diweddaraf yn y gyfres hon. Mae’r ddogfen hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran cynhyrchu ynni ac yn fesur cyson o gynnydd yn erbyn targedau ynni Llywodraeth Cymru. Yn 2021, dechreuodd lefelau’r ynni a ddefnyddiwyd ddychwelyd i’r hyn a welwyd cyn y pandemig, a chafodd 20% mwy o drydan ei gynhyrchu yng Nghymru o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol er mwyn bodloni’r cynnydd hwn yn y galw. Er y golygai hyn fod allbwn ein gorsafoedd pŵer sy’n rhedeg ar nwy wedi cynyddu, rwy’n falch o nodi bod y sector ynni adnewyddadwy wedi dal ei dir, a hynny drwy dyfu capasiti – cynnydd a gafodd ei arwain gan osodiadau paneli solar ffotofoltäig a phympiau gwres yn bennaf. O ganlyniad, drwy ffynonellau ynni adnewyddadwy, rydym yn cynhyrchu swm cyfwerth â 55% o’r trydan a ddefnyddir gennym. Gan edrych ymlaen at 2030, rwy’n falch ein bod bellach bron 90% o’r ffordd tuag at gyrraedd ein nod o gael 1 GW o drydan adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol – roedd 897 MW o’n capasiti trydan adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol yn 2021\. Byddwn yn parhau i gefnogi ac annog pob prosiect ynni newydd i gynnwys o leiaf elfen o berchnogaeth leol er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn cadw manteision y trawsnewidiad hwn yn y sector ynni yng Nghymru. Mae’n mynd i fod yn heriol cyflawni ein nod o sicrhau bod 70% o’r trydan a ddefnyddir gennym yn cael ei gynhyrchu drwy ffynonellau adnewyddadwy dros y blynyddoedd nesaf, ond rwyf wedi fy nghalonogi gan y gyfres o brosiectau a fydd yn ein helpu i gyrraedd y nod hwn – yn enwedig yn y sector ynni adnewyddadwy ar y môr yn ogystal â thechnolegau ynni adnewyddadwy ar y tir. Bydd y cynlluniau a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar ar gyfer sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy a dan berchnogaeth y cyhoedd hefyd yn allweddol o ran hybu gweithgareddau cynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd o dan berchnogaeth leol. Fel llywodraeth, byddwn yn parhau i ymdrechu i dynnu’r rhwystrau o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan gynnwys drwy weithredu ar yr argymhellion o’r archwiliad manwl i ynni adnewyddadwy. Bydd y camau y byddwn ni’n eu cymryd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau i leihau’r graddau yr ydym yn ddibynnol ar danwyddau ffosil, ysgogi swyddi gwyrdd a sicrhau bod cyfoeth yn aros yng Nghymru, a darparu system ynni ar gyfer y dyfodol, y bydd ei hangen arnom i gefnogi Cymru sero net.
Today, I published the Energy Generation in Wales 2021 report, our most recent annual update in this series. This report provides an updated picture of energy generation and is a consistent measure of progress against Welsh Government energy targets. 2021 saw the beginning of a return to pre\-pandemic energy use and electricity generation in Wales increased by 20% as compared to the previous year to meet this uptick in demand. While this meant our gas\-fired power stations increased their output, I am pleased the renewable energy sector kept pace, with increased capacity primarily led by solar PV and heat pump installations. As a result, we generate the equivalent of 55% of our electricity consumption by renewable energy sources. Looking ahead to 2030, I am pleased that we are now nearly 90% towards our goal of having 1 GW of locally owned renewable electricity, with 897 MW of our renewable electricity capacity being locally owned in 2021\. We will continue to support and encourage all new energy projects to have at least an element of local ownership to help retain the benefits of this energy transformation within Wales. Achieving our target of 70% of our electricity consumption to be met by renewable sources will be a challenge over the coming years, but I am encouraged by the pipeline of projects particularly in the offshore renewable sector as well as onshore renewable technologies that will help us achieve this goal. Our recently announced plans for a publicly owned renewable energy developer will also be pivotal to driving forward locally owned renewable energy generation. We will continue striving as a government to remove the barriers to renewable energy including through the implementation of the recommendations from the Renewable energy deep dive. Our actions will help us to meet our ambitions of reducing our dependence on fossil fuels, stimulating green jobs and wealth retention in Wales and delivering the future energy system we need to support a net zero Wales.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 27 Tachwedd 2012, gorlifodd Afon Elwy dros yr amddiffynfeydd a fodolai ar y pryd, gan effeithio ar 320 o adeiladau ac arwain at farwolaeth Mrs Margaret Hughes, a oedd yn byw mewn cartref ymddeol ger Stryd y Felin. Ar ôl y llifogydd, comisiynodd Cyfoeth Naturiol Cymru astudiaeth ddwys i edrych yn llwyr ar y perygl o lifogydd ac i lunio cynlluniau i leihau'r perygl hwn.  Bydd y cynllun newydd i atal llifogydd yn golygu y bydd llai o berygl i Afon Elwy orlifo a pheryglu 293 o gartrefi a 121 o fusnesau, gan gynnwys ysgolion, cartrefi ymddeol, llety gwarchod, y llyfrgell leol, meddygfa a gorsaf dân. Bydd y cynllun yn amddiffyn Llanelwy rhag digwyddiad a fyddai'r un mor wael â'r llifogydd yn 2012\.  Bydd y manteision o ran seilwaith a hamdden yn cynnwys llwybrau troed newydd ac ehangach, gwelliannau i bont hynafol y ddinas a gosod trosglwyddydd Bluetooth "i beacon".  Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gosod blychau ar gyfer adar ac ystlumod, a phlannu coed a pherthi yn lle'r rhai blaenorol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn plannu mwy o goed na'r rheini y cafwyd gwared arnynt i weithredu'r cynllun. Ar ôl cyflwyno'r cynllun newydd yn swyddogol a datguddio plac, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd: > "Rydyn ni i gyd yn cofio'r llifogydd difrifol yma yn 2012, felly mae hwn yn gynllun pwysig i Lanelwy. Mae'r digwyddiadau hynny yn ein hatgoffa am y bygythiad go iawn sy'n ein hwynebu ac mae hynny'n debygol o waethygu wrth i'n hinsawdd newid. > > "Hoffwn ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru a'i gontractwyr am ddarparu'r cynllun pwysig hwn sy'n lleihau'r perygl o lifogydd i 414 o eiddo, gan gynnwys 293 o dai.  > > "Mae'r cynllun yn cael cymorth gwerth £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Yn gynharach eleni, cyhoeddais raglen gwerth £56 miliwn i gryfhau amddiffynfeydd arfordirol ac amddiffynfeydd llifogydd, gan wella cydnerthedd cymunedau ledled y wlad sy'n wynebu peryglon tebyg". Dywedodd Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Gogledd:   > "Bydd y cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Llanelwy sydd wedi dioddef yn sgil y llifogydd ym mis Tachwedd 2012 ac sydd wedi byw dan y bygythiad hwn am sawl blwyddyn. >  "Er nad ydym bob amser yn gallu atal llifogydd, rydym wedi llunio cynllun cadarn ar gyfer Llanelwy a fydd yn lleihau’r perygl yn sylweddol ac yn rhoi tawelwch meddwl yn yr hirdymor i drigolion y ddinas.  > "Ar ben hynny, mae'r gwelliannau amgylcheddol a'r cyfleoedd hamdden newydd sy'n deillio o'r cynllun yn hybu bywyd beunyddiol pawb yn y ddinas hefyd".
On 27 November 2012, the River Elwy overtopped the existing defences affecting 320 properties, tragically claiming the life of Mrs Margaret Hughes, who lived in a retirement home near Mill Street.  Following the flooding, Natural Resources Wales commissioned an extensive study to fully investigate the flood risk and designed a scheme to reduce future risk.  The new flood scheme will reduce the risk of flooding from the River Elwy to 293 homes and 121 businesses including schools, retirement homes, sheltered accommodation, the local library, doctor’s surgery and fire station.  The scheme will protect St Asaph from an event equivalent to the floods in 2012\.  Infrastructure and recreational benefits will include new and wider footpaths, improvements to the ancient City Bridge and the installation of an “i beacon” Bluetooth transmitter.  The project also includes the installation of bird and bat boxes and the replacement of trees and hedges. Natural Resources Wales are planting more trees than were removed to build the scheme.  After officially opening the new scheme and unveiling a plaque, the Minister for Environment said:  > “We all remember the serious flooding here in 2012, so this is an important scheme for St Asaph. Those events remind us of the real threat we face from flooding, which is likely to increase as our climate changes.  > > “I would like to thank Natural Resources Wales and their contractors for delivering this important scheme which is reducing the flood risk to 414 properties, including 293 homes.  > > “The scheme has been supported with £6 million from the Welsh Government. Earlier this year I also announced a £56m programme to strengthen Wales’ flood and coastal defences, helping build resilience in communities across Wales which face similar risks.” Tim Jones, Natural Resources Wales’ Executive Director of Operations for North Wales, said:    > “This scheme will make a real difference to people living and working in St Asaph who suffered such devastating flooding in November 2012 and have lived with the threat of flooding for many years.  > "While we can’t always prevent flooding from happening, we have built a robust scheme for St Asaph that will significantly reduce the risk and provide effective, long\-term peace of mind for people in the city.  > "And the scheme’s environmental improvements and new recreation opportunities are a boost to everyone’s day\-to\-day life in the city as well.”
Translate the text from Welsh to English.
Ar 14 Chwefror 2023, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Yr Adolygiad Ffyrdd a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth (dolen allanol).
On 14 February 2023, an oral statement was made in the Senedd: The Roads Review and National Transport Delivery Plan (external link).
Translate the text from Welsh to English.
Sefydlwyd Cymwysterau Cymru o dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 a daeth yn gyfrifol am reoleiddio cyrff dyfarnu a sicrhau ansawdd cymwysterau nad ydynt yn raddau a gyflawnir yng Nghymru. Mae gan y Bwrdd rôl bwysig yn y gwaith o sicrhau: * bod gan Gymwysterau Cymru arweinyddiaeth effeithiol; * bod ganddo gyfeiriad strategol sydd wedi’i ddiffinio’n glir; * a’i fod yn cyflawni gweithgareddau’n effeithlon, yn effeithiol ac yn unol â’i amcanion, ei nodau a’i dargedau. Rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi penodi Jayne Woods ac Anne Marie Duffy i Fwrdd Cymwysterau Cymru.  Dechreuodd y ddau benodiad ar 1 Ebrill 2019, am gyfnod o dair blynedd. Y tâl yw £282 y diwrnod am ymrwymiad amser o hyd at 36 diwrnod y flwyddyn. Dyma benodiad gweinidogol cyntaf Jayne Woods ac Anne Marie Duffy. **Nodiadau** Gwnaed y penodiadau hyn yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau Gweinidogol i Gyrff Cyhoeddus. Gwneir yr holl benodiadau ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o’r broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, rhaid cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y sawl a benodir (os datgenir gweithgarwch). Nid yw’r ddwy sydd wedi’u penodi i Fwrdd Cymwysterau Cymru wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol.
Qualifications Wales was established under the Qualifications Wales Act 2015 and became responsible for the regulation of awarding bodies and the quality assurance of non\-degree qualifications delivered in Wales. The Board undertakes an important role in ensuring that Qualifications Wales: * has effective leadership; * has a well defined strategic direction; and * undertakes activities efficiently and effectively and in accordance with its’ aims, objectives and targets. I am pleased to announce that I have appointed Jayne Woods and Anne Marie Duffy to the Qualification Wales Board.  Both paid appointments began on 1 April 2019 and will be for a period of three years.  Remuneration is £282 per day for a maximum time commitment of 36 days per year. This is the first Ministerial appointment for both Jayne Woods and Anne Marie Duffy. **Notes** These appointments were made in accordance with the Commissioner for Public Appointments’ Code of Practice for Ministerial Appointments to Public Bodies. All appointments are made on merit and political activity plays no part in the selection process. However, in accordance with the original Nolan recommendations, there is a requirement for appointees’ political activity (if any declared) to be made public.  The appointees to the Board of Qualifications Wales have not declared any political activity.
Translate the text from English to Welsh.
The Royal Welsh Show is particularly special this year, as it takes place in person for the first time in three years, at an important time when we look at securing the long\-term future of the farming industry and rural communities across Wales Minister for Rural Affairs Lesley Griffiths said ahead of the event. Virtual events were held in 2020 and 2021 but this year farmers from across Wales will come together once more for one of the largest agricultural shows in Europe. The Minister said: > I know I’m not alone to be very much looking forward to this year’s Royal Welsh.  It’s always special but especially this year as we come together for the first time in three years.  The importance of the Royal Welsh in the social calendar of rural Wales cannot be overstated, and I know it has been hard for many not to attend and see friends since 2019\.  We’re pleased to support the Royal Welsh Society again this year. > > > As well as celebrating rural life we will also come together and discuss the challenges and opportunities ahead. I recently published a proposed outline of the Sustainable Farming Scheme.  The primary focus for me at the show is to talk to people about these proposals, which aim to strengthen the farming industry and our rural communities,  and enable our farmers to tackle, and adapt to the challenges of the nature and climate emergencies > > > The climate emergency is the biggest threat to food security globally and here in Wales.  By working together, and looking at how we can produce food sustainably we can secure a successful future for the farming industry.  The Welsh Government Pavilion at the Show will be a hub for these discussions, and I’m looking forward to hearing people’s views. > > > Welsh produce is well placed to be one of the global leaders in sustainable food production.  There will be many examples of the excellent food we produce here in Wales on display at the Royal Welsh, and I want to see this industry go from strength to strength.  > > > We are all aware of the rare Amber weather warning for exceptionally high temperatures at the moment.  I would urge everyone coming to enjoy the Show to take extra care in the heat – particularly older people, very young children, and people with pre\-existing medical conditions. > > > Keep hydrated and use the free water stations including the one in the Welsh Government Pavilion. Spend time in the shade and protect yourself from the sun.  > > > More than anything the Show will be a social event for many people, and I hope everyone has the opportunity to enjoy what is the greatest event in the rural calendar.  It’s a pleasure to see it back again.
Cynhaliwyd rhith\-ddigwyddiadau yn 2020 a 2021 ond eleni, bydd ffermwyr o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd unwaith eto ar gyfer un o'r sioeau amaethyddol mwyaf yn Ewrop. Dywedodd y Gweinidog: > Dw i’n gwybod nad fi yw’r unig un sy’n edrych ’mlaen yn fawr at y Sioe Frenhinol eleni.  Mae’n arbennig bob amser ond mae hynny’n fwy gwir nag arfer eleni wrth inni ddod at ein gilydd am y tro cyntaf ers tair blynedd. Allwn hi ddim gorbwysleisio pwysigrwydd y Sioe Frenhinol yng nghalendr cymdeithasol y Gymru wledig, a gwn fod peidio â chael mynd i’r Sioe a pheidio â gweld ffrindiau ers 2019 wedi bod yn anodd i lawer. Rydyn ni’n falch o gefnogi Cymdeithas Frenhinol Cymru eto eleni. > > > Yn ogystal â dathlu bywyd cefn gwlad, byddwn ni hefyd yn dod at ein gilydd ac yn trafod yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau. Yn ddiweddar, cyhoeddais i amlinelliad o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy rydyn ni’n bwriadu’i gyflwyno. Y prif ffocws imi yn y Sioe yw siarad â phobl am y cynigion hynny, sydd â’r nod o gryfhau'r diwydiant ffermio a'n cymunedau gwledig, a galluogi’n ffermwyr i fynd i'r afael â’r heriau'r sy’n gysylltiedig â’r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd, ac i addasu er mwyn ymdopi â nhw. > > > Yr argyfwng hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i ddiogelwch bwyd, yn fyd\-eang ac yma yng Nghymru. Drwy weithio gyda'n gilydd, ac ystyried sut gallwn ni gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gallwn ni sicrhau dyfodol llwyddiannus i'r diwydiant ffermio. Bydd Pafiliwn Llywodraeth Cymru yn y Sioe yn ganolbwynt i'r trafodaethau hyn, a dw i'n edrych ymlaen at glywed barn pobl. > > > Mae cynnyrch o Gymru mewn sefyllfa dda i fod yn un o’r rheini sy’n arwain yn fyd\-eang ar gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Bydd llawer o enghreifftiau o'r bwyd rhagorol rydyn ni’n ei gynhyrchu yma yng Nghymru yn cael eu harddangos yn y Sioe Frenhinol, a dw i am weld y diwydiant hwn yn mynd o nerth i nerth.  > > > Rydyn ni i gyd yn gwybod am y rhybudd tywydd Oren prin ynglŷn â’r tymheredd eithriadol o uchel ar hyn o bryd. Hoffwn i annog pawb sy'n dod i fwynhau'r Sioe i gymryd gofal ychwanegol yn y gwres – yn enwedig pobl hŷn, plant ifanc iawn, a phobl â chyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes. > > > Cofiwch yfed digon o ddŵr a defnyddiwch y gorsafoedd dŵr, gan gynnwys yr un ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru. Treuliwch amser yn y cysgod a diogelwch eich hun rhag yr haul.  > > > Yn fwy na dim, bydd y Sioe yn ddigwyddiad cymdeithasol i lawer o bobl, a gobeithio y bydd pawb yn cael y cyfle i fwynhau'r digwyddiad gorau yn y calendr gwledig. Mae'n bleser gweld y Sioe yn ôl.
Translate the text from English to Welsh.
On 23 January, I made an oral statement in the Senedd, setting out the escalation levels of health boards, NHS trusts, and special health authorities (SHAs). I am now updating Members about the escalation status of Cwm Taf Morgannwg University Health Board. I announced on 13 September 2023 that maternity and neonatal services at the health board would be de\-escalated from targeted intervention to enhanced monitoring, in recognition of the progress made over the previous four\-and\-a\-half years. The health board has continued to deliver improvements across its maternity and neonatal services and has met the agreed de\-escalation criteria.  Site visits involving senior clinical Welsh Government officials have provided assurance about improvements in medical leadership and quality governance. Progress has also been made against the neonatal improvement plan. There are two actions outstanding but these have agreed completion dates. There has been a positive Healthcare Inspectorate Wales (HIW) unannounced inspection of the Tirion Birth Centre, at Royal Glamorgan Hospital.  The final report following an unannounced HIW inspection at Prince Charles Hospital is being published today. It concludes that staff at all levels in the service work hard to provide a good experience and that sufficient arrangements are in place to provide safe and effective care to women and birthing people. The inspection has generated two immediate assurances, but I am confident the health board has responded positively to these and other issues identified within the report. I am also assured the health board has responded in an open and transparent manner in relation to recent incidents. Turning to governance, leadership and culture, trust and confidence, the health board has made significant progress in reforming these functions. The recommendations from HIW and Audit Wales’ joint review of quality and governance arrangements have been implemented and the new operating model fully embedded. There is a clear structure for the development of the organisation’s clinical strategy and work on this is progressing well. The health board strategy, together with the quality and patient safety framework, provides a good foundation to support the delivery of the duties of quality and candour. I would like to thank all the staff across the health board for all their hard work.  I am now in a position to de\-escalate the health board to routine arrangements for maternity and neonatal services, governance, leadership and culture, trust and confidence. However, it remains in targeted intervention for performance and outcomes and enhanced monitoring for finance, strategy and planning. 
Ar 23 Ionawr, fe wnes i ddatganiad llafar yn y Senedd yn nodi lefelau uwchgyfeirio'r byrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG a'r awdurdodau iechyd arbennig. Rwyf nawr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Cyhoeddais ar 13 Medi 2023 y byddai gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y bwrdd iechyd yn cael eu hisgyfeirio o ymyrraeth wedi'i thargedu i fonitro uwch, i gydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud dros y pedair blynedd a hanner blaenorol. Mae'r bwrdd iechyd wedi parhau i sicrhau gwelliannau ar draws ei wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ac mae bodloni'r meini prawf isgyfeirio y cytunwyd arnynt.  Mae ymweliadau safle gan uwch\-swyddogion clinigol Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd ynghylch gwelliannau mewn arweinyddiaeth feddygol a llywodraethu ansawdd. Mae cynnydd wedi'i wneud hefyd yn unol â'r cynllun gwella gwasanaethau newyddenedigol. Mae dau gam gweithredu heb eu cyflawni, ond cytunwyd ar ddyddiadau cwblhau ar gyfer y rhain. Cafwyd archwiliad dirybudd cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) o Ganolfan Geni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.  Mae'r adroddiad terfynol yn dilyn arolygiad dirybudd AGIC yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn cael ei gyhoeddi heddiw. Daw i'r casgliad bod staff ar bob lefel yn y gwasanaeth yn gweithio'n galed i ddarparu profiadau da a bod trefniadau digonol ar waith i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth. Mae'r arolygiad wedi esgor ar ddau fater y mae angen sicrwydd yn eu cylch ar unwaith, ond rwy'n hyderus bod y bwrdd iechyd wedi ymateb yn gadarnhaol i'r rhain ac i faterion eraill a nodwyd yn yr adroddiad. Rwy’n sicr hefyd bod y bwrdd iechyd wedi ymateb mewn modd agored a thryloyw mewn perthynas â digwyddiadau diweddar. Gan droi at lywodraethiant, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder, mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran diwygio'r swyddogaethau hyn. Mae argymhellion adolygiad ar y cyd gan AGIC ac Archwilio Cymru o drefniadau ansawdd a llywodraethiant wedi'u rhoi ar waith ac mae'r model gweithredu newydd wedi ymwreiddio'n llawn. Mae strwythur clir ar gyfer datblygu strategaeth glinigol y sefydliad ac mae gwaith ar hyn yn mynd rhagddo'n dda. Mae strategaeth y bwrdd iechyd, ynghyd â'r fframwaith ansawdd a diogelwch cleifion yn darparu sylfaen dda i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd.  Hoffwn ddiolch i holl staff y bwrdd iechyd am eu gwaith caled.  Rwyf bellach mewn sefyllfa i isgyfeirio'r bwrdd iechyd i drefniadau arferol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, llywodraethiant, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder.  Fodd bynnag, mae’n dal mewn ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau ac mewn monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio. 
Translate the text from Welsh to English.
Mae Bil Teithio Llesol (Cymru) wedi’i osod heddiw. Mae’r Bil Teithio Llesol yn gam gweithredu allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu ac mae wedi’i gynnwys yn Rhaglen Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Diben y Bil yw ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wella cyfleusterau a llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn gyson, a pharatoi mapiau sy’n nodi’r llwybrau sydd ar gael a darpar lwybrau y gallent eu defnyddio yn y dyfodol. Bydd y Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod cynlluniau ffyrdd newydd (gan gynnwys cynlluniau gwella ffyrdd) yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr yn ystod y cyfnod dylunio.   Yn benodol, mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol: * mapiau cymeradwy o lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig * mapiau rhwydwaith integredig cymeradwy o’r llwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig newydd a gwell sydd eu hangen er mwyn creu rhwydwaith integredig o lwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig * ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried y mapiau rhwydwaith integredig wrth baratoi polisïau trafnidiaeth, a gwella amrywiaeth ac ansawdd y llwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau cysylltiedig yn barhaus * ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol ystyried pa mor ddymunol fyddai gwella’r ddarpariaeth ar gyfer cerdded a beicio, wrth adeiladu ac wrth wella priffyrdd. Bwriad y Bil yw ei gwneud hi’n bosibl i ragor o bobl gerdded a beicio, a’u galluogi’n gyffredinol i deithio drwy ddefnyddio dulliau heblaw moduron. Rydym am weld cerdded a beicio'n dod y ffordd fwyaf naturiol ac arferol o fynd o gwmpas. Rydym eisiau gwneud hyn fel y gall rhagor o bobl brofi'r manteision i'w hiechyd, fel y gallwn ostwng ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr, ac fel y gallwn helpu i fynd i'r afael â thlodi ac anfantais. Ar yr un pryd, rydym eisiau helpu i ddatblygu ein heconomi, a chreu cyfleoedd i'r economi dyfu mewn modd cynaliadwy.  Rydym yn ceisio defnyddio deddfwriaeth i atgyfnerthu'r syniad fod teithio llesol yn ddull ymarferol o deithio, ac yn ddewis amgen i drafnidiaeth fodurol ar gyfer teithiau byr. Rydym am weld gwell gwybodaeth yn cael ei darparu, a gwell prosesau ar gyfer cynllunio ymlaen llaw, er mwyn gallu defnyddio cyllid mewn ffordd fwy strategol ac ysgogi gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar hybu teithio llesol. Nod y ddeddfwriaeth yn y pen draw yw creu amgylchedd mwy diogel ac ymarferol na’r hyn sydd ar gael yn awr ar gyfer cerdded a beicio.
The Active Travel (Wales) Bill has been laid today. The Active Travel Bill is a key action in the Programme for Government and is included in the Welsh Government’s Legislative Programme. The purpose of the Bill is to require local authorities to continuously improve facilities and routes for pedestrians and cyclists and to prepare maps identifying current and potential future routes for their use. The Bill will also require new road schemes (including road improvement schemes) to consider the needs of pedestrians and cyclists at the design stage.  Specifically, the Bill makes provision: * for approved maps of existing active travel routes and related facilities * for approved integrated network maps of the new and improved active travel, routes and related facilities needed to create an integrated network of active travel routes and related facilities, * requiring local authorities to have regard to integrated network maps in preparing transport policies and to make continuous improvement in the range and quality of active travel routes and related facilities, and * requiring the Welsh Ministers and local authorities, in constructing and improving highways, to have regard to the desirability of enhancing the provision made for walking and cycling. The Bill is intended to enable more people to walk and cycle and generally travel by non\-motorised transport.  We want to make walking and cycling the most natural and normal way of getting about.  We want to do this so that more people can experience the health benefits, we can reduce our greenhouse gas emissions, and we can help address poverty and disadvantage.  At the same time, we want to help our economy to grow, and we want to take steps that will unlock sustainable economic growth. We are seeking to use legislation to reinforce the idea of active travel as a viable mode of transport and a suitable alternative to motorised transport for shorter journeys.  We want to have better information provision, and better forward planning processes, which allow a more strategic use of funding and drives activity so that it is focused on promoting active travel.  The ultimate aim of the legislation is to create an environment where it is safer and more practical to walk and cycle than it is at present. 
Translate the text from English to Welsh.
The fund will be delivered jointly by Welsh Government, the Arts Council of Wales and local authorities. The Cultural Recovery Fund, launched last summer, provided £63\.3 million in 2020 to 2021 to support theatres, music venues, heritage sites, events, museums, libraries, galleries, independent cinemas and freelancers. It was made up of three main elements, the Arts Council for Wales administered funding of more than £18 million to support 170 organisations, supporting national and local theatres and art galleries. More than 1,000 jobs have been supported. The Freelancers Fund was the first of its kind in the UK and has provided a total of £18 million of grant support to 3,500 freelancers who have been unable to work during the pandemic and will be vital to the Wales’ cultural recovery. Welsh Government\-administered element of the fund provided £27 million to support the culture, creative, events and heritage sectors. More than 500 organisations received funding. Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism, Lord Dafydd Elis\-Thomas said: > “We recognise the unprecedented challenges the pandemic is having on the cultural fabric of Welsh life and we applaud the resilience and creativity on show. > > >  “We all want to be back in theatres, cinemas and our local gig venues and galleries as soon as possible, but we must stay patient. We have been honest and realistic with people in Wales from the outset, rather than painting the most optimistic picture we can. > > > “With that in mind we have listened and worked with the cultural and creative sectors to put this additional package of support in place and I’m certain it will provide welcome relief, as well as building blocks for the future. The new funds will open for applications from 6 April and be delivered jointly by Welsh Government, Arts Council of Wales and local authorities.
Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol. Darparodd y Gronfa Adferiad Diwylliannol, a lansiwyd yr haf diwethaf, £63\.3 miliwn yn 2020 i 2021 i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a gweithwyr llawrydd. Roedd yn cynnwys tair prif elfen, gweinyddodd Cyngor Celfyddydau Cymru gyllid o fwy na £18 miliwn i gefnogi 170 o sefydliadau, gan gefnogi theatrau ac orielau celf cenedlaethol a lleol. Mae dros 1,000 o swyddi wedi'u cefnogi. Y Gronfa Gweithwyr Llawrydd oedd y cyntaf o'i bath yn y DU ac mae wedi darparu cyfanswm o £18 miliwn o gymorth grant i 3,500 o weithwyr llawrydd nad ydynt wedi gallu gweithio yn ystod y pandemig ac a fydd yn hanfodol i adferiad diwylliannol Cymru. Darparodd yr elfen o'r gronfa a weinyddir gan Lywodraeth Cymru £27 miliwn i gefnogi'r sectorau diwylliant, creadigol, digwyddiadau a threftadaeth. Derbyniodd dros 500 o sefydliadau gyllid. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis\-Thomas: > "Rydym yn cydnabod yr heriau digynsail y mae'r pandemig yn eu cael ar wead diwylliannol bywyd Cymru ac rydym yn cymeradwyo'r gwydnwch a'r creadigrwydd a ddangosir. > > > "Rydyn ni i gyd eisiau bod yn ôl mewn theatrau, sinemâu ac orielau lleol cyn gynted â phosib, ond mae'n rhaid i ni aros yn amyneddgar. Yr ydym wedi bod yn onest ac yn realistig gyda phobl yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf, yn hytrach na pheintio'r darlun mwyaf optimistaidd a allwn. > > > "Gyda hynny mewn golwg rydym wedi gwrando a gweithio gyda'r sectorau i roi'r pecyn cymorth ychwanegol hwn ar waith ac rwy'n sicr y bydd yn darparu rhyddhad i'w groesawu, yn ogystal â blociau adeiladu ar gyfer y dyfodol. Bydd yr arian newydd yn agor ar gyfer ceisiadau o 6 Ebrill ac yn cael ei ddarparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 10 Ionawr 2012 gwnaeth y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Gofal gydag Urddas Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon http://www.assemblywales.org/bus\-home/bus\-chamber\-fourth\-assembly\-rop.htm?act\=dis\&id\=229309\&ds\=1/2012\#dat2 Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol:  www.cynulliadcymru.org/ Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys. 
On 10 January 2012 the Minister for Health and Social Services made an oral Statement in the Siambr on: Dignity Care Progress The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink http://www.assemblywales.org/bus\-home/bus\-chamber\-fourth\-assembly\-rop.htm?act\=dis\&id\=229309\&ds\=1/2012\#dat2 If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following: www.assemblywales.org/ Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page. 
Translate the text from English to Welsh.
Autolink opens at the Cardiff City Stadium on the 18th October and provides an opportunity for Wales based organisations to showcase their products, technologies and services to selected Vehicle Manufacturers and Tier 1 companies based inside and outside of Wales. The event, organised by the Welsh Automotive Forum brings cross\-sector manufacturing companies into contact with suppliers at an engineering and purchasing level. TVR, which is to produce the latest model of its iconic brand of high performance cars in Wales, will also be present together with Hugo Spowers, founder and CEO of Riversimple Movement, which has developed a sleek, affordable 2 seater hydrogen fuel cell car in Wales. Economy Secretary Ken Skates, who will address the event, said:  > “Autolink is funded by the Welsh Government with the aim of enabling companies working across a range of sectors to get a better understanding of the requirements of these manufacturers and their Tier 1 suppliers. > > “We have a great line\-up of car manufacturers at Autolink and I am delighted high profile companies like Aston Martin and TVR that are investing in Wales, are also supporting the event. It opens up a raft of opportunities for our supply chain companies while also presenting a chance to meet the buyers and network.” He added that Wales has a strong cluster of around 150 companies \- including international component manufacturers \- involved in the automotive supply chain, employing around 18,000 people and generating over £3billion to the Welsh economy. Autolink provides Wales based companies with the chance to exhibit their products and services at the event \- areas of interest include: * Vehicle components:  Metal pressings, Castings, Forgings, Mouldings, Wiring Harnesses, Sensors, HVAC, Brake Systems, Powertrain, Interior Trim. * Materials:  Graphene, Powder Technologies and Additive Layering, Carbon Fibre, Innovative Lightweight Materials, Decorative Trim and Coating Technologies. * Connected Car:  Laser, Radar, Camera and Sensor specialists with associated technologies for integration. * Software:  Cyber Security, User Experience, Analytics, Data, Industry 4\.0, Internet of Things and Artificial Intelligence. * Other Services:  Special purpose machines, Tooling, Control Systems and Automation, Warehousing, Logistics, Measurement and Test. This year the exhibition will feature a 'Technology Corner' where innovative products and services from industry and academia will foster collaborative discussion with their representatives. Companies wishing to attend need to register at https://wales.business\-events.org.uk/en/bookbasket/32327/
Bydd Autolink yn agor yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 18 Hydref a bydd yn gyfle i gwmnïau o Gymru arddangos eu cynnyrch, eu technolegau a’u gwasanaethau i Weithgynhyrchwyr Cerbydau a chwmnïau Haen 1 o Gymru a thu hwnt. Trefnir y ffair gan Fforwm Moduro Cymru a daw â chwmnïau gweithgynhyrchu o sawl sector ynghyd i drafod â chyflenwyr ar lefel peiriannu a phrynu. Bydd TVR, sydd ar fin cynhyrchu yng Nghymru y model diweddaraf o’i frand eiconig o geir uchel eu perfformiad, yn bresennol ynghyd â Hugo Spowers, sylfaenydd a phennaeth Riversimple Movement sydd wedi datblygu car hydrogen 2 sedd deniadol yng Nghymru. Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a fydd yn annerch y digwyddiad:  > “Mae Autolink yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i nod yw helpu cwmnïau sy’n gweithio ar draws nifer o sectorau i ddeall gofynion gweithgynhyrchwyr a’u cyflenwyr Haen 1 yn well. > > “Bydd rhestr glodwiw o gynhyrchwyr ceir yn ymuno â ni yn Autolink ac rwy’n falch iawn bod cwmnïau enwog fel Aston Martin a TVR sy’n buddsoddi yng Nghymru, hefyd yn cefnogi’r digwyddiad.  Bydd yn creu cyfleoedd rhif y gwlith i’r cwmnïau sy’n rhan o’n cadwyn gyflenwi ac yn gyfle heb ei ail i gwrdd â phrynwyr ac i rwydweithio.” Dywedodd hefyd fod gan Gymru glwstwr cryf o ryw 150 o gwmnïau – gan gynnwys gweithgynhyrchwyr cydrannau rhyngwladol – sy’n rhan o gadwyn gyflenwi’r diwydiant moduron – gan gyflogi rhyw 18,000 o bobl ac yn cyfrannu dros £3 biliwn i economi Cymru.  Mae Autolink yn rhoi cyfle i gwmnïau o Gymru ddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau.  Ymhlith y meysydd fydd o ddiddordeb y mae:   Cydrannau Cerbydau:  presiadau metel, castinau, gwaith gofannu, mowldinau, harneisiau cebl, synwyryddion, HVAC, systemau brecio, cydrannau pweru, addurnwaith mewnol. * Deunyddiau:  graffîn, technolegau powdr a haenau ychwanegion, ffibr carbon, deunydd ysgafn arloesol, trim addurnol, technolegau haenu. * Ceir Clyfar:  Arbenigwyr mewn laser, radar, camerâu a synwyryddion, a thechnolegau integreiddio cysylltiedig. * Meddalwedd:  Diogelwch seiber, profiadau defnyddwyr, dadansoddeg, data, y 4ydd chwyldro diwydiannol, Rhyngrwyd Pethau a Deallusrwydd Artiffisial. * Gwasanaethau Eraill:  peiriannau ag iddynt bwrpas arbennig, offeru, systemau rheoli a rheolaeth awtomatig, storio, logisteg, mesur a phrofion. Yn rhan o’r arddangosfa eleni fydd y ‘Gornel Dechnoleg’ lle bydd cynnyrch a gwasanaethau arloesol o ddiwydiant ac academia yn sbarduno trafodaeth â chynrychiolwyr. Dylai cwmnïau sydd am fod yn bresennol gofrestru ar https://wales.business\-events.org.uk/cy/bookbasket/32327/
Translate the text from Welsh to English.
Yn sgil cael swm o £300,000 fel Benthyciad Canol Trefi llwyddwyd i drosi hen adeilad Gradd II Gwesty Pembroke House – a gafodd ei gau yn 2010 \- yn 21 o fflatiau yng nghanol y dref. Mae Cronfa Benthyciad Canol Trefi Llywodraeth Cymru sydd werth £31 miliwn yn helpu i roi bywyd newydd i safleoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach yng nghanol trefi. Unwaith y bydd y benthyciadau’n cael eu had\-dalu bydd yr arian yn cael ei ailgylchu i ariannu benthyciadau newydd. O ganlyniad i ailgynllunio 29 Y Stryd Fawr, mae tair uned breswyl wedi’u creu ar y lloriau uchaf a safle manwerthu ar y llawr gwaelod, diolch i £71,000 o arian drwy Dargedu Buddsoddiad mewn Adfywio a £180,000 o arian drwy Fenthyciadau Canol Trefi. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn: > Mae’n dda gen i weld sut mae ein cyllid drwy’r rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio a’r cynllun Benthyciadau Canol Trefi yn rhoi bywyd newydd i hen adeiladau. > > > Ein nod yw cefnogi canol ein trefi er mwyn sicrhau eu bod yn llefydd atyniadol, ffyniannus i bobl fyw a gweithio ynddynt ac ymweld â hwy. > > > Bydd creu mwy o safleoedd masnachol a manwerthu safonol yn helpu yn hyn o beth, fel yn wir y bydd creu tai fforddiadwy yng nghanol ein trefi, fel y gall pobl fyw a gweithio’n ganolog a chyfrannu i’r economi leol. > > > Bydd y buddsoddiad hwn yn yr eiddo gwag yn helpu i greu cyfleoedd newydd a denu mwy o bobl i ganol ein trefi. Edrychaf ymlaen at weld y datblygiad hwn yn dod yn fyw unwaith gyda phreswylwyr a busnesau. Dywedodd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: > Rwy’n falch iawn bod y Dirprwy Weinidog wedi gwneud ei ffordd i Sir Benfro i weld peth o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud fel rhan o’n rhaglen adfywio. > > > Rwy’n wirioneddol falch o’r ffordd y mae ein Gweinyddiaeth wedi ymrwymo ei hun i raglen o welliannau ledled y sir ac rwyf i a’m Cabinet yn llawn cyffro am yr hyn a ddaw yn sgil hyn i’r rhanbarth. > > > Rydym yn edrych ymlaen at weld y cynlluniau hyn yn cael eu gwireddu yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.
£300,000 of Town Centre Loan funding enabled the conversion of the Grade II former Pembroke House Hotel – which closed in 2010 – to create 21 town centre apartments. The Welsh Government’s £31 million Town Centre Loans Fund is helping to bring underused sites in town centres back to life. Once loans are repaid, the money is recycled to fund new loans.  The redesign of 29 High Street provides three residential units on the upper floors and retail space on the ground floor, thanks to £71,000 of Targeted Regeneration Investment funding and £180,000 of Town Centre Loans funding. Deputy Minister for Housing and Local Government Hannah Blythyn said: > I’m pleased to see how our funding through the Targeted Regeneration Investment programme and the Town Centre Loans scheme is breathing new life into old buildings. > > > We want to support our town centres to ensure they are attractive, vibrant places for people to live, work and visit. > > > Creating more good quality commercial and retail space will help with this, as will creating affordable homes in the centre of our towns, so people can live and work centrally and contribute to the local economy. > > > This investment will help to create opportunities out of empty properties and attract more people to our town centres. I look forward to seeing this development come to life with residents and businesses. Pembrokeshire County Council Leader, David Simpson, said: > I’m delighted that the Deputy Minister has made her way to Pembrokeshire to see some of the work we are doing as part of our regeneration programme. > > > I’m really proud of the way in which our administration has committed itself to a programme of county\-wide improvements and I and my Cabinet are excited about what this will bring to the region. > > > We look forward to seeing these plans becoming a reality in the coming months and years.
Translate the text from English to Welsh.
On 15 July 2020 the First Minister announced the Welsh Government’s plans to strengthen social partnership arrangements in Wales by publishing draft social partnership legislation in this Senedd term. Today I am publishing the draft Social Partnership and Public Procurement (Wales) Bill for consultation. The draft Bill seeks to strengthen and formalise social partnership arrangements in Wales through creating a Social Partnership Council with national cross\-sector leadership and trade union representation chaired by the First Minister and by establishing a social partnership duty on our public bodies. The draft Bill will place a duty on Welsh Ministers to set fair work objectives, with the aim of improving transparency and consistency in our approach to delivering good and safe employment. The draft Bill also contains provisions to establish duties on public bodies to ensure that public procurement is undertaken in a socially responsible manner, using the power of the public purse to the broad benefit of people and communities in Wales. Our overarching goal through these measures is to enhance the well\-being, lives and livelihoods of the people of Wales and to improve public services. This draft Bill is an integral part of our broader aim to reduce inequality and to create a fairer and more inclusive Wales with a vibrant economy that values and safeguards our workforce. The proposals form a key component of our response to the findings of the Fair Work Commission, which made a series of recommendations in March about how the Welsh Government should encourage fair work practices across Wales. Strengthening social partnership arrangements in Wales is in line with key recommendations from the Fair Work Commission. The deadline for responses is 23 April 2021\.
Ar 15 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru gynlluniau Llywodraeth Cymru i atgyfnerthu trefniadau partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru drwy gyhoeddi deddfwriaeth ddrafft ar bartneriaeth gymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon. Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) drafft at ddibenion ymgynghori. Mae'r Bil drafft yn ceisio atgyfnerthu a ffurfioli trefniadau partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru drwy greu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, gyda’r aelodau’n cynnwys arweinwyr cenedlaethol ar draws sectorau a chynrychiolwyr o’r undebau llafur, a thrwy osod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar ein cyrff cyhoeddus.  Bydd y Bil drafft yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion gwaith teg er mwyn sicrhau bod y ffordd yr ydym yn darparu cyflogaeth dda a diogel yn fwy tryloyw a chyson. Mae’r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i osod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus i sicrhau eu bod yn gyfrifol yn gymdeithasol wrth ymgymryd â chaffael cyhoeddus, gan ddefnyddio pŵer y pwrs cyhoeddus er budd cyffredinol pobl a chymunedau Cymru. Nod cyffredinol y mesurau hyn yw gwella llesiant, bywydau a bywoliaeth pobl Cymru a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Bil drafft yn rhan annatod o’n nod ehangach i leihau anghydraddoldeb a chreu Cymru decach a mwy cynhwysol gydag economi fywiog sy’n gwerthfawrogi a diogelu ein gweithlu. Mae'r cynigion yn elfen allweddol o'n hymateb i ganfyddiadau'r Comisiwn Gwaith Teg, a wnaeth gyfres o argymhellion ym mis Mawrth ynghylch sut y dylai Llywodraeth Cymru annog arferion gwaith teg ledled Cymru. Mae cryfhau trefniadau partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru yn cyd\-fynd ag argymhellion allweddol y Comisiwn. Gellir gweld yr ymgynghoriad yn: https://llyw.cymru/bil\-drafft\-partneriaeth\-gymdeithasol\-chaffael\-cyhoeddus\-cymru. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymateb yw 23 Ebrill 2021\.
Translate the text from English to Welsh.
Finance Secretary, Mark Drakeford today urged people across Wales to check whether they were aware of the discounts and reductions they could be entitled to. You may be entitled to pay less council tax if: * you believe you live on a low\-income * you live alone, or with people / children who do not pay council tax * you are a student * you are disabled * you are mentally impaired * your property is empty. The Welsh Government is working with local authorities and third sector organisations including Citizens Advice and Age Cymru, to make people more aware of the range of support available to help them pay their Council Tax bills. A new awareness raising campaign will be launched and a simple eligibility checker is available online. Reminders about the support available will also be sent to householders. Professor Drakeford said, > “We know that thousands of households across Wales are not receiving the support they could be entitled to with their Council Tax. There are many discounts, reductions and exemptions available and these are all listed on our new website. A few minutes of your time, could mean significant savings to your outgoings.” Cabinet Secretary for Local Government and Public Services, Alun Davies, said, > “Making Council Tax fairer is an essential part of our plans to reform local government in Wales. > > > “We’ve worked hard to ensure vulnerable households in Wales continue to receive Council Tax support as part of our national Council Tax Reduction Scheme. However, many households aren’t aware they could be eligible for the scheme or entitled to other discounts or exemptions. I would encourage everyone to check the website to see whether they could be paying less council tax.” A full list of eligibility criteria is available on the Welsh Government website at gov.wales/counciltaxhelp
Heddiw, roedd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn annog pobl i gadarnhau eu bod yn ymwybodol o'r holl ddisgowntiau a gostyngiadau y gallent fod yn gymwys i'w cael. Efallai eich bod yn gymwys i dalu llai o dreth gyngor: * Os ydych yn credu eich bod yn byw ar incwm isel. * Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, neu gyda phobl neu plant nad ydynt yn talu treth cyngor * os ydych chi'n fyfyriwr * os ydych yn anabl * os oes gennych nam meddyliol * os yw eich eiddo yn wag. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth ac Age Cymru, i sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o’r holl gymorth sydd ar gael i’w helpu i dalu’r dreth gyngor. Bydd ymgyrch codi ymwybyddiaeth newydd yn cael ei lansio, ac mae modd i chi ganfod a ydych chi’n gymwys i gael disgownt yn rhwydd drwy holiadur gwirio ar\-lein. Bydd nodiadau sy’n atgoffa am y cymorth sydd ar gael hefyd yn cael eu hanfon i aelwydydd. Dywedodd yr Athro Drakeford, > "Rydyn ni'n gwybod bod miloedd o aelwydydd yng Nghymru yn colli cyfleoedd i fanteisio ar gefnogaeth y gallan nhw fod yn gymwys i'w gael o ran eu treth gyngor. Mae llawer o ddisgowntiau, gostyngiadau ac esemptiadau ar gael ac mae rhestr o'r rhain i gyd ar gael ar ein gwefan newydd. Gallai rhoi ychydig funudau o'ch amser arwain at arbedion sylweddol i'ch taliadau." Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies,  > "Mae sicrhau bod y dreth gyngor yn decach yn rhan hanfodol o'n cynlluniau i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru. > > Rydyn ni wedi gweithio'n galed i sicrhau bod aelwydydd agored i niwed yng Nghymru yn parhau i gael cymorth gyda’r dreth gyngor fel rhan o’n Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor cenedlaethol. Er hyn, nid yw llawer o aelwydydd yn ymwybodol y gallan nhw fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, neu'n gymwys i gael disgowntiau neu esemptiadau eraill. Byddwn yn annog pawb i edrych ar y wefan i weld a allan nhw fod yn talu llai o dreth gyngor." Mae rhestr lawn o'r meini prawf cymhwysedd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: llyw.cymru/cymorthtrethgyngor
Translate the text from Welsh to English.
Mae pob un ohonom yn dibynnu ar fedru cael gafael ar arian a chredyd fforddiadwy, boed yn deulu y mae angen morgais arno i brynu ei gartref cyntaf, yn fusnes bach y mae arno angen cyllid yn yr hirdymor i dyfu ac ehangu, neu'n unigolyn y mae arno angen cymorth ar adegau anodd. Fodd bynnag, y realiti yn aml yw mai pobl sydd yn yr angen mwyaf am gredyd fforddiadwy sy'n cael y trafferth mwyaf i gael gafael arno. Y teulu sy'n byw mewn tlodi; yr unigolyn heb fawr ddim cynilion, os o gwbl; y rheini sydd â statws credyd gwael – y bobl hyn, yn aml, sy’n cael yr anawsterau mwyaf wrth geisio dod o hyd i gredyd ac arian ac yna cael credyd ac arian ar delerau teg. Maent yn talu premiwm am eu bod yn dlawd. Rydym ni, Llywodraeth Cymru, wedi bod yn falch dros y blynyddoedd diwethaf hyn o fedru camu i’r adwy a helpu llawer o'r unigolion hyn. Drwy Fanc Datblygu Cymru, rydym wedi cefnogi perchenogion busnesau bach y mae arnynt angen cyfalaf tymor estynedig nad yw ar gael iddynt ar delerau fforddiadwy ar y stryd fawr, a thrwy’n rhwydwaith Undebau Credyd, rydym wedi rhoi help llaw i unigolion sydd, yn aml, yn cael eu gwrthod gan fanciau traddodiadol. Ond mae un darn o'r jig\-so wedi bod, ac yn dal i fod, ar goll. Mae angen rhywbeth arnom a all helpu i fynd i'r afael â'r ffaith brawychus bod banciau traddodiadol wedi bod yn gadael ein Prif Strydoedd, a rhywbeth hefyd i helpu’r unigolion hynny y mae angen cymorth a gwasanaethau ariannol arnynt yn y gymuned. Dyna pam rwy'n falch iawn heddiw o fedru rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sylweddol iawn rydym wedi'i wneud wrth ddatblygu a lansio Banc Cymunedol newydd i Gymru. Mae'r pandemig yn parhau i gael effaith aruthrol ar ein cymunedau. Mewn sawl achos, mae wedi arwain at sefyllfa lle mae’r craciau yn system ariannol y DU wedi ymledu, ac mae hefyd wedi cynyddu'r pryderon difrifol sydd gan lawer ynghylch a yw sector bancio manwerthu'r DU yn addas at ddibenion cymdeithasol. Roedd y gwaith i ddatblygu Banc Cymunedol Cymru wedi dechrau ymhell cyn i Covid daro gyntaf, ond yr unig beth y mae’r deuddeg mis diwethaf wedi’i wneud yw creu mwy o angen a mwy o frys am gyfleuster o'r fath. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod hynny hefyd. Yn ei Chyllideb ym mis Mawrth 2020, nododd ei bwriad i gyflwyno deddfwriaeth newydd i ddiogelu mynediad at arian parod er mwyn sicrhau bod seilwaith arian parod y DU yn gynaliadwy yn y tymor hir. Fodd bynnag − nid yw wedi mynd ati’n ddigon cyflym i wireddu’i fwriad − flwyddyn yn ddiweddarach ac nid oes amserlen glir eto ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth honno. Ni all, ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn aros am ateb. Er ei bod yn amlwg bod arferion bancio defnyddwyr yn newid wrth i lai o gwsmeriaid ddefnyddio canghennau mewn cymunedau, mae'r gostyngiad parhaus yn nifer y canghennau banc a'r peiriannau ATM ledled Cymru yn rhoi llawer llai o ddewis i ddefnyddwyr ac yn golygu bod yn rhaid iddynt dreulio mwy o amser yn teithio i'w cangen agosaf.  Mae Arolwg Bywydau Ariannol 2020, a gyhoeddwyd fis diwethaf gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), yn rhoi cipolwg inni ar yr effeithiau sylfaenol ac ychwanegol y mae Covid\-19 wedi’u cael o ran yr heriau y mae pobl ledled Cymru yn eu hwynebu yn eu bywydau ariannol. Mae’r hyn a ddaeth i’r amlwg yn destun cryn ofid. Mae'r tueddiadau at fancio ar\-lein ac at fancio’n ddigidol, a’r symudiadau at gymdeithas nad yw’n defnyddio arian parod, wedi cyflymu yn sgil Covid\-19, yn enwedig gan fod defnyddwyr yn cael eu cyfeirio at ddulliau talu heblaw arian parod a dulliau talu digyffwrdd. Mae’r terfyn ar gyfer taliadau digyffwrdd wedi cynyddu o £30 i £45, a bellach i £100 ar gyfer pob trafodyn, a hynny mewn llai na blwyddyn. Nid yw bod mewn sefyllfa fregus yn ariannol yn rhywbeth cyffredinol; mae’r bobl sy'n llai abl neu'n llai parod i fabwysiadu dulliau ar\-lein a dulliau digidol, a'r rheini sy'n ddibynnol ar arian parod, yn dibynnu ar fedru mynd i ganghennau banciau yn lleol. Gan fod y newidiadau hyn yn digwydd yn gynt, mae rhai grwpiau'n cael eu hallgáu fwyfwy yn ddigidol ac yn ariannol; sefyllfa sy'n debygol o fod yn arbennig o ddifrifol mewn ardaloedd gwledig lle mae’r gallu i fanteisio ar wasanaethau bancio yn wasanaeth cymunedol hanfodol, ond yn wasanaeth sy’n cynyddol brin. Un pryder penodol ddaeth i’r amlwg yn Arolwg yr FCA yw pa mor anodd yw hi, ym mhedair gwlad y DU, i bobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor fynd i fanc, cymdeithas adeiladu neu gangen undeb credyd. Mae'r canlyniadau ar eu gwaethaf yng Nghymru.   Roedd arolwg yr FCA yn adeiladu ar dystiolaeth sylweddol, ddiamheuol a chynyddol, gan gynnwys tystiolaeth o adroddiad pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd yn 2019, 'Mynediad at Fancio', a ddaeth i'r casgliad bod system bancio manwerthu'r DU yn golygu, yn gyffredinol, nad oes digon o wasanaethau bancio, na digon o gyngor a chymorth ariannol priodol, ar gael i lawer o bobl. Mae diffyg mynediad o'r fath yn peryglu gallu llawer o unigolion a chymunedau, a llawer o fusnesau sy’n rhan o’r economi sylfaenol, i fod yn gydnerth, yn enwedig ar drothwy’r adferiad ar ôl y pandemig. Mae cymwyseddau deddfwriaethol a rheoleiddiol yn faterion a gadwyd yn ôl, ac ychydig iawn o allu sydd gennym i ymyrryd drwy weithio gyda’r prif fanciau sydd â chyfranddalwyr masnachol. Er hynny, rydym wedi gweithio’n greadigol ac wedi ymchwilio i sefydlu Banc Cymunedol i Gymru, a fydd â'i bencadlys yng Nghymru, ac a fydd yn seiliedig ar y model a'r egwyddorion cydfuddiannol sydd wedi ymwreiddio mor ddwfn yn ein cymunedau ledled Cymru. Yn fanc a fydd yn eiddo i'w aelodau, a fydd yn ystyried anghenion cymunedau lleol, yn atal cyfalaf rhag cael ei golli, yn parhau i gynnig mynediad wyneb yn wyneb at fancio, ac a fydd yn cael yrru gan anghenion cwsmeriaid, yn hytrach na chan yr angen i wneud yr elw mwyaf posibl – credwn y gall, ac y bydd Banc o'r fath yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymunedau ym mhob cwr o Gymru. Mae Cymru yn arwain y ffordd ond rydym hefyd wedi dysgu oddi wrth ymdrechion annibynnol eraill sy’n cael eu datblygu i sefydlu Banciau Cymunedol Rhanbarthol mewn rhannau eraill o'r DU. Mae nifer bach o’r banciau hynny’n cael eu cefnogi'n ymarferol bellach drwy'r Gymdeithas Banciau Cynilo Cymunedol (CSBA). Dros y deunaw mis diwethaf, rydym wedi bod yn helpu Cambria Cydfuddiannol Limited (CCL) gyda’r gwaith cychwynnol y mae’n ei wneud i ddatblygu’i gynnig Bancio Cymunedol, 'Banc Cambria', sy’n seiliedig ar fodel 'banc mewn blwch' y CSBA. Yn eiddo i'w aelodau, ei nod yw gwella mynediad i wasanaethau bancio bob dydd i bawb yng Nghymru, beth bynnag eu hincwm neu faint bynnag o gyfoeth sydd ganddynt. Roedd gwaith cychwynnol CCL yn cyd\-fynd â’r casgliadau yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, sef: er bod y sail resymegol dros fanciau cymunedol yn un sy’n argyhoeddi, fod sawl her yr oedd angen eu goresgyn, gan gynnwys costau a’r risg sy’n gysylltiedig â buddsoddi. Yr argymhelliad oedd y dylid, wrth fynd ati i ddatblygu banc cymunedol, ystyried yr effaith ar y sector undebau credyd. Mae hynny wedi bod o gymorth wrth inni ystyried y cynnig i sefydlu banc. Mae CCL wedi bod yn greadigol ac wedi addasu’i strategaeth er mwyn sefydlu perthynas gyda sefydliad ariannol sy'n bodoli eisoes. Y cydweithio hwnnw sydd wedi’n galluogi i wneud cynnydd yn gynt wrth inni fynd ati i greu cyfleuster bancio newydd yng Nghymru. Mae cefnogaeth sefydliad sy'n bodoli eisoes yn rhoi hygrededd a sylwedd i'r cynnig, ac mae hefyd yn ychwanegu profiad a chymhwysedd sydd wedi’i drwyddedu’n briodol a all fod yn fodd i gyflymu'r broses o sefydlu Banc Cambria. Yn ogystal, wrth i CCL gydweithio ag ecosystem ariannol Cymru, mae wedi gweithio'n agos gydag un o undebau credyd Cymru, Undeb Credyd Cambrian, i ystyried sut y gellir datblygu cyfleoedd i ffurfio partneriaethau er mwyn rhoi cymorth ymarferol i fwy o unigolion sydd wedi'u hallgáu'n ariannol, ac osgoi dyblygu. Mae'n bleser cael cyhoeddi bod cynnig i fuddsoddi’n fasnachol er mwyn sefydlu a chyflwyno Banc Cambria wedi cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru, Partneriaeth Pensiynau Cymru ac Awdurdodau Rheoleiddio'r DU. Mae'r cynnig yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru a'n cynghorwyr allanol annibynnol wrthi’n cynnal prosesau diwydrwydd dyladwy trwyadl. Ar ôl i’r broses diwydrwydd dyladwy ddod i ben, ac os bydd hynny’n briodol, mae’n bwysig bod y Llywodraeth a buddsoddwyr posibl eraill yn symud ymlaen fel un, yn amodol ar brosesau gwneud penderfyniadau a chymeradwyaethau rheoleiddiol pob un o’r partïon. Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r tîm yn CCL a phartneriaid ehangach, oll yn cydnabod bod tystiolaeth am yr angen i fynd ati ar unwaith i fynd i'r afael â methiant y farchnad i gynnig gwasanaethau bancio amlsianel, dwyieithog a hanfodol sy’n cael eu darparu’n lleol ledled Cymru. Mae hwn yn gynnydd eithriadol, yn enwedig o ystyried y cyd\-destun a’r cyfyngiadau sydd eu hangen oherwydd pandemig y coronafeirws. Rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i sefydlu Banc Cymunedol Cymru yn ystod 2021\. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth maes o law.
Each one of us relies on access to affordable money and credit. Whether it’s the family needing access to a mortgage to buy their first home; the small business needing long\-term finance to grow and expand, or the individual needing help through the tough moments. However, the reality is that it’s often those in the greatest need of affordable credit that have the most trouble in accessing it. The family living in poverty; the individual with little or no savings; those with poor credit ratings – it’s these people who often have the most difficulties finding, and then securing, credit and money on fair terms. They pay a poverty premium. As a Welsh Government we’ve been proud, over these last few years, to step in and to support many of these individuals. Through the Development Bank of Wales we’ve been able to support the small business owner in need of patient capital they can’t get on the high street at affordable terms and we’ve supported individuals often turned away from traditional banks through our Credit Union network. But there has always been a piece missing from the jigsaw. We’ve always been in need of something that can help tackle the alarming withdrawal of traditional banks from our High Streets and help support those individuals needing community based financial help and services. That’s why today I am delighted to update Members on the very significant progress we’ve made to develop and to launch a new Community Bank of Wales. The pandemic continues to have a devastating impact on our communities. In many cases it has exacerbated the fault lines already present within the UK financial system and has only heightened the serious concerns many had over whether the UK’s retail banking sector is fit for social purpose. The work to develop a Community Bank of Wales had begun long before Covid first hit, but the last twelve months have only increased the need and urgency for such a facility. The UK Government has recognised this too. In the March 2020 Budget it set out its intention to introduce new legislation “*to protect access to cash to ensure that the UK’s cash infrastructure is sustainable in the long\-term*”. However, it simply hasn’t acted fast enough on its intentions \- one year on and there is still no clear timetable for its introduction. The Welsh Government cannot and will not wait for a solution. Whilst it is clear that consumers’ banking habits are changing as physical branches are utilised by fewer customers, the ongoing decline in the number of bank branches and ATMs across Wales, provides consumers with significantly less choice and results in ever increasing travel times to their nearest branch.  The 2020 Financial Lives Survey published last month by the Financial Conduct Authority (FCA) provides worrying insights on the underlying and additional impacts of Covid\-19 on the challenges faced in the financial lives of people across Wales. The trends towards online and digital banking and moves towards a cashless society have been accelerated by Covid\-19, particularly as consumers are directed to cashless and contactless payment methods, the latter has seen an increase from £30 to £45, and now on to £100 per transaction in less than a year. Financial vulnerability is not universal; those who are less able or willing to adopt online and digital channels and those who are cash\-reliant are fundamentally dependent on access to local bank branches. As a result of the acceleration of these changes, some groups are increasingly becoming digitally and financially excluded, a situation likely to be particularly acute in rural areas where access to banking services are an essential but increasingly rare community service. Of particular concern, as highlighted in the FCA Survey, is the challenge of access to a physical bank, building society or credit union branch by those with a long term health condition, in that of the four Nations of the UK, the results are worst for Wales. The FCA survey built upon significant, compelling and growing evidence, including from the 2019 Senedd EIS committee report on ‘*Access to Banking’*, that concluded the UK retail banking system, in the round, leaves many with inadequate access to appropriate banking services, financial advice and support. Such a lack of access, puts at risk the ability of many individuals, foundational economy businesses and communities to develop resilience, especially as we emerge into post pandemic recovery. Legislative and Regulatory competencies are a reserved matter and our capacity for intervention with the major commercial shareholder banks is limited. Nevertheless we have worked creatively to investigate establishing a Community Bank of Wales, headquartered in Wales, and based on the mutual model and principles that run so deep in our communities across Wales.  Owned by its members, taking account of local community needs, preventing capital drain, maintaining access to face\-to\-face banking and driven by customers’ needs, rather than profit maximisation – we believe that such a Bank can and will make a positive difference in communities right across Wales. Wales is leading the way but we have also learned from other, independent and emerging attempts to establish Regional Community Banks in other parts the UK, a small number of which are now being practically supported through the Community Savings Bank Association (CSBA). For the past eighteen months we have supported Cambria Cydfuddiannol Limited (CCL) with the initial development of their ‘Banc Cambria’ Community Banking proposition based on the CSBA ‘bank in a box’ model. Owned by its members, it was aimed at improving access to everyday banking services for everyone in Wales, regardless of income or wealth. CCL’s initial work concurred with the EIS Committee’s report conclusion that, whilst the rationale for community banks is convincing, there were several challenges that needed to be overcome, including costs and investment risk. It recommended that the development of a community bank should consider the impact on the credit union sector. This has been helpful support as the proposal for a bank has been explored. CCL has been creative in its approach and has adapted its strategy to establish a relationship with an existing financial institution. It is this combined approach that has allowed us to make faster progress in moving towards a new bank facility in Wales. The support of an existing institution brings credibility and substance to the proposition as well as added experienced and appropriately licenced competency which can accelerate the establishment of Banc Cambria. In addition, and as part of CCL’s collaborative approach within the Welsh financial ecosystem, they have worked closely with one of Wales’ credit unions, Cambrian Credit Union, to consider how partnering opportunities can be developed to practically support more financially excluded individuals and avoid duplication. I am delighted to announce that in January, Welsh Ministers, the Wales Pension Partnership and UK Regulatory Authorities were provided with a commercial investment proposal for the establishment and roll\-out of Banc Cambria. The proposal is currently being explored and subjected to rigorous due diligence processes by Welsh Government officials and our independent external advisors. It is important that upon completion of the due diligence, and if appropriate, Government and other potential investors move ahead in unison, subject to each party’s decision\-making processes and regulatory approvals. The Welsh Government, together with the team at CCL and wider partners, all recognise the immediate and evidenced need to address the market failure in locally delivered, multichannel, bilingual and essential banking services across Wales. This is exceptional progress, especially considered against the backdrop of the restrictions necessary due to the ongoing coronavirus pandemic. We remain on track to establish a Community Bank of Wales during 2021\. I will provide a further update in due course.
Translate the text from English to Welsh.
In light of the current Coronavirus public health emergency, I have made regulations to ensure that the public are protected as far as possible from the transmission of the virus. In accordance with Regulation 3, I declare that the incidence or transmission of novel Coronavirus constitutes a serious and imminent threat to public health, and the measures outlined in these regulations are considered as an effective means of delaying or preventing further transmission of the virus.
Yn sgil yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol o ran y Coronafeirws, rwyf wedi gwneud rheoliadau er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu hamddiffyn gymaint ag y bo modd rhag trosglwyddiad y feirws.   Yn unol â Rheoliad 3, rwy'n datgan bod mynychder neu drosglwyddiad y Coronafeirws newydd yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd, ac yr ystyrir bod y mesurau a amlinellir yn y Rheoliadau hyn yn ffordd effeithiol o beri oedi o ran trosglwyddiad y feirws neu o’i atal rhag cael ei drosglwyddo ymhellach.
Translate the text from Welsh to English.
Bore da. Mae’n bleser mawr gennyf fod yma gyda chi heddiw. A bod yn blwmp ac yn blaen: credaf mai diwygio addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Mae’r genhadaeth genedlaethol hon, a fydd yn un o themâu allweddol fy nghyfnod fel Ysgrifennydd Addysg, yn cynnwys dysgwyr o bob oedran, proffesiwn addysgu unedig sy’n ymrwymedig i ragoriaeth a phrifysgolion a cholegau o’r radd flaenaf sy’n meithrin y berthynas fwyaf cadarn â chyflogwyr, partneriaid rhyngwladol a chymunedau yng Nghymru. Nid oes neb yn bwysicach i’r genhadaeth hon na chi, ein hysgolion arloesi. Hoffwn ddiolch i chi am fod yma heddiw ac am eich ymrwymiad i wella addysg i blant a phobl ifanc ein gwlad. Mae ein canlyniadau yn yr haf yn dangos bod llawer wedi’i gyflawni, ond gwyddom, mi wn, fod llawer mwy i’w wneud os ydym am gyflawni ein huchelgais o gael system addysg o’r radd flaenaf. Cwricwlwm eang, cytbwys, cynhwysol a heriol newydd i Gymru, wedi’i adeiladu ar sylfeini cadarn, sydd wrth wraidd yr hyn yr hoffwn ei gyflawni dros ein plant a’n pobl ifanc. Felly rwyf yn falch iawn o fod yma heddiw i sôn am yr uchelgais honno a’m hymrwymiad innau i’r agenda diwygio addysg. Mae hwn yn gyfnod cyffrous. Mae diwygio’r cwricwlwm yn cynnig cyfle gwych i’r sector addysg yng Nghymru ond mae hefyd yn her sylweddol i bawb sy’n ymwneud â’r gwaith hwn – yn enwedig i chi, yr ysgolion arloesi. Mae eich ymrwymiad a’ch ymwneud gweithredol yn hanfodol er mwyn inni greu cwricwlwm sy’n ennyn diddordeb ac sy’n atyniadol i’n dysgwyr ond y gellir ei gymhwyso yn yr ystafell ddosbarth hefyd. Felly hoffwn ddiolch ichi am dderbyn yr her a chytuno i fod ar flaen o gad yn hyn o beth. Fel y gwyddoch, nododd Cwricwlwm i Gymru: cwricwlwm am oes ymateb Llywodraeth Cymru i Dyfodol Llwyddiannus a chafodd gefnogaeth drawsbleidiol pan gafodd ei gyhoeddi. Mae’n disgrifio sut y caiff y cwricwlwm newydd ei ddatblygu gyda chi \- gweithwyr proffesiynol addysg ledled Cymru, gyda’r nod o fod ar gael erbyn mis Medi 2018 a’i ddefnyddio i gefnogi dysgu ac addysgu o 2021\. Rwyf yn cefnogi’r weledigaeth honno a gwn, gyda’ch cymorth chi, y byddwn yn llunio cwricwlwm sydd o’r radd flaenaf ac sy’n gallu diwallu anghenion ein plant a’n pobl ifanc am flynyddoedd lawer i ddod. Fel rhan o’r weledigaeth hon, rwyf yn argyhoeddedig bod yn rhaid inni wrando ar weithwyr proffesiynol ac yn enwedig chi, yr ysgolion arloesi, ar bob cam o’r broses. Rwyf am adael i athrawon fwrw ati i addysgu a gadael i arweinwyr arwain. Rwyf hefyd am wrando ar rieni a phlant fel y bydd eu huchelgeisiau hwythau yn llywio ein hagenda. Maent yn mynnu cael y gorau o’n system addysg, a hynny’n gwbl briodol. Dyna pam mae’n rhaid inni ganolbwyntio’n ddi\-syfl ar sicrhau bod y sylfeini’n gywir, ar godi safonau a sicrhau ein bod yn uchelgeisiol ac yn hyderus wrth ddiwygio. Mae’r digwyddiad hwn yn gam pwysig yn y broses. Bydd dwyn yr holl ysgolion arloesi ynghyd yn un rhwydwaith yn golygu y bydd modd rhannu a chyfuno eich gwybodaeth, eich arbenigedd a’ch profiad fel bod y rhwydwaith unedig i Ysgolion Arloesi mor effeithiol ag y bo modd. Er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i’n dysgwyr, bydd angen ichi gydweithio, a chael eich llywio gan waith eich gilydd, rhannu arfer da a defnyddio ‘Cwricwlwm i Gymru – Cwricwlwm am Oes’ i’ch tywys. Bydd gofyn ichi ddefnyddio’r gwaith ymchwil mwyaf diweddar a’r dulliau addysgol gorau o bedwar ban byd. Fel athrawon ac arweinwyr, dylech fod yn fyfyrwyr gydol oes. Dysgu oddi wrth eich gilydd, gwella’n barhaus, ac astudio arfer gorau, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth nesaf, yn y gymuned neu ar y cyfandir. Bydd ‘cydlafurio’ a ‘cydweithredu’ yn sicrhau y caiff y cyfoeth o arfer da yr ydych yn ei ddal ac yn ei gasglu ei rannu a rhaid cofio’r geiriau hynny bob amser wrth inni anelu at ein nod cyffredin. Bydd fy swyddogion, wrth gwrs, yn eich cynorthwyo yn hyn o beth drwy drefnu mwy o ddigwyddiadau i ysgolion arloesi, a defnyddio arbenigedd perthnasol a chymorth proffesiynol arall pan fyddwn, gyda’n gilydd, yn nodi bod angen hynny. A byddwn yn parhau i ariannu’r trefniant i’ch rhyddhau o ddyletswyddau ysgol fel y gallwch barhau i ganolbwyntio ar y gwaith hollbwysig hwn. Yn gyfnewid am hynny wrth gwrs disgwyliaf ichi gyflawni’r ymrwymiad a wnaed gennych. Rydym wedi gweld dechrau da eisoes. Mae llawer o waith sylfaenol wedi’i wneud ac mae sylfeini’r cwricwlwm newydd wedi’u gosod. Ac, wrth gwrs, mae’r Arloeswyr Digidol wedi bod yn bwrw ymlaen â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, yr oedd yn bleser gennyf ei lansio’n ffurfiol yn gynharach heddiw yn Ysgol Bro Edern, un o’r ysgolion Arloesi Digidol. Nodwyd yr angen am Fframwaith Cymhwysedd Digidol fel mater o frys yn adroddiad y Grwp Llywio TGCh annibynnol yn 2013 a chan yr Athro Graham Donaldson yn Dyfodol Llwyddiannus. Dyna pam y rhoddwyd blaenoriaeth i’r gwaith o ddatblygu’r Fframwaith. Gan mai hon yw’r elfen gyntaf o’r cwricwlwm newydd sydd ar gael, hoffwn longyfarch pawb a fu ynghlwm wrth y gwaith, nid yn unig am ddatblygu cynnyrch o safon ond am wneud hynny o fewn amserlen dynn iawn. Diolch yn fawr. Gallwch ymfalchïo yn y ffaith ichi helpu i sefydlu Fframwaith a fydd yn rhoi Cymru ar y blaen o ran integreiddio sgiliau digidol ar draws y cwricwlwm. Mae cymhwysedd digidol yn sgil hanfodol yn y byd sydd ohoni. Bydd yn un o dri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd. Mae’r Fframwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau digidol sy’n ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd ac y gellir eu trosglwyddo i fyd gwaith. Mae wedi’i ddylunio ar gyfer holl blant Cymru. Mae’n cwmpasu datblygu sgiliau o’r camau cyntaf, gan gynnwys ‘Ar Drywydd Dysgu’ a hefyd yn herio ein pobl ifanc fwy abl a thalentog. Gwn y bydd yr Arloeswyr Digidol sydd wedi datblygu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn rhannu mwy am hyn gyda chi yn nes ymlaen heddiw, ynghyd â’r Athro Tom Crick. Hoffwn ddiolch i Tom sydd wedi bod yn ddylanwad mawr o ran symud yr agenda hon yn ei blaen ac sydd wedi rhoi cymorth ac arbenigedd drwy gydol y broses. Fe gytunwch, mae’n siwr gennyf, fod y Fframwaith yn gynnyrch trawiadol. Ond hoffwn bwysleisio nad diwedd stori’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol mohoni. Bydd angen i Rwydwaith yr Ysgolion Arloesi, a phartneriaid megis y Consortia Rhanbarthol, barhau i gydweithio i nodi’r canlynol: * pa gymorth sydd ei angen ar ymarferwyr * ble y dylid targedu cymorth; a * pha ddeunyddiau ac adnoddau sydd eu hangen i helpu pob ymarferydd ac athro i ddefnyddio’r Fframwaith yn effeithiol yn ogystal â gweithio i integreiddio’r Fframwaith â Meysydd Dysgu a Phrofiad wrth iddynt gael eu datblygu. Bydd hon yn broses barhaus, a fydd yn ymateb i anghenion y proffesiwn, gyda Chynnig Dysgu Proffesiynol cychwynnol i helpu ymarferwyr i weithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a fydd ar waith o’r adeg hon y flwyddyn nesaf. Gwyddom fod sgiliau digidol yn hanfodol i’n holl bobl ifanc. Bydd angen iddynt gystadlu yn economi wybodaeth y dyfodol – gan weithio gyda thechnoleg a thrwy dechnoleg nad yw hyd yn oed wedi cael ei dyfeisio eto. Ni all neb ragweld sut beth fydd y dechnoleg honno ymhen 10 mlynedd na’r ffordd y bydd yn rhyngweithio â’r byd. Ond gwyddom y bydd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn helpu ein plant a’n pobl ifanc i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fynd ati i lunio’r dyfodol yn hyderus yn hytrach na bod yn ddefnyddwyr goddefol. Mae’n elfen bwysig mewn pecyn o fesurau rydym yn eu rhoi ar waith i wella dysgu digidol. Yn y misoedd sydd i ddod byddaf yn ymhelaethu ar y ffordd y gallwn weithio gyda’n gilydd i roi mwy o brofiad o sgiliau i’n plant a’n pobl ifanc, megis codio o oedran cynnar: * rhagwelaf y bydd disgyblion yn cael gwell mynediad at weithdai codio a chlybiau codio ledled Cymru * rhagwelaf fwy o ymgysylltu â busnesau a chyflogwyr o ran darparu dysgu digidol; a * rhagwelaf lefelau newydd o gymorth i chi a’ch cydweithwyr fel y gallwch chwarae rhan lawn yn yr agwedd gyffrous hon ar ein system addysg. Un o elfennau cyntaf y cymorth hwn yw adnodd hunanasesu, wedi’i ddatblygu gydag ysgolion arloesi, er mwyn helpu athrawon i nodi eu blaenoriaethau o ran cymorth. Byddwch yn gallu cael gafael arno pan fyddwch yn mewngofnodi i Hwb nesaf. Bydd Hwb hefyd yn cynnal nifer o adnoddau sy’n gysylltiedig â meysydd penodol o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Mae adnoddau newydd, sy’n cefnogi agweddau eraill ar y cwricwlwm, wedi cael eu hychwanegu i Hwb ers dechrau’r tymor. Mae hyn yn cynnwys tri modiwl newydd ar ddiogelu a gyhoeddwyd yr wythnos hon, mewn partneriaeth â’r NSPCC. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu athrawon i gadw dysgwyr yn ddiogel. Fel rhan o’n hymdrech i wella’r hyn a gynigir gan Hwb o hyd, rydym hefyd wedi gwella’r adnoddau adrodd ac asesu i gefnogi asesu ar gyfer dysg a bydd nodwedd Ystafelloedd Dosbarth newydd Hwb yn galluogi dysgwyr i gydweithredu mewn amgylchedd ar\-lein diogel. Bydd Hwb, wrth gwrs, yn parhau i fod yn adnodd cymorth pwysig i bob athro – gofynnaf ichi annog pawb yn eich ysgolion a’ch rhwydweithiau i’w ddefnyddio a’n helpu i’w wella o hyd. Wrth i fwy a mwy o ysgolion ddefnyddio gwasanaethau megis Hwb a Hwb\+ a chymwysiadau cwmwl, mae’n hollbwysig bod ysgolion yn cael mynediad cyflym, diogel a dibynadwy i’r rhyngrwyd. Mae mynediad i’r rhyngrwyd yn ei gwneud yn bosibl i athrawon roi gwersi dynamig a diddorol, i ddisgyblion wneud gwaith ymchwil a chyflwyno gwaith ar\-lein ac i rieni olrhain cynnydd eu plentyn. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi, o ganlyniad i’r buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru o dan Raglen Grant Dysgu yn y Gymru Ddigidol, fod dros 1400 o ysgolion yng Nghymru bellach wedi cysylltu ar gyflymder o 10 megabit yr eiliad o leiaf i ysgolion cynradd a 100 megabit yr eiliad o leiaf i ysgolion uwchradd, sef y mwyafrif llethol o ysgolion yng Nghymru. Fodd bynnag, ni allai nifer fach o ysgolion fanteisio ar y buddsoddiad cychwynnol hwn oherwydd y costau peirianneg sifil sylweddol a oedd yn angenrheidiol. Dyna pam y cytunais â’r Prif Weinidog y dylai mynediad at wasanaethau cyflym iawn i bob ysgol gael ei flaenoriaethu yn y rhaglen genedlaethol. Gan weithio gyda rhaglen Cyflymu Cymru byddwn yn sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cael mynediad i’r gwasanaethau ar y rhyngrwyd sydd eu hangen arnynt i roi’r addysg orau bosibl. Na phoener, byddaf yn pwyso er mwyn sicrhau bod y datblygiad hwn yn mynd rhagddo mor fuan â phosibl. Gan edrych yn ehangach na’r byd digidol, ac ar fore llawn cyhoeddiadau, mae’n bleser gennyf gyhoeddi lansiad y Pasbort Dysgu Proffesiynol datblygedig i’r gweithlu addysg. Mae ar gael ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg ac mae’n nodwedd allweddol o’n dull gweithredu Dysgu a Chymorth Proffesiynol. Mae’n un o’r conglfeini o ran cefnogi a datblygu ein system hunanwella. Am y tro cyntaf gall ymarferwyr yng Nghymru gofnodi eu dysgu proffesiynol mewn un portffolio ar\-lein diogel sy’n dal ei holl ddysgu proffesiynol ac yn cefnogi eu twf proffesiynol. Bydd y Pasbort Dysgu Proffesiynol yn sylfaen i lwybrau gyrfa ymarferwyr ac yn eu helpu i gofnodi’r cyfleoedd dysgu proffesiynol mwyaf priodol, myfyrio arnynt a’u nodi fel eu bod yn parhau i ddatblygu eu hymarfer. Mae hefyd yn cefnogi dysgu proffesiynol ‘rhwng cymheiriaid’. Ond dim ond os bydd pawb yn ei ddefnyddio y bydd yn gwneud gwahaniaeth i ddysgu proffesiynol a dylanwadu ar ymarfer myfyriol. Felly ewch ati i’w ddefnyddio, da chi, a helpwch ni i’w ddatblygu a’i lunio er mwyn adlewyrchu’ch anghenion dros amser. Rwyf am sicrhau bod yr ychydig flynyddoedd nesaf yn cael eu defnyddio i’ch helpu chi a phob ymarferydd i fod yn barod i ddefnyddio’r cwricwlwm newydd. Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol wedi’i gynllunio i helpu ymarferwyr i ddatblygu. Rydym eisoes yn gwybod mai ansawdd addysgu yw’r ffactor pwysicaf o ran codi safonau, ac ail agos yw arweinyddiaeth effeithiol. Felly mae’n hanfodol bod athrawon, a’r rhai sy’n cefnogi ac yn arwain addysgu, yn meddu ar y sgiliau i roi’r addysg orau bosibl i ddysgwyr. Bydd llawer ohonoch wedi mynychu’r gweithdai ar Safonau Addysgu Proffesiynol gyda Mick Waters felly byddwch yn ymwybodol o ddatblygiadau newydd pwysig. Mae’r safonau newydd hyn yn casglu’r sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar ein hathrawon er mwyn iddynt ymateb i heriau cwricwlwm newydd a chynnal statws addysgu fel proffesiwn gwerthfawr. Bydd angen i’n safonau newydd lwyddo mewn sawl ffordd: * bydd angen iddynt fod yn borthgeidwad i’r proffesiwn er mwyn inni ddenu’r athrawon gorau posibl i Gymru a helpu i greu proffesiwn egnïol sy’n perfformio’n dda; * bydd angen iddynt ysbrydoli a thanio brwdfrydedd drwy roi ffocws ar ddysgu a thwf proffesiynol gydol gyrfa, gan gynnwys datblygu arweinwyr ar bob lefel; a * bydd angen iddynt danio uchelgais athrawon – dros eu proffesiwn ac, yn hollbwysig, dros eu holl ddysgwyr. Ni all rhywbeth mor hanfodol gael ei ddatblygu ar wahân – dyna pam rydym yn cynnwys llawer ohonoch yn y gwaith hwn. Mae’n nodwedd o’r ffordd rydym yn gweithio yng Nghymru ein bod yn gwrando ar y proffesiwn ac yn adeiladu ar y profiad cyfoethog sy’n bodoli yn ein hysgolion a bydd hynny’n gynyddol wir. Dros y misoedd sydd i ddod bydd Ysgolion Arloesi a darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon sydd wedi gwirfoddoli yn treialu’r safonau newydd er mwyn darganfod beth sy’n gweithio a byddwn yn defnyddio’r adborth hwn i lywio datblygiadau ymhellach. Rwyf yn ymwybodol i rai ohonoch gychwyn yn gynnar y bore yma er mwyn dod ynghyd a chynllunio sut y bydd hyn yn digwydd! Y bwriad yw y byddwn yn barod i ymgynghori’n ehangach cyn cyflwyno’r safonau newydd o fis Medi 2017\. Byddaf yn dilyn hynt y gwaith hwn gyda diddordeb ac edrychaf ymlaen at glywed sut mae’n datblygu. Mae eich cyfraniad amhrisiadwy fel ymarferwyr, ynghyd â’r sylfaen dystiolaeth gadarn a ddarparwyd gan yr Athro Donaldson yn Dyfodol Llwyddiannus ac arbenigedd a chymorth pobl fel yr Athro Tom Crick a’r Athro John Furlong, consortia rhanbarthol ac Estyn yn gwneud i mi deimlo’n hyderus bod Cymru ar y trywydd cywir i greu cwricwlwm a system addysg a fydd yn gwasanaethu ei dysgwyr yn llwyddiannus am flynyddoedd lawer i ddod. Byddwch chi, ynghyd â chonsortia rhanbarthol, yn datblygu pecyn o fesurau i helpu ymarferwyr i fabwysiadu a defnyddio cwricwlwm newydd a fydd yn hyblyg ac yn ymatebol i’r heriau sy’n deillio o’r newid cynyddol gyflym ym mhob agwedd ar ein cymdeithas, yng Nghymru a ledled y byd. Ond mae’n rhaid i athrawon gael eu grymuso i’w gyflwyno, felly bydd mesurau megis mynediad gwell i’r rhyngrwyd cyflym iawn, y Pasbort Dysgu i Ymarferwyr a’r safonau addysgu proffesiynol newydd yn creu’r amgylchedd lle y gall addysgu gwych ffynnu. Gwyddom oll fod heriau o’n blaenau, ond rhaid eu hwynebu yn hytrach na’u hosgoi. Rydym yn gwneud dewisiadau pwysig ynglyn â’n gallu ar y cyd i lunio system addysg sy’n gyfoes, yn rhagorol ac yn arloesol. Gyda’n gilydd gallwn ennyn diddordeb dysgwyr, gyda’n gilydd gallwn ehangu gorwelion dysgwyr, gyda’n gilydd gallwn adeiladu gwell dyfodol i blant Cymru.
Bore da, good morning. I am delighted to be here with you today. To be blunt: I believe education reform is our national mission. This national mission, which I will make a key theme of my time as Education Secretary, involves learners of all ages, a united teaching profession committed to excellence, and world\-leading universities and colleges forging the strongest bond with employers, international partners and communities at home. No one is more important to this mission, than you, our pioneer schools. I thank you for being here today and for your commitment to improving education for the children and young people of our nation. Our summer results show that much has been achieved, however we know, I know, there is much further to go if we are to achieve our ambition to have a world leading education system. A new broad, balanced, inclusive and challenging curriculum for Wales, built on strong foundations, lies at the very heart of what I want to achieve for our children and young people. So I’m really glad to be here today to talk about that ambition and my commitment to the education reform agenda. These are exciting times. Curriculum reform offers a great opportunity to the Education sector in Wales but also represents a significant challenge for all those involved – particularly you, the Pioneers. Your commitment and active involvement are essential if we are to create a curriculum that is engaging and attractive to our learners but which is also applicable in the classroom. So I thank you for accepting the challenge and for agreeing to be at the vanguard of this change. As you know, A curriculum for Wales: a curriculum for life set out the Welsh Government’s response to Successful Futures and received cross\-party support when it was published. It describes how the new curriculum will be developed with you \- education professionals across Wales, with the aim of it being available by September 2018 and used to support learning and teaching from 2021\. I support that vision and I know, with your help, we will design a curriculum that is both world\-class and able to serve the needs of our children and young people for many years to come. As part of this vision, I am convinced that we must listen to professionals and especially to you, the Pioneers, at every stage of the process. I want to let teachers get on with teaching and allow leaders to lead. I also want to listen to parents and children so that their ambitions inform our agenda. They, rightly, demand the best from our education system. That is why our relentless focus must be on getting the basics right, raising standards and being ambitious and confident in our reforms. This event signals an important step in the process. Bringing all pioneers together into one network will mean that your knowledge, expertise and experience can be shared and combined so that the united Pioneer network is as effective as it can possibly be. To get the best outcome for our learners, you will need to work together, informed by each other’s work, sharing good practice and using ‘A Curriculum for Wales – a Curriculum for Life’ as your steer. You will be called onto draw on the most up to date research and best educational methods from across the globe. As teachers and leaders, you should be life\-long students. Learning from each other, continuously improving, and studying best practice whether it’s in the next classroom, community or continent. ‘Collaboration’ and ‘co\-operation’ will ensure that the wealth of good practice you hold and collect is shared and these must be our watch words in achieving our common goal. My officials will, of course, support you in this by arranging more Pioneer events, and drawing in relevant expertise and other professional support where together we identify the need. And we will continue to fund your release from school duties so you can keep your focus on this all\-important work. In return of course I expect you to honour the commitment you have made. A great start has already been made. A lot of groundwork has been done and foundations for the new curriculum have been laid. And, of course, the Digital Pioneers have been forging ahead with the Digital Competence Framework, which I was delighted to launch formally earlier today at Ysgol Bro Edern, one of the Digital Pioneer schools. The urgent need for a Digital Competence Framework was highlighted by the report of the independent ICT Steering Group in 2013 and by Professor Graham Donaldson in Successful Futures. That’s why the development of the Framework was prioritised. As the first element of the new curriculum to be made available, I would like to congratulate all those involved, not only for developing a quality product but for doing so within a very tight timescale. Thank you. You can be proud that you helped establish a Framework that will put Wales in a world\-leading position in terms of integrating digital skills across the curriculum. Digital competence is a fundamental skill in our modern world. It will form one of three cross\-curricular responsibilities, alongside literacy and numeracy. The Framework focuses on developing digital skills that are useful in everyday life and transferrable to the world of work. It is designed for all children in Wales. It covers the development of skills from the earliest stages, encompasses ‘Routes for Learning’ and also provides our more able and talented young people with challenge. I know that the Pioneers who have developed the Digital Competence Framework will be sharing more on this with you later today, together with Professor Tom Crick. I’d like to thank Tom who has been such a big influence in moving this agenda forward and has provided support and expertise throughout the process. I am sure you will agree the Framework is an impressive product. But I would emphasise that this is not the end of the DCF story. The Pioneer Network, and partners such as the Regional Consortia will need to continue to work together to identify: * what support practitioners will need; * where support should be targeted; and * what materials and resources are needed to help all practitioners and teachers to use the Framework effectively as well as working to integrate the Framework across the Areas of Learning and Experience as they are developed. This will be an ongoing process responsive to the needs of the profession, with an initial Professional Learning Offer to support practitioners in implementing the DCF due to be in place from this time next year. We know digital skills are essential for all our young people. They will need to compete in the knowledge economy of the future – working with and through technology that has not even have been invented yet. None of us can predict what that technology and how it interacts with the world will be like in 10 years time. But we do know the Digital Competency Framework will help equip our children and young people with the skills they need to be confident shapers of that future rather than just passive consumers of it. It is an important element in a package of measures we are putting in place to improve digital learning. In the coming months I will be saying more about how we can work together to give children and young people greater experience of skills such as coding from an early age: * I envisage better pupil access to coding workshops and coding clubs across Wales; * I envisage enhanced engagement with business and employers in the provision of digital learning; and * I envisage new levels of support for you and your colleagues so you can play a full part in this exciting aspect of our education system. One of the first elements of this support is a self assessment tool, developed with Pioneer schools, to help teachers identify their priorities for support. You will be able to access this when you next log on to Hwb. Hwb will also host a range of resources linked to specific strands of the Digital Competence Framework. New resources, supporting other aspects of the curriculum, have been added to Hwb since the beginning of term. This includes three new safeguarding modules published this week, in partnership with the NSPCC. These resources will support teachers in keeping learners safe. As part of our effort to continually improve the Hwb offer, we have also improved the reporting and assessment tools to support assessment for learning and the new Hwb Classrooms feature will allow learners to collaborate in a safe online environment. Hwb, of course, will remain an important support tool for all teachers – I would ask that you encourage everyone in your schools and networks to make use of it and help us to continuously improve it. With more and more schools making use of services such as Hwb and Hwb\+ and cloud applications, it is vitally important that schools have fast, secure and reliable access to the internet. Internet access enables teachers to provide dynamic and engaging lessons, pupils to carry out research and submit work online and parents to keep track their child’s progress. I am pleased to announce that, as a result of the significant investment made by the Welsh Government under the Learning in Digital Wales Grant Programme, over 1400 schools in Wales are now connected at a minimum of 10 megabits per second for primary schools and at least 100 megabits per second for secondary schools. This represents the vast majority of schools in Wales. However, a small number of schools could not benefit from this initial investment due to the significant civil engineering costs that were required. That is why I agreed with the First Minister that access to superfast services for all schools should be prioritised within the national programme. Working with the Superfast Cymru programme we will ensure that all schools in Wales have access to the internet services they need in order to provide the very best education. Rest assured that I will be pressing to ensure that this development progresses as quickly as possible. Looking more broadly than the digital world, and on a morning of announcements, I am delighted to announce the launch of the enhanced Professional Learning Passport (PLP) for the education workforce. The PLP is hosted on the Education Workforce Council’s website and is a key feature of our Professional Learning and Support approach. It is one of the foundation stones in supporting and developing our self\-improving system. For the first time practitioners in Wales are able to record their professional learning in a single secure online portfolio that captures all of their professional learning and supports their professional growth. The PLP underpins practitioners’ career pathways and supports them to record, reflect on and identify the most appropriate professional learning opportunities so they continue to develop their practice. It also supports ‘peer to peer’ professional learning. But it will only make a difference to professional learning and influence reflective practice if everyone uses it. So please engage proactively with it and help us develop and shape it to reflect your needs over time. I want to ensure the next few years are used to support you and all practitioners to be ready to use the new curriculum. The PLP is designed to help practitioners to develop. We already know that the quality of teaching is the most important factor in raising standards, closely followed by effective leadership. It is therefore essential that teachers, and those that support and lead teaching, are equipped with the skills to provide learners with the very best teaching. Many of you will have attended the Professional Teaching Standards workshops with Mick Waters so are aware of important new developments. These new standards capture the skills and behaviours that our teachers need to have to meet the challenges of a new curriculum and to maintain teaching’s status as a high value profession. Our new standards need to deliver on a number of fronts: * they need to act as a gatekeeper for the profession so that we attract the very best teachers to Wales to help create a vibrant and high performing profession; * they need to inspire and enthuse by providing a focus for career\-long professional learning and growth, including leadership development at all levels; and * they need to fire teachers’ ambition – both for their profession and critically for all of their learners. Something so fundamental cannot be developed in isolation – that is why we are involving many of you in this work. It is, and will increasingly be, a feature of the way we work in Wales that we listen to the profession and build on the rich experience that exists in our schools. Over the coming months Pioneer Schools and Initial Teacher Education providers who have volunteered will be trialling the new standards to find out what works and we will use this feedback to inform further development. I am aware some of you had an early start this morning in order to get together and plan how this will be happening! The intention is to be ready to consult more widely ahead of introducing the new standards from September 2017\. I will be following this work with interest and look forward to hearing how it progresses. Your invaluable input as practitioners, together with the robust evidence\-base provided by Professor Donaldson in Successful Futures and the expertise and support from people like Professors Tom Crick and John Furlong, regional consortia and Estyn gives me confidence that Wales is on the right track to creating a curriculum and education system that will successfully serve its learners for many years to come. You, together with regional consortia will develop a package of measures to help practitioners adopt and use a new curriculum that will be flexible and responsive to the challenges presented by the increasing pace of change across all aspects of our society, in Wales and across the world. But teachers must be empowered to deliver it, so measures such as improved access to high speed internet, the Practitioner Learning Passport and new professional teaching standards will provide the environment for great teaching to thrive. We all know there are challenges ahead, but that is to be embraced not avoided. We are making important choices about our collective ability to shape an education system that is modern, excellent and innovative. Together we can engage learners’ minds, together we can expand learners’ horizons, together we can build a better future for the children of Wales.
Translate the text from Welsh to English.
Mae'n bleser gennyf roi gwybod i’r Aelodau fy mod i wedi gwneud Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (Cychwyn Rhif 1\) 2022 heddiw, y Gorchymyn Cychwyn cyntaf mewn perthynas â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“Deddf 2022”). Dyma'r cyntaf o gyfres o Orchmynion Cychwyn rwy'n bwriadu eu gwneud i weithredu Ddeddf 2022, a bwriadaf wneud y Gorchymyn nesaf yn ystod haf 2023 yn unol â'r dyddiad sefydlu arfaethedig ar gyfer y Comisiwn. Bydd y Gorchymyn Cychwyn cyntaf hwn yn dwyn i rym, ar 15 Rhagfyr 2022, adran 1 o Ddeddf 2022 sy'n darparu ar gyfer creu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac yn cyflwyno Atodlen 1, sy'n gwneud darpariaeth bellach yn ymwneud â’r Comisiwn megis aelodaeth, staffio, gweithdrefnau, pwyllgorau, ac archwilio. Y Comisiwn fydd y stiward cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer y sector trydyddol ac ymchwil cyfan a fydd dwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio addysg uwch a phellach, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau, ac ymchwil ac arloesi yng Nghymru mewn un lle. Trwy'r diwygiadau y darperir ar eu cyfer yn Neddf 2022 rydym yn ceisio llunio strwythur a system newydd i gefnogi dysgwyr yn well, a darparu’r wybodaeth a'r sgiliau iddynt ar gyfer dysgu, datblygu a llwyddiant gydol oes. Yn Atodlen 1, daw'r ddarpariaeth angenrheidiol i rym er mwyn galluogi penodi Cadeirydd y Comisiwn, Cadeirydd ei Bwyllgor Ymchwil ac Arloesi (sydd hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd y Comisiwn), ei aelodau cyffredin a'r Prif Swyddog Gweithredol.  Mae'r broses benodi ar gyfer y rhan fwyaf o’r swyddi hyn eisoes ar y gweill ac mae disgwyl i'r ymgeiswyr a ffefrir ar gyfer swyddi’r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd fynychu eu gwrandawiad cyn penodi gyda Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yfory, 15 Rhagfyr. Daw darpariaethau perthnasol ym mharagraffau 4, 5 a 7 o Atodlen 1 o Ddeddf 2022 i rym hefyd er mwyn gallu dechrau’r broses o benodi aelodau cyswllt y gweithlu ac aelod cyswllt y dysgwyr. Rwy'n rhagweld y byddaf yn ymgynghori ar y rhestr o gyrff a gaiff enwebu ymgeiswyr cymwys ar gyfer y swyddi hyn yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Yn olaf, daw darpariaethau adran 9 o Ddeddf 2022 i rym sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddynodi person i roi cyngor i'r Comisiwn at ddiben ei helpu i gyflawni ei ddyletswydd strategol i hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n rhagweld y byddaf yn gwneud y dynodiad hwn ddiwedd y gwanwyn, cyn i'r Comisiwn gael ei sefydlu. Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn fuan er mwyn cadarnhau penodiad y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd.
I am pleased to inform Members that I have today made the Tertiary Education and Research (Wales) Act (Commencement No.1\) Order 2022, the first Commencement Order in respect of the Tertiary Education and Research(Wales) Act 2022 (“TERA 2022”). This is the first of a series of Commencement Orders I intend to make to effect the implementation of TERA 2022, with my intention being to make the next Order in Summer 2023 in line with the proposed establishment date for the Commission. This first Commencement Order will bring into force, on 15 December 2022, section 1 of TERA 2022 which provides for the creation of the Commission for Tertiary Education and Research and introduces Schedule 1, which makes further provision about the Commission such as membership, staffing, procedure, committees, and audit. The Commission will be the first ever national steward for the whole tertiary and research sector bringing together responsibility for overseeing Wales's higher and further education, school sixth forms, apprenticeships and research and innovation in one place.  Through the reforms provided for in TERA 2022 we are seeking to shape a new structure and system to better support learners, and provide them with the knowledge and skills for lifelong learning, development and success. Within Schedule 1, the necessary provision is brought into force so as to enable the appointment of the Chair of the Commission, the Chair of its Research and Innovation Committee (who is also the Deputy Chair of the Commission), its ordinary members and the Chief Executive Officer.  The appointment process in respect of the majority of these posts is already in progress and the preferred candidates for the Chair and Deputy Chair are due to attend their pre\-appointment hearing with the Senedd’s Children, Young People and Education Committee tomorrow, 15th December. Relevant provisions within paragraphs 4, 5 and 7 of Schedule 1 TERA 2022 are also brought into force to enable the process of appointing the associate learner and associate workforce members to commence.  I anticipate consulting on the list of bodies who may nominate eligible candidates for these posts next Spring. Finally, provisions of section 9 of TERA 2022 are brought into force which require the Welsh Ministers to designate a person to give advice to the Commission for the purpose of assisting it to discharge its strategic duty to promote tertiary education through the medium of Welsh.  I anticipate making this designation in the late Spring, ahead of the Commission being established. I will make a further statement shortly to confirm the appointment of the Chair and Deputy Chair.
Translate the text from Welsh to English.
Er bod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod mwy o ddealltwriaeth a chefnogaeth gan yr ymgyrch rhoi organau ymhlith cymunedau du ac Asiaidd, mae 20% o’r ymatebwyr yn dal i ddweud na fyddent yn rhoi organau a dywedodd 43% ohonynt nad oeddynt yn gwybod.  Y prif beth sy'n eu rhwystro yw'r gred bod rhoi organau yn erbyn eu diwylliant neu yn erbyn eu crefydd. Fodd bynnag, mae pob un o brif grefyddau'r DU yn cefnogi rhoi organau a thrawsblannu. Mae’r arolwg diweddaraf yn dangos bod lefelau dealltwriaeth yn gwella. O’i gymharu â 22 y cant ym mis Mai 2018, atebodd 39 y cant o’r ymatebwyr yn gywir mai organau gan roddwr sydd o’r un cefndir ethnig â hwythau fyddai’n cydweddu orau. Dywedodd 35 y cant o’r ymatebwyr fod pobl ddu ac Asiaidd yn fwy tebygol o fod angen trawsblaniad, o’i gymharu ag 11 y cant ym mis Mai 2018\.  Mae grwpiau cymunedol a grwpiau ffydd ledled Cymru a Lloegr bellach yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid o gronfa £20,000, i helpu i chwalu'r mythau a'r rhwystrau a chynyddu'r gefnogaeth i roi organau ymhlith cymunedau du, Asiaidd a  lleiafrifoedd ethnig.  Caiff y cynllun ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae’n cael ei arwain gan Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG. Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: > “Rydym wedi gweld gwelliant mawr yn y niferoedd sy'n rhoi caniatâd i roi organau yng Nghymru yn ddiweddar, ond mae pobl yn marw o hyd wrth aros am drawsblaniad, felly mae angen gymaint o bobl â phosibl arnom o bob cefndir ethnig i gytuno i roi organau.  > > > Mae'r gwaith ymchwil diweddaraf hwn yn tynnu sylw at nifer o gamsyniadau sydd gan bobl o hyd mewn perthynas â rhoi organau. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gan bobl yr holl wybodaeth angenrheidiol wrth iddynt wneud eu penderfyniad, a dyna'r rheswm dros gynnig cyllid i helpu grwpiau cymunedol i sôn wrth bobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig am roi organau a'r effaith bositif y gall y penderfyniad i roi organau ei chael.” Dywedodd Anthony Clarkson, Cyfarwyddwr Dros Dro Rhoi Organau a Thrawsblannu Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG: > “Mae’r prosiectau sy’n cael eu hariannu o dan gylch cyntaf y cynllun hwn wedi ysgogi sgyrsiau ar draws gwahanol grwpiau ffydd a chymunedau am y rhodd werthfawr o roi organau.   > > > “Rydym wrth ein boddau bod modd inni gefnogi ail gylch o’r gwaith gwych hwn sy’n cael ei arwain gan y gymuned. Rydym yn gobeithio gallu annog mwy o bobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i benderfynu eu bod nhw am achub bywydau drwy roi organau a rhoi gwybod i’w teuluoedd am y penderfyniad hwnnw.”
While the latest statistics show understanding and support for organ donation is growing among black and Asian communities, 20% of respondents still say they would not donate organs and 43% said they didn’t know. The main barrier is the belief that organ donation is against their culture or religion. However, all the major religions in the UK support organ donation and transplantation. The latest survey shows understanding is improving, 39% of respondents correctly answered that you get a better a match with a donor of your own ethnicity compared with 22% in May 2018\. While 35% of respondents stated that black and Asian people are proportionally more likely to need an organ compared with 11% in May 2018\. Community and faith\-based groups from across Wales are now being invited to apply for funding from a £20,000 pot, to help break down myths and barriers and increase support for organ donation among black, Asian and ethnic minority communities. The scheme is funded by the Welsh Government and the Department of Health and Social Care, and is led by NHS Blood and Transplant. Health Secretary, Vaughan Gething said: > “There has been a big increase in consent rates for organ donation in Wales recently, but there are still people dying waiting for a transplant so we need as many people as possible, from all ethnic backgrounds to agree to donate. > > > This latest research highlights the many misconceptions people still have about organ donation. We want to make sure people are fully informed when making their decision, which is why we are offering funding to help community groups talk to people from black, Asian and ethnic minority backgrounds about organ donation and the positive impact a decision to donate can have.” Anthony Clarkson, NHS Blood and Transplant Interim Director for Organ Donation and Transplantation, said: > “The projects funded under round one of this scheme have initiated and informed conversations across a spectrum of faiths and communities about the precious gift of organ donation. > > > “We are delighted to be able to support a second round of this fantastic community\-led work, and hopefully encourage more people from black, Asian, mixed race and minority ethnic backgrounds to decide that they want to be a lifesaving organ donor and share that decision with their families.”
Translate the text from English to Welsh.
It has been a year since the concept of prudent healthcare was introduced at last year’s Welsh NHS Confederation conference. In just 12 short months, since the Bevan Commission initially defined a set of principles capturing the essence of prudent healthcare, we have moved from talking about what it means in theory to beginning to embed the principles into everyday practice in health and social care in Wales. The debate surrounding prudent healthcare has surpassed expectations. It has moved from being a concept shared by only a few keenly\-interested individuals to a topic widely discussed and disseminated by the NHS and beyond. It appears in health board papers; features in the work of our Royal Colleges; whole conferences have been devoted to it and it has featured in the pages of the British Medical Journal and The Lancet. Last week, the latest set of chapters describing how prudent healthcare could work in Wales became available on the Making Prudent Healthcare Happen online resource www.prudenthealthcare.org.uk. The first set of chapters, videos and case studies, which have been available on the website since October, have been read thousands of times by people from around the world. Wales is at the vanguard of a global movement to redesign health services according to prudent healthcare principles. In Italy, this work is known as slow medicine; in Canada, the Choosing Wisely campaign is leading the way. For health and social services in Wales, it is important that we continue to build on the momentum achieved over the last year. The Bevan Commission has undertaken a further piece of work to finalise the prudent healthcare principles for Wales, to ensure that everyone involved in securing a healthier future for the population of Wales follows a common set of principles. The Bevan Commission’s final 4 principles are: * Achieve health and wellbeing with the public, patients and professionals as equal partners through co\-production; * Care for those with the greatest health need first, making the most effective use of all skills and resources; * Do only what is needed, no more, no less; and do no harm. * Reduce inappropriate variation using evidence based practices consistently and transparently. However, the prudent healthcare concept of ‘only do what only you can do’ remains a powerful one, especially for a prudent health and social care workforce for the future. It will therefore be important to maintain the concept that no professional should routinely be providing a service, which does not require their level of clinical ability or expertise – only do what only you can do – as Wales continues its prudent healthcare journey. The Welsh Government and NHS Wales will focus on 4 key areas where putting the prudent healthcare principles into practice will be especially important in the year ahead. Together we will: 1. Continue to put primary care in the driving seat of the NHS in Wales, implementing the commitments in the national primary care plan, and maximising the impact of the £10m primary care fund for 2015\-16 and additional £30m for primary care from the autumn Budget statement; 2. Re\-design the workforce for the future and redeploy our most precious resource \- the people who work in healthcare. This will include launching a national primary care workforce strategy; publishing and responding to the Mel Evans review of healthcare education in Wales and commissioning an independent review of the workforce of the future; 3. Maintain the impetus in remodelling the relationship between the people who use health services in Wales and those who provide them, with continued support for the Academy of Royal Colleges of Wales in exploring the development of a Choosing Wisely Cymru campaign for Wales. 4. Supported by the Bevan Commission, we will mobilise our thinking about the way we provide care for people, engaging in a debate initiated by the British Medical Journal about over\-treatment and over\-diagnosis, especially for people towards the end of their lives. These areas alone will not make prudent healthcare happen, which is why I am keen to do everything possible to maintain the energy and debate of the last 12 months. To support this, the Welsh Government will host its first prudent healthcare conference this summer, which will be opened by the First Minister. It will have an international reach and involve key partners who are furthering the prudent healthcare movement, including health boards and NHS trusts, the Royal Colleges, the National Institute for Health and Care Excellence and the British Medical Association.
Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers cyflwyno’r cysyniad o ofal iechyd darbodus yng nghynhadledd Cydffederasiwn GIG Cymru y llynedd. Mewn 12 mis yn unig, ers i Gomisiwn Bevan ddiffinio am y tro cyntaf set o egwyddorion sy’n cydio yn hanfod gofal iechyd darbodus, rydym wedi symud ymlaen o siarad am beth mae’n ei olygu mewn theori i ddechrau cynnwys yr egwyddorion yn arferion bob dydd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r ddadl ynghylch gofal iechyd darbodus wedi rhagori ar y disgwyliadau. Mae wedi symud o fod yn gysyniad a rennir gan ychydig o unigolion sydd â diddordeb mawr ynddo i bwnc sy’n cael ei drafod yn eang a’i ddosbarthu gan y GIG a thu hwnt. Mae’n ymddangos mewn papurau bwrdd iechyd; yn ymddangos yng ngwaith ein Colegau Brenhinol; neilltuwyd cynadleddau cyfan i’w drafod ac mae wedi ymddangos yn nhudalennau y British Medical Journal a’r Lancet. Ers yr wythnos ddiwethaf mae’r set ddiweddaraf o benodau sy’n disgrifio sut y gallai gofal iechyd darbodus weithio yng Nghymru wedi bod ar gael ar adnodd ar\-lein Making Prudent Healthcare Happen  www.prudenthealthcare.org.uk. Darllenwyd y set gyntaf o benodau, fideos ac astudiaethau achos, sydd wedi bod ar y wefan ers mis Hydref, filoedd o weithiau gan bobl o bob cwr o’r byd. Mae Cymru ar flaen y gad yn fyd\-eang o ran ail\-ddylunio gwasanaethau iechyd yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus. Yn yr Eidal, gelwir y gwaith hwn yn feddyginiaeth araf; yng Nghanada, mae’r ymgyrch Choosing Wisely yn arwain y ffordd. I iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod yn parhau i adeiladu ar fomentwm y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r Comisiwn Bevan wedi ymgymryd â darn pellach o waith i gadarnhau egwyddorion gofal iechyd darbodus i Gymru, er mwyn sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â sicrhau dyfodol iachach i bobl Cymru yn dilyn set gyffredin o egwyddorion. Pedair egwyddor derfynol y Comisiwn Bevan yw: * Sicrhau iechyd a llesiant, gydag aelodau’r cyhoedd, cleifion a gweithwyr proffesiynol yn bartneriaid cyfartal drwy gyd\-gynhyrchu; * Gofal i’r rheini â’r angen iechyd mwyaf yn gyntaf, gan wneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r holl sgiliau ac adnoddau; * Gwneud dim ond beth sydd ei angen a gwneud dim niwed, dim mwy, dim llai; * Lleihau amrywiaeth amhriodol gan ddefnyddio arferion yn seiliedig ar dystiolaeth yn gyson ac yn dryloyw. Fodd bynnag, mae’r cysyniad gofal iechyd darbodus o wneud dim ond beth allwch chi ei wneud yn parhau i fod yn un grymus, yn enwedig o ran gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol darbodus i’r dyfodol. Felly bydd yn bwysig cynnal y cysyniad na ddylai unrhyw weithwyr proffesiynol fod yn darparu gwasanaeth fel mater o drefn nad yw’n gofyn am eu lefel o allu neu arbenigedd clinigol – dim ond gwneud yr hyn allant – wrth i Gymru barhau â’i thaith gofal iechyd darbodus.     Bydd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol lle bydd rhoi egwyddorion gofal iechyd darbodus ar waith yn arbennig o bwysig yn y flwyddyn i ddod. Gyda’n gilydd byddwn yn: 1. Parhau i roi gofal sylfaenol wrth y llyw yn GIG Cymru, gan roi’r ymrwymiadau yn y cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol ar waith, a gwneud y mwyaf o’r gronfa gofal sylfaenol gwerth £10m ar gyfer 2015\-16 a £30m ychwanegol ar gyfer gofal sylfaenol o ddatganiad Cyllideb yr hydref; 2. Ail\-ddylunio’r gweithlu ar gyfer y dyfodol ac adleoli ein hadnodd mwyaf gwerthfawr \- y bobl sy’n gweithio ym maes gofal iechyd. Bydd hyn yn cynnwys lansio strategaeth genedlaethol ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol; cyhoeddi ac ymateb i adolygiad Mel Evans o addysg gofal iechyd yng Nghymru a chomisiynu adolygiad annibynnol o weithlu’r dyfodol; 3. Cynnal yr ysgogiad wrth ailfodelu’r berthynas rhwng y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd yng Nghymru a’r rheini sy’n eu darparu nhw, gyda chefnogaeth barhaus i Academi Colegau Brenhinol Cymru i ddatblygu ymgyrch Choose Wisely Cymru; 4. Gyda chefnogaeth y Comisiwn Bevan, byddwn yn agored yn y ffordd rydym yn meddwl am ddarparu gofal i bobl, yn cymryd rhan mewn dadl a symbylwyd gan y British Medical Journal ynghylch gor\-driniaeth a gor\-ddiagnosis, yn enwedig i bobl sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes. Ni fydd y meysydd hyn yn unig yn gwneud i ofal iechyd darbodus ddigwydd. Dyma pam rwy’n awyddus i wneud popeth o fewn fy ngallu i gynnal egni a thrafodaeth y 12 mis diwethaf. I gefnogi hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ei chynhadledd gofal iechyd darbodus gyntaf yn ystod yr haf, a bydd yn cael ei hagor gan y Prif Weinidog. Bydd gan y gynhadledd gyrhaeddiad rhyngwladol ac yn ymwneud â phartneriaid allweddol sy’n hybu twf gofal iechyd darbodus, gan gynnwys byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG, y Colegau Brenhinol, Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal a Chymdeithas Feddygol Prydain.
Translate the text from English to Welsh.
In December, I committed to bringing education partners together to ensure that we have a comprehensive and system level response to our shared challenge of improving educational performance and raising standards. Today, as a sector we reflected on recent educational performance as well as on the long tail of challenges arising from the pandemic, highlighted again today by Estyn in its annual report. We also acknowledged the extremely difficult operating context for teachers and for school leaders.  All education partners have a shared interest and role in improving educational performance and I was pleased to hear commitments and consensus from across the sector which collectively will take us forward.  As a system we need a clearer focus on national priorities with a clearer national role in leading improvement.  We must improve performance through stretching our learners but also by continuing to reduce the equity gap. To do this we need a sharper focus on attendance, behaviour and well\-being; excellent teaching; curriculum reform \- with a particular focus on literacy and numeracy; and additional learning needs support.  **The Review of the future direction and roles and responsibilities of education partners** Today we also discussed the **review of the future direction, and roles and responsibilities of education partners** which I commissioned last year. I met with the review team in December 2023 and they highlighted to me the consistent messages from across the education system.  The findings chime with the wider evidence base picking up threads that have been explored in a range of previous reports, (such as the leadership review, OECD’s TPL report, the Sibieta Review of School Spending in Wales, Estyn findings\[1]).  The wider budget pressures are being felt keenly in our schools and as a government we have taken new action to simplify, streamline, and amalgamate funding for 2024\-25\. This action chimes with the review’s feedback on previous grant complexity and we have now taken action to address this. My thanks go to the review team and the large numbers of our practitioners and partners who have engaged with the review and provided their views. **The next phase: a new focus and clear delivery expectations** The feedback was clear regarding the preferred direction of travel that school leaders and a majority of local authorities want to see.  I am attaching a copy of the letter I received from Professor Dylan Jones, review team lead, to share these messages transparently with the sector.  Given the alignment of these messages with wider evidence, I concur with the review team that continuing the review with a focus on exploring the features of the current system, and the views across the system would not be best value.  I am therefore moving the review onto a new phase. I have determined that we will use this phase to explore how school improvement can best be supported at three levels: **1\.** **Supporting school\-to\-school working at a local level** **2\.** **Supporting school\-to\-school collaboration and networking across local authorities and at national level** **3\.** **Supporting school improvement at national level.** Our activities moving forward will therefore be focussed on exploring how school improvement can best be supported at these three levels, (local, supra\-local and national) and this will form the core workstreams for the next phase of the review. I have asked Professor Jones and ISOS Partnership to continue to engage with and support the work moving forward, particularly focussed on supporting elements exploring school\-to\-school working at the local level, and across local authorities.  I have also asked them to continue to act as a critical friend to my department as it considers the national level support structures and our role in national leadership.  In agreeing to this move to the second phase of our work I want to emphasise my aspirations for this work. I am clear that I want these new arrangements to: * deliver improved educational standards, in the context of clear roles and responsibilities across the education system which the Welsh Government will set out; * target resources in the most appropriate, efficient and effective ways, prioritising funding to schools and improving impact and delivery within the constrained budgets we are working with; * reduce workload at school level through implementation of a shared national improvement framework and simplified, streamlined reporting; * deliver more effective local collaboration, between schools and between local authorities, with an expectation that all schools and local authorities will work in partnership.  It will provide greater consistency of support and empowerment, with school improvement at the heart of realising our education reforms. * build more education expertise and implementation capacity nationally to provide stronger national leadership and clear frameworks to deliver our priorities. I want all partners to be clear that in undertaking this work our primary aim will be **to improve educational outcomes through stretching our learners and reducing the equity gap**.  It is also important to me that this next phase is guided and managed in accordance with the following principles:  * The approach needs to relentlessly focus on improving education standards in Wales in a consistent and coherent way, and how the system will enable this. * Collaboration and cooperation between schools, between schools and their local authority and between local authorities will be at the heart of the approach. All local authorities will still be expected to work in partnership with at least one other local authority. * Promoting a culture that supports a genuinely school\-led system and facilitating school leaders to act as system leaders nationally and locally thus creating a more direct two\-way link between national and local action. * Co\-design and co\-construction of the solutions are our de facto approach. * The principles and ways of working of the Wellbeing of Future Generations Wales are how we will take this work forward. * Value for money will be a guiding principle. I intend to strengthen the governance with the establishment of a National Coherence Group (NCG) to oversee the work of the second phase of the review. The NCG will support and connect the thinking of the Welsh Government, local authorities, regional consortia and partnerships, Estyn and Prof Jones’ team to move forward in an orderly way. Specifically, the NCG will confirm any proposed partnership models as well as ensuring that the totality of change for Welsh Government, Estyn, local authorities, and regional partners is coherent and robust at a system level. **Timelines and ensuring continued support to schools** I expect that this second phase of the review will commence immediately in February 2024 and continue for 6 months until August 2024, after which the NCG will agree the proposed approach across the sector. I expect that there will be further phases to the work in terms of transition to any new arrangements that are proposed. To ensure continuity of support to schools while the review progresses, we will expect any current regional working arrangements to continue during this time and be facilitated through the specific grant funding to support curriculum and professional learning in our schools.  \[1]independent\-leadership\-review\-nov\-2021\-en.pdf (gov.wales), Teachers’ professional learning study: Diagnostic report for Wales \| en \| OECD , Review of school spending in Wales \| GOV.WALES, Welcome to Estyn \| Estyn (gov.wales)
Ym mis Rhagfyr, ymrwymais i ddod â phartneriaid addysg at ei gilydd i sicrhau ein bod yn ymateb mewn ffordd gynhwysfawr ar draws y system i'r her sy'n wynebu pob un ohonom, sef gwella perfformiad addysgol a chodi safonau. Heddiw, fel sector, rhoesom sylw i berfformiad addysgol diweddar yn ogystal â'r gynffon hir o heriau sy'n deillio o'r pandemig, a ddaeth i'r amlwg eto heddiw yn adroddiad blynyddol Estyn. Cydnabuwyd hefyd y cyd\-destun hynod anodd y mae athrawon ac arweinwyr ysgolion yn gweithio ynddo.  Mae gan bob partner addysg fuddiant cyffredin a rôl yn y broses o wella perfformiad addysgol, ac roeddwn yn falch o glywed ymrwymiadau a chonsensws o bob rhan o'r sector a fydd, gyda'i gilydd, yn ein symud ymlaen.  Fel system, mae angen ffocws cliriach arnom ar flaenoriaethau cenedlaethol, a rôl genedlaethol gliriach wrth arwain gwelliant.  Rhaid inni wella perfformiad drwy ymestyn ein dysgwyr, ond hefyd drwy barhau i leihau'r bwlch cyfleoedd a thegwch. Er mwyn gwneud hyn mae angen inni ganolbwyntio'n fwy craff ar bresenoldeb, ymddygiad a lles; addysgu rhagorol; diwygio'r cwricwlwm \- gyda ffocws penodol ar lythrennedd a rhifedd; a chymorth anghenion dysgu ychwanegol. **Yr adolygiad o lwybr partneriaid addysg i'r dyfodol, a'u rolau a'u cyfrifoldebau** Buom hefyd yn trafod heddiw yr **adolygiad o lwybr partneriaid addysg i'r dyfodol, a'u rolau a'u cyfrifoldebau**, a gomisiynwyd gennyf llynedd. Fe wnes i gyfarfod â'r tîm adolygu ym mis Rhagfyr 2023 ac fe wnaethant dynnu fy sylw at y negeseuon cyson o bob rhan o’r system addysg.  Mae'r canfyddiadau yn cyd\-fynd â'r sylfaen dystiolaeth ehangach, gan roi sylw i elfennau a archwiliwyd mewn ystod o adroddiadau blaenorol, (megis yr adolygiad o arweinyddiaeth, adroddiad yr OECD ar gyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon, adolygiad Sibieta o wariant ysgolion yng Nghymru, canfyddiadau\[1] Estyn).  Mae'r pwysau cyllidebol ehangach yn cael ei deimlo'n gryf yn ein hysgolion, ac fel llywodraeth rydym wedi cymryd camau newydd i symleiddio a chyfuno cyllid ar gyfer 2024\-25\. Mae'r camau hyn yn cyd\-fynd ag adborth yr adolygiad ar gymhlethdod grantiau blaenorol, ac rydym bellach wedi gweithredu i fynd i'r afael â hyn. Hoffwn ddiolch i'r tîm adolygu a'r nifer fawr o'n hymarferwyr a'n partneriaid sydd wedi ymgysylltu â'r adolygiad ac wedi rhoi eu barn. **Y cam nesaf: ffocws newydd a disgwyliadau clir o ran cyflawni** Roedd yr adborth yn glir ynghylch y cyfeiriad a ffefrir ymhlith arweinwyr ysgolion a'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol.  Rwy'n atodi copi o'r llythyr a gefais gan yr Athro Dylan Jones, arweinydd y tîm adolygu, er mwyn rhannu'r negeseuon hyn yn onest â'r sector.  O ystyried y ffaith bod y negeseuon hyn yn cyd\-fynd â'r dystiolaeth ehangach, rwy'n cytuno â'r tîm adolygu nad parhau i drafod nodweddion y system bresennol, a safbwyntiau pobl ar draws y system yw'r ffordd orau o gael budd o'r adolygiad. Rwyf am symud yr adolygiad ymlaen i gam newydd, felly.  Rwyf wedi penderfynu y byddwn yn defnyddio'r cam hwn i archwilio beth yw'r ffordd orau o gefnogi'r gwaith o wella ysgolion ar dair lefel: **1\.** **Cefnogi gwaith rhwng ysgolion ar lefel leol** **2\.** **Cefnogi cydweithio a rhwydweithio rhwng ysgolion ar draws awdurdodau lleol ac ar lefel genedlaethol** **3\.** **Cefnogi'r gwaith o wella ysgolion ar lefel genedlaethol** O hyn allan, felly, bydd ein gweithgareddau yn canolbwyntio ar archwilio'r ffordd orau o gefnogi'r gwaith o wella ysgolion ar y tair lefel hyn, (lleol, uwch\-leol a chenedlaethol), a dyma fydd y ffrydiau gwaith craidd ar gyfer cam nesaf yr adolygiad. Rwyf wedi gofyn i'r Athro Jones a Phartneriaeth ISOS i barhau i gyfrannu at y gwaith a'i gefnogi wrth inni symud ymlaen, gan ganolbwyntio'n arbennig ar elfennau sy'n archwilio gwaith rhwng ysgolion ar lefel leol, ac ar draws awdurdodau lleol.  Rwyf hefyd wedi gofyn iddynt barhau i fod yn gyfeillion beirniadol i'm hadran wrth iddi ystyried y strwythurau cymorth ar lefel genedlaethol, a'n rôl o ran arweinyddiaeth genedlaethol. Wrth gytuno i symud ymlaen at ail gam ein gwaith, rwyf am bwysleisio fy amcanion. Rwy'n glir fy mod am i'r trefniadau newydd hyn: * ddarparu gwell safonau addysgol, yng nghyd\-destun rolau a chyfrifoldebau clir ar draws y system addysg y bydd Llywodraeth Cymru yn eu nodi; * targedu adnoddau yn y ffyrdd mwyaf priodol, effeithlon ac effeithiol, gan roi blaenoriaeth i gyllido ysgolion a gwella'r effaith a'r ddarpariaeth o fewn y cyllidebau cyfyng rydym yn gweithio gyda nhw; * lleihau llwyth gwaith ar lefel ysgol drwy weithredu fframwaith gwella cenedlaethol sy'n gyffredin i bawb, ac arferion adrodd symlach; * sicrhau cydweithio lleol mwy effeithiol, rhwng ysgolion a rhwng awdurdodau lleol, gyda disgwyliad y bydd pob ysgol ac awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth.  Bydd yn darparu mwy o gysondeb o ran cefnogi a grymuso, gan roi'r lle canolog i wella ysgolion wrth inni roi ein camau i ddiwygio addysg ar waith. * meithrin mwy o arbenigedd addysg a chapasiti gweithredu ar lefel genedlaethol er mwyn cynnig arweinyddiaeth genedlaethol gryfach a fframweithiau clir i gyflawni ein blaenoriaethau. Rwyf am i'r holl bartneriaid fod yn glir mai ein prif nod, wrth ymgymryd â'r gwaith hwn, fydd **gwella deilliannau addysgol drwy ymestyn ein dysgwyr a lleihau'r bwlch cyfleoedd a thegwch**.  Mae hefyd yn bwysig i mi fod y cam nesaf hwn yn cael ei lywio a'i reoli yn unol â'r egwyddorion canlynol:  * Mae angen i'r dull gweithredu ganolbwyntio'n ddi\-baid ar wella safonau addysg yng Nghymru mewn ffordd gyson a chydlynol, a sut y bydd y system yn galluogi hyn. * Bydd cydweithio rhwng ysgolion a'i gilydd, rhwng ysgolion a'u hawdurdod lleol, a rhwng awdurdodau lleol a'i gilydd yn ganolog i'r strategaeth. Bydd yn dal i fod disgwyl i bob awdurdod lleol weithio mewn partneriaeth ag o leiaf un awdurdod lleol arall. * Hyrwyddo diwylliant sy'n cefnogi system sydd wir yn cael ei harwain gan ysgolion, a hwyluso'r ffordd i arweinwyr ysgolion arwain ar lefel genedlaethol a lleol, gan greu cysylltiad dwy ffordd mwy uniongyrchol rhwng gweithredu cenedlaethol a lleol. * Cydgynllunio a chydadeiladu'r ffordd ymlaen yw ein dull de facto. * Byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith ar sail egwyddorion a ffyrdd o weithio Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. * Bydd gwerth am arian yn egwyddor arweiniol. Rwy'n bwriadu cryfhau'r trefniadau llywodraethiant drwy sefydlu Grŵp Cydlynu Cenedlaethol i oruchwylio gwaith ail gam yr adolygiad. Bydd y Grŵp Cydlynu yn cefnogi ac yn cysylltu safbwyntiau Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, partneriaethau a chonsortia rhanbarthol, Estyn a thîm yr Athro Jones er mwyn symud ymlaen mewn ffordd drefnus. Yn benodol, bydd y Grŵp Cydlynu yn cadarnhau unrhyw fodelau partneriaeth arfaethedig yn ogystal â sicrhau bod yr holl newidiadau i Lywodraeth Cymru, Estyn, awdurdodau lleol a phartneriaid rhanbarthol yn gydlynol a chadarn ar lefel y system. **Llinellau amser a sicrhau cefnogaeth barhaus i ysgolion** Rwy'n disgwyl y bydd ail gam yr adolygiad yn cychwyn ar unwaith ym mis Chwefror 2024 ac yn parhau am 6 mis tan fis Awst 2024, ac ar ôl hynny bydd y Grŵp Cydlynu yn cytuno ar y strategaeth arfaethedig ar draws y sector. Rwy'n disgwyl y bydd yna gamau pellach i'r gwaith o ran pontio ag unrhyw drefniadau newydd a gynigir. Er mwyn sicrhau parhad y gefnogaeth i ysgolion wrth i'r adolygiad fynd yn ei flaen, byddwn yn disgwyl i unrhyw drefniadau gweithio rhanbarthol presennol barhau yn ystod y cyfnod hwn a chael eu hwyluso drwy'r cyllid grant penodol i gefnogi'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol yn ein hysgolion.  \[1]adolygiad\-annibynnol\-o\-arweinyddiaeth\-tach\-2021\-cy.pdf (llyw.cymru), Astudiaeth o gyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon: Adroddiad diagnostig ar Gymru \| en \| OECD , Adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru \| LLYW. CYMRU, Croeso i Estyn \| Estyn (llyw.cymru)
Translate the text from English to Welsh.
Over the past fortnight we have all been gravely concerned about those caught up in the unfolding humanitarian crisis in Afghanistan. Our thoughts are with those affected including anyone who is already living here as a veteran, former interpreter, sanctuary seeker or refugee who may be concerned about friends and family members back home. Wales is a Nation of Sanctuary and we must do all that is possible to ensure Afghan interpreters, refugees and their families are able to reach safety and find a welcome here. Many of those fleeing Afghanistan have also served our country in various capacities and worked to keep us safe, it is only right we do what we can to protect them now. The UK Government has set up a helpline for non\-British nationals in need of assistance in need of assistance in Afghanistan. The Helpline number is \+4402475389980\. British nationals still in Afghanistan can call \+4402070085000 or \+4401908516666 to speak with the Foreign and Commonwealth Development Office to confirm their departure plans Wales has seen an outpouring of support from our communities, local authorities and supporting organisations. Welsh public authorities are already working flat out to ensure we play a full part in both the UK Government’s scheme for Afghan Relocation and Assistance Policy (supporting Afghan interpreters and their families), as well as the newly\-announced separate scheme to support Afghan refugees. We have received many offers of donations and volunteering, and we are exploring ways to make best use of these kind offers from every corner of our nation. Every Welsh Local Authority has come forward to offer properties and work tirelessly to ensure Wales is playing its part in both schemes. The availability of appropriate housing is a significant challenge – and this is not limited only to meeting our commitments under these schemes. We are urgently working to identify vacant properties which local authorities can use to accommodate those who have been evacuated. We appreciate the numerous generous offers to give someone shelter in their own homes but our main need is larger family properties. If Members become aware of larger properties which are available for use for these schemes, or to accommodate other vulnerable groups of people – please get in touch with the relevant local authority. This week the First Minister and I have met and listened to key stakeholders across Wales including representatives of the Afghan community to look at how we can all work collaboratively to provide the best support possible for those fleeing Afghanistan. We are rightly proud of the work which Wales has collectively done to support Syrian nationals and anyone who has fled persecution and sought sanctuary here over recent years and we will build on this experience. It is important to also remember that this crisis affects our Armed Forces personnel returning to Wales, and veterans living in Wales who have links to Afghanistan, as well as other civilian contractors who have been supporting the British mission. The scenes on our televisions or which they will have been dealing with in Kabul will be tough for many to deal with. Our CALL Mental Health Helpline is available for all to use – including Language Line language interpretation for those whose first language is not English or Welsh. The Helpline number is 0800132737\.  Veterans NHS Wales (external link) is available for veterans living in Wales who require support with mental health issues.  They can be contacted on 02921832261\. We have written to the UK Government to pledge our commitment to help in any way that we can and to seek urgent clarity on a number of important issues, from contingency accommodation planning arrangements to the scope and support to be provided under the new Afghan Citizens Resettlement Scheme. Once we have this clarity we will be better able to plan and support arrivals and I it is my intention to deliver an Oral Statement to the Senedd with an update in September. We stand ready to play a full part and we will continue to engage with all key partners here in Wales and across the UK to achieve this. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so.
Dros y pythefnos diwethaf, rydym ni i gyd wedi bod yn hynod o bryderus am y rhai a gafodd eu dal yn yr argyfwng dyngarol sy'n datblygu yn Affganistan. Mae ein meddyliau gyda'r rhai yr effeithir arnynt gan gynnwys unrhyw un sydd eisoes yn byw yma fel cyn\-filwr, cyn\-gyfieithydd, ceisiwr noddfa neu ffoadur a allai fod yn poeni am ffrindiau ac aelodau o'r teulu yn ôl adref. Mae Cymru'n Genedl Noddfa a rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cyfieithwyr a ffoaduriaid a'u teuluoedd o Affganistan yn gallu cyrraedd man diogel a chael croeso yma. Mae llawer o'r rhai sy'n ffoi o Affganistan hefyd wedi gwasanaethu ein gwlad mewn gwahanol ffyrdd ac wedi gweithio i'n diogelu ni, felly mae cyfrifoldeb arnom i wneud yr hyn a allwn i'w diogelu nhw yn awr. Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu llinell gymorth ar gyfer gwladolion nad ydynt yn Brydeinig sydd angen cymorth yn Affganistan. Rhif y Llinell Gymorth yw \+4402475389980\. Gall gwladolion Prydeinig sy'n dal i fod yn Affganistan ffonio \+4402070085000 neu \+4401908516666 i siarad â swyddogion y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i gadarnhau eu cynlluniau ymadael Mae cymunedau, awdurdodau lleol a sefydliadau cefnogi Cymru wedi rhuthro i gynnig cymorth. Mae awdurdodau cyhoeddus Cymru eisoes yn gweithio'n ddiflino i sicrhau ein bod yn chwarae rhan lawn yng nghynllun Llywodraeth y DU ar gyfer adleoli a chynnig cymorth i bobl Affganistan (cefnogi cyfieithwyr o Affganistan a'u teuluoedd), yn ogystal â'r cynllun ar wahân sydd newydd ei gyhoeddi i gefnogi ffoaduriaid o Affganistan. Rydym wedi derbyn llawer o gynigion hael o roddion neu wirfoddoli, ac rydym yn edrych ar ffyrdd o wneud y defnydd gorau o'r cynigion caredig hyn o bob cwr o'n cenedl. Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cynnig eiddo ac yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan yn y ddau gynllun. Mae argaeledd tai priodol yn her sylweddol – ac yn fater sy’n effeithio ar fwy na’n hymrwymiadau o dan y cynlluniau hyn yn unig. Rydym yn gweithio ar frys i ddod o hyd i eiddo gwag y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi gorfod dianc. Rydym yn gwerthfawrogi'r cynigion hael niferus sydd wedi dod i law gan bobl yn cynnig rhoi lloches i unigolion yn eu cartrefi eu hunain, ond ein prif angen yw eiddo teuluol mwy. Os daw Aelodau'n ymwybodol o eiddo mwy sydd ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer y cynlluniau hyn, neu i ddarparu ar gyfer grwpiau eraill o bobl sy'n agored i niwed – cysylltwch â'r awdurdod lleol perthnasol. Yr wythnos hon, mae'r Prif Weinidog a minnau wedi cyfarfod a gwrando ar randdeiliaid allweddol o bob cwr o Gymru, gan gynnwys cynrychiolwyr o gymuned Affganistan, i edrych ar sut y gallwn gydweithio i ddarparu'r cymorth gorau posibl i'r rhai sy'n ffoi o’r wlad. Mae lle gennym i ymfalchïo yn y gwaith y mae Cymru wedi'i wneud i gefnogi pobl Syria ac unrhyw un arall sydd wedi ffoi rhag erledigaeth ac wedi ceisio noddfa yma dros y blynyddoedd diwethaf, ac fe fyddwn yn adeiladu ar y profiad hwn. Mae'n bwysig cofio hefyd bod yr argyfwng hwn yn effeithio ar bersonél ein Lluoedd Arfog sy'n dychwelyd i Gymru, a chyn\-filwyr sy'n byw yng Nghymru sydd â chysylltiadau ag Affganistan, yn ogystal â chontractwyr eraill sydd wedi bod yn cefnogi gwaith Prydain yno. Bydd y golygfeydd ar ein setiau teledu neu’r rhai y byddant wedi bod yn delio â hwy yn Kabul yn anodd i lawer ddygymod â nhw. Mae ein Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL ar gael i bawb ei defnyddio – ac mae gwasanaeth cyfieithu ar gael i'r rhai nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Rhif y Llinell Gymorth yw 0800132737\.  Mae gwasanaeth GIG Cymru i Gyn\-filwyr (dolen allanol) hefyd ar gael i gyn\-filwyr sy'n byw yng Nghymru sydd angen cymorth gyda phroblemau iechyd meddwl.  Gellir cysylltu â nhw ar 02921832261\. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i bwysleisio ein hymrwymiad i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn ac i ofyn am eglurder ar frys ar nifer o faterion pwysig, o drefniadau llety wrth gefn i'r cymorth sydd i'w ddarparu o dan y cynllun newydd i adsefydlu dinasyddion Affganistan. Unwaith y daw eglurder, byddwn yn gallu cynllunio a chefnogi'r rhai sy’n cyrraedd yn well a'm bwriad yw cyflwyno Datganiad Llafar i'r Senedd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ym mis Medi. Rydym yn barod i chwarae rhan lawn yn y gwaith, ac fe fyddwn yn parhau i ymgysylltu â'r holl bartneriaid allweddol yma yng Nghymru a ledled y DU i gyflawni hyn. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Translate the text from English to Welsh.
This year, Young Carers’ Action day focuses on loneliness – something experienced by many young carers. Loneliness isn’t just a lack of friends or family, it can be a powerful feeling which affects mental health and wellbeing. Since the pandemic started, the additional worry and sense of isolation has had a negative impact on the wellbeing of many young carers. I have championed all unpaid carers in Wales throughout my time in government and worked hard to put schemes and initiatives in place to support them. Most recently, I have worked with the Carers’ Ministerial Advisory group and a wide range of organisations, including local authorities, carers’ charities and young carers, to develop the *Strategy for Unpaid Carers*, which was published a year ago. A delivery plan to support the strategy was launched in November. It sets out a new national priority for unpaid carers in education and employment.  A large number of the actions in the four national priorities will help increase the profile of young carers and the issues affecting them. We are now entering the third year of the national Young Carer ID card scheme, which is provided in partnership with local authorities and Carers Trust Wales. The ID card is available to all young carers up to the age of 18 and it provides young carers with a quick and simple way to inform teachers, local health services, public transport and other services that they look after someone. It will also help them access their rights under our Social Services and Well\-being (Wales) Act 2014\. This includes a right to a carers’ needs assessment. Pembrokeshire, Carmarthenshire and Powys will launch the Young Carer ID card this month, meaning the card is now available and recognised in every part of Wales. By working in partnership to raise awareness of carers’ rights and services we can better support and recognise young carers and make sure they get help and support they need.
Eleni, mae Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc yn canolbwyntio ar unigrwydd – rhywbeth sy’n brofiad byw i nifer o ofalwyr ifanc. Nid diffyg ffrindiau a theulu yn unig yw unigrwydd, gall fod yn deimlad grymus sy’n effeithio ar iechyd meddwl a llesiant. Ers dechrau’r pandemig, mae’r gofid ychwanegol a’r ymdeimlad o unigrwydd wedi cael effaith negyddol ar lesiant nifer o ofalwyr ifanc. Rwyf wedi cefnogi pob gofalwr di\-dâl drwy gydol fy amser yn y llywodraeth ac rwyf wedi gweithio’n galed i roi cynlluniau a mentrau ar waith i’w cefnogi. Yn fwy diweddar, rwyf wedi cydweithio â Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr ac ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol, elusennau gofalwyr a gofalwyr ifanc er mwyn datblygu’r *Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di\-dâl* a gyhoeddwyd flwyddyn yn ôl. Ym mis Tachwedd, lansiwyd cynllun cyflawni i gefnogi’r strategaeth hon. Mae’r cynllun hwn yn gosod blaenoriaeth genedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr di\-dâl ym meysydd addysg a chyflogaeth. Bydd llawer o’r camau gweithredu yn y pedair blaenoriaeth genedlaethol yn gymorth i godi proffil gofalwyr ifanc a’r materion sy’n eu heffeithio. Rydym bellach yn y drydedd flwyddyn o’r cynllun cerdyn adnabod cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Ifanc sy’n cael ei roi ar waith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Mae’r cerdyn adnabod ar gael i bob gofalwr ifanc hyd at 18 oed ac yn sicrhau ffordd gyflym a syml iddynt roi gwybod i athrawon, gwasanaethau iechyd lleol, trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau eraill eu bod yn gofalu am rywun. Yn ogystal, bydd y cerdyn adnabod yn gymorth iddynt gael gafael ar eu hawliau o dan ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014\. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i gael asesiad anghenion gofalwyr. Y mis hwn, bydd Cynghorau Sir Penfro, Sir Gaerfyrddin a Powys yn lansio’r cerdyn adnabod ar gyfer Gofalwyr Ifanc sy’n golygu bod y cerdyn bellach yn cael ei gydnabod ac ar gael ym mhob rhan o Gymru. Drwy weithio mewn partneriaeth i godi ymwybyddiaeth am hawliau gofalwyr a gwasanaethau, gallwn adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc yn well a sicrhau eu bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Translate the text from English to Welsh.
The Council Tax Reduction Scheme has been providing support to hundreds of thousands of households with their council tax bills since it was introduced almost eight years ago. But with many more people facing reduced income or unemployment as a result of Covid\-19, the CTRS has received a significant increase in applications. In the last year the Welsh Government has provided local authorities with almost £11m in additional funding to help them cater for the increased demand on the scheme – providing a lifeline to households that are struggling to cope financially during these difficult times. Finance Minister Rebecca Evans: > We are committed to providing a responsible and targeted approach to addressing the financial impact of the pandemic. > > > Whilst the coronavirus outbreak is affecting everyone, we recognise the disproportionate impact it is having on some of the most vulnerable people in our society. > > > The funding I am announcing today will provide local authorities with the financial reassurances they need to continue supporting those who need it most through our Council Tax Reduction Scheme. > > > I would encourage anyone who thinks they may be eligible for help with their council tax bills to contact their council for advice. Councillor Anthony Hunt, WLGA Spokesperson for Resources said: > This additional funding will be welcomed by local authorities in all parts of Wales to help hard pressed households with their council tax bills.  Demand for this support had soared during the past year. > > > I would reiterate the words of the Finance Minister that any resident worried about their council tax should get in touch with their local authority. The Welsh Government will shortly be publishing analysis on the impact Covid\-19 has had on the Council Tax Reduction Scheme. We are also continuing to work with the Welsh Local Government Association (WLGA) and local authorities to understand the longer term effects of increased demand on the scheme and to assess the extent of any decline in council tax collection on local authorities.
Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi bod yn rhoi cymorth i gannoedd o filoedd o aelwydydd gyda'u biliau treth gyngor ers ei gyflwyno bron i wyth mlynedd yn ôl. Ond gyda llawer mwy o bobl yn wynebu gostyngiad yn eu hincwm neu ddiweithdra o ganlyniad i Covid\-19, mae'r Cynllun wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron i £11 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i'w helpu i fodloni’r galw cynyddol ar y cynllun – gan ddarparu cymorth gwerthfawr i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans: > Rydym wedi ymrwymo i ddarparu dull cyfrifol ac wedi'i dargedu o fynd i'r afael ag effaith ariannol y pandemig. > > > Er bod y coronafeirws yn effeithio ar bawb, rydym yn sylweddoli’r effaith anghymesur y mae'n ei chael ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. > > > Bydd y cyllid rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn rhoi'r sicrwydd ariannol y mae ei angen ar awdurdodau lleol i barhau i roi cymorth i'r rhai sydd fwyaf ei angen, drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. > > > Rydw i’n annog unrhyw rai sy'n credu y gallent fod yn gymwys i gael help gyda bil eu treth gyngor i gysylltu â'u hawdurdod lleol am gyngor. Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Llefarydd Adnoddau CLlLC: > Bydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei groesawu gan awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru i helpu aelwydydd sydd dan bwysau o ran biliau treth gyngor.  Mae’r galw am y cymorth hwn wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. > > > Byddwn yn ategu geiriau'r Gweinidog Cyllid, y dylai unrhyw breswylydd sy'n poeni am ei dreth gyngor gysylltu â'i awdurdod lleol. Cyn bo hir, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dadansoddiad o'r effaith y mae Covid\-19 wedi'i chael ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru  ac awdurdodau lleol i ddeall effeithiau tymor hwy y galw cynyddol ar y cynllun ac i asesu graddau unrhyw ostyngiad yn y dreth gyngor a gesglir gan awdurdodau lleol ac effaith hynny arnynt.
Translate the text from English to Welsh.
Speaking at the Ocean Energy Conference in Dublin today, the minister outlined the success businesses have had enabling marine energy over the last year and the investment in the supply chain allowing this to happen. > “We recognise that the sector is in its infancy, so we have invested in 10 marine energy related projects to build capacity and expertise in Wales,” she said. More than €71 million of European funding has been agreed, which will deliver over €117 million of investment in Wales. Businesses to have benefitted include: * Ledwood Engineering, Mainstay Marine and MarineSpace, businesses based in Pembrokeshire in West Wales, have all reaped the rewards from millions of pounds of investment benefitting their existing technical expertise within the marine and power sectors. * Minesto have completed a project to enable the commercial roll\-out of their Deep Green tidal stream technology at Holyhead Deep, off the west coast of Anglesey. The project designed, installed and tested a 500 kilowatt device. The next phase of the project has received an additional €14\.9 million and will support the design of an eighty megawatt site development off the coast of Anglesey in tandem with designing a full\-scale device of at least 1 megawatt. * Swansea\-based wave energy developer Marine Power Systems successfully concluded their year\-long sea trials and testing this summer and their WaveSub quarter scale prototype achieved its critical milestones. They have also been awarded €13 million to design and manufacture a larger scale device. Wales’ first Marine Plan and a new National Development Framework will also provide strategic planning policy for future sustainable use of natural resources – both on\-shore and off\-shore. Minister for Environment, Energy and Rural Affairs, Lesley Griffiths, said: > “We are determined for marine energy to be a key part of our plans for Wales to become a nation powered by renewable energy sources. EU funds have been crucial in supporting this. > > > “We have set ambitious targets as we strive to become a greener Wales where resources are managed not for just today, but for the benefit of future generations. > > > “This year we have accepted the UK Committee on Climate Change advice to increase the ambition of our decarbonisation targets in Wales, brought forward legislation next year to adopt a 95 per cent target for greenhouse gas reduction and are exploring how we can set a net zero target in the future. > > > “Marine energy and offshore wind are essential parts of these targets, as we look to harness our natural resources to achieve long term benefits for everyone in Wales.” The minister also urged the UK government to invest in marine and renewable energy in Wales. The minister added: > “We have invested to support marine energy and we need the UK government to follow suit. The recent announcements on the Contracts for Difference auction show how it has driven down costs for offshore wind. The success of this mechanism must be extended to other marine technologies. > > > “Offshore wind has shown it can compete at or below the market rate, so the UK government should open the support for marine and other new technologies to drive down the costs and secure a new industry to the UK.”
Pan oedd hi'n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni'r Môr yn Nulyn heddiw, gwnaeth y Gweinidog amlinellu'r llwyddiannau mae busnesau wedi'u cael wrth alluogi ynni'r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a'r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy'n caniatáu i hyn ddigwydd. > "Rydyn ni'n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy'n gysylltiedig ag ynni'r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru," meddai hi. Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.   Mae'r busnesau sydd wedi elwa'n cynnwys:  * Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae'r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i'w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni'r môr. * Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi'r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14\.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu'r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf. * Gwnaeth y datblygwyr ynni'r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy. Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.   Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: > "Rydyn ni'n benderfynol y bydd ynni'r môr yn rhan allweddol o'n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy'n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn. > > > "Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau'n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau'r dyfodol.  > > > "Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol. > > > "Mae ynni'r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o'r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru." Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni'r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Ychwanegodd y Gweinidog: > "Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi ynni'r môr ac rydyn ni'n galw am Lywodraeth y DU wneud yr un peth.  Mae cyhoeddiadau diweddar ar yr ocsiwn Contractau Gwahaniaeth wedi dangos sut mae wedi arwain at gostau is am wynt alltraeth. Rhaid i lwyddiant y mecanwaith hwn gael ei ehangu i dechnolegau morol eraill.  > > > "Mae gwynt alltraeth wedi dangos ei fod yn gallu cystadlu ar bris y farchnad neu'n is, felly, dylai Llywodraeth y DU ehangu’r cymorth ar gyfer technolegau morol a thechnolegau newydd eraill i yrru costau i lawr a sicrhau diwydiant newydd ar gyfer y DU."
Translate the text from Welsh to English.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dadansoddiad yn amcangyfrif effeithiau dosbarthiadol ei hymateb uniongyrchol i’r argyfwng costau byw – drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, y Gronfa Cymorth Dewisol, a’r taliad Costau Byw. Mae’r cynlluniau yng Nghymru yn golygu y bydd llawer o aelwydydd ar yr incwm isaf yng Nghymru yn gallu cael taliadau gwerth £350, a bydd rhai yn gallu cael cymorth ariannol ychwanegol drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol. Mae’r dadansoddiad yn dangos bod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru yn flaengar iawn, gyda mwy o gymorth ariannol ar gyfartaledd yn cael ei roi i’r rhai ar incwm is. Mae disgwyl i gyfanswm o tua 75% o aelwydydd gael eu cefnogi mewn rhyw ffordd. Er hynny, bydd bron i ddwywaith yn fwy yn mynd i aelwydydd yn hanner isaf y dosbarthiad incwm o gymharu â’r rhai yn yr hanner uchaf, gyda theirgwaith yn fwy yn mynd i’r rhai yn y pumed isaf o gymharu â’r rhai yn y pumed uchaf. Mae’r taliad costau byw o £150 yn gynllun mwy cyffredinol, tra bo’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a’r Gronfa Cymorth Dewisol yn canolbwyntio mwy ar aelwydydd ar incwm is. Mae’r cynlluniau’n golygu bod y cymorth yng Nghymru, gyda’i gilydd, yn fwy helaeth ac wedi’i dargedu’n well at ben isaf y dosbarthiad incwm na’r cymorth a gynigir yn Lloegr gan Lywodraeth y DU. Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: > “Rydym yn gwybod y bydd yr argyfwng hwn yn effeithio fwyaf ar y rhai sydd ar yr incwm isaf, felly targedu’r cymorth fel hyn yw’r ffordd decaf o helpu pobl. > > > “Mae’r argyfwng costau byw yn bellgyrhaeddol a bydd yn effeithio ar rai sydd heb ei chael yn anodd talu eu biliau o’r blaen. Felly roedd yn briodol darparu cymorth eang drwy’r taliadau costau byw gwerth £150\. Mae’r cymorth ychwanegol drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a’r Gronfa Cymorth Dewisol yn golygu bod hwn yn becyn mwy blaengar sy’n rhoi arian i’r rhai sydd wir ei angen.” Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: > “Mae teuluoedd ac aelwydydd dan bwysau ac rydym am sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi. Rydym yn ymwybodol nad yw pawb sy’n gymwys i gael cymorth yn manteisio arno, ac mae ein dadansoddiad yn adlewyrchu’r ffaith hon. Mae ein hymgyrch ‘hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r gwahanol lwybrau cymorth ac rydym yn annog pawb sydd ei angen i fanteisio ar yr hyn sydd ar gael.” Cafodd pecyn costau byw Llywodraeth Cymru – sy’n rhoi cymorth i aelwydydd yn y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn nesaf – ei gyhoeddi ar 15 Chwefror. Bydd pleidlais ar y cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal heddiw wrth i’r Senedd drafod y Gyllideb Derfynol. Yn ddiweddarach y mis hwn mae disgwyl i Ganghellor y Trysorlys gyhoeddi Datganiad y Gwanwyn. Mae’n debygol y bydd yn cael ei wneud ychydig cyn y cynnydd i’r cap ar brisiau ynni a’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol, tra bo disgwyl i chwyddiant barhau i godi. Ychwanegodd Rebecca Evans: > “Cafodd ein pecyn cymorth gwerth £330m ei ddylunio i leihau pwysau yn awr ynghyd â darparu sicrwydd yn y tymor hirach. Fodd bynnag, rydym yn gwybod yn iawn y bydd pobl yn parhau i wynebu heriau gwirioneddol iawn. Gwnaethom ni gymryd camau yn ein cyllideb ni, yn awr mae’n bryd i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan yn Natganiad y Gwanwyn. > > > “Byddai un cam effeithiol, syml yn dadwneud y penderfyniad creulon i ddileu’r cynnydd o £20 i Gredyd Cynhwysol, sy’n golygu bod rhagor o bobl wedi eu cael eu hunain mewn sefyllfa ariannol ddyrys. > > > “Rydym wedi awgrymu nifer o ffyrdd eraill y gallai Llywodraeth y DU helpu aelwydydd, er enghraifft drwy symud y costau polisi cymdeithasol i drethiant cyffredinol a chyflwyno tariff ynni incwm isel i dargedu cymorth yn well i aelwydydd ar incwm is. Nid yw ei hymateb i’r argyfwng costau byw wedi bod yn ddigonol hyd yma; rhaid i Ddatganiad y Gwanwyn sbarduno cymorth blaengar ac ystyrlon a fydd yn helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf.”
The Welsh Government has published analysis estimating the distributional effects of its immediate response to the cost of living crisis – through the Winter Fuel Support Scheme, Discretionary Assistance Funds, and the Cost of Living payment. The schemes in Wales mean that many households with the lowest incomes in Wales will be able to receive payments of £350, with some entitled to further financial support from the Discretionary Assistance Fund. The analysis shows that the response from the Welsh Government is highly progressive, with on average more financial support given to those on lower incomes. In total up to around 75% of households are expected to be supported in some way. However, nearly twice as much will go to households in the bottom half of the income distribution compared to those in the top half, and 3 times as much to those in the bottom fifth compared to those in the top fifth. The £150 cost of living payment is a broad based scheme, whereas the Winter Fuel Support Scheme and Discretionary Assistance Funds are more focused on households with lower incomes. The schemes mean that altogether the support in Wales is more generous and better targeted at the lower end of the income distribution than that offered in England by the UK government. Rebecca Evans, Minister for Finance and Local Government, said: > “We know this crisis will be most significant for those who have the least, so targeting support in this way is the fairest way of helping people. > > > “The cost of living crisis is far\-reaching and will affect those who may not have struggled to pay their bills before, so it was right to provide widespread support through the £150 cost of living payment. The extra support through the Winter Fuel Support Scheme and Discretionary Assistance Funds means this is a more progressive package that gets money to those who really need it.” Jane Hutt, Minister for Social Justice, said: > “Families and households are under strain and we want to make sure people are supported. We’re aware that not everyone who is eligible for support is coming forward, a fact our analysis reflects. Our ‘claim what’s yours’ campaign seeks to raise awareness of the different avenues of support and we encourage everyone who needs it to make the most of what is available.” The Welsh Government’s cost of living package – which provides support to households in the current financial year and next year – was announced on 15 February. The funding for next year will be voted on today when the Senedd will debate the Final Budget. Later this month the Chancellor of the Exchequer is expected to make the Spring Statement. It will likely be made shortly ahead of the increase to the energy price cap and the rise in National Insurance, while inflation is expected to keep increasing. Rebecca Evans added: > “Our £330 million support package was designed to ease pressures now while providing reassurance in the longer term. But we know full well that people will still be facing very real challenges. We took action in our budget, now it’s time for the UK government to step up in the Spring Statement. > > > “One simple, effective action would be to reverse the cruel decision to remove the £20 uplift to Universal Credit, which has pushed more people towards a financial cliff edge. > > > “We have suggested a number of other ways it could help households, for example moving the social policy costs to general taxation and introducing a low income energy tariff to better target support to lower income households. Its response to the cost of living crisis has fallen short so far; the Spring Statement must be a catalyst for meaningful, progressive support that will help those who need it the most.”
Translate the text from Welsh to English.
Ar drothwy 2023, rwy'n falch o gael rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am flwyddyn thematig newydd ac am y gweithgareddau ymgyrchu cysylltiedig sy'n cael eu gwneud gan Croeso Cymru. Fel rhan o’r brand Cymru Wales, bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar gyfnod prysur o ymgyrchu ar gyfer yr hydref, ac ymgyrch marchnata twristiaeth ryngwladol lwyddiannus ar gyfer twristiaeth a'r gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o’r brand yn ystod Cwpan y Byd FIFA. Drwy ddefnyddio’r gair Cymraeg *Llwybrau* yn deitl i’r ymgyrch, rydym yn parhau â’r gwaith i hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn ymgyrchoedd Croeso Cymru i gyflwyno Cymru fel cyrchfan croesawgar a chynhwysol, sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn ac yn darparu amrediad helaeth o brofiadau. Mae hefyd yn bodloni ein ymrwymiad strategol yn Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025 i gyflwyno blwyddyn thematig bob dwy flynedd, i roi digon o amser i’r diwydiant baratoi rhwng blynyddoedd. Mae busnesau yn parhau i wynebu heriau tymor byr a hirdymor. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi sector twristiaeth a lletygarwch sy’n ffynnu sydd, gyda diwydiannau cysylltiedig, yn cynrychioli dros ddegfed rhan o weithlu Cymru. Drwy weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, mae'r thema'n cynnig cyfle i ystod eang o gynhyrchion, busnesau a chymunedau ddod at ei gilydd i gydweithio ar becynnau wedi'u teilwra a fydd yn addas ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, ac ar gyfer cyllidebau a diddordebau gwahanol a ffyrdd gwahanol o fyw. Mae Croeso Cymru wedi bod yn paratoi rhanddeiliaid ar gyfer y flwyddyn hon mewn nifer o ffyrdd. Hyd yma mae'r thema wedi cael croeso cynnes ac mae llawer o bartneriaid wrthi eisoes yn cynllunio’u gweithgarwch cysylltiedig eu hunain. Mae adnoddau i ategu eu gweithgareddau’n cynnwys canllaw i'r diwydiant a logos i'w lawrlwytho, canllawiau ar gynyddu cyfleoedd drwy Croeso Cymru a phecyn cymorth ar gynulleidfaoedd presennol sydd wedi cael eu rhannu’n helaeth. Mae’r olaf yn seiliedig ar ymchwil a gwybodaeth farchnata, ac mae’n cynnwys y cynulleidfaoedd sydd fwyaf tebygol o ymweld â Chymru.  I ddathlu lansio *Llwybrau, Wales by Trails*, yn ogystal â darparu deunydd ar y teledu ac ar fideo ar alw, ac ar gyfryngau digidol y telir amdanynt, byddwn yn darparu deunyddiau printiedig hefyd, yn ymgymryd â gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus ac yn trefnu hysbysebion Oddi Cartref (OOH) mewn mannau allweddol (fel Gorsaf Waterloo). Yn ogystal, bydd deunyddiau newydd ar y we a gweithgareddau organig ychwanegol ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys gwaith gyda dylanwadwyr. Bydd hyn oll yn digwydd ochr â rhaglen barhaus rhagweithiol a fydd yn targedu gweithredwyr teithiau domestig a rhyngwladol i werthu mwy o lwybrau a gwyliau Cymru. Yn ogystal, gan gydweithio gyda Visit Britain, mae Croeso Cymru wedi lansio TXGB yng Nghymru yn ystod yr hydref – platfform busnes i fusnes ar\-lein sy'n rhoi'r opsiwn i fusnesau gael gwell mynediad at gynulleidfaoedd domestig a rhyngwladol drwy sianeli gwerthu mewn un farchnad, a hynny ar gyfraddau is o gomisiwn. Bydd hysbyseb deledu Llwybrau, Wales by Trails, sy’n gwahodd ymwelwyr posibl i fod yn “Trail Takers" yn cael ei darlledu yn y DU ac yng Nghymru y mis hwn, gan gynnwys fersiwn Gymraeg. Cafodd y trac sain ei ysgrifennu gan y cyfansoddwr o Gymru Siôn Trefor, ac mae’n adrodd hanes pobl wrth iddynt baratoi i ddilyn llwybrau. Maent yn cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion sy’n apelio at ddiddordebau gwahanol ac a all ysgogi pobl i ddilyn llwybr penodol e.e., gwylio dolffiniaid, cerdded, beicio mynydd, mathau gwahanol o lety, bwyta allan a threftadaeth. Yr edefyn a fydd yn rhedeg drwy’r holl waith fydd y gwahoddiad i ymwelwyr a thrigolion Cymru archwilio llwybrau epig Cymru. Dyma rai enghreifftiau o'r llwybrau sydd ar gael ar gyfer 2023 \- **Loving Welsh Food, Caerdydd** Siân Roberts yw perchennog Loving Welsh Food, busnes sy'n hyrwyddo bwyd a diod Cymru drwy deithiau bwyd, gweithdai coginio a chyflwyniadau am fwyd. Mae ei theithiau bwyd o amgylch Caerdydd a lleoliadau eraill yng Nghymru yn dangos sefydliadau bwyd annibynnol i dwristiaid ac i bobl leol, gan greu ymdeimlad cryf o le. **Cyfoeth Naturiol Cymru** Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoli dros 550km o lwybrau cerdded, dros 600km o lwybrau beicio a beicio mynydd, bron 100km o lwybrau rhedeg a thua 30km o lwybrau marchogaeth – i gyd ag arwyddion sy’n dangos y ffordd. **Awyr Dywyll – Mynyddoedd Cambria** Mae Llwybr Seryddol Mynyddoedd Cambria yn llwybr hunan\-dywys sy'n cysylltu rhai o'r lleoliadau Awyr Dywyll gorau ym Mynyddoedd Cambria (ac o bosibl yn y byd). Mae'n llwybr hygyrch sy'n igam\-ogamu am ryw 50 milltir o'r de i'r gogledd, gan gynnig cyfleoedd gwych i weld y Llwybr Llaethog, cawodydd sêr gwib a'r Orsaf Ofod Genedlaethol yn y nos, yn ogystal â golygfeydd seryddol hardd eraill. Bydd Croeso Cymru yn parhau i fonitro perfformiad ymgyrchoedd defnyddwyr yn ystod y misoedd nesaf, ac yn parhau i ddefnyddio gwybodaeth am y farchnad ac adborth gan y diwydiant i deilwra ac addasu eu rhaglen waith yn ôl yr angen. 
As we begin 2023, I’m pleased to update Members on a new themed year and related campaign activity being delivered by Visit Wales. As part of the ‘*Cymru**Wales’* brand, this will capitalise on the busy autumn season tourism campaigns and the successful international marketing campaign and brand awareness activity delivered during the FIFA World Cup.     *Llwybrau*is the Welsh word for trails. We will continue to promote the Welsh language in Visit Wales campaigns as part of presenting Wales as a welcoming, inclusive destination, open all year round and home to a diverse range of experiences. It also meets our strategic commitment in Welcome to Wales: Priorities for the Visitor Economy 2020\-25 to deliver a themed year biennially, allowing industry sufficient time to prepare in between times.   There continue to be both short and long term challenges for businesses. However the Welsh Government remains committed to supporting a thriving tourism and hospitality sector that, together with allied industries, represents more than a tenth of the Welsh workforce.   Working with a variety of partners, this new theme offers an opportunity for a wide range of products, businesses and communities to come together to collaborate on tailored packages to suit a range of audiences, aimed at different budgets, interests and lifestyles.   Visit Wales has been preparing stakeholders for the upcoming year in a variety of ways. So far, the theme has received a warm welcome with many partners already planning their own related activity.  Resources to support activities include an industry guide and logo download, a guide to maximising opportunities via Visit Wales and a current audience identities toolkit which have been made widely available. The latter is based on research and marketing insights and represents those audiences that are Wales’ best prospects as potential visitors.  To mark the launch of *Llwybrau, Wales by Trails**,* inaddition to TV, Video on Demand and paid digital, there will be print media and PR activity and Out of Home (OOH) placements at key locations (such as Waterloo Station).  In addition, there will be new web content and additional organic social media activity including work with influencers. All of this will sit alongside an ongoing pro\-active programme targeting domestic and international tour operators to sell more Wales trails and holidays.   In addition, in collaboration with VisitBritain, Visit Wales enabled an online business to business platform, called, TXGB, to become operational in Wales during the Autumn. This  gives businesses the option of better access to sales channels in one marketplace and at lower commission rates to domestic and international audiences.  The Llwybrau, Wales by Trails TV advert, inviting potential visitors to “*Be a Trail Taker*” will air in the UK and Wales this month in Welsh and English language versions. The sound track was written by Welsh composer, Sion Trefor and tells the story of preparing for and becoming a trail taker.  It features locations and products from across the country, with a variety of product interests that can influence a trail e.g. dolphin spotting, walking, mountain biking, varied accommodation, eating out and heritage. The thread throughout all work will be the invitation to visitors and residents of Wales to explore the epic trails of Wales.  Some examples of trails available for 2023 include \-  **Loving Welsh Food, Cardiff** Sian Roberts is the owner of Loving Welsh Food, a business that promotes Welsh cuisine through food tours, cooking workshops and food presentations. Her culinary trails around Cardiff and other parts of Wales showcase the independent food and drink venues to tourists and locals, creating a strong sense of place.   **Natural Resources Wales** Natural Resources Wales (NRW) manages over 550 km of waymarked walking trails, over 600 km of waymarked mountain bike and cycling trails, almost 100 km of waymarked running trails and around 30 km of waymarked horse\-riding trails.  **Dark Skies – Cambrian Mountains** The Cambrian Mountains Astro Trail is a self\-guided trail that connects some of the best Dark Sky locations in the Cambrian Mountains (and, possibly, the world). It is an accessible zigzagging route that runs for approximately 50 miles from south to north, with fantastic opportunities to spot the Milky Way, meteor showers and the International Space Station at night, amongst other astronomical beauties. Visit Wales will monitor consumer campaign performance in the coming months and continue to use market intelligence and industry feedback to tailor and adapt their work programme as necessary.
Translate the text from Welsh to English.
Mae’n dda iawn gen i gyhoeddi heddiw Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni gyntaf Cymru. Y nod wrth ddatblygu’r strategaeth oedd pennu cyfeiriad clir i’r dyfodol, a sbarduno gweithredu pellach ym mhob sector: domestig, busnes a chyhoeddus. Mae defnyddio ynni’n effeithlon yn cynnig cyfleoedd mawr i sicrhau twf gwyrdd trwy swyddi a sgiliau newydd a chadwyn gyflenwi gref.  Dyma’r ffordd fwyaf cost\-effeithiol i wireddu’n hymrwymiad i leihau allyriadau carbon tra’n gostwng prisiau ynni i fusnesau a’r sector cyhoeddus.  Bydd hefyd yn delio’n uniongyrchol â thlodi tanwydd trwy ostwng cost gwresogi cartrefi pobl sy’n agored i niwed. Rydyn ni yng Nghymru wedi arwain y ffordd o ran gwireddu gweledigaeth ar gyfer effeithlonrwydd ynni sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio llai o ynni a rhyddhau llai o allyriadau carbon, creu swyddi a threchu tlodi. Mae’r strategaeth yn adlewyrchu ôl gwaith y llywodraeth gyfan gan gydnabod rôl bwysig pob adran i droi’r weledigaeth yn realiti. Mae’r farchnad ynni wrthi’n cael ei gweddnewid, yma yng Nghymru a thu hwnt, gan symud at systemau ynni callach a mwy cysylltiedig sy’n integreiddio ffynonellau cynhyrchu ynni a mesurau storio ac arbed ynni. Trwy wynebu’r heriau hyn, byddwn yn sicrhau bod pob sector, cartref, busnes a’n sector cyhoeddus yn defnyddio llai o ynni ac yn elwa ar fanteision defnyddio ynni’n effeithlon. Mae gweithredu ar ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon yn cyfrannu at wireddu nodau llesiant y Llywodraeth, ac mae gwneud Cymru’n fwy ynni effeithlon yn enghraifft gynnar ohonom yn rhoi ar y waith y pum ffordd o weithio a argymhellir yn y Ddeddf.   Mae gwella’n heffeithlonrwydd ynni mewn ffordd integredig fel hyn yn golygu dod â buddiannau niferus i bobl nawr ac yn y tymor hwy, gan helpu i atal effeithiau hinsawdd sy’n newid trwy gyfranogiad pobl a chydweithio ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector. Treuliais amser cynhyrchiol iawn ym mis Rhagfyr yn y trafodaethau ar y Newid yn yr Hinsawdd ym Mharis.  Roedden ni’n rhan allweddol o ddirprwyaeth y DU, gan ddangos ein hymrwymiad clir o blaid Cymru sydd â chyfrifoldebau byd\-eang.  Roedd y cytundeb y trawyd arno ym Mharis yn fwy uchelgeisiol na’r disgwyl ac yn drobwynt amlwg lle cytunodd holl wledydd y byd i ymrwymo at ddyfodol carbon isel cynaliadwy.  Bydd ein strategaeth effeithiolrwydd ynni newydd yn gyfraniad pwysig at ddatblygu Cymru carbon isel.  Lle rydym yn rheoli pethau, rydym wedi torri tir newydd.  Trwy Fil yr Amgylchedd (Cymru), bydd adnoddau Cymru’n cael eu rheoli mewn ffordd mwy proactif, cynaliadwy a chydgysylltiedig.  Mae’r Bil yn cyflwyno targedau strategol a chyllidebau carbon: bydd cynhyrchu ynni carbon isel ac arbed ynni yn elfennau allweddol. Mae’r cynnydd yng nghost ynni wedi bod yn destun gofid mawr i bobl a busnesau Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.  Gwn mai’r cam mwyaf uniongyrchol y gallwn ei gymryd at leihau biliau ynni pobl gyda’r pwerau sydd gennym yw trwy wneud adeiladau’n fwy ynni\-effeithlon. Mae’n bwysig gwneud tai teuluoedd incwm isel yn rhatach ar ynni, nid yn unig am ein bod am gael pobl i ddefnyddio llai o ynni a gostwng biliau ynni, ond hefyd am fod byw mewn cartref oer yn gwneud drwg i iechyd a lles pobl. Gall cartrefi oer arwain at anhwylderau anadlu a’r perygl o drawiad y galon neu’r strôc, yn ogystal â chyfrannu at fwy o farwolaethau yn y gaeaf. Gall poeni am filiau ynni arwain at fwy o stres a salwch meddwl.  Rydym yn gwybod hefyd bod rhai’n prynu llai fwyd neu hanfodion eraill er mwyn gallu talu’u biliau ynni, gan effeithio’n ddrwg eto ar eu hiechyd.  Mae hyn oll yn arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth ar aelwydydd isel eu hincwm a mwy o bwysau ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae tlodi tanwydd a byw mewn cartref oer yn cael effaith ddrwg ar fwy nag iechyd a lles; maen nhw hefyd yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol os nad oes gan blant le cynnes tawel i astudio, neu os ydyn nhw’n colli ysgol yn amlach oherwydd salwch.  Mae pobl yn fwy tebygol o gael eu hallgau’n gymdeithasol am eu bod yn amharod i wahodd ffrindiau i gartref sy’n oer neu’n llaith. Yn ogystal â darparu arian i’n pobl a chymunedau mwyaf bregus, rydym yn neilltuo arian i arbed ynni y gall y sector domestig ehangach, busnesau a’r sector cyhoeddus fanteisio arno.  Mae’r strategaeth newydd hon yn darparu gwybodaeth  am fecanweithiau ariannu heblaw grantiau i dalu am ffyrdd i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon.  Mae’r strategaeth yn cydnabod bod dulliau gwahanol yn briodol ar gyfer grwpiau gwahanol ac mae’n sicrhau bod amrywiaeth o fecanweithiau cymorth ariannol gwahanol ar gael  fel sylfeini cadarn i dirwedd gyfnewidiol. Mae gan y sector cyhoeddus ran amlwg i’w chwarae fel arweinwyr yng Nghymru.  Rwyf eisoes yn rhoi cefnogaeth i gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyflymu prosiectau arbed ynni ac i gymryd y risg oddi arnyn nhw.  Cyhoeddais yn ddiweddar mod i newydd sicrhau £1\.5 miliwn gan Raglen ELENA Banc Buddsoddi Ewrop i helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Rydym wrthi nawr yn ceisio cynyddu’r cynnig all ddenu dros £30 miliwn o fuddsoddiad risg isel i arbed ynni dros y tair blynedd nesaf. Byddai gwneud y sector cyhoeddus yn fwy ynni effeithlon yn rhyddhau adnoddau i’w gwario ar wasanaethau’r rheng flaen.  Ddoe, ymwelodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth a finne ag enghraifft wych o’r arbedion all gael eu gwneud. Gwelon ni sut y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi defnyddio nawdd gan Fuddsoddi i Arbed i osod goleuadau LED yn Ysbyty Plant newydd Cymru a thwneli tanddaearol o fewn prif adeilad Ysbyty Athrofaol Cymru.  Mae’r benthyciad o £252,000 wedi arbed £63,000 y flwyddyn gan olygu y bydd y prosiect wedi talu amdano’i hun ymhen pedair blynedd. Bydd pennu cyfeiriad i Gymru a sicrhau effeithlonrwydd ynni a’r manteision cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol tymor hir y gall esgor arnyn nhw yn parhau’n flaenoriaeth imi.  
      I am pleased to have published the first Energy Efficiency Strategy for Wales today. The intention in developing this strategy is to set a clear direction for the future, and to drive further action across all sectors; households, businesses and the public sector. Energy efficiency offers a considerable opportunity to deliver green growth, through new jobs, skills and a flourishing supply chain.  It is the most cost\-effective means of meeting our commitments to reduce carbon emissions while lowering energy charges to businesses and for the public sector, and it directly addresses fuel poverty by reducing the cost of heating the homes of vulnerable people. Within Wales we have led the way in successfully delivering a vision for energy efficiency that focuses equally on reducing energy use and carbon emissions, on job creation and on tackling poverty. The strategy represents a cross government approach that recognises the important role that all departments have to play in making our vision a reality. The energy market is undergoing a major transformation both within Wales and further afield, with a move to smarter, more connected energy systems, that integrate energy generation, storage and energy efficiency measures.  Being on track with these challenges will ensure that all sectors, households, businesses and our public sector use less energy and reap the benefits of energy efficiency. Action on energy efficiency contributes strongly across Government to meeting our well\-being goals, and our approach to improving energy efficiency in Wales is an early demonstration of our application of the five ways of working in the Act. An i**ntegrated approach** to improving energy efficiency means that we can deliver multiple benefits for people now and over the **long\-term**; helping to **prevent** the impact of climate change through the **involvement** of people and through **collaboration** across private, public and third sector organisations. I spent a very productive time in December at the Climate Change negotiations in Paris.  We were a key part of the UK delegation, showing our clear commitment to becoming a globally responsible Wales. The agreement reached in Paris was more ambitious than anticipated and it marks a clear turning point where all the world’s countries have formally committed to a sustainable low carbon future.  Our new energy efficiency strategy will make an important contribution to the delivery of a low\-carbon Wales. Where we own the levers, we have been breaking new ground.  The Environment (Wales) Bill will enable Wales’ resources to be managed in a more proactive, sustainable and joined\-up way.  The Bill introduces statutory climate change targets and carbon budgeting: low carbon energy generation and energy efficiency will be key elements of delivering these. The rising cost of energy has been a major concern for Welsh households and businesses in recent years. We know that the most direct action we can take to reduce peoples’ energy bills, with the powers we have, is to improve the energy efficiency of buildings. Improving the energy efficiency of the homes of low income households is important, not just because we want to reduce household energy use and energy bills, but because living in a cold home has a negative impact on people’s health and well\-being. Cold homes can lead to increases in respiratory illnesses and the risk of heart attack and stroke, as well as contributing to excess winter deaths. Worrying about paying energy bills can lead to increased levels of stress and mental illness.  We also know that some people will cut back on food or other essentials in order to pay their energy bills, which further impacts on their general health.  This all leads to poorer health outcomes for low income households and increases pressure on health and social care resources. The negative impacts of fuel poverty and living in a cold home are wider than health and well\-being; they can also impact on educational attainment when children lack a quiet, warm place at home to study, or have higher levels of absence due to illness.  They can increase social exclusion when people are reluctant to invite friends to their home because it is cold or damp. As well as providing funding for our most vulnerable citizens and communities, we provide access for funding for energy efficiency in the broader domestic sector, business sector and public sector.  This new strategy helps to increase the knowledge about financing mechanisms for energy efficiency beyond pure grant funding. The strategy acknowledges that different approaches are appropriate for different groups and ensures that a range of financial support mechanisms is available to provide resilience in a changing landscape. The public sector has a significant leadership role to play in Wales.  I am already providing support for public bodies in Wales to accelerate and de\-risk energy efficiency projects. I recently announced that I have just secured an extra £1\.5million from the European Investment Bank’s ELENA programme to improve the energy performance of public bodies in Wales.  We are now working up the offer that I anticipate will deliver over £30million of low risk investment in energy efficiency over the next three years. Increasing the energy efficiency of the public sector would release resources that could be redirected into front line services. Yesterday, I, along with the Minister for Finance and Government Business, visited a great example of these savings in action. We saw how the Cardiff \& Vale University Health Board have used funding from Invest to Save to install LED lighting in the new Children’s Hospital for Wales and underground tunnels within the main University Hospital of Wales. The £252, 000 loan value has created savings of £63, 000 per year with a quick project payback of just four years. I will continue to make it my priority to set the direction for Wales and to deliver energy efficiency and the long term social, economic, environmental and cultural benefits it can bring to Wales.