source
stringlengths
4
1.98k
target
stringlengths
3
2.07k
Section 572 of the Education Act 1996 makes provision for how the notice may be given. It may be delivered to the parent, left at the parent's usual or last known address, or sent in a prepaid addressed letter to that address. It may be sent by e-mail if the parent has agreed to use e-mail to receive notices.
Mae adran 572 o Ddeddf Addysg 1996 yn darparu ar gyfer sut y caniateir rhoi'r hysbysiad. Caniateir ei ddanfon at y rhiant, ei adael yng nghyfeiriad arferol, neu gyfeiriad hysbys diwethaf y rhiant, neu ei anfon mewn llythyr gyda chyfeiriad arno ac y talwyd amdano ymlaen llaw i'r cyfeiriad hwnnw. Caniateir ei anfon drwy e-bost os yw'r rhiant wedi cytuno i ddefnyddio e-bost i dderbyn hysbysiadau.
The functions of the National Assembly for Wales in these sections were transferred to the Welsh Ministers by paragraph 30 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 (c. 32).
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Section 111 of the Education and Inspections Act 2006 defines a "maintained school" for the purposes of these Regulations.
Mae adran 111 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn diffinio " maintained school " at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Section 576 of the Education Act 1996 defines a 'parent' for the purpose of these regulation.
Mae adran 576 o Ddeddf Addysg 1996 yn diffinio ' parent ' at ddibenion y rheoliadau hyn.
2010 No. 2954 (W.246)
2010 Rhif 2954 (Cy.246)
The Welsh Ministers, in exercise of the powers conferred upon the National Assembly for Wales by sections 20 (1) and (2A), 22A, 24 and 94 of the Anti-social Behaviour Act 2003 (1) and now vested in them (2) make the following Regulations:
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan adrannau 20 (1) a (2A), 22A, 24 a 94 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy (2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. - (1) The title of these Regulations is the Education (Parenting Contracts and Parenting Orders) (Wales) Regulations 2010 and they come into force on 5 January 2011.
1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Contractau Rhianta a Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 5 Ionawr 2011.
These Regulations apply in relation to -
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran -
local authorities and governing bodies of maintained schools in Wales; and
awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru; a
pupils who are, or were immediately before permanent exclusion, registered pupils at maintained schools in Wales.
disgyblion sydd, neu oedd yn union cyn cael eu gwahardd yn barhaol, yn ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
"parenting contract" (" contract rhianta ") means a parenting contract under section 19 of the Act;
ystyr " y Ddeddf " (" the Act ") yw Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;
an exclusion begins on the first day to which the exclusion relates (and, in relation to an exclusion, "beginning," and similar expressions, are construed accordingly); and
mae gwaharddiad yn dechrau ar y diwrnod cyntaf yr oedd y gwaharddiad yn ymwneud ag ef (ac, mewn perthynas â gwaharddiad, dehonglir "dechrau", ac ymadroddion cyffelyb, yn unol â hynny); a
where the pupil is excluded during the course of a school day but before the beginning of any afternoon session on that day, that day is to be treated for these purposes as the first day to which the exclusion relates.
pan fo'r disgybl yn cael ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond cyn dechrau unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod hwnnw i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef.
Prescribed conditions for parenting orders where the pupil has been excluded
Yr amodau a ragnodir ar gyfer gorchmynion rhianta pan fo'r disgybl wedi cael ei wahardd
3. For the purposes of section 20 (1) (b) of the Act, the prescribed condition is that the application must be made within the relevant period.
3. At ddibenion adran 20 (1) (b) o'r Ddeddf, yr amod a ragnodir yw fod rhaid i'r cais gael ei wneud o fewn y cyfnod perthnasol.
4. - (1) For the purposes of regulation 3, in the case of a pupil excluded for a fixed period, the "relevant period" is whichever of the following is applicable, and if both are applicable whichever expires the later-
4. - (1) At ddibenion rheoliad 3, yn achos disgybl a gafodd ei wahardd am gyfnod gosodedig, y "cyfnod perthnasol" yw pa un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys pa un bynnag sy'n dod i ben ddiwethaf -
the period of 40 school days beginning with the next school day after the day on which consideration of the exclusion was completed by the governing body (or in the case of an exclusion from a pupil referral unit, the local authority) or, if it was not so considered, the day on which it began;
y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau gyda'r diwrnod ysgol nesaf ar ôl y diwrnod y gorffennodd y corff llywodraethu (neu mewn achos o wahardd disgybl o uned cyfeirio disgyblion, yr awdurdod lleol) ystyried y gwaharddiad, neu os na chafodd ei ystyried yn y modd hwnnw, ar y diwrnod y dechreuodd;
the period of 6 months beginning with the day on which a parent of the pupil entered into a parenting contract.
y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod pan ymrwymodd rhiant i'r disgybl i gontract rhianta.
For the purposes of regulation 3, in the case of a pupil excluded permanently, the "relevant period" is whichever of the following is applicable, and if both are applicable whichever expires the later-
At ddibenion rheoliad 3, yn achos disgybl a gafodd ei wahardd yn barhaol, y "cyfnod perthnasol" yw pa un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys pa un bynnag sy'n dod i ben ddiwethaf -
the period of 40 school days beginning with the next school day after -
y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau ar y diwrnod ysgol nesaf ar ôl -
the day on which an appeal panel constituted under regulations made under section 52 of the Education Act 2002 (5) decided to uphold the exclusion;
y diwrnod pan benderfynodd panel apelau a gyfansoddwyd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002 (5) gadarnhau'r gwaharddiad;
the day on which the parent stated in writing that the parent does not intend to bring an appeal under those regulations;
y diwrnod pan wnaeth y rhiant ddatganiad ysgrifenedig nad yw'r rhiant yn bwriadu dwyn apêl o dan y rheoliadau hynny;
the day on which an appeal brought within the time for bringing an appeal has been abandoned; or
y diwrnod y rhoddwyd y gorau i apêl a dducpwyd o fewn yr amser a ganiateir i ddwyn apêl; neu
if there was no appeal (and paragraph (ii) of this sub-paragraph does not apply), the last day on which an appeal could have been brought; or
os na fu apêl (ac nad yw paragraff (ii) o'r is-baragraff hwn yn gymwys), y diwrnod olaf y gallesid bod wedi dwyn apêl arno; neu
Prescribed conditions for parenting orders where the pupil has engaged in relevant behaviour
Yr amodau a ragnodir ar gyfer gorchmynion rhianta pan fo'r disgybl wedi ymgymryd ag ymddygiad perthnasol
5. For the purposes of section 20 (2A) (b) of the Act, the prescribed condition is than an application must be made within the relevant period.
5. At ddibenion adran 20 (2A) (b) o'r Ddeddf, yr amod a ragnodir yw fod rhaid i'r cais gael ei wneud o fewn y cyfnod perthnasol.
6. For the purposes of regulation 5, the "relevant period" is whichever of the following is applicable, and if both are applicable whichever expires the later-
6. At ddibenion rheoliad 5, y "cyfnod perthnasol" yw pa un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys pa un bynnag sy'n dod i ben ddiwethaf -
the period of 40 school days beginning with the next school day after the day on which the relevant behaviour occurred (or, if the behaviour occurred over a period of more than one day, the next school day after the last day on which it occurred);
y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau ar y diwrnod ysgol nesaf ar ôl y diwrnod pan ddigwyddodd yr ymddygiad perthnasol (neu, os digwyddodd yr ymddygiad dros gyfnod o fwy nag un diwrnod, y diwrnod ysgol nesaf ar ôl y diwrnod diwethaf y digwyddodd yr ymddygiad arno);
Limit on the power of a local authority to enter into a parenting contract or apply for a parenting order
Y terfyn ar bŵer awdurdod lleol i ymrwymo i gontract rhianta neu i wneud cais am orchymyn rhianta
7. - (1) Except in a case mentioned in paragraph (3), a local authority may not enter into a parenting contract or apply for a parenting order where the school by reference to which the contract would otherwise be entered into or the application would otherwise be made ("the school in question") is not in the area of the authority.
7. - (1) Ac eithrio mewn achos a grybwyllir ym mharagraff (3), ni chaiff awdurdod lleol ymrwymo i gontract rhianta na gwneud cais am orchymyn rhianta os nad yw'r ysgol, y byddid fel arall yn ymrwymo i'r contract neu'n gwneud y cais yn ei chylch ("yr ysgol dan sylw"), yn ardal yr awdurdod hwnnw.
Except in a case mentioned in paragraph (4), a local authority may not enter into a parenting contract or apply for a parenting order where the child by reference to whom the contract would otherwise be entered into or the application would otherwise be made ("the child in question") does not reside in the area of the authority.
Ac eithrio mewn achos a grybwyllir ym mharagraff (4), ni chaiff awdurdod lleol ymrwymo i gontract rhianta na gwneud cais am orchymyn rhianta os nad yw'r plentyn, y byddid fel arall yn ymrwymo i'r contract neu'n gwneud y cais yn ei gylch ("y plentyn dan sylw"), yn preswylio yn ardal yr awdurdod hwnnw.
A local authority may enter into a parenting contract, or apply for a parenting order, where the school in question is not in the area of the authority where -
Caiff awdurdod lleol ymrwymo i gontract rhianta, neu wneud cais am orchymyn rhianta, pan nad yw'r ysgol dan sylw yn ardal yr awdurdod-
the authority has an agreement with the local authority where the school in question is situated that the first authority may enter into a parenting contract or apply for a parenting order in the circumstances; or
os oes gan yr awdurdod gytundeb â'r awdurdod lleol lle mae'r ysgol dan sylw wedi'i lleoli y caiff yr awdurdod cyntaf, yn yr amgylchiadau hynny, ymrwymo i gontract rhianta, neu wneud cais am orchymyn rhianta; neu
the child in question resides in the area of the authority and the child has been permanently excluded.
os yw'r plentyn dan sylw yn preswylio yn ardal yr awdurdod a bod y plentyn wedi cael ei wahardd yn barhaol.
A local authority may enter into a parenting contract or apply for a parenting order where the child in question does not reside in the area of the authority if -
Caiff awdurdod lleol ymrwymo i gontract rhianta, neu wneud cais am orchymyn rhianta, pan nad yw'r plentyn dan sylw yn preswylio yn ardal yr awdurdod -
the school in question is in the area of the authority; and
os yw'r ysgol dan sylw yn ardal yr awdurdod; a
the child -
os yw'r plentyn -
is a registered pupil at the school; or
yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol; neu
has been permanently excluded from the school,
wedi cael ei wahardd yn barhaol o'r ysgol,
where the authority has an agreement with the local authority where the child in question resides that the first authority may enter into a parenting contract or apply for a parenting order in those circumstances.
os oes gan yr awdurdod gytundeb â'r awdurdod lleol lle mae'r plentyn dan sylw yn preswylio y caiff yr awdurdod cyntaf, yn yr amgylchiadau hynny, ymrwymo i gontract rhianta, neu wneud cais am orchymyn rhianta.
Duty to consult
Dyletswydd i ymgynghori
8. Where in any case more than one local authority or governing body has the power to enter into a parenting contract or more than one local authority has the power to apply for a parenting order, the local authority or governing body proposing to exercise the power must consult each other relevant body.
8. Mewn unrhyw achos pan fo gan fwy nag un awdurdod lleol neu gorff llywodraethu'r pŵer i ymrwymo i gontract rhianta neu pan fo gan fwy nag un awdurdod lleol y pŵer i wneud cais am orchymyn rhianta, rhaid i'r awdurdod lleol neu'r corff llywodraethu sy'n bwriadu arfer y pŵer ymgynghori â phob corff perthnasol arall.
Provision of information
Darparu gwybodaeth
9. - (1) Where a local authority or governing body ("A") proposes to enter into a parenting contract or (in the case of the local authority) apply for a parenting order they must, in relation to that entry or application, request information from any other local authority or governing body ("B") in relation to the child by reference to whom the contract is proposed to be entered into or application for the order made as is reasonably necessary to enable them to-
9. - (1) Pan fo awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ("A") yn bwriadu ymrwymo i gontract rhianta neu (yn achos yr awdurdod lleol) wneud cais am orchymyn rhianta, rhaid iddo, mewn perthynas â'r ymrwymiad neu'r cais hwnnw, ofyn am wybodaeth gan unrhyw awdurdod lleol neu gorff llywodraethu arall ("B") ynglŷn â'r plentyn y bwriedir ymrwymo i gontract yn ei gylch neu wneud cais am orchymyn yn ei gylch ag sy'n rhesymol angenrheidiol i alluogi'r awdurdod lleol neu'r corff llywodraethu -
decide whether or not to enter into such contract or make such application (as the case may be);
i benderfynu pa un ai i ymrwymo i gontract neu i wneud cais o'r fath (yn ôl y digwydd) ai peidio;
avoid the entry into a parenting contract or application for a parenting order (as the case may be) where a parenting contract or parenting order exists in relation to that child or the entry into a parenting contract or application for a parenting order is pending; and
i osgoi ymrwymo i gontract rhianta neu wneud cais am orchymyn rhianta (yn ôl y digwydd) pan fo contract rhianta neu orchymyn rhianta eisoes yn bod ynghylch y plentyn hwnnw neu fod ymrwymo i gontract rhianta neu wneud cais am orchymyn rhianta yn ei gylch ar ddigwydd; ac
make an informed decision about the terms of such a contract or the content of the application (as the case may be) with a view to the most appropriate contract being entered into or order being made in all the circumstances of the case.
i wneud penderfyniad sy'n seiliedig ar wybodaeth ynglŷn â thelerau contract o'r fath neu gynnwys y cais (yn ôl y digwydd) gyda golwg ar ymrwymo i'r contract mwyaf addas neu gael gwneud y gorchymyn mwyaf addas yn holl amgylchiadau'r achos.
B must, on receipt of a request under paragraph (1), provide to A such information in its possession or control as may be reasonably necessary for the purposes set out in paragraph (1).
Rhaid i B, pan gaiff gais o dan baragraff (1), roi i A'r fath wybodaeth ag sydd yn ei feddiant neu dan ei reolaeth ag a allai fod yn rhesymol angenrheidiol at y dibenion a osodir ym mharagraff (1).
Where A makes a request for information under paragraph (1), they may disclose to B such information as may be reasonably necessary to enable B to fulfil their duty under paragraph (2).
Pan fo A yn gwneud cais am wybodaeth o dan baragraff (1), caniateir iddo ddatgelu i B y fath wybodaeth ag a allai fod yn rhesymol angenrheidiol i alluogi B i gyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2).
Costs of parenting order or parenting contract
Costau gorchymyn rhianta neu gontract rhianta
10. - (1) The costs associated with the requirements of parenting orders or the costs associated with parenting contracts, including in each case the costs of providing counselling or guidance programmes, must be borne by the local authority making the application or the local authority or governing body entering into the contract.
10. - (1) Rhaid i'r awdurdod lleol sy'n gwneud y cais neu'r awdurdod lleol neu'r corff llywodraethu sy'n ymrwymo i'r contract ddwyn y costau sy'n gysylltiedig â gofynion gorchmynion rhianta neu'r costau sy'n gysylltiedig â chontractau rhianta, gan gynnwys ymhob achos gostau darparu rhaglenni cwnsela neu gyfarwyddyd.
A local authority or governing body may recover the costs they incur under paragraph (1) from another local authority or governing body by agreement.
Caniateir i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu adennill y costau a ddygir ganddynt o dan baragraff (1) oddi wrth awdurdod lleol neu gorff llywodraethu arall drwy gytundeb.
Transitional provisions
Darpariaethau Trosiannol
12. - (1) The 2006 Regulations continue to apply to parenting orders under section 20 of the Act, made, or applied for, before 5 January 2011.
12. - (1) Mae Rheoliadau 2006 yn parhau yn gymwys i orchmynion rhianta o dan adran 20 o'r Ddeddf a wnaed, neu y gwnaed cais amdanynt, cyn 5 Ionawr 2011.
Regulation 7 of these Regulations does not apply to a parenting contract entered into or parenting order made, or applied for before 5 January 2011.
Nid yw rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gontract rhianta a ymrwymwyd iddo nac i orchymyn rhianta a wnaed, neu y gwnaed cais amdano, cyn 5 Ionawr 2011.
Regulation 10 of these Regulations, insofar as it applies to the costs associated with parenting contracts, does not apply to such a contract entered into before 5 January 2011.
Nid yw rheoliad 10 o'r Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae'n gymwys i'r costau sy'n gysylltiedig â chontractau rhianta, yn gymwys i gontract o'r fath a ymrwymwyd iddo cyn 5 Ionawr 2011.
These Regulations make provision in relation to parenting orders and parenting contracts under Part 2 of the Anti-social Behaviour Act 2003 ("the Act," as amended by Chapter 2 of Part 7 of the Education and Inspections Act 2006).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion rhianta a chontractau rhianta o dan Ran 2 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ("y Ddeddf", fel y'i diwygiwyd gan Bennod 2 o Ran 7 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006).
They prescribe conditions to be fulfilled before an application can be made for a parenting order under section 20 of the Act. Regulations 3 and 4 prescribe the condition in respect of both permanent and fixed term exclusions, namely that the application must be made within the relevant period. Regulations 5 and 6 prescribe the condition where it appears that the pupil has engaged in behaviour warranting exclusion. Again the application must also be made within the relevant period. Regulations 4 and 6 respectively define the relevant period.
Maent yn rhagnodi amodau sydd i'w bodloni cyn y gellir gwneud cais am orchymyn rhianta o dan adran 20 o'r Ddeddf. Mae rheoliadau 3 a 4 yn rhagnodi'r amod o ran gwahardd yn barhaol ac o ran gwahardd am gyfnod gosodedig, sef bod rhaid gwneud y cais o fewn y cyfnod perthnasol. Mae rheoliadau 5 a 6 yn rhagnodi'r amod pan ymddengys fod y disgybl wedi ymgymryd ag ymddygiad y gellid yn haeddiannol ei wahardd o'i herwydd. Eto rhaid hefyd wneud y cais o fewn y cyfnod perthnasol. Mae rheoliadau 4 a 6 yn eu tro yn diffinio'r cyfnod perthnasol.
Regulation 7 restricts a local authority, authority A, from entering into a parenting contract or applying for a parenting order, where the pupil concerned attends a school in the area of another authority, authority B, unless authority A has an agreement with authority B that authority A may do so, or the pupil lives in authority A's area and has been excluded permanently. It also restricts authority A from entering into a parenting contract or applying for a parenting order where the pupil whom it concerns attends a school in authority A's area and has been permanently excluded, but resides in authority B's area, unless authority A has an agreement with authority B that authority A may do so.
Mae rheoliad 7 yn atal awdurdod lleol, awdurdod A, rhag ymrwymo i gontract rhianta na gwneud cais am orchymyn rhianta, pan fo'r disgybl dan sylw yn mynychu ysgol yn ardal awdurdod arall, awdurdod B, oni bai bod gan awdurdod A gytundeb gydag awdurdod B sy'n caniatáu i awdurdod A wneud hynny, neu bod y disgybl yn byw yn ardal awdurdod A a'i fod wedi cael ei wahardd yn barhaol. Mae hefyd yn atal awdurdod A rhag ymrwymo i gontract rhianta na gwneud cais am orchymyn rhianta pan fo'r disgybl dan sylw yn mynychu ysgol yn ardal awdurdod A a'i fod wedi'i wahardd yn barhaol, ond yn byw yn ardal awdurdod B, oni bai bod gan awdurdod A gytundeb gydag awdurdod B sy'n caniatáu i awdurdod A wneud hynny.
Regulation 8 obliges bodies who may enter into a parenting contract or apply for parenting order to consult one another before doing so.
Mae rheoliad 8 yn gosod rhwymedigaeth ar gyrff a gânt ymrwymo i gontract rhianta neu a gânt wneud cais am orchymyn rhianta i ymgynghori â'i gilydd cyn gwneud hynny.
Regulation 9 obliges bodies to seek from one another information which they reasonably consider may be relevant to enable them to decide whether or not to enter into a parenting contract or apply for a parenting order, to avoid multiple contracts and orders in relation to the same child, and to determine the content of a contract or order.
Mae rheoliad 9 yn gosod rhwymedigaeth ar gyrff i geisio gwybodaeth oddi wrth ei gilydd y tybiant yn rhesymol y gallasai fod yn berthnasol i'w galluogi i benderfynu a ddylent ymrwymo i gontract rhianta neu wneud cais am orchymyn rhianta, er mwyn osgoi lluosowgrwydd o gontractau a gorchmynion ynghylch yr un plentyn, ac er mwyn penderfynu ar gynnwys y contract neu'r gorchymyn.
Regulation 10 prescribes for the purpose of section 22A (2) (e) of the Act that local authorities and governing bodies are to fund the costs of parenting contracts and parenting orders, though they may recover these costs from one another by agreement.
Mae rheoliad 10 yn rhagnodi at ddibenion adran 22A (2) (e) o'r Ddeddf bod awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i gyllido costau contractau rhianta a gorchmynion rhianta, er y caniateir iddynt adennill y costau hyn oddi wrth ei gilydd drwy gytundeb.
In exercising their functions relating to parenting contracts and parenting orders, schools and local authorities must have regard to guidance issued by the Welsh Ministers pursuant to section 19 (9) of the Act in relation to contracts and section 21 (5) of the Act in relation to orders.
Wrth arfer eu swyddogaethau yn ymwneud â chontractau rhianta a gorchmynion rhianta, rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 19 (9) o'r Ddeddf o ran contractau ac adran 21 (5) o'r Ddeddf o ran gorchmynion.
Regulations 11 and 12 revoke the Education (Parenting Orders) (Wales) Regulations 2006 which these Regulations replace and make transitional provisions. The 2006 Regulations continue to apply to parenting orders made or applied for before 5 January 2011.
Mae rheoliadau 11 a 12 yn dirymu Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006 y cymerir eu lle gan y Rheoliadau hyn ac yn gwneud darpariaethau trosiannol. Mae Rheoliadau 2006 yn parhau i fod yn gymwys i orchmynion rhianta a wnaed neu y gwnaed cais amdanynt cyn 5 Ionawr 2011.
2003 c. 38. Section 20 (2A) was inserted by section 98, and section 22A by section 99, of the Education and Inspections Act 2006 (c. 40).
2003 p.38. Mewnosodwyd adran 20 (2A) gan adran 98, ac adran 22A gan adran 99 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40).
The powers conferred on the National Assembly for Wales in sections 20, 22A, 24 and 94 of the Anti-social Behaviour Act 2003 were transferred to the Welsh Ministers by virtue of paragraph 30 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006 (c. 32).
Trosglwyddwyd y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 20, 22A, 24 a 94 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
2010 No. 2976 (W.247)
2010 Rhif 2976 (Cy.247)
The Welsh Ministers in whom the powers conferred by sections 2 and 3 of the Plant Health Act 1967 (1) are now vested (2) make this Order in exercise of those powers and paragraph 1A of Schedule 2 to the European Communities Act 1972 (3).
Mae Gweinidogion Cymru, y mae'r pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 (1) bellach wedi eu breinio ynddynt hwy (2), yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau hynny a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (3).
This Order makes provision for a purpose mentioned in section 2 (2) of the European Communities Act 1972, and it appears to the Welsh Ministers that it is expedient for the references inserted by this Order into the Plant Health (Wales) Order 2006 (4) to Commission Decision 2008/840/EC on emergency measures to prevent the introduction into and the spread within the European Union of Anoplophora chinensis (Forster) (5) to be construed as references to that Decision as amended from time to time.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2 (2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos yn hwylus i Weinidogion Cymru bod cyfeiriadau a fewnosodir gan y Gorchymyn hwn yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006) (4) at Benderfyniad y Comisiwn 2008/840/EC ynglŷn â mesurau brys i atal dyfodiad Anoplophora chinensis (Forster) i'r Undeb Ewropeaidd a'i ledaeniad o fewn yr Undeb Ewropeaidd (5) yn cael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Penderfyniad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
1. The title of this Order is the Plant Health (Wales) (Amendment) (No. 2) Order 2010. It comes into force on 5 January 2011 and applies in relation to Wales.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010. Daw i rym ar 5 Ionawr 2011 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Amendments to the Plant Health (Wales) Order 2006
Diwygiadau i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006
2. - (1) The Plant Health (Wales) Order 2006 is amended as follows.
2. - (1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel a ganlyn.
In article 2 (1) (6), after the definition of "Decision 2007/433/EC ," insert -
Yn erthygl 2 (1) (6), ar ôl y diffiniad o "Decision 2007/433/EC ", mewnosoder -
In the table in Schedule 3 (7), for the entry in column (3) corresponding to item 10, substitute -
Yn y tabl yn Atodlen 3 (7), yn lle'r cofnod yng ngholofn (3) sy'n cyfateb i eitem 10, rhodder -
In the table in Schedule 3, after item 15, insert the text contained in the following table -
Yn y tabl yn Atodlen 3, ar ôl eitem 15, mewnosoder y testun a gynhwysir yn y tabl canlynol -
In the table in Schedule 4 (8), Part A -
Yn y tabl yn Atodlen 4 (8), Rhan A -
for the entry in column (2) corresponding to item 52, substitute -
yn lle'r cofnod yng ngholofn (2) sy'n cyfateb i eitem 52, rhodder -
This Order amends the Plant Health (Wales) Order 2006 (S.I. 2006/1643) (W. 158) ("the principal Order") to transpose Commission Decision 2010/380 /EU amending Decision 2008/840/EC as regards emergency measures to prevent the introduction into and spread within the European Union of Anoplophora chinensis (Forster) (OJ No L 174, 9.7.2010, p.46). Relevant provisions of Commission Decision 2010/380 /EU are transposed in articles 2 (4) and (5) (b).
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643) (Cy. 158) ("y prif Orchymyn") er mwyn trosi Penderfyniad y Comisiwn 2010/380/EU sy'n diwygio Penderfyniad 2008/840/EC ynglŷn â mesurau brys i rwystro Anoplophora chinensis (Forster) rhag dod i mewn a lledaenu oddi mewn i'r Undeb Ewropeaidd (OJ Rhif L 174, 9.7.2010, t.46). Trosir darpariaethau perthnasol Penderfyniad y Comisiwn 2010/380/EU yn erthyglau 2 (4) a (5) (b).
Article 2 (2) provides for the references to Commission Decision 2008/840/EC in the principle Order to be read as amended from time to time. Article 2 (3) amends the entry for countries of origin contained in item 10 of Schedule 3 to the principal Order. Article 2 (5) (a) amends the description of relevant material contained in item 52 of Part A of Schedule 4 to the principal Order.
Mae erthygl 2 (2) yn darparu ar gyfer cyfeiriadau at Benderfyniad y Comisiwn 2008/840/EC yn y prif Orchymyn i'w darllen fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd. Mae erthygl 2 (3) yn diwygio'r cofnod ynglŷn â gwledydd tarddiad a gynhwysir yn eitem 10 o Atodlen 3 i'r prif Orchymyn. Mae erthygl 2 (5) (a) yn diwygio'r disgrifiad o ddeunydd perthnasol a gynhwysir yn eitem 52 o Ran A o Atodlen 4 i'r prif Orchymyn.
A regulatory impact assessment has not been produced for this instrument as no impact on the private or voluntary sectors is foreseen.
Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau preifat neu wirfoddol.
1967 c. 8; sections 2 (1) and 3 (1), (2) and (5) were amended by section 4 of, and paragraph 8 of Schedule 4 to, the European Communities Act 1972 (c. 68). Section 2 (2) was amended by section 177 (1) of, and paragraph 12 of Schedule 4 to, the Customs and Excise Management Act 1979 (c. 2). Section 2 (3) was inserted by article 2 (1) of, and Schedule 1 to, S.I. 1990/2371.
1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2 (1) a 3 (1), (2) a (5) gan adran 4 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) a pharagraff 8 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 2 (2) gan adran 177 (1) o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p. 2), a pharagraff 12 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adran 2 (3) gan erthygl 2 (1) o O.S. 1990/2371 ac Atodlen 1 i'r offeryn hwnnw.
The functions of the Minister for Agriculture, Fisheries and Food under the Plant Health Act 1967 (c. 8) were so far as exercisable in relation to Wales, transferred to the Secretary of State by article 2 and Schedule 1 to the Transfer of Functions (Wales) (No. 1) Order 1978 (S.I. 1978/272). Those functions were transferred from the Secretary of State to the National Assembly for Wales by article 2 of, and Schedule 1 to the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1997/672). The functions of the National Assembly for Wales were transferred to the Welsh Ministers by section 162 of and paragraph 30 of Schedule 11 to, the Government of Wales Act 2006 (c. 32).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 (p. 8), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
1972 c. 68. Paragraph 1A of Schedule 2 was inserted by section 28 of the Legislative and Regulatory Reform Act 2006 (c. 51).
1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).
There are amendments to this article that are not relevant to this Order.
Gwnaed diwygiadau i'r erthygl hon, nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.
There are amendments to Schedule 3 that are not relevant to this Order.
Gwnaed diwygiadau i Atodlen 3, nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.
There are amendments to Schedule 4 that are not relevant to this Order.
Gwnaed diwygiadau i Atodlen 4, nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.
2010 No. 2994 (W.248) (C.134)
2010 Rhif 2994 (Cy.248) (C.134)
The Welsh Ministers, in exercise of the powers conferred upon them by sections 74 (2) and 75 (3) of the Children and Families (Wales) Measure 2010 (1), make the following Order.
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 74 (2) a 75 (3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Title, application and interpretation
Enwi, cychwyn a dehongli
1. - (1) The title of this Order is The Children and Families (Wales) Measure 2010 (Commencement No. 3 and Savings Provision) Order 2010.
1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Arbedion) 2010.
In this Order "the Measure" means the Children and Families (Wales) Measure 2010.
Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Mesur" yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.
2. 10 January 2011 is the appointed day for the coming into force of the following provisions of the Measure -
2. 10 Ionawr 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol o'r Mesur-
section 2 in so far as it applies to the Welsh authorities;
adran 2 i'r graddau y mae'n gymwys i'r awdurdodau Cymreig;
section 4;
adran 4;
section 5;
adran 5;
section 6;
adran 6;
section 17; and
adran 17; ac
section 18.
adran 18.
Savings Provision
Darpariaeth Arbedion
3. The Children and Young People's Plan (Wales) Regulations 2007 (2) continue to have effect notwithstanding the substitution of section 26 (1A) to section 26 (1D) of the Children Act 2004 (3) for section 26 (1) in accordance with section 4 (3) of the Measure.
3. Mae Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007 (2) yn parhau i fod yn effeithiol er gwaethaf rhoi adran 26 (1A) i 26 (1D) o Ddeddf Plant 2004 (3) yn lle adran 26 (1) yn unol ag adran 4 (3) o'r Mesur.